Llyfr genedigaeth Iesu Grist, fab Dafydd, fab Abraham. Abraham a genhedlodd Itsaac; ac Itsaac a genhedlodd Iacob; ac Iacob a genhedlodd Iwdah a’i frodyr; ac Iwdah a genhedlodd Pharets a Zara o Thamar; a Pharets a genhedlodd Etsrom; ac Etsrom a genhedlodd Ram; a Ram a genhedlodd Aminadab; ac Aminadab a genhedlodd Naashon; a Naashon a genhedlodd Salmon; a Salmon a genhedlodd Boaz o Rachab; a Boaz a genhedlodd Obed, o Rwth; ac Obed a genhedlodd Ieshe; ac Ieshe a genhedlodd Ddafydd frenhin. A Dafydd frenhin a genhedlodd Shalomon o’r hon a fuasai wraig Wriah; a Shalomon a genhedlodd Roboam; a Roboam a genhedlodd Abiah; ac Abiah a genhedlodd Asa; ac Asa a genhedlodd Ieoshaphat; ac Ieoshaphat a genhedlodd Ioram; ac Ioram a genhedlodd Oziah: ac Oziah a genhedlodd Iotham; ac Iotham a genhedlodd Achaz; ac Achaz a genhedlodd Ezeciah; ac Ezeciah a genhedlodd Manashsheh; a Manashsheh a genhedlodd Amon; ac Amon a genhedlodd Ioshiah; ac Ioshiah a genhedlodd Ieconiah a’i frodyr, ar amser y traws-symmudiad i Babilon. Ac wedi’r traws-symmudiad i Babilon, Ieconiah a genhedlodd Shalathiel; a Shalathiel a genhedlodd Zorobabel; a Zorobabel a genhedlodd Abiwd; ac Abiwd a genhedlodd Eliacim; ac Eliacim a genhedlodd Azor; ac Azor a genhedlodd Tsadoc; a Tsadoc a genhedlodd Iacin; ac Iacin a genhedlodd Eliwd; ac Eliwd a genhedlodd Eleazer; ac Eleazer a genhedlodd Mattan; a Mattan a genhedlodd Iacob; ac Iacob a genhedlodd Ioseph, gŵr Mair, o’r hon y ganed Iesu, yr Hwn a elwir Crist. Yr holl genhedlaethau, gan hyny, o Abraham hyd Ddafydd, pedair cenhedlaeth ar ddeg ydynt; ac o Ddafydd hyd y traws-symmudiad i Babilon, pedair cenhedlaeth ar ddeg; ac o’r traws-symmudiad i Babilon hyd Grist, pedair cenhedlaeth ar ddeg. A genedigaeth yr Iesu Grist, fel hyn yr oedd; Wedi dyweddïo Ei fam Ef, Mair, âg Ioseph, cyn dyfod o honynt ynghyd, cafwyd hi yn feichiog o’r Yspryd Glan. Ac Ioseph, ei gwr hi, gan ei fod yn gyfiawn, ac na fynnai ei gosod hi yn watwor, a ewyllysiodd ei rhoddi hi ymaith yn ddirgel. Ac efe yn meddwl y pethau hyn, wele, angel yr Arglwydd, mewn breuddwyd, a ymddangosodd iddo, yn dywedyd, Ioseph, Mab Dafydd, nac ofna gymmeryd Mair dy wraig, canys yr hyn a genhedlwyd ynddi, o’r Yspryd Glan y mae; ac esgora hi ar fab, a gelwi Ei enw Ef Iesu, canys Efe a wared Ei bobl oddi wrth eu pechodau. A hyn oll a ddigwyddodd fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd gan yr Arglwydd trwy’r prophwyd, gan ddywedyd, “Wele, y forwyn fydd feichiog, ac a esgor ar fab; A galwant Ei Enw Ef Immanwel” yr hyn, o’i gyfieithu, yw, “Gyda ni Duw.” Ac Ioseph, wedi cyfodi o’i gwsg, a wnaeth fel y gorchymynodd angel yr Arglwydd iddo, ac a gymmerodd ei wraig, ac nid adnabu hi nes esgor o honi ar fab; a galwodd Ei enw Ef Iesu. A’r Iesu wedi Ei eni yn Bethlehem Iwdea, yn nyddiau Herod frenhin, wele, doethion o’r dwyrain a ddaethant i Ierwshalem, gan ddywedyd, Pa le y mae brenhin yr Iuddewon y sydd wedi Ei eni? canys gwelsom Ei seren Ef yn y dwyrain, a daethom i’w addoli Ef. Ac wedi clywed hyn, Herod frenhin a gynnyrfwyd, a holl Ierwshalem gydag ef, a chwedi dwyn ynghyd yr holl archoffeiriaid ac ysgrifenyddion y bobl, ymofynodd â hwynt, Pa le y mae Crist i’w eni? A hwy a ddywedasant wrtho, Yn Bethlehem Iwdea, canys fel hyn yr ysgrifenwyd trwy’r prophwyd, “A thydi, Bethlehem, tir Iwdea, Nid y lleiaf wyt er dim ym mhlith tywysogion Iwdah, Canys o honot y daw allan dywysog, Yr hwn a fugeilia Fy mhobl Israel.” Yna Herod, wedi galw’r doethion yn ddirgel, a gafodd wybodaeth fanwl ganddynt am amser ymddangosiad y seren; a chan eu danfon i Bethlehem, dywedodd, Ewch a chwiliwch yn fanwl am y plentyn; a phan gaffoch Ef, mynegwch i mi, fel y bo i minnau hefyd ddyfod a’i addoli Ef. A hwy, wedi clywed y brenhin, a aethant; ac wele, y seren a welsent yn y dwyrain, a aeth o’u blaen, hyd oni ddaeth a sefyll goruwch y lle yr oedd y plentyn. A phan welsant y seren, llawenychasant â llawenydd mawr dros ben. Ac wedi dyfod i’r tŷ, gwelsant y plentyn gyda Mair Ei fam; ac wedi syrthio i lawr addolasant Ef; ac wedi agoryd eu trysorau, offrymmasant Iddo anrhegion, aur a thus a myrr. Ac wedi eu rhybuddio mewn breuddwyd, gan Dduw, i beidio â dychwelyd at Herod, hyd ffordd arall yr aethant yn eu holau i’w gwlad. Ac wedi myned o honynt, wele, angel yr Arglwydd yn ymddangos, mewn breuddwyd, i Ioseph, gan ddywedyd, Cyfod, a chymmer y plentyn a’i fam, a ffo i’r Aipht; a bydd yno hyd oni ddywedwyf wrthyt, canys y mae Herod ar fedr ceisio’r plentyn er mwyn Ei ladd Ef. Ac wedi cyfodi o hono, cymmerth efe y plentyn a’i fam o hŷd nos, a chiliodd i’r Aipht; a bu yno hyd farwolaeth Herod, fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd gan yr Arglwydd trwy’r prophwyd, gan ddywedyd, “O’r Aipht y gelwais Fy Mab.” Yna Herod, pan weles ei watwar gan y doethion, a ffrommodd yn aruthr, ac a ddanfonodd ac a laddodd yr holl fechgyn oedd yn Bethlehem ac yn ei holl gyffiniau, o ddwy flwydd oed a than hyny, wrth yr amser y cawsai wybodaeth fanwl gan y doethion. Yna y cyflawnwyd yr hyn a ddywedasid gan Ieremiah y prophwyd, gan ddywedyd, “Llef yn Rama a glybuwyd, Wylofain a galar mawr; Rachel yn wylo am ei phlant, Ac ni fynnai ei chysuro, am nad ydynt.” Ac wedi marw Herod, wele, angel yr Arglwydd, mewn breuddwyd, a ymddangosodd i Ioseph yn yr Aipht, gan ddywedyd, Cyfod a chymmer y plentyn a’i fam, a dos i dir Israel, canys bu farw y rhai oedd yn ceisio einioes y plentyn. Ac efe, wedi cyfodi, a gymmerth y plentyn a’i fam, ac a ddaeth i dir Israel; ond wedi clywed fod Archelaus yn teyrnasu yn Iwdea yn lle Herod, ei dad, ofnodd fyned yno: ac wedi ei rybuddio mewn breuddwyd, ciliodd i barthau Galilea, a daeth a thrigodd mewn dinas a elwid Natsareth, fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy’r prophwydi, “Natsaread a elwir Ef.” Ac yn y dyddiau hyny dyfod y mae Ioan Fedyddiwr, gan bregethu yn anialwch Iwdea, gan ddywedyd, Edifarhewch, canys nesaodd teyrnas nefoedd: canys Hwn yw Efe y dywedwyd am dano trwy Eshaiah y prophwyd, gan ddywedyd, “Llef un yn llefain, Yn yr anialwch, parottowch ffordd Iehofah; Gwnewch yn uniawn Ei lwybrau Ef.” A’r Ioan hwn oedd â’i ddillad o flew camel, a gwregys o groen ynghylch ei lwynau; a’i fwyd oedd locustiaid a mêl gwyllt. Yna yr aeth allan atto ef Ierwshalem, a holl Iwdea, a’r holl wlad o amgylch yr Iorddonen; a bedyddiwyd hwy yn yr afon Iorddonen ganddo ef, gan gyffesu eu pechodau. A chan weled llawer o’r Pharisheaid a’r Tsadwceaid yn dyfod i’w fedydd, dywedodd wrthynt, O eppil gwiberod, pwy a’ch rhybuddiodd i ffoi rhag y llid a fydd? Dygwch, gan hyny, ffrwyth teilwng o edifeirwch; ac na feddyliwch ddywedyd ynoch eich hunan, Yn dad i ni y mae genym Abraham, canys dywedaf wrthych, Abl yw Duw o’r meini hyn i gyfodi plant i Abraham. Ac eisoes y fwyall a osodwyd ar wreiddyn y preniau: pob pren, gan hyny, nad yw’n dwyn ffrwyth da a dorrir ymaith ac a deflir i’ r tân. Myfi, yn wir, wyf yn eich bedyddio â dwfr, i edifeirwch; ond yr Hwn sy’n dyfod ar fy ol i, cryfach yw na myfi, yr Hwn nid wyf deilwng i ddwyn Ei esgidiau: Efe a’ch bedyddia chwi â’r Yspryd Glân ac â thân: yr Hwn y mae Ei wyntyll yn Ei law; a llwyr-lanhâ Efe ei lawr-dyrnu, a chyd-gasgl Ei wenith i’r ysgubor, ond yr ûs a lwyr-lysg Efe â thân anniffoddadwy. Yna y daeth yr Iesu o Galilea i’r Iorddonen at Ioan, i’w fedyddio ganddo; ond Ioan a warafunodd Iddo, gan ddywedyd, Arnaf fi y mae eisiau fy medyddio gennyt Ti, ac a wyt Ti yn dyfod attaf fi? Ond gan atteb, yr Iesu a ddywedodd wrtho ef, Gâd yn awr; canys fel hyn y mae’n weddus i ni gyflawni pob cyfiawnder. Yna y gadawodd efe Iddo. Ac wedi Ei fedyddio, yr Iesu a aeth i fynu yn uniawn o’r dwfr, ac wele, agorwyd y nefoedd Iddo, a gwelodd Yspryd Duw yn disgyn fel colommen, ac yn dyfod arno Ef; ac wele, llais o’r nefoedd yn dywedyd, Hwn yw Fy Mab Anwyl, yn yr Hwn y’m Boddlonwyd. Yna yr Iesu a arweiniwyd i fynu i’r anialwch gan yr Yspryd, i’w demtio gan ddiafol. Ac wedi ymprydio ddeugain niwrnod a deugain nos, ar ol hyny y newynodd. Ac wedi dyfod Atto, y temtiwr a ddywedodd Wrtho, Os Mab Duw wyt, arch y bo i’r cerrig hyn fyned yn dorthau. Ac Yntau gan atteb a ddywedodd, Ysgrifenwyd, “Nid ar fara yn unig y bydd byw dyn, ond ar bob gair yn dyfod allan trwy enau Duw.” Yna y cymmerth diafol Ef i’r ddinas sanctaidd; a gosododd Ef ar binacl y deml, a dywedodd Wrtho, Os Mab Duw wyt, bwrw Dy Hun i lawr, canys ysgrifenwyd, “I’w angylion y gorchymyn Efe am Danat, Ac ar eu dwylaw y’th ddygant, Rhag un amser darawo o Honot Dy droed wrth garreg.” Dywedodd yr Iesu wrtho, Etto yr ysgrifenwyd, “Ni themti yr Arglwydd dy Dduw.” Etto y cymmerth diafol Ef i fynydd tra uchel, a dangosodd Iddo holl deyrnasoedd y byd a’u gogoniant; a dywedodd Wrtho, Y rhai hyn oll i Ti a roddaf, os syrthi i lawr a’m haddoli i. Yna y dywedodd yr Iesu wrtho, Dos ymaith, Satan; canys ysgrifenwyd, “Yr Arglwydd dy Dduw a addoli, ac Ef yn unig a wasanaethi.” Yna y gadawodd diafol Ef; ac wele, angylion a ddaethant Atto, ac a weiniasant Iddo. Ac wedi clywed o Hono fod Ioan wedi ei draddodi, ciliodd i Galilea; ac wedi gadael Natsareth, daeth ac arhosodd yn Caphernahwm, yr hon sydd wrth y môr, ynghyffiniau Zabwlwn a Nephthali; fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd trwy Eshaiah y prophwyd, gan ddywedyd, “Tir Zabwlwn a thir Nephthali, Ffordd y môr, tu hwnt i’r Iorddonen, Galilea y cenhedloedd; Y bobl a eisteddai mewn tywyllwch A welsant oleuni mawr; Ac i’r rhai yn eistedd ym mro a chysgod angau, Goleuni a gododd iddynt.” O’r pryd hwnw dechreuodd yr Iesu bregethu a dywedyd, Edifarhêwch, canys nesaodd teyrnas nefoedd. Ac wrth rodio wrth fôr Galilea gwelodd ddau frawd, Shimon, yr hwn a elwir Petr, ac Andreas ei frawd, yn bwrw rhwyd i’r môr, canys yr oeddynt bysgodwŷr, a dywedodd wrthynt, Deuwch ar Fy ol, a gwnaf chwi yn bysgodwŷr dynion. A hwy yn uniawn, gan adael y rhwydau, a’i canlynasant Ef. Ac wedi myned rhagddo oddiyno, gwelodd ddau frawd arall, Iago fab Zebedëus, ac Ioan ei frawd, yn y cwch ynghyda Zebedëus eu tad, yn cyweirio eu rhwydau; a galwodd hwynt; a hwy yn uniawn, gan adael y cwch a’u tad, a’i canlynasant Ef. Ac aeth yr Iesu o amgylch yn holl Galilea, gan ddysgu yn eu sunagogau, a chan bregethu Efengyl y deyrnas, a chan iachau pob clefyd a phob afiechyd ym mhlith y bobl. Ac aeth allan y sôn am dano Ef i’r holl Suria; a dygasant Atto yr holl rai drwg eu hwyl, gydag amryw glefydau a chnofeydd yn eu dala, rhai cythreulig, a rhai lloerig, a rhai â’r parlys arnynt, ac iachaodd hwynt. Ac yr oedd yn Ei ganlyn Ef dorfeydd mawrion o Galilea a Decapolis ac Ierwshalem ac Iwdea ac o’r tu hwnt i’r Iorddonen. A chan weled y torfeydd esgynodd i’r mynydd; ac wedi eistedd o Hono, daeth Ei ddisgyblion Atto; ac wedi agor Ei enau, dysgodd hwynt, gan ddywedyd, Gwyn eu byd y tlodion yn yr Yspryd; canys eiddynt yw teyrnas nefoedd. Gwyn eu byd y rhai sydd yn galaru; canys hwy a ddiddenir. Gwyn eu byd y rhai addfwyn; canys hwy a etifeddant y ddaear. Gwyn eu byd y rhai sydd â newyn a syched arnynt am gyfiawnder; canys hwy a ddiwellir. Gwyn eu byd y trugarogion; canys wrthynt hwy y trugarheir. Gwyn eu byd y rhai pur o galon; canys hwy a welant Dduw. Gwyn eu byd y tangnefeddwŷr; canys hwy, plant Duw y’u gelwir. Gwyn eu byd y rhai a erlidwyd o achos cyfiawnder; canys eiddynt hwy yw teyrnas nefoedd. Gwyn eich byd, pan y’ch gwaradwyddant ac eich erlid, ac y dywedant bob drwg yn eich erbyn, gan gelwyddu, o’m hachos I: llawenychwch a gorfoleddwch, canys eich gwobr sydd fawr yn y nefoedd; canys felly yr erlidiasant y prophwydi a fuant o’ch blaen chwi. Chwychwi yw halen y ddaear; ond os yr halen a ddi-flasodd, â pha beth yr helltir ef? ni thâl mwy i ddim ond, wedi ei fwrw allan, i’w sathru gan ddynion. Chwychwi yw goleuni y byd: ni all dinas ei chuddio pan ar fryn y gorweddo; ac ni oleuent lusern a’i dodi tan y llestr, ond ar safle’r llusern, a llewyrcha i bawb sydd yn y tŷ: felly, llewyrched eich goleuni ger bron dynion, fel y gwelont eich gweithredoedd da chwi, ac y gogoneddont eich Tad yr Hwn sydd yn y nefoedd. Na thybiwch y daethum i ddinystrio’r Gyfraith neu’r Prophwydi: ni ddaethum i ddinystrio ond i gyflawni hwynt; canys yn wir meddaf i chwi, nes myned heibio o’r nef a’r ddaear, nac un iot nac un pyncyn o’r Gyfraith a aiff heibio, nes i’r cwbl gael ei wneud. Pwy bynnag, gan hyny, a ddattodo un o’r gorchymynion lleiaf hyn, ac a ddysgo felly i ddynion, lleiaf a elwir ef yn nheyrnas nefoedd; ond pwy bynnag a’ u gwnelo ac a’ u dysgo i ddynion, efe, mawr y’i gelwir yn nheyrnas nefoedd: canys meddaf i chwi, Os nad helaethach fydd eich cyfiawnder rhagor yr ysgrifenyddion a’r Pharisheaid, nid ewch i mewn, er dim, i deyrnas nefoedd. Clywsoch y dywedwyd wrth y rhai gynt, “Ni leddi; a phwy bynnag a laddo, dyledus fydd i’r farn;” ond Myfi wyf yn dywedyd wrthych, Pob un a ddigio wrth ei frawd, dyledwr fydd i’r farn; a phwy bynnag a ddywedo wrth ei frawd, “Raca,” dyledwr fydd i’r Cynghor; a phwy bynnag a ddywedo, “More,” dyledwr fydd i’r Gehenna tanllyd. Gan hyny, os dygi dy rodd at yr allor, ac yno cofio o honot fod gan dy frawd ddim yn dy erbyn, gâd yno dy rodd o flaen yr allor, a dos ymaith: yn gyntaf cymmoder di â’th frawd, ac yna tyred ac offrwm dy rodd. Cyttuna â’th wrthwynebwr ar frys, tra fyddech gydag ef ar y ffordd, rhag ysgatfydd i’r gwrthwynebwr dy draddodi at y barnwr, ac i’r barnwr dy draddodi at y gweinidog, a’th daflu yngharchar: yn wir meddaf i ti, ni ddeui ddim allan oddi yno, hyd oni thalech y ffyrling eithaf. Clywsoch y dywedwyd, “Ni wnei odineb;” ond yr wyf Fi yn dywedyd wrthych fod pob un y sy’n edrych ar wraig i’w chwenychu hi, wedi gwneuthur eisoes odineb â hi yn ei galon. Ac os dy lygad dehau a bair dramgwydd i ti, tyn ef allan a thafl oddiwrthyt, canys da yw i ti ddarfod am un o’th aelodau, ac na fo i’th holl gorph ei daflu i Gehenna. Ac os dy ddeheulaw a bair dramgwydd i ti, tor hi ymaith, a thafl oddiwrthyt, canys da yw i ti ddarfod am un o’th aelodau, ac na fo i’th holl gorph fyned ymaith i Gehenna. A dywedwyd, “Pwy bynnag a ollyngo ymaith ei wraig, rhoed iddi lythyr ysgar;” ond yr wyf Fi yn dywedyd wrthych, Pob un a ollyngo ymaith ei wraig, ond o achos godineb, gwneuthur iddi odineba y mae; a phwy bynnag a briodo wraig a ysgarwyd, godinebu y mae. Etto, clywsoch y dywedwyd wrth y rhai gynt, “Ni thyngi anudon, ond teli i’r Arglwydd dy lwon;” ond yr wyf Fi yn dywedyd wrthych beidio a thyngu o gwbl; na myn y nef, canys gorseddfaingc Duw yw; na myn y ddaear, canys lleithig Ei draed yw; na myn Ierwshalem, canys dinas y Brenhin Mawr yw; ac myn dy ben na thwng, canys ni elli wneuthur un blewyn yn wyn neu yn ddu; ond bydded eich ymadrodd, Ië, Ië; Nag ê, nag ê; a’r hyn sydd dros ben y rhai hyn o’r drwg y mae. Clywsoch y dywedwyd, “Llygad am lygad, a dant am ddant;” ond yr wyf Fi yn dywedyd wrthych beidio â gwrthsefyll y dyn drwg; ond y neb a’th darawo di ar dy rudd ddehau, tro iddo y llall hefyd; ac i’r hwn a fynno ymgyfreithio â thydi, a chael dy bais, gâd iddo dy gochl hefyd; a’r neb a’th gymhello di un filldir, dos gydag ef ddwy. I’r hwn a ofyno genyt, dyro; a’r hwn sy’n ewyllysio echwyna genyt ti, na thro oddi wrtho. Clywsoch y dywedwyd, “Ceri dy gymmydog, a chasei dy elyn:” ond yr wyf Fi yn dywedyd wrthych, Cerwch eich gelynion, a gweddïwch dros y rhai sydd yn eich erlid, fel yr eloch yn feibion i’ch Tad y sydd yn y nefoedd, canys peri y mae Efe i’w haul godi ar y rhai drwg a’r da, ac yn gwlawio ar gyfiawnion ac anghyfiawnion; canys os cerwch y sawl a’ch caront, pa wobr sydd i chwi? Onid yw’r treth-gymmerwŷr yn gwneud yr un peth? Ac os cyferchwch well i’ch brodyr yn unig, pa ragoriaeth yr ydych yn ei wneuthur? Onid yw’r ethnigion yn gwneuthur yr un peth? Byddwch chwi, gan hyny, yn berffaith fel y mae eich Tad nefol yn berffaith. Gwyliwch rhag gwneud eich cyfiawnder ger bron dynion, er mwyn eich gweled ganddynt: onite, gwobr nid oes i chwi gyda’ch Tad yr Hwn sydd yn y nefoedd. Gan hyny, pan wnelych elusen, nac udgana o’th flaen fel y mae’r rhagrithwŷr yn gwneud yn y sunagogau ac yn yr heolydd, fel y molianner hwy gan ddynion: yn wir meddaf i chwi, derbyn eu gwobr y maent. Ond pan yr wyt ti yn gwneuthur elusen, na wyped dy law aswy pa beth a wna dy ddeheulaw, fel y bo dy elusen yn y dirgel, a’th Dad y sy’n gweled yn y dirgel, a dâl i ti. A phan weddïoch, na fyddwch fel y rhagrithwŷr, canys carant weddïo yn sefyll yn y sunagogau ac ynghonglau y llydanfeydd, fel yr ymddangosont i ddynion: yn wir meddaf i chwi, derbyn eu gwobr y maent. Ond tydi, pan weddïech, dos i mewn i’th ystafell; ac wedi cau dy ddrws, gweddïa ar dy Dad y sydd yn y dirgel; a’th Dad y sy’n gweled yn y dirgel, a dâl i ti. A phan weddïoch, na fyddwch siaradus, fel yr ethnigion, canys tybiant mai o herwydd eu haml eiriau y gwrandewir hwynt. Na fyddwch, gan hyny, debyg iddynt, canys gŵyr eich Tad pa bethau y mae arnoch eu heisiau cyn i chwi ofyn Ganddo. Fel hyn, gan hyny, gweddïwch chwi, Ein Tad, yr Hwn wyt yn y nefoedd, sancteiddier Dy enw. Deued Dy deyrnas. Gwneler Dy ewyllys, fel yn y nef, felly hefyd ar y ddaear. Ein bara beunyddiol dyro i ni heddyw. A maddeu i ni ein troseddau, fel yr ydym ninnau hefyd wedi maddeu i’r rhai a droseddasant i’n herbyn. Ac nac arwain ni i brofedigaeth, eithr achub ni oddiwrth y drwg. Canys os maddeuwch i ddynion eu camweddau, maddeua hefyd eich Tad y sydd yn y nefoedd i chwi: eithr os na faddeuwch i ddynion eu camweddau, eich Tad ni faddeua chwaith eich camweddau. A phan ymprydioch, na fyddwch fel y rhagrithwŷr, yn wyneb-drist; canys difetha eu gwynebau y maent, fel yr ymddangosont i ddynion, yn ymprydio: yn wir meddaf i chwi, Derbyn eu gwobr y maent. Ond tydi, pan yn ymprydio, enneinia dy ben di, a’th wyneb golch, fel nad ymddangosech i ddynion, yn ymprydio, ond i’th Dad y sydd yn y dirgel, a’th Dad y sy’n gweled yn y dirgel, a dâl i ti. Na thrysorwch iwch drysorau ar y ddaear, lle y mae gwyfyn a rhwd yn difetha, a lle y mae lladron yn cloddio trwodd ac yn lladratta; ond trysorwch iwch drysorau yn y nef, lle nid yw na gwyfyn na rhwd yn difetha, a lle nid yw lladron yn cloddio trwodd nac yn lladratta: canys lle y mae dy drysor, yno y bydd dy galon. Llusern y corph yw’r llygad; os, gan hyny, dy lygad fydd syml, dy holl gorph fydd yn oleu; ond os dy lygad fydd ddrwg, dy holl gorph fydd dywyll; os, gan hyny, y goleuni y sydd ynot fydd yn dywyllwch, y tywyllwch mor fawr yw! Nid oes neb a ddichon wasanaethu dau arglwydd; canys un ai y naill a gasa ac y llall a gar efe, neu wrth y naill yr ymlŷn, a’r llall a ddirmyga efe: ni ellwch wasanaethu Duw a mammon. O achos hyn meddaf i chwi, na phryderwch am eich bywyd, pa beth a fwyttaoch neu pa beth a yfoch; nac am eich corph, pa beth a wisgoch. Onid yw’r bywyd yn fwy na’r bwyd, a’r corph na’r dillad? Edrychwch ar ehediaid y nefoedd, nad ydynt yn hau, nac yn medi, nac yn cywain i ysguboriau, ac eich Tad nefol a’u portha: onid ydych chwi yn rhagori llawer arnynt? A phwy o honoch, gan bryderu, a ddichon ychwanegu at ei faintioli un cufydd? Ac am ddillad paham y pryderwch? Ystyriwch lili’r maes, y modd y tyfant; ni lafuriant, ac ni nyddant ddim; ac yr wyf yn dywedyd wrthych, Nid oedd hyd yn oed Shalomon yn ei holl ogoniant, wedi ymwisgo fel un o’r rhai hyn. Ac os llysieuyn y maes y sydd heddyw mewn bod ac y foru i’r ffwrn y’i bwrir, y mae Duw fel hyn yn ei ddilladu, onid llawer mwy y dillada Efe chwi, o rai o ychydig ffydd? Am hyny na phryderwch, gan ddywedyd, “Pa beth a fwyttawn?” neu, “Pa beth a yfwn?” neu, “A pha beth yr ymwisgwn?” canys yr holl bethau hyn y mae’r Cenhedloedd yn eu ceisio, canys gŵyr eich Tad nefol fod arnoch eisiau y pethau hyn i gyd. Ond ceisiwch yn gyntaf Ei deyrnas ac Ei gyfiawnder, a’r rhai hyn oll a roddir attoch. Gan hyny na phryderwch am y foru, canys y foru a brydera am dani ei hun; digon i’r diwrnod ei ddrygioni ei hun. Na fernwch, fel na’ch barner; canys â’r farn â’r hon y bernwch, y’ch bernir; ac â’r mesur â’r hwn y mesurwch, y mesurir i chwi. A phaham y gweli y brycheuyn y sydd yn llygad dy frawd, ond y trawst y sydd yn dy lygad dy hun nad ystyri? Neu, pa fodd y dywedi wrth dy frawd, Gâd i mi fwrw allan y brycheuyn o’th lygad, ac wele y trawst y sydd yn dy lygad di? O ragrithiwr, bwrw allan yn gyntaf y trawst o’th lygad dy hun, ac yna y gweli yn eglur i fwrw allan y brycheuyn o lygad dy frawd. Na roddwch y peth sanctaidd i’r cŵn, ac na theflwch eich gemmau o flaen y moch, rhag ysgatfydd iddynt eu sathru hwynt â’u traed, a throi a’ch rhwygo chwi. Gofynwch, a rhoddir i chwi: ceisiwch, a chewch: curwch, ac agorir i chwi; canys pob un y sy’n gofyn, sy’n derbyn; a’r neb sy’n ceisio, sy’n cael; ac i’r hwn sydd yn curo, yr agorir. Pwy sydd o honoch, ac efe yn ddyn, i’r hwn y gofyn ei fab fara, a rydd garreg iddo; neu os pysgodyn a ofyn efe, a rydd sarph iddo? Os, gan hyny, chwychwi, a chwi yn ddrwg, a wyddoch pa sut i roddi rhoddion da i’ch plant, pa faint mwy y gwna eich Tad y sydd yn y nefoedd, roddi pethau da i’r rhai sy’n gofyn Iddo? Gan hyny, yr holl bethau, cymmaint ag a ewyllysioch eu gwneuthur o ddynion i chwi, felly gwnewch chwithau hefyd iddynt hwy; canys hyn yw’r Gyfraith a’r Prophwydi. Ewch i mewn trwy’r porth cyfyng; canys ehang yw’r porth, a llydan y ffordd sy’n arwain i’r distryw, a llawer yw y rhai yn myned i mewn trwyddi; canys cul yw’r porth, a chyfyng y ffordd sydd yn arwain i’r bywyd, ac ychydig yw y rhai yn ei chael hi. Gwyliwch rhag y gau-brophwydi, y rhai a ddeuant attoch yngwisgoedd defaid, ond oddimewn y maent yn fleiddiaid rheibus: wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt. Ai oddi ar ddrain y casglant rawnwin; neu oddi ar ysgall, ffigys? Felly pob pren da, ffrwythau da a ddwg efe; a’r pren llygredig, ffrwythau drwg a ddwg efe. Ni ddichon pren da ddwyn ffrwythau drwg, na phren llygredig ddwyn ffrwythau da. Pob pren nad yw’n dwyn ffrwyth da, a dorrir i lawr, ac i’ r tân y’i teflir; ac felly wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt. Nid pob un y sy’n dywedyd Wrthyf, Arglwydd, Arglwydd, a ddaw i mewn i deyrnas nefoedd, ond yr hwn sy’n gwneuthur ewyllys Fy Nhad yr Hwn sydd yn y nefoedd. Llawer a ddywedant Wrthyf yn y dydd hwnw, Arglwydd, Arglwydd, onid yn Dy enw Di y prophwydasom; ac yn Dy enw Di y bwriasom allan gythreuliaid; ac yn Dy enw Di gwyrthiau lawer a wnaethom? Ac yna yr addefaf wrthynt, Erioed ni’s adnabum chwi: ewch ymaith Oddiwrthyf y rhai yn gweithredu anghyfraith. Pob un, gan hyny, y sy’n clywed y geiriau hyn mau Fi ac yn eu gwneuthur, cyffelyb fydd i ŵr doeth yr hwn a adeiladodd ei dŷ ar y graig: a disgynodd y gwlaw, a daeth yr afonydd, a chwythodd y gwyntoedd, a rhuthrasant ar y tŷ hwnw, ac ni syrthiodd, canys sylfaenesid ar y graig. A phob un y sy’n clywed y geiriau hyn mau Fi, ac nad yw yn eu gwneuthur, cyffelyb fydd i ŵr ynfyd, yr hwn a adeiladodd ei dŷ ar y tywod; a disgynodd y gwlaw, a daeth yr afonydd, a chwythodd y gwyntoedd, a churasant ar y tŷ hwnw, a chwympodd efe, ac yr oedd ei gwymp yn fawr. A bu pan orphenodd yr Iesu y geiriau hyn, bu aruthr gan y torfeydd o herwydd Ei ddysgad, canys yr oedd Efe yn eu dysgu hwynt fel un ag awdurdod ganddo, ac nid fel eu hysgrifenyddion. Ac wedi dyfod o Hono i wared o’r mynydd, canlynodd torfeydd mawrion Ef. Ac wele, un gwahanglwyfus wedi dyfod Atto a’i haddolodd, gan ddywedyd, Arglwydd, os mynni, gelli fy nghlanhau i. Ac wedi estyn Ei law, cyffyrddodd Efe ag ef, gan ddywedyd, Mynnaf; glanhaer di: ac yn uniawn y glanhawyd ei wahanglwyf ef. A dywedodd yr Iesu wrtho, Gwel nad wrth neb y dywedi; eithr dos, dangos dy hun i’r offeiriad, ac offryma’r rhodd a orchymynodd Mosheh, yn dystiolaeth iddynt. Ac wedi dyfod o Hono i mewn i Caphernahwm, daeth Atto ganwriad, gan ddeisyfu arno a dywedyd, Arglwydd, fy ngwas sy’n gorwedd gartref yn glaf o’r parlys, yn ei boeni yn ofnadwy. A dywedodd Efe wrtho, Myfi a ddeuaf ac a’i hiachaf ef. A chan atteb, y canwriad a ddywedodd, Arglwydd, nid wyf deilwng fel dan fy nghronglwyd i y deuit i mewn; eithr yn unig dywaid â gair, ac iacheir fy ngwas; canys myfi hefyd, gŵr dan awdurdod wyf, a chenyf filwyr danaf fy hun; a dywedaf wrth hwn, Cerdda, a myned y mae; ac wrth arall, Tyred, a dyfod y mae; ac wrth fy nghaethwas, Gwna hyn, a gwneyd y mae. Ac wedi clywed hyn, yr Iesu a ryfeddodd ac a ddywedodd wrth y rhai oedd yn canlyn, Yn wir meddaf i chwi, hyd yn oed yn Israel ffydd mor fawr ni chefais. A dywedaf wrthych, Llawer o’r dwyrain a’r gorllewin a ddeuant ac a led-orweddant gydag Abraham ac Itsaac ac Iacob yn nheyrnas nefoedd; ond plant y deyrnas a deflir ymaith i’r tywyllwch mwyaf allanol: yno y bydd y wylofain a’r rhingcian dannedd. A dywedodd yr Iesu wrth y canwriad, Dos ymaith: fel y credaist, bydded i ti. Ac iachawyd ei was yn yr awr honno. Ac wedi dyfod o’r Iesu i dŷ Petr, gwelodd ei chwegr ef yn gorwedd ac yn glaf o’r cryd; a chyffyrddodd â’i llaw hi, ac ymadawodd y cryd â hi, a chododd hi a gwasanaethodd Iddo. Ac wedi ei hwyrhau hi, dygasant Atto rai cythreulig lawer; a bwriodd Efe allan yr ysprydion â gair; a’r holl rai drwg eu hwyl a iachaodd Efe, fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy Eshaiah y prophwyd, gan ddywedyd, “Efe Ei Hun ein gwendidau a gymmerth, Ac ein clefydau a ddug Efe.” A phan welodd yr Iesu dorfeydd mawrion o’i amgylch, gorchymynodd fyned ymaith i’r lan arall. A rhyw ysgrifenydd wedi dyfod Atto, a ddywedodd Wrtho, Athraw, canlynaf Di i ba le bynnag yr elych. A dywedodd yr Iesu wrtho, Gan y llwynogod y mae ffauau, a chan ehediaid y nefoedd lettyau; ond gan Fab y Dyn nid oes lle y rhoddo Ei ben i lawr. Ac un arall o’i ddisgyblion a ddywedodd Wrtho, Arglwydd, gâd i mi yn gyntaf fyned ymaith a chladdu fy nhad. A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Canlyn Fi, gâd y meirw i gladdu eu meirw eu hun. Ac wedi myned o Hono i gwch, canlynodd Ei ddisgyblion Ef: ac wele, cynnwrf mawr a ddigwyddodd yn y môr, nes yr oedd y cwch yn cael ei orchuddio gan y tonnau; ac Efe a gysgai. Ac wedi dyfod Atto, deffroasant Ef, gan ddywedyd, Arglwydd, achub; darfu am danom: a dywedodd Efe wrthynt, Paham yr ydych yn ofnus, o chwi o ychydig ffydd? Yna y cododd Efe, ac y dwrdiodd y gwyntoedd a’r môr, ac y bu tawelwch mawr. A’r dynion a ryfeddasant, gan ddywedyd, Pa fath ddyn yw hwn, gan fod y gwyntoedd a’r môr yn ufuddhau iddo? Ac wedi Ei ddyfod i’r lan arall, i wlad y Gergesiaid, cyfarfu ag Ef ddau ddieflig, yn dyfod allan o’r beddau, ffyrnig dros ben fel na allai neb fyned heibio y ffordd honno. Ac wele, gwaeddasant, gan ddywedyd, Pa beth sydd i ni a wnelom â Thi, o Fab Duw? Daethost yma cyn yr amser i’n poeni ni. Ac yr oedd ym mhell oddiwrthynt genfaint o foch lawer, yn pori. A’r cythreuliaid a ddeisyfiasant Arno, gan ddywedyd, Os bwri ni allan, danfon ni i’r genfaint moch. A dywedodd wrthynt, Ewch. A hwy wedi myned allan, a aethant ymaith i’r moch; ac, wele, rhuthrodd yr holl genfaint, i lawr y dibyn, i’r môr; a buant feirw yn y dwfr. A’r meichiaid a ffoisant, ac wedi myned ymaith i’r ddinas, mynegasant y cwbl, a hanes y rhai dieflig. Ac, wele, yr holl ddinas a aeth allan i gyfarfod â’r Iesu; a phan Ei gwelsant, deisyfiasant Arno ymadael â’u cyffiniau. Ac wedi myned i mewn i gwch, yr aeth Efe trosodd, a daeth i’w ddinas Ei hun. Ac wele, dygasant Atto ŵr claf o’r parlys, yn gorwedd ar wely; a chan weled o’r Iesu eu ffydd, dywedodd wrth y claf o’r parlys, Bydd hyderus, fy mab, maddeuwyd dy bechodau di. Ac wele, rhai o’r ysgrifenyddion a ddywedasant ynddynt eu hunain, Y mae hwn yn cablu. A chan wybod o’r Iesu eu meddyliau, dywedodd, Paham y meddyliwch bethau drwg yn eich calonau? canys pa un sydd hawsaf, ai dywedyd, Maddeuwyd dy bechodau di, ai dywedyd, Cyfod a rhodia? Ond fel y gwypoch fod awdurdod gan Fab y Dyn ar y ddaear i faddeu pechodau (yna y dywedodd wrth y claf o’r parlys), Cyfod a chymmer i fynu dy wely di, a dos i’th dŷ. Ac wedi cyfodi, yr aeth efe ymaith i’w dŷ. Ac wedi gweled o’r torfeydd, ofnasant, a gogoneddasant Dduw, yr hwn a roisai awdurdod o’r fath i ddynion. Ac wrth fyned heibio o’r Iesu oddi yno, gwelodd ŵr yn eistedd wrth y dollfa, Matthew wrth ei enw, a dywedodd wrtho, Canlyn Fi; a chyfododd efe, a chanlynodd Ef. A bu ac Efe yn lled-orwedd wrth y ford yn y tŷ, ac wele llawer o dreth-gymmerwŷr a phechaduriaid wedi dyfod, a gyd-ledorweddasant â’r Iesu a’i ddisgyblion. A phan welodd y Pharisheaid hyn, dywedasant wrth Ei ddisgyblion, Paham mai ynghyda’r treth-gymmerwŷr a phechaduriaid y bwytty eich Athraw? Ac Efe, wedi clywed, a ddywedodd, Nid oes rhaid i’r rhai iach wrth feddyg, ond i’r rhai drwg eu hwyl. Ond ewch a dysgwch pa beth yw, “Trugaredd a ewyllysiaf, ac nid aberth;” canys ni ddaethum i alw cyfiawnion, ond pechaduriaid. Yna y daeth Atto ddisgyblion Ioan, gan ddywedyd, Paham yr ydym ni a’r Pharisheaid yn ymprydio yn fynych, a’th ddisgyblion Di nid ydynt yn ymprydio? A dywedodd yr Iesu wrthynt, A all meibion yr ystafell-briodas alaru tra ynghyda hwynt y mae’r priod-fab? Ond daw’r dyddiau pan ddygir y priod-fab oddi arnynt, ac yna yr ymprydiant. Ac nid yw neb yn dodi darn o frethyn heb ei bannu at gochl hen, canys cymmer ei gyflawniad oddiwrth y cochl, a rhwyg gwaeth a wneir. Ac nid ydynt yn dodi gwin newydd mewn costrelau hen: onite torrir y costrelau, a’r gwin a red allan, ac am y costrelau y derfydd; eithr dodant win newydd mewn costrelau newyddion, a’r ddau a gyd-gedwir. Ac Efe yn dywedyd y pethau hyn wrthynt, wele, rhyw bennaeth a ddaeth ac a’i haddolodd Ef, gan ddywedyd, Fy merch sydd newydd farw: eithr tyred a gosod Dy law arni, a byw fydd. Ac wedi cyfodi, yr Iesu a’i canlynodd ef, ac Ei ddisgyblion. Ac wele, gwraig y buasai gwaedlif arni ddeuddeng mlynedd, wedi dyfod Atto ac o’r tu cefn, a gyffyrddodd ag ymyl Ei gochl, canys dywedodd ynddi ei hun, Os cyffyrddaf yn unig â’i gochl, iach fyddaf. A’r Iesu wedi troi a’i gweled hi, a ddywedodd, Bydd hyderus, Fy merch: dy ffydd a’th iachaodd; ac iachawyd y wraig o’r awr honno. Ac wedi dyfod o’r Iesu i dŷ’r pennaeth, a chan weled y pibyddion a’r dyrfa yn terfysgu, dywedodd, Ciliwch, canys ni bu farw y llangces, eithr cysgu y mae: a chwarddasant am Ei ben Ef. Ond pan fwriasid y dyrfa allan, wedi myned i mewn yr ymaflodd Efe yn ei llaw hi, a chyfododd y llangces. Ac aeth y sôn am hyn allan dros yr holl wlad honno. Ac wrth fyned heibio o’r Iesu oddi yno, canlynodd dau ddyn dall Ef, gan waeddi a dywedyd, Trugarhâ wrthym, fab Dafydd. Ac wedi dyfod o Hono i’r tŷ, daeth y deillion Atto; a dywedodd yr Iesu wrthynt, A ydych chwi yn credu y gallaf wneuthur hyn? Dywedasant Wrtho, Ydym, Arglwydd. Yna y cyffyrddodd Efe â’u llygaid, gan ddywedyd, Yn ol eich ffydd bydded i chwi. Ac agorwyd eu llygaid hwynt; a chaeth-orchymynodd yr Iesu iddynt, gan ddywedyd, Edrychwch na fydded i neb wybod. Ond hwy, wedi myned allan, a daenasant y son am Dano yn yr holl wlad honno. Ac a hwy yn myned allan, wele, dygodd rhai Atto ddyn mud cythreulig; a phan fwriasid y cythraul allan, llefarodd y mudan; a rhyfeddodd y torfeydd, gan ddywedyd, Erioed nid ymddangosodd dim fel hyn yn Israel. Ond y Pharisheaid a ddywedasant, Trwy bennaeth y cythreuliaid y bwrw Efe allan y cythreuliaid. Ac aeth yr Iesu o amgylch y dinasoedd oll a’r pentrefi, gan ddysgu yn eu sunagogau, a chan bregethu efengyl y deyrnas, ac iachau pob clefyd a phob afiechyd. Ac wrth weled y torfeydd, tosturiodd wrthynt am eu bod yn llesg a’u gwasgaru fel defaid heb ganddynt fugail. Yna y dywedodd Efe wrth Ei ddisgyblion, Y cynhauaf yn wir sydd fawr, ond y gweithwyr yn anaml: attolygwch, gan hyny, i Arglwydd y cynhauaf, anfon allan weithwyr i’w gynhauaf. Ac wedi galw Atto Ei ddeuddeg disgybl, rhoddes iddynt awdurdod dros ysprydion aflan, i’w bwrw hwynt allan, ac i iachau pob clefyd a phob afiechyd. Ac enwau y deuddeg apostol yw y rhai hyn: Cyntaf, Shimon, yr hwn a elwir Petr, ac Andreas ei frawd; Iago mab Zebedëus, ac Ioan ei frawd; Philip, a Bartholemëus; Thomas, a Matthew y treth-gymmerwr; Iago mab Alphëus, a Thadëus; Shimon y Cananead, ac Iwdas Iscariot, yr hwn hefyd a draddododd Ef. Y deuddeg hyn a ddanfonodd yr Iesu, wedi gorchymyn iddynt, gan ddywedyd, I ffordd y cenhedloedd nac ewch; ac i ddinas o eiddo’r Shamariaid nac ewch i mewn: ond ewch yn hytrach at ddefaid colledig tŷ Israel. Ac wrth fyned pregethwch, gan ddywedyd, Nesaodd teyrnas nefoedd. Cleifion iachewch; meirw cyfodwch; gwahanglwyfusion glanhewch; cythreuliaid bwriwch allan: yn rhad y derbyniasoch, rhad-roddwch. Na cheisiwch aur, nac arian, na phrês i’ch gwregysau, nac ysgrepan i’r daith, na dwy bais, nac esgidiau, na ffon, canys haeddu ei fwyd y mae’r gweithiwr. Ac i ba ddinas bynnag, neu bentref, yr eloch i mewn, chwiliwch allan pwy ynddi sydd deilwng; ac yno arhoswch, hyd onid eloch allan. Ac wrth fyned i mewn i’r tŷ, cyferchwch well iddo: ac os bydd y tŷ yn deilwng, deued eich tangnefedd arno; ond os na fydd deilwng, bydded i’ch tangnefedd ddychwelyd attoch. A phwy bynnag na’ch derbynio, ac na wrandawo eich geiriau, wrth fyned allan o’r tŷ neu y ddinas honno, ysgydwch ymaith lwch eich traed. Yn wir meddaf i chwi, Mwy goddefadwy fydd i dir Sodom a Gomorrah yn nydd y farn nag i’r ddinas honno. Wele, Myfi wyf yn eich danfon fel defaid ynghanol bleiddiaid; byddwch, gan hyny, yn gall fel y seirph, ac yn ddiniweid fel y colommenod. Ond gwyliwch rhag dynion, canys rhoddant chwi i fynu i gynghorau, ac yn eu sunagogau y’ch ffrewyllant; a cher bron llywiawdwyr a brenhinoedd y’ch dygant o’m hachos I, er tystiolaeth iddynt ac i’r cenhedloedd. Ond pan draddodant chwi, na phryderwch am ba fodd neu ba beth a lefaroch: canys rhoddir i chwi yn yr awr honno ba beth a lefaroch: canys nid chwychwi sy’n llefaru, eithr Yspryd eich Tad yr Hwn sydd yn llefaru ynoch. A thraddoda brawd frawd i farwolaeth, a thad ei blentyn; a chyfyd plant yn erbyn rhieni, ac a barant eu marwolaeth. A byddwch gas gan bawb o achos Fy enw; ond yr hwn a barhao hyd y diwedd, efe fydd gadwedig. A phan erlidiant chwi yn y ddinas hon, ffowch i’r llall; canys yn wir y dywedaf wrthych, na orphenwch ddinasoedd Israel nes dyfod Mab y Dyn. Nid yw disgybl yn uwch na’r athraw, na’r caethwas yn uwch na’i arglwydd; digon i’r disgybl fod fel ei athraw, ac y caethwas fel ei arglwydd. Os perchen y tŷ a alwasant “Beelzebub,” pa faint mwy ei dylwyth? Am hyny, nac ofnwch hwynt; canys nid oes dim wedi ei orchuddio, yr hwn ni ddatguddir; na chuddiedig, yr hwn ni wybyddir. Yr hyn yr wyf yn ei ddywedyd wrthych yn y tywyllwch, mynegwch yn y goleuni; a’r hyn a glywch yn y glust, cyhoeddwch ar bennau’r tai. Ac nac ofnwch rhag y rhai sy’n lladd y corph, ond yr enaid na allant ei ladd; ond ofnwch yn hytrach yr Hwn sy’n abl i ddistrywio enaid a chorph yn Gehenna. Onid yw dau aderyn y tô i’w gwerthu er assar? ac un o honynt ni syrth ar y ddaear heb eich Tad: ond hyd yn oed gwallt eich pen chwi ydynt i gyd wedi eu cyfrif. Gan hyny, nac ofnwch; ar lawer adar y tô yr ydych chwi yn rhagori. Pob un, gan hyny, a’m haddefo I ger bron dynion, Addefaf Finnau hefyd ef ger bron Fy Nhad y sydd yn y nefoedd: A phwy bynnag a’m gwado I ger bron dynion, Gwadaf Finnau hefyd ef ger bron Fy Nhad y sydd yn y nefoedd. Na thybiwch y daethum i ddanfon heddwch ar y ddaear: ni ddaethum i ddanfon heddwch, eithr cleddyf: canys daethum i wahanu dyn yn erbyn ei dad, a merch yn erbyn ei mam, a gwaudd yn erbyn ei chwegr; a gelynion dyn a fydd tylwyth ei dŷ. Yr hwn sy’n caru tad neu fam yn fwy na Myfi, nid yw deilwng o Honof Fi; a’r hwn sy’n caru mab neu ferch yn fwy na Myfi, nid yw deilwng o Honof Fi: a’r hwn nad yw yn cymmeryd ei groes ac yn canlyn ar fy ol I, nid yw deilwng o Honof Fi. Yr hwn sy’n cael ei einioes, a’i cyll; a’r hwn a gollo ei einioes o’m hachos I, a’i caiff. Yr hwn sydd yn eich derbyn chwi, Myfi y mae efe yn ei dderbyn; a’r hwn sydd yn Fy nerbyn I, derbyn yr Hwn a’m danfonodd y mae. Yr hwn sy’n derbyn prophwyd yn enw prophwyd, gwobr prophwyd a gaiff efe; a’r hwn sy’n derbyn un cyfiawn yn enw un cyfiawn, gwobr un cyfiawn a gaiff efe. A phwy bynnag a roddo i’w yfed i un o’r rhai bychain hyn phiolaid o ddwfr oer yn unig yn enw disgybl, yn wir meddaf i chwi, Ni chyll mo’i wobr. A bu pan orphenodd yr Iesu orchymyn i’w ddeuddeg disgybl, yr aeth oddi yno i ddysgu a phregethu yn eu dinasoedd hwynt. Ac Ioan, wedi clywed yn y carchar weithredoedd Crist, ac wedi danfon trwy ei ddisgyblion, a ddywedodd Wrtho, Ai Tydi yw’r Hwn sy’n dyfod, neu un arall yr ym yn ei ddisgwyl? A chan atteb, yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Wedi myned, mynegwch i Ioan y pethau a glywch ac a welwch: y mae deillion yn gweled eilwaith, a chloffion yn rhodio, cleifion gwahanol yn cael eu glanhau, a byddariaid yn clywed, a meirw yn cael eu cyfodi; a thlodion yn cael pregethu’r efengyl iddynt; a dedwydd yw pwy bynnag na thramgwydder Ynof. A’r rhai hyn yn myned eu ffordd, dechreuodd yr Iesu ddywedyd wrth y torfeydd am Ioan, Pa beth yr aethoch allan i’r anialwch i edrych arno? ai corsen a gwynt yn ei hysgwyd? Eithr pa beth yr aethoch allan i’w weled? ai dyn â gwisgoedd esmwyth am dano? Wele, y rhai sy’n gwisgo’r gwisgoedd esmwyth, yn nhai’r brenhinoedd y maent. Eithr pa beth yr aethoch allan i’w weled? Ai prophwyd? Ië, meddaf i chwi a rhagorolach na phrophwyd. Hwn yw efe am yr hwn yr ysgrifenwyd, “Wele, yr wyf Fi yn danfon Fy nghennad o flaen Dy wyneb, Yr hwn a barottoa Dy ffordd o’th flaen.” Yn wir meddaf i chwi, Ni chyfodwyd ymhlith y rhai a anwyd o wragedd, un mwy nag Ioan Fedyddiwr: ond y lleiaf yn nheyrnas nefoedd, mwy nag ef yw. Ac o ddyddiau Ioan Fedyddiwr hyd yn awr teyrnas nefoedd a dreisir, a threiswyr a’i cipiant hi: canys yr holl Brophwydi a’r Gyfraith, hyd Ioan y prophwydasant; ac os ewyllysiwch ei dderbyn, efe yw’ r Elias ar fedr dyfod. Y neb sydd a chanddo glustiau i wrando, gwrandawed. Ac i ba beth y cyffelybaf y genhedlaeth hon? Cyffelyb yw i blant yn eistedd yn y marchnadoedd, y rhai gan lefain wrth eu cyfeillion, a ddywedant, Canasom bibell i chwi, ac ni ddawnsiasoch; canasom alarnad, ac ni chwynfanasoch; canys daeth Ioan nac yn bwytta nac yn yfed, a dywedasant, Cythraul sydd ganddo; daeth Mab y Dyn yn bwytta ac yn yfed, a dywedant, Wele, dyn glwth ac yfwr gwin, cyfaill treth-gymmerwyr a phechaduriaid. Ond cyfiawnheir doethineb gan ei gweithredoedd. Yna y dechreuodd Efe edliw i’r dinasoedd yn y rhai y buasai y rhan fwyaf o’i wyrthiau, am nad edifarhasent. Gwae di Corazin; gwae di Bethtsaida; canys ped yn Tyrus ac yn Tsidon y buasai’r gwyrthiau a fuant ynoch, er ys talm mewn sachlïain a lludw yr edifarhasent. Ond meddaf i chwi, i Tyrus a Tsidon y bydd yn fwy dioddefadwy yn nydd y farn nag i chwi. A thydi, Caphernahwm, ai hyd y nef y’th ddyrchefid? Hyd Hades y disgyni, canys ped yn Sodom y buasai’r gwyrthiau a fuant ynot ti, arosasai hyd heddyw. Ond dywedaf wrthych, I dir Sodom y bydd yn fwy dioddefadwy yn nydd y farn nag i ti. Yr amser hwnw, gan atteb, yr Iesu a ddywedodd, Diolchaf i Ti, O Dad, Arglwydd y nef a’r ddaear, am guddio o Honot y pethau hyn rhag doethion a rhai deallus, a’u datguddio i fabanod. Ië, O Dad, canys felly y boddlonwyd ger Dy fron. Pob peth, i Mi y’i traddodwyd gan Fy Nhad: ac nid edwyn neb y Mab, oddieithr y Tad; nac y Tad nid yw neb yn Ei adnabod oddieithr y Mab, a phwy bynnag yr ewyllysio’r Mab Ei ddatguddio Ef iddo. Deuwch Attaf bawb y sy’n flinderog ac yn llwythog, ac Myfi a roddaf orphwysdra i chwi. Cymmerwch Fy iau arnoch, a dysgwch Genyf, canys addfwyn Wyf a gostyngedig o galon, a chewch orphwysdra i’ch eneidiau; canys Fy iau sydd esmwyth; ac Fy maich, ysgafn yw. Yr amser hwnw yr aeth yr Iesu ar y Sabbath trwy’r maesydd ŷd; ac ar Ei ddisgyblion yr oedd chwant bwyd, a dechreuasant dynnu tywys a bwytta. A’r Pharisheaid, gan weled, a ddywedasant Wrtho, Wele, Dy ddisgyblion sy’n gwneud yr hyn nad yw gyfreithlon ei wneuthur ar ddydd Sabbath. Ac Efe a ddywedodd wrthynt, Oni ddarllenasoch pa beth a wnaeth Dafydd, pan yr oedd chwant bwyd arno, a’r rhai gydag ef; y modd yr aeth i mewn i dŷ Dduw, a bara’r gosodiad ger bron a fwyttaodd efe, yr hwn nid cyfreithlon ydoedd iddo ei fwytta, nac i’r rhai gydag ef, ond i’r offeiriaid yn unig? Neu, oni ddarllenasoch yn y Gyfraith, fod yr offeiriaid ar y Sabbathau, yn y deml, yn halogi’r Sabbath, ac eu bod yn ddieuog? Ond dywedaf wrthych, Yr hyn sy fwy na’r deml, sydd yma. Ond pe gwybuasech pa beth yw, “Trugaredd a ewyllysiaf, ac nid aberth,” ni chondemniasech y rhai dieuog, canys Arglwydd y Sabbath yw Mab y Dyn. Ac wedi myned oddi yno, daeth i’w sunagog hwynt; ac wele, dyn a llaw ganddo wedi gwywo: a gofynasant Iddo, Ai cyfreithlon ar y Sabbath yw iachau? fel y cyhuddent Ef. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa ddyn fydd o honoch, a chanddo un ddafad, ac o syrth hon ar y Sabbath i ffos, nad ymeifl ynddi, a’i chodi? Pa faint, ynte, y rhagora dyn ar ddafad? Felly cyfreithlon ar y Sabbath yw gwneuthur yn dda. Yna y dywedodd wrth y dyn, Estyn dy law; ac estynodd efe hi, ac adferwyd hi yn iach fel y llall. Ac wedi myned allan, y Pharisheaid a gymmerasant gynghor yn Ei erbyn, pa fodd y difethent Ef. A’r Iesu gan wybod, a giliodd oddiyno; ac Ei ganlyn a wnaeth llawer, ac iachaodd hwynt, a dwrdiodd hwynt oll na wnaent Ef yn amlwg; fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd trwy Eshaiah y prophwyd, gan ddywedyd, “Wele Fy ngwas yr hwn a ddewisais, Fy Anwylyd, yn yr Hwn y boddlonwyd Fy enaid: Gosodaf Fy Yspryd Arno, A barn a fynega Efe i’r Cenhedloedd. Nid ymryson Efe, na gwaeddi; Ac ni chlyw neb yn y llydanfeydd Ei lais Ef. Corsen ysig ni ddryllia Efe, A llin yn mygu ni ddiffydd, Hyd oni ddygo farn allan i fuddugoliaeth. Ac yn Ei enw y Cenhedloedd a obeithiant.” Yna y dygpwyd Atto un cythreulig, dall a mud; ac iachaodd Efe ef, fel y bu i’r mudan lefaru a gweled: a synnodd yr holl dorfeydd, a dywedasant, Ai hwn yw Mab Dafydd? Ond y Pharisheaid, pan glywsant, a ddywedasant, Hwn, nid yw yn bwrw allan y cythreuliaid, ond trwy Beelzebub, pennaeth y cythreuliaid. A chan wybod eu meddyliau, dywedodd Efe wrthynt, Pob teyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun a anghyfaneddir; a phob dinas neu dŷ wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun, ni saif: ac os Satan a fwrw allan Satan, yn ei erbyn ei hun yr ymrannodd: pa wedd, gan hyny, y saif ei deyrnas? Ac os Myfi wyf trwy Beelzebub yn bwrw allan y cythreuliaid, eich meibion chwi, trwy bwy y maent yn bwrw allan? Am hyny, hwy a fyddant eich barnwyr. Ond os Myfi wyf trwy Yspryd Duw yn bwrw allan y cythreuliaid, yna y daeth teyrnas Dduw attoch. Neu pa fodd y dichon neb fyned i mewn i dŷ y cadarn ac yspeilio ei dda ef, oni bydd iddo yn gyntaf rwymo’r cadarn? ac yna yr yspeilia ei dŷ ef. Yr hwn nad yw gyda Mi, yn Fy erbyn y mae; ac yr hwn nad yw’n casglu gyda Mi, gwasgaru y mae. Am hyny y dywedaf wrthych, Pob pechod a chabledd a faddeuir i ddynion, ond y cabledd yn erbyn yr Yspryd Glân ni faddeuir: a phwy bynnag a ddywedo air yn erbyn Mab y Dyn, maddeuir iddo; ond pwy bynnag a ddywedo yn erbyn yr Yspryd Glân, ni faddeuir iddo, nac yn yr einioes hon nac yn yr hon a fydd. Naill ai gwnewch y pren yn dda a’i ffrwyth yn dda, neu gwnewch y pren yn llygredig a’i ffrwyth yn llygredig, canys wrth y ffrwyth yr adwaenir y pren. Eppil gwiberod, pa wedd y gellwch lefaru pethau da, a chwi yn ddrwg, canys o orlawnder y galon y mae’r genau yn llefaru? Y dyn da, o’r trysor da, a ddwg allan bethau da; a’r dyn drwg, o’r trysor drwg, a ddwg allan bethau drwg. A dywedaf wrthych, Pob ymadrodd segur yr hwn a adrodd dynion, rhoddant gyfrif am dano yn nydd y farn, canys wrth dy eiriau y’th gyfiawnheir, ac wrth dy eiriau y’th gondemnir. Yna yr attebodd rhai o’r Ysgrifenyddion a’r Pharisheaid Iddo, gan ddywedyd, Athraw, ewyllysiem weled arwydd Genyt. Ac Efe, gan atteb, a ddywedodd wrthynt, Cenhedlaeth ddrwg a godinebus, arwydd a gais hi; ac arwydd ni roddir iddi, ond arwydd y prophwyd Ionah: canys fel yr oedd Ionah ym mol y morfil dridiau a thair nos, felly y bydd Mab y Dyn ynghalon y ddaear dridiau a thair nos. Gwŷr Ninefe a gyfodant yn y farn gyda’r genhedlaeth hon ac a’i condemniant hi, canys edifarhasant wrth bregethiad Ionah, ac wele, mwy nag Ionah yma. Brenhines y dehau a gyfyd yn y farn gyda’r genhedlaeth hon, ac a’i condemnia hi, canys daeth o eithafoedd y ddaear i glywed doethineb Shalomon, ac wele, mwy na Shalomon yma. A phan fo’r yspryd aflan wedi myned allan o ddyn, rhodia trwy leoedd diddwfr, gan geisio gorphwysdra, ac nid yw yn ei gael: yna y dywaid, Dychwelaf i’m tŷ o’r lle y daethum allan; ac wedi y delo, y mae yn ei gael yn wag, wedi ei ysgubo a’i drwsio. Yna yr â ac a gymmer gydag ef ei hun saith yspryd eraill, gwaeth nag ef ei hun; ac wedi myned i mewn cyfanneddant yno; a gwneir cyflwr olaf y dyn hwnw yn waeth na’i gyntaf: felly y bydd i’r genhedlaeth ddrwg hon hefyd. Ac Efe yn llefaru wrth y torfeydd, wele, Ei fam a’ i frodyr oeddynt yn sefyll allan, yn ceisio ymddiddan ag Ef. A dywedodd rhyw un Wrtho, Wele, Dy fam a’th frodyr, allan y safant yn ceisio ymddiddan â Thi. Ac Efe gan atteb, a ddywedodd wrth yr hwn a ddywedasai Wrtho, Pwy yw Fy mam? A phwy yw Fy mrodyr? Ac wedi estyn Ei law tuag at Ei ddisgyblion, dywedodd, Wele Fy mam a’m brodyr: canys pwy bynnag a wnelo ewyllys Fy Nhad yr Hwn sydd yn y nefoedd, efe, Fy mrawd I, a’m chwaer, ac Fy mam yw. Y dydd hwnw yr Iesu, wedi myned allan o’r tŷ, a eisteddodd wrth lan y môr, a chasglwyd Atto dorfeydd mawrion, fel y bu Iddo fyned i gwch ac eistedd yno; a’r holl dyrfa, ar y lan y safai. A llefarodd lawer o bethau mewn damhegion, gan ddywedyd, Wele, aeth hauwr allan i hau: ac wrth hau o hono, peth a syrthiodd ar ymyl y ffordd; a daeth yr ehediaid, a bwyttasant ef: ac eraill a syrthiasant ar y craig-leoedd, lle nid oedd iddynt ddaear lawer; ac yn uniawn yr eginasant, gan nad oedd iddynt ddyfnder daear; a’r haul wedi codi, poethasant, a chan nad oedd ganddynt wreiddyn, gwywasant. Ac eraill a syrthiasant ymhlith y drain, a chododd y drain ac a’u tagasant hwy. Ac eraill a syrthiasant ar y tir da; a dygasant ffrwyth, peth ar ei ganfed, a pheth ar ei dri-ugeinfed, a pheth ar ei ddegfed ar hugain. Y neb sydd a chanddo glustiau, gwrandawed. Ac wedi dyfod Atto, y disgyblion a ddywedasant Wrtho, Paham mai mewn damhegion y llefari wrthynt? Ac Efe, gan atteb, a ddywedodd wrthynt, I chwi y rhoddwyd gwybod dirgeledigaethau teyrnas nefoedd, ond iddynt hwy ni roddwyd; canys pwy bynnag sydd a chanddo, rhoddir iddo, a gorlawnder fydd iddo: ond pwy bynnag nad oes ganddo, hyd yn oed yr hyn y sydd ganddo a ddygir oddi arno. O herwydd hyn mewn damhegion yr wyf yn llefaru wrthynt, am gan weled ni welant; a chan glywed ni chlywant ac ni ddeallant. A chyflawnir iddynt brophwydoliaeth Eshaiah y sydd yn dywedyd, “A chlyw y clywch, ac ni ddeallwch ddim, A chan weled y gwelwch, ac ni chanfyddwch ddim; Canys brasawyd calon y bobl hyn, Ac â’u clustiau yn drwm y clywsant, Ac eu llygaid a gauasant, Rhag ysgatfydd iddynt weled â’u llygaid, Ac â’u clustiau glywed, Ac â’u calon ddeall, A dychwelyd o honynt, ac iachau o Honof hwynt.” Ond eich llygaid chwi, dedwydd ynt, canys gwelant; ac eich clustiau, canys clywant; canys yn wir y dywedaf wrthych, Llawer prophwyd a chyfiawnion a chwennychasant weled y pethau a welwch, ac ni welsant; a chlywed y pethau a glywch, ac ni chlywsant. Chwychwi, gan hyny, clywch ddammeg yr hauwr. Pob un y sydd yn clywed gair y deyrnas, ac nad yw yn deall, dyfod y mae’r drwg, ac yn cipio yr hyn a hauwyd yn ei galon ef; hwn yw’r hyn a hauwyd ar ymyl y ffordd. Ac yr hwn a hauwyd ar y creigleoedd, hwn yw’r un sy’n clywed y Gair, ac yn uniawn gyda llawenydd yn ei dderbyn ef; ond nid oes ganddo wreiddyn ynddo ei hun, eithr am amser y mae; ac wedi digwydd gorthrymder neu erlid oblegid y Gair, yn uniawn y tramgwyddir ef. A’r hwn a hauwyd ymhlith y drain, hwn yw’r hwn sy’n clywed y Gair; a phryder bywyd a thwyll golud sy’n tagu’r Gair, ac yn ddiffrwyth y mae efe yn myned. Ond yr hwn a hauwyd yn y tir da, hwn yw’r hwn sy’n clywed y Gair ac yn deall; yr hwn, yn wir, sy’n ffrwytho, ac yn dwyn, peth ei ganfed, ac arall ei dri-ugeinfed, ac arall ei ddegfed ar hugain. Dammeg arall a osododd Efe iddynt, gan ddywedyd, Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i ddyn a hauodd had da yn ei faes; a thra y cysgai y dynion, daeth ei elyn ac a oruwch-hauodd efrau ymhlith y gwenith, ac a aeth ymaith. A phan dyfodd yr eginyn a dwyn ffrwyth, yna yr ymddangosodd yr efrau hefyd. Ac wedi dyfod atto, gweision gŵr y tŷ a ddywedasant wrtho, Arglwydd, onid had da a heuaist yn dy faes? O ba le, gan hyny, y mae ganddo efrau? Yntau a ddywedodd wrthynt, Gelyn o ddyn a wnaeth hyn. A’r gweision a ddywedasant wrtho, A ewyllysi di, gan hyny, fyned o honom a’u casglu hwynt? Ac efe a ddywedodd, Na; rhag ysgatfydd i chwi wrth gasglu’r efrau, ddiwreiddio’r gwenith gyda hwynt. Gadewch i’r ddau gyd-dyfu hyd y cynhauaf; ac yn amser y cynhauaf y dywedaf wrth y medelwyr, Cesglwch yn gyntaf yr efrau, a rhwymwch hwynt yn ysgubau er mwyn eu llosgi; ond y gwenith cesglwch i’m hysgubor. Dammeg arall a osododd Efe iddynt, gan ddywedyd, Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i ronyn o had mwstard, yr hwn a gymmerodd dyn ac a’i hauodd yn ei faes; yr hwn yn wir sydd llai na’r holl hadau, ond wedi tyfu o hono, mwy yw na’r llysiau, ac yn myned yn bren fel y daw ehediaid y nef ac y llettyant yn ei gangau. Dammeg arall a lefarodd Efe wrthynt, Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i surdoes, yr hwn a gymmerodd gwraig ac a’i cuddiodd mewn tri seah o flawd, hyd oni lefeiniwyd y cwbl. Y pethau hyn oll a lefarodd yr Iesu mewn damhegion wrth y torfeydd; ac heb ddammeg ni lefarai ddim wrthynt, fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd trwy’r prophwyd, gan ddywedyd, “Agoraf mewn damhegion fy ngenau, Adroddaf bethau cuddiedig er’s seiliad y byd.” Yna wedi gadael y torfeydd, yr aeth i’r tŷ; a daeth Ei ddisgyblion Atto, gan ddywedyd, Eglura i ni ddammeg efrau’r maes. Ac Efe, gan atteb, a ddywedodd, Yr hwn sydd yn hau yr had da yw Mab y Dyn; a’r maes yw’r byd; a’r had da, y rhai hyn yw meibion y deyrnas; a’r efrau yw meibion y drwg; a’r gelyn a’u hauodd hwynt yw diafol; a’r cynhauaf, diwedd y byd yw; a’r medelwyr, angylion ydynt. Fel, gan hyny, y cesglir yr efrau, ac mewn tân y’u llosgir; felly y bydd yn niwedd y byd: denfyn Mab y Dyn Ei angylion, a chasglant allan o’i deyrnas Ef yr holl dramgwyddiadau a’r rhai sy’n gwneuthur anghyfraith, a bwriant hwynt i’r ffwrn danllyd: yno y bydd y wylofain a’r rhingcian dannedd. Ac yna y cyfiawnion a lewyrchant allan fel yr haul, yn nheyrnas eu Tad. Yr hwn sydd a chanddo glustiau, gwrandawed. Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i drysor a guddiwyd yn y maes, yr hwn wedi ei gaffael gan ddyn, a guddiodd efe, ac o’i lawenydd myned ymaith y mae, a’r cwbl, cymmaint ag sydd ganddo, a wertha efe, a phrynu’r maes hwnw y mae. Etto, cyffelyb yw teyrnas nefoedd i farsiandwr yn ceisio perlau teg; ac wedi caffael un perl tra gwerthfawr, aeth ymaith a gwerthodd bob peth, cymmaint ag oedd ganddo, a phrynodd ef. Etto, cyffelyb yw teyrnas nefoedd i rwyd wedi ei bwrw i’r môr, ac o bob rhyw y casglodd: yr hon, pan y’i llenwyd, wedi ei dwyn i fynu i’r lan, ac wedi eistedd i lawr, casglasant y rhai da mewn llestri, a’r rhai llwgr a fwriasant allan. Felly y bydd yn niwedd y byd; allan yr aiff yr angylion, a didolant y rhai drwg o ganol y cyfiawnion, a bwriant hwynt i’r ffwrn danllyd: yno y bydd y wylofain a’r rhingcian dannedd. A ddeallasoch chwi y pethau hyn i gyd? Dywedant Wrtho, Do. Ac Yntau a ddywedodd wrthynt, O achos hyn pob ysgrifenydd wedi ei wneud yn ddisgybl i deyrnas nefoedd, cyffelyb yw i berchen tŷ, yr hwn sy’n bwrw allan o’i drysor bethau newydd a hen. A bu pan orphenodd yr Iesu y damhegion hyn, yr ymadawodd oddi yno: ac, wedi dyfod i’w wlad Ei hun, dysgai hwynt yn eu sunagog fel y bu aruthredd arnynt, ac y dywedasant, O ba le y mae gan hwn y doethineb hwn a’r gwyrthiau? Onid hwn yw mab y saer? Onid yw ei fam, wrth ei henw, Mariam; ac ei frodyr, Iacob, ac Ioseph, a Shimon ac Iwdah? ac ei chwiorydd ef, onid ydynt oll gyda ni? O ba le, gan hyny, y mae gan hwn y pethau hyn i gyd? A thramgwyddwyd hwynt Ynddo. A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Nid yw prophwyd yn ddianrhydedd, oddieithr yn ei wlad ei hun ac yn ei dŷ ei hun. Ac ni wnaeth efe yno wyrthiau lawer oblegid eu hanghrediniaeth. Yr amser hwnw y clybu Herod y tetrarch y son am yr Iesu, a dywedodd wrth ei weision, Hwn yw Ioan Fedyddiwr: efe a gyfododd o feirw, ac o herwydd hyn y mae’r gwyrthiau yn gweithio ynddo. Canys Herod, wedi cymmeryd gafael yn Ioan, a’i rhwymodd ac a’i dododd yngharchar o achos Herodias, gwraig Philip ei frawd, canys dywedodd Ioan wrtho, Nid yw gyfreithlawn i ti fod â hi genyt. Ac er ewyllysio o hono ei ladd ef, ofnodd y dyrfa, canys megis prophwyd y cymmerent ef. A dydd genedigaeth Herod wedi digwydd, dawnsiodd merch Herodias yn eu plith, a rhyngodd fodd Herod; o ba herwydd gyda llw yr addawodd iddi roddi pa beth bynnag a ofynai. A hithau, wedi ei hannog gan ei mam, Dyro i mi, ebr hi, yma, ar ddysgl, ben Ioan Fedyddiwr. A phoenwyd y brenhin; ond o herwydd y llwon a’r rhai a gydledorweddent wrthy bwrdd, gorchymynodd ei roddi; a chan ddanfon, torrodd ben Ioan yn y carchar. A dygpwyd ei ben ef ar ddysgl, a rhoddwyd ef i’r llangces, ac aeth hi ag ef i’w mam. A daeth ei ddisgyblion a chymmerasant y gelain; a chladdasant ef; a daethant a mynegasant i’r Iesu. A phan glywsai’r Iesu, ciliodd oddi yno, mewn cwch, i le anial o’r neilldu; ac wedi clywed o’r torfeydd, canlynasant Ef, ar draed, o’r dinasoedd. Ac wedi myned allan, gwelodd dyrfa fawr, a thosturiodd wrthynt, ac iachaodd eu cleifion. A’r hwyr wedi dyfod, daeth y disgyblion Atto, gan ddywedyd, Anial yw y lle, a’r awr weithian a aeth heibio: gollwng ymaith y dyrfa, fel, wedi myned ymaith i’r pentrefi, y prynont iddynt eu hunain fwyd. A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Nid oes rhaid iddynt fyned ymaith: rhoddwch chwi iddynt beth i’w fwytta. A hwy a ddywedasant Wrtho, Nid oes genym yma ond pum torth a dau bysgodyn. Ac Efe a ddywedodd, Dygwch hwynt i Mi, yma. Ac wedi gorchymyn i’r torfeydd led-orwedd ar y glaswellt, a chymmeryd y pum torth a’r ddau bysgodyn, ac wedi edrych i fynu tua’r nef, bendithiodd; ac wedi torri, rhoddodd y torthau i’r disgyblion, a’r disgyblion i’r torfeydd. A bwyttasant oll, a digonwyd hwynt: a chodasant yr hyn oedd dros ben o’r briwfwyd, ddeuddeg cawell yn llawn. A’r rhai oedd yn bwytta, oeddynt ynghylch pum mil o wŷr, heb law gwragedd a phlant. Ac yn uniawn y cymhellodd Efe y disgyblion i fyned i’r cwch, ac i fyned o’i flaen Ef i’r lan arall, tra y gollyngai ymaith y torfeydd. Ac wedi gollwng ymaith y torfeydd, esgynodd i’r mynydd ar Ei ben Ei Hun, i weddïo; a’r hwyr wedi dyfod yr oedd Efe yno yn unig. A’r cwch oedd weithian ynghanol y môr, yn drallodus gan y tonnau, canys gwrthwynebus oedd y gwynt. Ac yn y bedwaredd wylfa o’r nos daeth Efe attynt, gan rodio ar y môr; a’r disgyblion wedi Ei weled Ef ar y môr, yn rhodio, a gythryflwyd, gan ddywedyd, Drychiolaeth yw, a chan ofn y gwaeddasant. Ac yn uniawn y llefarodd yr Iesu wrthynt, gan ddywedyd, Byddwch hyderus: Myfi yw: nac ofnwch. A chan atteb Iddo, Petr a ddywedodd, Arglwydd, os Tydi yw, arch ddyfod o honof Attat Ti ar y dwfr. Ac Efe a ddywedodd, Tyred. Ac wedi disgyn o’r cwch, Petr a rodiodd ar y dwfr, i ddyfod at yr Iesu: ac wrth weled y gwynt, dychrynwyd ef; ac wedi dechreu suddo, gwaeddodd, gan ddywedyd, Arglwydd, achub fi. Ac yn uniawn yr Iesu, wedi estyn Ei law, a ymaflodd ynddo, ac a ddywedodd wrtho, O ddyn o ychydig ffydd, paham yr ammeuaist? Ac wedi esgyn o honynt i’r cwch, peidiodd y gwynt, a’r rhai oedd yn y cwch a addolasant Ef, gan ddywedyd, Yn wir Mab Duw wyt Ti. Ac wedi myned trosodd, daethant i’r lan, i Gennesaret; a chan Ei adnabod Ef, gwŷr y fan honno a anfonasant i’r holl wlad honno o amgylch, a dygasant Atto yr holl rai drwg eu hwyl; ac attolygasant Iddo gael ond cyffwrdd o honynt ag ymyl Ei gochl; a chynnifer ag a gyffyrddasant, a wnaethpwyd yn holl-iach. Yna y daeth at yr Iesu, o Ierwshalem, Pharisheaid ac Ysgrifenyddion, gan ddywedyd, Paham y mae Dy ddisgyblion yn troseddu traddodiad yr hynafiaid? canys ni olchant eu dwylaw, pan fwyttaont fara. Ac Efe, gan atteb, a ddywedodd wrthynt, Paham hefyd yr ydych chwi yn troseddu gorchymyn Duw trwy eich traddodiad? canys Duw a ddywedodd, “Anrhydedda dy dad a’th fam:” ac, “A felldithio dad neu fam, bydded farw â’r farwolaeth:” A chwychwi a ddywedwch, Pwy bynnag a ddywedo wrth ei dad neu ei fam, Rhodd i Dduw yw pa beth bynnag y cawsit yn lles oddi wrthyf, nid yw, er dim i anrhydeddu ei dad; a dirymmwch air Duw o achos eich traddodiad. Rhagrithwyr, da y prophwydodd Eshaiah am danoch, gan ddywedyd, “Y bobl hyn â’u gwefusau y’m hanrhydeddant, Ond eu calon, pell yw Oddiwrthyf: Ond yn ofer yr addolant Fi, Gan ddysgu yn ddysgeidiaeth orchymynion dynion.” Ac wedi galw’r dyrfa Atto, dywedodd wrthynt, Clywch a deallwch. Nid yr hyn sy’n myned i mewn i’r genau sy’n halogi dyn, eithr yr hyn sy’n dyfod allan o’r genau, hyn sy’n halogi dyn. Yna wedi dyfod Atto, ei ddisgyblion a ddywedasant Wrtho, A wyddost Ti y bu i’r Pharisheaid, wrth glywed y gair hwn, eu tramgwyddo? Ac Efe, gan atteb, a ddywedodd, Pob planhigyn yr hwn ni phlannodd Fy Nhad nefol, a ddiwreiddir. Gadewch iddynt, tywysogion deillion ydynt; ac os y dall a dywys y dall, y ddau i ffos y syrthiant. A Phetr a ddywedodd Wrtho, Mynega i ni y ddammeg. Ac Efe a ddywedodd, Etto byth a ydych chwithau hefyd yn anneallus? Oni welwch fod pob peth y sy’n myned i mewn i’r genau yn myned i’r bol, ac i’r geudy y’i bwrir allan? ond y pethau sy’n dyfod allan o’r genau, o’r galon y deuant allan, a hwynt-hwy a halogant ddyn. Canys o’r galon y mae yn dyfod allan feddyliau drwg, lladdiadau, tor-priodasau, godinebau, lladradau, gau-dystiolaethau, cablau: y pethau hyn yw’r rhai sy’n halogi dyn: ond bwytta â dwylaw heb eu golchi ni haloga ddyn. Ac wedi myned allan oddi yno, yr Iesu a giliodd i dueddau Tyrus a Tsidon. Ac wele, gwraig o Canaan, wedi dyfod allan o’r cyffiniau hyny, a waeddodd, gan ddywedyd, Tosturia wrthyf, Arglwydd, Fab Dafydd: fy merch a boenir yn dost gan gythraul. Ac Efe nid attebodd iddi air. Ac wedi dyfod Atto, Ei ddisgyblion a ofynasant Iddo, gan ddywedyd, Gollwng hi ymaith, canys gwaeddi ar ein hol y mae. Ac Efe, gan atteb, a ddywedodd, Ni’m danfonwyd oddieithr at ddefaid colledig tŷ Israel. A hithau a ddaeth ac a’i haddolodd Ef, gan ddywedyd, Arglwydd, cymmorth fi. Ac Efe, gan atteb, a ddywedodd, Nid da yw cymmeryd bara’r plant a’ i fwrw i’r cwn. A hithau a ddywedodd, Felly, Arglwydd; canys y cwn a fwyttant o’r briwsion y sy’n syrthio oddi wrth fwrdd eu harglwyddi. Yna, gan atteb, yr Iesu a ddywedodd wrthi, O wraig, mawr yw dy ffydd: bydded i ti fel yr ewyllysi. Ac iachawyd ei merch o’r awr honno. Ac wedi myned oddi yno, yr Iesu a ddaeth gerllaw môr Galilea; ac, wedi esgyn i’r mynydd, eisteddodd yno. A daeth Atto dorfeydd mawrion, a chanddynt gyda hwynt gloffion, deillion, mudion, anafusion, ac eraill lawer, a bwriasant hwynt wrth Ei draed Ef, ac iachaodd Efe hwynt; fel y bu i’r dyrfa ryfeddu wrth weled mudion yn llefaru, anafusion yn iach, a chloffion yn rhodio, a deillion yn gweled: a gogoneddasant Dduw Israel. A’r Iesu, wedi galw Atto Ei ddisgyblion, a ddywedodd, Tosturio yr wyf wrth y dyrfa, canys tridiau sydd weithian y maent yn aros gyda Mi, ac nid oes ganddynt yr hyn a fwyttaont: ac eu gollwng ymaith ar eu cythlwng nid ewyllysiaf, rhag ysgatfydd eu llewygu ar y ffordd. A dywedodd y disgyblion Wrtho, O ba le y bydd genym mewn anialwch dorthau gymmaint ag i ddigoni tyrfa mor fawr? A dywedodd yr Iesu wrthynt, Pa sawl torth sydd genych h? A hwy a ddywedasant, Saith, ac ychydig bysgod bychain. Ac wedi gorchymyn i’r dyrfa orwedd ar y ddaear, cymmerodd y saith dorth a’r pysgod; ac wedi diolch, torrodd hwynt, a rhoddodd i’r disgyblion, a’r disgyblion i’r torfeydd. A bwyttasant oll, a digonwyd hwynt. A chodasant yr hyn oedd dros ben o’r briwfwyd, saith cawellaid yn llawn. A’r rhai a fwyttasant oeddynt bedair mil o wŷr, heblaw gwragedd a phlant. Ac wedi gollwng ymaith y torfeydd, yr aeth Efe i’r cwch, ac y daeth i gyffiniau Magadan. Ac wedi dyfod Atto, y Pharisheaid a’r Tsadwceaid, gan Ei demtio, a ofynasant Iddo ddangos iddynt arwydd o’r nef. Ac Efe, gan atteb, a ddywedodd wrthynt, Yr hwyr wedi dyfod y dywedwch, Tywydd teg, canys coch yw’r nef; A’r bore, Heddyw drycin, canys coch a phruddaidd yw’r nef. Gwyneb y nef, y gwyddoch pa sut i’w farnu, ond arwyddion yr amserau ni fedrwch. Cenhedlaeth ddrwg a godinebus, arwydd a gais hi, ac arwydd ni roddir iddi, oddieithr arwydd Iona. A chan eu gadael hwynt, yr aeth Efe ymaith. A’r disgyblion a ddaethant i’r lan arall, ac anghofiasant gymmeryd bara; a’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Edrychwch ac ymofalwch rhag surdoes y Pharisheaid a’r Tsadwceaid. A hwy a ymresymmasant yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, Bara ni ddygasom. A’r Iesu, gan wybod hyn, a ddywedodd, Paham yr ymresymmwch yn eich plith eich hunain, y chwi o ychydig ffydd, am nad oes bara genych? Onid ydych etto yn deall, nac yn cofio pum torth y pum mil, a pha sawl basgedaid a gawsoch? na saith torth y pedair mil, a pha sawl cawellaid a gawsoch? Pa sut nad ydych yn deall nad am fara y dywedais wrthych, Ond “ymofalwch rhag surdoes y Pharisheaid a’r Tsadwceaid.” Yna yr amgyffredasant na ddywedasai iddynt ymofalu rhag surdoes bara, eithr rhag dysgad y Pharisheaid a’r Tsadwceaid. Ac wedi dyfod o’r Iesu i dueddau Cesarea Philippi, gofynodd i’w ddisgyblion, gan ddywedyd, Pwy y dywaid dynion fod Mab y Dyn? A hwy a ddywedasant, Rhai mai Ioan Fedyddiwr yw; ac eraill, Elias; ac eraill, Ieremiah neu un o’r prophwydi. Dywedodd wrthynt, Ond chwychwi, pwy y dywedwch Fy mod I? A chan atteb, Shimon Petr a ddywedodd, Tydi yw’r Crist, Mab y Duw byw. A chan atteb, yr Iesu a ddywedodd wrtho, Dedwydd wyt, Shimon Bar-Iona, canys nid cig a gwaed a ddatguddiodd hyn i ti, eithr Fy Nhad yr Hwn sydd yn y nefoedd. Ac yr wyf Finnau hefyd yn dywedyd wrthyt ti, Tydi wyt Petr, ac ar y graig hon yr adeiladaf Fy eglwys I; a phyrth Hades ni orchfygant hi. Rhoddaf i ti agoriadau teyrnas nefoedd: a pha beth bynnag a rwymech ar y ddaear, fydd wedi ei rwymo yn y nefoedd; a pha beth bynnag a ollyngech ar y ddaear, fydd wedi ei ollwng yn y nefoedd. Yna y gorchymynodd i’r disgyblion na ddywedent wrth neb mai Efe yw’r Crist. O hyny allan y dechreuodd yr Iesu ddangos i’w ddisgyblion fod yn rhaid Iddo fyned ymaith i Ierwshalem, a dioddef llawer gan yr henuriaid a’r arch-offeiriaid a’r ysgrifenyddion, a’i ladd, ac ar y trydydd dydd gyfodi. Ac wedi Ei gymmeryd Ef atto, Petr a ddechreuodd Ei ddwrdio Ef, gan ddywedyd, Trugarog fydded Wrthyt, Arglwydd; ni fydd hyn, er dim i Ti. Ac Efe a drodd ac a ddywedodd wrth Petr, Dos yn Fy ol I, Satan: tramgwydd wyt i Mi, canys nid synied pethau Duw yr wyt, eithr pethau dynion. Yna yr Iesu a ddywedodd wrth Ei ddisgyblion, Os yw neb yn ewyllysio dyfod ar Fy ol I, ymwaded ag ef ei hun, a chyfoded ei groes, a chanlyned Fi: canys pwy bynnag a ewyllysio gadw ei fywyd, a’i cyll; a phwy bynnag a gollo ei fywyd o’m plegid I, a’i caiff. Canys pa beth y lleseir dyn, os y byd oll a ennillodd efe, a’i fywyd wedi myned yn ddirwy iddo? Neu pa beth a rydd dyn yn gyfnewid am ei fywyd? Canys y mae Mab y Dyn ar fedr dyfod yngogoniant Ei Dad ynghyda’i angylion; ac yna y tâl Efe i bob un yn ol ei weithred. Yn wir y dywedaf wrthych, Y mae rhai o’r sawl sy’n sefyll yma, y rhai nid archwaethant mo angau, nes gweled o honynt Fab y Dyn yn dyfod yn Ei deyrnas. Ac ar ol chwe diwrnod y cymmerodd yr Iesu Petr, ac Iago, ac Ioan ei frawd, ac y’u dug hwynt i fynu i fynydd uchel, o’r neilldu. A gwedd-newidiwyd Ef ger eu bron; a disgleiriodd Ei wyneb fel yr haul, a’i ddillad a aethant yn wynion fel y goleuni. Ac wele, gwelwyd ganddynt Mosheh ac Elias ynghydag Ef, yn ymddiddan ag Ef. A chan atteb, Petr a ddywedodd wrth yr Iesu, Ardderchog yw bod o honom yma. Os ewyllysi, gwnaf yma dair pabell; i Ti, un; ac i Mosheh, un; ac i Elias, un. Ac efe etto yn llefaru, wele, cwmmwl goleu a’u cysgododd hwynt: ac wele, llais o’r cwmmwl yn dywedyd, Hwn yw Fy Mab anwyl yn yr Hwn y’m boddlonwyd: Arno Ef gwrandewch. Ac wedi clywed, y disgyblion a syrthiasant ar eu gwyneb, a dychrynwyd hwynt yn ddirfawr. Ac wedi dyfod attynt, yr Iesu a gyffyrddodd â hwynt, a dywedodd, Cyfodwch ac nac ofnwch. Ac wedi dyrchafu eu llygaid, ni welsant neb oddieithr yr Iesu ar Ei ben Ei hun. Ac wrth ddisgyn o honynt o’r mynydd, gorchymynodd yr Iesu iddynt, gan ddywedyd, Na ddywedwch y weledigaeth wrth neb, hyd oni fo Mab y Dyn wedi adgyfodi o feirw. A gofynodd y disgyblion Iddo, gan ddywedyd, Paham, ynte, y mae’r ysgrifenyddion yn dywedyd fod yn rhaid i Elias ddyfod yn gyntaf? Ac Efe, gan atteb, a ddywedodd, Elias yn wir sy’n dyfod, ac a edfryd bob peth; a dywedaf wrthych, Elias a ddaeth eisoes, ac nid adnabuant ef, eithr gwnaethant iddo gymmaint ag a ewyllysiasant. Felly y mae Mab y Dyn hefyd ar fedr dioddef ganddynt. Yna y deallodd y disgyblion mai am Ioan Fedyddiwr y dywedodd wrthynt. Ac wedi dyfod o honynt at y dyrfa, daeth Atto ddyn yn penlinio Iddo, ac yn dywedyd, Arglwydd, tosturia wrth fy mab, canys lloerig yw, ac yn dioddef yn dost; canys mynych y syrth yn y tân, ac yn fynych yn y dwfr; a dygais ef at Dy ddisgyblion, ac ni allent ei iachau ef. A chan atteb, yr Iesu a ddywedodd, O genhedlaeth ddiffydd a throfaus, hyd pa bryd y byddaf gyda chwi? Hyd ba bryd y dioddefaf chwi? Dygwch ef Attaf yma. A’i ddwrdio ef a wnaeth yr Iesu, ac aeth y cythraul allan o hono; ac iachawyd y bachgen o’r awr honno. Yna y disgyblion, wedi dyfod at yr Iesu o’r neilldu, a ddywedasant, Paham nad oeddym ni yn gallu ei fwrw ef allan? Ac Efe a ddywedodd wrthynt, O achos eich ychydig ffydd: canys yn wir y dywedaf wrthych, Pe bai genych ffydd fel gronyn o had mwstard, dywedech wrth y mynydd hwn, Dos drosodd oddi yma accw, a myned trosodd a wnae; ac ni fyddai dim yn ammhosibl i chwi. Ac a hwy yn ymdeithio yn Galilea, dywedodd yr Iesu wrthynt, Y mae Mab y Dyn ar fedr Ei draddodi i ddwylaw dynion, a lladdant Ef; a’r trydydd dydd y cyfyd Efe; a thristhawyd hwynt yn ddirfawr. Ac wedi dyfod o honynt i Caphernahwm, daeth y rhai oedd yn derbyn y ddau-ddrachma, at Petr, a dywedasant, Onid yw eich Athraw yn talu’r ddau-ddrachma? Dywedodd efe, Ydyw. A phan ddaethai i’r tŷ, achubodd yr Iesu ei flaen ef, gan ddywedyd, Pa beth yw dy farn di, Shimon? Brenhinoedd y ddaear, gan bwy y derbyniant doll neu dreth? Gan eu meibion eu hun, neu gan estroniaid? A phan ddywedodd efe Gan estroniaid, ebr yr Iesu wrtho, Gan hyny ynte, rhydd yw’r meibion. Ond fel na pharom dramgwydd iddynt, dos i’r môr a bwrw fach; a’r pysgodyn a ddaw i fynu yn gyntaf, coda ef; ac wedi agoryd ei safn, cei stater: hwnw cymmer, a dyro iddynt Drosof Fi a thi. Yr awr honno daeth y disgyblion at yr Iesu, gan ddywedyd, Pwy, ynte, sydd fwyaf yn nheyrnas nefoedd? Ac wedi galw fachgenyn Atto, gosododd ef yn eu canol, a dywedodd, Yn wir y dywedaf wrthych, Os na’ch troer a myned fel plant bychain, nid ewch i mewn er dim i deyrnas nefoedd. Pwy bynnag, gan hyny, a’i gostyngo ei hun fel y plentyn hwn, efe yw’r mwyaf yn nheyrnas nefoedd. A phwy bynnag a dderbynio un plentyn o’r fath yn Fy enw, Myfi a dderbyn efe: a phwy bynnag a baro dramgwydd i un o’r rhai bychain hyn y sy’n credu Ynof, da fyddai iddo, pe crogid maen melin mawr am ei wddf, a’i foddi yn eigion y môr. Gwae’r byd oblegid tramgwyddau; canys angenrhaid yw dyfod tramgwyddau; ond gwae’r dyn hwnw, trwy’r hwn y mae’r tramgwydd yn dyfod. Ac os dy law neu dy droed a bair dramgwydd i ti, tor ef ymaith, a thafi oddi wrthyt: gwell yw i ti fyned i mewn i’r bywyd yn anafus neu yn gloff, nag a dwylaw neu ddau droed genyt, dy daflu i’r tân tragywyddol. Ac os dy lygad a bair dramgwydd, tyn ef allan a thafl oddi wrthyt: gwell yw i ti yn unllygeidiog fyned i mewn i’r bywyd, nag a dau lygad genyt dy daflu i’r Gehenna tanllyd. Edrychwch na ddirmygoch un o’r rhai bychain hyn, canys dywedaf wrthych, Eu hangylion yn y nefoedd bob amser a welant wyneb Fy Nhad yr Hwn sydd yn y nefoedd. Pa beth yw eich barn chwi? Os bydd gan ryw ddyn gant o ddefaid, a myned o un o honynt ar gyfeiliorn, onid, gan adael y cant namyn un, i’r mynyddoedd yr aiff, a cheisio yr hon a aeth ar gyfeiliorn? Ac os bydd ei chael ganddo, yn wir meddaf i chwi, llawenycha drosti mwy na thros y cant namyn un y rhai nid aethent ar gyfeiliorn. Felly nid oes ewyllys gan eich Tad yr Hwn sydd yn y nefoedd, gyfrgolli’r un o’r rhai bychain hyn. Ac os pechu yn dy erbyn a wna dy frawd, dos ac argyhoedda ef rhyngot ti ac ef ar ei ben ei hun. Os arnat y gwrandawo, ynnillaist dy frawd. Ond os na wrandawo, cymmer gyda thi etto un neu ddau, fel yngenau dau neu dri o dystion y sefydler pob gair. Ac os esgeulusa wrando arnynt, dywaid wrth yr eglwys; ac os ar yr eglwys yr esgeulusa wrando, bydded i ti fel yr ethnig a’r treth-gymmerwr. Yn wir y dywedaf wrthych, Pa bethau bynnag a rwymoch ar y ddaear, fyddant wedi eu rhwymo yn y nef; a pha bethau bynnag a ollyngoch ar y ddaear, fyddant wedi eu gollwng yn y nef. Etto y dywedaf wrthych, Os dau o honoch a gydsyniant ar y ddaear am neb rhyw beth a ofynant, bydd efe iddynt gan Fy Nhad yr Hwn sydd yn y nefoedd, canys lle y mae dau neu dri wedi ymgynnull yn Fy enw I, yno yr wyf yn eu canol. Yna, wedi dyfod Atto, Petr a ddywedodd Wrtho, Arglwydd, pa sawl gwaith y pecha fy mrawd i’m herbyn, ac y maddeuaf iddo? Ai hyd seithwaith? Dywedodd yr Iesu wrtho, Ni ddywedaf wrthyt hyd seithwaith, eithr hyd ddengwaith a thrugain seithwaith. Gan hyny, cyffelyb yw teyrnas nefoedd i frenhin a ewyllysiodd gymmeryd cyfrif gyda’i weision. Ac wedi dechreu o hono ei gymmeryd, dygpwyd atto ddyledwr o ddeng mil o dalentau. Ac efe heb ganddo fodd i dalu, archodd ei arglwydd ei werthu ef, a’i wraig, a’i blant, a’r cwbl o’r a feddai, a thalu’r ddyled. Wedi syrthio i lawr, gan hyny, y gwas a’i haddolodd ef, gan ddywedyd, Arglwydd, bydd ymarhous wrthyf, a’r cwbl a dalaf i ti. A chan dosturio, arglwydd y gwas hwnw a’i gollyngodd, a’r ddyled a faddeuodd efe iddo. Ac wedi myned allan, y gwas hwnw a gafodd un o’i gydweision, yr hwn yr oedd arno iddo gàn denar; ac wedi ymaflyd ynddo, llindagodd ef, gan ddywedyd, Tâl, os oes arnat ddim. Wedi syrthio i lawr, gan hyny, ei gydwas a ymbiliodd ag ef, gan ddywedyd, Bydd ymarhous wrthyf a thalaf i ti. Ac efe ni fynai; eithr, wedi myned ymaith, bwriodd ef yngharchar hyd oni thalai yr hyn oedd ddyledus. Gan weled, gan hyny, o’i gydweision y pethau a wnelsid, poenwyd hwynt yn ddirfawr: ac wedi myned, mynegasant i’w harglwydd yr holl bethau a wnelsid. Yna, wedi ei alw ef atto, ei arglwydd a ddywedodd wrtho, Gwas drwg, yr holl ddyled honno a faddeuais i ti am i ti ymbil â mi; ac onid oedd rhaid i ti hefyd dosturio wrth dy gydwas, fel y bu i mi dosturio wrthyt ti? Ac wedi digio, ei arglwydd a’i traddododd ef i’r poenwyr, hyd oni thalai yr oll oedd ddyledus. Felly hefyd Fy Nhad nefol a wna i chwi, os na faddeuoch, bob un i’w frawd, o’ch calon. A bu pan orphenodd yr Iesu y geiriau hyn, yr ymadawodd o Galilea, ac y daeth i gyffiniau Iwdea, tu hwnt i’r Iorddonen, ac yn Ei ganlyn Ef yr oedd torfeydd mawrion; ac iachaodd Efe hwynt yno. A daeth Atto Pharisheaid, yn Ei demtio, a dywedyd, Ai cyfreithlawn yw i ddyn ollwng ymaith ei wraig am bob achos? Ac Efe, gan atteb, a ddywedodd, Oni ddarllenasoch, i’r Hwn a’u gwnaeth o’r dechreu, yn wrryw ac yn fanyw y gwnaeth Efe hwynt. A dywedodd, Oblegid hyn yr ymedy dyn â’i dad ac â’i fam, ac y glŷn wrth ei wraig, a byddant ill dau yn un cnawd; fel nad ydynt mwy yn ddau, eithr un cnawd ydynt. Yr hyn, gan hyny, y bu i Dduw ei gydgysylltu, na fydded i ddyn ei wahanu ef. Dywedasant Wrtho, Paham, ynte, y bu i Mosheh orchymyn rhoddi llythyr ysgar a’i gollwng hi ymaith? Dywedodd wrthynt, Mosheh, o herwydd eich calon-galedwch, a ganiattaodd i chwi ollwng ymaith eich gwragedd; ond o’r dechreu nid oedd felly. A dywedaf wrthych, Pwy bynnag a ollyngo ymaith ei wraig oddieithr am odineb, ac a briodo un arall, godinebu y mae; ac a briodo un a ollyngwyd ymaith, godinebu y mae. Dywedodd Ei ddisgyblion Wrtho, Os felly y mae achos dyn gyda’i wraig, nid da yw priodi. Ac Efe a ddywedodd wrthynt, Nid pawb fedr dderbyn y gair hwn; eithr hwy i’r rhai y rhoddwyd. Canys y mae eunuchiaid, y rhai a aned felly o groth eu mam; ac y mae eunuchiaid, y rhai a wnaed yn eunuchiaid gan ddynion; ac y mae eunuchiaid, y rhai a wnaethant eu hunain yn eunuchiaid er mwyn teyrnas nefoedd. Yr hwn a ddichon dderbyn, derbynied. Yna y dygpwyd Atto blant, fel y rhoddai Ei ddwylaw arnynt, ac y gweddïai; a’r disgyblion a’i dwrdiasant hwynt. Ond yr Iesu a ddywedodd, Gadewch i’r plant, ac na rwystrwch hwynt rhag dyfod Attaf; canys i’r cyfryw rai y perthyn teyrnas nefoedd. Ac wedi rhoddi Ei ddwylaw arnynt, aeth oddi yno. Ac wele, rhyw un wedi dyfod Atto, a dywedodd, Athraw, pa beth da a wnaf fel y caffwyf fywyd tragywyddol? Ac Efe a ddywedodd wrtho, Paham mai i Mi y gofyni ynghylch y da? Un yw y Da. Ond os ewyllysi fyned i mewn i’r bywyd, cadw y gorchymynion. Dywedodd yntau Wrtho, Pa rai? A’r Iesu a ddywedodd, “Ni leddi: Ni odinebi: Ni ladrattei: Ni ddygi au-dystiolaeth: Anrhydedda dy dad a’th fam:” a, “Ceri dy gymmydog fel ti dy hun.” Dywedodd y gŵr ieuangc Wrtho, Yr holl rai hyn a gedwais. Pa beth etto sydd ar ol ynof? Dywedodd yr Iesu wrtho, Os ewyllysi fod yn berffaith, dos, gwerth dy feddiannau, a dyro i’r tlodion, a bydd genyt drysor yn y nef; a thyred, canlyn Fi. Ac wedi clywed o’r gŵr ieuangc yr ymadrodd, aeth ymaith yn drist, canys yr oedd a chanddo dda lawer. A’r Iesu a ddywedodd wrth Ei ddisgyblion, Yn wir y dywedaf wrthych, Yn anhawdd y bydd i oludog fyned i mewn i deyrnas nefoedd. Ac etto y dywedaf wrthych, Haws yw myned o gamel trwy grau nodwydd ddur Na myned o oludog i mewn i deyrnas Dduw. Ac wedi clywed o’r disgyblion, aruthr iawn fu ganddynt, gan ddywedyd, Pwy, gan hyny, a all fod yn gadwedig? A chan edrych arnynt, yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Gyda dynion y mae hyn yn ammhosibl; ond gyda Duw pob peth sydd bosibl. Yna, gan atteb, Petr a ddywedodd Wrtho, Wele, nyni a adawsom bob peth, ac a’th ganlynasom Di; pa beth, gan hyny, fydd i ni? A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir y dywedaf wrthych, chwychwi, y rhai a’m canlynasoch, yn yr adenedigaeth pan eisteddo Mab y Dyn ar orseddfaingc Ei ogoniant, a eisteddwch, chwithau hefyd, ar ddeuddeg gorseddfaingc, yn barnu deuddeg llwyth Israel. A phob un a’r a adawodd dai, neu frodyr, neu chwiorydd, neu dad, neu fam, neu blant, neu diroedd, er mwyn Fy enw I, y can cymmaint a dderbyn efe, a bywyd tragywyddol a etifedda. Ond llawer y sydd flaenaf fyddant olaf, ac yr olaf yn flaenaf. Canys cyffelyb yw teyrnas nefoedd i ŵr o berchen tŷ, yr hwn a aeth allan gyda’r wawr i gyflogi gweithwyr i’w winllan: ac wedi cyttuno â’r gweithwyr er denar y dydd, danfonodd hwynt i’w winllan: ac wedi myned allan ynghylch y drydedd awr, gwelodd eraill yn sefyll yn y farchnadfa yn segur; ac wrthynt hwy hefyd y dywedodd, Ewch chwithau hefyd i’r winllan, a pha beth bynnag fyddo gyfiawn a roddaf i chwi: a hwy a aethant ymaith. Etto, wedi myned allan ynghylch y chweched a’r nawfed awr, y gwnaeth efe yr un modd. Ac ynghylch yr unfed awr ar ddeg, wedi myned allan, cafodd eraill yn sefyll; a dywedodd wrthynt, Paham yr ydych yma yn sefyll yr holl ddydd yn segur? Dywedasant wrtho, Am na chyflogodd neb nyni. Dywedodd wrthynt, Ewch chwithau hefyd i’r winllan. A’r hwyr wedi dyfod, dywedodd arglwydd y winllan wrth ei oruchwyliwr, Galw y gweithwyr a thâl iddynt eu cyflog, gan ddechreu o’r rhai diweddaf hyd y rhai cyntaf. Ac wedi dyfod o’r rhai a gyflogasid ynghylch yr unfed awr ar ddeg, cawsant bob un ddenar. Ac wedi dyfod o’r rhai cyntaf, tybiasant mai mwy a gaent; a chawsant hwy hefyd bob un ddenar: ac wedi cael, grwgnachasant yn erbyn gŵr y tŷ, gan ddywedyd, Y rhai hyn, yr olaf, un awr y gweithiasant, ac yn gystal â ni y gwnaethost hwynt, y rhai a ddygasom bwys y dydd a’r gwres poeth. Ac efe, gan atteb, a ddywedodd wrth un o honynt, Cyfaill, nid gwneud cam â thi yr wyf: onid er denar y cyttunaist â mi? Cymmer yr eiddot a dos ymaith: ewyllysio yr wyf roddi i hwn, yr olaf, yr un modd hefyd ag i ti. Onid cyfreithlawn i mi wneuthur yr hyn a ewyllysiaf â’m heiddof? A ydyw dy lygad yn ddrwg o herwydd i mi fod yn dda. Felly y bydd y rhai olaf yn flaenaf, ac y blaenaf yn olaf. Ac wrth fyned i fynu o’r Iesu i Ierwshalem, cymmerodd y deuddeg disgybl o’r neilldu, ac ar y ffordd y dywedodd wrthynt, Wele myned i fynu i Ierwshalem yr ydym; a Mab y Dyn a draddodir i’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion, a chondemniant Ef i farwolaeth; a thraddodant Ef i’r cenhedloedd i’w watwar a’i flangellu a’i groes-hoelio; a’r trydydd dydd yr adgyfyd. A daeth Atto fam meibion Zebedëus, ynghyda’i meibion, gan ymorchreinio a deisyf rhyw beth Ganddo. Ac Efe a dywedodd wrthi, Pa beth a ewyllysi? Dywedodd hithau Wrtho, Dywaid am eistedd o’r rhai hyn, fy nau fab, y naill ar Dy law ddehau, a’r llall ar Dy law aswy, yn Dy deyrnas. A chan atteb, yr Iesu a ddywedodd, Ni wyddoch pa beth yr ydych yn ei ofyn. A ellwch chwi yfed o ’r cwppan, yr hwn yr wyf Fi ar fedr yfed o hono? Dywedasant Wrtho, Gallwn. Dywedodd wrthynt, o’m cwppan yn wir yr yfwch: ond eistedd ar Fy llaw ddehau ac ar yr aswy, nid yw Eiddof ei roddi oddieithr i’r rhai y darparwyd ef iddynt gan Fy Nhad. Ac wedi clywed o honynt, y deg a sorrasant o achos y ddau frawd. A’r Iesu, wedi eu galw hwynt Atto, a ddywedodd. Gwyddoch fod pennaethiaid y Cenhedloedd yn tra-arglwyddiaethu arnynt, a’r rhai mawrion yn tra-awdurdodi arnynt. Nid felly y y bydd yn eich plith chwi; eithr pwy bynnag a ewyllysio fyned yn fawr yn eich plith, bydded eich gweinidog; a phwy bynnag a ewyllysio fod yn gyntaf yn eich plith, bydded eich gwas; fel ni fu i Fab y Dyn ddyfod i’w wasanaethu, eithr i wasanaethu, ac i roddi Ei einioes yn bridwerth dros lawer. Ac wrth fyned o honynt allan o Iericho, canlynodd tyrfa fawr Ef: ac wele, dau ddeillion yn eistedd ar ymyl y ffordd, wedi clywed fod yr Iesu yn myned heibio, a waeddasant, gan ddywedyd, Arglwydd, tosturia wrthym, Fab Dafydd. A’r dyrfa a’u dwrdiasant, fel y tawent; ond hwy mwy y gwaeddasant, gan ddywedyd, Arglwydd, tosturia wrthym, Fab Dafydd. Ac wedi sefyll, yr Iesu a’u galwodd hwynt, ac a ddywedodd, Pa beth a ewyllysiwch ei wneuthur o Honof i chwi? Dywedasant Wrtho, Arglwydd, agoryd ein llygaid ni. A chan dosturio wrthynt, yr Iesu a gyffyrddodd â’u llygaid; ac yn uniawn y cawsant eu golwg, ac y canlynasant Ef. A phan nesasant at Ierwshalem, ac eu dyfod i Bethphage, i fynydd yr Olewydd, yna yr Iesu a ddanfonodd ddau ddisgybl, gan ddywedyd wrthynt, Ewch i’r pentref ar eich cyfer, ac yn uniawn y cewch asen yn rhwym, ac ebol ynghyda hi: wedi eu gollwng dewch â hwynt Attaf. Ac os neb a ddywaid ddim wrthych, dywedwch, yr Arglwydd sydd â rhaid wrthynt; ac yn uniawn y denfyn efe hwynt. A hyn a ddigwyddodd, fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd trwy’r prophwyd, gan ddywedyd, “Dywedwch wrth Ferch Tsion, Wele, dy Frenin sy’n dyfod attat, Yn addfwyn, ac yn eistedd ar asyn ac ar ebol llwdn ysgrubl.” Ac wedi myned o’r disgyblion, ac wedi gwneud fel y pennodasai’r Iesu iddynt, daethant â’r asen a’r ebol, a dodasant arnynt eu cochlau; a gosodasant Ef ar hyny. A’r rhan fwyaf o’r dyrfa a daenasant eu cochlau eu hunain ar y ffordd; ac eraill a dorrasant gangau o’r gwŷdd, ac a’u taenasant ar y ffordd: a’r torfeydd a oedd yn myned o’i flaen Ef, ac y rhai oedd yn dyfod ar ol, a waeddasant gan ddywedyd, “Hoshanna i Fab Dafydd, Bendigedig yw ’r Hwn sy’n dyfod yn enw Iehofa, Hoshanna yn y goruchafion!” Ac wedi dyfod o Hono i mewn i Ierwshalem, cynnyrfwyd yr holl ddinas, gan ddywedyd, Pwy yw Hwn? A’r torfeydd a ddywedasant, Hwn yw’r Prophwyd, Iesu, yr Hwn sydd o Natsareth yn Galilea. Ac aeth yr Iesu i mewn i deml Dduw, a thaflodd allan yr holl rai oedd yn gwerthu ac yn prynu yn y deml; a byrddau y newidwyr arian a ddymchwelodd Efe, a chadeiriau y rhai yn gwerthu colommenod: a dywedodd wrthynt, Ysgrifenwyd, “Fy nhŷ I, tŷ gweddi y’i gelwir,” ond chwychwi sydd yn ei wneud ef yn ogof lladron. A daeth Atto ddeillion a chloffion, yn y deml, ac iachaodd Efe hwynt. Ac wrth weled o’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion y rhyfeddodau a wnai Efe, ac y plant yn gwaeddi yn y deml ac yn dywedyd, “Hoshanna i Fab Dafydd,” llidiasant, a dywedasant Wrtho, A glywi Di beth y mae y rhai hyn yn ei ddywedyd? A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Clywaf. Oni fu i chwi erioed ddarllen, “O enau plant aflafar a rhai yn sugno y perffeithiaist foliant?” A chan eu gadael, yr aeth allan o’r ddinas i Bethania, a llettyodd yno. A’r bore, pan ddychwelai i’r ddinas, yr oedd Arno chwant bwyd; a chan weled ffigysbren ar y ffordd, daeth atto, ac ni chafodd ddim arno oddieithr dail yn unig, a dywedodd wrtho, Ddim mwy, oddi arnat ti, na fydded ffrwyth am byth; a chrino yn uniawn a wnaeth y ffigysbren. Ac wrth weled, y disgyblion a ryfeddasant, gan ddywedyd, Mor ddisymmwth y crinodd y ffigys-bren! A chan atteb, yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir y dywedaf wrthych, Os bydd genych ffydd ac nad ammeuwch, nid yn unig yr hyn a fu i’r ffigys-bren a wnewch, eithr os hyd yn oed wrth y mynydd hwn y dywedwch, Coder di i fynu a’th fwrw i’r môr, digwydda; a phob peth cymmaint ag a ofynoch mewn gweddi, a than gredu, a dderbyniwch. Ac wedi dyfod o Hono i’r deml, daeth Atto, pan yn athrawiaethu, yr archoffeiriaid ac henuriaid y bobl, gan ddywedyd, trwy ba awdurdod yr wyt yn gwneuthur y pethau hyn? A phwy a roddes i Ti yr awdurdod hon? A chan atteb, yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Gofynaf Finnau hefyd i chwithau un gair, yr hwn os ei mynegwch i Mi, Minnau hefyd a ddywedaf i chwithau “trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.” Bedydd Ioan, o ba le yr oedd? Ai o’r nef, neu o ddynion? A hwy a ymresymmasant yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, Os dywedwn, “O’r nef,” dywaid Efe wrthym, Paham, gan hyny, na chredasoch ef? ac os dywedwn, “O ddynion,” y mae arnom ofn y bobl, canys pawb a gymmerant Ioan megis prophwyd. A chan atteb i’r Iesu, dywedasant, Nis gwyddom. Wrthynt hwy y dywedodd Efe hefyd, Nid wyf Finnau chwaith yn dywedyd wrthych “Trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.” Ond pa beth yw eich barn chwi? Yr oedd gŵr a chanddo ddau fab. Ac wedi dyfod at y cyntaf, dywedodd, Fy mab, dos, gweithia heddyw yn y winllan: ac efe, gan atteb, a ddywedodd, Nid ewyllysiaf, ond gwedi’n wedi edifarhau o hono, yr aeth. Ac wedi dyfod at yr ail, dywedodd yr un modd; ac efe, gan atteb, a ddywedodd, Myfi a af, arglwydd; ac nid aeth. Pa un o’r ddau a wnaeth ewyllys y tad? Dywedasant, Y cyntaf. Dywedodd yr Iesu wrthynt, Yn wir y dywedaf wrthych, Y treth-gymmerwyr a’r putteiniaid a ant o’ch blaen chwi i mewn i deyrnas Dduw: canys attoch y daeth Ioan gyda chrefydd cyfiawnder, ac ni chredasoch ef; ond y treth-gymmerwyr a’r putteiniaid a’i credasant ef; a chwychwi, wedi gweled, nid edifarhasoch ar ol hyny fel y credech ef. Clywch ddammeg arall. Yr oedd dyn o berchen tŷ, yr hwn a blannodd winllan; a chae a osododd efe yn ei chylch; a chloddiodd ynddi win-wryf: ac adeiladodd dŵr; a gosododd hi i lafurwyr; ac aeth i wlad ddieithr. A phan nesaodd amser ffrwythau, danfonodd ei weision at y llafurwyr i dderbyn ei ffrwythau hi. A’r llafurwyr, wedi dal ei weision, un a gurasant, ac arall a laddasant, ac arall a labyddiasant. Trachefn y danfonodd weision eraill, fwy na’r rhai cyntaf; a gwnaethant iddynt yn yr un modd. A chwedi’n y danfonodd attynt ei fab, gan ddywedyd, Parchant fy mab. Ond y llafurwyr, wedi gweled y mab, a ddywedasant yn eu plith eu hunain, Hwn yw’r etifedd; deuwch; lladdwn ef; a chymmerwn ei etifeddiaeth. Ac wedi ei ddal ef, bwriasant ef allan o’r winllan, a lladdasant ef. Gan hyny, pan ddêl arglwydd y winllan, pa beth a wna efe i’r llafurwyr hyny? Dywedasant Wrtho, Y drygddynion â drygfyd y difetha hwynt; a’r winllan a esyd efe i lafurwyr eraill, y rhai a dalant iddo y ffrwythau yn eu hamser. Dywedodd yr Iesu wrthynt, oni fu i chwi erioed ddarllen yn yr Ysgrythyrau, “Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, Hwn a aeth yn ben i’r gongl; Oddiwrth yr Arglwydd y bu hyn, Ac y mae yn rhyfeddol yn ein golwg.” Am hyny dywedaf wrthych, Oddi arnoch y dygir teyrnas Dduw, a rhoddir hi i genedl yn dwyn ei ffrwythau hi. A’r hwn a syrthio ar y “maen” hwn, a ddryllir; ac ar yr hwn y syrthio, mâl efe ef yn chwilfriw. Ac wedi clywed o’r archoffeiriaid a’r Pharisheaid y damhegion hyn, gwybuant mai am danynt hwy y dywedasai Efe; ac wrth geisio o honynt Ei ddala Ef, ofnasant y torfeydd gan mai yn brophwyd y cymmerent Ef. A chan atteb, yr Iesu a lefarodd etto wrthynt mewn damhegion, gan ddywedyd, Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i frenhin a wnaeth briodaswledd i’w fab; ac a ddanfonodd ei weision i alw y rhai a wahoddasid i’r briodas, ac nid ewyllysient ddyfod. Trachefn y danfonodd efe weision eraill, gan ddywedyd, Dywedwch wrth y rhai a wahoddwyd, Wele, fy nghiniaw a barottoais; fy ychen a’m pasgedigion sydd wedi eu lladd, a phob peth yn barod: deuwch i’r briodaswledd. A hwy yn ddiystyr ganddynt, a aethant ymaith; un i’w faes ei hun, ac arall i’w fasnach; a’r lleill, wedi dala ei weision, a’u sarasant ac a’u lladdasant. A’r brenhin a lidiodd; ac wedi danfon ei luoedd, dinystriodd y lleiddiaid hyny, ac eu dinas a losgodd efe. Yna y dywedodd wrth ei weision, Y briodaswledd yn wir sydd barod; ond y rhai a wahoddasid nid oeddynt deilwng. Ewch, gan hyny, i’r croes-ffyrdd; a chynnifer ag a gaffoch, gwahoddwch hwynt i’r briodaswledd. Ac wedi myned allan o’r gweision hyny i’r ffyrdd, casglasant ynghyd gynnifer oll ag a gawsant, drwg a da; a llanwyd y briodaswledd o rai yn lled-orwedd wrth y ford. Ac wedi dyfod i mewn o’r brenhin i weled y rhai yn eu lled-orwedd, gwelodd yno ddyn heb ei wisgo â gwisg priodas; a dywedodd wrtho, Cyfaill, pa fodd y daethost i mewn yma heb fod ag am danat wisg priodas? ac yntau a aeth yn fud. Yna y brenhin a ddywedodd wrth y gweinidogion, Wedi rhwymo ei draed ef a’ i ddwylaw, teflwch ef allan i’r tywyllwch mwyaf allanol: yno y bydd y wylofain a’r rhingcian dannedd: canys llawer yw’ r galwedigion, ond ychydig y rhai a ddewiswyd. Yna wedi myned o’r Pharisheaid, cynghor a gymmerasant, pa fodd y maglent Ef mewn ymadrodd; a danfonasant Atto eu disgyblion ynghyda’r Herodianiaid, gan ddywedyd, Athraw, gwyddom mai gwir wyt, ac mai crefydd Dduw a ddysgi mewn gwirionedd, ac na waeth Genyt beth fo undyn; canys nid wyt yn edrych ar wyneb dynion. Dywaid, gan hyny, wrthym pa beth yw Dy farn Di: Ai cyfreithlawn rhoddi teyrnged i Cesar, ai nad yw? A chan wybod o’r Iesu eu drygioni, dywedodd, Paham y’m temtiwch, O ragrithwyr? Dangoswch i mi fath y deyrnged. A hwy a ddygasant Atto ddenar. A dywedodd wrthynt, Delw pwy yw hon, ac argraph pwy? Dywedasant Wrtho, Eiddo Cesar. Yna y dywedodd wrthynt, Talwch, gan hyny, bethau Cesar i Cesar, a phethau Duw i Dduw. Ac wedi clywed o honynt, rhyfeddu a wnaethant; a chan Ei adael Ef, aethant ymaith. Y dydd hwnw daeth Atto Tsadwceaid, y rhai a ddywedant nad oes adgyfodiad, a gofynasant Iddo, gan ddywedyd, Athraw, Mosheh a ddywedodd, Os bydd i neb farw heb iddo blant, gwnaed ei frawd ran cyfathrachwr i’w wraig ef, a chyfoded had i’w frawd. Ac yr oedd gyda ni saith o frodyr; a’r cyntaf wedi priodi a fu farw, ac, heb fod ganddo had, adawodd ei wraig i’w frawd. Felly hefyd yr ail, a’r trydydd, hyd y saith. Ac ar ol y cwbl bu farw’r wraig. Yn yr adgyfodiad, gan hyny, i bwy o’r saith y bydd hi yn wraig, canys yr oll a’i cawsant. A chan atteb, yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Cyfeiliorni yr ydych, gan fod heb wybod yr Ysgrythyrau na gallu Duw; canys yn yr adgyfodiad ni phriodant, ac ni roddir hwynt i’w priodi, eithr fel angylion yn y nef y maent. Ac am adgyfodiad y meirw, oni ddarllenasoch yr hyn a ddywedwyd wrthych gan Dduw, yn dywedyd, “Myfi wyf Dduw Abraham, a Duw Itsaac, a Duw Iacob”? Nid yw Duw Dduw meirwon, eithr y rhai byw. Ac wedi clywed o honynt, bu aruthr gan y torfeydd o herwydd Ei ddysgad. A’r Pharisheaid, wedi clywed y gostegasai Efe y Tsadwceaid, a gynnullwyd ynghyd; a gofynodd un o honynt, cyfreithiwr, gan Ei demtio Ef, Athraw, pa un yw’r gorchymyn mawr yn y Gyfraith? Ac Efe a ddywedodd wrtho, “Ceri yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid, ac â’th holl feddwl:” hwn yw’r gorchymyn mawr a’r cyntaf. Ac yr ail sydd gyffelyb, sef hwn, “Ceri dy gymmydog fel ti dy hun.” Ar y ddau orchymyn hyn y mae’r holl Gyfraitb yn sefyll, ac y Prophwydi hefyd. Ac wedi ymgynnull ynghyd o’r Pharisheaid, gofynodd yr Iesu iddynt, gan ddywedyd, Pa beth yw eich barn am Grist? Mab i bwy yw? Dywedasant Wrtho, Mab Dafydd. Dywedodd wrthynt, Pa fodd, gan hyny, y mae Dafydd yn yr Yspryd yn Ei alw Ef yn Arglwydd, gan ddywedyd, “Dywedodd Iehofa wrth fy Arglwydd, Eistedd ar Fy neheulaw Hyd oni osodwyf Dy elynion tan Dy draed.” Os, gan hyny, Dafydd a’i geilw Ef yn Arglwydd, pa fodd mai Mab iddo yw? Ac ni allai neb atteb Iddo air; ac ni feiddiodd neb o’r dydd hwnw allan ofyn Iddo mwyach. Yna yr Iesu a lefarodd wrth y torfeydd a’i ddisgyblion, gan ddywedyd, Ynghadair Mosheh yr eistedd yr ysgrifenyddion a’r Pharisheaid: yr oll, gan hyny, cymmaint ag a ddywedant wrthych, gwnewch a chadwch; ond yn ol eu gweithredoedd na wnewch, canys dywedant ac ni wnant. A rhwymant feichiau trymion ac anhawdd eu dwyn, a rhoddant hwynt ar ysgwyddau dynion; a hwy eu hunain, â’u bys nid ewyllysiant eu syflyd hwy. A’u holl weithredoedd a wnant er mwyn eu gweled gan ddynion, canys lledanant eu phylacterau, ac helaethant eu godreon, a charant y lle uchaf mewn gwleddoedd, a’r prif-gadeiriau yn y sunagogau, a’r cyfarchiadau yn y marchnadau, a’u galw gan ddynion Rabbi. Ond chwychwi, na’ch galwer Rabbi, canys un yw eich Athraw chwi; a’r oll o honoch chwi, brodyr ydych. Ac yn dad i chwi na elwch neb ar y ddaear, canys un yw eich Tad, yr Hwn sydd yn y nefoedd. Ac na’ch galwer yn feistriaid, canys un yw eich Meistr, sef Crist; a’r mwyaf o honoch fydd eich gweinidog; a’r hwn a ddyrchafo ei hun, a ostyngir; ac yr hwn a ostyngo ei hun, a ddyrchefir. A gwae chwi, ysgrifenyddion a Pharisheaid, ragrithwyr, canys cau teyrnas nefoedd yr ydych o flaen dynion; canys chwychwi nid ydych yn myned i mewn, a’r rhai y sydd yn myned i mewn, ni adewch iddynt fyned i mewn. Gwae chwi, ysgrifenyddion a Pharisheaid, ragrithwyr, canys myned o amgylch y môr a’r tir yr ydych i wneuthur un proselyt; ac wedi ei wneuthur, ei wneud ef yr ydych yn fab Gehenna ddwy waith fwy na chwi eich hunain. Gwae chwi, dywysogion deillion, y rhai sy’n dywedyd, Pwy bynnag a dyngo myn y deml, nid yw ddim; ond pwy bynnag a dyngo myn aur y deml, dyledwr yw. Ynfydion a deillion; canys pa un sydd fwyaf, yr aur neu’r deml a sancteiddiodd yr aur? Ac pwy bynnag a dyngo myn yr allor, nid yw ddim; ond pwy bynnag a dyngo myn y rhodd y sydd arni, dyledwr yw. Deillion, canys pa un fwyaf, y rhodd neu’r allor y sy’n sancteiddio’r rhodd? Yr hwn, gan hyny, a dyngodd myn yr allor, tyngu y mae myn hi a myn yr oll y sydd arni; ac yr hwn a dyngodd myn y deml, tyngu y mae myn hi a myn yr Hwn sy’n preswylio ynddi; a’r hwn a dyngodd myn y nef, tyngu y mae myn gorseddfaingc Duw a myn yr Hwn sy’n eistedd arni. Gwae chwi, ysgrifenyddion a Pharisheaid, ragrithwyr, canys degymmwch y mintys a’r anis a’r cwmin, a gadawsoch heibio y pethau trymmach o’r Gyfraith, barn a thrugaredd a ffydd: y rhai hyn yr oedd rhaid eu gwneuthur, a pheidio a gadael heibio y rhai hyny. Tywysogion deillion, y rhai sy’n hidlo’r gwybedyn, a’r camel a lyngcwch. Gwae chwi, ysgrifenyddion a Pharisheaid, ragrithwyr, canys glanhau yr ydych y tu allan i’r cwppan a’r ddysgl, ac o’r tu mewn llawn ydynt o reibusrwydd ac anghymmedroldeb. Pharishead dall, glanha yn gyntaf yr hyn sydd oddifewn i’r cwppan ac i’r ddysgl, fel yr elo y tu allan hefyd o hono yn lân. Gwae chwi, ysgrifenyddion a Pharisheaid, ragrithwyr, canys tebyg ydych i feddau wedi eu gwynnu, y rhai oddiallan yn wir a edrychant yn dêg; ond oddimewn, llawn ydynt o esgyrn y meirw a phob aflendid. Felly chwithau hefyd oddiallan, yn wir, a edrychwch i ddynion yn gyfiawnion; ond oddimewn, gorlawn ydych o ragrith ac anghyfraith. Gwae chwi, ysgrifenyddion a Pharisheaid, ragrithwyr, canys adeiledwch feddau’r prophwydi, ac addurnwch feddgorau’r cyfiawnion, a dywedwch, Pe buasem yn nyddiau ein tadau, ni fuasem gyfranogion â hwynt yngwaed y prophwydi. Felly y tystiolaethwch i’ch hunain, mai meibion ydych i’r rhai a laddasant y prophwydi. A bydded i chwi gyflawni mesur eich tadau. Seirph, hiliogaeth gwiberod, pa fodd y diengech rhag barn Gehenna. Am hyn, wele, Myfi wyf yn danfon attoch brophwydi a doethion ac ysgrifenyddion: rhai o honynt a leddwch ac a groeshoeliwch; a rhai o honynt a ffrewyllwch yn eich sunagogau, ac a erlidiwch o ddinas i ddinas, fel y delo arnoch yr holl waed cyfiawn a dywalltwyd ar y ddaear, o waed Abel gyfiawn hyd waed Zacharias fab Barachias, yr hwn a laddasoch rhwng y cyssegr a’r allor. Yn wir y dywedaf wrthych, Daw y pethau hyn oll ar y genhedlaeth hon. Ierwshalem, Ierwshalem, yr hon wyt yn lladd y prophwydi, Ac yn llabyddio y rhai a ddanfonwyd attat, Pa sawl gwaith y mynnais gasglu ynghyd dy blant, Yn y modd y cyd-gasgl giar ei chywion dan ei hadenydd, ac ni fynnech! Wele, gadewir i chwi eich tŷ yn anghyfannedd, canys dywedaf wrthych, Myfi ni welwch ddim o hyn allan, nes dweyd o honoch, Bendigedig yw ’r Hwn sy’n dyfod yn enw’r Arglwydd. Ac wedi myned o’r Iesu allan o’r deml, ar Ei ffordd yr oedd, a daeth Ei ddisgyblion i ddangos Iddo adeiladau y deml. Ac Efe, gan atteb, a ddywedodd wrthynt, Oni welwch yr holl bethau hyn? Yn wir y dywedaf wrthych, Ni adewir yma, er dim, garreg ar garreg yr hon ni ddattodir. Ac wrth eistedd o Hono ar fynydd yr Olewydd, daeth Ei ddisgyblion Atto o’r neilldu, gan ddywedyd, Dywaid wrthym, pa bryd y mae’r pethau hyn i fod, a pha beth fydd arwydd Dy ddyfodiad ac o ddiwedd y byd. A chan atteb, yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Edrychwch na fo i neb eich dwyn chwi ar gyfeiliorn, canys llawer a ddeuant yn Fy enw, gan ddywedyd, Myfi wyf y Crist; a llawer a ddygant hwy ar gyfeiliorn. Ac yr ydych ar fedr clywed am ryfeloedd, a son am ryfeloedd. Edrychwch na chyffroer chwi, canys rhaid iddynt ddigwydd; ond nid etto y mae’r diwedd; cyfyd cenedl yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas; a bydd newynau a daeargrynfaau mewn mannau. Yr holl bethau hyn ydynt ddechreuad gwewyr. Yna y traddodant chwi i orthrymder, a lladdant chwi, ac y byddwch yn gâs gan yr holl Genhedloedd o achos Fy enw. Ac yna y tramgwyddir llawer, ac y naill y llall a draddodant, ac y casant y naill y llall. A llawer o au-brophwydi a gyfodant, ac a ddygant lawer ar gyfeiliorn; ac o herwydd amlhau o anghyfraith, yr oera cariad y rhan fwyaf; ond yr hwn a barhao hyd y diwedd, hwnw fydd gadwedig. A phregethir yr efengyl hon am y deyrnas yn yr holl fyd, yn dystiolaeth i’r holl Genhedloedd: ac yna y daw y diwedd. Gan hyny, pan weloch y ffieidd-dra anghyfaneddus, yr hwn a ddywedwyd trwy Ddaniel brophwyd, yn sefyll yn y lle sanctaidd, (yr hwn sy’n darllen, dealled,) yna y rhai yn Iwdea, ffoant i’r mynyddoedd; a’r hwn ar ben y tŷ, na ddisgyned i gymmeryd y pethau o’i dŷ, a’r hwn yn y maes, na ddychweled yn ei ol i gymmeryd ei gochl. A gwae y rhai a chanddynt yn y groth, a’r rhai yn rhoi bronnau yn y dyddiau hyny. A gweddïwch na byddo eich ffoedigaeth y gauaf nac ar Sabbath, canys bydd, yr amser hwnw, orthrymder mawr, y fath na ddigwyddodd o ddechreu’r byd hyd yn awr, ac na fydd ddim o gwbl. Ac oni bai byrhau’r dyddiau hyny, ni fyddai gadwedig un cnawd oll; ond o achos yr etholedigion byrheir y dyddiau hyny. Yr amser hwnw, os wrthych y dywaid neb, Wele, llyma y Crist, neu Llyma, na chredwch; canys cyfyd gau-Gristiau a gau-brophwydi; a rhoddant arwyddion mawrion a rhyfeddodau, fel ag i ddwyn ar gyfeiliorn, pe bai bosibl, hyd yn oed yr etholedigion. Wele, rhag-ddywedais wrthych. Os, gan hyny, dywedant wrthych, Wele, yn yr anialwch y mae, nac ewch allan; Wele, yn yr ystafelloedd, na chredwch; canys fel y mae’r fellten yn dyfod allan o’ r dwyrain ac yn ymddangos hyd y gorllewin, felly y bydd dyfodiad Mab y Dyn. Pa le bynnag y bo’r gelain, yno y cyd-gesglir yr adar rheibus. Ac yn uniawn ar ol gorthrymder y dyddiau hyny, yr haul a dywyllir, a’r lleuad ni rydd ei goleuni, a’r ser a syrthiant o’r nef, a nerthoedd y nefoedd a ysgydwir. Ac yna yr ymddengys arwydd Mab y Dyn yn y nef: ac yna y galara holl lwythau’r ddaear: a gwelant Fab y Dyn yn dyfod ar gymmylau’r nef gyda nerth a gogoniant mawr; a denfyn Efe Ei angylion gydag udgorn mawr-leisiog, a chasglant ynghyd Ei etholedigion Ef o’r pedwar gwynt, o eithafoedd y nefoedd hyd eu heithafoedd. Ac oddiwrth y ffigysbren dysgwch ei ddammeg. Pan yw ei gangen yn awr yn dyner, ac ei ddail a fwrw efe allan, gwyddoch mai agos yw’r haf: felly chwithau hefyd, pan weloch yr holl bethau hyn, gwybyddwch mai agos yw Efe, wrth y drysau. Yn wir y dywedaf wrthych, Nid aiff y genhedlaeth hon ddim heibio nes i’r holl bethau hyn ddigwydd. Y nef a’r ddaear a ant heibio, ond fy ngeiriau nid ant heibio ddim. Ond am y dydd hwnw, a’r awr, nid oes neb a ŵyr, nac angylion y nefoedd, nac y Mab, neb oddieithr Y Tad yn unig. Ac fel yr oedd dyddiau Noe, felly y bydd dyfodiad Mab y Dyn; canys yn yr un modd ag yr oeddynt yn y dyddiau hyny, y rhai cyn y diluw, yn bwytta ac yn yfed, yn priodi ac yn rhoi i briodi, hyd y dydd yr aeth Noe i mewn i’r arch, ac ni wybuant nes y daeth y diluw ac y cymmerth hwynt oll; felly y bydd dyfodiad Mab y Dyn. Yr amser hwnw dau fydd yn y maes, un a gymmerir, a’r llall a adewir; dwy fydd yn malu â’r felin, un a gymmerir, a’r llall a adewir. Gwyliwch, gan hyny, gan na wyddoch pa awr y mae eich Arglwydd yn dyfod. A hyn gwybyddwch, pe gwybuasai gŵr y tŷ ym mha wyliedwriaeth y byddai’r lleidr yn dyfod, gwyliasai, ac ni adawsai gloddio ei dŷ trwodd. Am hyny, chwithau hefyd, byddwch barod; canys yr awr na thybiwch y mae Mab y Dyn yn dyfod. Pwy, ynte, yw’r gwas ffyddlon a doeth, yr hwn a osododd ei arglwydd ar ei deulu, i roddi iddynt eu bwyd yn ei bryd? Gwyn ei fyd y gwas hwnw yr hwn, wedi dyfod o’i arglwydd, a gaiff efe yn gwneuthur felly. Yn wir y dywedaf wrthych, Ar ei holl eiddo y gesyd efe ef. Ond os dywaid y gwas drwg accw yn ei galon, Oedi y mae fy arglwydd, a dechreu curo ei gydweision, a bwytta ac yfed gyda’r meddwon, daw arglwydd y gwas hwnw ar ddydd nad yw efe yn disgwyl, ac ar awr na ŵyr efe; a gwahana efe ef, a’i ran ef a esyd efe gyda’r rhagrithwyr, yno y bydd y wylofain a’r rhingcian dannedd. Yr amser hwnw tebyg fydd teyrnas nefoedd i ddeg o forwynion, y rhai, wedi cymeryd eu llusernau, a aethant allan i gyfarfod â’r priodas-fab; a phump o honynt oeddynt ynfyd, a phump yn gall, canys y rhai ynfyd, wedi cymmeryd eu llusernau, ni chymmerasant gyda hwynt olew; ond y rhai call a gymmerasant olew yn eu llestri ynghyda’u llusernau. Ac wrth oedi o’r priod-fab, hepiasant oll, a hunasant. Ac ar hanner nos, gwaedd fu, Wele y priodas-fab; deuwch allan i gyfarfod ag ef. Yna y cyfododd yr holl forwynion hyny, a thrwsiasant eu llusernau; a’r rhai ynfyd a ddywedasant wrth y rhai call, Rhoddwch i ni o’ch olew chwi, canys y mae ein llusernau yn diffoddi. Ac attebodd y rhai call, gan ddywedyd, Nid felly, rhag ysgatfydd na byddo digon i ni ac i chwi; ewch yn hytrach at y rhai sydd yn gwerthu, a phrynwch i chwi eich hunain. A thra’r oeddynt yn myned ymaith i brynu, daeth y priodas-fab; ac y rhai parod a aethant i mewn gydag ef i’r briodaswledd, a chauwyd y drws. Ac wedi hyny dyfod y mae y morwynion eraill hefyd, gan ddywedyd, Arglwydd, Arglwydd, agor i ni. Ac efe, gan atteb, a ddywedodd, Yn wir y dywedaf wrthych, nid adwaen chwi. Gwyliwch, gan hyny, gan na wyddoch na’r dydd na’r awr. Canys yn y modd y bu i ŵr yn myned i wlad ddieithr, alw ei weision ef a thraddodi iddynt ei dda: ac i un y rhoddodd bum talent, ac i arall ddwy, ac i arall un, i bob un yn ol ei allu ei hun; ac aeth i wlad ddieithr. Yn uniawn yr aeth yr hwn a dderbyniasai’r bum talent, a marchnataodd â hwynt, a gwnaeth bum talent eraill. Yn yr un modd hefyd yr hwn a dderbyniasai y ddwy, a wnaeth ddwy eraill. Ond yr hwn a dderbyniasai yr un, wedi myned ymaith, a gloddiodd yn y ddaear, ac a guddiodd arian ei arglwydd. Ac wedi amser maith, dyfod y mae arglwydd y gweision hyny, ac yn cymmeryd cyfrif â hwynt. Ac wedi dyfod atto o’r hwn a dderbyniasai y bum talent, dug atto bum talent eraill, gan ddywedyd, Arglwydd, pum talent a draddodaist i mi; wele, pum talent eraill a ynnillais. Dywedodd ei arglwydd wrtho, Da, was da a ffyddlon; ar ychydig y buost ffyddlon, ar lawer y’th osodaf di; dos i mewn i lawenydd dy arglwydd. Ac wedi dyfod atto o’r hwn a dderbyniasai y ddwy dalent, dywedodd, Arglwydd, dwy dalent a draddodaist i mi: wele, dwy dalent eraill a ynnillais. Dywedodd ei arglwydd wrtho, Da, was da a ffyddlon; ar ychydig y buost ffyddlon, ar lawer y’th osodaf di; dos i mewn i lawenydd dy arglwydd. Ac wedi dyfod atto hefyd o’r hwn a dderbyniasai yr un dalent, dywedodd, Arglwydd, adwaenwn di mai gŵr caled wyt, yn medi lle ni heuaist, ac yn casglu lle ni wasgeraist; a chan ofni yr aethum a chuddiais dy dalent yn y ddaear; wele, y mae i ti dy eiddot. A chan atteb, ei arglwydd a ddywedodd wrtho, Was drwg a diog, gwyddit fy mod yn medi lle ni heuais, ac yn casglu lle ni wasgerais; dylesit, gan hyny, roddi fy arian at yr arianwyr, ac ar fy nyfodiad myfi a gawswn yr eiddof gyda llôg. Cymmerwch, gan hyny, y dalent oddi arno, a rhoddwch i’r hwn sydd a chanddo y ddeg talent; canys i bob un y sydd a chanddo, y rhoddir ac y bydd gorlawnder; ac oddiar yr hwn nad oes ganddo, hyd yn oed yr hyn sydd ganddo a gymmerir oddi arno. A’r gwas anfuddiol bwriwch allan i’r tywyllwch mwyaf allanol, yno y bydd y wylofain a’r rhingcian dannedd. Ond pan ddelo Mab y Dyn yn Ei ogoniant, a’r holl angylion gydag Ef, yna yr eistedd ar orseddfaingc Ei ogoniant; a chyd-gesglir ger Ei fron Ef yr holl genhedloedd, a didola Efe hwynt oddi wrth eu gilydd, fel y mae’r bugail yn didoli’r defaid oddi wrth y geifr; ac y gesyd y defaid ar Ei ddeheulaw, ac y geifr ar yr aswy. Yna y dywaid y Brenhin wrth y rhai ar Ei ddeheulaw, Deuwch, fendigedigion Fy Nhad, etifeddwch y deyrnas a barottowyd i chwi er seiliad y byd; canys chwant bwyd oedd Arnaf a rhoddasoch i Mi i fwytta; syched oedd Arnaf, a diodasoch Fi; dieithr oeddwn, a dygasoch Fi i mewn; noeth, a dilladasoch Fi; claf oeddwn, ac ymwelsoch â Mi; yngharchar yr oeddwn, a daethoch Attaf. Yna yr ettyb y cyfiawnion Iddo, gan ddywedyd, Arglwydd, pa bryd y’th welsom Di â chwant bwyd Arnat, ac y’ th borthasom; neu â syched Arnat, ac y’ th ddiodasom; a pha bryd y’th welsom Di yn ddieithr, ac y’ th ddygasom i mewn; neu yn noeth, ac y’ th ddilladasom; a pha bryd y’th welsom Di yn glaf, neu yngharchar, ac y daethom Attat? A chan atteb, y Brenhin a ddywaid wrthynt, Yn wir y dywedaf wrthych, Cymmaint ag y’i gwnaethoch i un o’r rhai hyn, Fy mrodyr lleiaf, i Myfi y’i gwnaethoch. Yna y dywaid Efe hefyd wrth y rhai ar yr aswy, Ewch oddi Wrthyf, felldigedigion, i’r tân tragywyddol, yr hwn a barottowyd i ddiafol ac i’w angylion; canys chwant bwyd oedd Arnaf, ac ni roisoch i Mi i fwytta: syched oedd Arnaf, ac ni ddiodasoch Fi; dieithr oeddwn, ac ni ddygasoch Fi i mewn; yn noeth, ac ni ddilladasoch Fi; yn glaf ac yngharchar, ac nid ymwelsoch â Mi. Yna yr attebant hwythau hefyd, gan ddywedyd, Arglwydd, pa bryd y’th welsom Di â chwant bwyd Arnat, neu â syched Arnat, neu yn ddieithr, neu yn noeth, neu yngharchar, ac na weiniasom i Ti? Yna yr ettyb Efe iddynt, Yn wir y dywedaf wrthych, Cymmaint ac nis gwnaethoch i un o’r rhai lleiaf hyn, i Mi nis gwnaethoch mo’no. Ac ymaith yr aiff y rhai hyn i gospedigaeth dragywyddol, ond y cyfiawnion i fywyd tragywyddol. A bu pan orphenodd yr Iesu yr holl eiriau hyn, y dywedodd wrth Ei ddisgyblion, Gwyddoch mai gwedi deuddydd y Pasg a ddigwydd, a Mab y Dyn a draddodir i’w groes-hoelio. Yna y casglwyd ynghyd yr archoffeiriaid ac henuriaid y bobl, i lys yr archoffeiriad, yr hwn a elwid Caiaphas, a chydymgynghorasant fel y dalient yr Iesu trwy ddichell, ac y lladdent Ef; a dywedasant, Nid ar yr wyl, rhag i gynnwrf gymmeryd lle ymhlith y bobl. A phan yr oedd yr Iesu yn Bethania, yn nhŷ Shimon y gwahan-glwyfus, daeth Atto wraig a chanddi flwch alabaster o ennaint tra gwerthfawr, ac y’i tywalltodd ar Ei ben Ef pan yn lled-orwedd wrth y ford. Ac wedi gweled hyn, y disgyblion a sorrasant, gan ddywedyd, I ba beth y bu’r golled hon? Canys gallesid hyn gael ei werthu er llawer, a’i roddi i’r tlodion. A chan wybod o’r Iesu, dywedodd wrthynt, Paham mai blinder a berwch i’r wraig? Canys gwaith da a wnaeth hi Arnaf; canys peunydd y mae genych y tlodion gyda chwi; ond Myfi, nid beunydd yr wyf genych; canys wrth dywallt o honi yr ennaint hwn ar Fy nghorph, er Fy mharottoi i’r bedd y gwnaeth hi hyny; yn wir y dywedaf wrthych, Pa le bynnag y pregether yr efengyl hon yn yr holl fyd, mynegir hefyd yr hyn a wnaeth hi, er coffa am dani. Yna wedi myned o un o’r deuddeg, yr hwn a elwid Iwdas Ishcariot, at yr archoffeiriaid, dywedodd, Pa beth a ewyllysiwch ei roddi i mi, ac myfi a’i traddodaf Ef i chwi? A hwy a osodasant iddo ddeg ar hugain o arian, ac o’r amser hwnw y ceisiai gyfleusdra i’w draddodi Ef. Ac ar y dydd cyntaf o’r bara croyw daeth y disgyblion at yr Iesu, gan ddywedyd, Pa le yr ewyllysi barottoi o honom i Ti i fwytta’r Pasg? Ac Efe a ddywedodd, Ewch i’r ddinas at y cyfryw un, a dywedwch wrtho, Yr Athraw a ddywaid, Fy amser sydd agos; yn dy dŷ di y cadwaf y Pasg ynghyd â’m disgyblion. A gwnaeth y disgyblion fel yr ordeiniasai yr Iesu iddynt, a pharottoisant y Pasg. A’r hwyr wedi digwydd, lled-orweddodd Efe wrth y ford ynghyd â’i ddeuddeg disgybl; ac wrth fwytta o honynt, dywedodd, Yn wir y dywedaf wrthych, Un o honoch a’m traddoda I. Ac wedi eu tristhau yn ddirfawr, dechreuasant ddweud Wrtho, pob un o honynt, Ai myfi yw, Arglwydd? A chan atteb, dywedodd, Yr hwn a drochodd, ynghyda Mi, ei law yn y ddysgl, hwnw a’m traddoda I. Mab y Dyn yn wir sy’n myned fel yr ysgrifenwyd am Dano; ond gwae’r dyn hwnw trwy’r hwn y mae Mab y Dyn yn cael Ei draddodi; da fuasai iddo pe nas ganesid y dyn hwnw. A chan atteb, Iwdas, yr hwn oedd yn Ei draddodi Ef, a ddywedodd, Ai myfi yw efe, Rabbi? Dywedodd Yntau wrtho, Ti a ddywedaist. Ac wrth fwytta o honynt, yr Iesu, wedi cymmeryd bara ac ei fendithio, a dorrodd ef; ac wedi ei roddi i’r disgyblion, dywedodd, Cymmerwch, bwyttewch: hwn yw Fy nghorph. A chwedi cymmeryd cwppan a rhoddi diolch, rhoddodd ef iddynt, gan ddywedyd, Yfwch o hwn, bawb; canys hwn yw fy ngwaed, sef yr hwn o’r cyfammod, yr hwn er llaweroedd sy’n cael ei dywallt allan er maddeuant pechodau. A dywedaf wrthych, Nid yfaf ddim, o hyn allan, o ffrwyth hwn y winwydden, hyd y dydd hwnw pan yfwyf ef gyda chwi, yn newydd, yn nheyrnas Fy Nhad. A chwedi canu hymn, aethant allan i fynydd yr Olewydd. Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt, Yr oll o honoch chwi a dramgwyddir Ynof yn y nos hon; canys ysgrifenwyd, “Tarawaf y bugail, a gwasgerir defaid y praidd.” Ond ar ol adgyfodi o Honof, af o’ch blaen i Galilea. A chan atteb, Petr a ddywedodd Wrtho, Os “yr oll a dramgwyddir Ynot,” myfi ni’m tramgwyddir byth. Dywedodd yr Iesu wrtho, Yn wir y dywedaf wrthyt, Yn y nos hon, cyn i geiliog ganu, tair gwaith y gwedi Fi. Dywedodd Petr Wrtho, Hyd yn oed os ynghyda Thi y bo rhaid i mi farw, Tydi ni wadaf ddim. Yn yr un modd yr holl ddisgyblion hefyd a ddywedasant. Yna y daeth yr Iesu gyda hwynt i fan a elwir Gethshemane, a dywedodd wrth Ei ddisgyblion, Eisteddwch yma, nes i Mi, wedi myned accw, weddïo. Ac wedi cymmeryd Atto Petr a dau fab Zebedëus, dechreuodd dristhau ac ymofidio. Yna y dywedodd wrthynt, Trist tros ben yw Fy enaid, hyd angau: arhoswch yma, a gwyliwch gyda Mi. Ac wedi myned ymlaen rhyw ychydig, syrthiodd ar Ei wyneb, gan weddïo, a dywedyd, Y Tad mau Fi, os bosibl yw, aed heibio oddi Wrthyf y cwppan hwn! Er hyny, nid fel yr wyf Fi yn ewyllysio, eithr fel yr wyt Ti. A dyfod y mae Efe at y disgyblion ac yn eu cael yn cysgu, a dywedodd wrth Petr, Felly; oni ellych, am un awr, wylied gyda Mi? Gwyliwch a gweddïwch nad eloch i brofedigaeth. Yr yspryd yn wir sydd barod, ond y cnawd sydd wan. Trachefn, wedi myned oddi wrthynt yr ail waith, gweddïodd, gan ddywedyd, Y Tad mau Fi, os na all hwn fyned heibio oddieithr ei yfed o Honof, gwneler Dy ewyllys. Ac wedi dyfod etto, cafodd hwynt yn cysgu, canys yr oedd eu llygaid wedi trymhau. A chan eu gadael hwynt etto, wedi myned oddi wrthynt, gweddïodd y drydedd waith, ac yr un geiriau a ddywedodd etto. Yna dyfod y mae at y disgyblion, a dywedodd wrthynt, Cysgwch bellach, a gorphwyswch; Wele, nesaodd yr awr, a Mab y Dyn sy’n cael Ei draddodi i ddwylaw pechaduriaid. Codwch, awn; wele, nesaodd yr hwn sydd yn Fy nhraddodi. Ac Efe etto yn llefaru, wele, Iwdas, un o’r deuddeg, a ddaeth; ac ynghydag ef, dyrfa fawr â chleddyfau a ffyn, oddi wrth yr archoffeiriaid a henuriaid y bobl. A’r hwn a oedd yn Ei draddodi Ef a roisai iddynt arwydd, gan ddywedyd, Yr hwn a gusanwyf, hwnw yw Efe: deliwch Ef. Ac yn uniawn y daeth at yr Iesu, a dywedodd, Henffych well, Rabbi! a chusanodd Ef. A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Y cyfaill, am yr hyn yr wyt yma. Yna wedi dyfod Atto rhoisant eu dwylaw ar yr Iesu, a daliasant Ef. Ac wele, un o’r rhai gyda’r Iesu wedi estyn ei law a dynnodd ei gleddyf; ac wedi tarawo gwas yr archoffeiriad, dorrodd ymaith ei glust ef. Yna y dywedodd yr Iesu wrtho, Dychwel dy gleddyf di i’w le, canys pawb o’r a gymmerant gleddyf, â chleddyf y difethir hwynt. A feddyli di na allaf ddeisyf ar Fy Nhad, a rhydd Efe wrthyf yn y fan fwy na deuddeg lleng o angylion? Pa fodd, wrth hyny, y cyflawnid yr Ysgrythyrau mai fel hyn y mae rhaid digwydd? Yn yr awr honno y dywedodd yr Iesu wrth y torfeydd, Fel yn erbyn lleidr y daethoch allan â chleddyfau a ffyn i’m dal I. Peunydd yn y deml yr eisteddwn yn dysgu, ac ni’m daliasoch. Ond hyn oll a wnaethpwyd, fel y cyflawnid Ysgrythyrau’r Prophwydi. Yna y disgyblion oll, gan Ei adael, a ffoisant. A’r rhai a ddaliasant yr Iesu a’ i dygasant Ef ymaith at Caiaphas yr archoffeiriad, lle yr oedd yr ysgrifenyddion a’r henuriaid wedi ymgasglu ynghyd. A Phetr a’i canlynodd Ef, o hirbell, hyd at lys yr archoffeiriad, ac wedi myned i mewn, eisteddodd gyda’r gweinidogion i weled y diwedd. A’r archoffeiriaid a’r Cynghor oll a geisient au-dystiolaeth yn erbyn yr Iesu, fel y rhoddent Ef i farwolaeth; ac ni chawsant, er dyfod attynt o lawer o au-dystion. Ond o’r diwedd, wedi dyfod o ddau attynt, dywedasant, Hwn a ddywedodd, Gallaf ddinystrio teml Dduw, ac mewn tri diwrnod ei hadeiladu hi. Ac wedi cyfodi, yr archoffeiriad a ddywedodd Wrtho, Ai nid dim a attebi? Pa beth y mae y rhai hyn yn ei dystiolaethu yn Dy erbyn? Ond yr Iesu a dawodd; a’r archoffeiriad a ddywedodd Wrtho, Tynghedaf Di, myn y Duw byw, ddywedyd o Honot i ni ai Tydi yw y Crist, Mab Duw. Dywedodd yr Iesu wrtho, Ti a ddywedaist. Ond dywedaf wrthych, Ar ol hyn y gwelwch Fab y Dyn yn eistedd ar ddeheulaw’r Gallu, ac yn dyfod ar gymmylau’r nef. Yna yr archoffeiriad a rwygodd ei ddillad, gan ddywedyd, Cablodd: paham y mae rhaid i ni mwy wrth dystion? Wele, yn awr clywsoch y gabledd. Pa beth yw eich barn chwi? A hwy, gan atteb, a ddywedasant, Dyledwr i farwolaeth yw. Yna y poerasant yn Ei wyneb, a chernodiasant Ef; ac eraill a’i curasant Ef, gan ddywedyd, Prophwyda i ni, O Grist: Pwy yw’r hwn a’th darawodd? A Petr oedd tu allan yn eistedd yn y cwrt; a daeth atto forwynig, gan ddywedyd, A thydi oeddit gydag Iesu y Galilead. Ac efe a wadodd ger bron yr holl rai, gan ddywedyd, Nis gwn pa beth a ddywedi. Ac ar ol myned allan o hono i’r porth, gwelodd morwynig arall ef, a dywedodd wrth y rhai oedd yno, A hwn hefyd oedd gydag Iesu y Natzaread. A thrachefn y gwadodd, trwy lw, Nid adwaen i mo’r dyn. Ac wedi ychydig, wedi dyfod atto o’r rhai oedd yn sefyll yno, dywedasant wrth Petr, Yn wir, tithau hefyd wyt o honynt, canys dy leferydd a’th wna yn amlwg. Yna y dechreuodd efe regu a thyngu, Nid adwaen i mo’r dyn. Ac yn uniawn ceiliog a ganodd: a chofiodd Petr ymadrodd yr Iesu, yn dywedyd, “Cyn i geiliog ganu, tair gwaith y gwedi Fi;” ac wedi myned allan, wylodd yn chwerw. A’r bore wedi dyfod, cyngor a gymmerodd yr holl archoffeiriaid ac henuriaid y bobl yn erbyn yr Iesu, i’w roddi Ef i farwolaeth; ac wedi Ei rwymo Ef, dygasant Ef ymaith, a thraddodasant Ef i Pontius Pilat y rhaglaw. Yna wedi gweled o Iwdas yr hwn a’i traddododd, y condemniwyd Ef gan edifarhau y dug drachefn y deg ar hugain arian at yr archoffeiriaid â’ r henuriaid, gan ddywedyd, Pechais gan draddodi gwaed diniweid. A hwy a ddywedasant, Pa beth yw hyny i ni? Tydi a edrych. Ac wedi taflu yr arian i’r cyssegr, ciliodd ymaith; ac wedi myned ymaith, ymgrogodd. A’r archoffeiriaid, wedi cymmeryd yr arian, a ddywedasant, nid yw gyfreithlon eu bwrw i’r drysorfa, gan mai gwerth gwaed yw. A chyngor a gymmerasant, a phrynasant â hwynt faes y crochenydd, yn gladdfa i ddieithriaid; o herwydd paham y galwyd y maes hwnw “Maes gwaed,” hyd heddyw. Yna y cyflawnwyd yr hyn a ddywedwyd trwy Ieremiah y prophwyd, “A chymmerasant y deg ar hugain arian, pris y prisiedig, Yr hwn a brisiasant oddi wrth feibion Israel; A rhoisant hwynt am faes y crochenydd, Yn ol yr hyn a ordeiniodd yr Arglwydd i mi.” A’r Iesu a safodd ger bron y rhaglaw, a gofynodd y rhaglaw Iddo, gan ddywedyd, Ai Tydi wyt brenhin yr Iuddewon? A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Ti a ddywedi. Ac wrth Ei gyhuddo gan yr Archoffeiriaid a’ r henuriaid, ddim atteb o gwbl ni roes Efe. Yna y dywedodd Pilat Wrtho, Oni chlywi pa faint o bethau a dystiolaethant yn Dy erbyn? Ac nid attebodd iddo ef, nid i gymmaint ag un gair, fel y rhyfeddodd y rhaglaw yn ddirfawr. Ac ar yr wyl honno yr arferai y rhaglaw ollwng yn rhydd i’r dyrfa un carcharor, yr hwn a ewyllysient. Ac yr oedd ganddynt yr amser hwn garcharor hynod a elwid Barabba. Gan hyny, wedi ymgasglu o honynt ynghyd, gofynodd Pilat iddynt, Pwy a ewyllysiwch ei ollwng yn rhydd genyf i chwi? Barabba; neu yr Iesu, yr hwn a elwir Crist? Canys gwyddai mai o genfigen y traddodasant Ef. Ac efe yn eistedd ar y frawd-faingc, danfonodd ei wraig atto, gan ddywedyd, Na fydded i ti ddim a wnelych â’r cyfiawn hwnw, canys llawer a ddioddefais heddyw mewn breuddwyd o’i achos Ef. A’r archoffeiriaid a’r henuriaid a berswadiasant y torfeydd i ofyn Barabba, ac i ddifetha’r Iesu. A chan atteb, y rhaglaw a ddywedodd wrthynt, Pa un o’r ddau a ewyllysiwch i mi ei ollwng yn rhydd i chwi? A hwy a ddywedasant, Barabba. Dywedodd Pilat wrthynt, Pa beth, gan hyny, a wnaf i’r Iesu, yr Hwn a elwir Crist? Dywedasant oll, Croes-hoelier Ef. Ac efe a ddywedodd, Canys pa ddrwg a wnaeth Efe? A hwy a ddirfawr-waeddasant, gan ddywedyd, Croes-hoelier Ef. A chan weled o Pilat nad oedd efe yn tycio ddim, eithr i radd mwy fod y cynnwrf yn myned, gan gymmeryd dwfr y golchodd ei ddwylaw ger bron y dyrfa, gan ddywedyd, dieuog wyf oddiwrth waed y Cyfiawn hwn; bydded i chwi edrych. A chan atteb, yr holl bobl a ddywedodd, Ei waed, arnom ni ac ar ein plant y bo. Yna y gollyngodd efe yn rhydd iddynt Barabba; ac yr Iesu, ar ol Ei fflangellu Ef, a draddododd efe i’w groes-hoelio. Yna milwyr y rhaglaw, wedi cymmeryd yr Iesu i’r palas, a gynnullasant Atto yr holl fyddin; ac wedi Ei ddiosg, rhoisant am Dano fantell o ysgarlad: ac wedi plethu coron o ddrain, gosodasant hi ar Ei ben, a chorsen yn Ei law ddehau; a chan benlinio o’i flaen Ef, gwatwarasant Ef, gan ddywedyd, Henffych well, Brenhin yr Iuddewon! Ac wedi poeri Arno, cymmerasant y gorsen ac a’i tarawsant ar Ei ben. A phan gwatwarasant Ef, diosgasant Ef o’r fantell, a rhoisant am Dano Ei ddillad Ei hun, a dygasant Ef ymaith i’w groes-hoelio Ef. Ac wrth ddyfod allan cawsant ddyn o Cyrene, a’i enw Shimon; hwn a gymmellasant i ddwyn Ei groes Ef. Ac wedi dyfod i le a elwid Golgotha, yr hwn a elwir Lle’r benglog, rhoisant Iddo i’w yfed win yn gymmysgedig â bustl; ac wedi ei brofi o Hono nid ewyllysiai yfed. Ac wedi Ei groes-hoelio Ef, rhannasant Ei ddillad, gan fwrw coelbren; a chan eistedd, gwyliasant Ef yno. A gosodasant uwch Ei ben Ei gyhuddiad yn ysgrifenedig, Hwn yw Iesu Brenhin yr Iuddewon. Yna y croes-hoeliwyd gydag Ef ddau leidr, un ar y llaw ddehau ac un ar yr aswy. A’r rhai yn myned heibio a’i cablasant Ef, gan siglo eu pennau, a dywedyd, Yr hwn wyt yn dinystrio’r deml, ac mewn tridiau y’i hadeiledi, gwared Dy Hun: os Mab Duw wyt, tyr’d i lawr oddi ar y groes. Mewn cyffelyb fodd yr archoffeiriaid hefyd, gan watwar ynghyda’r ysgrifenyddion a’ r henuriaid, a ddywedasant, Eraill a waredodd Efe, Ef Ei hun ni all Ei waredu. Brenhin Israel yw! Deued i lawr yn awr oddi ar y groes, a chredwn Ynddo. Ymddiriedodd yn Nuw. Gwareded Efe Ef yr awr hon, os ewyllysia Ef; canys dywedodd Mab Duw wyf. Ac yr un peth y lladron hefyd a groes-hoeliwyd gydag Ef, a edliwiasant Iddo. Ac o’r chweched awr tywyllwch fu ar yr holl ddaear hyd y nawfed awr: ac ynghylch y nawfed awr y llefodd yr Iesu â llef fawr, gan ddywedyd, Eli, Eli, lama shabacthani? hyny yw, Fy Nuw, Fy Nuw, paham y’m gadewaist? A rhai o’r sawl oedd yn sefyll yno, pan glywsant, a ddywedasant, Ar Elias y geilw hwn. Ac yn uniawn gan redeg o un o honynt, ac wedi cymmeryd ysbwng, a’i llenwi o finegr a’i rhoddi am gorsen, diododd Ef: ond y lleill a ddywedasant, Gad Iddo; edrychwn a ddaw Elias i’w waredu Ef. A’r Iesu, wedi gwaeddi etto â llef fawr, a ymadawodd â’r yspryd. Ac wele, llen y deml a rwygwyd yn ddwy, oddi fynu hyd i wared; a’r ddaear a ysgydwyd; a’r creigiau a rwygwyd; a’r beddau a agorwyd; a llawer o gyrph y saint oedd yn huno, a gyfodasant, ac wedi dyfod allan o’r beddau ar ol Ei gyfodiad Ef, aethant i mewn i’r ddinas sanctaidd, ac ymddangosasant i lawer. A’r canwriad, a’r rhai ynghydag ef yn gwylied yr Iesu, wedi gweled y ddaear-gryn a’r pethau a ddigwyddasant, a ofnasant yn ddirfawr, gan ddywedyd, Yn wir Mab Duw oedd Hwn. Ac yr oedd yno wragedd lawer yn edrych, y rhai a ganlynasent yr Iesu o Galilea, gan weini iddo; ymhlith y rhai yr oedd Mair Magdalen, a Mair mam Iago, ac Iose, a mam meibion Zebedëus. A’r hwyr wedi dyfod, daeth gŵr goludog o Arimathea, a’i enw Ioseph, yr hwn oedd yntau hefyd yn ddisgybl i’r Iesu. Hwn, wedi myned at Pilat, a ofynodd gorph yr Iesu. Yna Pilat a orchymynodd ei roddi. Ac wedi cymmeryd y corph, Ioseph a’i hamdôdd â lliain glân, a gosododd Ef yn ei fedd newydd ei hun, yr hwn a dorrasai efe yn y graig; ac wedi treiglo maen mawr at ddrws y bedd, aeth ymaith. Ac yr oedd yno Mair Magdalen, a’r Mair arall, yn eu heistedd gyferbyn â’r bedd. A thrannoeth, yr hwn sydd ar ol y Darpariad, yr ymgynhullodd yr archoffeiriaid a’r Pharisheaid at Pilat, gan ddywedyd, Arglwydd, cofiwn y bu i’r arweinydd ar gyfeiliorn hwnw ddywedyd, tra etto yn fyw, Wedi tridiau cyfodi yr wyf. Gorchymyn, gan hyny, wneud y bedd yn ddiogel hyd y trydydd dydd, rhag ysgatfydd, wedi dyfod o’i ddisgyblion, iddynt Ei ladratta Ef, a dywedyd wrth y bobl, Cyfododd o feirw; a bydd y cyfeiliornad diweddaf yn waeth na’r cyntaf. Dywedodd Pilat wrthynt, Y mae genych wyliadwriaeth: ewch, gwnewch mor ddiogel ag y medrwch. A hwy, wedi myned, a wnaethant y bedd yn ddiogel, gan selio’r maen, ynghyda’r wyliadwriaeth. A hi yn hwyr ar y Sabbath ac yn dyddhau i’r dydd cyntaf o’r wythnos, daeth Mair Magdalen a’r Fair arall, i edrych y bedd. Ac, wele, daear-gryn mawr a fu; canys angel yr Arglwydd, wedi dyfod i lawr o’r nef, a ddaeth ac a dreiglodd ymaith y maen, ac a eisteddodd arno; yr oedd ei wyneb-pryd ef fel mellten, a’i wisg yn wen fel eira. A rhag ei ofn ef yr ysgydwyd y ceidwaid, ac yr aethant fel meirw. A chan atteb, yr angel a ddywedodd wrth y gwragedd, nac ofnwch chwi, canys gwn mai yr Iesu, yr Hwn a groes-hoeliwyd, yr ydych yn Ei geisio. Nid yw Efe yma; canys cyfododd, fel y dywedodd. Deuwch, gwelwch y fan lle y gorweddodd yr Arglwydd. Ac wedi myned ar ffrwst, dywedwch wrth Ei ddisgyblion, Cyfododd o feirw; ac wele, myned o’ch blaen y mae i Galilea: yno y gwelwch Ef. Wele, dywedais wrthych. Ac wedi myned ar ffrwst oddi wrth y bedd, gydag ofn a llawenydd mawr, rhedasant i fynegi i’w ddisgyblion. Ac wele, yr Iesu a gyfarfu â hwynt, gan ddywedyd, Henffych well. A hwy, wedi dyfod Atto, a ymafaelasant yn Ei draed Ef, ac ymochreiniasant Iddo. Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt, Nac ofnwch; ewch, mynegwch i Fy mrodyr i fyned ymaith i Galilea; ac yno y’m gwelant I. Ac wrth fyned o honynt, rhai o’r wyliadwriaeth, wedi dyfod i’r ddinas, a fynegasant i’r archoffeiriaid yr holl bethau a ddigwyddasent. Ac wedi ymgasglu o honynt ynghyda’r henuriaid, a chymmeryd cynghor, arian lawer a roisant i’r milwyr, gan ddywedyd, Dywedwch, Ei ddisgyblion Ef, wedi dyfod liw nos, a’i lladrattasant Ef, a nyni yn cysgu: ac os clywir hyn gan y rhaglaw, nyni a’i perswadiwn ef, a chwychwi a wnawn yn ddiofal. A hwy, wedi cymmeryd yr arian, a wnaethant fel yr addysgwyd hwynt; a thanwyd y gair hwn ymhlith yr Iuddewon hyd heddyw. A’r un disgybl ar ddeg a aethant i Galilea, i’r mynydd lle’r ordeiniodd yr Iesu iddynt. A phan welsant Ef, addolasant Ef; ond rhai a amheuasant. Ac wedi dyfod attynt, yr Iesu a lefarodd wrthynt, gan ddywedyd, Rhoddwyd i mi bob awdurdod yn y nef ac ar y ddaear. Gan fyned, gan hyny, gwnewch yn ddisgyblion yr holl genhedloedd, gan eu bedyddio hwynt i enw’r Tad a’r Mab a’r Yspryd Glân, gan eu dysgu i gadw pob peth o’r a orchymynais i chwi. Ac wele, Myfi, gyda chwi yr wyf bob amser hyd ddiwedd y byd. Dechreu efengyl Iesu Grist, Fab Duw. Fel yr ysgrifenwyd yn Eshaiah y prophwyd, “Wele, danfon yr wyf Fy nghennad o flaen Dy wyneb, Yr hwn a barottoa Dy ffordd o’th flaen.” “Llef un yn llefain Yn yr anialwch, parottowch ffordd Iehofah, Gwnewch yn uniawn Ei lwybrau Ef.” Daeth Ioan, yr hwn oedd yn bedyddio yn yr anialwch ac yn pregethu bedydd edifeirwch er maddeuant pechodau. Ac aeth allan atto holl wlad Iwdea, a phobl Ierwshalem i gyd, a bedyddiwyd hwy ganddo yn yr Iorddonen, gan gyffesu eu pechodau. Ac yr oedd Ioan wedi ei wisgo â blew camel, ac â gwregys croen am ei lwynau, ac yn bwytta locustiaid a mêl gwyllt; a phregethodd, gan ddywedyd, Dyfod y mae’r Hwn sydd gryfach na myfi, ar fy ol, i’r Hwn nid wyf deilwng, gan ymgrymu, i ddattod carrai Ei esgidiau. Myfi a’ch bedyddiais â dwfr; ond Efe a’ch bedyddia â’r Yspryd Glân. A bu yn y dyddiau hyny, y daeth yr Iesu o Natsareth yn Galilea, ac y bedyddiwyd Ef gan Ioan yn yr Iorddonen; ac yn uniawn, wrth ddyfod i fynu o’r dwfr, gwelodd y nefoedd yn ymrwygo, a’r Yspryd, fel colommen yn dyfod i lawr arno, a llef a ddaeth o’r nefoedd, Tydi wyt Fy Mab anwyl: Ynot Ti y’m boddlonwyd. Ac yn uniawn yr Yspryd a’i gyrrodd Ef allan i’r anialwch: a bu Efe yn yr anialwch ddeugain niwrnod, yn Ei demtio gan Satan; ac yr oedd gyda’r gwyllt-filod; ac yr angylion a weinient Iddo. Ac ar ol traddodi Ioan, daeth yr Iesu i Galilea, gan bregethu Efengyl Dduw, a dywedyd, Cyflawnwyd yr amser, a nesaodd teyrnas Dduw. Edifarhewch a chredwch yr Efengyl. Ac wrth rodio wrth fôr Galilea, gwelodd Shimon ac Andreas brawd Shimon, yn bwrw rhwyd yn y môr, canys yr oeddynt bysgodwyr. A dywedodd yr Iesu wrthynt, Deuwch ar Fy ol I, a gwnaf chwi i fyned yn bysgodwyr dynion. Ac yn uniawn, gan adael y rhwydau, canlynasant Ef. Ac wedi myned ychydig ymlaen, gwelodd Iago fab Zebedëus, ac Ioan ei frawd, a hwythau hefyd yn y cwch yn cyweirio’r rhwydau. Ac yn uniawn y galwodd hwynt; a chan adael eu tad Zebedëus yn y cwch ynghyda’r cyflog-ddynion, yr aethant ymaith ar Ei ol Ef. Ac aethant i mewn i Caphernahwm; ac yn uniawn, ar y Sabbath, wedi myned i mewn i’r sunagog, y dysgodd, a bu aruthr ganddynt o herwydd Ei ddysgad Ef; canys yr oedd yn eu dysgu hwynt fel un ag awdurdod ganddo, ac nid fel yr ysgrifenyddion. Ac yn uniawn yr oedd yn eu sunagog ddyn ag yspryd aflan, a gwaeddodd, gan ddywedyd, Pa beth sydd i ni a wnelom â Thi, Iesu o Natsareth? A ddaethost Ti i’n difetha ni? Adwaen i Ti pwy ydwyt, Sanct Duw. A dwrdiodd yr Iesu ef, gan ddywedyd, Taw, a thyred allan o hono. A’r yspryd aflan, gan ei rwygo ef, a chan lefain â llef fawr, a ddaeth allan o hono; a rhyfeddodd pawb, fel yr ymofynasant yn eu mysg eu hunain, gan ddywedyd, Pa beth yw hwn? Dysgad newydd! Gydag awdurdod hyd yn oed i’r ysprydion aflan y gorchymyn, ac ufuddhant Iddo. Ac aeth y sôn am Dano allan yn uniawn, ym mhob man, i’r holl wlad o amgylch Galilea. Ac yn uniawn, wedi myned allan o’r sunagog, yr aethant i dŷ Shimon. A chwegr Shimon oedd yn gorwedd yn glaf o’r cryd; ac yn uniawn y dywedasant Wrtho am dani hi; ac, wedi myned atti, cododd Efe hi, gan ymaflyd yn ei llaw, a gadawodd y cryd hi, a gwasanaethodd hi arnynt. A’r hwyr wedi dyfod, pan fachludodd yr haul, dygasant Atto yr holl rai drwg eu hwyl a’r rhai cythreulig. A’r holl ddinas oedd wedi ymgasglu wrth y drws. Ac iachaodd Efe lawer o rai drwg eu hwyl o amryw heintiau; a chythreuliaid lawer a fwriodd Efe allan; ac ni adawodd i’r cythreuliaid ddywedyd yr adwaenent Ef. A’r bore yn blygeiniol iawn, wedi codi o Hono, yr aeth allan, ac aeth i le anghyfaneddol, ac yno y gweddïodd; a daeth ar Ei ol Ef Shimon a’r rhai gydag ef; a chawsant Ef, a dywedasant Wrtho, y mae pawb yn Dy geisio Di. A dywedodd Efe wrthynt, Awn i le arall i’r trefi nesaf, fel y pregethwyf yno hefyd, canys i hyny y daethum allan, Ac aeth, gan bregethu i’w sunagogau hwynt, trwy holl Galilea, a’r cythreuliaid yn cael eu bwrw allan Ganddo. A daeth Atto ddyn gwahanglwyfus, gan ymbil ag Ef, a chan benlinio Iddo, a chan ddywedyd Wrtho, Os ewyllysi, gelli fy nglanhau. A chan dosturio, wedi estyn Ei law, cyffyrddodd Efe ag ef, a dywedodd wrtho, Ewyllysiaf, glanhaer di; ac yn uniawn yr ymadawodd y gwahanglwyf ag ef, a glanhawyd ef: ac wedi gorchymyn iddo yn gaeth, yn uniawn y danfonodd ef ymaith, a dywedodd wrtho, Gwel na ddywedi ddim wrth neb; eithr, dos ymaith; dangos dy hun i’r offeiriad; ac offrymma am dy lanhad y pethau a ordeiniodd Mosheh, yn dystiolaeth iddynt. Ac efe wedi myned allan a ddechreuodd gyhoeddi llawer a thanu’r gair ar led, fel na allai Efe mwy fyned yn amlwg i ddinas; eithr allan, mewn lleoedd anial yr oedd Efe; a daethant Atto o bob parth. Ac wedi myned trachefn i Caphernahwm wedi rhai dyddiau, clybuwyd Ei fod mewn tŷ; a chydymgasglodd llawer, fel na chynnwysai bellach hyd yn oed hyd at y drws mo honynt; a llefarodd Efe y Gair wrthynt. A daethant, gan ddwyn Atto ddyn claf o’r parlys, yr hwn a ddygid gan bedwar: a chan na allent nesau Atto o achos y dyrfa, didoi y tô a wnaethant lle’r oedd Efe; ac wedi torri trwodd, gollyngasant i wared y gorwedd-beth ar yr hwn yr oedd y claf o’r parlys yn gorwedd. A chan weled o’r Iesu eu ffydd hwynt, dywedodd wrth y claf o’r parlys, Ha fab, maddeuwyd dy bechodau di. Ac yr oedd rhai o’r ysgrifenyddion yno, yn eistedd ac yn ymresymmu yn eu calonau, Paham y mae hwn yn llefaru fel hyn? Cablu y mae. Pwy all faddeu pechodau oddieithr Un, sef Duw? Ac yn uniawn, gan weled o’r Iesu yn Ei yspryd mai felly yr ymresymment ynddynt eu hunain, dywedodd wrthynt, Paham y mae’r ymresymmiadau hyn genych yn eich calonau? Pa un sydd hawsaf, ai dywedyd wrth y claf o’r parlys, “Maddeuwyd dy bechodau,” neu ddywedyd, “Cyfod, a chymmer i fynu dy orweddfa, a rhodia?” Ond fel y gwypoch fod awdurdod gan Fab y Dyn, ar y ddaear i faddeu pechodau, (dywedodd wrth y claf o’r parlys) Wrthyt ti y dywedaf, Cyfod, cymmer i fynu dy orweddfa, a dos i’th dŷ. A chyfododd efe; ac yn uniawn wedi cymmeryd i fynu ei orweddfa, yr aeth allan yngwydd pawb, fel y synnodd pawb, ac y gogoneddasant Dduw, gan ddywedyd, nis gwelsom erioed fel hyn. Ac aeth allan drachefn wrth lan y môr: a’r holl dyrfa a ddaeth Atto, a dysgodd Efe hwynt. Ac wrth fyned heibio gwelodd Lefi fab Alphëus, yn ei eistedd wrth y dollfa, a dywedodd wrtho, Canlyn Fi; ac wedi codi o hono, canlynodd Ef. A bu lled-orwedd o Hono wrth y ford yn ei dŷ ef, a llawer o dreth-gymmerwyr a phechaduriaid a led-orweddent ynghyda’r Iesu a’i ddisgyblion, canys yr oedd llawer o honynt, a chanlynent Ef. Ac ysgrifenyddion y Pharisheaid, yn gweled Ei fod yn bwytta ynghyda’r pechaduriaid a threth-gymmerwyr, a ddywedasant wrth Ei ddisgyblion, Ynghyda threth-gymmerwyr a phechaduriaid y bwytty ac yr yf Efe. Ac wedi clywed hyn, yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Nid oes rhaid i’r rhai iach wrth feddyg; eithr i’r rhai drwg eu hwyl. Ni ddaethum i alw cyfiawnion, eithr pechaduriaid. A byddai disgyblion Ioan, ac y Pharisheaid, yn ymprydio: a daethant a dywedasant Wrtho, Paham y mae disgyblion Ioan, a disgyblion y Pharisheaid yn ymprydio, ond Dy ddisgyblion Di nid ymprydiant? A dywedodd yr Iesu wrthynt, A all meibion yr ystafell briodas, tra ynghyda hwynt y mae’r priodas-fab, ymprydio? Cymmaint amser ag y mae ganddynt y priodas-fab ynghyda hwynt, ni allant ymprydio: ond daw’r dyddiau pan ddygir y priodas-fab ymaith oddi wrthynt, ac yna yr ymprydiant yn y dydd hwnw. Nid oes neb yn gwnio darn o frethyn heb ei bannu at gochl hen: onite, cymmer y cyflawniad oddiwrtho, y newydd oddiwrth yr hen, a rhwyg gwaeth a wneir. Ac nid oes neb yn dodi gwin newydd mewn costrelau hen; onite, tyr y gwin y costrelau, ac am y gwin y derfydd, ac am y costrelau: eithr gwin newydd i gostrelau crai. A bu Ei fod ar y Sabbath yn myned trwy’r maesydd yd, a dechreuodd Ei ddisgyblion ymdaith gan dynu’r tywys; a’r Pharisheaid a ddywedasant Wrtho, Wele, Paham y gwnant ar y Sabbath yr hyn nid yw gyfreithlawn? A dywedodd Efe wrthynt, Oni fu i chwi erioed ddarllen pa beth a wnaeth Dafydd pan yr oedd angen a chwant bwyd arno, efe a’r rhai gydag ef? Y modd yr aeth i mewn i dŷ Dduw yn amser Abiathar yr archoffeiriad, a bara’r gosod ger bron a fwyttaodd efe, y rhai nid yw gyfreithlawn eu bwytta oddieithr i’r offeiriaid, ac y rhoddes hefyd i’r rhai oedd gydag ef. A dywedodd wrthynt, Y Sabbath, o achos dyn y’i gwnaethpwyd, ac nid dyn o achos y Sabbath, fel mai Arglwydd yw Mab y Dyn hyd yn oed ar y Sabbath. Ac aeth i mewn drachefn i’r sunagog: ac yr oedd yno ddyn a chanddo ei law wedi gwywo. A gwyliasant Ef ai ar y Sabbath yr iachaai ef, fel y cyhuddent Ef. A dywedodd Efe wrth y dyn yr oedd ganddo y llaw wedi gwywo, Cyfod i’r canol. A dywedodd wrthynt, Ai cyfreithlawn yw ar y Sabbath wneuthur da, neu ynte wneuthur drwg? cadw einioes neu ladd? A hwy a dawsant. Ac wedi edrych o amgylch arnynt gyda digter, gan ei boeni am galedrwydd eu calon, dywedodd wrth y dyn, Estyn allan dy law; ac estynodd efe hi allan, ac adferwyd ei law ef. Ac wedi myned allan o’r Pharisheaid, yn uniawn ynghyda’r Herodianiaid cynghor a gymmerasant yn Ei erbyn Ef, pa fodd y difethent Ef. A’r Iesu ynghyda’i ddisgyblion a giliodd at y môr; a thyrfa fawr o Galilea a’i canlynodd Ef: ac o Iwdea, ac o Ierwshalem, ac o Idwmea, ac o’r tu hwnt i’r Iorddonen, ac o amgylch Tyrus a Tsidon, tyrfa fawr, gan glywed cymmaint o bethau yr oedd Efe yn eu gwneuthur, a ddaeth Atto: a dywedodd Efe wrth Ei ddisgyblion am fod i gwch bach barhau yn agos oblegid y dyrfa, fel na wasgent Ef; canys llawer a iachasai Efe, fel y syrthiai Arno, er mwyn cyffwrdd ag Ef, gynnifer ag oedd a phlaau arnynt. A’r ysprydion aflan, pan Ef a welent, a syrthient i lawr ger Ei fron ac a waeddent, gan ddywedyd, Tydi wyt Fab Duw: a llawer y dwrdiodd Efe hwynt na wnaent Ef yn amlwg. Ac esgynodd i’r mynydd; a galwodd Atto y rhai a ewyllysiodd Efe; a daethant Atto: ac appwyntiodd ddeuddeg i fod gydag Ef, ac fel y danfonai hwynt i bregethu, ac i fod a chanddynt awdurdod i fwrw allan y cythreuliaid; a rhoddes ar Shimon yr enw Petr; ac Iago mab Zebedëus, ac Ioan brawd Iago, rhoddes hefyd arnynt hwy yr enw Boanerges, yr hyn yw Meibion y Daran; ac Andreas, a Philip, a Bartholemëus, a Matthew, a Thomas, ac Iago fab Alphëus, a Thaddëus, a Shimon y Cananead, ac Iwdas Ishcariot, yr hwn hefyd a’i traddododd Ef. A daethant i dŷ; a thrachefn y daeth y dyrfa ynghyd fel na allent hwy hyd yn oed fwytta bara. Ac wedi clywed o’i berthynasau, aethant allan i’w ddal Ef, canys dywedasant, Allan o’i bwyll y mae. A’r ysgrifenyddion, y rhai a ddaethent i wared o Ierwshalem, a ddywedasant, Beelzebub sydd Ganddo, a thrwy bennaeth y cythreuliaid y bwrw Efe allan y cythreuliaid. Ac wedi eu galw hwynt Atto, mewn damhegion y dywedodd wrthynt, Pa fodd y gall Satan fwrw allan Satan? Ac os teyrnas yn ei herbyn ei hun a ymranno, nid oes bosibl sefyll o’r deyrnas honno. Ac, os tŷ yn ei erbyn ei hun a ymranno, nid oes bosibl sefyll o’r tŷ hwnw. Ac os Satan a gododd yn ei erbyn ei hun ac ymrannu o hono, ni all sefyll, ond diwedd sydd iddo. Eithr ni fedr neb, wedi myned i mewn i dŷ’r cadarn, yspeilio ei dda ef, oni bydd iddo yn gyntaf rwymo’r cadarn, ac yna ei dŷ ef a yspeilia efe. Yn wir y dywedaf wrthych, Pob peth a faddeuir i feibion dynion, y pechodau ac y cableddau cynnifer ag a gablont; ond pwy bynnag a gablo yn erbyn yr Yspryd Glân, ni chaiff faddeuant yn dragywydd, eithr dyledwr yw i bechod tragywyddol; canys dywedasant, “Yspryd aflan sydd Ganddo.” A daeth Ei fam ac Ei frodyr, a chan sefyll tu allan, danfonasant Atto, gan Ei alw. Ac eisteddai tyrfa o’i amgylch Ef, a dywedasant Wrtho, Wele, Dy fam a’th frodyr Di tu allan a’th geisiant Di. A chan atteb iddynt, dywedodd, Pwy yw Fy mam I ac Fy mrodyr? Ac wedi edrych o amgylch ar y rhai oedd yn eistedd o’i gwmpas Ef, dywedodd, Wele Fy mam I a’m brodyr; canys pwy bynnag a wnelo ewyllys Duw, hwnw, brawd i Mi, a chwaer, a mam yw. A thrachefn y dechreuodd ddysgu yn ymyl y môr; ac ymgasglodd Atto dyrfa ddirfawr, fel y bu Iddo, wedi myned i’r cwch, eistedd ar y môr; a’r holl dyrfa, yn ymyl y môr, ar y tir yr oeddynt. A dysgodd iddynt, mewn damhegion, lawer o bethau; a dywedodd wrthynt yn Ei ddysgad, Gwrandewch. Wele, allan yr aeth yr hauwr i hau. A bu wrth hau o hono, peth a syrthiodd ar ymyl y ffordd; a daeth yr ehediaid, a bwyttasant ef. Ac arall a syrthiodd ar y creigle, lle ni chafodd ddaear lawer, ac yn uniawn yr eginodd, am nad oedd iddo ddyfnder daear; a phan gododd yr haul, llosgwyd ef; a chan nad oedd ganddo wreiddyn, gwywodd. Ac arall a syrthiodd ymhlith y drain; a daeth y drain i fynu, a thagasant ef, a ffrwyth ni roddes efe. Ac eraill a syrthiasant ar y tir da; a rhoddasant ffrwyth, gan dyfu i fynu a chynnyrchu; a dygasant, yn ddeg ar hugain, ac yn dri ugain, ac yn gant. A dywedodd Efe, Yr hwn sydd a chanddo glustiau i wrando, gwrandawed. A phan yr oedd Efe ar Ei ben Ei hun, gofynodd y rhai o’i amgylch ynghyda’r deuddeg Iddo am y damhegion; a dywedodd wrthynt, I chwi y mae dirgelwch teyrnas Dduw wedi ei roddi; ond iddynt hwy, y rhai tu allan, mewn damhegion y mae’r cwbl, fel yn gweled y gwelont ac na chanfyddont; ac yn clywed y clywont ac na ddeallont; rhag ysgatfydd iddynt ddychwelyd ac y maddeuer iddynt. A dywedodd wrthynt, Oni wyddoch y ddammeg hon? A pha fodd y bydd yr holl ddamhegion yn hysbys i chwi? Yr hauwr, y Gair y mae efe yn ei hau; a’r rhai hyn yw’r rhai ar ymyl y ffordd lle’r hauir y Gair, a phan glywont, yn uniawn dyfod y mae Satan, ac yn dwyn ymaith y Gair a hauwyd ynddynt. A’r rhai hyn ydynt, yr un ffunud, y rhai a hauwyd ar y creigleoedd, y rhai pan glywont y Gair, yn uniawn gyda llawenydd y derbyniant ef, ac nid oes ganddynt wreiddyn ynddynt eu hunain, eithr am amser y maent: wedi hyny, pan gyfodo blinder neu erlid o achos y Gair, yn uniawn y tramgwyddir hwy. Ac eraill sydd, y rhai a hauwyd ymhlith y drain; y rhai hyn yw y rhai a glywant y Gair, a phryder y byd a thwyll golud, ac y chwantau am y pethau eraill, gan ddyfod i mewn, a dagant y Gair; ac yn ddiffrwyth y mae efe yn myned. A’r rhai hyn yw y rhai a hauwyd ar y tir da; y rhai a glywant y Gair ac a’ i derbyniant, ac a ddygant ffrwyth, yn ddeg ar hugain, yn dri ugain, ac yn gant. A dywedodd wrthynt, A fydd y llusern yn dyfod fel tan y llestr y’i doder, neu dan y gwely? Onid fel ar safle’r llusern y’i doder? Canys nid oes dim cuddiedig, oddieithr fel yr amlyger ef, na dim wedi ei wneuthur yn ddirgel, ond fel y deuai i’r amlwg. Os yw neb a chanddo glustiau i wrando, gwrandawed. A dywedodd wrthynt, Edrychwch pa beth a glywch. A pha fesur y mesurwch, y mesurir i chwi; a rhoddir yn ychwaneg i chwi; canys yr hwn sydd a chanddo, rhoddir iddo; a’r hwn sydd heb ganddo, hyd yn oed yr hyn sydd ganddo a ddygir oddi arno. A dywedodd, Fel hyn y mae teyrnas Dduw, fel pe bai dyn yn bwrw’r had ar y ddaear; a chysgu, a chodi nos a dydd, ac yr had a egina ac a dyfa, y modd na wyr efe; canys o honi ei hun y mae’r ddaear yn dwyn ffrwyth, yn gyntaf yr eginyn, ar ol hyny y dywysen, ar ol hyny y llawn ŷd yn y dywysen: a phan ganiattao y ffrwyth, yn uniawn y denfyn efe y cryman, o herwydd dyfod o’r cynhauaf. A dywedodd, Pa fodd y cyffelybwn deyrnas Dduw? Ac ym mha ddammeg ygosodwn hi? Cyffelybwn hi i ronyn o had mwstard, yr hwn pan hauer yn y ddaear, y lleiaf o’r holl hadau ar y ddaear yw; ac wedi’r hauer, myned i fynu y mae, ac yn myned yn fwy na’r holl lysiau, ac yn dwyn canghennau mawrion, fel tan ei gysgod y gall ehediaid y nefoedd lettya. Ac â chyfryw ddamhegion lawer y llefarodd iddynt y Gair, fel yr oeddynt yn medru Ei glywed, ac heb ddammeg ni lefarodd wrthynt: ond o’r neilldu i’w ddisgyblion yr esponiodd bob peth. A dywedodd wrthynt y dydd hwnw, a’r hwyr wedi dyfod, Awn trosodd i’r tu draw. Ac wedi gollwng ymaith y dyrfa, cymmerasant Ef yn ebrwydd i’r cwch. Ac yr oedd cychod eraill gydag Ef. A digwyddodd tymhestl fawr o wynt, a’r tonnau a gurent i’r cwch, fel mai llenwi yn awr yr oedd y cwch: ac Efe oedd yn y pen ol i’r cwch, yn cysgu ar y gobennydd. A deffroisant Ef, a dywedasant Wrtho, Athraw, onid gwaeth Genyt ein bod ar ddarfod am danom? Ac wedi codi o Hono, dwrdiodd y gwynt, a dywedodd wrth y môr, Gostega; distawa. A pheidiodd y gwynt; a bu tawelwch mawr. A dywedodd Efe wrthynt, Paham mai ofnog ydych? Onid oes genych etto ffydd? Ac ofnasant ag ofn mawr, a dywedasant wrth eu gilydd, Pwy, ynte, yw Hwn, gan fod hyd yn oed y gwynt a’r môr yn ufuddhau iddo? A daethant i’r tu hwnt i’r môr i wlad y Geraseniaid. Ac wedi myned o Hono allan o’r cwch, yn uniawn y cyfarfu ag Ef, o’r beddau, ddyn ag yspryd aflan ynddo, yr hwn oedd a’i drigfan yn y beddau; ac nid â chadwyn, ddim mwy, y gallai neb ei rwymo ef, gan y bu iddo yn fynych ei rwymo â llyffetheiriau a chadwynau, ac y rhwygwyd y cadwynau ganddo, a’r llyffetheiriau a ddrylliwyd, ac nid oedd neb yn gallu ei ddofi ef; ac o’r hyd, nos a dydd, yn y beddau ac ar y mynyddoedd yr oedd efe yn gwaeddi ac yn ei dorri ei hun â cherrig. Ac wedi gweled yr Iesu o hirbell, rhedodd ac ymochreiniodd Iddo, a chan waeddi â llef fawr, dywedodd, Pa beth sydd i mi a wnelwyf â Thi, Iesu, Fab y Duw Goruchaf? Tynghedaf Di, trwy Dduw, na phoenech mo honof fi; canys dywedasai wrtho, Tyred allan, yr yspryd aflan, o’r dyn. A gofynodd iddo, Pa beth yw dy enw di? A dywedodd yntau Wrtho, Lleng yw fy enw, canys llawer ydym. Ac ymbiliodd ag Ef yn ddirfawr, na yrrai mo honynt allan o’r wlad. Ac yr oedd yno ar y mynydd genfaint fawr o foch, yn pori. Ac ymbiliasant ag Ef, gan ddywedyd, Danfon ni i’r moch, fel yr elom i mewn iddynt. A chaniattaodd Efe iddynt. Ac wedi dyfod allan, yr ysprydion aflan a aethant i mewn i’r moch, a rhuthrodd y genfaint i lawr y dibyn, i’r môr, ynghylch dwy fil o honynt, a thagwyd hwy yn y môr. A’r rhai a’u porthent a ffoisant ac a fynegasant y peth yn y ddinas ac yn y wlad; a daethant hwy i weled pa beth oedd yr hyn a ddigwyddasai. A daethant at yr Iesu, a gwelsant y cythreulig yn ei eistedd, wedi ei ddilladu, ac yn ei iawn bwyll, yr hwn a fuasai â’r lleng ynddo; ac ofnasant. Ac wrthynt y mynegodd y rhai a welsent, pa fodd y digwyddasai i’r cythreulig, ac am y moch. A dechreuasant ymbil ag Ef i fyned ymaith o’u goror hwynt. Ac wrth fyned o Hono i’r cwch, ymbiliodd y gynt-gythreulig ag Ef am iddo fod gydag Ef; ond ni adawodd Efe iddo, eithr dywedodd wrtho, Dos i’th dŷ, at dy berthynasau, a mynega iddynt pa faint o bethau y bu i’r Arglwydd eu gwneuthur erot ti, a thrugarhau o Hono wrthyt. Ac aeth efe ymaith, a dechreuodd gyhoeddi yn Decapolis pa faint o bethau a wnaeth yr Iesu iddo; a phawb a ryfeddent. Ac wedi myned trosodd o’r Iesu yn y cwch, yn Ei ol, i’r lan arall, ymgasglodd tyrfa fawr Atto: ac yr oedd Efe wrth y môr. A daeth un o bennaethiaid y sunagog, a’i enw Iaïr, a phan welodd Ef, syrthiodd wrth Ei draed, ac ymbiliodd ag Ef lawer, gan ddywedyd, Fy merch fechan sydd ar drangc: attolwg i Ti ddyfod a dodi dy ddwylaw arni, fel yr iachaer hi a byw. Ac aeth Efe ymaith gydag ef; a chanlynai tyrfa fawr Ef, a gwasgent Ef. A gwraig, yr hon a fuasai mewn diferlif gwaed ddeuddeng mlynedd, ac a ddioddefasai lawer gan lawer o feddygon, ac a dreuliasai yr oll oedd ar ei helw, ac heb ei llesau ddim, eithr yn waeth-waeth yr elsai, ac wedi clywed y pethau am yr Iesu, ac wedi myned yn y dyrfa o’r tu ol Iddo, cyffyrddodd a’i gochl Ef, canys dywedasai, Os cyffyrddaf ond â’i ddillad, iach fyddaf. Ac yn uniawn y sychodd ffynhonell ei gwaed, a gwybu hi yn ei chorph yr iachawyd hi o’r tarawiad. Ac yn uniawn yr Iesu wedi canfod Ynddo Ei Hun y gallu yn myned allan o Hono, wedi troi yn y dyrfa, a ddywedodd, pwy a gyffyrddodd â’m dillad I? A dywedodd ei ddisgyblion Wrtho, Gweli y dyrfa yn Dy wasgu Di, ac a ddywedi Di, Pwy a gyffyrddodd â Myfi? Ac edrychodd o amgylch i weled yr hon a wnaethai hyn; ac y wraig, gan ofni a chrynu, yn gwybod yr hyn a ddigwyddasai iddi, a ddaeth ac a syrthiodd ger Ei fron Ef, ac a ddywedodd Wrtho yr holl wirionedd. Ac Efe a ddywedodd wrthi, Ha ferch, dy ffydd a’th iachaodd di; dos mewn heddwch, a bydd iach o’th darawiad. Ac Efe etto yn llefaru, daeth o dŷ yr arch-sunagogydd rai yn dywedyd, Y mae dy ferch wedi marw; paham yr aflonyddi yr Athraw mwy? A’r Iesu, gan esgeuluso gwrando y gair a ddywedasid, a ddywedodd wrth yr arch-sunagogydd, Nac ofna, yn unig cred; ac ni adawodd i neb ganlyn ynghydag Ef oddieithr Petr, ac Iago, ac Ioan brawd Iago. A daethant i dŷ yr arch-sunagogydd, a gwelodd Efe gynnwrf, a rhai yn gwylo ac yn ochain lawer. Ac wedi myned i mewn, dywedodd wrthynt, Paham y gwnewch gynnwrf, ac y gwylwch. Y plentyn ni fu farw, eithr cysgu y mae. A chwarddasant am Ei ben Ef. Ond Efe, gwedi bwrw pawb allan, a gymmerth gydag Ef dad y plentyn, ac ei mam, a’r rhai oedd gydag Ef, ac aeth i mewn lle’r oedd y plentyn; ac wedi ymaflyd yn llaw y plentyn, dywedodd wrthi, Talitha, cwmi, yr hwn yw, o’i gyfieithu, Yr eneth (wrthyt y dywedaf) cyfod. Ac yn uniawn, safodd yr eneth i fynu, a rhodiodd; canys yr oedd hi yn ddeuddeng mlwydd oed. A synnasant yn uniawn â syndod mawr; a gorchymynodd Efe lawer na fyddai i neb wybod hyn; a rhoes air y rhoddid iddi beth i’w fwytta. Ac aeth allan oddi yno a daeth i’w wlad Ei hun; a chanlynodd Ei ddisgyblion Ef. Ac wedi dyfod y Sabbath, dechreuodd ddysgu yn y sunagog; a chan lawer, wrth Ei glywed, y bu aruthr, gan ddywedyd, O ba le y mae gan Hwn y pethau hyn? a, Pa beth yw’r doethineb a roddwyd Iddo, ac y gwyrthiau o’r fath y sydd trwy ei ddwylaw Ef yn digwydd? Onid Hwn yw’r saer, mab Mair, a brawd Iago ac Ioses ac Iwdas a Shimon? Ac onid yw Ei chwiorydd Ef yma gyda ni? A thramgwyddwyd hwynt Ynddo. A dywedodd yr Iesu wrthynt, Nid yw prophwyd yn ddianrhydedd oddieithr yn ei wlad ei hun, ac ymhlith ei berthynasau ei hun, ac yn ei dŷ ei hun. Ac yno ni allai wneuthur dim gwyrthiau, oddieithr gan roi Ei ddwylaw ar ychydig gleifion, eu hiachau hwynt. A rhyfeddodd o herwydd eu hangrediniaeth; ac aeth i’r pentrefi oddi amgylch, gan ddysgu. A galwodd Atto y deuddeg, a dechreuodd eu danfon hwynt bob yn ddau a dau; a rhoddodd iddynt awdurdod ar yr ysprydion aflan; a gorchymynodd iddynt na chymmerent ddim i’ r daith oddieithr ffon yn unig, ddim bara, ddim ysgrepan, ddim arian yn eu gwregys; eithr â sandalau am eu traed; ac, Nac ymwisgwch â dau gochl. A dywedodd wrthynt, Pa le bynnag yr eloch i mewn i dŷ, yno arhoswch hyd onid eloch allan oddi yno. A pha le bynnag ni’ch derbyn, ac ni chlywant chwi, wrth fyned allan oddi yno, ysgydwch ymaith y llwch y sydd tan eich traed, yn dystiolaeth iddynt. Ac wedi myned allan pregethasant ar edifarhau o honynt. A chythreuliaid lawer a fwriasant hwy allan; ac enneiniasant ag olew lawer o gleifion, ac a’u hiachasant. A chlywodd y brenhin Herod, canys amlwg oedd Ei enw, a dywedodd, Ioan, yr hwn oedd yn bedyddio, a gyfododd o feirw, ac o achos hyny y gweithia’r gwyrthiau ynddo. Ac eraill a ddywedasant, Elias yw. Ac eraill a ddywedasant, Prophwyd yw, fel un o’r prophwydi. Ac wedi clywed o Herod, dywedodd, Yr hwn y torrais i ei ben, Ioan, efe a gyfododd; canys efe, Herod, a ddanfonodd ac a ddaliodd Ioan, ac a rwymodd ef yngharchar, o achos Herodias, gwraig Philip ei frawd, canys honno a briodasai efe. Canys dywedodd Ioan wrth Herod, Nid cyfreithlawn yw i ti fod a chenyt wraig dy frawd. Ac Herodias a ddaliodd wg iddo, ac a ewyllysiodd ei ladd ef; ac ni allai; canys Herod a ofnai Ioan, gan wybod ei fod yn ŵr cyfiawn a sanctaidd, ac a’i cadwai ef; ac wedi ei glywed ef, llawer yr ammeuai, a da oedd ganddo ei glywed ef. Ac wedi dyfod diwrnod cyfaddas, pan fu i Herod, ar ei ddydd genedigaeth, wneuthur swpper i’w bennaethiaid, a’i filwriaid, ac i oreugwyr Galilea, ac wedi dyfod i mewn o’i merch hi, Herodias, ac wedi dawnsio o honi, boddhaodd Herod a’r rhai yn lled-orwedd gydag ef wrth y ford; a’r brenhin a ddywedodd wrth y llangces, Gofyn i mi pa beth bynnag a ewyllysi, a rhoddaf ef i ti; a thyngodd iddi, Pa beth bynnag a ofyni, rhoddaf ef i ti, hyd hanner fy nheyrnas. Ac wedi myned allan o honi, dywedodd wrth ei mam, Pa beth a ofynaf? A hi a ddywedodd, Pen Ioan y sy’n bedyddio. Ac wedi myned i mewn yn uniawn, ar frys, at y brenhin, gofynodd, gan ddywedyd, Ewyllysiaf am i ti, allan o law, roddi i mi, ar ddysgl, ben Ioan Fedyddiwr. Ac wedi myned yn dra athrist, y brenhin, o achos ei lwon a’r rhai yn lled-orwedd wrth y ford, nid ewyllysiai ei diystyru hi. Ac yn uniawn, gan ddanfon o’r brenhin lys-filwr, gorchymynodd ddwyn ei ben ef ar ddysgl. Ac wedi myned ymaith torrodd hwnw ei ben ef yn y carchar, a daeth â’i ben ef ar ddysgl, a rhoddodd ef i’r llangces, a’r llangces a’i rhoddodd i’w mam. Ac wedi clywed o’i ddisgyblion, daethant a chymmerasant i fynu ei gelain, a dodasant hi mewn bedd. Ac ymgasglodd yr apostolion at yr Iesu, a mynegasant Iddo yr holl bethau, cynnifer ag a wnaethant ac a ddysgasant. A dywedodd wrthynt, Deuwch chwi eich hunain o’r neilldu i le anial, a gorphwyswch ychydig, canys y rhai yn dyfod ac yn myned oeddynt lawer, ac hyd yn oed i fwytta nid oedd ganddynt amser cyfaddas: ac aethant ymaith yn y cwch i le anial o’r neilldu. A gwelid hwynt yn cilio, ac Ei adnabod Ef a fu gan laweroedd; ac o’r holl ddinasoedd y rhedasant yno ar draed, a rhagflaenasant hwynt. Ac wedi myned allan, gwelodd Efe dyrfa fawr, a thosturiodd wrthynt, canys yr oeddynt fel defaid heb ganddynt fugail; a dechreuodd ddysgu iddynt lawer o bethau. Ac weithian, yr awr wedi myned yn hwyr, wedi dyfod o’i ddisgyblion Atto, dywedasant, Anial yw’r lle, ac weithian yr awr sydd hwyr: gollwng hwynt ymaith, fel, wedi myned i’r wlad oddi amgylch ac i’r pentrefi, y prynont iddynt eu hunain beth i’ w fwytta. Ac Efe, gan atteb, a ddywedodd wrthynt, Rhoddwch chwi iddynt beth i’ w fwytta. A dywedasant Wrtho, Wedi myned ymaith, a brynwn ni werth deucan denar o fara, a’i roddi iddynt i’w fwytta? Ac Efe a ddywedodd wrthynt, Pa sawl torth sydd genych? Ewch; edrychwch. A phan wyddent, dywedasant, Pump, a dau bysgodyn. A gorchymynodd iddynt am i bawb led-orwedd, yn fyrddeidiau a byrddeidiau, ar y glaswellt. A lled-orweddasant yn rhesau a rhesau, yn gannoedd ac yn ddeg a deugeiniau. Ac wedi cymmeryd y pum torth a’r ddau bysgodyn, gan edrych i fynu tua’r nef, bendithiodd, a thorrodd y torthau: a rhoddodd i’r disgyblion, fel y gosodent ger eu bronnau hwynt: ac y ddau bysgodyn a rannodd Efe rhyngddynt oll. A bwyttasant, bawb o honynt, a digonwyd hwynt. A chodasant y briwfwyd, llonaid deuddeg basged, ac o’r pysgod. Ac yr oedd y rhai a fwyttasant y torthau, yn bum mil o wŷr. Ac yn uniawn y cymhellodd Efe Ei ddisgyblion i fyned i’r cwch, a myned o’r blaen i’r lan arall, i Bethtsaida, tra fyddai Efe yn gollwng ymaith y dyrfa. Ac wedi canu yn iach iddynt, aeth ymaith i’r mynydd i weddïo. A’r hwyr wedi dyfod, yr oedd y cwch ar ganol y môr, ac Efe ar Ei ben Ei hun ar y tir. A chan eu gweled hwynt yn flin arnynt yn rhwyfo, canys yr oedd y gwynt yn eu herbyn, ynghylch y bedwaredd wylfa o’r nos daeth attynt, dan rodio ar y môr, ac ewyllysiai fyned heibio iddynt. A hwythau, gan Ei weled Ef ar y môr, yn rhodio, a dybiasant mai drychiolaeth ydoedd, a gwaeddasant, canys yr oll o honynt a’i gwelsant Ef, ac a gythryflwyd. Ac Efe yn uniawn a lefarodd â hwynt, ac a ddywedodd wrthynt, Byddwch hyderus, Myfi yw: Nac ofnwch. Ac esgynodd attynt i’r cwch; a thawelodd y gwynt; ac yn ddirfawr y synnasant ynddynt eu hunain, canys ni ddeallent am y torthau, ac yr oedd eu calon wedi caledu. Ac wedi myned trosodd o honynt, daethant i dir, i Gennesaret, ac angorasant. Ac wedi dyfod o honynt allan o’r cwch, yn uniawn, gan Ei adnabod Ef, y rhedasant o amgylch yr holl oror hwnw, a dechreuasant ddwyn oddi amgylch, ar eu gorwedd-bethau, y rhai drwg eu hwyl, i ba le y clywent Ei fod Ef. Ac i ba le bynnag yr elai Efe i mewn, i bentrefi, neu ddinas, neu wlad, yn y marchnadoedd y gosodent y cleifion, ac attolygent Iddo am gyffwrdd o honynt ag hyd yn oed ymyl Ei gochl Ef: a chynnifer ag a gyffyrddasant ag Ef a iachawyd. Ac ymgasglodd Atto y Pharisheaid a rhai o’r ysgrifenyddion, wedi dyfod o Ierwshalem: ac wedi gweled rhai o’i ddisgyblion Ef mai â dwylaw cyffredin (hyny yw, heb eu golchi), y bwyttaent eu bwyd, (canys y Pharisheaid a’r holl Iuddewon, oni ddyfal-olchant eu dwylaw, ni fwyttant, gan ddal traddodiad yr hynafiaid: a phan o’r farchnad y deuant, onid ymolchant ni fwyttant; a llawer peth arall sydd a gymmerasant i’w cadw, golchiad cwppanau ac ystenau ac efyddynau;) gofynodd y Pharisheaid a’r ysgrifenyddion Iddo, Paham nad yw Dy ddisgyblion yn rhodio yn ol traddodiad yr hynafiaid, ond â dwylaw cyffredin y bwyttant eu bara? Ac Efe a ddywedodd wrthynt, Da y prophwydodd Eshaiah am danoch chwi y rhagrithwyr, fel yr ysgrifenwyd, “Y bobl hyn, â’u gwefusau yr anrhydeddant Fi, Ond eu calon, pell yw Oddiwrthyf; Ond yn ofer yr addolant Fi, Gan ddysgu yn athrawiaethau orchymynion dynion.” Gan adael heibio orchymyn Duw, dal yr ydych draddodiad dynion. A dywedodd wrthynt, Gwych y diystyrwch orchymyn Duw, fel mai eich traddodiad a gadwoch; canys Mosheh a ddywedodd, “Anrhydedda dy dad a’th fam,” ac, “Yr hwn a felldithio ei dad neu ei fam, â marwolaeth bydded iddo farw.” Ond chwychwi a ddywedwch, Os dywaid dyn wrth ei dad neu ei fam, Corban (yr hwn yw Rhodd) yw pa beth bynnag y buasai i ti gael lles trwyddo oddiwrthyf, nid ydych mwyach yn gadael iddo wneuthur dim byd i’w dad neu i’w fam, gan ddirymmu Gair Duw â’ch traddodiad, yr hwn a draddodasoch. A chyffelyb bethau o’r un fath, llawer o honynt yr ydych yn eu gwneuthur. Ac wedi galw Atto y dyrfa drachefn, dywedodd wrthynt, Gwrandewch Arnaf, bawb, a deallwch. Nid oes dim gan fyned o’r tu allan i ddyn i’r tu mewn iddo, a all ei halogi ef; eithr y pethau sy’n dyfod allan yw’r rhai sy’n halogi’r dyn. A phan aeth i mewn i dŷ oddiwrth y dyrfa, gofynodd Ei ddisgyblion Iddo am y ddammeg; a dywedodd wrthynt, A ydych chwithau hefyd mor ddiddeall? Oni ddeallwch am bob peth sy’n myned o’r tu allan i’r tu mewn i’r dyn, na all efe ei halogi ef, gan nad yw yn myned i mewn i’r galon, eithr i’r bol, ac i’r geudy y mae yn myned allan; gan lanhau o hono yr holl fwydydd? A dywedodd, Yr hyn y sy’n dyfod allan o ddyn, hyny sydd yn halogi’r dyn; canys oddi mewn, allan o galon dynion, y mae meddyliau drwg yn dyfod allan, putteindra, lladradau, llofruddiaethau, tor-priodasau, cybydd-dod, drygioni, twyll, anlladrwydd, drwg-lygad, cableddau, balchder, ynfydrwydd; yr holl bethau drwg hyn, oddi mewn y deuant allan, ac halogant y dyn. Ac oddiyno, ar ol cyfodi, yr aeth ymaith i gyffiniau Tyrus a Tsidon; ac wedi myned i mewn i dŷ, ewyllysiodd na fyddai i neb wybod; ac ni allai fod yn guddiedig; eithr yn uniawn, wedi clywed am Dano gan wraig, merch fechan yr hon oedd ag yspryd aflan ynddi, wedi dyfod o honi syrthiodd wrth Ei draed Ef. Ac yr oedd y wraig yn Roeges, Surophenesiad o genedl; a gofynodd Iddo fwrw’r cythraul allan o’i merch. A dywedodd Efe wrthi, Gad yn gyntaf y digoner y plant, canys nid da yw cymmeryd bara’r plant a’ i daflu i’r cenawon cwn. A hithau a attebodd ac a ddywedodd Wrtho, Felly, Arglwydd; ac y cenawon cwn, tan y bwrdd, a fwyttant o friwsion y plant. A dywedodd Efe wrthi, Am y gair hwn, dos ymaith; aeth y cythraul allan o’th ferch di. Ac wedi myned ymaith i’w thŷ, cafodd y plentyn wedi ei bwrw ar y gwely, a’r cythraul wedi myned allan. Ac wedi myned allan trachefn o gyffiniau Tyrus, daeth trwy Tsidon at fôr Galilea, trwy ganol cyffiniau Decapolis. A dygasant Atto ddyn byddar ac attal dywedyd arno; ac attolygasant Iddo ddodi arno Ei law. Ac wedi ei gymmeryd ef allan o’r dyrfa, o’r neilldu, rhoddodd Ei fysedd yn ei glustiau ef; ac, wedi poeri o Hono, cyffyrddodd â’i dafod ef; a chan edrych i fynu i’r nef, ocheneidiodd, a dywedodd wrtho, Ethpatach, yr hyn yw, Agorer di: ac agorwyd ei glustiau ef, gollyngwyd rhwym ei dafod, a llefarodd efe yn iawn. A gorchymynodd Efe iddynt na ddywedent wrth neb; ond po mwyaf y gorchymynodd Efe iddynt, mwy dros ben y cyhoeddasant; a bu aruthr dros ben ganddynt, gan ddywedyd, Da y gwnaeth Efe bob peth; a gwneud y mae i’r byddariaid glywed ac i’r mudion lefaru. Yn y dyddiau hyny trachefn, a’r dyrfa yn fawr, ac heb ganddynt yr hyn a fwyttaent, wedi galw Atto Ei ddisgyblion, dywedodd wrthynt, Tosturio yr wyf wrth y dyrfa, canys weithian tridiau sydd y maent yn aros gyda Mi, ac nid oes ganddynt yr hyn a fwyttant; ac os gollyngaf hwynt ymaith ar eu cythlwng i’w teiau, llewygent ar y ffordd; a rhai o honynt, o hirbell y daethant. Ac attebodd Ei ddisgyblion Iddo, O ba le y gall neb ddigoni y rhai hyn â thorthau mewn anialwch? A gofynodd iddynt, Pa sawl torth sydd genych? A hwy a ddywedasant, Saith. A gorchymynodd i’r dyrfa led-orwedd ar y ddaear; ac wedi cymmeryd y saith dorth a rhoddi diolch, torrodd hwynt, a rhoddodd i’w ddisgyblion, fel y gosodent ger eu bronnau: a gosodasant ger bron y dyrfa. Ac yr oedd ganddynt ychydig bysgod bychain; ac wedi eu bendithio hwynt, dywedodd am eu rhoddi hwynt hefyd ger bron. A bwyttasant, a digonwyd hwynt: a chymmerasant i fynu yr hyn oedd dros ben o friw-fwyd, saith gawellaid. Ac yr oeddynt ynghylch pedair mil; a gollyngodd Efe hwynt ymaith. Ac wedi myned yn uniawn i’r cwch ynghyda’i ddisgyblion, aeth i barthau Dalmanwtha. Ac aeth y Pharisheaid allan, a dechreuasant ymholi ag Ef, gan geisio Ganddo arwydd o’r nef, gan Ei demtio. Ac wedi ocheneidio yn Ei yspryd, dywedodd, Paham y mae’r genhedlaeth hon yn ceisio arwydd? Yn wir y dywedaf wrthych, Ni roddir i’r genhedlaeth hon arwydd. Ac wedi eu gadael, gan fyned trachefn i’r cwch, aeth ymaith i’r lan arall. Ac anghofiasant gymmeryd torthau, ac nid oedd ganddynt oddieithr un dorth ynghyda hwynt yn y cwch. A gorchymynodd Efe iddynt, gan ddywedyd, Edrychwch; ymogelwch rhag surdoes y Pharisheaid a surdoes Herod. Ac ymresymmasant wrth eu gilydd, gan ddywedyd, Torthau nid oes genym. A chan wybod o’r Iesu, dywedodd wrthynt, Paham yr ymresymmwch am nad oes torthau genych? Onid ydych etto yn ystyried nac yn deall? Ai wedi ei chaledu y mae eich calon genych? A llygaid genych, oni welwch? A chlustiau genych, oni chlywch? Ac oni chofiwch? Pan y pum torth a dorrais i’r pum mil, pa sawl basgedaid yn llawn o friw-fwyd a gymmerasoch i fynu? Dywedasant Wrtho, Deuddeg. A phan y saith a dorrais i’r pedair mil, llonaid pa sawl cawell o friw-fwyd a gymmerasoch i fynu? A dywedasant Wrtho, Saith. A dywedodd wrthynt, Onid ydych etto yn deall? A daethant i Bethtsaida. A dygasant Atto ddyn dall; a deisyfiasant Arno ar Iddo gyffwrdd ag ef. Ac wedi ymaflyd yn llaw y dall, cymmerodd ef allan o’r pentref. Ac wedi poeri o Hono i’w lygaid ef, a rhoddi Ei ddwylaw arno, gofynodd iddo, A weli di ryw beth? Ac wedi edrych i fynu, dywedodd, Gwelaf ddynion, fel preniau y gwelaf hwynt, yn rhodio. Yna y rhoddodd Efe trachefn Ei ddwylaw ar ei lygaid ef; a gwelodd efe yn drwyadl, ac adferwyd ef, a gwelodd bob peth yn eglur. A danfonodd Efe ef i’w dŷ, gan ddywedyd, I’r pentref na ddos i mewn. Ac aeth yr Iesu a’i ddisgyblion allan i bentrefi Cesarea Philippi. Ac ar y ffordd gofynodd i’w ddisgyblion, Pwy y dywaid dynion Fy mod I? A hwy a lefarasant Wrtho, gan ddywedyd, Ioan Fedyddiwr; ac eraill, Elias; ac eraill, Un o’r prophwydi. Ac Efe a ofynodd iddynt, A chwychwi, pwy y dywedwch Fy mod I? Gan atteb, Petr a ddywedodd Wrtho, Tydi wyt y Crist. A dwrdiodd hwynt na ddywedent wrth neb am Dano. A dechreuodd eu dysgu hwynt, Y mae rhaid i Fab y Dyn oddef llawer, ac Ei wrthod gan yr henuriaid a’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion, ac Ei ladd, ac ar ol tridiau adgyfodi. Ac yn eglur y llefarodd Efe y gair hwn. Ac wedi Ei gymmeryd Ef atto, Petr a ddechreuodd Ei ddwrdio Ef. Ac wedi troi o Hono, a chan weled Ei ddisgyblion, dwrdiodd Petr, a dywedodd, Dos yn fy ol I, Satan, canys nid synied pethau Duw yr wyt, eithr pethau dynion. Ac wedi galw y dyrfa Atto ynghyd a’i ddisgyblion, dywedodd wrthynt, Os yw neb yn ewyllysio dyfod ar Fy ol I, ymwaded ag ef ei hun, a chymmered i fynu ei groes, a chanlyned Fi; canys pwy bynnag a ewyllysio gadw ei einioes, a’i cyll hi; a phwy bynnag a gollo ei einioes o’m hachos I a’r efengyl a’i ceidw hi: canys pa beth y llesa ddyn fod wedi ynnill y byd oll a chael coll o’i enaid? Canys pa beth a roddai dyn yn gyfnewid am ei enaid? Canys pwy bynnag fo ag arno gywilydd o Myfi a’m geiriau Yn y genhedlaeth odinebus a phechadurus hon; Mab y Dyn hefyd fydd ag Arno gywilydd o hono ef, Pan ddaw yngogoniant Ei Dad ynghyda’r angylion sanctaidd. A dywedodd wrthynt, Yn wir y dywedaf wrthych, Y mae rhai yma, o’r rhai sy’n sefyll ger llaw, y rhai ni phrofant mo angau, nes gweled o honynt deyrnas Dduw yn dyfod mewn nerth. Ac wedi chwe diwrnod, cymmerodd yr Iesu Atto Petr ac Iago ac Ioan, a dug hwynt i fynu i fynydd uchel, o’r neilldu, ar eu pennau eu hunain: a gwedd-newidiwyd Ef yn eu gwydd hwynt. A’i ddillad a aethant yn ddisglaer, yn wynion dros ben, y fath na all pannwr ar y ddaear gannu gymmaint. Ac ymddangosodd iddynt Elias ynghyda Mosheh, ac yr oeddynt yn ymddiddan â’r Iesu, A chan atteb, Petr a ddywedodd wrth yr Iesu, Rabbi, ardderchog yw bod o honom yma: a gwnawn dair pabell; i Ti, un; ac i Mosheh, un; ac i Elias, un; canys ni wyddai pa beth a attebai, canys mewn dychryn yr oeddynt. A bu cwmmwl yn cysgodi trostynt; a bu llef o’r cwmmwl, Hwn yw Fy Mab anwyl: Arno Ef gwrandewch. Ac yn ddisymmwth wedi edrych o amgylch ni welent neb mwyach, oddieithr yr Iesu ar Ei ben Ei hun ynghyda hwynt. Ac wrth ddyfod i lawr o honynt o’r mynydd, gorchymynodd iddynt na fynegent wrth neb y pethau a welsant, oddieithr pan fo Mab y Dyn wedi adgyfodi o feirw. Ac y gair hwn a ddaliasant, gan gydymholi yn eu plith eu hunain pa beth yw yr “Adgyfodi o feirw.” A gofynasant Iddo, gan ddywedyd, Dywaid yr ysgrifenyddion fod rhaid i Elias ddyfod yn gyntaf. Ac Efe a ddywedodd wrthynt, Elias, yn wir, wedi dyfod yn gyntaf, a edfryd bob peth: a pha fodd yr ysgrifenwyd am Fab y Dyn mai llawer a ddioddef Efe, ac Ei ddirmygu? Eithr dywedaf wrthych fod Elias wedi dyfod, a gwnaethant iddo gymmaint ag a ewyllysiasant, fel yr ysgrifenwyd am dano. Ac wedi dyfod at y disgyblion, gwelsant dyrfa fawr yn eu cylch hwynt, ac ysgrifenyddion yn cydymholi â hwynt. Ac yn uniawn, yr holl dyrfa, wrth Ei weled Ef, a synnasant; a chan redeg Atto, cyfarchasant Iddo; a gofynodd iddynt, Am ba beth yr ymholwch â hwynt? Ac attebodd un o’r dyrfa Iddo, Athraw, daethum â’m mab Attat, gan yr hwn y mae yspryd mud; a pha le bynnag y cymmero efe ef, ei rwygo ef y mae; a bwrw ewyn y mae yntau, ac yn ysgyrnygu dannedd, ac yn gwywo: a dywedais wrth Dy ddisgyblion ar fwrw o honynt ef allan, ac ni allasant. Ac Efe, gan atteb iddynt, a ddywedodd, O genhedlaeth ddiffydd, pa hyd mai gyda chwi y byddaf? Pa hyd y goddefaf chwi? Deuwch ag ef Attaf Fi. A daethant ag ef Atto; ac wedi Ei weled Ef, yr yspryd yn uniawn a’i drylliodd ef; ac wedi syrthio o hono ar y ddaear, ymdreiglodd, dan fwrw ewyn. A gofynodd Efe i’w dad, Pa faint o amser y mae hyn wedi digwydd iddo? Ac efe a ddywedodd, Er’s yn fachgen bach. A mynych i’ r tân y bwrw efe ef, ac i’ r dwfr, fel y difetho ef: eithr os gelli ddim, cymmorth ni, gan dosturio wrthym. A’r Iesu a ddywedodd wrtho, “Os gelli!” Y mae pob peth o fewn gallu y neb a gredo. Yn uniawn dan waeddi, tad y bachgen a ddywedodd, Credu yr wyf; cymmorth fy anghrediniaeth. A chan weled o’r Iesu fod tyrfa yn cyd-redeg, dwrdiodd yr yspryd aflan, gan ddywedyd wrtho, Yspryd mud a byddar, Myfi a orchymynaf i ti, Tyred allan o hono; ac na ddos mwyach i mewn iddo. A chan waeddi, a dryllio llawer arno ef, daeth allan; ac aeth y bachgen fel un marw, fel y bu i lawer ddywedyd, Y mae efe wedi marw. Ac yr Iesu, wedi ei gymmeryd ef erbyn ei law, a’i cyfododd ef. Ac wedi myned o Hono i mewn i dŷ, Ei ddisgyblion, o’r neilldu, a ofynasant Iddo, gan ddywedyd, Nyni ni allem ei fwrw ef allan. A dywedodd wrthynt, Y rhyw hwn, ni all er dim ddyfod allan, oddieithr trwy weddi. Ac wedi myned allan oddiyno, ymdeithiasant trwy Galilea; ac ni fynai i neb wybod; canys dysgu Ei ddisgyblion yr oedd Efe, a dywedodd wrthynt, Mab y Dyn a draddodir i ddwylaw dynion, a lladdant Ef; ac wedi Ei ladd, ar ol tridiau yr adgyfyd. A hwy ni ddeallent yr ymadrodd, ac ofnent ofyn Iddo. A daethant i Caphernahwm. A phan oedd yn y tŷ, gofynodd iddynt, Am ba beth yr ymddadleuech ar y ffordd? A hwy a dawsant; canys ymddadleuasant â’u gilydd ar y ffordd, Pwy oedd fwyaf? Ac wedi eistedd, galwodd y deuddeg, a dywedodd wrthynt, Os myn neb fod yn gyntaf, bydd efe olaf o’r cwbl, a gweinidog i bawb. Ac wedi cymmeryd bachgenyn, gosododd ef yn eu canol; ac wedi ei gymmeryd ef yn Ei freichiau, dywedodd wrthynt, Pwy bynnag a dderbynio un o’r cyfryw blant bychain yn Fy enw I, Myfi a dderbyn efe: a phwy bynnag a’m derbynio I, nid Myfi a dderbyn efe, eithr yr Hwn a’m danfonodd I. Dywedodd Ioan Wrtho, Athraw, gwelsom ryw un, yr hwn oedd yn Dy enw yn bwrw allan gythreuliaid; a rhwystrasom ef am nad yw yn ein canlyn. A’r Iesu a ddywedodd, Na rwystrwch ef; canys nid oes neb a wna wyrth yn Fy enw I, a gallu o hono ar frys roi drygair i Mi, canys y neb nad yw i’n herbyn, o’n tu ni y mae. Canys pwy bynnag a roddo i chwi i’w yfed gwppanaid o ddwfr yn yr enw mai i Grist y perthynwch, yn wir y dywedaf wrthych, Ni chyll efe, er dim, ei obrwy; a phwy bynnag a baro dramgwydd i un o’r rhai bychain hyn y sydd yn credu Ynof, gwell fyddai iddo o lawer pe gosodid maen mawr melin am ei wddf, a’i daflu i’r môr. Ac os tramgwydd a bair dy law i ti, tor hi ymaith, canys gwell yw myned o honot i mewn i’r bywyd yn anafus, nag a’th ddwy law genyt fyned ymaith i Gehenna, i’r tân anniffoddadwy; ac os dy droed a baro dramgwydd i ti, tor ef ymaith; gwell yw myned o honot i mewn i’r bywyd yn gloff, nag a’th ddau droed genyt dy daflu i Gehenna; ac os dy lygad a baro dramgwydd i ti, bwrw ef ymaith; gwell yw myned o honot yn un-llygeidiog i deyrnas Dduw, nag a dau lygad genyt dy daflu i Gehenna, lle nid yw eu pryf yn marw, a’r tân ni ddiffoddir; canys â thân yr helltir pob un. Da yw’r halen; ond os yr halen a â yn ddihallt, â pha beth yr helltir ef? Bydded genych halen ynoch eich hunain, a byddwch heddychlawn a’ch gilydd. Ac oddi yno, wedi cyfodi o Hono, yr aeth i gyffiniau Iwdea, ac i lan arall yr Iorddonen; a thrachefn y cyd-gyrchodd torfeydd Atto; ac fel yr oedd yn arferu, dysgodd hwynt drachefn. Ac wedi dyfod Atto, y Pharisheaid a ofynasant Iddo, Ai cyfreithlawn yw i ddyn ollwng ymaith ei wraig? gan Ei demtio Ef. Ac Efe, gan atteb, a ddywedodd wrthynt, Pa beth a orchymynodd Mosheh i chwi? A hwy a ddywedasant, Mosheh a ganiattaodd ysgrifenu llythyr ysgar, ac ei gollwng hi ymaith. A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, O achos eich calon-galedwch yr ysgrifenodd i chwi y gorchymyn hwn: ond o ddechreuad y greadigaeth, “Gwrryw a banyw y gwnaeth Efe hwynt.” O herwydd hyn yr ymedy gŵr â’i dad, ac â’i fam, ac y glŷn wrth ei wraig; a bydd y ddau yn un cnawd; fel nad ydynt mwy yn ddau, eithr yn un cnawd, Yr hyn, gan hyny, y bu i Dduw ei gydgyssylltu, Na fydded i ddyn ei wahanu ef. Ac yn y tŷ drachefn y disgyblion a ofynasant Iddo am y peth hwn; a dywedodd wrthynt, Pwy bynnag a ollyngo ymaith ei wraig, ac a briodo un arall, godinebu yn ei herbyn y mae; ac os hithau, wedi gollwng ymaith ei gwr, a briodo un arall, godinebu y mae. A dygasant Atto blant bychain, fel y cyffyrddai â hwynt; ac y disgyblion a ddwrdiasant hwynt. Ac wrth weled hyn, yr Iesu a dristawyd, a dywedodd wrthynt, Gadewch i’r plant bychain ddyfod Attaf; na rwystrwch hwynt; canys eiddo y cyfryw rai yw teyrnas Dduw. Yn wir y dywedaf wrthych, Pwy bynnag na dderbynio deyrnas Dduw fel plentyn bach, nid aiff efe ddim i mewn iddi. Ac wedi eu cymmeryd hwynt yn Ei freichiau, bendithiodd hwynt, dan roddi Ei ddwylaw arnynt. Ac wrth fyned allan o hono ar Ei ffordd, gan redeg Atto o ryw un, a phenlinio Iddo, gofynodd Iddo, Athraw da, pa beth da a wnaf fel y bo bywyd tragywyddol i’w etifeddu genyf? A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Paham y gelwi Fi yn dda? Nid oes neb yn dda, oddieithr un, sef Duw. Y gorchymynion a wyddost, Na ladd; Na odineba; Na ladratta; Na au-dystiolaetha; Na cham-golleda: Anrhydedda dy dad a’th fam. Ac efe a ddywedodd Wrtho, Athraw, y rhai hyn i gyd a gedwais o’m hieuengctyd. A’r Iesu, gan edrych arno, a’i hoffodd ef, ac a ddywedodd wrtho, Un peth sydd genyt ti ar ol; dos, a chymmaint ag sydd genyt, gwerth ef, a dyro i’r tlodion; a bydd i ti drysor yn y nef; a thyred, a chanlyn Fi. Ac efe, wedi pruddhau wrth yr ymadrodd, a aeth ymaith yn athrist; canys yr oedd efe a chanddo feddiannau lawer. Ac wedi edrych o amgylch, yr Iesu a ddywedodd wrth Ei ddisgyblion, Mor anhawdd y bydd i’r rhai a golud ganddynt, fyned i mewn i deyrnas Dduw. A’r disgyblion a synnasant wrth Ei eiriau. A’r Iesu, gan atteb drachefn, a ddywedodd wrthynt, O blant, mor anhawdd yw myned o’r rhai sydd yn ymddiried yn eu golud i mewn i deyrnas Dduw: Haws yw myned o gamel trwy grau nodwydd ddur Na myned o oludog i mewn i deyrnas Dduw. A bu aruthr dros ben ganddynt, gan ddywedyd Wrtho, A phwy a all fod yn gadwedig? A chan edrych arnynt, yr Iesu a ddywedodd, Gyda dynion ammhosibl yw, eithr nid gyda Duw; canys pob peth sydd bosibl gyda Duw. A dechreuodd Petr ddywedyd Wrtho, Wele, nyni a adawsom bob peth, ac a’th ganlynasom Di. Dywedodd yr Iesu, Yn wir y dywedaf wrthych, Nid oes neb a adawodd dŷ, neu frodyr, neu chwiorydd, neu fam, neu dad, neu blant, neu diroedd, o’m hachos I a’r efengyl, na dderbyn y can cymmaint yn awr, y pryd hwn, dai, a brodyr, a chwiorydd, a mammau, a phlant, a thiroedd, ynghydag erlidiau; ac yn y byd y sy’n dyfod fywyd tragywyddol. Ond llawer fydd o’r rhai blaenaf yn olaf, ac o’r rhai olaf yn flaenaf. Ac yr oeddynt ar y ffordd yn myned i fynu i Ierwshalem; a myned o’u blaen hwynt yr oedd yr Iesu: a synnasant, a hwy, yn canlyn, a ofnasant. Ac wedi cymmeryd Atto y deuddeg drachefn, dechreuodd ddywedyd wrthynt hwy y pethau ar fedr digwydd Iddo Ef, Wele, myned i fynu i Ierwshalem yr ydym, a Mab y dyn a draddodir i’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion; a chondemniant Ef i farwolaeth, a thraddodant Ef i’r Cenhedloedd; a gwatwarant Ef, a phoerant Arno, a fflangellant Ef, a lladdant Ef; ac wedi tridiau yr adgyfyd. A daeth Atto Iago ac Ioan, meibion Zebedëus, gan ddywedyd Wrtho, Athraw, ewyllysiem wneuthur o Honot i ni yr hyn a ddymunem Genyt. Ac Efe a ddywedodd wrthynt, Pa beth a ewyllysiwch ei wneuthur o Honof i chwi? A hwy a ddywedasant Wrtho, Dyro i ni, i un eistedd ar Dy ddeheulaw, a’r llall ar yr aswy, yn Dy ogoniant. A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Nis gwyddoch pa beth yr ydych yn ei ofyn. A ellwch chwi yfed o’r cwppan yr wyf Fi yn ei yfed; neu eich bedyddio â’r bedydd y bedyddir Fi ag ef? A hwy a ddywedasant Wrtho, Gallwn. A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Y cwppan, yr hwn yr wyf Fi yn ei yfed, a yfwch; ac â’r bedydd y bedyddir Fi ag ef, y’ch bedyddir; ond eistedd ar Fy neheulaw, neu ar yr aswy, nid yw Fy eiddo i’w roddi, ond i’r rhai y darparwyd. Ac wedi clywed o’r deg, dechreuasant sorri o achos Iago ac Ioan. Ac wedi eu galw hwynt Atto, yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Gwyddoch fod y rhai y tybir eu bod yn llywodraethu ar y Cenhedloedd, yn tra-arglwyddiaethu arnynt, a’u gwŷr mawr hwynt yn tra-awdurdodi arnynt: ond nid felly y bydd yn eich plith chwi; eithr pwy bynnag a ewyllysio fyned yn fawr yn eich plith, fydd eich gweinidog; a phwy bynnag a ewyllysio, yn eich plith, fod yn gyntaf, fydd was i bawb; canys Mab y Dyn hefyd ni ddaeth i’w wasanaethu, eithr i wasanaethu, ac i roi Ei einioes yn bridwerth dros lawer. A daethant i Iericho: ac wrth fyned allan o Hono Ef o Iericho, ac o’i ddisgyblion, ac o dyrfa fawr, mab Timëus, Bartimëus, cardottyn dall, oedd yn eistedd ar ymyl y ffordd; ac wedi clywed mai Iesu y Natsaread ydoedd, dechreuodd waeddi a dywedyd, Mab Dafydd, Iesu, tosturia wrthyf. A’i ddwrdio ef a wnaeth llawer, am dewi o hono; ond efe, llawer mwy y gwaeddodd, Fab Dafydd, tosturia wrthyf. Ac wedi sefyll, yr Iesu a ddywedodd, Galwch ef: a galwasant y dall, gan ddywedyd wrtho, Bydd hyderus; cyfod; dy alw y mae. Ac efe, wedi taflu ymaith ei gochl, ac wedi neidio i fynu, a ddaeth at yr Iesu. A chan atteb iddo, yr Iesu a ddywedodd, Pa beth a ewyllysi ei wneuthur o Honof i ti? A’r dall a ddywedodd Wrtho, Rabboni, caffael o honof fy ngolwg. A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Dos ymaith: dy ffydd a’th iachaodd; ac yn uniawn y cafodd efe ei olwg; a chanlynodd Ef ar y ffordd. A phan nesaent i Ierwshalem, i Bethphage a Bethania, at fynydd yr Olewydd, danfonodd ddau o’i ddisgyblion, a dywedodd wrthynt, Ewch ymaith i’r pentref y sydd gyferbyn â chwi; ac yn uniawn wrth fyned i mewn cewch ebol wedi ei rwymo, ar yr hwn nid oes neb o ddynion etto wedi eistedd; gollyngwch ef, a deuwch ag ef yma. Ac os bydd i neb ddywedyd wrthych, Paham y gwnewch hyn? dywedwch, Yr Arglwydd sydd a rhaid wrtho: ac yn uniawn y denfyn efe ef, yn ol, yma. Ac aethant ymaith, a chawsant ebol wedi ei rwymo wrth y drws, oddi allan, yn y groesffordd, a gollyngasant ef. A rhai o’r rhai oedd yn sefyll yno a ddywedasant wrthynt, Pa beth a wnewch yn gollwng yr ebol? A hwy a ddywedasant wrthynt fel y dywedasai’r Iesu; a gadawsant iddynt fyned ymaith. A daethant a’r ebol at yr Iesu, a bwriasant eu cochlau arno; ac eisteddodd Efe arno. A llawer a danasant eu cochlau ar y ffordd; ac eraill gangau, y rhai a dorrasant, o’r wlad. A’r rhai yn myned o’r blaen, a’r rhai yn canlyn, a waeddasant, Hosanna! Bendigedig yw’r Hwn sy’n dyfod yn enw’r Arglwydd; Bendigedig yw’r deyrnas sy’n dyfod, teyrnas ein tad Dafydd! Hosanna yn y goruchafion. Ac aeth i mewn i Ierwshalem, i’r deml; ac wedi edrych ar bob peth o’i amgylch, a’r awr weithian yn hwyr, aeth allan i Bethania ynghyda’r deuddeg. A thrannoeth, wedi myned allan o honynt o Bethania, chwant bwyd fu Arno. Ac wedi gweled ffigysbren o hirbell, a dail arno, daeth i edrych a gaffai ysgatfydd rywbeth arno: ac wedi dyfod atto, ni chafodd ddim oddieithr dail, canys nid oedd amser ffigys. A chan atteb, dywedodd wrtho, Ddim mwy, oddi arnat ti, am byth, na fydded i neb fwytta ffrwyth; a chlywed yr oedd Ei ddisgyblion. A daethant i Ierwshalem; ac wedi myned i mewn i’r deml, dechreuodd fwrw allan y rhai a werthent ac y rhai a brynent yn y deml; a byrddau y newidwyr arian, a chadeiriau y rhai yn gwerthu’r colommenod, a ddymchwelodd Efe; ac ni adawai i neb ddwyn llestr trwy’r deml: a dysgu yr oedd Efe, a dywedodd wrthynt, Onid ysgrifenwyd, “Fy nhŷ I, tŷ gweddi y gelwir ef i’r holl genhedloedd;” a chwi a’i gwnaethoch yn ogof lladron. A chlywodd yr archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion; a cheisiasant pa fodd y difethent Ef, canys ofnent Ef, canys bu aruthr gan yr holl dyrfa o herwydd Ei ddysgad. A phan yr oedd yr hwyr wedi dyfod, aeth allan o’r ddinas. Ac wrth fyned heibio yn y bore, gwelsant y ffigysbren wedi crino o’ r gwraidd: ac wedi adgofio o hono, Petr a ddywedodd Wrtho, Rabbi, wele, y ffigysbren yr hwn a felldithiaist, a grinodd. A chan atteb, yr Iesu y ddywed-wedodd wythynt, Bydded genych ffydd yn Nuw. Yn wir y dywedaf wrthych, Pwy bynnag a ddywedo wrth y mynydd hwn, Cymmerer di i fynu a’th fwrw i’r môr, ac nad ammeuo yn ei galon, eithr a gredo y bydd i’r hyn a ddywaid efe ddigwydd, bydd iddo. O achos hyn y dywedaf wrthych, Pob peth, cynnifer ag y gweddïwch ac y gofynwch am dano, credwch y derbyniasoch, a byddant i chwi. A phan safoch dan weddïo, maddeuwch o bydd genych ddim yn erbyn neb, fel y bo i’ch Tad yr Hwn sydd yn y nefoedd, faddeu i chwi eich camweddau. A daethant drachefn i Ierwshalem. Ac yn y deml, ac Efe yn rhodio yno, daeth Atto yr archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion a’r henuriaid, a dywedasant Wrtho, Trwy ba awdurdod y mae’r pethau hyn a wnai? Neu, pwy a roddes i Ti yr awdurdod hon fel mai’r pethau hyn a wnait? A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Gofynaf i chwi un gair; ac attebwch Fi, a dywedaf wrthych, Trwy ba awdurdod mai’r pethau hyn a wnaf? Bedydd Ioan, ai o’r nef yr oedd, neu o ddynion? Attebwch Fi. Ac ymresymmasant â’u gilydd gan ddywedyd, Os dywedwn O’r nef, dywaid Efe wrthym, Paham, gan hyny, na chredasoch ef? Eithr os dywedwn O ddynion, ofnent y bobl, canys pawb a gyfrifent Ioan mai prophwyd yn wir ydoedd. A chan atteb i’r Iesu, dywedasant, Nis gwyddom. A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Nid wyf Finnau chwaith yn dywedyd i chwi “Trwy ba awdurdod” y pethau hyn yr wyf yn eu gwneuthur. A dechreuodd lefaru wrthynt mewn damhegion. Gwinllan a blannodd dyn, a rhoddodd o’i hamgylch gae; a chloddiodd le i’r gwinwryf, ac adeiladodd dŵr, a gosododd hi allan i lafurwyr, ac aeth i wlad ddieithr. A danfonodd at y llafurwyr, yn yr amser, was i dderbyn gan y llafurwyr o ffrwythau’r winllan. Ac wedi ei ddal, baeddasant ef, a gyrrasant ef ymaith yn waglaw. A danfonodd trachefn attynt was arall; a hwnw, yr archollasant ei ben iddo, ac a’i dianrhydeddasant. Ac un arall a ddanfonodd efe; a hwnw a laddasant; a llawer eraill, gan faeddu o honynt rai, a lladd y lleill. Etto yr oedd ganddo un, mab anwyl: danfonodd hwnw hefyd, yn ddiweddaf, attynt, gan ddywedyd, Parchant fy mab; ond hwythau, y llafurwyr, a ddywedasant i’w gilydd, Hwn yw’r etifedd. Deuwch; lladdwn ef, ac eiddo ni fydd yr etifeddiaeth; ac wedi ei ddal, lladdasant ef, a bwriasant ef allan o’r winllan. Pa beth, gan hyny, a wna arglwydd y winllan? Daw a difetha y llafurwyr, a rhydd y winllan at eraill. Oni ddarllenasoch yr ysgrythyr hon, “Y maen yr hwn a wrthododd yr adeiladwyr, Efe a aeth yn ben i’r gongl! Oddiwrth Iehofah y bu hyn, Ac y mae’n rhyfedd yn ein llygaid ni.” A cheisiasant Ei ddal Ef, ac ofnasant y dyrfa; canys gwyddent mai yn eu herbyn hwy y dywedodd Efe y ddammeg; a chan Ei adael yr aethant ymaith. A danfonasant Atto rai o’r Pharisheaid ac o’r Herodianiaid, fel y dalient Ef mewn ymadrodd. Ac wedi dyfod, dywedasant Wrtho, Athraw, gwyddom mai geirwir wyt, ac na waeth Genyt am neb, canys nid edrychi ar wyneb dynion, eithr mewn gwirionedd yr wyt yn dysgu ffordd Duw; Ai cyfreithlawn rhoi teyrnged i Cesar, ai nad yw? A roddwn, ai na roddwn hi? Ac Efe, gan wybod eu rhagrith, a ddywedodd wrthynt, Paham y temtiwch Fi? Dygwch i Mi ddenar, fel y gwelwyf hi. A hwy a’ i dygasant. A dywedodd wrthynt, Eiddo pwy yw ’r ddelw hon, ac yr argraph? A hwy a ddywedasant Wrtho, Eiddo Cesar. A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Pethau Cesar telwch i Cesar, a phethau Duw i Dduw. A synnasant yn ddirfawr Wrtho. A daeth y Tsadwceaid Atto, y rhai a ddywedant nad oes adgyfodiad; a gofynasant Iddo, gan ddywedyd, Athraw, Mosheh a ’sgrifenodd i ni, O bydd brawd neb farw, a gadu gwraig, ac heb adu plant, am gymmeryd o’i frawd ei wraig ef, a chodi had i’w frawd o honi. Saith o frodyr oedd; a’r cyntaf a gymmerth wraig, ac wrth farw ni adawodd had. A’r ail a’i cymmerth hi, ac a fu farw heb adu had: a’r trydydd yr un modd: ac y saith ni adawsant had. Ac yn niwedd y cwbl, y wraig hefyd a fu farw. Yn yr adgyfodiad, i ba un o honynt y bydd hi yn wraig, canys y saith a’i cawsant hi yn wraig? Dywedodd yr Iesu wrthynt, Onid o achos hyn yr ydych yn cyfeiliorni, am na wyddoch yr ysgrythyrau na gallu Duw? Canys pan o feirw yr adgyfodant, ni wreiccant ac ni wrant, eithr y maent fel angylion yn y nefoedd. Ac am y meirw, yr adgyfodir hwynt, oni ddarllenasoch yn llyfr Mosheh, yn “Y Berth,” y modd y llefarodd Duw wrtho, gan ddywedyd, “Myfi wyf Dduw Abraham, a Duw Itsaac, a Duw Iacob?” Nid yw Efe Dduw’r meirw, eithr y rhai byw. Mawr-gyfeiliorni yr ydych. A chan ddyfod o un o’r ysgrifenyddion Atto, wedi clywed hwynt yn ymddadleu, a chan wybod mai da yr attebodd Efe iddynt, gofynodd Iddo, Pa un yw’r gorchymyn cyntaf o’r cwbl? Attebodd yr Iesu, Y cyntaf yw, “Clyw, Israel; Iehofah ein Duw, un Iehofah yw; a cheri Iehofah dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid, ac â’th holl feddwl, ac â’th holl nerth.” Yr ail yw hwn, “Ceri dy gymmydog fel ti dy hun.” Gorchymyn arall mwy na’r rhai hyn nid oes. A dywedodd yr ysgrifenydd Wrtho, Da, Athraw, mewn gwirionedd y dywedaist mai un yw, ac nad oes arall ond Efe: ac Ei garu Ef â’r holl galon, ac â’r holl ddeall ac â’r holl nerth; a charu ei gymmydog fel ef ei hun, llawer iawn mwy yw na’r holl losgoffrymmau ac aberthau. A’r Iesu, gan weled mai yn synhwyrol yr attebodd efe, a ddywedodd wrtho, Nid pell yr wyt oddiwrth deyrnas Dduw. Ac ni feiddiodd neb, ddim mwyach, ymofyn ag Ef. A chan atteb, yr Iesu a ddywedodd, pan yn dysgu yn y deml, Pa fodd y dywaid yr ysgrifenyddion fod Crist yn fab Dafydd? Dafydd ei hun a ddywaid trwy yr Yspryd Glân, “Dywedodd Iehofah wrth fy Arglwydd, Eistedd ar Fy neheulaw, Hyd oni osodwyf Dy elynion yn faingc i’th draed.” Dafydd a’i geilw “yn Arglwydd;” a pha sut mai Mab iddo yw? A’r dyrfa fawr a’i clywodd Ef gydag hyfrydwch. Ac yn Ei ddysgad dywedodd, Ymogelwch rhag yr ysgrifenyddion, y rhai a garant rodio mewn gwisgoedd llaesion, a chyfarchiadau yn y marchnadoedd, a phrif-gadeiriau yn y sunagogau, a’r prif-ledorweddleoedd yn y gwleddoedd; y rhai sy’n llwyr-fwytta tai gwragedd gweddwon, ac mewn rhith yn hir-weddïo; y rhai hyn a dderbyniant gondemniad gorlawnach. Ac wrth eistedd gyferbyn â’r drysorfa, edrychai pa fodd yr oedd y dyrfa yn bwrw arian i’r drysorfa, a llawer o oludogion a fwriasant lawer; ac wedi dyfod o ryw weddw dlawd, bwriodd ddwy hatling, yr hyn yw ffyrling. Ac wedi galw ei ddisgyblion Atto, dywedodd wrthynt, Yn wir y dywedaf wrthych, Y weddw dlawd hon a fwriodd fwy na’r holl rai a fwriasant i’r drysorfa, canys pawb o honynt hwy, o’u gorlawnder y bwriasant, ond hyhi o’i heisieu a fwriodd gymmaint ag oedd ganddi, ei holl fywyd. Ac wrth fyned o Hono allan o’r deml, dywedodd un o’i ddisgyblion Wrtho, Athraw, wele, pa ryw feini, a pha ryw adeiladau sydd yma. A’r Iesu a ddywedodd wrtho, A weli di yr adeiladau mawrion hyn? Ni adewir yma, er dim, faen ar faen, yr hwn ni ddattodir. Ac wrth eistedd o Hono ar fynydd yr Olewydd cyferbyn â’r deml, gofynodd Petr ac Iago ac Ioan ac Andreas Iddo o’r neilldu, Dywaid wrthym pa bryd y bydd y pethau hyn, a pha beth fydd yr arwydd pan fydd y pethau hyn ar fedr eu cyflawni. A’r Iesu a ddechreuodd ddywedyd wrthynt, Edrychwch na fo i neb eich arwain chwi ar gyfeiliorn. Llawer a ddeuant yn Fy enw I, gan ddywedyd, Myfi yw Efe; a llaweroedd a arweiniant hwy ar gyfeiliorn. A phan glywoch am ryfeloedd, a son am ryfeloedd, na chyffroer chwi: y mae rhaid iddynt ddigwydd; eithr nid etto y mae’r diwedd; canys cyfyd cenedl yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas: bydd daeargrynfaau mewn mannau: bydd newynau: dechreuad gwewyr yw y pethau hyn. Ond edrychwch chwi attoch eich hunain, canys traddodant chwi i’r cynghorau; ac yn y sunagogau y’ ch baeddir; a cher bron rhaglawiaid a brenhinoedd y sefwch o’m hachos I, yn dystiolaeth iddynt. Ac i’r holl genhedloedd y mae rhaid yn gyntaf i’r Efengyl gael ei phregethu. A phan ddygant chwi, gan eich traddodi, na rag-bryderwch pa beth a lefaroch; eithr pa beth bynnag a rodder i chwi yn yr awr honno, hyny llefarwch, canys nid chwychwi sy’n llefaru, eithr yr Yspryd Glân. A thraddoda brawd frawd i farwolaeth, a thad blentyn; a chyfyd plant yn erbyn rhieni, a pharant eu marwolaethu; a byddwch gâs gan bawb o achos Fy enw I; ond y neb a barhao hyd y diwedd, hwnw fydd gadwedig. A phan weloch “ffieidd-dra yr anghyfanedd-dra” yn sefyll lle na ddylai (y neb sy’n darllen, dealled), yna bydded i’r rhai sydd yn Iwdea, ffoi i’r mynyddoedd; a’r hwn ar ben y tŷ, na ddisgyned, ac nac aed i gymmeryd dim o’i dŷ; a’r hwn yn y maes, na throed yn ei ol i gymmeryd ei gochl; a gwae y rhai beichiog, a’r rhai yn rhoi bronnau yn y dyddiau hyny; a gweddïwch na ddigwyddo yn y gauaf; canys bydd y dyddiau hyny yn orthrymder, y fath na fu’r cyfryw o ddechreu y greadigaeth a greodd Duw, hyd yn hyn, ac na fydd ddim: ac oddieithr i’r Arglwydd dalfyru’r dyddiau, ni chadwesid un cnawd; eithr o achos yr etholedigion a etholodd, talfyrodd y dyddiau. Ac yr amser hwnw, os wrthych chwi y dywaid neb, Wele, llyma y Crist, neu, Wele, accw, na chredwch, canys cyfyd gau-gristiau a gau-brophwydi, a rhoddant arwyddion a rhyfeddodau, i arwain ar gyfeiliorn, o bai bosibl, yr etholedigion; ond chwychwi, edrychwch; wele, rhagddywedais i chwi bob peth. Eithr yn y dyddiau hyny, wedi’r gorthrymder hwnw, yr haul a dywyllir, a’r lloer ni rydd ei goleuni, a’r sêr fyddant yn syrthio o’r nef; a’r nerthoedd y sydd yn y nefoedd a siglir; ac yna y gwelant Fab y Dyn yn dyfod mewn cymmylau, ynghyda gallu mawr a gogoniant; ac yna y denfyn Efe yr angylion, ac a gydgasgl Atto Ei etholedigion o’r pedwar gwynt, o eithaf y ddaear hyd eithaf y nef. Ond oddiwrth y ffigysbren dysgwch ei ddammeg. Pan fo ei gangen ef wedi myned yn dyner, ac yn rhoddi allan ei ddail, gwyddoch mai agos yw’r haf; felly chwithau hefyd, pan weloch y pethau hyn yn digwydd, gwybyddwch mai agos yw, wrth y drysau. Yn wir y dywedaf wrthych, Nid aiff y genhedlaeth hon ddim heibio hyd oni bydd i’r pethau hyn oll ddigwydd. Y nef a’r ddaear a ant heibio, ond y geiriau mau Fi nid ant heibio ddim. Ond am y y dydd hwnw, neu yr awr, nid oes neb a ŵyr, nac yr angylion yn y nef, nac y Mab, na neb oddieithr y Tad. Edrychwch, gwyliwch, a gweddïwch; canys ni wyddoch pa bryd y bydd yr amser. Fel gŵr yn ymdaith mewn gwlad ddieithr, wedi gadael ei dŷ, a rhoddi i’w weision awdurdod, i bob un ei waith, ac i’r drysawr y gorchymynodd wylied. Gwyliwch, gan hyny, canys ni wyddoch pa bryd y mae arglwydd y tŷ yn dyfod, ai yn yr hwyr, ai hanner nos, neu ar ganiad y ceiliog, neu’r boreuddydd; rhag wrth ddyfod o hono yn ddisymmwth, y caffo chwi yn cysgu. A’r hyn yr wyf yn ei ddywedyd wrthych chwi, wrth bawb yr wyf yn ei ddywedyd, “Gwyliwch.” Ac yr oedd y Pasg, a gwyl y bara croyw, ar ol deuddydd: a cheisiai yr archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion, pa fodd, wedi Ei ddal Ef trwy dwyll, y lladdent Ef: canys dywedasant, Nid ar yr wyl, rhag ysgatfydd i gynnwrf o’r bobl fod. A phan yr oedd Efe yn Bethania, yn nhŷ Shimon y gwahanglwyfus, ac Efe yn ei led-orwedd, daeth gwraig a chanddi flwch alabastr o ennaint o nard gwlyb tra-chostus; ac wedi torri’r blwch alabastr, tywalltodd ef ar Ei ben Ef. Ac yr oedd rhai yn sorri ynddynt eu hunain, gan ddywedyd, I ba beth y mae’r golled hon o’r ennaint wedi ei gwneuthur? canys gallasai’r ennaint hwn gael ei werthu am uwch law tri chan denar, a’i roddi i’r tlodion. A ffrommasant yn ei herbyn hi. A’r Iesu a ddywedodd, Gadewch iddi: paham iddi hi mai blinder a berwch? Gweithred dda a wnaeth hi Arnaf. Canys peunydd y mae’r tlodion genych gyda chwi; a phan ewyllysioch, iddynt hwy y gellwch wneuthur daioni, ond Myfi nid beunydd yr wyf genych. Yr hyn a allodd a wnaeth hi; achubodd y blaen i enneinio Fy nghorph erbyn y claddedigaeth. Ac yn wir y dywedaf wrthych, Pa le bynnag y pregethir yr Efengyl yn yr holl fyd, yr hyn hefyd a wnaeth hi, a adroddir er coffa am dani. Ac Iwdas Ishcariot, un o’r deuddeg, a aeth ymaith at yr archoffeiriaid, er mwyn Ei draddodi Ef iddynt. A hwy, wedi clywed, a lawenychasant, ac a addawsant roddi iddo arian; a cheisio yr oedd efe pa fodd y byddai iddo yn gyfleus Ei draddodi Ef. A’r dydd cyntaf o wyl y bara croyw, yr amser yr aberthent y Pasg, dywedodd Ei ddisgyblion Wrtho, Pa le yr ewyllysi fyned o honom a pharottoi i Ti, i fwytta o Honot y Pasg? A danfonodd Efe ddau o’i ddisgyblion, a dywedodd wrthynt, Ewch i’r ddinas, a chyferfydd â chwi ddyn yn dwyn piser o ddwfr: canlynwch ef; a pha le bynnag yr elo i mewn, dywedwch wrth ŵr y tŷ, Yr Athraw a ddywaid, Pa le y mae Fy ystafell, lle y bwyttawyf y Pasg ynghyda’m disgyblion? Ac efe a ddengys i chwi oruwch-ystafell fawr wedi ei thanu ac yn barod: ac yno parottowch i ni. Ac aeth y disgyblion allan, a daethant i’r ddinas, a chawsant fel y dywedodd Efe wrthynt; a pharottoisant y Pasg. A’r hwyr wedi dyfod, daeth Efe ynghyda’r deuddeg; ac a hwy yn eu lled-orwedd ac yn bwytta, dywedodd yr Iesu, Yn wir y dywedaf wrthych, Un o honoch a’m traddoda I; yr hwn sy’n bwytta gyda Mi. Dechreuasant dristau a dywedyd Wrtho, bob yn un, Ai myfi? Ac Efe a ddywedodd wrthynt, Un o’r deuddeg, yr hwn sydd yn gwlychu gyda Mi yn y ddysgl. Mab y Dyn sydd yn myned, fel yr ysgriferiwyd am Dano: ond gwae’r dyn hwnw trwy’r hwn y mae Mab y Dyn yn cael Ei draddodi: da fuasai iddo, pe nas ganesid y dyn hwnw. Ac wrth fwytta o honynt, wedi cymmeryd bara, ac ei fendithio, torrodd ef, a rhoddes iddynt, a dywedodd, Cymmerwch: hwn yw Fy nghorph. Ac wedi cymmeryd cwppan, ac wedi rhoi diolch, rhoddes iddynt; ac yfasant o hono, bob un. A dywedodd Efe wrthynt, Hwn yw Fy “Ngwaed y Cyfammod,” yr hwn sydd er llaweroedd yn cael ei dywallt allan. Yn wir y dywedaf wrthych, Ddim mwyach nid yfaf o ffrwyth y winwydden, hyd y dydd hwnw pan yfaf ef yn newydd yn Nheyrnas Dduw. Ac wedi canu hymn, aethant allan i fynydd yr Olewydd. A dywedodd yr Iesu wrthynt, Yr oll o honoch a dramgwyddir, canys ysgrifenwyd, “Tarawaf y bugail, a gwasgerir y defaid;” eithr ar ol cyfodi o Honof, af o’ch blaen i Galilea. A Petr a ddywedodd Wrtho, Os hefyd pawb a dramgwyddir, eithr nid felly myfi. A dywedodd yr Iesu wrtho, Yn wir y dywedaf wrthyt, Tydi, heddyw, yn y nos hon, cyn na fu i geiliog ddwy waith ganu, tair gwaith y gwedi Fi. Ac efe yn ychwaneg dros ben a lefarodd, Os bydd rhaid i mi gydfarw â Thi, nis gwadaf Di ddim. A’r un modd hefyd yr oll o honynt a ddywedent. A daethant i le enw yr hwn oedd Gethshemane; a dywedodd wrth Ei ddisgyblion, Arhoswch yma nes gweddïo o Honof. A chymmerodd Petr, Iago ac Ioan gydag Ef, a dechreuodd orsynnu ac ymofidio; a dywedodd wrthynt, Tra-athrist yw Fy enaid, hyd angau: arhoswch yma a gwyliwch. Ac wedi myned ychydig ymlaen, syrthiodd ar y ddaear, a gweddïodd, o bai bosibl, ar fyned o’r awr Oddiwrtho, a dywedodd, Abba Dad, pob peth sydd bosibl i Ti: dwg heibio y cwppan hwn Oddiwrthyf: eithr nid y peth yr wyf fi yn ei ewyllysio, eithr y peth yr wyt Ti. A daeth, a chafodd hwynt yn cysgu, a dywedodd wrth Petr, Shimon, ai cysgu yr wyt? oni allit, am un awr, wylied? Gwyliwch a gweddïwch, fel nad eloch i demtasiwn: yr yspryd yn wir sydd barod, ond y cnawd yn wan. Ac etto, wedi myned ymaith, y gweddïodd gan ddywedyd yr un ymadrodd. A thrachefn, wedi dyfod attynt, y cafodd hwynt yn cysgu, canys yr oedd eu llygaid wedi trymhau, ac ni wyddent pa beth a attebent Iddo. A daeth y drydedd waith, a dywedodd wrthynt, Cysgwch weithian, a gorphwyswch: digon yw: daeth yr awr: wele, cael Ei draddodi y mae Mab y Dyn i ddwylaw’r pechaduriaid. Cyfodwch, awn; wele, yr hwn sydd yn Fy nhraddodi I, agos yw. Ac yn uniawn, ac Efe etto yn llefaru, daeth Iwdas, un o’r deuddeg, ac ynghydag ef dyrfa â chleddyfau a ffyn, oddiwrth yr archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion a’r henuriaid. A rhoisai yr hwn oedd yn Ei draddodi Ef arwydd iddynt, gan ddywedyd, Pwy bynnag a gusanwyf, hwnw yw; daliwch Ef, a dygwch ymaith yn sicr. Ac wedi dyfod o hono, gan fyned yn uniawn Atto, dywedodd, Rabbi, a chusanodd Ef. A hwythau a roisant Arno eu dwylaw, ac a’i daliasant Ef. A rhyw un o’r rhai yn sefyll gerllaw, wedi tynu ei gleddyf, a darawodd was yr archoffeiriad, a thorrodd ymaith ei glust ef. A chan atteb, yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Fel at leidr y daethoch allan â chleddyfau ac â ffyn, i’m dala I. Peunydd yr oeddwn gyda chwi yn y deml, yn dysgu, ac ni ddaliasoch Fi. Eithr — fel y cyflawner yr ysgrythyrau. A chan Ei adael Ef, yr oll o honynt a ffoisant. A rhyw ŵr ieuangc oedd yn Ei ganlyn Ef, wedi ymwisgo â lliain main am ei gorph noeth; a daliasant ef: ac efe wedi gadael y lliain main, a ffodd yn noeth. A dygasant ymaith yr Iesu at yr archoffeiriad; a daeth ynghyd atto yr holl archoffeiriaid a’r henuriaid a’r ysgrifenyddion. A Petr oedd, o hirbell, yn Ei ganlyn Ef hyd tu mewn i gwrt yr archoffeiriad, ac yr oedd yn cyd-eistedd ynghyda’r gweinidogion, ac yn ymdwymno wrth y tân. A’r archoffeiriaid a’r holl gynghor a geisient dystiolaeth yn erbyn yr Iesu, i’w roi Ef i farwolaeth; ac ni chawsant: canys llawer a au-dystiolaethasant yn Ei erbyn Ef, a’u tystiolaethau nid oeddynt gyfartal. A rhai, wedi cyfodi, a au-dystiolaethasant yn Ei erbyn Ef, gan ddywedyd, Nyni a’i clywsom Ef yn dywedyd, Myfi a chwalaf y deml hon a wnaethpwyd â dwylaw, ac mewn tridiau un arall, heb ei gwneud â dwylaw, a adeiladaf. Ac hyd yn oed felly, nid oedd eu tystiolaeth yn gyfartal. Ac wedi cyfodi o’r archoffeiriad yn y canol, gofynodd i’r Iesu, gan ddywedyd, Onid attebi ddim? Pa beth y mae y rhai hyn yn ei dystiolaethu yn Dy erbyn Di? Ac Efe a dawodd, ac nid attebodd ddim. Trachefn yr archoffeiriad a ofynodd Iddo, ac a ddywedodd Wrtho, Ai Tydi yw y Crist, Mab y Bendigedig? A’r Iesu a ddywedodd, Myfi wyf: a chewch weled Mab y Dyn yn eistedd ar ddeheulaw y Gallu, ac yn dyfod ynghyda chymmylau’r nef. A’r archoffeiriad, wedi rhwygo ei ddillad, a ddywedodd, Pa raid sydd genym mwyach wrth dystion? Clywsoch y gabledd. Pa beth a ymddengys i chwychwi? A hwy oll a’i condemniasant Ef Ei fod yn ddyledwr i farwolaeth. A dechreuodd rhai boeri Arno, a gorchuddio Ei wyneb Ef, a’i gernodio Ef, a dywedyd Wrtho, Prophwyda. A’r gweinidogion a’i dyrnodiasant Ef. A phan yr oedd Petr i wared, yn y cwrt, daeth un o forwynion yr archoffeiriad; a chan weled Petr yn ymdwymno, ac wedi edrych arno, dywedodd, A thithau hefyd, ynghyda’r Natsaread yr oeddit, yr Iesu. Ac efe a wadodd gan ddywedyd, Nid adwaen i, ac nis gwn pa beth yr wyt ti yn ei ddywedyd; ac aeth allan i’r porth; a cheiliog a ganodd. Ac y forwyn, gan ei weled ef, a ddechreuodd etto ddywedyd wrth y rhai yn sefyll gerllaw, Hwn, o honynt y mae. Ac efe etto a wadodd. Ac ar ol ychydig etto, y rhai yn sefyll gerllaw a ddywedasant wrth Petr, Yn wir, o honynt yr wyt; canys Galilead wyt. Ac efe a ddechreuodd regu a thyngu, Nid adwaen i y dyn hwn, yr hwn y dywedwch am dano; ac yn uniawn am yr ail waith, ceiliog a ganodd, a chofiodd Petr yr ymadrodd, y modd y dywedodd yr Iesu wrtho, “Cyn i geiliog ganu ddwywaith, tair gwaith y’m gwedi I;” a chan ystyried hyny, gwylodd. Ac yn uniawn, yn y bore, wedi ffurfio cynghor, yr archoffeiriaid ynghyda’r henuriaid a’r ysgrifenyddion, ac yr holl gynghor, wedi rhwymo’r Iesu, a ddygasant Ef ymaith, ac a’i traddodasant at Pilat. A gofynodd Pilat Iddo, Ai Tydi Brenhin yr Iwddewon? Ac Efe, gan atteb iddo, a ddywedodd, Tydi a ddywedaist. A chyhuddodd yr archoffeiriaid Ef o lawer o bethau. A Pilat trachefn a ofynodd Iddo, gan ddywedyd, Onid attebi ddim o gwbl? Wele, pa faint o gyhuddiadau a ddygant yn Dy erbyn. A’r Iesu nid attebodd ddim, ddim mwyach, fel y rhyfeddodd Pilat. Ac ar yr wyl gollyngai efe yn rhydd iddynt un carcharor, yr hwn a ofynent iddo. Ac yr oedd yr hwn a elwid Barabba yn rhwym ynghyda’i gyd-derfysgwyr, y rhai yn y derfysg a wnaethent lofruddiaeth. Ac wedi myned i fynu, y dyrfa a ddechreuodd ddeisyf arno wneuthur fel yr arferai wneuthur iddynt. A Pilat a attebodd iddynt, gan ddywedyd, A ewyllysiwch chwi ollwng o honof yn rhydd i chwi Frenhin yr Iwddewon? canys gwyddai mai o genfigen y traddodasai yr archoffeiriaid Ef. A’r archoffeiriaid a gynhyrfasant y bobl, fel yn hytrach y gollyngai Barabba yn rhydd iddynt. A Pilat trachefn, gan atteb, a ddywedodd wrthynt, Pa beth, gan hyny a wnaf i’r Hwn a alwch “Brenhin yr Iwddewon?” A hwy trachefn a waeddasant, Croes-hoelia Ef. A Pilat a ddywedodd wrthynt, Canys pa ddrwg a wnaeth Efe? A hwy a waeddasant heb fesur, Croes-hoelia Ef. A Pilat, yn foddlon i ddigoni’r dyrfa, a ollyngodd yn rhydd iddynt Barabba, a thraddododd yr Iesu, wedi Ei fflangellu Ef, i’w groes-hoelio. A’r milwyr a’i dygasant Ef ymaith i fewn y cwrt, yr hwn yw Pretorium, a galwasant ynghyd yr holl fyddin; a rhoisant am Dano borphor, a dodasant am Ei ben Ef, ar ol ei phlethu, goron o ddrain; a dechreuasant gyfarch Iddo, Hanffych well, Frenhin yr Iuddewon; a churasant Ei ben Ef â chorsen; a phoerasant Arno; a chan benlinio, ymgrymmasant Iddo. A phan watwarasant Ef, tynnasant oddi am Dano y porphor, a rhoisant am Dano Ei ddillad Ei hun; a dygasant Ef allan fel y croes-hoelient Ef. A chymhellasant ryw un oedd yn myned heibio, Shimon o Cyrene, yn dyfod o’r wlad, tad Alecsander a Rwphus, i ddwyn Ei groes Ef. A daethant ag Ef i’r lle Golgotha, yr hwn yw o’i gyfieithu, Lle’r Benglog. A rhoisant Iddo win myrllyd; ond Efe nis cymmerth. A chroes-hoeliasant Ef, a rhannasant Ei ddillad, gan fwrw coelbren arnynt, pa beth a pha bwy a gai. Ac yr oedd hi y drydedd awr pan groes-hoeliasant Ef. Ac yr oedd ysgrifen Ei gyhuddiad wedi ei hysgrifenu, Brenhin yr Iwddewon. Ac ynghydag Ef y croes-hoeliasant ddau leidr, un ar y llaw ddehau, ac un ar yr aswy Iddo. A’r rhai yn myned heibio a’i cablasant Ef, gan siglo eu pennau, a dywedyd, Och, yr Hwn wyt yn chwalu’r deml, ac yn adeiladu mewn tridiau; gwared Dy Hun, gan ddyfod i lawr oddiar y groes. Yr un ffunud yr archoffeiriaid hefyd, gan watwar yn eu plith eu hunain ynghyda’r ysgrifenyddion, a ddywedasant, Eraill a waredodd, Ef Ei Hun ni all Ei waredu: Y Crist, Brenhin Israel, disgyned yn awr oddiar y groes, fel y gwelom ac y credom. Ac y rhai yn cael eu croes-hoelio gydag Ef a’i gwaradwyddent! A phan yr oedd hi y chweched awr, tywyllwch fu ar yr holl ddaear hyd y nawfed awr. Ac ar y nawfed awr llefodd yr Iesu â llef fawr, Eloi, Eloi, lama shabacthani? yr hwn yw o’i gyfieithu, Fy Nuw, Fy Nuw, paham y’m gadewaist? A rhai o’r rhai oedd yn sefyll gerllaw, wedi clywed, a ddywedasant, Wele, ar Elias y geilw. A chan redeg o ryw un, a llenwi yspwng o finegr, ac ei ddodi am gorsen, diododd Ef, gan ddywedyd, Gadewch; gwelwn a ddaw Elias i’w dynnu Ef i lawr. A’r Iesu, gan ddanfon allan lef fawr, a drengodd. A llen y deml a rwygwyd yn ddwy, oddi fynu hyd i wared. A chan weled o’r canwriad a oedd yn sefyll gerllaw, gyferbyn ag Ef, mai felly y trengodd, dywedodd, Yn wir, y Dyn Hwn, Mab ydoedd i Dduw. Ac yr oedd hefyd wragedd o hirbell, yn edrych, ymhlith y rhai yr oedd hefyd Mair Magdalen a Mair mam Iago fychan ac Iose, a Shalome, y rhai, pan oedd Efe yn Galilea, a’i canlynent Ef, ac a weinient Iddo; ac eraill lawer, y rhai a aethant i fynu gydag Ef i Ierwshalem. Ac yn awr, yr hwyr wedi dyfod, gan ei fod Y Parottoad, yr hwn yw’r dydd o flaen y Sabbath, wedi dyfod o Ioseph o Arimathea, cynghorwr pendefigaidd, yr hwn hefyd oedd yn disgwyl am deyrnas Dduw, wedi cymmeryd hyder yr aeth i mewn at Pilat, a deisyfiodd gorph yr Iesu. A Pilat a ryfeddodd a fu Efe eisoes farw; ac wedi galw atto y canwriad, gofynodd iddo a oedd Efe wedi marw er ys meityn; a phan wybu gan y canwriad, rhoddes y corph i Ioseph. Ac wedi prynu o hono liain main, a’i dynu Ef i lawr, amdôdd Ioseph Ef yn y lliain main, a dododd Ef mewn bedd a naddasid o’r graig; a threiglodd faen ar ddrws y bedd. A Mair Magdalen a Mair mam Iose a welsant pa le y dodid Ef. Ac wedi darfod y Sabbath, Mair Magdalen, a Mair mam Iago, a Shalome, a brynasant ber-aroglau, fel, wedi dyfod o honynt, yr enneinient Ef. Ac yn fore iawn, y dydd cyntaf o’r wythnos, daethant at y bedd, ar ol codiad yr haul; a dywedasant wrth eu gilydd, Pwy a dreigla ymaith i ni y maen oddiwrth ddrws y bedd? (Ac wedi edrych i fynu gwelsant y treiglasid y maen ymaith,) canys yr oedd efe yn fawr iawn. Ac wedi myned i mewn i’r bedd, gwelsant ŵr ieuangc yn eistedd o’r tu dehau, wedi ei ddilladu â gwisg wen; a synnasant yn ddirfawr. Ac efe a ddywedodd wrthynt, na ddirfawr-synnwch: yr Iesu yr ydych yn Ei geisio, y Natsaread, yr Hwn a groes-hoeliwyd. Cyfododd; nid yw Efe yma: wele y lle y dodasant Ef. Eithr ewch ymaith; dywedwch wrth Ei ddisgyblion, ac wrth Petr, Myned o’ch blaen chwi i Galilea y mae; yno Ef a welwch, fel y dywedodd wrthych. Ac wedi myned allan, ffoisant oddiwrth y bedd, canys yr oedd arnynt grynfa a syndod; ac wrth neb ni ddywedasant ddim, canys dychrynwyd hwynt. Ac wedi adgyfodi yn fore ar y dydd cyntaf o’r wythnos, ymddangosodd yn gyntaf i Mair Magdalen, o’r hon y bwriasai allan saith o gythreuliaid; a hithau, wedi myned, a fynegodd i’r rhai a fuasent gydag Ef, ac oeddynt yn galaru ac yn gwylofain. A hwythau, wedi clywed Ei fod yn fyw ac y gwelwyd ganddi, a anghoeliasant. Ac wedi y pethau hyn, i ddau o honynt, yn ymdeithio, yr amlygwyd Ef mewn gwedd arall, wrth fyned o honynt i’r wlad. A hwy, wedi myned ymaith, a fynegasant i’r lleill, ac iddynt hwy ni chredent. A chwedi’n, i’r un ar ddeg eu hunain yn eu lled-orwedd wrth y ford yr amlygwyd Ef, a dannododd iddynt eu hanghrediniaeth a’u calon-galedwch, gan mai i’r rhai a’i gwelsent Ef wedi adgyfodi, na roisent gred; a dywedodd wrthynt, Wedi myned o honoch i’r holl fyd, pregethwch yr Efengyl i’r holl greadigaeth. Yr hwn a gredo ac a fedyddiwyd fydd gadwedig; ac yr hwn a anghredo a gondemnir. Ac i’r rhai a gredant, yr arwyddion hyn a’u canlynant: Yn Fy enw y bwriant allan gythreuliaid; a thafodau newyddion y llefarant; seirph a godant hwy; ac os dim marwol a yfant, ni wna iddynt ddim niweid; ar gleifion eu dwylaw a roddant, ac iacheir hwynt. Yr Arglwydd Iesu, gan hyny, ar ol llefaru wrthynt, a gymmerwyd i fynu i’r nef, ac eisteddodd ar ddeheulaw Duw. A hwythau, wedi myned allan, a bregethasant ym mhob man, yr Arglwydd yn cydweithio ac yn cadarnhau y Gair trwy’r arwyddion a oedd yn canlyn. Amen. Gan fod llawer wedi cymmeryd mewn llaw drefnu traethawd am y pethau a gyflawnwyd yn ein plith, fel y traddododd i ni y rhai oeddynt o’r dechreuad yn llygad-dystion ac yn weinidogion y Gair, gwelwyd yn dda genyf finau hefyd, wedi canlyn o honof bob peth o’r dechreuad gyda manylrwydd, ysgrifenu attat mewn trefn, O ardderchoccaf Theophilus, fel y gwybyddech y sicrwydd am y pethau y’th ddysgwyd ynddynt. Yr oedd yn nyddiau Herod, frenhin Iwdea, ryw offeiriad a’i enw Zacariah, o ddydd-gylch Abia; a gwraig oedd iddo o ferched Aaron, a’i henw oedd Elishabet. Ac yr oeddynt yn gyfiawn, ill dau, ger bron Duw, yn rhodio yn holl orchymynion a deddfau’r Arglwydd yn ddifeius. Ac nid oedd ganddynt blentyn, gan fod Elishabet yn anffrwythlawn, a’r ddau oeddynt wedi dyfod i ddyddiau oedrannus. A bu wrth wasanaethu o hono swydd offeiriad, yn nhrefn ei ddydd-gylch, ger bron Duw, yn ol arfer swydd yr offeiriaid, ei ran oedd arogl-darthu, ar ol myned i mewn i deml yr Arglwydd. A holl liaws y bobloedd yn gweddïo, allan, ar awr yr arogl-darthiad. Ac ymddangosodd iddo angel yr Arglwydd, yn sefyll o’r tu dehau i allor yr arogl-darth; a chynhyrfwyd Zacariah pan welodd ef, ac ofn a syrthiodd arno. A dywedodd yr angel wrtho, Nac ofna, Zacariah; canys gwrandawyd dy ddeisyfiad, a’th wraig Elishabet a ddwg fab i ti; a gelwi ei enw ef Ioan. A bydd llawenydd i ti, a gorfoledd; a llawer, wrth ei enedigaeth ef, a lawenychant, canys bydd efe yn fawr ger bron yr Arglwydd; ac na gwin na diod gadarn nid yf efe ddim; ac o’r Yspryd Glân y llenwir hyd yn oed o groth ei fam; a llawer o feibion Israel a dry efe at yr Arglwydd eu Duw; ac efe a â o’i flaen Ef yn yspryd a gallu Elias, i droi calonnau tadau at y plant, a’r anufudd i rodio yn noethineb y cyfiawnion, i barottoi i’r Arglwydd bobl barod. A dywedodd Zacariah wrth yr angel, Wrth ba beth y gwybyddaf hyn, canys myfi wyf henafgwr, ac fy ngwraig wedi dyfod i ddyddiau oedranus? A chan atteb, yr angel a ddywedodd wrtho, Myfi wyf Gabriel, yr hwn wyf yn sefyll ger bron Duw; a danfonwyd fi i lefaru wrthyt ac i fynegi i ti y newyddion da hyn. Ac wele, byddi fud ac heb allu llefaru hyd y dydd y digwydd y pethau hyn, am na chredaist i’m geiriau i, y rhai a gyflawnir yn eu hamser hwynt. Ac yr oedd y bobl yn disgwyl am Zacariah, a rhyfeddent wrth oedi o hono yn y deml. Ac wedi dyfod allan ni allai lefaru wrthynt; a gwybuant mai gweledigaeth a welsai efe yn y deml; ac efe oedd yn amneidio iddynt, ac a arhosodd yn fud. A bu, pan gyflawnwyd dyddiau ei weinidogaeth, yr aeth ymaith i’w dŷ ei hun. Ac ar ol y dyddiau hyn, beichiogodd Elishabet ei wraig ef, ac ymguddiodd bum mis, gan ddywedyd, Fel hyn, erof y gwnaeth yr Arglwydd, yn y dyddiau yr edrychodd arnaf i dynu ymaith fy ngwaradwydd ymhlith dynion. Ac yn y chweched mis, danfonwyd yr angel Gabriel oddiwrth Dduw, i ddinas yn Galilea, a’i henw Natsareth, at forwyn wedi ei dyweddïo i ŵr a’i enw Ioseph, o dŷ Dafydd; ac enw’r forwyn oedd Miriam. Ac wedi myned i mewn atti, dywedodd, Henffych well, yr hon a gefaist ffafr. Yr Arglwydd fo gyda thi. A hithau, wrth yr ymadrodd y mawr-gynhyrfwyd hi, ac ymresymmodd pa fath oedd y cyfarchiad hwn; a dywedodd yr angel wrthi, Nac ofna, Miriam, canys cefaist ffafr gyda Duw: ac wele, beichiogi yn dy groth, ac esgori ar fab, a gelwi Ei enw IESU. Efe fydd fawr, Mab y Goruchaf a elwir Ef: Ac Iddo y rhydd yr Arglwydd Dduw orsedd Dafydd, Ei dad: A theyrnasa ar dŷ Iacob yn dragywydd; Ac o’i frenhiniaeth ni fydd diwedd. A dywedodd Miriam wrth yr angel, Pa fodd y bydd hyn, canys gŵr nid adwaen i? A chan atteb, yr angel a ddywedodd wrthi, Yr Yspryd Glân a ddaw arnat, A gallu’r Goruchaf a gysgoda drosot; Gan hyny hefyd y Peth Sanctaidd a enir, Gelwir Ef Mab Duw. Ac wele, Elishabet dy gares, hithau hefyd a feichiogodd ar fab yn ei henaint; a hwn yw’r chweched mis iddi hi yr hon a elwid yn anffrwythlawn; canys nid ammhosibl gyda Duw yw neb rhyw beth. A dywedodd Miriam, Wele, gwasanaethyddes yr Arglwydd. Bydded i mi yn ol dy ymadrodd. Ac aeth yr angel ymaith oddiwrthi. Ac wedi cyfodi o Miriam yn y dyddiau hyn, yr aeth i’r mynydd-dir ar frys, i ddinas o Iwda; ac aeth i mewn i dŷ Zacariah, a chyfarchodd well i Elishabet. A bu pan glywodd Elishabet gyfarchiad Miriam, llammodd y plentyn yn ei chroth, a llanwyd Elishabet o’r Yspryd Glân, a chododd ei llais â gwaedd fawr, a dywedodd, Bendigedig wyt ti ymhlith gwragedd, A bendigedig yw ffrwyth dy groth. Ac o ba beth y cefais hyn, ddyfod o fam fy Arglwydd attaf? Canys wele, pan ddaeth llais dy gyfarchiad i’m clustiau, llammodd y plentyn o orfoledd yn fy nghroth. A dedwydd yw ’r hon a gredodd, canys bydd cyflawniad i’r pethau a lefarwyd wrthi oddiwrth yr Arglwydd. A dywedodd Miriam, Mawrhau’r Arglwydd y mae fy enaid, A gorfoleddodd fy yspryd yn Nuw fy Iachawdwr, Canys edrychodd ar ostyngeiddrwydd Ei wasanaethyddes, Canys wele, o hyn allan, dedwydd y’m geilw yr holl genhedlaethau, Canys gwnaeth y Galluog i mi bethau mawrion, A sanctaidd yw Ei enw, A’i dosturi sydd i genhedlaethau a chenhedlaethau, I’r rhai sydd yn Ei ofni. Gwnaeth gadernid â’i fraich, Gwasgarodd feilchion ym mwriad eu calon, Tynnodd i lawr gedyrn oddiar orsedd-feingciau, A dyrchafodd ostyngedigion: Rhai newynog a lanwodd Efe â phethau da, A chyfoethogion a ddanfonodd Efe ymaith yn weigion. Cynnorthwyodd Israel, Ei was, I gofio tosturi, (Fel y llefarodd wrth ein tadau), I Abraham a’i had yn dragywydd. Ac arhosodd Mair gyda hi ynghylch tri mis, a dychwelodd i’w thŷ. Ac i Elishabet y cyflawnwyd y tymp i esgor o honi, ac esgorodd ar fab. A chlywodd ei chymmydogion a’i cheraint, fawrhau o’r Arglwydd Ei dosturi wrthi, a chydlawenychasant â hi. A bu ar yr wythfed dydd y daethant i amdorri ar y plentyn, a galwasant ef, yn ol enw ei dad, Zacariah. A chan atteb, ei fam a ddywedodd, Nage; eithr gelwir ef Ioan. A dywedasant wrthi, Nid oes neb o’th dylwyth a elwir wrth yr enw hwn. Ac amneidiasant i’w dad, pa beth yr ewyllysiai ei alw ef. Ac wedi gofyn o hono am argraphlech, ysgrifenodd gan ddywedyd, Ioan yw ei enw; a rhyfeddasant oll. Ac agorwyd ei enau ef yn ebrwydd, ac ei dafod; a llefarodd gan fendithio Duw. Ac yr oedd ofn ar bawb oedd yn trigo yn eu cylch hwy; ac yn holl fynydd-dir Iwdea y llefarwyd yr holl bethau hyn. A phawb o’r rhai a’u clywsant, a’u rhoisant yn eu calonnau gan ddywedyd, Pa beth, gan hyny, fydd y plentyn hwn? canys llaw’r Arglwydd oedd gydag ef. A Zacariah, ei dad, a lanwyd o’r Yspryd Glân, ac a brophwydodd, gan ddywedyd, Bendigedig fyddo’r Arglwydd, Duw Israel, Canys ymwelodd ag, a gwnaeth brynedigaeth i’w, bobl: A dyrchafodd gorn iachawdwriaeth i ni yn nhŷ Dafydd, ei was, (fel y llefarodd trwy enau Ei brophwydi sanctaidd er’s dechreuad y byd,) Ymwared oddiwrth ein gelynion, Ac o law pawb o’n caseion; I wneuthur tosturi â’n tadau, Ac i gofio Ei gyfammod sanctaidd, Y llw a dyngodd Efe wrth Abraham, ein tad, Ar roddi i ni, gwedi ein rhyddhau o law ein gelynion, Ei wasanaethu Ef yn ddiofn, Mewn sancteiddrwydd a chyfiawnder ger Ei fron ein holl ddyddiau. A thithau, blentyn, prophwyd y Goruchaf y’th elwir, Canys ai o flaen gwyneb yr Arglwydd, i barottoi Ei ffyrdd Ef, I roddi gwybodaeth iachawdwriaeth i’w bobl Trwy faddeuant o’u pechodau, Trwy diriondeb trugaredd ein Duw, Trwy’r hon yr ymwêl â ni godiad haul o’r uchelder, I lewyrchu i’r rhai sy’n eistedd mewn tywyllwch a chysgod angau, Er mwyn cyfeirio ein traed i ffordd tangnefedd. A’r bachgen a gynnyddodd ac a gryfhawyd mewn yspryd, ac a fu yn yr anial-leoedd hyd ddydd ei ymddangosiad i Israel. A bu yn y dyddiau hyny, yr aeth allan orchymyn oddiwrth Cesar Augustus, i gofrestru’r holl fyd. A’r cofrestriad hwn oedd y cyntaf, pan yr oedd Cwirinius yn rhaglaw ar Syria. Ac aeth pawb i’w cofrestru, bob un i’w ddinas ei hun. Ac aeth Ioseph hefyd i fynu o Galilea, o ddinas Natsareth, i Iwdea, i ddinas Dafydd, yr hon a elwir Bethlehem, gan ei fod o dŷ a thylwyth Dafydd, i’w gofrestru gyda Mair, yr hon a ddyweddïasid yn wraig iddo, a hithau yn feichiog. A bu, tra yr oeddynt yno, cyflawnwyd y dyddiau i esgor o honi, ac esgorodd ar ei Mab cyntaf-anedig, a rhwymodd Ef mewn cadachau, a dododd Ef mewn preseb gan nad oedd iddynt le yn y lletty. Ac yr oedd bugeiliaid yn y wlad honno, yn aros yn y maes, ac yn gwylied, liw nos, dros eu praidd. Ac angel yr Arglwydd a safodd gerllaw iddynt, a gogoniant yr Arglwydd a ddisgleiriodd o’u hamgylch; ac ofnasant ag ofn mawr. A dywedodd yr angel wrthynt, Nac ofnwch; canys wele, efangylu yr wyf i chwi lawenydd mawr, yr hwn a fydd i’r holl bobl, Ganwyd i chwi heddyw Iachawdwr, yr Hwn yw Crist yr Arglwydd, yn ninas Dafydd. A hwn fydd i chwi yn arwydd, Cewch blentyn wedi ei rwymo mewn cadachau ac yn gorwedd mewn preseb. Ac yn ddisymmwth yr oedd gyda’r angel liaws o lu nefol yn moliannu Duw, ac yn dywedyd, Gogoniant yn y goruchafion, i Dduw, Ac, ar y ddaear, dangnefedd i ddynion y boddlonwyd ynddynt. A bu, pan aeth yr angylion ymaith oddiwrthynt i’r nef, y bugeiliaid a ddywedasant wrth eu gilydd, Awn drosodd, ynte, hyd Bethlehem, a gwelwn y peth hwn a ddigwyddodd, yr hwn y bu i’r Arglwydd ei hyspysu i ni. A daethant ar frys, a chawsant Mair ac Ioseph, a’r plentyn yn gorwedd yn y preseb. A phan welsant, hyspysasant am yr ymadrodd a lefarasid wrthynt am y plentyn hwn. A phawb o’r a’u clywsant, a ryfeddasant am y pethau a lefarwyd gan y bugeiliaid wrthynt. Ond Mair a gadwai yr holl ymadroddion hyn, gan eu hystyried yn ei chalon. A dychwelodd y bugeiliaid, gan ogoneddu a moliannu Duw am yr holl bethau a glywsent ac a welsent, fel y llefarasid wrthynt. A phan gyflawnwyd wyth niwrnod i amdorri Arno, galwyd Ei enw IESU, yr hwn a alwesid gan yr angel cyn Ei ymddwyn yn y groth. A phan gyflawnwyd dyddiau eu puredigaeth yn ol Cyfraith Mosheh, dygasant Ef i fynu i Ierwshalem, i’w gyflwyno i’r Arglwydd; (fel yr ysgrifenwyd yn Nghyfraith yr Arglwydd, “Pob gwrryw yn agoryd croth, sanctaidd i’r Arglwydd a elwir Ef,”) ac i roddi aberth yn ol yr hyn a ddywedwyd yn Nghyfraith yr Arglwydd, “Par o durturod, neu ddau gyw colommen.” Ac wele, yr oedd gŵr yn Ierwshalem, a’i enw Shimeon, a’r gŵr hwn oedd gyfiawn a duwiol, yn disgwyl am ddiddanwch yr Israel: a’r Yspryd Glân oedd arno. Ac iddo ef yr oedd wedi ei hyspysu gan yr Yspryd Glân na welai angau cyn na welai Crist yr Arglwydd. A daeth, yn yr Yspryd, i’r deml; ac wrth ddwyn i mewn o’i rieni y plentyn Iesu, er mwyn gwneuthur o honynt am Dano, yn ol Defod y Gyfraith, efe hefyd a’i cymmerth Ef yn ei freichiau, ac a fendithiodd Dduw, ac a ddywedodd, Yr awr hon y gollyngi Dy was, O Arglwydd, Yn ol Dy air, mewn tangnefedd, Canys fy llygaid a welsant Dy iachawdwriaeth, Yr hon a barottoaist ger bron wyneb yr holl bobloedd; Goleuni yn ddatguddiad cenhedloedd, Ac yn ogoniant Dy bobl Israel. Ac yr oedd Ei dad Ef, a’i fam yn rhyfeddu wrth y pethau a lefarwyd am Dano. A’u bendithio hwynt a wnaeth Shimeon, a dywedodd wrth Mair, Ei fam, Wele, Hwn a osodwyd yn gwymp ac yn gyfodiad llawer yn yr Israel, Ac yn arwydd y dywedir yn ei erbyn; A thrwy dy enaid di dy hun yr aiff cleddyf, Fel y datguddier meddyliau o lawer o galonnau. Ac yr oedd Anna brophwydes, merch Phanwel, o lwyth Asher, a hon wedi myned i ddyddiau oedranus, ac wedi byw gyda gŵr saith mlynedd o’i morwyndod, a hithau yn weddw am bedair a phedwar ugain mlynedd, yr hon nid ymadawai â’r deml, gydag ymprydiau a gweddïau y gwasanaethai nos a dydd; hithau hefyd, yr awr honno, gan sefyll ger llaw, a ddiolchodd i Dduw, ac a lefarodd am Dano Ef wrth y rhai oll oedd yn disgwyl ymwared Ierwshalem. A phan orphenasent bob peth yn ol Cyfraith yr Arglwydd, dychwelasant i Galilea, i’w dinas, Natsareth. A’r plentyn a gynnyddodd, ac a gryfhawyd, yn gyflawn o ddoethineb; a gras Duw oedd Arno. Ac elai ei rieni, bob blwyddyn, i Ierwshalem, ar wyl y Pasg; a phan oedd Efe yn ddeuddeng mlwydd oed, a myned i fynu o honynt yn ol arfer yr wyl; ac wedi cyflawni’r dyddiau, wrth ddychwelyd o honynt, arhosodd y bachgen Iesu yn Ierwshalem; ac ni wyddai Ei rieni; a chan dybied Ei fod Ef yn y fintai, aethant daith diwrnod, ac edrychasant am Dano ymhlith eu ceraint a’u cydnabod: a chan na chawsant Ef, dychwelasant i Ierwshalem, gan edrych am Dano. A bu, ar ol tridiau y cawsant Ef yn y deml, yn eistedd ynghanol yr athrawon, ac yn gwrando arnynt, ac yn ymofyn â hwynt. A synnodd pawb o’r a’i clywent Ef, wrth Ei ddeall a’i attebion. A phan welsant Ef, bu aruthr ganddynt; ac Wrtho Ei fam a ddywedodd, Fy mhlentyn, paham y gwnaethost fel hyn â ni? Wele, dy dad a myfi yn ofidus a edrychasom am Danat. A dywedodd Efe wrthynt, Paham yr “edrychech am Danaf?” Oni wyddech mai yn nhŷ Fy Nhad y mae rhaid i Mi fod? A hwy ni ddeallasant yr ymadrodd a lefarodd Efe wrthynt. Ac aeth i wared gyda hwynt, a daeth i Natsareth, ac yr oedd yn ddarostyngedig iddynt; ac Ei fam a gadwai yr holl bethau hyn yn ei chalon. A’r Iesu a aeth rhagddo mewn doethineb, a chorpholaeth, a ffafr gyda Duw a dynion. Ac yn y bymthegfed flwyddyn o ymherodraeth Tiberius Cesar, Pontius Pilat yn rhaglaw Iwdea, a Herod yn detrarch a Philip ei frawd yn detrarch Itwrea a gwlad Trachonitis, a Lusanius yn detrarch Abilene, yn amser yr archoffeiriaid Chanan a Caiaphas, daeth gair Duw at Ioan fab Zacariah yn yr anialwch. A daeth Efe i’r holl oror ynghylch yr Iorddonen, gan bregethu bedydd edifeirwch er maddeuant pechodau, fel yr ysgrifenwyd yn llyfr geiriau Eshaiah y prophwyd, “Llef un yn llefain Yn yr anialwch parottowch ffordd Iehofah, Gwnewch yn uniawn Ei lwybrau Ef. Pob pant a lenwir, a phob mynydd a bryn a ostyngir, A bydd y gŵyr-geimion yn uniawn, a’r geirwon yn ffyrdd gwastad; A gwel pob cnawd iachawdwriaeth Duw.” Dywedodd, gan hyny, wrth y torfeydd oedd yn dyfod allan i’w bedyddio ganddo, Eppil gwiberod, pwy a’ch rhybuddiodd i ffoi rhag y llid a fydd? Dygwch, gan hyny, ffrwythau teilwng o edifeirwch, ac na ddechreuwch ddywedyd ynoch eich hunain, Megis tad y mae genym Abraham, canys dywedaf wrthych, Abl yw Duw o’r cerrig hyn i godi plant i Abraham. Ac eisoes hefyd y fwyall a osodwyd at wreiddyn y preniau: pob pren, gan hyny, nad yw’n dwyn ffrwyth da, a dorrir i lawr, ac i’ r tân y’i bwrir. Ac ymofynodd y torfeydd ag ef, gan ddywedyd, Pa beth, gan hyny, a wnawn ni? A chan atteb, dywedodd wrthynt, Yr hwn sydd a chanddo ddwy bais, cyfranned â’r hwn nad oes ganddo; a’r hwn sydd a chanddo fwyd, yn y cyffelyb fodd gwnaed efe. A daeth hefyd dreth-gymmerwyr i’w bedyddio, a dywedasant wrtho, Athraw, pa beth a wnawn? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ddim mwy na’r hyn a osodwyd i chwi, na ddirgeisiwch. Ac ymofyn ag ef a wnaeth y rhai yn milwrio, gan ddywedyd, Pa beth a wnawn ninnau hefyd? A dywedodd wrthynt, Na fyddwch draws wrth neb, ac na cham-achwynwch: a byddwch foddlawn i’ch cyflogau. Ac wrth ddisgwyl o’r bobl, ac ymresymmu, bawb o honynt yn eu calonnau am Ioan, ai efe, ysgatfydd, oedd y Crist, attebodd Ioan i bawb o honynt, gan ddywedyd, Myfi, yn wir, â dwfr yr wyf yn eich bedyddio chwi, ond dyfod y mae un cryfach na myfi, i’r Hwn nid wyf deilwng i ddattod carrai Ei esgidiau. Efe a’ch bedyddia chwi â’r Yspryd Glân ac â thân: gwyntyll yr Hwn sydd yn Ei law i lwyr-lanhau Ei lawr-dynu, ac i gasglu’r gwenith i’w ysgubor; ond yr ûs a lwyr-lysg Efe â thân anniffoddadwy. A llawer o bethau eraill yn wir, gan eu cynghon hwynt, a efengylodd efe iddynt: a Herod y tetrarch, wedi ei argyhoeddi ganddo am Herodias, gwraig ei frawd, ac am yr holl bethau drwg a wnaethai Herod, a chwanegodd hyn hefyd at y cwbl, sef cau o hono Ioan yngharchar. A bu, pan fedyddiasid yr holl bobl, ac yr Iesu wedi Ei fedyddio ac yn gweddïo, yr agorwyd y nef, a disgynodd yr Yspryd Glân mewn rhith corphorol, fel colommen, Arno; a llais o’r nef a ddaeth, Tydi yw Fy Mab anwyl, Ynot Ti y’m boddlonwyd. A’r Iesu Ei Hun, wrth ddechreu, oedd ynghylch deng mlwydd ar ugain oed, mab (fel y tybid) i Ioseph fab Eli, fab Matthat, fab Lefi, fab Melci, fab Ianna, fab Ioseph, fab Mattathias, fab Amots, fab Naum, fab Esli, fab Naggai, fab, Maath, fab Mattathias, fab Shemei, fab Ioseph, fab Iwda, fab Ioanna, fab Rhesa, fab Zorobabel, fab Shalathiel, fab Neri, fab Melci, fab Adi, fab Cosam, fab Elmodam, fab Er, fab Iose, fab Eliezer, fab Iorim, fab Matthat, fab Lefi, fab Shimeon, fab Iwda, fab Ioseph, fab Ionan, fab Eliacim, fab Melea, fab Mainan, fab Mattatha, fab Nathan, fab Dafydd, fab Ieshe, fab Obed, fab Booz, fab Salmon, fab Naashon, fab Aminadab, fab Aram, fab Etsron, fab Pharets, fab Iwda, fab Iacob, fab Itsaac, fab Abraham, fab Thara, fab Nachor, fab Sarwg, fab Ragan, fab Phalec, fab Heber, fab Shala, fab Cainan, fab Arphacshad, fab Shem, fab Noe, fab Lamec, fab Methwshala, fab Enoc, fab Iared, fab Maleleel, fab Cain, fab Enosh, fab Sheth, fab Adam, fab Duw. A’r Iesu yn llawn o’r Yspryd Glân, a ddychwelodd oddiwrth yr Iorddonen, ac a arweiniwyd gan yr Yspryd yn yr anialwch ddeugain niwrnod, yn cael ei demtio gan ddiafol; ac ni fwyttaodd ddim yn y dyddiau hyny; ac wedi eu diweddu, chwant bwyd fu Arno. A dywedodd diafol Wrtho, Os Mab Duw wyt, dywaid wrth y garreg hon i fyned yn fara. Ac attebodd yr Iesu iddo, Ysgrifenwyd, “Nid ar fara yn unig y bydd byw dyn.” Ac wedi Ei ddwyn Ef i fynu, dangosodd Iddo holl deyrnasoedd y byd mewn munud o amser. A dywedodd diafol Wrtho, I Ti y rhoddaf yr awdurdod hon i gyd ac eu gogoniant; canys i mi eu traddodwyd, ac i bwy bynnag yr ewyllysiaf y rhoddaf hi; os Tydi, gan hyny, a ymochreini o’m blaen, bydd yr oll yn eiddo Ti. A chan atteb iddo, dywedodd yr Iesu, Ysgrifenwyd, “I Iehofah dy Dduw yr ymochreini, ac Ef yn unig a wasanaethi.” A dug efe Ef i Ierwshalem, a gosododd Ef ar binacl y deml, a dywedodd Wrtho, Os Mab Duw wyt, bwrw Dy Hun oddi yma i lawr, canys ysgrifenwyd, “I’w angylion y gorchymyn Efe am Danat; Ac ar eu dwylaw y’th ddygant, Rhag un amser i Ti daro Dy droed wrth garreg.” A chan atteb, dywedodd yr Iesu wrtho, Dywedwyd, “Ni themti Iehofah dy Dduw.” Ac wedi gorphen yr holl demtasiwn, diafol a ymadawodd ag Ef tan amser cyfaddas. A dychwelodd yr Iesu yn nerth yr Yspryd i Galilea, a son a aeth allan am Dano trwy’r holl fro oddi amgylch; ac Efe a ddysgai yn eu sunagogau, yn cael Ei ogoneddu gan bawb. A daeth i Natsareth, lle y magesid Ef, ac aeth i mewn, yn ol Ei arfer, ar ddydd y Sabbath, i’r sunagog, a safodd i fynu i ddarllain; a rhoddwyd Atto Lyfr y Prophwyd Eshaiah; ac wedi agor o Hono y llyfr, cafodd y lle yr oedd yn ysgrifenedig, “Yspryd Iehofah sydd Arnaf, Canys enneiniodd fi i efengylu i dlodion; Danfonodd fi i gyhoeddi i gaethion ollyngdod, Ac i ddeillion gaffaeliad golwg, I ddanfon ymaith ddrylliedigion, mewn rhydd-deb, I gyhoeddi blwyddyn foddhaol Iehofah.” Ac wedi cau’r llyfr, a’i roddi i’r gweinidog, eisteddodd; a llygaid pawb yn y sunagog oeddynt yn craffu Arno. A dechreuodd ddywedyd wrthynt, Heddyw y cyflawnwyd yr Ysgrythyr hon yn eich clustiau. A phawb a dystiolaethent Iddo, ac a ryfeddent wrth y geiriau grasusol oedd yn dyfod allan o’i enau; a dywedasant, Onid hwn yw mab Ioseph? A dywedodd wrthynt, Yr oll o honoch a adroddwch Wrthyf y ddammeg hon, “Feddyg, iacha dy hun;” cymmaint ag a glywsom eu gwneuthur yn Caphernahwm, gwna hefyd yma yn Dy wlad Dy hun. A dywedodd, Yn wir y dywedaf wrthych, Nid yw un prophwyd yn gymmeradwy yn ei wlad ei hun. Mewn gwirionedd y dywedaf wrthych, Llawer o wragedd gweddwon oedd, yn nyddiau Elias, yn yr Israel, pan gauwyd y nef dair blynedd a chwe mis, fel y bu newyn mawr trwy’r holl dir, ac nid at yr un o honynt yr anfonwyd Elias, oddieithr i Sarepta yngwlad Tsidon at wraig weddw; a llawer o wahan-gleifion oedd yn Israel yn amser Elisha y prophwyd, ac nid yr un o honynt a lanhawyd oddieithr Naaman y Tsuriad. A llanwyd o ddigofaint bawb a oedd yn y sunagog, wrth glywed y pethau hyn, ac wedi codi o honynt bwriasant Ef allan o’r ddinas, a dygasant Ef hyd ael y bryn ar yr hwn yr oedd eu dinas wedi ei hadeiladu, i’w fwrw Ef bendramwnwgl i lawr: ond Efe, wedi myned drwy eu canol, a aeth Ei ffordd. A daeth i wared i Caphernahwm, dinas yn Galilea; ac yr oedd yn eu dysgu hwynt ar y Sabbath; ac aruthr fu ganddynt o herwydd Ei ddysgad, canys gydag awdurdod yr oedd Ei ymadrodd. Ac yn y sunagog yr oedd dyn a chanddo yspryd cythraul aflan, a gwaeddodd â llais mawr, Och, pa beth sydd i ni a wnelom â Thi, Iesu y Natsaread? A ddaethost i’n difetha ni? Adwaenwn Di pwy ydwyt, Sanct Duw. A dwrdiodd yr Iesu Ef, gan ddywedyd, Distawa, a thyred allan o hono ef. Ac wedi ei daflu ef i’r canol, y cythraul a ddaeth allan o hono, heb wneuthur dim niweid iddo. Ac yr oedd aruthredd ar bawb, a chyd-lefarasant â’u gilydd gan ddywedyd, Pa beth yw’r gair hwn, canys gydag awdurdod a nerth y gorchymyn Efe i’r ysprydion aflan, a dyfod allan y maent? Ac aeth allan son am Dano i bob man o’r wlad oddi amgylch. Ac wedi cyfodi o Hono o’r sunagog, aeth i mewn i dŷ Shimon; a chwegr Shimon oedd wedi ei dala gan gryd mawr; a gofynasant iddo drosti. A chan sefyll uwch ei phen hi, dwrdiodd y cryd, ac efe a’i gadawodd hi; ac wedi cyfodi o honi yn uniawn, gwasanaethodd arnynt. Ac wrth fachludo o’r haul cymmaint ag oedd a chanddynt gleifion o amryw glefydau, a ddaethant â hwynt Atto Ef: ac Efe, gan roddi Ei ddwylaw ar bob un o honynt, a’u hiachaodd hwynt; a dyfod allan yr oedd cythreuliaid, o laweroedd, dan waeddi a dywedyd, Ti yw Mab Duw; a chan eu dwrdio, ni adawai iddynt ddweud y gwyddent mai Efe oedd y Crist. A phan aethai hi yn ddydd, wedi myned allan yr aeth i le anial; a’r torfeydd a’i ceisiasant Ef, ac a ddaethant hyd Atto, ac a’i hattaliasant rhag myned oddi wrthynt; ond Efe a ddywedodd wrthynt, I’r dinasoedd eraill hefyd y mae rhaid i Mi efengylu teyrnas Dduw, canys i hyny y’m danfonwyd. Ac yr oedd Efe yn pregethu yn sunagogau Galilea. A bu, pan yr oedd y dyrfa yn pwyso Arno ac yn clywed Gair Duw, yr oedd Efe yn sefyll yn ymyl llyn Gennesaret: a gwelodd ddau gwch yn sefyll wrth y llyn, a’r pysgodwyr, wedi myned allan o honynt, a olchent eu rhwydau. Ac wedi myned i mewn i un o’r cychod, yr hwn oedd eiddo Shimon, gofynodd iddo wthio ychydig oddiwrth y tir; ac wedi eistedd, dysgodd y torfeydd, allan o’r cwch. A phan beidiodd â llefaru, dywedodd wrth Shimon, Gwthia i’r dwfn, a gollyngwch i wared eich rhwydau am helfa. A chan atteb, Shimon a ddywedodd, O Feistr, yr holl nos y poenasom, ac ni ddaliasom ddim; ond ar Dy air Di gollyngaf i wared y rhwydau. A phan hyn a wnelsent, cyd-gauasant liaws mawr o bysgod, ac ar dorri yr oedd eu rhwydau; ac amneidiasant at eu cyd-gyfranogion oedd yn y cwch arall i ddyfod i’w cynnorthwyo hwynt; a dyfod a wnaethant, a llanwasant y ddau gwch fel yr oeddynt ar soddi. A chan weled o Shimon Petr hyn, syrthiodd wrth liniau’r Iesu, gan ddywedyd, Dos allan oddiwrthyf, canys dyn pechadurus wyf, O Arglwydd; canys syndod a gymmerth afael arno ef a’r holl rai oedd gydag ef, wrth yr helfa bysgod a ddaliasent, a’r un ffunud hefyd ar Iago ac Ioan, meibion Zebedëus, y rhai oeddynt gyfranogion â Shimon. Ac wrth Shimon y dywedodd yr Iesu, Nac ofna; o hyn allan, dynion a ddeli. Ac wedi dwyn y cychod i’r tir, gan adael pob peth, canlynasant Ef. A bu, pan yr oedd Efe yn un o’r dinasoedd, ac wele, gŵr llawn o wahan-glwyf; ac wedi gweled yr Iesu, wedi syrthio ar ei wyneb, ymbiliodd ag Ef, gan ddywedyd, Arglwydd, os ewyllysi, abl wyt i’m glanhau i. Ac wedi estyn allan Ei law, cyffyrddodd Efe ag ef, gan ddywedyd, Ewyllysiaf: glanhaer di; ac yn uniawn y gwahan-glwyf a aeth ymaith oddiwrtho. Ac Efe a orchymynodd iddo na ddywedai wrth neb; eithr, wedi myned ymaith, dangos dy hun i’r offeiriad, a thyred â’r offrwm am dy lanhad, fel yr ordeiniodd Mosheh, yn dystiolaeth iddynt. Ac yn fwy ar led yr aeth y gair am Dano; a daeth ynghyd dorfeydd mawrion i glywed ac i’w hiachau o’u clefydau: ond Efe oedd yn cilio yn yr anial-leoedd ac yn gweddïo. A bu, ar un o’r dyddiau hyny, ac Efe oedd yn dysgu, ac yr oedd yn eu heistedd Pharisheaid ac Athrawon y Gyfraith, y rhai a ddaethent o bob pentref yn Galilea, ac Iwdea ac Ierwshalem; a gallu’r Arglwydd oedd i iachau o Hono; ac wele, dynion yn dwyn ar wely ddyn a oedd glaf o’r parlys, a cheisient ddyfod ag ef i mewn, a’i ddodi ger Ei fron Ef. A phan na chawsant pa fodd y deuent ag ef i mewn, o achos y dyrfa, wedi esgyn ar y tŷ, trwy’r pridd-lechau y gollyngasant ef i wared ynghyda’r gwely bach, i’r canol ger bron yr Iesu. Ac wedi gweled eu ffydd, dywedodd Efe, O ddyn, maddeuwyd i ti dy bechodau. A dechreu ymresymmu a wnaeth yr ysgrifenyddion a’r Pharisheaid, gan ddywedyd, Pwy yw hwn y sy’n llefaru cableddau? Pwy sy’n abl i faddeu pechodau oddieithr Duw yn unig? A chan ganfod o’r Iesu eu hymresymmiadau, gan atteb y dywedodd wrthynt, Paham yr ymresymmwch yn eich calonnau? Pa un sydd hawsaf, ai dywedyd “Maddeuwyd i ti dy bechodau,” neu ddywedyd “Cyfod a rhodia?” Ond fel y gwypoch fod awdurdod gan Fab y Dyn ar y ddaear i “faddeu pechodau” (dywedodd wrth y claf o’r parlys), Wrthyt y dywedaf Cyfod, a chan godi dy wely bach, dos i’th dŷ. A chan gyfodi yn uniawn yn eu gwydd hwynt, ac wedi codi yr hyn y gorweddai arno, yr aeth ymaith i’w dŷ, dan ogoneddu Duw. A syndod a gymmerth arnynt i gyd, a gogoneddasant Dduw, a llanwyd hwy o ofn, gan ddywedyd Gwelsom bethau anhygoel heddyw. Ac ar ol y pethau hyn, aeth Efe allan, a gwelodd dreth-gymmerwr a’i enw Lefi, yn ei eistedd wrth y dollfa, a dywedodd wrtho, Canlyn Fi: a chan adael pob peth, wedi sefyll i fynu y canlynodd Ef. A gwledd fawr a wnaeth Lefi Iddo yn ei dŷ; ac yr oedd tyrfa fawr o dreth-gymmerwyr ac eraill, y rhai oeddynt ynghyda hwynt, yn lled-orwedd wrth y ford. A murmurodd y Pharisheaid a’u hysgrifenyddion wrth Ei ddisgyblion gan ddywedyd, Paham mai gyda’r treth-gymmerwyr a phechaduriaid y bwyttewch ac yr yfwch? A chan atteb, yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Nid oes rhaid i’r rhai iach wrth feddyg, eithr i’r rhai drwg eu hwyl; ni ddaethum i alw cyfiawnion, eithr pechaduriaid, i edifeirwch. A hwy a ddywedasant Wrtho, Disgyblion Ioan a ymprydiant yn fynych, a gweddïau a wnant; ac yn y cyffelyb fodd yr eiddo y Pharisheaid, ond yr eiddot Ti a fwyttant ac a yfant. A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, A ellwch chwi wneuthur i feibion yr ystafell briodas ymprydio, tra y mae’r priodas-fab gyda hwynt? Ond daw’r dyddiau; a phan ddyger y priodas-fab oddi arnynt, yna yr ymprydiant yn y dyddiau hyny. A llefarodd hefyd ddammeg wrthynt, Nid yw neb, ar ol rhwygo llain oddiwrth ddilledyn newydd, yn ei roddi ar ddilledyn hen: onite y newydd a rwyga efe, ac â’r hen ni chyttuna y llain y sydd oddiwrth y newydd. Ac ni fwrw neb win newydd i gostrelau hen: onite, dryllia’r gwin newydd y costrelau, ac a efe a dywelltir allan, ac am y costrelau y derfydd; eithr gwin newydd, i gostrelau newyddion y mae efe i’w fwrw. Ac nid oes neb, pan yn yfed yr hen, yn chwennych gwin newydd; canys ebr efe, Yr hen sydd dda. A bu ar Sabbath, fyned o Hono trwy faesydd yd, a thynnodd Ei ddisgyblion y tywys, a bwyttasant gan eu rhwbio â’u dwylaw. A rhai o’r Pharisheaid a ddywedasant, Paham y gwnewch yr hyn nid yw gyfreithlawn ei wneuthur ar Sabbathau? A chan atteb iddynt, dywedodd yr Iesu, Oni ddarllenasoch chwaith hyn, pa beth a wnaeth Dafydd, pan yr oedd chwant bwyd arno, efe a’r rhai oedd gydag ef; y modd yr aeth i mewn i dŷ Dduw, a bara’r gosodiad ger bron a gymmerth ac a fwyttaodd efe, a rhoddes hefyd i’r rhai oedd gydag ef, yr hwn nid cyfreithlawn yw ei fwytta, oddieithr gan yr offeiriaid yn unig? A dywedodd wrthynt, Arglwydd yw Mab y dyn ar y Sabbath. A bu ar Sabbath arall, fyned o Hono i mewn i’r sunagog a dysgu; ac yr oedd yno ddyn a’i law ddehau wedi gwywo. A gwylied Ef a wnaeth yr ysgrifenyddion a’r Pharisheaid ai ar y Sabbath yr iachai Efe ef, fel y caffent beth i’w gyhuddo Ef. Ac Efe a wybu eu hymresymmiadau; a dywedodd wrth y dyn oedd a’r llaw ddehau wedi gwywo, Cyfod, a saf yn y canol; ac wedi cyfodi o hono, safodd. A dywedodd yr Iesu wrthynt, Gofynaf i chwi, Ai cyfreithlawn ar y Sabbath wneuthur da, ynte gwneuthur drwg; cadw einioes, a’i colli? Ac wedi edrych o amgylch arnynt oll, dywedodd wrtho, Estyn dy law; ac efe a wnaeth felly, ac adferwyd ei law ef; a hwy a lanwyd o ynfydrwydd, ac ymddiddanasant y naill wrth y llall, pa beth a wnaent i’r Iesu. A bu yn y dyddiau hyny, fyned allan o Hono i’r mynydd i weddïo; a pharhaodd ar hyd y nos yn ei weddi ar Dduw. A phan aeth hi yn ddydd, galwodd Atto Ei ddisgyblion; ac wedi dethol allan o honynt ddeuddeg, y rhai hefyd a enwodd Efe yn Apostolion, sef Shimon, yr hwn hefyd a enwodd Efe Petr, ac Andreas ei frawd, ac Iago ac Ioan, a Philip a Bartholomëus, a Matthew a Thomas, ac Iago fab Alphëus, a Shimon, yr hwn a elwid Zelotes, ac Iwdas brawd Iago, a Iwdas Ishcariot yr hwn a aeth yn fradwr. Ac wedi dyfod i wared gyda hwynt, safodd ar le gwastad, a thyrfa fawr o’i ddisgyblion, a lliaws mawr o bobl o holl Iwdea a Ierwshalem, ac o duedd môr Tyrus a Tsidon, y rhai a ddaethant i’w glywed Ef ac i’w hiachau o’u clefydau; a’r rhai a flinid gan ysprydion aflan a iachawyd; ac yr holl dyrfa a geisiai gyffwrdd ag Ef, canys gallu oedd yn dyfod allan o Hono, ac a iachaodd bawb. Ac Efe, wedi dyrchafu Ei lygaid ar Ei ddisgyblion, a ddywedodd, Gwyn eich byd y tlodion, canys eiddoch chwi yw teyrnas Dduw. Gwyn eich byd y rhai sydd a newyn arnoch yr awr hon, canys digonir chwi. Gwyn eich byd y rhai yn gwylo yn awr, canys chwerthin a gewch. Gwyn eich byd pan y’ch casao dynion, a phan y’ch didolant chwi, ac y’ ch gwaradwyddant, ac y bwriant allan eich enw megis drwg, o achos Mab y Dyn. Llawenychwch yn y dydd hwnw, a llemmwch, canys wele, eich gwobr sydd fawr yn y nef, canys yr un ffunud y gwnaeth eu tadau i’r prophwydi. Ond gwae chwi y goludogion, canys derbyniasoch eich diddanwch. Gwae chwi y rhai a lanwyd yn awr, canys newyn fydd arnoch. Gwae y rhai sy’n chwerthin yn awr, canys galaru a gwylo a gewch. Gwae pan yn dda y dywaid pob dyn am danoch, canys yr un ffunud y gwnelai eu tadau i’r gau-brophwydi. Eithr wrthych chwi y sy’n clywed y dywedaf, Cerwch eich gelynion: gwnewch dda i’r rhai a’ch casant: bendithiwch y rhai a’ch melldithiant; gweddïwch dros y rhai a’ch drygant; i’r hwn a’th darawo ar y naill gern, cynnyg y llall hefyd; ac i’r hwn a ddygo ymaith dy gochl, na wahardd dy bais hefyd: i bob un a ofyno genyt, dyro; a chan yr hwn a ddygo ymaith yr eiddot, na chais eilchwyl. Ac fel yr ewyllysiwch wneuthur o ddynion i chwi, gwnewch chwithau hefyd iddynt yr un ffunud. Ac os cerwch y rhai a’ch carant, pa ddiolch sydd i chwi, canys y pechaduriaid a garant y rhai sydd yn eu caru hwynt? Ac os gwnewch dda i’r rhai sy’n gwneuthur da i chwi, pa ddiolch sydd i chwi, canys y pechaduriaid a wnant yr un peth? Ac os rhoddwch echwyn i’r rhai y gobeithiwch gael ganddynt, pa ddiolch sydd i chwi? Pechaduriaid hefyd i bechaduriaid a roddant echwyn, fel y derbyniont y cymmaint. Ond “cerwch” eich gelynion, a “gwnewch dda,” a “rhoddwch echwyn,” heb obeithio dim drachefn; a bydd eich gwobr yn fawr, a byddwch blant y Goruchaf, canys Efe, daionus yw i’r rhai anniolchgar a drwg. Byddwch drugarogion, fel y mae eich Tad yn drugarog. Ac na fernwch ac ni’ch bernir ddim; ac na chondemniwch ac ni’ch condemnir ddim; gollyngwch yn rhydd, a gollyngir chwi yn rhyddion: rhoddwch, a rhoddir i chwi; mesur da, dwysedig, wedi ei ysgwyd, ac yn myned trosodd, a roddant yn eich mynwes, canys â pha fesur y mesurwch, y mesurir drachefn i chwi. A dywedodd hefyd ddammeg wrthynt, A ddichon dyn dall dywyso dyn dall? Onid y ddau a syrthiant i’r ffos? Nid yw disgybl uwchlaw ei athraw; ond pob un a berffeithiwyd fydd fel ei athraw. A phaham yr edrychi ar y brycheuyn y sydd yn llygad dy frawd, ond y trawst y sydd yn dy lygad dy hun nad ystyri? Neu pa fodd y gelli ddywedyd wrth dy frawd, Fy mrawd, gad i mi fwrw allan y brycheuyn y sydd yn dy lygad, a thithau ni weli y trawst y sydd yn dy lygad dy hun? O ragrithiwr, bwrw allan, yn gyntaf, y trawst o’th lygad dy hun, ac yna y gweli yn eglur i fwrw allan y brycheuyn y sydd yn llygad dy frawd. Canys nid oes pren da yn dwyn ffrwyth llygredig, nac etto bren llygredig yn dwyn ffrwyth da; canys pob pren wrth ei ffrwyth ei hun a adwaenir; canys nid oddiar ddrain y casglant ffigys, nac oddiar berth yr heliant rawnwin. Y dyn da o drysor da ei galon, a ddwg allan yr hyn sydd dda; a’r dyn drwg o’r trysor drwg, a ddwg allan yr hyn sydd ddrwg; canys o orlawnder y galon y llefara ei enau ef. A phaham y gelwch Fi, Arglwydd, Arglwydd, ac heb wneud o honoch y pethau a ddywedaf? Pob un y sy’n dyfod Attaf, ac yn clywed Fy ngeiriau, ac yn eu gwneuthur, dangosaf i chwi i bwy y mae yn gyffelyb; cyffelyb yw i ddyn yn adeiladu tŷ, yr hwn a gloddiodd ac a aeth yn ddwfn, ac a osododd y sail ar y graig; a llifeiriant wedi digwydd, torrodd yr afon ar y tŷ hwnw, ac ni allai ei siglo o herwydd mai da yr adeilesid ef. Ond yr hwn a glyw, ac ni wna, cyffelyb yw i ddyn a adeiladodd dŷ ar y ddaear, heb sail, ar yr hwn y torrodd yr afon, ac yn uniawn y syrthiodd efe yn bentwr, ac yr oedd torriad y tŷ hwnw yn fawr. Pan orphenasai Ei holl ymadroddion ynghlyw y bobl, aeth i mewn i Caphernahwm. A gwas rhyw ganwriad, yn ddrwg ei hwyl, oedd ym mron marw, yr hwn oedd mewn anrhydedd ganddo. Ac wedi clywed am yr Iesu, danfonodd Atto henuriaid yr Iwddewon, gan ofyn Iddo ddyfod ac achub ei was. A hwy, wedi dyfod at yr Iesu, a attolygasant Arno yn daer, gan ddywedyd, Haeddu y mae ganiattau o Honot hyn iddo, canys caru ein cenedl y mae; ac y sunagog efe a adeiladodd i ni. A’r Iesu a aeth gyda hwynt; ac Efe weithian ddim ymhell oddiwrth y tŷ, danfonodd y canwriad Atto gyfeillion, gan ddywedyd Wrtho, Arglwydd, nac ymboena, canys nid wyf deilwng i ddyfod o Honot i mewn dan fy nghronglwyd; o herwydd paham ni’m tybiais fy hun yn deilwng i ddyfod Attat: eithr dywaid â gair, ac iacheir fy ngwas; canys myfi hefyd wyf ddyn wedi ei osod dan awdurdod, a chenyf filwyr danaf fy hun; a dywedaf wrth hwn, Dos, a myned y mae; ac wrth arall, Tyred, a dyfod y mae; ac wrth fy ngwas, Gwna hyn, ac ei wneud y mae. Ac wedi clywed y pethau hyn, yr Iesu a ryfeddodd wrtho; ac wedi troi o Hono, wrth y dyrfa oedd yn Ei ganlyn y dywedodd, Dywedaf wrthych, hyd yn oed yn yr Israel, cymmaint ffydd ni chefais. Ac wedi dychwelyd i’w tŷ, y rhai a ddanfonasid a gawsant y gwas yn iach. A bu, ar ol hyny, yr aeth i ddinas a elwid Nain; a myned gydag Ef yr oedd ei ddisgyblion a thyrfa fawr. A phan nesaodd at borth y ddinas, wele, dygid allan un marw, mab unig-anedig ei fam, a hithau oedd weddw; a thyrfa fawr o’r ddinas oedd gyda hi. Ac wedi ei gweled hi, yr Arglwydd a dosturiodd wrthi, a dywedodd wrthi, Na wyla. A daeth at, a chyffyrddodd â’r elor; a’r rhai yn ei dwyn, a safasant: a dywedodd, Ieuangc, wrthyt y dywedaf, Cyfod. A chododd y marw yn ei eistedd, a dechreuodd lefaru; a rhoddes Efe ef i’w fam. Ac ofn a gymmerth afael ar bawb, a gogoneddasant Dduw, gan ddywedyd, Prophwyd mawr a gyfododd yn ein plith; ac, Ymwelodd Duw â’i bobl. Ac aeth y gair hwn am Dano allan drwy holl Iwdea, a thrwy’r holl wlad oddi amgylch. Ac wrth Ioan y mynegodd ei ddisgyblion am yr holl bethau hyn. Ac wedi galw atto ryw ddau o’i ddisgyblion, Ioan a ddanfonodd at yr Arglwydd, gan ddywedyd, Ai Tydi yw’r Hwn sy’n dyfod, neu un arall a ddisgwyliwn? Ac wedi dyfod Atto, y dynion a ddywedasant, Ioan Fedyddiwr a’n danfonodd Attat, gan ddywedyd, “Ai Tydi yw’r Hwn sy’n dyfod, neu un arall a ddisgwyliwn?” Yr awr honno yr iachaodd Efe lawer oddiwrth glefydau a phlaau ac ysprydion drwg; ac i ddeillion lawer y rhoddes olwg. A chan atteb, dywedodd wrthynt, Wedi myned, mynegwch i Ioan y pethau a welsoch ac a glywsoch: y mae deillion yn ail-weled; cloffion yn rhodio; cleifion gwahanol yn cael eu glanhau; a byddariaid yn clywed; meirw yn cael eu cyfodi: a thlodion yn cael pregethu’r efengyl iddynt; a dedwydd yw pwy bynnag na thramgwydder Ynof. Ac wedi myned ymaith o genhadau Ioan, dechreuodd ddywedyd wrth y torfeydd am Ioan, Pa beth yr aethoch allan i’r anialwch i edrych arno? Ai corsen a gwynt yn ei hysgwyd? Eithr pa beth yr aethoch allan i’w weled? Ai dyn a gwisgoedd esmwyth am dano? Wele, y rhai y sydd mewn trwsiad gogoneddus a moethau, mewn palasau brenhinoedd y maent. Eithr pa beth yr aethoch allan i’w weled? Ai prophwyd? Ië, meddaf i chwi, a rhagorolach na phrophwyd. Hwn yw efe am yr hwn yr ysgrifenwyd, “Wele yr wyf Fi yn danfon Fy nghennad o flaen Dy wyneb, Yr hwn a barottoa Dy ffordd o’th flaen.” Dywedaf wrthych, Un mwy ymhlith y rhai a anwyd o wragedd, nag Ioan, nid oes neb; ond y lleiaf yn nheyrnas Dduw, mwy nag ef yw. A’r holl bobl wedi clywed, ac y treth-gymmerwyr, a gyfiawnhasant Dduw, yn cael eu bedyddio â bedydd Ioan; ond y Pharisheaid a’r cyfreithwyr a ddiystyrasant gyngor Duw iddynt eu hunain, gan fod heb eu bedyddio ganddo. I ba beth, gan hyny, y cyffelybaf ddynion y genhedlaeth hon; ac i ba beth y maent yn gyffelyb? Cyffelyb ydynt i blant y sydd yn eistedd yn y farchnad, ac yn llefain wrth eu gilydd, y rhai a ddywedant, Canasom bibell i chwi, ac ni ddawnsiasoch: canasom alarnad, ac ni wylasoch: canys daeth Ioan Fedyddiwr, nac yn bwytta bara, nac yn yfed gwin, a dywedasant, Cythraul sydd ganddo: daeth Mab y Dyn yn bwytta ac yn yfed, a dywedwch, Wele, dyn glwth ac yfwr gwin, cyfaill treth-gymmerwyr a phechaduriaid: ond cyfiawnheir doethineb gan ei phlant i gyd. A gofynodd rhyw un o’r Pharisheaid Iddo fwytta gydag ef; ac wedi myned i mewn i dŷ y Pharishead, lled-orweddodd wrth y ford; ac wele, gwraig a oedd yn y ddinas, pechadures, ac yn gwybod Ei fod yn lled-orwedd yn nhŷ’r Pharishead, gan ddyfod â blwch alabastr o ennaint, a chan sefyll o’r tu ol, wrth Ei draed Ef, a than wylo, ddechreuodd wlychu Ei draed â’i dagrau, ac â gwallt ei phen y sychodd hwynt; a chusanodd Ei draed, ac enneiniodd hwynt â’r ennaint. A chan weled o’r Pharishead, yr hwn a wahoddasai Ef, llefarodd ynddo ei hun, gan ddywedyd, Hwn, pe bai yn brophwyd, a wybuasai pwy, ac o ba fath y mae y wraig y sydd yn cyffwrdd ag Ef, mai pechadures yw. A chan atteb, yr Iesu a ddywedodd wrtho, Shimon, y mae Genyf ryw beth i’w ddywedyd wrthyt ti. Ac efe a ddywedodd, Athraw, dywaid. Dau ddyledwr oedd gan ryw echwynwr; y naill oedd ag arno bum can denar o ddyled, a’r llall ddeg a deugain. A chan na allent dalu, i’r ddau y maddeuodd. Pa un, gan hyny, o honynt a’i câr ef yn fwyaf? Gan atteb, Shimon a ddywedodd, Tybiaf mai yr hwn i ba un y maddeuodd fwyaf. Ac Efe a ddywedodd, Uniawn y bernaist; ac wedi troi at y wraig, wrth Shimon y dywedodd, A weli di y wraig hon? Daethum i mewn i’th dŷ di, a dwfr i’m traed ni roddaist i Mi; ond hon â’i dagrau a wlychodd Fy nhraed I, ac â’i gwallt y sychodd hwynt. Cusan ni roddaist i Mi; ond hon, o’r awr y daethum i mewn, ni pheidiodd a chusanu Fy nhraed I. Ag olew, Fy mhen nid enneiniaist; ond hon ag ennaint a enneiniodd Fy nhraed. Ac o herwydd hyn, dywedaf wrthyt, Maddeuwyd ei phechodau, a hwythau yn llawer, o herwydd caru o honi yn fawr. Ac i’r neb ond ychydig a faddeuir, ychydig a gâr efe. A dywedodd wrthi, Maddeuwyd dy bechodau di. A dechreuodd y rhai oedd yn eu lled-orwedd gydag Ef, ddywedyd ynddynt eu hunain, Pwy yw hwn, yr hwn hyd yn oed pechodau a faddeu efe? A dywedodd wrth y wraig, Dy ffydd a’th gadwodd; dos mewn tangnefedd. A bu wedi hyny, ac Efe a ymdeithiodd trwy ddinas a phentref yn pregethu ac efengylu teyrnas Dduw, ac y deuddeg ynghydag Ef, a gwragedd rai, y rhai a iachasid oddiwrth ysprydion drwg a chlefydau; Mair yr hon a elwid Magdalen, o’r hon y bu i saith gythraul fyned allan; ac Ioanna, gwraig Cwza goruchwyliwr Herod, a Shwshanna, ac eraill lawer, y rhai a weinient Iddo o’u heiddo. Ac wedi dyfod ynghyd o dyrfa fawr, a’r rhai o bob dinas yn dyfod Atto, dywedodd trwy ddammeg, Aeth yr hauwr allan i hau; ac wrth hau o hono, peth a syrthiodd ar ymyl y ffordd, ac a fathrwyd, ac ehediaid y nef a’i bwyttasant; a pheth arall a syrthiodd ar y graig, ac wedi tyfu o hono, gwywodd am nad oedd iddo wlybwr. Ac arall a syrthiodd ynghanol y drain, ac wedi cyd-dyfu o’r drain ynghydag ef, tagasant ef. A pheth arall a syrthiodd ar y tir da; ac wedi tyfu dug ffrwyth ar ei ganfed. Wrth ddywedyd y pethau hyn, llefodd, Y neb sydd a chanddo glustiau, gwrandawed. A gofynodd Ei ddisgyblion Iddo, pa beth oedd y ddammeg hon. Ac Efe a ddywedodd, I chwi y rhoddwyd gwybod dirgeloedd teyrnas Dduw; ond i’r lleill ar ddamhegion, fel yn gweled na welant, ac yn clywed na ddeallant. A hon yw’r ddammeg: Yr had yw Gair Duw; a’r rhai ar ymyl y ffordd yw y rhai a glywsant; gwedi’n dyfod y mae diafol, ac yn dwyn ymaith y Gair o’u calon, rhag, wedi credu o honynt, iddynt fod yn gadwedig. A’r rhai ar y graig yw y rhai pan glywont, a dderbyniant y Gair gyda llawenydd; a’r rhai hyn nid oes ganddynt wreiddyn, y rhai am amser y credant, ac yn amser profedigaeth y ciliant. A’r hwn a syrthiodd ym mysg y drain, y rhai hyn yw’r rhai a glywsant, a chan ofalon a golud a phleserau buchedd, wrth fyned eu ffordd, y’u tagir, ac ni ddygant ffrwyth i berffeithrwydd. A’r hwn ar y tir da, y rhai hyn yw’r rhai wedi iddynt a chalon fad a da glywed y Gair, a’i cadwant, ac a ddygant ffrwyth gydag amynedd. Nid yw neb wedi goleu llusern yn ei gorchuddio â llestr, neu tan wely y gesyd hi, eithr ar safle’r llusern y gesyd hi, fel y bo i’r rhai sy’n dyfod i mewn weled y goleuni; canys nid oes dim dirgel na ddaw yn amlwg, na chuddiedig na wybyddir ac na ddaw i’r amlwg. Edrychwch, gan hyny, pa fodd y clywch; canys pwy bynnag sydd a chanddo, rhoddir iddo; a phwy bynnag nad oes ganddo, ïe, yr hyn y tybia ei fod ganddo, a ddygir oddi arno. A daeth Atto Ei fam a’i frodyr, ac ni allent ddyfod hyd Atto o achos y dyrfa. A mynegwyd Iddo, Dy fam a’th frodyr sy’n sefyll allan, yn ewyllysio Dy weled. Ac Efe, gan atteb, a ddywedodd wrthynt, Fy mam ac Fy mrodyr yw y rhai hyn, sef y rhai y sy’n clywed Gair Duw ac yn ei wneuthur. A bu ar un o’r dyddiau hyny, ac Efe a aeth i mewn i gwch, ac Ei ddisgyblion hefyd; a dywedodd wrthynt, Awn trosodd i’r tu hwnt i’r llyn; a chychwynasant. Ac a hwynt yn hwylio, hunodd Efe; a disgynodd cawod o wynt ar y llyn, ac yr oeddynt yn llenwi o ddwfr, ac mewn enbydrwydd; ac wedi dyfod Atto, deffroisant Ef, gan ddywedyd, O Feistr, Feistr, ar ddarfod yr ydym. Ac Efe wedi deffro a ddwrdiodd y gwynt a’r tonnau dwfr; a pheidiasant, a bu tawelwch: a dywedodd wrthynt, Pa le y mae eich ffydd? Ac wedi eu dychrynu rhyfeddasant, gan ddywedyd wrth eu gilydd, Pwy, ynte, yw Hwn, gan mai i’r gwyntoedd y gorchymyn, ac i’r dwfr; ac ufuddhant Iddo? A hwyliasant i wlad y Geraseniaid, yr hon sydd gyferbyn â Galilea. Ac wedi dyfod allan o Hono i dir, cyfarfu ag Ef ryw ŵr o’r ddinas, a chanddo gythreuliaid: ac am amser maith ni wisgai gochl; ac mewn tŷ nid arhosai, eithr yn y beddau. A chan weled yr Iesu, gan waeddi, syrthiodd ger Ei fron Ef, ac â llef fawr y dywedodd, Pa beth sydd i mi a wnelwyf â Thi, O Iesu, fab y Duw Goruchaf? Attolygaf i Ti na’m poenech i: canys gorchymynasai Efe i’r yspryd aflan ddyfod allan o’r dyn: canys llawer o amserau y cipiasai ef; a rhwymesid ef â chadwynau a llyffetheiriau, ac mewn cadwraeth; a chan ddryllio y rhwymau, gyrrid ef gan y cythraul i’r anial-leoedd. A gofynodd yr Iesu iddo, Pa beth yw dy enw di? Ac efe a ddywedodd, Lleng, canys cythreuliaid lawer a aethent i mewn iddo. A deisyfiasant Arno na orchymynai iddynt fyned ymaith i’r dyfnder. Ac yr oedd yno genfaint o foch lawer, yn pori ar y mynydd; a deisyfiasant Arno ganiattau iddynt fyned i mewn iddynt hwy; a chaniattaodd iddynt. Ac wedi myned o’r cythreuliaid allan o’r dyn, aethant i mewn i’r moch; a rhuthrodd y genfaint i lawr y dibyn i’r llyn, a boddwyd hwynt. A chan weled o’r meichiaid yr hyn a ddigwyddodd, ffoisant a mynegasant yn y ddinas ac yn y wlad. Ac aethant allan i weled yr hyn a ddigwyddasai; a daethant at yr Iesu, ac yn ei eistedd y cawsant y dyn o’r hwn y bu i’r cythreuliaid fyned allan, wedi ei wisgo, ac yn ei iawn bwyll, wrth draed yr Iesu; a dychrynwyd hwynt. Ac wrthynt y mynegodd y rhai a welsent, pa fodd yr iachasid y cythreulig. Ac Iddo y gofynodd yr holl liaws o gylch gwlad y Geraseniaid, i fyned ymaith oddi wrthynt, canys ag ofn mawr y daliwyd hwynt; ac Efe, wedi myned i mewn i’r cwch, a ddychwelodd. A deisyf Arno a wnaeth y gŵr o’r hwn yr aethai y cythreuliaid allan, am fod gydag Ef: ond gollyngodd Efe ef ymaith, gan ddywedyd, Dychwel i’th dŷ, ac adrodda faint a wnaeth Duw i ti. Ac ymaith yr aeth efe, dan gyhoeddi trwy’r holl ddinas, faint a wnaethai yr Iesu iddo. Ac wrth ddychwelyd o’r Iesu, derbyniodd y dyrfa Ef, canys yr oeddynt oll yn disgwyl am Dano. Ac wele, daeth gŵr a’i enw Iair; ac efe, llywodraethwr y sunagog ydoedd; ac wedi syrthio wrth draed yr Iesu, attolygodd Iddo ddyfod i mewn i’w dŷ, canys merch unig-anedig oedd ganddo, ynghylch deuddeng mlwydd oed, a hon oedd yn marw; ac wrth fyned o Hono y torfeydd a’i gwasgent Ef. A gwraig yr hon oedd mewn diferlif gwaed er ys deuddeng mlynedd, yr hon a dreuliasai ar feddygon ei holl fywyd, ni allai gael gan neb ei hiachau; ac wedi dyfod Atto o’r tu cefn, cyffyrddodd ag ymyl ei gochl, ac yn uniawn y safodd diferlif ei gwaed. A dywedodd yr Iesu, Pwy yw ’r hwn a gyffyrddodd â Mi? Ac a phawb yn gwadu, dywedodd Petr a’r rhai oedd gydag ef, O Feistr, y torfeydd a’th warchaeant ac a bwysant Arnat. A’r Iesu a ddywedodd, cyffwrdd â Mi a wnaeth rhyw un; canys Mi a ganfyddais allu yn myned allan o Honof. A chan weled o’r wraig nad oedd hi guddiedig, dan grynu y daeth, ac wedi syrthio ger Ei fron, mynegodd yngwydd yr holl bobl am ba achos y cyffyrddodd ag Ef, ac fel yr iachasid hi yn uniawn. Ac Efe a ddywedodd wrthi, O ferch, dy ffydd a’th iachaodd: dos mewn tangnefedd. Ac Efe etto yn llefaru, daeth un o dŷ yr arch-sunagogydd, gan ddywedyd, Bu farw dy ferch: na phoena yr Athraw. A’r Iesu wedi clywed hyn a attebodd iddo, Nac ofna; cred yn unig, ac iacheir hi. Ac wedi dyfod i’r tŷ, ni adawodd i neb fyned i mewn gydag Ef, oddieithr Petr ac Ioan ac Iago, a thad yr eneth ac ei mam. A gwylo yr oeddynt oll, a chwynfan am dani. Ac Efe a ddywedodd, Na wylwch, canys ni bu farw, eithr cysgu y mae. A chwarddasant am Ei ben, gan wybod ei marw hi. Ac Efe, wedi ymaflyd yn ei llaw, a lefodd, gan ddywedyd, Eneth, cyfod. A dychwelodd ei hyspryd, a chyfododd hi yn uniawn; a gorchymynodd Efe y rhodder iddi beth i’w fwytta. A synnodd ei rhieni; ac Efe a orchymynodd iddynt na ddywedent wrth neb yr hyn a ddigwyddasai. Ac wedi galw y deuddeg ynghyd, rhoddes iddynt allu ac awdurdod ar yr holl gythreuliaid, ac i iachau clefydau; a danfonodd hwynt i bregethu teyrnas Dduw, ac i iachau y cleifion: a dywedodd wrthynt, Na chymmerwch ddim i’r daith, na ffon, nac ysgrepan, na bara, nac arian, ac na fyddwch a dwy bais genych. Ac i ba dŷ bynnag yr eloch i mewn, yno arhoswch, ac oddi yno ewch allan. A chynnifer ag na’ch derbyniant, wrth fyned allan o’r ddinas honno, y llwch ysgydwch ymaith oddiwrth eich traed, yn dystiolaeth yn eu herbyn. A chan fyned allan yr aethant trwy’r pentrefi, gan efengylu ac iachau ym mhob lle. A chlywodd Herod y Tetrarch yr holl bethau a ddigwyddent, a phetrusai o herwydd y dywedid gan rai, Ioan a gyfododd o feirw; a chan rai, Elias a ymddangosodd; a chan eraill, Prophwyd, un o’r rhai gynt, a adgyfododd. A dywedodd Herod, Ioan, myfi a dorrais ei ben; ond pwy yw hwn, am yr hwn y clywaf y fath bethau? A cheisiai ei weled Ef. Ac wedi dychwelyd, yr apostolion a fynegasant Iddo faint o bethau a wnaethent. Ac wedi eu cymmeryd Atto, ciliodd o’r neilldu i ddinas a elwir Bethtsaida. A’r torfeydd, gan wybod hyn, a’i canlynasant Ef; ac wedi eu derbyn, llefarodd wrthynt am deyrnas Dduw; ac y rhai ag arnynt eisiau eu hiachau, a iachaodd Efe. A’r dydd a ddechreuodd hwyrhau; ac wedi dyfod Atto, y deuddeg a ddywedasant Wrtho, Gollwng ymaith y dyrfa, fel wedi myned i’r pentrefi oddi amgylch, ac i’r wlad, y llettyont ac y caffont fwyd, canys yma, mewn lle anial yr ydym. A dywedodd Efe wrthynt, Rhoddwch chwi iddynt beth i’w fwytta. A hwy a ddywedasant, Nid oes genym fwy na phum torth a dau bysgodyn, onid awn ni a phrynu bwyd i’r holl bobl hyn, canys yr oeddynt ynghylch pum mil o wŷr. A dywedodd wrth Ei ddisgyblion, Gwnewch iddynt led-orwedd yn finteioedd o ynghylch deg a deugain bob un. A gwnaethant felly, a pharasant iddynt oll led-orwedd. Ac wedi cymmeryd y pum torth a’r ddau bysgodyn, gan edrych i fynu i’r nef bendithiodd hwynt, a thorrodd, a rhoddodd i’w ddisgyblion i osod ger bron y dyrfa. A bwyttasant, a digonwyd hwy oll; a chymmerwyd i fynu yr hyn oedd dros ben iddynt o friw-fwyd, ddeuddeg basgedaid. A bu pan yr oedd Efe yn gweddïo o’r neilldu, yr oedd Ei ddisgyblion gydag Ef; a gofynodd iddynt, gan ddywedyd, Pwy y dywaid y torfeydd Fy mod I? A hwy, gan atteb, a ddywedasant, Ioan Fedyddiwr; ac eraill, Elias; ac eraill, mai prophwyd, un o’r rhai gynt, a adgyfododd. A dywedodd Efe wrthynt, A chwychwi, pwy y dywedwch Fy mod I? A chan atteb, Petr a ddywedodd, Crist Duw. Ac Efe, gan ddwrdio, a orchymynodd iddynt na ddywedent hyn i neb, gan ddywedyd, Y mae rhaid i Fab y Dyn ddioddef llawer, a’i wrthod gan yr henuriaid a’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion, ac Ei ladd, ac ar y trydydd dydd adgyfodi. A dywedodd wrth bawb, Os yw neb yn ewyllysio dyfod ar Fy ol, ymwaded ag ef ei hun, a chyfoded ei groes beunydd, a chanlyned Fi; canys pwy bynnag a ewyllysio gadw ei einioes, a’i cyll; ond pwy bynnag a gollo ei einioes o’m hachos I, hwnw a’i ceidw. Canys pa beth y lleseir dyn wedi ennill y byd oll, ond a chydag ef ei hun wedi myned ar goll neu yn ddirwy? Canys pwy bynnag fo ag arno gywilydd o Myfi a’m geiriau, O hono ef y bydd gan Fab y Dyn gywilydd Pan ddelo yn Ei ogoniant Ei hun Ac yngogoniant y Tad a’r sanctaidd angylion. A dywedaf wrthych yn wir, Y mae rhai o’r sawl sy’n sefyll yma, y rhai nid archwaethant mo angau nes gweled o honynt deyrnas Dduw. A bu, ar ol y geiriau hyn, ynghylch wyth niwrnod wedi’n, wedi cymmeryd Atto Petr ac Ioan ac Iago, yr aeth i fynu i’r mynydd i weddïo. Ac wrth weddïo o Hono yr aeth gwedd Ei wyneb yn arall, ac Ei wisg yn wen-felltenaidd. Ac wele, dau ŵr a gydymddiddanent ag Ef, y rhai oeddynt Mosheh ac Elias; y rhai gan ymddangos mewn gogoniant, a lefarent am Ei ymadawiad yr hwn yr oedd Efe ar fedr ei gyflawni yn Ierwshalem. A Petr a’r rhai gydag ef oeddynt wedi eu trymhau gan gwsg; ond wedi dihuno gwelsant Ei ogoniant a’r ddau ŵr a oedd yn sefyll gydag Ef. A bu, wrth ymddidoli o honynt oddiwrtho Ef, dywedodd Petr wrth yr Iesu, Athraw, ardderchog yw bod o honom yma; a gwnawn dair pabell, un i Ti; ac i Mosheh un; ac un i Elias, heb wybod pa beth a ddywedodd. Ac efe yn dywedyd y geiriau hyn, bu cwmmwl a chysgododd hwynt; a dychrynwyd hwy wrth fyned o honynt i mewn i’r cwmmwl; a llais fu o’r cwmmwl yn dywedyd, Hwn yw Fy Mab dewisedig; arno Ef gwrandewch. Ac wedi bod y llais, cafwyd yr Iesu ar Ei ben Ei hun. A hwy a dawsant, ac wrth neb ni fynegasant, yn y dyddiau hyny, ddim o’r pethau a welsant. A bu drannoeth, wedi dyfod o honynt i wared o’r mynydd, y cyfarfu ag Ef dyrfa fawr. Ac wele, gŵr, o’r dyrfa, a ddolefodd gan ddywedyd, Athraw, attolygaf i Ti edrych ar fy mab, canys unig-anedig yw i mi; ac wele, yspryd a’i cymmer ef, ac yn ddisymmwth y gwaedda: a dryllio ef y mae ynghyda bwrw ewyn; a braidd y cilia oddiwrtho ar ol ei ysigo ef. Ac attolygais i’th ddisgyblion ei fwrw ef allan, ond ni allasant. A chan atteb, yr Iesu a ddywedodd, O genhedlaeth ddi-ffydd a throfaus, hyd ba bryd y byddaf gyda chwi, ac y’ch goddefaf? Tyred yma â’th fab. Ac efe etto yn dyfod, rhwygodd y cythraul ef, ac y’i drylliodd. A dwrdiodd yr Iesu yr yspryd aflan; ac iachaodd y bachgen, a rhoddes ef i’w dad. A bu aruthr gan bawb o herwydd mawredd Duw. Ac a phawb yn rhyfeddu am yr holl bethau a wnaeth Efe, dywedodd wrth Ei ddisgyblion, Gosodwch chwi yn eich clustiau y geiriau hyn, Y mae Mab y Dyn ar fedr Ei draddodi i ddwylaw dynion. A hwy ni wybuant yr ymadrodd hwn, ac yn orchuddiedig oedd oddi wrthynt, fel na ddeallent ef; ac ofnasant ofyn Iddo am yr ymadrodd hwn. A daeth ymresymmiad yn eu plith, pwy a fyddai fwyaf o honynt. A’r Iesu, gan weled ymresymmiad eu calon, wedi cymmeryd bachgenyn, a’i gosododd ef yn Ei ymyl, a dywedodd wrthynt, Pwy bynnag a dderbynio y bachgenyn hwn yn Fy enw, Myfi a dderbyn efe; a phwy bynnag a’m derbynio I, derbyn y mae yr Hwn a’m danfonodd; canys yr hwn sydd leiaf yn eich plith chwi oll, efe sydd fawr. A chan atteb, Ioan a ddywedodd, O Feistr, gwelsom ryw un oedd yn Dy enw Di yn bwrw allan gythreuliaid, a rhwystrasom ef, gan nad yw yn canlyn gyda ni. Ac wrtho y dywedodd yr Iesu, Na rwystrwch, canys y neb nad yw i’ch erbyn, trosoch y mae. A bu wrth gyflawni dyddiau Ei gymmeryd i fynu, ac Efe a gadarn-osododd Ei wyneb i fyned i Ierwshalem, a danfonodd genhadau o flaen Ei wyneb; ac wedi myned o honynt, aethant i mewn i bentref o Shamariaid, i barottoi Iddo. Ac ni dderbyniasant Ef, gan fod Ei wyneb ar fyned i Ierwshalem. A chan weled hyn, Ei ddisgyblion Iago ac Ioan a ddywedasant, Arglwydd, a ewyllysi Di ddywedyd o honom am i dân ddyfod i lawr o’r nef a’u difa hwynt? Ac wedi troi, dwrdiodd hwynt: ac aethant i bentref arall. Ac wrth fyned o honynt, ar y ffordd y dywedodd rhywun Wrtho, Canlynaf Di i ba le bynnag yr elych. Ac wrtho y dywedodd yr Iesu, Y llwynogod sydd a ffauau ganddynt, ac ehediaid y nef a llettyau ganddynt; ond gan Fab y Dyn nid oes lle y rhoddo Ei ben i lawr. A dywedodd wrth un arall, Canlyn Fi. Ac efe a ddywedodd, Arglwydd, gad i mi, wedi myned ymaith, yn gyntaf gladdu fy nhad: a dywedodd wrtho, Gad i’r meirwon gladdu eu meirw eu hun; a thydi wedi myned ymaith, cyhoedda deyrnas Dduw. A dywedodd un arall hefyd, Canlynaf Di, Arglwydd; ond yn gyntaf, caniatta i mi ganu yn iach i’r rhai sydd gartref: ac wrtho y dywedodd yr Iesu, Nid oes neb wedi rhoi ei law ar yr aradr ac yn edrych yn ei ol, yn gymmwys i deyrnas Dduw. Wedi’r pethau hyn, gosododd yr Arglwydd rai eraill, deg a thrugain; a danfonodd hwynt, bob yn ddau, o flaen Ei wyneb i bob dinas a man lle yr oedd efe ar fedr dyfod: a dywedodd wrthynt, Y cynhauaf yn wir sydd fawr, ond y gweithwyr yn ychydig: deisyfiwch gan hyny ar Arglwydd y cynhauaf, am ddanfon allan o Hono weithwyr i’w gynhauaf. Ewch: wele, Myfi wyf yn eich danfon fel ŵyn ym mysg bleiddiaid. Na ddygwch gôd, nac ysgrepan, nac esgidiau; ac i neb ar eich ffordd na chyferchwch well. Ac i ba dŷ bynnag yr eloch i mewn, yn gyntaf dywedwch, Tangnefedd i’r tŷ hwn; ac o bydd yno fab tangnefedd, arno y gorphwys eich tangnefedd; ond os amgen, attoch chwi y dychwel. Ac yn y tŷ hwnw arhoswch, gan fwytta ac yfed yr hyn sydd ganddynt, canys teilwng yw i’r gweithiwr ei gyflog: na threiglwch o dŷ i dŷ. Ac i ba ddinas bynnag yr eloch i mewn, ac eich derbyn ganddynt, bwyttewch y pethau a rodder ger eich bronnau; ac iachewch y cleifion y sydd ynddi: a dywedwch wrthynt, Nesau attoch a wnaeth teyrnas Dduw. Ac i ba ddinas bynnag yr eloch i mewn, ac ni’ch derbyniant, wedi myned allan i’w llydanfeydd hi dywedwch, Hyd yn oed y llwch a lynodd o’ch dinas wrth ein traed i ni, ei sychu ymaith i chwi yr ydym: ond hyn gwybyddwch, Nesaodd teyrnas Dduw. Dywedaf wrthych, I Sodom yn y dydd hwnw y bydd yn fwy dioddefadwy nag i’r ddinas honno. Gwae di, Corazin; gwae di, Bethtsaida, canys pe yn Tyrus a Tsidon y gwnaethid y gwyrthiau a wnaethpwyd ynoch, er ys talm, gan eistedd mewn sachlïain a lludw, yr edifarhasent; ond i Tyrus a Tsidon y bydd yn fwy dioddefadwy yn y farn nag i chwi. A thydi, Caphernahwm, ai hyd at y nef y’th ddyrchafwyd? Hyd i uffern y’th dynir i lawr. Yr hwn sydd yn eich gwrando, Myfi a wrendy efe; ac yr hwn sydd yn eich dirmygu, Myfi a ddirmyga efe; ac yr hwn sydd yn Fy nirmygu I, dirmygu yr Hwn a’m danfonodd y mae. A dychwelodd y deg a thrugain gyda llawenydd, gan ddywedyd, Arglwydd hyd yn oed y cythreuliaid a ddarostyngir i ni yn Dy enw. A dywedodd wrthynt, Gwelais Satan, fel mellten, yn syrthio o’r nef. Wele, rhoddais i chwi awdurdod i sathru ar seirph ac ysgorpionau ac ar holl allu y gelyn; ac nid oes dim o gwbl a wna i chwi niweid. Eithr yn hyn na lawenychwch, fod yr ysprydion yn cael eu darostwng i chwi, ond llawenychwch am fod eich enwau wedi eu hysgrifenu yn y nefoedd. Yr awr honno y gorfoleddodd yn yr Yspryd Glân, a dywedodd, Diolchaf i Ti, O Dad, Arglwydd y nef a’r ddaear, am guddio o Honot y pethau hyn oddiwrth ddoethion a rhai deallus, ac y’ u datguddiaist hwynt i rai bychain. Ië, Dad, canys felly y boddlonwyd ger Dy fron. Pob peth a draddodwyd i Mi gan Fy Nhad; ac nid oes neb a ŵyr pwy yw y Mab, oddieithr y Tad; na phwy yw y Tad, oddieithr y Mab, a phwy bynnag y mynno’r Mab Ei ddatguddio Ef iddo. Ac wedi troi at y disgyblion, o’r neilldu y dywedodd, Gwyn fyd y llygaid y sy’n gweled y pethau a welwch, canys dywedaf wrthych, Llawer o brophwydi a brenhinoedd a ewyllysiasant weled y pethau a welwch chwi, ac nis gwelsant, a chlywed y pethau a glywch, ac nis clywsant. Ac wele, rhyw gyfreithiwr a gododd, gan Ei demtio Ef, gan ddywedyd, Athraw, wedi gwneuthur pa beth y caf fywyd tragywyddol yn etifeddiaeth? Ac Efe a ddywedodd wrtho, Yn y Gyfraith pa beth sydd ysgrifenedig? Pa fodd y darlleni? Ac efe, gan atteb, a ddywedodd, Ceri Iehofah, dy Dduw, â’th holl galon, ac â’th holl enaid, ac â’th holl nerth, ac â’th holl feddwl; a’th gymmydog fel ti dy hun. A dywedodd Efe wrtho, Iawn yr attebaist: hyn gwna, a byw fyddi. Ac efe, gan ewyllysio cyfiawnhau ei hun, a ddywedodd wrth yr Iesu, A phwy yw fy nghymmydog? A chan atteb, yr Iesu a ddywedodd, Rhyw ddyn oedd yn myned i wared o Ierwshalem i Iericho, ac ym mysg lladron y syrthiodd, y rhai wedi ei ddiosg a’i guro, a aethant ymaith, gan ei adael yn hanner-marw. Ac wrth ddamwain rhyw offeiriad oedd yn myned i wared y ffordd honno; ac wedi ei weled ef, aeth o’r tu arall heibio. Ac yr un ffunud Lefiad, wedi dyfod i’r fan, a’i weled ef, aeth o’r tu arall heibio. Ac rhyw Shamariad, wrth ymdaith, a ddaeth cyferbyn ag ef; ac wedi ei weled ef, tosturiodd, ac wedi myned atto, rhwymodd ei archollion ef, gan dywallt arnynt olew a gwin; ac wedi ei osod ef ar ei anifail ei hun, dug ef i’r lletty, ac amgeleddodd ef. A thrannoeth, wedi tynu allan ddwy ddenar, rhoddes hwynt i’r llettywr, a dywedodd, Amgeledda ef, a pha beth bynnag a dreuliech yn ychwaneg, myfi wrth ddychwelyd o honof, a’ i talaf i ti. Pwy o’r tri hyn tybygi di fu gymmydog i’r hwn a syrthiasai ymhlith y lladron? Ac efe a ddywedodd, Yr hwn a wnaeth drugaredd ag ef. A dywedodd yr Iesu wrtho, Dos a gwna di yr un ffunud. Ac wrth ymdeithio o honynt Efe a aeth i mewn i ryw bentref; ac rhyw wraig a’i henw Martha a dderbyniodd Ef i’w thŷ. Ac iddi hi yr oedd chwaer a elwid Mair, yr hon hefyd gan eistedd wrth draed yr Arglwydd a wrandawai ar Ei ymadrodd. Ond Martha a ddirdynid ynghylch llawer o wasanaeth; a chan sefyll gerllaw dywedodd, Arglwydd, onid gwaeth Genyt fod fy chwaer wedi fy ngadael ar fy mhen fy hun i wasanaethu? Dywaid, gan hyny, wrthi am fy nghynnorthwyo. A chan atteb, dywedodd yr Arglwydd wrthi, Martha, Martha, pryderu ac ymdrallodi yr wyt ynghylch llawer o bethau: ond wrth un peth y mae rhaid; canys Mair, y rhan dda a ddewisodd hi, yr hon ni chymmerir ymaith oddi arni. A bu, pan yr oedd mewn rhyw fan yn gweddïo, pan beidiodd, dywedodd rhyw un o’i ddisgyblion Wrtho, Arglwydd, dysg i ni weddïo, fel y bu i Ioan hefyd ddysgu i’w ddisgyblion. A dywedodd wrthynt, Pan weddïoch dywedwch, O Dad, sancteiddier Dy enw: deued Dy deyrnas; ein bara beunyddiol dyro i ni o ddydd i ddydd: a maddeu i ni ein pechodau, canys ninnau hefyd a faddeuwn i bawb y sydd wedi troseddu i’n herbyn; ac nac arwain ni i brofedigaeth. A dywedodd wrthynt, Pwy o honoch fydd a chanddo gyfaill, ac a aiff atto hanner nos, ac a ddywaid wrtho, O gyfaill, moes yn echwyn i mi dair torth, canys cyfaill i mi a ddaeth attaf oddiar daith, ac nid oes genyf ddim a ddodwyf ger ei fron. Ac yntau oddi mewn a ettyb, I myfi na phar drafferth: yn awr y drws a gauwyd, ac fy mhlant, ynghyda mi, yn eu gwely y maent: ni allaf godi a rhoddi i ti. Dywedaf wrthych, Er na rydd iddo, gan godi, am mai ei gyfaill yw, etto, o herwydd ei daerni, gan gyfodi y rhydd iddo gynnifer ag y mae arno eu heisiau. Ac Myfi, wrthych y dywedaf, Gofynwch a rhoddir i chwi; ceisiwch, a chewch; curwch, ac agorir i chwi; canys pob un y sydd yn gofyn, derbyn y mae; ac yr hwn sy’n ceisio, cael y mae; ac i’r hwn sy’n curo yr agorir. Pwy o honoch chwi y sydd dad, os gofyn ei fab iddo fara, a ddyry garreg iddo; neu os bysgodyn, yn lle pysgodyn a ddyry sarph iddo; neu os gofyn wy, a ddyry iddo scorpion? Os, gan hyny, chwychwi, a chwi yn ddrwg, a wyddoch pa fodd i roi rhoddion da i’ch plant, pa faint mwy y bydd i’ch Tad nefol roi’r Yspryd Glân i’r rhai a ofynant Iddo? Ac yr oedd Efe yn bwrw allan gythraul mud; a bu, a’r cythraul wedi myned allan, llefarodd y mudan; a rhyfeddodd y torfeydd. Ond rhai o honynt a ddywedasant, Trwy Beelzebub, pennaeth y cythreuliaid, y bwrw Efe allan gythreuliaid. Ac eraill gan Ei demtio, arwydd o’r nef a geisient Ganddo. Ac Efe, gan wybod eu meddyliau, a ddywedodd wrthynt, Pob teyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun, a anghyfanneddir; a thŷ yn erbyn tŷ, a syrth; ac os Satan hefyd a ymrannodd yn ei erbyn ei hun, pa fodd y saif ei deyrnas, o herwydd dywedyd o honoch mai trwy Beelzebub yr wyf Fi yn bwrw allan gythreuliaid? Ac os Myfi trwy Beelzebub yr wyf yn bwrw allan y cythreuliaid, trwy bwy y mae eich meibion chwi yn eu bwrw hwynt allan? Am hyny hwy a fyddant eich barnwyr. Ond os trwy fys Duw yr wyf Fi yn bwrw allan y cythreuliaid, yna arnoch y daeth teyrnas Dduw. Pan fyddo un cryf arfog yn gwylied ei lys, mewn heddwch y mae ei eiddo; ond pan fo un cryfach nag ef, wedi dyfod arno, yn ei orchfygu ef, ei lwyr-arfogaeth yn yr hon yr ymddiriedai, a ddwg efe oddi arno, a’i yspeiliau a ran efe. Y neb nad yw gyda Mi, yn Fy erbyn y mae; a’r neb nad yw yn casglu gyda Mi, gwasgaru y mae. Pan fo’r yspryd aflan wedi myned allan o’r dyn, myned trwy leoedd di-ddwfr y mae, gan geisio gorphwysdra; a chan na chaffo, y dywaid, Dychwelaf i fy nhŷ o’r hwn y daethum allan; ac wedi dyfod, ei gael ef wedi ei ysgubo a’i drefnu y mae. Yna myned y mae ac yn cymmeryd atto saith eraill o ysprydion gwaeth nag ef ei hun, ac wedi myned i mewn, trigant yno; a chyflwr olaf y dyn hwnw sydd waeth na’r cyntaf. A bu, wrth ddywedyd o Hono y pethau hyn, ei llais a gododd rhyw wraig, o’r dyrfa, a dywedodd Wrtho, Gwyn fyd y groth a’th ddug Di, a’r bronnau a sugnaist. Ac Efe a ddywedodd, Yn hytrach, gwyn fyd y rhai sydd yn clywed gair Duw ac yn ei gadw. A’r torfeydd yn ymdyrru ynghyd, dechreuodd ddywedyd, Y genhedlaeth hon, cenhedlaeth ddrwg yw: arwydd a gais hi, ac arwydd ni roddir iddi, oddieithr arwydd Ionah. Canys fel y bu Ionah yn arwydd i’r Ninefiaid, felly y bydd Mab y Dyn hefyd i’r genhedlaeth hon. Brenhines y dehau a gyfyd yn y farn gyda gwŷr y genhedlaeth hon, ac a’u condemnia hwynt, canys daeth o eithafoedd y ddaear i wrando doethineb Shalomon, ac wele, mwy na Shalomon yma. Gwŷr Ninefe a godant i fynu yn y farn gyda’r genhedlaeth hon, a chondemniant hi, canys edifarhasant wrth bregeth Ionah, ac wele, mwy nag Ionah yma. Nid yw neb wedi goleu llusern, yn ei gosod mewn cel-gellfa, na than lestr, eithr ar safle’r llusern fel y bo i’r rhai sy’n dyfod i mewn weled y goleuni. Llusern dy gorph yw dy lygad. Pan fo dy lygad yn syml, dy holl gorph hefyd fydd oleu; ond pan drwg yw, dy gorph hefyd fydd dywyll. Ystyria, gan hyny, ai nad yw’r goleuni sydd ynot yn dywyllwch. Os, gan hyny, dy gorph oll sydd oleu, heb ynddo un rhan dywell, goleu fydd y cwbl, fel pan fo’r llusern, â’i llewyrch, yn dy oleuo. Ac wrth lefaru o Hono, gofynodd rhyw Pharishead Iddo giniawa gydag ef: ac wedi myned i mewn lled-orweddodd Efe. A’r Pharishead, gan weled hyn, a ryfeddodd na fu Iddo yn gyntaf ymolchi o flaen y ciniaw. A dywedodd yr Arglwydd wrtho, Yn awr, chwi, y Pharisheaid, y tu allan i’r cwppan a’r ddysgl a lanhewch, ond eich tu mewn sydd orlawn o reibusrwydd a drygioni. O ynfydion, onid yr hwn a wnaeth y tu allan, a wnaeth hefyd y tu mewn? Eithr, y pethau sydd genych rhoddwch yn elusen; ac wele, pob peth sydd lân i chwi. Eithr gwae chwi, y Pharisheaid, canys degymmwch y mintys a’r rhyw a phob llysieuyn, ac myned heibio yr ydych i farn a chariad Duw; y rhai hyn yr oedd raid eu gwneuthur, a pheidio a gadael y lleill heibio. Gwae chwi, y Pharisheaid, canys caru yr ydych y brif-gadair yn y sunagogau, a’r cyfarchiadau yn y marchnadoedd. Gwae chwi, canys yr ydych fel y beddau anamlwg, ac y dynion sy’n rhodio arnynt ni wyddant. A chan atteb, rhyw un o’r cyfreithwyr a ddywedodd Wrtho, Athraw, wrth ddywedyd y pethau hyn, nyni hefyd a sarai. Ac Efe a ddywedodd, Ac i chwithau y cyfreithwyr wae, canys llwythwch ddynion â llwythau anhawdd eu dwyn; a chwi eich hunain, ag un o’ch bysedd ni chyffyrddwch â’r llwythau. Gwae chwi, canys adeiledwch feddau’r prophwydi, a’ch tadau a’u lladdasant. Felly, tystion ydych ac yn cyd-foddloni yn ngweithredoedd eich tadau. O achos hyn Doethineb Duw hefyd a ddywedodd, Danfonaf attynt brophwydi ac apostolion, A rhai o honynt a laddant ac a erlidiant hwy: Fel y ceisier gwaed yr holl brophwydi Y sy’n cael ei dywallt o seiliad y byd, Oddiwrth y genhedlaeth hon: O waed Abel hyd waed Zacarias Yr hwn a laddwyd rhwng yr allor a’r cyssegr; Ië, dywedaf wrthych, Ceisir ef oddiwrth y genhedlaeth hon. Gwae chwi y cyfreithwyr, canys dygasoch ymaith agoriad gwybodaeth; chwi eich hunain nid aethoch i mewn, a’r rhai oedd yn myned i mewn a rwystrasoch. Ac wedi myned allan o Hono oddiyno, dechreuodd yr ysgrifenyddion a’r Pharisheaid ddal gŵg Iddo yn ofnadwy, ac Ei ennyn i lefaru am lawer o bethau, gan Ei gynllwyn, i ddala rhyw beth o’i enau Ef. Ac ymysg y pethau hyn, wedi ymgasglu ynghyd o fyrddiynau o’r dyrfa fel y sathrent y naill y llall, dechreuodd ddywedyd wrth Ei ddisgyblion, Yn gyntaf, ymogelwch rhag surdoes y Pharisheaid, yr hwn yw rhagrith. Ond nid oes dim wedi ei orchuddio, na ddatguddir; nac yn guddiedig, na wneir yn hysbys. Gan hyny, pa bethau bynnag a ddywedasoch yn y tywyllwch, yn y goleuni y clywir hwynt; a’r hyn a lefarasoch yn y glust yn yr ystafelloedd, cyhoeddir ef ar bennau’r tai. A dywedaf wrthych chwi, Fy nghyfeillion, Nac ofnwch rhag y rhai sy’n lladd y corph, ac wedi hyny heb ganddynt ddim ychwaneg i’w wneuthur. Ond dangosaf i chwi pwy a ofnwch; ofnwch yr Hwn, ar ol y lladd, sydd a Chanddo awdurdod i fwrw i Gehenna; ïe, meddaf i chwi, Hwnw ofnwch, Onid yw pump aderyn y tô yn cael eu gwerthu er dwy ffyrling; ac nid oes un o honynt wedi ei anghofio ger bron Duw. Eithr hyd yn oed gwallt eich pennau sydd oll yn gyfrifedig. Nac ofnwch, ar lawer o adar y tô yr ydych yn rhagori. A dywedaf wrthych, Pob un a’m haddefo I ger bron dynion, Mab y Dyn hefyd a’i haddef ef ger bron angylion Duw: A’r hwn a’m gwado yngwydd dynion, A wedir yngwydd angylion Duw. A phob un a ddywaid air yn erbyn Mab y Dyn, maddeuir iddo; Ond i’r hwn a gablodd yn erbyn yr Yspryd Glân, ni faddeuir. A phan ddygont chwi o flaen y sunagogau a’r llywiawdwyr a’r awdurdodau, na phryderwch pa fodd nac â pha beth yr amddiffynoch eich hunain, na pha beth a ddywedoch, canys yr Yspryd Glân a ddysg i chwi yn yr awr honno y pethau y mae rhaid eu dywedyd. A dywedodd rhyw un allan o’r dyrfa Wrtho, Athraw, dywaid wrth fy mrawd am rannu â mi yr etifeddiaeth. Ac Efe a ddywedodd wrtho, Y dyn, pwy a’m gosododd I yn farnwr neu yn rhannwr arnoch? A dywedodd wrthynt, Edrychwch ac ymgedwch rhag pob cybydd-dod; canys nid yn ei orlawnder y mae i neb ei fywyd, oddiwrth ei feddiannau. A dywedodd ddammeg wrthynt, gan ddywedyd, I ryw ddyn goludog y cnydiodd ei dir yn dda: ac ymresymmodd ynddo ei hun, gan ddywedyd, Pa beth a wnaf, canys nid oes genyf le i gasglu fy ffrwythau ynghyd? A dywedodd, Hyn a wnaf; tynnaf i lawr fy ysguboriau i, ac rhai mwy a adeiladaf, a chasglaf ynghyd yno fy holl ŷd a’m da; a dywedaf wrth fy enaid, Enaid, y mae genyt lawer o dda wedi ei roi i gadw am flynyddoedd lawer; ymorphwys, bwytta, yf, ymhyfryda. Ond dywedodd Duw wrtho, O ynfyd, y nos hon, dy enaid a ofynant oddiwrthyt; a’r pethau a barottoaist, eiddo pwy fyddant? Felly y mae ’r hwn sydd yn trysori iddo ei hun, ac heb fod yn oludog tuag at Dduw. A dywedodd wrth Ei ddisgyblion, Am hyn y dywedaf wrthych, na phryderwch am eich einioes, beth a fwyttaoch; nac am eich corph, beth a wisgoch; canys yr einioes, mwy yw na’r ymborth, a’r corph na’r dillad. Ystyriwch y brain, nad ŷnt yn hau nac yn medi, i’r rhai nid oes ystordy nac ysgubor, a Duw a’u portha. Pa faint mwy yr ydych chwi yn well na’r ehediaid? A phwy o honoch, gan bryderu, a ddichon ychwanegu at ei faintioli gufydd? Os, gan hyny, y peth lleiaf na ellwch ei wneud, paham am y lleill y pryderwch? Ystyriwch y lili, y modd y tyfant: ni lafuriant, ac ni nyddant ddim; a dywedaf wrthych, Nid oedd hyd yn oed Shalomon, yn ei holl ogoniant, wedi ymwisgo fel un o’r rhai hyn. Ac os y llysieuyn yn y maes, yr hwn sydd heddyw, ac y foru i’r ffwrn y’i teflir, y mae Duw fel hyn yn ei ddilladu, pa faint mwy y dillada Efe chwi, O rai o ychydig ffydd? A chwychwi, na cheisiwch pa beth a fwyttaoch, a pha beth a yfoch; ac na fyddwch amheus; canys y pethau hyn oll y mae cenhedloedd y byd yn eu ceisio; ac eich Tad chwi a ŵyr fod arnoch eisiau y pethau hyn: eithr ceisiwch Ei deyrnas Ef, a’r pethau hyn a roddir attoch. Nac ofna, braidd bychan, canys rhyngodd bodd i’ch Tad roddi i chwi y deyrnas. Gwerthwch eich meddiannau, a rhoddwch elusen. Gwnewch i’ch hunain byrsau na heneiddiant, trysor na dderfydd yn y nefoedd, y lle nad yw lleidr yn nesau atto, na phryf yn llygru; canys lle y mae eich trysor, yno y bydd eich calon hefyd. Bydded eich lwynau chwi wedi eu hamwregysu, a’ch llusernau yn llosgi, a chwithau yn debyg i ddynion yn disgwyl eu harglwydd, pa bryd y dychwel o’r neithior, fel wedi dyfod o hono a churo, y bo iddynt yn uniawn agor iddo. Gwyn eu byd y gweision hyny y rhai y bydd yr arglwydd ar ei ddyfodiad yn cael yn neffro; yn wir y dywedaf wrthych, Ymwregysa efe, a phar iddynt led-orwedd, a chan ddyfod y gwasanaetha arnynt. Ac os yn yr ail, ac os yn y drydedd wyliadwriaeth y delo, ac eu caffo felly, gwyn eu byd y gweision hyny. A hyn gwybyddwch, pe gwybuasai gŵr y tŷ pa awr yr oedd y lleidr ar ddyfod, effro fuasai, ac ni adawsai i’w dŷ gael ei gloddio trwodd. A chwithau, byddwch barod, canys yr awr na thybiwch y mae Mab y Dyn yn dyfod. A dywedodd Petr, Arglwydd, Ai wrthym ni y dywedi y ddammeg hon, neu wrth bawb hefyd? A dywedodd yr Arglwydd, Pwy, gan hyny, yw’r distain ffyddlawn, y pwyllog, yr hwn a esyd yr arglwydd ar ei deulu, i roddi eu cyfluniaeth yn ei bryd? Gwyn ei fyd y gwas hwnw, yr hwn, ar ei ddyfodiad, y bydd i’w arglwydd ei gael yn gwneuthur felly. Yn wir y dywedaf wrthych, Ar y cwbl y sydd eiddo y gesyd ef. Ond os dywaid y gwas hwnw yn ei galon, Oedi dyfod y mae fy arglwydd, a dechreu curo y gweision a’r morwynion, a bwytta ac yfed a meddwi, daw arglwydd y gwas hwnw mewn dydd na ddisgwyl efe, ac ar awr na ŵyr efe, ac ei dorri ef ar wahan a wna efe, a’i ran ef a esyd efe ynghyda’r anffyddloniaid. A’r gwas hwnw, yr hwn a wybu ewyllys ei arglwydd ac ni pharottôdd na gwneuthur yn ol ei ewyllys ef, a gurir â llawer ffonnod; ond yr hwn na wybu, ond a wnaeth bethau yn haeddu ffonnodiau, a gurir ag ychydig ffonnodiau; a phob un i’r hwn y rhoddwyd llawer, llawer a geisir oddi wrtho; a chyda’r hwn y rhoddasant lawer, mwy a ofynant ganddo. Tân y daethum i’w fwrw ar y ddaear, a pha beth a fynnaf os eisoes y cynneuwyd ef? Ond bedydd sydd Genyf i’m bedyddio ag ef; ac mor gyfyng yw Arnaf hyd oni orphener! A dybygwch chwi mai heddwch y daethum i’w roddi ar y ddaear? Nage, meddaf i chwi, eithr ymranniad; canys bydd o hyn allan bump mewn un tŷ wedi ymrannu, tri yn erbyn dau, a dau yn erbyn tri: rhennir hwynt tad yn erbyn mab, a mab yn erbyn tad; mam yn erbyn merch, a merch yn erbyn ei mam; chwegr yn erbyn gwaudd, a gwaudd yn erbyn ei chwegr. A dywedodd hefyd wrth y torfeydd, Pan weloch gwmmwl yn y gorllewin, yn uniawn y dywedwch, Cawod sy’n dyfod; ac felly y digwydd: a phan weloch y deheu-wynt yn chwythu, dywedwch, Gwres poeth fydd, a digwydd y mae. Rhagrithwyr, gwynebpryd y ddaear a’r nef y medrwch ei ddeall; ond yr amser hwn pa fodd na fedrwch ei ddeall? A phaham nad ydych, ïe, o honoch eich hunain, yn barnu yr hyn sydd gyfiawn? Canys tra yr eli gyda’th wrthwynebwr ger bron llywodraethwr, ar y ffordd ymdrecha i fyned yn rhydd oddi wrtho, rhag ysgatfydd iddo dy lusgo at y barnwr, ac i’r barnwr dy roddi at y swyddog, a’r swyddog dy daflu yngharchar. Dywedaf wrthyt, Ni ddeui ddim allan oddiyno nes, ïe, i’r hatling eithaf ei thalu genyt. Ac yr oedd yn bresennol, yr un amser hwnw, rai yn mynegi Iddo am y Galileaid, gwaed y rhai a gymmysgodd Pilat ynghyda’u haberthau. A chan atteb, dywedodd wrthynt, A dybygwch chwi yr oedd y Galileaid hyn yn bechaduriaid rhagor yr holl Galileaid am mai y pethau hyn a ddioddefasant? Nac oeddynt, meddaf i chwi; eithr onid edifarhewch, yr oll o honoch a ddifethir yr un ffunud. Neu’r deunaw hyny, ar y rhai y syrthiodd y tŵr yn Shiloam, ac a’u lladdodd, a dybygwch chwi yr oeddynt hwy yn bechaduriaid rhagor yr holl ddynion yn cyfanneddu yn Ierwshalem? Nac oeddynt, meddaf i chwi; eithr onid edifarhewch, yr oll o honoch a ddifethir yn yr un modd. A dywedodd y ddammeg hon, Ffigysbren oedd gan ryw un, wedi ei blannu yn ei winllan; a daeth gan geisio ffrwyth arno, ac ni chafodd; a dywedodd wrth y gwinllanydd, Wele, tair blynedd sydd er’s dyfod o honof gan geisio ffrwyth ar y ffigysbren hwn, ac nid wyf yn cael dim: tor ef i lawr, paham y gwneir y tir hefyd yn ddirym ganddo? Ac efe, gan atteb, a ddywedodd wrtho, Arglwydd, gâd ef y flwyddyn hon hefyd, hyd oni chloddiwyf o’i amgylch, a bwrw tail: ac os dwg efe ffrwyth o hyn allan—; onite, tor ef i lawr. Ac yr oedd Efe yn dysgu yn un o’r sunagogau ar y Sabbath. Ac wele, gwraig a chanddi yspryd yn gwanhau ddeunaw mlynedd, ac oedd wedi cyd-grymmu, ac heb allu ymsythu mewn modd yn y byd. A phan welodd Efe hi, yr Iesu a’i galwodd Atto, a dywedodd wrthi, Ha wraig, gollyngwyd di yn rhydd oddiwrth dy wendid; a rhoddes arni Ei ddwylaw; ac yn y fan yr uniawnwyd hi, a gogoneddodd Dduw. A chan atteb, yr archsunagogydd, yn sorri am mai ar y Sabbath yr iachaodd yr Iesu, a ddywedodd wrth y dyrfa, Chwe diwrnod sydd yn y rhai y mae rhaid gweithio; ynddynt hwy, gan hyny, deuwch ac iachaer chwi, ac nid ar ddydd y Sabbath. Ac iddo yr attebodd yr Arglwydd, a dywedodd, Rhagrithwyr, onid yw pob un o honoch ar y Sabbath yn gollwng ei ŷch neu ei asyn o’r preseb, a chan ei arwain ymaith, yn ei ddiodi ef? A hon, merch i Abraham, yr hon a rwymodd Satan, wele, ddeunaw mlynedd, onid oedd rhaid ei gollwng o’r rhwym hwn ar ddydd y Sabbath? Ac Efe yn dywedyd y pethau hyn, cywilyddiwyd ei holl wrthwynebwyr, a’r holl dyrfa a lawenychodd am yr holl bethau gogoneddus a wnaid Ganddo. Dywedodd, gan hyny, I ba beth y mae teyrnas Dduw yn gyffelyb? Ac i ba beth y cyffelybaf hi? Cyffelyb yw i ronyn o had mwstard, yr hwn a gymmerodd dyn ac a’i hauodd yn ei ardd; a chynnyddodd efe ac aeth yn bren, ac ehediaid y nef a lettyasant yn ei ganghennau ef. A thrachefn y dywedodd, I ba beth y cyffelybaf deyrnas Dduw? Cyffelyb yw i surdoes a gymmerodd gwraig, ac a’i cuddiodd mewn tri seah o flawd, hyd oni surodd y cwbl. A thramwyodd trwy ddinasoedd a phentrefi, gan ddysgu ac ymdeithio i Ierwshalem. A dywedodd rhyw un Wrtho, Arglwydd, ai ychydig yw y rhai sy’n cael eu cadw? Ac Efe a ddywedodd wrthynt, Ymdrechwch i fyned i mewn trwy’r porth cyfyng; canys llawer, meddaf i chwi, a geisiant fyned i mewn ac ni fyddant yn abl. Pan ddarffo i ŵr y tŷ gyfodi, a chau’r drws, A dechreu o honoch sefyll oddi allan a churo’r drws, Gan ddywedyd, Arglwydd, agor i ni, A chan atteb y dywaid wrthych, Nid adwain chwi, o ba le yr ydych. Yna y dechreuwch ddweud, Bwyttasom yn Dy wydd Di, ac yfasom, Ac yn ein llydanfeydd y dysgaist. A dywaid Efe, Dywedaf wrthych, Nis gwn o ba le yr ydych, Ewch ymaith Oddiwrthyf, yr holl weithwyr anghyfiawnder. Yno y bydd y wylofain a’r rhingcian dannedd, Pan weloch Abraham ac Itsaac ac Iacob, A’r holl brophwydi, yn nheyrnas Dduw, A chwychwi yn cael eich bwrw allan. A deuant o’r dwyrain a’r gorllewin, Ac o’r gogledd a’r dehau, A lled-orweddant yn nheyrnas Dduw. Ac wele, olaf yw’r rhai a fyddant flaenaf, A blaenaf yw’r rhai a fyddant olaf. Yr awr honno daeth Atto rai o’r Pharisheaid, gan ddywedyd Wrtho, Dos allan a cherdda oddiyma, canys Herod a ewyllysia Dy ladd Di. A dywedodd wrthynt, Ewch a dywedwch wrth y cadnaw hwnw, Wele, bwrw allan gythreuliaid yr wyf, ac iachadau a wnaf, heddyw ac y foru, a’r trydydd dydd y’m perffeithir. Eithr rhaid sydd i Mi heddyw, ac y foru, a thrennydd, fod ar Fy nhaith, canys ni all fod i brophwyd ei gyfrgolli tu allan i Ierwshalem, Ierwshalem, Ierwshalem, yr hon wyt yn lladd y prophwydi, Ac yn llabyddio y rhai a ddanfonwyd attat, Pa sawl gwaith y mynnwn gasglu ynghyd dy blant, Yn y modd y cydgasgl giar ei chywion dan ei hadennydd, ac ni fynnech! Wele, gadewir i chwi eich tŷ; a dywedaf wrthych, Myfi ni welwch ddim nes dweud o honoch, Bendigedig yw’r Hwn sy’n dyfod yn Enw’r Arglwydd. A bu wrth ddyfod o Hono i dŷ rhyw un o bennaethiaid y Pharisheaid ar Sabbath, i fwytta bara, hwythau hefyd oeddynt yn Ei wylied Ef. Ac wele, rhyw ddyn claf o’r dropsi oedd ger Ei fron. A chan atteb, yr Iesu a lefarodd wrth y cyfreithwyr a’r Pharisheaid, gan ddywedyd, Ai cyfreithlawn ar y Sabbath yw iachau, neu beidio? A hwy a dawsant. Ac wedi ei gymmeryd ef, iachaodd ef, a gollyngodd ef ymaith. Ac wrthynt hwy y dywedodd, I ba un o honoch y bydd asyn neu ych yn syrthio i bydew, ac na thyn ef allan yn uniawn ar y dydd Sabbath? Ac ni allent atteb i’r pethau hyn. A dywedodd wrth y gwahoddedigion ddammeg, gan ystyried y modd yr oedd y prif led-orweddleoedd yn cael eu dewis ganddynt, gan ddywedyd wrthynt, Pan wahodder di gan neb i neithior, na led-orwedd yn y prif led-orweddle, rhag ysgatfydd bod un anrhydeddusach na thi wedi ei wahodd ganddo, a dyfod o’r hwn a’th wahoddodd di ac yntau, a dywedyd o hono wrthyt, Dyro le i hwn, ac yna dechreu o honot, gyda chywilydd, gymmeryd y lle isaf. Eithr pan wahodder di, dos a lled-orwedd yn y lle isaf, fel pan ddelo yr hwn a’th wahoddodd, y dywedo wrthyt, Cyfaill, dos i fynu, yn uwch; yna y bydd i ti glod yngwydd pawb sy’n cyd-ledorwedd â thi; canys pob un y sy’n dyrchafu ei hun a ostyngir, a’r hwn sy’n ei ostwng ei hun a ddyrchefir. A dywedodd wrth yr hwn a’i gwahoddasai Ef, Pan wnelych giniaw neu swpper, na alw dy gyfeillion, na’th frodyr, na’th geraint, na chymmydogion goludog, rhag ysgatfydd iddynt hwy hefyd dy wahodd dithau eilchwyl, ac y bo taledigaeth i ti. Eithr pan wnelych wledd, gwahodd dlodion, anafusion, cloffion, deillion, a dedwydd fyddi, canys nid oes ganddynt i dalu yn ol i ti, canys telir yn ol i ti yn adgyfodiad y cyfiawnion. Ac wedi clywed o ryw un o’r rhai yn cyd-ledorwedd y pethau hyn, dywedodd Wrtho, Gwyn ei fyd y neb a fwyttao fara yn nheyrnas Dduw. Ac Efe a ddywedodd wrtho, Rhyw ddyn a wnaeth swpper mawr, a gwahoddodd lawer: a danfonodd ei was bryd swpper i ddywedyd wrth y rhai a wahoddasid, Deuwch, canys weithian parod yw’r pethau. A dechreuasant yn un- fryd, bawb ohonynt, ymesgusodi. Y cyntaf a ddywedodd wrtho, Tyddyn a brynais, ac y mae arnaf raid i fyned allan a’i weled; gofynaf i ti fy nghymmeryd yn esgusodol. Ac arall a ddywedodd, Ieuoedd o ychain a brynais, bump o honynt, a myned yr wyf i’w profi; gofynaf i ti fy nghymmeryd yn esgusodol. Ac arall a ddywedodd, Gwraig a briodais, ac am hyny nis gallaf ddyfod. Ac wedi dyfod atto, y gwas a fynegodd i’w arglwydd y pethau hyn. Yna, wedi llidio, gŵr y tŷ a ddywedodd wrth ei was, Dos allan ar frys i lydanfeydd ac heolydd y ddinas, ac y tlodion a’ r anafusion a’ r deillion a’ r cloffion dwg i mewn yma. A dywedodd y gwas, Arglwydd, gwnaethpwyd fel y gorchymynaist, ac etto y mae lle. A dywedodd yr arglwydd wrth y gwas, Dos allan i’r ffyrdd a’r corlannau, a chymmell hwynt i ddyfod i mewn fel y gorlenwer fy nhŷ: canys dywedaf wrthych, Ni chaiff yr un o’r gwŷr hyny a wahoddwyd brofi o’m swpper. A chyd-deithiai ag Ef dorfeydd mawrion; a chan droi, dywedodd wrthynt, Os yw neb yn dyfod Attaf, ac heb gasau ei dad a’i fam a’i wraig a’i frodyr a’i chwiorydd ac hefyd ei einioes ef ei hun, ni all fod Fy nisgybl I. Yr hwn na ddycco ei groes, ac sy’n dyfod ar Fy ol, ni all fod Fy nisgybl I. Canys pwy o honoch, yn ewyllysio adeiladu tŵr, nad eistedd yn gyntaf a bwrw’r draul a oes ganddo am ei orpheniad, rhag ysgatfydd, wedi gosod o hono y sail, ac heb allu dyfod ag ef i ben, i bawb a’ i gwelant ddechreu ei watwar ef, gan ddywedyd, Y dyn hwn a ddechreuodd adeiladu, ac ni allai ddyfod ag ef i ben. Neu, pa frenhin yn myned i gyfarfod â brenhin arall er rhyfel, nad eistedda yn gyntaf ac ymgynghori ai abl yw, â deng mil, i wrthwynebu yr hwn, gydag ugain mil, sy’n dyfod yn ei erbyn? Ac os amgen, tra y mae’ r llall ym mhell, cennadwri a ddenfyn efe ac a gyfarch well iddo. Felly, gan hyny, pob un o honoch nad yw’n canu’n iach i’r holl sy’n perthyn iddo, ni all fod Fy nisgybl I. Da, gan hyny, yw’r halen; ond os yr halen hefyd a ddiflasa, â pha beth y cyweirir ef? Nac i’ r tir, nac i’ r dommen, nid yw gymmhwys: allan y taflant ef. Yr hwn sydd a chanddo glustiau i wrando, gwrandawed. Ac nesau Atto yr oedd yr holl dreth-gymmerwyr a’r pechaduriaid, i wrando Arno. A grwgnachodd y Pharisheaid a’r ysgrifenyddion hefyd, gan ddywedyd, Hwn, pechaduriaid a dderbyn Efe; a bwytta gyda hwynt y mae. Ac adroddodd wrthynt y ddammeg hon, gan ddywedyd, Pa ddyn o honoch a chanddo gant o ddefaid, ac wedi colli o honynt un, na âd y cant namyn un yn yr anialwch, a myned ar ol yr hon a gollwyd nes caffael o hono hi? Ac wedi ei chael, dŷd hi ar ei ysgwyddau dan lawenychu; ac wedi dyfod i’w dŷ, gwahodda ynghyd ei gyfeillion a’i gymmydogion, gan ddywedyd wrthynt, Cyd-lawenhewch â mi, canys cefais fy nafad a gollasid. Dywedaf wrthych, Felly llawenydd sydd yn y nef am un pechadur yn edifarhau rhagor am gant namyn un o gyfiawnion, y rhai sydd heb raid iddynt wrth edifeirwch. Neu, pa wraig a chanddi ddeg drachm, os cyll un drachm, na oleua lusern ac ysgubo’r tŷ a cheisio yn ddyfal hyd oni chaffo ef. Ac wedi ei gael ef, gwahodda ynghyd ei chyfeillesau a’i chymmydogesau, gan ddywedyd, Cyd-lawenhewch â mi, canys cefais y drachm a gollaswn. Felly, dywedaf wrthych, Y mae llawenydd yngwydd angylion Duw am un pechadur yn edifarhau. A dywedodd, Rhyw ddyn oedd a chanddo ddau fab. A dywedodd yr ieuengaf o honynt wrth ei dad, Fy nhad, dyro i mi y rhan a ddigwydd o’r da; ac efe a rannodd iddynt ei fywyd. Ac ar ol nid nemawr o ddyddiau, wedi casglu’r cwbl ynghyd, y mab ieuengaf a aeth ymaith i wlad bell; ac yno y gwasgarodd ei dda, gan fyw yn afradlawn. Ac wedi gwario o hono y cwbl, digwyddodd newyn tost trwy’r wlad honno, ac efe a ddechreuodd fod mewn eisiau: ac aeth ac ymlynodd wrth un o ddinaswyr y wlad honno; a danfonodd efe ef i’w faesydd i borthi moch. A chwenychai ei lenwi â’r cibau a fwyttai’r moch; ac ni roddodd neb iddo. Ac wedi dyfod i’w bwyll dywedodd, Pa sawl gwas cyflog o’r eiddo fy nhad sydd a chanddynt dros ben o fara; ac myfi, o newyn yr wyf yma ar ddarfod am danaf? Gan gyfodi yr af at fy nhad, a dywedaf wrtho, Fy nhad, pechais yn erbyn y nef ac o’th flaen di; mwyach nid ydwyf deilwng i’m galw dy fab; gwna fi fel un o’th weision cyflog. Ac wedi cyfodi o hono yr aeth at ei dad. Ac efe etto ym mhell oddi wrtho, gwelodd ei dad ef, a thosturiodd, a chan redeg, syrthiodd ar ei wddf, a chusanodd ef. Ac wrtho y dywedodd y mab, Fy nhad, pechais yn erbyn y nef ac o’th flaen di: mwyach nid wyf deilwng i’m galw dy fab. A dywedodd y tad wrth ei weision, Ar frys dygwch allan wisg, yr oreu; a gwisgwch am dano; a rhoddwch fodrwy ar ei law, ac esgidiau am ei draed; a deuwch â’r llo pasgedig, a lleddwch ef; a chan fwytta, ymhyfrydwn, canys hwn, fy mab, marw ydoedd, ac adfywiodd; yr oedd wedi ei golli, a chafwyd ef. A dechreuasant ymhyfrydu. Ac yr oedd ei fab hynaf yn y maes; a phan, wrth ddyfod, y nesaodd at y tŷ, clywai gynghanedd a dawnsiau; ac wedi galw atto un o’r gweision, gofynodd pa beth oedd y pethau hyn. Ac efe a ddywedodd wrtho, Dy frawd sydd wedi dyfod, a lladdodd dy dad y llo pasgedig, am mai yn iach y cafodd ef. A llidiodd efe, ac nid ewyllysiai fyned i mewn; a’i dad, wedi dyfod allan, a ddeisyfiodd arno. Ac efe gan atteb, a ddywedodd wrth ei dad, Wele cynnifer o flynyddoedd yr wyf yn dy wasanaethu, a’th orchymyn ni throseddais erioed; ac i mi ni roddaist erioed fynn, fel ynghyda’m cyfeillion yr ymhyfrydwn; ond pan fu i’th fab hwn, yr hwn a lwyr-ddifaodd dy fywyd ynghyda’r putteiniaid, ddyfod, lleddaist iddo y llo pasgedig. Ac efe a ddywedodd wrtho, Fy mhlentyn, tydi, pob amser ynghyda mi yr wyt, a phob peth y sydd eiddof, eiddot ti yw. Ymhyfrydu a llawenychu yr oedd rhaid, canys dy frawd hwn, marw oedd, a byw y mae; ac wedi ei golli, a chafwyd ef. A dywedodd wrth ei ddisgyblion, Yr oedd rhyw ddyn goludog, yr hwn oedd a chanddo ddisdain: a hwn a gyhuddwyd wrtho megis yn gwasgaru ei feddiannau ef. Ac wedi ei alw ef, dywedodd wrtho, Pa beth yw hyn a glywaf am danat? Dyro gyfrif o’th ddisdeiniaeth, canys ni elli fod mwy yn ddisdain. Ac ynddo ei hun y dywedodd y distain, Pa beth a wnaf gan fod fy arglwydd yn dwyn y ddisdeiniaeth oddi arnaf? Cloddio ni allaf; cardotta sydd gywilyddus genyf. Gwn pa beth a wnaf, fel pan y’m symmudir o’r ddisdeiniaeth, y derbyniont fi i’w tai. Ac wedi galw atto bob un o ddyledwyr ei arglwydd, dywedodd wrth y cyntaf. Pa faint sydd arnat i’m harglwydd? Ac efe a ddywedodd, Can bath o olew. Ac efe a ddywedodd wrtho, Cymmer dy ysgrifen di, a chan eistedd, ar frys ysgrifena, “Deg a deugain.” Gwedi’n wrth un arall y dywedodd, A thydi, pa faint sydd arnat? Ac efe a ddywedodd, Can cor o wenith. Dywedodd wrtho, Cymmer dy ysgrifen di, ac ysgrifena, “Pedwar ugain.” A chanmolodd yr arglwydd y distain anghyfiawn mai yn gall y gwnelsai; canys meibion y byd hwn ydynt gallach na meibion y goleuni, am eu cenhedlaeth. Ac Myfi, wrthych y dywedaf, Gwnewch i’ch hunain gyfeillion o’r mammon anghyfiawn, fel pan ddiffygio, y derbyniont chwi i’r tragywyddol bebyll. Y ffyddlawn yn y lleiaf, mewn llawer hefyd ffyddlawn yw; a’r hwn yn y lleiaf yn anghyfiawn, mewn llawer hefyd anghyfiawn yw. Os, gan hyny, yn y mammon anghyfiawn nad oeddych ffyddlawn, pwy a ymddiried i chwi y gwir olud? Ac os yn yr eiddo arall nad oeddych ffyddlawn, pwy a rydd i chwi yr eiddoch eich hun? Nid oes gwas a ddichon wasanaethu dau arglwydd, canys un ai y naill a gasa ac y llall a gâr efe, neu wrth y naill yr ymlyn ac y llall a ddirmyga efe; ni ellwch wasanaethu Duw a mammon. A chlywed y pethau hyn oll yr oedd y Pharisheaid, a hwy yn ariangar, a gwatwarasant Ef. A dywedodd wrthynt, Chwychwi yw y rhai yn cyfiawnhau eich hunain ger bron dynion, ond Duw a ŵyr eich calonnau; canys yr hyn y sydd ymhlith dynion yn uchel, ffiaidd yw ger bron Duw. Y Gyfraith a’r Prophwydi, hyd Ioan yr oeddynt; er y pryd hwnw, teyrnas Dduw a efengylir, ac i mewn iddi hi y mae pob dyn yn ymwthio; ac haws yw myned o’r nef a’r ddaear heibio nag i un tipyn o’r Gyfraith syrthio. Pob un y sy’n gollwng ymaith ei wraig, ac yn priodi un arall, godinebu y mae; a’r hwn a briodo un a ollyngwyd ymaith oddi wrth ŵr, godinebu y mae. Yr oedd rhyw ddyn goludog, ac ymwisgai â phorphor a lliain main, yn ymhyfrydu beunydd yn ysplenydd. Ac rhyw ddyn tlawd, a’i enw Lazarus, a fwrid wrth ei borth ef yn gornwydlyd, ac yn chwennychu cael ei borthi â’r pethau a syrthient oddi ar fwrdd y dyn goludog; ond hyd yn oed y cwn a ddaethant ac a lyfasant ei gornwydydd ef. A bu i’r dyn tlawd farw, a’i ddwyn ymaith gan yr angylion i fynwes Abraham: a bu farw hefyd y goludog, a claddwyd ef. Ac yn Hades gan godi ei lygaid, ac yntau mewn arteithiau, gwelai Abraham o hirbell a Lazarus yn ei fynwes. Ac efe, gan lefain, a ddywedodd, O Dad Abraham, trugarha wrthyf, a danfon Lazarus i drochi pen ei fys mewn dwfr, ac i oeri fy nhafod, canys poenir fi yn y fflam hon. A dywedodd Abraham, Fy mhlentyn, cofia y derbyniaist dy bethau da yn dy fywyd; a Lazarus, yr un ffunud, y pethau drwg; ond yn awr y diddenir ef, a thydi a boenir. Ac heblaw hyn oll, rhyngom ni a chwi, gagendor mawr a sicrhawyd, fel y bo i’r rhai a ewyllysiant dramwy oddi yma attoch, fod heb y gallu; ac oddi yna attom ni na chroesont. A dywedodd, Gofynaf, gan hyny, i ti ei ddanfon ef i dŷ fy nhad, canys y mae i mi bump o frodyr, fel y tystiolaetho iddynt, rhag iddynt hwy hefyd ddyfod i’r lle hwn o artaith. A dywedodd Abraham, y mae ganddynt Mosheh a’r Prophwydi, gwrandawant arnynt hwy. Ac efe a ddywedodd, Nage, y tad Abraham, eithr os rhyw un oddi wrth y meirw a aiff attynt, edifarhant. A dywedodd Abraham wrtho, Os ar Mosheh a’r Prophwydi na wrandawant, hyd yn oed ped o feirw y cyfodai rhyw un ni pherswadir mo honynt. A dywedodd wrth Ei ddisgyblion, Ammhosibl yw na fo i’r tramgwyddau ddyfod; ond gwae y neb trwy yr hwn y deuant; gwell fyddai iddo pe bai maen melin yn cael ei roddi o amgylch ei wddf, a’i daflu ef i’r môr, nag iddo beri tramgwydd i un o’r rhai bychain hyn. Cymmerwch ofal. Os pecha dy frawd, dwrdia ef; ac os edifarha, maddeu iddo; ac os seithwaith yn y dydd y pecha yn dy erbyn, a seithwaith droi attat gan ddywedyd, Y mae yn edifar genyf, maddeui iddo. A dywedodd yr apostolion wrth yr Arglwydd, Anghwanega ein ffydd. A dywedodd yr Arglwydd, Pe byddai genych ffydd fel gronyn o had mwstard, dywedech wrth y sycamorwydden hon, Dadwreiddier di, a phlanner di yn y môr, ac ufuddhai i chwi. A phwy o honoch a chanddo was yn aredig neu yn bugeilio, a ddywaid wrtho, wedi dyfod o hono i mewn o’r maes, Tyred yn uniawn a lled-orwedda, eithr na ddywaid wrtho, Arlwya beth y swpperaf arno, a chan ymwregysu gwasanaetha arnaf nes i mi fwytta ac yfed; ac wedi hyny y bwyttai ac yr yfi dithau. A oes ganddo ddiolch i’r gwas am wneuthur o hono y pethau a orchymynwyd iddo. Felly chwithau hefyd, ar ol gwneuthur o honoch yr holl bethau a orchymynwyd i chwi, dywedwch, gweision anfuddiol ydym; yr hyn a ddylasem ei wneuthur a wnaethom. A bu ar y daith i Ierwshalem, yr oedd Efe yn myned trwy ganol Shamaria a Galilea. Ac wrth fyned o Hono i mewn i ryw bentref, cyfarfu ag Ef ddeg o ddynion gwahanglwyfus, y rhai a safasant o hirbell; a hwy a godasant eu llais gan ddywedyd, Iesu, Feistr, trugarha wrthym. A phan welodd hwynt, dywedodd wrthynt, Ewch a dangoswch eich hunain i’r offeiriaid. A bu wrth fyned ymaith o honynt, y glanhawyd hwynt. Ac un o honynt gan weled yr iachawyd ef, a ddychwelodd dan ogoneddu Duw â llais uchel, a syrthiodd ar ei wyneb wrth Ei draed Ef dan ddiolch Iddo. Ac efe, Shamariad ydoedd. A chan atteb, yr Iesu a ddywedodd, Oni fu i’r deg eu glanhau? A’r naw, pa le y maent? Ni chaed a ddychwelasant i roi gogoniant i Dduw, oddieithr yr estron hwn. A dywedodd wrtho, Cyfod a dos dy ffordd: dy ffydd a’th iachaodd. A phan ofynwyd Iddo gan y Pharisheaid, Pa bryd y daw teyrnas Dduw, attebodd iddynt, a dywedodd, Ni ddaw teyrnas Dduw gyda gwylied arni: ac ni ddywedant, “Wele yma,” neu “Accw,” canys wele, teyrnas Dduw, o’ch mewn y mae. A dywedodd wrth Ei ddisgyblion, Daw dyddiau pan chwennychwch weled un o ddyddiau Mab y Dyn, ac nis gwelwch. A dywedant wrthych, “Wele, accw;” “Wele, yma;” nac ewch ymaith, ac na chanlynwch; canys fel y mae’r fellten, gan felltennu o un ran dan y nef, yn disgleirio i ran arall dan y nef, felly y bydd Mab y Dyn yn Ei ddydd. Ond yn gyntaf y mae rhaid Iddo ddioddef llawer, a’i wrthod gan y genhedlaeth hon. Ac fel y bu yn nyddiau Noach, felly y bydd hefyd yn nyddiau Mab y Dyn; bwyttaent, yfent, priodent, rhoddid yn briod, hyd y dydd yr aeth Noach i mewn i’r arch, ac y daeth y diluw ac y’u difethodd hwynt oll. Yr un ffunud fel y bu yn nyddiau Lot; bwyttaent, yfent, prynent, gwerthent, plannent, adeiladent; ond y dydd yr aeth Lot allan o Sodom, gwlawiodd tân a brwmstan o’r nef ac a’u difethodd hwynt oll. Yn yr un modd y bydd yn y dydd y mae Mab y Dyn yn cael Ei ddatguddio. Yn y dydd hwnw, yr hwn a fydd ar ben y tŷ, a’i ddodrefn yn y tŷ, na ddisgyned i’w cymmeryd hwynt; a’r hwn yn y maes, yr un ffunud, na ddychweled yn ei ol. Cofiwch wraig Lot. Pwy bynnag a geisio gadw ei einioes, a’i cyll; a phwy bynnag a’i collo, a’i bywha hi. Canys dywedaf wrthych, Yn y nos honno y bydd dau mewn un gwely; y naill a gymmerir, a’r llall a adewir: y bydd dwy yn malu ynghyd; y naill a gymmerir, a’r llall a adewir. A chan atteb, dywedasant Wrtho, Pa le, Arglwydd? Ac Efe a ddywedodd wrthynt, Lle y mae ’r corph, yno hefyd yr adar rheibus a gydgesglir. A dywedodd ddammeg wrthynt, fod yn rhaid gweddïo o honynt yn wastad, a pheidio â llwfrhau, gan ddywedyd, Rhyw farnwr oedd mewn rhyw ddinas; Duw nid ofnai efe, a dyn ni pharchai. Ac rhyw wraig weddw oedd yn y ddinas honno, a deuai atto, gan ddywedyd, Gwna gyfiawnder i mi oddiwrth fy ngwrth-ymgyfreithiwr. Ac nid ewyllysiai efe am ryw amser; ond wedi hyny, dywedodd ynddo ei hun, Er mai Duw nid ofnaf, a dyn ni pharchaf, etto o herwydd peri blinder i mi gan y weddw hon, gwnaf gyfiawnder iddi, rhag iddi yn y diwedd ddyfod a’m baeddu. A dywedodd yr Arglwydd, Clywch pa beth y mae’r barnwr anghyfiawn yn ei ddweud. A Duw, oni wna Efe gyfiawnder Ei etholedigion y sy’n llefain Arno ddydd a nos, ac Efe yn hir-ymarhous tuag attynt? Dywedaf wrthych, y gwna Efe eu cyfiawnder ar frys. Eithr, Mab y Dyn, pan ddelo, a gaiff Efe ffydd ar y ddaear? A dywedodd wrth rai a ymddiriedent ynddynt eu hunain eu bod yn gyfiawn, ac na wnaent ddim o bawb arall, y ddammeg hon, Dau ddyn a aethant i fynu i’r deml i weddïo, y naill yn Pharishead a’r llall yn dreth-gymmerwr. Y Pharishead yn ei sefyll, hyn, rhyngddo ac ef ei hun, a weddïodd efe, O Dduw, diolchaf i Ti am nad wyf fel y lleill o ddynion, rheibusion, anghyfiawnion, godinebwyr, neu fel y treth-gymmerwr hwn. Ymprydio yr wyf ddwy waith yn yr wythnos, degymmu yr wyf y cwbl a ennillaf. A’r treth-gymmerwr, yn sefyll o hirbell, nid ewyllysiai hyd yn oed godi ei lygaid tua’r nef, eithr curai ei ddwyfron, gan ddywedyd, O Dduw, cymmoder Di â mi, y pechadur. Dywedaf wrthych, Aeth hwn i wared i’w dŷ wedi ei gyfiawnhau rhagor y llall; canys pob un a ddyrchafo ei hun a ostyngir, ac a ostyngo ei hun a ddyrchefir. A dygasant Atto eu plant bychain hefyd, fel y cyffyrddai â hwynt; a chan weled o’i ddisgyblion, dwrdiasant hwynt; ond yr Iesu a’u galwodd Atto, gan ddywedyd, Gadewch i’r plant bychain ddyfod Attaf, canys i’r cyfryw rai y perthyn teyrnas Dduw. Yn wir meddaf i chwi, Pwy bynnag na dderbynio deyrnas Dduw fel plentyn, nid a efe er dim i mewn iddi. A gofynodd rhyw un Iddo, llywodraethwr, gan ddywedyd, Athraw da, wedi gwneuthur pa beth, y byddaf a bywyd tragywyddol yn etifeddiaeth i mi? Ac wrtho, y dywedodd yr Iesu, Paham y’m gelwi Fi yn dda? Nid oes neb yn dda oddieithr un, sef Duw. Y gorchymynion a wyddost, “Na odineba, Na ladd, Na ladratta, Na ddwg au-dystiolaeth, Anrhydedda dy dad a’th fam.” Ac efe a ddywedodd, Y pethau hyn oll a gedwais o’m hieuengctid. Ac wedi clywed hyny, yr Iesu a ddywedodd wrtho, Etto un peth sydd i ti yn ddiffygiol: yr oll, cymmaint ag a feddi, gwerth a rhanna ef i dlodion, a byddi a chenyt drysor yn y nef; a thyred, canlyn Fi. Ac efe, wedi clywed y pethau hyn, yn dra-athrist yr aeth, canys yr oedd yn oludog iawn. A chan ei weled ef, yr Iesu a ddywedodd, Mor anhawdd y bydd i’r rhai sydd a golud ganddynt, fyned i mewn i deyrnas Dduw: canys haws yw myned o gamel i mewn trwy grau nodwydd ddur, na myned o oludog i mewn i deyrnas Dduw. A dywedodd y rhai a glywsant, A phwy all fod yn gadwedig? Ac Efe a ddywedodd, Y pethau ammhosibl gyda dynion, posibl ydynt gyda Duw. A dywedodd Petr, Wele, nyni wedi gadael ein heiddo, a’th ganlynasom. Ac Efe a ddywedodd wrthynt, Yn wir y dywedaf wrthych, Nid oes neb a adawodd dŷ, neu wraig, neu frodyr, neu rieni, neu blant, o achos teyrnas Dduw, yr hwn ni dderbyn lawer cymmaint yn y pryd hwn, ac yn y byd a ddaw fywyd tragywyddol. Ac wedi cymmeryd y deuddeg Atto, dywedodd wrthynt, Wele, myned i fynu i Ierwshalem yr ydym, a chwblheir yr holl bethau a ysgrifenwyd trwy’r prophwydi, i Fab y Dyn, canys traddodir Ef i’r cenhedloedd, a gwatworir Ef, a sareir Ef, a phoerir Arno; ac ar ol Ei fflan-gellu y lladdant Ef, ac y trydydd dydd yr adgyfyd Efe. A hwy ni ddeallent ddim o’r pethau hyn, ac yr oedd yr ymadrodd hwn yn guddiedig oddi wrthynt, ac ni chanfyddent y pethau a ddywedwyd. A bu, wrth nesau o Hono at Iericho, rhyw ddyn dall a eisteddai yn ymyl y ffordd yn cardotta: ac wedi clywed tyrfa yn myned heibio, gofynodd pa beth oedd hyn. A mynegasant iddo, Iesu y Natsaread sy’n myned heibio. A llefodd efe, gan ddywedyd, Iesu, Fab Dafydd, trugarha wrthyf. Ac y rhai yn myned o’r blaen a’i dwrdiasant i dewi; ond efe, llawer mwy y gwaeddodd, Mab Dafydd, trugarha wrthyf. A chan sefyll, yr Iesu a orchymynodd ei ddwyn ef Atto; ac wedi nesau o hono, gofynodd, Pa beth yr ewyllysi ei wneuthur Genyf i ti? Ac efe a ddywedodd, Arglwydd, ail-weled o honof. A dywedodd yr Iesu wrtho, Ail-wêl, dy ffydd a’th iachaodd. Ac allan o law yr ail-welodd efe, a chanlynodd Ef dan ogoneddu Duw: a’r holl bobl, gan weled, a roisant fawl i Dduw. Ac ar ol myned i mewn, yr aeth Efe trwy Iericho. Ac wele, gŵr yr hwn wrth ei enw a enwid Zaccëus, ac efe oedd ben treth-gymmerwr, ac efe yn oludog; a cheisiai weled yr Iesu, pwy ydoedd; ac ni allai o’r dyrfa, canys o ran maint, bychan oedd efe. Ac wedi rhedeg rhagddo i’r blaen, dringodd i sycamorwydden fel y gwelai Ef, canys y ffordd honno yr oedd Efe ar fyned heibio. A phan ddaeth i’r lle, wedi edrych i fynu, yr Iesu a ddywedodd wrtho, Zaccëus, brysia i ddisgyn, canys heddyw yn dy dŷ di y mae rhaid i Mi aros. Ac ar frys y disgynodd, a derbyniodd Ef yn llawen. A chan weled, yr oll o honynt a rwgnachasant, gan ddywedyd, At bechadur o ddyn yr aeth i mewn i lettya. A chan sefyll, Zaccëus a ddywedodd wrth yr Arglwydd, Wele, hanner fy meddiannau, Arglwydd, yr wyf yn ei roddi i’r tlodion; ac os gan neb y cefais ddim ar gam, ei roddi yn ol yr wyf ar ei bedwerydd. A dywedodd yr Iesu wrtho, Heddyw, iachawdwriaeth a ddaeth i’r tŷ hwn, gan ei fod ef hefyd yn fab i Abraham, canys daeth Mab y Dyn i geisio ac i gadw yr hyn a gollwyd. A phan glywent hwy y pethau hyn, chwanegodd ddywedyd dammeg, gan mai agos yr oedd Efe i Ierwshalem, a thybied o honynt mai allan o law yr oedd teyrnas Dduw ar fedr ymddangos. Dywedodd, gan hyny, Rhyw ŵr boneddig a aeth i wlad bell i dderbyn iddo ei hun deyrnas, ac i ddychwelyd. Ac wedi galw ei ddeg gwas, rhoddes iddynt ddeg maneh, a dywedodd wrthynt, Marchnattewch hyd oni ddelwyf. Ond ei ddinaswyr a’i casaent ef, a danfonasant gennadwri ar ei ol, gan ddywedyd, Nid ewyllysiwn i hwn deyrnasu arnom. A bu, ar ol dychwelyd o hono, wedi derbyn y frenhiniaeth, y dywedodd hefyd am alw atto y geision hyny i’r rhai y rhoddasai yr arian, fel y gwybyddai pa faint a elwasant wrth farchnatta. A daeth y cyntaf gan ddywedyd, Arglwydd, dy faneh a ynnillodd atti ddeg maneh. A dywedodd efe wrtho, Da, was da: gan mai mewn peth bychan iawn ffyddlawn fuost, bydd ag awdurdod genyt ar ddeg dinas. A daeth yr ail, gan ddywedyd, Dy faneh, arglwydd, a wnaeth bum maneh. A dywedodd efe wrth hwnw hefyd, Da, was da; a thydi, bydd ar bum dinas. Ac y llall a ddaeth, gan ddywedyd, Arglwydd, wele dy faneh, yr hon oedd genyf wedi ei dodi heibio mewn napcyn; canys ofnais di gan mai gŵr tost wyt: cymmeryd i fynu yr wyt yr hyn na roddaist i lawr, ac yn medi yr hyn na heuaist. Dywedodd efe wrtho, O’th enau y’th farnaf, was drwg. Gwyddit fy mod i yn ddyn tost, yn cymmeryd i fynu yr hyn na roddais i lawr, ac yn medi yr hyn na heuais; a phaham na roddaist fy arian at fwrdd yr arianwyr, ac myfi, wedi dyfod, gyda llog y’i cawswn? Ac wrth y rhai yn sefyll ger llaw y dywedodd, Cymmerwch oddi arno y faneh, a rhoddwch i’r hwn sydd a deg maneh ganddo. A dywedasant wrtho, Arglwydd, y mae ganddo ddeg maneh. Dywedaf wrthych I bob un y sydd a chanddo, y rhoddir; ac oddi ar yr hwn nad oes ganddo, hyd yn oed yr hyn y sydd ganddo a gymmerir oddi arno. Eithr fy ngelynion hyny, y rhai nid ewyllysiasant i mi deyrnasu arnynt, deuwch â hwynt yma, a lleddwch ger fy mron. Ac wedi dweud y pethau hyn, teithiodd o’r blaen, gan fyned i fynu i Ierwshalem. A bu pan nesaodd at Bethphage a Bethania, at y mynydd a elwir Mynydd yr Olewydd, danfonodd ddau o’i ddisgyblion, gan ddywedyd, Ewch i’r pentref sydd ar eich cyfer, yn yr hwn, wrth fyned i mewn, y cewch ebol yn rhwym, ar yr hwn ni fu i neb o ddynion erioed eistedd: wedi ei ollwng, deuwch ag ef yma. Ac os bydd i neb ofyn i chwi, Paham y gollyngwch ef? fel hyn y dywedwch, Yr Arglwydd sydd a rhaid wrtho. Ac wedi myned ymaith, y rhai a ddanfonwyd a gawsant fel y dywedodd Efe wrthynt. Ac wrth ollwng o honynt yr ebol, dywedodd ei berchennogion wrthynt, Paham y gollyngwch yr ebol? A hwy a ddywedasant, Yr Arglwydd sydd a rhaid wrtho ef; a daethant ag ef at yr Iesu; ac wedi bwrw eu cochlau eu hunain ar yr ebol, dodasant yr Iesu arno. Ac wrth fyned o Hono rhagddo, tanasant eu cochlau ar y ffordd. Ac wrth nesau o Hono yn awr, wrth ddisgynfa mynydd yr Olewydd, dechreuodd holl luaws y disgyblion, dan lawenychu, glodfori Duw â llef uchel am yr holl wyrthiau a welsent, gan ddywedyd, Bendigedig yw’r Brenhin sy’n dyfod yn enw’r Arglwydd, Tangnefedd yn y nef, a gogoniant yn y goruchafion. A rhai o’r Pharisheaid o’r dyrfa a ddywedasant Wrtho, Athraw, dwrdia Dy ddisgyblion. A chan atteb, dywedodd, Dywedaf wrthych, Os y rhai hyn a dawant, y cerrig a waeddant. A phan nesaodd, gan weled y ddinas, gwylodd drosti, gan ddywedyd, Pe gwybuasit yn y dydd hwn, ïe, tydi, y pethau i’ th heddwch! Ond yn awr, cuddiwyd hwynt oddiwrth dy lygaid. Canys daw’ r dyddiau arnat, ac y bwrw dy elynion glawdd o’th amgylch, Ac amgylchynant di, a gwarchaeant di o bob parth, A drylliant ti a’th blant o’th fewn, Ac ni adawant faen ar faen ynot, Gan nad adnabuost amser dy ymweliad. Ac wedi myned i mewn i’r deml, dechreuodd fwrw allan y rhai yn gwerthu, gan ddywedyd wrthynt, Ysgrifenwyd, “A bydd Fy nhŷ yn dŷ gweddi;” a chwychwi a’i gwnaethoch yn ogof lladron. Ac yr oedd Efe yn dysgu beunydd yn y deml. A’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion a geisient Ei ladd Ef, ac felly hefyd pennaethiaid y bobl: ond ni chaent pa beth a wnaent, canys y bobl oll oedd ynglyn Wrtho, dan wrandaw. A bu ar un o’r dyddiau hyn, ac Efe yn dysgu’r bobl yn y deml, ac yn efengylu, daeth Arno yr archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion ynghyda’r henuriaid, a llefarasant, gan ddywedyd Wrtho, Dywaid wrthym trwy ba awdurdod yr wyt yn gwneuthur y pethau hyn; neu pwy yw’r hwn a roddodd i Ti yr awdurdod hon? A chan atteb, dywedodd wrthynt, Gofyn i chwithau air a wnaf Finnau hefyd, a dywedwch Wrthyf, Bedydd Ioan, ai o’r nef yr ydoedd, neu o ddynion? A hwy a ymresymmasant â’u gilydd gan ddywedyd, Os dywedwn, “O’r nef,” dywaid Efe, Paham na chredasoch ef; ond os dywedwn “O ddynion,” y bobl oll a’n llabyddiant, canys perswadiwyd hwynt yr oedd Ioan yn brophwyd. Ac attebasant, Na wyddent o ba le. A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Nid wyf Finnau chwaith yn dywedyd wrthych, “trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.” A dechreuodd ddywedyd wrth y bobl y ddammeg hon, Dyn a blannodd winllan, a gosododd hi i lafurwyr, a bu mewn gwlad ddieithr am amser maith. Ac yn yr amser, danfonodd at y llafurwyr was fel y rhoddent iddo o ffrwyth y winllan; a’r llafurwyr wedi ei guro, a’i danfonasant ef ymaith yn wag- law. A chwanegodd anfon gwas arall; a hwy, wedi curo hwn hefyd ac ei ammharchu, a’i danfonasant ymaith yn wag- law. A chwanegodd anfon y trydydd; a hwy wedi ei glwyfo ef, a fwriasant hwn hefyd allan. A dywedodd arglwydd y winllan, Pa beth a wnaf? Danfonaf fy mab anwyl; hwyrach mai hwn a barchant. A phan welsant ef, y llafurwyr a ymresymmasant â’u gilydd, gan ddywedyd, Hwn yw’r etifedd; lladdwn ef, fel y caffom ni yr etifeddiaeth. Ac wedi ei fwrw ef allan o’r winllan, lladdasant ef. Pa beth, gan hyny, a wna arglwydd y winllan iddynt? Daw a difetha y llafurwyr hyn, a rhydd y winllan i eraill. Ac wedi clywed o honynt, dywedasant, Na fydded. Ac Efe, gan edrych arnynt, a ddywedodd, Pa beth, gan hyny, yw hyn a ysgrifenwyd, “Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, Hwn a aeth yn ben i’r gongl.” Pob un a syrthio ar y maen hwnw a ddryllir yn ddarnau; ac ar bwy bynnag y syrthio, chwal ef. A cheisiodd yr ysgrifenyddion a’r archoffeiriaid roddi eu dwylaw Arno yn yr un awr; ac ofnasant y bobl; canys gwyddent mai yn eu herbyn hwy y dywedodd y ddammeg hon: ac wedi gwylied, danfonasant gynllwynwyr yn cymmeryd arnynt eu bod yn gyfiawnion, fel y cymmerent afael yn Ei ymadrodd, i’w draddodi Ef i lywodraeth ac awdurdod y rhaglaw; a gofynasant Iddo, gan ddywedyd, Athraw, gwyddom mai uniawn y dywedi ac y dysgi, ac na dderbyni wyneb, eithr mewn gwirionedd y dysgi ffordd Duw. Ai cyfreithlawn rhoddi o honom deyrnged i Cesar, ai nad yw? A chan ddeall eu cyfrwysdra hwy, dywedodd wrthynt, Dangoswch i Mi ddenar. Delw ac argraph pwy sydd ganddi? A hwy a ddywedasant, Yr eiddo Cesar. Ac Efe a ddywedodd wrthynt, Gan hyny, telwch bethau Cesar i Cesar, a phethau Duw i Dduw. Ac ni allasant gael gafael yn Ei ymadrodd, ger bron y bobl; a chan ryfeddu wrth Ei atteb tawsant. Ac wedi dyfod Atto, rhai o’r Tsadwceaid, y rhai a ddywedant nad oes adgyfodiad, a ofynasant Iddo, gan ddywedyd, Athraw, Mosheh a ysgrifenodd i ni, Os bydd brawd rhyw un wedi marw, a chanddo wraig, ac yntau yn ddiblant, ar gymmeryd o’i frawd ef y wraig, a chodi had i’w frawd. Saith brawd, ynte, oedd; ac y cyntaf, wedi cymmeryd gwraig, a fu farw yn ddiblant, ac yr ail, a’r trydydd a’i cymmerodd hi; ac yr un ffunud y saith ni adawsant blant, ac a fuant feirw. Ac ar ol hyny y bu farw y wraig hefyd. Yn yr adgyfodiad, gan hyny, i ba un o honynt y bydd hi yn wraig, canys y saith a’i cawsant hi yn wraig? Ac wrthynt y dywedodd yr Iesu, Meibion y byd hwn a briodant ac a roddir i’w priodi; ond y rhai a gyfrifir yn deilwng i gael y byd hwnw a’r adgyfodiad o feirw, nid ydynt nac yn priodi nac eu rhoddi i’w priodi; canys hyd yn oed marw mwy nis gallant, canys cyd-stad â’r angylion ydynt, a meibion Duw ydynt, gan fod yn feibion yr adgyfodiad. Ond y cyfodir y meirw, Mosheh hefyd a hyspysodd yn “Y Berth,” pan eilw Iehofah “Duw Abraham, a Duw Itsaac, a Duw Iacob;” a Duw, nid Duw meirwon yw, eithr y rhai byw, canys pawb o honom, Ynddo Ef yr ydym yn byw. A chan atteb, rhai o’r ysgrifenyddion a ddywedasant, Athraw, da y dywedaist; canys ni feiddient mwy ofyn dim Iddo. A dywedodd wrthynt, Pa fodd y dywedant fod y Crist yn Fab Dafydd? canys Dafydd ei hun a ddywaid yn Llyfr y Psalmau, “Dywedodd Iehofah wrth fy Arglwydd, Eistedd ar Fy neheulaw, Hyd oni osodwyf dy elynion yn droed-faingc i’th draed,” Dafydd, gan hyny, “Arglwydd” a eilw efe Ef, a pha fodd mai mab iddo yw? Ac wrth glywed o’r holl bobl, dywedodd wrth Ei ddisgyblion, Cymmerwch ofal rhag yr ysgrifenyddion, y rhai a ewyllysiant rodio mewn gwisgoedd llaesion, ac a garant gyfarchiadau yn y marchnadoedd, a’r prif-gadeiriau yn y sunagogau, a’r prif led-orweddleoedd yn y swpperau, y rhai a lwyr-fwyttant dai y gwragedd gweddwon, ac er rhith y hir-weddïant. Y rhai hyn a dderbyniant gondemniad gorlawnach. A chan edrych i fynu, gwelai y rhai yn bwrw eu rhoddion i’r drysorfa, a hwy yn oludog; a gwelodd ryw wraig weddw dlawd yn bwrw yno ddwy hatling; a dywedodd, Yn wir y dywedaf wrthych, Y weddw dlawd hon, mwy na’r oll a fwriodd hi; canys yr holl rai hyn, o’r hyn oedd dros ben ganddynt y bwriasant at y rhoddion, ond hyhi, o’i phrinder, yr holl fywyd a oedd ganddi a fwriodd hi. A rhai yn dywedyd am y deml, mai â meini teg ac offrymmau yr addurnwyd, dywedodd, Y pethau hyn, y rhai yr edrychwch arnynt, daw dyddiau yn y rhai ni adewir maen ar faen yma, yr hwn ni ddattodir. A gofynasant Iddo, gan ddywedyd, Athraw, pa bryd, ynte, y bydd y pethau hyn? a pha beth yw’r arwydd pan fo’r pethau hyn ar ddigwydd? Ac Efe a ddywedodd, Edrychwch na’ch arweinier ar gyfeiliorn; canys llawer a ddeuant yn Fy enw, gan ddywedyd, Myfi wyf y Crist, ac, Yr amser a nesaodd. Nac ewch ar eu hol. A phan glywoch am ryfeloedd a therfysgoedd, na chymmerwch fraw, canys rhaid sydd i’r pethau hyn ddigwydd yn gyntaf; eithr nid yn uniawn y mae’r diwedd. Yna y dywedodd wrthynt, Cyfyd cenedl yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas; a daeargrynfaau mawrion, ac mewn rhai lleoedd newyn a heintiau a fyddant, a phethau ofnadwy ac arwyddion mawrion o’r nef a fyddant. A chyn yr holl bethau hyn rhoddant eu dwylaw arnoch, ac y’ ch erlidiant, gan eich traddodi i’r sunagogau ac i garcharau, gan eich dwyn ger bron brenhinoedd a rhaglawiaid o achos Fy enw. Digwydd i chwi yn dystiolaeth. Gosodwch, gan hyny, yn eich calonnau, i beidio â rhag-fyfyrio am eich amddiffyn eich hunain; canys Myfi a roddaf i chwi enau a doethineb yr hon ni ellir ei gwrth-sefyll na’i gwrth-ddywedyd gan eich holl wrthwynebwyr. A thraddodir chwi hyd yn oed gan rieni a brodyr a cheraint a chyfeillion; a marwolaeth a barant i rai o honoch. A byddwch yn gas gan bawb o achos Fy enw: ac am flewyn o’ch pen ni dderfydd ddim. Trwy eich amynedd yr ennillwch eich eneidiau. Ond pan weloch amgylchu Ierwshalem gan luoedd, yna gwybyddwch y nesaodd ei hanghyfanedd-dra; yna bydded i’r rhai yn Iwdea ffoi i’r mynyddoedd, ac i’r rhai yn ei chanol fyned allan; a’r rhai yn y maesydd, nac elont i mewn iddi, canys dyddiau ymweliad yw y rhai hyn, fel y cyflawner yr holl bethau a ysgrifenwyd. Gwae y beichiogion a’r rhai yn rhoi bronnau yn y dyddiau hyny, canys bydd angen mawr yn y tir, a digofaint ar y bobl hyn; a syrthiant trwy fin cleddyf, a chaeth-gludir hwynt at yr holl genhedloedd, ac Ierwshalem fydd yn cael ei sathru gan genhedloedd, hyd oni chyflawner amseroedd y cenhedloedd. A bydd arwyddion yn yr haul a’r lleuad a’r ser, ac ar y ddaear ing cenhedloedd mewn dyryswch gan ruad y môr a’r môr-gesyg, gyda llewygu o ddynion gan ofn a disgwyl am y pethau sy’n dyfod ar y byd, canys galluoedd y nefoedd a ysgydwir; ac yna y gwelant Fab y Dyn yn dyfod mewn cwmmwl gyda gallu a gogoniant mawr. A phan ddechreuo’r pethau hyn ddigwydd, ymsythwch, a chodwch eich pennau, canys nesau y mae eich prynedigaeth. A dywedodd ddammeg wrthynt, Gwelwch y ffigysbren a’r holl brennau: pan flaguront yn awr, gan weled o honoch eich hunain y gwyddoch mai agos yn awr yw’r haf. Felly chwithau hefyd, pan weloch y pethau hyn yn digwydd, gwybyddwch mai agos yw teyrnas Dduw. Yn wir y dywedaf wrthych nad aiff y genhedlaeth hon ddim heibio, hyd oni fydd i’r cwbl ddigwydd. Y nef a’r ddaear a ant heibio, ond y geiriau mau Fi, nid ant ddim heibio. Ond cymmerwch ofal rhag ysgatfydd y trymhaer eich calonnau chwi gan lythineb a meddwdod a gofalon y bywyd hwn, ac yn ddisymmwth ddyfod arnoch o’r dydd hwnw fel magl, canys daw ar bawb sy’n trigo ar wyneb yr holl ddaear. A gwyliwch bob amser, gan ddeisyfu y byddoch abl i ddiangc rhag y pethau hyn oll y sydd ar ddigwydd, ac i sefyll ger bron Mab y Dyn. Ac yr oedd Efe, y dyddiau, yn y deml, yn dysgu; a’r nosau, gan fyned allan y llettyai ar y mynydd a elwir Mynydd yr Olewydd. A’r holl bobl a fore-gyrchent Atto yn y deml, i’w glywed Ef. A nesaodd gwyl y bara croew, yr hon a elwir y Pasg, a cheisiai yr archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion pa fodd y difethent Ef, canys ofnent y bobl. Ac aeth Satan i mewn i Iwdas yr hwn a elwir Ishcariot, ac ef o rifedi’r deuddeg. Ac wedi myned ymaith, ymddiddanodd â’r archoffeiriaid a’r capteniaid pa fodd y traddodai Ef iddynt. A llawen oedd ganddynt, a chyttunasant ar roddi iddo arian; a chydsyniodd efe, a cheisiai gyfleusdra i’w draddodi Ef iddynt yn absen y dyrfa. A daeth dydd y bara croyw, ar yr hwn yr oedd rhaid lladd y Pasg; a danfonodd Efe Petr ac Ioan, gan ddywedyd, Ewch a pharotowch i ni y Pasg fel y bwyttaom. A hwy a ddywedasant Wrtho, Pa le yr ewyllysi barottoi o honom? Ac Efe a ddywedodd wrthynt, Wele, wedi myned o honoch i mewn i’r ddinas, cyferfydd â chwi ddyn yn dwyn ysten o ddwfr; canlynwch ef i’r tŷ i’r hwn yr aiff i mewn; a dywedwch wrth ŵr y tŷ, Dywedyd wrthyt y mae’r Athraw, Pa le y mae’r westfa, lle y bwyttawyf y Pasg ynghyda’m disgyblion? ac efe a ddengys i chwi oruwch-ystafell fawr wedi ei thanu; yno parottowch. Ac wedi myned ymaith cawsant fel y dywedasai wrthynt, a pharottoisant y Pasg. A phan ddaeth yr awr, lled-orweddodd, ac yr apostolion gydag Ef. A dywedodd wrthynt, Mawr-chwennychais fwytta’r Pasg hwn gyda chwi cyn i Mi ddioddef, canys dywedaf wrthych na fwyttaf mo hono, hyd oni chyflawner yn nheyrnas Dduw. Ac wedi cymmeryd y cwppan, a rhoddi diolch, dywedodd, Cymmerwch hwn, a rhennwch yn eich plith, canys dywedaf wrthych nad yfaf o hyn allan o ffrwyth y winwydden nes i deyrnas Dduw ddyfod. Ac wedi cymmeryd bara a rhoddi diolch, torrodd a rhoddes iddynt, gan ddywedyd, Hwn yw Fy nghorph yr hwn sydd eroch chwi yn cael ei roddi; Hyn gwnewch er cof am Danaf; ac y cwppan yr un ffunud, ar ol swpperu, gan ddywedyd, Y cwppan hwn yw’r cyfammod newydd yn Fy ngwaed, yr hwn sydd eroch chwi yn cael ei dywallt allan. Eithr wele, llaw yr hwn sydd yn Fy nhraddodi, gyda Mi y mae ar y bwrdd; canys Mab y Dyn yn wir, yn ol yr hyn a benderfynwyd y mae yn myned; eithr gwae’r dyn hwnw trwy’r hwn y mae Efe yn cael Ei draddodi. A hwy a ddechreuasant ymholi â’u gilydd, Pwy ysgatfydd o honynt oedd yr hwn ar fedr gwneud hyn. A bu ymryson yn eu plith, Pwy o honynt a dybygid ei fod yn fwyaf. Ac Efe a ddywedodd wrthynt, Brenhinoedd y cenhedloedd a arglwyddiaethant arnynt; a’r rhai sydd mewn awdurdod arnynt, cymmwynaswyr y’u gelwir. Ond chwychwi, nid felly y byddwch; eithr y mwyaf yn eich plith, bydded fel yr ieuangaf; a’r pennaf, fel yr hwn sy’n gweini. Canys pa un fwyaf, ai’r hwn sy’n lled-orwedd wrth y bwrdd, neu’r hwn sy’n gweini? Onid yr hwn yn ei led-orwedd? Ond Myfi, yn eich mysg yr wyf fel yr hwn sy’n gweini. A chwychwi yw y rhai a arhoswch gyda Mi yn Fy mhrofedigaethau; ac Myfi wyf yn pennodi i chwi, fel y pennododd Fy Nhad i Mi, deyrnas, fel y bwyttaoch ac yr yfoch wrth Fy mwrdd yn Fy nheyrnas; ac eisteddwch ar orsedd-feinciau yn barnu deuddeg llwyth Israel. Shimon, Shimon, wele, Satan a’ch gofynodd, er mwyn eich nithio fel gwenith; ond Myfi a ddeisyfiais drosot na ddiffygiai dy ffydd; a thydi, wedi dy droi ysgatfydd, cadarnha dy frodyr. Ac efe a ddywedodd Wrtho, Arglwydd, ynghyda Thi, parod wyf i fyned i garchar, ac i angau hefyd. Ac Efe a ddywedodd, Dywedaf wrthyt, Petr, ni chân heddyw geiliog nes tair gwaith wadu o honot nad adweini Fi. A dywedodd wrthynt, Pan ddanfonais chwi heb bwrs a chod ac esgidiau, a oedd rhyw beth yn ol i chwi? A hwy a ddywedasant, Nac oedd ddim. Ac Efe a ddywedodd wrthynt, Eithr yn awr, yr hwn sydd a chanddo bwrs, cymmered; yr un ffunud hefyd, god; a’r hwn nad oes ganddo, gwerthed ei gochl, a phryned gleddyf; canys dywedaf wrthych, Y peth hwn a ysgrifenwyd, y mae rhaid ei gyflawni Ynof, sef, “A chyda throseddwyr y cyfrifwyd,” canys yr hyn a ’sgrifenwyd am Danaf sydd ag iddo ddiben. A hwy a ddywedasant, Arglwydd, wele ddau gleddyf yma; ac efe a ddywedodd wrthynt, Digon yw. Ac wedi myned allan, yr aeth, yn ol Ei arfer, i fynydd yr Olewydd; ac yn Ei ganlyn Ef yr oedd y disgyblion. A phan yr oedd yn y fan, dywedodd wrthynt, Gweddïwch nad eloch i brofedigaeth. Ac Efe a dynwyd oddiwrthynt tuag ergyd carreg, ac wedi dodi Ei liniau ar lawr, gweddïodd, gan ddywedyd, O Dad, os mynni, dwg heibio y cwppan hwn oddi Wrthyf; er hyny, nid Fy ewyllys I, eithr yr eiddot Ti, a wneler. Ac ymddangosodd Iddo angel o’r nef, yn Ei nerthu Ef. A chan fod mewn ing, yn ddyfalach y gweddïodd; ac aeth Ei chwys fel defnynau mawrion o waed, yn disgyn ar y ddaear. Ac wedi codi o’i weddi, ac wedi myned at y disgyblion, cafodd hwynt yn cysgu gan dristwch, a dywedodd wrthynt, Paham y cysgwch? Codwch a gweddïwch nad eloch i brofedigaeth. Ac Efe etto yn llefaru, wele dyrfa, ac yr hwn a elwir Iwdas, un o’r deuddeg, a ddaeth Atto, a nesaodd at yr Iesu i’w gusanu Ef. A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Iwdas, ai â chusan Mab y Dyn a draddodi? A chan weled o’r rhai o’i amgylch yr hyn oedd ar ddigwydd, dywedasant, Arglwydd, a darawn ni â chleddyf? A tharawodd rhyw un o honynt was yr archoffeiriad, a thorrodd ymaith ei glust ddehau ef. A chan atteb, yr Iesu a ddywedodd, Gadewch hyd yn hyn: ac wedi cyffwrdd â’r glust, iachaodd ef. A dywedodd yr Iesu wrth y rhai oedd yno yn Ei erbyn, yn archoffeiriaid a chapteniaid y deml ac henuriaid, Fel yn erbyn lleidr y daethoch allan â chleddyfau a ffyn. Pan beunydd yr oeddwn gyda chwi yn y deml, nid estynasoch eich dwylaw i’m herbyn: eithr hon yw eich awr chwi ac awdurdod y tywyllwch. Ac wedi Ei ddal Ef, dygasant ac aethant ag Ef i dŷ yr archoffeiriad; a Petr a ganlynai o hirbell. Ac wedi cynneu tân ynghanol y llys a chyd-eistedd o honynt, eisteddodd Petr yn eu canol. A phan welodd rhyw langces ef yn eistedd wrth y tân, a dal sylw arno, dywedodd, A hwn hefyd, gydag Ef yr oedd. Ac efe a wadodd, gan dywedyd, Nid adwaen i Ef, O wraig. Ac ar ol ychydig, un arall, gan ei weled ef, a ddywedodd, A thydi, o honynt yr wyt. A Petr a ddywedodd, O ddyn, nid wyf. Ac wedi yspaid o oddeutu awr, rhyw un arall a daerodd, gan ddywedyd, Mewn gwirionedd, hwn hefyd oedd gydag Ef, canys Galilead hefyd yw. A dywedodd Petr, Y dyn, nis gwn pa beth a ddywedi. Ac allan o law, tra etto y llefarai efe, canodd ceiliog! Ac wedi troi, yr Arglwydd a edrychodd ar Petr; a chofiodd Petr ymadrodd yr Iesu fel y dywedodd wrtho, “Cyn i geiliog ganu heddyw, gwedi Fi dair gwaith;” ac wedi myned i’r tu allan, gwylodd yn chwerw. A’r dynion oedd yn Ei ddal a’i gwatwarent, gan Ei darawo; ac wedi rhoi gorchudd am Dano, gofynent Iddo, gan ddywedyd, Prophwyda: Pwy yw’r hwn a’th darawodd? A phethau eraill lawer, dan gablu, a ddywedasant yn Ei erbyn. A phan aeth hi yn ddydd, ymgynhullodd henaduriaeth y bobl, yn gystal archoffeiriaid ac ysgrifenyddion, a dygasant Ef ymaith at eu Cynghor, gan ddywedyd, Os Tydi wyt y Crist, dywaid wrthym. A dywedodd wrthynt, Os wrthych y dywedaf, ni chredwch ddim; ac os gofynaf, nid attebwch ddim. Ond ar ol hyn bydd Mab y dyn yn eistedd ar ddeheulaw gallu Duw. A dywedasant oll, Tydi, gan hyny, wyt Mab Duw? Ac Efe a ddywedodd wrthynt, Chwychwi a ddywedwch mai Myfi ydwyf. A hwy a ddywedasant, Pa raid sydd genym mwyach wrth dystiolaeth, canys ni ein hunain a glywsom o’i enau Ef? Ac wedi cyfodi o’r holl haws o honynt, dygasant Ef at Pilat; a dechreuasant Ei gyhuddo, gan ddywedyd, Hwn a gawsom yn gwyr-droi ein cenedl, ac yn rhwystro rhoi teyrnged i Cesar, ac yn dywedyd mai Efe Ei hun yw Crist Frenhin. A Pilat a ofynodd Iddo, gan ddywedyd, Ai Tydi yw Brenhin yr Iwddewon? Ac Efe, gan atteb iddo, a ddywedodd, Ti a ddywedi. A Pilat a ddywedodd wrth yr archoffeiriaid a’r torfeydd, Nid oes dim bai a gaf yn y dyn hwn. A hwy oeddynt daerach, gan ddywedyd, Cyffroi’r bobl y mae, gan ddysgu trwy holl Iwdea, ac wedi dechreu o Galilea hyd yma. A Pilat, wedi clywed hyn, a ofynodd a oedd y dyn yn Galilead. A chan wybod mai o lywodraeth Herod yr ydoedd, danfonodd Ef at Herod, yr hwn oedd yntau hefyd yn Ierwshalem y dyddiau hyny. A Herod, wedi gweled yr Iesu, a lawenychodd yn fawr, canys yr oedd er’s amser maith yn ewyllysio Ei weled Ef, o herwydd ei fod yn clywed am Dano; a gobeithiai hefyd weled rhyw arwydd yn cael ei wneuthur Ganddo; a holodd Ef â geiriau lawer; ond Efe ni roes ddim atteb iddo. A safodd yr archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion, gan Ei gyhuddo yn haerllug. A Herod wedi Ei ddiystyru Ef, ynghyda’i filwyr, ac wedi Ei watwar Ef, gan Ei wisgo â gwisg ddisglaer, a’i danfonodd yn Ei ol at Pilat. Ac aeth Pilat a Herod yn gyfeillion â’u gilydd y dydd hwnw, canys cyn hyny yr oeddynt mewn gelyniaeth â’u gilydd. A Pilat wedi galw ynghyd yr archoffeiriaid a’r llywiawdwyr a’r bobl, a ddywedodd wrthynt, Dygasoch attaf y dyn hwn megis yn gwyrdroi y bobl; ac wele Myfi yn eich gwydd a holais Ef, ac ni chefais yn y dyn hwn ddim bai, o ran y cyhuddiadau genych yn Ei erbyn: nac hyd yn oed Herod, canys danfonodd Ef yn Ei ol attom: ac wele, nid oes dim yn haeddu marwolaeth wedi ei wneuthur Ganddo. Wedi ei geryddu, gan hyny, gollyngaf Ef yn rhydd. A gwaeddasant, yr holl liaws, gan ddywedyd, Cymmer hwn ymaith, a gollwng yn rhydd i ni Barabbas; yr hwn oedd, o achos rhyw derfysg a ddigwyddodd yn y ddinas, a llofruddiaeth, wedi ei daflu i garchar. A thrachefn, Pilat a lefarodd wrthynt, gan ewyllysio gollwng yn rhydd yr Iesu: a hwy a leisiasant gan ddywedyd, Croes-hoelia, croes-hoelia Ef. Ac efe, y drydedd waith, a ddywedodd wrthynt, Canys pa ddrwg a wnaeth Hwn? Nid oes ddim bai marwolaeth a gefais Ynddo: wedi ei geryddu, gan hyny, gollyngaf Ef yn rhydd. A hwy fuant daerion arno, gyda lleisiau uchel, yn gofyn Ei groes-hoelio Ef; a gorfu eu lleisiau hwynt; a Pilat a farnodd wneuthur eu gofyniad; a gollyngodd yn rhydd yr hwn o achos terfysg a llofruddiaeth a fwriasid yngharchar, yr hwn a ofynasant: a’r Iesu a draddododd efe i’w hewyllys hwynt. Ac fel y dygent Ef ymaith, wedi cymmeryd gafael yn rhyw Shimon o Cyrene yn dyfod o’r wlad, dodasant arno ef y groes i’w dwyn ar ol yr Iesu. Ac yn Ei ganlyn Ef yr oedd lliaws mawr o bobl, ac o wragedd a wylent ac a alarent o’i blegid Ef: ac wedi troi attynt, yr Iesu a ddywedodd, Merched Ierwshalem, na wylwch o’m plegid I, Eithr o’ch plegid eich hunain gwylwch, ac o blegid eich plant; Canys wele, dyfod y mae’r dyddiau yn y rhai y dywedant, Gwyn eu byd y gwragedd anffrwythlawn, A’r crothau nad eppiliasant, a’r bronnau na feithrinasant. Yna y dechreuant ddweud wrth y mynyddoedd, Syrthiwch arnom, Ac wrth y bryniau, Gorchuddiwch ni: Canys os yn y pren îr y pethau hyn a wnant, Yn y crin pa beth a ddigwydd? A dygpwyd hefyd ddau eraill, drwg-weithredwyr, gydag Ef i’w rhoi i’w marwolaeth. A phan ddaethant at y lle a elwir Y Benglog, yno y croes-hoeliasant Ef, a’r drwgweithredwyr, y naill ar y llaw ddehau, a’r llall ar yr aswy. A’r Iesu a ddywedodd, O Dad, maddeu iddynt, canys ni wyddant pa beth y maent yn ei wneud. Ac wrth rannu o honynt Ei ddillad, bwriasant goelbren. A safai’r bobl yn edrych; ond gwatwar yr oedd y pennaethiaid hefyd, gan ddywedyd, Eraill a waredodd Efe; gwareded Ef Ei hun, os Hwn yw Crist Duw, Y Dewisedig? Ac Ei watwar a wnaeth y milwyr hefyd, gan ddyfod Atto, gan gynnyg finegr Iddo, a dywedyd, Os Tydi yw brenhin yr Iwddewon, gwared Dy Hun. Ac yr oedd hefyd arysgrifen uwch Ei ben, “Brenhin yr Iwddewon yw Hwn.” Ac un o’r drwg-weithredwyr a grogid, a’i cablodd Ef, gan ddywedyd, Onid Tydi wyt y Crist? Gwared Dy Hun a ninnau. Ond gan atteb, y llall, yn ei ddwrdio ef, a ddywedodd, Onid ofni di Dduw, gan mai yn yr un condemniad yr wyt? A nyni yn wir yn gyfiawn, canys yr hyn a haeddodd ein gweithredoedd a dderbyniwn; ond Hwn, nid oes dim allan o’i le a wnaeth Efe: a dywedodd, O Iesu, cofia fi pan ddelych yn Dy deyrnas: a dywedodd Efe wrtho, Yn wir y dywedaf wrthyt, Heddyw ynghyda Mi y byddi ym mharadwys. Ac yr oedd hi weithian ynghylch y chweched awr, a thywyllwch ddigwyddodd ar yr holl ddaear hyd y nawfed awr, yr haul yn diffygio; a rhwygwyd llen y deml yn ei chanol; a chan lefain â llef uchel, yr Iesu a ddywedodd, Tad, i’th ddwylaw yr wyf yn rhoddi i gadw Fy yspryd; a phan hyn a ddywedasai, trengodd. A chan weled o’r canwriad yr hyn a ddigwyddasai, gogoneddodd Dduw, gan ddywedyd, Yn wir, y dyn hwn cyfiawn ydoedd. A’r holl dorfeydd a oedd yn bresennol wrth y golwg hwn, wedi gweled y pethau a ddigwyddasant, dan guro eu bronnau y dychwelasant. A safai Ei holl gydnabod o hirbell, ac y gwragedd y rhai a’i canlynasant Ef o Galilea, yn edrych ar y pethau hyn. Ac wele, gŵr a’i enw Ioseph, ac efe yn gynghorwr, gŵr da a chyfiawn, (efe ni fu yn cyttuno â’u cynghor ac â’u gweithred) o Arimathea, dinas yr Iwddewon, yr hwn a ddisgwyliai am deyrnas Dduw, hwn wedi myned at Pilat, a ofynodd gorph yr Iesu; ac wedi Ei dynu Ef i lawr, amdôdd Ef mewn lliain main; a rhoddodd Ef mewn bedd wedi ei naddu mewn carreg, lle nid oedd neb etto yn gorwedd. A dydd y Parottoad ydoedd, a’r Sabbath oedd yn nesau. A chan ganlyn, y gwragedd, y rhai a ddaethent o Galilea ynghydag Ef, a welsant y bedd, a pha fodd y dodwyd Ei gorph: ac wedi dychwelyd, parottoisant ber-aroglau ac enneiniau. Ac ar y Sabbath y buant lonydd yn ol y gorchymyn; ond ar y dydd cyntaf o’r wythnos, y wawr yn blygeiniol iawn, daethant at y bedd, gan ddwyn gyda hwynt y per-aroglau a barottoisent; a chawsant y maen wedi ei dreiglo ymaith oddiwrth y bedd; ac wedi myned i mewn ni chawsant gorph yr Arglwydd Iesu. A bu pan ddyrysid hwy am hyn, wele dau ŵr a safent yn eu hymyl mewn gwisg felltenaidd; ac a hwy wedi eu brawychu, ac yn gogwyddo eu hwynebau tua’r ddaear, dywedasant wrthynt, Paham y ceisiwch yr Hwn sydd fyw ym mysg y meirw? Nid yw Efe yma, eithr cyfododd. Cofiwch pa fodd y llefarodd wrthych, ac Efe etto yn Galilea, gan ddywedyd fod i Fab y Dyn raid Ei draddodi i ddwylaw dynion pechadurus, ac Ei groes-hoelio, ac, ar y trydydd dydd, adgyfodi. A chofiasant Ei ymadroddion; ac wedi dychwelyd oddiwrth y bedd, mynegasant y pethau hyn oll i’r un ar ddeg ac i’r lleill oll. A Mair Magdalen ac Ioanna a Mair, mam Iago, a’r lleill gyda hwynt, oedd y rhai a ddywedasant y pethau hyn wrth yr apostolion; ac yn eu golwg hwynt fel gwegi yr edrychai’r ymadroddion hyn, ac anghoelient hwynt. Ond Petr, wedi codi, a redodd at y bedd; ac wedi ymgrymmu gwelodd y llieiniau yn unig, ac aeth ymaith gan ryfeddu rhyngddo ac ef ei hun am y peth a ddigwyddasai. Ac wele dau o honynt, yr un dydd, oeddynt yn myned i bentref ynghylch trugain ystad oddiwrth Ierwshalem, o’r enw Emmaws; a hwy a ymddiddanent â’u gilydd am yr holl bethau hyn a ddigwyddasent; a bu wrth ymddiddan a chwestiynu o honynt, yr Iesu Ei Hun hefyd, wedi nesau, oedd yn myned gyda hwynt; ond eu llygaid a attaliwyd fel nad adwaenent Ef; a dywedodd wrthynt, Pa beth yw’r geiriau hyn a fwriwch at eich gilydd dan rodio? A safasant, yn wyneb-drist. A chan atteb, un o honynt a’i enw Cleophas, a ddywedodd Wrtho, A wyt ti yn aros ar dy ben dy hun yn Ierwshalem ac heb wybod y pethau a ddigwyddasant ynddi yn y dyddiau hyn? A dywedodd wrthynt, Pa bethau? A hwy a ddywedasant Wrtho, Y pethau ynghylch Iesu y Natsaread, yr Hwn oedd brophwyd galluog mewn gweithred a gair gerbron Duw a’r holl bobl; a’r modd y traddododd yr archoffeiriaid a’n llywodraethwyr ni Ef i gondemniad marwolaeth, ac y’i croes-hoeliasant Ef. Ond nyni a obeithiem mai Efe oedd yr Hwn ar fedr gwaredu’r Israel. Eithr hefyd ynghyda’r holl bethau hyn, y trydydd dydd yw er pan fu i’r pethau hyn ddigwydd. Eithr hefyd rhai gwragedd, o honom ni, a barasant syndod i ni, wedi bod ynghyda’r wawr wrth y bedd: a chan na chawsant Ei gorph, daethant gan ddywedyd mai gweledigaeth o angylion a welsent, y rhai a ddywedasant Ei fod yn fyw. Ac aeth rhai o’r rhai oeddynt gyda ni, at y bedd, a chawsant felly, fel y bu i’r gwragedd ddweud; ond Ef ni chawsant. Ac Efe a ddywedodd wrthynt, O rai difeddwl a rhy hwyr-frydig o galon i gredu’r holl bethau a lefarodd y prophwydi. Onid y pethau hyn yr oedd rhaid i Grist eu dioddef, a myned o Hono i mewn i’w ogoniant? A chan ddechreu ar Mosheh a’r holl Brophwydi, dehonglodd iddynt, yn yr holl Ysgrythyrau, y pethau am Dano Ei Hun. A nesasant at y pentref lle yr aent; ac Efe a gymmerth Arno mai pellach yr elai. A chymhellasant Ef, gan ddywedyd, Aros gyda ni, canys hwyrhau y mae, ac ar ddarfod weithian y mae’r dydd: ac aeth i mewn i aros gyda hwynt. A bu, wrth led-orwedd o Hono gyda hwynt, wedi cymmeryd bara y bendithiodd, ac wedi torri y rhannodd; a’u llygaid hwy a agorwyd, ac adnabuant Ef: ac Efe a ddiflannodd oddiwrthynt. A dywedasant wrth eu gilydd, Onid oedd y’n calon yn llosgi ynom, tra y llefarai wrthym ar y ffordd, a thra yr agorai i ni yr Ysgrythyrau? Ac wedi codi, yr un awr y dychwelasant i Ierwshalem, a chawsant yr un ar ddeg wedi ymgasglu ynghyd, a’r rhai oedd gyda hwynt, yn dywedyd, Yn wir, cyfododd yr Arglwydd, ac ymddangosodd i Shimon. A hwythau a fynegasant y pethau ar y ffordd, a pha fodd yr adnabuwyd ef ganddynt wrth dorriad y bara. Ac a hwy yn llefaru y pethau hyn, Efe a safodd yn eu canol, a dywedodd wrthynt, Tangnefedd i chwi. Ac wedi brawychu, a myned yn ddychrynedig, tybiasant mai yspryd a welent; a dywedodd wrthynt, Paham y’ch trallodwyd? A phaham y mae ymresymmiadau yn codi yn eich calonnau? Gwelwch Fy nwylaw ac Fy nhraed, mai Myfi Fy Hun yw. Teimlwch Fi, a gwelwch, canys yspryd nid yw a chanddo gnawd ac esgyrn. Ac wedi dywedyd hyn, dangosodd iddynt Ei ddwylaw ac Ei draed. A hwy etto yn anghoelio gan lawenydd, ac yn rhyfeddu, dywedodd wrthynt, A oes genych yma beth i’w fwytta? A hwy a roisant Iddo ddarn o bysgodyn wedi ei rostio; ac wedi ei gymmeryd ef, yn eu gwydd y bwyttaodd. A dywedodd wrthynt, Y rhai hyn yw Fy ngeiriau, y rhai a leferais wrthych tra etto ynghyda chwi, fod rhaid eu cyflawni o’r holl bethau a ’sgrifenwyd yn Nghyfraith Mosheh a’r Prophwydi a’r Psalmau am Danaf. Yna yr agorodd eu deall, fel y deallent yr Ysgrythyrau; a dywedodd wrthynt, Felly yr ysgrifenwyd, ddioddef o Grist, a chyfodi o feirw y trydydd dydd, ac y pregethid yn Ei enw edifeirwch a maddeuant pechodau, i’r holl genhedloedd, gan ddechreu ag Ierwshalem. Chwychwi ydych dystion o’r pethau hyn: ac wele, Myfi wyf yn danfon allan addewid Fy Nhad arnoch. A chwychwi, arhoswch yn y ddinas hyd oni wisger chwi, o’r uchelder, â gallu. Ac arweiniodd hwynt allan hyd at Bethania; ac wedi codi Ei ddwylaw, bendithiodd hwynt. A bu, wrth fendithio o Hono hwynt, didolwyd Ef oddiwrthynt, ac y’i dygpwyd i fynu i’r nef; a hwy, wedi Ei addoli Ef, a ddychwelasant i Ierwshalem gyda llawenydd mawr; ac yr oeddynt yn wastadol yn y deml, yn moliannu Duw. Yn y dechreuad yr oedd y Gair, a’r Gair oedd gyda Duw; a Duw oedd y Gair. Hwn oedd yn y dechreuad gyda Duw. Pob peth, trwyddo Ef y’i gwnaethpwyd, ac hebddo Ef ni wnaed hyd yn oed un peth o’r a wnaethpwyd. Ynddo Ef yr oedd bywyd, ac y bywyd oedd oleuni dynion. A’r Goleuni, yn y tywyllwch y llewyrcha; a’r tywyllwch nid amgyffredodd Ef. Yr oedd dyn wedi ei ddanfon oddiwrth Dduw, a’i enw Ioan. Hwn a ddaeth yn dystiolaeth, fel y tystiolaethai am y Goleuni, fel y byddai i bawb gredu trwyddo ef. Nid oedd Efe y Goleuni, eithr fel y tystiolaethai am y Goleuni. Yr oedd y gwir Oleuni, yr Hwn sy’n goleuo pob dyn, yn dyfod i’r byd. Yn y byd yr oedd Efe; a’r byd trwyddo Ef a wnaethpwyd, ac y byd nid adnabu Ef. At yr eiddo Ei hun y daeth, ac Ei bobl Ei hun ni dderbyniasant Ef; ond cynnifer ag a’i derbyniasant, rhoddes iddynt awdurdod i fyned yn blant Duw, sef i’r rhai sy’n credu yn Ei enw Ef; y rhai, nid o waed, nac ychwaith o ewyllys cnawd, nac ychwaith o ewyllys dyn, eithr o Dduw y’u ganwyd. Ac y Gair, yn gnawd yr aeth, a thabernaclodd yn ein plith (a gwelsom Ei ogoniant, gogoniant megis yr unig-anedig oddiwrth y Tad), yn llawn gras a gwirionedd. Ioan a dystiolaethodd am Dano, ac a lefodd gan ddywedyd, Hwn yw Efe am yr Hwn y dywedais, Yr Hwn sy’n dyfod ar fy ol, o’m blaen yr oedd Efe, canys cyn na mi yr ydoedd. Canys o’i gyflawnder Ef nyni oll a dderbyniasom, a gras am ras. Canys y Gyfraith, trwy Mosheh y’i rhoddwyd; a gras a gwirionedd trwy Iesu Grist y buant. Duw, ni fu i neb erioed Ei weled Ef: yr unig-anedig Fab, yr Hwn sydd ym mynwes y Tad, Efe a’i mynegodd. A hon yw tystiolaeth Ioan, pan atto y danfonodd yr Iwddewon o Ierwshalem offeiriaid a Lefiaid, fel y gofynent iddo, Tydi, pwy ydwyt? a chyffesodd, ac ni wadodd; a chyffesodd, Nid wyf fi y Crist. A gofynasant iddo, Pa beth, ynte? Ai Elias wyt ti? A dywedodd, Nag wyf. Ai Prophwyd wyt ti? Ac attebodd, Nage. Dywedasant, gan hyny, wrtho, Pwy ydwyt, fel y rhoddom atteb i’r rhai a’n danfonasant? Pa beth a ddywedi am danat dy hun? Ebr efe, myfi wyf “Llef un yn llefain, Yn yr anialwch gwnewch yn uniawn ffordd Iehofah,” fel y dywedodd Eshaiah y prophwyd. Ac wedi eu danfon yr oeddynt gan y Pharisheaid. A gofynasant iddo, a dywedasant wrtho, Paham, gan hyny, y bedyddi, os tydi nid wyt y Crist, nac ychwaith Elias, nac ychwaith y prophwyd? Iddynt yr attebodd Ioan, gan ddywedyd, Myfi a fedyddiaf â dwfr. Yn eich canol y mae’n sefyll yr Hwn nid ydych chwi yn Ei adnabod; yr Hwn y sy’n dyfod ar fy ol; yr Hwn nid wyf fi deilwng i ddattod carrai Ei esgid Ef. Y pethau hyn, yn Bethania y digwyddasant, y tu hwnt i’r Iorddonen, lle yr oedd Ioan yn bedyddio. Trannoeth gwelodd Ioan yr Iesu yn dyfod atto, a dywedodd, Wele Oen Duw yr Hwn sy’n dwyn ymaith bechod y byd; Hwn yw Efe am yr Hwn y dywedais i, “Ar fy ol y mae’n dyfod ŵr yr Hwn o’m blaen yr oedd, canys cyn na mi yr ydoedd.” Ac myfi nid adwaenwn Ef: eithr fel yr amlygid Ef i’r Israel, am hyny y daethum i gan fedyddio â dwfr. A thystiolaethodd Ioan gan ddywedyd, Gwelais yr Yspryd yn disgyn, fel colommen, o’r nef, ac arhosodd Arno; ac myfi nid adwaenwn Ef; eithr yr hwn a’m danfonodd i fedyddio â dwfr, Efe a ddywedodd wrthyf, “Ar bwy bynnag y gwelych yr Yspryd yn disgyn ac yn aros Arno, Efe yw yr Hwn sy’n bedyddio â’r Yspryd Glân.” Ac myfi a welais, ac a dystiolaethais mai Efe yw Mab Duw. Trannoeth drachefn y safai Ioan a dau o’i ddisgyblion; ac wedi edrych ar yr Iesu yn rhodio, dywedodd, Wele Oen Duw. A chlywodd y ddau ddisgybl ef yn llefaru, a chanlynasant yr Iesu. Ac wedi troi o’r Iesu, a’u gweled hwynt yn canlyn, dywedodd wrthynt, Pa beth a geisiwch? A hwy a ddywedasant Wrtho, Rabbi (yr hyn o’i gyfieithu yw, Athraw), pa le yr arhosi? Dywedodd wrthynt, Deuwch a gwelwch. Aethant, gan hyny, a gwelsant pa le yr arhosai; a chydag Ef yr arhosasant y diwrnod hwnw, a’r awr oedd ynghylch y ddegfed. Yr oedd Andreas, brawd Shimon Petr, yn un o’r ddau a glywsant Ioan ac a’i canlynasant Ef. Cafodd hwn yn gyntaf ei frawd ei hun Shimon, a dywedodd wrtho, Cawsom y Meshiah, yr hwn o’i ddehongli yw Crist. Daeth ag ef at yr Iesu. Wedi edrych arno, yr Iesu a ddywedodd, Tydi wyt Shimon, mab Ioan: tydi a elwir Cephas, yr hwn, o’i ddehongli, yw Petr. Trannoeth yr ewyllysiodd Efe fyned allan i Galilea, a chafodd Philip; a dywedodd yr Iesu wrtho, Canlyn Fi. Ac yr oedd Philip o Bethtsaida, o ddinas Andreas a Petr. Cafodd Philip Nathanael, a dywedodd wrtho, Yr Hwn yr ysgrifenodd Mosheh am Dano yn y Gyfraith, ac y Prophwydi, a gawsom, sef Iesu, Mab Ioseph, yr Hwn sydd o Natsareth. Ac wrtho y dywedodd Nathanael, Ai o Natsareth y gall dim da fod? Wrtho y dywedodd Philip, Tyred a gwel. Gwelodd yr Iesu Nathanael yn dyfod Atto, a dywedodd am dano, Wele, Israeliad mewn gwirionedd, yn yr hwn nid oes twyll. Wrtho y dywedodd Nathanael, O ba beth y’m hadwaenost i? Attebodd yr Iesu, a dywedodd wrtho, Cyn na fu i Philip dy alw di, pan oeddit dan y ffigysbren, gwelais di. Iddo yr attebodd Nathanael, Rabbi, Tydi yw Mab Duw; Tydi yw Brenhin yr Israel. Attebodd yr Iesu, a dywedodd wrtho, Ai o herwydd dywedyd o Honof wrthyt, “Gwelais di dan y ffigysbren,” y credi? Pethau mwy na’r rhai hyn a weli. A dywedodd wrtho, Yn wir, yn wir, y dywedaf wrthych, Cewch weled y nef yn agored, ac angylion Duw yn esgyn ac yn disgyn ar Fab y Dyn. A’r trydydd dydd, priodas oedd yn Cana Galilea, ac yr oedd mam yr Iesu yno; a galwyd yr Iesu hefyd a’i ddisgyblion i’r briodas. A chwedi pallu o’r gwin, dywedodd mam yr Iesu Wrtho, Gwin nid oes ganddynt. Ac wrthi y dywedodd yr Iesu, Pa beth sydd i Mi a wnelwyf â thi, wraig? Ni ddaeth etto mo Fy awr. Dywedodd Ei fam wrth y gwasanaethwyr, Pa beth bynnag a ddywedo Efe wrthych, gwnewch. Ac yr oedd yno ddyfr-lestri meini, chwech o honynt, yn ol defod puredigaeth yr Iwddewon, yn sefyll, ac yn dal, bob un, ddau ffircyn neu dri. Wrthynt y dywedodd yr Iesu, Llenwch y dyfr-lestri o ddwfr: a llanwasant hwynt hyd at yr ymyl: a dywedodd wrthynt, Tynnwch yn awr, a dygwch at lywodraethwr y wledd. A hwy a ddygasant. A phan archwaethodd llywodraethwr y wledd y dwfr a wnaethpwyd yn win, ac ni wyddai o ba le yr ydoedd, (ond y gwasanaethwyr a wyddent, sef y rhai a dynnasant y dwfr), galw ar y priod-fab a wnaeth llywodraethwr y wledd, a dywedodd wrtho, Pob dyn a esyd yn gyntaf y gwin da; a phan feddwont, yr hwn sydd waelach; tydi a gedwaist y gwin da hyd yr awr hon. Hyn o ddechreu Ei arwyddion a wnaeth yr Iesu yn Cana Galilea, ac amlygodd Ei ogoniant; a chredu Ynddo a wnaeth Ei ddisgyblion. Wedi hyn yr aeth i wared i Caphernahwm, Efe a’i fam a’i frodyr ac Ei ddisgyblion; ac yno yr arhosasant nid nemmawr o ddyddiau. Ac agos oedd Pasg yr Iwddewon, ac aeth yr Iesu i fynu i Ierwshalem. A chafodd yn y deml y rhai yn gwerthu eu hychen a defaid a cholommenod, a’r newidwyr arian yn eu heistedd: ac wedi gwneud fflangell o gyrt, bwriodd bawb allan o’r deml, ac y defaid, ac yr ychen; ac i’r newidwyr arian y tywalltodd allan eu harian, ac eu byrddau a ddymchwelodd Efe; ac wrth y rhai yn gwerthu’r colommenod y dywedodd, Cymmerwch y pethau hyn oddi yma; na wnewch dŷ Fy Nhad yn dŷ marchnad. A chofiodd Ei ddisgyblion ei fod yn ysgrifenedig, “Zel am Dy dŷ a’m hysodd.” Attebodd yr Iwddewon, gan hyny, a dywedasant Wrtho, Pa arwydd a ddangosi i ni, gan mai’r pethau hyn a wnei? Attebodd yr Iesu, a dywedodd wrthynt, Chwalwch y deml hon, ac mewn tridiau y cyfodaf hi. Dywedodd yr Iwddewon, gan hyny, Chwe blynedd a deugain y buwyd yn adeiladu’r deml hon, a thydi mewn tridiau y’i cyfodi hi! Ond Efe a ddywedasai am deml Ei gorph. Gan hyny, pan gyfododd o feirw, cofiodd Ei ddigyblion mai hyn a ddywedasai; a chredasant yr Ysgrythyr a’r gair a ddywedasai yr Iesu. A phan yr oedd Efe yn Ierwshalem ar y Pasg, yn yr wyl, llawer a gredasant yn Ei enw, wrth weled Ei arwyddion Ef, y rhai a wnaethai; ond yr Iesu Ei hun nid ymddiriedodd Ei hun iddynt am Ei fod yn adnabod pawb, ac am nad oedd Iddo raid i neb dystiolaethu Iddo am ddyn, canys Efe Ei hun a wyddai pa beth oedd mewn dyn. Ac yr oedd dyn o’r Pharisheaid, a Nicodemus yn enw iddo, pennaeth yr Iwddewon. Hwn a ddaeth Atto Ef liw nos, ac a ddywedodd Wrtho, Rabbi, gwyddom mai oddiwrth Dduw y daethost yn ddysgawdwr, canys yr holl arwyddion hyn y rhai yr wyt Ti yn eu gwneuthur, nid oes neb a all eu gwneuthur oddieithr i Dduw fod gydag ef. Attebodd yr Iesu, a dywedodd wrtho, Yn wir, yn wir y dywedaf wrthyt, Oddieithr i neb ei eni o newydd ni all weled teyrnas Dduw. Dywedodd Nicodemus Wrtho, Pa fodd y gall dyn ei eni, ac efe yn hen? A all efe fyned i mewn i groth ei fam eilwaith, a’i eni? Attebodd yr Iesu, Yn wir, yn wir y dywedaf wrthyt, Oddieithr i neb ei eni o ddwfr ac o’r Yspryd ni all fyned i mewn i deyrnas Dduw. Yr hyn a aned o’r cnawd, cnawd yw; a’r hyn a aned o’r Yspryd, yspryd yw. Na ryfedda ddywedyd o Honof wrthyt, Y mae rhaid eich geni o newydd. Y gwynt, lle yr ewyllysia y chwyth, a’i swn ef a glywir; eithr ni wyddost o ba le y mae yn dyfod, nac i ba le y cilia; felly y mae pob un a aned o’r Yspryd. Attebodd Nicodemus, a dywedodd Wrtho, Pa fodd y gall y pethau hyn fod? Attebodd yr Iesu, a dywedodd wrtho, Tydi wyt ddysgawdwr Israel, a’r pethau hyn ni wyddost! Yn wir, yn wir y dywedaf wrthyt, Yr hyn a wyddom a lefarwn; a’r hyn a welsom a dystiolaethwn; a’n tystiolaeth ni dderbyniwch. Os pethau daearol a ddywedais wrthych, ac na chredwch, pa fodd os dywedaf wrthych bethau nefol, y credwch? Ac nid oes neb wedi esgyn i’r nef, oddieithr yr Hwn a ddisgynodd o’r nef, sef Mab y Dyn, yr Hwn sydd yn y nef. Ac fel y bu i Mosheh ddyrchafu’r sarph yn yr anialwch, felly, Ei ddyrchafu sydd rhaid i Fab y Dyn, fel y bo rhaid i bob un y sy’n credu Ynddo, gael bywyd tragywyddol. Canys felly y carodd Duw y byd, fel mai Ei Fab unig-anedig a roddodd Efe, fel y bo i bob un y sy’n credu Ynddo mo’i golli, eithr cael o hono fywyd tragywyddol. Canys ni ddanfonodd Duw Ei Fab i’r byd fel y barnai y byd, eithr fel yr achubid y byd Trwyddo. Yr hwn sy’n credu Ynddo ni fernir; yr hwn nad yw yn credu, eisoes y’i barnwyd, o herwydd na chredodd yn enw unig-anedig Fab Duw. A hon yw’r farn, Fod y goleuni wedi dyfod i’r byd, a charodd dynion y tywyllwch yn fwy na’r goleuni, gan mai drwg oedd eu gweithredoedd. Canys pob un yn gwneuthur pethau drwg, cas ganddo y goleuni, ac nid yw’n dyfod i’r goleuni fel nad argyhoedder ei weithredoedd; ond yr hwn sy’n gwneuthur y gwirionedd, dyfod i’r goleuni y mae, fel yr amlyger ei weithredoedd ef mai yn Nuw y maent wedi eu gwneuthur. Wedi’r pethau hyn daeth yr Iesu a’i ddisgyblion i wlad Iwdea; ac yno yr arhosodd gyda hwynt, ac y bedyddiai. Ac yr oedd Ioan yn bedyddio yn Ainon, yn agos i Shalim, canys dwfr lawer oedd yno; a daethant Atto, a bedyddid hwynt, canys nid oedd Ioan etto wedi ei fwrw yngharchar. Bu, gan hyny, ymresymmiad rhwng disgyblion Ioan ac Iwddew ynghylch puredigaeth; a daethant at Ioan, a dywedasant wrtho, Rabbi, yr Hwn oedd gyda thi y tu hwnt i’r Iorddonen, ac i’r Hwn y tystiolaethaist, wele, y mae Efe yn bedyddio, a phawb yn dyfod Atto. Attebodd Ioan, a dywedodd, Ni all dyn dderbyn dim oddieithr y bo wedi ei roddi iddo o’r nef. Chwychwi eich hunain ydych dystion i mi y dywedais, “Nid wyf fi y Crist,” eithr “Wedi fy nanfon yr wyf o’i flaen Ef.” Yr hwn sydd a chanddo y briod-ferch, y priod-fab yw; a chyfaill y priod-fab, yr hwn sydd yn sefyll ac yn ei glywed, â llawenydd y llawenycha oblegid llef y priod-fab. Y llawenydd hwn, gan hyny, mau fi, a gyflawnwyd. Iddo Ef y mae rhaid cynnyddu, ac i mi leihau. Yr hwn sy’n dyfod oddi uchod, goruwch pawb y mae; yr hwn y sydd o’r ddaear, o’r ddaear y mae, ac o’r ddaear y mae ei ymddiddan: yr Hwn y sy’n dyfod o’r nef, goruwch pawb y mae. Yr hyn a welodd ac a glywodd Efe, hyny a dystiolaetha Efe; ac Ei dystiolaeth nid oes neb yn ei derbyn. Yr hwn sy’n derbyn Ei dystiolaeth Ef a seliodd fod Duw yn eirwir: canys yr Hwn a ddanfonodd Duw, ymadroddion Duw a lefara Efe; canys nid wrth fesur y rhydd Efe yr Yspryd. Y Tad a gâr y Mab; a phob peth a roddodd Efe yn Ei law. Yr hwn sy’n credu yn y Mab sydd a chanddo fywyd tragywyddol; ond yr hwn nad yw yn credu yn y Mab, ni wel fywyd, eithr digofaint Duw sydd yn aros arno. Gan hyny, pan wybu’r Arglwydd glywed o’r Pharisheaid fod yr Iesu yn gwneuthur, ac yn bedyddio, mwy o ddisgyblion nag Ioan, (er hyny yr Iesu Ei Hun ni fedyddiai, eithr Ei ddisgyblion), gadawodd Iwdea, ac aeth ymaith drachefn i Galilea. Ac yr oedd yn rhaid Iddo fyned trwy Shamaria. Daeth, gan hyny, i ddinas yn Shamaria a elwir Shicar, yn agos i’r rhandir a roddodd Iacob i Ioseph, ei fab; ac yr oedd yno ffynnon Iacob. Yr Iesu, gan hyny, wedi blino gan ei daith, a eisteddodd yn uniawn wrth y ffynnon; a’r awr oedd ynghylch y chweched. Daeth gwraig o Shamaria i dynnu dwfr. Wrthi y dywedodd yr Iesu, Dyro i Mi i yfed; canys Ei ddisgyblion a aethent ymaith i’r ddinas fel y prynent fwyd. Wrtho, gan hyny, y dywedodd y wraig o Shamaria, Pa fodd yr wyt Ti, a Thydi yn Iwddew, yn gofyn genyf fi beth i’w yfed, a minnau yn wraig o Shamaria? canys nid ymgyfeillach Iwddewon â Sharmariaid. Attebodd yr Iesu, a dywedodd wrthi, Ped adwaenit ddawn Duw, a phwy yw’r Hwn sy’n dweud wrthyt, “Dyro i Mi i yfed,” ti a ofynasit Iddo, a rhoddasai i ti ddwfr byw. Wrtho y dywedodd y wraig, Arglwydd, peth i dynnu dwfr nid oes Genyt, a’r pydew sydd ddwfn; o ba le, gan hyny, y mae Genyt y dwfr byw? A wyt Ti yn fwy na’n tad Iacob, yr hwn a roddodd i ni y pydew, ac efe a yfodd o hono, ac ei feibion, a’i anifeiliaid? Attebodd yr Iesu, a dywedodd wrthi, Pob un yn yfed o’r dwfr hwn a sycheda drachefn; ond pwy bynnag a yfo o’r dwfr a roddaf Fi iddo, ni sycheda ddim yn dragywydd, eithr y dwfr a roddaf Fi iddo fydd ynddo yn ffynnon o ddwfr yn tarddu i fywyd tragywyddol. Wrtho y dywedodd y wraig, Arglwydd, dyro i mi y dwfr hwn, fel na sychedwyf ac na ddelwyf yma i dynnu. Wrthi y dywedodd yr Iesu, Dos, galw dy ŵr, a thyred yma. Attebodd y wraig, a dywedodd Wrtho, nid oes gennyf ŵr. Wrthi y dywedodd yr Iesu, Da y dywedaist, “Gŵr nid oes genyf,” canys pump o wŷr a fu genyt, ac yr hwn y sydd genyt yr awr hon, nid yw dy ŵr: hyn a ddywedaist yn wir. Wrtho y dywedodd y wraig, Arglwydd, gwelaf mai prophwyd wyt Ti. Ein tadau, ar y mynydd hwn yr addolasant, a chwychwi a ddywedwch mai yn Ierwshalem y mae’r fan lle y dylir addoli. Wrthi y dywedodd yr Iesu, Cred Fi, O wraig, dyfod y mae’r awr pryd nac ar y mynydd hwn nac yn Ierwshalem yr addolwch y Tad. Chwychwi a addolwch y peth ni wyddoch; nyni a addolwn y peth a wyddom, canys iachawdwriaeth, o’r Iwddewon y mae. Eithr dyfod y mae’r awr, ac yr awr hon y mae, pan fydd y gwir addolwyr yn addoli’r Tad mewn yspryd a gwirionedd, canys y mae’r Tad yn ceisio’r cyfryw rai yn addolwyr Iddo. Yspryd yw y Tad; ac y rhai a’i haddolant Ef, mewn yspryd a gwirionedd y mae rhaid iddynt addoli. Wrtho y dywedodd y wraig, Gwn fod y Meshiah yn dyfod (yr Hwn a elwir Crist); pan ddelo Efe, mynega i ni bob peth. Wrthi y dywedodd yr Iesu, Myfi yw, yr Hwn wyf yn ymddiddan â thi. Ac ar hyn daeth Ei ddisgyblion, a rhyfeddent mai â gwraig y siaradai; ni fu i neb, er hyny, ddywedyd, Pa beth a geisi? neu, Paham yr ymddiddani â hi? Gadael ei dwfr-lestr, gan hyny, a wnaeth y wraig, ac aeth ymaith i’r ddinas, a dywedodd wrth y dynion, Deuwch, gwelwch ddyn a ddywedodd wrthyf bob peth a wnaethum. Ai Hwn yw y Crist? Aethant allan o’r ddinas, a daethant Atto. Yn y cyfamser, gofynodd y disgyblion Iddo, gan ddywedyd, Rabbi, bwytta? Ac Efe a ddywedodd wrthynt, Yr wyf Fi a Chenyf fwyd i’w fwytta, am yr hwn ni wyddoch chwi. Dywedodd y disgyblion, gan hyny, wrth eu gilydd, A fu i ryw un ddyfod a pheth Atto i’w fwytta? Dywedodd yr Iesu wrthynt, Fy mwyd I yw gwneuthur ewyllys yr Hwn a’m danfonodd, a gorphen Ei waith Ef. Onid ydych chwi yn dweud, Etto pedwar mis sydd, ac y cynhauaf a ddaw? Wele, dywedaf wrthych, Codwch eich llygaid, ac edrychwch ar y maesydd, mai gwynion ydynt eisoes i’r cynhauaf. Yr hwn sy’n medi, cyflog a dderbyn efe, a chasglu ffrwyth y mae i fywyd tragywyddol, fel y bo i’r hauwr ac i’r medwr lawenychu ynghyd; canys yn hyn y mae’r gair yn wir, “Arall yw’r hauwr, ac arall y medwr.” Myfi a’ch danfonais i fedi yr hyn na lafuriasoch chwi; eraill a lafuriasant; a chwychwi, i’w llafur y daethoch i mewn. Ac o’r ddinas honno, llawer a gredasant Ynddo, ïe, o’r Shamariaid, oherwydd gair y wraig yn tystiolaethu, “Dywedodd wrthyf bob peth a wnaethum.” Pan, gan hyny, y daeth y Shamariaid Atto, gofynasant Iddo aros gyda hwynt: ac arhosodd yno ddeuddydd. A llawer mwy a gredasant Ynddo oherwydd Ei ymadrodd; ac wrth y wraig y dywedasant, Dim mwyach oherwydd dy siarad di y credwn, canys ni ein hunain a glywsom, a gwyddom mai Hwn yw, yn wir, Iachawdwr y byd. Ac wedi’r ddeuddydd aeth allan oddiyno i Galilea; canys yr Iesu Ei Hun a dystiolaethodd fod prophwyd yn ei wlad ei hun heb anrhydedd iddo. Pan ddaeth Efe, gan hyny i Galilea, derbyniodd y Galileaid Ef, wedi gweled o honynt yr holl bethau a wnaeth Efe yn Ierwshalem ar yr wyl, canys hwythau hefyd a ddeuent i’r wyl. Aeth, gan hyny, drachefn i Cana Galilea, lle y gwnaeth y dwfr yn win. Ac yr oedd rhyw bendefig, mab yr hwn oedd glaf yn Caphernahwm. Hwn, wedi clywed fod yr Iesu wedi dyfod, o Iwdea i Galilea, aeth Atto, a gofynodd Iddo ddyfod i wared ac iachau ei fab ef, canys yr oedd ym mron marw. Dywedodd yr Iesu, gan hyny, wrtho, Os nad arwyddion a rhyfeddodau a welwch, ni chredwch ddim. Dywedodd y pendefig Wrtho, Arglwydd, tyred i wared cyn marw fy mhlentyn. Dywedodd yr Iesu wrtho, Dos; y mae dy fab yn fyw. A chredodd y dyn y gair a ddywedodd yr Iesu wrtho, ac aeth ei ffordd. Ac efe yn awr yn myned i wared, ei weision a gyfarfuant ag ef, gan ddywedyd, Dy fab sydd fyw. Gofynodd, gan hyny, iddynt yr awr y gwellhasai arno. Dywedasant, gan hyny, wrtho, Doe, y seithfed awr, y gadawodd y cryd ef. Yna y gwybu’r tad mai yr awr honno ydoedd, yn yr hon y dywedodd yr Iesu wrtho, “Y mae dy fab yn fyw;” a chredodd, efe a’i dŷ i gyd. Hwn yr ail arwydd, drachefn, a wnaeth yr Iesu wedi dyfod o Iwdea i Galilea. Wedi’r pethau hyn yr oedd gwyl yr Iwddewon, ac aeth yr Iesu i fynu i Ierwshalem. Ac y mae yn Ierwshalem, wrth borth y defaid lyn a elwir yn Hebraeg Bethesda, ag iddo bum cyntor. Yn y rhai hyn y gorweddai lliaws o’r cleifion, deillion, cloffion, gwywedigion. Ac yr oedd rhyw ddyn yno, wedi bod namyn dwy flynedd ddeugain yn ei glefyd. Yr Iesu yn gweled hwn yn gorwedd, ac yn gwybod mai am amser maith bellach ei fod felly, a ddywedodd wrtho, A ewyllysi di fyned yn iach? Iddo yr attebodd y claf, Arglwydd, nid oes genyf ddyn i’m bwrw i’r llyn pan gynhyrfer y dwfr; ond tra y deuaf fi, arall a ddisgyn o’m blaen i. Wrtho y dywedodd yr Iesu, Cyfod, cymmer i fynu dy orwedd-beth, a rhodia. Ac yn uniawn yr iachawyd y dyn, a chymmerodd i fynu ei orwedd-beth, a rhodiodd. A’r Sabbath ydoedd y dydd hwnw. Gan hyny, dywedodd yr Iwddewon wrth yr hwn a iachesid, Y Sabbath yw, ac nid yw gyfreithlawn i ti gymmeryd i fynu dy orwedd-beth. Ac efe a attebodd iddynt, Yr Hwn a’m gwnaeth yn iach, Efe a ddywedodd wrthyf, “Cymmer i fynu dy orwedd-beth a rhodia.” Gofynasant iddo, Pwy yw y dyn a ddywedodd wrthyt, “Cymmer i fynu a rhodia.” A’r hwn a iachesid ni wyddai pwy ydoedd, canys yr Iesu a giliasai, gan fod tyrfa yn y fan. Wedi hyny, yr Iesu a’i cafodd ef yn y deml, a dywedodd wrtho, Wele, iachawyd di; na phecha mwyach, rhag i rywbeth gwaeth ddigwydd i ti. Aeth y dyn ymaith, a mynegodd i’r Iwddewon mai’r Iesu yw’r Hwn a’i gwnaeth ef yn iach. Ac o achos hyn erlidiodd yr Iwddewon yr Iesu, gan mai’r pethau hyn a wnelsai ar y Sabbath. A’r Iesu a attebodd iddynt, Fy Nhad sydd hyd yn hyn yn gweithio, ac Myfi wyf yn gweithio. O achos hyn, gan hyny, mwy y ceisiai yr Iwddewon Ei ladd Ef, oherwydd Iddo nid yn unig dorri’r Sabbath, eithr hefyd alw Duw yn Dad Iddo, gan wneuthur Ei hun yn gystal a Duw. Gan hyny, yr attebodd yr Iesu, a dywedodd wrthynt, Yn wir, yn wir y dywedaf wrthych, Ni all y Mab wneuthur dim o Hono Ei hun, oddieithr yr hyn a welo Efe y Tad yn ei wneuthur, canys pa bethau bynnag y mae Efe yn eu gwneuthur, y Mab hefyd yr un ffunud a’u gwna. Canys y mae’r Tad yn caru’r Mab, ac yn dangos Iddo bob peth y mae Efe yn ei wneuthur; a gweithredoedd mwy na’r rhai hyn a ddengys Efe Iddo, fel y bo i chwi ryfeddu. Canys fel y mae’r Tad yn cyfodi’r meirw ac yn eu bywhau, felly y Mab hefyd a fywha y rhai a fynno: canys nid yw’r Tad yn barnu neb, eithr pob barn a roddes Efe i’r Mab, fel y bo i bawb anrhydeddu’r Mab fel yr anrhydeddant y Tad. Yr hwn nad yw yn anrhydeddu’r Mab, nid yw yn anrhydeddu’r Tad, yr Hwn a’i danfonodd Ef. Yn wir, yn wir y dywedaf wrthych, Y neb sy’n clywed Fy ngair, ac yn credu i’r Hwn a’m danfonodd, ganddo y mae bywyd tragywyddol, ac i farn ni ddaw, eithr wedi myned trosodd y mae o farwolaeth i’r bywyd. Yn wir, yn wir y dywedaf wrthych, Dyfod y mae’r awr, ac yn awr y mae, pan fydd i’r meirw glywed llais Mab Duw, a’r rhai a glywsant fyddant byw. Canys fel y mae gan y Tad fywyd Ynddo Ei hun, felly i’r Mab hefyd y rhoddes i fod a bywyd Ynddo Ei hun; ac awdurdod a roddes Efe Iddo i wneuthur barn, gan mai Mab y Dyn yw. Na ryfeddwch wrth hyn, Dyfod y mae’r awr yn yr hon y bydd i bawb y sydd yn y beddau glywed Ei lais Ef, a deuant allan; y rhai a wnaethant yr hyn sy dda, i adgyfodiad bywyd; ond y rhai a wnaethant yr hyn sy ddrwg, i adgyfodiad barn. Ni allaf Fi wneuthur dim o Honof Fy hun; fel yr wyf yn clywed, yr wyf yn barnu; ac Fy marn sydd gyfiawn, canys nid wyf yn ceisio Fy ewyllys Fy hun, eithr ewyllys yr Hwn a’m danfonodd. Os Myfi wyf yn tystiolaethu am Danaf Fy hun, Fy nhystiolaeth nid yw wir. Arall sydd yn tystiolaethu am Danaf, a gwn mai gwir yw’r dystiolaeth y mae Efe yn ei thystiolaethu am Danaf. Chwi a ddanfonasoch at Ioan, a thystiolaethodd efe i’r gwirionedd. Ond Myfi, nid gan ddyn y derbyniaf dystiolaeth; eithr y pethau hyn a ddywedais fel y’ch gwareder chwi. Efe oedd y llusern yn llosgi ac yn disgleirio; a chwychwi oeddych ewyllysgar i orfoleddu am amser yn ei oleuni ef. Ond Genyf Fi y mae tystiolaeth fwy nag Ioan, canys y gweithredoedd y rhai a roddes y Tad i Mi i’w gorphen, y gweithredoedd eu hunain, y rhai yr wyf yn eu gwneuthur, sy’n tystiolaethu am Danaf mai y Tad a’m danfonodd. Ac y Tad, yr Hwn a’m danfonodd, Efe a dystiolaethodd: nac Ei lais Ef a glywsoch erioed, nac Ei wedd a welsoch; a’i air Ef nid yw genych yn aros ynoch, canys yr Hwn a ddanfonodd Efe, Iddo Ef chwychwi nid ydych yn credu. Chwiliwch yr Ysgrythyrau, canys chwi a feddyliwch mai ynddynt hwy y mae bywyd tragywyddol i chwi; a hwynt-hwy yw y rhai sy’n tystiolaethu am Danaf; ac nid ewyllysiwch ddyfod Attaf, fel y caffoch fywyd. Gogoniant oddiwrth ddynion nid wyf yn ei dderbyn; eithr eich adnabod chwi yr wyf, nad yw cariad Duw genych ynoch eich hunain. Myfi a ddaethum yn enw Fy Nhad, ac nid ydych yn Fy nerbyn: os arall a ddaw yn ei enw ei hun, hwnw a dderbyniwch. Pa fodd y gellwch chwi gredu, yn derbyn gogoniant gan eich gilydd, ac y gogoniant y sydd oddiwrth Dduw yn unig nid ydych yn ei geisio? Na thybiwch mai Myfi a’ch cyhuddaf wrth y Tad: y mae yr hwn yn eich cyhuddo, Mosheh, yn yr hwn yr ydych chwi yn gobeithio. Canys pe credech Mosheh, credech Finnau, canys am Danaf efe a ysgrifenodd; ond os i’w ysgrifeniadau ef na chredwch, pa fodd i’m geiriau I y credwch? Wedi’r pethau hyn, aeth yr Iesu ymaith dros fôr Galilea, yr hwn yw môr Tiberias; a chanlynai Ef dyrfa fawr, canys gwelent yr arwyddion a wnelai ar y cleifion. Ac aeth yr Iesu i fynu i’r mynydd, ac yno yr eisteddodd ynghyda’i ddisgyblion. Ac agos oedd y Pasg, gwyl yr Iwddewon. Yna’r Iesu, wedi dyrchafu Ei lygaid, a gweled fod tyrfa fawr yn dyfod Atto, a dywedodd wrth Philip, O ba le y prynwn fara fel y bwyttao y rhai hyn? A hyn a ddywedodd Efe, gan ei brofi ef, canys Efe a wyddai pa beth yr oedd Efe ar fedr ei wneuthur. Iddo yr attebodd Philip, Gwerth dau can denar o fara nid yw ddigon iddynt fel y bo i bob un gael rhyw ychydig. Wrtho y dywedodd un o’i ddisgyblion, Andreas, brawd Shimon Petr, Y mae bachgennyn yma, a chanddo bum torth haidd a dau bysgodyn; eithr y rhai hyn, pa beth ydynt rhwng cynnifer? Dywedodd yr Iesu, gwnewch i’r dynion led-orwedd. Ac yr oedd glaswellt lawer yn y fan. Gan hyny, lled-orweddodd y gwŷr, ynghylch pum mil o honynt. Yna y cymmerth yr Iesu y torthau; ac wedi diolch, rhannodd i’r rhai yn eu lled-orwedd; ac yr un ffunud o’r pysgod, gymmaint ag a fynnent. A phan y’u llanwyd, dywedodd wrth Ei ddisgyblion, Cesglwch y briwfwyd y sydd dros ben fel na bo i ddim ei golli. Casglasant, gan hyny, a llanwasant ddeuddeg basged o friw-fwyd o’r pum torth haidd, y rhai oeddynt dros ben i’r rhai a fwyttasent. Gan hyny y dynion, wedi gweled yr arwydd a wnaethai Efe, a dywedasant, Hwn yw, yn wir, y Prophwyd oedd i ddyfod i’r byd. Yr Iesu, gan hyny, yn gwybod eu bod ar fedr dyfod a’i gipio Ef, fel y gwnaent Ef yn frenhin, a giliodd drachefn i’r mynydd, Ei hunan yn unig. Ac a’r hwyr wedi dyfod, aeth Ei ddisgyblion i wared at y môr; ac wedi myned i gwch, aethant dros y môr i Caphernahwm, a thywyllwch weithian a ddaethai, ac hyd yn hyn ni ddaethai yr Iesu attynt. A’r môr, gwynt mawr yn chwythu, oedd yn codi. Yna wedi rhwyfo o honynt ynghylch pump ar hugain neu ddeg ar hugain o stadia, gwelsant yr Iesu yn rhodio ar y môr, ac yn nesau at y cwch; ac ofnasant. Ond Efe a ddywedodd wrthynt, Myfi yw: nac ofnwch. Yna yn ewyllysgar y derbyniasant Ef i’r cwch, ac yn uniawn y cwch a ddaeth at y tir i’r hwn yr aent. Trannoeth, y dyrfa, yr hon a safai y tu hwnt i’r môr, a welodd nad oedd cwch arall yno oddieithr un, ac nad aethai yr Iesu ynghyda’i ddisgyblion i’r cwch, eithr ar eu pennau eu hunain yr aethai y disgyblion ymaith, (eithr yn awr daeth cychod o Tiberias yn gyfagos i’r fan lle y bwyttasant y bara, ar ol rhoddi diolch gan yr Arglwydd); gan hyny, pan welodd y dyrfa nad oedd yr Iesu yno, na’i ddisgyblion, yr aethant hwy hefyd i’r cychod, a daethant i Caphernahwm gan geisio’r Iesu; ac wedi Ei gael Ef y tu hwnt i’r môr, dywedasant Wrtho, Rabbi, pa bryd y daethost yma? Iddynt yr attebodd yr Iesu, a dywedodd, Yn wir, yn wir y dywedaf wrthych, Fy ngheisio yr ydych, nid oherwydd gweled o honoch arwyddion, eithr oherwydd bwytta o honoch o’r torthau a’ch llenwi. Llafuriwch nid am y bwyd a dderfydd, eithr am y bwyd y sy’n aros i fywyd tragywyddol, yr hwn Mab y Dyn a’i dyry i chwychwi; canys Hwn y bu i’r Tad Ei selio, sef Duw. Dywedasant, gan hyny, Wrtho, Pa beth a wnawn, fel y gweithredom weithredoedd Duw? Attebodd yr Iesu, a dywedodd wrthynt, Hwn yw gwaith Duw, credu o honoch yn yr Hwn a ddanfonodd Efe. Dywedasant, gan hyny, Wrtho, Pa beth, gan hyny, yr wyt yn ei wneuthur, yn arwydd, fel y gwelom ac y credom i Ti? Pa beth yr wyt yn ei weithredu? Ein tadau, Manna a fwyttasant yn yr anialwch, fel y mae yn ysgrifenedig, “Bara o’r nef a roddodd Efe iddynt i’w fwytta.” Wrthynt, gan hyny, y dywedodd yr Iesu, Yn wir, yn wir y dywedaf wrthych, Nid Mosheh a roddodd i chwi y bara o’r nef, eithr Fy Nhad sy’n rhoddi i chwi y bara o’r nef, y gwir fara; canys bara Duw yw’r Hwn sydd yn dyfod i wared o’r nef ac yn rhoddi bywyd i’r byd. Dywedasant, gan hyny, Wrtho, Arglwydd, dyro yn wastadol i ni y bara hwn. Wrthynt y dywedodd yr Iesu, Myfi yw bara’r bywyd. Yr hwn sy’n dyfod Attaf ni newyna ddim; ac yr hwn sy’n credu Ynof, ni sycheda ddim, byth. Eithr dywedais wrthych, Y gwelsoch Fi, ac nid ydych yn credu. Yr holl a roddo’r Tad i Mi, Attaf y daw; a’r hwn sy’n dyfod Attaf nis bwriaf allan ddim, canys daethum i wared o’r nef, nid fel y gwnawn Fy ewyllys Fy hun, eithr ewyllys yr Hwn a’m danfonodd. A hyn yw ewyllys yr Hwn a’m danfonodd, o ’r cwbl a roddes Efe i Mi, na chollwn ddim o hono, eithr ei adgyfodi ef yn y dydd diweddaf; canys hyn yw ewyllys Fy Nhad, y bo i bob un y sy’n gweled y Mab, ac yn credu Ynddo, gael bywyd tragywyddol; ac Myfi a’i hadgyfodaf yn y dydd diweddaf. Gan hyny y grwgnachodd yr Iwddewon am Dano Ef, oherwydd dywedyd o Hono, “Myfi yw’r bara a ddaeth i wared o’r nef,” a dywedasant, Onid Hwn yw Iesu Mab Ioseph, yr Hwn, nyni a adwaenom Ei dad a’i fam? Pa fodd y dywaid Efe yn awr, “O’r nef y daethum i wared?” Attebodd yr Iesu, a dywedodd wrthynt, Na rwgnachwch â’ch gilydd. Ni all neb ddyfod Attaf oddiethr i’r Tad, yr Hwn a’m danfonodd, ei dynnu ef; ac Myfi a’i hadgyfodaf yn y dydd diweddaf. Y mae yn ysgrifenedig yn y Prophwydi “A byddant oll wedi eu dysgu gan Dduw:” pob un o’r a glywodd gan y Tad, ac a ddysgodd, sy’n dyfod Attaf; nid am fod y Tad wedi Ei weled gan neb, namyn gan yr Hwn sydd o Dduw, Efe a welodd y Tad. Yn wir, yn wir y dywedaf wrthych, Yr hwn sydd yn credu sydd a chanddo fywyd tragywyddol; Myfi yw bara’r bywyd. Eich tadau a fwyttasant y manna yn yr anialwch, ac a fuant feirw. Hwn yw’r bara sydd yn dyfod i wared o’r nef, fel y bo i ddyn fwytta o hono ac na byddo marw. Myfi yw’r bara byw, yr hwn a ddaeth i wared o’r nef. Os bwytty neb o’r bara hwn, bydd efe fyw yn dragywydd: ac y bara, yr hwn a roddaf Fi, Fy nghnawd yw, tros fywyd y byd. Gan hyny, yr ymrafaelodd yr Iwddewon â’u gilydd, gan ddywedyd, Pa fodd y gall Hwn roddi i ni Ei gnawd i’ w fwytta? Gan hyny, y dywedodd yr Iesu wrthynt, Yn wir, yn wir y dywedaf wrthych, Oni fwyttewch gnawd Mab y Dyn ac yfed Ei waed Ef, nid oes genych fywyd ynoch. Yr hwn sydd yn bwytta Fy nghnawd I, ac yn yfed Fy ngwaed I, sydd a chanddo fywyd tragywyddol, ac Myfi a’i hadgyfodaf ef yn y dydd diweddaf: canys Fy nghnawd gwir fwyd yw, ac Fy ngwaed gwir ddiod yw. Yr hwn sy’n bwytta Fy nghnawd I ac yn yfed Fy ngwaed I, Ynof yr erys, a Minnau ynddo ef. Fel y danfonodd y Tad byw Fi, Minnau hefyd wyf yn byw trwy’r Tad; ac yr hwn sydd yn Fy mwytta, efe hefyd fydd byw Trwof Fi. Hwn yw’r bara a ddaeth i wared o’r nef: nid fel y bwyttaodd eich tadau ac y buont feirw: yr hwn sy’n bwytta’r bara hwn fydd byw yn dragywydd. Y pethau hyn a ddywedodd Efe yn y sunagog, pan yn dysgu yn Caphernahwm. Llawer, gan hyny, o’i ddisgyblion, wedi clywed hyn, a ddywedasant, Caled yw’r ymadrodd hwn: pwy a all wrando Arno? A’r Iesu yn gwybod Ynddo Ei hun mai grwgnach am hyn yr oedd Ei ddisgyblion, a ddywedodd wrthynt, Ai hyn sydd i chwi yn dramgwydd? Pa beth, gan hyny, os gwelwch Fab y Dyn yn myned i fynu i’r lle yr oedd Efe o’r blaen? Yr yspryd yw’r hyn sy’n bywhau; y cnawd ni lesa ddim: y geiriau a leferais I wrthych, yspryd ydynt, a bywyd ydynt. Ond y mae o honoch chwi rai nad ynt yn credu; canys gwybod o’r dechreuad yr oedd yr Iesu pwy oedd y rhai nad oeddynt yn credu, a phwy oedd yr hwn ar fedr ei draddodi Ef. A dywedodd, O achos hyn y dywedais wrthych, Ni all neb ddyfod Attaf, oni bydd wedi ei roddi iddo gan Fy Nhad. Ar ol hyn yr aeth llawer o’i ddisgyblion ymaith yn eu hol, ac ynghydag Ef ni rodiasant mwyach. Gan hyny y dywedodd yr Iesu wrth y deuddeg, A ydych chwithau hefyd yn ewyllysio cilio? Iddo yr attebodd Shimon Petr, Arglwydd, at bwy yr awn ymaith? Ymadroddion bywyd tragywyddol sydd Genyt; ac nyni a gredasom, ac a wyddom, mai Tydi yw Sanct Duw. Iddynt yr attebodd yr Iesu, Onid Myfi a’ch dewisais chwi, y deuddeg; ac o honoch chwi un sydd ddiafol? A dywedai am Iwdas, mab Shimon Ishcariot, canys hwn oedd ar fedr Ei draddodi Ef, un o’r deuddeg. Ac ar ol y pethau hyn, rhodiodd yr Iesu yn Galilea, canys nid ewyllysiai rodio yn Iwdea, canys ei geisio yr oedd yr Iwddewon, i’w ladd Ef. Ac agos oedd gwyl yr Iwddewon, sef Gwyl y Pebyll. Gan hyny, dywedodd Ei frodyr Wrtho, Dos drosodd oddiyma, a chilia i Iwdea, fel y bo i’th ddisgyblion hefyd weled Dy weithredoedd y rhai yr wyt yn eu gwneuthur: canys nid yw neb yn gwneuthur dim yn y dirgel, ac yntau yn ceisio bod yn gyhoedd. Os y pethau hyn a wnai, amlyga Dy hun i’r byd; canys nid oedd hyd yn oed Ei frodyr yn credu Ynddo. Gan hyny y dywedodd yr Iesu wrthynt, Fy amser I ni ddaeth etto; ond eich amser chwi sydd yn wastad yn barod. Ni all y byd eich casau chwi; ond Myfi a gasa, gan Fy mod I yn tystiolaethu am dano fod ei weithredoedd yn ddrwg. Ewch chwi i fynu i’r wyl; Myfi nid wyf etto yn myned i fynu i’r wyl hon, gan nad yw Fy amser I etto wedi ei gyflawni. Ac wedi dywedyd y pethau hyn wrthynt, arhosodd yn Galilea. A phan aethai Ei frodyr i fynu i’r wyl, yna Efe hefyd a aeth i fynu, nid yn amlwg, eithr fel yn ddirgel. Yr Iwddewon, gan hyny, a’i ceisient Ef yn yr wyl, a dywedasant, Pa le y mae’r dyn hwnw? A’r murmur am Dano oedd fawr yn y torfeydd: rhai a ddywedent, Dyn da yw; ac eraill a ddywedent, Nage, eithr ar gyfeiliorn yr arwain Efe y dyrfa. Nid oedd neb, beth bynnag, yn llefaru yn eglur am Dano oherwydd ofn yr Iwddewon. A’r wyl, weithian, yn ei chanol, aeth yr Iesu i fynu i’r deml, ac yr oedd yn dysgu. Gan hyny, rhyfeddodd yr Iwddewon, gan ddywedyd, Pa fodd y mae Hwn yn medru ar lythyrenau, heb ddysgu o Hono? Iddynt, gan hyny, yr attebodd yr Iesu, a dywedodd, Fy nysgad I nid yw Fy eiddo Fi, eithr eiddo yr Hwn a’m danfonodd. Os ewyllysia neb wneuthur Ei ewyllys Ef, caiff wybod am y dysgad, pa un ai o Dduw y mae, ai Myfi o Honof Fy hun wyf yn llefaru. Yr hwn sy’n llefaru o hono ei hun, ei ogoniant ef ei hun a gais efe; ond yr hwn sy’n ceisio gogoniant yr hwn a’i danfonodd ef, hwn sydd wir, ac anghyfiawnder nid oes ynddo ef. Oni fu i Mosheh roddi i chwi y Gyfraith, ac nid oes un o honoch yn gwneuthur y Gyfraith? Paham y ceisiwch Fy lladd I? Attebodd y dyrfa, Cythraul sydd Genyt: pwy sy’n ceisio Dy ladd Di? Attebodd yr Iesu, a dywedodd wrthynt, Un weithred a wnaethum, a’r oll o honoch sy’n rhyfeddu. O achos hyn y bu i Mosheh roddi i chwi yr amdorriad (nid gan mai o Mosheh y mae, eithr o’r tadau), ac ar Sabbath yr amdorrwch ar ddyn. Os amdorriad a dderbyn dyn ar Sabbath, fel na thorrer Cyfraith Mosheh, ai wrthyf Fi y llidiwch am mai yr holl ddyn a wnaethum yn iach ar y Sabbath. Na fernwch yn ol y golwg, eithr y gyfiawn farn bernwch. Gan hyny y dywedodd rhai o’r Ierwshalemitiaid, Onid Hwn yw’r un a geisient Ei ladd? Ac wele, yn gyhoedd y llefara, ac Wrtho ni ddywedant ddim. Ysgatfydd a ŵyr y pennaethiaid yn wir mai Hwn yw’r Crist? Eithr Hwn, gwyddom o ba le y mae; ond y Crist, pan ddelo, nid oes neb yn gwybod o ba le y mae. Gan hyny, y gwaeddodd yr Iesu, pan yn dysgu yn y deml, a chan ddywedyd, Yn gystal Myfi a adwaenoch, a gwyddoch o ba le yr wyf: ac nid o Honof Fy hun y daethum, eithr gwir yw’r Hwn a’m danfonodd, yr Hwn nid ydych chwi yn Ei adnabod: Myfi a’i hadwaen, canys oddiwrtho Ef yr wyf, ac Efe a’m danfonodd I. Ceisiasant, gan hyny, Ei ddal Ef; ac ni osododd neb ei law Arno, canys ni ddaethai Ei awr etto. Ac o’r dyrfa, llawer a gredasant Ynddo, a dywedasant, Y Crist, pan ddelo, ai mwy o arwyddion a wna Efe na’r rhai y mae Hwn wedi eu gwneuthur? A chlywodd y Pharisheaid y dyrfa yn murmur y pethau hyn am Dano; a danfonodd yr archoffeiriaid a’r Pharisheaid swyddogion, fel y dalient Ef. Gan hyny, dywedodd yr Iesu, Etto am ychydig amser ynghyda chwi yr wyf, a chiliaf at yr Hwn a’m danfonodd. Ceisiwch Fi, ac ni’m cewch: a lle yr wyf Fi, chwychwi ni ellwch ddyfod. Gan hyny y dywedodd yr Iwddewon wrth eu gilydd, I ba le y mae Hwn ar fedr myned, gan mai nyni na chawn Ef? Ai at y rhai ar wasgar ymhlith y Groegiaid y mae Efe ar fedr myned a dysgu’r Groegiaid? Pa beth yw’r gair hwn a ddywedodd Efe, “Ceisiwch Fi, ac ni’m cewch,” a “Lle yr wyf Fi, chwychwi ni ellwch ddyfod?” Ac ar y dydd diweddaf, y dydd mawr o’r wyl, safodd yr Iesu, a gwaeddodd, gan ddywedyd, Os oes ar neb syched, deued Attaf, ac yfed. Yr hwn sydd yn credu Ynof, fel y dywedodd yr Ysgrythyr, “O’i groth ef y rhed afonydd o ddwfr byw.” A hyn a ddywedodd Efe am yr Yspryd, yr Hwn yr oedd y rhai a gredasant Ynddo ar fedr Ei dderbyn; canys nid oedd yr Yspryd wedi ei roddi etto, am nad oedd yr Iesu etto wedi Ei ogoneddu. Rhai o’r dyrfa, gan hyny, wedi clywed y geiriau hyn, a ddywedasant, Hwn yw’r Prophwyd yn wir. Eraill a ddywedasant, Hwn yw’r Crist. Ond rhai a ddywedasant, Nage, canys ai o Galilea y mae Crist yn dyfod? Onid yw’r Ysgrythyr wedi dweud mai o had Dafydd, ac o Bethlehem, y pentref lle yr oedd Dafydd, y mae’r Crist yn dyfod? Ymraniad, gan hyny, a wnaed yn y dyrfa o’i blegid Ef. A rhai o honynt a ewyllysient Ei ddal Ef; ond ni osododd neb ei ddwylaw Arno. Gan hyny y daeth y swyddogion at yr archoffeiriaid a’r Pharisheaid. Ac wrthynt y dywedasant hwy, Paham na ddaethoch ag Ef? Attebodd y swyddogion, Ni lefarodd dyn erioed yn y fath fodd. Gan hyny, atteb iddynt a wnaeth y Pharisheaid, A ydych chwithau hefyd wedi myned ar gyfeiliorn? A fu i neb o’r pennaethiaid gredu Ynddo, neu o’r Pharisheaid? Eithr y dyrfa hon, yr hon ni ŵyr y Gyfraith, melldigedig ydynt. Dywedodd Nicodemus wrthynt (yr hwn a ddaeth Atto o’r blaen, ac yntau yn un o honynt), A ydyw ein Cyfraith yn barnu dyn oni chlywo yn gyntaf ganddo, a gwybod pa beth a wnaeth efe? Attebasant, a dywedasant wrtho, A thydi ai o Galilea yr wyt? Chwilia a gwel mai o Galilea nid oes prophwyd yn cyfodi. [Ac aethant, bob un i’w dŷ ei hun. A’r Iesu a aeth i fynydd yr Olewydd. Ac ynghyda’r wawr, daeth drachefn i’r deml, a’r holl bobl a ddaeth Atto; ac wedi eistedd o Hono, dysgodd hwynt. A daeth yr ysgrifenyddion a’r Pharisheaid â gwraig a ddaliesid mewn godineb: ac wedi ei gosod hi yn y canol, dywedasant wrtho, Athraw, y wraig hon a ddaliwyd ar y weithred yn godinebu. Ac yn y Gyfraith Mosheh a orchymynodd i ni labyddio y cyfryw wragedd. Tydi, gan hyny, pa beth a ddywedi yn ei chylch? A hyn a ddywedasant gan Ei demtio, fel y byddai ganddynt yr hyn i’w gyhuddo Ef o hono. A’r Iesu, wedi ymgrymmu tua’r llawr, a ’sgrifenodd â’i fys ar y ddaear. Ac wrth barhau o honynt yn gofyn Iddo, ymsythodd a dywedodd wrthynt, Y dibechod o honoch, bydded y cyntaf i daflu carreg atti. A thrachefn wedi ymgrymmu tua’r llawr, â’i fys yr ysgrifenodd ar y ddaear. A hwy wedi clywed hyn, a aethant allan o un i un, gan ddechreu o’r hynaf hyd yr olaf; a gadawyd yr Iesu yn unig, a’r wraig yn y canol. Ac wedi ymsythu, yr Iesu a ddywedodd wrthi, Ha wraig, pa le y maent? Oni fu i neb dy gondemnio di? A hi a ddywedodd, Naddo neb, Arglwydd. A dywedodd yr Iesu, Nid wyf Finnau chwaith yn dy gondemnio di. Dos. O hyn allan na phecha mwyach.] Trachefn, gan hyny, yr Iesu a lefarodd wrthynt, gan ddywedyd, Myfi yw goleuni’r byd: yr hwn sydd yn Fy nghanlyn, ni rodia ddim yn y tywyllwch, eithr bydd a chanddo oleuni’r bywyd. Gan hyny, Wrtho y dywedodd y Pharisheaid, Tydi, am Danat Dy hun y tystiolaethi; Dy dystiolaeth nid yw wir. Attebodd yr Iesu a dywedodd wrthynt, Er mai Myfi a dystiolaethaf am Danaf Fy hun, gwir yw Fy nhystiolaeth, canys gwn o ba le y daethum, ac i ba le y ciliaf: ond chwychwi ni wyddoch o ba le y daethum, nac i ba le y ciliaf. Chwychwi, yn ol y cnawd y bernwch; Myfi nid wyf yn barnu neb. Ac os barnu a wnaf Fi, Fy marn sydd wir; canys nid yn unig yr wyf, eithr Myfi, ac yr Hwn a’m danfonodd, sef y Tad. Ac yn eich Cyfraith chwi yr ysgrifenwyd, “Tystiolaeth dau ddyn, gwir yw.” Myfi yw’r Hwn sy’n tystiolaethu am Danaf Fy hun, a thystiolaethu am Danaf y mae’r Hwn a’m danfonodd, sef y Tad. Dywedasant, gan hyny, Wrtho, Pa le y mae Dy Dad? Attebodd yr Iesu, Nid adwaenoch na Myfi, na’m Tad: ped adnabuasech Fi, Fy Nhad hefyd a adnabuasech. Yr ymadroddion hyn a lefarodd Efe yn y drysorfa, pan yn dysgu yn y deml; ac ni ddaliodd neb Ef, am na ddaethai Ei awr etto. Gan hyny y dywedodd drachefn wrthynt, Myfi wyf yn cilio, a cheisiwch Fi, ac yn eich pechod y byddwch feirw: lle yr wyf Fi yn cilio, chwychwi ni ellwch ddyfod. Gan hyny y dywedodd yr Iwddewon, A ladd Efe Ei hun, gan Ei fod yn dweud, “Lle yr wyf Fi yn cilio, chwychwi ni ellwch ddyfod?” A dywedodd wrthynt, Chwychwi, oddi isod yr ydych; Myfi, oddi uchod yr wyf: Chwychwi, o’r byd hwn yr ydych; Myfi, nid wyf o’r byd hwn. Gan hyny y dywedais wrthych, “Byddwch feirw yn eich pechodau;” canys oni chredwch mai Myfi yw Efe, byddwch feirw yn eich pechodau. Gan hyny y dywedasant Wrtho, Tydi, pwy wyt? Wrthynt y dywedodd yr Iesu, Yr hyn a ddywedais wrthych hyd yn oed o’r dechreuad. Llawer o bethau sydd Genyf i’w llefaru ac i’w barnu am danoch; eithr yr Hwn a’m danfonodd, gwir yw; ac Myfi, y pethau a glywais Ganddo, y rhai hyn yr wyf yn eu llefaru i’r byd. Ni wyddent mai am y Tad y dywedai wrthynt. Gan hyny y dywedodd yr Iesu, Pan ddyrchafoch Fab y Dyn, yna y gwybyddwch mai Myfi yw Efe, ac o Honof Fy hun nad wyf yn gwneuthur dim; eithr fel y dysgodd Fy Nhad I, y pethau hyn yr wyf yn eu llefaru. Ac yr Hwn a’m danfonodd, ynghyda Mi y mae; ni adawodd Fi yn unig, canys y pethau sydd foddlawn Ganddo, yr wyf Fi yn eu gwneuthur bob amser. Ac Efe yn llefaru y pethau hyn, llawer a gredasant Ynddo. Gan hyny y dywedodd yr Iesu wrth yr Iwddewon a gredasant Ynddo, Os chwi a arhoswch yn Fy ngair I, Fy nisgyblion mewn gwirionedd ydych; a chewch wybod y gwirionedd, a’r gwirionedd a’ch rhyddha. Attebasant Iddo, Had Abraham ydym, ac i neb ni fuom gaeth erioed. Pa fodd yr wyt Ti yn dweud, Rhyddion fyddwch? Atteb iddynt a wnaeth yr Iesu, Yn wir, yn wir y dywedaf wrthych, Pob un y sy’n gwneuthur pechod, caethwas yw i bechod. Y caethwas ni erys yn y tŷ am byth; y Mab a erys am byth. Gan hyny, os y Mab a’ch rhyddha chwi, gwir-ryddion fyddwch. Gwn mai “had Abraham” ydych; eithr ceisio Fy lladd I yr ydych, gan nad yw Fy ngair a lle iddo ynoch. Y pethau a welais I gyda’r Tad, yr wyf yn eu llefaru; a chwithau hefyd, y pethau a glywsoch gan eich tad, yr ydych yn eu gwneud. Attebasant a dywedasant Wrtho, Ein tad, Abraham yw. Wrthynt y dywedodd yr Iesu, Pe plant Abraham fyddech, gweithredoedd Abraham a wnaech. Ond yn awr ceisio Fy lladd I yr ydych, dyn a ddywedodd i chwi y gwirionedd yr hwn a glywais gan Dduw. Hyn ni wnaeth Abraham. Chwi ydych yn gwneuthur gweithredoedd eich tad. Dywedasant Wrtho, Nyni, nid trwy butteindra y’n cenhedlwyd. Un Tad sydd genym, sef Duw. Dywedyd wrthynt a wnaeth yr Iesu, Pe Duw fyddai eich Tad, carech Fi, canys Myfi, oddiwrth Dduw y daethum allan, ac yr wyf wedi dyfod, canys nid o Honof Fy hun y deuais, eithr Efe a’m danfonodd I. Paham na ddeallwch Fy ymadrodd? Am na ellwch wrando Fy ngair I. Chwychwi, o’ch tad, y diafol, yr ydych; a thrachwantau eich tad a ewyllysiwch eu gwneuthur. Efe, lleiddiad dyn yr oedd o’r dechreuad, ac yn y gwirionedd ni safodd, gan nad oes gwirionedd ynddo. Pan lefaro gelwydd, o’r eiddo ei hun y llefara, canys celwyddwr yw, ac yn dad iddo. Ond Myfi, gan mai y gwirionedd yr wyf yn ei ddywedyd, nid ydych yn Fy nghredu. Pwy o honoch a’m hargyhoedda am bechod? Os y gwirionedd yr wyf yn ei ddywedyd, paham nad ydych chwi yn Fy nghredu? Yr hwn sydd o Dduw, ymadroddion Duw a wrendy efe; o achos hyn nid ydych chwi yn eu gwrando, am nad o Dduw yr ydych. Attebodd yr Iwddewon a dywedasant Wrtho, Onid da y dywedwn mai Shamariad wyt Ti, a chythraul sydd Genyt. Attebodd yr Iesu, Myfi nid wyf a chythraul Genyf, eithr anrhydeddu Fy Nhad yr wyf, a chwychwi ydych yn Fy nianrhydeddu I. Ond Myfi nid wyf yn ceisio Fy ngogoniant; y mae a’i cais, ac a farn. Yn wir, yn wir y dywedaf wrthych, Os Fy ngair I a geidw dyn, marwolaeth ni wel efe yn dragywydd. Dywedyd Wrtho a wnaeth yr Iwddewon, Yn awr y gwyddom fod cythraul Genyt. Abraham a fu farw, ac y prophwydi; a Thydi a ddywedi, “Os Fy ngair a geidw dyn, nid archwaetha farwolaeth yn dragywydd.” A wyt Ti yn fwy na’n tad Abraham, yr hwn a fu farw? A’r prophwydi a fuant feirw? Pwy yr wyt yn Dy wneuthur Dy hun? Attebodd yr Iesu, Os wyf Fi yn gogoneddu Fy hun, Fy ngogoniant nid yw ddim; Fy Nhad yw’r Hwn sydd yn Fy ngogoneddu, am yr Hwn chwi a ddywedwch mai eich Duw yw, ac nid adwaenoch Ef. Ond Myfi a’i hadwaen Ef, ac os dywedaf nad adwaen Ef, byddaf debyg i chwi, yn gelwyddwr: eithr Ei adnabod yr wyf, a’i air Ef yr wyf yn ei gadw. Abraham eich tad a orfoleddodd am weled Fy nydd I: a gwelodd ef, a llawenychodd. Gan hyny y dywedodd yr Iwddewon Wrtho, Deng mlwydd a deugain nid oes etto Genyt, ac Abraham a welaist! Dywedyd wrthynt a wnaeth yr Iesu, Yn wir, yn wir y dywedaf wrthych, Cyn i Abraham ei eni, Myfi wyf. Gan hyny y codasant gerrig fel y’u taflent Atto. A’r Iesu a ymguddiodd, a ac aeth allan o’r deml. Ac wrth fyned heibio, gwelodd ddyn dall o’i enedigaeth. A gofyn Iddo a wnaeth Ei ddisgyblion, gan ddywedyd, Rabbi, pwy a bechodd, ai hwn ai ei rieni, fel mai dall y genid ef? Attebodd yr Iesu, Hwn ni phechodd nac ei rieni; eithr fel yr amlygid gweithredoedd Duw ynddo. I ni y mae rhaid gweithio gweithredoedd yr Hwn a’m danfonodd tra y mae’ r dydd: dyfod y mae’ r nos, pan ni all neb weithio. Tra yn y byd yr wyf, goleuni’r byd ydwyf. Wedi dywedyd y geiriau hyn, poerodd ar lawr, a gwnaeth glai o’r poeryn, ac enneiniodd y clai ar ei lygaid ef, a dywedodd wrtho, Dos; ymolch yn llyn Shiloam (yr hwn a gyfieithir Danfonedig). Gan hyny yr aeth efe ymaith, ac ymolchodd, a daeth yn gweled. Y cymmydogion, gan hyny, ac y rhai a’i gwelent ef o’r blaen mai cardotyn ydoedd, a ddywedasant, Onid hwn yw’r dyn oedd yn eistedd ac yn cardotta? Eraill a ddywedasant, Nage, eithr tebyg iddo yw. Efe a ddywedodd, Myfi yw efe. Dywedasant, gan hyny, wrtho, Pa fodd, gan hyny, yr agorwyd dy lygaid di? Attebodd efe, Y dyn a elwir Iesu, clai a wnaeth Efe, ac enneiniodd fy llygaid i, a dywedodd wrthyf, “Dos i Shiloam ac ymolch.” Wedi myned, gan hyny, ac wedi ymolchi, fy ngolwg a gefais. A dywedasant wrtho, Pa le y mae Efe? Dywedodd, Nis gwn. Dygasant ef at y Pharisheaid, sef yr hwn oedd gynt yn ddall. A Sabbath oedd y dydd yn yr hwn y gwnaeth yr Iesu y clai, ac yr agorodd ei lygaid ef. Trachefn, gan hyny, y gofynodd y Pharisheaid iddo pa fodd y cawsai ei olwg. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Clai a osododd Efe ar fy llygaid i, ac ymolchais, a gweled yr wyf. Gan hyny y dywedodd rhai o’r Pharisheaid, Nid yw y dyn hwn o Dduw, gan mai y Sabbath ni cheidw. Ac eraill a ddywedasant, Pa fodd y gall dyn pechadurus wneuthur y fath arwyddion? Ac ymraniad oedd yn eu plith. Dywedasant, gan hyny, drachefn wrth y dall, Pa beth yr wyt ti yn ei ddywedyd am Dano Ef, am agoryd o Hono dy lygaid di? Ac efe a ddywedodd, Prophwyd yw. Gan hyny, ni chredodd yr Iwddewon am dano, mai dall fuasai, a chael o hono ei olwg, nes galw o honynt rieni yr hwn a gawsai ei olwg, a gofyn iddynt, gan ddywedyd, Ai hwn yw eich mab, am yr hwn yr ydych chwi yn dweud mai dall y ganwyd ef? Pa fodd, gan hyny, y gwel efe yn awr? Attebodd ei rieni, a dywedasant, Gwyddom mai hwn yw ein mab, ac mai dall y ganwyd ef; ond pa fodd y mae efe yr awrhon yn gweled, nis gwyddom; neu pwy a agorodd ei lygaid ef, nyni nis gwyddom. Gofynwch iddo ef ei hun; mewn oedran y mae. Efe a lefara am dano ei hun. Hyn a ddywedodd ei rieni, oherwydd ofni o honynt yr Iwddewon, canys eisioes y cyttunasai yr Iwddewon, os cyfaddefai neb Ef yn Grist, y cai ei roi allan o’r sunagog. O achos hyn ei rieni a ddywedasant, Mewn oedran y mae; gofynwch iddo ef ei hun. Gan hyny, galwasant y dyn eilwaith, sef yr hwn a fuasai ddall, a dywedasant wrtho, Dyro ogoniant i Dduw. Nyni a wyddom fod y dyn hwn yn bechadur. Gan hyny yr attebodd efe, Ai pechadur yw, nis gwn. Un peth a wn, lle yr oeddwn yn ddall, yn awr y gwelaf. Dywedasant, gan hyny, wrtho, Pa beth a wnaeth Efe i ti? Pa fodd yr agorodd dy lygaid di? Attebodd iddynt, Dywedais wrthych eisoes, ac ni wrandawsoch. Paham yr ewyllysiwch glywed drachefn? A ydych chwi yn ewyllysio myned yn ddisgyblion iddo? A difenwasant ef, a dywedasant, Tydi sydd ddisgybl Iddo Ef, ond nyni, i Mosheh yr ydym yn ddisgyblion. Nyni a wyddom mai wrth Mosheh y llefarodd Duw; ond am Hwn, nis gwyddom o ba le y mae. Attebodd y dyn, a dywedodd wrthynt, Yn hyn yn ddiau y mae yn rhyfedd, nad ydych chwi yn gwybod o ba le y mae, ac agorodd Efe fy llygaid i. Gwyddom ar bechaduriaid nad yw Duw yn gwrando, ond os addolwr yw neb, ac Ei ewyllys Ef a wnelo efe, hwnw y mae yn ei wrando. Ni chlybuwyd erioed agoryd o neb lygaid un a anesid yn ddall. Oni bai Hwn o Dduw, ni allasai wneuthur dim. Attebasant, a dywedasant wrtho, Mewn pechodau y’th anwyd di oll; a thydi wyt yn ein dysgu ni! A bwriasant ef allan. Clywodd yr Iesu y bwriasant ef allan; a phan gafodd ef, dywedodd, A wyt ti yn credu ym Mab Duw? Attebedd efe a dywedodd, A phwy yw Efe, Arglwydd, fel y credwyf Ynddo? Dywedodd yr Iesu, Gwelaist Ef, ac yr Hwn sy’n llefaru â thi, Hwnw yw Efe. Ac efe a ddywedodd, Credu yr wyf, Arglwydd; ac addolodd Ef. A dywedodd yr Iesu, I farn Myfi a ddaethum i’r byd hwn, fel y bo i’r rhai na welant weled, ac i’r rhai sy’n gweled fyned yn ddeillion. Clywodd rhai o’r Phariseaid y pethau hyn, sef y rhai oedd gydag Ef, a dywedasant Wrtho, A ydym ninnau hefyd yn ddeillion? Dywedyd wrthynt a wnaeth yr Iesu, Pe deillion fyddech, ni fyddai genych bechod: ond yn awr y dywedwch, “Gwelwn,” a ’ch pechod sy’n aros. Yn wir, yn wir y dywedaf wrthych, Yr hwn nad yw’n myned i mewn trwy’r drws i gorlan y defaid, eithr yn dringo o ochr arall, efe sydd leidr ac yspeiliwr. Ond yr hwn sy’n myned i mewn trwy’r drws, bugail y defaid yw. I hwn y drysor a egyr; a’r defaid, ar ei lais ef y gwrandawant; ac ei ddefaid ei hun a eilw efe erbyn enw, ac a’u harwain allan. Pan ei holl ddefaid ei hun a ddygwyd allan ganddo, o’u blaen y mae efe yn myned, a’r defaid a’i canlynant ef, oherwydd adnabod o honynt ei lais ef: ond dieithryn ni chanlynant ddim, eithr ffoant oddiwrtho, canys nid adwaenant lais y dieithriaid. Y ddammeg hon a ddywedodd yr Iesu wrthynt; ond hwy ni wyddent pa beth oedd y pethau a lefarai wrthynt. Dywedyd, gan hyny, trachefn wrthynt a wnaeth yr Iesu, Yn wir, yn wir y dywedaf wrthych, Myfi yw drws y defaid; yr holl rai, cynnifer ag a ddaethant o’m blaen I, lladron oeddynt, ac yspeilwyr; eithr ni wrandawodd y defaid arnynt. Myfi yw’r drws. Os trwof Fi yr aiff neb i mewn, cadwedig fydd; ac aiff i mewn, a daw allan; a phorfa a gaiff efe. Y lleidr ni ddaw oddieithr fel y lladrattao a lladd a distrywio; Myfi a ddaethum fel y bo bywyd iddynt, ac yn helaethach y bo iddynt. Myfi yw’r bugail da. Y bugail da, ei einioes a ddyd efe i lawr tros y defaid. Y cyflog-ddyn, yr hwn nid yw fugail, yr hwn nid yw’r defaid ei eiddo ef, a wêl y blaidd yn dyfod, a gadael y defaid y mae, ac yn ffoi, a’r blaidd a’u cipia hwynt ac a’u gwasgara; gan mai cyflog-ddyn yw, ac na waeth ganddo am y defaid. Myfi yw’r bugail da, ac adwaenaf Fy nefaid, ac Fy adnabod I y mae Fy nefaid, fel yr adwaen y Tad Fi, a Minnau yn adnabod y Tad; ac Fy einioes a ddodaf i lawr tros y defaid. A defaid eraill sydd Genyf, y rhai nid ynt o’r gorlan hon; hwythau hefyd y mae rhaid i Mi eu cyrchu, ac ar Fy llais y gwrandawant: a byddant un praidd, ac un bugail. O achos hyn y mae’r Tad yn Fy ngharu I, oherwydd i Mi ddodi i lawr Fy einioes fel y cymmerwyf hi drachefn. Nid yw neb yn ei chymmeryd oddi Arnaf, eithr Myfi wyf yn ei dodi i lawr o Honof Fy hun. Meddiant sydd Genyf i’w dodi i lawr, a meddiant sydd Genyf i’w chymmeryd trachefn. Y gorchymyn hwn a dderbyniais gan Fy Nhad. Ymranniad a ddigwyddodd drachefn ymhlith yr Iwddewon o achos y geiriau hyn. Dywedodd llawer o honynt, Cythraul sydd Ganddo, ac allan o’i bwyll y mae; paham Arno Ef y gwrandewch? Eraill a ddywedasant, Yr ymadroddion hyn nid ydynt eiddo un a chythraul ynddo. Ai cythraul all agoryd llygaid y deillion? Ac yr oedd y gyssegr-wyl yn Ierwshalem, a’r gauaf oedd hi. A rhodio yr oedd yr Iesu yn y deml ym mhorth Shalomon. Yn ei amgylch Ef, gan hyny, y daeth yr Iwddewon, a dywedasant Wrtho, Pa hyd y cedwi ein henaid mewn ammheuaeth? Os Tydi yw y Crist, dywaid wrthym yn eglur. Atteb iddynt a wnaeth yr Iesu, Dywedais wrthych, ac nid ydych yn credu. Y gweithredoedd y rhai yr wyf Fi yn eu gwneuthur yn enw Fy Nhad, y rhai hyn sy’n tystiolaethu am Danaf: ond chwychwi nid ydych yn credu gan nad ydych o’m defaid. Fy nefaid, ar Fy llais y gwrandawant, ac Myfi a’u hadwaen, a chanlynant Fi. A Myfi bywyd tragywyddol yr wyf yn ei roddi iddynt, ac ni chyfrgollir hwynt yn dragywydd; ac ni chipia neb hwynt o’m llaw. Fy Nhad, yr Hwn a’u rhoddes i Mi, mwy na phawb yw; ac ni all neb eu cipio o law Fy Nhad. Myfi a’r Tad, un ydym. Trachefn y cododd yr Iwddewon gerrig fel y llabyddient Ef. Atteb iddynt a wnaeth yr Iesu, Llawer o weithredoedd da a ddangosais i chwi oddi wrth Fy Nhad; am ba weithred o honynt y llabyddiwch Fi? Atteb Iddo a wnaeth yr Iwddewon, Am “weithred dda” nid ydym yn Dy labyddio, eithr am gabledd, ac am i Ti, a Thi yn ddyn, wneuthur Dy hun yn Dduw. Attebodd yr Iesu iddynt, Onid yw yn ysgrifenedig yn eich Cyfraith, “Myfi a ddywedais, Duwiau ydych.” Os hwynt-hwy a alwodd Efe “yn Dduwiau,” at y rhai y daeth gair Duw (ac ni all yr Ysgrythyr ei thorri), am yr Hwn y bu i’r Tad Ei sancteiddio ac Ei ddanfon Ef i’r byd, a ydych chwi yn dweud “Cablu yr wyt,” am ddywedyd o Honof, “Mab Duw ydwyf?” Os nad wyf yn gwneuthur gweithredoedd Fy Nhad, na chredwch Fi; ond os eu gwneuthur yr wyf, er i Mi na chredwch, credwch y gweithredoedd, fel y gwybyddoch ac y gweloch mai Ynof y mae y Tad, a Minnau yn y Tad. Ceisiasant trachefn Ei ddal Ef; ac allan yr aeth Efe o’u dwylaw hwynt. Ac aeth ymaith trachefn dros yr Iorddonen i’r lle yr oedd Ioan ar y cyntaf yn bedyddio, ac arhosodd yno: a llawer a ddaethant Atto, a dywedasant, Ioan yn wir ni wnaeth un arwydd, ond yr holl bethau, cynnifer ag a ddywedodd Ioan am Hwn, oeddynt wir. A llawer a gredasant Ynddo yno. Ac yr oedd rhyw un yn glaf, Lazarus o Bethania, o bentref Mair, a Martha, ei chwaer hi. A Mair oedd yr hon a enneiniodd yr Arglwydd ag ennaint ac a sychodd Ei draed â’i gwallt, brawd yr hon, Lazarus, oedd glaf. Gan hyny y danfonodd y chwiorydd Atto, gan ddywedyd, Arglwydd, wele, yr hwn yr wyt yn ei garu, claf yw. Ac wedi clywed hyn, yr Iesu a ddywedodd, Y clefyd hwn nid yw i farwolaeth, eithr er gogoniant Duw, fel y gogonedder Mab Duw trwyddo. A hoff oedd gan yr Iesu Martha a’i chwaer a Lazarus. Gan hyny, pan glybu ei fod yn glaf, yna yn wir yr arhosodd yn y lle yr oedd, ddau ddiwrnod. Yna, wedi hyny, y dywedodd wrth y disgyblion, Awn i Iwdea drachefn. Dywedyd Wrtho a wnaeth y disgyblion, Rabbi, yn awr ceisio Dy labyddio yr oedd yr Iwddewon, ac a âi drachefn yno? Attebodd yr Iesu, Onid oes deuddeg awr o’r dydd? Os rhodia neb y dydd, ni thripia, gan mai goleuni’r byd hwn a wel efe. Ond os rhodia neb y nos, tripio y mae, gan nad yw y goleuni ynddo. Hyn a lefarodd Efe, ac wedi hyny y dywedodd wrthynt, Lazarus, ein cyfaill, a aeth i huno; eithr myned yr wyf fel y dihunwyf ef. Dywedyd Wrtho, gan hyny, a wnaeth y disgyblion, Arglwydd, os huno y mae, iacheir ef. Ond dywedasai’r Iesu am ei farwolaeth; a hwy a dybiasant mai am hun cwsg y dywedasai. Yna, gan hyny, dywedyd wrthynt a wnaeth yr Iesu yn eglur, Lazarus a fu farw: a llawen wyf o’ch plegid chwi, fel y credoch, nad oeddwn yno: eithr awn atto. Gan hyny y dywedodd Thomas, yr hwn a elwir Didymus, wrth ei gyd-ddisgyblion, Awn ninnau hefyd, fel y byddom feirw gydag Ef. Gan hyny, wedi dyfod o Hono, yr Iesu a’i cafodd ef wedi bod weithian bedwar diwrnod yn y bedd. Ac yr oedd Bethania yn agos i Ierwshalem, ynghylch pymtheg ystad oddiwrthi. A llawer o’r Iwddewon a ddaethent at Martha a Mair fel y cysurent hwynt am eu brawd. Martha, gan hyny, pan glybu fod yr Iesu yn dyfod, a gyfarfu ag Ef; ond Mair, yn y tŷ yr arhosodd. Gan hyny y dywedodd Martha wrth yr Iesu, Arglwydd, pe buasit yma, ni fuasai farw fy mrawd. Ac yn awr, gwn pa beth bynnag a ofynech gan Dduw, y dyry Duw i Ti. Dywedyd wrthi a wnaeth yr Iesu, Adgyfodir dy frawd. Dywedyd Wrtho a wnaeth Martha, Gwn yr adgyfodir ef yn yr adgyfodiad, y dydd diweddaf. Dywedyd wrthi a wnaeth yr Iesu, Myfi yw’r adgyfodiad ac y bywyd. Yr hwn sy’n credu Ynof, er marw o hono, a fydd byw: a phob un y sy’n fyw ac yn credu Ynof, ni fydd marw yn dragywydd. Ai credu hyn yr wyt? Dywedodd Wrtho, Ydwyf, Arglwydd; myfi a gredais mai Tydi yw y Crist, Mab Duw, yr Hwn sydd yn dyfod i’r byd. Ac wedi dywedyd hyn yr aeth hi ymaith, a galwodd Mair ei chwaer, yn ddirgel, gan ddywedyd, Yr Athraw a ddaeth ac a’th eilw. A hithau, pan glybu hyn, a gododd ar frys ac a aeth Atto. Ac ni ddaethai’r Iesu etto i’r pentref, ond yr oedd etto yn y fan lle y cyfarfu Martha ag Ef. Gan hyny, yr Iwddewon, y rhai oedd gyda hi yn y tŷ ac yn ei chysuro, gan weled Mair mai ar frys y codasai ac yr aethai allan, a’i canlynasant hi, gan dybied ei bod yn myned at y bedd fel y gwylai yno. Mair, gan hyny, pan ddaeth lle yr oedd yr Iesu, pan y’i gwelodd, a syrthiodd wrth Ei draed, gan ddywedyd, Pe buasit yma, ni fuasai farw fy mrawd. Yr Iesu, gan hyny, pan welodd hi yn gwylo, a’r Iwddewon y rhai a ddaethent gyda hi, yn gwylo, a riddfanodd yn yr yspryd ac yr ymgynhyrfodd; a dywedodd, Pa le y dodasoch ef? Dywedasant Wrtho, Arglwydd, tyred a gwel. Gwylodd yr Iesu. Gan hyny y dywedodd yr Iwddewon, Wele, fel y carai ef. Ond rhai o honynt a ddywedasant, Oni allasai Hwn, yr Hwn a agorodd lygaid y dall, beri na fuasai chwaith i hwn farw? Yr Iesu, gan hyny, gan riddfan trachefn Ynddo Ei hun, a ddaeth at y bedd; a gogof oedd, a maen oedd yn gorwedd wrtho. Dywedodd yr Iesu, dygwch ymaith y maen. Dywedyd Wrtho a wnaeth chwaer yr hwn a fu farw, sef Martha, Arglwydd, y mae efe weithian yn drewi, canys yn ei bedwerydd dydd y mae. Dywedyd wrthi a wnaeth yr Iesu, Oni ddywedais wrthyt, Os credi, gweli ogoniant Duw. Gan hyny, dygasant ymaith y maen; a’r Iesu a gododd Ei lygaid i fynu, ac a ddywedodd, Y Tad, diolchaf i Ti am wrando o Honot Arnaf. Ac Myfi a wyddwn Dy fod bob amser yn gwrando Arnaf Fi, eithr o achos y dyrfa sydd yn sefyll o amgylch y dywedais, fel y credont mai Tydi a’m danfonaist I. Ac wedi dywedyd hyn, â llais uchel y llefodd, Lazarus, yma allan: ac allan y daeth yr hwn a fuasai farw, yn rhwym ei draed a’i ddwylaw â llieiniau-claddu, a’i wyneb â napcyn a amrwymwyd. Dywedyd wrthynt a wnaeth yr Iesu, Gollyngwch ef yn rhydd, a gadewch iddo fyned ymaith. Gan hyny, llawer o’r Iwddewon, y rhai a ddaethent at Mair ac a welsant yr hyn a wnaeth Efe, a gredasant Ynddo; ond rhai o honynt a aethant ymaith at y Pharisheaid, ac a ddywedasant wrthynt y pethau a wnaeth yr Iesu. Gan hyny y casglodd yr archoffeiriaid a’r Pharisheaid Gynghor ynghyd, a dywedasant, Pa beth yr ydym yn ei wneuthur, canys y dyn Hwn, llawer o arwyddion y mae Efe yn eu gwneud? Os gadawn Iddo fel hyn, pawb a gredant Ynddo; a daw y Rhufeiniaid, a dygant ymaith ein lle ni ac ein cenedl hefyd. A rhyw un o honynt, Caiaphas, ac efe yn archoffeiriad y flwyddyn honno, a ddywedodd wrthynt, Chwychwi ni wyddoch ddim, ac nid ystyriwch mai buddiol yw i ni fod i un dyn farw dros y bobl, ac nad am yr holl genedl y darffo. A hyn, nid o hono ei hun y’i dywedodd; eithr ac efe yn archoffeiriad y flwyddyn honno, prophwydodd fod yr Iesu ar fedr marw dros y genedl; ac nid dros y genedl yn unig, eithr fel y casglai hefyd ynghyd yn un blant Duw, y rhai a wasgarasid. Gan hyny, o’r dydd hwnw allan, yr ymgynghorasant fel y lladdent Ef. Yr Iesu, gan hyny, ni rodiodd mwy yn amlwg ymhlith yr Iwddewon, eithr aeth ymaith oddiyno i’r wlad yn agos i’r anialwch, i ddinas Ephraim, fel y’i gelwir, ac yno yr arhosodd ynghyda’r disgyblion. Ac agos oedd Pasg yr Iwddewon, ac aeth llawer i fynu i Ierwshalem, o’r wlad, cyn y Pasg fel y glanhaent eu hunain. Gan hyny, ceisiasant yr Iesu, a dywedasant wrth eu gilydd, pan yn sefyll yn y deml, Pa beth a dybygwch chwi? Ai na ddaw Efe ddim i’r wyl? A rhoddasai yr archoffeiriaid a’r Pharisheaid orchymynion, os byddai neb yn gwybod pa le y mae, ar fynegi o hono fel y dalient Ef. Yr Iesu, gan hyny, chwe diwrnod o flaen y Pasg, a ddaeth i Bethania, lle’r oedd Lazarus, yr hwn a godasai yr Iesu o feirw. Gwnaethant, gan hyny, Iddo swpper yno, a Martha a wasanaethai, ond Lazarus oedd un o’r rhai yn lled-orwedd ynghydag Ef. Mair, gan hyny, wedi cymmeryd pwys o ennaint nard gwlyb tra-chostus, a enneiniodd draed yr Iesu, ac â gwallt ei phen y sychodd Ei draed; a’r tŷ a lanwyd ag arogl yr ennaint. A dywedodd Iwdas Ishcariot, un o’i ddisgyblion Ef, yr hwn oedd ar fedr Ei draddodi Ef, Paham na chafodd yr ennaint hwn ei werthu er tri chan denar, a’i roddi i dlodion? A dywedodd hyn, nid am mai am y tlodion y maliai, eithr am mai lleidr ydoedd; ac, a’r cwd ganddo, y pethau a fwrid i mewn a gludai. Dywedyd, gan hyny, a wnaeth yr Iesu, Gad iddi; bu fel erbyn dydd Fy nghladdedigaeth y cadwai ef; canys y tlodion sydd bob amser genych ynghyda chwi; ond Myfi, nid bob amser yr wyf genych. Gwybu, gan hyny, dyrfa fawr o’r Iwddewon, mai yno yr oedd Efe; a daethant, nid o achos yr Iesu yn unig, eithr fel y gwelent Lazarus hefyd, yr hwn a gododd Efe o feirw. Ac ymgynghorodd yr archoffeiriaid fel y lladdent Lazarus hefyd, canys o’i achos ef y ciliodd llawer o’r Iwddewon, ac y credasant yn yr Iesu. Trannoeth tyrfa fawr, yr hon a ddaethai i’r wyl, wedi clywed mai dyfod y mae’r Iesu i Ierwshalem, a gymmerasant gangau y palmwydd, ac aethant allan i gyfarfod ag Ef, a bloeddient, Hoshanna bendigedig yw’r Hwn sy’n dyfod yn enw’r Arglwydd a Brenhin Israel. A’r Iesu, wedi cael asynyn, a eisteddodd arno, fel y mae yn ysgrifenedig, “Nac ofna, ferch Tsion; wele, dy Frenhin sy’n dyfod, yn eistedd ar lwdn asyn.” Y pethau hyn ni wybu Ei ddisgyblion ar y cyntaf; eithr pan ogoneddasid yr Iesu, yna y cofiasant fod y pethau hyn yn ysgrifenedig am Dano, ac mai y pethau hyn a wnaethant Iddo. Tystiolaethu, gan hyny, yr oedd y dyrfa, yr hon oedd gydag Ef pan alwodd Efe Lazarus o’r bedd, a’i godi ef o feirw; o achos hyn y cyfarfu y dyrfa hefyd ag Ef, am glywed o honynt Iddo wneuthur yr arwydd hwn. Y Pharisheaid, gan hyny, a ddywedasant yn eu plith eu hunain, Gwelwch nad ydych yn tyccio ddim. Wele, y byd a aeth ymaith ar Ei ol Ef. Ac yr oedd rhai Groegiaid ymhlith y rhai a ddaethant i fynu fel yr addolent ar yr wyl. Y rhai hyn, gan hyny, a ddaethant at Philip, yr hwn oedd o Bethtsaida, a gofynasant iddo, gan ddywedyd, Syr, ewyllysiem weled yr Iesu. Daeth Philip a dywedodd wrth Andreas. Daeth Andreas a Philip, a dywedasant wrth yr Iesu. A’r Iesu a attebodd iddynt, gan ddywedyd, Daeth yr awr y gogonedder Mab y Dyn. Yn wir, yn wir y dywedaf wrthych, Oni bydd i’r gronyn gwenith, ar ol syrthio i’r ddaear, farw, efe a erys yn unig; ond os bydd marw, llawer o ffrwyth a ddwg efe. Yr hwn sy’n caru ei einioes, a’i cyll hi; a’r hwn sy’n casau ei einioes yn y byd hwn, i fywyd tragywyddol y’i ceidw. Os Myfi a wasanaetha neb, ar Fy ol I deued; a lle yr wyf Fi, yno y bydd Fy ngweinidog hefyd. Os bydd neb yn Fy ngwasanaethu I, ei anrhydeddu ef a wna’r Tad. Yn awr Fy enaid a gynhyrfwyd: a pha beth a ddywedaf? O Dad, gwared Fi allan o’r awr hon. Eithr oherwydd hyn y daethum i’r awr hon. O Dad, gogonedda Dy enw Di. Daeth, gan hyny, lef o’r nef, Gogoneddais, ac etto y’i gogoneddaf. Y dyrfa, gan hyny, yr hon oedd yn sefyll ac a glywodd a ddywedodd mai taran fu; eraill a ddywedasant, Angel a lefarodd Wrtho. Attebodd yr Iesu a dywedodd, Nid o’m hachos I y mae’r llef hon wedi dyfod, eithr o’ch achos chwi. Yn awr y mae barn y byd hwn: yn awr llywodraethwr y byd hwn a fwriwyd allan; ac Myfi, os dyrchefir Fi oddiar y ddaear, pawb a dynnaf Attaf Fy hun. A hyn a ddywedodd Efe gan arwyddo o ba fath angau yr oedd ar fedr marw. Atteb, gan hyny, Iddo a wnaeth y dyrfa, Nyni a glywsom o’r Gyfraith fod Crist yn aros yn dragywydd: a pha fodd yr wyt Ti yn dywedyd, Rhaid dyrchafu Mab y Dyn? Pwy yw’r Mab y Dyn hwn? Dywedyd, gan hyny, iddynt a wnaeth yr Iesu, Etto ychydig ennyd y mae’r goleuni yn eich plith. Rhodiwch tra y mae’r goleuni genych, rhag i dywyllwch eich goddiweddyd: a’r hwn sy’n rhodio yn y tywyllwch, ni ŵyr i ba le y mae yn myned. Tra y mae’r goleuni genych, credwch yn y goleuni, fel y byddoch feibion y goleuni. Y pethau hyn a lefarodd yr Iesu, ac wedi myned ymaith ymguddiodd rhagddynt. Ac Efe wedi gwneuthur cymmaint o arwyddion yn eu gwydd, ni chredasant Ynddo; fel y byddai i ymadrodd Eshaiah y prophwyd ei gyflawni, yr hwn a ddywedodd efe, “Arglwydd, pwy a gredodd i’n hymadrodd? A braich Iehofah, i bwy y dadguddiwyd hi?” Ac o achos hyn ni allent gredu oblegid dywedyd o Eshaiah drachefn, “Dallodd eu llygaid hwynt, a chaledodd eu calon hwynt, Rhag gweled o honynt â’u llygaid, a deall â’u calon, Ac ymchwelyd o honynt, ac eu hiachau Genyf.” Y pethau hyn a ddywedodd Eshaiah, am weled o hono Ei ogoniant; a llefarodd am Dano Ef. Er hyny i gyd, hyd yn oed o’r pennaethiaid llawer a gredasant Ynddo; ond oblegid y Pharisheaid ni chyffesasant, rhag eu rhoi allan o’r sunagog, canys carent ogoniant dynion yn fwy na gogoniant Duw. A’r Iesu a lefodd, ac a ddywedodd, Yr hwn sy’n credu Ynof, nid credu Ynof Fi y mae, eithr yn yr Hwn a’m danfonodd: a’r hwn sydd yn Fy ngweled, gweled yr Hwn a’m danfonodd y mae. Myfi, yn oleuni y daethum i’r byd hwn, fel pob un y sy’n credu Ynof, yn y tywyllwch nad arhoso. Ac os neb a glywo Fy ngeiriau I, ac na’u cadwo, Myfi ni farnaf ef, canys ni ddaethum fel y barnwn y byd, eithr fel yr achubwn y byd. Yr hwn sydd yn Fy nirmygu, ac heb dderbyn Fy ymadroddion, sydd ag iddo yr hwn a’i barn: y gair yr hwn a leferais, efe a’i barn ef yn y dydd diweddaf. Canys Myfi, nid o Honof Fy hun y lleferais, ond y Tad, yr Hwn a’m danfonodd, Efe a roddes i Mi orchymyn pa beth a ddywedwn a pha beth a lefarwn: ac Ei orchymyn, gwn mai bywyd tragywyddol yw; y pethau, gan hyny, yr wyf Fi yn eu llefaru, fel y dywedodd y Tad Wrthyf, felly yr wyf yn llefaru. A chyn gwyl y Pasg, gan wybod o’r Iesu y daethai Ei awr i fyned trosodd o’r byd hwn at y Tad, wedi caru yr Eiddo y rhai oedd yn y byd, hyd y diwedd y carodd hwynt. A swpper wedi dyfod (diafol eisoes wedi ei fwrw i’w galon i Iwdas mab Shimon, Ishcariot, Ei draddodi Ef), gan wybod o’r Iesu fod pob peth wedi ei roddi Iddo, i’w ddwylaw, gan y Tad, ac mai o Dduw y daethai allan, ac at Dduw Ei fod yn myned, cyfododd oddiar y swpper, a rhoddodd ymaith Ei gochl-wisg, ac wedi cymmeryd tywel, ymwregysodd. Wedi hyny, tywalltodd ddwfr i’r cawg, a dechreuodd olchi traed y disgyblion, ac eu sychu â’r tywel â’r hwn yr ymwregysasai. Daeth, gan hyny, at Shimon Petr. Dywedodd efe Wrtho, Arglwydd, ai Ti sy’n golchi fy nhraed i? Attebodd yr Iesu a dywedodd wrtho, Yr hyn yr wyf Fi yn Ei wneuthur, tydi ni wyddost yr awr hon; ond cenfyddi ef ar ol hyn. Dywedyd Wrtho a wnaeth Petr, Ni olchi er dim, fy nhraed i, byth. Atteb iddo a wnaeth yr Iesu, Oni olchaf di, nid oes i ti gyfran gyda Mi. Dywedyd Wrtho a wnaeth Shimon Petr, Arglwydd, nid fy nhraed yn unig, eithr fy nwylaw hefyd ac fy mhen. Dywedyd wrtho a wnaeth yr Iesu, I’r hwn a olchwyd, nid oes rhaid ond golchi ei draed, eithr y mae efe yn lân oll. A chwychwi, glân ydych, eithr nid pawb o honoch; canys gwyddai pwy a’i traddodai Ef; o achos hyn y dywedodd, Nid pawb o honoch sydd lân. Am hyny pan olchasai eu traed, a chymmeryd ei ddillad, a lled-orwedd trachefn, dywedodd wrthynt, A wyddoch chwi pa beth a wnaethum i chwi? Chwi a’m galwch “Yr Athraw,” ac “Yr Arglwydd;” a da y dywedwch, canys felly yr wyf. Os Myfi, gan hyny, a olchais eich traed chwi, “Yr Arglwydd,” ac “Yr Athraw,” chwi hefyd a ddylech olchi traed eich gilydd, canys esampl a roddais i chwi er mwyn fel y bu i Mi wneuthur i chwi, y bo i chwithau hefyd wneud. Yn wir, yn wir y dywedaf wrthych, Nid yw gwas yn fwy na’i arglwydd, na chenhadwr yn fwy na’r hwn a’i danfonodd. Os y pethau hyn a wyddoch, gwyn eich byd os gwnewch hwynt. Nid am bawb o honoch yr wyf yn dywedyd: Myfi a wn pwy a etholais; eithr fel y bo i’r Ysgrythyr ei chyflawni, “Yr hwn sy’n bwytta fy mara, a ddyrchafodd ei sawdl i’m herbyn.” Ac yn awr yr wyf yn dywedyd wrthych cyn na ddigwydd, fel y credoch pan ddigwyddo, mai Myfi yw Efe. Yn wir, yn wir y dywedaf wrthych, yr hwn sy’n derbyn pwy bynnag a ddanfonwyf, Myfi a dderbyn efe; a’r hwn sy’n derbyn Myfi, sy’n derbyn yr Hwn a’m danfonodd. A phan y pethau hyn a ddywedasai Efe, yr Iesu a gynhyrfwyd yn Ei yspryd, a thystiolaethodd, a dywedodd, Yn wir, yn wir y dywedaf wrthych, Un o honoch a’m traddoda. Edrych at eu gilydd a wnaeth y disgyblion mewn dyryswch am bwy y dywedai. A lled-orwedd yr oedd un o’i ddisgyblion ym mynwes yr Iesu, yr hwn oedd hoff gan yr Iesu: ar hwnw, gan hyny, yr amneidiodd Shimon Petr, a dywedodd wrtho, Dywaid i ni pwy yw yr hwn am yr hwn y dywaid Efe. Efe yn gorwedd felly ar ddwyfron yr Iesu a ddywedodd Wrtho, Arglwydd, pwy yw efe? Atteb, gan hyny, a wnaeth yr Iesu, Hwnw yw efe i’r hwn y bydd i Mi, wedi trochi o Honof y tammaid, ei roddi iddo. Wedi trochi’r tammaid, gan hyny, cymmerodd a rhoddodd ef i Iwdas, mab Shimon Ishcariot. Ac ar ol y tammaid, yna yr aeth Satan i mewn iddo. Dywedyd wrtho gan hyny a wnaeth yr Iesu, Yr hyn yr wyt yn ei wneud, gwna ar frys. A hyn nid oedd neb o’r rhai yn eu lled-orwedd yn gwybod i ba beth y dywedasai Efe wrtho; canys rhai a dybient gan fod y cwd gan Iwdas, mai dywedyd wrtho yr oedd yr Iesu, Pryn y pethau y mae rhaid i ni wrthynt i’r wyl, neu I’r tlodion y rhoddai ryw beth. Wedi derbyn y tammaid, gan hyny, efe a aeth allan yn uniawn. Ac yr oedd hi yn nos. Gan hyny, pan aethai efe allan, dywedodd yr Iesu, Yn awr gogoneddwyd Mab y Dyn, a Duw a ogoneddwyd Ynddo: a Duw a’i gogonedda Ef Ynddo Ei hun, ac yn uniawn y gogonedda Ef. O blant bychain, ychydig etto gyda chwi yr wyf. Ceisiwch Fi; ac fel y dywedais wrth yr Iwddewon, Lle yr wyf Fi yn cilio, chwychwi ni ellwch ddyfod, wrthych chwi hefyd yr wyf yn dywedyd yr awr hon. Gorchymyn newydd yr wyf yn ei roddi i chwi, Ar garu o honoch eich gilydd; fel y cerais chwi, ar i chwithau hefyd garu eich gilydd. Wrth hyn y gwybydd pawb mai i Myfi yr ydych yn ddisgyblion, os bydd cariad genych i’ch gilydd. Dywedyd Wrtho a wnaeth Shimon Petr, Arglwydd, i ba le yr wyt yn cilio? Attebodd yr Iesu, Lle yr wyf yn cilio iddo, ni elli yr awr hon Fy nghanlyn; ond canlyni ar ol hyn. Dywedyd Wrtho a wnaeth Petr, Arglwydd, paham na allaf Dy ganlyn Di yr awrhon? Fy einioes, trosot Ti, a ddodaf i lawr. Attebodd yr Iesu, Dy einioes, trosof Fi, a ddodi i lawr! Yn wir, yn wir y dywedaf wrthyt, Ni fydd i geiliog ganu nes y gwedi Fi dair gwaith. Na chynhyrfer eich calon chwi. Credu yr ydych yn Nuw; ac Ynof Finnau hefyd credwch. Yn nhy Fy Nhad trigfannau lawer sydd; a phe amgen, dywedaswn i chwi, canys myned yr wyf i barottoi lle i chwi. Ac os af a pharottoi i chwi le, trachefn y deuaf a chymmeraf chwi Attaf Fy hun, fel lle yr wyf Fi, y bo i chwithau hefyd fod. Ac i ba le yr wyf Fi yn cilio, gwyddoch y ffordd. Dywedyd Wrtho a wnaeth Thomas, Arglwydd, nis gwyddom i ba le yr wyt yn cilio. Pa fodd y gwyddom y ffordd? Dywedyd wrtho a wnaeth yr Iesu, Myfi wyf y ffordd a’r gwirionedd a’r bywyd; nid oes neb yn dyfod at y Tad, oddieithr trwof Fi. Ped adnabuasech Fi, Fy Nhad hefyd a adnabuasech. O hyn allan yr adwaenoch Ef, a gwelsoch Ef. Dywedyd Wrtho a wnaeth Philip, Arglwydd, dangos i ni y Tad, a digon yw i ni. Dywedyd wrtho a wnaeth yr Iesu, Ai cyhyd o amser yr wyf gyda chwi, ac nid adnabuost Fi, Philip? Yr hwn a’m gwelodd I a welodd y Tad. Pa fodd yr wyt Ti yn dweud, “Dangos i ni y Tad?” Oni chredi Fy mod I yn y Tad, a’r Tad Ynof Finnau? Yr ymadroddion y rhai yr wyf Fi yn eu llefaru wrthych, nid o Honof Fy hun yr wyf yn eu llefaru, ond y Tad y sy’n aros Ynof Fi sy’n gwneuthur Ei weithredoedd. Credwch Fi Fy mod I yn y Tad, ac y Tad Ynof Finnau: ac onite, o achos y gweithredoedd eu hunain credwch Fi. Yn wir, yn wir y dywedaf wrthych, Yr hwn sy’n credu Ynof, y gweithredoedd y rhai yr wyf Fi yn eu gwneuthur, hwnw hefyd a’u gwna, ac rhai mwy na’r rhai hyn a wna efe, gan mai at y Tad yr wyf Fi yn myned. A pha beth bynnag a ofynoch yn Fy enw, hyny a wnaf, fel y gogonedder y Tad yn y Mab. Os gofynwch i Mi ryw beth yn Fy enw, hyny a wnaf. Os caru Fi yr ydych, Fy ngorchymynion a gedwch, ac Myfi a ofynaf i’r Tad, a Diddanydd arall a rydd Efe i chwi, fel y bo gyda chwi yn dragywydd, sef Yspryd y gwirionedd, yr Hwn ni all y byd Ei dderbyn am na wel Ef, ac nad adwaen efe Ef. Chwi a’i hadwaenoch Ef, gan mai gyda chwi y mae yn aros, ac ynoch y bydd. Nis gadawaf chwi yn amddifaid: deuaf attoch. Etto ennyd bach, a’r byd nid yw mwyach yn Fy ngweled, ond chwi a’m gwelwch. Oherwydd Fy mod I yn fyw, chwithau hefyd fyddwch fyw. Yn y dydd hwnw y gwybyddwch chwi Fy mod I yn y Tad, a chwithau Ynof Fi, ac Myfi ynoch chwi. Yr hwn sydd a’m gorchymynion ganddo, ac yn eu cadw, hwnw yw’r hwn sydd yn Fy ngharu; a’r hwn a’m câr, a gerir gan Fy Nhad; ac Myfi a’i caraf ef, ac egluraf Fy hun iddo. Dywedyd Wrtho a wnaeth Iwdas (nid yr Ishcariot), Arglwydd, pa beth yw’r achos mai i nyni yr wyt ar fedr egluro Dy hun, ac nid i’r byd? Attebodd yr Iesu, a dywedodd wrtho, Os neb a’m câr, Fy ngair a geidw efe; ac Fy Nhad a’i câr ef; ac atto y deuwn, a thrigfa gydag ef a wnawn. Yr hwn nad yw yn Fy ngharu, Fy ngeiriau ni cheidw; ac y gair a glywch nid yw Fy eiddo I, eithr eiddo y Tad yr Hwn a’m danfonodd. Y pethau hyn a leferais wrthych, tra gyda chwi yr wyf yn aros; ond y Diddanydd, yr Yspryd Glân, yr Hwn a ddenfyn y Tad yn Fy enw, Efe a ddysg i chwi bob peth, ac a ddwg i’ch cof yr holl bethau a ddywedais wrthych. Tangnefedd yr wyf yn ei adael i chwi; Fy nhangnefedd yr wyf yn ei roddi i chwi; nid fel y mae’r byd yn rhoddi, yr wyf Fi yn rhoddi i chwi. Na chynhyrfer eich calon, ac nad ofned. Clywsoch, canys Myfi a ddywedais wrthych, “Ciliaf, a deuaf attoch.” Pe carech Fi, llawenychech oherwydd myned o Honof at y Tad; canys y Tad, mwy na Myfi yw. Ac yr awr hon y dywedais wrthych cyn na ddigwydd, fel pan ddigwyddo, y credoch. Nid llawer peth mwyach a lefaraf gyda chwi, canys dyfod y mae llywodraethwr y byd, ac Ynof Fi nid oes iddo ddim: eithr fel y gwypo’r byd Fy mod yn caru y Tad, ac fel y gorchymynodd y Tad i Mi, felly yr wyf yn gwneuthur. Codwch, awn oddi yma. Myfi yw’r winwydden wir; ac Fy Nhad, y llafurwr yw. Pob cangen Ynof nad yw yn dwyn ffrwyth, cymmer Efe hi ymaith; a phob un y sy’n dwyn ffrwyth, ei glanhau y mae Efe, fel y dygo fwy o ffrwyth. Yn awr chwychwi ydych lân o achos y gair a leferais wrthych. Arhoswch Ynof, ac Myfi ynoch chwi. Fel nad yw’r gangen yn abl i ddwyn ffrwyth o honi ei hun os nad erys yn y winwydden, felly ni ellwch chwithau os nad Ynof yr arhoswch. Myfi yw’r winwydden, chwychwi yw’r canghennau. Yr hwn sy’n aros Ynof, ac Myfi ynddo yntau, efe sy’n dwyn ffrwyth lawer; canys yn wahan Oddiwrthyf ni ellwch wneuthur dim. Onid erys un Ynof, bwrir ef allan, fel y gangen, a gwywa: a chasglant hwynt, ac i’r tân y’u bwriant, a llosgir hwynt. Os arhoswch Ynof, ac Fy ngeiriau a arhosant ynoch, pa beth bynnag a ewyllysiwch, gofynwch ef, a bydd i chwi. Yn hyn y gogoneddir Fy Nhad, pan ffrwyth lawer a ddygoch; a byddwch Fy nisgyblion I. Fel y carodd y Tad Fi, Minnau hefyd a’ch cerais chwi. Arhoswch yn Fy nghariad I. Os Fy ngorchymynion a gedwch, arhoswch yn Fy nghariad; fel y cedwais I orchymynion Fy Nhad, ac yr wyf yn aros yn Ei gariad Ef. Y pethau hyn a leferais wrthych, fel y bo Fy llawenydd ynoch, ac i’ch llawenydd ei gyflawni. Hwn yw Fy ngorchymyn, Ar garu o honoch eich gilydd fel y cerais chwi. Cariad mwy na hwn nid oes gan neb, sef fod i ddyn ddodi i lawr ei einioes dros ei gyfeillion. Chwychwi yw Fy nghyfeillion, os gwnewch y pethau yr wyf Fi yn eu gorchymyn i chwi. Nid wyf mwyach yn eich galw yn weision, canys y gwas ni wŷr pa beth y mae ei arglwydd ef yn ei wneuthur; ond chwi a elwais yn gyfeillion, canys pob peth o’r a glywais gan Fy Nhad, a hyspysais i chwi. Nid chwi a’m dewisasoch I, eithr Myfi a ddewisais chwi, ac a’ch gosodais fel yr eloch chwi, a ffrwyth a ddygoch, ac y bo i’ch ffrwyth aros; fel pa beth bynnag a ofynoch gan y Tad, y rhoddo Efe i chwi. Hyn a orchymynaf i chwi, Garu o honoch eich gilydd. Os y byd a’ch casa chwi, gwyddoch y bu’m I o’ch blaen chwi yn gas ganddo. Os o’r byd y byddech, y byd a garai ei eiddo; ond gan nad o’r byd yr ydych, eithr Myfi a’ch dewisais allan o’r byd, o achos hyn eich casau y mae y byd. Cofiwch yr ymadrodd a ddywedais I wrthych, Nid yw’r gwas yn fwy na’i arglwydd. Os Myfi a erlidiasant, chwychwi hefyd a erlidiant: os Fy ngair I a gadwasant, yr eiddoch chwithau hefyd a gadwant. Ond y pethau hyn oll a wnant i chwi o achos Fy enw, gan nad adnabuant yr Hwn a’m danfonodd. Pe na ddelswn a llefaru wrthynt, pechod ni fuasai arnynt; ond yr awrhon nid oes esgus ganddynt am eu pechod. Yr hwn a’m casao I, Fy Nhad hefyd a gasa efe. Pe na wnelswn yn eu plith weithredoedd na fu i neb arall eu gwneud, pechod ni fuasai arnynt; ond yn awr, gwelsant a chasasant Fyfi ac Fy Nhad. Eithr fel y cyflawnid y gair sydd ysgrifenedig yn eu Cyfraith, “Casasant fi yn ddïachos.” Ond pan ddel y Diddanydd, yr Hwn a ddanfonaf Fi i chwi oddiwrth y Tad, Yspryd y gwirionedd, yr Hwn o’r Tad y deilliaw, Efe a dystiolaetha am Danaf; a chwychwi a dystiolaethwch, canys o’r dechreuad yr ydych gyda Mi. Y pethau hyn a leferais wrthych fel na’ch tramgwydder. Allan o’r sunagogau y rhoddant chwi; eithr dyfod y mae’r awr y bydd i bob un a’ch lladdo, dybio mai gwasanaeth a offrwm efe i Dduw. A’r pethau hyn a wnant, gan nad adwaenant y Tad na Myfi. Eithr y pethau hyn a leferais wrthych, fel pan ddel eu hawr, y cofioch hwynt, y dywedais I wrthych. Y pethau hyn ni ddywedais wrthych o’r dechreuad, gan mai gyda chwi yr oeddwn. Ond yn awr cilio yr wyf at yr Hwn a’m danfonodd, ac nid oes neb o honoch yn gofyn i Mi, I ba le y cili? Eithr am mai’r pethau hyn a leferais wrthych, tristwch a lanwodd eich calon. Eithr Myfi a ddywedais y gwirionedd i chwi. Buddiol yw i chwi Fy myned I ymaith, canys onid af ymaith, y Diddanydd ni ddaw attoch; ond os af, danfonaf Ef attoch. Ac wedi dyfod, Efe a argyhoedda’r byd ynghylch pechod, ac ynghylch cyfiawnder, ac ynghylch barn: ynghylch pechod, am nad ydynt yn credu Ynof; ac ynghylch cyfiawnder, gan mai at y Tad yr wyf yn cilio, ac mwyach na’m gwelwch; ac ynghylch barn, oblegid tywysog y byd hwn a farnwyd. Llawer peth etto sydd Genyf i’w llefaru wrthych, eithr ni ellwch eu dwyn yn awr; ond pan ddel Efe, Yspryd y gwirionedd, tywys Efe chwi i’r holl wirionedd; canys ni lefara o Hono Ei hun, eithr cynnifer bethau ag a glywo a lefara Efe; a’r pethau y sy’n dyfod, a fynega Efe i chwi. Efe a’m gogonedda I, canys o’r eiddof y derbyn, ac y mynega i chwi. Yr holl bethau, cynnifer ag sydd gan y Tad, eiddof Fi ydynt; o achos hyn y dywedais, “O’r eiddof Fi y derbyn, ac y mynega i chwi.” Ychydig ennyd ac mwyach ni’m gwelwch; a thrachefn ychydig a gwelwch Fi. Dywedodd, gan hyny, rai o’i ddisgyblion wrth eu gilydd, Pa beth yw hyn a ddywaid Efe wrthym, “Ychydig ennyd ac ni’m gwelwch, a thrachefn ychydig ennyd a gwelwch Fi,” a “Cilio yr wyf at y Tad?” Gan hyny y dywedasant, Pa beth yw hyn a ddywaid Efe, “Ychydig ennyd?” Nis gwyddom pa beth a ddywaid Efe. Gwybu yr Iesu yr ewyllysient ofyn Iddo, a dywedodd wrthynt, Ai am hyn yr ymofynwch â’ch gilydd, am ddywedyd o Honof, “Ychydig ennyd ac ni’m gwelwch; a thrachefn ychydig ennyd a gwelwch Fi:” Yn wir, yn wir y dywedaf wrthych, Gwylo a galaru a wnewch chwi, ond y byd a lawenycha; chwi a dristheir, ond eich tristwch a droir yn llawenydd. Gwraig wrth esgor, sydd a thristwch arni oherwydd dyfod ei hawr; ond wedi geni y plentyn, ni chofia mwyach ei gofid o achos ei llawenydd am y ganwyd dyn i’r byd. A chwithau, gan hyny, yn awr yn wir tristwch sydd genych, ond eilchwyl y gwelaf chwi, a llawenycha eich calon, a’ch llawenydd ni ddwg neb oddi arnoch. A’r dydd hwnw Genyf Fi ni ofynwch ddim. Yn wir, yn wir y dywedaf wrthych, Os gofynwch ddim gan y Tad, rhydd Efe i chwi yn Fy enw. Hyd yn hyn ni ofynasoch ddim yn Fy enw: gofynwch, a derbyniwch, fel y bo eich llawenydd yn gyflawnedig. Y pethau hyn, mewn damhegion y’u lleferais wrthych. Dyfod y mae’r awr pan nid mewn damhegion y llefaraf mwyach wrthych, eithr yn eglur y mynegaf am y Tad wrthych. Y dydd hwnw yn Fy enw y gofynwch; ac nid wyf yn dywedyd wrthych y gofynaf Fi gan y Tad am danoch, canys y Tad Ei hun a’ch câr chwi am i chwi Fy ngharu I a chredu mai oddiwrth y Tad y daethum I allan. Daethum allan oddiwrth y Tad, a daethum i’r byd. Trachefn gadael y byd yr wyf, ac yn myned at y Tad. Dywedodd Ei ddisgyblion, Wele, yn awr, yn eglur y lleferi, ac nid dammeg o gwbl a ddywedi. Yn awr y gwyddom y gwyddost bob peth, ac nad oes Genyt raid i neb ofyn i Ti; wrth hyn y credwn mai oddiwrth Dduw y daethost allan. Atteb iddynt a wnaeth yr Iesu, Ai credu yr ydych yn awr? Wele, dyfod y mae’r awr, a daeth, y gwasgerir chwi, bob un, at yr eiddo, ac Myfi a adewch yn unig. Ac nid wyf yn unig, canys y Tad sydd gyda Mi. Y pethau hyn a leferais wrthych, fel Ynof y bo tangnefedd genych: yn y byd, gorthrymder a gewch; eithr byddwch hyderus; Myfi a orchfygais y byd. Y pethau hyn a lefarodd yr Iesu; ac wedi codi ei lygaid i’r nef, dywedodd, Y Tad, daeth yr awr; gogonedda Dy Fab Di, fel y bo i’r Mab Dy ogoneddu Di. Fel y rhoddaist Iddo awdurdod ar bob cnawd, fel i ’r cwbl a roddaist Iddo, y rhoddai iddynt fywyd tragywyddol. A hwn yw’r bywyd tragywyddol, sef adnabod o honynt Dydi yr unig wir Dduw, ac yr hwn a ddanfonaist, Iesu Grist. Myfi a’th ogoneddais Di ar y ddaear, gan gwblhau y gwaith a roddaist i Mi i’w wneuthur. Ac yr awr hon gogonedda Di Fyfi, O Dad, gyda Thi Dy hun, â’r gogoniant oedd Genyf, cyn nad oedd y byd, gyda Thi. Eglurais Dy enw Di i’r dynion a roddaist i Mi allan o’r byd; eiddot Ti oeddynt, ac i Mi y rhoddaist hwynt; a’th air a gadwasant. Yn awr y gwyddant am yr holl bethau, cynnifer ag a roddaist i Mi, mai oddi Wrthyt Ti y maent; canys yr ymadroddion a roddaist i Mi, a roddais iddynt, a hwy a’ u derbyniasant, a chredasant mai Tydi a’m danfonaist I. Myfi a ofynaf drostynt hwy: nid tros y byd y gofynaf, eithr tros y rhai a roddaist i Mi, canys eiddot Ti ydynt. A’r eiddof Fi oll, eiddot Ti yw, a’th eiddot Ti yn eiddof Fi; a gogoneddwyd Fi ynddynt. Ac nid wyf mwyach yn y byd; ond y rhai hyn, yn y byd y maent; ac Myfi, Attat Ti yr wyf yn dyfod. Y Tad sancteiddiol, cadw hwynt yn Dy enw yr hwn a roddaist i Mi, fel y byddont yn un, fel Ninnau. Tra y bu’m gyda hwynt, Myfi a’u cedwais yn Dy enw yr hwn a roddaist i Mi; a gwarchedwais hwynt; ac nid un o honynt a gollwyd, oddieithr mab y golledigaeth, fel y bo i’r ysgrythyr ei chyflawni. Ac yn awr, Attat yr wyf yn dyfod: ac y pethau hyn yr wyf yn eu llefaru yn y byd fel y bo ganddynt Fy llawenydd yn gyflawnedig ynddynt eu hunain. Myfi a roddais iddynt Dy air; ac y byd a’u casaodd hwynt gan nad ydynt o’r byd, fel nid wyf Finnau o’r byd. Ni ofynaf am gymmeryd o Honot hwynt o’r byd, eithr eu cadw rhag y drwg. O’r byd nid ydynt, fel nid wyf Finnau o’r byd. Sancteiddia hwynt yn y gwirionedd: Dy air Di, gwirionedd yw. Fel y danfonaist Fi i’r byd, Myfi hefyd a’u danfonais hwynt i’r byd. Ac er eu mwyn Myfi a sancteiddiaf Fy hun, fel y byddont hwy hefyd wedi eu sancteiddio mewn gwirionedd. Ac nid tros y rhai hyn yn unig y gofynaf, eithr tros y rhai hefyd a gredant Ynof trwy eu gair hwynt, ar iddynt oll fod yn un; fel yr wyt Ti, O Dad, Ynof Fi, a Myfi Ynot Ti, ar iddynt hwy hefyd fod Ynom, fel y bo i’r byd gredu mai Tydi a’m danfonaist I. Ac y gogoniant a roddaist i Mi, Myfi a’i rhoddais iddynt hwy, fel y byddont yn un, fel yr ydym Ninnau yn un: Myfi ynddynt hwy, a Thydi Ynof Fi, fel y byddont wedi eu perffeithio yn un, fel y gwypo’r byd mai Tydi a’m danfonaist I, ac y ceraist hwynt fel y ceraist Fyfi. O Dad, yr hyn a roddaist i Mi, ewyllysiaf, lle yr wyf Fi, iddynt hwythau hefyd fod ynghyda Mi, fel y gwelont Fy ngogoniant, yr hwn a roddaist i Mi oblegid caru o Honot Fi cyn seiliad y byd. Y Tad cyfiawn, y byd ni’th edwyn Di, ond Myfi a’th adwaen Di, ac y rhai hyn a wyddant mai Tydi a’m danfonaist I; ac hyspysais iddynt Dy enw, ac a’ i hyspysaf, fel y bo i’r cariad, â’r hwn y ceraist Fi, fod ynddynt hwy, a Minnau ynddynt hwy. Gwedi dywedyd y pethau hyn, yr Iesu a aeth allan ynghyda’i ddisgyblion, dros afon Cedron, lle yr oedd gardd i’r hon yr aeth i mewn, Efe a’i ddisgyblion. Ac adwaenai Iwdas hefyd, yr hwn oedd yn Ei draddodi Ef, y lle, canys mynych y cyrchasai yr Iesu yno ynghyda’i ddisgyblion. Iwdas, gan hyny, wedi cael y fyddin, a chan yr archoffeiriaid a’r Pharisheaid weinidogion, a ddaeth yno â lanternau a llusernau ac arfau. Yr Iesu, gan hyny, yn gwybod yr holl bethau oedd yn dyfod Arno, a aeth allan, a dywedodd wrthynt, Pwy a geisiwch? Attebasant Iddo, Iesu y Natsaread. Dywedyd wrthynt a wnaeth yr Iesu, Myfi yw. A safai Iwdas, yr hwn oedd yn ei draddodi Ef, gyda hwynt. Pan, gan hyny, y dywedodd Efe wrthynt, Myfi yw, aethant ymaith yn wysg eu cefnau, a syrthiasant i lawr. Trachefn, gan hyny, iddynt y gofynodd, Pwy a geisiwch? A hwy a ddywedasant, Iesu y Natsaread. Attebodd yr Iesu, Dywedais wrthych mai Myfi yw; os, gan hyny, Myfi a geisiwch, gadewch i’r rhai hyn fyned ymaith; fel y cyflawnid y gair a ddywedasai Efe, “O’r rhai a roddaist i Mi, ni chollais un o honynt.” Shimon Petr, gan hyny, a chanddo gleddyf, a’i tynnodd ef, a tharawodd was yr archoffeiriad, a thorrodd ymaith ei glust ddehau ef; ac enw y gwas oedd Malchus. Dywedodd yr Iesu, gan hyny, wrth Petr, Dod dy gleddyf yn y wain. Y cwppan a roddes y Tad i Mi, onid yfaf ef? Y fyddin, gan hyny, a’r milwriad, a gweinidogion yr Iwddewon, a ddaliasant yr Iesu, a rhwymasant Ef, a dygasant Ef at Chanan yn gyntaf, canys yr oedd efe yn chwegrwn i Caiaphas, yr hwn oedd archoffeiriad y flwyddyn honno. A Caiaphas oedd yr hwn a gynghorasai i’r Iwddewon mai buddiol oedd marw o un dyn dros y bobl. A chanlyn yr Iesu yr oedd Shimon Petr a disgybl arall. A’r disgybl hwnw oedd adnabyddus gan yr archoffeiriad, ac aeth i mewn gyda’r Iesu i lys yr archoffeiriad; ond Petr a safodd wrth y drws, allan. Gan hyny yr aeth y disgybl arall allan, yr hwn oedd adnabyddus gan yr archoffeiriad, a llefarodd wrth y ddrysores, a daeth a Petr i mewn. Dywedodd y llangces, gan hyny, y ddrysores, wrth Petr, Onid wyt tithau o ddisgyblion y dyn hwn? Dywedodd efe, Nac wyf. A sefyll yr oedd y gweision a’r gweinidogion, wedi gwneuthur tân glo, canys oer ydoedd hi, ac ymdwymnent; ac yr oedd Petr hefyd gyda hwynt yn sefyll ac yn ymdwymno. Yr archoffeiriad, gan hyny, a ofynodd i’r Iesu ynghylch Ei ddisgyblion ac ynghylch ei ddysgad. Atteb iddo a wnaeth yr Iesu, Myfi a leferais yn amlwg wrth y byd; Myfi a ddysgais bob amser yn y sunagog ac yn y deml, lle y mae’r holl Iwddewon yn dyfod ynghyd, ac yn y dirgel ni leferais ddim. Paham mai i Mi y gofyni? Gofyn i’r rhai a glywsant, pa beth a leferais wrthynt. Wele, y rhai hyn a wyddant pa bethau a ddywedais I. Ac Efe wedi dywedyd y pethau hyn, un o’r gweinidogion a oedd yn sefyll ger llaw, a roddes gernod i’r Iesu, gan ddywedyd, Ai felly yr attebi yr archoffeiriad? Atteb iddo a wnaeth yr Iesu, Os yn ddrwg y lleferais, tystiolaetha am y drwg; ond os yn dda, paham y tarewi Fi? Ei ddanfon Ef ymaith, gan hyny, a wnaeth Chanan, yn rhwym, at Caiaphas yr archoffeiriad. Ac yr oedd Shimon Petr yn sefyll ac yn ymdwymno. Dywedasant, gan hyny, wrtho, Tithau hefyd, onid o’i ddisgyblion Ef yr wyt? Gwadodd efe, a dywedodd, Nac wyf. Dywedodd un o weision yr archoffeiriad, ac yntau yn gâr i’r hwn y torrasai Petr ei glust, Oni fu i mi dy weled yn yr ardd gydag Ef? Trachefn, gan hyny, y gwadodd Petr, ac yn uniawn ceiliog a ganodd. Dygasant, gan hyny, yr Iesu oddiwrth Caiaphas i’r llys, a’r bore ydoedd; a hwy nid aethant i mewn i’r llys, rhag eu halogi, eithr fel y bwyttaent y Pasg. Gan hyny yr aeth Pilat allan attynt, a dywedodd, Pa gyhuddiad a ddygwch yn erbyn y dyn hwn? Attebasant, a dywedasant wrtho, Oni bai fod Hwn yn ddrwg-weithredwr, ni thraddodasem Ef i ti. Dywedyd, gan hyny, wrthynt a wnaeth Pilat, Cymmerwch chwi Ef, ac yn ol eich Cyfraith bernwch Ef. Dywedyd wrtho a wnaeth yr Iwddewon, I nyni nid cyfreithlawn yw lladd neb. Fel y byddai i air yr Iesu ei gyflawni, yr hwn a ddywedasai Efe, gan arwyddoccau o ba fath ar angau yr oedd Efe ar fedr marw. Gan hyny, myned i mewn trachefn i’r llys a wnaeth Pilat, a galwodd yr Iesu, a dywedodd Wrtho, Ai Tydi yw Brenhin yr Iwddewon? Attebodd yr Iesu, Ai o honot dy hun yr wyt ti yn dywedyd hyn, ai eraill a ddywedasant wrthyt am Danaf? Attebodd Pilat, A ydwyf fi yn Iwddew? Dy genedl a’r archoffeiriaid a’th draddodasant i mi. Pa beth a wnaethost? Attebodd yr Iesu, Fy nheyrnas I nid yw o’r byd hwn. Ped o’r byd hwn y buasai Fy nheyrnas I, Fy ngweinidogion I a ymdrechasent fel na’m traddodid i’r Iwddewon: ond yn awr Fy nheyrnas I nid yw oddiyma. Dywedyd Wrtho, gan hyny, a wnaeth Pilat, Ai brenhin, ynte, wyt Ti? Attebodd yr Iesu, Ti a ddywedi mai brenhin wyf Fi. Myfi a’m ganed er mwyn hyn, ac er mwyn hyn y daethum i’r byd, fel y tystiolaethwn i’r gwirionedd. Pob un y sydd o’r gwirionedd a wrendy Fy llais. Dywedyd Wrtho a wnaeth Pilat, Pa beth yw gwirionedd? Ac wedi dywedyd hyn yr aeth efe allan trachefn at yr Iwddewon, a dywedodd wrthynt, Nid wyf fi yn cael dim bai ynddo. Ond y mae defod genych, i mi ollwng un yn rhydd i chwi ar y Pasg. A fynwch chwi, gan hyny, i mi ollwng yn rhydd i chwi Frenhin yr Iwddewon? Bloeddiasant, gan hyny, drachefn, gan ddywedyd, Nid Hwn, ond Barabbas. Ac yr oedd Barabbas yn lleidr. Yna, gan hyny, y cymmerodd Pilat yr Iesu, a fflangellodd Ef. A’r milwyr, wedi plethu coron o ddrain, a’i gosodasant ar Ei ben Ef; a chochl burpur a roisant am Dano; a daethant Atto, a dywedasant, Henffych well, Brenhin yr Iwddewon; a rhoisant Iddo gernodiau. A myned allan trachefn a wnaeth Pilat, a dywedodd wrthynt, Wele, Ei ddwyn Ef allan attoch yr wyf, fel y gwypoch nad wyf yn cael Ynddo ddim bai. Aeth yr Iesu, gan hyny, allan, yn gwisgo y goron ddrain a’r gochl burpur. A dywedodd Pilat wrthynt, Wele y dyn. Gan hyny, pan welodd yr archoffeiriaid a’r gweinidogion Ef, bloeddiasant, gan ddywedyd, Croes-hoelia; croes-hoelia Ef. Dywedyd wrthynt a wnaeth Pilat, Cymmerwch chwi Ef, a chroes-hoeliwch; canys nid wyf fi yn cael Ynddo fai. Atteb iddo a wnaeth yr Iwddewon, Nyni sydd a Chyfraith genym; ac yn ol y Gyfraith dylai farw, am mai Mab Duw y gwnaeth Efe Ef Ei hun. Gan hyny, pan glywodd Pilat yr ymadrodd hwn, mwy yr ofnodd; ac aeth i mewn i’r llys drachefn, a dywedodd wrth yr Iesu, O ba le yr wyt Ti? A’r Iesu ni roddes atteb iddo. Dywedyd, gan hyny, Wrtho a wnaeth Pilat, Ai wrthyf fi na leferi? Oni wyddost fod genyf awdurdod i’th ollwng yn rhydd, a bod genyf awdurdod i’th groes-hoelio? Atteb iddo a wnaeth yr Iesu, Ni fuasai genyt ddim awdurdod yn Fy erbyn, oni bai ei rhoddi i ti oddi uchod: o achos hyn, yr hwn a’m traddodes i ti sydd â phechod mwy arno. O hyny allan, ceisiodd Pilat Ei ollwng Ef yn rhydd; ond yr Iwddewon a waeddasant, gan ddywedyd, Os Hwn a ollyngi yn rhydd, nid wyt gyfaill i Cesar. Pob un y sy’n gwneuthur ei hun yn frenhin, dywedyd yn erbyn Cesar y mae. Pilat, gan hyny, wedi clywed y geiriau hyn, a ddug allan yr Iesu, ac eisteddodd ar y frawd-faingc yn y lle a elwir y Palmant, ac yn Hebraeg, Gabbatha. A Pharottoad y Pasg oedd hi; ac ynghylch y chweched awr; a dywedodd efe wrth yr Iwddewon, Wele eich Brenhin. Gan hyny y bloeddiasant hwy, Ymaith ag Ef; ymaith ag Ef; croes-hoelia Ef. Wrthynt y dywedodd Pilat, Ai eich Brenhin a groes-hoeliaf? Attebodd yr archoffeiriaid, Nid oes genym frenhin oddieithr Cesar. Yna, gan hyny, y traddododd Ef iddynt i’w groes-hoelio. Gan hyny y cymmerasant yr Iesu. A chan ddwyn y groes Iddo Ei hun, yr aeth Efe allan i’r lle a elwir Lle ’r benglog, yr hyn a elwir yn Hebraeg, Golgotha; lle y croes-hoeliasant Ef, ac ynghydag Ef ddau eraill, un o bob tu, a’r Iesu yn y canol. Ac ysgrifenodd Pilat ditl, a dododd ef ar y groes: ac yr oedd yn ysgrifenedig, Iesu y Natsaread, Brenhin yr Iwddewon. Y titl hwn, gan hyny, llawer o’r Iwddewon a ddarllenasant, canys agos i’r ddinas oedd y lle y croes-hoeliwyd yr Iesu; ac yr oedd yn ysgrifenedig yn Hebraeg, yn Lladin, ac yn Groeg. Gan hyny, wrth Pilat y dywedodd archoffeiriaid yr Iwddewon, Nac ysgrifena Brenhin yr Iwddewon, eithr mai Efe a ddywedasai, Brenhin yr Iwddewon ydwyf. Attebodd Pilat, Yr hyn a ’sgrifenais a ’sgrifenais. Y milwyr, gan hyny, pan groeshoeliasant yr Iesu, a gymmerasant Ei ddillad, a gwnaethant bedair rhan, i bob milwr ran, ac Ei bais: ac yr oedd y bais yn ddiwnïad, wedi ei gwau o’r cwr uchaf trwyddi oll. Dywedasant, gan hyny, wrth eu gilydd, Na rwygwn hi, eithr bwriwn goel-brennau am dani, eiddo pwy fydd hi, fel y byddai i’r ysgrythyr ei chyflawni, yr hon a ddywaid, “Rhannu fy nillad y maent yn eu mysg, Ac ar fy ngwisg yn bwrw coelbren.” Y milwyr, gan hyny, a wnaethant y pethau hyn. A safai wrth groes yr Iesu, Ei fam, a chwaer Ei fam, Mair gwraig Cleophas, a Mair Magdalen. Yr Iesu, gan hyny, gan weled Ei fam, a’r disgybl a garai Efe, yn sefyll gerllaw, a ddywedodd wrth Ei fam, O wraig, wele dy fab. Gwedi’n y dywedodd wrth y disgybl, Wele, dy fam; ac o’r awr honno allan y cymmerodd y disgybl hi i’w gartref. Gwedi’r pethau hyn, yr Iesu yn gwybod fod pob peth weithian wedi ei orphen, fel y cyflawnid yr Ysgrythyr, a ddywedodd, Sychedaf. Llestr oedd yn gorwedd yno, llawn o finegr; wedi rhoddi ysbwng llawn o’r finegr, ynghylch isop, dodasant ef wrth Ei enau. Gan hyny, pan gafodd yr Iesu y finegr, dywedodd, Gorphenwyd; a chan ogwyddo Ei ben, rhoddes i fynu yr yspryd. Yr Iwddewon, gan hyny, gan mai’r Parottoad ydoedd, fel nad arhosai y cyrph ar y groes ar y Sabbath, (canys mawr oedd dydd y Sabbath hwnw), a ofynasant i Pilat am gael torri eu hesgeiriau hwynt, a’u tynnu i lawr. Gan hyny, daeth y milwyr, ac esgeiriau y cyntaf a dorrasant, ac eiddo’r llall a groes-hoeliasid gydag Ef; ac wedi dyfod at yr Iesu, pan welsant Ef wedi marw eisoes, ni thorrasant Ei esgeiriau Ef; eithr un o’r milwyr, â gwayw-ffon, a wanodd Ei ystlys Ef, a daeth allan, yn uniawn, waed a dwfr. A’r hwn a welodd a dystiolaethodd; a gwir yw ei dystiolaeth ef; ac efe a ŵyr mai gwir a ddywaid efe, fel y bo i chwithau hefyd gredu; canys digwyddodd y pethau hyn fel y byddai i’r ysgrythyr ei chyflawni, “Asgwrn o Hono ni thorir:” ac etto ysgrythyr arall a ddywaid, “Edrychant ar yr Hwn a wanasant.” Ac ar ol y pethau hyn, Ioseph o Arimathea, ac yntau yn ddisgybl i’r Iesu, ond yn guddiedig rhag ofn yr Iwddewon, a ofynodd i Pilat am gael dwyn ymaith gorph yr Iesu; a chaniattaodd Pilat. Daeth efe, gan hyny, a dug ymaith Ei gorph Ef. A daeth Nicodemus hefyd, yr hwn a ddaethai Atto liw nos yn gyntaf, gan ddwyn cymmysg o fyrr ac aloes, ynghylch can pwys. Cymmerasant, gan hyny, gorph yr Iesu, a rhwymasant ef â llieiniau ynghyda’r aroglau, fel y mae arfer yr Iwddewon ar gladdu. Ac yr oedd yn y fan lle y croes-hoeliwyd Ef ardd; ac yn yr ardd fedd newydd, yn yr hwn ni ddodasid neb etto. Yno, gan hyny, o achos Parottoad yr Iwddewon, gan mai agos oedd y bedd, y rhoddasant yr Iesu. Ac y dydd cyntaf o’r wythnos Mair Magdalen a ddaeth y bore, a hi etto yn dywyll, at y bedd; a gwelodd y maen wedi ei ddwyn ymaith oddiwrth y bedd. Rhedodd, gan hyny, a daeth at Shimon Petr, ac at y disgybl arall yr hwn oedd hoff gan yr Iesu, a dywedodd wrthynt, Dygasant yr Arglwydd o’r bedd, ac nis gwyddom pa le y dodasant Ef. Gan hyny, allan yr aeth Petr a’r disgybl arall, a daethant at y bedd: a rhedasant ill dau ar unwaith; ac y disgybl arall a rag-redodd yn gynt na Petr, ac a ddaeth yn gyntaf at y bedd; ac wedi ymgrymmu, gwelodd y llieiniau yn gorwedd, ond nid aeth i mewn. Yna y daeth Shimon Petr yn ei ganlyn ef, ac yr aeth i mewn i’r bedd, a chanfu y llieiniau yn gorwedd, a’r napcyn a fuasai am Ei ben, nid yn gorwedd gyda’r llieiniau, eithr wedi ei blygu yn rhyw le ar wahan. Yna, gan hyny, yr aeth y disgybl arall hefyd i mewn, yr hwn a ddaethai yn gyntaf at y bedd, a gwelodd, a chredodd; canys ni wyddent etto yr ysgrythyr fod rhaid Ei gyfodi o feirw. Gan hyny yr aeth y disgyblion ymaith drachefn i’w cartref. A Mair a safai wrth y bedd, oddi allan, yn gwylo; ac wrth wylo o honi ymgrymmodd i’r bedd; a chanfu ddau angel, mewn gwisgoedd gwynion, yn eistedd, un wrth y pen ac un wrth y traed o’r lle y gorweddodd corph yr Iesu; ac wrthi y dywedasant hwy, O wraig, paham y gwyli? Dywedodd wrthynt, Am ddwyn o honynt fy Arglwydd ymaith, ac na wn pa le y dodasant Ef. Wedi dywedyd hyn y trodd hi drach ei chefn, a chanfu yr Iesu yn sefyll; ac ni wyddai mai’r Iesu ydoedd. Wrthi y dywedodd yr Iesu, O wraig, paham y gwyli? Pwy a geisi? Hithau yn tybied mai y garddwr ydoedd, a ddywedodd Wrtho, Syr, os tydi a’i cymmeraist Ef, dywaid wrthyf pa le y dodaist Ef, ac myfi a’i dygaf Ef ymaith. Wrthi y dywedodd yr Iesu, Mair. Wedi troi o honi, hi a ddywedodd Wrtho, yn Hebraeg, Rabboni, yr hyn yw dywedyd, Athraw. Wrthi y dywedodd yr Iesu, Na chyffwrdd â Myfi, canys nid esgynais etto at y Tad; ond dos at Fy mrodyr, a dywaid wrthynt, Esgyn yr wyf at Fy Nhad a’ch Tad chwi, a’m Duw a’ch Duw chwi. Daeth Mair Magdalen gan fynegi i’r disgyblion, Gwelais yr Arglwydd, ac mai’r pethau hyn a ddywedasai Efe wrthi. Yna pan oedd yr hwyr y dydd hwnw, y cyntaf o’r wythnos, a’r drysau yn gauad lle yr oedd y disgyblion, rhag ofn yr Iwddewon, daeth yr Iesu, a safodd yn y canol, a dywedodd wrthynt, Tangnefedd i chwi. Ac wedi dywedyd hyn, dangosodd iddynt Ei ddwylaw ac Ei ystlys. Gan hyny y llawenychodd y disgyblion wrth weled yr Arglwydd. Gan hyny, wrthynt y dywedodd yr Iesu drachefn, Tangnefedd i chwi. Fel y danfonodd y Tad Fi, Myfi hefyd wyf yn eich gyrru chwi. Ac wedi dywedyd hyn, anadlodd arnynt, a dywedodd wrthynt, Derbyniwch yr Yspryd Glân. Pwy bynnag y maddeuoch eu pechodau, maddeuir hwy iddynt; a’r eiddo pwy bynnag a attalioch, attaliwyd hwynt. A Thomas, un o’r deuddeg, yr hwn a elwir Didymus, nid oedd gyda hwynt pan ddaeth yr Iesu. Gan hyny, wrtho y dywedodd y disgyblion eraill, Gwelsom yr Arglwydd. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Oni welaf yn Ei ddwylaw ol yr hoelion, a dodi o honof fy mys yn ol yr hoelion, a dodi o honof fy llaw yn Ei ystlys, ni chredaf ddim. Ac wedi wyth niwrnod, drachefn yr oedd Ei ddisgyblion i mewn, a Thomas gyda hwynt. Daeth yr Iesu, a’r drysau yn gauad, a safodd yn y canol, a dywedodd, Tangnefedd i chwi. Yna y dywedodd wrth Thomas, Moes dy fys yma, a gwel Fy nwylaw; a moes dy law, a dod yn Fy ystlys; ac na fydd anghredadyn, eithr yn gredadyn. Attebodd Thomas a dywedodd Wrtho, Fy Arglwydd ac fy Nuw. Wrtho y dywedodd yr Iesu, Am i ti Fy ngweled y credaist; gwyn eu byd y rhai na welsant, ac a gredasant. Llawer hefyd o arwyddion eraill a wnaeth yr Iesu yngwydd y disgyblion, y rhai nid ydynt ysgrifenedig yn y llyfr hwn; ac y pethau hyn a ysgrifenwyd fel y credoch mai yr Iesu yw y Crist, Mab Duw; a chan gredu y caffoch fywyd yn Ei enw Ef. Gwedi’r pethau hyn, amlygodd yr Iesu Ei hun drachefn i’r disgyblion ar fôr Tiberias; ac amlygodd Ei hun fel hyn. Yr oedd ynghyd Shimon Petr, a Thomas yr hwn a elwir Didymus, a Nathanael o Cana yn Galilea, a meibion Zebedëus, a dau eraill o’i ddisgyblion: wrthynt y dywedodd Shimon Petr, Af i bysgotta. Dywedasant wrtho, Deuwn ninnau hefyd gyda thi. Aethant allan, ac aethant i’r cwch; ac y nos honno ni ddaliasant ddim. A’r bore weithian wedi dyfod, safodd yr Iesu ar y traeth; er hyny ni wyddai’r disgyblion mai’r Iesu ydoedd. Yna wrthynt y dywedodd yr Iesu, O blant, a oes rhywbeth i’w fwytta genych? Attebasant Iddo, Nac oes. Ac Efe a ddywedodd wrthynt, Bwriwch y rhwyd i’r tu dehau i’r cwch, a chewch. Bwriasant, gan hyny, ac ei thynu ni allent bellach, gan liaws y pysgod. Gan hyny dywedodd y disgybl hwnw yr hwn oedd hoff gan yr Iesu, wrth Petr, Yr Arglwydd yw. Shimon Petr, gan hyny, wedi clywed mai yr Arglwydd yw, a ymwregysodd a’i amwisg, (canys yr oedd efe wedi ymddiosg), a bwriodd ei hun i’r môr: ond y disgyblion eraill, yn y cwch y daethant (canys nid oeddynt bell oddiwrth y tir, eithr oddeutu dau can cufudd) dan lusgo y rhwyd lawn o bysgod. Yna, pan ddaethant allan i’r tir, gwelsant dân o farwor yn gorwedd, a physgodyn yn gorwedd arno, a bara. Wrthynt y dywedodd yr Iesu, Deuwch â rhai o’r pysgod a ddaliasoch yr awr hon. Gan hyny, esgynodd Shimon Petr, a llusgodd y rhwyd i dir, yn llawn o bysgod mawrion, cant a thriarddeg a deugain; ac er mai cymmaint oeddynt, ni rwygwyd y rhwyd. Wrthynt y dywedodd yr Iesu, Deuwch ciniawwch. Ac ni feiddiai neb o’r disgyblion ofyn Iddo, Pwy wyt Ti? gan wybod mai yr Arglwydd ydoedd. Daeth yr Iesu, a chymmerodd fara, ac ei rhoddes iddynt, a’r pysgod yr un modd. A hon, weithian, y drydedd waith yr amlygwyd yr Iesu i’r disgyblion, ar ol Ei gyfodi o feirw. Gan hyny, wedi ciniawa o honynt wrth Shimon Petr y dywedodd yr Iesu, Shimon mab Iona, ai hoff genyt Fi yn fwy na’r rhai hyn? Dywedodd yntau Wrtho, Y mae, Arglwydd: Tydi a wyddost mai Dy garu yr wyf. Dywedodd Efe wrtho, Portha Fy ŵyn. Dywedodd wrtho drachefn, yr ail waith, Shimon mab Iona, Ai hoff genyt Fi? Dywedodd yntau Wrtho, Y mae, Arglwydd; Tydi a wyddost mai Dy garu yr wyf. Dywedodd Efe wrtho, Bugeilia Fy nefaid. Dywedodd wrtho y drydedd waith, Shimon mab Iona, Ai Fy ngharu yr wyt? Poenwyd Petr am ddywedyd o Hono wrtho y drydedd waith, Ai Fy ngharu yr wyt? a dywedodd Wrtho, Arglwydd, pob peth Tydi a wyddost; Tydi a genfyddi mai Dy garu yr wyf. Wrtho y dywedodd yr Iesu, Portha Fy nefaid. Yn wir, yn wir y dywedaf wrthyt, Pan oeddit ieuangc, ymwregysit dy hun, a rhodio yr oeddit lle yr ewyllysit; ond pan eloch yn hen, estyni allan dy ddwylaw, ac arall a’th wregysa, ac a’th ddwg lle nid ewyllysi. A hyn a ddywedodd Efe gan arwyddo trwy ba fath ar angau y gogoneddai efe Dduw: ac wedi dywedyd hyn, dywedodd wrtho, Canlyn Fi. Wedi troi o hono, Petr a welodd y disgybl oedd hoff gan yr Iesu yn canlyn, yr hwn hefyd a bwysodd, ar y swpper, ar Ei ddwyfron, ac a ddywedodd, Arglwydd, pwy yw yr hwn sydd yn Dy draddodi? Gan hyny, wrth weled hwn, Petr a ddywedodd wrth yr Iesu, A hwn, pa beth fydd? Wrtho y dywedodd yr Iesu, Os ewyllysiaf iddo ef aros hyd oni ddelwyf, pa beth yw i ti? Tydi, canlyn Fi. Gan hyny, allan yr aeth y gair hwn ymhlith y brodyr na fyddai y disgybl hwnw farw: ond wrtho ni ddywedasai’r Iesu, Ni fydd marw, eithr Os ewyllysiaf iddo ef aros hyd oni ddelwyf, pa beth yw i ti? Hwn yw’r disgybl sydd yn tystiolaethu am y pethau hyn, ac a ’sgrifenodd y pethau hyn; a gwyddom mai gwir yw ei dystiolaeth. Ac y mae hefyd lawer o bethau eraill a wnaeth yr Iesu, y rhai ped ysgrifenid pob un o honynt, tybiaf na wnai hyd yn oed yr holl fyd gynhwys y llyfrau a ’sgrifenid. Y traethawd cyntaf a wnaethum, O Theophilus, am yr holl bethau a ddechreuodd yr Iesu eu gwneuthur ac eu dysgu, hyd y dydd pan, wedi gorchymyn, trwy’r Yspryd Glân, i’r apostolion a etholasai, y cymmerwyd Ef i fynu; i’r rhai hefyd y dangosodd Ei hun yn fyw, wedi Iddo ddioddef, trwy lawer o brofion, yn cael am ddeugain niwrnod Ei weled ganddynt, ac yn dywedyd y pethau am deyrnas Dduw; ac wedi ymgynnull gyda hwynt, gorchymynodd iddynt beidio ag ymadael o Ierwshalem, eithr disgwyl am addewid y Tad, yr hwn ( ebr Efe ) a glywsoch Genyf; canys Ioan yn wir a fedyddiodd â dwfr; ond chwi a fedyddir â’r Yspryd Glân cyn nemmawr o ddyddiau. Gan hyny, hwy, wedi dyfod ynghyd, a ofynasant Iddo, gan ddywedyd, Arglwydd, ai y pryd hwn y rhoddi drachefn y frenhiniaeth i Israel? A dywedodd wrthynt, Nid i chwi y mae gwybod yr amseroedd a’r prydiau, y rhai y mae’r Tad wedi eu gosod yn Ei feddiant Ei hun. Eithr derbyniwch allu, wedi dyfod o’r Yspryd Glân arnoch, a byddwch Fy nhystion I yn Ierwshalem ac yn holl Iwdea a Shamaria ac hyd eithaf y ddaear. Ac wedi dywedyd y pethau hyn, a hwy yn edrych, cymmerwyd Ef i fynu, a chwmmwl a’i derbyniodd Ef allan o’u golwg. A phan yr oeddynt yn craffu ar y nef, wrth fyned o Hono, ac wele, dau ŵr a safasant gerllaw iddynt, mewn gwisgoedd gwynion, y rhai hefyd a ddywedasant, Dynion o Galilea, paham y sefwch yn edrych i’r nef? Yr Iesu hwn, yr Hwn a gymmerwyd i fynu oddi wrthych i’r nef, a ddaw felly, yn y modd y gwelsoch Ef yn myned i’r nef. Yna y dychwelasant i Ierwshalem o’r mynydd a elwir mynydd yr Olewydd, yr hwn sydd yn agos i Ierwshalem, ag iddo daith Sabbath. A phan ddaethent i mewn i’r oruch-ystafell yr aethant i fynu, lle yr arhosai Petr ac Ioan ac Iago ac Andreas, Philip a Thomas, Bartholemëus a Matthew, Iago mab Alphëus, a Shimon Zelotes, ac Iwdas brawd Iago. Y rhai hyn oll oeddynt yn parhau yn gyttun mewn gweddi ynghyda’ r gwragedd a Mair mam yr Iesu, ac ynghyda’i frodyr Ef. Ac yn y dyddiau hyny, wedi cyfodi o Petr ynghanol y brodyr, dywedodd (ac yr oedd lliaws o enwau ynghyd, o ddeutu ugain a chant), Gwŷr frodyr, rhaid oedd i’r ysgrythyr ei chyflawni, yr hon a rag-ddywedodd yr Yspryd Glân trwy enau Dafydd am Iwdas, yr hwn a aeth yn dywysydd i’r rhai a ddaliasant yr Iesu. Canys cyfrifwyd ef yn ein plith, a chafodd ei ran o’r weinidogaeth hon. (Hwn yn wir, gan hyny, a gafodd faes â gwobr ei anghyfiawnder, a chan syrthio yn bendramwnwgl y torrodd yn ei ganol, a thywalltwyd allan ei holl ymysgaroedd: a hyspys fu hyn i bawb yn preswylio yn Ierwshalem, fel y galwyd y maes hwnw, yn eu hiaith, Aceldama, hyny yw, Maes gwaed). Canys ysgrifenwyd yn Llyfr y Psalmau, “Bydded ei gorlan yn anghyfannedd, Ac na fydded a drigo ynddi,” ac “A’i oruchwyliaeth cymmered arall.” Am hyny, y mae rhaid i un o’r gwŷr a fu yn cyd-ymdaith â ni yr holl amser yr aeth yr Arglwydd Iesu i mewn ac allan yn ein plith, gan ddechreu o fedydd Ioan hyd y dydd y cymmerwyd ef i fynu oddiwrthym, i un o’r rhai hyn fyned yn dyst o’i adgyfodiad, ynghyda ni. A gosodasant ddau ger bron, Ioseph yr hwn a elwid Barshabas ac a gyfenwid Iustus, a Matthïas; a chan weddïo, dywedasant, Tydi, Arglwydd, yr Hwn a wyddost galonnau pawb, dangos pa un o’r ddau hyn a etholaist, i dderbyn y lle yn y weinidogaeth hon a’r apostoliaeth, o’r hon y syrthiodd Iwdas ymaith i fyned i’w le ei hun. A rhoisant goel-brennau drostynt, a syrthiodd y coelbren ar Matthïas, a chyfrifwyd ef gyda’r un apostol ar ddeg. Ac wedi dyfod dydd y Pentecost, yr oeddynt oll ynghyd yn yr un lle. A daeth yn ddisymmwth o’r nef swn fel o wynt nerthol yn rhuthro, a llanwodd yr holl dŷ lle yr oeddynt yn aros: ac ymddangosodd iddynt dafodau yn ymhollti, fel o dân, ac eisteddodd efe ar bob un o honynt: a llanwyd hwy oll â’r Yspryd Glân, a dechreuasant lefaru â thafodau eraill fel yr oedd yr Yspryd Glân yn rhoddi ymadrodd iddynt. Ac yr oedd yn Ierwshalem Iwddewon a drigent yno, gwŷr crefyddus, o bob cenedl dan y nef. Ac wedi digwydd o’r llais hwn, daeth y lliaws ynghyd a dyryswyd hwynt, canys clywent, bob un, hwynt yn llefaru yn ei iaith ei hun. A synnasant oll, a rhyfeddasant, gan ddywedyd, Wele, onid yw yr holl rai hyn y sy’n llefaru, yn Galileaid? A pha fodd yr ydym ni yn clywed, bob un yn ein hiaith ein hun yn yr hon y’n ganed ni? Parthiaid a Mediaid ac Elamitiaid, a’r rhai yn trigo yn Mesopotamia, ac Iwdea, a Cappadocia, Pontus, ac Asia, Phrugia a Phamphulia, yr Aipht, a pharthau Libua gerllaw Cyrene, a dieithriaid o Rufeinwyr, Iwddewon a phroselytiaid, Cretiaid ac Arabiaid, clywn hwynt yn llefaru yn ein hieithoedd ni weithredoedd mawrion Duw. A synnasant oll, a dyryswyd hwynt, gan ddywedyd y naill wrth y llall, Pa beth a fyn hyn fod? Ond eraill, gan watwar, a ddywedasant, A gwin newydd y gor-lanwyd hwynt. A Petr, yn sefyll gyda’r un ar ddeg, a gododd ei lais, ac a ddywedodd wrthynt, Gwyr o Iwddewon, a’r oll sy’n trigo yn Ierwshalem, bydded hyn yn hysbys i chwi, a rhoddwch glust i’m hymadroddion: canys nid yw y rhai hyn, fel yr ydych chwi yn tybied, yn feddwon, canys y drydedd awr o’r dydd yw hi: eithr hyn yw’r hyn a ddywedwyd trwy’r prophwyd Ioel, “A bydd yn y dyddiau diweddaf, medd Iehofah, y tywalltaf o’m Hyspryd ar bob cnawd, A phrophwyda eich meibion ac eich merched A’ch gwŷr ieuaingc, gweledigaethau a welant, Ac eich henafgwyr, breuddwydion a freuddwydiant. Ac ar Fy ngweision a’m llawforwynion yn y dyddiau hyny Y tywalltaf o’m Hyspryd, a phrophwydant. A rhoddaf ryfeddodau yn y nef uchod, ac arwyddion yn y ddaear isod, Gwaed, a thân, a tharth mwg; Yr haul a droir yn dywyllwch, a’r lloer yn waed, Cyn dyfod o ddydd Iehofah, y dydd mawr a hynod. A bydd, pob un a alwo ar enw Iehofah fydd gadwedig.” Gwŷr Israel, clywch y geiriau hyn: Iesu y Natsaread, Gŵr a gymmeradwywyd gan Dduw yn eich plith trwy wyrthiau a rhyfeddodau ac arwyddion, y rhai a wnaeth Duw Trwyddo Ef yn eich canol, fel y gwyddoch eich hunain; Hwn, wedi Ei roddi i fynu trwy derfynedig gynghor a rhagwybodaeth Duw, trwy ddwylaw dynion drygionus, gan Ei groes-hoelio, a laddasoch: Hwn, Duw a’i cyfododd, gan ddattod gofidiau angau, canys nid oedd bosibl Ei attal ganddo, canys Dafydd a ddywaid am Dano, “Gwelais Iehofah ger fy mron yn wastadol; Canys ar fy neheulaw y mae, fel na’m hysgoger: Am hyny y llawenychodd fy nghalon, a gorfoleddodd fy nhafod, Ac fy nghnawd hefyd a drig mewn gobaith, Gan na adewi fy enaid yn Hades Ac na chaniattei i’th Sanct weled llygredigaeth. Hyspysaist i mi ffyrdd y bywyd; Llenwi fi o lawenydd ger Dy fron.” Gwŷr frodyr, gan allu o honof ddweud yn hyderus wrthych am y patriarch Dafydd y bu efe farw a’i gladdu, ac ei feddrod sydd gyda ni hyd y dydd hwn; am hyny, gan fod yn brophwyd ac yn gwybod mai â llw y tyngasai Duw iddo i osod o ffrwyth ei lwynau ef ar ei orsedd, gan rag-weled y llefarodd am adgyfodiad Crist, “Ni adawyd Ef yn Hades,” ac “Ei gnawd Ef ni welodd lygredigaeth.” Yr Iesu Hwn a gyfododd Duw; o’r hyn yr ydym ni oll yn dystion. Gan hyny, wedi Ei ddyrchafu trwy ddeheulaw Duw, ac wedi derbyn addewid yr Yspryd Glân gan y Tad, tywalltodd allan y peth hwn yr ydych chwi yn ei weled ac yn ei glywed: canys nid Dafydd a esgynodd i’r nefoedd, ond dywaid ei hun, “Dywedodd Iehofah wrth fy Arglwydd, Eistedd ar Fy neheulaw, Hyd oni osodwyf Dy elynion yn droed-faingc i’th draed.” Gan hyny, sicr-wybydded holl dŷ Israel mai yn Arglwydd ac yn Grist y gwnaeth Duw Ef, yr Iesu Hwn, yr Hwn chwychwi a’i croes-hoeliasoch. Wedi clywed hyn, pigwyd hwy yn eu calon, a dywedasant wrth Petr a’r apostolion eraill, Pa beth a wnawn, frodyr? A Petr a ddywedodd, wrthynt, Edifarhewch, a bedyddier pob un o honoch yn enw Iesu Grist, er maddeuant eich pechodau: a derbyniwch ddawn yr Yspryd Glân; canys i chwi y mae’r addewid, ac i’ch plant, ac i’r holl rai sydd ymhell, cynnifer ag a alwo yr Arglwydd ein Duw ni Atto. Ac â geiriau eraill lawer y tystiolaethodd efe, ac y’u cynghorodd, gan ddywedyd, Achubwch eich hunain oddiwrth y genhedlaeth wyrog hon. Rhai, gan hyny, wedi derbyn ei ymadrodd, a fedyddiwyd; ac ychwanegwyd attynt y dwthwn hwnw ynghylch tair mil o eneidiau: ac yr oeddynt yn parhau yn nysgad yr apostolion, ac ynghymmundeb, ac yn nhorriad y bara a’r gweddïau. Ac yr oedd ar bob enaid ofn; a llawer o ryfeddodau ac arwyddion a wnaed gan yr apostolion; a’r holl rai a gredent oeddynt ynghyd; ac yr oedd ganddynt bob peth yn gyffredin; ac eu meddiannau a’u heiddo a werthent, a rhannent hwynt i bawb, fel yr oedd neb ag eisiau arno. A pheunydd yn parhau ag un meddwl, yn y deml, ac yn torri bara gartref, y cymmerent eu lluniaeth mewn gorfoledd a symledd calon, gan foli Duw, ac yn cael ffafr gyda’r holl bobl. A’r Arglwydd a ychwanegodd attynt beunydd y rhai oedd yn cael eu hachub. A Petr ac Ioan a aethant i fynu i’r deml ar awr weddi, sef y nawfed. Ac rhyw ddyn, cloff o groth ei fam, a ddygid, yr hwn a ddodent beunydd wrth borth y deml, yr hwn a elwid Prydferth, i ofyn elusen gan y rhai a aent i mewn i’r deml. Ac efe, gan weled Petr ac Ioan ar fedr myned i mewn i’r deml, a ofynodd gael elusen. A chan edrych yn graff arno, Petr ynghydag Ioan a ddywedodd, Edrych arnom. Ac efe a ddaliodd sylw arnynt, gan ddisgwyl cael rhywbeth ganddynt. A dywedodd Petr, Arian ac aur nid oes genyf; ond yr hyn y sydd genyf, hyny i ti y’i rhoddaf. Yn enw Iesu Grist y Natsaread, rhodia. Ac wedi ei gymmeryd erbyn ei law ddehau, cyfododd ef; ac yn uniawn y cadarnhawyd ei draed ef a’i fferau: a chan neidio i fynu, safodd, a rhodiodd, ac aeth i mewn ynghyda hwynt i’r deml, yn rhodio a neidio a moli Duw. A gwelodd yr holl bobl ef yn rhodio ac yn moli Duw; ac adnabyddent ef, mai efe oedd yr hwn a eisteddai, am elusen, wrth borth Prydferth y deml; a llanwyd hwy o syndod a dychryn am yr hyn a ddigwyddasai iddo. Ac efe yn dal ei afael ar Petr ac Ioan, attynt y cyd-redodd yr holl bobl yn y cyntor a elwir Cyntor Shalomon, mewn syndod mawr. A Petr, gan weled hyn, a attebodd i’r bobl, Gwŷr Israel, paham y rhyfeddwch wrth hyn, neu arnom ni y craffwch, fel pe bai trwy ein gallu neu ein duwioldeb ni ein hunain y gwnaethom i hwn rodio? Duw Abraham ac Itsaac ac Iacob, Duw ein tadau, a ogoneddodd Ei Fab Iesu, yr Hwn, chwi yn wir a’i traddodasoch ac a’i gwadasoch ger bron Pilat, ac efe wedi barnu ei ollwng Ef yn rhydd; ond chwychwi, y Sanct a Chyfiawn a wadasoch, a gofynasoch am i ddyn llofruddiog gael ei roddi i chwi, a Thywysog y Bywyd a laddasoch, yr Hwn a gododd Duw o feirw; o’r hyn yr ydym ni yn dystion. A thrwy ffydd yn Ei enw Ef, yr hwn a welwch ac a adnabyddwch, Ei enw Ef a’i cadarnhaodd; ac y ffydd y sydd Trwyddo Ef, a roddes i hwn yr iechyd perffaith hwn yn eich gwydd chwi oll. Ac yn awr, frodyr, gwn mai trwy anwybod y gwnaethoch, fel y gwnaeth eich pennaethiaid hefyd. Ond Duw felly a gyflawnodd y pethau a rag-fynegasai Efe trwy enau Ei holl brophwydi, y dioddefai Ei Grist Ef. Edifarhewch, gan hyny, a dychwelwch, fel y dileer eich pechodau, fel y delo amseroedd dadebriad oddi ger bron yr Arglwydd, ac y danfono’r Crist a rag-ordeiniwyd i chwi, yr Iesu, yr Hwn y mae rhaid i’r nef Ei dderbyn hyd amseroedd adferiad yr holl bethau a lefarodd Duw trwy enau Ei brophwydi sanctaidd erioed. Mosheh yn wir a ddywedodd, “Prophwyd i chwi a gyfyd Iehofah Duw o’ch brodyr, fel myfi. Arno Ef y gwrandewch, yn yr holl bethau, cynnifer ag a lefara Efe wrthych; a bydd pob enaid na wrandawo ar y Prophwyd hwnw, a lwyr-ddifethir o blith y bobl.” A’r holl brophwydi o Shamuel a’r rhai canlynol, cynnifer ag a lefarasant, fynegasant hefyd y dyddiau hyn. Chwychwi ydych feibion y prophwydi a’r cyfammod yr hwn a ammododd Duw â’n tadau, gan ddywedyd wrth Abraham, “Ac yn dy had y bendithir holl dylwythau’r ddaear.” Attoch chwi yn gyntaf, y bu i Dduw, gwedi cyfodi Ei Fab, Ei ddanfon Ef yn eich bendithio trwy droi pob un o honoch oddiwrth eich anwireddau. A hwy yn llefaru wrth y bobl daeth arnynt yr offeiriaid, a chadben y deml, a’r Tsadwceaid, gwedi eu poeni am ddysgu o honynt y bobl, a chyhoeddi, yn yr Iesu, yr adgyfodiad o feirw. A dodasant eu dwylaw arnynt, a rhoisant hwynt mewn cadwraeth, erbyn trannoeth, canys yr oedd hi weithian yn hwyr. Ond llawer o’r rhai a glywsant y Gair, a gredasant; a gwnaed rhifedi y gwŷr ynghylch pum mil. A bu drannoeth y casglwyd ynghyd eu pennaethiaid ac yr henuriaid a’r ysgrifenyddion yn Ierwshalem, ac Annas yr archoffeiriad, a Caiaphas ac Ioan ac Alecsander, a chynnifer ag oedd o’r genedl archoffeiriadol. Ac wedi eu gosod hwy yn y canol, gofynasant. Trwy ba awdurdod neu ym mha enw y gwnaethoch chwi y peth hwn? Yna Petr, wedi ei lenwi â’r Yspryd Glân, a ddywedodd wrthynt, Pennaethiaid y bobl, ac henuriaid, os ni a holir heddyw am y weithred dda i’r dyn claf, trwy bwy yr iachawyd ef, bydded hysbys i chwi oll, ac i holl bobl Israel, mai yn enw Iesu Grist y Natsaread; yr Hwn, chwi a’i croes-hoeliasoch; yr Hwn, Duw a’i cyfododd o feirw, Trwyddo Ef y mae hwn yn sefyll ger eich bron yn iach. Efe yw’r maen a ddiystyrwyd genych chwi yr adeiladwyr, wedi Ei wneud yn ben y gongl; ac nid oes yn neb arall iachawdwriaeth, canys nid oes o gwbl enw arall tan y nef, wedi ei roddi ymhlith dynion, trwy yr hwn y mae rhaid i ni fod yn gadwedig. Ac wedi gweled hyfder Petr ac Ioan, a chanfod mai dynion anllythrennog oeddynt ac heb addysg, rhyfeddasant, a chymmerasant wybodaeth o honynt mai gyda’r Iesu y buasent, a chan weled y dyn yn sefyll gyda hwynt, sef yr hwn a iachesid, nid oedd ganddynt ddim i wrth-ddywedyd. Eithr wedi gorchymyn iddynt fyned ymaith allan o’r Cynghor, ymresymmasant â’u gilydd, gan ddywedyd, Pa beth a wnawn i’r dynion hyn? canys yn wir bod arwydd hynod wedi ei wneuthur trwyddynt, i bawb sy’n trigo yn Ierwshalem y mae ’n amlwg, ac nis gallwn ei wadu: eithr fel na thaner ym mhellach ym mhlith y bobl, bygythiwn hwynt na lefaront mwyach yn yr enw hwn i un dyn. Ac wedi eu galw hwynt, gorchymynasant iddynt beidio ag ynganu o gwbl na dysgu yn enw yr Iesu. Ond Petr ac Ioan, gan atteb iddynt, a ddywedasant, Ai cyfiawn yw ger bron Duw, wrando arnoch chwi yn hytrach nag ar Dduw, bernwch: canys nis gallwn ni beidio â llefaru y pethau a welsom ac a glywsom. Eithr hwy, wedi eu bygwth hwynt ym mhellach, a’u gollyngasant yn rhyddion, heb gael dim fel y cospent hwynt, o achos y bobl, canys pawb a ogoneddent Dduw am y peth a wnaethpwyd; canys mwy na deugain oed oedd y dyn ar yr hwn y gwnaethpwyd yr arwydd hwn o iachad. Ac wedi eu gollwng yn rhyddion, aethant at yr eiddynt, a mynegasant cynnifer o bethau y bu i’r archoffeiriaid a’r henuriaid eu dywedyd wrthynt. A hwy, wedi clywed hyn, o un fryd a godasant eu llais at Dduw, a dywedasant, Arglwydd, Tydi, yr Hwn a wnaethost y nef a’r ddaear a’r môr ac oll y sydd ynddynt, yr Hwn trwy enau ein tad Dafydd Dy was, trwy’r Yspryd Glân, a ddywedaist, “Paham y terfysgodd cenhedloedd, A phobloedd a fyfyriasant wegi; Y safodd brenhinoedd y ddaear, A’r pennaethiaid a gasglwyd ynghyd, Yn erbyn Iehofah, ac yn erbyn Ei Grist?” canys casglwyd mewn gwirionedd, yn y ddinas hon, yn erbyn Dy Sanct Fab Iesu, yr Hwn a enneiniaist, Herod a Pontius Pilat, gyda’ r cenhedloedd a phobloedd Israel, i wneuthur cynnifer o bethau ag y bu i’th law Di a’th gynghor eu rhag-ordeinio i ddigwydd. Ac yn awr, Arglwydd, edrych ar eu bygythion hwy, a dyro i’th weision lefaru, gyda phob hyfder, Dy Air Di, gydag estyn allan o Honot Dy law er iachad, a thrwy i arwyddion a rhyfeddodau ddigwydd trwy enw Dy Sanct Fab Iesu. Ac wedi gweddïo o honynt, siglwyd y fan lle yr oeddynt wedi eu casglu ynghyd, a llanwyd hwy oll o’r Yspryd Glân, a llefarasant Air Duw gyda hyfder. Ac i liaws y rhai a gredasant yr oedd un galon ac enaid; ac nid oedd hyd yn oed un a ddywedai fod dim o’i dda yn eiddo ef ei hun, eithr yr oedd ganddynt bob peth yn gyffredin. Ac â gallu mawr y rhoddai yr apostolion eu tystiolaeth o adgyfodiad yr Arglwydd Iesu; a gras mawr oedd ar yr oll o honynt: canys nid oedd chwaith neb mewn eisiau yn eu plith, canys cynnifer ag oeddynt berchenoedd tiroedd neu dai, gan eu gwerthu hwynt, deuent â gwerth y pethau a werthid, a dodent ef wrth draed yr apostolion, a rhennid i bob un yn ol yr hyn oedd arno eisiau. Ac Ioseph, yr hwn a gyfenwid Barnabas gan yr apostolion, (yr hwn, o’i gyfieithu yw Mab Annogiad), yn Lefiad ac yn Cupriad o genedl, a maes ganddo, ac wedi ei werthu ef daeth a’r arian ac a’i dododd wrth draed yr apostolion. A rhyw ddyn, Chananiah wrth ei enw, ynghyda Shappira ei wraig, a werthodd berchenogaeth, ac a ddodes heibio beth o’r gwerth, gyda gwybodaeth o ran ei wraig, ac wedi dyfod â rhyw faint, wrth draed yr apostolion y’i dodes. A dywedodd Petr, Chananiah, Paham y llanwodd Satan dy galon i gelwyddu o honot wrth yr Yspryd Glân, ac i ddodi heibio o werth y tir? Onid, tra yr arhosai, i ti yr arhosai; ac wedi ei werthu, yn dy feddiant di yr ydoedd? Paham y gosodaist y weithred hon yn dy galon? Ni chelwyddaist i ddynion, eithr i Dduw. Ac wedi clywed o Chananiah y geiriau hyn, syrthiodd a threngodd; a daeth ofn mawr ar bawb a’ u clywsant. Ac wedi cyfodi o’r gwŷr ieuaingc, cyd-rwymasant ef; ac wedi ei ddwyn ef allan, claddasant ef. A bu yspaid oddeutu tair awr, ac ei wraig, heb wybod yr hyn a ddigwyddasai, a ddaeth i mewn: ac wrthi yr attebodd Petr, Dywaid wrthyf ai er cymmaint y gwerthasoch y tir? A hi a ddywedodd, Ië, er cymmaint. A Petr a ddywedodd wrthi, Paham y cyttunwyd genych i demtio Yspryd yr Arglwydd? Wele, traed y rhai a gladdasant dy ŵr, wrth y drws y maent, a dygant allan dithau. A syrthiodd hi yn uniawn wrth ei draed, a threngodd: ac wedi dyfod i mewn y gwŷr ieuaingc a’i cawsant hi yn farw; ac wedi ei dwyn allan, claddasant hi yn ymyl ei gŵr. A daeth ofn mawr ar yr holl eglwys ac ar bawb a glybu y pethau hyn. A thrwy ddwylaw yr apostolion y gwnaed arwyddion a rhyfeddodau ym mhlith y bobl, ïe, llawer; ac yr oeddynt, o un fryd, i gyd yn nghyntor Shalomon. Ond o’r lleill nid oedd neb a feiddiai ymlynu wrthynt; eithr eu mawrhau hwynt a wnaeth y bobl, ac i radd mwy yr ychwanegwyd attynt rai yn credu yn yr Arglwydd, lliosydd yn gystal o ddynion ac o wragedd, hyd onid i’r llydanfeydd y dygent allan y cleifion ac y’u gosodent ar welyau a gorweddfëydd, fel wrth ddyfod o Petr y byddai, beth bynnag, i’w gysgod gysgodi ar ryw un o honynt. A daeth ynghyd hefyd y lliaws o’r dinasoedd o amgylch Ierwshalem, yn dwyn cleifion a rhai a drallodid gan ysprydion aflan, y rhai a iachawyd oll. Ac wedi cyfodi o’r archoffeiriad a’r holl rai oedd gydag ef (yr hon yw sect y Tsadwceaid), llanwyd hwy o genfigen, a dodasant eu dwylaw ar yr apostolion, a rhoisant hwynt mewn cadwraeth gyffredin: ac angel yr Arglwydd liw nos a agorodd ddrysau’r carchar, ac wedi eu dwyn hwynt allan, dywedodd, Ewch, a sefwch a lleferwch yn y deml wrth y bobl holl eiriau’r Bywyd hwn. Ac wedi clywed hyn, aethant i mewn, tua’r wawr, i’r deml, ac yr oeddynt yn dysgu. Ac wedi dyfod o’r archoffeiriad a’r rhai oedd gydag ef, galwasant ynghyd y Cynghor a holl senedd meibion Israel, a danfonasant i’r carchardy i’w dwyn hwynt ger bron. A’r gweinidogion wedi dyfod, ni chawsant hwynt yn y carchar; ac wedi dychwelyd, mynegasant, gan ddywedyd, Y carchar a gawsom wedi ei gau gyda phob sicrwydd, a’r ceidwaid yn sefyll wrth y drysau; ond wedi agor ni chawsom neb i mewn. A phan glywsant y geiriau hyn, cadben y deml a’r archoffeiriaid a ddyrysid yn eu cylch, pa beth a ddeuai o hyn. Ac wedi dyfod o ryw un, mynegodd iddynt, Wele, y gwŷr a ddodasoch yn y carchar, y maent yn y deml yn sefyll ac yn dysgu’r bobl. Yna, wedi myned ymaith o gadben y deml ynghyda’r gweinidogion, daeth â hwynt, nid gyda thrais, canys ofnent y bobl, rhag eu llabyddio. Ac wedi dyfod â hwynt, gosodasant hwynt yn y Cynghor; a gofynodd yr archoffeiriad iddynt, gan ddywedyd, A gorchymyn y gorchymynasom i chwi beidio â dysgu yn yr enw hwn: ac wele, llanwasoch Ierwshalem â’ch dysgad, a mynnech ddwyn arnom waed y dyn hwn. A chan atteb, Petr a’r apostolion a ddywedasant, Ufuddhau i Dduw sydd raid yn hytrach nag i ddynion. Duw ein tadau a gyfododd i fynu yr Iesu, yr Hwn, chwi a’i lladdasoch gan Ei grogi ar bren. Hwn a ddyrchafodd Duw â’i ddeheulaw, yn Dywysog ac yn Iachawdwr, i roddi edifeirwch i Israel a maddeuant pechodau. A nyni ydym dystion o’r pethau hyn, a’r Yspryd Glân, yr Hwn y mae Duw yn Ei roddi i’r rhai sy’n ufuddhau Iddo. A hwy, wedi clywed hyn, a dorrid i’r byw, a mynnent eu lladd hwynt. Ac wedi cyfodi o ryw un yn y Cynghor, Pharishead a’i enw Gamaliel, dysgawdwr y Gyfraith, parchedig gan yr holl bobl, archodd osod y dynion allan am ychydig, a dywedodd wrthynt, Gwŷr Israel, cymmerwch ofal ym matter y dynion hyn, pa beth yr ydych ar fedr ei wneuthur: canys o flaen y dyddiau hyn cyfododd Theudas, gan ddywedyd ei fod efe yn rhyw un, â’r hwn yr ymgysylltodd rhifedi o ddynion, ynghylch pedwar cant; ac efe a laddwyd, a’r holl rai cynnifer ag a ufuddhasant iddo, a wasgarwyd ac a wnaed yn ddiddym. Ar ol hwn y cyfododd Iwdas y Galilead yn nyddiau’r rhestriad, ac a dynnodd bobl ar ei ol; ac am dano ef y darfu; a’r holl rai, cynnifer ag a ufuddhasant iddo, a chwalwyd. Ac yr awr hon dywedaf wrthych, Sefwch draw oddiwrth y dynion hyn, a gadewch iddynt, canys os o ddynion y mae’r cynghor hwn neu’r gwaith hwn, diddymmir ef; ond os o Dduw y mae, nis gellwch eu diddymmu hwynt; rhag ysgatfydd eich cael yn ymladd yn erbyn Duw. Ac ufuddhasant iddo; ac wedi galw yr apostolion attynt, ar ol eu curo hwynt, gorchymynasant iddynt beidio â llefaru yn enw’r Iesu, a gollyngasant hwynt yn rhyddion. Hwy, yn wir, gan hyny, a aethant, oddi ger bron y Cynghor, yn llawenychu am eu cyfrif yn deilwng o’u hammerchu dros yr Enw. A pheunydd yn y deml a chartref ni pheidiasant â dysgu ac ag efengylu Crist Iesu. Ac yn y dyddiau hyn, a’r disgyblion yn amlhau, y bu grwgnach gan yr Iwddewon Groegaidd yn erbyn yr Hebreaid, o herwydd diystyru eu gwragedd gweddwon yn y ministriad beunyddiol. Ac wedi galw attynt liaws y disgyblion, y deuddeg a ddywedasant, Nid yw’n dda genym i ni, gan ymadael â Gair Duw, wasanaethu byrddau. Edrychwch, gan hyny, frodyr, am seithwyr o’ch plith i’r rhai y tystiolaethir, yn llawn o’r Yspryd a doethineb, y rhai a osodom ar y gorchwyl hwn; ond nyni, mewn gweddi ac yn ngweinidogaeth y Gair y parhawn. A boddhaol oedd yr ymadrodd yngolwg yr holl liaws; ac etholasant Stephan, gŵr llawn o ffydd a’r Yspryd Glân, a Philip, a Prochorus, a Nicanor, a Timon, a Parmenas, a Nicolas, proselyt o Antiochia; y rhai a osodasant hwy ger bron yr apostolion: ac wedi gweddïo o honynt hwy, dodasant eu dwylaw arnynt. A gair Duw a gynnyddodd, ac amlhaodd rhifedi y disgyblion yn Ierwshalem yn ddirfawr, a thyrfa fawr o’r offeiriaid a ufuddhasant i’r ffydd. A Stephan, yn llawn o ras a gallu, oedd yn gwneuthur rhyfeddodau ac arwyddion mawrion ym mhlith y bobl; a chyfododd rhai o’r sunagog a elwir eiddo’r Libertiniaid, ac o’ r Cureniaid, ac o’r Alecsandriaid, ac o’r rhai o Cilicia ac Asia, gan ymddadleu â Stephan: ac ni allent wrth-sefyll y doethineb a’r Yspryd trwy’r Hwn y llefarai. Yna y danfonasant i mewn ddynion yn dywedyd, Clywsom ef yn llefaru ymadroddion cablaidd yn erbyn Mosheh a Duw; a chynhyrfasant y bobl a’r henuriaid a’r ysgrifenyddion; a chan ddyfod arno, cipiasant ef, a dygasant ef i’r Cynghor, a gosodasant au dystion yn dywedyd, Y dyn hwn ni pheidia â llefaru ymadroddion yn erbyn y lle sanctaidd hwn a’r Gyfraith, canys clywsom ef yn dywedyd y bydd i’r Iesu y Natsaread hwn ddistrywio y lle hwn, a newid y defodau a draddododd Mosheh i ni. A chan graffu arno gan bawb oedd yn eistedd yn y Cynghor, gwelent ei wyneb fel pe bai yn wyneb angel. A dywedodd yr archoffeiriad, A ydyw’r pethau hyn felly? Ac efe a ddywedodd, Brodyr a thadau, gwrandewch. Duw y gogoniant a ymddangosodd i’n tad Abraham pan ym Mesopotamia, cyn trigo o hono yn Charran, a dywedodd wrtho, Dos allan o’th wlad ac oddiwrth dy dylwyth, a thyred i’r wlad a ddangoswyf i ti. Yna, wedi myned allan o wlad y Caldeaid, trigodd yn Charran; ac oddiyno, wedi marw ei dad, y symmudodd Efe ef i’r wlad hon yn yr hon yr ydych chwi yr awr hon yn trigo: ac ni roes iddo etifeddiaeth ynddi, nid hyd yn oed led troed; ac addawodd ei rhoddi iddo yn berchenogaeth, ac i’w had ar ei ol, pryd nad oedd iddo blentyn. A llefarodd Duw wrtho fel hyn, Bydd dy had yn ymdeithydd mewn gwlad ddieithr; a chaethiwant ef, a’i ddrygu bedwar can mlynedd: a’r genedl i’r hon y byddant yn gaethion, a farnaf Fi, medd Duw; ac wedi y pethau hyn, deuant allan, a gwasanaethant Fi yn y lle hwn. A rhoddes Efe iddo gyfammod amdorriad; ac felly y cenhedlodd efe Itsaac, ac amdorrodd ef yr wythfed dydd; ac Itsaac a genhedlodd Iacob, ac Iacob y deuddeg patriarch. A’r patrieirch gan genfigennu, wrth Ioseph, a’i gwerthasant i’r Aipht: ac yr oedd Duw gydag ef, ac a ddug ef allan o’i holl orthrymderau, a rhoddes iddo ffafr a doethineb yngolwg Pharaoh brenhin yr Aipht, a gosododd efe ef yn llywodraethwr ar yr Aipht, ac ar ei holl dŷ. A daeth newyn ar yr holl Aipht a Canaan, a gorthrymder mawr; ac ni chaffai ein tadau luniaeth. Ac wedi clywed o Iacob fod yd yn yr Aipht, danfonodd allan ein tadau yn gyntaf: a’r ail waith y gwnaed Ioseph yn hyspys i’w frodyr, ac amlygwyd cenedl Ioseph i Pharaoh. A chan ddanfon, Ioseph a alwodd atto Iacob ei dad a’i holl dylwyth, bymtheg enaid a thrugain: ac aeth Iacob i wared i’r Aipht; a bu farw, efe a’n tadau; a dygpwyd hwynt trosodd i Shicem a’u dodi yn y bedd a brynasai Abraham er gwerth arian gan feibion Chamor yn Shicem. A phan nesaodd amser yr addewid yr hwn a ganiattaodd Duw i Abraham, cynnyddodd y bobl ac amlhaodd yn yr Aipht, hyd oni chyfododd brenhin arall dros yr Aipht, yr hwn nid adnabu Ioseph. Hwn, gan ymddwyn yn ddichellgar â’n cenedl, a ddrygodd ein tadau, i fwrw allan eu babanod fel na chaent fyw; ar yr hwn amser y ganwyd Mosheh, a thra-thlws oedd efe; ac efe a fagwyd dri mis yn nhŷ ei dad. Ac wedi ei fwrw ef allan, ei gymmeryd i fynu a wnaeth merch Pharaoh, ac ei fagu yn fab iddi ei hun. Ac addysgwyd Mosheh yn holl ddoethineb yr Aiphtiaid, ac yr oedd efe yn alluog yn ei eiriau a’i weithredoedd. A phan yr oedd efe yn llawn ddeugain mlwydd oed, daeth i’w galon ymweled â’i frodyr, meibion Israel. A chan weled rhyw un yn cael cam, amddiffynodd ef, a gwnaeth ddial i’r hwn a orthrymmid, gan daro’r Aiphtiwr. A meddyliodd fod ei frodyr yn deall fod Duw trwy ei law ef yn rhoddi ymwared iddynt; ond hwy ni ddeallent. A’r dydd nesaf yr ymddangosodd iddynt pan yn ymrafaelio, a chymmodlonai hwynt i heddychu, gan ddywedyd, Ha wŷr, brodyr ydych: paham y gwnewch gam â’ch gilydd? A’r hwn oedd yn gwneuthur cam â’i gymmydog, a’i cil-gwthiodd ef, gan ddywedyd, Pwy a’th osododd di yn llywodraethwr ac yn farnwr arnom? Ai fy lladd i yr wyt ti yn ewyllysio, y modd y lleddaist yr Aiphtiwr ddoe? A ffodd Mosheh ar y gair hwn, ac aeth yn ymdeithydd yn nhir Madian, lle y cenhedlodd ddau fab. Ac wedi cyflawni deugain mlynedd, yr ymddangosodd iddo yn anialwch mynydd Sinai angel mewn fflam dân mewn perth. A Mosheh yn gweled hyn a ryfeddodd wrth y golwg. Ac efe yn nesau i edrych, daeth llais yr Arglwydd, gan ddywedyd, Myfi yw Duw dy dadau, Duw Abraham ac Itsaac ac Iacob. Ac wedi myned yn ddychrynedig, Mosheh ni feiddiai edrych. Ac wrtho y dywedodd Iehofah, Dattod yr esgidiau oddi am dy draed, canys y lle yr wyt yn sefyll ynddo, tir sanctaidd yw. Gan weled y gwelais ddrygfyd Fy mhobl y sydd yn yr Aipht, ac eu gruddfan a glywais; a disgynais i’w gwaredu hwynt. Ac yn awr tyred, danfonaf di i’r Aipht. Y Mosheh hwn, yr hwn a wadasant, gan ddywedyd, Pwy a’th osododd di yn llywodraethwr ac yn farnwr? hwn, Duw a’i danfonodd yn llywodraethwr ac yn waredwr gyda llaw yr angel a ymddangosodd iddo yn y berth. Hwn a’u harweiniodd hwynt allan, ar ol gwneuthur rhyfeddodau ac arwyddion yn yr Aipht ac yn y Môr Coch ac yn yr anialwch ddeugain mlynedd. Hwn yw’r Mosheh a ddywedodd wrth feibion Israel, Prophwyd a gyfyd Duw i chwi o’ch brodyr fel myfi. Hwn yw’r Hwn a fu yn yr eglwys yn yr anialwch gyda’r angel a ymddiddanodd ag ef ym mynydd Sinai, a chyda’n tadau; ac a dderbyniodd oraclau byw i’w rhoddi i ni; i’r hwn nid ewyllysiai ein tadau fod yn ufudd, eithr cilgwth iasant ef, a throisant yn eu calonnau i’r Aipht, gan ddywedyd wrth Aaron, Gwna i ni dduwiau a ant o’n blaen; canys y Mosheh hwn yr hwn a’n dug ni allan o dir yr Aipht, nis gwyddom pa beth a ddaeth o hono. A gwnaethant lo yn y dyddiau hyny, a daethant ag aberth i’r eulun, a llawenychasant yngweithredoedd eu dwylaw. A throdd Duw, a thraddododd hwynt i wasanaethu llu y nef; fel yr ysgrifenwyd yn llyfr y prophwydi, “Ai lladdedigion ac aberthau a offrymmasoch i Mi Ddeugain mlynedd yn yr anialwch, O dŷ Israel? A chymmerasoch i fynu dabernacl Moloc, A seren eich duw Remphan, Y lluniau y rhai a wnaethoch i’w haddoli hwynt; A symmudaf chwi tu hwnt i Babilon.” Tabernacl y dystiolaeth oedd gan ein tadau yn yr anialwch, fel y gorchymynodd yr Hwn a lefarodd wrth Mosheh i’w wneuthur yn ol y portreiad a welsai; yr hwn y bu i’n tadau, bob un yn ei dro, ei ddwyn i mewn ynghyda Iehoshua ym mherchenogaeth y cenhedloedd, y rhai a wthiodd Duw allan o flaen gwyneb ein tadau, hyd ddyddiau Dafydd, yr hwn a gafodd ffafr ac a ofynodd gael trigfa i Dduw Iacob: ond Shalomon a adeiladodd Iddo dŷ. Eithr nid yw’r Goruchaf yn trigo mewn tai o waith dwylaw, fel y mae’r prophwyd yn dywedyd, “Y nef sydd i Mi yn orsedd-faingc, A’r ddaear yw troed-faingc Fy nhraed. Pa fath o dŷ a adeiledwch i Mi, medd Iehofah, Neu pa le fydd lle Fy ngorphwysfa? Onid Fy llaw I a wnaeth y pethau hyn oll?” Gwar-galedion a diamdorredig o galon a chlustiau, chwychwi yn wastad a wrthwynebwch yr Yspryd Glân; fel eich tadau, felly chwithau. Pa un o’r prophwydi nad erlidiodd eich tadau ef? A lladdasant y rhai yn rhagfynegi am ddyfodiad y Cyfiawn, i’r Hwn chwychwi fuoch fradwyr a llofruddion, y rhai a gawsoch y Gyfraith yn ol trefniad angylion, ac nis cadwasoch. Ac wrth glywed y pethau hyn, torrwyd hwynt i’r byw yn eu calonnau, ac ysgyrnygasant ddannedd arno. Ac yn llawn o’r Yspryd Glân, ac yn edrych yn graff i’r nef, gwelodd efe ogoniant Duw a’r Iesu yn sefyll ar ddeheu-law Duw, a dywedodd, Wele, gwelaf y nefoedd yn agored, a Mab y Dyn yn sefyll ar ddeheu-law Duw. A chan waeddi â llef uchel cauasant eu clustiau, a rhuthrasant yn unfryd arno, ac wedi ei fwrw ef allan o’r ddinas, llabyddiasant ef; a’r tystion a ddodasant i lawr eu cochlau wrth draed dyn ieuangc a elwid Shawl; a llabyddiasant Stephan yn galw ar yr Arglwydd, ac yn dywedyd, Arglwydd Iesu, derbyn fy yspryd. Ac wedi dodi i lawr ei liniau, gwaeddodd â llef uchel, Arglwydd, na ddod y pechod hwn yn eu herbyn. Ac wedi dywedyd hyn, hunodd; a Shawl oedd yn cydsynied i’w ddistryw ef. A chyfododd y dydd hwnw erlid mawr ar yr eglwys oedd yn Ierwshalem, a’r oll o honynt a wasgarwyd trwy barthau Iwdea a Shamaria, namyn yr apostolion. A Stephan a ddug dynion crefyddol i’w gladdu, a gwnaethant alar mawr am dano. A Shawl a anrheithiai’r eglwys, yn eu tai, gan fyned i mewn, a chan lusgo allan wŷr a gwragedd, traddodai hwynt i garchar. Y rhai a wasgarwyd, gan hyny, a dramwyasant gan efengylu’r Gair. A Philip wedi myned i wared i ddinas Shamaria, a bregethai iddynt Grist. A’r torfeydd a ddaliasant sylw ar y pethau a ddywedid gan Philip, yn unfryd, wrth eu clywed hwynt a gweled yr arwyddion a wnelai efe; canys llawer o’r rhai ag ysprydion aflan ganddynt, y rhai, gan floeddio â llef uchel, a ddeuent allan, a llawer yn gleifion o’r parlys, a chloffion, a iachawyd; a bu llawenydd mawr yn y ddinas honno. Ond rhyw ddyn a’i enw Shimon oedd o’r blaen yn y ddinas yn swyno ac yn peri syndod i genedl Shamaria, gan ddywedyd ei fod efe ei hun yn rhywun mawr; ac iddo y rhoddai pawb glust, o fychan hyd fawr, gan ddywedyd, Hwn yw gallu Duw, yr hwn a elwir Mawr. A rhoddent glust iddo, am mai am amser maith y bu iddo â’i swynion beri syndod iddynt. Ond pan gredasant i Philip yn efengylu ynghylch teyrnas Dduw ac enw Iesu Grist, bedyddid hwynt yn wŷr ac yn wragedd: a Shimon, yntau hefyd a gredodd, ac wedi ei fedyddio, a barhaodd ynghyda Philip; a chan weled yr arwyddion a’r gwyrthiau mawrion a wneid, synnodd arno. Ac wedi clywed o’r apostolion oedd yn Ierwshalem, y derbyniasai Shamaria Air Duw, danfonasant attynt Petr ac Ioan, y rhai wedi eu dyfod i wared, a weddïasant drostynt, ar dderbyn o honynt yr Yspryd Glân, canys hyd yn hyn nid oedd Efe wedi syrthio ar neb o honynt, ac nid oeddynt ond wedi eu bedyddio i enw yr Arglwydd Iesu. Yna y dodasant eu dwylaw arnynt, a derbyniasant hwythau yr Yspryd Glân. A chan weled o Shimon mai trwy osodiad dwylaw yr apostolion y rhoddwyd yr Yspryd Glân, daeth ag arian attynt, gan ddywedyd, Rhoddwch i minnau hefyd yr awdurdod hon, fel ar bwy bynnag y gosodwyf fy nwylaw, y caffo yr Yspryd Glân. A Petr a ddywedodd wrtho, Dy arian, ynghyda thydi, a fydded i ddistryw, gan mai rhodd Duw a feddyliaist gael trwy arian. Nid oes i ti na rhan nac etifeddiaeth yn y peth hwn, canys dy galon nid yw uniawn ger bron Duw. Edifarha, gan hyny, am dy ddrygioni hwn, a gweddïa Dduw, os ysgatfydd y maddeuir i ti feddwl dy galon, canys ym mustl chwerw ac yn rhwym anghyfiawnder y gwelaf dy fod di. A chan atteb, Shimon a ddywedodd, Gweddïwch chwi drosof at yr Arglwydd na bo i ddim ddyfod arnaf o’r pethau a ddywedasoch. A hwy, gan hyny, wedi tystiolaethu a llefaru Gair yr Arglwydd, a ddychwelasant i Ierwshalem, ac i lawer o bentrefi y Shamariaid yr efengylasant. Ac angel yr Arglwydd a lefarodd wrth Philip, gan ddywedyd, Cyfod a dos tua’r dehau i’r ffordd sy’n myned i wared o Ierwshalem i Gaza, yr hon sydd anial. Ac wedi cyfodi yr aeth; ac wele, gŵr o Ethiopia, swyddwr galluog i Candace, brenhines yr Ethiopiaid, yr hwn oedd ar ei holl drysor hi, yr hwn a ddaethai i Ierwshalem i addoli; ac yr oedd yn dychwelyd ac yn eistedd yn ei gerbyd, a darllenai y prophwyd Eshaiah. A dywedodd yr Yspryd wrth Philip, Dos at, a glyn wrth, y cerbyd hwn. Ac wedi rhedeg atto, Philip a glywodd ef yn darllen Eshaiah y prophwyd, a dywedodd, A wyt ti ysgatfydd yn deall y pethau yr wyt yn eu darllen? Ac efe a ddywedodd, Canys pa fodd y gallaf oddieithr i ryw un fy nghyfarwyddo? A dymunodd ar Philip ddyfod i fynu ac eistedd gydag ef; a’r lle o’r Ysgrythyr yr hwn a ddarllenai oedd hwn, “Fel dafad i’r lladdfa yr arweiniwyd ef, Ac fel oen ger bron ei gneifiwr yn fud, Felly nid agorodd ei enau: Yn ei ostyngiad ei farn a ddygpwyd ymaith, Ei genhedlaeth ef pwy a fynega, Canys dygir ymaith ei fywyd oddiar y ddaear?” A chan atteb i Philip, y swyddwr a ddywedodd, Attolwg i ti, am bwy y mae’r prophwyd yn dywedyd hyn? Ai am dano ei hun, neu am ryw un arall? A Philip, wedi agor ei enau a dechreu o’r ysgrythyr hon, a efengylodd iddo yr Iesu. Ac fel yr aent ar hyd y ffordd, daethant at ryw ddwfr; ac ebr y swyddwr, Wele ddwfr, pa beth a luddias fy medyddio? A gorchymynodd sefyll o’r cerbyd. Ac aethant i wared ill dau i’r dwfr, Philip ac yr eunuch; a bedyddiodd efe ef. A phan ddaethant i fynu o’r dwfr, Yspryd yr Arglwydd a gipiodd Philip, ac ni welodd y swyddwr ef mwyach; canys aeth ei ffordd dan lawenychu. A Philip a gaed yn Azotus; a chan dramwy, efengylodd yn y dinasoedd oll nes dyfod o hono i Cesarea. A Shawl, etto yn chwythu bwgwth a chelanedd yn erbyn disgyblion yr Arglwydd, wedi myned at yr archoffeiriad, a ddeisyfiodd ganddo lythyrau i Damascus, at y sunagogau, fel os cai rai o’r ffordd honno, na gwŷr na gwragedd, y dygai hwynt yn rhwym i Ierwshalem. Ac wrth fyned o hono, bu iddo nesau i Damascus, ac yn ddisymmwth y llewyrchodd o’i amgylch oleuni o’r nef: ac wedi syrthio ar y ddaear, clywodd lais yn dywedyd wrtho, Shawl, Shawl, paham mai Myfi a erlidi? A dywedodd efe, Pwy wyt, Arglwydd? Ac Efe a ddywedodd, Myfi wyf Iesu, yr Hwn yr wyt ti yn Ei erlid. Eithr cyfod, a dos i’r ddinas, a dywedir wrthyt pa beth y mae rhaid i ti ei wneuthur. A’r dynion oedd yn cyd-deithio ag ef a safasant yn fud, yn clywed y llais yn wir, ond heb weled neb. A chyfododd Shawl oddiar y ddaear; a phan agorwyd ei lygaid, ni welai ddim; a chan ei dywys erbyn ei law, dygasant ef i mewn i Damascus; ac yr oedd efe dridiau heb weled, ac ni fwyttaodd nac yfed. Ac yr oedd rhyw ddisgybl yn Damascus a’i enw Ananias; ac wrtho, mewn gweledigaeth, y dywedodd yr Arglwydd, Ananias; ac efe a ddywedodd, Wele, myfi, Arglwydd. A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Cyfod, a dos i’r heol a elwir Uniawn, a chais yn nhŷ Iwdas Shawl wrth ei enw, o Tarsus; canys wele, gweddïo y mae, a gwelodd ŵr, Ananias wrth ei enw, wedi dyfod i mewn a dodi arno ei ddwylaw fel y gwelai eilwaith. Ac attebodd Ananias, Arglwydd, clywais gan lawer am y gŵr hwn, faint o ddrygau a wnaeth efe i’th saint yn Ierwshalem; ac yma y mae ganddo awdurdod oddiwrth yr archoffeiriad, i rwymo pawb sy’n galw ar Dy enw. Ac wrtho y dywedodd yr Arglwydd, Dos, canys llestr etholedig i Mi yw hwn, i ddwyn Fy enw ger bron cenhedloedd a brenhinoedd, a meibion Israel. Canys Myfi a ddangosaf iddo faint o bethau y mae rhaid iddo eu dioddef er mwyn Fy enw. Ac aeth Ananias ymaith, ac aeth i mewn i’r tŷ; ac wedi dodi arno ei ddwylaw, dywedodd, Shawl frawd, yr Arglwydd a’m danfonodd, Iesu yr Hwn a ymddangosodd i ti ar y ffordd y daethost, fel y gwelych eilwaith ac y’th lanwer â’r Yspryd Glân. Ac yn uniawn y syrthiodd oddiwrth ei lygaid fel pe bai cen, a gwelodd efe eilwaith; ac wedi cyfodi, bedyddiwyd ef; ac wedi cymmeryd bwyd cryfhaodd. Ac yr oedd efe gyda’r disgyblion oedd yn Damascus dalm o ddyddiau. Ac yn uniawn yn y sunagogau y pregethodd efe yr Iesu, mai Efe yw Mab Duw. A synnodd yr holl rai a glywent, a dywedasant, Onid hwn yw’r dyn a anrheithiai yn Ierwshalem y rhai a alwent ar yr enw hwn; ac yma, er mwyn hyn y daeth, fel y dygai hwynt yn rhwym ger bron yr archoffeiriaid? A Shawl a gynnyddai fwy-fwy o nerth, ac a ddyrysai yr Iwddewon oedd yn preswylio yn Damascus, gan arddangos mai Hwn yw y Crist. A phan gyflawnwyd dyddiau lawer, cydymgynghorodd yr Iwddewon i’w ladd ef. Ac hysbyswyd eu cydfwriad i Shawl; a gwylient y pyrth ddydd a nos, fel y lladdent ef. A’r disgyblion a’i cymmerasant liw nos, a thrwy’r mur y gollyngasant ef i wared, gan ei ollwng i lawr mewn cawell. Ac wedi dyfod i Ierwshalem, ceisiai ymgyssylltu â’r disgyblion; a phawb a’i hofnent ef, gan na chredent ei fod yn ddisgybl. Ond Barnabas, gan ei gymmeryd ef, a’i dug at yr apostolion, a mynegodd iddynt pa fodd y bu iddo ar y ffordd weled yr Arglwydd, ac y llefarodd Efe wrtho, a pha fodd yn Damascus y llefarai yn hyderus yn enw yr Iesu. Ac yr oedd efe gyda hwynt yn myned i mewn ac yn myned allan, yn Ierwshalem, yn llefaru yn hyderus yn enw’r Arglwydd. A llefarai ac ymddadleuai yn erbyn yr Iwddewon Groegaidd; a hwy a geisiasant ei ladd ef. Ac wedi cael gwybodaeth o hyn, y brodyr a’i dygasant i wared i Cesarea, a danfonasant ef ymaith i Tarsus. Gan hyny, yn wir, yr eglwys trwy holl Iwdea a Galilea a Shamaria a gafodd heddwch, gydag adeiladaeth; a chan rodio yn ofn yr Arglwydd ac yn niddanwch yr Yspryd Glân y lliosogid. A bu i Petr, pan yn tramwy trwy’r holl barthau, ddyfod i wared hefyd at y saint yn preswylio yn Luda; a chafodd yno ryw ddyn, Aineas wrth ei enw, er’s wyth mlynedd yn gorwedd ar orweddfa, yr hwn oedd glaf o’r parlys; ac wrtho y dywedodd Petr, Aineas, dy iachau y mae Iesu Grist: cyfod, a chyweiria dy wely i’th hun. Ac yn uniawn y cyfododd; ac ei weled ef a fu i bawb oedd yn preswylio yn Luda a Sharon, a hwy a ymchwelasant at yr Arglwydd. Ac yn Ioppa yr oedd rhyw ddisgybles a’i henw Tabitha, yr hwn o’i gyfieithu a elwir Dorcas; a hon oedd yn llawn o weithredoedd da ac elusenau, y rhai a wnelai. A digwyddodd yn y dyddiau hyny iddi glafychu a marw; ac wedi ei golchi hi, dodasant hi mewn llofft. A chan fod Luda yn agos i Ioppa, y disgyblion wedi clywed fod Petr yno, a ddanfonasant ddau ŵr atto, gan ddeisyf arno, Nac oeda ddyfod trosodd hyd attom. Ac wedi cyfodi, Petr a aeth gyda hwynt; ac ar ei ddyfodiad dygasant ef i fynu i’r llofft; ac yn ei ymyl y safodd yr holl wragedd gweddwon yn gwylo ac yn dangos peisiau a chochlau, y rhai a wnaeth Dorcas tra’r ydoedd gyda hwynt. Ac wedi bwrw allan yr oll o honynt, a dodi ei liniau ar lawr, Petr a weddïodd; a chan droi at y corph, dywedodd, Tabitha, cyfod; a hi a agorodd ei llygaid; a chan weled Petr, cyfododd yn ei heistedd. Ac wedi rhoi iddi ei law, cyfododd efe hi i fynu; ac wedi galw y saint a’r gwragedd gweddwon, gosododd hi ger bron yn fyw. Ac hyspys yr aeth trwy holl Ioppa; a llawer a gredasant yn yr Arglwydd. A bu iddo aros ddyddiau lawer yn Ioppa gydag un Shimon, barcer. Ac yr oedd rhyw ŵr yn Cesarea a’i enw Cornelius, canwriad o’r fyddin a elwid yr Italaidd, gŵr defosiynol, ac yn ofni Duw, ynghyda’i holl dŷ, yn gwneuthur elusenau lawer i’r bobl, ac yn gweddïo Duw yn wastadol. A gwelodd mewn gweledigaeth, yn eglur, ynghylch y nawfed awr o’r dydd, angel Duw yn dyfod i mewn atto, ac yn dywedyd wrtho, Cornelius. Ac efe, wedi craffu arno a myned yn ofnus, a ddywedodd, Pa beth sydd, Arglwydd? A dywedodd yntau wrtho, Dy weddïau a’th elusenau a ddaethant i fynu yn goffadwriaeth ger bron Duw. Ac yn awr danfon wŷr i Ioppa, a gyr am un Shimon, yr hwn a gyfenwir Petr; efe a lettya gydag un Shimon, barcer, yr hwn sydd a’i dŷ wrth y môr. A phan ymadawodd yr angel a lefarai wrtho, wedi galw dau o’r gweinidogion, a milwr defosiynol o’r rhai oedd yn aros gydag ef, ac wedi mynegi iddynt bob peth, danfonodd hwynt i Ioppa. A thrannoeth pan ymdeithient hwy, ac yn neshau at y ddinas, esgynodd Petr i ben y tŷ i weddïo, ynghylch y chweched awr, a daeth arno chwant bwyd, ac ewyllysiai fwytta; a thra y parottoent hwy, daeth arno lewyg; a gwelai y nef yn agoryd, a disgyn o ryw lestr, fel llen-lliain fawr, yn cael wrth bedair congl ei ollwng i lawr ar y ddaear, yn yr hwn yr oedd holl bedwar-carnolion ac ymlusgiaid y ddaear, ac ehediaid y nef. A daeth llef atto, Cyfod, Petr, lladd a bwytta. A Petr a ddywedodd, Nid er dim, Arglwydd, canys ni fwytteais erioed ddim cyffredin ac aflan. A llef a fu etto yr ail waith wrtho, Y pethau y bu i Dduw eu glanhau, na wna di yn gyffredin. A hyn a wnaed dair gwaith; ac yn uniawn y cymmerwyd i fynu y llestr i’r nef. A phan ynddo ei hun yr ammheuai Petr pa beth ysgatfydd oedd y weledigaeth a welsai, wele, y gwŷr a ddanfonasid gan Cornelius, wedi ymofyn am dŷ Shimon, a safasant wrth y drws; ac wedi galw o honynt, gofynent a oedd Shimon, yr hwn a gyfenwid Petr, yn lletrya yno. A Petr yn meddwl am y weledigaeth, wrtho y dywedodd yr Yspryd, Wele, tri wŷr a’th geisiant: eithr cyfod, disgyn, a dos gyda hwynt heb ammeu dim, canys Myfi a ddanfonais hwynt. Ac wedi disgyn o Petr at y gwŷr, dywedodd, Wele, myfi yw’r hwn a geisiwch: pa beth yw’r achos am yr hwn yr ydych yma? A hwy a ddywedasant, Cornelius y canwriad, gŵr cyfiawn, ac yn ofni Duw, ac a thystiolaeth iddo gan holl genedl yr Iwddewon, a rybuddiwyd gan angel sanctaidd i ddanfon am danat i’w dŷ, ac i glywed ymadroddion genyt. Wedi galw hwynt, gan hyny, i mewn, llettyodd hwynt. A thrannoeth, wedi cyfodi o hono, aeth allan ynghyda hwynt; a rhai o’r brodyr o Ioppa a aethant gydag ef. A thrannoeth y daethant i mewn i Cesarea; a Cornelius oedd yn disgwyl am danynt, wedi galw ynghyd ei geraint a’i gyfeillion cyfrinachol. A bu wrth ddyfod i mewn o Petr, Cornelius, wedi cyfarfod ag ef a syrthio wrth ei draed, a’i haddolodd ef. Ond Petr a’i cyfododd ef i fynu, gan ddywedyd, Cyfod; minnau hefyd fy hun, dyn wyf. A chan ymddiddan ag ef, yr aeth i mewn, a chanfu lawer wedi dyfod ynghyd, a dywedodd wrthynt, Chwi a wyddoch mai anghyfreithlawn yw i ŵr o Iwddew ymgyssylltu neu ddyfod at alltud: ac i mi Duw a ddangosodd na alwn neb rhyw ddyn yn gyffredin neu yn aflan: o ba herwydd hefyd, heb ddim gwrthddywedyd, y daethum pan ddanfonwyd am danaf. A Cornelius a ddywedodd, Er ys pedwar diwrnod, hyd yr awr hon, yr oeddwn yn cadw gweddi y nawfed awr yn fy nhŷ, ac wele, gŵr a safodd ger fy mron, mewn gwisg ddisglaer, a dywedodd, Cornelius, gwrandawyd dy weddi, a’th elusenau sydd mewn coffadwriaeth ger bron Duw. Danfon, gan hyny, i Ioppa, a galw am Shimon, yr hwn a gyfenwir Petr; efe a lettya yn nhŷ Shimon, barcer, yn ymyl y môr. Yr awr honno, gan hyny, y danfonais attat; a thydi, da y gwnaethost wrth ddyfod. Yn awr, gan hyny, nyni oll ydym bresennol ger bron Duw, i glywed yr holl bethau a orchymynwyd i ti gan yr Arglwydd. Ac wedi agoryd ei enau, Petr a ddywedodd, Mewn gwirionedd y canfyddaf nad ydyw Duw dderbyniwr gwyneb; eithr ym mhob cenedl yr hwn sydd yn Ei ofni Ef, ac yn gweithredu cyfiawnder, cymmeradwy Ganddo Ef ydyw. Y Gair, yr hwn a ddanfonodd Efe at feibion Israel, gan efengylu heddwch trwy Iesu Grist (Efe yw Arglwydd pawb), chwi a wyddoch y Gair a fu trwy holl Iwdea, wedi dechreu o Hono o Galilea wedi y bedydd a bregethodd Ioan, Iesu o Natsareth, y modd yr enneiniodd Duw Ef â’r Yspryd Glân ac â gallu, yr Hwn a dramwyodd gan wneuthur daioni ac iachau yr holl rai a orthrymmid gan ddiafol, canys Duw oedd gydag Ef. Ac nyni ydym dystion o’r holl bethau a wnaeth Efe yngwlad yr Iwddewon ac yn Ierwshalem; yr Hwn hefyd a laddasant, gan Ei grogi ar bren. Hwn, Duw a’i cyfododd y trydydd dydd, ac a’i rhoddes i fod yn amlwg, nid i’r holl bobl, eithr i dystion a rag-ordeiniwyd gan Dduw, sef i ni, y rhai a gydfwyttasom ac a gydyfasom ag Ef wedi adgyfodi o Hono o feirw: a gorchymynodd i ni bregethu i’r bobl, a thystiolaethu mai Hwn yw’r Hwn a ordeiniwyd gan Dduw yn Farnwr byw a meirw. I Hwn y mae’r holl brophwydi yn tystiolaethu fod maddeuant pechodau i’w gael trwy Ei enw Ef gan bob un sy’n credu Ynddo. A thra y llefarai Petr yr ymadroddion hyn, syrthiodd yr Yspryd Glân ar bawb a oedd yn clywed y Gair; a synnodd y rhai o’r amdorriad a oeddynt yn credu, cynnifer ag a ddaethent gyda Petr, gan ddywedyd, Ar y cenhedloedd hefyd y mae rhodd yr Yspryd Glân wedi ei thywallt allan; canys clywent hwynt yn llefaru â thafodau ac yn mawrygu Duw. Yna yr attebodd Petr, Ai lluddias dwfr a all neb fel na fedyddier y rhai hyn, y rhai a gawsant yr Yspryd Glân fel ninnau? A gorchymynodd eu bedyddio yn enw Iesu Grist. Yna y gofynasant iddo aros am ennyd o ddyddiau. A chlywodd yr apostolion a’r brodyr oedd yn Iwdea, y bu i’r cenhedloedd hefyd dderbyn Gair Duw. A phan esgynodd Petr i Ierwshalem, ymrysonodd y rhai o’r amdorriad yn ei erbyn ef, gan ddywedyd, At wŷr diamdorredig yr aethost i mewn, a bwytteaist gyda hwynt. A dechreuodd Petr ac adroddodd y peth iddynt mewn trefn, gan ddywedyd, Myfi oeddwn yn ninas Ioppa, yn gweddïo; a gwelais, mewn llewyg, weledigaeth, ddisgyn o ryw lestr, fel llen-lliain fawr, wedi ei gollwng i lawr, erbyn ei phedair congl, o’r nef; a daeth hi hyd attaf; i’r hon yn graff yr edrychais, a gwelais bedwar-carnolion y ddaear, a’r ymlusgiaid, ac ehediaid y nef; a chlywais lais yn dywedyd wrthyf, Cyfod, Petr, lladd a bwytta; a dywedais, Nid er dim, Arglwydd, canys peth cyffredin neu aflan ni ddaeth erioed i mewn i’m genau. Ac attebodd llais eilwaith, o’r nef, Y pethau y bu i Dduw eu glanhau, na wna di yn gyffredin. A hyn a ddigwyddodd dair gwaith; a thynwyd y cwbl i fynu drachefn i’r nef. Ac wele, yn uniawn tri wŷr a safasant wrth y tŷ yn yr hwn yr oeddwn, wedi eu danfon o Cesarea attaf. Ac wrthyf y dywedodd yr Yspryd i fyned gyda hwynt heb ammeu dim. Ac yr aeth gyda mi y chwe brodyr hyn hefyd; ac aethom i mewn i dŷ y gŵr; a mynegodd efe i ni pa fodd y gwelsai yr angel yn ei dŷ, yn sefyll ac yn dywedyd, Danfon i Ioppa, a gyr am Shimon a gyfenwir Petr, yr hwn a lefara ymadroddion wrthyt, trwy y rhai yr achubir di a’th holl dŷ. Ac wrth ddechreu o honof lefaru, syrthiodd yr Yspryd Glân arnynt, fel arnom ninnau yn y dechreuad: a chofiais ymadrodd yr Arglwydd, y modd y dywedodd, Ioan yn wir a fedyddiodd â dwfr, ond chwi a fedyddir â’r Yspryd Glân. Os, gan hyny, y gyffelyb rodd a roddodd Duw iddynt hwy ag i ninnau y rhai a gredasom yn yr Arglwydd Iesu Grist, myfi, pwy oeddwn yn alluog i luddias Duw? Ac wedi clywed y pethau hyn, distawsant, a gogoneddasant Dduw, gan ddywedyd, Felly i’r cenhedloedd hefyd y mae Duw wedi rhoddi edifeirwch i fywyd. Gan hyny, ynte, y rhai a wasgaresid o herwydd y blinder a ddigwyddasai o achos Stephan, a dramwyasant hyd at Phenice a Cuprus ac Antiochia, heb lefaru y Gair wrth neb oddieithr yn unig wrth Iwddewon: ac yr oedd rhai o honynt yn wŷr o Cuprus ac o Curene, y rhai wedi dyfod i Antiochia, a lefarasant wrth yr Iwddewon Groegaidd hefyd, gan efengylu yr Arglwydd Iesu; ac yr oedd llaw yr Arglwydd gyda hwynt; a nifer mawr, y rhai a gredasant, a droisant at yr Arglwydd. A chlybuwyd y gair yng nghlustiau yr eglwys oedd yn Ierwshalem, am danynt; a danfonasant allan Barnabas hyd at Antiochia; ac efe, wedi dyfod a gweled gras Duw, a lawenychodd, a chynghorodd bawb o honynt, â llwyrfryd calon i lynu wrth yr Arglwydd, canys yr oedd efe yn ŵr da ac yn llawn o’r Yspryd Glân a ffydd; ac ychwanegwyd tyrfa fawr at yr Arglwydd. Ac aeth efe allan i Tarsus, i edrych am Shawl, ac wedi ei gael ef, daeth ag ef i Antiochia; a bu iddynt hefyd am flwyddyn gyfan ymgynnull yn yr eglwys a dysgu tyrfa fawr; ac yn gyntaf yn Antiochia y galwyd y disgyblion yn Gristionogion. Ac yn y dyddiau hyn daeth prophwydi i wared o Ierwshalem i Antiochia: ac wedi cyfodi o un o honynt a’i enw Agabus, arwyddoccaodd, trwy yr Yspryd, fod newyn mawr ar fedr bod dros yr holl fyd; yr hwn a ddigwyddodd dan Claudius: a’r disgyblion, fel yr oedd y modd gan neb, a benderfynasant, bob un o honynt, ddanfon at y weinidogaeth i’r brodyr oedd yn preswylio yn Iwdea. A hyn hefyd a wnaethant, gan ddanfon at yr henuriaid trwy law Barnabas a Shawl. Ac ynghylch y pryd hwnw yr estynodd Herod frenhin ei ddwylaw i ddrygu rhai o’r eglwys; a lladdodd Iago, brawd Ioan, â’r cleddyf. A chan weled mai da oedd gan yr Iwddewon, ychwanegodd ddala Petr hefyd; a dyddiau y bara croyw ydoedd hi; yr hwn, wedi ei ddal, a roddes efe yngharchar, gan ei draddodi at bedwar pedwariaid o filwyr i’w gadw, gan ewyllysio, ar ol y Pasg, ei ddwyn ef at y bobl. Petr, gan hyny, a gedwid yn y carchar, ond gweddi oedd yn cael ei gwneud yn ddyfal gan yr eglwys at Dduw am dano ef. A phan yr oedd Herod ar fedr ei ddwyn ef ymlaen, y nos honno yr oedd Petr yn cysgu rhwng dau filwr, wedi ei rwymo â dwy gadwyn; a cheidwaid o flaen y drws a gadwent y carchar. Ac wele, angel yr Arglwydd a safodd gerllaw, a goleuni a ddisgleiriodd yn y gell; a chan darawo ystlys Petr, deffrodd efe ef, gan ddywedyd, Cyfod ar frys; a syrthiodd ei gadwyni oddi am ei ddwylaw. A dywedodd yr angel wrtho, Ymwregysa, a dod dy sandalau dan dy draed. A gwnaeth efe felly. A dywedodd wrtho, Bwrw dy gochl am danat, a chanlyn fi. Ac wedi myned allan, canlynai, ac ni wyddai mai gwir oedd yr hyn a wnaed gan yr angel, ond tybiai mai gweledigaeth a welai efe. Ac wedi myned heibio’r wyliadwriaeth gyntaf a’r ail, daethant at y porth haiarn y sydd yn arwain i’r ddinas, yr hwn o’i waith ei hun a ymagorodd iddynt; ac wedi dyfod allan, aethant ymlaen hyd un heol, ac yn uniawn yr ymadawodd yr angel ag ef. A Petr, wedi dyfod atto ei hun, a ddywedodd, Yn awr y gwn yn wir y danfonodd yr Arglwydd allan ei angel, ac y’m cymmerodd o law Herod, ac o holl ddisgwyliad pobl yr Iwddewon. Ac wedi ystyried, daeth i dŷ Mair, mam Ioan yr hwn a gyfenwid Marc, lle yr oedd llawer wedi ymgasglu ynghyd ac yn gweddïo. Ac efe wedi curo drws y porth, daeth morwynig i atteb, a’i henw Rhode; ac wedi adnabod llais Petr, o’i llawenydd nid agorodd y porth, ond wedi rhedeg i mewn mynegodd fod Petr yn sefyll o flaen y porth. A hwy a ddywedasant wrthi, Allan o’th bwyll yr wyt; a hithau a daerai mai felly yr oedd; a hwy a ddywedasant, Ei angel ef ydyw. A Petr a barhaodd yn curo; ac wedi agoryd o honynt, gwelsant ef a synnasant. Ac wedi amneidio arnynt â’i law i dewi, mynegodd iddynt pa wedd y bu i’r Arglwydd ei ddwyn ef allan o’r carchar; a dywedodd, Mynegwch i Iago, a’r brodyr, y pethau hyn. Ac wedi myned allan, yr aeth i le arall. A phan yr oedd hi yn ddydd, yr oedd trallod nid bychan ymhlith y milwyr, pa beth ysgatfydd a ddaethai o Petr. A Herod wedi chwilio am dano ac heb ei gael ef, ac wedi holi’r ceidwaid, a orchymynodd eu dwyn ymaith; ac wedi dyfod i wared o Iwdea i Cesarea, arhosodd yno. Ac yr oedd efe yn llidiog iawn yn erbyn gwŷr Turus a Tsidon; ac ag un fryd y daethant atto; ac wedi ynnill Blastus, ystafellydd y brenhin, deisyfiasant heddwch, o herwydd y cynhelid eu gwlad o wlad y brenhin. Ac ar ddydd nodedig, Herod wedi ymwisgo â gwisg frenhinol, ac yn eistedd ar y frawd-faingc, a areithiodd wrthynt; a’r bobl a floeddiodd, Eiddo Duw yw ’r llais, ac nid eiddo dyn. Ac allan o law y tarawodd angel yr Arglwydd ef, am na roisai y gogoniant i Dduw; a chan bryfed yn ei ysu, trengodd. A gair Duw a gynnyddodd ac a liosogwyd. A Barnabas a Shawl a ddychwelasant o Ierwshalem, wedi cyflawni eu gweinidogaeth, gan gymmeryd gyda hwynt Ioan, yr hwn a gyfenwid Marc. Ac yr oedd yn Antiochia, yn yr eglwys oedd yno, brophwydi ac athrawon, Barnabas a Shimon yr hwn a elwid Niger, a Lucius y Curenead, a Maenan brawd-maeth Herod y Tetrarch, a Shawl. Ac a hwy yn gwasanaethu’r Arglwydd, ac yn ymprydio, dywedodd yr Yspryd Glân, Neillduwch, yn awr, i Mi Barnabas a Shawl i’r gwaith at yr hwn y gelwais hwynt. Yna, wedi ymprydio a gweddïo, a dodi eu dwylaw arnynt, y gollyngasant hwynt ymaith. Hwythau, gan hyny, wedi eu danfon allan gan yr Yspryd Glân, a ddaethant i wared i Seleucia, ac oddi yno y mordwyasant ymaith i Cuprus. A phan yr oeddynt yn Shalamus, mynegasant Air Duw yn sunagogau yr Iwddewon; ac yr oedd ganddynt Ioan hefyd yn weinidog. Ac wedi tramwy trwy’r holl ynys hyd Paphos, cawsant ryw ŵr o swynwr, gau-brophwyd Iwddewig, a’i enw Bar-ieshu, yr hwn oedd gyda’r rhaglaw, Sergius Paulus, gŵr deallus; hwn, wedi galw atto Barnabas a Shawl, a ddeisyfiodd glywed Gair Duw: ond eu gwrthsefyll hwynt a wnaeth Elymas, y swynwr (canys felly y cyfieithir ei enw ef), gan geisio gwyrdroi y rhaglaw oddiwrth y ffydd. A Shawl, yr hwn a elwir hefyd Paul, wedi ei lenwi â’r Yspryd Glân, gan edrych yn graff arno, a ddywedodd, O gyflawn o bob twyll a phob anfadrwydd, mab diafol, gelyn pob cyfiawnder, oni pheidi â gwyrdroi ffyrdd yr Arglwydd, y rhai uniawn? Ac yn awr, wele, llaw yr Arglwydd sydd arnat, a byddi ddall, heb weled yr haul am amser. Ac yn ddiattreg y syrthiodd arno niwlen a thywyllwch, a chan fyned o amgylch, ceisiai rai i’w arwain erbyn ei law. Yna, gan weled o’r rhaglaw yr hyn a ddigwyddodd, credodd, yn aruthr ganddo wrth athrawiaeth yr Arglwydd. Ac wedi hwylio ymaith o Paphos, Paul a’r rhai gydag ef a ddaethant i Perga yn Pamphulia; ond Ioan, wedi ymadael â hwynt, a ddychwelodd i Ierwshalem; a hwythau, wedi tramwy o Perga, a ddaethant i Antiochia yn Pisidia; ac wedi myned i’r sunagog ar y dydd Sabbath, eisteddasant; ac ar ol darllen y Gyfraith a’r Prophwydi, danfonodd pennaethiaid y sunagog attynt, gan ddywedyd Brodyr, os oes gair o gyngor genych i’r bobl, traethwch, Ac wedi cyfodi o Paul, ac amneidio â’i law, dywedodd, Gwŷr o Israel, a’r rhai sy’n ofni Duw, gwrandewch. Duw y bobl hyn, Israel, a etholodd ein tadau; ac y bobl a ddyrchafodd Efe yn y preswyliad yngwlad yr Aipht, ac â braich uchel y dug hwynt allan o honi; ac ynghylch deugain mlynedd o amser y goddefodd eu moesau yn yr anialwch; ac wedi dinystrio saith genedl yngwlad Canaan â choelbren y parthodd eu gwlad am ynghylch pedwar cant a deng mlynedd a deugain; ac wedi hyny y rhoddes farnwyr hyd Shamuel y prophwyd; ac ar ol hyny y gofynasant frenhin, ac iddynt y rhoddes Duw Shawl, mab Cish, gŵr o lwyth Beniamin, ddeugain mlynedd; ac wedi ei symmud ef, cyfododd Efe Dafydd iddynt, yn frenhin, i’r hwn y tystiolaethodd, gan ddywedyd, Cefais Dafydd, mab Ieshe, gŵr yn ol Fy nghalon, yr hwn a wna Fy holl ewyllys. O had hwn, Duw, yn ol Ei addewid, a ddug i Israel Iachawdwr, Iesu, gwedi rhag-bregethu o Ioan, o flaen Ei ddyfodiad i mewn, fedydd edifeirwch i holl bobl Israel. A phan gyflawnai Ioan ei redfa, dywedodd, Pa beth y tybiwch fy mod i? Nid myfi yw Efe: eithr wele, dyfod ar fy ol y mae yr Hwn nad wyf deilwng i ddattod esgidiau Ei draed. Brodyr, meibion cenedl Abraham, a’r rhai yn eich plith y sy’n ofni Duw, i chwi y mae Gair yr iachawdwriaeth hon wedi ei ddanfon, canys y rhai yn trigo yn Ierwshalem a’u tywysogion, gan nad adwaenant Ef na lleisiau y prophwydi y rhai a ddarllenid bob Sabbath, gan Ei farnu Ef a’u cyflawnasant. Ac heb gael Ynddo ddim achos angau, dymunasant ar Pilat y lleddid Ef. A phan gwblhasant yr holl bethau a ’sgrifenasid am Dano, wedi Ei dynnu i lawr oddi ar y pren, dodasant Ef mewn bedd. Ond Duw a’i cyfododd Ef o feirw, ac Efe a welwyd ddyddiau lawer gan y rhai a ddaethant i fynu gydag Ef o Galilea i Ierwshalem, y rhai, yr awr hon, ydynt Ei dystion wrth y bobl. Ac nyni sy’n efengylu i chwi yr addewid a wnaed i’r tadau, mai hwn y mae Duw wedi ei gyflawni i’n plant, gan gyfodi yr Iesu; fel ag yn yr ail psalm yr ysgrifenwyd, “Fy Mab Tydi ydwyt, Myfi heddyw a’th genhedlais;” ac y cyfododd Ef o feirw, ddim mwyach i ddychwelyd i lygredigaeth, fel hyn y dywedodd, “Rhoddaf Iddo drugareddau sicr Dafydd:” o herwydd Iddo mewn psalm arall ddweud, “Ni roddi Dy Sanct i weled llygredigaeth.” Canys Dafydd, yn wir, wedi iddo yn ei genhedlaeth wasanaethu cynghor Duw, a hunodd, ac a roddwyd at ei dadau, ac a welodd lygredigaeth; ond yr Hwn y bu i Dduw Ei gyfodi, ni welodd lygredigaeth. Bydded hyspys, gan hyny, i chwi, frodyr, mai trwy Hwn i chwi y mynegir maddeuant pechodau: ac oddi wrth yr holl bethau na allech trwy Gyfraith Mosheh eich cyfiawnhau oddi wrthynt, trwy Hwn pob un a gredo a gyfiawnheir. Edrychwch, gan hyny, na ddelo arnoch yr hyn a ddywedwyd yn y Prophwydi, “Gwelwch, chwi ddirmygwyr, a rhyfeddwch, a diflenwch; Canys gwaith yr wyf Fi yn ei weithio yn eich dyddiau, Gwaith na chredwch mo’no er i neb ei fynegi i chwi.” Ac wrth fyned allan o honynt, deisyfiasant gael ar y Sabbath nesaf fynegi iddynt yr ymadroddion hyn. A phan ollyngwyd y cyfarfod ymaith, canlynodd llawer o’r Iwddewon ac o’r proselytiaid defosiynol ar ol Paul a Barnabas, y rhai, gan lefaru wrthynt, a gynghorasant iddynt aros yngras Duw. A’r Sabbath nesaf, bron yr holl ddinas a gasglwyd ynghyd i glywed Gair Duw. A chan weled o’r Iwddewon y torfeydd, llanwyd hwynt o eiddigedd, a gwrth-ddywedasant yn erbyn y pethau a leferid gan Paul, gan gablu. A chan lefaru yn hyderus o Paul a Barnabas hefyd, dywedasant, Wrthych chwi yn gyntaf yr oedd rhaid i Air Duw gael ei lefaru; ac o herwydd ei wrthod yr ydych, ac yn barnu eich hunain yn annheilwng o fywyd tragywyddol, wele, troi at y cenhedloedd yr ydym; canys felly y gorchymynodd yr Arglwydd i ni, gan ddywedyd, “Gosodais di yn oleuni i’r cenhedloedd, Fel y byddit yn iachawdwriaeth hyd eithaf y ddaear.” Ac wrth glywed hyn, y cenhedloedd a lawenychent ac a ogoneddent Air Duw; a chredodd cynnifer ag oedd wedi eu hordeinio i fywyd tragywyddol. A dygpwyd Gair yr Arglwydd trwy’r holl wlad. Ond yr Iwddewon a annogasant y gwragedd defosiynol, y rhai anrhydeddus, a phennaethiaid y ddinas, a chodasant erlid yn erbyn Paul a Barnabas, a bwriasant hwynt allan o’u terfynau; ond hwy, wedi ysgwyd ymaith lwch eu traed yn eu herbyn hwynt, a aethant i Iconium; a’r disgyblion a lanwyd o lawenydd ac o’r Yspryd Glân. A digwyddodd yn Iconium iddynt fyned ynghyd i sunagog yr Iwddewon, a llefaru felly fel y credodd lliaws mawr o Iwddewon ac o Roegwyr hefyd; ond yr Iwddewon anghrediniol a gyffroisant ac a ddrwg-ddylanwadasant feddyliau’r cenhedloedd yn erbyn y brodyr. Amser maith, gan hyny, yr arhosasant yno, gan lefaru yn hyderus yn yr Arglwydd, yr Hwn a dystiolaethai i Air Ei ras, gan roddi i arwyddion a rhyfeddodau eu gwneuthur trwy eu dwylaw hwynt. A rhanwyd lliaws y ddinas; a rhai oedd gyda’r Iwddewon, a rhai gyda’r apostolion. A phan wnaethpwyd rhuthr o’r cenhedloedd ac o’r Iwddewon ynghyda’u pennaethiaid, i’w sarhau hwynt ac i’w llabyddio: gan wybod hyn, ffoisant i ddinasoedd Lucaonia a Derbe, ac i’r wlad oddi amgylch; ac yno yr oeddynt yn efengylu. Ac rhyw ddyn yn Lustra yn ddiffrwyth ei draed, a eisteddai, dyn cloff o groth ei fam, yr hwn ni rodiasai erioed. Hwn a glybu Paul yn llefaru; yr hwn, wedi edrych yn graff arno, a gweled fod ganddo ffydd i’w iachau, a ddywedodd â llais uchel, Saf ar dy draed yn syth; a neidiodd efe, a rhodiodd. A’r torfeydd, wedi gweled yr hyn a wnaeth Paul, a godasant eu lleisiau, gan ddywedyd yn iaith Lucaonia, Y duwiau, wedi eu cyffelybu i ddynion, a ddisgynasant attom; a galwasant Barnabas “Iwpeter,” a Paul “Mercurius,” gan mai efe oedd yr ymadroddwr pennaf. Ac offeiriad teml Iwpiter, yr hon sydd o flaen y ddinas, wedi dyfod â theirw a garlandau at y pyrth, a ewyllysiai, ynghyda’r torfeydd, aberthu. Ac wedi clywed hyn, yr apostolion, Barnabas a Paul, gan rwygo eu cochlau, a neidiasant allan ymhlith y dyrfa, dan waeddi, a dywedyd, Dynion, paham mai’r pethau hyn a wnewch? Ninnau hefyd, yn dioddef cyffelyb bethau a chwychwi yr ydym, yn ddynion, ac yn efengylu i chwi droi oddi wrth y pethau ofer hyn at y Duw byw, yr Hwn a wnaeth y nef a’r ddaear a’r môr a’r holl bethau y sydd ynddynt: yr Hwn yn y cenhedlaethau a aethant heibio a adawodd i’r holl genhedloedd fyned yn eu ffyrdd eu hunain: ond er hyny, nid heb dystiolaeth y gadawodd Efe Ef ei hun, gan wneuthur daioni, a rhoddi o’r nef i chwi wlawodydd a thymhorau ffrwythlon, a llenwi eich calonnau â lluniaeth a llawenydd. A chan ddywedyd y pethau hyn, braidd y gwnaethant i’r torfeydd beidio ag aberthu iddynt. A daeth yno Iwddewon, o Antiochia ac Iconium; ac wedi perswadio’r torfeydd a llabyddio Paul, llusgasant ef allan o’r ddinas, gan dybied ei fod wedi marw. A’r disgyblion wedi ei amgylchu ef, wedi cyfodi yr aeth i mewn i’r ddinas; a thrannoeth yr aeth allan ynghyda Barnabas i Derbe. Ac wedi efengylu i’r ddinas honno, a gwneuthur disgyblion lawer, dychwelasant i Lustra ac i Iconium ac i Antiochia, gan gadarnhau eneidiau y disgyblion, gan gynghori iddynt aros yn y ffydd, a dweud mai trwy lawer o orthrymderau y mae rhaid i ni fyned i mewn i deyrnas Dduw. Ac wedi dewis iddynt henuriaid ym mhob eglwys, ac wedi gweddïo ynghydag ymprydiau, gorchymynasant hwynt i’r Arglwydd, yn yr Hwn y credasant. Ac wedi tramwy trwy Pisidia, daethant i Pamphulia; ac wedi llefaru y Gair yn Perga, daethant i wared i Attalea; ac oddi yno y mordwyasant i Antiochia, o’r hon y gorchymynasid hwynt i ras Duw i’r gwaith a gyflawnasant. Ac wedi dyfod a chasglu’r eglwys ynghyd, mynegasant faint o bethau a wnaeth Duw gyda hwynt, ac yr agorodd Efe i’r cenhedloedd ddrws ffydd. Ac arhosasant amser nid bychan ynghyda’r disgyblion. A rhyw rai wedi dyfod i wared o Iwdea, a ddysgent y brodyr, Oddieithr amdorri arnoch yn ol defod Mosheh, ni ellwch fod yn gadwedig. Ac wedi digwydd ymryson a chwestiynu nid bychan gan Paul a Barnabas yn eu herbyn, ordeiniasant esgyn o Paul a Barnabas a rhyw rai eraill o honynt, i Ierwshalem at yr apostolion a’r henuriaid, ynghylch y cwestiwn hwn. Hwy, gan hyny, wedi eu hebrwng gan yr eglwys, a dramwyasant trwy Phenice a Shamaria, dan fynegi troad y cenhedloedd; a pharasant lawenydd mawr i’r holl frodyr. Ac wedi dyfod i Ierwshalem, derbyniwyd hwynt gan yr eglwys a’r apostolion a’r henuriaid, a mynegasant faint o bethau a wnaethai Duw gyda hwynt. A chyfododd rhai o sect y Pharisheaid, credinwyr, gan ddywedyd, Y mae rhaid amdorri arnynt a gorchymyn cadw Cyfraith Mosheh. A chasglwyd ynghyd yr apostolion a’r henuriaid i edrych ynghylch y matter hwn; a llawer cwestiynu wedi bod, cyfododd Petr, a dywedodd wrthynt, Brodyr, chwi a wyddoch mai yn y dyddiau cyntaf yn eich plith y dewisodd Duw mai trwy fy ngenau i y clywai y cenhedloedd Air yr efengyl a chredu o honynt, ac yr Adnabyddwr calonnau, Duw, a dystiolaethodd iddynt, gan roddi yr Yspryd Glân, fel ag i ninnau: ac ni wnaeth ddim gwahaniaeth rhyngom ni a hwynt, gan lanhau trwy ffydd eu calonnau hwynt. Yr awr hon, gan hyny, paham y temtiwch Dduw, fel y dodech iau ar war y disgyblion, hon nid oedd nac ein tadau na nyni yn gallu ei dwyn? Eithr trwy ras yr Arglwydd Iesu y credwn yr achubir ni, yn yr un modd ag y credant hwythau hefyd. A thawodd yr holl liaws, a gwrandawsant ar Barnabas a Paul yn mynegi pa faint o arwyddion a rhyfeddodau a wnaeth Duw ymhlith y cenhedloedd trwyddynt hwy. Ac wedi tewi o honynt, attebodd Iago, a dywedodd, Brodyr, gwrandewch arnaf. Shimon a fynegodd pa wedd ar y cyntaf y bu i Dduw ymweled i gymmeryd o’r cenhedloedd bobl i’w enw; ac â hyn y cyttuna geiriau y Prophwydi, fel yr ysgrifenwyd, “Ar ol y pethau hyn y dychwelaf, Ac adeiladaf drachefn dabernacl Dafydd y sydd wedi syrthio; A’i fylchau a adeiladaf drachefn, A gosodaf ef yn syth i fynu; Fel y ceisio y gweddill o ddynion am Iehofah, A’r holl genhedloedd ar y rhai y gelwir Fy enw, Medd Iehofah y sy’n hysbysu’r pethau hyn er’s erioed.” Gan hyny, myfi a farnaf beidio â blino y rhai o’r cenhedloedd y sy’n troi at Dduw; eithr gorchymyn iddynt ymgadw oddiwrth halogrwydd eilunod, a godineb, ac y peth a dagwyd, a gwaed; canys Mosheh, er’s y cenhedlaethau gynt, sydd a chanddo ym mhob dinas y rhai a’i pregethant ef, yn cael ei ddarllen yn y sunagogau bob Sabbath. Yna y gwelwyd yn dda gan yr apostolion a’r henuriaid, ynghyda r holl eglwys, wedi ethol dynion o honynt eu hunain, eu danfon i Antiochia ynghyda Paul a Barnabas, sef, Iwdas, yr hwn a elwir Barshabbas, a Silas, dynion rhagorol ymhlith y brodyr, gan ysgrifenu trwyddynt hwy, Yr apostolion a’r brodyr hynaf, at y brodyr yn Antiochia a Syria, a Cilicia, y rhai sydd o’r cenhedloedd, yn anfon annerch. O herwydd clywed o honom fod rhai a aethant allan oddi wrthym wedi eich trallodi â geiriau, gan ddym-chwelyd eich eneidiau, i’r rhai ni roisom orchymyn; gwelwyd yn dda genym yn unfryd, wedi ethol dynion, eu danfon attoch ynghyda’n hanwylyd Barnabas a Paul, y rhai a roisant eu heneidiau dros enw ein Harglwydd Iesu Grist. Danfonasom, gan hyny, Iwdas a Silas, a hwythau ar air a fynegant yr un pethau; canys gwelwyd yn dda gan yr Yspryd Glân a ninnau, beidio â dodi arnoch ddim mwy o faich namyn y pethau angenrheidiol hyn, sef ymgadw oddiwrth y pethau a aberthwyd i eilunod, a gwaed, a phethau a dagwyd, a godineb; oddiwrth y rhai hyn, os ymgedwch, da y gwnewch. Byddwch iach. Hwy, gan hyny, wedi eu gollwng ymaith a ddaethant i wared i Antiochia; ac wedi cynnull y lliaws ynghyd, rhoisant y llythyr: ac wedi iddynt ei ddarllen, llawenychasant am y diddanwch. Ac Iwdas a Silas, a hwythau yn brophwydi, trwy ymadrodd lawer y cynghorasant y brodyr ac y’u cadarnhasant; ac wedi treulio rhyw amser, gollyngwyd hwynt ymaith mewn heddwch oddiwrth y brodyr at y rhai a’u danfonasant. A Paul a Barnabas a arhosasant yn Antiochia, yn dysgu ac efengylu, ynghydag eraill lawer, Air yr Arglwydd. Ac wedi rhai dyddiau, dywedodd Paul wrth Barnabas, Dychwelwn yn awr ac ymwelwn â’r brodyr ym mhob dinas yn y rhai y mynegasom Air yr Arglwydd, i weled pa sut y maent. A Barnabas a fynnai gymmeryd gyda hwynt Ioan hefyd, yr hwn a elwir Marc; ond Paul ni welai yn dda gymmeryd hwnw gyda hwynt, yr hwn a dynnasai oddi wrthynt o Pamphulia, ac nad aethai gyda hwynt i’r gwaith. A bu cynhen fel yr ymwahanasant oddi wrth eu gilydd, ac y bu Barnabas, wedi cymmeryd Marc atto, fordwyo i Cuprus; a Paul, wedi dewis Silas, a aeth allan, wedi ei orchymyn i ras yr Arglwydd, gan y brodyr, a thramwyodd trwy Suria a Cilicia, gan gadarnhau yr eglwysi. A daeth efe hefyd i Derbe ac i Lustra; ac wele, rhyw ddisgybl oedd yno, a’i enw Timothëus, mab i wraig o Iwddewes, yr hon a gredai, ond ei dad oedd Roegwr: ac iddo y tystiolaethid gan y brodyr yn Lustra ac Iconium. Hwn yr ewyllysiodd Paul iddo fyned allan gydag ef; ac, wedi ei gymmeryd, amdorrodd arno o achos yr Iwddewon oedd yn y lleoedd hyny, canys gwyddent, bawb o honynt, mai Groegwr oedd ei dad ef. Ac fel yr ymdeithient trwy’r dinasoedd, traddodasant iddynt y dedfrydau i’w cadw, y rhai a ordeiniasid gan yr apostolion a’r henuriaid y rhai oedd yn Ierwshalem. Yr eglwysi, gan hyny, a gadarnhawyd yn y ffydd, ac a gynnyddasant mewn rhifedi beunydd. A thramwyasant trwy Phrugia a gwlad Galatia, wedi eu rhwystro gan yr Yspryd Glân rhag llefaru’r Gair yn Asia; ac wedi dyfod cyferbyn â Musia ceisient fyned i Bithunia; ac ni oddefodd Yspryd yr Iesu iddynt. Ac wedi myned heibio i Musia, daethant i wared i Troas. A gweledigaeth, liw nos, a ymddangosodd i Paul: rhyw ŵr o Macedonia oedd yn sefyll ac yn deisyfu arno, ac yn dywedyd, Wedi dyfod trosodd i Macedonia, cymmorth ni. A phan welsai efe y weledigaeth, yn uniawn y ceisiasom fyned i Macedonia, gan gasglu alw o’r Arglwydd arnom i efengylu iddynt. Gan hwylio ymaith, gan hyny, o Troas, cyrchasom yn uniawn i Samothracia, a thrannoeth i Nea Polis, ac oddi yno i Philippi, yr hon yw brif- ddinas yr ardal, dinas o Macedonia, trefedigaeth Rufeinig; ac yr oeddym ynddi, yn aros ddyddiau rai. Ac ar y dydd Sabbath, aethom allan tu allan i’r porth i lan afon, lle y tybiem yr oedd lle gweddi, ac wedi eistedd o honom llefarasom wrth y gwragedd a ddaethent ynghyd. A rhyw wraig a’i henw Ludia, un yn gwerthu porphor, o ddinas Thuateira, un yn addoli Duw, a wrandawai; a’r Arglwydd a agorodd ei chalon i ddal ar y pethau a leferid gan Paul. A phan fedyddiwyd hi ac ei theulu, deisyfiodd arnom, gan ddywedyd, Os barnasoch fy mod yn ffyddlawn i’r Arglwydd, wedi dyfod i mewn i’m tŷ, arhoswch yno; a chymhellodd ni. A digwyddodd wrth fyned o honom i’r lle gweddi, i ryw langces, yr hon oedd a chanddi yspryd dewiniaeth, gyfarfod â ni, yr hon a ddygai ennill mawr i’w meistriaid, trwy ddewinio. Hon, gan ganlyn Paul a ni, a waeddai, gan ddywedyd, Y dynion hyn, gweision y Duw Goruchaf ydynt, y rhai sy’n mynegi i chwi ffordd iachawdwriaeth. A hyn a wnelai hi lawer o ddyddiau. A Paul yn flin ganddo, a chan droi, a ddywedodd wrth yr yspryd, Gorchymynaf i ti yn enw Iesu Grist ddyfod allan o honi; ac allan y daeth efe yr awr honno. A chan weled o’i meistriaid yr aethai gobaith eu hennill ymaith, wedi cymmeryd gafael ar Paul a Silas, llusgasant hwynt i’r farchnadfa ger bron y llywodraethwyr; ac wedi eu dwyn hwynt at y swyddogion, dywedasant, Y dynion hyn sy’n cythryblu ein dinas, a hwy yn Iwddewon, a mynegant ddefodau, y rhai nid yw gyfreithlawn i ni eu derbyn na’u gwneuthur, gan mai Rhufeinwyr ydym. A chyfododd y dyrfa ynghyd yn eu herbyn hwynt, a’r swyddogion, wedi rhwygo eu cochlau, a orchymynasant eu curo hwy â gwiail. Ac wedi rhoddi arnynt lawer o wialennodiau, taflasant hwynt i garchar, gan orchymyn i geidwad y carchar eu cadw hwynt yn ddiogel; ac efe, wedi derbyn y cyfryw orchymyn, a’u bwriodd hwynt i’r lle mwyaf i mewn o’r carchar, ac eu traed a wnaeth efe yn sicr yn y cyffion. A thua hanner nos, Paul a Silas, yn gweddïo, a ganent hymnau i Dduw, a gwrando arnynt yr oedd y carcharorion; ac yn ddisymmwth daeargryn mawr a fu, fel y siglwyd seiliau’r carchardy; ac agorwyd, yn uniawn, y drysau oll, a rhwymau pawb a ddattodwyd. Ac wedi deffro o geidwad y carchar, a chan weled drysau’r carchar yn agored, wedi tynnu ei gleddyf, yr oedd efe ar fedr lladd ei hun, gan dybied y diengasai y carcharorion. A llefain â llef uchel a wnaeth Paul, gan ddywedyd, Na wna i ti dy hun ddim niwaid, canys yr oll o honom ydym yma. Ac wedi galw am oleu, neidiodd efe i mewn, a than grynu, syrthiodd i lawr ger bron Paul a Silas; ac wedi eu dwyn hwynt allan, dywedodd, Meistriaid, pa beth sydd raid i mi ei wneuthur fel y byddwyf gadwedig? A hwy a ddywedasant, Cred yn yr Arglwydd Iesu, a chadwedig fyddi, ti a’th dŷ. A llefarasant wrtho Air yr Arglwydd, ynghyda phawb oedd yn ei dŷ. Ac wedi eu cymmeryd yr awr honno o’r nos, golchodd eu briwiau; a bedyddiwyd ef a’r eiddo oll yn y man. Ac wedi eu dwyn hwynt i’w dŷ, gosododd fwyd ger eu bron, a gorfoleddodd ynghyda’i holl deulu, gan gredu yn Nuw. A’r dydd wedi dyfod danfonodd y swyddogion y rhingyllau, gan ddywedyd, Gollwng yn rhyddion y dynion hyny; a mynegodd ceidwad y carchar y geiriau wrth Paul, gan ddywedyd, Danfonodd y swyddogion am eich gollwng yn rhyddion: yn awr, gan hyny, wedi myned allan, ewch mewn heddwch. A Paul a ddywedodd wrthynt, Wedi ein curo ni yn gyhoedd, heb ein condemnio, a ninnau yn Rhufeinwyr, bwriasant ni i garchar; ac yn awr, ai yn ddirgel y bwriant ni allan? Nid felly; eithr wedi dyfod eu hunain, bydded iddynt ein dwyn ni allan. A mynegodd y rhingyllau wrth y swyddogion y geiriau hyn; ac ofnasant hwy, pan glywsant mai Rhufeinwyr oeddynt; ac wedi dyfod, deisyfiasant arnynt; ac wedi eu dwyn allan, gofynasant iddynt fyned ymaith o’r ddinas. Ac wedi myned allan o’r carchar, aethant i mewn at Ludia; ac wedi gweled y brodyr, cysurasant hwynt, ac aethant allan. Ac wedi tramwy trwy Amphipolis ac Apolonia, daethant i Thessalonica, lle yr oedd sunagog i’r Iwddewon. Ac yn ol arfer Paul, yr aeth efe i mewn attynt; a thri Sabbath yr ymresymmodd â hwynt allan o’r Ysgrythyrau, gan agoryd a dodi ger eu bronau yr oedd rhaid i Grist ddioddef a chyfodi o feirw, ac mai Hwn yw y Crist, yr Iesu, yr Hwn yr wyf fi yn ei fynegi i chwi. A rhai o honynt a berswadiwyd ac a gyssylltwyd â Paul a Silas, ac o’r Groegiaid defosiynol liaws mawr, ac o’r gwragedd pennaf nid ychydig. A’r Iwddewon yn eiddigus, ac wedi cymmeryd attynt o’r gwerinos ryw ddynion drwg, ac wedi casglu tyrfa, a gynnyrfasant y ddinas; ac wedi ymosod ar dŷ Iason, ceisient hwynt er mwyn eu dwyn at y bobl. A phan na chawsant hwynt, llusgasant Iason a rhai o’r brodyr ger bron llywodraethwyr y ddinas, gan floeddio, Y rhai sy’n troi’r byd a’i waelod i fynu, y rhai hyn a ddaethant yma hefyd; y rhai a dderbyniodd Iason; a’r rhai hyn oll, yn erbyn dedfrydau Cesar y gweithredant, gan ddywedyd mai brenhin arall sydd, Iesu. A chyffroisant y dyrfa a llywodraethwyr y ddinas, wrth glywed y pethau hyn. Ac wedi cael sicrwydd gan Iason a’r lleill, gollyngasant hwynt ymaith. A’r brodyr yn uniawn, liw nos, a ddanfonasant ymaith Paul a Silas i Berea; a hwy wedi bod yn sunagog yr Iwddewon, a aethant ymaith. A’r rhai hyn oedd foneddigeiddiach na’r rhai yn Thessalonica, gan dderbyn o honynt y Gair gyda phob parodrwydd, beunydd yn holi yr Ysgrythyrau a oedd y pethau hyn felly. Llawer, gan hyny, o honynt a gredasant, ac o’r Groegesau parchedig, ac o wŷr, nid ychydig. A phan wybu yr Iwddewon o Thessalonica y mynegid Gair Duw yn Berea, daethant yno hefyd, gan gynhyrfu a chythryblu y torfeydd. Ac yna, yn uniawn, y danfonodd y brodyr Paul ymaith, i fyned hyd at y môr; ac arhosodd Silas a Timotheus hefyd yno. A’r rhai a arweinient Paul, a aethant ag ef hyd Athen; ac wedi derbyn gorchymyn at Silas a Timothëus ar ddyfod o honynt atto y cyntaf bossibl, aethant ymaith. Ac yn Athen, tra y disgwylid hwynt gan Paul, cynhyrfwyd ei yspryd ynddo wrth weled o hono y ddinas yn llawn o eulunod. Ymresymmodd, gan hyny, yn y sunagog, â’r Iwddewon a’r rhai defosiynol, ac yn y farchnad beunydd â’r rhai a gyfarfyddent ag ef. A rhai hefyd o’r philosophyddion Epicwraidd a Stoicaidd a ymddadleuasant ag ef; a rhai a ddywedasant, Pa beth a fynnai y siaradwr hwn ei ddywedyd? Ac eraill, Duwiau dieithr, debyg, a fynega efe, gan mai yr Iesu a’r adgyfodiad a efengylai efe. Ac wedi ei ddal ef, i’r Areopagus y dygasant ef, gan ddywedyd, A allwn ni gael gwybod pa beth yw’r ddysg newydd hon a leferir genyt, canys rhyw bethau dieithr a ddygi i’n clustiau? Ewyllysiem, gan hyny, wybod pa beth yw meddwl y pethau hyn. (A’r Atheniaid oll, a’r dieithriaid yn ymdeithio yno, ar ddim arall ni threulient eu hamser ond i ddywedyd neu i glywed rhywbeth newydd.) A chan sefyll o Paul ynghanol yr Areopagus, dywedodd, Atheniaid, ymhob peth y gwelaf eich bod yn dra-chrefyddol; canys wrth fyned heibio ac edrych ar wrthddrychau eich addoliad, cefais hefyd allor yn yr hon yr argraphasid I Dduw Anhyspys; yr hyn, gan hyny, yr ydych, heb ei adnabod, yn ei addoli, hyny yr wyf fi yn ei fynegi i chwi. Y Duw a wnaeth y byd a phob peth sydd ynddo, Efe, gan mai ar y nef a’r ddaear y mae yn Arglwydd, nid mewn temlau o waith llaw y trig; ac nid â dwylaw dynol y gwasanaethir Ef, gan fod ag eisiau dim Arno, ac Efe yn rhoddi i bawb fywyd ac anadl a phob peth. A gwnaeth Efe o un bob cenedl o ddynion i breswylio ar holl wyneb y ddaear, wedi pennodi amseroedd appwyntiedig a therfynau eu preswylfod; i geisio o honynt Dduw, os ysgatfydd yr ymbalfalent am Dano ac Ei gael, ond er hyny heb fod o Hono ymhell oddiwrth bob un o honom; canys Ynddo Ef yr ydym yn byw ac yn ymsymmud ac yn bod, fel y bu i rai o’r poetau yn eich plith chwi ddywedyd, “Canys Ei hiliogaeth Ef hefyd ydym.” Gan fod o honom, gan hyny, yn hiliogaeth Duw, nis dylem feddwl mai i aur neu arian neu faen, cerfiad celfyddyd a dychymmyg dyn, y mae’r Duwdod yn debyg. Ar amseroedd yr anwybodaeth, gan hyny, ni sylwodd Duw, ond yn awr y gorchymyn Efe i ddynion, i bawb ymhob man, edifarhau, canys gosododd ddydd yn yr hwn y mae Efe ar fedr barnu’r byd mewn cyfiawnder trwy’r dyn a appwyntiodd Efe; a sicrwydd a roes Efe i bawb, gan Ei adgyfodi Ef o feirw. Ac wrth glywed am “Adgyfodiad y meirw,” rhai a watwarasant; ond eraill a ddywedasant, Clywn di am y peth hwn etto hefyd. Felly Paul a aeth allan o’u canol hwynt; ond rhai dynion a lynasant wrtho ac a gredasant, ymhlith y rhai yr oedd Dionusius yr Areopagiad, a gwraig a’i henw Damaris hefyd, ac eraill gyda hwynt. Ac ar ol y pethau hyn, wedi ymadael ag Athen, daeth efe i Corinth; ac wedi cael rhyw Iwddew a’i enw Acwila, un o Pontus o genedl, ac newydd ddyfod o’r Ital, a Priscila ei wraig ef (am orchymyn o Claudias ymadael o’r holl Iwddewon o Rufain), yr aeth attynt; a chan mai o’r un gelfyddyd yr oedd, arhoes gyda hwynt, a gweithient, canys yr oeddynt yn wneuthurwyr pebyll wrth eu celfyddyd. Ac ymresymmodd yn y sunagog bob Sabbath, a pherswadiai Iwddewon a Groegiaid hefyd. A phan ddaeth Silas a Timotheus hefyd o Macedonia, yn y Gair y cadwyd Paul, gan dystiolaethu i’r Iwddewon mai Iesu oedd y Crist. Ac a hwy yn gosod eu hunain yn ei erbyn ac yn cablu, gan ysgwyd ei ddillad, dywedodd wrthynt, Eich gwaed, ar eich pennau eich hunain y mae: glân wyf fi: o hyn allan at y cenhedloedd yr af. Ac wedi myned oddi yno, aeth i dŷ rhyw un a’i enw Titus Iwstus, dyn yn addoli Duw, tŷ yr hwn oedd yn cyffwrdd â’r sunagog. A Crispus yr arch-sunagogydd a gredodd yn yr Arglwydd ynghyda’i holl dŷ; a llawer o’r Corinthiaid, wrth glywed, a gredent ac a fedyddid. A dywedodd yr Arglwydd, liw nos, trwy weledigaeth, wrth Paul, Nac ofna, eithr llefara, ac na thaw; canys Myfi wyf gyda thi, ac nid ymesyd neb arnat i’th ddrygu; canys pobl lawer sydd Genyf yn y ddinas hon. Ac arhosodd efe flwyddyn a chwe mis, yn dysgu yn eu plith Air Duw. A Galio yn rhaglaw yn Achaia, yn unfryd y cyfododd yr Iwddewon yn erbyn Paul, a dygasant ef ger bron y frawd-faingc, gan ddywedyd, Yn erbyn y Gyfraith y mae hwn yn perswadio dynion i addoli Duw. A Paul ar fedr agoryd ei enau, dywedodd Galio wrth yr Iwddewon, Pe bai rhyw anghyfiawnder neu anfadrwydd drwg, O Iwddewon, wrth reswm y cyd-ddygaswn â chwi; ond os cwestiynnau y sydd am air ac enwau a’r Gyfraith sydd yn eich plith chwi, edrychwch eich hunain, canys barnwr y pethau hyn nid ewyllysiaf fi fod: a gyrrodd hwynt ymaith oddi wrth y frawd-faingc. A phawb o honynt wedi cymmeryd gafael ar Sosthenes yr arch-sunagogydd, a’i curent ef o flaen y frawd-faingc; ac am ddim o’r pethau hyn nid oedd waeth gan Galio. A Paul wedi aros etto ddyddiau lawer, ar ol canu’n iach i’r brodyr, a fordwyodd ymaith i Suria, ac ynghydag ef Priscila ac Acwila, wedi cneifio o hono ei ben yn Cenchrea, canys yr oedd arno adduned. A daethant i Ephesus, a hwynt-hwy a adawodd efe yno; ond efe ei hun, wedi myned i mewn i’r sunagog, a ymresymmodd â’r Iwddewon: ac wrth ofyn o honynt iddo aros fwy o amser, ni chydsyniodd, eithr wedi canu’n iach iddynt a dywedyd, Dychwelaf trachefn attoch, os myn Duw, hwyliodd ymaith o Ephesus. Ac wedi dyfod i wared i Cesarea, a myned i fynu a chyfarch yr eglwys, aeth i wared i Antiochia. Ac wedi treulio talm o amser, yr aeth ymaith, gan dramwy mewn trefn, trwy wlad Galatia a Phrugia, gan gadarnhau yr holl ddisgyblion. A rhyw Iwddew a’i enw Apolos, Alecsandriad o genedl, gŵr dysgedig, a ddaeth i Ephesus, ac yntau yn alluog yn yr Ysgrythyrau. Hwn oedd wedi ei ddysgu yng nghrefydd yr Arglwydd; ac yn wresog yn yr yspryd, llefarai a dysgai yn fanwl y pethau ynghylch yr Iesu, heb wybod ond bedydd Ioan. A hwn a ddechreuodd lefaru yn hyderus yn y sunagog; ac wedi ei glywed, Priscila ac Acwila a’i cymmerasant attynt, ac esponiasant yn fanylach iddo grefydd Dduw. Ac efe yn ewyllysio tramwy i Achaia, y brodyr, gan ei annog, a ysgrifenasant at y disgyblion i’w dderbyn ef, ac efe, wedi ei ddyfod, a gynnorthwyodd lawer y rhai a gredasant trwy ras; canys yn egniol y gor-ddadleuai yr Iwddewon, gan ddangos trwy’r Ysgrythyrau mai Iesu yw y Crist. A digwyddodd, tra yr oedd Apolos yn Corinth, i Paul, wedi tramwy trwy’r parthau uchaf, ddyfod i Ephesus, a chael rhai disgyblion; a dywedodd wrthynt, A dderbyniasoch chwi yr Yspryd Glân wrth gredu? A hwy a ddywedasant wrtho, Eithr ni chlywsom ddim a oes Yspryd Glân. A dywedodd, I ba beth, gan hyny, y’ch bedyddiwyd? A hwy a ddywedasant, I fedydd Ioan. A dywedodd Paul, Ioan a fedyddiodd â bedydd edifeirwch, gan ddywedyd wrth y bobl mai yn yr Hwn oedd yn dyfod ar ei ol ef y credent, hyny yw, yn yr Iesu. Ac wedi clywed hyn, bedyddiwyd hwynt i enw yr Arglwydd Iesu. Ac wedi dodi o Paul ei ddwylaw arnynt, daeth yr Yspryd Glân arnynt, a llefarasant â thafodau, a phrophwydasant. Ac yr oeddynt, yn y cwbl, ynghylch deuddeg o ddynion. Ac wedi myned i mewn i’r sunagog, llefarodd yn hyderus am dri mis, gan ymresymmu a pherswadio y pethau ynghylch teyrnas Dduw. A phan yr oedd rhai wedi caledu ac yn anufudd, gan ddywedyd yn ddrwg am y Grefydd ger bron y lliaws, gan sefyll draw oddi wrthynt neillduodd efe y disgyblion, gan ymresymmu beunydd yn ysgol Turannus: a hyn a fu am ddwy flynedd, fel y bu i bawb yn trigo yn Asia glywed Gair yr Arglwydd, yn Iwddewon a Groegiaid hefyd. A gwyrthiau nid cyffredin a wnaeth Duw trwy ddwylaw Paul, fel at y cleifion y dygid ymaith oddi wrth ei gorph napcynau neu foledau, ac yr ymadawai y clefydau â hwynt, a’r ysprydion aflan a aent allan. A chymmerodd rhai o’r Iwddewon crwydraid arnynt, consurwyr, enwi uwchben y rhai a chanddynt yr ysprydion drwg enw yr Arglwydd Iesu, gan ddywedyd, Tynghedaf chwi trwy yr Iesu yr Hwn y mae Paul yn Ei bregethu. Ac yr oedd saith mab rhyw Scefa, Iwddew ac archoffeiriad, yn gwneuthur hyn. A chan atteb, yr yspryd drwg a ddywedodd wrthynt, Yr Iesu a adwaen, a Paul sydd adnabyddus genyf, ond chwychwi, pwy ydych? A chan neidio arnynt o’r dyn yn yr hwn yr oedd yr yspryd drwg, a chan feistroli ar y ddau, gorchfygodd yn eu herbyn, fel yn noethion ac yn archolledig y ffoisant o’r tŷ hwnw. A hyn a fu hyspys gan yr holl Iwddewon a’r Groegiaid hefyd a breswylient yn Ephesus; a syrthiodd ofn ar yr oll o honynt, a mawrygid enw yr Arglwydd Iesu; a llawer o’r rhai a gredasant, a ddaethant gan gyffesu a mynegi eu gweithredoedd; a llawer o’r rhai a ddefnyddiasant swynyddiaeth, wedi dwyn eu llyfrau ynghyd, a’u llosgasant yngwydd pawb; a bwriasant eu gwerth hwynt, ac a’i cawsant yn bum myrddiwn o siclau arian; mor gadarn y bu i Air yr Arglwydd gynnyddu ac ymgryfhau. A phan gyflawnwyd y pethau hyn arfaethodd Paul trwy’r Yspryd, gwedi tramwy o hono trwy Macedonia ac Achaia, fyned i Ierwshalem, gan ddywedyd, Ar ol bod o honof yno, y mae rhaid i mi weled Rhufain hefyd. Ac wedi danfon i Macedonia ddau o’r rhai oedd yn gweini iddo, sef Timothëus ac Erastus, efe ei hun a arhosodd rhyw faint o amser yn Asia. A digwyddodd ar yr amser hwnw, gynhwrf nid bychan ynghylch y Grefydd; canys rhyw Demetrius wrth ei enw, gof arian, yn gwneuthur temlau Diana o arian, a roddai i’r crefftwyr waith nid ychydig. Ac wedi casglu hwynt ynghyd, a’r rhai a weithient y fath bethau, dywedodd, Dynion, gwyddoch mai o’r gwaith hwn y mae ein helaethrwydd genym ni, a gweled a chlywed yr ydych, y bu, nid yn unig yn Ephesus eithr bron dros yr holl Asia, i’r Paul hwn berswadio a throi ymaith lawer o bobl, gan ddywedyd, Nid ydynt dduwiau, y rhai a wnair â dwylaw. Ac nid yn unig y rhan hon sydd mewn perygl i ni o ddyfod i ddirmyg, eithr teml y dduwies fawr Diana hefyd sydd mewn perygl o gael ei chyfrif yn ddiddym, ac i hithau hefyd gael ei thynnu i lawr o’i mawrhydi, yr hon y mae holl Asia a’r byd yn ei haddoli. Ac wedi clywed hyn, ac wedi myned yn llawn o ddigofaint, gwaeddasant, gan ddywedyd, Mawr yw Diana yr Ephesiaid. A llanwyd y ddinas o’r terfysg; a rhuthrasant yn unfryd i’r chwareufa, wedi cipio Gaius ac Aristarchus, Macedoniaid, cyd-ymdeithion Paul. A Paul yn ewyllysio myned i mewn at y bobl, ni adawodd y disgyblion iddo. A rhai o bennaethiaid Asia, gan fod yn gyfeillion iddo, wedi danfon atto, a ddeisyfient arno beidio â myned i’r chwareufa. Rhai, gan hyny, a waeddent un peth, ac eraill beth arall, canys yr oedd y gynnulleidfa wedi ei therfysgu, a’r rhan fwyaf ni wyddent paham y daethent ynghyd. Ac allan o’r dyrfa y dygasant Alecsander, yr Iwddewon yn ei roddi ymlaen, ac Alecsander, wedi amneidio â’i law, a fynnai wneuthur ymddiffyniad wrth y bobl. Ond wrth wybod o honynt mai Iwddew yw, un llef fu, gan yr oll o honynt, yn gwaeddi am ynghylch dwy awr, Mawr yw Diana yr Ephesiaid. Ac ysgrifenydd y ddinas, wedi llonyddu’r dyrfa, a ddywedodd, Gwŷr Ephesus, canys pwy sydd o ddynion na ŵyr mai dinas yr Ephesiaid yw ceidwad teml Diana fawr ac o’r ddelw a syrthiodd i lawr oddiwrth Iwpeter? Gan na ellir, gan hyny, wrth-ddywedyd y pethau hyn, rhaid i chwi fod yn llonydd, a pheidio â gwneuthur dim sydd fyrbwyll; canys dygasoch yma y dynion hyn, nac yn yspeilwyr temlau, nac yn cablu eich duwies chwi. Os oes, gan hyny, gan Demetrius a’r crefftwyr sydd gydag ef, air yn erbyn neb, y mae’r brawd-ddyddiau ar droed, ac y mae rhaglawiaid; cyhuddant y naill y llall; ond os ynghylch pethau eraill y ceisiwch rywbeth, mewn cynnulleidfa gyfreithlawn y penderfynir ef. Canys yr ydym, yn wir, mewn perygl o’n cyhuddo am y terfysg heddyw, heb ddim achos o hono yn bod; ac am y peth hwn nis gallwn roddi cyfrif am yr ymgyrch hwn. Ac wedi dywedyd hyn, gollyngodd ymaith y gynnulleidfa. Ac ar ol peidio o’r cythrwfl, Paul, wedi danfon am y disgyblion, ac eu cynghori a’u cofleidio, a aeth allan i fyned i Macedonia; ac wedi tramwy trwy’r parthau hyny, a’u cynghori hwynt ag ymadrodd lawer, daeth i dir Groeg. Ac wedi treulio tri mis yno, cynllwyn wedi ei wneuthur gan yr Iwddewon iddo pan ar fedr morio i Suria, pender-fynodd ddychwelyd trwy Macedonia: a chyd-ymdeithiodd ag ef hyd yn Asia, Sopater o Berea, mab Purrhus, ac o’r Thessaloniaid, Aristarchus a Secundus; a Gaius o Dderbe, a Timothëus; ac o’r Asiaid, Tuchicus a Trophimus. A’r rhai hyn, wedi myned o’r blaen, a arhosasant am danom yn Troas, a ninnau a fordwyasom ymaith, ar ol dyddiau y bara croyw, o Philippi, ac a ddaethom attynt hwy i Troas mewn pum niwrnod; ac yno yr arhosasom saith niwrnod. Ac ar y dydd cyntaf o’r wythnos, a nyni wedi dyfod ynghyd i dorri bara, Paul a ymresymmodd â hwynt, ar fedr myned ymaith drannoeth, ac estynodd yr ymadrodd hyd hanner nos. Ac yr oedd llusernau lawer yn y llofft lle yr oeddym wedi dyfod ynghyd. A chan eistedd o ryw ŵr ieuangc a’i enw Eutuchus, yn y ffenestr, wedi syrthio i drymgwsg wrth ymresymmu o Paul yn helaethach, wedi ei ddwyn i wared gan ei gwsg, cwympodd i lawr o’r drydedd lofft, a chymmerwyd ef i fynu yn farw. Ac wedi myned i lawr, Paul a syrthiodd arno, a chan ei gofleidio, dywedodd, na chyffroed arnoch, canys y mae ei fywyd ynddo. Ac wedi myned i fynu, a thorri’r bara, a bwytta, ac ymddiddan am amser hir, hyd dorriad y dydd, yr aeth efe yn ebrwydd ymaith. A daethant â’r bachgen yn fyw, a chysurwyd hwynt yn ddirfawr. A nyni wedi myned o’r blaen at y llong, a hwyliasom i Assos, ar fedr oddiyno gymmeryd i fynu Paul, canys felly yr appwyntiasai pan ar fedr myned ei hun ar ei draed. A phan gyfarfu efe â ni yn Assos, wedi ei gymmeryd ef i fynu, daethom i Mitulene. Ac wedi hwylio oddi yno, trannoeth y daethom cyferbyn â Chios; a thradwy troisom i mewn i Samos, ac ar y dydd canlynol daethom i Miletus; canys penderfynasai Paul hwylio heibio i Ephesus fel na fyddai iddo dreulio amser yn Asia, canys brysiai, os byddai bosibl iddo, fod ar ddydd y Pentecost yn Ierwshalem. Ac o Miletus y danfonodd i Ephesus, a galwodd atto henuriaid yr eglwys; a phan ddaethant atto, dywedodd wrthynt, Chwi a wyddoch er y dydd cyntaf y rhoddais fy nhraed yn Asia, pa fodd y bu’m gyda chwi yr holl amser, gan wasanaethu’r Arglwydd gyda phob gostyngeiddrwydd, a dagrau, a phrofedigaethau y rhai a ddigwyddasant i mi trwy gynllwynion yr Iwddewon, y modd nad atteliais ddim o’r pethau buddiol, fel na fynegwn hwynt i chwi a’ch dysgu ar gyhoedd ac o dŷ i dŷ; gan dystiolaethu i Iwddewon a Groegiaid hefyd edifeirwch tuag at Dduw, a ffydd tuag at ein Harglwydd Iesu Grist. Ac yn awr, wele myfi yn rhwym yn yr yspryd wyf yn myned i Ierwshalem, heb wybod y pethau a ddigwyddant i mi ynddi, oddieithr fod yr Yspryd Glân, ymhob dinas, yn tystiolaethu i mi, gan ddywedyd fod rhwymau a gorthrymderau yn fy aros. Eithr dim cyfrif yn y byd yr wyf yn ei wneud o’m heinioes, fel yn werthfawr i mi fy hun, fel y cyflawnwyf fy rhedfa a’r weinidogaeth yr hon a dderbyniais gan yr Arglwydd Iesu, ac y tystiolaethwyf efengyl gras Duw. Ac yn awr, wele, myfi a wn na welwch chwi oll mo’m gwyneb mwyach, ymhlith y rhai y tramwyais yn pregethu’r deyrnas; canys tystiolaethu yr wyf i chwi y dydd heddyw mai glân wyf oddi wrth waed pawb; canys nid ymatteliais rhag mynegi i chwi holl gynghor Duw. Cymmerwch ofal am danoch eich hunain, ac am yr holl braidd yn yr hwn yr Yspryd Glân a’ch gosododd chwi yn esgobion, i fugeilio eglwys Dduw, yr hon a ennillodd Efe trwy Ei waed Ef Ei hun. Myfi a wn y daw i mewn i’ch plith ar ol fy ymadawiad fleiddiau gorthrymmus, nad arbedant y praidd. Ac o honoch chwi eich hunain y cyfyd dynion yn llefaru pethau gwyr-draws er mwyn tynnu ymaith y disgyblion ar eu hol. Gan hyny, gwyliwch, gan gofio mai am dair blynedd, ddydd a nos, ni pheidiais â chynghori, gyda dagrau, bob un o honoch. Ac yn awr eich gorchymyn yr wyf i Dduw ac i air Ei ras Ef, yr hwn sydd abl i’ ch adeiladu ac i roddi yr etifeddiaeth ymhlith yr holl rai a sancteiddiwyd. Arian neu aur neu wisg neb, ni chwenychais. Chwi eich hunain a wyddoch mai i’m cyfreidiau, ac i’r rhai oedd gyda mi, y gwasanaethodd y dwylaw hyn. Ymhob peth y rhoddais i chwi siampl, mai wrth lafurio felly y mae rhaid cynnorthwyo’r gweiniaid, a chofio geiriau yr Arglwydd Iesu, iddo Ef Ei hun ddywedyd, “Dedwydd yw rhoddi rhagor derbyn.” Ac wedi dywedyd y pethau hyn, a dodi ei liniau i lawr, ynghyda hwynt oll y gweddïodd; a mawr oedd gwylofain pawb; ac wedi syrthio ar wddf Paul, cusanent ef, gan ymofidio yn bennaf am y gair a ddywedasai nad ydynt mwyach ar fedr gweled ei wyneb ef; ac hebryngasant ef i’r llong. A phan fu i ni hwylio ymaith, wedi ymrwygo oddi wrthynt, ag uniawn-gyrch y daethom i Cos, a thrannoeth i Rhodos, ac oddi yno i Patara. Ac wedi cael llong yn myned trosodd i Phenice, wedi dringo iddi, hwyliasom ymaith. Ac wedi cael golwg ar Cuprus a’i gadael ar y llaw aswy, hwyliasom i Suria, a thiriasom yn Turus, canys yno yr oedd y llong yn dadlwytho ei llwyth. Ac wedi cael y disgyblion, arhosasom yno saith niwrnod; a hwy a ddywedasant i Paul, trwy yr Yspryd, beidio a myned i fynu i Ierwshalem. A phan fu i ni gyflawni’r dyddiau, wedi myned allan aethom ein ffordd, yn cael ein hebrwng gan bawb, ynghyda’ r gwragedd a’ r plant, hyd tu allan i’r ddinas; ac wedi dodi ein gliniau ar y traeth, ar ol gweddïo, canasom yn iach i’n gilydd, a dringasom i’r llong, a hwythau a ddychwelasant i’w cartref. A nyni, wedi gorphen hwylio o Turus, a ddaethom i Ptolemais; ac wedi cyfarch y brodyr, arhosasom un diwrnod gyda hwynt; a thrannoeth, wedi dyfod allan, daethom i Cesarea; ac wedi myned i mewn i dŷ Philip yr efengyl-wr, ac yntau yn un o’r saith, arhosasom gydag ef. Ac i hwn yr oedd pedair merch, morwynion, prophwydesau. Ac wrth aros o honom ddyddiau lawer, daeth i wared o Iwdea, ryw brophwyd a’i enw Agabus. Ac wedi dyfod attom a chymmeryd gwregys Paul, a rhwymo ei draed ei hun ac ei ddwylaw, dywedodd, Hyn a ddywaid yr Yspryd Glân, Y gŵr, eiddo yr hwn yw’r gwregys hwn, fel hyn y rhwym yr Iwddewon ef yn Ierwshalem, a thraddodant ef i ddwylaw’ r cenhedloedd. A phan glywsom y pethau hyn, deisyfiasom, nyni a’r rhai oedd o’r fan hefyd, arno beidio a myned i fynu i Ierwshalem. Yna yr attebodd Paul, Pa beth a wnewch yn gwylo ac yn torri fy nghalon? Canys myfi, nid yn unig i’m rhwymo, eithr i farw hefyd yn Ierwshalem, yr wyf barod, tros enw yr Arglwydd Iesu. A chan na chymmerai ei berswadio, peidiasom, gan ddywedyd, Ewyllys yr Arglwydd a wneler. Ac ar ol y dyddiau hyn, wedi casglu ein beichiau, aethom i fynu i Ierwshalem; a daeth hefyd gyda ni rai o’r disgyblion o Cesarea, yn dwyn gyda hwynt yr hwn y llettyem gydag ef, un Mnasom o Cuprus, disgybl er’s y dechreuad. Ac wedi dyfod o honom i Ierwshalem, gyda llawenydd y derbyniodd y brodyr ni. A thrannoeth yr aeth Paul i mewn gyda ni at Iago, a’r holl henuriaid oeddynt bresennol. Ac wedi eu cyfarch, mynegodd, bob yn un, bob un o’r pethau a wnaeth Duw ymhlith y cenhedloedd trwy ei weinidogaeth. A hwy, wedi clywed, a ogoneddent Dduw; a dywedasant wrtho, Gweli, frawd pa sawl myrddiwn sydd ymhlith yr Iwddewon, o’r rhai a gredasant, a phawb o honynt, selog dros y Gyfraith ydynt. Ac hyspyswyd iddynt am danat mai ymadawiad â Mosheh a ddysgi i’r holl Iwddewon y sydd ymhlith y cenhedloedd, gan ddywedyd iddynt beidio ag amdorri ar eu plant, na rhodio yn y defodau. Pa beth, gan hyny, sydd? Beth bynnag a fyddo, clywant y daethost. Hyn, gan hyny, gwna, yr hwn a ddywedwn wrthyt, y mae genym bedwar dyn a chanddynt adduned arnynt eu hunain. Y rhai hyn cymmer attat, a glanhaer di ynghyda hwynt, a gwna’r draul drostynt fel yr eilliont eu pennau, a gwybydd pawb mai o’r pethau a hyspyswyd iddynt am danat, nid oes dim un yn bod, eithr rhodio yr wyt ti dy hun gan gadw’r Gyfraith. Ond am y cenhedloedd a gredasant nyni a orchymynasom, gan farnu ymgadw o honynt oddi wrth yr hyn a aberthwyd i eulunod, a gwaed, a’r peth tagedig, a phuteindra. Yna Paul, wedi cymmeryd y dynion atto, trannoeth, wedi ei lanhau ynghyda hwynt, yr aeth i mewn i’r deml, gan hyspysu cyflawniad dyddiau’r glanhad, nes yr offrymmid yr offrwm dros bob un o honynt. A phan oedd y saith niwrnod ar fedr eu cyflawni, yr Iwddewon o Asia, wedi ei weled yn y deml, a derfysgasant yr holl dyrfa, a dodasant eu dwylaw arno, dan waeddi, Gwŷr Israeliaid, cynnorthwywch. Hwn yw’r dyn sydd yn dysgu pawb ymhob man yn erbyn y bobl a’r Gyfraith a’r lle hwn; ac, heblaw hyny, Groegiaid a ddug efe i mewn i’r deml, ac halogodd y lle sanctaidd hwn. Canys cyn hyny gwelsent Trophimus yr Ephesiad yn y ddinas gydag ef, yr hwn a dybient y dug Paul ef i mewn i’r deml. A chynhyrfwyd y ddinas oll, a bu cyd-rediad y bobl. Ac wedi cymmeryd gafael ar Paul, llusgasant ef i’r tu allan o’r deml; ac yn uniawn y cauwyd y drysau. Ac a hwy yn ceisio ei ladd ef, aeth gair i fynu at filwriad y fyddin fod yr oll o Ierwshalem mewn terfysg; ac efe allan o law, wedi cymmeryd atto filwyr a chanwriad, a redodd i wared attynt; a hwy, gan weled y milwriad a’r milwyr, a beidiasant a churo Paul. Yna, wedi nesau o hono, y milwriad a ymaflodd ynddo ac a orchymynodd ei rwymo ef â dwy gadwyn, ac a ymofynodd pwy oedd efe, a pha beth a wnaethai: a rhai a lefent un peth, ac eraill beth arall, yn y dyrfa; a chan na allai wybod sicrwydd o herwydd y cythrwfl, gorchymynodd ei ddwyn i’r castell. A phan yr oedd efe ar y grisiau, digwyddodd ei gludo gan y milwyr o achos trais y dyrfa, canys canlynai lliaws y bobl dan waeddi, Ymaith ag ef. A phan ar fedr ei ddwyn i mewn i’r castell, Paul a ddywedodd wrth y milwriad, A ganiatteir i mi ddywedyd peth wrthyt? Ac efe a ddywedodd, Ai Groeg a fedri? Nid tydi, gan hyny, yw’r Aiphtiwr, yr hwn cyn y dyddiau hyn a gyfododd derfysg, ac a ddug allan i’r anialwch bedair mil o ddynion o’r llofruddion? A dywedodd Paul, Myfi wyf Iwddew, o Tarsus yn Cilicia, dinesydd o ddinas nid anenwog, a deisyfiaf arnat, ganiattau i mi lefaru wrth y bobl. Ac wedi caniattau o hono, Paul, gan sefyll ar y grisiau, a amneidiodd â’i law ar y bobl; a distawrwydd mawr wedi ei wneuthur, llefarodd yn iaith yr Hebreaid, gan ddywedyd, Brodyr a thadau, gwrandewch fy ymddiffyn presennol wrthych. Ac wedi clywed mai yn iaith yr Hebreaid y llefarai wrthynt, mwy y gwnaethant osteg, ac ebr efe, Myfi wyf Iwddew, wedi fy ngeni yn Tarsus o Cilicia, wedi fy meithrin yn y ddinas hon wrth draed Gamaliel, wedi fy athrawiaethu yn ol manylrwydd Cyfraith ein tadau, yn selog dros Dduw, fel y mae pawb o honoch chwi heddyw. Ac y Grefydd hon a erlidiais i hyd angau, gan rwymo a thraddodi i garcharau ddynion a gwragedd hefyd, fel y mae’r archoffeiriad yn tystio i mi a’r holl henaduriaeth hefyd, gan y rhai wedi derbyn o honof lythyrau at y brodyr, ar y ffordd i Damascus yr oeddwn, ar fedr dwyn y rhai oedd yno hefyd, yn rhwym i Ierwshalem, fel y cospid hwynt. A digwyddodd i mi ar fy ffordd, ac yn nesau at Damascus, ynghylch hanner dydd, yn ddisymmwth, o’r nef y disgleiriodd goleuni mawr o’m hamgylch; a syrthiais ar y llawr, a chlywais lais yn dywedyd wrthyf, Shawl, Shawl, paham yr wyt yn Fy erlid I? Ac myfi a attebais, Pwy wyt, Arglwydd? A dywedodd wrthyf, Myfi wyf Iesu y Natsaread, yr Hwn yr wyt ti yn Ei erlid. Ac y rhai oedd gyda mi, y goleuni a welsant, ond llais yr hwn a lefarai wrthyf ni ddeallasant. A dywedais, Pa beth a wnaf, Arglwydd? A’r Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Wedi cyfodi, dos i Damascus, ac yno wrthyt y lleferir am yr holl bethau yr appwyntiwyd i ti eu gwneuthur. A phan na welwn gan ogoniant y goleuni hwnw, gan fy nhywys erbyn fy llaw gan y rhai oedd gyda mi, y daethum i Damascus. Ac un Ananias, gŵr defosiynol yn ol y Gyfraith a thystiolaeth iddo gan yr holl Iwddewon, oedd yn preswylio yno, wedi dyfod attaf a sefyll gerllaw, a ddywedodd wrthyf, Shawl, frawd, derbyn dy olwg; ac myfi yr awr honno, a edrychais arno. Ac efe a ddywedodd, Duw ein tadau a’th appwyntiodd i wybod Ei ewyllys, ac i weled y Cyfiawn, ac i glywed llais o’i enau Ef; canys byddi dyst Iddo, wrth bob dyn, o’r pethau a welaist ac a glywaist. Ac yn awr, paham yr oedi? Cyfod: bedyddier di, a golch ymaith dy bechodau, gan alw ar Ei enw Ef. A digwyddodd i mi, ar ol dychwelyd i Ierwshalem, ac wrth weddïo o honof yn y deml, yr oeddwn mewn llewyg, ac y gwelais Ef yn dywedyd wrthyf, Brysia, a dos allan, ar frys, o Ierwshalem, canys ni dderbyniant dy dystiolaeth di am Danaf. Ac myfi a ddywedais, Arglwydd, hwy a wyddant mai myfi oeddwn yn carcharu ac yn curo ymhob sunagog y rhai a gredent Ynot; a phan dywalltwyd gwaed Stephan, Dy ferthyr, minau hefyd oeddwn yn sefyll gerllaw, ac yn cydsynied, ac yn cadw cochlau y rhai yn ei ladd ef. A dywedodd wrthyf, Dos, canys Myfi, at y cenhedloedd, ymhell a’th ddanfonaf allan. A gwrandawsant arno hyd y gair hwn, a chodasant eu llef gan ddywedyd, Ymaith oddiar y ddaear â’r fath ddyn, canys nid cymmwys iddo fyw. Ac wrth waeddi o honynt a bwrw eu cochlau, a thaflu llwch i’r awyr, gorchymynodd y milwriad ei ddwyn ef i’r castell, gan orchymyn ei holi ef gyda fflan-gellau, fel y gwybyddai am ba achos y llefent felly yn ei erbyn. A phan rwymasant ef â’r carreiau, wrth y canwriad oedd yn sefyll gerllaw y dywedodd Paul, Rhufeiniad, ac heb ei gondemnio, ai cyfreithlawn i chwi ei fflan-gellu? Ac wedi clywed hyn, y canwriad, wedi myned at y milwriad, a fynegodd, gan ddywedyd, Pa beth yr wyt ar fedr ei wneuthur; canys y dyn hwn, Rhufeiniad yw? Ac wedi dyfod atto, y milwriad a ddywedodd wrtho, Dywaid i mi, tydi, ai Rhufeiniad wyt? Ac efe a ddywedodd, Ië. Ac attebodd y milwriad, Myfi â swm mawr a gefais y ddinas-fraint hon. A Paul a ddywedodd, Ac myfi a anwyd felly. Yn uniawn, gan hyny, y safodd oddi wrtho y rhai ar fedr ei holi ef; a’r milwriad hefyd a ofnodd, pan wybu mai Rhufeiniad ydoedd, ac am iddo ei rwymo ef. A thrannoeth, gan chwennychu gwybod y sicrwydd o ba beth y cyhuddid ef gan yr Iwddewon, gollyngodd ef yn rhydd; a gorchymynodd ddyfod ynghyd o’r archoffeiriad a’r holl gynghor, ac wedi dwyn Paul i wared, gosododd ef ger eu bron. A chan edrych yn graff o Paul ar y cynghor, dywedodd, Brodyr, myfi, a phob cydwybod dda y bu’m fyw ger bron Duw hyd y dydd heddyw. A’r archoffeiriad Ananias a archodd i’r rhai yn sefyll yn ei ymyl ei daro ef ar ei enau. Yna Paul a ddywedodd wrtho ef, Dy daro di a wnaiff Duw, bared wedi ei wyn-galchu! Ac a wyt ti yn eistedd i’m barnu yn ol y Gyfraith, a chan droseddu’r Gyfraith yn gorchymyn fy nharo i? A’r rhai yn sefyll yn ei ymyl a ddywedasant, Ai archoffeiriad Duw a ddifenwi? A dywedodd Paul, Nis gwyddwn, frodyr, ei fod yn archoffeiriad, canys ysgrifenwyd, “Am bennaeth dy bobl ni ddywedi yn ddrwg.” A chan wybod o Paul fod un rhan o’r Tsadwceaid, a’r llall o’r Pharisheaid, gwaeddodd yn y cynghor, Brodyr, myfi, Pharishead wyf, mab i Pharisheaid; am obaith ac adgyfodiad y meirw myfi a’m bernir. A phan hyn a ddywedasai efe, cyfododd ymryson rhwng y Pharisheaid a’r Tsadwceaid, a rhannwyd y lliaws; canys y Tsadwceaid yn wir a ddywedant nad oes nac adgyfodiad nac angel nac yspryd; ond y Pharisheaid a addefant y ddau. A bu gwaedd fawr; ac wedi codi i fynu o rai o’r ysgrifenyddion o ran y Pharisheaid, ymrafaelasant, gan ddywedyd, Nid oes dim drwg a gawn yn y dyn hwn: ac os yspryd a lefarodd wrtho, neu angel —. A phan mawr oedd y terfysg, y milwriad, gan ofni tynnu Paul yn ddrylliau ganddynt, a orchymynodd i’r llu, gan fyned i wared, ei gipio ef o’u plith, ac ei ddwyn ef i’r castell. A’r nos ganlynol, gan sefyll gerllaw iddo, yr Arglwydd a ddywedodd, Bydd hyderus, canys fel y tystiolaethaist am Danaf yn Ierwshalem, felly y mae rhaid i ti dystiolaethu yn Rhufain hefyd. A phan aeth hi yn ddydd, gan wneuthur bradwriaeth, yr Iwddewon a rwymasant eu hunain â diofryd gan ddywedyd na fwyttaent nac yfed hyd nes iddynt ladd Paul. Ac yr oeddynt yn fwy na deugain a wnaethant y cyngrair hwn; y rhai wedi myned at yr archoffeiriaid a’r henuriaid, a ddywedasant, A diofryd y rhwymasom ein hunain nad archwaethwn ddim nes lladd o honom Paul. Yn awr, gan hyny, hyspyswch chwi i’r milwriad, ynghyda’r cynghor, am iddo ei ddwyn ef i wared attoch megis ar fedr cael gwybod yn fanylach y pethau yn ei gylch ef; a nyni, cyn nesau o hono, ydym barod i’w ladd ef. Ac wedi clywed o fab chwaer Paul y cynllwyn hwn, wedi dyfod a myned i mewn i’r castell, mynegodd i Paul. Ac wedi galw o Paul un o’r canwriaid atto, dywedodd, Dwg y gŵr ieuangc hwn at y milwriad, canys y mae ganddo ryw beth i’w fynegi iddo. Efe, gan hyny, wedi ei gymmeryd ef, a’i dug at y milwriad, a dywedodd, Y carcharor Paul, wedi fy ngalw atto, a ofynodd i mi ddwyn y gŵr ieuangc hwn attat, yr hwn sydd a chanddo ryw beth i’w ddywedyd wrthyt. Ac wedi ei gymmeryd ef erbyn ei law, a chilio o’r neilldu, y milwriad a ofynodd, Pa beth yw’r hyn sydd genyt i’w fynegi i mi? A dywedodd efe, Yr Iwddewon a gyttunasant i ofyn genyt y bo i ti yforu ddwyn i wared Paul i’r cynghor, megis ar fedr o honot ymofyn rhyw faint fanylach yn ei gylch ef. Ond na chymmer di dy berswadio ganddynt, canys cynllwyn iddo y mae rhai o honynt, mwy na deugeinwr, y rhai a rwymasant eu hunain â diofryd na fwyttaent nac yfed nes ei ladd ef: ac yn awr parod ydynt, yn disgwyl y gorchymyn genyt ti. Y milwriad, gan hyny, a ollyngodd ymaith y gŵr ieuangc, wedi gorchymyn iddo beidio a dweud i neb yr hyspysaist y pethau hyn i mi. Ac wedi galw atto ryw ddau o’r canwriaid, dywedodd, Parottowch ddau gant o filwyr fel yr elont hyd Cesarea, a deg a thrugain o wŷr meirch, a dau gant o ffyn-wewyr, ar y drydedd awr o’r nos, a darparwch ysgrubliaid, fel, wedi gosod Paul arnynt, y dygont ef yn ddiogel at Ffelics y rhaglaw; wedi ysgrifenu o hono lythyr a’r dull hwn iddo, Claudius Lysias at yr ardderchoccaf raglaw Ffelics, yn danfon annerch. Y dyn hwn, wedi ei ddal gan yr Iwddewon, ac ar fedr ei ladd ganddynt, wedi dyfod arnynt â’r llu, a gymmerais oddi arnynt, wedi deall mai Rhufeiniad ydyw. A chan chwennych gwybod yr achos o’r hwn y cyhuddent ef, dygais ef wared i’w cynghor. A chefais y cyhuddid ef am gwestiynnau o’u Cyfraith, ond heb ddim cyhuddiad yn haeddu angau neu rwymau. A phan hyspyswyd i mi gynllwyn i’r gŵr, ar fedr ei wneud, allan o law danfonais ef attat, wedi gorchymyn i’r cyhuddwyr hefyd ddywedyd yn ei erbyn ger dy fron. Bydd iach. Y milwyr, gan hyny, yn ol yr hyn a orchymynwyd iddynt, wedi cymmeryd Paul, a’i dygasant, liw nos, i Antipatris; a thrannoeth, gan adael y gwŷr meirch i fyned gydag ef, dychwelasant i’r castell; a’r rhai hyny, wedi dyfod i Cesarea, a rhoddi’r llythyr i’r rhaglaw, a osodasant Paul hefyd ger ei fron. Ac wedi darllen y llythyr, a gofyn o ba dalaith yr oedd, ac wedi clywed mai o Cilicia yr ydoedd, Gwrandawaf di, ebr efe, pan fo dy gyhuddwyr yn bresennol; wedi gorchymyn mai yn llys Herod y cedwid ef. Ac ar ol pum niwrnod, daeth yr archoffeiriad Ananias i wared, ynghyda rhai henuriaid ac areithiwr, rhyw Tertulus, y rhai a hyspysasant i’r rhaglaw yn erbyn Paul. A phan alwesid ef, dechreuodd Tertulus ei gyhuddo ef gan ddywedyd, Gan mai llawer o heddwch sydd genym trwot ti, a diwygiadau yn cael eu gwneud i’r genedl hon trwy dy rag-welediad di, ymhob modd ac ymhob man y derbyniwn ef, O ardderchoccaf Ffelics, gyda phob diolch. Ond fel na flinwyf di rhy hir, deisyfiaf arnat ein gwrando mewn ychydig eiriau, o’th hynawsedd. Canys wedi cael y dyn hwn yn bla, ac yn codi terfysgau ymhlith yr holl Iwddewon y sydd trwy’r byd, ac yn bennaeth sect y Natsareaid; yr hwn hefyd a geisiodd halogi y deml; yr hwn hefyd a ddaliasom; a chan yr hwn y gelli, gan ei holi ef, wybod am yr holl bethau hyn o’r rhai yr ydym ni yn ei gyhuddo ef. A chyd-ymosod arno a wnaeth yr Iwddewon, gan ddywedyd fod y pethau hyn felly. Ac attebodd Paul, ar ol amneidio o’r rhaglaw iddo i ddywedyd, Gan wybod mai er’s llawer o flynyddoedd yr wyt ti yn farnwr i’r genedl hon, yn galonog, o ran y pethau mewn perthynas â mi, yr amddiffynaf fy hun, a thi yn medru gwybod nad oes mwy na deuddeg niwrnod i mi er pan aethum i fynu i addoli yn Ierwshalem: ac nid yn y deml y cawsant fi yn ymddadleu â neb neu yn codi terfysg o’r bobl, nac yn y sunagogau, nac yn y ddinas. A phrofi i ti ni allant, y pethau am y rhai y maent yn awr yn fy nghyhuddo. Ond cyfaddefaf hyn i ti, mai yn ol y Grefydd yr hon a alwant “sect,” felly yr wyf yn gwasanaethu Duw ein tadau, gan gredu yr holl bethau y sydd yn ol y Gyfraith, ac a ysgrifenwyd yn y Prophwydi; a gobaith genyf tuag at Dduw, yr hwn y mae y rhai hyn eu hunain yn ei ddisgwyl, fod adgyfodiad ar fedr bod, o’ r cyfiawnion ac o’ r anghyfiawnion hefyd. Ac yn hyn yr wyf fi fy hun hefyd yn ymdrechu, i fod â chydwybod ddidramgwydd genyf tuag at Dduw a dynion yn wastadol. Ac ar ol blynyddoedd lawer, daethum i ddwyn elusen i’m cenedl, ac offrymmau; ac ar eu canol y cawsant fi, wedi fy nglanhau, yn y deml, nid gyda thwrf na chyda therfysg. Ond rhai Iwddewon o Asia, y rhai a ddylasent fod yn bresennol ger dy fron, a chyhuddo, os oedd ganddynt ddim yn fy erbyn; neu bydded i’r rhai hyn eu hunain ddywedyd pa anghyfiawnder a gawsant wrth sefyll o honof ger bron y cynghor, arall nag ynghylch yr un llef hon, yr hon a lefais pan yn eu plith y safwn, sef Am adgyfodiad y meirw myfi a fernir heddyw ger eich bron. Ond eu hoedi a wnaeth Ffelics, gan wybod yn fanylach y pethau ynghylch y Grefydd, gan ddywedyd, Pan fydd Lusias y milwriad, wedi dyfod i wared, penderfynaf eich matterion; wedi archu i’r canwriad iddo gael ei gadw, ac i fod ag ysgafnhad ganddo, ac na rwystrai i neb o’i berthynasau ei wasanaethu ef. Ac ar ol rhai dyddiau, wedi dyfod o Ffelics ynghyda Drusilla ei wraig, a hi yn Iwddewes, danfonodd am Paul, a chlywodd ef ynghylch y ffydd yng Nghrist Iesu: ac wrth ymresymmu o hono am gyfiawnder a diweirdeb a’r farn ar ddyfod, wedi myned yn ddychrynedig, Ffelics a attebodd, Am yr amser presennol, dos ymaith; ond hamdden a gymmeraf, a galwaf am danat; ar yr un pryd yn gobeithio y rhoddid arian iddo gan Paul; o herwydd paham hefyd, yn fynychach y danfonai am dano, ac y chwedleuai ag ef. Ond dwy flynedd wedi eu cyflawni, cafodd Ffelics olynydd, Porcius Ffestus; a chan ewyllysio ennill ffafr gyda’r Iwddewon, gadawodd Paul yn rhwym. Ffestus, gan hyny, wedi dyfod i’r dalaith, ar ol tri diwrnod a aeth i fynu i Ierwshalem o Cesarea. Ac wrtho yr hyspysodd yr archoffeiriaid a phennaethiaid yr Iwddewon yn erbyn Paul: a deisyfiasant arno, gan ofyn ffafr yn ei erbyn ef, y danfonai am dano i Ierwshalem, gan wneuthur cynllwyn i’w ladd ef ar y ffordd. Ffestus, gan hyny, a attebodd, Y cedwid Paul yn Cesarea, ac ei fod ef ei hun ar fedr myned allan yn fuan. Gan hyny, ebr efe, y rhai galluog yn eich plith, wedi myned i wared gyda mi, os oes yn y dyn ryw beth allan o’i le, cyhuddant ef. Ac wedi aros yn eu plith rai dyddiau, nid mwy nag wyth neu ddeg, wedi myned i wared i Cesarea, trannoeth, gan eistedd ar y frawd-faingc, y gorchymynodd i Paul gael ei ddwyn ger ei fron; ac wedi dyfod o hono, o’i amgylch y safodd yr Iwddewon a ddaethent i wared o Ierwshalem; a llawer o gyhuddiadau, a thrymion hefyd, a ddygasant yn ei erbyn, y rhai ni allent eu profi, a Paul yn amddiffyn ei hun, gan ddywedyd, Nac yn erbyn Cyfraith yr Iwddewon, nac yn erbyn y deml, nac yn erbyn Cesar ni phechais ddim. A Ffestus yn ewyllysio ynnill ffafr gyda’r Iwddewon, gan atteb i Paul, a ddywedodd, A ewyllysi di, wedi myned i fynu i Ierwshalem, gael dy farnu yno ynghylch y pethau hyn ger fy mron? A dywedodd Paul, Ger bron brawd-faingc Cesar yn fy sefyll yr wyf, lle y mae rhaid i mi gael fy marnu. I’r Iwddewon ni wnaethum ddim anghyfiawnder, fel yr wyt ti hefyd yn gwybod yn dda. Os yn wir, gan hyny, gwneud anghyfiawnder yr wyf, a rhyw beth yn haeddu angau a wnaethum, ni ofynaf beidio â marw; ond os nad oes dim o’r pethau y mae y rhai hyn yn fy nghyhuddo o honynt, nid oes neb a all fy rhoddi iddynt. At Cesar yr appeliaf. Yna Ffestus, wedi ymddiddan â’r cynghor, a attebodd, At Cesar yr apeliaist, at Cesar yr ei. A rhai dyddiau wedi myned heibio, Agrippa y brenhin a Bernice a ddaethant i wared i Cesarea, gan gyfarch Ffestus. A phan llawer o ddyddiau a dreuliasant yno, Ffestus a roddodd o flaen y brenhin fatterion Paul, gan ddywedyd, Rhyw ddyn sydd wedi ei adael gan Ffelics yn rhwym; ynghylch yr hwn yr hyspysodd yr archoffeiriaid ac henuriaid yr Iwddewon, gan ofyn condemniad yn ei erbyn; wrth y rhai yr attebais nad yw arfer y Rhufeinwyr roddi neb rhyw ddyn i fynu cyn i’r cyhuddol gael y cyhuddwyr o flaen ei wyneb, a chael cyfleusdra i amddiffyn ei hun ynghylch y cyhuddiad. Wedi dyfod o honynt ynghyd, gan hyny, yma, dim oed ni wnaethum, ond trannoeth gan eistedd ar y frawd-faingc, gorchymynais ddwyn y gŵr ger bron; am yr hwn y cyhuddwyr yn eu sefyll, ni ddygasant ddim achwyn o’r pethau drwg a dybiais i; ond rhyw gwestiynau ynghylch eu Crefydd eu hunain oedd ganddynt yn ei erbyn, ac ynghylch rhyw Iesu a fu farw, yr Hwn y dywedai Paul Ei fod yn fyw. Ac myfi, wedi fy nyrysu o ran holi ynghylch y pethau hyn, a ddywedais, A fynnai efe fyned i Ierwshalem ac ei farnu yno ynghylch y pethau hyn: a Paul wedi appelio i’w gadw am benderfyniad Augustus, gorchymynais ei gadw nes y danfonwn ef i fynu at Cesar. Ac Aggrippa a ddywedodd wrth Ffestus, Ewyllysiwn innau hefyd glywed y dyn. Y foru, ebr efe, y clywi ef. Trannoeth, gan hyny, wedi dyfod o Agrippa a Bernice, gyda llawer o rwysg, ac wedi myned i mewn o honynt i’r gwrandaw-le ynghyda’r milwriaid a phendefigion y ddinas, ac wedi gorchymym o Ffestus, dygpwyd Paul ger bron. A dywedodd Ffestus, Agrippa frenhin, a’r holl wŷr yn bresennol gyda ni, gwelwch y dyn hwn, ynghylch yr hwn holl liaws yr Iwddewon a ymbiliasant â mi yn Ierwshalem ac yma, gan waeddi na ddylai efe fyw yn hwy. Ond myfi a ddeallais na wnaethai efe ddim yn haeddu angau: ond efe ei hun wedi appelio at Augustus, bernais ei ddanfon ef; am yr hwn nid oes genyf ddim sydd sicr i’w ysgrifenu at fy arglwydd. Gan hyny, dygais ef ymlaen ger eich bron, ac yn enwedig ger dy fron di, frenhin Agrippa, fel, holiad wedi ei wneuthur, y bo genyf ryw beth a ysgrifenaf; canys allan o reswm yr edrych i mi, wrth ddanfon carcharor, beidio ag hyspysu hefyd yr achwynion yn ei erbyn. Ac Agrippa a ddywedodd wrth Paul, Caniatteir i ti ddywedyd drosot dy hun. Yna Paul, wedi estyn ei law, a amddiffynodd ei hun; Ynghylch yr holl bethau y cyhuddir fi o honynt gan yr Iwddewon, frenhin Agrippa, tybiaf fy hun yn ddedwydd gan mai ger dy fron di yr wyf ar fedr amddiffyn fy hun heddyw; yn enwedig gan dy fod yn gydnabyddus â’r holl ddefodau ymhlith yr Iwddewon, a’r cwestiynnau hefyd; o herwydd paham deisyfiaf arnat fy ngwrando yn amyneddus. Fy muchedd, gan hyny, o’m hieuengetyd, yr hon, o’r dechreuad, a fu ymhlith fy nghenedl yn Ierwshalem, a ŵyr yr holl Iwddewon, gan fy adnabod o’r cyntaf, os ewyllysiant dystiolaethu, mai yn ol y sect fanylaf o’n crefydd y bu’m fyw yn Pharishead. Ac yn awr, am obaith yr addewid a wnaed i’n tadau ni gan Dduw, yr wyf yn sefyll yn cael fy marnu; i’r hwn addewid, ein deuddeg llwyth gyda thaerni, nos a dydd, yn gwasanaethu Duw, a obeithiant ddyfod; am yr hwn obaith y cyhuddir fi gan yr Iwddewon, O frenhin. Paham mai anghredadwy y bernir yn eich plith y bydd i Dduw gyfodi’r meirw? Myfi yn wir a dybiais ynof fy hun, mai yn erbyn enw Iesu y Natsaread yr oedd rhaid gwneuthur llawer o bethau gwrthwynebol. Yr hyn hefyd a wnaethum yn Ierwshalem; a llawer hefyd o’r saint myfi a gauais mewn carcharau, wedi derbyn yr awdurdod gan yr archoffeiriaid; a phan laddwyd hwy, yn eu herbyn y rhoddais fy llais. Ac yn yr holl sunagogau, llawer gwaith, gan eu cospi y cymhellwn hwynt i gablu; a thros ben allan o’m pwyll yn eu herbyn, erlidiwn hwynt hyd y dinasoedd estronol hefyd. Ac yn y pethau hyn wrth fyned i Damascus gydag awdurdod a chaniattad oddiwrth yr archoffeiriaid, ar hanner dydd ar y ffordd y gwelais, O frenhin, oleuni o’r nef, tu hwnt i ddisgleirdeb yr haul, yn disgleirio o’m hamgylch, ac o amgylch y rhai yn myned gyda mi. A’r oll o honom wedi syrthio i lawr ar y ddaear, clywais lais yn dywedyd wrthyf yn iaith yr Hebreaid, Shawl, Shawl, paham mai myfi a erlidi? Caled i ti yw gwingo yn erbyn y symbylau. Ac myfi a ddywedais, Pwy wyt, Arglwydd? A’r Arglwydd a ddywedodd, Myfi yw Iesu, yr Hwn yr wyt ti yn Ei erlid. Eithr cyfod, a saf ar dy draed: canys er hyn yr ymddangosais i ti, i’th osod yn weinidog ac yn dyst yn gystal o’r pethau yn y rhai y gwelaist Fi, ag o’r rhai yr ymddangosaf i ti yn ddynt, gan dy wared oddiwrth y bobl, ac oddiwrth y Cenhedloedd, at y rhai yr wyf Fi yn dy ddanfon i agoryd eu llygaid, er mwyn troi o honynt o dywyllwch i oleuni, ac o awdurdod Satan at Dduw, er mwyn derbyn o honynt faddeuant pechodau ac etifeddiaeth ym mysg y rhai a sancteiddiwyd trwy ffydd Ynof. O achos hyn, O frenhin, ni fu’m anufudd i’r weledigaeth nefol, eithr i’r rhai yn Damascus yn gyntaf, ac Ierwshalem hefyd, a thrwy holl wlad Iwdea, ac i’r cenhedloedd y mynegais ar edifarhau a throi at Dduw, gan wneuthur gweithredoedd teilwng o edifeirwch. O achos y pethau hyn yr Iwddewon, wedi fy nal yn y deml, a geisiasant fy lladd i. Wedi cael, gan hyny y cymmorth y sydd oddiwrth Dduw, hyd y dydd hwn yr wyf yn sefyll gan dystiolaethu i fychain a mawr hefyd, heb ddywedyd dim amgen na’r pethau y bu i’r Prophwydi lefaru am danynt megis ar fedr digwydd, a Mosheh hefyd, mai i ddioddef yr oedd Crist, mai Efe yn gyntaf, trwy adgyfodiad y meirw, oedd ar fedr mynegi goleuni i’r bobl, ac i’r cenhedloedd hefyd. A phan â’r pethau hyn yr amddiffynodd ei hun, Ffestus â llef uchel a ddywedodd, Allan o’th bwyll yr wyt, Paul; mawredd dy ddysg, i ammhwylldra y’th dry. Ond Paul, Nid allan o’m pwyll yr wyf, ebr efe, ardderchoccaf Ffestus, eithr ymadroddion gwirionedd a sobrwydd yr wyf yn eu hadrodd; canys gŵyr y brenhin am y pethau hyn, wrth yr hwn hefyd gydag hyder yr wyf yn llefaru; canys fod rhyw beth o’r pethau hyn yn guddiedig rhagddo, nid wyf yn credu modd yn y byd, canys nid mewn congl y gwnaed hyn. Ai credu’r Prophwydi yr wyt, frenhin Agrippa? Gwn dy fod yn credu. Ac Agrippa a ddywedodd wrth Paul, Rhyw ychydig y perswadi fi, i wneuthur Cristion o honof. A Paul a ddywedodd, Dymunwn gan Dduw, am nid “rhyw ychydig” ond yn fawr y byddai nid tydi yn unig, eithr pawb hefyd y sy’n fy nghlywed heddyw, yn gyfryw ag yr wyf fi, namyn y rhwymau hyn. A chyfododd y brenhin, a’r rhaglaw, a Bernice, a’r rhai oedd yn cyd-eistedd â hwynt; ac wedi cilio o honynt, llefarasant wrth eu gilydd, gan ddywedyd, Nid oes dim yn haeddu angau neu rwymau a wnaeth y dyn hwn. Ac Agrippa a ddywedodd wrth Ffestus, Ei ollwng ymaith yn rhydd a allasai’r dyn hwn, pe na fuasai iddo appelio at Cesar. A phan benderfynwyd morio o honom ymaith i’r Ital, traddodasant Paul, a rhyw garcharorion eraill hefyd, i ganwriad a’i enw Iwlius, o fyddin Augustus. Ac wedi dringo i long o Adramatium, ar fedr hwylio i leoedd arforol Asia, aethom allan o’r porthladd, a chyda ni yr oedd Aristarchus, Macedoniad o Thessalonica. A thrannoeth y troisom i mewn i Tsidon; ac Iwlius yn ymddwyn yn garedigol tuag at Paul, a ganiattaodd iddo fyned at ei gyfeillion a chael ymgeledd. Ac wedi myned oddi yno, hwyliasom dan Cuprus, am fod y gwyntoedd yn wrthwynebus. Ac wedi hwylio o honom dros y môr sydd ger llaw Cilicia a Pamphulia, daethom i Mura, dinas yn Lucia. Ac yno wedi cael o’r canwriad long o Alecsandria, yn hwylio i’r Ital, gosododd ni ynddi. A llawer o ddyddiau yr hwyliasom yn anniben, a phrin y daethom ar gyfer Cnidus am na adawai y gwynt i ni, a hwyliasom dan Creta, ar gyfer Salome; ac wedi i ni yn brin fyned heibio iddo, daethom i ryw le a elwir Caloi Limenes, agos at yr hwn yr oedd y ddinas Lasea. A llawer o amser wedi myned heibio, a morio yn awr yn enbyd, a chan fod yr Ympryd yn awr wedi myned heibio, cynghorodd Paul, gan ddywedyd wrthynt, Dynion, gwelaf mai gyda sarhad a llawer o golled, nid yn unig i’r llwyth a’r llong, eithr i’n heinioes ni hefyd, y mae’r morio ar fedr bod. Ond y canwriad a gredodd i lywydd ac i berchen y llong yn fwy nag i’r pethau a ddywedid gan Paul. A chan mai anghyfleus i auafu oedd y porthladd, y rhan fwyaf a roisant gynghor i ymado oddi yno hefyd, os gallent ryw fodd gyrhaeddyd hyd Phenice, i auafu yno, yr hwn sydd borthladd yn Creta, yn edrych tua’r gogledd-ddwyrain a’r deheu-ddwyrain. A phan chwythodd y deheu-wynt yn araf, gan feddwl y cawsent eu hamcan, wedi codi’r angorau, moriasant heibio yn agos i Creta. Ac ar ol nid llawer o amser y curodd i lawr oddi wrthi wynt tymhestlog, yr hwn a elwir Eur-acwilo. A’r llong wedi ei chipio, ac heb allu gwrthwynebu’r gwynt, ymroisom iddo a dygpwyd ni ganddo. A than ryw ynys fechan y rhedasom; a gallasom gyda gwaith mawr sicrhau y bad; ac wedi ei godi ef i fynu, cynnorthwyon a ddefnyddiasant gan wregysu y llong oddi dani; a chan ofni y bwrid hwynt ar y Surtis, gollyngasant yr hwyl, ac felly y dygpwyd hwynt. A chan yn ddirfawr y’n teflid gan y dymmestl, trannoeth y taflent allan y llwyth; a’r trydydd dydd, â’u dwylaw eu hunain y bwriasant allan daclau’r llong. A phan nad oedd na haul na ser yn ymddangos am lawer o ddyddiau, a thymmestl nid bychan yn pwyso arnom, dygpwyd ymaith o hyny allan bob gobaith o’n bod yn gadwedig. A hir ddirwest wedi bod, yna y safodd Paul yn eu canol, a dywedodd, Yr oedd rhaid, ddynion, i chwi, gan eich perswadio genyf fi, beidio â myned allan o Creta ac ynnill y sarhad yma a’r golled. Ac yr awr hon annogaf chwi i fod yn galonus, canys coll einioes ni fydd ddim i chwi, eithr coll y llong; canys safodd yn fy ymyl y nos hon angel Duw, yr Hwn a’m piau, a’r Hwn yr wyf yn Ei wasanaethu, yn dywedyd, Nac ofna Paul; ger bron Cesar y mae rhaid i ti sefyll; ac, wele, rhoddes Duw i ti yr holl rai sy’n morio gyda thi. Gan hyny, byddwch galonus, ddynion; canys credaf Dduw mai felly y bydd, yn ol y modd y llefarwyd wrthyf. Ond ar ryw ynys y mae rhaid ein bwrw. A phan y bedwaredd nos ar ddeg ydoedd, ac ein dwyn yma ac accw ym mor Adria, tua hanner nos, tybiodd y morwyr eu bod yn nesau at ryw wlad; ac wedi plymio, cawsant ugain gwrhyd; ac wedi myned yspaid byr a phlymio drachefn, cawsant bymtheg gwrhyd; a chan ofni rhag arleoedd geirwon y’n bwrid, o’r pen ol y bwriasant allan bedair angor, a dymunasant ei myned hi yn ddydd. A’r llongwyr yn ceisio ffoi allan o’r llong, ac wedi gollwng y bad i wared i’r môr yn rhith mai o’r pen blaen i’r llong yr oeddynt ar fedr rhoddi allan angorau, dywedodd Paul wrth y canwriad a’r milwyr, Oni bydd i’r rhai hyn aros yn y llong, chwychwi ni ellwch fod yn gadwedig. Yna y milwyr a dorrasant raffau’r bad, ac a adawsant iddo syrthio ymaith. A thra yr oedd y dydd ar fedr dyfod, annogodd Paul bawb o honynt i gymmeryd lluniaeth, gan ddywedyd, Y pedwarydd dydd ar ddeg yw heddyw yr ydych yn disgwyl ac yn parhau heb fwyd, heb gymmeryd dim; gan hyny, annogaf chwi i gymmeryd lluniaeth, canys hyn, er eich diogelwch y mae, canys i neb rhyw un o honoch ni bydd blewyn oddi ar ei ben yn golledig. Ac wedi dywedyd y geiriau hyn, a chymmeryd bara, diolchodd i Dduw yngwydd pawb; ac wedi ei dori ef, dechreuodd fwytta. Ac wedi myned yn galonus, pawb o honynt hwythau hefyd a gymmerasant luniaeth. Ac yr oeddym yn y llong, yr holl eneidiau o honom, yn ddau gant ac un ar bymtheg a thrugain. Ac wedi eu digoni o luniaeth, ysgafnhaent y llong gan fwrw’r gwenith allan i’r môr. A phan aeth hi yn ddydd, y tir nid adwaenent; ond rhyw gilfach a ganfuant, i’r hon yr oedd traeth, yr hwn yr ymgynghorasant a allent wthio’r llong arno. A’r angorau gan eu bwrw hwynt ymaith, a adawsant yn y môr, ar yr un pryd yn gollwng rhwymau’r llywiau; ac wedi codi’r hwyl-flaen i’r gwynt, ceisiasant y traeth. Ac wedi syrthio i le deufor-gyfarfod, gyrrasant y llong i’r traeth; a’r pen blaen iddi a darawodd ac a arhosodd yn ddiysgog; ond y pen ol a ymddattodai gan nerth y tonnau. A chyngor y milwyr oedd lladd y carcharorion, rhag i neb o honynt, gan nofio allan, ddiangc: ond y canwriad, yn chwennych cadw Paul, a’u rhwystrodd rhag eu hamcan, ac a archodd i’r rhai a fedrent nofio, ymfwrw i’r môr, a myned yn gyntaf i’r tir; ac i’r lleill, rhai ar ystyllod, ac eraill ar ryw bethau o’r llong. Ac felly y digwyddodd i bawb ddyfod yn ddiangol i’r tir. Ac wedi dyfod yn ddiangol, yna y gwybuant mai Melita a elwid yr ynys. A’r barbariaid a ddangosasant i ni ddyngarwch nid cyffredin; canys cynneuasant dân, a derbyniasant yr oll o honom, o herwydd y gwlaw cynrychiol, ac o herwydd yr oerfel. Ac wedi casglu o Paul ryw faint o friw-wydd, ac eu dodi ar y tân, gwyber wedi dyfod allan o achos y gwres, a lynodd wrth ei law ef. A phan welodd y barbariaid y bwystfil yn nghrog wrth ei law, dywedasant wrth eu gilydd, Yn sicr llofrudd yw y dyn hwn, yr hwn, wedi ei achub o’r môr, cyfiawnder ni adawodd iddo fyw. Efe, gan hyny, wedi ysgwyd ymaith y bwystfil i’r tân, ni oddefodd ddim niweid. A hwy a ddisgwylient ei fod ar fedr chwyddo neu syrthio i lawr yn ddisymmwth yn farw; a phan am amser hir y disgwylient, ac y gwelent nad oedd dim niweid yn digwydd iddo, gan newid eu meddwl, dywedasant mai duw oedd efe. Ac yn agos i’r fan honno yr oedd tiroedd yn perthyn i bennaeth yr ynys, a’i enw Publius, yr hwn a’n derbyniodd, a thridiau y llettyodd ni yn garedig. A digwyddodd fod tad Publius, wedi ei ddala gan gryd a gwaedlif, yn cadw ei wely; at yr hwn wedi i Paul fyned i mewn, a gweddïo, gan ddodi ei ddwylaw arno, yr iachaodd ef. A hyn wedi digwydd, y lleill hefyd, y rhai yn yr ynys oedd a chanddynt heintiau, a ddaethant atto ac a iachawyd; y rhai hefyd, â llawer o anrhegion yr anrhydeddasant ni; ac wrth fyned o honom ymaith, rhoisant yn y llong y pethau yn perthyn i’n hangenrheidiau. Ac wedi tri mis aethom ymaith mewn llong a auafasai yn yr ynys, un o Alexandria, a’i harwydd Dioscwroi. Ac wedi troi i mewn i Suracwsai, arhosasom yno dridiau. Ac oddi yno, wedi myned o amgylch, y daethom i Rhegium; ac ar ol un diwrnod deheu-wynt a gyfododd, ac yr ail ddydd daethom i Puteoli; lle y cawsom frodyr, ac y dymunwyd arnom aros gyda hwynt saith niwrnod; ac felly i Rhufain y daethom. Ac oddi yno, y brodyr, wedi clywed am danom, a ddaethant i’n cyfarfod hyd Appii Fforum a Tres Tabernæ; a phan y’u gwelodd, Paul a ddiolchodd i Dduw ac a gymmerth galon. A phan ddaethom i Rhufain, caniattawyd i Paul aros wrtho ei hun, ynghyda’r milwr oedd yn ei gadw ef. A digwyddodd, ar ol tridiau, alw o hono ynghyd y rhai oedd bennaf o’r Iwddewon: ac wedi dyfod o honynt ynghyd, dywedodd wrthynt, Myfi, frodyr, heb wneuthur o honof ddim yn erbyn y bobl na defodau ein tadau, yn garcharor y’m rhoddwyd o Ierwshalem i ddwylaw y Rhufeinwyr, y rhai, wedi fy holi, a fynnasant fy ngollwng yn rhydd, gan nad oedd dim achos angau ynof. Ond pan wrth-ddywedai yr Iwddewon, cymhellwyd fi i appelio at Cesar, nid fel pettai genyf ddim i gyhuddo fy nghenedl o hono. Am yr achos hwn, gan hyny, y deisyfiais arnoch weled ac ymddiddan â mi, canys o achos gobaith Israel yr wyf a’r gadwyn hon am danaf. A hwy a ddywedasant wrtho, Nyni, na llythyrau am danat ni chawsom o Iwdea, na neb o’r brodyr wedi dyfod yma, a fynegodd nac a lefarodd ddim drwg am danat. Ond dymunem glywed genyt ti pa beth yw dy feddwl, canys am y sect hon, hyspys yw i ni mai ymhob man y dywedir yn ei herbyn. Ac wedi gosod o honynt ddiwrnod iddo, daethant atto i’w letty, llawer o honynt; i’r rhai yr esponiodd efe, gan dystiolaethu teyrnas Dduw, a’u perswadio ynghylch yr Iesu, allan o Gyfraith Mosheh, a’r Prophwydi, o’r bore hyd yr hwyr. A rhai a gredasant y pethau a ddywedwyd a rhai ni chredasant. Ac yn anghyttun â’u gilydd, yr ymadawsant, wedi dywedyd o Paul un gair, sef, Da y bu i’r Yspryd Glân lefaru, trwy Eshaiah y prophwyd, wrth eich tadau, gan ddywedyd, “Dos at y bobl hyn a dywaid, A chlyw y clywch, ond ni ddeallwch; A chan weled y gwelwch ac ni chanfyddwch; Canys brasawyd calon y bobl hyn, Ac â’u clustiau yn drwm y clywsant, Ac eu llygaid a gauasant, Rhag gweled o honynt â’u llygaid, Ac â’u clustiau glywed, Ac â’u calon ddeall, A dychwelyd o honynt, Ac iachau o honof hwynt.” Bydded hysbys, gan hyny, i chwi, mai i’r cenhedloedd y danfonwyd yr iachawdwriaeth hon o eiddo Duw; a hwy a wrandawant. Ac arhosodd ddwy flynedd gyfan yn ei dŷ ardrethol ei hun, a derbyniodd bawb a oedd yn dyfod i mewn atto, gan bregethu teyrnas Dduw, a dysgu’r pethau am yr Arglwydd Iesu Grist, gyda phob hyder yn ddirwystr. Paul gwas i Iesu Grist, apostol galwedig, wedi ei neillduo i Efengyl Dduw, yr hon a rag-addawodd Efe trwy Ei brophwydi yn yr Ysgrythyrau sanctaidd, am Ei Fab, yr Hwn a aned o had Dafydd yn ol y cnawd, a hyspyswyd yn Fab Duw gyda gallu, yn ol yspryd sancteiddrwydd, trwy adgyfodiad y meirw; sef Iesu Grist ein Harglwydd, trwy’r Hwn y derbyniasom ras ac Apostoliaeth, i ufudd-dod ffydd ym mhlith yr holl genhedloedd, er mwyn Ei enw Ef: ym mysg y rhai yr ydych chwi hefyd, galwedig gan Iesu Grist; at bawb sydd yn Rhufain, anwyl gan Dduw, galwedigion i fod yn saint; Gras i chwi a thangnefedd oddi wrth Dduw ein Tad, a’r Arglwydd Iesu Grist. Yn gyntaf, diolch yr wyf i’m Duw trwy Iesu Grist oblegid yr oll o honoch, fod eich ffydd yn cael ei chyhoeddi yn yr holl fyd; canys fy nhyst yw Duw, yr Hwn yr wyf yn Ei wasanaethu yn fy yspryd yn Efengyl Ei Fab, mor ddibaid yr wyf yn gwneuthur coffa o honoch, bob amser yn fy ngweddïau, yn deisyf a gawn ryw fodd ryw amser bellach rwyddhynt trwy ewyllys Duw i ddyfod attoch: canys hiraethu yr wyf am eich gweled, fel y cyfrannwyf i chwi ryw ddawn ysprydol fel y’ch cadarnhaer, a hyny yw fel y’m cyd-gysurer ynoch, trwy ffydd ein gilydd, yr eiddoch chwi a’r eiddof finnau. Ac nid ewyllysiaf i chwi fod heb wybod, frodyr, mai llawer gwaith yr arfaethais ddyfod attoch (ond lluddiwyd fi hyd yn hyn,) fel y byddai rhyw ffrwyth i mi ynoch chwi hefyd, fel yn y cenhedloedd eraill. I Roegwyr a barbariaid hefyd, i ddoethion ac i’ r rhai anneallus hefyd yr wyf ddyledwr; felly o’m rhan i y mae parodrwydd i efengylu i chwi hefyd y rhai ydych yn Rhufain, canys nid oes arnaf gywilydd o’r Efengyl, canys gallu Duw yw, er iachawdwriaeth i bob un sydd yn credu, i Iwddew yn gyntaf ac i Roegwr hefyd; canys cyfiawnder Duw, ynddi hi y’i datguddir o ffydd i ffydd, fel yr ysgrifenwyd, “Ond y cyfiawn trwy ffydd a fydd fyw.” Canys datguddir digofaint Duw, o’r nef, yn erbyn pob annuwioldeb ac anghyfiawnder dynion y sy’n attal y gwirionedd mewn anghyfiawnder, canys yr hyn a wybyddir am Dduw, eglur yw ynddynt, canys Duw a’ i heglurodd iddynt. Canys Ei anweledig bethau Ef er’s creadigaeth y byd, yn cael eu canfod yn y pethau a wnaed, a welir yn eglur, yn gystal Ei dragywyddol allu Ef a’i Dduwdod, fel y byddont hwy yn ddiesgus; canys, a hwy yn adnabod Duw, ni ogoneddasant Ef megis Duw na rhoddi diolch, eithr ofer yr aethant yn eu hymresymmiadau, a thywyllwyd eu calon anneallus. Gan broffesu eu bod yn ddoethion, yn ynfydion yr aethant, a newidiasant ogoniant yr anllygredig Dduw am gyffelybiaeth llun dyn llygredig ac ehediaid ac anifeiliaid pedwar-carnol ac ymlusgiaid. O herwydd hyny traddododd Duw hwynt, yn nhrachwantau eu calonnau, i aflendid fel yr ammherchid eu cyrph yn eu plith eu hunain; y rhai a newidiasant wirionedd Duw am gelwydd, ac a addolasant ac a wasanaethasant y creadur tu hwnt i’r Creawdwr, yr Hwn sydd fendigedig yn dragywydd. Amen. O achos hyn, traddododd Duw hwynt i wyniau gwarthus, canys eu banywiaid a newidiasant yr arfer anianol i’r hon sydd yn erbyn anian; ac yn y cyffelyb fodd y gwrrywiaid hefyd a adawsant yr arfer anianol o’r fanyw, ac a losgasant yn eu chwennychiad i’w gilydd, gwrrywiaid gyda gwrrywiaid yn gweithredu bryntni; ac y tâl am eu cyfeiliornad, yr hwn oedd rhaid, ynddynt eu hunain a dderbyniant. Ac fel ni chymmeradwyasant fod a Duw ganddynt mewn gwybodaeth, traddododd Duw hwynt i feddwl anghymmeradwy, i wneuthur y pethau nad y’nt weddaidd, wedi eu llenwi â phob anghyfiawnder, anfadrwydd, cybydd-dod, a drygioni; yn orlawn o gynfigen, llofruddiaeth, cynnen, twyll a dryganiaeth; yn hustyngwyr, yn athrodwyr, yn gas ganddynt Dduw, yn saraus, yn feilchion, yn ffrostwyr, yn ddychymygwyr pethau drwg, yn anufudd i rieni, yn anneallus, yn dorrwyr ammod, heb serch naturiol, yn annhrugarogion; y rhai a deddf Dduw yn adnabyddus ganddynt fod y rhai sy’n gwneuthur y fath bethau yn haeddu marwolaeth, ydynt nid yn unig yn eu gwneuthur hwynt, eithr cyd-foddlonir hwynt hefyd â’r rhai a’u gwnant. Gan hyny, diesgus wyt, O ddyn, bob un y sy’n barnu, canys yn yr hyn y berni y llall, condemnio ti dy hun yr wyt, canys yr un pethau yr wyt ti y sy’n barnu, yn eu gwneuthur. A gwyddom fod barn Duw yn ol gwirionedd yn erbyn y rhai sy’n gwneuthur y fath bethau. Ac a dybi di hyn, O ddyn y sy’n barnu y rhai yn gwneuthur y fath bethau ac yn eu gwneuthur hwynt, y diengi di rhag barn Duw? Ai golud Ei ddaioni a’i ddioddefgarwch, a’i hwyrfrydigrwydd Ef a ddirmygi, gan fod heb wybod fod daioni Duw yn dy dywys i edifeirwch, ond yn ol dy galedrwydd a’ th galon ddiedifeiriol yr wyt yn trysori i ti dy hun ddigofaint yn nydd digofaint a datguddiad cyfiawn farn Duw, yr hwn a dal i bob un yn ol ei weithredoedd, sef i’r rhai sydd trwy amynedd yng ngweithred dda yn ceisio gogoniant ac anrhydedd ac anllygredigaeth, fywyd tragywyddol; ond i’r rhai cynhenus ac yn anufudd i’r gwirionedd, ond yn ufudd i anghyfiawnder, y bydd digofaint a llid, trallod ac ing ar bob enaid dyn sy’n gweithredu yr hyn sy ddrwg, yr Iwddew yn gyntaf a’ r Groegwr hefyd; ond gogoniant ac anrhydedd a thangnefedd i bob un sy’n gweithredu yr hyn sy dda, i’ r Iwddew yn gyntaf a’ r Groegwr hefyd, canys nid oes derbyn gwyneb gyda Duw. Canys cynnifer ag a bechasant heb y Gyfraith, heb y Gyfraith y derfydd am danynt; a chynnifer ag a bechasant tan y Gyfraith, trwy’ r Gyfraith y bernir hwynt, canys nid gwrandawyr y Gyfraith sydd gyfiawn gyda Duw, ond gwneuthurwyr y Gyfraith a gyfiawnheir. Canys pan fo’r cenhedloedd, y rhai sydd heb y Gyfraith ganddynt, wrth naturiaeth yn gwneuthur pethau’r Gyfraith, y rhai hyn, heb y Gyfraith ganddynt, ydynt gyfraith iddynt eu hunain; y rhai sy’n dangos gwaith y Gyfraith wedi ei ysgrifenu yn eu calonnau, eu cydwybod hwy yn cyd-dystiolaethu; a’u meddyliau, rhyngddynt a hwy eu gilydd, yn cyhuddo neu yn esgusodi, yn y dydd pan y barna Duw y pethau cuddiedig gan ddynion, yn ol fy Efengyl, trwy Iesu Grist. A thydi, os Iwddew y’th enwir, ac ymorphwyso o honot ar y Gyfraith, ac yn ymffrostio yn Nuw, ac yn gwybod Ei ewyllys, ac yn darbod y pethau rhagorol, wedi dy ddysgu o’r Gyfraith; yn coelio dy hun yn dywysog i’ r deillion, yn oleuni i’ r rhai mewn tywyllwch, yn ddiwygiwr ynfydion, yn ddysgawdwr y rhai bach; a chenyt ffurf gwybodaeth a’r gwirionedd yn y Gyfraith; yr hwn, gan hyny, wyt yn dysgu arall, ai ti dy hun na ddysgi di? Yr hwn wyt yn pregethu peidio â lladratta, ai lladratta yr wyt? Yr hwn wyt yn dywedyd peidio â godinebu, ai godinebu yr wyt? Yr hwn wyt yn ffieiddio yr eulunod, ai yspeilio temlau yr wyt? Yr hwn, yn y Gyfraith yr ymffrosti, ai trwy droseddiad y Gyfraith y mae Duw yn cael Ei ddianrhydeddu genyt? canys enw Duw, o’ch plegid chwi y’i ceblir ym mhlith y cenhedloedd, fel y mae yn ysgrifenedig. Canys amdorriad yn wir sy’n llesau, os y Gyfraith a wnei; ond os troseddwr y Gyfraith wyt, dy amdorriad a aeth yn ddiamdorriad. Os y diamdorriad, gan hyny, a geidw ddeddfau’r Gyfraith, oni fydd i’w ddiamdorriad ef ei gyfrif yn amdorriad, a barnu o’r diamdorriad y sydd o naturiaeth, pan y Gyfraith a gyflawno efe, di yr hwn, ynghyda’r llythyren ac amdorriaeth, wyt yn droseddwr y Gyfraith? Canys nid yr hwn sydd yn yr amlwg sydd Iwddew, na’r hwn sydd yn yr amlwg yn y cnawd sydd amdorriad; eithr yr hwn sydd yn y dirgel sydd Iwddew, ac amdorriad yw amdorriad y galon yn yr yspryd, nid yn y llythyren; clod yr hwn, nid o ddynion y mae, ond o Dduw. Pa beth, gan hyny, yw rhagoriaeth yr Iwddew? Neu pa beth yw budd yr amdorriad? Llawer ym mhob modd. Yn gyntaf, oblegid yr ymddiriedwyd oraclau Duw iddynt: canys pa beth os di-ffydd oedd rhai? A fydd eu hanghrediniaeth yn gwneuthur ffyddlondeb Duw yn ddirym? Na atto Duw; ond bydded Duw yn eirwir, a phob dyn yn gelwyddwr, fel yr ysgrifenwyd, “Fel y’th gyfiawnhaer yn Dy eiriau, Ac y gorfyddech pan y’th fernir.” Ond os ein hanghyfiawnder a ganmol gyfiawnder Duw, pa beth a ddywedwn? Ai anghyfiawn yw Duw, yr Hwn sydd yn dwyn arnom ddigofaint? (Yn ol dyn yr wyf yn dywedyd;) Na atto Duw; canys yna, pa fodd y barna Duw y byd? Ond os gwirionedd Duw, trwy fy nghelwydd i, a fu helaethach i’w ogoniant Ef, paham yr wyf finnau hefyd mwyach yn cael fy marnu fel pechadur, ac na (fel y’n ceblir, ac y dywaid rhai ein bod yn dywedyd,) wnawn y pethau drwg fel y delo y pethau da, y rhai y mae eu condemniad yn gyfiawn. Pa beth, gan hyny? A ydym ni yn fwy rhagorol? Ddim o gwbl; canys cyhuddasom o’r blaen yr Iwddewon a’r Groegwyr hefyd o fod, bawb o honynt, tan bechod; fel yr ysgrifenwyd, “Nid oes neb cyfiawn, nid hyd yn oed un; Nid oes neb y sy’n deall; Nid oes neb y sy’n ceisio Duw. Yr oll a wyrasant, ynghyd yr aethant yn anfuddiol, Nid oes neb yn gwneuthur daioni; nid oes hyd yn oed un. Bedd agored yw eu gwddf; A’u tafodau y gwnaethant ddichell, Gwenwyn aspiaid sydd dan eu gwefusau. Y rhai y mae eu genau yn llawn melldith a chwerwedd. Buan yw eu traed i dywallt gwaed; Distryw ac adfyd sydd yn eu ffyrdd; A ffordd tangnefedd nid adwaenant. Nid oes ofn Duw ger bron eu llygaid,” Ond gwyddom am gynnifer bethau ag y mae’r Gyfraith yn eu dywedyd, mai wrth y rhai tan y Gyfraith y’u dywaid, fel y bo pob genau wedi ei gau, ac yr elo yr holl fyd dan farn Duw; canys trwy weithredoedd y Gyfraith ni chyfiawnheir un cnawd ger Ei fron Ef, canys trwy’ r Gyfraith y mae adnabod pechod. Ond yn awr, yn wahan oddiwrth y Gyfraith, y mae cyfiawnder Duw wedi ei amlygu a thystiolaeth iddo gan y Gyfraith a’r Prophwydi; sef, cyfiawnder Duw trwy ffydd yn Iesu Grist, i bawb y sy’n credu; canys nid oes gwahaniaeth, canys pawb a bechasant, ac ydynt ar ol am ogoniant Duw, yn cael eu cyfiawnhau yn rhad gan Ei ras Ef trwy’r prynedigaeth sydd yn Nghrist Iesu, yr Hwn a osododd Duw yn iawn trwy ffydd, trwy Ei waed Ef, i ddangos Ei gyfiawnder Ef, o achos maddeuant y pechodau a wnaethid o’r blaen, yn nioddefgarwch Duw; i ddangos, meddaf, Ei gyfiawnder Ef y pryd hwn, fel y bo Efe yn gyfiawn ac yn cyfiawnhau yr hwn sydd a chanddo ffydd yn yr Iesu. Pa le, gan hyny, y mae’r ymffrost? Cauwyd allan. Trwy ba gyfraith? Ai cyfraith gweithredoedd? Nage; eithr trwy gyfraith ffydd. Cyfrifwn, gan hyny, y cyfiawnheir dyn trwy ffydd, yn wahan oddiwrth weithredoedd y Gyfraith. Ai i’r Iwddewon yn unig y mae Efe yn Dduw? Nage; ond i’r cenhedloedd hefyd; ïe, i’r cenhedloedd hefyd, gan mai un yw Duw, yr Hwn a gyfiawnha yr amdorriad trwy ffydd, ac y diamdorriad trwy ffydd. Ai dirymu’r Gyfraith yr ydym trwy ffydd? Na atto Duw; eithr sefydlu’r Gyfraith yr ydym. Pa beth, gan hyny, a ddywedwn y cafodd Abraham ein cyn-dad yn ol y cnawd? Canys, os Abraham trwy weithredoedd a gyfiawnhawyd, y mae ganddo fatter ymffrost, eithr nid tua Duw, canys pa beth y mae’r Ysgrythyr yn ei ddweud? “Credodd Abraham i Dduw, a chyfrifwyd iddo yn gyfiawnder.” Ac i’r hwn sy’n gweithio, y gwobr ni chyfrifir o ras, eithr o ddyled; ond i’r hwn nad yw yn gweithio, ond yn credu yn yr Hwn sy’n cyfiawnhau yr annuwiol, cyfrifir ei ffydd ef yn gyfiawnder: fel y mae Dafydd hefyd yn adrodd dedwyddwch y dyn i’r hwn y mae Duw yn cyfrif cyfiawnder yn wahan oddiwrth weithredoedd, “Dedwydd y rhai y maddeuwyd eu hanghyfreithderau, Ac y gorchuddiwyd eu pechodau; Dedwydd y gŵr i’r hwn ni chyfrif Iehofah bechod.” Y dedwyddwch hwn, gan hyny, ai ar yr amdorriad y mae, neu ar y di-amdorriad hefyd? Canys dywedwn, Cyfrifwyd ei ffydd i Abraham yn gyfiawnder. Pa fodd, gan hyny, y cyfrifwyd hi? Ai pan yn yr amdorriad yr ydoedd, neu yn y di-amdorriad? Nid yn yr amdorriad, eithr yn y di-amdorriad. Ac arwydd yr amdorriad a gafodd efe, yn sel cyfiawnder ei ffydd, yr hon oedd yn y di-amdorriad, fel y byddai efe yn dad pawb a gredent, er mewn di-amdorriad, fel y cyfrifer cyfiawnder iddynt; ac yn dad yr amdorriad, i’r rhai sydd nid yn unig o’ r amdorriad, eithr sydd hefyd yn rhodio yn olion ffydd ein tad Abraham tra yn y di-amdorriad, Canys nid trwy’r Gyfraith yr oedd yr addewid i Abraham, neu i’w had, y byddai yn etifedd y byd, eithr trwy gyfiawnder ffydd. Canys os y rhai sydd o’r Gyfraith ydynt etifeddion, gwaghawyd ffydd, a dirymwyd yr addewid: canys y Gyfraith, digofaint a weithia hi; ond lle nad oes Cyfraith nid oes trosedd. O herwydd hyn o ffydd y mae, fel yn ol gras y byddo, fel y byddo’r addewid yn ddiymmod i’r holl had, nid i’r hwn sydd yn unig o’r Gyfraith, eithr hefyd i’r hwn sydd o ffydd Abraham, yr hwn yw ein tad ni oll (fel yr ysgrifenwyd, “Tad llawer o genhedloedd y’th wnaethum,”) ger bron yr Hwn y credodd efe Iddo, sef Duw y sy’n bywhau y meirw, ac yn galw y pethau nad ydynt fel pe baent; yr hwn yn erbyn gobaith, dan obaith a gredodd, fel yr elai efe yn dad llawer o genhedloedd, yn ol yr hyn a ddywedasid, “Felly y bydd dy had.” Ac heb fod yn wan mewn ffydd, ystyriodd ei gorph ei hun yn awr megis wedi ei farwhau (ac efe ynghylch can mlwydd oed) a marweidd-dra bru Sarah; ond tuag at addewid Duw nid ammheuodd trwy anghrediniaeth, eithr nerthwyd ef trwy ffydd, gan roddi gogoniant i Dduw, ac yn gwbl sicr ganddo, mai yr hyn a addawsai Efe, Ei fod hefyd yn abl i’w wneuthur ef: ac am hyny y cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder. Ac nid ysgrifenwyd er ei fwyn ef yn unig, “Y cyfrifwyd iddo,” eithr er ein mwyn ninnau hefyd, i’r rhai y cyfrifir, y rhai ydym yn credu yn yr Hwn a gyfododd Iesu ein Harglwydd o feirw, yr hwn a draddodwyd o achos ein camweddau, ac a gyfodwyd er mwyn ein cyfiawnhad. Wedi ein cyfiawnhau, gan hyny, trwy ffydd, bydded heddwch genym gyda Duw, trwy ein Harglwydd Iesu Grist, trwy’r Hwn y cawsom hefyd ein dyfodfa, trwy ffydd, i’r gras hwn, yn yr hwn yr ydym yn sefyll, a bydded i ni orfoleddu yn ngobaith gogoniant Duw; ac nid hyny yn unig, eithr bydded i ni orfoleddu yn ein gorthrymderau hefyd, gan wybod fod gorthrymder yn gweithredu dioddefgarwch; a dioddefgarwch, brofiad; a phrofiad, obaith; a gobaith ni chywilyddia, gan fod cariad Duw wedi ei dywallt allan yn ein calonnau trwy’r Yspryd Glân yr Hwn a roddwyd i ni. Canys Crist, a ni etto yn weiniaid, mewn pryd, tros annuwiolion y bu farw; canys braidd tros un cyfiawn y bydd neb farw, canys tros y dyn da, hwyrach hyd yn oed y beiddiai un farw. A chanmol Ei gariad Ei hun tuag attom y mae Duw, gan mai tra etto pechaduriaid oeddym trosom y bu Crist farw. Llawer mwy, gan hyny, wedi ein cyfiawnhau yn awr trwy Ei waed Ef, y byddwn gadwedig, trwyddo Ef, oddiwrth y digofaint. Canys os pan yn elynion y’n cymmodwyd â Duw trwy farwolaeth Ei Fab, llawer mwy, wedi ein cymmodi, y byddwn gadwedig trwy Ei fywyd Ef; ac nid hyny yn unig, eithr gorfoleddu hefyd yr ydym yn Nuw trwy ein Harglwydd Iesu Grist, trwy yr Hwn yn awr y cawsom y cymmod. Am hyny, fel trwy un dyn y bu i bechod ddyfod i mewn i’r byd; a thrwy bechod, farwolaeth; ac felly ar bob dyn yr aeth marwolaeth, o herwydd i bawb bechu, canys hyd y Gyfraith yr oedd pechod yn y byd, a phechod ni chyfrifir pan nad oes cyfraith; eithr teyrnasodd marwolaeth o Adam hyd Mosheh, hyd yn oed tros y rhai na phechasant yn ol cyffelybiaeth trosedd Adam, yr hwn sydd gynllun yr Hwn oedd ar ddyfod. Eithr nid fel y camwedd, felly y dawn hefyd; canys os trwy gamwedd yr un y bu llawer feirw, llawer mwy y bu gras Duw a’r rhodd trwy ras yr un Dyn Iesu Grist mewn gorlawnder i laweroedd. Ac nid fel trwy un a bechodd y mae’r rhodd, canys y farn oedd o un i gondemniad, ond y dawn o lawer o gamweddau i gyfiawnhad. Canys os trwy gamwedd yr un y bu i farwolaeth deyrnasu trwy yr un, llawer mwy y rhai sy’n derbyn y gorlawnder o ras ac o rodd cyfiawnder, a deyrnasant mewn bywyd trwy yr Un, Iesu Grist. Gan hyny, ynte, fel trwy un camwedd y bu ar bob dyn i gondemniad, felly hefyd trwy un gwaith cyfiawn y bu ar bob dyn i gyfiawnhad bywyd; canys fel trwy anufudd-dod yr un dyn pechaduriaid y gwnaethpwyd y llawer, felly hefyd trwy ufudd-dod yr Un, cyfiawnion y gwneir y llawer. A’r Gyfraith hefyd a ddaeth i mewn fel yr amlhai y camwedd; ond lle yr amlhaodd pechod, rhagor mewn gorlawnder yr oedd gras; er mwyn fel y teyrnasodd pechod ym marwolaeth, felly hefyd y byddai i ras deyrnasu, trwy gyfiawnder, i fywyd tragywyddol trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Pa beth, gan hyny, a ddywedwn? Ai, Arhoswn mewn pechod fel y bo i ras amlhau? Na atto Duw. Ni, y rhai a fuom feirw i bechod, pa fodd y byddwn fyw etto ynddo? Ai heb wybod yr ydych mai cynnifer o honom ag a fedyddiwyd i Grist Iesu, i’w farwolaeth Ef y’n bedyddiwyd? Cyd-gladdwyd ni, gan hyny, gydag Ef trwy farwolaeth, er mwyn fel y cyfodwyd Crist o feirw trwy ogoniant y Tad, felly y byddai i ninnau hefyd rodio yn newydd-deb buchedd; canys os ein cyd-uno ag Ef a fu i ni trwy gyffelybiaeth Ei farwolaeth Ef, trwy gyffelybiaeth Ei adgyfodiad hefyd y byddwn felly; gan wybod hyn y bu i’n hen ddyn ni ei groes-hoelio gydag Ef, fel y dirymmid y corph pechadurus er mwyn na wasanaethom bechod mwyach, canys yr hwn a fu farw a ollyngwyd yn rhydd oddiwrth bechod. Ac os buom feirw gyda Christ, credwn y byddwn fyw hefyd gydag Ef, gan wybod nad yw Crist, ar ol Ei gyfodi o feirw, yn marw mwyach, marwolaeth nid arglwyddiaetha arno mwyach: canys yn yr hyn y bu Efe farw, i bechod y bu farw unwaith am oll; ond yn yr hyn y bu Efe fyw, byw y mae i Dduw; felly chwithau hefyd, cyfrifwch eich hunain yn feirw i bechod, ond yn fyw i Dduw yng Nghrist Iesu. Na theyrnased pechod, gan hyny, yn eich corph marwol fel yr ufuddhaoch i’w chwantau ef; ac na roddwch eich aelodau, yn arfau anghyfiawnder, i bechod; eithr rhoddwch eich hunain i Dduw, fel rhai o feirw yn fyw, a’ch aelodau, yn arfau cyfiawnder i Dduw: canys pechod, arnoch chwi nid arglwyddiaetha, canys nid ydych tan y Gyfraith, eithr tan ras. Pa beth, gan hyny? Ai pechu a wnawn, o herwydd nad ydym tan y Gyfraith, eithr tan ras? Na atto Duw. Oni wyddoch mai i’r hwn y rhoddwch eich hunain yn weision er ufudd-dod, gweision ydych i’r hwn yr ydych yn ufuddhau iddo, pa un bynnag ai gweision pechod i farwolaeth; neu weision ufudd-dod, i gyfiawnder? Ond diolch i Dduw, y buoch weision pechod, ond ufuddhasoch o’r galon i’r ffurf o ddysgad a draddodwyd i chwi; ac wedi eich rhyddhau oddiwrth bechod y’ch gwnaethpwyd yn weision i gyfiawnder. Yn ol dull dynion yr wyf yn dywedyd o herwydd gwendid eich cnawd; canys fel y rhoddasoch eich aelodau yn weision i aflendid ac i anghyfraith er anghyfraith, felly yn awr rhoddwch eich aelodau yn weision i gyfiawnder er sancteiddiad. Canys pan oeddych weision pechod, rhyddion oeddych tuag at gyfiawnder. Pa ffrwyth, gan hyny, oedd i chwi y pryd hwnw yn y pethau y mae arnoch yn awr gywilydd o’u plegid, canys eu diwedd hwy yw marwolaeth? Ond yn awr, wedi eich rhyddhau oddiwrth bechod, a’ch gwneuthur yn weision i Dduw, y mae genych eich ffrwyth i sancteiddiad, a’r diwedd yn fywyd tragywyddol; canys cyflog pechod yw marwolaeth, ond dawn Duw yw bywyd tragywyddol yn Iesu Grist ein Harglwydd ni. Ai heb wybod yr ydych, frodyr, (canys wrth rai yn gwybod y Gyfraith yr wyf yn dywedyd,) fod y Gyfraith yn arglwyddiaethu ar ddyn am gymmaint o amser ag y mae efe yn fyw? Canys y wraig ag iddi ŵr, i’r gŵr, tra yn fyw, y rhwymwyd hi gan y Gyfraith; ond os bydd marw y gŵr, rhyddhawyd hi oddiwrth gyfraith y gŵr. Gan hyny, ynte, tra byw yw’r gŵr, godineb-wraig y gelwir hi os aiff yn eiddo gŵr arall; ond os marw fydd y gŵr, rhydd yw oddiwrth y gyfraith fel na bo yn odineb-wraig wedi myned yn eiddo gŵr arall. Gan hyny, fy mrodyr, chwithau hefyd a’ch gwnaethpwyd yn feirw i’r Gyfraith trwy gorph Crist, fel yr eloch yn eiddo un arall, yr Hwn a gyfodwyd o feirw, fel y dygom ffrwyth i Dduw. Canys pan oeddym yn y cnawd, y gwyniau pechadurus, y rhai sydd trwy’r Gyfraith, a weithient yn ein haelodau i ddwyn ffrwyth i farwolaeth; ond yn awr y’n rhyddhawyd oddiwrth y Gyfraith, wedi ein meirw i’r peth y’n hattelid ynddo, fel mai gwasanaethu yr ydym yn newydd-deb buchedd, ac nid yn hendra y llythyren. Pa beth, gan hyny, a ddywedwn? Ai, Y Gyfraith sydd bechod? Na atto Duw; eithr pechod nid adnabum, oddi eithr trwy’ r Gyfraith; canys trachwant nid adnabuaswn oddieithr i’r Gyfraith ddywedyd, “Ni thrachwanti;” ond wedi cymmeryd achlysur, pechod a weithiodd ynof, trwy’r Gyfraith, bob trachwant; canys yn wahan oddiwrth y Gyfraith, y mae pechod yn farw. Ac myfi a fu’m fyw unwaith yn wahan oddiwrth y Gyfraith; ond wedi dyfod y gorchymyn, pechod a adfywiodd, ac myfi a fu’m farw; a chafwyd y gorchymyn genyf, yr hwn oedd i fywyd, i farwolaeth; canys pechod, wedi cymmeryd achlysur trwy’r gorchymyn, a’m twyllodd; a thrwyddo ef y’m lladdodd. Felly y Gyfraith, sanctaidd yw; a’r gorchymyn yn sanctaidd ac yn gyfiawn ac yn dda. Ai’r hyn sydd dda, gan hyny, a aeth yn farwolaeth i mi? Na atto Duw: eithr pechod, fel yr ymddangosai yn bechod, gan weithio, trwy’r hyn sydd dda, farwolaeth i mi —, fel yr elai pechod yn bechadurus dros fesur trwy’r gorchymyn. Canys gwyddom fod y Gyfraith yn ysprydol; ond myfi, cnawdol wyf, wedi fy ngwerthu dan bechod; canys yr hyn yr wyf yn ei weithredu, nis gwn ef, canys nid yr hyn yr wyf yn ei ewyllysio, yr wyf yn ei wneud; eithr yr hyn sydd gas genyf, hwnw yr wyf yn ei wneuthur. Ac os yr hyn nad wyf yn ei ewyllysio yr wyf yn ei wneuthur, cydsynio â’r Gyfraith yr wyf mai da yw. Ac yn awr, nid myfi sydd mwyach yn ei weithredu ef, eithr y pechod y sy’n trigo ynof; canys gwn nad oes yn trigo ynof, hyny yw yn fy nghnawd, ddim da; canys yr ewyllysio sydd bresennol gyda mi, ond gweithredu y da nid yw; canys nid yr hyn yr wyf yn ei ewyllysio, y da, yr wyf yn ei wneuthur, eithr yr hyn nad wyf yn ei ewyllysio, y drwg, hwnw yr wyf yn ei wneud; ac os yr hyn nad wyf yn ei ewyllysio, hwnw yr wyf yn ei wneuthur, nid myfi mwyach sydd yn ei weithredu ef, eithr y pechod y sy’n trigo ynof. Cenfyddaf, gan hyny, y gyfraith i mi sy’n ewyllysio gwneuthur yr hyn sy dda, mai i mi yr hyn sy ddrwg sydd bresennol; canys ymhyfrydu yr wyf ynghyfraith Dduw yn ol y dyn oddimewn, ond gwelaf gyfraith arall yn fy aelodau, yn rhyfela yn erbyn cyfraith fy meddwl, ac yn fy nghaethiwo i gyfraith pechod, yr hon sydd yn fy aelodau. Y truan o ddyn myfi! O na’m rhyddheid o’r corph marwol hwn! Diolch yr wyf i Dduw, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Gan hyny, ynte, myfi fy hun â’m meddwl wyf yn gwasanaethu cyfraith Dduw; ond â’m cnawd, gyfraith pechod. Nid oes, gan hyny, yn awr ddim condemniad i’r rhai yng Nghrist Iesu, canys cyfraith Yspryd y bywyd yng Nghrist Iesu a’m rhyddhaodd oddiwrth gyfraith pechod a marwolaeth; canys yr hyn oedd ammhosibl i’r Gyfraith, gan ei bod yn wan trwy’r cnawd, Duw gan ddanfon Ei Fab Ei hun ynghyffelybiaeth cnawd pechadurus, ac am bechod, a gondemniodd bechod yn y cnawd, fel y byddai i ddeddf y Gyfraith ei chyflawni ynom ni, y rhai, nid yn ol y cnawd yr ym yn rhodio, ond yn ol yr Yspryd. Canys y rhai sydd yn ol y cnawd, pethau’r cnawd a syniant; ond y rhai yn ol yr Yspryd, bethau’r Yspryd. Canys syniad y cnawd, marwolaeth yw; ond syniad yr Yspryd, bywyd a thangnefedd yw; canys syniad y cnawd, gelyniaeth yn erbyn Duw yw, canys i gyfraith Dduw nid yw’n ymddarostwng, canys ni all er dim; a’r rhai sydd yn y cnawd, rhyngu bodd Duw ni allant. Ond chwychwi nid ydych yn y cnawd eithr yn yr Yspryd, os yw Yspryd Duw yn wir yn trigo ynoch. Ond os yw neb heb Yspryd Crist ganddo, hwnw nid yw yn eiddo Ef. Ond os yw Crist ynoch, y corph sydd farw o herwydd pechod, ond yr yspryd yn fywyd o herwydd cyfiawnder. Ac os Yspryd yr Hwn a gyfododd Iesu o feirw sy’n trigo ynoch, yr Hwn a gyfododd Crist Iesu o feirw a fywha hefyd eich cyrph marwol trwy Ei Yspryd Ef, yr Hwn sy’n trigo ynoch. Gan hyny, ynte, frodyr, dyledwyr ydym, nid i’r cnawd, fel yn ol y cnawd y bo i ni fyw, canys os yn ol y cnawd yr ydych yn byw, ar fedr marw yr ydych; ond os trwy’r Yspryd y marwhewch weithredoedd y corph, byw fyddwch, canys y sawl sydd ag Yspryd Duw yn eu harwain, y rhai hyn yw meibion Duw; canys ni dderbyniasoch yspryd caethiwed drachefn er ofn, eithr derbyniasoch Yspryd mabwysiad, trwy’r Hwn y llefwn, Abba Dad. Y mae’r Yspryd Ei hun yn cyd-dystiolaethu â’n hyspryd ni mai plant Duw ydym; ac os plant, etifeddion hefyd; etifeddion yn wir i Dduw, ond cyd-etifeddion â Christ, os yn wir cyd-ddioddef gydag Ef yr ydym, fel y’n cyd-ogonedder hefyd. Canys cyfrif yr wyf nad o ddim gwerth yw dioddefiadau yr amser presennol mewn cymhariaeth â’r gogoniant ar fedr ei ddatguddio tuag attom. Canys awydd-fryd y greedigaeth, am ddatguddiad meibion Duw y mae’n disgwyl; canys i oferedd y bu i’r greedigaeth ei darostwng, nid o’i bodd, eithr oblegid yr Hwn a’i darostyngodd, mewn gobaith y bydd i’r greedigaeth ei hun ei rhyddhau o gaethiwed llygredigaeth i ryddid ogoneddus meibion Duw; canys gwyddom fod yr holl greedigaeth yn cydocheneidio, ac ynghyd mewn gwewyr hyd yn awr. Ac nid hyny yn unig, eithr hefyd a chenym flaen-ffrwyth yr Yspryd, nyni ein hunain hefyd ynom ein hunain a ocheneidiwn, gan ddisgwyl am y mabwysiad, sef prynedigaeth ein corph; canys trwy obaith y’n hachubwyd. Ond gobaith a welir nid yw obaith, canys yr hyn a wel neb, pwy sydd yn ei obeithio ef? Ond os yr hyn na welwn, yr ydym yn ei obeithio, trwy amynedd yr ym yn disgwyl am dano. A’r un ffunud y mae’r Yspryd hefyd yn cynnorthwyo ein gwendid, canys pa beth a weddïem fel y dylem, nis gwyddom; eithr yr Yspryd Ei hun sy’n erfyn trosom ag ocheneidiau anrhaethadwy; a’r Hwn sy’n chwilio’r calonnau a ŵyr pa beth yw syniad yr Yspryd, gan mai yn ol Duw yr erfyn Efe dros y seintiau. A gwyddom mai i’r rhai sy’n caru Duw y mae pob peth yn cydweithio er daioni, y rhai sydd wedi eu galw yn ol Ei arfaeth; canys y rhai a rag-adnabu Efe, a rag-ordeiniodd Efe hefyd i fod yn un ffurf a delw Ei Fab, fel y byddai Efe yn gyntafanedig ym mhlith llawer o frodyr; ac y rhai a rag-ordeiniodd Efe, y rhai hyny a alwodd Efe hefyd; ac y rhai a alwodd Efe, y rhai hyny a gyfiawnhaodd Efe hefyd; ac y rhai a gyfiawnhaodd Efe, y rhai hyny a ogoneddodd Efe hefyd. Pa beth, gan hyny, a ddywedwn wrth y pethau hyn? Ai, Os Duw sydd trosom, pwy sydd yn ein herbyn? Ië, yr Hwn nad arbedodd Ei Fab Ei hun, eithr trosom ni oll y traddododd Ef, pa wedd hefyd, ynghydag Ef, na ddyry bob peth i ni? Pwy a rydd ddim yn erbyn y rhai a etholwyd gan Dduw? Duw yw’r Hwn sy’n cyfiawnhau. Pwy yw’r hwn sy’n condemnio? Crist Iesu, yr Hwn a fu farw, ïe, yn hytrach yr Hwn a gyfodwyd o feirw, yr Hwn sydd ar ddeheulaw Duw, yr Hwn sydd hefyd yn erfyn trosom. Pwy a’n gwahana ni oddiwrth gariad Crist? Ai gorthrymder? Ai ing? Ai ymlid? Ai newyn? Ai noethni? Ai enbydrwydd? Ai cleddyf? Fel yr ysgrifenwyd, “O’th achos Di y’n lleddir ar hyd y dydd, Y’n cyfrifir fel defaid y lladdfa.” Eithr yn y pethau hyn oll y tra-gorchfygwn trwy yr Hwn a’n carodd ni, canys perswadiwyd fi na fydd na marwolaeth, na bywyd, nac angel, na thywysogaethau, na phethau presennol, na phethau i ddyfod, na galluoedd, nac uchder, na dyfnder, nac un creadur arall, yn abl i’n gwahanu ni oddiwrth gariad Duw, yr hwn sydd yng Nghrist Iesu ein Harglwydd. Y gwirionedd yr wyf yn ei ddywedyd yng Nghrist, nid celwyddu yr wyf, fy nghydwybod yn cyd-dystiolaethu â mi yn yr Yspryd Glân, mai tristyd mawr sydd genyf, a gofid dibaid yn fy nghalon, canys dymunwn fod fy hun yn anathema oddiwrth Grist tros fy mrodyr, fy nghyd-genedl yn ol y cnawd, y rhai ydynt Israeliaid; eiddo y rhai yw’r mabwysiad a’r gogoniant, a’r cyfammodau a rhoddiad y Gyfraith, a’r gwasanaeth a’r addewidion; eiddo y rhai yw ’r tadau, ac o’r rhai y mae Crist yn ol y cnawd, yr Hwn sydd uwchlaw pob peth, Duw bendigedig yn oes oesoedd. Amen. Ond nid oes bosibl y syrth gair Duw, canys nid pawb y sydd o Israel ydynt Israel, ac nid ydynt, oblegid eu bod yn had Abraham, oll yn blant, eithr “Yn Itsaac y gelwir i ti had,” hyny yw, nid plant y cnawd, y rhai hyny sy blant i Dduw, eithr plant yr addewid a gyfrifir yn had. Canys gair o addewid yw’ r gair hwn, “Ar yr amser hwn y deuaf, a bydd i Sara fab.” Ac nid hyny yn unig, eithr Rebeca hefyd wedi iddi feichiogi o un, sef Itsaac ein tad; (canys a hwy heb etto eu geni, nac wedi gwneuthur dim da neu ddrwg, fel y byddai i arfaeth Duw yn ol etholedigaeth sefyll, nid o weithredoedd eithr o’r Hwn sy’n galw,) dywedwyd wrthi, “Yr hynaf a wasanaetha’r ieuengaf:” fel yr ysgrifenwyd, “Iacob a gerais, ond Esau a gaseais.” Pa beth, gan hyny, a ddywedwn? Ai, A oes anghyfiawnder gyda Duw? Na atto Duw; canys wrth Mosheh y dywaid Efe, “Trugarhaf wrth yr hwn y trugarhaf, a thosturiaf wrth yr hwn y tosturiaf.” Gan hyny, ynte, nid yw o’r hwn sy’n ewyllysio, nac o’r hwn sy’n rhedeg, eithr o’r Hwn sy’n trugarhau, sef Duw. Canys dywaid yr Ysgrythyr wrth Pharaoh, “Er hyn ei hun y cedwais di i fynu, fel y dangoswn Fy ngallu ynot, ac fel y datgenid Fy enw yn yr holl ddaear.” Gan hyny, ynte, wrth yr hwn yr ewyllysia y trugarha Efe, ac yr hwn yr ewyllysia y mae Efe yn ei galedu. Dywedi wrthyf, gan hyny, Paham y mae Efe etto yn beio? Canys yn erbyn ei Ewyllys Ef pwy sy’n sefyll? O ddyn, ynte, tydi, pwy wyt, yr hwn wyt yn atteb yn erbyn Duw? A ddywaid y peth a ffurfiwyd wrth yr hwn a’i ffurfiodd, Paham y’m gwnaethost fi fel hyn? Onid oes awdurdod gan y crochenydd ar y priddgist, o’r un telpyn pridd i wneuthur un llestr i barch, ac arall i ammharch? Ac os Duw, yn ewyllysio dangos Ei ddigofaint, a pheri adnabod Ei allu, a oddefodd, â llawer o hir-ymaros, lestri digofaint wedi eu cymhwyso i ddistrywiad, ac fel y parai adnabod golud Ei ogoniant ar lestri trugaredd y rhai a rag-barottodd Efe i ogoniant, sef nyni, y rhai a alwodd Efe hefyd nid yn unig o’r Iwddewon, eithr o’r cenhedloedd hefyd, fel yn Hoshea hefyd y dywaid, “Galwaf yr hon nad yw Fy mhobl yn bobl i Mi; A’r hon nad yw anwyl, yn anwyl; A bydd yn y lle y dywedwyd wrthynt, Nid Fy mhobl ydych chwi, Yna y gelwir hwy Meibion y Duw byw.” Eshaiah hefyd sy’n llefain am Israel, “Cyd byddai nifer meibion Israel fel tywod y môr, Y gweddill a achubir; Canys Ei air, gan ei orphen a’i gwttogi ef, A wnaiff Iehofah ar y ddaear.” Ac fel y dywedodd Eshaiah yn y blaen. “Oni buasai i Iehofah Tsabaoth adael i ni had, Fel Sodom y buasem, ac i Gommorah y buasem gyffelyb.” Pa beth, gan hyny, a ddywedwn? Y cenhedloedd, y rhai ni ddilynent gyfiawnder, a ddaethant hyd i gyfiawnder, ond y cyfiawnder y sydd o ffydd: ond Israel, yn dilyn cyfraith cyfiawnder, at y gyfraith honno ni chyrhaeddodd. Paham? O herwydd nad o ffydd, eithr fel o weithredoedd y dilynent; tarawsant wrth y maen-tarawo, fel yr ysgrifenwyd, “Wele, gosod yr wyf yn Tsion faen-tarawo a charreg tramgwydd; A’r hwn sy’n credu Ynddo Ef, ni chywilyddir.” Brodyr, ewyllys fy nghalon a’m gweddi ar Dduw, trostynt hwy, er iachawdwriaeth, y maent; canys tyst wyf iddynt fod sel i Dduw ganddynt, eithr nid yn ol gwybodaeth: canys heb wybod cyfiawnder Duw, ac yn ceisio sefydlu eu cyfiawnder eu hunain, i gyfiawnder Duw nid ymostyngasant, canys diwedd y Gyfraith yw Crist, er cyfiawnder i bob un sy’n credu. Canys Mosheh a ’sgrifenodd mai’r “dyn y sy’n gwneuthur y cyfiawnder y sydd o’r Gyfraith, a fydd byw trwyddo.” Ond y cyfiawnder y sydd o ffydd, fel hyn y dywaid, Na ddywaid yn dy galon, Pwy a esgyn i’r nef? (hyny yw i ddwyn Crist i wared); neu, Pwy a ddisgyn i’r dyfnder? (hyny yw i ddwyn Crist i fynu o feirw). Eithr pa beth a ddywaid efe? Agos attat y mae’r gair, yn dy enau ac yn dy galon, hyny yw, gair ffydd yr hwn yr ydym yn ei bregethu; mai os cyfaddefi â’th enau yr Arglwydd Iesu, a chredu yn dy galon y bu i Dduw Ei gyfodi Ef o feirw, cadwedig fyddi; canys â’r galon y credir i gyfiawnder, ac â’r genau y cyfaddefir i iachawdwriaeth, canys dywaid yr Ysgrythyr, “Pob un y sy’n credu Ynddo Ef, ni chywilyddir;” canys nid oes gwahaniaeth rhwng Iwddew a Groegwr, canys yr un yw Arglwydd pawb, yn oludog i bawb y sy’n galw Arno; canys pob un a alwo ar enw yr Arglwydd, cadwedig fydd. Pa fodd, ynte, y galwent ar yr Hwn na chredasant ynddo? A pha fodd y credent yn yr Hwn na chlywsant? A pha fodd y clywent heb un yn cyhoeddi? A pha fodd y cyhoeddent, os na ddanfonwyd hwynt? Fel yr ysgrifenwyd, “Mor brydferth yw traed y rhai yn efengylu pethau da!” Eithr nid pawb a wrandawodd y newyddion da, canys Eshaiah a ddywaid, “Arglwydd, pwy a gredodd i’n hymadrodd?” Felly, ffydd, trwy glywed y mae; a chlywed trwy air Crist. Eithr dywedyd yr wyf, Oni chlywsant hwy? Do, yn wir, “I’r holl ddaear yr aeth eu swn allan; Ac i holl derfynau’r byd, eu geiriau hwynt.” Eithr dywedaf, Oni fu i Israel wybod? Y cyntaf, Mosheh a ddywaid, “Myfi a yrraf eiddigedd arnoch, trwy’r rhai nad ydynt genedl, Trwy genedl anneallus y digiaf chwi.” Ac Eshaiah sydd hyderus iawn, ac a ddywaid, “Cafwyd Fi gan y rhai na cheisient Fi; Eglur y’m gwnaethpwyd i’r rhai nad ymofynent am Danaf.” Ond wrth Israel y dywaid efe, “Yr holl ddydd y lledais Fy nwylaw at bobl anufudd ac yn gwrthddywedyd.” Dywedaf, gan hyny, A fwriodd Duw ymaith Ei bobl? Na atto Duw: canys myfi hefyd, Israeliad wyf, o had Abraham, o lwyth Beniamin. Ni fwriodd Duw ymaith Ei bobl, yr hon a rag-adnabu Efe. Oni wyddoch pa beth ym matter Elias, a ddywaid yr Ysgrythyr, y modd yr erfyn efe ar Dduw yn erbyn Israel, sef “Arglwydd, Dy brophwydi a laddasant hwy; Dy allorau a gloddiasant hwy i lawr; ac myfi a adawyd yn unig; a cheisio fy einioes i y maent.” Eithr pa beth a ddywaid atteb Duw wrtho? “Gadewais i Mi Fy hun saith mil o wŷr, y rhai ni phlygasgant lin i Baal.” Felly, gan hyny, yn yr amser presennol hefyd, gweddill, yn ol etholedigaeth gras, y sydd; ac os trwy ras, nid yw mwyach o weithredoedd, canys pe amgen, gras nid yw mwyach yn ras. Pa beth, gan hyny? Yr hyn y mae Israel yn ei geisio, hyny ni chafodd efe; ond yr etholedigaeth a’i cafodd, a’r lleill a galedwyd, fel yr ysgrifenwyd, “Rhoddes Duw iddynt yspryd trymgwsg, Llygaid fel na welent, A chlustiau fel na chlywent,” hyd y dydd heddyw. A Dafydd a ddywaid, “Bydded eu bwrdd yn fagl ac yn hoenyn, Ac yn dramgwydd, ac yn daledigaeth iddynt; Tywyller eu llygaid fel na welont; Ac eu cefn, cydgrymma ef bob amser.” Dywedaf, gan hyny, A dripiasant hwy fel y syrthient? Na atto Duw; eithr trwy eu cwymp, iachawdwriaeth sydd i’r cenhedloedd, er mwyn gyrru eiddigedd arnynt; ac os yw eu cwymp yn olud y byd, ac eu colled yn olud y cenhedloedd, pa faint mwy y bydd eu cyflawnder? Ac wrthych chwi y cenhedloedd y dywedaf, Yn gymmaint ag fy mod i yn apostol y cenhedloedd, fy ngweinidogaeth a ogoneddaf, os rhyw fodd y gyrrwyf eiddigedd ar y rhai ydynt fy nghnawd, ac achub o honof rai o honynt: canys os eu bwrw hwynt ymaith yw cymmod y byd, pa beth fydd eu derbyniad ond bywyd o feirw? Ac os yw’ r blaen-ffrwyth yn sanctaidd, y clamp toes hefyd sydd felly; ac os yw’ r gwreiddyn yn sanctaidd, y canghennau hefyd ydynt felly. Ac os rhai o’r canghennau a dorrwyd ymaith, a thydi, yn olew-wydden wyllt, a impiwyd i mewn yn eu plith, ac yn gydgyfrannog â hwynt o wreiddyn brasder yr olew-wydden y’th wnaethpwyd, nac ymffrostia yn erbyn y canghennau; ac os ymffrosti yn eu herbyn, nid tydi sydd yn dwyn y gwreiddyn, eithr y gwreiddyn dydi. Dywedi, gan hyny, Torrwyd ymaith ganghennau, fel y byddai i mi fy impio i mewn. Da. Trwy eu hanghrediniaeth y torrwyd hwynt ymaith; a thydi, trwy dy ffydd yr wyt yn sefyll. Na fydd uchel-fryd, eithr ofna; canys os y canghennau naturiol na fu i Dduw eu harbed, tithau nid arbeda Efe er dim. Gwel, gan hyny, ddaioni a thoster Duw; tua’r rhai a gwympasant, doster; ond tuag attat ti, ddaioni Duw, os parhai yn Ei ddaioni; onite, tithau hefyd a dorrir ymaith; a hwythau hefyd, os na pharhant yn eu hanghrediniaeth, a impir i mewn, canys abl yw Duw i’w himpio hwynt i mewn drachefn. Canys os tydi a dorrwyd allan o’r olew-wydden wyllt wrth naturiaeth, ac yn erbyn naturiaeth y’th impiwyd i mewn i olew-wydden dda, pa faint mwy y bydd i’r rhai hyn sydd wrth naturiaeth, eu himpio i mewn yn eu holew-wydden eu hun? Canys nid ewyllysiaf i chwi fod heb wybod, frodyr, y dirgelwch hwn, rhag i chwi fod yn ddoethion yn eich meddwl eich hun, fod calediad o ran wedi digwydd i Israel nes i gyflawnder y cenhedloedd ddyfod i mewn; ac felly holl Israel fydd gadwedig, fel yr ysgrifenwyd, “Daw allan o Tsion y Gwaredwr, Try ymaith annuwioldeb oddiwrth Iacob; A hwn yw iddynt y cyfammod oddiwrthyf Fi; Pan gymmerwyf ymaith eu pechodau.” O ran yr efengyl, gelynion ydynt er eich mwyn chwi; ond o ran yr etholedigaeth, yn anwyl er mwyn y tadau; canys heb edifeirwch am danynt y mae doniau a galwedigaeth Duw. Canys fel y buoch chwi gynt yn anufudd i Dduw, ond yn awr y trugarhawyd wrthych trwy anufudd-dod y rhai hyn; felly y rhai hyn yn awr a anufuddhasant, fel trwy y drugaredd i chwi y trugarheid wrth y rhai hyn hefyd yn awr; canys cyd-gauodd Duw bawb i anufudd-dod, fel wrth bawb y trugarhai. O ddyfnder golud doethineb a gwybodaeth Duw! Mor anchwiliadwy yw Ei farnau, ac anolrheiniadwy Ei ffyrdd! Canys pwy a wybu feddwl yr Arglwydd; neu pwy fu gynghorwr Iddo? Neu pwy a rag-roddodd Iddo, ac y telir yn ol iddo? Canys o Hono Ef, a thrwyddo Ef, ac Iddo Ef y mae pob peth! Iddo Ef y bo’r gogoniant yn oes oesoedd. Amen. Attolygaf i chwi, gan hyny, frodyr, trwy drugareddau Duw, roddi eich cyrph yn aberth byw, sanctaidd, boddhaol, i Dduw, yr hyn yw eich gwasanaeth rhesymmol. Ac na chyd-ymffurfiwch â’r byd hwn, eithr traws-ffurfier chwi trwy adnewyddiad eich meddwl, fel y profoch beth yw daionus, a boddhaol, a pherffaith ewyllys Duw. Canys dywedyd yr wyf, trwy’r gras a roddwyd i mi, wrth bob un y sydd yn eich plith beidio ag uchel-synied yn amgen nag y dylid synied, eithr synied mewn sobrwydd, fel y rhannodd Duw i bob un fesur ffydd. Canys fel mewn un corph llawer o aelodau sydd genym, ac i’r aelodau oll nid yr un gwaith sydd, felly nyni yn llawer, un corph ydym yng Nghrist, a phob un yn aelodau i’n gilydd. A chan fod a chenym ddoniau gwahanol yn ol y gras a roddwyd i ni, pa un bynnag ai prophwydoliaeth, prophwydwn yn ol cyssondeb ein ffydd; ai gweinidogaeth, ymroddwn i’r weinidogaeth; neu’r hwn sy’n dysgu, i’r dysgad; neu’r hwn sy’n cynghori, i’r cynghoriad; neu’r hwn sy’n rhoddi, gwnaed yn haelionus; yr hwn sy’n llywodraethu, mewn diwydrwydd; yr hwn sy’n trugarhau, mewn llawenydd. Bydded cariad yn ddiragrith. Casewch y drwg; glynwch wrth y da; mewn cariad i’r brodyr, byddwch a serch i’ch gilydd; mewn anrhydedd, yn blaenori eich gilydd; mewn diwydrwydd, nid yn ddiog; yn yr yspryd, yn wresog; tua’r Arglwydd, yn Ei wasanaethu Ef; mewn gobaith, yn llawen; mewn gorthrymder, yn ddioddefgar; mewn gweddi, yn dyfal-barhau; i gyfreidiau’r saint cyfrenwch; a llettygarwch dilynwch. Bendithiwch y rhai sydd yn eich ymlid; bendithiwch, ac na felldithiwch. Llawenychwch gyda’r rhai sy’n llawenychu, gwylwch gyda’r rhai sy’n gwylo; yn synied yr un peth tua’ch gilydd; nid yn synied pethau uchel, eithr yn ymostwng i bethau isel. Na fyddwch ddoethion yn eich tyb eich hunain. I neb na thelwch ddrwg am ddrwg; darperwch bethau da yngolwg pob dyn. Os posibl yw, hyd y mae ynoch, byddwch mewn heddwch â phob dyn. Nac ymddielwch, rai anwyl, eithr rhoddwch le i ddigofaint; canys ysgrifenwyd, “I Mi y mae dial; Myfi a dalaf, medd Iehofah.” Eithr os newyna dy elyn, portha ef; os sycheda, dioda ef; canys wrth wneuthur hyn, marwor tanllyd a bentyri ar ei ben ef. Na orchfyger di gan ddrygioni, eithr gorchfyga ddrygioni trwy ddaioni. Bydded pob enaid wedi ei ddarostwng i’r awdurdodau goruchel: canys nid oes awdurdod oddieithr oddiwrth Dduw; a’r rhai y sydd, gan Dduw y maent wedi eu hordeinio. Felly yr hwn sy’n ymosod yn erbyn yr awdurdod, ordinhad Duw y mae efe yn ei gwrthsefyll; a’r rhai a wrthsafant a dderbyniant iddynt eu hunain farn. Canys y llywodraethwyr, nid ydynt ofn i’r weithred dda, ond i’r ddrwg. A ewyllysi di nad ofnech yr awdurdod? Gwna yr hyn sydd dda, a chai fawl ganddo, canys gweinidog Duw yw i ti er daioni; ond os yr hyn sydd ddrwg a wnei, ofna, canys nid yn ofer y cleddyf a wisg efe, canys gweinidog Duw yw, dialydd llid i’r hwn sy’n gwneuthur drwg. Gan hyny, y mae rhaid ymddarostwng, nid yn unig o herwydd y llid, eithr hefyd o herwydd cydwybod: canys o achos hyn y telwch deyrnged hefyd, canys gwasanaethwyr Duw ydynt, yn ddyfal-ofalu am y peth hwn. Telwch i bawb eu dyledion; i’r hwn y mae teyrnged yn ddyledus, deyrnged; i’r hwn y mae toll, doll; i’r hwn y mae ofn, ofn; i’r hwn y mae anrhydedd, anrhydedd. I neb na fyddwch mewn dyled o ddim oddieithr o garu eich gilydd, canys yr hwn sy’n caru arall, y Gyfraith a gyflawnodd efe; canys hyn, “Ni odinebi, Ni leddi, Ni ladrattai, Ni thrachwanti,” ac os oes rhyw orchymyn arall, yn yr ymadrodd hwn y crynhoir, “Car dy gymmydog fel ti dy hun.” Cariad ni wna i’w gymmydog ddrwg; cyflawnder y Gyfraith, gan hyny, yw cariad. A hyn, gan wybod yr amser, ei bod hi weithian yn bryd i chwi i ddeffroi o gwsg, canys yn awr nes yw ein hiachawdwriaeth ni na phan gredasom. Y nos a gerddodd ym mhell, a’r dydd a nesaodd; diosgwn, gan hyny, weithredoedd y tywyllwch, a rhoddwn am danom arfau y goleuni. Fel yn y dydd, rhodiwn yn weddus, nid mewn cyfeddach a meddwdod, nid mewn cydorwedd ac anlladrwydd, nid mewn cynnen a chenfigen; eithr rhoddwch am danoch yr Arglwydd Iesu Grist; a rhag-ddarbod dros y cnawd, er ei chwantau ef, na wnewch. Yr hwn sydd wan yn y ffydd derbyniwch attoch, ond nid i ymrafaelion ymresymmiadau. Un sydd a chanddo ffydd i fwytta pob peth; ond y gwan, llysiau a fwytty. Yr hwn sy’n bwytta, na ddirmyged yr hwn nad yw yn bwytta; a’r hwn nad yw’n bwytta, na farned yr hwn sydd yn bwytta, canys Duw a’i derbyniodd ef. Tydi, pwy wyt, yr hwn wyt yn barnu gwas un arall? I’w arglwydd ei hun y mae efe yn sefyll neu yn syrthio; a sefydlir ef, canys abl yw’r Arglwydd i wneud iddo sefyll. Un a farn ddiwrnod uwchlaw diwrnod, ac arall a farn bob diwrnod yn ogyfuwch: bydded pob un wedi ei iawn-berswadio yn ei feddwl ei hun. Yr hwn sy’n ystyried diwrnod, i’r Arglwydd y mae yn ei ystyried; a’r hwn sy’n bwytta, i’r Arglwydd y mae yn bwytta, ac yn diolch i Dduw; a’r hwn nad yw yn bwytta, i’r Arglwydd nid yw yn bwytta, a diolch i Dduw y mae. Canys nid oes neb o honom yn byw iddo ei hun, na neb yn marw iddo ei hun; canys os byw yr ydym, i’r Arglwydd yr ydym yn byw; ac os marw yr ydym, i’r Arglwydd yr ydym yn marw: gan hyny, pa un bynnag ai byw yr ydym ai marw, eiddo yr Arglwydd ydym; canys er mwyn hyn Crist a fu farw a byw, fel ar y meirw a’r byw hefyd yr arglwyddiaethai. Ond tydi, paham y berni dy frawd? Neu, tydi etto, paham y dirmygi dy frawd? Canys pawb o honom a osodir ger bron brawd-faingc Duw; canys ysgrifenwyd, “Fel mai byw wyf Fi, medd Iehofah, i Mi y plyga pob glin, A phob tafod a gyffesa i Dduw.” Gan hyny, ynte, pob un o honom am dano ei hun a rydd gyfrif i Dduw. Na fydded i ni mwyach, gan hyny, farnu ein gilydd; eithr bernwch hyn yn hytrach, sef peidio â rhoi maen-tarawo i frawd, na thramgwydd. Gwn, a pherswadiwyd fi yn yr Arglwydd Iesu, nad oes dim yn aflan o hono ei hun; ond i’r hwn sy’n cyfrif rhyw beth i fod yn aflan, iddo ef aflan yw. Canys os o achos bwyd y mae dy frawd yn cael ei dristau, nid yn ol cariad yr wyt yn rhodio mwyach; na fydded i ti â’th fwyd ddistrywio hwnw tros yr hwn y bu Crist farw. Na chabler, gan hyny, eich daioni chwi; canys nid yw teyrnas Dduw fwyd a diod, eithr cyfiawnder a thangnefedd a llawenydd yn yr Yspryd Glân. Canys y neb sydd yn y peth hwn yn gwasanaethu Crist sydd foddlawn gan Dduw, a chymmeradwy gan ddynion. Gan hyny, ynte, ymerlynwn â phethau heddwch ac â phethau adeiladaeth tuag at ein gilydd. Na fydded i ti o achos bwyd ddinystrio gwaith Duw. Pob peth sydd lân: eithr drwg yw i’r dyn sy’n bwytta trwy dramgwydd. Da yw peidio â bwytta cig, nac yfed gwin, na gwneud yr hyn y mae dy frawd yn tripio wrtho. Tydi, y ffydd y sydd genyt, bydd â hi gyda thi dy hun ger bron Duw. Dedwydd yw’ r hwn na farna ei hun yn yr hyn a gymmeradwya efe: ond yr hwn sy’n ammeu, os bwytty, condemniwyd ef gan nad o ffydd y bwytty; a phob peth nad yw o ffydd, pechod yw. A dylem ni, y cryfion, ddwyn gwendidau y gweiniaid, ac nid rhyngu ein bodd ein hunain. Bydded i bob un o honom ryngu bodd ei gymmydog am yr hyn sy dda er adeiladaeth, canys ni fu i Grist ryngu bodd Ei hun, eithr fel yr ysgrifenwyd, “Gwaradwyddiadau y rhai a’th waradwyddant a syrthiasant arnaf.” Canys cynnifer bethau ag a ysgrifenwyd, er addysg i ni yr ysgrifenwyd hwynt, fel trwy amynedd a diddanwch yr Ysgrythyrau y byddem a gobaith genym: a Duw yr amynedd a’r diddanwch a roddo i chwi synied yr un peth tuag at eich gilydd yn ol Crist Iesu; fel y bo i chwi yn unfryd, o un genau, ogoneddu Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist. Gan hyny, derbyniwch eich gilydd fel y bu i Grist eich derbyn chwi, i ogoniant Duw. Canys dywedaf y bu i Grist Ei wneud yn weinidog yr amdorriad er mwyn gwirionedd Duw, er mwyn cadarnhau yr addewidion i’r tadau, ac y byddai i’r cenhedloedd ogoneddu Duw am Ei drugaredd, fel yr ysgrifenwyd, “O achos hyn y’th foliannaf ym mhlith y cenhedloedd, Ac i’th enw y canaf.” Ac etto y dywaid, “Llawenychwch, genhedloedd, ynghyda’i bobl Ef.” Ac etto, “Molwch Iehofah, yr holl genhedloedd, A chlodfored yr holl bobloedd Ef.” Ac etto Eshaiah a ddywaid, “Bydd gwreiddyn Ieshe, A’r hwn sy’n cyfodi i lywodraethu’r cenhedloedd; Ynddo Ef y cenhedloedd a obeithiant.” A Duw’r gobaith a’ch llanwo â phob llawenydd a thangnefedd yn eich credu, fel y byddoch orlawn yn eich gobaith yngallu yr Yspryd Glân. A pherswadiwyd fi, fy mrodyr, ïe, myfi fy hun, am danoch, eich bod chwi eich hunain yn orlawn o ddaioni, wedi eich llenwi o bob gwybodaeth, yn abl i gynghori eich gilydd hefyd. Ond yn fwy hyderus yr ysgrifenais, rhywfaint, attoch, fel yn eich adgoffau, o achos y gras a roddwyd i mi gan Dduw i fod o honof yn weinidog Iesu Grist at y cenhedloedd, yn offeiriadu yn efengyl Dduw, fel y byddai offrwm y cenhedloedd yn gymmeradwy, wedi ei sancteiddio gan yr Yspryd Glân. Y mae i mi, gan hyny, fy ymffrost yng Nghrist Iesu o ran y pethau tuag at Dduw. Canys ni feiddiaf ddywedyd dim o’r pethau na weithredodd Crist trwof, er ufudd-dod y cenhedloedd, mewn gair a gweithred, trwy allu arwyddion a rhyfeddodau, trwy allu yr Yspryd Glân, fel y bu i mi o Ierwshalem ac o amgylch hyd Ilyricum, lawn-bregethu Efengyl Grist, a chan ymorchestu felly i efengylu, nid lle yr enwyd Crist, fel nad ar sail un arall yr adeiladwn, eithr fel yr ysgrifenwyd, “Gwel y rhai na fynegwyd iddynt am Dano; Ac y rhai na chlywsant, a ddeallant.” Ac o herwydd hyn y’m lluddiwyd lawer gwaith rhag dyfod attoch; ond yn awr, heb fod genyf mwyach le yn y gwledydd hyn, ac ag arnaf hiraeth, er’s llawer o flynyddoedd, am ddyfod attoch, pa bryd bynnag yr af i’r Hispaen, (canys gobeithiaf eich gweled wrth fyned heibio, ac fy hebrwng genych chwi yno, os byddaf yn gyntaf, o ran, wedi fy llenwi o honoch chwi:) ond yn awr myned i Ierwshalem yr wyf, gan weinyddu i’r saint, canys gwelwyd yn dda gan Macedonia ac Achaia wneuthur rhyw gydgyfraniad i’r tlodion ymhlith y saint sydd yn Ierwshalem; canys gwelwyd yn dda ganddynt, a dyledwyr ydynt iddynt, canys os yn eu pethau ysprydol hwynt y cafodd y cenhedloedd gyfran, dyledwyr ydynt hefyd i weini, mewn pethau cnawdol, iddynt hwy. Pan hyn, gan hyny, a orphenwyf, ac wedi selio iddynt y ffrwyth hwn, af ymaith heboch i’r Hispaen; a gwn pan ddelwyf attoch, mai yng nghyflawnder bendith Crist y deuaf. Ac attolygaf i chwi, frodyr, trwy ein Harglwydd Iesu Grist, a thrwy gariad yr Yspryd, ar gydymdrech o honoch gyda mi yn eich gweddïau drosof at Dduw, fel y’m gwareder oddiwth y rhai anufudd yn Iwdea, ac ar i’m gweinidogaeth, yr hon sydd i Ierwshalem, fod yn gymmeradwy gan y saint, fel wedi dyfod attoch mewn llawenydd trwy ewyllys Duw y’m cydlonner gyda chwi. A Duw’r heddwch fyddo gyda chwi oll. Amen. Gorchymynaf i chwi Phebe ein chwaer, yr hon sydd weinidoges i’r eglwys y sydd yn Cenchrea, fel y derbynioch hi yn yr Arglwydd mewn modd teilwng o’r saint, ac y cynnorthwyoch hi ym mha beth bynag y byddo rhaid iddi wrthych, canys hi hefyd a fu gymmorth i lawer, ac i minnau fy hun hefyd. Annerchwch Prisca ac Acwila, fy nghyd-weithwyr yn Iesu Grist, y rhai dros fy mywyd i a ddodasant i lawr eu gyddfau eu hunain; i’r rhai nid myfi yn unig sydd yn rhoddi diolch, eithr hefyd holl eglwysydd y cenhedloedd; annerchwch hefyd yr eglwys sydd yn eu tŷ hwynt. Annerchwch Epenetus, fy anwylyd, yr hwn yw blaenffrwyth Asia i Grist. Annerchwch Mair, yr hon a roes lafur mawr arnoch. Annerchwch Andronicus ac Iwnias, fy ngheraint ac fy nghyd-garcharorion, y rhai ydynt hynod ym mhlith yr apostolion, y rhai hefyd oeddynt o’m blaen i yng Nghrist. Annerchwch Ampliatus, fy anwylyd yn yr Arglwydd. Annerchwch Wrbanus, ein cyd-weithiwr yng Nghrist; a Stachus, fy anwylyd. Annerchwch Apeles, y cymmeradwyedig yng Nghrist. Annerchwch y rhai sy o dylwyth Aristobwlus. Annerchwch Herodion, fy nghar. Annerchwch y rhai sydd o dylwyth Narcissus, y rhai sydd yn yr Arglwydd. Annerchwch Truphena a Truphosa, y rhai sy’n llafurio yn yr Arglwydd. Annerchwch Persis, yr anwylyd, yr hon a lafuriodd lawer yn yr Arglwydd. Annerchwch Rwphus, yr etholedig yn yr Arglwydd, ac ei fam ef a minnau. Annerchwch Asuncritus, Phlegon, Hermes, Patrobus, Hermas, a’r brodyr sydd gyda hwynt. Annerchwch Philologus ac Iwlia, Nerëus a’i chwaer, ac Olumpas, a’r holl saint y sydd gyda hwynt. Annerchwch y naill y llall â chusan sanctaidd. Eich annerch y mae holl eglwysi Crist. Ac attolygaf i chwi, frodyr, graffu ar y rhai sy’n peri ymraniadau a thramgwyddau yn groes i’r athrawiaeth a ddysgasoch chwi, a chiliwch oddiwrthynt; canys y cyfryw rai, ein Harglwydd Crist ni wasanaethant, eithr eu bol eu hunain; a thrwy eu gweniaith ac ymadrodd teg y twyllant galonnau y rhai di-ddrwg. Canys eich ufudd-dod chwi, at bawb y daeth. Ynoch chwi, gan hyny, yr wyf yn llawenychu; ond ewyllysiwn i chwi fod yn ddoethion tuag at yr hyn sy dda, ac yn wirion tuag at yr hyn sydd ddrwg. A Duw yr heddwch a ysiga Satan tan eich traed ar frys. Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda chwi. Eich annerch y mae Timothëus, fy nghydweithiwr, a Lwcius, ac Iason, a Sosipater, fy ngheraint. Eich annerch yr wyf fi Tertius, yr hwn a ’sgrifenais yr epistol hwn yn yr Arglwydd. Eich annerch y mae Gaius, fy lletywr i a’r holl eglwys. Eich annerch y mae Erastus, disdain y ddinas; a Cwartus, y brawd. I’r Hwn sydd abl i’ch cadarnhau yn ol fy efengyl, a phregethiad Iesu Grist, yn ol datguddiad y dirgelwch am yr hwn yn yr amseroedd tragywyddol yr oedd distawrwydd, ond a eglurwyd yn awr trwy’r Ysgrythyrau Prophwydol yn ol gorchymyn y tragywyddol Dduw, wedi ei wneuthur yn hyspys i’r holl genhedloedd er ufudd-dod ffydd; i’r unig Dduw doeth, trwy Iesu Grist, i’r Hwn bydded y gogoniant yn dragywydd. Amen. Paul, apostol galwedig gan Iesu Grist, trwy ewyllys Duw, a Sosthenes, y brawd, at eglwys Dduw, yr hon sydd yn Corinth, wedi eu sancteiddio yng Nghrist Iesu, saint galwedig, ynghyda phawb y sy’n galw ar enw ein Harglwydd Iesu Grist ymhob man, eu Harglwydd hwy a ninnau. Gras i chwi a thangnefedd oddiwrth Dduw ein Tad, a Thad yr Harglwydd Iesu Grist. Diolch yr wyf i fy Nuw bob amser o’ch herwydd am y gras Duw a roddwyd i chwi yng Nghrist Iesu, am mai ymhob peth y’ch cyfoethogwyd chwi Ynddo Ef, ymhob ymadrodd a phob gwybodaeth, fel y bu i ddirgelwch Crist ei gadarnhau ynoch; fel nad ydych ar ol mewn un dawn, yn disgwyl am ddatguddiad ein Harglwydd, yr Hwn a’ch cadarnha hefyd hyd y diwedd yn ddiargyhoedd yn nydd ein Harglwydd Iesu Grist. Ffyddlawn yw Duw, trwy’r Hwn y’ch galwyd i gymdeithas Ei Fab Iesu Grist ein Harglwydd. Ac attolygaf i chwi, frodyr, trwy enw ein Harglwydd Iesu Grist, y bo i’r un peth gael ei lefaru genych oll, ac na bo yn eich plith sismau, ond bod o honoch wedi eich perffeithio yn yr un meddwl, ac yn yr un farn: canys amlygwyd i mi am danoch, fy mrodyr, gan y rhai o dŷ Chloe, mai cynhennau sydd yn eich plith; a hyn yw fy meddwl, fod pob un o honoch yn dywedyd, Myfi wyf o Paul; ac, Myfi o Apolos; ac, Myfi o Cephas; ac, Myfi o Grist. A rannwyd Crist? Ai Paul a groes-hoeliwyd trosoch? Ai i enw Paul y’ch bedyddiwyd? Diolch yr wyf i Dduw nad oes un o honoch a fedyddiais oddieithr Crispus a Gaius; fel na fo i neb ddweud mai i fy enw i y’ch bedyddiwyd. A bedyddiais hefyd dylwyth Stephanus. Heblaw hyny, nis gwn a oes neb arall a fedyddiais, canys ni ddanfonodd Crist fi i fedyddio, eithr i efengylu — nid mewn doethineb ymadrodd, fel na wagheid croes Crist. Canys ymadrodd y groes, i’r rhai sy’n myned ar goll, ffolineb yw; ond i ni y sy’n cael ein hachub, gallu Duw yw, canys ysgrifenwyd, “Difethaf ddoethineb y doethion, A deall y rhai deallus a ddiddymaf.” Pa le y mae’ r doeth? Pa le y mae’ r ysgrifenydd? Pa le y mae dadleuwr y byd hwn? Onid yn ynfydrwydd y trodd Duw ddoethineb y byd? Canys pan yn noethineb Duw, nad adnabu y byd, trwy ei ddoethineb, mo Dduw, gwelodd Duw yn dda trwy ffolineb y pregethu gadw y rhai sy’n credu; canys yr Iwddewon, arwydd a ofynant; a’ r Groegwyr, doethineb a geisiant; ond nyni ydym yn pregethu Iesu Grist wedi Ei groes-hoelio, i’ r Iwddewon yn dramgwydd, ac i’ r cenhedloedd yn ffolineb; ond iddynt hwy a alwyd, Iwddewon a Groegwyr hefyd, Crist gallu Duw a doethineb Duw: canys ffolineb Duw, doethach na dynion yw; a gwendid Duw, cryfach na dynion yw. Canys edrychwch eich galwedigaeth, frodyr, nad llawer o ddoethion yn ol y cnawd, nad llawer o alluogion, nad llawer o foneddigion a alwyd; eithr ffol-bethau y byd a etholodd Duw, fel y cywilyddiai y doethion; a gwan-bethau y byd a etholodd Duw, fel y cywilyddiai y pethau cedyrn; a phethau difonedd y byd, a’r pethau dirmygus, a etholodd Duw; a’r pethau nad ydynt, fel y diddymai y pethau sydd, fel nad ymffrostiai un cnawd ger bron Duw. Ac o Hono Ef yr ydych chwi yng Nghrist Iesu, yr Hwn a wnaed i ni yn ddoethineb oddiwrth Dduw, ac yn gyfiawnder, ac yn sancteiddiad, ac yn brynedigaeth, er mwyn, fel yr ysgrifenwyd, “Yr hwn sydd yn ymffrostio, yn yr Arglwydd ymffrostied.” Ac myfi, pan ddaethum attoch, frodyr, a ddaethum, nid â rhagoroldeb ymadrodd neu ddoethineb, gan fynegi i chwi ddirgelwch Duw, canys penderfynais na wyddwn ddim yn eich plith oddieithr Iesu Grist, ac Ef yn groes-hoeliedig. Ac myfi, mewn gwendid ac ofn a chryndod mawr yr oeddwn yn eich plith; ac fy ymadrodd a’m pregethiad nid oeddynt yng ngeiriau darbwyllus doethineb, eithr yn arddangosiad yr Yspryd a gallu, fel y byddai eich ffydd, nid yn noethineb dynion, eithr yn ngallu Duw. Ond doethineb a lefarwn ym mhlith y rhai perffaith; ond doethineb nid o eiddo y byd hwn, nac o eiddo llywodraethwyr y byd hwn y rhai sy’n myned yn ddiddym; eithr llefaru doethineb Duw mewn dirgelwch yr ydym, yr hwn oedd guddiedig, yr hwn a rag-ordeiniodd Duw cyn na’r oesoedd i’n gogoniant ni; yr hwn ni fu i undyn o lywodraethwyr y byd hwn ei adnabod; canys pes adwaenasent, Arglwydd y gogoniant ni chroes-hoeliasent. Eithr fel yr ysgrifenwyd, “Y pethau na fu i lygad eu gweled, a chlust ni chlywodd, Ac i galon dyn nad esgynasant, Cynnifer bethau ag a barottodd Duw i’r rhai sydd yn Ei garu;” ond i nyni y datguddiodd Duw hwynt trwy’r Yspryd; canys yr Yspryd a chwilia bob peth, hyd yn oed ddyfnderau Duw. Canys pwy o ddynion a ŵyr bethau dyn, oddieithr yspryd dyn, yr hwn sydd ynddo? Felly, pethau Duw hefyd, nid oes neb a’u gŵyr oddieithr Yspryd Duw. Ond nyni, nid yspryd y byd a dderbyniasom, eithr yr Yspryd y sydd oddiwrth Dduw, fel y gwypom y pethau a rad-roddwyd i ni: y rhai hefyd a lefarwn, nid mewn geiriau a ddysgwyd gan ddoethineb dynol, eithr a ddysgwyd gan yr Yspryd, gan gydmaru pethau ysprydol â phethau ysprydol. Ond y dyn anianol ni dderbyn bethau Yspryd Duw; canys ffolineb ydynt ganddo ef, ac ni all eu gwybod, gan mai yn ysprydol y bernir hwynt. Ond y dyn ysprydol a farn bob peth; ond ef ei hun ni fernir gan undyn. Canys pwy a wybu feddwl yr Arglwydd, ac a’i cyfarwydda Ef? Ond nyni sydd a chenym feddwl Crist. Ac myfi, frodyr, ni allwn lefaru wrthych fel rhai ysprydol, eithr fel rhai cnawdol, fel babanod yng Nghrist. A llaeth y diodais chwi, nid bwyd a roddais, canys ni allech etto ei dderbyn; eithr hyd yn oed yr awrhon ni ellwch, canys etto cnawdol ydych, canys lle y mae yn eich plith eiddigedd a chynnen, onid cnawdol ydych, ac yn ol dyn yr ydych yn rhodio? Canys pan ddywaid neb, Myfi wyf o Paul; ac arall, Myfi wyf o Apolos, onid dynion ydych? Pa beth, gan hyny, yw Apolos? A pha beth yw Paul? Gweinidogion, trwy y rhai y credasoch, ac fel y bu i’r Arglwydd roi i bob un. Myfi a blennais; Apolos a ddyfrhaodd; eithr Duw a roddes y cynnydd. Felly, nid yw’r hwn sy’n plannu yn ddim, nac yr hwn sy’n dyfrhau, eithr yr Hwn sy’n rhoddi’r cynnydd, sef Duw. Ac yr hwn sy’n plannu a’r hwn sy’n dyfrhau, un peth ydynt; a phob un a dderbyn ei wobr ei hun yn ol ei lafur ei hun; canys cydweithwyr Duw ydym; amaethyddiaeth Duw, adeiladaeth Duw ydych. Yn ol gras Duw yr hwn a roddwyd i mi, fel pen-saer doeth y sylfaen a roddais, ac arall sy’n adeiladu arno; a bydded i bob un edrych pa wedd y mae yn adeiladu arno; canys sylfaen arall nid oes neb fedr ei osod heblaw yr hwn a osodwyd, yr hwn yw Iesu Grist. Ac os yw neb yn adeiladu ar y sylfaen, aur, arian, meini gwerthfawr, coed, gwair, sofl, gwaith pob un a wneir yn amlwg, canys y dydd a’i heglura, canys â thân y datguddir ef; a gwaith pob un, o ba fath y mae, y tân a’i prawf. Os gwaith neb a erys, yr hwn a adeiladodd efe, gwobr a dderbyn efe; os gwaith neb a losgir, colled a gaiff efe; ond efe ei hun a achubir, ond felly fel trwy dân. Oni wyddoch mai teml Dduw ydych, a bod Yspryd Duw yn trigo ynoch? Os teml Dduw a ddistrywia dyn, hwnw a ddistrywia Duw; canys teml Dduw, sanctaidd yw, yr hon ydych chwi. Na fydded i neb dwyllo ei hun. Os yw neb yn meddwl ei fod yn ddoeth yn eich plith yn y byd hwn, aed yn ffol fel yr elo yn ddoeth; canys doethineb y byd hwn, ffolineb yw gyda Duw, canys ysgrifenwyd, “Yr Hwn sy’n dal y doethion yn eu callineb.” Ac etto, “Iehofah a ŵyr feddyliau’r doethion, eu bod yn ofer.” Felly na fydded i neb ymffrostio mewn dynion; canys pob peth, yr eiddoch chwi ydynt; pa un bynnag ai Paul, ai Apolos, ai Cephas, ai’r byd, ai bywyd, ai angau, ai pethau presennol, ai pethau i ddyfod; yr oll ydynt eiddoch chwi, a chwithau yn eiddo Crist, a Christ yn eiddo Duw. Felly cyfrifed dyn nyni megis gweinidogion Crist, a disdeiniaid dirgeledigaethau Duw. Yma, ym mhellach, y gofynir yn y disdeiniaid mai ffyddlawn y ceir neb. Ond genyf fi peth o’r lleiaf yw fy marnu genych chwi, neu gan farn ddynol. Eithr nid wyf yn barnu mi fy hun, canys nid oes dim a wn yn fy erbyn fy hun; eithr nid gan hyn y’m cyfiawnhawyd; ond yr Hwn sydd yn fy marnu, yr Arglwydd yw. Felly, cyn yr amser na fernwch ddim, hyd oni ddelo’r Arglwydd, yr Hwn a ddwg i’r goleuni guddiedig bethau y tywyllwch, ac a amlyga gynghorau y calonnau; ac yna ei fawl fydd i bob dyn oddiwrth Dduw. A’r pethau hyn, frodyr, a droais mewn ffigr attaf fy hun ac Apolos, er eich mwyn, fel ynom ni y dysgoch beidio a myned tu hwnt i’r pethau a ysgrifenwyd, fel na bo i’r naill ymchwyddo dros y llall, yn erbyn y llall. Canys pwy sydd yn dy wneuthur di yn wahanol? A pha beth sydd genyt na dderbyniaist? Ac os derbyniaist hefyd, paham yr ymffrosti, fel pe bait heb dderbyn? Eisoes y’ch diwallwyd; eisoes goludog ydych; hebddom ni y teyrnasasoch. Ac O na baech yn teyrnasu, fel y byddai i ninnau hefyd gyd-deyrnasu gyda chwi! Canys tybiaf y bu i Dduw ein dangos ni, yr apostolion, yn ddiweddaf, megis wedi ein bwrw i angau, canys gwnaethpwyd ni yn ddrych i’r byd, ac i angylion, ac i ddynion. Nyni, ffyliaid ydym er mwyn Crist, a chwithau yn ddoethion yng Nghrist; nyni yn weiniaid, a chwithau yn gryfion; chwychwi yn ogoneddus, a ninnau yn ddianrhydedd. Hyd yr awrhon newyn sydd arnom a syched, a noethion ydym, ac yn cael ein cernodio, ac heb drigfa sefydlog genym; ac yn llafurio gan weithio â’n dwylaw ein hunain; pan yn cael ein gwatwar, bendithio yr ydym; pan yn cael ein herlid, dioddef yr ydym; pan yn cael ein cablu, attolygu yr ydym; fel budreddi’r byd y’n gwnaed, a sorod pob peth hyd yn hyn. Nid gan eich gwaradwyddo yr wyf yn ysgrifenu y pethau hyn; eithr megis fy mhlant anwyl, eich cynghori yr wyf; canys er i ddeng mil o hyfforddwyr fod genych yng Nghrist, er hyny, nid llawer o dadau sydd, canys yn Iesu Grist, trwy’r efengyl, myfi a’ch cenhedlais; attolygaf i chwi, gan hyny, byddwch efelychwyr i mi. O achos hyn y danfonais attoch Timothëus, yr hwn yw fy mab anwyl a ffyddlawn yn yr Arglwydd, yr hwn a ddwg ar gof i chwi fy ffyrdd y sydd yng Nghrist, y modd ymhob man, ymhob eglwys, yr wyf yn dysgu. Fel pe bawn i ddim yn dyfod attoch, yr ymchwyddodd rhai; ond deuaf ar fyrder attoch, os yr Arglwydd a’i myn; a gwybyddaf nid ymadrodd y rhai sy wedi chwyddo, eithr eu gallu, canys nid mewn ymadrodd y mae teyrnas Dduw, eithr mewn gallu. Pa beth a ewyllysiwch? Ai â gwialen i mi ddyfod attoch; neu mewn cariad ac yspryd addfwyn? Yn hollol y clywir am odineb yn eich plith, a’r fath odineb ag nad oes hyd yn oed ym mhlith y cenhedloedd, fod gwraig ei dad gan ryw un; a chwithau ydych wedi eich chwyddo, ac ni fu i chwi yn hytrach alaru fel y rhoddid allan o’ch plith chwi yr hwn a wnaeth y weithred hon; canys myfi yn wir yn absennol yn y corph ond yn bresennol yn yr yspryd, a fernais eisoes, fel pe bawn yn bresennol, yr hwn a wnaeth hyn felly, yn enw ein Harglwydd Iesu, wedi dyfod ynghyd o honoch a’m hyspryd i, ynghyda gallu ein Harglwydd Iesu, draddodi y cyfryw un i Satan er dinystr y cnawd, fel y bo i’r yspryd ei achub yn nydd yr Arglwydd Iesu. Nid da eich ymffrost. Oni wyddoch fod ychydig lefain yn lefeinio’r holl does? Certhwch allan yr hen lefain fel y byddoch does newydd, fel yr ydych yn ddilefeinllyd; canys ein pasg a aberthwyd, sef Crist: gan hyny, cadwn yr wyl, nid â lefain hen, nag â lefain drygioni ac anfadrwydd, eithr â bara croyw purdeb a gwirionedd. Ysgrifenais attoch yn fy epistol i beidio ag ymgymmysgu â godinebwyr; nid yn hollol â godinebwyr y byd hwn, neu â chybyddion, a rheibusion, neu âg eulunaddolwyr, canys felly y byddai rhaid i chwi fyned allan o’r byd; ond yr awrhon ysgrifenu attoch yr wyf i beidio ag ymgymmysgu, os rhyw un a enwir yn frawd fydd odinebwr, neu gybydd, neu eulun-addolwr, neu ddifenwr, neu feddwyn, neu rheibus, â’r cyfryw un i beidio ag hyd yn oed fwytta; canys pa beth sydd genyf fi a barnu y rhai sydd oddi allan? Onid y rhai sydd oddi mewn yr ydych chwi yn eu barnu, ac y rhai oddi allan y mae Duw yn eu barnu? Rhoddwch y drygddyn allan o’ch plith chwi. A feiddia neb o honoch a chanddo fatter yn erbyn arall, ymgyfreithio o flaen y rhai anghyfiawn, ac nid o flaen y saint? Oni wyddoch mai y saint a farnant y byd? Ac os genych chwi y bernir y byd, ai annheilwng ydych i farnu’ r pethau lleiaf? Oni wyddoch mai angylion a farnwn? Llawer mwy, ynte, bethau yn perthyn i’r bywyd hwn. Gan hyny, os pethau yn perthyn i’r bywyd hwn sydd genych i’w barnu, ai y rhai a gyfrifir yn ddiddym yn yr Eglwys, ai y rhai hyn yr ydych yn eu rhoddi ar y faingc? Er codi cywilydd ynoch yr wyf yn dywedyd. Ai felly nad oes yn eich plith ddim un doeth yr hwn fydd abl i farnu rhwng ei frodyr, eithr brawd â brawd sy’n ymgyfreithio, a hyny o flaen y rhai digred? Weithian, yn wir, gan hyny, yn hollol diffyg yw ynoch fod genych gŵyn cyfraith â’ch gilydd. Paham nad ydych yn hytrach yn dioddef cam? Paham nad ydych yn hytrach yn dioddef dwyn oddi arnoch? Eithr chwychwi sy’n gwneuthur cam ac yn dwyn oddiar, a hyny i frodyr. Oni wyddoch na fydd i anghyfiawnion etifeddu teyrnas Dduw? Na’ch dyger ar gyfeiliorn. Ni chaiff na godinebwyr, nac eulun-addolwyr, na thorrwyr priodas, na masweddwyr, na gwrryw-gydwyr, na lladron, na chybyddion, na meddwon, na difenwyr, na rheibusion, etifeddu teyrnas Dduw: a hyn fu rhai o honoch: eithr golchwyd chwi; eithr sancteiddiwyd chwi; eithr cyfiawnhawyd chwi yn enw yr Arglwydd Iesu Grist ac yn Yspryd ein Duw. I mi y mae pob peth yn gyfreithlawn, eithr nid pob peth yn llesol; i mi y mae pob peth yn gyfreithlawn, eithr arnaf fi nid awdurdodir gan ddim. Y bwydydd i’r bol, a’r bol i’r bwydydd; ond Duw a ddiddyma ef a hwythau. A’r corph nid i odineb y mae, eithr i’r Arglwydd, ac yr Arglwydd i’r corph; a Duw a gyfododd yr Arglwydd, ac a’n cyfyd ninnau hefyd trwy Ei allu. Oni wyddoch am eich cyrph mai aelodau i Grist ydynt? Gan gymmeryd, gan hyny, aelodau Crist, a wnaf fi hwynt yn aelodau puttain? Na atto Duw. Oni wyddoch am yr hwn sy’n ymgyssylltu â phuttain, mai un corph yw? “Canys bydd (medd Efe) y ddau yn un cnawd;” ond yr hwn sy’n ymgyssylltu â’r Arglwydd un yspryd yw. Ffowch oddiwrth odineb. Pob pechod a wnelo dyn, oddi allan i’r corph y mae; ond yr hwn sy’n godinebu, yn erbyn ei gorph ei hun y mae yn pechu. Oni wyddoch fod eich corph yn deml i’r Yspryd Glân yr Hwn sydd ynoch, yr Hwn sydd genych oddiwrth Dduw? Ac nid ydych yn eiddoch eich hunain, canys prynwyd chwi er gwerth; gogoneddwch Dduw, gan hyny, yn eich corph. Ond am y pethau am y rhai yr ysgrifenasoch; Da i ddyn beidio a chyffwrdd â gwraig. Ond o achos godineb bydded i bob dyn ei wraig ei hun; a bydded i bob gwraig ei gŵr ei hun. I’r wraig bydded i’r gŵr dalu’r ddyled; ac yr un ffunud y wraig i’r gŵr. Nid gan y wraig y mae’r awdurdod ar ei chorph ei hun, eithr gan y gŵr; ac yr un ffunud hefyd nid gan y gŵr y mae’r awdurdod ar ei gorph ei hun, eithr gan y wraig. Na ddygwch oddiar eich gilydd, oddieithr o gydsyniad, am ryw amser, fel y bo genych hamdden i weddi, ac y deuoch trachefn ynghyd rhag temtio o Satan chwi o achos eich anniweirdeb. A hyn yr wyf yn ei ddywedyd yn ol caniattad, nid yn ol gorchymyn; ond ewyllysiwn i bob dyn fod yr un modd ag i mi fy hun; eithr pob un sydd a chanddo ei ddawn ei hun oddiwrth Dduw, un fel hyn, ac arall fel hyn. A dywedyd yr wyf wrth y rhai heb briodi a’r gwragedd gweddwon, Da yw iddynt os arhosant fel yr wyf finnau. Ond os na allant ymgadw, priodont, canys gwell yw priodi na llosgi. Ond wrth y rhai a briodwyd gorchymyn yr wyf, nid myfi, eithr yr Arglwydd, na bo i wraig ymwahanu oddiwrth ei gŵr, (ond os ymwahana, arhosed heb briodi, neu cymmoder hi â’i gŵr); ac na bo i ŵr ollwng ymaith ei wraig. Ond wrth y lleill, dywedyd yr wyf fi, nid yr Arglwydd, Os bydd rhyw frawd a chanddo wraig ddigred, a hithau yn foddlawn i drigo gydag ef, na ollynged hi ymaith; a gwraig yr hon sydd a chanddi ŵr digred, ac efe yn foddlawn i drigo gyda hi, na ollynged ymaith ei gŵr; sancteiddir y gŵr digred trwy’r wraig, a sancteiddir y wraig ddigred trwy’r brawd; pe amgen eich plant fyddent aflan, ond yr awrhon sanctaidd ydynt. Ond os y digred a ymwahana, ymwahaned; nid caeth yw’r brawd, neu’r chwaer, yn y cyfryw bethau, ond mewn heddwch y galwodd Duw ni. Canys beth a wyddost ti, wraig, a achubi dy ŵr? Neu beth a wyddost ti, ŵr, a achubi dy wraig? Ond fel i bob un y rhannodd yr Arglwydd, fel y bo i bob un ei alw gan Dduw, felly rhodied; ac fel hyn yn yr eglwysi oll yr wyf yn ordeinio. Ai wedi ei amdorri y galwyd neb? Nac aed yn ddiamdorredig. Ai mewn diamdorriad y galwyd neb? Nac amdorrer. Amdorriad nid yw ddim, a diamdorriad nid yw ddim; eithr cadw gorchymynion Duw. Pob un yn yr alwedigaeth yn yr hon y galwyd ef, yn honno arhosed. Ai yn gaethwas y’th alwyd? Na fydded gwaeth genyt; eithr os gelli fyned yn rhydd, mwynha hyny yn hytrach, canys yr hwn a alwyd yn yr Arglwydd, ac efe yn gaethwas, gŵr rhydd yr Arglwydd yw. Yr un ffunud, yr hwn a alwyd, ac efe yn ŵr rhydd, caethwas yw i Grist. Er gwerth y’ch prynwyd; nac ewch yn gaethweision dynion. Pob un yn yr hyn y galwyd ef, frodyr, yn hyny arhosed gyda Duw. Ond am wyryfon, gorchymyn yr Arglwydd nid oes genyf; ond barn a roddaf megis un a gafodd drugaredd gan yr Arglwydd i fod yn ffyddlawn. Tybied yr wyf, gan hyny, fod hyn yn dda o achos yr angen presennol, mai da i ddyn yw bod fel y mae. A rwymwyd di i wraig? Na chais dy ollwng yn rhydd. Ai rhydd wyt oddiwrth wraig? Na chais wraig. Ond os priodi hefyd, ni phechaist. Ac os prioda gwyryf, ni phechodd; ond blinder yn y cnawd a gaiff y cyfryw rai, ac myfi a’ch arbedwn chwi. Ond hyn a ddywedaf, frodyr, Yr amser sydd wedi ei fyrhau, fel o hyn allan y bo’r rhai sydd a chanddynt wragedd, fel pe na baent a chanddynt; a’r rhai sy’n gwylo fel pe na baent yn gwylo; a’r rhai sy’n llawenychu fel pe na baent yn llawenychu; a’r rhai sy’n prynu, fel pe na baent yn meddu; ac y rhai sy’n arferu’r byd, fel pe na baent yn ei iawn-arferu; canys myned heibio y mae dull y byd hwn. Ond ewyllysiaf i chwi fod heb bryder. Yr hwn sydd heb briodi sydd bryderus am bethau’r Arglwydd, pa wedd y rhynga fodd yr Arglwydd, ond yr hwn a wreiccaodd sydd bryderus am bethau’r byd, pa wedd y rhynga fodd ei wraig. Ac y mae gwahaniaeth rhwng y wraig briod a gwyryf; yr hon sydd heb briodi sydd bryderus am bethau’r Arglwydd, fel y byddo sanctaidd yn ei chorph ac yn ei hyspryd hefyd; ond yr hon sydd wedi priodi sydd bryderus am bethau’r byd, pa wedd y rhynga fodd ei gŵr. A hyn, er eich lles chwi eich hunain yr wyf yn ei ddywedyd; nid fel y gosodwyf fagl arnoch, eithr er mwyn yr hyn sydd weddaidd, a dyfal-lynu wrth yr Arglwydd heb ddirdynrwydd. Ond os yw neb yn tybied ei fod yn anweddaidd tuag at ei wyryf o ferch, os bydd hi dros flodau ei hoedran, ac os felly y mae rhaid bod, gwnaed yr hyn a ewyllysio: ni phecha; priodont. Ond yr hwn sy’n sefyll yn sefydlog yn ei galon, heb angenrheidrwydd arno, ac a chanddo awdurdod o ran ei ewyllys ei hun, ac a benderfynodd hyn yn ei galon ei hun, sef i gadw ei wyryf o ferch, da y gwna. Felly yr hwn sy’n rhoddi ei wyryf o ferch yn briod, da y gwna; ond yr hwn nad yw yn ei rhoddi yn briod, gwell y gwna. Y mae gwraig yn rhwym cyhyd ag y mae ei gŵr yn fyw; ond os bu farw ei gŵr, rhydd yw i briodi yr hwn a ewyllysio; yn unig yn yr Arglwydd: ond dedwyddach yw os felly yr erys, yn ol fy marn i; a thybiaf fy mod innau hefyd ag Yspryd Duw genyf. Ond am y pethau a aberthwyd i eulunod, gwyddom fod pawb o honom a gwybodaeth genym. Gwybodaeth a bair ymchwyddo, ond cariad a adeilada. Os yw neb yn tybied ei fod yn gwybod dim, ni ŵyr etto fel y dylai wybod: ond os yw neb yn caru Duw, hwn a adwaenir Ganddo Ef. Am fwytta, gan hyny, y pethau a aberthwyd i eulunod, gwyddom nad yw eulun yn ddim yn y byd, ac nad oes Duw oddieithr un. Canys er bod rhai a elwir yn dduwiau, pa un bynnag ai yn y nef ai ar y ddaear, fel y mae duwiau lawer ac arglwyddi lawer, eithr i ni un Duw sydd, y Tad, o’r Hwn y mae pob peth, a nyni Iddo Ef; ac un Arglwydd Iesu Grist, trwy yr Hwn y mae pob peth, a nyni trwyddo Ef. Ond nid ym mhawb y mae’r wybodaeth; ond rhai trwy eu harferu hyd y pryd hyn i’r eulun, a fwyttant beth megis wedi ei aberthu i eulun; ac eu cydwybod, a hi yn wan, a halogir. Ond bwyd ni’n cymmeradwya ni i Dduw. Os nad ydym yn bwytta, nid ydym ar ol; nac, os bwyttawn, yn rhagori. Ond edrychwch rhag mewn un modd i’ch rhyddid hwn fyned yn faen tarawo i’r gweiniaid; canys os gwel neb dydi sydd a gwybodaeth genyt, yn lled-orwedd yn nheml eulun, oni fydd i’w gydwybod ef, ac ef yn wan, ei chadarnhâu i fwytta’r pethau a aberthwyd i eulunod? Canys derfydd am y gwan trwy dy wybodaeth di, am y brawd er mwyn yr hwn y bu Crist farw. Ac felly, gan bechu yn erbyn y brodyr, a churo eu cydwybod wan hwynt, yn erbyn Crist yr ydych yn pechu. Gan hyny, os bwyd a bair dramgwydd i fy mrawd, ni fwyttaf gig byth, fel na bo i mi beri tramgwydd i fy mrawd. Nid wyf yn rhydd! Nid wyf yn apostol! Onid Iesu ein Harglwydd a welais? Onid fy ngwaith i ydych chwi yn yr Arglwydd? Os i eraill nad wyf apostol, beth bynnag i chwi yr wyf, canys sel fy apostoliaeth ydych chwi, yn yr Arglwydd. Fy amddiffyn i’r rhai sydd yn fy holi i, yw hyn. Onid oes genym awdurdod i fwytta ac i yfed? Onid oes genym awdurdod i arwain o amgylch chwaer o wraig, fel yr apostolion eraill, a brodyr yr Arglwydd, a Cephas? Ai yn unig myfi a Barnabas sydd heb genym awdurdod i fod heb weithio? Pwy sy’n milwrio un amser ar ei draul ei hun? Pwy sy’n plannu gwinllan, ac ei ffrwyth hi na fwytty? Neu pwy sy’n porthi praidd, ac o laeth y praidd na fwytty? Ai yn ol dyn yr wyf yn dywedyd y pethau hyn? Neu’r Gyfraith hefyd, ai’r pethau hyn na ddywaid? Canys yng Nghyfraith Mosheh yr ysgrifenwyd, “Ni rwymi safn ŷch yn dyrnu.” Ai dros yr ychen y gofala Duw, neu o’n hachos ni yn hollol y dywaid? O’n hachos ni, yn wir yr ysgrifenwyd, canys mewn gobaith y dylai’r arddwr aredig, a’r dyrnwr ddyrnu mewn gobaith o gyfrannogi. Os nyni a hauasom i chwi bethau ysprydol, ai mawr yw os nyni a fedwn eich pethau cnawdol chwi? Os eraill a gyfrannogant o’r awdurdod hon arnoch, onid mwy nyni a gawn? Eithr nid arferasom yr awdurdod hon; eithr pob peth a oddefwn, fel na roddom neb rhyw rwystr i Efengyl Crist. Oni wyddoch am y rhai sy’n offrymmu y pethau cyssegredig, mai y pethau o’r deml a fwyttant; a’r rhai sy’n gwasanaethu’r allor, â’r allor y mae eu cyfran? Felly hefyd yr Arglwydd a ordeiniodd i’r rhai sy’n cyhoeddi’r Efengyl, mai o’r Efengyl y mae iddynt fyw. Ond myfi nid arferais yr un o’r pethau hyn; ac ni ’sgrifenais y pethau hyn er mwyn felly y gwnelid tuag attaf, canys da i mi farw yn hytrach nag i’m hymffrost gael ei wneuthur yn wag gan neb: canys os efengylaf nid oes i mi ymffrost, canys angenrhaid a osodwyd arnaf, canys gwae fydd i mi os nad efengylaf; canys os o’m bodd y gwnaf hyn, gwobr sydd i mi; ond os o’m hanfodd, y ddisdeiniaeth a ymddiriedwyd i mi. Pa beth, gan hyny, yw’r gwobr i mi? Fel, wrth efengylu, y gwnelwyf yr Efengyl yn ddidraul, er mwyn peidio a llawn-arferu fy awdurdod yn yr Efengyl. Canys a myfi yn rhydd oddiwrth bawb, i bawb y gwnaethum fy hun yn gaethwas fel y rhan fwyaf yr ennillwn, ac aethum i’r Iwddewon megis Iwddew, fel yr Iwddewon yr ennillwn; i’r rhai tan y Gyfraith, megis tan y Gyfraith, a mi heb fod tan y Gyfraith, fel y rhai tan y Gyfraith yr ennillwn; i’r rhai digyfraith, megis digyfraith, a mi heb fod yn ddigyfraith i Dduw, eithr tan gyfraith i Grist, fel yr ennillwn y rhai digyfraith. Aethum i’r gweiniaid yn wan, fel y gweiniaid yr ennillwn. I bawb yr aethum yn bob peth, fel ymhob modd yr achubwn rai. A phob peth yr wyf yn ei wneud er mwyn yr Efengyl, fel y byddwyf yn gydgyfrannog o honi. Oni wyddoch fod y rhai sy’n rhedeg mewn rhedfa i gyd yn rhedeg, ond un sy’n derbyn y gwobr? Felly rhedwch, er mwyn derbyn o honoch. A phob un y sy’n ymdrechu yn y campau, ymhob peth y mae’n gymmedrol; hwynt-hwy yn wir fel y bo coron lygradwy i’w chael ganddynt; ond nyni, un anllygradwy. Myfi, gan hyny, wyf felly yn rhedeg fel nid mewn ansicrwydd; felly yr ymbaffiaf, fel nid yn curo’r awyr; eithr du-gleisio fy nghorph yr wyf, ac yn ei ddwyn yn gaeth, rhag mewn modd yn y byd, ar ol pregethu i eraill, i mi fy hun fod yn anghymmeradwy. Canys nid ewyllysiwn i chwi fod heb wybod, frodyr, y bu ein tadau oll dan y cwmmwl, ac i’r oll o honynt fyned trwy’r môr, ac i’r oll o honynt eu bedyddio i Mosheh yn y cwmmwl ac yn y môr, a chan yr oll o honynt yr un bwyd ysprydol a fwyttawyd, a chan yr oll o honynt yr un ddiod ysprydol a yfwyd, canys yfent o graig ysprydol a’u canlynai, a’r graig oedd Crist. Eithr yn y rhan fwyaf o honynt ni foddlonwyd Duw, canys cwympwyd hwynt yn yr anialwch. A’r pethau hyn yn siamplau i ni y’u gwnaed, fel na byddom yn chwenychwyr pethau drwg, fel y bu iddynt hwy hefyd chwenychu. Ac na fyddwch eulunaddolwyr, fel rhai o honynt hwy, fel yr ysgrifenwyd, “Eisteddodd y bobl i fwytta ac i yfed, a chyfodasant i chwareu.” Ac na odinebwn, fel y bu i rai o honynt hwy odinebu, a syrthiodd mewn un dydd dair mil ar hugain. Ac na themtiwn yr Arglwydd, fel y bu i rai o honynt hwy demtio, a chan y seirph y distrywiwyd hwy. Ac na rwgnechwch, fel y bu i rai o honynt hwy rwgnach, a distrywiwyd hwynt gan y distrywiwr. Ac y pethau hyn ar wedd siamplau y digwyddasant iddynt hwy; ac ysgrifenwyd hwynt er cynghor i ni ar y rhai y mae terfynau yr oesoedd wedi dyfod. Felly, yr hwn a dybio ei fod yn sefyll, edryched na syrthio. Temtasiwn nid ymaflodd ynoch chwi oddieithr un dynol; ond ffyddlawn yw Duw, yr Hwn ni ad eich temtio chwi uwchlaw yr hyn a allwch; eithr gwnaiff ynghyda’r temtasiwn y ddiangfa hefyd, er mwyn gallu o honoch ei ddioddef. Gan hyny, fy anwylyd, ffowch oddiwrth eulun-addoliaeth. Megis wrth rai synhwyrol yr wyf yn dywedyd: bernwch chwi yr hyn yr wyf yn ei adrodd. Phiol y fendith, yr hon a fendigwn, onid cymmun gwaed Crist yw? Y bara, yr hwn a dorrwn, onid cymmun corph Crist yw? gan mai un bara, un corph ydym, a ni yn llawer; canys yr oll o honom, o’r un bara y cyfrannogwn. Edrychwch ar yr Israel yn ol y cnawd: y rhai sy’n bwytta’r ebyrth, onid cyfrannogion o’r allor ydynt? Pa beth, gan hyny, yr wyf yn ei ddywedyd? Fod yr hyn a aberthwyd i eulunod yn rhywbeth? neu fod yr eulun yn rhywbeth? eithr, y pethau a abertha’r cenhedloedd, i gythreuliaid y’u haberthant ac nid i Dduw; ac nid ewyllysiaf i chwi fyned yn gyfrannogion â’r cythreuliaid. O phiol yr Arglwydd ni ellwch yfed, ac o phiol cythreuliaid: o fwrdd yr Arglwydd ni ellwch gyfrannogi, ac o fwrdd cythreuliaid. Ai gyrru eiddigedd ar yr Arglwydd yr ydym? Ai cryfach nag Ef ydym? Pob peth sydd gyfreithlawn, eithr nid pob peth sy’n llesau; pob peth sydd gyfreithlawn, eithr nid pob peth a adeilada. Yr eiddo ei hun na fydded i neb ei geisio, eithr yr eiddo dyn arall. Pob peth o’r a werthir yn y gigfa, bwyttewch ef heb ofyn dim er mwyn y gydwybod, canys i’r Arglwydd y perthyn y ddaear a’i chyflawnder. Os eich gwahodd a wna rhyw un o’r rhai digred, ac ewyllysio o honoch fyned, pob peth o’r a rodder ger eich bron, bwyttewch heb ofyn dim er mwyn cydwybod; ond os wrthych y dywaid rhyw un, Hwn, peth a aberthwyd yw, na fwyttewch, er mwyn yr hwn a’ i mynegodd, ac er mwyn cydwybod; a chydwybod, meddaf, nid yr eiddot ti dy hun, eithr eiddo’r llall; canys paham y mae fy rhyddid i yn cael ei farnu gan gydwybod un arall? Os myfi trwy ras a gyfrannogaf, paham y’m ceblir am y peth am yr hwn yr wyf fi yn diolch? Pa un bynnag, gan hyny, ai bwytta yr ydych, neu yn yfed, neu yn gwneuthur rhyw beth, pob peth gwnewch er gogoniant Duw. Byddwch ddidramgwydd i Iwddewon a Groegiaid ac eglwys Dduw; fel yr wyf fi ymhob peth yn rhyngu bodd pawb, heb geisio fy lles fi fy hun, eithr eiddo’r rhan fwyaf, fel yr achuber hwynt. Efelychwyr byddwch i mi, fel yr wyf finnau hefyd i Grist. Ac eich canmol yr wyf, gan mai ymhob peth fy nghofio yr ydych; ac, fel y traddodais i chwi, y traddodiadau eu cadw yr ydych. Ond ewyllysiaf i chwi wybod mai i bob dyn, y pen yw Crist; a phen y wraig yw’r gŵr; a phen Crist yw Duw. Pob dyn yn gweddïo, neu yn prophwydo, a chanddo beth am ei ben, cywilyddio ei ben y mae; a phob gwraig yn gweddïo, neu yn prophwydo, heb orchudd am ei phen, cywilyddio ei phen y mae, canys yr un, a’r un peth, yw a phe ei heilliesid hi. Canys os heb orchudd y mae gwraig, cneifier hi hefyd; ond os cywilyddus i wraig ei chneifio neu ei heillio, bydded a gorchudd am dani. Canys dyn yn wir ni ddylai fod a pheth am ei ben, gan mai delw a gogoniant Duw yw; ond y wraig, gogoniant y dyn yw; canys nid yw dyn o wraig, eithr y wraig o ddyn; ac ni chrewyd dyn er mwyn y wraig, eithr gwraig er mwyn y dyn. O herwydd hyn dylai’r wraig fod ag arwydd awdurdod ar ei phen o achos yr angylion. Er hyny, nid yw na gwraig heb ddyn, na dyn heb wraig yn yr Arglwydd, canys yr un wedd ag y mae’ r wraig o’r dyn, felly hefyd y mae’ r dyn trwy’r wraig; a phob peth o Dduw. Ynoch chwi eich hunain bernwch, Ai gweddus yw i wraig heb orchudd am dani weddïo Duw? Onid yw hyd yn oed naturiaeth ei hun yn eich dysgu chwi, os bydd dyn yn wallt-laes, mai dianrhydedd yw iddo; ond os gwraig fydd wallt-laes, gogoniant yw iddi, canys ei gwallt a roddwyd yn lle gorchudd iddi. Ond os ymddengys neb yn gynhenus, nid oes genym ni y fath arfer, na chan eglwysi Duw. Ond pan hyn a orchymynaf, nid wyf yn eich canmol, canys nid er gwell, eithr er gwaeth y deuwch ynghyd; canys yn gyntaf, pan ddeloch ynghyd, clywaf mai yn yr eglwys y mae sismau yn eich plith, a rhyw faint y credaf hyn, canys rhaid hefyd fod sectau yn eich plith, fel y bo i’r rhai cymmeradwy fyned yn amlwg yn eich plith. Wrth ddyfod o honoch, gan hyny, ynghyd, nid yw i fwytta swpper yr Arglwydd, canys pob un sy’n cymmeryd ei swpper ei hun o flaen arall, yn y bwytta; ac un sydd a newyn arno, ac arall yn feddw. Onid oes tai genych i’r bwytta ac yfed ynddynt? Ai eglwys Dduw a ddirmygwch, a chywilyddio y rhai nad oes ganddynt? Pa beth a ddywedaf wrthych? A ganmolaf fi chwi yn y peth hwn? Ni’ch canmolaf Canys myfi a dderbyniais gan yr Arglwydd, yr hyn a draddodais hefyd i chwi, y bu i’r Arglwydd Iesu yn y nos y traddodwyd Ef, gymmeryd bara; ac, wedi diolch o Hono, torrodd, a dywedodd, Hwn, yn wir, yw Fy nghorph I, yr hwn sydd eroch: Hyn gwnewch er cof am Danaf Fi. Yr un modd hefyd y cwppan, ar ol swpperu, gan ddywedyd, Y cwppan hwn, y cyfammod newydd yw yn Fy ngwaed I. Hyn gwnewch, cynnifer gwaith ag yr yfoch, er cof am Danaf Fi. Canys cynnifer gwaith ag y bwyttaoch y bara hwn, ac y cwppan a yfoch, marwolaeth yr Arglwydd a fynegwch hyd oni ddelo. Felly, pwy bynnag a fwyttao y bara hwn, neu a yfo gwppan yr Arglwydd, mewn modd annheilwng, dyledwr fydd i gorph a gwaed yr Arglwydd. A phrofed dyn ef ei hun; ac felly o’r bara hwn bwyttaed, ac o’r cwppan hwn yfed; canys yr hwn sy’n bwytta ac yn yfed, barnedigaeth iddo ei hun y mae efe yn ei bwytta ac yn ei hyfed, pan na wahan-farno’r corph. O achos hyn y mae yn eich plith lawer yn weiniaid ac yn llesg, a huno y mae llawer. Ond pe gwahan-farnem ein hunain, ni’n bernid. Ond wrth gael ein barnu gan yr Arglwydd, yr ydym yn cael ein ceryddu, rhag, ynghyda’r byd, ein condemnio. Gan hyny, fy mrodyr, pan ddeloch ynghyd i fwytta, arhoswch eich gilydd. Os bydd neb a newyn arno, yn ei dŷ bwyttaed, fel nad er barnedigaeth y deloch ynghyd. Ond y pethau eraill, pan ddelwyf, a drefnaf. Ac am ddoniau ysprydol, frodyr, nid ewyllysiaf i chwi fod heb wybod. Gwyddoch mai pan cenhedloedd oeddych, at yr eilunod mudion y’ch arweinid ymaith, ym mha fodd bynnag y’ch arweinid. Gan hyny, hyspysu i chwi yr wyf, nad yw neb, yn llefaru yn Yspryd Duw, yn dywedyd, Anathema yw’ r Iesu; ac nad oes neb all ddywedyd, Yr Arglwydd yw’ r Iesu, oddieithr trwy yr Yspryd Glân. Ac amryw ddoniau sydd, ond yr un Yspryd, ac amryw weinidogaethau sydd, ac yr un Arglwydd; ac amryw weithrediadau sydd, ond yr un Duw, yr Hwn sy’n gweithredu pob peth ym mhawb. Ond i bob un y rhoddwyd eglurhad yr Yspryd er llesad: canys i un, trwy yr Yspryd, y rhoddwyd ymadrodd doethineb; ac i arall, ymadrodd gwybodaeth, yn ol yr un Yspryd; i arall ffydd, gan yr un Yspryd; ac i arall ddoniau i iachau, gan yr un Yspryd; ac i arall, weithrediadau gwyrthiau; ac i arall, brophwydoliaeth; ac i arall, wahan-farnu ysprydoedd; i arall, amryw dafodau; ac i arall gyfieithiad tafodau. A’r holl bethau hyn a weithreda yr un a’r unrhyw Yspryd, gan rannu, o’r neilldu, i bob un fel yr ewyllysia. Canys fel y mae y corph yn un, ac aelodau lawer ganddo, a holl aelodau’r corph, a hwy yn llawer, un corph ydynt, felly hefyd y mae Crist; canys yn un Yspryd, nyni oll, i un corph y’n bedyddiwyd, pa un bynnag ai Iwddewon ai Groegwyr, ai caethion ai rhyddion; a’r oll o honom, ag un Yspryd y’n diodwyd. Canys y corph nid yw un aelod, eithr llawer. Os dywaid y troed, Am nad wyf law, nid wyf o’r corph, nid yw efe, gan hyny, “Nid o’r corph.” Ac os dywaid y glust, Am nad wyf lygad, nid wyf o’r corph, nid yw hi, gan hyny, “Nid o’r corph.” Pe yr holl gorph fyddai llygad, pa le y byddai’r clywed? Pe’r oll fyddai clywed, pa le y byddai’ r arogliad? Ond yn awr, Duw a osododd yr aelodau, bob un o honynt, yn y corph fel yr ewyllysiodd. A phe bai’r oll yn un aelod, pa le y byddai’ r corph? Ond yn awr, llawer aelod, ond un corph. Ac ni all y llygad ddywedyd wrth y llaw, Rhaid wrthyt nid oes arnaf; nac etto y pen wrth y traed, Rhaid wrthych nid oes arnaf. Eithr llawer mwy, yr aelodau o’r corph y sy’n edrych yn wannach, angenrheidiol ydynt; ac y rhannau o’r corph y tybiwn eu bod yn ammharchediccach, ar y rhai hyn y rhoddwn barch helaethach; ac ein rhannau anhardd, harddwch helaethach a gant; ond i’n rhannau hardd nid oes rhaid wrtho; eithr Duw a gyd-dymherodd y corph, gan roddi i’r rhan oedd ddiffygiol barch helaethach; fel na byddai sism yn y corph, eithr yr un pryder dros eu gilydd gan yr aelodau; a pha un bynnag ai dioddef a wna un aelod, cyd-ddioddef y mae yr holl aelodau; neu os gogoneddir aelod, cyd-lawenychu y mae yr holl aelodau. A chwychwi ydych gorph Crist, ac yn aelodau o ran. A rhai a osododd Duw yn yr eglwys; yn gyntaf, apostolion; yn ail, brophwydi; yn drydydd, athrawon; wedi hyny, wyrthiau; wedi hyny, ddoniau i iachau, cynnorthwyau, llywodraethau, rhywiogaethau tafodau. Ai pawb sydd apostolion? Ai pawb yn brophwydi? Ai pawb yn athrawon? Ai pawb yn wneuthurwyr gwyrthiau? Ai pawb sydd â doniau i iachau ganddynt? Ai pawb sy’n llefaru â thafodau? Ai pawb a gyfieithant? Ond ceisiwch y doniau mwyaf. Ac etto ffordd dra-rhagorol yr wyf yn ei dangos i chwi. Os â thafodau dynion y llefaraf, ac â’r eiddo’ r angylion, ond cariad heb fod genyf, aethum yn efydd yn seinio, neu’n sumbal yn tincian. Ac os bydd genyf brophwydoliaeth, a gwybod o honof y dirgeledigaethau oll a phob gwybodaeth, ac os bydd genyf yr holl ffydd hyd i fynyddoedd eu symud genyf, ond cariad heb fod genyf, diddym wyf. Ac os i borthi tlodion y rhoddaf fy holl feddiannau, ac os traddodaf fy nghorph fel y’m llosger, ond cariad heb fod genyf, nid oes dim lleshad i mi. Cariad sy’n hir-ymaros, sy’n gymmwynasgar; cariad ni chenfigenna; cariad nid ymffrostia; nid ymchwydda; nid yn anweddaidd y gwnaiff; ni chais ei bethau ei hun; nid ennynir; ni chyfrif yr hyn sy ddrwg; ni lawenycha mewn anghyfiawnder, ond cyd-lawenycha â gwirionedd; â phob peth y cyd-ddwg; pob peth a gred efe; pob peth a obeithia efe; pob peth a ddioddefa efe. Cariad ni syrth byth; ond pa un bynnag ai prophwydoliaethau sydd, diddymir hwynt; neu dafodau, peidiant; neu wybodaeth, diddymir hi; canys o ran y gwyddom, ac o ran y prophwydwn; ond pan ddelo’r perffaith, yr hyn sydd o ran a ddiddymir. Pan oeddwn blentyn, llefarwn fel plentyn, deallwn fel plentyn, meddyliwn fel plentyn; pan ddaethum yn ddyn, diddymais bethau plentyn. Canys gweled yr ydym yn awr trwy ddrych, mewn dammeg; ond yna wyneb yn wyneb; yn awr yr adwaen o ran, ond yna yr adnabyddaf fel y’m hadwaenir. Ac yn awr aros y mae ffydd, gobaith, cariad, y tri hyn; a’r mwyaf o’r rhai hyn yw cariad. Dilynwch gariad, ond chwenychwch yr ysprydol bethau, ond mwyaf, y bo i chwi brophwydo; canys yr hwn sy’n llefaru â thafod, nid wrth ddynion y llefara, eithr wrth Dduw, canys nid oes neb yn deall; ond yn yr yspryd y llefara ddirgeledigaethau. Ond yr hwn sy’n prophwydo, wrth ddynion y llefara adeiladaeth a diddanwch a chysur. Yr hwn sy’n llefaru â thafod, ef ei hun a adeilada efe; ond yr hwn sy’n prophwydo, yr eglwys a adeilada efe. Ac ewyllysiwn i’r oll o honoch lefaru â thafodau; ond yn fwy i chwi brophwydo; a mwy yw ’r hwn sy’n prophwydo na’r hwn sy’n llefaru â thafodau, oddieithr cyfieithu o hono fel y bo i’r eglwys dderbyn adeiladaeth. Ac yn awr, frodyr, os deuaf attoch gan lefaru â thafodau, pa lesad a wnaf i chwi, os nad wrthych y llefaraf naill ai trwy weledigaeth, neu trwy wybodaeth, neu trwy brophwydoliaeth, neu trwy ddysgad? Beth bynnag, y pethau heb fywyd, yn rhoddi sain, pa un bynnag ai pibell, ai telyn, os gwahaniaeth yn y seiniau na roddant, pa wedd y gwybyddir yr hyn a genir â’r bibell neu ar y delyn? Ac os sain aneglur y bydd yr udgorn yn ei roi, pwy a ymbarottoa i ryfel? Felly chwithau hefyd â’r tafod, os nad ymadrodd dealladwy a roddwch, pa wedd y gwybyddir yr hyn a leferir, canys i’r awyr y byddwch yn llefaru? Cymmaint ysgatfydd, o rywogaethau lleisiau sydd yn y byd, ac nid oes un rhywogaeth yn aflafar. Os, gan hyny, na wn rym y llais, byddaf i’r hwn sy’n llefaru, yn farbariad; a’r hwn sy’n llefaru fydd i minnau yn farbariad. Felly chwithau hefyd, gan mai awyddus ydych i ddoniau ysprydol, er adeiladaeth yr eglwys, ceisiwch fod ag helaethder genych. Gan hyny, yr hwn sy’n llefaru â thafod, gweddïed y bo iddo gyfieithu; canys os gweddïaf â thafod, fy yspryd a weddïa, ond fy neall sydd yn ddiffrwyth. Pa beth, gan hyny, sydd? Gweddïaf â’r yspryd, a gweddïaf â’r meddwl hefyd: canaf â’r yspryd, a chanaf â’r meddwl hefyd. Canys os bendithi â’ r yspryd, pa wedd y bydd i’r hwn sy’n cyflawni lle’r anghyfarwydd ddweud yr Amen ar dy ddodiad diolch di, pan na ŵyr pa beth yr wyt yn ei ddywedyd? Canys tydi yn wir, da y diolchi, eithr y llall nid adeiledir. Diolch yr wyf i Dduw, mwy na’r oll o honoch y llefaraf â thafodau; eithr yn yr eglwys ewyllysiwn lefaru pum gair â’m deall, fel y dysgwyf eraill hefyd, rhagor myrddiynau o eiriau â thafod. Fy mrodyr, na fyddwch blant mewn deall; eithr mewn drygioni byddwch fabanod, ond mewn deall byddwch berffaith. Yn y Gyfraith yr ysgrifenwyd, “Trwy rai estronieithus, ac â gwefusau estroniaid, y llefaraf wrth y bobl hyn, ac hyd yn oed felly, ni’m gwrandawant, medd yr Arglwydd.” Felly tafodau, er arwydd y maent, nid i’r rhai sy’n credu, eithr i’r rhai digred; ond prophwydoliaeth, nid i’r rhai digred, ond i’r rhai sy’n credu. Gan hyny, os daw yr eglwys oll ynghyd, a phawb a lefarant â thafodau, a dyfod i mewn o rai anghyfarwydd neu ddigred, oni ddywedant mai allan o’ch pwyll yr ydych? Ond os pawb a brophwydant, a dyfod i mewn o ryw un digred neu anghyfarwydd, argyhoeddir ef gan bawb, bernir ef gan bawb, dirgelion ei galon a ant yn amlwg; ac felly, wedi syrthio ar ei wyneb, yr addola Dduw gan fynegi, Yn wir, Duw sydd yn eich plith. Pa beth, gan hyny, sydd, frodyr? Pan ddeloch ynghyd, pob un sydd â psalm ganddo, â dysgad ganddo, â datguddiad ganddo, â thafod ganddo, â chyfieithiad ganddo. Bydded i bob peth ei wneuthur er adeiladaeth. Os â thafod y bydd neb yn llefaru, bob yn ddau, neu o’r mwyaf bob yn dri, bydded, a hyny ar gylch, a bydded i un gyfieithu; ond os na fydd cyfieithydd, tawed yn yr eglwys; ac wrtho ei hun llefared, ac wrth Dduw. Ond y prophwydi, bydded i ddau neu dri lefaru, ac i’r lleill wahan-farnu. Ond os i un arall y datguddier yn ei eistedd, bydded i’r cyntaf dewi; canys bob yn un y gellwch oll brophwydo, fel y bo i bawb ddysgu a phawb eu diddanu; ac ysprydoedd y prophwydi, i’r prophwydi y darostyngir hwynt; canys nid yw Duw yn Dduw annhrefn, eithr yn Dduw heddwch, fel yn holl eglwysi’r saint. Y gwragedd, yn yr eglwysi tawont, canys ni chaniatteir iddynt lefaru, eithr darostynger hwynt, fel y mae’r Gyfraith hefyd yn dywedyd: ond os dysgu rhyw beth a ewyllysiant, gartref â’u gwŷr eu hunain ymofynont, canys cywilyddus yw i wraig lefaru yn yr eglwys. Ai oddiwrthych chwi y bu i air Duw ddyfod allan; neu attoch chwi yn unig y daeth? Os tybia neb ei fod yn brophwyd neu yn ysprydol, cydnabydded y pethau yr wyf yn eu hysgrifenu attoch mai gorchymyn yr Arglwydd ydynt; ond os yw neb heb wybod, heb wybod y bo. Felly, fy mrodyr, dymunwch brophwydo; a llefaru â thafodau na warherddwch; ond bydded i bob peth ei wneud yn weddaidd ac mewn trefn. Ac hyspysu yr wyf i chwi, frodyr, yr Efengyl a efengylais i chwi, yr hon hefyd a dderbyniasoch; yn yr hon hefyd yr ydych yn sefyll; a thrwy yr hon hefyd yr ydych yn cael eich achub; hyspysu yr wyf i chwi â pha ymadrodd yr efengylais i chwi, os ei ddal yn dỳn yr ydych, oddieithr mai yn ofer y credasoch. Canys traddodais i chwi, yn gyntaf, yr hyn a dderbyniais hefyd, y bu i Crist farw am ein pechodau yn ol yr Ysgrythyrau; ac y claddwyd Ef, ac y cyfodwyd y trydydd dydd yn ol yr Ysgrythyrau; ac yr ymddangosodd i Cephas; yna i’r deuddeg; wedi hyny, yr ymddangosodd i fwy na phum cant o frodyr ar unwaith, o’r rhai y mae’r rhan fwyaf yn aros hyd yr awr hon, ond rhai a hunasant. Wedi hyny yr ymddangosodd i Iago; yna i’r apostolion oll; ac yn ddiweddaf o’r cwbl, fel i un annhymmig, yr ymddangosodd i minnau hefyd: canys myfi wyf y lleiaf o’r apostolion, yr hwn nid wyf deilwng i’m galw yn apostol, o herwydd erlid o honof eglwys Dduw; ond trwy ras Duw ydwyf yr hyn ydwyf; a’i ras Ef, yr hwn a fu tuag attaf, nid ofer fu, eithr yn helaethach na hwynt oll y llafuriais; ond nid myfi chwaith eithr gras Duw yr hwn oedd gyda mi. Pa un bynnag, gan hyny, ai myfi, ai hwynt-hwy, felly y pregethwn, ac felly y credasoch. Ac os Crist a bregethir, mai o feirw y cyfodwyd Ef, pa fodd y dywaid rhai yn eich plith chwi, “Adgyfodiad y meirwon nid oes mo’no”? Ac os “Adgyfodiad y meirwon nid oes mo’no,” Crist ni chyfodwyd chwaith; ac os “Crist ni chyfodwyd,” gwag, gan hyny, yw ein pregethiad ni, a gwag eich ffydd chwi; a cheir ni hefyd yn au-dystion Duw, canys tystiasom yn erbyn Duw y cyfododd Efe Grist, yr Hwn ni chyfododd Efe, os yn wir meirwon ni chyfodir; canys os “meirwon ni chyfodir,” ni fu i Grist chwaith Ei gyfodi; ac os Crist ni chyfodwyd, ofer yw eich ffydd, yr ydych etto yn eich pechodau. Gan hyny, hefyd am y rhai a hunasant yng Nghrist y darfu. Os yn y bywyd hwn yng Nghrist y bum a’n hunig obaith, truanach na phawb o ddynion ydym. Ond yn awr, Crist a gyfodwyd o feirw, blaen-ffrwyth y rhai a hunasant; canys gan mai trwy ddyn y mae marwolaeth, trwy ddyn hefyd y mae adgyfodiad meirwon; canys fel yn Adam y mae pawb yn meirw, felly hefyd yng Nghrist pawb a fywheir: ond pob un yn ei drefn ei hun; y blaen ffrwyth yw Crist; wedi hyny y rhai ydynt eiddo Crist, yn Ei ddyfodiad Ef; yna y diwedd, pan draddoda Efe y deyrnas i Dduw a’ r Tad, pan fydd wedi diddymmu pob llywodraeth a phob awdurdod a gallu; canys rhaid Iddo Ef deyrnasu hyd oni osodo Ei holl elynion dan Ei draed. Y gelyn olaf a ddiddymir, sef yr angau, canys pob peth a ddarostyngodd Efe dan Ei draed Ef. A phan ddywedo fod pob peth wedi ei ddarostwng, amlwg yw mai oddieithr yr Hwn a ddarostyngodd bob peth Iddo, yna y Mab Ei hun hefyd a ddarostyngir i’r Hwn a ddarostyngodd bob peth Iddo Ef, fel y byddo Duw oll yn oll. Canys pa beth a wna y rhai yn cael eu bedyddio dros y meirw, os y meirwon yn hollol ni chyfodir? Paham y maent yn cael eu bedyddio hefyd trostynt? Paham yr ydym ninnau hefyd mewn perygl bob awr? Peunydd yr wyf yn marw, myn eich ymffrost, frodyr, yr hwn sydd genyf yng Nghrist Iesu ein Harglwydd. Os yn ol dyn yr ymleddais â bwystfilod yn Ephesus, pa lesad yw i mi? Os “meirwon ni chyfodir,” bwyttawn ac yfwn, canys y foru marw yr ydym. Nac arweinier chwi ar gyfeiliorn: moesau da a lygrir gan ymddiddanion drwg. Deffrowch yn gyfiawn, ac na phechwch; canys anwybodaeth am Dduw sydd gan rai: er codi cywilydd ynoch yr wyf yn llefaru. Eithr dywaid rhyw un, Pa fodd y cyfodir y meirw? ac a pha ryw gorph y deuant? O ynfyd, yr hyn yr wyt ti yn ei hau, ni fywheir oni bydd farw. A’r hyn a heui, nid y corph a fydd yr wyt yn ei hau, eithr gronyn noeth, ysgatfydd o wenith, neu o ryw un o’r hadau eraill, ond Duw sy’n rhoddi iddo gorph fel yr ewyllysiodd, ac i bob un o’r hadau ei gorph ei hun. Nid yw pob cnawd unrhyw gnawd, eithr un cnawd sydd gan ddynion, a chnawd arall gan anifeiliaid, a chnawd arall gan ehediaid, ac arall gan bysgod; a chyrph nefol sydd, a chyrph daearol; eithr un yw gogoniant y rhai nefol, ac arall yw gogoniant y rhai daearol: un gogoniant sydd i’r haul, ac arall yw gogoniant y lloer, ac arall gogoniant y ser, canys rhwng seren a seren y mae gwahaniaeth mewn gogoniant; felly hefyd y mae adgyfodiad y meirw: heuir ef mewn llygredigaeth, cyfodir mewn anllygredigaeth; heuir mewn ammharch, cyfodir mewn gogoniant; heuir mewn gwendid, cyfodir mewn gallu; heuir yn gorph anianol, cyfodir yn gorph ysprydol; os oes corph anianol, y mae hefyd un ysprydol. Felly hefyd yr ysgrifenwyd, “Aeth y dyn cyntaf, Adam, yn enaid byw,” a’r Adam diweddaf yn yspryd yn bywhau; eithr nid cyntaf yr ysprydol, eithr yr anianol, a chwedi’n yr ysprydol. Y dyn cyntaf o’r ddaear yn ddaearol; yr ail ddyn, o’r nef. Ac y cyfryw ag yw y daearol, y cyfryw hefyd yw y rhai daearol; ac y cyfryw ag yw y nefol, y cyfryw hefyd yw y rhai nefol; ac fel y dygasom ddelw y daearol, dygwn hefydd ddelw y nefol. A hyn meddaf, frodyr, Cig a gwaed ni allant etifeddu teyrnas Dduw, a llygredigaeth nid yw’n etifeddu anllygredigaeth. Wele, dirgelwch a ddywedaf wrthych, Nid pawb o honom a hunant, ond pawb o honom a newidir, mewn moment, ar darawiad llygad, wrth yr udgorn diweddaf; canys udgorn a gân, a’r meirw a gyfodir yn anllygredig, a nyni a newidir; canys rhaid i’r llygradwy hwn ymwisgo ag anllygredigaeth, a’r marwol hwn ymwisgo ag anfarwoldeb; a phan ddarffo i’r llygradwy hwn ymwisgo ag anllygredigaeth, ac i’r marwol hwn ymwisgo ag anfarwoldeb, yna y digwydd yr ymadrodd sydd ysgrifenedig, “Llyngcwyd angau am byth.” Pa le, angau, y mae dy fuddugoliaeth di? Pa le, angau, y mae dy golyn di? Colyn yr angau yw pechod; a gallu pechod yw’ r Gyfraith. Ond i Dduw y byddo’ r diolch, yr Hwn sy’n rhoi i ni y fuddugoliaeth trwy ein Harglwydd Iesu Grist. Felly, fy mrodyr anwyl, byddwch sefydlog, yn ddiymmod, yn helaethion yngwaith yr Arglwydd yn wastadol, gan wybod nad yw eich llafur yn wag yn yr Arglwydd. Ac am y gasgl y sydd i’r saint; fel yr ordeiniais i eglwysi Galatia, felly gwnewch chwithau hefyd. Y dydd cyntaf o’r wythnos pob un o honoch rhodded heibio yn ei ymyl, gan drysori fel y llwyddodd, rhag pan ddelwyf, yr amser hwnw, y bo’r gasgl. A phan ddelwyf, pa rai bynnag a gymmeradwyoch, â llythyrau y danfonaf hwynt i ddwyn eich caredigrwydd i Ierwshalem: ac os teilwng bydd o fyned o honof finnau hefyd, ynghyda mi yr ant. Ond deuaf attoch, pan trwy Macedonia y byddaf wedi tramwy; canys trwy Macedonia yr wyf yn tramwy; ac ynghyda chwi ysgatfydd yr arhosaf, neu y gauafaf hefyd, fel y’m hebryngoch i ba le bynnag yr elwyf; canys nid ewyllysiaf eich gweled chwi yn awr ar fy hynt; canys gobeithio yr wyf aros rhyw ennyd gyda chwi, os yr Arglwydd a’i caniatta. Ond arhosaf yn Ephesus hyd y Pentecost; canys drws a agorwyd i mi, un mawr ac effeithiol; a gwrthwynebwyr lawer sydd. Ond os daw Timothëus, edrychwch ar fod o hono yn ddiofn gyda chwi, canys gwaith yr Arglwydd y mae yn ei weithio, fel yr wyf finnau hefyd. Na fydded i neb, gan hyny, ei ddiystyru ef; ond hebryngwch ef mewn heddwch fel y delo attaf, canys ei ddisgwyl ef yr wyf ynghyda’r brodyr. Ac am y brawd Apolos, llawer yr ymbiliais ag ef am ddyfod attoch gyda’r brodyr; ond yn hollol nid oedd ei ewyllys i ddyfod yn awr, ond daw pan fydd ganddo amser cyfaddas. Gwyliwch; sefwch yn y ffydd; ymwrolwch; ymgryfhewch; eich holl bethau, mewn cariad y gwneler hwynt. Ac attolygaf i chwi, frodyr, (gwyddoch am dŷ Stephanas ei fod yn flaen-ffrwyth Achaia, ac i weinidogaeth y saint y gosodasant eu hunain), y bo i chwithau hefyd fod yn ddarostyngedig i’r cyfryw rai, ac i bob un sydd yn cydweithio ac yn llafurio. A llawen wyf am ddyfodiad Stephanas a Ffortunatus ac Achaicus; canys eich diffyg chwi hwy a gyflawnasant; canys adlonasant fy yspryd i ac yr eiddo chwi; cydnabyddwch, gan hyny, y cyfryw rai. Eich annerch y mae eglwysi Asia. Eich annerch yn yr Arglwydd, yn ddirfawr, y mae Acwila a Phrisca, ynghyda’r eglwys sydd yn eu tŷ. Eich annerch y mae’r brodyr oll. Annerchwch eich gilydd â chusan sanctaidd. Yr annerch a’m llaw i Paul. Os rhyw un na char yr Arglwydd, bydded anathema, Maran atha. Gras yr Arglwydd Iesu Grist fo gyda chwi. Fy serch fo gyda phawb o honoch yng Nghrist Iesu. Amen. Paul, Apostol i Iesu Grist trwy ewyllys Duw, a Timothëus ein brawd, at eglwys Dduw y sydd yn Corinth, ynghyda’r saint oll y sydd yn Achaia; gras i chwi a thangnefedd oddiwrth Dduw ein Tad a’r Arglwydd Iesu Grist. Bendigedig fyddo Duw, a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, Tad y trugareddau, a Duw pob diddanwch, yr Hwn sydd yn ein diddanu yn ein holl orthrymder, fel y gallom ddiddanu y rhai sydd ymhob gorthrymder, trwy’r diddanwch â’r hwn yr ydym ein hunain yn cael ein diddanu gan Dduw. Canys fel tros fesur y mae dioddefiadau Crist i ni, felly trwy Grist tros fesur y mae ein diddanwch. A pha un bynnag ai ein gorthrymmu yr ydys, er eich diddanwch chwi a’ ch iachawdwriaeth y mae; neu ein diddanu yr ydys, er eich diddanwch chwi y mae, yr hwn sy’n gweithio yng ngoddefiad yr un dioddefiadau ag yr ydym ni yn eu dioddef. Ac ein gobaith sydd ddiymmod am danoch, gan wybod o honom fel mai cyfrannogion ydych o’r dioddefiadau, felly hefyd yr ydych o’r diddanwch. Canys nid ewyllysiwn i chwi fod heb wybod, frodyr, am ein gorthrymder a ddigwyddodd yn Asia, mai yn ddirfawr, a thu hwnt i’n gallu y pwyswyd arnom, hyd onid oeddym yn anobeithio hyd yn oed o fyw; eithr ni ein hunain, ynom ein hunain yr oedd genym atteb marwolaeth fel na byddem yn ymddiried ynom ein hunain, eithr yn Nuw yr Hwn sy’n cyfodi’r meirw; yr Hwn, o’r cyfryw ddirfawr farwolaeth a’n gwaredodd, ac a’n gweryd; yn yr Hwn y gobeithiwn y gweryd ni etto hefyd, a chwithau hefyd yn cyd-gynnorthwyo trosom â gweddi, fel am y rhodd i ni trwy weddi llawer o bersonau, y rhodder diolch gan lawer trosom. Canys ein hymffrost yw hyn, sef tystiolaeth ein cydwybod mai mewn sancteiddrwydd a symlrwydd duwiol, nid mewn doethineb cnawdol eithr yng ngras Duw yr ymddygasom yn y byd, a mwy tros fesur tuag attoch chwi. Canys nid pethau eraill yr ydym yn eu hysgrifenu attoch na’r rhai yr ydych un ai yn eu darllen neu hyd yn oed yn eu cydnabod, a gobeithiaf mai hyd y diwedd y cydnabyddwch; fel hefyd y cydnabuoch ni o ran, mai eich ymffrost ydym, fel ag yr ydych chwi ein hymffrost ni, yn nydd ein Harglwydd Iesu. Ac yn y goel hon yr oeddwn yn ewyllysio o’r blaen ddyfod attoch, fel y byddai ail ras i chwi, a thrwoch chwi dramwy i Macedonia, a dyfod trachefn o Macedonia attoch, a chael fy hebrwng genych chwi i Iwdea. Wrth ewyllysio hyn, ynte, ai ysgafnder yn wir a arferais? Y pethau yr wyf yn eu bwriadu, ai yn ol y cnawd yr wyf yn eu bwriadu fel y byddai gyda mi yr Ie, ïe, a’r Nage, nage? Ond fel mai ffyddlawn yw Duw, ein hymadrodd wrthych nid yw “Ie” a “Nage:” canys Mab Duw, Iesu Grist, yr Hwn a bregethwyd yn eich plith genym, genyf fi a Silfanus a Thimothëus, nid ydoedd “Ie” a “Nage,” eithr “Ie” ydoedd ynddo Ef; canys cynnifer ag yw addewidion Duw, ynddo Ef y mae’r “Ie;” a chan hyny, trwyddo Ef hefyd y mae’ r Amen, er gogoniant i Dduw trwom ni. A’r hwn sydd yn ein sefydlu ni gyda chwi yng Nghrist, ac a’n henneiniodd, yw Duw, ac a’n seliodd, ac a roes ernes yr Yspryd yn ein calonnau. Ac myfi, galw Duw yn dyst ar fy enaid yr wyf mai gan eich arbed ni ddaethum etto i Corinth: nid am ein bod yn arglwyddiaethu ar eich ffydd chwi, eithr cyd-weithwyr i’ch llawenydd ydym; canys trwy ffydd yr ydych yn sefyll. A phenderfynais hyn ynof fy hun, mai mewn tristwch na ddeuwn trachefn attoch: canys os myfi a’ch tristaf chwi, yna pwy yw’r hwn yn fy llawenhau, oddieithr yr hwn a dristawyd genyf? Ac ysgrifenais hyn ei hun fel na fyddai i mi, wedi dyfod o honof, gael tristwch oddiwrth y rhai y dylwn gael llawenydd ganddynt, gan ymddiried yn yr oll o honoch fod fy llawenydd i yn llawenydd yr oll o honoch. Canys o lawer o orthrymder a chyfyngder calon yr ysgrifenais attoch â llawer o ddagrau, nid fel y’ch tristaid, eithr fel y byddai’r cariad yn hyspys i chwi, yr hwn sydd genyf yn fwy tros fesur tuag attoch. Ac os bu i neb beri tristwch, nid i myfi y parodd dristwch, eithr o ran (fel na phwyswyf arnoch ) i’r oll o honoch. Digon i’r cyfryw ddyn yw’r cerydd hwn gan y rhan fwyaf; ac felly i’r gwrthwyneb; yn hytrach, maddeuwch chwi a diddenwch ef, rhag ysgatfydd trwy ei dristwch gormodol y llyngcer y cyfryw. Gan hyny, attolygaf i chwi gadarnhau eich cariad tuag atto: canys er mwyn hyn hefyd yr ysgrifenais, fel y gwybyddwn y prawf o honoch ai ymhob peth yr ydych yn ufudd. Ac i’r hwn yr ydych yn maddeu peth, minnau hefyd wyf; canys yr hyn a faddeuais i, os rhyw beth a faddeuais, er eich mwyn chwi y maddeuais ym mherson Crist, fel nad ynniller trosom gan Satan, canys o’i ddychymmygion ef nid ydym anwybodus. Ac wedi dyfod i Troas er Efengyl Grist, a drws wedi ei agoryd i mi yn yr Arglwydd, ni chefais orphwysdra i’m hyspryd, am na chefais Titus fy mrawd: eithr wedi canu yn iach iddynt, aethum allan i Macedonia. Ond i Dduw y bo’r diolch, yr Hwn sydd bob amser yn ein harwain yn orfoleddus yng Nghrist, ac yn amlygu trwom arogledd y wybodaeth am Dano ymhob lle; canys per-arogl Crist ydym i Dduw, yn y rhai sy’n cael eu hachub, ac yn y rhai sy’n myned ar goll; i’r naill yn arogl o farwolaeth i farwolaeth; ac i’r lleill yn arogl o fywyd i fywyd. Ac i’r pethau hyn pwy sydd ddigonol? Canys nid ydym, fel y rhan fawr, yn llygru gair Duw; eithr fel o burdeb, eithr fel o Dduw yngwydd Duw yng Nghrist yr ym yn llefaru. Ai dechreu trachefn ganmol ein hunain yr ydym? A oes arnom, fel ar rai, raid wrth epistolau canmoliaeth attoch, neu oddiwrthych? Ein hepistol ydych chwi, yn ysgrifenedig yn ein calonnau, yn cael ei adnabod a’i ddarllen gan bob dyn; yn cael eich amlygu eich bod epistol Crist, wedi ei weini genym, wedi ei ysgrifenu nid ag ingc, eithr ag Yspryd y Duw byw, nid mewn llechau cerrig, eithr yn llechau cnawdol y galon. A hyder o’r fath hon sydd genym trwy Grist tuag at Dduw; nid ein bod, o honom ein hunain, yn ddigonol i feddwl dim megis o honom ein hunain, eithr ein digonedd oddiwrth Dduw y mae; yr Hwn hefyd a’n gwnaeth ni yn weinidogion digonol cyfammod newydd, nid o’r llythyren eithr o’ r yspryd; canys y llythyren a ladd, ond yr yspryd a fywha. Ond os gweinidogaeth angau, wedi ei hysgrifenu a’i hargraphu ar gerrig, fu mewn gogoniant, fel na allai meibion Israel edrych yn graff ar wyneb Mosheh o achos gogoniant ei wyneb, yr hwn ogoniant oedd yn cael ei ddiddymmu, pa fodd yn hytrach na fydd gweinidogaeth yr Yspryd mewn gogoniant? canys os yw gweinidogaeth condemniad yn ogoniant, llawer mwy y rhagora gweinidogaeth cyfiawnder mewn gogoniant; canys ni ogoneddwyd yr hyn a ogoneddwyd, yn y rhan hon, o herwydd y gogoniant tra-rhagorol: canys os oedd yr hyn a ddiddymir, mewn gogoniant, llawer mwy y mae’ r hyn sy’n aros mewn gogoniant. Gan hyny, a’r cyfryw obaith genym, hyfder mawr, a arferwn; ac nid fel yr oedd Mosheh yn gosod gorchudd ar ei wyneb fel na chraffai meibion Israel ar ddiwedd yr hyn oedd yn cael ei ddiddymmu; eithr caledwyd eu meddyliau; canys hyd y dydd heddyw, wrth ddarllen yr hen gyfammod, yr un gorchudd sy’n aros heb ei godi, yr hwn, yng Nghrist y diddymmir ef. Eithr hyd heddyw, pan ddarllener Mosheh, gorchudd sy’n gorwedd ar eu calon hwynt; ond pan dry hi at yr Arglwydd, tynnir ymaith y gorchudd. A’r Arglwydd, yr Yspryd yw; a lle y mae Yspryd yr Arglwydd, y mae rhyddid. Ond nyni oll, â gwyneb heb orchudd arno, yn gwrthdaflu, fel drych, ogoniant yr Arglwydd, i’r un ddelw y’n traws-ffurfir, o ogoniant i ogoniant, fel oddiwrth yr Arglwydd, yr Yspryd. Gan hyny, a chenym y weinidogaeth hon, fel y trugarhawyd wrthym, nid ydym yn pallu; eithr ymwrthodasom â chuddiedig bethau cywilydd, heb rodio mewn anfadrwydd, na thrin Gair Duw yn dwyllodrus, eithr trwy amlygiad y gwirionedd yn canmol ein hunain i bob cydwybod dynion yngolwg Duw. Ac os cuddiedig hefyd yw ein hefengyl, yn y rhai sy’n myned ar goll y mae yn guddiedig; yn y rhai, duw y byd hwn a ddallodd feddyliau y rhai digred, fel na thywynai arnynt lewyrch efengyl ogoneddus Crist, yr Hwn yw delw Dduw. Canys nid ni ein hunain yr ydym yn ein pregethu, eithr Crist Iesu yr Arglwydd, a ni ein hunain yn weision i chwi er mwyn yr Iesu. Canys Duw, yr Hwn a ddywedodd, “O dywyllwch goleuni a lewyrcha,” yw’r Hwn a lewyrchodd yn eich calonnau, i roddi goleuni gwybodaeth gogoniant Duw yn wyneb Iesu Grist. Ond y mae genym y trysor hwn mewn llestri pridd, fel y bo rhagoroldeb y gallu o Dduw, ac nid o honom ni. O bob parth y gwesgir arnom, eithr heb ein cyfyngu; wedi ein dyrysu, eithr nid yn ddiobaith; yn cael ein herlid, eithr heb ein gadael; yn cael ein bwrw i lawr, eithr heb ddarfod am danom; peunydd yn cylch-arwain marweiddiad yr Iesu yn ein corph, fel y bo i fywyd yr Iesu hefyd ei amlygu yn ein corph, canys yn wastad nyni y sydd fyw a draddodir i farwolaeth er mwyn Iesu, fel y bo i fywyd yr Iesu ei amlygu yn ein cnawd marwol. Felly, angau sy’n gweithio ynom ni, ond bywyd ynoch chwi. Ond a chenym yr un yspryd ffydd, yn ol yr hyn sydd ysgrifenedig, “Credais, gan hyny y lleferais,” nyni hefyd ym yn credu, a chan hyny llefaru yr ydym; gan wybod y bydd i’r Hwn a gyfododd yr Arglwydd Iesu, ein cyfodi ninnau hefyd ynghydag Iesu, ac ein gosod gerbron ynghyda chwi; canys pob peth sydd er eich mwyn, fel y bo i’r gras, wedi amlhau trwy ddiolchgarwch y rhan fwyaf, ymhelaethu i ogoniant Duw. O herwydd hyny, nid ydym yn pallu; eithr os yw ein dyn oddi allan yn cael ei ddifetha, er hyny, ein dyn oddi mewn a adnewyddir o ddydd i ddydd; canys ysgafnder presennol ein gorthrymder, yn ddirfawr a dirfawr, bwys tragywyddol gogoniant a weithia efe i ni, a ni nid yn edrych ar y pethau a welir, eithr ar y rhai na welir, canys y pethau a welir, am ryw amser y maent; ond y rhai na welir, tragywyddol ydynt. Canys gwyddom, os ein daearol dŷ o’r babell hon a ddattodir, fod adeilad oddiwrth Dduw genym, tŷ nid o waith llaw, tragywyddol, yn y nefoedd; canys yn hon yr ym yn ocheneidio, gan hiraethu am ymwisgo â’n tŷ y sydd o’r nef; os hefyd wedi ymwisgo, nid yn noethion y’n ceir; canys ni y sydd yn y babell hon, ocheneidio yr ydym, yn llwythog, nid am ewyllysio o honom ddiosg, eithr ymwisgo, fel y llyngcer y marwol gan fywyd. A’r hwn a’n gweithiodd ni i’r peth hwn ei hun yw Duw, yr hwn a roddodd i ni ernes yr Yspryd. Gan fod yn hyderus, gan hyny, bob amser, ac yn gwybod tra’r ydym yn gartrefol yn y corph, ein bod yn absennol oddiwrth yr Arglwydd (canys trwy ffydd y rhodiwn, ac nid wrth olwg,) hyderus ydym, a boddlonir ni yn hytrach i fod yn absennol o’r corph, a chartrefu gyda’r Arglwydd. O herwydd paham, ymorchestu yr ydym hefyd, pa un bynnag ai cartrefu yr ydym ai yn absennol, i fod yn gymmeradwy Ganddo Ef; canys i bawb o honom y mae rhaid ein hamlygu ger bron brawd-faingc Crist, fel y derbynio pob un y pethau a wnaethpwyd yn y corph, yn ol yr hyn a wnaeth, pa un bynnag ai da ai drwg. Gan wybod, gan hyny, ofn yr Arglwydd, dynion a berswadiwn, ond i Dduw y’n hamlygwyd, a gobeithiaf mai yn eich cydwybodau chwi hefyd y’n hamlygwyd. Nid ein canmol ein hunain i chwi drachefn yr ydym, eithr yn rhoddi i chwi achlysur ymffrost o’n plegid, fel y bo genych yn erbyn y rhai sy’n ymffrostio yn y golwg, ac nid yn y galon; canys pa un bynnag ai allan o’n pwyll yr ydym, i Dduw y mae; ai yn ein pwyll, i chwi y mae; canys cariad Crist sydd yn ein cymmell, gan farnu o honom y bu un farw dros bawb, a chan hyny, pawb a fuant feirw: a thros bawb y bu Efe farw, fel y byddai i’r rhai byw ddim mwyach fyw iddynt eu hunain, eithr i’r Hwn a fu farw drostynt, ac a gyfodwyd. Felly nyni, o hyn allan, nid adwaenwn neb yn ol y cnawd; ac os adnabuom Grist yn ol y cnawd, etto yn awr nid adwaenom Ef mwyach felly. Felly os yng Nghrist y mae neb, creadur newydd yw; yr hen bethau a aethant heibio; wele, aethant yn newydd. A’r holl bethau, oddiwrth Dduw y maent, yr Hwn a’n cymmododd ag Ef Ei hun trwy Grist, ac a roddes i ni weinidogaeth y cymmod, sef yr oedd Duw yng Nghrist yn cymmodi y byd ag Ef Ei hun, heb gyfrif iddynt eu camweddau, ac wedi rhoddi ynom ni air y cymmod. Tros Grist, gan hyny, yr ym genhadau, fel â Duw yn deisyf trwom. Erfyn tros Grist yr ydym, Cymmoder chwi â Duw. Yr Hwn nad adnabu bechod, trosom ni a wnaeth Efe yn bechod, fel yr aem ni yn gyfiawnder Duw Ynddo Ef. A chan gydweithio ag Ef deisyfiwn hefyd nad yn ofer y derbyniwch chwi ras Duw (canys dywaid Efe, “Yn amser cymmeradwy y gwrandewais arnat, Ac yn nydd iachawdwriaeth y cynnorthwyais di.” Wele, yn awr y mae’r “amser cymmeradwy;” wele, yn awr y mae “dydd iachawdwriaeth,”) heb roddi o honom ddim tramgwydd mewn dim fel na feier ar y weinidogaeth; eithr ymhob peth yn cymmeradwyo ein hunain megis gweinidogion Duw, mewn amynedd lawer, mewn cystuddiau, mewn anghenion, mewn cyfyngderau, mewn gwialennodiau, mewn carcharau, mewn terfysgau, mewn trallodau, mewn gwyliedwriaethau, mewn ymprydiau, mewn purdeb, mewn gwybodaeth, mewn hir-ymaros, mewn tiriondeb, yn yr Yspryd Glân, mewn cariad diragrith, yngair y gwirionedd, yngallu Duw; trwy arfau cyfiawnder ar ddehau ac ar aswy, trwy ogoniant a dianrhydedd, trwy anghlod a chlod: fel arweinwyr ar gyfeiliorn, ac er hyny yn eirwir; fel yn anadnabyddus, ac er hyny yn adnabyddus; fel yn meirw, ac wele byw ydym; fel yn cael ein ceryddu, ac heb ein lladd; fel yn cael ein tristau, ond yn wastad yn llawen; fel yn dlodion, ond yn cyfoethogi llawer; fel heb ddim genym, ac â phob peth yn ein meddiant. Ein genau a agorwyd wrthych, O Gorinthiaid, ein calon a ehangwyd. Ni chyfyngir arnoch ynom ni, ond cyfyngir arnoch yn eich ymysgaroedd eich hunain. Ond am yr un daledigaeth (fel wrth blant yr wyf yn dywedyd) ehanger chwithau hefyd. Nac iauer chwi yn anghymmarus â rhai digred; canys pa gyfeillach sydd rhwng cyfiawnder ac anghyfraith? Neu pa gymmundeb i oleuni a thywyllwch? A pha gyssondeb gan Grist â Belial? Neu pa gyfran i gredadyn gydag anghredadyn? A pha gyfundeb i deml Dduw ag eulunod? canys nyni teml i’r Duw byw ydym; fel y dywedodd Duw, “Preswyliaf ynddynt, a rhodiaf yn ddynt, a byddaf eu Duw hwynt, a hwy a fyddant Fy mhobl I.” Gan hyny, “Deuwch allan o’u canol, ac ymddidolwch, medd Iehofah, Ac â pheth aflan na chyffyrddwch; Ac Myfi a’ch derbyniaf, ac a fyddaf i chwi yn dad, A chwithau fyddwch i Mi yn feibion ac yn ferched, medd yr Arglwydd Hollalluog.” Gan fod, gan hyny, a’r addewidion hyn genym, anwylyd, glanhawn ein hunain oddiwrth bob halogrwydd cnawd ac yspryd, gan berffeithio sancteiddrwydd yn ofn Duw. Gwnewch le i ni yn eich calonnau. I neb ni wnaethom gam: nid oes neb a lygrasom; ar neb nid ennillasom. Nid er eich condemniad yr wyf yn dywedyd, canys dywedais o’r blaen mai yn ein calonnau yr ydych, i gyd-farw a chyd-fyw â chwi. Llawer o hyfder ymadrodd sydd genyf wrthych; llawer o ymffrost sydd genyf am danoch; llawn wyf o ddiddanwch; tros fesur tra-chyflawn wyf o lawenydd yn ein holl orthrymder. Canys wedi dyfod o honom i Macedonia, nid oedd dim gorphwysfa i’n cnawd, eithr o bob parth gorthrymmid ni; oddi allan yr oedd ymladdau, oddi fewn ofnau. Eithr yr Hwn sy’n diddanu y rhai gostyngedig, sef Duw, a’n diddanodd trwy ddyfodiad Titus; ac nid yn unig trwy ei ddyfodiad, eithr hefyd trwy’r diddanwch â’r hwn y diddanwyd ef ynoch wrth fynegi o hono i ni eich hiraeth, eich galar, eich sel chwi tuag attaf, fel y bu i mi lawenychu yn fwy: canys er i mi eich tristau chwi â’m hepistol, nid yw’n edifar genyf, er y bu’n edifar genyf; canys gwelaf y bu i’r epistol hwnw, er ond am ryw amser, eich tristau chwi. Yn awr llawenychaf, nid am eich tristau, eithr am eich tristau i edifeirwch; canys tristawyd chwi yn ol Duw, fel na chaech golled mewn dim genym ni; canys tristwch yn ol Duw, edifeirwch i iachawdwriaeth, o’r hon nid oes edifeirwch, a weithia efe; ond tristwch y byd, marwolaeth a weithia efe. Canys wele, y peth hwn ei hun, eich tristau yn ol Duw, pa faint o astudrwydd a weithiodd efe ynoch, ïe o ymddiffyn, ïe o sorriant, ïe o ofn, ïe o hiraeth, ïe o sel, ïe o ddial. Ymhob peth y dangosasoch eich hunain yn bur yn y matter. Felly, er ysgrifenu o honof attoch, nid oblegid yr hwn a wnaeth y cam yr oedd, nac oblegid yr hwn a gafodd y cam, eithr fel yr amlyger eich astudrwydd am danom i chwi eich hunain ger bron Duw. O achos hyn y’n diddanwyd; ac yn ein diddanwch, mwy tros fesur y llawenychasom am lawenydd Titus, o herwydd dadebru ei yspryd ef genych oll. Canys os ymffrostiais ddim wrtho am danoch, ni’m cywilyddiwyd; eithr fel mewn gwirionedd y llefarasom bob peth wrthych, felly ein hymffrost hefyd wrth Titus a gafwyd yn wirionedd. A’i ymysgaroedd ef sydd fwy tros fesur tuag attoch, wrth adgofio o hono ufudd-dod yr oll o honoch, y modd gydag ofn a dychryn y derbyniasoch ef. Llawenychaf gan mai ymhob peth yr hyderaf ynoch. Ac hyspysu yr wyf i chwi, frodyr, ras Duw, yr hwn a roddwyd yn eglwysi Macedonia; mai mewn llawer o brofiad gorthrymder, mawr helaethrwydd eu llawenydd a’u tlodi dwfn a fawr-ymhelaethasant i gyfoeth eu haeledd; canys yn ol eu gallu, tystiaf, a thu hwnt i’ w gallu, o’u hewyllys eu hunain, gyda llawer o ymbil yn deisyfu arnom o ran y gras a’r cymmundeb yng ngweini i’r saint, y rhoddasant, ac nid fel y gobeithiasom, eithr hwynt eu hunain a roddasant hwy yn gyntaf i’r Arglwydd, ac i ni trwy ewyllys Duw: fel yr erfynasom ar Titus, fel y dechreuasai o’r blaen, felly y gorphenai ynoch y gras hwn hefyd. Eithr fel ymhob peth yr ydych yn orlawn, mewn ffydd, a gair, a gwybodaeth, a phob astudrwydd, ac yn eich cariad tuag attom ni, edrychwch ar fod o honoch yn y gras hwn yn orlawn. Nid trwy orchymyn yr wyf yn dywedyd, eithr gan brofi, trwy astudrwydd eraill, wirionedd eich cariad chwi: canys adwaenoch ras ein Harglwydd Iesu Grist, mai er eich mwyn chwi yr aeth yn dlawd, ac Yntau yn oludog, fel y byddai i chwi, trwy Ei dlodi Ef, fyned yn oludog. Ac fy marn yn hyn a roddaf, canys hyn sydd er eich lles chwi, y rhai oeddych y cyntaf nid yn unig i wneuthur, eithr i ewyllysio hefyd, er y llynedd. Ond yn awr gorphenwch y gwneuthur hefyd, er mwyn fel yr oedd y parodrwydd i ewyllysio, y bo hefyd y gorphen, o’r gallu; canys os y parodrwydd sydd, yn ol pa beth bynnag sydd gan ddyn y mae yn gymmeradwy, ac nid yn ol yr hyn nad yw ganddo: canys nid fel y bo i eraill ysgafnder, ac i chwi orthrymder; eithr o gyfartalrwydd. Y pryd hwn bydded eich helaethrwydd chwi yn diwallu eu diffyg hwy, fel y bo eu helaethrwydd hwythau yn diwallu eich diffyg chwi, fel y bo cyfartalrwydd; fel yr ysgrifenwyd, “Yr hwn a gasglodd lawer, nid oedd ganddo dros ben; a’r hwn a gasglodd ychydig, nid oedd arno eisiau.” Ond diolch i Dduw, yr Hwn sy’n rhoddi yr un astudrwydd trosoch yng nghalon Titus: canys ein hannogaeth a dderbyniodd efe; a chan fod yn fwy astud, o’i wirfodd ei hun yr aeth allan attoch. A danfonasom gydag ef y brawd yr hwn y mae ei glod yn yr efengyl trwy’r holl eglwysi; ac nid hyny yn unig, eithr wedi ei ddewis hefyd gan yr eglwysi i gydymdaith â ni yn y gras hwn, yr hwn a wasanaethir genym er gogoniant yr Arglwydd, ac i amlygu ein parodrwydd; gan ochelyd hyn, na fyddai i neb feio arnom yn yr haelioni hwn a wasanaethir genym; canys rhag-ddarparu yr ydym bethau ardderchog, nid yn unig yngolwg yr Arglwydd, eithr yngolwg dynion hefyd. A danfonasom gyda hwynt ein brawd yr hwn a brofasom mewn llawer o bethau, lawer gwaith, ei fod yn astud, ac yn awr yn llawer mwy astud, am yr ymddiried mawr sydd ganddo ynoch. Os am Titus y gofynir, cyd-gyfranogwr yw â mi, a thuag attoch chwi fy nghyd-weithiwr; neu os am ein brodyr, cenhadau yr eglwysi ydynt, a gogoniant Crist. Y prawf, gan hyny, o’ch cariad ac o’n hymffrost ni am danoch, dangoswch iddynt hwy yngwyneb yr eglwysi. Canys am y weinidogaeth i’r saint, afraid yw i mi ’sgrifenu attoch; canys gwn eich parodrwydd, yr hwn yr wyf yn ymffrostio ynddo drosoch chwi i’r Macedoniaid, fod Achaia wedi ei pharottoi er’s y llynedd; ac eich sel chwi a annogodd lawer iawn o honynt. Ond danfonais y brodyr fel na bo ein hymffrost, yr hwn sydd drosoch, yn wag yn y rhan hon; fel, megis y dywedais, y byddoch wedi ymbarottoi; rhag mewn modd yn y byd, os daw Macedoniaid gyda mi, ac eich cael yn ammharod, ein cywilyddier ni (fel na ddywedwn, chwi) yn yr hyder hwn. Gan hyny, tybiais yn angenrheidiol attolygu i’r brodyr fyned o’r blaen attoch a rhag-ddarparu eich haelioni a rag-addawyd, fel y bo barod felly megis haelioni, ac nid megis crib-ddail. A hyn, A hauo yn brin, yn brin hefyd y med; Ac a hauo yn haelionus, yn haelionus hefyd y med; gwnaed pob un, fel y rhag-ddewisodd yn ei galon, nid gyda thristwch nac o angenrheidrwydd, canys rhoddwr hyfryd a gar Duw. Ac abl yw Duw i beri i bob gras fod yn dra-helaeth tuag attoch, fel ymhob peth a phob amser gyda digonoldeb genych, y byddoch yn dra-helaeth i bob gwaith da; fel yr ysgrifenwyd, “Gwasgarodd; rhoddodd i’r tlodion; Ei gyfiawnder sy’n aros yn dragywydd.” A’r Hwn sy’n arlwyo had i’r hauwr, a bara yn ymborth, a arlwya ac a amlha eich had, ac a bair gynnydd ar ffrwythau eich cyfiawnder; ymhob peth yn cael eich cyfoethogi i bob haelioni, yr hwn sy’n gweithio trwom ddiolch i Dduw: canys meistriaid y weinidogaeth hon sydd nid yn unig yn cyflawni diffygion y saint, eithr yn ymhelaethu hefyd trwy aml-roddi diolch i Dduw; gan mai trwy brawf y ministriad hwn y maent yn gogoneddu Duw am ufudd-dod eich cyffes i Efengyl Crist, ac am haelioni eich cymhorth iddynt hwy ac i bawb; a hwy, â gweddi trosoch, yn hiraethu am danoch o herwydd dirfawr ras Duw y sydd ynoch. Diolch i Dduw am Ei rodd annhraethadwy. A myfi fy hun, Paul, a attolygaf i chwi trwy addfwynder a hynawsedd Crist, yr hwn “yn eich gwydd yn wir wyf ostyngedig yn eich plith; ond pan yn absennol, yn hyderus tuag attoch;” a dymunaf na bo i mi, pan yn bresennol, fod yn hyderus â’r ymddiried â’r hwn yr wyf yn meddwl bod yn eofn yn erbyn rhai y sydd yn ein cyfrif ni megis yn rhodio yn ol y cnawd; canys tra yn y cnawd y rhodiwn, nid yn ol y cnawd yr ym yn milwrio, (canys arfau ein milwriaeth, nid cnawdol ydynt, eithr galluog, trwy Dduw, er bwrw i lawr gestyll,) gan fwrw i lawr ddychymmygion a phob uchelder y sy’n ymddyrchafu yn erbyn gwybodaeth am Dduw, ac yn caethiwo pob meddwl i ufudd-dod i Grist; ac yn barod i ddial ar bob anufudd-dod pan gyflawner eich ufudd-dod chwi. Ar y pethau yn eich gwydd yr edrychwch. Os yw neb yn ymddiried ynddo ei hun, ei fod yn eiddo Crist, meddylied hyn etto ynddo ei hun, mai fel y mae efe yn eiddo Crist, felly yr ydym ninnau hefyd. Canys ped ymffrostiwn rywfaint helaethach am ein hawdurdod, (yr hon a roddodd yr Arglwydd er adeiladu, ac nid er eich bwrw i lawr,) ni chywilyddir fi, fel nad edrychwyf fel y dychrynwn chwi trwy fy llythyrau. Ei lythyrau, meddant, ydynt drymion a chryfion, ond presennoldeb y corph sydd wan, a’r ymadrodd yn ddirmygadwy. Hyn meddylied y cyfryw ddyn mai y fath ydym mewn ymadrodd, trwy lythyrau, pan yn absennol, yr un fath hefyd a fyddwn ar weithred pan yn bresennol. Canys nid ydym yn beiddio cyfrif, neu gymharu, ein hunain â’r rhai sydd yn eu canmol eu hunain; eithr hwynt-hwy, gan eu mesur eu hunain wrthynt eu hunain, a’u cymharu eu hunain â’u hunain, heb ddeall y maent. Ond nyni, nid hyd at bethau allan o’n mesur yr ymffrostiwn, eithr yn ol mesur y llinell a rannodd Duw i ni megis mesur, i gyrhaeddyd hyd attoch chwi hefyd: canys nid fel heb gyrhaeddyd hyd attoch, yr estynwn ein hunain dros fesur; canys hyd attoch chwi hefyd y daethom yn Efengyl Crist; nid gan ymffrostio hyd at bethau allan o’n mesur yn llafur rhai eraill; ond a chenym obaith, wrth gynnyddu o’ch ffydd, o gael ein mawrygu ynoch chwi yn ol ein llinell hyd helaethrwydd: i efengylu i’r parthau tu hwnt i chwi, ac nid i ymffrostio yn llinell un arall am y pethau parod eisioes. Ond yr hwn sy’n ymffrostio, yn yr Arglwydd ymffrostied; canys nid yr hwn sydd yn canmol ei hun sydd gymmeradwy, eithr yr hwn y mae’r Arglwydd yn ei ganmol. O na chyd-ddygech â mi mewn ychydig o ffolineb! Eithr cyd-ddygwch â mi hefyd; canys eiddigus wyf drosoch ag eiddigedd duwiol, canys dyweddïais chwi i un gŵr, i’ ch cyflwyno megis morwyn bur i Grist. Ond ofni yr wyf, rhag mewn modd yn y byd, fel y bu i’r sarph dwyllo Efa, yn ei chyfrwysdra, y llygrer eich meddyliau oddiwrth y symlrwydd a’r purdeb sydd tua Christ. Canys yn wir, os yw yr hwn sy’n dyfod yn pregethu Iesu arall yr hwn ni phregethasom, neu Yspryd arall a dderbyniwch yr hwn ni dderbyniasoch, neu efengyl arall yr hon ni dderbyniasoch, da y cyd-ddygwch ag ef. Canys meddyliaf nad wyf mewn dim ar ol i’r apostolion tra-rhagorol! Ac os hefyd anghyfarwydd wyf yn fy ymadrodd, etto nid wyf felly mewn gwybodaeth, eithr ymhob peth amlygasom hyn ymhlith pawb, tuag attoch. Ai pechod a wneuthum wrth fy ngostwng fy hun fel y byddai i chwi eich derchafu, gan mai yn rhad yr efengylais i chwi Efengyl Dduw? Eglwysi eraill a yspeiliais, gan dderbyn cyflog ganddynt er y weinidogaeth i chwi; a phan yn bresennol gyda chwi, ac mewn eisiau, ni fu’m faich i neb, canys fy eisiau a gyflawnodd y brodyr a ddaethant o Macedonia; ac ymhob peth y cedwais fy hun heb fod yn drwm arnoch, ac y cadwaf. Y mae gwirionedd Crist ynof, na chaiff yr ymffrost hwn ei attal, o’m rhan i, ym mharthau Achaia. Paham? Am nad wyf yn eich caru? Duw a ŵyr. Ond yr hyn yr wyf yn ei wneud, a wnaf hefyd, fel y torwyf ymaith achlysur y rhai sy’n ewyllysio cael achlysur, fel yn yr hyn yr ymffrostiant, y caffer hwynt fel nyni hefyd; canys y cyfryw rai, gau-apostolion ydynt, gweithwyr twyllodrus, yn traws-ffurfio eu hunain yn apostolion Crist. Ac nid rhyfedd, canys Satan ei hun sy’n traws-ffurfio ei hun yn angel goleuni; nid peth mawr yw, gan hyny, os ei weinidogion ef hefyd a draws-ffurfiant eu hunain megis yn weinidogion cyfiawnder, diwedd y rhai fydd yn ol eu gweithredoedd. Trachefn meddaf, na fydded i neb dybied fy mod i yn ynfyd: onite, etto megis ynfyd derbyniwch fi, fel y bo i minnau hefyd ymffrostio rhyw ychydig. Yr hyn yr wyf yn ei ddywedyd, nid yn ol yr Arglwydd yr wyf yn ei ddywedyd, eithr megis mewn ynfydrwydd, yn yr hyder hwn o ymffrostio. Gan fod llawer yn ymffrostio yn ol y cnawd, myfi hefyd a ymffrostiaf; canys ag hyfrydwch yr ydych yn cyd-ddwyn â’r ynfydion, gan fod eich hunain yn ddoethion! Canys cyd-ddwyn ag ef yr ydych, os rhyw un a’ch caethiwa chwi, os rhyw un a’ch llwyr-fwytta, os rhyw un a’ch cymmer, os rhyw un a ymdderchafa, os ar eich gwyneb y bydd i ryw un eich tarawo. Yn ol ammharch yr wyf yn dywedyd, fel pe baem ni yn weiniaid; ac ym mha beth bynnag y mae neb yn eofn (mewn ynfydrwydd yr wyf yn dywedyd), eofn ydwyf finnau hefyd. Hebreaid ydynt! yr wyf finnau hefyd. Israeliaid ydynt! yr wyf finnau hefyd. Had Abraham ydynt! yr wyf finnau hefyd. Gweinidogion Crist ydynt! (dan ynfydu yr wyf yn dywedyd,) mwy wyf fi: mewn llafur, mwy dros ben; mewn carcharau, mwy dros ben; mewn gwialennodiau, allan o fesur; mewn marwolaethau yn fynych; gan yr Iwddewon, bum waith, deugain gwialennod namyn un a dderbyniais; tair gwaith y’m curwyd â gwiail; unwaith y’m llabyddiwyd; tair gwaith y torrodd llong arnaf; noswaith a diwrnod y bu’m yn y dyfn-for; mewn teithiau yn fynych; ym mheryglon afonydd; ym mheryglon lladron; mewn peryglon gan fy nghenedl; mewn peryglon gan genhedloedd; mewn peryglon yn y ddinas; mewn peryglon yn yr anialwch; mewn peryglon ar y môr; mewn peryglon ym mhlith brodyr gau; mewn llafur a lludded; mewn anhuneddau yn fynych; mewn newyn a syched; mewn ymprydiau yn fynych; mewn anwyd a noethni. Heblaw y pethau oddi allan, y mae’ r pwys sydd arnaf beunydd, y pryder am yr holl eglwysi. Pwy sydd wan, ac heb i mi fod yn wan? Pwy a dramgwyddir, nad wyf fi yn llosgi? Os ymffrostio sydd rhaid, am fatterion fy ngwendid yr ymffrostiaf. Duw a Thad ein Harglwydd Iesu a ŵyr (yr Hwn sydd fendigedig yn oes oesoedd) nad wyf yn celwyddu. Yn Damascus, y llywydd dan Aretas y brenhin a wyliodd ddinas y Damasciaid er mwyn fy nal; a thrwy ffenestr mewn basged y’m gollyngwyd i lawr ar hyd y mur, a dïengais o’i ddwylaw ef. Ymffrostio sydd rhaid, ond nid yw fuddiol; a deuaf at weledigaethau a datguddiadau yr Arglwydd. Adwaenwn ddyn yng Nghrist, pedair mlynedd ar ddeg yn ol, (pa un ai yn y corph, nis gwn; ai allan o’r corph nis gwn; Duw a ŵyr,) gipio o’r cyfryw un hyd y drydedd nef; ac adwaenwn y cyfryw ddyn, ai yn y corph, ai yn wahan oddiwrth y corph, nis gwn, Duw a ŵyr, y cipiwyd ef i Baradwys, ac y clywodd eiriau annhraethadwy, y rhai nid yw gyfreithlawn i ddyn eu llefaru. Am y cyfryw ddyn yr ymffrostiaf; ond am danaf fy hun nid ymffrostiaf oddieithr yn fy ngwendidau. Canys os ewyllysiaf ymffrostio, ni fyddaf ynfyd, canys y gwir a ddywedaf; ond arbed yr wyf rhag i neb feddwl am danaf fi tu hwnt i’r hyn a wel fy mod i, neu a glyw oddiwrthyf. A thrwy ragoroldeb y datguddiedigaethau —; o herwydd paham, fel na’m tra-dyrchafer, rhoddwyd i mi swmbwl yn y cnawd, cennad Satan i’m cernodio, fel na’m tra-dyrchafer. Am y peth hwn tair gwaith yr attolygais i’r Arglwydd ar ymadael o hono â mi; a dywedodd Efe wrthyf, Digon i ti yw Fy ngras; canys Fy ngallu, mewn gwendid y’i perffeithir. Gyda’r hyfrydwch mwyaf, gan hyny, mwy yr ymffrostiaf yn fy ngwendidau, fel trosof y tabernaclo gallu Crist. Gan hyny, boddlonir fi mewn gwendidau, mewn saradau, mewn anghenion, mewn erlidiau, mewn cyfyngderau, er mwyn Crist; canys pan wyf wan, yna galluog wyf. Aethum yn ynfyd; chwi a’m cymhellasoch: canys myfi a ddylaswn gael fy nghanmol genych chwi; canys mewn dim ni fu’m ar ol i’r apostolion tra-rhagorol, er mai diddym ydwyf. Arwyddion yr apostol, yn wir, a weithredwyd yn eich plith, mewn pob amynedd, trwy arwyddion a rhyfeddodau a gwyrthiau; canys pa beth sydd y buoch ar ol ynddo, rhagor y lleill o’r eglwysi, oddieithr na fu’m i fy hun yn faich arnoch? Maddeuwch i mi yr anghyfiawnder hwn! Wele, y drydedd waith yw hon i mi fod yn barod i ddyfod attoch, ac ni fyddaf faich arnoch, canys nid wyf yn ceisio yr eiddoch chwi, eithr chwychwi; canys ni ddylai y plant drysori i’r rhieni, eithr y rhieni i’r plant; ond myfi, gyda’r hyfrydwch mwyaf y treuliaf ac y’m treulir tros eich eneidiau. Os mwy tros fesur yr wyf yn eich caru chwi, ai llai y’m cerir? Ond bydded, Na fu i mi bwyso arnoch, eithr gan fod yn gyfrwys, trwy ddichell y deliais chwi! A oes rhyw un o’r rhai a ddanfonais attoch, trwy’r hwn y gwnaethum elw o honoch? Deisyfiais ar Titus, ac ynghydag ef y danfonais y brawd: a elwodd Titus ryw beth arnoch? Onid yn yr un Yspryd y rhodiasom? onid yn yr un llwybrau? Er ys meityn y meddyliwch mai amddiffyn ein hunain wrthych chwi yr ydym. Ger bron Duw yng Nghrist y llefarwn. A’r oll, anwylyd, er eich adeiladaeth chwi y mae; canys ofni yr wyf nad, ysgatfydd, ar fy nyfodiad, y cyfryw rai ag a fynnwn y’ch ceir genyf, ac y’m ceir innau genych chwi yn gyfryw ag na fynnech; fod, ysgatfydd, gynhen, eiddigedd, llidiau, ymrysonau, goganau, hustyngau, ymchwyddiadau, annhrefnau; rhag, pan ddelwyf, drachefn, fy narostwng gan fy Nuw yn eich gwydd; a galaru o honof am lawer o’r rhai a bechasant eisoes, ac nad edifarhasant am yr aflendid, a’r godineb, a’r anlladrwydd a wnaethant. Y drydedd waith yw hon yr wyf yn dyfod attoch; “Yngenau dau dyst, neu dri, sefydlir pob gair.” Rhag-ddywedais, a rhag-ddywedyd yr wyf, fel pan yn bresennol yr ail waith, ac yr awr hon yn absennol, wrth y rhai a bechasant eisoes, ac wrth y lleill i gyd, os deuaf drachefn, nad arbedaf; gan mai ceisio prawf yr ydych o Grist y sy’n llefaru ynof, yr Hwn tuag attoch chwi nid yw wan, eithr galluog yw ynoch; canys croes-hoeliwyd Ef trwy wendid, eithr byw y mae trwy allu Duw; canys nyni hefyd ydym weiniaid Ynddo Ef, eithr byw fyddwn gydag Ef trwy allu Duw tuag attoch. Chwi eich hunain profwch a ydych yn y ffydd: o honoch eich hunain gwnewch brawf. Onid adnabyddwch eich hunain fod Iesu Grist ynoch chwi, oddieithr mai anghymmeradwy ydych? Ond gobeithiaf y gwybyddwch nad ydym ni yn anghymmeradwy. A gweddïo ar Dduw yr ydym na wneloch ddim sy ddrwg; nid fel y bo i ni ymddangos yn gymmeradwy, eithr fel y bo i chwi wneuthur yr hyn sydd dda, er i ni fod fel yn anghymmeradwy. Canys nis gallwn ddim yn erbyn y gwirionedd, eithr tros y gwirionedd. Canys llawenychwn pan fyddom ni yn weiniaid, a chwychwi yn gryfion; ac am hyn y gweddïwn, sef eich perffeithiad chwi. Gan hyny, y pethau hyn yn fy absennoldeb yr wyf yn eu hysgrifenu, fel, pan yn bresennol, nad arferwyf doster yn ol yr awdurdod y bu i’r Arglwydd ei rhoddi i mi er adeiladaeth, ac nid er tynnu i lawr. Yn ddiweddaf, frodyr, byddwch iach; perffeithier chwi; diddaner chwi; yr un peth syniwch; heddychol byddwch; a Duw’r cariad a heddwch fydd gyda chwi. Annerchwch eich gilydd â chusan sanctaidd. Eich annerch y mae y saint oll. Gras yr Arglwydd Iesu Grist, a chariad Duw, a chyfundeb yr Yspryd Glân, a fyddont gyda’r oll o honoch. Paul, apostol (nid gan ddynion, na thrwy ddyn, eithr trwy Iesu Grist a Duw Dad, yr Hwn a’i cyfododd Ef o feirw), a’r holl frodyr y sydd gyda mi, at eglwysi Galatia. Gras i chwi a heddwch oddiwrth Dduw Dad a’n Harglwydd Iesu Grist, yr Hwn a roddes ei hun am ein pechodau, fel y’n gwaredai allan o’r byd drwg presennol, yn ol ewyllys ein Duw a Thad; i’r Hwn y bo’r gogoniant yn oes oesoedd. Amen. Rhyfeddu yr wyf eich bod mor fuan yn symmud oddiwrth yr hwn a’ch galwodd trwy ras Crist, i efengyl arall; yr hon nid yw arall, ond rhai dynion sydd a’ch cythryflant ac yn ewyllysio dattroi efengyl Grist. Eithr pe bai hyd yn oed nyni, neu angel o’r nef, yn efengylu i chwi amgen na’r hon a efengylasom i chwi, anathema fydded. Fel y dywedasom o’r blaen, yr awr hon hefyd trachefn yr wyf yn dywedyd, Os bydd i neb efengylu i chwi amgen na’r hyn a dderbyniasoch, anathema fydded. Canys yn awr ai dynion yr wyf yn eu perswadio, ai ynte Dduw? Ai ceisio yr wyf ryngu bodd dynion? Os etto rhyngu bodd dynion y byddwn, gwas i Grist ni fyddwn. Canys hyspysu yr wyf i chwi frodyr, am yr Efengyl a efengylwyd genyf, nad ydyw yn ol dyn; canys myfi, nid gan ddyn y derbyniais hi, nac y’m dysgwyd, eithr trwy ddatguddiad Iesu Grist; canys clywsoch am fy ymarweddiad gynt yng nghrefydd yr Iwddewon, mai tros fesur yr erlidiwn Eglwys Dduw, ac y’i anrheithiwn; a myned rhagof yng nghrefydd yr Iwddewon tu hwnt i lawer o’m cyfoedion yn fy nghenedl, gan fod yn fwy dros ben yn selog tros draddodiadau fy nhadau. Ond pan foddlonwyd Duw, yr Hwn a’m neillduodd o groth fy mam, ac a’m galwodd trwy Ei ras, i ddatguddio Ei Fab ynof fel yr efengylwn Ef ym mhlith y cenhedloedd, yn uniawn nid ymgynghorais â chnawd a gwaed; ac nid aethum i fynu i Ierwshalem at y rhai oeddynt o’m blaen i yn apostolion, eithr aethym ymaith i Arabia; a thrachefn y dychwelais i Ddamascus. Gwedi hyny, ar ol tair blynedd yr aethum i fynu i Ierwshalem i ymweled â Petr, ac arhosais gydag ef bymtheng niwrnod: ond arall o’r apostolion ni welais, oddieithr Iago brawd yr Arglwydd. A’r pethau yr wyf yn eu hysgrifenu attoch, wele, ger bron Duw, nid wyf yn celwyddu. Gwedi hyny, daethum i barthau Suria a Cilicia, ac yr oeddwn heb fy adnabod wrth fy wyneb gan eglwysi Iwdea a oeddynt yng Nghrist; ond yn unig clywed yr oeddynt, Yr hwn a’n herlidiai gynt, sydd yr awr hon yn efengylu y ffydd yr oedd efe gynt yn ei hanrheithio; ac ynof y gogoneddent Dduw. Gwedi hyny, ar ol yspaid pedair blynedd ar ddeg yr aethum drachefn i fynu i Ierwshalem ynghyda Barnabas, gan gymmeryd gyda mi Titus hefyd. Ac aethum i fynu yn ol datguddiad, a gosodais o’u blaen yr Efengyl yr wyf yn ei phregethu ym mhlith y cenhedloedd, ond o’r neilldu i’r rhai mewn cyfrif, rhag mewn modd yn y byd yn ofer y rhedwn neu y rhedais. Eithr ni fu i hyd yn oed Titus, yr hwn oedd gyda mi, ac yntau yn Roegwr, ei gymhell i amdorri arno, a hyny o achos y gau-frodyr a ddygpwyd i mewn yn ddirgel, y rhai a ddaethant i mewn yn ddirgel i yspïo ein rhyddid y sydd genym yng Nghrist Iesu fel y’n caethiwent ni: i’r rhai ni fu i ni hyd yn oed am awr ymostwng mewn darostyngiad, fel y byddai i wirionedd yr Efengyl barhau gyda chwi. Ond gan y rhai mewn cyfrif eu bod yn rhyw beth (pa fath bynnag oeddynt, i mi ni wna ddim gwahaniaeth, gwyneb dyn Duw ni dderbyn,) canys i mi y rhai mewn cyfrif ni chwanegasant ddim; eithr yn y gwrthwyneb, wrth weled o honynt yr ymddiriedwyd i mi am efengyl y di-amdorriad, fel i Petr am efengyl yr amdorriad, (canys yr Hwn a weithiasai i Petr i apostoliaeth yr amdorriad, a weithiodd i mi hefyd tuag at y cenhedloedd;) ac wedi gweled y gras a roddwyd i mi, Iago a Cephas ac Ioan, y rhai a gyfrifid mai colofnau oeddynt, a roddasant i mi ac i Barnabas ddeheu-ddwylaw cymdeithas, fel yr elem ni at y cenhedloedd, a hwythau at yr amdorriad, yn unig am y tlodion y cofiem, y peth ei hun yr oeddwn hefyd selog i’w wneud ef. Ond pan ddaeth Cephas i Antiochia, i’w wyneb y gwrth-sefais ef, canys condemniedig ydoedd; canys cyn dyfod o rai oddiwrth Iago, ynghyda’r cenhedloedd y bwyttaai; ond pan ddaethant, cilio ac ymddidoli yr oedd efe, gan ofni y rhai o’r amdorriad; ac ynghydag ef y cyd-ragrithiodd y lleill hefyd o’r Iwddewon, fel y bu i Barnabas hefyd ei ddwyn ymaith â’u rhagrith hwy. Eithr pan welais nad iawn-droedient yn ol gwirionedd yr Efengyl, dywedais wrth Cephas ger bron pawb, Os tydi, a thi yn Iwddew, wyt yn byw fel y cenhedloedd ac nid yn Iwddewaidd, pa sut yr wyt yn cymhell y cenhedloedd i fyw yn Iwddewaidd? Nyni wrth naturiaeth yn Iwddewon, ac nid o’r cenhedloedd yn bechaduriaid, ond yn gwybod na chyfiawnheir dyn gan weithredoedd y Gyfraith, eithr trwy ffydd yng Nghrist Iesu; nyni hefyd, yng Nghrist Iesu y credasom fel y’n cyfiawnheid trwy ffydd yng Nghrist, ac nid trwy weithredoedd y Gyfraith; canys trwy weithredoedd y Gyfraith ni chyfiawnheir un cnawd. Ond os pan yn ceisio ein cyfiawnhau yng Nghrist y’n caed ni ein hunain yn bechaduriaid, a ydyw Crist, gan hyny yn weinidog pechod? Na atto Duw. Canys os y pethau a dynnais i lawr, y rhai hyn yr wyf trachefn yn eu hadeiladu, troseddwr y profaf fy hun. Canys myfi, trwy’r Gyfraith i’r Gyfraith y bu’m farw, fel i Dduw y byddwn fyw. Ynghyda Christ y’m croes-hoeliwyd; eithr byw ydwyf; ond ddim mwyach myfi, ond byw ynof y mae Crist; a’r hyn yr wyf yn awr yn ei fyw yn y cnawd, mewn ffydd yr wyf yn ei fyw, sef y ffydd ym Mab Duw, yr Hwn a’m carodd ac a’i dodes Ei hun drosof. Nid wyf yn dirymmu gras Duw, canys os trwy’r Gyfraith y mae cyfiawnder, yna yn ofer y bu Crist farw. O Galatiaid difeddwl, pwy a’ch swynodd chwi, i’r rhai, o flaen eich llygaid, y bu i Iesu Grist Ei bortreiadu yn groes-hoeliedig? Hyn yn unig a ewyllysiaf ei ddysgu genych, Ai trwy weithredoedd y Gyfraith y derbyniasoch yr Yspryd, neu wrth wrandawiad ffydd? Ai mor ddi-feddwl ydych? Wedi dechreu yn yr Yspryd, ai yn awr yn y cnawd y’ch perffeithir? Ai cymmaint o bethau a ddioddefasoch yn ofer? os hefyd yn ofer y bu. Yr Hwn sy’n arlwyo i chwi yr Yspryd, ac yn gwneuthur gwyrthiau yn eich plith, ai o weithredoedd y Gyfraith, neu o wrandawiad ffydd y mae? “Fel y bu i Abraham gredu Duw, ac y cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder:” gwybyddwch, gan hyny, mai y rhai sydd o ffydd, hwynt-hwy yw meibion Abraham. A chan ragweled o’r Ysgrythyr mai trwy ffydd y cyfiawnhaai Duw y cenhedloedd, rhag-efengylodd i Abraham, “Ynot ti y bendithir yr holl genhedloedd.” Felly y rhai sydd o ffydd a fendithir gydag Abraham ffyddlawn; canys cynnifer ag y sy o weithredoedd y Gyfraith, tan felldith y maent, canys ysgrifenwyd, “Melldigedig yw pob un nad yw yn parhau yn yr holl bethau sydd ysgrifenedig yn llyfr y Gyfraith, i’w gwneuthur hwynt.” Ac mai trwy’r Gyfraith nad oes neb yn cael ei gyfiawnhau gyda Duw sydd eglur, canys, “Y cyfiawn trwy ffydd a fydd byw;” a’r Gyfraith nid yw o ffydd, eithr, “Yr hwn a’u gwnaeth fydd byw ynddynt.” Crist a’n prynodd ni o felldith y Gyfraith, wedi myned trosom yn felldith, canys ysgrifenwyd, “Melldigedig yw pob un sydd ynghrog ar bren;” fel at y cenhedloedd y delai bendith Abraham yng Nghrist Iesu, fel y byddai addewid yr Yspryd i’w gael genym trwy ffydd. Brodyr, yn ol dyn yr wyf yn dywedyd: Cyfammod, er yn eiddo dyn, wedi ei gadarnhau, ni ddirymma neb, neu a rydd atto. Ac i Abraham yr adroddwyd yr addewidion, ac i’w had. Ni ddywaid, Ac i’r hadau fel am lawer, eithr fel am un, “Ac i’th had,” yr hwn yw Crist. A hyn a ddywedaf, Cyfammod a rag-gadarnhawyd gan Dduw, y Gyfraith yr hon a wnaed bedwar cant a deg ar hugain o flynyddoedd wedi’n, nid yw yn ei ddirymmu, i wneuthur yr addewid yn ddieffaith. Canys os o’r Gyfraith y mae’r etifeddiaeth, nid yw mwyach o addewid; ond i Abraham trwy addewid y rhoddodd Duw hi. Pa beth, gan hyny, yw ’r Gyfraith? Oblegid troseddau y rhoddwyd hi yn ychwaneg nes dyfod o’r had i’r hwn yr addawyd, wedi ei hordeinio trwy angylion, trwy Enw cyfryngwr. A’r cyfryngwr, nid i un y mae; ond Duw, un yw. A ydyw’ r Gyfraith, gan hyny, yn erbyn addewidion Duw? Na atto Duw; canys pe rhoddasid cyfraith yn medru bywhau, yn wir o’r Gyfraith y buasai cyfiawnder. Eithr, cyd-gauodd yr Ysgrythyr bob peth dan bechod, fel y byddai i’r addewid, trwy ffydd yn Iesu Grist, ei roddi i’r rhai sy’n credu. Ond cyn na ddaeth ffydd, tan y gyfraith y’n gwarchadwyd, wedi ein cau i fynu i’r ffydd ar fedr ei datguddio; fel mai’r Gyfraith fu ein hyfforddwr at Grist, fel trwy ffydd y’n cyfiawnhaid. Ond wedi dyfod ffydd, nid ydym mwyach dan hyfforddwr: canys yr oll o honoch, meibion Duw ydych trwy ffydd yng Nghrist Iesu; canys cynnifer o honoch ag i Grist y’ch bedyddiwyd, Crist a roisoch am danoch; nid oes yno Iwddew na Groegwr; nid oes yno gaeth na rhydd: nid oes yno wrryw na bannyw; canys yr oll o honoch, un ydych yng Nghrist Iesu; ac os a chwi yn eiddo Crist, yna had Abraham ydych, ac yn ol addewid yn etifeddion. Ond dywedyd yr wyf, am gymmaint o amser ag y mae’r etifedd tan oed, nid oes gwahaniaeth rhyngddo a gwas, ac yntau yn Arglwydd ar y cwbl; eithr tan warcheidwaid a disdeiniaid y mae hyd yr amser a osodwyd gan y tad. Felly ninnau hefyd, pan oeddym tan oed, tan wyddorion y byd yr oeddym wedi ein caethiwo; ond pan ddaeth cyflawnder yr amser danfonodd Duw Ei Fab allan, wedi Ei eni o wraig, wedi Ei eni tan y Gyfraith, fel y rhai tan y Gyfraith y prynai, fel y byddai’r mabwysiad i’w gael genym. Ac o herwydd eich bod yn feibion, danfonodd Duw Yspryd Ei Fab i’n calonnau, yn llefain, Abba Dad. Felly nid wyt mwyach yn gaethwas, eithr yn fab; ac os mab, yn etifedd hefyd trwy Dduw. Eithr yr amser hwnw, heb adnabod o honoch Dduw, caethion oeddych i’r rhai wrth naturiaeth nad ydynt dduwiau: ond yn awr gan adnabod Duw, ac yn hytrach yn adnabyddus gan Dduw, pa fodd y trowch yn ol at yr egwyddorion gwan a thlodion, i’r rhai yr ewyllysiwch fod etto o newydd mewn caethiwed? Diwrnodiau a gedwch, a misoedd, ac amseroedd, a blynyddoedd. Ofn sydd arnaf am danoch, rhag mewn modd yn y byd yn ofer y llafuriais arnoch. Byddwch fel yr wyf fi, canys yr wyf fi fel chwychwi, frodyr, attolygaf arnoch. Mewn dim ni wnaethoch gam i mi; ond gwyddoch mai o achos gwaelder cnawdol yr efengylais i chwi y waith gyntaf; ac eich profedigaeth yn fy nghnawd ni ddirmygasoch ac ni wrthodasoch; eithr fel angel Duw y’m derbyniasoch, fel Crist Iesu. Pa le, gan hyny, y mae eich ymfendigiad? canys tystiaf i chwi, pe buasai bosibl, eich llygaid a dynnasech allan ac a’u rhoisech i mi. Felly, ai yn elyn i chwi yr aethum wrth ddweud y gwir wrthych? Selog ydynt tuag attoch, nid yn dda, eithr eich cau chwi allan a ewyllysiant, fel y ceisioch hwynt-hwy. Ond da yw bod yn selog, mewn peth da, bob amser, ac nid yn unig tra fyddwyf bresennol gyda chwi. Fy mhlant bychain, y rhai yr wyf yn eu hesgor drachefn hyd oni ffurfier Crist ynoch, ewyllysiwn fod yn bresennol gyda chwi yn awr, a newidio fy llais, canys dyrysir fi ynoch. Dywedwch wrthyf, y rhai sy’n ewyllysio bod dan y Gyfraith, oni chlywch y Gyfraith? Canys ysgrifenwyd, Abraham oedd a dau fab ganddo, un o’r wasanaeth-ferch, ac un o’r wraig rydd. Eithr yr hwn o’r wasanaeth-ferch, yn ol y cnawd y ganed; a’r hwn o’r wraig rydd, trwy addewid. A’r pethau hyn sydd ag alegori ynddynt, canys y gwragedd hyn ydynt ddau gyfammod, sef, un o fynydd Sinai, yn cenhedlu i gaethiwed, yr hon yw Hagar. A’r Hagar hon, mynydd Sinai yw, yn Arabia, a chyfatteb y mae i’r Ierwshalem sydd yn awr, canys mewn caethiwed y mae hi ynghyda’i phlant. Ond yr Ierwshalem sydd uchod, rhydd yw, yr hon yw ein mam; canys ysgrifenwyd, “Llawenycha, anffrwythlawn, yr hon nid wyt yn eppilio; Tor allan a llefa, yr hon nid wyt yn esgor; Canys mwy yw plant yr unig na’r hon sydd a chanddi ŵr.” Ac nyni, frodyr, fel Itsaac, plant addewid ydym; eithr fel yr amser hwnw, yr hwn a anwyd yn ol y cnawd a erlidiai yr hwn a anwyd yn ol yr Yspryd, felly hefyd yn awr. Eithr pa beth a ddywaid yr Ysgrythyr? “Bwrw allan y wasanaeth-ferch a’i mab, canys mewn modd yn y byd nid etifedda mab y wasanaeth-ferch ynghyda mab y wraig rydd.” O herwydd paham, frodyr, nid ydym blant y wasanaeth-ferch, eithr plant y wraig rydd. A rhyddid Crist a’n rhyddhaodd ni; sefwch, gan hyny; a than iau caethiwed na’ch dalier drachefn. Wele, myfi Paul wyf yn dywedyd wrthych, Os amdorrir chwi, Crist ni’ch llesa chwi ddim. A thystiolaethu yr wyf drachefn i bob dyn yr amdorrir arno mai dyledwr yw i wneuthur yr holl Gyfraith. Difudd y’ch gwnaed oddiwrth Grist y rhai yn y Gyfraith a ymgyfiawnhewch; oddiwrth ras y syrthiasoch. Canys nyni, trwy’r Yspryd, o ffydd y disgwyliwn obaith cyfiawnder; canys yng Nghrist Iesu amdorriad ni all ddim, na diamdorriad, eithr ffydd yn gweithio trwy gariad. Rhedeg yn dda yr oeddych. Pwy a’ch rhwystrodd fel i’r gwirionedd nad ufuddhaech? Y perswadio, nid o’r hwn sydd yn eich galw y mae. Gan ychydig lefain yr holl does a lefeinir. Myfi a ymddiriedaf tuag attoch yn yr Arglwydd, nad dim amgen a syniwch; ond yr hwn sydd yn eich cythryflu a ddwg ei farnedigaeth, pwy bynnag fyddo. Ond myfi, frodyr, os amdorriad yr wyf etto yn ei bregethu, paham y’m herlidir etto? Yna y diddymwyd tramgwydd y Groes. O na thorrid ymaith y rhai sydd yn eich ansefydlu! Canys chwychwi, er rhyddid y’ch galwyd, frodyr; yn unig nac arferwch y rhyddid er achlysur i’r cnawd, eithr trwy gariad gwasanaethwch eich gilydd: canys yr holl Gyfraith, mewn un gair y cyflawnwyd, sef yn hwn, “Ceri dy gymmydog fel ti dy hun;” ond os brathu a thraflyngeu eich gilydd yr ydych, gwyliwch nad gan eich gilydd y’ch difether. Ond dywedyd yr wyf, Yn yr Yspryd rhodiwch, a chwant y cnawd na chyflawnwch mo’no; canys y cnawd a chwennych yn erbyn yr Yspryd, a’r Yspryd yn erbyn y cnawd, canys y rhai hyn ydynt wrthwynebol i’w gilydd, fel y pethau a ewyllysioch na wneloch. Ond os gan yr Yspryd y’ch arweinir, nid ydych dan y Gyfraith. Ac amlwg yw gweithredoedd y cnawd, y rhai ydynt godineb, aflendid, anlladrwydd, delw-addoliaeth, swyn-gyfaredd, casineb, cynhen, eiddigedd, llid, ymrysonau, ymraniadau, heresiau, cynfigennau, meddwdod, cyfeddach, a’r pethau cyffelyb i’r rhai hyn; am y rhai y rhybuddiaf chwi, fel y rhag-ddywedais, Y rhai sy’n gwneuthur y cyfryw bethau, teyrnas Dduw nid etifeddant. Ond ffrwyth yr Yspryd yw, Cariad, llawenydd, tangnefedd, hir-ymaros, cymmwynasgarwch, daioni, ffydd, addfwynder, dirwest; yn erbyn y cyfryw bethau nid oes cyfraith. A’r rhai sydd yn eiddo Crist Iesu, y cnawd a groes-hoeliasant ynghyda’i wyniau a’i chwantau. Os byw yr ydym yn yr Yspryd, yn yr Yspryd rhodiwn hefyd. Na fyddwn wag-ogoneddgar, yn herio ein gilydd, yn cynfigennu wrth ein gilydd. Brodyr, er i ddyn ei oddiweddu gan ryw gamwedd, chwychwi, y rhai ysprydol, adgyweiriwch y cyfryw un mewn yspryd addfwyn, gan dy ystyried dy hun, rhag y’th demtier dithau. Dygwch feichiau eich gilydd, ac felly cyflawnwch gyfraith Crist. Canys os tybia neb ei fod yn rhyw beth, ac efe heb fod yn ddim, twyllo ei hun y mae efe. Ond profed pob un ei waith ei hun, ac yna tuag at ef ei hun yn unig y bydd yr ymffrost iddo, ac nid tuag at un arall, canys ei faich ei hun pob un a ddwg. Ond cyfranned yr hwn a ddysgwyd yn y Gair â’r hwn sydd yn ei ddysgu ef, ym mhob peth da. Nac arweinier chwi ar gyfeiliorn; Duw ni watworir; canys pa beth bynnag a hauo dyn, hyny a fed efe hefyd; oblegid yr hwn sy’n hau i’w gnawd ei hun, o’r cnawd y med lygredigaeth; ond yr hwn sy’n hau i’r Yspryd, o’r Yspryd y med fywyd tragywyddol. Ac yn gwneuthur yr hyn sydd dda na ddigalonnwn, canys yn ei iawn bryd y medwn, os heb ddiffygio. Gan hyny ynte, fel y mae amser cyfaddas genym, gweithredwn yr hyn sydd dda tuag at bawb, ac yn enwedig tua’r rhai o deulu’r ffydd. Gwelwch â pha lythyrennau eu maint yr ysgrifennais attoch chwi â’m llaw fy hun. Cynnifer ag sy’n ewyllysio ymdeccau yn y cnawd, y rhai hyn sydd yn eich cymhell i amdorri arnoch, yn unig fel nad oblegid croes Crist yr erlidier hwynt; canys nid yw hyd yn oed y rhai yr amdorrir arnynt eu hunain yn cadw’r Gyfraith, eithr ewyllysiant i chwi amdorri arnoch, fel yn eich cnawd chwi yr ymffrostiont. Ond i myfi, na fydded i mi ymffrostio oddieithr ynghroes ein Harglwydd Iesu Grist, trwy’r Hwn y croes-hoeliwyd y byd i mi, ac myfi i’r byd; canys amdorriad nid yw ddim, na diamdorriad; eithr creadur newydd. A chynnifer ag a rodiant wrth y rheol hon, tangnefedd arnynt a thrugaredd, ac ar Israel Duw. O hyn allan na fydded i neb beri blinder i mi; canys myfi wyf yn dwyn nodau’r Iesu yn fy nghorph. Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda’ch yspryd chwi, frodyr. Amen. Paul, apostol i Iesu Grist trwy ewyllys Duw, at y saint sydd yn Ephesus a’r ffyddloniaid yng Nghrist Iesu: gras i chwi a thangnefedd oddiwrth Dduw ein Tad a’r Arglwydd Iesu Grist. Bendigedig fyddo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, yr Hwn a’n bendithiodd â phob bendith ysprydol yn y nefolion leoedd yng Nghrist; fel yr etholodd ni Ynddo Ef cyn seiliad y byd, i fod o honom yn sanctaidd ac yn ddianaf ger Ei fron mewn cariad, wedi ein rhag-ordeinio ni i fabwysiad trwy Iesu Grist, Iddo Ei hun, yn ol boddlonrwydd Ei ewyllys, er mawl gogoniant Ei ras, yr hwn a rad-roddodd Efe i ni yn yr Anwylyd, yn yr Hwn y mae genym ein prynedigaeth trwy Ei waed, maddeuant ein camweddau, yn ol golud Ei ras Ef, yr hwn a wnaeth Efe yn helaeth tuag attom ymhob doethineb a deall, wedi hyspysu i ni ddirgelwch Ei ewyllys, yn ol Ei foddlonrwydd yr hwn a arfaethodd Efe Ynddo Ef i ddisdeiniaeth cyflawnder yr amseroedd, i grynhoi ynghyd bob peth yng Nghrist, y rhai sydd yn y nefoedd, ac y rhai ar y ddaear; ïe, Ynddo Ef, yn yr Hwn y’n gwnaethpwyd yn etifeddiaeth, wedi ein rhag-ordeinio yn ol arfaeth yr Hwn sydd yn gweithio pob peth yn ol cynghor Ei ewyllys, fel y byddem er mawl Ei ogoniant, y rhai a obeithiasom o’r blaen yng Nghrist; yn yr hwn chwychwi hefyd, wedi clywed Gair y gwirionedd, Efengyl eich iachawdwriaeth, ïe, yn yr Hwn hefyd, wedi credu o honoch, y’ch seliwyd ag Yspryd Glân yr addewid, yr Hwn yw ernes ein hetifeddiaeth, hyd brynedigaeth Ei berchennogaeth, i fawl Ei ogoniant. O herwydd hyn, myfi hefyd, wedi clywed am y ffydd yn yr Arglwydd Iesu, yr hon sydd yn eich plith, ac y sydd genych tua’r holl saint, nid wyf yn peidio â diolch drosoch, gan wneuthur coffa am danoch yn fy ngweddïau, ar i Dduw ein Harglwydd Iesu Grist, Tad y gogoniant, roddi i chwi yspryd doethineb a datguddiad yn Ei adnabod Ef, wedi eich goleuo o ran llygaid eich calon er mwyn gwybod o honoch pa beth yw gobaith Ei alwedigaeth, pa beth yw golud gogoniant Ei etifeddiaeth yn y saint, a pha beth yw rhagorol fawredd Ei allu tuag attom ni y sy’n credu, yn ol gweithrediad nerth Ei gadernid, yr hon a weithredodd Efe yng Nghrist, gan Ei gyfodi Ef o feirw a pheri Iddo eistedd ar Ei ddeheulaw yn y nefolion leoedd, goruwch pob llywodraeth ac awdurdod a gallu ac arglwyddiaeth, a phob enw a enwir nid yn unig yn y byd hwn, ond hefyd yn yr hwn ar fedr dyfod. A phob peth a ddarostyngodd Efe dan Ei draed Ef; ac Ef a roddodd Efe yn ben dros bob peth, i’r eglwys, yr hon yw Ei gorph, cyflawnder yr Hwn sy’n cyflawni oll yn oll. A chwychwi, a chwi yn feirw trwy eich camweddau a’ch pechodau, yn y rhai y rhodiasoch gynt yn ol gyrfa’r byd hwn, yn ol tywysog awdurdod yr awyr, yr yspryd y sydd yn awr yn gweithredu ym meibion anufudd-dod, ymhlith y rhai yr oeddym ni oll â’n hymarweddiad gynt yn chwantau ein cnawd, gan wneuthur ewyllysiau’r cnawd a’r meddyliau, ac yr oeddym wrth naturiaeth yn blant digofaint, fel y lleill; ond Duw, gan fod yn oludog o drugaredd, o herwydd Ei gariad mawr â’r hwn y carodd Efe ni, ïe, nyni, pan yn feirw trwy ein camweddau, a gydfywhaodd Efe ynghyda Christ, (trwy ras yr ydych yn gadwedig,) ac a’ n cyd-gyfododd, a gwnaeth i ni gydeistedd yn y nefolion leoedd yng Nghrist Iesu, fel y dangosai i’r oesoedd sy’n dyfod ragorol olud Ei ras mewn cymmwynasgarwch tuag attom yng Nghrist Iesu, canys trwy ras yr ydych yn gadwedig trwy ffydd, a hyn, nid o honoch chwi y mae; o eiddo Duw y mae’ r rhodd; nid o weithredoedd y mae, fel na bo i neb ymffrostio; canys Ei waith Ef ydym, wedi ein creu yng Nghrist Iesu, er gweithredoedd da, y rhai a rag-ddarparodd Duw fel ynddynt y rhodiem. Am hyny, cofiwch mai gynt yr oeddych chwi, (y cenhedloedd yn y cnawd, y rhai a elwir Di-amdorriad gan yr hyn a elwir Amdorriad, yn y cnawd, o waith llaw,) yr oeddych y pryd hyny yn wahan oddiwrth Grist, yn ddieithriedig oddiwrth wladwriaeth Israel, ac yn estroniaid oddiwrth gyfammodau yr addewid, heb obaith genych ac heb Dduw yn y byd; ond yn awr yng Nghrist Iesu, chwychwi y rhai oeddych gynt ym mhell, a wnaethpwyd yn agos yngwaed Crist; canys Efe yw ein heddwch, yr Hwn a wnaeth y ddau yn un, a chanol-fur y gwahaniaeth a ddattododd Efe, gan ddirymmu’r gelyniaeth trwy Ei gnawd, sef cyfraith y gorchymynion mewn ordeiniadau; fel y creai y ddau, Ynddo Ei hun, yn un dyn newydd, gan wneuthur heddwch, ac y cymmodai y ddau, mewn un corph, â Duw, trwy’r groes, wedi lladd y gelyniaeth arni hi. A daeth Efe ac efengylodd heddwch i chwi y rhai ym mhell, ac heddwch i’r rhai yn agos, canys Trwyddo Ef y mae genym, ni ein dau, ddyfodfa mewn un Yspryd at y Tad. Gan hyny, ynte, nid ydych mwyach yn ddieithriaid ac ymdeithyddion, eithr yr ydych yn gyd-ddinasyddion â’r saint ac yn deulu Duw, wedi eich adeiladu ar sail yr apostolion a’r prophwydi, ac Iesu Grist Ei hun yn ben congl-faen, yn yr hwn yr holl adeilad wedi ei chymmwys gydgyssylltu sy’n cynnyddu yn deml sanctaidd yn yr Arglwydd; yn yr Hwn yr ydych chwi hefyd yn cael eich cyd-adeiladu yn breswylfod i Dduw, yn yr Yspryd. O achos hyn myfi, Paul, carcharor Crist Iesu trosoch chwi genhedloedd, os clywsoch, yn wir, am ddisdeiniaeth gras Duw yr hwn a roddwyd i mi tuag attoch, mai trwy ddatguddiad yr hyspyswyd i mi y dirgelwch, (fel yr ysgrifenais o’r blaen ar ychydig eiriau, trwy y rhai y gellwch, wrth ddarllen, weled fy neall yn nirgelwch Crist,) yr hwn yng nghenedlaethau eraill ni hyspyswyd i feibion dynion fel y datguddiwyd ef yn awr i’w sanctaidd apostolion a phrophwydi, yn yr Yspryd, fod y cenhedloedd yn gydetifeddion ac yn gydaelodau o’r corph, ac yn gyd-gyfrannogion o’r addewid yng Nghrist Iesu, trwy’r Efengyl, i’r hon y’m gwnaed yn weinidog yn ol rhodd gras Duw, yr hwn a roddwyd i mi yn ol gweithrediad Ei allu Ef. I myfi, a mi yn llai na’r lleiaf o’r holl saint, y rhoddwyd y gras hwn, i efengylu i’r cenhedloedd olud anolrheiniadwy Crist; ac i wneud i bawb weled pa beth yw disdeiniaeth y dirgelwch a guddiwyd er’s erioed yn Nuw, yr Hwn a greodd bob peth, fel yr hyspysid yn awr i’r tywysogaethau a’r awdurdodau yn y nefolion leoedd, trwy’r Eglwys, ddoethineb mawr-amryw Duw, yn ol yr arfaeth dragywyddol yr hon a wnaeth Efe yng Nghrist Iesu ein Harglwydd, yn yr Hwn y mae genym hyfdra a dyfodfa mewn hyder trwy ein ffydd Ynddo. O herwydd paham deisyfiaf na lwfrhaoch am fy mlinderau trosoch, y rhai yw eich gogoniant. O achos hyn, plygu fy ngliniau yr wyf at y Tad, o’r Hwn y mae pob teulu yn y nef ac ar y ddaear yn cael ei enwi, ar roddi o Hono i chwi, yn ol golud Ei ogoniant, eich cadarnhau a gallu trwy Ei Yspryd, yn y dyn oddimewn, a thrigo o Grist, trwy ffydd yn eich calonnau; fel, wedi eich gwreiddio a’ch seilio mewn cariad, y llwyr-alloch amgyffred, ynghyda’r holl saint, pa beth yw’r lled, a’r hyd, a’r uchder a’r dyfnder, a gwybod cariad Crist, yr hwn sydd uwchlaw gwybodaeth, fel y’ch cyflawner i holl gyflawnder Duw. Ac i’r Hwn sydd abl i wneuthur yn dra-rhagorol tu hwnt i bob peth a ofynwn neu a feddyliwn, yn ol y gallu sy’n gweithredu ynom, Iddo Ef y bo’r gogoniant yn yr eglwys ac yn Iesu Grist am yr holl genhedlaethau yn oes oesoedd. Amen. Deisyf arnoch, gan hyny, yr wyf fi, y carcharor yn yr Arglwydd, ar rodio o honoch yn deilwng o’r alwedigaeth â’r hon y’ch galwyd, gyda phob gostyngeiddrwydd ac addfwynder, gyda hir-ymaros, gan oddef eich gilydd mewn cariad, gan fod yn ddyfal i gadw undeb yr Yspryd yng nghwlwm heddwch. Un corph sydd, ac un Yspryd, fel y’ch galwyd yn un gobaith eich galwedigaeth; un Arglwydd, un ffydd, un bedydd, un Duw a Thad pawb, yr Hwn sydd dros bawb, a thrwy bawb, ac ym mhawb. Ond i bob un o honom y rhoddwyd y gras yn ol mesur dawn Crist. O herwydd paham y dywaid, “Pan esgynodd i’r uchelder, caethiwodd gaethiwed, A rhoddodd roddion i ddynion.” (Ond hyn, “Esgynodd,” pa beth yw oddieithr y bu iddo ddisgyn i barthau isaf y ddaear? Yr Hwn a ddisgynodd, Efe yw’r Hwn a esgynodd goruwch yr holl nefoedd fel y llenwai bob peth:) ac Efe a roddes rai yn apostolion, a rhai yn brophwydi, a rhai yn efengylwyr, a rhai yn fugeiliaid ac yn ddysgawdwyr, er perffeithiad y saint, i waith y weinidogaeth, i adeiladaeth corph Crist, hyd oni chyrhaeddwn oll i undeb ffydd a gwybodaeth Mab Duw, i ŵr perffaith, i fesur maint cyflawnder Crist; fel na byddom mwyach yn blant, yn bwhwmman a’n cylch-ddwyn â phob gwynt dysgeidiaeth, gan hocced dynion, mewn cyfrwysdra, yn ol dyfais cam-arwain; ond gan adrodd y gwir mewn cariad, y cynnyddom ymhob peth Iddo Ef, yr Hwn yw’r pen, sef Crist, o’r Hwn, yr holl gorph yn cael ei gyfaddasu a’i gydgyssylltu trwy’r hyn y mae pob cymmal yn ei roddi, yn ol gweithrediad pob rhan mewn mesur, sy’n gwneuthur cynnydd y corph i’w adeiladaeth ei hun mewn cariad. Hyn, gan hyny, yr wyf yn ei ddywedyd ac yn ei dystiolaethu yn yr Arglwydd, na rodioch chwi mwyach fel y mae’r cenhedloedd hefyd yn rhodio yn oferedd eu meddwl, wedi eu tywyllu yn eu deall, wedi eu dieithrio oddiwrth fuchedd Duw o herwydd yr anwybodaeth sydd ynddynt, o herwydd calediad eu calon; y rhai, wedi myned yn ddideimlad, a draddodasant eu hunain i drythyllwch i wneuthur pob aflendid gydag awydd. Ond chwychwi, nid felly y dysgasoch Grist, os, yn wir, am dano Ef y clywsoch, ac Ynddo Ef y’ch dysgwyd fel y mae’r gwirionedd yn yr Iesu; ar ddodi o honoch oddi am danoch, yn ol eich ymarweddiad gynt, yr hen ddyn y sy’n myned yn llygredig yn ol chwantau twyll, a’ch adnewyddu yn yspryd eich meddwl, a rhoddi am danoch y dyn newydd, yr hwn yn ol Duw a grewyd mewn cyfiawnder ac yn sancteiddrwydd y gwirionedd. Gan hyny, gan ddodi ymaith gelwydd, lleferwch y gwir bob un â’i gymmydog, canys yr ydym yn aelodau o’n gilydd. Digiwch, ac na phechwch; na fydded i’r haul fachludo ar eich ennyniad, ac na roddwch le i ddiafol. Yr hwn a ladrattai, na ladratted mwyach, ond yn hytrach llafuried gan weithio yr hyn sydd dda, â’i ddwylaw, fel y bo ganddo beth i’w gyfrannu i’r hwn sydd ag angen arno. Na fydded i neb rhyw ymadrodd llygredig ddyfod allan o’ch genau, eithr yr hwn a fo dda i adeiladaeth fel y mae eisiau, fel y rhoddo ras i’r gwrandawyr. Ac na thristewch Yspryd sanctaidd Duw, yn yr Hwn y’ch seliwyd hyd ddydd prynedigaeth. Pob chwerwder, a llid, a dig, a llefain, a chabledd, rhodder ymaith oddiwrthych, ynghyda phob drygioni. A byddwch gymmwynasgar i’ch gilydd, yn dosturiol, yn maddeu i’ch gilydd, fel y bu i Dduw hefyd, yng Nghrist, faddeu i chwi. Byddwch, gan hyny, yn efelychwyr Duw, fel plant anwyl; a rhodiwch mewn cariad, fel y bu i Grist hefyd ein caru ni, ac y traddododd Ei hun trosom yn offrwm ac yn aberth i Dduw, o arogl peraidd. Ond godineb ac aflendid o bob math, neu gybydd-dra, nac enwer hwynt yn eich plith, fel y gwedda i saint; na budreddi, nac ymadrodd ffol, na choeg ddigrifwch, y rhai nid ydynt weddus; eithr yn hytrach rhoddi diolch; canys hyn a wyddoch yn llwyr, fod pob putteiniwr, neu aflan, neu gybydd, yr hyn sydd eulun-addolwr, heb iddo etifeddiaeth yn nheyrnas Crist a Duw. Na fydded i neb eich twyllo â geiriau gweigion; canys o achos y pethau hyn dyfod y mae digofaint Duw ar feibion anufudd-dod. Gan hyny, na fyddwch gyfranogion â hwynt; canys yr oeddych gynt yn dywyllwch, ond yn awr goleuni ydych yn yr Arglwydd; rhodiwch fel plant y goleuni; (canys ffrwyth y goleuni ymhob daioni a chyfiawnder a gwirionedd y mae,) gan brofi pa beth sydd foddlonol i’r Arglwydd; ac na fydded i chwi gymdeithas â gweithredoedd anffrwythlawn y tywyllwch, ond yn hytrach hyd yn oed argyhoeddwch hwynt; canys y pethau a wneir yn y dirgel ganddynt, cywilyddus yw hyd yn oed eu henwi; a phob peth, wrth gael ei argyhoeddi, gan y goleuni yr amlygir, canys pob peth y sy’n cael ei amlygu, goleuni yw; o herwydd paham y dywaid, “Deffro, yr hwn wyt yn cysgu, a chyfod o’r meirw, ac arnat y llewyrcha Crist.” Edrychwch, gan hyny, yn ofalus pa fodd y rhodiwch, nid fel annoethion, ond fel doethion, gan brynu’r amser; canys y dyddiau, drwg ydynt; am hyny, na fyddwch ynfydion, eithr yn deall pa beth yw ewyllys yr Arglwydd. Ac na feddwer chwi gan win, yn yr hyn y mae cyfeddach, eithr llanwer chwi â’r Yspryd, gan lefaru wrth eich gilydd mewn salmau a hymnau ac odlau ysprydol, gan ganu a pher-seinio â’ch calon i’r Arglwydd, gan ddiolch bob amser am bob peth yn enw ein Harglwydd Iesu Grist, i Dduw ein Tad, gan ymddarostwng i’ch gilydd yn ofn Crist. Y gwragedd, sef i’w gwŷr priod byddont fel i’r Arglwydd, canys y gŵr yw pen y wraig, fel y mae Crist hefyd yn ben yr eglwys, ac Efe yn iachawdwr y corph. Ond fel y mae’r eglwys yn ymddarostwng i Grist, felly gwnaed y gwragedd i’w gwŷr ymhob peth. Y gwŷr cerwch eich gwragedd, fel y bu i Grist hefyd garu yr eglwys, ac y traddododd Ef Ei hun drosti, fel y sancteiddiai hi, wedi ei glanhau hi â’r noe dwfr, trwy’r gair, ac y rhoddai Efe yr eglwys Iddo Ei hun, yn ogoneddus, heb arni na brycheuyn na chrychni, na dim o’r cyfryw bethau; eithr fel y byddai yn sanctaidd ac yn ddianaf. Felly y dylai’r gwŷr garu eu gwragedd fel eu cyrph eu hunain; yr hwn sy’n caru ei wraig, ef ei hun a gar efe: canys ni fu i neb erioed gasau ei gnawd ei hun, eithr ei fagu a’i feithrin y mae, fel y gwna Crist hefyd i’r eglwys, canys aelodau ydym o’i gorph Ef. “O achos hyn y gad dyn ei dad a’i fam, ac y glŷn wrth ei wraig, a byddant ill dau yn un cnawd.” Y dirgelwch hwn, mawr yw; ond yr wyf fi yn llefaru gyda golwg ar Grist a’r eglwys. Er hyny i gyd, chwychwi cymmain un, bydded i bob un felly garu ei wraig fel ef ei hun; a’r wraig, bydded iddi ofni ei gŵr. Y plant, ufuddhewch i’ch rhieni yn yr Arglwydd, canys hyn sydd gyfiawn. “Anrhydedda dy dad a’th fam,” (yr hwn yw’r gorchymyn cyntaf gydag addewid,) “fel y bo’n dda i ti, ac y byddech hir-hoedlog ar y ddaear.” Ac y tadau, nac ennynwch eich plant i ddigio; eithr maethwch hwynt yng yngherydd a chynghor yr Arglwydd. Y gweision ufuddhewch i’ch meistriaid yn ol y cnawd gydag ofn a dychryn, yn symlrwydd eich calon, fel i Grist; nid â llygad-wasanaeth fel boddlonwyr dynion, eithr fel gweision Crist, yn gwneuthur ewyllys Duw o’r enaid; yn gwasanaethu gydag ewyllys da, fel i’r Arglwydd, ac nid i ddynion, gan wybod mai pa beth bynnag sy dda a wnelo pob un, hyny a dderbyn efe gan yr Arglwydd, pa un bynnag ai caeth ai rhydd. Ac y meistriaid, yr un pethau gwnewch tuag attynt hwy, gan roddi heibio fygwth, gan wybod fod eich meistr chwi a hwythau yn y nefoedd, a derbyn gwyneb nid oes gydag Ef. Yn ddiweddaf, byddwch gryfion yn yr Arglwydd ac ynghadernid Ei allu. Gwisgwch lwyr-arfogaeth Duw fel y galloch sefyll yn erbyn dichellion diafol, canys nid oes i ni ein hymaflyd codwm yn erbyn gwaed a chnawd, eithr yn erbyn y llywodraethau, yn erbyn yr awdurdodau, yn erbyn bydol-lywiawdwyr y tywyllwch hwn, yn erbyn y lluoedd ysprydol drwg yn y nefolion leoedd. O achos hyn cymmerwch i fynu lwyr-arfogaeth Duw, fel y galloch wrthsefyll yn y dydd drwg; ac wedi gwneuthur pob peth, sefyll. Sefwch, gan hyny, wedi amgylch-wregysu eich lwynau â gwirionedd, ac wedi rhoddi am danoch ddwyfroneg cyfiawnder, ac wedi gwisgo am eich traed esgidiau parottoad efengyl tangnefedd; ac ynghyda’r cwbl gan gymmeryd i fynu darian ffydd, â’r hon y gellwch ddiffoddi holl biccellau tanllyd y fall. A helm iachawdwriaeth cymmerwch, a chleddyf yr Yspryd, yr hwn yw Gair Duw; gyda phob gweddi a deisyfiad, yn gweddïo bob amser yn yr Yspryd, ac yn gwylied ar hyn ei hun ymhob dyfal-bara, a deisyfiad am yr holl saint, a throsof fi, fel i mi y rhodder ymadrodd, trwy agoryd fy ngenau gydag hyfdra, i hyspysu dirgelwch yr efengyl, dros yr hwn yr wyf yn gennad mewn cadwyn, fel ynddo y traethwyf gydag hyfdra, fel y dylwn lefaru. Ond fel y gwypoch chwi hefyd fy matterion, pa wedd y mae gyda mi, hyspysa Tuchicus y cwbl i chwi, y brawd anwyl a’r gweinidog ffyddlawn yn yr Arglwydd, yr hwn a ddanfonais attoch er mwyn hyn ei hun, fel y gwypoch ein helynt, ac y diddanai eich calonnau. Tangnefedd i’r brodyr, a chariad ynghyda ffydd oddiwrth Dduw Dad a’r Arglwydd Iesu Grist. Gras fyddo gyda phawb sy’n caru ein Harglwydd Iesu Grist mewn anllygredigaeth. Paul a Thimothëus, gweision i Iesu Grist, at yr holl saint yng Nghrist Iesu y sydd yn Philippi, ynghyda’ r esgobion a’ r diaconiaid: gras i chwi a thangnefedd oddiwrth Dduw ein Tad a’r Arglwydd Iesu Grist, Diolch yr wyf i’m Duw ymhob coffa am danoch, beunydd ymhob deisyfiad o’r eiddof drosoch chwi oll yn gwneuthur fy neisyfiad gyda llawenydd, oblegid eich cymdeithas o ran yr Efengyl, o’r dydd cyntaf hyd yn awr; yn hyderus am y peth hwn ei hun, y bydd i’r Hwn a ddechreuodd ynoch waith da, ei orphen hyd ddydd Iesu Grist; fel y mae yn gyfiawn i mi synied hyn yma am danoch oll, gan fy mod a chenych yn fy nghalon, a chwi oll yn fy rhwymau ac yn fy ymddiffyn a chadarnhad yr Efengyl, yn gyfrannogion â mi o ras. Canys fy nhyst yw Duw, y modd yr hiraethaf am danoch oll, yn ymysgaroedd Iesu Grist. A hyn yr wyf yn ei weddïo, y bo i’ch cariad ymhelaethu etto fwy-fwy mewn gwybodaeth a phob synwyr, fel y cymmeradwyoch y pethau rhagorol, fel y byddoch bur a didramgwydd hyd ddydd Crist, wedi eich llenwi â ffrwyth cyfiawnder, yr hwn sydd trwy Iesu Grist, er gogoniant a moliant i Dduw. Ac ewyllysiwn wybod o honoch, frodyr, am y pethau yn fy nghylch, mai yn hytrach i gynnydd yr Efengyl y daethant, fel y bu i’m rhwymau fyned yn amlwg yng Nghrist yn yr holl Pretorium ac i’r lleill i gyd; ac i’r rhan fwyaf o’r brodyr yn yr Arglwydd, gan fod yn hyderus trwy fy rhwymau, feiddio yn fwy dros ben i lefaru Gair Duw yn ddiofn. Rhai yn wir o genfigen a chynnen sy’n pregethu Crist, ond rhai hefyd o ewyllys da; y naill o gariad, gan wybod mai er amddiffyn yr Efengyl y’m gosodwyd; a’r lleill o ymbleidio y cyhoeddant Grist, nid yn bur, gan feddwl cyfodi gorthrymder i’m rhwymau. Pa beth, ynte, ond mai ymhob modd, pa un bynnag ai mewn rhith neu mewn gwirionedd, Crist a gyhoeddir? Ac yn hyn yr wyf yn llawenychu, ïe, ac y llawenychaf; canys gwn y bydd hyn yn troi allan i mi yn iachawdwriaeth trwy eich gweddi chwi, ac arlwyad Yspryd Iesu Grist, yn ol fy nisgwyliad a’m gobaith nad mewn dim y’m cywilyddir; eithr ymhob hyder, fel bob amser, yn awr hefyd, y mawrygir Crist yn fy nghorph, pa un bynnag ai trwy fywyd ai trwy farwolaeth. Canys i mi, byw yw Crist, a marw sydd elw. Ond os byw yn y cnawd, os hyn yw i mi ffrwyth fy ngwaith, pa beth a ddewisaf, nis gwn; a chyfyng yw arnaf rhwng y ddau, gan fod a chwant genyf i ymadael ac i fod gyda Christ, canys llawer ychwaneg gwell yw; ond aros yn y cnawd sydd fwy angenrheidiol o’ch plegid chwi. A chenyf yr hyder hwn, gwn yr arhosaf, ac yr arhosaf ynghyda’r oll o honoch er eich cynnydd chwi a’ ch llawenydd yn y ffydd, fel y bo i’ch ymffrost helaethu yng Nghrist Iesu, ynof fi, trwy fy mhresennoldeb trachefn gyda chwi. Yn unig yn deilwng o Efengyl Crist bydded eich ymddygiad, fel pa un bynnag ai dyfod a’ch gweled a wnaf, ai yn absennol y clywaf eich helynt, eich bod yn sefyll yn un yspryd, ag un enaid yn cyd-ymdrech tros ffydd yr Efengyl, ac heb eich dychrynu mewn dim gan y gwrthwynebwyr, yr hyn sydd iddynt hwy yn arwydd eglur o golledigaeth, ond o’ch iachawdwriaeth chwi; a hyny oddiwrth Dduw, canys i chwi y rhoddwyd tros Grist, nid yn unig gredu Ynddo, eithr hefyd ddioddef Trosto; a chyda’r un ymdrech genych ag a welsoch ynof, ac yn awr a glywch ei fod ynof. Os oes, gan hyny, ryw ddiddanwch yng Nghrist, os rhyw gysur cariad, os rhyw gymdeithas yr Yspryd, os rhyw ymysgaroedd a thosturiaethau, cyflawnwch fy llawenydd i, fel yr un peth y synioch, gyda’r un cariad genych, ac un enaid genych, ac yr un peth yn eich synied. Na fydded dim trwy ymbleidio, na thrwy wag-ogoniant, eithr mewn gostyngeiddrwydd yn tybied eich gilydd yn rhagori ar chwi eich hunain; nid yn edrych, bob un, at eich pethau eich hunain, eithr hefyd at yr eiddo eraill, bob un o honoch. Hyn syniwch ynoch, yr hyn oedd hefyd yng Nghrist Iesu, yr Hwn, ac Efe yn ffurf Duw, nid peth i’w gipio a dybiodd Efe fod yn gystal â Duw; eithr Ef Ei hun a waghaodd Efe, ffurf gwas yn cael ei chymmeryd Ganddo, ac yng ngyffelybiaeth dynion Ei eni; a chan Ei gael mewn dull fel dyn, gostyngodd Ei hun, gan fyned yn ufudd hyd angau, ïe, angau’r groes. O herwydd paham Duw a’i tra-dyrchafodd Ef, a rhoddes Iddo yr enw sydd goruwch pob enw, fel yn enw’r Iesu y byddai i bob glin blygu, o’r nefolion a’r daearolion, a’r tan-ddaearolion; ac y byddai i bob tafod gyffesu mai’r Arglwydd yw Iesu Grist, er gogoniant Duw Dad. Felly, fy anwylyd, fel bob amser yr ufuddhasoch, nid fel yn fy mhresennoldeb yn unig, eithr yn awr yn fwy o lawer yn fy absennoldeb, gydag ofn a dychryn, gweithiwch allan eich iachawdwriaeth eich hunain; canys Duw yw’r Hwn sy’n gweithio ynoch ewyllysio a gweithredu, er Ei foddlonrwydd. Gwnewch bob peth heb rwgnach ac ymresymiadau, fel y byddoch yn ddianaf a diniweid, yn blant Duw heb fefl ynghanol cenhedlaeth wyrog a throfaus, ymhlith y rhai yr ymddangoswch fel goleuadau yn y byd; yn cynnal gair y bywyd; yn ymffrost i mi yn nydd Crist, mai nid yn ofer y rhedais, ac nid yn ofer y llafuriais. Eithr, ac os offrymmir fi ar aberth a gwasanaeth eich ffydd, llawenychu yr wyf ac yn cyd-lawenychu a’r oll o honoch; ac yn yr un modd llawenychwch chwi hefyd, a chyd-lawenychwch â mi. A gobeithio yr wyf yn yr Arglwydd Iesu, ddanfon Timothëus ar fyrder attoch, fel y’m llonner gan wybod eich helynt: canys nid oes genyf neb o gyffelyb enaid, yr hwn a wir-brydera am eich helynt, canys pawb, y pethau hwy eu hunain a geisiant, ac nid pethau Iesu Grist: ond y prawf o hono ef a wyddoch, mai fel i dad y gwasanaetha plentyn, ynghyda mi y gwasanaethodd tua’r Efengyl. Hwn, ynte, gan hyny, y gobeithiaf ei ddanfon, pan welwyf fy helynt i, allan o law; ac hyderaf yn yr Arglwydd y bydd i mi fy hun ddyfod ar fyrder. Ac angenrheidiol a dybiais ddanfon attoch Epaphroditus, y brawd ac fy nghydweithiwr a chyd-filwr, ond eich cennad chwi a gweinidog i’m cyfreidiau, canys hiraethu am yr oll o honoch yr oedd efe, ac yn athrist iawn o herwydd clywed o honoch y bu efe glaf; canys claf y bu efe yn agos i angau; eithr Duw a drugarhaodd wrtho ef, ac nid wrtho ef yn unig, ond wrthyf finnau hefyd, fel na fyddai genyf dristwch ar dristwch. Yn ddyfalach, gan hyny, y danfonais ef, fel wedi ei weled ef drachefn y llawenychech, ac y byddwn innau yn llai fy nhristwch. Derbyniwch ef, gan hyny, yn yr Arglwydd, gyda phob llawenydd; a’r cyfryw rai, daliwch hwynt mewn anrhydedd: canys oblegid gwaith Crist, hyd at angau y nesaodd, gan beryglu ei einioes fel y cyflawnai eich diffyg chwi yn y gwasanaeth tuag attaf fi. Yn ddiweddaf, fy mrodyr, llawenychwch yn yr Arglwydd. Ysgrifenu yr un pethau attoch, i mi yn wir nid yw flin, ond i chwi diogel yw. Bydded eich llygaid ar y cwn; bydded eich llygaid ar y drwg-weithredwyr; bydded eich llygaid ar y cyd-dorriad; canys nyni yw’r amdorriad, y rhai trwy Yspryd Duw yr ym yn gwasanaethu ac yn ymffrostio yng Nghrist Iesu, ac nid yn y cnawd yn ymddiried; er fy mod i ag achos ymddiried hyd yn oed yn y cnawd. Os meddylia neb arall ei fod ag achos ymddiried yn y cnawd, yr wyf fi yn hytrach; gydag amdorriad ar yr wythfed dydd; o genedl Israel; o lwyth Beniamin; Hebrewr o Hebreaid; yn ol y Gyfraith yn Pharishead; yn ol sel yn erlid yr eglwys; yn ol y cyfiawnder y sydd yn y Gyfraith, wedi bod yn ddiargyhoedd. Eithr y pethau a oedd i mi yn elwau, y rhai hyn a gyfrifais, er mwyn Crist, yn golled. Eithr, yn wir, yr wyf yn cyfrif pob peth yn golled o herwydd rhagoroldeb gwybodaeth Crist Iesu fy Arglwydd, er mwyn yr Hwn pob peth a gollwyd i mi, ac eu cyfrif yn dom yr wyf, fel y bo Crist wedi Ei ennill genyf, ac y’m caffer Ynddo Ef, nid a chenyf fy nghyfiawnder y sydd o’r Gyfraith, eithr yr hwn sydd trwy ffydd yng Nghrist, y cyfiawnder oddiwrth Dduw trwy ffydd; er mwyn Ei adnabod Ef, a gallu Ei adgyfodiad, a chymdeithas Ei ddioddefiadau, gan gyd-ffurfio fy hun â’i farwolaeth Ef, os mewn rhyw fodd y cyrhaeddaf yr adgyfodiad oddiwrth y meirw. Nid fy mod eisoes wedi cael, neu eisoes wedi fy mherffeithio; ond dilyn yr wyf, os hefyd yr ymaflwyf yn y peth er mwyn yr hwn yr ymaflwyd ynof hefyd gan Grist Iesu. Brodyr, myfi a gyfrifaf fy hun na fu i mi etto ymaflyd; ond un peth, gan anghofio y pethau sydd o’r tu cefn, a chan ymestyn at y pethau sydd o’r tu blaen, at y nod yr wyf yn dilyn, at gamp galwedigaeth fry Duw yng Nghrist Iesu. Cynnifer o honom, gan hyny, ag sydd berffaith, hyn syniwn; ac os rhyw ffordd arall y syniwch ddim, hyn hefyd y bydd i Dduw ei ddatguddio i chwi: er hyny, at yr hyn y daethom, yn yr unrhyw cerddom. Byddwch efelychwyr i mi, frodyr, ac edrychwch ar y rhai sy’n rhodio felly, fel y mae genych ni yn siampl: canys llawer sy’n rhodio, am y rhai mynych y dywedais wrthych, ac yn awr, ïe, dan wylo, yr wyf yn dywedyd, mai gelynion croes Crist ydynt, diwedd y rhai yw distryw, Duw y rhai yw eu bol, a’u gogoniant yn eu cywilydd; y rhai, y pethau daearol a syniant; canys ein dinasyddiaeth ni, yn y nefoedd y mae; o’r lle y disgwyliwn hefyd iachawdwr, yr Arglwydd Iesu Grist, yr Hwn a ddull-newidia gorph ein hymostyngiad i fod yn un-ffurf â chorph Ei ogoniant, yn ol gweithrediad Ei allu i ddarostwng pob peth Iddo Ei hun. Felly, fy mrodyr anwyl, ac mewn hiraeth genyf, fy llawenydd a’m coron, felly sefwch yn yr Arglwydd, anwylyd. I Euodia yr attolygaf, ac i Suntuche yr attolygaf, fod â’r un synied ganddynt yn yr Arglwydd. Ie, gofyn yr wyf i ti hefyd, wir gymmar, gymmorth y gwragedd hyn, y rhai a gyd-lafuriasant yn yr Efengyl â mi, ynghyda Chlement hefyd a’m cyd-weithwyr eraill, y rhai y mae eu henwau yn llyfr y bywyd. Llawenychwch yn yr Arglwydd yn wastadol. Trachefn dywedaf, Llawenychwch. Bydded eich uniondeb yn hyspys i bob dyn. Yr Arglwydd, agos yw. Am ddim na phryderwch; eithr ymhob peth mewn gweddi ac ymbil ynghyda diolchgarwch, gwneler eich deisyfiadau yn hyspys ger bron Duw; a thangnefedd Dduw, yr hwn sydd uwchlaw pob deall, a geidw eich calonnau a’ch meddyliau yng Nghrist Iesu. Yn ddiweddaf, frodyr, cynnifer bethau ag sydd wir, cynnifer ag sydd ardderchog, cynnifer ag sydd gyfiawn, cynnifer ag sydd bur, cynnifer ag sydd hawddgar, cynnifer ag sydd ganmoladwy; od oes dim rhinwedd, ac od oes dim clod, am y pethau hyn meddyliwch. Ac y pethau a ddysgasoch, ac a dderbyniasoch, ac a glywsoch, ac a welsoch ynof, y pethau hyn gwnewch; a Duw’r heddwch fydd gyda chwi. Llawenychais yn yr Arglwydd yn fawr o herwydd yn awr adfywio o honoch synied trosof; am yr hyn y syniasoch, ond amser cyfaddas nid oedd genych. Nid mai yn ol diffyg yr wyf yn dywedyd, canys myfi a ddysgais ym mha bethau bynnag yr wyf, fod yn foddlawn. Gwn pa sut i’m hiselu, gwn hefyd pa sut i fod ag helaethrwydd genyf; ym mhob dim, ac ym mhob peth, y’m haddysgwyd i fod yn llawn ac i fod yn newynog, ac i fod ag helaethrwydd genyf, ac i fod mewn eisiau. Pob peth a fedraf trwy’r Hwn sydd yn fy nerthu. Er hyny, da y gwnaethoch gan cydgyfrannogi â’m gorthrymder i; a gwybod yr ydych chwi hefyd, Philippiaid, yn nechreuad yr Efengyl, pan aethum allan o Macedonia, nad oedd un eglwys a gyd-gyfrannogodd â myfi o ran rhoddi a derbyn, oddieithr chwychwi yn unig, canys hyd yn oed yn Thessalonica, unwaith a dwywaith hefyd, at fy anghenrhaid y danfonasoch i mi. Nid am fy mod yn ceisio’r rhodd, eithr ceisio yr wyf y ffrwyth sy’n amlhau erbyn eich cyfrif. Genyf y mae pob peth, ac mewn helaethrwydd: llanwyd fi, wedi derbyn gan Epaphroditus y pethau oddi wrthych, arogl peraidd, aberth cymmeradwy, boddlawn gan Dduw. Ac fy Nuw a gyflawna eich holl raid chwi, yn ol Ei olud mewn gogoniant, yng Nghrist Iesu. Ac i’n Duw a’n Tad byddo’ r gogoniant yn oes oesoedd. Amen. Annerchwch yr holl saint yng Nghrist Iesu. Eich annerch y mae’r brodyr sydd gyda mi. Eich annerch y mae’r holl saint, ac yn enwedig y rhai o dylwyth Cesar. Gras yr Arglwydd Iesu Grist fyddo gyda’ch yspryd chwi. Paul, apostol i Grist Iesu trwy ewyllys Duw, a Thimothëus ein brawd, at y saint a’r brodyr ffyddlawn yng Nghrist, y rhai sydd yn Colossa: gras i chwi a thangnefedd oddiwrth Dduw ein Tad. Diolch yr ydym i Dduw, Tad ein Harglwydd Iesu Grist, gan weddïo yn wastadol drosoch, wedi clywed am eich ffydd yng Nghrist Iesu, ac am y cariad y sydd genych tuag at yr holl saint; o achos y gobaith a roddwyd i gadw i chwi yn y nefoedd, am yr hwn y clywsoch o’r blaen yngair gwirionedd yr Efengyl, yr hon a ddaeth attoch, fel y mae hefyd yn yr holl fyd yn dwyn ffrwyth ac yn cynnyddu, yn yr un modd ag yn eich plith chwi er y dydd y clywsoch am, ac y gwybuoch, ras Duw mewn gwirionedd; fel y dysgasoch gan Epaphras ein cyd-was anwyl, yr hwn sydd drosoch chwi yn ffyddlawn weinidog i Grist; yr hwn hefyd a amlygodd i ni eich cariad yn yr Yspryd. O herwydd hyn, nyni hefyd er y dydd y clywsom, ni pheidiwn â gweddïo drosoch chwi, ac â deisyf y’ch cyflawner â gwybodaeth Ei ewyllys Ef ymhob doethineb a deall ysprydol, i rodio yn deilwng o’r Arglwydd i bob rhyngu bodd, gan ddwyn ffrwyth ym mhob gweithred dda, a chan gynnyddu yngwybodaeth am Dduw; yn cael eich nerthu â phob nerth yn ol cadernid Ei ogoniant, i bob dioddefgarwch a hir-ymaros gyda llawenydd; gan ddiolch i’r Tad yr Hwn a’n cymmwysodd i ran o etifeddiaeth y saint yn y goleuni; yr Hwn a’n gwaredodd o feddiant y tywyllwch, ac a’n trosglwyddodd i deyrnas Mab Ei gariad, yn yr Hwn y mae genym ein prynedigaeth, maddeuant ein pechodau, yr Hwn yw llun y Duw anweledig, cyntaf-anedig yr holl greedigaeth, canys Ynddo Ef y crewyd pob peth, yn y nefoedd ac ar y ddaear, y pethau gweledig a’r rhai anweledig, pa un bynnag ai thronau, ai arglwyddiaethau, ai tywysogaethau, ai awdurdodau; yr oll, Trwyddo Ef ac Iddo Ef y’u crewyd; ac Efe sydd cyn na’r cwbl; a’r cwbl Ynddo Ef y cyd-safant. Ac Efe yw Pen y Corph, yr Eglwys, yr Hwn yw’r dechreuad, y cyntaf-anedig o’r meirw, fel ymhob peth y byddo Efe yn blaenori; canys Ynddo Ef y boddlonwyd y Tad ar i’r holl gyflawnder drigo, a Thrwyddo Ef gymmodi pob peth ag Ef Ei hun, wedi gwneuthur heddwch trwy waed Ei groes Ef, ïe, Trwyddo Ef, pa un bynnag ai’r pethau ar y ddaear, ai’r pethau yn y nefoedd. A chwychwi a oeddych gynt wedi ymddieithrio ac yn elynion yn eich meddwl yn eich gweithredoedd drwg, er hyny, yn awr a gymmododd Efe, ynghorph Ei gnawd trwy farwolaeth, i’ch cyflwyno yn sanctaidd ac yn ddianaf, ac yn ddiargyhoedd ger Ei fron, os parhewch yn y ffydd, wedi eich seilio ac yn ddiymmod, ac heb eich symmud ymaith oddiwrth obaith yr Efengyl, yr hon a glywsoch, yr hon a bregethwyd yn yr holl greedigaeth y sydd tan y nef, i’r hon y’m gwnaethpwyd i, Paul, yn weinidog. Yn awr, llawenychu yr wyf yn fy nioddefiadau drosoch, ac yn cyflawni yr hyn sydd ar ol o gystuddiau Crist yn fy nghnawd, er mwyn Ei gorph Ef, yr hwn yw’r Eglwys, i’r hon y’m gwnaethpwyd i yn weinidog yn ol disdeiniaeth Duw, yr hon a roddwyd i mi tuag attoch, i gyflawni gair Duw, y dirgelwch a oedd guddiedig rhag yr oesoedd, a rhag y cenhedlaethau; ond yn awr yr eglurwyd ef i’w saint Ef, i’r rhai yr ewyllysiodd Duw hyspysu pa beth yw golud gogoniaut y dirgelwch hwn ymhlith y cenhedloedd, yr hwn ddirgelwch yw Crist ynoch, gobaith y gogoniant, yr hwn yr ydym ni yn Ei gyhoeddi, gan gynghori pob dyn, a chan ddysgu pob dyn ym mhob doethineb, fel y cyflwynom bob dyn yn berffaith yng Nghrist, am yr hyn hefyd yr wyf yn llafurio, gan ymdrechu yn ol Ei weithrediad Ef yr hon sy’n gweithredu ynof gyda nerth. Canys ewyllysio yr wyf i chwi wybod cymmaint ymdrech sydd arnaf trosoch chwi a’r rhai yn Laodicea, a chynnifer ag na welsant fy ngwyneb yn y cnawd, fel y diddaner eu calonnau, a hwy wedi eu cyd-gyssylltu mewn cariad, ac i holl olud llawn-sicrwydd y deall, er gwybodaeth dirgelwch Duw, sef Crist, yn yr Hwn y mae holl drysorau doethineb a gwybodaeth yn guddiedig. Hyn a ddywedaf, fel na bo i neb eich twyllo ag ymadrodd darbwyllawl: canys os yn y cnawd yr wyf absennol; er hyny, yn yr yspryd, gyda chwi yr wyf, yn llawenychu a gweled eich trefn a dianwadalwch eich ffydd yng Nghrist. Gan hyny, fel y derbyniasoch Grist Iesu yr Arglwydd, Ynddo rhodiwch, wedi eich gwreiddio a’ch adeiladu Ynddo, ac wedi eich sefydlu yn eich ffydd, fel y’ch dysgwyd, yn orlawn o dalu diolch. Edrychwch na fydd neb yn gwneuthur yspail o honoch trwy ei philosophi a gwag hocced, yn ol traddodiad dynion, yn ol egwyddorion y byd, ac nid yn ol Crist; canys Ynddo Ef y trig holl gyflawnder y Duwdod yn gorphorol, ac Ynddo Ef yr ydych wedi eich cyflawni, yr Hwn yw pen pob tywysogaeth ac awdurdod; yn yr Hwn hefyd yr amdorrwyd arnoch ag amdorriad nid o waith llaw, wrth ddodi ymaith gorph y cnawd, yn amdorriad Crist, wedi eich claddu gydag Ef yn y bedydd, yn yr hwn y’ch cyd-gyfodwyd hefyd trwy ffydd yngweithrediad Duw, yr Hwn a’i cyfododd Ef o’r meirw. A chwychwi, a chwi yn feirw trwy eich camweddau a diamdorriad eich cnawd, bywhaodd Efe chwi ynghydag Ef, wedi maddeu i ni ein holl gamweddau, wedi dileu yr ysgrifen mewn ordeiniadau, yr hon oedd yn ein herbyn; a hi a gymmerodd Efe allan o’r ffordd, gan ei hoelio wrth y groes; wedi diosg y tywysogaethau a’r awdurdodau, arddangosodd hwynt ar gyhoedd, gan ymorfoleddu arnynt arni hi. Gan hyny, na fydded i neb eich barnu chwi mewn bwyd nac mewn yfed, nac o ran dydd gwyl neu newydd-loer, neu ddydd-Sabbath; y rhai ydynt gysgod y pethau ar ddyfod; ond y corph, eiddo Crist yw. Na fydded i neb eich yspeilio o’ch gwobr, o’i wirfodd, trwy ostyngeiddrwydd ac addoli angylion, gan sefyll ar y pethau na welodd, yn ofer-chwyddo gan feddwl ei gnawd, ac heb ddal ei afael yn y Pen, o’r Hwn y mae’r holl gorph, yn cael ei gyflenwi a’i gyd-gyssylltu trwy’r cymmalau a’r cyssylltiadau, yn cynnyddu â chynnydd Duw. Os buoch feirw gyda Christ oddiwrth egwyddorion y byd, paham, fel yn byw yn y byd, y mae’r ordeiniadau genych, Na chyffwrdd, Nac archwaetha, Na theimla, (y rhai ydynt oll er llygredigaeth wrth eu harfer,) yn ol gorchymynion ac athrawiaethau dynion; y rhai sydd a chanddynt yn wir rith doethineb mewn addoliad gwirfoddol a gostyngeiddrwydd a diarbedrwydd y corph, nid mewn neb rhyw werth o ran digonedd y cnawd. Gan hyny, os cyd-gyfodwyd chwi gyda Christ, y pethau sydd uchod ceisiwch, lle y mae Crist ar ddeheulaw Duw yn Ei eistedd; y pethau sydd uchod syniwch, nid y pethau ar y ddaear; canys wedi marw yr ydych, a’ch bywyd a guddiwyd gyda Christ yn Nuw. Pan fydd i Grist Ei amlygu, ein bywyd ni, yna chwychwi hefyd a amlygir ynghydag Ef mewn gogoniant. Marwhewch, gan hyny, eich aelodau y sydd ar y ddaear, godineb, aflendid, gwŷn, dryg-chwant, a chybydd-dod, yr hon sydd eulun-addoliaeth, o herwydd y rhai dyfod y mae digofaint Duw ar feibion anufudd-dod; yn y rhai yr oeddych chwithau hefyd yn rhodio gynt, pan oeddych yn byw ynddynt; ond yn awr rhoddwch chwithau hefyd ymaith yr holl bethau hyn, digter, llid, drygioni, cabledd, ymadrodd cywilyddus, allan o’ch genau: na chelwyddwch wrth eich gilydd, wedi diosg o honoch yr hen ddyn, ynghyda’i weithredoedd, ac wedi rhoddi am danoch y newydd y sy’n cael ei adnewyddu i wybodaeth yn ol llun yr Hwn a’i creodd ef; yn yr Hwn nid oes Groegwr ac Iwddew, amdorriad a diamdorriad, Barbariad a Scuthiad, caethwas a rhydd, eithr yr oll, ac yn yr oll, y mae Crist. Rhoddwch am danoch, gan hyny, megis etholedigion Duw, sanctaidd ac anwyl, ymysgaroedd trugaredd, cymmwynasgarwch, gostyngeiddrwydd, addfwynder, hir-ymaros, gan gyd-ddwyn â’ch gilydd, a chan faddeu i’ch gilydd, os yw neb a chanddo gwyn yn erbyn neb; fel y bu i’ r Arglwydd faddeu i chwi, felly maddeuwch chwithau hefyd. A thros yr holl rai hyn rhoddwch am danoch gariad, yr hwn yw cyd-gyssylltiad perffeithrwydd. A bydded i dangnefedd Crist lywodraethu yn eich calonnau, i’r hwn hefyd y’ch galwyd mewn un corph; a byddwch ddiolchgar. Bydded i air Crist drigo ynoch yn oludog; ymhob doethineb yn dysgu a chynghori eich gilydd â psalmau, hymnau, ac odlau ysprydol; trwy ras yn canu yn eich calonnau i Dduw. A phob peth o’r a wneloch, ar air neu ar weithred, bydded yr oll yn enw’r Arglwydd Iesu, gan ddioch i Dduw Dad Trwyddo Ef. Y gwragedd ymostyngwch i’ch gwŷr, fel y gwedda yn yr Arglwydd. Y gwŷr, cerwch eich gwragedd, ac na fyddwch chwerwon yn eu herbyn. Y plant, ufuddhewch i’ch rhieni ym mhob peth, canys hyn sydd foddlonol yn yr Arglwydd. Y tadau, na chyffrowch eich plant fel na ddigalonnont. Y gweision ufuddhewch ym mhob peth i’ch meistriaid yn ol y cnawd; nid â llygad-wasanaeth fel boddlonwyr dynion, eithr mewn symlrwydd calon, gan ofni’r Arglwydd: pa beth bynnag a wneloch, o’r galon gweithredwch, megis i’r Arglwydd ac nid i ddynion; gan wybod mai gan yr Arglwydd y derbyniwch daledigaeth yr etifeddiaeth; yr Arglwydd Crist yr ydych yn ei wasanaethu; canys yr hwn sy’n gwneuthur cam a gaiff yr hyn a wnaeth efe ar gam, ac nid oes derbyn gwyneb. Y meistriaid, yr hyn sydd gyfiawn a chyfartalwch rhoddwch i’ch gweision, gan wybod fod genych chwithau hefyd Feistr yn y nef. Parhewch mewn gweddi, gan wylied ynddi gyda thalu diolch, gan weddïo hefyd drosom ni, ar i Dduw agor i ni ddrws i’r Gair, i lefaru dirgelwch Crist, o achos yr hwn y’m rhwymwyd hefyd, fel yr amlygwyf ef fel y dylwn lefaru. Rhodiwch mewn doethineb tuag at y rhai oddiallan, gan brynu’r amser. Bydded eich ymadrodd bob amser mewn gras, wedi ei dymheru â halen, fel y gwypoch pa fodd y dylech atteb i bob dyn. Fy holl helynt i a hyspysa Tuchicus i chwi, y brawd anwyl a’r gweinidog ffyddlawn a chyd-was yn yr Arglwydd; yr hwn a ddanfonais attoch er mwyn y peth hwn ei hun, fel y gwypoch ein helynt, ac y diddano eich calonnau, ynghydag Onesimus y brawd ffyddlawn ac anwyl, yr hwn sydd o honoch. Yr oll a hyspysant i chwi, o ran y pethau sydd yma. Eich annerch y mae Aristarchus fy nghyd-garcharor, a Marcus cefnder Barnabas (am yr hwn y derbyniasoch orchymynion; os daw attoch, derbyniwch ef,) ac Ieshua, yr hwn a elwir Iwstus, y rhai ydynt o’r amdorriad. Y rhai hyn yn unig yw fy nghyd-weithwyr i deyrnas Dduw, y rhai a fuant yn gysur i mi. Eich annerch y mae Epaphras, yr hwn sydd o honoch, gwas i Iesu Grist, bob amser yn ymdrechu trosoch yn ei weddïau, ar sefyll o honoch yn berffaith, ac wedi eich llawn-berswadio yn holl ewyllys Duw; canys tystiolaethaf iddo fod ganddo lafur lawer trosoch chwi a’r rhai yn Laodicea a’r rhai yn Hierapolis. Eich annerch y mae Luc, y meddyg anwyl, a Demas. Annerchwch y brodyr sydd yn Laodicea, a Numphas, a’r eglwys sydd yn eu tŷ. Ac wedi darllen yr epistol hwn gyda chwi, perwch ei ddarllen hefyd yn eglwys y Laodiceaid, a darllen o honoch chwithau hefyd hwnw o Laodicea; a dywedwch wrth Archippus, Edrych at y weinidogaeth a dderbyniaist yn yr Arglwydd, ar ei chyflawni o honot. Yr annerch â’m llaw i Paul fy hun. Cofiwch fy rhwymau. Gras fyddo gyda chwi. Paul a Silfanus a Thimotheus, at eglwys y Thessaloniaid yn Nuw Dad a’r Arglwydd Iesu Grist: gras i chwi a thangnefedd. Diolch yr ydym i Dduw yn wastadol drosoch chwi oll, gan wneuthur coffa am danoch yn ein gweddïau, gan gofio yn ddibaid waith eich ffydd chwi, a llafur eich cariad, ac ymaros eich gobaith yn ein Harglwydd Iesu Grist, ger bron ein Duw a Thad; gan wybod, frodyr anwyl gan Dduw, eich etholedigaeth, na fu i’n Hefengyl ddyfod attoch mewn gair yn unig, eithr hefyd mewn gallu, ac yn yr Yspryd Glân, ac mewn sicrwydd mawr, fel y gwyddoch pa fath rai a fuom i chwi er eich mwyn, a chwi a aethoch yn efelychwyr i ni ac i’r Arglwydd, wedi derbyn y Gair mewn gorthrymder lawer, gyda llawenydd yr Yspryd Glân, fel yr aethoch yn siampl i’r rhai oll sy’n credu ym Macedonia ac yn Achaia: canys oddiwrthych chwi y seiniodd Gair yr Arglwydd, nid yn unig ym Macedonia ac Achaia, eithr ym mhob man eich ffydd tuag at Dduw a aeth allan, fel nad oes arnom raid i lefaru dim; canys hwy eu hunain sy’n mynegi am danom ni pa ryw ddyfodiad i mewn a gawsom attoch, a pha fodd y troisoch at Dduw oddiwrth yr eulunod i wasanaethu Duw byw a gwir, ac i ddisgwyl am Ei Fab o’r nefoedd, yr Hwn a gyfododd Efe o’r meirw, Iesu, yr hwn sydd yn ein gwaredu o’r digofaint sydd yn dyfod. Canys chwi eich hunain a wyddoch, frodyr, ein dyfodiad i mewn attoch, nad ofer fu; eithr wedi dioddef o’r blaen, a’n sarhau, fel y gwyddoch, yn Philippi, buom hy yn ein Duw i lefaru wrthych Efengyl Dduw mewn mawr ymdrech. Canys ein cyngor, nid o gam-arwain yr ydoedd, nac o aflendid, nac mewn twyll; eithr fel y’n cymmeradwywyd gan Dduw i ymddiried i ni am yr Efengyl, felly yr ydym yn llefaru, nid fel yn rhyngu bodd i ddynion, eithr i Dduw, yr Hwn sydd yn profi ein calonnau. Canys ni fuom un amser mewn ymadrodd gwenhieithus, fel y gwyddoch; nac mewn rhith cybydd-dod, Duw sydd dyst; nac yn ceisio gogoniant gan ddynion, na chenych chwi na chan eraill; a ni yn gallu bod yn bwys arnoch, megis apostolion Crist; eithr buom addfwyn yn eich mysg fel pan fydd mammaeth yn maethu ei phlant ei hun; felly gan eich hoffi, boddlawn oeddym i gyfrannu i chwi nid yn unig Efengyl Dduw, eithr hefyd ein heneidiau ein hunain, am mai anwyl oeddych genym. Canys cof yw genych, frodyr, ein llafur a’n lludded: gan weithio nos a dydd, fel na phwysem ar neb o honoch, pregethasom i chwi Efengyl Dduw. Chwychwi ydych dystion, a Duw hefyd, mor sanctaidd a chyfiawn a difeius yr ymddygasom tuag attoch chwi y sy’n credu; fel y gwyddoch y modd yr ymddygasom tua phob un o honoch, fel tad tuag at ei blant ei hun, gan eich cynghori, a’ch diddanu, a thystiolaethu, fel y rhodiech yn deilwng i Dduw, yr Hwn sydd yn eich galw i’w deyrnas Ei hun a gogoniant. Ac o achos hyn yr ydym ni hefyd yn diolch i Dduw yn ddibaid, o herwydd wedi derbyn o honoch y gair a glywsoch genym, sef Gair Duw, derbyniasoch ef nid megis gair dynion, eithr (fel y mae yn wir) megis Gair Duw, yr hwn sydd hefyd yn gweithio ynoch chwi y sy’n credu; canys chwychwi a aethoch yn efelychwyr, frodyr, i eglwysi Duw y sydd yn Iwdea yng Nghrist Iesu; canys yr un pethau a ddioddefasoch chwi hefyd gan eich cyd-genedl, fel hwythau hefyd gan yr Iwddewon, y rhai a laddasant yr Arglwydd Iesu a’r prophwydi, ac a’n herlidiasant ninnau, ac i Dduw nid ydynt yn rhyngu bodd, ac i bob dyn y maent yn wrthwynebus; yn gwarafun i ni lefaru wrth y cenhedloedd fel yr achubid hwy, i gyflawni eu pechodau eu hunain yn wastadol; ac arnynt y daeth digofaint Duw hyd yr eithaf. A ninnau, frodyr, wedi ein hamddifadu o honoch am ennyd awr, mewn gwyneb, nid mewn calon, a fuom fwy dros ben o astud i weled eich gwyneb, gydag awydd mawr; o herwydd paham ewyllysiasom ddyfod attoch, myfi Paul yn wir unwaith a dwywaith, a lluddiodd Satan ni. Canys pa beth yw ein gobaith ni, neu ein llawenydd, neu goron ein hymffrost? Onid chwychwi yw, ger bron ein Harglwydd Iesu yn Ei ddyfodiad Ef? canys chwychwi yw ein gogoniant a’n llawenydd. Am hyny heb ymattal yn hwy, bu foddlawn genym ein gadael yn Athen, yn unig; a danfonasom Timothëus, ein brawd, a gweinidog Duw yn Efengyl Crist, i’ch sefydlu a’ch diddanu chwi ynghylch eich ffydd; nad ysgydwer neb gan y gorthrymderau hyn, canys chwi eich hunain a wyddoch mai i hyn y’n gosodwyd; canys pan gyda chwi yr oeddym, rhag-ddywedasom i chwi ein bod ar fedr ein gorthrymmu, fel y digwyddodd ac y gwyddoch. O herwydd hyn myfi hefyd, heb ymattal yn hwy, a ddanfonais er mwyn gwybod eich ffydd, rhag mewn modd yn y byd ddarfod i’r temtiwr eich temtio, ac yn ofer yr aethai ein llafur. Ond wedi dyfod o Timothëus yn awr attom oddiwrthych, a mynegi i ni newyddion da am eich ffydd a’ch cariad, a bod genych goffa da am danom yn wastadol, gan hiraethu am ein gweled, fel yr ydym ninnau hefyd am danoch chwi; o achos hyn diddanwyd ni, frodyr, o’ch rhan chwi, yn ein holl angenoctid a gorthrymder, trwy eich ffydd chwi, canys yn awr byw ydym, os ydych chwi yn sefyll yn yr Arglwydd. Canys pa ddiolch a allwn ni ei ad-dalu i Dduw am danoch am yr holl lawenydd â’r hwn y llawenychwn o’ch achos ger bron ein Duw, gan weddïo, nos a dydd, tros bob mesur, am weled eich gwyneb chwi, a pherffeithio diffygion eich ffydd? A Duw Ei hun a’n Tad, ac ein Harglwydd Iesu, a gyfarwyddo ein ffordd attoch; a’r Arglwydd a’ch lliosogo chwithau, ac a baro i chwi fod yn helaeth mewn cariad i’ch gilydd, ac i bawb, fel yr ydym ninnau hefyd i chwi, er mwyn sefydlu eich calonnau chwi yn ddifeius mewn sancteiddrwydd ger bron Duw a’n Tad, yn nyfodiad ein Harglwydd Iesu gyda’i holl saint. Yn ddiweddaf, gan hyny, frodyr, attolygwn i chwi, a deisyfiwn yn yr Arglwydd Iesu, fel y derbyniasoch genym pa fodd y dylech rodio a rhyngu bodd Duw, fel hefyd yr ydych yn rhodio, y bo i chwi ymhelaethu fwy-fwy, canys gwyddoch pa orchymynion a roddasom i chwi trwy’r Arglwydd Iesu; canys hyn yw ewyllys Duw, sef eich sancteiddiad, ar ymgadw o honoch oddiwrth odineb, ar wybod o bob un o honoch pa fodd i feddiannu ei lestr ei hun mewn sancteiddrwydd ac anrhydedd, nid yngwyn trachwant fel y cenhedloedd y sydd heb adnabod Duw; ar beidio â throseddu na gwneuthur cam â’i frawd mewn dim, canys dialydd yw’ r Arglwydd am yr holl bethau hyn, fel y rhag-rybuddiasom chwi hefyd, ac y tystiasom; canys ni alwodd Duw nyni i aflendid, eithr mewn sancteiddrwydd. Gan hyny, yr hwn sy’n gwrthod, nid dyn y mae yn ei wrthod, eithr Duw, yr Hwn sy’n rhoddi ei Yspryd Glân ynom. Ond am frawdgarwch nid oes genych raid wrth ysgrifenu attoch, canys chwi eich hunain ydych wedi eich dysgu gan Dduw i garu eich gilydd; canys gwneuthur hyn yr ydych i’r holl frodyr y sydd yn holl Macedonia, a chynghorwn chwi, frodyr, i ymhelaethu fwy-fwy, ac i roddi eich bryd ar fod yn llonydd, a gwneuthur eich goruchwylion eich hunain, a gweithio â’ch dwylaw, fel y gorchymynasom i chwi; fel y rhodioch yn weddaidd tuag at y rhai oddi allan, ac na bo arnoch eisiau dim. Ond nid ewyllysiwn i chwi fod heb wybod, frodyr, am y rhai sy’n huno, fel na thristaoch yn y modd y gwna’r lleill y sydd heb ganddynt obaith; canys os credu yr ydym y bu i’ r Iesu farw ac adgyfodi; felly hefyd y rhai a hunasant yn yr Iesu, Duw a’u dwg gydag Ef. Canys hyn a ddywedwn wrthych chwi trwy air yr Arglwydd, Nyni y rhai byw, y sy’n cael ein gadael hyd ddyfodiad yr Arglwydd, ni rag-flaenwn y rhai a hunasant; canys yr Arglwydd Ei hun gyda bloedd, gyda llef arch-angel, a chydag udgorn Duw, a ddaw i wared o’r nef; a’r meirw yng Nghrist a gyfodant yn gyntaf; wedi hyny nyni, y rhai byw, y rhai sy’n cael ein gadael, ynghyda hwynt y’n cipir i fynu, yn y cymmylau i’r awyr, i gyfarfod â’r Arglwydd, ac felly yn wastadol ynghyda’ r Arglwydd y byddwn. Am hyny, diddenwch eich gilydd â’r ymadroddion hyn. Ond am yr amserau a’r prydiau, frodyr, nid oes arnoch raid ysgrifenu attoch chwi, canys chwi eich hunain a wyddoch yn gywir, am ddydd yr Arglwydd, fel lleidr yn y nos, mai felly y mae ar ddyfod; pan ddywedont, Heddwch a diogelwch sydd, yna yn ddisymmwth y mae arnynt ddinystr, fel gwewyr esgor ar yr hon sydd feichiog, ac ni ddiengant ddim. Ond chwychwi, frodyr, nid ydych mewn tywyllwch, fel y bo i’r dydd eich goddiweddu chwi fel lleidr, canys yr oll o honoch chwi, meibion y goleuni ydych, a meibion y dydd; nid ydym eiddo’ r nos na’ r tywyllwch; gan hyny, ynte, na chysgwn fel y lleill, eithr gwyliwn a byddwn sobr; canys y rhai a gysgant, y nos y cysgant; a’r rhai sy’n meddwi, y nos y meddwant; ond nyni, a ni yn eiddo’ r dydd, byddwn sobr, wedi rhoddi am danom ddwyfronneg ffydd a chariad; ac megis helm, obaith iachawdwriaeth; canys ni osododd Duw nyni i ddigofaint, eithr i gael iachawdwriaeth trwy ein Harglwydd Iesu Grist, yr Hwn a fu farw drosom, fel pa un bynnag ai gwylied ai cysgu y b’om, ynghydag Ef y byddom fyw. Gan hyny, cynghorwch eich gilydd, ac adeiledwch y naill y llall, fel hefyd yr ydych yn gwneud. Ac attolygwn i chwi, frodyr, adnabod y rhai sy’n llafurio yn eich plith, ac sydd trosoch yn yr Arglwydd, ac yn eich cynghori, a gwneuthur cyfrif tra-mawr o honynt mewn cariad o achos eu gwaith. Byddwch heddychlawn â’ch gilydd. A galwn arnoch, frodyr, cynghorwch y rhai afreolus; cysurwch y gwan eu calon; cynheliwch y gweiniaid; byddwch ymarhous wrth bawb. Edrychwch na bo i neb dalu drwg am ddrwg i neb; eithr yn wastadol dilynwch yr hyn sy dda tuag at eich gilydd a thuag at bawb. ym mhob peth diolchwch, canys hyn yw ewyllys Duw yng Nghrist Iesu tuag attoch. Yr Yspryd na ddiffoddwch; yr hyn sy dda deliwch; rhag pob rhith drygioni ymgedwch. A Duw’r tangnefedd Ei hun a’ch sancteiddio yn gwbl oll; a’ch yspryd chwi a’ch enaid a’ch corph a gadwer yn gyfan, yn ddifeius yn nyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist. Ffyddlawn yw’r Hwn sydd yn eich galw, yr Hwn hefyd a’ i gwna. Brodyr, gweddïwch drosom. Annerchwch y brodyr oll â chusan sancteiddiol. Tynghedaf chwi yn yr Arglwydd y darllener yr epistol hwn i’r holl frodyr. Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda chwi. Paul a Silfanus a Thimothëus at eglwys y Thessaloniaid yn Nuw ein Tad a’r Arglwydd Iesu Grist. Gras i chwi a thangnefedd oddiwrth Dduw Dad a’r Arglwydd Iesu Grist. Diolch a ddylem i Dduw yn wastadol am danoch, frodyr, fel addas yw, gan mai mawr-gynnyddu y mae eich ffydd, ac ychwanegu y mae cariad pob un o’r oll o honoch tuag at eich gilydd, fel yr ydym ni ein hunain yn ymffrostio ynoch chwi yn eglwysi Duw o herwydd eich amynedd a ffydd, yn eich holl erlidiau a’r gorthrymderau yr ydych yn eu goddef, yr hyn sydd argoel eglur o gyfiawn farn Duw, fel y’ch cyfrifer yn deilwng o deyrnas Dduw, tros yr hon yr ydych yn dioddef, gan mai cyfiawn yw gyda Duw, dalu i’r rhai sydd yn eich gorthrymmu orthrymder, ac i chwi a orthrymmir ysgafnhad ynghyda ni yn natguddiad yr Arglwydd Iesu o’r nef ynghydag angylion Ei allu, mewn tân fflamllyd, gan roddi dial i’r rhai nad adwaenant Dduw, ac nad ufuddhant i Efengyl ein Harglwydd Iesu, y rhai a dalant y gosp, sef dinystr tragywyddol ymaith oddiwrth wyneb yr Arglwydd, ac oddiwrth ogoniant Ei nerth, pan ddelo i’w ogoneddu yn Ei saint, ac i’w ryfeddu yn yr holl rai a gredasant (canys credwyd ein tystiolaeth i chwi) yn y dydd hwnw. Ac er mwyn hyn, gweddïo hefyd yr ydym yn wastadol drosoch, fel eich cyfrif chwi yn deilwng o’ch galwedigaeth a fo i’n Duw, ac y cyflawno bob boddlonrwydd daioni a gwaith ffydd, gyda gallu; fel y gogonedder enw ein Harglwydd Iesu Grist ynoch, a chwithau Ynddo Ef, yn ol gras ein Duw a’r Arglwydd Iesu. Ac attolygwn i chwi, frodyr, o ran dyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist, a’n cyd-gynnulliad ninnau atto Ef, na’ch sigler yn fuan oddiwrth eich meddwl, na’ch cythryflu na chan yspryd, na chan air, na chan epistol megis oddi wrthym, mai agos yw dydd yr Arglwydd. Na fydded i neb eich twyllo chwi mewn un modd; canys heb ddyfod o’r ymadawiad yn gyntaf ni ddaw, nac heb ei ddatguddio o ddyn pechod, mab y golledigaeth, yr hwn sy’n gwrthwynebu, ac yn ymddyrchafu yn erbyn yr oll a elwir yn Dduw, neu a addolir, fel mai yn nheml Dduw y mae efe yn eistedd, gan ddangos ei hun ei fod yn dduw. Oni chofiwch, tra’r oeddwn etto gyda chwi, y pethau hyn a ddywedais wrthych? Ac yn awr, yr hyn sy’n attal a wyddoch, fel y datguddier ef yn ei bryd ei hun. Canys y dirgelwch sydd eisoes yn gweithio, sef dirgelwch anghyfraith; yn unig yr hwn sy’n attal yn awr nes myned ymaith o hono —: ac yna y datguddir yr anghyfraith-ddyn, yr hwn, yr Arglwydd Iesu a’i difetha ag anadl Ei enau, ac a’i diddymma ag amlygiad Ei ddyfodiad: ac y mae ei ddyfodiad ef yn ol gweithrediad Satan, gyda phob gallu ac arwyddion a rhyfeddodau celwyddog, a chyda phob twyll anghyfiawnder i’r rhai sy’n myned ar goll, gan na fu i gariad y gwirionedd ei dderbyn ganddynt fel yr achuber hwynt. Ac o herwydd hyn danfon iddynt y mae Duw weithrediad cam-arwain fel y credont y celwyddog; fel y barner pawb na chredasant y gwirionedd, eithr a foddlonwyd mewn anghyfiawnder. Ond nyni a ddylem ddiolch i Dduw yn wastadol trosoch, frodyr caredig gan yr Arglwydd, o herwydd eich dewis gan Dduw o’r dechreuad i iachawdwriaeth yn sancteiddiad yr Yspryd, a ffydd i’r gwirionedd; i’r hyn y galwodd chwi trwy ein Hefengyl, er meddiannu gogoniant ein Harglwydd Iesu Grist. Gan hyny, ynte, frodyr, sefwch, a deliwch y traddodiadau a ddysgasoch, pa un bynnag ai trwy ymadrodd ai trwy ein hepistol. A’n Harglwydd Iesu Grist Ei hun, a Duw ein Tad, yr Hwn a’n carodd ac a roddes i ni ddiddanwch tragywyddol a gobaith da trwy ras, a ddiddano eich calonnau, ac a’ u sicrhao ym mhob gwaith a gair da. Yn ddiweddaf, gweddiwch, frodyr, trosom, ar i air yr Arglwydd redeg a’i ogoneddu fel gyda chwi, ac ar ein hachub oddiwrth y dynion anhywaith a drwg; canys nid gan bawb y mae ffydd; ond ffyddlawn yw’r Arglwydd, yr Hwn a’ch sicrha, ac a’ch ceidw rhag y drwg. Ac hyder sydd genym yn yr Arglwydd am danoch, mai’r pethau a orchymynwn yr ydych yn eu gwneuthur, ac y’u gwnewch. A’r Arglwydd a gyfarwyddo eich calonnau i gariad Duw ac i amynedd Crist. A gorchymyn i chwi yr ydym, frodyr, yn enw ein Harglwydd Iesu Grist, dynnu o honoch ymaith oddiwrth bob brawd y sy’n rhodio yn afreolus, ac nid yn ol y traddodiad a dderbyniasant genym; canys gwyddoch eich hunain pa fodd y dylech ein hefelychu ni, canys ni fuom afreolus yn eich plith, ac nid yn rhad y bwyttasom fara gan neb; eithr mewn llafur a lludded, gan weithio nos a dydd, fel na phwysem ar neb o honoch, nid gan nad oes genym awdurdod, eithr fel y rhoddem ein hunain yn esiampl i chwi fel yr efelychech ni. Canys hefyd pan oeddym gyda chwi, hyn a orchymynasom i chwi, Os yw neb heb ewyllysio gweithio, na fwyttaed chwaith. Canys clywn am rai yn rhodio yn eich plith yn afreolus, heb weithio dim, eithr yn ofer-weithio; ac i’r cyfryw rai y gorchymynwn, ac y’u hannogwn yn yr Arglwydd Iesu Grist, y bo iddynt, gan weithio gyda llonyddwch, fwytta eu bara eu hunain. A chwychwi, frodyr, na ddiffygiwch mewn gwneuthur yr hyn sydd dda. Ac os rhyw un nad ufuddha i’n gair trwy’r epistol, hwnw nodwch, i beidio ag ymgymmysgu ag ef, fel y cywilyddio; ac nid megis gelyn ystyriwch ef, eithr cynghorwch ef megis brawd. Ac Arglwydd yr heddwch Ei hun a roddo i chwi heddwch yn wastadol ym mhob modd. Yr Arglwydd a fo gyda phawb o honoch. Yr annerch â’m llaw i Paul, yr hyn sydd arwydd ym mhob epistol. Felly yr wyf yn ysgrifenu. Gras ein Harglwydd Iesu Grist fo gyda phawb o honoch. Paul, apostol i Grist Iesu yn ol gorchymyn Duw ein Hiachawdwr, ac Iesu Grist ein gobaith, at Timothëus, fy ngwir fab mewn ffydd. Gras, trugaredd, a thangnefedd, oddiwrth Dduw Dad a Christ Iesu ein Harglwydd. Fel y deisyfiais arnat aros yn Ephesus, wrth fyned o honof i Macedonia, fel y gorchymynech i rai beidio â dysgu athrawiaeth arall, a pheidio â dal ar chwedlau ac achau diddiwedd y rhai a finistrant gwestiynau yn hytrach na disdeiniaeth Dduw, yr hon sydd mewn ffydd; ond diwedd y gorchymyn yw cariad o galon bur a chydwybod dda a ffydd ddiragrith; oddiwrth yr hyn bethau rhai a wyrasant ac a droisant ymaith at ofer-siarad, gan ewyllysio bod yn ddysgawdwyr y Gyfraith, heb ddeall na’r pethau a ddywedant, nac am ba bethau y taerant. Ond gwyddom mai da yw’r Gyfraith os bydd i neb ei harfer yn gyfreithlawn, gan wybod hyn, sef nad i’ r cyfiawn y gosodir cyfraith, ond i’r rhai digyfraith ac afreolus, i annuwiolion a phechaduriaid, i’ r rhai disanctaidd a halogedig, i dad-leiddiaid a mam-leiddiaid, i leiddiaid dynion, i butteinwyr, i wrryw-gydwyr, i ladron dynion, i gelwyddwyr, i anudonwyr, ac os rhyw beth arall sydd yn wrthwyneb i’r athrawiaeth iachus, yn ol Efengyl gogoniant y Gwynfydedig Dduw, yr hon a ymddiriedwyd i mi. Diolchgar wyf i’r Hwn a’m galluogodd, Crist Iesu ein Harglwydd, am mai ffyddlawn y barnodd fi; gan fy ngosod yn y weinidogaeth, a mi gynt yn gablwr ac erlidiwr a sarhaus; eithr trugarhawyd wrthyf gan mai yn anwybodus y gwneuthym mewn anghrediniaeth, a thra-amlhaodd gras ein Harglwydd gyda ffydd a chariad, yr hwn sydd yng Nghrist Iesu. Credadwy yw’r ymadrodd, a phob derbyniad a haedda, sef Crist Iesu a ddaeth i’r byd i achub pechaduriaid; o ba rai y pennaf yw myfi. Eithr o achos hyn y trugarhawyd wrthyf, fel ynof fi, y pennaf, y dangosai Iesu Grist Ei holl hir-ymaros, er siampl o’r rhai ar fedr credu Ynddo Ef i fywyd tragywyddol. Ac i’r Brenhin Tragywyddol, Anllygradwy, Anweledig, yr unig Dduw, bydded anrhydedd a gogoniant yn oes oesoedd. Amen. Y gorchymyn hwn yr wyf yn ei roddi attat, fy mhlentyn Timothëus, yn ol y prophwydoliaethau a rag-ddaethant attat, ar filwrio o honot trwyddynt y filwriaeth ardderchog; gan ddal ffydd a chydwybod dda, yr hon a wthiodd rhai ymaith, ac o ran y ffydd y gwnaethant long-ddrylliad: o’r rhai y mae Humenëus ac Alecsander, y rhai a draddodais i Satan fel y dysger hwynt i beidio â chablu. Gorchymyn yr wyf, gan hyny, yn gyntaf o bob peth, y gwneir ymbiliau, gweddïau, deisyfiadau, a thalu diolch, dros bob dyn; tros frenhinoedd a phawb y sydd mewn goruchafiaeth, fel y treuliom fuchedd lonydd a thangnefeddus ym mhob duwioldeb a difrifoldeb. Hyn sydd ardderchog a chymmeradwy ger bron ein Hiachawdwr, Duw, yr Hwn a ewyllysia i bawb fod yn gadwedig, ac i wybodaeth y gwirionedd y delont. Canys un Duw sydd; un hefyd y cyfryngwr rhwng Duw a dynion, y dyn Crist Iesu, yr Hwn a’i rhoddes Ei hun yn bridwerth dros bawb, y dystiolaeth yn ei hamseroedd ei hun, i’r hon y’m gosodwyd i yn gyhoeddwr ac apostol (y gwir yr wyf yn ei ddywedyd, nid wyf yn celwyddu,) yn ddysgawdwr y cenhedloedd mewn ffydd a gwirionedd. Mynnwn, gan hyny, weddïo o’r gwŷr ym mhob man, gan ddyrchafu dwylaw sanctaidd heb na digter na dadl; yr un modd i wragedd addurno eu hunain â dillad gweddus, gyda gwylder a sobrwydd, nid â gwallt plethedig ac aur, nac â pherlau neu wisg werthfawr, eithr (yr hyn sy’n gweddu i wragedd yn proffesu duwioldeb) trwy weithredoedd da. Bydded i wraig ei dysgu mewn llonyddwch gyda phob gostyngeiddrwydd; ond athrawiaethu nid wyf yn caniattau i wraig, nac awdurdodi ar ŵr, eithr bod mewn llonyddwch; canys Adam oedd y cyntaf i’w lunio, yna Hefa; ac Adam ni thwyllwyd, ond y wraig, wedi ei thwyllo, oedd mewn trosedd; ond cadwedig fydd trwy ddwyn plant, os arhosant mewn ffydd a chariad a sancteiddrwydd ynghyda sobrwydd. Credadwy yw’r ymadrodd, Os swydd esgob a chwennych neb, gwaith ardderchog a ddymuna efe. Y mae rhaid, gan hyny, i’r esgob fod yn ddiargyhoedd, yn ŵr un wraig, yn wyliadwrus, yn sobr ei feddwl, yn weddaidd, yn lletteugar, yn athrawaidd, nid yn gwerylus, nid yn darawydd, eithr yn dirion, yn anymladdgar, yn ddi-ariangar, yn llywodraethu yn dda ei dŷ ei hun, a’i blant ganddo mewn darostyngiad gyda phob difrifoldeb, (ac os ei dŷ ei hun na ŵyr neb pa sut i’w lywodraethu, pa fodd am Eglwys Dduw y gofala?) nid yn newyddian, rhag, wedi ymchwyddo o hono, i gondemniad diafol y syrthio. Y mae rhaid hefyd iddo fod a thystiolaeth dda iddo oddiwrth y rhai oddi allan, fel nad i waradwydd y syrthio ac i fagl diafol. Diaconiaid, yr un ffunud, y mae rhaid iddynt fod yn ddifrifol, nid yn ddau-eiriog, nid yn ymroi i win lawer, nid yn budr-elwa, yn dal dirgelwch y ffydd mewn cydwybod bur. Ac y rhai hyn, profer hwynt yn gyntaf; yna gwasanaethont swydd diaconiaid, os diargyhoedd fyddant. Gwragedd yr un ffunud, y mae rhaid iddynt fod yn ddifrifol, nid yn enllibaidd, yn wyliadwrus, yn ffyddlawn ym mhob peth. Diaconiaid i un wraig byddont wŷr, yn llywodraethu yn dda eu plant ac eu tai eu hunain; canys y rhai a wasanaethasant swydd diaconiaid yn dda, gradd dda a ynnillant iddynt eu hunain, a llawer o hyfder yn y ffydd sydd yng Nghrist Iesu. Y pethau hyn yr wyf yn eu hysgrifenu attat, gan obeithio dyfod attat ar fyrder: ond os tariaf, fel y gwypech pa fodd y mae rhaid ymddwyn yn nhŷ Dduw, yr hwn yw Eglwys y Duw byw, colofn a bonad y gwirionedd. Ac yn ddiddadl mawr yw dirgelwch duwioldeb, yr Hwn a amlygwyd yn y cnawd, a gyfiawnhawyd yn yr Yspryd, a welwyd gan angylion, a bregethwyd i’ r cenhedloedd, a gredwyd Ynddo yn y byd, a gymmerwyd i fynu mewn gogoniant. Ond yr Yspryd a ddywaid yn bendant, yn yr amseroedd diweddarach y saif rhai ymaith oddiwrth y ffydd, gan ddal ar ysprydion cyfeiliornus ac athrawiaethau cythreuliaid, trwy ragrith celwyddwyr a losg-nodwyd o ran eu cydwybod, yn gwahardd priodi, ac yn erchi ymattal oddiwrth fwydydd; y rhai Duw a’u creodd i’w derbyn gyda rhoddi diolch gan y ffyddloniaid, a’r rhai a wyddant y gwirionedd. Canys pob peth creedig gan Dduw sydd dda, ac nid oes dim i’w daflu ymaith, pan gyda rhoddi diolch y derbynir, canys cael ei sancteiddio y mae trwy air Duw a gweddi. Gan ddwyn y pethau hyn ar gof i’r brodyr, gweinidog da fyddi i Grist Iesu, gan dy fagu dy hun yngeiriau’r ffydd a’r athrawiaeth dda yr hon a ddilynaist. Ond y chwedlau halogedig ac hen-wreigaidd gwrthod: ond ymarfer i dduwioldeb; canys ymarfer corphorol i ychydig y mae’n fuddiol; ond duwioldeb, i bob peth buddiol yw, ag addewid ganddo o’r bywyd y sydd yn awr ac o’r hwn ar fedr dyfod. Credadwy yw’r ymadrodd, a phob derbyniad a haedda efe. Canys er mwyn hyn y llafuriwn ac yr ymdrechwn, canys gobeithio yr ydym yn y Duw byw, yr Hwn yw Achubydd pob dyn, yn enwedig y rhai sy’n credu. Gorchymyn y pethau hyn, a dysg hwynt. Na fydded i neb ddirmygu dy ieuengctid di, eithr bydd yn ensiampl i’r rhai sy’n credu, mewn gair, mewn ymddygiad, mewn cariad, mewn ffydd, mewn purdeb. Hyd oni ddelwyf, dal ar ddarllain, ar gynghori, ar athrawiaethu. Nac esgeulusa y dawn sydd ynot ti, yr hwn a roddwyd i ti trwy brophwydoliaeth ynghydag arddodiad dwylaw yr henuriaeth. Yn y pethau hyn bydd ddyfal; yn y pethau hyn parha, fel y bo dy gynnydd di yn amlwg i bawb. Gwylia arnat dy hun, ac ar dy ddysgad: aros ynddynt; canys os hyn a wnai, ti dy hun a achubi, ac y rhai sydd yn dy glywed. Henafgwr na ddwrdia, eithr cynghora ef fel tad; y rhai ieuengach fel brodyr; y gwragedd hynach fel mammau; y rhai ieuengach fel chwiorydd, gyda phob purdeb. Gwragedd gweddwon anrhydedda, y rhai sydd weddwon mewn gwirionedd. Ond os rhyw wraig weddw sydd a chanddi blant neu ŵyrion, dysgont yn gyntaf arfer duwioldeb tuag at eu teulu eu hunain, a thalu yn ol i’w rhieni, canys hyn sydd gymmeradwy ger bron Duw. Ac y weddw mewn gwirionedd, ac yn amddifad, a obeithia yn Nuw, a pharhau y mae mewn ymbiliau a gweddïau nos a dydd; ond y drythyll, tra yn fyw, marw yw. A’r pethau hyn gorchymyn fel y byddont ddiargyhoedd. Ac os tros ei bobl ei hun, ac yn enwedig y rhai o’i dŷ, na ddarbod neb, y ffydd a wadodd efe, ac y mae yn waeth nag anghredadyn. Megis gweddw cofrestrer yr hon nad yw lai na thri ugain mlwydd oed, a fu wraig i un gŵr, mewn gweithredoedd da y tystiolaethir iddi, os dygodd blant i fynu, os bu letteugar, os traed y saint a olchodd, os y rhai cystuddiol a gynnorthwyodd, os pob gweithred dda a ddilynodd hi. Ond gweddwon ieuengach gwrthod; canys pan anlladont yn erbyn Crist, priodi a ewyllysiant, a chanddynt gondemniad, gan mai eu ffydd gyntaf a ddirmygasant, ac hefyd dysgant fod yn ddiog, gan rodio o amgylch o dŷ i dŷ; ac nid yn unig yn ddiog, eithr hefyd yn wag-siaradus ac yn ofer-lafurus, gan lefaru’r pethau na ddylid. Mynnaf, gan hyny, i’r rhai ieuengach briodi, planta, gwarchod y tŷ, peidio â rhoi dim achlysur i’r gwrthwynebwr o ran difenwi; canys eisoes rhai a droisant ymaith ar ol Satan. Os oes rhyw wraig sy’n credu a chanddi wragedd gweddwon, cynnorthwyed hwynt, ac na phwyser ar yr eglwys, fel y gwragedd gweddwon mewn gwirionedd y cynnorthwyo. Yr henuriaid sy’n llywodraethu yn dda, cyfrifer hwynt yn deilwng o barch dau-ddyblyg, yn enwedig y rhai sy’n llafurio yn y Gair a’r dysgad; canys dywaid yr Ysgrythyr, “Ych tra y dyrna, ni safn-rwymi;” ac, “Haeddu ei gyflog y mae’r gweithiwr.” Yn erbyn henuriad na dderbyn gyhuddiad oddieithr dan ddau neu dri o dystion. Y rhai sy’n pechu, argyhoedda yngwydd pawb, fel y bo’r lleill ag ofn arnynt. Gorchymynaf ger bron Duw a Christ Iesu a’r angylion etholedig, gadw o honot y pethau hyn heb ragfarn, heb wneuthur dim o gydbartïaeth. Dwylaw na ddod ar frys ar neb, ac na fydd gyfrannog o bechodau dynion eraill; dy hun cadw di yn bur. Nac yf ddwfr yn hwy, eithr ychydig win arfera er mwyn dy gylla a’th fynych wendidau. Rhai dynion sydd a’u pechodau yn amlwg, ac yn myned o’r blaen i farn; ac i rai hefyd y canlynant ar eu hol. Yr un ffunud hefyd y mae gweithredoedd da yn amlwg; a’r rhai sydd amgenach, eu cuddio ni ellir. Cynnifer ag sydd dan yr iau, yn gaeth-weision, eu meistriaid barnont hwy yn deilwng o bob anrhydedd, fel na bo i enw Duw, a’r athrawiaeth, eu cablu. A’r rhai sydd a chredinwyr yn feistriaid, na ddirmygont hwynt am mai brodyr ydynt; eithr gwasanaethont yn fwy am mai credinwyr ac anwylyd yw’r rhai sydd gyfrannogion o’r lleshad. Y pethau hyn dysg a chynghora. Os athrawiaeth arall a ddysg neb, ac heb ddyfod at eiriau iachus, eiddo ein Harglwydd Iesu Grist, nac at yr athrawiaeth sydd yn ol duwioldeb, chwyddo y mae, heb ddim gwybodaeth ganddo, eithr yn afiach ynghylch cwestiynau ac ymrysonau ynghylch geiriau, o’r rhai y cyfyd cynfigen, cynhen, cableddau, meddyliau drwg-cecraethau dynion llygredig eu meddwl ac wedi colli’r gwirionedd, ac yn tybied mai modd i ynnill yw duwioldeb; ond modd mawr i ynnill yw duwioldeb ynghyda boddi lonrwydd; canys nid oes dim a ddygasom i’r byd; canys dwyn dim allan chwaith nis gallwn: ond tra a chenym ymborth a’r pethau a’n gorchuddiant, â’r pethau hyn y’n digonir. Ond y rhai a fynnant fyned yn oludog, syrthio y maent i brofedigaeth a magl a chwantau ynfyd a niweidiol lawer, y rhai sy’n boddi dynion i ddinystr a cholledigaeth: canys yn wreiddyn pob drwg y mae ariangarwch; yr hon, rhai yn chwannog iddi a gyfeiliornasant oddiwrth y ffydd, a hwynt eu hunain a wanasant â gofidiau lawer. Ond tydi, ŵr Duw, y pethau hyn gochel; a dilyn gyfiawnder, duwioldeb, ffydd, cariad, amynedd, addfwyndra. Ymdrecha ymdrech ardderchog y ffydd: cymmer afael ar y bywyd tragywyddol, i’r hwn y’th alwyd, a chyffesaist y gyffes ardderchog ger bron llawer o dystion. Gorchymynaf i ti ger bron Duw, yr Hwn sy’n bywhau pob peth, a Christ Iesu, yr Hwn a dystiodd ger bron Pontius Pilatus y gyffes ardderchog; gadw o honot y gorchymyn yn ddifefl, yn ddiargyhoedd, hyd ymddangosiad ein Harglwydd Iesu Grist, yr Hwn yn ei amserau ei hun, a ddengys y Bendigedig ac unig Lywodraethwr, Brenhin y rhai sy’n teyrnasu, ac Arglwydd y rhai sy’n arglwyddiaethu, yr Hwn yn unig sydd a Chanddo anfarwoldeb, yn trigo yn y goleuni na ellir dyfod atto, yr Hwn ni welodd neb o ddynion nac a all Ei weled, i’r Hwn y bo anrhydedd a gallu tragywyddol. Amen. I’r rhai goludog yn y byd presennol, gorchymyn na b’ont uchel feddwl, ac na obeithiont yn anamlygrwydd golud, eithr yn Nuw, yr Hwn sy’n rhoddi i ni bob peth mewn modd goludog, er mwynhad; ar wneuthur o honynt ddaioni; ar fod yn oludog mewn gweithredoedd da, ar fod yn barod i ddosbarthu, yn chwannog i gyfrannu, gan drysori iddynt eu hunain sail dda erbyn yr hyn sydd ar fedr dyfod, fel y caffont afael ar y gwir fywyd. O Timothëus, yr hyn a draddodwyd attat cadw, gan droi ymaith oddiwrth halogedig wag-seiniau a gwrthwynebiadau y wybodaeth a gam-enwir felly, yr hon rhai yn ei phroffesu, bu iddynt, o ran y ffydd, fethu taro’r nod. Gras fyddo gyda chwi. Paul, apostol i Grist Iesu trwy ewyllys Duw yn ol addewid y bywyd y sydd yng Nghrist Iesu, at Timothëus, fy mhlentyn anwyl. Gras, trugaredd a thangnefedd oddiwrth Dduw Dad a Christ Iesu ein Harglwydd. Diolch yr wyf i Dduw, yr Hwn yr wyf yn Ei wasanaethu o’ m rhieni mewn cydwybod bur, mor ddibaid y mae genyf fy nghoffa am danat yn fy ngweddïau, nos a dydd yn hiraethu am dy weled di, gan gofio dy ddagrau di, fel â llawenydd y’m llanwer; wedi cael atgofiad o’r ffydd ddiragrith y sydd ynot ti, yr hon a drigodd yn gyntaf yn dy nain Lois ac yn dy fam Eunice, a pherswadiwyd fi mai ynot ti hefyd y trig. O herwydd pa achos dy goffau yr wyf i ennyn dawn Duw, yr hwn sydd ynot trwy arddodiad fy nwylaw. Canys ni roddes Duw i ni yspryd ofnogrwydd, eithr yspryd gallu a chariad a chystwyad. Gan hyny, na fydded arnat gywilydd o dystiolaeth ein Harglwydd, nac o myfi, Ei garcharor; eithr cydoddef gystudd â’r Efengyl yn ol gallu Duw, yr Hwn a’n hachubodd ac a’n galwodd â galwedigaeth sanctaidd, nid yn ol ein gweithredoedd, eithr yn ol Ei arfaeth Ef Ei hun a gras, yr hwn a roddwyd i ni yng Nghrist Iesu cyn yr amseroedd tragywyddol, ond a amlygwyd yn awr trwy ymddangosiad ein Hiachawdwr Iesu Grist, yr Hwn a ddiddymmodd angau, ac a ddug i oleuni fywyd ac anllygredigaeth trwy’r Efengyl, i’r hon y’m gosodwyd i yn bregethwr ac apostol a dysgawdwr. Am ba achos, y pethau hyn hefyd yr wyf yn eu dioddef. Eithr nid oes arnaf gywilydd, canys gwn i bwy y credais, a pherswadiwyd fi mai abl yw i gadw yr hyn a roddwyd Atto genyf erbyn y dydd hwnw. Dal gyn-ddelw’r geiriau iachus, y rhai genyf fi a glywaist, mewn ffydd, a’ r cariad y sydd yng Nghrist Iesu. Y peth ardderchog a roddwyd attat, cadw trwy’r Yspryd Glân, yr Hwn sydd yn trigo ynom. Gwyddost hyn, mai troi oddiwrthyf a wnaeth pawb y sydd yn Asia; o’r rhai y mae Phugelus a Hermogenes. Rhodded yr Arglwydd drugaredd i dŷ Onesiphorus; canys mynych y’m hadfywiodd i, ac o’m cadwyn ni bu arno gywilydd, eithr pan yr oedd yn Rhufain, yn ddiwyd y ceisiodd fi ac y’m cafodd (rhodded yr Arglwydd iddo gaffael trugaredd gan yr Arglwydd yn y dydd hwnw), a pha faint yn Ephesus y gwasanaethodd i mi, da iawn yr wyt ti yn gwybod. Tydi, gan hyny, fy mhlentyn, ymnertha yn y gras y sydd yng Nghrist Iesu, a’r pethau a glywaist genyf trwy lawer o dystion, y rhai hyn dyro at ddynion ffyddlawn, y rhai a fyddant abl i ddysgu eraill hefyd. Cydoddef gystudd ynghyda mi, megis milwr da i Grist Iesu. Nid yw neb, pan yn milwrio yn ymblethu yng ngorchwylion y bywyd hwn, fel i’r hwn a’i dewisodd yn filwr y rhyngo fodd. Ac os yn y campau yr ymdrecha neb, ni choronir onid yn gyfreithlawn yr ymdrecha. I’r amaethydd y sy’n llafurio, y mae rhaid yn gyntaf gael rhan o’r ffrwythau. Ystyria pa beth yr wyf yn ei ddywedyd, canys rhydd yr Arglwydd i ti ddeall ym mhob peth. Cofia Iesu Grist, wedi Ei gyfodi o feirw, o had Dafydd, yn ol fy Efengyl, yn yr hon yr wyf yn goddef cystudd hyd rwymau, megis drwg-weithredwr, eithr gair Duw ni rwymwyd. O achos hyn pob peth yr wyf yn ei oddef er mwyn yr etholedigion, fel y bo iddynt hwy hefyd gael yr iachawdwriaeth y sydd yng Nghrist Iesu, ynghyda gogoniant tragywyddol. Credadwy yw’r ymadrodd, Canys os buom feirw gydag Ef, byw fyddwn hefyd gydag Ef; os goddef yr ydym, teyrn-aswn hefyd gydag Ef; os gwadwn Ef, Yntau hefyd a’n gwad ni; os anffyddlawn ydym, Efe a barha yn ffyddlawn, canys gwadu Ei hun ni all Efe. Y pethau hyn dwg i’ w cof, gan orchymyn iddynt, ger bron yr Arglwydd, nad ymrysonont â geiriau, am yr hyn nad yw dda i ddim, i ddadymchweliad y rhai sy’n clywed. Bydd ddyfal i roddi dy hun yn brofedig i Dduw, yn weithiwr heb achos bod a chywilydd arno, yn iawn-rannu gair y gwirionedd. Ond yr halogedig wag-seiniau gochel; canys i fwy o annuwioldeb yr ant rhagddynt; a’u gair hwynt, fel cancr y bwytty; o’r rhai y mae Humenëus a Philetus; y rhai, o ran y gwirionedd, a fethasant daro’r nod, gan ddywedyd fod yr adgyfodiad eisoes wedi digwydd, a dadymchwelyd ffydd rhai y maent. Er hyny, sail ffurf Duw sy’n sefyll, a chanddo y sel hon, Edwaen yr Arglwydd y rhai sydd eiddo Ef, ac, Ymaith oddiwrth anghyfiawnder safed pob un sydd yn enwi enw’r Arglwydd. Ond mewn tŷ mawr nid oes yn unig lestri o aur ac o arian, eithr hefyd o bren ac o bridd, a rhai i anrhydedd a rhai i ddianrhydedd. Os, gan hyny, y glanha neb ei hun oddiwrth y rhai hyn, bydd yn llestr i anrhydedd, wedi ei sancteiddio, yn gymmwys i’r meistr, i bob gwaith da yn ddarparedig. Ond chwantau ieuengctid, ffo oddiwrthynt, a dilyn gyfiawnder, ffydd, cariad, heddwch, ynghyda’r rhai sy’n galw ar yr Arglwydd o galon bur. Ond y cwestiynau ynfyd ac annysgedig, gochel, gan wybod y cenhedlant ymrafaelion; a gwas yr Arglwydd ni ddylai ymrafaelio, eithr bod yn dirion tuag at bawb, yn athrawus, yn dioddef drygau, mewn addfwynder yn cyweirio y rhai sy’n gwrthwynebu, os ysgatfydd y rhydd Duw iddynt edifeirwch i wybodaeth y gwirionedd, ac ymsobri allan o fagl diafol, ar ol eu cymmeryd yn gaeth ganddo i’w ewyllys ef. Ond hyn gwybydd, yn y dyddiau diweddaf y daw amseroedd caled, canys bydd dynion yn hunan-gar, yn arian-gar, yn ymffrostwyr, yn feilchion, yn gablwyr, yn anufuddion i rieni, yn annïolchgar, yn ansanctaidd, yn angharedig, yn anghymmodlawn, yn enllibaidd, yn anllad, yn anfwyn, yn ddiserch i’r hyn sy dda, yn fradwyr, yn fyrbwyll, yn chwyddedig, yn caru meluswedd yn fwy na charu Duw, a chanddynt rith duwioldeb, ond ei grym a wadasant; oddiwrth y rhai hyn tro ymaith; canys o’r rhai hyn y mae y rhai sy’n ymgludo i’r teiau, ac yn dwyn yn gaeth wrageddos llwythog o bechodau, gwrageddos yn cael eu harwain gan amryw chwantau, beunydd yn dysgu, ac i wybodaeth y gwirionedd heb allu byth ddyfod. Yn y modd y bu i Iannes ac Iambres wrthsefyll Mosheh, felly y rhai hyn hefyd sy’n gwrthsefyll y gwirionedd, dynion llygredig o ran eu meddwl, yn anghymmeradwy ynghylch y ffydd. Ond nid ant rhagddynt ym mhellach, canys eu hynfydrwydd fydd amlwg i bawb, fel y bu yr eiddynt hwythau hefyd. Ond tydi a ganlynaist fy nysgad i, fy ymarweddiad, fy arfaeth, fy ffydd, fy hir-ymaros, fy nghariad, fy amynedd, fy erlidiau, fy nioddefiadau; y fath bethau ag a ddigwyddasant i mi yn Antiochia, yn Iconium, yn Lustra; y fath erlidiau ag a ddioddefais; ac o’r cwbl y’m gwaredodd yr Arglwydd. A phawb y sy’n ewyllysio byw yn dduwiol yng Nghrist Iesu, a erlidir. Ond drwg-ddynion ac hocedwyr a ant rhagddynt waeth-waeth, yn arwain ar gyfeiliorn, ac yn cael eu harwain ar gyfeiliorn. Ond tydi, aros yn y pethau a ddysgaist ac y’th sicrhawyd am danynt, gan wybod am ba rai y dysgaist, ac mai er’s yn faban y gwyddost y sanctaidd ysgrifeniadau, y rhai a allant dy wneuthur yn ddoeth i iachawdwriaeth trwy ffydd, yr hon sydd yng Nghrist Iesu. Yr holl Ysgrythyr y sydd wedi ei rhoddi trwy ysprydoliaeth Duw sydd hefyd fuddiol er athrawiaeth, er argyhoeddiad, er cyweiriad, er y ddisgyblaeth y sydd yng nghyfiawnder, fel mai perffaith fyddo dyn Duw, at bob gweithred dda yn berffeithiedig. Gorchymynaf i ti ger bron Duw a Christ Iesu, yr Hwn sydd ar fedr barnu y byw a’ r meirw, a thrwy Ei ymddangosiad a’i deyrnas; pregetha’r Gair; bydd daer, mewn amser, allan o amser; argyhoedda, cerydda, annog, gyda phob hir-ymaros a dysgad; canys bydd amser pryd na fydd i athrawiaeth iachus mo’i dioddef ganddynt, eithr yn ol eu chwantau eu hunain iddynt eu hunain y pentyrrant ddysgawdwyr, gan ferwino o ran eu clyw, ac oddiwrth y gwirionedd y troant ymaith eu clustiau, ac at chwedlau y troant. Ond tydi, bydd sobr ym mhob peth; dioddef ddrygau; gwna waith efengylwr; dy weinidogaeth cyflawna: canys myfi wyf eisoes yn cael fy offrymmu, ac amser fy ymddattodiad sydd gerllaw. Yr ymdrech ardderchog a ymdrechais; y rhedeg a orphenais; y ffydd a gedwais; o hyn allan y mae mewn cadw i mi goron cyfiawnder, yr hon a rydd yr Arglwydd i mi yn y dydd hwnw, y Barnwr cyfiawn; ac nid yn unig i mi, eithr hefyd i bawb a garasant Ei ymddangosiad. Bydd ddyfal i ddyfod attaf ar fyrder, canys Demas a’m gadawodd i, wedi caru y byd presennol, ac a aeth i Thessalonica; Crescens i Galatia: Titus i Dalmatia; Luc sydd yn unig gyda mi. Marc cymmer a dwg ef gyda thi, canys y mae efe yn fuddiol i mi i’r weinidogaeth. Ond Tuchicus a ddanfonais i Ephesus. Y gochl a adewais yn Troas gyda Carpus, pan ddelych, tyred â hi; ac â’r llyfrau, yn enwedig y memrynnau. Alecsander y gof-copr, llawer o ddrygau a wnaeth efe i mi; iddo y tal yr Arglwydd yn ol ei weithredoedd; yr hwn, gwylia dithau hefyd rhagddo, canys yn ddirfawr y gwrthsafodd ein hymadroddion ni. Yn fy ymddiffyn cyntaf, nid oedd neb ynghyda mi, eithr pawb a’m gadawsant i: iddynt na chyfrifer: ond yr Arglwydd a safodd gyda mi ac a’m nerthodd, fel trwof fi y byddai i’r Cyhoeddiad ei gyflawni, ac y clywai’r holl genhedloedd; a gwaredwyd fi o enau’r llew. Gweryd yr Arglwydd fi oddiwrth bob gweithred ddrwg, ac a’m ceidw i’w deyrnas nefol; i’r Hwn y byddo’r gogoniant yn oes oesoedd. Amen. Annerch Prisca ac Acwila, a theulu Onesiphorus. Erastus a arhosodd yn Corinth. A Trophimus a adewais yn Miletus yn glaf. Bydd ddyfal cyn y gauaf i ddyfod. Dy annerch y mae Eubwlus a Pwdens a Linus a Claudia a’r brodyr oll. Yr Arglwydd fyddo gyda’th yspryd. Gras fyddo gyda chwi. Paul, gwas i Dduw, ac apostol i Iesu Grist, yn ol ffydd etholedigion Duw a gwybodaeth y gwirionedd y sydd yn ol duwioldeb, yngobaith bywyd tragywyddol, yr hwn a addawodd y digelwyddog Dduw cyn yr amseroedd tragywyddol, ac a amlygodd yn Ei amseroedd priodol Ei air yn y Cyhoeddiad a ymddiriedwyd i myfi yn ol gorchymyn ein Hiachawdwr Duw, at Titus fy ngwir blentyn yn ol y ffydd gyffredinol: gras, a thangnefedd oddiwrth Dduw Dad a Christ Iesu ein Hiachawdwr. Er mwyn hyn y’th adewais yn Creta, fel yr iawn-drefnit y pethau oedd ar ol, ac y gosodit ym mhob dinas henuriaid fel y gorchymynais i i ti. Os yw neb yn ddiargyhoedd, yn ŵr un wraig, a phlant ganddo yn credu, heb eu cyhuddo o afradlondeb, nac yn afreolus: canys rhaid i esgob fod yn ddiargyhoedd, megis disdain Duw; nid yn gyndyn, nid yn ddigllawn, nid yn gwerylus, nid yn darawydd, nid yn budr-elwa; eithr yn lletteugar, yn caru’r hyn sy dda, yn sobr ei feddwl, yn gyfiawn, yn sanctaidd, yn feistr arno ei hun, yn dal at y Gair ffyddlawn y sydd yn ol dysgad, fel y bo yn abl i gynghori yn yr athrawiaeth iachus, ac i argyhoeddi y rhai sy’n gwrth-ddywedyd. Canys y mae llawer yn afreolus, yn ofer-siaradus a cham-arweinwyr, yn enwedig y rhai o’r amdorriad, y rhai y mae rhaid cau eu safnau; y rhai, tai cyfan a ddymchwelant, gan ddysgu y pethau na ddylid, er mwyn budr elw. Dywedodd rhyw un o honynt, prophwyd o honynt eu hunain, “Cretiaid bob amser yn gelwyddwyr, drwg fwystfilod, boliau diog.” Y dystiolaeth hon sydd wir; am ba achos argyhoedda hwynt yn llym, fel y byddont iach yn y ffydd, heb ddal ar chwedlau Iwddewaidd, a gorchymynion dynion yn troi oddiwrth y gwirionedd. Pob peth sydd bur i’r rhai pur; ond i’r rhai halogedig a di-ffydd nid oes dim yn bur, eithr halogwyd eu deall hwy a’u cydwybod. Adnabod Duw a broffesant, ond â’u gweithredoedd y gwadant Ef, gan fod yn ffiaidd, ac yn anufudd, ac at bob gweithred dda yn anghymmeradwy. Ond tydi, llefara’r pethau a weddant i’r athrawiaeth iachus; i hynaf-gwyr fod yn gymmedrol, yn ddifrifol, yn sobr eu meddwl, yn iach yn y ffydd, yn eu cariad, yn eu hamynedd; i’r hynaf-wragedd, yr un ffunud, fod mewn ymddygiad yn hybarch, nid yn enllibaidd, nac wedi eu caethiwo i win lawer, yn dysgu’r hyn sydd dda, fel y sobront feddyliau y gwragedd ieuaingc i garu eu gwŷr, i garu eu plant; i fod yn sobr eu meddyliau, yn ddiwair, yn gwarchod gartref, yn dda, yn ymddarostwng i’w gwŷr, fel na bo i Air Duw ei gablu. Y gwŷr ieuaingc, yr un ffunud, cynghora i fod yn sobr eu meddyliau: ym mhob peth yn dangos dy hun yn esiampl o weithredoedd da; yn dy ddysgad yn dangos anllygredigaeth, difrifoldeb, ymadrodd iach na ellir ei gondemnio, fel y bo i’r hwn sydd yn y gwrthwyneb gywilyddio, heb ganddo ddim sydd ddrwg i’w ddywedyd am danom. Gweision cynghora i ymddarostwng i’w meistriaid; ym mhob peth i ryngu bodd iddynt, nid yn gwrth-ddywedyd, nid yn darn-guddio, eithr yn dangos pob ffyddlondeb da, fel athrawiaeth Dduw ein Hiachawdwr yr addurnont ym mhob peth; canys ymddangosodd gras Duw, yn dwyn iachawdwriaeth i bob dyn, yn ein hyfforddi, fel gan wadu annuwioldeb a’r chwantau bydol, y bo i ni fyw â meddyliau sobr, ac yn gyfiawn, ac yn dduwiol yn y byd y sydd yn awr, gan ddisgwyl am y gobaith gwynfydedig, ac am ymddangosiad gogoniant y Duw mawr a’n Hiachawdwr Iesu Grist, yr Hwn a’i rhoddes Ei hun trosom, fel y prynai ni oddiwrth bob anghyfraith, ac y’n purai Iddo Ei hun yn bobl briodol, awyddus i weithredoedd da. Y pethau hyn llefara a chynghora, ac argyhoedda gyda phob awdurdod. Na fydded i neb dy ddirmygu di. Dwg ar gof iddynt ymddarostwng i lywodraethau, i awdurdodau; fod yn ufudd; at bob gweithred dda i fod yn barod; i beidio â chablu un dyn; i fod yn anymladdgar, yn dirion, yn dangos pob addfwynder tuag at bob dyn; canys gynt yr oeddym ninnau hefyd yn annoethion, yn anufudd, yn cyfeiliorni, yn gwasanaethu amryw chwantau a meluswedd, yn byw mewn drygioni a chynfigen, yn atgas, yn casau ein gilydd: ond, pan fu i ddaioni a chariad tuag at ddynion ymddangos, sef eiddo ein Hiachawdwr Duw, nid o weithredoedd mewn cyfiawnder, y rhai a wnaethom ni, eithr yn ol Ei drugaredd Ef Ei hun yr achubodd ni trwy noe adenedigaeth, ac adnewyddiad yr Yspryd Glân, yr Hwn a dywalltodd Efe allan arnom yn ehelaeth trwy Iesu Grist ein Hiachawdwr, fel, wedi ein cyfiawnhau trwy Ei ras Ef, y’n gwneid yn etifeddion yn ol gobaith bywyd tragywyddol: credadwy yw’r ymadrodd; ac am y pethau hyn y mynnaf i ti lefaru yn bendant, fel y gofalo’r rhai a gredasant i Dduw ar arferu gweithredoedd da. Y pethau hyn ydynt dda a buddiol i ddynion: ond cwestiynau ynfyd, ac achau, a chynhenau, ac ymladdau ynghylch y Gyfraith, gochel; canys y maent yn anfuddiol ac ofer. Heretic o ddyn, wedi un ac ail rybydd, gwrthod, gan wybod y gŵyr-drowyd y cyfryw ddyn, a phechu y mae, yn gondemniedig ganddo ei hun. Pan ddanfonwyf Artemas attat, neu Tuchicus, bydd ddyfal i ddyfod attaf i Nicopolis, canys yno y penderfynais auafu. Senas y cyfreithiwr, ac Apolos, hebrwng yn ddyfal fel na bo arnynt eisiau dim. A dysged yr eiddom ni hefyd arferu gweithredoedd da, er yr eisiau angenrheidiol, fel na byddont yn ddiffrwyth. Dy annerch y mae’r holl rai sydd gyda mi. Annerch y rhai sydd yn ein caru ni mewn ffydd. Gras fyddo gyda phawb o honoch. Paul, carcharor i Grist Iesu, a Timothëus ein brawd, at Philemon ein hanwylyd a’n cyd-weithiwr, ac at Apphia ein chwaer, ac at Archippus ein cyd-filwr, ac at yr eglwys y sydd yn dy dŷ: gras i chwi, a thangnefedd oddiwrth Dduw ein Tad a’r Arglwydd Iesu Grist. Diolch yr wyf i fy Nuw bob amser, gan wneuthur coffa am danat yn fy ngweddïau, gan glywed am dy gariad di, a’r ffydd y sydd genyt tuag at yr Arglwydd Iesu, a thuag at yr holl saint, fel y bo i gymdeithas dy ffydd fyned yn effeithlawn, yngwybodaeth pob peth da y sydd ynoch, er Crist, canys llawenydd lawer fu genyf a diddanwch yn dy gariad, o herwydd i ymysgaroedd y saint gael eu dadebru trwot, frawd. O herwydd paham, er bod genyf yng Nghrist lawer o hyfdra i orchymyn i ti yr hyn sydd weddus, o achos cariad yn hytrach attolwg yr wyf, a mi yn gyfryw un a Paul yr henafgwr, ac yn awr hefyd yn garcharor i Grist Iesu; attolwg yr wyf i ti ynghylch fy mhlentyn yr hwn a genhedlais yn fy rhwymau, sef Onesimus, yr hwn gynt a fu i ti yn anfuddiol, ond yn awr i ti ac i mi yn fuddiol, yr hwn a ddanfonais yn ei ol attat, ef ei hun, hyny yw, fy ymysgaroedd i; yr hwn yr oeddwn i yn ewyllysio ei gadw gyda mi fy hun, fel trosot y gwasanaethai fyfi yn rhwymau yr Efengyl; ond heb dy feddwl di nid ewyllysiais wneuthur dim, fel nad megis o angenrhaid y byddai dy ddaioni, eithr o wirfodd; canys ysgatfydd, er mwyn hyn y gwahanwyd ef oddiwrthyt am amser fel yn dragywydd y byddai efe genyt; dim mwyach megis caethwas, eithr uwchlaw caethwas, yn frawd anwyl, yn enwedig genyf fi, ond pa faint mwy genyt ti, yn y cnawd ac yn yr Arglwydd? Os, gan hyny, fy nghymmeryd i yn gyfrannogwr yr wyt, derbyn ef fel myfi; ac os rhyw niweid a wnaeth efe i ti, neu ag arno ryw beth i ti, hyny dyro at fy nghyfrif i: myfi Paul a ysgrifenais â’m llaw fy hun; myfi a dalaf; fel na ddywedwyf wrthyt mai i mi y mae arnat am danat dy hun hefyd. Ië, frawd, bydded i mi dy fwynhau di yn yr Arglwydd; dadebra fy ymysgaroedd yng Nghrist. Gan hyderu ar dy ufudd-dod yr ysgrifenais attat, gan wybod mai mwy na’r hyn yr wyf yn ei ddywedyd a wnei. Ac heb law hyn hefyd, parottoa i mi letty, canys gobeithio yr wyf mai trwy eich gweddiau y rhoddir fi i chwi. Dy annerch y mae Epaphras fy nghyd-garcharor yng Nghrist Iesu, Marcus, Aristarchus, Demas, Luc, fy nghyd-weithwyr. Gras ein Harglwydd Iesu Grist fo gyda’ch yspryd chwi. Amen. Ar ol mewn llawer rhan ac mewn llawer modd gynt lefaru o Dduw wrth y tadau, yn y prophwydi, yn niwedd y dyddiau hyn llefarodd wrthym yn Ei Fab, yr Hwn a osododd Efe yn etifedd pob peth, trwy’r Hwn hefyd y gwnaeth Efe y bydoedd; yr Hwn, ac Efe yn ddisgleirdeb Ei ogoniant Ef, ac yn wir lun Ei hupostasis, ac yn cynnal pob peth â gair Ei allu, wedi gwneuthur glanhad pechodau, a eisteddodd ar ddeheulaw y Mawredd yn yr uchelion, wedi myned yn gymmaint gwell na’r angylion ag yr etifeddodd enw mwy rhagorol na hwy, canys wrth ba un o’r angylion y dywedodd Efe erioed, “Fy Mab ydwyt ti; Myfi heddyw a’th genhedlais?” a thrachefn, “Myfi fyddaf Iddo yn Dad, Ac Efe fydd i Mi yn Fab?” A phan drachefn y dug Efe y Cyntaf-anedig i’r byd, dywedyd y mae, “Ac Ef addoled holl angylion Duw.” Ac o ran yr angylion y dywaid, “Yr Hwn sy’n gwneuthur yn genhadon Iddo y gwyntoedd; Ac yn weinidogion Iddo, y tân fflamllyd;” ond o ran y Mab, “Dy orseddfaingc, O Dduw, yn oes oesoedd y mae, A theyrn-wialen uniondeb yw teyrn-wialen Dy deyrnas. Ceraist gyfiawnder, a chaseaist anghyfraith; Gan hyny yr enneiniodd Duw Di, Dy Dduw, Ag olew gorfoledd, tu hwnt i’th gyfeillion.” Ac, “Tydi yn y dechreuad, Arglwydd, y ddaear a sylfaenaist, A gwaith Dy ddwylaw yw’r nefoedd; Hwy a ddarfyddant, ond Tydi wyt yn parhau; A’r oll o honynt, fel dilledyn a heneiddiant, Ac fel mantell y plygi hwynt; Fel cochl, a newidir hwynt; Ond Tydi yr un ydwyt, A’th flynyddoedd ni phallant.” Ond wrth ba un o’r angylion y dywedodd Efe erioed, “Eistedd ar fy neheu-law Hyd oni osodwyf dy elynion yn droed-faingc dy draed?” Onid yw’r oll o honynt yn ysprydion gwasanaethgar, yn cael eu danfon i wasanaethu er mwyn y rhai sydd ar fedr etifeddu iachawdwriaeth? O herwydd hyn y mae rhaid rhoddi o honom ystyriaeth yn fwy rhagorol i’r pethau a glybuwyd, rhag un amser ein troi ymaith; canys os y gair a lefarwyd trwy angylion a wnaed yn ddiymmod, a phob troseddiad ac anufudd-dod a dderbyniodd gyfiawn daledigaeth, pa fodd y diangwn ni, ar ol bod yn ddiofal o iachawdwriaeth mor fawr, yr hon wedi cael yn y dechreuad ei llefaru trwy’r Arglwydd, gan y rhai a glywsant y’i sicrhawyd i ni, Duw yn cyd-dystiolaethu ag arwyddion a rhyfeddodau ac amryw wyrthiau a chyfranniadau yr Yspryd Glân yn ol Ei ewyllys Ef? Canys nid i angylion y darostyngodd Efe y byd ar fedr dyfod, am yr hwn yr ydym yn llefaru, ond tystiolaethodd rhyw un mewn rhyw le, gan ddywedyd, “Pa beth yw dyn, am i Ti ei gofio, Neu fab dyn, am i Ti ymweled ag ef? Rhyw ychydig llai y gwnaethost ef nag angylion; A gogoniant ac anrhydedd y coronaist ef, A gosodaist ef ar weithredoedd Dy ddwylaw: Pob peth a ddarostyngaist tan ei draed.” Canys yn “Y darostwng pob peth iddo,” nid oedd dim a adawodd Efe heb ei ddarostwng iddo: ond yn awr nid ydym etto yn gweled mai iddo ef y mae pob peth wedi ei ddarostwng. Ond yr Hwn a “wnaed rhyw ychydig llai nag angylion” a welwn, yr Iesu, o herwydd dioddef marwolaeth, wedi Ei goroni â gogoniant ac anrhydedd, fel trwy ras Duw tros bob dyn yr archwaethai farwolaeth, canys gweddai Iddo Ef, o herwydd yr Hwn y mae pob peth, a thrwy’r Hwn y mae pob peth, gan ddyfod â llawer o feibion i ogoniant, berffeithio Tywysydd eu hiachawdwriaeth trwy ddioddefiadau; canys yr Hwn sydd yn sancteiddio, a’r rhai yn cael eu sancteiddo, o Un y maent oll; am ba achos nid oes Arno gywilydd eu galw yn frodyr, gan ddywedyd, “Mynegaf Dy enw i’m brodyr, Ynghanol y gynnulleidfa y’th folaf:” a thrachefn, “Myfi fyddaf yn ymddiried Ynddo:” a thrachefn, “Wele, Myfi a’r plant a roddes Duw i Mi.” Gan hyny, gan fod y plant yn gyfrannogion o gig a gwaed, Efe hefyd yn y cyffelyb fodd a gymmerth ran o’r un pethau, fel trwy farwolaeth y diddymai yr hwn oedd a chanddo allu marwolaeth, hyny yw, diafol; ac y rhyddhaai hwynt y rhai trwy ofn marwolaeth oeddynt trwy eu holl fywyd yn ddeiliaid caethiwed: canys yn wir nid angylion y mae Efe yn eu cynnorthwyo, eithr had Abraham y mae Efe yn ei gynnorthwyo: am ba achos y dylai ym mhob peth Ei wneud yn gyffelyb i’w frodyr, fel y byddai yn Arch-offeiriad trugarog a ffyddlawn yn y pethau tuag at Dduw, i wneuthur cymmod am bechodau’r bobl: canys yn yr hyn y dioddefodd Efe Ei hun gan gael Ei demtio, abl yw i gymhorth y rhai sy’n cael eu temtio. O herwydd paham, frodyr sanctaidd, cyfrannogion o’r alwedigaeth nefol, ystyriwch Apostol ac Arch-offeiriad ein cyffes, Iesu, yn ffyddlawn i’r Hwn a’i happwyntiodd Ef, fel y bu Mosheh hefyd yn ei holl dŷ; canys o fwy gogoniant na Mosheh y cafodd Hwn Ei farnu yn deilwng, yn gymmaint a mwy o anrhydedd nag sydd gan y tŷ sydd gan yr hwn a’i hadeiladodd. Canys pob tŷ sy’n cael ei adeiladu gan rywun; ond yr Hwn a adeiladodd bob peth yw Duw. A Mosheh yn wir fu ffyddlawn yn ei holl dŷ megis gwas, er tystiolaeth i’r pethau ar fedr eu llefaru; ond Crist megis Mab ar Ei dŷ; tŷ yr Hwn yr ydym ni, os ein hyfdra ac ymffrost ein gobaith a ddaliwn yn ddiymmod hyd y diwedd. O herwydd paham, fel y dywaid yr Yspryd Glân, “Heddyw, os Ei lais Ef a glywoch, Na chaledwch eich calonnau fel yn y Chwerwad, Yn nydd y Profedigaeth yn yr anialwch, Lle y temtiodd eich tadau Fi â phrofiad, Ac y gwelsant fy ngweithredoedd ddeugain mlynedd; O herwydd paham y digiais wrth y genhedlaeth hon, A dywedais, Pob amser cyfeiliorni y maent yn eu calon, A hwy nid adnabuant Fy ffyrdd; Fel y tyngais yn Fy llid, Ni ddeuant i mewn i’m gorphwysfa.” Edrychwch, frodyr, rhag ysgatfydd y bydd yn neb o honoch galon ddrwg anghrediniaeth, gan sefyll draw oddiwrth y Duw Byw; eithr cynghorwch eich gilydd bob dydd tra “Heddyw” y’i gelwir, fel na chaleder neb o honoch gan dwyll pechod, canys yn gyfrannogion o Grist yr aethom, os dechreuad ein hyder a ddaliwn hyd y diwedd yn ddiymmod; tra y dywedir, “Heddyw, os Ei lais a glywoch, Na chaledwch eich calonnau fel yn y Chwerwad.” Canys pwy, wedi clywed, a chwerwasant Ef? Onid yr oll a ddaethent allan o’r Aipht trwy Mosheh? Ac wrth ba rai y digiodd Efe ddeugain mlynedd? Onid wrth y rhai a bechasant, y rhai y syrthiodd eu celanedd yn yr anialwch? Ac wrth ba rai y tyngodd na ddeuent i mewn i’w orphwysfa, oddieithr wrth y rhai a anufuddhasant? A gwelwn na allent fyned i mewn o herwydd anghrediniaeth. Ofnwn, gan hyny, rhag ysgatfydd, tra aros y mae addewid o fyned i mewn i’w orphwysfa Ef, ymddangos o neb o honoch i fod ar ol; canys yr ydym a’r newyddion da genym fel hwythau; eithr ni leshaodd y gair a glybuwyd, iddynt hwy heb eu cyd-gymmysgu mewn ffydd â’r rhai a’i clywsant: canys myned i mewn i’r “Orphwysfa” yr ydym ni y rhai a gredasom, fel y dywedodd Efe, “Fel y tyngais yn Fy llid, Ni ddeuant i mewn i’m gorphwysfa,” ac er hyny y gweithredoedd wedi eu gwneuthur er’s seiliad y byd; canys dywedodd mewn rhyw fan am y seithfed dydd fel hyn, “A gorphwysodd Duw ar y seithfed dydd oddiwrth Ei holl weithredoedd,” ac yn y fan hon trachefn “Ni ddeuant i mewn i’m gorphwysfa.” Gan hyny, gan fod etto yn ol fod rhai i fyned i mewn iddi, ac na fu i’r rhai a gawsant y newyddion da o’r blaen, fyned i mewn o herwydd anufudd-dod, trachefn y penna Efe ryw ddydd, gan ddywedyd, “Heddyw,” yn Dafydd, ar ol cymmaint o amser, fel y rhag-ddywedwyd, “Heddyw, os Ei lais a glywoch, Na chaledwch eich calonnau;” canys ped iddynt hwy y rhoddasai Iehoshua orphwysfa, ni lefarasai ar ol hyny am ddydd arall: gan hyny, y mae etto yn ol orphwysdra i bobl Dduw. Canys yr hwn a aeth i mewn i’w orphwysfa Ef, efe hefyd a orphwysodd oddiwrth ei weithredoedd, fel oddiwrth yr Eiddo Ef y gwnaeth Duw. Byddwn ddyfal, gan hyny, i fyned i mewn i’r orphwysfa honno, fel na bo i neb syrthio yn ol yr un siampl o anghrediniaeth; canys byw yw gair Duw, a gwneuthurol, a llymmach nag un cleddyf dau-finiog, ac yn myned trwodd hyd wahaniad enaid ac yspryd, a chymmalau a mer, ac yn medru barnu meddyliau a bwriadau y galon; ac nid oes creadur yn anamlwg yn Ei olwg Ef, ond pob peth sydd yn noeth ac yn agored i lygaid yr Hwn y mae genym a wnelom ag Ef. Gan fod genym, gan hyny, Arch-offeiriad mawr, yr Hwn a aeth trwy’r nefoedd, Iesu Mab Duw, daliwn yn dỳn ein cyffes, canys nid oes i ni Arch-offeiriad heb fedru cyd-ymdeimlo â’n gwendidau, ond wedi ei demtio ym mhob peth yr un ffunud a ni, etto heb bechod. Nesawn, gan hyny, gydag hyfdra at orsedd-faingc gras, fel y derbyniom drugaredd, ac y caffom ras yn gymmorth mewn amser. Canys pob arch-offeiriad, yr hwn o blith dynion a gymmerir, tros ddynion y gosodir yn y pethau sy tuag at Dduw, fel yr offrymmo roddion ac aberthau am bechodau, yn medru bod yn addfwyn tua’r rhai anwybodus a’r rhai ar gyfeiliorn, gan fod efe ei hun wedi ei amgylchu â gwendid; ac o achos hwn y mae arno, fel dros y bobl, felly hefyd drosto ei hun, offrymmu am bechodau. Ac nid yw neb yn cymmeryd yr anrhydedd hwn iddo ei hun, eithr pan y’i gelwir gan Dduw fel Aaron hefyd. Felly hefyd Crist ni ogoneddodd Ei hun i fyned yn Arch-offeiriad, eithr yr Hwn a ddywedodd Wrtho, “Fy Mab wyt Ti, Myfi heddyw a’th genhedlais;” fel hefyd mewn lle arall y dywaid, “Tydi wyt offeiriad yn dragywydd Yn ol dull Melchitsedec.” Yr Hwn, yn nyddiau Ei gnawd, gwedi offrymmu gweddïau ac erfyniau at yr Hwn oedd abl i’w achub Ef oddiwrth farwolaeth, gyda llefain cryf a dagrau, a chael Ei wrandaw o herwydd Ei ofn duwiol, er Ei fod yn Fab, ddysgodd trwy’r pethau a ddioddefodd, ufudd-dod, ac wedi Ei berffeithio a aeth, i bawb y sy’n ufuddhau Iddo, yn Awdwr iachawdwriaeth dragywyddol, wedi Ei enwi gan Dduw “Arch-offeiriad yn ol dull Melchitsedec.” Ac am dano Ef llawer gair sydd genym i’w ddywedyd ac anhawdd ei ddehongli, gan mai hwyr-drwm yr aethoch yn eich clyw; canys lle y dylech fod yn athrawon o ran amser, y mae arnoch drachefn eisiau dysgu o ryw un i chwi egwyddorion dechreuad oraclau Duw, ac aethoch i fod a rhaid i chwi wrth laeth ac nid wrth fwyd cryf; canys pob un y sy’n cyfrannogi o laeth, heb ymarferiaeth o air cyfiawnder y mae, canys maban yw, ac i’r rhai wedi llawn-dyfu y mae bwyd cryf, y rhai o herwydd cynnefindra sydd a’u synwyr wedi ymarfer i farnu rhwng da a drwg. Gan hyny, wedi rhoddi heibio air dechreuad Crist, at berffeithrwydd dyger ni, heb osod i lawr drachefn sail edifeirwch oddiwrth weithredoedd meirwon, a ffydd tuag at Dduw; sail dysgad bedyddiadau ac arddodiad dwylaw; ac adgyfodiad y meirw a barn dragywyddol: a hyn a wnawn os caniatta Duw. Canys ammhosibl yw o ran y rhai a gawsant unwaith eu goleuo, ac a archwaethasant y rhodd nefol, ac a wnaethpwyd yn gyfrannogion o’r Yspryd Glân, ac a archwaethasant air mad Duw a galluoedd y byd ar ddyfod, ac a syrthiasant ymaith, eu hadnewyddu drachefn i edifeirwch, gan ail-groeshoelio o honynt iddynt eu hunain Fab Duw, ac Ei osod yn watwor. Canys y ddaear yr hon sy’n yfed y gwlaw sy’n dyfod yn fynych arni, ac sy’n dwyn llysiau cymmwys i’r rhai hyny er mwyn y rhai y llafurir hi hefyd, derbyn bendith gan Dduw y mae; ond pan yn dwyn drain a mieri, anghymmeradwy yw ac agos i felldith; ac ei diwedd yw ei llosgi. Ond coelio yr ydym am danoch chwi, frodyr, y pethau sydd well ac ynglyn wrth iachawdwriaeth, er mai fel hyn y llefarwn: canys nid anghyfiawn yw Duw, fel yr anghofio eich gwaith a’r cariad a ddangosasoch tuag at Ei enw, pan weiniasoch i’r saint, ac yn gweini iddynt. A chwennychwn i bob un o honoch ddangos yr un diwydrwydd tua llawnder gobaith hyd y diwedd, fel nad musgrell y byddoch, ond efelychwyr y rhai trwy ffydd ac amynedd sy’n etifeddu yr addewidion. Canys pan i Abraham yr addawodd, Duw, gan na myn neb oedd fwy y gallai dyngu, a dyngodd myn Ef Ei hun, gan ddywedyd, “Yn ddiau gan fendithio y’th fendithiaf, a chan amlhau y’th amlhaf.” Ac felly, wedi dioddef yn amyneddgar, y cafodd yr addewid. Canys dynion myn un a fo mwy a dyngant; ac iddynt hwy, terfyn pob ymryson, er cadarnhad, yw’r llw. Yn hyn, Duw yn ewyllysio dangos yn helaethach i etifeddion yr addewid anghyfnewidioldeb Ei gynghor, a gyfryngodd â llw, fel trwy ddau beth anghyfnewidiol, yn y rhai ammhosibl yw celwyddu o Dduw, annogaeth cryf fyddai genym ni a ffoisom, i gymmeryd gafael yn y gobaith a osodwyd o’n blaen, yr hwn sydd genym fel angor yr enaid, yn ddiogel, ac yn ddiymmod, ac yn myned i mewn i’r tu fewn i’r llen, lle y mae Rhag-redwr trosom wedi myned i mewn, Iesu, wedi Ei wneuthur, yn ol dull Melchitsedec, yn Arch-offeiriad yn dragywydd. Canys y Melchitsedec hwn, brenhin Shalem, offeiriad Duw Goruchaf, yr hwn a gyfarfu ag Abraham yn dychwelyd o ladd y brenhinoedd, ac a’i bendigodd ef; i’r hwn hefyd degfed ran o’r cwbl a gyfrannodd Abraham, (yn gyntaf, o’i gyfieithu, Brenhin cyfiawnder; a chwedi’n hefyd, Brenhin Shalem, yr hyn yw Brenhin heddwch; heb dad, heb fam, heb achau, heb fod iddo na dechreu dyddiau, na diwedd einioes, ond wedi ei wneuthur yn gyffelyb i Fab Duw,) aros yn offeiriad y mae yn barhaus. Ystyriwch mor fawr oedd hwn, i’r hwn y bu i Abraham roddi degwm o’r brif-anrhaith, y patriarch. A’r rhai o feibion Lefi y sy’n derbyn swydd yr offeiriadaeth, gorchymyn sydd ganddynt i gymmeryd degwm gan y bobl yn ol y Gyfraith, hyny yw, gan eu brodyr, er wedi dyfod o honynt o lwynau Abraham; ond yr hwn nad oedd ei achau o honynt hwy, a gymmerodd ddegwm gan Abraham; ac yr hwn oedd a’r addewidion ganddo, a fendithiodd efe. Ac heb neb rhyw ddadl, yr hyn sydd lai, gan y gwell y bendithir. Ac yma yn wir, dynion y sy’n marw a dderbyniant ddegymmau; ond yno, yr hwn y tystiolaethir iddo mai byw y mae. Ac, fel y dywedwyf felly, trwy Abraham hyd yn oed Lefi, yr hwn sy’n derbyn degymmau, a dalodd ddegwm, canys etto yn lwynau ei dad yr ydoedd pan gyfarfu Melchitsedec ag ef. Pe buasai, gan hyny, berffeithrwydd trwy’r offeiriadaeth Lefiticaidd, (canys dani hi y bu i’r bobl dderbyn y Gyfraith,) pa raid oedd mwyach am, yn ol dull Melchitsedec, i arall gyfodi yn offeiriad, ac nad yn ol dull Aaron y’i gelwid? Canys wrth newid yr offeiriadaeth, o angenrhaid newid y gyfraith hefyd a wneir. Canys am yr hwn y dywedir y pethau hyn, i lwyth arall y perthynai, o’r hwn nid oedd neb a wasanaethodd yr allor; canys eglur yw mai o Iwdah y cododd ein Harglwydd, am yr hwn lwyth, o ran offeiriaid, ni fu i Mosheh lefaru dim. Ac helaethach etto y mae’n eglur, os yn ol cyffelybiaeth Melchitsedec y mae offeiriad arall yn codi, yr Hwn, nid yn ol cyfraith gorchymyn cnawdol y’i gwnaed, eithr yn ol gallu bywyd annattodadwy: canys tystiolaethir, “Tydi wyt offeiriad yn dragywydd yn ol dull Melchitsedec.” Canys diddymmiad sy’n digwydd i’r gorchymyn sy’n myned o’r blaen o herwydd ei wendid a’i afles (canys nid oedd dim a berffeithiwyd gan y Gyfraith,) a dwyn i mewn obaith gwell, trwy’r hwn yr ydym yn nesau at Dduw. A chan belled ag nad heb lw y mae (canys hwynt-hwy, heb lw y maent wedi eu gwneuthur yn offeiriaid; ond Hwn gyda llw, gan yr Hwn sy’n dywedyd am Dano, “Tyngodd Iehofah, — ac nid edifarha, Tydi wyt offeiriad yn dragywydd:”) mor bell hefyd, o gyfammod gwell y gwnaed Iesu yn Fachnïydd. A hwynt-hwy, llawer sydd wedi eu gwneuthur yn offeiriaid o herwydd mai gan farwolaeth y’u rhwystrid rhag parhau; ond Efe, gan Ei fod yn parhau yn dragywydd, sydd a Chanddo Ei offeiriadaeth heb fyned heibio. Oddiwrth hyny, achub yn hollol y medr Efe y rhai sy’n dyfod trwyddo Ef at Dduw, gan Ei fod bob amser yn byw i eiriol drostynt. Canys y cyfryw a weddai i nyni yn Arch-offeiriad, yn sanctaidd, diddrwg, dihalog, didoledig oddiwrth bechaduriaid, ac wedi Ei wneuthur yn uwch na’r nefoedd; yr Hwn sydd heb Ganddo bob dydd anghenrhaid, fel yr arch-offeiriaid, i offrymmu aberthau, yn gyntaf am Ei bechodau Ei hun, a chwedi’n am yr eiddo’r bobl, canys hyn a wnaeth Efe unwaith am byth pan Ef Ei hun yr offrymmodd. Canys y Gyfraith sy’n gosod dynion yn arch-offeiriaid, a chanddynt wendid; ond gair y llw sydd wedi’r Gyfraith, a osododd y Mab, yr Hwn a berffeithiwyd yn dragywydd. A’r pennaf peth yn yr hyn a ddywedir yw hyn, Y cyfryw Arch-offeiriad sydd genym, yr Hwn a eisteddodd ar ddeheulaw gorseddfaingc Y Mawredd yn y nefoedd; Gweinidog y gyssegrfa a’r gwir dabernacl, yr Hwn a osododd yr Arglwydd, ac nid dyn. Canys pob archoffeiriad, i offrymmu rhoddion ac aberthau y’u gosodir; a chan hyny, rhaid oedd bod gan Hwn hefyd ryw beth a offrymmai. Pe bai Efe, gan hyny, ar y ddaear, ni fyddai yn offeiriad o gwbl, gan fod y rhai sy’n offrymmu’r rhoddion yn ol y Gyfraith, y rhai sy’n gwasanaethu i siampl a chysgod y pethau nefol, fel y rhybuddiwyd Mosheh pan ar fedr gorphen y Tabernacl; canys, “Gwel,” medd Efe, “ar wneuthur o honot bob peth yn ol y portreiad a ddangoswyd i ti yn y mynydd.” Ond yn awr, gweinidogaeth mwy rhagorol a gafodd Efe, o gymmaint ag i gyfammod gwell y mae yn Gyfryngwr, yr hwn a ddeddf-osodwyd ar addewidion gwell. Canys pe buasai’r cyntaf hwnw yn ddifeius, i arall ni cheisiasid lle. Canys yn beio arnynt y dywaid Efe, “Wele, dyddiau sy’n dyfod, medd Iehofah, Y gwnaf â thŷ Israel ac â thŷ Iwdah, gyfammod newydd; Nid yn ol y cyfammod a wnaethum â’u tadau Yn y dydd yr ymaflais yn eu llaw i’w dwyn o dir yr Aipht; Canys hwy nid arhosasant yn Fy nghyfammod, Ac Myfi a’u hesgeulusais, medd Iehofah. Canys hwn yw’r cyfammod a ammodaf â thŷ Israel Ar ol y dyddiau hyny, medd Iehofah; Gan roddi Fy nghyfreithiau yn eu meddwl, Ac ar eu calonnau yr ysgrifenaf hwynt; A byddaf iddynt yn Dduw, A hwy a fyddant i Mi yn bobl: Ac ni ddysgant bob un ei gyd-ddinesydd, A phob un ei frawd, gan ddywedyd, Adnebydd Iehofah, Canys pawb a’m hadnabyddant, O’r lleiaf hyd eu mwyaf; Canys trugarog fyddaf wrth eu hanghyfiawderau, A’u pechodau ni chofiaf mwy.” Wrth ddywedyd, “ Cyfammod newydd,” gwnaeth y cyntaf yn hen; a’r hwn sy’n myned yn hen ac yn oedrannus, agos i ddiflannu y mae. Yr oedd, gan hyny, gan y Cyfammod cyntaf ddefodau gwasanaeth Duw, a’i gyssegr bydol; canys tabernacl a barottowyd, sef y cyntaf, yn yr hwn yr oedd y canhwyllbren, a’r bwrdd, a gosodiad y bara ger bron, yr hwn dabernacl a elwir, “Y Cyssegr.” Ac yn ol yr ail len, y tabernacl a elwir, “Y Cyssegr Sancteiddioliaf,” a chanddo thuser aur ac arch y cyfammod wedi ei goreuro o amgylch, yn yr hon y mae crochan aur ag ynddo y manna, a gwialen Aaron, yr hon a flagurodd, a llechau’r cyfammod; ac uwch ei phen gerubiaid y gogoniant, yn cysgodi’r drugareddfa; ac am y pethau hyn ni ellir yn awr ddywedyd bob yn rhan. A’r pethau hyn wedi eu parottoi felly, i’r tabernacl cyntaf yn wastadol yr â’r offeiriaid i mewn, yn cyflawni’r gwasanaethau; ond i’r ail, un waith yn y flwyddyn, yr arch-offeiriad ar ei ben ei hun, nid heb waed, yr hwn a offrwm efe drosto ei hun, ac am gyfeiliornadau’r bobl; hyn yn cael ei hyspysu gan yr Yspryd Glân, nad amlygwyd etto y ffordd i’r cyssegr, tra y mae’r tabernacl cyntaf yn sefyll; a hyn sydd ddammeg am yr amser presennol, yn ol yr hon y mae rhoddion ac aberthau yn cael eu hoffrymmu, heb ganddynt allu, o ran cydwybod, i berffeithio’r addolydd, gan nad ydynt ond (gyda bwydydd a diodydd ac amryw olchiadau) defodau cnawdol, wedi eu gosod hyd amser cywiriad. Ond Crist wedi dyfod, Arch-offeiriad y pethau da i ddyfod, trwy’r tabernacl mwy a pherffeithiach, nid o waith llaw, hyny yw, nid o’r greadigaeth hon, ac nid trwy waed geifr a lloi, ond trwy Ei waed Ei hun, a aeth i mewn, un waith am byth, i’r cyssegr, wedi cael prynedigaeth tragywyddol. Canys os gwaed geifr a theirw, a lludw anner yn taenellu y rhai a halogwyd, a sancteiddiai i lanhad y cnawd, pa faint mwy y bydd i waed Crist, yr Hwn trwy’r Yspryd Tragywyddol a offrymmodd Ef Ei hun yn ddianaf i Dduw, lanhau eich cydwybod oddiwrth weithredoedd meirwon, i wasanaethu y Duw Byw? Ac o herwydd hyn i gyfammod newydd y mae Efe yn Gyfryngwr, fel, marwolaeth wedi digwydd er prynedigaeth y troseddau tan y cyfammod cyntaf, y derbyniai y rhai a alwyd addewid yr etifeddiaeth dragywyddol. Canys lle y mae testament, marwolaeth yr hwn a’i gwnaeth sydd a rhaid iddi ddyfod, canys ewyllys, ar ol marw dynion y mae’n ddiymmod, gan nad yw un amser a nerth ynddi tra byw y mae’r hwn a’i gwnaeth. A chan hyny, ni fu i hyd yn oed y cyntaf ei gyssegru heb waed: canys wedi adrodd pob gorchymyn yn ol y Gyfraith gan Mosheh i’r holl bobl, wedi cymmeryd gwaed y lloi a’r geifr, gyda dwfr a gwlân porphor ac hussop, ar y llyfr ei hun a’r holl bobl y taenellodd efe, gan ddywedyd, “Hwn yw gwaed y cyfammod a orchymynodd Duw tuag attoch.” A’r tabernacl hefyd, a holl lestri y gwasanaeth a daenellodd efe yn y cyffelyb fodd. Ac â gwaed bron pob peth a lanheir yn ol y Gyfraith, ac heb dywallt gwaed nid oes maddeuant. Rhaid oedd, gan hyny, i bortreiadau y pethau yn y nefoedd gael eu glanhau â’r rhai hyn; ond y pethau nefol eu hunain ag aberthau gwell na’r rhai hyn; canys nid i gyssegr o waith llaw yr aeth Crist i mewn, gwrth-lun y gwir gyssegr, eithr i’r nef ei hun, i ymddangos yn awr ger bron Duw trosom ni; ac nid fel yn fynych yr offrymmai Ef Ei hun, fel y mae’r archoffeiriad yn myned i mewn i’r cyssegr bod blwyddyn â gwaed arall, canys rhaid fuasai Iddo yn fynych ddioddef er seiliad y byd; ond yn awr, un waith am byth, yn niwedd yr oesoedd, er diddymmiad pechod trwy yr aberth o Hono Ei hun, yr amlygwyd Ef. Ac fel y mae mewn cadw i ddynion, un waith am byth, farw, ac wedi hyny farn, felly hefyd Crist, un waith am byth wedi Ei offrymmu, i ddwyn pechodau llawer, ail waith, yn wahan oddiwrth bechod yr ymddengys i’r rhai sydd yn Ei ddisgwyl er iachawdwriaeth. Canys a chysgod gan y Gyfraith, o’r pethau da i ddyfod, ac nid a’r llun ei hun o’r pethau, â’r un aberthau bob blwyddyn, y rhai a offrymmant yn wastadol, ni allant byth berffeithio y rhai sy’n dyfod at Dduw; canys oni pheidiasent â’u hoffrymmu, gan na fyddai mwyach ddim cydwybod o bechodau gan y rhai yn addoli, wedi iddynt un waith am byth eu glanhau? Eithr yn yr aberthau hyn, adgoffa pechodau sydd bob blwyddyn: canys ammhosibl yw i waed teirw a geifr dynnu ymaith bechodau. Gan hyny, pan yn dyfod i’r byd y dywaid, “Aberth ac offrwm ni ewyllysiaist, Ond corph a barottoaist i Mi; Mewn poeth-offrymmau a phech- aberthau ni’th foddlonwyd, Yna dywedais, Wele, daethym, (Yn rhol y llyfr yr ysgrifenwyd am Danaf,) I wneuthur, O Dduw, Dy ewyllys.” Gan ddywedyd uchod, “Aberthau ac offrymmau a phoeth-offrymmau a phech-aberthau ni ewyllysiaist,” ac “ni’th foddlonwyd” ynddynt, (y rhai yn ol y Gyfraith a offrymmir,) yna y dywedodd, “Wele, daethum i wneuthur Dy ewyllys,” tynnu ymaith y cyntaf y mae, fel yr ail y gosodo. A chan yr “ewyllys” hwn y’n sancteiddiwyd trwy offrwm corph Iesu Grist un waith am byth. A phob offeiriad yn wir sy’n sefyll o ddydd i ddydd yn gwasanaethu, ac yr un aberthau yn fynych a offrymma, y rhai ni allant byth dynnu ymaith bechodau; ond Hwn, wedi i un aberth am bechodau ei offrymmu Ganddo am byth, a eisteddodd ar ddeheulaw Duw, o hyn allan yn disgwyl hyd oni “osoder Ei elynion yn droed-faingc i’w draed,” canys ag un offrwm y mae wedi perffeithio am byth y rhai sy’n cael eu sancteiddio. A thystiolaethu i ni y mae’r Yspryd Glân, canys ar ol dywedyd, “Hwn yw ’r cyfammod a ammodaf â hwynt, Ar ol y dyddiau hyny, medd Iehofah, Gan roddi Fy nghyfreithiau yn eu calonnau Ac ar eu meddwl yr ysgrifenaf hwynt:” y dywaid, “A’u pechodau a’u hanwireddau ni chofiaf mwy.” A lle y mae maddeuant y rhai hyn, nid oes mwyach offrwm am bechod. Gan ein bod, gan hyny, frodyr, a chenym hyfdra am y ffordd i mewn i’r cyssegr trwy waed yr Iesu, yr hon a gyssegrodd Efe i ni, ffordd newydd a byw, trwy’r llen, hyny yw, Ei gnawd Ef; a chenym Offeiriad Mawr ar dŷ Dduw, nesawn â chalon gywir mewn llawnder ffydd, wedi ein taenellu o ran ein calonnau oddiwrth gydwybod ddrwg, ac wedi ein golchi o ran y corph â dwfr glân. Daliwn gyffes ein gobaith heb siglo o honi, canys ffyddlawn yw’r Hwn a addawodd; ac ystyriwn ein gilydd, i annog i gariad a gweithredoedd da; heb ymadael â chyd-gynhulliad ein gilydd, fel y mae arfer rhai, eithr gan gynghori ein gilydd; ac o hyny yn fwy yn gymmaint ag y gwelwn y dydd yn nesau. Canys pan o’n gwirfodd y pechwn, ar ol derbyn gwybodaeth y gwirionedd, nid oes mwyach yn aros aberth am bechodau, ond rhyw dderbyniad ofnadwy barn, ac angerdd tân ar fedr difa’r gwrthwynebwyr. Y neb a ddiystyrodd Gyfraith Mosheh, heb drugaredd, dan ddau neu dri o dystion y bydd farw: pa faint gwaeth cospedigaeth (dybygwch chwi,) y bernir haeddu o’r hwn y bu i Fab Duw Ei fathru ganddo; ac i waed y cyfammod ei farnu yn ansanctaidd ganddo, â’r hwn y’i sancteiddiwyd, ac i Yspryd y gras Ei sarhau ganddo? Canys adwaenom yr Hwn a ddywedodd, “I Mi y perthyn dial; Myfi a dalaf:” ac etto, “Barna Iehofah Ei bobl.” Peth ofnadwy yw syrthio yn nwylaw y Duw Byw. Ond gelwch i’ch cof y dyddiau o’r blaen, yn y rhai, wedi eich goleuo, llawer ymdrech dioddefiadau a oddefasoch; o ran, â gwaradwyddiadau a gorthrymderau yn cael eich gwneuthur yn wawd; ac o ran, wedi myned yn gyfrannogion â’r rhai yn cael eu trin felly, canys â’r rhai mewn rhwymau y cyd-ymdeimlasoch, ac anrheithiad eich meddiannau gyda llawenydd a gymmerasoch, gan wybod fod genych, i’ch hunain, feddiant gwell a pharhaus. Na fwriwch ymaith, gan hyny, eich hyfdra, yr hwn sydd a chanddo fawr daledigaeth a gobrwy; canys wrth amynedd y mae i chwi raid, fel, wedi i ewyllys Duw ei wneuthur genych, y derbynioch yr addewid: Canys etto ychydig bachigyn A’r Hwn sy’n dyfod a ddaw, ac nid oeda; A’m cyfiawn, “trwy ffydd a fydd byw;” Ac os tyn yn ol, ni foddlonir Fy enaid ynddo. Ond nyni nid ydym o’r “tynnu yn ol,” i ddistryw; eithr o ffydd, i gadwedigaeth yr enaid. Ac y mae ffydd yn sicrwydd y pethau y gobeithir am danynt, yn brawf pethau na welir: canys trwyddi y tystiolaethwyd i’r henuriaid. Trwy ffydd y deallwn y ffurfiwyd y bydoedd gan air Duw, fel nad o bethau yn ymddangos y cafodd yr hyn a welir ei wneuthur. Trwy ffydd, gwell aberth na Chain a offrymmodd Abel i Dduw; trwy’r hon y tystiolaethwyd iddo ei fod yn gyfiawn, gan dystiolaethu o Dduw ar ei roddion ef; a thrwyddi, wedi marw o hono, etto y llefara. Trwy ffydd, Enoch a drosglwyddwyd, fel na welai farwolaeth; ac ni chaed ef, o herwydd ei drosglwyddo gan Dduw; canys cyn ei drosglwyddiad, tystiolaethwyd iddo y rhyngodd fodd Duw; ac heb ffydd ammhosibl yw rhyngu Ei fodd Ef, canys credu y mae rhaid i’r hwn sy’n dyfod at Dduw, Ei fod Efe; ac i’r rhai sydd yn Ei geisio, Ei fod yn obrwywr. Trwy ffydd, Noah, wedi ei rybuddio am y pethau na welid etto, gydag ofn duwiol, a ddarparodd arch er achubiaeth ei dŷ; a thrwyddi y condemniodd y byd, ac o’r cyfiawnder y sydd yn ol ffydd y’i gwnaed yn etifedd. Trwy ffydd, pan alwyd arno, Abraham a ufuddhaodd i fyned allan i’r lle yr oedd efe ar fedr ei dderbyn yn etifeddiaeth; ac aeth allan heb wybod i ba le yr oedd yn myned; trwy ffydd y bu yn ymdeithydd yn nhir yr addewid fel tir dieithr, ac mewn pebyll yn trigo, ynghydag Itsaac ac Iacob, cyd-etifeddion o’r un addewid, canys disgwyliai am y ddinas a sylfeini ganddi, saer ac adeiladydd yr hon yw Duw. Trwy ffydd, Sarah hefyd, ei hun a dderbyniodd allu i feichiogi, ac wedi amser oedran, canys ffyddlawn a farnodd hi yr Hwn a addawsai; o herwydd paham hefyd o un y cenhedlwyd (a hyn hefyd, wedi marweiddio o hono,) fel ser y nefoedd mewn lliaws, ac fel y tywod ar lan y môr, y sydd yn aneirif. Mewn ffydd y bu farw y rhai hyn oll, heb dderbyn o honynt yr addewidion, eithr o bell eu gweled hwynt a’u cofleidio, ac wedi cyfaddef mai dieithriaid ac alltudion oeddynt ar y ddaear: canys y rhai sy’n dywedyd y cyfryw bethau, a ddangosant yn eglur mai mam-wlad y maent yn ei cheisio. Ac yn wir, ped am honno y buasent yn cofio, o’r hon yr aethant allan, buasai ganddynt amser i ddychwelyd; ond yn awr un well y maent yn ei chwennych, hyny yw, un nefol; o herwydd paham nid oes cywilydd o honynt gan Dduw, i’w alw eu Duw hwynt, canys parottodd iddynt ddinas. Trwy ffydd yr offrymmodd Abraham Itsaac, yn cael ei brofi; ac ei unig-anedig a offrymmai yr hwn a dderbynodd yr addewidion, wrth yr hwn y dywedwyd, “Yn Itsaac y gelwir i ti fab,” yn cyfrif mai hyd yn oed o feirw y mae Duw yn alluog i gyfodi dyn; ac oddi yno mewn dammeg y cafodd efe ef hefyd. Trwy ffydd, hyd yn oed am bethau i ddyfod y bendithiodd Itsaac Iacob ac Esau. Trwy ffydd, Iacob, pan yn marw, a fendithiodd bob un o feibion Ioseph, ac a addolodd a’i bwys ar ben ei ffon. Trwy ffydd, Ioseph, pan yn trengu, am y mynediad allan gan feibion Israel y coffhaodd, ac am ei esgyrn y gorchymynodd. Trwy ffydd, Mosheh, wedi ei eni, a guddiwyd dri mis gan ei rieni, o achos gweled o honynt mai tlws oedd y plentyn; ac nid ofnasant orchymyn y brenhin. Trwy ffydd, Mosheh, wedi myned yn fawr, a wrthododd ei alw yn fab merch Pharaoh, gan ddewis yn hytrach ei ddrygu ynghyda phobl Dduw, na chael mwynhad pechod, byr ei amser, gan farnu mai yn fwy golud na thrysorau’r Aipht yr oedd gwaradwyddiad Crist, canys edrychai ar daledigaeth y gobrwy. Trwy ffydd y gadawodd yr Aipht, heb ofni llid y brenhin, canys fel yn gweled Yr Anweledig yr ymwrolodd. Trwy ffydd y cadwodd y Pasg a thaenelliad y gwaed, fel na byddai i’r hwn oedd yn dinystrio y rhai cyntaf-anedig gyffwrdd â hwynt. Trwy ffydd yr aethant trwy’r Môr Coch fel ar dir sych, o’r hwn Fôr, pan prawf a wnaeth yr Aiphtiaid, llyngcwyd hwynt. Trwy ffydd, caerau Iericho a syrthiasant wedi eu hamgylchu saith niwrnod. Trwy ffydd, Rahab y buttain ni ddifethwyd ynghyd â’r rhai a fuant anufudd, wedi derbyn o honi yr yspïwyr mewn heddwch. A pha beth etto a ddywedaf? canys pallu i mi a wna’r amser, wrth ddywedyd am Gedeon, Barac, Samson, Iephtha, a Dafydd, a Shamwel a’r prophwydi; y rhai, trwy ffydd, a orchfygasant deyrnasoedd, a weithredasant gyfiawnder, a gawsant addewidion, a gauasant safnau llewod, a ddiffoddasant allu tân, a ddiangasant rhag min y cleddyf, a nerthwyd allan o wendid, a wnaethpwyd yn gryfion mewn rhyfel, a wnaethant i fyddinoedd estroniaid droi eu cefnau. Derbyniodd gwragedd, trwy adgyfodiad, eu meirw; ac eraill a dorrwyd ar yr olwyn, yn ymwrthod â’r ymwared, fel gwell adgyfodiad y caffent. Ac eraill, o watwar a fflangellau y cawsant brawf, ïe, ac o rwymau a charchar. Llabyddiwyd hwynt; â llif y torrwyd hwynt, temtiwyd hwynt, trwy lofruddiaeth cleddyf y buant feirw; rhodient o amgylch mewn crwyn defaid, mewn crwyn geifr, yn anghenus, yn cael eu gorthrymmu, yn cael eu drygu, (ac o honynt nid oedd y byd yn deilwng,) mewn anial-leoedd y crwydrent, a mynyddoedd, a thyllau ac ogofeydd y ddaear. A’r rhai hyn oll, tystiolaeth wedi ei dwyn iddynt trwy ffydd, ni dderbyniasant yr addewid, Duw wedi darparu am danom ryw beth gwell, fel nad yn wahan oddi wrthym y perffeithid hwynt. Gan hyny, bydded i ninnau hefyd, a ni a chenym yn ein hamgylchu gwmmwl mor fawr o dystion, gan roi ymaith bob pwys a phechod y sydd mor barod yn ein hamgylchynu, redeg trwy amynedd y rhedfa a osodwyd o’n blaen, gan edrych at Ben-Tywysog a Pherffeithydd ein ffydd, Iesu, yr Hwn am y llawenydd a osodwyd o’i flaen, a ddioddefodd y groes, gan ddirmygu cywilydd, ac ar ddeheulaw gorsedd-faingc Duw yr eisteddodd. Canys ystyriwch yr Hwn a ddioddefodd y cyfryw wrth-ddywedyd gan bechaduriaid yn eu herbyn eu hunain, fel na flinoch yn eich eneidiau, gan ymollwng. Nid hyd waed y bu i chwi etto wrthsefyll, gan ymdrechu yn erbyn pechod; ac anghofiasoch y cyngor y sy’n ymryson â chwi fel meibion, “Fy mab, na ddirmyga gerydd Iehofah, Ac nac ymollwng pan Ganddo Ef y’th argyhoedder; Canys yr hwn a gar Iehofah, a gerydda Efe, A fflan-gella bob mab a dderbyn Efe.” Er cerydd yr ydych yn dioddef; megis meibion y mae Duw yn ymddwyn â chwi; canys pa fab sydd yr hwn ni cherydda ei dad ef? Ac os heb gerydd yr ydych, o’r hwn y bu pawb yn gyfrannogion, yna bastardiaid, ac nid meibion, ydych. Ac etto, tadau ein cnawd fu genym yn geryddwyr, a pharchasom hwynt; onid llawer mwy y’n darostyngir i Dad yr ysprydoedd, a byw? Canys hwynt-hwy, yn wir, am ychydig ddyddiau, fel y gwelent hwy yn dda, y’n ceryddent; ond Efe er ein llesad, er cyfrannogi o honom o’i sancteiddrwydd Ef. Pob cerydd, yn wir, am yr amser presennol, nid ymddengys yn fatter o lawenydd, eithr o dristwch; ond ar ol hyny, ffrwyth heddychol a rydd efe i’r rhai sydd wedi eu hyfforddi trwyddo, sef ffrwyth cyfiawnder. O herwydd paham, bydded i’r dwylaw a laesasant, a’r gliniau parlysol, eu hail-sythu genych; a gwnewch lwybrau sythion i’ch traed, fel na bo i’r hyn sydd gloff ei droi allan o’r ffordd, ond ei iachau yn hytrach. Heddwch dilynwch â phawb, a’r sancteiddrwydd heb yr hwn ni wel neb yr Arglwydd; gan edrych yn ddyfal rhag i neb fod ar ol oddiwrth ras Duw; rhag i ryw wreiddyn chwerwedd gan dyfu i fynu, beri blinder, a thrwyddo yr haloger y lliaws; rhag i neb fod yn butteiniwr neu ansanctaidd fel Esau, yr hwn, am un saig o fwyd, a werthodd ei enedigaeth-fraint ei hun: canys gwyddoch, pan wedi hyny yn ewyllysio etifeddu’r fendith, y gwrthodwyd ef (canys lle i edifeirwch ni chafodd efe,) er iddo gyda dagrau ei thaer-geisio hi. Canys ni ddaethoch at fynydd â’r hwn y cyffyrddwyd, ac a losgid gan dân, ac at dduder, a thywyllwch, a thymmestl, a sain udgorn, a llef geiriau yr hon y rhai a’i clywsant a ddeisyfiasant na ’chwanegid wrthynt air, canys ni oddefent yr hyn a orchymynid, “Os hyd yn oed bwystfil a gyffyrddai â’r mynydd, llabyddir ef; ” ac mor ofnadwy oedd yr hyn a welwyd, fel y bu i Mosheh ddweud, “Tra-ofnus ydwyf ac mewn cryndod:” eithr daethoch at Tsion fynydd, ac at ddinas y Duw Byw, yr Ierwshalem nefol, at fyrddiynnau o angylion, at gymmanfa ac eglwys y cyntaf-anedigion sydd wedi eu ’sgrifenu yn y nef, ac at Farnwr pawb, sef Duw; ac at ysprydoedd y cyfiawnion a berffeithiwyd, ac at Gyfryngwr cyfammod newydd, Iesu, ac at waed taenelliad y sy’n llefaru yn well nag Abel. Edrychwch na wrthodoch yr Hwn sy’n llefaru, canys os hwynt-hwy ni ddiengasant, y rhai a wrthodasant ar y ddaear yr Hwn a’u rhybuddiai, mwy o lawer ni ddiangwn ni y sy’n troi ymaith oddiwrth yr Hwn sydd yn ein rhybuddio o’r nefoedd; llais yr Hwn a ysgydwodd y ddaear y pryd hwnw; ond yn awr addawodd gan ddywedyd, “Etto un waith, Myfi a ysgydwaf nid yn unig y ddaear, eithr y nef hefyd.” A’r “Etto un waith” a hyspysa symmudiad ymaith y pethau yn cael eu hysgwyd, megis pethau wedi eu gwneuthur, fel yr arhoso y pethau nad ysgydwir. O herwydd paham, gan dderbyn teyrnas nad ysgydwir, bydded genym ddiochgarwch, trwy’r hon y gwasanaethom Dduw wrth Ei fodd, gydag ofn duwiol a braw, canys ein Duw ni, tân ysol yw. Bydded i frawdgarwch barhau. O lettygarwch na fyddwch anghofus, canys trwyddi, rhai yn ddiarwybod a lettyasant angylion. Cofiwch y rhai mewn rhwymau, megis wedi eich rhwymo gyda hwynt; ac y rhai a ddrygir, megis yn bod eich hunain hefyd yn y corph. Anrhydeddus fydded priodas, gyda phawb, a’r gwely yn ddihalog; canys putteinwyr a godinebwyr a farna Duw. Diariangar fydded eich tuedd; yn cael eich digoni â’r hyn sydd genych; canys Efe a ddywedodd, “Tydi, ni’th roddaf i fynu; ac â thydi nid ymadawaf ddim,” fel yn hyderus y dywedom ni, “Iehofah sydd i mi yn gynnorthwywr; Pa beth a wna dyn i mi?” Cofiwch eich blaenoriaid, y rhai a lefarasant wrthych Air Duw; a chan fyfyrio ar ddiwedd eu hymarweddiad, efelychwch eu ffydd. Iesu Grist, ddoe a heddyw yr un yw, ac yn dragywydd. Gan ddysgadau amrywiol a dieithr na’ch cam-ddyger ymaith, canys da yw â gras y sefydler y galon, nid â bwydydd, y rhai ni lesawyd y rhai a rodient ynddynt. Y mae genym allor o’r hon nid oes awdurdod i fwytta gan y rhai sy’n gwasanaethu’r tabernacl; canys yr anifeiliaid, y rhai y dygir eu gwaed i mewn am bechod, i’r cyssegr, gan yr arch-offeiriaid, eu cyrph a losgir tu allan i’r gwersyll: o herwydd paham, Iesu hefyd, fel â’i waed Ei hun y sancteiddiai’r bobl, tu allan i’r porth y dioddefodd. Gan hyny, awn allan Atto Ef tu allan i’r gwersyll, a’i waradwydd Ef yn cael ei ddwyn genym; canys nid oes genym yma ddinas barhaus, eithr yr hon sydd ar ddyfod yr ym yn ei cheisio. Trwyddo Ef, gan hyny, offrymmwn aberth moliant yn wastadol i Dduw, hyny yw, ffrwyth gwefusau yn cyffesu i’w enw Ef. A chymmwynasgarwch a chyfrannu nac anghofiwch, canys â chyfryw ebyrth y rhyngir bodd Duw. Ufuddhewch i’ch blaenoriaid, ac ymddarostyngwch iddynt, canys hwy sy’n gwylio dros eich eneidiau, fel ar fedr rhoddi cyfrif, fel gyda llawenydd y gwnelont hyn ac nid gan alaru, canys difudd i chwi yw hyn. Gweddïwch yn ein cylch, canys perswadir ni mai cydwybod dda sydd genym, ym mhob peth yn ewyllysio ymddwyn yn dda: ond yn helaethach yr wyf yn eich cynghori i wneuthur hyn, fel yn gynt yr adferer fi i chwi. A Duw’r heddwch, yr Hwn a ddug drachefn o feirw Fugail Mawr y defaid gyda gwaed y cyfammod tragywyddol, sef ein Harglwydd Iesu, a’ch perffeithio ym mhob peth da, er gwneuthur Ei ewyllys, gan wneuthur o Hono ynom yr hyn a ryngo fodd yn Ei olwg, trwy Iesu Grist; i’r Hwn y bo’r gogoniant yn oes oesoedd. Amen. A chynghoraf chwi, frodyr, goddefwch air y cynghor; canys ar fyr eiriau hefyd yr ysgrifenais attoch. Gwybyddwch fod ein brawd Timothëus wedi ei ollwng yn rhydd; ynghyda’r hwn, os ar fyrder y daw, y gwelaf chwi. Annerchwch eich holl flaenoriaid, a’r holl saint. Eich annerch y mae y rhai o’r Ital. Gras fyddo gyda’r oll o honoch. Amen. Iago, gwas i Dduw a’r Arglwydd Iesu Grist, at y deuddeg llwyth y sydd ar wasgar: llawenydd i chwi. Cyfrifwch yn bob llawenydd, fy mrodyr, pan mewn profedigaethau amrywiol y syrthioch, gan wybod fod prawf eich ffydd yn gweithredu amynedd; ond bydded i amynedd fod a’i gwaith perffaith ganddi, fel y byddoch yn berffaith a chyfan, heb fod ar ol mewn dim. Ond os yw neb o honoch ar ol am ddoethineb, gofyned gan Dduw, yr Hwn sy’n rhoddi i bawb yn haelionus, ac nid yw’n dannod, a rhoddir iddo: ond gofyned mewn ffydd, heb ammeu dim, canys yr hwn sydd yn ammeu, tebyg yw i dón y môr, y sy’n cael ei gyrru gan y gwynt a’i thaflu; canys na feddylied y dyn hwnw y derbyn ddim gan yr Arglwydd, ac efe yn ŵr dau-ddyblyg ei feddwl, yn ansefydlog yn ei holl ffyrdd. Ond ymffrostied y brawd o isel radd, yn ei uchafiaeth; a’r goludog, yn ei ddarostyngiad, canys fel blodeuyn glaswelltyn yr aiff heibio; canys cyfodi y mae’r haul gyda’r gwynt poeth, ac yn sychu i fynu y glaswelltyn; a’i flodeuyn ef sy’n syrthio, a thegwch ei bryd yn darfod am dano; felly hefyd y goludog yn ei fynediadau y gwywa. Gwyn ei fyd y gŵr sydd yn goddef temtasiwn; canys wedi myned yn brofedig, caiff goron y bywyd, yr hon a addawodd Efe i’r rhai sydd yn Ei garu. Na fydded i neb, pan y’i temtir, ddywedyd, Oddiwrth Dduw y’m temtir; canys Duw, heb Ei demtio gan ddrygau y mae, ac nid yw Efe yn temtio neb; ond pob un sy’n cael ei demtio, pan gan ei chwant ei hun y’i tynnir allan ac y’i llithir. Wedi hyny chwant, wedi ymddwyn, sy’n esgor ar bechod; a phechod, wedi ei orphen, sy’n esgor ar farwolaeth. Nac arweinier chwi ar gyfeiliorn, fy mrodyr anwyl. Pob rhoddiad da, a phob rhodd berffaith, oddi uchod y mae, yn disgyn oddiwrth Dad y goleuadau, gyda’r Hwn nid oes cyfnewidiad na chysgod tröedigaeth. Wedi ewyllysio o Hono, y cenhedlodd Efe ni trwy Air y gwirionedd, fel y byddem ni ryw flaen-ffrwyth o’i greaduriaid. Gwyddoch hyn, fy mrodyr anwyl; ond bydded pob dyn yn esgud i glywed, yn hwyrfrydig i lefaru, yn hwyrfrydig i ddigofaint; canys digofaint dyn, cyfiawnder Duw nis gweithreda. O herwydd paham, gan roddi ymaith bob budreddi a helaethrwydd drygioni, gydag addfwynder derbyniwch y Gair a blannwyd ynoch, yr hwn sydd abl i gadw eich eneidiau. Ond byddwch wneuthurwyr y Gair, ac nid gwrandawyr yn unig, yn twyllo eich hunain; canys os yw neb yn wrandawr y Gair, ac nid yn wneuthurwr, hwn sydd debyg i ŵr yn ystyried ei wynebpryd naturiol mewn drych; canys ystyria ei hun, ac ymaith yr â, ac yn uniawn yr anghofia pa fath o ddyn ydyw. Ond yr hwn a ymgrymmodd i edrych yn y gyfraith berffaith, cyfraith rhyddid, ac a barhaodd ynddi, wedi myned nid yn wrandawr anghofus, eithr yn wneuthurwr gweithred, hwn, dedwydd yn ei wneuthuriad fydd. Os yw neb yn meddwl ei fod yn wasanaethwr crefyddol, heb ffrwyno ei dafod, eithr yn twyllo ei galon, gwasanaeth crefyddol hwn sydd ofer. Gwasanaeth crefyddol pur a dihalog ger bron Duw a’ r Tad yw hwn, sef ymweled â phlant amddifaid a gwragedd gweddwon, yn eu gorthrymder, a’i gadw ei hun yn ddifrycheulyd oddiwrth y byd. Fy mrodyr, nid gyda derbyn gwynebau bydded genych ffydd ein Harglwydd Iesu Grist, Arglwydd y gogoniant. Canys os daw i mewn i’ch cynnull-fan ŵr â modrwy aur, mewn gwisg ddisglaer, a dyfod i mewn hefyd o dlodyn mewn gwisg fudr; ac edrych o honoch ar yr hwn sydd wedi ymwisgo â’r wisg ddisglaer, a dywedyd, Tydi, eistedd yma mewn lle da, ac wrth y tlodyn y dywedoch, Tydi, saf accw, neu eistedd is law fy ’stol-droed, oni wahanwyd chwi yn eich plith eich hunain, a myned yn farnwyr drwg eu meddyliau? Gwrandewch, fy mrodyr anwyl; oni fu i Dduw ddewis y tlodion yn y byd i fod yn oludog mewn ffydd, ac yn etifeddion y deyrnas yr hon a addawodd Efe i’r rhai sydd yn Ei garu Ef? Ond chwychwi a ddianrhydeddasoch y tlodyn! Onid y rhai goludog sy’n tra-arglwyddiaethu arnoch, a hwynt-hwy sydd yn eich llusgo ger bron brawdleoedd? Onid hwy sy’n cablu yr enw ardderchog a alwyd arnoch? Beth bynnag, os y gyfraith frenhinol a gyflawnwch, yn ol yr Ysgrythyr, “Ceri dy gymmydog fel ti dy hun,” da yr ydych yn gwneuthur; ond os derbyn gwyneb yr ydych, pechod yr ydych yn ei wneud, yn cael eich argyhoeddi gan y Gyfraith megis troseddwyr; canys y neb sydd a’r holl Gyfraith yn cael ei chadw ganddo, ond tripio o hono mewn un pwngc, o’r oll yr aeth yn euog. Canys yr Hwn a ddywedodd, “Na odineba,” a ddywedodd hefyd, “Na ladd;” ac os godinebu nad wyt, ond yn lladd, yn droseddwr y Gyfraith yr aethost. Felly lleferwch, ac felly gwnewch, fel trwy gyfraith rhyddid i gael eich barnu; canys y farn sydd ddi-drugaredd i’r hwn na wnaeth drugaredd. Ymffrostio y mae trugaredd uwch ben barn. Pa beth yw’r llesad, fy mrodyr, os dywaid neb, Y mae ffydd genyf, ond gweithredoedd heb fod ganddo? A ddichon ffydd ei gadw ef? Os brawd neu chwaer fydd noeth, ac mewn eisiau ymborth beunyddiol, a dywedyd o ryw un o honoch wrthynt, Ewch mewn heddwch, ymdwymnwch, a llanwer chwi, ond heb roddi o honoch iddynt y pethau angenrheidiol i’r corph, pa beth yw’r llesad? Felly hefyd ffydd, os na fydd ganddi weithredoedd, marw yw ynddi ei hun. Eithr fe ddywaid rhyw un, Tydi wyt a ffydd genyt; ac myfi wyf a gweithredoedd genyf: dangos i mi dy ffydd yn wahan oddiwrth dy weithredoedd; ac myfi a ddangosaf i ti, trwy fy ngweithredoedd, fy ffydd i. Tydi wyt yn credu mai un yw Duw: da yr wyt yn gwneuthur; a’r cythreuliaid a gredant, ac a arswydant. Ond a ewyllysi di wybod, O ddyn ofer, fod ffydd, yn wahan oddiwrth weithredoedd, yn ddifudd? Abraham ein tad, onid trwy weithredoedd y cyfiawnhawyd ef, pan offrymmodd Itsaac, ei fab, ar yr allor? Gweli yr oedd ffydd yn cydweithio â’i weithredoedd, a thrwy’r gweithredoedd ffydd a berffeithiwyd; a chyflawnwyd yr Ysgrythyr y sy’n dywedyd, “A chredodd Abraham i Dduw, a chyfrifwyd iddo yn gyfiawnder; a chyfaill Duw y galwyd ef.” Gwelwch mai trwy weithredoedd y cyfiawnheir dyn, ac nid trwy ffydd ar ei phen ei hun. Ac yr un ffunud, Rahab hefyd, y buttain, onid trwy weithredoedd y’i cyfiawnhawyd, wrth dderbyn o honi y cenhadau, a’u danfon ymaith ffordd arall? Canys fel y mae’r corph, yn wahan oddiwrth yr yspryd, yn farw; felly hefyd ffydd, yn wahan oddiwrth weithredoedd, marw yw. Nac ewch yn llawer o ddysgawdwyr, fy mrodyr, gan wybod mai barnedigaeth fwy a dderbyniwn, canys llawer tripiad a wnawn, yr oll o honom; ac os ar air na thripia neb, hwnw sydd ŵr perffaith, yn gallu ffrwyno’r holl gorph hefyd. Ac os ffrwynau’r meirch a roddwn yn eu safnau fel yr ufuddhaont i ni, eu holl gorph hefyd a drown o amgylch. Wele, y llongau hefyd, a hwy mor fawr, ac yn cael eu gyrru gan wyntoedd cryfion, a droir o amgylch â llyw bychan iawn, lle y mae tuedd y llywydd yn ewyllysio. Felly hefyd y tafod, aelod bychan yw, a phethau mawrion a ffrostia. Wele, gan mor ychydig dân cymmaint coed a gynneuir. A’r tafod sydd dân; y byd o anghyfiawnder, y tafod, sydd yn ein haelodau, yr hwn sy’n halogi’r holl gorph, ac yn gosod troell naturiaeth yn fflam, ac yn cael ei osod yn fflam gan Gehenna. Canys pob math o wyllt-filod ac ehediaid, ac o gropiedyddion, a phethau yn y môr, sy’n cael eu dofi, ac wedi cael eu dofi, gan natur ddynol; ond y tafod, nid oes neb o ddynion a all ei ddofi ef: drwg diorphwys yw, gorlawn yw o wenwyn angeuol. Ag ef y bendithiwn yr Arglwydd a Thad; ac ag ef y melldithiwn ddynion, y rhai ar gyffelybiaeth Duw y’u gwnaed. O’r un genau, dyfod allan y mae bendithiad a melldithiad! Ni ddylai, fy mrodyr, y pethau hyn fod felly. A ydyw ffynnon, o’r un llygad, yn tywallt allan yr hyn sydd felus a’r hyn sydd chwerw? A all, fy mrodyr, pren ffigys ddwyn olifaid; neu winwydden, ffigys? Ni all chwaith yr hallt roddi dwfr melus. Pwy sydd ddoeth a deallus yn eich plith? Dangosed, trwy ei ymarweddiad da, ei weithredoedd mewn mwyneidd-dra doethineb. Ond os eiddigedd chwerw a chynnen sydd genych yn eich calon, nac ymffrostiwch, a chelwyddu, yn erbyn y gwirionedd: nid yw’r doethineb hwn yn disgyn oddi uchod; eithr daearol, anfeilaidd, cythreulig yw; canys lle y mae eiddigedd a chynnen, yno y mae afreolaeth a phob gweithred ddrwg. Ond y doethineb oddi uchod, yn gyntaf pur yw, a chwedi’n yn heddychlawn, addfwyn, hawdd ei berswadio, gorlawn o drugaredd a ffrwythau da, heb ammeuaeth, ac yn ddiragrith: a ffrwyth cyfiawnder, mewn heddwch yr heuir i’r rhai sy’n gwneuthur heddwch. O ba le y mae rhyfeloedd, ac o ba le ymladdau yn eich plith? Onid oddi yma, o’ch melus-chwantau y sy’n milwrio yn eich aelodau? Chwennychu yr ydych, ac nid ydych yn cael: lladd ac eiddigeddu yr ydych, ac ni ellwch gaffael: ymladd a rhyfela yr ydych. Nid ydych yn cael am nad ydych yn gofyn. Gofyn yr ydych, ac nid ydych yn derbyn, am mai yn ddrygionus y gofynwch, fel ar eich melus-chwantau y gwarioch. Godineb-wragedd, oni wyddoch fod cyfeillach y byd yn elyniaeth i Dduw? Pwy bynnag, gan hyny, a ewyllysio fod yn gyfaill y byd, gelyn Duw y’i gwneir. A dybiwch chwi mai yn ofer y mae’r Ysgrythyr yn dywedyd? Ai at gynfigen yr hiraetha’r Yspryd, yr Hwn y gwnaeth Efe Iddo drigo ynom? Ond gras mwy a rydd Efe: o herwydd paham y dywaid, Yn erbyn beilchion y mae Duw yn Ei osod Ei hun, ond i’r rhai gostyngedig y rhydd ras. Ymddarostyngwch, gan hyny, i Dduw; ond gwrthsefwch ddiafol, a ffy oddiwrthych. Nesewch at Dduw, ac nesau attoch a wna Efe. Glanhewch eich dwylaw, bechaduriaid; a phurwch eich calonnau, chwi ddau-ddyblyg eich meddwl. Ymgystuddiwch, a galerwch, a gwylwch. Bydded i’ch chwerthin ei droi yn alar, a’ch llawenydd yn dristwch. Ymddarostyngwch ger bron yr Arglwydd, a dyrchafa Efe chwi. Na leferwch yn erbyn eich gilydd, frodyr. Yr hwn sy’n llefaru yn erbyn brawd, neu yn barnu ei frawd, llefaru yn erbyn y Gyfraith y mae, ac yn barnu’ r Gyfraith; ac os y Gyfraith a ferni, nid wyt wneuthurwr y Gyfraith, eithr ei barnwr. Un yw’r Cyfraith-roddwr a Barnwr, yr Hwn sy’n abl i achub ac i ddistrywio. Ond tydi, pwy wyt, yr hwn wyt yn barnu dy gymmydog? Deuwch yn awr, y rhai yn dywedyd, Heddyw, neu y foru, yr awn i’r ddinas hon; a threuliwn yno flwyddyn, a marchnattawn, ac ennillwn, y rhai ni wyddoch yr hyn a berthyn i’r “foru;” (pa fath yw eich bywyd? Canys tarth ydych, yr hwn sydd am ychydig yn ymddangos, a chwedi’n yn diflannu;) yn lle dywedyd o honoch, Os yr Arglwydd a’i myn, byw fyddwn a gwnawn hyn neu hyny. Ond yn awr, ymffrostio yr ydych yn eich gwag-ogoniant; pob ymffrost o’r fath, drwg yw. I’r hwn sy’n gwybod, gan hyny, pa sut i wneuthur daioni, ac nad yw yn ei wneuthur, yn bechod iddo ef y mae. Deuwch yn awr, y goludogion; gwylwch dan udo ar eich gofidiau y sy’n dyfod arnoch. Eich golud a bydrodd; a’ch gwisgoedd, gwyfed sydd yn eu hysu; eich aur a’ch arian a rydasant, ac eu rhwd fydd yn dystiolaeth yn eich erbyn, ac a fwytty eich cnawd fel tân. Trysorasoch yn y dyddiau diweddaf! Wele, cyflog y gweithwyr a fedasant eich meusydd, yr hwn a gam-attaliwyd, oddi wrthych y gwaedda; a bloeddiau y rhai a fedasant, i glustiau Iehofah y Tsabaoth y daethant i mewn. Moethus fuoch ar y ddaear, a thrythyll; meithrinasoch eich calon mewn dydd lladdedigaeth; condemniasoch, lladdasoch y cyfiawn; nid yw yn ei osod ei hun i’ch erbyn. Byddwch ymarhöus, gan hyny, frodyr, hyd ddyfodiad yr Arglwydd. Wele, yr amaethydd sy’n disgwyl am ffrwyth gwerthfawr y ddaear, yn ymarhöus am dano nes derbyn o hono y gwlaw cynnar a’r diweddar. Byddwch chwithau hefyd ymarhöus; sefydlwch eich calonnau, canys dyfodiad yr Arglwydd sydd agos. Na rwgnechwch, frodyr, yn erbyn eich gilydd, fel na’ch barner; wele, y Barnwr, o flaen y drws y mae’n sefyll. Cymmerwch, frodyr, megis siampl o ddrwg-driniaeth a hir-ymaros, y prophwydi, y rhai a lefarasant yn enw’r Arglwydd. Wele, bendigedig a gyfrifwn y rhai a oddefasant. Am amynedd Iob y clywsoch; a diwedd yr Arglwydd a welsoch, mai mawr Ei dosturi yw’r Arglwydd ac yn drugarog. Ond o flaen pob peth, fy mrodyr, na thyngwch, na myn y nef, na myn y ddaear, na neb rhyw lw arall; ond bydded eich ïe chwi yn ïe, a’ch nage yn nage, fel nad tan farn y syrthioch. Ai mewn adfyd y mae neb yn eich plith? Gweddïed. Ai siriol yw neb? Caned fawl. Ai claf yw neb yn eich plith? Galwed atto henuriaid yr eglwys; a gweddïont drosto, gan ei enneinio ag olew yn enw’r Arglwydd, a gweddi ffydd a achub yr afiach, ac ei gyfodi a wna’r Arglwydd: ac os pechodau a wnaeth efe, maddeuir iddo. Cyffeswch, gan hyny, i’ch gilydd eich pechodau; a gweddïwch dros eich gilydd, fel y’ch iachaer: llawer a ddichon gweddi’r cyfiawn, yn ei gweithrediad. Elias oedd ddyn o gyffelyb wŷniau a ni, a thaer-weddïodd na byddai gwlaw; ac ni fu gwlaw ar y ddaear dair blynedd a chwe mis; a thrachefn y gweddïodd, a’r nef a roddes wlaw, a’r ddaear a roes flaen-darddiad ei ffrwyth. Fy mrodyr, os bydd i neb yn eich plith ei arwain ar gyfeiliorn oddiwrth y gwirionedd, a throi o ryw un ef, gwybydded y bydd i’r hwn a drodd bechadur oddiwrth gyfeiliornad ei grefydd, achub enaid o farwolaeth, a gorchuddio lliaws o bechodau. Petr, apostol i Iesu Grist, at yr etholedigion (ymdeithyddion y Gwasgariad yn Pontus, Galatia, Cappadocia, Asia, a Bithunia), yn ol rhag-wybodaeth Duw Dad, yn sancteiddiad yr Yspryd, i ufudd-dod a thaenelliad gwaed Iesu Grist: Gras i chwi a heddwch a amlhaer. Bendigedig fyddo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, yr Hwn yn ol Ei fawr drugaredd a’n had-genhedlodd i obaith byw trwy adgyfodiad Iesu Grist o feirw, i etifeddiaeth anllygradwy, a dihalogedig, a diddiflannedig, mewn cadw yn y nef i chwi, y rhai trwy allu Duw sy’n cael eich gwarchadw trwy ffydd i iachawdwriaeth barod i’w datguddio yn yr amser diweddaf: yn yr hwn yr ydych yn gorfoleddu, er am ychydig yn awr, os rhaid sydd, wedi eich tristau mewn amryw demtasiynau, fel y bo i brofiad eich ffydd, yr hwn sydd werthfawrusach nag aur y sy’n darfod a thrwy dân yn cael ei brofi, ei gaffael er mawl a gogoniant ac anrhydedd yn natguddiad Iesu Grist; yr Hwn, heb Ei weled, yr ydych yn Ei garu, yn yr Hwn, heb fod yn awr yn Ei weled, ond yn credu, gorfoleddu yr ydych â llawenydd anrhaethadwy a gogoneddedig; yn derbyn diwedd eich ffydd, iachawdwriaeth eich eneidiau; am yr hon iachawdwriaeth yr ymofynodd ac y manwl-chwiliodd y prophwydi a brophwydasant am y gras a ddeuai i chwi, gan chwilio pa bryd, neu ba ryw bryd, a hyspysai Yspryd Crist, yr Hwn oedd ynddynt, wrth rhag-dystiolaethu o Hono y dioddefiadau o ran Crist, a’r gogoniant ar eu hol; i’r rhai y datguddiwyd mai nid iddynt hwy eu hunain, ond i chwi y gweinyddent y pethau sydd yn awr wedi eu mynegi i chwi trwy y rhai a efengylasant i chwi trwy’r Yspryd Glân wedi ei ddanfon o’r nef: i’r hyn bethau y chwennych angylion ymgrymmu i edrych. O herwydd paham, wedi gwregysu lwynau eich meddwl, gan fod yn sobr, gobeithiwch yn berffaith am y gras sy’n cael ei ddwyn attoch yn natguddiad Iesu Grist; megis plant ufudd-dod, heb gydymagweddu â’ch chwantau o’r blaen yn eich anwybodaeth: eithr yn ol yr Hwn a’ch galwodd, Y Sanctaidd, chwithau hefyd byddwch sanctaidd ym mhob ymarweddiad; oblegid yr ysgrifenwyd, “Sanctaidd fyddwch, canys Myfi wyf sanctaidd.” Ac os megis Tad, yr ydych yn galw ar yr Hwn sydd heb dderbyn gwyneb, yn barnu yn ol gweithred pob un, am amser eich ymdeithiad ymddygwch mewn ofn, gan wybod mai nid â phethau llygradwy, arian neu aur, y’ch prynwyd o’ch ofer ymarweddiad a draddodwyd oddiwrth eich tadau, eithr â gwerthfawr waed, fel eiddo oen dianaf a difrycheulyd, sef gwaed Crist, yr Hwn a rag-adnabuwyd yn wir cyn seiliad y byd, ond a amlygwyd yn niwedd yr amseroedd er eich mwyn chwi, y rhai, Trwyddo Ef, ydych yn gredinwyr yn Nuw yr Hwn a’i cyfododd Ef o feirw, a gogoniant a roddodd Iddo Ef, fel y byddai eich ffydd a’ch gobaith yn Nuw. Eithr eneidiau wedi eu puro genych yn eich ufudd-dod i’r Gwirionedd, i frawdgarwch diragrith, o’r galon cerwch y naill y llall yn llwyrfrydig, wedi eich adgenhedlu, nid o had llygradwy, eithr anllygradwy, trwy Air byw Duw a pharhaus: canys “Pob cnawd sydd fel glaswelltyn, A’i holl ogoniant fel blodeuyn y glaswelltyn: Sychir y glaswelltyn, a’i flodeuyn a syrth, Ond gair Iehofah sy’n aros yn dragywydd:” a hwn yw’r gair a efengylwyd i chwi. Wedi rhoi ymaith, gan hyny, bob drygioni, a phob twyll a rhagrith a chenfigennau, a phob enllib, megis babanod newydd eu geni, am yr ysprydol didwyll laeth hiraethwch, fel trwyddo ef y cynnyddoch i iachawdwriaeth, os archwaethasoch mai da yw ’r Arglwydd. A chan ddyfod Atto Ef, y Maen Byw, yr Hwn gan ddynion yn wir a wrthodwyd, ond gyda Duw yn etholedig, yn werthfawr, chwychwi hefyd, megis meini byw, a adeiledir yn dŷ ysprydol, er offeiriadaeth sanctaidd i offrymmu aberthau ysprydol cymmeradwy gan Dduw trwy Iesu Grist. Canys y mae yn yr Ysgrythyr, “Wele, gosod yr wyf yn Tsion ben-congl-faen, etholedig, gwerthfawr; A’r hwn sy’n credu Ynddo Ef, ni chywilyddir ddim.” I chwi, gan hyny, y mae’r gwerthfawrogrwydd, y rhai ydych yn credu; ond i’r rhai nad y’nt yn credu, “Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, Hwn a wnaed yn ben y gongl,” ac “Yn faen taro, ac yn graig tramgwydd,” y rhai sy’n taro wrth y Gair, yn anufudd; i’r hwn beth hefyd y’u gosodwyd. Ond chwychwi ydych rywogaeth etholedig, brenhinol offeiriadaeth, cenedl sanctaidd, pobl yn feddiant i Dduw fel y mynegoch rinweddau yr Hwn a’ch galwodd chwi allan o dywyllwch i’w ryfeddol oleuni Ef; y rhai gynt nid oeddych bobl, ond yn awr pobl Dduw ydych; y rhai ni thrugarhawyd wrthych, ond yn awr wedi cael trugaredd. Anwylyd, cynghoraf chwi megis ymdeithyddion a dieithriaid, i ymgadw oddiwrth chwantau cnawdol, rhai sy’n milwrio yn erbyn yr enaid, gan fod a’ch ymarweddiad ymhlith y cenhedloedd yn dda, fel yn yr hyn y maent yn eich enllibio megis drwg-weithredwyr, y bo iddynt, oddiwrth eich gweithredoedd da, gan eu gweled, ogoneddu Duw yn nydd ymweliad. Ymddarostyngwch i bob dynol ordinhad, o herwydd yr Arglwydd; pa un bynnag ai i frenhin, megis goruchaf; ai i lywiawdwyr, megis yn cael eu danfon ganddo ef er dial ar ddrwg-weithredwyr, a mawl gweithredwyr yr hyn sy dda; canys fel hyn y mae ewyllys Duw, trwy wneuthur yr hyn sy dda ostegu o honoch anwybodaeth y dynion ynfyd; megis yn rhyddion, ond nid a’r rhyddid genych yn orchudd drygioni, eithr megis caethweision Duw. Pob dyn anrhydeddwch; y brawdoliaeth cerwch; Duw ofnwch; y brenhin anrhydeddwch. Y gweinidogion, byddwch yn ymddarostwng, gyda phob ofn, i’ch meistriaid; nid unig i’r rhai da ac addfwyn, eithr hefyd i’r rhai gwyrog; canys hyn sydd ddiolch-wiw, os o herwydd cydwybod tuag at Dduw y goddef neb gystuddiau, gan ddioddef ar gam; canys pa glod, os pan yn pechu ac yn cael eich cernodio, y dygwch ef yn amyneddgar? Eithr os pan yn gwneuthur yr hyn sydd dda, ac yn dioddef, y dygwch ef yn amyneddgar, hyn sydd ddiolch-wiw gyda Duw: canys i hyn y’ch galwyd; canys Crist hefyd a ddioddefodd drosoch, gan adael i chwi esampl fel y canlynech yn Ei olion; yr Hwn, pechod ni wnaeth, ac ni chafwyd chwaith dwyll yn Ei enau; ond pan yn cael Ei ddifenwi, ni ddifenwai drachefn; pan yn dioddef, ni fygythiai; ond traddodai Ei hun i’r Hwn sy’n barnu yn gyfiawn: yr Hwn ein pechodau Efe Ei hun a ddug yn Ei gorph ar y pren; fel, ar ol i bechodau y buom feirw, i gyfiawnder y byddom byw; trwy gleisiau yr Hwn y’ch iachawyd: canys oeddych, fel defaid, yn myned ar gyfeiliorn; eithr dychwelwyd chwi yn awr at Fugail ac Esgob eich eneidiau. Yr un ffunud, wragedd, byddwch yn ymddarostwng i’ch gwŷr eich hunain, fel od yw rhai yn anufudd i’r Gair, trwy ymarweddiad eu gwragedd, heb y Gair, yr enniller hwynt, gan weled o honynt eich ymarweddiad pur gydag ofn; gan y rhai bydded nid yr addurniad allanol o blethiad gwallt ac o amosodiad tlysau neu wisgiad dillad, eithr cuddiedig ddyn y galon, yn yr anllygradwy addurniad o’r yspryd addfwyn a llonydd, yr hwn sydd ger bron Duw yn dra-gwerthfawr; canys felly gynt y gwragedd sanctaidd, y rhai a obeithient yn Nuw, a addurnent eu hunain, gan ymddarostwng i’w gwŷr eu hunain; fel y bu i Sarah ufuddhau i Abraham, ac “Arglwydd” y’i galwai ef; i’r hon y’ch gwnaed yn blant, gan wneuthur yr hyn sydd dda, ac heb ofni neb rhyw arswyd. Y gwŷr, yr un ffunud, byddwch yn cyd-drigo â’ch gwragedd yn ol gwybodaeth, gan roddi i’r llestr menywaidd, megis yn wannach, anrhydedd; megis hefyd yn gyd-etifeddion gras y bywyd, fel na rwystrer eich gweddïau. Yn olaf, yr oll o honoch, byddwch yn unfryd, yn cyd-ymdeimlo, yn caru’r brodyr, yn drugarogion, yn ostyngedig, nid yn talu drwg am ddrwg, neu sen am sen; ond, yngwrthwyneb, yn bendithio, canys i hyn y’ch galwyd, fel mai bendith yr etifeddech. Canys “Yr hwn sy’n chwennych hoffi bywyd, A gweled dyddiau da, Attalied ei dafod oddiwrth ddrwg, A’ i wefusau rhag llefaru twyll; A chilied oddiwrth ddrwg, a gwnaed y da; Ceisied heddwch, a dilyned ef: Canys llygaid Iehofah sydd ar y cyfiawnion, Ac Ei glustiau tua’u deisyfiad; Ond gwyneb Iehofah sydd ar wneuthurwyr drygioni.” A phwy yw’ r hwn a’ch dryga os am yr hyn sydd dda y byddwch eiddigus? Eithr os bydd hefyd i chwi ddioddef o herwydd cyfiawnder, dedwydd ydych: ond â’u hofn hwy nac ofnwch, ac na’ch cynhyrfer, ond yr Arglwydd, y Crist, sancteiddiwch yn eich calonnau, yn barod yn wastad am atteb i bob un a ofyno i chwi reswm am y gobaith y sydd ynoch, eithr gydag addfwynder ac ofn; a chennych gydwybod dda, fel yn yr hyn y lleferir yn eich erbyn, y cywilyddier y rhai sy’n goganu eich ymarweddiad da chwi yng Nghrist: canys gwell pan yn gwneuthur yr hyn sydd dda, os ewyllysia ewyllys Duw, ddioddef o honoch, na phan yn gwneuthur drwg; canys Crist hefyd un waith am byth am bechodau a ddioddefodd, un cyfiawn er anghyfiawnion, fel y’n dygai ni at Dduw, wedi Ei farwolaethu yn wir yn y cnawd, ond Ei fywhau yn yr yspryd: yn yr hwn hefyd i’r ysprydion yngharchar yr aeth a phregethodd, y rhai fuant anufudd gynt pan ddisgwyliai hir-ymaros Duw yn nyddiau Noe, tra y darperid yr arch, i’r hon ychydig, hyny yw, wyth enaid, a aeth ac a achubwyd trwy ddwfr; yr hwn ddwfr, yn yr atteb-lun, sydd yn awr yn eich cadw chwi, sef bedydd, nid dodi ymaith fudreddi’r cnawd, eithr holiad cydwybod dda tuag at Dduw, trwy adgyfodiad Iesu Grist, yr Hwn sydd ar ddeheulaw Duw, wedi myned i’r nef, ac mewn darostyngiad Iddo y rhoddwyd angylion ac awdurdodau a galluoedd. Crist, gan hyny, wedi dioddef yn y cnawd, chwithau hefyd ymarfogwch â’r un meddwl, canys yr hwn a ddioddefodd yn y cnawd, a beidiodd â phechod, fel nad ddim mwyach wrth chwantau dynion, eithr wrth ewyllys Duw, y treulioch y gweddill o’ch amser yn y cnawd; canys digon yw’r amser a aeth heibio i weithredu ewyllys y cenhedloedd, gan rodio mewn trythyllwch, chwantau, gwin-llydrwydd, cyfeddach, diotta, ac erchyll eulun-addoliadau; yn yr hyn y synnant, gan nad ydych yn cyd-redeg â hwynt i’r un geudy o ormodedd, gan gablu; y rhai a roddant gyfrif i’r Hwn sydd barod i farnu’ r byw a’ r meirw. Canys er mwyn hyn, i’r meirw hefyd y pregethwyd, fel y bernid hwy yn ol dynion yn y cnawd, ond y byddent byw yn ol Duw yn yr yspryd. Ond i bob peth, y diwedd sydd agos; byddwch bwyllog, gan hyny, ac yn sobr i weddïau. O flaen pob peth, byddwch a’ch cariad tuag at eich gilydd yn llwyr-frydig, canys cariad a orchuddia liaws o bechodau; yn lletteugar y naill i’r llall heb rwgnach; fel y bu i bob un dderbyn rhodd, gan ei gweinyddu o honoch yn eich plith eich hunain, megis disdeiniaid da o amryw ras Duw; os yw neb yn llefaru, megis yn llefaru oraclau Duw; os yw neb yn gweinyddu, megis yn gweinyddu o’r gallu a finistrir gan Dduw, fel ym mhob peth y gogonedder Duw trwy Iesu Grist, i’r Hwn y mae’r gogoniant a’r arglwyddiaeth yn oes oesoedd. Amen. Anwylyd, na synnwch wrth y profiad tanllyd sy’n codi yn eich plith fel pe bai peth dieithr yn digwydd; eithr cymmaint ag yr ydych yn gyfrannogion o ddioddefiadau Crist, llawenychwch, fel yn natguddiad Ei ogoniant y llawenychoch dan orfoleddu. Os gwarthruddir chwi ag enw Crist, dedwydd ydych, canys, Yspryd y gogoniant ac Yspryd Duw, arnoch chwi y mae yn gorphwys; canys na fydded i neb o honoch ddioddef megis llofrudd neu leidr, neu ddrwg-weithredwr, neu megis arall-arolygwr; ond os megis Cristion, na fydded cywilydd ganddo, ond gogonedded Dduw yn yr enw hwn: canys yr amser yw i ddechreu o’r farn, oddiwrth dŷ Dduw; ac os yn gyntaf oddiwrthym ni, pa beth fydd diwedd y rhai sy’n anufuddhau i Efengyl Dduw? Ac os y cyfiawn sydd braidd yn gadwedig; yr annuwiol a phechadur, pa le yr ymddengys? Felly hefyd y rhai sy’n dioddef yn ol ewyllys Duw, i Greawdwr ffyddlawn gorchymynont eu heneidiau trwy wneuthur yr hyn sy dda. Yr henuriaid yn eich plith, gan hyny, a gynghoraf, a mi yn gydhenuriad a thyst o ddioddefiadau Crist, ac yn gyfrannog hefyd o’r gogoniant ar fedr ei ddatguddio, porthwch braidd Duw y sydd yn eich plith; gan arolygu, nid trwy gymmell, eithr yn ewyllysgar yn ol Duw; nid er mwyn budr-elw, eithr â meddwl parod; ac nid megis yn arglwyddiaethu ar y rhannau a ymddiriedwyd i chwi, eithr gan fyned yn esamplau i’r praidd: ac wedi ymddangos o’r Pen-Bugail cewch anniflannedig goron y gogoniant. Yr un ffunud, y rhai ieuengach, byddwch ddarostyngedig i’r rhai hynach. A phawb, byddwch y naill tua’r llall a gostyngeiddrwydd yn wregys genych, canys yn erbyn y beilchion y mae Duw yn Ei osod Ei hun, ond i’r rhai gostyngedig yn rhoddi gras. Gostynger chwi, gan hyny, dan rymus law Duw, fel y’ch dyrchafo chwi yn yr iawn amser, gyda’ch holl bryder wedi ei fwrw Arno Ef, canys maliaw y mae Efe am danoch. Byddwch sobr; gwyliwch: eich gwrthwynebwr diafol, fel llew yn rhuo, sy’n rhodio oddi amgylch, yn ceisio rhyw un i’w lyngcu; yr hwn gwrthsefwch, yn gadarn yn y ffydd, gan wybod fod yr un dioddefiadau yn cael eu cyflawni gan eich brawdoliaeth y sydd yn y byd. A Duw’r holl ras, yr Hwn a’ch galwodd i’w dragywyddol ogoniant yng Nghrist, pan am ychydig y dioddefasoch, Ei hun a’ch perffeithia, a’ch cadarnha, a’ch cryfha. Iddo Ef y bo’r gallu yn oes oesoedd. Amen. Gyda Silfanus, y ffyddlawn frawd fel y’i cyfrifaf, yr ysgrifenais attoch ar ychydig eiriau, gan gynghori a thystiolaethu mai hwn yw wir ras Duw; ynddo ef sefwch. Eich annerch y mae y gyd-etholedig y sydd yn Babilon; a Marc, fy mab. Annerchwch y naill y llall â chusan cariad. Tangnefedd i chwi oll y sydd yng Nghrist. Shimon Petr, caethwas ac apostol i Iesu Grist, at y rhai a gawsant gyffelyb werthfawr ffydd a ninnau ynghyfiawnder ein Duw ac Iachawdwr Iesu Grist. Gras i chwi a thangnefedd a amlhaer yn adnabyddiaeth Duw ac Iesu ein Harglwydd, gan mai pob peth y bu i’w Ddwyfol Allu ei roddi i ni, y rhai sydd tua bywyd a duwioldeb, trwy adnabyddiaeth yr Hwn a’n galwodd trwy Ei ogoniant Ei hun a’i rinwedd; trwy y rhai y gwerthfawr a thra-mawr addewidion a roddes efe i ni, fel trwy y rhai hyn yr eloch yn gyfrannogion o’r Ddwyfol anian, wedi diangc oddiwrth y llygredigaeth y sydd yn y byd trwy chwant. Ac o herwydd hyn ei hun, gan roddi pob diwydrwydd, arlwywch yn eich ffydd, rinwedd; ac yn eich rhinwedd, wybodaeth; ac yn eich gwybodaeth, gymmedrolder; ac yn eich cymmedrolder, amynedd; ac yn eich amynedd, dduwioldeb; ac yn eich duwioldeb, gariad tua’r brodyr; ac yn eich cariad tua’r brodyr, gariad; canys a’r pethau hyn genych, ac yn aml hwynt, gwnant chwi nac yn segur nac yn ddiffrwyth yn adnabyddiaeth ein Harglwydd Iesu Grist: canys yr hwn sydd heb a chanddo y pethau hyn, dall yw, yn fyr ei olwg, wedi gollwng dros gof y glanhad oddiwrth ei bechodau gynt. Gan hyny, frodyr, byddwch mwy diwyd i wneuthur yn ddiymmod eich galwad chwi a’ ch etholedigaeth; canys os y pethau hyn a wnewch, ni thripiwch byth; canys felly yn orlawn yr arlwyir i chwi y mynediad i mewn i dragywyddol deyrnas ein Harglwydd ac Iachawdwr Iesu Grist. O herwydd paham y byddaf yn wastad ar fedr eich coffau am y pethau hyn, er gwybod o honoch hwynt a’ch sefydlu yn y gwirionedd y sydd gyda chwi. A chyfiawn y’i barnaf, tra’r wyf yn y tabernacl hwn, eich cyffroi chwi trwy eich coffau, gan wybod mai buan yw dadwisgiad fy nhabernacl, fel y bu i’n Harglwydd Iesu Grist amlygu i mi. A diwyd fyddaf, fel y bo bob amser genych allu, ar ol fy mynediad ymaith, i ddyfod a’r pethau hyn i’ch cof; canys nid chwedlau o wneuthuriad celfyddgar a ddilynasom wrth hyspysu i chwi allu a dyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist, eithr wedi bod yn llygad-dystion o’i fawredd Ef; canys wedi derbyn o Hono gan Dduw Dad anrhydedd a gogoniant, llef wedi ei dwyn Atto, o’r fath hon, gan y Mawr-ragorol Ogoniant, “Hwn yw Fy Mab anwyl, yn yr Hwn Myfi a’m boddlonwyd;” ac y llef hon nyni a glywsom, pan o’r nef y’i dygpwyd, a nyni gydag Ef yn y mynydd sanctaidd. Ac y mae genym, yn fwy diymmod, y Prophwydol air, yr hwn da y gwnewch wrth ddal arno, fel ar lusern yn llewyrchu mewn lle tywyll, nes i’r dydd wawrio, ac i’r seren-ddydd gyfodi yn eich calonnau; a hyn yn gyntaf yn adnabyddus genych, sef pob prophwydoliaeth o’r Ysgrythyr, o briod ddehongliad nid ydyw; canys nid trwy ewyllys dyn y dygpwyd prophwydoliaeth erioed, eithr a’r Yspryd Glân yn eu dwyn, llefaru oddiwrth Dduw a wnaeth dynion. Ond yr oedd hefyd au-brophwydi ymhlith y bobl, fel hefyd yn eich plith chwi y bydd gau-ddysgawdwyr, y rhai yn ddirgel a ddygant i mewn heresiau dinystriol, hyd yn oed y Meistr a’u prynodd yn cael Ei wadu ganddynt, yn dwyn arnynt eu hunain ddinystr buan: a llawer a ganlynant eu hanlladrwydd hwynt, o herwydd y rhai Ffordd y Gwirionedd a geblir: ac mewn cybydd-dod, â geiriau ffuantus y gwnant farsiandiaeth o honoch chwi; i’r rhai eu condemniad er ys talm nid yw segur, a’u dinystr nid yw’n hepian: canys os angylion a bechasent nad arbedodd Duw, eithr i bydewau tywyll, gan eu rhoddi yn Tartarus, y traddodes hwynt, yn cael eu cadw i farn; ac yr hen fyd nad arbedodd Efe; eithr gyda saith eraill, Noe, pregethwr cyfiawnder, a gadwodd Efe, pan ar fyd yr annuwiolion y dug Efe ddiluw: a dinasoedd Sodom a Gomorrah, wedi eu troi hwynt yn lludw, a gondemniodd Efe â dymchweliad, gan osod esiampl i’r rhai ar fedr byw yn annuwiol; ond Lot gyfiawn, yn cael ei ddirfawr boeni gan ymarweddiad y rhai digyfraith mewn anlladrwydd, a waredodd Efe, (canys wrth weled a chlywed, y cyfiawn hwnw, yn trigo yn eu plith, o ddydd i ddydd a arteithiai ei enaid cyfiawn â’ u gweithredoedd anghyfreithlawn;) gŵyr yr Arglwydd pa fodd i waredu duwiolion o demtasiwn, ac i gadw anghyfiawnion, yn cael eu ceryddu, i ddydd y farn; ac yn bennaf y rhai sy’n rhodio ar ol y cnawd yn chwant halogrwydd, ac yn dirmygu llywodraeth; rhyfygusion, cyndyniaid; pan urddas a gablant, ni chrynant; tra nad yw angylion, a hwy mewn nerth a gallu yn fwy, yn dwyn yn eu herbyn hwynt ger bron yr Arglwydd farn gablaidd. Ond y rhai hyn, fel anifeiliaid direswm wedi eu geni wrth naturiaeth er dalfa a distryw, yn cablu yn y pethau na wyddant, yn eu distryw y’u distrywir, yn cael anghyfiawnder yn wobr anghyfiawnder; pleser y barnant loddest liw dydd; brychau a meflau, yn gloddesta yn eu cariad-wleddoedd tra yn gwledda gyda chwi; a llygaid ganddynt yn llawn godineb ac na fedrant beidio â phechod; yn llithio eneidiau ansefydlog; a chalon wedi ymgynnefino â chybydd-dra ganddynt; plant melldith; gan adael yr iawn ffordd aethant ar gyfeiliorn, yn canlyn ffordd Balaam, mab Bozor, yr hwn fu a chyflog anghyfiawnder yn hoff ganddo, ond argyhoeddiad a gafodd o’i gamwedd: ysgrubl aflafar â llef dyn a ddywedodd ac a rwystrodd orphwyll y prophwyd. Y rhai hyn ydynt ffynhonnau diddwfr; niwloedd a thymhestl yn eu gyrru; i’r rhai y mae duder tywyllwch mewn cadw; canys chwyddedig bethau gor-wagedd yn cael eu dywedyd ganddynt, llithiant yn chwantau’r cnawd, yn anlladrwydd, y rhai sydd rhyw faint yn diangc o’r rhai sydd â’u hymarweddiad mewn cyfeiliornad: rhyddid a addawant iddynt, a hwy eu hunain yn gaeth-weision i lygredigaeth; canys gan bwy bynnag y gorchfygwyd neb, i hwnw yr aeth hefyd yn gaeth; canys os ar ol diangc o honynt rhag halogedigaethau’r byd trwy adnabyddiaeth yr Arglwydd ac Achubwr, Iesu Grist; ac yn y pethau hyn yr ymblethant ac y’u gorchfygir, iddynt yr aeth eu cyflwr olaf yn waeth na’r cyntaf: canys gwell fuasai iddynt fod heb adnabod ffordd cyfiawnder, nag, wedi ei hadnabod, droi yn ol oddiwrth y gorchymyn sanctaidd a draddodwyd iddynt; a digwyddodd iddynt fatter y wir ddiareb, “Ci wedi troi at ei chwydiad ei hun,” ac “Hwch wedi ymolchi, i ymdreiglad yn y dom.” Hwn yn awr, frodyr, yr ail epistol, yr wyf yn ei ysgrifenu attoch, yn y rhai cyffroi eich meddwl puraidd yr wyf trwy ddwyn ar gof i chwi, i gofio’r geiriau a rag-ddywedwyd gan y sanctaidd brophwydi, a gorchymyn yr Arglwydd ac Achubwr trwy eich apostolion; a hyn yn gyntaf yn adnabyddus genych, sef y daw yn y dyddiau diweddaf watwarwyr gyda gwatwariad, ac yn ol eu chwantau eu hunain y rhodiant; ac yn dywedyd, Pa le y mae addewid Ei ddyfodiad, canys er’s y bu i’r tadau huno, pob peth sy’n parhau fel hyn o ddechreuad y creadigaeth? Canys anadnabyddus ganddynt yw hyn, o’u gwirfodd, sef, Y nefoedd oedd er ys talm, a’r ddaear wedi ei chydgyssylltu allan o’ r dwfr, a thrwy’ r dwfr, trwy air Duw; trwy y rhai, am y byd a oedd y pryd hwnw, a dwfr yn llifo drosto, y darfu; ond y nefoedd y sydd yr awr hon, ac y ddaear, trwy’r un gair, y’u hystorwyd i dân, yn cael eu cadw erbyn dydd y farn a distryw’r anwir ddynion. Ond yr un peth hwn na fydded yn anadnabyddus genych, anwylyd, fod un dydd gyda’r Arglwydd fel mil o flynyddoedd, a mil o flynyddoedd fel un dydd. Nid oedi Ei addewid y mae’r Arglwydd, fel y mae rhai yn cyfrif oed, eithr hir-ymarhöus yw tuag attoch, heb ewyllysio i neb rhyw rai fyned ar goll, eithr i bawb ddyfod i edifeirwch. Ond daw dydd yr Arglwydd fel lleidr, yn yr hwn y nefoedd gyda thwrf a ant heibio, a’r elfennau a losgir ac a ddattodir, a’r ddaear a’r gweithioedd ynddi a lwyr-losgir. Y pethau hyn i gyd i’w cael eu dattod fel hyn, pa fath ddynion a ddylech chwi fod mewn sanctaidd ymarweddiad a duwioldeb, gan ddisgwyl a phrysuro dyfodiad dydd Duw, o herwydd yr hwn y nefoedd, gan fod ar dân a ddattodir; a’r elfennau, gan losgi, a doddir? Ond nefoedd newydd a daear newydd, yn ol ei addewid Ef, a ddisgwyliwn, yn y rhai y mae cyfiawnder yn cartrefu. O herwydd paham, anwylyd, a’r pethau hyn yn eu disgwyl genych, byddwch ddyfal ar eich cael yn ddifrycheulyd ac yn ddianaf yn Ei olwg Ef mewn tangnefedd: ac hir-ymaros ein Harglwydd cyfrifwch yn iachawdwriaeth, fel y bu hefyd i’n brawd anwyl, Paul, yn ol y doethineb a roddwyd iddo, ysgrifenu attoch; fel hefyd yn ei holl epistolau, gan lefaru ynddynt am y pethau hyn, yn y rhai y mae rhai pethau anhawdd eu deall, y rhai y mae’r annysgedigion a’r ansefydlogion yn eu gwyrdroi, fel yr ysgrythyrau eraill hefyd, i’w dinystr eu hunain. Chwychwi, gan hyny, anwylyd, gan ragwybod hyn, gwyliwch rhag, gan gael eich dwyn ymaith gyda chyfeiliornad yr annuwiolion, gwympo o honoch oddiwrth eich sefydlogrwydd eich hunain; ond cynnyddwch yng ngras a gwybodaeth ein Harglwydd ac Achubwr Iesu Grist. Iddo Ef y bo’r gogoniant yn awr ac yn dragywydd. Amen. Yr hyn oedd o’r dechreuad, yr hyn a glywsom, yr hyn a welsom â’n llygaid, yr hyn yr edrychasom arno, ac ein dwylaw a gyffyrddasant ag ef, am Air y bywyd; (ac y bywyd a amlygwyd, a gwelsom, a thystiolaethu yr ydym ac yn mynegi i chwi y bywyd tragywyddol, yr Hwn oedd gyda’r Tad ac a amlygwyd i ni;) yr hyn a welsom ac a glywsom yr ydym yn ei fynegi hefyd i chwi, fel y byddoch chwi hefyd a chennych gymdeithas gyda ni; ac ein cymdeithas ni, gyda’r Tad a chyda’i Fab Ef Iesu Grist y mae. A’r pethau hyn yr ydym ni yn eu hysgrifenu fel y bo eich llawenydd wedi ei gyflawni. A hon yw’r genadwri a glywsom ganddo Ef, ac yr ydym yn ei mynegi i chwi, sef, Duw, goleuni yw, a thywyllwch Ynddo Ef nid oes mo’no. Os dywedwn fod cymdeithas genym ag Ef, ac yn y tywyllwch y rhodiwn, celwyddu yr ydym, ac nid ydym yn gwneuthur y gwirionedd; ond os yn y goleuni y rhodiwn, fel y mae Efe yn y goleuni, cymdeithas sydd genym â’n gilydd, a gwaed Iesu, Ei Fab Ef, sydd yn ein glanhau oddiwrth bob pechod. Os dywedwn nad oes pechod genym, ni ein hunain a arweiniwn ar gyfeiliorn, a’r gwirionedd nid yw ynom. Os cyfaddefwn ein pechodau, ffyddlawn yw Efe a chyfiawn, i faddeu i ni ein pechodau a’n glanhau oddiwrth bob anghyfiawnder. Os dywedwn, Ni phechasom, celwyddwr y’i gwnawn Ef, ac Ei air nid yw ynom. Fy mhlant bychain, y pethau hyn yr wyf yn eu hysgrifenu, fel na phechoch: ac os bydd i neb bechu, Eiriolwr sydd genym gyda’r Tad, Iesu Grist y Cyfiawn; ac Efe, yr iawn yw am ein pechodau; nid am yr eiddom ni yn unig, eithr hefyd am bechodau’r holl fyd. Ac wrth hyn y gwyddom yr adwaenom Ef, os Ei orchymynion a gadwn. Yr hwn sy’n dywedyd, Adwaen Ef, a’i orchymynion na cheidw, celwyddwr yw, ac ynddo y gwirionedd nid ydyw; ond pwy bynnag a gadwo Ei air Ef, mewn gwirionedd ynddo ef y mae cariad Duw wedi ei berffeithio. Wrth hyn y gwyddom mai Ynddo Ef yr ydym. Yr hwn sy’n dywedyd mai Ynddo Ef ei fod yn aros, dyledwr yw, fel y bu Iddo Ef rodio, iddo yntau hefyd rodio felly. Anwylyd, nid gorchymyn newydd yr wyf yn ei ’sgrifenu attoch, eithr gorchymyn hen, yr hwn oedd genych o’r dechreuad: y gorchymyn hen yw’r Gair a glywsoch. Trachefn, gorchymyn newydd yr wyf yn ei ’sgrifenu attoch, yr hwn beth sydd wir Ynddo Ef ac ynoch chwi, canys y tywyllwch sy’n myned heibio, a’r gwir oleuni sydd eisoes yn tywynnu. Yr hwn sy’n dywedyd mai yn y goleuni y mae, ac ei frawd yn gas ganddo, yn y tywyllwch y mae hyd y pryd hwn. Yr hwn sy’n caru ei frawd, yn y goleuni y mae’n aros, a thramgwydd ynddo ef nid oes: ond yr hwn sy’n casau ei frawd, yn y tywyllwch y mae, ac yn y tywyllwch y mae yn rhodio, ac ni ŵyr i ba le y mae yn myned, canys y tywyllwch a ddallodd ei lygaid. Ysgrifenu yr wyf attoch chwi, blant bychain, oblegid y maddeuwyd i chwi eich pechodau er mwyn Ei enw Ef. Ysgrifenu yr wyf attoch chwi, dadau, oblegid adnabod o honoch yr Hwn sydd o’r dechreuad. Ysgrifenu yr wyf attoch chwi, wŷr ieuaingc, oblegid gorchfygu o honoch yr un drwg. Ysgrifenais attoch chwi, blant bychain, oblegid adnabod o honoch y Tad. Ysgrifenais attoch chwi, dadau, oblegid adnabod o honoch yr Hwn sydd o’r dechreuad. Ysgrifenais attoch chwi, wŷr ieuaingc, gan mai cryfion ydych, a Gair Duw yn aros ynoch, ac y gorchfygasoch yr un drwg. Na cherwch y byd, na’r pethau y sydd yn y byd; os yw neb yn caru’r byd, nid yw cariad y Tad ynddo; canys pob peth y sydd yn y byd, chwant y cnawd, a chwant y llygaid, a gwag-ogoniant buchedd, nid yw o’r Tad, eithr o’r byd y mae; a’r byd sy’n myned heibio, ac ei chwant; ond yr hwn sy’n gwneuthur ewyllys Duw, aros y mae yn dragywydd. Plant bychain, y ddiweddaf awr yw; ac fel y clywsoch fod Antigrist yn dyfod, hyd yn oed yn awr, Antigristiau lawer a wnaethpwyd; oddiwrth yr hyn y gwyddom mai’r ddiweddaf awr yw. O’n plith ni yr aethant allan, eithr nid oeddynt o honom; canys pe buasent o honom, arhosasent gyda ni: eithr fel yr amlygid nad ydynt oll o honom ni y bu. A chwi sydd ag enneiniad genych oddiwrth Y Sanctaidd un, a gwyddoch bob peth. Nid ysgrifenais attoch oblegid na wyddoch y Gwirionedd, eithr oblegid gwybod o honoch ef, ac oblegid nad yw neb rhyw gelwydd o’r Gwirionedd. Pwy yw’r celwyddwr oddieithr yr hwn sy’n gwadu nad ydyw Iesu Y Crist? Hwn yw’r Antigrist, yr hwn sy’n gwadu y Tad a’r Mab. Pob un y sy’n gwadu’r Mab, nid yw’r Tad chwaith ganddo: yr hwn sy’n cyffesu’r Mab, y Tad hefyd sydd ganddo. Chwychwi, yr hyn a glywsoch o’r dechreuad, ynoch arhosed. Os ynoch yr erys yr hyn a glywsoch o’r dechreuad, chwychwi hefyd yn y Mab ac yn y Tad a arhoswch. A hwn yw’r addewid yr hwn y bu Iddo Ef ei addaw i ni, sef y bywyd tragywyddol. Y pethau hyn a ’sgrifenais attoch ynghylch y rhai sydd yn eich arwain ar gyfeiliorn. A chwychwi yr enneiniad a dderbyniasoch Ganddo Ef, aros y mae ynoch, ac nid oes genych raid wrth ddysgu o neb chwi: eithr fel y mae Ei enneiniad Ef yn eich dysgu am bob peth, a gwir yw, ac nid yw gelwydd; ac fel y dysgodd chwi, arhoswch Ynddo Ef. Ac, yn awr, blant bychain, arhoswch Ynddo Ef; fel, os amlygir Ef, y bo genym hyder, ac na chywilyddier ni ger Ei fron yn Ei ddyfodiad. Os gwyddoch mai cyfiawn yw Efe, gwyddoch fod pob un hefyd y sy’n gwneuthur cyfiawnder, mai o Hono Ef y’i cenhedlwyd. Gwelwch y fath gariad a roddwyd i ni gan y Tad, mai’r Plant i Dduw y’n gelwir; ac yr ydym. Oblegid hyn y byd ni’n hedwyn, gan nad adnabu Ef. Anwylyd, yn awr, plant i Dduw ydym; ac nid amlygwyd etto pa beth a fyddwn: gwyddom ped amlyger, cyffelyb Iddo y byddwn, y gwelwn Ef fel y mae. A phob un y sydd a chanddo y gobaith hwn Ynddo Ef, sy’n puro ei hun fel y mae Yntau yn bur. Pob un y sy’n gwneuthur pechod, anghyfraith hefyd y mae efe yn ei wneud; a phechod yw anghyfraith. A gwyddoch y bu Iddo Ef Ei amlygu, fel y dygai ymaith bechodau; a phechod Ynddo Ef nid oes. Pob un y sy’n aros Ynddo Ef, nid yw yn pechu; pob un y sy’n pechu, ni welodd Ef, ac nid yw yn Ei adnabod Ef chwaith. Plant bychain, na fydded i neb eich arwain ar gyfeiliorn. Yr hwn sy’n gwneuthur cyfiawnder, cyfiawn yw, fel y mae Efe yn gyfiawn. Yr hwn sy’n gwneuthur pechod, o ddiafol y mae, canys o’r dechreuad y mae diafol yn pechu. Er mwyn hyn yr amlygwyd Mab Duw, fel y dattodai weithredoedd diafol. Pob un o’r a genhedlwyd o Dduw, pechod nid yw yn ei wneud, canys Ei had Ef sydd ynddo ef yn aros; ac ni all bechu gan mai o Dduw y’i cenhedlwyd. Yn hyn amlwg yw plant Duw a phlant diafol: pob un nad yw yn gwneuthur cyfiawnder, nid yw o Dduw, ac yr hwn nad yw yn caru ei frawd. A hon yw’r gennadwri a glywsoch o’r dechreuad, Garu o honom ein gilydd: nid fel yr oedd Cain o’r un drwg, ac a laddodd ei frawd. A phaham y lladdodd ef? O herwydd i’w weithredoedd ef fod yn ddrwg, a’r eiddo ei frawd yn gyfiawn. Na ryfeddwch, frodyr, os eich casau y mae’r byd. Nyni a wyddom yr aethom drosodd o farwolaeth i fywyd, o herwydd caru o honom y brodyr. Yr hwn nad yw’n caru, aros ym marwolaeth y mae. Pob un y sy’n casau ei frawd, lleiddiad dyn yw: a gwyddom fod pob lleiddiad dyn heb a chanddo fywyd tragywyddol yn aros ynddo. Yn hyn y mae gwybodaeth am gariad genym, am Iddo Ef ddodi i lawr Ei fywyd drosom ni. A ninnau a ddylem ddodi i lawr ein bywyd dros y brodyr. Ond pwy bynnag sydd a chanddo dda y byd, ac a welo ei frawd mewn eisiau, ac a gauo ei dosturi oddiwrtho, pa fodd y mae cariad Duw yn aros ynddo? Plant bychain, na charwn ar air, nac â’r tafod, eithr mewn gweithred a gwirionedd: wrth hyn y gwybyddwn mai o’r gwirionedd yr ydym, a cher Ei fron Ef y perswadiwn ein calon, o ran pa beth bynnag y’n condemnia ein calon ynddo, canys mwy yw Duw na’n calon, a gwybod pob peth y mae. Anwylyd, os ein calon na’n condemnia, hyder sydd genym tuag at Dduw; a pha beth bynnag a ofynom, ei dderbyn oddiwrtho Ef yr ydym, gan mai Ei orchymynion a gadwn, a’r pethau yn rhyngu bodd yn Ei olwg yr ydym yn eu gwneuthur. A hwn yw Ei orchymyn; Gredu o honom yn enw Ei Fab Iesu Grist, a charu ein gilydd fel y rhoes Efe orchymyn i ni. A’r hwn sy’n cadw Ei orchymynion, Ynddo Ef y mae yn aros, ac Yntau ynddo yntau; ac wrth hyn y gwyddom mai aros y mae Efe ynom, sef o’r Yspryd, yr Hwn a roddes Efe i ni. Anwylyd, nid i bob yspryd rhoddwch gred, eithr profwch yr ysprydion ai o Dduw y maent; canys llawer o au-brophwydi sydd wedi myned allan i’r byd. Wrth hyn adnabyddwch Yspryd Duw: Pob yspryd y sy’n cyffesu Iesu Grist wedi dyfod yn y cnawd, o Dduw y mae: pob yspryd nad yw’n cyffesu yr Iesu, o Dduw nid ydyw, a hwn yw yspryd yr Antigrist, am yr hwn y clywsoch ei fod yn dyfod; ac yn awr yn y byd y mae eisoes. Chwychwi o Dduw yr ydych, blant bychain: a gorchfygasoch hwynt, canys mwy yw’r Hwn sydd ynoch na’r hwn sydd yn y byd. Hwynt-hwy o’r byd y maent: o achos hyn o’r byd y llefarant, a’r byd sydd yn eu gwrando hwynt. Nyni, o Dduw yr ydym: yr hwn sy’n adnabod Duw, sydd yn ein gwrando; yr hwn nad yw o Dduw, nid yw yn ein gwrando. Oddiwrth hyn yr adnabyddwn Yspryd y gwirionedd, ac yspryd cyfeiliorni. Anwylyd, carwn ein gilydd, canys cariad o Dduw y mae; a phob un y sy’n caru, o Dduw y cenhedlwyd ef, ac adnabod Duw y mae. Yr hwn nad yw yn caru, nid yw’n adnabod Duw; canys Duw, cariad yw. Yn hyn yr amlygwyd cariad Duw ynom, am mai Ei Fab Unig-anedig a ddanfonodd Duw i’r byd, fel mai byw byddem Trwyddo Ef. Yn hyn y mae cariad, nid am mai nyni a garasom Dduw, eithr mai Efe a’n carodd ni, ac a ddanfonodd Ei Fab yn iawn am ein pechodau. Anwylyd, os felly y bu i Dduw ein caru, ninnau hefyd ddylem garu ein gilydd. Duw, ni fu i neb erioed Ei weled. Os carwn ein gilydd Duw sydd ynom yn aros, ac Ei gariad sydd wedi ei berffeithio ynom. Wrth hyn y gwyddom mai Ynddo Ef yr ym yn aros, ac Yntau ynom ni, gan mai o’i Yspryd y rhoddes i ni. Ac nyni a welsom, a thystiolaethu yr ydym ddarfod i’r Tad ddanfon y Mab yn Iachawdwr y byd. Pwy bynnag a gyffeso mai Iesu yw Mab Duw, Duw sydd ynddo ef yn aros, ac yntau yn Nuw. Ac nyni a wyddom ac a gredasom y cariad y sydd gan Dduw ynom. Duw, cariad yw; a’r hwn sy’n aros mewn cariad, yn Nuw y mae yn aros, a Duw sydd ynddo yntau yn aros. Yn hyn y perffeithiwyd cariad gyda ni, fel y bo hyder genym yn nydd y farn, canys fel y mae Efe, ninnau hefyd ydym yn y byd hwn. Ofn nid oes mewn cariad; eithr perffaith gariad, allan y teifl ofn, canys ofn sydd a chospedigaeth ganddo; a’r hwn sydd yn ofni ni pherffeithiwyd mewn cariad. Nyni a garwn, gan mai Efe yn gyntaf a’n carodd ni. Os rhyw un a ddywaid, Caru Duw yr wyf, ac ei frawd yn gas ganddo, celwyddwr yw; canys yr hwn nad yw yn caru ei frawd yr hwn a welodd, Duw, yr Hwn ni welodd efe, ni fedr efe Ei garu. Ac y gorchymyn hwn sydd genym oddiwrtho Ef; Fod i’r hwn sy’n caru Duw, garu ei frawd hefyd. Pob un y sy’n credu mai Iesu yw’r Crist, o Dduw y cenhedlwyd ef; a phob un y sy’n caru yr Hwn a genhedlodd, caru y mae hefyd yr Hwn a genhedlwyd o Hono. Wrth hyn y gwyddom mai caru plant Duw yr ydym, pan Duw a garom, ac Ei orchymynion a gadwom; canys hwn yw cariad Duw, Gadw o honom Ei orchymynion; a’i orchymynion, trymion nid ydynt; canys pob peth wedi ei genhedlu o Dduw sy’n gorchfygu’r byd; a hon yw’r fuddugoliaeth a orchfygodd y byd, sef ein ffydd. A phwy yw’r hwn sy’n gorchfygu’r byd, oddieithr yr hwn sy’n credu mai Iesu yw Mab Duw? Hwn yw’r Hwn a ddaeth trwy ddwfr a gwaed, Iesu Grist; nid yn y dwfr yn unig, eithr yn y dwfr ac yn y gwaed; a’r Yspryd yw’r hyn sy’n tystiolaethu, gan mai’r Yspryd yw’r gwirionedd; canys tri yw’r rhai sy’n tystiolaethu, yr Yspryd, a’r dwfr, a’r gwaed; a’r tri un ydynt. Os tystioliaeth dynion a dderbyniwn; tystiolaeth Dduw, mwy yw, canys hon yw tystiolaeth Dduw, tystiolaethu o Hono am Ei Fab. Yr hwn sy’n credu ym Mab Duw sydd a’r dystiolaeth ynddo ei hun; yr hwn nad yw’n credu yn Nuw, celwyddwr y’i gwnaeth Ef, gan na chredodd yn y dystiolaeth a dystiolaethodd Duw am Ei Fab. A hon yw’r dystiolaeth, Bywyd tragywyddol a roddes Duw i ni; a’r bywyd hwn, yn Ei Fab Ef y mae. Yr hwn sydd a chanddo’r Mab, sydd a chanddo y bywyd: yr hwn nad yw a chanddo Fab Duw, y bywyd nid yw ganddo. Y pethau hyn a ’sgrifenais attoch fel y gwypoch fod bywyd tragywyddol genych, attoch chwi y sy’n credu yn enw Mab Duw. A hwn yw’r hyder sydd genym tuag Atto Ef, sef os rhyw beth a ofynwn yn ol Ei ewyllys, ein gwrando y mae; ac os gwyddom mai ein gwrando y mae, pa beth bynnag a ofynom, gwyddom fod genym y gofyniadau a ofynasom Ganddo. Os rhyw un a welo ei frawd yn pechu pechod nad yw i farwolaeth, gofyn fydd iddo, a rhydd Duw iddo fywyd i’r rhai sy’n pechu nid i farwolaeth. Y mae pechod i farwolaeth: nid am hwnw y dywedaf y bo iddo ofyn. Pob anghyfiawnder, pechod yw: ac y mae pechod nid i farwolaeth. Gwyddom fod pob un a genhedlwyd o Dduw ddim yn pechu, eithr yr hwn a genhedlwyd o Dduw sydd yn ei gadw ei hun, a’r drwg nid yw’n cyffwrdd ag ef. Gwyddom mai o Dduw yr ydym; a’r byd oll, yn y drwg y mae’n gorwedd. A gwyddom fod Mab Duw wedi dyfod, ac y rhoddes i ni ddeall, fel yr adnabyddom y Gwir Un; ac yr ydym yn y Gwir Un, yn Ei Fab, Iesu Grist. Hwn yw’r Gwir Dduw a bywyd tragywyddol. Plant bychain, cadwch eich hunain oddiwrth yr eulunod. Yr henuriad, at yr etholedig arglwyddes a’i phlant, y rhai yr wyf fi yn eu caru mewn gwirionedd; ac nid myfi yn unig, eithr pawb hefyd y sy’n adnabod y Gwirionedd; o achos y Gwirionedd y sy’n aros ynom, ac ynghyda ni y bydd yn dragywydd. Bydd gyda ni ras, trugaredd, a thangnefedd oddiwrth Dduw Dad, ac oddiwrth Iesu Grist, Mab y Tad, mewn gwirionedd a chariad. Llawenychais yn ddirfawr am gael o honof rai o’th blant yn rhodio mewn gwirionedd, fel y derbyniasom orchymyn oddiwrth y Tad. Ac yn awr, attolwg yr wyf i ti, arglwyddes, nid megis yn ysgrifenu gorchymyn newydd i ti, eithr yr hwn oedd genym o’r dechreuad, Garu o honom ein gilydd. A hwn yw’r cariad, Rhodio o honom yn ol ei orchymynion. Hwn yw’r gorchymyn, Fel y clywsoch o’r dechreuad, ynddo ef y rhodioch. Canys llawer o arweinwyr ar gyfeiliorn a aethant allan i’r byd, y rhai nid ydynt yn cyffesu Iesu Grist yn dyfod yn y cnawd. Hwn yw’r arweiniwr ar gyfeiliorn a’r Antigrist. Edrychwch attoch eich hunain na cholloch y pethau a weithredasom, eithr gwobr cyflawn y derbynioch. Pob un y sy’n myned rhagddo ac heb aros yn nysg Crist, Duw nid yw ganddo. Yr hwn sy’n aros yn y ddysg, hwn sydd a’r Tad a’r Mab ganddo. Os yw neb yn dyfod attoch, ac â’r ddysg hon na ddelo, na dderbyniwch ef i dŷ, ac wrtho na ddywedwch, Henffych well; canys yr hwn sy’n dywedyd wrtho, Henffych well, cyfrannog yw o’i weithredoedd drwg ef. A llawer o bethau genyf i’w hysgrifenu attoch chwi, nid ewyllysiais ’sgrifenu â phapur ac ingc; eithr gobeithio’r wyf ddyfod attoch, a llefaru wyneb yn wyneb, fel y bo eich llawenydd wedi ei gyflawni. Dy annerch y mae plant dy chwaer etholedig. Amen. Yr henuriad at Gaius yr anwylyd, yr hwn yr wyf fi yn ei garu mewn gwirionedd. Anwylyd, gweddïaf am i ti ym mhob peth lwyddo, a bod yn iach, fel mai llwyddo y mae dy enaid di: canys llawenychais yn ddirfawr wrth ddyfod o frodyr a thystiolaethu i’th wirionedd di, fel yn y Gwirionedd yr wyt ti yn rhodio. Mwy llawenydd na hyn nid oes genyf, sef clywed o honof am fy mhlant yn rhodio yn y Gwirionedd. Anwylyd, peth ffyddlawn yr wyt yn ei wneuthur ym mha beth bynnag a weithredi tuag at y brodyr, a hyn hefyd, a hwy yn ddieithriaid, y rhai a dystiolaethasant i’th gariad di ger bron yr Eglwys; y rhai, da y gwnai gan eu hebrwng mewn modd teilwng o Dduw; canys er mwyn Yr Enw yr aethant allan heb gymmeryd dim gan y cenhedloedd. Nyni, gan hyny, a ddylem dderbyn y cyfryw rai, fel mai cydweithwyr y byddom â’r Gwirionedd. Ysgrifenais ryw faint at yr Eglwys; eithr yr hwn sy’n chwennych bod yn gyntaf yn eu plith, sef Diotrephes, ni dderbyn mo honom. Gan hyny, os deuaf, dygaf ar gof ei weithredoedd ef y rhai y mae efe yn eu gwneuthur, gan wag-siarad â geiriau drwg i’n herbyn; ac heb ei ddigoni â hyn, nid yw efe ei hun yn derbyn y brodyr; a’r rhai sy’n ewyllysio, eu rhwystro y mae, ac allan o’r Eglwys y’u teifl. Anwylyd, nac efelycha yr hyn sydd ddrwg, eithr yr hyn sydd dda; yr hwn sy’n gwneuthur yr hyn sydd dda, o Dduw y mae; yr hwn sy’n gwneuthur yr hyn sydd ddrwg, ni welodd Dduw. I Demetrius y tystiolaethwyd gan bawb, a chan y Gwirionedd ei hun; ac nyni hefyd ydym yn tystiolaethu; a gwyddost am ein tystiolaeth mai gwir yw. Llawer o bethau oedd genyf i’w hysgrifenu attat, eithr ag ingc a phin nid wyf yn foddlawn i ysgrifenu attat ti; ond gobeithio yr wyf dy weled yn ebrwydd; a gwyneb yn wyneb yr ymddiddanwn. Tangnefedd i ti. Dy annerch y mae’r cyfeillion. Annerch y cyfeillion wrth eu henwau. Iwdas, gwas i Iesu Grist, a brawd i Iago, at y galwedigion, anwyl yn Nuw Dad, a chadwedig i Iesu Grist. Trugaredd i chwi, a thangnefedd a chariad a amlhaer. Anwylyd, wrth wneuthur pob diwydrwydd i ysgrifenu attoch ynghylch ein hiachawdwriaeth gyffredinol ni, bu rhaid i mi ysgrifenu attoch, gan eich cynghori i ymdrechu dros y ffydd a roddwyd unwaith am byth i’r saint; canys daeth i mewn yn ddirgel ryw ddynion, y rhai er ys talm a rag-ysgrifenwyd i’r condemniad hwn, annuwiolion, a gras ein Duw yn cael ei droi ganddynt i drythyllwch, a’n hunig Feistr ac Arglwydd Iesu Grist yn cael Ei wadu ganddynt. Ond ewyllysiaf eich coffau, a chwi yn gwybod unwaith am byth bob peth, i’r Arglwydd, wedi gwaredu o Hono bobl o dir yr Aipht, wedi hyny ddistrywio y rhai na chredasant; ac angylion, y rhai ni chadwasant eu llywodraeth eu hunain, eithr a adawsant eu trigfa eu hunain, i farn y dydd mawr, mewn rhwymau tragywyddol, tan dywyllwch y’u cadwodd. Fel y mae Sodom a Gomorrah, a’r dinasoedd o’u hamgylch, wedi iddynt yn y cyffelyb fodd a’r rhai hyn, butteinio a myned ar ol cnawd dieithr, yn gorwedd o’n blaen yn esampl, gan ddioddef cospedigaeth tân tragywyddol. Yr un ffunud, er hyny, y rhai hyn hefyd, gan freuddwydio, y cnawd a halogant, a llywodraeth a ddiystyrant, a gogoniannau a gablant: ond Michael yr arch-angel, pan â diafol yr ymddadleuai, ac yr ymresymmai ynghylch corph Mosheh, ni feiddiodd ddwyn yn ei erbyn farn gablaidd, eithr dywedodd, Cerydded yr Arglwydd di. Ond y rhai hyn, cymmaint o bethau ag na wyddant, a gablant; a chymmaint o bethau ag wrth naturiaeth, fel yr anifeiliaid direswm, a wyddant, yn y rhai hyn yr ymlygrant. Gwae iddynt! canys yn ffordd Cain yr aethant, ac ynghyfeiliornad Balaam, er cyflog y rhuthrasant, ac yngwrth-ddywediad Core y darfu am danynt. Y rhai hyn yw’r rhai sydd yn eich cariad-wleddoedd yn greigiau cuddiedig, yn cyd-wledda â chwi, heb ofn yn porthi eu hunain; cymmylau diddwfr, yn cael gan wyntoedd eu dwyn ymaith; preniau hydrefol heb ffrwyth, dwywaith yn feirw, wedi eu diwreiddio, tonnau gwylltion y môr, yn ewynnu allan eu cywilyddion eu hunain; ser gwibiog, i’r rhai y mae duder y tywyllwch yn dragywydd wedi ei gadw. Ac am y rhai hyn y prophwydodd hefyd y seithfed o Adam, Chenoc, gan ddywedyd, “Wele, daeth yr Arglwydd â’i fyrddiynnau sanctaidd, i wneuthur barn ar bawb, ac i argyhoeddi yr holl rai annuwiol, am holl weithredoedd eu hannuwioldeb y rhai a wnaethant yn annuwiol, ac am yr holl bethau caledion, y rhai a lefarodd pechaduriaid annuwiol yn Ei erbyn.” Y rhai hyn ydynt rwgnachwyr, tuchanwyr; yn ol eu chwantau y cerddant (ac eu genau sy’n llefaru tra-chwyddedig bethau,) yn edmygu gwynebau er mwyn budd. Ond chwychwi, anwylyd, cofiwch y geiriau a rag-ddywedwyd gan apostolion ein Harglwydd Iesu Grist; ddywedyd o honynt wrthych, Yn yr amser diweddaf y bydd gwatwarwyr, yn rhodio yn ol eu chwantau annuwiol eu hunain. Y rhai hyn yw’r rhai sy’n didoli eu hunain, yn anianol, heb yr Yspryd ganddynt. Ond chwychwi, anwylyd, gan adeiladu eich hunain ar eich sancteiddiaf ffydd, gan weddïo yn yr Yspryd Glân, cedwch eich hunain ynghariad Duw, gan edrych am drugaredd ein Harglwydd Iesu Grist i fywyd tragywyddol. Ac wrth rai trugarhewch, wrth ammeu o honynt; a rhai achubwch, gan eu cipio allan o’ r tân; ac wrth rai trugarhewch, mewn ofn, gan gasau hyd yn oed y wisg a frychwyd gan y cnawd. Ac i’r hwn sydd yn abl i’ch cadw heb dripio, a’ch gosod ger bron Ei ogoniant yn ddianaf, mewn gorfoledd, i’r unig Dduw ein Hiachawdwr, trwy Iesu Grist ein Harglwydd, bydded gogoniant, mawredd, gallu, ac awdurdod, cyn pob amser, ac yr awr hon, ac yn dragywydd. Amen. Datguddiad Iesu Grist, yr hwn a roddes Duw iddo, i ddangos i’w weision y pethau sydd a rhaid iddynt ddigwydd ar fyrder; ac hyspysodd, gan ddanfon trwy Ei angel, i’w was Ioan, yr hwn a dystiolaethodd am air Duw a thystiolaeth Iesu Grist, am gymmaint o bethau ag a welodd. Dedwydd yw ’r hwn sy’n darllain, a’r rhai sy’n clywed geiriau y brophwydoliaeth, ac yn cadw y pethau sydd wedi eu hysgrifenu ynddi hi, canys yr amser sydd agos. Ioan, at y saith eglwys sydd yn Asia: Gras i chwi, a thangnefedd oddiwrth Yr Hwn sydd ac yr Hwn oedd ac yr Hwn sydd yn dyfod, ac oddiwrth y saith Yspryd y sydd ger bron Ei orsedd-faingc; ac oddiwrth Iesu Grist, yr Hwn yw y Tyst ffyddlawn, Cyntafanedig y meirw, a Llywodraethwr brenhinoedd y ddaear. I’r Hwn sydd yn ein caru, ac a’n rhyddhaodd o’n pechodau trwy Ei waed; a gwnaeth ni yn frenhiniaeth, yn offeiriaid i Dduw a’i Dad Ef; Iddo Ef bydded y gogoniant a’r gallu yn oes oesoedd. Amen. Wele, dyfod y mae gyda’r cymmylau; a’i weled Ef fydd i bob llygad, ac i’r rhai a’i gwanasant Ef; a galaru Trosto fydd i holl lwythau’r ddaear. Ië; Amen. Myfi yw’r Alpha a’r Omega, medd yr Arglwydd Dduw, Yr Hwn sydd ac yr Hwn oedd ac yr Hwn sydd yn dyfod, yr Hollalluog. Myfi Ioan, eich brawd a chyd-gyfrannog yn y gorthrymder a ’r deyrnas ac amynedd yn yr Iesu, oeddwn yn ynys a elwir Patmos, o achos gair Duw a thystiolaeth Iesu. Yr oeddwn yn yr yspryd ar ddydd yr Arglwydd, a chlywais o’r tu ol i mi lef fawr fel swn udgorn, yn dywedyd, Yr hyn a weli, ysgrifena mewn llyfr, a danfon ef at y saith eglwys, i Ephesus, ac i Smurna, ac i Pergamus, ac i Thuatira, ac i Sardis, ac i Philadelphia, ac i Laodicea. A throais i weled y llef a lefarai â mi; ac wedi troi, gwelais saith ganhwyllbren aur, ac ynghanol y canhwyllbrennau, un tebyg i Fab y dyn, wedi ymwisgo â gwisg laes hyd Ei draed, ac wedi ymwregysu ynghylch Ei fronnau â gwregys aur; ac Ei ben a’i wallt yn wynion fel gwlan gwyn, fel eira; a’i lygaid fel fflam dân; ac Ei draed yn debyg i Chalcolibanus, fel wedi eu llosgi mewn ffwrn; ac Ei lais fel swn dyfroedd lawer; ac a Chanddo yn Ei law ddehau saith seren; ac allan o’i enau, cleddyf dau-finiog llym oedd yn dyfod; ac Ei wynebpryd fel y mae’r haul yn disgleirio yn ei nerth. A phan welais Ef, syrthiais wrth Ei draed, fel marw; a rhoddodd Efe Ei law ddehau arnaf, gan ddywedyd, Nac ofna, Myfi yw’r Cyntaf a’r Diweddaf, ac yr Hwn sydd fyw, ac aethum yn farw, ac wele, byw ydwyf yn oes oesoedd; a Chenyf y mae agoriadau marwolaeth a Hades. Ysgrifena, gan hyny, y pethau a welaist, ac y pethau y sydd, ac y pethau y sydd ar fedr digwydd ar ol hyn; dirgelwch y saith seren y rhai a welaist yn Fy llaw ddehau, a’r saith canhwyllbren aur. Y saith seren, angylion y saith eglwys ydynt; a’r saith ganhwyllbren, y saith eglwys ydynt. At angel yr eglwys yn Ephesus, ysgrifena, Hyn a ddywaid yr Hwn sy’n dal y saith seren yn Ei law ddehau, yr Hwn sy’n rhodio ynghanol y saith ganhwyllbren aur, Gwn dy weithredoedd, a’th lafur, a’th amynedd; ac na elli oddef drwg-ddynion; ac y profaist y rhai sy’n galw eu hunain yn apostolion, ac nid ydynt, ac y cefaist hwynt yn gelwyddog; a bod amynedd genyt; ac y goddefaist o achos Fy enw, ac na flinaist. Eithr y mae Genyf yn dy erbyn mai dy gariad cyntaf a adewaist. Cofia, gan hyny, o ba le y syrthiaist, ac edifarha, a’r gweithredoedd cyntaf gwna; ac onite, dyfod attat yr wyf; a symmudaf dy ganhwyllbren allan o’i le, onid edifarhai. Eithr hyn sydd genyt, dy fod yn casau gweithredoedd y Nicolaiaid, y rhai yr wyf Finnau hefyd yn eu casau. Yr hwn sydd a chanddo glust, gwrandawed pa beth y mae’r Yspryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi. I’r hwn sy’n gorchfygu, y rhoddaf iddo fwytta o Bren y Bywyd, yr hwn sydd ym mharadwys Dduw. Ac at angel yr eglwys yn Smurna ysgrifena, Hyn a ddywaid Y Cyntaf a’r Diweddaf, yr Hwn a fu farw ac a fu fyw, Gwn dy orthrymder a’th dlodi (eithr goludog wyt,) a’r cabledd oddiwrth y rhai sy’n dywedyd mai Iwddewon ydynt, ac nid ydynt, eithr sunagog Satan ydynt. Nac ofna’r pethau yr wyt ar fedr eu dioddef. Wele, ar fedr taflu rhai o honoch i garchar y mae diafol, fel y’ch profer; a bydd arnoch orthrymder ddeng niwrnod. Bydd ffyddlawn hyd angau, a rhoddaf i ti goron y bywyd. Yr hwn sydd a chanddo glust, gwrandawed pa beth y mae’r Yspryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi. Yr hwn sy’n gorchfygu, ni niweidir ddim gan yr ail farwolaeth. Ac at angel yr eglwys yn Pergamus ysgrifena, Hyn a ddywaid yr Hwn sydd a Chanddo y cleddyf dau-finiog llym, Gwn pa le y trigi, sef lle y mae gorsedd-faingc Satan; a dal yn dỳn Fy enw yr wyt, ac ni wedaist Fy ffydd hyd yn oed yn y dyddiau yr oedd Antipas Fy nhyst, Fy ffyddloniad, yr hwn a laddwyd yn eich plith, lle y mae Satan yn trigo. Eithr y mae Genyf yn dy erbyn ychydig bethau, gan fod genyt yno rai yn dal dysgad Balaam, yr hwn a ddysgodd i Balac fwrw tramgwydd o flaen meibion Israel, i fwytta pethau a aberthwyd i eulunod, ac i odinebu. Felly yr wyt tithau hefyd a chenyt rai yn dal dysgad y Nicolaiaid yn y cyffelyb fodd. Edifarha, gan hyny; onite, dyfod attat yr wyf ar frys; a rhyfelaf yn eu herbyn a chleddyf Fy ngenau. Yr hwn sydd a chanddo glust, gwrandawed pa beth y mae yr Yspryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi. I’r hwn sy’n gorchfygu y rhoddaf iddo o’r manna cuddiedig; a rhoddaf iddo garreg wen, ac ar y garreg enw newydd wedi ei ’sgrifenu, yr hwn nid oes neb yn ei adnabod oddieithr yr hwn sydd yn ei dderbyn. Ac at angel yr eglwys yn Thuatira, ysgrifena, Hyn a ddywaid Mab Duw, yr Hwn sydd a’i lygaid fel fflam dân, a’i draed yn debyg i Chalcolibanus, Gwn dy weithredoedd, a’th gariad, a’th ffydd, a’th weinidogaeth, a’th amynedd; a’th weithredoedd diweddaf ydynt amlach na’r rhai cyntaf. Eithr y mae Genyf yn dy erbyn dy fod yn gadael i’r wraig Iezabel, yr hon sy’n galw ei hun yn brophwydes, a dysgu y mae ac yn arwain ar gyfeiliorn Fy ngweision i odinebu a bwytta pethau a aberthwyd i eulunod. A rhoddais iddi amser i edifarhau; ac nid ewyllysia edifarhau oddiwrth ei godineb. Wele, ei bwrw yr wyf ar wely; ac y rhai sy’n godinebu gyda hi, i orthrymder mawr, onid edifarhant oddiwrth ei gweithredoedd hi. Ac ei phlant a laddaf â marwolaeth; a gwybydd yr holl eglwysi mai Myfi yw’r Hwn sy’n chwilio arennau a chalonnau: a rhoddaf i chwi, i bob un, yn ol eich gweithredoedd. Ond wrthych chwi y dywedaf, y lleill y sydd yn Thuatira, cynnifer ag nad oes ganddynt y dysgad hwn, y rhai ni wyddant bethau dyfnion Satan, fel y dywedant, Nid wyf yn bwrw arnoch bwys arall. Er hyny, yr hyn sydd genych, deliwch yn dỳn hyd oni fyddaf wedi dyfod. Ac yr hwn sy’n gorchfygu ac yn cadw Fy ngweithredoedd hyd y diwedd, rhoddaf iddo awdurdod ar y cenhedloedd; ac eu bugeilio a wna efe â gwialen haiarn, fel y mae’r llestri pridd yn cael eu chwilfriwio, fel y derbyniais Innau hefyd gan Fy Nhad; a rhoddaf iddo y seren fore. Yr hwn sydd a chanddo glust, gwrandawed pa beth y mae’r Yspryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi. Ac at angel yr eglwys y sydd yn Sardis ysgrifena, Y pethau hyn a ddywaid yr Hwn sydd a Chanddo saith Yspryd Duw a’r saith seren, Gwn dy weithredoedd di, fod enw genyt dy fod yn fyw, a marw ydwyt. Bydd yn gwylied; a chadarnha y pethau yngweddill, y rhai oeddynt ar fedr marw; canys ni chefais dy weithredoedd di wedi eu cyflawni ger bron Fy Nuw. Cofia, gan hyny, pa fodd y derbyniaist ac y clywaist, a chadw ac edifarha. Os na wyli, gan hyny, deuaf fel lleidr, ac ni wybyddi ddim pa awr y deuaf arnat. Eithr y mae genyt ychydig enwau yn Sardis, y rhai ni halogasant eu dillad; a rhodiant ynghyda Mi mewn dillad gwynion, canys teilwng ydynt. Yr hwn sy’n gorchfygu, fel hyn y’i gwisgir mewn dillad gwynion; ac ni ddileaf mo’i enw o lyfr y bywyd; a chyffesaf ei enw ger bron Fy Nhad, a cher bron Ei angylion. Yr hwn sydd a chanddo glust, gwrandawed pa beth y mae’r Yspryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi. Ac at angel yr eglwys y sydd yn Philadelphia ysgrifena, Y pethau hyn a ddywaid Y Sanctaidd, Y Gwir, yr Hwn sydd a Chanddo agoriad Dafydd; yr Hwn sydd yn agoryd, ac neb ni chaua; ac yn cau ac nid oes neb yn agoryd, Gwn dy weithredoedd di (wele, rhoddais o’th flaen ddrws wedi ei agoryd, yr hwn ni all neb ei gau,) mai ychydig sydd genyt o allu, ac y cedwaist Fy ngair I, ac na wedaist Fy enw. Wele, rhoddi yr wyf o sunagog Satan, o’r rhai sy’n dywedyd eu bod hwy yn Iwddewon, ac nid ydynt, eithr celwyddu y maent; wele, gwnaf iddynt ddyfod ac addoli o flaen dy draed, a gwybod ddarfod i Mi dy garu. Gan mai cadw gair Fy amynedd a wnaethost, Myfi hefyd a’th gadwaf di oddiwrth awr y brofedigaeth, yr hon awr sydd ar fedr dyfod ar y byd oll, i brofi y rhai sy’n trigo ar y ddaear. Dyfod yn fuan yr wyf: dal yn dỳn yr hyn sydd genyt, fel na bo i neb gymmeryd dy goron. Yr hwn sy’n gorchfygu, gwnaf ef yn golofn yn nheml Fy Nuw, ac allan nid â efe mwyach er dim; ac ysgrifenaf arno enw Fy Nuw, ac enw dinas Fy Nuw, yr Ierwshalem newydd, yr hon sydd yn disgyn o’r nef oddiwrth Fy Nuw; ac Fy enw newydd. Yr hwn sydd a chanddo glust, gwrandawed pa beth y mae’r Yspryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi. Ac at angel yr eglwys y sydd yn Laodicea ysgrifena, Y pethau hyn a ddywaid Yr Amen, Y Tyst ffyddlawn a gwir, Dechreuad creedigaeth Duw, Gwn dy weithredoedd, mai nac oer wyt na brwd. O na bait oer neu frwd. Felly, gan mai claiar wyt, ac nid yn oer nac yn frwd, yr wyf ar fedr dy chwydo di allan o’m genau. Oblegid dywedyd o honot, Goludog wyf, ac yn oludog yr aethum, ac nid oes arnaf eisiau dim, ac na wyddost dy fod di yn druenus, ac yn resynol, ac yn dlawd, ac yn ddall, ac yn noeth, dy gynghori yr wyf i brynu Genyf aur wedi ei goethi trwy dân, fel y’th gyfoethoger; a dillad gwynion, fel yr ymwisgech, ac nad amlyger cywilydd dy noethder; ac eli llygaid, i enneinio dy lygaid, fel y gwelech. Myfi, cynnifer ag yr wyf yn eu caru, eu hargyhoeddi a’u ceryddu yr wyf. Bydd selog, gan hyny, ac edifarha. Wele, sefyll yr wyf wrth y drws, ac yn curo; os clyw neb Fy llais, ac agoryd y drws, deuaf i mewn atto, a swpperaf gydag ef, ac yntau gyda Mi. Yr hwn sy’n gorchfygu, rhoddaf iddo i eistedd gyda Mi ar Fy ngorsedd-faingc; fel y gorchfygais Innau hefyd, ac yr eisteddais gyda Fy Nhad ar Ei orsedd-faingc. Yr hwn sydd a chanddo glust, gwrandawed pa beth y mae’r Yspryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi. Ar ol y pethau hyn edrychais, ac wele ddrws wedi Ei agoryd yn y nef; a’r llais cyntaf a glywais, fel llais udgorn yn llefaru â mi, dywedyd o un, Tyred i fynu yma, a dangosaf i ti y pethau y mae rhaid iddynt ddigwydd ar ol hyn. Yn uniawn yr oeddwn yn yr yspryd: ac, wele, gorsedd-faingc oedd wedi ei gosod yn y nef; ac ar yr orsedd-faingc un yn eistedd. Ac yr Hwn yn Ei eistedd, tebyg oedd, i’ r golwg, i faen iaspir a sardin; ac enfys oedd o amgylch yr orsedd-faingc, yn debyg, i’ r golwg, i smaragdus; ac o amgylch yr orsedd-faingc yr oedd pedair gorsedd-faingc ar hugain; ac ar y bedair gorsedd-faingc ar hugain y gwelais henuriaid yn eu heistedd, wedi eu gwisgo mewn dillad gwynion, ac ar eu pennau goronau aur. Ac o’r orsedd-faingc dyfod allan y mae mellt, a lleisiau, a tharanau. A saith o lusernnau tân oedd yn llosgi o flaen yr orsedd-faingc, y rhai yw saith Yspryd Duw. Ac o flaen yr orsedd-faingc yr oedd fel pe bai fôr o wydr, tebyg i grustal; ac ynghanol yr orsedd-faingc, ac o amgylch yr orsedd-faingc, yr oedd pedwar anifail yn llawn o lygaid o’r tu blaen ac o’r tu ol. A’r anifail cyntaf oedd debyg i lew; a’r ail anifail yn debyg i lo; a’r trydydd anifail a chanddo wyneb fel yr eiddo dyn; a’r pedwerydd anifail yn debyg i eryr yn ehedeg. A’r pedwar anifail, bob un o honynt a chanddo chwech o adenydd, ydynt o amgylch ac oddifewn yn llawn llygaid; a gorphwys nid oes iddynt ddydd a nos, gan ddywedyd, Sanct, Sanct, Sanct yw ’r Arglwydd Dduw Hollalluog, yr Hwn oedd ac yr Hwn sydd ac yr Hwn sydd yn dyfod. A phan roddo’r anifeiliaid ogoniant ac anrhydedd a diolch i’r Hwn sy’n eistedd ar yr orsedd-faingc, yr Hwn sy’n byw yn oes oesoedd, syrth y pedwar henuriad ar hugain ger bron yr Hwn sy’n eistedd ar yr orsedd-faingc, ac addolant yr Hwn sy’n byw yn oes oesoedd, a bwriant eu coronau o flaen yr orsedd-faingc, gan ddywedyd, Teilwng wyt, ein Harglwydd a’n Duw, i dderbyn y gogoniant a’r anrhydedd a’r gallu, canys Tydi a greaist bob peth; ac o herwydd Dy ewyllys yr oeddynt, ac y’u crewyd. A gwelais ar law ddehau yr Hwn yn Ei eistedd ar yr orsedd-faingc, lyfr wedi ei ’sgrifenu oddifewn ac ar y cefn, wedi ei selio â saith sel. A gwelais angel cryf yn cyhoeddi â llef fawr, Pwy sydd deilwng i agoryd y llyfr, ac i ddattod ei seliau? Ac ni allai neb yn y nef, nac ar y ddaear, na than y ddaear, agoryd y llyfr, nac edrych arno. Ac mi a wylais lawer gan na chafwyd neb teilwng i agoryd y llyfr, nac i edrych arno; ac un o’r henuriaid a ddywedodd wrthyf, Nac wyla. Wele, gorchfygodd y Llew y sydd o lwyth Iwdah, Gwreiddyn Dafydd, i agoryd y llyfr a’i saith sel. A gwelais rhwng yr orsedd-faingc a’r pedwar anifail a’r henuriaid, oen yn sefyll fel wedi ei ladd, a chanddo saith gorn a saith llygad, y rhai ydynt saith Yspryd Duw, danfonedig i’r holl ddaear. A daeth Efe, a chymmerodd ef allan o law ddehau yr Hwn oedd yn eistedd ar yr orsedd-faingc; a phan gymmerodd Efe y llyfr, y pedwar anifail a’r pedwar henuriad ar hugain, a syrthiasant ger bron yr Oen, a chanddynt, bob un, delyn, a phialau aur gorlawn o arogl-darth, yr hyn yw gweddïau’r saint: a chanu caniad newydd y maent, gan ddywedyd, Teilwng wyt i gymmeryd y llyfr, ac i agoryd ei seliau; canys lladdwyd Di, a phrynaist i Dduw, â’th waed, allan o bob llwyth a thafod a phobl a chenedl, a gwnaethost hwynt i’n Duw yn deyrnas ac yn offeiriaid; a theyrnasant ar y ddaear. A gwelais, a chlywais lais angylion lawer ynghylch yr orsedd-faingc a’r anifeiliaid a’r henuriaid; ac yr oedd eu rhifedi yn fyrddiynau o fyrddiynau, a miloedd o filoedd, yn dywedyd â llais mawr, Teilwng yw’r Oen a laddwyd, i dderbyn y gallu a golud a doethineb ac anrhydedd a gogoniant a bendith. A phob peth creedig y sydd yn y nef, ac ar y ddaear, a than y ddaear, ac ar y môr, a’r pethau ynddynt, bob un o honynt, a glywais yn dywedyd, I’r Hwn sy’n eistedd ar yr orsedd-faingc, ac i’r Oen, bydded y fendith a’r anrhydedd a’r gogoniant a’r nerth yn oes oesoedd. A’r pedwar anifail a ddywedasant, Amen; a’r henuriaid a syrthiasant i lawr ac a addolasant. A gwelais, pan agorodd yr Oen un o’r saith sel, a chlywais un o’r pedwar anifail yn dywedyd, fel swn taran, Tyred; a gwelais, ac wele farch gwyn; a’r hwn oedd yn eistedd arno oedd a chanddo fwa: a rhoddwyd iddo goron; ac aeth allan yn gorchfygu, ac fel y gorchfygai. A phan agorodd yr ail sel, clywais yr ail anifail yn dywedyd, Tyred, a daeth allan farch arall, un coch; ac i’r hwn oedd yn eistedd arno y rhoddwyd cymmeryd heddwch o’r ddaear, ac fel y lladdent eu gilydd; a rhoddwyd iddo gleddyf mawr. A phan agorodd y drydedd sel, clywais y trydydd anifail yn dywedyd, Tyred; ac edrychais, ac wele farch du; a’r hwn oedd yn eistedd arno oedd a chanddo glorian yn ei law; a chlywais fel pe bai llais ynghanol y pedwar anifail, yn dywedyd, Choinics o wenith er denar, a thri choinics o haidd er denar; a’r olew a’r gwin, na wna niweid iddynt. A phan agorodd y bedwaredd sel, clywais lais y pedwerydd anifail yn dywedyd, Tyred; a gwelais, ac wele, farch gwelw-las; a’r hwn oedd yn eistedd arno, yr enw iddo oedd Marwolaeth; ac Hades a ganlynai gydag ef; a rhoddwyd iddo awdurdod ar y bedwaredd ran o’r ddaear, i ladd â chleddyf ac â newyn ac â marwolaeth a thrwy fwystfilod y ddaear. A phan agorodd y bummed sel, gwelais tan yr allor eneidiau y rhai a laddesid oblegid gair Duw ac oblegid y dystiolaeth oedd ganddynt; a gwaeddasant â llais mawr, gan ddywedyd, Hyd pa hyd, Feistr, y Sanctaidd a Gwir, nad wyt yn barnu, ac yn cymmeryd dialedd ein gwaed ar y rhai sy’n trigo ar y ddaear? A rhoddwyd iddynt, i bob un, laes-wisg wen; a dywedwyd wrthynt orphwys etto ychydig amser, hyd oni chyflawnid rhif eu cyd-weision a’u brodyr, y rhai oedd ar fedr eu lladd, fel y cawsent hwythau hefyd. A gwelais pan agorodd y chweched sel, a daear-gryn mawr a ddigwyddodd, a’r haul a aeth yn ddu fel sachlen flew, a’r lleuad i gyd a aeth fel gwaed, a ser y nef a syrthiasant ar y ddaear, fel y mae ffigys-bren yn bwrw ei ffigys anaddfed, pan gan wynt mawr yr ysgydwir; a’r nef a roddwyd heibio fel ysgrif-rol, pan y’i torchir; a phob mynydd ac ynys o’u lleoedd y’u symmudwyd; a brenhinoedd y ddaear, a’r pennaethiaid, a’r milwriaid, a’r goludogion, a’r rhai cedyrn, a phob caethwas a gŵr rhydd, a guddiasant eu hunain yn y gogfeydd ac ynghreigiau y mynyddoedd; a dywedasant wrth y mynyddoedd a’r creigiau, Syrthiwch arnom, a chuddiwch ni oddiwrth wyneb yr Hwn sy’n eistedd ar yr orsedd-faingc, ac oddiwrth lid yr Oen, canys daeth dydd mawr eu llid, a phwy a eill sefyll? Ar ol hyn y gwelais bedwar angel yn sefyll wrth bedair congl y ddaear, yn dal pedwar gwynt y ddaear, fel na chwythai gwynt ar y ddaear, nac ar y môr, nac ar neb rhyw bren. A gwelais angel arall yn esgyn o godiad haul, a chanddo sel y Duw Byw; a gwaeddodd â llais mawr wrth y pedwar angel, i’r rhai y rhoddwyd niweidio’r ddaear a’r môr, gan ddywedyd, Na niweidiwch y ddaear, na’r môr, na’r preniau, nes darfod i ni selio gweision ein Duw, ar eu talcennau. A chlywais nifer y rhai a seliwyd, cant a phedair a deugain o filoedd wedi eu selio, allan o bob llwyth meibion Israel: o lwyth Iwdah, ddeuddeng mil wedi eu selio; o Iwyth Reuben, ddeuddeng mil; o lwyth Gad, ddeuddeng mil; o lwyth Asher, ddeuddeng mil; o lwyth Nephthali, ddeuddeng mil; o lwyth Manashsheh, ddeuddeng mil; o lwyth Shimeon, ddeuddeng mil; o lwyth Lefi, ddeuddeng mil; o lwyth Issachar, ddeuddeng mil; o lwyth Sabwlon, ddeuddeng mil; o lwyth Ioseph, ddeuddeng mil; o lwyth Beniamin, ddeuddeng mil wedi eu selio. Ar ol hyn gwelais, ac wele dyrfa fawr, yr hon ei rhifo ni allai neb, allan o bob cenedl a llwythau a phobloedd a thafodau, yn sefyll o flaen yr orsedd-faingc a cher bron yr Oen, wedi ei gwisgo mewn llaes-wisgoedd gwynion, a phalmwydd yn eu dwylaw; a gwaeddant â llais mawr, gan ddywedyd, Iachawdwriaeth i’n Duw, yr Hwn sydd yn eistedd ar yr orseddfaingc, ac i’r Oen. A’r holl angylion oedd yn sefyll o amgylch yr orsedd-faingc a’r henuriaid a’r pedwar anifail; a syrthiasant i lawr o flaen yr orsedd-faingc, ar eu gwynebau, ac addolasant Dduw, gan ddywedyd, Amen. Y fendith a’r gogoniant a’r doethineb a’r diolch a’r anrhydedd a’r gallu a’r nerth a fyddo i’n Duw yn oes oesoedd. Amen. Ac attebodd un o’r henuriaid, gan ddywedyd wrthyf, Y rhai hyn, wedi eu gwisgo â llaes-wisgoedd gwynion, pwy ydynt; ac o ba le y daethant? A dywedais wrtho, Fy arglwydd, tydi a wyddost. A dywedodd wrthyf, Y rhai hyn yw’r rhai sy’n dyfod allan o’r gorthrymder mawr; a golchasant eu llaes-wisgoedd, a channasant hwynt yngwaed yr Oen; o achos hyn y maent o flaen gorsedd-faingc Duw, ac Ei wasanaethu y maent ddydd a nos yn Ei deml: a’r Hwn sydd yn eistedd ar yr orsedd-faingc a dabernacla drostynt; ni fydd arnynt newyn mwyach, ac ni fydd arnynt syched mwyach; ac ni thery yr haul er dim arnynt, na dim gwres, canys yr Oen, yr Hwn sydd ynghanol yr orsedd-faingc, a’u bugeilia ac a’u harwain at ffynhonnau dyfroedd bywyd, a Duw a sych ymaith bob deigr oddiwrth eu llygaid. A phan agorodd y seithfed sel, bu distawrwydd yn y nef am oddeutu hanner awr; a gwelais y saith angel, y rhai sydd ger bron Duw yn eu sefyll; a rhoddwyd iddynt saith udgorn. Ac angel arall a ddaeth, a safodd ar yr allor, a chanddo thusser aur; a rhoddwyd iddo arogl-darth lawer fel y’i rhoddai at weddïau y saint oll, ar yr allor aur oedd o flaen yr orsedd-faingc. Ac esgynodd mwg yr arogl-darth gyda gweddïau’r saint, o law’r angel, ger bron Duw. A chymmerodd yr angel y thusser, a llawn-llenwodd hi o dân yr allor, a bwriodd hi ar y ddaear; a bu taranau, a lleisiau, a mellt, a daeargryn. A’r saith angel, y rhai oedd a chanddynt y saith udgorn, a ymbarottoisant i udganu. A’r cyntaf a udganodd, a bu cenllysg a thân wedi eu cymmysgu â gwaed, a bwriwyd hwy ar y ddaear; a thraian y ddaear a lwyr-losgwyd, a thraian y coed a lwyr-losgwyd, a’r holl laswellt a lwyr-losgwyd. A’r ail angel a udganodd, ac fel pe bai mynydd mawr, a thân yn ei losgi ef, a fwriwyd i’r môr; ac aeth traian y môr yn waed; a bu farw traian y creaduriaid a oedd yn y môr, y rhai oedd a chanddynt fywyd; a thraian y llongau a ddinystriwyd. A’r trydydd angel a udganodd, a syrthiodd o’r nef seren fawr yn llosgi fel llusern; a syrthiodd ar draian yr afonydd, ac ar ffynhonnau’r dyfroedd. Ac enw’r seren a elwir Wermod; ac aeth traian y dyfroedd yn wermod, a llawer o ddynion a fuant feirw gan y dyfroedd, gan mai yn chwerwon y’u gwnaethpwyd. A’r pedwerydd angel a udganodd, a tharawyd traian yr haul, a thraian y lleuad, a thraian y ser, fel y tywyllid eu traian; ac na fyddai i’r dydd lewyrchu, am ei draian; ac y nos yr un ffunud. A gwelais a chlywais eryr yn ehedeg ynghanol y nef, yn dywedyd â llef fawr, Gwae, gwae, gwae, i’r rhai sy’n trigo ar y ddaear, o herwydd lleisiau eraill yr udgorn, o eiddo’r tri angel y sydd ar fedr udganu. A’r pummed angel a udganodd, a gwelais seren o’r nef, wedi syrthio ar y ddaear; a rhoddwyd iddo agoriad pydew affwys: ac agorodd efe bydew affwys, ac esgynodd mwg o’r pydew, fel mwg ffwrn fawr; a thywyllwyd yr haul a’r awyr gan fwg y pydew; ac allan o’r mwg y daeth locustiaid ar y ddaear; a rhoddwydd iddynt allu, fel y mae gallu gan ysgorpionau’r ddaear; a dywedwyd wrthynt na niweidient laswellt y ddaear, na dim sydd wyrddlas, nac un pren, ond yn unig y dynion y sydd heb ganddynt sel Duw ar eu talcennau: a rhoddwyd iddynt na laddent hwynt, ond iddynt gael eu poeni bum mis; a’u poen oedd fel poen ysgorpion pan darawo ddyn. Ac yn y dyddiau hyny y cais dynion farwolaeth, ac ni chânt mo’ni; a chwennychant farw, ond ffoi y mae marwolaeth oddiwrthynt. A dulliau y locustiaid oeddynt debyg i feirch wedi eu parottoi i ryfel; ac ar y pennau yr oedd fel pe bai coronau tebyg i aur; a’u gwynebau fel gwynebau dynion: ac yr oedd ganddynt wallt fel gwallt gwragedd: a’u dannedd fel yr eiddo llewod oeddynt; ac yr oedd ganddynt lurigau fel llurigau haiarn, a swn eu hadenydd oedd fel swn cerbydau, o feirch lawer yn rhedeg i ryfel; ac yr oedd ganddynt gynffonau tebyg i ’scorpion-au, a cholynnau; ac yn eu cynffonnau y mae eu gallu i niweidio dynion bum mis; a throstynt y mae ganddynt yn frenhin angel affwys, a ’r enw iddo yw yn Hebraeg, Abadon; ac yn y Roeg, yr enw Apoluon sydd iddo. Y wae gyntaf a aeth heibio; wele, dyfod y mae etto ddwy wae ar ol hyn. A’r chweched angel a udganodd, a chlywais lais o gyrn yr allor aur, yr hon sydd ger bron Duw, yn dywedyd wrth y chweched angel, yr hwn oedd a chanddo yr udgorn, Gollwng yn rhydd y pedwar angel y sydd wedi eu rhwymo wrth yr afon fawr Euphrates. A gollyngwyd y pedwar angel, y rhai oeddynt wedi eu parottoi am yr awr a diwrnod a mis a blwyddyn, fel y lladdent y traian o ddynion. A rhifedi lluoedd y gwŷr meirch oedd ddwy fyrddiwn o fyrddiynnau: clywais eu rhifedi. Ac fel hyn y gwelais y meirch yn y weledigaeth, a’r rhai oedd yn eistedd arnynt a chanddynt lurigau o liw tân a lliw huacinth a lliw brwmstan; a phennau’r meirch, fel pennau llewod; ac allan o’u safnau y mae tân yn dyfod, a mwg, a brwmstan. A chan y tri phla hyn y llâs traian dynion, gan y tan a’r mwg a’r brwmstan a oedd yn dyfod allan o’u safnau; canys gallu’r meirch, yn eu safnau y mae, ac yn eu cynffonnau, canys eu cynffonnau oeddynt debyg i seirph; a chanddynt bennau; ac â hwynt y niweidiant. A’r gweddill o ddynion, y rhai ni laddwyd gan y plaau hyn, nid edifarhasant oddiwrth weithredoedd eu dwylaw fel nad addolent gythreuliaid a’r eulunod aur ac arian a phres a maen a phren, y rhai ni allant na gweled na chlywed na rhodio. Ac nid edifarhasant oddiwrth eu llofruddiaethau, nac oddiwrth eu swyn-gyfareddion, nac oddiwrth eu godineb, nac oddiwrth eu lladradau. A gwelais angel cryf arall yn disgyn o’r nef, wedi ei wisgo â chwmmwl; a’r enfys oedd ar ei ben, a’i wyneb fel yr haul, ac ei draed fel colofnau o dân; ac a chanddo yn ei law lyfr bychan wedi ei agoryd: a gosododd ei droed dehau ar y môr, a’r aswy ar y tir; a gwaeddodd â llais mawr fel y mae llew yn rhuo; a phan waeddodd, adroddodd y saith daran eu lleisiau. A phan adroddodd y saith daran eu lleisiau, yr oeddwn ar fedr ysgrifenu, a chlywais lais o’r nef yn dywedyd, Selia y pethau a adroddodd y saith daran, ac nac ysgrifena hwynt. A’r angel, yr hwn a welais yn sefyll ar y môr ac ar y tir, a gododd ei law ddehau i’r nef, a thyngodd i’r Hwn sydd yn byw yn oes oesodd, yr Hwn a greodd y nef a’r pethau sydd ynddi, a’r ddaear a’r pethau sydd ynddi, a’r môr a’r pethau sydd ynddo, Amser ni fydd mwyach; eithr yn nyddiau llais y seithfed angel, pan fo ar fedr udganu, yna y gorphenwyd dirgelwch Duw, fel yr efengylodd i’w weision Ei hun, y prophwydi. A’r llais yr hwn a glywais o’r nef, a glywais drachefn yn llefaru wrthyf, ac yn dywedyd, Dos, cymmer y llyfr sydd yn agored yn llaw yr angel y sy’n sefyll ar y môr ac ar y tir. Ac aethum at yr angel, gan ddywedyd wrtho roddi i mi y llyfr bychan. A dywedodd wrthyf, Cymmer a bwytta ef; a chwerwa efe dy fol di, eithr yn dy enau y bydd felus fel mel. A chymmerais y llyfr bychan allan o law’r angel, a bwytteais ef; ac yr oedd efe yn fy ngenau fel mel, yn felus; a phan fwyttaswn ef, chwerwyd fy mol. A dywedasant wrthyf, Y mae rhaid i ti drachefn brophwydo i bobloedd a chenhedloedd ac ieithoedd a brenhinoedd lawer. A rhoddwyd i mi gorsen debyg i wialen, a dywedodd, Cyfod, a mesura deml Dduw, a’r allor, a’r rhai sy’n addoli ynddi; ac y cyntedd y sydd o’r tu allan i’r deml, bwrw allan; ac ef na fesura, canys rhoddwyd ef i’r cenhedloedd, a’r ddinas sanctaidd a fathrant ddeufis a deugain. A rhoddaf i’m dau dyst, a phrophwydant fil a deucant a thrugain o ddyddiau, wedi ymwisgo â sach-liain. Y rhai hyn yw’r ddwy olew-wydden a’r ddau ganhwyllbren y sy’n sefyll ger bron Arglwydd y ddaear: ac os iddynt hwy yr ewyllysia neb wneuthur niweid, tân sy’n myned allan o’u genau, ac yn bwytta eu gelynion; ac os rhyw un a ewyllysia eu niweidio hwynt, fel hyn y mae’n rhaid iddo gael ei ladd. Y rhai hyn sydd a chanddynt y gallu i gau’r nef fel na bo gwlaw yn gwlawio am ddyddiau eu prophwydoliaeth; a gallu sydd ganddynt ar y dyfroedd, i’w troi hwynt yn waed, ac i daro’r ddaear â phob pla, cyn fynyched ag y mynnont. A phan ddarffo iddynt orphen eu tystiolaeth, y bwystfil y sy’n esgyn allan o affwys a wna ryfel â hwynt, ac a’u gorchfyga, ac a’u lladd: ac eu cyrph a orweddant ar lydanfa y ddinas fawr, yr hon a elwir, yn ysprydol, Sodom, ac Yr Aipht, lle y bu i’w Harglwydd hefyd Ei groes-hoelio; ac edrych y mae rhai o’r bobloedd a llwythau ac ieithoedd a chenhedloedd, ar eu cyrph dridiau a hanner, ac i’w cyrph ni adawant eu rhoddi mewn bedd. A’r rhai sy’n trigo ar y ddaear, llawenychu y maent trostynt ac yn ymhyfrydu, a rhoddion a ddanfonant i’w gilydd, canys y rhai hyn, y ddau brophwyd, a boenasant y rhai oedd yn trigo ar y ddaear. Ac ar ol y tridiau a hanner, yspryd bywyd oddiwrth Dduw a aeth i mewn iddynt, a safasant ar eu traed, ac ofn mawr a syrthiodd ar y rhai a’u gwelent; a chlywsant lais mawr o’r nef, yn dywedyd wrthynt, Deuwch i fynu yma; ac aethant i fynu i’r nef yn y cwmmwl, ac eu gweled a fu i’w gelynion. Ac yn yr awr honno y digwyddodd daear-gryn mawr, a’r ddegfed ran o’r ddinas a syrthiodd; a lladdwyd yn y daear-gryn nifer enwau’r bobl, saith mil; a’r lleill a aethant yn frawychus, a rhoisant ogoniant i Dduw’r nef. Yr ail wae a aeth heibio. Wele, y drydedd wae sy’n dyfod yn fuan. A’r seithfed angel a udganodd, a bu lleisiau mawrion yn y nef, yn dywedyd, Aeth teyrnas y byd yn deyrnas ein Harglwydd a’i Grist, a theyrnasa Efe yn oes oesoedd. A’r pedwar henuriad ar hugain, y rhai sydd ger bron Duw yn eistedd ar eu gorsedd-feingciau, a syrthiasant ar eu gwynebau, ac a addolasant Dduw, gan ddywedyd, Diolchwn i Ti, Arglwydd Dduw, yr Hollalluog, yr Hwn ydyw ac yr Hwn oedd, oblegid cymmeryd o Honot Dy allu mawr, a theyrnasu; a’r cenhedloedd a ddigiasant; a daeth Dy ddig, ac amser y meirw i’w barnu, a’r amser i roi eu gwobr i’th weision y prophwydi a’r saint a’r rhai sy’n ofni Dy enw, y bychain a’r mawrion, ac i ddifetha’r rhai sy’n difetha’r ddaear. Ac agorwyd teml Dduw, yr hon sydd yn y nef, a gwelwyd arch Ei gyfammod yn Ei deml; a bu mellt a lleisiau a tharanau a daear-gryn a chenllysg mawr. Ac arwydd mawr a welwyd yn y nef, gwraig wedi ei gwisgo â’r haul, a’r lleuad tan ei thraed, ac ar ei phen goron o ddeuddeg seren; ac yn feichiog; a gwaeddi y mae mewn gwewyr, ac mewn poen i esgor. A gwelwyd arwydd arall yn y nef, ac wele ddraig goch fawr, a chanddi saith pen a deg corn, ac ar ei phennau saith meitr; a’i chynffon sy’n tynu traian ser y nef, a bwriodd hwynt i’r ddaear. A’r ddraig a safodd ger bron y wraig ar fedr esgor, fel, pan esgorai, ei phlentyn y bwyttai. Ac esgorodd hi ar fab, gwrryw, yr hwn sydd ar fedr bugeilio’r holl genhedloedd â gwialen haiarn. A chipiwyd ei phlentyn at Dduw ac at Ei orsedd-faingc; a’r wraig a ffodd i’r anialwch, lle y mae ganddi yno le a barottowyd oddiwrth Dduw, fel yno y porthent hi fil a deucant a thrugain o ddyddiau. A digwyddodd rhyfel yn y nef; Michael a’i angylion a aethant i ryfela â’r ddraig; a’r ddraig a ryfelodd, ac ei hangylion; ac ni orfuant, a’u lle ni chafwyd mwyach yn y nef. A bwriwyd y ddraig fawr i lawr, yr hen sarph, yr hon a elwir Diafol a Satan, yr hon sy’n arwain ar gyfeiliorn y byd oll; bwriwyd hi i’r ddaear; ac ei hangylion, ynghyda hi, a fwriwyd. A chlywais lais mawr yn y nef, yn dywedyd, Yn awr y daeth yr iachawdwriaeth a’r gallu a theyrnas ein Duw, ac awdurdod Ei Grist, canys bwriwyd i’r llawr gyhuddwr ein brodyr, yr hwn sydd yn eu cyhuddo ger bron ein Duw ddydd a nos; a hwy a orchfygasant ef o herwydd yr Oen, ac o herwydd gair eu tystiolaeth; ac ni charasant eu heinioes hyd angau. O herwydd hyn ymhyfrydwch, y nefoedd a’r rhai sy’n trigo ynddynt hwy. Gwae’r ddaear a’r môr, canys disgynodd diafol attoch; a chanddo lid mawr, gan wybod mai ychydig amser sydd ganddo. A phan welodd y ddraig y bwriwyd hi i’r ddaear, erlidiodd y wraig a esgorodd ar y gwrryw, a rhoddwyd i’r wraig ddwy aden yr eryr mawr, fel yr ehedai i’r anialwch, i’w lle, lle y porthir hi yno am amser ac amseroedd a hanner amser, oddiwrth wyneb y sarph. A bwriodd y sarph o’i safn, ar ol y wraig, ddwfr fel afon, fel y gwnai iddi ei dwyn gan yr afon. A chymmorth a roes y ddaear i’r wraig; ac agorodd y ddaear ei genau, a llyngcodd yr afon yr hon a fwriodd y ddraig o’i safn. A llidodd y ddraig wrth y wraig, ac aeth ymaith i wneuthur rhyfel â’r lleill o’i had hi, y rhai sy’n cadw gorchymynion Duw ac yn dal tystiolaeth Iesu; a safodd ar dywed y môr. A gwelais, o’r môr bwystfil a ddaeth i fynu, a chanddo ddeg corn a saith ben, ac ar ei gyrn ddeg meitr, ac ar ei bennau enwau cabledd. A’r bwystfil, yr hwn a welais, oedd debyg i lewpard, a’i draed fel yr eiddo arth, a’i safn fel safn llew; a rhoddodd y ddraig iddo ei gallu a’i gorsedd-faingc, ac awdurdod mawr; ac un o’i bennau fel wedi ei archolli hyd farwolaeth; a’i bla marwol a iachawyd, a rhyfeddodd yr holl ddaear ar ol y bwystfil, ac addolasant y ddraig o herwydd rhoddi o honi ei hawdurdod i’r bwystfil; ac addolasant y bwystfil, gan ddywedyd, Pwy sydd debyg i’r bwystfil? a phwy a fedr ryfela ag ef? A rhoddwyd iddo enau yn llefaru pethau mawrion, a chableddau; a rhoddwyd iddo awdurdod i aros ddau fis a deugain; ac agorodd ei enau er cabledd yn erbyn Duw, i gablu Ei enw a’i dabernacl, sef y rhai, yn y nef y mae eu trigfa. A rhoddwyd iddo wneuthur rhyfel â’r saint ac eu gorchfygu; a rhoddwyd iddo awdurdod dros bob llwyth a phobl ac iaith a chenedl; ac ei addoli ef a wnaiff pawb y sy’n trigo ar y ddaear, yr hwn nad ysgrifenwyd ei enw yn llyfr bywyd yr Oen yr Hwn a laddwyd o seiliad y byd. Os yw neb a chanddo glust, gwrandawed. Os yw neb i gaethiwed, i gaethiwed y cilia; os â chleddyf y lladd neb, y mae rhaid iddo ef gael â chleddyf ei ladd. Yma y mae amynedd a ffydd y saint. A gwelais fwystfil arall yn dyfod i fynu o’r ddaear; a chanddo yr oedd dau gorn tebyg i oen, a llefarai fel draig: ac awdurdod y bwystfil cyntaf, y cwbl, a arfera efe yn ei wydd, a gwneud y mae i’r ddaear a’r rhai sy’n trigo ynddi, addoli’r bwystfil cyntaf, yr hwn yr iachawyd ei bla marwol; a gwneuthur arwyddion mawrion y mae, fel y gwna i dân o’r nef ddisgyn ar y ddaear yngwydd dynion: ac ar gyfeiliorn yr arwain y rhai sy’n trigo ar y ddaear o herwydd yr arwyddion y rhai y rhoddwyd iddo eu gwneuthur yngwydd y bwystfil, gan ddywedyd wrth y rhai sy’n trigo ar y ddaear, wneuthur delw i’r bwystfil y sydd a chanddo bla’r cleddyf a byw o hono. A rhoddwyd iddo roi anadl i ddelw’r bwystfil, fel y llefarai delw’r bwystfil, ac y parai i gymmaint ag nad addolent ddelw’r bwystfil, gael eu lladd: a gwneud y mae i bawb, y bychain a’r mawrion, ac y goludogion a’r tlodion, ac y rhyddion a’r caethion, i roddi iddynt nod ar eu llaw ddehau, neu ar eu talcennau; ac na allo neb brynu na gwerthu, oddieithr yr hwn sydd a chanddo y nod, enw’r bwystfil, neu rifedi ei enw. Yma y mae’r doethineb. Yr hwn sydd a chanddo ddeall, rhifed rifedi’r bwystfil, canys rhifedi dyn yw; a’i rifedi yw chwe chant a thrugain a chwech. A gwelais, ac wele, Yr Oen yn sefyll ar Fynydd Tsion, ac ynghydag Ef gant a phedwar a deugain o filoedd a chanddynt Ei enw ac enw Ei Dad yn ysgrifenedig ar eu talcennau. A chlywais lais o’r nef, fel llais dyfroedd lawer, ac fel llais taran fawr; a’r llais, yr hwn a glywais, oedd fel yr eiddo telynorion yn canu eu telynnau; a chanu y maent fel pe bai ganiad newydd ger bron yr orsedd-faingc, a cher bron y pedwar anifail a’r henuriaid: ac ni allai neb ddysgu’r gân oddieithr y cant a phedwar a deugain o filoedd, y rhai a brynesid oddiar y ddaear. Y rhai hyn yw’r rhai gyda gwragedd ni halogesid hwynt, canys gwyryfon ydynt: y rhai hyn yw’r rhai sy’n canlyn Yr Oen pa le bynnag yr elo. Y rhai hyn a brynwyd oddiwrth ddynion, yn flaen-ffrwyth i Dduw ac i’r Oen: ac yn eu genau ni chaed celwydd: dianaf ydynt. A gwelais angel arall yn ehedeg ynghanol y nef, a chanddo efengyl dragywyddol i efengylu i’r rhai sy’n trigo ar y ddaear, ac i bob cenedl a llwyth ac iaith a phobl, yn dywedyd â llais mawr, Ofnwch Dduw, a rhoddwch Iddo ogoniant, canys daeth awr Ei farn, ac addolwch yr Hwn a wnaeth y nef a’r ddaear a’r môr a ffynhonnau dyfroedd. Ac un arall, ail angel, a ganlynodd, yn dywedyd, Syrthiodd, syrthiodd Babulon Fawr, yr hon, o win llid ei godineb, a ddiododd yr holl genhedloedd. Ac angel arall, trydydd, a’u canlynodd, yn dywedyd â llais mawr, Os yw neb yn addoli’r bwystfil a’i ddelw, ac yn derbyn nod ar ei dalcen neu ar ei law, efe hefyd a yf o win llid Duw, yr hwn a barottowyd yn ddigymmysg yn phiol Ei ddigofaint; a phoenir ef â thân a brwmstan yngwydd yr angylion sanctaidd, ac yngwydd Yr Oen; a mwg eu poenedigaeth, yn oes oesoedd y mae yn myned i fynu; ac nid oes gorphwysdra ddydd na nos, i’r rhai sy’n addoli’r bwystfil a’i ddelw, ac os yw neb yn derbyn nod ei enw. Yma y mae amynedd y saint, y rhai sy’n cadw gorchymynion Duw a ffydd Iesu. A chlywais lais o’r nef yn dywedyd, Ysgrifena, Gwyn eu byd y meirw, y rhai yn yr Arglwydd a drengant, o hyn allan; Ië, medd yr Yspryd, fel y gorphwysont o’u llafur, canys eu gweithredoedd sy’n canlyn ynghyda hwynt. A gwelais, ac wele, gwmmwl gwyn; ac ar y cwmmwl un yn ei eistedd, tebyg i fab dyn, a chanddo ar ei ben goron aur, ac yn ei law, grymman llym. Ac angel arall a ddaeth allan o’r deml, yn gwaeddi â llais mawr wrth yr hwn yn ei eistedd ar y cwmmwl, Danfon dy grymman, a meda, canys daeth yr awr i fedi, canys tra-addfedodd cynhauaf y ddaear; a bwriodd yr hwn yn ei eistedd ar y cwmmwl, ei grymman ar y ddaear, a medwyd y ddaear. Ac angel arall a ddaeth allan o’r deml y sydd yn y nef, a chanddo yntau hefyd grymman llym. Ac angel arall a ddaeth allan o’r allor, yr hwn sydd a chanddo allu ar y tân, a lleisiodd â llais mawr wrth yr hwn oedd a chanddo’r crymman llym, gan ddywedyd, Danfon dy grymman llym di, a chasgla rawn-sypiau gwinwydden y ddaear, canys llawn-addfedodd ei grawn. A bwriodd yr angel ei grymman i’r ddaear, a chynhauafodd rawnwin gwinwydden y ddaear, a bwriodd i gerwyn llid Duw, y gerwyn fawr. A sathrwyd y gerwyn tu allan i’r ddinas, a daeth allan waed o’r gerwyn, hyd at ffroenau’r meirch, am fil a chwe chant o ’stadiau. A gwelais arwydd arall yn y nef, mawr a rhyfeddol, saith angel a chanddynt saith bla, y rhai diweddaf, canys ynddynt hwy y gorphenwyd llid Duw. A gwelais fel pe bai fôr o wydr, yn gymmysg â thân, a’r gorchfygwyr oddiwrth y bwystfil, ac oddiwrth ei ddelw, ac oddiwrth rifedi ei enw, yn sefyll ar y môr gwydr, a chanddynt delynnau Duw. A chanu y maent gân Mosheh, gwas Duw, a chân Yr Oen, gan ddywedyd, Mawr a rhyfeddol yw Dy weithredoedd, Arglwydd Dduw, yr Hollalluog; Cyfiawn a gwir yw Dy ffyrdd, Brenhin yr oesoedd; Pwy nad ofna, Arglwydd, a gogoneddu Dy enw, canys yr unig Sanctaidd wyt, Canys yr holl genhedloedd a ddeuant, ac a addolant ger Dy fron, canys Dy gyfiawnderau a amlygwyd. Ac ar ol y pethau hyn y gwelais, ac agorwyd teml tabernacl y dystiolaeth yn y nef; a daeth allan y saith angel y sydd a chanddynt y saith bla, allan o’r deml, wedi eu gwisgo â maen pur a disglair, ac wedi eu gwregysu am eu dwyfronnau â gwregysau aur. Ac un o’r pedwar anifail a roes i’r saith angel saith phiol aur, yn orlawn o lid Duw, yr Hwn sy’n byw yn oes oesoedd. A gorlenwyd y deml o fwg oddiwrth ogoniant Duw, ac oddiwrth Ei allu; ac ni allai neb fyned i mewn i’r deml, nes gorphen o saith bla y saith angel. A chlywais lais mawr o’r deml yn dywedyd wrth y saith angel, Ewch a thywelltwch allan y saith phiol llid Duw i’r ddaear. Ac aeth y cyntaf ymaith a thywalltodd allan ei phiol i’r ddaear: ac aeth hi yn gornwyd drwg a blin ar y dynion oedd a chanddynt nod y bwystfil, a’r rhai a addolent ei ddelw. A’r ail a dywalltodd allan ei phiol i’r môr; ac yr aeth hi yn waed fel yr eiddo dyn marw; a phob enaid byw a fu farw, sef y pethau yn y môr. A’r trydydd a dywalltodd allan ei phiol i’r afonydd a’r ffynhonnau dyfroedd; ac yr aeth hi yn waed. A chlywais angel y dyfroedd yn dywedyd, Cyfiawn wyt, yr Hwn ydyw ac yr Hwn oedd, Y Sanctaidd, gan mai’r pethau hyn a fernaist; Canys gwaed saint a phrophwydi a dywalltasant allan, A gwaed a roddaist iddynt hwy i’w yfed. Haeddu y maent. A chlywais yr allor yn dywedyd, Ië, Arglwydd Dduw, yr Hollalluog, gwir a chyfiawn yw Dy farnau. A’r pedwerydd a dywalltodd allan ei phiol ar yr haul; a rhoddwyd iddo i boethi dynion â thân: a phoethwyd dynion â phoethder mawr; a chablasant enw Duw, yr Hwn sydd a Chanddo y gallu ar y plaau hyn; ac nid edifarhasant i roi Iddo ogoniant. A’r pummed a dywalltodd allan ei phiol ar orsedd-faingc y bwystfil, ac aeth ei deyrnas yn dywylledig: a chnoisant eu tafodau gan y boen, a chablasant Dduw’r nef o herwydd eu poenau ac o herwydd eu cornwydydd; ac nid edifarhasant oddiwrth eu gweithredoedd. A’r chweched a dywalltodd allan ei phiol ar yr afon fawr, yr Euphrates; a sychodd ei dwfr fel y parottoid ffordd y brenhinoedd sydd o godiad haul. A gwelais yn dyfod allan o safn y ddraig, ac allan o safn y bwystfil, ac allan o enau y gau-brophwyd, dri yspryd aflan fel llyffaint, canys ysprydion cythreuliaid ydynt, yn gwneuthur arwyddion, y rhai sy’n myned allan ar frenhinoedd y ddaear oll, i’w casglu hwy i ryfel dydd mawr Duw, Yr Hollalluog. (Wele, dyfod yr wyf fel lleidr. Gwyn ei fyd yr hwn sy’n gwylied, ac yn cadw ei ddillad, fel nad yn noeth y rhodio, a gweled o honynt ei anharddwch.) A chasglodd hwynt i’r lle a elwir yn Hebraeg, Har-Magedon. A’r seithfed a dywalltodd allan ei phiol ar yr awyr; a daeth llais mawr allan o’r deml oddiwrth yr orsedd-faingc, yn dywedyd, Darfu: a bu mellt a lleisiau a tharannau; a daear-gryn mawr a fu, y fath na fu er’s pan fu dynion ar y ddaear, gymmaint daear-gryn, mor fawr: ac aeth y ddinas fawr yn dair rhan; a dinasoedd y cenhedloedd a syrthiasant: a Babulon fawr a gofiwyd ger bron Duw, i roddi iddi gwppan gwin digofaint Ei lid: a phob ynys a ffodd, a mynyddoedd ni chafwyd; a chenllysg mawr, oddeutu pwys talent yr un, a ddisgynasant o’r nef ar ddynion; a chablodd dynion Dduw am bla’r cenllysg, canys mawr oedd eu pla, yn dra-mawr. A daeth un o’r saith angel oedd a chanddynt y saith phiol, a llefarodd â mi gan ddywedyd, Tyred yma; dangosaf i ti farnedigaeth y buttain fawr sydd yn ei heistedd ar ddyfroedd lawer, gyda’r hon y putteiniodd brenhinoedd y ddaear, a meddwyd y rhai sy’n trigo ar y ddaear gan win ei phutteindra; a dug fi ymaith i’r anialwch yn yr Yspryd; a gwelais wraig yn eistedd ar fwystfil o liw ysgarlad, yn orlawn o enwau cabledd, a chanddo saith ben a deg corn; a’r wraig oedd wedi ei dilladu â phorphor ac ysgarlad, a’i gwychu ag aur a maen gwerthfawr a pherlau, a chanddi gwppan aur yn ei llaw, yn orlawn o ffieidd-derau a phethau aflan ei phutteindra, ac ar ei thalcen enw yn ysgrifenedig, Dirgelwch Babulon fawr, mam putteiniaid a ffieidd-derau’r ddaear. A gwelais y wraig yn feddw gan waed y saint, a chan waed merthyron Iesu; a rhyfeddais, wrth ei gweled, â rhyfeddod mawr. A dywedodd yr angel wrthyf, Paham y rhyfeddaist? Myfi a ddywedaf i ti ddirgelwch y wraig, ac yr eiddo’r bwystfil sydd yn ei dwyn, yr hwn sydd a chanddo y saith ben a’r deg corn: y bwystfil yr hwn a welaist, a fu ac nid yw; ac y mae ar fedr dyfod i fynu o affwys, ac i ddistryw fyned; a rhyfedda y rhai sy’n trigo ar y ddaear, y rhai ni ’sgrifenwyd eu henw yn llyfr y bywyd er seiliad y byd, wrth weled o honynt y bwystfil, o herwydd y bu, ac nad yw, ac y daw. Yma y mae’r deall y sydd a chanddo ddoethineb. Y saith ben, saith mynydd ydynt, lle y mae’r wraig yn eistedd arnynt; a saith brenhin ydynt; pump a syrthiasant, un sydd; y llall nid yw etto wedi dyfod, a phan ddelo, am ychydig amser y mae rhaid iddo ef aros. Ac y bwystfil, yr hwn a fu ac nid yw; efe hefyd, wythfed yw, ac o’r saith y mae, ac i ddistryw y mae’n myned. A’r deg corn, y rhai a welaist, deg brenhin ydynt, y rhai, teyrnas hyd yn hyn ni dderbyniasant, eithr awdurdod, megis brenhinoedd, am un awr y maent yn ei dderbyn ynghyda’r bwystfil. Y rhai hyn sydd ag un meddwl ganddynt, ac eu gallu a’u hawdurdod i’r bwystfil a roddant; y rhai hyn, â’r Oen y rhyfelant; a’r Oen a’u gorchfyga, gan mai Arglwydd arglwyddi yw, a Brenhin brenhinoedd; a’r rhai ynghydag Ef, galwedigion ac etholedigion a ffyddloniaid ydynt. A dywedodd wrthyf, Y dyfroedd y rhai a welaist, lle y mae’r buttain yn ei heistedd, pobloedd a thorfeydd ydynt, a chenhedloedd ac ieithoedd. A’r deg corn, y rhai a welaist, a’r bwystfil, y rhai hyn a gasant y buttain, ac yn amddifad y’i gwnant hi, ac yn noeth; a’i chnawd a fwyttant; a hi ei hun a losgant â thân; canys Duw a roddodd yn eu calonnau wneuthur ei meddwl, a gwneuthur un meddwl, a rhoddi eu teyrnas i’r bwystfil, hyd oni orphener geiriau Duw. A’r wraig, yr hon a welaist, yw’r ddinas fawr y sydd a chanddi frenhiniaeth ar frenhinoedd y ddaear. Ar ol y pethau hyn gwelais angel arall yn disgyn o’r nef, a chanddo awdurdod fawr; a’r ddaear a oleuwyd gan ei ogoniant. A gwaeddodd â llais cadarn, gan ddywedyd, Syrthiodd, syrthiodd Babulon fawr, ac aeth yn drigfa cythreuliaid, ac yn gadwfa i bob yspryd aflan, ac yn gadwfa i bob aderyn aflan ac atgas: canys gan win llid ei phutteindra y syrthiodd yr holl genhedloedd; a brenhinoedd y ddaear gyda hi a butteiniasant; a marchnattawyr y ddaear, trwy allu ei thrythyllwch yr aethant yn oludog. A chlywais lais arall o’r nef, yn dywedyd, Deuwch, Fy mhobl, allan o honi, fel na byddoch gydgyfrannogion o’i phechodau, ac fel o’i phlaau na dderbynioch, canys cyrhaeddodd ei phechodau hyd y nef, a chofiodd Duw ei hanghyfiawnderau: telwch iddi fel y bu iddi hi dalu; a dyblwch y ddwbl yn ol ei gweithredoedd; yn y cwppan a gymmysgodd hi, cymmysgwch iddi yn ddau-ddyblyg: cymmaint ag y gogoneddodd ei hun ac y trythyllodd, y cymmaint arall rhoddwch iddi o boen a galar; canys yn ei chalon y dywedodd, Eistedd yr wyf yn frenhines, a gweddw nid wyf, a galar nis gwelaf ddim: o herwydd hyn, mewn un dydd y daw ei phlaau, marwolaeth a galar a newyn; ac â thân y llosgir hi, canys cadarn yw yr Arglwydd Dduw, yr Hwn a’i barnodd: a gwylo a galaru drosti a wna brenhinoedd y ddaear, y rhai gyda hi a butteiniasant ac a drythyllasant, pan edrychont ar fwg ei llosgiad, yn sefyll o hirbell gan ofn ei phoeniad, gan ddywedyd, Gwae, gwae, y ddinas fawr, Babulon, y ddinas gadarn, canys mewn un awr y daeth ei barn. A marchnattawyr y ddaear a wylant ac a alarant drosti, canys eu llong-lwyth nid oes neb yn prynu mwyach, llong-lwyth o aur ac arian a maen gwerthfawr a pherlau a lliain main a phorphor a sidan ac ysgarlad; na phob coed citron, a phob llestr o ifori, a phob llestr o goed gwerthfawroccaf ac o bres ac o haiarn ac o faen marmor, a chinnamon ac amomon a pher-aroglau ac ennaint a thus a gwin ac olew a pheilliaid a gwenith ac ysgrubliaid a defaid; nac o feirch a cherbydau a chaeth-weision; nac eneidiau dynion: a chynhauaf dymuniad dy enaid di a aeth ymaith oddiwrthyt, ac mwyach ni chânt mo honynt. Marchnattawyr y pethau hyn, y rhai a aethant yn oludog ganddi, o hirbell y safant gan ofn ei phoeniad, yn gwylo a galaru, gan ddywedyd, Gwae, gwae, y ddinas fawr, yr hon oedd wedi ei gwisgo â lliain main a phorphor ac ysgarlad, ac wedi ei gwychu ag aur a maen gwerthfawr a pherl: canys mewn un awr yr amddifadwyd y golud mor fawr. A phob llong-lywydd, a phob un yn hwylio i neb rhyw le, a llongwyr, a chynnifer ag ar y môr y mae eu gorchwyl, o hirbell y safasant, a gwaeddasant wrth edrych ar fwg ei llosgiad gan ddywedyd, Pa ddinas sydd debyg i’r ddinas fawr? A bwriasant lwch ar eu pennau, a gwaeddasant dan wylo a galaru, gan ddywedyd, Gwae, gwae, y ddinas fawr, yn yr hon y cyfoethogwyd yr holl rai a chanddynt eu llongau ar y môr, o herwydd eu gwerthfawrogrwydd, canys mewn un awr yr amddifadwyd hi. Ymhyfryda drosti, o nef, a’r seintiau a’r apostolion a’r prophwydi, canys barnodd Duw eich barnedigaeth ganddi. A chododd un angel cadarn faen fel maen melin mawr, a bwriodd ef i’r môr gan ddywedyd, Fel hyn gyda rhuthr y bwrir Babulon, y ddinas fawr, ac ni cheir mo’ni mwyach; a llais telynorion a cherddorion a phibyddion ac udganwyr ni chlywir mo’no ynot mwyach; a phob celfyddwr, o bob celfydd, ni cheir mo’no ynot mwyach; a swn maen melin ni chlywir mo’no ynot mwyach; a llewyrch llusern ni lewyrcha mo’no ynot mwyach; a llais priodas-fab a phriodas-ferch ni chlywir mo’no ynot mwyach; canys dy farchnattawyr oeddynt bennaethiaid y ddaear; canys trwy dy swyn-gyfaredd ar gyfeiliorn y dygpwyd yr holl genhedloedd. Ac ynddi hi gwaed prophwydi a saint a gafwyd, ac eiddo’r oll a laddwyd ar y ddaear. Ar ol y pethau hyn clywais fel llais mawr tyrfa fawr yn y nef, yn dywedyd, Halelwiah! Yr iachawdwriaeth a’r gogoniant a’r gallu, eiddo ein Duw ydynt, canys gwir a chyfiawn yw Ei farnau, canys barnodd y buttain fawr, yr hon a lygrodd y ddaear â’i phutteindra, canys dialodd waed Ei weision o’i llaw. Ac eilwaith y dywedasant, Halelwiah. Ac ei mwg sy’n myned i fynu yn oes oesoedd. Ac i lawr y syrthiodd y pedwar henuriad ar hugain, a’r pedwar anifail, ac addolasant Dduw, yr Hwn sydd yn Ei eistedd ar yr orsedd-faingc, gan ddywedyd, Amen; Halelwiah. A llais oddiwrth yr orsedd-faingc a ddaeth allan, yn dywedyd, Moliennwch ein Duw, Ei holl weision, y rhai sydd yn Ei ofni, bychain a mawrion. A chlywais fel llais tyrfa fawr, ac fel swn dyfroedd lawer, ac fel swn tarannau cedyrn, yn dywedyd, Halelwiah! canys teyrnasu y mae yr Arglwydd ein Duw, yr Hollalluog. Llawenychom a gorfoleddom a rhoddom y gogoniant Iddo; canys daeth priodas yr Oen, a’i wraig a’i parottodd ei hun: a rhoddwyd iddi ei gwisgo â lliain main disglair, a phur; canys y lliain main, cyfiawn weithredoedd y saint yw. A dywedodd wrthyf, Ysgrifena, Gwyn eu byd y rhai sydd wedi eu galw i swpper priodas Yr Oen. A dywedodd wrthyf, Y rhai hyn, geiriau gwir Duw ydynt. A syrthiais i lawr o flaen ei draed, i addoli ef; a dywedodd wrthyf, Gwel na wnelych hyn, canys cydwas â thi yr wyf, ac a’th frodyr y sydd a chanddynt dystiolaeth Iesu. Duw addola: canys tystiolaeth Iesu yw yspryd prophwydoliaeth. A gwelais y nef wedi ei hagoryd; ac wele, farch gwyn; ac yr Hwn yn eistedd arno yn alwedig Ffyddlawn a Gwir; ac mewn cyfiawnder y barna ac y rhyfela: ac Ei lygaid yn fflam dân; ac ar Ei ben, fitrau lawer; a Chanddo enw yn ysgrifenedig, yr hwn nid oedd neb yn ei wybod oddieithr Ef Ei hun; ac wedi Ei wisgo â gwisg wedi ei thaenellu â gwaed; a gelwir Ei enw, Gair Duw. A’r lluoedd y sydd yn y nef a’i canlynent ar feirch gwynion, ac am danynt liain main gwyn a phur. Ac o’i enau dyfod allan y mae cleddyf llym, fel ag ef y tarawai y cenhedloedd; ac Efe a’u bugeilia â gwialen haiarn: ac Efe a sathr gerwyn win llid a digofaint Duw Hollalluog; ac y mae Ganddo ar Ei wisg ac ar Ei forddwyd enw wedi ei ysgrifenu, Brenhin brenhinoedd ac Arglwydd arglwyddi. A gwelais angel yn sefyll yn yr haul: a gwaeddodd â llais mawr, gan ddywedyd wrth yr holl adar oedd yn ehedeg ynghanol y nef, Deuwch; casgler chwi ynghyd i swpper mawr Duw, fel y bwyttaoch gnawd brenhinoedd, a chnawd milwriaid, a chnawd y cedyrn, a chig meirch a’r rhai sy’n eistedd arnynt, a chnawd pawb, rhyddion a chaethion hefyd, bychain a mawrion hefyd. A gwelais y bwystfil a brenhinoedd y ddaear a’u lluoedd wedi eu casglu ynghyd i wneuthur rhyfel â’r Hwn oedd yn eistedd ar y march, ac â’i lu. A chymmerwyd gafael yn y bwystfil, ac ynghydag ef yn y gau-brophwyd yr hwn a wnaeth yr arwyddion ger ei fron, â’r rhai yr arweiniodd ar gyfeiliorn y rhai a dderbyniasant nod y bwystfil, a’r rhai oedd yn addoli ei ddelw: yn fyw y bwriwyd hwy ill dau i’r llyn tân yn llosgi â brwmstan. A’r lleill a laddwyd â chleddyf yr Hwn oedd yn eistedd ar y march, yr hwn a ddaeth allan o’i enau Ef; a’r holl adar gawsant eu gwala o’u cnawd. A gwelais angel yn disgyn o’r nef, a chanddo agoriad affwys a chadwyn fawr yn ei law: a chymmerodd afael yn y ddraig, yr hen sarph, yr hon yw Diafol a Satan; a rhwymodd ef am fil o flynyddoedd, a bwriodd ef i affwys, a chauodd a seliodd uwch ei ben, fel nad arweiniai ar gyfeiliorn y cenhedloedd mwyach hyd oni orphener y fil o flynyddoedd: ar ol hyny y mae rhaid ei ollwng yn rhydd am ychydig amser. A gwelais orsedd-feingciau, ac eisteddent arnynt, a barn a roed iddynt; ac eneidiau y rhai y torrasid eu pennau o herwydd tystiolaeth Iesu, ac o herwydd gair Duw, y rhai nid addolasant y bwystfil nac ei ddelw, ac ni dderbyniasant eu nod ar eu talcen nac ar eu llaw: a buant fyw, a theyrnasasant ynghyda Christ fil o flynyddoedd. Y lleill o’r meirw ni fuant fyw hyd oni orphenwyd y fil o flynyddoedd. Hwn yw’r adgyfodiad cyntaf. Gwynfydedig a sanctaidd yw ’r hwn sydd a chanddo ran yn yr adgyfodiad cyntaf! Ar y rhai hyn nid yw’r ail farwolaeth a chanddi awdurdod; eithr byddant offeiriaid i Dduw ac i Grist, a theyrnasant ynghydag Ef fil o flynyddoedd. A phan orphenwyd y mil blynyddoedd, gollyngir Satan yn rhydd o’i garchar; a daw allan i arwain ar gyfeiliorn y cenhedloedd ym mhedair congl y ddaear, Gog a Magog, i’w casglu ynghyd i’r rhyfel, y rhai y mae eu rhif fel tywod y môr. Ac aethant i fynu ar led y ddaear, ac amgylchasant wersyll y saint a’r ddinas anwyl: a disgynodd tân o’r nef, a bwyttaodd hwynt. A Diafol, yr hwn oedd yn eu harwain ar gyfeiliorn, a fwriwyd i’r llyn o dân a brwmstan, lle y mae’ r bwystfil hefyd a’r gau-brophwyd; a phoenir hwynt ddydd a nos yn oes oesoedd. A gwelais orsedd-faingc fawr wen, a’r Hwn yn Ei eistedd arni, oddiwrth wyneb yr Hwn y ffodd y ddaear a’r nef; a lle ni chafwyd iddynt. A gwelais y meirw, y mawrion a’r bychain, yn sefyll o flaen yr orsedd-faingc; a llyfrau a agorwyd; a llyfr arall a agorwyd, yr hwn yw llyfr y bywyd; a barnwyd y meirw, o’r pethau oedd wedi eu hysgrifenu yn y llyfrau, yn ol eu gweithredoedd: a rhoddodd y môr y meirw oedd ynddo; a marwolaeth a Hades a roddasant y meirw oedd ynddynt; a barnwyd hwy, bob un, yn ol eu gweithredoedd. A marwolaeth a Hades a fwriwyd i’r llyn o dân. Hon, yr ail farwolaeth yw, y llyn o dân. Ac os rhyw un na chaed wedi ei ysgrifenu yn llyfr y bywyd, bwriwyd ef i’r llyn o dân. A gwelais nef newydd a daear newydd; canys y nef gyntaf a’r ddaear gyntaf a aethant ymaith; a’r môr nid yw mwyach. Ac y ddinas sanctaidd, yr Ierwshalem newydd, a welais yn disgyn o’r nef oddiwrth Dduw, wedi ei pharottoi fel priodas-ferch wedi ei haddurno i’w gŵr. A chlywais lais mawr o’r orsedd-faingc, yn dywedyd, Wele, dabernacl Duw gyda dynion, a thabernacla Efe gyda dynion; a hwy, Ei bobl a fyddant; a Duw Ei hun, gyda hwynt y bydd, eu Duw; a sych Efe ymaith bob deigr o’u llygaid, ac marwolaeth ni fydd mwyach; na galar, na gwaedd, na phoen ni fydd mwyach: y pethau cyntaf a aethant ymaith. A dywedodd yr Hwn yn Ei eistedd ar yr orsedd-faingc, Wele, yn newydd yr wyf yn gwneuthur pob peth. A dywedodd, Ysgrifena, canys yr hyn eiriau, ffyddlawn a gwir ydynt. A dywedodd wrthyf, Digwyddasant. Myfi, yr Alpha a’r Omega, y dechreu a’r diwedd wyf, Myfi, i’r hwn sydd a syched arno y rhoddaf o ffynnon dwfr y bywyd yn rhad. Yr hwn sy’n gorchfygu a etifedda’r pethau hyn; a byddaf iddo yn Dduw, ac efe fydd i Mi yn fab: ond i’r rhai ofnog a digred a ffiaidd a llofruddion a swyn-gyfareddwyr ac eulunaddolwyr, ac i’r holl gelwyddwyr, eu rhan fydd yn y llyn sy’n llosgi â thân a brwmstan; yr hyn yw’r ail farwolaeth. A daeth un o’r saith angel oedd a chanddynt y saith phiol, a oedd wedi eu llwytho â’r saith bla diweddaf; a llefarodd â mi, gan ddywedyd, Tyred, dangosaf i ti y briodas-ferch, gwraig Yr Oen; a dug fi ymaith, yn yr yspryd, i fynydd mawr ac uchel; a dangosodd i mi y ddinas sanctaidd, Ierwshalem, yn disgyn o’r nef oddiwrth Dduw, a chanddi ogoniant Duw: ei disgleirdeb oedd debyg i faen gwerthfawroccaf, fel pe bai i faen iaspis crustalaidd-glir; a chanddi fur mawr ac uchel; a chanddi ddeuddeg porth, ac wrth y pyrth ddeuddeg angel, ac enwau wedi eu hysgrifenu arnynt, y rhai yw enwau deuddeg llwyth meibion Israel: o du’r dwyrain yr oedd tri phorth; ac o du’r gogledd dri phorth; ac o du’r dehau, dri phorth; ac o du’r gorllewin, dri phorth. A mur y ddinas oedd a chanddo ddeuddeg sylfaen; ac arnynt ddeuddeg enw deuddeg apostolion Yr Oen. A’r hwn yn llefaru â mi oedd a chanddo fesur, corsen aur, i fesuro’r ddinas a’i phyrth a’i mur. A’r ddinas sy’n gorwedd yn bedair-ongl; a’i hyd yn gymmaint a’i lled. A mesurodd efe y ddinas â’r gorsen, yn ddeuddeng mil o ’stadau: ei hyd a’i lled a’i huchder yn ogymmaint; a mesurodd ei mur yn gant a phedwar cufudd a deugain, yn ol mesur dyn, hyny yw, yr eiddo angel: ac adeilad ei mur oedd iaspis; a’r ddinas yn aur pur tebyg i wydr pur; sylfeini mur y ddinas wedi eu haddurno â phob maen gwerthfawr; y sylfaen cyntaf yn iaspis; yr ail, yn sapphir; y trydydd, yn chalcedon; y pedwerydd, yn smaragdus; y pummed, yn sardonyx; y chweched, yn sardius; y seithfed, yn chrisolithus; yr wythfed, yn ferul; y nawfed, yn dopasion; y degfed, yn chrysoprasus; yr unfed ar ddeg, yn huacinthus; y deuddegfed, yn amethustus. A’r deuddeg porth, deuddeg perl oeddynt; pob un o’r pyrth oedd o un perl. A llydanfa’r ddinas, aur pur oedd, fel gwydr tryloyw. A theml ni welais ynddi: canys yr Arglwydd Dduw, yr Hollalluog, ei theml yw; ac Yr Oen. A’r ddinas nid oes rhaid iddi wrth yr haul, nac wrth y lleuad, fel y disgleiriont iddi; canys gogoniant Duw a’i goleuodd, ac ei llusern yw Yr Oen. A rhodia y cenhedloedd trwy ei goleuni; a brenhinoedd y ddaear sy’n dwyn eu gogoniant i mewn iddi. Ac ei phyrth ni chauir ddim y dydd, (canys nos nid oes yno.) A dygant ogoniant ac anrhydedd y cenhedloedd i mewn iddi; ac nid â i mewn iddi er dim neb rhyw beth aflan, na’r hwn sy’n gwneuthur ffieidd-dra a chelwydd; neb oddieithr y rhai sydd ysgrifenedig yn llyfr bywyd Yr Oen. A dangosodd i mi afon o ddwfr bywyd, disglair fel crusial, yn dyfod allan o orsedd-faingc Duw a’r Oen, ynghanol ei llydanfa; ac ar yr ochr hon i’r afon; ac ar yr ochr accw, bren y bywyd yn dwyn deuddeg rhyw ffrwyth, bob mis yn rhoddi ei ffrwyth; a dail y pren er iachad y cenhedloedd. A phob rhyw felldith ni fydd yno mwyach: a gorsedd-faingc Duw a’r Oen, ynddi y bydd; a’i weision a wasanaethant Ef, ac a welant Ei wyneb; a’i enw fydd yn eu talcennau. A nos ni fydd mwyach; a rhaid nid oes iddynt wrth oleuni llusern a goleuni haul, canys yr Arglwydd Dduw a oleua arnynt; a theyrnasant yn oes oesoedd. A dywedodd wrthyf, Y geiriau hyn, ffyddlawn a gwir ydynt; a’r Arglwydd, Duw ysprydoedd y prophwydi, a ddanfonodd Ei angel i ddangos i’w weision y pethau y mae rhaid iddynt ddigwydd ar fyrder. Ac wele, dyfod yr wyf ar frys. Gwyn ei fyd yr hwn sy’n cadw geiriau prophwydoliaeth y llyfr hwn. Ac myfi, Ioan yw’r hwn sy’n clywed ac yn gweled y pethau hyn. A phan glywais a gweled, syrthiais i lawr i addoli o flaen traed yr angel oedd yn dangos i mi y pethau hyn. A dywedodd wrthyf, Gwel na wnelych: cydwas â thi yr wyf, ac â’th frodyr y prophwydi, ac â’r rhai sy’n cadw geiriau y llyfr hwn. Duw addola. A dywedodd wrthyf, Na selia eiriau prophwydoliaeth y llyfr hwn; canys yr amser sydd agos. Yr hwn sy’n gwneuthur anghyfiawnder, gwnaed anghyfiawnder etto; a’r hwn sydd frwnt, brwnt y’i gwneler etto; a’r hwn sydd gyfiawn, cyfiawnder a wnaed; a’r sanctaidd, sancteiddier etto. Wele, dyfod yr wyf ar frys, a’m gwobr sydd gyda Mi, i dalu i bob un fel y mae ei waith. Myfi, Yr Alpha ac Yr Omega wyf y cyntaf a’r diweddaf, y dechreu a’r diwedd. Gwyn eu byd y rhai sy’n golchi eu gwisgoedd, fel y bo iddynt awdurdod i ddyfod at bren y bywyd, a thrwy’r pyrth ddyfod i mewn i’r ddinas. Oddi allan y mae’r cwn, a’r swyn-gyfareddwyr, a’r godinebwyr, a’r llofruddion, a’r eulunaddolwyr, a phob un y sy’n caru, ac yn gwneuthur, celwydd. Myfi, Iesu, a ddanfonais Fy angel i dystiolaethu wrthych y pethau hyn er yr eglwysi. Myfi wyf Gwreiddyn a Hiliogaeth Dafydd, a’r Seren fore ddisglair. Ac Yr Yspryd ac Y Briodas-ferch sy’n dywedyd, Tyred. A’r hwn sy’n clywed, dyweded, Tyred. A’r hwn sydd a syched arno, deued; a’r hwn sy’n ewyllysio, cymmered ddwfr y bywyd yn rhad. Tystiolaethu yr wyf Fi i bob un y sy’n clywed geiriau prophwydoliaeth y llyfr hwn. Os rhyw un a rydd atto, rhydd Duw atto ef y plaau ysgrifenedig yn y llyfr hwn; ac os rhyw un a dỳn ymaith oddiwrth eiriau llyfr y brophwydoliaeth hon, tỳn Duw ymaith ei ran oddiwrth bren y bywyd, ac allan o’r ddinas sanctaidd, y rhai a ysgrifenwyd yn y llyfr hwn. Dywedyd y mae’r hwn sy’n tystiolaethu y pethau hyn, Ië; dyfod yr wyf ar frys. Amen. Tyred, Arglwydd Iesu. Gras yr Arglwydd Iesu fyddo gyda’r saint. Amen. diwedd