Ar y dechrau cyntaf, dyma Duw yn creu y bydysawd a'r ddaear. Roedd y ddaear yn anhrefn gwag, ac roedd hi'n hollol dywyll dros y dŵr dwfn. Ond roedd Ysbryd Duw yn hofran dros wyneb y dŵr. A dwedodd Duw, “Dw i eisiau golau!” a daeth golau i fod. Roedd Duw yn gweld bod hyn yn dda, a dyma Duw yn gwahanu'r golau oddi wrth y tywyllwch. Rhoddodd Duw yr enw ‛dydd‛ i'r golau a'r enw ‛nos‛ i'r tywyllwch, ac roedd nos a dydd ar y diwrnod cyntaf. Wedyn dwedodd Duw, “Dw i eisiau cromen o aer rhwng y dyfroedd, i wahanu'r dŵr yn ddau.” A dyna ddigwyddodd. Gwnaeth Duw gromen o aer, ac roedd yn gwahanu'r dŵr oddi tani oddi wrth y dŵr uwch ei phen. Rhoddodd Duw yr enw ‛awyr‛ iddi, ac roedd nos a dydd ar yr ail ddiwrnod. Dwedodd Duw, “Dw i eisiau i'r dŵr sydd dan yr awyr gasglu i un lle, er mwyn i ddaear sych ddod i'r golwg.” A dyna ddigwyddodd. Rhoddodd Duw yr enw ‛tir‛ i'r ddaear, a ‛moroedd‛ i'r dŵr. Roedd Duw yn gweld bod hyn yn dda. Yna dwedodd Duw, “Dw i eisiau i laswellt dyfu o'r tir, a phob math o blanhigion sydd â hadau ynddyn nhw, a choed ffrwythau. Bydd yr hadau ynddyn nhw yn gwneud i fwy o'r planhigion gwahanol hynny dyfu.” A dyna ddigwyddodd. Roedd y tir wedi ei orchuddio gyda glaswellt a phlanhigion a choed o bob math, â'u hadau eu hunain ynddyn nhw. Roedd Duw yn gweld bod hyn yn dda, ac roedd nos a dydd ar y trydydd diwrnod. Dwedodd Duw, “Dw i eisiau goleuadau yn yr awyr i wahanu'r dydd a'r nos. Byddan nhw hefyd yn arwyddion i fesur y tymhorau, y dyddiau a'r blynyddoedd. Byddan nhw'n goleuo'r ddaear o'r awyr.” A dyna ddigwyddodd. Gwnaeth Duw ddau olau mawr — yr haul a'r lleuad. Roedd yr un mwya disglair, sef yr haul, i reoli'r dydd, a'r golau lleiaf, sef y lleuad, i reoli'r nos. Gwnaeth Duw y sêr hefyd. Gosododd nhw i gyd yn yr awyr i oleuo'r ddaear, i reoli dydd a nos, ac i wahanu'r golau oddi wrth y tywyllwch. Roedd Duw yn gweld bod hyn yn dda, ac roedd nos a dydd ar y pedwerydd diwrnod. Dwedodd Duw, “Dw i eisiau'r dyfroedd yn orlawn o bysgod a chreaduriaid byw eraill, a dw i eisiau i adar hedfan yn ôl ac ymlaen yn yr awyr uwchben y ddaear.” Felly dyma Duw yn creu y creaduriaid enfawr sydd yn y môr, a'r holl bethau byw eraill sydd ynddo, a'r holl wahanol fathau o adar hefyd. Roedd Duw yn gweld bod hyn yn dda. A dyma Duw yn eu bendithio nhw, a dweud, “Dw i eisiau i chi gael haid o rai bach, nes eich bod chi'n llenwi'r dŵr sydd yn y môr, a dw i eisiau llawer o adar ar y ddaear.” Ac roedd nos a dydd ar y pumed diwrnod. Dwedodd Duw, “Dw i eisiau i greaduriaid byw o bob math lenwi'r ddaear: anifeiliaid, ymlusgiaid a phryfed, a bywyd gwyllt o bob math.” A dyna ddigwyddodd. Gwnaeth Duw bob math o greaduriaid gwyllt, pob math o anifeiliaid, ac ymlusgiaid a phryfed gwahanol i fyw ar y ddaear. Roedd Duw yn gweld bod hyn yn dda. Yna dwedodd Duw, “Gadewch i ni wneud pobl yn ddelw ohonon ni'n hunain, i fod yn debyg i ni; i fod yn feistri sy'n gofalu am bopeth — y pysgod yn y môr, yr adar yn yr awyr, yr anifeiliaid, y ddaear gyfan a'r holl greaduriaid a phryfed sy'n byw arni.” Felly dyma Duw yn creu pobl ar ei ddelw ei hun. Yn ddelw ohono'i hun y creodd nhw. Creodd nhw yn wryw ac yn fenyw. A dyma Duw yn eu bendithio nhw, a dweud wrthyn nhw, “Dw i eisiau i chi gael plant, fel bod mwy a mwy ohonoch chi. Llanwch y ddaear a defnyddiwch ei photensial hi; a bod yn feistr sy'n gofalu am y pysgod sydd yn y môr, yr adar sy'n hedfan yn yr awyr, a'r holl greaduriaid sy'n byw ar y ddaear.” Dwedodd Duw, “Edrychwch. Dw i wedi rhoi'r planhigion sydd â hadau a'r ffrwythau ar y coed i gyd, i fod yn fwyd i chi. A dw i wedi rhoi'r holl blanhigion yn fwyd i'r bywyd gwyllt a'r adar a'r holl greaduriaid bach eraill sydd ar y ddaear — ie, pob un creadur byw.” A dyna ddigwyddodd. Edrychodd Duw ar bopeth roedd wedi ei wneud, a gweld fod y cwbl yn dda iawn. Ac roedd nos a dydd ar y chweched diwrnod. Felly gorffennodd Duw y gwaith o greu y bydysawd a phopeth sydd ynddo. Ar y seithfed diwrnod dyma Duw yn gorffwys, am ei fod wedi gorffen ei holl waith. Bendithiodd Duw y seithfed diwrnod a'i wneud yn ddiwrnod arbennig, am mai dyna'r diwrnod roedd e wedi gorffwys ar ôl gorffen y gwaith o greu. Dyma hanes y bydysawd yn cael ei greu: Pan wnaeth Duw y bydysawd, doedd dim planhigion gwyllt na llysiau yn tyfu ar y tir. Doedd Duw ddim eto wedi gwneud iddi lawio, a doedd neb chwaith i weithio ar y tir. Ond roedd dŵr yn codi o'r ddaear ac yn dyfrio wyneb y tir. Dyma'r ARGLWYDD Dduw yn siapio dyn o'r pridd. Wedyn chwythodd i'w ffroenau yr anadl sy'n rhoi bywyd, a daeth y dyn yn berson byw. Yna dyma'r ARGLWYDD Dduw yn plannu gardd tua'r dwyrain, yn Eden, a rhoi'r dyn roedd wedi ei siapio yno. Wedyn gwnaeth yr ARGLWYDD Dduw i goed o bob math dyfu o'r tir — coed hardd gyda ffrwythau arnyn nhw oedd yn dda i'w bwyta. (Yng nghanol yr ardd roedd y goeden sy'n rhoi bywyd a'r goeden sy'n rhoi gwybodaeth am bopeth — da a drwg.) Roedd afon yn tarddu yn Eden ac yn dyfrio'r ardd. Wedyn roedd yn rhannu'n bedair cangen. Pison ydy enw un. Mae hi'n llifo o gwmpas gwlad Hafila, lle mae aur. (Mae'r aur sydd yno yn bur iawn. Mae perlau ac onics yno hefyd.) Gihon ydy enw'r ail afon. Mae hi yn llifo o gwmpas gwlad Cwsh. Tigris ydy enw'r drydedd afon. Mae hi'n llifo i'r dwyrain o ddinas Ashŵr. Ac Ewffrates ydy enw'r bedwaredd afon. Dyma'r ARGLWYDD Dduw yn cymryd y dyn a'i osod yn yr ardd yn Eden, i'w thrin hi a gofalu amdani. A dyma fe'n rhoi gorchymyn i'r dyn: “Cei fwyta ffrwyth unrhyw goeden yn yr ardd, ond paid bwyta ffrwyth y goeden sy'n rhoi gwybodaeth am bopeth — da a drwg. Pan wnei di hynny byddi'n siŵr o farw.” Dwedodd yr ARGLWYDD Dduw wedyn, “Dydy e ddim yn beth da i'r dyn fod ar ei ben ei hun. Dw i'n mynd i wneud cymar iddo i'w gynnal.” A dyma'r ARGLWYDD Dduw yn siapio pob math o anifeiliaid ac adar o'r pridd, ac yn gwneud iddyn nhw ddod at y dyn i weld beth fyddai'n eu galw nhw. Y dyn oedd yn rhoi enw i bob un ohonyn nhw. Rhoddodd enwau i'r anifeiliaid, i'r adar, ac i'r bywyd gwyllt i gyd, ond doedd run ohonyn nhw yn gwneud cymar iddo i'w gynnal. Felly dyma'r ARGLWYDD Dduw yn gwneud i'r dyn gysgu'n drwm. Cymerodd ddarn o ochr y dyn, a rhoi cnawd yn ei le. Wedyn dyma'r ARGLWYDD Dduw yn ffurfio dynes allan o'r darn oedd wedi ei gymryd o'r dyn, a dod â hi at y dyn. A dyma'r dyn yn dweud, “O'r diwedd! Un sydd yr un fath â fi! Asgwrn o'm hesgyrn, a chnawd o'm cnawd. ‛Dynes‛ fydd yr enw arni, am ei bod wedi ei chymryd allan o ddyn.” Dyna pam mae dyn yn gadael ei dad a'i fam ac yn cael ei uno â'i wraig. Maen nhw'n dod yn uned deuluol newydd. Roedd y dyn a'i wraig yn hollol noeth, a doedd ganddyn nhw ddim cywilydd. Roedd y neidr yn fwy cyfrwys na phob anifail gwyllt arall oedd yr ARGLWYDD Dduw wedi eu creu. A dyma'r neidr yn dweud wrth y wraig, “Ydy Duw wir wedi dweud, ‘Peidiwch bwyta ffrwyth unrhyw goeden yn yr ardd’?” “Na,” meddai'r wraig wrth y neidr, “dŷn ni'n cael bwyta ffrwyth unrhyw goeden yn yr ardd. Dim ond am ffrwyth y goeden yng nghanol yr ardd y dwedodd Duw, ‘Peidiwch bwyta ei ffrwyth hi a peidiwch ei chyffwrdd hi, rhag i chi farw.’” Ond dyma'r neidr yn dweud wrth y wraig, “Na! Fyddwch chi ddim yn marw. Mae Duw yn gwybod y byddwch chi'n gweld popeth yn glir pan wnewch chi fwyta. Byddwch chi'n gwybod am bopeth — da a drwg — fel Duw ei hun.” Gwelodd y wraig fod ffrwyth y goeden yn edrych yn dda i'w fwyta. Roedd cael ei gwneud yn ddoeth yn apelio ati, felly dyma hi'n cymryd peth o'i ffrwyth ac yn ei fwyta. Yna rhoddodd beth i'w gŵr, oedd gyda hi, a dyma fe'n bwyta hefyd. Yn sydyn roedden nhw'n gweld popeth yn glir, ac yn sylweddoli eu bod nhw'n noeth. Felly dyma nhw'n rhwymo dail coeden ffigys wrth ei gilydd a gwneud sgertiau iddyn nhw'u hunain. Yna dyma nhw'n clywed sŵn yr ARGLWYDD Dduw yn mynd trwy'r ardd pan oedd gwynt yn dechrau codi. A dyma'r dyn a'i wraig yn mynd i guddio o olwg yr ARGLWYDD Dduw, i ganol y coed yn yr ardd. Ond galwodd yr ARGLWYDD Dduw ar y dyn, a gofyn iddo, “Ble rwyt ti?” Atebodd y dyn, “Roeddwn i'n clywed dy sŵn di yn yr ardd, ac roedd arna i ofn am fy mod i'n noeth. Felly dyma fi'n cuddio.” “Pwy ddwedodd wrthot ti dy fod di'n noeth?” meddai Duw. “Wyt ti wedi bwyta ffrwyth y goeden ddywedais i wrthot ti am beidio ei fwyta?” Ac meddai'r dyn, “Y wraig rwyt ti wedi ei rhoi i mi — hi roddodd y ffrwyth i mi, a dyma fi'n ei fwyta.” Yna gofynnodd yr ARGLWYDD Dduw i'r wraig, “Be ti'n feddwl ti'n wneud?” A dyma'r wraig yn ateb, “Y neidr wnaeth fy nhwyllo i. Dyna pam wnes i ei fwyta.” Dyma'r ARGLWYDD Dduw yn dweud wrth y neidr: “Melltith arnat ti am wneud hyn! Ti fydd yr unig anifail dof neu wyllt sydd wedi dy felltithio. Byddi'n llusgo o gwmpas ar dy fol ac yn llyfu'r llwch drwy dy fywyd. Byddi di a'r wraig yn elynion. Bydd dy had di a'i had hi bob amser yn elynion. Bydd e'n sathru dy ben di, a byddi di'n taro ei sawdl e.” A dyma fe'n dweud wrth y wraig: “Bydd cael plant yn waith llawer anoddach i ti; byddi'n diodde poenau ofnadwy wrth eni plentyn. Byddi di eisiau dy ŵr, ond bydd e fel meistr arnat ti.” Wedyn dyma fe'n dweud wrth Adda: “Rwyt ti wedi gwrando ar dy wraig a bwyta ffrwyth y goeden roeddwn wedi dweud amdani, ‘Paid bwyta ei ffrwyth hi.’ Felly mae'r ddaear wedi ei melltithio o dy achos di. Bydd rhaid i ti weithio'n galed i gael bwyd bob amser. Bydd drain ac ysgall yn tyfu ar y tir, a byddi'n bwyta'r cnydau sy'n tyfu yn y caeau. Bydd rhaid i ti weithio'n galed a chwysu i gael bwyd i fyw, hyd nes i ti farw a mynd yn ôl i'r pridd. Dyna o lle y daethost ti. Pridd wyt ti, a byddi'n mynd yn ôl i'r pridd.” Dyma'r dyn yn rhoi'r enw Efa i'w wraig, am mai hi fyddai mam pob person byw. Wedyn dyma'r ARGLWYDD Dduw yn gwneud dillad o grwyn anifeiliaid i Adda a'i wraig eu gwisgo. A dyma'r ARGLWYDD Dduw yn dweud, “Mae dyn bellach yr un fath â ni, yn gwybod am bopeth — da a drwg. Rhaid peidio gadael iddo gymryd ffrwyth y goeden sy'n rhoi bywyd, neu bydd yn ei fwyta ac yn byw am byth.” Felly dyma'r ARGLWYDD Dduw yn ei anfon allan o'r ardd yn Eden i drin y pridd y cafodd ei wneud ohono. Pan gafodd y dyn ei daflu allan o'r ardd, gosododd Duw geriwbiaid ar ochr ddwyreiniol yr ardd yn Eden, a chleddyf tân yn chwyrlïo i rwystro unrhyw un rhag mynd at y goeden sy'n rhoi bywyd. Cysgodd Adda gyda'i wraig Efa, a dyma hi'n beichiogi. Cafodd blentyn, sef Cain, ac meddai, “Dw i wedi creu plentyn, gyda help yr ARGLWYDD.” Wedyn cafodd blentyn arall, brawd i Cain, sef Abel. Tyfodd Abel i fod yn fugail, ond roedd Cain yn trin y tir. Adeg y cynhaeaf daeth Cain â peth o gynnyrch y tir i'w roi yn offrwm i'r ARGLWYDD. Daeth Abel â rhai o ŵyn cyntaf y praidd, a rhoi'r rhai gorau yn offrwm i Dduw. Roedd Abel a'i offrwm yn plesio'r ARGLWYDD, ond wnaeth e ddim cymryd sylw o Cain a'i offrwm. Roedd Cain wedi gwylltio'n lân. Roedd i'w weld ar ei wyneb! Dyma'r ARGLWYDD yn gofyn i Cain, “Ydy'n iawn dy fod ti wedi gwylltio fel yma? Pam wyt ti mor ddig? Os gwnei di beth sy'n iawn bydd pethau'n gwella. Ond os na wnei di beth sy'n iawn, mae pechod fel anifail yn llechu wrth y drws. Mae am dy gael di, ond rhaid i ti ei reoli.” Dwedodd Cain wrth ei frawd, “Gad i ni fynd allan i gefn gwlad.” Yna pan oedden nhw allan yng nghefn gwlad dyma Cain yn ymosod ar ei frawd Abel a'i ladd. Wedyn dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Cain, “Ble mae Abel, dy frawd di?” Atebodd Cain, “Dw i ddim yn gwybod. Ai fi sydd i fod i ofalu am fy mrawd?” A dyma'r ARGLWYDD yn dweud, “Beth yn y byd wyt ti wedi'i wneud? Gwranda! Mae gwaed dy frawd yn gweiddi arna i o'r pridd. Melltith arnat ti. Rhaid i ti adael y tir yma lyncodd waed dy frawd pan wnest ti ei ladd. Byddi'n ceisio trin y tir ond yn methu cael cnwd da ohono. Byddi'n crwydro o gwmpas yn ddigyfeiriad.” Ac meddai Cain wrth yr ARGLWYDD, “Mae'r gosb yn ormod i mi ei chymryd! Rwyt ti wedi fy ngyrru i ffwrdd o'r tir, a bydda i wedi fy nhorri i ffwrdd oddi wrthot ti. Bydda i'n crwydro o gwmpas yn ddigyfeiriad, a bydd pwy bynnag sy'n dod o hyd i mi yn fy lladd i.” Ond dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Na. Bydd pwy bynnag sy'n lladd Cain yn cael ei gosbi saith gwaith drosodd.” A dyma'r ARGLWYDD yn marcio Cain i ddangos iddo na fyddai'n cael ei ladd gan bwy bynnag fyddai'n dod o hyd iddo. Felly aeth Cain i ffwrdd oddi wrth yr ARGLWYDD a mynd i fyw i wlad Nod i'r dwyrain o Eden. Cysgodd Cain gyda'i wraig, a dyma hi'n beichiogi. Cafodd blentyn, sef Enoch. Roedd Cain yn adeiladu pentref gyda wal i'w amddiffyn, a galwodd y pentref yn ‛Enoch‛ ar ôl ei fab. Roedd Enoch yn dad i Irad, Irad yn dad i Mechwia-el, Mechwia-el yn dad i Methwsha-el, a Methwsha-el yn dad i Lamech. Dyma Lamech yn cymryd dwy wraig — Ada oedd enw un a Sila oedd y llall. Cafodd Ada blentyn, sef Iabal. Iabal oedd y cyntaf i fyw mewn pebyll a chadw anifeiliaid. Roedd ganddo frawd o'r enw Iwbal. Iwbal oedd y cyntaf i ganu'r delyn a'r ffliwt. Dyma Sila, y wraig arall, yn cael plentyn hefyd, sef Twbal-cain. Fe oedd y cyntaf i weithio gyda metelau, a gwneud offer pres a haearn. Roedd gan Twbal-cain chwaer o'r enw Naäma. Dyma Lamech yn dweud wrth ei wragedd: “Ada a Sila, gwrandwch arna i! Wragedd Lamech, sylwch beth dw i'n ddweud: Byddwn i'n lladd dyn am fy anafu i, neu blentyn am fy nharo i. Os bydd y dial am Cain saith gwaith gwaeth, bydd y dial am Lamech saith deg saith gwaith!” Dyma Adda'n cysgu gyda'i wraig eto, a dyma hi'n cael mab arall. Galwodd hwn yn Seth, “am fod Duw wedi rhoi plentyn i mi yn lle Abel, ar ôl i Cain ei ladd.” Cafodd Seth fab, a'i alw yn Enosh. Dyma pryd y dechreuodd pobl addoli'r ARGLWYDD. Dyma restr deuluol Adda: Pan greodd Duw bobl, gwnaeth nhw i fod yn ddelw ohono'i hun. Creodd nhw yn wryw ac yn fenyw, bendithiodd nhw, a rhoi'r enw ‛dynoliaeth‛ iddyn nhw. Pan oedd Adda yn 130 oed, cafodd fab a'i alw'n Seth. Roedd Seth yr un ffunud â'i dad. Buodd Adda fyw am 800 mlynedd ar ôl i Seth gael ei eni, a chafodd blant eraill. Felly roedd Adda yn 930 oed yn marw. Pan oedd Seth yn 105 oed cafodd ei fab Enosh ei eni. Buodd Seth fyw am 807 o flynyddoedd ar ôl i Enosh gael ei eni, a chafodd blant eraill. Felly roedd Seth yn 912 oed yn marw. Pan oedd Enosh yn 90 oed cafodd ei fab Cenan ei eni. Buodd Enosh fyw am 815 mlynedd ar ôl i Cenan gael ei eni, a chafodd blant eraill. Felly roedd Enosh yn 905 oed yn marw. Pan oedd Cenan yn 70 oed, cafodd ei fab Mahalal-el ei eni. Buodd Cenan fyw am 840 mlynedd ar ôl i Mahalal-el gael ei eni, a chafodd blant eraill. Felly roedd Cenan yn 910 oed yn marw. Pan oedd Mahalal-el yn 65 oed cafodd ei fab Iered ei eni. Buodd Mahalal-el fyw am 830 mlynedd ar ôl i Iered gael ei eni, a chafodd blant eraill. Felly roedd Mahalal-el yn 895 oed yn marw. Pan oedd Iered yn 162 oed cafodd ei fab Enoch ei eni. Buodd Iered fyw am 800 mlynedd ar ôl i Enoch gael ei eni, a chafodd blant eraill. Felly roedd Iered yn 962 oed yn marw. Pan oedd Enoch yn 65 oed cafodd ei fab Methwsela ei eni. Roedd gan Enoch berthynas agos gyda Duw, a buodd fyw am 300 mlynedd ar ôl i Methwsela gael ei eni, a chafodd blant eraill. Felly dyma Enoch yn byw i fod yn 365 oed. Roedd ganddo berthynas agos gyda Duw, ond yn sydyn doedd e ddim yna. Roedd Duw wedi ei gymryd i ffwrdd. Pan oedd Methwsela yn 187 oed cafodd ei fab Lamech ei eni. Buodd Methwsela fyw am 782 o flynyddoedd ar ôl i Lamech gael ei eni, a chafodd blant eraill. Felly roedd Methwsela yn 969 oed yn marw. Pan oedd Lamech yn 182 oed cafodd fab, a'i alw yn Noa. Dwedodd, “Bydd hwn yn rhoi gorffwys i ni o'r gwaith caled o drin y tir mae'r ARGLWYDD wedi ei felltithio.” Buodd Lamech fyw am 595 mlynedd ar ôl i Noa gael ei eni, a chafodd blant eraill Felly roedd Lamech yn 777 oed yn marw. Pan oedd Noa yn 500 mlwydd oed roedd ganddo dri mab — Shem, Cham a Jaffeth. Wrth i boblogaeth y byd dyfu ac i ferched gael eu geni, dyma'r bodau nefol yn gweld fod merched dynol yn hardd. A dyma nhw'n cymryd y rhai roedden nhw'n eu ffansïo i fod yn wragedd iddyn nhw eu hunain. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud, “Alla i ddim gadael i bobl fyw am byth. Maen nhw'n greaduriaid sy'n mynd i farw, ac o hyn ymlaen fyddan nhw ddim yn byw fwy na 120 mlynedd.” Roedd cewri yn byw ar y ddaear bryd hynny (ac wedyn hefyd). Nhw oedd y plant gafodd eu geni ar ôl i'r bodau nefol gael rhyw gyda merched dynol. Dyma arwyr enwog yr hen fyd. Roedd yr ARGLWYDD yn gweld bod y ddynoliaeth bellach yn ofnadwy o ddrwg. Doedden nhw'n meddwl am ddim byd ond gwneud drwg drwy'r amser. Roedd yr ARGLWYDD yn sori ei fod e wedi creu'r ddynoliaeth. Roedd wedi ei frifo a'i ddigio. Felly dyma fe'n dweud, “Dw i'n mynd i gael gwared â'r ddynoliaeth yma dw i wedi ei chreu. Ydw, a'r anifeiliaid, yr holl ymlusgiaid a phryfed a'r adar hefyd. Dw i'n sori mod i wedi eu creu nhw yn y lle cyntaf.” Ond roedd Noa wedi plesio'r ARGLWYDD. Dyma hanes Noa a'i deulu: Roedd Noa yn ddyn da — yr unig un bryd hynny oedd yn gwneud beth roedd Duw eisiau. Roedd ganddo berthynas agos gyda Duw. Roedd ganddo dri mab, sef Shem, Cham a Jaffeth. Roedd y byd wedi ei sbwylio yng ngolwg Duw. Roedd trais a chreulondeb ym mhobman. Gwelodd Duw fod y byd wedi ei sbwylio go iawn. Roedd pawb yn gwneud drwg. Felly dyma Duw yn dweud wrth Noa, “Dw i wedi penderfynu bod rhaid i bawb gael eu dinistrio. Mae trais a chreulondeb ym mhobman, felly dw i'n mynd i'w dinistrio nhw, a'r byd hefo nhw. Dw i am i ti adeiladu arch, sef cwch mawr, wedi ei gwneud o goed goffer. Rhanna hi yn ystafelloedd a'i selio hi y tu mewn a'r tu allan â pyg. Gwna hi'n 130 metr o hyd, 22 metr o led ac 13 metr o uchder. Rho do ar yr arch, ond gad fwlch o 45 centimetr rhwng y to ac ochrau'r arch. Rho ddrws ar ochr yr arch, a thri llawr ynddi — yr isaf, y canol a'r uchaf. Dw i'n mynd i ddod â llifogydd ar y ddaear fydd yn boddi popeth sy'n anadlu. Bydd popeth byw yn marw. Ond bydda i'n gwneud ymrwymiad i ti. Byddi di'n mynd i mewn i'r arch — ti a dy feibion, dy wraig a'u gwragedd nhw. “Dw i am i ti fynd â dau o bob math o anifail i mewn i'r arch hefo ti i'w cadw'n fyw, sef un gwryw ac un benyw. Pob math o adar, pob math o anifeiliaid, pob math o ymlusgiaid — bydd dau o bopeth yn dod atat ti i'w cadw'n fyw. Dos â phob math o fwyd gyda ti hefyd, a'i storio. Digon o fwyd i chi ac i'r anifeiliaid.” A dyma Noa yn gwneud yn union fel roedd Duw wedi dweud wrtho. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Noa, “Dos i mewn i'r arch gyda dy deulu. Ti ydy'r unig un sy'n gwneud beth dw i eisiau. Dos â saith pâr o bob anifail sy'n iawn i'w fwyta a'i aberthu, ac un pâr o bob anifail arall. Un gwryw ac un fenyw ym mhob pâr. Dos â saith pâr o bob aderyn gyda ti hefyd. Dw i eisiau i'r amrywiaeth o anifeiliaid ac adar oroesi ar y ddaear. Wythnos i heddiw dw i'n mynd i wneud iddi lawio. Bydd hi'n glawio nos a dydd am bedwar deg diwrnod. Dw i'n mynd i gael gwared â phopeth byw dw i wedi ei greu oddi ar wyneb y ddaear.” Dyma Noa yn gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho. Roedd Noa yn 600 oed pan ddaeth y llifogydd a boddi'r ddaear. Aeth Noa a'i wraig a'i feibion a'u gwragedd nhw i mewn i'r arch i ddianc rhag y llifogydd. Dyma'r anifeiliaid gwahanol (y rhai oedd yn iawn i'w bwyta a'u haberthu, a'r lleill hefyd), a'r gwahanol fathau o adar a chreaduriaid bach eraill, yn dod at Noa i'r arch bob yn bâr — gwryw a benyw. Digwyddodd hyn yn union fel roedd Duw wedi dweud wrth Noa. Wythnos union wedyn dyma'r llifogydd yn dod ac yn boddi'r ddaear. Pan oedd Noa yn 600 mlwydd oed, ar yr ail ar bymtheg o'r ail fis, byrstiodd y ffynhonnau dŵr tanddaearol, ac agorodd llifddorau'r awyr. Buodd hi'n bwrw glaw yn drwm, ddydd a nos, am bedwar deg diwrnod. Ar y diwrnod y dechreuodd hi lawio, aeth Noa i'r arch gyda'i wraig, ei feibion, Shem, Cham a Jaffeth, a'u gwragedd nhw. Gyda nhw roedd y gwahanol fathau o anifeiliaid, gwyllt a dof, ymlusgiaid, adar a phryfed — popeth oedd yn gallu hedfan. Aeth y creaduriaid byw i gyd at Noa i'r arch bob yn ddau — gwryw a benyw, yn union fel roedd Duw wedi dweud wrth Noa. A dyma'r ARGLWYDD yn eu cau nhw i mewn. Dyma'r dilyw yn para am bedwar deg diwrnod. Roedd y llifogydd yn mynd yn waeth, nes i'r arch gael ei chodi ar wyneb y dŵr. Roedd y dŵr yn codi'n uwch ac yn uwch, a'r arch yn nofio ar yr wyneb. Roedd cymaint o ddŵr nes bod hyd yn oed y mynyddoedd o'r golwg. Daliodd i godi nes bod y dŵr dros saith metr yn uwch na'r mynyddoedd uchaf Cafodd popeth byw ei foddi — adar, anifeiliaid dof a gwyllt, yr holl greaduriaid sy'n heidio ar y ddaear, a phob person byw. Roedd pob creadur oedd yn anadlu ac yn byw ar dir sych wedi marw. Dyma Duw yn cael gwared â nhw i gyd — pobl, anifeiliaid, ymlusgiaid a phryfed, ac adar. Cafodd wared â'r cwbl. Dim ond Noa a'r rhai oedd yn yr arch oedd ar ôl. Wnaeth y dŵr ddim dechrau gostwng am 150 diwrnod. Ond doedd Duw ddim wedi anghofio am Noa a'r holl anifeiliaid gwyllt a dof oedd gydag e yn yr arch. Felly gwnaeth i wynt chwythu, a dyma lefel y dŵr yn dechrau mynd i lawr. Dyma'r ffynhonnau dŵr tanddaearol a'r llifddorau yn yr awyr yn cael eu cau, a dyma hi'n stopio glawio. Dechreuodd y dŵr fynd i lawr. Bum mis union ar ôl i'r dilyw ddechrau, glaniodd yr arch ar fynyddoedd Ararat. Ddau fis a hanner wedyn, wrth i'r dŵr ddal i fynd i lawr o dipyn i beth, daeth rhai o'r mynyddoedd eraill i'r golwg. Pedwar deg diwrnod ar ôl i'r arch lanio, dyma Noa yn agor ffenest ac yn anfon cigfran allan. Roedd hi'n hedfan i ffwrdd ac yn dod yn ôl nes oedd y dŵr wedi sychu oddi ar wyneb y ddaear. Wedyn dyma Noa yn anfon colomen allan, i weld os oedd y dŵr wedi mynd. Ond roedd y golomen yn methu dod o hyd i le i glwydo, a daeth yn ôl i'r arch. Roedd y dŵr yn dal i orchuddio'r ddaear. Estynnodd Noa ei law ati a dod â hi yn ôl i mewn i'r arch. Arhosodd am wythnos cyn danfon y golomen allan eto. Y tro yma, pan oedd hi'n dechrau nosi, dyma'r golomen yn dod yn ôl gyda deilen olewydd ffres yn ei phig. Felly roedd Noa'n gwybod bod y dŵr bron wedi mynd. Arhosodd am wythnos arall ac anfon y golomen allan eto, a'r tro yma ddaeth hi ddim yn ôl. Pan oedd Noa yn 601 oed, ar ddiwrnod cynta'r flwyddyn roedd y llifogydd wedi mynd. Dyma Noa yn symud rhan o'r gorchudd ar do'r arch a gwelodd fod y ddaear bron wedi sychu. Erbyn y seithfed ar hugain o'r ail fis roedd y ddaear yn sych. A dyma Duw yn dweud wrth Noa, “Dos allan o'r arch, ti a dy deulu. Tyrd â phopeth allan — yr adar a'r anifeiliaid, a phob creadur bach arall — dw i eisiau iddyn nhw gael llawer iawn o rai bach, drwy'r ddaear i gyd.” Felly dyma Noa a'i wraig, a'i feibion a'u gwragedd nhw, yn mynd allan o'r arch. A dyma'r anifeiliaid i gyd, a'r ymlusgiaid, a'r adar yn dod allan yn eu grwpiau. A dyma Noa'n codi allor i'r ARGLWYDD ac yn aberthu rhai o'r gwahanol fathau o anifeiliaid ac adar oedd yn dderbyniol fel aberth i'w losgi. Roedd yr aberth yn arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD, ac meddai wrtho'i hun, “Dw i byth yn mynd i felltithio'r ddaear eto o achos y ddynoliaeth, er fod pobl yn dal i feddwl am ddim byd ond gwneud drwg hyd yn oed pan maen nhw'n blant ifanc. Wna i byth eto ddinistrio popeth byw fel dw i newydd wneud. Tra mae'r byd yn bod, bydd amser i blannu a chasglu'r cynhaeaf; bydd tywydd oer a thywydd poeth, haf a gaeaf, nos a dydd.” Dyma Duw yn bendithio Noa a'i feibion, a dweud wrthyn nhw: “Dw i eisiau i chi gael plant, fel bod mwy a mwy ohonoch chi. Llanwch y ddaear. Bydd gan yr anifeiliaid, yr adar, pob creadur bach arall a'r pysgod eich ofn chi. Byddwch yn eu rheoli nhw. Bellach cewch fwyta unrhyw greadur byw, nid dim ond planhigion fel o'r blaen. Ond rhaid i chi beidio bwyta cig sydd â bywyd yn dal ynddo (sef y gwaed). Mae tywallt gwaed dynol yn rhywbeth sy'n rhaid ei gosbi. Rhaid lladd unrhyw anifail gwyllt sy'n gwneud hynny. A rhaid i berson sy'n lladd rhywun arall farw hefyd, am fod pobl yn frodyr a chwiorydd i'w gilydd. Mae rhywun sy'n lladd person arall yn haeddu cael ei ladd ei hun, am fod Duw wedi creu'r ddynoliaeth yn ddelw ohono'i hun. Dw i eisiau i chi gael plant, fel bod mwy a mwy ohonoch chi drwy'r byd i gyd.” A dyma Duw yn dweud wrth Noa a'i feibion, “Dw i am wneud ymrwymiad i chi a'ch disgynyddion, a hefyd gyda pob creadur byw — adar, anifeiliaid dof a phob creadur arall ddaeth allan o'r arch. Dw i'n addo na fydda i byth yn anfon dilyw eto i gael gwared â phopeth byw ac i ddinistrio'r ddaear. A dw i'n mynd i roi arwydd i chi i ddangos fod yr ymrwymiad dw i'n ei wneud yn mynd i bara am byth: Dw i'n rhoi fy mwa yn y cymylau, a bydd yn arwydd o'r ymrwymiad dw i wedi ei wneud gyda'r ddaear. Pan fydd cymylau yn yr awyr, ag enfys i'w gweld yn y cymylau, bydda i'n cofio'r ymrwymiad dw i wedi ei wneud i chi a phob creadur byw. Fydd llifogydd ddim yn dod i ddinistrio bywyd i gyd byth eto. Pan fydd enfys yn y cymylau bydda i'n cofio'r ymrwymiad dw i wedi ei wneud gyda phob creadur byw sydd ar y ddaear.” A dyma Duw yn dweud wrth Noa, “Dyma'r arwydd sy'n dangos y bydda i'n cadw'r ymrwymiad dw i wedi ei wneud gyda phopeth byw ar y ddaear.” Shem, Cham a Jaffeth oedd enwau meibion Noa ddaeth allan o'r arch. (Cham oedd tad Canaan.) Roedd y tri ohonyn nhw yn feibion i Noa, ac mae holl bobloedd y byd yn ddisgynyddion iddyn nhw. Roedd Noa yn ffermwr. Fe oedd y cyntaf un i blannu gwinllan. Yfodd Noa beth o'r gwin, a meddwi. Tynnodd ei ddillad a gorwedd yn noeth yn ei babell. Dyma Cham, tad Canaan, yn edrych ar ei dad yn noeth ac yna'n mynd allan i ddweud wrth ei frodyr. Ond dyma Shem a Jaffeth yn cymryd clogyn a'i osod ar eu hysgwyddau. Wedyn dyma nhw'n cerdded at yn ôl i mewn i'r babell a gorchuddio corff noeth eu tad. Roedden nhw yn edrych i ffwrdd wrth wneud hyn, felly wnaethon nhw ddim gweld eu tad yn noeth. Ar ôl i Noa ddeffro a sobri, clywodd beth roedd ei fab ifancaf wedi ei wneud, ac meddai, “Melltith ar Canaan! bydd fel caethwas dibwys i'w frodyr.” Wedyn dwedodd Noa, “Bendith yr ARGLWYDD Dduw ar Shem! Bydd Canaan yn gaethwas iddo. Boed i Dduw roi digonedd o le i Jaffeth, a gwneud iddo gyd-fyw'n heddychlon gyda Shem. A bydd Canaan yn gaethwas iddo yntau hefyd.” Buodd Noa fyw 350 mlynedd ar ôl y dilyw. Felly roedd Noa yn 950 oed yn marw. Dyma hanes teuluoedd meibion Noa — Shem, Cham a Jaffeth. (Ar ôl y dilyw cafodd y tri ohonyn nhw blant): Meibion Jaffeth: Gomer, Magog, Madai, Iafan, Twbal, Meshech, a Tiras. Disgynyddion Gomer oedd pobl Ashcenas, Riffath, a Togarma. Disgynyddion Iafan oedd pobl Elisha, Tarshish, Cittim, a Dodanîm, sef pobloedd yr arfordir a'r ynysoedd. Rhannodd y rhain yn genhedloedd gwahanol gyda'u tiroedd, a phob grŵp ethnig gyda'i iaith ei hun. Meibion Cham: Cwsh, Mitsraïm, Pwt, a Canaan. Disgynyddion Cwsh oedd pobl Seba, Hafila, Sabta, Raama, a Sabtecha. Disgynyddion Raama oedd pobl Sheba a Dedan. Cafodd Cwsh fab arall o'r enw Nimrod. Nimrod oedd y concwerwr cyntaf. Fe oedd yr heliwr gorau yn y byd i gyd. Dyna pam mae'r hen ddywediad yn dweud, “Mae fel Nimrod, yr heliwr gorau welodd yr ARGLWYDD.” Dechreuodd ei ymerodraeth gyda dinasoedd Babel, Erech, Accad a Calne yng ngwlad Babilonia. Wedyn lledodd ei ymerodraeth i Asyria, ac adeiladodd ddinasoedd Ninefe, Rehoboth-ir, Cala, a Resen (sydd rhwng Ninefe a dinas fawr Cala.) Disgynyddion Mitsraïm oedd y Lydiaid, Anamiaid, Lehabiaid (pobl Libia), Nafftwiaid, Pathrwsiaid, Caslwchiaid (y daeth y Philistiaid ohonyn nhw), a'r Cafftoriaid. Disgynyddion Canaan oedd pobl Sidon (o'i fab hynaf), yr Hethiaid, y Jebwsiaid, Amoriaid, Girgasiaid, Hefiaid, Arciaid, Siniaid, Arfadiaid, Semariaid, a phobl Chamath. Cafodd llwythau'r Canaaneaid eu gwasgaru nes bod eu ffiniau nhw yn estyn o Sidon yr holl ffordd i Gerar ac i fyny i Gasa, ac wedyn yr holl ffordd i Sodom, Gomorra, Adma, a Seboïm, mor bell â Lesha. Felly dyna ddisgynyddion Cham yn ôl eu llwythau, ieithoedd, tiroedd a chenhedloedd. Cafodd Shem, brawd hynaf Jaffeth, feibion hefyd. Shem oedd tad disgynyddion Eber i gyd. Meibion Shem: Elam, Ashŵr, Arffacsad, Lwd, ac Aram. Disgynyddion Aram oedd pobl Us, Chwl, Gether, a Mash. Arffacsad oedd tad Shelach, a Shelach oedd tad Eber. Roedd gan Eber ddau fab — cafodd un ei alw'n Peleg, am mai dyna pryd y cafodd ieithoedd y byd eu rhannu. Yna enw ei frawd oedd Ioctan. Disgynyddion Ioctan oedd pobl Almodad, Sheleff, Chatsar-mafeth, Ierach, Hadoram, Wsal, Dicla, Obal, Abima-el, Sheba, Offir, Hafila, a Iobab. Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Ioctan. Roedden nhw'n byw ar y tir rhwng Mesha a bryniau Seffar yn y dwyrain. Felly dyna ddisgynyddion Shem, yn ôl eu llwythau, ieithoedd, tiroedd a chenhedloedd. Dyna'r llwythau ddaeth o feibion Noa, wedi eu rhestru yn eu cenhedloedd yn ôl eu hachau. Ar ôl y dilyw dyma nhw'n rhannu i wneud gwahanol genhedloedd yn y byd. Ar un adeg, un iaith oedd drwy'r byd i gyd. Roedd pawb yn defnyddio'r un geiriau. Pan oedd y bobl yn symud o le i le yn y dwyrain, dyma nhw'n dod i dir gwastad yn Babilonia ac yn setlo yno. Ac medden nhw, “Gadewch i ni wneud brics wedi eu tanio'n galed i'w defnyddio i adeiladu.” (Roedden nhw'n defnyddio brics yn lle cerrig, a tar yn lle morter.) “Dewch,” medden nhw, “gadewch i ni adeiladu dinas fawr i ni'n hunain, gyda thŵr uchel yn estyn i fyny i'r nefoedd. Byddwn ni'n enwog, a fydd dim rhaid i ni gael ein gwasgaru drwy'r byd i gyd.” A dyma'r ARGLWYDD yn dod i lawr i edrych ar y ddinas a'r tŵr roedd y bobl yn eu hadeiladu. Ac meddai, “Maen nhw wedi dechrau gwneud hyn am eu bod nhw'n un bobl sy'n siarad yr un iaith. Does dim byd yn eu rhwystro nhw rhag gwneud beth bynnag maen nhw eisiau. Dewch, gadewch i ni fynd i lawr a chymysgu eu hiaith nhw, fel na fyddan nhw'n deall ei gilydd yn siarad.” Felly dyma'r ARGLWYDD yn eu gwasgaru nhw drwy'r byd i gyd, a dyma nhw'n stopio adeiladu'r ddinas. Roedd y ddinas yn cael ei galw yn Babel am mai dyna ble wnaeth yr ARGLWYDD gymysgu ieithoedd pobl, a'u gwasgaru drwy'r byd i gyd. Dyma hanes teulu Shem: Pan oedd Shem yn gant oed, cafodd ei fab Arffacsad ei eni (Roedd hyn ddwy flynedd ar ôl y dilyw.) Buodd Shem fyw am 500 mlynedd ar ôl i Arffacsad gael ei eni, a chafodd blant eraill. Pan oedd Arffacsad yn 35 oed, cafodd ei fab Shelach ei eni. Buodd Arffacsad fyw am 403 o flynyddoedd ar ôl i Shelach gael ei eni, a chafodd blant eraill. Pan oedd Shelach yn 30 oed, cafodd ei fab Eber ei eni. Buodd Shelach fyw am 403 o flynyddoedd ar ôl i Eber gael ei eni, a chafodd blant eraill. Pan oedd Eber yn 34 oed, cafodd ei fab Peleg ei eni. Buodd Eber fyw am 430 mlynedd ar ôl i Peleg gael ei eni, a chafodd blant eraill. Pan oedd Peleg yn 30 oed, cafodd ei fab Reu ei eni. Buodd Peleg fyw am 209 o flynyddoedd ar ôl i Reu gael ei eni, a chafodd blant eraill. Pan oedd Reu yn 32 oed, cafodd ei fab Serwg ei eni. Buodd Reu fyw am 207 o flynyddoedd ar ôl i Serwg gael ei eni, a chafodd blant eraill. Pan oedd Serwg yn 30 oed, cafodd ei fab Nachor ei eni. Buodd Serwg fyw am 200 mlynedd ar ôl i Nachor gael ei eni, a chafodd blant eraill. Pan oedd Nachor yn 29 oed, cafodd ei fab Tera ei eni. Buodd Nachor fyw am 119 mlynedd ar ôl i Tera gael ei eni, a chafodd blant eraill. Pan oedd Tera yn 70 oed, roedd ganddo dri mab — Abram, Nachor a Haran. Dyma hanes teulu Tera: Tera oedd tad Abram, Nachor a Haran. Haran oedd tad Lot. Pan fuodd Haran farw, yn Ur yn Babilonia lle cafodd ei eni, roedd ei dad Tera yn dal yn fyw. Priododd y ddau frawd arall. Sarai oedd enw gwraig Abram, a Milca oedd enw gwraig Nachor (Roedd hi'n un o ferched Haran, ac enw ei chwaer oedd Isca.) Roedd Sarai yn methu cael plant. Dyma Tera yn gadael Ur yn Babilonia gyda'r bwriad o symud i wlad Canaan. Aeth ag Abram ei fab gydag e, hefyd Sarai ei ferch-yng-nghyfraith a Lot ei ŵyr (sef mab Haran). Ond dyma nhw'n cyrraedd Haran ac yn setlo yno. Dyna lle buodd Tera farw, yn 205 oed. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Abram, “Dw i am i ti adael dy wlad, dy bobl a dy deulu, a mynd i ble dw i'n ei ddangos i ti. Bydda i'n dy wneud di yn genedl fawr, ac yn dy fendithio di, a byddi'n enwog. Dw i eisiau i ti fod yn fendith i eraill. Bydda i'n bendithio'r rhai sy'n dy fendithio di ac yn melltithio unrhyw un sy'n dy fychanu di. A bydd pobloedd y byd i gyd yn cael eu bendithio trwot ti.” Felly dyma Abram yn mynd, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho. A dyma Lot yn mynd gydag e. (Roedd Abram yn 75 mlwydd oed pan adawodd Haran.) Aeth Abram â'i wraig Sarai gydag e, a Lot ei nai. Aeth â'i eiddo i gyd, a'r gweithwyr roedd wedi eu cymryd ato yn Haran, a mynd i wlad Canaan. Pan gyrhaeddon nhw yno dyma Abram yn teithio drwy'r wlad ac yn cyrraedd derwen More oedd yn lle addoli yn Sichem (Y Canaaneaid oedd yn byw yn y wlad bryd hynny.) Dyma'r ARGLWYDD yn ymddangos i Abram, ac yn dweud, “Dw i'n mynd i roi'r wlad yma i dy ddisgynyddion di.” A cododd Abram allor i'r ARGLWYDD oedd wedi dod ato. Wedyn symudodd Abram yn ei flaen tua'r de a gwersylla yn y bryniau sydd i'r dwyrain o Bethel. Roedd Bethel i'r gorllewin iddo, ac Ai tua'r dwyrain. Cododd allor yno hefyd, ac addoli'r ARGLWYDD. Wedyn teithiodd Abram yn ei flaen bob yn dipyn i gyfeiriad y Negef yn y de. Roedd newyn difrifol yn y wlad. Felly dyma Abram yn mynd i lawr i'r Aifft i grwydro yno. Pan oedd bron cyrraedd yr Aifft, dwedodd wrth ei wraig Sarai, “Ti'n ddynes hardd iawn. Pan fydd yr Eifftiaid yn dy weld di byddan nhw'n dweud, ‘Ei wraig e ydy hi’, a byddan nhw yn fy lladd i er mwyn dy gael di. Dywed wrthyn nhw mai fy chwaer i wyt ti. Byddan nhw'n garedig ata i wedyn am eu bod nhw'n dy hoffi di, a bydda i'n saff.” Pan gyrhaeddodd Abram yr Aifft, roedd yr Eifftiaid yn gweld fod Sarai yn ddynes hardd iawn. Gwelodd swyddogion y Pharo hi, a mynd i ddweud wrtho mor hardd oedd hi. Felly cymerodd y Pharo hi i fod yn un o'i harîm. Roedd y Pharo'n garedig iawn at Abram o'i hachos hi. Rhoddodd ddefaid a gwartheg, asennod, caethweision a morynion, a chamelod iddo. Ond am fod y Pharo wedi cymryd Sarai, gwraig Abram, iddo'i hun, dyma'r ARGLWYDD yn anfon afiechydon ofnadwy arno fe a phawb yn ei balas. Galwodd y Pharo am Abram, a dweud wrtho, “Pam rwyt ti wedi gwneud hyn i mi? Pam wnest ti ddim dweud mai dy wraig di oedd hi? Pam dweud ‘Fy chwaer i ydy hi’, a gadael i mi ei chymryd hi'n wraig i mi fy hun? Dyma hi, dy wraig, yn ôl i ti. Cymer hi a dos o ngolwg i!” Rhoddodd y Pharo orchymyn i'w filwyr daflu Abram, a'i wraig a phopeth oedd ganddo, allan o'r wlad. Felly dyma Abram yn gadael yr Aifft, gyda'i wraig a phopeth oedd ganddo a Lot. Aethon nhw yn ôl i'r Negef yn ne Canaan. Roedd Abram yn gyfoethog iawn — roedd ganddo lawer iawn o anifeiliaid ac arian ac aur. Teithiodd yn ei flaen bob yn dipyn drwy'r Negef ac i fyny i Bethel. Aeth yn ôl i'r man lle roedd wedi gwersylla gyntaf, rhwng Bethel ac Ai. Dyna ble roedd wedi codi allor i'r ARGLWYDD, ac wedi addoli'r ARGLWYDD. Roedd gan Lot, oedd yn teithio gydag Abram, ddefaid a gwartheg a phebyll hefyd. Doedd dim digon o borfa a dŵr iddyn nhw fyw gyda'i gilydd, am fod gan y ddau gymaint o anifeiliaid. Ac roedd gweision Abram a gweision Lot yn cweryla drwy'r adeg. (Y Canaaneaid a'r Peresiaid oedd yn byw yn y wlad bryd hynny.) Felly dyma Abram yn dweud wrth Lot, “Da ti, gad i ni a'n gweision beidio ffraeo! Dŷn ni'n perthyn i'r un teulu! Edrych, mae'r wlad i gyd o dy flaen di. Beth am i ni wahanu. Dewis di ble rwyt ti am fynd i fyw, a gwna i fynd i'r cyfeiriad arall.” Edrychodd Lot o'i gwmpas, a gwelodd fod dyffryn Iorddonen i fyny at Soar yn dir da gyda digon o ddŵr. Roedd yn ffrwythlon fel gardd yr ARGLWYDD yn Eden, neu fel gwlad yr Aifft. (Roedd hyn cyn i'r ARGLWYDD ddinistrio trefi Sodom a Gomorra.) Felly dyma Lot yn dewis dyffryn yr Iorddonen, a mynd i gyfeiriad y dwyrain. A dyma'r teulu'n gwahanu. Setlodd Abram yng ngwlad Canaan, ac aeth Lot i fyw wrth y trefi yn y dyffryn, a gwersylla wrth ymyl Sodom. Roedd pobl Sodom yn ddrwg iawn, ac yn pechu'n fawr yn erbyn yr ARGLWYDD. Ar ôl i Lot ei adael, dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Abram, “Edrych o dy gwmpas i bob cyfeiriad. Dw i'n mynd i roi'r wlad yma i gyd i ti a dy ddisgynyddion, am byth. Bydd gen ti gymaint o ddisgynyddion fydd dim posib eu cyfri nhw. Byddan nhw fel llwch ar y ddaear! Dos i deithio o gwmpas y wlad. Bydda i'n rhoi'r cwbl i ti.” Felly dyma Abram yn mynd, ac yn setlo i lawr wrth goed derw Mamre, oedd yn fan addoli yn Hebron. A dyma fe'n codi allor i'r ARGLWYDD yno. Bryd hynny roedd Amraffel brenin Babilonia, Arioch brenin Elasar, Cedorlaomer brenin Elam, a Tidal brenin Goïm, yn rhyfela yn erbyn Bera brenin Sodom, Birsha brenin Gomorra, Shinab brenin Adma, Shemeber brenin Seboïm, a brenin Bela (sef Soar). Roedd brenhinoedd Sodom, Gomorra, Adma, Seboïm a Bela wedi ffurfio cynghrair, a dod at ei gilydd yn nyffryn Sidim (sef y Môr Marw). Roedden nhw wedi bod dan reolaeth Cedorlaomer am ddeuddeg mlynedd, ond y flwyddyn wedyn dyma nhw'n gwrthryfela yn ei erbyn. Flwyddyn ar ôl hynny daeth Cedorlaomer a'r brenhinoedd oedd ar ei ochr e, a concro y Reffaiaid yn Ashteroth-carnaïm, y Swsiaid yn Ham, yr Emiaid yn Safe-Ciriathaim, yr Horiaid ym mryniau Seir yr holl ffordd i El-paran sydd wrth ymyl yr anialwch. Wedyn dyma nhw yn troi yn ôl ac yn ymosod ar En-mishpat (sef Cadesh), a gorchfygu gwlad yr Amaleciaid i gyd, a hefyd yr Amoriaid oedd yn byw yn Chatsason-tamar. Felly dyma frenhinoedd Sodom, Gomorra, Adma, Seboïm a Bela (sef Soar) yn mynd i ddyffryn Sidim, i ymladd yn erbyn Cedorlaomer brenin Elam, a brenhinoedd Goïm, Babilonia ac Elasar — pedwar brenin yn erbyn pump. Roedd Dyffryn Sidim yn llawn o byllau tar. Wrth i fyddinoedd Sodom a Gomorra ddianc oddi wrth y gelyn, dyma rai ohonyn nhw yn llithro i mewn i'r pyllau. Llwyddodd y gweddill i ddianc i'r bryniau. Dyma'r byddinoedd oedd yn fuddugol yn cymryd eiddo Sodom a Gomorra, a'r bwyd oedd yno, cyn mynd i ffwrdd. A dyma nhw'n cymryd Lot, nai Abram, a'i eiddo fe i gyd hefyd, gan fod Lot yn byw yn Sodom. Ond dyma un oedd wedi llwyddo i ddianc yn mynd i ddweud wrth Abram yr Hebread beth oedd wedi digwydd. Roedd Abram yn byw wrth goed derw Mamre yr Amoriad, ac roedd Mamre a'i frodyr, Eshcol ac Aner, wedi ffurfio cynghrair gydag Abram. Felly pan glywodd Abram fod ei nai wedi cael ei gymryd yn gaeth, casglodd ei filwyr, 318 o ddynion oedd wedi eu geni gyda'r clan. Aeth ar ôl y gelyn mor bell â Dan yn y gogledd. Yn ystod y nos dyma Abram yn rhannu ei fyddin ac ymosod ar y gelyn. Aeth ar eu holau mor bell â Choba, sydd i'r gogledd o Damascus. Cafodd bopeth roedden nhw wedi ei ddwyn yn ôl. Daeth â'i nai Lot a'i eiddo yn ôl hefyd, a'r gwragedd a gweddill y bobl oedd wedi cael eu dal. Ar ôl ennill y frwydr yn erbyn Cedorlaomer a'r brenhinoedd eraill, aeth Abram adre. Aeth brenin Sodom i'w groesawu yn Nyffryn Shafe (sef Dyffryn y Brenin). A dyma Melchisedec, brenin Salem, yn mynd â bwyd a gwin iddo. Roedd Melchisedec yn offeiriad i'r Duw Goruchaf, a dyma fe'n bendithio Abram fel hyn: “Boed i'r Duw Goruchaf, sydd wedi creu y nefoedd a'r ddaear, dy fendithio Abram. A boed i'r Duw Goruchaf gael ei foli, am ei fod wedi gwneud i ti goncro dy elynion!” Yna dyma Abram yn rhoi iddo un rhan o ddeg o'r cwbl oedd ganddo. Wedyn dyma frenin Sodom yn dweud wrth Abram, “Rho'r bobl yn ôl i mi, ond cadw bopeth arall i ti dy hun.” Ond atebodd Abram, “Na, dw i wedi cymryd llw, ac addo i'r ARGLWYDD, y Duw Goruchaf sydd wedi creu y nefoedd a'r ddaear, na fydda i'n cymryd dim byd gen ti — y mymryn lleiaf hyd yn oed. Dw i ddim am i ti ddweud, ‘Fi sydd wedi gwneud Abram yn gyfoethog.’ Does gen i eisiau dim byd ond beth mae'r milwyr ifanc yma wedi ei fwyta. Ond mae'n iawn i Aner, Eshcol a Mamre, aeth i ymladd gyda mi, gael eu siâr nhw.” Rywbryd wedyn, dyma'r ARGLWYDD yn siarad gydag Abram mewn gweledigaeth, “Paid bod ag ofn Abram. Fi ydy dy darian di. Byddi'n derbyn gwobr fawr.” Ond meddai Abram, “O Feistr, ARGLWYDD, beth ydy'r pwynt os bydda i'n marw heb gael mab? Elieser o Ddamascus fydd yn cael popeth sydd gen i!” Ac aeth yn ei flaen i ddweud, “Dwyt ti ddim wedi rhoi plant i mi, felly bydd caethwas sydd wedi bod gyda mi ers iddo gael ei eni yn etifeddu'r cwbl!” Ond dyma'r ARGLWYDD yn ei ateb, “Na, dim hwn fydd yn cael dy eiddo di. Dy fab naturiol di dy hun fydd yn etifeddu dy eiddo di.” A dyma'r ARGLWYDD yn mynd ag Abram allan, a dweud wrtho, “Edrych i fyny i'r awyr. Cyfra faint o sêr sydd yna, os fedri di! Fel yna fydd dy ddisgynyddion di — yn gwbl amhosib i'w cyfri.” Credodd Abram yr ARGLWYDD, a chafodd ei dderbyn i berthynas iawn gydag e. Wedyn dwedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Fi ydy'r ARGLWYDD sydd wedi dod â ti yma o Ur yn Babilonia. Dw i'n mynd i roi'r wlad yma i ti.” Ond dyma Abram yn gofyn, “O Feistr, ARGLWYDD, sut alla i fod yn siŵr dy fod ti'n mynd i'w rhoi i mi?” Yna dwedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Tyrd â heffer, gafr a hwrdd yma — pob un ohonyn nhw'n dair blwydd oed — a hefyd turtur a cholomen ifanc.” Dyma Abram yn dod â'r tri anifail, yn eu hollti nhw ar eu hyd, a gosod y ddau ddarn gyferbyn â'i gilydd. Ond wnaeth e ddim hollti'r adar yn eu hanner. Pan oedd fwlturiaid yn dod i lawr ar y cyrff roedd Abram yn eu hel nhw i ffwrdd. Ond gyda'r nos, pan oedd hi'n machlud, dyma Abram yn syrthio i gysgu'n drwm. A daeth tywyllwch a dychryn ofnadwy drosto. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Dw i eisiau i ti ddeall y bydd dy ddisgynyddion yn cael eu hunain yn byw fel ffoaduriaid mewn gwlad ddieithr. Byddan nhw'n cael eu gwneud yn gaethweision, ac yn cael eu cam-drin am bedwar can mlynedd. Ond bydda i'n cosbi'r genedl fydd wedi eu gwneud nhw'n gaethweision, ac wedyn byddan nhw'n gadael y wlad honno gyda lot fawr o eiddo. (Ond byddi di dy hun yn cael bywyd hir, braf cyn i ti farw a chael dy gladdu.) Bydd dy ddisgynyddion yn dod yn ôl yma wedi pedair cenhedlaeth. Dydy'r holl ddrwg mae'r Amoriaid yn ei wneud ddim ar ei waethaf eto.” Pan oedd yr haul wedi machlud a hithau'n dywyll, dyma grochan tân oedd yn mygu a ffagl oedd yn llosgi yn pasio rhwng darnau'r anifeiliaid. Y diwrnod hwnnw dyma'r ARGLWYDD yn gwneud ymrwymiad gydag Abram: “Dw i'n mynd i roi'r wlad yma i dy ddisgynyddion di — y tir i gyd o Wadi'r Aifft i afon fawr Ewffrates. Tir y Ceneaid, Cenesiaid, Cadmoniaid, Hethiaid, Peresiaid, Reffaiaid, Amoriaid, Canaaneaid, Girgasiaid, a'r Jebwsiaid.” Doedd Sarai, gwraig Abram, ddim yn gallu cael plant. Ond roedd ganddi forwyn o'r enw Hagar, o wlad yr Aifft. A dyma Sarai yn dweud wrth Abram, “Dydy'r ARGLWYDD ddim wedi gadael i mi gael plant, felly dw i am i ti gysgu gyda fy morwyn i. Falle y caf i blant trwyddi hi.” A dyma Abram yn gwneud beth ddwedodd Sarai wrtho. Felly dyma Sarai, gwraig Abram, yn rhoi Hagar, ei morwyn Eifftaidd, yn wraig i Abram. Roedd hyn ddeg mlynedd ar ôl i Abram symud i fyw i Canaan. Ar ôl i Abram gysgu gyda Hagar roedd hi'n disgwyl babi. Pan sylweddolodd hi ei bod hi'n feichiog dechreuodd Hagar edrych i lawr ar ei meistres. A dyma Sarai'n dweud wrth Abram, “Arnat ti mae'r bai fy mod i'n cael fy ngham-drin fel yma! Gwnes i adael i ti gysgu gyda hi, ond pan welodd hi ei bod hi'n disgwyl babi dyma hi'n dechrau edrych i lawr arna i. Bydd yr ARGLWYDD yn dangos pwy sydd ar fai!” Ond atebodd Abram, “Dy forwyn di ydy hi. Gwna di beth wyt ti eisiau gyda hi.” Felly dyma Sarai yn dechrau ei cham-drin hi, a dyma Hagar yn rhedeg i ffwrdd. Daeth angel yr ARGLWYDD o hyd iddi wrth ymyl ffynnon yn yr anialwch, sef y ffynnon sydd ar y ffordd i Shwr. “Hagar, forwyn Sarai,” meddai wrthi, “o ble rwyt ti wedi dod? I ble ti'n mynd?” A dyma Hagar yn ateb, “Dw i wedi rhedeg i ffwrdd oddi wrth Sarai, fy meistres.” Yna dyma angel yr ARGLWYDD yn dweud wrthi, “Dos adre at dy feistres, a bydd yn ufudd iddi.” Wedyn dwedodd, “Fydd hi ddim yn bosib cyfri dy ddisgynyddion di, am fod cymaint ohonyn nhw.” Dyma'r angel yn dweud wrthi: “Ti'n feichiog, ac yn mynd i gael mab. Rwyt i roi'r enw Ishmael iddo, am fod yr ARGLWYDD wedi gweld beth wyt ti wedi ei ddiodde. Ond bydd dy fab yn ymddwyn fel asyn gwyllt. Bydd yn erbyn pawb, a bydd pawb yn ei erbyn e. Bydd hyd yn oed yn tynnu'n groes i'w deulu ei hun.” Dyma Hagar yn galw'r ARGLWYDD oedd wedi siarad â hi yn El-roi (sef “y Duw sy'n edrych arna i.”) “Ydw i wir wedi gweld y Duw sy'n edrych ar fy ôl i?” meddai. Dyna pam y cafodd y ffynnon ei galw yn Beër-lachai-roi (sef y ffynnon sydd rhwng Cadesh a Bered.) Cafodd Hagar ei babi — mab i Abram. A dyma Abram yn ei alw yn Ishmael. (Roedd Abram yn 86 oed pan gafodd Ishmael ei eni.) Pan oedd Abram yn 99 mlwydd oed, dyma'r ARGLWYDD yn ymddangos iddo, ac yn dweud, “Fi ydy'r Duw sy'n rheoli popeth. Dw i am i ti fyw mewn perthynas â mi, a gwneud beth dw i eisiau. Bydda i'n gwneud ymrwymiad rhyngon ni'n dau, ac yn rhoi llawer iawn o ddisgynyddion i ti.” Dyma Abram yn mynd ar ei wyneb ar lawr. Ac meddai Duw wrtho, “Dyma'r ymrwymiad dw i'n ei wneud i ti: byddi'n dad i lawer iawn o bobloedd gwahanol. A dw i am newid dy enw di o Abram i Abraham, am fy mod i wedi dy wneud di yn dad llawer o bobloedd gwahanol. Bydd gen ti filiynau o ddisgynyddion. Bydd cenhedloedd cyfan yn dod ohonot ti, a bydd rhai o dy ddisgynyddion di yn frenhinoedd. Bydda i'n cadarnhau fy ymrwymiad i ti, ac i dy ddisgynyddion ar dy ôl di. Bydd yr ymrwymiad yn para am byth, ar hyd y cenedlaethau. Dw i'n addo bod yn Dduw i ti ac i dy ddisgynyddion di. A dw i'n mynd i roi'r wlad lle rwyt ti'n crwydro, gwlad Canaan, i ti a dy ddisgynyddion am byth. Fi fydd eu Duw nhw.” Yna dyma Duw yn dweud wrth Abraham, “Rhaid i ti gadw gofynion yr ymrwymiad — ti, a dy ddisgynyddion ar dy ôl di, ar hyd y cenedlaethau. Dyma mae'n rhaid i ti a dy ddisgynyddion ei wneud: Rhaid i bob gwryw fynd trwy ddefod enwaediad. Byddwch yn torri'r blaengroen fel arwydd o'r ymrwymiad rhyngon ni. I lawr y cenedlaethau rhaid i bob bachgen gael ei enwaedu pan mae'n union wythnos oed. Mae hyn i gynnwys y bechgyn sy'n perthyn i'r teulu, a'ch caethweision a'u plant. Bydd rhaid i'r caethweision gafodd eu prynu gynnoch chi, a'i plant nhw fynd drwy ddefod enwaediad. Bydd arwydd yr ymrwymiad rhyngon ni i'w weld ar y corff am byth. Bydd unrhyw wryw sydd heb fynd drwy ddefod enwaediad yn cael ei dorri allan o'r gymuned, am ei fod heb gadw gofynion yr ymrwymiad.” Wedyn dyma Duw yn dweud wrth Abraham, “I droi at Sarai, dy wraig. Dwyt ti ddim i'w galw hi yn Sarai o hyn ymlaen, ond Sara. Dw i'n mynd i'w bendithio hi, a rhoi mab i ti ohoni hi. Dw i'n mynd i'w bendithio hi, a bydd hi yn fam i lawer o genhedloedd. Bydd brenhinoedd gwahanol bobloedd yn dod ohoni.” Aeth Abraham ar ei wyneb ar lawr eto, ond yna dechrau chwerthin iddo'i hun, a meddwl, “Sut all dyn sy'n gant oed gael plentyn? Ydy Sara, sy'n naw deg oed, yn gallu cael babi?” A dyma Abraham yn dweud wrth Dduw, “Pam wnei di ddim gadael i Ishmael dderbyn y bendithion yna?” “Na,” meddai Duw “mae dy wraig Sara yn mynd i gael mab i ti. Rwyt i'w alw yn Isaac. Bydda i'n cadarnhau iddo fe yr ymrwymiad dw i wedi ei wneud — ei fod yn ymrwymiad fydd yn para am byth, ac i'w ddisgynyddion ar ei ôl. Ond dw i wedi clywed beth rwyt ti'n ei ofyn am Ishmael hefyd. Bydda i'n ei fendithio fe, ac yn rhoi lot fawr o ddisgynyddion iddo. Bydd yn dad i un deg dau o benaethiaid llwythau, a bydda i'n ei wneud yn genedl fawr. Ond bydda i'n cadarnhau yr ymrwymiad dw i wedi ei wneud gydag Isaac. Bydd yn cael ei eni i Sara yr adeg yma'r flwyddyn nesa.” Ar ôl dweud hyn i gyd, dyma Duw yn gadael Abraham. Felly'r diwrnod hwnnw dyma Abraham yn enwaedu ei fab Ishmael, a'i weision i gyd (y rhai oedd gydag e ers iddyn nhw gael eu geni a'r rhai roedd wedi eu prynu) — pob un gwryw, yn union fel roedd Duw wedi dweud wrtho. Roedd Abraham yn 99 mlwydd oed pan gafodd ei enwaedu. Roedd Ishmael yn 13 pan gafodd e ei enwaedu. Dyma'r ddau ohonyn nhw yn cael eu henwaedu y diwrnod hwnnw. A cafodd pob un o'r dynion a'r bechgyn eraill oedd gydag e eu henwaedu hefyd (y gweision oedd gydag e ers iddyn nhw gael eu geni a'r rhai oedd wedi eu prynu). Dyma'r ARGLWYDD yn ymddangos i Abraham wrth goed derw Mamre. Roedd yr haul yn boeth ganol dydd, ac roedd yn eistedd wrth y fynedfa i'w babell. Gwelodd dri dyn yn sefyll gyferbyn ag e. Rhedodd draw atyn nhw ac ymgrymu yn isel o'u blaenau. “Fy meistr,” meddai, “Plîs peidiwch â mynd. Ga i'r fraint o'ch gwahodd chi i aros yma am ychydig? Cewch ddŵr i olchi eich traed, a chyfle i orffwys dan y goeden yma. Af i nôl ychydig o fwyd i'ch cadw chi i fynd. Cewch fynd ymlaen ar eich taith wedyn. Mae'n fraint i mi eich bod wedi dod heibio cartre'ch gwas.” A dyma nhw'n ateb, “Iawn, gwna di hynny.” Brysiodd Abraham i mewn i'r babell at Sara, a dweud, “Brysia, cymer sachaid o flawd mân i wneud bara” Wedyn dyma Abraham yn rhuthro allan at y gwartheg, ac yn dewis llo ifanc. Rhoddodd y llo i'w was i'w baratoi ar frys. Pan oedd y bwyd yn barod, cymerodd Abraham gaws colfran a llaeth a'r cig wedi ei rostio a'i osod o'u blaenau. A safodd wrth eu hymyl dan y goeden tra roedden nhw'n bwyta. “Ble mae dy wraig, Sara?” medden nhw wrth Abraham. “Fan yna, yn y babell,” atebodd yntau. A dyma un ohonyn nhw'n dweud, “Bydda i'n dod yn ôl yr adeg yma'r flwyddyn nesa, a bydd Sara yn cael mab.” Roedd Sara y tu ôl i ddrws y babell, yn gwrando ar hyn i gyd. (Roedd Abraham a Sara mewn oed, ac roedd Sara yn rhy hen i gael plant.) Pan glywodd hi beth ddywedwyd, roedd Sara'n chwerthin ynddi ei hun, ac yn meddwl, “Ydw i'n mynd i gael pleser felly? Dw i wedi hen ddarfod ac mae Abraham yn hen ddyn hefyd.” A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Abraham, “Pam wnaeth Sara chwerthin, a dweud ‘Ydw i'n mynd i gael plentyn a minnau mor hen?’ Dw i, yr ARGLWYDD, yn gallu gwneud unrhyw beth. Bydda i'n dod yn ôl fel y dwedais i, yr adeg yma'r flwyddyn nesa, a bydd Sara'n cael mab.” Roedd Sara wedi dychryn, a dyma hi'n ceisio gwadu'r peth, “Wnes i ddim chwerthin,” meddai hi. “Dydy hynny ddim yn wir,” meddai'r ARGLWYDD. “Roeddet ti yn chwerthin.” Pan gododd y dynion i fynd, roedden nhw'n edrych allan i gyfeiriad Sodom. Roedd Abraham wedi cerdded gyda nhw beth o'r ffordd. A dyma'r ARGLWYDD yn meddwl, “Ddylwn i guddio beth dw i'n mynd i'w wneud oddi wrth Abraham? Mae cenedl fawr gref yn mynd i ddod o Abraham, a bydd gwledydd y byd i gyd yn cael eu bendithio trwyddo. Na, dw i'n mynd i ddweud wrtho. Dw i eisiau iddo ddysgu ei blant a pawb sydd gydag e i fyw fel mae'r ARGLWYDD am iddyn nhw fyw, a gwneud beth sy'n iawn ac yn deg. Wedyn bydd yr ARGLWYDD yn dod â'r addewid wnaeth e i Abraham yn wir.” Felly dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Abraham, “Mae pobl yn cwyno yn ofnadwy yn erbyn Sodom a Gomorra, eu bod nhw'n gwneud pethau drwg iawn! Dw i am fynd i lawr i weld os ydy'r cwbl sy'n cael ei ddweud yn wir ai peidio. Bydda i'n gwybod wedyn.” Aeth y dynion yn eu blaenau i gyfeiriad Sodom, tra roedd Abraham yn sefyll o flaen yr ARGLWYDD. Yna dyma Abraham yn mynd yn nes ato a gofyn, “Fyddet ti ddim yn cael gwared â'r bobl dda gyda'r bobl ddrwg, fyddet ti? Beth petai pum deg o bobl yno sy'n byw yn iawn. Fyddet ti'n dinistrio'r lle yn llwyr a gwrthod ei arbed er mwyn y pum deg yna? Alla i ddim credu y byddet ti'n gwneud y fath beth — lladd pobl dduwiol hefo pobl ddrwg, a thrin y drwg a'r da yr un fath! Fyddet ti byth yn gwneud hynny! Onid ydy Barnwr y byd yn gwneud beth sy'n iawn?” A dyma'r ARGLWYDD yn ateb, “Os bydda i'n dod o hyd i bum deg o bobl dduwiol yn y ddinas, bydda i'n arbed y ddinas er eu mwyn nhw.” Felly dyma Abraham yn dweud, “Gan fy mod i wedi mentro agor fy ngheg, meistr, a dw i'n gwybod nad ydw i'n neb, Beth petai yna bump yn llai na hanner cant? Fyddet ti'n dinistrio'r ddinas am fod pump yn eisiau?” A dyma fe'n ateb, “Wna i ddim dinistrio'r ddinas os bydd pedwar deg pump yno.” A dyma Abraham yn dweud eto, “Beth am bedwar deg?” A dyma fe'n ateb, “Wna i ddim ei dinistrio os bydd pedwar deg yno.” Ac meddai Abraham, “Plîs paid digio hefo fi, meistr. Beth os oes tri deg yno?” A dyma fe'n ateb, “Wna i ddim ei wneud os bydd tri deg yno.” “Dw i'n mynd i fentro agor fy ngheg eto,” meddai Abraham, “Beth os oes dau ddeg yno?” A dyma fe'n ateb “Wna i ddim ei dinistrio os bydd dau ddeg yno.” A dyma Abraham yn dweud eto, “Meistr, plîs paid â digio os gwna i siarad un waith eto, am y tro ola. Beth os oes deg yno?” A dyma fe'n ateb, “Wna i ddim ei dinistrio os bydd deg yno.” Ar ôl iddo orffen siarad gydag Abraham dyma'r ARGLWYDD yn mynd i ffwrdd. Yna aeth Abraham adre. Dyma'r ddau angel yn cyrraedd Sodom pan oedd hi'n dechrau nosi. Roedd Lot yn eistedd wrth giât y ddinas. Pan welodd Lot nhw, cododd i'w cyfarch, ac ymgrymu â'i wyneb ar lawr o'u blaenau nhw. “Fy meistri,” meddai wrthyn nhw, “plîs dewch draw i'm tŷ i. Cewch aros dros nos a golchi eich traed. Wedyn bore fory cewch godi'n gynnar a mynd ymlaen ar eich taith.” Ond dyma nhw'n ei ateb, “Na. Dŷn ni am aros allan ar y sgwâr drwy'r nos.” Ond dyma Lot yn dal ati i bwyso arnyn nhw, ac yn y diwedd aethon nhw gydag e i'w dŷ. Gwnaeth wledd iddyn nhw, gyda bara ffres oedd wedi ei wneud heb furum, a dyma nhw'n bwyta. Cyn iddyn nhw setlo i lawr i gysgu, dyma ddynion Sodom i gyd yn cyrraedd yno ac amgylchynu'r tŷ — dynion hen ac ifanc o bob rhan o'r ddinas. A dyma nhw'n galw ar Lot, “Ble mae'r dynion sydd wedi dod atat ti heno? Tyrd â nhw allan yma i ni gael rhyw gyda nhw.” Ond dyma Lot yn mynd allan at y dynion, ac yn cau'r drws tu ôl iddo. “Dw i'n pledio arnoch chi, ffrindiau, plîs peidiwch gwneud peth mor ddrwg. Edrychwch, mae gen i ddwy ferch sydd erioed wedi cysgu hefo dyn. Beth am i mi ddod â nhw allan atoch chi. Cewch wneud beth dych chi eisiau iddyn nhw. Ond peidiwch gwneud dim i'r dynion yma — maen nhw'n westeion yn fy nghartre i.” Ond dyma'r dynion yn ei ateb, “Dos o'r ffordd! Un o'r tu allan wyt ti beth bynnag. Pwy wyt ti i'n barnu ni? Cei di hi'n waeth na nhw gynnon ni!” Dyma nhw'n gwthio yn erbyn Lot, nes bron torri'r drws i lawr. Ond dyma'r dynion yn y tŷ yn llwyddo i afael yn Lot a'i dynnu yn ôl i mewn a chau y drws. A dyma nhw'n gwneud i'r dynion oedd y tu allan gael eu taro'n ddall — pob un ohonyn nhw, o'r ifancaf i'r hynaf. Roedden nhw'n methu dod o hyd i'r drws. Gofynnodd y dynion i Lot, “Oes gen ti berthnasau eraill yma? — meibion neu ferched, meibion yng nghyfraith neu unrhyw un arall? Dos i'w nôl nhw a gadael y lle yma, achos dŷn ni'n mynd i ddinistrio'r ddinas. Mae pobl wedi bod yn cwyno'n ofnadwy am y lle, ac mae'r ARGLWYDD wedi ein hanfon ni i'w ddinistrio.” Felly dyma Lot yn mynd i siarad â'r dynion oedd i fod i briodi ei ferched. “Codwch!” meddai, “Rhaid i ni adael y lle yma. Mae'r ARGLWYDD yn mynd i ddinistrio'r ddinas.” Ond roedden nhw yn meddwl mai cael sbort oedd e. Ben bore wedyn gyda'r wawr dyma'r angylion yn dweud wrth Lot am frysio, “Tyrd yn dy flaen. Dos â dy wraig a'r ddwy ferch sydd gen ti, neu byddwch chithau'n cael eich lladd pan fydd y ddinas yn cael ei dinistrio!” Ond roedd yn llusgo'i draed, felly dyma'r dynion yn gafael yn Lot a'i wraig a'i ferched, a mynd â nhw allan o'r ddinas. Roedd yr ARGLWYDD mor drugarog ato. Ar ôl mynd â nhw allan dyma un o'r angylion yn dweud wrthyn nhw, “Rhedwch am eich bywydau. Peidiwch edrych yn ôl, a peidiwch stopio nes byddwch chi allan o'r dyffryn yma. Rhedwch i'r bryniau, neu byddwch chi'n cael eich lladd.” Ond dyma Lot yn ateb, “O na, plîs, syr. Rwyt ti wedi bod mor garedig, ac wedi achub fy mywyd i. Ond mae'r bryniau acw'n rhy bell. Alla i byth gyrraedd mewn pryd. Bydd y dinistr yn fy nal i a bydda i'n marw cyn cyrraedd. Edrych, mae'r dre fach acw'n ddigon agos. Gad i mi ddianc yno. Mae'n lle bach, a bydda i'n cael byw.” “Iawn,” meddai'r angel, “wna i ddim dinistrio'r dref yna. Brysia felly. Dianc yno. Alla i wneud dim byd nes byddi di wedi cyrraedd yno.” A dyna pam mae'r lle yn cael ei alw yn Soar. Erbyn i Lot gyrraedd Soar roedd hi wedi dyddio. A dyma'r ARGLWYDD yn gwneud i dân a brwmstan syrthio o'r awyr ar Sodom a Gomorra. Cafodd y ddwy dref eu dinistrio'n llwyr, a phawb a phopeth yn y dyffryn, hyd yn oed y planhigion. A dyma wraig Lot yn edrych yn ôl a syllu ar beth oedd yn digwydd, a cafodd ei throi yn golofn o halen. Yn gynnar y bore wedyn aeth Abraham i'r man lle buodd e'n sefyll o flaen yr ARGLWYDD. Edrychodd i lawr ar y dyffryn ac i gyfeiriad Sodom a Gomorra a gweld y mwg yn codi o'r tir fel mwg o ffwrnais. Ond pan ddinistriodd Duw drefi'r dyffryn, roedd wedi cofio beth oedd wedi ei addo i Abraham. Roedd wedi achub Lot o ganol y dinistr. Roedd gan Lot ofn aros yn Soar, felly aeth i'r bryniau i fyw. Roedd yn byw yno gyda'i ddwy ferch mewn ogof. Dwedodd y ferch hynaf wrth yr ifancaf, “Mae dad yn mynd yn hen, a does yna run dyn yn agos i'r lle yma i roi plant i ni. Tyrd, gad i ni wneud i dad feddwi ar win, a chysgu gydag e, er mwyn i ni gael plant o'n tad a chadw enw'r teulu i fynd.” Felly'r noson honno dyma nhw'n rhoi gwin i'w tad a gwneud iddo feddwi. A dyma'r hynaf yn mynd at ei thad a chael rhyw gydag e. Ond roedd yn rhy feddw i wybod dim am y peth. Y bore wedyn dyma'r hynaf yn dweud wrth yr ifancaf, “Gwnes i gysgu gyda dad neithiwr. Gad i ni roi gwin iddo eto heno, a chei di gysgu gydag e, er mwyn i ni gael plant o'n tad a chadw enw'r teulu i fynd.” Felly dyma nhw'n gwneud i'w tad feddwi y noson honno eto. A dyma'r ifancaf yn mynd at ei thad ac yn cael rhyw gydag e. Ond eto, roedd Lot yn rhy feddw i wybod dim am y peth. A dyna sut y cafodd y ddwy ferch blant o'u tad. Cafodd y ferch hynaf fab a'i alw yn Moab. Ohono fe y daeth y Moabiaid. Cafodd yr ifancaf fab hefyd, a'i alw yn Ben-ammi. Ac ohono fe y daeth yr Ammoniaid. Symudodd Abraham i'r de i gyfeiriad y Negef, a buodd yn byw rhwng Cadesh a Shwr. Pan oedd yn symud o gwmpas ardal Gerar dwedodd wrth bobl mai ei chwaer oedd Sara, ei wraig. A dyma Abimelech, brenin Gerar, yn anfon amdani i'w chymryd iddo ei hun. Ond dyma Duw yn siarad gydag Abimelech mewn breuddwyd un noson, a dweud wrtho, “Ti'n mynd i farw am gymryd y wraig yma, achos mae hi'n wraig briod.” Ar y pryd doedd Abimelech ddim wedi cysgu gyda hi, ac felly dwedodd, “Meistr, fyddet ti'n dinistrio pobl sy'n ddieuog? Roedd Abraham wedi dweud mai ei chwaer e oedd hi. Ac roedd hithau'n dweud mai ei brawd hi oedd Abraham. Ro'n i'n gweithredu'n gwbl ddiniwed.” A dyma Duw yn ei ateb, “Ie, dw i'n gwybod dy fod ti'n ddiniwed. Fi gadwodd di rhag pechu yn fy erbyn i. Wnes i ddim gadael i ti ei chyffwrdd hi. Felly, rho'r wraig yn ôl i'w gŵr. Mae e'n broffwyd. Bydd e'n gweddïo drosot ti, a chei di fyw. Ond os nad wyt ti'n fodlon mynd â hi yn ôl, rhaid i ti ddeall y byddi di a dy bobl yn marw.” Felly yn gynnar y bore wedyn dyma Abimelech yn galw ei swyddogion i gyd. Dwedodd wrthyn nhw beth oedd wedi digwydd, ac roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau. Wedyn dyma Abimelech yn galw am Abraham a dweud wrtho, “Pam rwyt ti wedi gwneud hyn i ni? Ydw i wedi gwneud rhywbeth o'i le i ti? Pam rwyt ti wedi achosi i mi a'm pobl bechu mor ofnadwy? Ddylai neb fy nhrin i fel yma.” A gofynnodd i Abraham, “Beth roeddet ti'n feddwl roeddet ti'n ei wneud?” A dyma Abraham yn ateb, “Doeddwn i ddim yn meddwl fod unrhyw un yn addoli Duw yma. Roeddwn i'n meddwl y byddech chi'n siŵr o'm lladd i er mwyn cael fy ngwraig. A beth bynnag, mae'n berffaith wir ei bod hi'n chwaer i mi. Mae gynnon ni'r un tad, ond dim yr un fam. Ond dyma fi'n ei phriodi hi. Pan wnaeth Duw i mi adael cartref fy nhad, dywedais wrthi, ‘Dw i am i ti addo gwneud rhywbeth i mi. Ble bynnag awn ni, dywed wrth bobl ein bod ni'n frawd a chwaer.’” Wedyn dyma Abimelech yn rhoi defaid ac ychen, caethweision a chaethferched i Abraham. A rhoddodd ei wraig Sara yn ôl iddo hefyd. Wedyn dwedodd wrtho, “Cei fyw ble bynnag rwyt ti eisiau yn fy ngwlad i.” A dwedodd wrth Sara, “Dw i'n rhoi mil o ddarnau arian i dy ‛frawd‛ di. Dw i'n ei roi yn iawndal am bopeth sydd wedi digwydd i ti. Bydd pawb yn gweld wedyn dy fod ti heb wneud dim byd o'i le.” Yna dyma Abraham yn gweddïo ar Dduw, a dyma Duw yn iacháu Abimelech, a'i wraig a'r merched eraill yn ei harîm, fel eu bod nhw'n gallu cael plant eto. (Roedd yr ARGLWYDD wedi stopio'r merched i gyd rhag cael plant, am fod Abimelech wedi cymryd Sara, gwraig Abraham.) Gwnaeth yr ARGLWYDD yn union fel yr oedd wedi ei addo i Sara. Dyma hi'n beichiogi, ac yn cael mab i Abraham pan oedd e'n hen ddyn, ar yr union adeg roedd Duw wedi'i ddweud. Galwodd Abraham y mab gafodd Sara yn Isaac. Pan oedd y babi yn wythnos oed dyma Abraham yn enwaedu ei fab Isaac, yn union fel roedd Duw wedi dweud wrtho. (Roedd Abraham yn gan mlwydd oed pan gafodd Isaac ei eni.) A dyma Sara'n dweud, “Mae Duw wedi gwneud i mi chwerthin yn llawen: a bydd pawb sy'n clywed am y peth yn chwerthin gyda mi.” Ac meddai, “Fyddai neb erioed wedi dweud wrth Abraham, ‘Bydd Sara yn magu plant’! Ond dyma fi, wedi rhoi mab iddo, ac yntau'n hen ddyn!” Roedd y plentyn bach yn tyfu. Pan stopiodd gael ei fwydo ar y fron dyma Abraham yn trefnu parti i ddathlu. Sylwodd Sara ar y mab gafodd Hagar yr Eifftes i Abraham yn gwneud hwyl am ben ei mab hi, Isaac A dyma hi'n dweud wrth Abraham, “Dw i eisiau i ti gael gwared â'r gaethferch yna a'i mab. Fydd mab y gaethferch yna ddim yn cael rhan o etifeddiaeth fy mab i Isaac!” Doedd Abraham ddim yn hapus o gwbl am y peth, achos roedd Ishmael hefyd yn fab iddo. Ond dyma Duw yn dweud wrth Abraham, “Paid teimlo'n ddrwg am y bachgen a'i fam. Gwna bopeth mae Sara'n ei ddweud wrthyt. Drwy Isaac y bydd dy linach yn cael ei chadw. Ond bydda i'n gwneud mab y gaethferch yn genedl hefyd, am mai dy blentyn di ydy e.” Felly dyma Abraham yn codi'n gynnar. Rhoddodd fwyd a photel groen o ddŵr i Hagar ei gario ar ei chefn. Yna anfonodd hi i ffwrdd gyda'i mab, ac aeth i grwydro o gwmpas anialwch Beersheba. Pan oedd dim dŵr ar ôl yn y botel, dyma hi'n gadael y bachgen dan gysgod un o'r llwyni. Wedyn aeth i eistedd ar ei phen ei hun reit bell oddi wrtho (tua ergyd bwa i ffwrdd). “Alla i ddim edrych ar y bachgen yn marw,” meddyliodd. Eisteddodd i lawr gyferbyn ag e, a dechrau crïo'n uchel. Ond clywodd Duw lais y bachgen. A dyma angel Duw yn galw ar Hagar o'r nefoedd, a gofyn iddi, “Beth sy'n bod, Hagar? Paid bod ag ofn. Mae Duw wedi clywed llais y bachgen. Tyrd, cod y bachgen ar ei draed a'i ddal yn dynn. Dw i'n mynd i wneud cenedl fawr ohono.” Yna dyma Duw yn gwneud iddi sylwi fod yna ffynnon yno. Dyma hi'n mynd i lenwi'r botel groen hefo dŵr, a rhoi peth i'r bachgen i'w yfed. Roedd Duw yn gofalu am y bachgen wrth iddo dyfu. Roedd yn byw yn yr anialwch a daeth yn fwasaethwr gwych. Roedd yn byw yn anialwch Paran. A dyma'i fam yn trefnu iddo briodi gwraig o wlad yr Aifft. Tua'r adeg honno dyma Abimelech, a dyn o'r enw Pichol, pennaeth ei fyddin, yn cyfarfod gydag Abraham. “Mae'n amlwg fod Duw gyda ti bob amser,” meddai Abimelech. “Dw i am i ti addo i mi o flaen Duw na fyddi di'n troi yn fy erbyn i na'm plant a'm pobl. Dw i wedi bod yn garedig atat ti, felly bydd di'n garedig ata i a phobl y wlad yma lle rwyt ti wedi setlo i fyw.” “Dw i'n addo,” meddai Abraham. Ond yna dyma Abraham yn gwneud cwyn am y ffynnon roedd gweision Abimelech wedi ei dwyn oddi arno. “Dw i ddim yn gwybod pwy sydd wedi gwneud hyn,” meddai Abimelech. “Beth bynnag, wnest ti ddim dweud wrtho i. Dyma'r cyntaf i mi glywed am y peth.” Yna dyma Abraham yn rhoi defaid ac ychen i Abimelech a dyma'r ddau yn gwneud cytundeb. Ond roedd Abraham wedi rhoi saith oen banw ar un ochr. A gofynnodd Abimelech iddo, “Beth ydy'r saith oen banw yma wyt ti wedi eu gosod ar wahân?” “Dw i eisiau i ti gymryd y saith oen banw yma gen i fel tystiolaeth mai fi sydd wedi cloddio'r ffynnon yma,” meddai Abraham. Dyna pam y galwodd y lle yn Beersheba, am fod y ddau ohonyn nhw wedi mynd ar eu llw yno. Ar ôl gwneud y cytundeb yn Beersheba, dyma Abimelech a Pichol, pennaeth ei fyddin, yn mynd yn ôl adre i wlad y Philistiaid. Plannodd Abraham goeden tamarisg yn Beersheba. Addolodd yr ARGLWYDD yno, sef y Duw sy'n byw am byth. Arhosodd Abraham yng ngwlad y Philistiaid am amser hir. Beth amser wedyn dyma Duw yn rhoi Abraham ar brawf. “Abraham!” meddai Duw. “Ie, dyma fi,” atebodd Abraham. Ac meddai Duw wrtho, “Cymer dy fab Isaac — yr unig fab sydd gen ti, yr un rwyt ti'n ei garu — a dos i ardal Moreia. Yno dw i am i ti ei ladd a llosgi ei gorff yn offrwm ar un o'r mynyddoedd. Bydda i'n dangos i ti pa un.” Felly dyma Abraham yn codi'n fore, torri coed ar gyfer llosgi'r offrwm, a'u rhoi ar gefn ei asyn. Aeth â dau o'i weision ifanc gydag e, a hefyd ei fab, Isaac. A dechreuodd ar y daith i ble roedd Duw wedi dweud wrtho. Ar ôl teithio am ddeuddydd roedd Abraham yn gweld pen y daith yn y pellter. Dwedodd wrth ei weision, “Arhoswch chi yma gyda'r asyn tra dw i a'r bachgen yn mynd draw acw. Dŷn ni'n mynd i addoli Duw, ac wedyn down ni'n ôl atoch chi.” Dyma Abraham yn rhoi'r coed ar gefn ei fab, Isaac. Wedyn cymerodd y tân a'r gyllell, ac aeth y ddau yn eu blaenau gyda'i gilydd. “Dad,” meddai Isaac wrth Abraham. “Ie, machgen i?” meddai Abraham. “Dad, mae gen ti dân a choed ar gyfer llosgi'r offrwm, ond ble mae'r oen sydd i gael ei aberthu?” “Bydd Duw ei hun yn gwneud yn siŵr fod oen gynnon ni i'w aberthu, machgen i,” meddai Abraham. Felly dyma'r ddau yn mynd yn eu blaenau gyda'i gilydd. Ar ôl cyrraedd y lle roedd Duw wedi sôn amdano, dyma Abraham yn adeiladu allor yno, ac yn gosod y coed ar yr allor. Wedyn dyma fe'n rhwymo ei fab Isaac ac yn ei roi i orwedd ar ben y coed ar yr allor. Gafaelodd Abraham yn y gyllell, ac roedd ar fin lladd ei fab. Ond dyma angel yr ARGLWYDD yn galw arno o'r nefoedd, “Abraham! Abraham!” “Ie? dyma fi” meddai Abraham. “Paid cyffwrdd y bachgen, na gwneud dim byd iddo. Dw i'n gwybod bellach dy fod ti'n parchu Duw. Roeddet ti hyd yn oed yn fodlon aberthu dy fab i mi — yr unig fab sydd gen ti.” Gwelodd Abraham hwrdd y tu ôl iddo. Roedd cyrn yr hwrdd wedi mynd yn sownd mewn drysni. Felly dyma Abraham yn cymryd yr hwrdd a'i losgi yn offrwm i Dduw yn lle ei fab. Galwodd Abraham y lle yn “Yr ARGLWYDD sy'n darparu”. Mae pobl yn dal i ddweud heddiw, “Mae'r ARGLWYDD yn darparu beth sydd ei angen ar ei fynydd.” Dyma angel yr ARGLWYDD yn galw ar Abraham eto. “Mae'r ARGLWYDD yn dweud, ‘Dw i'n addo hyn ar fy llw: Am dy fod ti wedi gwneud beth wnest ti (roeddet ti'n fodlon aberthu dy fab i mi — yr unig fab sydd gen ti), dw i'n mynd i dy fendithio di go iawn a rhoi cymaint o ddisgynyddion i ti ag sydd o sêr yn yr awyr. Byddan nhw fel y tywod ar lan y môr. A byddan nhw'n concro dinasoedd eu gelynion. Trwy dy ddisgynyddion di bydd cenhedloedd y byd i gyd yn cael eu bendithio, am dy fod ti wedi gwneud beth ddywedais i.’” Felly, aeth Abraham yn ôl at ei weision, a dyma nhw'n teithio gyda'i gilydd i Beersheba, lle gwnaeth Abraham setlo. Beth amser wedyn dwedodd rhywun wrth Abraham fod Milca, gwraig ei frawd Nachor, wedi cael plant hefyd. Us oedd y mab hynaf, wedyn ei frawd Bws, ac wedyn Cemwel tad Aram, ac wedyn Cesed, Chaso, Pildash, Idlaff a Bethwel. (Bethwel oedd tad Rebeca.) Roedd yr wyth yma yn blant i Milca, gwraig Nachor, brawd Abraham. Ond roedd gan Nachor bartner arall o'r enw Rŵma, a chafodd hi blant hefyd, sef Tefach, Gacham, Tachash a Maacha. [1-2] Bu farw Sara yn 127 oed, yn Ciriath-arba (sef Hebron), yn Canaan. A buodd Abraham yn galaru ac yn wylo drosti. *** Yna dyma Abraham yn codi a mynd i siarad gyda disgynyddion Heth, “Mewnfudwr ydw i, yn byw dros dro yn eich plith chi. Wnewch chi werthu darn o dir i mi i gladdu fy ngwraig?” A dyma ddisgynyddion Heth yn ateb, “Wrth gwrs syr. Rwyt ti fel tywysog pwysig yn ein golwg ni. Dewis y bedd gorau sydd gynnon ni i gladdu dy wraig ynddo. Byddai'n fraint gan unrhyw un ohonon ni i roi ei fedd i ti gladdu dy wraig.” Dyma Abraham yn codi ar ei draed ac yn ymgrymu o flaen y bobl leol, sef disgynyddion Heth. Yna dwedodd wrthyn nhw, “Os ydych chi'n hapus i mi gladdu fy ngwraig yma, wnewch chi berswadio Effron fab Sochar i werthu'r ogof yn Machpela i mi. Mae'r ogof ar ei dir e, reit ar y ffin. Gwna i dalu'r pris llawn iddo amdani yma o'ch blaen chi, er mwyn i mi gael lle i gladdu fy ngwraig.” Roedd Effron yn eistedd yno ar y pryd, ac meddai wrth Abraham o flaen pawb oedd yno wrth giât y ddinas, “Na, gwrandwch syr. Dw i'n fodlon gwerthu'r darn hwnnw o dir i gyd i chi, a'r ogof sydd arno. Dw i'n dweud hyn o flaen fy mhobl yma. Dw i'n hapus i chi ei gymryd i gladdu eich gwraig.” A dyma Abraham yn ymgrymu eto o flaen y bobl leol. “Iawn,” meddai wrth Effron o flaen pawb, “dw i'n cytuno. Dw i'n fodlon talu am y darn tir hefyd. Cei faint bynnag rwyt ti eisiau amdano, er mwyn i mi gael lle i gladdu fy ngwraig.” Dyma Effron yn ateb, “Syr. Beth am 400 sicl o arian? Dydy hynny'n ddim byd i ddynion fel ti a fi. Wedyn cei gladdu dy wraig.” Felly dyma Abraham yn cytuno i'w dalu. A dyma Abraham yn pwyso'r swm o arian oedd wedi ei gytuno o flaen tystion, a'i roi i Effron, sef 400 darn o arian yn ôl mesur safonol y cyfnod. Felly prynodd Abraham y tir gan Effron. Roedd yn Machpela, i'r dwyrain o Mamre. Cafodd yr ogof oedd arno a'r coed oedd o fewn ei ffiniau. Roedd disgynyddion Heth a phawb arall oedd wrth giât y ddinas, yn dystion i'r cytundeb. Ar ôl prynu'r tir dyma Abraham yn claddu Sara ei wraig yn yr ogof oedd yno, yn Machpela ger Mamre (sef Hebron) yng ngwlad Canaan. Cafodd y tir a'r ogof oedd arno eu gwerthu i Abraham gan ddisgynyddion Heth, iddo gladdu ei deulu yno. Roedd Abraham yn ddyn hen iawn. Roedd yr ARGLWYDD wedi ei fendithio ym mhob ffordd. Un diwrnod dyma Abraham yn dweud wrth ei brif was (sef yr un oedd yn gyfrifol am bopeth oedd ganddo), “Dw i am i ti fynd ar dy lw, ac addo i mi o flaen yr ARGLWYDD, Duw'r nefoedd a'r ddaear, na fyddi di'n cymryd un o ferched Canaan i fod yn wraig i'm mab i. Dw i eisiau i ti fynd i'm gwlad i, at fy mherthnasau i, i chwilio am wraig i Isaac.” Ond dyma'r gwas yn dweud, “Beth os bydd y ferch yn gwrthod dod yn ôl yma gyda mi? Ddylwn i wedyn fynd â dy fab di yn ôl i'r wlad honno?” “Na,” meddai Abraham, “gwna di'n siŵr na fyddi byth yn mynd a'm mab i yn ôl yno. Yr ARGLWYDD, Duw y nefoedd, ydy'r un wnaeth i mi adael cartref fy nhad a'm teulu. Mae wedi dweud wrtho i, ac wedi addo i mi, ‘Dw i'n mynd i roi'r wlad yma i dy ddisgynyddion di.’ Bydd e'n anfon ei angel i ofalu amdanat ti, er mwyn i ti ffeindio gwraig i'm mab i yno. Os bydd y ferch yn gwrthod dod gyda ti, fydda i ddim yn dy ddal di'n gyfrifol i gadw dy lw. Ond paid byth â mynd â'm mab i yn ôl yno.” Felly dyma'r gwas yn mynd ar ei lw ac yn addo gwneud yn union fel roedd ei feistr wedi dweud wrtho. Cymerodd y gwas ddeg o gamelod ei feistr wedi eu llwytho â phob math o anrhegion, ac aeth i ffwrdd i dref Nachor yng Ngogledd Mesopotamia Gwnaeth i'r camelod orwedd wrth y pydew dŵr oedd tu allan i'r dre. (Roedd hi'n hwyr yn y p'nawn, sef yr amser y byddai'r merched yn mynd allan i godi dŵr.) Dyma'r gwas yn gweddïo, “O ARGLWYDD, Duw fy meistr Abraham, arwain fi heddiw. Cadw dy addewid i'm meistr i. Dw i'n sefyll wrth ymyl y ffynnon yma, ac mae merched y dre yn dod allan i godi dŵr. Dw i am ofyn i un o'r merched ifanc, ‘Wnei di godi dŵr i mi gael yfed?’ Gad i'r un rwyt ti wedi ei dewis i fod yn wraig i dy was Isaac ddweud, ‘Gwnaf wrth gwrs! Gad i mi roi dŵr i dy gamelod di hefyd.’ Bydda i'n gwybod wedyn dy fod ti wedi cadw dy addewid i'm meistr.” Cyn iddo orffen gweddïo roedd Rebeca wedi cyrraedd yno yn cario jwg dŵr ar ei hysgwydd. Roedd Rebeca'n ferch i Bethwel (oedd yn fab i Milca, gwraig Nachor, brawd Abraham). Roedd hi'n ferch arbennig o hardd, yn ei harddegau, a doedd hi erioed wedi cael rhyw. Aeth i lawr at y pydew, llenwi ei jwg, a dod yn ôl i fyny. Yna dyma'r gwas yn brysio draw ati a gofyn iddi, “Ga i ychydig o ddŵr i'w yfed gen ti?” “Wrth gwrs, syr,” meddai. A dyma hi'n tynnu'r jwg i lawr oddi ar ei hysgwydd ac yn rhoi diod iddo. Ar ôl gwneud hynny, dyma hi'n dweud, “Gad i mi godi dŵr i dy gamelod di hefyd, nes byddan nhw wedi cael digon i'w yfed.” Felly dyma hi'n gwagio'r dŵr oedd ganddi yn ei jwg i'r cafn anifeiliaid, a mynd yn ôl at y pydew i godi mwy o ddŵr. A gwnaeth hynny nes oedd hi wedi codi digon o ddŵr i'r camelod i gyd. Ddwedodd y gwas ddim byd. Roedd yn sefyll yno yn syllu arni, i weld os oedd yr ARGLWYDD wedi ei wneud yn llwyddiannus ai peidio. Pan oedd y camelod wedi gorffen yfed, dyma'r gwas yn rhoi modrwy drwyn werthfawr i'r ferch ifanc, a dwy freichled aur gostus hefyd. Gofynnodd iddi, “Merch pwy wyt ti? Fyddai gan dy dad le i ni aros dros nos?” Atebodd hithau, “Dw i'n ferch i Bethwel, mab Milca a Nachor. Mae gynnon ni ddigon o wellt a bwyd i'r camelod, a lle i chithau aros dros nos.” Dyma'r gwas yn plygu i lawr ac yn addoli'r ARGLWYDD. “Bendith ar yr ARGLWYDD, Duw Abraham, fy meistr! Mae wedi bod yn gwbl ffyddlon i'w addewid. Mae'r ARGLWYDD wedi fy arwain i gartref teulu fy meistr!” Rhedodd y ferch ifanc adre at ei mam, a dweud wrthi hi a phawb arall oedd yno am beth oedd wedi digwydd. Roedd gan Rebeca frawd o'r enw Laban, a dyma Laban yn brysio allan i gyfarfod y dyn wrth y pydew. Ar ôl gweld y fodrwy drwyn a'r breichledau roedd ei chwaer Rebeca'n eu gwisgo, a chlywed beth roedd y dyn wedi ei ddweud wrthi, aeth allan ato ar unwaith. A dyna ble roedd e, yn sefyll gyda'r camelod wrth y pydew. Aeth ato a dweud, “Tyrd, ti sydd wedi dy fendithio gan yr ARGLWYDD. Pam ti'n sefyll allan yma? Mae gen i le yn barod i ti yn y tŷ, ac mae lle i'r camelod hefyd.” Felly dyma gwas Abraham yn mynd i'r tŷ. Cafodd y camelod eu dadlwytho, a dyma wellt a bwyd yn cael ei roi iddyn nhw. Cafodd y gwas a'r dynion oedd gydag e ddŵr i olchi eu traed. Wedyn dyma fwyd yn cael ei baratoi iddyn nhw. Ond meddai'r gwas, “Dw i ddim am fwyta nes i mi ddweud pam dw i wedi dod yma.” “Iawn,” meddai Laban, “dywed wrthon ni.” “Gwas Abraham ydw i,” meddai. “Mae'r ARGLWYDD wedi bendithio fy meistr yn fawr. Mae'n ddyn cyfoethog iawn. Mae'r ARGLWYDD wedi rhoi defaid a gwartheg iddo, arian ac aur, gweision a morynion, camelod ac asynnod. Cafodd Sara, gwraig fy meistr, fab iddo pan oedd hi'n hen iawn. Mae fy meistr wedi rhoi popeth sydd ganddo i'w fab. Gwnaeth fy meistr i mi fynd ar fy llw, a dwedodd wrtho i, ‘Dwyt ti ddim i gymryd un o ferched y Canaaneaid, o'r wlad ble dw i'n byw, i fod yn wraig i'm mab i. Dw i am i ti fynd yn ôl i gartre fy nhad, at fy mherthnasau, i chwilio am wraig i'm mab i.’ Dywedais wrth fy meistr ‘Beth os bydd y ferch yn gwrthod dod gyda mi?’ Ond ei ateb oedd, ‘Bydd yr ARGLWYDD dw i'n ei wasanaethu yn anfon ei angel gyda ti, ac yn gwneud yn siŵr dy fod yn cael taith lwyddiannus. Dw i eisiau i ti ffeindio gwraig i'm mab o blith fy mherthnasau, o gartre fy nhad. Os ei di at fy mherthnasau a hwythau'n gwrthod ei rhoi hi i ti, fydda i ddim yn dy ddal di yn gyfrifol. Byddi di'n rhydd o bob cyfrifoldeb.’ “Pan gyrhaeddais i'r pydew heddiw, dyma fi'n gweddïo. ‘O ARGLWYDD, Duw fy meistr Abraham, os wyt ti wir eisiau i mi fod yn llwyddiannus ar y daith yma, gad i hyn ddigwydd: Dw i'n sefyll wrth ymyl y ffynnon yma. Dw i am ofyn i un o'r merched ifanc sy'n dod i godi dŵr, “Ga i ychydig ddŵr i'w yfed gen ti?” Os bydd hi'n ateb, “Cei, wrth gwrs. Gad i mi godi dŵr i dy gamelod di hefyd,” — hi fydd y ferch mae'r ARGLWYDD wedi ei dewis i fod yn wraig i fab fy meistr.’ Roeddwn i'n dal i weddïo'n dawel pan gyrhaeddodd Rebeca â jwg dŵr ar ei hysgwydd. Aeth i lawr at y pydew i godi dŵr. A dyma fi'n gofyn iddi, ‘Plîs ga i ddiod o ddŵr gen ti.’ Dyma hi'n tynnu'r jwg i lawr oddi ar ei hysgwydd, a dweud, ‘Cei, wrth gwrs. Gad i mi roi dŵr i dy gamelod di hefyd.’ Felly dyma fi'n yfed, a dyma hi'n rhoi dŵr i'r camelod hefyd. Wedyn dyma fi'n gofyn iddi, ‘Merch pwy wyt ti?’ A dyma hi'n ateb, ‘Dw i'n ferch i Bethwel, mab Nachor a'i wraig Milca.’ Felly dyma fi'n rhoi'r fodrwy drwyn a'r breichledau iddi. Wedyn dyma fi'n plygu i addoli'r ARGLWYDD. Roeddwn i'n moli'r ARGLWYDD, Duw fy meistr Abraham, am ei fod wedi fy arwain i at wyres ei frawd. Dyna ddigwyddodd, felly beth amdani? Ydych chi'n mynd i fod yn garedig at fy meistr neu ddim? Dwedwch wrtho i, er mwyn i mi wybod beth i'w wneud nesa.” Dyma Laban a Bethwel yn dweud, “Mae'r ARGLWYDD tu ôl i hyn i gyd. Does dim byd allwn ni ei ddweud. Dyma Rebeca; dos â hi gyda ti. Mae'r ARGLWYDD wedi dangos ddigon clir mai hi sydd i fod yn wraig i fab dy feistr.” Pan glywodd gwas Abraham hyn, ymgrymodd yn isel o flaen yr ARGLWYDD. Wedyn dyma fe'n estyn tlysau arian ac aur, a dillad, a'u rhoi i Rebeca. Rhoddodd anrhegion drud i'w brawd a'i mam hefyd. Ar ôl gwneud hynny dyma'r gwas a'r dynion oedd gydag e yn bwyta'r pryd bwyd, ac yn yfed, ac yn aros yno dros nos. Ar ôl iddyn nhw godi y bore wedyn, dyma'r gwas yn dweud, “Gadewch i mi fynd yn ôl at fy meistr nawr.” Ond dyma frawd a mam Rebeca'n ei ateb, “Gad i'r ferch aros gyda ni am ryw wythnos i ddeg diwrnod. Caiff fynd wedyn.” Ond meddai'r gwas wrthyn nhw, “Peidiwch fy nal i nôl. Mae'r ARGLWYDD wedi rhoi taith lwyddiannus i mi. Gadewch i mi fynd yn ôl at fy meistr.” “Beth am ei galw hi a gofyn beth mae hi'n feddwl?” medden nhw. A dyma nhw'n galw Rebeca a gofyn iddi, “Wyt ti'n barod i fynd gyda'r dyn yma?” A dyma hi'n ateb, “Ydw.” Felly dyma nhw'n ei hanfon hi i ffwrdd gyda'r forwyn oedd wedi ei magu hi, a gwas Abraham a'r dynion oedd gydag e. Dyma nhw'n bendithio Rebeca a dweud wrthi, “Boed i ti, ein chwaer, fod yn fam i filiynau! Boed i dy ddisgynyddion di orchfygu eu gelynion i gyd.” Felly i ffwrdd â Rebeca a'i morynion ar gefn y camelod gyda gwas Abraham. Roedd Isaac wedi bod yn Beër-lachai-roi. Roedd yn byw yn ardal y Negef yn y de. Aeth allan am dro gyda'r nos, a gwelodd gamelod yn dod i'w gyfeiriad. Gwelodd Rebeca Isaac hefyd. Daeth i lawr o'i chamel a gofyn i was Abraham, “Pwy ydy'r dyn acw sy'n dod i'n cyfeiriad ni?” Ac meddai'r gwas, “Fy meistr i ydy e.” Felly dyma Rebeca yn rhoi fêl dros ei hwyneb. Dwedodd y gwas wrth Isaac am bopeth oedd wedi digwydd. Ac aeth Isaac â Rebeca i mewn i babell ei fam Sara, a'i chymryd hi'n wraig iddo'i hun. Roedd e'n ei charu hi'n fawr, ac roedd yn hapus eto ar ôl colli ei fam. Roedd Abraham wedi cymryd gwraig arall o'r enw Cetwra. Hi oedd mam Simran, Iocsan, Medan, Midian, Ishbac a Shwach. Iocsan oedd tad Sheba a Dedan. A disgynyddion Dedan oedd yr Ashwriaid, y Letwshiaid a'r Lewmiaid. Wedyn meibion Midian oedd Effa, Effer, Hanoch, Abida ac Eldaa. Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Cetwra. Gadawodd Abraham bopeth oedd ganddo i'w fab Isaac. Roedd wedi anfon meibion ei bartneriaid eraill i ffwrdd i'r dwyrain, yn bell oddi wrth ei fab Isaac, ac wedi rhoi anrhegion iddyn nhw bryd hynny. Buodd Abraham fyw i fod yn 175 oed. Roedd yn hen ddyn pan fuodd farw, wedi byw bywyd llawn. [9-10] Cafodd ei gladdu gan ei feibion Isaac ac Ishmael yn ogof Machpela (ar y darn tir oedd i'r dwyrain o Mamre — sef y tir roedd Abraham wedi ei brynu gan Effron, un o ddisgynyddion Heth). Cafodd Abraham ei gladdu yno gyda'i wraig Sara. *** Ar ôl i Abraham farw dyma Duw yn bendithio Isaac. Aeth i fyw wrth ymyl Beër-lachai-roi. Dyma hanes teulu Ishmael, y mab gafodd Abraham gan Hagar, morwyn Eifftaidd Sara: Dyma enwau meibion Ishmael, mewn trefn (o'r hynaf i'r ifancaf): Nebaioth oedd ei fab hynaf, wedyn Cedar, Adbeël, Mifsam, Mishma, Dwma, Massa, Hadad, Tema, Ietwr, Naffish a Cedema. Y rhain oedd meibion Ishmael, a chafodd y pentrefi ble roedden nhw'n byw eu henwi ar eu holau. Roedd y deuddeg ohonyn nhw yn benaethiaid ar eu llwythau. Roedd Ishmael yn 137 oed pan fuodd farw a mynd at ei hynafiaid. Roedd ei ddisgynyddion yn byw yn yr ardal rhwng Hafila a Shwr, sy'n ffinio â'r Aifft i gyfeiriad Ashŵr. Roedd Ishmael yn tynnu'n groes i'w deulu ei hun. Dyma hanes teulu Isaac, mab Abraham: Abraham oedd tad Isaac. Roedd Isaac yn 40 oed pan briododd Rebeca (sef merch Bethwel yr Aramead o Padan-aram, a chwaer Laban yr Aramead.) Roedd Rebeca'n methu cael plant, felly dyma Isaac yn gweddïo ar yr ARGLWYDD drosti, a dyma hi'n beichiogi. Roedd hi'n disgwyl gefeilliaid, ac roedden nhw'n gwthio ac yn taro ei gilydd yn ei chroth. “Pam mae hyn yn digwydd i mi?” gofynnodd. A dyma hi'n mynd i ofyn i'r ARGLWYDD. A dyma ddwedodd yr ARGLWYDD wrthi: “Bydd dwy wlad yn dod o'r bechgyn yn dy groth. Dau grŵp o bobl fydd yn erbyn ei gilydd. Bydd un yn gryfach na'r llall, a bydd y mab hynaf yn was i'r ifancaf.” Dyma'r amser yn dod i'r gefeilliaid gael eu geni. Daeth y cyntaf allan o'r groth yn gochlyd i gyd ac yn flewog fel dilledyn, felly dyma nhw'n ei alw yn Esau. Wedyn daeth y llall yn cydio'n dynn yn sawdl Esau, felly dyma nhw'n ei alw'n Jacob. Roedd Isaac yn 60 oed pan gawson nhw eu geni. Pan oedd y bechgyn wedi tyfu roedd Esau yn heliwr gwych, wrth ei fodd yn mynd allan i'r wlad. Ond roedd Jacob yn fachgen tawel, yn hoffi aros gartre. Esau oedd ffefryn Isaac, am ei fod yn mwynhau bwyta'r anifeiliaid roedd wedi eu dal. Ond Jacob oedd ffefryn Rebeca. Un tro pan oedd Jacob yn coginio cawl, dyma Esau yn dod i mewn wedi blino'n lân ar ôl bod allan yn hela. “Dw i bron marw eisiau bwyd,” meddai. “Ga i beth o'r cawl coch yna i'w fwyta gen ti?” (Dyna sut y daeth i gael ei alw yn Edom. ) “Cei os gwnei di werthu dy hawliau fel y mab hynaf i mi,” meddai Jacob. Atebodd Esau, “Fydd hawliau'r mab hynaf yn werth dim byd i mi os gwna i farw!” “Rhaid i ti addo i mi ar lw,” meddai Jacob. Felly dyma Esau yn addo ar lw, ac yn gwerthu hawliau'r mab hynaf i Jacob. Felly rhoddodd Jacob fara a chawl ffacbys i Esau. Ar ôl iddo fwyta ac yfed dyma Esau yn codi ar ei draed a cherdded allan. Roedd yn dangos ei fod yn malio dim am ei hawliau fel y mab hynaf. Roedd newyn yn y wlad (newyn gwahanol i'r newyn ddigwyddodd pan oedd Abraham yn fyw.) A dyma Isaac yn mynd at Abimelech, brenin y Philistiaid, yn Gerar. Dyma'r ARGLWYDD yn ymddangos i Isaac a dweud wrtho, “Paid mynd i lawr i'r Aifft. Dos i'r wlad fydda i'n ei dangos i ti. Aros yn y wlad honno. Bydda i gyda ti ac yn dy fendithio di. Dw i'n mynd i roi'r tiroedd yma i gyd i ti a dy ddisgynyddion. Dw i'n mynd i wneud beth wnes i ei addo i dy dad Abraham. Bydd gen ti gymaint o ddisgynyddion ag sydd o sêr yn yr awyr. Dw i'n mynd i roi'r tiroedd yma i gyd i dy ddisgynyddion di. Trwy dy ddisgynyddion di bydd cenhedloedd y byd i gyd yn cael eu bendithio. Bydd hyn i gyd yn digwydd am fod Abraham wedi gwneud beth ddywedais i. Roedd yn dilyn y cyfarwyddiadau, ac yn cadw'r gorchmynion, yr arweiniad a'r ddysgeidiaeth rois i iddo.” Felly dyma Isaac yn mynd i fyw i Gerar. Roedd y dynion yno yn dangos diddordeb yn ei wraig. Felly dwedodd Isaac, “Fy chwaer i ydy hi.” (Roedd arno ofn dweud mai ei wraig oedd hi, rhag i'r dynion ei ladd er mwyn cael Rebeca. Roedd hi'n wraig hardd iawn.) Pan oedd Isaac wedi bod yn byw yno am amser hir, digwyddodd Abimelech, brenin y Philistiaid, edrych allan o'r ffenest a gweld Isaac yn anwesu ei wraig Rebeca. Dyma Abimelech yn gofyn i Isaac fynd i'w weld, a dwedodd wrtho, “Felly, dy wraig di ydy hi go iawn! Pam wnest ti ddweud, ‘Fy chwaer i ydy hi’?” Atebodd Isaac, “Roedd gen i ofn i rywun fy lladd i er mwyn ei chael hi.” “Beth yn y byd ti'n meddwl rwyt ti'n wneud?” meddai Abimelech. “Beth petai un o'r dynion wedi cysgu hefo hi? Byddet ti wedi'n gwneud ni i gyd yn euog.” Felly dyma Abimelech yn rhoi gorchymyn i'w bobl, “Os bydd unrhyw un yn cyffwrdd â'r dyn yma neu ei wraig, y gosb fydd marwolaeth.” Dyma Isaac yn hau had ar y tir y flwyddyn honno a chafodd gnwd oedd gan gwaith cymaint yn ôl. Roedd yr ARGLWYDD yn ei fendithio. Roedd yn ddyn llwyddiannus iawn, a daeth yn gyfoethog dros ben. Roedd ganddo gymaint o ddefaid a gwartheg, a gweision, nes bod y Philistiaid yn genfigennus ohono. Felly dyma'r Philistiaid yn llenwi'r pydewau dŵr i gyd gyda pridd. (Roedd y pydewau hynny wedi cael eu cloddio gan weision Abraham pan oedd Abraham yn dal yn fyw.) A dyma Abimelech yn dweud wrth Isaac, “Ti'n llawer cryfach na ni bellach, felly rhaid i ti adael ein gwlad ni.” Felly dyma Isaac yn mynd ac yn gwersylla wrth Wadi Gerar. Roedd Isaac wedi ailagor y pydewau dŵr gafodd eu cloddio pan oedd Abraham yn fyw (Y rhai roedd y Philistiaid wedi eu llenwi ar ôl i Abraham farw.) Ac roedd Isaac wedi eu galw nhw wrth yr enwau roddodd ei dad iddyn nhw'n wreiddiol. Ond pan aeth gweision Isaac ati i gloddio pydewau wrth y wadi, dyma nhw'n darganfod ffynnon lle roedd dŵr glân yn llifo drwy'r adeg. Yna dechreuodd bugeiliaid Gerar ddadlau gyda gweision Isaac. “Ni piau'r dŵr,” medden nhw. Felly galwodd Isaac y ffynnon yn Esec, am eu bod nhw wedi ffraeo gydag e. Wedyn dyma nhw'n cloddio pydew arall, ac roedd dadlau am hwnnw hefyd. Felly galwodd Isaac hwnnw yn Sitna Symudodd yn ei flaen a chloddio pydew arall, ond wnaethon nhw ddim dadlau am hwnnw. Felly galwodd y pydew hwnnw yn Rehoboth. “Mae'r ARGLWYDD wedi rhoi digon o le i ni, a byddwn yn llwyddo yn y wlad,” meddai. Aeth Isaac yn ei flaen o'r fan honno i Beersheba. Y noson honno dyma'r ARGLWYDD yn ymddangos iddo. Dwedodd wrtho, “Fi ydy Duw Abraham dy dad. Paid bod ag ofn, achos dw i gyda ti. Bydda i'n dy fendithio di ac yn rhoi lot fawr o ddisgynyddion i ti o achos Abraham fy ngwas.” Felly dyma fe'n codi allor yno ac addoli'r ARGLWYDD. Gwersyllodd yno am gyfnod, a dyma gweision Isaac yn cloddio pydew yno hefyd. Dyma Abimelech yn dod ato o Gerar, gydag Achwsath ei gynghorwr a Pichol pennaeth ei fyddin. Gofynnodd Isaac iddyn nhw, “Pam ydych chi wedi dod yma? Dych chi'n fy nghasáu i, ac wedi fy anfon i ffwrdd oddi wrthych.” Dyma nhw'n ateb, “Mae'n hollol amlwg i ni fod yr ARGLWYDD gyda ti. Felly dŷn ni eisiau gwneud cytundeb hefo ti. Wnei di addo peidio ymosod arnon ni? Wnaethon ni ddim drwg i ti, dim ond da, a chefaist dy anfon i ffwrdd mewn heddwch. Mae'r ARGLWYDD wedi dy fendithio di.” Felly dyma Isaac yn paratoi gwledd iddyn nhw, a dyma nhw'n bwyta ac yn yfed gyda'i gilydd. Y bore wedyn dyma nhw'n codi'n gynnar ac yn gwneud cytundeb gyda'i gilydd. Wedyn dyma Isaac yn ffarwelio â nhw ar delerau da. Y diwrnod hwnnw hefyd daeth gweision Isaac ato i ddweud wrtho eu bod wedi dod o hyd i ddŵr yn y pydew y buon nhw'n ei gloddio. Galwodd Isaac y pydew yn Sheba. Felly Beersheba ydy enw'r lle hyd heddiw. Pan oedd Esau yn 40 mlwydd oed, priododd Judith (merch Beëri'r Hethiad), a Basemath (merch Elon yr Hethiad). Roedd y ddwy yn gwneud bywyd yn ddiflas iawn i Isaac a Rebeca. Roedd Isaac yn hen ddyn ac yn dechrau mynd yn ddall. Dyma fe'n galw Esau, ei fab hynaf ato, a dweud, “Gwranda, dw i wedi mynd yn hen, a gallwn i farw unrhyw bryd. Cymer dy fwa, a chawell o saethau, a dos allan i hela i mi. Wedyn dw i am i ti baratoi y math o fwyd blasus dw i'n ei hoffi, i mi gael bwyta. Dw i wir eisiau dy fendithio di cyn i mi farw.” Tra roedd Isaac yn dweud hyn wrth Esau, roedd Rebeca wedi bod yn gwrando. Felly pan aeth Esau allan i hela dyma Rebeca'n mynd at Jacob a dweud wrtho, “Dw i newydd glywed dy dad yn dweud wrth Esau dy frawd, ‘Dos allan i hela a gwneud bwyd blasus i mi ei fwyta. Wedyn gwna i dy fendithio di o flaen yr ARGLWYDD cyn i mi farw.’ Felly gwna yn union fel dw i'n dweud. Dewis ddau fyn gafr da i mi o'r praidd. Gwna i eu coginio a gwneud pryd blasus i dy dad — y math o fwyd mae'n ei hoffi. Cei di fynd â'r bwyd i dy dad iddo ei fwyta. Wedyn bydd e'n dy fendithio di cyn iddo farw.” “Ond mae Esau yn flewog i gyd,” meddai Jacob wrth ei fam. “Croen meddal sydd gen i. Os gwnaiff dad gyffwrdd fi bydd yn gweld fy mod i'n ceisio ei dwyllo. Bydda i'n dod â melltith arna i fy hun yn lle bendith.” Ond dyma'i fam yn dweud, “Gad i'r felltith ddod arna i. Gwna di beth dw i'n ddweud. Dos di i nôl y geifr.” Felly aeth Jacob i nôl y geifr, a dod â nhw i'w fam. A dyma'i fam yn eu coginio nhw, a gwneud y math o fwyd blasus roedd Isaac yn ei hoffi. Roedd dillad gorau Esau, ei mab hynaf, yn y tŷ gan Rebeca. Dyma hi'n eu cymryd nhw a gwneud i Jacob, ei mab ifancaf, eu gwisgo nhw. Wedyn dyma hi'n cymryd crwyn y myn geifr a'u rhoi nhw ar ddwylo a gwddf Jacob. Yna dyma hi'n rhoi'r bwyd blasus, gyda bara oedd hi wedi ei bobi, i'w mab Jacob. Aeth Jacob i mewn at ei dad. “Dad,” meddai. “Ie, dyma fi,” meddai Isaac. “Pa un wyt ti?” “Esau, dy fab hynaf,” meddai Jacob. “Dw i wedi gwneud beth ofynnaist ti i mi. Tyrd, eistedd i ti gael bwyta o'r helfa. Wedyn cei di fy mendithio i.” Ond meddai Isaac, “Sut yn y byd wnest ti ei ddal mor sydyn?” A dyma Jacob yn ateb, “Yr ARGLWYDD dy Dduw wnaeth fy arwain i ato.” Wedyn dyma Isaac yn dweud wrth Jacob, “Tyrd yma i mi gael dy gyffwrdd di. Dw i eisiau bod yn siŵr mai Esau wyt ti.” Felly aeth Jacob at ei dad, a dyma Isaac yn gafael yn ei law. “Llais Jacob dw i'n ei glywed,” meddai, “ond dwylo Esau ydy'r rhain.” (Wnaeth e ddim ei nabod am fod y dwylo'n flewog fel dwylo Esau. Dyna pam wnaeth Isaac fendithio Jacob.) “Fy mab Esau wyt ti go iawn?” gofynnodd Isaac. “Ie,” meddai Jacob. “Tyrd â'r helfa yma i mi gael bwyta cyn dy fendithio di,” meddai Isaac. Felly daeth Jacob â'r bwyd iddo, a dyma Isaac yn ei fwyta. Daeth â gwin iddo ei yfed hefyd. Wedyn dyma Isaac yn dweud, “Tyrd yma a rho gusan i mi fy mab.” A dyma Jacob yn mynd ato a rhoi cusan iddo. Pan glywodd Isaac yr arogl ar ddillad ei fab, dyma fe'n ei fendithio, a dweud, “Ie, mae fy mab yn arogli fel y tir mae'r ARGLWYDD wedi ei fendithio. Boed i Dduw roi gwlith o'r awyr i ti, a chnydau gwych o'r tir, — digonedd o ŷd a grawnwin. Boed i bobloedd eraill dy wasanaethu di, a gwledydd eraill ymgrymu o dy flaen. Byddi'n feistr ar dy frodyr, a bydd meibion dy fam yn ymgrymu o dy flaen. Bydd Duw yn melltithio pawb sy'n dy felltithio di, ac yn bendithio pawb sy'n dy fendithio di!” Roedd Isaac newydd orffen bendithio Jacob, a Jacob prin wedi gadael, pan ddaeth Esau i mewn ar ôl bod yn hela. Dyma yntau'n paratoi bwyd blasus, a mynd ag e i'w dad. “Tyrd, eistedd, i ti gael bwyta o helfa dy fab, ac wedyn cei fy mendithio i.” “Pwy wyt ti?” meddai Isaac wrtho. “Esau, dy fab hynaf,” meddai yntau. Dechreuodd Isaac grynu drwyddo'n afreolus. “Ond pwy felly ddaeth â bwyd i mi ar ôl bod allan yn hela? Dw i newydd fwyta cyn i ti ddod i mewn, a'i fendithio fe. Bydd e wir yn cael ei fendithio!” Pan glywodd Esau beth ddwedodd ei dad, dyma fe'n sgrechian gweiddi'n chwerw. “Bendithia fi! Bendithia fi hefyd dad!” meddai. Ond meddai Isaac, “Mae dy frawd wedi fy nhwyllo i, a dwyn dy fendith.” “Mae'r enw Jacob yn ei ffitio i'r dim!” meddai Esau. “Dyma'r ail waith iddo fy nisodli. Mae wedi cymryd fy hawliau fel y mab hynaf oddi arna i, a nawr mae e wedi dwyn fy mendith i.” Ac meddai wrth ei dad, “Wyt ti ddim wedi cadw un fendith i mi?” Ond dyma Isaac yn ei ateb, “Dw i wedi ei wneud yn feistr arnat ti. Bydd ei berthnasau i gyd yn ei wasanaethu. Bydd ganddo ddigon o ŷd a sudd grawnwin i'w gynnal. Felly beth sydd ar ôl i mi ei roi i ti, fy mab?” “Ai dim ond un fendith sydd gen ti, dad? Bendithia fi! Bendithia fi hefyd dad!” A dyma Esau'n dechrau crïo'n uchel. Felly dyma Isaac, ei dad, yn dweud fel hyn: “Byddi di'n byw heb gael cnydau da o'r tir, a heb wlith o'r awyr. Byddi di'n byw drwy ymladd â'r cleddyf, ac yn gwasanaethu dy frawd. Ond byddi di'n gwrthryfela, ac yn torri'r iau oedd wedi ei rhoi ar dy ysgwyddau.” Roedd Esau yn casáu Jacob o achos y fendith roedd ei dad wedi ei rhoi iddo. “Bydd dad wedi marw cyn bo hir,” meddai'n breifat. “A dw i'n mynd i ladd Jacob wedyn.” Ond daeth Rebeca i glywed am beth roedd Esau, ei mab hynaf, yn ei ddweud. Felly dyma hi'n galw am Jacob, ei mab ifancaf, ac yn dweud wrtho, “Mae dy frawd Esau yn bwriadu dial arnat ti trwy dy ladd di. Felly gwna di beth dw i'n ddweud. Rhaid i ti ddianc ar unwaith at fy mrawd Laban yn Haran. Aros yno gydag e am ychydig, nes bydd tymer dy frawd wedi tawelu. Pan fydd e wedi anghofio beth wnest ti, gwna i anfon amdanat ti i ti gael dod yn ôl. Pam ddylwn i golli'r ddau ohonoch chi'r un diwrnod?” Aeth Rebeca at Isaac a dweud wrtho, “Mae'r merched yma o blith yr Hethiaid yn gwneud bywyd yn annioddefol! Os bydd Jacob yn gwneud yr un peth ag Esau ac yn priodi un o'r merched lleol yma, fydd bywyd ddim yn werth ei fyw!” Felly galwodd Isaac am Jacob a'i fendithio. Dwedodd wrtho, “Rhaid i ti beidio priodi un o ferched Canaan. Dos i dŷ Bethwel dy daid yn Padan-aram. Cei briodi unrhyw un o ferched Laban, brawd dy fam. Boed i'r Duw sy'n rheoli popeth dy fendithio di a rhoi llawer iawn o ddisgynyddion i ti. Byddan nhw'n grŵp mawr o bobloedd. Boed i Dduw roi bendith Abraham i ti a dy ddisgynyddion. Byddi'n cymryd drosodd y tir rwyt ti wedi bod yn byw arno fel mewnfudwr. Dyma'r tir roddodd Duw i Abraham.” Felly dyma Isaac yn anfon Jacob i ffwrdd. Aeth i Padan-aram, at frawd ei fam, sef Laban (mab Bethwel yr Aramead). Clywodd Esau fod Isaac wedi bendithio Jacob a'i anfon i Padan-aram i ffeindio gwraig. Clywodd ei fod wedi dweud wrtho am beidio priodi un o ferched Canaan, a bod Jacob wedi gwrando ar ei dad a'i fam a mynd i Padan-aram. Sylweddolodd Esau fod ei dad Isaac ddim yn hoffi'r gwragedd Canaaneaidd oedd ganddo fe. Felly dyma Esau yn mynd at Ishmael (mab Abraham) a phriodi ei ferch Machalath, chwaer Nebaioth. Yn y cyfamser roedd Jacob wedi gadael Beersheba i fynd i Haran. Daeth i le arbennig a phenderfynu aros yno dros nos, am fod yr haul wedi machlud. Cymerodd gerrig oedd yno a'u gosod o gwmpas ei ben a gorwedd i lawr yno i gysgu. Cafodd freuddwyd. Roedd yn gweld grisiau yn codi'r holl ffordd o'r ddaear i'r nefoedd, ac angylion Duw yn mynd i fyny ac i lawr y grisiau, a'r ARGLWYDD yn sefyll ar dop y grisiau. “Fi ydy'r ARGLWYDD — Duw Abraham dy daid ac Isaac dy dad” meddai. “Dw i'n mynd i roi'r wlad yma lle rwyt ti'n gorwedd i ti a dy ddisgynyddion. Bydd gen ti ddisgynyddion i bob cyfeiriad — gogledd, de, gorllewin a dwyrain. Byddan nhw fel llwch ar y ddaear! A bydd pobloedd y byd i gyd yn cael eu bendithio trwot ti a dy ddisgynyddion. Dw i eisiau i ti wybod y bydda i gyda ti. Bydda i'n dy amddiffyn di ble bynnag ei di, ac yn dod â ti'n ôl yma. Wna i ddim dy adael di. Bydda i'n gwneud beth dw i wedi ei addo i ti.” Dyma Jacob yn deffro. “Mae'n rhaid bod yr ARGLWYDD yma,” meddai, “a doeddwn i ddim yn sylweddoli hynny.” Roedd e wedi dychryn, “Am le rhyfeddol! Mae Duw yn byw yma! Mae fel giât i mewn i'r nefoedd!” Felly dyma Jacob yn codi'n gynnar. Cymerodd y garreg oedd wedi bod wrth ei ben, a'i gosod fel colofn, a thywallt olew drosti. Galwodd y lle yn Bethel (Lws oedd enw'r dre o'r blaen.) Wedyn dyma Jacob yn gwneud addewid: “O Dduw, os byddi di gyda mi, yn fy amddiffyn i ar fy nhaith ac yn rhoi bwyd a dillad i mi nes i mi gyrraedd yn ôl adre'n saff, ti, yr ARGLWYDD, fydd fy Nuw i. Bydd y garreg dw i wedi ei gosod yma yn nodi lle rwyt ti'n byw. A dw i hefyd yn addo rhoi un rhan o ddeg o bopeth yn ôl i ti.” Dyma Jacob yn bwrw ymlaen ar ei daith, ac yn dod i wlad pobl y dwyrain. Daeth ar draws pydew dŵr yng nghanol y wlad, a thri praidd o ddefaid yn gorwedd o gwmpas y pydew. Dyna ble roedd yr anifeiliaid yn cael dŵr. Roedd carreg fawr yn gorwedd ar geg y pydew. Pan fyddai'r preiddiau i gyd wedi cyrraedd yno, byddai'r bugeiliaid yn symud y garreg a rhoi dŵr i'r defaid. Wedyn bydden nhw'n rhoi'r garreg yn ôl ar geg y pydew. Gofynnodd Jacob iddyn nhw, “O ble dych chi'n dod, frodyr?” “O Haran,” medden nhw. “Ydych chi'n nabod Laban fab Nachor?” holodd Jacob. “Ydyn,” medden nhw. “Sut mae e'n cadw?” gofynnodd Jacob. “Mae e'n cadw'n dda,” medden nhw. “Edrych, dyma Rachel, ei ferch, yn cyrraedd gyda'i defaid.” Yna dyma Jacob yn dweud wrthyn nhw, “Edrychwch, mae'n dal yn olau dydd. Dydy hi ddim yn amser casglu'r anifeiliaid at ei gilydd eto. Rhowch ddŵr iddyn nhw, a mynd â nhw allan i bori am ychydig mwy.” “Ond allwn ni ddim gwneud hynny nes bydd y preiddiau i gyd wedi cyrraedd,” medden nhw. “Dyna pryd byddwn ni'n symud y garreg oddi ar geg y pydew ac yn rhoi dŵr i'r defaid.” Tra oedd e'n dal i siarad â nhw, dyma Rachel yn cyrraedd gyda defaid ei thad. Hi oedd yn gofalu amdanyn nhw. Pan welodd Jacob Rachel, merch ei ewythr Laban, gyda'r defaid, dyma fe'n symud y garreg oddi ar geg y pydew, a rhoi dŵr i braidd ei ewythr. Yna aeth at Rachel, a'i chyfarch gyda chusan. Roedd yn methu peidio crïo. Dwedodd wrth Rachel ei fod yn nai i'w thad, ac yn fab i Rebeca. A dyma Rachel yn rhedeg i ddweud wrth ei thad. Pan glywodd Laban y newyddion am Jacob, mab ei chwaer, rhuthrodd allan i'w gyfarfod. Rhoddodd groeso brwd iddo drwy ei gofleidio a'i gusanu, ac aeth ag e i'w dŷ. Wedyn dwedodd Jacob bopeth wrth Laban. “Rwyt ti wir yn un o nheulu i!” meddai Laban. Roedd Jacob wedi aros gyda Laban am fis, ac meddai Laban wrtho, “Ddylet ti ddim bod yn gweithio i mi am ddim am dy fod yn perthyn i mi. Dywed beth rwyt ti eisiau'n gyflog.” Roedd gan Laban ddwy ferch — Lea, yr hynaf, a Rachel, yr ifancaf. Roedd gan Lea lygaid hyfryd, ond roedd Rachel yn ferch siapus ac yn wirioneddol hardd. Roedd Jacob wedi syrthio mewn cariad hefo Rachel, ac meddai wrth Laban, “Gwna i weithio i ti am saith mlynedd os ca i briodi Rachel, dy ferch ifancaf.” “Byddai'n well gen i ei rhoi hi i ti nag i unrhyw ddyn arall,” meddai Laban. “Aros di yma i weithio i mi.” Felly dyma Jacob yn gweithio am saith mlynedd er mwyn cael priodi Rachel. Ond roedd fel ychydig ddyddiau i Jacob am ei fod yn ei charu hi gymaint. Ar ddiwedd y saith mlynedd dyma Jacob yn dweud wrth Laban, “Dw i wedi gweithio am yr amser wnaethon ni gytuno, felly rho fy ngwraig i mi, i mi gael cysgu hefo hi.” Felly dyma Laban yn trefnu parti i ddathlu, ac yn gwahodd pobl y cylch i gyd i'r parti. Ond ar ddiwedd y noson daeth Laban â'i ferch Lea at Jacob, a dyma Jacob yn cysgu gyda hi. (Ac roedd Laban wedi rhoi ei forwyn Silpa i'w ferch Lea i fod yn forwyn iddi hi.) Y bore wedyn cafodd Jacob sioc — dyna ble roedd Lea yn gorwedd gydag e! Aeth at Laban, “Beth yn y byd rwyt ti wedi ei wneud i mi?” meddai Jacob. “Roeddwn i wedi gweithio i ti er mwyn cael Rachel. Pam wyt ti wedi fy nhwyllo i?” Ac meddai Laban, “Mae'n groes i'r arferiad yn ein gwlad ni i'r ferch ifancaf briodi o flaen yr hynaf. Disgwyl nes bydd yr wythnos yma o ddathlu drosodd, a gwna i roi Rachel i ti hefyd os gwnei di weithio i mi am saith mlynedd arall.” Felly dyna wnaeth Jacob. Arhosodd nes oedd yr wythnos o ddathlu drosodd, ac wedyn dyma Laban yn rhoi ei ferch Rachel iddo hefyd. (A rhoddodd ei forwyn Bilha i'w ferch Rachel i fod yn forwyn iddi hi.) Felly dyma Jacob yn cysgu gyda Rachel. Roedd yn caru Rachel fwy na Lea. A gweithiodd i Laban am saith mlynedd arall. Pan welodd yr ARGLWYDD fod Jacob ddim yn caru Lea gymaint a Rachel, rhoddodd blant i Lea. Ond roedd Rachel yn methu cael plant. Dyma Lea'n beichiogi ac yn cael mab ac yn ei alw'n Reuben. “Mae'r ARGLWYDD wedi gweld fy mod i'n cael fy nhrin yn wael,” meddai. “Bydd fy ngŵr yn siŵr o ngharu i nawr!” A dyma hi'n beichiogi eto ac yn cael mab arall. “Mae'r ARGLWYDD wedi clywed mod i ddim yn cael fy ngharu, ac mae wedi rhoi mab arall i mi,” meddai. A dyma hi'n ei alw'n Simeon. Dyma hi'n beichiogi eto a cael mab arall. “Bydd fy ngŵr yn siŵr o deimlo'n un hefo fi nawr,” meddai. “Dw i wedi rhoi tri mab iddo.” A dyna pam wnaeth hi ei alw'n Lefi. A dyma hi'n beichiogi ac yn cael mab arall eto. “Y tro yma dw i'n mynd i foli'r ARGLWYDD,” meddai hi. A dyna pam wnaeth hi ei alw'n Jwda. Ac wedyn dyma hi'n stopio cael plant. Pan sylweddolodd Rachel ei bod hi'n methu cael plant, roedd hi'n genfigennus o'i chwaer. “Dw i'n mynd i farw os wnei di ddim rhoi plant i mi!” meddai hi wrth Jacob. Ond dyma Jacob yn digio go iawn gyda hi. “Ai Duw ydw i? Duw sydd wedi dy rwystro di rhag cael plant.” Yna dyma Rachel yn dweud, “Cymer fy morwyn i, Bilha. Cysga gyda hi, er mwyn iddi hi gael plant i mi eu magu. Ga i deulu drwyddi hi.” Felly dyma Rachel yn rhoi ei morwyn Bilha yn wraig iddo, a dyma Jacob yn cysgu gyda hi. A dyma Bilha yn beichiogi ac yn cael mab i Jacob. “Mae Duw wedi dyfarnu o'm plaid i,” meddai Rachel. “Mae wedi fy nghlywed i, a rhoi mab i mi.” A dyna pam wnaeth hi ei alw'n Dan. Dyma Bilha, morwyn Rachel, yn beichiogi eto, a rhoi mab arall i Jacob. A dyma Rachel yn dweud, “Dw i wedi ymladd yn galed yn erbyn fy chwaer, ac wedi ennill!” Felly dyma hi'n ei alw'n Nafftali. Pan sylweddolodd Lea ei bod hi wedi stopio cael plant, dyma hithau'n rhoi ei morwyn Silpa yn wraig i Jacob. A dyma Silpa, morwyn Lea, yn cael mab i Jacob. “Am lwc dda!” meddai. A dyna pam wnaeth hi alw'r plentyn yn Gad. Wedyn cafodd Silpa ail fab i Jacob. “Dw i mor hapus!” meddai Lea. “Bydd merched yn dweud mor hapus ydw i.” Felly dyma hi'n ei alw yn Asher. Un diwrnod, ar adeg y cynhaeaf gwenith, aeth Reuben allan a dod o hyd i ffrwythau cariad mewn cae. A daeth â nhw yn ôl i'w fam, Lea. Yna dyma Rachel yn gofyn i Lea, “Plîs ga i rai o'r ffrwythau cariad wnaeth dy fab eu ffeindio?” Ond atebodd Lea, “Oedd cymryd fy ngŵr i ddim yn ddigon gen ti? Wyt ti nawr am gymryd y ffrwythau cariad ffeindiodd fy mab hefyd?” Felly dyma Rachel yn dweud wrthi, “Cei di gysgu gydag e heno os ca i'r ffrwythau cariad ffeindiodd dy fab.” Pan oedd Jacob ar ei ffordd yn ôl o'r caeau gyda'r nos, aeth Lea allan i'w gyfarfod. “Rhaid i ti gysgu hefo fi heno,” meddai wrtho. “Dw i wedi talu am dy gael di gyda'r ffrwythau cariad ffeindiodd fy mab.” Felly dyma Jacob yn cael rhyw gyda hi y noson honno. A dyma Duw yn gwrando ar Lea, a dyma hi'n beichiogi ac yn cael ei phumed mab i Jacob. “Mae Duw wedi rhoi gwobr i mi am roi fy morwyn i'm gŵr.” Felly dyma hi'n ei alw yn Issachar. Yna dyma Lea'n beichiogi eto a rhoi chweched mab i Jacob. “Mae Duw wedi rhoi rhodd hael i mi i'w chyflwyno i'm gŵr. Bydd yn fy nghyfri i'n sbesial, am fy mod i wedi rhoi chwe mab iddo.” Felly dyma hi'n galw'r plentyn yn Sabulon. Wedyn dyma hi'n cael merch, a'i galw hi'n Dina. Ond doedd Duw ddim wedi anghofio Rachel. Dyma fe'n gwrando ar ei gweddi a rhoi plant iddi. Dyma hi'n beichiogi ac yn cael mab. “Mae Duw wedi symud y cywilydd oeddwn i'n deimlo,” meddai. Galwodd hi'r plentyn yn Joseff. “Boed i'r ARGLWYDD roi mab arall i mi!” meddai. Ar ôl i Joseff gael ei eni i Rachel, dyma Jacob yn dweud wrth Laban, “Gad i mi fynd! Dw i eisiau mynd adre i'm gwlad fy hun. Gad i mi fynd gyda'r gwragedd a'r plant wnes i weithio i ti amdanyn nhw. Ti'n gwybod mor galed dw i wedi gweithio i ti.” Ond atebodd Laban, “Plîs wnei di ystyried aros yma? Dw i wedi dod yn gyfoethog, ac mae'r ARGLWYDD wedi fy mendithio i am dy fod ti gyda mi. Dywed faint o gyflog wyt ti eisiau, a gwna i ei dalu!” A dyma Jacob yn dweud, “Ti'n gwybod fel dw i wedi gweithio i ti, ac mor dda mae'r anifeiliaid dw i'n gofalu amdanyn nhw wedi gwneud. Ychydig oedd gen ti cyn i mi ddod. Ond bellach mae gen ti lot fawr. Mae'r ARGLWYDD wedi dy fendithio di ble bynnag roeddwn i'n gweithio. Mae'n bryd i mi wneud rhywbeth i'm teulu fy hun.” “Dw i'n fodlon rhoi faint bynnag ti'n gofyn amdano,” meddai Laban. “Does dim rhaid i ti roi dim byd i mi,” meddai Jacob. “Ond os wna i edrych ar ôl dy breiddiau di a'u cadw nhw'n saff, dw i am i ti gytuno i un peth. Gad i mi fynd trwyddyn nhw i gyd heddiw, a dewis pob dafad frith ac oen du, a'r un fath gyda'r geifr. Dyna fydd fy nghyflog i. Byddi bob amser yn gallu gweld os ydw i wedi bod yn onest. Gelli archwilio fy nghyflog unrhyw bryd. Os bydd gen i afr sydd ddim yn frith, neu ddafad sydd ddim yn ddu, byddi di'n gwybod fy mod i wedi dwyn honno.” “Cytuno!” meddai Laban. “Gad i ni wneud beth rwyt ti'n ei awgrymu.” Ond y diwrnod hwnnw dyma Laban yn symud y bychod geifr brith, a'r geifr brith (pob un oedd ag ychydig o wyn arnyn nhw). Symudodd y defaid duon hefyd, a rhoi'r anifeiliaid hynny i gyd i'w feibion i edrych ar eu holau. Aeth â nhw daith tridiau i ffwrdd oddi wrth Jacob a gwnaeth i Jacob ofalu am weddill y praidd. Wedyn dyma Jacob yn cymryd brigau gleision o goed poplys, almon a phlanwydden. Tynnodd beth o'r rhisgl i ffwrdd fel bod stribedi gwyn ar y gwiail. Rhoddodd y gwiail o flaen y cafnau dŵr ble roedd y preiddiau'n dod i yfed. Roedd yr anifeiliaid yn paru pan fydden nhw'n dod i yfed. Pan oedd y geifr yn bridio o flaen y gwiail, roedd y rhai bach fyddai'n cael eu geni yn rhai brith. Roedd hefyd yn cymryd y defaid oedd yn gofyn hwrdd ac yn gwneud iddyn nhw wynebu'r anifeiliaid brithion a'r rhai duon ym mhraidd Laban. Roedd yn cadw ei braidd ei hun ar wahân, a ddim yn eu cymysgu â phraidd Laban. Pan oedd yr anifeiliaid cryfion yn paru, roedd Jacob yn rhoi'r gwiail wrth y cafnau, er mwyn iddyn nhw fridio wrth ymyl y gwiail. Ond doedd e ddim yn gosod y gwiail o flaen yr anifeiliaid gwan yn y praidd. Felly roedd yr anifeiliaid gwannaf yn perthyn i Laban, a'r rhai cryfaf yn perthyn i Jacob. Felly daeth Jacob yn ddyn cyfoethog iawn. Roedd ganddo breiddiau mawr, gweision a morynion, camelod ac asynnod. Clywodd Jacob fod meibion Laban yn cwyno amdano. “Mae Jacob wedi cymryd popeth oddi ar ein tad ni. Mae wedi dod yn gyfoethog ar draul ein tad ni!” medden nhw. A daeth Jacob i weld fod agwedd Laban tuag ato wedi newid hefyd. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Jacob, “Dos yn ôl adre at dy deulu a dy bobl. Bydda i gyda ti.” Felly dyma Jacob yn anfon rhywun i nôl Rachel a Lea, a dod â nhw allan i'r wlad lle roedd y preiddiau. Dwedodd wrthyn nhw, “Dw i wedi sylwi fod agwedd eich tad tuag ata i wedi newid. Ond mae'r Duw mae fy nhad yn ei addoli wedi bod gyda mi. Mae'r ddwy ohonoch yn gwybod mor galed dw i wedi gweithio i'ch tad. Ond mae'ch tad wedi gwneud ffŵl ohono i, a newid fy nghyflog dro ar ôl tro. Ond wnaeth Duw ddim gadael iddo wneud niwed i mi. Pan oedd yn dweud, ‘Y brychion fydd dy gyflog di,’ roedd yr anifeiliaid i gyd yn cael rhai bach oedd yn frych. Os oedd yn dweud, ‘Y brithion fydd dy gyflog di, roedd yr anifeiliaid yn cael rhai bach oedd yn frith.’ Felly Duw oedd yn rhoi anifeiliaid eich tad i mi. “Yn ystod y tymor bridio ces i freuddwyd. Roedd y bychod geifr oedd yn paru i gyd yn frithion. A dyma angel Duw yn galw arna i. ‘Jacob,’ meddai. ‘Ie, dyma fi,’ meddwn innau. ‘Edrych, mae'r bychod geifr sy'n paru i gyd yn frithion. Dw i wedi gweld sut mae Laban wedi dy drin di. Fi ydy Duw Bethel, lle wnest ti dywallt olew ar y golofn a gwneud addewid i mi. Nawr dos! dw i eisiau i ti adael y wlad yma a mynd yn ôl i'r wlad ble cest ti dy eni.’” A dyma Rachel a Lea yn ei ateb, “Does dim rheswm i ni aros yma. Dŷn ni ddim yn mynd i dderbyn dim byd mwy gan ein tad. Mae e'n ein trin ni fel tasen ni'n estroniaid. Mae wedi'n gwerthu ni, ac wedyn wedi gwastraffu a cholli'r cwbl gafodd e! Mae Duw wedi rhoi popeth oedd ganddo i ni a'n plant. Felly gwna beth mae Duw wedi ei ddweud wrthot ti.” Felly dyma Jacob yn paratoi i fynd. Rhoddodd ei blant a'i wragedd ar gefn camelod. Casglodd ei anifeiliaid a'i eiddo i gyd (popeth a gafodd yn Padan-aram) i fynd adre at ei dad Isaac yn Canaan. Ar y pryd roedd Laban wedi mynd i gneifio ei ddefaid. A dyma Rachel yn dwyn yr eilun-ddelwau teuluol. Roedd Jacob hefyd yn twyllo Laban yr Aramead drwy redeg i ffwrdd heb ddweud wrtho. Rhedodd i ffwrdd gyda'i eiddo i gyd. Croesodd afon Ewffrates a mynd i gyfeiriad bryniau Gilead. Ddeuddydd wedyn dyma Laban yn darganfod fod Jacob wedi mynd. Felly aeth Laban a'i berthnasau ar ei ôl. Ar ôl teithio am wythnos roedden nhw bron â'i ddal ym mryniau Gilead. Ond dyma Duw yn siarad â Laban yr Aramead mewn breuddwyd y noson honno. Dwedodd wrtho, “Paid ti dweud dim byd i fygwth Jacob.” Roedd Jacob wedi codi gwersyll ym mryniau Gilead pan ddaliodd Laban i fyny ag e. A dyma Laban a'i berthnasau yn gwersylla yno hefyd. “Beth rwyt ti wedi'i wneud?” meddai Laban wrth Jacob. “Ti wedi fy nhwyllo i. Ti wedi cymryd fy merched i ffwrdd fel tasen nhw'n garcharorion rhyfel! Pam wnest ti redeg i ffwrdd yn ddistaw bach heb i mi wybod? Pam wnest ti ddim dweud wrtho i? Byddwn i wedi trefnu parti i ffarwelio'n iawn, gyda chanu a dawnsio a cherddoriaeth. Wnest ti ddim hyd yn oed roi cyfle i mi roi cusan ffarwél i'm merched a'u plant. Ti wedi gwneud peth hollol wirion. Gallwn i wneud drwg i ti, ond dyma'r Duw mae dy dad yn ei addoli yn siarad â mi neithiwr. Dwedodd wrtho i, ‘Paid dweud dim byd i fygwth Jacob.’ Dw i'n derbyn fod gen ti hiraeth go iawn am dy dad a'i deulu, ond pam roedd rhaid i ti ddwyn fy nuwiau?” A dyma Jacob yn ei ateb, “Wnes i redeg i ffwrdd am fod arna i ofn. Roeddwn i'n meddwl y byddet ti'n cymryd dy ferched oddi arna i. Bydd pwy bynnag sydd wedi cymryd dy dduwiau di yn marw! Dw i'n dweud hyn o flaen ein perthnasau ni i gyd. Dangos i mi beth sydd piau ti, a'i gymryd.” (Doedd Jacob ddim yn gwybod fod Rachel wedi eu dwyn nhw.) Felly dyma Laban yn mynd i bebyll Jacob, Lea, a'r ddwy forwyn, ond methu dod o hyd i'r eilun-ddelwau. Daeth allan o babell Lea a mynd i babell Rachel. (Ond roedd Rachel wedi cymryd yr eilun-ddelwau a'u rhoi nhw yn y bag cyfrwy ar ei chamel, ac yna eistedd arnyn nhw.) Dyma Laban yn chwilio drwy'r babell i gyd, ond methu dod o hyd iddyn nhw. A dyma Rachel yn dweud wrth ei thad, “Maddau i mi, dad, am beidio codi i ti. Mae hi'r amser yna o'r mis arna i.” Felly er iddo chwilio ym mhobman wnaeth e ddim dod o hyd i eilun-ddelwau'r teulu. Erbyn hyn roedd Jacob wedi gwylltio, a dechreuodd ddadlau yn ôl. “Beth dw i wedi ei wneud o'i le?” meddai. “Beth dw i wedi ei wneud i bechu yn dy erbyn di? Pam wyt ti'n fy ymlid i fel yma? Wyt ti wedi dod o hyd i rywbeth piau ti ar ôl palu drwy fy stwff i gyd? Os wyt ti, gad i dy berthnasau di a'm perthnasau i ei weld. Gad iddyn nhw setlo'r ddadl rhyngon ni. Dw i wedi bod hefo ti ers ugain mlynedd. Dydy dy ddefaid a dy eifr di ddim wedi erthylu. Dw i ddim wedi cymryd hyrddod dy braidd di i'w bwyta. Os oedd rhai wedi eu lladd gan anifeiliaid gwylltion wnes i ddim dod â nhw atat ti er mwyn i ti dderbyn y golled. Wnes i gymryd y golled fy hun. Roeddet ti'n gwneud i mi dalu am unrhyw golled, sdim ots os oedd yn cael ei ddwyn yng ngolau dydd neu yn y nos. Fi oedd yr un oedd yn gorfod diodde gwres poeth y dydd a'r barrug oer yn y nos. Fi oedd yr un oedd yn gorfod colli cwsg. Dw i wedi gweithio fel caethwas i ti am ugain mlynedd. Roedd rhaid i mi weithio am un deg pedair blynedd i briodi dy ddwy ferch, a chwe blynedd arall am dy anifeiliaid. Ac rwyt ti wedi newid fy nghyflog i dro ar ôl tro. Petai Duw Abraham, sef y Duw mae fy nhad Isaac yn ei addoli, ddim wedi bod gyda mi, byddet ti wedi fy anfon i ffwrdd heb ddim byd. Ond roedd Duw wedi gweld sut roeddwn i'n cael fy nhrin ac mor galed roeddwn i wedi gweithio. A dyna pam wnaeth e dy geryddu di neithiwr.” Ac meddai Laban wrth Jacob, “Fy merched i ydy'r rhain, ac mae'r plant yma yn wyrion ac wyresau i mi. Fi piau'r preiddiau yma a phopeth arall rwyt ti'n weld. Ond sut alla i wneud drwg i'm merched a'u plant? Tyrd, gad i'r ddau ohonon ni wneud cytundeb gyda'n gilydd. Bydd Duw yn dyst rhyngon ni.” Felly dyma Jacob yn cymryd carreg a'i gosod fel colofn. Ac meddai Jacob wrth ei berthnasau, “Casglwch gerrig.” Felly dyma nhw'n gwneud hynny ac yn eu codi'n garnedd, a chael pryd o fwyd gyda'i gilydd yno. Galwodd Laban y garnedd yn Jegar-sahadwtha a galwodd Jacob hi'n Gal-êd. “Mae'r garnedd yma yn dystiolaeth ein bod ni wedi gwneud cytundeb,” meddai Laban. Dyna pam mae'r lle'n cael ei alw yn Gal-êd Roedd y lle hefyd yn cael ei alw yn Mitspa, am fod Laban wedi dweud, “Boed i'r ARGLWYDD ein gwylio ni'n dau pan na fyddwn ni'n gweld ein gilydd. Os gwnei di gam-drin fy merched i, neu briodi merched eraill, er bod neb arall yno, cofia fod Duw yn gweld popeth wnei di.” Ac meddai, “Mae'r garnedd yma a'r golofn yma wedi eu gosod rhyngon ni. Mae'r garnedd a'r golofn yn ein hatgoffa ni o hyn: Dw i ddim i ddod heibio'r lle yma i wneud drwg i ti, a dwyt ti ddim i ddod heibio'r fan yma i wneud drwg i mi. Boed i dduwiau Abraham a Nachor, duwiau eu tad nhw, farnu rhyngon ni.” Felly dyma Jacob yn gwneud adduned i'r Duw roedd ei dad Isaac yn ei addoli. A dyma Jacob yn cyflwyno aberth i Dduw ar y mynydd a gwahodd ei deulu i gyd i fwyta. A dyma nhw'n aros yno drwy'r nos. Yn gynnar y bore wedyn dyma Laban yn rhoi cusan i'w ferched a'u plant ac yn eu bendithio nhw cyn troi am adre. Aeth Jacob ymlaen ar ei daith hefyd, a dyma angylion Duw yn ei gyfarfod. Pan welodd Jacob nhw, meddai, “Dyma wersyll Duw!” Felly galwodd y lle yn Machanaîm. Yna dyma Jacob yn anfon negeswyr at ei frawd Esau yn ardal Seir yn Edom. “Fel yma dych chi i siarad gyda fy meistr Esau,” meddai. “Dwedwch wrtho, ‘Dyma mae dy was Jacob yn ei ddweud: Dw i wedi bod yn aros gyda Laban. Dyna ble dw i wedi bod hyd heddiw. Mae gen i ychen, asynnod, defaid a geifr, gweision a morynion. Dw i'n anfon i ddweud wrthot ti yn y gobaith y gwnei di fy nerbyn i.’” Pan ddaeth y negeswyr yn ôl at Jacob dyma nhw'n dweud wrtho, “Aethon ni at dy frawd Esau, ac mae ar ei ffordd i dy gyfarfod di. Mae ganddo 400 o ddynion gydag e.” Roedd gan Jacob ofn am ei fywyd. Rhannodd y bobl oedd gydag e, a'r defaid a'r geifr, yr ychen a'r camelod, yn ddau grŵp. “Os bydd Esau yn ymosod ar un grŵp,” meddyliodd, “bydd y grŵp arall yn gallu dianc.” Gweddïodd Jacob, “O Dduw fy nhaid Abraham a'm tad Isaac. Ti ydy'r ARGLWYDD ddwedodd wrtho i, ‘Dos yn ôl i dy wlad dy hun at dy deulu. Bydda i'n dda i ti.’ Dw i'n neb, a ddim yn haeddu'r ffaith dy fod ti wedi bod mor hael a ffyddlon i'r addewid wnest ti i dy was. Doedd gen i ddim byd ond ffon pan es i oddi cartref a chroesi'r afon Iorddonen yma. Bellach mae digon ohonon ni i rannu'n ddau grŵp. Plîs wnei di'n achub i o afael fy mrawd Esau? Mae gen i ofn iddo ymosod arna i, a lladd y gwragedd a'r plant. Rwyt ti wedi dweud, ‘Bydda i'n dda i ti. Bydd dy ddisgynyddion di fel tywod y môr — yn gwbl amhosib i'w cyfri!’” Ar ôl aros yno dros nos anfonodd Jacob rai o'i anifeiliaid yn rhodd i Esau: 200 gafr, 20 bwch gafr, 200 dafad, 20 hwrdd, 30 cameles oedd yn magu rhai bach, 40 buwch, 10 tarw, 20 asen a 10 asyn. Dyma fe'n rhoi'r anifeiliaid mewn grwpiau ar wahân yng ngofal ei weision. “Croeswch yr afon o'm blaen i, ond cadwch fwlch rhwng pob grŵp o anifeiliaid,” meddai wrthyn nhw. Ac aeth ymlaen i ddweud wrth y gwas fyddai'n arwain y grŵp cyntaf, “Pan fydd fy mrawd Esau yn dy gyfarfod di ac yn gofyn, ‘I bwy wyt ti'n perthyn? Ble wyt ti'n mynd? Pwy biau'r anifeiliaid yma?’ dywed wrtho, ‘Dy was Jacob piau nhw. Mae'n eu hanfon nhw yn anrheg i ti syr. Mae Jacob ei hun ar ei ffordd tu ôl i ni.’” Dwedodd yr un peth wrth yr ail was a'r trydydd, a'r gweision oedd yn dilyn yr anifeiliaid. “Dwedwch chi'r un peth wrth Esau. A cofiwch ddweud hefyd, ‘Mae dy was Jacob ar ei ffordd tu ôl i ni.’” Roedd Jacob yn gobeithio y byddai'r anrhegion yn ei dawelu cyn i'r ddau gyfarfod wyneb yn wyneb. Roedd yn gobeithio y byddai Esau yn ei dderbyn wedyn. Felly cafodd yr anifeiliaid eu hanfon drosodd o'i flaen. Ond dyma Jacob yn aros yn y gwersyll y noson honno. Yn ystod y nos dyma Jacob yn codi a chroesi rhyd Jabboc gyda'i ddwy wraig, ei ddwy forwyn a'i un deg un mab. Ar ôl mynd â nhw ar draws dyma fe'n anfon pawb a phopeth arall oedd ganddo drosodd. Roedd Jacob ar ei ben ei hun. A dyma ddyn yn dod ac ymladd gydag e nes iddi wawrio. Pan welodd y dyn ei fod e ddim yn ennill, dyma fe'n taro Jacob yn ei glun a'i rhoi o'i lle. “Gad i mi fynd,” meddai'r dyn, “mae hi'n dechrau gwawrio.” “Na!” meddai Jacob, “wna i ddim gadael i ti fynd nes i ti fy mendithio i.” Felly dyma'r dyn yn gofyn iddo, “Beth ydy dy enw di?” “Jacob,” meddai. A dyma'r dyn yn dweud wrtho, “Fyddi di ddim yn cael dy alw yn Jacob o hyn ymlaen. Israel fydd dy enw di. Am dy fod ti wedi ymladd gyda Duw a phobl, ac wedi ennill.” Gofynnodd Jacob iddo, “Beth ydy dy enw di?” “Pam rwyt ti'n gofyn am fy enw i?” meddai'r dyn. Ac wedyn dyma fe'n bendithio Jacob yn y fan honno. Felly galwodd Jacob y lle yn Peniel. “Dw i wedi gweld Duw wyneb yn wyneb,” meddai, “a dw i'n dal yn fyw!” Roedd yr haul yn tywynnu ar Jacob wrth iddo adael Peniel. Ac roedd yn gloff o achos yr anaf i'w glun. (Dyna pam dydy pobl Israel hyd heddiw ddim yn bwyta'r gewyn wrth gymal y glun. Maen nhw'n cofio'r digwyddiad yma, pan gafodd Jacob ei daro ar ei glun.) Edrychodd Jacob a gweld Esau yn dod yn y pellter gyda phedwar cant o ddynion. Felly dyma fe'n rhannu'r plant rhwng Lea, Rachel a'r ddwy forwyn. Rhoddodd y ddwy forwyn a'u plant ar y blaen, wedyn Lea a'i phlant hi, a Rachel a Joseff yn olaf. Aeth Jacob ei hun o'u blaenau nhw i gyd. Ymgrymodd yn isel saith gwaith wrth iddo agosáu at ei frawd. Ond rhedodd Esau ato a'i gofleidio'n dynn a'i gusanu. Roedd y ddau ohonyn nhw'n crïo. Pan welodd Esau y gwragedd a'r plant, gofynnodd “Pwy ydy'r rhain?” A dyma Jacob yn ateb, “Dyma'r plant mae Duw wedi bod mor garedig â'u rhoi i dy was.” Dyma'r morynion yn camu ymlaen gyda'u plant, ac yn ymgrymu. Wedyn daeth Lea ymlaen gyda'i phlant hi, ac ymgrymu. Ac yn olaf daeth Joseff a Rachel, ac ymgrymu. “Beth oedd dy fwriad di yn anfon yr anifeiliaid yna i gyd ata i?” meddai Esau. Atebodd Jacob, “Er mwyn i'm meistr fy nerbyn i.” “Mae gen i fwy na digon, fy mrawd,” meddai Esau. “Cadw beth sydd piau ti.” “Na wir, plîs cymer nhw,” meddai Jacob. “Os wyt ti'n fy nerbyn i, derbyn nhw fel anrheg gen i. Mae gweld dy wyneb di fel gweld wyneb Duw — rwyt ti wedi rhoi'r fath groeso i mi. Plîs derbyn y rhodd gen i. Mae Duw wedi bod mor garedig ata i. Mae gen i bopeth dw i eisiau.” Am ei fod yn pwyso arno dyma Esau yn ei dderbyn. Wedyn dyma Esau yn dweud, “I ffwrdd â ni felly! Gwna i'ch arwain chi.” Ond atebodd Jacob, “Mae'r plant yn ifanc, fel y gweli, syr. Ac mae'n rhaid i mi edrych ar ôl yr anifeiliaid sy'n magu rhai bach. Os byddan nhw'n cael eu gyrru'n rhy galed, hyd yn oed am ddiwrnod, byddan nhw i gyd yn marw. Dos di o flaen dy was. Bydda i'n dod yn araf ar dy ôl di — mor gyflym ac y galla i gyda'r anifeiliaid a'r plant. Gwna i dy gyfarfod di yn Seir.” “Gad i mi adael rhai o'r dynion yma i fynd gyda ti,” meddai Esau wedyn. “I beth?” meddai Jacob. “Mae fy arglwydd wedi bod mor garedig yn barod.” Felly dyma Esau yn troi'n ôl am Seir y diwrnod hwnnw. Ond aeth Jacob i'r cyfeiriad arall, i Swccoth. Dyma fe'n adeiladu tŷ iddo'i hun yno, a chytiau i'w anifeiliaid gysgodi. Dyna pam y galwodd y lle yn Swccoth. Roedd Jacob wedi teithio o Padan-aram, a chyrraedd yn saff yn y diwedd yn nhre Sichem yn Canaan. Gwersyllodd heb fod yn bell o'r dre. Wedyn prynodd y tir ble roedd wedi gwersylla gan feibion Hamor (tad Sechem) am gant o ddarnau arian. Cododd allor i Dduw yno, a'i galw yn El-Elohe-Israel. Aeth Dina (merch Lea a Jacob) allan i weld rhai o ferched ifanc yr ardal. Pan welodd Sechem hi (Sechem oedd yn fab i bennaeth yr ardal, Hamor yr Hefiad), cipiodd hi, ymosod yn rhywiol arni a'i threisio. Ond wedyn syrthiodd yn ddwfn mewn cariad â hi a cheisiodd ennill ei serch. Aeth at ei dad, Hamor, a dweud, “Dw i eisiau i ti gael y ferch yma yn wraig i mi.” Clywodd Jacob fod Sechem wedi treisio ei ferch, Dina. Roedd ei feibion allan yn y wlad yn gofalu am yr anifeiliaid ar y pryd. A penderfynodd Jacob beidio dweud dim tan iddyn nhw ddod adre. Dyma Hamor, tad Sechem, yn mynd i siarad gyda Jacob am Dina. Yn y cyfamser roedd meibion Jacob wedi cyrraedd yn ôl. Roedden nhw wedi clywed y newyddion, yn teimlo'r sarhad ac yn wyllt gynddeiriog. Roedd Sechem wedi gwneud peth gwarthus yn Israel drwy ymosod yn rhywiol ar ferch Jacob — rhywbeth na ddylai byth fod wedi digwydd. Ond dyma Hamor yn apelio arnyn nhw, “Mae Sechem dros ei ben a'i glustiau mewn cariad gyda'r ferch. Plîs gadewch iddo ei phriodi hi. Gadewch i ni gytuno fod ein plant ni'n cael priodi ei gilydd. Gadewch i'ch merched chi briodi rhai o'n dynion ni, a chewch chi briodi ein merched ni. Cewch fyw yma gyda ni. Mae'r wlad o'ch blaen chi. Arhoswch yma. Cewch fynd ble mynnwch chi, a phrynu tir yma.” Wedyn dyma Sechem ei hun yn dweud wrth dad a brodyr Dina, “Plîs wnewch chi fy nerbyn i? Dw i'n fodlon rhoi i chi beth bynnag dych chi eisiau. Gwnewch y tâl am y briodferch mor uchel ag y mynnwch chi. Dw i'n fodlon talu unrhyw beth, dim ond i chi roi'r ferch yn wraig i mi.” Ond am fod Sechem wedi treisio eu chwaer, dyma frodyr Dina yn twyllo Sechem a Hamor ei dad. Dyma nhw'n dweud wrthyn nhw, “Allwn ni ddim gadael i'n chwaer briodi dyn sydd heb fod drwy ddefod enwaediad. Byddai hynny'n gywilydd mawr arnon ni. Allwn ni ddim ond cytuno ar un amod: rhaid i bob un o'ch dynion chi gael ei enwaedu yr un fath â ni. Os gwnewch chi hynny, cewch briodi ein merched ni a byddwn ni'n priodi eich merched chi. Byddwn yn dod i fyw atoch chi, a byddwn ni'n un bobl. Ond os gwrthodwch chi gael eich enwaedu, awn ni i ffwrdd, a mynd â'n chwaer gyda ni.” Roedd eu cynnig yn swnio'n dda i Hamor a'i fab Sechem. Felly dyma Sechem yn cytuno ar unwaith. Roedd e eisiau Dina, merch Jacob, gymaint. (A fe oedd y person pwysica yn y teulu i gyd.) Felly dyma Hamor a'i fab Sechem yn mynd at giât y dre ble roedden nhw'n byw i siarad â'r dynion yno. A dyma ddwedon nhw: “Mae'r bobl yma'n gyfeillgar. Gadewch iddyn nhw fyw yn y wlad yma, a mynd i ble fynnan nhw. Mae yna ddigon o dir iddyn nhw. Gadewch i ni briodi eu merched nhw, a cân nhw briodi ein merched ni. Ond wnân nhw ddim ond cytuno i fyw gyda ni a bod yn un bobl gyda ni ar yr amod yma: rhaid i'n dynion ni i gyd gael eu henwaedu yr un fath â nhw. Onid ni fydd piau'r holl anifeiliaid a phopeth arall sydd ganddyn nhw wedyn? Gadewch i ni gytuno gyda nhw a gadael iddyn nhw fyw gyda ni.” Dyma'r dynion ar gyngor y dre yn cytuno gyda Hamor a'i fab Sechem. A dyma bob un o ddynion y dre yn mynd drwy'r ddefod o gael eu henwaedu. Ddeuddydd wedyn, pan oedden nhw'n dal mewn poen, aeth dau o feibion Jacob, Simeon a Lefi (brodyr Dina), i mewn i'r dre yn dawel fach, a lladd y dynion i gyd. Dyma nhw'n lladd Hamor a'i fab Sechem, cymryd Dina o dŷ Sechem, a gadael. Wedyn dyma feibion eraill Jacob yn mynd yno ac yn ysbeilio'r cyrff a'r dref, am fod eu chwaer wedi cael ei threisio. Cymeron nhw ddefaid a geifr, ychen ac asynnod, a phopeth arall allen nhw ddod o hyd iddo yn y dref ei hun a'r ardal o'i chwmpas — popeth o werth, y gwragedd a'r plant a phopeth oedd yn eu tai. “Dych chi wedi achosi trwbwl go iawn i mi,” meddai Jacob wrth Simeon a Lefi. “Bydd pobl y wlad yma, y Canaaneaid a'r Peresiaid, yn fy nghasáu i. Does dim llawer ohonon ni. Os byddan nhw'n dod at ei gilydd ac ymosod arnon ni, bydd hi ar ben arnon ni i gyd. Byddwn ni'n cael ein dinistrio'n llwyr!” Ond dyma Simeon a Lefi yn ei ateb, “Oedd hi'n iawn i'n chwaer ni gael ei thrin fel putain?” Dwedodd Duw wrth Jacob, “Dos i fyny i Bethel i fyw. Gwna allor yno i addoli'r Duw ddaeth atat ti pan oeddet ti'n dianc oddi wrth dy frawd Esau.” Felly dyma Jacob yn dweud wrth ei deulu a phawb arall oedd gydag e, “Rhaid i chi gael gwared â'r duwiau eraill sydd gynnoch chi. Ymolchwch a gwisgwch ddillad glân. Wedyn gadewch i ni fynd i Bethel. Dw i eisiau codi allor yno i'r Duw wnaeth fy ateb i pan oedd pethau'n anodd arna i. Mae e wedi bod gyda mi bob cam o'r ffordd.” Felly dyma nhw'n rhoi'r duwiau eraill oedd ganddyn nhw i Jacob, a'r clustdlysau hefyd. Dyma Jacob yn claddu'r cwbl dan y dderwen oedd wrth Sichem, a dyma nhw'n cychwyn ar eu taith. Roedd Duw wedi creu panig yn y trefi o gwmpas, ac felly wnaeth neb geisio ymosod arnyn nhw. Felly dyma Jacob a'r bobl oedd gydag e yn cyrraedd Lws (sef Bethel), yng ngwlad Canaan. Cododd allor yno a galw'r lle yn El-bethel, am mai dyna ble roedd Duw wedi ymddangos iddo pan oedd yn dianc oddi wrth ei frawd Esau. A dyma Debora (sef y forwyn oedd wedi magu Rebeca pan oedd hi'n ferch fach) yn marw yno. Cafodd ei chladdu dan y dderwen oedd islaw Bethel. Felly cafodd y lle ei alw yn Dderwen yr Wylo. A dyma Duw yn ymddangos i Jacob eto, a'i fendithio (ar ôl iddo ddod o Padan-aram). Dwedodd Duw wrtho, “Jacob ydy dy enw di, ond fyddi di ddim yn cael dy alw yn Jacob o hyn ymlaen. Israel fydd dy enw di.” Dyna sut cafodd e'r enw Israel. Yna dwedodd Duw wrtho, “Fi ydy'r Duw sy'n rheoli popeth. Dw i eisiau i ti gael lot o blant. Bydd cenedl — ie, hyd yn oed grŵp o genhedloedd — yn dod ohonot ti. Bydd rhai o dy ddisgynyddion di yn frenhinoedd. Ti sydd i gael y wlad rois i i Abraham ac Isaac, a bydd yn perthyn i dy ddisgynyddion ar dy ôl di.” Wedyn dyma Duw yn gadael y lle ble roedd wedi siarad â Jacob. Dyma Jacob yn codi colofn gysegredig ble roedd Duw wedi siarad gydag e. Colofn garreg oedd hi, a tywalltodd offrwm o ddiod drosti, ac olew hefyd. Galwodd Jacob y lle hwnnw ble roedd Duw wedi siarad gydag e yn Bethel. Dyma nhw'n teithio ymlaen o Bethel. Roedden nhw'n dal yn eitha pell o Effrath pan ddechreuodd Rachel gael babi — ac roedd yr enedigaeth yn galed. Pan oedd y sefyllfa ar ei gwaethaf dyma'r fydwraig yn dweud wrth Rachel, “Paid bod ag ofn. Mae gen ti fab arall ar ei ffordd.” A dyma Rachel yn marw. Wrth iddi dynnu ei hanadl olaf, dyma hi'n galw'r plentyn yn Ben-oni; ond galwodd ei dad e yn Benjamin. Buodd Rachel farw, a chafodd ei chladdu ar ochr y ffordd oedd yn mynd i Effrath (sef, Bethlehem). Cododd Jacob gofgolofn wrth ei bedd, ac mae yno hyd heddiw — Cofeb Bedd Rachel. Teithiodd Israel (sef Jacob) yn ei flaen, a gwersylla yr ochr draw i Migdal-eder. Tra roedd yn byw yno, dyma Reuben yn cysgu gyda Bilha, partner ei dad. A daeth Israel i glywed am y peth. Roedd gan Jacob un deg dau o feibion: Meibion Lea: Reuben (mab hynaf Jacob), Simeon, Lefi, Jwda, Issachar, a Sabulon. Meibion Rachel: Joseff a Benjamin. Meibion Bilha, morwyn Rachel: Dan a Nafftali. Meibion Silpa, morwyn Lea: Gad ac Asher. Dyma'r meibion gafodd eu geni i Jacob yn Padan-aram. Felly daeth Jacob yn ôl at ei dad Isaac i Mamre, yn Ciriath-arba (sef Hebron). Dyna ble roedd Abraham ac Isaac wedi bod yn byw fel mewnfudwyr. Roedd Isaac yn 180 oed pan fuodd farw yn hen ddyn, a mynd yr un ffordd â'i hynafiaid. A dyma'i feibion Esau a Jacob yn ei gladdu. Dyma hanes teulu Esau (sef Edom): Roedd Esau wedi priodi merched o Canaan: Ada (merch Elon yr Hethiad), Oholibama (merch Ana ac wyres Sibeon yr Hefiad), a Basemath (merch Ishmael a chwaer Nebaioth). Cafodd Ada fab i Esau, sef Eliffas. Cafodd Basemath fab, sef Reuel, a cafodd Oholibama dri o fechgyn, sef Iewsh, Ialam a Cora. Dyma enwau'r meibion gafodd Esau pan oedd yng ngwlad Canaan. Symudodd Esau i ffwrdd i wlad oedd yn reit bell oddi wrth ei frawd Jacob. Aeth â'i wragedd gydag e, a'i feibion a'i ferched, a phawb arall oedd gydag e, a'i anifeiliaid a'r holl eiddo oedd wedi ei gasglu pan oedd yn byw yng ngwlad Canaan. Roedd gan y ddau ormod o anifeiliaid i allu byw gyda'i gilydd — doedd y tir ddim yn gallu cynnal y cwbl. Felly dyma Esau (sef Edom) yn setlo ym mryniau Seir. Dyma hanes teulu Esau (Ohono fe y daeth pobl Edom, sy'n byw ym mryniau Seir): Enwau meibion Esau: Eliffas (mab Ada, gwraig Esau), Reuel (mab Basemath, gwraig Esau) Enwau meibion Eliffas: Teman, Omar, Seffo, Gatam a Cenas. Y rhain oedd disgynyddion Ada gwraig Esau. (Roedd gan Eliffas, mab Esau, bartner o'r enw Timna hefyd. Cafodd hi fab i Eliffas, sef Amalec.) Enwau meibion Reuel: Nachath, Serach, Shamma a Missa. Y rhain oedd disgynyddion Basemath gwraig Esau. A dyma enwau meibion Oholibama (merch Ana ac wyres Sibeon): cafodd dri o feibion i Esau, sef Iewsh, Ialam a Cora. Roedd disgynyddion Esau yn arweinwyr llwythau gwahanol: Disgynyddion Eliffas (mab hynaf Esau) oedd arweinwyr llwythau Teman, Omar, Seffo, Cenas, Cora, Gatam ac Amalec. Roedd arweinwyr y llwythau yma yn Edom i gyd yn ddisgynyddion i Eliffas ac Ada. Disgynyddion Reuel (mab Esau) oedd arweinwyr llwythau Nachath, Serach, Shamma a Missa. Roedd arweinwyr y llwythau yma yn Edom i gyd yn ddisgynyddion i Eliffas a Basemath. Wedyn dyma ddisgynyddion Oholibama (gwraig arall Esau): arweinwyr llwythau Iewsh, Ialam a Cora. Roedd arweinwyr y llwythau yma yn ddisgynyddion i Esau ac Oholibama (merch Ana). Mae'r rhain i gyd yn ddisgynyddion i Esau — dyma arweinwyr llwythau Edom. A dyma feibion Seir yr Horiad, oedd yn byw yn y wlad o'r blaen: Lotan, Shofal, Sibeon, Ana, Dishon, Etser a Dishan. Y rhain oedd arweinwyr llwythau'r Horiaid, disgynyddion Seir sy'n byw yng ngwlad Edom. Meibion Lotan oedd Chori a Homam (a Timna oedd chwaer Lotan). Meibion Shofal oedd Alfan, Manachath, Ebal, Sheffo ac Onam. Meibion Sibeon oedd Aia ac Ana (sef yr Ana ddarganfyddodd y ffynhonnau yn yr anialwch pan oedd yn gofalu am asynnod ei dad Sibeon). Plant Ana oedd Dishon ac Oholibama (merch Ana). Meibion Dishon oedd Chemdan, Eshban, Ithran a Ceran. Meibion Etser oedd Bilhan, Saafan ac Acan. Meibion Dishan oedd Us ac Aran. Dyma arweinwyr llwythau'r Horiaid (Lotan, Shofal, Sibeon, Ana, Dishon, Etser a Dishan.) Y rhain oedd arweinwyr llwythau'r Horiaid yng ngwlad Seir. Dyma enwau brenhinoedd gwlad Edom yn y cyfnod cyn i Israel gael brenin: Roedd Bela fab Beor o dre Dinhaba yn frenin ar Edom. Ar ôl i Bela farw, daeth Iobab fab Serach o Bosra yn frenin yn ei le. Ar ôl i Iobab farw, daeth Chwsham o ardal Teman yn frenin yn ei le. Ar ôl i Chwsham farw, daeth Hadad fab Bedad o dre Afith yn frenin yn ei le. Hadad wnaeth orchfygu Midian mewn brwydr yn Moab. Ar ôl i Hadad farw, daeth Samla o Masreca yn frenin yn ei le. Ar ôl i Samla farw, daeth Saul o Rehoboth-ger-yr-Afon yn frenin yn ei le. Ar ôl i Saul farw, daeth Baal-chanan fab Achbor yn frenin yn ei le. Wedyn ar ôl i Baal-chanan fab Achbor farw daeth Hadar o dre Paw yn frenin yn ei le. Enw gwraig Hadar oedd Mehetafél (merch Matred ac wyres Me-sahab). Dyma enwau arweinwyr llwythau Esau — pob llwyth yn byw mewn ardal arbennig o'r wlad: Timna, Alfa, Ietheth, Oholibama, Ela, Pinon, Cenas, Teman, Miftsar, Magdiel ac Iram. Y rhain oedd arweinwyr llwythau Edom (sef Esau, tad pobl Edom) — pob un yn byw yn y rhan o'r wlad roedd wedi ei meddiannu. A dyma Jacob yn setlo yn y rhan o wlad Canaan roedd ei dad wedi ymfudo iddi. Dyma hanes teulu Jacob: Pan oedd Joseff yn 17 oed, roedd gyda'i frodyr yn gofalu am y preiddiau. Llanc ifanc oedd e, yn gweithio gyda meibion Bilha a Silpa, gwragedd ei dad. Ond roedd yn cario straeon am ei frodyr i'w dad. Roedd Israel yn caru Joseff fwy na'i feibion eraill i gyd, am fod Joseff wedi cael ei eni pan oedd e'n hen ddyn. Ac roedd wedi gwneud côt sbesial iddo. Ond roedd ei frodyr yn ei gasáu, am fod eu tad yn caru Joseff fwy na nhw. Doedden nhw ddim yn gallu dweud run gair caredig wrtho. Ond wedyn cafodd Joseff freuddwyd. Pan ddwedodd wrth ei frodyr am y freuddwyd roedden nhw'n ei gasáu e fwy fyth. “Gwrandwch ar y freuddwyd yma ges i,” meddai wrthyn nhw. “Roedden ni i gyd wrthi'n rhwymo ysgubau mewn cae. Yn sydyn dyma fy ysgub i yn codi ac yn sefyll yn syth. A dyma'ch ysgubau chi yn casglu o'i chwmpas ac yn ymgrymu iddi!” “Wyt ti'n meddwl dy fod ti'n frenin neu rywbeth?” medden nhw. “Wyt ti'n mynd i deyrnasu droson ni?” Ac roedden nhw'n ei gasáu e fwy fyth o achos y freuddwyd a beth ddwedodd e wrthyn nhw. Wedyn cafodd Joseff freuddwyd arall, a dwedodd am honno wrth ei frodyr hefyd. “Dw i wedi cael breuddwyd arall,” meddai. “Roedd yr haul a'r lleuad ac un deg un o sêr yn ymgrymu o'm blaen i.” Ond pan ddwedodd wrth ei dad a'i frodyr am y freuddwyd, dyma'i dad yn dweud y drefn wrtho. “Sut fath o freuddwyd ydy honna?” meddai wrtho. “Wyt ti'n meddwl fy mod i a dy fam a dy frodyr yn mynd i ddod ac ymgrymu o dy flaen di?” Roedd ei frodyr yn genfigennus ohono. Ond roedd ei dad yn cadw'r peth mewn cof. Roedd ei frodyr wedi mynd ag anifeiliaid eu tad i bori wrth ymyl Sichem. A dyma Israel yn dweud wrth Joseff, “Mae dy frodyr wedi mynd â'r praidd i bori i Sichem. Dw i eisiau i ti fynd yno i'w gweld nhw.” “Iawn, dw i'n barod,” meddai Joseff. “Dos i weld sut maen nhw, a sut mae'r praidd,” meddai ei dad wrtho. “Wedyn tyrd yn ôl i ddweud wrtho i.” Felly dyma Joseff yn mynd o ddyffryn Hebron i Sichem. Pan gyrhaeddodd Sichem dyma ryw ddyn yn dod ar ei draws yn crwydro yn y wlad. Gofynnodd y dyn iddo, “Am beth ti'n chwilio?” “Dw i'n edrych am fy mrodyr,” meddai Joseff. “Alli di ddweud wrtho i ble maen nhw wedi mynd â'r praidd i bori?” A dyma'r dyn yn ateb, “Maen nhw wedi gadael yr ardal yma. Clywais nhw'n dweud eu bod yn mynd i Dothan.” Felly dyma Joseff yn mynd ar eu holau, ac yn dod o hyd iddyn nhw yn Dothan. Roedden nhw wedi ei weld yn dod o bell. Cyn iddo gyrraedd dyma nhw'n cynllwynio i'w ladd. “Edrychwch, mae'r breuddwydiwr mawr yn dod!” medden nhw. “Gadewch i ni ei ladd. Gallwn ei daflu i mewn i bydew, a dweud fod anifail gwyllt wedi ei ladd. Cawn weld beth ddaw o'i freuddwydion wedyn!” Dyma Reuben yn digwydd clywed beth ddwedon nhw, a llwyddodd i achub bywyd Joseff. “Na, gadewch i ni beidio â'i ladd,” meddai wrthyn nhw. “Peidiwch tywallt gwaed. Taflwch e i mewn i'r pydew yma yn yr anialwch, ond peidiwch gwneud niwed iddo.” (Bwriad Reuben oedd achub Joseff, a mynd ag e yn ôl at ei dad.) Felly pan ddaeth Joseff at ei frodyr, dyma nhw'n tynnu ei got oddi arno (y got sbesial oedd e'n ei gwisgo). Ac wedyn dyma nhw'n ei daflu i mewn i bydew. (Roedd y pydew yn wag — doedd dim dŵr ynddo.) Pan oedden nhw'n eistedd i lawr i fwyta, dyma nhw'n gweld carafan o Ismaeliaid yn teithio o gyfeiriad Gilead. Roedd ganddyn nhw gamelod yn cario gwm balm, a myrr i lawr i'r Aifft. A dyma Jwda'n dweud wrth ei frodyr, “Dŷn ni'n ennill dim trwy ladd ein brawd a cheisio cuddio'r ffaith. Dewch, gadewch i ni ei werthu e i'r Ismaeliaid acw. Ddylen ni ddim gwneud niwed iddo. Wedi'r cwbl mae yn frawd i ni.” A dyma'r brodyr yn cytuno. Felly pan ddaeth y masnachwyr o Midian heibio, dyma nhw'n tynnu Joseff allan o'r pydew, a'i werthu i'r Ismaeliaid am 20 darn o arian. A dyma'r Ismaeliaid yn mynd â Joseff gyda nhw i'r Aifft. Yn nes ymlaen dyma Reuben yn dod yn ôl at y pydew. Pan welodd fod Joseff ddim yno dyma fe'n rhwygo ei ddillad. Aeth at ei frodyr, a dweud, “Mae'r bachgen wedi mynd! Be dw i'n mynd i'w wneud nawr?” Yna dyma nhw'n cymryd côt Joseff, lladd gafr ac yna trochi'r got yng ngwaed yr anifail. Wedyn dyma nhw'n mynd â'r got sbesial at eu tad, a dweud, “Daethon ni o hyd i hon. Pwy sydd piau hi? Ai côt dy fab di ydy hi neu ddim?” Dyma fe'n nabod y got. “Ie, côt fy mab i ydy hi! Mae'n rhaid bod anifail gwyllt wedi ymosod arno a'i rwygo'n ddarnau!” A dyma Jacob yn rhwygo ei ddillad a gwisgo sachliain. A buodd yn galaru am ei fab am amser hir. Roedd ei feibion a'i ferched i gyd yn ceisio ei gysuro, ond roedd yn gwrthod codi ei galon. “Dw i'n mynd i fynd i'r bedd yn dal i alaru am fy mab,” meddai. Ac roedd yn beichio crïo. Yn y cyfamser roedd y Midianiaid wedi gwerthu Joseff yn yr Aifft. Cafodd ei werthu i Potiffar, un o swyddogion y Pharo a chapten ei warchodlu. Tua'r adeg honno dyma Jwda yn gadael ei frodyr ac ymuno â dyn o Adwlam o'r enw Hira. Yno dyma fe'n cyfarfod ac yn priodi merch i ddyn o Canaan o'r enw Shwa. Cysgodd gyda hi, a dyma hi'n beichiogi ac yn cael mab. Galwodd Jwda'r plentyn yn Er. Wedyn dyma hi'n beichiogi eto ac yn cael mab arall a'i alw yn Onan. A chafodd fab arall eto a'i alw yn Shela. Roedd Jwda yn Chesib pan gafodd hi'r plentyn hwnnw. Dyma Jwda yn cael gwraig i Er, ei fab hynaf. Tamar oedd ei henw hi. Ond roedd Er yn ddrwg, a dyma'r ARGLWYDD yn gadael iddo farw. Felly dwedodd Jwda wrth Onan, brawd Er, “Dy le di ydy cymryd gwraig dy frawd Er, a magu teulu iddo.” Ond roedd Onan yn gwybod na fyddai'r plant yn cael eu cyfri yn blant iddo fe. Felly bob tro roedd e'n cael rhyw gyda Tamar, roedd yn gwneud yn siŵr fod ei had ddim yn mynd iddi, rhag ofn iddi feichiogi. Doedd arno ddim eisiau rhoi plentyn i'w frawd. Roedd gwneud peth felly yn ddrwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, felly dyma Duw yn gadael iddo fe farw hefyd. Yna dyma Jwda yn dweud wrth Tamar, ei ferch-yng-nghyfraith, “Dos adre at dy dad, ac aros yn weddw nes bydd Shela, fy mab arall, wedi tyfu.” (Ond roedd gan Jwda ofn i Shela farw hefyd, fel ei frodyr.) Felly aeth Tamar adre i fyw at ei thad. Beth amser wedyn dyma gwraig Jwda (sef merch Shwa) yn marw. Pan oedd y cyfnod i alaru drosodd, dyma Jwda a'i ffrind Hira o Adwlam yn mynd i Timna i gneifio ei ddefaid. A dwedodd rhywun wrth Tamar fod ei thad-yng-nghyfraith yn mynd yno. Roedd Tamar yn gwybod fod Shela wedi tyfu, ac eto doedd hi ddim wedi cael ei rhoi yn wraig iddo. Felly dyma Tamar yn newid o'r dillad oedd yn dangos ei bod hi'n weddw, gwisgo i fyny, a rhoi fêl dros ei hwyneb. Yna aeth i eistedd ar ochr y ffordd y tu allan i bentref Enaim, sydd ar y ffordd i Timna. Pan welodd Jwda hi, roedd yn meddwl mai putain oedd hi, gan ei bod hi wedi cuddio'i hwyneb. Aeth draw ati ar ochr y ffordd, a dweud, “Tyrd, dw i eisiau rhyw gyda ti.” (Doedd e ddim yn gwybod mai ei ferch-yng-nghyfraith oedd hi.) A dyma hithau yn ateb, “Faint wnei di dalu i mi am gael rhyw gyda fi?” “Wna i anfon myn gafr i ti o'r praidd,” meddai Jwda. A dyma hi'n ateb, “Dim ond os caf i rywbeth i'w gadw'n ernes nes i ti anfon yr afr i mi.” “Beth wyt ti eisiau?” meddai. “Y sêl yna sydd ar y cordyn am dy wddf, a dy ffon di.” Felly dyma fe'n eu rhoi nhw iddi. Cafodd ryw gyda hi, a dyma hi'n beichiogi. Aeth i ffwrdd ar unwaith, tynnu'r fêl, a gwisgo'i dillad gweddw eto. Dyma Jwda'n anfon ei ffrind o Adwlam gyda'r myn gafr iddi, ac i gael y pethau roddodd e iddi yn ôl. Ond roedd y ffrind yn methu dod o hyd iddi. Dyma fe'n holi dynion yr ardal amdani. “Ble mae'r butain cysegr oedd ar ochr y ffordd yn Enaim?” “Does dim putain cysegr yma,” medden nhw. Felly aeth yn ôl at Jwda a dweud wrtho, “Dw i wedi methu dod o hyd iddi. Mae dynion yr ardal yn dweud fod dim putain cysegr yno.” “Caiff hi gadw'r pethau rois i iddi,” meddai Jwda. “Anfonais i'r myn gafr iddi, ond roeddet ti'n methu dod o hyd iddi. Fyddwn ni'n ddim byd ond testun sbort os awn ni yn ôl yno.” Tua tri mis yn ddiweddarach, dwedodd rhywun wrth Jwda, “Mae Tamar, dy ferch-yng-nghyfraith wedi bod yn cysgu o gwmpas. Mae hi'n disgwyl babi.” “Dewch â hi allan yma, a'i llosgi hi!” meddai Jwda. Ond wrth iddyn nhw ddod â hi allan, dyma hi'n anfon neges at ei thad-yng-nghyfraith, “Y dyn sydd piau'r pethau yma sydd wedi fy ngwneud i'n feichiog. Edrych pwy sydd piau nhw — y sêl yma sydd ar gordyn, a'r ffon.” Dyma Jwda'n gweld mai fe oedd piau nhw. “Hi sy'n iawn a fi sydd ar fai,” meddai. “Wnes i ddim ei rhoi hi'n wraig i'm mab Shela.” Wnaeth Jwda ddim cysgu gyda hi ar ôl hynny. Pan ddaeth ei hamser hi, roedd ganddi efeilliaid. Wrth iddi eni'r plant dyma un plentyn yn gwthio ei law allan, a dyma'r fydwraig yn rhwymo edau goch am ei arddwrn, a dweud, “Hwn ddaeth allan gynta.” Ond wedyn tynnodd ei law yn ôl, a daeth ei frawd allan o'i flaen. “Sut wnest ti lwyddo i wthio trwodd?” meddai'r fydwraig. Felly dyma'r plentyn hwnnw yn cael ei alw yn Perets. A dyma'i frawd yn cael ei eni wedyn, gyda'r edau goch am ei arddwrn. A dyma fe'n cael ei alw yn Serach. Cafodd Joseff ei gymryd i lawr i'r Aifft gan yr Ismaeliaid. A dyma un o swyddogion y Pharo, sef Potiffar, capten y gwarchodlu, yn ei brynu e ganddyn nhw. Roedd yr ARGLWYDD yn gofalu am Joseff. Roedd pethau'n mynd yn dda iddo wrth iddo weithio yn nhŷ ei feistr yn yr Aifft. Sylwodd ei feistr fod yr ARGLWYDD yn gofalu am Joseff a bod popeth roedd e'n ei wneud yn llwyddo. Felly am fod Joseff yn ei blesio, gwnaeth Potiffar e'n was personol iddo'i hun. Joseff oedd yn rhedeg popeth oedd yn digwydd yn y tŷ, am fod Potiffar wedi rhoi'r cwbl oedd ganddo yn ei ofal. Ac o'r diwrnod y cafodd Joseff ei benodi i'r swydd roedd yr ARGLWYDD yn bendithio tŷ'r Eifftiwr. Roedd yn gwneud hyn er mwyn Joseff. Roedd popeth yn mynd yn dda i Potiffar, yn ei dŷ a'i dir. Felly Joseff oedd yn gofalu am bopeth. Doedd Potiffar yn gorfod poeni am ddim byd ond y bwyd roedd yn ei fwyta. Roedd Joseff yn ddyn ifanc cryf a golygus. Roedd gwraig Potiffar yn ffansïo Joseff, ac meddai wrtho, “Tyrd i'r gwely hefo fi.” Ond gwrthododd Joseff, a dweud wrthi, “Mae fy meistr yn trystio fi'n llwyr. Mae e wedi rhoi popeth sydd ganddo yn fy ngofal i. Does neb yn ei dŷ yn bwysicach na fi. Dydy e'n cadw dim oddi wrtho i ond ti, gan mai ei wraig e wyt ti. Felly sut allwn i feiddio gwneud y fath beth, a phechu yn erbyn Duw?” Er ei bod hi'n gofyn yr un peth iddo ddydd ar ôl dydd, doedd Joseff ddim yn fodlon cael rhyw na gwneud dim byd arall gyda hi. Ond un diwrnod, pan aeth e i'r tŷ i wneud ei waith, a neb arall yno, dyma hi'n gafael yn ei ddillad, a dweud, “Tyrd i'r gwely hefo fi!” Ond dyma Joseff yn gadael ei got allanol yn ei llaw, ac yn rhedeg allan. Pan welodd hi ei fod wedi gadael ei got dyma hi'n galw ar weision y tŷ a dweud, “Edrychwch, mae fy ngŵr wedi dod â'r Hebrëwr aton ni i'n cam-drin ni. Ceisiodd fy nhreisio i, ond dyma fi'n sgrechian. Pan glywodd fi'n gweiddi a sgrechian gadawodd ei got wrth fy ymyl a dianc.” Cadwodd y dilledyn wrth ei hymyl nes i Potiffar ddod adre. Wedyn dwedodd yr un stori wrtho fe. “Daeth yr Hebrëwr yna ddoist ti ag e yma i mewn ata i a cheisio fy ngham-drin i, ond pan ddechreuais i sgrechian, dyma fe'n gadael ei got wrth fy ymyl a dianc.” Pan glywodd y meistr ei wraig yn dweud sut oedd Joseff wedi ei thrin hi, roedd e'n gynddeiriog. Taflodd Joseff i'r carchar lle roedd carcharorion y brenin yn cael eu cadw, a dyna lle'r arhosodd. Ond roedd yr ARGLWYDD yn gofalu am Joseff yno hefyd, ac yn garedig iawn ato. Gwnaeth i warden y carchar ei hoffi. Gwnaeth y warden Joseff yn gyfrifol am y carcharorion eraill. Joseff oedd yn gyfrifol am beth bynnag oedd yn digwydd yno. Doedd y warden yn gorfod poeni am ddim byd oedd dan ofal Joseff, am fod yr ARGLWYDD gydag e. Beth bynnag roedd Joseff yn ei wneud, roedd yr ARGLWYDD yn ei lwyddo. Beth amser wedyn, dyma brif-wetar a pen-pobydd y palas brenhinol yn pechu yn erbyn eu meistr, brenin yr Aifft. Roedd y Pharo yn wyllt gynddeiriog gyda'i ddau swyddog, a thaflodd nhw i'r carchar ble roedd Joseff, sef carchar capten y gwarchodlu. Rhoddodd y capten y gwaith o edrych ar eu holau i Joseff. Roedd yn gweini arnyn nhw, a buon nhw yn y carchar am amser hir. Un noson dyma'r ddau ohonyn nhw yn cael breuddwyd — prif-wetar a pen-pobydd brenin yr Aifft, oedd yn y carchar. Cafodd y ddau freuddwyd, ac roedd ystyr arbennig i'r ddwy freuddwyd. Pan ddaeth Joseff i mewn atyn nhw y bore wedyn, sylwodd fod y ddau yn poeni am rywbeth. Felly gofynnodd iddyn nhw, “Pam ydych chi'n edrych mor ddigalon?” A dyma nhw'n dweud wrtho, “Mae'r ddau ohonon ni wedi cael breuddwydion neithiwr ond does neb yn gallu esbonio'r ystyr i ni.” Atebodd Joseff, “Dim ond Duw sy'n gallu esbonio'r ystyr. Dwedwch wrtho i beth oedd y breuddwydion.” Felly dyma'r prif-wetar yn dweud wrth Joseff am ei freuddwyd, “Yn fy mreuddwyd i roeddwn i'n gweld gwinwydden. Roedd tair cangen ar y winwydden. Dechreuodd flaguro a blodeuo, ac wedyn roedd sypiau o rawnwin yn aeddfedu arni. Roedd cwpan y Pharo yn fy llaw. A dyma fi'n cymryd y grawnwin a gwasgu eu sudd i mewn i gwpan y Pharo, a'i roi iddo i'w yfed.” Dwedodd Joseff wrtho, “Dyma'r ystyr. Mae'r tair cangen y cynrychioli tri diwrnod. Mewn tri diwrnod bydd y Pharo yn rhoi dy swydd yn ôl i ti. Byddi di'n rhoi ei gwpan i'r Pharo eto, fel roeddet ti'n arfer gwneud pan oeddet ti'n brif-wetar. Ond cofia amdana i pan fydd pethau'n mynd yn dda arnat ti. Gwna ffafr â mi, a sonia wrth y Pharo amdana i, i minnau gael dod allan o'r carchar yma. Ces i fy nghipio o wlad yr Hebreaid, a dw i wedi gwneud dim byd i haeddu cael fy rhoi yn y dwnsiwn yma.” Pan welodd y pen-pobydd fod yr esboniad yn dda, dyma fe'n dweud wrth Joseff, “Ces i freuddwyd hefyd. Ro'n i'n cario tair basged o fara gwyn ar fy mhen. Yn y fasged uchaf roedd pob math o fara a chacennau wedi eu pobi i'r Pharo ond roedd yr adar yn eu bwyta nhw o'r fasged oedd ar fy mhen i.” A dyma Joseff yn dweud, “Dyma ydy'r ystyr. Mae'r tair basged yn cynrychioli tri diwrnod. Mewn tri diwrnod bydd y Pharo yn torri dy ben di i ffwrdd, ac yn rhoi dy gorff ar bolyn, a bydd yr adar yn bwyta dy gnawd di.” Ddeuddydd wedyn roedd pen-blwydd y Pharo, a dyma fe'n trefnu gwledd fawr i'w swyddogion i gyd. Daeth â'r prif-wetar a'r pen-pobydd allan o'r carchar. Rhoddodd ei swydd yn ôl i'r prif-wetar, a dechreuodd weini ar y Pharo eto. Wedyn gorchmynnodd grogi corff y pen-pobydd ar bolyn, yn union fel roedd Joseff wedi dweud. Ond anghofiodd y prif-wetar yn llwyr am Joseff. Aeth dwy flynedd gyfan heibio. A dyma'r Pharo yn cael breuddwyd. Roedd yn sefyll wrth yr afon Nil, a dyma saith o wartheg oedd yn edrych yn dda ac wedi eu pesgi yn dod allan o'r afon a dechrau pori ar y lan. Ac wedyn dyma saith o wartheg eraill yn dod allan o'r afon ar eu holau. Roedd golwg denau, wael ar y rhain. Dyma nhw'n sefyll gyda'r gwartheg eraill ar lan yr afon Nil. A dyma'r gwartheg tenau, gwael yn bwyta'r gwartheg oedd yn edrych yn dda. Ac wedyn dyma'r Pharo'n deffro. Pan aeth yn ôl i gysgu cafodd freuddwyd arall. Gwelodd saith tywysen o rawn, rhai oedd yn edrych yn llawn ac yn iach, yn tyfu ar un gwelltyn. A dyma saith dywysen arall yn tyfu ar eu holau, rhai gwael wedi eu crino gan wynt y dwyrain. A dyma'r tywysennau gwael yn llyncu'r tywysennau iach. Deffrodd y Pharo a sylweddoli mai breuddwyd arall oedd hi. Y bore wedyn roedd yn teimlo'n anesmwyth, felly galwodd swynwyr doeth yr Aifft i'w weld. Dwedodd wrthyn nhw am ei freuddwyd ond doedd neb yn gallu esbonio ystyr y freuddwyd iddo. Yna dyma'r prif-wetar yn mynd i siarad â'r Pharo, “Dw i newydd gofio rhywbeth heddiw. Dw i wedi bod ar fai,” meddai. “Roedd y Pharo wedi gwylltio gyda'i weision, ac wedi fy anfon i a'r pen-pobydd i garchar capten y gwarchodlu. Cafodd y ddau ohonon ni freuddwyd ar yr un noson, ac roedd ystyr arbennig i'r ddwy freuddwyd. Roedd Hebrëwr ifanc yn y carchar, gwas capten y gwarchodlu. Pan ddwedon wrtho am ein breuddwydion, dyma fe'n esbonio ystyr y ddwy freuddwyd. A digwyddodd popeth yn union fel roedd wedi dweud. Ces i fy swydd yn ôl ond cafodd corff y pobydd ei grogi ar bolyn.” Felly dyma'r Pharo yn anfon am Joseff. A dyma nhw'n dod ag e allan o'r dwnsiwn ar frys. Ar ôl iddo siafio a gwisgo dillad glân, dyma fe'n cael ei ddwyn o flaen y Pharo. A dyma'r Pharo yn dweud wrtho, “Dw i wedi cael breuddwyd a does neb yn gallu dweud wrtho i beth ydy ei hystyr hi. Dw i'n deall dy fod ti'n gallu dehongli breuddwydion.” Atebodd Joseff, “Dim fi. Duw ydy'r unig un sy'n gallu dweud wrth y Pharo sut fydd e'n llwyddo.” Felly dyma'r Pharo'n dweud wrth Joseff, “Yn y freuddwyd roeddwn i'n sefyll ar lan yr afon Nil. Dyma saith o wartheg oedd yn edrych yn dda ac wedi eu pesgi yn dod allan o'r afon a dechrau pori ar y lan. Ac wedyn dyma saith o wartheg eraill yn dod allan o'r afon ar eu holau. Roedd golwg denau, wael ar y rhain. Doeddwn i erioed wedi gweld rhai oedd yn edrych mor wael yng ngwlad yr Aifft i gyd. A dyma'r gwartheg tenau gwael yn bwyta'r saith buwch oedd yn edrych yn dda. Ond fyddai neb yn gwybod eu bod nhw wedi gwneud hynny, achos roedden nhw'n dal i edrych mor wael ag erioed. Ac wedyn dyma fi'n deffro. “Es i yn ôl i gysgu, a chefais freuddwyd arall. Gwelais saith tywysen o rawn oedd yn edrych yn llawn ac yn iach, yn tyfu ar un gwelltyn. Wedyn dyma saith tywysen arall yn tyfu ar eu holau, rhai gwael, wedi gwywo ac wedi eu crino gan wynt y dwyrain. A dyma'r tywysennau gwael yn llyncu'r saith tywysen iach. Ond pan ddywedais hyn wrth y swynwyr, doedd neb ohonyn nhw'n gallu dweud yr ystyr wrtho i.” Yna dyma Joseff yn dweud wrth y Pharo, “Yr un ystyr sydd i'r ddwy freuddwyd. Mae Duw wedi dangos i'r Pharo beth mae ar fin ei wneud. Saith mlynedd ydy'r saith o wartheg sy'n edrych yn dda, a saith mlynedd ydy'r saith dywysen iach. Un ystyr sydd i'r ddwy freuddwyd. Saith mlynedd ydy'r saith o wartheg tenau, gwael, a saith mlynedd ydy'r saith dywysen wag wedi eu crino gan wynt y dwyrain. Maen nhw'n cynrychioli saith mlynedd o newyn. Fel dw i newydd ddweud: mae Duw wedi dangos i'r Pharo beth mae ar fin ei wneud. Mae saith mlynedd yn dod pan fydd digonedd o fwyd yng ngwlad yr Aifft. Ond bydd saith mlynedd o newyn yn dilyn, a fydd dim arwydd yn y wlad fod cyfnod o ddigonedd wedi bod. Bydd y newyn yn difetha'r wlad. Fydd dim sôn am y blynyddoedd llewyrchus am fod y newyn mor ddifrifol. Cafodd y Pharo y freuddwyd ddwywaith am fod Duw am ddangos fod y peth yn siŵr o ddigwydd. Mae Duw yn mynd i wneud iddo ddigwydd ar unwaith. Felly dylai'r Pharo ddewis dyn galluog a doeth i reoli gwlad yr Aifft. Dylai benodi swyddogion ar hyd a lled y wlad, i gasglu un rhan o bump o gynnyrch y tir yn ystod y saith mlynedd o ddigonedd. Dylen nhw gasglu'r cnydau yma o'r blynyddoedd da. A dylai'r Pharo roi awdurdod iddyn nhw storio'r grawn fel bod bwyd i'w gael yn y dinasoedd. A bydd rhaid cael milwyr i'w warchod. Dylai'r bwyd yma fod wrth gefn ar gyfer y saith mlynedd o newyn sy'n mynd i daro gwlad yr Aifft. Wedyn fydd y newyn ddim yn rhoi diwedd llwyr ar y wlad.” Roedd y cyngor roddodd Joseff yn gwneud sens i'r Pharo a'i swyddogion. A dwedodd y Pharo wrth ei swyddogion, “Ydyn ni'n mynd i ddod o hyd i unrhyw un tebyg i'r dyn yma? Mae Ysbryd Duw ynddo.” Felly dyma'r Pharo yn dweud wrth Joseff, “Gan fod Duw wedi dangos hyn i gyd i ti, maen amlwg fod neb sy'n fwy galluog a doeth na ti. Dw i'n rhoi'r gwaith o reoli'r cwbl i ti. Bydd rhaid i'm pobl i gyd wneud fel rwyt ti'n dweud. Dim ond y ffaith mai fi ydy'r brenin fydd yn fy ngwneud i'n bwysicach na ti.” Yna dyma'r Pharo'n dweud wrth Joseff, “Dw i'n dy osod di yn bennaeth ar wlad yr Aifft i gyd.” Tynnodd ei sêl-fodrwy oddi ar ei fys a'i rhoi hi ar fys Joseff. Wedyn dyma fe'n arwisgo Joseff â gŵn o liain main drud a rhoi cadwyn aur am ei wddf. Gwnaeth iddo deithio yn ei ail gerbyd, gyda rhai yn gweiddi o'i flaen “I lawr ar eich gliniau!” Felly dyma'r Pharo yn ei wneud yn bennaeth ar wlad yr Aifft i gyd. Dwedodd y Pharo wrtho hefyd, “Fi ydy'r Pharo. Ond fydd neb yng ngwlad yr Aifft yn cael symud bys bach heb dy ganiatâd di.” Rhoddodd y Pharo yr enw Saffnat-paneach i Joseff, a rhoi Asnath, merch Potiffera offeiriad Heliopolis yn wraig iddo. A dyma Joseff yn mynd ati i reoli gwlad yr Aifft. Tri deg oed oedd Joseff pan ddechreuodd weithio i'r Pharo, brenin yr Aifft. Dyma Joseff yn gadael y Pharo, ac yn teithio drwy wlad yr Aifft i gyd. Yn ystod y saith mlynedd o ddigonedd cafwyd cnydau gwych yn y wlad. Casglodd Joseff y grawn oedd dros ben yn yr Aifft yn ystod y blynyddoedd hynny, a'i storio yn y trefi. Ym mhob tref roedd yn storio cynnyrch yr ardal o'i chwmpas. Llwyddodd Joseff i storio swm aruthrol fawr o ŷd. Roedd fel y tywod ar lan y môr. Roedd rhaid stopio ei bwyso i gyd am fod gormod ohono. Cyn i'r newyn ddechrau cafodd Joseff ac Asnath, merch Potiffera, ddau fab. Galwodd Joseff ei blentyn cyntaf yn Manasse — “Mae Duw wedi gwneud i mi anghofio fy holl drafferthion, a'm teulu,” meddai. Galwodd yr ail blentyn yn Effraim — “Mae Duw wedi fy ngwneud i yn ffrwythlon yn y wlad lle dw i wedi diodde,” meddai. Dyma'r saith mlynedd o ddigonedd yng ngwlad yr Aifft yn dod i ben. A dechreuodd saith mlynedd o newyn, yn union fel roedd Joseff wedi dweud. Roedd newyn yn y gwledydd o gwmpas i gyd ond roedd bwyd i'w gael yn yr Aifft. Pan oedd y newyn wedi dod a tharo'r Aifft, dyma'r bobl yn galw ar y Pharo am fwyd. A dyma'r Pharo yn dweud, “Ewch i weld Joseff, a gwnewch beth bynnag mae e'n ddweud.” Pan oedd y newyn yn lledu drwy'r byd, agorodd Joseff y stordai a dechrau gwerthu ŷd i bobl yr Aifft. Roedd y newyn yn drwm yno. Roedd pobl o bob gwlad yn dod i'r Aifft at Joseff i brynu ŷd am fod y newyn mor drwm yn y gwledydd hynny i gyd. Clywodd Jacob fod ŷd ar werth yn yr Aifft. “Pam dych chi'n sefyllian yma yn gwneud dim byd?” meddai wrth ei feibion. “Dw i wedi clywed fod ŷd yn yr Aifft. Ewch i lawr yno i brynu peth i ni er mwyn i ni gael byw yn lle marw.” Felly dyma ddeg o frodyr Joseff yn mynd i lawr i'r Aifft i brynu ŷd. Ond wnaeth Jacob ddim anfon Benjamin, brawd Joseff, gyda'r brodyr eraill. Roedd arno ofn i rywbeth ddigwydd iddo. Felly aeth meibion Israel gyda phawb arall oedd yn mynd i lawr i'r Aifft i brynu ŷd. Roedd y newyn wedi taro gwlad Canaan yn drwm. Joseff oedd yn rheoli gwlad yr Aifft, a fe oedd yn gwerthu'r ŷd i bobl. A daeth brodyr Joseff yno ac yn ymgrymu o'i flaen. Dyma Joseff yn eu nabod nhw pan welodd nhw. Ond roedd yn ymddwyn fel dyn dieithr o'u blaenau nhw a dechreuodd siarad yn gas gyda nhw. “O ble dych chi'n dod?” meddai. A dyma nhw'n ateb, “O wlad Canaan. Dŷn ni wedi dod yma i brynu bwyd.” Er bod Joseff wedi eu nabod nhw, doedden nhw ddim wedi ei nabod e. A dyma Joseff yn cofio'r breuddwydion roedd wedi eu cael amdanyn nhw. Ac meddai wrthyn nhw, “Ysbiwyr ydych chi! Dych chi wedi dod i weld lle fyddai'n hawdd i chi ymosod ar y wlad.” “Na, syr,” medden nhw. “Mae dy weision wedi dod yma i brynu bwyd. Dŷn ni i gyd yn feibion i'r un dyn, ac yn ddynion gonest. Dŷn ni erioed wedi bod yn ysbiwyr.” “Na,” meddai Joseff. “Dych chi wedi dod i weld lle fyddai'n hawdd i chi ymosod ar y wlad!” A dyma nhw'n ei ateb, “Mae dy weision yn ddeuddeg brawd. Dŷn ni i gyd yn feibion i'r un dyn sy'n byw yng ngwlad Canaan. Mae'r ifancaf adre gyda'n tad, ac mae un wedi marw.” “Na,” meddai Joseff eto. “Ysbiwyr ydych chi, yn union fel dw i wedi dweud. Ond dw i'n mynd i'ch profi chi. Mor sicr â bod y Pharo'n fyw, chewch chi ddim gadael nes bydd eich brawd bach wedi dod yma! Caiff un ohonoch chi fynd i nôl eich brawd tra mae'r lleill yn aros yn y carchar. Cewch gyfle i brofi eich bod yn dweud y gwir. Os nad ydych chi'n dweud y gwir mae'n amlwg mai ysbiwyr ydych chi.” A dyma fe'n eu cadw nhw yn y ddalfa am dri diwrnod. Ar y trydydd diwrnod dyma Joseff yn dweud wrthyn nhw, “Gwnewch beth dw i'n ei ofyn a chewch fyw. Dw i'n ddyn sy'n addoli Duw. Os ydych chi wir yn ddynion gonest, bydd rhaid i un ohonoch chi aros yma yn y carchar, a chaiff y lleill ohonoch chi fynd ag ŷd yn ôl i'ch teuluoedd. Ond rhaid i chi ddod â'ch brawd ifancaf yma ata i. Wedyn bydda i'n gwybod eich bod chi'n dweud y gwir, a fydd dim rhaid i chi farw.” A dyma nhw'n cytuno. Ond medden nhw wrth ei gilydd, “Dŷn ni'n talu'r pris am beth wnaethon ni i'n brawd. Roedden ni'n gweld yn iawn gymaint roedd e wedi dychryn, pan oedd yn pledio am drugaredd. Ond wnaethon ni ddim gwrando. Dyna pam mae hyn i gyd wedi digwydd i ni.” “Ddwedais i wrthoch chi am beidio gwneud niwed i'r bachgen, ond wnaethoch chi ddim gwrando,” meddai Reuben. “A nawr mae'n rhaid i ni dalu am dywallt ei waed!” (Doedden nhw ddim yn sylweddoli fod Joseff yn deall popeth roedden nhw'n ei ddweud. Roedd wedi bod yn siarad â nhw drwy gyfieithydd.) Dyma Joseff yn eu gadael nhw ac yn torri i lawr i grïo. Pan ddaeth yn ôl i siarad â nhw eto, dyma fe'n dewis Simeon i'w gadw yn y ddalfa, a gorchymyn ei rwymo yn y fan a'r lle. Wedyn dyma Joseff yn gorchymyn llenwi eu sachau ag ŷd, rhoi arian pob un ohonyn nhw yn ôl yn ei sach, a rhoi bwyd iddyn nhw ar gyfer y daith. A dyna wnaed. Dyma'r brodyr yn llwytho eu hasynnod a mynd. Pan wnaethon nhw stopio i aros dros nos, agorodd un ohonyn nhw ei sach i fwydo'i asyn. A dyna lle roedd ei arian yng ngheg y sach. Aeth i ddweud wrth ei frodyr, “Mae fy arian wedi cael ei roi yn ôl. Roedd yn y sach!” Roedden nhw wedi dychryn go iawn. “Be mae Duw wedi ei wneud?” medden nhw. Pan gyrhaeddon nhw adre i wlad Canaan at eu tad Jacob, dyma nhw'n dweud wrtho am bopeth oedd wedi digwydd. “Roedd llywodraethwr y wlad yn gas gyda ni ac yn ein cyhuddo ni o fod yn ysbiwyr. Dwedon ni wrtho ‘Dŷn ni'n ddynion gonest, dim ysbiwyr. Teulu o ddeuddeg brawd, meibion i'r un tad. Mae un brawd wedi marw, ac mae'r ifancaf adre gyda'n tad yng ngwlad Canaan.’ A dyma'r dyn oedd yn rheoli'r wlad yn dweud fel hyn, ‘Dyma sut fydda i'n gwybod os ydych chi'n ddynion gonest. Rhaid i un ohonoch chi aros yma gyda mi. Caiff y gweddill ohonoch chi fynd. Ewch ag ŷd i fwydo'ch teuluoedd. Wedyn dewch â'ch brawd bach yn ôl yma ata i. Bydda i'n gwybod wedyn eich bod chi'n ddynion gonest, ac nid ysbiwyr. Wedyn gwna i ryddhau'r brawd arall, a byddwch yn rhydd i brynu a gwerthu yma.’” Wedyn aethon nhw ati i wagio eu sachau. A dyna lle roedd cod arian pob un yn ei sach. Pan welon nhw a'u tad y codau arian roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau. “Dych chi'n fy ngwneud i'n ddi-blant fel hyn,” meddai Jacob. “Mae Joseff wedi mynd. Mae Simeon wedi mynd. A nawr dych chi am gymryd Benjamin oddi arna i! Mae popeth yn fy erbyn i.” Yna dyma Reuben yn dweud wrth ei dad, “Os gwna i ddim dod ag e'n ôl atat ti, cei ladd fy nau fab i. Gad i mi fod yn gyfrifol amdano. Dof i ag e'n ôl.” Ond meddai Jacob, “Na, dydy fy mab i ddim yn mynd gyda chi. Mae ei frawd wedi marw, a dim ond fe sydd ar ôl. Dw i'n hen ddyn. Petai rhywbeth yn digwydd iddo ar y daith byddai'r golled yn ddigon i'm gyrru i'r bedd.” Roedd y newyn yn mynd yn waeth yn y wlad. Pan oedd yr ŷd ddaethon nhw o'r Aifft wedi gorffen, dyma Jacob yn dweud wrth ei feibion, “Ewch yn ôl i brynu ychydig mwy o fwyd.” Ond dyma Jwda'n dweud wrtho, “Roedd y dyn wedi'n rhybuddio ni. ‘Gewch chi ddim dod i'm gweld i oni bai fod eich brawd gyda chi.’ Os gwnei di anfon Benjamin gyda ni, awn ni i lawr i brynu bwyd i ti. Ond os wyt ti ddim yn fodlon iddo ddod, wnawn ni ddim mynd chwaith. Dwedodd y dyn, ‘Gewch chi ddim dod i'm gweld i oni bai fod eich brawd gyda chi.’” “Pam wnaethoch chi beth mor wirion â dweud wrth y dyn fod gynnoch chi frawd arall?” meddai Israel. “Roedd y dyn yn ein holi ni'n fanwl amdanon ni'n hunain a'n teuluoedd,” medden nhw. “Roedd yn gofyn, ‘Ydy'ch tad chi yn dal yn fyw? Oes gynnoch chi frawd arall?’ Wnaethon ni ddim byd ond ateb ei gwestiynau. Sut oedden ni i fod i wybod y byddai'n dweud, ‘Dowch â'ch brawd i lawr yma’?” Yna dyma Jwda yn dweud wrth ei dad, Israel, “Anfon y bachgen gyda fi. Gallwn ni fynd yn syth, er mwyn i ni i gyd gael byw a pheidio marw — ti a ninnau a'n plant. Ar fy llw, bydda i'n edrych ar ei ôl e. Cei di fy nal i'n gyfrifol amdano. Os na ddof i ag e yn ôl a'i osod e yma o dy flaen di, bydda i'n euog yn dy olwg di am byth. Petaen ni heb lusgo'n traed bydden ni wedi bod yno ac yn ôl ddwywaith!” Felly dyma Israel, eu tad, yn dweud wrthyn nhw, “O'r gorau, ond gwnewch hyn: Ewch â peth o gynnyrch gorau'r wlad yn eich paciau, yn anrheg i'r dyn — ychydig o falm a mêl, gwm pêr, myrr, cnau pistasio ac almon. Ewch â dwbl yr arian gyda chi. Ewch â'r arian oedd yng ngheg eich sachau yn ôl. Camgymeriad oedd hynny mae'n siŵr. Ac ewch â'ch brawd gyda chi. Ewch ar unwaith i weld y dyn. A boed i'r Duw sy'n rheoli popeth wneud iddo fod yn garedig atoch chi, a gadael i Simeon a Benjamin ddod adre. Os oes rhaid i mi golli fy mhlant, rhaid i mi dderbyn hynny.” Felly i ffwrdd â nhw gyda dwbl yr arian, yr anrheg, a Benjamin. Dyma nhw'n teithio i lawr i'r Aifft a sefyll o flaen Joseff. Pan welodd Joseff fod Benjamin gyda nhw dyma fe'n dweud wrth brif swyddog ei dŷ, “Dos â'r dynion i mewn i'r tŷ. Lladd anifail i ginio. Byddan nhw'n bwyta gyda mi ganol dydd.” Felly dyma'r gwas yn gwneud hynny ac yn mynd â nhw i dŷ Joseff. Roedd ganddyn nhw ofn pan aethpwyd â nhw i dŷ Joseff. “Mae wedi dod â ni yma o achos yr arian oedd wedi ei roi yn ein sachau y tro dwetha,” medden nhw. “Mae'n mynd i'n dal ni, ein gwneud ni'n gaethweision a chymryd yr asynnod.” Felly dyma nhw'n mynd at brif swyddog tŷ Joseff wrth y drws, a dweud wrtho, “Syr. Daethon ni i lawr y tro cyntaf i brynu ŷd. Ar ein ffordd adre dyma ni'n stopio dros nos ac agor ein sachau, a dyna lle roedd arian pob un ohonon ni yng ngheg ei sach — roedd yr arian i gyd yno! Felly dŷn ni wedi dod â'r cwbl yn ôl. A dŷn ni wedi dod â mwy o arian gyda ni i brynu bwyd. Does gynnon ni ddim syniad pwy roddodd yr arian yn ein sachau ni.” “Mae popeth yn iawn,” meddai'r swyddog. “Peidiwch bod ag ofn. Mae'n rhaid bod eich Duw chi a'ch tad wedi rhoi'r arian yn ôl yn eich sachau. Gwnes i dderbyn eich arian chi.” A dyma fe'n dod â Simeon allan atyn nhw. Ar ôl i'r swyddog fynd â nhw i dŷ Joseff, rhoddodd ddŵr iddyn nhw i olchi eu traed, a bwydo eu hasynnod nhw. A dyma nhw'n paratoi'r anrheg ar gyfer pan fyddai Joseff yn dod ganol dydd. Roedden nhw wedi clywed eu bod nhw'n mynd i fwyta gydag e. Pan ddaeth Joseff adre dyma nhw'n cyflwyno'r anrhegion iddo, ac yn ymgrymu o'i flaen. Gofynnodd iddyn nhw sut oedden nhw. “Sut mae'ch tad yn cadw?” meddai. “Roeddech chi'n dweud ei fod mewn oed. Ydy e'n dal yn fyw?” “Mae dy was, ein tad, yn fyw ac yn iach,” medden nhw. A dyma nhw'n ymgrymu yn isel o'i flaen. Yna dyma Joseff yn gweld ei frawd Benjamin, mab ei fam. “Ai hwn ydy'r brawd bach y sonioch chi amdano?” gofynnodd. Ac meddai wrth Benjamin, “Bendith Duw arnat ti fy machgen i.” Ac roedd rhaid i Joseff frysio allan o'r ystafell. Roedd ei deimladau at ei frawd yn cael y gorau arno, ac roedd ar fin torri i lawr i grïo. Aeth i ystafell breifat ac wylo yno. Ar ôl golchi ei wyneb daeth yn ôl allan. Gan reoli ei deimladau, dyma fe'n gorchymyn dod â'r bwyd o'u blaenau. Roedd lleoedd ar wahân wedi eu gosod iddo fe, i'w frodyr, ac i'r Eifftiaid oedd yn bwyta gydag e. (Doedd Eifftiaid ddim yn gallu bwyta gyda Hebreaid. Byddai gwneud hynny yn tabŵ.) Cafodd y brodyr eu gosod i eistedd o'i flaen mewn trefn, o'r hynaf i'r ifancaf. Ac roedden nhw'n edrych ar ei gilydd wedi syfrdanu. Rhoddodd Joseff beth o'r bwyd oedd wedi ei osod o'i flaen e iddyn nhw. Roedd digon o fwyd i bump o ddynion wedi ei roi o flaen Benjamin! Felly buon nhw'n yfed gydag e nes roedden nhw wedi meddwi. Dyma Joseff yn dweud wrth brif swyddog ei dŷ, “Llanw sachau'r dynion â chymaint o ŷd ag y gallan nhw ei gario. Wedyn rho arian pob un ohonyn nhw yng ngheg ei sach. Rho fy nghwpan i, sef y gwpan arian, yng ngheg sach yr ifancaf ohonyn nhw, gyda'i arian am yr ŷd.” A dyma'r prif swyddog yn gwneud fel dwedodd Joseff. Wrth iddi wawrio'r bore wedyn cychwynnodd y dynion ar eu taith adre gyda'r asynnod. Doedden nhw ddim wedi mynd yn bell o'r ddinas, pan ddwedodd Joseff wrth ei brif swyddog. “Dos ar ôl y dynion yna! Pan fyddi di wedi eu dal nhw, gofyn iddyn nhw, ‘Pam dych chi wedi gwneud drwg i mi ar ôl i mi fod mor garedig atoch chi?’ Gofyn pam maen nhw wedi dwyn fy nghwpan arian i. Dywed wrthyn nhw, ‘Dyma'r gwpan mae fy meistr yn yfed ohoni ac yn darogan y dyfodol gyda hi. Dych chi wedi gwneud peth drwg iawn.’” Pan ddaliodd y swyddog nhw, dyna ddwedodd e wrthyn nhw. A dyma nhw'n ei ateb, “Syr, sut alli di ddweud y fath beth? Fyddai dy weision byth yn meiddio gwneud peth felly. Daethon ni â'r arian gawson ni yng ngheg ein sachau yn ôl o wlad Canaan. Felly pam fydden ni eisiau dwyn arian neu aur o dŷ dy feistr? Os ydy'r gwpan gan unrhyw un ohonon ni, dylai hwnnw farw, a bydd y gweddill ohonon ni'n gaethweision i'n meistr.” “Chi sy'n dweud sut ddylech chi gael eich cosbi,” meddai. “Ond na, bydd pwy bynnag mae'r gwpan ganddo yn dod yn gaethwas i mi. Caiff y gweddill ohonoch chi fynd yn rhydd.” Felly dyma nhw i gyd yn tynnu eu sachau i lawr ar unwaith ac yn eu hagor. Edrychodd y swyddog yn y sachau i gyd. Dechreuodd gyda sach yr hynaf, a gorffen gyda'r ifancaf. A dyna lle roedd y gwpan, yn sach Benjamin. Dyma nhw'n rhwygo eu dillad. Yna dyma nhw'n llwytho'r asynnod eto, a mynd yn ôl i'r ddinas. Pan gyrhaeddodd Jwda a'i frodyr dŷ Joseff roedd e'n dal yno. A dyma nhw'n syrthio ar eu gliniau o'i flaen. Gofynnodd Joseff iddyn nhw, “Pam ydych chi wedi gwneud hyn? Ydych chi ddim yn sylweddoli fod dyn fel fi yn gallu darogan beth sy'n digwydd?” A dyma Jwda'n ateb, “Beth allwn ni ei ddweud wrth ein meistr? Dim byd. Allwn ni ddim profi ein bod ni'n ddieuog. Mae Duw yn gwybod am y drwg wnaethon ni. Dy gaethweision di ydyn ni bellach. Ni a'r un oedd y gwpan ganddo.” Ond dyma Joseff yn dweud, “Faswn i byth yn gwneud y fath beth! Yr un roedd y gwpan ganddo fydd yn gaethwas i mi. Mae'r gweddill ohonoch chi yn rhydd i fynd adre at eich tad.” Yna dyma Jwda'n camu ymlaen a gofyn iddo, “Fy meistr, plîs gad i dy was gael gair gyda ti. Paid bod yn ddig. Rwyt ti fel y Pharo. Roedd fy meistr wedi gofyn i'w weision, ‘Oes gynnoch chi dad, neu frawd arall?’ A dyma ninnau'n dweud, ‘Mae ein tad yn hen ddyn, ac mae gynnon ni frawd bach gafodd ei eni pan oedd dad mewn oed. Mae brawd y bachgen wedi marw. Fe ydy unig blentyn ei fam sydd ar ôl, ac mae ei dad yn ei garu'n fawr.’ Wedyn dyma ti'n dweud wrth dy weision, ‘Dewch ag e ata i, i mi gael ei weld.’ A dyma ninnau'n dweud wrth ein meistr, ‘All y bachgen ddim gadael ei dad. Byddai ei dad yn marw petai'n ei adael.’ Ond wedyn dyma ti'n dweud wrth dy weision, ‘Os fydd eich brawd bach ddim yn dod i lawr gyda chi, chewch chi ddim dod i'm gweld i eto.’ Aethon ni adre a dweud hyn i gyd wrth dy was, ein tad. Felly pan ddwedodd ein tad wrthyn ni, ‘Ewch yn ôl i brynu ychydig o fwyd i ni,’ dyma ni'n dweud wrtho, ‘Allwn ni ddim oni bai bod ein brawd bach gyda ni. Gawn ni ddim gweld y dyn oni bai fod ein brawd bach gyda ni.’ A dyma dad yn dweud wrthon ni, ‘Dych chi'n gwybod mai dau fab roddodd fy ngwraig i mi. Mae un wedi mynd — wedi ei rwygo'n ddarnau gan ryw anifail gwyllt mae'n debyg — a dw i ddim wedi ei weld ers hynny. Os cymerwch chi ei frawd oddi arna i hefyd, a bod rhywbeth yn digwydd iddo, byddai'r golled yn ddigon i'm gyrru i i'r bedd.’ Mae'r ddau mor agos at ei gilydd. Felly os af i yn ôl at fy nhad heb y bachgen bydd hynny'n ddigon i'w ladd. Byddai dy weision yn euog o yrru eu tad i'w fedd. Gwnes i addo i dad y byddwn i'n edrych ar ei ôl e. ‘Os wna i ddim dod ag e'n ôl i ti,’ meddwn i wrtho, ‘bydda i'n euog yn dy olwg di am weddill fy mywyd.’ Felly plîs, gad i mi aros yma yn gaethwas i'm meistr yn lle'r bachgen. Gad i'r bachgen fynd adre gyda'i frodyr. Sut alla i fynd adre at fy nhad heb y bachgen? Allwn i ddim diodde gweld y boen fyddai hynny'n ei achosi i dad.” Doedd Joseff ddim yn gallu rheoli ei deimladau o flaen pawb oedd o'i gwmpas. “Pawb allan!” meddai wrth ei weision. Felly wnaeth neb aros gydag e pan ddwedodd wrth ei frodyr pwy oedd e. Ond roedd yn crïo mor uchel nes bod pawb drwy'r tŷ yn ei glywed. A daeth palas y Pharo i glywed am y peth. A dyma Joseff yn dweud wrth ei frodyr, “Joseff ydw i! Ydy dad yn dal yn fyw?” Ond allai ei frodyr ddweud dim. Roedden nhw'n sefyll yn fud o'i flaen. A dyma Joseff yn gofyn, “Plîs dewch yn nes.” A dyma nhw'n mynd yn nes ato. “Joseff, eich brawd chi, ydw i,” meddai wrthyn nhw, “yr un wnaethoch chi ei werthu i'r Aifft. Peidiwch ypsetio na beio'ch hunain am fy ngwerthu i. Duw anfonodd fi yma o'ch blaen chi i achub bywydau. Dydy'r newyn yn y wlad yma ddim ond wedi para am ddwy flynedd hyd yn hyn. Mae pum mlynedd arall o newyn i ddod pan fydd y cnydau'n methu. Mae Duw wedi fy anfon i yma o'ch blaen chi er mwyn i rai ohonoch chi gael byw, ac i chi gael eich achub mewn ffordd ryfeddol. Nid chi wnaeth fy anfon i yma, ond Duw! Dw i'n gynghorydd i'r Pharo, yn rheoli ei balas, ac yn bennaeth ar wlad yr Aifft i gyd. Brysiwch adre i ddweud wrth dad fod Joseff ei fab yn dweud, ‘Mae Duw wedi fy ngwneud i'n bennaeth ar wlad yr Aifft i gyd. Tyrd i lawr yma ata i ar unwaith. Cei fyw yn ardal Gosen. Byddi di'n agos ata i. Tyrd a dy deulu i gyd, a dy anifeiliaid, a phopeth sydd gen ti. Bydda i'n gwneud yn siŵr fod gynnoch chi ddigon o fwyd, ac na fyddwch chi'n brin o unrhyw beth. Achos mae'r newyn yn mynd i bara am bum mlynedd arall.’ Edrychwch. Gallwch chi a'm brawd Benjamin weld mai fi sy'n siarad â chi. Rhaid i chi fynd i ddweud wrth dad am y statws sydd gen i yma yn yr Aifft, ac am bopeth dych chi wedi ei weld. Dewch â dad i lawr yma ar unwaith.” Wedyn dyma fe'n taflu ei freichiau am Benjamin a'i gofleidio. Roedd y ddau ohonyn nhw yn crïo ym mreichiau ei gilydd. Yna, yn dal i grïo, cusanodd ei frodyr eraill i gyd. A dyna pryd dechreuodd ei frodyr siarad gydag e. Dyma'r newyddion yn cyrraedd palas y Pharo — “Mae brodyr Joseff wedi dod yma.” Roedd y Pharo a'i swyddogion yn hapus iawn. A dyma'r Pharo yn dweud wrth Joseff, “Dywed wrth dy frodyr: ‘Llwythwch eich anifeiliaid a mynd yn ôl i Canaan. Wedyn dewch â'ch tad a'ch teuluoedd i gyd ata i. Cewch y tir gorau yn yr Aifft gen i. Cewch fwyta'r bwyd gorau sy'n y wlad.’ A dywed hyn wrthyn nhw hefyd, ‘Cymerwch wagenni o'r Aifft i'ch plant a'ch gwragedd a'ch tad gael teithio yn ôl ynddyn nhw. Peidiwch poeni am eich dodrefn. Cewch y gorau o bopeth sydd yma yn yr Aifft.’” Felly dyna wnaeth meibion Jacob. Rhoddodd Joseff wagenni iddyn nhw fel roedd y Pharo wedi gorchymyn, a bwyd ar gyfer y daith. Rhoddodd set o ddillad newydd i bob un ohonyn nhw. Ond cafodd Benjamin bump set o ddillad a 300 darn o arian. Anfonodd y rhain i'w dad hefyd: deg asyn wedi eu llwytho gyda chynnyrch gorau yr Aifft, deg o asennod wedi eu llwytho gyda ŷd, bara, a bwyd ar gyfer taith ei dad yn ôl. Wedyn dyma fe'n anfon ei frodyr i ffwrdd. Wrth iddyn nhw adael dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Peidiwch dechrau poeni am ddim byd ar eich ffordd.” Felly dyma nhw'n gadael yr Aifft ac yn dod at eu tad yng ngwlad Canaan. “Mae Joseff yn dal yn fyw!” medden nhw wrtho. “Fe sy'n rheoli gwlad yr Aifft i gyd.” Bu bron i galon Jacob stopio. Doedd e ddim yn credu ei glustiau. Ond pan ddwedon nhw bopeth oedd Joseff wedi ei ddweud wrthyn nhw, a pan welodd y wagenni roedd Joseff wedi eu hanfon, dyma Jacob yn dechrau dod ato'i hun. “Dyna ddigon!” meddai. “Mae Joseff yn fyw. Rhaid i mi fynd i'w weld cyn i mi farw.” Felly dyma Jacob yn cychwyn ar ei daith, a mynd â phopeth oedd ganddo gydag e. Daeth i Beersheba a chyflwyno aberthau i Dduw ei dad Isaac. Yn ystod y nos dyma Jacob yn cael gweledigaeth. “Jacob, Jacob” meddai Duw wrtho. Ac atebodd Jacob, “Ie? dyma fi.” Ac meddai Duw, “Fi ydy Duw — Duw dy dad. Paid bod ag ofn mynd i lawr i'r Aifft. Bydda i'n dy wneud di'n genedl fawr yno. Dw i'n mynd gyda ti i'r Aifft, a bydda i'n dod â ti yn ôl eto. Bydd Joseff gyda ti pan fyddi di farw.” Yna aeth Jacob yn ei flaen o Beersheba. Dyma feibion Jacob yn rhoi eu tad, a'u gwragedd a'u plant yn y wagenni roedd y Pharo wedi eu hanfon iddyn nhw. A dyma nhw'n mynd â'i hanifeiliaid gyda nhw, a'r eiddo roedden nhw wedi ei gasglu pan oedden nhw'n byw yng ngwlad Canaan. Dyma Jacob a'i deulu i gyd yn cyrraedd gwlad yr Aifft: ei feibion a'i wyrion, ei ferched a'i wyresau. Aeth â nhw i gyd gydag e. Dyma enwau'r Israeliaid aeth i lawr i'r Aifft, sef Jacob a'i deulu: Reuben (mab hynaf Jacob). Meibion Reuben: Hanoch, Palw, Hesron a Carmi. Meibion Simeon: Iemwel, Iamin, Ohad, Iachin, Sochar, a Saul (oedd yn fab i wraig o Canaan). Meibion Lefi: Gershon, Cohath a Merari. Meibion Jwda: Er, Onan, Shela, Perets a Serach (ond roedd Er ac Onan wedi marw yng ngwlad Canaan). Ac roedd gan Perets ddau fab: Hesron a Chamŵl. Meibion Issachar: Tola, Pwa, Job a Shimron. Meibion Sabulon: Sered, Elon a Iachle-el. Dyna'r meibion gafodd Lea i Jacob yn Padan-aram. Ac roedd wedi cael un ferch hefyd, sef Dina. Felly roedd 33 ohonyn nhw i gyd. Meibion Gad: Siffion, Haggi, Shwni, Etsbon, Eri, Arodi ac Areli. Meibion Asher: Imna, Ishfa, Ishfi, Bereia, a'u chwaer Serach. Ac roedd gan Bereia ddau fab: Heber a Malciel. Dyna'r meibion gafodd Silpa (y forwyn roddodd Laban i'w ferch Lea). Roedd 16 i gyd. Meibion Rachel gwraig Jacob oedd Joseff a Benjamin. Cafodd Joseff ddau fab yn yr Aifft: Manasse ac Effraim (Asnath, merch Potiffera offeiriad Heliopolis oedd eu mam.) Meibion Benjamin: Bela, Becher, Ashbel, Gera, Naaman, Echi, Rosh, Mwppîm, Chwppîm ac Ard. Dyma'r meibion gafodd Rachel. Felly roedd 14 yn ddisgynyddion i Rachel a Jacob. Meibion Dan: y Chwshiaid. Meibion Nafftali: Iachtseël, Gwni, Ieser a Shilem. Dyma'r meibion gafodd Bilha (y forwyn roddodd Laban i'w ferch Rachel). Roedd saith yn ddisgynyddion i Jacob a Bilha. Felly roedd 66 o ddisgynyddion Jacob wedi mynd gydag e i'r Aifft. (Dydy'r rhif yma ddim yn cynnwys gwragedd ei feibion.) Gyda'r ddau fab gafodd eu geni i Joseff yn yr Aifft, roedd 70 o bobl o deulu Jacob yn yr Aifft. Dyma Jacob yn anfon Jwda o'i flaen at Joseff i ddod â Joseff ato i Gosen. Wedyn dyma nhw'n cyrraedd ardal Gosen. Cafodd Joseff ei gerbyd yn barod, a mynd yno i gyfarfod ei dad. Pan ddaeth at ei dad dyma fe'n ei gofleidio'n dynn, a bu'n crïo ar ei ysgwydd am hir. “Dw i'n barod i farw bellach,” meddai Jacob wrth Joseff. “Dw i wedi cael gweld dy fod ti'n dal yn fyw.” Yna dyma Joseff yn dweud wrth ei frodyr a teulu ei dad, “Rhaid i mi ddweud wrth y Pharo eich bod chi wedi dod yma ata i o wlad Canaan. Bydd rhaid i mi ddweud eich bod chi'n fugeiliaid ac yn cadw anifeiliaid, a'ch bod chi wedi dod â'ch preiddiau a'ch anifeiliaid i gyd gyda chi. Os bydd y Pharo eisiau eich gweld chi, ac yn gofyn ‘Beth ydy'ch gwaith chi?’ dwedwch wrtho, ‘Mae dy weision wedi bod yn cadw anifeiliaid ar hyd eu bywydau. Dyna mae'r teulu wedi ei wneud ers cenedlaethau.’ Dwedwch hyn er mwyn i chi gael symud i fyw i ardal Gosen. Mae bugeiliaid yn tabŵ i'r Eifftiaid.” Felly dyma Joseff yn mynd at y Pharo a dweud wrtho, “Mae dad a'm brodyr i wedi dod yma o wlad Canaan gyda'i hanifeiliaid a'u heiddo i gyd. Maen nhw wedi cyrraedd ardal Gosen.” Dewisodd bump o'i frodyr i fynd gydag e, a'u cyflwyno i'r Pharo. Gofynnodd y Pharo i'r brodyr, “Beth ydy'ch gwaith chi?” A dyma nhw'n ateb, “Mae dy weision yn fugeiliaid. Dyna mae'r teulu wedi ei wneud ers cenedlaethau.” A dyma nhw'n dweud wrth y Pharo, “Dŷn ni wedi dod i aros dros dro yn y wlad. Does dim porfa i'n hanifeiliaid ni yn Canaan am fod y newyn mor drwm yno. Plîs wnewch chi adael i'ch gweision aros yn ardal Gosen.” A dyma'r Pharo yn dweud wrth Joseff, “Mae dy dad a dy frodyr wedi dod atat ti. Mae gwlad yr Aifft o dy flaen di. Gad i dy dad a dy frodyr setlo yn y rhan orau o'r wlad. Gad iddyn nhw fynd i fyw yn ardal Gosen. Dewis y rhai gorau ohonyn nhw i ofalu am fy anifeiliaid i.” Wedyn aeth Joseff â'i dad Jacob at y Pharo i'w gyflwyno iddo. A dyma Jacob yn bendithio'r Pharo. Gofynnodd y Pharo i Jacob, “Faint ydy'ch oed chi?” “Dw i wedi crwydro'r hen fyd yma ers 130 o flynyddoedd,” meddai Jacob. “Bywyd byr, a digon o drafferthion. Dw i ddim wedi cael byw mor hir â'm hynafiaid.” A dyma Jacob yn bendithio'r Pharo eto cyn ei adael. Felly dyma Joseff yn trefnu lle i'w dad a'i frodyr fyw. Rhoddodd dir iddyn nhw yn y rhan orau o wlad yr Aifft — yn ardal Rameses, fel roedd y Pharo wedi dweud. Roedd Joseff hefyd yn rhoi digon o fwyd i gynnal ei dad a'i frodyr a'r teulu a'u plant i gyd. Doedd dim bwyd yn unman yn y wlad. Roedd y newyn yn wirioneddol ddrwg. Roedd pobl yr Aifft a gwlad Canaan wedi mynd yn wan o achos y newyn. Roedd Joseff yn gwerthu ŷd i'r bobl, a chasglodd yr holl arian oedd ar gael drwy wlad yr Aifft a gwlad Canaan. Ac aeth a'r arian i balas y Pharo. Pan oedd dim arian ar ôl yn yr Aifft na gwlad Canaan, dyma'r Eifftiaid yn mynd at Joseff eto. “Rho fwyd i ni. Pam ddylen ni orfod marw am fod gynnon ni ddim arian?” medden nhw. Atebodd Joseff, “Os nad oes gynnoch chi arian, rhowch eich anifeiliaid i mi. Rho i fwyd i chi am eich anifeiliaid.” Felly dyma nhw'n dod â'u hanifeiliaid i Joseff. A rhoddodd Joseff fwyd iddyn nhw am eu ceffylau, eu defaid a'u geifr, eu gwartheg a'u hasynnod. Y flwyddyn honno rhoddodd fwyd iddyn nhw yn gyfnewid am eu hanifeiliaid. Pan ddaethon nhw yn ôl y flwyddyn wedyn, dyma nhw'n dweud wrtho, “Mae ein meistr yn gwybod nad oes gynnon ni arian, ac mae'n meistr hefyd wedi cymryd ein hanifeiliaid ni. Does gynnon ni ddim byd ar ôl i'w gynnig ond ni'n hunain a'n tir. Beth ydy'r pwynt os gwnawn ni farw? Pryna ni a'n tir am fwyd. Gwna ni'n gaethweision i'r Pharo, a chymer ein tir ni hefyd. Mae'n well i ni gael byw na marw, ac wedyn fydd y wlad i gyd ddim wedi ei difetha.” Felly dyma Joseff yn prynu tir yr Aifft i gyd i'r Pharo. Roedd yr Eifftiaid i gyd yn gwerthu eu caeau iddo, am eu bod nhw'n diodde mor ofnadwy o achos y newyn. Felly'r Pharo oedd piau'r tir i gyd. A dyma'r bobl o un pen i'r wlad i'r llall yn cael eu gwneud yn gaethweision. (Yr unig dir wnaeth e ddim ei brynu oedd tir yr offeiriaid. Roedd yr offeiriaid yn cael lwfans gan y brenin, ac yn byw ar y lwfans hwnnw. Felly wnaethon nhw ddim gwerthu eu tir.) A dyma Joseff yn dweud wrth y bobl, “Heddiw dw i wedi'ch prynu chi a'ch tir i'r Pharo. Felly dyma had i chi ei hau ar y tir. Adeg y cynhaeaf, rhaid i chi roi un rhan o bump o'r cnwd i'r Pharo. Gewch chi gadw'r gweddill i'w hau y flwyddyn ganlynol ac i fwydo'ch teuluoedd a'ch plant.” “Ti wedi achub ein bywydau ni,” medden nhw. “Ti wedi bod yn garedig iawn aton ni, a dŷn ni'n hapus i fod yn gaethweision i'r Pharo.” Felly gwnaeth Joseff ddeddf yng ngwlad yr Aifft, fod y Pharo i gael un rhan o bump o'r cynhaeaf. (Mae'r ddeddf hon yn dal mewn grym heddiw). Yr unig dir sydd ddim yn perthyn i'r Pharo ydy tir yr offeiriaid. Felly arhosodd pobl Israel yn yr Aifft, yn ardal Gosen. Nhw oedd piau'r tir yno. Cawson nhw lot o blant, ac roedd eu niferoedd yn mynd yn fwy ac yn fwy. Buodd Jacob yn byw yn yr Aifft am un deg saith mlynedd. Felly cafodd fyw i fod yn 147 oed. Cyn i Jacob farw, galwodd am ei fab Joseff, a dwedodd wrtho, “Mae gen i ffafr i'w gofyn gen ti. Dw i am i ti fynd ar dy lw ac addo y byddi di'n gwneud be dw i'n ofyn. Plîs paid claddu fi yn yr Aifft. Pan fydda i wedi marw fel fy hynafiaid, dos â fi o'r Aifft. Cladda fi ble mae fy hynafiaid wedi eu claddu.” A dyma Joseff yn ateb, “Dw i'n addo gwneud beth ti'n ofyn.” “Dw i eisiau i ti fynd ar dy lw y gwnei di,” meddai Jacob. A dyma Joseff yn addo iddo. A dyma Jacob yn plygu drosodd ar ben ei wely. Rywbryd wedyn clywodd Joseff fod ei dad yn sâl. Felly aeth i'w weld gyda'i ddau fab Manasse ac Effraim. Pan ddywedwyd wrth Jacob fod ei fab Joseff wedi dod i'w weld dyma fe'n bywiogi ac yn eistedd i fyny yn ei wely. A dyma fe'n dweud wrth Joseff. “Pan oeddwn i yn Lws yng ngwlad Canaan, roedd y Duw sy'n rheoli popeth wedi ymddangos i mi. Bendithiodd fi a dweud wrtho i, ‘Dw i'n mynd i wneud yn siŵr dy fod ti'n cael lot fawr o ddisgynyddion. Bydd grŵp o bobloedd yn dod ohonot ti. Dw i'n mynd i roi'r wlad yma i ti a dy ddisgynyddion am byth.’ Joseff, bydd dy ddau fab, gafodd eu geni i ti yn yr Aifft cyn i mi ddod yma, yn feibion i mi. Bydd Effraim a Manasse yn cael eu cyfri yn feibion i mi, yn union yr un fath â Reuben a Simeon. Bydd y plant eraill sydd gen ti yn aros yn feibion i ti, ond yn cael eu rhestru fel rhai fydd yn etifeddu tir gan eu brodyr. Buodd Rachel farw yng ngwlad Canaan pan oeddwn i ar fy ffordd yn ôl o Padan, ac roeddwn i'n drist iawn. Digwyddodd pan oedden ni'n dal yn reit bell o Effrath. Felly dyma fi'n ei chladdu hi yno, ar y ffordd i Effrath” (hynny ydy, Bethlehem). “Pwy ydy'r rhain?” meddai Jacob pan welodd feibion Joseff. “Dyma'r meibion roddodd Duw i mi yma,” meddai Joseff wrth ei dad. A dyma Jacob yn dweud, “Tyrd â nhw ata i, i mi gael eu bendithio nhw.” Doedd Jacob ddim yn gweld yn dda iawn. Roedd wedi colli ei olwg wrth fynd yn hen. Felly dyma Joseff yn mynd â'i feibion yn nes at ei dad, a dyma Jacob yn eu cofleidio nhw a'u cusanu nhw. Ac meddai wrth Joseff, “Doeddwn i erioed yn meddwl y byddwn i'n dy weld di eto. A dyma Duw wedi gadael i mi weld dy blant di hefyd!” Cymerodd Joseff y bechgyn oddi ar liniau ei dad, ac wedyn ymgrymodd â'i wyneb ar lawr o'i flaen. Rhoddodd Joseff Effraim ar yr ochr dde iddo (o flaen llaw chwith Jacob), a Manasse ar yr ochr chwith (o flaen llaw dde Jacob), a mynd â nhw'n nes ato. Ond dyma Jacob yn croesi ei freichiau a rhoi ei law dde ar ben Effraim (yr ifancaf o'r ddau) a'i law chwith ar ben Manasse (y mab hynaf). A dyma fe'n bendithio Joseff trwy ddweud, “O Dduw — y Duw roedd fy nhaid Abraham a'm tad Isaac yn ei wasanaethu; y Duw sydd wedi bod fel bugail i mi ar hyd fy mywyd; Yr angel sydd wedi fy amddiffyn i rhag pob drwg — bendithia'r bechgyn yma. Cadw fy enw i ac enw fy nhaid Abraham a'm tad Isaac yn fyw trwyddyn nhw. Gwna nhw yn dyrfa fawr o bobl ar y ddaear.” Pan sylwodd Joseff fod ei dad wedi rhoi ei law dde ar ben Effraim, doedd e ddim yn hapus. Felly gafaelodd yn llaw dde ei dad i'w symud o ben Effraim i ben Manasse, a dweud wrtho, “Na, paid dad. Hwn ydy'r mab hynaf. Rho dy law dde ar ei ben e.” Ond gwrthododd ei dad. “Dw i'n gwybod be dw i'n wneud, fy mab,” meddai. “Bydd hwn hefyd yn dod yn genedl fawr o bobl. Ond bydd ei frawd bach yn fwy nag e. Bydd ei ddisgynyddion yn llawer iawn o bobloedd gwahanol.” Felly dyma fe'n eu bendithio nhw y diwrnod hwnnw drwy ddweud: “Bydd pobl Israel yn defnyddio dy enw i fendithio eraill: ‘Boed i Dduw dy wneud di fel Effraim a Manasse.’” Enwodd Effraim gyntaf a Manasse wedyn. Wedyn dyma Jacob yn dweud wrth Joseff, “Fel y gweli, dw i ar fin marw. Ond bydd Duw gyda ti, ac yn mynd â ti yn ôl i wlad dy hynafiaid. Dw i am roi siâr fwy i ti nag i dy frodyr — llethrau mynydd Sichem, a gymerais oddi ar yr Amoriaid gyda'm cleddyf a'm bwa.” Galwodd Jacob ei feibion ato. “Dewch yma i mi gael dweud wrthoch chi beth sy'n mynd i ddigwydd i chi yn y dyfodol,” meddai. “Dewch yma i wrando, feibion Jacob; gwrandwch ar Israel, eich tad. Reuben, ti ydy fy mab hynaf; fy nghryfder, a ffrwyth cyntaf fy egni — yr un â'r safle uchaf a'r anrhydedd mwyaf. Ond rwyt ti mor afreolus â dŵr — fyddi di ddim yn gyntaf. Est ti i mewn i wely dy dad, a'i lygru trwy dreisio fy ngwraig — gorwedd ar glustogau dy dad! Mae Simeon a Lefi yn frodyr. Dyma nhw'n cytuno i ddefnyddio arfau treisiol. Dw i ddim eisiau bod yn rhan o'r peth — dw i am gadw draw o'r math yna o feddwl. Roedden nhw wedi gwylltio, a dyma nhw'n lladd dynion fel rhai'n gwneud ychen yn gloff am hwyl. Melltith arnyn nhw am wylltio mor ofnadwy; am ddigio a bod mor greulon. Dw i'n mynd i wasgaru eu disgynyddion nhw ar hyd a lled Israel! Jwda, bydd dy frodyr yn dy ganmol di. Byddi di'n cael y llaw uchaf ar dy elynion. Bydd teulu dy dad yn ymgrymu'n isel o dy flaen di. Jwda, fy mab, rwyt ti fel llew ifanc wedi lladd dy brae ac yn sefyll uwch ei ben. Mae'n gorwedd i lawr eto fel llew, a does neb yn meiddio aflonyddu arno. Fydd y deyrnwialen ddim yn gadael Jwda. Bydd ffon y llywodraethwr gan ei ddisgynyddion nes daw pobl i dalu teyrnged iddo. Bydd pobl y gwledydd yn ufuddhau iddo. Bydd yn rhwymo ei ebol wrth y winwydden, a'i asen ifanc wrth y winwydden orau. Bydd yn golchi ei ddillad mewn gwin a'i fantell yng ngwaed y grawnwin. Mae ei lygaid yn gochion gan win, a'i ddannedd yn wynion fel llaeth. Bydd Sabulon yn byw ar lan y môr. Bydd yn hafan ddiogel i longau. Bydd ei ffin yn ymestyn at Sidon. Mae Issachar fel asyn cryf yn gorwedd dan bwysau ei baciau. Gwelodd le da i orffwys a bod y wlad yno yn hyfryd. Felly plygodd i lawr i dderbyn baich ar ei gefn a chael ei hun yn gaethwas. Bydd Dan yn rheoli ei bobl fel un o lwythau Israel. Boed i Dan fod fel neidr ar ochr y ffordd — fel gwiber ar y llwybr yn brathu troed y ceffyl a gwneud i'r marchog syrthio yn ôl. Dw i'n edrych ymlaen at gael fy achub gen ti, o ARGLWYDD! Bydd ysbeilwyr yn ymosod ar Gad, ond bydd e'n troi ac yn eu gyrru nhw i ffwrdd. Bydd bwyd cyfoethog gan Asher. Bydd e'n darparu danteithion i'r llys brenhinol. Mae Nafftali fel ewig yn rhedeg yn rhydd, sy'n cael llydnod hardd. Mae Joseff yn gangen ffrwythlon — cangen ffrwythlon wrth ffynnon, a'i changhennau'n ymestyn dros y wal. Roedd bwasaethwyr yn ymosod arno, yn saethu ato ac yn dal dig yn ei erbyn. Ond daliai ei fwa'n llonydd ac roedd ei ddwylo a'i freichiau'n chwim. Roedd Un Cryf Jacob gydag e — y Bugail, Craig Israel. Duw dy dad, yr un fydd yn dy helpu di; y Duw sy'n rheoli popeth. Bydd e'n dy fendithio di gyda'r bendithion o'r awyr uchod, a'r bendithion sy'n gorwedd dan y ddaear isod, gyda bendithion y fron a'r groth. Mae'r bendithion gafodd dy dad yn well na bendithion y mynyddoedd tragwyddol a'r pethau da mae'r bryniau hynafol yn eu rhoi. Byddan nhw'n disgyn ar ben Joseff — ar dalcen yr un sy'n flaenaf ar ei frodyr. Mae Benjamin fel blaidd rheibus, yn rhwygo ei ysglyfaeth yn y bore, ac yn rhannu beth sydd ar ôl gyda'r nos.” Dyma'r deuddeg llwyth yn Israel. A dyma beth ddwedodd eu tad wrthyn nhw pan fendithiodd nhw. Rhoddodd fendith addas i bob un ohonyn nhw. Wedyn rhoddodd Jacob orchymyn iddyn nhw. “Dw i'n mynd i farw cyn hir. Dw i eisiau i chi fy nghladdu gyda fy hynafiaid, yn yr ogof ar dir Effron yr Hethiad. Yr ogof yn Machpela ger Mamre yng ngwlad Canaan. Yr un brynodd Abraham gan Effron yr Hethiad fel man claddu i'w deulu. Dyna lle mae Abraham a'i wraig Sara wedi eu claddu. Dyna lle mae Isaac a'i wraig Rebeca wedi eu claddu. A dyna lle gwnes i gladdu Lea. Cafodd y darn tir a'r ogof sydd ynddo ei brynu gan yr Hethiaid.” Pan oedd Jacob wedi gorffen dweud wrth ei feibion beth i'w wneud, cododd ei draed yn ôl ar y gwely, cymryd ei anadl olaf a marw. Dyma Joseff yn cofleidio corff ei dad. Roedd yn crïo ac yn ei gusanu. Wedyn gorchmynnodd i'w weision, y meddygon, falmeiddio'r corff. A dyna gafodd ei wneud i gorff Jacob. Cymerodd y broses yma bedwar deg diwrnod, achos dyna faint o amser roedd yn ei gymryd i falmeiddio corff. A bu cyfnod o alaru ar ei ôl drwy wlad yr Aifft am saith deg diwrnod. Pan oedd y cyfnod o alar drosodd, dyma Joseff yn mynd at gynghorwyr y Pharo, a dweud: “Mae gen i ffafr i'w gofyn gan y Pharo. Wnewch chi ofyn iddo ar fy rhan i, plîs? Gwnaeth fy nhad i mi addo rhywbeth iddo ar lw. Dyma ddwedodd e: ‘Dw i ar fin marw, a dw i eisiau i ti fy nghladdu i yn y bedd dw i wedi ei dorri i mi fy hun yng ngwlad Canaan.’ Felly gofyn ydw i am ganiatâd i fynd yno i gladdu dad. Bydda i'n dod yn ôl yma wedyn.” Dyma'r Pharo'n dweud, “Dos i gladdu dy dad, fel gwnest ti addo iddo.” Felly dyma Joseff yn mynd i gladdu ei dad. Aeth swyddogion y Pharo i gyd gydag e, a phobl bwysig y llys ac arweinwyr y wlad. Teulu Joseff i gyd, ei frodyr, a theulu ei dad hefyd. Dim ond y plant bach a'r anifeiliaid gafodd eu gadael yn ardal Gosen. Roedd cerbydau rhyfel a marchogion gyda nhw hefyd — tyrfa fawr iawn o bobl. Pan gyrhaeddon nhw lawr dyrnu Atad (i'r dwyrain o Afon Iorddonen) dyma nhw'n cynnal cyfnod o alar angladdol. Buodd Joseff yn galaru yno am ei dad am wythnos. Pan welodd pobl Canaan nhw yn galaru ar lawr dyrnu Atad, dyma nhw'n dweud, “Mae'r angladd yma'n ddigwyddiad trist iawn yng ngolwg yr Eifftiaid.” Felly cafodd y lle, sydd yr ochr draw i Afon Iorddonen, ei alw yn Abel-misraim. Felly gwnaeth meibion Jacob beth roedd eu tad wedi ei ddweud wrthyn nhw. Aethon nhw â'i gorff i wlad Canaan, a'i gladdu yn yr ogof yn Machpela ger Mamre, ar y tir oedd Abraham wedi ei brynu gan Effron yr Hethiad i fod yn fan claddu i'w deulu. Ar ôl claddu ei dad aeth Joseff yn ôl i'r Aifft gyda'i frodyr a phawb arall oedd wedi bod yn yr angladd. Gan fod eu tad wedi marw, roedd brodyr Joseff yn dechrau ofni, “Beth os ydy Joseff yn dal yn ddig hefo ni? Beth os ydy e am dalu'r pwyth yn ôl am yr holl ddrwg wnaethon ni iddo?” Felly dyma nhw'n anfon neges at Joseff: “Roedd dad wedi dweud wrthon ni cyn iddo farw, ‘Dwedwch wrth Joseff: Plîs maddau i dy frodyr am y drwg wnaethon nhw, yn dy drin di mor wael.’ Felly dyma ni, gweision y Duw roedd dy dad yn ei addoli. O, plîs wnei di faddau i ni am beth wnaethon ni?” Pan glywodd Joseff hyn dyma fe'n dechrau crïo. Yna daeth ei frodyr a syrthio o'i flaen, a dweud, “Byddwn ni'n gaethweision i ti.” Ond dyma Joseff yn ateb, “Peidiwch bod ag ofn. Ai Duw ydw i? Roeddech chi am wneud drwg i mi, ond dyma Duw yn troi y drwg yn beth da. Roedd ganddo eisiau achub bywydau llawer o bobl, a dyna dych chi'n weld heddiw. Felly peidiwch bod ag ofn. Gwna i ofalu amdanoch chi a'ch plant.” Felly rhoddodd Joseff dawelwch meddwl iddyn nhw wrth siarad yn garedig gyda nhw. Arhosodd Joseff a theulu ei dad yn yr Aifft. Cafodd Joseff fyw i fod yn 110 oed. Cafodd weld tair cenhedlaeth o deulu Effraim. Gwelodd blant Machir (mab Manasse) hefyd a'u derbyn nhw fel ei blant ei hun. Wedyn dyma Joseff yn dweud wrth ei frodyr, “Dw i ar fin marw. Ond bydd Duw yn dod atoch chi ac yn eich cymryd chi yn ôl o'r wlad yma i'r wlad wnaeth e addo ei rhoi i Abraham, Isaac a Jacob.” Felly dyma Joseff yn gwneud i bobl Israel addo, “Pan fydd Duw yn dod atoch chi, dw i am i chi fynd â fy esgyrn i o'r lle yma.” A dyma Joseff yn marw yn 110 oed. Cafodd ei gorff ei falmeiddio a'i osod mewn arch yn yr Aifft. Dyma enwau meibion Israel, aeth i'r Aifft gyda'u tad Jacob a'u teuluoedd: Reuben, Simeon, Lefi a Jwda, Issachar, Sabulon a Benjamin, Dan a Nafftali, Gad ac Asher. Saith deg o feibion ac wyrion i Jacob i gyd (Roedd Joseff eisoes yn yr Aifft). Yna dyma Joseff a'i frodyr a'r genhedlaeth yna i gyd yn marw. Ond roedd eu disgynyddion, pobl Israel, yn cael mwy a mwy o blant. Roedd cymaint ohonyn nhw roedden nhw'n cael eu gweld fel bygythiad. Roedden nhw ym mhobman — yn llenwi'r wlad! Aeth amser hir heibio, a daeth brenin newydd i deyrnasu yn yr Aifft, un oedd yn gwybod dim byd am Joseff. A dyma fe'n dweud wrth ei bobl, “Gwrandwch. Mae yna ormod o Israeliaid yn y wlad yma! Rhaid i ni feddwl beth i'w wneud. Os bydd y niferoedd yn dal i dyfu, a rhyfel yn torri allan, byddan nhw'n helpu'n gelynion i ymladd yn ein herbyn ni. Gallen nhw hyd yn oed ddianc o'r wlad.” Felly dyma'r Eifftiaid yn cam-drin pobl Israel, a'u gorfodi i weithio am ddim iddyn nhw, ac yn gosod meistri gwaith i gadw trefn arnyn nhw. A dyma nhw'n adeiladu Pithom a Rameses yn ganolfannau storfeydd i'r Pharo. Ond er bod yr Eifftiaid yn eu gweithio nhw mor galed, roedd eu niferoedd yn dal i gynyddu a mynd ar wasgar. Felly dechreuodd yr Eifftiaid eu hofni a'u casáu nhw go iawn, a'u cam-drin nhw fwy fyth. Roedd bywyd yn chwerw go iawn iddyn nhw, wrth i'r Eifftiaid wneud iddyn nhw weithio mor galed. Roedden nhw'n gwneud brics a chymysgu morter ac yn slafio oriau hir yn y caeau hefyd. Felly dyma frenin yr Aifft yn siarad â bydwragedd yr Hebreaid, Shiffra a Pwa, a dweud wrthyn nhw, “Pan fyddwch chi'n gofalu am wragedd Hebreig wrth iddyn nhw eni plant, os mai bachgen fydd yn cael ei eni, dw i eisiau i chi ei ladd e'n syth; ond cewch adael i'r merched fyw.” Ond am fod y bydwragedd yn parchu Duw, wnaethon nhw ddim beth roedd brenin yr Aifft wedi ei orchymyn iddyn nhw. Dyma nhw'n cadw'r bechgyn yn fyw. A dyma frenin yr Aifft yn eu galw nhw eto, a gofyn “Beth dych chi'n wneud? Pam dych chi'n gadael i'r bechgyn fyw?” A dyma'r bydwragedd yn ateb, “Dydy'r gwragedd Hebreig ddim yr un fath â gwragedd yr Aifft — maen nhw'n gryfion, ac mae'r plant yn cael eu geni cyn i ni gyrraedd yno!” Felly buodd Duw'n garedig at y bydwragedd. Roedd niferoedd pobl Israel yn dal i dyfu; roedden nhw'n mynd yn gryfach ac yn gryfach. Am fod y bydwragedd wedi parchu Duw, rhoddodd Duw deuluoedd iddyn nhw hefyd. Yna dyma'r Pharo yn rhoi gorchymyn i'w bobl: “Mae pob bachgen sy'n cael ei eni i'r Hebreaid i gael ei daflu i'r Afon Nil, ond cewch adael i'r merched fyw.” Bryd hynny roedd dyn o deulu Lefi wedi priodi gwraig ifanc oedd hefyd yn un o ddisgynyddion Lefi. A dyma'r wraig yn beichiogi, ac yn cael mab. Pan welodd hi'r babi bach hyfryd, dyma hi'n ei guddio am dri mis. Ond ar ôl hynny roedd hi'n amhosib ei guddio. Felly dyma hi'n cymryd basged frwyn, a'i selio gyda tar. Yna rhoi'r babi yn y fasged, a'i osod yng nghanol y brwyn wrth lan yr afon Nil. A dyma chwaer y plentyn yn mynd i sefyll heb fod yn rhy bell, i weld beth fyddai'n digwydd iddo. Daeth merch y Pharo i lawr at yr afon i ymdrochi, tra roedd ei morynion yn cerdded ar lan yr afon. A dyma hi'n sylwi ar y fasged yng nghanol y brwyn, ac anfon caethferch i'w nôl. Agorodd y fasged, a gweld y babi bach — bachgen, ac roedd yn crïo. Roedd hi'n teimlo trueni drosto. “Un o blant yr Hebreaid ydy hwn,” meddai. Yna dyma chwaer y plentyn yn mynd at ferch y Pharo, a gofyn, “Ga i fynd i nôl un o'r gwragedd Hebreig i fagu'r plentyn i chi?” A dyma ferch y Pharo yn dweud, “Ie, gwna hynny!” Felly dyma hi'n mynd adre i nôl mam y babi. A dyma ferch y Pharo yn dweud wrthi, “Dw i eisiau i ti gymryd y plentyn yma, a'i fagu ar y fron i mi. Gwna i dalu cyflog i ti am wneud hynny.” Felly aeth y wraig a'r plentyn adre i'w fagu. Yna, pan oedd y plentyn yn ddigon hen, dyma hi'n mynd ag e at ferch y Pharo, a dyma hithau'n ei fabwysiadu yn fab iddi ei hun. Rhoddodd yr enw Moses iddo — “Am fy mod wedi ei dynnu allan o'r dŵr,” meddai. Flynyddoedd wedyn, pan oedd Moses wedi tyfu'n oedolyn, aeth allan at ei bobl, a gweld fel roedden nhw'n cael eu cam-drin. Gwelodd Eifftiwr yn curo Hebrëwr — un o'i bobl ei hun! Ar ôl edrych o'i gwmpas i wneud yn siŵr fod neb yn ei weld, dyma fe'n taro'r Eifftiwr a'i ladd, a claddu ei gorff yn y tywod. Pan aeth allan y diwrnod wedyn, gwelodd ddau Hebrëwr yn dechrau ymladd gyda'i gilydd. A dyma Moses yn dweud wrth yr un oedd ar fai, “Pam wyt ti'n ymosod ar dy ffrind?” A dyma'r dyn yn ei ateb, “Pwy sydd wedi rhoi'r hawl i ti ein rheoli ni a'n barnu ni? Wyt ti am fy lladd i fel gwnest ti ladd yr Eifftiwr yna?” Roedd Moses wedi dychryn, a meddyliodd, “Mae'n rhaid bod pobl yn gwybod beth wnes i.” A dyma'r Pharo yn dod i glywed am y peth, ac roedd am ladd Moses. Felly dyma Moses yn dianc oddi wrtho a mynd i wlad Midian. Pan gyrhaeddodd yno, eisteddodd wrth ymyl rhyw ffynnon. Roedd gan offeiriad Midian saith merch, a dyma nhw'n dod at y ffynnon, a dechrau codi dŵr i'r cafnau er mwyn i ddefaid a geifr eu tad gael yfed. Ond dyma grŵp o fugeiliaid yn dod a'u gyrru nhw i ffwrdd. Dyma Moses yn achub y merched, ac yn codi dŵr i'w defaid nhw. Pan aeth y merched adre at eu tad, Reuel, dyma fe'n gofyn iddyn nhw, “Pam ydych chi wedi dod adre mor gynnar heddiw?” A dyma nhw'n dweud wrtho, “Daeth rhyw Eifftiwr a'n hachub ni rhag y bugeiliaid, ac yna codi dŵr i'w roi i'r praidd.” A dyma fe'n gofyn i'w ferched, “Ble mae e? Pam yn y byd wnaethoch chi adael y dyn allan yna? Ewch i'w nôl, a gofyn iddo ddod i gael pryd o fwyd gyda ni.” Cytunodd Moses i aros gyda nhw, a dyma Reuel yn rhoi ei ferch Seffora yn wraig iddo. Wedyn dyma nhw'n cael mab, a dyma Moses yn rhoi'r enw Gershom iddo — “Mewnfudwr yn byw mewn gwlad estron ydw i,” meddai. Aeth blynyddoedd heibio, a dyma frenin yr Aifft yn marw. Roedd pobl Israel yn griddfan am eu bod yn dioddef fel caethweision. Roedden nhw'n gweiddi'n daer am help, a dyma'u cri yn cyrraedd Duw. Clywodd Duw nhw'n griddfan, ac roedd yn cofio ei ymrwymiad i Abraham, Isaac a Jacob. Gwelodd Duw bobl Israel, ac roedd yn teimlo i'r byw drostyn nhw. Roedd Moses yn gofalu am ddefaid a geifr ei dad-yng-nghyfraith, Jethro, offeiriad Midian. A dyma fe'n arwain y praidd i'r ochr draw i'r anialwch. Daeth at fynydd Duw, sef Mynydd Sinai. Yno, dyma angel yr ARGLWYDD yn ymddangos iddo o ganol fflamau perth oedd ar dân. Wrth edrych, roedd yn gweld fod y berth yn fflamau tân, ond doedd hi ddim yn cael ei llosgi. “Anhygoel!” meddyliodd. “Rhaid i mi fynd yn nes i weld beth sy'n digwydd — pam nad ydy'r berth yna wedi llosgi'n ulw.” Pan welodd yr ARGLWYDD ei fod yn mynd draw i edrych, dyma Duw yn galw arno o ganol y berth, “Moses! Moses!” “Dyma fi,” meddai Moses. A dyma Duw yn dweud wrtho, “Paid dod dim nes. Tynn dy sandalau; ti'n sefyll ar dir cysegredig!” Yna dyma fe'n dweud, “Fi ydy Duw dy dad; Duw Abraham, Duw Isaac, a Duw Jacob.” A dyma Moses yn cuddio ei wyneb, am fod ganddo ofn edrych ar Dduw. Yna meddai'r ARGLWYDD wrtho, “Dw i wedi gweld sut mae fy mhobl i'n cael eu cam-drin yn yr Aifft. Dw i wedi eu clywed nhw'n gweiddi wrth i'w meistri fod yn gas atyn nhw. Dw i'n teimlo drostyn nhw. Felly dw i wedi dod lawr i'w rhyddhau nhw o afael yr Eifftiaid. Dw i'n mynd i'w harwain nhw o wlad yr Aifft, a rhoi gwlad dda, eang iddyn nhw — tir ffrwythlon lle mae llaeth a mêl yn llifo! Yr ardaloedd ble mae'r Canaaneaid, Hethiaid, Amoriaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebwsiaid yn byw. Dw i wedi clywed cri pobl Israel am help, a dw i wedi gweld mor greulon ydy'r Eifftiaid atyn nhw. Felly tyrd. Dw i'n mynd i dy anfon di at y Pharo, i arwain fy mhobl, pobl Israel, allan o'r Aifft.” Dyma Moses yn dweud wrth Dduw, “Fi? Pwy ydw i i fynd at y Pharo, ac arwain pobl Israel allan o'r Aifft?” “Bydda i gyda ti, dw i'n addo,” meddai Duw. “A dyna fydd yr arwydd clir mai fi wnaeth dy anfon di: Pan fyddi di wedi arwain y bobl allan o'r Aifft, byddwch chi'n fy addoli i ar y mynydd yma.” Ond dyma Moses yn dweud, “Ond os gwna i fynd at bobl Israel a dweud wrthyn nhw, ‘Mae Duw eich hynafiaid chi wedi fy anfon i atoch chi,’ byddan nhw'n gofyn i mi, ‘Beth ydy ei enw e?’ Beth ddylwn i ddweud wedyn wrthyn nhw?” A dyma Duw yn ateb Moses, “FI YDY'R UN YDW I. Rhaid i ti ddweud hyn wrth bobl Israel, ‘FI YDY sydd wedi fy anfon i atoch chi.’” A dyma fe'n dweud hefyd, “Rhaid i ti ddweud wrth bobl Israel, ‘Yr ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, sydd wedi fy anfon i atoch chi. Duw Abraham, Duw Isaac, a Duw Jacob. Dyma fy enw i am byth, a'r enw fydd pobl yn ei gofio o un genhedlaeth i'r llall.’ “Dos i alw arweinwyr Israel at ei gilydd, a dweud wrthyn nhw, ‘Mae'r ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, wedi ymddangos i mi — Duw Abraham, Isaac a Jacob. Mae'n dweud, “Dw i wedi bod yn cadw golwg arnoch chi. Dw i wedi gweld sut ydych chi'n cael eich trin yn yr Aifft. A dw i'n addo eich rhyddhau chi o'r caledi yn yr Aifft, a'ch arwain chi i'r wlad ble mae'r Canaaneaid, Hethiaid, Amoriaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebwsiaid yn byw. Mae'n dir ffrwythlon — tir lle mae llaeth a mêl yn llifo!”’ “Bydd yr arweinwyr yn dy gredu di. Wedyn bydd rhaid i ti ac arweinwyr Israel fynd at frenin yr Aifft, a dweud wrtho, ‘Mae'r ARGLWYDD, Duw yr Hebreaid, wedi cyfarfod gyda ni. Felly, plîs gad i ni deithio i'r anialwch am dri diwrnod, er mwyn i ni aberthu i'r ARGLWYDD ein Duw.’ “Dw i'n gwybod yn iawn na fydd brenin yr Aifft yn gadael i chi fynd, dim hyd yn oed dan bwysau. Felly bydda i'n defnyddio fy nerth i daro'r Aifft gyda gwyrthiau rhyfeddol. Bydd e'n eich gyrru chi allan wedyn! Bydd pobl yr Aifft yn rhoi anrhegion i bobl Israel, felly fyddwch chi ddim yn gadael yn waglaw. Bydd gwraig yn gofyn i'w chymdoges a'r un sy'n lletya gyda hi am bethau arian ac aur, ac hefyd am ddillad. Bydd eich meibion a'ch merched yn eu gwisgo nhw. Byddwch yn cymryd y cwbl oddi ar bobl yr Aifft!” Ond dyma Moses yn ateb, “Beth os wnân nhw ddim fy nghredu i? Beth os ddwedan nhw, ‘Wnaeth yr ARGLWYDD ddim dangos ei hun i ti.’?” Felly dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Beth ydy hwnna yn dy law di?” A dyma fe'n ateb, “Ffon.” A dyma'r ARGLWYDD yn dweud, “Tafla hi ar lawr.” Dyma fe'n taflu'r ffon ar lawr, a dyma hi'n troi'n neidr. A dyma Moses yn cilio'n ôl yn reit sydyn. Ond dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Estyn dy law a gafael ynddi wrth ei chynffon.” A dyma Moses yn estyn ei law a gafael ynddi, a dyma hi'n troi yn ôl yn ffon yn ei law. “Gwna di hyn, a byddan nhw'n credu wedyn fod yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid — Duw Abraham, Isaac a Jacob — wedi ymddangos i ti.” Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Rho dy law i mewn yn dy fantell.” Felly dyma fe'n rhoi ei law yn ei fantell. Ond pan dynnodd hi allan, roedd brech fel gwahanglwyf drosti, roedd yn wyn fel yr eira! A dyma'r ARGLWYDD yn dweud eto, “Rho dy law yn ôl i mewn yn dy fantell.” Felly dyma Moses yn rhoi ei law yn ôl yn ei fantell, a pan dynnodd hi allan y tro yma, roedd hi'n iach eto, fel gweddill ei groen! Dyma'r ARGLWYDD yn dweud, “Os byddan nhw'n gwrthod dy gredu di pan welan nhw'r arwydd cyntaf, falle y gwnân nhw gredu'r ail arwydd. Os byddan nhw'n dal i wrthod credu, yna cymer ddŵr o'r afon Nil a'i dywallt ar y tir sych. Bydd y dŵr yn troi'n waed ar y tir sych.” Ond wedyn dyma Moses yn dweud wrth yr ARGLWYDD, “Plîs, Meistr, dw i ddim yn siaradwr da iawn — dw i erioed wedi bod, a fydda i byth chwaith. Mae gen i atal dweud, a dw i'n ei chael hi'n anodd i siarad.” Ond dyma'r ARGLWYDD yn ei ateb, “Pwy roddodd geg i ddyn yn y lle cyntaf? Pwy sy'n gwneud rhai yn fud, eraill yn fyddar, rhai yn gweld ac eraill yn ddall? Onid fi, yr ARGLWYDD? Felly dos; bydda i'n dy helpu di i siarad, ac yn dy ddysgu di beth i'w ddweud.” Ond meddai Moses, “O, plîs, Meistr, anfon rhywun arall!” Erbyn hyn roedd yr ARGLWYDD wedi digio gyda Moses, “Iawn! Beth am dy frawd Aaron, y Lefiad? Dw i'n gwybod ei fod e'n gallu siarad yn dda. Mae e ar ei ffordd i dy gyfarfod di. Bydd e wrth ei fodd pan fydd e'n dy weld di! Byddi di'n dweud wrtho beth i'w ddweud. Bydda i'n dy helpu di a'i helpu fe i siarad, ac yn dangos i chi beth i'w wneud. Bydd e'n siarad ar dy ran di gyda'r bobl. Bydd e'n siarad ar dy ran di, a byddi di fel ‛duw‛ yn dweud wrtho beth i'w ddweud. A dos â dy ffon gyda ti — byddi'n gwneud arwyddion gwyrthiol gyda hi.” Felly dyma Moses yn mynd yn ôl adre at Jethro, ei dad-yng-nghyfraith, a dweud wrtho, “Plîs gad i mi fynd yn ôl at fy mhobl yn yr Aifft, i weld os ydyn nhw'n dal yn fyw.” A dyma Jethro'n dweud wrtho, “Dos, a bendith arnat ti!” Roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses yn Midian, “Dos yn ôl i'r Aifft. Mae'r dynion oedd am dy ladd di wedi marw.” Felly dyma Moses yn mynd gyda'i wraig a'i feibion — ei rhoi nhw ar gefn mul, a dechrau yn ôl am yr Aifft. Ac aeth â ffon Duw gydag e yn ei law. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Pan ei di yn ôl i'r Aifft, gwna'n siŵr dy fod yn gwneud yr holl wyrthiau rhyfeddol dw i wedi rhoi'r gallu i ti eu gwneud o flaen y Pharo. Ond bydda i'n ei wneud e'n ystyfnig, a bydd e'n gwrthod gadael i'r bobl fynd. Felly dywed di wrth y Pharo, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Fy mab i ydy Israel, fy mab hynaf i, a dw i wedi dweud wrthot ti am adael iddo fynd, iddo gael fy addoli i. Gwylia dy hun os byddi di'n gwrthod! Bydda i'n lladd dy fab hynaf di!”’” Ar y ffordd, roedd Moses a'i deulu wedi aros i letya dros nos. A dyma'r ARGLWYDD yn dod ato, ac roedd yn mynd i'w ladd. Ond dyma Seffora yn cymryd cyllell finiog, torri'r blaengroen oddi ar bidyn ei mab. Yna cyffwrdd man preifat Moses gydag e, a dweud, “Rwyt ti wir yn briodfab i mi trwy waed.” A dyma'r ARGLWYDD yn gadael llonydd iddo. (Wrth ddweud “priodfab trwy waed” roedd Seffora'n cyfeirio at ddefod enwaediad.) Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Aaron, “Dos i'r anialwch i gyfarfod Moses.” Felly dyma fe'n mynd ac yn cyfarfod Moses wrth fynydd Duw, a'i gyfarch gyda chusan. A dyma Moses yn dweud wrth Aaron bopeth roedd yr ARGLWYDD wedi ei anfon i'w ddweud, ac am yr arwyddion gwyrthiol roedd i'w gwneud. Galwodd Moses ac Aaron arweinwyr Israel at ei gilydd. A dyma Aaron yn dweud wrthyn nhw am bopeth roedd yr ARGLWYDD wedi ei ddweud wrth Moses. A dyma'r bobl yn gweld yr arwyddion gwyrthiol ac yn ei gredu. Pan glywon nhw fod yr ARGLWYDD wedi bod yn cadw golwg ar bobl Israel ac wedi gweld sut roedden nhw'n cael eu cam-drin, dyma nhw'n plygu i lawr yn isel i'w addoli. Aeth Moses ac Aaron at y Pharo, a dweud wrtho, “Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Gad i'm pobl fynd yn rhydd, iddyn nhw gynnal gŵyl i mi yn yr anialwch.’” Ond dyma'r Pharo'n ateb, “A pwy ydy'r ARGLWYDD yma dw i i fod i wrando arno, a gadael i bobl Israel fynd? Dw i ddim yn gwybod pwy ydy e, a dw i ddim yn mynd i adael i Israel fynd yn rhydd ychwaith!” A dyma nhw'n ei ateb, “Mae Duw yr Hebreaid wedi cyfarfod gyda ni. Plîs, gad i ni deithio i'r anialwch am dri diwrnod, er mwyn i ni aberthu i'r ARGLWYDD ein Duw, rhag iddo ein taro ni gyda haint ofnadwy neu i ni gael ein lladd mewn rhyfel.” “Moses, Aaron,” meddai'r brenin, “dych chi'n stopio'r bobl rhag mynd ymlaen gyda'u gwaith! Ewch yn ôl i weithio! Mae'r bobl yma drwy'r wlad i gyd, a dych chi'n ei stopio nhw rhag gweithio!” Felly'r diwrnod hwnnw, dyma'r Pharo yn gorchymyn i'r meistri gwaith a'r fformyn oedd dros y bobl: “Peidiwch rhoi cyflenwad o wellt i'r bobl sy'n gwneud briciau o hyn ymlaen. Gwnewch iddyn nhw gasglu eu gwellt eu hunain! Ond bydd dal ddisgwyl iddyn nhw wneud yr un nifer o friciau ac o'r blaen. Peidiwch gadael iddyn nhw wneud llai. Mae'n amlwg eu bod nhw'n slacio, a dyna pam maen nhw'n dweud, ‘Gad i ni fynd i aberthu i'n Duw.’ Gwnewch iddyn nhw weithio'n galetach. Fydd ganddyn nhw ddim amser i wrando ar gelwyddau'r dynion yna wedyn!” Felly dyma'r meistri gwaith a'r fformyn yn mynd at bobl Israel, a dweud, “Dyma orchymyn gan y Pharo: ‘Dw i ddim am roi gwellt i chi o hyn ymlaen. Rhaid i chi'ch hunain fynd allan i chwilio am wellt. A rhaid i chi gynhyrchu'r un nifer o friciau ac o'r blaen.’” Felly dyma'r bobl yn mynd allan i wlad yr Aifft i bob cyfeiriad, i gasglu bonion gwellt. Roedd y meistri gwaith yn rhoi pwysau ofnadwy arnyn nhw, “Rhaid i chi wneud yr un faint o waith bob dydd ac o'r blaen, pan oedden ni'n rhoi gwellt i chi!” Roedd yr Israeliaid oedd wedi cael eu penodi'n fformyn gan y meistri gwaith yn cael eu curo am beidio cynhyrchu'r cwota llawn o friciau fel o'r blaen. Felly dyma'r fformyn yn mynd at y Pharo, a pledio arno, “Pam wyt ti'n trin dy weision fel yma? Dŷn ni'n cael dim gwellt, ac eto mae disgwyl i ni wneud briciau! Ni sy'n cael ein curo ond ar y meistri gwaith mae'r bai.” Ond dyma'r Pharo yn dweud wrthyn nhw, “Dych chi wedi bod yn slacio! Dych chi'n ddiog! Dyna pam dych chi'n dweud, ‘Gad i ni fynd i aberthu i'r ARGLWYDD.’ Felly ewch, yn ôl i'ch gwaith! Fydd dim gwellt yn cael ei roi i chi, ond rhaid i chi gynhyrchu'r un faint o friciau!” Roedd fformyn pobl Israel yn gweld eu bod nhw mewn trwbwl pan ddywedwyd wrthyn nhw, “Rhaid i chi gynhyrchu'r un faint o friciau ac o'r blaen.” Wrth iddyn nhw adael y Pharo, roedd Moses ac Aaron yno'n disgwyl amdanyn nhw. A dyma'r fformyn yn dweud wrthyn nhw, “Gobeithio bydd yr ARGLWYDD yn eich barnu chi am droi y Pharo a'i swyddogion yn ein herbyn ni. Dŷn ni'n drewi yn eu golwg nhw! Dych chi wedi'n rhoi ni mewn sefyllfa lle byddan nhw'n ein lladd ni!” Dyma Moses yn mynd yn ôl at yr ARGLWYDD, a dweud, “O! Feistr, pam ti'n trin dy bobl fel yma? Pam yn y byd wnest ti fy anfon i atyn nhw? O'r eiliad es i i siarad â'r Pharo ar dy ran di, mae e wedi achosi trwbwl i'r bobl yma, a dwyt ti wedi gwneud dim byd i'w hachub nhw!” Ond dyma'r ARGLWYDD yn ateb Moses, “Cei weld beth fydda i'n ei wneud i'r Pharo. Bydda i'n defnyddio fy nerth i'w orfodi e i'w gollwng nhw'n rhydd, a bydd e'n eu gyrru nhw allan o'i wlad!” Meddai Duw wrth Moses, “Fi ydy'r ARGLWYDD. Gwnes i ddangos fy hun i Abraham, Isaac a Jacob fel y Duw sy'n rheoli popeth. Ond doeddwn i ddim wedi gadael iddyn nhw fy nabod i wrth fy enw, yr ARGLWYDD. Roeddwn i wedi gwneud ymrwymiad i roi gwlad Canaan iddyn nhw, sef y wlad lle roedden nhw'n byw fel mewnfudwyr. Dw i wedi clywed pobl Israel yn griddfan am fod yr Eifftiaid wedi eu gwneud nhw'n gaethweision, a dw i wedi cofio fy ymrwymiad iddyn nhw. Felly, dywed wrth bobl Israel, ‘Fi ydy'r ARGLWYDD. Dw i'n mynd i ddod â chi allan o'r Aifft. Fyddwch chi ddim yn gaethweision i'r Eifftiaid o hyn ymlaen. Dw i'n mynd i'ch achub chi rhag cael eich cam-drin ganddyn nhw. Dw i'n mynd i ddefnyddio fy nerth i'ch rhyddhau chi, ac yn mynd i'w cosbi nhw. Dw i'n mynd i'ch gwneud chi yn bobl i mi fy hun. Fi fydd eich Duw chi. Byddwch chi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw wnaeth eich achub chi o fod yn gaethweision yn yr Aifft. Bydda i'n dod â chi i'r wlad wnes i addo ei rhoi i Abraham, Isaac a Jacob — eich gwlad chi fydd hi wedyn! Fi ydy'r ARGLWYDD.’” Dyma Moses yn dweud hyn i gyd wrth bobl Israel, ond roedden nhw'n gwrthod gwrando arno. Roedden nhw mor ddigalon am eu bod yn cael eu cam-drin mor ofnadwy. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Dos at y Pharo, brenin yr Aifft, a dweud wrtho fod rhaid iddo ryddhau pobl Israel o'i wlad.” Ond dyma Moses yn ateb yr ARGLWYDD, “Dydy pobl Israel ddim yn fodlon gwrando, felly pam ddylai'r Pharo wrando arna i? Dw i'n siaradwr gwael.” Ond dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses ac Aaron fod rhaid iddyn nhw fynd yn ôl at bobl Israel ac at y Pharo, am eu bod i arwain pobl Israel allan o wlad yr Aifft. Dyma enwau penaethiaid teuluoedd Israel: Meibion Reuben, mab hynaf Israel: Hanoch, Palw, Hesron a Carmi — enwau teuluoedd o lwyth Reuben. Meibion Simeon: Iemwel, Iamin, Ohad, Iachin, Sochar a Saul (mab i ferch o Canaan) — enwau teuluoedd o lwyth Simeon. A dyma enwau meibion Lefi (bob yn genhedlaeth): Gershon, Cohath a Merari (Roedd Lefi wedi byw i fod yn 137 mlwydd oed.) Meibion Gershon bob yn deulu: Libni a Shimei Meibion Cohath: Amram, Its'har, Hebron ac Wssiel (Roedd Cohath wedi byw i fod yn 133 mlwydd oed.) Meibion Merari: Machli a Mwshi. Dyma deuluoedd llwyth Lefi (bob yn genhedlaeth). Roedd Amram wedi priodi Iochefed, chwaer ei dad, a nhw oedd rhieni Aaron a Moses. (Roedd Amram wedi byw i fod yn 137 mlwydd oed.) Meibion Its'har oedd Cora, Neffeg a Sichri. Meibion Wssiel oedd Mishael, Eltsaffan a Sithri. Roedd Aaron wedi priodi Eliseba (merch Aminadab, a chwaer i Nachshon), a nhw oedd rhieni Nadab, Abihw, Eleasar ac Ithamar. Meibion Cora oedd Assir, Elcana ac Abiasaff. Eu disgynyddion nhw oedd y Corahiaid. Roedd Eleasar (mab Aaron) wedi priodi un o ferched Pwtiel, a nhw oedd rhieni Phineas. Dyma benaethiaid y teuluoedd o lwyth Lefi. Y rhain oedd yr Aaron a'r Moses wnaeth yr ARGLWYDD siarad â nhw, a dweud, “Dw i am i chi arwain pobl Israel allan o wlad yr Aifft mewn rhengoedd trefnus.” Nhw oedd y rhai aeth i siarad â'r Pharo, brenin yr Aifft, a mynnu ei fod yn gadael i bobl Israel fynd allan o'r Aifft — yr un Moses ac Aaron. Pan siaradodd yr ARGLWYDD gyda Moses yn yr Aifft, dwedodd wrtho, “Fi ydy'r ARGLWYDD. Dw i eisiau i ti ddweud wrth y Pharo, brenin yr Aifft, bopeth dw i'n ei ddweud wrthot ti.” Ond dyma Moses yn ateb yr ARGLWYDD, “Dw i'n siaradwr gwael! Pam ddylai'r Pharo wrando arna i?” A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Bydda i'n dy wneud di fel ‛duw‛ i'r Pharo, a dy frawd Aaron fel dy broffwyd. Rwyt i ddweud popeth dw i'n ei orchymyn i ti, ac mae dy frawd Aaron i ddweud wrth y Pharo fod rhaid iddo ryddhau pobl Israel o'i wlad. Ond bydda i'n gwneud y Pharo'n ystyfnig. Bydda i'n gwneud lot fawr o arwyddion a gwyrthiau rhyfeddol yn yr Aifft, ond fydd y Pharo ddim yn gwrando. Felly bydda i'n taro'r Aifft, eu cosbi nhw'n llym, ac yn arwain fy mhobl Israel allan o'r wlad mewn rhengoedd trefnus. Wedyn bydd pobl yr Aifft yn deall mai fi ydy'r ARGLWYDD pan fydda i'n taro'r Aifft ac arwain pobl Israel allan o'i gwlad nhw.” Dyma Moses ac Aaron yn gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrthyn nhw. Roedd Moses yn wyth deg oed, ac Aaron yn wyth deg tri, pan aethon nhw i siarad â'r Pharo. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses ac Aaron, “Pan fydd y Pharo yn dweud, ‘Dangoswch wyrth i mi,’ dywed wrth Aaron am daflu ei ffon ar lawr o flaen y Pharo, a bydd y ffon yn troi'n neidr anferth.” Pan aeth Moses ac Aaron at y Pharo, dyma nhw'n gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud. Dyma Aaron yn taflu ei ffon ar lawr o flaen y Pharo a'i swyddogion, a dyma'r ffon yn troi'n neidr anferth. Ond yna dyma'r Pharo yn galw am swynwyr doeth a consurwyr — dewiniaid yr Aifft, oedd yn gwneud yr un math o beth drwy hud a lledrith. Dyma nhw i gyd yn taflu eu ffyn ar lawr, a dyma'r ffyn yn troi'n nadroedd. Ond dyma ffon Aaron yn llyncu eu ffyn nhw i gyd! Ond roedd y Pharo mor ystyfnig ag erioed. Roedd yn gwrthod gwrando arnyn nhw, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Mae'r Pharo mor ystyfnig. Mae'n gwrthod rhyddhau y bobl. Bore yfory dos i'w gyfarfod pan fydd yn mynd i lawr at yr afon. Dos i sefyll ar lan yr Afon Nil, yn disgwyl amdano. Dos â dy ffon gyda ti, sef yr un wnaeth droi'n neidr. Dywed wrtho, ‘Mae'r ARGLWYDD, Duw yr Hebreaid, wedi fy anfon i atat ti i ddweud, “Gad i'm pobl fynd yn rhydd, iddyn nhw fy addoli i yn yr anialwch!” Ond hyd yn hyn rwyt ti wedi gwrthod gwrando. Felly mae'r ARGLWYDD yn dweud: “Dyma sut rwyt ti'n mynd i ddeall mai fi ydy'r ARGLWYDD: Dw i'n mynd i daro dŵr yr Afon Nil gyda'r ffon yma, a bydd yn troi yn waed. Bydd y pysgod yn marw, a bydd yr Afon Nil yn drewi. Fydd pobl yr Aifft ddim yn gallu yfed dŵr ohoni.”’” Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Dywed wrth Aaron am estyn ei ffon dros ddyfroedd yr Aifft — yr afonydd, y camlesi, y corsydd a'r dŵr sydd wedi ei gasglu — er mwyn i'r cwbl droi'n waed. Bydd gwaed drwy'r wlad i gyd, hyd yn oed yn y bwcedi pren a'r cafnau carreg.” Dyma Moses ac Aaron yn gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn. Codi'r ffon a taro dŵr yr Afon Nil o flaen llygaid y Pharo a'i swyddogion. A dyma ddŵr yr Afon Nil yn troi'n waed. Dyma'r pysgod yn yr afon yn marw, ac roedd y dŵr yn drewi mor ofnadwy, doedd pobl yr Aifft ddim yn gallu ei yfed. Roedd gwaed drwy wlad yr Aifft i gyd! Ond dyma ddewiniaid yr Aifft yn gwneud yr un peth drwy hud a lledrith. Felly roedd y Pharo mor ystyfnig ag erioed, ac yn gwrthod gwrando ar Moses ac Aaron, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud. Dyma'r Pharo'n mynd yn ôl i'w balas, yn poeni dim am y peth. Ond roedd pobl gyffredin yr Aifft yn gorfod cloddio am ddŵr, am eu bod yn methu yfed dŵr yr Afon Nil. Aeth wythnos lawn heibio ar ôl i'r ARGLWYDD daro'r afon. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Dos at y Pharo a dweud wrtho, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Gad i'm pobl fynd yn rhydd, iddyn nhw gael fy addoli i! Os byddi di'n gwrthod gadael iddyn nhw fynd, bydda i'n anfon pla o lyffaint drwy'r wlad. Bydd yr Afon Nil yn llawn ohonyn nhw. A byddan nhw'n dod i mewn i'r palas, i dy ystafell wely di, a hyd yn oed ar dy wely! Byddan nhw'n mynd i mewn i dai pawb. Byddan nhw ym mhob ffwrn a phowlen a phadell! Byddan nhw dros bawb a phopeth! — drosot ti, dy bobl a dy swyddogion.”’” Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Dywed wrth Aaron am estyn ei ffon dros yr afonydd, y camlesi a'r corsydd, a gwneud i lyffaint ddod allan dros wlad yr Aifft i gyd.” Dyma Aaron yn gwneud hynny, a daeth llyffaint allan dros wlad yr Aifft i gyd. Ond yna dyma'r dewiniaid yn gwneud yr un peth gyda'i hud a lledrith — roedden nhw hefyd yn gwneud i lyffaint ddod dros y wlad. Yna dyma'r Pharo yn galw am Moses ac Aaron, a dweud wrthyn nhw, “Gweddïwch ar yr ARGLWYDD iddo gymryd y llyffaint i ffwrdd oddi wrtho i a'r bobl. Wedyn bydda i'n gadael i'r bobl fynd, iddyn nhw aberthu i'r ARGLWYDD.” A dyma Moses yn ateb y Pharo, “Iawn, cei di'r fraint o ddweud pryd wyt ti eisiau i mi weddïo. Pryd wyt ti eisiau i'r llyffaint gael eu symud o'ch tai chi, fel bod dim ar ôl ond y rhai sydd yn yr Afon Nil?” A dyma fe'n ateb, “Yfory.” “Iawn,” meddai Moses, “fel rwyt ti'n dweud! Byddi'n deall wedyn fod yna neb tebyg i'r ARGLWYDD ein Duw ni. Bydd y llyffaint i gyd wedi mynd, heblaw'r rhai sydd yn yr Afon Nil.” Felly dyma Moses ac Aaron yn gadael y Pharo, a gweddïodd Moses ar yr ARGLWYDD am y llyffaint roedd e wedi eu hanfon ar y Pharo. A dyma'r ARGLWYDD yn gwneud fel roedd Moses yn gofyn — dyma'r llyffaint i gyd yn marw, yn y tai, y pentrefi a'r caeau. Cafodd y cwbl eu casglu'n domenni ym mhobman, nes bod y wlad yn drewi! Ond yna, pan welodd y Pharo fod y broblem wedi mynd, dyma fe'n troi'n ystyfnig eto. Roedd yn gwrthod gwrando ar Moses ac Aaron, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Dywed wrth Aaron am estyn ei ffon a taro'r pridd ar lawr, iddo droi'n wybed dros wlad yr Aifft i gyd.” A dyna wnaethon nhw. Dyma Aaron yn estyn ei ffon a taro'r pridd ar lawr, ac roedd gwybed ym mhobman, ar bobl ac anifeiliaid. Trodd y pridd ar lawr yn wybed ym mhobman drwy wlad yr Aifft i gyd. Ceisiodd y dewiniaid wneud yr un peth gyda'i hud a lledrith, ond roedden nhw'n methu. Roedd gwybed ym mhobman, ar bobl ac anifeiliaid! “Duw sydd tu ôl i hyn!” meddai'r dewiniaid. Ond roedd y Pharo yn aros yr un mor ystyfnig, ac yn gwrthod gwrando ar Moses ac Aaron, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Coda'n fore, a sefyll o flaen y Pharo pan fydd yn mynd i lawr at yr afon. Dywed wrtho, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud, “Gad i'm pobl fynd yn rhydd, iddyn nhw gael fy addoli i! Os byddi di'n gwrthod gadael i'm pobl fynd, dw i'n mynd i anfon heidiau o bryfed i dy boeni di, dy swyddogion a dy bobl. Bydd eich tai yn llawn pryfed, byddan nhw hyd yn oed ar lawr ym mhobman. Ond bydda i'n delio'n wahanol gyda Gosen, lle mae fy mhobl Israel yn byw; fydd yna ddim pryfed yno. Byddi'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD, a'm bod i yma yng nghanol gwlad yr Aifft. Bydda i'n gwahaniaethu rhwng fy mhobl i a dy bobl di. Bydd hyn yn digwydd yfory.”’” A dyna wnaeth yr ARGLWYDD. Daeth haid trwchus o bryfed i mewn i balas y Pharo, tai ei swyddogion, a thrwy wlad yr Aifft i gyd. Roedd y pryfed yn difetha'r wlad. A dyma'r Pharo yn galw am Moses ac Aaron, a dweud wrthyn nhw, “Iawn, ewch i aberthu i'ch Duw, ond o fewn ffiniau'r wlad yma.” Ond dyma Moses yn ateb, “Na, fyddai hynny ddim yn beth call i'w wneud. Bydden ni'n tramgwyddo pobl yr Aifft gyda'r aberthau dŷn ni'n eu cyflwyno i'r ARGLWYDD ein Duw. Os byddan nhw'n ein gweld ni'n aberthu, byddan nhw'n dechrau taflu cerrig aton ni i'n lladd ni. Rhaid i ni deithio am dri diwrnod i'r anialwch, ac aberthu i'r ARGLWYDD ein Duw yno. Dyna mae e'n ddweud wrthon ni.” Felly dyma'r Pharo'n dweud, “Iawn, gwna i adael i chi fynd i aberthu i'r ARGLWYDD eich Duw yn yr anialwch. Ond rhaid i chi beidio mynd yn rhy bell. Nawr, gweddïwch drosto i.” A dyma Moses yn dweud, “Yn syth ar ôl i mi fynd allan, bydda i'n gweddïo ar yr ARGLWYDD ac yn gofyn iddo anfon y pryfed i ffwrdd yfory — oddi wrthot ti, dy swyddogion a dy bobl. Ond paid ceisio'n twyllo ni eto, a gwrthod gadael i'r bobl fynd i aberthu i'r ARGLWYDD.” Felly dyma Moses yn gadael y Pharo, ac yn gweddïo ar yr ARGLWYDD. A dyma'r ARGLWYDD yn gwneud fel roedd Moses yn gofyn — dyma fe'n gyrru'r pryfed i ffwrdd oddi wrth y Pharo, ei swyddogion a'i bobl. Doedd dim un ar ôl! Ond dyma'r Pharo'n troi'n ystyfnig unwaith eto, ac yn gwrthod gadael i'r bobl fynd. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Dos at y Pharo a dweud wrtho, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw yr Hebreaid yn ei ddweud: “Gad i'm pobl fynd yn rhydd, iddyn nhw gael fy addoli i!” Os byddi di'n gwrthod gadael iddyn nhw fynd, ac yn dal dy afael ynddyn nhw, bydd yr ARGLWYDD yn taro dy anifeiliaid di i gyd gyda haint ofnadwy — y ceffylau, y mulod, y camelod, y gwartheg i gyd, a'r defaid a geifr. Ond bydd e'n gwahaniaethu rhwng anifeiliaid pobl Israel a'ch anifeiliaid chi'r Eifftiaid. Fydd dim un o anifeiliaid pobl Israel yn marw.’” Dwedodd yr ARGLWYDD y byddai hyn yn digwydd y diwrnod wedyn. A dyna wnaeth yr ARGLWYDD. Y diwrnod wedyn dyma anifeiliaid yr Eifftiaid i gyd yn marw, ond wnaeth dim un o anifeiliaid pobl Israel farw. Dyma'r Pharo yn anfon swyddogion i weld, ac yn wir, doedd dim un o anifeiliaid pobl Israel wedi marw. Ond roedd e mor ystyfnig ac erioed, ac roedd yn gwrthod gadael i'r bobl fynd. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses ac Aaron, “Cymerwch ddyrneidiau o ludw o ffwrnais, a chael Moses i'w daflu i'r awyr o flaen llygaid y Pharo. Bydd yn lledu fel llwch mân dros wlad yr Aifft i gyd, ac yn achosi chwyddau fydd yn troi'n septig ar gyrff pobl ac anifeiliaid drwy'r wlad.” Felly dyma nhw'n cymryd lludw o ffwrnais a mynd i sefyll o flaen y Pharo. A dyma Moses yn ei daflu i'r awyr, ac roedd yn achosi chwyddau oedd yn troi'n septig ar gyrff pobl ac anifeiliaid. Doedd y dewiniaid ddim yn gallu cystadlu gyda Moses o achos y chwyddau. Roedd y chwyddau dros eu cyrff nhw hefyd, fel pawb arall yn yr Aifft. Ond roedd yr ARGLWYDD wedi gwneud y Pharo yn fwy ystyfnig fyth. Roedd yn gwrthod gwrando arnyn nhw, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Coda'n fore, a sefyll o flaen y Pharo, a dywed wrtho, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw yr Hebreaid, yn ei ddweud: “Gad i'm pobl fynd yn rhydd, iddyn nhw gael fy addoli i! Y tro yma dw i'n mynd i dy daro di, a dy swyddogion a dy bobl gyda plâu gwaeth fyth, er mwyn i ti ddeall fod yna neb tebyg i mi ar y ddaear. Gallwn i fod wedi dy daro di a dy bobl gyda pla ofnadwy fyddai wedi eich dileu oddi ar wyneb y ddaear! Dyma pam wnes i dy godi di — er mwyn dangos i ti mor bwerus ydw i, ac er mwyn i bawb drwy'r byd i gyd ddod i wybod amdana i. Ond rwyt ti'n dal i ormesu fy mhobl, ac yn gwrthod gadael iddyn nhw fynd yn rhydd. Felly, tua'r adeg yma yfory, dw i'n mynd i anfon y storm genllysg waethaf mae'r Aifft erioed wedi ei gweld. Gwell i ti gasglu dy anifeiliaid a phopeth arall sydd piau ti o'r caeau i le saff. Bydd pob person ac anifail sy'n cael ei ddal yn y cae gan y storm yn cael ei daro gan y cenllysg ac yn marw!”’” Dyma rai o swyddogion y Pharo yn credu beth ddwedodd yr ARGLWYDD, ac yn brysio allan i gasglu eu gweision a'u hanifeiliaid o'r caeau. Ond roedd eraill yn poeni dim am y peth, a dyma nhw'n gadael eu gweision a'u hanifeiliaid yn y caeau. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Cod dy law i fyny i'r awyr, i wneud i genllysg ddisgyn drwy wlad yr Aifft, ar bobl ac anifeiliaid, ac ar y cnydau sy'n tyfu trwy'r wlad i gyd.” Pan gododd Moses ei ffon i'r awyr, dyma'r ARGLWYDD yn anfon storm o genllysg gyda mellt a tharanau. Dyma'r ARGLWYDD yn gwneud iddi fwrw cenllysg ar wlad yr Aifft i gyd. Roedd y cenllysg yn syrthio, a'r mellt yn fflachio yn ôl a blaen. Roedd yn bwrw mor drwm, fuodd yna erioed storm debyg iddi yn holl hanes gwlad yr Aifft. Roedd y cenllysg yn taro popeth oedd allan yn y caeau — pobl ac anifeiliaid, a'r cnydau drwy'r wlad i gyd. Roedd hyd yn oed y coed wedi cael eu dryllio! Yr unig ardal yn yr Aifft gafodd ddim cenllysg oedd Gosen, lle roedd pobl Israel yn byw. Felly dyma'r Pharo yn anfon am Moses ac Aaron, ac yn dweud wrthyn nhw, “Dw i'n cyfaddef fy mod i ar fai. Yr ARGLWYDD sy'n iawn. Dw i a'm pobl yn euog. Gweddïa ar yr ARGLWYDD. Dŷn ni wedi cael digon! Mae'r taranau a'r cenllysg yma'n ormod! Gwna i adael i chi fynd — gorau po gynta!” A dyma Moses yn dweud wrtho, “Pan fydda i wedi mynd allan o'r ddinas, bydda i'n codi fy nwylo ac yn gweddïo ar yr ARGLWYDD. Bydd y taranau a'r cenllysg yn stopio. Byddi'n deall wedyn mai'r ARGLWYDD sydd piau'r ddaear yma. Ond dw i'n gwybod yn iawn dy fod ti a dy weision eto ddim wir yn parchu'r ARGLWYDD Dduw.” (Roedd y cnydau llin a'r cnydau haidd wedi cael eu difetha gan y cenllysg. Roedd yr haidd yn aeddfed, a'r llin wedi blodeuo. Ond roedd y gwenith a'r sbelt yn dal yn iawn, gan eu bod yn gnydau mwy diweddar.) Felly dyma Moses yn gadael y Pharo a mynd allan o'r ddinas. Dyma fe'n codi ei ddwylo a gweddïo ar yr ARGLWYDD, a dyma'r taranau a'r cenllysg yn stopio, a'r storm yn clirio. Ond pan welodd y Pharo fod y glaw a'r cenllysg a'r taranau wedi stopio dyma fe'n pechu eto. Dyma fe a'i swyddogion yn troi'n ystyfnig. Roedd y Pharo yn hollol ystyfnig, ac yn gwrthod gadael i bobl Israel fynd, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Dos at y Pharo. Dw i wedi ei wneud e a'i swyddogion yn ystyfnig, er mwyn iddyn nhw weld yr arwyddion gwyrthiol dw i'n eu gwneud. Hefyd er mwyn i ti allu dweud am beth ddigwyddodd wrth dy blant a'u plant hwythau, sut roeddwn i wedi gwneud ffyliaid o'r Eifftiaid. Byddwch chi'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.” Felly dyma Moses ac Aaron yn mynd at y Pharo a dweud wrtho, “Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw yr Hebreaid, yn ei ddweud: ‘Am faint wyt ti'n mynd i wrthod plygu i mi? Gad i'm pobl fynd yn rhydd, iddyn nhw gael fy addoli i! Os fyddi di'n gwrthod, gwylia dy hun! Bydda i'n anfon locustiaid drwy dy wlad di yfory. Byddan nhw dros bobman! Fyddi di ddim yn gallu gweld y llawr! Byddan nhw'n dinistrio popeth wnaeth ddim cael ei ddifetha gan y cenllysg. Fydd yna ddim byd gwyrdd ar ôl, a dim blagur ar y coed. Byddan nhw drwy dy balas di, tai dy swyddogion a tai pawb arall yn yr Aifft. Fydd dim byd tebyg i hyn wedi digwydd yn holl hanes gwlad yr Aifft!’” Yna dyma Moses yn troi ac yn gadael y Pharo. A dyma swyddogion y Pharo yn dweud wrtho, “Am faint mae hyn i fynd ymlaen? Gad iddyn nhw fynd i addoli'r ARGLWYDD eu Duw. Wyt ti ddim yn gweld y bydd hi ar ben ar y wlad yma?” Dyma nhw'n dod â Moses ac Aaron yn ôl at y Pharo. A dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Ewch i addoli'r ARGLWYDD eich Duw. Ond pwy yn union fydd yn mynd?” “Bydd pawb yn mynd,” meddai Moses, “hen ac ifanc, ein plant a'n hanifeiliaid. Dŷn ni'n mynd i gynnal gŵyl i'r ARGLWYDD.” “Duw a'ch helpo os ydych chi'n meddwl y gwna i adael i'ch plant fynd gyda chi! Gwyliwch chi! Byddwch chi mewn trwbwl wedyn! Na! Dim ond y dynion sydd i gael mynd i addoli'r ARGLWYDD. Dyna dych chi eisiau ynte?” A dyma fe'n gyrru'r ddau allan o'i olwg. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Estyn dy law dros wlad yr Aifft i wneud i'r locustiaid ddod. Byddan nhw dros bobman, ac yn difetha popeth sy'n dal i dyfu ar ôl y cenllysg.” Felly dyma Moses yn estyn ei ffon dros wlad yr Aifft. A dyma'r ARGLWYDD yn gwneud i wynt o'r dwyrain chwythu drwy'r dydd a'r nos. Erbyn iddi wawrio y bore wedyn roedd y gwynt wedi dod â'r locustiaid i'r wlad. Dyma nhw'n mynd drwy'r wlad i gyd, o un pen i'r llall. Fuodd yna erioed bla tebyg o locustiaid, a fydd yna ddim un tebyg byth eto. Roedden nhw dros bobman! Roedd y ddaear yn ddu gan locustiaid, a dyma nhw'n difetha pob planhigyn a phob ffrwyth ar bob coeden oedd yn dal yna wedi'r cenllysg. Doedd yna ddim planhigyn na deilen werdd ar ôl drwy wlad yr Aifft i gyd! Dyma'r Pharo yn galw Moses ac Aaron ar frys. Meddai wrthyn nhw, “Dw i wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD eich Duw, a chithau. Plîs maddeuwch i mi yr un tro yma, a dim ond gweddïo y bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn cymryd y pla marwol yma i ffwrdd.” Felly dyma Moses yn gadael y Pharo ac yn gweddïo ar yr ARGLWYDD. A dyma'r ARGLWYDD yn gwneud i'r gwynt droi, a chwythu'n gryf o gyfeiriad y gorllewin. Dyma'r gwynt yn codi'r locustiaid a'u chwythu nhw i gyd i'r Môr Coch. Doedd yna ddim un locust ar ôl drwy wlad yr Aifft i gyd! Ond dyma'r ARGLWYDD yn gwneud y Pharo yn ystyfnig eto. Roedd yn gwrthod gadael i bobl Israel fynd. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Estyn dy law i fyny i'r awyr, a gwneud i dywyllwch ddod dros wlad yr Aifft — tywyllwch dychrynllyd! ” Felly dyma Moses yn estyn ei law i fyny i'r awyr, ac roedd hi'n dywyll fel y fagddu drwy wlad yr Aifft am dri diwrnod. Doedd pobl ddim yn gallu gweld ei gilydd, a doedd neb yn gallu mynd allan am dri diwrnod! Ond roedd hi'n olau lle roedd pobl Israel yn byw. Dyma'r Pharo yn galw am Moses, a dweud, “Ewch i addoli'r ARGLWYDD. Cewch fynd â'ch plant gyda chi, ond dw i am gadw'r anifeiliaid yma.” Dyma Moses yn ateb, “Wyt ti ddim am roi anifeiliaid i ni i'w haberthu a'u cyflwyno'n offrymau i'w llosgi i'r ARGLWYDD ein Duw? Rhaid i'r anifeiliaid fynd gyda ni. Does dim un i gael ei adael ar ôl. Rhaid i ni ddewis rhai ohonyn nhw i'w haberthu i'r ARGLWYDD, a dŷn ni ddim yn gwybod pa rai nes byddwn ni wedi cyrraedd yno.” Ond dyma'r ARGLWYDD yn gwneud y Pharo yn ystyfnig eto. Doedd e ddim am adael iddyn nhw fynd. Meddai'r Pharo, “Dos o ngolwg i! Dw i byth eisiau dy weld di yma eto! Os gwela i di eto, bydda i'n dy ladd di!” “Iawn,” meddai Moses, “fyddi di byth yn fy ngweld i eto.” Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Dw i'n mynd i daro'r Pharo a gwlad yr Aifft un tro olaf. Bydd e'n eich gollwng chi'n rhydd wedyn, heb unrhyw amodau. Yn wir, bydd e'n eich gyrru chi allan o'r wlad. Dywed wrth bobl Israel fod pawb i ofyn i'w cymdogion am bethau wedi eu gwneud o arian ac aur.” A dyma'r ARGLWYDD yn gwneud i'r Eifftiaid fod yn hael at bobl Israel. Roedd Moses ei hun yn cael ei ystyried yn ddyn pwysig iawn yn yr Aifft. Roedd gan swyddogion y Pharo a'r bobl gyffredin barch mawr ato. A dyma Moses yn dweud, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Tua canol nos bydda i'n mynd trwy wlad yr Aifft, a bydd pob mab hynaf drwy'r wlad yn marw — o fab hynaf y Pharo ar ei orsedd i fab hyna'r gaethferch sy'n troi y felin law, a hyd yn oed pob anifail gwryw oedd y cyntaf i gael ei eni. Bydd pobl yn wylofain drwy wlad yr Aifft i gyd. Fydd dim byd tebyg wedi digwydd erioed o'r blaen, a fydd dim byd tebyg byth eto. Ond fydd dim yn bygwth pobl Israel na'u hanifeiliaid — dim hyd yn oed ci yn cyfarth! Byddwch chi'n deall wedyn fod yr ARGLWYDD yn gwahaniaethu rhwng yr Eifftiaid a pobl Israel.’ “Bydd dy swyddogion i gyd yn dod i edrych amdana i, ac yn plygu'n isel o'm blaen i. Byddan nhw'n dweud, ‘Ewch! — ti a'r bobl sy'n dy ddilyn di.’ Wedyn bydda i'n mynd.” Yna dyma Moses yn gadael y Pharo, wedi digio'n lân. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Fydd y Pharo ddim yn gwrando arnoch chi. Felly dw i'n mynd i wneud mwy o wyrthiau rhyfeddol yn yr Aifft.” Er bod Moses ac Aaron wedi gwneud y gwyrthiau rhyfeddol yma o flaen y Pharo, roedd yr ARGLWYDD wedi ei wneud e'n ystyfnig. Roedd yn gwrthod gadael i bobl Israel fynd yn rhydd. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses ac Aaron yn yr Aifft, “Y mis yma fydd mis cynta'r flwyddyn i chi. Dwedwch wrth bobl Israel: Ar y degfed o'r mis rhaid i bob teulu gymryd oen neu fyn gafr i'w ladd. Os ydy'r teulu'n rhy fach i fwyta'r anifail cyfan, dylen nhw ei rannu gyda'u cymdogion. Mae'n dibynnu faint o bobl sydd yn y teulu, a faint mae pawb yn gallu ei fwyta. Rhaid iddo fod yn anifail gwryw, blwydd oed, heb ddim o'i le arno. Gall fod yn oen neu'n fyn gafr. Rhaid ei gadw ar wahân hyd y pedwerydd ar ddeg o'r mis. Yna, y noson honno, ar ôl i'r haul fachlud, bydd pobl Israel i gyd yn lladd yr oen neu'r myn gafr sydd ganddyn nhw. Wedyn maen nhw i gymryd peth o'r gwaed a'i roi ar ochrau ac ar dop ffrâm y drws i'r tŷ lle byddan nhw'n ei fwyta. Rhaid iddyn nhw ei rostio y noson honno, a'i fwyta gyda bara heb furum ynddo a llysiau chwerw. Rhaid rhostio'r anifail cyfan, gyda'i ben, ei goesau a'i berfeddion. Peidiwch bwyta'r cig os nad ydy e wedi ei goginio'n iawn, neu dim ond wedi ei ferwi. Does dim ohono i fod wedi ei adael ar ôl y bore wedyn. Rhaid i unrhyw sbarion gael eu llosgi. “A dyma sut mae i gael ei fwyta: Rhaid i chi fod wedi gwisgo fel petaech ar fin mynd ar daith, gyda'ch sandalau ar eich traed a'ch ffon gerdded yn eich llaw. Rhaid ei fwyta ar frys. Pasg yr ARGLWYDD ydy e. Dw i'n mynd i fynd trwy wlad yr Aifft y noson honno, a taro pob mab hynaf, a phob anifail gwryw oedd yn gyntaf i gael ei eni. Dw i'n mynd i farnu ‛duwiau‛ yr Aifft i gyd! Fi ydy'r ARGLWYDD. Mae'r gwaed fydd ar ffrâm drysau eich tai chi yn arwydd i chi. Pan fydda i'n gweld y gwaed, bydda i'n pasio heibio i chi. Fydd y pla yma ddim yn eich lladd chi pan fydda i'n taro gwlad yr Aifft. Bydd yn ddiwrnod i'w gofio. Byddwch yn ei ddathlu bob blwyddyn drwy gadw gŵyl i'r ARGLWYDD — dyna fydd y drefn bob amser. “Am saith diwrnod rhaid i chi fwyta bara sydd heb furum ynddo. Ar y diwrnod cyntaf rhaid cael gwared ag unrhyw beth yn y tŷ sydd â burum ynddo. Yn ystod y saith diwrnod yna, bydd unrhyw un sydd yn bwyta bara wedi ei wneud gyda burum yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Israel. “Bydd cyfarfodydd arbennig i addoli yn cael eu cynnal ar y diwrnod cyntaf ac ar y seithfed diwrnod. A does dim gwaith i gael ei wneud ar y dyddiau hynny, ar wahân i baratoi bwyd i bawb. “Dyna sut ydych chi i ddathlu Gŵyl y Bara Croyw. Dyma'r diwrnod wnes i eich arwain chi allan o'r Aifft, ac felly bydd yn rhan o'r drefn bob amser eich bod yn dathlu'r digwyddiad yn flynyddol. Dim ond bara heb furum ynddo sydd i gael ei fwyta o fachlud haul ar y pedwerydd ar ddeg hyd fachlud haul ar yr unfed ar hugain o'r mis cyntaf. Does dim burum i fod yn eich tai o gwbl am saith diwrnod. Os bydd unrhyw un (un o bobl Israel neu rywun o'r tu allan) yn bwyta rhywbeth wedi ei wneud gyda burum, bydd y person hwnnw yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Israel. Peidiwch bwyta unrhyw beth wedi ei wneud gyda burum — dim ond bara heb furum ynddo.” Yna dyma Moses yn galw arweinwyr Israel at ei gilydd, ac yn dweud wrthyn nhw, “Ewch i ddewis oen neu fyn gafr i'ch teulu, i'w lladd fel aberth y Pasg. Rhoi gwaed yr anifail mewn powlen, yna cymryd swp o frigau isop a'i dipio yn y gwaed a'i frwsio ar dop ac ochrau ffrâm y drws. Yna does neb i fynd allan o'r tŷ tan y bore wedyn. Bydd yr ARGLWYDD yn mynd trwy wlad yr Aifft yn taro'r bobl. Ond pan fydd e'n gweld y gwaed ar ffrâm drws unrhyw dŷ, bydd yn pasio heibio'r tŷ hwnnw. Fydd e ddim yn gadael i farwolaeth ddod i mewn a taro eich teulu chi. “Gwnewch yn siŵr eich bod chi a'ch plant yn gwneud hyn. Dyna fydd y drefn bob amser. Pan fyddwch yn cyrraedd y wlad mae'r ARGLWYDD wedi addo ei rhoi i chi, byddwch yn dal i gadw'r ddefod yma. Pan fydd eich plant yn gofyn, ‘Pam ydych chi'n gwneud hyn?’ dwedwch wrthyn nhw, ‘Aberth y Pasg i'r ARGLWYDD ydy e, i gofio sut wnaeth e basio heibio tai pobl Israel ac achub ein teuluoedd pan wnaeth e daro gwlad yr Aifft.’” A dyma'r bobl oedd yn gwrando ar Moses yn plygu i lawr yn isel i addoli. Wedyn dyma nhw'n mynd i ffwrdd a gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses ac Aaron. Yna digwyddodd y peth! Ganol nos y noson honno dyma'r ARGLWYDD yn taro meibion hynaf yr Eifftiaid, o fab hynaf y Pharo ar ei orsedd i fab hyna'r carcharor yn ei gell, a hyd yn oed pob anifail oedd y cyntaf i gael ei eni. A dyma'r Pharo yn deffro ganol nos, a'i swyddogion a pobl yr Aifft i gyd yr un fath. Roedd wylofain drwy'r wlad i gyd, am fod rhywun o bob teulu wedi marw. A dyma'r Pharo yn galw am Moses ac Aaron yng nghanol y nos, a dweud wrthyn nhw, “Ewch o ma! I ffwrdd â chi! Gadewch lonydd i'm pobl! — chi a pobl Israel! Ewch i addoli'r ARGLWYDD fel roeddech chi eisiau. Ewch â'ch anifeiliaid i gyd fel roeddech chi eisiau. I ffwrdd â chi! Ond cofiwch ofyn am fendith arna i.” Roedd yr Eifftiaid yn benderfynol bellach fod rhaid i bobl Israel adael y wlad, a hynny ar frys. Roedden nhw'n meddwl, “Os arhosan nhw, byddwn ni i gyd wedi marw!” Dyma bobl Israel yn cymryd y toes oedd heb furum ynddo yn eu powlenni cymysgu, eu lapio mewn dillad, a'u cario ar eu hysgwyddau. Ac roedden nhw wedi gwneud beth ddwedodd Moses wrthyn nhw hefyd — roedden nhw wedi gofyn i'r Eifftiaid am bethau o aur ac arian, ac am ddillad. Roedd yr ARGLWYDD wedi gwneud i'r Eifftiaid roi anrhegion i bobl Israel. Roedden nhw'n cael beth bynnag oedden nhw'n gofyn amdano. Dyma nhw'n cymryd popeth oddi ar bobl yr Aifft! Felly dyma bobl Israel yn teithio o Rameses i Swccoth. Roedd tua 600,000 o ddynion yn cerdded ar droed, heb sôn am y gwragedd a'r plant. Roedd tyrfa gymysg o bobl wedi mynd gyda nhw, a lot fawr iawn o anifeiliaid — defaid a geifr a gwartheg. Roedden nhw'n gwneud bara i'w fwyta o'r toes wnaethon nhw ei gario o'r Aifft — bara heb furum ynddo. Roedden nhw wedi cael eu gyrru allan o'r Aifft ar gymaint o frys, doedd dim amser i baratoi bwyd cyn mynd. Roedd pobl Israel wedi bod yn yr Aifft ers pedwar cant tri deg o flynyddoedd. Ar ddiwedd y pedwar cant tri deg o flynyddoedd, dyma bobl yr ARGLWYDD yn gadael yr Aifft mewn rhengoedd trefnus fel byddin. Roedd yr ARGLWYDD wedi cadw'r noson yma'n arbennig i'w harwain nhw allan o wlad yr Aifft. Felly, o hyn ymlaen, ar y noson yma, mae pobl Israel i gyd i fod i gadw gwylnos i'r ARGLWYDD. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses ac Aaron, “Dyma reolau'r Pasg. Dydy pobl o'r tu allan ddim i gael bwyta ohono — dim ond caethweision sydd wedi eu prynu ac wedi bod trwy'r ddefod o gael eu henwaedu. Dydy mewnfudwyr neu weithwyr sy'n derbyn cyflog ddim i gael bwyta ohono. Rhaid ei fwyta yn y tŷ, a peidio mynd â dim o'r cig allan. A does dim un o'i esgyrn i gael ei dorri. Mae pobl Israel i gyd i gadw'r Ŵyl yma. “Os ydy mewnfudwyr eisiau dathlu Pasg yr ARGLWYDD, rhaid i'r dynion a'r bechgyn fynd trwy ddefod enwaediad gyntaf. Wedyn byddan nhw'n gallu cymryd rhan — byddan nhw'n cael eu hystyried fel un o'ch pobl chi. Ond does neb sydd heb gael ei enwaedu i gael bwyta o'r Pasg. Mae'r rheol hon yr un fath i bawb — Israeliaid a mewnfudwyr fel ei gilydd.” Felly dyma bobl Israel yn gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses ac Aaron. Ar yr union ddiwrnod yma dyma'r ARGLWYDD yn dod a pobl Israel allan o'r Aifft, yn drefnus fel byddin. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Rhaid i fab cyntaf pob gwraig, a pob anifail gwryw cyntaf i gael ei eni, gael eu cysegru i mi. Fi piau nhw.” Dyma Moses yn dweud wrth y bobl, “Mae'r diwrnod yma pan ddaethoch chi allan o'r Aifft, yn ddiwrnod i'w gofio. Roeddech chi'n gaethion yno, a dyma'r ARGLWYDD yn defnyddio ei nerth i'ch rhyddhau chi. Ond peidiwch bwyta bara wedi ei wneud gyda burum pan fyddwch chi'n dathlu. Dyma'r diwrnod, ym mis Abib, pan aethoch chi allan. A pan fydd yr ARGLWYDD wedi dod â chi i'r wlad wnaeth e addo ei rhoi i'ch hynafiaid chi — gwlad y Canaaneaid, Hethiaid, Amoriaid, Hefiaid, a Jebwsiaid; gwlad ffrwythlon lle mae llaeth a mêl yn llifo — byddwch yn dathlu ar y mis yma bob blwyddyn. Am saith diwrnod rhaid i chi fwyta bara sydd heb furum ynddo, yna ar y seithfed diwrnod cadw gŵyl i'r ARGLWYDD. Rhaid i chi fwyta bara heb furum ynddo am saith diwrnod. Does dim bara wedi ei wneud gyda burum, na hyd yn oed y burum ei hun i fod yn unman. Yna dych chi i esbonio i'ch plant, ‘Dŷn ni'n gwneud hyn i gofio beth wnaeth yr ARGLWYDD droson ni pan ddaethon ni allan o'r Aifft.’ Bydd fel arwydd ar eich llaw neu farc ar eich talcen, yn eich atgoffa chi i siarad am beth roedd yr ARGLWYDD wedi ei ddysgu i chi. Roedd e wedi defnyddio ei nerth i ddod â chi allan o'r Aifft. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud hyn ar yr amser iawn bob blwyddyn. “Pan fydd yr ARGLWYDD wedi dod â chi i wlad y Canaaneaid, fel gwnaeth e addo i'ch hynafiaid chi, rhaid i fab cyntaf pob gwraig, a pob anifail gwryw cyntaf i gael ei eni, gael eu cysegru i mi. Fi, yr ARGLWYDD sydd piau nhw. Gellir prynu'n ôl pob asyn cyntaf i gael ei eni drwy roi oen neu fyn gafr yn ei le. Os nad ydy e'n cael ei brynu rhaid ei ladd drwy dorri ei wddf. A rhaid i fab cyntaf pob gwraig gael ei brynu'n ôl hefyd. Yn y dyfodol, pan fydd eich plant yn gofyn, ‘Beth ydy ystyr hyn?’ dych chi i'w hateb, ‘yr ARGLWYDD wnaeth ddefnyddio ei nerth i ddod â ni allan o'r Aifft, lle roedden ni'n gaethion. Roedd y Pharo yn gwrthod ein gollwng ni'n rhydd, felly dyma'r ARGLWYDD yn lladd pob mab hynaf a phob anifail gwryw oedd gyntaf i gael ei eni. Dyna pam dŷn ni'n aberthu pob anifail gwryw cyntaf i gael ei eni i'r ARGLWYDD. Ond dŷn ni'n prynu'n ôl pob mab sydd y cyntaf i gael ei eni.’ Bydd fel arwydd ar eich llaw neu rywbeth yn cael ei wisgo ar y talcen, i'ch atgoffa fod yr ARGLWYDD wedi defnyddio ei nerth i ddod â ni allan o'r Aifft.” Pan wnaeth y Pharo adael i'r bobl fynd, wnaeth Duw ddim eu harwain nhw i wlad y Philistiaid, er mai dyna fyddai'r ffordd gyntaf. Doedd gan Dduw ddim eisiau i'r bobl newid eu meddyliau a mynd yn ôl i'r Aifft pan oedd y Philistiaid yn bygwth rhyfela yn eu herbyn nhw. Felly dyma Duw yn mynd â'r bobl drwy'r anialwch at y Môr Coch. Aeth pobl Israel allan o'r Aifft fel byddin yn ei rhengoedd. Dyma Moses yn mynd ag esgyrn Joseff gyda nhw. Roedd Joseff wedi gwneud i bobl Israel addo, “Dw i'n gwybod y bydd Duw yn gofalu amdanoch chi. Dw i eisiau i chi fynd â'm hesgyrn i gyda chi o'r lle yma.” Dyma nhw'n gadael Swccoth ac yn gwersylla yn Etham wrth ymyl yr anialwch. Roedd yr ARGLWYDD yn arwain y ffordd mewn colofn o niwl yn ystod y dydd, a cholofn o dân yn y nos. Felly roedden nhw'n gallu teithio yn y dydd neu'r nos. Roedd y golofn o niwl gyda nhw bob amser yn y dydd, a'r golofn o dân yn y nos. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Dywed wrth bobl Israel am droi yn ôl i gyfeiriad Pi-hachiroth, sydd rhwng Migdol a'r môr, a gwersylla ar lan y môr, yn union gyferbyn â Baal-tseffon. Bydd y Pharo yn meddwl, ‘Dydy pobl Israel ddim yn gwybod ble i droi. Maen nhw wedi eu dal rhwng yr anialwch a'r môr!’ Bydda i'n gwneud y Pharo yn ystyfnig unwaith eto, a bydd yn dod ar eich holau. Ond bydda i'n cael fy anrhydeddu drwy beth fydd yn digwydd i'r Pharo a'i fyddin, a bydd pobl yr Aifft yn dod i ddeall mai fi ydy'r ARGLWYDD.” Felly dyma bobl Israel yn gwneud beth ddwedodd Moses. Pan ddywedwyd wrth frenin yr Aifft fod y bobl wedi dianc, dyma fe a'i swyddogion yn newid eu meddyliau, “Beth oedd ar ein pennau ni?” medden nhw, “Dŷn ni wedi gadael i'n caethweision fynd yn rhydd!” Felly dyma fe'n paratoi ei gerbydau rhyfel ac yn mynd â'i filwyr gydag e. Aeth â chwech chant o'i gerbydau gorau, a'r cerbydau eraill i gyd, gyda cadfridog yn bob un. Roedd yr ARGLWYDD wedi gwneud y Pharo, brenin yr Aifft, yn ystyfnig, a dyma fe'n mynd ar ôl pobl Israel. Ond roedd pobl Israel yn mynd yn eu blaenau yn hyderus. Dyma'r Eifftiaid yn mynd ar eu holau gyda'i ceffylau a'u cerbydau rhyfel a'u milwyr i gyd, a dod o hyd iddyn nhw yn gwersylla yn Pi-hachiroth, ar lan y môr, gyferbyn a Baal-tseffon. Wrth i'r Pharo a'i fyddin agosáu, dyma bobl Israel yn eu gweld nhw'n dod tuag atyn nhw. Roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau, a dyma nhw'n gweiddi ar yr ARGLWYDD, a dweud wrth Moses, “Wyt ti wedi dod â ni allan i'r anialwch i farw am fod dim lle i'n claddu ni yn yr Aifft? Beth oedd ar dy ben di yn dod â ni allan o'r Aifft? Dyma'n union ddwedon ni pan oedden ni yn yr Aifft, ‘Gad lonydd i ni ddal ati i weithio i'r Eifftiaid. Mae'n well gwneud hynny na mynd i farw yn yr anialwch!’” Ond dyma Moses yn dweud wrth y bobl, “Peidiwch bod ag ofn! Arhoswch chi, a cewch weld sut bydd yr ARGLWYDD yn eich achub chi. Fyddwch chi ddim yn gweld yr Eifftiaid acw byth eto. Mae'r ARGLWYDD yn mynd i ymladd drosoch chi. Does rhaid i chi wneud dim!” Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Pam wyt ti'n galw arna i? Dywed wrth bobl Israel am fynd yn eu blaenau. Cymer di dy ffon, a'i hestyn tuag at y môr. Bydd y môr yn hollti, a bydd pobl Israel yn gallu mynd drwy ei ganol ar dir sych! Bydda i'n gwneud yr Eifftiaid mor ystyfnig, byddan nhw'n ceisio mynd ar eu holau drwy'r môr. Ond bydda i'n cael fy anrhydeddu o achos beth fydd yn digwydd i'r Pharo a'i fyddin gyda'i holl gerbydau a'i farchogion. A bydd yr Eifftiaid yn dod i ddeall mai fi ydy'r ARGLWYDD, o achos beth fydd yn digwydd iddyn nhw.” Dyma angel Duw, oedd wedi bod yn arwain pobl Israel, yn symud tu ôl iddyn nhw. A dyma'r golofn o niwl yn symud o'r tu blaen i sefyll tu ôl iddyn nhw, rhwng gwersyll yr Eifftiaid a gwersyll pobl Israel. Roedd yn gwmwl tywyll un ochr, ac yn goleuo'r nos yr ochr arall. Felly doedd y fyddin un ochr ddim yn gallu mynd yn agos at yr ochr arall drwy'r nos. Dyma Moses yn estyn ei law tuag at y môr, a dyma'r ARGLWYDD yn dod â gwynt cryf o'r dwyrain i chwythu drwy'r nos a gwneud i'r môr fynd yn ôl. Dyma'r môr yn gwahanu, ac roedd gwely'r môr yn llwybr sych drwy'r canol. A dyma bobl Israel yn mynd trwy ganol y môr ar dir sych, a'r dŵr fel wal bob ochr iddyn nhw. Yna dyma'r Eifftiaid yn mynd ar eu holau i ganol y môr — ceffylau a cherbydau rhyfel a marchogion y Pharo i gyd. Yn ystod yr oriau cyn iddi wawrio dyma'r ARGLWYDD yn edrych i lawr ar fyddin yr Aifft drwy'r golofn o dân a niwl, a dyma fe'n achosi iddyn nhw banicio. Gwnaeth i olwynion y cerbydau rhyfel fynd yn sownd, ac roedden nhw'n cael trafferth i symud. A dyma'r Eifftiaid yn dweud, “Dewch! Rhaid i ni ddianc! Mae'r ARGLWYDD yn ymladd dros bobl Israel yn ein herbyn ni'r Eifftiaid!” A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Estyn dy law tuag at y môr, i'r dŵr lifo yn ôl dros yr Eifftiaid, eu cerbydau rhyfel a'u marchogion.” Felly dyma Moses yn estyn ei law tuag at y môr, a dyma'r môr yn mynd yn ôl i'w le wrth iddi wawrio. Roedd yr Eifftiaid yn ceisio dianc, ond dyma'r ARGLWYDD yn eu boddi nhw yng nghanol y môr. Daeth y dŵr yn ôl dros yr holl gerbydau rhyfel a'r marchogion a byddin y Pharo oedd wedi mynd ar ôl pobl Israel i ganol y môr — wnaeth dim un ohonyn nhw fyw! Ond roedd pobl Israel wedi cerdded drwy ganol y môr ar dir sych, gyda'r dŵr fel wal bob ochr iddyn nhw. Dyna sut wnaeth yr ARGLWYDD achub Israel o law'r Eifftiaid y diwrnod hwnnw. Roedd pobl Israel yn gweld cyrff yr Eifftiaid yn gorwedd ar lan y dŵr. Ar ôl gweld nerth anhygoel yr ARGLWYDD yn ymladd yn erbyn yr Eifftiaid, roedden nhw'n ei barchu fe, ac yn ei drystio fe a'i was Moses. Dyma Moses a pobl Israel yn canu'r gân yma i'r ARGLWYDD: “Dw i am ganu i'r ARGLWYDD a dathlu ei fuddugoliaeth: Mae e wedi taflu'r ceffylau a'u marchogion i'r môr! Yr ARGLWYDD sy'n rhoi nerth a chân i mi! Fe sydd wedi fy achub i. Dyma'r Duw dw i'n ei addoli — Duw fy nhad, a dw i'n mynd i'w ganmol! Yr ARGLWYDD ydy ei enw e. Mae'r ARGLWYDD yn rhyfelwr. Mae wedi taflu cerbydau y Pharo a'i fyddin i gyd i'r môr! Cafodd eu swyddogion gorau eu boddi yn y Môr Coch. Daeth y dŵr dwfn drostyn nhw, a dyma nhw'n suddo i'r gwaelod fel carreg. Mae dy law gref yn rhyfeddol, ARGLWYDD; dy law gref di wnaeth ddryllio'r gelyn. Am dy fod mor aruthrol fawr, rwyt ti'n bwrw i lawr y rhai sy'n codi yn dy erbyn — Ti'n dangos dy fod yn ddig, ac maen nhw'n cael eu difa fel bonion gwellt. Wrth i ti chwythu dyma'r dŵr yn codi'n bentwr, y llif yn sefyll fel argae, a'r dŵr dwfn wedi caledu yng nghanol y môr. Dyma'r gelyn yn dweud, ‘Ar eu holau nhw! Dalia i nhw, a rhannu'r ysbail! Dw i'n mynd i gael amser da! Fydd neb ar ôl i'r cleddyf ei daro — dw i'n mynd i'w dinistrio nhw'n llwyr!’ Ond dyma ti'n chwythu, a dyma'r môr yn llifo drostyn nhw! Dyma nhw'n suddo fel plwm yn y tonnau gwyllt! Pa un o'r duwiau sy'n debyg i ti, ARGLWYDD? Does neb tebyg i ti — mor wych, ac mor sanctaidd, yn haeddu dy barchu a dy foli; ti'n gwneud gwyrthiau rhyfeddol! Dyma ti'n codi dy law gref a dyma'r ddaear yn llyncu'r gelyn! Yn dy gariad byddi'n arwain y bobl rwyt wedi eu rhyddhau; byddi'n eu tywys yn dy nerth i'r lle cysegredig lle rwyt yn byw. Bydd y bobloedd yn clywed ac yn crynu — bydd pobl Philistia yn poeni, ac arweinwyr Edom wedi brawychu. Bydd dynion cryf Moab yn crynu, a pobl Canaan yn poeni. Bydd ofn a braw yn dod drostyn nhw — mae dy gryfder di yn eu gwneud yn fud fel carreg. Fyddan nhw'n gwneud dim nes bydd dy bobl wedi pasio heibio, ARGLWYDD; y bobl wnest ti eu prynu wedi pasio heibio. Ond byddi'n mynd â nhw i mewn ac yn eu plannu ar dy fynydd dy hun — ble rwyt ti wedi dewis byw, ARGLWYDD; y cysegr rwyt ti wedi ei sefydlu. Yr ARGLWYDD sy'n teyrnasu am byth bythoedd! Pan aeth ceffylau y Pharo, a'i gerbydau a'i filwyr i'r môr, dyma'r ARGLWYDD yn gwneud i ddŵr y môr lifo'n ôl drostyn nhw. Ond roedd pobl Israel wedi cerdded ar dir sych drwy ganol y môr.” Yna dyma Miriam y broffwydes, chwaer Aaron, yn gafael mewn drwm llaw, a dyma'r merched i gyd yn codi drymiau a mynd ar ei hôl gan ddawnsio. A dyma Miriam yn canu'r gytgan: “Canwch i'r ARGLWYDD i ddathlu ei fuddugoliaeth! Mae e wedi taflu'r ceffylau a'u marchogion i'r môr!” Dyma Moses yn cael pobl Israel i symud ymlaen oddi wrth y Môr Coch. Dyma nhw'n mynd allan i Anialwch Shwr. Buon nhw'n cerdded yn yr anialwch am dri diwrnod heb ddod o hyd i ddŵr. Yna dyma nhw'n cyrraedd Mara, ond roedden nhw'n methu yfed y dŵr yno am ei fod mor chwerw. (Dyna pam roedd yn cael ei alw yn Mara — sef “Chwerw.”) Dyma'r bobl yn dechrau troi yn erbyn Moses. “Beth ydyn ni'n mynd i'w yfed?” medden nhw. Dyma Moses yn gweddïo'n daer am help, a dyma'r ARGLWYDD yn ei arwain at ddarn o bren. Ar ôl i Moses ei daflu i'r dŵr roedd y dŵr yn iawn i'w yfed. Yn Mara dyma'r ARGLWYDD yn rhoi rheol iddyn nhw, er mwyn profi pa mor ffyddlon oedden nhw: “Os byddwch chi'n ufudd i'r ARGLWYDD eich Duw, a gwneud beth sy'n iawn yn ei olwg e, gwrando ar beth mae'n ei ddweud a chadw at ei reolau, fydd dim rhaid i chi ddiodde'r afiechydon wnes i daro'r Eifftiaid gyda nhw. Fi ydy'r ARGLWYDD sy'n eich iacháu chi.” Yna dyma nhw'n cyrraedd Elim, lle roedd un deg dwy o ffynhonnau a saith deg o goed palmwydd. A dyma nhw'n gwersylla yno wrth ymyl y ffynhonnau. Yna dyma bobl Israel yn gadael Elim, a cyrraedd Anialwch Sin sydd rhwng Elim a Sinai, ar y pymthegfed diwrnod o'r ail fis ers iddyn nhw adael gwlad yr Aifft. Pan oedden nhw yn yr anialwch dyma nhw i gyd yn dechrau ymosod ar Moses ac Aaron unwaith eto. “Byddai'n well petai'r ARGLWYDD wedi gadael i ni farw yn yr Aifft! O leia roedd gynnon ni ddigon o gig a bwyd i'w fwyta yno. Ond rwyt ti wedi dod â ni i gyd allan i'r anialwch yma i lwgu i farwolaeth!” Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Dw i'n mynd i wneud i fara ddisgyn o'r awyr fel glaw arnoch chi. Bydd rhaid i'r bobl fynd allan i gasglu yr hyn sydd ei angen arnyn nhw bob dydd. Bydda i'n eu profi nhw i weld os gwnân nhw wrando ar beth dw i'n ddweud ai peidio. Ar chweched diwrnod pob wythnos maen nhw i gasglu dwywaith cymaint ag roedden nhw wedi ei gasglu bob diwrnod arall.” Felly dyma Moses ac Aaron yn dweud wrth bobl Israel, “Erbyn gyda'r nos heno, byddwch chi'n gwybod mai'r ARGLWYDD sydd wedi dod â chi allan o wlad yr Aifft. A bore yfory byddwch chi'n gweld ysblander yr ARGLWYDD. Mae e wedi eich clywed chi'n ymosod arno. Dŷn ni'n neb. Fe ydy'r un dych chi wedi bod yn ymosod arno, nid ni.” Ac meddai Moses, “Byddwch chi'n deall yn iawn pan fydd yr ARGLWYDD yn rhoi cig i chi ei fwyta gyda'r nos, a digonedd o fara yn y bore. Mae'r ARGLWYDD wedi eich clywed chi'n ymosod arno. Dŷn ni'n neb. Yr ARGLWYDD ydy'r un dych chi wedi bod yn ymosod arno, nid ni!” Yna dyma Moses yn dweud wrth Aaron, “Galw'r dyrfa o bobl Israel i gyd at ei gilydd. Dywed wrthyn nhw, ‘Dewch yma i sefyll o flaen yr ARGLWYDD. Mae e wedi eich clywed chi'n ymosod arno.’” Tra roedd Aaron yn annerch pobl Israel i gyd, dyma nhw'n edrych i gyfeiriad yr anialwch a gweld ysblander yr ARGLWYDD yn disgleirio o'r golofn niwl. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Dw i wedi clywed fel mae pobl Israel yn ymosod arna i. Dywed wrthyn nhw, ‘Byddwch yn cael cig i'w fwyta gyda'r nos, ac yn y bore byddwch yn cael llond eich bol o fara. Byddwch yn deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi.’” Gyda'r nos dyma soflieir yn dod ac yn glanio yn y gwersyll — roedden nhw dros bobman! Yna yn y bore roedd haenen o wlith o gwmpas y gwersyll. Pan oedd y gwlith wedi codi roedd rhyw stwff tebyg i haen denau o farrug yn gorchuddio'r anialwch. Pan welodd pobl Israel e, dyma nhw'n gofyn i'w gilydd, “Beth ydy e?” Doedd ganddyn nhw ddim syniad beth oedd e. A dyma Moses yn dweud wrthyn nhw, “Dyma'r bara mae'r ARGLWYDD wedi ei roi i chi i'w fwyta. A dyma beth mae'r ARGLWYDD wedi ei orchymyn: ‘Mae pawb i gasglu'r hyn sydd ei angen ar eu teulu nhw — tua dau chwart y person. Dylech gasglu digon i bawb sy'n aros yn eich pabell.’” Felly dyma bobl Israel yn mynd allan i'w gasglu — rhai ohonyn nhw yn casglu mwy na'i gilydd. Ond wrth iddyn nhw fesur faint oedd pawb wedi ei gasglu, doedd dim byd dros ben gan y rhai gasglodd lawer, a doedd y rhai gasglodd ychydig ddim yn brin. Roedd gan bawb faint oedd ei angen arnyn nhw. Yna dyma Moses yn dweud, “Peidiwch cadw dim ohono dros nos.” Ond wnaethon nhw ddim gwrando. Roedd rhai wedi ceisio cadw peth ohono dros nos, ac erbyn y bore wedyn roedd cynrhon ynddo ac roedd yn drewi. Roedd Moses wedi gwylltio gyda nhw. Felly, roedd y bobl yn mynd allan bob bore, i gasglu faint roedden nhw ei angen. Ond wrth i'r haul gynhesu roedd yn toddi. Ar y chweched diwrnod roedden nhw'n casglu dwywaith cymaint, sef pedwar chwart y person. A dyma arweinwyr y bobl yn mynd i ofyn pam i Moses. A dyma fe'n ateb, “Dyma ddwedodd yr ARGLWYDD: ‘Rhaid i chi beidio gweithio yfory, mae'n Saboth wedi ei gysegru i'r ARGLWYDD. Beth bynnag ydych chi am ei bobi neu ei ferwi, gwnewch hynny heddiw. Wedyn cadw beth bynnag sydd dros ben at yfory.’” Felly dyma nhw'n cadw beth oedd dros ben tan y bore, fel roedd Moses wedi dweud. Wnaeth e ddim drewi, a doedd dim cynrhon ynddo. Ac meddai Moses, “Dyna sydd i'w fwyta heddiw, gan fod y diwrnod yma yn Saboth i'r ARGLWYDD. Fydd dim ohono i'w gael allan ar lawr heddiw. Gallwch ei gasglu am chwe diwrnod, ond fydd dim yna ar y seithfed, sef y Saboth.” Ond er hynny, ar y seithfed diwrnod dyma rai pobl yn mynd allan i'w gasglu, ond doedd dim byd yno. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Am faint ydych chi'n mynd i wrthod gwrando arna i a gwneud beth dw i'n ddweud? Am fod yr ARGLWYDD wedi rhoi'r Saboth i chi, dyna pam mae e'n rhoi digon o fwyd i chi am ddau ddiwrnod ar y chweched dydd. Dylech chi i gyd eistedd i lawr, a peidio mynd allan ar y seithfed diwrnod.” Felly dyma'r bobl yn gorffwys ar y seithfed diwrnod. Galwodd pobl Israel y stwff yn “manna.” Roedd yn edrych fel hadau coriander, yn wyn, ac yn blasu fel bisgedi wedi eu gwneud gyda mêl. A dyma Moses yn rhoi'r gorchymyn yma gan yr ARGLWYDD iddyn nhw: “Cadwch ddau chwart ohono i'w gadw am byth, er mwyn i bobl yn y dyfodol gael gweld y bwyd wnes i ei roi i chi yn yr anialwch, pan ddes i â chi allan o wlad yr Aifft.” A dyma Moses yn dweud wrth Aaron, “Cymer jar, a rhoi dau chwart llawn o'r manna ynddo, a'i osod o flaen yr ARGLWYDD, i'w gadw'n saff ar hyd y cenedlaethau.” A dyna wnaeth Aaron, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses. Dyma fe'n ei osod o flaen Arch y Dystiolaeth, i'w gadw'n saff. Bu pobl Israel yn bwyta'r manna am bedwar deg o flynyddoedd, nes iddyn nhw gyrraedd gwlad Canaan ble gwnaethon nhw setlo i lawr. (Omer oedd y mesur o ddau chwart oedd yn cael ei ddefnyddio, sef un rhan o ddeg o effa.) Dyma bobl Israel i gyd yn gadael Anialwch Sin ac yn teithio yn eu blaenau bob yn dipyn, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud. Dyma nhw'n gwersylla yn Reffidim, ond doedd dim dŵr iddyn nhw ei yfed yno. A dyma'r bobl yn dechrau dadlau gyda Moses, a dweud “Rhowch ddŵr i ni i'w yfed!” A dyma Moses yn ateb, “Pam ydych chi'n swnian? Pam ydych chi'n profi'r ARGLWYDD?” Ond roedd y fath syched ar y bobl dyma nhw'n dechrau troi yn erbyn Moses eto, “Pam yn y byd wnest ti ddod â ni allan o'r Aifft? Dŷn ni i gyd yn mynd i farw o syched — ni a'n plant a'n hanifeiliaid!” Dyma Moses yn gweddïo'n daer ar yr ARGLWYDD, “Beth dw i'n mynd i'w wneud? Maen nhw'n ar fin fy lladd i!” Dyma'r ARGLWYDD yn ateb Moses, “Dos allan o flaen y bobl, gyda'r ffon wnest ti daro'r Afon Nil gyda hi. A dos â rhai o arweinwyr Israel gyda ti. Bydda i'n disgwyl amdanat ti ar y graig ar Fynydd Sinai. Dw i eisiau i ti daro'r graig, a bydd dŵr yn llifo allan ohoni, i'r bobl gael yfed.” A dyma Moses yn gwneud hynny o flaen llygaid arweinwyr Israel. Dyma fe'n enwi'r lle yn Massa (“Lle'r profi”) a Meriba (“Lle'r ffraeo”), o achos yr holl ffraeo, a'r ffordd wnaeth pobl Israel roi'r ARGLWYDD ar brawf yno drwy ofyn, “Ydy'r ARGLWYDD gyda ni neu ddim?” Tra roedden nhw yn Reffidim, dyma'r Amaleciaid yn ymosod ar bobl Israel. A dyma Moses yn dweud wrth Josua, “Dewis rai o'n dynion ni i fynd allan i ymladd yn eu herbyn nhw. Yfory bydda i'n mynd i sefyll ar ben y bryn gyda ffon Duw yn fy llaw.” Felly dyma Josua yn mynd allan i ymladd yn erbyn yr Amaleciaid fel roedd Moses wedi dweud wrtho. A dyma Moses yn mynd i sefyll ar ben y bryn gydag Aaron a Hur. Tra roedd Moses yn dal ei freichiau yn yr awyr, roedd Israel yn ennill y frwydr, ond os oedd yn rhoi ei freichiau i lawr, roedd yr Amaleciaid yn ennill. Pan oedd Moses yn rhy flinedig i ddal ei freichiau i fyny, dyma Aaron a Hur yn cymryd carreg iddo eistedd arni. A dyma nhw'n sefyll un bob ochr iddo, ac yn dal ei freichiau i fyny drwy'r dydd nes oedd yr haul wedi machlud. Felly dyma Josua a'i filwyr yn ennill y frwydr a lladd yr Amaleciaid. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Dw i eisiau i ti gadw cofnod o hyn yn y llyfr, a gwneud yn siŵr fod Josua'n gwybod amdano. Dw i'n mynd i gael gwared â'r Amaleciaid yn llwyr — fydd neb yn cofio am eu bodolaeth nhw!” Dyma Moses yn codi allor yno a'i galw yn Iafe-Nissi (sef “yr ARGLWYDD ydy fy fflag”). Dwedodd, “Am iddyn nhw godi dwrn yn erbyn gorsedd yr ARGLWYDD, bydd yr ARGLWYDD yn ymladd yn erbyn yr Amaleciaid bob amser.” Clywodd tad-yng-nghyfraith Moses (sef Jethro, offeiriad Midian) am y cwbl roedd Duw wedi ei wneud i Moses a phobl Israel. Clywodd fod yr ARGLWYDD wedi dod â phobl Israel allan o'r Aifft. Roedd Moses wedi anfon ei wraig Seffora a'i ddau fab yn ôl at Jethro. Gershom oedd enw un mab (am i Moses ddweud, “Dw i wedi bod fel mewnfudwr mewn gwlad ddieithr”), ac Elieser oedd y llall (am fod Moses wedi dweud, “Mae Duw fy nhad wedi fy helpu, ac wedi fy achub rhag cael fy lladd gan y Pharo”). A dyma Jethro yn dod â gwraig Moses a'i feibion i'r anialwch at Moses oedd yn gwersylla wrth ymyl mynydd Sinai. Roedd wedi anfon neges at Moses yn dweud, “Dw i'n dod i dy weld di, gyda dy wraig a dy ddau fab.” A dyma Moses yn mynd allan i'w gyfarfod ac yn ymgrymu o'i flaen ac yn ei gyfarch drwy ei gusanu. Ar ôl holi ei gilydd sut oedd pethau wedi bod, dyma nhw'n mynd yn ôl i babell Moses. Dwedodd Moses wrth ei dad-yng-nghyfraith am bopeth oedd yr ARGLWYDD wedi ei wneud i'r Pharo a pobl yr Aifft er mwyn achub pobl Israel. Dwedodd wrtho am y problemau roedden nhw wedi eu hwynebu ar y ffordd, a sut roedd yr ARGLWYDD wedi eu helpu nhw drwy'r cwbl. Roedd Jethro wrth ei fodd yn clywed am y cwbl roedd yr ARGLWYDD wedi ei wneud i achub pobl Israel o'r Aifft. “Bendith ar yr ARGLWYDD” meddai. “Mae wedi eich achub chi oddi wrth y Pharo a'r Eifftiaid! Dw i'n gweld nawr fod yr ARGLWYDD yn gryfach na'r duwiau i gyd! Mae'n gallu gwneud beth maen nhw'n brolio amdano yn well na nhw!” Yna dyma Jethro, tad-yng-nghyfraith Moses, yn dod ag offrwm i'w losgi ac aberthau eraill i'w cyflwyno i Dduw. A dyma Aaron ac arweinwyr Israel yn ymuno gyda Jethro i fwyta'r aberthau o flaen Duw. Y diwrnod wedyn dyma Moses yn eistedd i farnu achosion rhwng pobl. Roedd y bobl yn ciwio o'i flaen o fore gwyn tan nos. Pan welodd ei dad-yng-nghyfraith gymaint roedd Moses yn ei wneud, dyma fe'n dweud, “Pam wyt ti'n gwneud hyn i gyd ar dy ben dy hun? Mae'r bobl yn gorfod sefyll yma drwy'r dydd yn disgwyl eu tro.” “Mae'r bobl yn dod ata i am eu bod eisiau gwybod beth mae Duw'n ddweud,” meddai Moses. “Pan mae dadl yn codi rhwng pobl, maen nhw'n gofyn i mi farnu, a dw i'n dweud wrthyn nhw beth ydy rheolau ac arweiniad Duw.” “Dydy hyn ddim yn iawn,” meddai tad-yng-nghyfraith Moses. “Byddi wedi ymlâdd — ti a'r bobl. Mae'n ormod o faich i ti ei gario ar dy ben dy hun. Gwranda ar air o gyngor, a bydd Duw yn dy helpu di. Gelli di gynrychioli'r bobl o flaen Duw, a mynd â'u hachosion ato. Gelli eu dysgu nhw am reolau a chyfreithiau Duw, a dweud wrthyn nhw sut dylen nhw fyw a beth ddylen nhw wneud. Ond yna rhaid i ti ddewis dynion cyfrifol — dynion duwiol a gonest, fyddai'n gwrthod derbyn breib — a'u penodi nhw'n swyddogion dros grwpiau o fil, cant, hanner cant a deg. Cân nhw farnu'r achosion cyffredin o ddydd i ddydd, ond dod â'r achosion anodd atat ti. Gad iddyn nhw ysgafnhau'r baich arnat ti drwy ddelio gyda'r achosion hawdd. Os gwnei di hynny (a dyna mae Duw eisiau), byddi di'n llwyddo i ymdopi, a bydd y bobl yn mynd adre'n fodlon.” Gwrandawodd Moses ar gyngor ei dad-yng-nghyfraith a gwneud y cwbl roedd yn ei awgrymu. Dewisodd ddynion cyfrifol o blith pobl Israel, a'i penodi nhw'n swyddogion dros grwpiau o fil, cant, hanner cant a deg. Roedden nhw'n barnu'r achosion cyffredin, ac yn mynd â'r achosion anodd at Moses. Roedden nhw'n gallu delio gyda'r achosion hawdd eu hunain. Yna dyma Moses yn ffarwelio gyda'i dad-yng-nghyfraith, ac aeth Jethro yn ôl adre i'w wlad ei hun. Ddau fis union ar ôl iddyn nhw adael yr Aifft dyma bobl Israel yn cyrraedd Anialwch Sinai. Roedden nhw wedi teithio o Reffidim i Anialwch Sinai, a gwersylla yno wrth droed y mynydd. Yna dyma Moses yn dringo i fyny'r mynydd i gyfarfod gyda Duw, a dyma'r ARGLWYDD yn galw arno o'r mynydd, “Dywed wrth ddisgynyddion Jacob, sef pobl Israel: ‘Dych chi wedi gweld beth wnes i i'r Eifftiaid. Dw i wedi eich cario chi ar adenydd eryr a dod â chi yma. Nawr, os gwnewch chi wrando arna i a cadw amodau'r ymrwymiad dw i'n ei wneud gyda chi, byddwch chi'n drysor sbesial i mi o blith holl wledydd y byd. Fi sydd piau'r cwbl, ond byddwch chi'n offeiriaid yn gwasanaethu'r Brenin, ac yn genedl sanctaidd.’ Dyna'r neges rwyt i i'w rhoi i bobl Israel.” Felly dyma Moses yn mynd yn ôl ac yn galw arweinwyr Israel at ei gilydd, a rhannu gyda nhw beth roedd yr ARGLWYDD wedi ei ddweud. Roedd ymateb y bobl yn unfrydol: “Byddwn ni'n gwneud popeth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud.” Felly dyma Moses yn mynd â'u hateb yn ôl i'r ARGLWYDD. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Dw i'n mynd i ddod atat ti mewn cwmwl trwchus, er mwyn i'r bobl glywed pan dw i'n siarad gyda ti. Byddan nhw'n dy drystio di wedyn.” Dyma Moses yn dweud wrth yr ARGLWYDD beth ddwedodd y bobl. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Dos i baratoi y bobl. Heddiw ac yfory dw i eisiau i ti eu cysegru nhw a gwneud iddyn nhw olchi eu dillad. Gwna'n siŵr eu bod nhw'n barod ar gyfer y diwrnod wedyn. Dyna pryd fydd y bobl i gyd yn fy ngweld i, yr ARGLWYDD, yn dod i lawr ar Fynydd Sinai. Rhaid i ti farcio ffin o gwmpas y mynydd, a dweud wrth y bobl, ‘Gwnewch yn siŵr eich bod chi ddim yn dringo na hyd yn oed yn cyffwrdd ymyl y mynydd. Os ydy unrhyw un yn ei gyffwrdd, y gosb ydy marwolaeth. A does neb i gyffwrdd y person neu'r anifail sy'n gwneud hynny chwaith, rhaid ei ladd drwy daflu cerrig ato neu ei saethu gyda bwa saeth. Dydy e ddim i gael byw.’ Dim ond wedi i'r corn hwrdd seinio nodyn hir y cân nhw ddringo'r mynydd.” Felly dyma Moses yn mynd yn ôl i lawr at y bobl. Yna eu cysegru nhw a gwneud iddyn nhw olchi eu dillad, Dwedodd wrthyn nhw, “Byddwch barod ar gyfer y diwrnod ar ôl yfory. Peidiwch cael rhyw.” Dau ddiwrnod wedyn, yn y bore, roedd yna fellt a tharanau, a daeth cwmwl trwchus i lawr ar y mynydd. Ac roedd sŵn nodyn hir yn cael ei seinio ar y corn hwrdd. Roedd y bobl i gyd yn crynu mewn ofn. Dyma Moses yn arwain y bobl allan o'r gwersyll i gyfarfod Duw, a dyma nhw'n sefyll wrth droed y mynydd. Roedd mwg yn gorchuddio Mynydd Sinai, am fod yr ARGLWYDD wedi dod i lawr arno mewn tân. Roedd y mwg yn codi ohono fel mwg o ffwrnais fawr, ac roedd y mynydd yn crynu trwyddo. Roedd sŵn y corn hwrdd yn uwch ac yn uwch drwy'r adeg. Roedd Moses yn siarad, a llais Duw yn ei ateb yn glir. Daeth yr ARGLWYDD i lawr ar gopa mynydd Sinai. Galwodd ar Moses i fynd i fyny ato, a dyma Moses yn gwneud hynny. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Dos i lawr a rhybuddio'r bobl i beidio croesi'r ffin i edrych ar yr ARGLWYDD, neu bydd lot fawr ohonyn nhw'n marw. Rhaid i'r offeiriaid, sy'n mynd at yr ARGLWYDD yn rheolaidd, gysegru eu hunain, rhag i'r ARGLWYDD eu taro nhw'n sydyn.” Atebodd Moses, “Dydy'r bobl ddim yn gallu dringo Mynydd Sinai, am dy fod ti dy hun wedi'n rhybuddio ni, ‘Marciwch ffin o gwmpas y mynydd, i'w gadw ar wahân.’” Ond dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Dos di i lawr, a tyrd yn ôl gydag Aaron. Ond paid gadael i'r offeiriaid na'r bobl groesi'r ffin a dod at yr ARGLWYDD, rhag iddo eu taro nhw'n sydyn.” Felly dyma Moses yn mynd i lawr a dweud wrth y bobl. A dyma Duw yn dweud fel yma: “Fi ydy'r ARGLWYDD, eich Duw chi. Fi wnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft, lle roeddech chi'n gaethweision. Does dim duwiau eraill i fod gen ti, dim ond fi. Paid cerfio eilun i'w addoli — dim byd sy'n edrych fel unrhyw aderyn, anifail na physgodyn. Paid plygu i lawr a'u haddoli nhw. Dw i, yr ARGLWYDD dy Dduw di, yn Dduw eiddigeddus. Dw i'n cosbi pechodau'r rhieni sy'n fy nghasáu i, ac mae'r canlyniadau yn gadael eu hôl ar y plant am dair i bedair cenhedlaeth. Ond dw i'n dangos cariad di-droi-nôl am fil o genedlaethau at y rhai sy'n fy ngharu i ac yn gwneud beth dw i'n ddweud. Paid camddefnyddio enw'r ARGLWYDD dy Dduw. Fydda i ddim yn gadael i rywun sy'n camddefnyddio fy enw ddianc rhag cael ei gosbi. Cofia gadw'r dydd Saboth yn sbesial. Mae'n ddiwrnod cysegredig, gwahanol i'r lleill. Gelli weithio ar y chwe diwrnod arall, a gwneud popeth sydd angen ei wneud. Mae'r seithfed diwrnod i'w gadw yn Saboth i'r ARGLWYDD. Does neb i fod i weithio ar y diwrnod yma — ti na dy feibion a dy ferched, dy weision na dy forynion chwaith; dim hyd yn oed dy anifeiliaid nag unrhyw fewnfudwr sy'n aros gyda ti. Mewn chwe diwrnod roedd yr ARGLWYDD wedi creu y bydysawd, y ddaear, y môr a popeth sydd ynddyn nhw; wedyn dyma fe'n gorffwys ar y seithfed diwrnod. Dyna pam wnaeth Duw fendithio'r dydd Saboth, a'i osod ar wahân, yn ddiwrnod wedi ei gysegru. Rhaid i ti barchu dy dad a dy fam, a byddi'n byw yn hir yn y wlad mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei rhoi i ti. Paid llofruddio. Paid godinebu. Paid dwyn. Paid rhoi tystiolaeth ffals yn erbyn rhywun. Paid chwennych tŷ rhywun arall. Paid chwennych ei wraig, na'i was, na'i forwyn, na'i darw, na'i asyn, na dim byd sydd gan rywun arall.” Roedd y bobl wedi dychryn o achos y mellt a'r taranau, sŵn y corn hwrdd, a'r mynydd yn mygu. Roedden nhw'n crynu mewn ofn, ac eisiau cadw ddigon pell i ffwrdd. Dyma nhw'n dweud wrth Moses, “Siarad di gyda ni, a gwnawn ni wrando. Paid gadael i Dduw siarad â ni, neu byddwn ni'n marw.” Dyma Moses yn ateb, “Peidiwch bod ag ofn. Mae Duw yn eich profi chi, ac eisiau i chi ei barchu e, i chi stopio pechu.” Felly dyma'r bobl yn cadw ddigon pell i ffwrdd, tra'r aeth Moses at y cwmwl trwchus lle roedd Duw. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Dywed fel hyn wrth bobl Israel: ‘Dych chi wedi gweld sut dw i wedi siarad â chi o'r nefoedd. Rhaid i chi beidio gwneud duwiau eraill o arian ac aur i chi'ch hunain. Codwch allor o bridd i mi, ac aberthu defaid, geifr a gwartheg arni — yn offrymau i'w llosgi'n llwyr a'r offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Ble bynnag fydda i'n cael fy anrhydeddu, bydda i'n dod atoch chi ac yn eich bendithio chi. Os codwch allor o gerrig, rhaid iddyn nhw beidio bod yn gerrig sydd wedi eu naddu. Os bydd cŷn wedi ei defnyddio arni, bydd yr allor wedi ei halogi. A peidiwch dringo grisiau i fynd at fy allor, rhag i'ch rhannau preifat gael eu gweld.’” “Dyma'r rheolau rwyt ti i'w rhoi iddyn nhw: Os wyt ti'n prynu Hebrëwr yn gaethwas, rhaid iddo weithio i ti am chwe mlynedd. Ond ar ddechrau'r seithfed flwyddyn mae'n rhydd i fynd, heb dalu dim i ti. Os oedd yn sengl pan ddechreuodd weithio i ti, bydd yn gadael ar ei ben ei hun; ond os oedd yn briod, bydd ei wraig yn cael mynd gydag e. Os mai ei feistr roddodd wraig iddo, a hithau wedi cael plant, mae'r wraig a'i phlant yn aros gyda'r meistr, a'r gwas yn gadael ar ei ben ei hun. Ond falle y bydd y gwas yn dweud, ‘Dw i'n hapus gyda fy meistr, fy ngwraig a'm plant — dw i ddim eisiau bod yn ddyn rhydd.’ Os felly, bydd rhaid i'r meistr fynd i'w gyflwyno o flaen Duw. Wedyn bydd y meistr yn mynd ag e at y drws neu ffrâm y drws, ac yn rhoi twll trwy glust y gwas gyda mynawyd, i ddangos ei fod wedi dewis gweithio i'w feistr am weddill ei fywyd. Os ydy rhywun wedi gwerthu ei ferch i weithio fel caethforwyn, fydd hi ddim yn cael mynd yn rhydd ar ddiwedd y chwe blwyddyn fel y dynion. Os nad ydy'r ferch yn plesio'r meistr wnaeth ei chymryd hi, mae'n gallu caniatáu i rywun ei phrynu hi'n ôl. Ond does ganddo ddim hawl i'w gwerthu hi i rywun o wlad arall, am ei fod wedi delio'n annheg gyda hi. Os ydy e wedi dewis ei rhoi hi i'w fab, rhaid iddi hi gael yr un hawliau, a chael ei thrin fel petai'n ferch iddo. Os ydy e'n cymryd gwraig arall, mae gan y wraig gyntaf hawl i dderbyn bwyd a dillad ganddo, ac i gael rhyw gydag e. Os nad ydy e'n fodlon rhoi'r tri peth yna iddi, mae ganddi hawl i fynd yn rhydd, heb dalu dim. Os ydy rhywun yn taro person arall a'i ladd, y gosb ydy marwolaeth. Os digwyddodd y peth trwy ddamwain, heb unrhyw fwriad i ladd, dw i'n mynd i drefnu lle saff i'r lladdwr ddianc iddo. Ond os oedd bwriad clir i ladd y person arall, cewch lusgo'r llofrudd i ffwrdd a'i ddienyddio, hyd yn oed os oedd e wedi dianc at fy allor i. Os ydy rhywun yn taro ei dad neu ei fam, y gosb ydy marwolaeth. Os ydy rhywun yn herwgipio person arall, i'w werthu neu i'w ddal yn gaeth, y gosb ydy marwolaeth. Os ydy rhywun yn melltithio ei dad neu ei fam, y gosb ydy marwolaeth. Dyma sydd i ddigwydd os bydd dynion yn ymladd, ac un yn taro'r llall gyda charreg neu gyda'i ddwrn nes ei anafu a'i adael yn orweddog, ond heb ei ladd: Os bydd yr un gafodd ei anafu yn gwella ac yn gallu cerdded eto gyda ffon, fydd dim rhaid cosbi'r dyn wnaeth ei daro. Ond bydd disgwyl iddo dalu iawndal am yr amser gwaith gollodd y llall, a thalu unrhyw gostau meddygol nes bydd wedi gwella. Os ydy rhywun yn curo ei gaethwas neu ei forwyn gyda ffon, a'r gwas neu'r forwyn yn marw, rhaid iddo gael ei gosbi. Ond os ydy'r gwas neu'r forwyn yn dal yn fyw ar ôl diwrnod neu ddau, fydd y meistr ddim yn cael ei gosbi. Bydd eisoes ar ei golled. Os bydd dynion yn ymladd ac yn taro gwraig feichiog, a hithau'n colli'r plentyn, ond heb gael unrhyw niwed pellach, rhaid i'r dyn wnaeth ei tharo gael ei gosbi a thalu faint bynnag o iawndal mae gŵr y wraig yn ei hawlio a'r llys yn ei ganiatáu. Ond os ydy'r wraig ei hun yn cael niwed difrifol, rhaid i'r gosb gyfateb: Y ddedfryd fydd, bywyd am fywyd, llygad am lygad, dant am ddant, llaw am law, troed am droed, llosg am losg, anaf am anaf, clais am glais. Os ydy rhywun yn taro ei gaethwas neu ei forwyn yn ei lygad, a'i ddallu, rhaid gadael iddo fe neu hi fynd yn rhydd, fel iawndal am golli ei lygad. Os ydy e'n taro dant ei gaethwas neu ei forwyn allan, mae'r gwas neu'r forwyn i gael mynd yn rhydd, fel iawndal am y dant. Os ydy dyn neu wraig yn marw am fod tarw wedi ei gornio, rhaid lladd yr anifail drwy daflu cerrig ato, a dydy'r cig ddim i gael ei fwyta. Fydd y perchennog ddim yn cael ei gosbi. Ond os oedd y tarw wedi cornio rhywun o'r blaen, a'r perchennog yn gwybod hynny ond heb ofalu na fyddai'r peth yn digwydd eto, rhaid i'r tarw gael ei ladd a rhaid i'r perchennog farw hefyd; neu mae teulu'r un gafodd ei ladd yn gallu hawlio swm o arian yn iawndal gan berchennog y tarw. Mae'r un peth yn wir os ydy'r tarw yn cornio plentyn. Os ydy'r tarw yn cornio caethwas neu forwyn, mae'r perchennog i dalu tri deg darn o arian, ac mae'r tarw i gael ei ladd drwy daflu cerrig ato. Os ydy rhywun yn cloddio pydew a'i adael ar agor, a tarw neu asyn rhywun yn syrthio iddo a marw, rhaid i'r sawl sydd biau'r pydew dalu am yr anifail, ond bydd yn cael cadw'r corff. Os ydy tarw un dyn yn cornio a lladd tarw rhywun arall, mae'r tarw byw i gael ei werthu, a'r arian i gael ei rannu rhyngddyn nhw. Maen nhw hefyd i rannu'r tarw gafodd ei ladd. Ond os oedd y tarw wedi cornio o'r blaen, a'r perchennog yn gwybod hynny ond heb ofalu na fyddai'r peth yn digwydd eto, rhaid iddo roi tarw yn ei le, a bydd e'n cael cadw'r anifail marw. Os ydy rhywun yn dwyn tarw neu ddafad, ac yna'n lladd yr anifail neu ei werthu, rhaid talu'n ôl bump o fuchod am y tarw, a pedair dafad am yr un ddafad. Os ydy lleidr yn cael ei ddal yn torri i mewn i dŷ, ac mae'n cael ei daro ac yn marw, fydd y person wnaeth ei ladd ddim yn cael ei gyfri'n euog o dywallt gwaed. Ond os ydy'r peth yn digwydd yng ngolau dydd, bydd yn euog. Os ydy lleidr yn cael ei ddal, rhaid iddo dalu'n llawn am beth gafodd ei ddwyn. Os nad ydy e'n gallu talu, bydd y lleidr yn cael ei werthu fel caethwas i dalu'r ddyled. Os ydy'r anifail gafodd ei ddwyn yn cael ei ddarganfod yn dal yn fyw — p'run ai tarw, asyn neu ddafad — rhaid i'r lleidr dalu dwywaith ei werth yn iawndal. Os ydy rhywun yn rhoi ei anifeiliaid i bori yn ei gae neu ei winllan, ac yn gadael iddyn nhw grwydro a pori ar dir rhywun arall, rhaid iddo dalu am y golled gyda'r cynnyrch gorau o'i gae a'i winllan ei hun. Os oes tân yn mynd allan o reolaeth, ac yn lledu drwy'r gwrychoedd a llosgi cnydau sydd wedi eu casglu neu gnydau sy'n dal i dyfu yn y caeau, rhaid i'r person ddechreuodd y tân dalu am y difrod. Os ydy person yn rhoi arian neu bethau gwerthfawr i rywun eu cadw'n saff, a'r pethau hynny'n cael eu dwyn, rhaid i'r lleidr dalu dwywaith cymaint yn ôl os ydy e'n cael ei ddal. Os nad oes lleidr yn cael ei ddal, rhaid i berchennog y tŷ sefyll ei brawf o flaen Duw, i weld os mai fe wnaeth ddwyn yr eiddo. Dyma sydd i ddigwydd mewn achos o anghydfod rhwng pobl (am darw, asyn, dafad neu afr, mantell neu unrhyw beth arall), lle mae rhywun yn honni, ‘Fi sydd piau hwn.’: Mae'r ddau i ymddangos o flaen Duw, ac mae'r un sy'n cael ei ddedfrydu'n euog i dalu dwywaith cymaint yn ôl i'r llall. Os ydy person yn gofyn i rywun arall edrych ar ôl asyn neu darw neu ddafad neu afr iddo, a'r anifail yn marw, cael ei anafu neu'n mynd ar goll, a neb wedi ei weld, rhaid i'r un oedd yn gofalu am yr anifail fynd ar ei lw o flaen yr ARGLWYDD mai nid fe oedd yn gyfrifol. Wedyn bydd y sawl oedd piau'r anifail yn derbyn ei air, a fydd dim rhaid talu iawndal. Ond os cafodd yr anifail ei ddwyn, rhaid iddo dalu amdano. Os mai anifail gwyllt wnaeth ei ladd a'i rwygo'n ddarnau, rhaid dangos y corff yn dystiolaeth, a fydd dim rhaid talu iawndal. Os ydy person yn benthyg anifail gan rywun arall, a'r anifail hwnnw'n cael ei anafu neu'n marw pan oedd y perchennog ddim yna, rhaid i'r un wnaeth fenthyg yr anifail dalu'n llawn amdano. Ond os oedd y perchennog yno ar y pryd, fydd dim rhaid talu. Ac os oedd yr anifail wedi ei logi am dâl, mae'r arian gafodd ei dalu yn cyfro'r golled. Os ydy dyn yn denu merch ifanc sydd heb ddyweddïo i gael rhyw gydag e, rhaid iddo dalu i'w rhieni yr pris sy'n ddyledus i'w chymryd yn wraig iddo'i hun. Rhaid iddo dalu'r arian hyd yn oed os ydy'r tad yn gwrthod gadael iddo briodi'r ferch. Dydy gwraig sy'n dewino ddim i gael byw. Os ydy rhywun yn cael rhyw gydag anifail, y gosb ydy marwolaeth. Os ydy rhywun yn aberthu i dduwiau ar wahân i'r ARGLWYDD, rhaid ei ddinistrio'n llwyr! Paid cam-drin mewnfudwyr. Cofiwch mai mewnfudwyr oeddech chi eich hunain yn yr Aifft. Paid cymryd mantais o wraig weddw neu blentyn amddifad. Os gwnei di hynny, a hwythau'n gweiddi arna i am help, bydda i'n ymateb. Bydda i wedi gwylltio'n lân. Byddwch chi'r dynion yn cael eich lladd mewn rhyfel. Bydd eich gwragedd chi'n cael eu gadael yn weddwon, a bydd eich plant yn amddifad. Os wyt ti'n benthyg arian i un o'm pobl Israel sydd mewn angen, paid bod fel y benthycwyr sy'n codi llog arnyn nhw. Os wyt ti'n cymryd mantell rhywun yn ernes am ei fod mewn dyled i ti, gwna'n siŵr dy fod yn ei rhoi yn ôl iddo cyn i'r haul fachlud, gan mai dyna'r cwbl sydd ganddo i gadw'n gynnes yn y nos. Os bydd e'n gweiddi arna i am help, bydda i'n gwrando arno, achos dw i'n garedig. Paid cymryd enw Duw yn ysgafn, na melltithio un o arweinyddion dy bobl. Paid cadw'n ôl beth sydd i fod i gael ei offrymu i mi o'r cynhaeaf grawn a'r cafnau gwin ac olew. Rhaid i bob mab hynaf gael ei roi i mi. A'r un fath gyda pob anifail gwryw sydd y cyntaf i gael ei eni — bustych, defaid a geifr — gallan nhw aros gyda'r fam am saith diwrnod, ond rhaid i chi eu rhoi nhw i mi ar yr wythfed diwrnod. Dych chi i fod yn bobl wedi eu cysegru i mi. Peidiwch bwyta cig unrhyw beth sydd wedi ei ladd gan anifail gwyllt. Taflwch e i'r cŵn. Paid hel straeon sydd ddim yn wir. Paid helpu pobl ddrwg drwy ddweud celwydd yn y llys. Paid dilyn y dorf i wneud drwg. Paid rhoi tystiolaeth ffals sydd ddim ond yn cydfynd gyda beth mae pawb arall yn ei ddweud. A paid dangos ffafriaeth at rywun mewn achos llys dim ond am ei fod yn dlawd. Os wyt ti'n dod o hyd i darw neu asyn dy elyn yn crwydro, dos â'r anifail yn ôl i'w berchennog. Os wyt ti'n gweld asyn rhywun sy'n dy gasáu di wedi syrthio dan ei faich, paid pasio heibio; dos i'w helpu i godi. Paid gwrthod cyfiawnder i rywun mewn achos llys am ei fod yn dlawd. Paid byth a cyhuddo pobl ar gam — rhag i rywun dieuog gael ei ddedfrydu i farwolaeth. Bydda i'n cosbi'r rhai sy'n gwneud drwg. Paid derbyn breib. Mae breib yn dallu'r sawl sy'n gweld yn glir, ac yn tanseilio achos pobl sy'n ddieuog. Paid cam-drin mewnfudwr. Ti'n gwybod yn iawn sut deimlad ydy e — mewnfudwyr oeddech chi yn yr Aifft. Rwyt i hau cnydau a chasglu'r cynhaeaf am chwe mlynedd. Ond yna ar y seithfed flwyddyn mae'r tir i gael gorffwys, heb gael ei drin. Bydd y bobl dlawd yn cael casglu a bwyta beth bynnag sy'n tyfu ohono'i hun, a'r anifeiliaid gwylltion yn cael beth sy'n weddill. Gwna'r un peth gyda dy winllan a dy goed olewydd. Rwyt i weithio am chwe diwrnod, a gorffwys ar y seithfed. Bydd yn rhoi cyfle i dy ychen a dy asyn orffwys, ac i'r caethweision sydd wedi eu geni yn dy dŷ a'r mewnfudwr sy'n gweithio i ti ymlacio. Gwyliwch eich bod chi'n gwneud beth dw i'n ddweud wrthoch chi. Peidiwch talu sylw i dduwiau eraill, na hyd yn oed eu henwi nhw! Bob blwyddyn dych chi i gynnal tair gŵyl i mi. Yn gyntaf, Gŵyl y Bara Croyw. Ar ddyddiau arbennig yn mis Abib byddwch yn dathlu dod allan o wlad yr Aifft. Rhaid i chi fwyta bara heb furum ynddo am saith diwrnod, fel dwedais i bryd hynny. Does neb i ddod ata i heb rywbeth i'w offrymu. Yna Gŵyl y Cynhaeaf, pan fyddwch yn dod â ffrwyth cyntaf eich cnydau i mi. Ac yn olaf, Gŵyl Casglu'r Cynhaeaf, ar ddiwedd y flwyddyn, pan fyddwch wedi gorffen casglu eich cnydau i gyd. Felly dair gwaith bob blwyddyn, mae'r dynion i gyd i ddod o flaen y Meistr, sef yr ARGLWYDD. Rhaid peidio offrymu gwaed anifail sydd wedi ei aberthu gyda bara sydd â burum ynddo. A dydy'r brasder ddim i'w adael heb ei losgi dros nos. Tyrd â ffrwyth cyntaf gorau dy dir i deml yr ARGLWYDD dy Dduw. Paid berwi cig gafr ifanc yn llaeth ei fam.” “Dw i'n mynd i anfon angel o'ch blaen chi, i'ch cadw chi'n saff pan fyddwch chi'n teithio, ac i'ch arwain i'r lle dw i wedi ei baratoi ar eich cyfer chi. Gwrandwch arno, a gwnewch beth mae e'n ddweud. Peidiwch tynnu'n groes iddo achos fydd e ddim yn maddau i chi. Fi sydd yna ynddo fe. Ond os gwnewch chi wrando arno, a gwneud beth dw i'n ddweud, bydda i'n ymladd yn erbyn y gelynion fydd yn codi yn eich erbyn chi. Bydd fy angel yn eich arwain chi at yr Amoriaid, Hethiaid, Peresiaid, Canaaneaid, Hefiaid a Jebwsiaid, a bydda i'n eu dinistrio nhw'n llwyr. Peidiwch plygu i lawr i addoli eu duwiau nhw, na dilyn eu harferion nhw. Dw i eisiau i chi eu dinistrio nhw'n llwyr, a malu eu colofnau cysegredig yn ddarnau. Addolwch yr ARGLWYDD eich Duw, a bydd e'n rhoi bara i chi ei fwyta a dŵr i chi ei yfed, ac yn eich cadw chi'n iach. Fydd yna ddim gwragedd sy'n methu cael plant, na gwragedd beichiog yn colli eu plant, a bydd pawb yn cael byw yn hir. “Bydda i'n achosi braw wrth i bobl eich gweld chi'n dod. Byddai'n dinistrio'r bobloedd fyddwch chi'n dod ar eu traws. Byddan nhw'n dianc oddi wrthoch chi. Bydda i'n achosi panig llwyr, ac yn gyrru'r Hefiaid, Canaaneaid a Hethiaid allan o'ch ffordd. Ond fydd hyn ddim yn digwydd i gyd ar yr un pryd. Does gen i ddim eisiau i'r wlad droi'n anialwch, ac anifeiliaid gwylltion yn cymryd drosodd. Bydda i'n eu gyrru nhw allan bob yn dipyn, i roi cyfle i'ch poblogaeth chi dyfu digon i lenwi'r wlad. “Bydda i'n gosod ffiniau i chi o'r Môr Coch i Fôr y Canoldir, ac o'r anialwch i Afon Ewffrates. Bydda i'n gwneud i chi goncro'r wlad, a byddwch yn gyrru'r bobloedd sy'n byw yno allan. Rhaid i chi beidio gwneud cytundeb gwleidyddol gyda nhw, na chael dim i'w wneud â'i duwiau nhw. Dŷn nhw ddim i gael byw yn y wlad, rhag iddyn nhw wneud i chi bechu yn fy erbyn i. Bydd hi ar ben arnoch chi os gwnewch chi ddechrau addoli eu duwiau nhw.” Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Tyrd i fyny yma ata i. Tyrd ag Aaron a'i ddau fab, Nadab ac Abihw, a saith deg arweinydd Israel gyda ti. Byddan nhw'n fy addoli o bell, tra byddi di, Moses, yn dod yn nes ata i. Dydy'r lleill ddim i ddod yn rhy agos. A dydy'r bobl ddim i gael dringo'r mynydd o gwbl.” Yna dyma Moses yn mynd i ddweud wrth y bobl beth ddwedodd yr ARGLWYDD. Roedd ymateb y bobl yn unfrydol, “Byddwn ni'n gwneud popeth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud.” Felly dyma Moses yn ysgrifennu popeth ddwedodd yr ARGLWYDD. Ac yn gynnar y bore wedyn dyma fe'n codi allor wrth droed y mynydd, ac un deg dwy o golofnau o'i chwmpas — un ar gyfer pob un o ddeuddeg llwyth Israel. Yna dyma fe'n anfon rhai o'r dynion ifanc i gyflwyno offrymau oedd i'w llosgi'n llwyr, ac i aberthu teirw yn offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Wedyn dyma Moses yn rhoi hanner y gwaed mewn powlenni, a sblasio'r gweddill ar yr allor. Yna dyma fe'n cymryd Sgrôl yr Ymrwymiad, ac yn ei darllen i'r bobl. A dyma nhw'n dweud eto, “Byddwn ni'n gwneud popeth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud, ac yn gwrando arno.” Wedyn dyma Moses yn cymryd y gwaed oedd yn y powlenni, a'i daenellu ar y bobl. Ac meddai, “Mae'r gwaed hwn yn cadarnhau'r ymrwymiad mae'r ARGLWYDD wedi ei wneud, i chi fod yn ufudd i bopeth mae e'n ddweud.” Yna dyma Moses, Aaron, Nadab, Abihw a saith deg arweinydd Israel yn mynd i fyny'r mynydd, a dyma nhw'n gweld Duw Israel. Dan ei draed roedd rhywbeth tebyg i balmant wedi ei wneud o saffir. Roedd yn glir fel yr awyr las. Ond wnaeth e ddim dinistrio arweinwyr Israel. Roedden nhw wedi gweld Duw, a dyma nhw'n bwyta ac yn yfed yn ei gwmni. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Tyrd i ben y mynydd, ac aros amdana i. Dw i fy hun wedi ysgrifennu fy rheolau a'm cyfreithiau ar lechi, a dw i'n mynd i'w rhoi nhw i ti i'w dysgu i'r bobl.” Felly dyma Moses yn mynd, gyda'i was Josua, a dechrau dringo i fyny mynydd Duw. Roedd wedi dweud wrth yr arweinwyr, “Arhoswch amdanon ni yma, nes down ni yn ôl. Mae Aaron a Hur gyda chi. Os oes angen setlo rhyw ddadl, gallwch fynd atyn nhw.” Wrth i Moses ddringo i fyny, dyma'r cwmwl yn dod i lawr a gorchuddio'r mynydd. Roedd ysblander yr ARGLWYDD yn gorffwys ar Fynydd Sinai. Roedd y cwmwl wedi ei orchuddio am chwe diwrnod. Yna ar y seithfed diwrnod, dyma Duw yn galw ar Moses o ganol y cwmwl. [17-18] Roedd Moses wedi cerdded i mewn i'r cwmwl ar y mynydd. A buodd yno ddydd a nos am bedwar deg diwrnod llawn. Roedd y bobl yn gweld ysblander yr ARGLWYDD ar ben y mynydd — roedd yn edrych fel tân yn llosgi. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Dywed wrth bobl Israel am gasglu rhoddion i mi gan bawb sy'n awyddus i gyfrannu. Dyma beth allan nhw ei gyfrannu: aur, arian, pres, edau las, porffor, a coch, lliain main drud, blew gafr, crwyn hyrddod wedi eu llifo'n goch, crwyn môr-fuchod, coed acasia, olew i'r lampau, perlysiau i wneud yr olew eneinio a'r arogldarth persawrus, onics a gemau eraill i'w gosod ar yr effod a'r boced fydd yn mynd dros y frest. Dw i eisiau iddyn nhw godi lle sbesial i mi gael byw yn eu canol nhw. Dw i eisiau i'r Tabernacl, a popeth fydd yn mynd i mewn ynddo, gael eu gwneud yn union fel dw i'n dangos i ti. “Maen nhw i wneud Arch, sef cist o goed acasia — 110 centimetr o hyd, 66 centimetr o led a 66 centimetr o uchder. Yna ei gorchuddio gyda haen o aur pur (y tu mewn a'r tu allan), a gosod border aur o'i chwmpas i'w haddurno. Yna gwneud pedair cylch aur, a'i gosod nhw ar draed y gist, dwy bob ochr. A dau bolyn o goed acasia wedi eu gorchuddio gydag aur. Mae'r polion i ffitio drwy'r cylchoedd bob ochr i'r Arch, ac i'w defnyddio i'w chario hi. Mae'r polion yma i aros yn eu lle yn y cylchoedd bob amser — rhaid peidio eu tynnu nhw allan. Wedyn mae Llechi'r Dystiolaeth dw i'n eu rhoi i ti, i'w gosod y tu mewn i'r Arch. “Yna gwneud caead o aur pur i'r Arch — 110 centimetr o hyd, a 66 centimetr o led. [18-19] Yna gwneud dau geriwb o aur wedi ei guro (gwaith morthwyl) — un bob pen i'r caead, yn un darn gyda'r caead ei hun. *** Mae'r ceriwbiaid i fod yn wynebu ei gilydd, yn edrych i lawr ar y caead, ac yn estyn eu hadenydd dros yr Arch. Mae'r caead i'w osod ar yr arch, a Llechi'r Dystiolaeth i'w gosod y tu mewn iddi. Dyma ble bydda i'n dy gyfarfod di. Rhwng y ddau geriwb sydd uwch ben caead yr Arch, bydda i'n siarad â ti, ac yn dweud beth dw i eisiau i bobl Israel ei wneud. “Rwyt i wneud bwrdd o goed acasia — 88 centimetr o hyd, 44 centimetr o led, a 66 centimetr o uchder. Mae'r bwrdd i gael ei orchuddio gyda haen o aur pur, a border aur i'w osod o'i gwmpas i'w addurno. Ac mae croeslath 75 milimetr o drwch i fod o'i gwmpas — hwnnw hefyd wedi ei addurno yr un fath â'r border. Yna gwneud pedair cylch aur, a'u gosod nhw ar bedair cornel y bwrdd lle mae'r coesau wrth ymyl y croeslath. Mae'r cylchoedd i roi'r polion trwyddyn nhw i gario'r bwrdd. Mae'r polion eu hunain i gael eu gwneud o goed acasia wedi eu gorchuddio gydag aur. Hefyd platiau, pedyll, jygiau a powlenni o aur pur, i dywallt yr offrymau o ddiod. Mae'r bara cysegredig i gael ei osod o'm blaen i ar y bwrdd yma bob amser. “Yna gwneud y menora (sef stand i ddal y lampau) allan o aur pur — gwaith morthwyl, sef aur wedi ei guro. Mae'r cwbl i fod yn un darn — y droed, y goes, a'r cwpanau siâp blodyn gyda calycs oddi tanyn nhw. Mae chwe cangen i ymestyn allan o ochrau'r menora, tair bob ochr. Mae tair cwpan siâp blodyn almon i fod ar bob cangen — pob blodyn gyda calycs a petalau. Ac ar brif goes y menora, pedair cwpan siâp blodyn almon gyda calycs a petalau. Un dan y pâr cyntaf o ganghennau, un dan yr ail, ac un dan y trydydd. Mae'r cwbl i'w wneud o un darn o aur pur wedi ei guro — gwaith morthwyl. Yna rhaid gwneud saith lamp, a'i gosod nhw arni fel eu bod yn goleuo o'i blaen hi. Mae'r gefeiliau a'r padellau hefyd i'w gwneud o aur pur. Dylid defnyddio 35 cilogram o aur pur i wneud y menora a'r offer i gyd. Gwna'n siŵr dy fod yn eu gwneud nhw yn union fel yn y cynllun gafodd ei ddangos i ti ar y mynydd. “Mae'r Tabernacl ei hun i gael ei wneud o ddeg llen o'r lliain main gorau, gyda lluniau o geriwbiaid wedi eu dylunio'n gelfydd a'u brodio gydag edau las, porffor a coch. Mae pob llen i fod yn un deg dau metr o hyd a dau fetr o led — i gyd yr un faint. Mae pump o'r llenni i gael eu gwnïo at ei gilydd, a'r pump arall yr un fath. Yna gwneud dolenni o edau las ar hyd ymyl llen olaf pob set — hanner cant o ddolenni ar bob un, fel eu bod gyferbyn a'i gilydd. Wedyn gwneud hanner can bachyn aur i ddal y llenni at ei gilydd, fel bod y cwbl yn un darn. “Yna nesaf gwneud llenni o flew gafr i fod fel pabell dros y Tabernacl — un deg un ohonyn nhw. Mae pob llen i fod yn un deg tri metr o hyd a dau fetr o led — i gyd yr un faint. Mae pump o'r llenni i gael eu gwnïo at ei gilydd, a'r chwech arall i gael eu gwnïo at ei gilydd. Mae'r chweched llen yn yr ail grŵp o lenni, i'w phlygu drosodd i wneud mynedfa ar du blaen y babell. Yna gwneud hanner can dolen ar hyd ymyl llen olaf pob set, a hanner can bachyn pres i fynd trwy'r dolenni i ddal y llenni at ei gilydd, a gwneud y cwbl yn un darn. Mae'r hanner llen sydd dros ben i'w adael yn hongian dros gefn y Tabernacl. Yna ar ddwy ochr y Tabernacl bydd yr hanner metr ychwanegol yn golygu fod y darn sy'n hongian dros yr ymyl yn ei gorchuddio hi i'r llawr. “Yna'n olaf, dau orchudd arall dros y cwbl — un wedi ei wneud o grwyn hyrddod wedi eu llifo'n goch, a gorchudd allanol o grwyn môr-fuchod. “Mae fframiau'r Tabernacl i'w gwneud allan o goed acasia. Mae pob un i fod yn bedwar metr o hyd, a chwe deg chwech centimetr o led, gyda dau denon ar bob un i'w cysylltu â'i gilydd. Rhaid gwneud dau ddeg ffrâm i ochr ddeheuol y Tabernacl, a pedwar deg soced arian i ddal y fframiau — dwy soced i'r ddau denon ar bob ffrâm. Wedyn dau ddeg ffrâm ar ochr arall y Tabernacl, sef yr ochr ogleddol. A pedwar deg soced iddyn nhw — dwy soced dan bob ffrâm. Yna chwe ffrâm i gefn y Tabernacl, sef y pen gorllewinol, a dau ffrâm ychwanegol i'r corneli yn y cefn. Yn y corneli mae dau ffrâm yn ffitio gyda'i gilydd ar y gwaelod, ac yn cael eu dal gyda'i gilydd gan gylch ar y top. Mae'r fframiau ar y ddwy gornel i fod yr un fath. Mae hynny'n gwneud wyth ffrâm gydag un deg chwech o socedi arian — dwy soced dan bob ffrâm. [26-27] “Yna rwyt i wneud croesfarrau o goed acasia — pump i'r fframiau bob ochr i'r Tabernacl, a pump i fframiau cefn y Tabernacl sy'n wynebu'r gorllewin. *** Mae'r croesfar ar ganol y fframiau i ymestyn o un pen i'r llall. Mae'r fframiau a'r croesfarrau i gael eu gorchuddio gydag aur, ac mae'r cylchoedd sy'n dal y croesfarrau i gael eu gwneud o aur hefyd. “Pan fyddi'n codi'r Tabernacl, rhaid dilyn yr union fanylion gafodd eu rhoi i ti ar y mynydd. “Rwyt i wneud llen arbennig o'r lliain main gorau, gyda lluniau o geriwbiaid wedi eu dylunio'n gelfydd a'u brodio gydag edau las, porffor a coch. Mae'r llen yma i hongian ar bedwar polyn o goed acasia, wedi eu gorchuddio gydag aur a'u gosod mewn socedi arian. Mae'r llen i hongian ar fachau aur, ac wedyn mae Arch y dystiolaeth i'w gosod tu ôl i'r llen. Bydd y llen yn gwahanu'r Lle Sanctaidd oddi wrth y Lle Mwyaf Sanctaidd. Yna mae'r caead i gael ei osod ar Arch y dystiolaeth yn y Lle Mwyaf Sanctaidd. Wedyn mae'r bwrdd a'r menora (sef y stand i'r lampau) i gael eu gosod gyferbyn â'i gilydd tu allan i'r llen — y bwrdd ar ochr y gogledd, a'r menora ar ochr y de. Wedyn rhaid gwneud sgrîn ar gyfer y fynedfa i'r babell. Bydd hon eto wedi ei gwneud o'r lliain main gorau, ac wedi ei brodio gydag edau las, porffor a coch. Mae i hongian ar bump polyn o goed acasia, wedi eu gorchuddio gydag aur. Mae'r bachau i'w gwneud o aur, ac mae pum soced bres i gael eu gwneud i ddal y polion. “Mae'r allor i gael ei gwneud o goed acasia. Mae hi i fod yn ddau pwynt dau metr sgwâr, ac yn un pwynt tri metr o uchder. Mae cyrn i fod ar bedair cornel yr allor, yn un darn gyda'r allor ei hun. Yna rwyt i'w gorchuddio gyda pres. Mae'r offer i gyd i'w gwneud o bres hefyd — y bwcedi lludw, rhawiau, powlenni taenellu, ffyrc, a'r padellau tân. Hefyd gratin, sef rhwyll wifrog o bres gyda pedair cylch bres ar y corneli. Mae i'w gosod o dan silff yr allor, hanner ffordd i lawr. Yna gwneud polion i'r allor, allan o goed acasia, a'u gorchuddio nhw gyda pres. Mae'r polion i gael eu gwthio drwy'r cylchoedd fel bod polyn bob ochr i'r allor i'w chario hi. Dylai'r allor gael ei gwneud gyda planciau pren, fel ei bod yn wag y tu mewn. Dylid ei gwneud yr union fel cafodd ei ddangos i ti ar y mynydd. “Yna rhaid gwneud iard y Tabernacl gyda llenni o'i chwmpas wedi eu gwneud o'r lliain main gorau. Ar yr ochr ddeheuol bydd dau ddeg postyn yn sefyll mewn dau ddeg o socedi pres, a bachau ar ffyn arian i ddal y llenni. Yna'r un fath ar yr ochr ogleddol. Ar y cefn, yn wynebu'r gorllewin, mae lled yr iard i fod yn ddau ddeg dau metr o lenni, a deg postyn yn sefyll mewn deg o socedi pres. [13-15] Yna ar y tu blaen, yn wynebu'r dwyrain, dau ddeg dau metr eto — chwe pwynt chwe metr o lenni, gyda tri postyn mewn tair soced bres, bob ochr i'r giât. *** *** Yna sgrîn y giât yn naw metr o lenni yn hongian ar bedwar postyn mewn pedair soced bres. Bydd y llenni wedi eu gwneud o'r lliain main gorau ac wedi eu brodio gydag edau las, porffor a coch. Bydd y polion o gwmpas yr iard i gyd wedi eu cysylltu gyda ffyn arian a bachau arian arnyn nhw, ac wedi eu gosod mewn socedi pres. Bydd yr iard yn bedwar deg pedwar metr o hyd ac yn ddau ddeg dau metr o led. Mae uchder y llenni i fod yn ddau pwynt dau metr, yn cael eu dal i fyny gan bolion mewn socedi pres. Mae offer y Tabernacl i gyd (popeth sy'n cael ei ddefnyddio yn y defodau), a'r pegiau, i gael eu gwneud o bres. “Hefyd, dywed wrth bobl Israel am ddod ag olew olewydd pur i ti, fel bod y lampau wedi eu goleuo'n gyson. Ym mhabell presenoldeb Duw, tu allan i'r llen sydd o flaen Arch y dystiolaeth, bydd Aaron a'i feibion yn cadw'r lampau'n llosgi o flaen yr ARGLWYDD drwy'r nos. Dyna fydd y drefn bob amser i bobl Israel, ar hyd y cenedlaethau. “Mae dy frawd Aaron a'i feibion, Nadab, Abihw, Eleasar ac Ithamar, i wasanaethu fel offeiriaid i mi. Rhaid i ti wneud gwisgoedd cysegredig i dy frawd Aaron — gwisgoedd hardd fydd yn dangos urddas y gwaith fydd yn ei wneud. Rwyt i siarad â'r crefftwyr gorau, sydd wedi eu donio gen i, iddyn nhw wneud urddwisg i Aaron, fydd yn dangos ei fod wedi ei ddewis i wasanaethu fel offeiriad i mi. “Dyma'r gwahanol rannau o'r urddwisg sydd i gael eu gwneud: Y boced sydd i fynd dros y frest, effod, mantell, crys patrymog, twrban a sash. Mae'r dillad cysegredig yma i gael eu gwneud i dy frawd Aaron a'i feibion, fydd yn gwasanaethu fel offeiriaid i mi. Mae'r cwbl i gael eu gwneud o'r lliain main gorau, wedi ei frodio gydag edau aur, glas, porffor a coch. Mae'r effod i gael ei gwneud o'r lliain main gorau, wedi ei ddylunio'n gelfydd a'i frodio gydag edau aur, glas, porffor a coch. Mae dau strap i fynd dros yr ysgwyddau, wedi eu cysylltu i'r corneli, i'w ddal gyda'i gilydd. Mae'r strap cywrain wedi ei blethu i fod yn un darn gyda'r effod, wedi ei wneud o'r lliain main gorau, ac wedi ei frodio gydag edau aur, glas, porffor a coch. Yna rwyt i gymryd dwy garreg onics a chrafu enwau meibion Israel arnyn nhw, yn y drefn y cawson nhw eu geni — chwech ar un garreg a chwech ar y llall. Mae crefftwr profiadol i grafu'r enwau ar y cerrig, yr un fath ag mae sêl yn cael ei wneud, ac yna eu gosod mewn gwaith ffiligri o aur. Yna cysylltu'r ddwy garreg i strapiau ysgwydd yr effod, fel cerrig coffa i bobl Israel. Bydd Aaron yn gwisgo'r enwau ar ei ysgwyddau o flaen yr ARGLWYDD. Mae'r ffiligri i gael ei wneud o aur, gyda dwy gadwyn o aur pur wedi ei blethu yn hongian o un i'r llall. “Y darn sy'n mynd dros y frest fydd yn cael ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau. Mae i gael ei gynllunio'n gelfydd gan artist, a'i wneud yr un fath â'r effod — allan o liain main wedi ei frodio gydag edau aur, glas, porffor a coch. Mae i'w blygu yn ei hanner i wneud poced 22 centimetr sgwâr. Wedyn mae pedair rhes o gerrig i'w gosod ynddo: y rhes gyntaf yn rhuddem, topas a beryl; yr ail res yn lasfaen, saffir ac emrallt; y drydedd res yn iasinth, calcedon ac amethyst; a'r bedwaredd yn saffir melyn, onics a iasbis. Maen nhw i gyd i gael eu gosod mewn gwaith ffiligri o aur. Mae pob carreg yn cynrychioli un o lwythau Israel, a bydd enw'r llwyth wedi ei grafu ar y garreg, yr un fath ag mae sêl yn cael ei wneud. Yna mae cadwynau o aur pur wedi ei blethu i'w gosod arno. Yna gwneud dwy ddolen aur, a'i cysylltu nhw i'r corneli uchaf. Wedyn cysylltu'r ddwy gadwyn aur i'r dolenni hynny, a chysylltu pen arall y cadwyni i strapiau ysgwydd yr effod, ar y tu blaen. Wedyn gwneud dwy ddolen aur arall a'i cysylltu nhw i gorneli isaf y darn sy'n mynd dros y frest, ar yr ymyl fewnol agosaf at yr effod. Yna gwneud dwy ddolen aur arall a'u rhoi nhw ar waelod strapiau ysgwydd yr effod wrth ymyl y gwnïad sydd uwch ben strap yr effod. Mae dolenni'r darn dros y frest i gael eu clymu i ddolenni'r effod gydag edau las, i'w gadw uwch ben strap yr effod, yn lle ei fod yn hongian yn rhydd. Felly pan fydd Aaron yn mynd i mewn i'r lle sanctaidd bydd yn cario enwau llwythau Israel ar ei galon. Byddan nhw ar y darn dros y frest, fel cerrig coffa bob amser i bobl Israel. Yna mae'r Wrim a'r Thwmim i'w rhoi tu mewn i'r darn dros y frest sy'n cael ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau. Byddan nhw ar galon Aaron pan fydd e'n mynd i mewn at yr ARGLWYDD. Mae Aaron i gario'r modd o wneud penderfyniadau dros bobl Israel ar ei galon bob amser pan fydd e'n mynd o flaen yr ARGLWYDD. “Mae'r fantell sy'n mynd gyda'r effod i fod yn las. Mae lle i'r pen fynd trwyddo ar y top, gyda hem o'i gwmpas, wedi ei bwytho fel coler i'w atal rhag rhwygo. Wedyn gosod pomgranadau bach o gwmpas ymylon y fantell, wedi eu gwneud o edau las, porffor a coch. A gosod clychau aur rhyngddyn nhw — y clychau a'r ffrwythau bob yn ail. Mae Aaron i wisgo'r fantell yma pan fydd e'n gwasanaethu, a bydd sŵn y clychau i'w clywed wrth iddo fynd i mewn ac allan o'r Lle Sanctaidd o flaen yr ARGLWYDD, rhag iddo farw. “Yna gwneud medaliwn o aur pur, a crafu arno y geiriau: ‘Wedi ei gysegru i'r ARGLWYDD’ Mae i gael ei glymu gydag edau las ar du blaen y twrban, ar dalcen Aaron. Bydd Aaron yn cymryd y cyfrifoldeb am unrhyw gamgymeriad sy'n cael ei wneud wrth gyflwyno'r offrymau sanctaidd mae pobl Israel wedi eu neilltuo i Dduw. Rhaid iddo wisgo'r medaliwn ar ei dalcen bob amser fel bod offrymau'r bobl yn dderbyniol. “Mae'r crys patrymog a'r twrban i gael eu gwneud o'r lliain main gorau, gyda'r sash wedi ei frodio. “Yna i feibion Aaron rhaid gwneud crysau, sashiau, a penwisgoedd. Gwisgoedd hardd fydd yn dangos rhywbeth o urddas y gwaith fyddan nhw'n ei wneud. “Yna byddi'n arwisgo dy frawd Aaron a'i feibion, a'u heneinio, ordeinio a'u cysegru nhw i wasanaethu fel offeiriaid i mi. “Rhaid gwneud dillad isaf o liain iddyn nhw, i guddio eu cyrff noeth. Mae'r rhain i'w gwisgo o'r canol at y pen-glin. Rhaid i Aaron a'i feibion wisgo'r rhain pan fyddan nhw'n mynd i mewn i Babell Presenoldeb Duw, neu i weinyddu wrth yr allor yn y Lle Sanctaidd, rhag iddyn nhw bechu a marw. Dyma fydd y drefn bob amser, i Aaron a'i ddisgynyddion ar ei ôl. “Dyma sut rwyt ti i'w cysegru nhw i wasanaethu fel offeiriaid i mi: Cymer darw ifanc a dau hwrdd sydd â ddim byd o'i le arnyn nhw. Yna gyda'r blawd gwenith gorau, gwna fara heb furum ynddo, cacennau wedi eu cymysgu gydag olew, a bisgedi tenau wedi eu socian mewn olew — y cwbl heb furum ynddyn nhw. Rho'r rhain i gyd mewn basged, a mynd â nhw gyda'r tarw ifanc a'r ddau hwrdd. Yna dos ag Aaron a'i feibion at y fynedfa i Babell Presenoldeb Duw. Golcha nhw gyda dŵr. Yna cymer y gwisgoedd ac arwisgo Aaron gyda'r crys, y fantell sy'n mynd gyda'r effod, yr effod ei hun, y darn dros y frest, a clymu'r effod gyda'r strap cywrain sydd wedi ei blethu. Yna rho'r twrban ar ei ben, a rhwymo'r symbol ei fod wedi ei gysegru i waith Duw ar y twrban. Yna ei eneinio trwy dywallt yr olew ar ei ben. Wedyn arwisga'r meibion yn eu crysau nhw, rhwyma sash am eu canol (Aaron a'i feibion), a gosod eu penwisg arnyn nhw i ddangos mai nhw sydd i wasanaethu fel offeiriaid bob amser. Dyma sut mae Aaron a'i feibion i gael eu hordeinio. “Rwyt i gyflwyno'r tarw o flaen Pabell Presenoldeb Duw. Yno mae Aaron a'i feibion i osod eu dwylo ar ben yr anifail. Yna rwyt i ladd y tarw o flaen yr ARGLWYDD wrth y fynedfa i Babell Presenoldeb Duw. Wedyn cymer beth o waed y tarw a'i roi ar gyrn yr allor gyda dy fys. Mae gweddill y gwaed i gael ei dywallt wrth droed yr allor. Yna cymer y brasder o gwmpas y perfeddion, rhan isaf yr iau, y ddwy aren a'r brasder sydd arnyn nhw, a'u llosgi nhw ar yr allor. Ond mae'r cig, y croen a'r coluddion i gael eu llosgi tu allan i'r gwersyll. Yr offrwm puro ydy e. “Yna rwyt i gymryd un hwrdd, ac mae Aaron a'i feibion i osod eu dwylo ar ben yr anifail. Wedyn lladd yr hwrdd, cymryd ei waed a'i sblasio o gwmpas yr allor. Wedyn rhaid torri'r hwrdd yn ddarnau, golchi'r coluddion a'r coesau cyn eu gosod nhw ar y darnau a'r pen ar yr allor, a llosgi'r cwbl. Offrwm i'w losgi'n llwyr ydy e — offrwm sy'n cael ei losgi, ac sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD. “Yna cymryd yr ail hwrdd, ac mae Aaron a'i feibion i osod eu dwylo ar yr anifail yma eto. Lladd yr hwrdd, yna cymer beth o'r gwaed a'i roi ar waelod clust dde Aaron, a'r un fath ar ei feibion. A hefyd ar fawd eu llaw dde ac ar fawd y droed dde. Yna sblasio gweddill y gwaed o gwmpas yr allor. Wedyn cymryd peth o'r gwaed sydd ar yr allor, a'r olew eneinio, a'i daenellu ar Aaron a'i gwisgoedd, ac ar feibion Aaron a'u gwisgoedd nhw. Wedyn bydd Aaron a'i feibion a'u gwisgoedd wedi eu cysegru. Yna cymer y brasder i gyd, y brasder ar gynffon yr hwrdd, y brasder o gwmpas ei berfeddion, rhan isaf yr iau, y ddwy aren a'r brasder sydd arnyn nhw, a rhan uchaf y goes dde — hwrdd y cysegru ydy e. Ac o'r fasged o fara heb furum ynddo sydd o flaen yr ARGLWYDD, cymer un dorth, un gacen wedi ei chymysgu gydag olew, ac un fisged denau wedi ei socian mewn olew. Yna rho'r cwbl yn nwylo Aaron a'i feibion i'w gyflwyno fel offrwm i'w chwifio o flaen yr ARGLWYDD. Wedyn rwyt i'w cymryd yn ôl ganddyn nhw, a llosgi'r cwbl ar yr allor. Offrwm i'w losgi'n llwyr ydy e — mae'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD. “Wedyn rwyt i gymryd brest hwrdd cysegru Aaron, a'i gyflwyno yn offrwm i'w chwifio o flaen yr ARGLWYDD. Chi sydd i gadw'r darn yna. Mae'r darnau gafodd eu chwifio a'u codi fel siâr Aaron o hwrdd y cysegru i gael eu gosod o'r neilltu — sef y frest a darn uchaf y goes ôl dde. Aaron a'i feibion fydd piau'r rhannau yma o offrymau pobl Israel. Dyna fydd y drefn bob amser. Nhw sydd i gael y darnau yma o'r offrymau mae pobl Israel yn eu cyflwyno i ofyn am fendith yr ARGLWYDD. “Mae gwisgoedd cysegredig Aaron i gael eu defnyddio pan fydd disgynyddion iddo yn cael eu heneinio a'u hordeinio ar ei ôl. Bydd yr offeiriad fydd yn ei olynu yn eu gwisgo nhw am saith diwrnod pan fydd yn mynd i Babell Presenoldeb Duw i wasanaethu yn y Lle Sanctaidd am y tro cyntaf. “Rhaid i ti gymryd hwrdd y cysegru, a coginio'r cig mewn lle cysegredig. Yna mae Aaron a'i feibion i fwyta cig yr hwrdd, gyda'r bara oedd yn y fasged, wrth y fynedfa i Babell Presenoldeb Duw. Dim ond nhw sydd i gael bwyta'r cig a'r bara gafodd ei ddefnyddio i wneud pethau'n iawn rhyngddyn nhw â Duw, pan oedden nhw'n cael eu hordeinio a'u cysegru i'r gwaith. Does neb arall yn cael eu bwyta, am eu bod wedi eu cysegru. Os oes cig neu fara dros ben y bore wedyn, rhaid ei losgi. Dydy e ddim i gael ei fwyta am ei fod wedi ei gysegru. “Dyna sydd i gael ei wneud i Aaron a'i feibion, yn union fel dw i wedi gorchymyn i ti. Mae'r seremoni ordeinio yn para am saith diwrnod. Bob dydd rhaid i ti aberthu tarw ifanc yn offrwm puro i wneud pethau'n iawn gyda Duw. Rwyt i buro'r allor, a'i gwneud hi'n iawn i gael ei defnyddio, a'i chysegru drwy ei heneinio ag olew. Am saith diwrnod rwyt i baratoi'r allor a'i chysegru i'w gwneud yn iawn i'w defnyddio. Wedyn bydd yr allor yn sanctaidd iawn, a bydd unrhyw beth sy'n ei chyffwrdd yn gysegredig. “Dyma beth sydd i'w gyflwyno ar yr allor yn rheolaidd bob dydd: Dau oen blwydd oed — un i'w gyflwyno yn y bore, a'r llall pan mae'n dechrau nosi. Mae'r oen cyntaf i'w gyflwyno gyda cilogram o'r blawd gwenith gorau wedi ei gymysgu gyda litr o olew olewydd, a gyda litr o win yn offrwm o ddiod. Yna cyflwyno'r ail pan mae'n dechrau nosi, gyda'r un offrwm o rawn ac offrwm o ddiod a'r bore — offrwm sy'n cael ei losgi, ac sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD. Bydd yr offrwm yma'n cael ei losgi'n rheolaidd, ar hyd y cenedlaethau, wrth y fynedfa i Babell Presenoldeb Duw. Dyna ble fydda i'n dy gyfarfod di, ac yn siarad â ti. Dyna ble fydda i'n cyfarfod pobl Israel. Bydd fy ysblander i yn ei wneud yn lle cysegredig. “Felly bydd y Tabernacl a'r allor wedi eu cysegru, a bydd Aaron a'i feibion wedi eu cysegru i fod yn offeiriaid i mi. Dw i'n mynd i aros gyda phobl Israel. Fi fydd eu Duw nhw. Byddan nhw'n deall mai fi ydy'r ARGLWYDD eu Duw nhw, ddaeth â nhw allan o wlad yr Aifft, er mwyn i mi fyw gyda nhw. Fi ydy'r ARGLWYDD eu Duw nhw. “Rwyt i wneud allor i losgi arogldarth. Gwna hi allan o goed acasia, yn 45 centimetr sgwâr ac yn 90 centimetr o uchder. Mae'r cyrn arni i fod yn un darn gyda'r allor ei hun. Yna gorchuddia hi i gyd gyda haen o aur pur — y top, yr ochrau a'r cyrn. A gosod forder aur o'i chwmpas i'w haddurno. Gosod ddau gylch aur ar ddwy ochr iddi, gyferbyn â'i gilydd o dan y border, i roi'r polion trwyddyn nhw i gario'r allor. Mae'r polion i gael eu gwneud o goed acasia, wedi eu gorchuddio gydag aur. Yna gosod yr allor o flaen y llen mae Arch y dystiolaeth tu ôl iddo (y llen o flaen caead yr Arch sydd dros y dystiolaeth). Dyna lle bydda i'n dy gyfarfod di. “Bob bore, pan fydd Aaron yn trin y lampau, rhaid iddo losgi arogldarth persawrus ar yr allor yma. A'r un fath pan fydd e'n goleuo'r lampau ar ôl iddi ddechrau nosi. Mae hyn i ddigwydd yn rheolaidd ar hyd y cenedlaethau. Rhaid peidio llosgi arogldarth gwahanol arni, na'r offrwm sydd i'w losgi'n llwyr, na'r offrwm o rawn, a rhaid peidio tywallt offrwm o ddiod arni. Ond un waith y flwyddyn bydd Aaron yn puro'r allor, iddi fod yn iawn i'w defnyddio, drwy roi peth o waed yr offrwm dros bechod ar y cyrn. Mae hyn i fod i ddigwydd bob blwyddyn ar hyd y cenedlaethau. Bydd yn cael ei chysegru'n llwyr i'r ARGLWYDD.” Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses “Pan fyddi'n cynnal cyfrifiad o bobl Israel, mae pob dyn sy'n cael ei gyfri i dalu iawndal am ei fywyd. Wedyn fydd pla ddim yn eu taro nhw wrth i ti eu cyfrif nhw. Maen nhw i gyd i dalu treth o hanner sicl (sef bron chwe gram o arian) pan maen nhw'n cael eu cyfrif. (Mesur safonol y cysegr sydd i gael ei ddefnyddio — sef un sicl yn pwyso dau ddeg gera.) Mae'r arian yma i'w roi'n offrwm i'r ARGLWYDD. Mae pob un sy'n ugain oed neu'n hŷn, i roi offrwm i'r ARGLWYDD. Dydy'r cyfoethog ddim i roi mwy, a'r tlawd ddim i roi llai. Mae pob un i dalu'r hanner sicl yn iawndal am ei fywyd. Rwyt i gasglu'r arian gan bobl Israel a'i roi tuag at gynnal Pabell Presenoldeb Duw. Bydd yn atgoffa'r ARGLWYDD o bobl Israel, eu bod wedi talu iawndal am eu bywydau.” Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses “Rwyt hefyd i wneud dysgl fawr bres gyda stand bres oddi tani. Mae hon ar gyfer ymolchi, i'w gosod rhwng Pabell Presenoldeb Duw a'r allor, a'i llenwi gyda dŵr. Bydd Aaron a'i feibion yn golchi eu dwylo a'u traed ynddi. Maen nhw i ymolchi gyda dŵr pan fyddan nhw'n mynd i mewn i Babell Presenoldeb Duw, rhag iddyn nhw farw. A hefyd pan fyddan nhw'n mynd at yr allor i losgi offrwm i'r ARGLWYDD. Maen nhw i olchi eu dwylo a'u traed, rhag iddyn nhw farw. Dyma fydd y drefn bob amser, ar hyd y cenedlaethau.” Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Cymer y perlysiau gorau — pum cilogram a hanner o fyrr, hanner hynny (sef dau gilogram a thri-chwarter) o sinamon melys, yr un faint o sbeisiau pêr, a pum cilogram a hanner o bowdr casia (a defnyddio mesur safonol y cysegr i bwyso'r rhain). Hefyd pedair litr o olew olewydd. Mae'r rhain i gael eu defnyddio i wneud olew eneinio cysegredig — cymysgedd persawrus wedi ei wneud gan arbenigwr yn y grefft o wneud persawr. Mae'r olew yma i gael ei ddefnyddio i eneinio Pabell Presenoldeb Duw, Arch y dystiolaeth, y bwrdd a'i lestri i gyd, y menora (sef stand y lampau) a'i hoffer, allor yr arogldarth, yr allor i losgi'r offrymau a'r offer sy'n mynd gyda hi, a'r ddysgl fawr gyda'i stand. Dyna sut maen nhw i gael eu cysegru, a byddan nhw'n sanctaidd iawn. Bydd unrhyw beth fydd yn eu cyffwrdd yn gysegredig. Rwyt hefyd i eneinio Aaron a'i feibion, a'u cysegru nhw i wasanaethu fel offeiriaid i mi. Ac rwyt i ddweud wrth bobl Israel, ‘Hwn fydd yr olew eneinio cysegredig ar hyd y cenedlaethau. Dydy e ddim i gael ei ddefnyddio ar bobl gyffredin, a does neb i wneud olew tebyg iddo gyda'r un cynhwysion. Mae'n gysegredig, a rhaid i chi ei drin yn sanctaidd. Os bydd rhywun yn gwneud cymysgedd tebyg iddo, neu yn ei ddefnyddio ar rywun sydd ddim yn offeiriad, bydd y person hwnnw yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw.’” Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Cymer berlysiau, sef gwm resin, onicha, a galbanwm gyda'r un faint o fyrr pur, a'i gymysgu i wneud arogldarth — cymysgedd persawrus wedi ei wneud gan arbenigwr yn y grefft o wneud persawr. Rhaid iddo fod wedi ei falu'n fân, ac yn gymysgedd pur, cysegredig. Mae peth ohono i gael ei falu yn llwch mân, a'i roi o flaen Arch y dystiolaeth tu mewn i Babell Presenoldeb Duw, lle bydda i'n dy gyfarfod di. Rhaid iddo gael ei drin yn sanctaidd iawn. Does neb i ddefnyddio'r un cynhwysion i wneud arogldarth tebyg iddo. Arogldarth yr ARGLWYDD ydy e, ac mae i gael ei drin yn sanctaidd. Os bydd rhywun yn gwneud cymysgedd tebyg iddo i bwrpas arall, bydd y person hwnnw yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw.” Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Dw i wedi dewis Betsalel, mab Wri ac ŵyr i Hur, o lwyth Jwda. Dw i wedi ei lenwi ag Ysbryd Duw, i roi dawn, deall a gallu iddo, a'i wneud yn feistr ym mhob crefft — i wneud pethau hardd allan o aur, arian a phres; i dorri a gosod gemwaith, i gerfio coed a pob math o waith crefft arall. A dw i am i Aholïab fab Achisamach, o lwyth Dan, ei helpu. Dw i hefyd wedi rhoi doniau i'r crefftwyr gorau eraill, iddyn nhw wneud yr holl bethau dw i wedi eu disgrifio i ti: Pabell Presenoldeb Duw, Arch y dystiolaeth, y caead sydd ar yr Arch, a'r holl bethau eraill sy'n y babell, sef y bwrdd a'i lestri i gyd, y menora (stand y lampau) a'i hoffer, allor yr arogldarth, yr allor ar gyfer yr offrymau sydd i'w llosgi gyda'i hoffer i gyd, a'r ddysgl fawr gyda'i stand, y gwisgoedd wedi eu brodio'n hardd, gwisg gysegredig Aaron, a'r gwisgoedd i'w feibion pan fyddan nhw'n gwasanaethu fel offeiriaid, yr olew eneinio, a'r arogldarth persawrus ar gyfer y Lle Sanctaidd. Maen nhw i wneud y pethau yma i gyd yn union fel dw i wedi dweud wrthot ti.” Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Dywed wrth bobl Israel, ‘Mae'n bwysig iawn eich bod chi'n cadw fy Sabothau i. Bydd gwneud hynny yn arwydd bob amser o'r berthynas sydd rhyngon ni, i chi ddeall mai fi ydy'r ARGLWYDD sydd wedi'ch cysegru chi yn bobl i mi fy hun. Felly rhaid i chi gadw'r Saboth, a'i ystyried yn sanctaidd. Os ydy rhywun yn ei halogi, y gosb ydy marwolaeth. Yn wir, os ydy rhywun yn gwneud unrhyw waith ar y Saboth, bydd y person hwnnw'n cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw. Mae chwech diwrnod i chi allu gweithio, ond mae'r seithfed diwrnod yn Saboth — diwrnod i chi orffwys. Mae'r ARGLWYDD yn ei ystyried yn sbesial, yn ddiwrnod cysegredig, ac os ydy rhywun yn gweithio ar y Saboth, y gosb ydy marwolaeth. Mae pobl Israel i gadw'r Saboth bob amser. Mae hwn yn ymrwymiad mae'n rhaid ei gadw am byth. Mae'n arwydd o'r berthynas sydd gen i gyda phobl Israel. Roedd yr ARGLWYDD wedi creu y bydysawd a'r ddaear mewn chwe diwrnod. Wedyn dyma fe'n gorffwys ac ymlacio.’” Pan oedd Duw wedi gorffen siarad â Moses ar Fynydd Sinai, dyma fe'n rhoi dwy lech y dystiolaeth iddo — dwy lechen garreg gydag ysgrifen Duw ei hun arnyn nhw. Pan welodd y bobl fod Moses yn hir iawn yn dod i lawr o'r mynydd, dyma nhw'n casglu o gwmpas Aaron a dweud wrtho, “Tyrd, gwna rywbeth. Gwna dduwiau i ni i'n harwain ni. Pwy ŵyr beth sydd wedi digwydd i'r Moses yna wnaeth ein harwain ni allan o'r Aifft!” Felly dyma Aaron yn dweud wrthyn nhw, “Cymerwch y modrwyau aur sydd yng nghlustiau eich gwragedd a'ch meibion a'ch merched, a dewch â nhw i mi.” Felly dyma'r bobl i gyd yn tynnu eu clustdlysau, a dod â nhw i Aaron. Cymerodd yr aur ganddyn nhw, a defnyddio offer gwaith metel i wneud eilun ar siâp tarw ifanc allan ohono. A dyma'r bobl yn dweud, “O Israel! Dyma'r duwiau ddaeth â ti allan o'r Aifft!” Pan welodd Aaron eu hymateb nhw, dyma fe'n codi allor o flaen yr eilun, ac yna gwneud cyhoeddiad, “Yfory byddwn ni'n cynnal Gŵyl i'r ARGLWYDD!” Felly dyma nhw'n codi'n gynnar y bore wedyn a cyflwyno offrymau i'w llosgi ac offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Eisteddodd y bobl i lawr i wledda ac yfed, ac yna codi i ymgolli mewn rhialtwch paganaidd. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Brysia, dos yn ôl i lawr! Mae dy bobl di, y rhai ddaethost ti â nhw allan o wlad yr Aifft, wedi gwneud peth ofnadwy. Maen nhw eisoes wedi troi i ffwrdd oddi wrth beth wnes i orchymyn — maen nhw wedi gwneud eilun ar siâp tarw ifanc, ac wedi ei addoli ac aberthu iddo a dweud, ‘O Israel! Dyma'r duwiau ddaeth â ti allan o'r Aifft!’” Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud, “Dw i'n edrych ar y bobl yma, ac yn gweld eu bod nhw'n bobl ystyfnig iawn. Gad lonydd i mi. Dw i wedi digio'n lân gyda nhw, a dw i'n mynd i'w dinistrio nhw. Bydda i'n dy wneud di, Moses, yn dad i genedl fawr yn eu lle nhw.” Ond dyma Moses yn ceisio tawelu'r ARGLWYDD ei Dduw, a dweud wrtho, “O ARGLWYDD, pam rwyt ti mor ddig hefo dy bobl? Ti sydd wedi defnyddio dy rym a dy nerth i ddod â nhw allan o wlad yr Aifft. Wyt ti am i'r Eifftiaid ddweud, ‘Roedd e eisiau gwneud drwg iddyn nhw. Dyna pam wnaeth e eu harwain nhw allan. Roedd e eisiau eu lladd nhw ar y mynyddoedd, a chael gwared â nhw'n llwyr oddi ar wyneb y ddaear!’? Paid bod mor ddig. Meddwl eto cyn gwneud y fath ddrwg i dy bobl! Cofia beth wnest ti ei addo i dy weision Abraham, Isaac a Jacob. Dwedaist wrthyn nhw, ‘Dw i'n mynd i roi cymaint o ddisgynyddion i ti ag sydd o sêr yn yr awyr, a dw i'n mynd i roi'r tir yma dw i wedi bod yn sôn amdano i dy ddisgynyddion di. Byddan nhw'n ei etifeddu am byth.’” Felly dyma'r ARGLWYDD yn newid ei feddwl. Roedd yn sori ei fod wedi bwriadu gwneud niwed i'w bobl. A dyma Moses yn dechrau ar ei ffordd i lawr o ben y mynydd. Roedd yn cario dwy lech y dystiolaeth yn ei ddwylo. Roedd ysgrifen ar ddwy ochr y llechi. Duw ei hun oedd wedi eu gwneud nhw, a Duw oedd wedi ysgrifennu arnyn nhw — roedd y geiriau wedi eu crafu ar y llechi. Pan glywodd Josua holl sŵn y bobl yn gweiddi, dyma fe'n dweud wrth Moses, “Mae'n swnio fel petai yna ryfel yn y gwersyll!” A dyma Moses yn ateb, “Nid cân dathlu buddugoliaeth, glywa i, na chân wylo'r rhai sydd wedi eu trechu, ond canu gwyllt rhai'n cynnal parti!” Pan gyrhaeddodd y gwersyll a gweld yr eilun o darw ifanc, a'r bobl yn dawnsio'n wyllt, dyma Moses yn colli ei dymer yn lân. Taflodd y llechi oedd yn ei ddwylo ar lawr, a dyma nhw'n malu'n deilchion wrth droed y mynydd. Yna dyma fe'n cymryd yr eilun o darw ifanc a'i losgi yn y tân. Wedyn ei falu'n lwch mân, ei wasgaru ar y dŵr, a gwneud i bobl Israel ei yfed. A dyma Moses yn troi at Aaron a gofyn iddo, “Beth wnaeth y bobl yma i ti? Pam wyt ti wedi gwneud iddyn nhw bechu mor ofnadwy?” A dyma Aaron yn ei ateb, “Paid bod yn ddig, meistr. Ti'n gwybod fel mae'r bobl yma'n tueddu i droi at y drwg. Dyma nhw'n dweud wrtho i, ‘Gwna dduwiau i ni i'n harwain ni. Pwy ŵyr beth sydd wedi digwydd i'r Moses yna wnaeth ein harwain ni allan o'r Aifft.’ Felly dyma fi'n dweud wrthyn nhw, ‘Os oes gan rywun aur, rhowch e i mi.’ A dyma nhw'n gwneud hynny. Wedyn pan deflais i'r cwbl i'r tân, dyma'r tarw ifanc yma'n dod allan.” Roedd Moses yn gweld fod y bobl allan o reolaeth yn llwyr — roedd Aaron wedi gadael iddyn nhw redeg yn wyllt, a gallai'r stori fynd ar led ymhlith eu gelynion. Felly dyma Moses yn sefyll wrth y fynedfa i'r gwersyll a galw ar y bobl, “Os ydych chi ar ochr yr ARGLWYDD, dewch yma ata i.” A dyma'r Lefiaid i gyd yn mynd ato. A dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Gwisgwch eich cleddyfau! Ewch drwy'r gwersyll, o un pen i'r llall, a lladd eich brodyr, eich ffrindiau a'ch cymdogion!’” Dyma'r Lefiaid yn gwneud beth ddwedodd Moses, a cafodd tua tair mil o ddynion eu lladd y diwrnod hwnnw. Yna dyma Moses yn dweud, “Dych chi wedi cael eich ordeinio i wasanaethu'r ARGLWYDD heddiw. Am eich bod wedi bod yn fodlon troi yn erbyn mab neu frawd, mae'r ARGLWYDD wedi eich bendithio chi'n fawr heddiw.” Y diwrnod wedyn, dyma Moses yn dweud wrth y bobl, “Dych chi wedi pechu'n ofnadwy. Ond dw i am fynd yn ôl i fyny at yr ARGLWYDD. Falle y galla i wneud pethau'n iawn rhyngoch chi â Duw, iddo faddau i chi am eich pechod.” Felly dyma Moses yn mynd yn ôl at yr ARGLWYDD, a dweud, “Och! Mae'r bobl yma wedi pechu'n ofnadwy yn dy erbyn di. Maen nhw wedi gwneud duwiau o aur iddyn nhw eu hunain. Petaet ti ond yn maddau iddyn nhw … os na wnei di, dw i eisiau i ti ddileu fy enw i oddi ar dy restr.” Ond dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Y person sydd wedi pechu yn fy erbyn i fydd yn cael ei ddileu oddi ar fy rhestr i. Felly, dos di yn dy flaen, ac arwain y bobl yma i'r lle dw i wedi dweud wrthot ti amdano. Edrych, bydd fy angel yn mynd o dy flaen di. Ond pan ddaw'r amser i mi gosbi, bydda i'n reit siŵr o'u cosbi nhw am eu pechod.” A dyma'r ARGLWYDD yn anfon pla ar y bobl am iddyn nhw wneud y tarw — yr un wnaeth Aaron. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Dos di yn dy flaen — ti a'r bobl wnest ti eu harwain allan o wlad yr Aifft. Ewch i'r wlad wnes i addo i Abraham, Isaac a Jacob, ‘Dw i'n mynd i'w rhoi hi i'ch disgynyddion chi.’ Dw i'n mynd i anfon angel o'ch blaen chi, a gyrru allan y Canaaneaid, Amoriaid, Hethiaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebwsiaid. Mae'n dir ffrwythlon — tir lle mae llaeth a mêl yn llifo. Ond dw i ddim am fynd gyda chi. Dych chi'n bobl ystyfnig, a falle y bydda i'n eich dinistrio chi ar y ffordd.” Dyna oedd newyddion drwg! Pan glywodd y bobl hynny, dyma nhw'n dechrau galaru. Doedd neb yn gwisgo tlysau, am fod yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses, “Dywed wrth bobl Israel, ‘Dych chi'n bobl ystyfnig. Petawn i'n mynd gyda chi dim ond am foment, falle y byddwn i'n eich dinistrio chi. Felly tynnwch eich tlysau i ffwrdd, i mi benderfynu beth i'w wneud gyda chi.’” Felly dyma bobl Israel yn tynnu eu tlysau i gyd i ffwrdd pan oedden nhw wrth Fynydd Sinai. Byddai Moses yn cymryd y babell, ac yn ei chodi tu allan i'r gwersyll, gryn bellter i ffwrdd. Galwodd hi yn babell cyfarfod Duw. Os oedd rhywun eisiau gwybod rhywbeth gan yr ARGLWYDD, byddai'n mynd at y babell yma tu allan i'r gwersyll. Pan fyddai Moses yn mynd allan i'r babell, byddai'r bobl i gyd yn sefyll tu allan i'w pebyll eu hunain, ac yn gwylio Moses nes iddo fynd i mewn i'r babell. Bob tro y byddai Moses yn mynd i mewn iddi, byddai colofn o niwl yn dod i lawr ac yn sefyll tu allan i'r fynedfa tra roedd yr ARGLWYDD yn siarad â Moses. Pan oedd pawb yn gweld y golofn o niwl yn sefyll wrth y fynedfa, bydden nhw'n dod i sefyll wrth fynedfa eu pebyll eu hunain, ac yn addoli. Byddai'r ARGLWYDD yn siarad wyneb yn wyneb gyda Moses, fel byddai rhywun yn siarad â ffrind. Yna byddai Moses yn dod yn ôl i'r gwersyll. Ond roedd ei was, y bachgen ifanc Josua fab Nwn, yn aros yn y babell drwy'r amser. Dyma Moses yn dweud wrth yr ARGLWYDD, “Ti wedi bod yn dweud wrtho i, ‘Tyrd â'r bobl yma allan,’ ond dwyt ti ddim wedi gadael i mi wybod pwy fydd yn mynd hefo fi. Rwyt ti hefyd wedi dweud, ‘Dw i wedi dy ddewis di, ac wedi bod yn garedig atat ti.’ Os ydy hynny'n wir, dangos i mi beth rwyt ti am ei wneud, i mi ddeall yn well a dal ati i dy blesio di. A cofia mai dy bobl di ydy'r rhain.” Dyma'r ARGLWYDD yn ei ateb, “Bydda i fy hun yn mynd, ac yn gwneud yn siŵr y byddi di'n iawn.” A dyma Moses yn ei ateb, “Wnawn ni ddim symud cam os na ddoi di gyda ni. Sut arall mae pobl yn mynd i wybod mor garedig rwyt ti wedi bod ata i a dy bobl? Sut arall maen nhw i wybod ein bod ni'n sbesial ac yn wahanol i bawb arall drwy'r byd i gyd?” Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Iawn, bydda i'n gwneud beth rwyt ti'n ei ofyn. Ti wedi fy mhlesio i, a dw i wedi dy ddewis di.” Dyma Moses yn dweud, “Dangos dy ysblander i mi.” A dyma'r ARGLWYDD yn ateb, “Dw i am adael i ti gael cipolwg bach o mor dda ydw i. A dw i'n mynd i gyhoeddi fy enw, ‘yr ARGLWYDD’ o dy flaen di. Fi sy'n dewis pwy i drugarhau wrthyn nhw, a phwy dw i'n mynd i dosturio wrthyn nhw.” Yna dwedodd, “Ond gei di ddim gweld fy wyneb i. Does neb yn edrych arna i ac yn byw wedyn.” A dyma'r ARGLWYDD yn dweud, “Edrych, mae yna le i ti sefyll ar y graig yn y fan yma. Pan fydd fy ysblander i'n mynd heibio, bydda i'n dy guddio di mewn hollt yn y graig, a rhoi fy llaw drosot ti wrth i mi fynd heibio. Wedyn bydda i'n cymryd fy llaw i ffwrdd, a gadael i ti edrych ar fy nghefn i. Does neb yn cael gweld fy wyneb i.” Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Cerfia ddwy lechen garreg fel y rhai cyntaf. Gwna i ysgrifennu arnyn nhw beth oedd ar y llechi wnest ti eu malu. Bydd barod i ddringo mynydd Sinai yn y bore, a sefyll yno ar ben y mynydd i'm cyfarfod i. Does neb arall i ddod gyda ti. Does neb arall i ddod yn agos at y mynydd. Paid hyd yn oed gadael i'r defaid a'r geifr a'r gwartheg bori o flaen y mynydd.” Felly dyma Moses yn cerfio dwy lechen garreg fel y rhai cyntaf. Yna'n gynnar y bore wedyn aeth i fyny i ben Mynydd Sinai, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho. Aeth â'r ddwy lechen gydag e. A dyma'r ARGLWYDD yn dod i lawr yn y cwmwl, sefyll yna gydag e, a chyhoeddi mai ei enw ydy yr ARGLWYDD. Dyma'r ARGLWYDD yn pasio heibio o'i flaen a chyhoeddi, “Yr ARGLWYDD! Yr ARGLWYDD! mae'n Dduw caredig a thrugarog; mae mor amyneddgar, a'i haelioni a'i ffyddlondeb yn anhygoel! Mae'n dangos cariad di-droi-nôl am fil o genedlaethau, ac yn maddau beiau, gwrthryfel a phechod. Ond dydy e ddim yn gadael i'r euog fynd heb ei gosbi. Bydd yn ymateb i bechodau'r tadau sy'n gadael eu hôl ar eu plant a'u plant hwythau — am dair neu bedair cenhedlaeth.” Ac ar unwaith dyma Moses yn ymgrymu yn isel i addoli, a dweud, “Meistr, os ydw i wedi dy blesio di, wnei di, Meistr, fynd gyda ni? Mae'r bobl yma yn ystyfnig, ond plîs wnei di faddau ein beiau a'n pechod ni, a'n derbyn ni yn bobl arbennig i ti dy hun?” Atebodd Duw, “Iawn. Dw i'n gwneud ymrwymiad. Dw i'n mynd i wneud pethau rhyfeddol does neb yn unman wedi eu dychmygu o'r blaen. Bydd y bobl rwyt ti'n byw yn eu canol nhw yn gweld beth mae'r ARGLWYDD yn ei wneud. Dw i'n gwneud rhywbeth anhygoel gyda ti. Gwna'n siŵr dy fod ti'n gwneud beth dw i'n ddweud wrthot ti heddiw. “Dw i'n mynd i yrru allan o'ch blaen chi yr Amoriaid, Canaaneaid, Hethiaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebwsiaid. Gwyliwch chi eich bod chi ddim yn gwneud cytundeb gwleidyddol gyda'r bobl hynny sy'n byw yn y wlad lle dych chi'n mynd, rhag iddyn nhw eich baglu chi. Dw i eisiau i chi ddinistrio eu hallorau, malu'r colofnau cysegredig, a thorri polion y dduwies Ashera i lawr. Peidiwch plygu i addoli unrhyw dduw arall. Mae'r ARGLWYDD yn Dduw eiddigeddus — Eiddigedd ydy ei enw e. Gwyliwch eich bod chi ddim yn gwneud cytundeb gwleidyddol gyda'r bobl sy'n byw yn y wlad. Y peryg wedyn ydy y byddwch chi'n derbyn gwahoddiad i fwyta gyda nhw pan fyddan nhw'n addoli ac yn aberthu i'w duwiau. Byddwch chi'n gadael i'ch meibion briodi eu merched nhw. Bydd y rheiny yn addoli eu duwiau, ac yn cael eich meibion chi i fod yn anffyddlon i mi a gwneud yr un fath. Peidiwch gwneud duwiau o fetel tawdd. “Rhaid i chi gadw Gŵyl y Bara Croyw. Am saith diwrnod rhaid i chi fwyta bara heb furum ynddo, fel gwnes i orchymyn i chi. Mae hyn i ddigwydd ar yr amser iawn ym Mis Abib, am mai dyna pryd ddaethoch chi allan o'r Aifft. Mae mab cyntaf pob gwraig, a pob anifail gwryw cyntaf i gael ei eni, yn perthyn i mi — o'r gwartheg, defaid a geifr. Mae'r asyn bach cyntaf i gael ei eni i gael ei brynu yn ôl gydag oen. Os nad ydy e'n cael ei brynu, rhaid ei ladd drwy dorri ei wddf. “Rhaid i fab cyntaf pob gwraig gael ei brynu'n ôl. A does neb i ddod ata i heb rywbeth i'w offrymu. Cewch weithio am chwe diwrnod, ond rhaid i chi orffwys ar y seithfed. Rhaid i chi orffwys hyd yn oed os ydy hi'n amser i aredig neu i gasglu'r cnydau. “Rhaid i chi gadw Gŵyl y Cynhaeaf — gyda ffrwyth cyntaf y cynhaeaf gwenith — a Gŵyl Casglu'r Cynhaeaf ar ddiwedd y flwyddyn. “Felly, dair gwaith bob blwyddyn mae'r dynion i gyd i ddod o flaen y Meistr, yr ARGLWYDD, sef Duw Israel. Dw i'n mynd i yrru allan bobloedd o dy flaen di a rhoi mwy eto o dir i ti. Ac os byddi di'n ymddangos o flaen yr ARGLWYDD dy Dduw dair gwaith bob blwyddyn, fydd neb yn dod ac yn ceisio dwyn dy dir oddi arnat ti. Rhaid peidio offrymu gwaed anifail sydd wedi ei aberthu gyda bara sydd â burum ynddo. A does dim o aberth Gŵyl y Pasg i fod wedi ei adael ar ôl y bore wedyn. Tyrd â ffrwyth cyntaf gorau dy dir i deml yr ARGLWYDD dy Dduw. Paid berwi cig gafr ifanc yn llaeth ei fam.” Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Ysgrifenna hyn i gyd i lawr. Dyma amodau'r ymrwymiad dw i wedi ei wneud gyda ti a phobl Israel.” Roedd Moses yno gyda Duw am bedwar deg diwrnod, ddydd a nos. Wnaeth e ddim bwyta nac yfed o gwbl. A dyma fe'n ysgrifennu amodau'r ymrwymiad ar y llechi — sef y Deg Gorchymyn. Pan ddaeth Moses i lawr o ben Mynydd Sinai gyda dwy lechen y dystiolaeth yn ei law, doedd e ddim yn sylweddoli fod ei wyneb wedi bod yn disgleirio wrth i'r ARGLWYDD siarad gydag e. Pan welodd Aaron a phobl Israel Moses yn dod, roedd ei wyneb yn dal i ddisgleirio, ac roedd ganddyn nhw ofn mynd yn agos ato. Ond dyma Moses yn galw arnyn nhw, a dyma Aaron a'r arweinwyr eraill yn dod yn ôl i siarad gydag e. Wedyn dyma'r bobl i gyd yn dod draw ato, a dyma Moses yn dweud wrthyn nhw beth oedd y gorchmynion roedd Duw wedi ei roi iddo ar Fynydd Sinai. Pan oedd Moses wedi gorffen siarad â nhw, byddai'n rhoi gorchudd dros ei wyneb. Ond pan fyddai'n mynd i mewn i siarad â'r ARGLWYDD byddai'n tynnu'r gorchudd i ffwrdd nes byddai'n dod allan eto. Wedyn byddai'n dweud wrth bobl Israel beth roedd yr ARGLWYDD wedi ei orchymyn iddo, a byddai pobl Israel yn gweld wyneb Moses yn disgleirio. Yna byddai'n rhoi'r gorchudd yn ôl dros ei wyneb nes byddai'n mynd yn ôl i siarad â'r ARGLWYDD eto. Dyma Moses yn galw pobl Israel i gyd at ei gilydd, a dweud, “Dyma mae'r ARGLWYDD wedi ei orchymyn i chi ei wneud: “Mae chwech diwrnod i chi allu gweithio, ond mae'r seithfed diwrnod yn sbesial, yn ddiwrnod cysegredig, yn Saboth i'r ARGLWYDD — diwrnod i chi orffwys. Os ydy rhywun yn gweithio ar y Saboth, y gosb ydy marwolaeth. Peidiwch hyd yn oed cynnau tân yn eich cartrefi ar y Saboth!” Wedyn dyma Moses yn dweud wrth bobl Israel i gyd, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei orchymyn. ‘Dylai pawb sy'n awyddus i gyfrannu ddod â rhoddion i'r ARGLWYDD: aur, arian, pres, edau las, porffor, a coch, lliain main drud, blew gafr, crwyn hyrddod wedi eu llifo'n goch, crwyn môr-fuchod, coed acasia, olew i'r lampau, perlysiau i wneud yr olew eneinio a'r arogldarth persawrus, onics a gemau eraill i'w gosod ar yr effod a'r boced fydd yn mynd dros y frest. Mae'r crefftwyr yn eich plith chi i ddod a gwneud popeth mae'r ARGLWYDD wedi ei orchymyn: Y Tabernacl, gyda'r babell a'i gorchudd, y bachau, y fframiau, y trawstiau, y polion a'r socedi. Yr Arch a'i pholion, y caead drosti, a'r sgrîn sy'n ei chuddio. Y bwrdd, gyda'i bolion a'i lestri, i osod y bara cysegredig arno. Y menora sy'n rhoi golau, gyda'i hoffer i gyd, y lampau a'r olew. Allor yr arogldarth gyda'i pholion, yr olew eneinio a'r arogldarth persawrus. Y sgrîn ar gyfer y fynedfa i'r Tabernacl. Yr allor ar gyfer yr offrymau sydd i'w llosgi, gyda'r gratin bres sydd arni, y polion, a'r offer sy'n mynd gyda hi i gyd. Y ddysgl fawr gyda'i stand. Llenni'r iard, y polion a'r socedi, a'r sgrîn sydd o flaen y fynedfa i'r iard. Pegiau a rhaffau'r Tabernacl a'r iard. Hefyd gwisgoedd y rhai fydd yn gwasanaethu yn yr addoliad yn y lle sanctaidd (i gyd wedi eu brodio'n hardd), a gwisgoedd cysegredig Aaron yr offeiriad, a'i feibion fyddai hefyd yn gwasanaethu fel offeiriaid.’” Yna dyma bobl Israel i gyd yn mynd i ffwrdd. Ond daeth rhai, oedd wedi eu sbarduno, ac yn awyddus i gyfrannu, yn ôl a cyflwyno eu rhoddion i'r ARGLWYDD — rhoddion tuag at godi Pabell presenoldeb Duw, cynnal y gwasanaeth ynddi, a tuag at y gwisgoedd cysegredig. Dyma pawb oedd yn awyddus i roi yn dod — dynion a merched. A dyma nhw'n cyfrannu tlysau aur o bob math — broetshis, clustdlysau, modrwyau a breichledau. Roedd pawb yn dod ac yn cyflwyno'r aur yn offrwm i'w chwifio o flaen yr ARGLWYDD. Eraill yn dod ag edau las, porffor, neu goch, lliain main drud, blew gafr, crwyn hyrddod wedi eu llifo'n goch, neu grwyn môr-fuchod. Roedd pawb oedd eisiau rhoi arian neu bres yn ei gyflwyno yn offrwm i'r ARGLWYDD. Roedd eraill yn dod ag unrhyw goed acasia oedd ganddyn nhw. Roedd y gwragedd oedd â dawn nyddu yn dod â'r defnydd roedden nhw wedi ei wneud — edau las, porffor, neu goch, neu liain main drud. Roedd gwragedd eraill wedi eu hysgogi i fynd ati i nyddu defnydd wedi ei wneud o flew gafr. Dyma'r arweinwyr yn rhoi cerrig onics a gemau eraill i'w gosod ar yr effod a'r boced fydd yn mynd dros y frest. Hefyd perlysiau ac olew olewydd ar gyfer y lampau, yr olew eneinio a'r arogldarth persawrus. Felly, daeth pobl Israel ag offrymau gwirfoddol i'r ARGLWYDD — dynion a merched oedd yn awyddus i helpu i wneud beth roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddyn nhw ei wneud drwy Moses. Dyma Moses yn dweud wrth bobl Israel, “Mae'r ARGLWYDD wedi dewis Betsalel, mab Wri ac ŵyr i Hur, o lwyth Jwda. Mae wedi ei lenwi gydag Ysbryd Duw, sy'n rhoi dawn, deall a gallu iddo, i greu pob math o waith cywrain, a gwneud pethau hardd allan o aur, arian a phres. I dorri a gosod gemwaith, i gerfio coed ac i wneud pob math o waith artistig. Mae Duw wedi rhoi'r ddawn iddo fe, ac i Aholïab fab Achisamach o lwyth Dan, i ddysgu eu crefft i eraill. Mae Duw wedi rhoi'r doniau i'r rhai hynny i weithio fel crefftwyr ac artistiaid, i frodio lliain main gydag edau las, porffor a coch, a gwneud gwaith gwehydd — pob un yn feistri yn eu crefft ac yn artistiaid. “Felly mae Betsalel, Aholïab a'r crefftwyr eraill mae Duw wedi eu donio i wneud y gwaith o godi'r cysegr, i wneud popeth yn union fel mae'r ARGLWYDD wedi dweud.” Dyma Moses yn galw Betsalel ac Aholïab ato, a'r crefftwyr eraill roedd yr ARGLWYDD wedi eu donio — pob un oedd wedi ei sbarduno i wirfoddoli i helpu. A dyma Moses yn rhoi iddyn nhw yr holl roddion roedd pobl Israel wedi eu hoffrymu i'r gwaith o godi'r cysegr. Ond roedd y bobl yn dod â mwy roddion gwirfoddol iddo bob bore. Felly dyma'r crefftwyr oedd yn gweithio ar y cysegr yn gadael eu gwaith, a dweud wrth Moses, “Mae'r bobl wedi dod â mwy na digon i orffen y gwaith mae'r ARGLWYDD wedi gofyn i ni ei wneud!” Felly dyma Moses yn anfon neges allan drwy'r gwersyll, “Does dim angen mwy o bethau i'w cyflwyno'n rhoddion tuag at adeiladu'r cysegr!” Roedd rhaid stopio'r bobl rhag dod â mwy! Roedd mwy na digon o bethau ganddyn nhw i wneud y gwaith i gyd. Dyma'r crefftwyr i gyd yn gwneud y Tabernacl gyda deg llen o'r lliain main gorau gyda lluniau o geriwbiaid wedi eu dylunio'n gelfydd a'u brodio gydag edau las, porffor a coch. Roedd pob llen yn un deg dau metr o hyd, a dau fetr o led — i gyd yr un faint. Yna dyma bump o'r llenni yn cael eu gwnïo at ei gilydd, a'r pump arall yr un fath. Wedyn gwneud dolenni o edau las ar hyd ymyl llen olaf pob set — hanner cant o ddolenni ar bob un, fel eu bod gyferbyn a'i gilydd. Wedyn gwneud hanner can bachyn aur i ddal y llenni at ei gilydd, fel bod y cwbl yn un darn. Wedyn gwneud llenni o flew gafr i fod fel pabell dros y Tabernacl — un deg un ohonyn nhw. Roedd pob llen yn un deg pump metr o hyd a dau fetr o led — i gyd yr un faint. Yna gwnïo pump o'r llenni at ei gilydd, a gwnïo'r chwech arall at ei gilydd hefyd. Yna gwneud hanner can dolen ar hyd ymyl llen olaf pob set, a hanner can bachyn i ddal y llenni at ei gilydd, a gwneud y cwbl yn un darn. Wedyn gwneud gorchudd dros y babell wedi ei wneud o grwyn hyrddod wedi eu llifo'n goch. Ac wedyn gorchudd o grwyn môr-fuchod dros hwnnw. Yna cafodd fframiau'r Tabernacl eu gwneud allan o goed acasia, pob un yn sefyll yn unionsyth. Roedd pob un yn bedwar metr o hyd, a 66 centimetr o led, gyda dau denon ar bob un i'w cysylltu â'i gilydd. Roedd y fframiau i gyd wedi eu gwneud yr un fath. Roedd dau ddeg ffrâm ar ochr ddeheuol y Tabernacl, a pedwar deg soced arian i ddal y fframiau — dwy soced i'r ddau denon ar bob ffrâm. Wedyn dau ddeg ffrâm ar ochr arall y Tabernacl, sef yr ochr ogleddol, gyda pedwar deg soced i'w dal nhw — dwy soced dan bob ffrâm. Yna chwe ffrâm i gefn y Tabernacl, sef y pen gorllewinol, a dau ffrâm ychwanegol i'r corneli yn y cefn. Yn y corneli roedd y ddau ffrâm yn ffitio gyda'i gilydd ar y gwaelod, ac yn cael eu dal gyda'i gilydd gan gylch ar y top. Roedd y ddwy gornel yr un fath. Felly roedd wyth ffrâm gydag un deg chwech o socedi arian — dwy soced dan bob ffrâm. [31-32] Wedyn gwneud croesfarrau o goed acasia — pump i'r fframiau bob ochr i'r Tabernacl, a pump i fframiau cefn y Tabernacl sy'n wynebu'r gorllewin. *** Roedd y croesfar ar ganol y fframiau yn ymestyn o un pen i'r llall. Yna gorchuddio'r fframiau gyda haen o aur, a gwneud cylchoedd o aur i ddal y croesfarrau, a gorchuddio'r croesfarrau gydag aur hefyd. Wedyn gwneud llen arbennig o'r lliain main gorau, gyda lluniau o geriwbiaid wedi eu dylunio'n gelfydd a'u brodio gydag edau las, porffor a coch. A gwneud pedwar polyn o goed acasia, wedi eu gorchuddio gydag aur, bachau aur i hongian y llen, a pedwar o socedi arian i osod y polion ynddyn nhw. Yna gwneud sgrîn ar gyfer y fynedfa i'r babell. Hon eto wedi ei gwneud o'r lliain main gorau, ac wedi ei brodio gydag edau las, porffor a coch. Yna gwneud pump polyn o goed acasia, a'r bachau aur. Gorchuddio top y polion gydag aur, a gwneud socedi o bres iddyn nhw. Yna dyma Betsalel yn gwneud yr Arch allan o goed acasia. Roedd hi'n 110 centimetr o hyd, 66 centimetr o led a 66 centimetr o uchder. Gorchuddiodd hi gyda haen o aur pur (y tu mewn a'r tu allan), a gosod border aur o'i chwmpas i'w haddurno. Yna gwneud pedwar cylch aur, a'u gosod nhw ar draed y gist, dwy bob ochr. Yna gwneud polion o goed acasia wedi eu gorchuddio gydag aur, a rhoi'r polion drwy'r cylchoedd bob ochr i'r Arch, i'w defnyddio i'w chario hi. Wedyn dyma fe'n gwneud caead o aur pur i'r Arch — 110 centimetr o hyd, a 66 centimetr o led. Yna gwneud dau geriwb o aur wedi ei guro (gwaith morthwyl) — un bob pen i'r caead, yn un darn gyda'r caead ei hun. Roedd adenydd y ceriwbiaid ar led yn cysgodi dros gaead yr Arch. Roedd y ceriwbiaid yn wynebu ei gilydd ac yn edrych i lawr ar y caead. Wedyn dyma fe'n gwneud y bwrdd o goed acasia — 88 centimetr o hyd, 44 centimetr o led, a 66 centimetr o uchder. Gorchuddiodd e gydag aur pur, a gosod border aur o'i gwmpas i'w addurno. Yna gwneud croeslath 75 milimetr o drwch o'i gwmpas — hwnnw hefyd wedi ei addurno yr un fath â'r border. Yna gwnaeth bedwar cylch aur, a'i gosod nhw ar bedair cornel y bwrdd lle mae'r coesau wrth ymyl y croeslath. Roedd y cylchoedd ar gyfer rhoi'r polion trwyddyn nhw i gario'r bwrdd. Yna gwnaeth y polion o goed acasia a'u gorchuddio nhw gydag aur. Yna gwnaeth y llestri oedd ar y bwrdd allan o aur pur — y platiau, pedyll, jygiau a powlenni, i dywallt yr offrymau o ddiod. Yna dyma fe'n gwneud y menora (sef y stand i ddal y lampau) allan o aur pur — gwaith morthwyl, sef aur wedi ei guro. Mae'r cwbl i fod yn un darn — y droed, y goes, a'r cwpanau siâp blodyn gyda calycs oddi tanyn nhw. Roedd chwe cangen yn ymestyn allan o ochrau'r menora, tair bob ochr. Roedd tair cwpan siâp blodyn almon ar bob cangen — pob blodyn gyda calycs a petalau. Ac ar brif goes y menora, pedair cwpan siâp blodyn almon gyda calycs a petalau. Un dan y pâr cyntaf o ganghennau, un dan yr ail, ac un dan y trydydd. Roedd y cwbl wedi ei wneud o un darn o aur pur wedi ei guro — gwaith morthwyl. Yna gwnaeth ei saith lamp, ei gefeiliau a'i phadellau o aur pur. Defnyddiodd 35 cilogram o aur pur i wneud y menora a'r offer oedd gyda hi i gyd. Yna dyma fe'n gwneud yr allor i losgi arogldarth. Gwnaeth hi o goed acasia, yn 45 centimetr sgwâr ac yn 90 centimetr o uchder. Roedd y cyrn arni yn un darn gyda'r allor ei hun. Yna gorchuddiodd hi i gyd gyda haen o aur pur — y top, yr ochrau a'r cyrn. A gosod border aur o'i chwmpas i'w haddurno. Roddodd ddau gylch aur ar y ddwy ochr iddi, gyferbyn â'i gilydd o dan y border, i roi'r polion trwyddyn nhw i gario'r allor. Yna gwnaeth y polion o goed acasia, a'u gorchuddio nhw gydag aur. Wedyn gwnaeth yr olew eneinio cysegredig a'r arogldarth persawrus, wedi ei wneud gan arbenigwr yn y grefft o wneud persawr. Yna dyma fe'n gwneud yr allor i losgi'r aberthau. Gwnaeth hi o goed acasia, yn ddau pwynt dau metr sgwâr, ac yn un pwynt tri metr o uchder. Gwnaeth gyrn ar bedair cornel yr allor, yn un darn gyda'r allor ei hun. Yna ei gorchuddio gyda pres. Pres ddefnyddiodd i wneud yr offer i gyd hefyd — y bwcedi lludw, rhawiau, powlenni taenellu, ffyrc, a'r padellau tân. Yna gwnaeth y gratin, sef rhwyll wifrog o bres o dan silff yr allor, hanner ffordd i lawr. A gwnaeth bedair cylch i'w gosod ar bedair cornel y gratin, i roi'r polion trwyddyn nhw. Yna gwnaeth y polion allan o goed acasia, a'u gorchuddio nhw gyda pres. Yna gwthiodd y polion drwy'r cylchoedd bob ochr i'r allor, i'w chario hi. Roedd yr allor yn wag y tu mewn, wedi ei gwneud gyda planciau o bren. Yna gwnaeth y ddysgl fawr bres a'i stand bres allan o ddrychau y gwragedd oedd yn gwasanaethu wrth y fynedfa i Babell Presenoldeb Duw. Yna gwnaeth yr iard. Roedd yr ochr ddeheuol yn bedwar deg pedwar metr o hyd, a'r llenni wedi eu gwneud o'r lliain main gorau. Roedd yna ddau ddeg postyn yn sefyll mewn dau ddeg o socedi pres, a bachau ar ffyn arian i ddal y llenni. A'r un fath ar yr ochr ogleddol. Ar ochr y gorllewin, dau ddeg dau metr o lenni, gyda deg postyn yn sefyll mewn deg o socedi pres, gyda'r bachau a'r ffyn arian. [13-15] Ar y tu blaen, yn wynebu'r dwyrain, dau ddeg dau metr eto — chwe pwynt chwe metr o lenni, gyda tri postyn mewn tair soced bres, bob ochr i'r giât. *** *** Roedd y llenni o gwmpas yr iard i gyd wedi eu gwneud o'r lliain main gorau. Y socedi yn bres. Y bachau a'r ffyn yn arian. Top y polion wedi eu gorchuddio gydag arian, a rhimyn o arian yn rhedeg o gwmpas y polion. Roedd y sgrîn o flaen y fynedfa yn naw metr o hyd — llenni wedi eu gwneud o'r lliain main gorau ac wedi eu brodio gydag edau las, porffor a coch. Fel llenni'r iard ei hun, roedden nhw'n ddau pwynt dau metr o uchder, ac yn cael eu dal ar bedwar polyn mewn pedwar soced bres. Roedd y bachau a'r ffyn yn arian, ac roedd top y polion wedi eu gorchuddio gydag arian. Roedd pegiau y Tabernacl a'r iard o'i chwmpas wedi eu gwneud o bres. Dyma restr lawn o'r hyn gafodd ei ddefnyddio i wneud Tabernacl y Dystiolaeth. Moses oedd wedi gorchymyn cofnodi'r cwbl; a'r Lefiaid, dan arweiniad Ithamar, mab Aaron yr offeiriad, wnaeth y gwaith. Gwnaeth Betsalel, mab Wri ac ŵyr i Hur, o lwyth Jwda, bopeth yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses. Ac roedd Aholïab fab Achisamach o lwyth Dan yn ei helpu. Roedd Aholïab yn grefftwr, yn ddyluniwr, ac yn brodio lliain main gydag edau las, porffor a coch. Aur: 1,000 cilogram — dyma'r holl aur gafodd ei ddefnyddio i wneud popeth yn y cysegr (Yr aur oedd wedi ei gyflwyno yn offrwm i'w chwifio o flaen yr ARGLWYDD) Arian: bron 3,500 cilogram — dyma'r arian gafodd ei gyfrannu gan y bobl. Roedd hyn yn hanner sicl (bron yn chwe gram o arian) gan bawb dros ugain oed gafodd ei gyfrif — sef 603,550 o ddynion. Cafodd 3,300 cilogram o'r arian ei ddefnyddio i wneud y socedi i bolion y cysegr, a'r socedi i'r llen arbennig — cant o socedi yn dri deg tri cilogram yr un. Yna defnyddiodd y gweddill o'r arian i wneud y ffyn a'r bachau i ddal y llenni, ac i orchuddio top y polion. Pres: bron 2,500 cilogram — (sef y pres gafodd ei gyflwyno yn offrwm i'w chwifio o flaen yr ARGLWYDD) Cafodd hwn ei ddefnyddio i wneud socedi i'r fynedfa i Babell Presenoldeb Duw, yr allor bres, y gratin iddi, offer yr allor i gyd, y socedi o gwmpas yr iard, a'r socedi i'r fynedfa i'r iard, a hefyd pegiau y Tabernacl a'r iard o'i chwmpas. Dyma nhw'n gwneud gwisgoedd i'r rhai fyddai'n gwasanaethu yn y cysegr — gwisgoedd wedi eu brodio'n hardd gydag edau las, porffor a coch. Gwisgoedd cysegredig i Aaron, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses. Roedd yr effod wedi ei gwneud o'r lliain main gorau, wedi ei frodio gydag aur, glas, porffor a coch. Dyma'r crefftwyr yn gwneud dalen denau, denau o aur a'i dorri yn stribedi main a'i wnïo i'r patrwm gyda'r edau las, porffor a coch; y cwbl wedi ei ddylunio'n gelfydd. Dyma nhw'n gwneud dau strap i fynd dros yr ysgwyddau, wedi eu cysylltu i'r corneli, i'w ddal gyda'i gilydd. Ac roedd strap cywrain wedi ei blethu i fod yn un darn gyda'r effod. Roedd wedi ei wneud o'r lliain main gorau, ac wedi ei frodio gydag aur, ac edau las, porffor a coch, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses. Yna dyma nhw'n gosod y cerrig onics mewn gwaith ffiligri o aur, a crafu enwau meibion Israel arnyn nhw, yr un fath ag mae sêl yn cael ei wneud. Yna eu rhoi nhw ar strapiau ysgwydd yr effod, fel cerrig coffa i bobl Israel, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses. Wedyn dyma nhw'n gwneud y darn sy'n mynd dros y frest, wedi ei gynllunio'n gelfydd gan artist. Ei wneud yr un fath â'r effod — allan o liain main wedi ei frodio gydag aur, ac edau las, porffor a coch. Roedd wedi ei blygu drosodd i wneud poced 22 centimetr sgwâr. Yna gosod pedair rhes o gerrig arno: y rhes gyntaf yn rhuddem, topas a beryl; yr ail res yn lasfaen, saffir ac emrallt; y drydedd res yn iasinth, calcedon ac amethyst; a'r bedwaredd yn saffir melyn, onics a iasbis — pob un wedi ei osod mewn gwaith ffiligri o aur. Roedd pob carreg yn cynrychioli un o feibion Israel — un deg dau enw wedi eu crafu arnyn nhw, yr un fath ag mae sêl yn cael ei wneud. A dyma nhw'n gwneud cadwynau o aur pur wedi ei blethu i'w gosod ar y darn sy'n mynd dros y frest. Yna gwneud dwy ffiligri o aur a dwy ddolen aur, a cysylltu'r dolenni i ddwy gornel uchaf y darn sy'n mynd dros y frest. Wedyn cysylltu'r ddwy gadwyn aur i'r dolenni hynny, a chysylltu pen arall y cadwyni i'r ddwy ffiligri, a rhoi'r rheiny ar strapiau ysgwydd yr effod, ar y tu blaen. Wedyn gwneud dwy ddolen aur arall a'i cysylltu nhw i gorneli isaf y darn sy'n mynd dros y frest, ar yr ymyl fewnol agosaf at yr effod. Yna gwneud dwy ddolen aur arall eto, a'u rhoi nhw ar waelod strapiau ysgwydd yr effod wrth ymyl y gwnïad sydd uwch ben strap yr effod. Wedyn clymu dolenni'r darn dros y frest i ddolenni'r effod gydag edau las, i'w gadw uwch ben strap yr effod, yn lle ei fod yn hongian yn rhydd. Roedd hyn i gyd yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses. Gwnaeth gwehydd y fantell sy'n mynd gyda'r effod i gyd yn las. Roedd lle i'r pen fynd trwyddo yn y canol, gyda hem o'i gwmpas, wedi ei bwytho fel coler i'w atal rhag rhwygo. Wedyn roedd pomgranadau bach o gwmpas ymylon y fantell, wedi eu gwneud o edau las, porffor a coch, a lliain main. Ac yna gwneud clychau o aur pur a'i gosod nhw rhwng y pomgranadau ar ymylon y fantell — clychau a ffrwythau bob yn ail o gwmpas y fantell fyddai'n cael ei gwisgo i wasanaethu, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses. Wedyn dyma nhw'n gwneud crysau o liain main i Aaron a'i feibion. Hefyd twrban a penwisgoedd o liain main, a dillad isaf o'r lliain main gorau. Ac roedd y sash i'w wneud o'r lliain main gorau hefyd, wedi ei frodio gydag edau las, porffor a coch, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses. Wedyn gwneud medaliwn o aur pur, y symbol ei fod wedi ei gysegru i waith Duw, a crafu arno (fel ar sêl) y geiriau: ‛Wedi ei gysegru i'r ARGLWYDD‛ Wedyn ei glymu ar du blaen y twrban gydag edau las, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses. Felly roedd yr holl waith ar y Tabernacl (sef Pabell Presenoldeb Duw) wedi ei orffen. Roedd pobl Israel wedi gwneud popeth yn union fel dwedodd yr ARGLWYDD wrth Moses. Felly dyma nhw'n dod â'r Tabernacl at Moses, sef y babell ei hun a'r darnau eraill i gyd: y bachau, y fframiau, y trawstiau, y polion a'r socedi. Y gorchudd o grwyn hyrddod wedi eu llifo'n goch, y gorchudd o grwyn môr-fuchod, a llen y sgrîn. Yna Arch y dystiolaeth, y polion i'w chario, a'i chaead (sef caead y cymodi), y bwrdd a'i holl gelfi, a'r bara cysegredig. Y menora gyda'i lampau mewn trefn, yr offer oedd gyda hi, a'r olew i'w goleuo. Yr Allor Aur, yr olew eneinio, yr arogldarth persawrus, y sgrîn ar gyfer y fynedfa i'r babell. Yr Allor Bres a'i grât o bres, y polion i'w chario, a'i hoffer i gyd. Y ddisgyl fawr a'i stand. Y llenni ar gyfer y wal o gwmpas yr iard, y polion i'w dal a'r socedi, y sgrîn ar gyfer y fynedfa i'r iard, y rhaffau a'r pegiau, a'r holl offer oedd ei angen ar gyfer y gwaith yn y Tabernacl, sef Pabell Presenoldeb Duw. Hefyd gwisgoedd y rhai fyddai'n gwasanaethu yn yr addoliad yn y lle sanctaidd (i gyd wedi eu brodio'n hardd), a gwisgoedd cysegredig Aaron yr offeiriad, a'i feibion fyddai hefyd yn gwasanaethu fel offeiriaid. Roedd pobl Israel wedi gwneud y gwaith i gyd yn union fel dwedodd yr ARGLWYDD wrth Moses. Yna dyma Moses yn archwilio'r cwbl, ac yn wir, roedd y cwbl wedi ei wneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud. A dyma Moses yn eu bendithio nhw. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Ar ddiwrnod cynta'r flwyddyn rwyt i godi'r Tabernacl — Pabell presenoldeb Duw. Rho Arch y dystiolaeth ynddi, gyda'r sgrîn o'i blaen yn cuddio'r Arch. Yna dod â'r bwrdd i mewn, a gosod popeth mewn trefn arno. Wedyn y menora, a gosod ei lampau yn eu lle arni. Rho'r allor aur (allor yr arogldarth) o flaen Arch y dystiolaeth, a sgrîn wrth y fynedfa i'r Tabernacl. Yna gosod yr allor i losgi'r offrymau o flaen y fynedfa i'r Tabernacl, Pabell presenoldeb Duw. Rho'r ddysgl fawr rhwng Pabell presenoldeb Duw a'r allor, a'i llenwi gyda dŵr. Yna gosod yr iard o'i chwmpas, a hongian llenni mynedfa'r iard. “Wedyn cymer yr olew eneinio, a'i daenellu ar y Tabernacl a phopeth sydd ynddi, i'w cysegru a'u gwneud yn sanctaidd. Eneinia'r allor i losgi'r offrymau a'i hoffer i gyd. Cysegra'r allor i'w gwneud hi'n gwbl sanctaidd. Yna eneinia'r ddysgl fawr a'i stand, i'w chysegru hi. “Wedyn rwyt i ddod ag Aaron a'i feibion at fynedfa Pabell presenoldeb Duw a'u golchi nhw gyda dŵr. Arwisga fe gyda'r gwisgoedd cysegredig, a'i eneinio a'i gysegru i wasanaethu fel offeiriad i mi. Wedyn arwisga'r meibion yn eu crysau, a'u heneinio nhw fel gwnest ti eneinio eu tad, iddyn nhw wasanaethu fel offeiriaid i mi. Drwy eu heneinio ti'n rhoi'r cyfrifoldeb iddyn nhw o wasanaethu fel offeiriaid i mi ar hyd y cenedlaethau.” Felly dyma Moses yn gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho. Cafodd y Tabernacl ei godi ar ddiwrnod cynta'r ail flwyddyn. Dyma Moses yn ei godi drwy roi'r socedi yn eu lle, yna codi'r fframiau, cysylltu'r croesfarrau a rhoi'r polion yn eu lle. Wedyn dyma fe'n lledu'r babell dros fframwaith y Tabernacl, a'r gorchudd dros hwnnw, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses. Yna dyma fe'n gosod Llechi'r Dystiolaeth yn yr Arch, cysylltu'r polion iddi a rhoi'r caead arni. Wedyn mynd â'r Arch i'r Tabernacl a gosod llen y sgrîn o'i blaen, i guddio Arch y Dystiolaeth, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses. Wedyn dyma fe'n gosod y bwrdd tu mewn i Babell Presenoldeb Duw, ar ochr ogleddol y Tabernacl, o flaen y sgrîn. A gosod y bara mewn trefn ar y bwrdd, o flaen yr ARGLWYDD, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses. Wedyn gosod y menora tu mewn i Babell Presenoldeb Duw, gyferbyn â'r bwrdd ar ochr ddeheuol y Tabernacl. Yna gosod y lampau yn eu lle arni, o flaen yr ARGLWYDD, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses. Wedyn rhoi'r allor aur (allor yr arogldarth) tu mewn i Babell Presenoldeb Duw, o flaen y sgrîn, a llosgi arogldarth persawrus arni, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses. Wedyn gosod y sgrîn wrth y fynedfa i'r Tabernacl. Rhoddodd yr allor i losgi'r offrymau o flaen y fynedfa i'r Tabernacl hefyd, sef Pabell Presenoldeb Duw. Yna cyflwyno offrymau i'w llosgi ac offrymau o rawn arni fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses. Wedyn gosod y ddysgl fawr rhwng Pabell Presenoldeb Duw a'r allor, a'i llenwi hi gyda dŵr ar gyfer ymolchi. Byddai Moses ac Aaron a'i feibion yn golchi eu dwylo a'u traed gyda'r dŵr ynddi. Bydden nhw'n ymolchi bob tro roedden nhw'n mynd i mewn i Babell Presenoldeb Duw neu'n mynd at yr allor, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses. Wedyn dyma fe'n gosod yr iard o gwmpas y Tabernacl a'r allor, a rhoi'r sgrîn o flaen y fynedfa i'r iard. Felly dyma Moses yn gorffen y gwaith. A dyma'r cwmwl yn dod i lawr dros Babell Presenoldeb Duw, ac roedd ysblander yr ARGLWYDD yn ei llenwi (sef y Tabernacl.) Doedd Moses ddim yn gallu mynd i mewn i'r babell o achos y cwmwl oedd wedi setlo arni, ac am fod ysblander yr ARGLWYDD yn ei llenwi. Pan oedd y cwmwl yn codi oddi ar y Tabernacl, roedd pobl Israel yn mynd ymlaen ar eu taith. Os nad oedd y cwmwl yn codi, doedden nhw ddim yn symud o'u lle. Roedd cwmwl yr ARGLWYDD ar y Tabernacl yn ystod y dydd, ac roedd tân yn y cwmwl drwy'r nos. Roedd pobl Israel i gyd yn gallu ei weld, yr holl amser buon nhw'n teithio. Dyma'r ARGLWYDD yn galw Moses ac yn siarad gydag e o'r Tabernacl. “Dywed wrth bobl Israel: Pan mae rhywun yn dod ag offrwm i'r ARGLWYDD dylai fod o'r gyr o wartheg neu o'r praidd o ddefaid a geifr. “Os ydy'r offrwm sydd i'w losgi yn dod o'r gyr o wartheg, dylai fod yn anifail gwryw heb ddim byd o'i le arno. Rhaid ei gyflwyno wrth y fynedfa i Babell Presenoldeb Duw iddo gael ei dderbyn gan yr ARGLWYDD. Wedyn rhaid i'r person sy'n ei gyflwyno osod ei law ar ben yr anifail sydd i'w losgi. Bydd yr anifail yn cael ei dderbyn gan Dduw fel ffordd o wneud pethau'n iawn rhwng yr addolwr a Duw. Wedyn bydd y person sy'n ei gyflwyno yn lladd yr anifail o flaen yr ARGLWYDD. Bydd yr offeiriaid, disgynyddion Aaron, yn cyflwyno'r gwaed i Dduw ac yn ei sblasio o gwmpas yr allor sydd o flaen y fynedfa i'r Tabernacl. Wedyn bydd y person sy'n ei gyflwyno yn blingo'r anifail a'i dorri yn ddarnau. Bydd yr offeiriaid yn rhoi tân ar yr allor ac yn gosod coed ar y tân. Wedyn byddan nhw'n gosod y pen a'r braster a'r darnau eraill mewn trefn ar y tân. Bydd y person sy'n cyflwyno'r anifail yn golchi'r coluddion a'r coesau ôl. A bydd offeiriad yn llosgi'r cwbl ar yr allor. Mae'n offrwm i'w losgi'n llwyr, ac yn arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD. “Os mai anifail o'r praidd ydy'r offrwm sydd i'w losgi, dylai fod yn hwrdd neu fwch gafr — anifail gwryw heb ddim byd o'i le arno. Mae i gael ei ladd ar ochr ogleddol yr allor o flaen yr ARGLWYDD. Bydd yr offeiriaid yn sblasio'r gwaed o gwmpas yr allor. Wedyn bydd y person sy'n ei gyflwyno yn torri'r anifail yn ddarnau. Bydd yr offeiriad yn gosod y darnau, y pen a'r brasder, mewn trefn ar y tân sydd ar yr allor. Wedyn bydd y person sy'n cyflwyno'r anifail yn golchi'r coluddion a'r coesau ôl gyda dŵr. A bydd offeiriad yn llosgi'r cwbl ar yr allor. Mae'n offrwm i'w losgi'n llwyr, ac yn arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD. “Os mai aderyn ydy'r offrwm sy'n cael ei losgi'n llwyr i'r ARGLWYDD, rhaid iddo fod yn durtur neu'n golomen ifanc. Bydd offeiriad yn mynd â'r aderyn at yr allor bres. Yno bydd yn troi'r gwddf i dorri pen yr aderyn i ffwrdd, ac yn llosgi'r pen. Wedyn bydd yn gwasgu gwaed yr aderyn ar un ochr i'r allor. Bydd yr offeiriad wedyn yn tynnu allan grombil yr aderyn a'i gynnwys, a'u taflu ar y twr lludw ar ochr ddwyreiniol yr allor. Ac wedyn gafael yn adenydd yr aderyn, a dechrau ei rwygo ond peidio ei dorri'n ddau. Wedyn llosgi'r cwbl ohono yn y tân ar yr allor. Mae'n offrwm i'w losgi'n llwyr, ac yn arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD. “Pan mae rhywun yn dod ag offrwm o rawn i'r ARGLWYDD, dylai ddefnyddio'r blawd gwenith gorau. Dylai dywallt olew olewydd arno ac wedyn rhoi thus arno. Wedyn mynd ag e at yr offeiriaid, disgynyddion Aaron. Bydd un ohonyn nhw yn cymryd llond llaw o'r blawd gwenith a'r olew, a'r thus i gyd, ac yn llosgi hwnnw fel ernes ar yr allor. Mae'n rhodd sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD. Mae'r offeiriaid, sef Aaron a'i ddisgynyddion, i gael y gweddill. Mae'n gysegredig am ei fod yn rhan o'r offrwm gafodd ei losgi i'r ARGLWYDD. “Pan dych chi'n cyflwyno offrwm o fara wedi ei bobi mewn popty pridd, defnyddiwch y blawd gwenith gorau. Dylai'r blawd gael ei gymysgu gydag olew olewydd i wneud bara heb furum ynddo neu fisgedi tenau wedi eu brwsio gyda'r olew. “Os ydy'r offrwm yn cael ei grasu ar radell, rhaid defnyddio'r blawd gwenith gorau wedi ei gymysgu gydag olew olewydd a dim burum. Wedyn ei dorri'n ddarnau a thywallt mwy o olew arno. Mae hwn hefyd yn offrwm o rawn. “Os ydy'r offrwm yn cael ei baratoi mewn padell rhaid defnyddio'r blawd gwenith gorau wedi ei goginio mewn olew olewydd. Gallwch ddod ag offrwm grawn i'r ARGLWYDD os ydy e wedi ei baratoi gyda'r cynhwysion yma. Rhowch e i'r offeiriad, a bydd e'n mynd ag e at yr allor. Bydd yr offeiriad yn cymryd peth ohono i'w losgi yn ernes ar yr allor — yn rhodd sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD. Mae'r offeiriaid, Aaron a'i ddisgynyddion, i gael y gweddill. Mae'n gysegredig am ei fod yn rhan o'r offrwm gafodd ei losgi i'r ARGLWYDD. “Does dim burum i gael ei ddefnyddio yn unrhyw offrwm o rawn sy'n cael ei gyflwyno i'r ARGLWYDD. Dydy burum na mêl i gael eu defnyddio mewn offrwm sydd i gael ei losgi i'r ARGLWYDD. Gallwch eu rhoi nhw fel offrwm o ffrwythau cyntaf y cynhaeaf i'r ARGLWYDD, ond ddylen nhw byth gael eu llosgi ar yr allor. “Mae halen yn cael ei ddefnyddio fel arwydd o ymrwymiad rhyngot ti a Duw. Felly paid anghofio rhoi halen ar dy offrwm o rawn. Rho halen ar bob offrwm wyt ti'n ei gyflwyno i Dduw. “Os wyt ti'n dod ag offrwm o rawn cyntaf y cynhaeaf i'r ARGLWYDD, defnyddia rawn aeddfed meddal wedi ei rostio neu ei falu'n flawd. Ychwanega olew olewydd ato, a rhoi thus arno — offrwm o rawn ydy e. Wedyn mae'r offeiriad i losgi peth ohono fel ernes — y grawn wedi ei wasgu, yr olew a'r thus. Offrwm i gael ei losgi i'r ARGLWYDD ydy e. “Pan mae rhywun yn cyflwyno offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD, os mai anifail o'r gyr o wartheg ydy e, gall fod yn wryw neu'n fenyw, ond rhaid iddo fod heb ddim byd o'i le arno. Rhaid i'r person sy'n ei gyflwyno osod ei law ar ben yr anifail ac yna ei ladd o flaen y fynedfa i'r Tabernacl. Wedyn bydd yr offeiriaid, disgynyddion Aaron, yn sblasio'r gwaed o gwmpas yr allor. Yna bydd y person sy'n cyflwyno'r offrwm yn rhoi'r darnau yma yn rhodd i'r ARGLWYDD: y braster sydd o gwmpas perfeddion yr anifail ac ar yr organau gwahanol, y ddwy aren a'r braster sydd arnyn nhw, a rhan isaf yr iau. Bydd yr offeiriaid yn llosgi'r rhain ar yr allor gyda'r offrwm sy'n cael ei losgi'n llwyr — yn rhodd sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD. “Os mai anifail o'r praidd o ddefaid a geifr sy'n cael ei offrymu i gydnabod daioni'r ARGLWYDD, gall fod yn wryw neu'n fenyw, ond heb ddim byd o'i le arno. Os mai oen ydy'r offrwm, rhaid ei gyflwyno i'r ARGLWYDD o flaen y fynedfa i'r Tabernacl. Rhaid i'r person sy'n ei gyflwyno osod ei law ar ben yr anifail, ac yna ei ladd o flaen y fynedfa. Wedyn bydd yr offeiriaid, disgynyddion Aaron, yn sblasio'r gwaed o gwmpas yr allor. Yna bydd y person sy'n ei gyflwyno yn rhoi'r brasder yn offrwm i'w losgi i'r ARGLWYDD: y brasder ar y gynffon lydan (sydd i gael ei thorri wrth yr asgwrn cefn), y brasder o gwmpas perfeddion yr anifail, a'r brasder ar yr organau gwahanol, y ddwy aren a'r brasder sydd arnyn nhw, a rhan isaf yr iau. Wedyn bydd offeiriad yn llosgi'r rhain ar yr allor. Dyma'r rhan o'r offrwm bwyd sy'n cael ei losgi i'r ARGLWYDD. “Os mai gafr sy'n cael ei offrymu, rhaid ei gyflwyno i'r ARGLWYDD o flaen y fynedfa i'r Tabernacl. Rhaid i'r person sy'n ei gyflwyno osod ei law ar ben yr anifail, ac yna ei ladd yno. Wedyn bydd offeiriad yn sblasio'r gwaed o gwmpas yr allor. Yna rhaid iddo gyflwyno'r canlynol yn rhodd i'r ARGLWYDD: Y brasder o gwmpas perfeddion yr anifail a'r brasder ar yr organau gwahanol, y ddwy aren a'r brasder sydd arnyn nhw, a rhan isaf yr iau. Wedyn bydd offeiriad yn llosgi'r rhain ar yr allor, yn offrwm bwyd sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD. “Yr ARGLWYDD piau'r brasder i gyd. Fydd y rheol yma byth yn newid, ble bynnag fyddwch chi'n byw: Peidiwch byth a bwyta unrhyw frasder na gwaed.” Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Dywed wrth bobl Israel: Dyma sydd i ddigwydd pan mae rhywun yn pechu'n ddamweiniol (trwy wneud rhywbeth mae'r ARGLWYDD wedi dweud wrthoch chi am beidio'i wneud): “Os ydy'r archoffeiriad wedi pechu mae'n effeithio ar bawb. Mae'n gwneud pawb yn euog. Felly rhaid iddo gyflwyno tarw ifanc sydd â dim byd o'i le arno yn offrwm puro i'w lanhau o'i bechod. Rhaid iddo fynd a'r tarw o flaen yr ARGLWYDD at y fynedfa i'r Tabernacl. Wedyn gosod ei law ar ben yr anifail cyn ei ladd yno. Yna bydd rhaid i'r archoffeiriad gymryd peth o waed y tarw i mewn i'r Tabernacl. Bydd yn rhoi ei fys yn y gwaed ac yn taenellu peth ohono saith gwaith i gyfeiriad y llen o flaen y cysegr. Wedyn bydd yn rhoi peth o'r gwaed ar gyrn allor yr arogldarth sydd yno o flaen yr ARGLWYDD. A bydd yn mynd â gweddill y gwaed a'i dywallt wrth droed yr allor i losgi offrymau sydd y tu allan i'r fynedfa i'r Tabernacl. “Bydd yr archoffeiriad wedyn yn cymryd brasder yr anifail i gyd: y brasder sydd o gwmpas perfeddion yr anifail ac ar yr organau gwahanol, y ddwy aren a'r brasder sydd arnyn nhw, a rhan isaf yr iau (Mae hyn yn union yr un fath â beth sy'n cael ei wneud i fustach yr offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD). Rhaid i'r archoffeiriad losgi'r brasder yma i gyd ar yr allor i losgi offrymau. [11-12] Ond mae i fynd â gweddill y tarw y tu allan i'r gwersyll — y croen, y cig, ei ben a'i goesau, y perfeddion, a'r coluddion. Mae'r rhain i gael eu llosgi ar dân coed wrth ymyl tomen ludw'r brasder. Lle sydd wedi cael ei gysegru i'r pwrpas hwnnw. *** “Pan mae pobl Israel yn pechu yn fy erbyn i heb sylweddoli eu bod wedi gwneud hynny, maen nhw i gyd yn euog. Unwaith maen nhw'n sylweddoli beth maen nhw wedi ei wneud, maen nhw i ddod â tarw ifanc yn offrwm i'w glanhau o'u pechod. Rhaid cyflwyno'r anifail o flaen y Tabernacl. Yno bydd arweinwyr y bobl yn gosod eu dwylo ar ben y tarw o flaen yr ARGLWYDD. Wedyn bydd y tarw yn cael ei ladd o flaen yr ARGLWYDD. Wedyn bydd rhaid i'r archoffeiriad gymryd peth o waed y tarw i mewn i'r Tabernacl. Bydd yn rhoi ei fys yn y gwaed ac yn taenellu peth ohono saith gwaith i gyfeiriad y llen. Wedyn bydd yn rhoi peth o'r gwaed ar gyrn allor yr arogldarth sydd o flaen yr ARGLWYDD yn y Tabernacl. Yna bydd yn mynd â gweddill y gwaed a'i dywallt wrth droed yr allor i losgi offrymau tu allan i'r fynedfa i'r Tabernacl. Bydd yr archoffeiriad wedyn yn cymryd brasder yr anifail i gyd a'i losgi ar yr allor. Wedyn mae i wneud yr un peth gyda'r tarw yma ag a wnaeth gyda'r tarw gafodd ei offrymu dros ei bechod ei hun. Bydd yr archoffeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhwng y bobl a Duw, a bydd Duw yn maddau iddyn nhw. Bydd e'n mynd â gweddill y tarw tu allan i'r gwersyll. Bydd e'n ei losgi yr un fath â'r tarw arall. Mae'n offrwm i lanhau pobl Israel o bechod. “Pan mae un o arweinwyr pobl Israel yn pechu yn fy erbyn i heb sylweddoli ei fod wedi gwneud hynny, mae e'n euog. Unwaith mae e'n sylweddoli beth mae wedi ei wneud, mae i fynd â bwch gafr heb ddim byd o'i le arno i'w aberthu. Rhaid iddo osod ei law ar ben y bwch gafr ac wedyn ei ladd o flaen yr ARGLWYDD (yn yr un lle ag mae'r offrwm i'w losgi yn cael ei ladd). Mae'n offrwm i'w lanhau o'i bechod. Wedyn mae offeiriad i gymryd peth o waed yr anifail a'i roi ar gyrn yr allor i losgi offrymau gyda'i fys. Ac wedyn bydd yn tywallt gweddill y gwaed wrth droed yr allor. Bydd yn llosgi'r brasder i gyd ar yr allor, fel roedd yn gwneud gyda brasder yr offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Felly bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhyngddo â Duw, a bydd Duw yn maddau iddo am ei bechod. “Os ydy person cyffredin yn pechu yn fy erbyn i heb sylweddoli ei fod wedi gwneud hynny, mae e'n euog. Unwaith mae e'n sylweddoli beth mae e wedi ei wneud, mae i fynd â gafr sydd â dim byd o'i le arni i'w haberthu dros ei bechod. Wedyn rhaid iddo osod ei law ar ben yr afr sydd i'w haberthu, ac wedyn ei lladd (yn yr un lle ag mae'r offrwm sydd i'w losgi yn cael ei ladd). Wedyn mae offeiriad i gymryd peth o waed yr anifail a'i roi ar gyrn yr allor i losgi offrymau gyda'i fys. Ac wedyn bydd yn tywallt gweddill y gwaed wrth droed yr allor. Bydd y person sy'n cyflwyno'r offrwm yn cymryd brasder yr anifail (fel mae'n gwneud gyda'r offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD). Wedyn bydd yr offeiriad yn llosgi'r brasder ar yr allor — yn rhodd sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD. Felly bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhyngddo â Duw, a bydd Duw yn maddau iddo am ei bechod. “Os ydy e'n dod â dafad yn offrwm dros ei bechod, rhaid iddi fod yn ddafad heb ddim byd o'i le arni. Wedyn rhaid iddo osod ei law ar ben y ddafad sydd i'w haberthu, ac yna ei lladd (yn yr un lle ag mae'r offrwm i'w losgi yn cael ei ladd). Wedyn mae offeiriad i gymryd peth o waed y ddafad a'i roi gyda'i fys ar gyrn yr allor i losgi offrymau. Ac wedyn bydd yn tywallt gweddill y gwaed wrth droed yr allor. Bydd y person sy'n cyflwyno'r offrwm yn cymryd brasder y ddafad (fel mae'n gwneud gyda'r offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD). Ac wedyn bydd yr offeiriad yn llosgi'r brasder ar yr allor gyda'r offrymau sydd i'w llosgi i'r ARGLWYDD. Felly bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhyngddo â Duw, a bydd Duw yn maddau iddo am ei bechod. “Pan mae rhywun yn gwrthod rhoi tystiolaeth mewn llys (ac yn gwybod neu wedi gweld beth ddigwyddodd), mae e'n euog, a bydd yn cael ei gosbi. “Pan mae rhywun wedi cyffwrdd rhywbeth sy'n aflan trwy ddamwain (fel corff anifail neu greadur arall sy'n aflan), mae e'n euog ac mae e'i hun yn aflan. “Pan mae rhywun wedi cyffwrdd trwy ddamwain unrhyw beth aflan sy'n dod o'r corff dynol, mae e'n euog y funud mae e'n sylweddoli beth sydd wedi digwydd. “Pan mae rhywun yn fyrbwyll ac yn addo ar lw ei fod yn mynd i wneud rhywbeth — da neu ddrwg — mae e'n euog y funud mae e'n sylweddoli beth mae e wedi ei wneud. “Pan mae rhywun yn sylweddoli ei fod yn euog o wneud un o'r pethau yma, rhaid iddo gyffesu beth mae wedi ei wneud. Wedyn rhaid iddo dalu am y drwg mae wedi ei wneud drwy ddod â dafad neu afr i'w gyflwyno i'r ARGLWYDD yn offrwm i'w lanhau o'i bechod. Bydd offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhyngddo â Duw, a bydd Duw yn maddau iddo am ei bechod. “Os ydy rhywun ddim yn gallu fforddio dafad neu afr, dylai ddod â dwy durtur neu ddwy golomen ifanc — un yn offrwm i lanhau o bechod a'r llall yn offrwm i'w losgi'n llwyr. Rhaid dod â nhw i'r offeiriad. Wedyn bydd yr offeiriad yn cyflwyno un ohonyn nhw yn offrwm i lanhau o bechod. Bydd yn troi ei wddf ond heb dorri ei ben i ffwrdd. Wedyn bydd yn taenellu peth o waed yr aderyn ar ochr yr allor. Bydd gweddill y gwaed yn cael ei wasgu allan wrth droed yr allor. Wedyn bydd yr ail aderyn yn cael ei gyflwyno yn offrwm i'w losgi'n llwyr. Bydd yr offeiriad yn dilyn y ddefod arferol wrth ei gyflwyno. Bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhwng y person sy'n cyflwyno'r offrwm â Duw, a bydd Duw yn maddau iddo am ei bechod. “Os ydy rhywun ddim yn gallu fforddio dwy durtur neu ddwy golomen ifanc, dylai ddod â cilogram o'r blawd gwenith gorau yn offrwm i'w lanhau o'i bechod. Rhaid peidio rhoi olew olewydd na thus arno am mai offrwm i'w lanhau o'i bechod ydy e. Dylai roi'r blawd i'r offeiriad, a bydd yr offeiriad yn cymryd llond llaw ohono i'w losgi fel ernes ar yr allor gyda'r offrymau eraill. Mae'n offrwm i lanhau o bechod. Bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhwng y person sy'n cyflwyno'r offrwm â Duw, pa un bynnag o'r pethau hyn mae e wedi ei wneud o'i le, a bydd Duw yn maddau iddo. Mae'r offeiriad yn cael gweddill y blawd, fel gyda'r offrwm o rawn.” Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Pan mae rhywun yn pechu'n ddamweiniol ac yn torri'r rheolau am y pethau sanctaidd sydd i'w cyflwyno i'r ARGLWYDD rhaid iddo ddod ag offrwm i gyfaddef bai. Yr offrwm fydd hwrdd sydd â dim byd o'i le arno, neu gall dalu'r pris llawn am hwrdd gydag arian swyddogol y cysegr. Mae e hefyd i dalu'r ddyled yn ôl ac ychwanegu 20% a'i roi i'r offeiriad. Felly bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhwng y person sy'n cyflwyno'r hwrdd â Duw, a bydd Duw yn maddau iddo am ei bechod. “Os ydy rhywun yn pechu yn erbyn yr ARGLWYDD heb sylweddoli ei fod wedi gwneud hynny, mae'n euog, a bydd yn cael ei gosbi. Rhaid i'r person hwnnw ddod â hwrdd heb ddim byd o'i le arno, neu gall dalu beth ydy gwerth yr hwrdd, yn offrwm i gyfaddef bai. Bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhwng y person sy'n cyflwyno'r hwrdd â Duw, a bydd Duw yn maddau iddo am ei gamgymeriad. Mae'n offrwm i gyfaddef bai. Roedd y person yn euog o flaen yr ARGLWYDD.” Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Pan mae rhywun yn troseddu yn fy erbyn i yr ARGLWYDD trwy dwyllo person arall, dyma sydd raid ei wneud: “Os ydy rhywun yn gwrthod rhoi rhywbeth sydd yn ei ofal yn ôl. Neu os ydy e'n gwrthod talu benthyciad yn ôl. Neu os ydy e wedi dwyn rhywbeth. Neu os ydy e wedi gwneud elw ar draul rhywun arall. Neu os ydy e wedi dod o hyd i rywbeth ac yn honni nad ydy'r peth hwnnw ganddo. Pan mae person yn dweud celwydd am unrhyw un o'r pethau yma, mae e'n pechu. Os ydy e wedi ei gael yn euog o wneud unrhyw un o'r pethau yma, rhaid iddo dalu'n ôl beth bynnag oedd e wedi ei ddwyn. Rhaid iddo dalu'r swm yn ôl yn llawn, ac ychwanegu 20%. Mae i'w dalu i'r person gafodd ei dwyllo ganddo pan mae wedi cael ei ddedfrydu'n euog o'r drosedd. Wedyn rhaid iddo fynd ag offrwm i'r ARGLWYDD i gyfaddef ei fai. Yr offrwm fydd hwrdd sydd â dim byd o'i le arno; neu gall dalu beth ydy gwerth yr hwrdd gyda arian swyddogol y cysegr. Bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhyngddo â Duw, a bydd Duw yn maddau iddo am beth bynnag wnaeth e o'i le.” Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Dywed wrth Aaron a'i ddisgynyddion mai dyma'r drefn gyda'r offrwm sydd i'w losgi: Mae'r offrwm i aros ar yr allor drwy'r nos tan y bore wedyn. Rhaid cadw'r tân ar yr allor yn llosgi. Mae'r offeiriad i wisgo ei wisg o liain, a'i ddillad isaf lliain. Wedyn mae i gasglu'r lludw sydd ar ôl wedi i'r offrwm gael ei losgi, a'i gosod nhw'n domen wrth ymyl yr allor. Wedyn rhaid iddo newid ei ddillad cyn mynd â'r lludw allan i le tu allan i'r gwersyll sydd wedi cael ei gysegru i'r pwrpas hwnnw. Rhaid cadw'r tân ar yr allor yn llosgi. Dydy e byth i fod i ddiffodd. Rhaid i offeiriad roi coed arno bob bore. Wedyn mae'n gosod yr offrwm sydd i'w losgi'n llwyr arno, ac yn llosgi brasder yr offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Rhaid cadw'r tân ar yr allor yn llosgi drwy'r amser. Dydy e byth i fod i ddiffodd. “Dyma'r drefn gyda'r offrwm o rawn: Rhaid i'r offeiriaid, disgynyddion Aaron, ei gyflwyno i'r ARGLWYDD o flaen yr allor. Maen nhw i gymryd llond dwrn o flawd gwenith ac olew yr offrwm, a'r thus i gyd, a'i losgi fel ernes ar yr allor — yn arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD ac yn ei atgoffa o'i ymrwymiad. Bydd yr offeiriaid, Aaron a'i ddisgynyddion, yn bwyta'r gweddill ohono. Rhaid ei fwyta heb furum mewn lle sydd wedi ei gysegru, sef iard y Tabernacl. Mae'r bara yma yn gysegredig iawn, fel yr offrwm i lanhau o bechod a'r offrwm i gyfaddef bai. Mae'r bara i gael ei bobi heb furum. Dw i'n ei roi i'r offeiriaid. Mae'n rhan o'r hyn sy'n cael ei gyflwyno i mi ar yr allor. Dim ond y dynion sy'n ddisgynyddion i Aaron sy'n cael ei fwyta. Dyma eu siâr nhw bob amser. Rhaid i unrhyw un sy'n cyffwrdd y bara fod wedi ei gysegru.” Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Dyma'r offrwm mae offeiriad i'w gyflwyno i'r ARGLWYDD pan mae'n cael ei ordeinio: mae'r un fath a'r offrwm sy'n cael ei wneud fore a nos bob dydd, sef hanner cilogram o'r blawd gwenith gorau wedi ei gymysgu gydag olew olewydd a'i grasu ar radell. Rhaid iddo fod wedi ei socian mewn olew, ei dorri yn ddarnau, a'i gyflwyno yn offrwm sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD. Yr Archoffeiriad sydd i'w baratoi. Siâr yr ARGLWYDD ydy hwn bob amser, ac mae i gael ei losgi'n llwyr ar yr allor. Mae'r offrwm grawn sy'n cael ei roi gan offeiriad i gael ei losgi'n llwyr. Dydy e ddim i gael ei fwyta.” Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Dywed wrth Aaron a'i ddisgynyddion mai dyma'r drefn gyda'r offrwm i lanhau o bechod: Mae'r offrwm i lanhau o bechod i gael ei ladd o flaen yr ARGLWYDD yn yr un lle ag mae'r offrwm i'w losgi yn cael ei ladd. Mae'n gysegredig iawn. Yr offeiriad sy'n cyflwyno'r aberth sydd i'w fwyta. Rhaid ei fwyta mewn lle sydd wedi ei gysegru, sef yn iard y Tabernacl. Rhaid i unrhyw un sy'n cyffwrdd y cig fod wedi ei gysegru. Os ydy gwaed yr aberth yn sblasio ar wisg yr offeiriad, rhaid golchi'r dilledyn mewn lle sydd wedi ei gysegru. Rhaid i unrhyw lestr pridd gafodd ei ddefnyddio i ferwi'r cig gael ei dorri wedyn. Ond os ydy'r cig yn cael ei ferwi mewn llestr pres, rhaid ei sgwrio ac wedyn ei rinsio mewn dŵr. Dim ond yr offeiriaid, sef y dynion, sy'n cael ei fwyta. Mae'n gysegredig iawn. Ond os ydy peth o'r gwaed wedi cael ei gymryd i'r cysegr yn y Tabernacl i wneud pethau'n iawn rhwng yr addolwr a Duw, dydy'r offrwm hwnnw dros bechod ddim i gael ei fwyta. Rhaid i hwnnw gael ei losgi'n llwyr. “Dyma'r drefn gyda'r offrwm i gyfaddef bai (sy'n gysegredig iawn): Rhaid i'r offrwm i gyfaddef bai gael ei ladd yn yr un lle ag mae'r offrwm i'w losgi'n llwyr yn cael ei ladd. Mae'r gwaed i gael ei sblasio o gwmpas yr allor. Rhaid cyflwyno brasder yr anifail i gyd: y brasder ar y gynffon lydan, y brasder o gwmpas perfeddion yr anifail, y ddwy aren a'r brasder sydd arnyn nhw, a rhan isaf yr iau. Bydd offeiriad yn llosgi'r cwbl ar yr allor yn offrwm i'r ARGLWYDD. Mae'n offrwm i gyfaddef bai. Dim ond y dynion, sef yr offeiriaid, sy'n cael ei fwyta. Rhaid ei fwyta mewn lle sydd wedi ei gysegru. Mae'n gysegredig iawn. “Mae'r drefn yr un fath gyda'r offrwm i gyfaddef bai a'r offrwm i lanhau o bechod. Yr offeiriad sy'n gwneud pethau'n iawn gyda'r offrwm sydd i gael y cig. Yr offeiriad sy'n cyflwyno'r offrwm i'w losgi ar ran unigolyn sy'n cael cadw croen yr anifail. A'r un fath gyda'r offrwm o rawn. Yr offeiriad sy'n ei gyflwyno sy'n cael cadw'r offrwm sydd wedi ei baratoi mewn popty, padell neu ar radell. Ond mae'r offeiriaid, disgynyddion Aaron, i rannu pob offrwm o rawn sydd heb ei goginio, p'run ai wedi ei gymysgu gydag olew olewydd neu'n sych. “Dyma'r drefn gyda'r offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD: Os ydy rhywun yn ei gyflwyno i ddweud diolch am rywbeth, rhaid cyflwyno offrwm gydag e sydd wedi ei wneud o'r blawd gwenith gorau. Bara heb furum ynddo wedi ei gymysgu gydag olew olewydd, bisgedi tenau wedi eu brwsio gyda'r olew, a bara wedi ei wneud o'r blawd gwenith gorau ac wedi ei socian mewn olew. Wrth gyflwyno'r offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD, rhaid dod â bara wedi ei wneud gyda burum hefyd. Rhaid rhoi un dorth o bob math o offrwm o rawn yn gyfraniad i'r offeiriad sy'n sblasio gwaed yr offrwm o gwmpas yr allor. Wedyn rhaid i gig yr aberth i ddweud diolch gael ei fwyta ar y diwrnod mae'n cael ei offrymu. Does dim ohono i gael ei gadw tan y bore wedyn. Ond os ydy'r aberth yn cael ei gyflwyno am fod rhywun yn gwneud addewid neu'n rhoi rhywbeth o'i wirfodd i'r ARGLWYDD, mae'n iawn i gadw peth ohono a'i fwyta y diwrnod wedyn. Ond os oes unrhyw gig dros ben ar ôl hynny rhaid ei losgi y diwrnod wedyn. Ddylai cig yr offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD ddim cael ei fwyta fwy na diwrnod ar ôl ei gyflwyno. Os ydy hynny'n digwydd fydd y person sydd wedi cyflwyno'r offrwm ddim yn cael ei dderbyn. Bydd yr offrwm wedi ei sbwylio, a bydd unrhyw un sydd wedi ei fwyta yn cael ei gyfri'n euog. “Os ydy'r cig wedi cyffwrdd unrhyw beth sy'n aflan dydy e ddim i gael ei fwyta. Rhaid ei losgi. Ond fel arall mae unrhyw un sydd yn lân yn seremonïol yn gallu ei fwyta. Os ydy rhywun yn dal yn aflan ac yn bwyta cig yr offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD, bydd y person hwnnw yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw. Pan mae rhywun wedi cyffwrdd unrhyw beth aflan sy'n dod o'r corff dynol, neu gorff anifail neu rhyw greadur arall, ac wedyn yn bwyta cig yr offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD, bydd y person hwnnw yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw.” Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Dywed wrth bobl Israel: Rhaid i chi beidio bwyta brasder unrhyw anifail — gwartheg, defaid na geifr. Os oes anifail wedi marw neu wedi cael ei ladd gan anifail gwyllt gallwch ddefnyddio'r brasder i wneud unrhyw beth, ond rhaid i chi beidio ei fwyta. Os oes unrhyw un yn bwyta braster anifail sydd wedi cael ei offrymu i'r ARGLWYDD, bydd y person hwnnw yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw. Peidiwch bwyta gwaed unrhyw aderyn neu anifail, ble bynnag dych chi'n byw. Bydd unrhyw berson sy'n bwyta gwaed yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw.” Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Dywed wrth bobl Israel: Pan mae rhywun yn cyflwyno offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD rhaid i'r person ei hun ddod â'r offrwm i'r ARGLWYDD. Mae i ddod â'r brasder a'r frest. Mae'r frest i gael ei chodi'n uchel a'i chyflwyno'n offrwm i'w chwifio o flaen yr ARGLWYDD. Bydd offeiriad yn llosgi'r brasder ar yr allor, ond mae'r offeiriaid, disgynyddion Aaron, yn cael cadw'r frest. [32-33] Rwyt i roi darn uchaf y goes ôl dde i'r offeiriad sy'n cyflwyno gwaed a brasder yr aberth. Mae e i gael cadw darn hwnnw. *** Dw i'n cymryd y frest sydd i'w chwifio a darn uchaf y goes ôl dde gan bobl Israel. Dyna'r rhannau o'r offrwm hwn mae pobl Israel i'w rhoi bob amser i Aaron yr offeiriad a'i ddisgynyddion.” Ers i Moses eu cysegru nhw i wasanaethu fel offeiriaid i'r ARGLWYDD, dyma'r rhannau o'r offrymau oedd i gael eu rhoi i Aaron a'i feibion. Dyma beth ddwedodd yr ARGLWYDD oedd i gael ei roi iddyn nhw, pan gawson nhw eu heneinio gan Moses. Dyma beth mae pobl Israel i fod i'w roi iddyn nhw bob amser. Felly dyma'r drefn sydd i'w chadw gyda'r offrwm i'w losgi, yr offrwm o rawn, yr offrwm i lanhau o bechod, yr offrwm i gyfaddef bai, yr offrwm ordeinio, a'r offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Dyma wnaeth yr ARGLWYDD ei orchymyn i Moses ar fynydd Sinai pan oedd pobl Israel yn yr anialwch. Dyma'r offrymau oedd pobl Israel i'w cyflwyno iddo. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Galw Aaron a'i feibion. Cymer eu gwisgoedd, yr olew eneinio, y tarw ifanc i'w offrymu dros eu pechod, y ddau hwrdd, a basged o fara wedi ei bobi heb furum. Wedyn galw bobl Israel i gyd at ei gilydd o flaen y fynedfa i Babell Presenoldeb Duw.” A dyma Moses yn gwneud fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho. Pan oedd pawb yno dyma Moses yn cyhoeddi, “Yr ARGLWYDD sydd wedi gorchymyn gwneud hyn.” A dyma fe'n galw Aaron a'i feibion i ddod ymlaen. Dyma fe'n eu golchi nhw gyda dŵr. Wedyn dyma fe'n rhoi crys am Aaron, a'i rwymo am ei ganol gyda sash. Yna rhoi mantell yr offeiriad amdano, a'r effod dros ei ysgwyddau, a'i glymu gyda strap wedi ei blethu. Wedyn dyma fe'n gosod y boced oedd i fynd dros y frest arno, gyda'r Wrim a'r Thwmim ynddi. Ac yn olaf dyma fe'n rhoi twrban ar ben Aaron. Ar flaen y twrban gosododd fedaliwn aur bach yn symbol ei fod wedi ei gysegru i wasanaethu Duw. Gwnaeth Moses bopeth fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo. Yna nesaf, dyma Moses yn cymryd yr olew eneinio a'i daenellu ar y Tabernacl a phopeth ynddo i'w cysegru nhw. Dyma fe'n taenellu peth ar yr allor saith gwaith. Taenellu peth ar yr offer i gyd, a'r ddisgyl bres fawr a'i stand. Ac wedyn dyma fe'n tywallt peth o'r olew ar ben Aaron, i'w gysegru i waith yr ARGLWYDD. Yna dyma Moses yn gwisgo meibion Aaron yn eu crysau, rhwymo sash am eu canol, a rhoi cap ar eu pennau. Gwnaeth Moses bopeth fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo. Wedyn dyma Moses yn cymryd y tarw ifanc oedd i gael ei offrymu i'w glanhau o'u pechodau, a dyma Aaron a'i feibion yn gosod eu dwylo ar ben yr anifail. Ar ôl i'r tarw gael ei ladd dyma Moses yn cymryd peth o'r gwaed a'i roi gyda'i fys ar gyrn yr allor i'w phuro hi. Wedyn dyma fe'n tywallt gweddill y gwaed wrth droed yr allor. Dyma sut wnaeth e gysegru'r allor, a'i gwneud hi'n iawn i aberthu arni. Yna cymerodd y brasder oedd o gwmpas perfeddion y tarw, rhan isaf yr iau, a'r ddwy aren a'r brasder sydd arnyn nhw, a'i llosgi nhw ar yr allor. Wedyn dyma fe'n cymryd gweddill y tarw, ei groen, y cig a'r coluddion, a'i losgi tu allan i'r gwersyll, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud. Nesaf, dyma Moses yn cymryd yr hwrdd oedd i'w gyflwyno'n offrwm i'w losgi, a dyma Aaron a'i feibion yn gosod eu dwylo ar ben yr anifail. Ar ôl i'r hwrdd gael ei ladd, dyma Moses yn sblasio'r gwaed o gwmpas yr allor. Roedd yr hwrdd wedyn yn cael ei dorri'n ddarnau, cyn i Moses losgi'r pen a'r darnau a'i frasder. Yna ar ôl golchi'r coluddion a'r coesau ôl gyda dŵr, dyma Moses yn llosgi'r hwrdd cyfan ar yr allor. Offrwm i'w losgi oedd e, ac yn arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD. Gwnaeth Moses bopeth fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo. Wedyn dyma Moses yn cymryd yr ail hwrdd, sef hwrdd yr ordeinio, a dyma Aaron a'i feibion yn gosod eu dwylo ar ben yr anifail. Ar ôl i'r hwrdd gael ei ladd, dyma Moses yn rhoi peth o'r gwaed ar glust dde Aaron, bawd ei law dde, a bawd ei droed dde. Yna dyma fe'n gwneud yr un peth i feibion Aaron, cyn sblasio gweddill y gwaed o gwmpas yr allor. Yna dyma fe'n cymryd y brasder — sef brasder y gynffon, y brasder o gwmpas y perfeddion, rhan isaf yr iau, a'r ddwy aren a'r brasder sydd arnyn nhw — a darn uchaf y goes ôl dde. Yna cymerodd Moses o'r fasged beth o'r bara wedi ei wneud gyda'r blawd gwenith gorau — un dorth o fara heb furum ynddo, un dorth wedi ei socian mewn olew olewydd, ac un o'r bisgedi. Yna eu gosod nhw ar ben y brasder a darn uchaf y goes ôl dde, a rhoi'r cwbl yn nwylo Aaron a'i feibion. A dyma nhw'n ei godi'n uchel a'i gyflwyno'n offrwm i'w chwifio o flaen yr ARGLWYDD. Wedyn dyma Moses yn cymryd y cwbl yn ôl ac yn ei losgi ar yr allor gyda'r offrwm sydd i'w losgi'n llwyr. Roedd hwn yn offrwm ordeinio, ac yn arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD. Yna dyma Moses yn codi'r frest yn uchel a'i chyflwyno yn offrwm i'w chwifio o flaen yr ARGLWYDD. Roedd Moses yn cael cadw'r rhan yma o hwrdd yr ordeinio, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho. Yna'n olaf dyma Moses yn cymryd peth o'r olew eneinio a peth o'r gwaed oedd ar yr allor a'i daenellu ar Aaron a'i feibion a'u gwisgoedd. Dyna sut wnaeth e gysegru Aaron a'i feibion a'u gwisgoedd i wasanaeth yr ARGLWYDD. A dyma Moses yn dweud wrth Aaron a'i feibion, “Rhaid i chi goginio cig yr hwrdd yma wrth y fynedfa i'r Tabernacl. Yna ei fwyta gyda'r bara sydd yn y fasged sy'n dal yr offrymau ordeinio. Mae Duw wedi dweud wrtho i mai dim ond chi sydd i fod i'w fwyta. Wedyn rhaid i chi losgi'r cig ar bara sydd ar ôl. Rhaid i chi aros yma wrth y fynedfa i'r Tabernacl am saith diwrnod, nes bydd cyfnod y seremoni ordeinio drosodd. Dŷn ni wedi gwneud popeth heddiw yn union fel mae'r ARGLWYDD wedi dweud, i wneud pethau'n iawn rhyngoch chi a fe. Nawr, mae'r ARGLWYDD wedi dweud wrtho i fod rhaid i chi aros wrth y fynedfa i'r Tabernacl nos a dydd am saith diwrnod, neu byddwch chi'n marw.” A dyma Aaron a'i feibion yn gwneud popeth oedd yr ARGLWYDD wedi ei orchymyn drwy Moses. Wythnos wedyn, pan oedd y seremoni ordeinio drosodd, dyma Moses yn galw Aaron a'i feibion ac arweinwyr Israel at ei gilydd. A dyma fe'n dweud wrth Aaron, “Cymer fustach ifanc a hwrdd sydd â dim byd o'i le arnyn nhw. Offryma'r bustach i'r ARGLWYDD fel offrwm i lanhau o bechod, a'r hwrdd fel offrwm i'w losgi.” Yna dywed wrth bobl Israel, “Cymerwch fwch gafr yn offrwm i lanhau o bechod, llo blwydd oed ac oen heb ddim byd o'i le arnyn nhw yn offrwm i'w losgi, a bustach a hwrdd yn offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Mae'r rhain i gael eu haberthu gydag offrwm o rawn wedi ei gymysgu gydag olew olewydd. Gwnewch hyn am fod yr ARGLWYDD yn mynd i ddod i'r golwg heddiw.” Felly dyma nhw'n dod â'r cwbl oedd Moses wedi ei ddweud o flaen y Tabernacl. A dyma'r bobl i gyd yn sefyll yno o flaen yr ARGLWYDD. A dyma Moses yn dweud “Yr ARGLWYDD sydd wedi dweud wrthoch chi am wneud hyn, i chi gael gweld ei ysblander e.” Wedyn dyma Moses yn dweud wrth Aaron, “Dos at yr allor a mynd trwy'r ddefod o gyflwyno'r offrwm i lanhau o bechod a'r offrwm i'w losgi. Cyflwyna nhw i wneud pethau'n iawn rhyngot ti â Duw a rhwng dy bobl â Duw. Gwna yn union beth mae'r ARGLWYDD wedi dweud.” Felly dyma Aaron yn mynd at yr allor ac yn lladd y llo yn offrwm dros ei bechod ei hun. Wedyn dyma ei feibion yn cyflwyno'r gwaed iddo. Dyma Aaron yn rhoi ei fys yn y gwaed, ac yn ei roi ar gyrn yr allor. Wedyn dyma fe'n tywallt gweddill y gwaed wrth droed yr allor. Yna llosgi'r brasder, yr arennau a rhan isaf yr iau ar yr allor, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses. Wedyn dyma fe'n llosgi'r croen a'r cig tu allan i'r gwersyll. Dyma fe'n lladd yr offrwm i'w losgi nesaf. A dyma'i feibion yn cyflwyno'r gwaed iddo, a dyma Aaron yn ei sblasio o gwmpas yr allor. Roedden nhw wedi cyflwyno'r anifail iddo bob yn ddarn, gan gynnwys y pen, ac roedd wedi llosgi'r cwbl ar yr allor. Dyma fe'n golchi'r coluddion a'r coesau ôl, ac wedyn eu llosgi nhw ar ben gweddill yr offrwm ar yr allor. Wedyn dyma Aaron yn cyflwyno offrymau'r bobl. Cymerodd y bwch gafr oedd yn offrwm i lanhau'r bobl o'u pechod, ei ladd, a mynd trwy'r un ddefod o buro ac o'r blaen. Wedyn dyma fe'n cyflwyno'r offrwm i'w losgi, gan ddilyn y ddefod arferol wrth wneud hynny. Wedyn yr offrwm o rawn. Dyma fe'n cymryd llond ei law ohono a'i losgi ar yr allor gyda'r offrwm oedd i'w losgi yn y bore. Ar ôl hynny dyma fe'n lladd y bustach a'r hwrdd yn offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Dyma feibion Aaron yn cyflwyno'r gwaed iddo, a dyma fe'n sblasio'r gwaed o gwmpas yr allor. Wedyn dyma fe'n cymryd brasder y bustach a'r hwrdd — brasder y gynffon, y brasder o gwmpas y perfeddion, y ddwy aren a'r brasder sydd arnyn nhw, a rhan isaf yr iau. A dyma fe'n gosod y rhain ar ben y brestiau, ac yna llosgi'r brasder i gyd ar yr allor. Wedyn dyma Aaron yn codi'r brestiau a rhan uchaf y goes ôl, a'u cyflwyno yn offrwm i'w chwifio o flaen yr ARGLWYDD. Gwnaeth yn union fel roedd Moses wedi dweud. Wedyn dyma Aaron yn troi at y bobl ac yn codi ei ddwylo a'u bendithio nhw. Ar ôl gorffen cyflwyno'r offrymau i gyd dyma fe'n dod i lawr o'r allor, ac yna mynd gyda Moses i mewn i Babell Presenoldeb Duw. Pan ddaethon nhw allan dyma nhw'n bendithio'r bobl, a dyma'r bobl i gyd yn gweld ysblander yr ARGLWYDD. Yna dyma'r ARGLWYDD yn anfon tân i losgi popeth oedd ar yr allor. Pan welodd pawb hyn dyma nhw'n gweiddi'n llawen ac yn plygu'n isel a'u hwynebau ar lawr. Dyma feibion Aaron, Nadab ag Abihw, yn gwneud rhywbeth wnaeth yr ARGLWYDD ddim ei orchymyn. Dyma'r ddau yn cymryd padell dân bob un, rhoi tân arnyn nhw, a llosgi arogldarth. Ond roedden nhw wedi defnyddio tân ddaeth o rywle arall o flaen yr ARGLWYDD. A dyma'r ARGLWYDD yn anfon tân i'w llosgi nhw, a buon nhw farw yno o flaen yr ARGLWYDD. A dyma Moses yn dweud wrth Aaron, “Dyma oedd yr ARGLWYDD yn ei olygu pan ddwedodd e: ‘Dw i am i'r offeiriaid ddangos fy mod i'n sanctaidd, a dw i am i'r bobl weld fy ysblander i.’” Roedd Aaron yn methu dweud gair. Yna dyma Moses yn anfon am Mishael ac Eltsaffan (meibion Wssiel oedd yn ewythr i Aaron). A dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Ewch â dau gorff eich perthnasau allan o'r gwersyll, yn bell oddi wrth y fynedfa i'r Tabernacl.” Felly dyma nhw'n llusgo'r ddau allan gerfydd eu dillad, fel roedd Moses wedi dweud. A dyma Moses yn dweud wrth Aaron a'i ddau fab arall, Eleasar ac Ithamar, “Peidiwch galaru drwy adael i'ch gwallt hongian yn flêr, a drwy rwygo eich dillad. Os gwnewch chi byddwch chi'n marw, a bydd yr ARGLWYDD yn ddig gyda'r bobl i gyd. Ond bydd pawb arall o bobl Israel yn galaru am y dynion wnaeth yr ARGLWYDD eu lladd gyda'r tân. Rhaid i chi beidio mynd allan o'r Tabernacl rhag i chi farw, am eich bod wedi cael eich eneinio ag olew i wasanaethu'r ARGLWYDD.” A dyma nhw'n gwneud fel roedd Moses yn dweud. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Aaron: “Rhaid i ti a dy ddisgynyddion beidio yfed gwin neu ddiod feddwol cyn mynd i mewn i'r Tabernacl, rhag i chi farw. Fydd y rheol yma byth yn newid. Rhaid i chi fedru gwahaniaethu rhwng beth sy'n gysegredig a beth sy'n gyffredin, a rhwng beth sy'n aflan ac yn lân. A rhaid i chi ddysgu i bobl Israel y rheolau mae'r ARGLWYDD wedi eu rhoi iddyn nhw drwy Moses.” Wedyn dyma Moses yn siarad gydag Aaron a'r ddau fab oedd ganddo ar ôl, sef Eleasar ac Ithamar: “Cymerwch yr offrwm grawn sydd ar ôl, a bwyta'r hyn sydd heb furum ynddo wrth ymyl yr allor. Mae'n gysegredig iawn. Rhaid ei fwyta mewn lle sydd wedi ei gysegru. Eich siâr chi a'ch disgynyddion ydy e. Dyna mae'r ARGLWYDD wedi ei ddweud. Ond gyda'r frest sy'n cael ei chwifio a darn uchaf y goes ôl dde sy'n cael ei rhoi i chi, cewch chi a'ch meibion a'ch merched ei fwyta yn unrhyw le sydd wedi cael ei gysegru. Y darnau yma ydy'ch siâr chi o'r offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Dyma'r darnau sy'n cael eu rhoi, gyda'r brasder sydd i'w losgi, yn offrwm i'w chwifio o flaen yr ARGLWYDD. Dyma'ch siâr chi a'ch plant bob amser. Dyna mae'r ARGLWYDD wedi ei ddweud.” Buodd Moses yn edrych ym mhobman am fwch gafr yr offrwm i lanhau o bechod, ond darganfyddodd ei fod wedi cael ei losgi. Roedd e wedi digio gydag Eleasar ac Ithamar (y ddau fab oedd gan Aaron ar ôl). “Pam wnaethoch chi ddim bwyta'r offrwm i lanhau o bechod yn y lle sydd wedi ei gysegru? Mae'r offrwm yn gysegredig iawn, ac mae Duw wedi ei roi i chi i dalu am ddrygioni'r bobl ac i wneud pethau'n iawn rhyngddyn nhw â'r ARGLWYDD. Wnaeth y gwaed ddim cael ei gymryd i'r Lle Mwyaf Sanctaidd, felly dylech fod wedi ei fwyta yn y cysegr fel y dwedais i.” Ond dyma Aaron yn ateb Moses, “Meddylia. Heddiw roedd dau o'm meibion i wedi offrymu'r offrwm i lanhau o bechod a'r offrwm sydd i'w losgi, ac eto meddylia beth sydd wedi digwydd! Fyddai'r ARGLWYDD wedi bod yn hapus petawn i wedi bwyta'r offrwm i lanhau o bechod heddiw?” Ar ôl clywed esboniad Aaron, roedd Moses yn fodlon. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses ac Aaron, “Dywed wrth bobl Israel, ‘Dyma pa anifeiliaid gewch chi fwyta: Unrhyw anifail sydd â charn fforchog (wedi ei rhannu'n ddwy), ac sy'n cnoi cil. [4-6] Ond peidiwch bwyta'r anifeiliaid sydd ddim ond yn cnoi cil neu sydd ond â charn fforchog. Mae unrhyw anifail sy'n cnoi cil ond heb garn fforchog i'w ystyried yn aflan — er enghraifft y camel, broch y creigiau, a'r ysgyfarnog. *** *** A peidiwch bwyta moch — mae ganddyn nhw garn fforchog, ond dŷn nhw ddim yn cnoi cil. Felly maen nhw hefyd i'w hystyried yn aflan. Peidiwch bwyta cig yr anifeiliaid yma. Peidiwch hyd yn oed cyffwrdd y carcas. Maen nhw i'w hystyried yn aflan. “‘Cewch fwyta unrhyw greaduriaid sy'n byw yn y dŵr sydd ag esgyll a cennau arnyn nhw hefyd. Sdim ots os ydyn nhw'n byw yn y môr neu mewn afon. [10-12] Ond mae unrhyw greaduriaid sy'n heigio yn y dŵr ag sydd heb esgyll a cennau arnyn nhw i'w hystyried yn aflan. Peidiwch bwyta eu cig nhw na cyffwrdd un sydd wedi marw. *** *** [13-19] “‘Dyma restr o adar sydd i'w hystyried yn aflan, ac felly ddim i gael eu bwyta: gwahanol fathau o fwltur, barcud a boda, unrhyw fath o frân, gwahanol fathau o dylluan, pob math o hebog, y fulfran, gwalch y pysgod, y storc, unrhyw fath o grëyr, y copog, a'r ystlum hefyd. *** *** *** *** *** *** [20-23] “‘Mae unrhyw bryfed sy'n hedfan ac yn gwibio o gwmpas i'w hystyried yn aflan. Ond cewch fwyta'r pryfed hyn (sydd â choesau cymalog ac yn gallu neidio): pob math o locust, ceiliog rhedyn, cricedyn a sioncyn y gwair. *** *** *** [24-28] “‘Peidiwch cyffwrdd corff marw unrhyw anifail sydd â charn fforchog ond sydd ddim yn cnoi cil. Hefyd anifeiliaid sydd â phawennau. Byddan nhw'n eich gwneud chi'n aflan am weddill y dydd. A peidiwch pigo'r corff i fyny. Os gwnewch chi, rhaid i chi olchi eich dillad, a byddwch yn aflan am weddill y dydd. *** *** *** *** [29-32] “‘Mae'r creaduriaid yma i'w hystyried yn aflan iawn: y llygoden fawr, llygoden a madfall o unrhyw fath. Bydd rhywun sy'n cyffwrdd corff marw un ohonyn nhw yn aflan am weddill y dydd. Ac mae beth bynnag maen nhw'n syrthio arno pan maen nhw'n marw yn aflan — llestr pren, dilledyn, unrhyw beth wedi ei wneud o ledr, neu sachliain, neu unrhyw declyn i wneud gwaith ag e. Beth bynnag ydy e, rhaid ei olchi mewn dŵr, a bydd yn aflan am weddill y dydd. Ar ôl hynny bydd e'n iawn i'w ddefnyddio eto. *** *** *** Os ydy corff un ohonyn nhw'n cael ei ddarganfod mewn llestr pridd, rhaid torri'r llestr, ac mae popeth oedd ynddo yn aflan. Os oes dŵr o'r llestr yn mynd ar fwyd, bydd y bwyd yn aflan. Ac os oedd diod yn y llestr, bydd hwnnw'n aflan. Bydd beth bynnag mae corff marw un o'r creaduriaid yna yn ei gyffwrdd yn aflan. Os mai popty pridd neu stôf ydy e, rhaid ei falu. Mae unrhyw ffynnon neu bydew i ddal dŵr yn dal yn lân. Ond bydd pwy bynnag sy'n cyffwrdd corff y creadur yn aflan. Os ydy'r corff yn cael ei ddarganfod ar had sydd i'w hau, bydd yr had yn aros yn lân. Ond os ydy'r had wedi cael ei socian mewn dŵr, bydd yn aflan. “‘Os ydy anifail sy'n iawn i'w fwyta yn marw, a rhywun yn cyffwrdd y corff, bydd yn aflan am weddill y dydd. Mae pwy bynnag sy'n bwyta peth o'i gig neu'n cario'r corff i ffwrdd yn aflan. Rhaid iddo olchi ei ddillad, ond mae'n dal yn aflan am weddill y dydd. [41-43] “‘Mae'r creaduriaid bach sy'n llusgo ar lawr ar eu boliau, neu sydd â nifer fawr o goesau i'w hystyried yn aflan. Peidiwch bwyta nhw, neu byddwch chi'n gwneud eich hunain yn ffiaidd ac yn aflan. *** *** Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi. Rhaid i chi gysegru'ch hunain yn llwyr i mi, a bod yn sanctaidd am fy mod i'n sanctaidd. Peidiwch gwneud eich hunain yn ffiaidd drwy fwyta un o'r creaduriaid aflan yma. Fi ydy'r ARGLWYDD wnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft i fod yn Dduw i chi. Rhaid i chi fod yn sanctaidd, am fy mod i yn sanctaidd. “‘Dyma'r rheolau am anifeiliaid, adar, pysgod a'r creaduriaid eraill — beth sy'n iawn i'w fwyta a beth sydd ddim.’” Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses “Dywed wrth bobl Israel: Pan mae gwraig yn cael babi, os mai bachgen ydy'r babi, bydd hi'n aflan am saith diwrnod (fel gyda'r misglwyf). Pan mae'r bachgen yn wythnos oed rhaid iddo fynd trwy'r ddefod o gael ei enwaedu, sef torri blaengroen ei bidyn i ffwrdd. Fydd y wraig ddim yn hollol lân am dri deg tri diwrnod arall. Felly yn ystod y cyfnod yma o gael ei glanhau ddylai hi ddim cyffwrdd unrhyw beth cysegredig na mynd i'r cysegr i addoli. Os mai merch ydy'r babi bydd y fam yn aflan am bythefnos (fel gyda'r misglwyf). A fydd hi ddim yn hollol lân am chwe deg chwech diwrnod arall. “Pan mae'r fam wedi gorffen y cyfnod o gael ei glanhau, rhaid iddi ddod at fynedfa'r Tabernacl, a chyflwyno oen sy'n flwydd oed yn offrwm i'w losgi a cholomen neu durtur yn offrwm i lanhau o bechod. Bydd yr offeiriad yn ei gyflwyno i'r ARGLWYDD ac yn gwneud pethau'n iawn rhyngddi hi â Duw. Dyma sydd i ddigwydd pan mae bachgen neu ferch yn cael ei eni. Os ydy'r wraig ddim yn gallu fforddio oen, mae hi'n gallu cyflwyno dwy durtur neu ddwy golomen. Un yn offrwm i'w losgi a'r llall yn offrwm i lanhau o bechod. Bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhyngddi hi â Duw, a bydd hi'n lân.” Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses ac Aaron, “Pan mae gan rywun chwydd neu rash neu smotyn wedi troi'n llidiog ar y croen, gall fod yn arwydd o glefyd heintus. Rhaid mynd â'r person hwnnw at offeiriad, sef Aaron neu un o'i ddisgynyddion. Rhaid i'r offeiriad archwilio'r briw. Os ydy'r blew lle mae'r drwg wedi troi'n wyn a bod y drwg i'w weld yn ddyfnach na'r croen, mae'n glefyd heintus. Rhaid i'r offeiriad ddatgan fod y person hwnnw yn aflan. “Ond os ydy'r smotyn yn wyn, a ddim dyfnach na'r croen, a'r blew heb droi'n wyn, bydd yr offeiriad yn dweud fod y person i aros ar wahân i bawb arall am saith diwrnod. Os ydy'r drwg ddim gwaeth a heb ledu, bydd yr offeiriad yn dweud wrth y person am aros ar wahân am saith diwrnod arall. Wedyn os fydd e wedi gwella ychydig, a heb ledu, bydd yr offeiriad yn datgan fod y person hwnnw yn lân. Dim ond rash ydy e. Rhaid iddo olchi ei ddillad a bydd yn lân. “Os bydd y rash yn dod yn ôl ac yn lledu wedyn, rhaid mynd at yr offeiriad eto. Bydd yr offeiriad yn ei archwilio, ac os ydy'r rash wedi lledu, bydd yr offeiriad yn datgan ei fod yn aflan. Mae'n glefyd heintus. “Pan mae gan rywun afiechyd ar y croen rhaid mynd â'r person hwnnw at yr offeiriad i'w archwilio. Os ydy'r smotyn yn wyn, y briw wedi casglu, a'r blew wedi troi'n wyn, mae'n afiechyd parhaol ar y croen, ac mae'r offeiriad i ddatgan fod y person hwnnw'n aflan. Waeth heb ei gadw ar wahân am gyfnod. Mae e'n aflan. [12-13] Ond os ydy'r afiechyd wedi lledu'n sydyn dros y corff i gyd, a'r offeiriad yn gallu gweld dim byd ond croen sych gwyn ar ôl, mae'r offeiriad i ddatgan fod y person hwnnw'n lân. *** [14-15] Ond os oes briwiau wedi casglu yn dod i'r golwg eto, mae'r person yn aflan. Mae'r offeiriad i'w archwilio a chyhoeddi ei fod yn aflan. Mae'n glefyd heintus. *** [16-17] “Ond wedyn, os ydy'r drwg yn diflannu a chroen sych yn dod yn ei le, rhaid iddo fynd at yr offeiriad i gael ei archwilio, a bydd yr offeiriad yn datgan ei fod yn lân. *** [18-19] “Os ydy rhywun wedi bod â chwydd oedd wedi casglu, a hwnnw wedi gwella, ac wedyn mae chwydd gwyn neu smotyn coch yn codi yn yr un lle rhaid mynd i'w ddangos i'r offeiriad. *** Rhaid i'r offeiriad archwilio'r briw. Os ydy'r drwg i'w weld yn ddyfnach na'r croen, a'r blew lle mae'r drwg wedi troi'n wyn, rhaid i'r offeiriad ddatgan fod y person hwnnw yn aflan. Mae'n glefyd heintus wedi torri allan ble roedd y chwydd gwreiddiol. Ond os ydy'r blew ddim wedi troi'n wyn, ac os ydy'r drwg ddim dyfnach na'r croen, a'i fod yn edrych fel petai wedi gwella ychydig, bydd yr offeiriad yn dweud fod y person i aros ar wahân i bawb am saith diwrnod. “Os bydd y drwg yn lledu yn y cyfnod yma, mae'r offeiriad i ddatgan fod y person hwnnw'n aflan. Ond os fydd e ddim yn lledu, a dim byd ond croen sych gwyn ar ôl, mae'r offeiriad i ddatgan ei fod yn lân. “Pan mae rhywun wedi llosgi ei hun, ac mae'r cnawd ble mae'r llosg wedi troi'n goch neu'n smotyn gwyn, rhaid i'r offeiriad ei archwilio. Os ydy'r blew lle mae'r drwg wedi troi'n wyn a bod y drwg i'w weld yn ddyfnach na'r croen, mae'n glefyd heintus. Mae wedi torri allan o'r llosg, a rhaid i'r offeiriad ddatgan fod y person hwnnw yn aflan. Ond os ydy'r blew ddim wedi troi'n wyn, ac os ydy'r drwg ddim dyfnach na'r croen ac fel petai'n gwella ychydig, bydd yr offeiriad yn dweud fod y person i aros ar wahân i bawb arall am saith diwrnod. Bydd yr offeiriad yn ei archwilio eto ar y seithfed dydd. Os ydy'r drwg yn lledu rhaid i'r offeiriad ddatgan fod y person hwnnw'n aflan. Mae'n glefyd heintus. Os ydy'r drwg ddim gwaeth a heb ledu, ac fel petai'n gwella ychydig, dim ond chwydd o ganlyniad i'r llosg ydy e. Bydd yr offeiriad yn datgan ei fod yn lân, am mai dim ond craith sy'n ganlyniad i'r llosg ydy e. “Os oes gan rywun friw wedi troi'n ddrwg ar y pen neu'r gên, rhaid i'r offeiriad ei archwilio. Os ydy'r drwg i'w weld yn ddyfnach na'r croen, a'r blew yn y drwg yn felyn ac yn denau, rhaid i'r offeiriad ddatgan fod y person hwnnw'n aflan. Ffafws ydy e, clefyd heintus ar y pen neu'r gên. Ond os ydy'r drwg ddim dyfnach na'r croen, a'r blew yn dal yn iach, bydd yr offeiriad yn dweud fod y person i aros ar wahân i bawb arall am saith diwrnod. Os fydd e heb ledu ar ôl saith diwrnod, a dim blew melyn ynddo, ac yn dal yn edrych ddim dyfnach na'r croen, rhaid i'r person siafio. Ond rhaid peidio siafio lle mae'r briw. Bydd yr offeiriad yn dweud fod y person i aros ar wahân i bawb arall am saith diwrnod eto. Os fydd e heb ledu erbyn hynny, ac yn dal i edrych ddim dyfnach na'r croen, bydd yr offeiriad yn datgan fod y person hwnnw yn lân. Rhaid iddo olchi ei ddillad, a bydd yn lân. Ond os ydy'r drwg yn lledu ar ôl i'r offeiriad ddatgan ei fod yn lân rhaid i'r offeiriad ei archwilio eto. Os ydy'r drwg wedi lledu, does dim rhaid edrych am flew melyn, mae e'n aflan. Ond os ydy'r offeiriad yn meddwl ei fod heb ledu, ac os oes blew du wedi tyfu ynddo, mae wedi gwella. Mae'r person yn lân, a rhaid i'r offeiriad ddatgan ei fod yn lân. “Os oes gan ddyn neu ddynes smotiau wedi troi'n llidiog ar y croen, smotiau gwyn, rhaid i offeiriad ei archwilio. Os ydy'r smotiau yn lliw gwelw dim ond rash ydy e. Mae'r person yn lân. [40-41] “Os ydy dyn yn colli ei wallt o dop ei ben neu ar ei dalcen, dim ond moelni ydy e. Mae e'n lân. *** Ond os oes smotyn wedi troi'n goch neu'n wyn ar y darn moel mae'n glefyd heintus sy'n lledu. Rhaid i'r offeiriad ei archwilio. Os ydy'r chwydd ar ei ben yn goch a gwyn, ac yn edrych fel clefyd heintus ar y corff, rhaid i'r offeiriad ddatgan fod y dyn yn aflan. Mae ganddo glefyd heintus ar ei ben. “Rhaid i unrhyw un sydd â clefyd heintus ar y croen rwygo ei ddillad. Rhaid iddo adael i'w wallt hongian yn flêr, cuddio hanner isaf ei wyneb, a gweiddi ‘Dw i'n aflan! Dw i'n aflan!’ Bydd yn aflan tra mae'r afiechyd arno, a rhaid iddo fyw ar wahân i bawb, y tu allan i'r gwersyll. [47-49] “Os oes llwydni gwyrdd neu goch wedi ymddangos ar unrhyw ddilledyn (lliain neu wlân), neu ar unrhyw beth wedi ei wneud o ledr, rhaid ei ddangos i'r offeiriad. *** *** Bydd yr offeiriad yn ei archwilio, ac wedyn yn ei osod o'r neilltu am saith diwrnod. [51-52] Os bydd y llwydni wedi lledu ar ôl saith diwrnod mae'r eitem wedi ei ddifetha ac mae'n aflan. Beth bynnag oedd ei bwrpas rhaid iddo gael ei losgi. *** “Ond os ydy'r offeiriad yn gweld fod y llwydni heb ledu, rhaid golchi'r eitem, ac wedyn ei osod o'r neilltu am saith diwrnod arall. Wedyn bydd yr offeiriad yn ei archwilio eto. Os ydy'r marc yn dal i edrych yr un fath, mae'r eitem yn aflan — hyd yn oed os nad ydy'r llwydni wedi lledu. Rhaid llosgi'r eitem, sdim ots os ydy'r marc ar y tu allan neu ar y tu mewn. Ond os ydy'r marc ddim mor amlwg ar ôl iddo gael ei olchi rhaid torri'r darn hwnnw i ffwrdd. Ond wedyn, os ydy'r llwydni'n dod yn ôl, rhaid llosgi'r dilledyn neu beth bynnag oedd yr eitem o ledr. Os ydy'r marc wedi diflannu'n llwyr ar ôl cael ei olchi, dylid ei olchi eto ac wedyn bydd yn lân. “Dyma'r drefn wrth benderfynu os ydy dilledyn, neu unrhyw beth wedi ei wneud o ledr, yn lân neu'n aflan pan mae llwydni wedi ymddangos arno.” Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Dyma'r drefn pan mae rhywun wedi gwella o glefyd heintus ar y croen: “Rhaid mynd â'r mater at yr offeiriad. Bydd yr offeiriad yn mynd allan o'r gwersyll i'w archwilio. Os ydy'r afiechyd wedi gwella bydd yr offeiriad yn dweud wrth y person am fynd â dau aderyn byw i'w haberthu, darn o bren cedrwydd, edau goch, a brigau o isop. Wedyn bydd yr offeiriad yn dweud wrtho am ladd un o'r adar uwch ben potyn pridd sydd â dŵr glân ynddo. Wedyn rhaid iddo gymryd yr aderyn sy'n dal yn fyw, y darn o bren cedrwydd, yr edau goch a'r brigau o isop, a'i trochi nhw i gyd yng ngwaed yr aderyn gafodd ei ladd. Wedyn bydd yn taenellu peth o'r gwaed saith gwaith ar y person sydd wedi gwella o'r clefyd heintus. Yna bydd yn cyhoeddi fod y person yn lân, ac yn gadael i'r aderyn hedfan i ffwrdd. “Nesaf, rhaid i'r person sydd wedi gwella o'r afiechyd olchi ei ddillad, siafio ei gorff i gyd, ac ymolchi mewn bath. Wedyn bydd yn lân. Bydd yn gallu mynd i mewn i'r gwersyll, ond ddim yn cael mynd i fyw i'w babell am saith diwrnod. Ar ôl hynny bydd yn siafio eto — ei ben, ei farf, ei aeliau, a gweddill ei gorff. Yna'n olaf bydd yn golchi ei ddillad eto, cymryd bath arall, a bydd e'n gwbl lân. “Y diwrnod wedyn mae i gymryd dau oen gwryw ac oen banw blwydd oed sydd â dim byd o'i le arnyn nhw at yr offeiriad. Hefyd tri cilogram o'r blawd gwenith gorau wedi ei gymysgu gydag olew olewydd, ac un rhan o dair o litr o olew olewydd. Bydd yr offeiriad sy'n arwain y ddefod glanhad yn mynd â'r person a'i offrwm o flaen yr ARGLWYDD at fynedfa'r Tabernacl. Yno bydd yr offeiriad yn aberthu un o'r ŵyn yn offrwm i gyfaddef bai. Bydd yn ei gymryd gyda'r olew olewydd a'i codi nhw'n uchel i'w cyflwyno'n offrwm i'w chwifio o flaen yr ARGLWYDD. Mae'r oen i gael ei ladd yn yr un lle ag mae'r offrwm i lanhau o bechod a'r offrwm i'w losgi yn cael eu lladd. Yr offeiriad sydd piau fe, fel gyda'r offrwm i lanhau o bechod. Mae'n gysegredig iawn. “Mae'r offeiriad wedyn i gymryd peth o waed yr offrwm i gyfaddef bai, a'i roi ar waelod clust dde'r person sy'n cael ei lanhau, a hefyd ar fawd ei law dde a bawd ei droed dde. Wedyn mae'r offeiriad i gymryd peth o'r olew olewydd a'i dywallt i gledr ei law ei hun. Yna rhoi bys ei law dde yn yr olew sydd yn ei law chwith, a'i daenellu saith gwaith o flaen yr ARGLWYDD. Wedyn mae i gymryd peth o'r olew sydd ar ôl yn ei law a'i roi ar waelod clust dde'r person sy'n cael ei lanhau, a hefyd ar fawd ei law dde a bawd ei droed dde. Mae'r olew i gael ei roi ar ben y gwaed gafodd ei roi arnyn nhw. Wedyn mae i roi gweddill yr olew sydd yn ei law ar ben y person sy'n cael ei lanhau. Wedyn bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhyngddo â Duw: bydd yn cyflwyno'r offrwm i lanhau o bechod, i wneud pethau'n iawn rhwng y person â Duw a'i lanhau o'r cyflwr aflan oedd wedi bod ynddo. Yna bydd yr offeiriad yn lladd yr offrwm sydd i'w losgi. Bydd yn cyflwyno'r offrwm sydd i'w losgi a'r offrwm o rawn ar yr allor. Dyna sut bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhwng y person â Duw, a bydd e'n lân. “Os ydy rhywun ddim yn gallu fforddio hyn i gyd, mae i gymryd un oen gwryw yn offrwm i gyfaddef bai sydd i'w godi'n uchel. Bydd yn gwneud pethau'n iawn rhyngddo â Duw. Hefyd un rhan o dair o litr o olew olewydd a cilogram o'r blawd gwenith gorau wedi ei gymysgu gydag olew yn offrwm o rawn. Hefyd dwy durtur neu ddwy golomen — un yn offrwm i lanhau o bechod a'r llall yn offrwm i'w losgi. Dylai fynd â nhw at yr offeiriad ar yr wythfed diwrnod, ar gyfer y ddefod o gael ei lanhau. Mae i fynd â nhw at fynedfa'r Tabernacl, o flaen yr ARGLWYDD. “Bydd yr offeiriad yn cymryd yr oen sy'n offrwm i gyfaddef bai, gyda'r olew olewydd, ac yn eu codi nhw'n uchel yn offrwm i'w chwifio o flaen yr ARGLWYDD. Mae'r oen i gael ei ladd fel offrwm i gyfaddef bai. Mae'r offeiriad i gymryd peth o waed yr offrwm a'i roi ar waelod clust dde'r person sy'n cael ei lanhau, a hefyd ar fawd ei law dde a bawd ei droed dde. Wedyn mae'r offeiriad i dywallt peth o'r olew olewydd i gledr ei law chwith. Yna gyda bys ei law dde mae i daenellu peth o'r olew sydd yn ei law chwith saith gwaith o flaen yr ARGLWYDD. Wedyn mae i gymryd peth o'r olew sydd yn ei law a'i roi ar waelod clust dde'r person sy'n cael ei lanhau, a hefyd ar fawd ei law dde a bawd ei droed dde. Mae'r olew i gael ei roi ar ben y gwaed gafodd ei roi arnyn nhw. Wedyn mae i roi gweddill yr olew sydd yn ei law ar ben y person sy'n cael ei lanhau, i wneud pethau'n iawn rhyngddo â Duw. “Wedyn mae i gymryd y turturod neu'r colomennod ifanc (beth bynnag mae'n gallu ei fforddio). Mae un i'w gyflwyno yn offrwm i lanhau o bechod, a'r llall yn offrwm i'w losgi'n llwyr gyda'r offrwm o rawn. Dyna sut bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhwng y person sy'n cael ei lanhau a Duw. Dyna'r drefn ar gyfer rhywun sydd wedi bod â clefyd heintus ar y croen, ond sy'n methu fforddio'r offrymau ar gyfer y ddefod glanhau.” Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses ac Aaron: “Pan fyddwch chi wedi cyrraedd gwlad Canaan, sef y wlad dw i'n ei rhoi i chi, os bydd tyfiant ffyngaidd yn un o'r tai, dyma beth sydd rhaid ei wneud: Mae perchennog y tŷ i fynd at yr offeiriad, a dweud, ‘Mae'n edrych fel petai rhyw dyfiant fel ffwng yn fy nhŷ i.’ Bydd yr offeiriad yn dweud fod rhaid gwagio'r tŷ cyn iddo fynd yno i'w archwilio, rhag i bopeth yn y tŷ gael ei wneud yn aflan. Wedyn bydd yr offeiriad yn mynd yno i archwilio'r tŷ. Os bydd e'n darganfod tyfiant gwyrdd neu goch ar y waliau sy'n ddyfnach na'r wyneb, mae'r offeiriad i fynd allan o'r tŷ a'i gau am saith diwrnod. Wedyn bydd yr offeiriad yn mynd yn ôl mewn wythnos i archwilio'r tŷ eto. Os ydy'r tyfiant wedi lledu ar waliau'r tŷ mae'r offeiriad i orchymyn fod y cerrig oedd â'r tyfiant arnyn nhw i gael eu tynnu allan o'r waliau a'u taflu i le aflan tu allan i'r dre. Wedyn bydd yn trefnu i'r plastr ar y waliau gael ei grafu i ffwrdd i gyd. Bydd y plastr hefyd yn cael ei daflu i le aflan tu allan i'r dre. Wedyn bydd y waliau'n cael eu trwsio gyda cherrig newydd, a bydd y tŷ yn cael ei ail-blastro. “Os bydd y tyfiant yn ailymddangos ar ôl cael gwared â'r cerrig, trwsio'r waliau ac ail-blastro'r tŷ, mae'r offeiriad i fynd yn ôl i archwilio'r tŷ eto. Os bydd y tyfiant wedi lledu mae'n broblem barhaol. Rhaid ystyried y tŷ yn aflan. Bydd rhaid i'r tŷ gael ei dynnu i lawr, a bydd rhaid i'r cerrig, y coed, a'r plastr i gyd gael ei daflu mewn lle aflan tu allan i'r dre. Bydd pawb aeth i mewn i'r tŷ pan oedd wedi ei gau, yn aflan am weddill y dydd. A rhaid i bawb fuodd yn cysgu neu'n bwyta yn y tŷ olchi eu dillad. “Ond os ydy'r offeiriad yn darganfod fod y tyfiant heb ddod yn ôl i'r tŷ ar ôl iddo gael ei ail-blastro, bydd e'n cyhoeddi fod y tŷ yn lân — mae'r drwg wedi mynd. Ac er mwyn dangos fod y tŷ yn lân, bydd e'n cael dau aderyn, darn o bren cedrwydd, edau goch a brigau o isop. Bydd yn lladd un o'r adar uwch ben potyn pridd sydd â dŵr glân ynddo. Wedyn rhaid iddo gymryd y darn o bren cedrwydd, yr edau goch a'r brigau o isop, a'r aderyn sy'n dal yn fyw, a'i trochi nhw i gyd yng ngwaed yr aderyn gafodd ei ladd a'r dŵr, ac yna taenellu'r tŷ saith gwaith gydag e. Dyna sut y bydd e'n glanhau y tŷ gyda gwaed yr aderyn gafodd ei ladd, y dŵr, yr aderyn byw, y darn o bren cedrwydd, y brigau o isop a'r edau goch. Yna bydd yn gadael i'r aderyn byw hedfan i ffwrdd allan o'r dre. Dyna sut y bydd e'n gwneud y tŷ yn lân ac yn iawn i fyw ynddo eto. “Dyna'r drefn ar gyfer delio gydag unrhyw glefyd heintus, ffafws, llwydni mewn dilledyn, neu dyfiant ffyngaidd mewn tŷ, chwydd neu rash neu smotyn. Dyna sut mae gwahaniaethu rhwng y glân a'r aflan. Dyna'r drefn ar gyfer delio gydag afiechydon heintus.” Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses ac Aaron: “Dywed wrth bobl Israel: “Pan mae dyn yn diodde o glefyd ar ei bidyn, mae'n ei wneud e'n aflan. Gall yr aflendid fod yn ddiferiad cyson, neu ryw rwystr sy'n ei gwneud yn anodd iddo biso. Bydd ei wely yn aflan, ac unrhyw ddodrefnyn mae'n eistedd arno hefyd. [5-7] Os ydy unrhyw un yn cyffwrdd y dyn neu ei wely, neu'n eistedd ar ddodrefnyn mae e wedi eistedd arno, bydd rhaid i'r person hwnnw olchi ei ddillad ac ymolchi mewn dŵr. Ond bydd e'n dal yn aflan am weddill y dydd. *** *** “Os ydy'r dyn sydd â'r afiechyd arno yn poeri ar rywun, rhaid i'r person hwnnw olchi ei ddillad ac ymolchi hefyd. Ond bydd e'n dal yn aflan am weddill y dydd. Mae cyfrwy neu unrhyw beth arall mae'r dyn sydd â'r afiechyd arno wedi eistedd arno wrth deithio yn aflan. Mae unrhyw un sy'n cyffwrdd unrhyw un o'r pethau yma yn aflan am weddill y dydd. Ac os ydy rhywun yn cario rhywbeth mae wedi eistedd arno rhaid i'r person hwnnw olchi ei ddillad ac ymolchi mewn dŵr. Ond bydd e'n dal yn aflan am weddill y dydd. Os ydy'r dyn yn cyffwrdd rhywun heb olchi ei ddwylo rhaid i'r person hwnnw olchi ei ddillad ac ymolchi mewn dŵr. A bydd e'n dal yn aflan am weddill y dydd. Rhaid torri unrhyw lestr pridd mae e wedi ei gyffwrdd. Rhaid golchi unrhyw fowlen bren mae e wedi ei chyffwrdd. “Pan mae'r dyn yn gwella o'i afiechyd, saith diwrnod wedyn mae i olchi ei ddillad ac ymolchi mewn dŵr glân. Y diwrnod wedyn mae i gymryd dwy durtur neu ddwy golomen, mynd â nhw o flaen yr ARGLWYDD wrth fynedfa'r Tabernacl, a'u rhoi nhw i'r offeiriad. Bydd yr offeiriad yn eu cyflwyno nhw — un yn offrwm i lanhau o bechod a'r llall yn offrwm i'w losgi. Bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhyngddo â Duw ar ôl iddo wella o'i afiechyd. “Pan mae dyn yn gollwng ei had rhaid iddo olchi ei gorff i gyd mewn dŵr. Ond bydd e'n dal yn aflan am weddill y dydd. Os ydy ei had yn cyffwrdd rhywbeth sydd wedi ei wneud o frethyn neu o ledr, rhaid eu golchi nhw. Ond byddan nhw'n dal yn aflan am weddill y dydd. Pan mae dyn yn cael rhyw gyda gwraig, rhaid i'r ddau ohonyn nhw ymolchi mewn dŵr. Ond byddan nhw'n dal yn aflan am weddill y dydd. “Pan mae gwraig yn diodde o'r misglwyf, mae hi'n aros yn aflan am saith diwrnod. A bydd unrhyw un sy'n ei chyffwrdd hi yn aflan am weddill y dydd. Bydd popeth mae hi'n gorwedd arno neu'n eistedd arno yn y cyfnod yma yn aflan [21-23] Os ydy unrhyw un yn cyffwrdd ei gwely hi, neu unrhyw beth mae hi wedi eistedd arno, rhaid i'r person hwnnw olchi ei ddillad ac ymolchi mewn dŵr. Ond bydd e'n dal yn aflan am weddill y dydd. *** *** Os ydy dyn yn cael rhyw gyda hi yn ystod y cyfnod yma, bydd e hefyd yn aflan am saith diwrnod. A bydd unrhyw wely mae e'n gorwedd arno yn aflan. “Os ydy gwraig yn diodde o waedlif am gyfnod ar wahân i'w misglwyf, mae'r un peth yn wir bryd hynny. Mae hi'n aflan. Bydd pob gwely mae hi'n gorwedd arno yn ystod y cyfnod o waedlif, ac unrhyw beth mae hi'n eistedd arno yn yr un cyfnod, yn aflan (yr un fath â phan mae hi'n diodde o'r misglwyf). Os ydy unrhyw un yn cyffwrdd un o'r pethau yna, bydd y person hwnnw yn aflan. Rhaid iddo olchi ei ddillad ac ymolchi mewn dŵr. A bydd e'n dal yn aflan am weddill y dydd. Os ydy'r gwaedlif yn peidio, mae hi i aros am saith diwrnod, ac ar ôl hynny bydd hi'n lân. Y diwrnod wedyn mae hi i gymryd dwy durtur neu ddwy golomen, a mynd â nhw i'r offeiriad wrth y fynedfa i'r Tabernacl. Bydd yr offeiriad yn cyflwyno un yn offrwm i lanhau o bechod a'r llall yn offrwm i'w losgi. Bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhyngddi â Duw ar ôl i'w gwaedlif hi stopio. “Dyna sut ydych chi i gadw pobl Israel ar wahân i'r pethau sy'n eu gwneud nhw'n aflan. Does gen i ddim eisiau iddyn nhw farw yn eu haflendid am eu bod nhw wedi llygru'r Tabernacl sydd yn eu plith nhw. “A dyna'r drefn gyda dyn sydd â clefyd ar ei bidyn neu sydd wedi gollwng ei had ac sy'n aflan o ganlyniad i hynny. A hefyd i wraig sy'n diodde o'r misglwyf, neu'n diodde o waedlif. Hefyd pan mae dyn yn cael rhyw gyda gwraig yn ystod y cyfnod pan mae hi'n aflan.” Ar ôl i ddau fab Aaron farw pan aethon nhw o flaen yr ARGLWYDD, dyma'r ARGLWYDD yn siarad â Moses a dweud wrtho: “Dywed wrth Aaron dy frawd ei fod e ddim yn cael mynd i mewn i'r Lle Mwyaf Sanctaidd unrhyw bryd mae e eisiau, neu bydd e'n marw. Dyna ble fydda i'n ymddangos, mewn cwmwl uwch ben caead yr Arch, tu ôl i'r llen. “Dyma sut mae e i fynd i mewn i'r Lle Mwyaf Sanctaidd: Rhaid iddo gyflwyno tarw ifanc yn offrwm i'w lanhau o'i bechod, a hwrdd yn offrwm i'w losgi. Rhaid iddo ymolchi mewn dŵr gyntaf. Wedyn gwisgo'r crys lliain pwrpasol, y dillad isaf, y sash, a'r twrban, i gyd o liain. Dyma ei wisg gysegredig e. Ar ran pobl Israel mae i fynd â dau fwch gafr yn offrwm i lanhau o bechod, a hwrdd yn offrwm i'w losgi. “Bydd Aaron yn cyflwyno'r tarw yn offrwm dros ei bechod ei hun, i wneud pethau'n iawn rhyngddo fe a'i gyd-offeiriaid a Duw. Wedyn bydd yn mynd â'r ddau fwch gafr o flaen yr ARGLWYDD at fynedfa Pabell Presenoldeb Duw. Yno bydd yn taflu coelbren i ddewis pa un biau'r ARGLWYDD a pa un biau Asasel. Wedyn mae Aaron i gyflwyno'r bwch gafr cyntaf i'r ARGLWYDD yn offrwm i lanhau o bechod. Mae bwch gafr Asasel i'w osod i sefyll yn fyw o flaen yr ARGLWYDD iddo wneud pethau'n iawn drwy gael ei anfon allan i Asasel yn yr anialwch. “Mae Aaron yn cyflwyno'r tarw yn offrwm dros ei bechod ei hun, i wneud pethau'n iawn rhyngddo fe a'i deulu a Duw. Wedyn mae i gymryd padell dân wedi ei llenwi gyda marwor poeth oddi ar yr allor sydd o flaen yr ARGLWYDD, a dwy lond llaw o arogldarth persawrus wedi ei falu'n fân, a mynd i'r Lle Mwyaf Sanctaidd sydd tu ôl i'r llen. Yno mae i roi'r arogldarth ar y marwor, a bydd y mwg o'r thus fel cwmwl yn gorchuddio caead yr Arch, rhag iddo farw. Wedyn mae i gymryd peth o waed y tarw, a'i daenellu ar gaead yr Arch gyda'i fys ar yr ochr sy'n wynebu'r dwyrain. Mae i daenellu'r gwaed fel hyn saith gwaith. “Wedyn mae e i ladd y bwch gafr sy'n offrwm i lanhau'r bobl o'u pechod, a mynd â gwaed hwnnw y tu ôl i'r llen. Mae i wneud yr un peth gyda gwaed y bwch gafr ag a wnaeth gyda gwaed y tarw, sef ei daenellu ar gaead yr Arch. Dyna sut bydd e'n gwneud y cysegr yn lân. Mae'n rhaid gwneud hyn am fod pobl Israel wedi pechu a gwrthryfela yn erbyn Duw. Mae i wneud hyn am fod y Tabernacl yn aros yng nghanol pobl sy'n aflan o ganlyniad i'w pechod. Does neb arall i fod yn y Tabernacl o'r amser mae e'n mynd i mewn i wneud pethau'n iawn hyd yr amser mae e'n dod allan. Bydd e'n gwneud pethau'n iawn ar ei ran ei hun a'i gyd-offeiriaid, ac ar ran pobl Israel. Wedyn bydd yn mynd allan at yr allor sydd o flaen yr ARGLWYDD ac yn ei gwneud hi'n lân. Bydd yn cymryd peth o waed y tarw a gwaed y bwch gafr a'i roi ar bob un o gyrn yr allor. Bydd yn taenellu peth o'r gwaed ar yr allor gyda'i fys. Dyna sut bydd e'n cysegru'r allor a'i gwneud yn lân ar ôl iddi gael ei llygru gan bechodau pobl Israel. “Pan fydd Aaron wedi gorffen gwneud y Lle Mwyaf Sanctaidd, y Tabernacl, a'r allor yn lân, bydd yn mynd â'r bwch gafr byw o flaen y Tabernacl. Mae i osod ei ddwy law ar ben yr anifail tra'n cyffesu beiau pobl Israel a'r holl bethau wnaethon nhw i wrthryfela a phechu yn erbyn Duw. Mae'r cwbl yn cael ei roi ar ben y bwch gafr, a bydd dyn yna yn barod i arwain yr anifail allan i'r anialwch. Bydd y bwch gafr yn cario holl feiau pobl Israel allan i le unig. Bydd yr anifail yn cael ei ollwng yn rhydd yn yr anialwch. “Wedyn mae Aaron i fynd yn ôl i mewn i'r Tabernacl. Mae i dynnu'r dillad o liain oedd wedi eu gwisgo cyn mynd i mewn i'r Lle Mwyaf Sanctaidd, a'u gadael nhw yno. Mae i ymolchi gyda dŵr mewn lle cysegredig, a rhoi ei wisgoedd offeiriadol yn ôl ymlaen. Yna mae i ddod allan ac offrymu'r offrwm i'w losgi drosto'i hun a'r offrwm i'w losgi dros y bobl, i wneud pethau'n iawn rhyngddo'i hun â Duw a rhwng y bobl â Duw. Yna mae i losgi braster yr aberthau dros bechod ar yr allor. “Mae'r dyn wnaeth arwain y bwch gafr byw allan i Asasel yn yr anialwch, i olchi ei ddillad ac ymolchi mewn dŵr cyn dod yn ôl i mewn i'r gwersyll. Mae gweddillion y tarw ifanc a'r bwch gafr oedd yn offrymau dros bechod (eu gwaed nhw gafodd ei gymryd i wneud pethau'n iawn yn y Lle Mwyaf Sanctaidd) i'w cymryd tu allan i'r gwersyll i gael eu llosgi yno — y crwyn, y coluddion, a'r perfeddion. Mae'n rhaid i bwy bynnag sy'n gwneud hyn olchi ei ddillad ac ymolchi mewn dŵr cyn dod yn ôl i mewn i'r gwersyll. “Mae hyn i fod yn rheol i chi bob amser: Bob blwyddyn, ar y degfed diwrnod o'r seithfed mis, dych chi i beidio bwyta a gwneud dim gwaith — pawb, yn bobl Israel ac unrhyw un arall sy'n byw gyda chi. Dyma'r diwrnod pan mae pethau'n cael eu gwneud yn iawn drosoch chi, a pan dych chi'n cael eich gwneud yn lân. Byddwch yn cael eich glanhau o'ch holl bechodau yng ngolwg yr ARGLWYDD. Mae i fod yn saboth — yn ddiwrnod o orffwys — i chi, a rhaid i chi beidio bwyta. Fydd y rheol yma byth yn newid. Dim ond yr offeiriad sydd wedi ei gysegru a'i eneinio i gymryd lle ei dad fel archoffeiriad sydd i wneud pethau'n iawn, ac i wisgo'r wisg gysegredig o liain. Bydd yn gwneud y Lle Mwyaf Sanctaidd, y Tabernacl a'r allor yn lân, ac yn gwneud pethau'n iawn rhwng Duw a'r offeiriaid a phobl Israel i gyd. Mae hyn i fod yn rheol am byth. Unwaith y flwyddyn bydd pethau'n cael eu gwneud yn iawn rhwng pobl Israel a Duw, a byddan nhw'n cael eu glanhau o'u holl bechodau.” Dyma Moses yn gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Dywed wrth Aaron a'i ddisgynyddion, ac wrth bobl Israel i gyd mai dyma mae'r ARGLWYDD yn ei orchymyn: Os ydy unrhyw un o bobl Israel yn aberthu bustach, dafad, neu afr, yn y gwersyll neu'r tu allan i'r gwersyll, yn lle mynd â'r anifail at y fynedfa i'r Tabernacl i'w gyflwyno'n offrwm i'r ARGLWYDD, bydd y person hwnnw yn euog o dywallt gwaed. Mae e wedi tywallt gwaed, a bydd e'n cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw. Pwrpas y rheol yma ydy gwneud i bobl Israel ddod a'u haberthau i'r ARGLWYDD, at yr offeiriad o flaen y fynedfa i'r Tabernacl, yn lle eu haberthu allan yn y wlad. Maen nhw i'w cyflwyno iddo yn offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Bydd yr offeiriad yn sblasio'r gwaed o gwmpas yr allor wrth y fynedfa i'r Tabernacl, ac yn llosgi'r brasder fel offrwm sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD. Dŷn nhw ddim i aberthu i'r gafr-ddemoniaid o hyn ymlaen. Maen nhw'n ymddwyn fel puteiniaid wrth wneud y fath beth. Fydd y rheol yma byth yn newid. “Atgoffa nhw: Does neb o bobl Israel nag unrhyw un arall sy'n byw gyda nhw i gyflwyno offrwm i'w losgi neu offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD, oni bai ei fod yn dod â'r offrwm hwnnw at y fynedfa i Babell Presenoldeb Duw. Bydd unrhyw un sy'n gwneud yn wahanol yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw. “Bydda i yn troi yn erbyn unrhyw un sy'n bwyta cig sydd â'r gwaed yn dal ynddo — un o bobl Israel neu unrhyw un arall sy'n byw gyda nhw. Bydd y person hwnnw yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw. Mae bywyd yr anifail yn y gwaed. Dw i wedi ei roi i'w aberthu ar yr allor yn eich lle chi. Y bywyd yn y gwaed sy'n gwneud pethau'n iawn rhyngoch chi â Duw. Dyna pam dw i wedi dweud wrth bobl Israel fod neb ohonyn nhw, gan gynnwys mewnfudwyr o'r tu allan, i fwyta cig sydd â'r gwaed yn dal ynddo. “Os ydy unrhyw un o bobl Israel, neu unrhyw un arall sy'n byw gyda nhw, yn dal anifail neu aderyn sy'n iawn i'w fwyta, rhaid gadael i'r gwaed redeg allan ohono, ac wedyn gorchuddio'r gwaed hwnnw gyda pridd. Mae bywyd pob creadur byw yn y gwaed. Dyna pam dw i wedi dweud wrth bobl Israel fod neb i fwyta cig unrhyw anifail gyda'r gwaed yn dal ynddo. Bydd pwy bynnag sy'n ei fwyta yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw. “Os ydy rhywun yn bwyta cig anifail sydd wedi marw neu gael ei ladd gan anifail gwyllt, rhaid i'r person hwnnw olchi ei ddillad ac ymolchi mewn dŵr. Ond bydd e'n dal yn aflan am weddill y dydd. Ond ar ôl hynny bydd e'n lân. Os nad ydy'r person hwnnw yn golchi ei ddillad ac yn ymolchi, bydd yn cael ei gosbi am ei bechod.” Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Dywed wrth bobl Israel: “Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi. Peidiwch gwneud yr un fath â phobl yr Aifft, ble roeddech chi'n arfer byw. Na'r un fath â phobl Canaan, ble dw i'n mynd â chi. Peidiwch dilyn eu harferion nhw. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi. Rhaid i chi ddilyn fy rheolau i, a gwneud be dw i'n ddweud wrthoch chi. Byddwch yn ufudd a chadw fy rheolau i. Y rhai sy'n gwneud y pethau yma sy'n cael byw go iawn. Fi ydy'r ARGLWYDD. “Paid cael rhyw gyda rhywun sy'n perthyn yn agos i ti. Paid amharchu dy dad drwy gael rhyw gyda dy fam. Dy fam di ydy hi! A paid amharchu dy dad drwy gael rhyw gyda dy lysfam, gwraig dy dad. Paid cael rhyw gyda dy chwaer neu dy hanner chwaer — sdim ots ble mae hi wedi ei geni. Paid cael rhyw gyda phlentyn dy fab neu dy ferch. Maen nhw'n perthyn yn agos i ti! Paid cael rhyw gyda merch dy lysfam. Paid cael rhyw gyda dy fodryb, chwaer dy dad. Mae hi'n berthynas agos i dy dad. Paid cael rhyw gyda dy fodryb, chwaer dy fam. Mae hi'n berthynas agos i dy fam. Paid amharchu dy ewyrth, brawd dy dad, drwy gael rhyw gyda'i wraig. Dy fodryb di ydy hi! Paid cael rhyw gyda dy ferch-yng-nghyfraith. Gwraig dy fab di ydy hi, a dwyt ti ddim i gael rhyw gyda hi. Paid cael rhyw gyda gwraig dy frawd. Hi ydy perthynas agosaf dy frawd. Paid cael rhyw gyda merch neu wyres unrhyw wraig wyt ti wedi cael rhyw gyda hi yn y gorffennol. Maen nhw'n perthyn yn agos i'r wraig honno, ac mae gwneud peth felly yn gwbl ffiaidd. Paid achosi ffrae drwy briodi chwaer dy wraig, a chael rhyw gyda hi, pan mae dy wraig yn dal yn fyw. “Paid cael rhyw gyda gwraig pan mae hi'n cael ei hystyried yn ‛aflan‛ am ei bod yn diodde o'r misglwyf. Paid cael rhyw gyda gwraig rhywun arall. Mae gwneud peth felly'n dy wneud di'n ‛aflan‛. “Paid rhoi un o dy blant i'w losgi'n fyw i'r duw Molech. Mae gwneud peth felly yn sarhau enw Duw. Fi ydy'r ARGLWYDD. Dydy dyn ddim i gael rhyw gyda dyn arall. Mae hynny'n beth ffiaidd i'w wneud. Paid cael rhyw gydag anifail. Mae gwneud peth felly'n dy wneud di'n aflan. Rhaid i wraig beidio rhoi ei hun i anifail i gael rhyw gydag e. Mae'n beth ffiaidd, annaturiol i'w wneud. “Peidiwch gwneud eich hunain yn ffiaidd drwy wneud pethau fel yna. Dyna sut mae'r bobloedd dw i'n mynd i'w gyrru allan o'ch blaen chi wedi llygru eu hunain. Mae'r tir ei hun wedi cael ei wneud yn aflan yn fy ngolwg i. Dyna pam dw i'n eu cosbi nhw. Bydd y tir yn eu chwydu nhw allan. Byddwch yn ufudd, a chadw fy rheolau i. Peidiwch gwneud unrhyw un o'r pethau ffiaidd maen nhw'n eu gwneud; neb ohonoch chi — pobl Israel nag unrhyw un arall sy'n byw gyda chi. (Roedd y bobl oedd yn byw yn y wlad o'ch blaen chi yn gwneud y pethau yma i gyd, ac roedd hynny wedi gwneud y wlad yn aflan yn fy ngolwg i.) Os gwnewch chi'r un pethau, bydd y tir yn eich chwydu chi allan hefyd yr un fath. Pwy bynnag sy'n gwneud unrhyw un o'r pethau ffiaidd yma, bydd e'n cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw Gwnewch beth dw i'n eich siarsio chi i'w wneud, a peidio gwneud y pethau ffiaidd sy'n cael eu gwneud gan y bobl sydd yno o'ch blaen chi. Peidiwch gwneud y pethau sy'n eich gwneud chi'n aflan yn fy ngolwg i. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi.” Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Dywed wrth bobl Israel: Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi. Rhaid i chi fod yn sanctaidd am fy mod i'n sanctaidd. Rhaid i bob un ohonoch chi barchu ei fam a'i dad. Rhaid i chi gadw fy Sabothau. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi. Peidiwch troi cefn arna i ac addoli eilunod diwerth, na gwneud delwau o fetel tawdd. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi. Pan fyddwch chi'n cyflwyno offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD, rhaid i chi ei gyflwyno mewn ffordd sy'n ei wneud yn dderbyniol. Rhaid ei fwyta ar y diwrnod mae'n cael ei aberthu neu'r diwrnod wedyn. Os oes peth ar ôl ar y trydydd diwrnod rhaid ei losgi. Dydy e ddim i gael ei fwyta y diwrnod hwnnw. Mae'n gig sydd wedi ei halogi. Dydy e ddim yn dderbyniol i Dduw. Bydd pwy bynnag sy'n ei fwyta yn cael ei gosbi am bechu, am ei fod wedi trin rhywbeth sydd wedi ei gysegru i'r ARGLWYDD yn sarhaus. Bydd y person hwnnw yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw. Pan fyddi'n casglu'r cynhaeaf, rhaid i ti beidio casglu'r cwbl o bob cornel o'r cae. A paid mynd drwy'r cae yn casglu popeth sydd wedi ei adael ar ôl. Paid casglu'r grawnwin sy'n dy winllan i gyd. A paid mynd trwy'r winllan yn casglu'r ffrwyth sydd wedi disgyn ar lawr. Rhaid i ti adael peth i bobl dlawd, ac i'r rhai sydd ddim yn bobl Israel. Fi ydy'r ARGLWYDD dy Dduw di. Paid dwyn. Paid dweud celwydd. Paid twyllo pobl eraill. Paid defnyddio fy enw wrth gymryd llw rwyt ti'n mynd i'w dorri. Mae gwneud peth felly yn amharchu enw Duw. Fi ydy'r ARGLWYDD. Paid cymryd mantais o bobl eraill neu ddwyn oddi arnyn nhw. Tala ei gyflog i weithiwr ar ddiwedd y dydd, paid cadw'r arian tan y bore. Paid enllibio rhywun sy'n fyddar, neu osod rhywbeth o flaen rhywun sy'n ddall i wneud iddo faglu. Parcha Dduw. Fi ydy'r ARGLWYDD. Paid bod yn annheg wrth farnu. Paid cadw ochr rhywun am ei fod yn dlawd na dangos parch at rywun am ei fod yn bwysig. Bydd yn hollol deg wrth farnu. Paid mynd o gwmpas dy bobl yn dweud celwydd a hel clecs. Paid gwneud dim sy'n rhoi bywyd rhywun arall mewn perygl. Fi ydy'r ARGLWYDD. Paid dal dig yn erbyn rhywun. Os oes gen ti ddadl gyda rhywun, mae'n well delio gyda'r peth yn agored rhag i ti bechu o'i achos e. Paid dial ar bobl neu ddal dig yn eu herbyn nhw. Rwyt i garu dy gymydog fel rwyt ti'n dy garu dy hun. Fi ydy'r ARGLWYDD. Byddwch yn ufudd i mi. Paid croesi dau fath gwahanol o anifail gyda'i gilydd. Paid hau dau fath gwahanol o hadau yn dy gaeau. Paid gwisgo dillad wedi eu gwneud o ddau fath gwahanol o ddefnydd. “Os ydy dyn yn cael rhyw gyda caethforwyn sydd wedi ei dyweddïo i ddyn arall ond heb eto gael ei phrynu'n rhydd, rhaid iddyn nhw gael eu cosbi. Fyddan nhw ddim yn wynebu'r gosb eithaf am nad oedd hi eto wedi cael ei rhyddid. Ond rhaid i'r dyn ddod ag offrwm i gyfaddef ei fai i'r ARGLWYDD at fynedfa Pabell Presenoldeb Duw — offrwm o hwrdd i gyfaddef ei fai. Mae'r offeiriad i gymryd yr hwrdd a mynd trwy'r ddefod o wneud pethau'n iawn rhwng y dyn sydd wedi pechu a'r ARGLWYDD. Bydd Duw yn maddau iddo am y pechod. “Pan fyddwch wedi cyrraedd y wlad, ac wedi plannu coed ffrwythau yno, rhaid i chi beidio casglu'r ffrwyth na'i fwyta am dair blynedd. Yn y bedwaredd flwyddyn mae'r ffrwyth i gael ei gysegru yn offrwm o fawl i'r ARGLWYDD. Wedyn yn y bumed flwyddyn cewch fwyta'r ffrwyth. Os gwnewch chi hyn byddwch yn cael cnydau lawer iawn mwy. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi. Peidiwch bwyta dim byd sydd â gwaed yn dal ynddo. Peidiwch gwneud pethau fel dweud ffortiwn neu ddewino. Peidiwch siafio'r gwallt ar ochr eich pen, na trimio'ch barf, na torri'ch hunain â chyllyll wrth alaru am rywun sydd wedi marw. Peidiwch rhoi tatŵ ar eich corff. Fi ydy'r ARGLWYDD. Paid amharchu dy ferch drwy ei gwneud hi'n butain crefyddol, rhag i'r wlad i gyd droi cefn arna i ac ymddwyn yn gwbl ffiaidd fel puteiniaid. Rhaid i chi gadw fy Sabothau a pharchu fy lle cysegredig i. Fi ydy'r ARGLWYDD. Peidiwch mynd ar ôl ysbrydion neu siarad â'r meirw. Mae pethau felly'n eich gwneud chi'n aflan yng ngolwg Duw. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi. Dylet godi ar dy draed i ddangos parch at bobl mewn oed. Ac ofni Duw. Fi ydy'r ARGLWYDD. Paid cam-drin mewnfudwyr sy'n byw yn eich plith chi. Dylet ti eu trin nhw a dy bobl dy hun yr un fath. Dylet ti eu caru nhw am mai pobl ydyn nhw fel ti. Pobl o'r tu allan oeddech chi yn yr Aifft. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi. “Peidiwch twyllo wrth fesur hyd rhywbeth, pwysau, na mesur hylifol. Dylech ddefnyddio clorian sy'n gywir, pwysau cywir a mesurau sych a hylifol cywir. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi. Fi wnaeth eich achub chi o'r Aifft. Byddwch yn ufudd a chadw fy rheolau i gyd. Fi ydy'r ARGLWYDD.” Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Dywed wrth bobl Israel: Os ydy unrhyw un o bobl Israel, neu unrhyw un arall sy'n byw gyda nhw, yn aberthu un o'i blant i'r duw Molech, y gosb ydy marwolaeth. Rhaid i bobl daflu cerrig ato nes bydd wedi marw. Bydda i'n troi yn erbyn person felly. Bydd e'n cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw, am roi ei blentyn i Molech, llygru'r cysegr, a sarhau fy enw sanctaidd i. Os bydd pobl y wlad yn diystyru'r peth pan mae rhywun yn rhoi ei blentyn i Molech, a ddim yn ei roi i farwolaeth, bydda i fy hun yn troi yn erbyn y dyn hwnnw a'i deulu. Byddan nhw'n cael eu torri allan o gymdeithas pobl Dduw. Dyna fydd yn digwydd iddo, ac i bawb arall sy'n gwneud yr un fath ac yn puteinio drwy addoli'r duw Molech. Neu os ydy rhywun yn mynd ar ôl ysbrydion neu'n ceisio siarad â'r meirw, bydda i'n troi yn erbyn y person hwnnw, a bydd e'n cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw Rhaid i chi gysegru'ch hunain i mi, a bod yn sanctaidd. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi. Byddwch yn ufudd i mi, a gwneud beth dw i'n ddweud. Fi ydy'r ARGLWYDD sy'n eich cysegru chi yn bobl i mi fy hun. Os ydy rhywun yn melltithio ei dad neu ei fam, y gosb ydy marwolaeth. Fe ei hun sydd ar fai. Os ydy rhywun yn cysgu gyda gwraig dyn arall, y gosb ydy marwolaeth i'r ddau ohonyn nhw. Mae dyn sy'n cael rhyw gyda gwraig ei dad yn amharchu ei dad. Y gosb ydy marwolaeth i'r ddau. Arnyn nhw mae'r bai. Os ydy dyn yn cael rhyw gyda'i ferch-yng-nghyfraith, y gosb ydy marwolaeth i'r ddau. Maen nhw wedi gwneud peth ffiaidd. Arnyn nhw mae'r bai. Os ydy dyn yn cael rhyw gyda dyn arall, mae'r ddau wedi gwneud peth ffiaidd. Y gosb ydy marwolaeth i'r ddau. Arnyn nhw mae'r bai. Mae hefyd yn beth cwbl ffiaidd i ddyn gael rhyw gyda gwraig a'i mam. Y gosb ydy llosgi'r tri ohonyn nhw i farwolaeth. Does dim byd ffiaidd fel yma i ddigwydd yn eich plith chi. Os ydy dyn yn cael rhyw gydag anifail, y gosb ydy marwolaeth. Ac mae'r anifail i gael ei ladd hefyd. Os ydy gwraig yn mynd at anifail i gael rhyw gydag e, y gosb ydy marwolaeth. Rhaid i'r wraig a'r anifail farw. Arnyn nhw mae'r bai. Mae'n beth gwarthus i ddyn gael rhyw gyda'i chwaer (merch i'w dad neu i'w fam), a'r ddau yn gweld ei gilydd yn noeth. Byddan nhw'n cael eu torri allan o gymdeithas pobl Dduw. Mae'r dyn wedi amharchu ei chwaer, ac mae'n rhaid iddo gael ei gosbi. Os ydy dyn yn cael rhyw gyda gwraig sy'n diodde o'r misglwyf, mae ffynhonnell ei gwaedlif wedi ei amlygu. Bydd y ddau ohonyn nhw yn cael eu torri allan o gymdeithas pobl Dduw. Paid cael rhyw gyda chwaer dy fam neu chwaer dy dad. Mae gwneud hynny yn amharchu perthynas agos. Byddan nhw'n cael eu cosbi am eu pechod. Os ydy dyn yn cael rhyw gyda gwraig ei ewythr, mae e'n amharchu ei ewythr. Maen nhw'n gyfrifol am eu pechod. Byddan nhw'n marw heb gael plant. Mae'n beth anweddus i ddyn gymryd gwraig ei frawd. Mae e'n amharchu ei frawd. Byddan nhw'n methu cael plant. “Byddwch yn ufudd a chadw fy rheolau i gyd, er mwyn i'r tir dw i'n mynd â chi i fyw ynddo beidio eich chwydu chi allan. Peidiwch gwneud yr un fath â phobl y wlad dw i'n eu gyrru allan o'ch blaen chi. Roeddwn i'n eu ffieiddio nhw am wneud y fath bethau. Ond dw i wedi dweud wrthoch chi: Dw i wedi addo rhoi eu tir nhw i chi. Mae'n dir ffrwythlon — tir lle mae llaeth a mêl yn llifo. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi. Dw i wedi eich dewis chi i fod yn wahanol i'r gwledydd eraill. Dyna pam mae'n rhaid i chi wahaniaethu rhwng yr anifeiliaid a'r adar sy'n lân a'r rhai sy'n aflan. Peidiwch llygru eich hunain drwy fwyta unrhyw anifail neu aderyn neu greadur arall dw i wedi dweud wrthoch chi ei fod yn aflan. Rhaid i chi gysegru'ch hunain i mi. Dw i, yr ARGLWYDD yn sanctaidd, a dw i wedi'ch dewis chi i fod y bobl i mi, ac yn wahanol i'r gwledydd eraill i gyd. “Os oes dyn neu wraig sy'n codi ysbrydion neu'n galw'r meirw yn ôl yn byw yn eich plith chi, y gosb am wneud peth felly ydy marwolaeth. Rhaid eu lladd drwy daflu cerrig atyn nhw. Arnyn nhw mae'r bai.” Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Dywed hyn wrth yr offeiriaid, disgynyddion Aaron: “Dydy offeiriad ddim i wneud ei hun yn aflan drwy fynd yn agos at gorff perthynas sydd wedi marw. Dydy e ddim ond yn cael mynd at ei berthnasau agosaf — mam, tad, merch, brawd, neu chwaer ddibriod oedd heb ŵr i ofalu amdani. Dydy e ddim i fynd at rywun sy'n perthyn iddo trwy briodas. Byddai'n gwneud ei hun yn aflan wrth wneud hynny. Dydy offeiriad ddim i siafio rhan o'i ben yn foel, na trimio ei farf, na torri ei hun wrth alaru. Maen nhw i gysegru eu hunain i Dduw, a peidio sarhau enw eu Duw. Nhw sy'n cyflwyno offrymau i'w llosgi i'r ARGLWYDD, sef bwyd i'w Duw. Maen nhw i fod wedi eu cysegru. Dydy offeiriad ddim i briodi putain, na gwraig sydd wedi gweithio mewn teml baganaidd, na gwraig sydd wedi cael ysgariad. Maen nhw wedi cysegru eu hunain i Dduw. Rhaid i chi ystyried yr offeiriad yn sanctaidd, am fy mod i, yr ARGLWYDD, wedi'ch cysegru chi yn bobl i mi fy hun. Pan mae merch offeiriad yn amharchu ei hun drwy droi'n butain grefyddol, mae hi'n amharchu ei thad hefyd. Rhaid iddi gael ei llosgi i farwolaeth. “Dydy'r archoffeiriad, sef yr un sydd wedi cael ei eneinio ag olew a'i ordeinio i wisgo'r gwisgoedd offeiriadol, ddim i adael ei wallt yn flêr nag i rwygo ei ddillad. Dydy e ddim i fynd yn agos at gorff marw. Dydy e ddim i wneud ei hun yn aflan hyd yn oed pan mae ei dad neu ei fam wedi marw. Dydy e ddim i fynd allan o'r cysegr, rhag iddo sarhau cysegr Duw. Mae wedi ei gysegru gydag olew eneinio ei Dduw. Fi ydy'r ARGLWYDD. Rhaid iddo briodi merch sy'n wyryf. Dydy e ddim i briodi gwraig weddw, gwraig sydd wedi cael ysgariad, gwraig sydd wedi gweithio mewn teml baganaidd neu butain. Rhaid iddo briodi merch o'i lwyth ei hun sy'n wyryf, rhag iddo gael plant sydd ddim yn dderbyniol i Dduw. Fi ydy'r ARGLWYDD sydd wedi ei gysegru e i mi fy hun.” Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Dywed wrth Aaron: Does neb o dy ddisgynyddion di sydd â nam arno i gael dod yn agos i offrymu bwyd ei Dduw. Neb sy'n ddall, yn anabl, gyda wyneb wedi ei anffurfio, neu ryw nam corfforol arall, wedi torri ei goes neu ei fraich, yn grwca neu'n gorrach, neu'n ddyn sydd a rhywbeth o'i le ar ei lygaid, rhyw afiechyd ar y croen, neu wedi niweidio ei geilliau. Does neb o ddisgynyddion Aaron sydd â nam arnyn nhw i gael dod ag offrymu rhoddion i'r ARGLWYDD. Os oes nam arno dydy e ddim yn cael cyflwyno bwyd ei Dduw. Maen iawn iddo fwyta bwyd ei Dduw, yr hyn sydd wedi ei gysegru a'r offrymau mwyaf sanctaidd. Ond dydy e ddim i gael mynd yn agos at y llen na'r allor, am fod nam arno, rhag iddo lygru fy lle cysegredig i a phopeth sydd yno. Fi ydy'r ARGLWYDD sydd yn eu cysegru nhw i mi fy hun.” Dyma'r pethau ddwedodd Moses wrth Aaron a'i ddisgynyddion ac wrth bobl Israel. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Dywed wrth Aaron a'i ddisgynyddion fod rhaid iddyn nhw ddangos parch at yr offrymau sanctaidd mae pobl Israel yn eu cyflwyno, fel eu bod nhw ddim yn sarhau fy enw sanctaidd i. Fi ydy'r ARGLWYDD. Dywed wrthyn nhw: O hyn ymlaen, os bydd unrhyw un ohonoch chi yn aflan am ryw reswm ac yn mynd yn agos at yr offrymau sanctaidd mae pobl Israel yn eu cyflwyno, bydd y person hwnnw yn cael ei dorri allan, a ddim yn cael dod yn agos ata i. Fi ydy'r ARGLWYDD. “Does neb o ddisgynyddion Aaron sy'n diodde o glefyd heintus ar y croen neu glefyd ar ei bidyn i gael bwyta'r offrymau sanctaidd nes bydd e'n lân. A peidiwch cyffwrdd unrhyw beth sydd wedi ei wneud yn aflan (gan gorff marw, dyn sydd wedi gollwng ei had, unrhyw anifail aflan neu greadur aflan arall, neu unrhyw berson sy'n aflan am unrhyw reswm o gwbl). Bydd y dyn sy'n cyffwrdd rhywbeth felly yn aflan am weddill y dydd, a dydy e ddim i fwyta o'r offrymau sanctaidd nes bydd e wedi ymolchi mewn dŵr. Bydd e'n lân ar ôl i'r haul fachlud. Mae'n iawn iddo fwyta'r offrymau sanctaidd wedyn — wedi'r cwbl dyna ei fwyd e. “A peidiwch bwyta rhywbeth sydd wedi marw ohono'i hun neu wedi cael ei ladd gan anifail gwyllt. Mae hynny'n eich gwneud chi'n aflan hefyd. Fi ydy'r ARGLWYDD. Gwnewch beth dw i'n ei ddweud, rhag i mi eich cael chi'n euog ac i chi farw yn y cysegr am eich bod wedi ei halogi. Fi ydy'r ARGLWYDD sydd wedi'ch cysegru chi'r offeiriaid. [10-11] “Does neb ond yr offeiriaid a'u teulu agosaf i gael bwyta'r offrymau sanctaidd. Does neb sy'n lletya gyda'r offeiriad i'w fwyta, na neb sy'n gweithio iddo. Ond os ydy e wedi prynu caethwas, mae hwnnw a'i deulu yn cael bwyta. *** Os ydy merch offeiriad yn priodi dyn sydd ddim yn offeiriad, dydy hi ddim i gael bwyta'r offrymau o hynny ymlaen. Ond wedyn, os ydy merch yr offeiriad yn mynd yn ôl i fyw at ei thad am fod ei gŵr wedi marw neu am ei bod hi wedi cael ysgariad, a bod dim plant ganddi, mae ganddi hawl i fwyta bwyd ei thad eto. Does neb ond yr offeiriaid a'u teulu agosaf i gael ei fwyta. “Os ydy unrhyw un arall yn ddamweiniol yn bwyta'r offrymau sanctaidd, rhaid iddo dalu am y bwyd ac ychwanegu 20%. Does neb i amharchu'r offrymau sanctaidd mae pobl Israel yn eu cyflwyno i'r ARGLWYDD. Mae unrhyw un sydd ddim i fod i'w bwyta yn euog os ydyn nhw'n gwneud hynny. Fi ydy'r ARGLWYDD sy'n eu cysegru nhw i mi fy hun.” Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Dywed wrth Aaron a'i ddisgynyddion, ac wrth bobl Israel i gyd: ‘Pan mae un o bobl Israel, neu unrhyw un arall sy'n byw gyda nhw, yn cyflwyno offrwm i'w losgi'n llwyr i'r ARGLWYDD — offrwm wrth wneud addewid, neu un sy'n cael ei roi i'r ARGLWYDD o wirfodd — dylai fod yn anifail gwryw heb ddim byd o'i le arno — tarw ifanc, hwrdd neu fwch gafr. Rhaid peidio cyflwyno anifail sydd â nam arno. Fydd Duw ddim yn ei dderbyn ar eich rhan chi. “‘Pan mae rhywun yn cyflwyno offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD ar ôl cyflawni ei addewid, rhaid i'r anifail — o'r gyr o wartheg neu o'r praidd o ddefaid a geifr — fod heb ddim byd o'i le arno. Os ydy'r ARGLWYDD i'w dderbyn rhaid iddo fod heb nam arno. Peidiwch cyflwyno anifail i'r ARGLWYDD sy'n ddall, wedi torri asgwrn, wedi ei anafu, gyda briw wedi mynd yn ddrwg, brech neu unrhyw afiechyd ar y croen. Dydy anifail felly ddim i gael ei gyflwyno ar yr allor yn rhodd i'r ARGLWYDD. Mae'n iawn i gyflwyno anifail sydd ag un goes yn hirach neu'n fyrrach na'r lleill fel offrwm sy'n cael ei roi'n wirfoddol, ond dim fel offrwm i wneud addewid. Peidiwch cyflwyno anifail i'r ARGLWYDD sydd â'i geilliau wedi eu hanafu neu sydd wedi cael ei sbaddu. Dydy hynny ddim i gael ei wneud yn eich gwlad chi. A dydy anifail felly sydd wedi ei brynu gan rywun sydd ddim yn Israeliad ddim i gael ei gyflwyno yn fwyd i'ch Duw. Am eu bod nhw wedi eu sbwylio, ac am fod nam arnyn nhw, fydd yr ARGLWYDD ddim yn eu derbyn nhw ar eich rhan chi.’” Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Pan mae llo neu oen neu fyn gafr yn cael ei eni, mae'r anifail i aros gyda'i fam am saith diwrnod. Ond ar ôl wythnos bydd yn iawn i'w gyflwyno'n offrwm i'w losgi i'r ARGLWYDD. Dydy buwch neu ddafad ddim i gael ei lladd ar yr un diwrnod a'u rhai bach. Wrth aberthu anifail i ddiolch i'r ARGLWYDD am rywbeth, rhaid ei aberthu yn y ffordd iawn, fel bod Duw yn ei dderbyn ar eich rhan. Rhaid ei fwyta y diwrnod hwnnw. Does dim ohono i gael ei adael tan y bore wedyn. Fi ydy'r ARGLWYDD. Gwnewch beth dw i'n ddweud. Fi ydy'r ARGLWYDD. Peidiwch sarhau fy enw sanctaidd i. Dw i eisiau i bobl Israel fy anrhydeddu i. Fi ydy'r ARGLWYDD sydd wedi'ch cysegru chi yn bobl i mi fy hun. Fi wnaeth eich achub chi o'r Aifft, i mi fod yn Dduw i chi. Fi ydy'r ARGLWYDD.” Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Dywed wrth bobl Israel: “Dw i wedi dewis amserau penodol i chi eu cadw fel gwyliau pan fyddwch chi'n dod at eich gilydd i addoli: “Mae chwech diwrnod i chi allu gweithio, ond mae'r seithfed diwrnod yn Saboth. Diwrnod i chi orffwys a dod at eich gilydd i addoli. Peidiwch gweithio ble bynnag fyddwch chi'n byw. Mae'r diwrnod yma yn Saboth i'r ARGLWYDD. “Dyma'r gwyliau penodol eraill pan mae'r ARGLWYDD am i chi ddod at eich gilydd i addoli: “Mae Pasg yr ARGLWYDD i gael ei ddathlu pan mae'n dechrau nosi ar y pedwerydd ar ddeg o'r mis cyntaf. “Mae Gŵyl y Bara Croyw yn dechrau ar y pymthegfed o'r mis hwnnw. Am saith diwrnod rhaid i chi fwyta bara sydd heb furum ynddo. Ar y diwrnod cyntaf rhaid i chi ddod at eich gilydd i addoli. Peidiwch gweithio fel arfer ar y diwrnod yma. Rhaid i chi gyflwyno offrwm i'w losgi i'r ARGLWYDD bob dydd, ac ar y seithfed diwrnod dod at eich gilydd i addoli eto, a peidio gwneud eich gwaith arferol.” Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Dywed wrth bobl Israel: “Pan fyddwch chi wedi cyrraedd y wlad dw i'n ei rhoi i chi, ac yn casglu'r cynhaeaf, mae'r ysgub gyntaf o bob cnwd i gael ei roi i'r offeiriad. Ar y diwrnod ar ôl y Saboth mae'r offeiriad i gymryd yr ysgub a'i chwifio o flaen yr ARGLWYDD, a bydd Duw yn ei derbyn hi. Ar y diwrnod hwnnw hefyd rhaid i chi gyflwyno oen blwydd oed heb nam arno yn aberth i'w losgi'n llwyr i'r ARGLWYDD. Gydag e rhaid llosgi dau gilogram o'r blawd gwenith gorau wedi ei gymysgu gydag olew olewydd. Mae'n rhodd sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD, gydag offrwm o ddiod hefyd, sef litr o win. Peidiwch bwyta dim o'r grawn, fel y mae neu wedi ei grasu, na bara wedi ei wneud ohono chwaith, nes byddwch chi wedi cyflwyno'r offrwm yma. Fydd y rheol yma byth yn newid ble bynnag fyddwch chi'n byw. “Saith wythnos union ar ôl y diwrnod pan oedd yr ysgub yn cael ei chodi yn offrwm i'r ARGLWYDD, rwyt i ddod ac offrwm arall o rawn newydd. Mae hyn i ddigwydd bum deg diwrnod wedyn, sef y diwrnod ar ôl y seithfed Saboth. Tyrd â dwy dorth o fara i'w codi a'u chwifio o flaen yr ARGLWYDD. Maen nhw i gael eu gwneud o ddau gilogram o'r blawd gwenith gorau, a'u pobi gyda burum, fel offrwm wedi ei wneud o rawn cnwd cynta'r cynhaeaf. “Hefyd rhaid cyflwyno saith oen sy'n flwydd oed, tarw ifanc, a dau hwrdd. Anifeiliaid heb unrhyw nam arnyn nhw, i'w llosgi'n llwyr yn offrwm sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD, gyda'r offrwm o rawn a'r offrwm o ddiod sydd i fynd gyda pob un. Rwyt i gyflwyno bwch gafr yn offrwm i lanhau o bechod, a dau oen gwryw blwydd oed yn offrwm i gydnabod mor dda ydw i. Rhaid i'r offeiriad eu codi nhw — sef y ddau oen — a'u chwifio nhw o flaen yr ARGLWYDD gyda'r bara sydd wedi ei wneud o rawn cnwd cynta'r cynhaeaf. Byddan nhw wedi eu cysegru ac yn cael eu rhoi i'r offeiriaid. Dych chi i ddathlu ar y diwrnod yma, a dod at eich gilydd i addoli. Peidio gwneud gwaith fel arfer. Fydd y rheol yma byth yn newid, ble bynnag fyddwch chi'n byw. “Pan fyddi'n casglu'r cynhaeaf, rhaid i ti beidio casglu'r cwbl o bob cornel o'r cae. A paid mynd drwy'r cae yn casglu popeth sydd wedi ei adael ar ôl. Rhaid i ti adael peth i bobl dlawd, a'r rhai sydd ddim yn bobl Israel. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi.” Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Dywed wrth bobl Israel: Ar ddiwrnod cyntaf y seithfed mis dych chi i orffwys yn llwyr. Diwrnod y cofio, yn cael ei gyhoeddi drwy ganu utgyrn, pan fyddwch chi'n dod at eich gilydd i addoli. Peidiwch gweithio fel arfer, ond dod a chyflwyno rhoddion i'w llosgi i'r ARGLWYDD.” Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Y degfed diwrnod o'r seithfed mis ydy'r diwrnod i wneud pethau'n hollol iawn rhyngoch chi â Duw. Rhaid i chi ddod at eich gilydd i addoli. Rhaid i chi beidio bwyta, i ddangos eich bod chi'n sori am eich pechod, a dod â rhoddion i'w llosgi i'r ARGLWYDD. Peidiwch gweithio ar y diwrnod yna, am mai'r diwrnod i wneud pethau'n iawn rhyngoch chi â'r ARGLWYDD eich Duw ydy e. Yn wir, os bydd rhywun yn gwrthod mynd heb fwyd, bydd y person hwnnw yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw. Ac os bydd unrhyw un yn gweithio ar y diwrnod hwnnw, bydda i'n dinistrio'r person hwnnw — bydd e'n marw. Rhaid i chi beidio gweithio! Fydd y rheol yma byth yn newid, ble bynnag fyddwch chi'n byw. Mae'r diwrnod yma yn ddiwrnod o orffwys llwyr i chi, fel y Saboth. Rhaid i chi beidio bwyta o'r amser pan fydd hi'n nosi y noson cynt nes iddi nosi y diwrnod hwnnw. Rhaid i chi ei gadw fel Saboth.” Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Dywed wrth bobl Israel: Ar y pymthegfed diwrnod o'r seithfed mis rhaid i bawb ddathlu Gŵyl y Pebyll am saith diwrnod. Does neb i weithio ar ddiwrnod cynta'r Ŵyl. Byddwch yn dod at eich gilydd i addoli. Rhaid i chi gyflwyno offrwm i'w losgi i'r ARGLWYDD bob dydd am saith diwrnod. Ar yr wythfed diwrnod byddwch yn dod at eich gilydd i addoli, a chyflwyno rhoddion i'r ARGLWYDD. Dyma'r diwrnod olaf i chi ddod at eich gilydd. Rhaid i chi beidio gweithio o gwbl. “Dyma'r gwyliau penodol dw i wedi eu dewis i chi ddod at eich gilydd i addoli. Rhaid i chi gyflwyno rhoddion i'r ARGLWYDD — offrymau i'w llosgi'n llwyr, offrymau o rawn, aberthau, a'r offrymau o ddiod sydd wedi eu penodi ar gyfer bob dydd. Hyn i gyd heb sôn am Sabothau'r ARGLWYDD, eich rhoddion, eich offrymau wrth wneud addewid, a'r offrymau dych chi'n eu rhoi o'ch gwirfodd i'r ARGLWYDD. “Ar y pymthegfed diwrnod o'r seithfed mis, pan fyddwch wedi casglu'ch cnydau i gyd, rhaid i chi ddathlu a chynnal Gŵyl i'r ARGLWYDD am saith diwrnod. Mae'r diwrnod cyntaf i fod yn ddiwrnod o orffwys llwyr, a'r wythfed diwrnod hefyd. Ar y diwrnod cyntaf dych chi i gymryd canghennau o'r coed ffrwythau gorau — canghennau coed palmwydd, a choed deiliog eraill a'r helyg sy'n tyfu ar lan yr afon — a dathlu o flaen yr ARGLWYDD eich Duw am saith diwrnod. Rhaid i chi ddathlu'r Ŵyl yma i'r ARGLWYDD am saith diwrnod bob blwyddyn. Mae'n rheol sydd i'w gadw bob amser yn y seithfed mis. Rhaid i chi aros mewn lloches dros dro am saith diwrnod. Mae pobl Israel i gyd i aros ynddyn nhw, er mwyn i'ch plant chi wybod fy mod i wedi gwneud i bobl Israel aros mewn llochesau felly pan ddes i â nhw allan o wlad yr Aifft. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi.” Felly dwedodd Moses wrth bobl Israel am y gwyliau penodol oedd yr ARGLWYDD eisiau iddyn nhw eu cadw. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Dywed wrth bobl Israel fod rhaid iddyn nhw ddod ag olew olewydd pur i mi fel bod y lampau wedi eu goleuo'n gyson. Mae Aaron i'w gosod tu allan i'r llen sydd o flaen Arch y dystiolaeth yn y Tabernacl. Rhaid iddo ofalu eu bod yn llosgi drwy'r nos o flaen yr ARGLWYDD. Mae hyn i fod yn rheol bob amser. Rhaid iddo ofalu bob amser am y lampau ar y menora cysegredig sydd o flaen yr ARGLWYDD. “Rhaid defnyddio'r blawd gwenith gorau a pobi deuddeg torth gydag e. Dau gilogram o flawd ar gyfer pob torth. Mae'r deuddeg torth i'w gosod ar y bwrdd cysegredig sydd o flaen yr ARGLWYDD. Rhaid eu gosod yn ddau bentwr o chwech yr un. Yna rhaid rhoi thus pur ar y ddau bentwr, a bydd y bara yn ernes, yn rhodd i'r ARGLWYDD. Mae Aaron i wneud hyn yn ddi-ffael bob Saboth, a'u gosod mewn trefn o flaen yr ARGLWYDD. Mae'n ymrwymiad mae'n rhaid i bobl Israel ei gadw bob amser. Mae'r offeiriaid, Aaron a'i feibion, i gael y bara. Rhaid iddyn nhw fwyta'r torthau mewn lle cysegredig am eu bod yn rhoddion sydd wedi eu cysegru i'r ARGLWYDD.” [10-11] Un diwrnod roedd dyn oedd yn fab i un o wragedd Israel, ond ei dad yn Eifftiwr, wedi mynd allan o'i babell i wersyll yr Israeliaid. A dyma fe'n dechrau ymladd gyda un o ddynion Israel. Dyma fe'n amharchu enw Duw, a melltithio. Felly dyma nhw'n mynd ag e at Moses. Enw ei fam oedd Shlomit (merch Dibri, o lwyth Dan). *** Dyma nhw'n ei gadw yn y ddalfa nes byddai'r ARGLWYDD yn gwneud yn glir iddyn nhw beth oedd i ddigwydd iddo. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Mae'r dyn yma wedi fy melltithio i. Dos â fe allan o'r gwersyll, a gwna i'r rhai glywodd e'n melltithio osod eu dwylo ar ei ben. Wedyn rhaid i bawb sydd wedi dod at ei gilydd yno ei ladd drwy daflu cerrig ato. Wedyn rhaid i ti ddweud wrth bobl Israel, ‘Mae unrhyw un sy'n melltithio enw ei Dduw yn gyfrifol am ei bechod, ac mae unrhyw un sy'n amharchu enw'r ARGLWYDD i farw. Rhaid i bawb daflu cerrig ato a'i ladd. Sdim ots os ydy'r person yn un o bobl Israel neu'n fewnfudwr sy'n byw yn ein plith. Mae unrhyw un sy'n amharchu enw Duw i farw. “‘Marwolaeth ydy'r gosb am lofruddiaeth hefyd. Os ydy rhywun yn lladd anifail, rhaid iddo dalu drwy roi anifail tebyg yn ei le i'r perchennog. Os ydy rhywun wedi anafu person arall, rhaid i'r gosb gyfateb i'r drosedd — anaf am anaf, llygad am lygad, dant am ddant — beth bynnag mae e wedi ei wneud i'r person arall, dyna sydd i gael ei wneud iddo fe. Os ydy rhywun yn lladd anifail, rhaid iddo wneud iawn am y peth. Ond os ydy rhywun yn llofruddio rhywun arall, rhaid iddo farw. Yr un ydy'r gyfraith i bobl Israel a mewnfudwyr sy'n byw yn eu plith. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi.’” Ar ôl i Moses ddweud hyn, dyma nhw'n mynd â'r un oedd wedi melltithio Duw allan o'r gwersyll, a'i ladd drwy daflu cerrig ato. Felly dyma bobl Israel yn gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses. Pan oedd Moses ar Fynydd Sinai dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho: “Dywed wrth bobl Israel: “Pan fyddwch chi wedi cyrraedd y wlad dw i'n ei rhoi i chi, rhaid i'r tir gadw Saboth i'r ARGLWYDD a gorffwys. Cewch hau eich had a thrin eich gwinllannoedd a chasglu'r cnydau am chwe mlynedd. Ond mae'r seithfed flwyddyn i fod yn Saboth i'r ARGLWYDD — blwyddyn i'r tir orffwys. Does dim hau i fod, na thrin gwinllannoedd. Rhaid i chi beidio casglu'r cnwd sy'n tyfu ohono'i hun, na'r grawnwin o'r gwinllannoedd sydd heb eu trin. Mae'r tir i gael gorffwys yn llwyr am flwyddyn. Ond mae'n iawn i unigolion fwyta beth sy'n tyfu ohono'i hun — chi'ch hunain, y dynion a'r merched sy'n gaethweision, y bobl sy'n cael eu cyflogi gynnoch chi, ac unrhyw fewnfudwyr sy'n byw yn eich plith chi. Mae yna i'ch anifeiliaid ei fwyta hefyd, a'r anifeiliaid gwylltion sy'n byw ar y tir. “Bob pedwar deg naw mlynedd (sef saith Saboth o flynyddoedd — saith wedi ei luosi gyda saith), ar y degfed diwrnod o'r seithfed mis, sef y diwrnod i wneud pethau'n hollol iawn, rhaid canu'r corn hwrdd drwy'r wlad i gyd. Rhaid cyhoeddi fod y flwyddyn wedyn, sef yr hanner canfed flwyddyn, wedi ei chysegru. Dyma flwyddyn y rhyddhau mawr i bawb drwy'r wlad i gyd — blwyddyn o ddathlu. Mae pawb i gael eiddo'r teulu yn ôl, ac i fynd yn ôl at ei deulu estynedig. Mae hon i fod yn flwyddyn o ddathlu mawr. Rhaid i chi beidio hau na chasglu'r cnwd sy'n tyfu ohono'i hun, na'r grawnwin o'r gwinllannoedd sydd heb eu trin. Mae'n flwyddyn o ddathlu, wedi ei chysegru. Mae unigolion i gael bwyta beth sy'n tyfu ohono'i hun. “Yn y flwyddyn yma mae pawb i gael eiddo'r teulu yn ôl. Os ydy rhywun yn gwerthu eiddo, neu'n prynu gan gyd-Israeliad, rhaid bod yn gwbl deg a pheidio cymryd mantais. Dylai'r pris gael ei gytuno ar sail faint o flynyddoedd sydd wedi mynd heibio ers blwyddyn y rhyddhau, a nifer y cnydau fydd y tir yn eu rhoi cyn y flwyddyn rhyddhau nesaf. Os oes blynyddoedd lawer i fynd, bydd y pris yn uwch. Os mai ychydig o flynyddoedd sydd i fynd bydd y pris yn is. Beth sy'n cael ei werthu go iawn ydy nifer y cnydau fydd y tir yn ei roi. Peidiwch cymryd mantais o rywun arall. Ofnwch eich Duw. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi. “Byddwch yn ufudd a chadw fy rheolau i'n ffyddlon. Cewch fyw yn saff yn y wlad wedyn. Bydd y tir yn rhoi digon i chi ei fwyta, a cewch fyw yn saff. Peidiwch poeni na fydd digon i'w fwyta yn y seithfed flwyddyn, pan dych chi ddim i fod i hau na chasglu cnydau. Bydda i'n gwneud yn siŵr fod cnwd y chweched flwyddyn yn ddigon i bara am dair blynedd. Byddwch chi'n dal i fwyta o gnydau y chweched flwyddyn pan fyddwch chi'n hau eich had yn yr wythfed flwyddyn. Bydd digon gynnoch chi tan y nawfed flwyddyn pan fydd y cnwd newydd yn barod i'w gasglu. “Dydy tir ddim i gael ei werthu am byth. Fi sydd piau'r tir. Mewnfudwyr neu denantiaid sy'n byw arno dros dro ydych chi. Pan mae tir yn cael ei werthu, rhaid i'r gwerthwr fod â'r hawl i'w brynu yn ôl. “Os ydy un o'ch pobl chi yn mynd mor dlawd nes bod rhaid iddo werthu peth o'i dir, mae gan ei berthynas agosaf hawl i ddod a prynu'r tir yn ôl. Lle does dim perthynas agosaf yn gallu prynu'r tir, mae'r gwerthwr ei hun yn gallu ei brynu os ydy e'n llwyddo i ennill digon o arian i wneud hynny. Dylai gyfri faint o flynyddoedd sydd wedi mynd heibio ers iddo werthu'r tir, talu'r gwahaniaeth i'r person wnaeth ei brynu, a chymryd y tir yn ôl. Os nad oes ganddo ddigon i brynu ei dir yn ôl, mae'r tir i aros yn nwylo'r prynwr hyd flwyddyn y rhyddhau mawr. Bydd yn ei gael yn ôl beth bynnag y flwyddyn honno. “Os ydy rhywun yn gwerthu tŷ mewn tref sydd â wal o'i chwmpas, mae ganddo hawl i brynu'r tŷ yn ôl o fewn blwyddyn ar ôl iddo ei werthu. Os nad ydy'r tŷ yn cael ei brynu'n ôl o fewn blwyddyn, mae'r prynwr a'i deulu yn cael cadw'r tŷ am byth. Fydd e ddim yn mynd yn ôl i'r perchennog gwreiddiol pan ddaw blwyddyn y rhyddhau mawr. Ond mae tŷ mewn pentref agored (sydd heb wal o'i gwmpas) i gael ei drin yr un fath â darn o dir. Mae'r un hawliau i'w brynu'n ôl, a bydd yn mynd yn ôl i'r perchennog gwreiddiol ar flwyddyn y rhyddhau mawr. “Mae'r sefyllfa'n wahanol i'r Lefiaid. Mae ganddyn nhw hawl i brynu tai sy'n eu trefi nhw yn ôl unrhyw bryd. Bydd unrhyw dŷ sydd wedi cael ei werthu yn un o'i trefi nhw, yn cael ei roi'n ôl iddyn nhw ar flwyddyn y rhyddhau, am mai'r tai yma ydy eu heiddo nhw. A dydy tir pori o gwmpas trefi y Lefiaid ddim i gael ei werthu. Nhw sydd biau'r tir yna bob amser. “Os ydy un o bobl Israel yn colli popeth ac yn methu cynnal ei hun, rhaid i chi ei helpu, yn union fel y byddech chi'n gofalu am rywun o'r tu allan neu am ymwelydd. Peidiwch cymryd mantais ohono neu ddisgwyl iddo dalu llog ar fenthyciad. Rhaid i chi ddangos parch at Dduw drwy adael i'r person ddal i fyw yn eich plith chi. Peidiwch disgwyl iddo dalu llog ar fenthyciad, a peidiwch gwneud elw wrth werthu bwyd iddo. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi. Fi wnaeth eich achub chi o'r Aifft, rhoi gwlad Canaan i chi, a bod yn Dduw i chi. “Os ydy un o bobl Israel yn colli popeth ac yn gwerthu ei hun yn gaethwas i chi, peidiwch gwneud iddo weithio fel caethwas. Dylech ei drin fel gweithiwr sy'n cael ei gyflogi gynnoch chi, neu fel mewnfudwr sy'n aros gyda chi. Mae i weithio i chi hyd flwyddyn y rhyddhau mawr. Ar ôl hynny bydd e a'i blant yn rhydd i fynd yn ôl at eu teulu a'u heiddo. Fy ngweision i ydyn nhw. Fi ddaeth â nhw allan o'r Aifft. Felly dŷn nhw ddim i gael eu gwerthu fel caethweision. Peidiwch bod yn greulon wrthyn nhw. Dangoswch barch at eich Duw. “Os oes gynnoch chi eisiau dynion neu ferched yn gaethweision, dylech chi eu prynu nhw o'r gwledydd eraill sydd o'ch cwmpas. Cewch brynu plant mewnfudwyr sy'n byw yn eich plith chi hefyd — hyd yn oed y rhai sydd wedi eu geni a'u magu yn eich gwlad chi. Gallan nhw fod yn eiddo i chi. Cewch eu pasio ymlaen i'ch plant yn eich ewyllys hefyd. Cewch eu cadw nhw yn gaethweision am byth. Ond cofiwch, does gan neb hawl i drin un o bobl Israel yn greulon. “Dwedwch fod un o'r mewnfudwyr, rhywun sydd ddim yn un o bobl Israel, yn llwyddo ac yn dod yn gyfoethog iawn. Mae un o bobl Israel sy'n byw yn yr un ardal yn colli popeth, ac mor dlawd nes ei fod yn gwerthu ei hun yn gaethwas i'r person sydd ddim yn dod o Israel, neu i un o'i deulu. Mae'n dal ganddo'r hawl i brynu ei ryddid. Gall un o'i frodyr brynu ei ryddid, neu ewyrth neu gefnder, neu'n wir unrhyw un o'r teulu estynedig. Neu os ydy e'n llwyddo i wneud arian, gall brynu ei ryddid ei hun. Dylai dalu am y blynyddoedd sydd rhwng y flwyddyn wnaeth e werthu ei hun a blwyddyn y rhyddhau mawr. Dylai'r pris fod yr un faint â beth fyddai gweithiwr yn cael ei gyflogi wedi ei ennill y blynyddoedd hynny. Os oes nifer fawr o flynyddoedd i fynd bydd y pris yn uchel, ond os mai dim ond ychydig o flynyddoedd sydd ar ôl bydd y pris yn is. Mae i gael ei drin fel gweithiwr sy'n cael ei gyflogi bob blwyddyn, a dydy e ddim i gael ei drin yn greulon. Os nad oes rhywun yn prynu ei ryddid, mae'n dal i gael mynd yn rhydd ar flwyddyn y rhyddhau mawr — y dyn a'i blant gydag e. Fy ngweision i ydy pobl Israel. Fi ddaeth â nhw allan o'r Aifft. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi. “Peidiwch gwneud eilun-dduwiau i chi'ch hunain. Peidiwch gwneud delw o rywbeth, neu godi colofn gysegredig, na gosod cerflun ar eich tir i blygu o'i flaen a'i addoli. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi. Rhaid i chi gadw fy Sabothau a pharchu fy lle cysegredig i. Fi ydy'r ARGLWYDD. “Os byddwch chi'n ufudd a ffyddlon, a gwneud beth dw i'n ddweud, bydda i'n anfon glaw ar yr amser iawn, er mwyn i gnydau dyfu ar y tir, a ffrwythau ar y coed. Byddwch yn cael cnydau gwych, a llwythi o rawnwin. Bydd gynnoch chi fwy na digon i'w fwyta, a cewch fyw yn saff yn y wlad. Bydda i'n rhoi heddwch a llonydd i chi. Byddwch yn gallu gorwedd i gysgu heb fod ofn. Bydda i'n cael gwared â'r anifeiliaid peryglus sy'n y wlad, a fydd neb yn ymosod ar y wlad. Byddwch chi'n concro eich gelynion. Byddwch yn eu lladd nhw gyda'r cleddyf. Bydd pump ohonoch chi yn curo cant ohonyn nhw, a chant yn curo deg mil. Byddwch yn eu lladd nhw gyda'r cleddyf. Bydda i'n eich helpu chi. Byddwch chi'n cael lot fawr o ddisgynyddion. Bydda i'n cadw'r ymrwymiad wnes i gyda chi. Fydd gynnoch chi ddim digon o le i gadw eich cnydau i gyd. Bydd rhaid i chi daflu peth o gnwd y flwyddyn cynt i ffwrdd. Bydda i yn dod i fyw yn eich canol chi. Fydda i ddim yn eich ffieiddio chi. Bydda i'n byw yn eich plith chi. Fi fydd eich Duw chi, a chi fydd fy mhobl i. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi. Fi wnaeth eich achub chi o'r Aifft, er mwyn i chi beidio bod yn gaethweision iddyn nhw. Dyma fi'n torri'r iau ar eich cefnau chi, i chi allu sefyll yn syth a cherdded yn rhydd. “Ond os byddwch chi'n anufudd ac yn gwrthod gwneud beth dw i'n ddweud, byddwch chi'n cael eich cosbi. Os byddwch chi'n gwrthod cadw fy rheolau i ac yn torri'r ymrwymiad wnes i gyda chi, dyma fydda i'n ei wneud: Bydda i'n dod â trychineb sydyn arnoch chi — afiechydon ellir mo'i gwella, gwres uchel, colli'ch golwg a cholli archwaeth am fwyd. Byddwch yn hau eich had i ddim byd achos bydd eich gelynion yn bwyta'r cnwd. Bydda i'n troi yn eich erbyn chi. Bydd eich gelynion yn eich sathru chi dan draed. Bydd y rhai sy'n eich casáu chi yn eich rheoli chi. Byddwch chi'n dianc i ffwrdd er bod neb yn eich erlid chi. Ac os byddwch chi'n dal ddim yn gwrando arna i, bydda i'n eich cosbi chi yn llawer gwaeth. Bydda i'n delio gyda'ch balchder ystyfnig chi. Bydd yr awyr yn galed fel haearn, a'r ddaear fel pres, am fod dim glaw. Byddwch chi'n gweithio'n galed i ddim byd. Fydd dim cnydau'n tyfu ar y tir, a dim ffrwyth yn tyfu ar y coed. “Os dych chi'n mynnu tynnu'n groes a gwrthod gwrando, bydda i'n eich cosbi chi'n waeth fyth. Bydda i'n anfon anifeiliaid gwylltion i ymosod arnoch chi. Byddan nhw'n lladd eich plant, yn difa eich anifeiliaid. Bydd y boblogaeth yn lleihau a'r ffyrdd yn wag. “Os fydd hynny i gyd ddim yn gwneud i chi droi yn ôl ata i, ac os byddwch chi'n dal i dynnu'n groes, bydda i'n troi yn eich erbyn chi. Bydda i, ie fi fy hun, yn eich cosbi chi waeth fyth. Bydd rhyfel yn dechrau. Dyma'r dial wnes i sôn amdano pan wnes i'r ymrwymiad gyda chi. Byddwch chi'n dianc i'r trefi caerog, ond yn dioddef o afiechydon yno, a bydd eich gelynion yn eich dal chi. Fydd gynnoch chi ddim bwyd. Bydd un ffwrn yn ddigon i ddeg o wragedd bobi ynddi. Fydd yna ddim ond briwsion i bawb. Fydd yna byth ddigon i'w fwyta. “Wedyn os fyddwch chi'n dal ddim yn gwrando arna i, ac yn dal i dynnu'n groes, bydda i'n wirioneddol ddig. Bydda i'n troi yn eich erbyn chi, a bydda i, ie fi fy hun, yn eich cosbi chi'n ofnadwy. Byddwch chi'n dioddef newyn mor ofnadwy nes byddwch chi'n bwyta eich plant eich hunain — eich bechgyn a'ch merched. Bydda i'n dinistrio eich allorau paganaidd chi, a'ch lleoedd cysegredig, ac yn taflu eich cyrff marw chi ar ‛gyrff‛ eich eilun-dduwiau chi. Bydda i'n eich ffieiddio chi. Bydd eich trefi'n adfeilion a'ch temlau chi'n cael eu dinistrio. Fydd eich offrymau chi ddim yn fy mhlesio i o gwbl. Bydd eich tir chi yn y fath gyflwr, bydd y gelynion fydd yn dod i fyw yno wedi dychryn. Bydd y rhyfel yn dinistrio'r wlad a'r trefi, a byddwch chi'n cael eich gyrru ar chwâl drwy'r gwledydd. Tra byddwch chi'n gaethion yng ngwlad eich gelynion, bydd y tir yn cael gorffwys. Bydd e'n cael mwynhau gorffwys y Saboth oedd i fod i'w gael pan oeddech chi'n byw yno. Bydd y rhai ohonoch chi fydd yn dal yn fyw wedi anobeithio'n llwyr yng ngwlad y gelyn. Bydd sŵn deilen yn ysgwyd yn ddigon i'w dychryn nhw. Byddan nhw'n dianc oddi wrth y cleddyf, ac yn syrthio er bod neb yn eu herlid nhw. Byddwch chi'n baglu dros eich gilydd wrth ddianc, er bod neb ar eich holau chi. Fydd neb ohonoch chi'n ddigon cryf i sefyll yn erbyn y gelyn. Bydd llawer ohonoch chi yn marw ac yn cael eich claddu mewn gwledydd tramor. A bydd y rhai sy'n dal yn fyw yn gwywo yng ngwlad y gelyn o achos eu drygioni, ar holl bethau drwg wnaeth eu hynafiaid. “Ond os gwnân nhw gyfaddef eu bod nhw a'u hynafiaid wedi bod ar fai; eu bod nhw wedi fy mradychu, bod yn anffyddlon a tynnu'n groes i mi. (Dyna pam wnes i droi yn eu herbyn nhw a mynd â nhw i wlad eu gelynion). Os gwnân nhw stopio bod mor ystyfnig a derbyn eu bod nhw wedi bod ar fai, bydda i'n cofio'r ymrwymiad wnes i gyda Jacob, a gydag Isaac, a gydag Abraham, a beth wnes i addo am y tir rois i iddyn nhw. Byddan nhw wedi gadael y tir er mwyn iddo fwynhau gorffwys y Sabothau oedd i fod i'w cael. Bydd y tir yn gorwedd yn anial hebddyn nhw. Bydd rhaid iddyn nhw dderbyn eu bod nhw wedi bod ar fai yn gwrthod gwrando arna i na chadw fy rheolau. “Ac eto i gyd, pan fyddan nhw yng ngwlad eu gelynion, fydda i ddim yn troi cefn arnyn nhw a'u ffieiddio nhw a'u dinistrio nhw'n llwyr. Fydda i ddim yn torri'r ymrwymiad wnes i gyda nhw, am mai fi ydy'r ARGLWYDD eu Duw nhw. Bydda i'n cofio'r ymrwymiad wnes i gyda'i hynafiaid nhw pan ddes i â nhw allan o'r Aifft i fod yn Dduw iddyn nhw. Roedd pobl y gwledydd i gyd wedi gweld y peth. Fi ydy'r ARGLWYDD.” Dyma'r rheolau a'r canllawiau roddodd yr ARGLWYDD i bobl Israel trwy Moses ar Fynydd Sinai. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Dywed wrth bobl Israel: “Os ydy rhywun wedi addo cyflwyno person i mi, dyma'r prisiau sydd i'w talu (yn arian swyddogol y cysegr): [3-7] pum deg darn arian am ddyn rhwng ugain oed a chwe deg oed, a tri deg darn arian am wraig; dau ddeg darn arian am fachgen rhwng pump oed ac ugain oed, a deg darn arian am ferch; pump darn arian am fachgen sydd rhwng un mis a phump oed, a tri darn arian am ferch; un deg pump darn arian am ddyn sydd dros chwe deg oed, a deg darn arian am wraig. *** *** *** *** “Os ydy'r un wnaeth yr adduned yn rhy dlawd i dalu'r pris llawn, rhaid iddo fynd â'r person sydd wedi cael ei gyflwyno i mi at yr offeiriad. Bydd yr offeiriad yn penderfynu faint mae'r sawl wnaeth yr adduned yn gallu ei fforddio. “Os ydy rhywun wedi addo rhoi anifail i'w gyflwyno'n offrwm i'r ARGLWYDD, mae'r rhodd yna'n gysegredig. Dydy'r anifail ddim i gael ei gyfnewid am un arall, hyd yn oed os ydy'r anifail hwnnw'n un gwell. Os ydy e'n ceisio gwneud hynny, bydd y ddau anifail yn gysegredig. Os ydy e ddim yn anifail cymwys i'w offrymu i'r ARGLWYDD, rhaid iddo fynd a'r anifail hwnnw i'w ddangos i'r offeiriad. Bydd yr offeiriad yn penderfynu beth ydy gwerth yr anifail. Wedyn os ydy'r person wnaeth addo'r anifail eisiau ei brynu'n ôl, rhaid iddo ychwanegu 20% at y pris. “Os ydy rhywun yn addo rhoi ei dŷ i'w gysegru i'r ARGLWYDD, mae'r offeiriad i benderfynu beth ydy gwerth y tŷ. Os ydy'r person wnaeth gyflwyno'r tŷ eisiau ei brynu'n ôl, rhaid iddo ychwanegu 20% at y pris, a bydd yn ei gael. “Os ydy rhywun yn addo rhoi peth o dir y teulu i'w gysegru i'r ARGLWYDD, dylid penderfynu beth ydy ei werth yn ôl faint o gnwd fyddai'n tyfu arno. Pum deg darn arian am bob cant cilogram o haidd. Os ydy'r tir yn cael ei addo yn ystod blwyddyn y rhyddhau mawr, rhaid talu'r gwerth llawn. Unrhyw bryd ar ôl hynny bydd yr offeiriad yn penderfynu faint yn llai sydd i'w dalu ar sail faint o flynyddoedd sydd ar ôl cyn y flwyddyn rhyddhau nesaf. Os ydy'r person wnaeth gyflwyno'r tir eisiau ei brynu'n ôl, rhaid iddo ychwanegu 20% at y pris, a bydd yn ei gael. Ond os ydy e'n gwerthu'r tir i rywun arall, fydd e ddim yn cael ei brynu'n ôl byth. Pan ddaw blwyddyn y rhyddhau mawr bydd y tir wedi ei neilltuo unwaith ac am byth i'r ARGLWYDD ei gadw. Bydd yn cael ei roi yng ngofal yr offeiriaid. “Os ydy rhywun yn cysegru i'r ARGLWYDD ddarn o dir sydd wedi ei brynu (sef tir oedd ddim yn perthyn i'w deulu), bydd yr offeiriad yn ei penderfynu faint mae'n werth. Bydd yn ei brisio ar sail faint o flynyddoedd sydd ar ôl cyn blwyddyn y rhyddhau nesaf. Rhaid talu am y tir y diwrnod hwnnw. Mae wedi ei gysegru i'r ARGLWYDD. Ar flwyddyn y rhyddhau bydd y tir yn mynd yn ôl i'r person y cafodd y tir ei brynu ganddo'n wreiddiol (sef y sawl roedd y tir yn rhan o etifeddiaeth ei deulu). Mae'r pris i'w dalu yn ôl mesur safonol y cysegr — sef un sicl yn pwyso dau ddeg gera. “Does gan neb hawl i gyflwyno anifail cyntaf-anedig i'r ARGLWYDD (buwch, dafad na gafr), achos yr ARGLWYDD piau'r anifail hwnnw yn barod. Os ydy e ddim yn anifail cymwys i'w offrymu i'r ARGLWYDD, mae ganddo hawl i'w brynu'n ôl. Rhaid iddo dalu beth ydy gwerth yr anifail, ac ychwanegu 20%. Os ydy'r anifail ddim yn cael ei brynu yn ôl, rhaid ei werth am faint bynnag mae e'n werth. “Dydy rhywbeth sydd wedi ei gadw o'r neilltu i'r ARGLWYDD (yn berson dynol, yn anifail neu'n ddarn o dir y teulu) ddim i gael ei werthu na'i brynu'n ôl. Mae popeth sydd wedi ei gadw o'r neilltu iddo yn gysegredig. Mae'n perthyn i'r ARGLWYDD. Dydy person dynol sydd wedi ei gadw o'r neilltu iddo ddim i gael ei brynu'n ôl. Rhaid i'r person hwnnw gael ei ladd. “Yr ARGLWYDD sydd piau un rhan o ddeg o bopeth yn y wlad — y cnydau o rawn ac o ffrwythau. Mae wedi ei gysegru i'r ARGLWYDD. Os ydy rhywun eisiau prynu'r un rhan o ddeg yn ôl, rhaid iddo dalu'r pris llawn amdano ac ychwanegu 20%. “Mae un rhan o ddeg o'r gyr o wartheg ac o'r praidd o ddefaid a geifr i gael ei gysegru i'r ARGLWYDD. Wrth iddyn nhw basio dan ffon y bugail i gael eu cyfrif, mae pob degfed anifail i gael ei gysegru i'r ARGLWYDD. Does gan y perchennog ddim hawl i wahanu'r anifeiliaid da oddi wrth y rhai gwan, neu i gyfnewid un o'r anifeiliaid. Os ydy e'n gwneud hynny bydd y ddau anifail wedi eu cysegru i'r ARGLWYDD. Fydd dim hawl i brynu'r naill na'r llall yn ôl.” Dyma'r rheolau roddodd yr ARGLWYDD i bobl Israel trwy Moses ar Fynydd Sinai. Flwyddyn ar ôl i bobl Israel adael gwlad yr Aifft, ar ddiwrnod cyntaf yr ail fis, dyma'r ARGLWYDD yn siarad â Moses. Digwyddodd hyn yn y babell lle roedd Duw yn cyfarfod pobl, pan oedd pobl Israel yn anialwch Sinai. Dwedodd: “Dw i eisiau i ti gynnal cyfrifiad o holl bobl Israel. Dw i eisiau i ti restru enwau'r dynion i gyd — pawb sydd dros ugain oed ac yn gallu ymuno â'r fyddin. Ti ac Aaron sydd i drefnu hyn, gyda help un dyn o bob llwyth sy'n arweinydd ar ei deulu estynedig. [5-15] “Dyma enwau'r dynion sydd i'ch helpu chi: [Llwyth] — [Arweinydd] Reuben — Elisur fab Shedeŵr Simeon — Shelwmiel fab Swrishadai Jwda — Nachshon fab Aminadab Issachar — Nethanel fab Tswár Sabulon — Eliab fab Chelon Yna meibion Joseff: Effraim — Elishama fab Amihwd Manasse — Gamaliel fab Pedatswr Wedyn, Benjamin — Abidan fab Gideoni Dan — Achieser fab Amishadai Asher — Pagiel fab Ochran Gad — Eliasaff fab Dewel Nafftali — Achira fab Enan.” *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** Dyna'r arweinwyr gafodd eu dewis o bob llwyth, yn benaethiaid ar bobl Israel. Felly dyma Moses ac Aaron, a'r dynion yma gafodd eu henwi, yn casglu'r bobl i gyd at ei gilydd y diwrnod hwnnw, sef diwrnod cyntaf yr ail fis. A cafodd pawb eu cofrestru, gan nodi'r llwyth a'r teulu roedden nhw'n perthyn iddo. Cafodd pob un o'r dynion oedd dros ugain oed eu rhestru, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses. Digwyddodd y cyfrifiad yma yn anialwch Sinai. [20-43] A dyma'r canlyniadau, sef nifer y dynion dros ugain oed allai ymuno â'r fyddin, gan ddechrau gyda Reuben (mab hynaf Israel): [Llwyth] — [Nifer] Reuben — 46,500 Simeon — 59,300 Gad — 45,650 Jwda — 74,600 Issachar — 54,400 Sabulon — 57,400 Yna meibion Joseff: Effraim — 40,500 Manasse — 32,200 Wedyn, Benjamin — 35,400 Dan — 62,700 Asher — 41,500 Nafftali — 53,400 *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** Dyma niferoedd y dynion gafodd eu cyfri gan Moses, Aaron, a'r deuddeg arweinydd (pob un yn cynrychioli llwyth ei hynafiad). Cawson nhw eu cyfrif yn ôl eu teuluoedd — pob un dyn oedd dros ugain oed ac yn gallu ymuno â'r fyddin. A'r cyfanswm oedd 603,550. Ond doedd y cyfanswm yna ddim yn cynnwys y dynion o lwyth Lefi. Roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses, “Paid cynnwys llwyth Lefi yn y cyfrifiad. Mae'r Lefiaid i fod i ofalu am Dabernacl y Dystiolaeth, a'r holl ddodrefn a'r offer sydd ynddo. Nhw sydd i'w gario, gofalu amdano, a gwersylla o'i gwmpas. Pan mae'r Tabernacl yn cael ei symud, y Lefiaid sydd i'w dynnu i lawr a'i godi eto. Os ydy rhywun arall yn mynd yn agos ato, y gosb fydd marwolaeth. “Bydd lle penodol i bob un o lwythau Israel wersylla, a bydd gan bob llwyth ei fflag ei hun. Ond bydd y Lefiaid yn gwersylla o gwmpas Tabernacl y Dystiolaeth, i amddiffyn pobl Israel rhag i'r ARGLWYDD ddigio gyda nhw. Cyfrifoldeb y Lefiaid ydy gofalu am Dabernacl y Dystiolaeth.” Felly dyma bobl Israel yn gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses ac Aaron: Rhaid i bobl Israel wersylla o gwmpas Pabell presenoldeb Duw (sef y Tabernacl), gan wynebu'r Tabernacl. Mae pawb i wersylla o dan fflag eu llwyth eu hunain. [3-9] Ar yr ochr ddwyreiniol bydd adrannau'r tri llwyth yma yn gwersylla dan eu fflag: [Llwyth] — [Arweinydd] — [Nifer] Jwda — Nachshon fab Aminadab — 74,600 Issachar — Nethanel fab Tswár — 54,400 Sabulon — Eliab fab Chelon — 57,400 — Cyfanswm: — 186,400 Y milwyr ar ochr Jwda o'r gwersyll fydd yn arwain y ffordd pan fydd pobl Israel yn symud. *** *** *** *** *** *** [10-16] I'r de bydd adrannau tri llwyth arall yn gwersylla dan eu fflag: [Llwyth] — [Arweinydd] — [Nifer] Reuben — Elisur fab Shedeŵr — 46,500 Simeon — Shelwmiel fab Swrishadai — 59,300 Gad — Eliasaff fab Dewel — 45,650 — Cyfanswm: — 151,450 Y milwyr yma ar ochr Reuben i'r gwersyll fydd yn ail i symud allan. *** *** *** *** *** *** Wedyn bydd gwersyll y Lefiaid yn symud, gyda Pabell presenoldeb Duw. Nhw fydd yn y canol. Mae'r llwythau i gyd i symud allan mewn trefn, pob un ohonyn nhw dan ei fflag ei hun. [18-24] Ar yr ochr orllewinol bydd adrannau y tri llwyth nesaf yn gwersylla dan eu fflag: [Llwyth] — [Arweinydd] — [Nifer] Effraim — Elishama fab Amihwd — 40,500 Manasse — Gamaliel fab Pedatswr — 32,200 Benjamin — Abidan fab Gideoni — 35,400 — Cyfanswm: — 108,100 Y milwyr yma ar ochr Effraim i'r gwersyll fydd y trydydd i symud allan. *** *** *** *** *** *** [25-31] I'r gogledd bydd adrannau'r tri llwyth olaf yn gwersylla o dan eu fflag: [Llwyth] — [Arweinydd] — [Nifer] Dan — Achieser fab Amishadai — 62,700 Asher — Pagiel fab Ochran — 41,500 Nafftali — Achira fab Enan — 53,400 — Cyfanswm: — 157,600 Y milwyr yma ar ochr Dan i'r gwersyll fydd yn symud allan olaf. Bydd pob llwyth yn mynd dan ei fflag ei hun. *** *** *** *** *** *** Dyma'r rhai gafodd eu cyfrif o Israel yn ôl eu llwythau. Cyfanswm y dynion yn yr adrannau i gyd ydy 603,550. Doedd y Lefiaid ddim wedi cael eu cyfrif gyda gweddill pobl Israel. Dyna oedd yr ARGLWYDD wedi ei orchymyn i Moses. Felly dyma bobl Israel yn gwneud popeth roedd yr ARGLWYDD wedi ei ddweud wrth Moses. Roedd pob llwyth a theulu yn gwersylla dan eu fflag eu hunain, ac yn symud gwersyll fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud. Dyma hanes teulu Aaron a Moses pan wnaeth yr ARGLWYDD siarad gyda Moses ar Fynydd Sinai: Enwau meibion Aaron oedd Nadab (y mab hynaf), Abihw, Eleasar ac Ithamar. Cawson nhw eu heneinio a'u cysegru i wasanaethu fel offeiriaid. Ond roedd Nadab ac Abihw wedi marw yn anialwch Sinai wrth ddefnyddio tân o rywle arall i wneud offrwm i'r ARGLWYDD. Doedd ganddyn nhw ddim plant. Felly Eleasar ac Ithamar oedd yn gwasanaethu fel offeiriaid gyda'u tad Aaron. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Tyrd â llwyth Lefi at Aaron, a'u rhoi nhw iddo fel ei helpwyr. Byddan nhw'n gwasanaethu Aaron a'r bobl i gyd o flaen Pabell Presenoldeb Duw. Nhw fydd yn gyfrifol am wneud yr holl waith yn y Tabernacl. Byddan nhw'n gofalu am holl offer Pabell Presenoldeb Duw, ac yn gwasanaethu yn y Tabernacl ar ran pobl Israel. Rwyt i roi'r Lefiaid i Aaron a'i feibion fel eu helpwyr. Maen nhw i weithio iddo fe a neb arall. Aaron a'i feibion sydd i'w penodi'n offeiriaid. Os ydy unrhyw un arall yn mynd yn rhy agos at y cysegr, y gosb ydy marwolaeth.” A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Dw i wedi cymryd y Lefiaid i mi fy hun, yn lle'r mab cyntaf i ddod allan o groth pob gwraig yn Israel. Fi piau'r Lefiaid, am mai fi piau pob mab cyntaf. Ro'n i wedi cysegru pob mab ac anifail cyntaf i gael ei eni i mi fy hun, pan wnes i ladd y rhai cyntaf i gael eu geni yng ngwlad yr Aifft. Felly fi piau pob un cyntaf i gael ei eni. Fi ydy'r ARGLWYDD.” Yna dyma'r ARGLWYDD yn siarad gyda Moses yn anialwch Sinai: “Dw i eisiau i ti gyfri'r Lefiaid, yn ôl eu teuluoedd estynedig a'i claniau — pob dyn, a phob bachgen sydd dros fis oed.” Felly dyma Moses yn eu cyfri nhw, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho. Enwau meibion Lefi oedd Gershon, Cohath a Merari. Enwau claniau meibion Gershon oedd Libni a Shimei. Enwau claniau meibion Cohath oedd Amram, Its'har, Hebron ac Wssiel. Enwau claniau meibion Merari oedd Machli a Mwshi. Y rhain oedd teuluoedd Lefi yn ôl eu claniau. Disgynyddion Gershon oedd claniau Libni a Simei — sef 7,500 o ddynion a bechgyn oedd dros fis oed. Roedd teuluoedd y Gershoniaid i wersylla tu ôl i'r Tabernacl, i'r gorllewin. Ac arweinydd y Gershoniaid oedd Eliasaff fab Laël. Cyfrifoldeb y Gershoniaid oedd pabell y Tabernacl, y gorchudd, y sgrîn o flaen y fynedfa i Babell Presenoldeb Duw, llenni'r iard oedd o gwmpas y Tabernacl a'r allor, y sgrîn o flaen y fynedfa i'r iard, y rhaffau, a popeth arall oedd ag unrhyw beth i'w wneud â'r rhain. Disgynyddion Cohath oedd claniau Amram, Its'har, Hebron ac Wssiel — sef 8,600 o ddynion a bechgyn oedd dros fis oed. Nhw oedd yn gyfrifol am y cysegr. Roedd teuluoedd y Cohathiaid i wersylla i'r de o'r Tabernacl. Ac arweinydd y Cohathiaid oedd Elitsaffan fab Wssiel. Nhw oedd yn gyfrifol am yr Arch, y bwrdd, y menora (sef y stand i'r lampau), yr allorau, unrhyw offer oedd yn cael ei ddefnyddio yn y cysegr, y gorchudd mewnol, a popeth arall oedd ag unrhyw beth i'w wneud â'r rhain. Eleasar, mab Aaron oedd pennaeth arweinwyr y Lefiaid. Roedd ganddo gyfrifoldeb arbennig i oruchwylio'r rhai oedd yn gyfrifol am y cysegr. Disgynyddion Merari oedd claniau Machli a Mwshi — sef 6,200 o ddynion a bechgyn oedd dros fis oed. Arweinydd y Merariaid oedd Swriel fab Afichaïl. Roedden nhw i wersylla i'r gogledd o'r Tabernacl. Cyfrifoldeb y Merariaid oedd fframiau'r Tabernacl, y croesfarrau, y polion, y socedi, y llestri i gyd, a popeth arall oedd ag unrhyw beth i'w wneud â'r rhain. Hefyd, polion yr iard i gyd, gyda'i socedi, pegiau a rhaffau. Yr unig rai oedd i wersylla ar yr ochr ddwyreiniol, o flaen y Tabernacl, oedd Moses ac Aaron a'i feibion. Nhw oedd yn gyfrifol am y cysegr ar ran pobl Israel. Os oedd unrhyw un arall yn mynd yn rhy agos at y cysegr, y gosb oedd marwolaeth. Nifer y Lefiaid i gyd, gafodd eu cyfri gan Moses ac Aaron, oedd 22,000 o ddynion a bechgyn dros un mis oed. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Dw i eisiau i ti gyfri pob un o'r Israeliaid sy'n fab hynaf, o un mis oed i fyny. A cofrestru enw pob un. Mae'r Lefiaid i gael eu rhoi i mi yn lle meibion hynaf yr Israeliaid — cofia mai fi ydy'r ARGLWYDD. A fi piau anifeiliaid y Lefiaid hefyd, yn lle pob anifail cyntaf i gael ei eni i anifeiliaid pobl Israel.” Felly dyma Moses yn cyfrif pob un o feibion hynaf yr Israeliaid, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho. Y nifer gafodd eu cyfrif a'u cofrestru oedd 22,273. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Cymer y Lefiaid yn lle meibion hynaf pobl Israel, ac anifeiliaid y Lefiaid yn lle eu hanifeiliaid nhw. Fi fydd piau'r Lefiaid. Fi ydy'r ARGLWYDD. Mae nifer y meibion hynaf ddau gant saith deg tri yn fwy na nifer y Lefiaid. Rwyt i brynu rhyddid i'r dau gant saith deg tri drwy gasglu pum darn arian am bob un ohonyn nhw. Dylid ei dalu gydag arian y cysegr, sef darnau arian sy'n pwyso dau ddeg gera yr un. Rho'r arian yma i Aaron a'i feibion.” Felly dyma Moses yn casglu'r arian i brynu'n rhydd y meibion hynaf oedd dros ben. Casglodd 1,365 sicl, sef tua un deg pump cilogram o arian. Yna dyma Moses yn rhoi'r arian i Aaron a'i feibion, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses ac Aaron: “Dw i eisiau i ti gynnal cyfrifiad o deuluoedd y Cohathiaid o lwyth Lefi — pob un sy'n cael gweithio yn y Tabernacl (sef y dynion rhwng tri deg a phum deg oed). Dyma gyfrifoldebau'r Cohathiaid dros bethau cysegredig y Tabernacl: Pan mae'n amser i'r gwersyll symud yn ei flaen, rhaid i Aaron a'i feibion ddod i gymryd llen y sgrîn i lawr, a'i roi dros Arch y dystiolaeth. Wedyn rhaid iddyn nhw roi gorchudd o grwyn môr-fuchod dros hwnnw, ac yna gosod lliain glas dros y cwbl. Gallan nhw wedyn roi'r polion i gario'r Arch yn eu lle. “Wedyn maen nhw i roi lliain glas dros fwrdd yr ARGLWYDD, ac yna gosod arno y platiau a'r dysglau, y powlenni a'r jygiau sy'n cael eu defnyddio i dywallt yr offrwm o ddiod. Ac mae'r bara i aros arno bob amser. Wedyn maen nhw i orchuddio'r cwbl gyda lliain coch, a rhoi gorchudd o grwyn môr-fuchod dros hwnnw wedyn. Yna gallan nhw roi'r polion i gario'r bwrdd yn eu lle. “Nesaf, maen nhw i roi lliain glas dros y menora sy'n rhoi golau, a'i lampau, gefeiliau, padellau, a jariau o olew sy'n mynd gyda hi. Yna rhaid iddyn nhw roi'r cwbl mewn gorchudd o grwyn môr-fuchod, a'i gosod ar bolyn i'w gario. “Wedyn maen nhw i roi lliain glas dros yr allor aur, ac yna rhoi gorchudd o grwyn môr-fuchod dros hwnnw. Gallan nhw wedyn roi'r polion i gario'r allor yn eu lle. “Wedyn rhaid iddyn nhw gymryd gweddill yr offer sy'n cael ei ddefnyddio yn y cysegr, a'u rhoi nhw mewn lliain glas. Rhoi gorchudd o grwyn môr-fuchod amdanyn nhw wedyn, a'i gosod ar bolyn i'w cario. “Yna nesaf, rhaid iddyn nhw daflu'r lludw oedd ar yr allor, cyn rhoi lliain porffor drosti. Yna gosod ei hoffer i gyd arni — y padellau, ffyrc, rhawiau, powlenni taenellu, a holl offer arall yr allor. Wedyn rhoi gorchudd o grwyn môr-fuchod dros y cwbl, a rhoi'r polion i'w chario yn eu lle. “Pan fydd Aaron a'i feibion wedi gorffen gorchuddio'r cysegr a'r holl ddodrefn ac offer sydd ynddo, a'r gwersyll yn barod i symud, bydd y Cohathiaid yn dod i gario'r cwbl. Ond rhaid iddyn nhw beidio cyffwrdd unrhyw beth cysegredig, neu byddan nhw'n marw. Dyma gyfrifoldeb y Cohathiaid gyda'r Tabernacl. “Mae Eleasar fab Aaron, yr offeiriad, i fod yn gyfrifol am yr olew ar gyfer y golau, yr arogldarth persawrus, y grawn ar gyfer yr offrwm dyddiol, a'r olew eneinio. Ond mae hefyd yn gyfrifol am y Tabernacl i gyd, a phopeth sydd ynddo, a'r cysegr a'i holl ddodrefn.” Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses ac Aaron: “Peidiwch gadael i dylwythau'r Cohathiaid ddiflannu o blith y Lefiaid. Er mwyn gwneud yn siŵr eu bod nhw ddim yn marw wrth fynd yn agos at y pethau cysegredig, rhaid gwneud hyn: Rhaid i Aaron a'i feibion ddweud wrth bob dyn yn union beth ydy ei gyfrifoldeb e. A rhaid i'r Cohathiaid beidio edrych ar y pethau cysegredig yn cael eu gorchuddio, neu byddan nhw'n marw.” Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Dw i eisiau i ti gynnal cyfrifiad o deuluoedd y Gershoniaid hefyd — pob un sy'n cael gweithio yn y Tabernacl (sef y dynion rhwng tri deg a phum deg oed). Dyma gyfrifoldebau'r Gershoniaid, a'r gwaith maen nhw i'w gyflawni: Nhw sydd i gario llenni'r Tabernacl a Pabell Presenoldeb Duw a'i gorchudd, y gorchudd o grwyn môr-fuchod, y sgrîn ar draws y fynedfa i'r iard, y llenni o gwmpas yr iard, y sgrîn sydd o flaen y fynedfa i'r iard sydd o gwmpas y tabernacl a'r allor, a'r rhaffau, a phopeth arall sy'n gysylltiedig â'r rhain. Dyna'r gwaith maen nhw i'w wneud. Aaron a'i feibion sydd i oruchwylio'r gwaith mae'r Gershoniaid yn ei wneud — beth sydd i'w gario, ac unrhyw beth arall sydd i'w wneud. Nhw sydd i ddweud yn union beth ydy cyfrifoldeb pawb. Dyna gyfrifoldeb y Gershoniaid yn y Tabernacl. Byddan nhw'n atebol i Ithamar fab Aaron, yr offeiriad. “Ac wedyn y Merariaid. Dw i eisiau i ti gynnal cyfrifiad o'u teuluoedd nhw — pob un sy'n cael gweithio yn y Tabernacl (sef y dynion rhwng tri deg a phum deg oed). Dyma beth maen nhw i fod i'w gario: fframiau'r Tabernacl, y croesfarrau, y polion a'r socedi. Hefyd, polion yr iard i gyd, gyda'i socedi, pegiau a rhaffau, a phopeth arall i'w wneud â'r rhain. Rhaid dweud wrth bob dyn beth yn union mae e'n gyfrifol am ei gario. Dyna waith y Merariaid — eu cyfrifoldeb nhw dros Babell Presenoldeb Duw. Maen nhw hefyd yn atebol i Ithamar fab Aaron, yr offeiriad.” [34-48] Felly dyma Moses ac Aaron a'r arweinwyr eraill yn cynnal cyfrifiad o deuluoedd y tri clan oedd yn perthyn i lwyth Lefi — y Cohathiaid, y Gershoniaid a'r Merariaid. Niferoedd y dynion rhwng tri deg a phum deg oed oedd yn cael gweithio yn y Tabernacl. A dyma'r canlyniad: [Clan] — [Nifer] Cohathiaid — 2,750 Gershoniaid — 2,630 Merariaid — 3,200 Cyfanswm: — 8,580 Roedd Moses ac Aaron wedi eu cyfrif nhw i gyd, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud. *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** Roedd gan bob un ohonyn nhw waith penodol neu gyfrifoldeb i gario rhywbeth arbennig. Yr ARGLWYDD oedd wedi dweud hyn i gyd wrth Moses. Dyna hanes y cyfrif, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Gorchymyn bobl Israel i anfon allan o'r gwersyll unrhyw un sy'n dioddef o glefyd heintus ar y croen, neu glefyd ar ei bidyn, neu ddiferiad o unrhyw fath, neu rywun sy'n aflan am ei fod wedi cyffwrdd corff marw. Dynion a merched fel ei gilydd — rhaid eu gyrru nhw allan fel bod y gwersyll, lle dw i'n byw yn eich canol chi, ddim yn cael ei wneud yn aflan.” Felly dyma bobl Israel yn eu gyrru nhw allan o'r gwersyll, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Dywed wrth bobl Israel, ‘Pan mae dyn neu wraig yn gwneud drwg i rywun arall, mae'n euog o droseddu yn erbyn yr ARGLWYDD. Mae'n rhaid iddo gyfadde'r drwg mae wedi ei wneud, talu'r person arall yn ôl yn llawn ac ychwanegu 20% ato. Ond os ydy'r person gafodd y drwg ei wneud iddo wedi marw a heb berthynas agos y gellid talu iddo, mae'r tâl i gael ei roi i'r ARGLWYDD. Mae i'w roi i'r offeiriad, gyda'r hwrdd mae'n ei gyflwyno i wneud pethau'n iawn rhyngddo â'r ARGLWYDD. Yr offeiriad sy'n cael yr holl bethau cysegredig mae pobl Israel yn eu cyflwyno iddo. Mae'r offeiriad yn cael cadw beth bynnag mae unrhyw un yn ei gyflwyno iddo fel offrwm cysegredig.’” A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Dywed wrth bobl Israel: ‘Dyma sydd i ddigwydd os ydy gwraig rhywun yn anffyddlon iddo: Cymrwch ei bod hi wedi cael rhyw gyda dyn arall heb yn wybod i'w gŵr. (Doedd neb arall wedi eu gweld nhw, a wnaethon nhw ddim cael eu dal yn y weithred). Os ydy'r gŵr yn amau fod rhywbeth wedi digwydd, ac yn dechrau teimlo'n genfigennus (hyd yn oed os ydy'r wraig yn ddieuog), rhaid i'r gŵr fynd â hi at yr offeiriad. Mae i gyflwyno cilogram o flawd haidd yn offrwm trosti. Ond rhaid iddo beidio tywallt olew olewydd ar y blawd, na rhoi thus arno am mai offrwm amheuaeth ydy e, er mwyn dod â'r drwg i'r amlwg. “‘Bydd yr offeiriad yn gwneud i'r wraig sefyll o flaen yr ARGLWYDD. Wedyn bydd yr offeiriad yn rhoi dŵr cysegredig mewn cwpan bridd, a rhoi llwch oddi ar lawr y Tabernacl yn y dŵr. Yna tra mae'r wraig yn sefyll o flaen yr ARGLWYDD, mae'r offeiriad i ddatod ei gwallt hi a rhoi'r offrwm o rawn yn ei dwylo, sef yr offrwm amheuaeth. Wedyn mae'r offeiriad i sefyll o'i blaen hi, gyda'r gwpan o ddŵr chwerw sy'n dod â melltith yn ei law. Wedyn rhaid i'r offeiriad wneud i'r wraig fynd ar ei llw, a dweud wrthi, “Os wyt ti ddim wedi cysgu gyda dyn arall, a gwneud dy hun yn aflan drwy fod yn anffyddlon i dy ŵr, boed i'r dŵr chwerw yma sy'n dod â melltith wneud dim drwg i ti. [20-21] Ond os wyt ti wedi bod yn anffyddlon, ac wedi gwneud dy hun yn aflan drwy gael rhyw gyda dyn arall, yna boed i bawb weld fod yr ARGLWYDD wedi dy felltithio di, am dy fod ti'n methu cael plant byth eto!” (Bydd yr offeiriad wedi rhoi'r wraig dan lw i gael ei melltithio os ydy hi'n euog.) *** “Bydd y dŵr yma sy'n achosi melltith yn gwneud niwed i dy gorff, fel dy fod yn methu cael plant byth eto!” A dylai'r wraig ateb, “Amen, amen.” Wedyn mae'r offeiriad i ysgrifennu'r melltithion yma ar sgrôl, cyn eu crafu i ffwrdd eto i'r dŵr. Yna rhaid iddo wneud i'r wraig yfed y dŵr chwerw sy'n dod â melltith, fel ei bod yn diodde'n chwerw os ydy hi'n euog. Bydd yr offeiriad yn cymryd grawn yr offrwm amheuaeth o ddwylo'r wraig, ei chwifio o flaen yr ARGLWYDD, a mynd ag e at yr allor. Bydd yr offeiriad yn cymryd dyrnaid o'r offrwm i'w losgi yn ernes ar yr allor. Yna bydd yn gwneud i'r wraig yfed y dŵr. “‘Os ydy'r wraig wedi gwneud ei hun yn aflan drwy fod yn anffyddlon i'w gŵr, bydd y dŵr yn gwneud iddi ddiodde'n chwerw. Bydd hi'n methu cael plant byth eto, a bydd ei henw'n felltith yng ngolwg y bobl. Ond os ydy'r wraig yn ddieuog, a heb wneud ei hun yn aflan, fydd y dŵr yn gwneud dim niwed iddi, a bydd hi'n gallu cael plant eto. “‘Felly, dyma sut mae delio gydag achos o eiddigedd, pan mae gwraig wedi bod yn anffyddlon i'w gŵr ac wedi gwneud ei hun yn aflan. Neu pan mae gŵr yn amau ei wraig ac yn dechrau teimlo'n eiddigeddus. Rhaid iddo ddod â'i wraig i sefyll o flaen yr ARGLWYDD, a bydd yr offeiriad yn mynd trwy'r ddefod yma gyda hi. Fydd y gŵr ddim yn euog o wneud unrhyw beth o'i le, ond bydd y wraig yn gyfrifol am ei phechod.’” Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Dywed wrth bobl Israel: Pan mae dynion neu wragedd yn addo ar lw i fyw fel Nasaread, a chysegru ei hunain i'r ARGLWYDD, rhaid iddyn nhw ymwrthod yn llwyr â gwin a diod feddwol. Rhaid iddyn nhw beidio yfed finegr wedi ei wneud o win, na hyd yn oed yfed sudd grawnwin. A rhaid iddyn nhw beidio bwyta grawnwin na rhesins. Tra maen nhw wedi cysegru eu hunain, rhaid iddyn nhw beidio bwyta unrhyw beth sydd wedi tyfu ar y winwydden — dim hyd yn oed croen neu hadau'r grawnwin. Rhaid iddyn nhw hefyd beidio torri eu gwalltiau yn y cyfnod yma, am eu bod wedi cysegru eu hunain i'r ARGLWYDD. Rhaid iddyn nhw adael i'w gwallt dyfu'n hir. Rhaid iddyn nhw hefyd beidio mynd yn agos at gorff marw tra maen nhw wedi cysegru eu hunain i'r ARGLWYDD — hyd yn oed os ydy tad, mam, brawd neu chwaer un ohonyn nhw yn marw. Mae'r arwydd fod y person hwnnw wedi cysegru ei hun i'r ARGLWYDD ar ei ben. Maen nhw i gysegru eu hunain yn llwyr i'r ARGLWYDD drwy gydol y cyfnod yma. “Os ydy rhywun yn syrthio'n farw wrth ymyl un ohonyn nhw, ac yn achosi i'w ben gael ei lygru, rhaid aros saith diwrnod, ac yna siafio'r pen ar ddiwrnod y puro. Yna'r diwrnod wedyn mynd â dwy durtur neu ddwy golomen at fynedfa Pabell Presenoldeb Duw, i'w rhoi i'r offeiriad. Bydd yr offeiriad yn eu cyflwyno nhw — un yn offrwm puro a'r llall yn offrwm i'w losgi. Bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhyngddo â Duw ar ôl i'r corff marw ei wneud yn euog. Wedyn bydd yn ailgysegru ei hun y diwrnod hwnnw. Bydd rhaid iddo ddechrau o'r dechrau, a chyflwyno oen gwryw blwydd oed yn offrwm i gyfaddef bai. Fydd y dyddiau oedd wedi eu cyflawni cyn i'r person gael ei wneud yn aflan gan y corff marw ddim yn cyfrif. “Dyma'r ddefod ar gyfer Nasareaid: Ar ddiwedd y cyfnod pan oedden nhw wedi cysegru ei hunain, rhaid mynd â nhw at fynedfa Pabell Presenoldeb Duw, a cyflwyno'r offrymau canlynol i'r ARGLWYDD: oen gwryw blwydd oed sydd â dim byd o'i le arno yn offrwm i'w losgi'n llwyr, oen banw blwydd oed sydd â dim byd o'i le arno yn offrwm puro, ac un hwrdd sydd â ddim byd o'i le arno yn offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Hefyd basged o fara heb furum ynddo, cacennau o flawd mân wedi ei gymysgu gydag olew olewydd, a bisgedi tenau wedi eu brwsio gydag olew olewydd, a'r offrymau o rawn a diod sydd i fynd gyda nhw. Bydd yr offeiriad yn cyflwyno'r rhain i gyd i'r ARGLWYDD — sef yr offrwm puro a'r offrwm i'w losgi'n llwyr. Yna'r hwrdd yn offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD, gyda'r fasged o fara heb furum ynddo. A rhaid iddo hefyd gyflwyno'r offrymau o rawn a diod. “Ar ôl hynny rhaid i'r Nasaread siafio ei ben wrth y fynedfa i Babell Presenoldeb Duw. Yna cymryd ei wallt, a'i roi ar y tân lle mae'r offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD yn llosgi. Ar ôl i ben y Nasaread gael ei siafio, rhaid i'r offeiriad gymryd ysgwydd yr hwrdd wedi ei ferwi, un o'r cacennau ac un o'r bisgedi tenau sydd heb furum ynddyn nhw, a'u rhoi nhw i gyd yn nwylo y Nasaread. Wedyn mae'r offeiriad i'w chwifio nhw o flaen yr ARGLWYDD. Mae'r darnau yma'n cael eu cysegru a'u rhoi i'r offeiriad, gyda'r frest a rhan uchaf y goes ôl sy'n cael ei chwifio. Ar ôl mynd trwy'r ddefod yma bydd y Nasaread yn cael yfed gwin eto. Dyma ddefod y Nasareaid. Dyma ei offrwm i'r ARGLWYDD ar ôl cysegru ei hun, heb sôn am unrhyw beth arall mae wedi ei addo i'r ARGLWYDD. Rhaid iddo wneud beth bynnag roedd wedi ei addo pan oedd yn mynd trwy'r ddefod o gysegru ei hun.” Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Dywed wrth Aaron a'i feibion mai dyma sut maen nhw i fendithio pobl Israel: ‘Boed i'r ARGLWYDD eich bendithio chi a'ch amddiffyn chi. Boed i'r ARGLWYDD wenu'n garedig arnoch chi, a bod yn hael tuag atoch chi. Boed i'r ARGLWYDD fod yn dda atoch chi, a rhoi heddwch i chi.’ Bydda i'n bendithio pobl Israel wrth i Aaron a'i feibion wneud hyn ar fy rhan i.” Ar y diwrnod pan oedd Moses wedi gorffen codi'r Tabernacl, dyma fe'n eneinio a chysegru'r cwbl — y Tabernacl ei hun a'r holl ddodrefn ynddo, a'r allor a'i holl offer. Yna dyma arweinwyr Israel yn dod i wneud offrwm (Nhw oedd yr arweinwyr oedd wedi bod yn goruchwylio'r cyfrifiad.) Dyma nhw'n dod â chwe wagen gyda tho, a deuddeg ychen — sef un wagen ar gyfer dau arweinydd, a tharw bob un. A dyma nhw'n eu cyflwyno nhw i'r ARGLWYDD o flaen y Tabernacl. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Derbyn yr ychen a'r wagenni yma ganddyn nhw, i'w defnyddio yng ngwaith y Tabernacl. Rhanna nhw rhwng y Lefiaid, iddyn nhw allu gwneud y gwaith sydd gan bob un i'w wneud.” Felly dyma Moses yn derbyn y wagenni a'r ychen, a'u rhoi nhw i'r Lefiaid. Dwy wagen a pedwar ychen i'r Gershoniaid, i wneud eu gwaith. Dwy wagen a pedwar ychen i'r Merariaid, i wneud eu gwaith nhw, gyda Ithamar fab Aaron yr offeiriad yn eu goruchwylio. Ond gafodd y Cohathiaid ddim wagenni nac ychen. Roedden nhw i fod i gario pethau cysegredig y Tabernacl ar eu hysgwyddau. Cyflwynodd yr arweinwyr roddion pan gafodd yr allor ei heneinio a'i chysegru hefyd. Dyma nhw i gyd yn gosod eu rhoddion o flaen yr allor. Achos roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses, “Rhaid i bob arweinydd gyflwyno offrwm ar gyfer cysegru'r allor. Mae pob un ohonyn nhw i wneud hynny ar ddiwrnod gwahanol.” [12-83] Dyma pwy wnaeth gyflwyno eu hoffrwm, ac ar ba ddiwrnod: [Diwrnod] — [Llwyth] — [Arweinydd] 1af — Jwda — Nachshon fab Aminadab 2il — Issachar — Nethanel fab Tswár 3ydd — Sabulon — Eliab fab Chelon 4ydd — Reuben — Elisur fab Shedeŵr 5ed — Simeon — Shelwmiel fab Swrishadai 6ed — Gad — Eliasaff fab Dewel 7fed — Effraim — Elishama fab Amihwd 8fed — Manasse — Gamaliel fab Pedatswr 9fed — Benjamin — Abidan fab Gideoni 10fed — Dan — Achieser fab Amishadai 11eg — Asher — Pagiel fab Ochran 12fed — Nafftali — Achira fab Enan Roedd offrwm pawb yr un fath: Plât arian yn pwyso cilogram a hanner a powlen arian yn pwyso tri chwarter cilogram. Roedd y ddau yn llawn o'r blawd gwenith gorau wedi ei gymysgu gydag olew olewydd i'w gyflwyno fel offrwm o rawn. Padell aur yn pwyso can gram. Roedd hon yn llawn arogldarth. Un tarw ifanc, un hwrdd, ac un oen gwryw blwydd oed, yn offrwm i'w losgi'n llwyr. Un bwch gafr yn offrwm puro. A dau ychen, pum hwrdd, pum bwch gafr, a pum oen gwryw blwydd oed yn offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** [84-88] Felly cyfanswm yr offrymau gyflwynodd arweinwyr Israel pan gafodd yr allor ei heneinio oedd: — un deg dau plât arian yn pwyso cilogram a hanner yr un — un deg dwy powlen arian yn pwyso tri chwarter cilogram yr un (Felly roedd y llestri arian i gyd yn pwyso dau ddeg saith cilogram, yn ôl pwysau safonol y cysegr) — un deg dwy badell aur yn llawn o arogldarth, yn pwyso can gram yr un (Felly roedd y padellau aur i gyd yn pwyso un cilogram a dau gan gram yn ôl pwysau safonol y cysegr) — un deg dau tarw ifanc, un deg dau hwrdd ac un deg dau oen gwryw blwydd oed yn offrymau i'w llosgi'n llwyr — pob un gyda'i offrwm o rawn — un deg dau bwch gafr yn offrymau puro — dau ddeg pedwar tarw ifanc, chwe deg hwrdd, chwe deg bwch gafr a chwe deg oen gwryw blwydd oed yn offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Dyna'r rhoddion gafodd eu cyflwyno pan oedd yr allor yn cael ei chysegru a'i heneinio. *** *** *** *** Pan aeth Moses i mewn i Babell Presenoldeb Duw i siarad â'r ARGLWYDD, clywodd lais yn siarad gydag e. Roedd y llais yn dod o rywle uwch ben caead Arch y dystiolaeth oedd rhwng y ddau geriwb. Roedd yn siarad gyda Moses. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Dywed wrth Aaron, ‘Pan fyddi'n gosod y lampau yn eu lle, gwna'n siŵr fod y saith lamp yn taflu eu golau o flaen y menora.’” A dyma Aaron yn gwneud hynny. Dyma fe'n gosod y lampau fel eu bod yn taflu eu golau o flaen y menora, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses. Gwaith morthwyl oedd y menora — aur wedi ei guro. Roedd yn waith morthwyl o'i goes i'w betalau. Cafodd ei wneud i'r union batrwm roedd yr ARGLWYDD wedi ei ddangos i Moses. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Rwyt i gymryd y Lefiaid o blith pobl Israel a mynd trwy'r ddefod o'i puro nhw. A dyma sut mae gwneud hynny: Rwyt i daenellu dŵr y puro arnyn nhw. Wedyn rhaid iddyn nhw siafio eu corff i gyd, golchi eu dillad, ac ymolchi. Wedyn maen nhw i gymryd tarw ifanc, gyda'i offrwm o rawn (sef y blawd gwenith gorau wedi ei gymysgu gydag olew olewydd). Yna cymryd tarw ifanc arall yn offrwm puro. Wedyn rwyt i fynd â'r Lefiaid i sefyll o flaen Pabell Presenoldeb Duw, a casglu pobl Israel i gyd at ei gilydd yno. Yna mae'r bobl i osod eu dwylo ar y Lefiaid tra maen nhw'n sefyll o flaen yr ARGLWYDD. Wedyn mae Aaron i gyflwyno'r Lefiaid i'r ARGLWYDD fel offrwm sbesial gan bobl Israel, i'w cysegru nhw i waith yr ARGLWYDD. Wedyn bydd y Lefiaid yn gosod eu dwylo ar ben y ddau darw ifanc. Bydd un yn offrwm puro, a'r llall yn cael ei offrymu i'w losgi'n llwyr i'r ARGLWYDD, i wneud pethau'n iawn rhwng Duw a'r Lefiaid. Yna mae'r Lefiaid i sefyll o flaen Aaron a'i feibion, i'w cyflwyno nhw'n offrwm sbesial i'r ARGLWYDD. A dyna sut mae'r Lefiaid i gael eu gosod ar wahân i weddill pobl Israel. Fi fydd piau'r Lefiaid.” “Bydd y Lefiaid wedyn yn mynd i wneud eu gwaith yn y Tabernacl, ar ôl cael eu puro a'i cyflwyno'n offrwm sbesial i mi. Maen nhw wedi cael eu rhoi i weithio i mi yn unig. Dw i'n eu cymryd nhw yn lle meibion hynaf pobl Israel. Fi piau'r meibion hynaf i gyd, a hefyd pob anifail cyntaf i gael ei eni. Ro'n i wedi eu cysegru nhw i mi fy hun pan wnes i ladd pob mab ac anifail cyntaf i gael ei eni yng ngwlad yr Aifft. Ond dw i wedi cymryd y Lefiaid yn lle meibion hynaf pobl Israel. A dw i wedi rhoi y Lefiaid i Aaron a'i feibion i weithio ar ran pobl Israel yn y Tabernacl. Hefyd i wneud pethau'n iawn rhwng Duw a phobl Israel, fel bod dim pla yn taro pobl Israel pan maen nhw'n mynd yn agos at y cysegr.” Felly dyma Moses ac Aaron a phobl Israel i gyd yn cysegru'r Lefiaid. Dyma nhw'n gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses. Dyma'r Lefiaid yn mynd trwy'r ddefod o buro eu hunain, a golchi eu dillad. Yna dyma Aaron yn eu cyflwyno nhw yn offrwm sbesial i'r ARGLWYDD. Ac wedyn dyma fe'n mynd trwy'r ddefod o wneud pethau'n iawn rhyngddyn nhw â Duw, er mwyn ei puro nhw. Wedi hynny, dyma'r Lefiaid yn mynd i'r Tabernacl i wneud eu gwaith, yn helpu Aaron a'i feibion. Dyma nhw'n gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Dyma fydd y drefn gyda'r Lefiaid: Maen nhw'n cael dechrau gweithio yn y Tabernacl yn ddau ddeg pump mlwydd oed, a rhaid iddyn nhw ymddeol pan fyddan nhw'n bum deg oed. Ar ôl ymddeol maen nhw'n cael dal i helpu'r Lefiaid eraill pan mae angen, ond fyddan nhw ddim yn gwneud y gwaith eu hunain. Dyna fydd y drefn gyda gwaith y Lefiaid.” Dyma'r ARGLWYDD yn siarad â Moses yn anialwch Sinai, flwyddyn ar ôl iddyn nhw ddod allan o wlad yr Aifft: “Mae pobl Israel i ddathlu'r Pasg ar yr amser iawn bob blwyddyn, sef pan mae hi'n dechrau nosi ar y pedwerydd ar ddeg o'r mis yma. Rhaid cadw'n fanwl at holl reolau a threfn yr Ŵyl.” Felly dyma Moses yn dweud wrth bobl Israel am gadw'r Pasg. A dyma'r bobl yn gwneud hynny yn anialwch Sinai, ar y pedwerydd ar ddeg o'r mis cyntaf, pan oedd hi'n dechrau nosi. Dyma nhw'n gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses. Ond roedd rhai o'r bobl yn aflan am eu bod nhw wedi cyffwrdd corff rhywun oedd wedi marw, ac felly doedden nhw ddim yn gallu dathlu'r Pasg y diwrnod hwnnw. Felly dyma nhw'n mynd at Moses ac Aaron a dweud, “Dŷn ni'n aflan am ein bod ni wedi cyffwrdd corff rhywun oedd wedi marw. Ond pam ddylen ni gael ein rhwystro rhag cyflwyno offrwm i'r ARGLWYDD gyda pawb arall o bobl Israel?” A dyma Moses yn dweud wrthyn nhw, “Arhoswch yma, a gwna i fynd i wrando beth sydd gan yr ARGLWYDD i'w ddweud am y peth.” A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Dywed wrth bobl Israel, ‘Os oes rhywun, heddiw neu yn y dyfodol, yn aflan am ei fod wedi cyffwrdd corff marw; neu'n methu bod yn y dathliadau am ei fod wedi mynd ar daith bell, bydd yn dal yn gallu dathlu'r Pasg i'r ARGLWYDD. Bydd yn gwneud hynny fis yn ddiweddarach, pan mae'n dechrau nosi ar y pedwerydd ar ddeg o'r ail fis. Rhaid iddyn nhw fwyta'r oen gyda bara heb furum ynddo a llysiau chwerw. Does dim ohono i'w adael tan y bore, a does dim o'i esgyrn i gael eu torri. Rhaid iddyn nhw gadw holl reolau'r Ŵyl. Ond os oes rhywun, sydd ddim yn aflan nac i ffwrdd ar daith, yn peidio dathlu'r Pasg, rhaid i'r person hwnnw gael ei dorri allan o blith pobl Dduw. Rhaid iddo wynebu canlyniadau ei bechod, am beidio dod ag offrwm i'r ARGLWYDD ar yr amser iawn. Os ydy'r mewnfudwyr sy'n byw gyda chi eisiau dathlu'r Pasg i'r ARGLWYDD, rhaid iddyn nhw gadw'r un rheolau a'r un drefn. Mae'r un rheolau yn berthnasol i frodorion a mewnfudwyr.’” Y diwrnod pan gafodd y Tabernacl ei godi, dyma gwmwl yn ei orchuddio — sef pabell y dystiolaeth. Yna gyda'r nos tan y bore wedyn roedd yn edrych fel petai tân uwch ben y Tabernacl. A dyna sut oedd pethau drwy'r adeg. Roedd y cwmwl oedd yn ei orchuddio drwy'r dydd yn troi i edrych fel tân yn y nos. Pan oedd y cwmwl yn codi oddi ar y babell roedd pobl Israel yn cychwyn ar eu taith. Yna ble bynnag roedd y cwmwl yn setlo byddai pobl Israel yn codi eu gwersyll. Felly, yr ARGLWYDD oedd yn dangos i bobl Israel pryd i symud a ble i stopio. Bydden nhw'n dal i wersylla yn yr un fan tra byddai'r cwmwl yn aros dros y Tabernacl. Weithiau roedd y cwmwl yn aros dros y Tabernacl am amser hir, a fyddai pobl Israel ddim yn symud y gwersyll nes roedd yr ARGLWYDD yn dweud. Dro arall roedd y cwmwl dim ond yn aros dros y Tabernacl am ychydig ddyddiau. Felly roedd y bobl yn gwersylla am y dyddiau hynny, ac yna'n symud ymlaen pan oedd yr ARGLWYDD yn dweud. A weithiau doedd y cwmwl ddim ond yn aros dros nos. Pan oedd y cwmwl yn codi y bore wedyn, roedden nhw'n symud ymlaen. Pryd bynnag roedd y cwmwl yn codi, yn y dydd neu yn y nos, roedden nhw'n symud yn eu blaenau. Roedd pobl Israel yn aros yn y gwersyll am faint bynnag roedd y cwmwl yn aros dros y Tabernacl — boed hynny'n ddeuddydd, yn fis, neu'n flwyddyn. Ond pan oedd y cwmwl yn codi, roedden nhw'n teithio yn eu blaenau. Yr ARGLWYDD oedd yn dweud pryd oedden nhw'n teithio a pryd oedden nhw'n gwersylla. Roedden nhw'n gwneud yn union beth roedd yr ARGLWYDD yn ei ddweud trwy Moses. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Gwnewch ddau utgorn arian — gwaith morthwyl. Maen nhw i gael eu defnyddio i alw'r bobl at ei gilydd, ac i alw'r gwersyll i symud. Pan mae'r ddau utgorn yn cael eu canu gyda'i gilydd bydd y bobl yn gwybod eu bod i gasglu o flaen mynedfa Pabell Presenoldeb Duw. Ond os mai un utgorn sy'n canu, dim ond arweinwyr llwythau Israel sydd i ddod. Pan mae un nodyn hir yn cael ei seinio, mae'r rhai sy'n gwersylla i'r dwyrain o'r Tabernacl i symud allan. Wedyn pan mae nodyn hir arall yn cael ei seinio, mae'r rhai sy'n gwersylla ar yr ochr ddeheuol i'w dilyn. Y nodyn hir ydy'r arwydd eu bod i symud allan. Ond i alw pawb at ei gilydd rhaid canu nodau gwahanol. Meibion Aaron, yr offeiriaid, sydd i ganu'r utgyrn. A dyna fydd y drefn bob amser, ar hyd y cenedlaethau. Ar ôl i chi gyrraedd eich gwlad, os byddwch chi'n mynd i ryfel yn erbyn eich gelynion, rhaid seinio ffanffer ar yr utgyrn yma. Wedyn bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn cofio amdanoch chi ac yn eich achub chi o afael eich gelynion. “Canwch yr utgyrn hefyd ar yr adegau hynny pan fyddwch chi'n dathlu — ar y Gwyliau blynyddol ac ar ddechrau pob mis pan fyddwch chi'n cyflwyno eich offrymau i'w llosgi'n llwyr a'r offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Bydd yr utgyrn yn eich atgoffa chi i gadw'ch meddyliau ar Dduw. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi.” Ar ddechrau'r ail flwyddyn wedi i bobl Israel ddod allan o'r Aifft (ar yr ugeinfed diwrnod o'r ail fis) dyma'r cwmwl yn codi oddi ar dabernacl y dystiolaeth. Felly dyma bobl Israel yn cychwyn ar eu taith o anialwch Sinai. Ac yn y diwedd dyma'r cwmwl yn aros yn anialwch Paran. Hwn oedd y tro cyntaf iddyn nhw symud, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses. Y llwythau oedd yn gwersylla o dan faner Jwda aeth gyntaf, adran wrth adran. Roedd adrannau llwyth Jwda dan arweiniad Nachshon fab Aminadab. Wedyn roedd Nethanel fab Tswár yn arwain llwyth Issachar, ac Eliab fab Chelon yn arwain llwyth Sabulon. Nesaf, dyma'r Tabernacl yn cael ei dynnu i lawr. A dyma'r Gershoniaid a'r Merariaid, oedd yn cario'r Tabernacl, yn mynd allan. Y llwythau oedd yn gwersylla o dan faner Reuben aeth nesaf, adran wrth adran. Roedd adrannau llwyth Reuben dan arweiniad Elisur fab Shedeŵr. Wedyn roedd Shelwmiel fab Swrishadai yn arwain llwyth Simeon, ac Eliasaff fab Dewel yn arwain llwyth Gad. Yna dyma'r Cohathiaid, oedd yn cario offer y cysegr, yn eu dilyn. (Roedd y Tabernacl i fod i gael ei godi eto cyn iddyn nhw gyrraedd.) Y llwythau oedd yn gwersylla o dan faner Effraim oedd nesaf, adran wrth adran. Roedd adrannau llwyth Effraim dan arweiniad Elishama fab Amihwd. Wedyn roedd Gamaliel fab Pedatswr yn arwain llwyth Manasse, ac Abidan fab Gideoni yn arwain llwyth Benjamin. Ac yna'n olaf, y llwythau oedd yn gwersylla o dan faner Dan. Roedd adrannau llwyth Dan dan arweiniad Achieser fab Amishadai. Wedyn roedd Pagiel fab Ochran yn arwain llwyth Asher, ac Achira fab Enan yn arwain llwyth Nafftali. Dyna'r drefn aeth pobl Israel allan, adran wrth adran. A dyma nhw'n teithio yn eu blaenau. Dyma Moses yn dweud wrth Chobab (mab i Reuel o Midian, tad-yng-nghyfraith Moses), “Dŷn ni ar ein ffordd i'r wlad mae'r ARGLWYDD wedi addo ei rhoi i ni. Tyrd gyda ni. Byddwn ni'n dy drin di'n dda. Mae'r ARGLWYDD wedi addo pethau gwych i bobl Israel.” Ond atebodd Chobab, “Na, dw i ddim am ddod. Dw i am fynd adre i'm gwlad, at fy mhobl fy hun.” “Paid gadael ni,” meddai Moses, “Gelli di ein tywys ni drwy'r anialwch. Ti'n gwybod am y lleoedd gorau i wersylla. Os doi di, byddi di'n cael rhannu'r holl bethau da sydd gan yr ARGLWYDD ar ein cyfer ni.” Felly dyma nhw'n gadael mynydd yr ARGLWYDD ac yn teithio am dri diwrnod. Ac roedd Arch ymrwymiad yr ARGLWYDD yn mynd o'u blaenau nhw, i ddangos iddyn nhw ble i stopio a gorffwys. Wrth iddyn nhw adael y gwersyll, roedd cwmwl yr ARGLWYDD uwch eu pennau. Pan oedd yr Arch yn dechrau symud, byddai Moses yn gweiddi: “Cod, ARGLWYDD! Boed i dy elynion gael eu gwasgaru, a'r rhai sydd yn dy erbyn ddianc oddi wrthot ti!” A pan oedd yr Arch yn cael ei rhoi i lawr, byddai'n gweiddi: “Gorffwys, ARGLWYDD gyda'r miloedd ar filoedd o bobl Israel!” Dyma'r bobl yn dechrau cwyno fod bywyd yn galed, ac roedd yr ARGLWYDD yn flin pan glywodd nhw. Roedd e wedi gwylltio'n lân gyda nhw. A dyma dân yr ARGLWYDD yn dod ac yn dinistrio cyrion y gwersyll. Roedd y bobl yn gweiddi ar Moses i'w helpu nhw. A dyma Moses yn gweddïo ar yr ARGLWYDD, a dyma'r tân yn diffodd. A dyma fe'n galw'r lle hwnnw yn Tabera, sef “Lle'r Llosgi”, am fod tân yr ARGLWYDD wedi eu llosgi nhw yno. Roedd yna griw cymysg o bobl yn eu plith nhw yn awchu am fwyd. Roedd pobl Israel yn crïo eto, ac yn cwyno, “Pam gawn ni ddim cig i'w fwyta?” Pan oedden ni yn yr Aifft roedd gynnon ni ddigonedd o bysgod i'w bwyta, a pethau fel ciwcymbyrs, melons, cennin, nionod a garlleg. Ond yma does dim byd yn apelio aton ni. Y cwbl sydd gynnon ni ydy'r manna yma! (Roedd y manna yn edrych fel had coriander, lliw resin golau, golau. Byddai'r bobl yn mynd allan i'w gasglu, ac yna'n gwneud blawd ohono gyda melinau llaw, neu drwy ei guro mewn mortar. Yna ei ferwi mewn crochan, a gwneud bara tenau ohono. Roedd yn blasu'n debyg i olew olewydd. Roedd y manna'n disgyn ar lawr y gwersyll dros nos gyda'r gwlith.) Dyma Moses yn clywed y bobl i gyd yn crïo tu allan i'w pebyll. Roedd yr ARGLWYDD wedi digio go iawn gyda nhw, ac roedd Moses yn gweld fod pethau'n ddrwg. A dyma Moses yn gofyn i'r ARGLWYDD, “Pam wyt ti'n trin fi mor wael? Beth dw i wedi ei wneud o'i le? Mae'r bobl yma'n ormod o faich! Ydyn nhw'n blant i mi? Ai fi ddaeth â nhw i'r byd? Ac eto ti'n disgwyl i mi eu cario nhw, fel tad maeth yn cario ei blentyn! Ti'n disgwyl i mi fynd â nhw i'r wlad wnest ti addo ei rhoi i'w hynafiaid. Ble dw i'n mynd i ddod o hyd i gig i'w roi i'r bobl yma i gyd? Maen nhw'n cwyno'n ddi-stop, ‘Rho gig i ni i'w fwyta! Dŷn ni eisiau cig!’ Mae'r cwbl yn ormod i mi! Alla i ddim gwneud hyn ar fy mhen fy hun. Os mai fel yma wyt ti am fy nhrin i, byddai'n well gen i farw! Gwna ffafr â mi a lladd fi nawr! Alla i gymryd dim mwy!” A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Galw saith deg o arweinwyr Israel at ei gilydd — dynion cyfrifol wyt ti'n gwybod amdanyn nhw. Tyrd â nhw i sefyll gyda ti o flaen Pabell Presenoldeb Duw. Bydda i'n dod i lawr i siarad â ti yno. Bydda i'n cymryd peth o'r Ysbryd sydd arnat ti, ac yn ei roi arnyn nhw. Wedyn byddan nhw'n cymryd peth o'r baich oddi arnat ti — fydd dim rhaid i ti gario'r cwbl dy hun. “A dywed wrth y bobl am fynd trwy'r ddefod o buro eu hunain erbyn yfory. Dywed wrthyn nhw, ‘Byddwch chi'n cael cig i'w fwyta. Mae'r ARGLWYDD wedi'ch clywed chi'n crïo ac yn cwyno, ac yn dweud, “Pwy sy'n mynd i roi cig i ni i'w fwyta? Roedd bywyd yn well yn yr Aifft!” Wel, mae'r ARGLWYDD yn mynd i roi cig i chi i'w fwyta. Dim jest am ddiwrnod neu ddau, na hyd yn oed pump, deg neu ddau ddeg! Byddwch chi'n ei fwyta am fis cyfan. Yn y diwedd bydd e'n dod allan o'ch ffroenau chi! Byddwch chi mor sâl, byddwch chi'n chwydu cig! Am eich bod chi wedi dangos diffyg parch at yr ARGLWYDD sydd gyda chi, a cwyno o'i flaen, “Pam wnaethon ni adael yr Aifft?”’” “Mae yna chwe chan mil o filwyr traed o'm cwmpas i,” meddai Moses, “a ti'n dweud dy fod yn mynd i roi digon o gig iddyn nhw ei fwyta am fis cyfan! Hyd yn oed petaen ni'n lladd yr anifeiliaid sydd gynnon ni i gyd, fyddai hynny ddim digon! Neu'n dal yr holl bysgod sydd yn y môr! Fyddai hynny'n ddigon?” A dyma'r ARGLWYDD yn ateb, “Wyt ti'n meddwl fy mod i'n rhy wan? Cei weld ddigon buan a ydw i'n dweud y gwir!” Felly dyma Moses yn mynd allan, a dweud wrth y bobl beth ddwedodd yr ARGLWYDD. A dyma fe'n casglu saith deg o'r arweinwyr a'i gosod i sefyll o gwmpas y Tabernacl. A dyma'r ARGLWYDD yn dod i lawr yn y cwmwl, ac yn siarad â nhw. A dyma fe'n cymryd peth o'r Ysbryd oedd ar Moses, a'i roi ar y saith deg arweinydd. Pan ddaeth yr Ysbryd arnyn nhw dyma nhw'n proffwydo. Ond dyna oedd yr unig adeg wnaethon nhw hynny. Roedd yna ddau ddyn, Eldad a Medad, oedd wedi aros yn y gwersyll. (Roedd y ddau ohonyn nhw ar restr yr arweinwyr, ond ddim wedi mynd at y Tabernacl.) A dyma'r Ysbryd yn dod arnyn nhw hefyd, a dyma nhw'n dechrau proffwydo lle roedden nhw, yn y gwersyll. Dyma ddyn ifanc yn rhedeg at Moses a dweud wrtho, “Mae Eldad a Medad yn proffwydo yn y gwersyll!” Felly dyma Josua fab Nwn, un o'r dynion ifanc roedd Moses wedi eu dewis i'w wasanaethu, yn dweud, “Moses, meistr! Gwna iddyn nhw stopio!” Ond dyma Moses yn ei ateb, “Wyt ti'n eiddigeddus drosto i? O na fyddai pobl Dduw i gyd yn broffwydi! Byddwn i wrth fy modd petai'r ARGLWYDD yn rhoi ei Ysbryd arnyn nhw i gyd!” Yna dyma Moses ac arweinwyr Israel yn mynd yn ôl i'r gwersyll. Dyma'r ARGLWYDD yn gyrru gwynt wnaeth gario soflieir o gyfeiriad y môr, a gwneud iddyn nhw ddisgyn o gwmpas y gwersyll. Roedd soflieir am filltiroedd i bob cyfeiriad, yn hedfan tua metr a hanner uwch wyneb y ddaear. Buodd y bobl wrthi ddydd a nos y diwrnod hwnnw, a'r diwrnod wedyn, yn casglu'r soflieir. Wnaeth neb gasglu llai na llond deg basged fawr! A dyma nhw'n eu gosod nhw allan ym mhobman o gwmpas y gwersyll. Ond tra roedden nhw'n bwyta'r cig, a prin wedi dechrau ei gnoi, dyma'r ARGLWYDD yn dangos mor ddig oedd e, ac yn gadael i bla ofnadwy daro'r bobl. Felly dyma'r lle yna'n cael ei alw yn Cibroth-hattaäfa (sef ‛Beddau'r Gwancus‛), am mai dyna ble cafodd y bobl oedd yn awchu am gig eu claddu. Dyma'r bobl yn teithio ymlaen o Cibroth-hattaäfa i Chatseroth, ac aros yno. Roedd Miriam ac Aaron wedi dechrau beirniadu Moses, am ei fod wedi priodi dynes o ddwyrain Affrica (ie, dynes ddu o Affrica). “Ai dim ond trwy Moses mae'r ARGLWYDD yn siarad?” medden nhw. “Ydy e ddim wedi siarad trwon ni hefyd?” Ac roedd yr ARGLWYDD wedi ei clywed nhw. (Roedd Moses ei hun yn ddyn gostyngedig iawn. Doedd neb llai balch drwy'r byd i gyd.) Felly dyma'r ARGLWYDD yn galw ar Moses, Aaron a Miriam: “Dw i eisiau i'r tri ohonoch chi ddod at Babell Presenoldeb Duw.” Felly dyma'r tri ohonyn nhw'n mynd. A dyma'r ARGLWYDD yn dod i lawr mewn colofn o niwl o flaen mynedfa'r Tabernacl. A dyma fe'n dweud wrth Aaron a Miriam i gamu ymlaen, a dyma nhw'n gwneud hynny. Yna dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Gwrandwch yn ofalus ar beth dw i'n ddweud: Os oes proffwyd gyda chi, dw i'r ARGLWYDD yn siarad â'r person hwnnw drwy weledigaeth a breuddwyd. Ond mae fy ngwas Moses yn wahanol. Dw i'n gallu ei drystio fe'n llwyr. Dw i'n siarad gydag e wyneb yn wyneb — yn gwbl agored. Does dim ystyr cudd. Mae e'n gweld yr ARGLWYDD mewn ffordd unigryw. Felly pam oeddech chi mor barod i'w feirniadu?” Roedd yr ARGLWYDD wedi digio go iawn gyda nhw, a dyma fe'n mynd i fwrdd. Ac wrth i'r cwmwl godi oddi ar y Tabernacl, roedd croen Miriam wedi troi'n wyn gan wahanglwyf. Pan welodd Aaron y gwahanglwyf arni dyma fe'n galw ar Moses, “Meistr, plîs paid cymryd yn ein herbyn ni. Dŷn ni wedi bod yn ffyliaid, ac wedi pechu! Paid gadael iddi fod fel plentyn wedi ei eni'n farw, a hanner ei gnawd wedi diflannu cyn iddo ddod o'r groth!” A dyma Moses yn gweddïo ar yr ARGLWYDD, “O Dduw, plîs wnei di iacháu hi?” A dyma'r ARGLWYDD yn ei ateb, “Petai ei thad wedi poeri yn ei hwyneb byddai'n cael ei diystyru am saith diwrnod. Cau hi allan o'r gwersyll am saith diwrnod, a bydd hi'n cael dod yn ôl wedyn.” Felly dyma Miriam yn cael ei chau allan o'r gwersyll am saith diwrnod. A wnaeth y bobl ddim teithio yn eu blaenau nes roedd Miriam yn ôl gyda nhw. Ar ôl hynny dyma'r bobl yn gadael Chatseroth, ac yn gwersylla yn anialwch Paran. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Anfon ddynion i archwilio gwlad Canaan, sef y tir dw i'n ei roi i bobl Israel. Anfon un arweinydd o bob llwyth.” Felly dyma Moses yn eu hanfon nhw o anialwch Paran, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho. Roedden nhw i gyd yn arweinwyr pobl Israel. [4-15] Dyma eu henwau nhw: [Enw] — [Llwyth] Shammwa fab Saccwr — Reuben Shaffat fab Chori — Simeon Caleb fab Jeffwnne — Jwda Igal fab Joseff — Issachar Hosea fab Nwn — Effraim Palti fab Raffw — Benjamin Gadiel fab Sodi — Sabulon Gadi fab Swsi — Joseff (sef Manasse) Ammiel fab Gemali — Dan Sethwr fab Michael — Asher Nachbi fab Foffsi — Nafftali Gewel fab Machi — Gad *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** Dyna enwau'r dynion anfonodd Moses i ysbïo'r wlad. Ac roedd Moses yn galw Hosea fab Nwn yn Josua. Pan anfonodd Moses nhw i archwilio gwlad Canaan, dwedodd fel hyn: “Ewch i fyny drwy'r Negef, ac ymlaen i'r bryniau. Edrychwch i weld sut wlad ydy hi. Ydy'r bobl yn gryf neu'n wan? Oes yna lawer ohonyn nhw, neu dim ond ychydig? Sut dir ydy e? Da neu drwg? Oes gan y trefi waliau i'w hamddiffyn, neu ydyn nhw'n agored? Beth am y pridd? Ydy e'n ffrwythlon neu'n wael? Oes yna fforestydd yno? Byddwch yn ddewr! Ewch yno, a dewch â peth o gynnyrch y tir yn ôl gyda chi.” (Roedd hi'r adeg o'r flwyddyn pan oedd y grawnwin aeddfed cyntaf yn cael eu casglu). Felly i ffwrdd â nhw. A dyma nhw'n archwilio'r wlad, yr holl ffordd o anialwch Sin yn y de i Rechob, wrth Fwlch Chamath yn y gogledd. Wrth fynd trwy'r Negef dyma nhw'n cyrraedd Hebron. Roedd yr Achiman, y Sheshai a'r Talmai yn byw yno, sef disgynyddion Anac. (Roedd tref Hebron wedi ei hadeiladu saith mlynedd cyn Soan yn yr Aifft.) Pan gyrhaeddon nhw ddyffryn Eshcol dyma nhw'n torri cangen oddi ar winwydden gyda un swp o rawnwin arni. Roedd rhaid cael dau i'w chario ar bolyn rhyngddyn nhw. A dyma nhw'n casglu pomgranadau a ffigys hefyd. Roedd y lle yn cael ei alw yn ddyffryn Eshcol (sef ‛swp o rawnwin‛) o achos y swp o rawnwin roedden nhw wedi ei gymryd oddi yno. Roedden nhw wedi bod yn archwilio'r wlad am bedwar deg diwrnod. A dyma nhw'n mynd yn ôl i Cadesh yn anialwch Paran at Moses ac Aaron a phobl Israel. A dyma nhw'n dweud wrth y bobl beth roedden nhw wedi ei weld, ac yn dangos y ffrwyth roedden nhw wedi ei gario yn ôl. Dyma nhw'n dweud wrth Moses, “Aethon ni i'r wlad lle gwnest ti'n hanfon ni. Mae'n dir ffrwythlon — tir lle mae llaeth a mêl yn llifo! A dyma beth o'i ffrwyth. Ond mae'r bobl sy'n byw yno yn gryfion, ac maen nhw'n byw mewn trefi caerog mawr. Ac yn waeth na hynny, mae disgynyddion Anac yn byw yno. Mae'r Amaleciaid yn byw yn y Negef, yr Hethiaid, Jebwsiaid ac Amoriaid yn byw yn y bryniau, a'r Canaaneaid yn byw ar yr arfordir ac ar lan Afon Iorddonen.” Ond yna dyma Caleb yn galw ar y bobl oedd yno gyda Moses i fod yn dawel. “Gadewch i ni fynd, a chymryd y wlad! Gallwn ni ei choncro!” Ond dyma'r dynion eraill oedd wedi mynd i archwilio'r wlad yn dweud, “Na, allwn ni ddim ymosod ar y bobl yno. Maen nhw'n llawer rhy gryf i ni!” A dyma nhw'n rhoi adroddiad gwael i bobl Israel. “Byddwn ni'n cael ein llyncu gan bobl y wlad buon ni'n edrych arni. Mae'r bobl welon ni yno yn anferth! Roedd yno gewri, sef disgynyddion Anac. Roedden ni'n teimlo'n fach fel pryfed wrth eu hymyl nhw, a dyna sut roedden nhw'n ein gweld ni hefyd!” Dyma bawb yn torri allan i grïo'n uchel. Roedden nhw'n crïo drwy'r nos. Dyma bobl Israel yn dechrau cwyno a troi yn erbyn Moses ac Aaron. “Byddai'n well petaen ni wedi marw yn yr Aifft, neu hyd yn oed yn yr anialwch yma!” medden nhw. “Pam mae'r ARGLWYDD wedi dod â ni i'r wlad yma i gael ein lladd yn y frwydr? Bydd ein gwragedd a'n plant yn cael eu cymryd yn gaethion! Fyddai ddim yn well i ni fynd yn ôl i'r Aifft?” A dyma nhw'n dweud wrth ei gilydd, “Gadewch i ni ddewis rhywun i'n harwain ni, a mynd yn ôl i'r Aifft.” Dyma Moses ac Aaron yn plygu gyda'i hwynebau ar lawr. Gwnaethon nhw hyn o flaen pobl Israel i gyd oedd wedi dod at ei gilydd. Yna dyma ddau o'r arweinwyr oedd wedi bod yn archwilio'r wlad — sef Josua fab Nwn a Caleb fab Jeffwnne — yn rhwygo eu dillad. A dyma nhw'n dweud wrth bobl Israel, “Mae'r wlad buon ni'n edrych arni yn wlad fendigedig! Os ydy'r ARGLWYDD yn hapus gyda ni, bydd yn mynd â ni yno ac yn rhoi'r wlad i ni. Mae'n dir ffrwythlon — tir lle mae llaeth a mêl yn llifo. Felly, peidiwch gwrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD! A peidiwch bod ag ofn y bobl sy'n byw yn y wlad. Ni fydd yn eu bwyta nhw! Does ganddyn nhw ddim gobaith! Mae'r ARGLWYDD gyda ni! Felly peidiwch bod a'i hofn nhw.” Erbyn hyn roedd y bobl yn bygwth lladd Josua a Caleb trwy daflu cerrig atyn nhw. Ond yna dyma ysblander yr ARGLWYDD yn dod i'r golwg uwch ben Pabell Presenoldeb Duw. (Gwelodd pobl Israel i gyd hyn.) A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Am faint mae'r bobl yma'n mynd i'm dirmygu i? Ydyn nhw byth yn mynd i gredu yno i, ar ôl yr holl arwyddion gwyrthiol maen nhw wedi eu gweld? Dw i wedi cael digon! Dw i'n mynd i anfon haint i'w dinistrio nhw! A bydda i'n gwneud dy ddisgynyddion di yn bobl fwy a chryfach na fuon nhw erioed.” A dyma Moses yn dweud wrth yr ARGLWYDD, “Ond wedyn bydd pobl yr Aifft yn clywed am y peth! Ti ddefnyddiodd dy nerth i ddod â'r bobl allan oddi wrthyn nhw. Byddan nhw'n dweud am y peth wrth bobl y wlad dŷn ni'n mynd iddi. ARGLWYDD, maen nhw wedi clywed dy fod ti gyda'r bobl yma. Maen nhw'n gwybod fod y bobl yma wedi dy weld di gyda'i llygaid eu hunain, bod dy gwmwl di yn hofran uwch eu pennau, a dy fod ti'n eu harwain nhw mewn colofn o niwl yn y dydd a colofn o dân yn y nos. Os gwnei di ladd y bobl yma i gyd gyda'i gilydd, bydd y gwledydd sydd wedi clywed amdanat ti'n dweud ‘Doedd yr ARGLWYDD ddim yn gallu arwain y bobl i'r wlad oedd e wedi ei haddo iddyn nhw, felly dyma fe'n eu lladd nhw yn yr anialwch!’ Felly, fy Meistr, dangos mor gryf wyt ti. Rwyt ti wedi dweud, ‘Mae'r ARGLWYDD mor amyneddgar ac mae ei haelioni yn anhygoel. Mae'n maddau beiau a gwrthryfel. Ond dydy e ddim yn gadael i'r euog fynd heb ei gosbi. Mae pechodau pobl yn gadael eu hôl ar y plant am dair neu bedair cenhedlaeth.’ Plîs wnei di faddau drygioni'r bobl yma? Mae dy gariad ffyddlon mor fawr, ac rwyt ti wedi bod yn maddau iddyn nhw ers iddyn nhw ddod o'r Aifft.” A dyma'r ARGLWYDD yn ateb, “Iawn, dw i wedi maddau iddyn nhw fel wyt ti eisiau. Ond mor sicr â'r ffaith fy mod i'n fyw, a bod fy ysblander i'n llenwi'r byd i gyd: Mae'r bobl yma wedi gweld fy ysblander i, a'r holl arwyddion gwyrthiol wnes i yn yr Aifft, ac eto maen nhw wedi fy rhoi i ar brawf dro ar ôl tro, ac wedi gwrthod gwrando arna i. Felly gân nhw'n bendant ddim gweld y wlad wnes i addo ei rhoi i'w hynafiaid. Fydd neb o'r rhai sydd wedi bod mor ddirmygus ohono i yn mynd yno. Ond mae fy ngwas Caleb yn wahanol. Mae e wedi bod yn ffyddlon, a bydd e'n cael mynd yn ôl i'r wlad aeth e i'w gweld, a bydd ei blant yn ei hetifeddu. (Cofia fod yr Amaleciaid a'r Canaaneaid yn byw yn y dyffrynnoedd.) Felly, yfory, dw i am i ti droi yn ôl i gyfeiriad yr anialwch sydd ar y ffordd yn ôl i'r Môr Coch.” Dyma'r ARGLWYDD yn siarad gyda Moses ac Aaron: “Am faint mwy mae'n rhaid i mi ddiodde'r bobl yma sy'n cwyno ac yn ymosod arna i? Dw i wedi clywed popeth maen nhw'n ei ddweud. Dywed wrthyn nhw fy mod i, yr ARGLWYDD, yn dweud, ‘Mor sicr â'r ffaith fy mod i'n fyw, bydda i'n gwneud i chi beth glywais i chi'n gofyn amdano! Byddwch chi'n syrthio'n farw yma yn yr anialwch. Am eich bod chi wedi troi yn fy erbyn i, fydd dim un ohonoch chi gafodd ei gyfrif (o ddau ddeg oed i fyny) yn cael mynd i'r wlad wnes i addo ei rhoi i chi setlo ynddi. Yr unig ddau eithriad fydd Caleb fab Jeffwnne a Josua fab Nwn. Ond bydd eich plant (y rhai oeddech chi'n dweud fyddai'n cael eu cymryd yn gaethion) yn cael mwynhau y wlad oeddech chi mor ddibris ohoni. Byddwch chi'n syrthio'n farw yn yr anialwch yma. A bydd eich plant yn gorfod crwydro yn yr anialwch am bedwar deg o flynyddoedd. Byddan nhw'n talu am eich bod chi wedi bod yn anffyddlon! Dyna fydd y sefyllfa nes bydd corff yr olaf o'ch cenhedlaeth chi yn gorwedd yn yr anialwch. Byddwch chi'n dioddef am y drwg am bedwar deg mlynedd, sef un flwyddyn am bob diwrnod buoch chi'n archwilio'r wlad. Byddwch chi'n deall beth mae'n ei olygu i'm cael i yn elyn i chi!’ Dw i, yr ARGLWYDD wedi dweud. Dw i'n mynd i wneud hyn i bob un o'r criw sydd wedi dod at ei gilydd yn fy erbyn i. Yr anialwch yma fydd eu diwedd nhw! Dyma ble fyddan nhw'n marw!” [36-37] Yna dyma'r dynion roddodd adroddiad gwael ar ôl bod yn archwilio'r wlad, a gwneud i'r bobl gwyno a troi yn erbyn Moses, yn cael eu taro gan bla ac yn marw o flaen yr ARGLWYDD. *** Ond cafodd Josua fab Nwn a Caleb fab Jeffwnne, oedd gyda nhw, fyw. Pan ddwedodd Moses wrth bobl Israel am hyn i gyd, buodd y bobl yn galaru am y peth. Yna'n gynnar iawn y bore wedyn dyma nhw'n mynd i fyny i ben bryn. “Dyma ni,” medden nhw, “gadewch i ni fynd i'r lle ddwedodd yr ARGLWYDD. Dŷn ni'n gwybod ein bod ni wedi pechu.” Ond dyma Moses yn dweud wrthyn nhw, “Pam dych chi'n tynnu'n groes i beth mae'r ARGLWYDD wedi ei ddweud eto? Wnewch chi ddim llwyddo! Peidiwch mynd yn eich blaenau. Dydy'r ARGLWYDD ddim gyda chi. Bydd eich gelynion yn eich curo chi. Byddwch chi'n dod wyneb yn wyneb â'r Amaleciaid a'r Canaaneaid, ac yn cael eich lladd. Dych chi wedi troi cefn ar yr ARGLWYDD, felly fydd yr ARGLWYDD ddim gyda chi.” Er hynny dyma nhw'n mynnu mentro yn eu blaenau i fyny i'r bryniau. Ond wnaeth Arch ymrwymiad yr ARGLWYDD na Moses ddim gadael y gwersyll. A dyma'r Amaleciaid a'r Canaaneaid oedd yn byw yno yn ymosod arnyn nhw, a mynd ar eu holau yr holl ffordd i Horma. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Dywed wrth bobl Israel, ‘Pan fyddwch wedi cyrraedd y wlad dw i'n ei rhoi i chi fyw ynddi, byddwch yn cyflwyno offrymau i'w llosgi fydd yn arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD (Gall fod yn offrwm i'w losgi'n llwyr neu'n offrwm i wneud addewid, neu i ofyn am fendith yr ARGLWYDD ar ôl cyflawni'r addewid, neu'n offrwm sy'n cael ei roi'n wirfoddol, neu yn un o'r Gwyliau penodol). [4-5] Rhaid i'r person sy'n cyflwyno'r offrwm gyflwyno offrwm o rawn gydag e. Gyda pob oen sy'n cael ei aberthu a'i losgi'n offrwm rhaid cyflwyno cilogram o'r blawd gwenith gorau wedi ei gymysgu gyda litr o olew olewydd. A hefyd litr o win yn offrwm o ddiod. *** Gyda pob hwrdd rhaid i'r offrwm o rawn fod yn ddau gilogram o'r blawd gwenith gorau wedi ei gymysgu gyda litr a chwarter o olew olewydd. Hefyd litr a chwarter o win yn offrwm o ddiod. Bydd yn arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD. A gyda pob tarw ifanc sy'n cael ei gyflwyno'n offrwm i'w losgi'n llwyr (neu'n offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD ar ôl cyflawni addewid, neu'n offrwm arall i ofyn am fendith yr ARGLWYDD), rhaid i'r offrwm o rawn fod yn dri cilogram o'r blawd gwenith gorau wedi ei gymysgu gyda dwy litr o olew olewydd. A hefyd dwy litr o win yn offrwm o ddiod gyda'r offrwm sydd i'w losgi. Bydd yn arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD. Dyna sydd i'w gyflwyno gyda pob tarw ifanc, hwrdd, oen neu fwch gafr. Rhaid gwneud hyn gyda pob anifail sy'n cael ei baratoi. “‘Dyma mae unrhyw un o bobl Israel sy'n cyflwyno offrwm i'w losgi i'r ARGLWYDD i fod i'w wneud. Ac mae'r mewnfudwyr sy'n byw yn eich plith chi — nawr neu yn y dyfodol — i wneud yr un fath wrth gyflwyno offrwm i'w losgi sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD. Mae'r un rheol i bawb — chi sy'n Israeliaid, a'r mewnfudwyr sy'n byw gyda chi. A fydd y rheol yma byth yn newid. Mae'r rheol a'r drefn yr un fath i bawb — chi sy'n Israeliaid, a'r mewnfudwyr sy'n byw yn eich plith chi.’” Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Dywed wrth bobl Israel, ‘Pan fyddwch wedi cyrraedd y wlad dw i'n ei rhoi i chi fyw ynddi, ac yn bwyta'r cnydau sy'n tyfu yno, rhaid i chi ddod a chyflwyno peth ohono yn offrwm i'r ARGLWYDD: Torth wedi ei gwneud o'r toes cyntaf yn cael ei chyflwyno fel yr offrwm o'r grawn cyntaf ddaeth o'r llawr dyrnu. Rhaid i chi bob amser gyflwyno'r toes cyntaf yn offrwm i'r ARGLWYDD.’” “Dyma sydd i ddigwydd os ydy'r gymuned gyfan yn gwneud camgymeriad, a ddim yn cadw'r rheolau mae'r ARGLWYDD wedi eu rhoi i Moses — beth bynnag mae'r ARGLWYDD wedi ei ddweud drwy Moses hyd yn hyn, neu yn y dyfodol — unrhyw gamgymeriad dydy'r gymuned ddim yn ymwybodol ei bod wedi ei wneud: Mae'r bobl gyda'i gilydd i baratoi tarw ifanc yn offrwm i'w losgi'n llwyr — un fydd yn arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD. Mae i'w gyflwyno gyda'r offrymau o rawn a diod sydd i fynd gydag e. A hefyd bwch gafr yn offrwm puro. Mae'r offeiriad i wneud pethau'n iawn rhwng pobl Israel â Duw. Bydd Duw yn maddau iddyn nhw, am mai camgymeriad oedd, ac am eu bod nhw wedi dod a chyflwyno offrwm i'w losgi ac offrwm puro iddo. Bydd y gymuned gyfan, pobl Israel a'r mewnfudwyr sy'n byw gyda nhw, yn cael maddeuant. Roedden nhw i gyd yn gyfrifol am y camgymeriad. “A dyma sydd i ddigwydd os ydy unigolyn yn pechu'n ddamweiniol: Mae'r person hwnnw i ddod â gafr blwydd oed yn offrwm puro. Yna mae'r offeiriad i wneud pethau'n iawn rhwng y person wnaeth y camgymeriad a Duw. A bydd yr ARGLWYDD yn maddau'r camgymeriad iddo. Mae'r un rheol i bawb pan maen nhw'n gwneud camgymeriad — i chi sy'n Israeliaid, a'r mewnfudwyr sy'n byw gyda chi. “Ond pan mae rhywun yn tynnu'n groes yn fwriadol, ac yn enllibio'r ARGLWYDD, rhaid i'r person hwnnw gael ei dorri allan o'r gymdeithas — sdim ots os ydy e'n un o bobl Israel neu'n rhywun o'r tu allan. Mae i gael ei daflu allan o'r gymdeithas, am ddirmygu beth ddwedodd yr ARGLWYDD a gwrthod gwneud beth wnaeth e orchymyn. Arno fe'i hun mae'r bai.” Pan oedd pobl Israel yn yr anialwch, roedd dyn wedi cael ei ddal yn casglu coed tân ar y Saboth. Dyma'r rhai wnaeth ei ddal yn mynd â'r dyn o flaen Moses ac Aaron a gweddill y bobl. A dyma nhw'n ei gadw'n y ddalfa nes bydden nhw'n gwybod beth i'w wneud gydag e. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Rhaid rhoi'r gosb eithaf iddo. Mae'r bobl i fynd ag e tu allan i'r gwersyll a'i ladd drwy daflu cerrig ato.” Felly dyma'r bobl yn gwneud hynny, a'i ladd gyda cherrig, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Dywed wrth bobl Israel eu bod bob amser i wneud taselau ar ymylon eu dillad, a rhwymo pob tasel gydag edau las. Bydd y taselau yn eich atgoffa chi o orchmynion yr ARGLWYDD, a'ch bod i ufuddhau iddyn nhw, yn lle gwneud fel dych chi'ch hunain eisiau, a mynd eich ffordd eich hunain. Byddwch yn cofio gwneud beth dw i'n ddweud, ac yn cysegru eich hunain i'ch Duw. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi. Fi wnaeth eich achub chi o'r Aifft, i mi fod yn Dduw i chi. Ie, fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi.” Dyma Cora fab Its'har (oedd yn ŵyr i Cohath fab Lefi), gyda Dathan ac Abiram (meibion Eliab) ac On fab Peleth, o lwyth Reuben, yn codi i fyny a gwrthryfela yn erbyn Moses, gyda dau gant a hanner o arweinwyr eraill — dynion enwog. A dyma nhw'n mynd gyda'i gilydd i wynebu Moses ac Aaron, a dweud wrthyn nhw, “Dych chi wedi mynd yn rhy bell. Mae'r bobl i gyd wedi eu cysegru — pob un ohonyn nhw! Ac mae'r ARGLWYDD gyda nhw. Pam ydych chi'n gwneud eich hunain yn bwysicach na gweddill pobl yr ARGLWYDD?” Pan glywodd Moses hyn dyma fe'n mynd ar ei wyneb ar lawr. Ac wedyn dyma fe'n dweud wrth Cora a'i ddilynwyr, “Yn y bore bydd yr ARGLWYDD yn dangos pwy ydy'r person mae e wedi ei ddewis a'i gysegru. Bydd yn gadael i'r person hwnnw fynd yn agos ato, i sefyll yn ei bresenoldeb. Felly, Cora a'r criw sydd gyda ti, dyma beth sydd raid i chi ei wneud: Cymryd padellau tân, eu tanio, a llosgi arogldarth arnyn nhw o flaen yr ARGLWYDD. Cawn weld wedyn pwy mae'r ARGLWYDD wedi ei ddewis a'i gysegru! Chi Lefiaid ydy'r rhai sydd wedi mynd yn rhy bell!” A dyma Moses yn dweud wrth Cora, “Chi Lefiaid, gwrandwch arna i! Ydy e ddim digon i chi fod Duw Israel wedi'ch dewis chi o blith holl bobl Israel i fod yn agos ato wrth i chi weithio yn y Tabernacl, ac i sefyll o flaen y bobl a'i gwasanaethu nhw? Mae e wedi rhoi'r gwaith sbesial yma i chi ac i'ch brodyr, y Lefiaid eraill. A nawr, dyma chi, eisiau bod yn offeiriaid hefyd! Yr ARGLWYDD ydy'r un dych chi wedi codi yn ei erbyn go iawn! Pwy ydy Aaron i chi gwyno amdano?” Yna dyma Moses yn galw am Dathan ac Abiram, meibion Eliab. Ond dyma nhw'n dweud, “Na, dŷn ni ddim am ddod. Nid peth bach ydy'r ffaith dy fod ti wedi dod â ni o wlad ffrwythlon, gwlad lle mae llaeth a mêl yn llifo, allan i'r anialwch yma i farw! A dyma ti nawr yn actio'r tywysog ac yn meddwl mai ti ydy'r bòs! Y gwir ydy, dwyt ti ddim wedi'n harwain ni i wlad lle mae llaeth a mêl yn llifo, na wedi rhoi tir a gwinllannoedd i ni. Wyt ti'n meddwl fod y dynion yma'n ddall neu rywbeth? Felly, dŷn ni ddim am ddod atat ti.” Roedd Moses wedi gwylltio'n lân, a dyma fe'n dweud wrth yr ARGLWYDD, “Paid derbyn eu hoffrymau nhw! Dw i ddim wedi cymryd cyn lleied ag un mul oddi arnyn nhw, na gwneud dim i frifo run ohonyn nhw!” Yna dyma Moses yn dweud wrth Cora, “Dos di a'r rhai sydd gyda ti i sefyll o flaen yr ARGLWYDD yfory — ti, a nhw, ac Aaron hefyd Dylai pob un ohonoch chi fynd gyda'i badell dân, rhoi arogldarth ynddi, a'i gyflwyno i'r ARGLWYDD: dau gant a hanner i gyd, a ti dy hun, ac Aaron — pawb gyda'i badell dân.” Felly dyma pawb yn mynd gyda'i badell, ac yna ei thanio a rhoi arogldarth arni, a sefyll wrth y fynedfa i Babell Presenoldeb Duw, gyda Moses ac Aaron. Dyna lle roedd Cora a'i ddilynwyr i gyd yn sefyll yn erbyn Moses ac Aaron o flaen Pabell Presenoldeb Duw. A dyma'r bobl i gyd yn gweld ysblander yr ARGLWYDD. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses ac Aaron: “Symudwch i ffwrdd oddi wrth y criw yma, i mi eu dinistrio nhw yn y fan a'r lle!” Ond dyma Moses ac Aaron yn plygu a'i hwynebau ar lawr, “O Dduw, y Duw sy'n rhoi bywyd i bopeth byw, wyt ti'n mynd i ddigio gyda pawb pan mae un dyn yn pechu?” A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Dywed wrth y bobl am symud i ffwrdd oddi wrth bebyll Cora, Dathan ac Abiram.” Yna dyma Moses yn codi ar ei draed a mynd at Dathan ac Abiram. A dyma arweinwyr Israel yn mynd gydag e. A dyma Moses yn dweud wrth y bobl, “Symudwch i ffwrdd oddi wrth bebyll y dynion drwg yma. Peidiwch cyffwrdd dim byd sydd piau nhw, rhag i chi gael eich ysgubo i ffwrdd gyda nhw am eu bod wedi pechu.” Felly dyma pawb yn symud i ffwrdd oddi wrth bebyll Cora, Dathan ac Abiram. Erbyn hyn roedd Dathan ac Abiram wedi dod allan, ac yn sefyll wrth fynedfa eu pebyll gyda'i gwragedd a'i plant a'i babis bach. A dyma Moses yn dweud, “Byddwch yn gwybod, nawr, mai'r ARGLWYDD sydd wedi fy anfon i wneud y pethau yma i gyd, ac mai nid fi gafodd y syniad. Os fydd y dynion yma'n marw'n naturiol fel pawb arall, dydy'r ARGLWYDD ddim wedi fy anfon i. Ond os fydd yr ARGLWYDD yn gwneud rhywbeth annisgwyl, a'r ddaear yn eu llyncu nhw a'i heiddo i gyd — os byddan nhw'n syrthio'n fyw i'w bedd — byddwch yn gwybod wedyn fod y dynion yma wedi sarhau yr ARGLWYDD!” Ar ôl i Moses ddweud hyn, dyma'r ddaear yn hollti oddi tanyn nhw. A dyma nhw a'i teuluoedd, a phobl Cora, a'i heiddo i gyd yn cael eu llyncu gan y tir. Dyma nhw, a popeth oedd ganddyn nhw, yn syrthio'n fyw i'r bedd. Wedyn dyma'r ddaear yn cau drostyn nhw, ac roedden nhw wedi diflannu. Wrth eu clywed nhw'n sgrechian, dyma bobl Israel, oedd o'u cwmpas, yn rhedeg am eu bywydau am eu bod ofn i'r ddaear eu llyncu nhw hefyd. A dyma dân yn dod oddi wrth yr ARGLWYDD a lladd y dau gant pum deg oedd yn llosgi arogldarth. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Dywed wrth Eleasar fab Aaron, yr offeiriad, i gasglu'r padellau o'r tân, am eu bod nhw'n gysegredig. Yna dywed wrtho am daflu'r tân oedd ynddyn nhw yn bell i ffwrdd. Roedd y dynion yma wedi pechu, ac fe gostiodd eu bywydau iddyn nhw. Mae'r padellau tân oedd ganddyn nhw yn gysegredig am eu bod wedi eu cyflwyno i'r ARGLWYDD. Felly rhaid eu morthwylio i wneud gorchudd metel i'r allor. Byddan nhw'n arwydd i rybuddio pobl Israel i beidio gwrthryfela.” Felly dyma Eleasar yr offeiriad yn casglu'r padellau oedd wedi eu defnyddio gan y rhai gafodd eu lladd yn y tân, a dyma nhw'n cael eu curo gyda morthwylion i wneud gorchudd i'r allor. Roedd y gorchudd yn arwydd i rybuddio pobl Israel na ddylai neb oedd ddim yn perthyn i deulu Aaron losgi arogldarth i'r ARGLWYDD. Neu byddai'r un peth yn digwydd iddyn nhw ac a ddigwyddodd i Cora a'i ddilynwyr. Felly cafodd beth ddwedodd yr ARGLWYDD wrth Moses ei wneud. Ond y diwrnod wedyn dyma bobl Israel yn dechrau cwyno a troi yn erbyn Moses ac Aaron, “Chi sydd wedi lladd pobl yr ARGLWYDD!” Wrth iddyn nhw gasglu at ei gilydd yn erbyn Moses ac Aaron, dyma nhw'n troi i gyfeiriad Pabell Presenoldeb Duw, ac roedd y cwmwl wedi dod drosti ac ysblander yr ARGLWYDD yn disgleirio. A dyma Moses ac Aaron yn sefyll o flaen Pabell Presenoldeb Duw. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Symudwch i ffwrdd oddi wrth y bobl yma, i mi eu dinistrio nhw yn y fan a'r lle!” Ond dyma Moses ac Aaron yn mynd ar eu hwynebau ar lawr. A dyma Moses yn dweud wrth Aaron, “Cymer badell dân a rhoi arogldarth ynddi, a tân o'r allor arni. Dos â hi i ganol y bobl, i wneud pethau'n iawn rhyngddyn nhw â Duw. Mae'r ARGLWYDD wedi gwylltio gyda nhw, ac mae'r pla wedi dechrau!” Felly dyma Aaron yn gwneud beth ddwedodd Moses, a rhedeg i ganol y bobl. Roedd y pla wedi dechrau eu taro nhw, ond dyma Aaron yn llosgi arogldarth i wneud pethau'n iawn rhwng y bobl â Duw. Dyma fe'n sefyll rhwng y bobl oedd wedi marw a'r rhai oedd yn dal yn fyw, a dyma'r pla yn stopio. Roedd 14,700 o bobl wedi marw, heb gyfri'r rhai oedd wedi marw yn yr helynt gyda Cora. Yna, am fod y pla wedi stopio, dyma Aaron yn mynd yn ôl at Moses at y fynedfa i Babell Presenoldeb Duw. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Dw i eisiau i ti gymryd ffon gan arweinydd pob un o lwythau Israel — un deg dwy ohonyn nhw i gyd — ac ysgrifennu enw'r arweinydd ar ei ffon ei hun. Ysgrifenna enw Aaron ar ffon llwyth Lefi. Bydd un ffon ar gyfer arweinydd pob llwyth. Wedyn rhaid i ti osod y ffyn o flaen Arch yr ymrwymiad yn y babell lle dw i'n cyfarfod gyda ti. Bydd ffon y dyn dw i'n ei ddewis yn blaguro. Dw i'n mynd i roi stop ar yr holl gwyno di-baid yma gan bobl Israel yn dy erbyn di.” Felly dyma Moses yn siarad gyda phobl Israel, a dyma pob un o arweinwyr y llwythau yn rhoi ei ffon iddo — un deg dwy o ffyn i gyd. Ac roedd ffon Aaron yn un ohonyn nhw. A dyma Moses yn gosod y ffyn o flaen yr ARGLWYDD tu mewn i Babell y Dystiolaeth. Pan aeth Moses i Babell y Dystiolaeth y diwrnod wedyn, roedd ffon Aaron (yn cynrychioli llwyth Lefi) wedi blaguro! Roedd blagur, a blodau a chnau almon yn tyfu arni! Felly dyma Moses yn dod a'r ffyn allan i bobl Israel edrych arnyn nhw. A dyma pob arweinydd yn cymryd y ffon oedd â'i enw e arni. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Tyrd â ffon Aaron yn ôl i'w gosod o flaen y dystiolaeth. Bydd yn arwydd i rybuddio unrhyw un sy'n gwrthryfela. Bydd hyn yn stopio'r holl gwyno, ac yn arbed unrhyw un arall rhag marw.” Felly dyma Moses yn gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho. A dyma bobl Israel yn dweud wrth Moses, “Dŷn ni'n siŵr o farw! Mae hi ar ben arnon ni! Mae unrhyw un sy'n mynd yn agos at Dabernacl yr ARGLWYDD yn siŵr o farw! Oes rhaid i ni i gyd farw?” A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Aaron: “Ti a dy feibion a dy berthnasau o lwyth Lefi sy'n gyfrifol am unrhyw ddrwg sy'n cael ei wneud yn y cysegr. Ond ti a dy feibion sy'n gyfrifol am unrhyw ddrwg sy'n cael ei wneud gan yr offeiriaid. Gad i dy berthnasau, o lwyth Lefi, dy helpu di a dy feibion wrth i chi gyflawni eich gwaith o flaen pabell y dystiolaeth. Maen nhw i'ch helpu chi i ofalu am y Tabernacl. Ond rhaid iddyn nhw beidio mynd yn agos at unrhyw offer cysegredig na'r allor, neu byddan nhw a chi yn marw. Maen nhw i'ch helpu chi i ofalu am Babell Presenoldeb Duw, ac i wneud eich gwaith yn y Tabernacl. Ond does neb o'r tu allan i gael dod yn agos. Chi fydd yn gyfrifol am y cysegr a'r allor, fel bod yr ARGLWYDD ddim yn gwylltio hefo pobl Israel eto. Fi sydd wedi dewis dy berthnasau di o lwyth Lefi i wneud y gwaith yma. Mae'n nhw'n anrheg i ti gan yr ARGLWYDD, i weithio yn y Tabernacl. Ond ti a dy feibion sy'n gyfrifol am wneud gwaith yr offeiriaid — popeth sy'n ymwneud â'r allor a'r tu mewn i'r llen. Mae'r fraint o gael gwneud gwaith offeiriad yn anrheg gen i i chi. Os bydd unrhyw un arall yn dod yn rhy agos, y gosb fydd marwolaeth.” Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Aaron, “Ti a dy feibion sydd i fod yn gyfrifol bob amser am yr offrymau sy'n cael eu cyflwyno i mi. Dw i'n rhoi dy siâr di o offrymau pobl Israel i ti a dy feibion. Byddi di'n cael y rhannau hynny o'r offrymau sydd ddim yn cael eu llosgi — eu hoffrymau nhw o rawn a'r offrwm puro a'r offrwm i gyfaddef bai. Mae'r rhain i gael eu rhoi o'r neilltu i ti a dy feibion. Mae i'w fwyta fel offrwm cysegredig gan y dynion. Mae wedi ei gysegru i chi ei fwyta. Chi sydd i gael yr offrwm sy'n cael ei chwifio hefyd. Mae hwn bob amser i gael ei fwyta gan y teulu i gyd, yn ddynion a merched. Mae pawb yn y teulu sy'n lân yn seremonïol yn cael ei fwyta. A dw i'n rhoi eu rhoddion nhw o ffrwyth cyntaf y cnydau i chi hefyd — yr olew olewydd gorau, y sudd grawnwin gorau a'r gorau o'r grawn. A'r ffrwythau aeddfed cyntaf maen nhw'n eu cyflwyno i'r ARGLWYDD — chi piau nhw, ac mae pawb yn y teulu sy'n lân yn seremonïol yn cael eu bwyta. Chi sy'n cael popeth sydd wedi ei gadw o'r neilltu i Dduw gan bobl Israel. Chi piau'r meibion hynaf a phob anifail cyntaf i gael eu geni, sef y rhai sy'n cael eu cyflwyno i'r ARGLWYDD. Ond rhaid i'r meibion hynaf a'r anifeiliaid cyntaf gael eu prynu'n ôl gynnoch chi. Maen nhw i gael eu prynu pan maen nhw'n fis oed, am bum darn arian (yn ôl mesur safonol y cysegr — sef dau ddeg gera). Ond dydy'r anifail cyntaf i gael ei eni i fuwch neu ddafad neu afr ddim i gael eu prynu yn ôl. Maen nhw wedi eu cysegru i gael eu haberthu. Rhaid i'w gwaed gael ei sblasio ar yr allor, a rhaid i'r brasder gael ei losgi yn offrwm — yn rhodd sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD. Ond chi sy'n cael y cig, fel dych chi'n cael cadw brest a rhan uchaf coes ôl yr offrymau sy'n cael eu chwifio. Dw i'n rhoi'r rhain i gyd i chi a'ch teulu — yr offrymau sy'n cael eu cyflwyno gan bobl Israel i'r ARGLWYDD. Chi fydd piau'r rhain bob amser. Mae hwn yn ymrwymiad dw i, yr ARGLWYDD, yn ei wneud i chi a'ch disgynyddion. Fydd hyn byth yn newid. ” Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Aaron, “Fyddwch chi'r offeiriaid ddim yn cael tir i chi'ch hunain yn y wlad. Fi ydy'ch siâr chi. A siâr y Lefiaid fydd y deg y cant fydd pobl Israel yn ei dalu — dyma'r tâl fyddan nhw'n ei gael am eu gwaith yn y Tabernacl. O hyn ymlaen bydd rhaid i weddill pobl Israel gadw draw oddi wrth y Tabernacl, neu byddan nhw'n euog o bechu a bydd rhaid iddyn nhw farw. Y Lefiaid sy'n cael gweithio yn y Tabernacl, a nhw fydd yn gyfrifol os gwnân nhw rywbeth o'i le. Dydy'r Lefiaid ddim i gael tir yn y wlad iddyn nhw eu hunain. Fydd y rheol yma byth yn newid. Mae'r Lefiaid i gael y degymau fydd pobl Israel yn eu cyflwyno yn offrwm i'r ARGLWYDD. Dyna pam dw i'n dweud nad ydyn nhw i gael tir iddyn nhw eu hunain.” Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Dywed wrth y Lefiaid, ‘Pan fyddwch chi'n derbyn y degwm dw i wedi ei roi i chi gan bobl Israel, dych chi i gyflwyno un rhan o ddeg ohono yn offrwm i'r ARGLWYDD. A bydd yr offrwm yma dych chi'n ei gyflwyno yn cael ei gyfri fel petai'n rawn o'r llawr dyrnu neu'n win o'r gwinwasg. Rhaid i chi gyflwyno i'r ARGLWYDD un rhan o ddeg o'r degwm dych chi'n ei dderbyn gan bobl Israel. Mae'r siâr yma i gael ei roi i Aaron yr offeiriad. Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi siâr o bopeth dych chi'n ei dderbyn i'r ARGLWYDD, ac mai hwnnw ydy'r darn gorau ohono.’ “Dywed wrthyn nhw, ‘Pan fyddwch chi'n cyflwyno'r gorau o'r degwm i'r ARGLWYDD, bydd yn cael ei gyfri fel petai'n rawn o'r llawr dyrnu neu'n win o'r gwinwasg. Gewch chi a'ch teulu fwyta'r gweddill ohono unrhyw bryd unrhyw le — eich cyflog chi am eich gwaith yn y Tabernacl ydy e. Os gwnewch chi gyflwyno'r gorau ohono i Dduw, fyddwch chi ddim yn euog o bechu trwy ddangos diffyg parch at offrymau pobl Israel, a fydd dim rhaid i chi farw.’” Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses ac Aaron: “A dyma reol arall mae'r ARGLWYDD yn gorchymyn ei chadw: ‘Dywed wrth bobl Israel am ddod â heffer goch sydd â dim byd o'i le arni — anifail heb nam corfforol ac sydd erioed wedi gweithio gyda iau. Rhaid rhoi'r heffer i Eleasar yr offeiriad, a bydd yn cael ei chymryd allan o'r gwersyll a'i lladd o'i flaen e. Yna mae Eleasar i gymryd peth o waed yr heffer, a'i daenellu gyda'i fys saith gwaith i gyfeiriad Pabell Presenoldeb Duw. Wedyn mae'r heffer i gael ei llosgi o'i flaen — y croen, cnawd, gwaed, a'r coluddion i gyd. Yna rhaid i'r offeiriad gymryd pren cedrwydd, isop, ac edau goch a'u taflu nhw i'r tân lle mae'r heffer yn llosgi. Wedyn rhaid i'r offeiriad olchi ei ddillad ac ymolchi mewn dŵr cyn dod yn ôl i mewn i'r gwersyll. Ond bydd e'n dal yn aflan am weddill y dydd. A rhaid i'r dyn sy'n llosgi'r heffer olchi ei ddillad hefyd, ac ymolchi mewn dŵr. Bydd e hefyd yn aflan am weddill y dydd. “‘Yna rhaid i ddyn sydd ddim yn aflan gasglu lludw yr heffer goch, a'i osod mewn lle sy'n lân yn seremonïol tu allan i'r gwersyll. Mae'r lludw i'w gadw i bobl Israel ei ddefnyddio yn seremoni dŵr y puro. Mae'r seremoni yma ar gyfer symud pechodau. Wedyn rhaid i'r un wnaeth gasglu'r lludw olchi ei ddillad. Bydd e hefyd yn aflan am weddill y dydd. Dyma fydd y drefn bob amser i bobl Israel a'r mewnfudwyr sy'n byw gyda nhw. “‘Bydd unrhyw un sy'n cyffwrdd corff marw yn aflan am saith diwrnod. Rhaid i'r person hwnnw fynd trwy'r ddefod o buro ei hun gyda dŵr ar y trydydd diwrnod a'r seithfed diwrnod, ac wedyn bydd yn lân. Os nad ydy e'n gwneud hynny bydd yn aros yn aflan. Os ydy rhywun yn cyffwrdd corff marw a ddim yn puro ei hun, mae'r person hwnnw yn llygru Tabernacl yr ARGLWYDD. Bydd yn cael ei dorri allan o Israel, am fod dŵr y puro ddim wedi cael ei daenellu arno. Bydd yn aros yn aflan. “‘Dyma sydd i ddigwydd pan mae rhywun yn marw mewn pabell: Mae unrhyw un sy'n mynd i mewn i'r babell, neu'r rhai oedd yno pan fuodd y person farw, yn aflan am saith diwrnod. A bydd unrhyw lestr heb gaead arno yn aflan hefyd. “‘Os ydy rhywun allan yn y wlad yn cyffwrdd corff marw — corff rhywun sydd wedi ei ladd neu rywun sydd wedi marw'n naturiol — neu hyd yn oed yn cyffwrdd asgwrn dynol, neu fedd, bydd yn aflan am saith diwrnod. “‘A dyma sut mae puro rhywun sy'n aflan: Rhaid cymryd peth o ludw yr heffer gafodd ei llosgi i symud pechodau, a thywallt dŵr glân croyw drostyn nhw mewn llestr. Wedyn mae rhywun sydd ddim yn aflan i drochi brigau isop yn y dŵr, ac yna ei daenellu ar y babell a'r dodrefn i gyd, ac ar y bobl oedd yno ar y pryd. A'r un fath gyda rhywun sydd wedi cyffwrdd asgwrn dynol, neu gorff marw neu fedd. Rhaid gwneud hyn ar y trydydd diwrnod ac ar y seithfed diwrnod. Yna ar y seithfed diwrnod rhaid i'r rhai oedd yn aflan olchi eu dillad ac ymolchi mewn dŵr. Byddan nhw'n aflan am weddill y dydd. Ond os ydy rhywun yn aflan a ddim yn puro ei hun, rhaid i'r person hwnnw gael ei dorri allan o gymdeithas pobl Israel, am ei fod wedi llygru cysegr yr ARGLWYDD. Gafodd dŵr y puro ddim ei daenellu arno, felly bydd yn dal yn aflan. “‘A dyma fydd y drefn bob amser: Rhaid i'r un sy'n taenellu dŵr y puro olchi ei ddillad. Bydd unrhyw un sy'n cyffwrdd dŵr y puro yn aflan am weddill y dydd. Bydd beth bynnag mae'r person sy'n aflan yn ei gyffwrdd yn aflan hefyd, a bydd unrhyw un sy'n cyffwrdd y peth hwnnw yn aflan am weddill y dydd.’” Dyma bobl Israel i gyd yn cyrraedd anialwch Sin. Roedd hyn yn y mis cyntaf, a dyma nhw'n aros yn Cadesh. Dyna lle buodd Miriam farw, a lle cafodd ei chladdu. Doedd dim dŵr i'r bobl yno, a dyma nhw'n casglu at ei gilydd yn erbyn Moses ac Aaron. A dyma nhw'n dechrau ffraeo gyda Moses: “Byddai lot gwell petaen ni wedi marw o flaen yr ARGLWYDD gyda'n brodyr! Pam wyt ti wedi dod â phobl yr ARGLWYDD i'r anialwch yma? Er mwyn i ni a'n hanifeiliaid farw yma? Pam wnest ti ddod â ni allan o'r Aifft i'r lle ofnadwy yma? Does dim cnydau'n tyfu yma, dim ffigys, gwinwydd na phomgranadau. Does dim hyd yn oed ddŵr i'w yfed!” Dyma Moses ac Aaron yn mynd oddi wrth y bobl at y fynedfa i Babell Presenoldeb Duw. A dyma nhw'n plygu yno a'i hwynebau ar lawr. A dyma nhw'n gweld ysblander yr ARGLWYDD yno. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Cymer dy ffon. Dw i eisiau i ti ac Aaron dy frawd gasglu'r bobl i gyd at ei gilydd. Yna, o flaen pawb, dw i eisiau i ti orchymyn i'r graig roi dŵr. Yna bydd dŵr yn tywallt o'r graig, a bydd y bobl a'r anifeiliaid yn cael yfed ohono.” Felly dyma Moses yn cymryd y ffon o'r lle roedd yn cael ei chadw o flaen yr ARGLWYDD. A dyma Moses ac Aaron yn galw'r bobl at ei gilydd o flaen y graig. Dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Gwrandwch, chi rebeliaid! Oes rhaid i ni ddod â dŵr allan o'r graig yma i chi?” A dyma Moses yn codi ei law ac yn taro'r graig ddwywaith gyda'r ffon, a dyma'r dŵr yn llifo allan ohoni. Cafodd y bobl a'r anifeiliaid ddigonedd i'w yfed. Ond dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses ac Aaron, “Am eich bod chi ddim wedi trystio fi ddigon i ddangos i bobl Israel fy mod i'n wahanol, fyddwch chi ddim yn cael arwain y bobl yma i'r wlad dw i'n ei rhoi iddyn nhw.” Cafodd y lle ei alw yn ‛Ffynnon Meriba‛, lle roedd y bobl wedi dadlau gyda'r ARGLWYDD, ac yntau wedi dangos iddyn nhw ei fod e i gael ei anrhydeddu, yn Dduw sanctaidd, gwahanol. Dyma Moses yn anfon negeswyr o Cadesh at frenin Edom: “Neges oddi wrth dy berthnasau, pobl Israel: Ti'n gwybod mor galed mae pethau wedi bod arnon ni. Aeth ein hynafiaid i lawr i'r Aifft, a buon ni'n byw yno am amser hir. Cawson ni'n cam-drin am genedlaethau gan yr Eifftiaid. Ond yna dyma ni'n galw ar yr ARGLWYDD am help, a dyma fe'n gwrando arnon ni ac anfon angel i ddod â ni allan o'r Aifft. A bellach, dŷn ni yn Cadesh, sy'n dref ar y ffin gyda dy wlad di. Wnei di roi caniatâd i ni groesi dy dir? Wnawn ni ddim niwed i unrhyw gnydau na gwinllannoedd, na hyd yn oed yfed dŵr o unrhyw ffynnon. Byddwn ni'n aros ar Briffordd y Brenin yr holl ffordd, nes byddwn ni wedi croesi'r ffin yr ochr arall.” Ond ateb brenin Edom oedd, “Na. Well i chi gadw allan o'r wlad yma, neu bydda i'n dod â byddin yn eich erbyn chi!” A dyma bobl Israel yn dweud eto, “Byddwn ni'n cadw ar y briffordd. Os gwnawn ni neu'n hanifeiliaid yfed eich dŵr chi, gwnawn ni dalu amdano. Y cwbl dŷn ni'n ofyn amdano ydy'r hawl i groesi'r wlad ar droed.” Ond dyma fe'n ateb eto, “Na, gewch chi ddim croesi.” A dyma fe'n anfon ei fyddin allan i'w rhwystro nhw — roedd hi'n fyddin fawr gref. Felly am fod Edom wedi gwrthod gadael i Israel groesi eu ffiniau nhw, dyma bobl Israel yn troi'n ôl. Dyma nhw i gyd yn gadael Cadesh, ac yn teithio i Fynydd Hor. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses ac Aaron pan oedden nhw wrth Fynydd Hor, ar ffin gwlad Edom: “Mae'n bryd i Aaron fynd at ei hynafiaid — mae'n mynd i farw yma. Fydd e ddim yn cael mynd i mewn i'r wlad dw i wedi ei rhoi i bobl Israel am fod y ddau ohonoch chi wedi mynd yn groes i beth ddywedais i wrthoch chi wrth Ffynnon Meriba. Dw i eisiau i ti gymryd Aaron a'i fab Eleasar i gopa mynydd Hor. Yno dw i am i ti gymryd gwisgoedd offeiriadol Aaron, a gwisgo ei fab Eleasar gyda nhw. A bydd Aaron yn marw yna, ar y mynydd.” Felly dyma Moses yn gwneud fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud. Roedd y bobl i gyd yn eu gwylio nhw yn mynd i fyny Mynydd Hor. Wedyn dyma Moses yn cymryd gwisgoedd offeiriadol Aaron, ac yn gwisgo Eleasar gyda nhw. A dyma Aaron yn marw yno, ar ben y mynydd. Wedyn dyma Moses ac Eleasar yn mynd yn ôl i lawr. Pan welodd y bobl fod Aaron wedi marw, dyma nhw i gyd yn galaru amdano am fis. Dyma frenin Canaaneaidd Arad, oedd yn byw yn y Negef, yn clywed fod Israel yn dod ar y ffordd i Atharîm. Felly dyma fe'n ymosod arnyn nhw, ac yn cymryd rhai o bobl Israel yn gaeth. Dyma bobl Israel yn gwneud adduned i'r ARGLWYDD, “Os gwnei di'n helpu ni i goncro'r bobl yma, gwnawn ni ddinistrio eu trefi nhw'n llwyr.” Dyma'r ARGLWYDD yn ateb eu gweddi nhw, a dyma nhw'n concro'r Canaaneaid a dinistrio eu trefi nhw'n llwyr. A dyma nhw'n galw'r lle yn Horma (sef ‛Dinistr‛). Dyma nhw'n teithio o Fynydd Hor ar hyd ffordd y Môr Coch, er mwyn mynd o gwmpas tir Edom. Ond ar y ffordd dyma nhw'n dechrau teimlo'n flin a diamynedd. A dyma nhw'n dechrau cwyno eto, a dweud pethau yn erbyn Duw a Moses. “Pam dych chi wedi dod â ni allan o'r Aifft i farw yn yr anialwch yma? Does dim bwyd yma, na dŵr, a dŷn ni'n casáu y stwff diwerth yma!” Felly dyma'r ARGLWYDD yn anfon nadroedd gwenwynig i'w canol nhw. Cafodd lot o bobl eu brathu a marw. A dyma'r bobl yn dod at Moses a dweud, “Dŷn ni wedi pechu drwy ddweud pethau yn erbyn yr ARGLWYDD ac yn dy erbyn di. Plîs gweddïa y bydd yr ARGLWYDD yn cymryd y nadroedd yma i ffwrdd.” Felly dyma Moses yn gweddïo dros y bobl. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Gwna ddelw o neidr, a'i chodi ar bolyn. Wedyn, pan fydd rhywun sydd wedi ei frathu yn edrych arni, bydd yn cael byw.” Felly dyma Moses yn gwneud neidr bres a'i chodi ar bolyn. Wedyn os oedd neidr yn brathu rhywun, pan fyddai'r person hwnnw'n edrych ar y neidr bres byddai'n cael byw. Dyma bobl Israel yn cychwyn yn eu blaenau eto, ac yn gwersylla yn Oboth. Yna gadael Oboth a gwersylla yn Ïe-hafarîm yn yr anialwch i'r dwyrain o Moab. Yna mynd yn eu blaenau eto a gwersylla yn Wadi Sered. Wedyn mynd yn eu blaenau a gwersylla yr ochr draw i Arnon, yn yr anialwch sy'n ymestyn o'r ardaloedd ble mae'r Amoriaid yn byw. Mae Arnon ar ffin Moab, yn y canol rhwng Moab a'r Amoriaid. Mae Llyfr Rhyfeloedd yr ARGLWYDD yn cyfeirio at y lle fel yma: “Tref Waheb yn Swffa, a wadïau Arnon, a llethrau'r ceunentydd sy'n ymestyn i Ar, ar y ffin gyda Moab.” Teithio wedyn i Beër (sef ‛Y Ffynnon‛), lle dwedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Casgla'r bobl at ei gilydd, a gwna i roi dŵr iddyn nhw.” Yna dyma bobl Israel yn canu'r gân yma, “Ffrydia ffynnon! Canwch iddi! Ffynnon agorodd tywysogion, wedi ei chloddio gyda theyrnwialennau a ffyn yr arweinwyr.” A dyma nhw'n teithio o'r anialwch i Mattana. Yna ymlaen i Nachaliel, yna Bamoth, ac yna'r dyffryn ar dir Moab, lle mae copa Pisga yn edrych dros yr anialwch. Dyma Israel yn anfon negeswyr at Sihon, brenin yr Amoriaid, i ofyn iddo: “Wnei di roi caniatâd i ni groesi dy dir di? Wnawn ni ddim niwed i unrhyw gnydau na gwinllannoedd, na hyd yn oed yfed dŵr o unrhyw ffynnon. Byddwn ni'n cadw ar Briffordd y Brenin yr holl ffordd, nes byddwn ni wedi croesi'r ffin yr ochr arall.” Ond gwrthododd Sihon adael i bobl Israel groesi ei dir. Casglodd ei fyddin at ei gilydd, ac ymosod ar Israel yn Iahats yn yr anialwch. Ond Israel wnaeth ennill y frwydr, a dyma nhw'n cymryd eu tir oddi arnyn nhw, o Geunant Arnon i Ryd Jabboc, a'r holl ffordd at ffin yr Ammoniaid. Roedd y ffin honno wedi ei hamddiffyn, ac yn gwbl ddiogel. Dyma Israel yn concro trefi'r Amoriaid i gyd, a setlo ynddyn nhw, gan gynnwys dinas Cheshbon ei hun a'r pentrefi o'i chwmpas. Cheshbon oedd dinas Sihon brenin yr Amoriaid. Ac roedd Sihon wedi concro brenin Moab a chymryd ei dir oddi arno, yr holl ffordd at Afon Arnon. Dyna pam mae'r baledwyr yn dweud, “Dewch i Cheshbon, dinas Sihon, i'w hadfer a'i hailadeiladu. Roedd tân yn llosgi yn Cheshbon — fflamau o dref y Brenin Sihon. Mae wedi llosgi Ar yn Moab ac arweinwyr ucheldir Arnon. Mae hi ar ben arnat ti, Moab! Dych chi bobl sy'n addoli Chemosh wedi'ch difa. Mae eich meibion yn ffoaduriaid, a'ch merched wedi eu cymryd yn gaethion, gan Sihon, brenin yr Amoriaid. Dŷn ni wedi eu difa nhw'n llwyr o Cheshbon yr holl ffordd i Dibon. Dŷn ni wedi eu taro nhw i lawr yr holl ffordd i Noffa a Medeba.” Felly roedd pobl Israel yn byw yng ngwlad yr Amoriaid. Dyma Moses yn anfon ysbiwyr i edrych ar dref Iaser. A dyma nhw'n dal y pentrefi yno, a gyrru allan yr Amoriaid oedd yn byw yno. Wedyn dyma nhw'n troi i'r gogledd, ac yn mynd i gyfeiriad Bashan. A dyma Og brenin Bashan yn dod â'i fyddin gyfan i ymladd yn eu herbyn nhw yn Edrei. Ond dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Paid bod â'i ofn. Dw i'n mynd i roi Og a'i fyddin a'i dir i gyd i ti. Byddi'n gwneud yr un fath iddo fe ag a wnest ti i Sihon brenin yr Amoriaid oedd yn byw yn Cheshbon.” Felly dyma Israel yn ennill y frwydr yn erbyn Og a'i feibion a'i fyddin. Cawson nhw i gyd eu lladd. A dyma Israel yn cymryd y tir. Dyma bobl Israel yn teithio yn eu blaenau, ac yn gwersylla ar wastatir Moab yr ochr draw i'r Afon Iorddonen gyferbyn â Jericho. Roedd Balac fab Sippor, brenin Moab, wedi clywed beth oedd pobl Israel wedi ei wneud i'r Amoriaid. Pan welodd pobl Moab gymaint o Israeliaid oedd yna, aethon nhw i banig llwyr. Roedd ganddyn nhw ofn am eu bywydau. A dyma frenin Moab yn dweud wrth arweinwyr Midian, “Bydd y dyrfa enfawr yma yn llyncu popeth o'u cwmpas nhw, fel tarw yn pori cae yn lân.” A dyma Balac, oedd yn frenin Moab ar y pryd, yn anfon neges at Balaam fab Beor oedd yn dod o Pethor wrth yr Afon Ewffrates. “Mae yna dyrfa enfawr o bobl wedi dod allan o'r Aifft. Maen nhw ym mhobman, ac maen nhw wedi setlo gyferbyn â ni. Plîs wnei di ddod a'i melltithio nhw i mi. Maen nhw'n rhy gryf i mi ddelio gyda nhw. Ond falle wedyn y bydda i'n gallu eu gyrru nhw allan o'r wlad. Achos mae pwy bynnag wyt ti'n ei fendithio yn llwyddo, a pwy bynnag wyt ti'n ei felltithio yn syrthio.” Felly dyma arweinwyr Moab a Midian yn mynd i edrych am Balaam, a'r arian ganddyn nhw i dalu iddo felltithio Israel. Pan gyrhaeddon nhw, dyma nhw'n dweud wrtho beth oedd Balac eisiau. “Arhoswch yma heno,” meddai Balaam, “a bore fory bydda i'n dweud wrthoch chi beth mae'r ARGLWYDD wedi ei ddweud.” Felly dyma arweinwyr Moab yn aros gyda Balaam. A dyma Duw yn dod at Balaam a gofyn, “Pwy ydy'r dynion yma sydd gyda ti?” Atebodd Balaam, “Balac fab Sippor, brenin Moab, sydd wedi eu hanfon nhw ata i, i ddweud, ‘Mae yna dyrfa enfawr o bobl wedi dod allan o'r Aifft. Maen nhw ym mhobman! Plîs wnei di ddod a'i melltithio nhw i mi. Falle wedyn y bydda i'n gallu eu gyrru nhw allan o'r wlad.’” “Paid mynd gyda nhw,” meddai Duw wrth Balaam. “Rhaid i ti beidio melltithio'r bobl yna, achos dw i wedi eu bendithio nhw.” Felly dyma Balaam yn codi'r bore wedyn, a dweud wrth swyddogion Balac, “Ewch adre. Dydy'r ARGLWYDD ddim am adael i mi fynd gyda chi.” A dyma swyddogion Moab yn mynd. Dyma nhw'n mynd yn ôl at Balac, a dweud wrtho fod Balaam wedi gwrthod dod gyda nhw. Ond dyma Balac yn trïo eto, ac yn anfon swyddogion pwysicach y tro yma, a mwy ohonyn nhw. A dyma nhw'n dweud wrth Balaam, “Mae Balac fab Sippor yn dweud, ‘Plîs paid gadael i ddim dy rwystro di rhag dod ata i. Bydda i'n dy dalu di'n hael — does ond rhaid i ti ddweud beth wyt ti eisiau. Unrhyw beth i dy gael di i ddod a melltithio'r bobl yma i mi.’” Ond dyma Balaam yn ateb, “Hyd yn oed petai Balac yn rhoi ei balas i mi, ac yn ei lenwi gydag arian ac aur, allwn i ddim mynd yn groes i beth mae'r ARGLWYDD wedi ei ddweud wrtho i. Ond arhoswch yma dros nos, i mi weld os oes gan yr ARGLWYDD rywbeth mwy i'w ddweud.” A dyma Duw yn dod at Balaam eto'r noson honno, a dweud wrtho y tro yma, “Os ydy'r dynion yma wedi dod i dy nôl di, dos gyda nhw. Ond paid gwneud dim byd ond beth dw i'n ddweud wrthot ti.” Felly dyma Balaam yn codi'r bore wedyn, rhoi cyfrwy ar ei asen, ac i ffwrdd â fe gyda swyddogion Moab. Ond yna roedd Duw wedi gwylltio am ei fod wedi mynd, a dyma angel yr ARGLWYDD yn sefyll ar y ffordd o'i flaen, i'w rwystro. Roedd Balaam yn reidio ar gefn ei asen ar y pryd, a dau o'i weision gydag e. Pan welodd yr asen yr angel yn chwifio'i gleddyf ac yn blocio'r ffordd o'i flaen, dyma hi'n troi oddi ar y ffordd ac yn mynd i gae. A dyma Balaam yn dechrau chwipio'r anifail i geisio ei gael yn ôl ar y ffordd. Ond wrth iddyn nhw fynd rhwng dwy winllan, a wal bob ochr iddyn nhw, dyma angel yr ARGLWYDD yn sefyll eto ar ganol y llwybr cul. Wrth weld yr angel y tro yma, dyma'r asen yn mynd i'r ochr a gwasgu troed Balaam yn erbyn y wal. A dyma fe'n dechrau curo'r anifail eto. Yna dyma angel yr ARGLWYDD yn mynd yn bellach i lawr y llwybr, ac yn sefyll mewn lle oedd mor gul, doedd dim gobaith i'r asen fynd heibio iddo na hyd yn oed droi rownd. Y tro yma, pan welodd yr angel, dyma asen Balaam yn gorwedd i lawr tano. Roedd Balaam wedi gwylltio'n lân, ac roedd yn curo'r anifail gyda'i ffon. Ac yna dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r gallu i'r asen siarad. Meddai wrth Balaam, “Beth dw i wedi ei wneud i haeddu cael fy nghuro gen ti dair gwaith?” “Ti wedi gwneud i mi edrych yn ffŵl,” meddai Balaam. “Petai gen i gleddyf, byddwn i wedi dy ladd di erbyn hyn!” Dyma'r asen yn dweud wrth Balaam, “Ond dy asen di ydw i, yr un rwyt ti bob amser yn reidio ar ei chefn! Ydw i wedi gwneud rhywbeth fel yma o'r blaen?” “Naddo,” meddai Balaam. A dyna pryd wnaeth yr ARGLWYDD adael i Balaam weld yr angel yn sefyll yn y ffordd yn chwifio ei gleddyf. A dyma fe'n ymgrymu a mynd ar ei wyneb ar lawr o flaen yr angel. A dyma'r angel yn gofyn iddo, “Pam wyt ti wedi curo dy asen fel yna dair gwaith? Dw i wedi dod allan i dy rwystro di am dy fod ti ar ormod o frys yn fy ngolwg i. Roedd yr asen wedi fy ngweld i, ac wedi troi i ffwrdd dair gwaith. Petai hi ddim wedi gwneud hynny byddwn wedi dy ladd di erbyn hyn, ond byddai'r asen yn dal yn fyw.” A dyma Balaam yn dweud wrth angel yr ARGLWYDD, “Dw i wedi pechu. Doedd gen i ddim syniad dy fod ti yna'n blocio'r ffordd. Felly, os ydw i ddim yn gwneud y peth iawn yn dy olwg di, gwna i droi yn ôl.” Ond dyma'r angel yn dweud wrth Balaam, “Dos gyda nhw. Ond paid dweud dim byd ond beth dw i'n ddweud wrthot ti.” Felly dyma Balaam yn mynd yn ei flaen gyda swyddogion Balac. Pan glywodd y brenin Balac fod Balaam ar ei ffordd, aeth allan i'w gyfarfod. Aeth yr holl ffordd i ffin bellaf Moab, i dref wrth ymyl Afon Arnon. A dyma Balac yn dweud wrth Balaam, “Roeddwn i wedi anfon neges frys atat ti. Pam wnest ti ddim dod yn syth? Oeddet ti ddim yn credu y gallwn i dalu'n hael i ti?” A dyma Balaam yn ateb, “Wel, dw i yma nawr. Ond paid meddwl y galla i ddweud unrhyw beth dw i eisiau. Alla i ddim ond dweud beth mae'r ARGLWYDD yn ei roi i mi.” Yna dyma Balaam yn mynd gyda'r brenin Balac i Ciriath-chwtsoth. Ac yno dyma Balac yn aberthu teirw a defaid, ac yn rhoi peth o'r cig i Balaam a'r swyddogion oedd gydag e. Y bore wedyn dyma'r brenin Balac yn mynd â Balaam i fyny i Bamoth-baal (sef ‛Ucheldir Baal‛). Roedd yn gallu gweld rhywfaint o bobl Israel o'r fan honno. A dyma Balaam yn dweud wrth y brenin Balac, “Adeilada saith allor yma, a paratoi saith tarw a saith hwrdd i'w haberthu.” Dyma Balac yn gwneud hynny, a dyma'r ddau ohonyn nhw yn aberthu tarw a hwrdd ar bob un o'r allorau. Yna dyma Balaam yn dweud wrth Balac, “Aros di yma wrth ymyl yr aberthau sy'n cael eu llosgi. Dw i'n mynd i weld os ydy'r ARGLWYDD am ymateb. Bydda i'n rhannu gyda ti beth bynnag fydd e'n ddweud wrtho i.” A dyma Balaam yn mynd i ben bryn anial. A dyma Duw yn dod ato. A dyma Balaam yn dweud wrth Dduw, “Dw i wedi codi saith allor, ac wedi aberthu tarw a hwrdd ar bob un ohonyn nhw.” A dyma'r ARGLWYDD yn rhoi neges i Balaam, “Dos yn ôl at Balac a rhoi'r neges yma iddo.” Pan aeth Balaam yn ôl roedd y brenin ac arweinwyr Moab yn dal i sefyll yno wrth ymyl yr aberthau oedd yn cael eu llosgi. A dyma'r neges roddodd Balaam iddo: “Daeth Balac â fi yma o Aram; daeth brenin Moab a fi o fynyddoedd y dwyrain: ‘Tyrd i felltithio Jacob i mi,’ meddai; ‘tyrd i gondemnio Israel!’ Ond sut alla i felltithio pan mae Duw ddim yn gwneud? Sut alla i gondemnio'r rhai dydy'r ARGLWYDD ddim am eu condemnio? Dw i'n eu gweld nhw o ben y creigiau. Dw i'n eu gwylio nhw o ben y bryniau. Maen nhw'n bobl unigryw, yn wahanol i'r gwledydd eraill. Mae Jacob fel llwch — pwy all eu cyfrif? Oes rhywun yn gallu cyfrif eu chwarter nhw? Dw i am farw fel un wnaeth y peth iawn. Dw i am i'r diwedd i mi fod fel eu diwedd nhw.” A dyma Balac yn dweud wrth Balaam, “Beth wyt ti wedi ei wneud? Dw i wedi dod â ti yma i felltithio'r gelyn! A dyma ti'n eu bendithio nhw!” A dyma Balaam yn ateb, “Rhaid i mi fod yn ofalus fy mod i ddim ond yn dweud beth mae'r ARGLWYDD wedi ei roi i mi.” Felly dyma Balac yn dweud wrtho. “Tyrd i rywle arall i edrych arnyn nhw. Fyddi di ddim ond yn gweld rhai ohonyn nhw. Melltithia'r rheiny i mi.” Felly dyma Balac yn mynd â Balaam i Gae Soffim (sef ‛Cae'r Gwylwyr‛) ar ben Mynydd Pisga. A dyma fe'n codi saith allor yno, ac yn aberthu tarw a hwrdd ar bob un. Dyma Balaam yn dweud wrth Balac, “Aros di yma wrth ymyl yr aberthau sy'n cael eu llosgi, tra dw i'n mynd i gyfarfod yr ARGLWYDD draw acw.” A dyma'r ARGLWYDD yn cyfarfod gyda Balaam, ac yn rhoi neges iddo ei rhannu gyda Balac. Pan ddaeth Balaam ato, roedd y brenin ac arweinwyr Moab yn dal i sefyll wrth ymyl yr aberthau oedd yn cael eu llosgi. A dyma Balac yn gofyn iddo, “Beth ddwedodd yr ARGLWYDD?” A dyma'r neges roddodd Balaam iddo, “Saf ar dy draed, Balac, a gwrando. Gwranda'n ofalus, fab Sippor: Nid dyn sy'n dweud celwydd ydy Duw. Dydy e ddim yn berson dynol sy'n newid ei feddwl. Ydy e'n dweud, a ddim yn gwneud? Ydy e'n addo, a ddim yn cyflawni? Na! Mae e wedi dweud wrtho i am fendithio; Mae e wedi bendithio, a dw i ddim yn gallu newid hynny. Dydy e'n gweld dim drwg yn Jacob; nac yn gweld dim o'i le ar Israel. Mae'r ARGLWYDD eu Duw gyda nhw; mae e wedi ei gyhoeddi yn frenin arnyn nhw. Duw sydd wedi dod â nhw allan o'r Aifft; mae e'n gryf fel ych gwyllt. Does dim swyn yn gwneud drwg i Jacob, na dewiniaeth yn erbyn Israel. Rhaid dweud am Jacob ac Israel, ‘Duw sydd wedi gwneud hyn!’ Bydd y bobl yn codi fel llewes, ac yn torsythu fel llew. Fyddan nhw ddim yn gorwedd nes bwyta'r ysglyfaeth, ac yfed gwaed y lladdfa.” A dyma Balac yn dweud wrth Balaam, “Paid â'i melltithio nhw o gwbl, a paid â'i bendithio chwaith.” Ond dyma Balaam yn ei ateb, “Wnes i ddim dweud fod rhaid i mi wneud beth mae'r ARGLWYDD yn ddweud?” Yna dyma'r brenin Balac yn dweud wrth Balaam, “Tyrd, gad i mi fynd â ti i rywle arall. Falle y bydd Duw yn gadael i ti eu melltithio nhw o'r fan honno.” A dyma Balac yn mynd â Balaam i ben Mynydd Peor, sy'n edrych dros yr anialwch. A dyma Balaam yn dweud wrth Balac, “Adeilada saith allor i mi yma, a paratoi saith tarw a saith hwrdd i'w haberthu.” Dyma'r brenin Balac yn gwneud hynny, ac yn aberthu tarw a hwrdd ar bob un o'r allorau. Erbyn hyn roedd Balaam yn gweld fod yr ARGLWYDD am fendithio Israel. Felly wnaeth e ddim mynd ati i ddewino fel o'r blaen, dim ond mynd yn syth i edrych allan dros yr anialwch. Pan edrychodd dyma fe'n gweld Israel wedi gwersylla bob yn llwyth. A dyma Ysbryd Duw yn dod arno. A dyma fe'n cyhoeddi'r neges yma: “Dyma neges Balaam fab Beor; proffwydoliaeth y dyn sy'n gweld popeth yn glir. Neges yr un sy'n clywed Duw yn siarad, ac yn gweld beth mae'r Duw sy'n rheoli popeth yn ei ddangos iddo. Mae'n syrthio i lesmair ac yn gweld pethau: Mae dy bebyll di mor hardd, Jacob; ie, dy wersylloedd, O Israel. Maen nhw fel rhesi o balmwydd yn ymestyn i'r pellter, ac fel gerddi ar lan afon. Fel perlysiau wedi eu plannu gan yr ARGLWYDD, neu goed cedrwydd ar lan y dŵr. Bydd ganddyn nhw ddigon o ddŵr i ddyfrio'r tir, a bydd eu disgynyddion fel dyfroedd di-baid. Bydd eu brenin yn fwy nac Agag, a'i deyrnas wedi ei dyrchafu'n uchel. Duw sydd wedi dod â nhw allan o'r Aifft; mae e'n gryf fel ych gwyllt. Byddan nhw'n dinistrio gwledydd eu gelynion — yn torri eu hesgyrn yn ddarnau, a'u saethu gyda saethau. Mae Israel yn gorffwys fel llew, neu lewes — pwy sy'n meiddio tarfu arno? Bydd y sawl sy'n dy fendithio yn profi bendith, a'r sawl sy'n dy felltithio dan felltith!” Roedd y brenin Balac yn wyllt gynddeiriog gyda Balaam. Curodd ei ddwylo'n wawdlyd, a dweud wrtho, “Gwnes i dy alw di yma i felltithio fy ngelynion i! A dyma ti'n gwneud dim byd ond bendithio! Ti wedi eu bendithio nhw dair gwaith! Well i ti ddianc am adre! Dos! Ro'n i wedi dweud y byddwn i'n dy dalu di'n hael, ond gei di ddim byd! Ar yr ARGLWYDD mae'r bai am hynny!” A dyma Balaam yn ateb, “Ro'n i wedi dweud wrth dy swyddogion di, ‘Hyd yn oed petai Balac yn rhoi ei balas i mi, ac yn ei lenwi gydag arian ac aur, allwn i ddim mynd yn groes i beth mae'r ARGLWYDD wedi ei ddweud wrtho i. Alla i ddim gwneud da na drwg ohono i fy hun, dim ond dweud beth mae'r ARGLWYDD yn ei roi i mi.’ “A nawr dw i'n mynd yn ôl adre at fy mhobl. Ond cyn i mi fynd, gad i mi dy rybuddio di beth mae pobl Israel yn mynd i'w wneud i dy bobl di yn y dyfodol.” A dyma fe'n rhoi'r neges yma: “Dyma neges Balaam fab Beor; proffwydoliaeth y dyn sy'n gweld popeth yn glir. Neges yr un sy'n clywed Duw yn siarad, yn gwybod beth mae'r Goruchaf yn ei wneud, ac yn gweld beth mae'r Duw sy'n rheoli popeth yn ei ddangos iddo. Mae'n syrthio i lesmair ac yn gweld pethau: ‘Dw i'n ei weld, ond fydd hyn ddim nawr; dw i'n edrych arno, ond mae'n bell i ffwrdd. Bydd seren yn dod allan o Jacob, teyrnwialen yn codi yn Israel. Bydd yn dinistrio ffiniau pellaf Moab a'r mynyddoedd ble mae plant Seth yn byw. Bydd yn concro Edom hefyd; fe fydd piau mynyddoedd Seir. Bydd Israel yn mynd yn ei blaen yn ddewr. Bydd brenin yn codi yn Jacob, ac yn dinistrio pawb sydd ar ôl yn Ir.’” Yna dyma Balaam yn edrych ar Amalec ac yn cyhoeddi'r neges yma: “Amalec ydy'r gryfaf o'r gwledydd i gyd, ond dinistr llwyr fydd ei dynged.” Yna edrychodd ar y Ceneaid a chyhoeddi'r neges yma: “Ti'n byw mewn lle sydd mor saff; mae dy nyth yn uchel ar y graig. Ond bydd Cain yn cael ei lyncu, pan fydd Asyria'n ei gymryd yn gaeth.” Yna dyma Balaam yn rhoi'r neges yma: “Ond pwy fydd yn cael byw pan fydd Duw yn gwneud hyn? Bydd llongau'n dod o arfordir Cyprus, ac yn ymosod ar Asyria ac Eber. Ond byddan nhw hefyd yn cael eu dinistrio'n llwyr.” Yna dyma Balaam yn mynd adre. A dyma'r brenin Balac yn mynd i ffwrdd hefyd. Pan oedd pobl Israel yn aros yn Sittim dyma'r dynion yn dechrau cael rhyw gyda merched Moab. Roedd y merched wedi eu gwahodd nhw i wyliau crefyddol eu duwiau. A dyma nhw'n gwledda gyda nhw a dechrau addoli eu duwiau. Cyn pen dim roedd Israel wedi uno gyda Baal-peor. Roedd yr ARGLWYDD wedi gwylltio'n lân gyda phobl Israel, a dyma fe'n dweud wrth Moses, “Rhaid i ti arestio'r rhai sydd wedi arwain y drwg yma, a'u lladd nhw o flaen yr ARGLWYDD ganol dydd, er mwyn i'r ARGLWYDD beidio bod mor wyllt gydag Israel.” Felly dyma Moses yn dweud wrth arweinwyr llwythau Israel, “Rhaid i chi ddienyddio'r dynion yn eich llwyth chi sydd wedi ymuno i addoli Baal-peor.” Wrth iddo ddweud hyn, a pobl Israel yn wylo a galaru o flaen y fynedfa i Babell Presenoldeb Duw, dyma un o ddynion Israel yn dod ag un o ferched y Midianiaid i'r gwersyll. Gwelodd Moses a phawb y peth yn digwydd. A dyma Phineas (mab Eleasar yr offeiriad, ac ŵyr Aaron) yn codi a gafael mewn gwaywffon, a mynd ar ôl y dyn i'r babell. A dyma fe'n gwthio'r waywffon drwy'r ddau ohonyn nhw — drwy'r dyn ac i mewn i stumog y ferch. A dyma'r pla oedd yn lledu drwy ganol pobl Israel yn stopio. Roedd 24,000 o bobl wedi marw o'r pla. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Mae Phineas, mab Eleasar ac ŵyr Aaron yr offeiriad, wedi tawelu fy nig yn erbyn Israel. Dangosodd y fath sêl drosta i, wnes i ddim bwrw ymlaen i ddinistrio pobl Israel i gyd. Felly dywed wrtho fy mod yn gwneud ymrwymiad o heddwch gydag e; ymrwymiad mai fe a'i ddisgynyddion fydd yn offeiriaid am byth. Am ei fod wedi dangos y fath sêl dros ei Dduw, ac wedi gwneud pethau'n iawn rhwng Duw a pobl Israel.” Enw'r dyn gafodd ei ladd ganddo — y dyn gafodd ei drywanu gyda'r ferch o Midian — oedd Simri fab Salw, pennaeth teulu o lwyth Simeon. Ac enw'r ferch o Midian oedd Cosbi, merch Swr, pennaeth un o lwythau Midian. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Dw i am i chi drin y Midianiaid fel gelynion, a'u dinistrio nhw. Maen nhw wedi dod yn elynion i chi drwy eich denu chi i addoli y Baal o Peor. A hefyd drwy beth ddigwyddodd gyda Cosbi, merch un o'i tywysogion nhw gafodd ei lladd y diwrnod roedd y pla yn lledu o achos Peor.” Ar ôl i'r pla orffen, dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: ac wrth Eleasar fab Aaron, yr offeiriad: “Dw i eisiau i ti gynnal cyfrifiad arall o bobl Israel — pawb o bob llwyth sydd dros ugain oed ac yn gallu ymuno â'r fyddin.” Ar y pryd roedd pobl Israel yn gwersylla ar wastatir Moab, wrth ymyl Afon Iorddonen, gyferbyn â Jericho. A dyma Moses ac Eleasar yn dweud wrthyn nhw, “Rhaid cyfrif pawb dros ugain oed.” Dyna oedd yr ARGLWYDD wedi ei orchymyn i Moses. A dyma bobl Israel ddaeth allan o wlad yr Aifft: O lwyth Reuben (mab hynaf Jacob) — disgynyddion Hanoch, Palw, Hesron, a Carmi. Cyfanswm Reuben oedd 43,730. (Roedd Eliab yn un o ddisgynyddion Palw, sef tad Nemwel, Dathan ac Abiram. Roedd Dathan ac Abiram gyda Cora yn arwain y bobl wnaeth droi yn erbyn Moses ac Aaron a gwrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD. A dyma'r ddaear yn agor ac yn eu llyncu nhw a Cora. Lladdodd y tân ddau gant pum deg ohonyn nhw. Mae beth ddigwyddodd iddyn nhw yn rhybudd i ni. Ond wnaeth llinach Cora ei hun ddim diflannu'n llwyr.) O lwyth Simeon — disgynyddion Nemwel, Iamin, Iachin, Serach, a Saul. Cyfanswm Simeon oedd 22,200. O lwyth Gad — disgynyddion Seffon, Haggi, Shwni, Osni, Eri, Arod ac Areli. Cyfanswm Gad oedd 40,500. Roedd gan Jwda ddau fab, Er ac Onan, ond buodd y ddau farw yn fuan yn Canaan. O lwyth Jwda — disgynyddion Shela, Perets, a Serach. Ac o Perets — disgynyddion Hesron a Chamŵl. Cyfanswm Jwda oedd 76,500. O lwyth Issachar — disgynyddion Tola, Pwa, Iashŵf, a Shimron. Cyfanswm Issachar oedd 64,300. O lwyth Sabulon — disgynyddion Sered, Elon a Iachle-el. Cyfanswm Sabulon oedd 60,500. Roedd dau lwyth, sef Manasse ac Effraim, yn ddisgynyddion i Joseff. O lwyth Manasse — disgynyddion Machir a'i fab Gilead. O Gilead — disgynyddion Ieser, Chelec, Asriel, Sechem, Shemida a Cheffer. (Doedd gan Seloffchad fab Cheffer ddim meibion, dim ond merched. Ac enwau'r merched oedd Machla, Noa, Hogla, Milca a Tirtsa.) Cyfanswm Manasse oedd 52,700. O lwyth Effraim — disgynyddion Shwtelach, Becher, a Tachan. Ac o Shwtelach — disgynyddion Eran. Cyfanswm Effraim oedd 32,500. Roedden nhw i gyd yn ddisgynyddion Joseff, drwy Manasse ac Effraim. O lwyth Benjamin — disgynyddion Bela, Ashbel, Achiram, Sheffwffâm, a Hwffam. Wedyn o feibion Bela — disgynyddion Ard a Naaman. Cyfanswm Benjamin oedd 45,600. O lwyth Dan — disgynyddion Shwcham. Y Shwchamiaid oedd disgynyddion Dan, a'i cyfanswm nhw oedd 64,400. O lwyth Asher — disgynyddion Imna, Ishfi, a Bereia. Wedyn o feibion Bereia — disgynyddion Heber a Malciel. Roedd gan Asher ferch hefyd, sef Serach. Cyfanswm Asher oedd 53,400. O lwyth Nafftali — disgynyddion Iachtseël, Gwni, Jeser, a Shilem. Cyfanswm Nafftali oedd 45,400. Felly cyfanswm y dynion gafodd eu cyfri yn Israel oedd 601,730. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Mae'r tir i gael ei rannu rhwng y llwythau ar sail y ffigyrau yma. Mae'r llwythau mwyaf i gael etifeddu mwy o dir na'r llwythau lleiaf. Mae faint o dir fydd pob llwyth yn ei gael yn seiliedig ar y ffigyrau yma. Rhaid defnyddio coelbren wrth rannu'r tir, ond mae canlyniadau'r cyfrifiad i gael eu defnyddio i benderfynu faint o dir mae pob llwyth yn ei gael. Bydd y tir mae'r llwythau bach a mawr yn ei etifeddu yn cael ei bennu drwy daflu coelbren.” A dyma'r Lefiaid gafodd eu cyfrif — disgynyddion Gershon, Cohath a Merari. A disgynyddion eraill Lefi — y Libniaid, Hebroniaid, Machliaid, Mwshiaid a Corahiaid. Cohath oedd tad Amram, ac enw gwraig Amram oedd Iochefed, merch Lefi, gafodd ei geni yn yr Aifft. Wedyn plant Amram a Iochefed oedd Aaron, Moses, a Miriam eu chwaer. Roedd Aaron yn dad i Nadab, Abihw, Eleasar ac Ithamar. Ond roedd Nadab ac Abihw wedi marw wrth ddefnyddio tân o rywle arall i wneud offrwm i'r ARGLWYDD. Roedd 23,000 o Lefiaid — pob dyn a bachgen oedd dros fis oed. Doedden nhw ddim wedi cael eu cyfrif gyda gweddill pobl Israel, am fod dim tir i gael ei roi iddyn nhw fel i weddill llwythau Israel. Felly dyna ffigyrau'r cyfrifiad wnaeth Moses ac Eleasar yr offeiriad, pan oedd pobl Israel yn gwersylla ar wastatir Moab, wrth ymyl Afon Iorddonen, gyferbyn â Jericho. Doedd neb o'r dynion gafodd eu cyfrif y tro yma, wedi eu cynnwys yn y cyfrifiad cyntaf wnaeth Moses ac Aaron yn anialwch Sinai. Roedd yr ARGLWYDD wedi dweud, “Byddan nhw i gyd yn marw yn yr anialwch!” A doedd neb ohonyn nhw ar ôl, ar wahân i Caleb fab Jeffwnne a Josua fab Nwn. Dyma ferched Seloffchad yn dod ymlaen. Roedd eu tad yn fab i Cheffer, mab Gilead, mab Machir, mab Manasse — o glan Manasse fab Joseff. Enwau'r merched oedd Machla, Noa, Hogla, Milca a Tirtsa. Dyma nhw'n dod a sefyll o flaen Moses ac Eleasar yr offeiriad, ac arweinwyr y bobl i gyd, wrth y fynedfa i Babell Presenoldeb Duw. “Buodd dad farw yn yr anialwch,” medden nhw. “Doedd e ddim yn un o'r rhai wnaeth wrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD gyda Cora. Buodd e farw o achos ei bechod ei hun. Ond doedd ganddo fe ddim meibion. Pam ddylai enw dad ddiflannu o hanes y teulu am fod ganddo ddim meibion? Rho dir i ni ei etifeddu gyda brodyr ein tad.” Felly dyma Moses yn mynd â'r achos o flaen yr ARGLWYDD. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Mae merched Seloffchad yn iawn. Rho dir iddyn nhw ei etifeddu gyda brodyr eu tad. Dylen nhw gael siâr eu tad o'r tir. Felly rhaid i ti ddweud hyn wrth bobl Israel, ‘Os ydy dyn yn marw heb gael mab, rhaid i'r etifeddiaeth gael ei rhoi i'w ferch. Os oes ganddo ddim merch chwaith, rhaid i'r etifeddiaeth fynd i'w frodyr. Ac os oes ganddo ddim brodyr, mae'r etifeddiaeth i fynd i frodyr ei dad. Ond os oes gan ei dad ddim brodyr chwaith, mae'r etifeddiaeth i gael ei rhoi i'r perthynas agosaf yn y teulu.’” Dyma fydd y drefn gyfreithiol yn Israel, yn union fel mae'r ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Dringa i ben mynyddoedd Afarîm, i ti weld y tir dw i'n ei roi i bobl Israel. Ar ôl i ti gael ei weld, byddi di, fel Aaron dy frawd, yn marw, am i'r ddau ohonoch chi wrthod gwneud beth ddwedais i yn anialwch Sin. Roedd y bobl wedi gwrthryfela, a dangos dim parch ata i wrth y dŵr,” (sef Ffynnon Meriba yn Cadesh yn anialwch Sin.) Yna dyma Moses yn dweud wrth yr ARGLWYDD: “O ARGLWYDD, y Duw sy'n rhoi bywyd i bopeth byw, rhaid i ti benodi rhywun i arwain y bobl. Rhaid cael rhywun i'w harwain nhw allan i ryfel, a dod â nhw adre wedyn, neu bydd pobl yr ARGLWYDD fel defaid heb fugail i ofalu amdanyn nhw!” [18-19] A dyma'r ARGLWYDD yn ateb, “Dw i eisiau i ti gymryd Josua fab Nwn — dyn sydd â'r Ysbryd ynddo — a'i gomisiynu e i'r gwaith drwy osod dy law arno. Gwna hyn yn gyhoeddus o flaen Eleasar yr offeiriad a'r bobl i gyd. *** Maen nhw i weld dy fod wedi trosglwyddo'r awdurdod sydd gen ti iddo fe, ac wedyn byddan nhw'n ufuddhau iddo. Bydd yn mynd at Eleasar yr offeiriad pan fydd angen arweiniad arno, a bydd Eleasar yn defnyddio'r Wrim i ddarganfod beth mae'r ARGLWYDD eisiau — pryd i fynd allan i ymladd, a pryd i ddod yn ôl.” Felly dyma Moses yn gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho. Dyma fe'n gwneud i Josua sefyll o flaen Eleasar yr offeiriad a'r bobl i gyd. Yna dyma fe'n ei gomisiynu i'r gwaith drwy osod ei ddwylo arno, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses am wneud. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Rho'r gorchymyn yma i bobl Israel: ‘Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyflwyno eich offrymau i mi ar yr adegau iawn. Mae'r offrymau yma sy'n cael eu llosgi ar yr allor fel bwyd sy'n arogli'n hyfryd i mi.’ Dywed wrthyn nhw, ‘Dyma'r offrwm sydd i gael ei losgi i'r ARGLWYDD: Dau oen blwydd oed heb ddim byd o'i le arnyn nhw i'w cyflwyno'n rheolaidd fel offrwm i'w losgi'n llwyr. Rhaid i'r oen cyntaf gael ei gyflwyno yn y bore, a'r llall pan mae'n dechrau nosi. Mae pob oen i'w gyflwyno gyda cilogram o'r blawd gwenith gorau wedi ei gymysgu gyda litr o olew olewydd. Mae'r offrwm rheolaidd yma i gael ei losgi'n llwyr. Cafodd ei sefydlu ar Fynydd Sinai, yn offrwm fyddai'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD. Ac mae offrwm o ddiod i fynd gydag e — litr am bob oen. Mae'r cwrw haidd yma i gael ei dywallt yn offrwm i'r ARGLWYDD yn y cysegr. “‘Yna mae'r ail oen i gael ei offrymu pan mae'n dechrau nosi. Mae'r un offrwm o rawn ac offrwm o ddiod i fynd gydag e. Mae hwn eto i gael ei losgi'n llwyr, yn offrwm sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD. “‘Yna ar y Saboth: Dau oen blwydd oed arall heb ddim byd o'i le arnyn nhw, a dau gilogram o'r blawd gwenith gorau yn offrwm o rawn, wedi ei gymysgu gydag olew olewydd, a'r offrwm o ddiod sydd i fynd gydag e hefyd. Mae'r offrwm yma i gael ei losgi bob Saboth, yn ychwanegol at yr offrwm rheolaidd sydd i gael ei losgi a'r offrwm o ddiod sy'n mynd gyda hwnnw. “‘Ar ddiwrnod cyntaf pob mis rhaid rhoi'r canlynol yn offrwm i'w losgi'n llwyr i'r ARGLWYDD: dau darw ifanc, un hwrdd, a saith oen blwydd oed heb ddim byd o'i le arnyn nhw. Rhaid cyflwyno offrymau o rawn gyda nhw hefyd, sef y blawd gwenith gorau wedi ei gymysgu gydag olew olewydd: tri cilogram gyda pob tarw, dau gilogram gyda'r hwrdd, a cilogram gyda pob un o'r wyn. Mae pob un yn offrwm sy'n cael ei losgi'n llwyr, ac yn rhodd sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD. Yn offrwm o ddiod gyda nhw: dwy litr o win gyda pob tarw, litr a chwarter gyda'r hwrdd, a litr gyda pob un o'r ŵyn. “‘Dyma'r offrwm sydd i'w losgi'n rheolaidd bob mis drwy'r flwyddyn. Wedyn rhaid i un bwch gafr gael ei gyflwyno i'r ARGLWYDD yn offrwm puro. Mae hwn yn ychwanegol at yr offrwm rheolaidd sy'n cael ei losgi a'r offrwm o ddiod sy'n mynd gyda hwnnw. “‘Mae Pasg yr ARGLWYDD i gael ei ddathlu ar y pedwerydd ar ddeg o'r mis cyntaf. Yna mae Gŵyl arall yn dechrau ar y pymthegfed o'r mis. Dim ond bara sydd heb furum ynddo sydd i gael ei fwyta. Ar y diwrnod cyntaf rhaid i chi ddod at eich gilydd i addoli. Peidiwch gweithio fel arfer ar y diwrnod yma. Rhaid i chi gyflwyno rhodd i'r ARGLWYDD bob dydd, sef offrwm i'w losgi'n llwyr — dau darw ifanc, un hwrdd, a saith oen blwydd oed. Gwnewch yn siŵr fod dim byd o'i le arnyn nhw. Rhaid cyflwyno offrymau o rawn gyda nhw hefyd, sef y blawd gwenith gorau wedi ei gymysgu gydag olew olewydd: tri cilogram am bob tarw, dau gilogram am bob hwrdd, ac un cilogram ar gyfer pob oen. Hefyd, rhaid cyflwyno un bwch gafr yn offrwm puro, i wneud pethau'n iawn rhyngoch chi â Duw. Mae'r rhain i gyd yn ychwanegol at yr offrwm rheolaidd sy'n cael ei losgi'n llwyr bob bore. Maen nhw i gael eu hoffrymu bob dydd am saith diwrnod, yn fwyd i'w losgi i'r ARGLWYDD, ac sy'n arogli'n hyfryd iddo. Mae'r rhain yn ychwanegol at yr offrymau sy'n cael ei llosgi'n rheolaidd, a'r offrymau o ddiod sy'n mynd gyda nhw. Yna ar y seithfed diwrnod rhaid i chi ddod at eich gilydd i addoli eto. Peidiwch gweithio fel arfer ar y diwrnod yma. “‘Ar ddiwrnod cynnyrch cyntaf y cynhaeaf, pan fyddwch yn dod a'r offrwm o rawn newydd i'r ARGLWYDD yn ystod Gŵyl y Cynhaeaf, rhaid i chi ddod at eich gilydd i addoli. Peidiwch gweithio fel arfer ar y diwrnod yma. Rhaid i chi gyflwyno'r canlynol i'w losgi i'r ARGLWYDD, yn offrwm sy'n arogli'n hyfryd iddo: dau darw ifanc, un hwrdd, a saith oen blwydd oed. Rhaid cyflwyno offrymau o rawn gyda nhw hefyd, sef y blawd gwenith gorau wedi ei gymysgu gydag olew olewydd: tri cilogram am bob tarw, dau gilogram am bob hwrdd, ac un cilogram ar gyfer pob oen. Hefyd, rhaid cyflwyno un bwch gafr yn offrwm puro, i wneud pethau'n iawn rhyngoch chi â Duw. Mae'r rhain i gyd, gyda'u hoffrymau o ddiod, yn ychwanegol at yr offrwm rheolaidd sy'n cael ei losgi'n llwyr, a'r offrwm o rawn sy'n mynd gyda hwnnw. A gwnewch yn siŵr fod dim byd o'i le ar yr anifeiliaid sy'n cael eu hoffrymu. “‘Ar ddiwrnod cyntaf y seithfed mis rhaid i chi ddod at eich gilydd i addoli. Peidiwch gweithio fel arfer ar y diwrnod yma. Dyma'r diwrnod pan fyddwch chi'n canu'r utgyrn. Rhaid i chi gyflwyno'r canlynol i'w losgi i'r ARGLWYDD, yn offrwm sy'n arogli'n hyfryd iddo: dau darw ifanc, un hwrdd, a saith oen blwydd oed sydd â dim byd o'i le arnyn nhw. Rhaid cyflwyno offrymau o rawn gyda nhw hefyd, sef y blawd gwenith gorau wedi ei gymysgu gydag olew olewydd: tri cilogram am bob tarw, dau gilogram am bob hwrdd, ac un cilogram ar gyfer pob oen. Hefyd, rhaid cyflwyno un bwch gafr yn offrwm puro, i wneud pethau'n iawn rhyngoch chi â Duw. Mae'r rhain yn ychwanegol at yr offrwm sy'n cael ei losgi bob mis, a'r offrwm dyddiol gyda'r offrymau o rawn a diod sy'n mynd gyda nhw. Mae'r offrymau yma sydd wedi eu trefnu i gyd yn cael eu llosgi i'r ARGLWYDD, ac yn arogli'n hyfryd iddo. “‘Ar y degfed diwrnod o'r seithfed mis rhaid i chi ddod at eich gilydd i addoli. Rhaid i chi beidio bwyta, i ddangos eich bod chi'n sori am eich pechod. A peidiwch gweithio fel arfer ar y diwrnod yma. Rhaid i chi gyflwyno'r canlynol i'w losgi i'r ARGLWYDD, yn offrwm fydd yn arogli'n hyfryd iddo: dau darw ifanc, un hwrdd, a saith oen blwydd oed sydd â dim byd o'i le arnyn nhw. Rhaid cyflwyno offrymau o rawn gyda nhw hefyd, sef y blawd gwenith gorau wedi ei gymysgu gydag olew olewydd: tri cilogram am bob tarw, dau gilogram am bob hwrdd, ac un cilogram ar gyfer pob oen. Hefyd, rhaid cyflwyno un bwch gafr yn offrwm puro. Mae hwn yn ychwanegol at yr offrwm puro i wneud pethau'n iawn gyda Duw a'r offrwm dyddiol sy'n cael ei losgi gyda'r offrymau o rawn a diod sy'n mynd gyda hwnnw. “‘Ar y pymthegfed dydd o'r seithfed mis dych chi i ddod at eich gilydd i addoli. Peidiwch gweithio fel arfer ar y diwrnod yma. Rhaid i chi gynnal Gŵyl i'r ARGLWYDD am saith diwrnod. “‘Rhaid i chi gyflwyno'r canlynol i'w losgi i'r ARGLWYDD, yn offrwm sy'n arogli'n hyfryd iddo: un deg tri tarw ifanc, dau hwrdd, ac un deg pedwar oen blwydd oed. Gwnewch yn siŵr fod dim byd o'i le arnyn nhw. Rhaid cyflwyno offrymau o rawn gyda nhw hefyd, sef y blawd gwenith gorau wedi ei gymysgu gydag olew olewydd: tri cilogram am bob tarw, dau gilogram am bob hwrdd, ac un cilogram ar gyfer pob oen. Hefyd, rhaid cyflwyno un bwch gafr yn offrwm puro. Mae hwn yn ychwanegol at yr offrwm rheolaidd sy'n cael ei losgi a'r offrymau o rawn a diod sy'n mynd gyda hwnnw. “‘Yna ar yr ail ddiwrnod: un deg dau darw ifanc, dau hwrdd, ac un deg pedwar oen blwydd oed heb ddim byd o'i le arnyn nhw. A'r offrymau o rawn a diod sydd i fod i fynd gyda pob un ohonyn nhw — y teirw, yr hyrddod a'r ŵyn. Hefyd, rhaid cyflwyno un bwch gafr yn offrwm puro. Mae hwn yn ychwanegol at yr offrwm rheolaidd sy'n cael ei losgi a'r offrymau o rawn a diod sy'n mynd gyda hwnnw. “‘Ar y trydydd diwrnod: un deg un tarw ifanc, dau hwrdd, ac un deg pedwar oen blwydd oed heb ddim byd o'i le arnyn nhw. A'r offrymau o rawn a diod sydd i fod i fynd gyda pob un ohonyn nhw — y teirw, yr hyrddod a'r ŵyn. Hefyd, rhaid cyflwyno un bwch gafr yn offrwm puro. Mae hwn yn ychwanegol at yr offrwm rheolaidd sy'n cael ei losgi a'r offrymau o rawn a diod sy'n mynd gyda hwnnw. “‘Ar y pedwerydd diwrnod: deg tarw ifanc, dau hwrdd, ac un deg pedwar oen blwydd oed heb ddim byd o'i le arnyn nhw. A'r offrymau o rawn a diod sydd i fod i fynd gyda pob un ohonyn nhw — y teirw, yr hyrddod a'r ŵyn. Hefyd, rhaid cyflwyno un bwch gafr yn offrwm puro. Mae hwn yn ychwanegol at yr offrwm rheolaidd sy'n cael ei losgi a'r offrymau o rawn a diod sy'n mynd gyda hwnnw. “‘Ar y pumed diwrnod: naw tarw ifanc, dau hwrdd, ac un deg pedwar oen blwydd oed heb ddim byd o'i le arnyn nhw. A'r offrymau o rawn a diod sydd i fod i fynd gyda pob un ohonyn nhw — y teirw, yr hyrddod a'r ŵyn. Hefyd, rhaid cyflwyno un bwch gafr yn offrwm puro. Mae hwn yn ychwanegol at yr offrwm rheolaidd sy'n cael ei losgi a'r offrymau o rawn a diod sy'n mynd gyda hwnnw. “‘Ar y chweched diwrnod: wyth tarw ifanc, dau hwrdd, ac un deg pedwar oen blwydd oed heb ddim byd o'i le arnyn nhw. A'r offrymau o rawn a diod sydd i fod i fynd gyda pob un ohonyn nhw — y teirw, yr hyrddod a'r ŵyn. Hefyd, rhaid cyflwyno un bwch gafr yn offrwm puro. Mae hwn yn ychwanegol at yr offrwm rheolaidd sy'n cael ei losgi a'r offrymau o rawn a diod sy'n mynd gyda hwnnw. “‘Ar y seithfed diwrnod: saith tarw ifanc, dau hwrdd, ac un deg pedwar oen blwydd oed heb ddim byd o'i le arnyn nhw. A'r offrymau o rawn a diod sydd i fod i fynd gyda pob un ohonyn nhw — y teirw, yr hyrddod a'r ŵyn. Hefyd, rhaid cyflwyno un bwch gafr yn offrwm puro. Mae hwn yn ychwanegol at yr offrwm rheolaidd sy'n cael ei losgi a'r offrymau o rawn a diod sy'n mynd gyda hwnnw. “‘Ar yr wythfed diwrnod rhaid i chi ddod at eich gilydd i addoli. Peidiwch gweithio fel arfer ar y diwrnod yma. Rhaid i chi gyflwyno'r canlynol i'w losgi i'r ARGLWYDD, yn offrwm sy'n arogli'n hyfryd iddo: un tarw ifanc, un hwrdd, a saith oen blwydd oed. Gwnewch yn siŵr fod dim byd o'i le arnyn nhw. A'r offrymau o rawn a diod sydd i fod i fynd gyda pob un ohonyn nhw — y tarw, yr hwrdd a'r ŵyn. Hefyd, rhaid cyflwyno un bwch gafr yn offrwm puro. Mae hwn yn ychwanegol at yr offrwm rheolaidd sy'n cael ei losgi a'r offrymau o rawn a diod sy'n mynd gyda hwnnw. “‘Mae'r offrymau yma i gyd i'w cyflwyno i'r ARGLWYDD adeg y Gwyliau blynyddol. Mae'r rhain yn ychwanegol at yr offrymau eraill i gyd — offrymau i wneud addewid ac offrymau gwirfoddol, yr offrymau i'w llosgi'n llwyr, a'r offrymau o rawn, yr offrymau o ddiod, a'r offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD.’” Dyma Moses yn dysgu hyn i gyd i bobl Israel, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho. Yna dyma Moses yn siarad gydag arweinwyr llwythau Israel. Dwedodd wrthyn nhw, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei orchymyn: “Pan mae rhywun yn gwneud adduned i'r ARGLWYDD, neu'n tyngu llw, rhaid iddo gadw ei air a gwneud beth ddwedodd e. “Os ydy merch ifanc, sy'n dal i fyw adre gyda'i theulu, yn gwneud adduned i'r ARGLWYDD, neu'n gosod ei hun dan lw, a'i thad yn ei chlywed yn gwneud hynny, ac yn dweud dim am y peth, mae'r addewid wnaeth hi yn sefyll — rhaid iddi wneud beth wnaeth hi addo. Ond os ydy ei thad yn dweud yn wahanol pan mae'n clywed am y peth, dydy'r addewidion wnaeth hi ddim yn ddilys. Bydd yr ARGLWYDD yn maddau iddi, am fod ei thad wedi dweud yn wahanol. “Os ydy'r ferch yn priodi ar ôl tyngu llw neu wneud addewid byrbwyll, a'i gŵr yn clywed am y peth ond yn dweud dim, mae'r addewid wnaeth hi yn sefyll — rhaid iddi wneud beth wnaeth hi addo. Ond os ydy ei gŵr yn dweud yn wahanol pan mae'n clywed am y peth, dydy'r addewidion wnaeth hi ddim yn ddilys. Bydd yr ARGLWYDD yn maddau iddi. “Os ydy gwraig weddw, neu wraig sydd wedi cael ysgariad yn gwneud addewid, rhaid iddi wneud beth wnaeth hi addo. Os gwnaeth hi'r adduned, neu osod ei hun dan lw pan oedd hi'n byw gyda'i gŵr a'i gŵr yn clywed am y peth, ond yn dweud dim yn wahanol, bydd rhaid iddi wneud beth wnaeth hi addo. Ond os ydy ei gŵr hi yn dweud yn wahanol pan mae'n clywed am y peth, dydy'r addewidion wnaeth hi ddim yn ddilys. Mae ei gŵr wedi dweud yn wahanol, a bydd yr ARGLWYDD yn maddau iddi. Felly mae ei gŵr yn gallu cadarnhau'r addewid mae'n ei wneud i ymwrthod â rhywbeth, neu'n gallu dweud yn wahanol. Pan mae'r gŵr yn dweud dim am y peth am ddyddiau lawer, mae e'n cadarnhau'r addewid neu'r ymrwymiad mae wedi ei wneud. Mae'n ei gadarnhau am ei fod wedi dweud dim am y peth. Os ydy e'n dweud yn wahanol beth amser ar ôl iddo glywed am y peth, fe fydd yn gyfrifol am ei phechod hi.” Dyma'r rheolau roddodd yr ARGLWYDD i Moses am y drefn gyda dyn a'i wraig, neu dad a'i ferch ifanc sy'n dal i fyw gyda'r teulu. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Dial ar bobl Midian am beth wnaethon nhw i bobl Israel. Ar ôl i ti wneud hynny byddi di'n mynd at dy hynafiaid sydd wedi marw.” Felly dyma Moses yn dweud wrth y bobl, “Dewiswch ddynion i fynd i ryfel yn erbyn Midian, ac i ddial arnyn nhw ar ran yr ARGLWYDD. Rhaid anfon mil o ddynion o bob llwyth i'r frwydr.” Felly dyma nhw'n dewis mil o ddynion o bob llwyth yn Israel — un deg dau mil o ddynion arfog yn barod i ymladd. A dyma Moses yn eu hanfon nhw allan, gyda Phineas (mab Eleasar yr offeiriad) yn gofalu am y taclau o'r cysegr a'r utgyrn i alw'r fyddin. A dyma nhw'n mynd allan i ymladd yn erbyn Midian, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses. Dyma nhw'n lladd y dynion i gyd, gan gynnwys pum brenin Midian, sef Efi, Recem, Swr, Hur, a Reba, a hefyd Balaam fab Beor. Yna dyma fyddin Israel yn cymryd merched a phlant Midian yn gaeth. Dyma nhw hefyd yn cymryd eu gwartheg, defaid, a popeth arall o werth oddi arnyn nhw. Wedyn dyma nhw'n llosgi eu trefi a'u pentrefi nhw i gyd. Dyma nhw'n ysbeilio ac yn dwyn popeth, gan gynnwys y bobl a'r anifeiliaid i gyd. A dyma nhw'n mynd â'r cwbl yn ôl at Moses ac Eleasar yr offeiriad, a holl bobl Israel oedd yn gwersylla ar wastatir Moab, wrth yr Afon Iorddonen gyferbyn â Jericho. Aeth Moses ac Eleasar a'r arweinwyr eraill i gyfarfod y fyddin tu allan i'r gwersyll. Ond dyma Moses yn gwylltio'n lân gyda swyddogion y fyddin — y capteiniaid ar unedau o fil a'r unedau o gant oedd wedi dod yn ôl o'r frwydr. “Pam ydych chi wedi cadw'r merched yn fyw?” meddai wrthyn nhw. “Dyma'r union bobl wnaeth wrando ar Balaam, a gwneud i bobl Israel wrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD yn y digwyddiad yn Peor! A'r canlyniad oedd y pla ofnadwy wnaeth daro pobl yr ARGLWYDD! Felly lladdwch y bechgyn i gyd, a lladdwch bob gwraig sydd wedi cysgu gyda dyn. Ond cewch gadw'n fyw y merched ifanc hynny sydd heb eto gael rhyw.” “Pwy bynnag sydd wedi lladd rhywun, neu wedi cyffwrdd corff marw, rhaid i chi aros tu allan i'r gwersyll am saith diwrnod. A rhaid i chi a'r merched dych chi wedi eu cymryd yn gaeth fynd drwy'r ddefod o buro eich hunain ar y trydydd diwrnod a'r seithfed diwrnod. Rhaid i chi lanhau eich dillad i gyd, a popeth sydd wedi ei wneud o groen anifail, blew gafr neu bren.” Yna dyma Eleasar yr offeiriad yn dweud wrth y dynion oedd wedi bod yn ymladd yn y frwydr, “Dyma reol roddodd yr ARGLWYDD orchymyn i Moses i ni ei chadw: Mae popeth sydd wedi ei wneud o aur, arian, pres, haearn, tin neu blwm (popeth sydd ddim yn llosgi) i gael ei buro drwy dân, a bydd yn lân yn seremonïol, ond rhaid iddo gael ei daenellu gyda dŵr y puro hefyd. Mae popeth fyddai'n llosgi yn y tân i gael ei buro gyda'r dŵr yn unig. Yna rhaid i chi olchi eich dillad ar y seithfed diwrnod. Wedyn byddwch chi'n lân yn seremonïol, a gallwch ddod yn ôl i mewn i'r gwersyll.” Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Dw i eisiau i ti ac Eleasar yr offeiriad, a'r arweinwyr eraill, gyfri'r ysbail gafodd ei gasglu i gyd — yn ferched a phlant ac yn anifeiliaid. Yna rhannu'r cwbl rhwng y dynion aeth i ymladd yn y frwydr, a gweddill pobl Israel. Ond rhaid cymryd cyfran i'r ARGLWYDD o siâr y milwyr fuodd yn ymladd: Cyfran yr ARGLWYDD o'r caethion, y gwartheg, asynnod a defaid, fydd un o bob pum cant. Mae hwn i'w gymryd o siâr y milwyr, a'i roi i Eleasar yr offeiriad i'w gyflwyno yn offrwm i'r ARGLWYDD. Yna o'r hanner arall, sef siâr pobl Israel, rhaid cymryd un o bob hanner cant o'r caethion, y gwartheg, yr asynnod, a'r defaid. Un o bob hanner cant o'r anifeiliaid i gyd, i'w cyflwyno i'r Lefiaid sy'n gofalu am y Tabernacl i'r ARGLWYDD.” Felly dyma Moses ac Eleasar yr offeiriad yn gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses. A dyma swm yr ysbail roedd y dynion wedi ei gasglu: 675,000 o ddefaid, 72,000 o wartheg, 61,000 o asynnod, a 32,000 o ferched ifanc oedd erioed wedi cysgu gyda dyn. Siâr y dynion oedd wedi mynd i ymladd yn y rhyfel oedd: 337,500 o ddefaid — 675 ohonyn nhw'n mynd i'r ARGLWYDD. 36,000 o wartheg — 72 ohonyn nhw i'r ARGLWYDD. 30,500 o asynnod — 61 ohonyn nhw i'r ARGLWYDD. 16,000 o ferched ifanc — 32 ohonyn nhw i'r ARGLWYDD. Felly dyma Moses yn rhoi'r siâr oedd i'w gyflwyno'n offrwm i'r ARGLWYDD i Eleasar yr offeiriad, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho. A dyma oedd siâr pobl Israel, sef hanner arall yr ysbail: 675,000 o ddefaid, 36,000 o wartheg, 30,500 o asynnod, a 16,000 o ferched ifanc. A dyma Moses yn cymryd un o bob hanner cant o siâr pobl Israel, a'i roi i'r Lefiaid oedd yn gofalu am y Tabernacl i'r ARGLWYDD, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho. Yna dyma'r swyddogion milwrol yn dod at Moses — capteiniaid yr unedau o fil ac o gant. A dyma nhw'n dweud wrtho, “Mae dy weision wedi cyfri'r dynion fuodd yn ymladd yn y frwydr gyda ni. Dŷn ni wedi colli neb! Felly dŷn ni wedi dod ag offrwm i'r ARGLWYDD o'r tlysau aur wnaethon ni eu casglu — breichledau, modrwyau, clustdlysau a chadwyni. Mae hyn i wneud pethau'n iawn rhyngon ni â Duw.” Dyma Moses ac Eleasar yn cymryd yr aur ganddyn nhw — pob math o dlysau cywrain. Roedd yr aur i gyd, gafodd ei gyflwyno i'r ARGLWYDD gan y capteiniaid, yn pwyso bron ddau gan cilogram. (Roedd pob un o'r dynion wedi cymryd peth o'r ysbail iddo'i hun.) Felly dyma Moses ac Eleasar yr offeiriad yn derbyn yr aur gan y capteiniaid, ac yn mynd â'r cwbl i Babell Presenoldeb Duw i atgoffa'r ARGLWYDD o bobl Israel. Roedd gan lwythau Reuben a Gad niferoedd enfawr o wartheg. Pan welon nhw y tir yn Iaser a Gilead, roedden nhw'n gweld ei fod yn ddelfrydol i gadw gwartheg. Felly dyma nhw'n mynd at Moses, Eleasar yr offeiriad, a'r arweinwyr eraill. A dyma nhw'n dweud: [3-4] “Mae gynnon ni lot fawr o wartheg, ac mae'r tir wnaeth yr ARGLWYDD ei roi yn nwylo pobl Israel yn ddelfrydol i gadw gwartheg — ardaloedd Ataroth, Dibon, Iaser, Nimra, Cheshbon, Eleale, Sebam, Nebo a Beon. *** Os ydyn ni wedi'ch plesio chi, plîs rhowch y tir yma i ni i'w etifeddu. Peidiwch mynd â ni ar draws yr Afon Iorddonen.” A dyma Moses yn ateb pobl llwythau Gad a Reuben, “Ydy'n deg fod rhaid i bawb arall fynd i ryfel, tra dych chi'n aros yma? Ydych chi'n trïo stopio gweddill pobl Israel rhag croesi drosodd i'r tir mae'r ARGLWYDD wedi ei roi iddyn nhw? Dyma'n union beth wnaeth eich tadau chi yn Cadesh-barnea pan anfonais nhw i archwilio'r wlad. Ar ôl mynd draw i ddyffryn Eshcol i weld y tir dyma nhw'n annog pobl Israel i beidio mynd mewn i'r wlad roedd yr ARGLWYDD yn ei roi iddyn nhw. Roedd yr ARGLWYDD yn wirioneddol flin gyda nhw, ac meddai, ‘Am eu bod nhw wedi bod yn anufudd i mi, fydd neb dros ugain oed, gafodd eu hachub o'r Aifft, yn cael gweld y tir wnes ei addo i Abraham, Isaac a Jacob! Neb ond y ddau fuodd yn gwbl ffyddlon i mi — Caleb fab Jeffwnne y Cenesiad, a Josua fab Nwn.’ Roedd yr ARGLWYDD wedi gwylltio'n lân gyda nhw, a gwnaeth iddyn nhw grwydro yn yr anialwch am bedwar deg o flynyddoedd — nes roedd y genhedlaeth wnaeth y drwg wedi mynd. A dyma chi nawr — criw arall o bechaduriaid — yn gwneud yn union yr un peth! Dych chi'n gwneud yr ARGLWYDD yn fwy dig byth gyda'i bobl Israel! Os gwnewch chi droi cefn arno, bydd e'n gadael pobl Israel yn yr anialwch eto. Byddan nhw'n cael eu dinistrio, ac arnoch chi fydd y bai!” Dyma nhw'n dod at Moses a dweud wrtho, “Gad i ni adeiladu corlannau i'n hanifeiliaid, a trefi i'n plant fyw ynddyn nhw. Ond byddwn ni bob amser yn barod i fod ar flaen y gâd yn arwain pobl Israel i ryfel, nes byddan nhw wedi setlo yn eu gwlad. Bydd ein plant a'n teuluoedd yn aros yn y trefi fyddwn ni wedi eu hadeiladu, fel bod nhw'n saff rhag y bobl sy'n byw o'u cwmpas nhw. Wnawn ni ddim mynd adre nes bydd pawb yn Israel wedi cael y tir sydd i fod iddyn nhw. A fyddwn ni ddim yn disgwyl etifeddu unrhyw dir yr ochr draw i Afon Iorddonen, am ein bod ni wedi cael y tir yma, sydd i'r dwyrain o'r afon.” Dyma Moses yn ateb, “Os gwnewch chi hyn, a paratoi eich hunain i fynd i ryfel o flaen yr ARGLWYDD; os bydd eich milwyr yn croesi'r Iorddonen ac yn aros nes bydd yr ARGLWYDD wedi gyrru ei elynion i gyd allan, a'r ARGLWYDD wedi concro'r wlad, cewch ddod yn ôl yma. Byddwch wedi cyflawni eich dyletswydd i'r ARGLWYDD ac i Israel. A bydd y tir yma yn perthyn i chi yng ngolwg Duw. Ond os na wnewch chi gadw'ch gair, byddwch wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD. Byddwch chi'n talu am eich pechod yn y diwedd. Felly ewch ati i adeiladu trefi i'ch plant a chorlannau i'ch anifeiliaid, ond yna gwnewch beth dych chi wedi addo'i wneud.” A dyma bobl llwythau Gad a Reuben yn ateb, “Bydd dy weision yn gwneud yn union fel mae ein meistr yn dweud. Bydd ein gwragedd a'n plant, ein defaid a'n hanifeiliaid i gyd yn aros yma yn Gilead, ond byddwn ni'r dynion i gyd yn croesi'r afon i ymladd dros yr ARGLWYDD, fel y dwedaist ti.” Felly dyma Moses yn rhoi gorchmynion am hyn i Eleasar yr offeiriad, Josua fab Nwn, ac i arweinwyr eraill llwythau Israel. “Os bydd y dynion o lwythau Gad a Reuben yn croesi'r Iorddonen gyda chi i ymladd ym mrwydrau'r ARGLWYDD, pan fyddwch chi wedi concro'r wlad rhaid i chi roi tir Gilead iddyn nhw. Ond os byddan nhw'n gwrthod croesi drosodd i ymladd gyda chi, rhaid iddyn nhw dderbyn tir yn Canaan, fel pawb arall.” A dyma bobl Gad a Reuben yn dweud eto, “Byddwn ni'n gwneud fel mae'r ARGLWYDD wedi dweud. Byddwn ni'n croesi drosodd i wlad Canaan yn barod i ymladd dros yr ARGLWYDD, a byddwn ni'n cael y tir sydd yr ochr yma i'r Iorddonen.” Felly dyma Moses yn rhoi'r tir yma i lwythau Gad a Reuben, a hanner llwyth Manasse fab Joseff: tiriogaeth Sihon, brenin yr Amoriaid, a tiriogaeth Og, brenin Bashan. Cawson nhw'r tir i gyd gyda'r trefi a'r tiroedd o'u cwmpas. Dyma lwyth Gad yn ailadeiladu Dibon, Ataroth, Aroer, Atroth-shoffan, Iaser, Iogbeha, Beth-nimra a Beth-haran yn drefi caerog amddiffynnol, gyda corlannau i'w hanifeiliaid. Dyma lwyth Reuben yn ailadeiladu Cheshbon, Eleale, Ciriathaim, Nebo, Baal-meon a Sibma, a rhoi enwau newydd i bob un. A dyma feibion Machir fab Manasse yn mynd i dref Gilead, a'i chymryd oddi ar yr Amoriaid oedd yn byw yno. A dyma Moses yn rhoi Gilead i ddisgynyddion Machir fab Manasse, a dyma nhw'n symud i fyw yno. Wedyn dyma ddisgynyddion Jair fab Manasse yn dal nifer o'r pentrefi bach o gwmpas Gilead, a'i galw nhw yn Hafoth-jair (sef ‛Pentrefi Jair‛). A dyma Nobach yn dal tref Cenath a'r pentrefi o'i chwmpas, a rhoi ei enw ei hun, Nobach, i'r ardal. Dyma'r lleoedd wnaeth pobl Israel deithio iddyn nhw (yn eu trefn) ar ôl dod allan o wlad yr Aifft dan arweiniad Moses ac Aaron. Roedd Moses wedi cadw cofnod o wahanol gamau'r daith, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gofyn iddo wneud. A dyma eu symudiadau nhw: Gadawodd pobl Israel Rameses ar y diwrnod ar ôl y Pasg, sef y pymthegfed diwrnod o'r mis cyntaf. Aethon nhw allan yn hyderus, o flaen pobl yr Aifft i gyd. Roedd pobl yr Aifft wrthi'n claddu eu meibion hynaf. Yr ARGLWYDD oedd wedi eu lladd nhw y noson cynt, ac wedi dangos fod eu duwiau nhw yn dda i ddim. Ar ôl gadael Rameses, dyma bobl Israel yn gwersylla yn Swccoth. Yna gadael Swccoth a gwersylla yn Etham, sydd ar ymyl yr anialwch. Gadael Etham a mynd yn ôl i gyfeiriad Pi-hachiroth, sydd i'r dwyrain o Baal-tseffon, a gwersylla wrth ymyl Migdol. Gadael Pi-hachiroth, a mynd trwy ganol y môr i'r anialwch yr ochr draw. Yna teithio am dri diwrnod yn anialwch Etham, a gwersylla yn Mara. Gadael Mara a gwersylla yn Elim, lle roedd deuddeg ffynnon a saith deg coeden balmwydd. Gadael Elim a gwersylla wrth y Môr Coch. Gadael y Môr Coch a gwersylla yn Anialwch Sin. Yna gadael Anialwch Sin a gwersylla yn Doffca. Gadael Doffca a gwersylla yn Alwsh. Gadael Alwsh a gwersylla yn Reffidim, lle doedd dim dŵr i bobl ei yfed. Gadael Reffidim a gwersylla yn anialwch Sinai. Gadael anialwch Sinai a gwersylla yn Cibroth-hattaäfa. Yna gadael Cibroth-hattaäfa a gwersylla yn Chatseroth. Gadael Chatseroth a gwersylla yn Rithma. Yna gadael Rithma a gwersylla yn Rimmon-perets. Gadael Rimmon-perets a gwersylla yn Libna. Gadael Libna a gwersylla yn Rissa. Gadael Rissa a gwersylla yn Cehelatha. Gadael Cehelatha a gwersylla wrth Fynydd Sheffer. Gadael Mynydd Sheffer a gwersylla yn Charada. Gadael Charada a gwersylla yn Macelot. Gadael Macelot a gwersylla yn Tachath. Gadael Tachath a gwersylla yn Tera. Gadael Tera a gwersylla yn Mithca. Gadael Mithca a gwersylla yn Chashmona. Gadael Chashmona a gwersylla yn Moseroth. Gadael Moseroth a gwersylla yn Bene-iaacan. Gadael Bene-iaacan a gwersylla yn Chor-haggidgad. Gadael Chor-haggidgad a gwersylla yn Iotbatha. Gadael Iotbatha a gwersylla yn Afrona. Gadael Afrona a gwersylla yn Etsion-geber. Gadael Etsion-geber a gwersylla yn Cadesh yn anialwch Sin. Gadael Cadesh a gwersylla wrth Fynydd Hor sydd ar ffin gwlad Edom. Roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Aaron yr offeiriad am fynd i ben Mynydd Hor. A dyna lle buodd Aaron farw, ar ddiwrnod cynta'r pumed mis, bedwar deg o flynyddoedd ar ôl i bobl Israel ddod allan o wlad yr Aifft. Roedd Aaron yn gant dau ddeg tri mlwydd oed pan fu farw. Wedyn clywodd brenin Canaaneaidd Arad, oedd yn byw yn y Negef (de gwlad Canaan), fod pobl Israel ar eu ffordd. Yna dyma bobl Israel yn gadael Mynydd Hor a gwersylla yn Salmona. Yna gadael Salmona a gwersylla yn Pwnon. Gadael Pwnon a gwersylla yn Oboth. Gadael Oboth a gwersylla yn Ïe-hafarîm, ar y ffin gyda Moab. Gadael Ïe-hafarîm a gwersylla yn Dibon-gad. Gadael Dibon-gad a gwersylla yn Almon-diblathaim. Gadael Almon-diblathaim a gwersylla ym mynyddoedd Afarîm, gyferbyn â Nebo. Gadael mynyddoedd Afarîm a gwersylla ar wastatir Moab wrth Afon Iorddonen, gyferbyn â Jericho. (Roedden nhw'n gwersylla ar wastatir Moab wrth Afon Iorddonen, yr holl ffordd o Beth-ieshimoth i Abel-sittim.) Pan oedden nhw'n gwersylla ar wastatir Moab wrth Afon Iorddonen, gyferbyn â Jericho, dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Dywed wrth bobl Israel, ‘Pan fyddwch chi wedi croesi'r Iorddonen a mynd i mewn i wlad Canaan dw i eisiau i chi yrru'r bobl sy'n byw yno allan o'r wlad. Rhaid i chi ddinistrio'r eilunod wedi eu cerfio, a'r delwau o fetel tawdd, a chwalu'r allorau paganaidd i gyd. Dw i eisiau i chi gymryd y wlad drosodd, a setlo i lawr ynddi. Dw i wedi rhoi'r wlad i chi. Chi piau hi. “‘Mae'r tir i gael ei rannu rhwng y claniau drwy fwrw coelbren. Mae faint o dir mae pob clan yn ei etifeddu yn dibynnu ar faint y clan — pa mor fawr neu fach ydy e. Ond mae'r lleoliad yn dibynnu ar ble mae'r coelbren yn syrthio. Mae i'w rannu rhwng llwythau'r hynafiaid. Os na wnewch chi yrru'r bobl sy'n byw yno allan o'r wlad, fyddan nhw'n achosi dim byd ond trwbwl i chi — fel llwch yn eich llygaid neu ddraenen yn eich ochr. A bydda i'n gwneud i chi beth roeddwn i'n bwriadu ei wneud iddyn nhw.’” Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Dywed wrth bobl Israel: ‘Pan ewch i mewn i wlad Canaan, dyma'r ffiniau i'r tir dw i'n ei roi i chi i'w etifeddu: Bydd ffin y de yn mynd o anialwch Sin i'r ffin gydag Edom. Bydd yn ymestyn i'r dwyrain at ben isaf y Môr Marw. Bydd yn mynd i'r de, heibio Bwlch Acrabbîm (sef Bwlch y Sgorpion), ymlaen i Sin ac yna i gyfeiriad Cadesh-barnea, ac wedyn i Chatsar-adar a throsodd i Atsmon. O'r fan honno bydd y ffin yn troi i ddilyn Wadi'r Aifft ac allan i Fôr y Canoldir. “‘Y Môr Mawr (sef Môr y Canoldir) fydd y ffin i'r gorllewin. “‘Bydd ffin y gogledd yn mynd o Fôr y Canoldir i Fynydd Hor, ac yna i Fwlch Chamath ac ymlaen i Sedad. Yna o Sedad ymlaen i Siffron, ac wedyn i Chatsar-einan. Dyna fydd ffin y gogledd. “‘Bydd ffin y dwyrain yn mynd i gyfeiriad y de o Chatsar-einan i Sheffam; wedyn o Sheffam i Ribla sydd i'r dwyrain o Ain. Yna i lawr ochr ddwyreiniol Llyn Galilea, ac ar hyd Afon Iorddonen yr holl ffordd i'r Môr Marw. Dyna fydd y ffiniau o gwmpas eich tir chi.’” A dyma Moses yn dweud wrth bobl Israel: “Dyma'r tir fydd yn cael ei rannu rhyngoch chi. Mae'r ARGLWYDD wedi dweud ei fod i gael ei roi i'r naw llwyth a hanner sydd ar ôl. Mae llwythau Reuben a Gad, a hanner llwyth Manasse wedi cael eu tir nhw. Maen nhw wedi cael tir yr ochr yma i'r Iorddonen, sef i'r dwyrain o Jericho.” Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Dyma'r dynion fydd yn gyfrifol am rannu'r tir rhyngoch chi: Eleasar yr offeiriad a Josua fab Nwn. A rhaid i chi gymryd un arweinydd o bob llwyth i helpu gyda'r gwaith.” [19-28] Dyma enwau'r arweinwyr ddewisodd yr ARGLWYDD: [Arweinydd] — [Llwyth] Caleb fab Jeffwnne — Jwda Shemwel fab Amihwd — Simeon Elidad fab Cislon — Benjamin Bwcci fab Iogli — Dan Channiel fab Effod — Manasse Cemwel fab Shifftan — Effraim Elitsaffan fab Parnach — Sabulon Paltiel fab Assan — Issachar Achihwd fab Shelomi — Asher Pedahel fab Amihwd — Nafftali *** *** *** *** *** *** *** *** *** Y rhain gafodd eu dewis gan yr ARGLWYDD i fod yn gyfrifol am rannu tir Canaan rhwng pobl Israel. Dyma'r ARGLWYDD yn siarad â Moses ar wastatir Moab, wrth yr Afon Iorddonen gyferbyn â Jericho. “Dywed wrth bobl Israel am roi rhai o'u trefi i'r Lefiaid i fyw ynddyn nhw, gyda tir pori i'w hanifeiliaid. Wedyn bydd ganddyn nhw le i fyw, a thir pori i'w gwartheg a'u defaid a'u hanifeiliaid eraill. Rhaid i'r tir pori o gwmpas y trefi fyddwch chi'n eu rhoi i'r Lefiaid ymestyn am tua 675 metr o wal y dre. Mae ffin allanol y tir pori i fesur 1,350 metr ar bob ochr — gogledd, de, gorllewin a dwyrain — gyda'r dre yn y canol. Mae'r tir yma i fod yn dir pori i'r trefi. “Bydd chwech o'r trefi fyddwch chi'n eu rhoi i'r Lefiaid yn drefi lloches, i rywun sydd wedi lladd person arall trwy ddamwain allu dianc yno. Rhaid i chi roi pedwar deg dwy o drefi eraill i'r Lefiaid — pedwar deg wyth o drefi i gyd, gyda tir pori i bob un. Rhaid i'r trefi dych chi'n eu rhoi fod yn drefi sydd piau pobl Israel. Bydd nifer y trefi mae pob llwyth yn ei gyfrannu yn dibynnu ar faint y llwyth. Bydd y llwythau mwyaf yn rhoi mwy o drefi, a'r llwythau lleiaf yn rhoi llai. Ond rhaid i bob llwyth gyfrannu rhai o'u trefi i'r Lefiaid.” Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Dywed wrth bobl Israel, ‘Pan fyddwch chi'n croesi'r Iorddonen i wlad Canaan rhaid i chi ddarparu rhai trefi yn drefi lloches. Bydd rhywun sydd wedi lladd person arall drwy ddamwain yn gallu dianc yno. Bydd y trefi yma yn lle saff i ddianc rhag perthynas yr un gafodd ei ladd sydd am ddial. Ddylai'r lladdwr ddim cael ei ladd cyn sefyll ei brawf o flaen y bobl. Rhaid darparu chwech tref loches — tair yr ochr yma i'r Afon Iorddonen, a tair yn Canaan. Bydd y chwe tref yma yn drefi lloches i bobl Israel, i bobl o'r tu allan ac i fewnfudwyr. Gall unrhyw un sy'n lladd person arall trwy ddamwain ddianc iddyn nhw. “‘Ond mae rhywun sy'n taro person arall yn farw gyda bar haearn yn llofrudd. Rhaid gweinyddu'r gosb eithaf — mae'n llofrudd. Neu os ydy e'n taflu carreg ddigon mawr i ladd rhywun at berson arall, a'r person hwnnw'n marw, mae'n llofrudd. Rhaid i'r llofrudd farw. Neu os ydy e'n taro rhywun yn farw gyda darn o bren, mae'n llofrudd. Rhaid i'r llofrudd farw. Mae gan berthynas agosaf y person gafodd ei lofruddio hawl i ladd y llofrudd yn y fan a'r lle. Os ydy rhywun yn lladd person arall drwy ei daro gyda rhywbeth neu daflu rhywbeth ato'n fwriadol, neu drwy roi dyrnod iddo, mae'n llofrudd. Rhaid i'r llofrudd farw. Rhaid i berthynas agosaf y person gafodd ei lofruddio ladd y llofrudd yn y fan a'r lle. “‘Ond os oedd wedi taro'r person arall neu daflu rhywbeth ato a'i daro yn ddamweiniol, neu ollwng carreg ddigon mawr i'w ladd, heb fod wedi ei weld. Hynny ydy, os oedd dim casineb na bwriad i wneud drwg i'r person arall, rhaid i'r bobl farnu'r achos rhwng yr un sy'n cael ei gyhuddo o ladd a'r perthynas agosaf sydd am ddial arno. Rhaid i'r bobl amddiffyn y lladdwr rhag y perthynas agosaf sydd am ddial arno. A rhaid anfon y lladdwr i fyw yn y dref loches agosaf. Bydd rhaid iddo aros yno nes bydd yr archoffeiriad, gafodd ei eneinio gyda'r olew cysegredig, wedi marw. Ond os ydy'r un sy'n cael ei gyhuddo o'r drosedd yn gadael y dref loches mae wedi dianc iddi, a perthynas agosaf yr un gafodd ei lofruddio yn dial arno a'i ladd, fydd hynny ddim yn cael ei ystyried yn llofruddiaeth. Dylai fod wedi aros yn y dref loches nes i'r archoffeiriad farw. Ar ôl i'r archoffeiriad farw, mae'n rhydd i fynd yn ôl adre. “‘Dyma fydd y drefn gyfreithiol ar hyd y cenedlaethau, ble bynnag fyddwch chi'n byw. Mae pob llofrudd i gael ei ddienyddio, ond rhaid bod tystion. Dydy un tyst ddim yn ddigon i rywun gael ei ddedfrydu i farwolaeth. A rhaid peidio derbyn arian yn lle rhoi'r llofrudd i farwolaeth. Rhaid i bob llofrudd gael ei ddienyddio. Rhaid peidio derbyn arian chwaith i ollwng rhywun sydd wedi dianc i dref loches yn rhydd, fel ei fod yn gallu mynd yn ôl adre i fyw cyn marwolaeth yr archoffeiriad. Peidiwch llygru'r tir lle dych chi'n byw — mae llofruddiaeth yn llygru'r tir! A does dim byd yn gwneud iawn am lofruddiaeth ond dienyddio'r llofrudd. Peidiwch gwneud y tir ble dych chi'n byw yn aflan, achos dyna ble dw i'n byw hefyd. Fi ydy'r ARGLWYDD sy'n byw gyda fy mhobl Israel.’” Dyma arweinwyr clan Gilead (disgynyddion i Machir, mab Manasse fab Joseff), yn dod at Moses ac arweinwyr eraill Israel gyda cais. “Dwedodd yr ARGLWYDD wrth ein meistr am ddefnyddio coelbren wrth rannu'r tir rhwng pobl Israel. Dwedodd hefyd y dylid rhoi tir ein brawd Seloffchad i'w ferched. Ond petai un ohonyn nhw'n priodi dyn o lwyth arall, byddai eu tir nhw yn mynd i'r llwyth hwnnw, a byddai gynnon ni lai o dir. A pan fydd hi'n flwyddyn y rhyddhau mawr bydd y tir yn aros yn nwylo'r llwyth maen nhw wedi priodi i mewn iddo — bydd yn cael ei dynnu oddi ar etifeddiaeth ein llwyth ni.” Felly dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses am roi'r rheol yma i bobl Israel: “Mae beth mae'r dynion o lwyth meibion Joseff yn ei ddweud yn iawn. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei orchymyn sydd i ddigwydd gyda merched Seloffchad: Maen nhw'n rhydd i briodi pwy bynnag maen nhw eisiau o fewn eu llwyth eu hunain. Wedyn fydd y tir mae pobl Israel wedi ei etifeddu ddim yn symud o un llwyth i'r llall — bydd pawb yn cadw'r tir wnaethon nhw ei etifeddu gan eu hynafiaid. Rhaid i bob merch sydd wedi etifeddu tir gan ei hynafiaid, pa lwyth bynnag mae'n perthyn iddo, briodi rhywun o fewn ei llwyth ei hun. Wedyn bydd pawb yn Israel yn cadw'r tir maen nhw wedi ei etifeddu gan eu hynafiaid. Dydy'r tir gafodd ei etifeddu ddim i basio o un llwyth i'r llall. Mae pob llwyth yn Israel i gadw'r tir gafodd ei roi iddo.” A dyma ferched Seloffchad yn gwneud fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses. Dyma nhw i gyd — Machla, Tirtsa, Hogla, Milca a Noa — yn priodi cefndryd ar ochr eu tad o'r teulu. Dyma nhw'n priodi dynion oedd yn perthyn i lwyth Manasse fab Joseff, ac felly arhosodd y tir roedden nhw wedi ei etifeddu o fewn llwyth eu hynafiaid. Dyma'r gorchmynion a'r rheolau wnaeth yr ARGLWYDD eu rhoi i bobl Israel drwy Moses ar wastatir Moab, wrth yr Afon Iorddonen gyferbyn â Jericho. Dyma beth ddwedodd Moses wrth bobl Israel i gyd pan oedden nhw yn yr anialwch yr ochr draw i Afon Iorddonen — yn y rhan o'r Araba sydd gyferbyn â Swff, rhwng Paran a Toffel, Laban, Chatseroth a Di-sahab. Fel arfer mae'n cymryd un deg un diwrnod i deithio o Fynydd Sinai i Cadesh-barnea ar draws bryniau Seir. Ond roedd pedwar deg mlynedd wedi mynd heibio. Roedd hi'r diwrnod cyntaf o fis un deg un y flwyddyn honno pan wnaeth Moses annerch pobl Israel, a dweud popeth roedd yr ARGLWYDD wedi ei orchymyn iddo. Digwyddodd hyn ar ôl iddo ennill y frwydr yn erbyn Sihon, brenin yr Amoriaid, oedd yn byw yn Cheshbon, ac Og, brenin Bashan, oedd yn byw yn Ashtaroth ac Edrei. Yr ochr draw i'r Afon Iorddonen, ar dir Moab, dyma Moses yn mynd ati i esbonio cyfarwyddiadau Duw iddyn nhw: “Pan oedden ni wrth Fynydd Sinai, dyma'r ARGLWYDD ein Duw yn dweud wrthon ni, ‘Dych chi wedi aros wrth y mynydd yma ddigon hir. Mae'n bryd i chi symud yn eich blaenau. Ewch i gyfeiriad bryniau'r Amoriaid, a'r ardaloedd cyfagos — dyffryn yr Iorddonen, y bryniau, yr iseldir i'r gorllewin, tir anial y Negef a'r arfordir — sef gwlad Canaan i gyd ac o Libanus yr holl ffordd i'r Afon Ewffrates fawr. Mae'r tir yma i gyd i chi. Dyma'r tir wnes i addo ei roi i'ch hynafiaid chi — Abraham, Isaac a Jacob. Ewch, a'i gymryd drosodd.’ “Dyna'r adeg hefyd pan ddwedais wrthoch chi, ‘Alla i ddim gwneud hyn ar fy mhen fy hun — mae'n ormod o faich. Mae'r ARGLWYDD wedi gwneud i'ch niferoedd chi dyfu, a bellach mae yna gymaint ohonoch chi ag sydd o sêr yn yr awyr! A boed i'r ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, ddal ati i'ch lluosi chi fil gwaith drosodd eto, a'ch bendithio chi fel gwnaeth e addo gwneud! Ond sut alla i ddelio gyda'ch holl broblemau chi, a godde'ch cwynion chi i gyd? Dewiswch ddynion doeth, deallus, o bob llwyth, i mi eu comisiynu nhw'n arweinwyr arnoch chi.’ A dyma chi'n cytuno ei fod yn syniad da. Felly dyma fi'n cymryd y dynion doeth, deallus yma, a'u gwneud nhw'n arweinwyr y llwythau — yn swyddogion dros grwpiau o fil, cant, hanner cant, a deg o bobl. “Cafodd rhai eraill eu penodi'n farnwyr, a dyma fi'n eu siarsio nhw i gymryd eu cyfrifoldebau o ddifrif, a delio'n deg gyda'r achosion fyddai'n codi rhwng pobl — nid yn unig rhwng pobl Israel a'i gilydd, ond rhwng pobl Israel a'r rhai o'r tu allan oedd yn byw gyda nhw hefyd. Dwedais wrthyn nhw am beidio dangos ffafriaeth wrth farnu achos, ond gwrando ar bawb, beth bynnag fo'i statws. A ddylen nhw ddim ofni pobl. Duw sy'n gwneud y barnu. Ac os oedd achos yn rhy gymhleth iddyn nhw, gallen nhw ofyn i mi ddelio gydag e. “Roeddwn i wedi dweud wrthoch chi am bopeth roedd disgwyl i chi ei wneud. “Yna, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i ni, dyma ni'n gadael Mynydd Sinai, a dechrau teithio drwy'r anialwch mawr peryglus yna, i gyfeiriad bryniau'r Amoriaid. A dyma ni'n cyrraedd Cadesh-barnea. Ac yno dyma fi'n dweud wrthoch chi, ‘Dŷn ni wedi cyrraedd y bryniau ble mae'r Amoriaid yn byw. Mae'r ARGLWYDD yn mynd i roi'r tir yma i ni nawr. Edrychwch, mae'r tir yna i chi ei gymryd. Ewch, a'i gymryd, fel mae'r ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, wedi dweud wrthoch chi. Peidiwch bod ag ofn na panicio.’ “Ond dyma chi'n dod ata i a dweud, ‘Beth am anfon dynion i edrych dros y wlad gyntaf. Gallen nhw awgrymu pa ffordd fyddai orau i fynd, a rhoi gwybodaeth i ni am y trefi sydd yno.’ “Roeddwn i'n meddwl ei fod yn syniad da, felly dyma fi'n anfon un deg dau o ddynion o'n blaenau ni, un o bob llwyth. Dyma nhw'n mynd drosodd i'r bryniau, a cyrraedd Wadi Eshcol. Ar ôl edrych dros y wlad, dyma nhw'n dod yn ôl gyda peth o gynnyrch y tir. Roedden nhw'n dweud, ‘Mae'r tir mae'r ARGLWYDD ein Duw yn ei roi i ni yn dir da!’ “Ond dyma chi'n gwrthod mynd yn eich blaenau. Yn lle hynny dyma chi'n gwrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD, aros yn eich pebyll, a dechrau cwyno ymhlith eich gilydd, a dweud pethau fel, ‘Daeth yr ARGLWYDD a ni allan o'r Aifft am ei fod yn ein casáu ni, ac er mwyn i ni gael ein lladd gan yr Amoriaid! I ble awn ni? Mae'r dynion aeth i chwilio'r tir wedi'n gwneud ni'n hollol ddigalon wrth sôn am bobl sy'n dalach ac yn gryfach na ni. Mae waliau amddiffynnol eu trefi nhw yn codi'n uchel i'r awyr. Ac yn waeth na hynny maen nhw'n dweud eu bod nhw wedi gweld cewri yno — disgynyddion Anac.’ “Gwnes i drïo dweud wrthoch chi, ‘Does dim rhaid i chi fod ag ofn! Mae'r ARGLWYDD eich Duw yn mynd o'ch blaenau chi! Bydd e'n ymladd drosoch chi, yn union fel y gwelsoch chi e'n gwneud yn yr Aifft! Meddyliwch sut wnaeth e ofalu amdanoch chi yn yr anialwch! Mae wedi eich cario chi yr holl ffordd yma, fel mae dyn yn cario ei fab!’ “Ond doedd dim ots beth roeddwn i'n ddweud, roeddech chi'n dal i wrthod trystio'r ARGLWYDD eich Duw, yr un oedd mynd o'ch blaen chi, ac yn dod o hyd i leoedd i chi godi gwersyll. Roedd yn eich arwain chi mewn colofn dân yn y nos a cholofn niwl yn y dydd, ac yn dangos i chi pa ffordd i fynd. “Pan glywodd yr ARGLWYDD beth roeddech chi'n ei ddweud, roedd wedi digio go iawn hefo chi, a dyma fe'n addo ar lw: ‘Fydd neb o'r genhedlaeth yma yn cael gweld y tir da wnes i addo ei roi i'ch hynafiaid chi! Caleb fab Jeffwnne fydd yr unig eithriad. Bydd e'n cael mynd yno, a bydda i'n rhoi iddo fe a'i ddisgynyddion y tir y buodd e'n cerdded arno, am ei fod wedi bod yn gwbl ffyddlon i mi.’ “Ac roedd yr ARGLWYDD wedi digio hefo fi hefyd o'ch achos chi. Dwedodd, ‘Fyddi di ddim yn cael mynd yno chwaith. Ond bydd Josua fab Nwn, dy was di, yn cael mynd. Dw i eisiau i ti ei annog e. Fe ydy'r un fydd yn arwain Israel i gymryd y tir. Ond bydd y plant bach hefyd, y rhai oedd gynnoch chi ofn iddyn nhw gael eu dal, yn cael mynd — y rhai sy'n rhy ifanc eto i wybod y gwahaniaeth rhwng drwg a da. Bydda i'n rhoi'r tir iddyn nhw, a nhw fydd piau e. Ond nawr rhaid i chi droi'n ôl, a mynd drwy'r anialwch yn ôl i gyfeiriad y Môr Coch.’ “Roeddech chi'n cyfaddef eich bod ar fai wedyn, a dyma chi'n dweud, ‘Dŷn ni wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD. Gwnawn ni fynd i ymladd, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrthon ni.’ “A dyma chi i gyd yn gwisgo'ch arfau, yn barod i fynd i ymladd yn y bryniau. Ond dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, ‘Dywed wrthyn nhw am beidio mynd i ymladd. Dw i ddim gyda nhw. Byddan nhw'n cael eu curo gan eu gelynion.’ “Dyma fi'n dweud wrthoch chi, ond roeddech chi'n gwrthod gwrando. Dyma chi'n gwrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD eto. I ffwrdd â chi, yn llawn ohonoch chi'ch hunain. Dyma'r Amoriaid oedd yn byw yno yn dod allan i ymladd gyda chi fel haid o wenyn, a'ch gyrru chi i ffwrdd! Dyma nhw'n eich taro chi i lawr yr holl ffordd i dir Seir i dref Horma. Pan gyrhaeddoch chi yn ôl, dyma chi'n mynd i ofyn i'r ARGLWYDD am help, ond wnaeth e gymryd dim sylw ohonoch chi. Felly dyma chi'n aros yn Cadesh am amser hir iawn. “A dyma ni'n troi'n ôl i gyfeiriad yr anialwch a'r Môr Coch, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrthon ni. Buon ni'n crwydro o gwmpas cyrion bryniau Seir am amser hir iawn. “Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, ‘Dych chi wedi bod yn crwydro o gwmpas y mynyddoedd yma yn llawer rhy hir. Trowch am y gogledd. A dywed hyn wrth y bobl, “Dych chi ar fin croesi'r ffin i diriogaeth pobl Edom, sy'n perthyn i chi (sef disgynyddion Esau). Ond bydd ganddyn nhw eich ofn chi, felly byddwch yn ofalus. Peidiwch bygwth nhw. Dw i ddim yn mynd i roi modfedd sgwâr o'u tir nhw i chi. Dw i wedi rhoi bryniau Seir i ddisgynyddion Esau. Felly talwch iddyn nhw am eich bwyd a'ch diod. Mae'r ARGLWYDD eich Duw wedi bendithio popeth dych chi wedi ei wneud. Mae wedi gofalu amdanoch chi tra dych chi wedi bod yn crwydro yn yr anialwch yma ers pedwar deg o flynyddoedd. Mae e wedi bod gyda chi drwy'r amser, ac wedi rhoi i chi bopeth oedd arnoch chi ei angen.”’ “Felly dyma ni'n pasio heibio'n perthnasau, disgynyddion Esau, oedd yn byw yn Seir. Troi oddi ar y ffordd i Ddyffryn Iorddonen ac osgoi trefi Elat ac Etsion-geber, a teithio ymlaen i gyfeiriad tiroedd anial Moab. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, ‘Peidiwch tarfu ar bobl Moab na dechrau ymladd gyda nhw. Dw i ddim am roi eu tir nhw i chi o gwbl. Dw i wedi rhoi Moab iddyn nhw, sy'n ddisgynyddion i Lot.’” (Yr Emiaid oedd yn byw yno ar un adeg — tyrfa o gewri cryfion fel yr Anaciaid. Enw pobl Moab arnyn nhw oedd Emiaid. Roedd pobl eraill yn eu galw nhw a'r Anaciaid yn Reffaiaid. A'r Horiaid oedd yn arfer byw yn Seir, ond roedd disgynyddion Esau wedi eu concro nhw a setlo i lawr ar eu tiroedd. A dyna'n union wnaeth Israel yn y tir y daethon nhw i'w gymryd, sef y tir roddodd yr ARGLWYDD iddyn nhw.) “Wedyn dyma'r ARGLWYDD yn dweud, ‘Ewch yn eich blaenau, a croesi Wadi Sered.’ A dyna wnaethon ni. “Felly roedd tri deg wyth mlynedd wedi mynd heibio rhwng cyrraedd Cadesh-barnea y tro cyntaf, a chroesi'r Wadi Sered. Erbyn hynny roedd y genhedlaeth gyfan o filwyr oedd yn Cadesh wedi marw, fel roedd yr ARGLWYDD wedi addo ar lw. Yn wir, yr ARGLWYDD ei hun oedd wedi cael gwared â nhw, a gwneud yn siŵr eu bod nhw i gyd wedi mynd. Felly, pan oedd yr olaf o'r milwyr hynny wedi marw, dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, ‘Heddiw dych chi'n mynd i groesi tir Moab, wrth Ar. Pan ddowch chi at dir pobl Ammon, peidiwch tarfu arnyn nhw ychwaith na dechrau ymladd gyda nhw. Dw i ddim am roi eu tir nhw i chi o gwbl. Dw i wedi ei roi e iddyn nhw, sy'n ddisgynyddion i Lot.’” (Roedd y tir yma hefyd yn arfer perthyn i'r Reffaiaid. Nhw oedd yn byw yno'n wreiddiol. Enw pobl Ammon arnyn nhw oedd Samswmiaid — tyrfa fawr arall o gewri cryfion fel yr Anaciaid. Ond roedd yr ARGLWYDD wedi eu dinistrio nhw, ac roedd pobl Ammon wedi setlo i lawr ar eu tiroedd. A dyna'n union oedd wedi digwydd gyda disgynyddion Esau sy'n dal i fyw hyd heddiw yn ardal Seir. Roedd yr ARGLWYDD wedi dinistrio'r Horiaid oedd yn byw yno o'u blaenau nhw. A'r un fath gyda'r Afiaid oedd yn byw mewn pentrefi mor bell â Gasa yn y de. Y Philistiaid o ynys Creta wnaeth eu dinistrio nhw a setlo i lawr ar eu tiroedd.) “Wedyn dyma'r ARGLWYDD yn dweud, ‘Ewch yn eich blaenau, a croesi Ceunant Arnon. Dw i'n mynd i roi buddugoliaeth i chi dros Sihon yr Amoriad, brenin Cheshbon. Ewch i goncro ei dir! Ewch i ryfel yn ei erbyn! O heddiw ymlaen bydd pobl ym mhobman yn dychryn ac yn ofni pan fyddan nhw'n clywed amdanoch chi. Byddan nhw'n crynu mewn ofn wrth i chi ddod yn agos.’” “Pan oedden ni yn anialwch Cedemoth, dyma fi'n anfon negeswyr at y brenin Sihon yn Cheshbon, yn cynnig telerau heddwch. ‘Wnei di roi caniatâd i ni groesi dy dir di? Gwnawn ni aros ar y briffordd, a mynd yn syth trwodd. Gwnawn ni dalu am unrhyw fwyd neu ddŵr fyddwn ni ei angen. Dŷn ni ond am i ti adael i ni basio drwy'r wlad — fel gwnaeth disgynyddion Esau yn Seir a'r Moabiaid yn Ar. Yna byddwn ni'n croesi'r Afon Iorddonen i'r tir mae'r ARGLWYDD ein Duw yn ei roi i ni.’ “Ond doedd y Brenin Sihon o Cheshbon ddim yn fodlon gadael i ni groesi ei dir. Roedd yr ARGLWYDD wedi ei wneud yn galed ac ystyfnig, er mwyn i chi ei goncro. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, ‘Dw i'n rhoi Sihon a'i dir i chi. Ewch ati i gymryd y wlad drosodd.’ “Pan ddaeth Sihon a'i fyddin allan i ymladd yn ein herbyn yn Iahats, dyma'r ARGLWYDD ein Duw yn ein helpu ni i'w drechu. Cafodd Sihon, ei feibion, a'i fyddin i gyd eu lladd. Dyma ni'n concro a dinistrio'r trefi i gyd, a lladd pawb oedd yn byw ynddyn nhw — hyd yn oed gwragedd a phlant. Dim ond yr anifeiliaid, ac unrhyw beth arall oedd yn werthfawr, wnaethon ni ei gadw. Dyma'r ARGLWYDD ein Duw yn ein helpu i goncro pob tref o Aroer, ar ymyl Ceunant Arnon, a'r dref sydd yn y dyffryn ei hun, yr holl ffordd i Gilead yn y gogledd. Ond fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn, wnaethon ni ddim cymryd tir pobl Ammon, wrth ymyl Afon Jabboc, na'r trefi yn y bryniau. “Yna dyma ni'n troi i'r gogledd, ac yn mynd i gyfeiriad Bashan. A dyma Og brenin Bashan yn dod â'i fyddin gyfan i ymladd yn ein herbyn ni yn Edrei. Ond dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, ‘Paid bod â'i ofn. Dw i'n mynd i roi Og a'i fyddin a'i dir i gyd i ti. Byddi'n gwneud yr un fath iddo fe ag a wnest ti i Sihon brenin yr Amoriaid oedd yn byw yn Cheshbon.’ “A dyna wnaeth yr ARGLWYDD. Dyma ni'n taro Og, brenin Bashan a'i fyddin i gyd — cawson nhw i gyd eu lladd. Dyma ni'n concro pob un o'i drefi — chwe deg ohonyn nhw — i gyd yn ardal Argob. Roedden nhw i gyd yn gaerau amddiffynnol gyda waliau uchel a giatiau dwbl gyda barrau i'w cloi. Ac roedd llawer iawn o bentrefi agored hefyd. Dyma ni'n gwneud yn union yr un fath ag a wnaethon ni i drefi Sihon, brenin Cheshbon — eu dinistrio nhw i gyd, a lladd pawb oedd yn byw ynddyn nhw, hyd yn oed gwragedd a phlant. Ond dyma ni'n cadw'r anifeiliaid ac unrhyw beth arall oedd yn werthfawr. “Dyna pryd gwnaethon ni gymryd tir dau frenin yr Amoriaid, yr ochr draw i'r Iorddonen — o Geunant Arnon yn y de yr holl ffordd i Fynydd Hermon yn y gogledd. (Sirion ydy enw pobl Sidon ar Hermon, ac mae'r Amoriaid yn ei alw yn Senir.) Roedden ni wedi concro trefi'r byrdd-dir, Gilead i gyd a Bashan yr holl ffordd i drefi Salca ac Edrei, oedd yn perthyn i deyrnas Og. (Og, brenin Bashan, oedd yr unig un o'r Reffaiaid oedd yn dal ar ôl. Roedd ei arch yn bedwar metr o hyd, a bron dau fetr o led, ac wedi ei gwneud o garreg basalt du. Gellir ei gweld yn Rabba, prif dref yr Ammoniaid.) “Felly dyma'r tir wnaethon ni ei gymryd i'r dwyrain o Afon Iorddonen. Dyma fi'n rhoi'r tir sydd i'r gogledd o Aroer, ar ymyl Ceunant Arnon, a hanner bryniau Gilead i lwythau Reuben a Gad. Wedyn dyma fi'n rhoi gweddill Gilead a teyrnas Og, sef Bashan, i hanner llwyth Manasse. (Roedd ardal Argob i gyd, sef Bashan, yn arfer cael ei alw yn Wlad y Reffaiaid. Dyma Jair o lwyth Manasse, yn cymryd ardal Argob, sef Bashan. Mae'r ardal yn ymestyn at y ffin gyda Geshwr a Maacha. Rhoddodd ei enw ei hun ar yr ardal — Hafoth-jair — a dyna'r enw ar yr ardal hyd heddiw.) “Dyma fi'n rhoi Gilead i ddisgynyddion Machir, mab Manasse. “Yna i lwythau Reuben a Gad dyma fi'n rhoi'r tir sy'n ymestyn o Gilead i Geunant Arnon (Ceunant Arnon oedd y ffin), ac ymlaen at Wadi Jabboc a ffin Ammon. “Y ffin i'r gorllewin oedd Afon Iorddonen, o Lyn Galilea i lawr i'r Môr Marw gyda llethrau Pisga i'r dwyrain. Bryd hynny dyma fi'n dweud wrthoch chi, ‘Mae'r ARGLWYDD eich Duw wedi rhoi'r tir yma i chi. Ond rhaid i'ch milwyr chi groesi o flaen gweddill pobl Israel, yn barod i ymladd. Bydd eich gwragedd a'ch plant, yn cael aros yn y trefi dw i wedi eu rhoi i chi. A'r holl anifeiliaid sydd gynnoch chi hefyd (mae gynnoch chi lawer iawn o wartheg). Wedyn bydd eich dynion yn cael dod yn ôl pan fydd yr ARGLWYDD wedi rhoi buddugoliaeth i weddill pobl Israel, fel y gwnaeth gyda chi. Hynny ydy, pan fyddan nhw wedi cymryd drosodd y tir mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei roi iddyn nhw yr ochr draw i Afon Iorddonen.’ “A dyma fi'n dweud wrth Josua, ‘Dych chi wedi gweld beth wnaeth yr ARGLWYDD i'r ddau frenin yna. Bydd yn gwneud yr un fath i'r teyrnasoedd lle dych chi'n mynd. Peidiwch bod ag ofn. Bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn ymladd drosoch chi.’ “A dyma fi'n pledio ar yr ARGLWYDD, ‘O Feistr, ARGLWYDD, dw i'n dechrau gweld mor fawr ac mor gryf wyt ti! Oes yna dduw arall yn y nefoedd neu ar y ddaear sy'n gallu gwneud pethau mor anhygoel? Plîs, wnei di adael i mi groesi dros yr Afon Iorddonen i weld y tir da sydd yr ochr arall? — y bryniau hyfryd a mynyddoedd Libanus.’ “Ond roedd yr ARGLWYDD yn wyllt hefo fi o'ch achos chi. Doedd e ddim yn fodlon gwrando. Dyma fe'n dweud, ‘Dyna ddigon! Dw i eisiau clywed dim mwy am y peth. Cei ddringo i ben Mynydd Pisga, ac edrych ar y wlad i bob cyfeiriad, ond dwyt ti ddim yn mynd i gael croesi dros yr Iorddonen. Dw i eisiau i ti gomisiynu Josua, a'i annog a rhoi hyder iddo. Fe ydy'r un sy'n mynd i arwain y bobl yma drosodd i gymryd y wlad fyddi di'n ei gweld o dy flaen di.’ “Felly dyma ni'n aros yn y dyffryn gyferbyn â Beth-peor. “Bobl Israel, dw i eisiau i chi wrando'n ofalus ar y rheolau a'r canllawiau dw i'n ei gosod i chi, er mwyn i chi gael byw a mynd i mewn i gymryd y wlad mae'r ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, yn ei rhoi i chi. Peidiwch ychwanegu dim, na chymryd dim i ffwrdd. Gorchmynion yr ARGLWYDD eich Duw ydyn nhw, felly cadwch nhw! Gwelsoch beth wnaeth yr ARGLWYDD yn Baal-peor. Lladdodd yr ARGLWYDD bawb wnaeth addoli duw Baal-peor. Ond mae pawb ohonoch chi wnaeth aros yn ffyddlon i'r ARGLWYDD eu Duw, yn dal yn fyw. Gwrandwch, dw i'n dysgu i chi'r rheolau a'r canllawiau mae Duw wedi eu rhoi i mi, er mwyn i chi eu cadw nhw yn y wlad dych chi'n mynd iddi i'w chymryd drosodd. Felly, cadwch nhw. Dilynwch nhw. A pan fydd pobl yn dysgu amdanyn nhw, byddan nhw'n dweud, ‘Mae'n wir, mae pobl y wlad yma yn ddoeth a deallus.’ “Pa genedl arall sydd â duw sydd mor agos atyn nhw? Mae'r ARGLWYDD ein Duw yna bob tro dŷn ni'n galw arno. A pa wlad arall sydd â rheolau a chanllawiau mor deg â'r casgliad yma o gyfreithiau dw i'n eu rhannu gyda chi heddiw? “Ond dw i'n dweud eto, dw i eisiau i chi wrando'n ofalus. Peidiwch anghofio beth dych chi wedi ei weld. Peidiwch anghofio nhw tra byddwch chi byw. Dysgwch nhw i'ch plant a'ch wyrion a'ch wyresau. Pan oeddech chi'n sefyll o flaen yr ARGLWYDD eich Duw wrth droed Mynydd Sinai, dyma fe'n dweud wrtho i, ‘Casgla'r bobl at ei gilydd, i mi rannu gyda nhw beth dw i eisiau ei ddweud. Wedyn byddan nhw'n dangos parch ata i, tra byddan nhw'n byw yn y wlad, ac yn dysgu eu plant i wneud yr un fath.’ “Dyma chi'n dod i sefyll wrth droed y mynydd oedd yn llosgi'n dân. Roedd fflamau yn codi i fyny i'r awyr, a chymylau o fwg tywyll, trwchus. Yna dyma'r ARGLWYDD yn siarad â chi o ganol y tân. Roeddech chi'n clywed y llais yn siarad, ond yn gweld neb na dim. A dyma fe'n dweud wrthoch chi beth oedd yr ymrwymiad roedd e am i chi ei wneud — y Deg Gorchymyn. A dyma fe'n eu hysgrifennu nhw ar ddwy lechen garreg. Dyna hefyd pryd wnaeth yr ARGLWYDD orchymyn i mi ddysgu rheolau a canllawiau eraill i chi eu dilyn yn y wlad dych chi'n mynd drosodd i'w chymryd. Ond byddwch yn ofalus! Wnaethoch chi ddim gweld neb pan oedd yr ARGLWYDD yn siarad â chi o ganol y tân ar Fynydd Sinai. Felly peidiwch sbwylio popeth drwy gerfio rhyw fath o ddelw — o ddyn neu ferch, anifail, aderyn, ymlusgiad, neu bysgodyn. Wrth edrych i'r awyr ar yr haul, y lleuad a'r sêr i gyd, peidiwch cael eich temtio i'w haddoli nhw. Mae'r ARGLWYDD eich Duw wedi eu rhoi nhw i bawb drwy'r byd i gyd. Ond mae wedi eich dewis chi, a'ch arwain chi allan o ffwrnais haearn gwlad yr Aifft, i fod yn bobl sbesial iddo — a dyna ydych chi! “Ond wedyn roedd yr ARGLWYDD wedi digio hefo fi o'ch achos chi. Dwedodd wrtho i na fyddwn i byth yn cael croesi'r Afon Iorddonen a mynd i mewn i'r wlad dda mae e ar fin ei rhoi i chi. Dyma ble bydda i'n marw. Ond dych chi'n mynd i groesi'r Iorddonen a chymryd y tir da yna. Gwnewch yn siŵr na fyddwch chi'n anghofio'r ymrwymiad mae'r ARGLWYDD eich Duw wedi ei wneud gyda chi. Peidiwch cerfio delw o unrhyw fath — mae e wedi dweud yn glir na ddylech chi wneud peth felly. Tân sy'n difa ydy Duw! Mae'n Dduw eiddigeddus! Pan fyddwch chi wedi bod yn y wlad am amser hir, ac wedi cael plant ac wyrion ac wyresau, peidiwch gwneud drwg i'ch hunain drwy gerfio delw o ryw fath. A peidiwch gwneud pethau drwg eraill sy'n pryfocio'r ARGLWYDD eich Duw. Dw i'n galw'r nefoedd a'r ddaear yn dystion yn eich erbyn chi — os gwnewch chi hynny byddwch chi'n cael eich taflu allan o'r tir yna dych chi ar fin croesi'r Afon Iorddonen i'w gymryd drosodd. Fyddwch chi ddim yn para'n hir yna, achos byddwch yn cael eich dinistrio'n llwyr! Bydd yr ARGLWYDD yn eich gyrru chi ar chwâl drwy'r gwledydd i gyd, a dim ond criw bach ohonoch chi fydd ar ôl. A byddwch chi'n addoli duwiau wedi eu gwneud gan bobl — delwau o bren a charreg sydd ddim yn gallu gweld, clywed, bwyta nac arogli! “Ond os gwnewch chi droi at yr ARGLWYDD yno, a hynny o ddifrif — â'ch holl galon, ac â'ch holl enaid — byddwch yn dod o hyd iddo. Yng nghanol eich holl drybini, pan fydd y pethau yma'n digwydd rywbryd yn y dyfodol, os gwnewch chi droi yn ôl at yr ARGLWYDD eich Duw a bod yn ufudd iddo, fydd e ddim yn eich siomi chi. Mae e'n Dduw trugarog. Fydd e ddim yn eich dinistrio chi, am ei fod yn gwrthod anghofio'r ymrwymiad hwnnw wnaeth e gyda'ch hynafiaid chi. Gwnaeth e addo ar lw iddyn nhw. “Edrychwch yn ôl dros hanes, o'r dechrau cyntaf pan wnaeth Duw greu pobl ar y ddaear yma. Holwch am unrhyw le drwy'r byd i gyd. Oes unrhyw beth fel yma wedi digwydd o'r blaen? Oes unrhyw un wedi clywed si am y fath beth? Oes unrhyw genedl arall wedi clywed llais Duw yn siarad â nhw o ganol y tân, fel gwnaethoch chi, ac wedi byw i adrodd yr hanes? Neu oes duw arall wedi mentro cymryd pobl iddo'i hun o ganol gwlad arall, gan gosbi, cyflawni gwyrthiau rhyfeddol, ac ymladd drostyn nhw gyda'i nerth rhyfeddol, a'r holl bethau dychrynllyd eraill welsoch chi'r ARGLWYDD eich Duw yn ei wneud drosoch chi yn yr Aifft? Mae wedi dangos i chi mai Un Duw sydd, a does dim un arall yn bod. Gadawodd i chi glywed ei lais o'r nefoedd, i'ch dysgu chi. Ac ar y ddaear dangosodd i chi y tân mawr, a siarad â chi o ganol hwnnw. Ac am ei fod wedi caru'ch hynafiaid chi, dewisodd fendithio eu disgynyddion. Defnyddiodd ei nerth ei hun i ddod â chi allan o'r Aifft, i chi gymryd tir pobloedd cryfach na chi oddi arnyn nhw. Daeth â chi yma heddiw i roi eu tir nhw i chi ei gadw. “Felly dw i eisiau i hyn i gyd gael ei argraffu ar eich meddwl chi — dw i eisiau i chi sylweddoli fod Duw yn Dduw yn y nefoedd uchod ac i lawr yma ar y ddaear. Does dim un arall yn bod! Rhaid i chi gadw'r gorchmynion a'r arweiniad dw i'n ei basio ymlaen i chi ganddo heddiw. Wedyn bydd pethau'n mynd yn dda i chi a'ch plant. A byddwch chi'n cael byw am amser hir iawn yn y tir mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei roi i chi i'w gadw.” Yna dyma Moses yn dewis tair tref i'r dwyrain o'r Afon Iorddonen yn drefi lloches. Byddai unrhyw un sy'n lladd person arall yn ddamweiniol, heb fwriadu unrhyw ddrwg iddo, yn gallu dianc am loches i un o'r trefi yma. Y tair tref oedd Betser, yn anialwch y byrdd-dir, i lwyth Reuben; Ramoth yn Gilead i lwyth Gad; a Golan yn Bashan i lwyth Manasse. Dyma'r gyfraith wnaeth Moses ei chyflwyno i bobl Israel — y gofynion, y rheolau a'r canllawiau roddodd e i bobl Israel ar ôl dod â nhw allan o wlad yr Aifft, pan oedden nhw'n dal ar ochr ddwyreiniol yr Afon Iorddonen. Roedden nhw yn y dyffryn gyferbyn â Beth-peor — sef yr ardal oedd yn arfer cael ei rheoli gan Sihon, brenin yr Amoriaid, oedd yn byw yn Cheshbon. Nhw wnaeth Moses a pobl Israel ymosod arnyn nhw pan ddaethon nhw allan o'r Aifft. Dyma nhw'n cymryd ei dir e, a tir Og, brenin Bashan — y ddau ohonyn nhw yn teyrnasu ar yr ardaloedd i'r dwyrain o'r Iorddonen. Roedd eu tiriogaeth yn ymestyn o dref Aroer, ar ymyl Ceunant Arnon, yr holl ffordd i Fynydd Hermon yn y gogledd. Roedd yn cynnwys ochr ddwyreiniol Dyffryn Iorddonen yr holl ffordd i'r Môr Marw o dan lethrau Mynydd Pisga. Dyma Moses yn galw pobl Israel at ei gilydd ac yn dweud wrthyn nhw: “Israel, gwrandwch ar y rheolau a'r canllawiau dw i'n ei rhoi i chi heddiw. Dw i eisiau i chi eu dysgu nhw, a'u cadw nhw. “Roedd yr ARGLWYDD ein Duw wedi gwneud ymrwymiad gyda ni wrth fynydd Sinai. Gwnaeth hynny nid yn unig gyda'n rhieni, ond gyda ni sy'n fyw yma heddiw. Siaradodd Duw gyda ni wyneb yn wyneb, o ganol y tân ar y mynydd. (Fi oedd yn sefyll yn y canol rhyngoch chi â'r ARGLWYDD, am fod gynnoch chi ofn, a ddim eisiau mynd yn agos ar y mynydd. Fi oedd yn dweud wrthoch chi beth oedd neges yr ARGLWYDD.) A dyma ddwedodd e: “‘Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi. Fi wnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft, lle roeddech chi'n gaethweision. Does dim duwiau eraill i fod gen ti, dim ond fi. Paid cerfio eilun i'w addoli — dim byd sy'n edrych fel unrhyw aderyn, anifail na physgodyn. Paid plygu i lawr a'u haddoli nhw. Dw i, yr ARGLWYDD dy Dduw di, yn Dduw eiddigeddus. Dw i'n cosbi pechodau'r rhieni sy'n fy nghasáu i, ac mae'r canlyniadau yn gadael eu hôl ar y plant am dair i bedair cenhedlaeth. Ond dw i'n dangos cariad di-droi-nôl, am fil o genedlaethau, at y rhai sy'n fy ngharu i ac yn gwneud beth dw i'n ddweud. Paid camddefnyddio enw'r ARGLWYDD dy Dduw. Fydda i ddim yn gadael i rywun sy'n camddefnyddio fy enw ddianc rhag cael ei gosbi. Cadw'r dydd Saboth yn sbesial, yn ddiwrnod cysegredig, gwahanol i'r lleill, fel mae'r ARGLWYDD dy Dduw wedi gorchymyn i ti. Gelli weithio ar y chwe diwrnod arall, a gwneud popeth sydd angen ei wneud. Mae'r seithfed diwrnod i'w gadw yn Saboth i'r ARGLWYDD. Does neb i fod i weithio ar y diwrnod yma — ti na dy feibion a dy ferched, dy weision na dy forynion chwaith; dim hyd yn oed dy ychen a dy asyn, nac unrhyw anifail arall; nac unrhyw fewnfudwr sy'n aros gyda ti. Mae'r gwas a'r forwyn i gael gorffwys fel ti dy hun. Cofia dy fod ti wedi bod yn gaethwas yn yr Aifft, a bod yr ARGLWYDD dy Dduw wedi defnyddio ei nerth rhyfeddol i dy achub di oddi yno; Dyna pam mae'r ARGLWYDD dy Dduw wedi gorchymyn i ti gadw'r dydd Saboth yn sbesial, Rhaid i ti barchu dy dad a dy fam, a byddi'n byw yn hir yn y wlad mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei rhoi i ti. Paid llofruddio. Paid godinebu. Paid dwyn. Paid rhoi tystiolaeth ffals yn erbyn rhywun. Paid chwennych gwraig rhywun arall. Paid chwennych ei dŷ na'i dir, na'i was, na'i forwyn, na'i darw, na'i asyn, na dim byd sydd gan rywun arall.’ “Dwedodd yr ARGLWYDD hyn i gyd wrth y bobl o ganol y tân, y cwmwl a'r tywyllwch ar y mynydd. A dyna'r cwbl wnaeth e ddweud. A dyma fe'n ysgrifennu'r geiriau ar ddwy lechen garreg, a'u rhoi nhw i mi.” “Yna pan glywsoch chi sŵn y llais yn dod o'r tywyllwch, a'r mynydd yn llosgi'n dân, dyma arweinwyr eich llwythau a'ch henuriaid yn dod ata i. Dyma nhw'n dweud, ‘Mae'r ARGLWYDD ein Duw wedi dangos ei ysblander rhyfeddol i ni, a dŷn ni wedi ei glywed e'n siarad o ganol y tân. Dŷn ni wedi gweld bod pobl ddim yn marw'n syth pan mae Duw yn siarad â nhw. Ond mae gynnon ni ofn i'r tân ofnadwy yma ein llosgi ni. Does gynnon ni ddim eisiau marw. Os byddwn ni'n dal i glywed llais yr ARGLWYDD ein Duw yn siarad gyda ni, byddwn ni'n siŵr o farw. Oes yna unrhyw un erioed wedi clywed llais y Duw byw yn siarad o ganol y tân, fel dŷn ni wedi gwneud, ac wedi byw wedyn? Dos di i wrando ar bopeth mae'r ARGLWYDD ein Duw yn ei ddweud, ac wedyn cei ddod yn ôl i ddweud wrthon ni. A byddwn ni'n gwneud popeth mae e'n ddweud.’ “Roedd yr ARGLWYDD wedi'ch clywed chi'n siarad hefo fi, a dyma fe'n dweud wrtho i, ‘Dw i wedi clywed beth mae'r bobl wedi ei ddweud wrthot ti. Maen nhw'n iawn. Piti na fydden nhw'n dangos yr un parch ata i bob amser, ac eisiau gwneud beth dw i'n ddweud. Byddai pethau'n mynd yn dda iddyn nhw wedyn ar hyd y cenedlaethau. Dos i ddweud wrthyn nhw am fynd yn ôl i'w pebyll. Ond aros di yma, i mi gael dweud wrthot ti beth ydy'r gorchmynion, y rheolau a'r canllawiau dw i am i ti eu dysgu iddyn nhw. Wedyn byddan nhw'n gallu byw felly yn y wlad dw i'n ei rhoi iddyn nhw.’ “Felly, gwnewch yn union fel mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ddweud. Peidiwch crwydro oddi wrth hynny o gwbl. Dych chi i fyw fel mae'r ARGLWYDD eich Duw wedi gorchymyn i chi, er mwyn i bethau fynd yn dda i chi, ac i chi gael byw yn hir yn y wlad dych chi'n mynd i'w chymryd. “Dyma'r gorchmynion, y rheolau a'r canllawiau roddodd yr ARGLWYDD eich Duw i mi i'w dysgu i chi, er mwyn i chi eu cadw nhw yn y wlad lle dych chi'n mynd. Byddwch chi'n dangos parch at yr ARGLWYDD eich Duw drwy gadw ei reolau a'i orchmynion — chi, eich plant, a'ch wyrion a'ch wyresau. Cadwch nhw tra byddwch chi byw, a cewch fyw yn hir. Gwrandwch yn ofalus, bobl Israel! Os gwnewch chi hyn bydd pethau'n mynd yn dda i chi. Bydd eich niferoedd chi'n tyfu'n aruthrol, ac fel gwnaeth yr ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, addo i chi, bydd gynnoch chi wlad ffrwythlon lle mae llaeth a mêl yn llifo. “Gwranda Israel! Yr ARGLWYDD ein Duw ydy'r unig ARGLWYDD. Rwyt i garu'r ARGLWYDD dy Dduw â'th holl galon, ac â'th holl enaid a dy holl nerth. “Paid anghofio'r pethau dw i'n eu gorchymyn i ti heddiw. Rwyt i'w dysgu'n gyson i dy blant, a'i trafod nhw pan fyddi adre yn y tŷ ac i ffwrdd oddi cartref, pan fyddi'n mynd i gysgu ac yn codi yn y bore. Rhwyma nhw ar dy freichiau i dy atgoffa di, a gwisga nhw ar dy dalcen i'w cofio. Ysgrifenna nhw ar ffrâm drws dy dŷ, ac ar giatiau'r dref. “Roedd yr ARGLWYDD wedi addo rhoi gwlad i'ch hynafiaid, Abraham, Isaac a Jacob — lle mae dinasoedd mawr hardd wnaethoch chi ddim eu hadeiladu; tai yn llawn pethau wnaethoch chi mo'i casglu; pydewau wnaethoch chi ddim eu cloddio; gwinllannoedd a choed olewydd wnaethoch chi mo'i plannu. Digon i'w fwyta! Pan fydd yr ARGLWYDD yn dod â chi i'r wlad yna, peidiwch anghofio'r ARGLWYDD wnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft, lle roeddech chi'n gaethweision. Rhaid i chi barchu'r ARGLWYDD eich Duw, a'i wasanaethu e, a defnyddio ei enw e'n unig i dyngu llw. Peidiwch addoli duwiau'r bobl o'ch cwmpas chi. Cofiwch fod yr ARGLWYDD eich Duw, sydd gyda chi, yn Dduw eiddigeddus. Bydd e'n digio gyda chi ac yn eich gyrru chi allan o'r wlad. “Paid rhoi'r ARGLWYDD dy Dduw ar brawf, fel y gwnest ti yn Massa. Gwnewch yn union beth mae'n ei orchymyn i chi, cadw ei ofynion a dilyn ei ganllawiau. [18-19] Gwnewch beth sy'n iawn yn ei olwg, a bydd pethau'n mynd yn dda i chi. Bydd yr ARGLWYDD yn gyrru'ch gelynion chi allan a byddwch yn cymryd drosodd y wlad dda wnaeth Duw addo i'ch hynafiaid y byddai'n ei rhoi i chi. *** Yna pan fydd eich plant yn gofyn i chi, ‘Pam wnaeth Duw roi'r gofynion a'r rheolau a'r canllawiau yma i ni?’ atebwch, ‘Roedden ni'n gaethweision y Pharo yn yr Aifft, ond dyma'r ARGLWYDD yn defnyddio ei nerth rhyfeddol i ddod â ni allan o'r Aifft. Gwelon ni e'n gwneud pethau ofnadwy i wlad yr Aifft ac i'r Pharo a'i deulu — gwyrthiau rhyfeddol. Gollyngodd ni'n rhydd er mwyn rhoi i ni'r wlad roedd e wedi ei haddo i'n hynafiaid. Dwedodd wrthon ni am gadw'r rheolau yma i gyd, a'i barchu e, er mwyn i bethau fynd yn dda i ni, ac iddo'n cadw ni'n fyw fel mae wedi gwneud hyd heddiw. Bydd pethau'n iawn gyda ni os gwnawn ni gadw'r gorchmynion yma fel mae'r ARGLWYDD wedi gofyn i ni wneud.’ “Bydd yr ARGLWYDD yn eich helpu chi i gymryd y tir oddi ar saith grŵp o bobl sy'n gryfach na chi — yr Hethiaid, Girgasiaid, Amoriaid, Canaaneaid, Peresiaid, Hefiaid a'r Jebwsiaid. Bydd e'n eu gyrru nhw i gyd allan o'ch blaen chi. Bydd e'n rhoi'r gallu i chi eu concro nhw, ac mae'n rhaid i chi eu dinistrio nhw'n llwyr. Peidiwch gwneud cytundeb heddwch gyda nhw, a peidiwch dangos unrhyw drugaredd. Peidiwch gadael i'ch plant eu priodi nhw, rhag i'ch plant droi cefn ar yr ARGLWYDD, ac addoli duwiau eraill. Wedyn byddai'r ARGLWYDD yn gwylltio gyda chi, ac yn eich dinistrio chi'n llwyr! Na, rhaid i chi chwalu eu hallorau paganaidd nhw, malu'r colofnau cysegredig, torri polion y dduwies Ashera i lawr, a llosgi eu delwau nhw. Dych chi'n bobl sydd wedi eich cysegru i'r ARGLWYDD eich Duw. O bob cenedl ar wyneb y ddaear, mae wedi eich dewis chi yn drysor sbesial iddo'i hun. Wnaeth e ddim eich dewis chi am fod mwy ohonoch chi na'r bobloedd eraill i gyd — roedd llai ohonoch chi os rhywbeth! Na, dewisodd yr ARGLWYDD chi am ei fod wedi'ch caru chi, ac am gadw'r addewid wnaeth e i'ch hynafiaid chi. Dyna pam wnaeth e ddefnyddio'i rym i'ch gollwng chi'n rhydd o fod yn gaethweision i'r Pharo, brenin yr Aifft. Felly peidiwch anghofio mai'r ARGLWYDD eich Duw chi ydy'r unig dduw go iawn. Mae e'n Dduw ffyddlon, a bydd e bob amser yn cadw'r ymrwymiad mae wedi ei wneud i'r rhai sy'n ei garu ac yn gwneud beth mae e'n ddweud. Ond mae'n talu'n ôl i'r bobl hynny sy'n ei gasáu, drwy roi iddyn nhw beth maen nhw'n ei haeddu. Felly gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cadw'r gorchmynion, y canllawiau a'r rheolau dw i'n eu rhoi i chi heddiw. “Os gwnewch chi wrando ar y canllawiau yma, bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn cadw'r ymrwymiad hael wnaeth gyda chi, fel gwnaeth e addo i'ch hynafiaid. Bydd e'n eich caru a'ch bendithio chi, ac yn rhoi lot o blant i chi. Bydd eich cnydau'n llwyddo, yr ŷd, y sudd grawnwin a'r olewydd; bydd eich gwartheg yn cael lloi, a'ch preiddiau yn cael lot o rai bach. Byddwch yn cael eich bendithio fwy nag unrhyw wlad arall — bydd eich teuluoedd yn tyfu, a bydd nifer eich anifeiliaid yn cynyddu. Bydd yr ARGLWYDD yn eich amddiffyn rhag salwch, a fyddwch chi ddim yn dioddef o'r heintiau wnaeth daro'r Aifft. Eich gelynion fydd yn dioddef o'r pethau yna. “Rhaid i chi ddinistrio'r bobl fydd yr ARGLWYDD yn eich galluogi chi i'w concro nhw. Peidiwch teimlo trueni drostyn nhw, a peidiwch addoli eu duwiau, neu bydd hi ar ben arnoch chi. Falle dy fod yn gofyn, ‘Sut ydyn ni'n mynd i lwyddo i gymryd tir y bobloedd yma? — mae mwy ohonyn nhw nag sydd ohonon ni!’ Peidiwch poeni! Cofiwch beth wnaeth yr ARGLWYDD i'r Pharo ac i wlad yr Aifft. Defnyddiodd ei rym a'i nerth, a gwneud gwyrthiau rhyfeddol i ddod â chi allan o'r Aifft. A bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn gwneud yr un fath eto i'r bobl yma dych chi'n eu hofni. Bydd e'n achosi panig llwyr yn eu plith nhw. Bydd rhai yn ceisio cuddio oddi wrthoch chi, ond byddan nhw i gyd yn cael eu lladd yn y diwedd. “Peidiwch bod ag ofn. Mae'r ARGLWYDD eich Duw gyda chi, ac mae e'n Dduw mawr a rhyfeddol. Bydd e, y Duw sy'n eich arwain chi, yn eu gyrru nhw i ffwrdd o dipyn i beth. Fydd e ddim yn gadael i chi gael gwared â nhw i gyd ar unwaith, neu fyddai dim digon o bobl yna i gadw niferoedd yr anifeiliaid gwylltion i lawr. Bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn eich galluogi chi i'w concro nhw. Bydd e'n achosi iddyn nhw banicio, nes byddan nhw i gyd wedi eu lladd. Byddwch chi'n dal eu brenhinoedd nhw, ac yn eu lladd. Fydd neb yn cofio eu bod nhw wedi byw erioed! Llosgwch y delwau o'u duwiau nhw. Peidiwch hyd yn oed cadw'r aur sy'n eu gorchuddio nhw, rhag i chi gael eich trapio ganddo. Mae'r pethau yma yn hollol ffiaidd gan yr ARGLWYDD eich Duw. Peidiwch mynd â dim byd felly i'ch tai, neu byddwch chi dan felltith fel y peth ffiaidd ei hun! Rhaid i chi ei ffieiddio a'i wrthod fel rhywbeth mae'r ARGLWYDD eisiau ei ddinistrio. “Rhaid i chi gadw'r gorchmynion yma dw i'n eu rhoi i chi heddiw. Os gwnewch chi hynny, cewch fyw, bydd eich niferoedd chi'n tyfu, a chewch fynd i mewn i'r wlad wnaeth yr ARGLWYDD addo ei rhoi i'ch hynafiaid chi. “Peidiwch anghofio'r blynyddoedd dych chi wedi eu treulio yn yr anialwch. Roedd yr ARGLWYDD yn eich dysgu chi a'ch profi chi, i weld os oeddech chi wir yn mynd i wneud beth roedd e'n ddweud. Profodd chi drwy wneud i chi fynd heb fwyd, ac wedyn eich bwydo chi gyda'r manna (oedd yn brofiad dieithr iawn!) Roedd e eisiau i chi ddeall mai nid bwyd ydy'r unig beth mae pobl angen i fyw. Maen nhw angen gwrando ar bopeth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud. Am bedwar deg o flynyddoedd wnaeth eich dillad chi ddim treulio, a wnaeth eich traed chi ddim chwyddo. “Dw i eisiau i chi ddeall fod yr ARGLWYDD eich Duw yn eich disgyblu chi fel mae rhieni yn disgyblu eu plentyn. Felly gwnewch beth mae e'n ddweud, byw fel mae e eisiau i chi fyw, a'i barchu. Mae'r ARGLWYDD eich Duw yn mynd â chi i wlad dda, sy'n llawn nentydd, ffynhonnau a ffrydiau o ddŵr yn llifo rhwng y bryniau. Gwlad lle mae digon o ŷd a haidd, gwinwydd, coed ffigys, pomgranadau, ac olewydd, a mêl hefyd. Felly fyddwch chi byth yn brin o fwyd yno. Ac mae digon o fwynau i'w cloddio o'r tir — haearn a chopr. Bydd gynnoch chi fwy na digon i'w fwyta, a byddwch yn moli'r ARGLWYDD eich Duw am roi gwlad mor dda i chi. “Gwnewch yn siŵr na fyddwch chi'n anghofio'r ARGLWYDD, ac yn peidio cadw'r gorchmynion, y canllawiau a'r rheolau dw i'n eu rhoi i chi heddiw. Pan fydd gynnoch chi fwy na digon i'w fwyta, tai braf i fyw ynddyn nhw, mwy o wartheg, defaid a geifr, digon o arian ac aur — yn wir, digon o bopeth — gwyliwch rhag i chi droi'n rhy hunanfodlon, ac anghofio'r ARGLWYDD eich Duw, wnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft, lle roeddech chi'n gaethweision. Daeth yr ARGLWYDD a chi drwy'r anialwch mawr peryglus yna, oedd yn llawn nadroedd gwenwynig a sgorpionau. Roedd yn dir sych lle doedd dim dŵr, ond dyma'r ARGLWYDD yn hollti craig, a gwneud i ddŵr bistyllio allan i chi ei yfed. Rhoddodd fanna i chi ei fwyta (profiad dieithr i'ch hynafiaid chi) er mwyn eich dysgu chi a'ch profi chi, a gwneud lles i chi yn y diwedd. Gwyliwch rhag i chi ddechrau meddwl, ‘Fi fy hun sydd wedi ennill y cyfoeth yma i gyd.’ Cofiwch mai'r ARGLWYDD eich Duw ydy'r un sy'n rhoi'r gallu yma i chi. Os cofiwch chi hynny, bydd e'n cadarnhau yr ymrwymiad wnaeth e ar lw i'ch hynafiaid chi. Mae wedi gwneud hynny hyd heddiw. “Ond rhaid i mi eich rhybuddio chi — os gwnewch chi anghofio'r ARGLWYDD, a mynd ar ôl duwiau eraill i'w haddoli nhw, bydd e'n eich dinistrio chi! Bydd yr un peth yn digwydd i chi ag sy'n mynd i ddigwydd i'r gwledydd dych chi ar fin ymladd yn eu herbyn nhw. “Gwranda Israel! Rwyt ti ar fin croesi'r afon Iorddonen i gymryd tir y bobloedd sy'n byw yna oddi arnyn nhw — pobloedd sy'n gryfach na chi, ac yn byw mewn trefi mawrion gyda waliau amddiffynnol uchel iawn. Mae'n cynnwys disgynyddion Anac — mae tyrfa fawr ohonyn nhw, sy'n bobl anferth, a dych chi'n gwybod beth sy'n cael ei ddweud amdanyn nhw, ‘Pa obaith sydd gan unrhyw un yn erbyn yr Anaciaid!’ Wel, dw i eisiau i chi ddeall fod yr ARGLWYDD eich Duw fel tân sy'n difa popeth o'i flaen. Bydd e'n eu trechu nhw. Byddwch chi'n cymryd eu tir nhw, ac yn eu dinistrio nhw yn gyflym iawn, fel mae wedi dweud. “Ond ar ôl i'r ARGLWYDD eu gyrru nhw allan o'ch blaenau chi, peidiwch meddwl am funud ei fod e'n rhoi'r tir i chi am eich bod chi'n bobl mor dda! Na, mae e'n gyrru'r bobloedd yma allan o'ch blaenau chi am eu bod nhw'n gwneud pethau mor ddrwg. Does gan y peth ddim byd i'w wneud â'ch daioni chi a'ch moesoldeb chi. Na, y ffaith fod y bobl sy'n byw yna mor ddrwg sy'n cymell yr ARGLWYDD eich Duw i'w gyrru nhw allan o'ch blaenau chi, a hefyd ei fod am gadw'r addewid wnaeth e i'ch hynafiaid chi, i Abraham, Isaac a Jacob. Felly dw i eisiau i chi ddeall fod yr ARGLWYDD ddim yn rhoi'r tir da yma i chi am eich bod chi'n bobl dda. Dych chi'n bobl benstiff! “Cofiwch — peidiwch byth anghofio — sut wnaethoch chi ddigio'r ARGLWYDD eich Duw pan oeddech chi yn yr anialwch. Dych chi ddim wedi stopio gwrthryfela yn ei erbyn ers y diwrnod daethoch chi allan o'r Aifft. Roeddech wedi ei ddigio yn Sinai, ac roedd yn mynd i'ch dinistrio chi. Pan es i i fyny'r mynydd i dderbyn y llechi carreg, sef llechi ymrwymiad yr ARGLWYDD i chi, dyma fi'n aros yno nos a dydd am bedwar deg diwrnod, heb fwyta nac yfed o gwbl. A dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r ddwy lechen garreg i mi, gydag ysgrifen Duw ei hun arnyn nhw. Y Deg Gorchymyn roedd e wedi eu rhoi i chi o ganol y tân ar y mynydd, pan oeddech chi wedi casglu at eich gilydd. “Ar ddiwedd y cyfnod o bedwar deg diwrnod dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r ddwy lechen garreg i mi, llechi'r ymrwymiad. Yna dwedodd, ‘Dos yn ôl i lawr ar unwaith, mae'r bobl wnest ti eu harwain allan o'r Aifft wedi pechu! Maen nhw wedi troi cefn ar y ffordd wnes i ei rhoi iddyn nhw'n barod, ac wedi gwneud delw o fetel tawdd.’ “Yna dyma fe'n dweud wrtho i, ‘Dw i wedi bod yn gwylio'r bobl yma — maen nhw'n griw penstiff! Gad lonydd i mi, i mi gael gwared â nhw'n llwyr! Fydd neb yn cofio pwy oedden nhw! A bydda i'n dy wneud di yn genedl gryfach a mwy na nhw.’ “Felly dyma fi'n mynd yn ôl i lawr y mynydd tra roedd yn llosgi'n dân, gyda'r ddwy lechen yn fy nwylo. A dyma fi'n gweld eich bod chi wedi pechu go iawn yn erbyn yr ARGLWYDD a gwneud eilun ar siâp tarw ifanc. Roeddech chi wedi troi i ffwrdd mor sydyn oddi wrth beth oedd e'n ei ofyn gynnoch chi! Felly dyma fi'n codi'r ddwy lechen, a'u taflu nhw ar lawr, a dyma nhw'n torri'n ddarnau yno o flaen eich llygaid chi. “Yna dyma fi'n mynd ar lawr o flaen yr ARGLWYDD nos a dydd am bedwar deg diwrnod arall. Wnes i fwyta nac yfed dim byd o achos eich pechod chi, yn gwneud peth mor ofnadwy i bryfocio'r ARGLWYDD. Roedd gen i wir ofn fod yr ARGLWYDD wedi digio mor ofnadwy hefo chi y byddai e'n eich dinistrio chi'n llwyr. Ond dyma fe'n gwrando arna i unwaith eto. “Roedd yr ARGLWYDD wedi gwylltio gydag Aaron hefyd, ac yn mynd i'w ladd, ond dyma fi'n gweddïo drosto fe hefyd. Yna dyma fi'n cymryd y tarw ifanc roeddech chi wedi pechu drwy ei wneud, ei doddi yn y tân ac yna ei falu nes ei fod yn fân fel llwch, cyn taflu'r llwch i'r nant oedd yn rhedeg i lawr y mynydd. “A dyma chi'n digio'r ARGLWYDD eto, yn Tabera, Massa a Cibroth-hattaäfa. A pan wnaeth e eich anfon chi o Cadesh-barnea, a dweud wrthoch chi, ‘Ewch, a chymryd y tir dw i wedi ei roi i chi,’ dyma chi'n tynnu'n groes i'r ARGLWYDD eto, a gwrthod ei gredu na gwneud beth roedd e'n ddweud. Dych chi wedi bod yn gwrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD o'r diwrnod cyntaf i mi eich nabod chi! “Bues i'n gorwedd ar fy ngwyneb ar lawr o flaen yr ARGLWYDD nos a dydd am bedwar deg diwrnod, am ei fod wedi dweud y byddai'n eich dinistrio chi. A dyma fi'n gweddïo, ‘O Feistr, ARGLWYDD, paid dinistrio dy bobl. Ti wedi defnyddio dy nerth rhyfeddol i'w gollwng nhw'n rhydd, a dod â nhw allan o'r Aifft. Cofia dy weision — Abraham, Isaac a Jacob. Paid cymryd sylw o'r bobl ystyfnig, ddrwg yma sy'n pechu yn dy erbyn. Does gen ti ddim eisiau i bobl yr Aifft ddweud, “Doedd yr ARGLWYDD ddim yn gallu mynd â'r bobl yma i'r wlad roedd e wedi ei haddo iddyn nhw. Aeth â nhw allan o'r Aifft am ei fod yn eu casáu nhw, ac am eu lladd nhw yn yr anialwch.” Dy bobl di ydyn nhw; dy eiddo sbesial di. Ti wedi defnyddio dy rym a'th nerth rhyfeddol i'w gollwng nhw'n rhydd.’ “Dyna pryd y dwedodd yr ARGLWYDD wrtho i, ‘Cerfia ddwy lechen garreg, fel y rhai cyntaf, a hefyd gwna gist o bren, yna tyrd i fyny'r mynydd ata i. Gwna i ysgrifennu ar y ddwy lechen yr union eiriau oedd ar y llechi cyntaf, y rhai wnest ti eu torri. Yna rhaid i ti eu rhoi nhw yn y gist.’ “Felly dyma fi'n gwneud cist o goed acasia, a cherfio dwy lechen garreg oedd yr un fath â'r rhai cyntaf. Wedyn dyma fi'n mynd i fyny'r mynydd yn cario'r ddwy lechen. A dyma'r ARGLWYDD yn ysgrifennu'r un geiriau ac o'r blaen ar y ddwy lechen, sef y Deg Gorchymyn. (Sef beth roedd e wedi ei ddweud wrthoch chi o ganol y tân ar y mynydd, pan oeddech chi wedi casglu at eich gilydd.) Yna dyma fe'n eu rhoi nhw i mi, a dyma fi'n mynd yn ôl i lawr o'r mynydd, a'u rhoi nhw yn y gist roeddwn i wedi ei gwneud. Maen nhw'n dal tu mewn i'r gist hyd heddiw. Dyna roedd yr ARGLWYDD wedi ei orchymyn. “(Teithiodd pobl Israel o ffynhonnau Bene-iacân i Mosera. Dyna pryd fuodd Aaron farw, a chael ei gladdu, a dyma'i fab Eleasar yn dod yn offeiriad yn ei le. Wedyn dyma nhw'n mynd ymlaen i Gwdgoda, ac yna i Iotbatha, lle roedd lot fawr o nentydd. A dyna pryd wnaeth yr ARGLWYDD ddewis llwyth Lefi i gario Arch ymrwymiad yr ARGLWYDD, ac i'w wasanaethu fel offeiriaid a bendithio'r bobl ar ei ran. Ac maen nhw'n dal i wneud hynny hyd heddiw. A dyna pam nad oes gan lwyth Lefi dir, fel y llwythau eraill. Yr ARGLWYDD ei hun ydy eu siâr nhw, fel roedd yr ARGLWYDD wedi addo i Lefi.) “Dyma fi'n aros ar y mynydd fel y gwnes i y tro cyntaf, ddydd a nos am bedwar deg diwrnod. A dyma'r ARGLWYDD yn gwrando arno i eto, a penderfynu peidio'ch dinistrio chi. Dyma fe'n dweud wrtho i, ‘Dos, ac arwain y bobl yma i gymryd y tir wnes i ei addo i'w hynafiaid.’ “Nawr, bobl Israel, beth mae'r ARGLWYDD eich Duw eisiau i chi ei wneud? Mae e eisiau i chi ei barchu, byw fel mae e wedi gorchymyn i chi, ei garu, ei wasanaethu â'ch holl galon ac â'ch holl enaid, a chadw'r gorchmynion a'r arweiniad dw i'n eu pasio ymlaen i chi heddiw. Wedyn bydd pethau'n mynd yn dda i chi. Yr ARGLWYDD sydd piau popeth sy'n bodoli — y ddaear a'r cwbl sydd arni, a'r awyr, a hyd yn oed y nefoedd uchod. Ac eto, eich hynafiaid chi wnaeth e eu caru, a chi, eu disgynyddion, wnaeth e eu dewis. Felly newidiwch eich agwedd, a peidio bod mor benstiff! Mae'r ARGLWYDD eich Duw yn fwy pwerus na'r duwiau eraill i gyd, ac yn Feistr ar bob meistr arall. Fe ydy'r Duw mawr, cryf a rhyfeddol, sy'n ddiduedd, a byth yn derbyn breib. Mae e'n gwneud yn siŵr fod plant amddifad a gweddwon yn cael cyfiawnder, ac mae e'n caru'r mewnfudwyr, ac yn rhoi bwyd a dillad iddyn nhw. Felly dylech chithau hefyd ddangos cariad at fewnfudwyr, achos pobl o'r tu allan oeddech chi yng ngwlad yr Aifft. Rhaid i chi barchu'r ARGLWYDD eich Duw, ei wasanaethu, aros yn ffyddlon iddo, a defnyddio ei enw e'n unig i dyngu llw. Fe ydy'r un i'w foli. Fe ydy'ch Duw chi, yr un dych chi wedi ei weld yn gwneud pethau rhyfeddol ar eich rhan chi. Pan aeth eich hynafiaid i lawr i'r Aifft, dim ond saith deg ohonyn nhw oedd yna, ond bellach mae cymaint ohonoch chi ac sydd o sêr yn y nefoedd! “Rhaid i chi garu'r ARGLWYDD eich Duw, a gwneud beth mae e eisiau — cadw ei ganllawiau, ei reolau a'i orchmynion bob amser. Cofiwch mai nid gyda'ch plant chi dw i'n siarad, ond gyda chi sydd wedi gweld yr ARGLWYDD yn cosbi. Dych chi wedi gweld mor fawr a chryf a nerthol ydy e. Wnaeth eich plant ddim gweld y pethau ofnadwy wnaeth Duw i'r Pharo a'i bobl yn yr Aifft. Wnaethon nhw ddim gweld beth wnaeth e i fyddin yr Aifft, a'u ceffylau a'u cerbydau. Gwnaeth i'r Môr Coch lifo drostyn nhw a'u boddi nhw pan oedden nhw'n ceisio'ch dal chi. Wnaethon nhw ddim gweld beth wnaeth e i chi yn yr anialwch cyn i chi gyrraedd yma. Gwnaeth yr ARGLWYDD i'r ddaear agor yng nghanol y gwersyll, a dyma Dathan ac Abiram (meibion Eliab o lwyth Reuben), a'u teuluoedd a'u pebyll a'u hanifeiliaid i gyd, yn cael eu llyncu gan y ddaear. Gyda chi dw i'n siarad, am mai chi welodd yr pethau mawr yma wnaeth yr ARGLWYDD. “Felly gwrandwch yn ofalus ar y gorchmynion dw i'n eu rhoi i chi heddiw. Wedyn byddwch chi'n gallu mynd i mewn a chymryd y tir wnaeth yr ARGLWYDD ei addo i'ch hynafiaid chi. Mae'n dir ffrwythlon — tir lle mae llaeth a mêl yn llifo. Dydy e ddim yr un fath â'r tir yn yr Aifft o'r lle daethoch chi. Yno roeddech chi'n hau yr had, ac yn gorfod gweithio'n galed i'w ddyfrio, fel gardd lysiau. Na, mae'r wlad dych chi'n croesi'r Afon Iorddonen i'w chymryd, yn wlad o fryniau a dyffrynnoedd, a'r tir yn cael ei ddyfrio gan y glaw sy'n disgyn o'r awyr. Tir mae'r ARGLWYDD eich Duw yn gofalu amdano, o ddechrau'r flwyddyn i'w diwedd. “Os gwnewch chi wrando'n ofalus ar y gorchmynion dw i'n eu rhoi i chi heddiw, a caru'r ARGLWYDD eich Duw â'ch holl galon ac â'ch holl enaid, mae e'n addo ‘Bydda i'n anfon glaw ar y tir ar yr amser iawn, sef yn yr hydref a'r gwanwyn, er mwyn i chi gasglu'ch cnydau o ŷd a grawnwin ac olewydd. Bydda i'n rhoi porfa i'ch anifeiliaid, a digonedd o fwyd i chi ei fwyta.’ “Gwnewch yn siŵr eich bod chi ddim yn troi cefn arno a dechrau addoli duwiau eraill! Os gwnewch chi hynny bydd yr ARGLWYDD yn digio'n lân hefo chi, ac yn gwneud iddi stopio glawio. Fydd dim cnydau'n tyfu, a byddwch chi'n cael eich symud o'r tir da mae'r ARGLWYDD ar fin ei roi i chi. “Felly dysga'r gorchmynion yma ar dy gof. Rhwyma nhw ar dy freichiau i dy atgoffa di, a gwisga nhw ar dy dalcen i'w cofio. Dysga nhw'n gyson i dy blant, a'i trafod nhw pan fyddi adre yn y tŷ, ac i ffwrdd oddi cartref, pan fyddi'n mynd i gysgu, ac yn codi yn y bore. Ysgrifenna nhw ar ffrâm drws dy dŷ, ac ar giatiau'r dref. Os gwnei di hynny byddi di a dy ddisgynyddion yn aros yn y wlad wnaeth yr ARGLWYDD ei haddo i dy hynafiaid am byth. “Os gwnewch chi'n union fel dw i'n dweud, caru'r ARGLWYDD eich Duw, byw fel mae e eisiau i chi fyw ac aros yn ffyddlon iddo, byddwch chi'n gyrru allan y bobloedd sydd o'ch blaenau chi, ac yn cymryd tir oddi ar genhedloedd mwy a chryfach na chi. Byddwch chi'n cael pob modfedd sgwâr o dir fyddwch chi'n cerdded arno. Bydd eich ffiniau yn mynd o'r anialwch yn y de i Libanus yn y gogledd, ac o'r Afon Ewffrates yr holl ffordd at Fôr y Canoldir. Fydd neb yn gallu'ch rhwystro chi. Fel gwnaeth e addo i chi, bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn gwneud i chi godi ofn ar bawb, ble bynnag dych chi'n mynd. “Gwrandwch yn ofalus — dw i'n rhoi dewis i chi, rhwng bendith a melltith. Bendith gewch chi os byddwch chi'n ufudd i orchmynion yr ARGLWYDD. Ond melltith gewch chi os byddwch chi'n cymryd dim sylw o'i orchmynion, troi cefn ar y ffordd dw i'n ei gosod o'ch blaen chi, ac addoli eilun-dduwiau dych chi'n gwybod dim amdanyn nhw. Pan fydd yr ARGLWYDD eich Duw yn mynd â chi i mewn i'r wlad dych chi i'w chymryd, rhaid i chi gyhoeddi'r fendith ar Fynydd Gerisim, a'r felltith ar Fynydd Ebal. Maen nhw yr ochr draw i'r Afon Iorddonen, ar dir y Canaaneaid sy'n byw yn yr Araba — wrth ymyl Gilgal sydd heb fod yn bell o dderwen More. “Dych chi ar fin croesi'r Afon Iorddonen i gymryd y tir mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei roi i chi. Dyna ble byddwch chi'n byw. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw'r rheolau a'r canllawiau dw i wedi eu rhoi i chi heddiw. “Dyma'r rheolau a'r canllawiau dw i eisiau i chi eu cadw pan fyddwch chi'n byw yn y wlad mae'r ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, wedi ei roi i chi. “Mae'n rhaid i chi ddinistrio'n llwyr y mannau hynny lle mae'r bobl fyddwch chi'n cymryd y tir oddi arnyn nhw yn addoli eu duwiau — ar y mynyddoedd a'r bryniau, a than bob coeden ddeiliog. Chwalu eu hallorau paganaidd nhw, malu'r colofnau cysegredig, llosgi polion y dduwies Ashera i lawr, a bwrw'r delwau o'u duwiau nhw i lawr. “Peidiwch addoli'r ARGLWYDD eich Duw yn y ffordd maen nhw'n addoli eu duwiau. Ewch i'r lle mae'r ARGLWYDD wedi ei ddewis iddo'i hun, a'i addoli yno. Dyna lle byddwch chi'n mynd i gyflwyno offrymau i'w llosgi ac aberthau eraill, eich rhoddion a'ch degymau, eich offrymau i wneud addewid, eich offrymau gwirfoddol, a'r anifeiliaid cyntaf-anedig — gwartheg, defaid a geifr. Byddwch chi a'ch teuluoedd yn mynd yno i fwyta a gwledda, a dathlu'r ffaith fod yr ARGLWYDD wedi bendithio'ch gwaith caled chi a rhoi cnydau da i chi. “Rhaid i chi beidio gwneud beth dŷn ni'n ei wneud yma heddiw — pawb yn gwneud beth mae nhw eisiau. Dych chi ddim eto wedi cyrraedd pen y daith, a derbyn yr etifeddiaeth mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi i chi. Ar ôl i chi groesi'r Afon Iorddonen, a setlo yn y wlad mae'n ei rhoi i chi, pan fyddwch chi'n cael llonydd gan yr holl elynion o'ch cwmpas chi, byddwch chi'n saff. Byddwch chi'n mynd i'r lle fydd yr ARGLWYDD wedi ei ddewis iddo'i hun, ac yn mynd â'r pethau dw i'n ei orchymyn i gyd iddo — offrymau i'w llosgi, aberthau, degymau, eich rhoddion personol, a'r offrymau i wneud adduned dych chi am eu rhoi iddo. “Byddwch yn dathlu o flaen yr ARGLWYDD eich Duw, gyda'ch meibion a'ch merched, eich gweision a'ch morynion, a'r Lefiaid sy'n byw yn eich pentrefi (gan na chawson nhw dir fel y gweddill ohonoch chi.) Peidiwch cyflwyno offrymau i'w llosgi ble bynnag dych chi eisiau. Gwnewch y cwbl dw i'n ei orchymyn i chi, dim ond yn y lle fydd yr ARGLWYDD wedi ei ddewis. “Ond cewch ladd anifeiliaid i fwyta eu cig ble bynnag dych chi eisiau — cig y gasél a'r carw. Bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn eich bendithio, a bydd pawb yn cael ei fwyta — y bobl sy'n lân yn seremonïol a'r rhai sydd ddim. Ond rhaid i chi beidio bwyta'r gwaed — mae'r gwaed i gael ei dywallt ar lawr fel dŵr. “A dych chi ddim i fwyta eich offrymau yn eich pentrefi — y degwm o'r ŷd, y sudd grawnwin a'r olew olewydd, yr anifeiliaid cyntaf-anedig, eich offrymau i wneud adduned a'ch offrymau personol gwirfoddol. Mae'r rhain i gael eu bwyta o flaen yr ARGLWYDD yn y lle mae e wedi ei ddewis. Dych chi, a'ch meibion a'ch merched, eich gweision a'ch morynion, a'r Lefiaid sy'n byw yn eich pentrefi i fynd yno, i ddathlu'r ffaith fod yr ARGLWYDD wedi bendithio'ch gwaith caled chi drwy roi cnydau mor dda i chi. Gwnewch yn siŵr eich bod chi byth yn esgeuluso'ch cyfrifoldeb tuag at y bobl o lwyth Lefi. “Mae'r ARGLWYDD wedi addo y bydd yn rhoi mwy o dir i chi. Pan fydd yn gwneud hynny, cewch fwyta faint bynnag o gig dych chi eisiau, ble bynnag dych chi eisiau. Os bydd y lle mae'r ARGLWYDD wedi ei ddewis iddo'i hun yn rhy bell i chi deithio iddo, cewch ladd yr anifeiliaid fel dw i wedi dweud wrthoch chi, a'i bwyta nhw yn eich pentrefi. Caiff pawb eu bwyta nhw — y bobl sy'n lân yn seremonïol a'r rhai sydd ddim. Cewch fwyta fel petai'n gig gasél neu garw. Ond peidiwch bwyta gwaed ar unrhyw gyfri! Mae'r bywyd yn y gwaed, a rhaid i chi beidio bwyta'r bywyd gyda'r cig. Peidiwch a'i fwyta! Rhaid i chi ei dywallt ar lawr fel dŵr. Peidiwch a'i fwyta, er mwyn i bethau fynd yn dda i chi a'ch plant ar eich ôl. Byddwch yn gwneud beth sy'n iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD. “Dim ond y pethau sanctaidd, a'r offrymau i wneud adduned, fydd raid i chi fynd â nhw i'r lle ffydd fydd yr ARGLWYDD yn ei ddewis. Rhaid i chi gyflwyno'r offrymau sydd i'w llosgi, y cig a'r gwaed, ar allor yr ARGLWYDD eich Duw. Ac mae gwaed yr aberthau eraill i'w dywallt ar yr allor pan fyddwch chi'n bwyta'r cig. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwneud beth dw i'n ei orchymyn i chi, er mwyn i bethau fynd yn dda i chi ac i'ch disgynyddion ar eich holau. Byddwch chi'n gwneud beth sy'n dda ac yn iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD eich Duw. “Pan fydd yr ARGLWYDD eich Duw yn cael gwared â'r bobloedd sydd yn y wlad dych chi'n mynd i'w chymryd, byddwch chi'n setlo i lawr yno yn eu lle nhw. Pan fyddan nhw wedi cael eu dinistrio o'ch blaen chi, gwyliwch rhag i chi gael eu trapio yr un fath â nhw. Peidiwch addoli eu duwiau nhw, na ceisio darganfod sut roedden nhw'n addoli, a meddwl gwneud yr un fath â nhw. Dych chi ddim i addoli'r ARGLWYDD eich Duw yn y ffyrdd roedden nhw'n addoli. Roedden nhw'n gwneud pethau sy'n hollol ffiaidd gan yr ARGLWYDD wrth addoli — pethau mae e'n eu casáu! Roedden nhw hyd yn oed yn llosgi eu plant yn aberth i'w duwiau! “Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud popeth dw i'n ei orchymyn i chi — peidiwch ychwanegu dim na chymryd dim i ffwrdd! “Falle bydd proffwyd neu rywun sy'n cael gweledigaethau trwy freuddwydion yn dod atoch chi ac yn dweud fod gwyrth ryfeddol yn mynd i ddigwydd. Hyd yn oed os ydy'r wyrth yn digwydd, a'r proffwyd yn ceisio'ch cael chi i addoli duwiau eraill (eilun-dduwiau oeddech chi'n gwybod dim amdanyn nhw o'r blaen), peidiwch gwrando arno. Mae'r ARGLWYDD yn eich rhoi chi ar brawf, i weld os ydych chi wir yn ei garu â'ch holl galon ac â'ch holl enaid. Dych chi i fod i ddilyn yr ARGLWYDD eich Duw, a'i barchu e yn unig. Bod yn ufudd i'w orchmynion, gwneud beth mae e'n ddweud, ei wasanaethu ac aros yn ffyddlon iddo. “Os ydy proffwyd, neu rywun sy'n cael gweledigaethau drwy freuddwydion, yn ceisio'ch arwain chi i droi cefn ar yr ARGLWYDD, dylai gael ei ddienyddio. Yr ARGLWYDD eich Duw wnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft, a'ch rhyddhau chi o fod yn gaethweision. Rhaid i chi gael gwared â'r drwg sydd yn eich plith chi. “Os ydy un o'ch teulu agosaf, neu eich ffrind gorau, yn ceisio'ch denu chi i addoli duwiau eraill (sdim ots o ble — eilun-dduwiau'r bobl o'ch cwmpas chi, neu unrhyw le drwy'r byd i gyd), peidiwch gwrando na chymryd unrhyw sylw. Peidiwch teimlo trueni drosto, na gwneud esgusion na cadw'i ran. [9-10] Rhaid iddo gael ei ladd, drwy daflu cerrig ato. A chi ddylai daflu'r garreg gyntaf ato, ac wedyn pawb arall gyda chi. *** Bydd pobl Israel yn clywed am y peth, ac yn dychryn, ac wedyn fydd neb yn gwneud y drwg byth eto. “Tasech chi'n clywed yn un o'r trefi mae'r ARGLWYDD eich Duw yn eu rhoi i chi, fod rhyw bobl ddrwg wedi mynd ati i annog pobl y dre i addoli duwiau eraill (duwiau oeddech chi'n gwybod dim amdanyn nhw o'r blaen) rhaid i chi ymchwilio i'r mater a holi pobl yn fanwl i ddarganfod os ydy'r stori'n wir. Ac os ydy'n wir fod peth mor ofnadwy wedi digwydd, rhaid i bobl y dref honno gael eu lladd — rhaid i bawb a phopeth byw gael eu ladd, gan gynnwys yr anifeiliaid. Yna rhaid i chi gasglu'r pethau gwerthfawr i ganol sgwâr y dref, a llosgi'r dref a'r cwbl yn offrwm i'r ARGLWYDD eich Duw. Bydd y dref yn cael ei gadael yn domen o adfeilion, a byth i gael ei hadeiladu eto. Peidiwch cadw dim byd sydd i fod i gael ei ddinistrio. Wedyn bydd yr ARGLWYDD yn stopio bod yn ddig, yn teimlo trueni a bod yn garedig atoch chi, ac yn rhoi lot o blant i chi fel gwnaeth e addo i'r hynafiaid. “Felly rhaid i chi wneud beth mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei ddweud, cadw'r gorchmynion dw i'n eu pasio ymlaen i chi heddiw, a gwneud beth sy'n iawn yn ei olwg e. “Bobl Israel, chi ydy plant yr ARGLWYDD eich Duw. Felly peidiwch torri eich hunain â chyllyll neu siafio eich talcen pan dych chi'n galaru am rywun sydd wedi marw. Dych chi'n bobl sydd wedi eich cysegru i'r ARGLWYDD eich Duw. O bob cenedl ar wyneb y ddaear, mae e wedi eich dewis chi yn drysor sbesial iddo'i hun. “Peidiwch bwyta unrhyw beth sy'n ffiaidd. Dyma'r anifeiliaid sy'n iawn i'w bwyta: bustach, dafad, gafr, hydd, gasél, carw, gafr wyllt, orycs, antelop, a'r ddafad fynydd. “Gallwch fwyta unrhyw anifail sydd â charn fforchog ac sy'n cnoi cil. Ond peidiwch bwyta camel, ysgyfarnog, a broch y creigiau (Er eu bod nhw'n cnoi cil, does ganddyn nhw ddim carn fforchog, felly maen nhw i'w hystyried yn aflan.) A peidiwch bwyta cig moch (Er fod gan fochyn garn fforchog, dydy e ddim yn cnoi cil. Peidiwch hyd yn oed cyffwrdd mochyn sydd wedi marw!) “Gallwch fwyta unrhyw greaduriaid sy'n byw yn y dŵr sydd ag esgyll a cennau arnyn nhw, ond dim byd sydd heb esgyll a cennau — mae'r rheiny i'w hystyried yn aflan. “Gallwch fwyta unrhyw aderyn sy'n lân yn seremonïol. Ond peidiwch bwyta'r rhain: eryr, fwltur, fwltur du, barcud, hebog, bwncath, gwahanol fathau o frain, estrys, tylluan, gwylan, a hebog o unrhyw fath, tylluan fach, tylluan gorniog, tylluan wen, y pelican, eryr y môr, bilidowcar, storc, gwahanol fathau o grëyr, copog, na'r ystlum chwaith. “Mae pryfed sy'n hedfan yn aflan hefyd. Peidiwch bwyta nhw. Gallwch fwyta unrhyw aderyn sy'n lân yn seremonïol. Peidiwch bwyta corff unrhyw anifail neu aderyn sydd wedi marw ohono'i hun. Gallwch ei roi i'r bobl o'r tu allan sy'n byw yn eich pentrefi chi, neu ei werthu i estroniaid. Ond dych chi'n bobl wedi eu cysegru i'r ARGLWYDD eich Duw. “Peidiwch berwi cig gafr ifanc yn llaeth ei fam. “Rhaid i chi wneud yn siŵr eich bod chi'n rhoi heibio ddeg y cant o gynnyrch eich tir bob blwyddyn. Ac mae hwn i gael ei fwyta o flaen yr ARGLWYDD eich Duw yn y lle bydd e'n ei ddewis — deg y cant o'r ŷd, y sudd grawnwin, yr olew olewydd, a phob anifail cyntaf-anedig — gwartheg, defaid a geifr. Rhaid i chi ddysgu dangos parch at yr ARGLWYDD eich Duw bob amser. “Pan fydd e'n eich bendithio, os ydy'r lle mae e wedi ei ddewis yn rhy bell, gallwch werthu'r deg y cant o'ch cynnyrch, a mynd â'r arian gyda chi yn ei le. Wedyn yno, gallwch brynu cig eidion, cig oen, gwin, cwrw, ac unrhyw fwyd arall dych chi eisiau. Ond cofiwch ofalu am y rhai o lwyth Lefi sy'n byw yn eich pentrefi, gan nad oes ganddyn nhw dir fel y gweddill ohonoch chi. “Bob tair blynedd rhaid i chi gymryd deg y cant o gynnyrch y flwyddyn honno, a'i storio yn eich pentrefi. Bydd yno i'w ddefnyddio gan y rhai sydd o lwyth Lefi, y mewnfudwyr, y plant amddifad, a'r gweddwon yn y pentref. Wedyn bydd yr ARGLWYDD yn bendithio popeth fyddwch chi'n ei wneud. “Ar ddiwedd pob saith mlynedd rhaid cyhoeddi fod dyledion yn cael eu canslo. Dyma beth sydd i ddigwydd: Rhaid i'r credydwr ddileu unrhyw ddyledion sydd gan bobl eraill iddo. Ddylai e ddim gorfodi un o'i gydwladwyr yn Israel i dalu'r ddyled. Mae'r amser i ganslo dyledion wedi dechrau. Gallwch hawlio ad-daliad gan bobl o'r tu allan, ond mae dyledion eich cyd-Israeliaid i gael eu canslo. “Ddylai neb fod mewn angen yn eich plith chi, am fod yr ARGLWYDD yn mynd i'ch bendithio chi yn y wlad mae'n ei rhoi i chi os byddwch chi'n ufudd ac yn cadw'r holl orchmynion dw i'n eu rhoi i chi heddiw. Bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn eich bendithio, fel gwnaeth e addo. Bydd pobl Israel yn benthyg i wledydd eraill, ond ddim yn gorfod benthyca gan unrhyw un. Bydd Israel yn rheoli gwledydd eraill, ond fyddan nhw ddim yn eich rheoli chi. “Os bydd un o bobl Israel, sy'n byw yn eich pentrefi chi, mewn angen, peidiwch bod yn galon-galed ac yn grintachlyd. Yn lle hynny, byddwch yn garedig ac yn hael, a benthyg beth bynnag sydd arno'i angen. Gwnewch yn siŵr eich bod chi ddim yn meddwl pethau drwg pan mae'r seithfed flwyddyn (sef blwyddyn canslo dyledion) yn agosáu. Peidiwch meithrin agwedd anghywir tuag at eich cyd-Israeliad sydd mewn angen, a gwrthod benthyg iddo. Bydd e'n cwyno i'r ARGLWYDD amdanoch chi, a byddwch chi wedi pechu. Dylech chi fod yn frwd i'w helpu, a peidio bod yn flin eich bod wedi gwneud hynny. Bydd yr ARGLWYDD yn talu'n ôl i chi, ac yn bendithio popeth wnewch chi. Bydd yna bobl dlawd yn y wlad bob amser, a dyna pam dw i'n dweud wrthoch chi am fod yn hael tuag at eich cydwladwyr tlawd. “Os ydy un o'ch pobl, Hebrëwr neu Hebraes, yn gwerthu ei hun i chi, dylai weithio i chi am chwe mlynedd, ond yna ar ddechrau'r seithfed flwyddyn rhaid i chi ei ollwng yn rhydd. A peidiwch ei anfon i ffwrdd yn waglaw — dylech roi defaid a geifr iddo, a digon o ŷd a gwin. Fel mae'r ARGLWYDD wedi bod yn hael atoch chi, rhaid i chi fod yn hael atyn nhw. Cofiwch eich bod chi wedi bod yn gaethion yn yr Aifft, a bod yr ARGLWYDD wedi'ch gollwng chi'n rhydd. Dyna pam dw i'n gorchymyn i chi wneud hyn heddiw. “Ond os ydy'r gwas yn dweud, ‘Dw i ddim eisiau dy adael di,’ am ei fod yn hapus gyda ti a dy deulu, a bod bywyd yn dda arno, cymer fynawyd a gwneud twll drwy ei glust i'r drws. Wedyn bydd yn was i ti am weddill ei oes (Ac mae'r un peth i'w wneud gyda dy forwyn.) “Paid cwyno os ydy'r gwas neu'r forwyn am gael mynd yn rhydd. Wedi'r cwbl byddi wedi cael chwe blynedd o wasanaeth am hanner y gost o gadw gwas cyflog. Bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn bendithio popeth wnei di os byddi di'n ufudd. “Rhaid i bob anifail gwryw cyntaf i gael ei eni gael ei gadw i'w gyflwyno i'r ARGLWYDD — o'r gwartheg, defaid a geifr. Peidiwch gwneud i'r ychen oedd gyntaf i gael ei eni weithio, na cneifio'r ddafad neu'r afr gyntaf i gael ei geni. Bob blwyddyn, dych chi a'ch teulu i'w bwyta o flaen yr ARGLWYDD yn y lle mae e wedi ei ddewis. Ond peidiwch aberthu anifail sydd â rhywbeth o'i le arno i'r ARGLWYDD — anifail sy'n gloff, yn ddall, neu gydag unrhyw beth arall o'i le arno. Cewch fwyta'r anifeiliaid hynny yn eich pentrefi, fel petai'n gig gasél neu garw. A gall pawb eu bwyta — y bobl sy'n lân yn seremonïol a'r rhai sydd ddim. Ond rhaid i chi beidio bwyta'r gwaed. Mae'r gwaed i gael ei dywallt ar lawr fel dŵr. “Cadwch Ŵyl y Pasg yn mis Abib, am mai dyna pryd wnaeth yr ARGLWYDD eich Duw eich achub chi o'r Aifft yn ystod y nos. Rhaid i anifail gael ei aberthu i'r ARGLWYDD eich Duw yn y lle mae e wedi ei ddewis — un o'r gwartheg, y defaid neu'r geifr. A peidiwch bwyta bara gyda burum ynddo. Fel symbol o galedi, rhaid i chi fwyta bara heb furum ynddo am saith diwrnod, am eich bod wedi gadael yr Aifft ar frys. Dych chi i wneud hyn er mwyn cofio, am weddill eich bywydau, y diwrnod hwnnw y daethoch chi allan o'r Aifft. Ddylai fod dim mymryn o furum yn y wlad am saith diwrnod. A ddylai dim o gig yr anifail gafodd ei aberthu gyda'r nos ar y diwrnod cyntaf, fod wedi ei adael tan y bore wedyn. “Dydy aberth y Pasg ddim i gael ei ladd yn unrhyw bentref mae'r ARGLWYDD wedi ei roi i chi. Rhaid iddo gael ei aberthu yn y lle mae e wedi ei ddewis iddo'i hun, gyda'r nos, pan mae'r haul yn machlud — sef yr adeg o'r dydd y daethoch chi allan o'r Aifft. Rhaid ei goginio a'i fwyta yn y lle mae'r ARGLWYDD wedi ei ddewis, yna'r bore wedyn cewch fynd yn ôl i'ch pebyll. Bara heb furum ynddo sydd i gael ei fwyta am chwe diwrnod. Yna bydd cyfarfod arbennig i addoli'r ARGLWYDD eich Duw yn cael ei gynnal ar y seithfed diwrnod. Rhaid i chi beidio gweithio ar y diwrnod hwnnw. “Saith wythnos ar ôl dechrau'r cynhaeaf ŷd, dych chi i ddathlu Gŵyl y Cynhaeaf o flaen yr ARGLWYDD eich Duw. A rhaid i chi ddod â peth o'r cynhaeaf mae'r ARGLWYDD wedi ei roi i chi, yn offrwm sy'n cael ei roi'n wirfoddol. Byddwch yn dathlu o'i flaen — gyda'ch meibion a'ch merched, eich gweision a'ch morynion, y rhai o lwyth Lefi sy'n byw yn eich pentrefi, y mewnfudwyr, y plant amddifad a'r gweddwon. Cofiwch eich bod chi wedi bod yn gaethion yn yr Aifft, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cadw'r canllawiau yma dw i'n eu rhoi i chi. “Rhaid i chi gadw Gŵyl y Pebyll am saith diwrnod ar ôl i chi orffen casglu'r grawn o'r llawr dyrnu a gwasgu'r grawnwin. Byddwch yn dathlu'r Ŵyl gyda'ch meibion a'ch merched, eich gweision a'ch morynion, y rhai o lwyth Lefi sy'n byw yn eich pentrefi, y mewnfudwyr, y plant amddifad a'r gweddwon. Byddwch yn dathlu o flaen yr ARGLWYDD eich Duw am saith diwrnod, yn y lle mae e wedi ei ddewis, am ei fod e wedi bendithio eich holl waith chi. Felly bydd gynnoch chi le i ddathlu go iawn! “Felly dair gwaith bob blwyddyn, mae'r dynion i gyd i fynd o flaen yr ARGLWYDD eich Duw yn y lle mae e wedi ei ddewis — ar Ŵyl y Bara Croyw, Gŵyl y Cynhaeaf, a Gŵyl y Pebyll. A rhaid iddyn nhw fynd â rhywbeth i'w offrymu bob tro. Dylai pob un roi beth mae'n gallu, fel mae'r ARGLWYDD wedi ei fendithio. “Rhaid i chi benodi barnwyr a swyddogion eraill i bob llwyth yn y trefi mae'r ARGLWYDD eich Duw yn eu rhoi i chi. A rhaid iddyn nhw farnu'r bobl yn deg. Peidio gwyrdroi cyfiawnder a dangos ffafriaeth. Peidio derbyn breib. Mae breib yn dallu pobl ddoeth a troi pobl onest yn gelwyddog. Cyfiawnder pur dw i eisiau, dim llai, er mwyn i chi lwyddo a chymryd y tir mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei roi i chi. “Peidiwch codi polyn i'r dduwies Ashera wrth ymyl allor dych chi'n wedi ei gwneud i'r ARGLWYDD eich Duw. A peidiwch codi colofn gysegredig! Mae'r ARGLWYDD yn casáu pethau felly. “Peidiwch aberthu anifail sydd â rhywbeth o'i le arno. Mae gwneud peth felly yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD. “Os ydych chi'n clywed fod dyn neu ddynes yn un o'ch trefi, yn pechu yn erbyn yr ARGLWYDD eich Duw drwy dorri amodau'r ymrwymiad — gwneud pethau dw i wedi dweud wrthoch chi am beidio eu gwneud, fel addoli duwiau eraill, neu addoli'r haul, y lleuad neu'r sêr — rhaid i chi ymchwilio'n fanwl i'r mater. Wedyn, os ydy e'n troi allan i fod yn wir fod peth erchyll fel yna yn bendant wedi digwydd yn Israel, rhaid i'r person sydd wedi gwneud y drwg gael ei ddedfrydu gan y llys wrth giatiau'r dref. Yna bydd yn cael ei ladd drwy daflu cerrig ato. Ond rhaid cael dau neu dri o bobl i roi tystiolaeth yn ei erbyn. Dydy gair un tyst ddim yn ddigon i'w brofi'n euog. A'r tystion sydd i ddechrau'r dienyddiad, a pawb arall yn eu dilyn. Rhaid cael gwared â'r drwg o'ch plith. “Os ydy rhyw achos yn y dref yn rhy anodd i'w farnu — achos o ladd, unrhyw achos cyfreithiol neu ymosodiad — yna ewch â'r achos i'r lle mae'r ARGLWYDD wedi ei ddewis. Ewch i weld yr offeiriaid o lwyth Lefi a'r un sy'n farnwr bryd hynny a byddan nhw'n penderfynu beth ydy'r ddedfryd. [10-12] A rhaid i chi wneud yn union fel maen nhw'n dweud. Os na wnewch chi fel maen nhw'n dweud, bydd rhaid i chi farw. Rhaid cael gwared â'r drwg o'ch plith. *** *** Wedyn bydd pobl yn clywed beth ddigwyddodd ac yn dychryn, a fydd neb yn meiddio gwrthryfela felly eto. “Ar ôl i chi goncro'r tir mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei roi i chi, a setlo i lawr i fyw yno, byddwch yn penderfynu eich bod eisiau brenin yr un fath â'r gwledydd o'ch cwmpas chi. Dim ond yr un mae'r ARGLWYDD yn ei ddewis sydd i fod yn frenin. A rhaid iddo fod yn un o bobl Israel — peidiwch dewis rhywun o'r tu allan, sydd ddim yn Israeliad. Rhaid iddo beidio casglu lot o geffylau rhyfel iddo'i hun, a gadael i bobl fynd i'r Aifft i nôl rhai. Mae'r ARGLWYDD wedi dweud wrthoch chi am beidio mynd yn ôl yno. Rhaid iddo beidio cymryd lot o wragedd iddo'i hun, rhag iddyn nhw ei demtio i droi cefn arna i. A rhaid iddo beidio hel cyfoeth iddo'i hun — arian ac aur. “Yna pan fydd e'n cael ei orseddu bydd yn derbyn sgrôl, copi o'r Gyfraith, gan yr offeiriaid o lwyth Lefi. Mae'n bwysig ei fod yn cadw'r sgrôl wrth law bob amser, ac yn ei darllen yn rheolaidd ar hyd ei fywyd. Wedyn bydd yn parchu'r ARGLWYDD ei Dduw, ac yn gwneud popeth mae'r gyfraith yn ei ddweud, a dilyn ei chanllawiau. Wrth wneud hynny fydd e ddim yn ystyried ei hun yn well na'i gyd-Israeliaid, nac yn crwydro oddi wrth y cyfarwyddiadau dw i wedi eu rhoi. A bydd e a'i ddisgynyddion yn cael teyrnasu am hir dros wlad Israel. “Fydd gan yr offeiriaid o lwyth Lefi, yn wir unrhyw un sy'n perthyn i'r llwyth, ddim tir fel pawb arall. Byddan nhw'n cael bwyta'r offrymau sy'n cael eu llosgi i'r ARGLWYDD — dyna eu siâr nhw. Fydd ganddyn nhw ddim tir fel gweddill pobl Israel. Yr ARGLWYDD ei hun ydy eu siâr nhw, fel gwnaeth e addo iddyn nhw. “Pan fydd pobl yn dod i aberthu anifail (o'r gwartheg neu'r defaid a geifr) mae'r ysgwydd, y bochau a'r stumog i gael eu rhoi i'r offeiriaid. Maen nhw hefyd i gael y rhan orau o'ch ŷd, sudd grawnwin ac olew olewydd, a hefyd o'r gwlân pan fyddwch yn cneifio eich defaid a'ch geifr. Mae'r ARGLWYDD eich Duw wedi dewis llwyth Lefi i'w wasanaethu a'i gynrychioli am byth. [6-7] Os ydy e wir eisiau, mae unrhyw un o lwyth Lefi yn gallu gadael y pentref lle mae'n byw a gwirfoddoli i wasanaethu yn y lle mae'r ARGLWYDD wedi ei ddewis iddo'i hun (gyda'r dynion eraill o lwyth Lefi sy'n gwasanaethu yno'n barhaol). *** Mae'r dyn hwnnw i gael yr un siâr a'r lleill, er ei fod hefyd wedi gwerthu eiddo ei deulu. “Pan fyddwch wedi cyrraedd y tir mae'r ARGLWYDD yn ei roi i chi, peidiwch gwneud y pethau ffiaidd mae'r bobl sy'n byw yno nawr yn eu gwneud. Ddylai neb ohonoch chi aberthu ei fab neu ei ferch drwy dân. Ddylai neb ddewino, dweud ffortiwn, darogan, consurio, swyno, mynd ar ôl ysbrydion, chwarae gyda'r ocwlt neu geisio siarad â'r meirw. Mae gwneud pethau fel yna yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD, a dyna pam mae e'n gyrru'r bobl sydd yno allan o'ch blaen chi. Rhaid i chi wneud yn union beth mae'r ARGLWYDD eich Duw eisiau. Mae'r bobloedd dych chi ar fin cymryd eu tir nhw yn gwrando ar bobl sy'n dweud ffortiwn ac yn dewino. Ond mae'r ARGLWYDD eich Duw wedi dweud wrthoch chi am beidio gwneud pethau felly. “Bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn codi proffwyd arall fel fi o'ch plith chi. Rhaid i chi wrando'n ofalus arno fe. Pan oeddech chi wedi casglu at eich gilydd wrth droed Mynydd Sinai, dyma chi'n gofyn i'r ARGLWYDD: ‘Paid gwneud i ni wrando ar lais yr ARGLWYDD ein Duw, neu orfod edrych ar y tân mawr yma, rhag i ni farw.’ A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, ‘Maen nhw'n iawn. Bydda i'n codi proffwyd arall fel ti o'u plith nhw. Bydda i'n rhoi neges iddo ei chyhoeddi, a bydd e'n dweud beth dw i'n ei orchymyn. Bydd e'n siarad drosta i, a bydd pwy bynnag sy'n gwrthod gwrando ar beth mae e'n ddweud yn atebol i mi.’ Ond os bydd unrhyw broffwyd yn honni siarad drosta i heb i mi ddweud wrtho am wneud hynny, neu'n siarad ar ran duwiau eraill, rhaid i'r proffwyd hwnnw farw. “‘Ond sut mae gwybod mai nid yr ARGLWYDD sydd wedi rhoi'r neges?’ meddech chi. Wel, os ydy proffwyd yn honni siarad drosta i, a beth mae e'n ddweud ddim yn dod yn wir, nid fi sydd wedi siarad. Mae'r proffwyd hwnnw wedi siarad o'i ben a'i bastwn ei hun. Peidiwch cymryd sylw ohono. “Mae'r ARGLWYDD eich Duw yn mynd i ddinistrio'r bobloedd yn y wlad dych chi'n mynd i mewn iddi. Byddwch yn cymryd eu tir nhw, ac yn symud i fyw i'w trefi a'u tai. [2-3] Rhaid i chi rannu'r wlad yn dair, dewis tair tref lloches ac adeiladu ffyrdd da i'r trefi hynny. Bydd pwy bynnag sy'n lladd rhywun arall yn gallu dianc am loches i'r agosaf o'r tair tref. *** “Dyma fydd y drefn os bydd rhywun yn lladd ar ddamwain, heb fod unrhyw ddrwg wedi ei fwriadu. Er enghraifft, lle mae dau ddyn wedi mynd i'r goedwig i dorri coed, ac wrth i un godi ei fwyell, mae blaen y fwyell yn dod i ffwrdd o'r goes ac yn taro'r llall a'i ladd. Mae'r dyn wnaeth ladd yn gallu dianc i un o'r trefi yma. Os na fydd yn gwneud hynny gall perthynas agosa'r dyn laddwyd ei ddal, a dial arno a'i ladd. Ond doedd e ddim wir yn haeddu hynny, am nad oedd e wedi bwriadu unrhyw ddrwg pan ddigwyddodd y ddamwain. Dyna pam dw i'n gorchymyn i chi ddewis tair tref i'r pwrpas yma. “Wedyn pan fydd yr ARGLWYDD eich Duw yn rhoi mwy eto o dir i chi, (sef yr holl dir wnaeth e addo ei roi i'ch hynafiaid chi,) a chithau'n gwneud yn siŵr eich bod chi'n cadw'r holl orchmynion dw i'n eu rhoi i chi (sef caru'r ARGLWYDD eich Duw a byw fel mae e eisiau i chi fyw), rhaid i chi ddewis tair tref arall at y tair sydd gynnoch chi eisoes. Does dim eisiau i bobl gael eu dienyddio os ydyn nhw'n ddieuog. Ddylai peth felly ddim digwydd yn y wlad mae'r ARGLWYDD yn ei rhoi i chi. “Ond os ydy rhywun yn casáu person arall, disgwyl amdano, ymosod arno a'i ladd, ac wedyn yn dianc i un o'r trefi yma, dyma sydd i ddigwydd: Rhaid i arweinwyr y dref lle mae'n byw anfon dynion i'w arestio a gadael i berthynas agosaf y sawl gafodd ei ladd ddial arno a'i ladd e. Peidiwch teimlo trueni dros lofrudd. Ddylai pobl ddiniwed ddim cael eu lladd yn Israel. “Peidiwch symud terfyn i ddwyn tir oddi ar rywun arall. Cafodd ffiniau dy etifeddiaeth eu gosod gan dy hynafiaid yn y wlad mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei rhoi i ti ei chymryd. “Dydy un tyst ddim yn ddigon i gael rhywun yn euog o drosedd. Rhaid cael dau neu dri tyst i gadarnhau fod rhywbeth yn wir. Os ydy tyst yn dweud celwydd a chyhuddo rhywun o ryw drosedd, rhaid i'r ddau fynd i sefyll o flaen yr ARGLWYDD, i'r offeiriaid a'r barnwyr benderfynu ar y ddedfryd. Byddan nhw'n edrych yn fanwl ar yr achos, ac os byddan nhw'n darganfod fod y tyst wedi dweud celwydd, bydd e'n cael y gosb oedd e wedi ei bwriadu i'r llall ei gael. Rhaid cael gwared â'r drwg o'ch plith. Bydd gweddill y bobl yn clywed beth ddigwyddodd, a bydd ganddyn nhw ofn gwneud pethau mor ddrwg. Peidiwch teimlo trueni. Mae'r gosb i ffitio'r drosedd — bywyd am fywyd, llygad am lygad, dant am ddant, llaw am law, troed am droed. “Pan fyddwch chi'n mynd i ryfel yn erbyn eich gelynion, ac yn gweld eu holl geffylau a'u cerbydau, a bod ganddyn nhw lawer mwy o filwyr na chi, peidiwch bod ag ofn. Mae'r ARGLWYDD Dduw, wnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft, gyda chi. Cyn i'r ymladd ddechrau, dylai'r offeiriad siarad â'r milwyr, a dweud, ‘Ddynion Israel, gwrandwch! Dych chi ar fin mynd allan i ymladd yn erbyn eich gelynion. Peidiwch torri'ch calon na bod ag ofn. Peidiwch panicio. Mae'r ARGLWYDD eich Duw yn mynd gyda chi i ymladd yn erbyn eich gelynion, a'ch helpu chi i ennill y frwydr.’ “Yna mae'r swyddogion i ddweud wrth y milwyr, ‘Oes rhywun yma wedi adeiladu tŷ ac heb ei gyflwyno i Dduw? Gall fynd adre, rhag ofn iddo gael ei ladd yn y frwydr, ac i rywun arall gysegru'r tŷ. Oes rhywun yma wedi plannu gwinllan, ac heb eto gael ffrwyth ohoni? Gall fynd adre, rhag ofn iddo gael ei ladd yn y frwydr, ac i rywun arall gael y ffrwyth. Neu oes rhywun yma sydd wedi dyweddïo gyda merch, ond heb eto ei phriodi hi? Gall fynd adre, rhag ofn iddo gael ei ladd yn y frwydr, ac i rywun arall ei phriodi hi.’ Maen nhw hyd yn oed i ddweud, ‘Oes rhywun yma sy'n nerfus ac yn ofnus? Gall fynd adre, rhag iddo wneud i'r milwyr eraill golli hyder hefyd.’ Ar ôl i'r swyddogion ddweud hyn i gyd, maen nhw i benodi capteiniaid i arwain unedau milwrol. “Pan fydd y fyddin yn dod yn agos at dref maen nhw'n bwriadu ymosod arni, maen nhw i gynnig telerau heddwch iddi gyntaf. Os byddan nhw'n cytuno i'r telerau ac yn ildio i chi, bydd y bobl i gyd yn gweithio fel caethweision i chi. Os ydyn nhw'n gwrthod derbyn eich telerau chi, dych chi i warchae ar y dref. Bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn eich galluogi chi i'w choncro. Rhaid i chi ladd y dynion i gyd. Ond gallwch gadw'r merched, y plant, yr anifeiliaid, ac unrhyw beth arall gwerthfawr sydd yn y dref. Cewch gadw'r holl stwff mae'r ARGLWYDD yn ei roi i chi. “Dyna sut ydych chi i ddelio gyda gyda'r trefi sy'n bell o'ch tir chi'ch hunain (y rhai sydd ddim yn perthyn i'r bobloedd yn Canaan). Ond gyda'r trefi sy'n perthyn i'r bobloedd mae'r ARGLWYDD eich Duw yn rhoi eu tir nhw i chi, does yr un person nac anifail i gael ei adael yn fyw. Mae'r ARGLWYDD wedi dweud wrthoch chi. Rhaid i chi eu lladd nhw i gyd! — yr Hethiaid, Amoriaid, Canaaneaid, Peresiaid, Hefiaid a'r Jebwsiaid — rhag iddyn nhw eich arwain chi i fynd trwy'r defodau ffiaidd maen nhw'n eu dilyn wrth addoli eu duwiau eu hunain, a gwneud i chi bechu yn erbyn yr ARGLWYDD eich Duw. “Os byddwch chi'n gwarchae am amser hir ar dref dych chi'n ymosod arni, rhaid i chi beidio torri ei choed ffrwythau i lawr. Gallwch fwyta'r ffrwyth oddi arnyn nhw, ond peidiwch torri nhw i lawr. Dydy'r coed ffrwythau ddim yn elynion chi! Ond cewch dorri i lawr unrhyw goed sydd ddim yn goed ffrwythau, a defnyddio'r pren i adeiladu offer gwarchae yn erbyn y dref sy'n rhyfela yn eich erbyn chi, nes bydd y dref honno wedi cael ei choncro. “Os byddwch chi'n darganfod corff yn rhywle yn y wlad mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi i chi, a neb yn gwybod pwy sydd wedi ei ladd, rhaid i'r arweinwyr a'r barnwyr fynd allan a penderfynu pa dref sydd agosaf at y corff. Yna rhaid i arweinwyr y dref agosaf gymryd heffer ifanc (un sydd erioed wedi gweithio gyda iau), a mynd â hi i ddyffryn lle mae dŵr yn llifo, ond lle mae'r tir heb ei drin, a dim wedi ei hau yno. Wedyn maen nhw i ladd yr heffer. Yna bydd yr offeiriaid o lwyth Lefi yn camu ymlaen (y rhai sydd wedi eu dewis gan yr ARGLWYDD i'w wasanaethu ac i fendithio pobl ar ei ran, a dyfarnu achosion yn y llysoedd). A bydd arweinwyr y dref agosaf yn golchi eu dwylo uwch ben corff yr heffer gafodd ei lladd yn y dyffryn. Yna byddan nhw'n gwneud datganiad, ‘Wnaethon ni ddim lladd y person yma, a does neb yn gwybod pwy wnaeth. Felly, ARGLWYDD, paid rhoi'r bai ar dy bobl Israel a'u dal nhw'n gyfrifol am dywallt gwaed rhywun diniwed.’ A bydd yr ARGLWYDD yn maddau'r drosedd. Dyna sut mae symud yr euogrwydd fod person diniwed wedi ei ladd, a sut mae gwneud beth sy'n iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD. “Dyma sydd i ddigwydd os byddwch yn mynd i ryfel, a'r ARGLWYDD yn gadael i chi ennill y frwydr, a chymryd pobl yn garcharorion: Os bydd un o'r carcharorion yn ferch hardd, ac un o'ch dynion chi yn ei ffansïo hi ac eisiau ei chymryd hi'n wraig, mae i fynd â hi adre. Rhaid iddi siafio ei phen, a thorri ei hewinedd, a thaflu i ffwrdd y dillad roedd hi'n eu gwisgo pan gafodd ei dal. Yna rhaid iddi aros yn y tŷ am fis cyfan, yn galaru am ei thad a'i mam. Dim ond ar ôl gwneud hynny y gall y dyn ei chymryd hi'n wraig a chael rhyw gyda hi. Os na fydd hi'n ei blesio wedyn, rhaid iddo adael iddi fynd yn rhydd. Dydy e ddim yn gallu ei gwerthu hi. Ddylai e ddim cymryd mantais ohoni, am ei fod eisoes wedi cael rhyw gyda hi. “Cymrwch fod gan ddyn ddwy wraig, ac mae'n caru un fwy na'r llall. Mae'r ddwy yn cael meibion iddo, ond y wraig mae'n ei garu leiaf sydd wedi cael y mab hynaf. Pan mae'r dyn yn rhannu ei eiddo rhwng ei feibion, dydy e ddim i roi siâr y mab hynaf i fab ei hoff wraig, yn lle ei roi i'r mab hynaf go iawn. Rhaid iddo dderbyn mai mab ei wraig arall ydy'r hynaf, a rhoi'r siâr ddwbl i hwnnw. Wedi'r cwbl, fe oedd y mab cyntaf i gael ei eni. “Os oes gan rywun fab penstiff sy'n gwrthryfela, ac yn gwrthod gwrando ar ei dad a'i fam pan maen nhw'n ei ddisgyblu, rhaid i'w rieni fynd ag e at yr arweinwyr hŷn i'r llys wrth giât y dre. Yna maen nhw i wneud y datganiad yma: ‘Mae ein mab ni yn benstiff ac yn gwrthryfela. Mae e'n gwrthod gwrando ar beth dŷn ni'n ddweud — mae e'n folgi ac yn feddwyn!’ Yna rhaid i ddynion y dref ladd y bachgen drwy daflu cerrig ato. Drwy wneud hynny byddwch chi'n cael gwared â'r drwg o'ch plith. A bydd pobl Israel yn clywed am y peth ac yn dychryn. Os ydy rhywun yn cael ei ddienyddio am gyflawni trosedd oedd yn haeddu'r gosb eithaf, a'r corff yn cael ei hongian ar bren, rhaid peidio gadael y corff i hongian dros nos. Rhaid i chi wneud yn siŵr eich bod yn ei gladdu yr un diwrnod. Mae rhywun sydd wedi ei grogi ar bren dan felltith Duw. Rhaid i chi beidio halogi'r wlad mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi i chi. Os wyt ti'n gweld buwch, dafad neu afr rhywun ar goll, paid â'i anwybyddu. Dos a'r anifail yn ôl at y perchennog. Os nad wyt ti'n gwybod pwy ydy'r perchennog, neu os ydy e'n byw yn rhy bell, dos â'r anifail adre a gofalu amdano. Ond pan ddaw'r perchennog i edrych amdano, rhaid i ti roi'r anifail yn ôl iddo. Gwna yr un fath gydag unrhyw beth ti'n dod o hyd iddo — asyn, dilledyn, unrhyw beth sydd piau rhywun arall. Paid dim ond anwybyddu'r peth. Os wyt ti'n dod ar draws rhywun mewn trafferth am fod ei asyn neu ych wedi syrthio ac yn methu codi, paid â'i anwybyddu. Helpa fe i gael yr anifail ar ei draed unwaith eto. Ddylai merch ddim gwisgo dillad dyn, a ddylai dyn ddim gwisgo dillad merch. Mae gwneud peth felly yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD. Os wyt ti'n digwydd dod ar draws nyth (mewn coeden neu ar lawr) gyda cywion neu wyau ynddi a'r iâr yn eistedd arnyn nhw, paid cymryd yr iâr oddi ar y rhai bach. Cei gymryd y rhai bach, ond gad i'r fam fynd. Wedyn bydd pethau'n mynd yn dda i ti, a cei fyw'n hir. Wrth adeiladu tŷ newydd, rhaid i ti adeiladu wal isel o gwmpas y to. Wedyn os bydd rhywun yn syrthio oddi ar y to, nid dy fai di fydd e. Rhaid peidio plannu unrhyw gnwd arall mewn gwinllan. Bydd beth bynnag gafodd ei blannu, a'r grawnwin, wedi ei halogi ac yn dda i ddim. Ddylai ychen ac asyn ddim cael eu defnyddio gyda'i gilydd i aredig. Paid gwisgo dillad wedi eu gwneud o frethyn sy'n gymysgedd o wlân a llin. Gwna daselau i'w gosod ar bedair cornel dy fantell. “Dyma sydd i ddigwydd os ydy dyn yn priodi merch, ac yn cymryd yn ei herbyn ar ôl cael perthynas rywiol gyda hi. Mae'n ei chyhuddo hi o gamfihafio, ac yn dweud, ‘Dw i wedi priodi'r ferch yma, ond wrth gael rhyw gyda hi, darganfod ei bod hi ddim yn wyryf!’ Pan mae hyn yn digwydd, rhaid i rieni'r ferch ifanc fynd â'r dystiolaeth ei bod hi'n wyryf i'w ddangos i arweinwyr y dref yn y llys wrth giatiau'r dref. Yna rhaid i'r tad ddweud wrth yr arweinwyr, ‘Roeddwn i wedi rhoi fy merch yn wraig i'r dyn yma, ond mae e wedi troi yn ei herbyn hi, a'i chyhuddo hi, ei bod hi ddim yn wyryf. Ond dyma'r prawf ei bod hi'n wyryf!’ Yna rhaid i rieni'r ferch ledu cynfas y gwely priodas o flaen yr arweinwyr, iddyn nhw weld y dystiolaeth. Wedyn rhaid i arweinwyr y dref arestio'r dyn a'i gosbi. Maen nhw i roi dirwy o gant o ddarnau arian iddo, a rhoi'r arian hwnnw i dad y ferch ifanc. Roedd ei gyhuddiad wedi rhoi enw drwg i un o ferched ifanc Israel, a hithau yn wyryf. Bydd y ferch yn aros yn wraig iddo am weddill ei fywyd, a fydd ganddo ddim hawl i'w hysgaru hi. “Ond os ydy'r cyhuddiad yn cael ei brofi'n wir, a'r ferch ifanc ddim yn wyryf, rhaid i ddynion y dref fynd â'r ferch at ddrws tŷ ei thad, a'i lladd drwy daflu cerrig ati. Roedd hi wedi actio fel putain pan oedd hi'n dal i fyw gyda'i rhieni — peth gwarthus i'w wneud yn Israel! Rhaid i chi gael gwared â'r drwg o'ch plith. “Os ydy dyn yn cael ei ddal yn cael rhyw gyda gwraig rhywun arall, rhaid i'r ddau ohonyn nhw farw. Rhaid cael gwared â'r drwg o Israel. “Os ydy merch, sy'n wyryf ac wedi ei dyweddïo, yn cyfarfod dyn arall yn y dref ac yn cael rhyw gydag e, rhaid mynd â'r ddau ohonyn nhw i'r llys wrth giât y dref a'i lladd nhw drwy daflu cerrig atyn nhw. Mae'r ferch ifanc yn euog am ei bod hi heb weiddi am help, er fod y peth wedi digwydd yn y dref. Ac mae'r dyn i gael ei gosbi am dreisio dyweddi dyn arall. Rhaid cael gwared â'r drwg o'ch plith! “Ond os digwyddodd y peth yng nghefn gwlad, a'r dyn wedi fforsio ei hun arni a'i threisio hi, dim ond y dyn sydd i farw. Dydy'r ferch ifanc ddim i gael ei chosbi o gwbl. Wnaeth hi ddim byd o'i le i haeddu marw. Mae'r un fath â pan mae rhywun wedi ymosod ar berson arall a'i lofruddio — roedd y peth wedi digwydd yng nghefn gwlad, lle doedd neb i'w hachub hi pan oedd hi'n gweiddi. “Os ydy dyn yn cael ei ddal yn treisio merch ifanc sydd heb ei dyweddïo, rhaid i'r dyn dalu pum deg darn arian i'w thad, ac yna priodi'r ferch. Am ei fod e wedi ei threisio hi, fydd e byth yn cael ei hysgaru hi. “Dydy dyn ddim i briodi merch oedd ar un adeg yn wraig i'w dad. Byddai hynny'n amharchu ei dad. Dydy dyn sydd â'i geilliau wedi eu niweidio neu ei bidyn wedi ei dorri i ffwrdd ddim i gael perthyn i gynulleidfa pobl yr ARGLWYDD. Dydy dyn gafodd ei eni tu allan i briodas ddilys ddim yn cael perthyn i gynulleidfa pobl yr ARGLWYDD. (Na disgynyddion y person hwnnw chwaith, am byth. ) Dydy pobl Ammon a Moab ddim i gael perthyn i gynulleidfa pobl yr ARGLWYDD. (Na'u disgynyddion nhw chwaith, am byth.) Pan ddaethoch chi allan o'r Aifft roedden nhw wedi gwrthod rhoi dŵr a bwyd i chi. A hefyd dyma nhw'n talu Balaam fab Beor o Pethor yn Mesopotamia i'ch melltithio chi. Ond dyma'r ARGLWYDD eich Duw yn gwrthod gwrando arno, ac yn troi'r felltith yn fendith! Mae'r ARGLWYDD eich Duw yn eich caru chi. Felly peidiwch byth gwneud unrhyw beth i helpu Ammon a Moab i lwyddo a ffynnu. “Ond mae pobl Edom yn perthyn i chi, felly rhaid i chi beidio eu ffieiddio nhw. A peidiwch ffieiddio pobl yr Aifft, gan eich bod wedi byw fel mewnfudwr yn eu gwlad nhw. Gall plant eu plant berthyn i gynulleidfa pobl yr ARGLWYDD. Pan fyddwch chi'n mynd allan i ymladd yn erbyn eich gelynion, cadwch draw oddi wrth unrhyw beth sydd ddim yn lân. Er enghraifft, os ydy dyn yn gollwng ei had yn ei gwsg, mae'n aflan, a rhaid iddo adael y gwersyll, ac aros allan drwy'r dydd. Yna gyda'r nos rhaid iddo olchi ei hun gyda dŵr. A bydd yn gallu mynd yn ôl i'r gwersyll ar ôl i'r haul fachlud. Rhaid trefnu lle tu allan i'r gwersyll i'r dynion fynd i'r tŷ bach. Rhaid i ti fynd â rhaw gyda ti i wneud twll, a gorchuddio dy garthion gyda pridd. Mae'r gwersyll i'w gadw'n lân. Mae'r ARGLWYDD eich Duw yn cerdded o gwmpas y gwersyll; mae e gyda chi i'ch achub a'ch galluogi chi i ennill y frwydr. Does gynnoch chi ddim eisiau iddo fe weld rhywbeth afiach, a troi cefn arnoch chi. Os ydy caethwas o wlad arall wedi dianc i wlad Israel, peidiwch mynd ag e yn ôl i'w feistr. Mae i gael byw ble bynnag mae e eisiau. Caiff ddewis unrhyw un o'ch pentrefi i fynd i fyw yno. Peidiwch â'i gam-drin a chymryd mantais ohono. Ddylai merched a dynion ifanc Israel byth wasanaethu fel puteiniaid teml. Paid byth dod â tâl putain neu gyflog puteiniwr i deml yr ARGLWYDD dy Dduw er mwyn cadw addewid. Mae'r ddau beth yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD. Peidiwch codi llog ar fenthyciad i gyd-Israeliaid — llog ar arian, ar fwyd, neu unrhyw beth arall sydd wedi ei fenthyg. Cewch godi llog ar fenthyciad i bobl sydd ddim yn Israeliaid, ond peidiwch gwneud hynny wrth fenthyg i'ch pobl eich hunain. Bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn bendithio popeth wnewch chi, yn y wlad dych chi ar fin ei chymryd, os byddwch chi'n ufudd. Pan fyddwch chi'n gwneud adduned i'r ARGLWYDD eich Duw, peidiwch oedi cyn ei chyflawni. Neu byddwch chi'n cael eich dal yn gyfrifol ganddo. Mae'n well peidio gwneud adduned yn y lle cyntaf. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cadw eich adduned, beth bynnag oedd yr adduned honno. Er enghraifft, os gwnaethoch chi addo rhoi rhywbeth iddo yn offrwm gwirfoddol. Os ydych chi'n mynd trwy winllan rhywun arall, cewch fwyta faint fynnoch chi o rawnwin, ond peidiwch mynd â dim i ffwrdd mewn basged. Os ydych chi'n mynd trwy gae ŷd rhywun, cewch bigo'r tywysennau gyda'ch llaw, ond peidiwch defnyddio cryman i gymryd peth o'r cnwd. Os ydy dyn wedi priodi, ac yna'n darganfod rhywbeth am ei wraig sy'n codi cywilydd arno, rhaid iddo roi tystysgrif ysgariad iddi cyn ei hanfon hi i ffwrdd. Ar ôl iddi ei adael, mae hi'n rhydd i ailbriodi. Os ydy'r ail ŵr ddim yn hapus gyda hi, rhaid iddo yntau roi tystysgrif ysgariad iddi cyn ei hanfon hi i ffwrdd. Os bydd hynny'n digwydd, neu os bydd e'n marw, dydy'r gŵr cyntaf ddim i gael ei chymryd hi'n ôl, am ei bod bellach yn aflan. Byddai peth felly yn ffiaidd yng ngolwg yr ARGLWYDD. Rhaid i chi beidio dod â pechod ar y wlad mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei roi i chi i'w hetifeddu. Pan mae dyn newydd briodi, does dim rhaid iddo fynd allan i ymladd yn y fyddin na gorfod gwneud unrhyw wasanaeth cyhoeddus arall. Dylai fod yn rhydd i aros adre am flwyddyn gyfan a mwynhau bywyd gyda'i wraig. Ddylai neb gymryd maen melin yn warant ar fenthyciad. Byddai gwneud hynny fel cymryd bywyd ei hun yn flaendal. Os ydy rhywun yn cael ei ddal yn herwgipio un o'i gyd-Israeliaid, ac yn ei drin fel eiddo a'i werthu, y gosb ydy marwolaeth. Rhaid cael gwared â'r drwg yna o'ch plith. Pan fydd rhyw glefyd heintus ar y croen yn dechrau lledu, gwnewch yn union beth mae'r offeiriaid o lwyth Lefi yn ei ddweud. Dylech chi wneud yn union fel dw i wedi gorchymyn iddyn nhw. Cofiwch beth wnaeth yr ARGLWYDD eich Duw i Miriam pan oeddech chi wedi gadael yr Aifft. Wrth fenthyg rhywbeth i rywun, paid mynd i mewn i'w dŷ i hawlio beth mae'n ei gynnig yn warant y gwnaiff ei dalu'n ôl. Dylet ddisgwyl y tu allan, a gadael i'r sawl sy'n benthyg gen ti ddod â'i warant allan. Os ydy e'n dlawd, ddylet ti ddim cymryd ei got, a'i chadw dros nos fel gwystl. Dylet roi'r got yn ôl iddo cyn iddi nosi, iddo gysgu ynddi a gofyn i Dduw dy fendithio. Dyna beth sy'n iawn i'w wneud yng ngolwg yr ARGLWYDD eich Duw. Os ydy rhywun gwirioneddol dlawd yn gweithio i chi, peidiwch ei gam-drin a chymryd mantais ohono — sdim ots os ydy e'n un o bobl Israel neu'n rywun o'r tu allan sy'n byw yn eich plith chi. Dylech dalu ei gyflog iddo cyn diwedd y dydd, am ei fod yn dlawd ac angen yr arian i fyw. Os fyddwch chi ddim yn talu iddo bydd e'n cwyno i'r ARGLWYDD amdanoch chi, a byddwch chi wedi pechu. Ddylai rhieni ddim cael eu lladd am droseddau eu plant, na'r plant am droseddau eu rhieni. Dim ond y troseddwr ei hun ddylai farw. Peidiwch gwrthod cyfiawnder i fewnfudwyr neu blant amddifad. A peidiwch cymryd dillad gwraig weddw yn warant ar fenthyciad. Cofiwch eich bod chi wedi bod yn gaethion yn yr Aifft, a bod yr ARGLWYDD wedi'ch gollwng chi'n rhydd. Dyna pam dw i'n gorchymyn i chi wneud hyn i gyd. Pan fyddi'n casglu cynhaeaf dy dir, os byddi wedi gadael ysgub yn y cae, paid mynd yn ôl i'w chasglu. Gadael hi i'r bobl dlawd — mewnfudwyr, plant amddifad a gwragedd gweddwon. Wedyn bydd yr ARGLWYDD yn bendithio popeth fyddi di'n ei wneud. Pan fyddwch chi'n ysgwyd eich coed olewydd i gasglu'r ffrwyth, peidiwch gwneud hynny ddwywaith. Gadewch beth sydd ar ôl i'r mewnfudwyr, y plant amddifad a'r gweddwon. Pan fyddwch chi'n casglu'r grawnwin yn eich gwinllan, peidiwch mynd trwyddi'r ail waith. Gadewch beth sydd ar ôl i'r mewnfudwyr, y plant amddifad a'r gweddwon. Cofiwch eich bod chi wedi bod yn gaethion yn yr Aifft. Dyna pam dw i'n gorchymyn i chi wneud hyn i gyd. Pan fydd anghydfod yn codi rhwng pobl, dylen nhw fynd i'r llys. Bydd barnwyr yn gwrando ar yr achos, a penderfynu pwy sy'n euog. Os mai chwipio fydd y gosb, mae'r barnwr i wneud iddo orwedd ar lawr o'i flaen, a bydd yn cael ei chwipio faint bynnag o weithiau mae'n ei haeddu am beth wnaeth o'i le. Ddylai'r barnwr ddim dedfrydu neb i fwy na pedwar deg llach. Petai rhywun yn cael ei chwipio fwy na hynny, byddai'r person yn cael ei amharchu'n gyhoeddus. Peidiwch rhwysto'r ychen sy'n sathru'r ŷd rhag bwyta. Os ydy dau frawd yn byw gyda'i gilydd, ac un ohonyn nhw'n marw heb gael mab, ddylai ei weddw ddim priodi rhywun tu allan i'r teulu. Rhaid i frawd y gŵr fuodd farw ei phriodi hi, a chael mab yn ei le. Bydd y mab cyntaf i gael ei eni iddyn nhw yn cael ei gyfri'n fab cyfreithiol i'r brawd fuodd farw, rhag i'w enw ddiflannu o Israel. Ond os ydy'r dyn ddim eisiau priodi gweddw ei frawd, rhaid i'r weddw fynd at yr arweinwyr hŷn i'r llys wrth giât y dref a dweud wrthyn nhw, ‘Mae brawd fy ngŵr yn gwrthod wynebu ei gyfrifoldeb fel brawd-yng-nghyfraith, a cadw enw fy ngŵr yn fyw yn Israel!’ Yna bydd rhaid i arweinwyr y dref anfon am y dyn i siarad gydag e. Os ydy e'n dal i wrthod ei phriodi hi, dyma sydd i ddigwydd: Mae'r chwaer-yng-nghyfraith i gamu ato o flaen yr arweinwyr, tynnu un o sandalau'r dyn i ffwrdd a phoeri yn ei wyneb. Yna dweud, ‘Dyna sy'n digwydd i'r dyn sy'n gwrthod cadw enw teulu ei frawd i fynd!’ O hynny ymlaen bydd ei deulu e'n cael ei nabod fel ‛teulu'r dyn y tynnwyd ei sandal.‛ Os ydy dau ddyn yn dechrau ymladd gyda'i gilydd, a gwraig un ohonyn nhw yn ymyrryd i amddiffyn ei gŵr, ac yn gafael yn organau preifat y dyn, rhaid torri ei llaw i ffwrdd. Peidiwch teimlo trueni drosti. [13-15] Peidiwch twyllo wrth farchnata, defnyddiwch bwysau cywir, dim un sy'n ysgafn a'r llall yn drwm. A peidiwch defnyddio basgedi mesur o faint gwahanol. Dylai'r pwysau dych chi'n eu defnyddio, a maint y basgedi dych chi'n eu defnyddio fod yn gywir. Wedyn cewch fyw yn hir yn y wlad dych chi'n mynd i'w chymryd. *** *** Mae'r ARGLWYDD eich Dduw yn casáu gweld pobl yn bod yn anonest — mae'r peth yn ffiaidd ganddo! “Cofiwch beth wnaeth yr Amaleciaid i chi pan oeddech chi wedi gadael yr Aifft. Roeddech chi wedi blino'n lân, a dyma nhw'n eich dilyn chi ac ymosod ar y rhai oedd yn methu dal i fyny gyda'r gweddill. Doedd ganddyn nhw ddim parch at Dduw. Pan fyddwch chi'n cael llonydd gan yr holl elynion o'ch cwmpas chi yn y wlad mae'r ARGLWYDD yn ei rhoi i chi, rhaid i chi ladd yr Amaleciaid i gyd — nes bydd neb yn cofio am eu bodolaeth nhw! Peidiwch chi anghofio gwneud hyn! “Pan fyddwch chi wedi cyrraedd y wlad mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi i chi, ac wedi ei choncro a setlo i lawr ynddi, rhowch ffrwyth cyntaf pob cnwd i'r ARGLWYDD. Rhowch e mewn basged, a mynd ag e i'r lle mae'r ARGLWYDD wedi ei ddewis i gael ei addoli. Dwedwch wrth yr offeiriad sy'n gwasanaethu bryd hynny, ‘Dw i'n datgan heddiw fy mod i'n byw yn y wlad wnaeth yr ARGLWYDD dy Dduw addo i'n hynafiaid y byddai'n ei rhoi i ni.’ “Yna bydd yr offeiriad yn cymryd y fasged a'i gosod o flaen allor yr ARGLWYDD. Yna rhaid i ti wneud y datganiad yma: ‘Syriad yn crwydro yma ac acw oedd fy hynafiad. Aeth i lawr i'r Aifft a byw yno fel mewnfudwr. Criw bach oedd yn y teulu bryd hynny, ond dyma nhw'n tyfu i fod yn genedl fawr, bwerus a niferus. Ond dyma'r Eifftiaid yn ein cam-drin ni a'n gormesu ni, a'n gorfodi ni i wneud gwaith caled. Felly dyma ni'n galw ar yr ARGLWYDD, Duw ein hynafiaid, am help. Clywodd ni'n galw, a gwelodd mor anodd oedd pethau arnon ni, a'r gwaith caled a'r gorthrwm. Felly dyma'r ARGLWYDD yn defnyddio ei nerth rhyfeddol i ddod â ni allan o'r Aifft, a dychryn y bobl yno gyda'r gwyrthiau mwyaf syfrdanol. Yna daeth â ni yma, a rhoi'r tir yma i ni. Mae'n dir ffrwythlon — tir lle mae llaeth a mêl yn llifo. Felly, ARGLWYDD, edrych! Dw i wedi dod â ffrwyth cyntaf cynnyrch y tir wyt ti wedi ei roi i mi.’ Yna rwyt i'w adael o flaen yr ARGLWYDD dy Dduw, a'i addoli e. Wedyn gelli di a dy deulu, gyda'r Lefiaid a'r mewnfudwyr sydd gyda chi, ddathlu a mwynhau yr holl bethau da mae'r ARGLWYDD eich Duw wedi eu rhoi i chi. “Ar ôl casglu un rhan o ddeg o'ch cynnyrch yn y drydedd flwyddyn (blwyddyn y degwm), dych chi i'w roi i'r Lefiaid, mewnfudwyr, plant amddifad a'r gweddwon sy'n byw yn eich pentrefi chi, er mwyn iddyn nhw gael digon i'w fwyta. Yna rwyt i ddweud wrth yr ARGLWYDD dy Dduw, ‘Dw i wedi casglu'r offrwm sydd i gael ei osod o'r neilltu, ac wedi ei roi i'r Lefiaid, mewnfudwyr, plant amddifad a gweddwon, yn union fel rwyt ti wedi dweud wrtho i. Dw i ddim wedi torri nac anghofio dy reolau di. Dw i ddim wedi bwyta peth ohono pan oeddwn i'n galaru, na'i gymryd pan oeddwn i'n aflan yn seremonïol, na cyflwyno peth ohono'n offrwm i'r meirw. Dw i wedi bod yn ufudd i ti, a gwneud popeth oeddet ti'n ddweud. Edrych i lawr arnon ni o'r nefoedd, y lle sanctaidd ti'n byw ynddo, a bendithia dy bobl Israel, a'r tir wyt ti wedi ei roi i ni, fel gwnest ti addo i'n hynafiaid — tir lle mae llaeth a mêl yn llifo!’ “Heddiw mae'r ARGLWYDD yn gorchymyn i chi gadw'r rheolau a'r canllawiau yma, a gwneud hynny â'ch holl galon ac â'ch holl enaid. Heddiw dych chi wedi datgan mai'r ARGLWYDD ydy'ch Duw chi, ac y gwnewch chi fyw fel mae e eisiau i chi fyw, cadw ei reolau, ei orchmynion a'i ganllawiau, a gwrando arno. Heddiw mae'r ARGLWYDD wedi cyhoeddi mai chi ydy ei bobl e — ei drysor sbesial, fel gwnaeth e addo. Felly dylech gadw ei orchmynion e. Duw sydd wedi gwneud y cenhedloedd, ond bydd yn eich gwneud chi'n fwy enwog na nhw i gyd. Bydd pobl yn eich canmol chi a'ch anrhydeddu chi. Fel gwnaeth e addo, byddwch chi'n bobl wedi eich cysegru i'r ARGLWYDD eich Duw.” Yna dyma Moses, ac arweinwyr Israel gydag e, yn dweud wrth y bobl, “Cadwch y gorchmynion dw i'n eu rhoi i chi heddiw. Pan fyddwch chi'n croesi'r Afon Iorddonen i'r wlad mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi i chi, rhaid i chi godi cerrig mawr ac yna rhoi plastr drostyn nhw. Yna ysgrifennu copi o'r gorchmynion yma arnyn nhw. Wedyn gallwch fynd i mewn i'r wlad — tir ffrwythlon lle mae llaeth a mêl yn llifo, fel gwnaeth yr ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, ddweud wrthoch chi. Mae'r cerrig yma gyda plastr drostyn nhw i gael eu codi ar Fynydd Ebal. Yna dylech adeiladu allor yno i'r ARGLWYDD eich Duw — allor o gerrig sydd heb eu naddu gydag offer haearn. Defnyddiwch gerrig cyfan i adeiladu'r allor, yna cyflwyno offrymau arni — offrymau i'w llosgi'n llwyr i'r ARGLWYDD eich Duw. Hefyd offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD, a gallwch wledda a dathlu o flaen yr ARGLWYDD eich Duw. Peidiwch anghofio ysgrifennu copi o'r gorchmynion yma ar y cerrig sy'n cael eu gosod i fyny, a gwnewch yn siŵr eu bod nhw i'w gweld yn glir.” Yna dyma Moses, gyda'r offeiriaid o lwyth Lefi, yn dweud wrth bobl Israel: “Distawrwydd! Gwrandwch arno i, bobl Israel. Heddiw dych chi wedi'ch gwneud yn bobl i'r ARGLWYDD. Rhaid i chi wrando arno, a cadw'r rheolau a'r canllawiau dw i'n eu rhoi i chi.” Yr un diwrnod dyma Moses yn gorchymyn i'r bobl: “Ar ôl i chi groesi'r Afon Iorddonen, mae'r llwythau canlynol i sefyll ar Fynydd Gerisim a bendithio'r bobl: Simeon, Lefi, Jwda, Issachar, Joseff a Benjamin. Yna mae'r llwythau eraill i sefyll ar Fynydd Ebal tra mae'r melltithion yn cael eu cyhoeddi: Reuben, Gad, Asher, Sabulon, Dan a Nafftali. “Bydd y Lefiaid yn cyhoeddi'n uchel wrth bobl Israel: ‘Melltith ar rywun sy'n cael crefftwr i gerfio delw, neu wneud eilun o fetel tawdd, ac yna'n ei osod i fyny i'w addoli (hyd yn oed o'r golwg) — mae peth felly yn hollol ffiaidd gan yr ARGLWYDD.’ A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’ ‘Melltith ar rywun sy'n dangos dim parch at ei dad a'i fam.’ A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’ ‘Melltith ar bwy bynnag sy'n symud terfyn i ddwyn tir oddi ar rywun arall.’ A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’ ‘Melltith ar bwy bynnag sy'n dweud wrth rywun dall am fynd y ffordd rong.’ A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’ ‘Melltith ar bwy bynnag sy'n gwrthod cyfiawnder i fewnfudwyr, plant amddifad a gweddwon.’ A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’ ‘Melltith ar rywun sy'n cael rhyw gyda gwraig ei dad. Byddai hynny'n amharchu ei dad.’ A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’ ‘Melltith ar rywun sy'n cael rhyw gydag anifail.’ A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’ ‘Melltith ar rywun sy'n cael rhyw gyda'i chwaer — merch i'w dad neu ei fam.’ A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’ ‘Melltith ar rywun sy'n cael rhyw gyda'i fam-yng-nghyfraith.’ A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’ ‘Melltith ar bwy bynnag sy'n llofruddio rhywun arall.’ A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’ ‘Melltith ar bwy bynnag sy'n derbyn tâl i lofruddio rhywun diniwed.’ A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’ ‘Melltith ar bawb sydd ddim yn gwneud pob peth mae'r gyfraith yma'n ei ddweud.’ A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’ “Os byddwch chi wir yn ufudd i'r ARGLWYDD eich Duw, a gwneud yn siŵr eich bod chi'n cadw'r gorchmynion dw i'n eu rhoi i chi heddiw, bydd e'n eich gwneud chi'n fwy enwog na'r cenhedloedd eraill i gyd. Byddwch yn derbyn llond gwlad o fendithion os byddwch chi'n ufudd iddo: Cewch eich bendithio ble bynnag dych chi'n gweithio. Bydd bendith ar eich plant, ar gynnyrch eich tir, ac ar eich anifeiliaid i gyd — bydd eich gwartheg, defaid a geifr yn cael lot o rai bach. Bydd digon o rawn yn eich basged, a digon o fwyd ar eich bwrdd. Cewch eich bendithio ble bynnag ewch chi. Bydd yr ARGLWYDD yn achosi i'r gelynion sy'n ymosod arnoch chi gael eu taro i lawr o flaen eich llygaid! Byddan nhw'n ymosod arnoch chi o un cyfeiriad, ond yn dianc i bob cyfeiriad! Bydd yr ARGLWYDD yn llenwi eich ysguboriau chi, ac yn bendithio popeth wnewch chi — ydy, mae e'n mynd i'ch bendithio chi yn y wlad mae'n ei rhoi i chi. Bydd yr ARGLWYDD yn cadarnhau mai chi ydy'r bobl mae e wedi eu cysegru iddo'i hun, fel gwnaeth e addo, os gwnewch chi wneud beth mae e'n ddweud a byw fel mae e eisiau. Wedyn bydd pawb drwy'r byd i gyd yn gwybod mai chi ydy pobl yr ARGLWYDD, a byddan nhw'n eich parchu chi. Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud i chi lwyddo bob ffordd — cewch lot o blant, bydd eich anifeiliaid yn cael lot o rai bach, a bydd eich cnydau'n llwyddo yn y wlad wnaeth e addo i'ch hynafiaid y byddai'n ei rhoi i chi. Bydd yr ARGLWYDD yn agor ei stordai yn yr awyr, ac yn rhoi glaw yn ei dymor i'r tir. Bydd yn bendithio popeth wnewch chi. Bydd gynnoch chi ddigon i'w fenthyg i genhedloedd eraill, ond fydd dim angen benthyg arnoch chi o gwbl. Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud i chi arwain, ac nid dilyn. Byddwch chi ar y top, dim ar y gwaelod — dim ond i chi wneud yn siŵr eich bod chi'n cadw ei orchmynion e, y rhai dw i'n eu rhoi i chi heddiw. Ond rhaid i chi beidio crwydro o gwbl oddi wrth y gorchmynion dw i'n eu rhoi i chi, a peidio mynd i addoli duwiau eraill. “Ond os byddwch chi'n gwrthod gwrando ar yr ARGLWYDD eich Duw, heb wneud yn siŵr eich bod chi'n cadw ei orchmynion a'i ganllawiau e, bydd llond gwlad o felltithion yn dod arnoch chi! Cewch eich melltithio ble bynnag dych chi'n gweithio. Fydd dim grawn yn eich basged, a dim bwyd ar eich bwrdd. Bydd eich plant, a chynnyrch eich tir wedi eu melltithio — fydd eich gwartheg, defaid a geifr ddim yn cael rhai bach. Cewch eich melltithio ble bynnag ewch chi. Bydd yr ARGLWYDD yn melltithio, drysu a gwrthwynebu popeth wnewch chi, nes byddwch chi wedi'ch dinistrio ac wedi diflannu o achos yr holl ddrwg fyddwch chi'n ei wneud, ac am eich bod chi wedi troi cefn arna i. Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud i chi ddal heintiau marwol, nes bydd e wedi cael gwared â chi'n llwyr o'r tir dych chi ar fin ei gymryd drosodd. Byddwch yn dioddef o afiechydon ellir mo'i gwella, gwres uchel, llid, heintiau, sychder, cnydau wedi eu difetha gan ormod o wres neu ormod o law. Fyddan nhw ddim yn stopio nes byddwch chi wedi diflannu. Bydd yr awyr uwch eich pennau fel pres, a'r ddaear dan eich traed yn galed fel haearn, am fod dim glaw. Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud iddi lawio llwch a lludw. Bydd yn disgyn arnoch chi o'r awyr nes byddwch chi wedi'ch difa. Bydd yr ARGLWYDD yn gadael i'ch gelynion eich trechu chi. Byddwch chi'n ymosod arnyn nhw o un cyfeiriad, ond yn gorfod dianc i bob cyfeiriad! Bydd beth fydd yn digwydd i chi yn ddychryn i wledydd y byd i gyd. Bydd eich cyrff marw yn fwyd i'r holl adar ac anifeiliaid gwylltion, a fydd yna neb ar ôl i'w dychryn nhw i ffwrdd. Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud i chi ddioddef o'r chwyddau wnaeth daro pobl yr Aifft, briwiau cas, crach ar y croen, a'r cosi — a fydd dim gwella i chi. Bydd yr ARGLWYDD yn achosi panig, a'ch gwneud yn ddall ac yn ddryslyd. Byddwch chi'n ymbalfalu ganol dydd fel rhywun dall sydd yn y tywyllwch, a fydd dim fyddwch chi'n ei wneud yn llwyddo. Bydd pobloedd eraill yn eich cam-drin chi ac yn dwyn oddi arnoch chi o hyd, a fydd yna neb i'ch achub chi. Bydd dyn wedi dyweddïo gyda merch, a bydd dyn arall yn ei threisio hi. Byddwch chi'n adeiladu tŷ ond ddim yn cael byw ynddo. Byddwch chi'n plannu gwinllan, ond ddim yn casglu ei ffrwyth. Bydd eich ychen yn cael ei ladd o flaen eich llygaid, ond fyddwch chi ddim yn bwyta'r cig. Byddwch chi'n gwylio eich asyn yn cael ei ddwyn oddi arnoch chi, a fyddwch chi ddim yn ei gael yn ôl. Bydd eich praidd o ddefaid yn cael eu cymryd gan eich gelynion, a fydd yna neb i'ch achub chi. Bydd eich meibion a'ch merched yn cael eu rhoi i bobl eraill o flaen eich llygaid. Byddwch chi'n edrych amdanyn nhw, ac yn gallu gwneud dim i ddod â nhw'n ôl. Bydd pobl dych chi ddim yn eu nabod yn mwynhau cynnyrch eich tir a ffrwyth eich gwaith caled, a byddwch chi'n cael eich gorthrymu a'ch sathru dan draed am weddill eich bywydau. Bydd gweld hyn yn eich gyrru chi'n wallgof! Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud i'ch gliniau a'ch coesau chwyddo — byddwch chi mewn poen drosoch, o'r corun i'r sawdl. Bydd yr ARGLWYDD yn eich gyrru chi, a'r brenin fyddwch chi wedi ei benodi drosoch, at bobl ydych chi a'ch hynafiaid yn gwybod dim amdanyn nhw, ac yno byddwch chi'n addoli duwiau o bren a charreg. Byddwch chi'n achos dychryn, wedi'ch gwneud yn esiampl ac yn destun sbort i'r bobloedd y bydd yr ARGLWYDD yn eich gyrru chi atyn nhw. Byddwch chi'n hau lot fawr o had, ond yn medi ychydig iawn. Bydd locustiaid yn ei ddifetha. Byddwch yn plannu gwinllannoedd a gofalu amdanyn nhw, ond gewch chi ddim yfed y gwin na chasglu'r grawnwin. Bydd pryfed yn eu bwyta nhw! Bydd coed olewydd drwy'r wlad i gyd, ond gewch chi ddim ei roi ar eich hwynebau. Bydd yr olewydd yn syrthio o'r coed cyn aeddfedu. Byddwch yn magu plant — bechgyn a merched — ond yn eu colli nhw. Byddan nhw'n cael eu cymryd yn gaethion. Bydd locustiaid swnllyd yn difetha'r coed a'r cnydau. Bydd y bobl o'r tu allan sy'n byw gyda chi yn troi'n fwy cyfoethog ac yn llwyddo, a byddwch chi'n mynd yn is ac yn dlotach. Byddan nhw'n benthyg i chi, ond fyddwch chi ddim yn benthyg iddyn nhw. Nhw fydd yn arwain a chi fydd yn dilyn! “Bydd y melltithion yma i gyd yn dod arnoch chi. Fydd dim dianc, a byddwch yn cael eich dinistrio, am eich bod heb fod yn ufudd i'r ARGLWYDD eich Duw, ac heb gadw'r gorchmynion a'r canllawiau roddodd e i chi. Bydd y cwbl yn arwydd clir fydd yn gwneud i bobl ryfeddu atoch chi a'ch disgynyddion. “Wnaethoch chi ddim defnyddio'r digonedd oedd gynnoch chi i wasanaethu'r ARGLWYDD eich Duw, a rhoi eich hunain yn llwyr i wneud hynny, felly byddwch chi'n gwasanaethu'r gelynion wnaeth yr ARGLWYDD eu hanfon i ymosod arnoch chi. Byddwch chi'n dioddef o newyn a syched, yn noeth ac yn dlawd. Byddan nhw'n gosod iau haearn ar eich gwar, a gwneud i chi weithio mor galed bydd yn ddigon i'ch lladd chi! “Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud i bobl o wlad bell godi yn eich erbyn chi. Byddan nhw'n dod o ben draw'r byd ac yn plymio i lawr arnoch chi fel eryr. Fyddwch chi ddim yn deall eu hiaith nhw. Pobl greulon, yn dangos dim parch at yr henoed, a dim trugaredd at bobl ifanc. Byddan nhw'n dwyn eich anifeiliaid chi, a chnydau'r tir i gyd, nes byddwch chi wedi'ch dinistrio'n llwyr. Fydd gynnoch chi ddim ŷd, sudd grawnwin, olew olewydd, lloi nac ŵyn ar ôl. Byddan nhw'n gwarchae ar giatiau eich trefi amddiffynnol chi ac ymosod ar y waliau uchel nes byddan nhw wedi syrthio — a chithau'n rhoi cymaint o ffydd yn y trefi yma! Byddan nhw'n gwarchae ar drefi drwy'r wlad i gyd a'ch cau chi i mewn, a bydd pethau'n mynd mor ofnadwy byddwch chi'n bwyta eich plant — ie, bwyta cnawd eich meibion a'ch merched! [54-55] Bydd y dyn mwyaf tyner a charedig yn bwyta cnawd ei blant (am fod dim byd arall ar ôl i'w fwyta), a bydd e'n gwrthod rhannu gyda'i frawd, neu'r wraig mae'n ei charu, a'i blant eraill. Dyna i chi pa mor ddrwg fydd pethau pan fydd y gelyn yn gwarchae arnoch chi a'ch cau chi i mewn yn y trefi! *** [56-57] Bydd y wraig fwyaf addfwyn a charedig (sydd wedi cael bywyd braf, ac erioed wedi gorfod cerdded heb esgidiau), yn gwrthod rhannu gyda'r gŵr mae'n ei garu, a'i meibion a'i merched. Bydd canlyniadau'r gwarchae mor ofnadwy, bydd hi'n geni plentyn, ac yna'n dawel fach yn bwyta'r brych a'r plentyn. Dyna pa mor ddrwg fydd pethau pan fydd y gelyn yn gwarchae arnoch chi a'ch cau chi i mewn yn y trefi! *** “Rhaid i chi wneud popeth mae'r gyfraith yn ei ddweud, sef beth sydd wedi ei ysgrifennu yn y sgrôl yma. A rhaid i chi barchu enw gwych a rhyfeddol yr ARGLWYDD eich Duw. Os na wnewch chi, bydd e'n eich cosbi chi a'ch disgynyddion yn drwm — salwch tymor hir ac afiechydon marwol. Byddwch yn dal yr heintiau ofnadwy wnaeth daro'r Aifft, a fydd dim iachâd. Bydd yr ARGLWYDD yn eich taro chi gyda pob math o afiechydon does dim sôn amdanyn nhw yn sgrôl y Gyfraith, nes byddwch chi wedi'ch dinistrio'n llwyr yn y diwedd. Ar un adeg roedd cymaint ohonoch chi ac sydd o sêr yn yr awyr, ond fydd bron neb ar ôl, am eich bod wedi gwrthod gwrando ar yr ARGLWYDD eich Duw. “Dyma beth fydd yn digwydd: Yn union fel roedd yr ARGLWYDD wrth ei fodd yn gwneud i chi lwyddo a lluosogi, bydd wrth ei fodd yn eich dinistrio a'ch difetha chi. Byddwch yn cael eich symud o'r wlad dych chi ar fin ei chymryd drosodd. Bydd yr ARGLWYDD yn eich gyrru chi ar chwâl drwy'r gwledydd i gyd, a bydd rhaid i chi addoli eilun-dduwiau o bren a charreg — duwiau dych chi a'ch hynafiaid yn gwybod dim amdanyn nhw. Fyddwch chi'n cael dim llonydd na gorffwys yn y gwledydd hynny. Bydd yr ARGLWYDD yn eich gwneud chi'n anesmwyth, yn ddigalon a diobaith. Bydd eich bywyd yn y fantol. Nos a dydd byddwch ofn marw, heb sicrwydd y byddwch chi'n dal yn fyw y diwrnod wedyn. Bydd amser yn llusgo, a fyddwch chi byth yn hapus — bydd y pethau gwaethaf allwch chi eu dychmygu yn digwydd i chi! Bydd yr ARGLWYDD yn eich rhoi chi ar long, a'ch gyrru chi yn ôl i'r Aifft ar hyd llwybr roeddwn i wedi dweud fyddech chi byth yn ei weld eto. Yno byddwch yn ceisio gwerthu eich hunain yn gaethweision a caethferched i'ch gelynion, ond fydd neb eisiau eich prynu chi.” Dyma amodau'r ymrwymiad wnaeth yr ARGLWYDD orchymyn i Moses ei wneud gyda phobl Israel pan oedden nhw ar dir Moab. Roedd hwn yn ychwanegol i'r ymrwymiad wnaeth e gyda nhw ar Fynydd Sinai. Dyma Moses yn galw pobl Israel at ei gilydd, a dweud wrthyn nhw: “Dych chi wedi gweld popeth wnaeth yr ARGLWYDD yn yr Aifft i'r Pharo a'i swyddogion, a phawb arall drwy'r wlad. Gwelsoch sut wnaeth e eu cosbi nhw, a'r gwyrthiau rhyfeddol wnaeth e. Ond dydy'r ARGLWYDD ddim wedi rhoi'r gallu i chi ddeall y peth hyd heddiw. Does gynnoch chi ddim llygaid sy'n gweld na chlustiau sy'n clywed. Dw i wedi'ch arwain chi drwy'r anialwch am bedwar deg mlynedd. Dydy'ch dillad chi ddim wedi difetha, na'ch sandalau chwaith. Dych chi ddim wedi bwyta bara nac yfed gwin neu ddiod feddwol. A dw i wedi gwneud hyn i gyd er mwyn i chi ddeall mai fi ydy'r ARGLWYDD, eich Duw chi! Pan gyrhaeddoch chi yma, dyma Sihon, brenin Cheshbon, ac Og, brenin Bashan, yn dod allan i ryfela yn ein herbyn ni, ond ni wnaeth ennill y frwydr. Dyma ni'n cymryd eu tir nhw, a'i roi i lwythau Reuben a Gad, a hanner llwyth Manasse. “Felly gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cadw amodau'r ymrwymiad yma, a bydd popeth wnewch chi yn llwyddo. Dych chi i gyd yn sefyll yma heddiw o flaen yr ARGLWYDD eich Duw — arweinwyr y llwythau, henuriaid, swyddogion, dynion, plant, gwragedd, a'r bobl o'r tu allan sydd gyda chi, y rhai sy'n torri coed ac yn cario dŵr. Dych chi i gyd yma i gytuno i amodau'r ymrwymiad mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei wneud gyda chi. Heddiw bydd e'n cadarnhau mai chi ydy ei bobl e, ac mai fe ydy eich Duw chi, fel gwnaeth e addo i chi ar lw i Abraham, Isaac a Jacob. A dim chi sydd yma ydy'r unig rai dw i'n gwneud yr ymrwymiad yma gyda nhw, ond pawb sy'n fodlon sefyll gyda ni o flaen yr ARGLWYDD ein Duw, a rhai sydd ddim wedi ei geni eto. “Dych chi'n gwybod sut roedden ni'n byw yn yr Aifft, a sut roedd rhaid croesi'r gwahanol wledydd wrth deithio. Dych chi wedi gweld eu pethau ffiaidd nhw, a'i heilun-dduwiau o bren, carreg, arian ac aur. Gwnewch yn siŵr fod neb yn troi cefn ar yr ARGLWYDD ein Duw, a dechrau addoli duwiau'r cenhedloedd hynny — gŵr, gwraig, teulu na llwyth. Byddai hynny fel gadael i wreiddyn sy'n rhoi ffrwyth gwenwynig, chwerw, dyfu yn eich plith chi. Mae person felly yn clywed amodau'r ymrwymiad yma, ac eto'n dawel fach yn bendithio'i hun a dweud, ‘Bydd popeth yn iawn hyd yn oed os gwna i dynnu'n groes!’ Mae peth felly yn dinistrio'r tir da gyda'r tir sych. Fydd yr ARGLWYDD ddim yn maddau i'r person hwnnw. Bydd e'n wyllt gynddeiriog gydag e, a bydd y melltithion sydd yn y sgrôl yma yn dod arno. Bydd yr ARGLWYDD yn cael gwared ag e'n llwyr! Bydd yr ARGLWYDD yn ei bigo allan o ganol llwythau Israel i gyd, yn union fel mae'r melltithion sydd yn sgrôl y Gyfraith yn dweud. “Bydd eich disgynyddion, a pobl sy'n teithio o wledydd pell, yn gweld fel roedd y wlad wedi dioddef o'r afiechydon a'r trasiedïau wnaeth yr ARGLWYDD eu hanfon. Bydd y tir i gyd wedi ei ddifetha gan frwmstan a halen, sbwriel yn llosgi. Fydd dim yn cael ei blannu a fydd dim yn tyfu arno. Bydd fel dinistr Sodom a Gomorra, Adma a Seboïm, gafodd eu dinistrio gan yr ARGLWYDD pan oedd e'n ddig. A bydd y cenhedloedd i gyd yn gofyn, ‘Pam mae'r ARGLWYDD wedi gwneud hyn i'r wlad yma? Pam oedd e wedi gwylltio cymaint?’ A bydd pobl yn ateb, ‘Am eu bod nhw wedi troi cefn ar yr ymrwymiad wnaeth yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid, pan ddaeth â nhw allan o wlad yr Aifft. Roedden nhw wedi troi i addoli duwiau eraill — eilun-dduwiau oedden nhw'n gwybod dim amdanyn nhw, a ddim i fod i'w haddoli nhw. Roedd yr ARGLWYDD wedi gwylltio'n lân gyda nhw, a dyna pam wnaethon nhw ddioddef yr holl felltithion mae'r sgrôl yma'n sôn amdanyn nhw. Dyma'r ARGLWYDD yn eu diwreiddio nhw, a'i gyrru i wlad arall. Roedd yn flin, ac wedi digio'n lân gyda nhw.’ “Mae yna rai pethau, dim ond yr ARGLWYDD sy'n gwybod amdanyn nhw; ond mae pethau eraill sydd wedi eu datguddio i ni a'n disgynyddion, er mwyn i ni bob amser wneud beth mae'r gyfraith yn ei ddweud. “Pan fyddwch chi wedi profi'r holl fendithion a melltithion yma dw i'n eu gosod o'ch blaen chi, byddwch chi'n meddwl eto am beth ddywedais i, pan fyddwch yn y gwledydd lle bydd yr ARGLWYDD eich Duw wedi eich gyrru chi. Wedyn os byddwch chi a'ch disgynyddion yn troi'n ôl at yr ARGLWYDD eich Duw, ac yn bod yn ufudd iddo â'ch holl galon ac â'ch holl enaid, fel dw i'n gorchymyn i chi heddiw. Bydd yr ARGLWYDD yn teimlo trueni drosoch chi ac yn gadael i chi lwyddo eto. Bydd yn eich casglu chi oddi wrth y bobl roedd e wedi eich gwasgaru chi i'w canol nhw. Hyd yn oed os byddwch chi wedi cael eich gyrru i ben draw'r byd, bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn dod â chi yn ôl. Bydd e'n dod â chi i gymryd yn ôl y wlad wnaeth eich hynafiaid ei meddiannu. Byddwch yn fwy llwyddiannus, a bydd mwy ohonoch chi nag oedd bryd hynny! Bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn eich newid chi o'r tu mewn, i'ch gwneud chi a'ch disgynyddion yn bobl go iawn iddo. Byddwch yn ei garu â'ch holl galon ac â'ch holl enaid, ac yn cael bywyd! “Ond bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn melltithio eich gelynion — y bobl hynny sy'n eich casáu chi ac yn eich erlid chi. Bydd yn ddechrau newydd i chi! Byddwch yn gwrando ar yr ARGLWYDD, ac yn cadw'r gorchmynion dw i wedi eu rhoi i chi heddiw. Bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn gwneud i bopeth wnewch chi lwyddo. Byddwch chi'n cael lot o blant, bydd eich anifeiliaid yn cael rhai bach, a bydd cynnyrch y tir yn llwyddo. Bydd yr ARGLWYDD eich Duw wrth ei fodd gyda chi, ac yn gwneud i chi lwyddo, fel roedd e wrth ei fodd gyda'ch hynafiaid chi, dim ond i chi fod yn ufudd iddo, a chadw'r gorchmynion a'r rheolau sydd wedi eu hysgrifennu yn sgrôl y Gyfraith yma. Ond rhaid i chi droi ato â'ch holl galon ac â'ch holl enaid. “Dydy beth dw i'n ei orchymyn i chi heddiw ddim yn anodd i'w ddeall, nag yn amhosib i'w gyrraedd. Dydy e ddim yn y nefoedd, fel bod rhaid i rywun ofyn, ‘Pwy wnaiff fynd i fyny i'r nefoedd i'w gael i ni, a'i gyhoeddi er mwyn i ni wneud beth mae'n ddweud?’ A dydy e ddim ym mhen draw'r byd, fel bod rhaid gofyn, ‘Pwy wnaiff fynd dros y môr i'w gael i ni, a'i gyhoeddi i ni er mwyn i ni wneud beth mae'n ddweud?’ Mae'r gorchmynion gen ti wrth law; ti'n eu deall ac yn gallu eu dyfynnu ar y cof. Felly gwna beth maen nhw'n ddweud. “Edrychwch! Dw i wedi rhoi dewis i chi heddiw — bywyd a llwyddiant, neu farwolaeth a dinistr. Beth dw i'n ei orchymyn i chi ydy i chi garu'r ARGLWYDD eich Duw, byw fel mae e eisiau i chi fyw, a chadw ei orchmynion, ei reolau, a'i ganllawiau. Wedyn byddwch chi'n byw ac yn llwyddo, a bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn eich bendithio yn y wlad dych chi ar fin ei chymryd. “Ond os byddwch chi'n troi oddi wrtho a gwrthod gwrando arno, ac yn cael eich denu i'w haddoli nhw, dw i'n eich rhybuddio chi, byddwch chi'n cael eich dinistrio! Gewch chi ddim aros yn hir iawn yn y wlad dych chi'n croesi'r afon Iorddonen i'w chymryd. “Dw i'n galw'r nefoedd a'r ddaear yn dystion yn eich erbyn chi. Dw i'n gosod dewis o'ch blaen chi — bywyd neu farwolaeth, bendith neu felltith. Felly dewiswch fywyd, a cewch chi a'ch disgynyddion fyw! Rhaid i chi garu'r ARGLWYDD eich Duw, gwrando ar beth mae e'n ddweud ac aros yn ffyddlon iddo. Fe ydy'r un sy'n rhoi bywyd, a fe fydd yn eich galluogi chi i fyw yn y wlad wnaeth e addo ei rhoi i'ch hynafiaid chi, Abraham, Isaac a Jacob.” Dyma Moses yn annerch pobl Israel i gyd eto, a dweud wrthyn nhw, “Dw i'n gant dau ddeg, a ddim yn gallu mynd a dod fel roeddwn i. Ac mae'r ARGLWYDD wedi dweud wrtho i na fydda i'n croesi'r afon Iorddonen. Ond bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn mynd drosodd o'ch blaen chi. Bydd e'n dinistrio'r cenhedloedd ac yn cymryd eu tir oddi arnyn nhw. Mae e wedi dweud mai Josua fydd yn eich arwain chi. Bydd yr ARGLWYDD yn eu dinistrio nhw a'u gwlad, fel y gwnaeth e i Sihon ac Og, brenhinoedd yr Amoriaid. Bydd e'n rhoi'r gallu i chi eu concro nhw, ond rhaid i chi wedyn wneud yn union fel dw i wedi gorchymyn i chi. Byddwch yn gryf a dewr! Peidiwch bod ag ofn, a peidiwch panicio. Mae'r ARGLWYDD eich Duw yn mynd gyda chi. Fydd e byth yn eich siomi chi, nac yn troi ei gefn arnoch chi.” Yna dyma Moses yn galw Josua ato o flaen pobl Israel, a dweud wrtho, “Bydd yn gryf a dewr! Ti'n mynd gyda'r bobl yma i'r wlad wnaeth yr ARGLWYDD ei addo i'w hynafiaid nhw. Ti fydd yn eu galluogi nhw i gymryd y tir. Ond mae'r ARGLWYDD ei hun yn mynd o'ch blaen chi. Bydd e gyda chi; fydd e byth yn eich siomi chi, nac yn troi ei gefn arnoch chi. Peidiwch bod ag ofn na panicio.” Yna dyma Moses yn ysgrifennu'r cyfarwyddiadau yma, a'u rhoi nhw i'r offeiriaid o lwyth Lefi, sy'n cario Arch ymrwymiad yr ARGLWYDD, ac i arweinwyr Israel i gyd. A dyma fe'n gorchymyn iddyn nhw, “Pob saith mlynedd, ar Ŵyl y Pebyll, pan mae dyledion yn cael eu canslo, a pobl Israel i gyd yn dod o flaen yr ARGLWYDD eich Duw yn y lle mae e wedi ei ddewis, rhaid i chi ddarllen y cyfarwyddiadau yma iddyn nhw. Galwch y bobl at ei gilydd — dynion, merched a phlant, a'r mewnfudwyr sy'n byw yn eich pentrefi chi — iddyn nhw eu clywed, dysgu dangos parch at yr ARGLWYDD eich Duw, a gwneud popeth mae'r gyfraith yn ei ddweud. Wedyn bydd eu disgynyddion, oedd ddim yn gwybod y gyfraith, yn cael clywed am yr ARGLWYDD eich Duw, a dysgu ei barchu, tra byddwch chi'n byw yn y wlad dych chi'n croesi dros yr afon Iorddonen i'w meddiannu.” Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Ti'n mynd i farw cyn bo hir. Galw am Josua, a dos gydag e i sefyll ym mhabell presenoldeb Duw, er mwyn i mi ei gomisiynu e.” Felly dyma Moses a Josua yn gwneud hynny. A dyma'r ARGLWYDD yn ymddangos iddyn nhw mewn colofn o niwl uwch ben drws y babell. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Ti'n mynd i farw cyn bo hir, a bydd y bobl yma'n anffyddlon i mi ac yn addoli duwiau'r wlad maen nhw'n mynd i mewn iddi. Byddan nhw'n troi cefn arna i, ac yn torri'r ymrwymiad dw i wedi ei wneud gyda nhw. Bydda i'n digio gyda nhw, ac yn troi cefn arnyn nhw, nes byddan nhw wedi eu dinistrio. Bydd lot o drychinebau ac helyntion yn dod arnyn nhw, a byddan nhw'n dweud, ‘Mae'r pethau ofnadwy yma wedi digwydd i ni am fod ein Duw wedi ein gadael ni.’ Ond fydda i'n sicr ddim yn eu helpu nhw, am eu bod nhw wedi gwneud cymaint o ddrwg drwy droi i addoli duwiau eraill. Felly ysgrifenna eiriau'r gân yma i lawr, a dysga hi i bobl Israel ar y cof. Bydd y gân yma'n dystiolaeth gen i yn erbyn pobl Israel. “Ar ôl i mi fynd â nhw i'r wlad wnes i addo ei rhoi i'w hynafiaid — tir ffrwythlon lle mae llaeth a mêl yn llifo — byddan nhw ar ben eu digon. Ond yna byddan nhw'n troi i addoli duwiau eraill, yn dangos dirmyg ata i ac yn torri amodau'r ymrwymiad wnes i. Wedyn pan fydd y trychinebau a'r helyntion yn dod arnyn nhw bydd y gân yma yn dystiolaeth yn eu herbyn nhw (Bydd eu disgynyddion yn dal i gofio'r gân.) Dw i'n gwybod yn iawn beth sydd ar eu meddyliau nhw, hyd yn oed cyn i mi fynd â nhw i mewn i'r wlad dw i wedi addo ei rhoi iddyn nhw.” Felly dyma Moses yn ysgrifennu'r gân i lawr, ac yn ei dysgu hi i bobl Israel. A dyma'r ARGLWYDD yn comisiynu Josua fab Nwn, “Bydd yn gryf a dewr. Ti sy'n mynd i arwain pobl Israel i'r wlad dw i wedi addo ei rhoi iddyn nhw. Ond bydda i gyda ti.” Pan oedd Moses wedi gorffen ysgrifennu'r cyfarwyddiadau yma i gyd mewn sgrôl, dyma fe'n rhoi'r gorchymyn yma i'r dynion o lwyth Lefi oedd yn cario Arch ymrwymiad yr ARGLWYDD: “Cymerwch sgrôl y Gyfraith, a'i gosod hi wrth ymyl arch ymrwymiad yr ARGLWYDD eich Duw. Bydd yna yn dystiolaeth yn eich erbyn chi. Dych chi'n bobl benstiff. Dych chi wedi gwrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD yr holl amser dw i wedi bod gyda chi, felly sut fyddwch chi ar ôl i mi farw? Casglwch arweinwyr y llwythau, a'r swyddogion at ei gilydd, i mi ddarllen y cwbl iddyn nhw, a bydda i'n galw y nefoedd a'r ddaear i dystio eu bod nhw'n gwybod beth maen nhw i fod i'w wneud. Dw i'n gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd. Ar ôl i mi farw byddwch chi'n sbwylio popeth drwy droi cefn ar y ffordd o fyw dw i wedi ei dysgu i chi. Bydd trychineb yn dod arnoch chi yn y dyfodol o ganlyniad i'r holl ddrwg fyddwch chi'n ei wneud yn pryfocio'r ARGLWYDD i ddigio gyda chi.” Yna dyma Moses yn adrodd geiriau'r gân i bobl Israel i gyd, o'i dechrau i'w diwedd: Nefoedd a daear, gwrandwch beth dw i'n ddweud! Bydd beth dw i'n ddweud fel cawod o law, a'm dysgeidiaeth fel diferion o wlith; bydd fel glaw yn disgyn ar borfa, neu law mân ar laswellt. Wrth i mi gyhoeddi enw'r ARGLWYDD, dwedwch mor fawr yw ein Duw! Mae e fel craig, a'i waith yn berffaith; mae bob amser yn gwneud beth sy'n iawn. Bob amser yn deg ac yn onest — yn Dduw ffyddlon sydd byth yn anghyfiawn. Ond mae ei bobl wedi bod yn anffyddlon, ac heb ymddwyn fel dylai ei blant — a dyna'r drwg. Maen nhw'n genhedlaeth anonest, sy'n twyllo. Ai dyma sut ydych chi'n talu'n ôl i'r ARGLWYDD? — dych chi'n bobl mor ffôl! Onid fe ydy'ch tad chi, wnaeth eich creu chi? Fe sydd wedi'ch llunio chi, a rhoi hunaniaeth i chi! Cofiwch y dyddiau a fu; meddyliwch beth ddigwyddodd yn y gorffennol: Gofynnwch i'ch rhieni a'r genhedlaeth hŷn — byddan nhw'n gallu dweud wrthoch chi. Pan roddodd y Goruchaf dir i'r cenhedloedd, a rhannu'r ddynoliaeth yn grwpiau, gosododd ffiniau i'r gwahanol bobloedd a rhoi angel i ofalu am bob un. Ond cyfran yr ARGLWYDD ei hun oedd ei bobl; pobl Jacob oedd ei drysor sbesial. Daeth o hyd iddyn nhw mewn tir anial; mewn anialwch gwag a gwyntog. Roedd yn eu cofleidio a'u dysgu, a'u hamddiffyn fel cannwyll ei lygad. Fel eryr yn gwthio'i gywion o'r nyth, yna'n hofran a'u dal ar ei adenydd, dyma'r ARGLWYDD yn codi ei bobl ar ei adenydd e. Yr ARGLWYDD ei hun oedd yn eu harwain, nid rhyw dduw estron oedd gyda nhw. Gwnaeth iddyn nhw goncro'r wlad heb rwystr, a cawson nhw fwyta o gynnyrch y tir. Rhoddodd fêl iddyn nhw ei sugno o'r creigiau, olew olewydd o'r tir caregog, caws colfran o'r gwartheg, a llaeth o'r geifr, gyda brasder ŵyn, hyrddod a geifr Bashan. Cefaist fwyta'r gwenith gorau ac yfed y gwin gorau. Ond dyma Israel onest yn pesgi, a dechrau strancio — magu bloneg a mynd yn dewach a thewach! Yna troi cefn ar y Duw a'i gwnaeth, a sarhau y Graig wnaeth ei hachub; ei wneud yn eiddigeddus o'r duwiau paganaidd, a'i bryfocio gyda'i heilunod ffiaidd. Aberthu i gythreuliaid, nid i Dduw — duwiau doedden nhw'n gwybod dim amdanyn nhw; y duwiau diweddaraf, duwiau doedd eich hynafiaid yn gwybod dim amdanyn nhw. Anwybyddu'r Graig wnaeth dy genhedlu, ac anghofio'r Duw ddaeth â ti i fod. Gwelodd yr ARGLWYDD hyn, a'u gwrthod, am fod ei feibion a'i ferched wedi ei wylltio. Meddai, “Dw i'n mynd i droi cefn arnyn nhw, a gweld beth fydd yn digwydd iddyn nhw. Maen nhw'n genhedlaeth anonest, yn blant sydd mor anffyddlon. Maen nhw wedi fy ngwneud i'n eiddigeddus gyda'i duwiau ffals, a'm digio gyda'u delwau diwerth. Bydda i'n gwneud i chi fod yn eiddigeddus o rai nad ydyn nhw'n genedl, a'ch gwneud yn ddig trwy fendithio pobl sy'n deall dim. Mae tân wedi ei gynnau — dw i mor ddig! Bydd yn llosgi i ddyfnder y ddaear. Bydd yn difa'r tir a'i gynnyrch, ac yn llosgi hyd sylfaeni'r mynyddoedd. Bydd trychinebau di-baid yn eu taro; bydda i'n defnyddio fy saethau i gyd. Byddan nhw'n marw o newyn, yn cael eu dinistrio gan haint, a brathiadau chwerw anifeiliaid gwylltion a nadroedd gwenwynig. Bydd cleddyf yn lladd pobl y tu allan, a phawb yn cuddio yn eu dychryn y tu mewn — dynion a merched ifanc, plant bach a henoed. Gallwn fod wedi dweud, ‘Dw i am eu torri nhw'n ddarnau, a gwneud i bobl anghofio eu bod nhw wedi bodoli. Ond roedd gen i ofn ymateb y gelynion; y bydden nhw'n camddeall ac yn dweud, “Ni sydd wedi ennill! Ni sydd wedi gwneud hyn! Dydy'r ARGLWYDD wedi gwneud dim!”’ Does gan bobl Israel ddim sens! Dŷn nhw'n deall dim! Petaen nhw'n ddoeth bydden nhw'n deall, ac yn sylweddoli beth fydd yn digwydd yn y diwedd.” Sut mae un gelyn yn gallu gwneud i fil o Israel ffoi, a dau yn gyrru deg mil ar ffo, oni bai fod eu Craig wedi eu gwerthu nhw, a'r ARGLWYDD wedi gadael iddyn nhw fynd? Dydy ‛craig‛ ein gelynion ddim fel ein Craig ni — mae'r gelynion eu hunain yn cydnabod hynny! Mae eu gwreiddiau'n mynd yn ôl i Sodom, a'u gwinwydden y tyfu ar gaeau teras Gomorra. Mae eu grawnwin yn llawn gwenwyn, a'u sypiau o ffrwyth yn chwerw. Mae'r gwin fel gwenwyn nadroedd, gwenwyn marwol gwiberod. “Onid ydw i'n cofio'r cwbl?” meddai'r ARGLWYDD, “Onid ydw i wedi ei gadw dan glo yn fy stordai? Fi sy'n dial, ac yn talu nôl. Byddan nhw'n llithro — mae trychineb ar fin digwydd iddyn nhw, a'r farn sydd i ddod yn rhuthro draw!” Bydd yr ARGLWYDD yn rhyddhau ei bobl, ac yn tosturio wrth ei weision, wrth weld eu bod nhw heb nerth, a bod neb ar ôl, yn gaeth nac yn rhydd. Bydd e'n gofyn, “Ble mae eu duwiau nhw nawr? Ble mae'r graig lle roedden nhw'n ceisio cysgodi — y duwiau wnaeth fwyta eu haberthau gorau, ac yfed gwin yr offrymau o ddiod? Gadewch iddyn nhw eich helpu chi; gadewch iddyn nhw edrych ar eich holau chi! Dw i eisiau i chi ddeall mai fi, ie fi ydy e! Does dim duw arall ar wahân i mi. Mae gen i awdurdod i ladd ac i roi bywyd, awdurdod i anafu ac i iacháu a does neb yn gallu fy stopio! Dw i'n addo ar fy llw, ‘Mor sicr a'm bod i yn byw am byth, Dw i'n mynd i hogi fy nghleddyf disglair, a gafael ynddo i gosbi; Dw i'n mynd i ddial ar y gelynion, a talu'n ôl i'r rhai sy'n fy nghasáu! Bydd fy saethau wedi meddwi ar waed, a'm cleddyf yn darnio cnawd — gwaed y rhai wedi eu lladd a'r caethion, prif arweinwyr y gelyn!’” Llawenhewch, genhedloedd, gyda'i bobl; bydd yn dial am ladd ei weision. Mae'n mynd i ddial ar y gelynion, a gwneud iawn am beth a wnaethon i'w dir ac i'w bobl. Yna dyma Moses yn mynd gyda Josua fab Nwn, ac yn adrodd geiriau'r gân i'r bobl i gyd. [45-46] Ar ôl gwneud hynny, dyma Moses yn dweud wrthyn nhw, “Cofiwch bopeth dw i wedi ei ddweud wrthoch chi heddiw. Dysgwch eich plant i wneud popeth mae'r gyfraith yma'n ddweud. *** Dim geiriau gwag ydyn nhw — dyma'ch bywyd chi! Os cadwch chi nhw, byddwch chi'n byw yn hir yn y tir dych chi ar fin croesi'r Iorddonen i'w gymryd drosodd.” Yna, ar yr un diwrnod, dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Dos i fyny bryniau Afarîm, a dringo i ben Mynydd Nebo (sydd ar dir Moab, gyferbyn â Jericho), i ti gael gweld Canaan, y wlad dw i'n ei rhoi i bobl Israel. Byddi di'n marw ar ben y mynydd, fel buodd dy frawd Aaron farw ar ben mynydd Hor. Roedd y ddau ohonoch chi wedi gwrthryfela yn fy erbyn i pan oeddech chi gyda phobl Israel wrth Ffynnon Meriba yn Cadesh yn Anialwch Sin. Wnaethoch chi ddim dangos parch ata i o flaen pobl Israel. Felly byddi'n cael gweld y tir o dy flaen di, ond fyddi di ddim yn cael mynd i mewn i'r wlad dw i'n ei rhoi i bobl Israel.” Dyma'r fendith wnaeth Moses, dyn Duw, ei chyhoeddi dros bobl Israel cyn iddo farw: “Daeth yr ARGLWYDD o Fynydd Sinai; roedd fel y wawr yn torri o gyfeiriad Edom. Roedd yn disgleirio o Fynydd Paran, ac yn dod allan gyda deg mil o angylion, a mellt yn saethu o'i law dde. Mae'n amlwg ei fod yn caru'r bobl, ac yn gofalu am y rhai sydd wedi eu cysegru iddo. Maen nhw'n gwrando ar ei eiriau, ac yn addoli wrth ei draed. Rhoddodd Moses gyfraith i ni; rhodd sbesial i bobl Jacob. Yr ARGLWYDD oedd brenin Israel onest pan ddaeth arweinwyr y bobl a llwythau Israel at ei gilydd. Boed i Reuben gael byw, nid marw, ond fydd ei bobl ddim yn niferus.” Yna meddai am Jwda: “Gwranda, ARGLWYDD, ar lais Jwda, ac una fe gyda'i bobl. Rho nerth rhyfeddol iddo, a helpa fe i ymladd yn erbyn ei elynion.” Yna meddai am Lefi: “I Lefi rhoddaist y Thwmim a'r Wrim, i'r gwas oedd wedi ei gysegru. Profaist e wrth Massa, a dadlau gydag e wrth Ffynnon Meriba. Dwedodd wrth ei rieni, ‘Dw i erioed wedi'ch gweld’, wrth ei frodyr a'i chwiorydd, ‘Pwy ydych chi?’, ac wrth ei blant, ‘Dw i ddim yn eich nabod chi,’ am fod gwneud beth rwyt ti'n ddweud, ac amddiffyn dy ymrwymiad yn bwysicach ganddo. Nhw sy'n dysgu dy ganllawiau i Jacob, a'th gyfarwyddiadau i Israel. Nhw sy'n cyflwyno arogldarth sy'n arogli'n hyfryd, ac offrymau cyflawn ar dy allor. O ARGLWYDD, bendithia ei eiddo, a chael pleser o'r gwaith mae'n ei wneud. Torra goesau unrhyw un sy'n ymosod arno, a'r rhai sy'n ei gasáu, nes eu bod nhw'n methu sefyll.” Yna meddai am Benjamin: “Bydd yr un sy'n annwyl gan yr ARGLWYDD yn byw yn saff wrth ei ymyl. Bydd Duw yn ei amddiffyn bob amser; bydd yr ARGLWYDD yn ei gadw'n saff.” Yna meddai am Joseff: “Boed i'r ARGLWYDD fendithio ei dir, a rhoi cnydau da gyda gwlith o'r awyr, a'r dŵr sy'n ddwfn dan y ddaear; cnydau wedi tyfu dan wenau'r haul ac yn aeddfedu o fis i fis; cnydau'n tyfu ar ben y mynyddoedd hynafol, a'r cynhaeaf sy'n aeddfedu ar y bryniau; y cnydau gorau all y tir eu rhoi, a ffafr yr Un oedd yn y berth oedd ar dân. Bendith Duw ar ben Joseff — ar ben yr un oedd y blaenaf o'i frodyr. Mae iddo anrhydedd fel y tarw cyntaf, ac mae ei gyrn fel rhai ychen gwyllt, i gornio'r bobloedd i ben draw'r byd — dyma ddegau o filoedd Effraim a miloedd Manasse.” Yna meddai am Sabulon: “Bydd lawen, Sabulon, pan fyddi'n mynd allan, ac Issachar, pan fyddi yn dy bebyll. Byddan nhw'n galw pobloedd at eu mynydd, ac yno'n cyflwyno aberthau iawn. Byddan nhw'n derbyn cyfoeth o'r moroedd, ac yn casglu trysorau o dywod y traeth.” Yna meddai am Gad: “Bendith ar yr Un sy'n gwneud i Gad lwyddo! Bydd yn aros fel llew, yna'n rhwygo'r fraich a'r pen. Mae wedi dewis y rhan orau iddo'i hun — rhan un sy'n rheoli. Daeth gydag arweinwyr y bobl, yn ufudd i ofynion da yr ARGLWYDD, a'i ganllawiau i bobl Israel.” Yna meddai am Dan: “Mae Dan fel llew ifanc; bydd yn llamu allan o Bashan.” Yna meddai am Nafftali: “O Nafftali, sy'n gorlifo o ffafr, ac wedi dy fendithio gymaint gan yr ARGLWYDD, dos i gymryd dy dir i'r gorllewin a'r de.” Yna meddai am Asher: “Mae Asher wedi ei fendithio fwy na'r lleill! Boed i'w frodyr ddangos ffafr ato, a boed iddo drochi ei draed mewn olew olewydd. Bydd y bariau ar dy giatiau o haearn a phres; byddi'n saff tra byddi byw. Does neb tebyg i dy Dduw, o Israel onest; mae'n hedfan drwy'r awyr i dy helpu, a'r cymylau yn gerbyd i'w fawrhydi. Mae'r Duw sydd o'r dechrau'n le diogel, a'i freichiau tragwyddol oddi tanat. Mae wedi gyrru dy elynion ar ffo, ac wedi gorchymyn eu dinistrio. Mae Israel yn cael byw yn saff, ac mae pobl Jacob yn ddiogel, mewn gwlad o ŷd a grawnwin; lle mae gwlith yn disgyn o'r awyr. Rwyt wedi dy fendithio, Israel! Oes pobloedd eraill tebyg i ti? — Pobl sydd wedi'ch achub gan yr ARGLWYDD, Fe ydy'r darian sy'n eich amddiffyn, a'r cleddyf gwych sy'n ymladd ar eich ran. Boed i'ch gelynion grynu o'ch blaen, a chithau'n sathru ar eu cefnau!” Yna dyma Moses yn mynd o anialwch Moab i ben Mynydd Nebo, ac i gopa Pisga, sydd gyferbyn â Jericho. Dyma'r ARGLWYDD yn dangos y wlad gyfan iddo — o Gilead i Dan, tir Nafftali i gyd, Effraim a Manasse, tir Jwda i gyd yr holl ffordd draw i'r môr, y Negef a'r gwastatir o ddyffryn Jericho (tref y coed palmwydd) yr holl ffordd i Soar. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Dyma'r wlad wnes i ei haddo i Abraham, Isaac a Jacob pan ddywedais, ‘Dw i'n mynd i'w rhoi hi i'ch disgynyddion chi.’ Dw i wedi gadael i ti ei gweld, ond dwyt ti ddim yn mynd i gael croesi drosodd yno.” Felly dyma Moses, gwas yr ARGLWYDD, yn marw yno yn Moab, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud. Cafodd ei gladdu yng ngwlad Moab wrth ymyl Beth-peor, ond does neb yn gwybod yn union yn ble hyd heddiw. Roedd Moses yn gant dau ddeg oed pan fuodd farw, ond roedd yn dal i weld yn glir, ac mor gryf ac erioed. Buodd pobl Israel yn galaru ar ôl Moses am fis cyfan, ar wastatir Moab. Yna daeth y cyfnod o alar i ben. Cyn i Moses farw roedd e wedi gosod ei ddwylo ar Josua fab Nwn, ac roedd yr ARGLWYDD wedi gwneud Josua yn berson doeth iawn. Roedd pobl Israel yn gwrando arno ac yn gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses. Fuodd yna erioed broffwyd arall tebyg i Moses yn Israel — roedd Duw yn delio gydag e wyneb yn wyneb. Gwnaeth bopeth roedd yr ARGLWYDD wedi ei anfon i'r Aifft i'w wneud. Gwnaeth wyrthiau rhyfeddol yn erbyn y Pharo a'i swyddogion, a phawb arall drwy'r wlad. Roedd Moses wedi dangos nerth mawr a gwneud pethau rhyfeddol o flaen pobl Israel i gyd. Ar ôl i Moses, gwas yr ARGLWYDD, farw, dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Josua, gwas Moses: “Mae Moses fy ngwas wedi marw. Dos, a croesi'r Afon Iorddonen. Dw i eisiau i ti arwain y bobl yma i'r tir dw i'n ei roi i chi. Fel gwnes i addo i Moses, dw i'n mynd i roi i chi bob modfedd sgwâr fyddwch chi'n cerdded arno. Bydd eich tir yn ymestyn yr holl ffordd o'r diffeithwch yn y de i Fryniau Libanus yn y gogledd. A'r holl ffordd o'r Afon Ewffrates yn y dwyrain (gan gynnwys gogledd Syria hefyd) i Fôr y Canoldir yn y gorllewin. Bydda i gyda ti, fel roeddwn i gyda Moses. Fydd neb yn gallu dy stopio di tra byddi di byw. Wna i ddim dy siomi di na dy adael di. Bydd yn gryf a dewr. Ti'n mynd i arwain y bobl yma i goncro'r wlad wnes i addo ei rhoi i'w hynafiaid. Ond rhaid i ti fod yn gryf ac yn ddewr iawn! Gwna'n siŵr dy fod yn gwneud popeth mae'r Gyfraith roddodd Moses i ti yn ei ddweud. Paid crwydro oddi wrthi o gwbl, a byddi di'n llwyddo beth bynnag wnei di. Darllen sgrôl y Gyfraith yma yn rheolaidd. Myfyria arni ddydd a nos, a'i dysgu, er mwyn i ti wneud beth mae'n ei ddweud. Dyna sut fyddi di'n llwyddo. Dw i'n dweud eto, bydd yn gryf a dewr! Paid bod ag ofn na panicio. Dw i, yr ARGLWYDD dy Dduw, yn mynd i fod gyda ti bob cam o'r ffordd!” Felly dyma Josua yn rhoi'r gorchymyn yma i arweinwyr y llwythau: “Ewch drwy'r gwersyll a dweud wrth bawb i gael eu hunain yn barod. Y diwrnod ar ôl yfory dych chi'n mynd i groesi'r Afon Iorddonen, a dechrau concro'r tir mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei roi i chi.” Yna dyma Josua yn troi at lwythau Reuben, Gad, a hanner llwyth Manasse, a dweud: “Cofiwch beth ddwedodd Moses, gwas yr ARGLWYDD, wrthoch chi. Mae'r ARGLWYDD eich Duw yn rhoi'r tir yma, sydd i'r dwyrain o'r Afon Iorddonen, i chi setlo i lawr arno. Gall eich gwragedd a'ch plant a'ch anifeiliaid aros yma, ar y tir yma roddodd Moses i chi. Ond rhaid i bob dyn sy'n gallu ymladd groesi'r afon o flaen gweddill eich brodyr, yn barod i frwydro gyda nhw. Rhaid i chi aros i'w helpu nhw nes bydd yr ARGLWYDD wedi rhoi lle iddyn nhw setlo hefyd, a'r tir mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei roi iddyn nhw wedi ei goncro. Wedyn cewch groesi'n ôl i'r tir wnaeth Moses ei roi i chi, i'r dwyrain o'r Afon Iorddonen.” A dyma nhw'n ateb Josua: “Byddwn ni'n gwneud popeth rwyt ti'n ddweud, a mynd ble bynnag wnei di'n hanfon ni. Yn union fel gwnaethon ni wrando ar Moses, byddwn ni'n gwrando arnat ti. Boed i'r ARGLWYDD dy Dduw fod gyda ti, fel roedd e gyda Moses! Os bydd unrhyw un yn gwrthryfela yn dy erbyn, ac yn gwrthod gwneud beth ti'n ddweud, y gosb fydd marwolaeth. Felly, bydd yn gryf a dewr!” Dyma Josua fab Nwn yn anfon dau ysbïwr allan o'r gwersyll yn Sittim, a dweud wrthyn nhw: “Dw i eisiau i chi ddarganfod beth allwch chi am y wlad, yn arbennig tref Jericho.” Felly, i ffwrdd a nhw, a dyma nhw'n mynd i dŷ putain o'r enw Rahab, ac aros yno dros nos. Ond dyma rhywun yn dweud wrth frenin Jericho, “Mae rhai o ddynion Israel wedi dod yma i ysbïo'r wlad.” Felly dyma'r brenin yn anfon milwyr at Rahab, “Tyrd â dy gwsmeriaid allan — y dynion sydd wedi dod i aros yn dy dŷ di. Ysbiwyr ydyn nhw, wedi dod i edrych dros y wlad.” Ond roedd Rahab wedi cuddio'r dynion, a dyma hi'n ateb, “Mae'n wir, roedd yna ddynion wedi dod ata i, ond doeddwn i ddim yn gwybod o ble roedden nhw'n dod. Pan oedd hi'n tywyllu, a giât y ddinas ar fin cael ei chau dros nos, dyma nhw'n gadael. Dw i ddim yn gwybod i ba gyfeiriad aethon nhw. Os brysiwch chi, gallwch chi eu dal nhw!” (Ond beth roedd Rahab wedi ei wneud go iawn oedd mynd â'r dynion i ben to'r tŷ, a'i cuddio nhw dan y pentyrrau o lin roedd hi wedi eu gosod allan yno.) Felly dyma weision y brenin yn mynd i chwilio amdanyn nhw ar hyd y ffordd sy'n arwain at yr Afon Iorddonen, lle mae'r rhydau. A dyma giât y ddinas yn cael ei chau yn syth ar ôl iddyn nhw fynd. Cyn i'r ysbiwyr fynd i gysgu'r noson honno, dyma Rahab yn mynd i fyny i'r to i siarad gyda nhw. Meddai wrthyn nhw, “Dw i'n gwybod yn iawn fod yr ARGLWYDD yn mynd i roi'r wlad yma i chi. Mae gan bawb eich ofn chi. Mae pawb yn ofni am eu bywydau. Dŷn ni wedi clywed sut wnaeth yr ARGLWYDD sychu'r Môr Coch o'ch blaenau chi pan ddaethoch chi allan o'r Aifft. A hefyd, sut wnaethoch chi ddinistrio dau frenin yr Amoriaid, Sihon ac Og, yr ochr arall i'r Afon Iorddonen. Pan glywson ni am y peth roedden ni wedi digalonni'n llwyr. Roedd pawb mewn panig. Mae'r ARGLWYDD eich Duw chi yn Dduw yn y nefoedd uchod ac i lawr yma ar y ddaear! Dw i eisiau i chi fynd ar eich llw, ac addo i mi o flaen yr ARGLWYDD, y byddwch chi'n arbed bywydau fy nheulu i, fel dw i wedi arbed eich bywydau chi. Rhowch arwydd sicr i mi na fyddwch chi'n lladd neb yn fy nheulu — dad, mam, fy mrodyr a'm chwiorydd, na neb arall yn y teulu.” A dyma'r dynion yn addo iddi, “Boed i ni dalu gyda'n bywydau os cewch chi'ch lladd! Os gwnei di ddim dweud wrth neb amdanon ni, byddwn ni'n cadw'n haddewid i ti pan fydd yr ARGLWYDD yn rhoi'r wlad yma i ni.” Yna dyma Rahab yn eu gollwng nhw i lawr ar raff o ffenest ei thŷ. (Roedd wal allanol ei thŷ hi yn rhan o wal y ddinas.) “Ewch i gyfeiriad y bryniau,” meddai wrthyn nhw. “Fydd y dynion sydd ar eich holau chi ddim yn dod o hyd i chi wedyn. Cuddiwch yno am dri diwrnod, i roi cyfle iddyn nhw ddod yn ôl. Wedyn gallwch fynd ar eich ffordd.” Dyma'r dynion yn dweud wrthi, “Allwn ni ddim ond cadw'r addewid wnaethon ni i ti ar un amod: Pan fyddwn ni'n ymosod ar y wlad, rhwyma'r rhaff goch yma iddi hongian allan o'r ffenest wnaethon ni ddianc trwyddi. A rhaid i ti gasglu dy deulu i gyd at ei gilydd yn y tŷ — dy dad, dy fam, dy frodyr a dy chwiorydd, a phawb arall. Os bydd unrhyw un yn gadael y tŷ ac yn cael ei ladd, nhw eu hunain fydd ar fai — fydd dim bai arnon ni. Ond os bydd unrhyw un sydd yn y tŷ yn cael niwed, ni fydd yn gyfrifol. Ac os byddi di'n dweud wrth unrhyw un amdanon ni, fyddwn ni ddim yn gyfrifol am dorri'r addewid.” “Digon teg,” meddai hithau. A dyma hi'n eu hanfon nhw i ffwrdd, ac yn rhwymo'r rhaff goch i'r ffenest. Dyma nhw'n mynd i'r bryniau, ac yn aros yno am dri diwrnod — digon o amser i'r dynion oedd yn chwilio amdanyn nhw fynd yn ôl. Roedd y rheiny wedi bod yn edrych amdanyn nhw ym mhobman ar hyd y ffordd, ond wedi methu dod o hyd iddyn nhw. Yna dyma'r ddau ddyn yn troi am yn ôl. Dyma nhw'n dod i lawr o'r bryniau, croesi'r Afon Iorddonen, a mynd at Josua i roi adroddiad iddo o beth oedd wedi digwydd. “Does dim amheuaeth,” medden nhw. “Mae'r ARGLWYDD yn mynd i roi'r wlad i gyd i ni! Mae'r bobl i gyd yn ofni am eu bywydau!” Yn gynnar y bore wedyn, dyma Josua a phobl Israel i gyd yn gadael Sittim a mynd at yr Iorddonen. Dyma nhw'n aros yno cyn croesi'r afon. Ddeuddydd wedyn dyma'r arweinwyr yn mynd trwy'r gwersyll i roi gorchymyn i'r bobl, “Pan fyddwch chi'n gweld Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD eich Duw yn cael ei chario gan yr offeiriaid o lwyth Lefi, rhaid i chi symud o'r fan yma, a dilyn yr Arch. Ond peidiwch mynd yn rhy agos ati. Cadwch bellter o ryw hanner milltir rhyngoch chi a'r Arch. Wedyn byddwch yn gweld pa ffordd i fynd. Dych chi ddim wedi bod y ffordd yma o'r blaen.” A dyma Josua'n dweud wrth y bobl, “Gwnewch eich hunain yn barod! Ewch trwy'r ddefod o buro eich hunain i'r ARGLWYDD. Mae e'n mynd i wneud rhywbeth hollol ryfeddol i chi yfory.” Yna dyma Josua'n dweud wrth yr offeiriaid, “Codwch Arch yr Ymrwymiad, ac ewch o flaen y bobl.” A dyma nhw'n gwneud hynny. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Josua, “O heddiw ymlaen dw i'n mynd i dy wneud di'n arweinydd mawr yng ngolwg pobl Israel. Byddan nhw'n gwybod fy mod i gyda ti, fel roeddwn i gyda Moses. “Dw i eisiau i ti ddweud wrth yr offeiriaid sy'n cario Arch yr Ymrwymiad, ‘Pan ddowch chi at lan Afon Iorddonen, cerddwch i mewn i'r dŵr a sefyll yno.’” Felly dyma Josua yn galw ar bobl Israel, “Dewch yma i glywed beth mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei ddweud! Dyma sut byddwch chi'n gweld fod y Duw byw gyda chi, a'i fod yn mynd i yrru allan y Canaaneaid, Hethiaid, Hefiaid, Peresiaid, Girgasiaid, Amoriaid a Jebwsiaid. Edrychwch! Mae Arch Ymrwymiad Meistr y ddaear gyfan yn barod i'ch arwain chi ar draws yr Afon Iorddonen! Dewiswch un deg dau o ddynion o lwythau Israel — un o bob llwyth. Pan fydd traed yr offeiriaid sy'n cario Arch yr ARGLWYDD, Meistr y ddaear gyfan, yn cyffwrdd dŵr yr afon, bydd y dŵr yn stopio llifo ac yn codi'n bentwr.” Felly pan adawodd y bobl eu pebyll i groesi'r Iorddonen, dyma'r offeiriaid oedd yn cario Arch yr Ymrwymiad yn mynd o'u blaenau. [15-16] Roedd hi'n adeg y cynhaeaf, a'r afon wedi gorlifo. Dyma nhw'n dod at yr afon, a pan gyffyrddodd eu traed y dŵr dyma'r dŵr yn stopio llifo. Roedd y dŵr wedi codi'n bentwr gryn bellter i ffwrdd, wrth Adam (tref sydd wrth ymyl Sarethan). Doedd dim dŵr o gwbl yn llifo i'r Môr Marw. Felly dyma'r bobl yn croesi'r afon gyferbyn â Jericho. *** Safodd yr offeiriaid oedd yn cario Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD ar wely'r Afon Iorddonen, nes oedd pobl Israel i gyd wedi croesi i'r ochr arall ar dir sych. Pan oedd y genedl gyfan wedi croesi'r Afon Iorddonen, dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Josua: “Dewis un deg dau o ddynion — un o bob llwyth. Dywed wrthyn nhw am gymryd un deg dwy o gerrig o wely'r afon, o'r union fan lle roedd yr offeiriaid yn sefyll. Maen nhw i fynd â'r cerrig, a'i gosod nhw i lawr lle byddwch chi'n gwersylla heno.” Dyma Josua'n galw'r dynion oedd wedi eu penodi at ei gilydd (un dyn o bob llwyth), a dweud wrthyn nhw: “Ewch o flaen Arch yr ARGLWYDD eich Duw i ganol yr Iorddonen. Yno, mae pob un ohonoch chi i godi carreg ar ei ysgwydd — bydd un garreg ar gyfer pob llwyth. Bydd y cerrig yn eich atgoffa chi o beth ddigwyddodd yma. Yn y dyfodol, pan fydd eich plant yn gofyn, ‘Beth ydy'r cerrig yma?’, gallwch ddweud wrthyn nhw fod yr Afon Iorddonen wedi stopio llifo o flaen Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD — wrth i'r Arch groesi, fod y dŵr wedi stopio llifo. A bod y cerrig i atgoffa pobl Israel o beth ddigwyddodd.” Felly dyma'r dynion yn gwneud yn union fel dwedodd Josua. Dyma nhw'n codi un deg dwy o gerrig o ganol yr Afon Iorddonen (fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Josua — un garreg ar gyfer pob llwyth.) A dyma nhw'n cario'r cerrig i'r gwersyll, ac yn eu gosod nhw i lawr yno. Dyma Josua hefyd yn gosod un deg dwy o gerrig eraill yn yr union fan lle roedd yr offeiriaid oedd yn cario'r Arch wedi bod yn sefyll. Mae'r cerrig yno hyd heddiw. Safodd yr offeiriaid oedd yn cario'r Arch ar wely'r Afon Iorddonen nes oedd popeth roedd yr ARGLWYDD wedi ei orchymyn i Josua wedi ei gyflawni. Yn y cyfamser roedd y bobl yn croesi'r afon ar frys. Pan oedd pawb wedi croesi, dyma'r Arch a'r offeiriaid oedd yn ei chario yn croesi, a'r bobl yn ei gwylio. Roedd y dynion o lwyth Reuben, Gad a hanner llwyth Manasse wedi croesi o flaen pobl Israel, yn barod i ymladd, fel roedd Moses wedi dweud wrthyn nhw. Roedd tua 40,000 o ddynion arfog wedi croesi drosodd i ryfela ar wastatir Jericho. Y diwrnod hwnnw gwnaeth yr ARGLWYDD Josua yn arweinydd mawr yng ngolwg pobl Israel. Roedden nhw'n ei barchu e tra buodd e byw, yn union fel roedden nhw wedi parchu Moses. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Josua, “Dywed wrth yr offeiriaid sy'n cario Arch y Dystiolaeth i ddod i fyny o wely'r Iorddonen.” Felly dyma Josua'n gwneud hynny. “Dewch i fyny o wely'r afon!” meddai wrthyn nhw. Dyma'r offeiriaid oedd yn cario Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD yn dod. Pan oedden nhw wedi cyrraedd y tir sych, dyma ddŵr yr afon yn dechrau llifo eto, a gorlifo fel o'r blaen. Roedd hi'r degfed o'r mis cyntaf pan groesodd y bobl yr Afon Iorddonen, a gwersylla yn Gilgal sydd i'r dwyrain o Jericho. Yno dyma Josua yn gosod i fyny yr un deg dwy o gerrig roedden nhw wedi eu cymryd o'r Afon Iorddonen. A dyma fe'n dweud wrth bobl Israel, “Pan fydd eich plant yn gofyn i'w tadau, ‘Beth ydy'r cerrig yma?’ esboniwch iddyn nhw, ‘Dyma ble wnaeth pobl Israel groesi'r Afon Iorddonen ar dir sych.’ Roedd yr ARGLWYDD eich Duw wedi sychu dŵr yr Iorddonen o'n blaen ni wrth i ni groesi drosodd, yn union fel y gwnaeth sychu'r Môr Coch pan oedden ni'n croesi hwnnw. Gwnaeth hynny er mwyn i bobl holl wledydd y byd gydnabod fod yr ARGLWYDD yn Dduw grymus, ac er mwyn i chi ei barchu a'i addoli bob amser.” Roedd brenhinoedd yr Amoriaid a'r Canaaneaid wedi digalonni'n lân ac mewn panig llwyr. Roedden nhw wedi clywed fod yr ARGLWYDD wedi sychu'r Afon Iorddonen er mwyn i bobl Israel allu croesi drosodd. (Brenhinoedd yr Amoriaid oedd yn teyrnasu i'r gorllewin o'r Iorddonen, a brenhinoedd y Canaaneaid ar hyd arfordir Môr y Canoldir). Bryd hynny dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Josua, “Gwna gyllyll o garreg fflint, a dywed wrth ddynion Israel am fynd trwy'r ddefod o gael eu henwaedu.” A dyma Josua yn gwneud hynny ar Gibeath-ha-araloth (sef ‛Bryn y blaengrwyn‛). Y rheswm pam roedd rhaid i Josua wneud hyn oedd fod y dynion oedd yn ddigon hen i ymladd pan ddaeth pobl Israel allan o wlad yr Aifft i gyd wedi marw yn yr anialwch. Roedd y dynion hynny wedi eu henwaedu, ond doedd y rhai gafodd eu geni yn ystod y daith trwy'r anialwch ddim wedi bod trwy'r ddefod o gael eu henwaedu. Roedd pobl Israel wedi bod yn crwydro yn yr anialwch am bedwar deg mlynedd, nes bod yr holl ddynion oedd yn ddigon hen i ymladd pan ddaethon nhw allan o'r Aifft i gyd wedi marw — y dynion hynny oedd wedi bod yn anufudd i'r ARGLWYDD. Roedd yr ARGLWYDD wedi tyngu llw na fyddai byth yn gadael iddyn nhw weld y wlad roedd wedi addo ei rhoi iddyn nhw — y wlad ffrwythlon lle roedd llaeth a mêl yn llifo. A bellach, roedd eu meibion wedi cymryd eu lle. A nhw wnaeth Josua eu henwaedu, am fod eu tadau ddim wedi cadw'r ddefod yn ystod y cyfnod yn yr anialwch. Ar ôl i'r dynion i gyd gael eu henwaedu, dyma nhw'n aros yn y gwersyll nes roedden nhw wedi gwella. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Josua, “Heddiw dw i wedi symud y cywilydd eich bod wedi bod yn gaethion yn yr Aifft.” (Dyna pam mai Gilgal ydy'r enw ar y lle hyd heddiw.) Roedd pobl Israel yn gwersylla yn Gilgal ar wastatir Jericho. Pan oedd hi'n nosi ar ddechrau'r pedwerydd ar ddeg o'r mis cyntaf dyma nhw'n dathlu'r Pasg. A'r diwrnod wedyn dyma nhw'n bwyta peth o gynnyrch y tir — bara heb furum ynddo, a grawn wedi ei rostio. Dyna'r diwrnod pan wnaeth y manna stopio dod. O'r diwrnod pan ddechruon nhw fwyta cynnyrch y tir, gafodd pobl Israel ddim bwyta manna eto. O'r flwyddyn honno ymlaen roedden nhw'n bwyta cynnyrch gwlad Canaan. Pan oedd Josua wrth ymyl Jericho, dyma fe'n gweld dyn yn sefyll o'i flaen yn dal cleddyf yn ei law. Dyma Josua'n mynd ato ac yn gofyn iddo, “Wyt ti ar ein hochr ni, neu gyda'n gelynion ni?” A dyma fe'n ateb, “Pennaeth byddin yr ARGLWYDD ydw i. Dw i wedi cyrraedd.” A dyma Josua yn mynd ar ei wyneb ar lawr o'i flaen, a dweud, “Dy was di ydw i. Beth mae fy meistr eisiau i mi ei wneud?” A dyma bennaeth byddin yr ARGLWYDD yn ei ateb, “Tynn dy sandalau; ti'n sefyll ar dir cysegredig!” Felly dyma Josua'n gwneud hynny. Roedd giatiau Jericho wedi eu cau'n dynn am fod ganddyn nhw ofn pobl Israel. Doedd neb yn cael mynd i mewn nac allan o'r ddinas. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Josua, “Dw i'n mynd i roi dinas Jericho i ti. Byddi di'n concro ei brenin a'i byddin! Dw i eisiau i dy fyddin di fartsio o gwmpas Jericho un waith bob dydd am chwe diwrnod. Mae saith offeiriad i gerdded o flaen yr Arch, pob un ohonyn nhw yn cario corn hwrdd. Yna ar y seithfed diwrnod rhaid martsio o gwmpas y ddinas saith gwaith, gyda'r offeiriaid yn chwythu'r cyrn hwrdd. Wedyn pan fydd yr offeiriaid yn seinio un nodyn hir ar y cyrn hwrdd, rhaid i'r fyddin i gyd weiddi'n uchel. Bydd waliau'r ddinas yn syrthio, a bydd y fyddin yn gallu ymosod, a'r dynion i gyd yn gallu mynd yn syth i mewn i'r ddinas.” Felly dyma Josua fab Nwn yn galw'r offeiriaid ato, ac yn dweud wrthyn nhw, “Codwch Arch yr Ymrwymiad, a rhoi saith offeiriad i fynd o'i blaen, pob un ohonyn nhw yn cario corn hwrdd.” A dyma fe'n dweud wrth y milwyr, “Ymlaen! Martsiwch o gwmpas y ddinas, gyda grŵp o ddynion arfog yn mynd o flaen Arch yr ARGLWYDD.” Ar ôl i Josua ddweud hyn, dyma'r saith offeiriad yn dechrau symud, pob un yn chwythu ei gorn hwrdd wrth fynd. A dyma Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD yn dilyn. Roedd gwarchodlu o filwyr yn martsio o flaen a'r tu ôl i'r offeiriaid oedd yn chwythu'r cyrn hwrdd. Ond roedd Josua wedi dweud wrth y milwyr, “Peidiwch gweiddi o gwbl. Cadwch yn hollol dawel nes i mi ddweud wrthoch chi am weiddi — wedyn cewch weiddi nerth eich pen!” Felly dyma Josua yn gwneud iddyn nhw fynd ag Arch yr ARGLWYDD o gwmpas y ddinas un waith. Yna mynd yn ôl i'r gwersyll ac aros yno dros nos. Yn gynnar y bore wedyn dyma Josua yn codi, a chael yr offeiriaid i fynd allan eto, yn cario Arch yr Ymrwymiad. A dyma'r saith offeiriad yn mynd allan o flaen Arch yr ARGLWYDD, pob un yn chwythu ei gorn hwrdd. Roedd gwarchodlu o filwyr yn martsio o flaen a'r tu ôl i'r offeiriaid oedd yn chwythu'r cyrn hwrdd. Dyma nhw'n martsio o gwmpas y ddinas unwaith eto, ar yr ail ddiwrnod, ac yna mynd yn ôl i'r gwersyll. A dyma nhw'n gwneud yr un peth am chwe diwrnod. Yna ar y seithfed diwrnod dyma nhw'n codi gyda'r wawr, i fartsio o gwmpas y ddinas fel o'r blaen — ond y tro yma dyma nhw'n mynd o'i chwmpas hi saith gwaith. Y seithfed gwaith rownd, dyma'r offeiriaid yn chwythu un nodyn hir, a dyma Josua yn dweud wrth y bobl, “Gwaeddwch! Mae'r ARGLWYDD wedi rhoi'r ddinas i chi! Mae'r ddinas, a phawb a phopeth sydd ynddi, i gael ei dinistrio'n llwyr, fel offrwm i'r ARGLWYDD. Dim ond Rahab y butain a'r rhai sydd gyda hi yn ei thŷ sydd i gael byw, am ei bod hi wedi cuddio'r ysbiwyr wnaethon ni eu hanfon. A gwyliwch nad ydych chi'n cymryd unrhyw beth sydd i fod i gael ei ddinistrio. Os gwnewch chi hynny, byddwch chi'n rhoi pobl Israel mewn perygl, ac yn achosi dinistr ofnadwy. Yr ARGLWYDD sydd piau popeth wedi ei wneud o arian neu aur, pres neu haearn. Mae'r pethau hynny i gyd i'w cadw yn stordy'r ARGLWYDD.” Pan glywodd y bobl y corn hwrdd yn seinio dyma nhw'n gweiddi'n uchel. Syrthiodd wal y ddinas, a dyma'r milwyr yn mynd yn syth i mewn iddi ac yn ei choncro. Dyma nhw'n lladd pawb a phopeth byw — dynion a merched, hen ac ifanc, gwartheg, defaid ac asynnod. Ond roedd Josua wedi dweud wrth y ddau ddyn oedd wedi bod yn ysbïo'r wlad, “Ewch chi i dŷ y butain, a dod â hi a'i theulu allan yn fyw, fel roeddech chi wedi addo iddi.” Felly dyma'r ysbiwyr ifanc yn mynd i nôl Rahab, a'i thad a'i mam, ei brodyr, a phawb arall o'r theulu. Dyma nhw'n mynd â hi a'i theulu i gyd i le saff tu allan i wersyll Israel. Roedden nhw wedi llosgi'r ddinas a phopeth oedd ynddi, heblaw am y pethau aur ac arian, pres a haearn gafodd eu rhoi yn stordy tŷ'r ARGLWYDD. Ond roedd Josua wedi gadael i Rahab y butain fyw, a theulu ei thad a phawb arall oedd yn perthyn iddi. Mae ei theulu hi'n dal i fyw yn Israel hyd heddiw, am ei bod hi wedi cuddio'r dynion roedd Josua wedi eu hanfon i ysbïo ar Jericho. Pan gafodd dinas Jericho ei dinistrio roedd Josua wedi tyngu ar lw: “Bydd pwy bynnag sy'n ceisio ailadeiladu dinas Jericho yn cael ei felltithio gan yr ARGLWYDD. Bydd ei fab hynaf yn marw pan fydd e'n gosod y sylfaeni, a'i fab ifancaf yn marw pan fydd e'n rhoi'r giatiau yn eu lle!” Roedd yr ARGLWYDD gyda Josua, ac roedd parch mawr ato drwy'r wlad i gyd. Ond roedd pobl Israel wedi bod yn anufudd, a chymryd rhai pethau oedd i fod i gael eu cadw i'r ARGLWYDD. Roedd dyn o'r enw Achan wedi cymryd rhai o'r pethau oedd piau'r ARGLWYDD. (Roedd Achan yn fab i Carmi, ac yn ŵyr i Sabdi fab Serach, o lwyth Jwda.) Ac roedd yr ARGLWYDD wedi digio gyda phobl Israel. Dyma Josua'n anfon dynion o Jericho i ysbïo ar Ai (sydd i'r dwyrain o Bethel, wrth ymyl Beth-afen). Pan ddaeth y dynion yn ôl dyma nhw'n dweud wrth Josua, “Paid anfon pawb i ymladd yn erbyn Ai. Bydd rhyw ddwy neu dair mil o ddynion yn hen ddigon. Does dim pwynt trafferthu i anfon y fyddin i gyd. Tref fach ydy Ai.” Felly dyma ryw dair mil o ddynion arfog yn mynd, ond dynion Ai wnaeth ennill y frwydr, ac roedd rhaid i ddynion Israel ffoi. Aeth dynion Ai ar eu holau yr holl ffordd i lawr o giatiau'r dref i'r chwareli. Cafodd tua tri deg chwech ohonyn nhw eu lladd ar y llethrau. Gwnaeth hyn i bobl Israel golli pob hyder. Dyma Josua yn rhwygo ei ddillad, a gorwedd ar ei wyneb ar lawr o flaen Arch yr ARGLWYDD nes iddi nosi. Roedd arweinwyr Israel yno gydag e, yn taflu pridd ar eu pennau. Gweddïodd Josua, “O na! Feistr, ARGLWYDD! Pam wyt ti wedi dod â'r bobl yma ar draws yr Afon Iorddonen? Ai er mwyn i'r Amoriaid ein dinistrio ni? Pam wnaethon ni ddim bodloni aros yr ochr arall! Meistr, beth alla i ei ddweud, ar ôl i Israel orfod ffoi o flaen eu gelynion? Pan fydd y Canaaneaid a pawb arall sy'n byw yn y wlad yn clywed beth sydd wedi digwydd, byddan nhw'n troi yn ein herbyn ni a'n dileu ni oddi ar wyneb y ddaear. Be wnei di wedyn i gadw dy enw da?” A dyma'r ARGLWYDD yn ateb Josua, “Cod ar dy draed! Pam wyt ti'n gorwedd ar dy wyneb ar lawr fel yna? Mae Israel wedi pechu. Maen nhw wedi torri amodau'r ymrwymiad wnes i gyda nhw! Maen nhw wedi cymryd pethau oedd piau fi — wedi dwyn, a dweud celwydd, a cuddio'r pethau gyda'i stwff nhw'u hunain. Dyna pam maen nhw wedi ffoi o flaen eu gelynion — am eu bod nhw'n mynd i gael eu dinistrio! Dw i ddim yn mynd i fod gyda chi o hyn ymlaen, os na wnewch chi ddinistrio'r pethau hynny. Dos, a dweud wrth y bobl am fynd trwy'r ddefod o buro eu hunain erbyn yfory. Mae'r ARGLWYDD, Duw Israel yn dweud, ‘Israel, mae yna bethau gynnoch chi oedd piau fi ac i fod i gael eu dinistrio. Fyddwch chi ddim yn ennill y frwydr yn erbyn eich gelynion nes byddwch chi wedi cael gwared â'r pethau hynny. Bore fory, dw i eisiau i chi ddod ymlaen bob yn llwyth. Bydda i'n pigo'r llwyth sy'n euog, a byddan nhw'n dod ymlaen bob yn glan. Yna'r clan bob yn deulu, ac aelodau'r teulu bob yn un. Bydd y person sy'n cael ei ddal gyda'r pethau oedd i fod i gael eu cadw i mi, yn cael ei losgi, a'i deulu gydag e. Mae e wedi torri amodau'r ymrwymiad wnaeth yr ARGLWYDD — peth gwarthus i'w wneud yn Israel!’” Felly dyma Josua'n codi'n gynnar y bore wedyn, a gwneud i bobl Israel ddod ymlaen bob yn llwyth. Llwyth Jwda gafodd ei ddewis. Yna dyma fe'n gwneud i glaniau Jwda ddod ymlaen yn eu tro. Clan Serach gafodd ei ddewis. Yna cafodd teulu Sabdi ei ddewis o glan Serach. A pan ddaeth teulu Sabdi ymlaen bob yn un, dyma Achan yn cael ei ddal. (Sef Achan fab Carmi, ac ŵyr Sabdi fab Serach, o lwyth Jwda.) Dyma Josua yn dweud wrth Achan, “Rho glod i'r ARGLWYDD, Duw Israel, a cyffesu iddo. Dywed beth wnest ti. Paid cadw dim yn ôl.” A dyma Achan yn ateb, “Mae'n wir. Dw i wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD, Duw Israel. Dyma ddigwyddodd: Gwnes i weld mantell hardd o Babilonia, dau gant o ddarnau arian, a bar o aur yn pwyso dros hanner cilogram. Ro'n i eisiau nhw, felly dyma fi'n eu cymryd nhw. Maen nhw wedi eu claddu yn y ddaear o dan fy mhabell, gyda'r arian yn y gwaelod.” Felly dyma Josua yn anfon dynion i edrych yn y babell. A wir, dyna ble roedd y cwbl wedi ei guddio, gyda'r arian o dan popeth arall. Dyma nhw'n cymryd y cwbl o'r babell, a dod ag e at Josua a pobl Israel, a'i osod ar lawr o flaen yr ARGLWYDD. Yna dyma Josua a pobl Israel yn mynd ag Achan fab Serach, gyda'i berthnasau a'i eiddo i gyd, i Ddyffryn Achor. (Aethon nhw a'r arian, y fantell, y bar aur, ei feibion a'i ferched, ei anifeiliaid, ei babell, a phopeth arall oedd piau fe gyda nhw.) Meddai Josua yno, “Pam wnest ti ddod â'r drychineb yma arnon ni? Heddiw mae'r ARGLWYDD yn mynd i ddod â trychineb arnat ti!” A dyma pobl Israel yn taflu cerrig at Achan nes oedd e wedi marw. A dyma nhw'n gwneud yr un peth i'w deulu, ac yna llosgi'r cyrff. Yna codi pentwr mawr o gerrig drosto — mae'n dal yna hyd heddiw. Doedd yr ARGLWYDD ddim wedi gwylltio wedyn. A dyna pam mae'r lle yn cael ei alw yn Ddyffryn Achor ers hynny (sef Dyffryn y Drychineb). Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Josua, “Paid bod ag ofn na panicio! Dos â'r fyddin gyfan i ymosod ar Ai. Dw i'n mynd i roi brenin Ai, ei bobl, ei dref a'i dir, yn dy ddwylo di. Gwna yr un fath ag a wnest ti i Jericho. Ond y tro yma cei gadw unrhyw stwff rwyt ti eisiau, a'r anifeiliaid. Gosod filwyr yr ochr arall i'r dref, yn barod i ymosod arni.” Felly dyma Josua a'i fyddin gyfan yn paratoi i ymosod ar Ai. Dewisodd 30,000 o'i ddynion gorau, i'w hanfon allan ganol nos. Dwedodd wrthyn nhw, “Mae rhai ohonoch chi i fynd i ddisgwyl yr ochr arall i'r dref, mor agos ac y gallwch chi heb gael eich gweld, yn barod i ymosod arni. Bydda i'n arwain gweddill y fyddin i ymosod o'r un cyfeiriad ag o'r blaen. Pan ddôn nhw allan o'r dref i ymladd yn ein herbyn ni, fel y gwnaethon nhw'r tro dwetha, byddwn ni'n troi'n ôl ac yn ffoi o'u blaenau nhw. Byddan nhw'n gadael y dref a dod ar ein holau ni, gan feddwl ein bod ni'n ffoi oddi wrthyn nhw fel o'r blaen. Wedyn byddwch chi'n dod o'r lle roeddech chi'n cuddio ac yn concro'r dre. Bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi yn eich dwylo chi. Wedyn llosgwch y dref yn llwyr, fel mae'r ARGLWYDD wedi dweud. Dyna'ch ordors chi.” Felly dyma Josua yn eu hanfon nhw i ffwrdd, a dyma nhw'n mynd i guddio rhwng Bethel ac Ai, i'r gorllewin o'r dref. Arhosodd Josua gyda gweddill y bobl. Yna'n gynnar y bore wedyn dyma Josua yn casglu gweddill ei fyddin, a dyma fe ac arweinwyr eraill Israel yn eu harwain nhw i ymosod ar Ai. Dyma nhw'n gwersylla yr ochr arall i'r dyffryn oedd i'r gogledd o Ai. Roedd Josua eisoes wedi anfon pum mil o ddynion i guddio i'r gorllewin o'r dref, rhwng Bethel ac Ai. Felly roedd pawb yn eu lle — y brif fyddin i'r gogledd o'r dref, a'r milwyr eraill yn barod i ymosod o'r gorllewin. Aeth Josua ei hun i dreulio'r nos ar ganol y dyffryn. Yna'r bore wedyn, pan welodd brenin Ai bobl Israel, dyma fe'n arwain ei fyddin allan i ymladd yn eu herbyn. Aeth i'r dwyrain, i le oedd yn edrych allan dros Ddyffryn Iorddonen. Doedd e ddim yn sylweddoli fod dynion yn cuddio yr ochr arall i'r dref. Yna dyma Josua a pobl Israel yn cymryd arnynt eu bod wedi eu curo, a troi'n ôl i ffoi i gyfeiriad yr anialwch. Cafodd dynion Ai i gyd eu galw allan i fynd ar eu holau. A dyna sut cawson nhw eu harwain i ffwrdd oddi wrth y dref. Doedd dim dynion o gwbl ar ôl yn Ai nac yn Bethel. Roedden nhw i gyd wedi mynd ar ôl pobl Israel, ac wedi gadael y dref yn gwbl ddiamddiffyn. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Josua, “Dal dy waywffon i gyfeiriad Ai. Dw i'n rhoi'r dref yn dy law di.” Felly dyma Josua yn dal ei waywffon i gyfeiriad Ai. Pan wnaeth hynny, dyma'r milwyr oedd yn cuddio yr ochr arall i'r dref yn codi ac yn ymosod arni. Yn syth ar ôl ei chipio, dyma nhw'n ei rhoi ar dân. Pan edrychodd dynion Ai yn ôl, dyma nhw'n gweld y mwg o'r dre yn codi i'r awyr. Doedden nhw ddim yn gwybod lle i droi. Yna dyma byddin Israel, oedd wedi bod yn dianc oddi wrthyn nhw, yn troi ac yn ymosod arnyn nhw. Roedd Josua a'i fyddin yn gweld fod y milwyr eraill wedi concro'r dref, a'i rhoi hi ar dân. Felly dyma nhw'n troi'n ôl ac yn ymosod ar fyddin Ai. A dyma'r milwyr oedd wedi concro'r dref yn dod allan i ymladd hefyd. Roedd dynion Ai wedi eu dal yn y canol. Cawson nhw i gyd eu lladd gan filwyr Israel. Wnaeth neb ddianc. Ond roedden nhw wedi dal brenin Ai yn fyw, a dyma nhw'n mynd ag e at Josua. Ar ôl lladd pob un o ddynion Ai oedd wedi dod allan i gyfeiriad yr anialwch i ymladd gyda nhw, dyma nhw'n mynd yn ôl i Ai a lladd pawb oedd yn dal yn fyw yno. Cafodd poblogaeth Ai i gyd eu lladd y diwrnod hwnnw — un deg dau o filoedd i gyd. Wnaeth Josua ddim rhoi ei gleddyf i lawr i roi diwedd ar yr ymladd nes roedd pobl Ai i gyd wedi cael eu lladd. Ond cafodd Israel gadw'r anifeiliaid oedd yno, ac unrhyw stwff gwerthfawr roedden nhw am ei gadw, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Josua. Cafodd tref Ai ei llosgi'n ulw gan Josua. Cafodd ei gadael yn domen o adfeilion. Fyddai neb yn gallu byw yno byth eto — ac felly mae hi hyd heddiw! Yna dyma Josua yn crogi brenin Ai, a'i adael yn hongian ar bren nes iddi nosi. Wedi i'r haul fachlud dyma Josua yn gorchymyn tynnu'r corff i lawr, a dyma nhw'n ei daflu wrth giât y dref a codi pentwr mawr o gerrig drosto — mae'n dal yna hyd heddiw. Yna dyma Josua yn codi allor i'r ARGLWYDD, Duw Israel, ar Fynydd Ebal. (Cododd yr allor yn union fel roedd Moses, gwas yr ARGLWYDD, wedi gorchymyn yn sgrôl Cyfraith Moses — gyda cerrig heb eu naddu na'u cerfio gydag unrhyw offer haearn.) A dyma nhw'n cyflwyno aberthau i'w llosgi arni, ac offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Yna, o flaen pobl Israel, dyma Josua yn naddu ar y cerrig gopi o'r Gyfraith ysgrifennodd Moses. Roedd pobl Israel i gyd yno — Israeliaid a pobl eraill o'r tu allan oedd gyda nhw — yr arweinwyr hŷn, swyddogion a barnwyr yn sefyll bob ochr i'r Arch, o flaen yr offeiriaid o lwyth Lefi sy'n cario Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD. Safodd hanner y bobl o flaen Mynydd Gerisim, a'r hanner arall o flaen Mynydd Ebal, fel roedd Moses wedi gorchymyn iddyn nhw wneud ar gyfer y seremoni fendithio. Yna dyma Josua yn darllen yn uchel y bendithion a'r melltithion sydd wedi eu hysgrifennu yn sgrôl y Gyfraith. Darllenodd y cwbl o flaen pobl Israel i gyd, yn cynnwys gwragedd, plant, a'r bobl o'r tu allan oedd yn byw gyda nhw. [1-2] Pan glywodd y brenhinoedd oedd yn byw i'r gorllewin o'r Afon Iorddonen am hyn i gyd, dyma nhw'n dod at ei gilydd i ffurfio cynghrair milwrol i ymladd yn erbyn Josua a phobl Israel. Roedd yn cynnwys brenhinoedd y mynydd-dir, yr iseldir, a'r rhai ar hyd arfordir Môr y Canoldir cyn belled â Libanus. (Roedd yn cynnwys yr Hethiaid, Amoriaid, Canaaneaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebwsiaid). *** Ond pan glywodd pobl Gibeon beth roedd Josua wedi ei wneud i drefi Jericho ac Ai, dyma nhw'n bod yn gyfrwys. Dyma rai ohonyn nhw'n cymryd arnynt eu bod yn negeswyr o wlad bell. Dyma nhw'n rhoi hen sachau ar gefnau eu hasynnod, a cario hen boteli crwyn oedd wedi rhwygo a chael eu trwsio. Dyma nhw'n gwisgo hen sandalau oedd wedi treulio, hen ddillad carpiog, a cario bara oedd wedi sychu a llwydo. Wedyn dyma nhw'n mynd at Josua i'r gwersyll yn Gilgal, a dweud wrth bobl Israel, “Dŷn ni wedi teithio o wlad bell, i ofyn i chi wneud cytundeb heddwch gyda ni.” Ond dyma bobl Israel yn dweud wrth yr Hefiaid, “Sut ydyn ni'n gwybod nad ydych chi'n dod o'r ardaloedd yma? Allwn ni ddim gwneud cytundeb heddwch gyda chi os ydych chi.” Ond dyma nhw'n dweud wrth Josua, “Dŷn ni'n fodlon bod yn weision i chi.” A dyma Josua yn gofyn iddyn nhw, “Pwy ydych chi ac o ble dych chi'n dod?” A dyma nhw'n ateb, “Mae dy weision wedi dod o wlad bell iawn. Mae'r ARGLWYDD eich Duw chi yn enwog — dŷn ni wedi clywed adroddiadau am beth wnaeth e yn yr Aifft, a beth wnaeth e i ddau frenin yr Amoriaid yr ochr arall i'r Afon Iorddonen — Sihon, brenin Cheshbon, ac Og, brenin Bashan, oedd yn byw yn Ashtaroth. Dyma'n harweinwyr ni, a pobl y wlad i gyd, yn ein hanfon ni i'ch cyfarfod chi, a gofyn i chi wneud cytundeb heddwch gyda ni, a dweud ein bod ni'n fodlon bod yn weision i chi. Roedd y bara yma'n gynnes o'r popty pan wnaethon ni adael ein cartrefi i ddod i'ch cyfarfod chi. Ond bellach mae e wedi sychu a llwydo. A'r hen boteli crwyn yma — roedden nhw'n newydd sbon pan wnaethon ni eu llenwi nhw. Ac edrychwch ar gyflwr ein dillad a'n sandalau ni! Mae wedi bod yn daith mor hir!” Dyma arweinwyr Israel yn edrych ar y bara, ond wnaethon nhw ddim gofyn i'r ARGLWYDD am arweiniad. Felly dyma Josua yn gwneud cytundeb heddwch gyda nhw, ac addo gadael iddyn nhw fyw. A dyma arweinwyr Israel yn cadarnhau'r cytundeb drwy dyngu llw. Ddeuddydd wedyn dyma bobl Israel yn darganfod y gwir — pobl leol oedden nhw! Symudodd Israel yn eu blaenau, a cyrraedd eu trefi nhw, sef Gibeon, Ceffira, Beëroth, a Ciriath-iearim. Ond wnaeth pobl Israel ddim ymosod arnyn nhw am fod eu harweinwyr wedi cymryd llw yn enw'r ARGLWYDD, Duw Israel. Roedd y bobl i gyd yn cwyno am yr arweinwyr. Ond meddai'r arweinwyr wrthyn nhw, “Dŷn ni wedi cymryd llw, a gwneud addewid i'r bobl yma yn enw'r ARGLWYDD, Duw Israel. Allwn ni ddim eu cyffwrdd nhw! Os ydyn ni am osgoi melltith Duw arnon ni am dorri'n haddewid, rhaid i ni adael iddyn nhw fyw. Felly gadewch iddyn nhw fyw.” A cawson nhw dorri coed a chario dŵr i bobl Israel, fel roedd yr arweinwyr wedi addo iddyn nhw. Dyma Josua'n galw'r Gibeoniaid, a gofyn iddyn nhw, “Pam wnaethoch chi'n twyllo ni? Pam wnaethoch chi ddweud eich bod chi'n dod o wlad bell, a chithau'n byw yma wrth ein hymyl ni? Nawr dych chi wedi'ch condemnio i fod yn gaethweision am byth. Byddwch chi'n torri coed ac yn cario dŵr i deml fy Nuw i.” Dyma nhw'n ateb, “Roedden ni'n clywed o hyd ac o hyd fod yr ARGLWYDD eich Duw wedi dweud wrth ei was Moses fod y wlad gyfan i'w rhoi i chi, a'ch bod i ddinistrio pawb oedd yn byw yma o'ch blaen chi. Roedd gynnon ni ofn am ein bywydau, a dyna pam wnaethon ni beth wnaethon ni. Dŷn ni yn eich dwylo chi. Gwnewch beth bynnag dych chi'n feddwl sy'n iawn.” Wnaeth Josua ddim gadael i bobl Israel eu lladd nhw. Gwnaeth nhw yn gaethweision i dorri coed a chario dŵr i bobl Israel, ac i allor yr ARGLWYDD — ble bynnag fyddai'r ARGLWYDD yn dewis ei gosod. A dyna maen nhw'n ei wneud hyd heddiw. Clywodd Adoni-sedec, brenin Jerwsalem, fod Josua wedi concro Ai a lladd y brenin a phawb arall yno, fel roedd e wedi gwneud i Jericho. Clywodd hefyd fod pobl Gibeon wedi gwneud cytundeb heddwch gydag Israel, a'i bod nhw'n byw gyda nhw. Roedd e a'i bobl yn ofni am eu bywydau, achos roedd Gibeon yn dref fawr — roedd hi'n fwy na'r trefi brenhinol eraill i gyd, ac yn fwy nac Ai, a'i dynion i gyd yn ymladdwyr dewr. Felly dyma Adoni-sedec, brenin Jerwsalem, yn anfon neges at frenhinoedd eraill yr ardal (y brenin Hoham yn Hebron, y brenin Piram yn Iarmwth, y brenin Jaffia yn Lachish, a'r brenin Debir yn Eglon): “Dewch gyda mi i ymosod ar Gibeon. Maen nhw wedi gwneud cytundeb heddwch gyda Josua a pobl Israel.” Felly dyma bum brenin yr Amoriaid (brenhinoedd Jerwsalem, Hebron, Iarmwth, Lachish, ac Eglon) yn dod a'u byddinoedd at ei gilydd, ac yn amgylchynu Gibeon yn barod i ymosod arni. A dyma bobl Gibeon yn anfon neges at Josua yn y gwersyll yn Gilgal: “Paid troi cefn arnon ni, dy weision! Achub ni! Helpa ni! Mae brenhinoedd yr Amoriaid, sy'n byw yn y bryniau, wedi ymuno gyda'i gilydd i ymosod arnon ni.” Felly dyma Josua a'i fyddin gyfan, gan gynnwys ei ddynion gorau, yn gadael y gwersyll yn Gilgal i'w helpu nhw. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Josua, “Paid bod ag ofn. Dw i'n mynd i roi buddugoliaeth i ti. Fydd neb yn gallu dy rwystro di.” Ar ôl martsio drwy'r nos o Gilgal, dyma Josua yn ymosod arnyn nhw'n gwbl ddi-rybudd. Dyma'r ARGLWYDD yn gwneud iddyn nhw banicio, a cawson nhw eu trechu'n llwyr gan Israel yn Gibeon. A dyma byddin Israel yn mynd ar eu holau i lawr drwy fwlch Beth-choron, a lladd nifer fawr yr holl ffordd i Aseca a Macceda. Wrth iddyn nhw ddianc oddi wrth byddin Israel i lawr Bwlch Beth-choron i Aseca, dyma'r ARGLWYDD yn gwneud iddi fwrw cenllysg anferth arnyn nhw. Cafodd mwy eu lladd gan y cenllysg nag oedd wedi eu lladd gan fyddin Israel yn y frwydr! Ar y diwrnod y gwnaeth yr ARGLWYDD wneud i Israel orchfygu'r Amoriaid, roedd Josua wedi gweddïo o flaen pobl Israel i gyd: “Haul, stopia yn yr awyr uwch ben Gibeon. Ti leuad, saf yn llonydd uwch Dyffryn Aialon.” Felly dyma'r haul a'r lleuad yn aros yn eu hunfan nes i Israel ddial ar eu gelynion. (Mae'r gerdd yma i'w chael yn Sgrôl Iashar.) Roedd yr haul wedi sefyll yn ei unfan drwy'r dydd, heb fachlud. Does dim diwrnod tebyg erioed wedi bod cyn hynny na wedyn! Diwrnod pan wnaeth yr ARGLWYDD wrando ar orchymyn dyn. Oedd, roedd yr ARGLWYDD yn ymladd dros bobl Israel! A dyma Josua a byddin Israel yn mynd yn ôl i'r gwersyll yn Gilgal. Roedd pum brenin yr Amoriaid wedi dianc a mynd i guddio mewn ogof yn Macceda. Pan glywodd Josua ble roedden nhw, dyma fe'n gorchymyn, “Rholiwch gerrig mawr i gau ceg yr ogof, a gosod dynion i'w gwarchod. Wedyn peidiwch oedi — ewch ar ôl y gelynion. Peidiwch gadael iddyn nhw ddianc yn ôl i'w trefi. Mae'r ARGLWYDD eich Duw yn mynd i roi buddugoliaeth i chi.” Roedd Josua a byddin Israel wedi eu lladd nhw i gyd bron, er fod rhai wedi llwyddo i ddianc i'r caerau amddiffynnol. Yna dyma byddin Israel i gyd yn mynd yn ôl at Josua i'r gwersyll yn Macceda. Doedd neb yn mentro dweud dim byd yn erbyn pobl Israel ar ôl hyn. A dyma Josua yn gorchymyn, “Agorwch geg yr ogof, a dod â'r pum brenin allan ata i.” A dyma nhw'n gwneud hynny, a dod â'r pum brenin allan o'r ogof — brenhinoedd Jerwsalem, Hebron, Iarmwth, Lachish, ac Eglon. Dyma Josua yn galw pobl Israel ato, a dweud wrth gapteiniaid y fyddin, “Dewch yma, a gosod eich traed ar yddfau y brenhinoedd yma.” A dyna wnaethon nhw. Yna dyma Josua'n dweud, “Peidiwch bod ag ofn a panicio! Byddwch yn gryf a dewr! Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud yr un fath i'ch gelynion chi i gyd.” Yna dyma Josua yn dienyddio'r brenhinoedd, ac yn hongian eu cyrff ar bum coeden. Cawson nhw eu gadael yno yn hongian nes iddi nosi. Wedi i'r haul fachlud dyma Josua yn gorchymyn i'r cyrff gael eu cymryd i lawr. Yna dyma nhw'n taflu'r cyrff i'r ogof lle roedden nhw wedi bod yn cuddio, a rhoi cerrig mawr dros geg yr ogof — maen nhw'n dal yna hyd heddiw. Y diwrnod hwnnw hefyd dyma Josua yn concro tref Macceda, a lladd y bobl i gyd a'u brenin. Cafodd pawb eu lladd. Doedd dim un person wedi ei adael yn fyw. Cafodd y brenin ei ladd fel brenin Jericho. Yna dyma Josua a byddin Israel yn martsio yn eu blaenau i Libna, i ymosod ar y dref honno. Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r dref a'i byddin yn nwylo Josua. Cafodd pawb oedd yn byw yno eu lladd. Doedd neb wedi ei adael yn fyw. Cafodd y brenin ei ladd fel brenin Jericho. Yna dyma Josua a byddin Israel yn martsio yn eu blaenau eto i ymosod ar Lachish. Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r dref honno yn nwylo Israel. Dyma nhw'n llwyddo i'w choncro ar yr ail ddiwrnod. A dyma nhw'n lladd pawb oedd yn byw yno hefyd, fel roedden nhw wedi gwneud i Libna. Daeth y brenin Horam o Geser gyda'i fyddin i geisio helpu Lachish, ond dyma Josua yn ei ladd e a'i fyddin hefyd. Gafodd neb ei adael yn fyw. Yna dyma Josua a byddin Israel yn martsio yn eu blaenau o Lachish i ymosod ar Eglon. Dyma nhw'n concro'r dref y diwrnod hwnnw, a lladd pawb oedd yn byw yno. Cafodd pob enaid byw ei ladd, fel yn Lachish. Yna dyma Josua a byddin Israel yn martsio yn eu blaenau o Eglon i ymosod ar Hebron. Dyma nhw'n concro'r dref, lladd ei brenin a phawb oedd yn byw yno, ac yn y pentrefi o'i chwmpas hefyd. Gafodd neb ei adael yn fyw. Cafodd pob enaid byw ei ladd, fel yn Eglon. Yna dyma Josua a byddin Israel yn troi yn ôl i ymosod ar Debir. Dyma nhw'n ei choncro hi a'i brenin a'r pentrefi o'i chwmpas, a lladd pawb oedd yn byw yno. Cafodd pob enaid byw ei ladd. Doedd neb ar ôl. Cafodd Debir ei dinistrio'n llwyr, a'i brenin ei ladd, fel digwyddodd i Libna a'i brenin, ac i Hebron. Roedd Josua wedi concro'r ardal gyfan — y bryniau, y Negef i'r de, a'r iseldir a'r llethrau i'r gorllewin, a'u brenhinoedd i gyd. Doedd neb ar ôl. Cafodd pob enaid byw ei ladd, yn union fel roedd yr ARGLWYDD, Duw Israel wedi gorchymyn. Roedd wedi concro'r ardal gyfan o Cadesh-barnea i Gasa ac o Gosen i Gibeon. Llwyddodd Josua i ddal y brenhinoedd yma i gyd a'i tiroedd, am fod yr ARGLWYDD, Duw Israel, yn ymladd drostyn nhw. Wedyn dyma Josua a byddin Israel yn mynd yn ôl i'r gwersyll yn Gilgal. Pan glywodd Jabin, brenin Chatsor, beth oedd wedi digwydd, dyma fe'n anfon neges at frenhinoedd eraill yr ardal honno — y brenin Iobab yn Madon, brenin Shimron, brenin Achsaff, a'r brenhinoedd oedd yn teyrnasu yn y bryniau i'r gogledd, yn Nyffryn Iorddonen i'r de o Lyn Galilea, ar yr iseldir ac ar arfordir Dor yn y gorllewin. Daeth Canaaneaid o gyfeiriad y dwyrain a'r gorllewin, Amoriaid, Hethiaid, Peresiaid, a Jebwsiaid o'r bryniau, a Hefiaid o'r ardal wrth droed Mynydd Hermon yn Mitspa. Daeth y brenhinoedd yma i gyd allan gyda'i byddinoedd — roedd gormod ohonyn nhw i'w cyfrif! Roedden nhw fel y tywod ar lan y môr! Ac roedd ganddyn nhw lot fawr o geffylau a cherbydau rhyfel. Daethon nhw i gyd at ei gilydd wrth Ddyfroedd Merom, i ymladd yn erbyn Israel. Ond dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Josua, “Paid bod ag ofn. Erbyn tua'r adeg yma yfory bydda i wedi gwneud yn siŵr eu bod nhw i gyd yn gorwedd yn farw o flaen Israel. Gwna eu ceffylau yn gloff, a llosga eu cerbydau rhyfel.” Felly dyma Josua a'i fyddin yn ymosod arnyn nhw yn ddi-rybudd wrth Ddyfroedd Merom. Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r fuddugoliaeth i fyddin Israel. Ac aeth byddin Israel ar eu holau yr holl ffordd i Sidon a Misreffoth-maim, a hefyd Dyffryn Mitspe yn y dwyrain, a'i taro nhw i lawr. Wnaethon nhw adael neb ar ôl yn fyw. Wedyn dyma Josua yn gwneud y ceffylau'n gloff ac yn llosgi'r cerbydau rhyfel, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn. Wedyn dyma Josua yn troi yn ôl a concro tref Chatsor a lladd y brenin yno. (Chatsor oedd wedi bod yn arwain y teyrnasoedd yma i gyd.) Dyma nhw'n lladd pawb yno — gafodd yr un enaid byw ei adael ar ôl. Yna dyma nhw'n llosgi'r dref. Aeth Josua yn ei flaen i goncro'r trefi brenhinol i gyd, a lladd pawb oedd yn byw ynddyn nhw, yn union fel roedd Moses, gwas yr ARGLWYDD, wedi gorchymyn. Ond wnaeth pobl Israel ddim llosgi unrhyw un o'r trefi hynny oedd wedi ei hadeiladu ar garnedd. Chatsor oedd yr unig un gafodd ei llosgi. Cymerodd pobl Israel bopeth gwerthfawr o'r trefi, a chadw'r anifeiliaid. Ond cafodd y boblogaeth i gyd eu lladd — adawyd neb yn fyw. Roedd Moses, gwas yr ARGLWYDD, wedi dweud wrth Josua beth roedd yr ARGLWYDD wedi ei orchymyn, a dyna wnaeth Josua. Gwnaeth bopeth oedd yr ARGLWYDD wedi ei ddweud wrth Moses. Llwyddodd Josua i goncro'r wlad gyfan, gan gynnwys y bryniau a'r iseldir yn y de, y Negef, tir Gosen, Dyffryn Iorddonen, a bryniau ac iseldir Israel yn y gogledd hefyd. Concrodd bobman o fynydd Halac sydd i gyfeiriad Edom yn y de, yr holl ffordd i Baal-gad yn y dyffryn rhwng Mynydd Hermon a bryniau Libanus. Daliodd bob un o'u brenhinoedd, a'u lladd. Roedd Josua wedi bod yn rhyfela yn erbyn y brenhinoedd yma am amser hir iawn. Wnaeth neb ohonyn nhw gytundeb heddwch gyda phobl Israel (ar wahân i'r Hefiaid yn Gibeon). Roedd rhaid i bobl Israel frwydro yn eu herbyn nhw i gyd. Roedd yr ARGLWYDD ei hun wedi eu gwneud nhw'n ystyfnig, er mwyn iddyn nhw frwydro yn erbyn Israel. Roedd e eisiau i Israel eu dinistrio nhw'n llwyr, yn gwbl ddidrugaredd, fel roedd e wedi gorchymyn i Moses. Yn ystod y cyfnod yma, llwyddodd Josua a'i fyddin i ddinistrio disgynyddion Anac hefyd, oedd yn byw yn y bryniau — yn Hebron, Debir, Anab, a gweddill bryniau Jwda ac Israel. Lladdodd Josua nhw i gyd, a dinistrio eu trefi. Doedd neb o ddisgynyddion Anac ar ôl lle mae pobl Israel yn byw. Ond roedd rhai yn dal ar ôl yn Gasa, Gath ac Ashdod. Felly roedd Josua wedi concro'r wlad i gyd, fel roedd yr ARGLWYDD wedi addo i Moses. A dyma Josua yn rhannu'r wlad rhwng y llwythau, ac yn rhoi eu tiriogaeth arbennig i bob un. Ac roedd heddwch yn y wlad. Dyma'r brenhinoedd wnaeth pobl Israel eu trechu i'r dwyrain o'r Afon Iorddonen, a'r tiroedd wnaethon nhw eu meddiannu — o Geunant Arnon i Fynydd Hermon, sef yr holl dir i'r dwyrain o Ddyffryn Iorddonen: Sihon, brenin yr Amoriaid, oedd yn byw yn Cheshbon ac yn teyrnasu o Aroer, ger Ceunant Arnon. Roedd yn teyrnasu o ganol Ceunant Arnon i Ddyffryn Jabboc, sef y ffin gyda tiriogaeth pobl Ammon — yn cynnwys hanner Gilead. Roedd ei diriogaeth yn cynnwys y tir sydd i'r dwyrain o Ddyffryn Iorddonen, yr holl ffordd o Lyn Galilea i'r Môr Marw. Yna o Beth-ieshimoth yn y dwyrain i lawr i'r de cyn belled â llethrau Mynydd Pisga. Og, brenin Bashan — un o'r ychydig Reffaiaid oedd ar ôl. Roedd Og yn teyrnasu o Ashtaroth ac Edrei, a'i diriogaeth yn ymestyn o Fynydd Hermon i Salca yn y gogledd, Bashan yn y dwyrain, ac i'r gorllewin at y ffin gyda teyrnasoedd Geshwr a Maacha, a hanner arall Gilead at y ffin gyda teyrnas Sihon, oedd yn frenin yn Cheshbon. Roedd Moses, gwas yr ARGLWYDD, a phobl Israel wedi eu trechu nhw a rhannu eu tiroedd nhw rhwng llwythau Reuben, Gad, a hanner llwyth Manasse. A dyma'r brenhinoedd wnaeth Josua a pobl Israel eu trechu i'r gorllewin o'r Afon Iorddonen — o Baal-gad yn Nyffryn Libanus yn y gogledd i lawr i Fynydd Halac ac at wlad Edom yn y de. (Rhannodd Josua y tiroedd yma i gyd rhwng llwythau Israel. Roedd yn cynnwys y bryniau a'r iseldir, Dyffryn Iorddonen, y llethrau, anialwch Jwda a'r Negef, sef tiroedd yr Hethiaid, Amoriaid, Canaaneaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebwsiaid): Brenin Jericho; brenin Ai, ger Bethel; brenin Jerwsalem; brenin Hebron; brenin Iarmwth; brenin Lachish; brenin Eglon; brenin Geser; brenin Debir; brenin Geder; brenin Horma; brenin Arad; brenin Libna; brenin Adwlam; brenin Macceda; brenin Bethel; brenin Tappŵach; brenin Cheffer; brenin Affec; brenin Lasaron; brenin Madon; brenin Chatsor; brenin Shimron-meron; brenin Achsaff; brenin Taanach; brenin Megido; brenin Cedesh; brenin Jocneam, ger Mynydd Carmel; brenin Dor, ar yr arfordir; brenin Goïm, ger Gilgal; a brenin Tirsa. Tri deg un o frenhinoedd i gyd. Pan oedd Josua wedi mynd yn hen iawn, dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Ti'n mynd yn hen, ac mae yna lot fawr o dir sydd eto heb ei goncro. Dyma'r tir sydd ar ôl: Tir y Philistiaid a'r Geshwriaid, o Afon Sihor ar y ffin gyda'r Aifft i fyny yr holl ffordd i dir Ecron yn y gogledd (y cwbl yn dir sy'n perthyn i'r Canaaneaid.) Mae'n cynnwys tiriogaeth arweinwyr y Philistiaid yn Gasa, Ashdod, Ashcelon, Gath ac Ecron — y pump ohonyn nhw. Tir yr Afiaid hefyd, sydd i lawr yn y de. Yna i'r gogledd, tir y Canaaneaid o dref Ara yn Sidon i Affec, sydd ar y ffin gyda'r Amoriaid. Tir y Gebaliaid a Libanus i gyd. Ac yna yn y dwyrain, o Baal-gad wrth droed Mynydd Hermon i Fwlch Chamath. A dw i am yrru allan o flaen pobl Israel bawb sy'n byw yn mynydd-dir Libanus yr holl ffordd i Misreffoth-maim, sef tir y Sidoniaid. “Mae'r tir yma i gyd i gael ei rannu rhwng llwythau Israel, fel dw i wedi gorchymyn i ti. Bydd gan bob llwyth ei diriogaeth ei hun. Mae i'w rannu rhwng y naw llwyth a hanner sydd ddim eto wedi cael eu tiriogaeth.” Roedd hanner llwyth Manasse, a llwythau Reuben a Gad wedi derbyn tir i'r dwyrain o'r Afon Iorddonen. Roedd Moses, gwas yr ARGLWYDD, wedi rhoi y tir hwnnw iddyn nhw. Roedd eu tir yn ymestyn o Aroer, yn Nyffryn Arnon (gan gynnwys y dref ei hun yn y dyffryn), a gwastadedd Medeba yr holl ffordd i Dibon. Hefyd y trefi oedd yn arfer perthyn i Sihon, brenin yr Amoriaid, oedd yn teyrnasu yn Cheshbon, at y ffin gydag Ammon. Roedd yn cynnwys Gilead, tiroedd Geshwr a Maacha, Mynydd Hermon a tir Bashan i Salca. Hefyd Tiriogaeth Og, brenin Bashan, oedd yn teyrnasu o Ashtaroth ac Edrei (Roedd Og yn un o'r ychydig Reffaiaid oedd ar ôl). Roedd Moses wedi eu concro nhw, a chymryd eu tiroedd. Ond wnaeth Israel ddim gyrru allan bobl Geshwr a Maacha — maen nhw'n dal i fyw gyda phobl Israel hyd heddiw. Wnaeth Moses ddim rhoi tir i lwyth Lefi ychwaith, am fod yr ARGLWYDD wedi addo rhoi iddyn nhw yr offrymau oedd yn cael eu cyflwyno i'w llosgi i'r ARGLWYDD, Duw Israel. Dyma'r tir roedd Moses wedi ei roi i deuluoedd llwyth Reuben: Roedd eu tiriogaeth nhw yn ymestyn o Aroer, yn Nyffryn Arnon (gan gynnwys y dref ei hun yn y dyffryn), a gwastadedd Medeba, Cheshbon, a'r trefi o'i chwmpas — gan gynnwys Dibon, Bamoth-baal, Beth-baal-meon, Iahats, Cedemoth, Meffaäth, Ciriathaim, Sibma, Sereth-shachar ar y bryn yn y dyffryn, Beth-peor, llethrau Mynydd Pisga, a Beth-ieshimoth. Roedd yn cynnwys trefi'r gwastadedd i gyd, a holl diriogaeth Sihon, brenin yr Amoriaid, oedd yn teyrnasu o Cheshbon. Roedd Moses wedi ei goncro fe, ac arweinwyr y Midianiaid oedd dan ei reolaeth, ac yn byw yn ei diriogaeth — Efi, Recem, Swr, Hur, a Reba. Roedd pobl Israel hefyd wedi lladd y dewin, Balaam fab Beor, ac eraill. Ffin orllewinol tiriogaeth Reuben oedd yr Afon Iorddonen. Roedd y tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Reuben, yn cynnwys y trefi yma i gyd a'r pentrefi o'u cwmpas. Dyma'r tir roedd Moses wedi ei roi i deuluoedd llwyth Gad: Roedd eu tiriogaeth nhw yn cynnwys Iaser, trefi Gilead i gyd, a hanner tiriogaeth pobl Ammon, yr holl ffordd i Aroer, ger Rabba. Roedd yn ymestyn o Cheshbon yn y de i Ramath-mitspe a Betonîm yn y gogledd, ac o Machanaîm i ardal Debir. Roedd yn cynnwys y tir i'r dwyrain o Ddyffryn Iorddonen, gan gynnwys trefi Beth-haram, Beth-nimra, Swccoth, a Saffon, a gweddill tiriogaeth Sihon, oedd yn teyrnasu o Cheshbon — sef y tir i'r dwyrain o'r Afon Iorddonen yr holl ffordd at Lyn Galilea, Roedd y tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Gad, yn cynnwys y trefi yma i gyd a'r pentrefi o'u cwmpas. Dyma'r tir roedd Moses wedi ei roi i deuluoedd hanner llwyth Manasse: Roedd eu tiriogaeth nhw yn ymestyn tua'r gogledd o Machanaîm, ac yn cynnwys teyrnas Og, brenin Bashan, i gyd. Roedd yn cynnwys y chwe deg o drefi yn Hafoth-jair yn Bashan, hanner Gilead, a trefi Ashtaroth ac Edrei (sef y trefi lle roedd Og, brenin Bashan, wedi bod yn teyrnasu). Cafodd y tir yma i gyd ei roi i ddisgynyddion Machir fab Manasse, sef teuluoedd hanner llwyth Manasse. Dyna sut wnaeth Moses rannu'r tir pan oedd ar wastatir Moab i'r dwyrain o Afon Iorddonen, gyferbyn â Jericho. Wnaeth Moses ddim rhoi tir i lwyth Lefi, am fod yr ARGLWYDD wedi addo rhoi iddyn nhw yr offrymau oedd yn cael eu cyflwyno i'r ARGLWYDD, Duw Israel. Dyma gofnod o'r ffordd gafodd y tir yn Canaan ei rannu rhwng pobl Israel gan Eleasar yr offeiriad, Josua fab Nwn ac arweinwyr llwythau Israel. Cafodd y tir ei rannu rhwng y naw llwyth a hanner drwy daflu coelbren, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses. Roedd Moses wedi rhoi tir yr ochr arall i'r Afon Iorddonen i ddau lwyth a hanner, ond doedd e ddim wedi rhoi tir i lwyth Lefi. Roedd disgynyddion Joseff, ar y llaw arall, yn cael eu cyfrif fel dau lwyth — Manasse ac Effraim. Doedd llwyth Lefi ddim i gael tir. Roedden nhw i gael rhai trefi arbennig i fyw ynddyn nhw, gyda'r tir o'u cwmpas yn borfa i'w hanifeiliaid. Felly dyma bobl Israel yn rhannu'r tir yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses. Pan oedden nhw yn Gilgal, dyma ddynion o lwyth Jwda yn mynd i weld Josua. Caleb fab Jeffwnne y Cenesiad oedd yn siarad ar eu rhan, ac meddai, “Ti'n cofio beth ddwedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, dyn Duw, amdanon ni'n dau, yn Cadesh-barnea. Pedwar deg oed oeddwn i pan anfonodd Moses fi o Cadesh-barnea i ysbïo ar y wlad. A dyma fi'n rhoi adroddiad cwbl onest iddo pan ddes i yn ôl. Roedd y dynion eraill aeth gyda ni wedi dychryn y bobl a gwneud iddyn nhw ddigalonni. Ond roeddwn i wedi aros yn ffyddlon i'r ARGLWYDD fy Nuw. A'r diwrnod hwnnw dyma Moses yn addo ar lw: ‘Bydd y tir lle buoch chi'n cerdded yn cael i roi i ti a dy deulu am byth, am dy fod ti wedi bod yn ffyddlon i'r ARGLWYDD dy Dduw.’ Ac mae'r ARGLWYDD wedi cadw ei addewid. Dyma fi, yn dal yn fyw, bedwar deg pum mlynedd yn ddiweddarach. Dyna faint o amser sydd wedi mynd heibio ers i'r ARGLWYDD siarad â Moses pan oedd pobl Israel yn crwydro yn yr anialwch. Dw i'n wyth deg pum mlwydd oed bellach, ac yn dal mor gryf ac oeddwn i pan anfonodd Moses fi allan! Dw i'n dal i allu ymladd a gwneud popeth roeddwn i'n ei wneud bryd hynny. Felly rho i mi'r bryniau wnaeth yr ARGLWYDD ei haddo i mi. Mae'n siŵr y byddi'n cofio fod disgynyddion Anac yn byw yno, mewn trefi caerog mawr. Ond gyda help yr ARGLWYDD bydda i'n cael gwared â nhw, fel gwnaeth yr ARGLWYDD addo.” Felly dyma Josua yn bendithio Caleb fab Jeffwnne, a rhoi tref Hebron iddo. Mae disgynyddion Caleb fab Jeffwnne y Cenesiad yn dal i fyw yn Hebron hyd heddiw, am ei fod wedi bod yn ffyddlon i'r ARGLWYDD, Duw Israel. Yr hen enw ar Hebron oedd Ciriath-arba, wedi ei enwi ar ôl Arba oedd yn un o arwyr yr Anaciaid. Ac roedd heddwch yn y wlad. Roedd y tir gafodd ei roi i lwyth Jwda yn dilyn y ffin gydag Edom i Anialwch Sin yn y Negef i lawr yn y de. Roedd y ffin yn y de yn dechrau o ben isaf y Môr Marw, heibio i'r de o Fwlch y Sgorpion, ar draws i Sin ac yna i'r ochr isaf i Cadesh-barnea. Yna roedd yn croesi i Hesron, ac yn mynd i fyny i Adar, cyn troi i gyfeiriad Carca. Wedyn roedd yn croesi i Atsmon ac yn dilyn Wadi'r Aifft yr holl ffordd i Fôr y Canoldir. Dyna oedd y ffin yn y de. Y Môr Marw at aber Afon Iorddonen oedd y ffin i'r dwyrain. Wedyn roedd y ffin ogleddol yn ymestyn o aber yr Iorddonen ar ben uchaf y Môr Marw, i fyny i Beth-hogla, yna ar draws o du uchaf Beth-araba at Garreg Bohan (mab Reuben). Ymlaen wedyn i Debir o Ddyffryn Achor, cyn troi i'r gogledd i gyfeiriad Gilgal (sydd gyferbyn â Bwlch Adwmim, i'r de o'r ceunant.) Yna heibio Dyfroedd En-shemesh cyn belled ag En-rogel. Wedyn roedd y ffin yn dilyn Dyffryn Hinnom at y llethr sydd i'r de o dre'r Jebwsiaid (sef Jerwsalem). Yna i'r gorllewin, ac i gopa'r mynydd sydd gyferbyn â Dyffryn Ben-hinnom ac i'r gogledd o Ddyffryn Reffaïm. O dop y mynydd roedd yn mynd at ffynnon dyfroedd Nefftoach, at drefi Mynydd Effron, ac yna'n troi i gyfeiriad Baäla (sef Ciriath-iearim). Wedyn roedd yn troi i'r gorllewin o Baäla i gyfeiriad Mynydd Seir, ac yn croesi i dref Cesalon ar lethr gogleddol Mynydd Iearim, cyn mynd i lawr i Beth-shemesh a chroesi i Timna. Yna i gyfeiriad y gogledd at lethrau Ecron, ymlaen i Shicron, croesi i Fynydd Baäla, ac i Iabneël a Môr y Canoldir. Môr y Canoldir ei hun oedd y ffin orllewinol. Dyna oedd ffiniau teuluoedd llwyth Jwda. Cafodd tref Ciriath-arba (sef Hebron) ei rhoi i Caleb fab Jeffwnne, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Josua. (Arba oedd hynafiad yr Anaciaid.) Dyma Caleb yn gyrru allan dri cawr oedd yn ddisgynyddion i Anac, sef Sheshai, Achiman a Talmai. Yna dyma fe'n ymosod ar y bobl oedd yn byw yn Debir. (Ciriath-seffer oedd yr hen enw ar Debir.) Roedd Caleb wedi dweud, “Bydd pwy bynnag sy'n ymosod ar dref Ciriath-seffer ac yn ei choncro yn cael priodi fy merch Achsa.” Othniel, mab Cenas (brawd Caleb) wnaeth goncro'r dref, a dyma Caleb yn rhoi ei ferch, Achsa, yn wraig iddo. Pan briododd hi Othniel, dyma hi'n ei berswadio i adael iddi ofyn i'w thad am fwy o dir. Wrth iddi ddod i lawr oddi ar gefn ei hasyn, dyma ei thad Caleb yn gofyn iddi, “Beth sy'n bod?” A dyma hi'n ateb, “Dw i eisiau gofyn am rodd arall gen ti. Rwyt ti wedi rhoi tir i mi yn y Negef, ond wnei di roi ffynhonnau dŵr i mi hefyd?” A dyma Caleb yn rhoi'r ffynhonnau uchaf a'r ffynhonnau isaf iddi. Dyma'r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Jwda: Y trefi i lawr yn y de ar y ffin gydag Edom: Cabseël, Eder, Iagwr, Cina, Dimona, Adada, Cedesh, Chatsor, Ithnan, Siff, Telem, Bealoth, Chatsor-chadatta, Cerioth-chetsron (sef Chatsor), Amam, Shema, Molada, Chatsar-gada, Cheshmon, Beth-pelet, Chatsar-shwal, Beersheba, Bisiothia, Baäla, Ïim, Etsem, Eltolad, Cesil, Horma, Siclag, Madmanna, Sansanna, Lebaoth, Shilchim, Ain a Rimmon. Dau ddeg naw o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas. Yna'r trefi ar yr iseldir: Eshtaol, Sora, Ashna, Sanoach, En-gannïm, Tappŵach, Enam, Iarmwth, Adwlam, Socho, Aseca, Shaaraim, Adithaïm, a Gedera (neu Gederothaim) — un deg pedair o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas. Hefyd trefi Senan, Chadasha, Migdal-gad, Dilean, Mitspe, Iocteël, Lachish, Botscath, Eglon, Cabbon, Lachmas, Citlish, Gederoth, Beth-dagon, Naäma, a Macceda — un deg chwech o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas. Trefi Libna, Ether, Ashan, Ifftach, Ashna, Netsib, Ceila, Achsib, a Maresha — naw o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas. Yna Ecron a'r trefi a'r pentrefi o'i chwmpas hi, ac i gyfeiriad y gorllewin, y trefi oedd yn ymyl Ashdod, a'r pentrefi o'u cwmpas. Ashdod ei hun, a Gasa a'r trefi a'r pentrefi o'u cwmpas — yr holl ffordd at Wadi'r Aifft ac arfordir Môr y Canoldir. Wedyn y trefi yn y bryniau: Shamîr, Iattir, Socho, Danna, Ciriath-sanna (sef Debir), Anab, Eshtemoa, Anim, Gosen, Holon, a Gilo — un deg un o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas. Hefyd Arab, Dwma, Eshan, Janwm, Beth-tappwach, Affeca, Chwmta, Ciriath-arba (sef Hebron), a Sior — naw o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas. Yna Maon, Carmel, Siff, Iwtta, Jesreel, Iocdeam, Sanoach, Cain, Gibea, a Timna — deg o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas. Chalchwl, Beth-tswr, Gedor, Maarath, Beth-anoth, ac Eltecon — chwech o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas. Ciriath-baal (sef Ciriath-iearim) a Rabba — dwy dref, a'r pentrefi o'u cwmpas. Yna'r trefi yn yr anialwch — Beth-araba, Midin, Sechacha, Nibshan, Tre'r Halen, ac En-gedi — chwech o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas. Ond wnaeth dynion Jwda ddim llwyddo i goncro'r Jebwsiaid oedd yn byw yn Jerwsalem. Felly mae'r Jebwsiaid yn dal i fyw gyda phobl Jwda hyd heddiw. Roedd y tir gafodd ei roi i ddisgynyddion Joseff yn ymestyn o Afon Iorddonen gyferbyn â ffynnon Jericho, drwy'r anialwch, ac i fyny o Jericho i fryniau Bethel. Roedd y ffin yn y de yn ymestyn o Bethel i Lws, ac yn croesi i dir yr Arciaid yn Ataroth. Yna roedd yn mynd i lawr i'r gorllewin i dir y Jaffletiaid, yna i Beth-choron Isaf, Geser ac at Fôr y Canoldir. Dyma'r tir gafodd ei roi i ddisgynyddion Joseff, sef llwythau Effraim a Manasse. Y tir gafodd y teuluoedd oedd yn perthyn i lwyth Effraim: Roedd y ffin yn mynd o Atroth-adar yn y dwyrain i Beth-choron Uchaf, yna ymlaen at y Môr. O Michmethath yn y gogledd roedd ffin y dwyrain yn mynd heibio Taanath-Seilo i Ianoach. Wedyn roedd yn mynd i lawr o Ianoach i Ataroth a Naära cyn cyffwrdd Jericho a mynd ymlaen at yr Afon Iorddonen. O Tappŵach roedd yn mynd i gyfeiriad y gorllewin i Ddyffryn Cana, ac yna at y Môr. Dyma'r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Effraim. Roedd hefyd yn cynnwys rhai trefi oedd y tu mewn i diriogaeth Manasse, gyda'r pentrefi o'u cwmpas. Ond wnaeth llwyth Effraim ddim gyrru allan y Canaaneaid oedd yn byw yn Geser. Mae'r Canaaneaid yno yn dal i fyw gyda phobl Effraim hyd heddiw, ac yn cael eu gorfodi i weithio fel caethweision iddyn nhw. Dyma'r tir gafodd ei roi i lwyth Manasse, mab hynaf Joseff. (Roedd ardaloedd Gilead a Bashan, i'r dwyrain o Afon Iorddonen, eisoes wedi eu rhoi i ddisgynyddion Machir — tad Gilead a mab hynaf Manasse — am ei fod yn filwr dewr.) Cafodd gweddill y teuluoedd oedd yn perthyn i lwyth Manasse dir oedd i'r gorllewin o Afon Iorddonen. Disgynyddion Abieser, Chelec, Asriel, Sechem, Cheffer, a Shemida. Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Manasse, mab Joseff. Ond doedd gan Seloffchad fab Cheffer ddim meibion, dim ond merched. (Cheffer oedd yn fab i Gilead, yn ŵyr i Machir ac yn or-ŵyr i Manasse.) Enwau merched Seloffchad oedd Machla, Noa, Hogla, Milca, a Tirtsa. Dyma nhw'n mynd at Eleasar yr offeiriad, Josua fab Nwn, a'r arweinwyr eraill, a dweud, “Dwedodd yr ARGLWYDD wrth Moses am roi tir i ni gyda'n perthnasau.” Felly dyma Josua yn rhoi tir iddyn nhw gyda brodyr eu tad, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn. Cafodd Manasse ddeg darn o dir yn ychwanegol at Gilead a Bashan oedd i'r dwyrain o Afon Iorddonen, am fod merched o lwyth Manasse wedi cael tir gyda'r meibion. (Roedd tir Gilead yn perthyn i weddill disgynyddion Manasse.) Roedd tir Manasse yn ymestyn o'r ffin gyda llwyth Asher yn y gogledd, i Michmethath wrth ymyl Sichem. Yna roedd yn mynd yn bellach i'r de at y bobl oedd yn byw yn En-tappŵach. (Roedd yr ardal o gwmpas Tappŵach yn perthyn i lwyth Manasse, ond tref Tappŵach ei hun, oedd ar ffin Manasse yn perthyn i lwyth Effraim.) Wedyn roedd ffin y de yn dilyn Dyffryn Cana. Roedd trefi yno, yng nghanol trefi Manasse, oedd wedi cael eu rhoi i lwyth Effraim. Ond roedd ffin Manasse yn mynd ar hyd ochr ogleddol y dyffryn, at y môr. Tir Effraim oedd i'r de o'r ffin, a Manasse i'r gogledd. Môr y Canoldir oedd ffin Manasse i'r gorllewin. Yna roedd eu tir yn ffinio gyda llwyth Asher i'r gogledd ac Issachar i'r dwyrain. Ac roedd rhai trefi o fewn ffiniau Asher ac Issachar, gyda'r pentrefi o'u cwmpas, wedi eu rhoi i lwyth Manasse: Beth-shean, Ibleam, Dor, En-dor, Taanach, a Megido, (Naffeth ydy'r drydedd yn y rhestr). Ond wnaeth dynion Manasse ddim llwyddo i goncro'r trefi yma. Roedd y Canaaneaid yn dal i wrthod symud. Yn ddiweddarach, pan oedd Israel yn gryfach, dyma nhw yn llwyddo i orfodi'r Canaaneaid i weithio fel caethweision iddyn nhw. Ond wnaethon nhw erioed lwyddo i'w gyrru nhw allan yn llwyr. Dyma ddisgynyddion Joseff yn gofyn i Josua, “Pam wyt ti wedi rhoi cyn lleied o dir i ni? — dim ond un rhandir. Mae yna lot fawr ohonon ni, a diolch i'r ARGLWYDD dŷn ni'n dal i dyfu.” Dyma Josua'n dweud, “Os oes cymaint a hynny ohonoch chi, a bryniau Effraim yn rhy fach, ewch i'r goedwig a chlirio lle i fyw yno, yn ardal y Peresiaid a'r Reffaiaid.” Ond dyma nhw'n ateb, “Fyddai'r bryniau yna i gyd ddim digon, ac allwn ni ddim mynd i lawr i'r dyffryn — mae gan y Canaaneaid sy'n byw yn ardal Beth-shean a Dyffryn Jesreel, gerbydau rhyfel haearn.” Yna dyma Josua'n dweud wrth ddisgynyddion Joseff (sef llwythau Effraim a Manasse): “Oes, mae yna lot fawr ohonoch chi, a dych chi'n gryf iawn. Byddwch chi yn cael mwy nag un rhandir. Chi fydd piau'r bryniau i gyd. Er fod y tir yn goediog, gallwch ei glirio, a'i gymryd i gyd. A gallwch goncro'r Canaaneaid yn yr iseldir hefyd, er eu bod nhw'n gryfion a bod ganddyn nhw gerbydau rhyfel haearn.” Dyma bobl Israel i gyd yn dod at ei gilydd yn Seilo, ac yn codi Pabell Presenoldeb Duw. Er eu bod nhw'n rheoli'r wlad, roedd saith o'r llwythau yn dal heb gael eu tir. A dyma Josua yn dweud wrth bobl Israel, “Am faint mwy dych chi'n mynd dindroi cyn cymryd y tir mae'r ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, wedi ei roi i chi? Dewiswch dri dyn o bob llwyth. Dw i am eu hanfon nhw i grwydro'r wlad, ei mapio a gwneud arolwg llawn ohoni. Byddan nhw'n ei rhannu yn saith ardal. Ond fydd hyn ddim yn cynnwys tir Jwda i lawr yn y de, na tir Joseff yn y gogledd. Mapiwch y tir a'i rannu yn saith ardal wahanol, a dewch ag e i mi. Wedyn bydda i yn bwrw coelbren o flaen yr ARGLWYDD eich Duw, i ddewis pa ardal fydd yn cael ei rhoi i bob llwyth. Ond fydd llwyth Lefi ddim yn cael rhan o'r tir. Eu braint nhw ydy cael bod yn offeiriaid i'r ARGLWYDD. Ac mae llwythau Gad, Reuben a hanner llwyth Manasse eisoes wedi derbyn tir yr ochr arall i'r Afon Iorddonen, gan Moses, gwas yr ARGLWYDD.” Cyn i'r dynion gychwyn ar eu taith, dyma Josua yn gorchymyn iddyn nhw: “Ewch i grwydro drwy'r wlad, a'i mapio a paratoi arolwg llawn ohoni i mi. Yna dewch yn ôl ata i. Bydda i wedyn yn bwrw coelbren o flaen yr ARGLWYDD yma yn Seilo, i weld pa ardal fydd yn cael ei rhoi i bob llwyth.” Felly dyma'r dynion yn mynd trwy'r wlad i gyd, a'i mapio, a rhestru'r trefi i gyd ar sgrôl, a rhannu'r tir yn saith ardal. Yna dyma nhw'n dod yn ôl at Josua i'r gwersyll yn Seilo. A dyma Josua yn bwrw coelbren o flaen yr ARGLWYDD yn Seilo, i rannu'r tir rhwng pobl Israel, a gweld pa ardal fyddai pob llwyth yn ei gael. Teuluoedd llwyth Benjamin gafodd y rhan gyntaf. Eu tir nhw fyddai'r ardal rhwng tir Jwda a tir meibion Joseff. Roedd y ffin yn y gogledd yn mynd o Afon Iorddonen ar hyd y llethr i'r gogledd o Jericho, wedyn i fyny i'r bryniau i gyfeiriad y gorllewin ac ymlaen at anialwch Beth-afen. Roedd yn croesi wedyn i Lws, ar hyd y llethr sydd i'r de o Lws (sef Bethel). Yna i lawr i Atroth-adar sydd ar y bryn i'r de o Beth-choron Isaf. Wedyn roedd yn troi o'r fan honno i'r de, ar hyd ochr orllewinol y bryn ac i lawr i Ciriath-baal (sef Ciriath-iearim) un o'r trefi oedd ar dir llwyth Jwda. Dyna'r ffin i'r gorllewin. Yna roedd ffin y de yn dechrau wrth Ciriath-iearim, ac yn rhedeg i gyfeiriad Ffynnon Nefftoach. Wedyn roedd y ffin yn mynd i lawr at droed y mynydd sydd gyferbyn â Dyffryn Ben-hinnom sydd wrth ben gogleddol Dyffryn Reffaïm. Yna i lawr Dyffryn Hinnom at y llethr sydd i'r de o Jerwsalem, ac ymlaen i En-rogel. O En-rogel roedd yn troi i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain i En-shemesh ac yna i Geliloth sydd gyferbyn â Bwlch Adwmim, yna i lawr at Garreg Bohan (mab Reuben). Yna croesi i gyfeiriad y gogledd ar hyd y llethr sydd o flaen Dyffryn Iorddonen, cyn mynd i lawr i'r dyffryn ei hun. Croesi wedyn at lethr Beth-hogla ac ymlaen i ben uchaf y Môr Marw wrth aber yr Afon Iorddonen. Dyna ffin y de. Wedyn yr Afon Iorddonen oedd y ffin i'r dwyrain. Dyna ffiniau'r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Benjamin. A dyma'r trefi oedd yn perthyn i lwyth Benjamin: Jericho, Beth-hogla, Emec-cetsits, Beth-araba, Semaraïm, Bethel, Afim, Para, Offra, Ceffar-ammona, Offni a Geba — un deg dwy o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas. Gibeon, Rama, Beëroth, Mitspe, Ceffira, Motsa, Recem, Irpeël, Tarala, Sela, Eleff, tref y Jebwsiaid (sef, Jerwsalem), Gibea, a Ciriath — un deg pedair o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas. Dyma'r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Benjamin. Teuluoedd llwyth Simeon gafodd yr ail ran. Roedd eu tir nhw o fewn tiriogaeth Jwda. Roedd eu tir nhw yn cynnwys Beersheba, Molada, Chatsar-shwal, Bala, Etsem, Eltolad, Bethwl, Horma, Siclag, Beth-marcaboth, Chatsar-swsa, Beth-lebaoth, a Sharwchen — un deg tair o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas. Ain, Rimmon, Ether, ac Ashan — pedair o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas. Hefyd y pentrefi oedd o'u cwmpas nhw yr holl ffordd i Baalath-beër (sef Rama yn y Negef). Dyma'r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Simeon. Cafodd tir Simeon ei gymryd allan o gyfran Jwda, am fod gan Jwda ormod o dir. Felly roedd tir llwyth Simeon o fewn ffiniau Jwda. Teuluoedd llwyth Sabulon gafodd y drydedd ran. Roedd ffin eu tiriogaeth nhw yn ymestyn yr holl ffordd i Sarid yn y de-ddwyrain. Roedd yn mynd i gyfeiriad y gorllewin i Marala, heibio Dabbesheth ac at y ceunant wrth Jocneam. O Sarid roedd yn troi i gyfeiriad y dwyrain at y ffin gyda Cisloth-tabor, yna ymlaen i Daberath, ac i fyny i Jaffia. Wedyn roedd yn croesi drosodd i Gath-heffer ac Eth-catsin ac ymlaen i Rimmon cyn troi i gyfeiriad Nea. Wedyn roedd yn mynd rownd i'r gogledd i Channathon ac yn gorffen yn Nyffryn Ifftachél. Roedd eu tiriogaeth nhw yn cynnwys Catta, Nahalal, Shimron, Idala, a Bethlehem. Roedd ganddyn nhw un deg dwy o drefi i gyd, a'r pentrefi o'u cwmpas. Dyma'r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Sabulon, yn cynnwys y trefi yma i gyd a'r pentrefi o'u cwmpas. Teuluoedd llwyth Issachar gafodd y bedwaredd ran. Roedd eu tiriogaeth nhw yn cynnwys Jesreel, Ceswloth, Shwnem, Chaffaraïm, Shion, Anacharath, Rabbith, Cishon, Ebes, Remeth, En-gannïm, En-hada a Beth-patsets. Roedd eu ffin yn cyffwrdd Mynydd Tabor, Shachatsima a Beth-shemesh, ac yn gorffen wrth yr Afon Iorddonen. Un deg chwech o drefi i gyd, a'r pentrefi o'u cwmpas. Dyma'r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Issachar, yn cynnwys y trefi yma i gyd a'r pentrefi o'u cwmpas. Teuluoedd llwyth Asher gafodd y bumed ran. Roedd eu tiriogaeth nhw yn cynnwys Helcath, Chali, Beten, Achsaff, Alammelech, Amad, a Mishal. Roedd eu ffin nhw yn mynd o Carmel yn y gorllewin i Shichor-libnath. Wedyn roedd yn troi i'r dwyrain i gyfeiriad Beth-dagon, at ffin llwyth Sabulon a Dyffryn Ifftachél i'r gogledd, yna i Beth-emec a Neiel, ac yna ymlaen i Cabwl yn y gogledd. Yna i Ebron, Rechob, Hammon, a Cana, yr holl ffordd i Sidon Fawr. [29-30] Wedyn roedd yn troi i gyfeiriad Rama a tref gaerog Tyrus, cyn troi i Chosa a mynd at y môr. Roedd ganddyn nhw ddau ddeg dwy o drefi i gyd, a'r pentrefi o'u cwmpas, gan gynnwys Mahalab, Achsib, Acco, Affec, a Rechob. *** Dyma'r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Asher, yn cynnwys y trefi yma i gyd a'r pentrefi o'u cwmpas. Teuluoedd llwyth Nafftali gafodd y chweched ran. Roedd y ffin yn dechrau wrth Cheleff a'r dderwen yn Saänannim, yna mynd i Adami-necef, Iabneël, ymlaen i Lacwm, cyn gorffen wrth Afon Iorddonen. Wedyn roedd yn troi i'r gorllewin at Asnoth-tabor ac ymlaen i Chwcoc. Roedd yn ffinio gyda llwyth Sabulon i'r de, a llwyth Asher i'r gorllewin, a Jwda wrth Afon Iorddonen yn y dwyrain. Roedd y trefi caerog amddiffynnol yn cynnwys Sidim, Ser, Chamath, Raccath, Cinnereth, Adama, Rama, Chatsor, Cedesh, Edrei, En-chatsor, Iron, Migdal-el, Chorem, Beth-anath, a Beth-shemesh. Roedd ganddyn nhw un deg naw o drefi i gyd, a'r pentrefi o'u cwmpas. Dyma'r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Nafftali, yn cynnwys y trefi yma i gyd a'r pentrefi o'u cwmpas. Teuluoedd llwyth Dan gafodd y seithfed ran. Roedd eu tir nhw'n cynnwys Sora, Eshtaol, Ir-shemesh, Shaalabin, Aialon, Ithla, Elon, Timna, Ecron, Eltece, Gibbethon, Baalath, Jehwd, Bene-berac, Gath-rimmon, Me-iarcon, a Raccon, gan gynnwys y tir o flaen Jopa. (Ond collodd llwyth Dan y tir gafodd ei roi iddyn nhw, felly dyma nhw'n mynd i'r gogledd ac yn ymosod ar Laish. Dyma nhw'n cymryd y dref drosodd ac yn lladd pawb oedd yn byw yno, a newid enw'r dref i Dan, ar ôl eu hynafiad.) Dyma'r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Dan, yn cynnwys y trefi yma i gyd a'r pentrefi o'u cwmpas. Ar ôl rhannu'r tir i gyd rhwng y llwythau, dyma bobl Israel yn rhoi darn o dir i Josua fab Nwn. Roedd yr ARGLWYDD wedi dweud y byddai e'n cael pa dref bynnag oedd e eisiau. Dewisodd Timnath-serach ym mryniau Effraim. Ailadeiladodd y dref, a byw yno. Dyma sut cafodd y tir ei rannu gan Eleasar yr offeiriad, Josua fab Nwn ac arweinwyr llwythau Israel. Cafodd y tir ei rannu drwy fwrw coelbren o flaen yr ARGLWYDD wrth y fynedfa i Babell Presenoldeb Duw yn Seilo. A dyna sut gwnaethon nhw orffen rhannu'r tir. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Josua: “Dywed wrth bobl Israel am ddewis y trefi lloches wnes i orchymyn i Moses ddweud wrthoch chi amdanyn nhw. Bydd unrhyw un sy'n lladd person yn ddamweiniol yn gallu dianc yno. Bydd un o'r trefi yma yn lle saff i ddianc oddi wrth y perthynas sydd am ddial. Dylai'r un sydd wedi lladd rhywun trwy ddamwain, ddianc i un o'r trefi yma, a mynd i'r llys wrth giât y dref i gyflwyno ei achos i'r arweinwyr yno. Yna byddan nhw'n gadael iddo fynd i mewn i'r dref i fyw. A pan fydd y perthynas sydd â'r hawl i ddial yn dod ar ei ôl, dylen nhw wrthod ei roi iddo, am mai damwain oedd yr hyn ddigwyddodd — doedd e ddim wedi bwriadu lladd. Ond rhaid iddo aros yn y dref nes bydd llys cyhoeddus wedi dod i ddyfarniad ar ei achos a'r un sy'n archoffeiriad ar y pryd wedi marw. Wedyn bydd yn cael mynd yn ôl i'r dref lle roedd yn byw cyn iddo ddianc.” Felly dyma nhw'n dewis Cedesh yn Galilea, ym mryniau tiriogaeth Nafftali, Sichem ym mryniau Effraim, a Ciriath-arba (sef Hebron) ym mryniau Jwda. Ac i'r dwyrain o'r Afon Iorddonen, gyferbyn â Jericho, dyma nhw'n dewis Betser yn yr anialwch ar wastadedd tiriogaeth llwyth Reuben, Ramoth yn Gilead ar dir llwyth Gad, a Golan yn Bashan oedd yn perthyn i lwyth Manasse. Y rhain gafodd eu dewis yn drefi lloches i bobl Israel a'r mewnfudwyr oedd yn byw gyda nhw. Gallai rhywun oedd wedi lladd person yn ddamweiniol, ddianc yno i osgoi cael ei ladd gan y perthynas sydd â'r hawl i ddial, hyd nes i'w achos gael gwrandawiad mewn llys cyhoeddus. Dyma arweinwyr llwyth Lefi yn mynd at Eleasar yr offeiriad, Josua fab Nwn ac arweinwyr llwythau Israel, yn Seilo yn Canaan. A dyma nhw'n dweud wrthyn nhw, “Roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses roi trefi i ni fyw ynddyn nhw, gyda tir pori o'u cwmpas nhw i'n hanifeiliaid.” Felly, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud, dyma bobl Israel yn rhoi trefi gyda tir pori o'u cwmpas nhw, i lwyth Lefi: Y teuluoedd oedd yn ddisgynyddion i Cohath gafodd y rhai cyntaf. Cafodd y Lefiaid oedd yn ddisgynyddion Aaron yr offeiriad un deg tair o drefi o diriogaeth llwythau Jwda, Simeon a Benjamin. A dyma'r gweddill o ddisgynyddion Cohath yn cael deg tref o diriogaeth llwythau Effraim, Dan a hanner llwyth Manasse. Cafodd disgynyddion Gershon un deg tair o drefi o diriogaeth llwythau Issachar, Asher, Nafftali, a hanner arall llwyth Manasse yn Bashan. Cafodd y teuluoedd oedd yn ddisgynyddion i Merari un deg dwy o drefi o diriogaeth Reuben, Gad a Sabulon. Dyma'r trefi, gyda'u tir pori, wnaeth pobl Israel eu rhoi i lwyth Lefi, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses: O diriogaeth llwythau Jwda a Simeon, y trefi gafodd eu rhoi i deuluoedd Cohath, oedd yn ddisgynyddion i Aaron yr offeiriad — nhw gafodd y rhai cyntaf: Ciriath-arba, sef Hebron, ym mryniau Jwda. (Arba oedd hynafiad yr Anaciaid.) Ond roedd y tir agored a'r pentrefi o'i chwmpas eisoes wedi cael eu rhoi i Caleb fab Jeffwnne. Felly i ddisgynyddion Aaron yr offeiriad dyma nhw'n rhoi Hebron (oedd yn dref lloches i rywun oedd wedi lladd person arall), Libna, Iattir, Eshtemoa, Cholon, Debir, Ain, Iwtta, a Beth-shemesh, a'r tir pori o gwmpas pob un. Naw o drefi wedi eu cymryd o diriogaeth y ddau lwyth yma. O diriogaeth llwyth Benjamin dyma nhw'n rhoi Gibeon, Geba, Anathoth, ac Almon, a'r tir pori o gwmpas pob un. Pedair o drefi i gyd. Felly cafodd un deg tair o drefi eu rhoi i'r offeiriad, disgynyddion Aaron. Cafodd gweddill y teuluoedd oedd yn ddisgynyddion i Cohath (o lwyth Lefi) y trefi canlynol: O diriogaeth llwyth Effraim dyma nhw'n rhoi Sichem, ym mryniau Effraim (oedd yn dref lloches i rywun oedd wedi lladd person arall), Geser, Cibtsaim, a Beth-choron, a'r tir pori o gwmpas pob un. Pedair o drefi i gyd. O diriogaeth llwyth Dan dyma nhw'n rhoi Eltece, Gibbethon, Aialon, a Gath-rimmon, a'r tir pori o gwmpas pob un. Pedair o drefi i gyd. O diriogaeth hanner llwyth Manasse dyma nhw'n rhoi Taanach a Jibleam, a'r tir pori o'u cwmpas nhw. Dwy dref i gyd. Felly cafodd y deg tref yma eu rhoi i weddill y teuluoedd oedd yn ddisgynyddion i Cohath. Dyma'r trefi gafodd eu rhoi i deuluoedd disgynyddion Gershon, o lwyth Lefi: O hanner llwyth Manasse dyma nhw'n rhoi Golan yn Bashan (oedd yn dref lloches i rywun oedd wedi lladd person arall) a Beeshtera, a'r tir pori o'u cwmpas nhw. Dwy dref i gyd. O diriogaeth llwyth Issachar: Cishon, Daberath, Iarmwth, ac En-gannïm, a'r tir pori o gwmpas pob un. Pedair o drefi i gyd. O diriogaeth llwyth Asher: Mishal, Abdon, Helcath, a Rechob, a'r tir pori o gwmpas pob un. Pedair o drefi i gyd. O diriogaeth llwyth Nafftali: Cedesh yn Galilea (oedd yn dref lloches i rywun oedd wedi lladd person arall), Chamath-dor, a Cartan, a'r tir pori o gwmpas pob un. Tair o drefi i gyd. Felly cafodd yr un deg tair tref yma eu rhoi i deuluoedd disgynyddion Gershon. Dyma'r trefi gafodd eu rhoi i deuluoedd gweddill llwyth Lefi, sef disgynyddion Merari: O diriogaeth llwyth Sabulon: Jocneam, Carta, Dimna, a Nahalal, a'r tir pori o gwmpas pob un. Pedair o drefi i gyd. O diriogaeth llwyth Reuben: Betser, Iahats, Cedemoth, a Meffaäth, a'r tir pori o gwmpas pob un. Pedair o drefi i gyd. O diriogaeth llwyth Gad: Ramoth yn Gilead (oedd yn dref lloches i rywun oedd wedi lladd person arall), Machanaîm, Cheshbon, a Iaser, a'r tir pori o gwmpas pob un. Pedair o drefi i gyd. Felly cafodd yr un deg dwy tref yma eu rhoi i weddill llwyth Lefi, sef disgynyddion Merari. Cafodd pedwar deg wyth o drefi i gyd, gyda'u tir pori, eu rhoi i lwyth Lefi, o fewn tiroedd pobl Israel. Roedd tir pori o gwmpas pob un o'r trefi. Felly dyma'r ARGLWYDD yn rhoi i bobl Israel yr holl dir roedd wedi ei addo i'w hynafiaid nhw. Dyma nhw'n ei goncro ac yn setlo i lawr i fyw ynddo. A dyma'r ARGLWYDD yn rhoi heddwch iddyn nhw fel roedd e wedi addo ar lw i'w hynafiaid. Roedd wedi eu helpu i goncro eu gelynion i gyd. Roedd pob un addewid wnaeth yr ARGLWYDD i bobl Israel wedi dod yn wir. Dyma Josua yn galw llwythau Reuben, Gad a hanner llwyth Manasse at ei gilydd, a dweud wrthyn nhw: “Dych chi wedi gwneud popeth wnaeth Moses, gwas yr ARGLWYDD, ei ddweud wrthoch chi, ac wedi gwrando arna i hefyd. Wnaethoch chi ddim troi cefn ar eich pobl, llwythau Israel, o gwbl. Dych chi wedi gwneud beth wnaeth yr ARGLWYDD eich Duw ei ofyn gynnoch chi. Bellach mae'r ARGLWYDD eich Duw wedi rhoi heddwch i weddill llwythau Israel, fel gwnaeth e addo. Felly gallwch fynd yn ôl adre i'r tir wnaeth Moses, gwas yr ARGLWYDD, ei roi i chi yr ochr arall i'r Afon Iorddonen. “Ond cofiwch gadw'r rheolau a'r deddfau wnaeth Moses eu rhoi i chi. Caru yr ARGLWYDD eich Duw, byw fel mae e'n dweud, cadw ei reolau, bod yn ffyddlon iddo, a rhoi eich hunain yn llwyr i'w addoli â'ch holl galon!” Dyma Josua yn eu bendithio nhw, a'u hanfon nhw i ffwrdd, a dyma nhw'n mynd am adre. (Roedd Moses wedi rhoi tir yn Bashan i hanner llwyth Manasse, a tir i'r gorllewin o Afon Iorddonen i'r hanner arall, gyda gweddill pobl Israel.) Pan anfonodd Josua nhw adre, dyma fe'n eu bendithio nhw: “Ewch adre, a rhannu gyda'ch pobl yr holl gyfoeth dych chi wedi ei gymryd gan eich gelynion! — lot fawr o anifeiliaid, arian, aur, pres, haearn, a lot fawr o ddillad hefyd.” Felly dyma lwythau Reuben, Gad, a hanner llwyth Manasse yn gadael gweddill pobl Israel yn Seilo yn Canaan, a troi am adre i'w tir eu hunain yn Gilead — sef y tir wnaeth yr ARGLWYDD ei roi iddyn nhw trwy Moses. Ond pan oedden nhw'n dal ar ochr Canaan i'r Iorddonen dyma nhw'n adeiladu allor fawr drawiadol yn Geliloth, wrth ymyl yr afon. Pan glywodd gweddill pobl Israel am y peth, dyma nhw'n dod at ei gilydd yn Seilo i baratoi i fynd ar eu holau, ac ymosod ar y ddau lwyth a hanner. Ond cyn gwneud hynny dyma bobl Israel yn anfon Phineas mab Eleasar, yr offeiriad, i siarad â nhw yn Gilead. Aeth deg o arweinwyr eraill gydag e, un o bob llwyth — dynion oedd yn arweinwyr teuluoedd estynedig o fewn eu llwythau. Dyma'r rhain yn mynd i Gilead at lwythau Reuben, Gad a hanner llwyth Manasse, a dweud wrthyn nhw: “Mae pobl Israel i gyd eisiau gwybod pam ydych chi wedi bradychu Duw Israel fel yma. Beth wnaeth i chi droi cefn ar yr ARGLWYDD ac adeiladu eich allor eich hunain? Sut allwch chi wrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD fel yma? Oedd beth wnaethon ni yn Peor ddim digon drwg? Dŷn ni'n dal ddim wedi dod dros hynny'n iawn. Mae canlyniadau'r pla wnaeth daro pobl yr ARGLWYDD bryd hynny yn dal gyda ni! A dyma chi eto heddiw, yn troi cefn ar yr ARGLWYDD! Os gwnewch chi droi yn ei erbyn e heddiw, mae perygl y bydd yr ARGLWYDD yn cosbi pobl Israel i gyd yfory! Os ydych chi'n teimlo fod eich tir chi yr ochr yma i'r Iorddonen yn aflan, dewch drosodd i fyw gyda ni ar dir yr ARGLWYDD ei hun, lle mae Pabell Presenoldeb Duw. Ond peidiwch troi yn erbyn yr ARGLWYDD, a'n tynnu ni i mewn i'r peth, drwy godi allor arall i chi'ch hunain. Dim ond un allor sydd i fod i'r ARGLWYDD ein Duw. “Meddyliwch am Achan fab Serach! Pan fuodd e'n anufudd i'r gorchymyn am y cyfoeth oedd i fod i gael ei gadw i'r ARGLWYDD, roedd Duw yn ddig gyda phobl Israel i gyd. Dim fe oedd yr unig un wnaeth farw o ganlyniad i'w bechod!” Dyma bobl Reuben, Gad a hanner llwyth Manasse yn ateb arweinwyr Israel, a dweud, “Yr ARGLWYDD ydy Duw y duwiau! Yr ARGLWYDD ydy Duw y duwiau! Mae e'n gwybod beth ydy'r gwir, a rhaid i bobl Israel wybod hefyd! Os ydyn ni wedi troi yn ei erbyn a bod yn anufudd, lladdwch ni heddiw! “Wnaethon ni ddim codi'r allor i ni'n hunain gyda'r bwriad o droi cefn ar yr ARGLWYDD, nac i gyflwyno offrymau i'w llosgi, offrymau o rawn neu offrymau i ofyn am ei fendith arni. Bydd yr ARGLWYDD ei hun yn ein cosbi ni os ydyn ni'n dweud celwydd! Na! Poeni oedden ni y byddai eich disgynyddion chi ryw ddydd yn dweud wrth ein disgynyddion ni, ‘Pa gysylltiad sydd gynnoch chi â'r ARGLWYDD, Duw Israel? Mae'r ARGLWYDD wedi gosod yr Afon Iorddonen yn ffin glir rhyngon ni â chi. Does gynnoch chi, bobl Reuben a Gad, ddim hawl i addoli'r ARGLWYDD.’ Roedd gynnon ni ofn y byddai eich disgynyddion chi yn rhwystro ein disgynyddion ni addoli'r ARGLWYDD. Felly dyma ni'n penderfynu codi'r allor yma. Nid er mwyn offrymu ac aberthu arni, ond i'n hatgoffa ni a chi, a'n disgynyddion ni hefyd, mai ei gysegr ydy'r lle i ni fynd i addoli'r ARGLWYDD, a chyflwyno aberthau ac offrymau iddo. Wedyn, yn y dyfodol, fydd eich disgynyddion chi ddim yn gallu dweud wrth ein disgynyddion ni, ‘Does gynnoch chi ddim perthynas â'r ARGLWYDD.’ Roedden ni'n tybio, os byddai pethau felly'n cael eu dweud wrthon ni a'n disgynyddion, gallen ni ateb, ‘Edrychwch ar y copi yma o allor yr ARGLWYDD gafodd ei chodi gan ein hynafiaid. Dim allor i gyflwyno offrymau i'w llosgi nac aberthu arni ydy hi, ond un i'n hatgoffa o'r berthynas sydd rhyngon ni.’ “Fydden ni ddim yn meiddio troi yn erbyn yr ARGLWYDD a gwrthod ei ddilyn drwy godi allor arall i gyflwyno arni offrymau i'w llosgi, aberthau ac offrymau i ofyn am ei fendith. Allor yr ARGLWYDD ein Duw o flaen ei Dabernacl ydy'r unig un i wneud hynny arni.” Pan glywodd Phineas yr offeiriad, ac arweinwyr llwythau Israel, beth oedd amddiffyniad pobl Reuben, Gad a hanner llwyth Manasse, roedden nhw'n fodlon. A dyma Phineas fab Eleasar, yr offeiriad, yn dweud wrthyn nhw: “Nawr, dŷn ni'n gwybod fod yr ARGLWYDD gyda ni. Dych chi ddim wedi bod yn anufudd iddo. Dych chi wedi achub pobl Israel rhag cael eu cosbi gan yr ARGLWYDD.” Felly dyma Phineas fab Eleasar, yr offeiriad, a'r arweinwyr oedd gydag e, yn gadael pobl Reuben a Gad yn Gilead, a mynd yn ôl i Canaan i adrodd i weddill pobl Israel beth oedd wedi cael ei ddweud. Roedd pobl Israel yn hapus gyda'r hyn gafodd ei ddweud, a dyma nhw'n addoli Duw. Doedd dim sôn ar ôl hynny am ymosod ar y wlad lle roedd pobl llwythau Reuben a Gad yn byw. A dyma llwythau Reuben a Gad yn rhoi enw i'r allor — “Arwydd i'n hatgoffa ni i gyd mai dim ond yr ARGLWYDD sydd Dduw.” Aeth blynyddoedd lawer heibio. Roedd yr ARGLWYDD wedi cadw Israel yn saff rhag y gelynion o'i chwmpas, ac roedd Josua wedi mynd yn hen iawn. Dyma fe'n galw pobl Israel at ei gilydd — y dynion hŷn, arweinwyr, barnwyr a'r swyddogion. A dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Dw i wedi mynd yn hen. Dych chi wedi gweld beth wnaeth yr ARGLWYDD ar eich rhan chi i'r bobloedd yma i gyd. Yr ARGLWYDD eich Duw chi ydy e, ac mae e wedi ymladd drosoch chi. Dw i wedi rhannu rhwng eich llwythau dir y bobl hynny sydd ddim eto wedi eu concro yn ogystal â'r rhai dw i wedi eu dinistrio — sef yr holl dir sydd rhwng yr Afon Iorddonen a Môr y Canoldir. Bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn cael gwared â'r rhai sydd ar ôl, a byddwch chi'n byw yn y tir yn eu lle nhw, fel mae'r ARGLWYDD wedi addo i chi. “Felly byddwch yn ddewr. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud popeth sydd wedi ei ysgrifennu yn sgrôl cyfraith Moses. Peidiwch crwydro oddi wrth hynny o gwbl. A peidiwch cael dim i'w wneud â'r bobloedd sydd ar ôl gyda chi. Peidiwch galw ar eu duwiau nhw na tyngu llw i'r duwiau hynny. Peidiwch addoli nhw na gweddïo arnyn nhw. Arhoswch yn ffyddlon i'r ARGLWYDD eich Duw, fel dych chi wedi gwneud hyd heddiw. Mae'r ARGLWYDD wedi gyrru gwledydd mawr cryfion allan o'ch blaen chi. Does neb wedi gallu'ch rhwystro chi hyd yn hyn. Mae un ohonoch chi yn ddigon i wneud i fil ohonyn nhw ffoi, am fod yr ARGLWYDD yn ymladd drosoch chi, fel gwnaeth e addo. Gwyliwch eich hunain! Carwch yr ARGLWYDD eich Duw! Os byddwch chi'n troi cefn arno, ac yn cymysgu gyda'r bobloedd yma sydd yn dal gyda chi — priodi eu merched nhw, a gadael iddyn nhw briodi eich merched chi — gallwch fod yn siŵr y bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn stopio eu gyrru nhw allan o'ch blaen chi. Byddan nhw'n eich trapio chi. Fyddan nhw'n achosi dim byd ond trwbwl i chi, fel chwip ar eich cefnau neu ddrain yn eich llygaid. A byddwch chi'n diflannu o'r wlad dda yma mae'r ARGLWYDD eich Duw wedi ei rhoi i chi. “Edrychwch, fydda i ddim byw yn hir iawn eto. Dych chi'n gwybod yn berffaith iawn fod yr ARGLWYDD wedi cadw pob un addewid wnaeth e i chi. Mae e wedi gwneud popeth wnaeth e addo. Ond gallwch fod yr un mor siŵr y bydd yr ARGLWYDD yn dod â barn a dinistr arnoch chi os byddwch chi'n anufudd iddo. Byddwch yn cael eich gyrru allan o'r wlad dda yma mae e wedi ei rhoi i chi. Os byddwch chi'n torri amodau'r ymrwymiad mae'r ARGLWYDD eich Duw wedi ei wneud, ac yn dechrau addoli a gweddïo ar dduwiau eraill, bydd yr ARGLWYDD yn digio gyda chi, a byddwch chi'n diflannu o'r wlad dda yma mae e wedi ei rhoi i chi.” Dyma Josua yn galw llwythau Israel i gyd at ei gilydd yn Sichem. Galwodd y cynghorwyr a'r arweinwyr i gyd, y barnwyr, a'r swyddogion, a mynd â nhw i sefyll o flaen Duw. Yna dwedodd wrth y bobl, “Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: Yn bell, bell yn ôl roedd eich hynafiaid (hyd at Tera, tad Abraham a Nachor) yn byw yr ochr draw i'r Afon Ewffrates. Roedden nhw'n addoli duwiau eraill. Ond dyma fi'n cymryd Abraham o'r wlad honno, a dod ag e i wlad Canaan, a rhoi lot fawr o ddisgynyddion iddo. Rhoddais ei fab Isaac iddo, a wedyn rhoi Jacob ac Esau i Isaac. Cafodd Esau fyw ar fryniau Seir. Ond aeth Jacob a'i feibion i lawr i'r Aifft. Wedyn dyma fi'n anfon Moses ac Aaron i'ch arwain chi allan o wlad yr Aifft, a taro pobl yr Aifft gyda plâu. Pan ddes i â'ch hynafiaid chi allan o'r Aifft dyma nhw'n cyrraedd y môr, ac roedd marchogion a cherbydau rhyfel yr Eifftiaid wedi dod ar eu holau. Wrth y Môr Coch dyma'ch hynafiaid yn gweiddi ar yr ARGLWYDD am help, a dyma fi'n rhoi tywyllwch rhyngoch chi a nhw, ac yn eu boddi nhw yn y môr. Gwelsoch gyda'ch llygaid eich hunain beth wnes i i'r Aifft. Wedyn buoch chi'n byw yn yr anialwch am flynyddoedd lawer. Yna dyma fi'n dod â chi i dir yr Amoriaid, sef y bobl oedd yn byw i'r dwyrain o'r Afon Iorddonen. Dyma nhw'n ymladd yn eich erbyn chi, ond dyma fi'n eu dinistrio nhw'n llwyr o'ch blaenau chi. Chi gafodd ennill y frwydr, a concro eu tir nhw. Roedd Balac fab Sippor, brenin Moab, yn paratoi i ymosod ar Israel, ac wedi cael Balaam fab Beor i'ch melltithio chi. Ond wnes i ddim gwrando ar Balaam. Yn lle hynny dyma fe'n proffwydo pethau da amdanoch chi dro ar ôl tro! Fi wnaeth eich achub chi oddi wrtho. Wedyn, ar ôl i chi groesi'r Afon Iorddonen dyma chi'n dod i Jericho. Daeth arweinwyr Jericho i ymladd yn eich erbyn chi, a'r Amoriaid, Peresiaid, Canaaneaid, Hethiaid, Girgasiaid, Hefiaid a Jebwsiaid hefyd, ond dyma fi'n gwneud i chi ennill. Dyma fi'n achosi panig llwyr, a gyrru dau frenin yr Amoriaid allan o'ch blaen chi. Fi wnaeth ennill y frwydr i chi, nid eich arfau rhyfel chi. Fi wnaeth roi'r tir i chi. Wnaethoch chi ddim gweithio amdano, a wnaethoch chi ddim adeiladu'r trefi. Dych chi'n bwyta ffrwyth gwinllannoedd a choed olewydd wnaethoch chi mo'i plannu. “Felly byddwch yn ufudd i'r ARGLWYDD, a'i addoli o ddifrif. Taflwch i ffwrdd y duwiau hynny roedd eich hynafiaid yn eu haddoli yr ochr arall i'r Afon Ewffrates, a duwiau'r Aifft. Addolwch yr ARGLWYDD. Os nad ydych chi eisiau addoli'r ARGLWYDD, penderfynwch heddiw pwy dych chi am ei addoli — y duwiau roedd eich hynafiaid yn eu haddoli yr ochr arall i'r Ewffrates, neu dduwiau'r Amoriaid dych chi'n byw yn eu tir nhw. Ond dw i a'm teulu yn mynd i addoli'r ARGLWYDD!” Dyma'r bobl yn ymateb, “Fydden ni ddim yn meiddio troi cefn ar yr ARGLWYDD i addoli duwiau eraill! Yr ARGLWYDD ein Duw wnaeth ein hachub ni a'n hynafiaid o fod yn gaethweision yn yr Aifft, a gwneud gwyrthiau rhyfeddol o flaen ein llygaid. Fe wnaeth ein cadw ni'n saff ar y daith, wrth i ni basio trwy dir gwahanol bobl. Yr ARGLWYDD wnaeth yrru'r bobloedd i gyd allan o'n blaenau ni, gan gynnwys yr Amoriaid oedd yn byw yn y wlad yma. Felly dŷn ni hefyd am addoli'r ARGLWYDD. Ein Duw ni ydy e.” Yna dyma Josua yn rhybuddio'r bobl, “Wnewch chi ddim dal ati i addoli'r ARGLWYDD. Mae e'n Dduw sanctaidd. Mae e'n Dduw eiddigeddus. Fydd e ddim yn maddau i chi am wrthryfela a pechu yn ei erbyn. Mae e wedi bod mor dda atoch chi! Os byddwch chi'n troi cefn arno ac yn addoli duwiau eraill, bydd e'n troi yn eich erbyn chi, yn achosi trychineb ac yn eich dinistrio chi!” Ond dyma'r bobl yn dweud wrth Josua, “Na! Dŷn ni'n mynd i addoli'r ARGLWYDD!” Felly dyma Josua yn gofyn i'r bobl, “Ydych chi'n derbyn eich bod chi'n atebol iddo ar ôl gwneud y penderfyniad yma i addoli'r ARGLWYDD?” A dyma nhw'n dweud, “Ydyn, dŷn ni'n atebol.” “Iawn,” meddai Josua, “taflwch y duwiau eraill sydd gynnoch chi i ffwrdd, a rhoi eich hunain yn llwyr i'r ARGLWYDD, Duw Israel.” A dyma'r bobl yn dweud wrth Josua, “Dŷn ni'n mynd i addoli'r ARGLWYDD ein Duw, a gwrando arno.” Felly dyma Josua yn gwneud cytundeb gyda'r bobl, a gosod rheolau a canllawiau iddyn nhw yn Sichem. A dyma fe'n ysgrifennu'r cwbl yn Sgrôl Cyfraith Duw. Wedyn dyma fe'n cymryd carreg fawr, a'i gosod i fyny o dan y goeden dderwen oedd wrth ymyl cysegr yr ARGLWYDD. A dyma fe'n dweud wrth y bobl, “Mae'r garreg yma wedi clywed popeth mae'r ARGLWYDD wedi ei ddweud wrthon ni. Bydd yn dyst yn eich erbyn chi os gwnewch chi droi cefn ar Dduw.” Yna dyma Josua yn gadael i'r bobl fynd, a dyma nhw i gyd yn mynd adre i'w tir eu hunain. Yn fuan wedyn, dyma Josua fab Nwn, gwas yr ARGLWYDD yn marw. Roedd yn gant a deg mlwydd oed. Dyma nhw'n ei gladdu ar ei dir ei hun yn Timnath-serach ym mryniau Effraim, i'r gogledd o Fynydd Gaash. Tra roedd Josua'n fyw roedd pobl Israel yn addoli'r ARGLWYDD. A dyma nhw'n dal ati i'w addoli pan oedd yr arweinwyr eraill o'r un genhedlaeth yn dal yn fyw — y dynion oedd wedi gweld drostyn nhw eu hunain y cwbl wnaeth yr ARGLWYDD i bobl Israel. Roedd pobl Israel wedi cario esgyrn Joseff o'r Aifft, a dyma nhw'n eu claddu yn Sichem, ar y darn o dir roedd Jacob wedi ei brynu am gant o ddarnau arian gan feibion Hamor, tad Sichem. Roedd y tir hwnnw yn rhan o diriogaeth disgynyddion Joseff. Pan fuodd Eleasar fab Aaron farw, dyma nhw'n ei gladdu yn Gibea ym mryniau Effraim, ar y tir oedd wedi cael ei roi i'w fab Phineas. Ar ôl i Josua farw, dyma bobl Israel yn gofyn i'r ARGLWYDD, “Pa lwyth ddylai arwain yr ymosodiad ar y Canaaneaid?” A dyma'r ARGLWYDD yn ateb, “Llwyth Jwda fydd yn arwain. A dw i'n mynd i roi'r tir iddyn nhw.” Dwedodd arweinwyr llwyth Jwda wrth arweinwyr llwyth Simeon, “Dewch i'n helpu ni i ymladd y Canaaneaid sy'n byw ar y tir sydd wedi ei roi i ni. Gwnawn ni eich helpu chi wedyn.” Felly dyma'r dynion o lwyth Simeon yn mynd gyda nhw. Dyma lwyth Jwda yn ymosod, a dyma'r ARGLWYDD yn gwneud iddyn nhw drechu'r Canaaneaid a'r Peresiaid. Cafodd deg mil o filwyr y gelyn eu lladd yn Besec. Yn ystod y frwydr dyma nhw'n dod o hyd i Adoni-besec, y brenin. Ceisiodd hwnnw ddianc, ond llwyddon nhw i'w ddal e. A dyma nhw'n torri bodiau ei ddwylo a'i draed i ffwrdd. “Dw i wedi torri bodiau dwylo a thraed saith deg o frenhinoedd,” meddai Adoni-besec. “Roedden nhw i gyd yn gorfod casglu briwsion dan fy mwrdd. A nawr mae Duw wedi talu'n ôl i mi am beth wnes i iddyn nhw.” Aethon nhw ag e i Jerwsalem, lle buodd e farw. Roedd byddin Jwda wedi ymosod ar Jerwsalem, ei dal, lladd ei phobl, a llosgi'r ddinas yn llwyr. Nesaf, dyma byddin Jwda yn mynd i ymosod ar y Canaaneaid oedd yn byw yn y bryniau, y Negef i'r de, a'r iseldir yn y gorllewin. Dyma nhw'n ymosod ar y Canaaneaid oedd yn byw yn Hebron (oedd yn arfer cael ei galw yn Ciriath-arba ), a lladd dynion Sheshai, Achiman a Talmai. Wedyn dyma nhw'n ymosod ar y bobl oedd yn byw yn Debir (oedd yn arfer cael ei galw yn Ciriath-seffer). Roedd Caleb wedi dweud, “Bydd pwy bynnag sy'n ymosod ar dref Ciriath-seffer ac yn ei choncro yn cael priodi fy merch Achsa.” Othniel, mab Cenas (brawd iau Caleb) wnaeth goncro'r dref, a rhoddodd Caleb ei ferch, Achsa, yn wraig iddo. Pan briododd hi Othniel, dyma hi'n ei berswadio i adael iddi ofyn i'w thad am fwy o dir. Wrth iddi ddod i lawr oddi ar gefn ei hasyn, gofynnodd ei thad Caleb iddi, “Beth sy'n bod?” A dyma hi'n ateb, “Dw i eisiau gofyn am rodd arall gen ti. Rwyt ti wedi rhoi tir i mi yn y Negef, ond wnei di roi ffynhonnau dŵr i mi hefyd?” A dyma Caleb yn rhoi'r ffynhonnau uchaf a'r ffynhonnau isaf iddi. Aeth disgynyddion y Cenead, tad-yng-nghyfraith Moses, o Jericho gyda phobl Jwda a setlo i lawr i fyw gyda nhw ger Arad yn anialwch Jwda yn y Negef. Yna aeth dynion llwyth Jwda gyda llwyth Simeon i ymladd yn erbyn y Canaaneaid yn Seffath. Dyma nhw'n lladd pawb yno. Felly cafodd y dref ei galw yn Horma (sef Dinistr). Yna dyma lwyth Jwda yn concro Gasa, Ashcelon ac Ecron, a'r tiroedd o'u cwmpas nhw. Roedd yr ARGLWYDD yn helpu Jwda. Dyma nhw'n llwyddo i goncro'r bryniau. Ond roedden nhw'n methu gyrru allan y bobl oedd yn byw ar yr arfordir am fod ganddyn nhw gerbydau rhyfel haearn. Cafodd tref Hebron ei rhoi i Caleb, fel roedd Moses wedi addo. Llwyddodd Caleb i yrru allan tri clan o bobl oedd yn ddisgynyddion i Anac. Ond wnaeth llwyth Benjamin ddim gyrru allan y Jebwsiaid o Jerwsalem. Mae'r Jebwsiaid yn dal i fyw yn Jerwsalem gyda phobl llwyth Benjamin hyd heddiw. Dyma'r ARGLWYDD yn helpu disgynyddion Joseff (sef llwythau Effraim a Manasse) pan wnaethon nhw ymosod ar Bethel. Dyma nhw'n anfon ysbiwyr i'r dref (oedd yn arfer cael ei galw yn Lws). Tra roedd yr ysbiwyr yn gwylio'r dref, roedden nhw wedi gweld dyn yn dod allan ohoni. A dyma nhw'n dweud wrtho, “Dangos i ni sut allwn ni fynd i mewn i'r dref, a gwnawn ni arbed dy fywyd di.” Dangosodd y dyn iddyn nhw sut allen nhw fynd i mewn. Felly dyma nhw'n ymosod ac yn lladd pawb yn y dref. Dim ond y dyn oedd wedi dangos y ffordd i mewn iddyn nhw, a'i deulu, gafodd fyw. Aeth y dyn hwnnw i fyw i ardal yr Hethiaid, ac adeiladu tref yno. Galwodd y dref yn Lws, a dyna'r enw arni hyd heddiw. Wnaeth llwyth Manasse ddim gyrru allan bobl Beth-shean a Taanach a'u pentrefi, na Dor, Ibleam a Megido a'r pentrefi o'u cwmpas chwaith. Roedd y Canaaneaid yn dal i wrthod symud o'r ardaloedd hynny. Yn ddiweddarach, pan oedd Israel yn gryfach, dyma nhw yn llwyddo i orfodi'r Canaaneaid i weithio fel caethweision iddyn nhw. Ond wnaethon nhw erioed lwyddo i'w gyrru nhw allan yn llwyr. A wnaeth llwyth Effraim ddim gyrru allan y Canaaneaid oedd yn byw yn Geser. Roedden nhw'n byw gyda nhw yn Geser. Wnaeth llwyth Sabulon ddim gyrru allan y bobl oedd yn byw yn Citron a Nahalal. Roedd y Canaaneaid yn byw gyda nhw fel caethweision. Wnaeth llwyth Asher ddim gyrru allan y bobl oedd yn byw yn Acco a Sidon, nac yn Achlaf, Achsib, Chelba, Affec a Rechob. Felly roedd llwyth Asher yn byw yng nghanol y Canaaneaid i gyd, am eu bod heb eu gyrru nhw allan. Wnaeth llwyth Nafftali ddim gyrru allan y bobl oedd yn byw yn Beth-shemesh na Beth-anath, ond dyma nhw'n eu gorfodi nhw i fod yn gaethweision. Roedd pobl Nafftali yn gorfod byw yng nghanol y Canaaneaid. Cafodd llwyth Dan eu gorfodi gan yr Amoriaid i fyw yn y bryniau. Cawson nhw eu rhwystro rhag dod i lawr i fyw ar yr arfordir. Roedd yr Amoriaid yn benderfynol o aros yn Har-cheres, Aialon, a Shaalfîm hefyd. Ond dyma lwythau meibion Joseff yn ymosod yn galed, a dyma nhw yn gorfodi'r Amoriaid i fod yn gaethweision iddyn nhw. Roedd y ffin gyda'r Amoriaid yn rhedeg o Fwlch y Sgorpion ac i fyny heibio Sela. Dyma angel yr ARGLWYDD yn mynd o Gilgal i Bochîm gyda neges i bobl Israel: “Fi ddaeth â chi allan o wlad yr Aifft, a'ch arwain chi i'r tir roeddwn i wedi ei addo ei roi i'ch hynafiaid. Dyma fi'n dweud, ‘Wna i byth dorri'r ymrwymiad dw i wedi ei wneud gyda chi. Ond rhaid i chi beidio gwneud cytundeb heddwch gyda'r bobl sy'n byw yn y wlad yma, a rhaid i chi ddinistrio'r allorau lle maen nhw'n addoli eu duwiau.’ Ond dych chi ddim wedi gwrando arna i. Pam hynny? Roeddwn i wedi'ch rhybuddio chi, ‘Os wnewch chi ddim gwrando, fydda i ddim yn gyrru'r Canaaneaid allan o'ch blaen chi. Byddan nhw'n fygythiad cyson, a byddwch yn cael eich denu gan eu duwiau nhw.’” Pan oedd angel yr ARGLWYDD wedi dweud hyn wrth bobl Israel, dyma nhw'n torri allan i grïo'n uchel. Dyma nhw'n galw'r lle yn Bochîm, ac yn cyflwyno aberthau i'r ARGLWYDD. Ar ôl i Josua adael i bobl Israel fynd, y bwriad oedd iddyn nhw i gyd feddiannu'r tir oedd wedi cael ei roi iddyn nhw. Tra roedd Josua'n fyw roedden nhw wedi addoli'r ARGLWYDD. Ac roedden nhw wedi dal ati i'w addoli pan oedd yr arweinwyr eraill o'r un genhedlaeth yn dal yn fyw — y dynion oedd wedi gweld drostynt eu hunain y cwbl wnaeth yr ARGLWYDD dros bobl Israel. Ond yna dyma Josua fab Nwn, gwas yr ARGLWYDD yn marw, yn gant a deg mlwydd oed. Cafodd ei gladdu ar ei dir ei hun, yn Timnath-cheres ym mryniau Effraim, i'r gogledd o Fynydd Gaash. Felly roedd y genhedlaeth yna i gyd wedi mynd. Doedd y genhedlaeth ddaeth ar eu holau ddim wedi cael profiad personol o'r ARGLWYDD nac wedi gweld drostyn nhw eu hunain beth wnaeth e dros Israel. Yna dyma bobl Israel yn dechrau gwneud rhywbeth roedd yr ARGLWYDD yn ei ystyried yn wirioneddol ddrwg. Dyma nhw'n dechrau addoli delwau o Baal. Dyma nhw'n troi cefn ar yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid wnaeth eu hachub nhw o wlad yr Aifft, a dechrau addoli duwiau'r bobloedd o'u cwmpas nhw. Roedd Duw wedi digio go iawn! Roedden nhw wedi troi cefn ar yr ARGLWYDD, a dechrau addoli Baal a'r delwau o'r dduwies Ashtart. Roedd yr ARGLWYDD yn wirioneddol flin gyda phobl Israel! Dyma fe'n gadael i ladron ddwyn oddi arnyn nhw. Roedd y gelynion o'u cwmpas nhw yn gallu gwneud beth fynnen nhw! Doedden nhw'n gallu gwneud dim i'w rhwystro. Pan oedd Israel yn mynd allan i ymladd, roedd yr ARGLWYDD yn eu herbyn nhw. Roedd e wedi rhybuddio mai dyna fyddai'n ei wneud. Roedd hi'n argyfwng go iawn arnyn nhw. Yna dyma'r ARGLWYDD yn codi arweinwyr i achub pobl Israel o ddwylo eu gelynion. Ond doedden nhw ddim yn gwrando ar eu harweinwyr. Roedden nhw'n puteinio drwy roi eu hunain i dduwiau eraill a'u haddoli nhw. Roedden nhw'n rhy barod i grwydro oddi ar y llwybr roedd eu hynafiaid wedi ei ddilyn. Roedd eu hynafiaid wedi bod yn ufudd i orchmynion yr ARGLWYDD, ond doedden nhw ddim. Wrth i bobl Israel riddfan am fod y gelynion yn eu cam-drin nhw, roedd yr ARGLWYDD yn teimlo drostyn nhw. Roedd yn dewis arweinwyr iddyn nhw, ac yn helpu'r arweinwyr hynny i'w hachub o ddwylo eu gelynion. Roedd popeth yn iawn tra roedd yr arweinydd yn fyw, ond ar ôl i'r arweinydd farw, byddai'r genhedlaeth nesaf yn ymddwyn yn waeth na'r un o'i blaen. Bydden nhw'n mynd yn ôl i addoli duwiau eraill ac yn gweddïo arnyn nhw. Roedden nhw'n ystyfnig, ac yn gwrthod stopio gwneud drwg. Roedd yr ARGLWYDD yn wirioneddol flin gyda phobl Israel! “Mae'r genedl yma wedi torri amodau'r ymrwymiad wnes i gyda'u hynafiaid nhw. Maen nhw wedi gwrthod gwrando arna i, felly o hyn ymlaen dw i ddim yn mynd i yrru allan y bobloedd hynny oedd yn dal heb eu concro pan fuodd Josua farw. Roedden nhw wedi eu gadael yno i brofi Israel. Roeddwn i eisiau gweld fyddai'r bobl yn ufuddhau i'r ARGLWYDD fel roedd eu hynafiaid wedi gwneud.” Dyna pam oedd yr ARGLWYDD ddim wedi gyrru'r bobloedd yna allan yn syth, a gadael i Josua eu concro nhw i gyd. Roedd yr ARGLWYDD wedi gadael y bobloedd yna er mwyn profi pobl Israel (sef y genhedlaeth oedd ddim wedi gorfod brwydro yn erbyn y Canaaneaid eu hunain.) Roedd e eisiau i bob cenhedlaeth oedd yn codi yn Israel ddysgu sut i ymladd. Dyma'r bobloedd oedd ar ôl: Y Philistiaid a'u pum arweinydd, y Canaaneaid i gyd, y Sidoniaid a'r Hefiaid oedd yn byw yn mynydd-dir Libanus (o Fynydd Baal-hermon i Fwlch Chamath). Cafodd y rhain eu gadael i brofi pobl Israel, er mwyn gweld fyddai'r bobl yn ufudd i'r gorchmynion roedd e wedi eu rhoi i'w hynafiaid drwy Moses. Roedd pobl Israel wedi setlo i lawr yng nghanol y Canaaneaid, yr Amoriaid, Hethiaid, Peresiaid, Hefiaid a'r Jebwsiaid. Roedden nhw'n priodi eu merched, ac yn rhoi eu merched eu hunain i'r Canaaneaid. Ac roedden nhw'n addoli eu duwiau nhw hefyd. Dyma bobl Israel yn gwneud rhywbeth roedd yr ARGLWYDD yn ei ystyried yn wirioneddol ddrwg. Dyma nhw'n anghofio'r ARGLWYDD eu Duw ac addoli delwau o Baal a pholion y dduwies Ashera. Roedd yr ARGLWYDD yn wirioneddol flin gyda phobl Israel! Dyma fe'n gadael i Cwshan-rishathaim, brenin Mesopotamia, eu rheoli nhw. Roedden nhw'n gaethion i Cwshan-rishathaim am wyth mlynedd. Dyma bobl Israel yn gweiddi ar yr ARGLWYDD am help, a dyma fe'n codi rhywun i'w hachub nhw — Othniel, mab Cenas (brawd iau Caleb). Dyma Ysbryd yr ARGLWYDD yn dod arno, a dyma fe'n arwain Israel i frwydro yn erbyn Cwshan-rishathaim. A dyma Othniel yn ennill y frwydr. Ar ôl hynny roedd heddwch yn y wlad am bedwar deg mlynedd, nes i Othniel, mab Cenas, farw. Dyma bobl Israel unwaith eto yn gwneud beth oedd yn ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD. Felly, o achos hyn, dyma'r ARGLWYDD yn gadael i Eglon, brenin Moab, reoli Israel. Roedd Eglon wedi ffurfio cynghrair milwrol gyda'r Ammoniaid a'r Amaleciaid i ymosod ar Israel. Dyma nhw'n ennill y frwydr ac yn dal Jericho Buodd pobl Israel yn gaethion i'r brenin Eglon am un deg wyth mlynedd. Dyma bobl Israel yn gweiddi ar yr ARGLWYDD am help, a dyma fe'n codi rhywun i'w hachub nhw. Ei enw oedd Ehwd, mab Gera o lwyth Benjamin. Roedd yn ddyn llaw chwith. Roedd Ehwd i fod i fynd â trethi pobl Israel i Eglon, brenin Moab. Ond cyn mynd dyma Ehwd yn gwneud cleddyf iddo'i hun. Roedd y cleddyf tua 45 centimetr o hyd, gyda min ar ddwy ochr y llafn. Dyma fe'n strapio'r cleddyf ar ei ochr dde o dan ei ddillad. Yna dyma fe'n mynd â'r arian trethi i Eglon. Roedd Eglon yn ddyn tew iawn. Ar ôl cyflwyno'r trethi i'r brenin, dyma Ehwd a'r dynion oedd wedi cario'r arian yn troi am adre. Ond pan ddaethon nhw at y delwau cerrig yn Gilgal, dyma Ehwd yn troi yn ei ôl. A dyma fe'n dweud wrth y brenin Eglon, “Mae gen i neges gyfrinachol i'w rhannu gyda chi, eich mawrhydi.” “Ust! Aros eiliad,” meddai Eglon. Yna dyma fe'n anfon ei weision i gyd allan. Felly roedd yn eistedd ar ei ben ei hun yn yr ystafell uchaf — ystafell agored braf. Dyma Ehwd yn mynd draw ato, a dweud, “Mae gen i neges i chi gan Dduw!” Pan gododd y brenin ar ei draed, dyma Ehwd yn tynnu ei gleddyf allan gyda'i law chwith, a'i wthio i stumog Eglon. Aeth mor ddwfn nes i'r carn fynd ar ôl y llafn, a diflannu yn ei floneg. Allai Ehwd ddim tynnu'r cleddyf allan. Yna dyma fe'n cloi drysau'r ystafell, a dianc trwy ddringo i lawr y twll carthion o'r tŷ bach. Pan ddaeth gweision y brenin yn ôl a darganfod fod y drysau wedi eu cloi, roedden nhw'n meddwl, “Mae'n rhaid ei fod e yn y tŷ bach.” Ond ar ôl aros ac aros am amser hir, dyma nhw'n dechrau teimlo'n anesmwyth am ei fod e'n dal heb agor y drysau. Felly dyma nhw'n nôl allwedd ac agor y drysau. A dyna lle roedd eu meistr, yn gorwedd yn farw ar lawr! Erbyn hynny roedd Ehwd wedi hen ddianc. Roedd wedi mynd heibio'r delwau cerrig, ac ar y ffordd i Seira. Pan gyrhaeddodd Seira dyma fe'n chwythu'r corn hwrdd ar fryniau Effraim, i alw byddin at ei gilydd. A dyma ddynion Effraim yn mynd yn ôl i lawr gydag e o'r bryniau. Ehwd oedd yn eu harwain. “Dewch!” meddai, “Mae'r ARGLWYDD yn mynd i roi buddugoliaeth i chi yn erbyn eich gelynion, y Moabiaid!” Felly aethon nhw ar ei ôl i lawr i ddyffryn Iorddonen, a dal y rhydau lle mae pobl yn croesi drosodd i Moab. Doedden nhw ddim yn gadael i unrhyw un groesi. Y diwrnod hwnnw roedden nhw wedi lladd tua deg mil o filwyr gorau Moab — dynion cryfion i gyd. Wnaeth dim un ohonyn nhw ddianc. Cafodd byddin Moab eu trechu'n llwyr y diwrnod hwnnw, ac roedd heddwch yn y wlad am wyth deg mlynedd. Ar ôl Ehwd, yr un nesaf i achub Israel oedd Shamgar, mab Anat. Lladdodd Shamgar chwe chant o Philistiaid gyda ffon brocio ychen. Ond ar ôl i Ehwd farw, dyma bobl Israel unwaith eto yn gwneud beth oedd yn ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD. A dyma fe'n gadael i Jabin eu rheoli nhw — un o frenhinoedd Canaan, oedd yn teyrnasu yn Chatsor. Enw cadfridog ei fyddin oedd Sisera ac roedd yn byw yn Haroseth-hagoïm. Dyma bobl Israel yn gweiddi ar yr ARGLWYDD am help am fod y brenin Jabin wedi eu cam-drin nhw'n ofnadwy ers ugain mlynedd. Roedd naw cant o gerbydau rhyfel haearn gan ei fyddin. Debora, gwraig Lappidoth, oedd yn arwain Israel ar y pryd. Roedd hi'n broffwydes. Byddai'n eistedd i farnu achosion pobl Israel dan Goeden Balmwydd Debora oedd rhwng Rama a Bethel ym mryniau Effraim. Byddai'r bobl yn dod ati yno, i ofyn iddi setlo achosion rhyngddyn nhw. Dyma hi'n anfon am Barac fab Abinoam o Cedesh ar dir llwyth Nafftali. Ac meddai wrtho, “Mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn gorchymyn i ti fynd â deg mil o ddynion o lwythau Nafftali a Sabulon i fynydd Tabor, i baratoi i fynd i ryfel. Bydda i'n arwain Sisera, cadfridog byddin y brenin Jabin, atat ti at Afon Cison. Bydd yn dod yno gyda'i gerbydau rhyfel a'i fyddin enfawr. Ond ti fydd yn ennill y frwydr.” Atebodd Barac, “Dw i ddim ond yn fodlon mynd os ei di gyda mi.” “Iawn,” meddai hi, “gwna i fynd gyda ti. Ond os mai dyna dy agwedd di fyddi di'n cael dim o'r clod. Bydd yr ARGLWYDD yn trefnu mai gwraig fydd yn delio gyda Sisera.” Felly aeth Debora gyda Barac i Cedesh. A dyma Barac yn galw byddin at ei gilydd o lwythau Sabulon a Nafftali. Aeth deg mil o ddynion gydag e ac aeth Debora gydag e hefyd. Roedd Heber y Cenead wedi symud i ffwrdd oddi wrth weddill y Ceneaid (disgynyddion Chobab, oedd yn perthyn trwy briodas i Moses). Roedd yn byw wrth dderwen Saänannim, heb fod yn bell o Cedesh. Pan glywodd Sisera fod Barac fab Abinoam wedi arwain byddin at Fynydd Tabor, dyma fe'n galw'r fyddin gyfan oedd ganddo yn Haroseth-hagoïm at ei gilydd. Yna eu harwain, gyda'r naw cant o gerbydau rhyfel haearn, at Afon Cison. Yna dyma Debora yn dweud wrth Barac, “I ffwrdd a ti! Heddiw mae'r ARGLWYDD yn mynd i roi Sisera yn dy ddwylo di! Mae'r ARGLWYDD ei hun wedi mynd o dy flaen di!” Felly dyma Barac yn mynd yn syth ac arwain ei fyddin o ddeg mil i lawr llethrau Mynydd Tabor. A dyma'r ARGLWYDD yn gwneud i Sisera a'i holl gerbydau a'i fyddin banicio. Dyma Barac a'i fyddin yn ymosod arnyn nhw. (Roedd Sisera ei hun wedi gadael ei gerbyd, a ceisio dianc ar droed.) Aeth byddin Barac ar eu holau yr holl ffordd i Haroseth-hagoïm, a cafodd milwyr Sisera i gyd eu lladd — gafodd dim un ei adael yn fyw. Yn y cyfamser roedd Sisera wedi dianc i babell Jael, gwraig Heber y Cenead. (Roedd y Brenin Jabin o Chatsor wedi gwneud cytundeb heddwch gyda llwyth Heber.) Aeth Jael allan i'w groesawu a dweud wrtho, “Tyrd yma, syr. Tyrd i orffwys yma gyda mi. Paid bod ag ofn!” Felly dyma Sisera yn mynd i mewn i'r babell a dyma Jael yn rhoi blanced drosto. Dyma fe'n gofyn iddi, “Ga i ddiod o ddŵr? Dw i'n marw o syched.” Agorodd botel o groen gafr a rhoi diod o laeth iddo. Yna rhoddodd y flanced drosto eto. “Dos i sefyll wrth fynedfa'r babell,” meddai Sisera wrthi. “Os bydd rhywun yn gofyn i ti oes yna rywun yn y babell dywed ‘Na’ wrthyn nhw.” Roedd Sisera wedi ymlâdd ac wedi syrthio i gysgu'n drwm. A dyma Jael yn cymryd peg pabell a morthwyl a mynd at Sisera'n dawel bach. Yna dyma hi'n bwrw'r peg drwy ochr ei ben i'r ddaear, a'i ladd. Roedd Barac wedi bod yn dilyn Sisera. Pan gyrhaeddodd dyma Jael yn mynd allan i'w gyfarfod a dweud wrtho, “Tyrd yma i mi ddangos i ti'r dyn ti'n edrych amdano.” Aeth Barac i mewn i'r babell gyda hi a dyna lle roedd Sisera yn gorwedd yn farw, gyda peg pabell wedi ei fwrw drwy ei ben. Y diwrnod hwnnw roedd Duw wedi gwneud i Israel drechu'r Brenin Jabin o Canaan. Ac o hynny ymlaen dyma'r Israeliaid yn taro'r Brenin Jabin yn galetach ac yn galetach, nes yn y diwedd roedden nhw wedi ei ddinistrio'n llwyr. Y diwrnod hwnnw dyma Debora a Barac yn canu cân i ddathlu'r fuddugoliaeth: Molwch yr ARGLWYDD! Pan mae arweinwyr Israel yn arwain, pan mae dynion yn gwirfoddoli'n frwd. Clywch, frenhinoedd! Gwrandwch, arweinwyr! Dw i'n canu i'r ARGLWYDD! ie, canu mawl i'r ARGLWYDD, Duw Israel. O ARGLWYDD, pan adewaist Seir, a chroesi gwastatir Edom, dyma'r ddaear yn crynu, a chymylau'r awyr yn tywallt y glaw. Crynodd y mynyddoedd o flaen yr ARGLWYDD, Duw Sinai; o flaen yr ARGLWYDD, Duw Israel. Yn nyddiau Shamgar, mab Anat, ac eto yn nyddiau Jael, roedd pobl yn osgoi'r priffyrdd ac yn teithio ar ffyrdd troellog cefn gwlad. Roedd rhyfelwyr yn brin yn Israel, nes i ti, Debora, godi, fel mam gan amddiffyn Israel. Roedd Israel yn dilyn duwiau newydd, a daeth gelynion i ymosod ar eu giatiau. Doedd dim tarian na gwaywffon i'w gael gan bedwar deg o unedau milwrol Israel. Ond molwch yr ARGLWYDD! Diolch am arweinwyr Israel, a'r dynion wnaeth wirfoddoli i ymladd. Gwrandwch bawb! — chi sy'n marchogaeth asennod gwynion, yn eistedd yn gyfforddus ar garthenni cyfrwy, a chi sy'n gorfod cerdded ar y ffordd. Gwrandwch arnyn nhw'n canu wrth y ffynhonnau! — yn canu am y cwbl wnaeth yr ARGLWYDD, a'r cwbl wnaeth rhyfelwyr Israel. Aeth byddin yr ARGLWYDD at giatiau'r ddinas! Deffra! deffra! Debora. Deffra! deffra! cana gân! Ar dy draed, Barac! Cymer garcharorion rhyfel, fab Abinoam! A dyma'r dynion oedd ar gael yn dod i lawr at eu harweinwyr. Daeth pobl yr ARGLWYDD i ymuno gyda mi fel rhyfelwyr. Daeth rhai o Effraim (lle bu'r Amaleciaid yn byw), a milwyr Benjamin yn eu dilyn. Daeth capteiniaid i lawr o Machir, ac uchel-swyddogion o Sabulon. Roedd arweinwyr Issachar gyda Debora, ac yn ufudd i orchymyn Barac, yn rhuthro ar ei ôl i'r dyffryn. Ond roedd pobl llwyth Reuben yn methu penderfynu beth i'w wneud. Pam wnaethoch chi aros wrth y corlannau? A'i i wrando ar y bugeiliaid yn canu eu pibau i'r defaid? Oedden, roedd pobl llwyth Reuben yn methu penderfynu beth i'w wneud. A dyma pobl Gilead hefyd yn aros yr ochr draw i'r Iorddonen Ac yna llwyth Dan — pam wnaethon nhw symud i weithio yn y dociau? Ac Asher, oedd yn byw ar yr arfordir — arhosodd yntau ger yr harbwr. Roedd dynion Sabulon a Nafftali yn mentro'u bywydau ar faes y gâd. Daeth brenhinoedd Canaan i ymladd yn ein herbyn, yn Taanach wrth nentydd Megido. Ond gymron nhw ddim arian oddi arnon ni. Daeth sêr yr awyr i ymuno yn y frwydr, ac ymladd yn erbyn Sisera. Dyma'r Afon Cison yn eu hysgubo i ffwrdd; roedd yr afon yn eu hwynebu — Afon Cison. O, saf ar yddfau'r rhai cryfion! Roedd carnau eu ceffylau yn taro'r tir, a'u meirch yn carlamu i ffwrdd. “Melltithiwch dref Meros!” meddai angel yr ARGLWYDD. “Melltithiwch bawb sy'n byw yno, am iddyn nhw beidio dod i ymladd brwydr yr ARGLWYDD — ymladd yn erbyn arwyr y gelyn.” Mae Jael yn haeddu ei hanrhydeddu, sef gwraig Heber y Cenead. Mae hi'n haeddu anrhydedd mwy nac unrhyw wraig sy'n byw mewn pabell. Gofynnodd Sisera am ddŵr, a rhoddodd iddo laeth; a powlen hardd o gaws colfran. Gyda peg pabell yn ei llaw chwith a morthwyl yn y llaw dde, tarodd Sisera a malu ei benglog — bwrw'r peg drwy ochr ei ben! Syrthiodd wrth ei thraed. Syrthio, a gorwedd yn llipa. Gorwedd ar lawr wrth ei thraed, yn llipa a difywyd — yn farw! Wrth y ffenest roedd ei fam yn disgwyl; mam Sisera'n gweiddi yn ei gofid: “Pam mae e mor hir yn dod nôl? Pam nad oes sŵn carnau a cherbyd yn cyrraedd?” Ac mae'r gwragedd doeth o'i chwmpas yn ateb, a hithau'n meddwl yr un fath, “Mae'n siŵr eu bod nhw'n casglu trysorau, a merch neu ddwy i bob dyn ei threisio! Dillad lliwgar, hardd i Sisera; dillad gwych o ddefnydd wedi ei frodio, a sgarff neu ddau i'w gwisgo!” O ARGLWYDD, boed i dy elynion i gyd ddarfod yr un fath! Ond boed i'r rhai sy'n dy garu di ddisgleirio'n llachar fel yr haul ganol dydd! Ar ôl hynny roedd heddwch yn y wlad am bedwar deg o flynyddoedd. Dyma bobl Israel unwaith eto yn gwneud beth roedd yr ARGLWYDD yn ei ystyried yn wirioneddol ddrwg. Felly dyma fe'n gadael i Midian eu rheoli nhw am saith mlynedd. Roedd y Midianiaid mor greulon, nes i lawer o bobl Israel ddianc i'r mynyddoedd i fyw mewn cuddfannau ac ogofâu a lleoedd saff eraill. Bob tro y byddai pobl Israel yn plannu cnydau, byddai'r Midianiaid, yr Amaleciaid, a phobl eraill o'r dwyrain yn ymosod arnyn nhw. Roedden nhw'n cymryd y wlad drosodd ac yn dinistrio'r cnydau i gyd, yr holl ffordd i Gasa. Roedden nhw'n dwyn y defaid, yr ychen a'r asynnod a gadael dim i bobl Israel ei fwyta. Pan oedden nhw'n dod gyda'i hanifeiliaid a'u pebyll roedden nhw fel haid o locustiaid! Roedd cymaint ohonyn nhw roedd hi'n amhosib eu cyfrif nhw na'u camelod. Roedden nhw'n dod ac yn dinistrio popeth. Roedd pobl Israel yn ddifrifol o wan o achos Midian a dyma nhw'n galw ar yr ARGLWYDD am help. [7-8] Pan ddigwyddodd hynny dyma'r ARGLWYDD yn anfon proffwyd atyn nhw gyda neges gan yr ARGLWYDD, Duw Israel, yn dweud: “Fi ddaeth â chi allan o wlad yr Aifft, a'ch rhyddhau o fod yn gaethweision. *** Gwnes i'ch achub chi o'u gafael nhw, ac o afael pawb arall oedd yn eich gormesu chi. Dyma fi'n eu gyrru nhw allan o'ch blaen chi, ac yn rhoi eu tir nhw i chi. A dyma fi'n dweud wrthoch chi, ‘Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi. Peidiwch addoli duwiau'r Amoriaid dych chi'n byw yn eu tir nhw!’ Ond dych chi ddim wedi gwrando arna i.” Dyma angel yr ARGLWYDD yn dod ac yn eistedd dan y goeden dderwen oedd ar dir Joas yr Abiesriad yn Offra. Roedd Gideon, ei fab, yno yn dyrnu ŷd mewn cafn gwasgu grawnwin, i'w guddio oddi wrth y Midianiaid. Dyma fe'n gweld yr angel, a dyma'r angel yn dweud wrtho, “Mae'r ARGLWYDD gyda ti, filwr dewr.” “Beth, syr?” meddai Gideon. “Os ydy'r ARGLWYDD gyda ni, pam mae pethau mor ddrwg arnon ni? Pam nad ydy e'n gwneud gwyrthiau rhyfeddol fel y rhai soniodd ein hynafiaid amdanyn nhw? ‘Daeth yr ARGLWYDD â ni allan o'r Aifft!’ — dyna roedden nhw'n ei ddweud. Ond bellach mae'r ARGLWYDD wedi troi ei gefn arnon ni, a gadael i'r Midianiaid ein rheoli.” Ond yna, dyma'r ARGLWYDD ei hun yn dweud wrth Gideon, “Rwyt ti'n gryf. Dos, i achub Israel o afael y Midianiaid. Fi sy'n dy anfon di.” Dyma Gideon yn dweud, “Ond meistr, sut alla i achub Israel? Dw i'n dod o'r clan lleiaf pwysig yn llwyth Manasse, a fi ydy mab ifancaf y teulu!” A dyma'r ARGLWYDD yn ei ateb, “Ie, ond bydda i gyda ti. Byddi di'n taro'r Midianiaid i gyd ar unwaith!” Yna dyma Gideon yn dweud, “Plîs wnei di roi rhyw arwydd i mi i brofi mai ti sy'n siarad hefo fi go iawn. Paid mynd i ffwrdd nes bydda i wedi dod yn ôl gydag offrwm i'w gyflwyno i ti.” “Gwna i aros yma nes doi di yn ôl,” meddai'r ARGLWYDD. Felly dyma Gideon yn mynd a paratoi myn gafr ifanc. Defnyddiodd sachaid fawr o flawd i baratoi bara heb furum ynddo — tua deg cilogram. Rhoddodd y cig mewn basged a'r cawl mewn crochan a dod â'r bwyd i'w roi i'r angel, oedd o dan y goeden dderwen. Yna dyma'r angel yn dweud wrtho, “Gosod y cig a'r bara ar y garreg yma, yna tywallt y cawl drosto.” Dyma Gideon yn gwneud hynny. Yna dyma'r angel yn cyffwrdd y cig a'r bara gyda blaen ei ffon. Ac yn sydyn dyma fflamau tân yn codi o'r garreg a llosgi'r cig a'r bara. A diflannodd angel yr ARGLWYDD. Roedd Gideon yn gwybod yn iawn wedyn mai angel yr ARGLWYDD oedd e. “O, na!” meddai. “Feistr, ARGLWYDD. Dw i wedi gweld angel yr ARGLWYDD wyneb yn wyneb!” Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Popeth yn iawn. Paid bod ag ofn. Dwyt ti ddim yn mynd i farw.” Felly dyma Gideon yn adeiladu allor yno i'r ARGLWYDD, a rhoi'r enw “Heddwch yr ARGLWYDD” arni. (Mae'n dal yna heddiw, yn Offra yr Abiesriaid.) Y noson honno, dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Cymer y tarw gorau ond un sydd gan dy dad, yr un saith mlwydd oed. Yna dos a chwalu'r allor sydd gan dy dad i Baal, a torri'r polyn Ashera sydd wrth ei ymyl. Yna dw i eisiau i ti adeiladu allor i'r ARGLWYDD dy Dduw ar ben y bryn yma a gosod y cerrig mewn trefn. Defnyddia bolyn y dduwies Ashera wnest ti ei dorri i lawr fel coed tân i aberthu'r tarw yn offrwm i'w losgi'n llwyr.” Felly dyma Gideon yn mynd â deg o weision a gwneud fel y dwedodd yr ARGLWYDD. Ond arhosodd tan ganol nos, am fod ganddo ofn aelodau eraill y teulu a phobl y dref. Y bore wedyn, pan oedd pawb wedi codi, cawson nhw sioc o weld allor Baal wedi ei dryllio a polyn y dduwies Ashera wedi ei dorri i lawr. Dyma nhw hefyd yn gweld yr allor newydd oedd wedi ei chodi, gydag olion y tarw oedd wedi ei aberthu arni. “Pwy sydd wedi gwneud hyn?” medden nhw. Dyma nhw'n holi'n fanwl a darganfod yn y diwedd mai Gideon, mab Joas, oedd wedi gwneud y peth. Dyma'r dynion yn mynd at Joas. “Tyrd a dy fab allan yma,” medden nhw. “Fe sydd wedi dinistrio allor Baal, ac wedi torri polyn y dduwies Ashera i lawr. Rhaid iddo farw!” Ond dyma Joas yn dweud wrth y dyrfa oedd yn ei fygwth, “Ydy Baal angen i chi ymladd ei frwydrau? Ydych chi'n mynd i'w achub e? Bydd unrhyw un sy'n ymladd drosto wedi marw erbyn y bore. Os ydy Baal yn dduw go iawn, gadewch iddo ymladd ei frwydrau ei hun pan mae rhywun yn dinistrio ei allor!” Y diwrnod hwnnw dechreuodd ei dad alw Gideon yn Jerwb-baal, ar ôl dweud, “Gadewch i Baal ymladd gydag e, os gwnaeth e chwalu allor Baal.” Dyma'r Midianiaid, yr Amaleciaid a phobloedd eraill o'r dwyrain yn dod at ei gilydd ac yn croesi'r Afon Iorddonen a gwersylla yn Nyffryn Jesreel. A dyma Ysbryd yr ARGLWYDD yn dod ar Gideon. Dyma fe'n chwythu'r corn hwrdd a galw byddin o ddynion o glan Abieser i'w ddilyn. Yna anfonodd negeswyr drwy diroedd llwythau Manasse, Asher, Sabulon, a Nafftali i alw mwy o ddynion, a dyma nhw i gyd yn dod at ei gilydd i wynebu'r gelynion. Yna dyma Gideon yn dweud wrth Dduw, “Os wyt ti'n mynd i'm defnyddio i i achub Israel, fel ti wedi addo, rho arwydd i mi i ddangos fod hynny'n wir. Dw i'n mynd i roi swp o wlân allan ar y llawr dyrnu heno. Os bydd gwlith ar y gwlân yn unig a'r ddaear o'i gwmpas yn sych, bydda i'n gwybod yn bendant wedyn dy fod ti'n mynd i achub Israel trwof fi, fel ti wedi addo.” A dyna ddigwyddodd! Pan gododd Gideon y bore wedyn dyma fe'n gwasgu'r gwlân a dyma lond powlen o wlith yn diferu ohono. Yna dyma Gideon yn dweud wrth Dduw, “Paid gwylltio gyda mi os gofynna i am un arwydd arall. Gad i mi brofi un waith eto gyda'r gwlân. Y tro yma cadw'r gwlân yn sych tra mae'r ddaear o'i gwmpas yn wlith i gyd.” A'r noson honno dyna'n union wnaeth Duw. Dim ond y gwlân oedd yn sych. Roedd y ddaear o'i gwmpas yn wlith i gyd. Y bore wedyn dyma Gideon a'i fyddin yn mynd allan a gwersylla wrth Ffynnon Charod. Roedd byddin Midian wedi gwersylla yn y dyffryn ychydig i'r gogledd, wrth ymyl Bryn More. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Gideon, “Mae gormod o ddynion yn dy fyddin di. Os gwna i adael i chi guro Midian mae peryg i bobl Israel frolio mai nhw eu hunain wnaeth ennill y frwydr. Dywed wrth y dynion, ‘Os oes rhywun ag ofn, cewch droi'n ôl a gadael Mynydd Gilead.’” Aeth dau ddeg dau o filoedd adre gan adael deg mil ar ôl. Yna dyma'r ARGLWYDD yn siarad â Gideon eto. “Mae'r fyddin yn dal yn rhy fawr. Dos â nhw i lawr at y dŵr, a gwna i ddangos i ti pwy sydd i gael mynd a pwy sydd ddim.” Felly dyma fe'n mynd â'r dynion i lawr at y dŵr. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Gideon, “Dw i eisiau i ti wahanu'r rhai sy'n llepian y dŵr fel mae ci'n gwneud oddi wrth y rhai sy'n mynd ar eu gliniau i yfed.” Tri chant oedd yn llepian y dŵr o gledr y llaw. Roedd y gweddill yn mynd ar eu gliniau i yfed. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Gideon, “Bydda i'n gwneud i'r tri chant oedd yn llepian y dŵr ennill buddugoliaeth yn erbyn byddin Midian i gyd. Cei yrru'r dynion eraill i gyd adre.” Dyma Gideon yn casglu bwyd a chyrn hwrdd y milwyr hynny, ac yna eu hanfon adre. Dim ond y tri chant arhosodd gydag e. Roedd y Midianiaid wedi gwersylla i lawr yn y dyffryn oddi tano. A'r noson honno, dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Gideon, “Ewch i lawr i ymosod ar wersyll y Midianiaid. Dw i'n mynd i'w rhoi yn eich dwylo chi! Os wyt ti'n dal yn ofnus, dos i lawr i'r gwersyll gyda dy was Pwra, a gwrando beth maen nhw'n ddweud. Fydd gen ti ddim ofn wedyn; byddi'n ymosod arnyn nhw.” Felly dyma Gideon yn mynd i lawr gyda'i was Pwra i ymyl y gwersyll lle roedd gwylwyr. Roedd y gwersyll yn anferth! Roedd y Midianiaid, yr Amaleciaid, a'r bobloedd eraill o wledydd y dwyrain yn gorchuddio'r dyffryn fel haid o locustiaid! Roedd ganddyn nhw ormod o gamelod i'w cyfrif — roedden nhw fel y tywod ar lan y môr! Ond pan gyrhaeddodd Gideon ymyl y gwersyll dyma fe'n clywed rhyw ddyn yn dweud wrth ddyn arall am freuddwyd gafodd e. “Ces i freuddwyd am dorth haidd gron yn rholio i lawr i wersyll Midian. Dyma hi'n taro'r babell mor galed nes i'r babell droi drosodd. Syrthiodd yn fflat ar lawr.” Dyma'r llall yn dweud, “Dim ond un peth mae hyn ei olygu — cleddyf Gideon, mab Joas. Mae Duw yn mynd i roi buddugoliaeth iddo dros fyddin Midian.” Dyma Gideon yn plygu i lawr ac addoli Duw ar ôl clywed am y freuddwyd a'r dehongliad ohoni. Yna dyma fe'n mynd yn ôl i wersyll Israel, a dweud, “Gadewch i ni fynd! Mae'r ARGLWYDD yn mynd i adael i chi drechu byddin Midian.” Dyma Gideon yn rhannu'r tri chant o ddynion yn dair uned filwrol. Yna rhoddodd gorn hwrdd i bawb, a jar gwag gyda fflam yn llosgi tu mewn iddo. “Gwyliwch fi, a gwneud yr un fath â fi,” meddai wrthyn nhw. “Gwyliwch yn ofalus. Pan ddown ni at gyrion gwersyll y Midianiaid, gwnewch yr un fath â fi. Pan fydd fy uned i yn chwythu eu cyrn hwrdd gwnewch chwithau yr un fath o gwmpas y gwersyll i gyd. Yna gweiddi, ‘Dros yr ARGLWYDD a dros Gideon!’” Aeth Gideon â chant o filwyr at gyrion y gwersyll, ychydig ar ôl deg o'r gloch y nos, pan oedd y gwylwyr wedi newid sifft. A dyma nhw'n chwythu'r cyrn hwrdd a torri'r jariau oedd ganddyn nhw. Dyma'r tair uned yn gwneud yr un fath. Roedden nhw'n dal eu ffaglau yn un llaw ac yn chwythu'r corn hwrdd gyda'r llall. Yna dyma nhw'n gweiddi, “I'r gâd dros yr ARGLWYDD a Gideon!” [21-22] Roedden nhw o gwmpas y gwersyll i gyd, yn sefyll mewn trefn. Pan oedd milwyr Gideon yn chwythu eu cyrn hwrdd, dyma filwyr y gelyn yn gweiddi mewn panig a cheisio dianc. Dyma'r ARGLWYDD yn gwneud iddyn nhw ddechrau ymladd ei gilydd drwy'r gwersyll i gyd. Roedd llawer o'r milwyr wedi dianc i Beth-sitta, sydd ar y ffordd i Serera, ar y ffin gydag Abel-mechola, ger Tabath. *** A dyma ddynion o lwythau Nafftali, Asher a Manasse yn mynd ar eu holau. A dyma Gideon yn anfon negeswyr i fryniau Effraim gyda'r neges yma: “Dewch i lawr i ymladd y Midianiaid! Ewch o'u blaenau a'u stopio nhw rhag croesi'r rhydau dros yr Afon Iorddonen yn Beth-bara.” A dyma ddynion Effraim yn dod a gwneud hynny. Dyma nhw'n dal dau o arweinwyr byddin Midian, Oreb a Seeb. Cafodd Oreb ei ladd ganddyn nhw wrth y graig sy'n cael ei hadnabod bellach fel Craig Oreb. A cafodd Seeb ei ladd wrth y gwinwryf sy'n cael ei adnabod bellach fel Gwinwryf Seeb. A dyma nhw'n dod â phen y ddau at Gideon, oedd yr ochr arall i'r Afon Iorddonen. Ond yna dyma ddynion Effraim yn mynd i gwyno wrth Gideon, “Wnest ti ddim ein galw ni i helpu i ymladd yn erbyn y Midianiaid. Pam wnest ti'n diystyru ni fel yna?” Roedden nhw'n dadlau'n ffyrnig gydag e. Dyma Gideon yn dweud, “Dw i wedi gwneud dim o'i gymharu â chi. Mae grawnwin gwaelaf Effraim yn well na gorau fy mhobl i. Chi wnaeth Duw eu defnyddio i ddal Oreb a Seeb, dau gadfridog Midian. Dydy beth wnes i yn ddim o'i gymharu â hynny.” Pan ddwedodd hynny roedden nhw'n teimlo'n well tuag ato. Roedd Gideon a'i dri chant o ddynion wedi croesi'r Afon Iorddonen ac yn dal i fynd ar ôl y Midianiaid, er eu bod nhw wedi blino'n lân. Dyma nhw'n cyrraedd Swccoth, a dyma Gideon yn gofyn i arweinwyr y dref, “Mae'r dynion yma sydd gyda mi wedi ymlâdd. Wnewch chi roi bwyd iddyn nhw? Dŷn ni'n ceisio dal Seba a Tsalmwna, brenhinoedd Midian.” Ond dyma arweinwyr Swccoth yn ateb, “Pam ddylen ni roi bwyd i chi? Wnewch chi byth lwyddo i ddal Seba a Tsalmwna!” Ac meddai Gideon, “Iawn, os mai felly mae hi, pan fydd yr ARGLWYDD wedi fy helpu i'w dal nhw, bydda i'n gwneud i chi ddiodde go iawn pan ddof i yn ôl.” Dyma fe'n mynd ymlaen wedyn a gofyn i arweinwyr Penuel am fwyd. Ond dyma nhw'n ymateb yr un fath ag arweinwyr Swccoth. Felly dyma Gideon yn eu bygwth nhw hefyd, a dweud, “Pan ddof i yn ôl ar ôl trechu Midian, bydda i'n bwrw eich tŵr chi i lawr!” Roedd Seba a Tsalmwna wedi cyrraedd Carcor, gyda tua un deg pum mil o filwyr oedd wedi llwyddo i ddianc. (Roedd cant dau ddeg o filoedd wedi cael eu lladd!) Dyma Gideon a'i ddynion yn mynd ar hyd ffordd y nomadiaid sydd i'r dwyrain o Nobach a Iogbeha, ac yna ymosod ar fyddin Midian yn gwbl ddirybudd. Dyma fyddin Midian yn panicio. Ceisiodd Seba a Tsalmwna ddianc ond aeth Gideon ar eu holau a llwyddo i'w dal nhw. Pan oedd y frwydr drosodd dyma Gideon yn mynd yn ôl drwy Fwlch Cheres. Yno dyma fe'n dal dyn ifanc o Swccoth a dechrau gofyn cwestiynau iddo. Dyma'r dyn ifanc yn ysgrifennu enwau swyddogion ac arweinwyr y dref i gyd iddo — saith deg saith o ddynion i gyd. Yna dyma Gideon yn mynd at arweinwyr Swccoth, a dweud, “Edrychwch pwy sydd gen i. Seba a Tsalmwna! Roeddech chi'n gwawdio a dweud, ‘Wnewch chi byth lwyddo i ddal Seba a Tsalmwna. Pam ddylen ni roi bwyd i dy filwyr blinedig di?’” Felly dyma fe'n dal arweinwyr y dref, a'u chwipio nhw'n filain i ddysgu gwers iddyn nhw. Aeth i Penuel wedyn, bwrw eu tŵr i lawr, a dienyddio arweinwyr y dref honno i gyd. Yna gofynnodd i Seba a Tsalmwna, “Dwedwch wrtho i am y dynion wnaethoch chi eu lladd yn Tabor.” A dyma nhw'n ateb, “Dynion digon tebyg i ti. Roedden nhw'n edrych fel petaen nhw'n feibion i frenhinoedd.” “Fy mrodyr i oedden nhw,” meddai Gideon. “Wir i chi! Petaech chi wedi gadael iddyn nhw fyw byddwn i'n gadael i chi fyw.” Yna dyma Gideon yn dweud wrth Jether, ei fab hynaf, “Tyrd, lladd nhw!” Ond roedd Jether yn rhy ofnus i dynnu ei gleddyf — bachgen ifanc oedd e. A dyma Seba a Tsalmwna yn dweud wrth Gideon, “Lladd ni dy hun, os wyt ti'n ddigon o ddyn!” A dyma Gideon yn lladd y ddau ohonyn nhw. Yna dyma fe'n cymryd yr addurniadau brenhinol siap cilgant oedd am yddfau eu camelod. Dyma ddynion Israel yn gofyn i Gideon fod yn frenin arnyn nhw. “Bydd yn frenin arnon ni — ti, a dy fab a dy ŵyr ar dy ôl. Rwyt ti wedi'n hachub ni o afael Midian.” Ond dyma Gideon yn dweud wrthyn nhw, “Na, fydda i ddim yn frenin arnoch chi, na'm mab i chwaith. Yr ARGLWYDD ydy'ch brenin chi.” Ond yna, meddai wrthyn nhw, “Gallwch wneud un peth i mi. Dw i eisiau i bob un ohonoch chi roi clustdlws i mi o'i siâr o'r pethau gymeroch chi oddi ar y Midianiaid.” (Ismaeliaid oedden nhw, ac roedden nhw i gyd yn gwisgo clustdlysau aur.) “Wrth gwrs,” medden nhw. A dyma nhw'n rhoi clogyn ar lawr, a dyma'r dynion i gyd yn taflu'r clustdlysau aur ar y clogyn. Roedd y clustdlysau i gyd yn pwyso bron ddau ddeg cilogram, heb sôn am yr addurniadau siâp cilgant, y tlysau crog, y gwisgoedd brenhinol a'r cadwyni oedd am yddfau'r camelod. A dyma Gideon yn gwneud delw gydag effod arno a'i osod yn Offra, y dref lle cafodd ei fagu. Ond dyma bobl Israel yn dechrau ei addoli ac roedd hyd yn oed Gideon a'i deulu wedi syrthio i'r trap! Dyna sut cafodd y Midianiaid eu trechu'n llwyr gan bobl Israel, a wnaethon nhw erioed godi i fod yn rym ar ôl hynny. Roedd heddwch yn y wlad am bedwar deg mlynedd, tra roedd Gideon yn dal yn fyw. Aeth Jerwb-baal (sef Gideon), mab Joas, yn ôl adre i fyw. Cafodd saith deg o feibion — roedd ganddo lot fawr o wragedd. Cafodd fab arall drwy bartner iddo, oedd yn byw yn Sichem. Galwodd e yn Abimelech. Roedd Gideon yn hen iawn pan fuodd e farw. Cafodd ei gladdu ym medd ei dad Joas, yn Offra yr Abiesriaid. Ond ar ôl iddo farw dyma pobl Israel yn puteinio, drwy addoli delwau o Baal. Dyma nhw'n gwneud Baal-berith yn Dduw iddyn nhw eu hunain. Wnaeth pobl Israel ddim aros yn ffyddlon i'r ARGLWYDD eu Duw, oedd wedi eu hachub nhw oddi wrth y gelynion oedd yn byw o'u cwmpas. A fuon nhw ddim yn garedig iawn at deulu Gideon chwaith, er gwaetha popeth roedd e wedi ei wneud dros Israel. Dyma Abimelech, mab Jerwb-baal (sef Gideon), yn mynd i Sichem i weld ei berthnasau. Dwedodd wrthyn nhw, ac wrth bobl y clan i gyd, “Gofynnwch i arweinwyr Sichem, ‘Ydych chi eisiau saith deg o feibion Jerwb-baal yn llywodraethu arnoch chi, neu dim ond un dyn? Cofiwch mod i'n perthyn yn agos i chi.’” Felly dyma'i berthnasau yn mynd i weld arweinwyr Sichem ar ei ran. Roedden nhw'n tueddu i'w gefnogi, am ei fod yn perthyn yn agos iddyn nhw. Dyma nhw'n rhoi saith deg darn arian iddo o deml Baal-berith. A dyma Abimelech yn defnyddio'r arian i gyflogi criw o rapsgaliwns gwyllt i'w ddilyn. Dyma fe'n mynd i gartref ei dad yn Offra, a lladd ei frodyr, sef saith deg mab Gideon, ar yr un garreg. Dim ond Jotham, mab ifancaf Gideon, lwyddodd i ddianc drwy guddio. Yna dyma arweinwyr Sichem a Beth-milo yn dod at ei gilydd at y dderwen sydd wrth y golofn yn Sichem, i wneud Abimelech yn frenin. Pan glywodd Jotham am hyn dyma fe'n dringo i gopa Mynydd Gerisim. A dyma fe'n gweiddi'n uchel ar y bobl islaw, “Gwrandwch arna i, arweinwyr Sichem — os ydych chi eisiau i Dduw wrando arnoch chi. Aeth y coed allan i ddewis brenin. A dyma nhw'n dweud wrth y goeden olewydd, ‘Bydd yn frenin arnon ni.’ Ond atebodd y goeden olewydd, ‘Ydw i'n mynd i stopio cynhyrchu olew, sy'n bendithio Duw a dynion, er mwyn chwifio'n uwch na'r coed eraill?’ Felly dyma'r coed yn dweud wrth y goeden ffigys, ‘Bydd di yn frenin arnon ni.’ Ond atebodd y goeden ffigys, ‘Ydw i'n mynd i stopio cynhyrchu ffigys melys, fy ffrwyth hyfryd, er mwyn chwifio'n uwch na'r coed eraill?’ Felly dyma'r coed yn dweud wrth y winwydden, ‘Bydd di yn frenin arnon ni.’ Ond atebodd y winwydden, ‘Ydw i'n mynd i stopio cynhyrchu gwin, sy'n gwneud duwiau a dynion yn hapus, er mwyn chwifio'n uwch na'r coed eraill?’ Felly dyma'r coed yn dweud wrth berth o ddrain, ‘Bydd di yn frenin arnon ni.’ A dyma'r berth ddrain yn ateb, ‘Os ydych chi wir eisiau fi'n frenin, dewch i gysgodi oddi tanaf fi. Os na wnewch chi, bydda i'n cynnau tân fydd yn llosgi coed cedrwydd Libanus.’ [16-17] “Roedd fy nhad i wedi ymladd drosoch chi a mentro'i fywyd i'ch achub chi o afael y Midianiaid. Ai dyma sut ydych chi'n diolch iddo? — trwy wneud Abimelech yn frenin! Ydych chi wedi ymddwyn yn anrhydeddus? Ydych chi wedi bod yn deg â Gideon a'i deulu? Naddo! *** Dych chi wedi ei fradychu. Dych chi wedi lladd ei feibion — saith deg ohonyn nhw — ar un garreg! A dyma chi, yn gwneud Abimelech, mab ei gaethferch, yn frenin, dim ond am ei fod yn perthyn i chi! Os ydych chi wedi trin Gideon a'i deulu yn anrhydeddus, boed i Abimelech eich gwneud chi'n hapus, ac i chi ei wneud e'n hapus. Ond os ddim, boed i Abimelech gynnau tân fydd yn eich llosgi chi arweinwyr Sichem a Beth-milo! A boed i arweinwyr Sichem a Beth-milo gynnau tân fydd yn dinistrio Abimelech!” Yna dyma Jotham yn dianc i dref Beër, i gadw o ffordd Abimelech, ei hanner brawd. Pan oedd Abimelech wedi rheoli Israel am dair blynedd, anfonodd Duw ysbryd i godi helynt rhwng Abimelech ac arweinwyr Sichem. A dyma arweinwyr Sichem yn gwrthryfela yn ei erbyn. Gwnaeth Duw hyn i'w gosbi e ac arweinwyr Sichem am lofruddio meibion Gideon i gyd — saith deg ohonyn nhw! Dyma arweinwyr Sichem yn gosod lladron yn y bryniau, i ymosod ar bawb oedd yn teithio'r ffordd honno. Ond dyma Abimelech yn clywed am y peth. Bryd hynny, dyma Gaal fab Efed yn symud i fyw i Sichem gyda'i berthnasau. A dyma arweinwyr Sichem yn troi ato fe i'w hamddiffyn nhw. Pan oedd hi'n adeg y cynhaeaf grawnwin, roedd pobl Sichem wedi bod yn casglu'r grawnwin, eu sathru i gael y sudd ohonyn nhw, ac yna wedi mynd i deml eu Duw i ddathlu a cynnal parti. Roedden nhw'n rhegi Abimelech wrth fwynhau'r gwledda a'r yfed. “Pwy ydy Abimelech?” meddai Gaal fab Efed. “Pam ddylen ni, bobl Sichem, fod yn weision bach iddo? Mab Gideon ydy e, a Sebwl yn ddirprwy wedi ei benodi ganddo. Un o ddisgynyddion Hamor, tad Sechem, ddylen ni ei wasanaethu. Pam ddylen ni wasanaethu Abimelech? Petawn i'n rheoli pobl Sichem, byddwn i'n cael gwared ag Abimelech! Byddwn i'n dweud wrtho, ‘Gwell i ti gael byddin fwy os wyt ti am ddod allan yn ein herbyn ni!’” Pan glywodd Sebwl, llywodraethwr Sichem, beth oedd Gaal wedi ei ddweud, roedd yn wyllt gynddeiriog. Anfonodd negeswyr at Abimelech, oedd yn Arwma, i ddweud, “Gwylia dy hun! Mae Gaal fab Efed a'i frodyr wedi dod i Sichem i godi twrw a chael y dref i wrthryfela yn dy erbyn di. Tyrd yma gyda dy fyddin dros nos, a disgwyl tu allan i'r dref. Yna wrth iddi wawrio bore yfory, ymosod arni. Pan fydd Gaal a'i ddynion yn dod allan i ymladd, gelli wneud beth fynni iddo.” Felly yn ystod y nos, dyma Abimelech a'i fyddin yn dod i baratoi i ymosod ar Sichem. Rhannodd ei fyddin yn bedair uned filwrol. Y bore wedyn roedd Gaal fab Efed wedi codi a mynd i sefyll tu allan i giât y dref, pan ddaeth Abimelech a'i fyddin i'r golwg. Pan welodd Gaal nhw, dyma fe'n dweud wrth Sebwl, “Edrych, mae yna bobl yn dod i lawr o'r mynyddoedd acw.” Ond dyma Sebwl yn dweud, “Cysgodion wyt ti'n eu gweld — mae'n edrych fel pobl o'r fan yma.” Ond dyma Gaal yn dweud eto, “Edrych eto, mae yna bobl yn dod o Tabbwr-erets, ac mae yna griw yn dod i lawr o gyfeiriad Derwen y Dewiniaid.” Yna dyma Sebwl yn dweud wrtho, “Ble mae'r geg fawr yna nawr? Ti ddwedodd, ‘Pwy ydy Abimelech i ni fod yn weision bach iddo?’ Wel, dyma'r dynion oeddet ti'n eu bychanu, felly dos allan i ymladd gyda nhw!” Felly dyma Gaal ac arweinwyr Sichem yn mynd allan i ymladd gydag Abimelech. Ond roedd rhaid iddyn nhw ddianc o flaen byddin Abimelech, a chafodd llawer iawn ohonyn nhw eu lladd yr holl ffordd at giât y dref. Yna dyma Abimelech yn mynd yn ôl i Arwma. A dyma Sebwl yn gyrru Gaal a'i berthnasau allan o Sichem. Ond y diwrnod wedyn dyma bobl Sichem yn dod allan eto. Pan glywodd Abimelech am y peth, dyma fe'n rhannu ei fyddin yn dair uned filwrol, a paratoi i ymosod. Ac wrth i'r bobl ddod allan o'r dref, dyma fe'n ymosod arnyn nhw. Aeth Abimelech a'i uned at giât y dref a blocio'r ffordd yn ôl, ac yna dyma'r ddwy uned arall yn taro'r bobl oedd wedi mynd allan i'r caeau, a'u lladd nhw. Aeth y frwydr ymlaen drwy'r dydd. Dyma Abimelech yn concro'r dref a lladd pawb oedd ynddi. Yna dyma fe'n chwalu'r dref a'i hadeiladau i gyd, a gwasgaru halen dros y safle. Pan glywodd arweinwyr Tŵr Sichem beth oedd wedi digwydd, dyma nhw'n mynd i guddio yn siambr danddaearol teml El-berith. Yna dyma Abimelech yn clywed fod arweinwyr Tŵr Sichem gyda'i gilydd yno. Felly dyma fe'n mynd a'i filwyr i ben Mynydd Salmon. Yna torrodd ganghennau oddi ar goeden gyda bwyell, a'u rhoi ar ei ysgwydd. Dwedodd wrth ei filwyr am wneud yr un peth ar unwaith. Dyma nhw'n gwneud hynny, a mynd ar ei ôl. Yna dyma nhw'n gosod y canghennau yn erbyn waliau'r gaer, a'u rhoi ar dân. Cafodd pawb oedd yn byw yn Tŵr Sichem eu lladd — tua mil o ddynion a merched. Wedyn dyma Abimelech yn mynd yn ei flaen i ymosod ar dref Thebes, a'i choncro. Roedd tŵr amddiffynnol yng nghanol y dref. A dyma'r arweinwyr a phawb arall yn rhedeg i'r tŵr a chloi'r drws. Yna dyma nhw'n dringo i ben to'r tŵr. Dyma Abimelech yn ymosod ar y tŵr, ond wrth iddo baratoi i roi'r fynedfa ar dân dyma ryw wraig yn gollwng maen melin ar ei ben a cracio'i benglog. Dyma fe'n galw ar y dyn ifanc oedd yn cario ei arfau, “Tynn dy gleddyf a lladd fi. Dw i ddim eisiau i bobl ddweud fod gwraig wedi fy lladd i.” Felly dyma'r dyn ifanc yn ei drywanu gyda'i gleddyf, a bu farw. Pan sylweddolodd dynion Israel fod Abimelech wedi marw dyma nhw i gyd yn mynd adre. Dyna sut wnaeth Duw gosbi Abimelech am y drwg wnaeth e i deulu ei dad trwy ladd ei saith deg hanner brawd. A dyna sut wnaeth Duw gosbi pobl Sichem hefyd, am y drwg wnaethon nhw. Daeth beth ddwedodd Jotham, mab Gideon, pan felltithiodd nhw, yn wir. Ar ôl i Abimelech farw dyma Tola, mab Pwa ac ŵyr Dodo, yn codi i achub Israel. Roedd yn perthyn i lwyth Issachar ac yn byw yn Shamîr ym mryniau Effraim. Bu'n arwain Israel am ddau ddeg tair o flynyddoedd. Pan fu farw cafodd ei gladdu yn Shamîr. Ar ôl Tola dyn o'r enw Jair o Gilead wnaeth arwain Israel am ddau ddeg dwy o flynyddoedd. Roedd gan Jair dri deg o feibion ac roedd gan bob un ohonyn nhw ei asyn ei hun, ac roedd pob un yn rheoli tref yn Gilead. Mae'r trefi yma yn Gilead yn dal i gael eu galw yn Hafoth-jair hyd heddiw. Pan fuodd Jair farw cafodd ei gladdu yn Camon. Dyma bobl Israel unwaith eto yn gwneud beth oedd yn ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD. Dyma nhw'n addoli delwau o Baal a'r dduwies Ashtart, a duwiau Syria, Sidon, Moab, yr Ammoniaid a'r Philistiaid. Roedden nhw wedi troi cefn ar yr ARGLWYDD a stopio'i addoli e! Roedd yr ARGLWYDD yn wirioneddol flin gyda phobl Israel. Dyma fe'n gadael i'r Philistiaid a'r Ammoniaid eu rheoli nhw. Roedden nhw'n curo a cham-drin pob Israel yn ddidrugaredd. Roedd pobl Israel oedd yn byw ar dir yr Amoriaid i'r dwyrain o'r Afon Iorddonen (sef Gilead), wedi dioddef am un deg wyth o flynyddoedd. Yna dyma'r Ammoniaid yn croesi'r Iorddonen i ymladd gyda llwythau Jwda, Benjamin ac Effraim. Roedd hi'n argyfwng go iawn ar Israel. A dyma bobl Israel yn gweiddi ar yr ARGLWYDD a dweud, “Dŷn ni wedi pechu yn dy erbyn di! Dŷn ni wedi troi cefn ar ein Duw ac addoli delwau Baal.” A dyma'r ARGLWYDD yn dweud, “Yr Eifftiaid, yr Amoriaid, yr Ammoniaid, y Philistiaid, y Sidoniaid, yr Amaleciaid, y Midianiaid … mae pob un ohonyn nhw wedi eich cam-drin chi. A pan oeddech chi'n gweiddi arna i am help, roeddwn i'n eich achub chi. Ond dw i ddim yn mynd i'ch achub chi eto. Dych chi wedi troi cefn arna i a mynd ar ôl duwiau eraill. Ewch i weiddi ar eich duwiau eich hunain — cân nhw eich helpu chi!” Ond dyma bobl Israel yn dweud, “Dŷn ni wedi pechu. Ti'n iawn i'n cosbi ni. Ond plîs achub ni heddiw!” Yna dyma pobl Israel yn cael gwared â'r duwiau eraill oedd ganddyn nhw a dechrau addoli'r ARGLWYDD eto. Yn y diwedd roedd yr ARGLWYDD wedi blino gweld pobl Israel yn dioddef. Dyma byddin yr Ammoniaid yn paratoi i fynd i ryfel ac yn gwersylla yn Gilead. A dyma byddin Israel yn gwersylla yn Mitspa. Dyma arweinwyr Gilead yn gofyn, “Pwy sy'n barod i arwain yr ymosodiad yn erbyn byddin yr Ammoniaid? Bydd y person hwnnw'n cael ei wneud yn llywodraethwr ar Gilead!” Roedd dyn yn Gilead o'r enw Jefftha. Roedd yn filwr dewr. Putain oedd ei fam, ond roedd e wedi cael ei fagu gan ei dad, Gilead. Roedd gan Gilead nifer o feibion eraill oedd yn blant i'w wraig. Pan oedd y rhain wedi tyfu dyma nhw'n gyrru Jefftha i ffwrdd. “Dwyt ti ddim yn mynd i etifeddu dim o eiddo'r teulu. Mab i wraig arall wyt ti.” Felly roedd rhaid i Jefftha ddianc oddi wrth ei frodyr. Aeth i fyw i ardal Tob, ac yn fuan iawn roedd yn arwain gang o rapsgaliwns gwyllt. Roedd hi beth amser ar ôl hyn pan ddechreuodd yr Ammoniaid ryfela yn erbyn Israel. A dyna pryd aeth arweinwyr Gilead i ardal Tob i ofyn i Jefftha ddod yn ôl. “Tyrd yn ôl i arwain y fyddin yn erbyn yr Ammoniaid,” medden nhw wrtho. “Ond roeddech chi'n fy nghasáu i,” meddai Jefftha. “Chi yrrodd fi oddi cartref! A dyma chi, nawr, yn troi ata i am eich bod mewn trwbwl!” “Mae'n wir,” meddai arweinwyr Gilead wrtho, “Dŷn ni yn troi atat ti i ofyn i ti arwain y frwydr yn erbyn yr Ammoniaid. Ond wedyn cei fod yn bennaeth Gilead i gyd!” A dyma Jefftha'n dweud, “Iawn. Os gwna i ddod gyda chi, a'r ARGLWYDD yn gadael i mi ennill y frwydr, fi fydd eich pennaeth chi.” Ac meddai'r arweinwyr, “Mae'r ARGLWYDD yn dyst a bydd yn ein barnu ni os na wnawn ni fel ti'n dweud.” Felly dyma Jefftha'n mynd gydag arweinwyr Gilead a dyma fe'n cael ei wneud yn bennaeth ac arweinydd y fyddin. A dyma Jefftha'n ailadrodd telerau'r cytundeb o flaen yr ARGLWYDD yn Mitspa. Yna dyma fe'n anfon negeswyr at frenin yr Ammoniaid i ofyn pam oedd e'n ymosod ar y wlad. Yr ateb roddodd brenin yr Ammoniaid i'r negeswyr oedd, “Am fod pobl Israel wedi dwyn ein tir ni pan ddaethon nhw o'r Aifft — o Afon Arnon yn y de i Afon Jabboc yn y gogledd, ac at yr Iorddonen yn y gorllewin. Rho'r tir yn ôl i mi, a fydd yna ddim rhyfel.” Dyma Jefftha'n anfon y neges yma'n ôl at frenin Ammon, “Wnaeth Israel ddim dwyn y tir oddi ar bobloedd Moab ac Ammon. Pan ddaethon nhw allan o'r Aifft dyma nhw'n teithio drwy'r anialwch at y Môr Coch ac yna ymlaen i Cadesh. Anfonodd Israel negeswyr at frenin Edom, yn gofyn, ‘Wnei di roi caniatâd i ni groesi dy dir di?’ Ond dyma frenin Edom yn gwrthod gadael iddyn nhw. Yna dyma Israel yn gofyn yr un peth i frenin Moab ond doedd yntau ddim yn fodlon gadael iddyn nhw groesi. Felly dyma bobl Israel yn aros yn Cadesh. Yna dyma nhw'n mynd rownd Edom a Moab — pasio heibio i'r dwyrain o wlad Moab, a gwersylla yr ochr draw i'r Afon Arnon. Wnaethon nhw ddim croesi tir Moab o gwbl (yr Afon Arnon oedd ffin Moab). “Wedyn dyma Israel yn anfon negeswyr at Sihon, brenin yr Amoriaid, oedd yn teyrnasu yn Cheshbon, a gofyn iddo, ‘Wnei di roi caniatâd i ni groesi dy dir di i ni fynd i'n tir ein hunain?’ Ond doedd Sihon ddim yn trystio pobl Israel i adael iddyn nhw groesi ei dir. Felly dyma fe'n galw ei fyddin at ei gilydd a codi gwersyll yn Iahats, i ymosod ar Israel. Ond dyma'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn eu galluogi nhw i drechu Sihon a'i fyddin gyfan. A dyma Israel yn cymryd tiroedd yr Amoriaid i gyd — o'r Afon Arnon yn y de i'r Afon Jabboc yn y gogledd ac o'r anialwch yn y dwyrain i'r Iorddonen yn y gorllewin. “Felly, yr ARGLWYDD, Duw Israel, wnaeth yrru'r Amoriaid allan o flaen pobl Israel. Pa hawl sydd gen ti i'w gymryd oddi arnyn nhw? Cadw di beth mae dy dduw Chemosh yn ei roi i ti. Dŷn ni am gadw tiroedd y bobloedd mae'r ARGLWYDD wedi eu gyrru allan o'n blaen ni. Wyt ti'n meddwl dy fod ti'n gryfach na Balac fab Sippor, brenin Moab? Wnaeth e fentro ffraeo gyda phobl Israel? Wnaeth e ymladd yn eu herbyn nhw? Mae pobl Israel wedi bod yn byw yn y trefi yma ers tri chan mlynedd — Cheshbon ac Aroer a'r pentrefi o'u cwmpas, a'r trefi sydd wrth Afon Arnon. Pam ydych chi ddim wedi eu cymryd nhw yn ôl cyn hyn? “Dw i ddim wedi gwneud cam â ti. Ti sydd ar fai yn dechrau'r rhyfel yma. Heddiw bydd yr ARGLWYDD, y Barnwr, yn penderfynu pwy sy'n iawn — pobl Israel neu'r Ammoniaid!” Ond wnaeth brenin Ammon gymryd dim sylw o neges Jefftha. A dyma Ysbryd yr ARGLWYDD yn dod ar Jefftha. Dyma fe'n mynd â'i fyddin trwy diroedd Gilead a Manasse, pasio trwy Mitspe yn Gilead, ac ymlaen i wynebu byddin yr Ammoniaid. Dyma Jefftha yn addo ar lw i'r ARGLWYDD, “Os gwnei di adael i mi guro byddin yr Ammoniaid, gwna i roi i'r ARGLWYDD beth bynnag fydd gyntaf i ddod allan o'r tŷ i'm cwrdd i pan af i adre. Bydda i'n ei gyflwyno yn aberth i'w losgi'n llwyr i Dduw.” Yna dyma Jefftha a'i fyddin yn croesi i ymladd yn erbyn yr Ammoniaid a dyma'r ARGLWYDD yn rhoi buddugoliaeth iddo. Cafodd yr Ammoniaid eu trechu'n llwyr, o Aroer yr holl ffordd i Minnith a hyd yn oed i Abel-ceramim! — dau ddeg o drefi i gyd. Dyma fe'n eu difa nhw'n llwyr! Roedd yr Ammoniaid wedi eu trechu gan Israel. Pan aeth Jefftha adre i Mitspa pwy redodd allan i'w groesawu ond ei ferch, yn dawnsio i gyfeiliant tambwrinau. Roedd hi'n unig blentyn. Doedd gan Jefftha ddim mab na merch arall. Pan welodd hi, dyma fe'n rhwygo ei ddillad. “O na! Fy merch i! Mae hyn yn ofnadwy! Mae'n drychinebus! Dw i wedi addo rhywbeth ar lw i'r ARGLWYDD, a does dim troi'n ôl.” Dyma ei ferch yn dweud wrtho, “Dad, os wyt ti wedi addo rhywbeth i'r ARGLWYDD rhaid i ti gadw dy addewid. Mae'r ARGLWYDD wedi cadw ei ochr e a rhoi buddugoliaeth i ti dros dy elynion, yr Ammoniaid. Ond gwna un peth i mi. Rho ddau fis i mi grwydro'r bryniau gyda'm ffrindiau, i alaru am fy mod byth yn mynd i gael priodi.” “Dos di,” meddai wrthi. A gadawodd iddi fynd i grwydro'r bryniau am ddeufis yn galaru gyda'i ffrindiau am na fyddai byth yn cael priodi. Ar ddiwedd y deufis dyma hi'n dod yn ôl at ei thad, a dyma fe'n gwneud beth roedd e wedi ei addo. Roedd hi'n dal yn wyryf pan fuodd hi farw. Daeth yn ddefod yn Israel fod y merched yn mynd i ffwrdd am bedwar diwrnod bob blwyddyn, i goffáu merch Jefftha o Gilead. Dyma ddynion Effraim yn galw byddin at ei gilydd ac yn croesi dros yr Afon Iorddonen i Saffon. Dyma nhw'n gofyn i Jefftha, “Pam wnest ti fynd i ymladd yn erbyn yr Ammoniaid heb ofyn i ni fynd gyda ti? Dŷn ni'n mynd i losgi dy dŷ di i lawr a tithau tu mewn iddo!” Meddai Jefftha, “Pan oedden ni yng nghanol dadl ffyrnig gyda'r Ammoniaid, dyma fi'n galw arnoch chi ddod i helpu, ond ddaethoch chi ddim. Pan wnes i sylweddoli nad oeddech chi'n dod dyma fi'n mentro mynd i frwydro yn erbyn yr Ammoniaid hebddoch chi, a dyma'r ARGLWYDD yn rhoi buddugoliaeth i ni. Does gynnoch chi ddim rheswm i ymladd yn fy erbyn i.” Yna dyma Jefftha yn casglu byddin o ddynion Gilead at ei gilydd a mynd i ymladd yn erbyn dynion Effraim. Roedd dynion Effraim wedi sarhau pobl Gilead drwy ddweud, “Dydy pobl Gilead yn ddim byd ond cachgwn yn cuddio ar dir Effraim a Manasse!” Dyma ddynion Gilead yn dal y rhydau lle roedd pobl yn croesi'r afon Iorddonen, i rwystro dynion Effraim rhag dianc. Pan oedd rhywun o Effraim yn dod ac yn gofyn am gael croesi byddai dynion Gilead yn gofyn, “Wyt ti'n perthyn i lwyth Effraim?” Petai'n ateb, “Na,” bydden nhw'n gofyn iddo wedyn ddweud y gair “Shiboleth!” Ond “Siboleth!” oedd dynion Effraim yn ei ddweud (roedden nhw'n methu dweud y gair yn iawn). Wedyn byddai dynion Gilead yn eu dal nhw ac yn eu lladd nhw yn y fan a'r lle. Cafodd pedwar deg dau o filoedd o ddynion Effraim eu lladd y diwrnod hwnnw. Dyma Jefftha yn arwain Israel am chwe mlynedd. Pan fu farw cafodd ei gladdu yn ei dref ei hun yn Gilead. Ar ôl Jefftha, dyma Ibsan o Bethlehem yn arwain Israel. Roedd ganddo dri deg mab a thri deg merch. Dyma fe'n rhoi ei ferched yn wragedd i ddynion o'r tu allan i'w glan, a dyma fe'n trefnu i ferched o'r tu allan briodi ei feibion. Buodd Ibsan yn arwain Israel am saith mlynedd. Pan fuodd e farw cafodd ei gladdu yn Bethlehem. Yr arweinydd nesaf oedd Elon o lwyth Sabulon. Bu'n arwain pobl Israel am ddeg mlynedd. Pan fuodd e farw cafodd ei gladdu yn Aialon ar dir llwyth Sabulon. Abdon fab Hilel o Pirathon oedd arweinydd nesaf Israel. Roedd ganddo bedwar deg o feibion a tri deg o wyrion — ac roedd gan bob un ohonyn nhw ei asyn ei hun. Bu Abdon yn arwain pobl Israel am wyth mlynedd. Pan fu farw, cafodd ei gladdu yn Pirathon, sydd ar dir Effraim, yn y bryniau lle roedd yr Amaleciaid yn arfer byw. Dyma bobl Israel unwaith eto yn gwneud beth oedd yn ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD. Felly dyma'r ARGLWYDD yn gadael i'r Philistiaid eu rheoli nhw am bedwar deg o flynyddoedd. Bryd hynny roedd dyn o'r enw Manoa, o lwyth Dan, yn byw yn Sora. Doedd gwraig Manoa ddim yn gallu cael plant. Un diwrnod dyma angel yr ARGLWYDD yn rhoi neges iddi, “Er dy fod ti wedi methu cael plant hyd yn hyn, ti'n mynd i feichiogi a byddi'n cael mab. Bydd yn ofalus! Paid yfed gwin nag unrhyw ddiod feddwol arall, na bwyta unrhyw beth fydd yn dy wneud di'n aflan. Wir i ti, rwyt ti'n mynd i feichiogi a cael mab. Ond rhaid i ti beidio torri ei wallt, am fod y plentyn i gael ei gysegru'n Nasaread i'r ARGLWYDD o'r eiliad mae'n cael ei eni. Bydd yn mynd ati i achub Israel o afael y Philistiaid.” A dyma hi'n mynd i ddweud wrth ei gŵr beth oedd wedi digwydd. “Mae dyn wedi dod ata i oddi wrth Dduw. Roedd fel angel Duw — yn ddigon i godi braw arna i! Wnes i ddim gofyn iddo o ble roedd e'n dod, a wnaeth e ddim dweud ei enw. Dwedodd wrtho i, ‘Rwyt ti'n mynd i fod yn feichiog a byddi'n cael mab. Felly, paid yfed gwin nag unrhyw ddiod feddwol arall, a paid bwyta unrhyw beth fydd yn dy wneud di'n aflan. Bydd y plentyn wedi ei gysegru yn Nasaread i Dduw o'i eni i'w farw.’” Yna dyma Manoa'n gweddïo ar yr ARGLWYDD, “Meistr, plîs gad i'r dyn wnest ti ei anfon ddod aton ni eto, iddo ddysgu i ni beth i'w wneud gyda'r bachgen fydd yn cael ei eni.” A dyma Duw yn ateb ei weddi. Dyma'r angel yn dod at wraig Manoa eto. Roedd hi'n eistedd yn y cae ar ei phen ei hun — doedd Manoa ei gŵr ddim gyda hi. A dyma hi'n rhedeg ar unwaith i ddweud wrtho, “Tyrd, mae e wedi dod yn ôl! Y dyn ddaeth ata i y diwrnod o'r blaen. Mae e yma!” Dyma Manoa yn mynd yn ôl gyda'i wraig, a dyma fe'n gofyn i'r dyn, “Ai ti ydy'r dyn sydd wedi bod yn siarad gyda'm gwraig i?” “Ie, fi ydy e” meddai wrtho. A dyma Manoa'n gofyn iddo, “Pan fydd dy eiriau'n dod yn wir, sut ddylen ni fagu'r plentyn a beth fydd e'n wneud?” A dyma'r angel yn dweud wrtho, “Rhaid i dy wraig wneud popeth ddywedais i wrthi. Rhaid iddi beidio bwyta grawnwin na rhesins, peidio yfed gwin na diod feddwol arall, a pheidio bwyta unrhyw fwyd fydd yn ei gwneud hi'n aflan. Rhaid iddi wneud popeth dw i wedi ei ddweud wrthi.” Yna dyma Manoa yn dweud, “Plîs wnei di aros am ychydig i ni baratoi pryd o fwyd i ti, gafr ifanc.” “Gwna i aros ond wna i ddim bwyta,” meddai'r angel. “Os wyt ti eisiau cyflwyno offrwm i'w losgi'n llwyr i'r ARGLWYDD, gelli wneud hynny.” (Doedd Manoa ddim yn sylweddoli mai angel yr ARGLWYDD oedd e.) Yna dyma Manoa'n gofyn iddo, “Beth ydy dy enw di? Pan fydd hyn i gyd yn dod yn wir, dŷn ni eisiau dy anrhydeddu di.” A dyma'r angel yn ateb, “Pam wyt ti'n gofyn am fy enw i? Mae e tu hwnt i dy ddeall di.” Felly dyma Manoa yn cymryd gafr ifanc ac offrwm o rawn a'i gosod nhw ar garreg i'w cyflwyno i'r ARGLWYDD. Yna dyma angel yr ARGLWYDD yn gwneud rhywbeth anhygoel tra roedd Manoa a'i wraig yn gwylio. Wrth i'r fflamau godi o'r allor dyma angel yr ARGLWYDD yn mynd i fyny yn y fflamau. Pan welodd Manoa a'i wraig hynny'n digwydd, dyma nhw'n plygu a'u hwynebau i'r llawr. Wnaeth Manoa a'i wraig ddim gweld yr angel eto. Dyna pryd sylweddolodd Manoa mai angel yr ARGLWYDD oedd e. A dyma fe'n dweud wrth ei wraig, “Dŷn ni'n mynd i farw! Dŷn ni wedi gweld bod dwyfol!” Ond dyma'i wraig yn dweud, “Petai'r ARGLWYDD eisiau'n lladd ni fyddai e ddim wedi derbyn yr offrwm i'w losgi a'r offrwm o rawn gynnon ni. Fyddai e ddim wedi dangos hyn i gyd a siarad â ni fel y gwnaeth e.” Cafodd gwraig Manoa fab a dyma hi'n rhoi'r enw Samson iddo. Tyfodd y plentyn a dyma'r ARGLWYDD yn ei fendithio. Yna pan oedd Samson yn aros yn Mahane-dan, rhwng Sora ac Eshtaol, dyma Ysbryd yr ARGLWYDD yn dechrau ei sbarduno. Dyma Samson yn mynd i lawr i Timna. Yno roedd merch ifanc wedi dal ei lygad, un o ferched y Philistiaid. Pan aeth yn ôl adre dyma fe'n dweud wrth ei dad a'i fam, “Dw i wedi gweld merch ifanc yn Timna — un o ferched y Philistiaid. Ewch i'w nôl hi i fod yn wraig i mi.” Ond dyma ei rieni'n ateb, “Mae'n rhaid bod yna ferch ifanc rywle — un o dy berthnasau; un o dy bobl dy hun. Mae'r Philistiaid yn baganiaid. Pam ddylet ti fynd atyn nhw i gael gwraig?” “Ewch i'w nôl hi. Hi dw i eisiau. Mae hi'n bishyn.” (Doedd ei dad a'i fam ddim yn sylweddoli mai'r ARGLWYDD oedd tu ôl i hyn i gyd, a'i fod yn creu cyfle i achosi helynt i'r Philistiaid. Y Philistiaid oedd yn rheoli Israel ar y pryd). Dyma Samson yn mynd i lawr i Timna gyda'i rieni. Pan oedd wrth ymyl gwinllannoedd Timna dyma lew ifanc yn rhuthro ato. A dyma Ysbryd yr ARGLWYDD yn dod arno'n rymus a dyma fe'n rhwygo'r llew a'i ladd gyda dim ond nerth braich, fel petai'n fyn gafr bach ifanc. (Ond wnaeth e ddim dweud wrth ei rieni beth roedd wedi ei wneud). Yna aeth Samson yn ei flaen i Timna a siarad â'r ferch ifanc. Roedd e wir yn ei ffansïo hi. Beth amser ar ôl hynny aeth Samson i Timna i'w phriodi hi. Ar ei ffordd aeth i weld beth oedd ar ôl o'r llew oedd wedi ymosod arno. Cafodd fod haid o wenyn yn byw yn sgerbwd yr anifail a bod mêl ynddo. Dyma fe'n crafu peth o'r mêl gyda'i ddwylo a'i fwyta wrth gerdded. Aeth yn ôl at ei rieni a rhoi peth o'r mêl iddyn nhw i'w fwyta. (Ond wnaeth e ddim dweud wrthyn nhw ei fod wedi crafu'r mêl allan o sgerbwd y llew). Ar ôl hyn dyma ei dad yn mynd gydag e i Timna i weld y ferch. A dyma Samson yn trefnu parti, am mai dyna oedd dynion ifanc oedd am briodi yn arfer ei wneud bryd hynny. Pan welodd y Philistiaid Samson dyma nhw'n rhoi tri deg o ffrindiau i gadw cwmni iddo yn y parti. A dyma Samson yn dweud wrthyn nhw, “Gadewch i mi osod pos i chi. Os rhowch chi'r ateb i mi cyn diwedd y parti mewn wythnos, gwna i roi mantell newydd, a set o ddillad newydd i'r tri deg ohonoch chi. Ond os allwch chi ddim datrys y pos, bydd rhaid i bob un ohonoch chi roi mantell a set o ddillad newydd i mi.” Felly dyma nhw'n dweud wrtho, “Iawn, gad i ni glywed beth ydy dy bos di.” A dyma ddwedodd e: “Daeth bwyd o'r bwytäwr; rhywbeth melys o'r un cryf.” Aeth tri diwrnod heibio a doedden nhw ddim yn gallu meddwl am yr ateb. Y diwrnod wedyn dyma nhw'n mynd at wraig Samson a'i bygwth: “Tricia dy ŵr i ddweud beth ydy'r ateb i'r pos, neu byddwn ni'n dy losgi di a teulu dy dad. Wnest ti'n gwahodd ni yma i'n gwneud ni'n fethdalwyr?” Felly dyma wraig Samson yn mynd ato a dechrau crïo ar ei ysgwydd. “Ti'n fy nghasáu i. Dwyt ti ddim yn fy ngharu i. Ti wedi rhoi pos i rai o'r bechgyn ond dwyt ti ddim wedi dweud wrtho i beth ydy'r ateb.” “Ond dw i ddim hyd yn oed wedi dweud wrth dad a mam. Wyt ti wir yn disgwyl i mi ddweud wrthot ti?” Buodd hi'n crïo ar ei ysgwydd nes oedd y parti bron ar ben. Yna ar y seithfed diwrnod dyma Samson yn dweud yr ateb wrthi am ei bod hi wedi swnian gymaint. A dyma hi'n mynd i ddweud wrth y dynion ifanc. Cyn iddi fachlud y noson honno dyma ddynion y dref yn mynd at Samson a dweud, “Beth sy'n fwy melys na mêl? A beth sy'n gryfach na llew?” A dyma Samson yn dweud, “Fyddech chi ddim wedi datrys y pos heb gymryd mantais o'm gwraig i!” A dyma Ysbryd yr ARGLWYDD yn dod arno'n rymus. Aeth i Ashcelon a lladd tri deg o ddynion. Cymerodd eu dillad a'u rhoi i'r dynion oedd wedi ateb y pos. Roedd wedi gwylltio'n lân ac aeth adre at ei rieni. Dyma'i wraig yn cael ei rhoi i'r un oedd wedi bod yn was priodas iddo. Beth amser wedyn, adeg y cynhaeaf gwenith, dyma Samson yn mynd i weld ei wraig ac aeth â myn gafr ifanc yn anrheg iddi. Roedd e eisiau cysgu gyda hi ond wnaeth ei thad ddim gadael iddo. “Ro'n i'n meddwl dy fod ti'n ei chasáu hi go iawn, felly dyma fi'n ei rhoi hi i dy was priodas. Mae ei chwaer fach hyd yn oed yn ddelach na hi. Pam wnei di ddim ei chymryd hi yn ei lle?” A dyma Samson yn ymateb, “Mae gen i reswm digon teg i daro'r Philistiaid y tro yma!” Felly dyma Samson yn mynd ac yn dal tri chant o siacaliaid, eu rhwymo nhw'n barau wrth eu cynffonau, a rhwymo ffaglau rhwng eu cynffonau. Yna taniodd y ffaglau a gollwng y siacaliaid yn rhydd i ganol caeau ŷd y Philistiaid. Llosgodd y cwbl — yr ŷd oedd heb ei dorri a'r ysgubau oedd wedi eu casglu, a hyd yn oed y gwinllannoedd a'r caeau o goed olewydd. “Pwy wnaeth hyn?” meddai'r Philistiaid. A dyma rhywun yn ateb, “Samson, am fod ei dad-yng-nghyfraith, sy'n byw yn Timna, wedi cymryd ei wraig a'i rhoi i'w was priodas.” Felly dyma'r Philistiaid yn mynd i Timna a dal gwraig Samson a'i thad a'i llosgi nhw i farwolaeth. Dyma Samson yn dweud, “Dw i'n mynd i ddial arnoch chi am wneud hyn! Wna i ddim stopio nes bydda i wedi talu'n ôl i chi!” A dyma fe'n ymosod arnyn nhw a'i hacio nhw'n ddarnau. Yna mynd i ffwrdd, ac aros mewn ogof wrth Graig Etam. Yna dyma'r Philistiaid yn mynd i ymosod ar Jwda. Roedden nhw ar wasgar drwy ardal Lechi. A dyma arweinwyr Jwda yn gofyn iddyn nhw, “Pam ydych chi'n ymosod arnon ni?” “Dŷn ni eisiau cymryd Samson yn garcharor,” medden nhw, “a thalu'r pwyth yn ôl iddo am beth wnaeth e i ni.” Felly dyma dair mil o ddynion Jwda yn mynd i lawr i'r ogof wrth Graig Etam, a dweud wrth Samson, “Wyt ti ddim yn sylweddoli mai'r Philistiaid sy'n ein rheoli ni? Beth wyt ti'n feddwl wyt ti'n wneud?” “Dim ond talu'r pwyth yn ôl wnes i. Gwneud iddyn nhw beth wnaethon nhw i mi,” meddai Samson. A dyma ddynion Jwda yn dweud wrtho, “Dŷn ni wedi dod yma i dy ddal di a dy roi di i'r Philistiaid yn garcharor.” “Wnewch chi addo i mi na wnewch chi fy lladd i eich hunain?” meddai Samson. A dyma nhw'n dweud, “Dŷn ni'n addo. Wnawn ni ddim ond dy rwymo di a dy roi di'n garcharor iddyn nhw. Wnawn ni ddim dy ladd di.” Felly dyma nhw'n ei rwymo gyda dwy raff newydd a mynd ag e o Graig Etam. Pan gyrhaeddodd Lechi, dyma'r Philistiaid yn dechrau gweiddi'n uchel wrth fynd draw at Samson. A dyma Ysbryd yr ARGLWYDD yn dod arno'n rymus, a dyma'r rhaffau oedd yn rhwymo'i freichiau yn torri fel brethyn wedi llosgi! Dyma fe'n gweld asgwrn gên asyn oedd heb sychu. Gafaelodd yn yr asgwrn a lladd mil o ddynion gydag e! A dyma Samson yn dweud, “Gydag asgwrn gên asyn gadewais nhw'n domenni! Gydag asgwrn gên asyn mil o filwyr leddais i!” Yna taflodd Samson yr asgwrn ar lawr, a galwodd y lle yn Ramath-lechi (sef “Bryn yr Asgwrn Gên”). Roedd Samson yn ofnadwy o sychedig a dyma fe'n galw ar yr ARGLWYDD, “Ar ôl rhoi buddugoliaeth fawr i mi, wyt ti'n mynd i adael i mi farw o syched, a gadael i'r paganiaid yma fy nghael i?” Felly dyma Duw yn hollti'r basn sydd yn y graig yn Lechi, a dyma ddŵr yn pistyllio allan. Pan yfodd Samson y dŵr, dyma fe'n dod ato'i hun. A dyma fe'n galw'r lle yn En-hacore (sef ‛Ffynnon y Galw‛) — mae'n dal yna yn Lechi hyd heddiw. Buodd Samson yn arwain Israel am ugain mlynedd pan oedd y Philistiaid yn rheoli'r wlad. Aeth Samson i Gasa. Gwelodd butain yno, ac aeth i gael rhyw gyda hi. Dyma bobl Gasa yn darganfod ei fod yno. Felly dyma nhw'n amgylchynu'r dref ac yn disgwyl amdano wrth y giatiau. Wnaethon nhw ddim mwy drwy'r nos, gan feddwl, “Lladdwn ni e pan fydd hi'n goleuo yn y bore!” Ond wnaeth Samson ddim aros drwy'r nos. Cododd ganol nos a gadael. Pan ddaeth at giatiau'r dref, tynnodd nhw o'r ddaear — y pyst a'r barrau a'r cwbl. Cododd nhw ar ei gefn, a'i cario nhw i ben y bryn sydd i'r dwyrain o Hebron. Rywbryd wedyn, dyma Samson yn syrthio mewn cariad hefo gwraig o Ddyffryn Sorec, o'r enw Delila. Dyma arweinwyr y Philistiaid yn mynd ati, a dweud, “Os gwnei di ei berswadio fe i ddweud wrthot ti pam mae e mor gryf, a sut y gallen ni ei ddal a'i gam-drin, cei di fil a chant o ddarnau arian gan bob un ohonon ni.” Felly dyma Delila yn gofyn i Samson, “Beth sy'n dy wneud di mor gryf? Sut allai rhywun dy rwymo di a dy drechu di?” A dyma Samson yn ateb, “Petawn i'n cael fy rhwymo gyda saith llinyn bwa saeth newydd, byddwn i mor wan ac unrhyw ddyn arall.” Felly dyma arweinwyr y Philistiaid yn rhoi saith llinyn bwa saeth newydd iddi i rwymo Samson gyda nhw. Pan oedd y dynion yn cuddio yn yr ystafell, dyma Delila yn gweiddi, “Mae'r Philistiaid yma, Samson!” Dyma fe'n torri'r llinynnau bwa fel petaen nhw'n edau oedd wedi bod yn agos i dân. Doedden nhw ddim wedi darganfod y gyfrinach pam oedd e mor gryf. Dyma Delila'n dweud wrth Samson, “Ti'n chwarae triciau ac wedi dweud celwydd wrtho i! Tyrd, dywed wrtho i sut mae rhywun yn gallu dy rwymo di.” A dyma fe'n dweud wrthi, “Petawn i'n cael fy rhwymo gyda rhaffau newydd sbon sydd erioed wedi cael eu defnyddio o'r blaen, byddwn i mor wan ac unrhyw ddyn arall.” Felly dyma Delila yn rhwymo Samson gyda rhaffau newydd sbon. Yna dyma hi'n gweiddi, “Mae'r Philistiaid yma, Samson!” (Roedd y Philistiaid yn cuddio yn yr ystafell.) Ond dyma fe'n torri'r rhaffau fel petaen nhw'n ddim ond edau! Dyma Delila'n dweud wrth Samson, “Ti'n gwneud dim byd ond chwarae triciau a dweud celwydd wrtho i! Dywed wrtho i sut mae rhywun yn gallu dy rwymo di.” A dyma fe'n dweud wrthi, “Taset ti'n gweu fy ngwallt i — y saith plethen — i mewn i'r brethyn ar ffrâm wau, a'i gloi gyda'r pin, byddwn i mor wan ac unrhyw ddyn arall.” Felly tra roedd e'n cysgu, dyma hi'n cymryd ei saith plethen e, a'u gweu nhw i mewn i'r brethyn ar y ffrâm wau, a'i gloi gyda pin. Wedyn gweiddi, “Mae'r Philistiaid yma, Samson!” Dyma fe'n deffro, ac yn rhwygo'r pin allan o'r ffrâm a'i wallt o'r brethyn. A dyma Delila'n dweud wrtho, “Sut wyt ti'n gallu dweud ‘Dw i'n dy garu di,’ os wyt ti ddim yn trystio fi? Rwyt ti wedi bod yn chwarae triciau dair gwaith ac wedi gwrthod dweud wrtho i beth sy'n dy wneud di mor gryf.” Roedd hi'n dal ati i swnian a swnian ddydd ar ôl dydd nes roedd Samson wedi cael llond bol. A dyma fe'n dweud popeth wrthi. “Dw i erioed wedi cael torri fy ngwallt. Ces fy rhoi yn Nasaread i Dduw, cyn i mi gael fy ngeni. Petai fy ngwallt yn cael ei dorri byddwn yn colli fy nghryfder. Byddwn i mor wan ac unrhyw ddyn arall.” Pan sylweddolodd Delila ei fod wedi dweud ei gyfrinach wrthi, dyma hi'n anfon am arweinwyr y Philistiaid. Ac meddai wrthyn nhw, “Dewch yn ôl, mae e wedi dweud wrtho i beth ydy'r gyfrinach.” Felly dyma arweinwyr y Philistiaid yn mynd yn ôl ati, a'r arian i'w thalu hi gyda nhw. Dyma Delila'n cael Samson i gysgu, a'i ben ar ei gliniau. Yna dyma hi'n galw dyn draw i dorri ei wallt i gyd i ffwrdd — y saith plethen. A dyna ddechrau'r cam-drin. Roedd ei gryfder i gyd wedi mynd. Dyma hi'n gweiddi, “Mae'r Philistiaid yma, Samson!” A dyma fe'n deffro, gan feddwl, “Gwna i yr un peth ag o'r blaen, a chael fy hun yn rhydd.” (Doedd e ddim yn sylweddoli fod yr ARGLWYDD wedi ei adael e.) Dyma'r Philistiaid yn ei ddal a thynnu ei lygaid allan. Yna dyma nhw'n mynd ag e i'r carchar yn Gasa. Yno dyma nhw'n rhoi cadwyni pres arno a gwneud iddo falu ŷd. Ond cyn hir roedd ei wallt yn dechrau tyfu eto. Roedd arweinwyr y Philistiaid wedi dod at ei gilydd i ddathlu, a chyflwyno aberthau i'w duw, Dagon. Roedden nhw'n siantio, “Ein duw ni, Dagon — mae wedi rhoi Samson ein gelyn, yn ein gafael!” Roedd y bobl i gyd yn edrych ar eu duw ac yn ei foli. “Mae'n duw ni wedi rhoi ein gelyn yn ein gafael. Roedd e wedi dinistrio'n gwlad, a lladd cymaint ohonon ni.” Pan oedd y parti'n dechrau mynd yn wyllt dyma nhw'n gweiddi, “Dewch â Samson yma i ni gael ychydig o adloniant!” Felly dyma nhw'n galw am Samson o'r carchar, i roi sioe iddyn nhw. A dyma nhw'n ei osod i sefyll rhwng dau o'r pileri. Dyma Samson yn dweud wrth y bachgen oedd yn ei dywys, “Gad i mi deimlo pileri'r deml, i mi gael pwyso arnyn nhw.” Roedd y deml yn orlawn o bobl, ac roedd arweinwyr y Philistiaid i gyd yno. Roedd tair mil o bobl ar y to yn gwylio Samson ac yn gwneud hwyl ar ei ben. A dyma Samson yn gweddïo ar yr ARGLWYDD. “O Feistr, ARGLWYDD, cofia amdana i! Gwna fi'n gryf dim ond un waith eto, O Dduw. Gad i mi daro'r Philistiaid un tro olaf, a dial arnyn nhw am dynnu fy llygaid i!” Yna dyma Samson yn rhoi ei ddwylo ar y ddau biler oedd yn cynnal to'r deml, a gwthio, un gyda'r llaw dde a'r llall gyda'r chwith. “Gad i mi farw gyda'r Philistiaid!” gwaeddodd. Roedd yn gwthio mor galed ag y medrai, a dyma'r adeilad yn syrthio ar ben arweinwyr y Philistiaid a phawb arall oedd y tu mewn. Lladdodd Samson fwy o Philistiaid pan fuodd e farw, nag yn ystod gweddill ei fywyd i gyd! Aeth ei frodyr a'r teulu i gyd i lawr i Gasa i nôl ei gorff. A dyma nhw'n ei gladdu ym medd ei dad, oedd rhwng Sora ac Eshtaol. Roedd Samson wedi arwain pobl Israel am ugain mlynedd. Roedd dyn o'r enw Micha yn byw ym mryniau Effraim. Dwedodd wrth ei fam, “Gwnes i dy glywed di yn melltithio'r lleidr wnaeth ddwyn y mil a chant o ddarnau arian oddi arnat ti. Wel, mae'r arian gen i. Fi wnaeth ei ddwyn e, a dw i'n mynd i'w roi yn ôl i ti.” A dyma'i fam yn dweud wrtho, “Dw i'n gweddïo y bydd yr ARGLWYDD yn dy fendithio di, fy mab!” Daeth â'r arian yn ôl i'w fam, a dyma'i fam yn dweud, “Dw i am gysegru'r arian yma i'r ARGLWYDD. Er mwyn fy mab, dw i am ei ddefnyddio i wneud eilun wedi ei gerfio a delw o fetel tawdd.” Pan roddodd yr arian i'w fam, dyma hi'n cymryd dau gant o ddarnau arian, a'u rhoi nhw i'r gof arian i wneud eilun wedi ei gerfio a delw o fetel tawdd. Yna eu gosod nhw yn nhŷ Micha. Roedd gan Micha gysegr i addoli Duw yn ei dŷ. Roedd wedi gwneud effod ac eilun-ddelwau teuluol, ac wedi ordeinio un o'i feibion yn offeiriad. Doedd dim brenin yn Israel bryd hynny. Roedd pawb yn gwneud beth roedden nhw'n feddwl oedd yn iawn. Roedd dyn ifanc o Bethlehem yn Jwda (roedd yn perthyn i lwyth Lefi, ond wedi bod yn byw dros dro ar dir Jwda). Penderfynodd fynd i chwilio am le arall i fyw. Cyrhaeddodd fryniau Effraim, a digwydd dod i dŷ Micha. Gofynnodd Micha iddo, “O ble ti'n dod?” Atebodd, “Un o lwyth Lefi ydw i, wedi bod yn byw yn Bethlehem yn Jwda. Ond dw i'n edrych am rywle arall i fyw.” A dyma Micha'n dweud, “Aros yma gyda mi. Cei fod yn gynghorydd ac offeiriad i mi. Gwna i dalu deg darn arian y flwyddyn i ti, a dillad a bwyd.” Dyma fe'n cytuno i aros yno. Roedd fel un o'r teulu. Roedd Micha wedi ei ordeinio yn offeiriad, ac roedd yn byw yn ei dŷ. Ac meddai Micha wrtho'i hun, “Nawr dw i'n gwybod y bydd Duw yn dda i mi — mae gen i un o lwyth Lefi yn offeiriad!” Doedd dim brenin yn Israel bryd hynny. Roedd llwyth Dan yn edrych am rywle i setlo i lawr. Doedden nhw ddim wedi llwyddo i gymryd y tir oedd wedi cael ei roi iddyn nhw, fel gweddill llwythau Israel. Felly dyma lwyth Dan yn anfon pump o ddynion dewr i ysbïo'r wlad. Dyma nhw'n gadael Sora ac Eshtaol, a cyrraedd tŷ Micha ym mryniau Effraim, a dyna ble wnaethon nhw aros dros nos. Dyma nhw'n clywed y dyn ifanc o lwyth Lefi yn siarad pan oedden nhw wrth dŷ Micha. Roedden nhw'n nabod ei acen. Felly dyma nhw'n galw heibio a dechrau ei holi, “Sut ddest ti yma? Beth wyt ti'n wneud yma? Beth ydy dy fusnes di?” A dyma fe'n dweud wrthyn nhw beth oedd Micha wedi ei wneud iddo. “Dw i wedi cael swydd ganddo, fel offeiriad,” meddai. “Oes gen ti neges gan Dduw i ni?” medden nhw. “Dŷn ni eisiau gwybod os byddwn ni'n llwyddiannus.” A dyma'r offeiriad yn ateb, “Gallwch fod yn dawel eich meddwl. Mae'r ARGLWYDD gyda chi bob cam o'r ffordd!” Felly dyma'r pump yn mynd ymlaen ar eu taith ac yn dod i Laish. Doedd y bobl oedd yn byw yno yn poeni am ddim — roedden nhw fel pobl Sidon, yn meddwl eu bod nhw'n hollol saff. Doedden nhw'n gweld dim perygl o gwbl a doedd neb yn eu bygwth nhw na dwyn oddi arnyn nhw. Roedden nhw'n bell oddi wrth Sidon i'r gorllewin, a doedd ganddyn nhw ddim cysylltiad hefo unrhyw un arall chwaith. Dyma'r dynion yn mynd yn ôl at eu pobl i Sora ac Eshtaol. A dyma'r bobl yn gofyn iddyn nhw, “Wel? Sut aeth hi?” A dyma nhw'n ateb, “Dewch! Dŷn ni wedi dod o hyd i le da. Dewch i ymosod arnyn nhw! Peidiwch eistedd yma'n diogi! Rhaid i ni fynd ar unwaith a chymryd y tir oddi arnyn nhw. Maen nhw'n meddwl eu bod nhw'n hollol saff. Mae yna ddigon o dir yna, ac mae Duw yn ei roi i ni! Mae popeth sydd ei angen arnon ni yna!” Felly dyma chwe chant o ddynion Dan yn gadael Sora ac Eshtaol, yn barod i frwydro. Dyma nhw'n gwersylla yn Ciriath-iearim yn Jwda. (Mae'r lle yn dal i gael ei alw yn Wersyll Dan hyd heddiw. Mae i'r gorllewin o Ciriath-iearim.) Yna dyma nhw'n mynd yn eu blaenau i fryniau Effraim a chyrraedd tŷ Micha. A dyma'r pum dyn oedd wedi bod yn chwilio'r ardal yn dweud wrth y lleill, “Wyddoch chi fod yna effod ac eilun-ddelwau teuluol yma, eilun wedi ei gerfio a delw o fetel tawdd? Beth ydych chi am ei wneud?” Felly dyma nhw'n galw heibio a mynd i dŷ y Lefiad ifanc oedd biau Micha, a'i gyfarch, “Sut mae pethau?” Roedd y chwe chant o filwyr yn sefyll wrth giât y dref. Tra roedd yr offeiriad yn sefyll yno gyda'r milwyr, dyma'r pum dyn oedd wedi bod yn ysbïo'r wlad yn torri i mewn i'w dŷ, a dwyn yr eilun wedi ei gerfio, yr effod, yr eilun-ddelwau teuluol a'r ddelw o fetel tawdd. Pan welodd yr offeiriad nhw, dyma fe'n gofyn, “Beth ydych chi'n wneud?” A dyma nhw'n dweud wrtho, “Paid dweud dim! Tyrd gyda ni. Cei di fod yn gynghorydd ac offeiriad i ni. Fyddai hi ddim yn well cael bod yn offeiriad i lwyth cyfan yn Israel nag i deulu un dyn?” Roedd yr offeiriad wrth ei fodd. Cymerodd yr effod, eilun-ddelwau'r teulu a'r eilun wedi ei gerfio a mynd gyda nhw. I ffwrdd â nhw gyda'r plant, yr anifeiliaid a'r eiddo i gyd ar y blaen. Yna pan oedden nhw wedi mynd yn reit bell o dŷ Micha, dyma Micha a chriw o ddynion oedd yn gymdogion iddo yn dod ar eu holau. Dyma nhw'n gweiddi arnyn nhw. A dyma ddynion Dan yn troi a gofyn, “Beth sy'n bod? Pam dych chi wedi dod ar ein holau ni?” Dyma Micha'n ateb, “Dych chi wedi dwyn y duwiau dw i wedi eu gwneud, a'r offeiriad, a cherdded i ffwrdd! Beth sydd gen i ar ôl? Sut allwch chi ddweud, ‘Beth sy'n bod?’” Ac medden nhw wrtho, “Well i ti gau dy geg — mae yna ddynion milain yma, a byddan nhw'n dod ac yn dy ladd di a dy deulu!” Yna dyma nhw'n troi a mynd yn eu blaenau ar eu taith. Pan sylweddolodd Micha eu bod nhw'n gryfach na'r criw o ddynion oedd gyda fe, dyma fe'n troi am adre. Aeth pobl llwyth Dan yn eu blaenau i Laish, gyda'r offeiriad a'r delwau roedd Micha wedi eu gwneud. Dyna lle roedd pobl Laish, yn gweld dim peryg o gwbl ac yn meddwl eu bod yn hollol saff. A dyma milwyr Dan yn ymosod arnyn nhw, ac yn llosgi'r dref yn ulw. Doedd neb yn gallu dod i'w helpu nhw. Roedden nhw'n rhy bell o Sidon i'r gorllewin, a doedd ganddyn nhw ddim cysylltiad hefo unrhyw un arall. Roedd y dref mewn dyffryn oedd ddim yn bell o Beth-rechof. Dyma lwyth Dan yn ailadeiladu'r dref, a symud i fyw yno. Cafodd y dref ei galw yn Dan, ar ôl eu hynafiad, oedd yn un o feibion Israel. Laish oedd yr hen enw arni. Dyma bobl Dan yn gosod yr eilun wedi ei gerfio i fyny i'w addoli, ac yn gwneud Jonathan (oedd yn un o ddisgynyddion Gershom, mab Moses) yn offeiriad. Roedd ei deulu e yn dal i wasanaethu fel offeiriaid i lwyth Dan adeg y gaethglud! Roedd llwyth Dan yn dal defnyddio'r eilun gafodd ei wneud gan Micha i'w addoli, yr holl amser roedd cysegr Duw yn Seilo. Doedd dim brenin yn Israel bryd hynny. Roedd rhyw ddyn o lwyth Lefi yn byw yn bell o bobman yng nghanol bryniau Effraim. A dyma fe'n cymryd dynes o Bethlehem yn Jwda i fyw gydag e fel ei bartner Ond roedd hi'n anffyddlon iddo, a dyma hi'n mynd yn ôl i fyw gyda'i theulu yn Bethlehem. Rhyw bedwar mis wedyn, dyma'r dyn yn mynd gyda'i was a dau asyn i geisio'i pherswadio i fynd yn ôl gydag e. Pan gyrhaeddodd, dyma hi'n mynd ag e i'w chartref, a dyma ei thad yn rhoi croeso brwd iddo. Dyma'r tad yn ei berswadio i aros am dri diwrnod, a dyna lle buodd e, yn bwyta ac yn yfed ac yn aros dros nos. Ond yna, ar y pedwerydd diwrnod, dyma fe'n codi'n gynnar a dechrau paratoi i adael. Dyma dad y ferch yn dweud wrtho, “Rhaid i ti gael tamaid i'w fwyta cyn mynd. Cewch fynd wedyn.” Felly dyma'r ddau ohonyn nhw'n cael pryd o fwyd gyda'i gilydd. A dyma dad y ferch yn dweud wrth y dyn, “Tyrd, aros un noson arall. Cei di amser da!” Roedd y dyn yn barod i fynd, ond dyma'r tad yn pwyso arno a'i berswadio i aros noson arall. Yna'n gynnar y bore wedyn, y pumed diwrnod, dyma'r dyn yn codi eto i fynd. Ond dyma dad y ferch yn dweud wrtho eto, “Rhaid i ti gael rhywbeth i dy gadw di i fynd! Pam wnei di ddim gadael ar ôl cinio?” Felly dyma'r ddau yn bwyta gyda'i gilydd eto. Rywbryd yn y p'nawn, dyma'r dyn yn codi i fynd gyda'i bartner a'i was. Ond dyma tad y ferch, yn dweud, “Gwranda, mae'n rhy hwyr yn y dydd. Aros un noson arall! Mae hi wedi mynd yn rhy hwyr i ti fynd bellach. Aros un noson arall i fwynhau dy hun. Wedyn cei godi'n gynnar bore fory a cychwyn ar dy daith am adre.” Ond doedd y dyn ddim am aros noson arall. Dyma fe a'i bartner yn cymryd y ddau asyn oedd wedi eu cyfrwyo, ac yn cychwyn ar y daith. Dyma nhw'n cyrraedd Jebws (sef, Jerwsalem). Erbyn hynny roedd hi'n dechrau nosi, a dyma'r gwas yn gofyn i'w feistr, “Beth am i ni aros yma dros nos, yn nhref y Jebwsiaid?” Dyma'r meistr yn ei ateb, “Na, allwn ni ddim aros gyda paganiaid sydd ddim yn perthyn i Israel. Awn ni ymlaen i Gibea. Gallwn ni ddod o hyd i rywle i aros, naill ai yn Gibea neu yn Rama.” Felly dyma nhw'n teithio yn eu blaenau. Pan gyrhaeddon nhw Gibea, sydd ar dir llwyth Benjamin, roedd yr haul wedi machlud. Felly dyma nhw'n penderfynu aros dros nos yno. Dyma nhw'n mynd i mewn i'r dref, ac eistedd i lawr i orffwys ar y sgwâr. Ond wnaeth neb eu gwahodd nhw i'w tŷ i aros dros nos. Ond yna, dyma ryw hen ddyn yn dod heibio. Roedd wedi bod yn gweithio yn y caeau drwy'r dydd ac ar ei ffordd adre. Roedd yn dod o fryniau Effraim yn wreiddiol, ond yn byw yn Gibea gyda phobl llwyth Benjamin. Pan welodd e'r teithiwr yn y sgwâr, dyma fe'n gofyn iddo, “O ble dych chi'n dod, ac i ble dych chi'n mynd?” A dyma'r dyn o lwyth Lefi yn dweud wrtho, “Dŷn ni ar ein ffordd adre o Bethlehem yn Jwda. Dw i'n byw mewn ardal ym mryniau Effraim sy'n bell o bobman. Dw i wedi bod i Bethlehem, a nawr dw i ar fy ffordd i Dabernacl yr ARGLWYDD. Ond does neb yn y dref yma wedi'n gwahodd ni i aros gyda nhw. Does gynnon ni angen dim byd. Mae gynnon ni ddigon o wellt a grawn i'n mulod, ac mae gynnon ni fwyd a gwin i'r tri ohonon ni — fi, dy forwyn, a'r bachgen ifanc sydd gyda ni.” “Mae croeso i chi ddod ata i!” meddai'r hen ddyn. “Gwna i ofalu amdanoch chi. Well i chi beidio aros ar sgwâr y dref drwy'r nos!” Felly dyma fe'n mynd â nhw i'w dŷ, ac yn bwydo'r asynnod. Wedyn ar ôl golchi eu traed dyma nhw'n cael pryd o fwyd gyda'i gilydd. Tra roedden nhw'n mwynhau eu hunain, dyma griw o rapsgaliwns o'r dref yn codi twrw, amgylchynu'r tŷ a dechrau curo ar y drws. Roedden nhw'n gweiddi ar yr hen ddyn, “Anfon y dyn sy'n aros gyda ti allan. Dŷn ni eisiau cael rhyw gydag e!” Ond dyma'r dyn oedd piau'r tŷ yn mynd allan atyn nhw, a dweud, “Na, ffrindiau. Peidiwch bod mor ffiaidd! Fy ngwestai i ydy'r dyn. Dych chi'n warthus! Mae gen i ferch sy'n wyryf, ac mae partner y dyn yma. Gwna i eu hanfon nhw allan. Gewch chi wneud beth leiciwch chi iddyn nhw. Ond peidiwch meddwl gwneud rhywbeth mor warthus i'r dyn yma!” Ond roedd y dynion yn gwrthod gwrando arno. Felly dyma'r dyn o lwyth Lefi yn gafael yn ei bartner ac yn ei gwthio hi allan atyn nhw. A buon nhw'n ei threisio hi a'i cham-drin hi drwy'r nos. Roedd hi bron yn gwawrio cyn iddyn nhw ei gollwng hi'n rhydd. Roedd hi'n dechrau goleuo pan gyrhaeddodd hi'r tŷ lle roedd ei gŵr yn aros. Syrthiodd ar lawr wrth y drws, a dyna lle buodd hi'n gorwedd nes oedd yr haul wedi codi. Pan gododd y gŵr y bore hwnnw, gan fwriadu cychwyn ar ei daith, agorodd y drws, a dyna lle roedd ei bartner. Roedd hi'n gorwedd wrth ddrws y tŷ, a'i dwylo ar y trothwy. “Tyrd, dŷn ni'n mynd,” meddai wrthi. Ond doedd dim ymateb. Felly dyma fe'n ei chodi ar ei asyn a mynd. Pan gyrhaeddodd adre, cymerodd gorff ei bartner a'i dorri'n un deg dau darn gyda chyllell. Yna dyma fe'n anfon y darnau, bob yn un, i bob rhan o Israel. Roedd pawb yn dweud, “Does yna ddim byd fel yma wedi digwydd erioed o'r blaen, ers i bobl Israel ddod allan o wlad yr Aifft! Meddyliwch am y peth! A trafodwch beth ddylid ei wneud.” Dyma bobl Israel yn dod at ei gilydd yn un dyrfa fawr o flaen yr ARGLWYDD yn Mitspa. Roedden nhw wedi dod o bobman — o Dan yn y gogledd i Beersheba yn y de, ac o wlad Gilead i'r dwyrain o Afon Iorddonen. A dyma arweinwyr llwythau Israel yn cymryd eu lle — roedd pedwar can mil o filwyr traed wedi eu harfogi yno i gyd. Dyma llwyth Benjamin yn clywed fod gweddill pobl Israel wedi dod at ei gilydd yn Mitspa. A dyma bobl Israel yn gofyn, “Sut allai peth mor ofnadwy fod wedi digwydd?” Dyma'r dyn o lwyth Lefi (gŵr y wraig oedd wedi cael ei llofruddio) yn dweud, “Roeddwn i a'm partner wedi mynd i Gibea, sydd ar dir Benjamin, i aros dros nos. A dyma arweinwyr Gibea yn dod ar fy ôl i, ac yn amgylchynu'r tŷ lle roedden ni'n aros. Roedden nhw am fy lladd i. Ond yn lle hynny dyma nhw'n treisio a cham-drin fy mhartner i nes buodd hi farw. Roedd yn beth erchyll i bobl Israel ei wneud. Felly dyma fi'n cymryd ei chorff, ei dorri'n ddarnau, ac anfon y darnau i bob rhan o dir Israel. Rhaid i chi, bobl Israel, benderfynu beth sydd i'w wneud!” A dyma nhw'n cytuno'n unfrydol, “Does neb ohonon ni am fynd adre — neb o gwbl — nes byddwn ni wedi delio gyda phobl Gibea. Rhaid i ni ymosod ar y dre. Gwnawn ni dynnu coelbren i benderfynu pa lwyth sydd i arwain yr ymosodiad. Bydd degfed ran o ddynion pob llwyth yn gyfrifol am nôl bwyd i'r milwyr. Pan fydd y fyddin yn cyrraedd Gibea byddan nhw'n eu cosbi nhw am wneud peth mor erchyll yn Israel.” Felly dyma ddynion Israel i gyd yn mynd gyda'i gilydd i ymosod ar dref Gibea. Dyma nhw'n anfon negeswyr at lwyth Benjamin, i ofyn, “Sut allech chi fod wedi gwneud peth mor ofnadwy? Anfonwch y rapsgaliwns yn Gibea sydd wedi gwneud hyn aton ni i gael eu dienyddio. Rhaid cael gwared â'r drwg yma o Israel.” Ond doedd pobl llwyth Benjamin ddim yn fodlon cydweithredu. Yn lle hynny, dyma nhw'n dod o'u trefi i Gibea, a chasglu yno i fynd i ryfel yn erbyn gweddill Israel. Roedd dau ddeg chwech mil o filwyr arfog o lwyth Benjamin wedi ymuno gyda'r saith mil o filwyr profiadol oedd yn Gibea ei hun. Roedd y fyddin yn cynnwys saith gant o ddynion llaw chwith oedd yn gallu taro targed trwch blewyn gyda carreg o ffon dafl. Roedd gan weddill Israel bedwar can mil o filwyr arfog profiadol. Cyn y frwydr roedden nhw wedi bod yn Bethel i ofyn i Dduw, “Pwy sydd i arwain y frwydr yn erbyn llwyth Benjamin?” A dyma'r ARGLWYDD yn ateb, “Llwyth Jwda sydd i arwain.” Yn gynnar y bore wedyn, dyma byddin Israel yn paratoi i ymosod ar Gibea. Dyma nhw'n mynd allan i ymladd yn erbyn llwyth Benjamin, a sefyll mewn trefn yn barod i ymosod ar Gibea. Ond dyma filwyr llwyth Benjamin yn dod allan o Gibea, a lladd dau ddeg dau mil o filwyr Israel yn y frwydr y diwrnod hwnnw. Ond wnaeth byddin Israel ddim digalonni. Dyma nhw'n mynd allan eto, ac yn sefyll mewn trefn yn yr un lle â'r diwrnod cynt. Roedden nhw wedi mynd yn ôl i Bethel, ac wedi bod yn crïo o flaen yr ARGLWYDD nes iddi nosi. Roedden nhw wedi gofyn i'r ARGLWYDD, “Ddylen ni fynd allan eto i ymladd yn erbyn ein brodyr o lwyth Benjamin, neu ddim?” Ac roedd yr ARGLWYDD wedi ateb, “Ewch i ymosod arnyn nhw!” Felly dyma fyddin Israel yn mynd allan i ymladd yn erbyn llwyth Benjamin yr ail ddiwrnod. Ond dyma filwyr Benjamin yn dod allan o Gibea unwaith eto, a lladd un deg wyth mil arall o filwyr Israel. Felly dyma fyddin Israel i gyd yn mynd yn ôl i Bethel. Buon nhw'n eistedd yno'n crïo o flaen yr ARGLWYDD, a wnaethon nhw ddim bwyta o gwbl nes roedd hi wedi nosi. Dyma nhw hefyd yn cyflwyno aberthau i'w llosgi ac offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. [27-28] Dyna lle roedd Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD ar y pryd, gyda Phineas (mab Eleasar ac ŵyr i Aaron) yn gwasanaethu fel offeiriad. A dyma nhw'n gofyn i'r ARGLWYDD, “Ddylen ni fynd allan eto i ymladd yn erbyn ein brodyr o lwyth Benjamin, neu roi'r gorau iddi?” A dyma'r ARGLWYDD yn ateb, “Ewch i ymosod arnyn nhw! Dw i'n mynd i'w rhoi nhw yn eich dwylo chi.” *** Felly dyma Israel yn anfon dynion i guddio o gwmpas Gibea, i ymosod yn ddirybudd. Y diwrnod wedyn dyma fyddin Israel yn mynd allan i ymosod ar lwyth Benjamin eto. Dyma nhw'n mynd ac yn sefyll mewn trefn fel o'r blaen, yn barod i ymosod ar Gibea. A dyma fyddin Benjamin yn dod allan i ymladd eto, gan adael y dref heb ei hamddiffyn. Dyma nhw'n dechrau taro byddin Israel, fel o'r blaen. Cafodd tua tri deg o filwyr Israel eu lladd yng nghefn gwlad ac ar y ffyrdd (sef y ffordd sy'n mynd i Bethel, a'r un sy'n mynd i Gibea). Roedd byddin Benjamin yn meddwl eu bod nhw'n eu curo nhw fel o'r blaen. Ond tacteg Israel oedd ffoi o'u blaenau nhw er mwyn eu harwain nhw i ffwrdd o dref Gibea i'r priffyrdd. Tra roedd byddin Israel i gyd yn mynd i Baal-tamar i ailgasglu at ei gilydd, dyma'r milwyr oedd yn cuddio i'r gorllewin o Gibea yn dod allan ac yn ymosod ar y dref — deg mil o filwyr profiadol i gyd. Roedd y brwydro yn filain, a doedd gan filwyr Benjamin ddim syniad eu bod nhw ar fin cael crasfa. Dyma'r ARGLWYDD yn taro byddin Benjamin i lawr o flaen milwyr Israel. Cafodd dau ddeg pum mil a chant o filwyr Benjamin eu lladd. Roedd byddin Benjamin yn gweld ei bod ar ben arnyn nhw! Roedd byddin Israel wedi ffoi o flaen milwyr llwyth Benjamin, gan wybod fod ganddyn nhw ddynion yn cuddio ac yn barod i ymosod ar Gibea. Ac roedd y dynion hynny wedi rhuthro i ymosod ar Gibea, a lladd pawb oedd yn byw yno. Roedden nhw wedi trefnu i roi arwydd i weddill y fyddin eu bod nhw wedi llwyddo. Bydden nhw'n cynnau tân a gwneud i golofn o fwg godi o'r dref. A dyna pryd fyddai byddin Israel yn troi a dechrau gwrthymosod. Roedd milwyr Benjamin eisoes wedi lladd rhyw dri deg o filwyr Israel ac yn meddwl eu bod nhw'n ennill y frwydr fel o'r blaen. Ond yna dyma nhw'n gweld colofn o fwg yn codi o'r dref. Roedd y dref i gyd ar dân, a mwg yn codi'n uchel i'r awyr. Pan drodd byddin Israel i ymladd, dyma filwyr llwyth Benjamin yn panicio — roedden nhw'n gweld ei bod hi ar ben arnyn nhw. Dyma nhw'n ffoi o flaen byddin Israel, ar hyd y ffordd i'r anialwch. Ond roedden nhw'n methu dianc. Roedd milwyr Israel yn eu taro nhw o bob cyfeiriad. Roedden nhw wedi amgylchynu byddin Benjamin a wnaethon nhw ddim stopio mynd ar eu holau. Roedden nhw'n eu taro nhw i lawr yr holl ffordd i'r dwyrain o Geba. Cafodd un deg wyth o filoedd, o filwyr gorau llwyth Benjamin, eu lladd. Dyma'r gweddill yn dianc i'r anialwch, i gyfeiriad Craig Rimmon. Ond lladdodd byddin Israel bum mil ohonyn nhw ar y ffordd. Dyma nhw'n aros yn dynn ar eu sodlau yr holl ffordd i Gidom, a lladd dwy fil arall. Felly cafodd dau ddeg pum mil o filwyr llwyth Benjamin eu lladd y diwrnod hwnnw — i gyd yn filwyr profiadol. Chwe chant oedd wedi llwyddo i ddianc i Graig Rimmon, a buon nhw yno am bedwar mis. Dyma fyddin Israel yn troi yn ôl a mynd drwy drefi Benjamin i gyd, yn lladd popeth byw, pobl ac anifeiliaid. Yna llosgi'r trefi'n llwyr, bob un. Yn Mitspa roedd pobl Israel wedi tyngu llw, “Fydd dim un ohonon ni yn gadael i'w ferch briodi dyn o lwyth Benjamin.” Felly dyma'r bobl yn mynd i Bethel ac eistedd o flaen yr ARGLWYDD yn beichio crïo'n uchel. “O ARGLWYDD, Duw Israel, pam mae hyn wedi digwydd? Mae un o lwythau Israel wedi diflannu heddiw!” Yna dyma'r bobl yn codi'n gynnar y bore wedyn ac yn adeiladu allor. A dyma nhw'n cyflwyno aberthau i'w llosgi ac offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. A dyma nhw'n gofyn, “Oes yna bobl o lwythau Israel wnaeth ddim dod i gyfarfod yr ARGLWYDD yn Mitspa? Roedden ni wedi addo ar lw y byddai'n rhaid i unrhyw un wnaeth ddim dod i gyfarfod yr ARGLWYDD gael ei ladd.” Roedden nhw'n wirioneddol sori am beth oedd wedi digwydd i lwyth Benjamin. “Heddiw, mae un o'r llwythau wedi ei dorri i ffwrdd o Israel!” medden nhw. “Sut allwn ni ddod o hyd i wragedd i'r rhai ohonyn nhw sy'n dal yn fyw? Dŷn ni wedi addo ar lw, o flaen yr ARGLWYDD, i beidio rhoi ein merched ni yn wragedd iddyn nhw.” Felly dyma nhw'n gofyn, “Oes yna bobl o lwythau Israel wnaeth ddim dod i gyfarfod yr ARGLWYDD yn Mitspa?” A dyma nhw'n darganfod fod neb o Jabesh yn Gilead wedi dod i'r cyfarfod. Pan oedden nhw wedi cyfri'r bobl, doedd neb o Jabesh yn Gilead yno. Felly dyma nhw'n anfon un deg dau o filoedd o filwyr i ymosod ar Jabesh yn Gilead. Y gorchymyn oedd i ladd pawb, gan gynnwys gwragedd a phlant. “Lladdwch y dynion a'r bechgyn i gyd, a phob gwraig sydd ddim yn wyryf. Yr unig rai i'w cadw'n fyw ydy'r merched ifanc sy'n wyryfon.” A dyna wnaethon nhw. Yn Jabesh yn Gilead dyma nhw'n dod o hyd i bedwar cant o ferched ifanc oedd yn wyryfon — merched oedd erioed wedi cael rhyw gyda dyn. A dyma nhw'n mynd â nhw yn ôl i'r gwersyll yn Seilo yn Canaan. Yna dyma bobl Israel yn cynnig telerau heddwch i ddynion Benjamin oedd wrth Graig Rimmon. Felly dyma ddynion Benjamin yn dod yn ôl, a dyma bobl Israel yn rhoi'r merched o Jabesh yn Gilead oedd wedi eu harbed iddyn nhw. Ond doedd dim digon o ferched iddyn nhw i gyd. Roedd y bobl yn wirioneddol sori am beth oedd wedi digwydd i lwyth Benjamin — roedd yr ARGLWYDD wedi gadael bwlch yn Israel. A dyma'r arweinwyr yn gofyn, “Sut ddown ni o hyd i wragedd i'r rhai sydd ar ôl? Mae merched llwyth Benjamin i gyd wedi eu lladd. Mae'n rhaid cadw'r llwyth i fynd. Allwn ni ddim colli llwyth cyfan o Israel. Ond allwn ni ddim rhoi ein merched ni yn wragedd iddyn nhw chwaith.” (Roedd pobl Israel wedi tyngu llw a chyhoeddi melltith ar unrhyw un fyddai'n rhoi gwraig i ddyn o lwyth Benjamin.) “Mae yna Ŵyl i'r ARGLWYDD yn cael ei chynnal yn Seilo bob blwyddyn. Mae'r Ŵyl yn cael ei chynnal i'r gogledd o Bethel ac i'r de o Lebona, ac i'r dwyrain o'r ffordd fawr sy'n rhedeg o Bethel i Sichem.” Felly dyma nhw'n dweud wrth ddynion Benjamin, “Ewch yno i guddio yn y gwinllannoedd. Pan fydd merched Seilo yn dod allan i ddawnsio, gallwch i gyd neidio allan a gafael mewn merch ac wedyn mynd â nhw gyda chi adre i dir Benjamin. Pan fydd tadau a brodyr y merched yn dod aton ni i gwyno byddwn ni'n dweud wrthyn nhw, ‘Plîs gadwch lonydd iddyn nhw. Wnaethon ni ddim llwyddo i gael gwraig i bob un ohonyn nhw drwy ymosod ar Jabesh yn Gilead. A wnaethoch chi ddim rhoi eich merched yn wirfoddol iddyn nhw, felly dych chi ddim yn euog o dorri'ch llw.’” A dyna wnaeth dynion Benjamin. Dyma nhw'n cipio dau gant o'r merched oedd yn dawnsio, a'u cymryd nhw'n wragedd iddyn nhw eu hunain. Wedyn dyma nhw'n mynd yn ôl adre i'w tiroedd eu hunain, ailadeiladu'r trefi, a setlo i lawr unwaith eto. A dyma weddill pobl Israel hefyd yn mynd yn ôl adre i'w tiroedd nhw. Doedd dim brenin yn Israel yr adeg yna. Roedd pawb yn gwneud beth oedden nhw'n feddwl oedd yn iawn. Yn ystod cyfnod y barnwyr buodd yna newyn yn y wlad. Felly aeth rhyw ddyn o Bethlehem yn Jwda i fyw i wlad Moab dros dro. Aeth â'i wraig a'i ddau fab gydag e. Elimelech oedd enw'r dyn, a Naomi oedd ei wraig. Machlon a Cilion oedd enwau'r ddau fab. Pobl o Effratha oedden nhw (sef yr hen enw ar Bethlehem yn Jwda). Dyma nhw'n mynd i wlad Moab ac yn aros yno. Ond wedyn dyma Elimelech, gŵr Naomi, yn marw, a'i gadael hi yn weddw gyda'i dau fab. Priododd y ddau fab ferched o wlad Moab (Orpa oedd enw un, a Ruth oedd y llall). Ar ôl iddyn nhw fod yno am tua deg mlynedd, dyma Machlon a Cilion yn marw hefyd. Cafodd Naomi ei gadael heb feibion a heb ŵr. Tra roedd hi'n dal yn byw yn Moab, clywodd Naomi fod Duw wedi rhoi bwyd i'w bobl. Felly, dyma hi a'i dwy ferch-yng-nghyfraith yn cychwyn yn ôl o wlad Moab. Dyma nhw'n gadael ble roedden nhw wedi bod yn byw, a cychwyn ar y daith yn ôl i wlad Jwda. Yna dyma Naomi yn dweud wrth ei merched-yng-nghyfraith, “Ewch chi yn ôl adre, y ddwy ohonoch chi. Ewch yn ôl at eich mamau. Bydded Duw mor garedig atoch chi ac y buoch chi ata i, ac at fy meibion sydd wedi marw. A bydded i Dduw roi cartref i chi a threfnu i chi'ch dwy briodi eto.” Wedyn dyma Naomi yn cusanu'r ddwy a ffarwelio â nhw, a dyma nhw'n dechrau crïo'n uchel. “Na!” medden nhw, “gad i ni fynd yn ôl gyda ti at dy bobl di.” Ond meddai Naomi, “Ewch adre, merched i. Pam fyddech chi eisiau dod gyda fi? Alla i byth gael meibion eto i chi eu priodi nhw. Ewch adre, merched i! Ewch! Dw i'n rhy hen i briodi eto. A hyd yn oed petai gobaith, a finnau'n cael gŵr heno ac yn cael plant, fyddech chi'n disgwyl iddyn nhw dyfu? Fyddech chi'n aros amdanyn nhw heb briodi? Na, merched i. Dw i ddim eisiau i chi ddiodde fel fi. Yr ARGLWYDD sydd wedi gwneud i mi ddiodde.” Dyma nhw'n dechrau crïo'n uchel eto. Wedyn dyma Orpa'n rhoi cusan i ffarwelio â Naomi. Ond roedd Ruth yn ei chofleidio'n dynn ac yn gwrthod gollwng gafael. Dwedodd Naomi wrthi, “Edrych, mae dy chwaer-yng-nghyfraith wedi mynd yn ôl at ei phobl a'i duw ei hun. Dos dithau ar ei hôl hi.” Ond atebodd Ruth, “Paid pwyso arna i i dy adael di a troi cefn arnat ti. Dw i am fynd i ble bynnag fyddi di yn mynd. A dw i'n mynd i aros ble bynnag fyddi di'n aros. Bydd dy bobl di yn bobl i mi, a dy Dduw di yn Dduw i mi. Ble bynnag fyddi di yn marw, dyna ble fyddai i yn marw ac yn cael fy nghladdu. Boed i Dduw ddial arna i os bydd unrhyw beth ond marwolaeth yn ein gwahanu ni'n dwy.” Pan welodd Naomi fod Ruth yn benderfynol o fynd gyda hi, ddwedodd hi ddim mwy am y peth. A dyma'r ddwy yn mynd yn eu blaenau nes iddyn nhw gyrraedd Bethlehem. Pan gyrhaeddon nhw Bethlehem roedd y dre i gyd wedi cynhyrfu. Roedd y merched yn holi, “Ai Naomi ydy hi?” A dyma hi'n ateb, “Peidiwch galw fi yn ‛Naomi‛. Galwch fi'n ‛Mara‛. Mae'r Un sy'n rheoli popeth wedi gwneud fy mywyd i yn chwerw iawn. Roedd fy mywyd i yn llawn pan es i oddi yma, ond mae Duw wedi dod â fi yn ôl yn wag. Sut allwch chi alw fi'n ‛Naomi‛, pan mae Duw wedi sefyll yn fy erbyn i, a'r Un sy'n rheoli popeth wedi dod â drwg arna i.” Felly daeth Naomi yn ôl o wlad Moab, gyda'i merch-yng-nghyfraith, Ruth, y Foabes. Dyma nhw'n cyrraedd Bethlehem ar ddechrau'r cynhaeaf haidd. Roedd gan Naomi berthynas i'w gŵr o'r enw Boas. Roedd yn ddyn pwysig, cyfoethog, ac yn perthyn i'r un teulu ag Elimelech. Dyma Ruth, y Foabes, yn dweud wrth Naomi, “Gad i mi fynd allan i'r caeau i gasglu grawn tu ôl i bwy bynnag fydd yn rhoi caniatâd i mi.” “Dos di, fy merch i,” meddai Naomi. A dyma Ruth yn mynd i'r caeau i gasglu grawn ar ôl y gweithwyr. Ac yn digwydd bod, dyma hi'n mynd i'r rhan o'r cae oedd piau Boas, perthynas Elimelech. A pwy fyddai'n meddwl! Dyma Boas yn dod o Fethlehem a chyfarch y gweithwyr yn y cynhaeaf. “Duw fyddo gyda chi!” meddai wrthyn nhw. A dyma nhw'n ateb, “Bendith Duw arnat tithau hefyd!” A dyma Boas yn gofyn i'r gwas oedd yn gofalu am y gweithwyr, “I bwy mae'r ferch acw'n perthyn?” “Hi ydy'r ferch o Moab ddaeth yn ôl gyda Naomi,” atebodd hwnnw. “Gofynnodd ganiatâd i gasglu grawn rhwng yr ysgubau tu ôl i'r gweithwyr. Mae hi wedi bod wrthi'n ddi-stop ers ben bore, a dim ond newydd eistedd i orffwys.” A dyma Boas yn mynd at Ruth a dweud, “Gwranda, fy merch i, paid mynd o'r fan yma i gae neb arall i gasglu grawn. Aros gyda'r merched sy'n gweithio i mi. Sylwa ble fyddan nhw'n gweithio, a'u dilyn nhw. Bydda i'n siarsio'r gweithwyr i beidio dy gyffwrdd di. A pan fydd syched arnat ti, dos i gael diod o'r llestri fydd fy ngweision i wedi eu llenwi.” Dyma Ruth yn plygu i lawr ar ei gliniau o'i flaen. “Pam wyt ti mor garedig ata i, ac yn cymryd sylw ohono i, a finnau'n dod o wlad arall?” “Dw i wedi clywed am y cwbl wyt i wedi ei wneud i dy fam-yng-nghyfraith ar ôl i dy ŵr di farw,” meddai Boas. “Dw i wedi clywed sut wnest ti adael dy dad a dy fam, a'r wlad lle cest ti dy eni, a dod i fyw i ganol pobl oedd yn ddieithr i ti. Boed i Dduw dy wobrwyo di am wneud hyn. Byddi'n cael dy dâl yn llawn gan yr ARGLWYDD, Duw Israel. Dan ei adain e rwyt wedi dod i gysgodi.” Dwedodd Ruth, “Ti'n garedig iawn ata i, syr. Rwyt ti wedi rhoi tawelwch meddwl i mi ac wedi codi fy nghalon i, er mod i'n neb o'i gymharu â'r merched sy'n gweithio i ti.” Amser bwyd, dyma Boas yn dweud wrth Ruth, “Tyrd i fwyta gyda ni! Dipia dy fara yn y saws.” Felly dyma hi'n eistedd gyda'r gweithwyr, a dyma Boas yn estyn grawn wedi ei grasu iddi. Cafodd Ruth ddigon i'w fwyta, ac roedd ganddi beth dros ben. Wedi iddi godi a mynd yn ôl i gasglu grawn, dyma Boas yn gorchymyn i'w weithwyr. “Gadewch iddi gasglu rhwng yr ysgubau a peidiwch â'i dwrdio hi. Dw i am i chi hyd yn oed dynnu peth allan o'r ysgubau a'i adael iddi ei gasglu. Peidiwch dweud y drefn wrthi am ei gymryd.” Felly buodd Ruth wrthi'n casglu grawn nes iddi nosi. Wedi iddi ddyrnu yr hyn roedd wedi ei gasglu, roedd ganddi dros ddeg cilogram o haidd! Dyma hi'n ei gario yn ôl adre, a gwelodd ei mam-yng-nghyfraith gymaint roedd hi wedi ei gasglu. A dyma Ruth yn rhoi'r bwyd oedd ganddi dros ben ers amser cinio hefyd. Gofynnodd Naomi iddi, “Ble fuost ti'n gweithio ac yn casglu grawn heddiw? Bendith Duw ar bwy bynnag gymrodd sylw ohonot!” A dyma Ruth yn esbonio ble roedd hi wedi bod. “Boas ydy enw'r dyn lle roeddwn i'n gweithio,” meddai. “Bendith Duw arno!” meddai Naomi, “Mae e wedi bod yn garedig aton ni sy'n fyw a'r rhai sydd wedi marw. Mae'r dyn yma yn perthyn i ni. Mae e'n un o'r rhai sy'n gyfrifol amdanon ni.” Meddai Ruth y Foabes, “Dwedodd wrtho i hefyd, ‘Aros gyda fy ngweithwyr i nes byddan nhw wedi gorffen casglu'r cynhaeaf i gyd.’” A dyma Naomi yn dweud wrth Ruth, “Ie, dyna'r peth gorau i ti ei wneud, fy merch i. Aros gyda'r merched sy'n gweithio iddo fe. Fel na fydd neb yn ymosod arnat ti mewn cae arall.” Felly dyma Ruth yn aros gyda morynion Boas. Buodd yn casglu grawn tan ddiwedd y cynhaeaf haidd a'r cynhaeaf gwenith. Ond roedd hi'n byw gyda'i mam-yng-nghyfraith. Dyma Naomi yn dweud wrth Ruth, “Fy merch i, dylwn i fod wedi chwilio am gartref i ti, er dy les di. “Nawr, mae Boas, y dyn buost ti'n gweithio gyda'i ferched e, yn berthynas agos i ni. Gwranda, heno mae'n mynd i nithio haidd ar y llawr dyrnu. Dos i ymolchi, rhoi colur, a gwisgo dy ddillad gorau, ac wedyn mynd i lawr i'r llawr dyrnu. Ond paid gadael iddo wybod dy fod ti yno nes bydd e wedi gorffen bwyta ac yfed. Yna, pan fydd e'n setlo i lawr i gysgu, sylwa ble mae e'n gorwedd. Dos ato a choda'r dillad wrth ei goesau, a gorwedd i lawr. Bydd e'n dweud wrthot ti beth i'w wneud.” Cytunodd Ruth, ac aeth i lawr i'r llawr dyrnu a gwneud yn union fel roedd ei mam-yng-nghyfraith wedi dweud wrthi. Ar ôl bwyta ac yfed roedd Boas yn teimlo'n fodlon braf. Aeth i gysgu wrth ymyl pentwr o ŷd. Dyma Ruth yn mynd ato yn ddistaw bach a chodi'r dillad wrth ei goesau a gorwedd i lawr. Ganol nos dyma Boas yn aflonyddu ac yn troi drosodd a ffeindio merch yn gorwedd wrth ei draed. “Pwy wyt ti?” gofynnodd iddi. “Ruth, dy forwyn di,” atebodd. “Wnei di ofalu amdana i? Ti ydy'r perthynas agosaf, sy'n gyfrifol am y teulu.” “Bendith Duw arnat ti, merch i,” meddai Boas. “Ti'n dangos cymaint o ymroddiad. Mae beth wyt ti'n wneud nawr yn well na'r hyn wyt wedi ei wneud yn barod. Gallet ti fod wedi mynd ar ôl un o'r dynion ifanc, boed hwnnw'n dlawd neu'n gyfoethog. Nawr te, merch i, paid poeni. Bydda i'n gwneud popeth rwyt ti wedi ei ofyn i mi. Mae'r dre i gyd yn gwybod dy fod ti'n ferch dda. “Nawr, mae'n wir fy mod i'n berthynas agos i ti, ond mae yna un sy'n perthyn yn agosach. Aros yma heno. Yn y bore, os bydd e am weithredu fel y perthynas sydd i ofalu amdanat ti, iawn. Ond os fydd e'n dewis peidio dw i'n addo'n bendant i ti y bydda i'n dy briodi di. Cysga yma tan y bore.” Felly dyma Ruth yn cysgu wrth ymyl Boas tan y bore. Dyma hi'n deffro cyn iddi oleuo. Dwedodd Boas wrthi, “Does neb i gael gwybod fod merch wedi bod i'r llawr dyrnu.” Yna dwedodd, “Tyrd, estyn y siôl wyt ti'n ei gwisgo. Dal hi allan.” Dyma hi'n gwneud hynny, a dyma Boas yn rhoi tua 35 cilogram o haidd iddi, ac yna ei godi ar ei hysgwydd. A dyma Ruth yn mynd adre. Pan gyrhaeddodd adre dyma Naomi, ei mam-yng-nghyfraith, yn gofyn iddi, “Sut aeth hi, merch i?” Dyma Ruth yn dweud am bopeth oedd y dyn wedi ei wneud iddi. Ac meddai, “Mae e wedi rhoi'r haidd yma i mi — mae tua 35 cilogram! Dwedodd wrtho i. ‘Dwyt ti ddim yn mynd yn ôl at dy fam-yng-nghyfraith yn waglaw,’” Ac meddai Naomi, “Disgwyl di, merch i, i ni gael gweld sut fydd pethau yn troi allan. Fydd y dyn yma ddim yn gorffwys nes bydd e wedi setlo'r mater heddiw.” Aeth Boas i'r llys wrth giât y dre ac eistedd yno. Cyn hir dyma'r perthynas agos roedd e wedi sôn wrth Ruth amdano yn dod heibio. “Gyfaill, tyrd yma,” galwodd Boas arno. “Tyrd i eistedd yma wrth fy ymyl i.” A dyma fe'n dod ac eistedd. Wedyn dyma Boas yn cael gafael ar ddeg o arweinwyr y dre, a'u cael nhw hefyd i eistedd gydag e. Wedyn dyma fe'n dweud wrth y perthynas agos, “Mae Naomi wedi dod yn ôl o wlad Moab, ac mae hi'n gwerthu'r darn o dir oedd gan Elimelech, ein perthynas ni. Roeddwn yn meddwl y dylwn adael i ti wybod, i ti ddweud o flaen y bobl a'r arweinwyr sydd yma os wyt ti am ei brynu. Os wyt ti eisiau ei brynu e, cymera fe, os nad wyt ti gad i mi wybod. Gen ti mae'r hawl cyntaf, ac yna fi ar dy ôl di.” A dyma'r perthynas yn ateb, “Ydw, dw i am ei brynu.” Wedyn dyma Boas yn dweud, “Pan fyddi di'n cymryd y tir, bydd rhaid i ti gymryd Ruth y Foabes hefyd. Ruth ydy gweddw'r dyn sydd wedi marw. Dy gyfrifoldeb di fydd codi etifedd iddo i gadw ei enw ar ei etifeddiaeth.” “Alla i ddim ei brynu felly,” meddai'r perthynas, “neu bydda i'n difetha fy etifeddiaeth fy hun. Cymer di'r cyfrifoldeb i'w brynu. Alla i ddim.” (Dyma oedd y drefn yn Israel ers talwm wrth drosglwyddo'r hawl i brynu eiddo yn ôl: byddai dyn yn tynnu un o'i sandalau a'i rhoi hi i'r llall. Dyna oedd y ffordd yn Israel o gadarnhau y cytundeb.) Felly, dyma'r perthynas agos yn dweud wrth Boas, “Cymer di'r hawl i'w brynu,” a dyma fe'n tynnu ei sandal a'i rhoi i Boas. Felly dyma Boas yn dweud wrth yr arweinwyr a phawb arall oedd yno, “Dych chi'n dystion, heddiw, fy mod i'n mynd i brynu gan Naomi bopeth oedd piau Elimelech a'i feibion Cilion a Machlon. Dw i hefyd yn derbyn y cyfrifoldeb am Ruth y Foabes, gweddw Machlon. Dw i'n ei chymryd hi'n wraig i mi er mwyn codi etifedd i gadw enw'r un fu farw ar ei etifeddiaeth, rhag i'r enw ddiflannu o'r dref. Dych chi'n dystion i hyn, heddiw!” A dyma'r arweinwyr a phawb arall oedd yn y llys yn dweud, “Ydyn, dŷn ni'n dystion. Boed i Dduw wneud y ferch yma sy'n dod i dy dŷ di yn debyg i Rachel a Lea, y ddwy sefydlodd Israel. A boed i tithau lwyddo yn Effrata, a gwneud enw i ti dy hun yn Bethlehem. A thrwy'r ferch ifanc yma mae e wedi ei rhoi i ti, boed i Dduw wneud dy deulu di fe teulu Perets roddodd Tamar i Jwda.” Felly dyma Boas yn priodi Ruth ac yn cysgu gyda hi. Dyma'r ARGLWYDD yn gadael iddi feichiogi, a chafodd fab. A dyma'r gwragedd yn dweud wrth Naomi, “Bendith ar yr ARGLWYDD! Wnaeth e ddim dy adael heb berthynas i ofalu amdanat ti! Bydd e'n enwog yn Israel. Bydd e'n rhoi bywyd yn ôl i ti. Bydd e'n gofalu amdanat yn dy henaint. Mae dy ferch-yng-nghyfraith sy'n dy garu di wedi rhoi genedigaeth iddo — ac mae hi'n well na saith mab i ti!” A dyma Naomi yn cymryd y bachgen ar ei glin a'i fagu. Dyma'r gwragedd lleol yn rhoi'r enw Obed iddo, a dweud, “Mae Naomi wedi cael mab!” Obed oedd tad Jesse a thaid y brenin Dafydd. Dyma ddisgynyddion Perets: Perets oedd tad Hesron, Hesron oedd tad Ram, Ram oedd tad Aminadab, Aminadab oedd tad Nachshon, Nachshon oedd tad Salmon, Salmon oedd tad Boas, Boas oedd tad Obed, Obed oedd tad Jesse, a Jesse oedd tad Dafydd. Roedd yna ddyn o'r enw Elcana yn byw yn Rama ym mryniau Effraim. Roedd yn perthyn i deulu Swff, un o hen deuluoedd Effraim (Ierocham oedd ei dad, a hwnnw'n fab i Elihw, mab Tochw, mab Swff.) Roedd gan Elcana ddwy wraig, Hanna a Penina. Roedd plant gan Penina ond ddim gan Hanna. Bob blwyddyn byddai Elcana yn mynd i Seilo i addoli a cyflwyno aberthau i'r ARGLWYDD holl-bwerus. Yr offeiriaid yno oedd Hoffni a Phineas, meibion Eli. Pan fyddai Elcana yn aberthu byddai'n arfer rhoi cyfran o'r cig bob un i Penina a'i meibion a'i merched i gyd. Ond byddai'n rhoi cyfran sbesial i Hanna, am ei fod yn ei charu, er fod Duw wedi ei rhwystro hi rhag cael plant. Roedd Penina yn arfer herian Hanna yn arw a'i phryfocio am ei bod yn methu cael plant. Yr un peth oedd yn digwydd bob blwyddyn pan oedden nhw'n mynd i gysegr yr ARGLWYDD. Byddai Penina yn pryfocio Hanna nes ei bod yn crïo ac yn gwrthod bwyta. A byddai Elcana yn dweud wrthi, “Hanna, pam wyt ti'n crïo a ddim yn bwyta? Pam wyt ti mor ddigalon? Ydw i ddim yn well na deg mab i ti?” Un tro, ar ôl iddyn nhw orffen bwyta ac yfed yn Seilo, dyma Hanna'n codi a mynd i weddïo. (Roedd Eli'r offeiriad yn eistedd ar gadair wrth ddrws y deml ar y pryd.) Roedd hi'n torri ei chalon ac yn beichio crïo wrth weddïo ar yr ARGLWYDD. A dyma hi'n addo i Dduw, “ARGLWYDD holl-bwerus, plîs wnei di gymryd sylw ohono i, a peidio troi oddi wrtho i? Os gwnei di roi mab i mi, gwna i ei roi i'r ARGLWYDD am ei oes, a fydd e byth yn torri ei wallt.” Buodd Hanna'n gweddïo'n hir ar yr ARGLWYDD, ac roedd Eli wedi sylwi arni. Am ei bod hi'n gweddïo'n dawel, roedd e'n gweld ei gwefusau'n symud ond heb glywed dim, felly roedd e'n meddwl ei bod hi wedi meddwi. A dwedodd wrthi, “Pam wyt ti'n meddwi fel yma? Rho'r gorau iddi! Sobra!” Atebodd Hanna, “Na wir, syr! Dw i mor anhapus. Dw i ddim wedi bod yn yfed o gwbl. Dw i wedi bod yn bwrw fy mol o flaen yr ARGLWYDD. Paid meddwl amdana i fel gwraig ddrwg, da i ddim. Dw i wedi bod yn dweud wrtho mor boenus a thrist dw i'n teimlo.” “Dos adre yn dawel dy feddwl,” meddai Eli, “a boed i Dduw Israel roi i ti beth wyt ti eisiau.” A dyma hi'n ateb, “Ti mor garedig, syr.” Felly aeth i ffwrdd a dechrau bwyta eto. Roedd yn edrych yn llawer hapusach. Bore drannoeth, dyma nhw'n codi ac addoli Duw cyn mynd adre'n ôl i Rama. Dyma Elcana'n cysgu gyda'i wraig, a cofiodd yr ARGLWYDD ei gweddi. Daeth Hanna'n feichiog, a cyn diwedd y flwyddyn roedd wedi cael mab. Galwodd e'n Samuel, am ei bod wedi gofyn i'r ARGLWYDD amdano. Daeth yn amser i Elcana a'i deulu fynd i Seilo unwaith eto, i aberthu a cyflawni addewid wnaeth e i Dduw. Ond aeth Hanna ddim y tro yma. “Dw i ddim am fynd nes bydd y bachgen yn gallu gwneud heb y fron,” meddai wrth ei gŵr. “Gwna i fynd ag e wedyn a'i gyflwyno i'r ARGLWYDD, a bydd e'n aros yno o hynny ymlaen.” Meddai Elcana, “Gwna di beth ti'n feddwl sydd orau. Aros nes bydd y bachgen ddim angen y fron, ond boed i Dduw dy gadw at dy addewid.” Felly arhosodd Hanna adre a magu'r plentyn nes ei fod ddim angen y fron. Pan oedd yn ddigon hen, aeth Hanna â'r bachgen i fyny i gysegr yr ARGLWYDD yn Seilo. Aeth â tarw teirblwydd oed, llond sach o flawd, a photel groen o win gyda hi. Aeth â fe i gysegr yr ARGLWYDD yn Seilo, er mai plentyn ifanc oedd e. Wedi iddyn nhw ladd y tarw, dyma nhw'n mynd â'r bachgen at Eli. Dyma Hanna yn cyfarch Eli a dweud, “Syr, wir i chi, fi ydy'r wraig oedd yn sefyll yma wrth eich ymyl chi yn gweddïo ar Dduw. Am y bachgen yma roeddwn i'n gweddïo, ac mae Duw wedi ateb fy ngweddi! Felly dw i'n ei roi e i'r ARGLWYDD. Dw i'n ei roi e i'r ARGLWYDD am weddill ei fywyd.” Yna dyma nhw'n addoli'r ARGLWYDD yno. Dyma Hanna yn gweddïo fel hyn: “Dw i mor falch o'r ARGLWYDD. Gallaf godi fy mhen a chwerthin ar fy ngelynion, am fy mod mor hapus dy fod wedi fy achub. Does neb yn sanctaidd fel yr ARGLWYDD. Does neb tebyg i ti. Does neb yn graig sy'n amddiffyn fel ein Duw ni. Peidiwch brolio'ch hunain a siarad mor snobyddlyd, oherwydd mae'r ARGLWYDD yn Dduw sy'n gwybod popeth, ac mae'n barnu popeth sy'n cael ei wneud. Bydd grym milwrol y rhai cryfion yn cael ei dorri, ond bydd y rhai sy'n baglu yn cael nerth. Bydd y rhai sydd ar ben eu digon yn gorfod gweithio i fwyta, ond bydd y rhai sy'n llwgu yn cael eu llenwi. Bydd y wraig sy'n methu cael plant yn cael saith, ond yr un sydd â llawer yn llewygu. Yr ARGLWYDD sy'n lladd a rhoi bywyd. Fe sy'n gyrru rhai i'r bedd ac yn achub eraill oddi yno. Yr ARGLWYDD sy'n gwneud rhai yn dlawd ac eraill yn gyfoethog; fe sy'n tynnu rhai i lawr ac yn codi eraill i fyny. Mae e'n codi pobl dlawd o'r baw, a'r rhai sydd mewn angen o'r domen sbwriel i eistedd gyda'r bobl fawr ar y sedd anrhydedd. Duw sy'n dal colofnau'r ddaear, a fe roddodd y byd yn ei le arnyn nhw. Mae e'n gofalu am y rhai sy'n ffyddlon iddo, ond bydd y rhai drwg yn darfod yn y tywyllwch, achos dydy pobl ddim yn llwyddo yn eu nerth eu hunain. Bydd gelynion yr ARGLWYDD yn cael eu dryllio, bydd e'n taranu o'r nefoedd yn eu herbyn. Yr ARGLWYDD sy'n barnu'r byd i gyd. Mae'n rhoi grym i'w frenin, a buddugoliaeth i'r un mae wedi ei ddewis.” Yna aeth Elcana adre i Rama. Ond arhosodd y bachgen Samuel i wasanaethu'r ARGLWYDD dan ofal Eli, yr offeiriad. Roedd meibion Eli yn ddynion drwg. Doedden nhw ddim yn nabod yr ARGLWYDD. Beth oedd yr offeiriaid i fod i'w wneud pan oedd rhywun yn dod i offrymu aberth oedd hyn: Wrth iddyn nhw ferwi'r cig, byddai gwas yr offeiriaid yn dod hefo fforch â tair pig iddi yn ei law. Byddai'n gwthio'r fforch i'r badell, y fasged neu'r crochan, a beth bynnag fyddai'r fforch yn ei godi, dyna oedd siâr yr offeiriad. Ond beth oedd yn digwydd yn Seilo pan oedd pobl o bob rhan o Israel yn dod yno oedd hyn: Roedd gwas yr offeiriad yn mynd atyn nhw cyn iddyn nhw hyd yn oed gael cyfle i losgi'r braster, a dweud wrth yr un oedd yn offrymu, “Rho beth o'r cig i'r offeiriad ei rostio. Does ganddo ddim eisiau cig wedi ei ferwi, dim ond cig ffres.” Os oedd rhywun yn ateb, “Gad i'r braster gael ei losgi gynta, yna cei di gymryd beth bynnag wyt ti'n ei ffansïo,” byddai'r gwas yn dweud, “Na! rho fe i mi nawr. Os na wnei di, bydda i'n defnyddio grym.” Roedd yr ARGLWYDD yn ystyried hyn yn bechod difrifol. Doedd y dynion ifanc yma'n dangos dim parch at beth oedd i fod yn rhodd i'r ARGLWYDD. Roedd y bachgen Samuel yn gwasanaethu'r ARGLWYDD, ac yn gwisgo effod o liain main. Roedd ei fam yn arfer gwneud mantell fach iddo bob blwyddyn, ac yn dod â hi iddo pan fyddai hi a'i gŵr yn dod i fyny i gyflwyno eu haberth. Byddai Eli yn bendithio Elcana a'i wraig, a dweud, “Boed i'r ARGLWYDD roi plant i ti a Hanna yn lle yr un mae hi wedi ei fenthyg iddo.” Yna bydden nhw'n mynd yn ôl adre. A dyma Duw yn gadael i Hanna gael mwy o blant. Cafodd dri o fechgyn a dwy ferch. Yn y cyfamser roedd y bachgen Samuel yn tyfu o flaen yr ARGLWYDD. Roedd Eli wedi mynd yn hen iawn. Byddai'n clywed o hyd am bopeth roedd ei feibion yn ei wneud i bobl Israel (ac roedd e'n gwybod hefyd eu bod nhw'n cael rhyw gyda'r merched oedd yn gweini wrth y fynedfa i Babell Presenoldeb Duw.) Byddai'n dweud wrthyn nhw, “Pam dych chi'n bihafio fel yma? Dw i'n clywed gan bawb am y pethau drwg dych chi'n eu gwneud. Rhaid i chi stopio, fechgyn. Dydy'r straeon sy'n mynd o gwmpas amdanoch chi ddim yn dda. Os ydy rhywun yn pechu yn erbyn person arall, gall droi at Dduw am help. Ond os ydy rhywun yn pechu yn erbyn yr ARGLWYDD, pwy sy'n mynd i'w helpu?” Ond roedd meibion Eli yn gwrthod gwrando ar eu tad, achos roedd yr ARGLWYDD wedi penderfynu eu lladd nhw. Roedd y bachgen ifanc Samuel yn tyfu ac yn plesio'r ARGLWYDD a phobl. Daeth dyn oedd yn proffwydo at Eli a dweud wrtho, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Gwnes i ddangos fy hun yn glir i dy hynafiaid di yn yr Aifft pan oedden nhw'n gaethweision i'r Pharo. Gwnes i eich dewis chi, allan o holl lwythau Israel, i fod yn offeiriaid; i offrymu ar fy allor i, i losgi arogldarth ac i gario'r effod o'm blaen i. Chi gafodd y cyfrifoldeb o drin yr offrymau mae pobl Israel yn eu cyflwyno i'w llosgi i mi. Felly, pam dych chi'n difrïo'r aberthau a'r offrymau dw i wedi rhoi gorchymyn amdanyn nhw. Pam wyt ti'n dangos mwy o barch at dy feibion nag ata i? Dych chi'n stwffio'ch hunain gyda'r darnau gorau o offrymau fy mhobl Israel!’ “Felly, dyma neges yr ARGLWYDD, Duw Israel: ‘Do, gwnes i ddweud yn glir y byddai dy deulu di yn cael fy ngwasanaethu i am byth. Ond bellach fydd ddim o'r fath beth!’ Dyma neges yr ARGLWYDD: ‘Dw i'n rhoi parch i'r rhai sy'n fy mharchu i, ac yn ddibris o'r rhai sy'n fy nghymryd i yn ysgafn. Gwylia di, mae'r amser yn dod pan fydda i'n dy ddifa di a dy deulu. Fydd yna neb yn dy deulu di yn byw i fod yn hen! Byddi'n gweld helynt yn fy nghysegr i. Bydd pethau da yn digwydd i Israel, ond fydd neb yn byw i fod yn hen yn dy deulu di. Bydda i'n gadael un o dy deulu ar ôl i wasanaethu wrth fy allor, ond bydd hwnnw'n colli ei olwg ac yn torri ei galon. Bydd gweddill dy ddisgynyddion yn marw yn ddynion ifainc. “‘A dyma'r arwydd i brofi i ti fod hyn yn wir: bydd dy ddau fab, Hoffni a Phineas, yn marw ar yr un diwrnod! Wedyn bydda i'n dewis offeiriad sy'n ffyddlon i mi. Bydd e'n fy mhlesio i ac yn gwneud beth dw i eisiau. Bydda i'n rhoi llinach sefydlog iddo, a bydd e'n gwasanaethu'r un fydda i'n ei eneinio'n frenin am byth. Bydd pwy bynnag fydd ar ôl o dy deulu di yn dod a plygu o'i flaen i ofyn am arian neu damaid i'w fwyta. Byddan nhw'n crefu am unrhyw fath o waith fel offeiriad, er mwyn cael rhywbeth i'w fwyta.’” [1-2] Roedd y bachgen Samuel yn dal i wasanaethu'r ARGLWYDD gydag Eli, oedd erbyn hynny wedi dechrau colli ei olwg ac yn mynd yn ddall. Yr adeg yna doedd pobl ddim yn cael neges gan Dduw yn aml, nac yn cael gweledigaethau. Ond digwyddodd rhywbeth un noson, tra roedd Eli'n cysgu yn ei ystafell. *** Doedd lamp Duw ddim wedi diffodd, ac roedd Samuel hefyd yn cysgu yn y deml lle roedd Arch Duw. Dyma'r ARGLWYDD yn galw ar Samuel, a dyma Samuel yn ateb, “Dyma fi,” yna rhedeg at Eli a dweud, “Dyma fi, gwnest ti alw.” Ond dyma Eli'n ateb, “Naddo, wnes i ddim dy alw di, dos yn ôl i gysgu.” Felly aeth Samuel yn ôl i orwedd. Dyma'r ARGLWYDD yn galw ar Samuel eto. Cododd a mynd at Eli a dweud, “Dyma fi, gwnest ti ngalw i.” “Naddo, machgen i,” meddai Eli, “wnes i ddim dy alw di. Dos yn ôl i gysgu.” (Roedd hyn i gyd cyn i Samuel ddod i nabod yr ARGLWYDD. Doedd e erioed wedi cael neges gan Dduw o'r blaen.) Galwodd yr ARGLWYDD ar Samuel y trydydd tro; a dyma Samuel yn mynd at Eli a dweud, “Dyma fi, gwnest ti fy ngalw i.” Dyna pryd sylweddolodd Eli mai'r ARGLWYDD oedd yn galw'r bachgen. A dwedodd wrtho, “Dos yn ôl i gysgu. Pan fydd e'n dy alw di eto, ateb fel yma: ‘Siarada ARGLWYDD, mae dy was yn gwrando.’” Felly dyma Samuel yn mynd yn ôl orwedd i lawr. A dyma'r ARGLWYDD yn dod ato eto, a galw arno fel o'r blaen, “Samuel! Samuel!”. A dyma Samuel yn ateb, “Siarada, mae dy was yn gwrando.” A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Samuel, “Dw i yn mynd i wneud rhywbeth yn Israel fydd yn sioc ofnadwy i bawb fydd yn clywed am y peth. Mae popeth dw i wedi sôn wrth Eli amdano — popeth ddywedais i fyddai'n digwydd i'w deulu — yn mynd i ddod yn wir! Dw i wedi dweud wrtho fy mod yn mynd i gosbi ei deulu am byth. Roedd e'n gwybod fod ei feibion yn melltithio Duw, ac eto wnaeth e ddim dweud y drefn wrthyn nhw. A dyna pam dw i wedi addo ar lw am deulu Eli, na fydd unrhyw aberth nac offrwm byth yn gallu gwneud iawn am eu pechod.” Arhosodd Samuel yn ei wely tan y bore. Yna dyma fe'n codi i agor drysau cysegr yr ARGLWYDD. Roedd arno ofn dweud wrth Eli am y weledigaeth. Ond dyma Eli'n ei alw, “Samuel, machgen i.” A dyma fe'n ateb, “Dyma fi.” A dyma Eli'n gofyn iddo, “Beth ddwedodd Duw wrthot ti? Paid cuddio dim oddi wrtho i. Boed i Dduw dy gosbi di os byddi di'n cuddio unrhyw beth ddwedodd e oddi wrtho i!” Felly dyma Samuel yn dweud popeth wrtho. Wnaeth e guddio dim. Ymateb Eli oedd, “Yr ARGLWYDD ydy e, a bydd e'n gwneud beth mae e'n wybod sydd orau.” Wrth i Samuel dyfu i fyny, roedd Duw gydag e. Daeth pob neges roddodd e gan Dduw yn wir. Roedd Israel gyfan, o Dan yn y gogledd i Beersheba yn y de, yn gwybod fod Duw wedi dewis Samuel yn broffwyd. Roedd yr ARGLWYDD yn dal i ymddangos i Samuel yn Seilo, ac yn rhoi negeseuon iddo yno. A byddai Samuel yn rhannu'r neges gydag Israel gyfan. Dyma Israel yn mynd i ryfel yn erbyn y Philistiaid. Roedden nhw'n gwersylla yn Ebeneser, tra roedd y Philistiaid yn gwersylla yn Affec. Dyma'r Philistiaid yn trefnu eu byddin yn rhengoedd. Dechreuodd yr ymladd, a dyma Israel yn colli. Cafodd tua pedair mil o'u dynion eu lladd. Pan ddaeth gweddill y fyddin yn ôl i'r gwersyll, dyma arweinwyr Israel yn dechrau holi, “Pam wnaeth yr ARGLWYDD adael i'r Philistiaid ein curo ni? Gadewch i ni ddod ag Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD yma aton ni o Seilo. Os bydd hi'n mynd gyda ni, bydd yn ein hachub ni o afael y gelyn!” Felly dyma nhw'n anfon i Seilo i nôl Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD holl-bwerus, sy'n eistedd uwch ben y ceriwbiaid. Roedd meibion Eli, Hoffni a Phineas, yno gyda'r Arch. Pan gyrhaeddodd Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD y gwersyll, dyma pawb yn bloeddio gweiddi mor uchel roedd fel petai'r ddaear yn crynu! Pan glywodd y Philistiaid y sŵn, dyma nhw'n holi, “Pam maen nhw'n bloeddio fel yna yng ngwersyll yr Hebreaid?” Yna dyma nhw'n sylweddoli fod Arch yr ARGLWYDD wedi dod i'r gwersyll. Roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau. “Mae hi ar ben arnon ni,” medden nhw. “Mae'r duwiau wedi dod i'w gwersyll nhw. Does dim byd fel yma wedi digwydd o'r blaen. Mae hi ar ben arnon ni go iawn. Pwy sy'n mynd i'n hachub ni o afael y duwiau cryfion yma? Dyma'r duwiau wnaeth daro'r Eifftiaid mor ofnadwy yn yr anialwch. Philistiaid, rhaid i chi fod yn ddewr! Byddwch yn ddynion! Neu byddwch chi'n mynd yn gaeth i'r Hebreaid fel buon nhw yn gaeth i chi. Byddwch yn ddynion, ac ymladd!” Felly dyma'r Philistiaid yn ymosod ar Israel. Collodd Israel y frwydr, a dyma'r fyddin i gyd yn dianc am adre. Roedd lladdfa fawr. Cafodd tua tri deg mil o filwyr traed Israel eu lladd. Cafodd Arch Duw ei chipio hefyd, a cafodd Hoffni a Phineas, meibion Eli, eu lladd. Dyma ddyn o lwyth Benjamin yn rhedeg o'r frwydr a chyrraedd Seilo yr un diwrnod. Roedd wedi rhwygo ei ddillad a rhoi pridd ar ei ben. Pan gyrhaeddodd Seilo, roedd Eli'n eistedd ar gadair wrth ymyl y ffordd yn disgwyl am newyddion. Roedd yn poeni'n fawr am Arch Duw. Daeth y dyn i'r dre a pan ddwedodd beth oedd wedi digwydd dyma pawb yn dechrau wylo yn uchel. Pan glywodd Eli yr holl sŵn, gofynnodd, “Beth ydy'r holl gyffro yna?” Yna dyma'r dyn yn brysio draw i ddweud yr hanes wrth Eli (oedd yn naw deg wyth mlwydd oed ac yn ddall.) “Dw i wedi dianc o'r frwydr,” meddai'r dyn, “gwnes i ddianc oddi yno heddiw.” “Sut aeth pethau, machgen i?” holodd Eli. A dyma'r negesydd yn ateb, “Mae Israel wedi ffoi o flaen y Philistiaid, ac mae llawer iawn wedi cael eu lladd. Mae dy ddau fab di, Hoffni a Phineas, wedi eu lladd, ac mae Arch Duw wedi cael ei chipio.” Pan glywodd Eli am Arch Duw syrthiodd wysg ei gefn oddi ar ei gadair wrth ymyl y giât. Am ei fod mor hen, ac yn ddyn mawr trwm, torrodd ei wddf a marw. Roedd wedi arwain Israel am bedwar deg o flynyddoedd. Roedd ei ferch-yng-nghyfraith, gwraig Phineas, yn disgwyl plentyn ac yn agos iawn i'w hamser. Pan glywodd hi'r newyddion fod Arch Duw wedi ei chipio a bod ei thad-yng-nghyfraith a'i gŵr wedi marw, plygodd yn ei dyblau am fod y plentyn yn dechrau dod. Ond roedd y poenau yn ormod iddi. Pan oedd hi ar fin marw, dwedodd y merched oedd gyda hi, “Paid bod ag ofn, rwyt ti wedi cael mab!” Ond wnaeth hi ddim ymateb na chymryd unrhyw sylw. A dyma hi'n rhoi'r enw Ichabod i'r babi. “Mae ysblander Duw wedi gadael Israel,” meddai (am fod Arch Duw wedi ei chipio a'i thad-yng-nghyfraith a'i gŵr wedi marw.) “Mae ysblander Duw wedi gadael Israel, achos mae Arch Duw wedi ei chipio,” meddai. Wedi iddyn nhw gipio Arch Duw, dyma'r Philistiaid yn mynd â hi o Ebeneser i Ashdod. Aethon nhw â hi i deml eu duw Dagon, a'i gosod hi wrth ochr y ddelw o Dagon. Bore trannoeth, pan gododd pobl Ashdod, roedd Dagon wedi syrthio ar ei wyneb o flaen Arch Duw. Felly dyma nhw yn ei godi a'i osod yn ôl yn ei le. Yna pan godon nhw'n gynnar y bore wedyn roedd Dagon wedi syrthio ar ei wyneb eto o flaen Arch Duw. Roedd ei ben a'i ddwy law wedi eu torri i ffwrdd, ac yn gorwedd wrth y drws. Dim ond corff Dagon oedd yn un darn. (Dyna pam mae offeiriaid Dagon hyd heddiw, a phawb arall sy'n dod i deml Dagon, yn osgoi camu ar stepen drws y deml yn Ashdod.) Cosbodd yr ARGLWYDD bobl Ashdod yn drwm, ac achosi hafoc yno. Cafodd pobl Ashdod, a'r ardal o'i chwmpas, eu taro'n wael gyda chwyddau cas drostyn nhw. Pan sylweddolodd pobl Ashdod beth oedd yn digwydd, dyma nhw'n dweud, “Ddylai Arch Duw Israel ddim aros yma gyda ni. Mae e wedi'n taro ni a Dagon ein duw ni!” Felly dyma nhw'n casglu llywodraethwyr trefi'r Philistiaid at ei gilydd, a gofyn, “Be wnawn ni ag Arch Duw Israel?” A dyma nhw'n ateb, “Ei symud hi i Gath ”. Felly dyma nhw'n symud yr Arch yno. Ond wedi iddi gyrraedd Gath, dyma'r ARGLWYDD yn cosbi'r dref honno hefyd. Cafodd pawb eu taro gyda chwyddau cas. Roedd hi'n banig llwyr yno! Felly dyma nhw'n anfon Arch Duw ymlaen i Ecron. Ond pan gyrhaeddodd yno dechreuodd pobl Ecron brotestio, “Maen nhw wedi gyrru Arch Duw Israel aton ni i'n lladd ni a'n teuluoedd!” A dyma nhw'n casglu llywodraethwyr trefi'r Philistiaid at ei gilydd eto, a dweud wrthyn nhw, “Anfonwch Arch Duw Israel yn ôl i'w lle ei hun, neu bydd e'n ein lladd ni a'n teuluoedd.” Roedd y dref gyfan mewn panig llwyr, am fod Duw yn eu taro nhw mor drwm. Os nad oedd pobl yn marw roedden nhw'n cael eu taro'n wael gyda chwyddau cas drostyn nhw. Roedd pobl y dref yn galw i'r nefoedd am help. Roedd Arch yr ARGLWYDD wedi bod yng ngwlad y Philistiaid am saith mis. A dyma'r Philistiaid yn galw'r offeiriaid a'r rhai oedd yn dewino a gofyn iddyn nhw, “Be wnawn ni gydag Arch yr ARGLWYDD? Dwedwch wrthon ni sut ddylen ni ei hanfon yn ôl i'w lle ei hun.” Dyma nhw'n ateb, “Os ydych chi am anfon Arch Duw Israel yn ôl, peidiwch gwneud hynny heb anfon rhywbeth hefo hi. Gwnewch yn siŵr eich bod yn anfon offrwm i gyfaddef bai gyda hi. Fel yna cewch eich iacháu a chewch wybod pam wnaeth e eich cosbi chi.” “Ond beth ddylen ni ei anfon fel offrwm i gyfaddef ein bai?” medden nhw. Atebodd yr offeiriaid, “Mae pump llywodraethwr gan y Philistiaid, a dych chi a nhw wedi eich taro gan yr un afiechyd. Felly gwnewch bump model aur o'r chwyddau a pump model o'r llygod sy'n difa'r wlad, fel teyrnged i Dduw Israel. Falle y bydd e'n stopio'ch cosbi chi, a'ch duwiau a'ch gwlad. Pam dylech chi fod yn ystyfnig fel y Pharo a phobl yr Aifft? Gwnaeth Duw ffyliaid ohonyn nhw, ac roedd rhaid iddyn nhw adael i bobl Israel fynd! Felly, gwnewch wagen newydd sbon a gosod dwy fuwch sy'n magu lloi ac erioed wedi bod mewn harnais i'w thynnu. Cymerwch y lloi oddi arnyn nhw a'u rhoi yn y cwt. Yna rhowch Arch Duw ar y wagen, a rhowch y pethau aur sy'n offrwm i gyfaddef bai mewn bocs wrth ei hochr. Yna gyrrwch y wagen i ffwrdd a gwylio. Os bydd hi'n mynd adre i gyfeiriad tref Beth-shemesh, byddwn yn gwybod mai Duw Israel wnaeth anfon yr haint ofnadwy yma arnon ni. Ond os na fydd hi'n mynd y ffordd honno, yna byddwn yn gwybod mai nid fe wnaeth ein taro ni, ac mai cyd-ddigwyddiad oedd y cwbl.” A dyna wnaeth y Philistiaid. Dyma nhw'n cymryd dwy fuwch oedd yn magu lloi a'i clymu wrth wagen, a rhoi eu lloi mewn cwt. Yna dyma nhw'n rhoi Arch Duw ar y wagen, a'r bocs gyda'r llygod aur a'r modelau o'r chwyddau ynddo. A dyma'r gwartheg yn mynd yn syth i gyfeiriad Beth-shemesh. Roedden nhw'n brefu wrth fynd, ond wnaethon nhw ddim troi oddi ar y ffordd o gwbl. Cerddodd llywodraethwyr y Philistiaid ar eu holau, nes cyrraedd cyrion Beth-shemesh. Roedd pobl Beth-shemesh yn y dyffryn yn casglu'r cynhaeaf gwenith. Pan welon nhw'r Arch roedden nhw wrth eu boddau. Daeth y wagen i stop wrth ymyl carreg fawr yng nghae Josua, un o ddynion Beth-shemesh. Dyma nhw'n torri'r wagen yn goed tân ac aberthu'r ddwy fuwch a'u llosgi yn offrwm i Dduw. Daeth Lefiaid yno i godi'r Arch i lawr, a'r bocs oedd yn dal y modelau aur, a'u gosod nhw ar y garreg fawr. Ar y diwrnod hwnnw dyma bobl Beth-shemesh yn cyflwyno offrymau i'w llosgi'n llwyr ac aberthau i'r ARGLWYDD. Arhosodd pump llywodraethwr y Philistiaid i wylio beth oedd yn digwydd, cyn mynd yn ôl i Ecron yr un diwrnod. Roedd y chwyddau aur roddodd y Philistiaid i fod yn offrwm i gyfaddef eu bai i'r ARGLWYDD: un dros dref Ashdod, un dros Gasa, un dros Ashcelon, un dros Gath ac un dros Ecron. Yna roedd yna lygoden aur ar gyfer pob un o drefi caerog llywodraethwyr y Philistiaid, a'r pentrefi gwledig o'u cwmpas hefyd. Mae'r garreg fawr y cafodd Arch Duw ei gosod arni yn dal yna yng nghae Josua hyd heddiw. Ond dyma rai o bobl Beth-shemesh yn cael eu taro gan yr ARGLWYDD, am eu bod nhw wedi edrych i mewn i Arch Duw. Buodd saith deg ohonyn nhw farw, ac roedd pobl Beth-shemesh yn galaru'n fawr am fod Duw wedi eu taro nhw mor galed. “Pwy sy'n gallu sefyll o flaen yr ARGLWYDD, y Duw sanctaidd yma?” medden nhw. “At bwy ddylai'r Arch fynd o'r fan yma?” Felly dyma nhw'n anfon neges i Ciriath-iearim, “Mae'r Philistiaid wedi anfon Arch yr ARGLWYDD yn ôl. Dewch i lawr i'w chymryd hi'n ôl.” Felly dyma bobl Ciriath-iearim yn nôl Arch yr ARGLWYDD, a mynd â hi i ben y bryn i dŷ Abinadab. Yna dyma nhw'n cysegru Eleasar, ei fab e, i ofalu am yr Arch. Aeth y blynyddoedd heibio. Roedd hi tua dau ddeg o flynyddoedd ers i'r Arch ddod i Ciriath-iearim, ac roedd pobl Israel i gyd yn dyheu am yr ARGLWYDD eto. Dwedodd Samuel wrth bobl Israel, “Os ydych chi wir am droi yn ôl at Dduw â'ch holl galon, taflwch allan eich duwiau eraill, a'r delwau sydd gynnoch chi o'r dduwies Ashtart. Rhowch eich hunain yn llwyr i'r ARGLWYDD, a'i addoli e a neb arall. Wedyn bydd e'n eich achub chi oddi wrth y Philistiaid.” Felly dyma bobl Israel yn cael gwared â'r delwau o Baal a'r dduwies Ashtart, a dechrau addoli'r ARGLWYDD yn unig. Dwedodd Samuel wrthyn nhw am gasglu pawb at ei gilydd yn Mitspa. “Gwna i weddïo ar yr ARGLWYDD trosoch chi,” meddai. Wedi iddyn nhw ddod at ei gilydd yn Mitspa, dyma nhw'n codi dŵr o'r ffynnon a'i dywallt ar lawr fel offrwm i Dduw. Wnaethon nhw ddim bwyta trwy'r dydd. “Dŷn ni wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD,” medden nhw. (A Samuel oedd yn arwain pobl Israel yn Mitspa.) Clywodd y Philistiaid fod pobl Israel wedi dod at ei gilydd yn Mitspa. Felly dyma lywodraethwyr y Philistiaid yn penderfynu ymosod arnyn nhw. Roedd pobl Israel wedi dychryn pan glywon nhw hyn. Dyma nhw'n dweud wrth Samuel, “Dal ati i weddïo'n daer ar yr ARGLWYDD ein Duw, iddo'n hachub ni rhag y Philistiaid.” Felly dyma Samuel yn cymryd oen sugno a'i losgi'n gyfan yn offrwm i Dduw. Roedd Samuel yn gweddïo dros Israel, a dyma Duw yn ateb. Roedd y Philistiaid ar fin ymosod ar Israel wrth i Samuel gyflwyno'r offrwm. A'r foment honno dyma'r ARGLWYDD yn anfon anferth o storm daranau, wnaeth yrru'r Philistiaid i banig llwyr, a dyma nhw'n ffoi o flaen byddin Israel. Aeth dynion Israel allan o Mitspa ar eu holau, a lladd llawer iawn ohonyn nhw yr holl ffordd i'r ochr isaf i Beth-car. Yna dyma Samuel yn gosod carreg i fyny rhwng Mitspa a'r clogwyn. Rhoddodd yr enw Ebeneser iddi (sef ‛Carreg Help‛), a dweud, “Mae'r ARGLWYDD wedi'n helpu ni hyd yma.” Roedd y Philistiaid wedi eu trechu, a wnaethon nhw ddim ymosod ar Israel eto. Tra roedd Samuel yn fyw roedd yr ARGLWYDD yn delio gyda'r Philistiaid. Cafodd Israel y trefi roedd y Philistiaid wedi eu cymryd oddi arnyn nhw yn ôl, a'r tir o'u cwmpas nhw, o Ecron yn y gogledd i Gath yn y de. Roedd heddwch rhwng pobl Israel a'r Amoriaid. Buodd Samuel yn arwain Israel am weddill ei fywyd. Bob blwyddyn byddai'n mynd ar gylchdaith o Bethel i Gilgal ac yna i Mitspa. Byddai'n cynnal llys ym mhob tref yn ei thro cyn mynd yn ôl adre i Rama. Dyna lle roedd yn byw, ac o'r fan honno roedd e'n arwain Israel. Roedd wedi codi allor i'r ARGLWYDD yno hefyd. Pan oedd Samuel wedi mynd yn hen, rhoddodd y gwaith o arwain Israel i'w feibion. Joel oedd enw'r hynaf ac Abeia oedd y llall. Roedd eu llys nhw yn Beersheba. Ond doedden nhw ddim yr un fath â'u tad. Roedden nhw'n twyllo er mwyn cael arian, ac yn derbyn breib am roi dyfarniad annheg. Felly dyma arweinwyr Israel yn cyfarfod a mynd i weld Samuel yn Rama. Medden nhw wrtho, “Ti'n mynd yn hen a dydy dy feibion di ddim yn dilyn dy esiampl di. Felly gad i ni gael brenin i'n harwain, yr un fath â'r gwledydd eraill i gyd.” Doedd y cais yma am frenin ddim yn plesio Samuel o gwbl. Felly dyma fe'n gweddïo ar yr ARGLWYDD. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Gwna bopeth mae'r bobl yn ei ofyn. Dim ti maen nhw'n ei wrthod; fi ydy'r un maen nhw wedi ei wrthod fel eu brenin. Mae'r un hen stori eto! Maen nhw wedi gwneud hyn ers i mi ddod â nhw allan o wlad yr Aifft — fy ngwrthod i ac addoli duwiau eraill. A nawr rwyt ti'n cael yr un driniaeth. Felly gwna beth maen nhw'n ofyn. Ond rhybuddia nhw'n glir, iddyn nhw ddeall y canlyniadau, a beth fydd y brenin yn ei wneud.” Felly dyma Samuel yn dweud wrth y bobl oedd yn gofyn am frenin beth roedd yr ARGLWYDD wedi ei ddweud wrtho. Dwedodd, “Dyma sut fydd y brenin yn eich trin chi: Bydd yn cymryd eich meibion a'u gwneud nhw'n farchogion, i yrru ei gerbydau rhyfel ac i fod yn warchodwyr personol iddo. Bydd yn gwneud rhai yn gapteiniaid ar unedau o fil neu o hanner cant. Bydd eraill yn gweithio ar ei dir e, ac yn casglu'r cnydau. Yna eraill eto yn gwneud arfau ac offer ar gyfer ei gerbydau rhyfel. Bydd yn cymryd eich merched hefyd i gymysgu persawr, i goginio ac i bobi bara iddo. Bydd yn cymryd eich caeau, a'ch gwinllannoedd a'ch gerddi olewydd gorau, a'u rhoi i'w swyddogion. Bydd yn hawlio treth o un rhan o ddeg o'ch grawn a'ch gwin a'i roi i weision y palas a'r swyddogion eraill. Bydd yn cymryd eich gweision a'ch morynion, eich gwartheg gorau a'ch asynnod i weithio iddo fe'i hun. A bydd yn cymryd un o bob deg o'ch defaid a'ch geifr. Byddwch chi'n gaethweision iddo! Bryd hynny byddwch chi'n cwyno am y brenin wnaethoch chi ei ddewis, a fydd Duw ddim yn gwrando arnoch chi.” Ond doedd y bobl ddim am wrando ar Samuel. “Na,” medden nhw, “dŷn ni eisiau brenin. Dŷn ni eisiau bod yr un fath â'r gwledydd eraill i gyd. Dŷn ni eisiau brenin i lywodraethu arnon ni, a'n harwain ni i ryfel.” Ar ôl gwrando ar bopeth ddwedodd y bobl, dyma Samuel yn mynd i ddweud am y cwbl wrth yr ARGLWYDD. “Gwna beth maen nhw'n ei ofyn,” meddai'r ARGLWYDD wrth Samuel, “a rho frenin iddyn nhw.” Yna dyma Samuel yn dweud wrth ddynion Israel, “Ewch adre i gyd.” Roedd yna ddyn yn perthyn i lwyth Benjamin o'r enw Cish. Roedd yn ddyn pwysig; yn fab i Abiel, mab Seror, mab Becorath, mab Affeia. Roedd gan Cish ei hun fab o'r enw Saul, oedd yn ddyn ifanc arbennig iawn. Doedd neb tebyg iddo yn Israel gyfan. Roedd yn dalach na phawb arall. Roedd rhai o asennod Cish, tad Saul, wedi mynd ar goll. A dyma Cish yn dweud wrth Saul, “Cymer un o'r gweision hefo ti, a dos i chwilio am yr asennod.” Felly dyma Saul a'r gwas yn croesi bryniau Effraim drwy ardal Shalisha, ond methu dod o hyd iddyn nhw. Ymlaen wedyn drwy ardal Shaalîm, ac yna drwy ardal Benjamin, ond dal i fethu dod o hyd iddyn nhw. Pan ddaethon nhw i ardal Swff, dyma Saul yn dweud wrth y gwas, “Well i ni fynd yn ôl adre. Bydd dad wedi anghofio am yr asennod a dechrau poeni amdanon ni.” Ond meddai'r gwas wrtho, “Mae yna ddyn sy'n proffwydo yn byw y dre acw. Mae parch mawr ato, am fod popeth mae'n ei ddweud yn dod yn wir. Gad i ni fynd i'w weld e. Falle y bydd e'n gallu dweud wrthon ni pa ffordd i fynd.” “Iawn,” meddai Saul, “ond be rown ni iddo? Does gynnon ni ddim bwyd ar ôl hyd yn oed, a dim byd arall i'w gynnig iddo.” Dyma'r gwas yn dweud, “Edrych mae gen i un darn arian bach — dydy e'n ddim llawer, ond gwna i roi hwn i'r proffwyd am ddweud wrthon ni ble i fynd.” (Ers talwm, pan oedd rhywun yn Israel yn mynd i ofyn cyngor Duw, roedden nhw'n dweud: “Dewch i ni fynd at y gweledydd.” Gweledydd oedden nhw'n galw proffwyd bryd hynny.) Atebodd Saul ei was, “Gwych! Tyrd, gad i ni fynd.” Felly dyma nhw'n mynd i'r dre lle roedd proffwyd Duw. Wrth fynd i fyny'r allt at y dre dyma nhw'n cyfarfod merched ifanc yn mynd i nôl dŵr. A dyma ofyn iddyn nhw, “Ydy'r gweledydd yma?” “Ydy,” meddai'r merched, “yn syth o'ch blaen acw. Ond rhaid i chi frysio. Mae e newydd gyrraedd y dre am fod y bobl am gyflwyno aberth ar yr allor leol heddiw. Os ewch i mewn i'r dre, byddwch yn ei ddal e cyn iddo fynd at yr allor i fwyta. Fydd y bobl ddim yn bwyta cyn iddo fe gyrraedd, am fod rhaid iddo fendithio'r aberth. Dim ond wedyn y bydd y rhai sydd wedi cael eu gwahodd yn bwyta. Os ewch chi nawr, byddwch chi'n dod o hyd iddo'n syth.” Aeth y ddau i fyny i'r dre. Ac wrth fynd i mewn dyna lle roedd Samuel yn dod i'w cyfarfod. Roedd e ar ei ffordd i'r allor leol. Roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Samuel y diwrnod cynt fod Saul yn mynd i ddod yno: “Tua'r adeg yma fory, dw i'n mynd i anfon dyn o lwyth Benjamin atat ti. Dw i eisiau i ti ei eneinio fe i arwain fy mhobl Israel. Bydd e'n achub fy mhobl o afael y Philistiaid. Dw i wedi bod yn gwylio fy mhobl, ac wedi eu clywed nhw'n galw am help.” Pan welodd Samuel Saul, dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Dacw'r dyn wnes i ddweud wrthot ti amdano. Fe sy'n mynd i arwain fy mhobl i.” Roedden nhw wrth giât y ddinas, a dyma Saul yn gofyn i Samuel, “Alli di ddweud wrtho i ble mae'r gweledydd yn byw?” “Fi ydy'r gweledydd,” meddai Samuel wrtho. “Dos o'm blaen at yr allor. Cewch chi'ch dau fwyta gyda mi heddiw, wedyn fory cei fynd ar dy ffordd ar ôl i mi ddweud am bopeth sy'n dy boeni di. Paid poeni am yr asennod sydd wedi bod ar goll ers tridiau. Maen nhw wedi dod o hyd iddyn nhw. Pwy wyt ti'n feddwl mae Israel i gyd yn dyheu amdano? Ie, ti ydy e, a theulu dy dad.” Ond dyma Saul yn ateb, “Sut mae hynny'n bosib? I lwyth Benjamin dw i'n perthyn, y llwyth lleiaf yn Israel! Ac mae fy nheulu i yn un o deuluoedd mwyaf cyffredin Benjamin. Pam wyt ti'n dweud peth felly wrtho i?” Yna dyma Samuel yn mynd â Saul a'i was i'r neuadd fwyta, a rhoi'r seddi gorau iddyn nhw ar ben y bwrdd. Roedd yna tua tri deg o bobl wedi eu gwahodd i gyd. Wedyn dyma Samuel yn dweud wrth y cogydd, “Dos i nôl y darn yna o gig wnes i ddweud wrthot ti am ei gadw o'r neilltu.” A dyma'r cogydd yn dod â darn uchaf y goes a'i osod o flaen Saul. Ac meddai Samuel, “Mae'r darn yna i ti — mae wedi ei gadw i ti. Bwyta fe, achos pan o'n i'n gwahodd pobl yma, dwedais fod hwn i gael ei gadw ar dy gyfer di.” Felly dyma Saul yn bwyta gyda Samuel y diwrnod hwnnw. Wedi iddyn nhw ddod yn ôl o'r allor i'r dre, buodd Samuel yn siarad yn breifat gyda Saul ar do fflat y tŷ. Ben bore wedyn, pan oedd hi'n gwawrio, dyma Samuel yn galw ar Saul, oedd ar y to: “Cod, i mi dy anfon di ar dy ffordd.” Felly dyma Saul yn codi, a dyma fe a'i was yn mynd allan hefo Samuel. Pan ddaethon nhw i gyrion y dre, dyma Samuel yn dweud wrth Saul, “Dywed wrth dy was am fynd yn ei flaen. Dw i eisiau i ti aros i mi roi neges gan Dduw i ti.” Dyma Samuel yn cymryd potel o olew olewydd a'i dywallt ar ben Saul. Yna ei gyfarch e gyda chusan, a dweud, “Mae'r ARGLWYDD yn dy eneinio di i arwain ei bobl e, Israel. Byddi'n arwain ei bobl ac yn eu hachub nhw o afael y gelynion sydd o'u cwmpas. A dyma beth fydd yn digwydd i ddangos i ti mai'r ARGLWYDD sydd wedi dy ddewis di i arwain ei bobl: Wrth i ti adael heddiw byddi'n cyfarfod dau ddyn wrth ymyl bedd Rachel, yn Seltsach ar ffin Benjamin. Byddan nhw'n dweud: ‘Mae'r asennod wyt ti wedi bod yn chwilio amdanyn nhw wedi dod i'r golwg. Dydy dy dad ddim yn poeni amdanyn nhw bellach. Poeni amdanoch chi mae e, a gofyn, “Be ddylwn i ei wneud am fy mab?”’ “Byddi'n mynd yn dy flaen wedyn, a dod at dderwen Tabor, lle byddi'n cyfarfod tri dyn ar eu ffordd i addoli Duw yn Bethel — un yn cario tair gafr ifanc, un arall yn cario tair torth o fara, a'r olaf yn cario potel groen o win. Byddan nhw'n dy gyfarch ac yn rhoi dwy dorth i ti. Cymer nhw ganddyn nhw. “Wedyn, dos ymlaen i Gibeath Elohîm lle mae garsiwn milwrol gan y Philistiaid. Wrth i ti gyrraedd y dre, byddi'n cyfarfod criw o broffwydi yn dod i lawr o'r allor leol ar y bryn. Bydd nabl, drwm, pib a thelyn yn mynd o'u blaenau nhw, a hwythau'n dilyn ac yn proffwydo. A bydd Ysbryd yr ARGLWYDD yn dod yn rymus arnat tithau, a byddi'n proffwydo gyda nhw. Byddi fel person gwahanol. “Pan fydd yr arwyddion yma i gyd wedi digwydd gwna beth bynnag sydd angen ei wneud, achos mae Duw gyda ti. “Wedyn dos i Gilgal. Bydda i'n dod yno atat ti i gyflwyno offrymau i'w llosgi ac offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Aros amdana i am wythnos, a bydda i'n dod i ddangos i ti be i'w wneud nesaf.” Wrth i Saul droi i ffwrdd i adael Samuel dyma Duw yn newid ei agwedd yn llwyr. A dyma'r arwyddion i gyd yn digwydd y diwrnod hwnnw. Pan gyrhaeddodd Saul a'i was Gibea dyma griw o broffwydi yn dod i'w cyfarfod nhw. A dyma Ysbryd yr ARGLWYDD yn dod ar Saul, a dechreuodd broffwydo gyda nhw. Pan welodd pawb oedd yn ei nabod Saul yn proffwydo gyda'r proffwydi, dyma nhw'n dweud wrth ei gilydd, “Be yn y byd sydd wedi digwydd i fab Cish? Ydy Saul hefyd yn un o'r proffwydi?” A dyma un dyn lleol yn ateb “Ydy e o bwys pwy ydy eu tad nhw?” A dyna lle dechreuodd y dywediad, “Ydy Saul yn un o'r proffwydi?” Ar ôl gorffen proffwydo, dyma Saul yn mynd at yr allor leol. Gofynnodd ei ewythr iddo fe a'i was, “Ble dych chi wedi bod?” “I chwilio am yr asennod,” meddai Saul. “Ac am ein bod yn methu eu ffeindio nhw aethon ni at Samuel.” “A be ddwedodd Samuel wrthoch chi?” meddai'r ewythr. “Dweud wrthon ni eu bod nhw wedi ffeindio'r asennod,” meddai Saul. Ond ddwedodd e ddim gair am beth oedd Samuel wedi ei ddweud wrtho am fod yn frenin. Dyma Samuel yn galw'r bobl at ei gilydd i Mitspa i gyfarfod yr ARGLWYDD. Dwedodd wrth bobl Israel, “Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Des i ag Israel allan o'r Aifft. Gwnes i'ch achub chi o afael yr Eifftiaid a'r gwledydd eraill i gyd oedd yn eich gormesu chi. Ond erbyn hyn dych chi wedi gwrthod eich Duw sydd wedi'ch achub chi o bob drwg a helynt. Dych chi wedi dweud, “Na! Rho frenin i ni.”’ “Felly nawr,” meddai Samuel, “dw i eisiau i chi sefyll o flaen yr ARGLWYDD bob yn llwyth a theulu.” A dyma fe'n dod â pob un o lwythau Israel o flaen Duw yn eu tro. Dyma lwyth Benjamin yn cael ei ddewis. Wedyn daeth â llwyth Benjamin ymlaen fesul clan. A dyma glan Matri yn cael ei ddewis. Ac yn y diwedd dyma Saul fab Cish yn cael ei ddewis. Roedden nhw'n chwilio amdano ond yn methu dod o hyd iddo. Felly dyma nhw'n gofyn i'r ARGLWYDD eto, “Ydy'r dyn yna wedi dod yma?” Ac ateb Duw oedd, “Dacw fe, yn cuddio yng nghanol yr offer.” Dyma nhw'n rhedeg yno i'w nôl a'i osod i sefyll yn y canol. Roedd e'n dalach na phawb arall o'i gwmpas. A dyma Samuel yn dweud wrth y bobl, “Ydych chi'n gweld y dyn mae'r ARGLWYDD wedi ei ddewis i chi? Does neb tebyg iddo.” A dyma'r bobl i gyd yn gweiddi, “Hir oes i'r brenin!” Wedyn dyma Samuel yn esbonio i'r bobl yr holl drefn o gael brenin, a'i ysgrifennu mewn sgrôl. Cafodd honno ei chadw o flaen yr ARGLWYDD. Wedyn dyma Samuel yn anfon y bobl i gyd adre. Aeth Saul adre hefyd, i Gibea. A dyma ddynion dewr oedd wedi eu cyffwrdd gan Dduw yn mynd gydag e. Ond roedd yna rai eraill, rhyw ddynion da i ddim, yn dweud, “Sut all hwn ein hachub ni?” Roedden nhw'n ei wfftio, a ddaethon nhw ddim ag anrheg iddo. Ond ddwedodd Saul ddim byd am y peth. Dyma Nachash, brenin Ammon, yn arwain ei fyddin i ymosod ar dref Jabesh yn Gilead. Dyma ddynion Jabesh yn dweud wrth Nachash, “Gwna gytundeb â ni, a down ni'n weision i ti.” Dyma Nachash yn ateb, “Gwna i gytundeb â chi, ond bydd rhaid tynnu allan llygad dde pob un ohonoch chi. Fel yna bydda i yn codi cywilydd ar Israel gyfan.” Dyma arweinwyr Jabesh yn dweud wrtho, “Gad lonydd i ni am wythnos, i ni gael anfon negeswyr i bobman yn Israel. Os fydd neb yn barod i ddod i'n hachub ni, byddwn ni'n ildio i ti.” Pan ddaeth y negeswyr i Gibea (lle roedd Saul yn byw) a dweud beth oedd yn digwydd dyma'r bobl i gyd yn dechrau crïo'n uchel. Ar y pryd roedd Saul ar ei ffordd adre o'r caeau gyda'i ychen. “Be sy'n bod?” meddai. “Pam mae pawb yn crïo?” A dyma nhw'n dweud am neges pobl Jabesh wrtho. Pan glywodd Saul hyn, dyma Ysbryd Duw yn dod arno'n rymus. Roedd wedi gwylltio'n lân. Dyma fe'n lladd pâr o ychen a'u torri nhw'n ddarnau mân, ac anfon negeswyr gyda'r darnau i bob ardal yn Israel. Roedden nhw i fod i gyhoeddi: “Pwy bynnag sy'n gwrthod cefnogi Saul a Samuel a dod allan i ymladd, dyma fydd yn digwydd i'w ychen e!” Roedd yr ARGLWYDD wedi codi ofn ar bawb, felly dyma nhw'n dod allan fel un dyn. Pan wnaeth Saul eu cyfri nhw yn Besec, roedd yna 300,000 o ddynion o Israel a 30,000 o Jwda. Dyma nhw'n dweud wrth y negeswyr oedd wedi dod o Jabesh, “Dwedwch wrth bobl Jabesh yn Gilead, ‘Erbyn canol dydd fory, byddwch wedi'ch achub.’” Pan aeth y negeswyr a dweud hyn wrth bobl Jabesh, roedden nhw wrth eu boddau. Felly dyma nhw'n dweud wrth Nachash, “Yfory byddwn ni'n dod allan atoch chi, a cewch wneud fel y mynnoch hefo ni.” Y noson honno dyma Saul yn rhannu'r dynion yn dair mintai. Dyma nhw'n mynd i mewn i wersyll byddin Ammon cyn iddi wawrio, a buon nhw'n taro byddin Ammon tan ganol dydd. Roedd y rhai oedd yn dal yn fyw ar chwâl, pob un ohonyn nhw ar ei ben ei hun. Yna dyma'r bobl yn gofyn i Samuel, “Ble mae'r rhai oedd yn dweud, ‘Fydd Saul yn frenin arnon ni?’ Dewch â nhw yma. Maen nhw'n haeddu marw!” Ond dyma Saul yn dweud, “Does neb i gael ei ladd heddiw. Mae'n ddiwrnod pan mae'r ARGLWYDD wedi rhoi buddugoliaeth i Israel!” “Dewch,” meddai Samuel, “gadewch i ni fynd i Gilgal, a sefydlu'r frenhiniaeth yno eto.” Felly dyma'r bobl i gyd yn mynd i Gilgal a gwneud Saul yn frenin yno o flaen yr ARGLWYDD. Yna dyma nhw'n cyflwyno offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Roedd Saul a pobl Israel i gyd yn dathlu yno. Dyma Samuel yn dweud wrth bobl Israel: “Edrychwch, dw i wedi gwneud popeth dych chi wedi ei ofyn, ac wedi rhoi brenin i chi. O hyn ymlaen, y brenin fydd yn eich arwain chi. Dw i'n hen ŵr a'm gwallt yn wyn, ac mae fy meibion i gynnoch chi. Dw i wedi eich arwain chi ers pan oeddwn i yn ifanc. Dyma fi. Dewch, cyhuddwch fi o flaen yr ARGLWYDD a'r un mae e wedi ei eneinio'n frenin. Ydw i wedi cymryd ychen rhywun? Ydw i wedi cymryd asyn rhywun? Ydw i wedi twyllo unrhyw un? Ydw i wedi gwneud i unrhyw un ddioddef? Ydw i wedi derbyn breib gan unrhyw un i gau fy llygaid i ryw ddrwg? Dwedwch wrtho i. Gwna i dalu'r cwbl yn ôl.” Ond dyma nhw'n ateb, “Na, dwyt ti ddim wedi'n twyllo ni, na gwneud i ni ddioddef, na chymryd dim gan unrhyw un.” Yna dyma Samuel yn dweud, “Mae ARGLWYDD yn dyst heddiw, a'r brenin ddewisodd e, eich bod chi wedi cael hyd i ddim byd o gwbl yn fy erbyn i.” “Ydy, mae e'n dyst,” medden nhw. Yna dyma Samuel yn mynd ymlaen i ddweud wrth y bobl. “Yr ARGLWYDD wnaeth ddewis Moses ac Aaron, ac arwain eich hynafiaid chi allan o wlad yr Aifft. Safwch mewn trefn o flaen yr ARGLWYDD i mi gael rhoi siars i chi. Mae'r ARGLWYDD wedi bod mor deg bob amser yn y ffordd mae wedi eich trin chi a'ch hynafiaid. Aeth Jacob i lawr i'r Aifft. Ond ar ôl hynny dyma'ch hynafiaid yn gweiddi ar yr ARGLWYDD am help am fod yr Eifftiaid yn eu cam-drin nhw. Anfonodd yr ARGLWYDD Moses ac Aaron i'w harwain nhw allan o'r Aifft i'r lle yma. Ond dyma nhw'n anghofio'r ARGLWYDD eu Duw. Felly dyma Duw yn gadael i Sisera, capten byddin Chatsor, a'r Philistiaid, a brenin Moab eu cam-drin nhw. Daeth y rhain i ryfela yn eu herbyn nhw. Felly dyma nhw'n gweiddi ar yr ARGLWYDD eto, a dweud: ‘Ein bai ni ydy hyn. Dŷn ni wedi troi cefn arnat ti ARGLWYDD ac wedi mynd i addoli eilunod Baal a delwau o'r dduwies Ashtart. Plîs achub ni nawr o afael ein gelynion a byddwn ni'n dy addoli di.’ Felly dyma'r ARGLWYDD yn anfon Gideon, Barac, Jefftha a fi, Samuel, i'ch achub chi oddi wrth y gelynion o'ch cwmpas, fel eich bod chi'n saff. “Ond pan welsoch chi fod Nachash, brenin Ammon, yn mynd i ymosod arnoch chi, dyma chi'n dweud wrtho i, ‘Na! Dŷn ni eisiau brenin’ — pan oedd yr ARGLWYDD eich Duw i fod yn frenin arnoch chi! Felly dyma chi! Dyma'r brenin dych chi wedi ei ddewis, yr un wnaethoch chi ofyn amdano! Ydy, mae'r ARGLWYDD wedi rhoi brenin i chi! “Os gwnewch chi barchu'r ARGLWYDD a'i addoli e, gwrando arno a pheidio gwrthryfela yn ei erbyn, ac os gwnewch chi a'ch brenin ddilyn yr ARGLWYDD eich Duw, bydd popeth yn iawn. Ond os wnewch chi ddim gwrando, a gwrthod bod yn ufudd, yna bydd yr ARGLWYDD yn eich cosbi chi a'r brenin. “Nawr, safwch yma i weld rhywbeth anhygoel mae'r ARGLWYDD yn mynd i'w wneud o flaen eich llygaid chi. Y tymor sych ydy hi ynte? Dw i'n mynd i weddïo ar Dduw, a gofyn iddo anfon glaw a tharanau! Byddwch chi'n sylweddoli wedyn peth mor ddrwg yng ngolwg Duw oedd gofyn am frenin.” Yna dyma Samuel yn gweddïo ar yr ARGLWYDD. A'r diwrnod hwnnw dyma'r ARGLWYDDyn anfon glaw a tharanau. Felly roedd gan y bobl i gyd ofn yr ARGLWYDD a Samuel. Ac medden nhw wrtho, “Gweddïa ar yr ARGLWYDD dy Dduw droson ni, rhag i ni farw. Dŷn ni wedi gwneud mwy fyth o ddrwg drwy ofyn am frenin.” Dyma Samuel yn ateb y bobl, “Peidiwch bod ofn, er bod chi wedi gwneud yr holl bethau drwg yma. Peidiwch troi cefn ar yr ARGLWYDD. Addolwch e â'ch holl galon. Peidiwch â'i adael a mynd ar ôl rhyw ddelwau diwerth. All y rheiny ddim helpu nac achub neb. Dŷn nhw'n dda i ddim! Yr ARGLWYDD wnaeth ddewis eich gwneud chi'n bobl iddo fe'i hun, felly fydd e ddim yn troi cefn arnoch chi. Mae e eisiau cadw ei enw da. Ac o'm rhan i fy hun, fyddwn i byth yn meiddio pechu yn erbyn yr ARGLWYDD drwy beidio gweddïo drosoch chi. Bydda i'n eich dysgu chi i fyw yn y ffordd iawn: Cofiwch barchu'r ARGLWYDD, a'i addoli o ddifri â'ch holl galon. Meddyliwch am yr holl bethau mawr mae'r ARGLWYDD wedi eu gwneud i chi! Ond os byddwch chi'n dal ati i wneud drwg, bydd hi ar ben arnoch chi a'ch brenin.” Does neb yn siŵr beth oedd oed Saul pan ddaeth yn frenin. Ar ôl bod yn frenin ar Israel am ddwy flynedd dyma fe'n dewis tair mil o ddynion Israel i fod yn ei fyddin. Roedd dwy fil o'r dynion i aros gydag e yn Michmas a bryniau Bethel, a'r mil arall i fynd gyda Jonathan i Gibea ar dir llwyth Benjamin. Anfonodd bawb arall yn ôl adre. Clywodd y Philistiaid fod Jonathan wedi ymosod ar eu garsiwn milwrol yn Geba. Felly dyma Saul yn anfon negeswyr i bob rhan o'r wlad i chwythu'r corn hwrdd a galw pobl i ryfel, a dweud, “Chi Hebreaid, gwrandwch yn astud!” Yna clywodd pawb yn Israel fod Saul wedi taro garsiwn milwrol y Philistiaid, a bod y Philistiaid yn ffieiddio pobl Israel. Felly dyma'r bobl yn cael eu galw i ymuno â byddin Saul yn Gilgal. Yn y cyfamser roedd y Philistiaid yn paratoi i ymosod ar Israel. Roedden nhw wedi casglu tair mil o gerbydau rhyfel, chwe mil o farchogion a gormod o filwyr traed i'w cyfrif, ac wedi codi gwersyll yn Michmas i'r dwyrain o Beth-afen. Pan welodd byddin Israel mor ddrwg oedd hi arnyn nhw, dyma nhw'n colli pob hyder a mynd i guddio mewn ogofâu, drysni, yn y creigiau ac mewn pydewau. Roedd rhai wedi dianc dros yr Afon Iorddonen i ardal Gad a Gilead. Ond arhosodd Saul yn Gilgal, er fod y fyddin oedd gydag e i gyd wedi dychryn am eu bywydau. Roedd Saul wedi aros am wythnos fel roedd Samuel wedi gofyn iddo wneud. Ond ddaeth Samuel ddim, a dechreuodd y dynion ei adael e. Felly dyma Saul yn dweud, “Dewch a'r anifeiliaid sydd i'w haberthu yma — y rhai sydd i'w llosgi a'r rhai sy'n offrwm i ofyn am fendith yr ARGLWYDD.” A dyma fe'n aberthu i Dduw. Roedd e newydd orffen llosgi'r aberth pan ddaeth Samuel i'r golwg. A dyma Saul yn mynd allan i'w gyfarfod a'i gyfarch. Ond dyma Samuel yn gofyn iddo, “Be wyt ti wedi ei wneud?” Atebodd Saul, “Roedd y dynion yn dechrau gadael. Doeddet ti ddim wedi dod fel roedden ni wedi trefnu, ac roedd y Philistiaid yn casglu at ei gilydd yn Michmas. Roedd gen i ofn y bydden nhw'n ymosod arna i yn Gilgal, a finnau heb ofyn i Dduw am help. Felly doedd gen i ddim dewis ond mynd ati i losgi'r aberth.” “Ti wedi gwneud peth gwirion,” meddai Samuel wrtho. “Dylet ti fod wedi gwneud beth ddwedodd yr ARGLWYDD wrthot ti. Petaet ti wedi bod yn ufudd byddai'r ARGLWYDD wedi cadw'r olyniaeth frenhinol yn dy deulu di am byth. Ond nawr, fydd hynny ddim yn digwydd. Bydd yr ARGLWYDD yn dod o hyd i ddyn sydd wrth ei fodd, ac yn dewis hwnnw i arwain ei bobl am dy fod ti heb gadw ei orchmynion.” Yna dyma Samuel yn gadael Gilgal a mynd i ffwrdd. Aeth Saul a'r milwyr oedd ar ôl ganddo i ymuno gyda'r dynion eraill oedd wedi dod i ryfela. A dyma nhw'n mynd o Gilgal i Gibea yn Benjamin. Pan gyfrodd Saul y dynion oedd ar ôl gydag e, doedd ond chwe chant ohonyn nhw! Roedd Saul, Jonathan ei fab a'r dynion oedd gyda nhw yn Gibea yn Benjamin, tra roedd y Philistiaid yn gwersylla yn Michmas. Yn sydyn aeth tair mintai allan o wersyll y Philistiaid i ymosod ar wahanol ardaloedd. Aeth un i'r gogledd i gyfeiriad Offra yn ardal Shwal, un arall i'r gorllewin i gyfeiriad Beth-choron, a'r drydedd i gyfeiriad yr anialwch yn y dwyrain, i'r grib sydd uwchben Dyffryn Seboïm. Bryd hynny doedd dim gof i'w gael yn holl wlad Israel. Roedd y Philistiaid eisiau rhwystro'r Hebreaid rhag gwneud cleddyfau a gwaywffyn. Felly roedd rhaid i bobl Israel fynd at y Philistiaid i roi min ar swch aradr, hof, bwyell neu gryman. Roedd rhaid talu prisiau uchel — 8 gram o arian am hogi swch aradr neu hof, 4 gram o arian am fwyell, a'r un faint am osod pen ar ffon brocio ychen. Felly pan ddechreuodd y frwydr doedd gan filwyr Saul a Jonathan ddim cleddyfau na gwaywffyn; dim ond Saul ei hun a'i fab Jonathan oedd â rhai. Dyma fyddin y Philistiaid yn symud allan i gyfeiriad bwlch Michmas. Un diwrnod dyma Jonathan, mab Saul, yn dweud wrth y gwas oedd yn cario ei arfau, “Tyrd, gad i ni groesi drosodd i wersyll y Philistiaid.” Ond ddwedodd e ddim am y peth wrth ei dad. Roedd Saul yn eistedd o dan y goeden pomgranadau sydd wrth ymyl Migron ar gyrion Gibea. Roedd tua chwe chant o ddynion gydag e, ac Achïa oedd yn cario'r effod. (Roedd Achïa yn fab i Achitwf brawd Ichabod a mab Phineas fab Eli oedd yn arfer bod yn offeiriad yn Seilo.) Doedd neb o'r fyddin yn gwybod fod Jonathan wedi mynd. Roedd clogwyni uchel bob ochr i'r bwlch roedd Jonathan yn anelu ato i fynd at wersyll y Philistiaid. Enwau'r clogwyni oedd Botsets a Senne. Roedd un i'r gogledd ar ochr Michmas, a'r llall i'r de ar ochr Geba. Dyma Jonathan yn dweud wrth y gwas oedd yn cario ei arfau, “Tyrd, gad i ni fynd draw i wersyll y paganiaid acw. Falle bydd yr ARGLWYDD yn ein helpu ni. Mae'r un mor hawdd iddo achub hefo criw bach ag ydy hi gyda byddin fawr.” A dyma'i was yn ateb, “Gwna beth bynnag wyt ti eisiau. Dos amdani. Bydda i gyda ti bob cam.” Meddai Jonathan, “Dyma be wnawn ni. Awn ni drosodd at y dynion a gadael iddyn nhw ein gweld ni. Os dwedan nhw ‘Arhoswch yna nes i ni ddod atoch chi,’ gwnawn ni aros lle rydyn ni. Ond os dwedan nhw, ‘Dewch i fyny yma,’ awn ni atyn nhw. Bydd hynny'n arwydd fod yr ARGLWYDD yn eu rhoi nhw yn ein gafael ni.” Felly dyma'r ddau'n mynd, a dangos eu hunain i fyddin y Philistiaid. A dyma'r rheiny yn dweud, “Edrychwch! Mae'r Hebreaid yn dod allan o'r tyllau lle maen nhw wedi bod yn cuddio!” Gwaeddodd y dynion oedd yn gwylio ar Jonathan a'i gludwr arfau, “Dewch i fyny yma i ni ddysgu gwers i chi!” A dyma Jonathan yn dweud wrth ei was, “Dilyn fi, achos mae'r ARGLWYDD yn mynd i roi buddugoliaeth i Israel.” Dyma Jonathan yn dringo i fyny ar ei bedwar, a'r gwas oedd yn cario'i arfau ar ei ôl. Roedd Jonathan yn taro'r gwylwyr i lawr, a'i was yn ei ddilyn a'i lladd nhw. Yn yr ymosodiad cyntaf yma, lladdodd Jonathan a'i was tua dau ddeg o ddynion mewn llai na can llath. Yna roedd yna ddaeargryn, a dyma banig llwyr yn dod dros fyddin y Philistiaid — yn y gwersyll, allan ar y maes, y fintai i gyd a'r grwpiau oedd wedi mynd allan i ymosod ar Israel. Duw oedd wedi achosi'r panig yma. Roedd gan Saul wylwyr yn Gibea yn Benjamin, a dyma nhw'n gweld milwyr y Philistiaid yn dyrfa yn diflannu i bob cyfeiriad. “Galwch y milwyr at ei gilydd i weld pwy sydd ar goll,” meddai Saul. A pan wnaethon nhw hynny dyma nhw'n ffeindio fod Jonathan a'r gwas oedd yn cario'i arfau ddim yno. Felly dyma Saul yn dweud wrth Achïa'r offeiriad, “Tyrd â'r Arch yma.” (Roedd Arch Duw allan gyda byddin Israel ar y pryd.) Ond tra roedd Saul yn siarad â'r offeiriad, roedd y panig yng ngwersyll y Philistiaid yn mynd o ddrwg i waeth. Felly dyma Saul yn dweud wrtho, “Anghofia hi.” A dyma Saul yn galw ei fyddin at ei gilydd a mynd allan i'r frwydr. Roedd byddin y Philistiaid mewn anhrefn llwyr. Dyna lle roedden nhw yn lladd ei gilydd! Roedd yr Hebreaid hynny oedd wedi ymuno â byddin y Philistiaid cyn hyn wedi troi i ymladd ar ochr yr Israeliaid oedd gyda Saul a Jonathan. Ac wedyn, pan glywodd yr Israeliaid oedd wedi bod yn cuddio ym mryniau Effraim fod y Philistiaid yn ffoi, dyma nhw hefyd yn mynd ar eu holau. A dyma'r brwydro yn lledu tu draw i Beth-afen. Yr ARGLWYDD wnaeth achub Israel y diwrnod hwnnw. Ond roedd byddin Israel wedi llwyr ymlâdd y diwrnod hwnnw, am fod Saul wedi gwneud iddyn nhw dyngu llw a dweud, “Melltith ar unrhyw un fydd yn bwyta unrhyw beth cyn iddi nosi — cyn i mi ddial ar fy ngelynion.” Felly doedd neb wedi bwyta o gwbl. [25-26] Dyma'r fyddin i gyd yn mynd i goedwig, ac roedd diliau mêl ar lawr ym mhob man. Er eu bod nhw'n gweld y mêl yn diferu, wnaeth neb gymryd dim am fod arnyn nhw ofn y felltith. *** Ond doedd Jonathan ddim wedi clywed ei dad yn gwneud i bawb dyngu'r llw. Felly dyma fe'n estyn blaen ei ffon i'r mêl, ac yna ei rhoi yn ei geg. Ac roedd wedi ei adfywio'n llwyr. Dyma un o'r dynion yn dweud wrtho, “Gwnaeth dy dad i'r milwyr dyngu llw, a dweud, ‘Melltith ar unrhyw un sy'n bwyta unrhyw fwyd heddiw.’ Dyna pam mae'r dynion i gyd yn teimlo mor wan.” A dyma Jonathan yn ateb, “Mae dad wedi gwneud pethau'n anodd i bawb. Edrychwch gymaint gwell dw i'n teimlo ar ôl blasu'r mymryn bach yna o fêl! Petai'r dynion wedi cael bwyta'r bwyd adawodd y gelynion heddiw, bydden ni wedi lladd llawer mwy o'r Philistiaid!” Y diwrnod hwnnw llwyddodd y fyddin i daro'r Philistiaid yr holl ffordd o Michmas i Aialon, ond roedden nhw wedi blino'n lân. Felly dyma nhw'n rhuthro ar yr ysbail a chymryd defaid, gwartheg a lloi. Yna eu lladd nhw yn y fan a'r lle, a bwyta'r cig, y gwaed a'r cwbl. Dwedodd rhywun wrth Saul fod y bobl wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD drwy fwyta gwaed. A dyma Saul yn dweud, “Dych chi wedi bod yn anffyddlon. Rholiwch garreg fawr yma ata i. Yna ewch at y dynion a dweud wrthyn nhw fod rhaid i bawb ddod â'i fustach a'i ddafad i'r fan yma i'w ladd cyn ei fwyta. Dwedwch wrthyn nhw am beidio pechu yn erbyn yr ARGLWYDD trwy fwyta'r gwaed.” Felly'r noson honno, dyma pawb yn mynd â'i anifail yno i'w ladd. A dyna sut wnaeth Saul godi allor i'r ARGLWYDD am y tro cyntaf. Dyma Saul yn dweud, “Dewch i ni fynd i lawr ar ôl y Philistiaid yn y nos, a'u taro nhw nes bydd hi'n fore. Fydd yna run ohonyn nhw ar ôl!” A dyma'r dynion yn ateb, “Beth bynnag wyt ti'n feddwl sydd orau.” Ond dyma'r offeiriad yn dweud, “Gadewch i ni ofyn i Dduw gyntaf.” Felly dyma Saul yn gofyn i Dduw, “Ddylwn i fynd ar ôl y Philistiaid? Wnei di adael i Israel ennill y frwydr?” Ond gafodd e ddim ateb y diwrnod hwnnw. Felly dyma Saul yn galw arweinwyr y fyddin ato a dweud wrthyn nhw, “Rhaid darganfod pwy sydd wedi pechu yma heddiw. Mor sicr â bod yr ARGLWYDD, achubwr Israel, yn fyw — hyd yn oed os mai fy mab i fy hun, Jonathan, ydy e — bydd rhaid iddo farw!” Ond wnaeth neb o'r milwyr ddweud gair. Felly dyma fe'n dweud wrth fyddin Israel, “Safwch chi i gyd yr ochr yna, a gwna i a fy mab Jonathan sefyll gyferbyn â chi.” A dyma'r dynion yn ateb, “Beth bynnag wyt ti'n feddwl sydd orau.” Yna dyma Saul yn gweddïo, “O ARGLWYDD, Duw Israel. Os mai fi neu Jonathan sydd wedi pechu, rho Wrim. Os mai un o fyddin Israel sydd wedi pechu, rho Thwmim.” A'r canlyniad oedd i Saul a Jonathan gael eu dangos yn euog, a bod y fyddin ddim ar fai. A dyma Saul yn dweud, “Tynnwch garreg i ddewis rhwng Jonathan a fi.” A cafodd Jonathan ei ddangos yn euog. Dyma Saul yn gofyn i Jonathan, “Dywed wrtho i be wnest ti.” A dyma Jonathan yn ateb, “Blasu mymryn o fêl ar flaen fy ffon. Dyma fi, oes rhaid i mi farw?” A dyma Saul yn cyhoeddi, “Ar fy llw o flaen Duw, rhaid i Jonathan farw neu bydd Duw'n ein cosbi ni'n waeth fyth.” Ond dyma'r milwyr yn ateb, “Pam ddylai Jonathan farw? Mae e wedi ennill buddugoliaeth fawr i Israel heddiw. Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw ddylai dim byd ddigwydd iddo. Roedd e'n gweithio gyda Duw heddiw.” Felly dyma'r milwyr yn achub Jonathan, a chafodd fyw. Wedi hynny dyma Saul yn rhoi'r gorau i fynd ar ôl y Philistiaid, a dyma nhw'n mynd yn ôl i'w gwlad eu hunain. Pan oedd Saul yn frenin ar Israel aeth i ryfel yn erbyn y gelynion oedd o'i gwmpas i gyd: Moab, yr Ammoniaid, Edom, brenhinoedd Soba yn Syria, a'r Philistiaid. Roedd e'n ennill bob tro. Roedd e'n arwr. Tarodd yr Amaleciaid ac achub Israel o afael pawb oedd yn ymosod arnyn nhw. Enwau Meibion Saul oedd Jonathan, Ishfi a Malci-shwa. Roedd ganddo ddwy ferch, Merab, yr hynaf a Michal yr ifancaf. Enw gwraig Saul oedd Achinoam (merch Achimaats). Cefnder Saul, Abner fab Ner, oedd pennaeth ei fyddin. (Roedd Cish tad Saul, a Ner tad Abner yn feibion i Abiel). Roedd yna ryfela ffyrnig yn erbyn y Philistiaid yr holl amser roedd Saul yn frenin. Felly pan fyddai Saul yn gweld unrhyw un oedd yn gryf a dewr, byddai'n ei gonscriptio i'w fyddin. Dyma Samuel yn dweud wrth Saul, “Fi ydy'r un wnaeth yr ARGLWYDD ei anfon i dy eneinio di yn frenin ar Israel. Felly, gwranda nawr ar beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud. Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: ‘Dw i am gosbi'r Amaleciaid am be wnaethon nhw i bobl Israel, sef gwrthod gadael iddyn nhw basio pan oedden nhw ar ei ffordd o'r Aifft. Felly dos i daro'r Amaleciaid. Dinistriwch nhw'n llwyr, a llosgi eu heiddo. Peidiwch teimlo trueni drostyn nhw. Lladdwch nhw i gyd — yn ddynion a merched, plant a babis bach, gwartheg a defaid, camelod ag asynnod.’” Felly dyma Saul yn galw'r fyddin at ei gilydd a'i cyfri nhw yn Telaïm. Daeth 200,000 o filwyr traed a 10,000 o ddynion o Jwda. Aeth Saul a'i fyddin i gyfeiriad y trefi lle roedd yr Amaleciaid yn byw, a chuddio yn y sychnant yn barod i ymosod. Wedyn anfonodd neges at y Ceneaid, “Ewch i ffwrdd o'r ardal. Peidiwch aros gyda'r Amaleciaid, rhag i chi gael eich difa gyda nhw. Buoch chi'n garedig wrth bobl Israel pan oedden nhw'n dod o'r Aifft. ” Felly dyma'r Ceneaid yn gadael yr Amaleciaid. Yna dyma Saul yn ymosod ar yr Amaleciaid a'u taro o Hafila yr holl ffordd i Shwr sydd wrth ymyl yr Aifft. Cafodd Agag, brenin yr Amaleciaid, ei ddal yn fyw, ond cafodd ei bobl i gyd eu lladd â'r cleddyf. Dyma Saul a'i fyddin yn gadael i Agag fyw, a dyma nhw hefyd yn cadw'r gorau o'r defaid a'r geifr, y gwartheg, y lloi, yr ŵyn ac unrhyw beth arall oedd o werth. Doedden nhw ddim am ladd yr anifeiliaid gorau, ond cafodd y rhai gwael a diwerth i gyd eu lladd. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Samuel, “Dw i'n sori mod i wedi gwneud Saul yn frenin. Mae e wedi troi cefn arna i, a dydy e ddim yn gwneud beth dw i'n ddweud.” Roedd Samuel wedi ypsetio'n lân, a bu'n crefu ar yr ARGLWYDD am y peth drwy'r nos. Yn gynnar iawn y bore wedyn aeth Samuel i weld Saul. Ond dyma rywun yn dweud wrtho fod Saul wedi mynd i dref Carmel i godi cofeb iddo'i hun yno, ac yna ymlaen i Gilgal. Pan ddaeth Samuel o hyd i Saul, dyma Saul yn dweud wrtho, “Bendith yr ARGLWYDD arnat i. Dw i wedi gwneud popeth ddwedodd yr ARGLWYDD.” Ond dyma Samuel yn dweud, “Os felly, beth ydy sŵn y defaid a'r gwartheg yna dw i'n ei glywed?” Atebodd Saul, “Y milwyr wnaeth eu cymryd nhw oddi ar yr Amaleciaid. Maen nhw wedi cadw'r defaid a'r gwartheg gorau i'w haberthu i'r ARGLWYDD dy Dduw. Mae popeth arall wedi cael ei ddinistrio.” Ond dyma Samuel yn dweud wrth Saul, “Taw, i mi gael dweud wrthot ti beth ddwedodd Duw wrtho i neithiwr.” “Dywed wrtho i,” meddai Saul. Ac meddai Samuel, “Pan oeddet ti'n meddwl dy fod ti'n neb o bwys, cest ti dy wneud yn arweinydd ar lwythau Israel. Dewisodd yr ARGLWYDD di yn frenin ar Israel. Wedyn dyma fe'n dy anfon di allan a dweud, ‘Dos i ddinistrio'r Amaleciaid drwg yna. Ymladd yn eu herbyn nhw a dinistria nhw'n llwyr.’ Felly pam wnest ti ddim gwrando? Yn lle hynny, dyma ti'n rhuthro ar yr ysbail i gael be fedret ti i ti dy hun. Ti wedi gwneud drwg yng ngolwg yr ARGLWYDD.” Ond dyma Saul yn ateb Samuel, “Ond dw i wedi gwneud beth ddwedodd yr ARGLWYDD! Es i ar yr ymgyrch fel roedd e wedi dweud. Dw i wedi dal y Brenin Agag ac wedi dinistrio'r Amaleciaid yn llwyr. Cymerodd y fyddin y defaid a'r gwartheg gorau i'w haberthu nhw i'r ARGLWYDD dy Dduw yma yn Gilgal!” Yna dyma Samuel yn dweud, “Beth sy'n rhoi mwya o bleser i'r ARGLWYDD? Aberth ac offrwm i'w losgi, neu wneud beth mae e'n ddweud? Mae gwrando yn well nag aberth; mae talu sylw yn well na brasder hyrddod. Mae gwrthryfela yn bechod, fel dablo mewn dewiniaeth, ac mae anufudd-dod mor ddrwg ac addoli eilunod. Am dy fod wedi gwrthod gwrando ar yr ARGLWYDD mae e wedi dy wrthod di fel brenin.” Dyma Saul yn cyfaddef i Samuel, “Dw i wedi pechu. Dw i wedi bod yn anufudd i'r ARGLWYDD a gwrthod gwrando arnat ti. Roedd gen i ofn y milwyr, a dyma fi'n gwneud beth oedden nhw eisiau. Plîs maddau i mi. Tyrd yn ôl hefo fi, i mi gael addoli'r ARGLWYDD.” “Na,” meddai Samuel, “wna i ddim mynd yn ôl hefo ti. Ti wedi gwrthod gwrando ar yr ARGLWYDD ac mae e wedi dy wrthod di yn frenin ar Israel.” Wrth i Samuel droi i adael, dyma Saul yn gafael yn ymyl ei fantell, a dyma hi'n rhwygo. Dyma Samuel yn dweud wrtho, “Mae'r ARGLWYDD wedi rhwygo'r deyrnas oddi arnat ti heddiw, a'i rhoi hi i rywun arall gwell na ti. Dydy Un Godidog Israel, ddim yn dweud celwydd nac yn newid ei feddwl. Dydy e ddim fel person dynol sy'n newid ei feddwl o hyd.” “Dw i wedi pechu”, meddai Saul eto. “Ond plîs dangos barch ata i o flaen arweinwyr a phobl Israel. Tyrd yn ôl hefo fi, i mi gael addoli'r ARGLWYDD dy Dduw.” Felly aeth Samuel yn ôl gyda Saul, a dyma Saul yn addoli'r ARGLWYDD. Yna dyma Samuel yn dweud, “Dewch ag Agag, brenin yr Amaleciaid, ata i.” Daeth Agag ato yn ansicr a nerfus, gan feddwl, “Wnân nhw ddim fy lladd i bellach, siawns?” Ond dyma Samuel yn dweud, “Fel gwnaeth dy gleddyf di adael gwragedd heb blant, bydd dy fam di yn galaru nawr.” A dyma fe'n hacio Agag i farwolaeth o flaen yr ARGLWYDD yn Gilgal. Wedyn aeth Samuel yn ôl i Rama, a Saul adre i Gibea Wnaeth Samuel ddim gweld Saul byth wedyn. Ond roedd yn dal i deimlo mor drist amdano. Roedd yr ARGLWYDD, ar y llaw arall, yn sori ei fod wedi gwneud Saul yn frenin ar Israel. Dyma'r ARGLWYDD yn gofyn i Samuel, “Am faint wyt ti'n mynd i ddal i deimlo'n drist am Saul? Dw i wedi ei wrthod e fel brenin ar Israel. Llenwa gorn gydag olew olewydd a dos i Bethlehem at ddyn o'r enw Jesse. Dw i wedi dewis un o'i feibion e i fod yn frenin i mi.” Atebodd Samuel, “Sut alla i wneud hynny? Os bydd Saul yn clywed am y peth bydd e'n fy lladd i!” “Dos â heffer gyda ti,” meddai'r ARGLWYDD, “a dweud, ‘Dw i'n mynd i aberthu i'r ARGLWYDD.’ Gwahodd Jesse i'r aberth, a gwna i ddangos i ti pa un o'i feibion i'w eneinio gyda'r olew.” Gwnaeth Samuel fel roedd Duw wedi dweud, a mynd i Fethlehem. Ond roedd arweinwyr y dre yn nerfus iawn pan welon nhw e. Dyma nhw'n gofyn iddo, “Wyt ti'n dod yn heddychlon?” “Ydw”, meddai Samuel, “yn heddychlon. Dw i'n dod i aberthu i'r ARGLWYDD. Ewch trwy'r ddefod o buro eich hunain, a dewch gyda mi i'r aberth.” Yna dyma fe'n arwain Jesse a'i feibion drwy'r ddefod o gysegru eu hunain, a'i gwahodd nhw i'r aberth. Pan gyrhaeddon nhw, sylwodd Samuel ar Eliab a meddwl, “Dw i'n siŵr mai hwnna ydy'r un mae'r ARGLWYDD wedi ei ddewis yn frenin.” Ond dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Paid cymryd sylw o pa mor olygus ydy e neu pa mor dal ydy e. Dw i ddim wedi ei ddewis e. Dydy Duw ddim yn edrych ar bethau yr un fath ac mae pobl. Mae pobl yn edrych ar y tu allan, ond mae'r ARGLWYDD yn edrych ar sut berson ydy e go iawn.” Yna dyma Jesse yn galw Abinadab, i Samuel gael ei weld e. Ond dyma Samuel yn dweud, “Dim hwn mae'r ARGLWYDD wedi ei ddewis chwaith.” Felly dyma Jesse yn dod â Shamma ato. Ond dyma Samuel yn dweud, “Dim hwn mae'r ARGLWYDD wedi ei ddewis chwaith.” Dyma Jesse'n dod â saith o'i feibion at Samuel yn eu tro. Ond dyma Samuel yn dweud wrtho, “Dydy'r ARGLWYDD ddim wedi dewis run o'r rhain.” Dyma Samuel yn holi Jesse, “Ai dyma dy fechgyn di i gyd?” “Na,” meddai Jesse, “Mae'r lleiaf ar ôl. Mae e'n gofalu am y defaid.” “Anfon rhywun i'w nôl e,” meddai Samuel. “Wnawn ni ddim byd arall nes bydd e wedi cyrraedd.” Felly dyma Jesse'n anfon amdano. Roedd yn fachgen iach yr olwg gyda llygaid hardd — bachgen golygus iawn. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud, “Tyrd! Hwn ydy e! Eneinia fe â'r olew.” Felly dyma Samuel yn tywallt yr olew ar ben Dafydd o flaen ei frodyr i gyd. Daeth Ysbryd yr ARGLWYDD yn rymus ar Dafydd o'r diwrnod hwnnw ymlaen. Wedyn dyma Samuel yn mynd yn ôl adre i Rama. Roedd Ysbryd yr ARGLWYDD wedi gadael Saul. A dyma'r ARGLWYDD yn anfon ysbryd drwg i'w boeni. Dyma ei swyddogion yn dweud wrtho, “Mae'n amlwg fod Duw wedi anfon ysbryd drwg i dy boeni di. Syr, beth am i ni, dy weision, fynd i chwilio am rywun sy'n canu'r delyn yn dda? Wedyn, pan fydd Duw yn anfon yr ysbryd drwg arnat ti, bydd e'n canu'r delyn ac yn gwneud i ti deimlo'n well.” Felly dyma Saul yn ateb, “Iawn, ewch i ffeindio rhywun sy'n canu'r delyn yn dda, a dewch ag e yma.” Dyma un o'r dynion ifanc yn dweud, “Dw i'n gwybod am fab i Jesse o Fethlehem sy'n dda ar y delyn. Mae e'n filwr dewr, yn siaradwr da, mae'n fachgen golygus ac mae'r ARGLWYDD gydag e.” Dyma Saul yn anfon neges at Jesse, “Anfon dy fab Dafydd ata i, yr un sydd gyda'r defaid.” Felly dyma Jesse'n llwytho asyn gyda bara, potel groen yn llawn o win, a gafr ifanc, a'u hanfon gyda'i fab Dafydd at Saul. Daeth Dafydd i weithio i Saul. Roedd Saul yn ei hoffi'n fawr, a rhoddodd y cyfrifoldeb o gario'i arfau iddo. Yna dyma Saul yn anfon at Jesse i ofyn, “Gad i Dafydd aros yma i fod yn was i mi. Dw i'n hapus iawn gydag e.” Felly, pan fyddai Duw yn anfon ysbryd drwg ar Saul, byddai Dafydd yn nôl ei delyn a'i chanu. Byddai hynny'n tawelu Saul a gwneud iddo deimlo'n well. Yna byddai'r ysbryd drwg yn gadael llonydd iddo. Casglodd y Philistiaid eu byddin at ei gilydd yn Socho yn Jwda, i fynd i ryfel. Roedden nhw wedi codi gwersyll yn Effes-dammîm rhwng Socho ac Aseca. Roedd Saul a byddin Israel hefyd wedi codi gwersyll yn Nyffryn Ela, ac yn sefyll yn eu rhengoedd yn barod i ymladd yn erbyn y Philistiaid. Roedd y Philistiaid ar ben un bryn a'r Israeliaid ar ben bryn arall, gyda'r dyffryn rhyngddyn nhw. Daeth milwr o'r enw Goliath o dref Gath allan o wersyll y Philistiaid i herio'r Israeliaid. Roedd e dros naw troedfedd o daldra! Roedd yn gwisgo helmed bres, arfwisg bres oedd yn pwyso bron chwe deg cilogram, a phadiau pres ar ei goesau. Roedd cleddyf cam pres yn hongian dros ei ysgwyddau. Roedd coes ei waywffon fel trawst ffrâm gwehydd, a'i phig haearn yn pwyso tua saith cilogram. Ac roedd gwas yn cario ei darian o'i flaen. Dyma fe'n sefyll a gweiddi ar fyddin Israel, “Pam ydych chi'n paratoi i ryfela? Philistiad ydw i, a dych chi'n weision i Saul. Dewiswch un dyn i ddod i lawr yma i ymladd hefo fi! Os gall e fy lladd i, byddwn ni'n gaethweision i chi. Ond os gwna i ei ladd e yna chi fydd yn gaethweision i ni.” Gwaeddodd eto, “Dw i'n eich herio chi heddiw, fyddin Israel. Dewiswch ddyn i ymladd yn fy erbyn i!” Pan glywodd Saul a dynion Israel hyn, dyma nhw'n dechrau panicio, ac roedd ganddyn nhw ofn go iawn. Roedd Dafydd yn fab i Jesse o deulu Effratha, oedd yn byw yn Bethlehem yn Jwda. Roedd gan Jesse wyth mab, a pan oedd Saul yn frenin roedd e'n ddyn mewn oed a parch mawr iddo. Roedd ei dri mab hynaf — Eliab, Abinadab a Shamma — wedi dilyn Saul i'r rhyfel. Dafydd oedd mab ifancaf Jesse. Tra roedd y tri hynaf ym myddin Saul byddai Dafydd yn mynd yn ôl a blaen rhwng gwasanaethu Saul ac edrych ar ôl defaid ei dad yn Bethlehem. (Yn y cyfamser roedd y Philistiad yn dod allan i herio byddin Israel bob dydd, fore a nos. Gwnaeth hyn am bedwar deg diwrnod.) Un diwrnod dyma Jesse yn dweud wrth Dafydd, “Brysia draw i'r gwersyll at dy frodyr. Dos â sachaid o rawn wedi ei grasu a deg torth iddyn nhw. A cymer y deg darn yma o gaws i'w roi i'r capten. Ffeindia allan sut mae pethau'n mynd, a tyrd â rhywbeth yn ôl i brofi eu bod nhw'n iawn.” Roedden nhw gyda Saul a byddin Israel yn Nyffryn Ela yn ymladd y Philistiaid. Cododd Dafydd ben bore a gadael y defaid yng ngofal rhywun arall. Llwythodd ei bac a mynd fel roedd Jesse wedi dweud wrtho. Dyma fe'n cyrraedd y gwersyll wrth i'r fyddin fynd allan i'w rhengoedd yn barod i ymladd, ac yn gweiddi “I'r gâd!” Roedd yr Israeliaid a'r Philistiaid yn wynebu ei gilydd yn eu rhengoedd. Dyma Dafydd yn gadael y pac oedd ganddo gyda'r swyddog cyfarpar, a rhedeg i ganol y rhengoedd at ei frodyr i holi eu hanes. Tra roedd e'n siarad â nhw, dyma Goliath (y Philistiad o Gath) yn dod allan o rengoedd y Philistiaid, a dechrau bygwth yn ôl ei arfer. A clywodd Dafydd e. Pan welodd milwyr Israel e, dyma nhw i gyd yn cilio'n ôl; roedd ganddyn nhw ei ofn go iawn. Roedden nhw'n dweud wrth ei gilydd, “Ydych chi wedi gweld y dyn yma sy'n dod i fyny? Mae'n gwneud hyn i wawdio bobl Israel. Mae'r brenin wedi addo arian mawr i bwy bynnag sy'n ei ladd e. Bydd e'n cael priodi merch y brenin, a fydd teulu ei dad byth yn gorfod talu trethi eto.” Dyma Dafydd yn holi'r dynion o'i gwmpas, “Be fydd y wobr i'r dyn sy'n lladd y Philistiad yma, ac yn stopio'r sarhau yma ar Israel? Pwy mae'r pagan yma o Philistiad yn meddwl ydy e, yn herio byddin y Duw byw?” A dyma'r milwyr yn dweud wrtho beth oedd wedi cael ei addo. “Dyna fydd y wobr i bwy bynnag sy'n ei ladd e,” medden nhw. Dyma Eliab, ei frawd hynaf, yn clywed Dafydd yn siarad â'r dynion o'i gwmpas. Roedd wedi gwylltio gyda Dafydd ac meddai, “Pam ddest ti i lawr yma? Pwy sy'n gofalu am yr ychydig ddefaid yna yn yr anialwch i ti? Dw i'n dy nabod di y cenau drwg! Dim ond wedi dod i lawr i weld y frwydr wyt ti.” “Be dw i wedi ei wneud nawr?” meddai Dafydd. “Dim ond holi oeddwn i.” A dyma fe'n troi oddi wrtho a gofyn yr un peth eto i rywun arall. A chafodd yr un ateb ag o'r blaen. Roedd yna rai wedi sylwi ar y diddordeb roedd Dafydd yn ei ddangos, a dyma nhw'n mynd i ddweud wrth Saul. A dyma Dafydd yn cael ei alw ato. Dyma Dafydd yn dweud wrth Saul, “Does dim rhaid i neb ddigalonni, syr. Dw i'n barod i ymladd y Philistiad yna!” “Alli di ddim ymladd yn ei erbyn e!” meddai Saul. “Dim ond bachgen wyt ti! Mae e wedi bod yn filwr ar hyd ei oes!” Atebodd Dafydd, “Bugail ydw i, syr, yn gofalu am ddefaid fy nhad. Weithiau bydd llew neu arth yn dod a chymryd oen o'r praidd. Bydda i'n rhedeg ar ei ôl, ei daro i lawr, ac achub yr oen o'i geg. Petai'n ymosod arna i, byddwn i'n gafael ynddo gerfydd ei wddf, ei daro, a'i ladd. Syr, dw i wedi lladd llew ac arth. A bydda i'n gwneud yr un fath i'r pagan o Philistiad yma, am ei fod wedi herio byddin y Duw byw! Bydd yr ARGLWYDD, wnaeth fy achub i rhag y llew a'r arth, yn fy achub i o afael y Philistiad yma hefyd!” Felly dyma Saul yn dweud, “Iawn, dos di. A'r ARGLWYDD fo gyda ti.” Yna dyma Saul yn rhoi ei arfwisg e'i hun i Dafydd ei gwisgo — helmed bres ar ei ben, a'i arfwisg bres amdano. Wedyn dyma Dafydd yn rhwymo cleddyf Saul am ei ganol a cheisio cerdded. Ond roedd e'n methu. “Alla i ddim cerdded yn y rhain,” meddai fe wrth Saul. “Dw i ddim wedi arfer gyda nhw.” Felly tynnodd nhw i ffwrdd. Gafaelodd yn ei ffon fugail, dewisodd bum carreg lefn o'r sychnant a'u rhoi yn ei fag bugail. Yna aeth i wynebu'r Philistiad gyda'i ffon dafl yn ei law. Roedd y Philistiad yn dod yn nes at Dafydd gyda'i was yn cario'i darian o'i flaen. Pan welodd e Dafydd roedd e'n wfftio am mai bachgen oedd e — bachgen ifanc, golygus, iach yr olwg. A dyma fe'n dweud wrth Dafydd, “Wyt ti'n meddwl mai ci ydw i, dy fod yn dod allan yn fy erbyn i â ffyn?” Ac roedd e'n rhegi Dafydd yn enw ei dduwiau, a gweiddi, “Tyrd yma i mi gael dy roi di'n fwyd i'r adar a'r anifeiliaid gwylltion!” Ond dyma Dafydd yn ei ateb e, “Rwyt ti'n dod yn fy erbyn i gyda gwaywffon a chleddyf, ond dw i'n dod yn dy erbyn di ar ran yr ARGLWYDD holl-bwerus! Fe ydy Duw byddin Israel, yr un wyt ti'n ei herio. Heddiw bydd yr ARGLWYDD yn dy roi di yn fy llaw i. Dw i'n mynd i dy ladd di a torri dy ben di i ffwrdd! Cyrff byddin y Philistiaid fydd yn fwyd i'r adar a'r anifeiliaid gwylltion! Bydd y wlad i gyd yn cael gwybod heddiw fod gan Israel Dduw. A bydd pawb sydd yma yn dod i weld fod yr ARGLWYDD ddim yn achub gyda chleddyf a gwaywffon. Brwydr yr ARGLWYDD ydy hon. Bydd e'n eich rhoi chi yn ein gafael ni.” Dyma'r Philistiad yn symud yn nes at Dafydd i ymosod arno. A dyma Dafydd yn rhedeg at y rhengoedd i'w gyfarfod. Rhoddodd ei law yn ei fag, cymryd carreg allan a'i hyrddio at y Philistiad gyda'i ffon dafl. Tarodd y garreg Goliath ar ei dalcen a suddo i mewn nes iddo syrthio ar ei wyneb ar lawr. (Dyna sut wnaeth Dafydd guro'r Philistiad gyda ffon-dafl a charreg. Doedd ganddo ddim cleddyf hyd yn oed!) Rhedodd Dafydd a sefyll uwch ei ben. Wedyn dyma fe'n tynnu cleddyf y Philistiad allan o'r wain, ei ladd, a torri ei ben i ffwrdd. Pan welodd y Philistiaid fod eu harwr wedi ei ladd, dyma nhw'n ffoi. A dyma fyddin Israel a Jwda yn rhuthro ymlaen gan weiddi “I'r gâd!”, a mynd ar ôl y Philistiaid ar hyd y dyffryn nes cyrraedd giatiau tref Ecron. Roedd cyrff y Philistiaid yn gorwedd ar hyd y ffordd o Shaaraim i Gath ac Ecron. Pan ddaeth dynion Israel yn ôl wedi'r ymlid gwyllt ar ôl y Philistiaid dyma nhw'n ysbeilio'u gwersyll. (Aeth Dafydd â pen y Philistiad i Jerwsalem, ond cadwodd ei arfau yn ei babell.) Pan welodd Saul Dafydd yn mynd allan i gyfarfod y Philistiad, gofynnodd i Abner, capten y fyddin, “Mab i bwy ydy'r bachgen acw, Abner?” “Dw i wir ddim yn gwybod, syr,” atebodd Abner. A dyma'r brenin yn dweud wrtho, “Dos i holi mab i bwy ydy e.” Felly pan ddaeth Dafydd yn ôl wedi lladd y Philistiad, dyma Abner yn mynd ag e at y brenin. Roedd pen y Philistiaid yn ei law. A dyma Saul yn gofyn iddo, “Mab i bwy wyt ti, machgen i?” Atebodd Dafydd, “Mab dy was Jesse o Fethlehem.” Ar ôl siarad â Saul dyma Dafydd yn cyfarfod Jonathan, ei fab, a daeth y ddau yn ffrindiau gorau. Roedd Jonathan yn caru Dafydd fwy na fe ei hun. O'r diwrnod hwnnw ymlaen dyma Saul yn cadw Dafydd gydag e, a chafodd e ddim mynd adre at ei dad. Roedd Jonathan a Dafydd wedi ymrwymo i fod yn ffyddlon i'w gilydd. Roedd Jonathan yn caru Dafydd fwy na fe ei hun. Tynnodd ei fantell a'i rhoi am Dafydd, a'i grys hefyd, a hyd yn oed ei gleddyf, ei fwa a'i felt. Roedd Dafydd yn llwyddo beth bynnag roedd Saul yn gofyn iddo'i wneud. Felly dyma Saul yn ei wneud yn gapten ar ei fyddin. Ac roedd hynny'n plesio pawb, gan gynnwys swyddogion Saul. Pan aeth y fyddin adre ar ôl i Dafydd ladd y Philistiad, roedd merched pob tref yn dod allan i groesawu'r brenin Saul. Roedden nhw'n canu a dawnsio'n llawen i gyfeiliant offerynnau taro a llinynnol. Wrth ddathlu'n frwd roedden nhw'n canu fel hyn: “Mae Saul wedi lladd miloedd, ond Dafydd ddegau o filoedd!” Doedd Saul ddim yn hapus o gwbl am y peth. Roedd e wedi gwylltio. “Maen nhw'n rhoi degau o filoedd i Dafydd, a dim ond miloedd i mi,” meddai. “Peth nesa, byddan nhw eisiau ei wneud e'n frenin!” Felly o hynny ymlaen roedd Saul yn amheus o Dafydd, ac yn cadw llygad arno. Y diwrnod wedyn dyma ysbryd drwg oddi wrth Dduw yn dod ar Saul, a dyma fe'n dechrau ymddwyn fel dyn gwallgo yn y tŷ. Roedd Dafydd wrthi'n canu'r delyn iddo fel arfer. Roedd gwaywffon yn llaw Saul, a dyma fe'n taflu'r waywffon at Dafydd. “Mi hoelia i e i'r wal,” meddyliodd. Digwyddodd hyn ddwywaith, ond llwyddodd Dafydd i'w osgoi. Roedd y sefyllfa'n codi ofn ar Saul, am fod yr ARGLWYDD gyda Dafydd, ond wedi ei adael e. Felly dyma Saul yn anfon Dafydd i ffwrdd a'i wneud yn gapten ar uned o fil o filwyr. Dafydd oedd yn arwain y fyddin allan i frwydro. Roedd yn llwyddo beth bynnag roedd e'n ei wneud, am fod yr ARGLWYDD gydag e. Pan welodd Saul sut roedd e'n llwyddo roedd yn ei ofni e fwy fyth. Ond roedd pobl Israel a Jwda i gyd wrth eu boddau gyda Dafydd, am mai fe oedd yn arwain y fyddin. Yna dyma Saul yn dweud wrth Dafydd, “Dyma Merab, fy merch hynaf i. Cei di ei phriodi hi os gwnei di ymladd brwydrau'r ARGLWYDD yn ddewr.” (Syniad Saul oedd, “Fydd dim rhaid i mi ei ladd e, bydd y Philistiaid yn gwneud hynny i mi!”) “Pwy ydw i, i gael bod yn fab-yng-nghyfraith i'r brenin?” meddai Dafydd. “Dw i ddim yn dod o deulu digon pwysig.” Ond wedyn, pan ddaeth hi'n amser i roi Merab yn wraig i Dafydd, dyma Saul yn ei rhoi hi i Adriel o Mechola. Roedd Michal, merch arall Saul, wedi syrthio mewn cariad â Dafydd. Pan glywodd Saul am y peth roedd wrth ei fodd. Meddyliodd, “Gwna i ei rhoi hi i Dafydd, a bydd hi fel trap iddo, wedyn bydd e'n cael ei ladd gan y Philistiaid.” Felly dyma fe'n dweud wrth Dafydd am yr ail waith, “Cei di fod yn fab-yng-nghyfraith i mi.” Dyma Saul yn cael ei swyddogion i ddweud yn ddistaw bach wrth Dafydd, “Ti'n dipyn o ffefryn gan y brenin, ac yn boblogaidd ymhlith y swyddogion i gyd hefyd. Dylet ti briodi ei ferch e.” Pan gawson nhw air yn ei glust, ymateb Dafydd oedd, “Sut ydych chi'n meddwl mae rhywun fel fi'n mynd i allu priodi merch y brenin? Dw i'n rhy dlawd! Dw i ddim digon pwysig!” Pan aeth y swyddogion i ddweud wrth Saul beth oedd ymateb Dafydd, dyma Saul yn dweud wrthyn nhw, “Dwedwch wrth Dafydd mai'r unig dâl mae'r brenin eisiau am gael priodi ei ferch ydy'r blaengrwyn cant o Philistiaid! Mae e eisiau dial ar ei elynion.” (Gobaith Saul oedd y byddai Dafydd yn cael ei ladd gan y Philistiaid.) Felly dyma'r swyddogion yn mynd i ddweud hyn wrth Dafydd. A cymrodd Dafydd fod hyn yn golygu y gallai briodi merch y brenin. Cyn ei bod yn rhy hwyr dyma Dafydd a'i filwyr yn mynd allan ac yn ymosod ar y Philistiaid a lladd dau gant ohonyn nhw. Daeth â'r blaengroen oddi ar bidyn pob un ohonyn nhw, a'u rhoi i'r brenin yn dâl am gael priodi ei ferch. Felly dyma Saul yn gadael iddo briodi Michal ei ferch. Roedd hi'n gwbl amlwg i Saul fod yr ARGLWYDD gyda Dafydd, a bod ei ferch, Michal, yn ei garu. Felly roedd yn ofni Dafydd fwy fyth. Dyma Saul yn troi yn hollol erbyn Dafydd am weddill ei fywyd. Bob tro y byddai arweinwyr y Philistiaid yn dod allan i ymladd, byddai Dafydd yn fwy llwyddiannus yn eu herbyn nac unrhyw un o arweinwyr eraill byddin Saul. Daeth Dafydd yn enwog iawn. Dyma Saul yn cyfadde i'w fab Jonathan, a'i swyddogion i gyd, ei fod eisiau lladd Dafydd. Ond roedd Jonathan yn hoff iawn iawn o Dafydd. Felly dyma Jonathan yn dweud wrth Dafydd, “Mae fy nhad Saul eisiau dy ladd di. Felly gwylia dy hun bore fory. Dos i guddio yn rhywle ac aros yno o'r golwg. Gwna i fynd allan a sefyll gyda dad yn agos i lle byddi di. Gwna i siarad gydag e ar dy ran di, a gweld beth fydd ei ymateb e. Gwna i adael i ti wybod.” Felly dyma Jonathan yn siarad ar ran Dafydd gyda Saul, ei dad. Dwedodd wrtho, “Paid gwneud cam â dy was Dafydd, achos dydy e erioed wedi gwneud dim byd yn dy erbyn di. Mae popeth mae e wedi ei wneud wedi bod yn dda i ti. Mentrodd ei fywyd i ladd y Philistiad yna, a rhoddodd yr ARGLWYDD fuddugoliaeth fawr i Israel. Roeddet ti'n hapus iawn pan welaist ti hynny. Pam mae'n rhaid i ti bechu drwy dywallt gwaed diniwed — lladd Dafydd am ddim rheswm?” Dyma Saul yn gwrando ar gyngor Jonathan, ac addo ar lw, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, wna i ddim ei ladd e!” Felly dyma Jonathan yn galw Dafydd a dweud wrtho beth ddigwyddodd. Aeth ag e at Saul, a cafodd Dafydd weithio iddo fel o'r blaen. Roedd rhyfel unwaith eto, a dyma Dafydd yn mynd allan i ymladd y Philistiaid. Trechodd nhw'n llwyr nes iddyn nhw redeg i ffwrdd o'i flaen. A dyma'r ysbryd drwg oddi wrth yr ARGLWYDD yn dod ar Saul eto. Roedd yn eistedd yn ei dŷ a gwaywffon yn ei law, tra roedd Dafydd yn canu'r delyn. A dyma Saul yn trïo trywanu Dafydd a'i hoelio i'r wal gyda'i waywffon. Ond dyma Dafydd yn llwyddo i'w hosgoi ac aeth y waywffon i'r wal, a rhedodd Dafydd i ffwrdd. Y noson honno dyma Saul yn anfon dynion i wylio tŷ Dafydd er mwyn ei ladd yn y bore. Ond roedd Michal, gwraig Dafydd, wedi dweud wrtho, “Os gwnei di ddim dianc am dy fywyd heno, byddi wedi marw fory.” A dyma Michal yn gollwng Dafydd allan drwy'r ffenest. A dyna sut wnaeth e ddianc. Yna dyma Michal yn rhoi eilun-ddelw teuluol yn y gwely, rhoi carthen o flew geifr wrth ei ben, a rhoi dillad Dafydd drosto. Pan ddaeth dynion Saul i arestio Dafydd, dyma hi'n dweud wrthyn nhw, “Mae e'n sâl.” Ond dyma Saul yn anfon y dynion yn ôl i chwilio am Dafydd. “Dewch â fe yma ar ei wely os oes rhaid, i mi gael ei ladd e.” Pan aethon nhw yn ôl, dyma nhw'n dod o hyd i'r eilun-ddelw yn y gwely a'r blew gafr lle byddai'r pen. Dyma Saul yn rhoi pryd o dafod i Michal, “Pam wnest ti fy nhwyllo i fel yma? Ti wedi gadael i'm gelyn i ddianc!” A dyma hi'n ei ateb, “Dwedodd e wrtho i ‘Well i ti helpu fi i ddianc neu gwna i dy ladd di!’” Roedd Dafydd wedi rhedeg i ffwrdd a dianc at Samuel i Rama. Dwedodd wrth Samuel beth oedd Saul wedi bod yn ei wneud iddo. Yna dyma fe a Samuel yn mynd i aros gyda'r gymuned o broffwydi. Ond dwedodd rhywun wrth Saul fod Dafydd gyda'r gymuned yn Rama. Felly dyma Saul yn anfon ei weision yno i arestio Dafydd. Ond pan gyrhaeddon nhw dyma nhw'n gweld grŵp o broffwydi yn proffwydo, a Samuel yn eu harwain nhw. A dyma Ysbryd Duw yn dod ar weision Saul, nes iddyn nhw hefyd ddechrau proffwydo. Pan glywodd Saul beth oedd wedi digwydd, dyma fe'n anfon gweision eraill. Ond dyma'r rheiny hefyd yn dechrau proffwydo. Dyma Saul yn anfon trydydd criw, a dyma'r un peth yn digwydd iddyn nhw hefyd. Yna dyma Saul ei hun yn mynd i Rama. Pan ddaeth at y pydew mawr yn Sechw dyma fe'n holi ble roedd Samuel a Dafydd. “Yn aros gyda'r gymuned o broffwydi yn Rama,” meddai rhywun wrtho. Pan oedd Saul ar ei ffordd yno daeth Ysbryd Duw arno — ie, arno fe hefyd! Aeth yn ei flaen yn proffwydo yr holl ffordd, nes iddo gyrraedd y gymuned yn Rama. Yna dyma Saul hefyd yn tynnu ei ddillad i ffwrdd a proffwydo o flaen Samuel. Bu'n gorwedd yno'n noeth trwy'r dydd a'r nos. (Dyna o lle daeth y dywediad, “Ydy Saul hefyd yn un o'r proffwydi?” ) Dyma Dafydd yn dianc o gymuned y proffwydi yn Rama a mynd i weld Jonathan. “Be dw i wedi ei wneud o'i le?” meddai. “Sut ydw i wedi pechu? Be dw i wedi ei wneud i ddigio dy dad gymaint? Mae e'n trïo fy lladd i!” “Na, byth!” meddai Jonathan. “Wnei di ddim marw. Dydy dad yn gwneud dim byd heb adael i mi wybod. Pam fyddai e'n cuddio'r peth oddi wrtho i? Dydy hyn ddim yn wir.” Ond roedd Dafydd yn taeru. “Mae dy dad yn gwybod yn iawn gymaint o ffrindiau ydyn ni. Mae'n rhaid ei fod e'n meddwl, ‘Alla i ddim dweud wrth Jonathan, neu bydd e wedi ypsetio.’ Does dim amheuaeth am y peth, dw i o fewn dim i farw.” Felly dyma Jonathan yn dweud wrtho, “Dywed be alla i wneud i ti.” Atebodd Dafydd, “Mae'n Ŵyl y lleuad newydd fory, ac mae disgwyl i mi fod yn bwyta gyda'r brenin. Ond rho di ganiatâd i mi fynd i ffwrdd i guddio yn y wlad am ddeuddydd. Os bydd dy dad yn fy ngholli i, dywed wrtho, ‘Roedd Dafydd wedi pledio'n daer arna i i roi caniatâd iddo fynd adre i Fethlehem, am ei bod yn ddiwrnod aberth blynyddol y clan.’ Os bydd e'n dweud, ‘Popeth yn iawn,’ yna dw i, dy was di, yn saff. Ond os bydd e'n colli ei dymer byddi'n gwybod ei fod e am wneud drwg i mi. Aros yn driw i mi, achos rwyt ti wedi ymrwymo i mi o flaen yr ARGLWYDD. Ond os ydw i wedi gwneud rhywbeth o'i le, lladd fi dy hun. Waeth i ti hynny na mynd â fi at dy dad!” Atebodd Jonathan, “Paid siarad fel yna! Petawn i'n gwybod fod dad yn bwriadu gwneud niwed i ti, byddwn i'n siŵr o ddweud wrthot ti.” Yna dyma Dafydd yn gofyn i Jonathan, “Pwy sy'n mynd i ddweud wrtho i os bydd dy dad wedi colli ei dymer hefo ti?” “Tyrd, gad i ni fynd allan i'r caeau,” meddai Jonathan wrtho. Pan oedd y ddau ohonyn nhw allan yn y cae, dyma Jonathan yn dweud wrth Dafydd, “Dw i'n addo o flaen yr ARGLWYDD, Duw Israel: erbyn yr adeg yma'r diwrnod ar ôl fory bydda i wedi darganfod beth ydy agwedd dad atat ti. Os ydy ei agwedd e atat ti'n iach, bydda i'n anfon rhywun i adael i ti wybod. Os ydy e am wneud drwg i ti, boed i Dduw ddial arna i os gwna i ddim gadael i ti wybod a dy helpu di i ddianc yn saff! Dw i'n gweddïo y bydd Duw gyda ti fel roedd e gyda dad. Fel mae'r ARGLWYDD yn ffyddlon, bydd dithau'n driw i mi tra bydda i byw. A hyd yn oed pan fydda i wedi marw, paid troi dy gefn ar dy ymrwymiad i'm teulu i. A pan fydd yr ARGLWYDD wedi cael gwared â phob un o dy elynion di oddi ar wyneb y ddaear a'i galw nhw i gyfri, paid gadael i rwyg godi rhyngddo i, Jonathan a theulu Dafydd.” A dyma Jonathan yn mynd ar ei lw unwaith eto am ei fod yn caru Dafydd — roedd Jonathan yn caru Dafydd fwy na fe ei hun. Meddai Jonathan, “Mae hi'n Ŵyl y lleuad newydd fory. Bydd dy le di wrth y bwrdd yn wag, a byddan nhw'n dy golli di. Y diwrnod wedyn bydd yn fwy amlwg fyth. Dos di i'r lle roeddet ti o'r blaen, a chuddio wrth Garreg Esel. Gwna i saethu tair saeth at ei hymyl hi, fel petawn i'n saethu at darged. Wedyn pan fydda i'n anfon gwas i nôl y saethau, os bydda i'n dweud, ‘Edrych, mae'r saethau yr ochr yma i ti. Dos i'w nôl nhw,’ yna gelli ddod yn ôl. Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw byddi'n saff, does yna ddim peryg. Ond os bydda i'n dweud wrth y bachgen, ‘Edrych, mae'r saethau yn bellach draw,’ yna, rhaid i ti ddianc. Yr ARGLWYDD fydd wedi dy anfon di i ffwrdd. Mae'r ARGLWYDD yn dyst i bopeth dŷn ni wedi ei addo i'n gilydd.” Felly dyma Dafydd yn mynd i guddio yn y cae. Ar Ŵyl y lleuad newydd dyma'r brenin Saul yn eistedd i fwyta. Eisteddodd yn ei le arferol, wrth y wal, gyda Jonathan gyferbyn ag e, ac Abner wrth ei ymyl. Ond roedd lle Dafydd yn wag. Ddwedodd Saul ddim byd y diwrnod hwnnw. Roedd e'n meddwl falle fod rhywbeth wedi digwydd fel bod Dafydd ddim yn lân yn seremonïol. Ond y diwrnod wedyn (sef ail ddiwrnod Gŵyl y lleuad newydd) roedd sedd Dafydd yn dal yn wag. A dyma Saul yn gofyn i Jonathan, “Pam nad ydy mab Jesse wedi dod i fwyta ddoe na heddiw?” Atebodd Jonathan, “Roedd Dafydd yn crefu arna i adael iddo fynd i Fethlehem. ‘Mae'n ddiwrnod aberthu i'n teulu ni,’ meddai, ‘ac mae fy mrawd wedi dweud fod rhaid i mi fod yno. Plîs gad i mi fynd i weld fy mrodyr.’ Dyna pam dydy e ddim yma i fwyta gyda'r brenin.” Dyma Saul yn gwylltio'n lân gyda Jonathan. “Y bastard dwl! ” meddai wrtho. “Ro'n ni'n gwybod dy fod ti ar ei ochr e. Ti'n codi cywilydd arnat ti dy hun a dy fam. Tra bydd mab Jesse yn dal yn fyw fyddi di byth yn frenin. Nawr, anfon i'w nôl e. Tyrd ag e ata i. Mae'n rhaid iddo farw!” Dyma Jonathan yn ateb ei dad, “Pam wyt ti eisiau ei ladd e? Be mae wedi ei wneud o'i le?” Yna dyma Saul yn taflu ei waywffon at Jonathan gan fwriadu ei daro. Felly roedd yn gwybod yn iawn bellach fod ei dad yn benderfynol o ladd Dafydd. Cododd Jonathan, a gadael y bwrdd. Roedd wedi gwylltio'n lân. Wnaeth e fwyta dim byd o gwbl y diwrnod hwnnw. Roedd wedi ypsetio'n lân am agwedd ei dad at Dafydd. Y bore wedyn dyma Jonathan yn mynd i'r cae i gyfarfod Dafydd. Aeth â bachgen ifanc gydag e. Dwedodd wrth y bachgen, “Rheda i nôl y saethau wrth i mi eu saethu.” Tra roedd y bachgen yn rhedeg dyma fe'n saethu un y tu draw iddo. Pan gyrhaeddodd y bachgen lle roedd y saeth wedi disgyn, dyma Jonathan yn gweiddi ar ei ôl, “Hei, ydy'r saeth ddim yn bellach draw?” A dyma Jonathan yn gweiddi arno eto, “Brysia! Dos yn dy flaen! Paid loetran!” A dyma'r bachgen yn casglu'r saeth a mynd yn ôl at ei feistr. (Doedd y bachgen ddim yn deall o gwbl. Dim ond Jonathan a Dafydd oedd yn gwybod beth oedd yn digwydd.) Wedyn dyma Jonathan yn rhoi ei offer i'r bachgen, a dweud wrtho am fynd â nhw yn ôl i'r dre. Ar ôl i'r bachgen fynd dyma Dafydd yn dod i'r golwg o'r tu ôl i'r pentwr. Aeth ar ei liniau ac ymgrymu gyda'i wyneb ar lawr dair gwaith. Wedyn dyma'r ddau ffrind yn cusanu ei gilydd a wylo, yn enwedig Dafydd. Dwedodd Jonathan wrth Dafydd, “Bendith arnat ti! Dŷn ni'n dau wedi gwneud addewid i'n gilydd o flaen yr ARGLWYDD. Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud yn siŵr ein bod ni a'n plant yn cadw'r addewid yna.” Felly dyma Dafydd yn mynd i ffwrdd, ac aeth Jonathan yn ôl adre. Dyma Dafydd yn mynd i Nob ble roedd Achimelech yn offeiriad. Roedd Achimelech yn nerfus iawn pan aeth allan at Dafydd, a gofynnodd iddo, “Pam wyt ti ar dy ben dy hun, a neb gyda ti?” A dyma Dafydd yn ateb, “Y brenin sydd wedi gofyn i mi wneud rhywbeth. Mae wedi dweud fod neb i gael gwybod pam na ble dw i'n mynd. Dw i wedi trefnu i'r milwyr fy nghyfarfod i mewn lle arbennig. Nawr, beth alli di ei roi i mi? Rho bum torth i mi, neu faint bynnag sydd gen ti.” Ond dyma'r offeiriad yn ateb, “Does gen i ddim bara cyffredin o gwbl, dim ond bara sydd wedi ei gysegru i Dduw. Cei hwnnw gen i os ydy'r milwyr ddim wedi cysgu gyda merched neithiwr.” “Wrth gwrs! Dŷn ni ddim wedi bod yn agos at ferched,” meddai Dafydd. “Dydy'r dynion ddim yn cael mynd at ferched pan maen nhw ar gyrch cyffredin, felly'n sicr ddim heddiw, pan maen nhw wedi cysegru eu hunain a'u harfau.” Felly dyma'r offeiriad yn rhoi'r bara cysegredig iddo. Doedd ganddo ddim bara arall i'w gynnig. Dyma'r bara oedd wedi cael ei gymryd oddi ar y bwrdd sydd o flaen yr ARGLWYDD, i fara ffres gael ei osod yn ei le pan oedd hi'n amser gwneud hynny. Roedd un o weision Saul yn digwydd bod yno y diwrnod hwnnw. Doedd e ddim yn gallu gadael am ei fod wedi mynd ar lw i'r ARGLWYDD. Doeg oedd ei enw ac roedd yn dod o Edom, a fe oedd fforman bugeiliaid Saul. Dyma Dafydd yn gofyn i Achimelech, “Oes gen ti gleddyf neu waywffon yma? Ro'n i ar gymaint o frys i ufuddhau i'r brenin, dw i wedi dod heb na chleddyf nac arfau.” “Mae cleddyf Goliath yma — y Philistiad wnest ti ei ladd yn Nyffryn Ela,” meddai'r offeiriad. “Mae wedi ei lapio mewn clogyn tu ôl i'r effod. Cei gymryd hwnnw os wyt ti eisiau. Hwnnw ydy'r unig un sydd yma.” Atebodd Dafydd, “Does dim un tebyg iddo! Rho fe i mi.” Felly dyma Dafydd yn mynd yn ei flaen y diwrnod hwnnw, a ffoi oddi wrth Saul at Achis brenin Gath. Ond dyma swyddogion Achis yn dweud, “Onid Dafydd ydy hwn, brenin y wlad? Onid am hwn roedden nhw'n canu wrth ddawnsio: ‘Mae Saul wedi lladd miloedd, ond Dafydd ddegau o filoedd.’?” Roedd beth ddwedon nhw yn codi ofn ar Dafydd. Beth fyddai Achis, brenin Gath, yn ei wneud iddo? Felly dyma Dafydd yn dechrau ymddwyn yn od o'u blaenau nhw, a chymryd arno ei fod yn wallgof. Roedd rhaid iddyn nhw ei atal. Roedd e'n crafu drysau'r giât ac yn slefrian poer i lawr ei farf. Dyma Achis yn dweud wrth ei swyddogion, “Edrychwch mae'r dyn yn wallgof! Pam ddaethoch chi ag e ata i? Mae gen i ddigon o ffyliaid o'm cwmpas i heb i chi ddod â hwn i actio'r ffŵl o'm blaen i! Ewch â fe i ffwrdd o'r palas!” Felly dyma Dafydd yn dianc o Gath a mynd i Ogof Adwlam. Pan glywodd ei frodyr a'i deulu ei fod yno dyma nhw'n mynd ato. Roedd pawb oedd mewn helynt yn ymuno gydag e hefyd, a rhai oedd mewn dyled, neu gyda chwyn o ryw fath. Roedd tua 400 ohonyn nhw i gyd, a Dafydd yn eu harwain nhw. Aeth Dafydd ymlaen o'r fan honno i Mitspe yn Moab. Gofynnodd i frenin Moab, “Plîs wnei di adael i dad a mam aros yma, nes bydda i yn gwybod be mae Duw am ei wneud i mi?” Felly aeth â nhw i aros at frenin Moab, a buon nhw'n aros gydag e yr holl amser roedd Dafydd yn y gaer. Yna dyma Gad, y proffwyd, yn rhybuddio Dafydd, “Paid aros yn ei gaer. Dos yn ôl i wlad Jwda.” Felly dyma Dafydd yn mynd i Goedwig Chereth. Clywodd Saul fod Dafydd a'r dynion oedd gydag e wedi cael eu gweld. Roedd Saul yn Gibea yn eistedd o dan y goeden tamarisg ar ben y bryn, gyda'i waywffon yn ei law a'i swyddogion o'i gwmpas. A dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Gwrandwch, bobl Benjamin. Ydy mab Jesse'n mynd i roi tir a gwinllannoedd i chi? Ydy e'n mynd i'ch gwneud chi'n gapteiniaid ac yn swyddogion yn ei fyddin? Pam dych chi'n cynllwynio yn fy erbyn i? Pam wnaeth neb ddweud wrtho i fod fy mab fy hun wedi gwneud cytundeb gyda mab Jesse? Doedd neb yn cydymdeimlo hefo fi. Doedd neb yn fodlon dweud wrtho i fod fy mab i fy hun yn helpu gwas i mi i baratoi i ymosod arna i. Dyna sy'n digwydd!” Yna dyma Doeg (y dyn o Edom oedd yn un o swyddogion Saul) yn dweud, “Gwnes i weld mab Jesse yn Nob. Roedd wedi mynd at yr offeiriad Achimelech fab Achitwf. Gweddïodd hwnnw am arweiniad yr ARGLWYDD iddo, ac yna rhoi bwyd iddo. Rhoddodd gleddyf Goliath y Philistiad iddo hefyd.” Felly dyma Saul yn anfon am Achimelech fab Achitwf, a'r offeiriaid eraill yn Nob. A dyma nhw i gyd yn dod at y brenin. “Gwranda, fab Achitwf,” meddai Saul wrtho. A dyma fe'n ateb, “Ie, syr?” Ac meddai Saul, “Pam wyt ti a mab Jesse wedi cynllwyn yn fy erbyn i? Rhoist ti fara a chleddyf iddo. Wedyn gweddïo am arweiniad Duw iddo, i wrthryfela yn fy erbyn i! Mae e wrthi heddiw yn paratoi i ymosod arna i!” Dyma Achimelech yn ateb y brenin, “Pwy o dy holl weision di sy'n fwy ffyddlon i ti na Dafydd? Dy fab-yng-nghyfraith di ydy e! Capten dy warchodlu di! Mae e'n uchel ei barch gan bawb yn dy balas. Ai dyna'r tro cyntaf i mi weddïo am arweiniad Duw iddo? Wrth gwrs ddim! Ddylai'r brenin ddim fy nghyhuddo i, na neb arall o'm teulu, o wneud dim o'i le. Doeddwn i'n gwybod dim byd o gwbl am y peth.” Ond dyma'r brenin yn ateb, “Rhaid i ti a dy deulu i gyd farw Achimelech!” Yna dyma fe'n dweud wrth y milwyr oedd o'i gwmpas, “Daliwch yr offeiriaid a lladdwch nhw, achos maen nhw ar ochr Dafydd! Roedden nhw'n gwybod ei fod e'n dianc, ond wnaethon nhw ddim dweud wrtho i.” Ond doedd y milwyr ddim yn fodlon ymosod ar offeiriaid yr ARGLWYDD. Felly dyma'r brenin yn dweud wrth Doeg, “Ti! Ymosod di arnyn nhw a'u lladd nhw.” Felly dyma Doeg, oedd o wlad Edom, yn mynd allan a'u taro nhw. Lladdodd Doeg wyth deg pump o offeiriaid allai wisgo effod o liain y diwrnod hwnnw. Wedyn aeth i ymosod ar dref Nob, lle roedd yr offeiriaid yn byw, a lladd pawb yno hefyd — dynion a merched, plant a babis bach, a hyd yn oed y gwartheg, yr asynnod a'r defaid. Ond dyma un o feibion Achimelech yn llwyddo i ddianc, sef Abiathar. Aeth at Dafydd a dweud wrtho fod Saul wedi lladd offeiriaid yr ARGLWYDD. “Pan welais i Doeg y diwrnod hwnnw,” meddai Dafydd, “ron ni'n gwybod y byddai'n siŵr o ddweud wrth Saul. Arna i mae'r bai fod dy deulu di i gyd wedi cael eu lladd. Aros di gyda mi. Paid bod ag ofn. Mae'r un sydd eisiau fy ladd i yn mynd i fod eisiau dy ladd di hefyd. Ond byddi'n saff yma hefo fi.” Clywodd Dafydd fod y Philistiaid wedi ymosod ar Ceila, ac yn dwyn ŷd o'r lloriau dyrnu. A dyma fe'n gofyn am arweiniad yr ARGLWYDD, “Ddylwn i fynd i ymosod ar y Philistiaid yma?” A dyma'r ARGLWYDD yn ateb, “Ie, dos. Ymosod ar y Philistiaid ac achub Ceila.” Ond dyma ddynion Dafydd yn dweud wrtho, “Mae arnon ni ddigon o ofn yma yn Jwda! Sut fydd hi os awn ni i Ceila i ymladd yn erbyn byddin y Philistiaid?” Aeth Dafydd i ofyn i'r ARGLWYDD eto. A dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r un ateb iddo, “Cod, a dos i lawr i Ceila, achos bydda i'n gwneud i ti ennill y frwydr yn erbyn y Philistiad.” Felly dyma Dafydd a'i ddynion yn mynd i Ceila ac ymladd yn erbyn y Philistiaid, a dwyn eu gwartheg nhw. Roedd lladdfa ofnadwy, ond llwyddodd Dafydd i achub pobl Ceila. Pan oedd Abiathar, mab Achimelech, wedi dianc at Dafydd, roedd wedi dod ag effod gydag e. Clywodd Saul fod Dafydd wedi dod i Ceila, a dwedodd, “Mae Duw wedi ei roi e yn fy nwylo i! Mae e wedi cau ei hun mewn trap drwy fynd i dref sydd â giatiau dwbl a barrau i'w cloi.” Felly dyma Saul yn galw ei fyddin gyfan at ei gilydd, i fynd i Ceila i warchae ar Dafydd a'i ddynion. Pan glywodd Dafydd fod Saul yn cynllunio i ymosod arno, dyma fe'n galw ar Abiathar yr offeiriad, “Tyrd â'r effod yma.” Yna dyma fe'n gweddïo: “O ARGLWYDD, Duw Israel, dw i wedi clywed fod Saul yn bwriadu dod yma i Ceila i ddinistrio'r dre am fy mod i yma. Fydd awdurdodau'r dre yn fy rhoi yn ei ddwylo? Ydy Saul wir yn dod i lawr, fel dw i wedi clywed? O ARGLWYDD, Duw Israel, plîs ateb dy was.” A dyma'r ARGLWYDD yn dweud, “Ydy, mae e yn dod.” A dyma Dafydd yn gofyn, “Fydd awdurdodau Ceila yn fy rhoi i a'm dynion i Saul?” A dyma'r ARGLWYDD yn ateb, “Byddan.” Felly dyma Dafydd a'i ddynion (tua 600 ohonyn nhw i gyd) yn gadael Ceila ar unwaith. Roedden nhw'n symud o le i le. Pan glywodd Saul fod Dafydd wedi dianc o Ceila, dyma fe'n rhoi'r gorau i'w fwriad i ymosod ar y dre. Bu Dafydd yn cuddio mewn lleoedd saff yn yr anialwch, ac yn y bryniau o gwmpas Siff. Roedd Saul yn chwilio amdano trwy'r amser. Ond wnaeth Duw ddim gadael iddo ei ddal. Pan oedd Dafydd yn Horesh yn anialwch Siff, roedd ganddo ofn am fod Saul wedi dod yno i geisio ei ladd e. Dyma Jonathan, mab Saul, yn mynd draw i Horesh at Dafydd i'w annog i drystio Duw. Dwedodd wrtho, “Paid bod ag ofn! Fydd fy nhad Saul ddim yn dod o hyd i ti. Ti fydd brenin Israel a bydda i'n ddirprwy i ti. Mae dad yn gwybod hyn yn iawn.” Ar ôl i'r ddau ymrwymo o flaen yr ARGLWYDD i fod yn ffyddlon i'w gilydd, dyma Dafydd yn aros yn Horesh ac aeth Jonathan adre. Aeth rhai o bobl Siff at Saul i Gibea a dweud wrtho, “Wyt ti'n gwybod fod Dafydd yn cuddio wrth ein hymyl ni? Mae yn y cuddfannau wrth Horesh, ar Fryn Hachila i'r de o Jeshimon. Tyrd i lawr pryd bynnag wyt ti eisiau, O frenin. Awn ni'n gyfrifol am ei roi e yn dy afael di.” “Dych chi wedi bod yn garedig iawn ata i. Bendith yr ARGLWYDD arnoch chi!” meddai Saul. “Ewch i baratoi. Gwnewch yn siŵr ble mae e, a pwy sydd wedi ei weld e yno. Maen nhw'n dweud i mi ei fod yn un cyfrwys. Ffeindiwch allan lle yn union mae e'n cuddio. Pan fyddwch chi'n berffaith siŵr, dewch yn ôl ata i, a bydda i'n dod gyda chi. Bydda i yn dod o hyd iddo ble bynnag mae e yng nghanol pobl Jwda i gyd.” Felly dyma nhw'n mynd yn ôl i Siff, o flaen Saul. Roedd Dafydd a'i ddynion yn anialwch Maon, yn yr Araba i'r de o Jeshimon. A dyma Saul a'i ddynion yn mynd i chwilio amdano. Ond dyma Dafydd yn cael gwybod, ac aeth i lawr i le o'r enw Y Graig, ac aros yno yn anialwch Maon. Clywodd Saul am hyn ac aeth ar ôl Dafydd i anialwch Maon. Roedd Saul un ochr i'r mynydd pan oedd Dafydd a'i ddynion yr ochr arall. Roedd Dafydd yn brysio i geisio osgoi Saul, ond roedd Saul a'i filwyr ar fin amgylchynu Dafydd a'i ddynion a'i dal nhw. Ond yna daeth neges yn dweud wrth Saul am frysio'n ôl adre am fod y Philistiaid wedi ymosod ar y wlad. Felly roedd rhaid i Saul stopio mynd ar ôl Dafydd a mynd i ymladd yn erbyn y Philistiaid. (Dyna pam mae'r lle yn cael ei alw yn Graig y Gwahanu.) Yna aeth Dafydd i fyny oddi yno ac aros mewn lle saff yn En-gedi. Pan ddaeth Saul yn ôl ar ôl bod yn ymladd yn erbyn y Philistiaid dyma nhw'n dweud wrtho fod Dafydd yn anialwch En-gedi. Dewisodd Saul dair mil o filwyr gorau Israel, a mynd i Greigiau'r Geifr Gwyllt i chwilio am Dafydd. Ar y ffordd, wrth ymyl corlannau'r defaid, roedd yna ogof. Roedd Saul eisiau mynd i'r tŷ bach, felly aeth i mewn i'r ogof. Roedd Dafydd a'i ddynion yn cuddio ym mhen draw'r ogof ar y pryd. A dyma'r dynion yn dweud wrth Dafydd, “Dyma ti'r diwrnod y dwedodd yr ARGLWYDD wrthot ti amdano, ‘Bydda i'n rhoi dy elyn yn dy afael, a chei wneud fel y mynni gydag e.’” A dyma Dafydd a mynd draw yn ddistaw bach, a thorri cornel mantell Saul i ffwrdd. Ond wedyn roedd ei gydwybod yn ei boeni am ei fod wedi torri cornel mantell Saul. Meddai wrth ei ddynion, “Ddylwn i ddim bod wedi gwneud y fath beth. Sut allwn i wneud dim yn erbyn fy meistr? Fe ydy'r brenin wedi ei eneinio gan yr ARGLWYDD.” A dyma Dafydd yn rhwystro ei ddynion rhag ymosod ar Saul. Felly dyma Saul yn mynd allan o'r ogof ac ymlaen ar ei ffordd. Yna dyma Dafydd yn mynd allan a gweiddi ar ei ôl, “Fy mrenin! Meistr!” Trodd Saul rownd i edrych, a dyma Dafydd yn ymgrymu iddo â'i wyneb ar lawr. A dyma Dafydd yn gofyn i Saul, “Pam wyt ti'n gwrando ar y straeon fy mod i eisiau gwneud niwed i ti? Rwyt ti wedi gweld drosot dy hun heddiw fod Duw wedi dy roi di yn fy ngafael i pan oeddet ti yn yr ogof. Roedd rhai yn annog fi i dy ladd di, ond wnes i ddim codi llaw yn erbyn fy meistr. Ti ydy'r un mae'r ARGLWYDD wedi ei eneinio'n frenin! Edrych, syr. Ie, edrych — dyma gornel dy fantell di yn fy llaw i. Gwnes i dorri cornel dy fantell di, ond wnes i ddim dy ladd di. Dw i eisiau i ti ddeall nad ydw i'n gwrthryfela, nac yn bwriadu dim drwg i ti. Dw i ddim wedi gwneud cam â thi er dy fod ti ar fy ôl i yn ceisio fy lladd i. Caiff yr ARGLWYDD farnu rhyngon ni'n dau. Caiff e ddial arnat ti, ond wna i ddim dy gyffwrdd di. Fel mae'r hen ddihareb yn dweud, ‘O'r rhai drwg y daw drygioni.’ Wna i ddim drwg i ti. Ar ôl pwy mae brenin Israel wedi dod allan? Pwy wyt ti'n ceisio'i ddal? Dw i'n neb. Ci marw ydw i! Chwannen! Boed i'r ARGLWYDD farnu rhyngon ni'n dau. Bydd e'n ystyried yr achos ac yn dadlau o'm plaid i. Bydd e'n fy achub i o dy afael di!” Ar ôl i Dafydd ddweud hyn, dyma Saul yn ei ateb, “Ai ti sydd yna go iawn, Dafydd, machgen i?” A dyma fe'n dechrau crïo'n uchel. Yna dyma fe'n dweud, “Ti'n well dyn na fi. Ti wedi bod yn dda ata i er fy mod i wedi ceisio gwneud drwg i ti. Ti wedi dangos hynny heddiw drwy fod yn garedig ata i. Roedd yr ARGLWYDD wedi rhoi'r cyfle i ti fy lladd i, ond wnest ti ddim. Pan mae dyn yn dod o hyd i'w elyn, ydy e'n ei ollwng e'n rhydd? Boed i'r ARGLWYDD fod yn dda atat ti am beth wnest ti i mi heddiw. Gwranda, dw i'n gwybod yn iawn mai ti fydd yn frenin, a bydd teyrnas Israel yn llwyddo yn dy law di. Addo i mi, o flaen yr ARGLWYDD, na fyddi di'n lladd fy mhlant i gyd, a gadael neb i gario enw'r teulu yn ei flaen.” Ar ôl i Dafydd addo hynny ar lw i Saul, dyma Saul yn mynd adre, a dyma Dafydd a'i ddynion yn mynd yn ôl i fyny i'w guddfan. Roedd Samuel wedi marw, a daeth pobl Israel i gyd at ei gilydd i alaru amdano. Cafodd ei gladdu ger ei gartre yn Rama. Aeth Dafydd i lawr i anialwch Maon. Roedd yna ddyn cyfoethog iawn yn byw yn Maon, yn cadw tir wrth ymyl Carmel. Roedd ganddo dair mil o ddefaid a mil o eifr. Roedd e yn Carmel yn cneifio ei ddefaid. Nabal oedd enw'r dyn, ac Abigail oedd enw ei wraig. Roedd hi'n ddynes ddoeth, hardd iawn, ond roedd e'n ddyn blin ac annifyr. Roedd e'n dod o deulu Caleb. Pan oedd Dafydd yn yr anialwch clywodd fod Nabal yn cneifio yn Carmel. Dyma fe'n anfon deg o'i weision ifanc ato. Meddai wrthyn nhw, “Ewch i weld Nabal yn Carmel, a'i gyfarch e i mi. Dwedwch wrtho, ‘Heddwch a llwyddiant i ti a dy deulu! Gobeithio y cei di flwyddyn dda! Ro'n i'n clywed dy fod yn cneifio. Pan oedd dy fugeiliaid di gyda ni yn Carmel, wnaethon ni ddim tarfu arnyn nhw na dwyn dim pan oedden nhw yno. Gofyn i dy weision; gallan nhw ddweud wrthot ti mai felly roedd hi. Felly, wnei di fod yn garedig at fy ngweision i? Maen nhw wedi dod i dy weld ar ddydd gŵyl. Oes gen ti rywbeth i'w sbario i'w roi i dy weision ac i dy was Dafydd?’” Felly dyma'r gweision ifanc yn mynd ac yn cyfarch Nabal ar ran Dafydd, yn union fel roedd e wedi dweud wrthyn nhw. Dyma nhw'n disgwyl iddo ateb. Yna meddai Nabal. “Dafydd? Pwy mae e'n feddwl ydy e? Mab Jesse? Mae yna gymaint o weision yn rhedeg i ffwrdd oddi wrth eu meistri y dyddiau yma! Pam ddylwn i roi fy mara, a'm dŵr a'm cig, sydd wedi ei baratoi i'r cneifwyr, i ryw griw ddynion dw i'n gwybod dim byd amdanyn nhw?” Felly dyma weision Dafydd yn mynd yn ôl, a dweud y cwbl wrtho. Pan glywodd Dafydd beth oedd wedi digwydd, dyma fe'n rhoi gorchymyn i'w ddynion, “Pawb i wisgo'i gleddyf!” Ac wedi iddyn nhw i gyd wneud hynny, dyma tua pedwar cant ohonyn nhw'n mynd gyda Dafydd, gan adael dau gant ar ôl gyda'r offer. Yn y cyfamser roedd un o weision Nabal wedi dweud wrth Abigail, “Roedd Dafydd wedi anfon negeswyr o'r anialwch i gyfarch y meistr, ond dyma fe'n gweiddi a rhegi arnyn nhw. Roedden nhw wedi bod yn dda iawn wrthon ni. Wnaethon nhw ddim tarfu arnon ni, na dwyn dim yr holl amser roedden ni gyda'n gilydd yng nghefn gwlad. Roedden nhw fel wal o'n cwmpas ni yn ein hamddiffyn ni nos a dydd, yr holl amser y buon ni'n gofalu am y defaid yn yr ardal honno. Rhaid i ti feddwl am rywbeth, neu trychineb sy'n aros y meistr a'i deulu i gyd. Ond mae e'n greadur mor gas, does dim pwynt i neb ddweud dim wrtho fe!” Dyma Abigail yn brysio i gasglu bwyd a'i roi ar gefn asynnod: dau gan torth o fara, dwy botel groen o win, pum dafad wedi eu paratoi, pum sachaid o rawn wedi ei grasu, can swp o rhesins a dau gant o fariau ffigys. Yna dyma hi'n dweud wrth ei gweision, “Ewch chi o'm blaen i. Dof fi ar eich ôl.” Ond ddwedodd hi ddim wrth ei gŵr Nabal. Roedd hi'n marchogaeth ar gefn asyn ac yn pasio heibo yng nghysgod y mynydd pan ddaeth Dafydd a'i ddynion i'w chyfarfod o'r cyfeiriad arall. Roedd Dafydd wedi bod yn meddwl, “Roedd hi'n wastraff amser llwyr i mi warchod eiddo'r dyn yna yn yr anialwch! Gymerais i ddim oddi arno, a dyma fe nawr yn talu drwg am dda i mi. Boed i Dduw ddial arna i os gwna i adael un o'i ddynion e yn dal yn fyw erbyn y bore!” Pan welodd Abigail Dafydd, dyma hi'n disgyn oddi ar ei hasyn ar frys. Dyma hi'n mynd ar ei gliniau ac ymgrymu ar lawr o'i flaen. A dyma hi'n dweud, “Arna i mae'r bai, syr. Plîs gwranda ar dy forwyn, i mi gael egluro. Paid cymryd sylw o beth mae'r dyn annifyr yna, Nabal, yn ei ddweud. Ffŵl ydy ystyr ei enw, ac ffŵl ydy e. Wnes i, dy forwyn, ddim gweld y gweision wnest ti eu hanfon. A nawr, syr, heb unrhyw amheuaeth, mae'r ARGLWYDD yn dy gadw di rhag tywallt gwaed a dial drosot ti dy hun. Boed i dy elynion, a phawb sydd am wneud drwg i ti, fod fel Nabal. Dw i wedi dod â rhodd i ti, syr, i ti ei roi i'r dynion ifanc sy'n dy ganlyn. Plîs maddau i mi am fusnesa. Mae Duw yn mynd i sicrhau dy linach di, syr, am byth. Brwydrau'r ARGLWYDD wyt ti'n eu hymladd. Dwyt ti erioed wedi gwneud dim byd o'i le! Os bydd rhywun yn codi yn dy erbyn a ceisio dy ladd di, bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn dy gadw di'n saff. Ond bydd bywyd dy elyn yn cael ei daflu i ffwrdd fel carreg o ffon dafl! Pan fydd yr ARGLWYDD wedi gwneud popeth mae e wedi addo i ti, a dy wneud di'n arweinydd Israel, fydd dy gydwybod ddim yn dy boeni am dy fod wedi tywallt gwaed am ddim rheswm, a dial drosot ti dy hun. A pan fydd yr ARGLWYDD wedi gwneud hyn i gyd i'm meistr, cofia amdana i, dy forwyn.” Dyma Dafydd yn ateb, “Bendith ar yr ARGLWYDD, Duw Israel, am iddo dy anfon di ata i! Diolch i ti am dy gyngor doeth, a bendith Duw arnat ti. Ti wedi fy rhwystro i, heddiw, rhag tywallt gwaed yn ddiangen a dial trosof fy hun. Yn wir i ti, oni bai dy fod ti wedi brysio i ddod ata i, fyddai gan Nabal ddim un dyn ar ôl yn fyw erbyn y bore. Mae'r ARGLWYDD, Duw Israel wedi fy rhwystro i rhag gwneud drwg heddiw.” Yna dyma Dafydd yn cymryd y pethau roedd hi wedi dod â nhw iddo. “Dos adre'n dawel dy feddwl. Dw i wedi gwrando, a bydda i'n gwneud beth rwyt ti eisiau.” Pan aeth Abigail yn ôl at Nabal roedd yn cynnal parti mawr fel petai'n frenin. Roedd yn cael amser da ac wedi meddwi'n gaib. Felly ddwedodd Abigail ddim byd o gwbl wrtho tan y bore. Yna'r bore wedyn, ar ôl iddo sobri, dyma hi'n dweud yr hanes i gyd wrtho. Pan glywodd Nabal, dyma fe'n cael strôc. Roedd yn gorwedd wedi ei barlysu. Rhyw ddeg diwrnod wedyn dyma Duw ei daro, a buodd farw. Pan glywodd Dafydd fod Nabal wedi marw, dyma fe'n dweud, “Bendith ar yr ARGLWYDD! Mae wedi dial drosta i am y sarhad ges i gan Nabal. Mae wedi fy nghadw i rhag gwneud drwg ac wedi talu nôl i Nabal.” Yna dyma fe'n anfon neges at Abigail yn gofyn iddi ei briodi e. Dyma weision Dafydd yn mynd i Carmel at Abigail a dweud wrthi, “Mae Dafydd wedi'n hanfon ni i ofyn i ti ei briodi e.” Cododd Abigail plygu yn isel o'u blaenau nhw, a dweud, “Byddwn i, eich morwyn chi, yn hapus i fod yn gaethferch sy'n golchi traed gweision fy meistr.” Yna dyma hi'n brysio mynd ar gefn ei hasyn, ac aeth â pum morwyn gyda hi. Aeth yn ôl gyda gweision Dafydd, a dod yn wraig iddo. Roedd Dafydd wedi priodi Achinoam o Jesreel hefyd. Roedd y ddwy yn wragedd iddo. (Roedd Saul wedi rhoi ei ferch Michal, oedd wedi bod yn wraig i Dafydd, i Paltiel fab Laish o dref Galîm.) Dyma bobl Siff yn mynd i Gibea i weld Saul eto, a dweud wrtho fod Dafydd yn cuddio ar Fryn Hachila wrth ymyl Jeshimon. Felly, dyma Saul yn mynd i lawr i anialwch Siff, gyda thair mil o filwyr gorau Israel, i chwilio am Dafydd. Dyma Saul yn codi gwersyll wrth y ffordd fawr ar Fryn Hachila wrth ymyl Jeshimon, ond roedd Dafydd allan yn yr anialwch. Pan glywodd Dafydd fod Saul wedi dod ar ei ôl, dyma fe'n anfon ysbiwyr i wneud yn berffaith siŵr fod Saul yno. Yna dyma Dafydd yn mynd draw i'r lle roedd Saul a'i filwyr yn gwersylla. Gwelodd ble roedd Saul ac Abner fab Ner (capten ei fyddin) yn cysgu. Roedd Saul yn y canol, a'i filwyr wedi gwersylla o'i gwmpas. Gofynnodd Dafydd i Achimelech yr Hethiad, ac i frawd Joab, sef Abishai fab Serwia, “Pwy sydd am ddod i lawr gyda mi i wersyll Saul?” A dyma Abishai yn ateb, “Dof i hefo ti.” Felly ar ôl iddi nosi, dyma Dafydd ac Abishai yn mynd i ganol y milwyr. A dyna lle roedd Saul yn cysgu. Roedd ei waywffon wedi ei gwthio i'r ddaear wrth ei ben, ac roedd Abner a'r milwyr yn gorwedd o'i gwmpas. “Mae Duw wedi rhoi dy elyn yn dy afael di heddiw,” meddai Abishai wrth Dafydd. “Gad i mi ei drywanu a'i hoelio i'r ddaear gyda'r waywffon. Un ergyd fydd ei angen.” Ond dyma Dafydd yn ei ateb, “Na, paid â'i ladd! Alli di ddim gwneud niwed i'r un mae'r ARGLWYDD wedi ei eneinio'n frenin ac aros yn ddieuog! Yr ARGLWYDD ei hun fydd yn ei daro. Naill ai bydd ei amser yn dod a bydd e'n marw, neu bydd e'n mynd i ryfel ac yn cael ei ladd. Duw am helpo rhag i mi wneud niwed i'r un mae'r ARGLWYDD wedi ei eneinio'n frenin! Tyrd, cymer y waywffon sydd wrth ei ben, a'i botel ddŵr, a gad i ni fynd o ma.” Felly dyma Dafydd yn cymryd y waywffon a'r botel ddŵr oedd wrth ben Saul, a dianc heb i neb weld na chlywed dim, na hyd yn oed troi yn ei gwsg. Roedd yr ARGLWYDD wedi gwneud iddyn nhw i gyd gysgu'n drwm. Aeth Dafydd yn ôl i'r ochr draw a sefyll ar gopa'r mynydd, yn ddigon pell oddi wrth wersyll Saul. Yna dyma fe'n gweddi ar y fyddin ac ar Abner fab Ner. “Wyt ti ddim am ateb, Abner?” meddai. “Pwy sydd yna'n galw ar y brenin?” meddai Abner. “Dwyt ti ddim llawer o ddyn!” meddai Dafydd. “Ro'n i'n meddwl mai ti oedd pennaeth byddin Israel! Pam wyt ti ddim wedi gwarchod dy feistr? Daeth un o'm milwyr draw acw i'w ladd e — dy feistr di, ie, dy frenin di! Wnest ti ddim job dda iawn. Dych chi i gyd yn haeddu marw am beidio amddiffyn eich meistr, yr un wnaeth yr ARGLWYDD ei eneinio'n frenin. Dos i edrych ble mae gwaywffon y brenin, a'r botel ddŵr oedd wrth ei ben!” Dyma Saul yn nabod llais Dafydd. “Ai ti sydd yna Dafydd, machgen i?” meddai. A dyma Dafydd yn ateb, “Ie, fy meistr y brenin, fi sydd yma. Pam wyt ti wedi dod ar fy ôl i, syr? Be dw i wedi ei wneud? Pa ddrwg wnes i? Gad i'm meistr y brenin wrando ar beth sydd gan dy was i'w ddweud. Os mai'r ARGLWYDD sydd wedi dy annog di i wneud hyn, dylai gael ei offrwm. Ond os mai pobl feidrol wnaeth, byddan nhw'n cael eu melltithio ganddo! Maen nhw wedi fy ngyrru i allan o dir yr ARGLWYDD ei hun, fel petaen nhw'n dweud, ‘Dos i addoli duwiau eraill!’ Paid gadael i mi farw mewn gwlad arall, yn bell oddi wrth yr ARGLWYDD! Mae brenin Israel yn chwilio am chwannen! Mae fel rhywun sy'n hela petris yn y bryniau!” Yna dyma Saul yn ateb, “Dw i ar fai. Tyrd yn ôl Dafydd, machgen i. Wna i ddim niwed i ti eto. Ti wedi arbed fy mywyd i heddiw. Dw i wedi bod yn wirion ac wedi gwneud camgymeriad mawr!” Atebodd Dafydd, “Dyma waywffon y brenin. Gad i un o'r bechgyn ddod draw i'w nôl hi. Mae'r ARGLWYDD yn talu i ddyn am fod yn onest ac yn ffyddlon. Rhoddodd gyfle i mi dy ladd di heddiw, ond doeddwn i ddim yn fodlon gwneud niwed i'r dyn mae'r ARGLWYDD wedi ei eneinio'n frenin. Fel gwnes i arbed dy fywyd di, boed i'r ARGLWYDD arbed fy mywyd i a'm hachub o bob helynt.” A dyma Saul yn ei ateb, “Bendith arnat ti Dafydd, machgen i. Does dim amheuaeth dy fod ti'n mynd i lwyddo.” Yna dyma Dafydd yn mynd i ffwrdd ac aeth Saul yn ôl adre. Meddyliodd Dafydd, “Mae Saul yn mynd i'm lladd i un o'r dyddiau yma. Y peth gorau i mi fyddai dianc i wlad y Philistiaid. Wedyn bydd Saul yn rhoi'r gorau i geisio dod o hyd i mi yn ngwlad Israel. Bydda i wedi llwyddo i ddianc o'i afael.” Felly dyma fe a'i chwe chant o ddynion yn croesi drosodd i dref Gath at y Brenin Achis, mab Maoch. Arhosodd Dafydd, a'i ddynion a'u teuluoedd, gydag Achis yn Gath. Roedd dwy wraig Dafydd gydag e hefyd, sef Achinoam o Jesreel ac Abigail o Carmel, gweddw Nabal. Pan glywodd Saul fod Dafydd wedi dianc i Gath, dyma fe'n rhoi'r gorau i chwilio amdano. Dyma Dafydd yn gofyn i Achis, “Plîs ga i fynd i fyw yn un o'r trefi cefn gwlad? Ddylwn i, dy was, ddim bod yn byw yn ninas y brenin.” Felly dyma Achis yn rhoi tref Siclag i Dafydd y diwrnod hwnnw (A dyna pam mae Siclag yn dal i berthyn i deyrnas Jwda hyd heddiw.) Buodd Dafydd yn byw yng nghefn gwlad Philistia am flwyddyn a pedwar mis. Byddai Dafydd yn mynd allan gyda'i ddynion i ymosod ar y Geshwriaid, y Girsiaid a'r Amaleciaid. (Roedden nhw wedi bod yn byw yn yr ardal ers amser maith, o Shwr hyd at wlad yr Aifft.) Pan fyddai Dafydd yn ymosod ar ardal byddai'n lladd pawb, yn ddynion a merched. Wedyn byddai'n cymryd y defaid, gwartheg, asynnod, camelod a'r dillad, a mynd â nhw i Achis. Os byddai Achis yn gofyn, “Ble wnest ti ymosod y tro yma?”, byddai Dafydd yn ateb, “Negef Jwda,” neu “Negef Ierachmeël,” neu “Negef y Ceneaid.” Doedd e byth yn gadael neb yn fyw, dynion na merched, rhag ofn iddyn nhw ddod i Gath a dweud beth oedd e'n wneud go iawn. A dyma fuodd Dafydd yn ei wneud yr holl amser roedd yn aros yng nghefn gwlad Philistia. Roedd Achis yn trystio Dafydd ac yn meddwl, “Mae'n siŵr fod ei bobl yn Israel yn ei ffieiddio'n llwyr erbyn hyn! Bydd e'n was i mi am byth.” Tua'r adeg yna, dyma'r Philistiaid yn casglu eu byddinoedd at ei gilydd i fynd allan i ryfela yn erbyn Israel. A dyma Achis yn dweud wrth Dafydd, “Dw i eisiau i ti ddeall fy mod i'n disgwyl i ti a dy ddynion ddod gyda mi.” Ac meddai Dafydd, “Iawn, cei weld drosot dy hun be alla i, dy was, ei wneud!” A dyma Achis yn ei ateb, “Iawn, cei fod yn warchodwr personol i mi o hyn ymlaen.” Roedd Samuel wedi marw, ac roedd Israel gyfan wedi galaru ar ei ôl a'i gladdu heb fod yn bell o'i gartre yn Rama. Roedd Saul wedi gyrru'r bobl oedd yn mynd ar ôl ysbrydion a'r rhai oedd yn siarad â'r meirw allan o'r wlad. Dyma'r Philistiaid yn dod at ei gilydd ac yn codi gwersyll yn Shwnem. Felly dyma Saul yn casglu byddin gyfan Israel at ei gilydd a chodi gwersyll yn Gilboa. Ond pan welodd Saul wersyll y Philistiaid roedd wedi dychryn am ei fywyd. Felly dyma fe'n gofyn am help gan yr ARGLWYDD, ond doedd yr ARGLWYDD ddim yn ei ateb — drwy freuddwyd, drwy'r Wrim (oedd gan offeiriad), na drwy broffwydi. Felly dyma Saul yn dweud wrth ei swyddogion, “Chwiliwch am wraig sy'n gallu dewino, i mi fynd ati hi i gael ei holi.” A dyma'i swyddogion yn ei ateb, “Mae yna wraig sy'n dewino yn En-dor. ” Dyma Saul yn newid ei ddillad a chymryd arno fod yn rhywun arall. Aeth â dau ddyn gydag e a mynd i weld y wraig ganol nos. Meddai wrthi, “Consuria i mi, a galw i fyny y person dw i'n gofyn amdano.” Dyma'r wraig yn ei ateb, “Ti'n gwybod yn iawn be mae Saul wedi ei wneud. Mae wedi gyrru pawb sy'n ymhél ag ysbrydion ac yn siarad â'r meirw allan o'r wlad. Wyt ti'n ceisio gosod trap i'm lladd i?” Ond dyma Saul yn addo ar lw o flaen yr ARGLWYDD, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, fydd dim byd drwg yn digwydd i ti am wneud hyn.” Felly dyma'r wraig yn gofyn iddo, “Pwy wyt ti eisiau i mi ei alw i ti?” A dyma fe'n ateb, “Galw Samuel i fyny ata i.” Pan welodd hi Samuel, dyma'r ddynes yn rhoi sgrech. “Pam wnest ti fy nhwyllo i?” meddai, “Saul wyt ti!” Dyma'r brenin yn dweud wrthi, “Paid bod ag ofn. Dywed be rwyt ti'n weld.” Ac meddai'r wraig wrth Saul, “Dw i'n gweld ysbryd yn dod i fyny o'r ddaear.” “Sut un ydy e?” meddai Saul. A dyma hi'n ateb, “Hen ŵr ydy e. Mae'n gwisgo mantell amdano.” Roedd Saul yn gwybod mai Samuel oedd e, a dyma fe'n mynd ar ei liniau a plygu â'i wyneb ar lawr. Dyma Samuel yn gofyn i Saul, “Pam wyt ti wedi tarfu arna i, a'm galw i fyny?” A dyma Saul yn ateb, “Dw i mewn helynt. Mae'r Philistiaid wedi dod i ryfela yn fy erbyn i, ac mae Duw wedi troi cefn arna i. Dydy e ddim yn fy ateb i drwy'r proffwydi na trwy freuddwydion. Dyna pam dw i wedi dy alw di. Dw i eisiau i ti ddweud wrtho i be i'w wneud.” Dyma Samuel yn ei ateb, “Os ydy'r ARGLWYDD wedi troi cefn arnat ti a throi'n elyn i ti, pam ti'n troi ata i? Mae'r ARGLWYDD wedi gwneud yn union beth wnes i broffwydo! Mae e wedi rhwygo'r deyrnas oddi arnat ti a'i rhoi hi i Dafydd. Wnest ti ddim gwrando ar yr ARGLWYDD, na gwneud beth oedd e eisiau i ti ei wneud i'r Amaleciaid. Dyna pam mae e'n gwneud hyn i ti nawr. Bydd e'n dy roi di ac Israel yn nwylo'r Philistiaid. Erbyn fory byddi di a dy feibion yn yr un lle â fi. Bydd yr ARGLWYDD wedi rhoi byddin Israel yn nwylo'r Philistiaid.” Pan glywodd Saul beth ddwedodd Samuel dyma fe'n syrthio ar ei hyd ar lawr. Roedd wedi dychryn trwyddo, a doedd ganddo ddim nerth o gwbl am ei fod heb fwyta drwy'r dydd na'r nos. Roedd y wraig yn gweld gymaint roedd Saul wedi dychryn, ac meddai wrtho, “Dw i, dy forwyn, wedi gwneud beth roeddet ti eisiau. Ro'n i'n mentro fy mywyd yn gwrando arnat ti. Nawr, gwrando di arna i. Gad i mi roi ychydig o fwyd i ti. Pan fyddi wedi cael dy nerth yn ôl cei fynd ar dy daith.” Ond gwrthod wnaeth Saul, a dweud ei fod e ddim eisiau bwyta. Ar ôl i'w weision a'r wraig bwyso arno dyma fe'n gwrando yn y diwedd. Cododd oddi ar lawr ac eistedd ar y gwely. Roedd gan y wraig lo gwryw wedi ei besgi, felly dyma hi'n ei ladd yn syth. Wedyn dyma hi'n cymryd blawd a pobi bara heb furum ynddo. Gosododd y bwyd o flaen Saul a'i weision. Yna ar ôl iddyn nhw fwyta, dyma nhw'n gadael y noson honno. Roedd byddin y Philistiaid wedi casglu at ei gilydd yn Affec, ac roedd Israel wedi codi gwersyll wrth y ffynnon yn Jesreel. Roedd llywodraethwyr y Philistiaid yn archwilio eu hunedau milwrol (unedau o gannoedd a miloedd). Yn y cefn roedd Dafydd a'i ddynion yn cael eu harchwilio gydag unedau Achis. “Pwy ydy'r Hebreaid yma?” holodd capteiniaid y Philistiaid. “Dafydd ydy e wrth gwrs,” meddai Achis wrthyn nhw. “Roedd yn arfer bod yn was i Saul, brenin Israel. Ond mae e wedi bod gyda mi bellach ers blwyddyn a mwy. Dydy e wedi gwneud dim o'i le o'r diwrnod y daeth e drosodd aton ni.” Ond roedd capteiniaid y Philistiaid yn wyllt hefo Achis, “Anfon y dyn yn ei ôl! Gad iddo fynd yn ôl i ble bynnag roist ti iddo fyw. Paid gadael iddo ddod i ymladd gyda ni, rhag ofn iddo droi yn ein herbyn ni yng nghanol y frwydr. Pa ffordd well fyddai iddo ennill ffafr ei feistr eto na gyda pennau'r dynion yma? Onid hwn ydy'r Dafydd roedden nhw'n canu amdano wrth ddawnsio, ‘Mae Saul wedi lladd miloedd, ond Dafydd ddegau o filoedd’?” Felly dyma Achis yn galw Dafydd ato a dweud, “Mor siŵr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, dw i'n gwybod dy fod ti'n ddyn gonest. Byddwn i wrth fy modd yn dy gael di'n mynd allan gyda ni i ymladd. Dwyt ti wedi gwneud dim o'i le o'r diwrnod y dest ti drosodd aton ni. Ond dydy'r arweinwyr eraill ddim yn hapus. Felly, dos yn ôl heb wneud ffws. Paid gwneud dim byd i'w pechu nhw.” “Ond be dw i wedi ei wneud o'i le?” meddai Dafydd. “O'r diwrnod y dois i atat ti hyd heddiw, pa fai wyt ti wedi ei gael yn dy was? Pam ga i ddim dod i ryfela yn erbyn gelynion fy meistr, y brenin?” Dyma Achis yn ateb, “Dw i'n gwybod dy fod ti mor ddibynnol ag angel Duw! Ond mae arweinwyr eraill y Philistiaid wedi dweud na chei di fynd i ryfela gyda nhw. Felly, coda'n gynnar bore fory, ti a gweision dy feistr sydd gyda ti. Gallwch fynd cyn gynted ag y bydd hi'n olau.” Dyma Dafydd a'i ddynion yn codi ben bore, a mynd yn ôl i wlad y Philistiaid. Ac aeth y Philistiaid i fyny i Jesreel. Erbyn i Dafydd a'i ddynion gyrraedd yn ôl i Siclag ddeuddydd wedyn, roedd yr Amaleciaid wedi bod yno ac wedi ymosod ar dde Jwda a Siclag. Roedden nhw wedi llosgi Siclag, ac wedi cymryd y gwragedd oedd yno yn gaethion, hen ac ifanc. Doedden nhw ddim wedi lladd neb, ond wedi mynd â nhw i ffwrdd gyda nhw. Roedd y dre wedi ei llosgi pan gyrhaeddodd Dafydd yno. Roedd eu gwragedd a'u plant wedi eu cymryd yn gaethion. A dyma Dafydd a'i ddynion yn dechrau crïo'n uchel nes eu bod nhw'n rhy wan i grïo ddim mwy. Roedd gwragedd Dafydd wedi eu cymryd yn gaeth hefyd, sef Achinoam o Jesreel ac Abigail, gweddw Nabal o Carmel. Roedd Dafydd mewn trwbwl. Roedd y dynion yn bygwth ei ladd drwy daflu cerrig ato, am eu bod nhw i gyd mor chwerw am beth oedd wedi digwydd i'w plant. Ond cafodd Dafydd nerth gan yr ARGLWYDD ei Dduw. Yna dyma Dafydd yn galw'r offeiriad, Abiathar fab Achimelech, a dweud wrtho, “Tyrd â'r effod i mi.” Daeth Abiathar a'r effod iddo. A dyma Dafydd yn gofyn i'r ARGLWYDD, “Os af i ar ôl y rhai wnaeth ymosod, wna i eu dal nhw?” A dyma'r ARGLWYDD yn ei ateb, “Dos ar eu holau. Byddi'n eu dal nhw ac yn llwyddo i achub y rhai sydd wedi cael eu cipio!” Felly i ffwrdd a Dafydd, a'i chwe chant o ddynion gydag e. Dyma nhw'n cyrraedd Wadi Besor, a dyma rai o'r dynion yn aros yno. Aeth Dafydd yn ei flaen gyda pedwar cant o'r dynion. (Roedd dau gant wedi aros ar ôl am eu bod yn rhy flinedig i groesi Wadi Besor.) Dyma nhw'n dod o hyd i ddyn o'r Aifft mewn cae, a mynd â fe at Dafydd. Dyma nhw'n rhoi ychydig o fwyd iddo a diod o ddŵr. Wedyn dyma nhw'n rhoi bar o ffigys a dau lond dwrn o rhesins iddo, a daeth ato'i hun. Doedd e ddim wedi cael dim byd i'w fwyta na'i yfed ers tri diwrnod. Dyma Dafydd yn ei holi, “O ble ti'n dod? Pwy ydy dy feistr di?” A dyma'r bachgen yn ateb, “Dw i'n dod o'r Aifft ac yn gaethwas i un o'r Amaleciaid. Gadawodd fy meistr fi yma dridiau yn ôl am fy mod i'n sâl. Roedden ni newydd ymosod ar Negef y Cerethiaid, ar ardal Jwda a Negef Caleb. Ac roedden ni wedi rhoi Siclag ar dân.” Dyma Dafydd yn gofyn iddo, “Wnei di'n harwain ni at yr ymosodwyr yma?” A dyma fe'n ateb, “Addo i mi o flaen dy Dduw y gwnei di ddim fy lladd i, na'm rhoi i yn ôl i'm meistr, a gwna i dy arwain di atyn nhw.” Pan aeth e â Dafydd atyn nhw, roedden nhw dros bob man. Roedden nhw'n bwyta ac yn yfed ac yn dathlu am eu bod wedi llwyddo i ddwyn cymaint o wlad y Philistiaid ac o Jwda. Yna cyn i'r wawr dorri dyma Dafydd a'i fyddin yn ymosod arnyn nhw. Buon nhw'n ymladd drwy'r dydd nes oedd hi'n dechrau nosi. Yr unig rai wnaeth lwyddo i ddianc oedd rhyw bedwar cant o ddynion ifanc wnaeth ffoi ar gefn camelod. Llwyddodd Dafydd i achub popeth oedd yr Amaleciaid wedi ei gymryd, gan gynnwys ei ddwy wraig. Doedd neb ar goll, o'r ifancaf i'r hynaf, gan gynnwys y plant. Cafodd yn ôl bawb a phopeth oedd wedi ei ddwyn. Yna cymerodd Dafydd y defaid a'r gwartheg a'u gyrru nhw o flaen gweddill yr anifeiliaid. Roedd pawb yn dweud, “Dyma wobr Dafydd!” Yna aeth Dafydd yn ôl i Wadi Besor, at y dau gant o ddynion oedd wedi bod yn rhy flinedig i'w ddilyn. Dyma'r dynion yn dod allan i'w gyfarfod e a'i filwyr. Pan ddaeth atyn nhw dyma Dafydd yn eu cyfarch. Ond roedd yna rai dynion drwg am godi stŵr ymhlith y rhai aeth gyda Dafydd, a dyma nhw'n dweud, “Pam ddylai'r rhain gael siâr o'r ysbail? Wnaethon nhw ddim dod gyda ni! Caiff pob un ohonyn nhw gymryd ei wraig a'i blant yn ôl, ond wedyn rhaid iddyn nhw adael!” Ond meddai Dafydd, “Na, peidiwch gwneud hynny ar ôl popeth mae'r ARGLWYDD wedi ei roi i ni! Fe wnaeth ofalu amdanon ni, a rhoi'r dynion wnaeth ymosod arnon ni yn ei gafael ni. Does neb yn mynd i wrando arnoch chi yn siarad fel yna! Yr un fydd siâr y rhai aeth i ymladd a'r rhai arhosodd gyda'r offer. Dylen nhw rannu'n deg gyda'i gilydd. ” A dyna'r rheol a'r drefn yn Israel hyd heddiw. Wedi i Dafydd ddod yn ôl i Siclag, dyma fe'n anfon peth o'r ysbail i arweinwyr Jwda roedd e'n ffrindiau gyda nhw. “Dyma i chi rodd o ysbail gelynion yr ARGLWYDD!” meddai. Anfonodd beth i'r lleoedd canlynol: Bethel, Ramoth yn y Negef, a Iattir; Aroer, Siffmoth, Eshtemoa, a Rachal; trefi'r Ierachmeëliaid a'r Ceneaid; Horma, Bor-ashan, Athach, a Hebron; ac i bobman arall roedd e wedi bod gyda'i ddynion o bryd i'w gilydd. Dyma'r Philistiaid yn dod i ryfela yn erbyn Israel. Roedd rhaid i filwyr Israel ffoi o flaen y Philistiaid a syrthiodd llawer ohonyn nhw'n farw ar fynydd Gilboa. Roedd y Philistiaid reit tu ôl i Saul a'i feibion, a dyma nhw'n llwyddo i ladd ei feibion, Jonathan, Abinadab a Malci-shwa. Roedd y frwydr yn ffyrnig o gwmpas Saul, a dyma'r bwasaethwyr yn ei daro'n ddifrifol a'i anafu'n ddrwg. Yna dyma Saul yn dweud wrth y gwas oedd yn cario'i arfau, “Cymer dy gleddyf a thrywana fi. Paid gadael i'r paganiaid yma ddod i'm cam-drin i a'm lladd i.” Ond roedd gan y gwas ofn gwneud hynny. Felly dyma Saul yn cymryd y cleddyf ac yn syrthio arno. Pan welodd y gwas fod Saul wedi marw, dyma fe hefyd yn syrthio ar ei gleddyf a marw gydag e. Felly cafodd Saul a tri o'i feibion, y gwas oedd yn cario ei arfau a'i filwyr i gyd eu lladd y diwrnod hwnnw. Dyma bobl Israel oedd yr ochr draw i'r dyffryn, a'r tu draw i'r Iorddonen, yn clywed fod milwyr Israel wedi ffoi, a bod Saul a'i feibion wedi cael eu lladd. Felly dyma nhw'n gadael eu trefi a ffoi. A dyma'r Philistiaid yn dod i fyw ynddyn nhw. Y diwrnod ar ôl y frwydr dyma'r Philistiaid yn dod i ddwyn oddi ar y cyrff meirw. A dyma nhw'n dod o hyd i Saul a'i dri mab yn gorwedd yn farw ar fynydd Gilboa. Dyma nhw'n torri pen Saul i ffwrdd a chymryd ei arfau, ac anfon negeswyr drwy wlad y Philistiaid i gyhoeddi'r newyddion da yn nhemlau eu duwiau ac wrth y bobl. Wedyn dyma nhw'n rhoi arfau Saul yn nheml y dduwies Ashtart, ac yn crogi ei gorff ar waliau Beth-shan. Pan glywodd pobl Jabesh yn Gilead beth roedd y Philistiaid wedi ei wneud i Saul, dyma'r milwyr i gyd yn mynd allan a teithio drwy'r nos. Dyma nhw'n cymryd cyrff Saul a'i feibion oddi ar waliau Beth-shan, mynd â nhw i Jabesh a'u llosgi yno. Wedyn dyma nhw'n cymryd yr esgyrn a'u claddu o dan y goeden tamarisg yn Jabesh, ac ymprydio am wythnos. Ar ôl i Saul farw, a Dafydd newydd orchfygu'r Amaleciaid a mynd yn ôl i Siclag, roedd wedi bod yno am ddeuddydd pan ddaeth dyn ato y diwrnod wedyn o wersyll Saul. Roedd y dyn wedi rhwygo'i ddillad a rhoi pridd ar ei ben. Dyma fe'n dod at Dafydd a mynd ar ei liniau ac ymgrymu o'i flaen. “O ble rwyt ti wedi dod?” gofynnodd Dafydd. A dyma fe'n ateb, “Wedi dianc o wersyll Israel ydw i.” “Dywed wrtho i, beth sydd wedi digwydd?” holodd Dafydd. A dyma'r dyn yn dweud wrtho, “Roedd rhaid i filwyr Israel ffoi, a cafodd llawer ohonyn nhw eu hanafu a'u lladd. Mae Saul a'i fab Jonathan wedi eu lladd hefyd!” A dyma Dafydd yn gofyn iddo, “Sut wyt ti'n gwybod fod Saul a Jonathan wedi marw?” A dyma fe'n dweud, “Roeddwn i ar Fynydd Gilboa, a dyma fi'n digwydd dod ar draws Saul yn pwyso ar ei waywffon. Roedd cerbydau rhyfel a marchogion y gelyn yn dod yn agos ato. Trodd rownd, a dyma fe'n fy ngweld i a galw arna i. ‘Dyma fi,’ meddwn i. ‘Pwy wyt ti?’ gofynnodd. A dyma fi'n ateb, ‘Amaleciad ydw i.’ A dyma fe'n crefu arna i, ‘Tyrd yma a lladd fi. Dw i'n wan ofnadwy, a prin yn dal yn fyw.’ Felly dyma fi'n mynd draw ato a'i ladd, achos roeddwn i'n gweld ei fod wedi ei anafu'n ddrwg, ac ar fin marw. Yna dyma fi'n cymryd ei goron a'i freichled, a dod â nhw yma i ti syr.” Dyma Dafydd yn rhwygo ei ddillad; a dyma'r dynion oedd gydag e yn gwneud yr un fath. Buon nhw'n galaru ac yn wylo ac ymprydio drwy'r dydd dros Saul a'i fab Jonathan, a dros fyddin yr ARGLWYDD, pobl Israel oedd wedi cael eu lladd yn y frwydr. Dyma Dafydd yn gofyn i'r dyn ifanc oedd wedi dod â'r neges iddo, “Un o ble wyt ti?” “Mab i Amaleciad wnaeth symud yma i fyw ydw i,” atebodd y dyn. “Sut bod gen ti ddim ofn lladd y dyn roedd yr ARGLWYDD wedi ei eneinio'n frenin?” meddai Dafydd. Yna dyma Dafydd yn galw un o'i filwyr, a dweud wrtho, “Tyrd yma. Lladd e!” A dyma'r milwr yn ei ladd yn y fan a'r lle. Roedd Dafydd wedi dweud wrtho, “Arnat ti mae'r bai dy fod ti'n mynd i farw. Ti wedi tystio yn dy erbyn dy hun drwy ddweud mai ti laddodd yr un roedd yr ARGLWYDD wedi ei eneinio'n frenin.” Dyma Dafydd yn cyfansoddi'r gân yma i alaru am Saul a'i fab Jonathan. (Dwedodd fod pobl Jwda i'w dysgu hi — Cân y Bwa. Mae hi i'w chael yn Sgrôl Iashar.): Mae ysblander Israel yn gorwedd yn farw ar ei bryniau. O, mae'r arwyr dewr wedi syrthio! Peidiwch dweud am y peth yn Gath, peidiwch sôn am hyn ar strydoedd Ashcelon — rhag i ferched y Philistiaid orfoleddu, a merched y paganiaid ddathlu. Boed dim mwy o wlith a glaw ar fynyddoedd Gilboa! Dim mwy o gnydau'n tyfu yno! Dyna lle cafodd tariannau'r arwyr eu baeddu; mae tarian Saul yn dirywio, heb ei rhwbio ag olew. Roedd bwa saeth Jonathan bob amser yn tynnu gwaed ac yn taro cnawd milwyr y gelyn. Doedd cleddyf Saul byth yn dod yn ôl yn lân. Saul a Jonathan — mor annwyl, mor boblogaidd! Gyda'i gilydd wrth fyw ac wrth farw! Yn gyflymach nag eryrod, yn gryfach na llewod. Ferched Israel, wylwch am Saul. Fe oedd yn rhoi dillad drud i chi a thlysau aur i'w haddurno. Mae'r arwyr dewr wedi syrthio'n y frwydr. Mae Jonathan yn gorwedd yn farw ar y bryniau. Dw i'n galaru ar dy ôl di Jonathan, fy mrawd. Roeddet ti mor annwyl i mi. Roedd dy gariad di ata i mor sbesial, roedd yn well na chariad merched. O, mae'r arwyr dewr wedi syrthio; mae'r arfau rhyfel wedi mynd! Beth amser wedyn, dyma Dafydd yn gweddïo ar yr ARGLWYDD a gofyn, “Ddylwn i symud i fyw i un o drefi Jwda?” A dyma'r ARGLWYDD yn ateb, “Ie, dos!”. “I ba un?” meddai Dafydd. “I Hebron,” oedd yr ateb. Felly aeth Dafydd yno, gyda'i ddwy wraig, Achinoam o Jesreel ac Abigail, gweddw Nabal o Carmel. A dyma'r dynion oedd wedi bod gydag e, a'u teuluoedd, yn mynd gyda Dafydd i fyw yn y trefi yn ardal Hebron. Yna dyma ddynion Jwda yn dod ac eneinio Dafydd yn frenin ar bobl Jwda. Clywodd Dafydd mai pobl Jabesh yn Gilead oedd wedi claddu Saul. Felly dyma fe'n anfon neges atyn nhw, “Bendith yr ARGLWYDD arnoch chi am fod mor deyrngar i'ch meistr Saul, a'i gladdu. Boed i'r ARGLWYDD fod yn garedig a ffyddlon i chi. Dw i hefyd yn mynd i'ch gwobrwyo chi am wneud hyn. Nawr, peidiwch bod ag ofn. Byddwch yn ddewr! Er bod eich meistr, Saul, wedi marw, mae pobl Jwda wedi fy eneinio i yn frenin arnyn nhw.” Yn y cyfamser roedd Abner fab Ner, un o gapteiniaid byddin Saul, wedi cymryd Ish-bosheth, mab Saul, a mynd ag e drosodd i Machanaîm. Yno roedd wedi ei wneud e'n frenin ar Israel gyfan — gan gynnwys ardal Gilead, pobl Asher, Jesreel, Effraim a Benjamin. Roedd Ish-bosheth, mab Saul, yn bedwar deg oed pan ddaeth yn frenin ar Israel. Bu'n frenin arnyn nhw am ddwy flynedd. Ond roedd pobl Jwda yn dilyn Dafydd. Bu Dafydd yn frenin yn Hebron am saith mlynedd a hanner. Yna dyma Abner fab Ner a swyddogion milwrol Ish-bosheth, mab Saul, yn mynd o Machanaîm i Gibeon. A dyma Joab, mab Serwia, a swyddogion milwrol Dafydd yn mynd allan i'w cyfarfod nhw. Dyma'r ddau grŵp yn aros, un bob ochr i'r pwll yn Gibeon. Dyma Abner yn gweiddi draw at Joab, “Gad i rai o'r milwyr ifanc ymladd yn erbyn ei gilydd o'n blaenau ni.” A dyma Joab yn cytuno. Felly dyma nhw'n cyfri un deg dau o lwyth Benjamin ar ochr Ish-bosheth, ac un deg dau o swyddogion Dafydd. Wrth reslo gyda'i gilydd dyma pob un yn gwthio'i gleddyf i ochr ei wrthwynebydd, a dyma nhw i gyd yn syrthio'n farw. (Dyna pam maen nhw'n galw'r lle hwnnw yn Gibeon yn ‛Faes y Llafnau‛.) Roedd yr ymladd yn galed y diwrnod hwnnw, a chafodd Abner a byddin Israel eu trechu gan filwyr Dafydd. Roedd tri mab Serwia yno, sef Joab, Abishai ac Asahel. Roedd Asahel yn gallu rhedeg mor gyflym â gasél, a dyma fe'n mynd ar ôl Abner. Roedd yn gwbl benderfynol o'i ddal. Dyma Abner yn troi i edrych yn ôl a galw arno, “Ai ti ydy e Asahel?” “Ie, fi!” meddai Asahel. “Dos ar ôl rhywun arall. Dal un o'r milwyr ifanc a chymryd ei arfau e,” meddai Abner wrtho. Ond doedd Asahel ddim yn fodlon rhoi'r gorau iddi. Galwodd Abner arno eto, “Tro yn ôl! Does gen i ddim eisiau dy ladd di. Sut allwn i wynebu Joab dy frawd?” Ond roedd Asahel yn gwrthod stopio. Felly dyma Abner yn ei daro yn ei fol â bôn ei waywffon, nes iddi ddod allan trwy'i gefn. Syrthiodd Asahel yn farw yn y fan a'r lle. Roedd pawb aeth heibio lle roedd Asahel wedi marw yn sefyll yn syn. Ond dyma Joab ac Abishai yn mynd ar ôl Abner. Erbyn iddi nosi roedden nhw wedi cyrraedd bryn Amma sydd gyferbyn â Giach, i gyfeiriad anialwch Gibeon. Roedd dynion Benjamin wedi dod at ei gilydd yno ac yn sefyll gydag Abner yn un grŵp ar ben y bryn. A dyma Abner yn gweiddi ar Joab, “Ydyn ni'n mynd i ddal ati i ladd ein gilydd am byth? Os daliwn ni ati bydd pethau yn ofnadwy o chwerw yn y diwedd. Dywed wrth dy ddynion am stopio mynd ar ôl eu brodyr!” Dyma Joab yn ateb, “Petaet ti heb ddweud hyn, mor sicr â bod Duw yn fyw, byddai'r dynion wedi dal ati i fynd ar eich ôl chi drwy'r nos!” Yna dyma Joab yn chwythu'r corn hwrdd, a dyma nhw'n stopio mynd ar ôl Israel, a rhoi'r gorau i'r ymladd. Y noson honno dyma Abner a'i ddynion yn mynd ar draws yr Araba a chroesi'r Afon Iorddonen. Yna martsio yn eu blaenau drwy'r bore wedyn nes cyrraedd yn ôl i Machanaîm. Wedi i Joab stopio mynd ar ôl Abner, dyma fe'n galw ei filwyr at ei gilydd. Dim ond un deg naw o ddynion Dafydd oedd wedi eu colli, ar wahân i Asahel. Ond roedd milwyr Dafydd wedi rhoi crasfa iawn i ddynion Benjamin, sef byddin Abner — roedd tri chant chwe deg ohonyn nhw wedi eu lladd! Yna dyma Joab a'i filwyr yn cymryd corff Asahel a'i gladdu ym medd ei dad yn Bethlehem. Wedyn dyma nhw'n teithio drwy'r nos a chyrraedd yn ôl i Hebron pan oedd hi'n gwawrio. Aeth y rhyfel rhwng pobl Saul a pobl Dafydd ymlaen am hir. Roedd ochr Dafydd yn mynd yn gryfach ac yn gryfach, a dilynwyr Saul yn mynd yn wannach. Cafodd Dafydd nifer o feibion pan oedd yn byw yn Hebron. Amnon oedd yr hynaf, plentyn Achinoam o Jesreel. Yr ail oedd Cileab, plentyn Abigail o Carmel, gweddw Nabal. Y trydydd oedd Absalom, mab Maacha oedd yn ferch i Talmai, brenin Geshwr. Y pedwerydd oedd Adoneia, mab Haggith. Y pumed oedd Sheffateia mab Abital. Y chweched oedd Ithream, plentyn Egla, gwraig arall i Dafydd. Cafodd y bechgyn yma i gyd eu geni pan oedd Dafydd yn byw yn Hebron. Wrth i'r rhyfel fynd yn ei flaen rhwng pobl Saul a phobl Dafydd, roedd Abner yn ennill mwy a mwy o ddylanwad iddo'i hun ar ochr Saul. Pan oedd Saul yn fyw roedd ganddo bartner o'r enw Ritspa, merch Aia. A dyma Ish-bosheth, mab Saul, yn cyhuddo Abner a gofyn iddo, “Pam wnest ti gysgu gyda partner fy nhad?” Gwylltiodd Abner pan ddwedodd hynny, ac meddai, “Ai rhyw gi o Jwda ydw i? Dw i wedi bod yn ffyddlon hyd heddiw i deulu Saul dy dad, a'i frodyr a'i ffrindiau. Dw i ddim wedi dy fradychu di i ochr Dafydd. A dyma ti heddiw yn fy nghyhuddo i o bechu gyda'r wraig yna! Boed i Dduw ddial arna i os na wna i dros Dafydd yr union beth mae'r ARGLWYDD wedi ei addo iddo. Bydd y frenhiniaeth yn cael ei chymryd oddi ar deulu Saul. Bydda i'n helpu i wneud Dafydd yn frenin ar Israel a Jwda, yr holl ffordd o Dan yn y gogledd i Beersheba yn y de.” Wnaeth Ish-bosheth ddim ei ateb yn ôl o gwbl, am fod ganddo ofn Abner. Yna dyma Abner yn anfon neges at Dafydd. “Pwy sy'n rheoli'r wlad yma go iawn? Gwna di gytundeb gyda mi, a gwna i helpu i droi Israel gyfan atat ti.” Atebodd Dafydd, “Iawn, ond ar un amod. Tyrd â Michal merch Saul gyda ti. Cei di ddod ata i wedyn.” Yna dyma Dafydd yn anfon neges at Ish-bosheth, mab Saul. “Rho fy ngwraig Michal yn ôl i mi. Gwnes i gasglu blaengrwyn cant o Philistiaid i'w chael hi. ” Felly dyma Ish-bosheth yn gyrru dynion i'w chymryd hi oddi ar ei gŵr, Paltiel fab Laish. A dyma'i gŵr yn ei dilyn hi yn wylo yr holl ffordd i Bachwrîm. Ond wedi i Abner ddweud wrtho am fynd adre, dyma fe'n troi'n ôl. Yn y cyfamser roedd Abner wedi cael gair gydag arweinwyr Israel. “Ers amser nawr, dych chi wedi bod eisiau cael Dafydd yn frenin. Wel, gwnewch hynny! Mae'r ARGLWYDD wedi dweud amdano, ‘Dw i'n mynd i ddefnyddio Dafydd i achub pobl Israel oddi wrth y Philistiaid ac oddi wrth eu gelynion i gyd.’” Yna ar ôl mynd i gael gair gyda phobl Benjamin, dyma Abner yn mynd i Hebron i ddweud wrth Dafydd beth oedd Israel a llwyth Benjamin wedi ei gytuno. Aeth â dau ddeg o ddynion gydag e, a dyma Dafydd yn cynnal gwledd iddyn nhw. Dyma Abner yn dweud wrth Dafydd, “Gad i mi fynd i gasglu Israel gyfan at fy meistr y brenin. Cân nhw wneud cytundeb gyda ti. Wedyn byddi'n frenin ar y cwbl roeddet ti wedi gobeithio amdano.” A dyma Dafydd yn gadael i Abner fynd yn heddychlon. Yna dyma Joab a rhai o ddynion Dafydd yn cyrraedd yn ôl. Roedden nhw wedi bod ar gyrch ac wedi dod â llawer o bethau yn ôl gyda nhw. (Doedd Abner ddim yn Hebron erbyn hynny, am fod Dafydd wedi gadael iddo fynd yn heddychlon.) Pan ddaeth Joab a'i filwyr yn ôl, clywodd fod Abner fab Ner wedi bod gyda'r brenin, a'i fod wedi gadael iddo fynd yn heddychlon. Dyma Joab yn mynd at y brenin a dweud, “Beth wyt ti'n wneud? Mae Abner wedi bod yma gyda ti, a ti wedi gadael iddo fynd! Ti'n gwybod sut un ydy Abner. Dod i ysbïo arnat ti oedd e! Ffeindio allan beth ydy dy symudiadau di, a beth wyt ti'n ei wneud!” A dyma Joab yn mynd allan oddi wrth Dafydd ac anfon dynion gyda neges i alw Abner yn ôl. Daeth yn ôl gyda nhw o ffynnon Sira. (Doedd Dafydd yn gwybod dim am y peth.) Wrth i Abner gyrraedd Hebron dyma Joab yn mynd ag e o'r neilltu wrth y giât, fel petai am gael gair cyfrinachol gydag e. Ond yno dyma fe'n trywanu Abner yn ei fol gyda dagr, a'i ladd. Gwnaeth hyn i ddial arno am ladd ei frawd Asahel. Dim ond wedyn y clywodd Dafydd beth oedd wedi digwydd. “Dw i a'm pobl yn ddieuog o flaen yr ARGLWYDD am ladd Abner fab Ner,” meddai. “Ar Joab mae'r bai. Caiff e a'i deulu dalu'r pris! Bydd rhywun o deulu Joab bob amser yn diodde o glefyd heintus ar ei bidyn, neu wahanglwyf, ar faglau, wedi ei daro gan gleddyf, neu heb ddigon o fwyd!” (Roedd Joab a'i frawd Abishai wedi llofruddio Abner am ei fod e wedi lladd eu brawd Asahel yn y frwydr yn Gibeon.) Dyma Dafydd yn dweud wrth Joab a phawb oedd gydag e, “Rhwygwch eich dillad, gwisgwch sachliain, a galaru o flaen corff Abner.” Cerddodd y brenin Dafydd ei hun tu ôl i'r arch, a dyma nhw'n claddu Abner yn Hebron. Roedd y brenin yn crïo'n uchel wrth fedd Abner, a dyma bawb arall yn crïo hefyd. Yna dyma'r brenin yn canu cân i alaru am Abner: “Oedd rhaid i Abner farw fel ffŵl? Doeddet ddim wedi dy glymu; doedd dy draed ddim mewn cyffion; Ond syrthiaist fel dyn wedi ei ladd gan rai drwg.” A dyma pawb yn wylo drosto eto. Roedd ei ddynion yn ceisio perswadio Dafydd i fwyta rhywbeth cyn iddi nosi. Ond dyma Dafydd yn mynd ar ei lw. “Boed i Dduw ddial arna i os gwna i fwyta darn o fara neu unrhyw beth arall cyn i'r haul fachlud!” Roedd hyn wedi plesio pobl yn fawr. Yn wir roedd popeth roedd y brenin yn ei wneud yn eu plesio nhw. Roedd pawb, gan gynnwys pobl Israel, yn gweld fod gan y brenin ddim byd i'w wneud â llofruddiaeth Abner fab Ner. A dyma'r brenin yn dweud wrth ei swyddogion, “Ydych chi'n sylweddoli fod arweinydd milwrol mawr wedi marw yn Israel heddiw? Er fy mod i wedi cael fy ngwneud yn frenin, dw i wedi bod yn ddi-asgwrn-cefn heddiw. Mae'r dynion yma, meibion Serwia, yn rhy wyllt i mi ddelio hefo nhw. Boed i'r ARGLWYDD dalu yn ôl i'r un sydd wedi gwneud y drwg yma!” Pan glywodd Ish-bosheth, mab Saul, fod Abner wedi ei ladd yn Hebron roedd wedi anobeithio'n llwyr, ac roedd Israel gyfan wedi dychryn. Roedd gan Ish-bosheth ddau ddyn yn gapteiniaid yn ei fyddin, Baana a Rechab. Roedden nhw'n feibion i Rimmon o Beëroth ac yn perthyn i lwyth Benjamin. (Roedd Beëroth yn cael ei gyfri fel rhan o Benjamin. Roedd pobl wreiddiol Beëroth wedi ffoi i Gittaïm, ac maen nhw'n dal i fyw yno hyd heddiw fel mewnfudwyr.) Roedd gan Jonathan, mab Saul, fab o'r enw Meffibosheth oedd yn gloff. Roedd e'n bump oed pan ddaeth y newydd o Jesreel fod Saul a Jonathan wedi eu lladd. Dyma ei nyrs yn gafael ynddo i ffoi. Ond wrth iddi ruthro dyma fe'n cwympo, a dyna pryd aeth e'n gloff. Dyma Rechab a Baana, meibion Rimmon o Beëroth, yn mynd i dŷ Ish-bosheth. Roedd hi'n ganol dydd a'r haul ar ei boethaf, ac roedd Ish-bosheth yn gorffwys. Aethon nhw i mewn i'w dŷ gan esgus eu bod yn nôl gwenith, a dyma nhw'n ei drywanu yn ei fol. Wedyn dyma'r ddau yn dianc. Roedden nhw wedi mynd i'r tŷ tra roedd Ish-bosheth yn ei ystafell, yn gorffwys ar ei wely. Ar ôl ei drywanu a'i ladd, dyma nhw'n torri ei ben i ffwrdd. Yna cymryd y pen, a teithio drwy'r nos ar hyd ffordd yr Araba. Dyma nhw'n dod â phen Ish-bosheth i'r brenin Dafydd yn Hebron, a dweud wrtho, “Dyma ben Ish-bosheth, mab Saul, dy elyn oedd yn ceisio dy ladd di. Heddiw mae'r ARGLWYDD wedi dial ar Saul a'i deulu ar ran ein meistr y brenin.” Ond dyma Dafydd yn eu hateb nhw: “Mor sicr a bod yr ARGLWYDD yn fyw, yr un sydd wedi fy achub i o bob helynt. Pan ddaeth rhyw ddyn ata i i Siclag i ddweud fod Saul wedi marw, roedd yn meddwl ei fod yn dod â newyddion da. Ond dyma fi'n gafael ynddo a'i ladd! Dyna oedd y wobr gafodd e am ei ‛newyddion da‛! Dych chi wedi lladd dyn diniwed tra roedd yn cysgu yn ei dŷ ei hun! Rhaid i mi wneud i chi dalu am dywallt ei waed e, a'ch difa chi oddi ar wyneb y ddaear yma!” Felly dyma Dafydd yn gorchymyn i'w filwyr ladd y ddau. Wedyn dyma nhw'n torri eu dwylo a'u traed i ffwrdd, a hongian y cyrff wrth y pwll yn Hebron. Ond dyma nhw'n cymryd pen Ish-bosheth, a'i gladdu lle roedd bedd Abner hefyd, yn Hebron. Dyma'r rhai oedd yn arwain llwythau Israel i gyd yn dod i Hebron at Dafydd, a dweud wrtho, “Edrych, dŷn ni'n perthyn i'n gilydd. Ar un adeg, pan oedd Saul yn frenin, ti oedd yn arwain byddin Israel i ryfel ac yn dod â nhw adre. Mae'r ARGLWYDD wedi dweud wrthot ti, ‘Ti sydd i ofalu am Israel, fy mhobl i. Ti fydd yn eu harwain nhw.’” Felly pan ddaeth arweinwyr Israel i Hebron at Dafydd, dyma'r brenin yn gwneud cytundeb gyda nhw o flaen yr ARGLWYDD. A dyma nhw'n ei eneinio'n frenin ar Israel gyfan. Roedd Dafydd yn dri deg oed pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin am bedwar deg o flynyddoedd. Bu'n frenin ar Jwda yn Hebron am saith mlynedd a hanner, ac yna yn frenin yn Jerwsalem ar Jwda ac Israel gyfan am dri deg tair o flynyddoedd. Aeth y brenin a'i filwyr i Jerwsalem i ymladd yn erbyn y Jebwsiaid (y bobl oedd yn byw yn yr ardal honno.) “Ddoi di byth i mewn yma!” medden nhw “Byddai hyd yn oed pobl ddall a chloff yn gallu dy droi di'n ôl!” Doedden nhw ddim yn credu y gallai Dafydd eu gorchfygu nhw. Ond llwyddodd Dafydd i ennill caer Seion (sef Dinas Dafydd). Roedd wedi dweud y diwrnod hwnnw, “Y ffordd mae rhywun yn mynd i goncro'r Jebwsiaid ydy drwy fynd i fyny'r siafft ddŵr. Dyna sut mae ymosod ar y ‛bobl ddall a chloff‛ yna sy'n casáu Dafydd gymaint.” (A dyna sydd tu ôl i'r dywediad, “Dydy'r dall a'r cloff ddim yn cael mynd i mewn i'r tŷ.”) Aeth Dafydd i fyw i'r gaer, a'i galw yn Ddinas Dafydd. Dyma fe'n adeiladu o'i chwmpas o'r terasau at y palas. Roedd Dafydd yn mynd yn fwy a mwy pwerus, achos roedd yr ARGLWYDD, y Duw holl-bwerus, gydag e. Dyma Hiram, brenin Tyrus, yn anfon negeswyr at Dafydd. Anfonodd seiri coed a seiri maen gyda nhw, a coed cedrwydd, i adeiladu palas i Dafydd. Roedd Dafydd yn gweld mai'r ARGLWYDD oedd wedi ei wneud yn frenin ar Israel, ac wedi gwneud i'w deyrnas lwyddo'n fawr er mwyn ei bobl Israel. Wedi iddo symud o Hebron i Jerwsalem dyma Dafydd yn cymryd mwy o gariadon a gwragedd, ac yn cael mwy o blant eto. Dyma enwau'r plant gafodd eu geni iddo yn Jerwsalem: Shammwa, Shofaf, Nathan, Solomon, Ifchar, Elishwa, Neffeg, Jaffia, Elishama, Eliada ac Eliffelet. Pan glywodd y Philistiaid fod Dafydd wedi cael ei eneinio'n frenin ar Israel, dyma eu byddin gyfan yn mynd allan i chwilio amdano. Clywodd Dafydd am hyn, ac aeth i lawr i'r gaer. Roedd byddin y Philistiaid wedi cyrraedd; roedden nhw ym mhobman drwy Ddyffryn Reffaïm. Dyma Dafydd yn gofyn i'r ARGLWYDD, “Ddylwn i fynd i ymladd yn erbyn y Philistiaid? Fyddi di'n gwneud i mi ennill?” Atebodd yr ARGLWYDD, “Dos i fyny, achos bydda i yn rhoi'r Philistiaid i ti.” Felly aeth Dafydd i Baal-peratsîm a'u trechu nhw yno. “Mae Duw wedi gwneud i mi dorri trwy fy ngelynion fel llifogydd o ddŵr,” meddai. A dyna pam wnaeth e alw'r lle hwnnw yn Baal-peratsîm. Roedd y Philistiaid wedi gadael eu heilun-dduwiau ar ôl, felly dyma Dafydd a'i ddynion yn eu cymryd nhw i ffwrdd. Ond dyma'r Philistiaid yn ymosod eto. Roedden nhw ym mhobman drwy Ddyffryn Reffaïm. A dyma Dafydd yn mynd i ofyn eto i'r ARGLWYDD beth i'w wneud. Y tro yma cafodd yr ateb, “Paid ymosod arnyn nhw o'r tu blaen. Dos rownd y tu ôl iddyn nhw ac ymosod o gyfeiriad y coed balsam. Pan fyddi'n clywed sŵn cyffro yn y coed, gweithreda ar unwaith. Dyna'r arwydd fod yr ARGLWYDD yn mynd o dy flaen di i daro byddin y Philistiaid.” Felly dyma Dafydd yn gwneud fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho, a taro'r Philistiaid yr holl ffordd o Geba i gyrion Geser. Unwaith eto dyma Dafydd yn casglu milwyr gorau Israel at ei gilydd. Roedd yna dri deg mil ohonyn nhw. Dyma nhw'n mynd gyda Dafydd i Baäla yn Jwda i nôl Arch Duw. Roedd yr enw ‛Arch Duw‛ yn cyfeirio at yr ARGLWYDD holl-bwerus, sy'n eistedd ar ei orsedd uwch ben y ceriwbiaid. [3-4] Dyma nhw'n rhoi Arch Duw ar gert newydd a'i symud hi o dŷ Abinadab, oedd ar ben bryn. Roedd Wssa ac Achïo, meibion Abinadab, yn arwain y cert — Wssa wrth ymyl yr Arch, ac Achïo'n cerdded o'i blaen. *** Ac roedd Dafydd a phobl Israel i gyd yn dathlu gyda hwyl o flaen yr ARGLWYDD, a canu i gyfeiliant pob math o offerynnau. Roedd ganddyn nhw delynau a nablau, drymiau, castanetau a symbalau. Pan gyrhaeddon nhw lawr dyrnu Nachon, dyma'r ychen yn baglu, a dyma Wssa yn estyn ei law a gafael yn Arch Duw. Roedd yr ARGLWYDD wedi digio gydag Wssa am y fath amarch. Cafodd ei daro'n farw yn y fan a'r lle wrth ymyl Arch Duw. Roedd Dafydd wedi gwylltio fod yr ARGLWYDD wedi ymosod ar Wssa. Dyma fe'n galw'r lle yn Perets-Wssa (sef ‛ffrwydriad yn erbyn Wssa‛). A dyna ydy enw'r lle hyd heddiw. Roedd yr ARGLWYDD wedi codi ofn ar Dafydd y diwrnod hwnnw. “Sut all Arch yr ARGLWYDD ddod ata i?” meddai. Doedd e ddim yn fodlon gadael i Arch yr ARGLWYDD fynd gydag e i Ddinas Dafydd. Aeth â hi i dŷ Obed-edom, dyn o Gath. Arhosodd Arch yr ARGLWYDD yn nhŷ Obed-edom am dri mis. A dyma'r ARGLWYDD yn bendithio Obed-edom a'i deulu i gyd. Daeth Dafydd i glywed fod yr ARGLWYDD wedi bendithio Obed-edom a'i deulu am fod Arch Duw yno. Felly dyma Dafydd yn mynd i dŷ Obed-edom i'w nôl hi, a mynd â hi i Ddinas Dafydd, gyda dathlu mawr. Pan oedd y rhai oedd yn cario Arch yr ARGLWYDD wedi cerdded dim ond chwe cham, dyma Dafydd yn aberthu ychen a llo wedi ei besgi i Dduw. Roedd Dafydd yn gwisgo effod o liain main, ac yn dawnsio â'i holl egni o flaen yr ARGLWYDD. Roedd e a holl bobl Israel yn hebrwng Arch yr ARGLWYDD gan weiddi'n llawen a chanu'r corn hwrdd. Wrth i Arch yr ARGLWYDD gyrraedd Dinas Dafydd, roedd Michal, merch Saul, yn edrych allan drwy'r ffenest. Pan welodd hi'r brenin yn neidio a dawnsio o flaen yr ARGLWYDD, doedd hi'n teimlo dim byd ond dirmyg tuag ato. Dyma nhw'n dod ag Arch yr ARGLWYDD, a'i gosod yn ei lle yn y babell roedd Dafydd wedi ei chodi iddi. Yna dyma Dafydd yn cyflwyno offrymau i'w llosgi, ac offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Wedi i Dafydd orffen offrymu'r anifeiliaid, dyma fe'n bendithio'r bobl ar ran yr ARGLWYDD holl-bwerus. Ac wedyn dyma fe'n rhannu bwyd i holl bobl Israel, y dynion a'r merched. Cafodd pawb dorth o fara, teisen ddatys a teisen rhesin. Yna aeth pawb adre. Pan aeth Dafydd adre i fendithio ei deulu ei hun, dyma Michal, merch Saul, yn dod allan i'w gyfarfod. Ac meddai wrtho, “Wel, wel! Dylech fod wedi gweld brenin Israel heddiw! Dyna ble roedd e yn fflachio o flaen caethferched ei swyddogion, yn dangos popeth iddyn nhw fel rhyw ffŵl coman!” Ond dyma Dafydd yn ei hateb, “Na, dawnsio o flaen yr ARGLWYDD oeddwn i — yr un wnaeth fy newis i yn lle dy dad a dy deulu di. Dewisodd fi yn arweinydd ar bobl Israel, pobl yr ARGLWYDD. O'i flaen e dw i'n fodlon gwneud mwy o ffŵl ohono i fy hun. Falle fod gen ti gywilydd ohono i, ond bydd y caethferched wyt ti'n sôn amdanyn nhw yn fy mharchu i!” Wnaeth Michal, merch Saul, ddim cael plant o gwbl. Roedd yr ARGLWYDD wedi rhoi heddwch i'r wlad, ac roedd y Brenin Dafydd wedi setlo i lawr yn ei balas. A dyma'r brenin yn dweud wrth y proffwyd Nathan, “Edrych! Dw i'n byw yma mewn palas crand o goed cedrwydd, tra mae Arch Duw yn dal mewn pabell.” A dyma Nathan yn ateb, “Mae'r ARGLWYDD gyda ti. Gwna beth bynnag wyt ti'n feddwl sy'n iawn.” Ond y noson honno dyma'r ARGLWYDD yn rhoi neges i Nathan, “Dos i ddweud wrth fy ngwas Dafydd, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: Wyt ti'n meddwl dy fod ti'n mynd i adeiladu teml i mi fyw ynddi? Dw i erioed wedi byw mewn teml, o'r diwrnod pan ddes i â phobl Israel allan o'r Aifft hyd heddiw. Dw i wedi bod yn mynd o le i le mewn pabell, sef tabernacl. Ble bynnag roeddwn i'n teithio gyda phobl Israel, wnes i erioed gwyno i'r rhai wnes i eu penodi i ofalu am lwythau Israel, “Pam dych chi ddim wedi adeiladu teml o goed cedrwydd i mi?”’ “Felly, dywed wrth fy ngwas Dafydd, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: “Fi wnaeth dy gymryd di o'r caeau lle roeddet yn bugeilio defaid, a dy wneud di'n arweinydd ar fy mhobl Israel. Dw i wedi bod gyda ti ble bynnag rwyt ti wedi mynd, ac wedi dinistrio dy elynion o dy flaen di. Dw i'n mynd i dy wneud di'n enwog drwy'r byd i gyd. Dw i'n mynd i roi lle i fy mhobl Israel fyw. Byddan nhw'n setlo yno, a fydd neb yn tarfu arnyn nhw. Fydd dynion creulon ddim yn achosi helynt iddyn nhw fel o'r blaen, pan oeddwn i wedi penodi barnwyr i'w harwain nhw. Bellach, dw i wedi rhoi heddwch i ti oddi wrth dy holl elynion.” Mae'r ARGLWYDD yn cyhoeddi: “Fi, yr ARGLWYDD, sy'n mynd i adeiladu tŷ i ti — llinach frenhinol! Ar ôl i ti farw a chael dy gladdu, bydda i'n codi un o dy linach yn dy le — mab i ti. A bydda i'n gwneud ei deyrnas e yn gadarn. Bydd e yn adeiladu teml i'm anrhydeddu i; a bydda i'n gwneud yn siŵr y bydd e'n teyrnasu am byth. Bydda i yn dad iddo, a bydd e'n fab i mi. Pan fydd e'n gwneud drwg bydda i'n defnyddio pobl i'w gosbi. Ond fydda i ddim yn stopio bod yn ffyddlon iddo, yn wahanol i Saul pan wnes i ei symud e o dy ffordd di. Bydd dy deulu di yn teyrnasu o'm blaen i am byth. Bydd dy orsedd yn gadarn fel y graig.”’” Felly dyma Nathan yn mynd a dweud y cwbl wrth Dafydd. A dyma'r Brenin Dafydd yn mynd i mewn i eistedd o flaen yr ARGLWYDD. “Feistr, ARGLWYDD Pwy ydw i? Dw i a'm teulu yn neb. Ac eto ti wedi dod â fi mor bell! Ac fel petai hynny ddim yn ddigon, Feistr, ARGLWYDD, ti wedi siarad am y dyfodol pell yn llinach dy was! Ai dyma'r ffordd wyt ti'n arfer delio gyda phobl, ARGLWYDD? Beth alla i ddweud? Ti'n gwybod sut un ydy dy was, fy Meistr, ARGLWYDD. Am dy fod wedi addo gwneud, ac am mai dyna oedd dy fwriad, ti wedi gwneud y pethau mawr yma, a dweud wrtho i amdanyn nhw. “O, Feistr, ARGLWYDD, rwyt ti mor fawr! Does neb tebyg i ti! Does yna ddim duw arall heblaw ti. Dŷn ni wedi clywed am neb yr un fath â ti! A pwy sy'n debyg i dy bobl di, Israel? Mae hi'n wlad unigryw ar y ddaear — yn wlad aeth Duw i'w gollwng yn rhydd a'u gwneud yn bobl iddo'i hun. Ti'n enwog am wneud pethau rhyfeddol pan wnest ti achub dy bobl o'r Aifft a gyrru'r cenhedloedd paganaidd a'u duwiau allan o'r tir oedd gen ti ar eu cyfer nhw. “Ti wedi gwneud Israel yn bobl i ti dy hun am byth. Rwyt ti, ARGLWYDD, wedi dod yn Dduw iddyn nhw. Felly, ARGLWYDD Dduw, tyrd a'r addewid yma amdana i a'm teulu yn wir. Gwna fel rwyt ti wedi addo. Wedyn byddi'n enwog am byth. Bydd pobl yn dweud, ‘yr ARGLWYDD holl-bwerus ydy Duw Israel.’ A bydd llinach dy was Dafydd yn gadarn fel y graig, am dy fod ti, yr ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, wedi addo y byddi'n adeiladu tŷ i mi. A dyna pam mae dy was yn meiddio gweddïo fel hyn arnat ti. Nawr, ARGLWYDD, fy meistr, ti ydy'r Duw go iawn, ac mae dy eiriau di'n wir. Rwyt ti wedi addo gwneud y peth da yma i mi. Felly, plîs bendithia linach dy was, iddi aros yn gadarn gyda thi am byth. Meistr, ARGLWYDD, am mai ti sy'n bendithio, bydd dy fendith yn aros ar fy llinach i am byth.” Beth amser wedyn, dyma Dafydd yn concro'r Philistiaid ac yn eu gorfodi nhw i ildio iddo. Wedyn dyma fe'n concro Moab. Gwnaeth i'r dynion orwedd mewn rhes ar lawr, a dyma fe'n eu mesur nhw'n grwpiau gyda llinyn. Roedd dau hyd y llinyn i gael eu lladd, ac un hyd llinyn i gael byw. A dyna sut daeth Moab o dan awdurdod Dafydd a thalu trethi iddo. Yna dyma Dafydd yn concro Hadadeser fab Rechob, brenin talaith Soba yn Syria. Roedd hwnnw ar ei ffordd i geisio cael yr ardal ar lan yr Ewffrates yn ôl o dan ei awdurdod. Ond dyma Dafydd yn dal mil saith gant o'i farchogion a dau ddeg mil o'i filwyr traed. Cadwodd gant o'r ceffylau, ond gwneud y gweddill i gyd yn gloff. A pan ddaeth Syriaid talaith Damascus i helpu Hadadeser, lladdodd byddin Dafydd ddau ddeg dau mil ohonyn nhw hefyd. Wedyn dyma Dafydd yn gosod garsiynau o filwyr ar dir Syriaid Damascus. Daeth y Syriaid o dan ei awdurdod, a gorfod talu trethi iddo. Roedd yr ARGLWYDD yn gwneud i Dafydd ennill pob brwydr ble bynnag roedd e'n mynd. Aeth Dafydd â'r tariannau aur oedd gan swyddogion Hadadeser i Jerwsalem. A cymerodd lot fawr o bres hefyd o Betach a Berothai, trefi Hadadeser. Pan glywodd Toi, brenin Chamath, fod Dafydd wedi concro byddin Hadadeser i gyd, dyma fe'n anfon ei fab Joram at Dafydd i geisio telerau heddwch, ac i longyfarch Dafydd ar ei lwyddiant. (Roedd Hadadeser wedi bod yn rhyfela byth a hefyd yn erbyn Toi.) Aeth Joram â pob math o gelfi aur ac arian a phres gydag e. A dyma Dafydd yn cysegru'r cwbl i'r ARGLWYDD. Roedd wedi gwneud yr un peth gyda'r holl arian ac aur roedd wedi ei gymryd o'r gwledydd wnaeth e eu concro, sef Edom, Moab, pobl Ammon, y Philistiaid a'r Amaleciaid, a'r ysbail roedd wedi ei gymryd oddi ar Hadadeser fab Rechob, brenin Soba. Daeth Dafydd yn enwog hefyd ar ôl iddo daro un deg wyth mil o filwyr Edom yn Nyffryn yr Halen. A dyma fe'n gosod garsiynau ar hyd a lled Edom. Daeth Edom i gyd o dan ei awdurdod a gorfod talu trethi iddo. Roedd yr ARGLWYDD yn rhoi buddugoliaeth i Dafydd ble bynnag roedd e'n mynd. Roedd Dafydd yn frenin ar Israel gyfan. Roedd yn trin ei bobl i gyd yn gyfiawn ac yn deg. Joab (mab Serwia ) oedd pennaeth y fyddin. Jehosaffat fab Achilwd oedd cofnodydd y brenin. Sadoc fab Achitwf ac Achimelech fab Abiathar oedd yr offeiriaid. Seraia oedd ei ysgrifennydd gwladol. Benaia fab Jehoiada oedd pennaeth gwarchodlu personol y brenin (Cretiaid a Pelethiaid). Ac roedd meibion Dafydd yn offeiriaid. Dyma Dafydd yn gofyn, “Oes yna unrhyw un yn dal ar ôl o deulu Saul, i mi fod yn garedig ato fel gwnes i addo i Jonathan?” A dyma ddyn o'r enw Siba oedd wedi bod yn was i Saul yn cael ei alw at Dafydd. Gofynnodd y brenin iddo, “Ti ydy Siba?” Atebodd, “Ie, syr, fi ydy dy was.” Dyma'r brenin yn ei holi, “Oes yna unrhyw un o deulu Saul yn dal yn fyw, i mi fod yn garedig ato fel gwnes i addo o flaen Duw?” Atebodd Siba, “Oes. Mae yna fab i Jonathan sy'n dal yn fyw. Mae e'n anabl. Mae e'n gloff yn ei ddwy droed.” “Ble mae e?” meddai'r brenin. A dyma Siba'n dweud, “Mae e yn Lo-debâr, yn aros gyda Machir fab Ammiel.” Felly dyma'r brenin Dafydd yn anfon i'w nôl o dŷ Machir. Pan ddaeth Meffibosheth (mab Jonathan ac ŵyr Saul) at y brenin Dafydd, dyma fe'n mynd ar ei liniau ac ymgrymu o'i flaen â'i wyneb ar lawr. “Meffibosheth?” meddai Dafydd. Ac atebodd “Ie, syr, dy was di.” “Paid bod ag ofn,” meddai Dafydd wrtho, “Dw i'n mynd i fod yn garedig atat ti, fel gwnes i addo i dy dad Jonathan. Dw i am roi tir dy daid Saul yn ôl i ti, a byddi'n cael bwyta wrth fy mwrdd i yn rheolaidd.” Dyma Meffibosheth yn ymgrymu eto a dweud, “Pwy ydw i? Pam ddylet ti gymryd sylw o gi marw fel fi?” Yna dyma'r brenin yn galw am Siba, gwas Saul. Ac meddai wrtho, “Dw i wedi rhoi popeth oedd piau Saul a'i deulu i ŵyr dy feistr. Dw i eisiau i ti a dy feibion, a dy weision i gyd, ofalu am y tir iddo. Bydd cynnyrch y tir yn fwyd i deulu dy feistr. Ond bydd Meffibosheth yn bwyta wrth fy mwrdd i yn rheolaidd.” (Roedd gan Siba un deg pump o feibion a dau ddeg o weision.) Dyma Siba yn ateb, “Bydd dy was yn gwneud popeth mae fy meistr, y brenin, wedi ei orchymyn.” Felly cafodd Meffibosheth fwyta'n rheolaidd wrth fwrdd y brenin, fel petai'n un o feibion y brenin ei hun. Roedd gan Meffibosheth fab bach o'r enw Micha. Roedd teulu Siba i gyd, a'i weision, yn gweithio i Meffibosheth. Ond roedd Meffibosheth ei hun yn byw yn Jerwsalem, ac yn cael bwyta'n rheolaidd wrth fwrdd y brenin. Roedd e'n anabl — yn gloff yn ei ddwy droed. Beth amser wedyn dyma frenin yr Ammoniaid yn marw, a dyma ei fab, Chanŵn, yn dod yn frenin yn ei le. Dyma Dafydd yn dweud, “Dw i am fod yn garedig at Chanŵn fab Nachash, am fod ei dad wedi bod yn garedig ata i.” Felly dyma fe'n anfon ei weision i gydymdeimlo â Chanŵn ar golli ei dad. Ond pan ddaeth gweision Dafydd i wlad Ammon, dyma swyddogion y wlad yn dweud wrth eu meistr, “Wyt ti wir yn meddwl mai i ddangos parch at dy dad mae Dafydd wedi anfon y dynion yma i gydymdeimlo? Dim o gwbl! Mae'n debyg ei fod wedi anfon ei weision i ysbïo ac archwilio'r ddinas, er mwyn ei choncro hi!” Felly dyma Chanŵn yn dal gweision Dafydd a siafio hanner barf pob un, a thorri eu dillad yn eu canol, fel bod eu tinau yn y golwg. Yna eu gyrru nhw adre. Pan glywodd Dafydd am hyn, anfonodd ddynion i'w cyfarfod. Roedd arnyn nhw gywilydd garw. Awgrymodd y dylen nhw aros yn Jericho nes bod barf pob un wedi tyfu eto. Dyma bobl Ammon yn dod i sylweddoli fod beth wnaethon nhw wedi ypsetio Dafydd. Felly dyma nhw'n llogi dau ddeg mil o filwyr traed gan y Syriaid yn Beth-rechob a Soba, mil o filwyr gan frenin Maacha, a deuddeg mil o Tob. Pan glywodd Dafydd hyn, dyma fe'n anfon Joab allan gyda milwyr gorau'r fyddin gyfan. Yna dyma'r Ammoniaid yn dod allan a gosod eu byddin yn rhengoedd o flaen giatiau'r ddinas. Ond roedd byddin y Syriaid o Soba a Rechob, a milwyr Tob a Maacha yn paratoi i ymladd ar y tir agored. Dyma Joab yn gweld y byddai'n rhaid iddo ymladd o'r tu blaen a'r tu ôl. Felly dyma fe'n dewis rhai o filwyr gorau byddin Israel i wynebu'r Syriaid. A dyma fe'n cael ei frawd, Abishai, i arwain gweddill y fyddin yn erbyn yr Ammoniaid. “Os bydd y Syriaid yn gryfach na ni,” meddai, “tyrd ti i'n helpu ni. Ac os bydd yr Ammoniaid yn gryfach na chi, gwna i ddod i'ch helpu chi. Gad i ni fod yn ddewr! Er mwyn ein pobl, ac er mwyn trefi ein Duw. Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud beth mae e'n wybod sydd orau.” Felly dyma Joab a'i filwyr yn mynd allan i ymladd yn erbyn y Syriaid, a dyma'r Syriaid yn ffoi oddi wrthyn nhw. Pan welodd yr Ammoniaid fod y Syriaid yn ffoi, dyma nhw hefyd yn ffoi o flaen Abishai a dianc i mewn i'r ddinas. A dyma Joab yn stopio rhyfela yn erbyn yr Ammoniaid, a mynd yn ôl i Jerwsalem. Roedd y Syriaid yn gweld eu bod wedi colli'r dydd yn erbyn Israel, felly dyma nhw'n casglu at ei gilydd unwaith eto. Dyma Hadadeser yn anfon am y Syriaid oedd yn byw yr ochr draw i Afon Ewffrates, i ddod allan atyn nhw i Chelam. Shofach oedd y cadfridog yn arwain byddin Hadadeser. Pan glywodd Dafydd am hyn, dyma fe'n galw byddin Israel gyfan at ei gilydd. A dyma nhw'n croesi'r afon Iorddonen a dod i Chelam. Roedd y Syriaid wrthi'n gosod eu hunain yn rhengoedd i wynebu byddin Dafydd, a dyma nhw'n dechrau ymladd. Ond dyma fyddin y Syriaid yn ffoi eto o flaen yr Israeliaid. Roedd byddin Dafydd wedi lladd saith gant o filwyr cerbyd y Syriaid, a pedwar deg mil o filwyr traed. Cafodd Shofach, cadfridog byddin y Syriaid, ei ladd yn y frwydr hefyd. Pan welodd y brenhinoedd oedd ar ochr Hadadeser eu bod wedi colli'r dydd, dyma nhw'n gwneud heddwch gydag Israel, a dod o dan ei hawdurdod. Felly, roedd gan y Syriaid ofn helpu'r Ammoniaid eto. Yn y gwanwyn, sef yr adeg pan fyddai brenhinoedd yn arfer mynd i ryfela, dyma Dafydd yn anfon Joab a'i fyddin allan. Dyma Joab a'i swyddogion, a holl fyddin Israel, yn mynd ac yn trechu byddin yr Ammoniaid a chodi gwarchae at ddinas Rabba. Ond arhosodd Dafydd yn Jerwsalem. Yn hwyr un p'nawn, dyma Dafydd yn codi ar ôl bod yn gorffwys, a mynd i gerdded ar do fflat y palas. O'r fan honno dyma fe'n digwydd gweld gwraig yn ymolchi. Roedd hi'n wraig arbennig o hardd. Dyma Dafydd yn anfon rhywun i ddarganfod pwy oedd hi, a daeth hwnnw yn ôl gyda'r ateb, “Bathseba ferch Eliam, gwraig Wreia yr Hethiad, ydy hi.” Felly dyma Dafydd yn anfon negeswyr i'w nôl hi. Ac wedi iddi ddod dyma fe'n cael rhyw gyda hi. (Roedd hi newydd fod trwy'r ddefod o buro ei hun ar ôl ei misglwyf.) Yna dyma hi'n mynd yn ôl adre. Pan wnaeth hi ddarganfod ei bod hi'n feichiog, dyma hi'n anfon neges at Dafydd i ddweud wrtho. Felly dyma Dafydd yn anfon neges at Joab, yn gofyn iddo anfon Wreia yr Hethiad ato. A dyma Joab yn gwneud hynny. Pan gyrhaeddodd Wreia, dyma Dafydd yn ei holi sut oedd Joab a'r fyddin, a beth oedd hanes y rhyfel. Yna dyma Dafydd yn dweud wrtho, “Dos adre i ymlacio.” A pan adawodd Wreia y palas, dyma'r brenin yn anfon anrheg ar ei ôl. Ond wnaeth Wreia ddim mynd adre. Arhosodd gyda'r gweision eraill wrth ddrws y palas. Pan glywodd Dafydd fod Wreia heb fynd adre, galwodd amdano a gofyn iddo, “Pam wnest ti ddim mynd adre neithiwr? Ti wedi bod i ffwrdd ers amser hir.” Atebodd Wreia, “Mae'r Arch, a milwyr Israel a Jwda yn aros mewn pebyll. Mae Joab, y capten, a'r swyddogion eraill, yn gwersylla yn yr awyr agored. Fyddai hi'n iawn i mi fynd adre i fwyta ac yfed a chysgu gyda ngwraig? Ar fy llw, allwn i byth wneud y fath beth!” Felly dyma Dafydd yn dweud wrtho, “Aros yma am ddiwrnod arall. Gwna i dy anfon di yn ôl yfory.” Felly dyma Wreia yn aros yn Jerwsalem am ddiwrnod arall. Drannoeth dyma Dafydd yn gwahodd Wreia i fwyta ac yfed gydag e, ac yn ei feddwi. Ond pan aeth Wreia allan gyda'r nos dyma fe'n cysgu allan eto gyda gweision ei feistr. Aeth e ddim adre. Felly, y bore wedyn, dyma Dafydd yn gofyn i Wreia fynd â llythyr i Joab. Dyma beth roedd wedi ei ysgrifennu yn y llythyr, “Rho Wreia yn y rheng flaen lle mae'r brwydro galetaf. Yna ciliwch yn ôl oddi wrtho, a'i adael i gael ei daro a'i ladd.” Roedd Joab wedi bod yn cadw golwg ar ddinas Rabba. A dyma fe'n rhoi Wreia lle roedd yn gwybod fod milwyr gorau'r gelyn yn ymladd. Dyma filwyr y gelyn yn mentro allan i ymosod. Cafodd Wreia a nifer o filwyr eraill Dafydd eu lladd. Yna dyma Joab yn anfon adroddiad at Dafydd i ddweud beth oedd wedi digwydd yn y frwydr. Dwedodd wrth y negesydd, “Pan fyddi'n rhoi'r adroddiad o beth ddigwyddodd i'r brenin, falle y bydd e'n gwylltio a dechrau holi: ‘Pam aethoch chi mor agos i'r ddinas i ymladd? Oeddech chi ddim yn sylweddoli y bydden nhw'n saethu o ben y waliau? Pwy laddodd Abimelech fab Gideon yn Thebes? Gwraig yn gollwng maen melin arno o ben y wal! Pam aethoch chi mor agos i'r wal?’ Yna dywed wrtho ‘Cafodd dy was Wreia yr Hethiad ei ladd hefyd.’” Felly, dyma'r negesydd yn mynd ac yn rhoi'r adroddiad yn llawn i Dafydd. Meddai wrtho, “Daeth milwyr y gelyn allan i ymladd ar y tir agored. Ond dyma ni'n eu gyrru nhw yn ôl yr holl ffordd at giât y ddinas. Ond wedyn dyma'r bwasaethwyr yn saethu o ben y wal, a lladd rhai o dy swyddogion. Roedd dy was Wreia yr Hethiad yn un ohonyn nhw.” Dyma Dafydd yn dweud wrth y negesydd, “Dywed wrth Joab, ‘Paid poeni am y peth. Fel yna mae hi mewn rhyfel. Rhai'n cael eu lladd, eraill ddim. Brwydra'n galetach yn erbyn y ddinas, a'i choncro!’ Annog e yn ei flaen!” Pan glywodd Bathseba fod ei gŵr wedi marw, bu'n galaru amdano. Ond wedi i'r cyfnod o alaru ddod i ben, dyma Dafydd yn anfon amdani a dod â hi i'w balas. Dyma hi'n dod yn wraig iddo, a chafodd fab iddo. Doedd yr ARGLWYDD ddim yn hapus o gwbl am beth roedd Dafydd wedi ei wneud, a dyma fe'n anfon y proffwyd Nathan at Dafydd. Daeth ato a dweud wrtho: “Un tro roedd yna ddau ddyn yn byw yn rhyw dre. Roedd un yn gyfoethog a'r llall yn dlawd. Roedd gan y dyn cyfoethog lond gwlad o ddefaid a gwartheg. Ond doedd gan y dyn tlawd ddim ond un oen banw fach roedd wedi ei phrynu a'i magu. Roedd yr oen wedi tyfu gydag e a'i blant. Roedd yn bwyta ac yn yfed gyda nhw, ac yn cysgu yn ei freichiau, fel petai'n ferch fach iddo. “Cafodd y dyn cyfoethog ymwelydd. Ond doedd e ddim am ladd un o'i ddefaid neu ei wartheg ei hun i wneud bwyd iddo. Felly dyma fe'n cymryd oen y dyn tlawd a gwneud pryd o fwyd i'w ymwelydd o hwnnw.” Roedd Dafydd wedi gwylltio'n lân pan glywodd hyn. Dwedodd wrth Nathan, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, mae'r dyn yna'n haeddu marw! Rhaid iddo roi pedwar oen yn ôl i'r dyn tlawd am wneud y fath beth, ac am fod mor ddideimlad!” A dyma Nathan yn ateb Dafydd, “Ti ydy'r dyn! Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Fi wnaeth dy osod di yn frenin ar Israel. Fi hefyd wnaeth dy achub di oddi wrth Saul. Dw i wedi rhoi eiddo dy feistr i ti, a'i wragedd. A dyma fi'n rhoi pobl Israel a Jwda i ti hefyd. A petai hynny ddim yn ddigon byddwn wedi rhoi lot mwy i ti. Pam wyt ti wedi fy sarhau i, yr ARGLWYDD, drwy wneud peth mor ofnadwy? Ti wedi lladd Wreia yr Hethiad, a chymryd ei wraig yn wraig i ti dy hun. Ie, ti wnaeth ei ladd, gyda chleddyf yr Ammoniaid! Felly bydd cysgod y cleddyf arnat ti a dy deulu bob amser. Ti wedi fy sarhau i drwy gymryd gwraig Wreia yr Hethiad i ti dy hun!’ Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i greu helynt i ti o fewn dy deulu dy hun. Bydda i'n cymryd dy wragedd di a'u rhoi nhw i ddyn arall. Bydd e'n cysgu gyda dy wragedd di yn gwbl agored. Er dy fod ti wedi trïo cuddio beth wnest ti, bydd pobl Israel i gyd yn gweld beth dw i'n mynd i'w wneud!’” Dyma Dafydd yn ateb, “Dw i wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD.” A dyma Nathan yn ateb, “Wyt, ond mae'r ARGLWYDD wedi maddau y pechod yma. Dwyt ti ddim yn mynd i farw. Ond am dy fod ti wedi bod mor amharchus o'r ARGLWYDD, bydd y plentyn gafodd ei eni yn marw.” Yna aeth Nathan yn ôl adre. Dyma'r ARGLWYDD yn gwneud y babi gafodd gwraig Wreia i Dafydd yn sâl iawn A dyma Dafydd yn mynd ati i bledio'n daer ar yr ARGLWYDD i'w wella. Roedd yn mynd heb fwyd, ac yn cysgu ar lawr bob nos. Daeth ei gynghorwyr ato i geisio ei berswadio i godi oddi ar lawr, ond gwrthod wnaeth e, a gwrthod bwyta dim gyda nhw. Ar ôl saith diwrnod dyma'r plentyn yn marw. Roedd gan swyddogion Dafydd ofn mynd i ddweud wrtho. “Doedd e'n cymryd dim sylw ohonon ni pan oedd y plentyn yn dal yn fyw,” medden nhw. “Sut allwn ni ddweud wrtho fod y plentyn wedi marw? Bydd e'n gwneud rhywbeth ofnadwy iddo'i hun.” Pan sylwodd Dafydd fod ei swyddogion yn sibrwd, roedd yn amau fod y plentyn wedi marw. Felly gofynnodd iddyn nhw, “Ydy'r plentyn wedi marw?” A dyma nhw'n ateb “Ydy, mae wedi marw.” Yna dyma Dafydd yn codi oddi ar lawr, yn ymolchi, rhoi olew ar ei wyneb a newid ei ddillad. Ac aeth i babell yr ARGLWYDD i addoli. Wedyn aeth yn ôl adre i'r palas a bwyta pryd o fwyd. A dyma'i swyddogion yn gofyn iddo, “Pam wyt ti'n ymddwyn fel yma? Pan oedd y plentyn yn dal yn fyw roeddet ti'n crïo ac yn ymprydio. Ond nawr mae'r plentyn wedi marw dyma ti'n codi ac yn bwyta!” Atebodd Dafydd, “Tra roedd y plentyn yn dal yn fyw ron i'n ymprydio ac yn crïo. Ro'n i'n meddwl falle y byddai'r ARGLWYDD yn tosturio ac yn gadael i'r plentyn fyw. Ond nawr mae e wedi marw. Does dim pwynt gwrthod bwyd bellach. Alla i ddim dod ag e'n ôl. Bydda i yn mynd ato fe, ond wnaiff e ddim dod yn ôl ata i.” Yna dyma Dafydd yn mynd i gysuro ei wraig, Bathseba. Cysgodd gyda hi a cael rhyw gyda hi. Cafodd fab iddo, a dyma nhw'n ei alw'n Solomon. Roedd yr ARGLWYDD yn caru'r plentyn, a dyma fe'n rhoi neges drwy'r proffwyd Nathan yn dweud ei fod i gael ei alw'n Iedida, sef “Mae'r ARGLWYDD yn ei garu.” Roedd Joab yn dal i ryfela yn erbyn Rabba, prifddinas yr Ammoniaid, a llwyddodd i ddal y gaer frenhinol. Anfonodd neges at Dafydd, “Dw i wedi ymosod ar Rabba, ac wedi cipio cronfa ddŵr y ddinas. Mae'n bryd i ti gasglu gweddill y fyddin, a dod yma i warchae ar y ddinas. Wedyn ti fydd wedi ei choncro, nid fi, a fydd hi ddim yn cael ei henwi ar fy ôl i.” Felly dyma Dafydd yn casglu'r fyddin i gyd a mynd i Rabba i ymladd yn ei herbyn a'i choncro. Dyma fe'n cymryd coron eu brenin nhw a'i rhoi ar ei ben ei hun. Roedd hi wedi ei gwneud o dri deg cilogram o aur, ac roedd gem werthfawr arni. Casglodd Dafydd lot fawr o ysbail o'r ddinas hefyd. Symudodd y bobl allan, a'u gorfodi nhw i weithio iddo gyda llifau, ceibiau a bwyeill haearn, a'u hanfon i'r gwaith brics. Gwnaeth Dafydd yr un peth gyda pob un o drefi'r Ammoniaid. Yna aeth yn ôl i Jerwsalem gyda'i fyddin. Yna beth amser wedyn digwyddodd hyn: Roedd gan Absalom, mab Dafydd, chwaer o'r enw Tamar, oedd yn arbennig o hardd. Roedd Amnon, mab arall i Dafydd, yn ei ffansïo hi. Roedd ei deimladau ati mor gryf roedd yn gwneud ei hun yn sâl. Roedd Tamar wedi cyrraedd oed priodi ac yn wyryf, ond doedd Amnon ddim yn gweld unrhyw ffordd y gallai e ei chael hi. Roedd gan Amnon ffrind o'r enw Jonadab (mab Shamma, brawd Dafydd). Roedd Jonadab yn ddyn cyfrwys iawn. Dyma fe'n gofyn i Amnon, “Beth sy'n bod? Ti ydy mab y brenin. Pam wyt ti mor ddigalon drwy'r amser? Wnei di ddim dweud wrtho i beth sydd?” A dyma Amnon yn ateb, “Dw i mewn cariad hefo Tamar, chwaer Absalom.” Yna dyma Jonadab yn dweud wrtho, “Dos i orwedd ar dy wely ac esgus bod yn sâl. Wedyn, pan fydd dy dad yn dod i dy weld, dywed wrtho, ‘Plîs gad i Tamar, fy chwaer, ddod i wneud bwyd i mi. Gad iddi ei baratoi o'm blaen i, ac wedyn fy mwydo i.’” Felly dyma Amnon yn mynd i'w wely a smalio bod yn sâl. Daeth y brenin i'w weld, a dyma Amnon yn dweud wrtho, “Plîs gad i Tamar, fy chwaer, ddod i baratoi cacennau sbesial o'm blaen i, ac wedyn fy mwydo i.” Dyma Dafydd yn anfon neges at Tamar yn y palas, yn dweud wrthi am fynd i dŷ ei brawd Amnon i wneud bwyd iddo. A dyma Tamar yn mynd i dŷ Amnon, lle roedd yn gorwedd. Cymerodd does a'i baratoi o'i flaen a'i goginio. Ond pan ddaeth â'r bwyd ato, dyma Amnon yn gwrthod bwyta. Yna dyma fe'n gorchymyn i'w weision “Pawb allan o ma!” a dyma nhw i gyd yn mynd. Wedyn dyma Amnon yn dweud wrth Tamar, “Tyrd â'r bwyd i'r ystafell wely, a gwna i fwyta yno.” Felly dyma Tamar yn mynd â'r bwyd oedd hi newydd ei baratoi at ei brawd Amnon i'r ystafell wely. Ond wrth iddi ei annog i fwyta, dyma fe'n gafael ynddi a dweud, “Tyrd i'r gwely hefo fi, chwaer.” “Na! frawd, paid!” meddai hi. “Paid treisio fi. Dydy pobl Israel ddim yn gwneud pethau fel yna. Paid gwneud peth mor erchyll. Allwn i ddim byw gyda'r cywilydd. A fyddai neb yn Israel yn dy barchu di am wneud peth mor erchyll. Plîs paid. Gofyn i'n tad, y brenin; wnaiff e ddim gwrthod fy rhoi i ti.” Ond doedd Amnon ddim am wrando arni. Roedd yn gryfach na hi, a dyma fe'n ei dal hi i lawr a'i threisio. Ond wedyn dyma fe'n dechrau ei chasáu hi go iawn. Roedd yn ei chasáu hi nawr fwy nag roedd yn ei charu hi o'r blaen. A dyma fe'n dweud wrthi, “Cod! Dos o ma!” Ond dyma Tamar yn ateb, “Na! Plîs paid! Mae fy anfon i ffwrdd nawr yn waeth na beth rwyt ti newydd ei wneud!” Ond doedd e ddim am wrando arni. A dyma fe'n galw ei was ystafell, a dweud wrtho, “Dos â hon allan, a chloi'r drws tu ôl iddi!” Felly dyma'r gwas yn ei thaflu allan, a bolltio'r drws ar ei hôl. Roedd hi mewn gwisg laes (y math o wisg fyddai merched dibriod y brenin yn arfer ei wisgo.) Ond dyma Tamar yn rhwygo'r wisg a rhoi lludw ar ei phen. Aeth i ffwrdd â'i dwylo dros ei hwyneb, yn crïo'n uchel. A dyma Absalom, ei brawd, yn gofyn iddi, “Ydy'r brawd yna sydd gen ti, Amnon, wedi gwneud rhywbeth i ti? Paid dweud dim am y peth gan ei fod yn frawd i ti. Ond paid ti â poeni.” Yna aeth Tamar i aros yn nhŷ ei brawd Absalom, yn unig ac wedi torri ei chalon. Pan glywodd y brenin Dafydd am bopeth oedd wedi digwydd, roedd yn flin ofnadwy. Ond wnaeth Absalom ddweud dim o gwbl wrth Amnon, er ei fod yn ei gasáu am beth wnaeth e i'w chwaer Tamar. Aeth dwy flynedd heibio. Roedd gweision Absalom yn cneifio yn Baal-chatsor, wrth ymyl tref o'r enw Effraim. A dyma Absalom yn gwahodd meibion y brenin i gyd i barti. Aeth at y brenin a dweud, “Mae'r dynion acw'n cneifio. Tyrd aton ni i'r parti, a tyrd â dy swyddogion hefyd.” “Na, machgen i,” meddai'r brenin. “Ddown ni ddim i gyd, neu byddwn yn faich arnat ti.” Er i Absalom bwyso arno, doedd e ddim yn fodlon mynd. Ond dyma fe yn dymuno'n dda iddo. Ond wedyn, dyma Absalom yn dweud, “Os ddoi di dy hun ddim, plîs gad i'm brawd Amnon ddod.” “Pam fyddet ti eisiau iddo fe fynd gyda ti?” holodd y brenin. Ond roedd Absalom yn dal i bwyso arno, ac yn y diwedd dyma'r brenin yn anfon Amnon a'i feibion eraill i gyd. A dyma Absalom yn paratoi parti digon da i frenin. Dwedodd Absalom wrth ei weision, “Gwyliwch Amnon. Dw i eisiau i chi aros nes bydd e ychydig yn chwil. Wedyn pan fydda i'n dweud, lladdwch e! Peidiwch bod ofn. Fi sydd wedi dweud wrthoch chi i wneud hyn. Byddwch yn ddewr!” Felly dyma weision Absalom yn lladd Amnon. A dyma feibion eraill y brenin yn codi, neidio ar eu mulod, a dianc. Tra roedden nhw ar eu ffordd adre, roedd Dafydd wedi clywed si fod Absalom wedi lladd ei feibion e i gyd, a bod dim un ohonyn nhw'n dal yn fyw. Felly cododd y brenin, rhwygo ei ddillad a gorwedd ar lawr. Ac roedd ei weision i gyd yn sefyll o'i gwmpas, wedi rhwygo eu dillad nhw hefyd. Ond dyma Jonadab (mab Shamma, brawd Dafydd) yn dweud, “Syr, paid meddwl fod dy feibion i gyd wedi ei lladd. Dim ond Amnon fydd wedi marw. Mae Absalom wedi bod yn cynllunio hyn ers i Amnon dreisio ei chwaer e, Tamar. Ddylai'r brenin ddim credu'r stori fod ei feibion i gyd wedi eu lladd. Dim ond Amnon sydd wedi marw, a bydd Absalom wedi dianc.” Yna dyma'r gwyliwr oedd ar ddyletswydd yn edrych allan a gweld tyrfa o bobl yn dod heibio'r bryn o gyfeiriad trefi Beth-choron. A dyma Jonadab yn dweud wrth y brenin, “Edrych, dy feibion sy'n dod, fel gwnes i ddweud!” A'r eiliad honno dyma feibion y brenin yn cyrraedd, yn crïo'n uchel. A dyma'r brenin ei hun a'i swyddogion i gyd yn dechrau beichio crïo hefyd. Buodd Dafydd yn galaru am ei fab Amnon am amser hir. Roedd Absalom wedi dianc at Talmai fab Amihwd, brenin Geshwr. Arhosodd yn Geshwr am dair blynedd. Erbyn hynny roedd Dafydd wedi dod dros farwolaeth Amnon, ac yn dechrau hiraethu am Absalom. Roedd Joab (mab Serwia) wedi sylwi fod Dafydd ddim yn gallu stopio meddwl am Absalom. Felly dyma fe'n anfon rhywun i nôl gwraig ddoeth oedd yn byw yn Tecoa. Meddai wrthi, “Dw i eisiau i ti esgus dy fod yn galaru. Rho ddillad galar amdanat, peidio gwisgo colur, a gwneud i ti dy hun edrych fel rhywun sydd wedi bod yn galaru am amser hir iawn. Yna dos at y brenin a dweud fel yma: …” (A dyma Joab yn dweud wrthi yn union beth i'w ddweud.) Felly dyma'r wraig o Tecoa yn mynd at y brenin. Aeth ar ei gliniau ac ymgrymu o'i flaen gyda'i hwyneb ar lawr. “Plîs helpa fi, o frenin.” “Beth sy'n bod?” meddai Dafydd. A dyma hi'n ateb, “Gwraig weddw ydw i. Mae'r gŵr wedi marw. Roedd gen i ddau fab, a dyma nhw'n dechrau ymladd allan yng nghefn gwlad. Doedd yna neb o gwmpas i'w gwahanu, a dyma un yn taro'r llall a'i ladd. A nawr mae aelodau'r clan i gyd wedi troi yn fy erbyn i, ac yn mynnu, ‘Rho dy fab i ni. Rhaid iddo farw am lofruddio ei frawd.’ Ond fe ydy'r etifedd. Os gwnân nhw hynny, bydd y fflam olaf sydd gen i wedi diffodd! Fydd yna neb ar ôl i gadw enw'r gŵr yn fyw.” Dyma'r brenin Dafydd yn dweud wrth y wraig, “Dos adre. Gwna i setlo'r achos i ti.” A dyma'r wraig yn dweud wrth y brenin, “Os bydd unrhyw broblem, arna i a'm teulu mae'r bai. Does dim bai o gwbl ar fy meistr y brenin a'i orsedd.” Ond dyma'r brenin yn ateb, “Os bydd unrhyw un yn cwestiynu'r peth, gwna i ddelio gydag e. Fydd e ddim dy blagio di byth eto!” A dyma hi'n gofyn, “Plîs wnei di addo i mi o flaen yr ARGLWYDD dy Dduw, na fydd y perthynas agosaf yn mynnu dial ar fy mab a tywallt mwy o waed eto?” “Ar fy llw,” meddai'r brenin, “fydd neb yn cyffwrdd blewyn o wallt ei ben!” Yna dyma'r wraig yn gofyn, “Plîs ga i ddweud un peth arall wrthot ti, syr?” “Ie, beth?” meddai'r brenin. A dyma hi'n dweud, “Pam wyt ti wedi gwneud yr un math o beth yn erbyn pobl Dduw? Wrth roi'r dyfarniad yna i mi rwyt ti'n barnu dy hun yn euog. Dwyt ti ddim wedi gadael i dy fab sy'n alltud ddod yn ôl adre. Rhaid i ni i gyd farw rywbryd. Dŷn ni fel dŵr yn cael ei dywallt ar y tir a neb yn gallu ei gasglu'n ôl. Dydy Duw ddim yn cymryd bywyd rhywun cyn pryd; ond mae e yn trefnu ffordd i ddod â'r un sydd wedi ei alltudio yn ôl adre. Nawr, dw i wedi dod i siarad â'r brenin, fy meistr, am fod pobl yn codi ofn arna i. Ro'n i'n meddwl, ‘Os gwna i siarad â'r brenin falle y bydd e'n gwneud beth dw i'n ei ofyn. Bydd y brenin yn siŵr o wrando. Bydd e'n fy achub i oddi wrth yr un sydd am fy ngyrru i a'm mab o'r etifeddiaeth roddodd Duw i ni.’ Ro'n i'n meddwl, ‘Bydd ateb y brenin yn dod â chysur i mi. Achos mae'r brenin fel angel Duw, yn gwybod y gwahaniaeth rhwng da a drwg.’ Boed i'r ARGLWYDD dy Dduw fod gyda ti!” A dyma'r brenin Dafydd yn ateb, “Dw i eisiau gwybod un peth. Paid cuddio dim oddi wrtho i.” “Gofyn, syr,” meddai'r wraig. “Ai Joab sydd wedi dy gael i wneud hyn?” meddai. A dyma'r wraig yn ateb, “Ie, alla i ddim gwadu'r peth syr. Joab drefnodd y cwbl, a dweud wrtho i beth i'w ddweud. Roedd e eisiau i ti edrych ar y sefyllfa o safbwynt gwahanol. Ond rwyt ti, syr, fel angel Dduw. Ti'n deall popeth sy'n digwydd yn y wlad.” Yna dyma'r brenin yn galw Joab, “O'r gorau! Dyna wna i. Dos i nôl y bachgen Absalom.” Dyma Joab yn ymgrymu â'i wyneb ar lawr o flaen y brenin, a diolch iddo. Meddai wrtho, “Heddiw dw i'n gwybod fod gen ti ffydd yno i, dy was. Ti wedi caniatáu fy nghais i.” Felly dyma Joab yn mynd i lawr i Geshwr a dod ag Absalom yn ôl i Jerwsalem. Ond roedd y brenin wedi dweud, “Rhaid iddo fynd i'w dŷ ei hun. Gaiff e ddim fy ngweld i.” Felly dyma Absalom yn mynd i'w dŷ ei hun, heb gael gweld y brenin. Roedd Absalom yn cael ei ystyried y dyn mwyaf golygus yn Israel. Dyn cryf, iach, gyda'r corff perffaith. Roedd yn arfer torri ei wallt yn fyr bob blwyddyn am fod ei wallt wedi tyfu mor drwchus. Ar ôl torri ei wallt byddai'n ei bwyso, ac roedd dros ddau gilogram (yn ôl y safon brenhinol). Roedd gan Absalom dri mab ac un ferch. Enw'r ferch oedd Tamar, ac roedd hi'n ferch arbennig o hardd. Roedd Absalom wedi bod yn Jerwsalem am ddwy flynedd heb gael gweld y brenin, a dyma fe'n anfon neges at Joab i geisio'i gael i drefnu iddo gael gweld y brenin. Ond roedd Joab yn gwrthod mynd ato. Dyma fe'n anfon amdano eto, ond roedd Joab yn dal i wrthod mynd. Felly dyma Absalom yn dweud wrth ei weision, “Mae gan Joab gae o haidd nesa at fy nhir i. Ewch i'w roi ar dân.” A dyma weision Absalom yn gwneud hynny. Aeth Joab ar ei union i dŷ Absalom. “Pam mae dy weision di wedi rhoi fy nghae i ar dân?” meddai. A dyma Absalom yn ateb, “Edrych, gwnes i anfon neges atat ti am fy mod eisiau i ti fynd at y brenin, a gofyn iddo pam wnaeth e ddod â fi yn ôl o Geshwr os nad oedd e eisiau fy ngweld i. Byddai wedi bod yn well i mi aros yno! Nawr, dw i eisiau gweld y brenin. Os ydw i wedi gwneud rhywbeth o'i le, gad iddo fy lladd i!” A dyma Joab yn mynd at y brenin a dweud hynny wrtho. Felly dyma'r brenin yn galw am Absalom, a dyma Absalom yn dod ato ac ymgrymu o'i flaen â'i wyneb ar lawr. A dyma'r brenin yn ei gyfarch gyda chusan. Beth amser wedyn dyma Absalom yn paratoi cerbyd a cheffylau iddo'i hun, a pum deg o warchodwyr personol. Byddai'n codi'n fore a sefyll ar ochr y ffordd wrth giât y ddinas. Pan oedd unrhyw un yn dod heibio gydag achos cyfreithiol i'w setlo gan y brenin, byddai Absalom yn ei alw draw. Byddai'n gofyn iddo, “Un o ble wyt ti?” Os oedd hwnnw'n dweud ei fod yn perthyn i un o lwythau Israel, byddai Absalom yn dweud wrtho, “Gwranda, mae gen ti achos cryf, ond does gan y brenin neb ar gael i wrando arnat ti.” Wedyn byddai'n ychwanegu, “Piti na fyddwn ni'n cael fy ngwneud yn farnwr yn y wlad yma! Byddai pawb oedd ag achos ganddo yn gallu dod ataf fi. Byddwn i'n gwneud yn siŵr eu bod nhw'n cael tegwch.” Pan fyddai rhywun yn dod ato ac ymgrymu o'i flaen, byddai Absalom yn estyn ei law a'i gofleidio a rhoi cusan iddo. Roedd yn gwneud hyn i bawb o Israel oedd yn dod i ofyn am gyfiawnder gan y brenin. A dyna sut wnaeth Absalom ennill cefnogaeth pobl Israel. Ar ôl pedair blynedd, dyma Absalom yn gofyn i'r brenin, “Plîs ga i fynd i Hebron i gyflawni adduned wnes i i'r ARGLWYDD? Pan oeddwn i'n byw yn Geshwr yn Syria, gwnes i addo ar lw: ‘Os bydd yr ARGLWYDD yn mynd â fi yn ôl i Jerwsalem, gwna i addoli'r ARGLWYDD yn Hebron.’” A dyma'r brenin yn ei ateb, “Dos, a bendith arnat ti.” Felly dyma Absalom yn mynd i ffwrdd i Hebron. Ond yna dyma Absalom yn anfon negeswyr cudd at lwythau Israel i gyd i ddweud, “Pan fyddwch chi'n clywed sŵn y corn hwrdd, cyhoeddwch: ‘Mae Absalom yn frenin yn Hebron.’” Roedd dau gant o ddynion wedi mynd gydag Absalom o Jerwsalem. Roedden nhw wedi cael gwahoddiad ganddo, ac wedi mynd yn gwbl ddiniwed heb wybod dim am ei fwriadau. Yna dyma Absalom yn cael Achitoffel, swyddog strategaeth Dafydd, i ddod ato o Gilo (y dre lle roedd e'n byw) i gyflwyno aberthau gydag e. Roedd y cynllwyn yn cryfhau, a nifer y bobl oedd o blaid Absalom yn cynyddu. Daeth neges at Dafydd i ddweud fod pobl Israel wedi troi at Absalom. Felly dyma Dafydd yn dweud wrth ei swyddogion yn Jerwsalem, “Rhaid i ni ffoi, neu wnawn ni ddim dianc oddi wrth Absalom. Dewch! Brysiwch i ni adael, rhag iddo'n dal ni a lladd pawb yn y ddinas!” Dyma'r swyddogion yn ateb, “Bydd dy weision yn gwneud beth bynnag mae ein meistr, y brenin, yn ei benderfynu.” Felly dyma'r brenin yn gadael, a'i deulu a'i staff i gyd gydag e. Ond gadawodd ddeg o'i gariadon i edrych ar ôl y palas. Wrth iddo fynd, a'r bobl i gyd yn ei ddilyn, dyma nhw'n aros wrth y Tŷ Pellaf. Safodd yno tra roedd ei warchodlu i gyd yn mynd heibio (Cretiaid a Pelethiaid) a'r chwe chant o ddynion oedd wedi ei ddilyn o Gath. Wrth iddyn nhw fynd heibio dyma'r brenin yn galw ar Itai (oedd o Gath), “Pam ddylet ti ddod gyda ni? Dos yn ôl ac aros gyda'r brenin newydd. Un o'r tu allan wyt ti, yn alltud ac yn bell oddi cartref. Dim ond newydd gyrraedd wyt ti. Alla i ddim gwneud i ti grwydro o le i le ar fy ôl i! Dos yn ôl, a dos â dy bobl gyda ti. A boed i'r Duw ffyddlon dy amddiffyn di.” Ond dyma Itai yn ateb, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, a'm meistr y brenin yn fyw, bydda i'n mynd ble bynnag fyddi di'n mynd — hyd yn oed os fydd hynny'n golygu marw gyda ti.” A dyma Dafydd yn dweud wrtho, “Dos yn dy flaen, felly.” Ac aeth Itai yn ei flaen gyda'i ddynion i gyd a'u teuluoedd. Roedd pawb yn crïo'n uchel wrth i'r fyddin fynd heibio. Dyma'r brenin yn croesi Nant Cidron ac aethon nhw i gyd ymlaen i gyfeiriad yr anialwch. Roedd Sadoc ac Abiathar yr offeiriaid yno, a'r Lefiaid yn cario Arch Ymrwymiad Duw. Dyma nhw'n gosod yr Arch i lawr, a wnaethon nhw ddim ei chodi eto nes oedd y bobl i gyd wedi gadael y ddinas. Yna dyma'r brenin yn dweud wrth Sadoc, “Dos ag Arch Duw yn ôl i'r ddinas. Os bydd yr ARGLWYDD yn garedig ata i, bydd yn dod â fi'n ôl i'w gweld hi a'i chartref eto. Ond os ydy e'n dweud nad ydy e fy eisiau i bellach, dw i'n fodlon iddo wneud beth bynnag mae eisiau gyda mi.” Yna dyma'r brenin yn dweud wrth Sadoc yr offeiriad, “Wyt ti'n deall y sefyllfa? Dos yn ôl i'r ddinas yn dawel fach, ti ac Abiathar a'ch meibion, Achimaats, dy fab di, a Jonathan, mab Abiathar. Bydda i'n aros wrth y rhydau ar y ffordd i'r anialwch nes bydda i wedi clywed gynnoch chi.” Felly dyma Sadoc ac Abiathar yn mynd ag Arch Duw yn ôl i Jerwsalem, ac aros yno. Aeth Dafydd yn ei flaen i fyny Mynydd yr Olewydd, yn crïo wrth fynd. Roedd yn cuddio'i ben a doedd dim am ei draed. Ac roedd pawb arall oedd gydag e wedi gorchuddio'u pennau ac yn crïo hefyd. Pan glywodd Dafydd fod Achitoffel yn un o'r rhai oedd wedi cynllwynio gydag Absalom, dyma fe'n gweddïo, “ARGLWYDD, plîs gwna gyngor Achitoffel yn gyngor gwirion.” Wrth i Dafydd gyrraedd copa'r bryn lle roedd pobl yn arfer addoli, dyma Chwshai yr Arciad yn dod i'w gyfarfod, wedi rhwygo ei ddillad a rhoi pridd ar ei ben. Dyma Dafydd yn dweud wrtho, “Os doi di gyda mi, byddi'n faich arna i. Felly dos yn ôl i'r ddinas a dweud wrth Absalom, ‘Dw i am fod yn was i ti, o frenin. Mae'n wir mod i wedi bod yn was i Dafydd dy dad, ond nawr dw i am fod yn was i ti.’ Wedyn byddi'n gallu drysu cyngor Achitoffel. Bydd Sadoc ac Abiathar yr offeiriaid yna gyda ti. Rhanna gyda nhw bopeth fyddi di'n ei glywed yn y palas brenhinol. Mae eu meibion gyda nhw hefyd, Achimaats fab Sadoc, a Jonathan fab Abiathar. Gallwch eu hanfon nhw ata i ddweud beth sy'n digwydd.” Felly dyma Chwshai, cynghorydd Dafydd, yn cyrraedd Jerwsalem pan oedd Absalom ar fin mynd i mewn i'r ddinas. Roedd Dafydd newydd fynd dros gopa'r bryn pan ddaeth Siba, gwas Meffibosheth, i'w gyfarfod. Roedd ganddo ddau asyn wedi eu cyfrwyo yn cario dau gan torth, can swp o rhesins, can swp o ffigys aeddfed a photel groen o win. A dyma'r brenin yn gofyn, “Beth ydy'r rhain sydd gen ti?” Atebodd Siba, “Mae'r asynnod i ti a dy deulu farchogaeth arnyn nhw. Mae'r bara a'r ffrwythau i'r milwyr eu bwyta. Ac mae'r gwin i unrhyw un fydd yn llewygu yn yr anialwch.” Yna dyma'r brenin yn gofyn iddo, “Ble mae Meffibosheth, ŵyr dy feistr?” “Mae wedi aros yn Jerwsalem,” meddai Siba. “Mae'n meddwl y bydd pobl Israel yn rhoi gorsedd ei daid yn ôl iddo fe nawr.” A dyma'r brenin yn dweud wrth Siba, “Os felly, dw i'n rhoi popeth oedd piau Meffibosheth i ti!” A dyma Siba'n dweud, “Dw i'n plygu o dy flaen di, fy meistr a'm brenin. Ti'n rhy garedig ata i.” Pan ddaeth Dafydd i Bachwrîm, dyma ddyn o'r enw Shimei fab Gera (oedd yn perthyn i deulu Saul) yn dod allan o'r pentref. Roedd yn rhegi Dafydd yn ddi-stop ac yn taflu cerrig ato, ac at y swyddogion, y milwyr a'r gwarchodlu oedd bob ochr iddo. Roedd Shimei yn gweiddi a rhegi, “Dos o ma! Dos o ma, y llofrudd ddiawl! Mae'r ARGLWYDD yn talu'n ôl i ti am ladd teulu Saul. Roeddet ti wedi dwyn yr orsedd oddi arno, a nawr mae'r ARGLWYDD wedi rhoi'r deyrnas i dy fab Absalom. Maen dy dro di i fod mewn helynt, y llofrudd!” Dyma Abishai (mab Serwia) yn dweud wrth y brenin, “Pam ddylai ci marw fel hwnna gael rhegi fy meistr, y brenin? Gad i mi fynd a torri ei ben i ffwrdd!” Ond dyma'r brenin yn ateb, “Dydy e ddim o'ch busnes chi, feibion Serwia. Os ydy e'n fy rhegi fel hyn am fod yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho am fy melltithio i, pwy ydych chi i'w stopio?” A dyma Dafydd yn dweud wrth Abishai a'i swyddogion, “Mae fy mab i fy hun yn ceisio fy lladd i! Meddyliwch! Mae gan y dyn yma o lwyth Benjamin lot mwy o reswm i fod eisiau gwneud hynny! Gadewch lonydd iddo regi os mai'r ARGLWYDD sydd wedi dweud wrtho am wneud hynny. Falle y bydd yr ARGLWYDD yn gweld fy mod i'n cael cam, ac yn gwneud da i mi yn lle'r holl felltithio yma.” Felly aeth Dafydd a'i filwyr yn eu blaenau ar y ffordd. Ond roedd Shimei yn cadw i fyny â nhw ar ochr y bryn gyferbyn, ac yn rhegi a thaflu cerrig a phridd atyn nhw. Roedd y brenin a'r bobl i gyd wedi blino'n lân erbyn iddyn nhw gyrraedd. Felly dyma nhw'n cymryd seibiant. Yn y cyfamser roedd Absalom, a byddin Israel gyfan, wedi cyrraedd Jerwsalem. Roedd Achitoffel gydag e. Yna dyma gynghorydd Dafydd, Chwshai yr Arciad, yn mynd i gyfarch Absalom a dweud, “Hir oes i'r brenin! Hir oes i'r brenin!” Gofynnodd Absalom iddo, “Ai dyma beth ydy bod yn driw i dy ffrind, Dafydd? Pam est ti ddim gydag e?” A dyma Chwshai yn ateb, “Na, dw i'n driw i'r un mae'r ARGLWYDD a'r bobl yma, sef pobl Israel i gyd, wedi ei ddewis. Gyda hwnnw bydda i'n aros. A beth bynnag, rwyt ti'n fab iddo! Pam ddylwn i ddim dy wasanaethu di? Gwna i dy wasanaethu di fel gwnes i wasanaethu dy dad.” Yna dyma Absalom yn gofyn i Achitoffel, “Rho gyngor i ni. Be ddylen ni ei wneud nesa?” A dyma Achitoffel yn ateb, “Cysga gyda partneriaid dy dad — y rhai wnaeth e eu gadael i edrych ar ôl y palas. Bydd pawb yn Israel yn gwybod wedyn dy fod wedi troi dy dad yn dy erbyn yn llwyr, a bydd hynny'n rhoi hyder i bawb sydd ar dy ochr di.” Felly dyma nhw'n codi pabell i Absalom ar do fflat y palas, lle roedd pawb yn gallu gweld. A dyma Absalom yn mynd yno a chael rhyw gyda chariadon ei dad i gyd. Yr adeg yna, roedd cyngor Achitoffel yn cael ei ystyried fel petai Duw ei hun wedi siarad. Dyna sut roedd Dafydd yn ei weld, a nawr Absalom hefyd. Yna dyma Achitoffel yn dweud wrth Absalom, “Gad i mi gymryd un deg dau o filoedd o ddynion, a mynd allan ar ôl Dafydd, heno! Bydd e wedi blino'n lân ac yn wan erbyn i mi ddal i fyny ag e. Bydda i'n ei ddychryn, a bydd ei fyddin yn dianc mewn panig. Dim ond y brenin wna i ei ladd. Gwna i ddod â gweddill y bobl yn ôl atat ti. Dim ond un dyn sydd angen ei ladd. Fydd neb arall yn cael niwed.” Roedd yn swnio'n gynllun da i Absalom ac arweinwyr Israel i gyd. Ond yna dyma Absalom yn dweud, “Dewch â Chwshai yr Arciad yma, i ni weld beth sydd ganddo fe i'w ddweud.” Pan ddaeth Chwshai, dyma Absalom yn dweud wrtho beth oedd cyngor Achitoffel. “Beth ydy dy farn di? Ydy e'n gyngor da? Ac os ddim, beth wyt ti'n awgrymu?” Dyma Chwshai yn ateb, “Na, dydy cyngor Achitoffel ddim yn dda y tro yma. Mae dy dad a'i ddynion yn filwyr dewr. Ti'n gwybod hynny'n iawn. Maen nhw'n gallu bod mor filain ag arth wyllt wedi colli ei chenawon! Mae e wedi hen arfer rhyfela. Fyddai e byth yn cysgu'r nos gyda'i ddynion. Mae'n siŵr ei fod yn cuddio mewn rhyw ogof neu rywle tebyg. Petai e'n ymosod ar dy ddynion di gyntaf, a rhai ohonyn nhw'n cael eu lladd, byddai'r stori'n mynd ar led fod byddin Absalom wedi cael crasfa. Bydd hyd yn oed y milwyr mwyaf dewr — y rhai sy'n gryfion fel llewod — yn digalonni. Mae pobl Israel i gyd yn gwybod fod dy dad wedi hen arfer rhyfela, a bod y dynion sydd gydag e yn filwyr profiadol. Dyma fy nghyngor i: Casgla ddynion Israel i gyd at ei gilydd, pawb — o Dan yn y gogledd i Beersheba yn y de (Byddin fydd fel y tywod ar lan y môr, yn amhosib i'w cyfrif!) A dw i'n meddwl y dylet ti dy hun eu harwain nhw i'r frwydr. Wedyn, ble bynnag mae e, byddwn ni'n disgyn arno fel gwlith ar y ddaear. Fydd e na neb arall sydd gydag e yn cael eu gadael yn fyw! A hyd yn oed os bydd e'n llwyddo i ddianc i ryw dref gaerog, bydd dynion Israel yn tynnu'r waliau i lawr gyda rhaffau a llusgo'r dref i lawr i'r ceunant. Fydd dim hyd yn oed un garreg fechan ar ôl!” A dyma Absalom ac arweinwyr Israel yn ymateb, “Mae cyngor Chwshai yn well na chyngor Achitoffel.” A dyna sut gwnaeth yr ARGLWYDD ddrysu cyngor da Achitoffel er mwyn achosi helynt i Absalom. Yna dyma Chwshai yn mynd i ddweud wrth Sadoc ac Abiathar yr offeiriaid beth oedd cyngor Achitoffel i Absalom, a beth oedd e ei hun wedi ei ddweud. “Felly anfonwch neges ar frys at Dafydd i ddweud wrtho am beidio aros dros nos wrth rydau'r anialwch,” meddai. “Dwedwch wrtho am groesi'r Iorddonen yn syth, rhag ofn iddo fe a phawb sydd gydag e gael eu lladd.” Roedd Jonathan ac Achimaats (meibion yr offeiriaid) yn aros yn En-rogel. Felly byddai morwyn yn mynd â negeseuon iddyn nhw, a hwythau wedyn yn mynd â'r negeseuon ymlaen i'r brenin Dafydd. (Doedd wiw iddyn nhw gael eu gweld yn mynd i mewn i Jerwsalem.) Ond roedd rhyw fachgen ifanc wedi eu gweld nhw, a mynd i ddweud wrth Absalom. Felly dyma'r ddau yn gadael ar frys a mynd i dŷ rhyw ddyn yn Bachwrîm. Roedd gan hwnnw bydew yn ei fuarth, a dyma nhw'n dringo i lawr i'r pydew. Yna dyma wraig y dyn yn rhoi gorchudd dros geg y pydew a taenu grawn drosto, fel bod dim i'w weld. Pan ddaeth gweision Absalom at y tŷ dyma nhw'n gofyn i'r wraig, “Ble mae Achimaats a Jonathan?” A dyma hi'n ateb, “Maen nhw wedi croesi'r nant.” Aeth y dynion i chwilio amdanyn nhw, ond methu dod o hyd iddyn nhw. Felly dyma nhw'n mynd yn ôl i Jerwsalem. Pan oedden nhw wedi mynd, dyma Achimaats a Jonathan yn dringo allan o'r pydew a mynd i roi'r neges i'r Brenin Dafydd. Dyma nhw'n dweud wrtho am frysio i groesi'r afon, a beth oedd cyngor Achitoffel yn ei erbyn. Felly dyma Dafydd a'i fyddin yn croesi'r Afon Iorddonen. Roedden nhw i gyd wedi croesi cyn iddi wawrio y bore wedyn. Pan welodd Achitoffel eu bod nhw wedi gwrthod ei gyngor e, dyma fe'n cyfrwyo'i asyn a mynd adre. Ar ôl rhoi trefn ar ei bethau, dyma fe'n crogi ei hun, a cafodd ei gladdu ym medd y teulu. Roedd Dafydd wedi hen gyrraedd Machanaîm erbyn i Absalom a byddin Israel i gyd groesi'r Iorddonen. Roedd Absalom wedi penodi Amasa yn bennaeth y fyddin yn lle Joab. (Roedd Amasa yn fab i Ismaeliad o'r enw Ithra ac Abigail, merch Nachash a chwaer Serwia, mam Joab.) Felly dyma Absalom a byddin Israel yn codi gwersyll yn ardal Gilead. Wrth i Dafydd gyrraedd Machanaîm, dyma Shobi fab Nachash o Rabba'r Ammoniaid, Machir fab Ammiel o Lo-debâr, a Barsilai o Gilead, o Rogelîm, yn dod â gwlâu, powlenni, a llestri iddo. Dyma nhw hefyd yn dod â bwyd i Dafydd a'r milwyr oedd gydag e — gwenith, haidd, blawd, grawn wedi ei grasu, ffa, ffacbys, mêl, caws colfran o laeth dafad a chaws o laeth buwch. Roedden nhw'n gwybod y byddai pawb eisiau bwyd ac wedi blino, ac yn sychedig ar ôl bod allan yn yr anialwch. Dyma Dafydd yn casglu'r milwyr oedd gydag e at ei gilydd, a phenodi capteiniaid ar unedau o fil ac o gant. Yna anfonodd nhw allan yn dair catrawd. Roedd un o dan awdurdod Joab, un o dan ei frawd Abishai (mab Serwia), a'r llall o dan Itai o Gath. A dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Dw i'n hun am ddod allan i ymladd gyda chi hefyd.” Ond dyma'r dynion yn ateb, “Na, paid. Petai'n rhaid i ni ffoi am ein bywydau fyddai neb yn malio — hyd yn oed petai hanner y fyddin yn cael eu lladd! Ond rwyt ti'n werth deg mil ohonon ni. Byddai'n fwy o help i ni petaet ti'n aros yn y dre.” Ac meddai'r brenin, “Os mai dyna dych chi'n feddwl sydd orau, dyna wna i.” Yna safodd y brenin wrth giât y dre wrth i'r dynion fynd allan fesul catrawd. A dyma fe'n gweiddi ar Joab, Abishai ac Itai, “Er fy mwyn i, byddwch yn garedig at y bachgen Absalom.” Roedd y fyddin gyfan wedi ei glywed yn rhoi'r gorchymyn yma i'w swyddogion. Dyma nhw'n mynd allan i frwydro yn erbyn byddin Israel. Roedd y brwydro yng Nghoedwig Effraim. A dyma ddilynwyr Dafydd yn gorchfygu byddin Israel. Roedd colledion mawr. Cafodd dau ddeg mil eu lladd y diwrnod hwnnw. Roedd y frwydr wedi lledu i bobman. Ond cafodd mwy o ddynion eu lladd o achos peryglon y goedwig na gafodd eu lladd gan y cleddyf! Yn ystod y frwydr dyma rai o ddynion Dafydd yn dod ar draws Absalom. Roedd yn reidio ar gefn ei ful. Wrth i'r mul fynd o dan ganghennau rhyw goeden fawr, dyma ben Absalom yn cael ei ddal yn y goeden. Aeth y mul yn ei flaen, a gadael Absalom yn hongian yn yr awyr. Dyma un o'r dynion welodd beth ddigwyddodd yn mynd i ddweud wrth Joab, “Dw i newydd weld Absalom yn hongian o goeden fawr.” Atebodd Joab, “Beth? Welaist ti e? Pam wnes ddim ei ladd e yn y fan a'r lle? Byddwn i wedi rhoi deg darn arian a medal i ti.” Ond dyma'r dyn yn dweud, “Hyd yn oed petawn i'n cael mil o ddarnau arian, fyddwn ni ddim yn cyffwrdd mab y brenin! Clywodd pawb y brenin yn dy siarsio di ac Abishai ac Itai i ofalu am y bachgen Absalom. Petawn i wedi gwneud rhywbeth iddo byddai'r brenin yn siŵr o fod wedi clywed, a byddet ti wedi gadael i mi gymryd y bai!” Dyma Joab yn ateb, “Dw i ddim am wastraffu amser fel yma.” A dyma fe'n cymryd tair gwaywffon a'u gwthio nhw drwy galon Absalom pan oedd yn dal yn fyw yn y goeden. Yna dyma'r deg llanc oedd yn gofalu am arfau Joab yn casglu o gwmpas Absalom a'i ladd. Yna chwythodd Joab y corn hwrdd, a dyma nhw'n rhoi'r gorau i fynd ar ôl byddin Israel am fod Joab wedi eu galw'n ôl. Cafodd corff Absalom ei daflu i bydew dwfn yn y goedwig, a dyma nhw'n gosod pentwr mawr o gerrig drosto. Yn y cyfamser roedd milwyr Israel i gyd wedi dianc am adre. Pan oedd yn dal yn fyw roedd Absalom wedi codi cofgolofn iddo'i hun yn Nyffryn y Brenin am fod ganddo fe ddim mab i gadw ei enw i fynd. Roedd wedi gosod ei enw ei hun arni, a hyd heddiw mae'r golofn yn cael ei galw yn ‛Gofeb Absalom‛. Dyma Achimaats, mab Sadoc, yn gofyn i Joab, “Gad i mi redeg i roi'r newyddion da i'r brenin fod yr ARGLWYDD wedi ei achub o afael ei elynion.” Ond dyma Joab yn ateb, “Na, dim heddiw. Cei fynd rywbryd eto. Dydy e ddim yn newyddion da i'r brenin fod ei fab wedi marw.” Yna dyma Joab yn dweud wrth filwr du o Affrica, “Dos di i ddweud wrth y brenin beth rwyt ti wedi ei weld heddiw.” Ar ôl ymgrymu o flaen Joab i ffwrdd â fe. Ond roedd Achimaats, mab Sadoc, yn dal i grefu ar Joab, “Plîs, plîs, gad i mi fynd hefyd ar ôl y dyn yna o Affrica.” Dyma Joab yn gofyn iddo, “Pam wyt ti mor awyddus i fynd, machgen i? Fydd yna ddim gwobr i ti.” Ond roedd yn dal i bledio, “Plîs, dw i eisiau mynd.” Felly dyma Joab yn gadael iddo fynd. A dyma Achimaats yn rhedeg ar hyd gwastatir yr Iorddonen, a pasio'r Affricanwr. Roedd Dafydd yn eistedd rhwng y giât fewnol a'r giât allanol. Aeth gwyliwr i fyny i ben y to uwchben y giât. Edrychodd allan a gweld dyn yn rhedeg ar ei ben ei hun. A dyma fe'n galw i lawr i ddweud wrth y brenin. A dyma'r brenin yn dweud, “Os ydy e ar ei ben ei hun mae'n rhaid bod ganddo newyddion.” Ond wrth i'r rhedwr ddod yn agosach, dyma'r gwyliwr yn gweld dyn arall. A dyma fe'n galw ar yr un oedd yn gwarchod y giât, “Mae yna ddyn arall yn dod, yn rhedeg ar ei ben ei hun.” A dyma'r brenin yn dweud, “Mae gan hwn newyddion hefyd.” Yna dyma'r gwyliwr yn dweud, “Dw i'n meddwl mai Achimaats fab Sadoc ydy'r rhedwr cyntaf.” A dyma'r brenin yn ateb, “Dyn da ydy e. Mae'n dod â newyddion da.” Yna dyma Achimaats yn cyrraedd a chyfarch y brenin ac ymgrymu â'i wyneb ar lawr o'i flaen, a dweud, “Bendith ar yr ARGLWYDD dy Dduw! Mae wedi trechu'r dynion oedd wedi troi yn erbyn y brenin!” A dyma'r brenin yn gofyn, “Ydy'r bachgen Absalom yn iawn?” Ac meddai Achimaats, “Roedd rhyw helynt mawr pan anfonodd Joab was y brenin a minnau i ffwrdd. Ond dw i ddim yn gwybod beth oedd yn digwydd.” “Symud i'r ochr, a sefyll yna” meddai'r brenin. A dyma Achimaats yn gwneud hynny. Yna dyma'r milwr o Affrica yn cyrraedd a dweud, “Newyddion da i'm meistr, y brenin! Mae'r ARGLWYDD wedi dy achub di o afael y rhai oedd wedi codi yn dy erbyn.” A dyma'r brenin yn holi'r dyn, “Ydy'r bachgen Absalom yn iawn?” A dyma fe'n ateb, “O na fyddai dy elynion i gyd a phawb sy'n codi yn dy erbyn fel y dyn ifanc yna!” Roedd y brenin wedi ypsetio'n lân. Aeth i fyny i'r ystafell uwchben y giât yn crïo, a dweud drosodd a throsodd, “O fy mab! O, Absalom fy mab i! Fy mab Absalom! Pam ges i ddim marw yn dy le di? O Absalom, fy mab! O, fy mab i.” Dyma rywun yn dweud wrth Joab. “Mae'r brenin yn crïo ac yn galaru am Absalom.” Pan glywodd y fyddin fod y brenin wedi torri ei galon am fod ei fab wedi marw, dyma'r fuddugoliaeth yn troi'n ddiwrnod o alar i bawb. Pan ddaeth y fyddin yn ôl i Machanaîm, roedden nhw'n llusgo i mewn i'r dre fel byddin yn llawn cywilydd am eu bod wedi colli'r frwydr. Roedd y brenin â'i wyneb yn ei ddwylo, yn crïo'n uchel, “O fy mab Absalom! Absalom, fy mab i, fy mab i!” Dyma Joab yn mynd i'r tŷ at y brenin, a dweud, “Mae dy weision wedi achub dy fywyd di a bywydau dy blant, dy wragedd a dy gariadon. A dyma ti, heddiw, yn codi cywilydd arnyn nhw i gyd! Rwyt ti fel petaet ti'n caru'r rhai sy'n dy gasáu, ac yn casáu'r rhai sy'n dy garu di! Mae'n amlwg fod dy swyddogion a'r dynion yma i gyd yn golygu dim i ti. Mae'n siŵr y byddai'n well gen ti petai Absalom yn dal yn fyw, a ninnau i gyd wedi marw! Nawr, dos allan yna i longyfarch ac annog dy weision. Dw i'n addo i ti o flaen yr ARGLWYDD, os na ei di allan fydd gen ti neb ar dy ochr di erbyn heno. Bydd pethau'n waeth arnat ti na fuon nhw erioed o'r blaen!” Felly dyma'r brenin yn codi, a mynd allan i eistedd wrth giât y ddinas. Pan ddywedwyd wrth y bobl, dyma nhw i gyd yn mynd yno i sefyll o'i flaen. Roedd milwyr Israel (oedd wedi cefnogi Absalom) i gyd wedi dianc am adre. Roedd yna lot fawr o drafod a dadlau drwy lwythau Israel i gyd. Roedd pobl yn dweud, “Y brenin wnaeth ein hachub ni o afael ein gelynion. Achubodd ni o afael y Philistiaid, ond mae e wedi ffoi o'r wlad o achos Absalom! A nawr mae Absalom, gafodd ei wneud yn frenin arnon ni, wedi cael ei ladd yn y frwydr. Pam yr oedi? Ddylen ni ddim gofyn i Dafydd ddod yn ôl?” Dyma'r Brenin Dafydd yn anfon neges at Sadoc ac Abiathar, yr offeiriaid: “Gofynnwch i arweinwyr Jwda, ‘Pam ddylech chi fod y rhai olaf i ofyn i mi ddod yn ôl? Dw i wedi clywed fod Israel i gyd yn barod! Dŷn ni'n perthyn i'n gilydd! Dŷn ni'r un cig a gwaed! Pam ddylech chi fod y rhai olaf i ofyn i mi ddod yn ôl?’ Hefyd rhowch y neges yma i Amasa: ‘Rwyt ti'n perthyn yn agos i mi. Dw i'n addo i ti o flaen Duw mai ti fydd pennaeth y fyddin yn lle Joab o hyn ymlaen.’” Llwyddodd i ennill cefnogaeth pobl Jwda i gyd — roedden nhw'n hollol unfrydol. A dyma nhw'n anfon neges at y brenin, “Tyrd yn ôl, ti a dy ddynion i gyd.” Felly dyma'r brenin yn cychwyn am yn ôl. Pan gyrhaeddodd Afon Iorddonen roedd pobl Jwda wedi dod i Gilgal i gyfarfod y brenin a'i hebrwng dros yr afon. Roedd Shimei fab Gera (oedd o Bachwrîm, ac o lwyth Benjamin) wedi brysio i lawr hefyd, gyda phobl Jwda, i gyfarfod y Brenin Dafydd. Roedd mil o ddynion o lwyth Benjamin gydag e, gan gynnwys Siba, gwas teulu Saul, a'i un deg pump mab a dau ddeg o weision. Roedden nhw wedi croesi'r dŵr i gyfarfod y brenin, ac yn cario pethau yn ôl ac ymlaen dros y rhyd, er mwyn helpu teulu'r brenin drosodd ac ennill ei ffafr. Pan groesodd Shimei fab Gera yr afon, dyma fe'n taflu ei hun ar lawr o flaen y brenin, a dweud wrtho, “Paid dal dig wrtho i, syr. Paid meddwl am beth wnes i y diwrnod hwnnw est ti allan o Jerwsalem. Plîs wnei di anghofio'r cwbl. Dw i'n gwybod mod i wedi gwneud peth drwg. Dyna pam mai fi ydy'r cyntaf o deulu Joseff i gyd i ddod i dy gyfarfod di, fy meistr, y brenin.” Dyma Abishai (mab Serwia) yn dweud, “Dylai Shimei farw! Roedd e'n rhegi yr un mae'r ARGLWYDD wedi ei eneinio'n frenin!” Ond dyma Dafydd yn ei ateb, “Dydy e ddim o'ch busnes chi feibion Serwia! Pam dych chi'n tynnu'n groes i mi? Ddylai neb yn Israel gael ei ladd heddiw. Meddyliwch! Dw i'n frenin ar Israel unwaith eto.” Yna dyma'r brenin yn addo ar lw i Shimei, “Fyddi di ddim yn cael dy ladd.” Roedd Meffibosheth, ŵyr Saul, wedi dod i gyfarfod y brenin hefyd. Doedd e ddim wedi trin ei draed, trimio'i farf, na golchi ei ddillad o'r diwrnod wnaeth y brenin adael Jerwsalem nes iddo gyrraedd yn ôl yn saff. Pan ddaeth e o Jerwsalem i gyfarfod y brenin, dyma'r brenin yn gofyn iddo, “Pam wnest ti ddim dod gyda mi, Meffibosheth?” Dyma fe'n ateb, “Meistr, fy mrenin. Fy ngwas wnaeth fy nhwyllo i. Am fy mod i'n gloff roeddwn wedi dweud wrtho am gyfrwyo asyn i mi ddod gyda ti. Ond dyma fe'n gadael a dweud celwydd amdana i wrth y brenin. Ond fy mrenin, syr, rwyt ti fel angel Duw. Gwna beth rwyt ti'n feddwl sydd orau. Roedd fy nheulu i gyd yn haeddu cael eu lladd gen ti, ond ces i eistedd i fwyta wrth dy fwrdd di. Sut alla i gwyno?” A dyma'r brenin yn ateb, “Does dim angen dweud dim mwy. Dw i wedi penderfynu fod y tir i gael ei rannu rhyngot ti a Siba.” “Gad iddo fe gymryd y cwbl,” meddai Meffibosheth, “Beth sy'n bwysig i mi ydy dy fod ti, syr, wedi dod yn ôl adre'n saff.” Roedd Barsilai o Gilead wedi dod i lawr o Rogelîm, ac wedi croesi'r Iorddonen i hebrwng y brenin ar ei ffordd. Roedd yn hen iawn — yn wyth deg mlwydd oed — ac wedi gofalu am y brenin tra roedd yn aros yn Machanaîm. Roedd yn ddyn pwysig iawn. Dyma'r brenin yn dweud wrtho, “Tyrd gyda mi i Jerwsalem, a gwna i dy gynnal di yno.” Ond dyma Barsilai yn ateb, “Na, does dim pwynt i mi ddod i Jerwsalem. Fydda i ddim byw yn hir iawn eto. Dw i'n wyth deg oed, ac yn dda i ddim i neb. Dw i ddim yn cael yr un blas ar fwyd a diod ag oeddwn i. Alla i ddim clywed dynion a merched yn canu. Pam ddylwn i fod yn fwrn ar fy meistr, y brenin? Gwna i ddod gyda ti beth o'r ffordd yr ochr draw i'r Iorddonen, ond does dim angen i'r brenin roi'r fath wobr i mi. Plîs, gad i mi fynd adre i farw yn y dref lle mae dad a mam wedi cael eu claddu. Ond mae dy was Cimham yma, gad iddo fe fynd gyda ti yn fy lle i, syr. Cei roi beth bynnag wyt eisiau iddo fe.” Dyma'r brenin yn ateb, “Iawn, caiff Cimham ddod gyda mi, a gwna i roi iddo fe beth fyddwn i wedi ei roi ti. A cei dithau beth wyt ti eisiau.” Felly dyma'r bobl i gyd yn croesi'r Iorddonen gyda'r brenin. Roedd y brenin wedi cusanu ffarwél i Barsilai a'i fendithio, ac roedd Barsilai wedi mynd adre. Pan aeth y brenin drosodd i Gilgal aeth Cimham gydag e. Roedd milwyr Jwda i gyd a hanner rhai Israel wedi dod i hebrwng y brenin dros yr afon. Ond dechreuodd dynion Israel i gyd fynd at y brenin, yn gofyn iddo, “Pam mae'n brodyr ni, pobl Jwda, wedi sleifio'r brenin a'i deulu ar draws yr afon gyda'i filwyr i gyd?” “I'n llwyth ni mae'r brenin yn perthyn,” meddai dynion Jwda. “Pam dych chi'n codi helynt am y peth? Ydyn ni wedi cael bwyd yn dâl ganddo? Neu wobr o ryw fath?” A dyma ddynion Israel yn ateb yn ôl, “Mae gynnon ni ddeg gwaith cymaint o hawl ar y brenin na chi! Pam ydych chi'n ein bychanu ni fel yma? Ni oedd y rhai cyntaf i awgrymu dod â'r brenin yn ôl!” Ond roedd dynion Jwda'n dweud pethau tipyn mwy cas na dynion Israel. Roedd yna ddyn o lwyth Benjamin yno ar y pryd — Sheba fab Bichri, dyn drwg oedd yn codi twrw. Dyma fe'n chwythu'r corn hwrdd a gweiddi, “Does gynnon ni ddim i'w wneud â Dafydd! Dŷn ni ddim yn perthyn i deulu Jesse! Yn ôl adre bobl Israel!” Felly dyma ddynion Israel i gyd yn gadael Dafydd a dilyn Sheba fab Bichri. Ond arhosodd dynion Jwda gyda'r brenin a mynd gydag e o'r Afon Iorddonen i Jerwsalem. Wedi cyrraedd y palas yn Jerwsalem dyma Dafydd yn trefnu fod y deg cariad roedd e wedi eu gadael i ofalu am y palas i'w cadw dan warchodaeth. Trefnodd fod ganddyn nhw bopeth roedden nhw ei angen, ond gafodd e ddim perthynas gyda nhw byth eto. Buon nhw'n byw fel gweddwon, dan glo am weddill eu bywydau. Yna dyma Dafydd yn dweud wrth Amasa, “Dos i gasglu milwyr Jwda ata i, a bydd yn ôl yma cyn pen tridiau.” I ffwrdd ag Amasa i gasglu milwyr Jwda at ei gilydd, ond cymerodd fwy o amser nag a roddodd Dafydd iddo. Felly dyma Dafydd yn dweud wrth Abishai, “Mae Sheba fab Bichri yn mynd i achosi mwy o helynt i mi nag Absalom! Cymer y dynion sydd gen i a dos ar ei ôl, rhag iddo gipio trefi caerog oddi arnon ni a llwyddo i ddianc.” Felly dyma ddynion Joab yn gadael Jerwsalem gyda gwarchodlu'r brenin (Cretiaid a Pelethiaid) a'r milwyr gorau eraill i gyd, a mynd ar ôl Sheba fab Bichri. Pan gyrhaeddon nhw'r graig fawr sydd yn Gibeon roedd Amasa yn dod i'w cyfarfod. Roedd Joab yn ei lifrai milwrol, gyda cleddyf yn ei wain ar y belt oedd am ei ganol. Wrth iddo gamu ymlaen dyma'r cleddyf yn syrthio ar lawr. Dyma fe'n cyfarch Amasa, “Sut wyt ti frawd?” Yna gafaelodd ym marf Amasa gyda'i law dde wrth ei gyfarch gyda chusan. Doedd Amasa ddim wedi sylwi ar y dagr oedd yn llaw chwith Joab, a dyma Joab yn ei drywanu yn ei fol nes i'w berfedd dywallt ar lawr. Doedd dim rhaid ei drywanu yr ail waith, roedd yr ergyd gyntaf wedi ei ladd. Yna dyma Joab a'i frawd Abishai yn mynd yn ei blaenau ar ôl Sheba fab Bichri. Dyma un o swyddogion ifanc Joab yn sefyll wrth gorff Amasa a gweiddi, “Pawb sydd o blaid Joab ac yn cefnogi Dafydd, dilynwch Joab!” (Roedd Amasa yn gorwedd yno mewn pwll o waed ar ganol y ffordd.) Pan welodd y swyddog fod y milwyr i gyd yn aros i edrych ar y corff yn lle mynd heibio, dyma fe'n llusgo'r corff o'r ffordd i'r cae a thaflu clogyn drosto. Wedi i'r corff gael ei symud o'r ffordd dyma'r fyddin i gyd yn dilyn Joab i fynd ar ôl Sheba fab Bichri. Roedd Sheba wedi teithio o gwmpas llwythau Israel i gyd, a cyrraedd Abel-beth-maacha. Roedd y llwythau eraill wedi ei wrthod, ond cafodd ei bobl ei hun, y Bichriaid, i'w ganlyn. Yna dyma Joab a'i ddynion yn cyrraedd yno, a gwarchae ar Abel-beth-maacha. Roedden nhw wedi codi ramp yn erbyn wal y dref. Wrth i filwyr Joab geisio torri trwy'r wal a'i chwalu, dyma ryw wraig ddoeth o'r dref yn gweiddi arnyn nhw, “Gwrandwch! Gwrandwch! Dwedwch wrth Joab am ddod yma. Mae gen i rywbeth i'w ddweud wrtho.” Pan aeth Joab ati, dyma'r wraig yn gofyn iddo, “Ai ti ydy Joab?” “Ie,” meddai. A dyma hi'n dweud, “Gwranda, mae gan dy forwyn awgrym.” “Dw i'n gwrando,” meddai. A dyma hi'n dweud wrtho, “Mae yna hen ddywediad, ‘Os ydych chi eisiau setlo unrhyw fater, ewch i ofyn cyngor yn Abel.’ Dw i'n un o'r rhai ffyddlon sydd eisiau gweld heddwch yn Israel. Ond rwyt ti yma'n ceisio dinistrio un o drefi pwysica'r wlad. Pam wyt ti eisiau difetha tref sy'n perthyn i'r ARGLWYDD?” Dyma Joab yn ateb, “Dim o'r fath beth! Dw i ddim eisiau dinistrio na difetha'r dre! Dim fel yna mae hi o gwbl. Mae yna ddyn o fryniau Effraim o'r enw Sheba fab Bichri wedi troi yn erbyn y brenin Dafydd. Dim ond i chi roi'r dyn hwnnw i mi, gwna i adael llonydd i'r dre.” “Iawn,” meddai'r wraig, “Gwnawn ni daflu ei ben e dros wal y dre i ti!” Felly dyma'r wraig yn rhannu ei chyngor doeth gyda'r bobl. A dyma nhw'n torri pen Sheba fab Bichri, a'i daflu allan i Joab. A dyma Joab yn chwythu'r corn hwrdd, a gadawodd y fyddin y dre ac aeth pawb adre. Aeth Joab ei hun yn ôl i Jerwsalem at y brenin. Joab oedd pennaeth byddin gyfan Israel. Benaia fab Jehoiada oedd yn arwain gwarchodlu personol y brenin (Cretiaid a Pelethiaid). Adoniram oedd yn gyfrifol am y gweithlu gorfodol. Jehosaffat fab Achilwd oedd cofnodydd y brenin. Shefa oedd yr Ysgrifennydd Gwladol. Sadoc ac Abiathar oedd yr offeiriaid. Ac Ira o deulu Jair oedd caplan personol Dafydd. Yn ystod cyfnod Dafydd fel brenin roedd yna newyn aeth ymlaen am dair blynedd lawn. Dyma Dafydd yn gofyn i'r ARGLWYDD pam. A dwedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Am fod Saul a'i deulu yn euog o lofruddio pobl Gibeon.” (Doedd pobl Gibeon ddim yn Israeliaid. Nhw oedd yn weddill o'r Amoriaid, ac roedd yr Israeliaid wedi addo byw yn heddychlon â nhw. Ond roedd Saul wedi ceisio cael gwared â nhw am ei fod mor frwd dros Israel a Jwda.) Felly dyma'r Brenin Dafydd yn galw pobl Gibeon ato iddo gael siarad â nhw. Gofynnodd iddyn nhw, “Beth alla i wneud i chi? Sut alla i wneud iawn am hyn, fel eich bod chi yn bendithio pobl yr ARGLWYDD?” A dyma'r Gibeoniaid yn ateb, “Dydy arian byth yn mynd i wneud iawn am beth wnaeth Saul a'i deulu. Ac allwn ni ddim dial drwy ladd unrhyw un yn Israel.” Ond dyma Dafydd yn dweud, “Dwedwch beth ydych chi eisiau.” A dyma nhw'n ateb, “Saul oedd yr un oedd eisiau'n difa ni a chael gwared â ni'n llwyr o Israel. Rho saith o'i ddisgynyddion e i ni. Gwnawn ni eu crogi o flaen yr ARGLWYDD yn Gibea, tref Saul gafodd ei ddewis gan yr ARGLWYDD.” A dyma'r brenin Dafydd yn ateb, “Iawn, gwna i eu rhoi nhw i chi.” Dyma'r brenin yn arbed Meffibosheth (mab Jonathan ac ŵyr Saul) am fod Dafydd a Jonathan wedi gwneud addewid i'w gilydd o flaen yr ARGLWYDD. Ond dyma fe'n cymryd y ddau fab gafodd Ritspa (merch Aia) i Saul, sef Armoni a Meffibosheth. Hefyd pum mab Merab, merch Saul, oedd yn wraig i Adriel fab Barsilai o Mechola. Rhoddodd nhw yn nwylo pobl Gibeon, i'w crogi ar y mynydd o flaen yr ARGLWYDD. Cafodd y saith eu lladd gyda'i gilydd. Roedd hyn reit ar ddechrau'r cynhaeaf haidd. [10-11] Dyma Ritspa (partner Saul a mam dau o'r rhai gafodd eu lladd) yn cymryd sachliain a'i daenu ar graig iddi ei hun. Arhosodd yno drwy gydol y cynhaeaf haidd, hyd nes i dymor y glaw ddod. Wnaeth hi ddim gadael i adar ddisgyn at y cyrff yn ystod y dydd, nac anifeiliaid gwylltion yn y nos. Clywodd Dafydd beth oedd Ritspa wedi ei wneud *** ac aeth i Jabesh yn Gilead a gofyn i'r awdurdodau yno am esgyrn Saul a Jonathan. (Pobl Jabesh oedd wedi dwyn cyrff y ddau o'r sgwâr yn Beth-shan, lle roedd y Philistiaid wedi eu crogi nhw ar ôl iddyn nhw gael eu ladd yn y frwydr yn Gilboa.) Dyma Dafydd yn cymryd esgyrn Saul a Jonathan o Jabesh. Wedyn dyma nhw'n casglu esgyrn y rhai oedd wedi cael eu crogi, a'i claddu gydag esgyrn Saul a Jonathan ym medd Cish (tad Saul) yn Sela, yn ardal Benjamin. Ar ôl iddyn nhw wneud popeth roedd y brenin wedi ei orchymyn, dyma'r ARGLWYDD yn ateb gweddïau pobl dros y wlad. Buodd yna ryfel arall rhwng y Philistiaid a'r Israeliaid. A dyma Dafydd a'i filwyr yn mynd i lawr i ymladd yn erbyn y Philistiaid. Pan oedd Dafydd wedi blino'n lân roedd Ishbi-benob (un o ddisgynyddion y Reffaiaid) ar fin ei ladd. Roedd ei waywffon yn pwyso tair cilogram a hanner, ac roedd ganddo gleddyf newydd. Ond dyma Abishai (mab Serwia) yn dod i helpu Dafydd a taro'r Philistiad a'i ladd. Ar ôl hyn dyma filwyr Dafydd yn tyngu iddo, “Gei di ddim dod allan i frwydro gyda ni eto! Does gynnon ni ddim eisiau i lamp Israel gael ei diffodd!” Beth amser wedyn roedd brwydr arall yn erbyn y Philistiaid, yn Gob. Y tro hwnnw dyma Sibechai o Chwsha yn lladd Saff, un arall o ddisgynyddion y Reffaiaid. Mewn brwydr arall eto yn erbyn y Philistiaid yn Gob, dyma Elchanan fab Jair o Fethlehem yn lladd brawd Goliath o Gath (yr un oedd â gwaywffon gyda choes iddi oedd fel trawst ffrâm gwehydd!) Yna roedd brwydr arall eto yn Gath. Y tro yma roedd cawr o ddyn gyda chwe bys ar bob llaw ac ar ei ddwy droed — dau ddeg pedwar o fysedd i gyd. (Roedd hwn hefyd yn un o ddisgynyddion y Reffaiaid.) Roedd yn gwneud hwyl am ben byddin Israel, a dyma Jonathan, mab Shamma brawd Dafydd, yn ei ladd e. Roedd y pedwar yma gafodd eu lladd yn ddisgynyddion i'r Reffaiaid o Gath, a Dafydd a'i filwyr wnaeth ladd pob un ohonyn nhw. Dyma eiriau'r gân wnaeth Dafydd ei chanu i'r ARGLWYDD ar ôl i'r ARGLWYDD ei achub o ddwylo ei holl elynion ac o afael Saul: Mae'r ARGLWYDD fel craig i mi, yn gastell ac yn achubwr. Mae fy Nuw yn graig i mi lechu dani; yn darian, yn gryfder ac yn hafan ddiogel. Mae'n fy achub i rhag trais. Gelwais ar yr ARGLWYDD sy'n haeddu ei foli, ac achubodd fi oddi wrth fy ngelynion. Roeddwn i'n boddi dan donnau marwolaeth; roedd llifogydd dinistr yn fy llethu. Roedd rhaffau byd y meirw o'm cwmpas, a maglau marwolaeth o'm blaen. Gelwais ar yr ARGLWYDD o ganol fy helynt, a gweiddi ar fy Nuw. Roedd yn ei deml, a clywodd fy llais; gwrandawodd arna i'n galw. Yna dyma'r ddaear yn symud a crynu. Roedd sylfeini'r nefoedd yn crynu ac yn ysgwyd, am ei fod wedi digio. Daeth mwg allan o'i ffroenau, a thân dinistriol o'i geg; roedd marwor yn tasgu ohono. Agorodd yr awyr fel llenni a daeth i lawr. Roedd cwmwl trwchus dan ei draed. Marchogai ar geriwbiaid yn hedfan; a codi ar adenydd y gwynt. Gwisgodd dywyllwch drosto — cymylau duon stormus; a gwnaeth gymylau trwchus yr awyr yn ffau o'i gwmpas. Roedd golau disglair o'i flaen a'r mellt fel marwor tanllyd. Yna taranodd yr ARGLWYDD o'r awyr — sŵn llais y Goruchaf yn galw. Taflodd ei saethau a chwalu'r gelyn; roedd ei folltau mellt yn eu gyrru ar ffo. Daeth gwely'r môr i'r golwg; ac roedd sylfeini'r ddaear yn noeth wrth i'r ARGLWYDD ruo, a chwythu anadl o'i ffroenau. Estynnodd i lawr o'r uchelder a gafael ynof fi; tynnodd fi allan o'r dŵr dwfn. Achubodd fi o afael y gelyn ffyrnig — y rhai sy'n fy nghasáu oedd yn gryfach na mi. Dyma nhw'n ymosod pan roeddwn mewn helbul, ond dyma'r ARGLWYDD yn fy helpu i. Daeth â fi allan i ryddid! Achubodd fi am ei fod wrth ei fodd gyda mi. Mae'r ARGLWYDD wedi bod yn deg â mi. Dw i wedi byw'n gyfiawn; mae fy nwylo'n lân, ac mae wedi rhoi fy ngwobr i mi. Do, dw i wedi dilyn yr ARGLWYDD yn ffyddlon, heb droi cefn ar Dduw na gwneud drwg. Dw i wedi cadw ei ddeddfau'n ofalus; dw i ddim wedi anwybyddu ei reolau. Dw i wedi bod yn ddi-fai ac yn ofalus i beidio pechu yn ei erbyn. Mae'r ARGLWYDD wedi rhoi fy ngwobr i mi. Dw i wedi byw'n gyfiawn, ac mae e wedi gweld bod fy nwylo'n lân. Ti'n ffyddlon i'r rhai sy'n ffyddlon, ac yn deg â'r rhai di-euog. Mae'r rhai di-fai yn dy brofi'n ddi-fai, ond rwyt ti'n fwy craff na'r rhai anonest. Ti'n achub pobl sy'n dioddef, ond yn torri crib y rhai balch. Ie, ti ydy fy lamp i, o ARGLWYDD, ti'n rhoi golau i mi yn y tywyllwch. Gyda ti gallaf ruthro allan i'r frwydr; gallaf neidio unrhyw wal gyda help fy Nuw! Mae Duw yn gwneud beth sy'n iawn; mae'r ARGLWYDD yn dweud beth sy'n wir. Mae fel tarian yn amddiffyn pawb sy'n troi ato. Oes duw arall ond yr ARGLWYDD? Oes craig arall ar wahân i'n Duw ni? Fe ydy'r Duw sy'n fy amddiffyn â'i nerth — mae'n symud pob rhwystr o'm blaen. Mae'n rhoi coesau fel carw i mi; fydda i byth yn llithro ar y creigiau uchel. Dysgodd fi sut i ymladd — dw i'n gallu plygu bwa o bres! Rwyt wedi fy amddiffyn fel tarian. Mae dy ofal wedi gwneud i mi lwyddo. Ti wnaeth i mi frasgamu ymlaen a wnes i ddim baglu. Es ar ôl fy ngelynion, a'u difa nhw; wnes i ddim troi'n ôl nes roedden nhw wedi darfod. Bydda i'n eu dinistrio a'u taro, nes byddan nhw'n methu codi; bydda i'n eu sathru nhw dan draed. Ti roddodd y nerth i mi ymladd; ti wnaeth i'r gelyn blygu o'm blaen; Ti wnaeth iddyn nhw gilio yn ôl. Dinistriais y rhai oedd yn fy nghasáu yn llwyr. Roedden nhw'n edrych am help, ond doedd neb i'w hachub! Roedden nhw'n troi at yr ARGLWYDD hyd yn oed! Ond wnaeth e ddim ateb. Dyma fi'n eu malu nhw fel llwch ar lawr; a'u sathru dan draed fel baw ar y strydoedd. Achubaist fi o afael y rhai oedd yn ymladd yn fy erbyn. Gwnest fi'n bennaeth ar y gwledydd. Mae pobloedd wyddwn i ddim amdanyn nhw yn derbyn fy awdurdod. Mae estroniaid yn crynu o'm blaen. Maen nhw'n plygu wrth glywed amdana i! Mae pobloedd estron wedi colli pob hyder, ac yn crynu wrth ddod allan o'u cuddfannau. Ydy, mae'r ARGLWYDD yn fyw! Bendith ar y graig sy'n fy amddiffyn i! Boed i Dduw, wnaeth fy achub i, gael ei anrhydeddu! Fe ydy'r Duw sydd wedi dial ar fy rhan i, a gwneud i bobloedd blygu o'm blaen. Fe ydy'r Duw sydd wedi fy achub i rhag fy ngelynion, a'm cipio o afael y rhai sy'n fy nghasáu. Mae wedi fy achub o ddwylo dynion treisgar. Felly, O ARGLWYDD, bydda i'n dy foli di o flaen y cenhedloedd ac yn canu mawl i dy enw: Mae'n rhoi buddugoliaeth i'w frenin — un fuddugoliaeth fawr ar ôl y llall! Mae'n aros yn ffyddlon i'w eneiniog — i Dafydd, ac i'w ddisgynyddion am byth. Dyma eiriau olaf Dafydd: “Neges Dafydd fab Jesse. Neges yr un gafodd ei godi'n arweinydd, a'i eneinio gan Dduw Jacob. Neges hoff ganwr Israel. Roedd Ysbryd yr ARGLWYDD yn siarad trwof fi; ei neges e oeddwn i'n ei rhannu. Mae Duw Israel wedi siarad. Dyma mae Craig Israel yn ei ddweud: ‘Mae'r un sy'n llywodraethu'n deg, gan roi parch i Dduw, fel golau haul ar fore braf digwmwl yn gwneud i'r glaswellt dyfu o'r ddaear a sgleinio ar ôl y glaw.’ Ie, dyna sut mae Duw'n gweld fy nheulu! Mae wedi gwneud ymrwymiad am byth i mi. Mae'r cwbl wedi ei drefnu — mae'n siŵr o ddigwydd! Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud i mi lwyddo ac yn dod â'r cwbl dw i eisiau yn wir. Ond mae dynion drwg fel drain sy'n dda i ddim ond i'w torri i lawr. Does neb yn gafael ynddyn nhw â'u dwylo, dim ond gydag arf haearn neu goes gwaywffon. Mae tân yn eu llosgi'n ulw yn y fan a'r lle!” Dyma enwau milwyr dewr Dafydd: Iashofam yr Hachmoniad oedd pennaeth ‛Y Tri‛. Roedd e wedi lladd wyth gant o ddynion gyda'i waywffon mewn un frwydr. Yna'r nesa ato fe o'r ‛Tri Dewr‛ oedd Eleasar fab Dodo o deulu Achoach. Roedd e gyda Dafydd yn herio'r Philistiaid pan wnaethon nhw gasglu i ryfel yn Pas-dammîm. Roedd gweddill byddin Israel wedi ffoi, ond dyma fe'n sefyll ei dir ac ymladd yn erbyn y Philistiaid. Roedd ei law wedi blino gymaint, ond wnaeth e ddim gollwng ei gleddyf. Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi buddugoliaeth fawr iddo y diwrnod hwnnw. Yna daeth y fyddin yn ôl, ond dim ond i ddwyn pethau oddi ar y cyrff! Y nesaf wedyn oedd Samma fab Age o deulu Harar. Un tro roedd byddin y Philistiaid wedi casglu yn Lechi lle roedd cae o ffacbys. Dyma fyddin Israel yn ffoi o flaen y Philistiaid, ond roedd Samma wedi sefyll ei dir yng nghanol y cae, i'w amddiffyn. Roedd wedi ymosod ar y Philistiaid, a dyma'r ARGLWYDD yn rhoi buddugoliaeth fawr iddo. Un tro, adeg y cynhaeaf, aeth tri o'r ‛Tri deg‛ i lawr at Dafydd i Ogof Adwlam. Roedd mintai o Philistiaid yn gwersylla yn Nyffryn Reffaïm. Roedd Dafydd yn y gaer ar y pryd, tra roedd prif wersyll garsiwn y Philistiaid yn Bethlehem. Un diwrnod roedd syched ar Dafydd, a dyma fe'n dweud, “Mor braf fyddai cael diod o ddŵr o'r ffynnon sydd wrth giât Bethlehem!” Felly dyma'r ‛Tri Dewr‛ yn mynd trwy ganol gwersyll y Philistiaid a chodi dŵr o'r ffynnon wrth giât Bethlehem. Dyma nhw'n dod a'r dŵr i Dafydd, ond gwrthododd ei yfed. A dyma fe'n ei dywallt ar lawr yn offrwm i'r ARGLWYDD, a dweud, “ARGLWYDD, allwn i byth wneud y fath beth! Byddai fel yfed gwaed y dynion wnaeth fentro eu bywydau i'w nôl.” Roedd yn gwrthod ei yfed. (Dyna un enghraifft o beth wnaeth y ‛Tri Dewr‛.) Abishai, brawd Joab a mab Serwia, oedd pennaeth y ‛Tri deg‛. Roedd e wedi lladd tri chant o ddynion gyda'i waywffon un tro. Roedd e'n enwog fel y Tri. I ddweud y gwir roedd yn fwy enwog na nhw, a fe oedd eu capten nhw. Ond doedd e ddim yn un o'r ‛Tri‛. Roedd Benaia fab Jehoiada o Cabseël yn ddyn dewr hefyd. Roedd e wedi gwneud llawer o bethau dewr. Roedd wedi lladd dau o arwyr Moab. Roedd wedi mynd i lawr a lladd llew oedd wedi syrthio i bydew ar ddiwrnod o eira. Roedd hefyd wedi lladd cawr o ddyn o'r Aifft. Roedd gan yr Eifftiwr waywffon yn ei law, ond dim ond pastwn oedd gan Benaia. Dyma fe'n ymosod arno, dwyn y waywffon oddi ar yr Eifftiwr, a'i ladd gyda hi. Pethau fel yna wnaeth Benaia fab Jehoiada yn enwog fel y ‛Tri Dewr‛. Roedd y Tri deg arwr yn meddwl yn uchel ohono, er nad oedd yn un o'r ‛Tri‛. A dyma Dafydd yn ei wneud yn bennaeth ar ei warchodwyr personol. Yna gweddill y ‛Tri deg‛ oedd: Asahel, brawd Joab, Elchanan fab Dodo o Bethlehem, Shamma o Charod, Elica o Charod, Chelets o Pelet, Ira fab Iccesh o Tecoa, Abieser o Anathoth, Mefwnnai o Chwsha, Salmon o deulu Achoach, Maharai o Netoffa, Cheleb fab Baana o Netoffa, Itai fab Ribai o Gibea yn Benjamin, Benaia o Pirathon, Hidai o Wadi Gaash, Abi-albon o Arba, Asmafeth o Bachwrîm, Eliachba o Shaalbon, Meibion Iashen, Jonathan fab Shamma o Harar, Achïam fab Sharar o Harar, Eliffelet fab Achasbai o Maacha, Eliam fab Achitoffel o Gilo, Chetsrai o Carmel, Paarai o Arba, Igal fab Nathan o Soba, Bani o Gad, Selec o Ammon, Nachrai o Beëroth (oedd yn cario arfau Joab, mab Serwia), Ira yr Ithriad, Gareb yr Ithriad, ac Wreia yr Hethiad. (Tri deg saith i gyd.) Dro arall roedd yr ARGLWYDD wedi digio'n lân gydag Israel. Dyma fe'n gwneud i Dafydd achosi trwbwl iddyn nhw trwy ddweud wrtho am gyfri pobl Israel a Jwda. Felly dyma'r brenin yn dweud wrth Joab, pennaeth ei fyddin, “Dw i eisiau i ti gynnal cyfrifiad o holl lwythau Israel, o Dan yn y gogledd i Beersheba yn y de, i mi gael gwybod maint y fyddin sydd gen i.” Ond dyma Joab yn ateb y brenin, “O na fyddai'r ARGLWYDD dy Dduw yn gadael i ti fyw i weld byddin ganwaith fwy nag sydd gen ti! Ond syr, pam fyddet ti eisiau gwneud y fath beth?” Ond roedd y brenin yn benderfynol, er gwaetha gwrthwynebiad Joab a chapteiniaid y fyddin. Felly dyma nhw'n mynd ati i gyfri pobl Israel, fel roedd y brenin wedi dweud. Dyma nhw'n croesi Afon Iorddonen, ac yn dechrau yn Aroer, i'r de o'r ddinas sydd yng nghanol y dyffryn. Yna dyma nhw'n mynd i'r sychnant ar diriogaeth Gad, ac i dref Iaser. Ymlaen wedyn i ardal Gilead, a tref Cadesh ar dir yr Hethiaid, yna Dan ac Ïon, a rownd i Sidon. Yna i lawr i dref gaerog Tyrus a holl drefi'r Hefiaid a'r Canaaneaid, ac ymlaen i gyfeiriad y de nes cyrraedd yr holl ffordd i Beersheba yn anialwch Jwda. Cymerodd naw mis a tair wythnos cyn iddyn nhw gyrraedd yn ôl yn Jerwsalem, ar ôl teithio trwy'r wlad i gyd. Yna dyma Joab yn rhoi canlyniadau'r cyfrifiad i'r brenin. Roedd yna wyth can mil o ddynion dewr Israel allai ymladd yn y fyddin, a pum can mil yn Jwda. Ond wedi iddo gyfri'r bobl, roedd cydwybod Dafydd yn ei boeni. A dyma fe'n dweud wrth yr ARGLWYDD, “Dw i wedi pechu'n ofnadwy drwy wneud hyn. Plîs wnei di faddau i mi ARGLWYDD? Dw i wedi gwneud peth gwirion.” Erbyn i Dafydd godi'r bore wedyn roedd yr ARGLWYDD wedi rhoi neges i Gad, proffwyd y llys: “Dos i ddweud wrth Dafydd, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: Dw i'n rhoi tri dewis i ti. Dewis pa un wyt ti am i mi ei wneud.’” Felly dyma Gad yn mynd at Dafydd a dweud, “Pa un wnei di ddewis? Tair blynedd o newyn yn y wlad? Neu tri mis o ffoi o flaen dy elynion? Neu tri diwrnod o bla drwy'r wlad? Meddwl yn ofalus cyn dweud wrtho i pa ateb dw i i'w roi i'r un sydd wedi f'anfon i.” Dyma Dafydd yn ateb Gad, “Mae'n ddewis caled! Ond mae'r ARGLWYDD mor drugarog! Byddai'n well gen i gael fy nghosbi ganddo fe na gan ddynion.” Felly'r bore hwnnw dyma'r ARGLWYDD yn anfon haint ar wlad Israel wnaeth bara am dri diwrnod, a buodd saith deg mil o bobl o bob rhan o'r wlad farw. Ond wrth i'r angel bwyntio ei fys at Jerwsalem i'w difa, dyma'r ARGLWYDD yn teimlo'n sori am y niwed oedd yn cael ei wneud. A dyma fe'n rhoi gorchymyn i'r angel oedd wrthi'n difa'r bobl, “Dyna ddigon! Stopia nawr!” (Ar y pryd roedd yr angel yn sefyll wrth ymyl llawr dyrnu Arafna y Jebwsiad.) Pan welodd Dafydd yr angel yn taro'r bobl, dyma fe'n dweud, “ARGLWYDD, fi sydd wedi pechu a gwneud y drwg! Wnaeth y bobl ddiniwed yma ddim byd o'i le. Cosba fi a'm teulu!” Y diwrnod hwnnw dyma Gad yn mynd at Dafydd a dweud wrtho, “Dos, a chodi allor i'r ARGLWYDD ar lawr dyrnu Arafna y Jebwsiad.” Felly dyma Dafydd yn mynd a gwneud beth roedd yr ARGLWYDD wedi ei ddweud wrth Gad. Pan welodd Arafna y brenin a'i weision yn dod ato, dyma fe'n mynd ato ac ymgrymu o'i flaen â'i wyneb ar lawr. “Pam mae fy meistr, y brenin, wedi dod yma ata i?” meddai. A dyma Dafydd yn ateb, “I brynu dy lawr dyrnu di. Dw i eisiau codi allor i'r ARGLWYDD i stopio'r pla yma ladd y bobl.” Dyma Arafna'n ateb, “Syr, cymer beth bynnag wyt ti eisiau. Cymer yr ychen i'w llosgi'n aberth, a defnyddia'r sled dyrnu a iau'r ychen yn goed tân. Dw i am roi'r cwbl i'm meistr, y brenin. Gobeithio bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn derbyn beth wyt ti'n wneud.” Ond dyma'r brenin yn ei ateb, “Na, mae'n rhaid i mi dalu'r pris llawn i ti. Dw i ddim yn mynd i gyflwyno aberthau i'w llosgi i'r ARGLWYDD sydd wedi costio dim byd i mi.” Felly dyma Dafydd yn prynu'r llawr dyrnu a'r ychen am bum deg darn arian. Wedyn adeiladodd allor i'r ARGLWYDD yno, a chyflwyno arni aberthau i'w llosgi ac offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. A dyma'r ARGLWYDD yn ateb ei weddi a stopio'r pla oedd yn mynd trwy'r wlad. Roedd y Brenin Dafydd wedi mynd yn hen iawn. Er iddyn nhw roi blancedi drosto roedd yn methu cadw'n gynnes. Dyma'i weision yn dweud wrtho, “Meistr. Gad i ni chwilio am ferch ifanc i dy nyrsio di a gofalu amdanat ti. Bydd hi'n gallu gorwedd gyda ti, i gadw ein meistr, y brenin, yn gynnes.” Felly, dyma nhw'n chwilio trwy wlad Israel i gyd am ferch ifanc hardd, a ffeindio Abisag o Shwnem, a mynd â hi at y brenin. Roedd hi'n ferch hynod o hardd. A hi fuodd yn edrych ar ôl y brenin a'i nyrsio. Ond wnaeth e ddim cael rhyw gyda hi. Yna dyma Adoneia, mab Dafydd a Haggith, yn dechrau cael syniadau ac yn cyhoeddi, “Dw i am fod yn frenin.” Felly, dyma fe'n casglu cerbydau a cheffylau iddo'i hun, a threfnu cael pum deg o warchodwyr personol. (Wnaeth ei dad ddim ymyrryd o gwbl, a gofyn, “Beth wyt ti'n wneud?”. Roedd Adoneia yn ddyn golygus iawn, ac wedi cael ei eni ar ôl Absalom.) Dyma Adoneia'n trafod gyda Joab, mab Serwia, a gydag Abiathar yr offeiriad. A dyma'r ddau yn ei gefnogi a'i helpu. Ond wnaeth Sadoc yr offeiriad, na Benaia fab Jehoiada, na Nathan y proffwyd, na Shimei, na Rei, na gwarchodlu personol Dafydd ddim ochri gydag Adoneia. Dyma Adoneia'n mynd i graig Socheleth sy'n agos i En-rogel, ac yn aberthu defaid, ychen a lloi wedi eu pesgi. Roedd wedi gwahodd ei frodyr i gyd a holl swyddogion y brenin oedd yn dod o Jwda. Ond doedd e ddim wedi gwahodd Nathan y proffwyd, na Benaia, na gwarchodlu personol Dafydd, na Solomon ei frawd chwaith. Dyma Nathan yn dweud wrth Bathseba, mam Solomon, “Wyt ti wedi clywed fod Adoneia, mab Haggith, wedi gwneud ei hun yn frenin heb i Dafydd wybod? Gwranda, i mi roi cyngor i ti sut i achub dy fywyd dy hun a bywyd Solomon dy fab. Dos at y brenin Dafydd a dweud wrtho, ‘Fy mrenin, syr, wnest ti ddim addo i mi mai fy mab i, Solomon fyddai'n frenin ar dy ôl di? Dwedaist mai fe fyddai'n eistedd ar dy orsedd di. Felly sut bod Adoneia'n frenin?’ Wedyn tra rwyt ti wrthi'n siarad â'r brenin dof i i mewn ar dy ôl di ac ategu'r hyn ti'n ddweud.” Felly dyma Bathseba'n mynd i mewn i ystafell y brenin. (Roedd y brenin yn hen iawn ac roedd Abisag, y ferch o Shwnem, yn gofalu amdano.) Dyma Bathseba'n plygu i lawr o flaen y brenin, a dyma'r brenin yn gofyn iddi, “Beth sydd?” “Syr,” meddai Bathseba, “Wnest ti addo o flaen yr ARGLWYDD mai Solomon, fy mab i, fyddai'n frenin ar dy ôl di, ac mai fe fyddai'n eistedd ar dy orsedd di. Ond nawr mae Adoneia wedi ei wneud yn frenin, a dwyt ti, syr, yn gwybod dim am y peth! Mae wedi aberthu llond lle o wartheg, lloi wedi eu pesgi a defaid, ac wedi gwahodd dy feibion di i gyd ato, ac Abiathar yr offeiriad, a Joab pennaeth y fyddin. Ond gafodd dy was Solomon ddim gwahoddiad. Syr, mae Israel gyfan yn disgwyl i ti, y brenin, ddweud wrthyn nhw pwy sydd i deyrnasu ar dy ôl di. Syr, os na wnei di, ar ôl i ti farw bydda i a Solomon yn cael ein trin fel troseddwyr.” Tra roedd hi'n siarad â'r brenin, dyma Nathan y proffwyd yn cyrraedd. Dyma ddweud wrth y brenin, “Mae Nathan y proffwyd yma”, a dyma fe'n mynd i mewn ac yn ymgrymu o flaen y brenin â'i wyneb ar lawr. Yna dyma Nathan yn gofyn, “Fy mrenin, syr, wnest ti ddweud mai Adoneia sydd i fod yn frenin ar dy ôl di, ac mai fe sydd i eistedd ar dy orsedd di? Achos heddiw mae wedi aberthu llwythi o wartheg, lloi wedi eu pesgi a defaid, ac wedi gwahodd dy feibion i gyd, arweinwyr y fyddin ac Abiathar yr offeiriad. A dyna ble maen nhw'n bwyta ac yn yfed gydag e ac yn gweiddi, ‘Hir oes i'r Brenin Adoneia!’ Ond wnaeth e ddim rhoi gwahoddiad i mi, dy was di, nac i Sadoc yr offeiriad, na Benaia fab Jehoiada, nac i dy was Solomon chwaith. Ydy fy meistr, y brenin, wedi gwneud hyn heb ddweud wrthon ni pwy oedd i deyrnasu ar dy ôl di?” Yna dyma'r Brenin Dafydd yn dweud, “Galwch Bathseba yn ôl yma!” A dyma hi'n dod ac yn sefyll o'i flaen. Dyma'r brenin yn addo, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, yr un sydd wedi fy achub i o bob helynt: fel gwnes i addo i ti o flaen yr ARGLWYDD, Duw Israel, dw i'n dweud eto heddiw mai dy fab di, Solomon, sydd i fod yn frenin ar fy ôl i. Fe sydd i eistedd ar yr orsedd yn fy lle i.” Dyma Bathseba'n plygu'n isel o flaen y brenin, a dweud, “Fy Mrenin Dafydd, boed i ti fyw am byth!” Yna dyma'r Brenin Dafydd yn dweud, “Galwch Sadoc yr offeiriad, Nathan y proffwyd a Benaia fab Jehoiada yma.” Wedi iddyn nhw ddod, dyma'r brenin yn dweud wrthyn nhw, “Cymerwch fy ngweision i gyd gyda chi, rhowch Solomon i farchogaeth ar gefn fy mul i, ac ewch â fe i lawr i Gihon. Yno, dych chi, Sadoc yr offeiriad a Nathan y proffwyd, i'w eneinio'n frenin ar Israel. Yna dych chi i chwythu'r corn hwrdd a gweiddi, ‘Hir oes i'r Brenin Solomon!’ Wedyn dewch ag e yn ôl yma i eistedd ar fy ngorsedd i. Fe ydy'r un fydd yn frenin yn fy lle i. Dw i wedi gorchymyn mai fe sydd i deyrnasu ar Israel a Jwda.” A dyma Benaia fab Jehoiada yn ateb y brenin, “Ie'n wir! Boed i'r ARGLWYDD dy Dduw di, fy meistr y brenin, gadarnhau hynny. Fel mae'r ARGLWYDD wedi bod gyda ti, fy mrenin, bydd gyda Solomon hefyd. A boed iddo wneud y frenhiniaeth honno hyd yn oed yn fwy llewyrchus na dy frenhiniaeth di, fy meistr, y Brenin Dafydd.” Felly dyma Sadoc yr offeiriad, Nathan y proffwyd a Benaia fab Jehoiada, a gwarchodlu'r brenin (Cretiaid a Pelethiaid), yn rhoi Solomon i farchogaeth ar ful y Brenin Dafydd a mynd i lawr i Gihon. Wedyn dyma Sadoc yr offeiriad yn cymryd y corn o olew olewydd o'r babell ac yn ei dywallt ar ben Solomon a'i eneinio'n frenin. Yna dyma nhw'n canu'r corn hwrdd ac roedd pawb yn gweiddi, “Hir oes i'r Brenin Solomon!” A dyma pawb yn ei ddilyn yn ôl i Jerwsalem, yn canu offerynnau chwyth a gwneud cymaint o stŵr wrth ddathlu nes bod y ddaear yn atseinio. Roedd Adoneia, a'r holl bobl roedd e wedi eu gwahodd ato, wrthi'n gorffen bwyta pan glywon nhw'r sŵn. Pan glywodd Joab sŵn y corn hwrdd, dyma fe'n gofyn, “Beth ydy'r holl dwrw yna yn y ddinas?” Wrth iddo siarad dyma Jonathan, mab Abiathar yr offeiriad, yn cyrraedd. A dyma Adoneia'n dweud wrtho, “Tyrd i mewn. Ti'n ddyn da, ac mae'n siŵr fod gen ti newyddion da i ni.” Ond dyma Jonathan yn ateb, “Na, dim o gwbl, syr. Mae'r Brenin Dafydd wedi gwneud Solomon yn frenin. Dyma fe'n anfon Sadoc yr offeiriad, Nathan y proffwyd a Benaia fab Jehoiada gyda'i warchodlu (y Cretiaid a'r Pelethiaid), a rhoi Solomon i farchogaeth ar ful y brenin. Yna dyma Sadoc yr offeiriad a Nathan y proffwyd yn ei eneinio fe'n frenin yn Gihon. Wedyn dyma nhw'n mynd yn ôl i fyny i Jerwsalem yn dathlu, ac mae'r ddinas yn llawn cynnwrf. Dyna ydy'r sŵn dych chi'n ei glywed. Mae Solomon bellach yn eistedd ar orsedd y brenin. Pan aeth y swyddogion i gyd i longyfarch y Brenin Dafydd, dyma nhw'n dweud wrtho, ‘Boed i Dduw wneud Solomon yn fwy enwog na ti, a gwneud ei deyrnasiad e'n fwy llwyddiannus!’ Roedd y brenin yn plygu i addoli Duw ar ei wely a'i ymateb oedd, ‘Bendith ar yr ARGLWYDD, Duw Israel. Heddiw mae wedi rhoi olynydd i mi ar yr orsedd, a dw i wedi cael byw i weld y peth!’” Dyma bawb oedd Adoneia wedi eu gwahodd ato yn panicio, codi ar eu traed a gwasgaru i bob cyfeiriad. Roedd gan Adoneia ei hun ofn Solomon hefyd, a dyma fe'n mynd a gafael yng nghyrn yr allor. Dyma nhw'n dweud wrth Solomon, “Mae gan Adoneia dy ofn di. Mae e'n gafael yng nghyrn yr allor ac yn dweud, ‘Dw i eisiau i'r Brenin Solomon addo y bydd e ddim yn fy lladd i â'r cleddyf.’” A dyma Solomon yn dweud, “Os bydd e'n ffyddlon, fydd dim blewyn ar ei ben yn cael niwed. Ond os bydd e'n gwneud rhywbeth drwg, bydd yn marw.” Felly dyma Solomon yn anfon dynion i ddod ag e i lawr o'r allor, a dyma fe'n dod ac ymgrymu i lawr o flaen Solomon. A dyma Solomon yn dweud wrtho, “Dos adre.” Pan oedd Dafydd ar fin marw, dyma fe'n rhoi siars i'w fab Solomon. “Fydda i ddim byw yn hir iawn eto,” meddai. “Rhaid i ti fod yn gryf a dangos dy fod yn ddyn! Gwna beth mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei ofyn gen ti, a byw fel mae e eisiau. Rhaid i ti gadw ei reolau, ei orchmynion, y canllawiau a'r gofynion i gyd sydd yng Nghyfraith Moses. Fel yna byddi di'n llwyddo beth bynnag wnei di a beth bynnag fydd raid i ti ei wynebu. A bydd yr ARGLWYDD wedi cadw ei addewid i mi: ‘Os bydd dy ddisgynyddion di yn gwylio eu ffyrdd ac yn gwneud eu gorau glas i fyw'n ffyddlon i mi, yna bydd un o dy deulu di ar orsedd Israel am byth.’ “Ti'n gwybod yn iawn beth wnaeth Joab, mab Serwia, i mi. Sôn ydw i am y ffordd wnaeth e ladd Abner fab Ner ac Amasa fab Jether, dau o arweinwyr byddin Israel. Lladdodd nhw mewn gwaed oer, a hynny mewn cyfnod o heddwch. Gadawodd staen gwaedlyd rhyfel ar y belt am ei ganol a'r sandalau oedd ar ei draed. Gwna di fel rwyt ti'n gweld orau, ond paid gadael iddo fyw i farw'n dawel yn ei henaint. “Ond bydd yn garedig at feibion Barsilai o Gilead. Gad iddyn nhw fwyta wrth dy fwrdd. Roedden nhw wedi gofalu amdana i pan oedd raid i mi ffoi oddi wrth dy frawd Absalom. “A cofia am Shimei fab Gera o Bachwrîm yn Benjamin. Roedd e wedi fy rhegi a'm melltithio i pan oeddwn i'n ar fy ffordd i Machanaîm. Ond wedyn daeth i lawr at yr Iorddonen i'm cyfarfod i pan oeddwn ar fy ffordd yn ôl, a dyma fi'n addo iddo ar fy llw, ‘Wna i ddim dy ladd di.’ Ond nawr, paid ti â'i adael heb ei gosbi. Ti'n ddyn doeth ac yn gwybod beth i'w wneud. Gad iddo ddioddef marwolaeth waedlyd.” Pan fuodd Dafydd farw cafodd ei gladdu yn Ninas Dafydd. Roedd wedi bod yn frenin ar Israel am bedwar deg o flynyddoedd. Bu'n teyrnasu yn Hebron am saith mlynedd ac yna yn Jerwsalem am dri deg tair o flynyddoedd. Yna dyma Solomon yn dod yn frenin yn lle ei dad, a gwneud y deyrnas yn ddiogel ac yn gryf. Dyma Adoneia, mab Haggith, yn mynd i weld Bathseba, mam Solomon. “Wyt ti'n dod yma'n heddychlon?” gofynnodd iddo. “Ydw”, meddai, “Mae gen i rywbeth i'w ofyn i ti.” “Beth ydy hwnnw?” meddai hithau. A dyma fe'n dweud, “Ti'n gwybod mai fi ddylai fod wedi bod yn frenin. Dyna oedd pobl Israel i gyd yn ei ddisgwyl. Ond fy mrawd gafodd deyrnasu, a'r ARGLWYDD wnaeth drefnu hynny. Mae gen i un peth dw eisiau ofyn gen ti. Paid gwrthod fi.” A dyma hi'n dweud, “Dos yn dy flaen.” “Wnei di ofyn i'r Brenin Solomon roi Abisag o Shwnem yn wraig i mi. Fydd e ddim dy wrthod di.” “Iawn”, meddai Bathseba. “Gwna i ofyn i'r brenin ar dy ran di.” Felly, dyma Bathseba yn mynd at y Brenin Solomon i ofyn iddo ar ran Adoneia. Dyma'r brenin yn codi i'w chyfarch ac yn ymgrymu o'i blaen hi cyn eistedd yn ôl ar ei orsedd. Yna dyma fe'n galw am gadair i'w fam, a dyma hi'n eistedd ar ei ochr dde. A dyma hi'n dweud wrtho, “Mae gen i rywbeth bach i'w ofyn gen ti. Paid gwrthod fi.” A dyma fe'n ateb, “Gofyn di mam. Wna i ddim dy wrthod di.” A dyma hi'n dweud, “Rho Abisag, y ferch o Shwnem, yn wraig i dy frawd Adoneia.” A dyma'r Brenin Solomon yn ateb ei fam, “Pam mai dim ond yn gofyn am Abisag o Shwnem wyt ti i Adoneia? Waeth i ti ofyn am y deyrnas iddo hefyd, achos mae e'n hŷn na fi, ac mae Abiathar yr offeiriad a Joab, mab Serwia, yn ei gefnogi e.” A dyma'r Brenin Solomon yn tyngu llw i'r ARGLWYDD, “Boed i Dduw ddial arna i os fydd Adoneia yn talu gyda'i fywyd am ofyn y fath beth! Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw (yr un sydd wedi rhoi gorsedd fy nhad Dafydd i mi, a sicrhau llinach i mi fel gwnaeth e addo), bydd Adoneia yn marw heddiw!” Yna dyma'r Brenin Solomon yn anfon Benaia fab Jehoiada ar ei ôl. A dyma hwnnw'n ymosod ar Adoneia a'i ladd. Wedyn dyma'r brenin yn dweud wrth Abiathar yr offeiriad, “Dos adre i Anathoth, i dy fro dy hun. Ti'n haeddu marw ond wna i ddim dy ladd di, dim ond am dy fod wedi cario Arch yr ARGLWYDD, ein Meistr, o flaen Dafydd fy nhad, ac wedi dioddef gydag e pan oedd pethau'n anodd.” Felly drwy ddiarddel Abiathar o fod yn offeiriad i'r ARGLWYDD, dyma Solomon yn cyflawni beth ddwedodd yr ARGLWYDD yn Seilo am ddisgynyddion Eli. Pan glywodd Joab beth oedd wedi digwydd, dyma fe'n ffoi i babell yr ARGLWYDD a gafael yng nghyrn yr allor. (Roedd Joab wedi cefnogi Adoneia, er doedd e ddim wedi cefnogi Absalom. ) Pan glywodd y Brenin Solomon fod Joab wedi ffoi at yr allor ym mhabell yr ARGLWYDD, dyma fe'n dweud wrth Benaia fab Jehoiada i fynd yno a taro Joab. Pan ddaeth Benaia at babell yr ARGLWYDD, dyma fe'n galw ar Joab, “Mae'r brenin yn gorchymyn i ti ddod allan.” Ond dyma Joab yn ateb, “Na! Dw i am farw yma!” Felly dyma Benaia'n mynd yn ôl at y brenin a dweud wrtho beth oedd Joab wedi ei ddweud. A dyma'r brenin yn dweud, “Gwna fel dwedodd e! Lladd e yno, a'i gladdu. Byddi'n clirio fi a fy nheulu o'r bai am yr holl waed wnaeth Joab ei dywallt. Mae'r ARGLWYDD yn talu'n ôl iddo am ladd dau ddyn llawer gwell na fe'i hun — Abner fab Ner, capten byddin Israel, ac Amasa fab Jether, capten byddin Jwda — a gwneud hynny heb yn wybod i'm tad Dafydd. Bydd Joab a'i deulu yn euog am byth am eu lladd nhw. Ond bydd yr ARGLWYDD yn rhoi heddwch a llwyddiant i Dafydd a'i ddisgynyddion, ei deulu a'i deyrnas am byth.” Felly dyma Benaia fab Jehoiada yn mynd ac ymosod ar Joab a'i ladd. Cafodd ei gladdu yn ei gartref yng nghefn gwlad. Yna dyma'r brenin yn penodi Benaia fab Jehoiada yn gapten ar y fyddin yn lle Joab, a Sadoc yr offeiriad i gymryd swydd Abiathar. Wedyn dyma'r brenin yn anfon am Shimei, a dweud wrtho, “Adeilada dŷ i ti dy hun yn Jerwsalem. Dwyt ti ddim i symud oddi yma. Os gwnei di adael a hyd yn oed croesi Nant Cidron byddi'n cael dy ladd. Dy fai di a neb arall fydd hynny.” A dyma Shimei yn dweud “Iawn, syr, fy mrenin, gwna i fel ti'n dweud.” A buodd Shimei yn byw yn Jerwsalem am amser hir iawn. Ond ar ôl tair blynedd dyma ddau o weision Shimei yn rhedeg i ffwrdd at Achis fab Maacha, brenin Gath. A dyma rywun yn dweud wrth Shimei, “Mae dy weision di yn Gath”. Felly dyma Shimei yn rhoi cyfrwy ar ei asyn a mynd i Gath i chwilio am ei weision. Yna dyma fe'n dod â nhw'n ôl. Pan glywodd Solomon fod Shimei wedi bod i Gath ac yn ôl, dyma fe'n anfon am Shimei a dweud wrtho, “Wyt ti'n cofio i mi wneud i ti dyngu llw o flaen yr ARGLWYDD a dy rybuddio di i beidio gadael y ddinas a mynd allan oddi yma o gwbl, neu y byddet ti'n siŵr o farw? Dwedaist ti, ‘Iawn, dw i'n cytuno i hynny.’ Felly, pam wyt ti heb gadw dy addewid i'r ARGLWYDD, ac ufuddhau i'r gorchymyn wnes i roi i ti?” Aeth y brenin yn ei flaen i ddweud wrth Shimei, “Ti'n gwybod yn iawn faint o ddrwg wnest ti i Dafydd, fy nhad. Wel mae'r ARGLWYDD am dy gosbi am dy ddrygioni. Ond bydd yn fy mendithio i, y Brenin Solomon, ac yn gwneud yn siŵr fod teyrnas Dafydd yn aros am byth.” Yna dyma'r brenin yn rhoi gorchymyn i Benaia fab Jehoiada, a dyma fe'n ymosod ar Shimei a'i ladd. Felly roedd Solomon wedi gwneud yn siŵr fod ei afael e ar y deyrnas yn gwbl ddiogel. Dyma Solomon yn gwneud cytundeb gwleidyddol gyda'r Pharo, brenin yr Aifft, trwy briodi ei ferch. Daeth â hi i fyw i ddinas Dafydd tra roedd yn gorffen adeiladu palas iddo'i hun, teml i'r ARGLWYDD a'r waliau o gwmpas Jerwsalem. Yr adeg yna, roedd y bobl yn dal i aberthu anifeiliaid ar allorau lleol am nad oedd teml i anrhydeddu'r ARGLWYDD wedi ei hadeiladu eto. Roedd Solomon yn caru'r ARGLWYDD ac yn dilyn yr un polisïau â'i dad, Dafydd. Er, roedd e hefyd yn aberthu anifeiliaid ac yn llosgi arogldarth wrth yr allorau lleol. Byddai'n mynd i Gibeon, am mai'r allor leol yno oedd yr un bwysicaf. Aberthodd fil o anifeiliaid yno, yn offrymau i'w llosgi'n llwyr. Yna un noson pan oedd yn Gibeon dyma Solomon yn cael breuddwyd. Gwelodd yr ARGLWYDD yn dod ato a gofyn iddo, “Beth wyt ti eisiau i mi ei roi i ti?” Atebodd Solomon, “Roeddet ti'n garedig iawn at Dafydd fy nhad wrth iddo fyw yn ffyddlon i ti, yn gywir ac yn onest. Ac rwyt ti wedi dal ati i fod yn arbennig o garedig drwy adael i mi, ei fab, fod yn frenin yn ei le. A nawr, ARGLWYDD, fy Nuw, ti wedi fy ngwneud i yn frenin yn lle fy nhad Dafydd. Ond dyn ifanc dibrofiad ydw i, a dyma fi yng nghanol y bobl rwyt ti wedi eu dewis. Mae yna gymaint ohonyn nhw mae'n amhosibl eu cyfrif nhw i gyd! Rho i mi'r gallu i wrando a deall, er mwyn i mi lywodraethu dy bobl di'n iawn, a gallu dweud y gwahaniaeth rhwng drwg a da. Fel arall, pa obaith sydd i unrhyw un lywodraethu cenedl mor fawr?” Roedd ateb Solomon a'r hyn roedd wedi gofyn amdano yn plesio yr ARGLWYDD yn fawr. A dyma Duw'n dweud wrtho, “Am mai dyna rwyt ti wedi gofyn amdano — y gallu i lywodraethu yn ddoeth — a dy fod ti ddim wedi gofyn am gael byw yn hir, neu am gyfoeth mawr, neu i dy elynion gael eu lladd, dw i'n mynd roi'r hyn rwyt ti eisiau i ti. Dw i'n mynd i dy wneud di'n fwy doeth a deallus nag unrhyw un ddaeth o dy flaen neu ddaw ar dy ôl. Ond dw i hefyd yn mynd i roi i ti beth wnest ti ddim gofyn amdano, cyfoeth ac anrhydedd. Fydd yna ddim brenin tebyg i ti tra byddi byw. Ac os byddi di'n byw yn ufudd i mi ac yn cadw fy rheolau i fel roedd dy dad Dafydd yn gwneud, bydda i'n rhoi oes hir i ti.” Yna dyma Solomon yn deffro a sylweddoli ei fod wedi bod yn breuddwydio. Dyma fe'n mynd i Jerwsalem a sefyll o flaen Arch ymrwymiad yr ARGLWYDD. Cyflwynodd offrymau i'w llosgi ac offrymau i ofyn am fendith yr ARGLWYDD, a cynnal gwledd i'w swyddogion i gyd. Yn fuan wedyn, dyma ddwy ferch yn mynd at y brenin. Roedden nhw'n buteiniaid. Dyma un o'r merched yn dweud, “Syr, dw i a'r ferch yma yn byw yn yr un tŷ. Ces i fabi tra roedden ni gyda'n gilydd yn y tŷ. Yna dridiau wedyn dyma hithau'n cael babi. Doedd yna neb arall yn y tŷ, dim ond ni'n dwy. Un noson dyma ei mab hi'n marw; roedd hi wedi gorwedd arno. Cododd yn y nos a chymryd fy mab i oedd wrth fy ymyl tra roeddwn i'n cysgu. Cymrodd fy mab i i'w chôl a rhoi ei phlentyn marw hi yn fy mreichiau i. Pan wnes i ddeffro yn y bore i fwydo'r babi, roedd e wedi marw. Ond wrth edrych yn fanwl, dyma fi'n sylweddoli mai nid fy mab i oedd e.” Yna dyma'r ferch arall yn dweud, “Na! Fy mab i ydy'r un byw. Dy fab di sydd wedi marw.” A dyma'r gyntaf yn ateb “Nage, yr un marw ydy dy fab di. Fy mab i ydy'r un byw.” Roedd y ddwy ohonyn nhw'n dadlau â'i gilydd fel hyn o flaen y brenin. Yna dyma'r brenin yn dweud, “Mae un ohonoch chi'n dweud, ‘Fy mab i ydy hwn; mae dy fab di wedi marw’, a'r llall yn dweud, ‘Na! Dy fab di sydd wedi marw; fy mab i ydy'r un byw.’” Yna dyma'r brenin yn gorchymyn i'w weision, “Dewch â chleddyf i mi.” A dyma nhw'n dod ag un iddo. Wedyn dyma'r brenin yn dweud, “Torrwch y plentyn byw yn ei hanner, a rhowch hanner bob un iddyn nhw.” Ond dyma fam y plentyn byw yn ymateb (achos roedd hi'n torri ei chalon wrth feddwl am y plentyn yn cael ei ladd). Dyma hi'n dweud wrth y brenin, “Syr, rho'r plentyn byw iddi hi. Da chi paid â'i ladd e.” Ond roedd y llall yn dweud, “Os nad ydw i'n ei gael e, gei di mohono chwaith — rhannwch e!” A dyma'r brenin yn dweud, “Rhowch y plentyn byw i'r wraig gyntaf. Peidiwch ei ladd e. Hi ydy'r fam.” Pan glywodd pobl Israel am y ffordd roedd y brenin wedi setlo'r achos, roedden nhw'n rhyfeddu. Roedden nhw'n gweld fod Duw wedi rhoi doethineb anghyffredin iddo allu barnu fel yma. Roedd Solomon yn frenin ar Israel gyfan. Dyma ei swyddogion: Asareia fab Sadoc oedd yr offeiriad. Elichoreff ac Achïa, meibion Shisha, oedd ei ysgrifenyddion. Jehosaffat fab Achilwd oedd y cofnodydd swyddogol. Benaia fab Jehoiada oedd pennaeth y fyddin, a Sadoc ac Abiathar yn offeiriaid. Asareia fab Nathan oedd pennaeth swyddogion y rhanbarthau; yna Sabwd fab Nathan yn offeiriad ac yn gynghorwr agos i'r brenin. Achishar oedd yn rhedeg y palas a gofalu am holl eiddo'r brenin, ac Adoniram fab Afda oedd swyddog y gweithlu gorfodol. Roedd gan Solomon ddeuddeg swyddog rhanbarthol dros wahanol ardaloedd yn Israel. Roedden nhw'n gyfrifol am ddarparu bwyd i'r brenin a'i lys — pob un yn gyfrifol am un mis y flwyddyn. Dyma'u henwau nhw: Ben-chŵr: ar fryniau Effraim; Ben-decar: yn Macats, Shaalfîm, Beth-shemesh ac Elon-beth-chanan; Ben-chesed: yn Arwboth (roedd ei ardal e'n cynnwys Socho a holl ardal Cheffer); Ben-abinadab: yn Naffath-dor i gyd (roedd e wedi priodi Taffath, merch Solomon); Baana fab Achilwd: yn Taanach, Megido a'r rhan o Beth-shean sydd wrth ymyl Sarethan, o dan Jesreel. Roedd ei ardal yn mynd o Beth-shean hyd at Abel-mechola a'r tu hwnt i Jocmeam; Ben-geber: yn Ramoth-gilead. Roedd ei ardal e'n cynnwys gwersylloedd Jair mab Manasse, yn Gilead, ac ardal Argob yn Bashan oedd yn cynnwys chwe deg o drefi mawr, pob un gyda waliau cadarn a barrau pres ar eu giatiau; Achinadab fab Ido: yn Machanaîm; Achimaats: yn Nafftali (fe wnaeth briodi Basemath, merch Solomon); Baana fab Chwshai: yn Asher ac yn Aloth; Jehosaffat fab Parŵach: yn Issachar; Shimei fab Ela: yn Benjamin; a Geber fab Wri: yn ardal Gilead (sef y wlad oedd yn perthyn ar un adeg i Sihon brenin yr Amoriaid ac Og brenin Bashan). Fe oedd yr unig swyddog yn y rhanbarth hwnnw i gyd. Roedd poblogaeth fawr yn Jwda ac Israel, roedd pobl fel y tywod ar lan y môr, ond roedd ganddyn nhw ddigon i'w fwyta a'i yfed, ac roedden nhw'n hapus. Roedd Solomon yn llywodraethu ar yr holl ardaloedd o Afon Ewffrates i wlad y Philistiaid ac i lawr at y ffin gyda'r Aifft. Roedd y teyrnasoedd yma i gyd yn talu trethi iddo, ac yn gwasanaethu Solomon ar hyd ei oes. Dyma beth oedd ei angen ar lys Solomon bob dydd: tri deg mesur o'r blawd gorau chwe deg mesur o flawd cyffredin, deg o loi wedi eu pesgi, dau ddeg o loi oedd allan ar y borfa, a cant o ddefaid. Roedd hyn heb sôn am y ceirw, gaseliaid, iyrchod a gwahanol fathau o ffowls. Achos roedd y llys brenhinol mor fawr — roedd yn rheoli'r holl ardaloedd i'r gorllewin o Tiffsa ar lan Afon Ewffrates i lawr i Gasa, ac roedd heddwch rhyngddo â'r gwledydd o'i gwmpas. Pan oedd Solomon yn fyw, roedd pawb yn Jwda ac Israel yn teimlo'n saff. Roedd gan bawb, o Dan yn y gogledd i Beersheba yn y de, gartref a thir i allu mwynhau cynnyrch eu gwinwydd a'u coed ffigys. Roedd gan Solomon stablau i ddal pedwar deg mil o geffylau cerbyd, ac roedd ganddo un deg dau o filoedd o farchogion. Roedd y swyddogion rhanbarthol yn darparu bwyd ar gyfer y Brenin Solomon a phawb yn ei lys. Roedd pob un yn gyfrifol am fis, ac yn gwneud yn siŵr nad oedd y llys yn brin o ddim. Roedd gan bob un hefyd stablau penodol i fynd â haidd a gwellt iddyn nhw i'w roi i'r ceffylau a'r meirch. Roedd Duw wedi rhoi doethineb a deall eithriadol i Solomon. Roedd ei wybodaeth yn ddiddiwedd, fel y tywod ar lan y môr. Roedd yn fwy doeth nag unrhyw un o ddynion doeth y dwyrain a'r Aifft. Doedd neb doethach nag e. Roedd yn ddoethach nac Ethan yr Esrachiad, Heman hefyd, a Calcol a Darda, meibion Machol. Roedd yn enwog drwy'r gwledydd o'i gwmpas i gyd. Roedd wedi llunio tair mil o ddiarhebion a chyfansoddi mil a phump o ganeuon. Roedd yn gallu siarad am blanhigion, o'r coed cedrwydd mawr yn Libanus i'r isop sy'n tyfu ar waliau. Roedd hefyd yn gallu traethu am anifeiliaid, adar, ymlusgiaid a phryfed a physgod. Roedd brenhinoedd y gwledydd i gyd i yn anfon pobl at Solomon i wrando ar ei ddoethineb. Dyma Hiram, brenin Tyrus, yn clywed fod Solomon wedi cael ei wneud yn frenin yn lle ei dad. A dyma fe'n anfon llysgenhadon i'w longyfarch, achos roedd Hiram wedi bod yn ffrindiau da gyda Dafydd ar hyd ei oes. Felly dyma Solomon yn anfon neges yn ôl ato, “Ti'n gwybod fod fy nhad, Dafydd, ddim wedi gallu adeiladu teml i anrhydeddu'r ARGLWYDD ei Dduw. Roedd cymaint o ryfeloedd i'w hymladd cyn i'r ARGLWYDD ei helpu i goncro ei elynion i gyd. Ond bellach, diolch i'r ARGLWYDD Dduw, mae gynnon ni heddwch llwyr. Does dim un gelyn yn ymosod arnon ni nac yn ein bygwth ni. Felly dw i am adeiladu teml i'r ARGLWYDD fy Nuw. Roedd e wedi dweud wrth Dafydd, fy nhad, ‘Dy fab di, yr un fydd yn frenin ar dy ôl di, fydd yn adeiladu teml i mi.’ Felly, rho orchymyn i dorri coed cedrwydd o Libanus i mi. Gall y gweithwyr sydd gen i weithio gyda dy weithwyr di. Gwna i dalu iddyn nhw beth bynnag rwyt ti'n ddweud. Ti'n gwybod yn iawn nad oes gynnon ni neb sy'n gallu trin coed fel pobl Sidon.” Roedd Hiram yn hapus iawn pan gafodd neges Solomon. A dyma fe'n dweud, “Bendith ar yr ARGLWYDD heddiw, am iddo roi mab mor ddoeth i Dafydd i fod yn frenin ar y genedl fawr yna.” A dyma Hiram yn anfon neges yn ôl at Solomon, yn dweud, “Dw i wedi cael dy neges di. Cei faint bynnag wyt ti eisiau o goed cedrwydd a coed pinwydd. Gwnaiff fy ngweision i ddod â nhw i lawr o Libanus at y môr. Yno byddan nhw'n eu gwneud yn rafftiau, a mynd â nhw i ble bynnag wyt ti'n ddweud. Wedyn byddwn ni'n eu dadlwytho, a caiff dy weision di eu cymryd nhw. Cei di dalu drwy gyflenwi'r bwyd sydd ei angen ar fy llys brenhinol i.” Felly, dyma Hiram yn rhoi i Solomon yr holl goed cedrwydd a choed pinwydd oedd e eisiau. Roedd Solomon yn rhoi dau ddeg mil o fesurau o wenith a cant dau ddeg mil o alwyni o olew olewydd pur i Hiram bob blwyddyn. Felly, roedd yr ARGLWYDD wedi rhoi doethineb i Solomon, fel gwnaeth e addo. A dyma Hiram a Solomon yn gwneud cytundeb heddwch. Dyma Solomon yn casglu tri deg mil o ddynion o bob rhan o Israel, a'u gorfodi i weithio iddo yn ddigyflog. Roedd yn eu gyrru nhw i Libanus bob yn ddeg mil. Roedden nhw'n gweithio yn Libanus am fis ac yna'n cael dau fis gartref. Adoniram oedd y swyddog oedd yn gyfrifol am y gweithlu gorfodol. Yn ogystal â'r rhain roedd gan Solomon saith deg mil o labrwyr ac wyth deg mil o chwarelwyr yn y bryniau, heb sôn am y tair mil tri chant o fformyn oedd yn arolygu'r gweithwyr. Roedd y brenin wedi gorchymyn iddyn nhw ddod â cherrig anferth, costus wedi eu naddu'n barod i adeiladu sylfeini'r deml. Roedd dynion o Gebal yn helpu adeiladwyr Solomon a Hiram i naddu'r cerrig a paratoi'r coed ar gyfer adeiladu'r deml. Dechreuodd Solomon adeiladu teml yr ARGLWYDD yn ystod ei bedwaredd flwyddyn fel brenin, yn yr ail fis, sef Mis Sif. Roedd hi'n bedwar cant wyth deg o flynyddoedd ers i bobl Israel ddod allan o wlad yr Aifft. Roedd y deml yn ddau ddeg saith metr o hyd, naw metr o led, ac un deg tri metr a hanner o uchder. Roedd cyntedd o flaen y deml yn naw metr o hyd ac yn bedwar metr a hanner o led. Dyma nhw'n gwneud ffenestri latis i'r deml. Yna dyma nhw'n codi estyniad, o gwmpas waliau'r prif adeilad a'r cysegr, gydag ystafelloedd ochr ynddo. Roedd llawr isaf yr estyniad yn ddau fetr ar draws, y llawr canol yn ddau fetr a hanner a'r trydydd yn dri metr. Roedd siliau ar waliau allanol y deml, fel bod dim rhaid gosod y trawstiau yn y waliau eu hunain. Roedd y deml yn cael ei hadeiladu gyda cherrig oedd wedi cael eu paratoi yn barod yn y chwarel. Felly doedd dim sŵn morthwyl na chaib nac unrhyw offer haearn arall i'w glywed yn y deml wrth iddyn nhw adeiladu. Roedd y drws i'r ystafelloedd ar y llawr isaf ar ochr ddeheuol y deml. Wedyn roedd grisiau tro yn mynd i fyny i'r llawr canol, ac yna ymlaen i'r trydydd llawr. Ar ôl gorffen adeiladu'r deml ei hun, dyma nhw'n rhoi to drosti wedi ei wneud o drawstiau a paneli o gedrwydd. Yna codi'r ystafelloedd o'i chwmpas — pob un yn ddau fetr o uchder, gyda trawstiau o goed cedrwydd yn eu dal yn sownd i waliau'r deml ei hun. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Solomon: [12-13] “Os byddi di'n byw fel dw i'n dweud, yn cadw fy neddfau, yn gwrando ar fy ngorchmynion ac yn ufudd iddyn nhw, yna bydda i yn cadw'r addewid wnes i dy dad Dafydd. Bydda i yn byw gyda phobl Israel yn y deml yma rwyt ti wedi ei chodi a fydda i byth yn troi cefn arnyn nhw.” *** Felly, dyma Solomon yn gorffen adeiladu'r deml. Roedd y waliau tu mewn yn baneli o goed cedrwydd, o'r llawr i'r to. Roedd tu mewn y deml yn bren i gyd, a'r llawr yn blanciau o goed pinwydd. Roedd y naw metr pellaf, yng nghefn yr adeilad, yn gell ar wahân, tu ôl i bared o goed cedrwydd wedi ei godi o'r llawr i'r to. Hwn oedd y cysegr mwyaf sanctaidd. Roedd prif neuadd y deml, o flaen y cysegr mewnol, yn un deg wyth metr o hyd. Roedd y pren tu mewn i'r deml wedi ei gerfio drosto gyda ffrwyth cicaion a blodau agored. Roedd yn baneli cedrwydd i gyd; doedd dim un garreg yn y golwg. Roedd y gell gysegredig y tu mewn i'r deml ar gyfer Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD. Roedd y gell yn naw metr o hyd, naw metr o led a naw metr o uchder. Cafodd ei gorchuddio'n llwyr gydag aur pur. A'r allor o gedrwydd yr un fath. Roedd tu mewn y deml i gyd wedi ei orchuddio gydag aur pur. Roedd cadwyni aur o flaen y gell gysegredig fewnol, ac roedd y gell ei hun wedi ei gorchuddio ag aur hefyd. Roedd aur pur yn gorchuddio pob twll a chornel o'r deml, gan gynnwys yr allor oedd yn y gell fewnol gysegredig. Yn y cysegr mewnol dyma fe'n gwneud dau geriwb o goed olewydd. Roedden nhw'n bedwar metr a hanner o daldra. Roedd pob adain yn ddau fetr a chwarter o hyd — pedwar metr a hanner o flaen un adain i flaen yr adain arall. Roedd y ddau geriwb yr un maint a'i gilydd, ac roedd siâp y ddau yr un fath. Roedd y ddau yn bedwar metr a hanner o daldra. Dyma Solomon yn rhoi'r ddau geriwb ochr yn ochr yn y cysegr mewnol, gyda'i hadenydd ar led. Roedd adain y cyntaf yn cyffwrdd y wal un ochr i'r gell, ac adain y llall yn cyffwrdd y wal ar yr ochr arall. Ac roedd ail adain y ddau geriwb yn cyffwrdd ei gilydd yn y canol. Roedd y ddau geriwb wedi eu gorchuddio gydag aur. Roedd waliau'r deml i gyd (waliau'r brif neuadd a'r cysegr mewnol) wedi eu cerfio drostyn nhw gyda lluniau o geriwbiaid, coed palmwydd a blodau agored. Roedd y llawr wedi ei orchuddio gydag aur (yn y brif neuadd a'r cysegr mewnol). Roedd drysau o goed olewydd i fynd i mewn i'r gell fewnol gysegredig. Roedd pyst a lintel y drws yn bumochrog. Roedd y ddau ddrws gyda ceriwbiaid, coed palmwydd a blodau agored wedi eu cerfio arnyn nhw, ac roedd y cwbl gyda haen o aur yn ei orchuddio. Roedd pyst y drysau i fynd i mewn i brif neuadd y deml yn sgwâr, a'r rhain hefyd wedi eu gwneud o goed olewydd. Ond roedd y ddau ddrws eu hunain yn goed pinwydd. Roedd y ddau ddrws wedi eu gwneud o ddau ddarn oedd yn plygu yn ôl ar ei gilydd. Roedd ceriwbiaid, coed palmwydd a blodau agored wedi eu cerfio arnyn nhw, ac roedd y cwbl wedi ei orchuddio gyda haen o aur, hyd yn oed y gwaith cerfio. Roedd y wal o gwmpas yr iard fewnol (sef yr iard agosaf at y deml ei hun) wedi ei hadeiladu gyda tair rhes o gerrig wedi eu naddu, ac yna paneli o goed cedrwydd. Roedden nhw wedi dechrau adeiladu'r deml ym Mis Sif, yn ystod pedwaredd flwyddyn Solomon fel brenin. Cafodd pob manylyn o'r gwaith ei orffen ym Mis Bwl, sef yr wythfed mis, o flwyddyn un deg un o'i deyrnasiad. Felly, roedd y deml wedi cymryd saith mlynedd i'w hadeiladu. Ond roedd palas Solomon wedi cymryd un deg tair o flynyddoedd i'w adeiladu. Galwodd e'n Blas Coedwig Libanus. Roedd yn bedwar deg pedwar metr o hyd, dau ddeg dau metr o led ac un deg tri metr a hanner o uchder. Roedd tair rhes o bileri cedrwydd ynddo, ac ar ben y pileri roedd trawstiau o gedrwydd. Wedyn roedd to o gedrwydd uwchben y trawstiau oedd yn gorwedd ar y pedwar deg pum piler (un deg pump ym mhob rhes). Ac roedd yna dri set o dair o ffenestri'n wynebu'i gilydd. Roedd fframiau'r drysau a'r ffenestri'n siâp petryal. Roedd yna neuadd golofnog oedd yn ddau ddeg dau metr o hyd ac un deg tri metr a hanner o led. O flaen hon roedd cyntedd gyda pileri a canopi drosto. Yna gwnaeth Neuadd yr Orsedd, lle roedd yn barnu'r bobl (y Neuadd Farn). Roedd hi'n gedrwydd i gyd o'r llawr i'r to. Roedd y tŷ lle roedd Solomon yn byw yr ochr draw i iard oedd tu cefn i'r Neuadd yma, ac wedi ei adeiladu i gynllun tebyg. Roedd e hefyd wedi adeiladu palas arall tebyg i'w wraig, sef merch y Pharo. Roedd yr adeiladau i gyd wedi eu codi'n gyfan gwbl gyda'r cerrig gorau, oedd wedi eu naddu i'w maint a'u llyfnhau wedyn gyda llif. Ac roedd yr iard fawr y tu allan yr un fath. Roedd y sylfeini wedi eu gwneud o gerrig anferth drudfawr, rhai yn mesur pedwar metr a hanner, a rhai eraill yn dri metr a hanner. Ar y sylfeini hynny roedd popeth wedi ei adeiladu gyda'r cerrig gorau, pob un wedi ei naddu i'r maint cywir, a gyda choed cedrwydd. O gwmpas yr iard fawr roedd wal wedi ei hadeiladu gyda tair rhes o gerrig wedi eu naddu ac yna paneli o goed cedrwydd. Roedd yr un fath â iard fewnol a cyntedd Teml yr ARGLWYDD. Yna dyma'r Brenin Solomon yn anfon i Tyrus am ddyn o'r enw Hiram. Roedd Hiram yn grefftwr medrus, profiadol yn gweithio gyda pres. Roedd yn fab i wraig weddw o lwyth Nafftali, ac roedd ei dad (oedd yn dod o Tyrus) wedi bod yn weithiwr pres o'i flaen. Roedd gan Hiram allu arbennig i drin pres. Daeth at y Brenin Solomon a gwneud yr holl waith pres iddo. Hiram wnaeth y ddau biler pres — oedd bron naw metr o uchder a dau fetr ar draws. Yna gwnaeth gapiau i'w gosod ar dop y ddau biler. Roedd y capiau yma, o bres wedi ei gastio, dros ddau fetr o uchder. Roedd rhwyllwaith gyda saith rhes o batrymau tebyg i gadwyni wedi eu plethu o gwmpas y capiau, a hefyd dwy res o bomgranadau, nes bod top y pileri wedi eu gorchuddio. Roedd top y ddau biler yn y cyntedd yn agor allan yn siâp lilïau oedd bron ddau fetr o uchder. Ar dop y ddau biler, uwch ben y darn crwn gyda'r patrymau o gadwyni wedi eu plethu, roedd dau gant o bomgranadau yn rhesi o'u cwmpas. Dyma Hiram yn gosod y ddau biler yn y cyntedd o flaen y brif neuadd yn y deml. Galwodd yr un ar y dde yn Iachin a'r un ar y chwith yn Boas. Roedd top y pileri yn agor allan yn siâp lilïau. Felly cafodd y gwaith ar y pileri ei orffen. Yna dyma fe'n gwneud basn anferth i ddal dŵr. Roedd hwn wedi ei wneud o bres wedi ei gastio, ac yn cael ei alw ‛Y Môr‛. Roedd yn bedwar metr a hanner ar draws o un ochr i'r llall, dros ddau fetr o ddyfnder ac un deg tri metr a hanner o'i hamgylch. O gwmpas ‛Y Môr‛, o dan y rhimyn, roedd dwy res o addurniadau bach siâp ffrwyth cicaion, un bob rhyw bedwar centimetr a hanner. Roedd ‛Y Môr‛ wedi ei osod ar gefn un deg dau ychen. Roedd tri yn wynebu tua'r gogledd, tri tua'r gorllewin, tri tua'r de a thri tua'r dwyrain. Roedden nhw i gyd yn wynebu tuag allan gyda'u cynffonnau at i mewn. Roedd y basn tua lled dwrn o drwch, ac roedd ei ymyl fel ymyl cwpan siâp blodyn lili. Roedd yn dal bron iawn bedwar deg pum mil litr o ddŵr. Gwnaeth Hiram ddeg troli ddŵr o bres hefyd. Roedd pob un yn ddau fetr o hyd, yn ddau o led a bron yn fetr a hanner o uchder. Dyma gynllun y trolïau: roedd ganddyn nhw fframiau yn dal paneli ar yr ochr. Roedd y paneli wedi eu haddurno gyda lluniau o lewod, ychen a ceriwbiaid. Ar y fframiau, uwchben ac o dan y llewod a'r ychen, roedd patrymau wedi eu plethu. Roedd gan bob troli bedair olwyn bres ar echelau pres. Ar bob cornel roedd silff fach i'r ddysgl eistedd arni. Roedd y rhain yn rhan o'r troli ac wedi eu haddurno gyda phlethiadau. Tu mewn i'r troli roedd ffrâm crwn, pedwar deg pump centimetr o ddyfnder, i ddal y ddysgl. Roedd yn gylch saith deg centimetr ar draws. O gwmpas y geg roedd border o addurniadau. Roedd y paneli'n sgwâr ac nid crwn. Roedd pedair olwyn o dan y paneli, ac roedd soced i ddal echel pob olwyn yn sownd yn y ffrâm. Saith deg centimetr oedd uchder yr olwynion. Roedd yr olwynion wedi eu gwneud fel olwynion cerbyd rhyfel. Roedd yr echel, yr ymyl, y sbôcs a'r both i gyd o fetel wedi ei gastio. Roedd pedair silff fach ar bedair cornel y troli, ac roedd y silffoedd wedi eu gwneud yn rhan o'r ffrâm. Ar dop y troli roedd cylch crwn dau ddeg centimetr o uchder. Ar ei dop hefyd roedd cylchoedd a phaneli yn sownd ynddo. Roedd wedi cerfio ceriwbiaid, llewod a choed palmwydd ar y paneli roedd y cylchoedd yn sownd iddyn nhw. Roedd y rhain wedi eu cerfio ble bynnag roedd lle iddyn nhw, ac o'u cwmpas nhw roedd patrymau wedi eu plethu. Roedd y deg troli dŵr yr un fath. Roedd wedi defnyddio'r un mowld. Roedd pob un yr un maint a'r un siâp. Yna dyma fe'n gwneud deg dysgl bres. Roedd pob dysgl yn ddau fetr o led ac yn dal wyth gant wyth deg litr. Roedd un ddysgl ar gyfer pob un o'r deg troli. Dyma fe'n gosod pum troli ar ochr y de yn y deml, a phump ar ochr y gogledd. Roedd ‛Y Môr‛ yn y gornel oedd i'r de-ddwyrain o'r deml. Dyma Hiram hefyd yn gwneud dysglau, rhawiau a powlenni. Gorffennodd y cwbl o'r gwaith roedd y Brenin Solomon wedi ei roi iddo i'w wneud ar deml yr ARGLWYDD. Roedd wedi gwneud: y ddau biler, y capiau i'w gosod ar ben y ddau biler, dau set o batrymau wedi eu plethu i fynd dros y capiau, pedwar cant o bomgranadau i'w gosod yn ddwy res ar y ddau set o batrymau oedd wedi eu plethu ar y capiau ar ben y pileri. Hefyd y deg troli ddŵr, a'r deg dysgl i fynd ar y deg troli, y basn anferth oedd yn cael ei alw ‛Y Môr‛, gyda'r un deg dau ychen oddi tano, a hefyd y bwcedi lludw, rhawiau a powlenni taenellu. Roedd yr holl gelfi yma wnaeth Hiram i'r Brenin Solomon ar gyfer teml yr ARGLWYDD wedi eu gwneud o bres gloyw. Roedd y cwbl wedi cael eu castio mewn clai yn y ffowndri sydd rhwng Swccoth a Sarethan, yn ardal yr Iorddonen. Wnaeth Solomon ddim pwyso'r cwbl am fod cymaint ohonyn nhw; does dim posib gwybod beth oedd eu pwysau. Dyma Solomon yn gwneud yr holl bethau yma ar gyfer teml yr ARGLWYDD hefyd: yr allor aur, y bwrdd aur roedden nhw'n gosod y bara cysegredig arno o flaen yr ARGLWYDD, y canwyllbrennau o aur pur wrth y fynedfa i'r gell fewnol gysegredig (pump ar yr ochr dde a pump ar y chwith). Hefyd roedd y blodau, y lampau a'r gefeiliau wedi eu gwneud o aur. Yna y powlenni taenellu, y sisyrnau, y dysglau, y llwyau, a'r padellau tân, i gyd o aur pur. Roedd socedi'r drysau i'r cysegr mewnol (y Lle Mwyaf Sanctaidd) ac i brif neuadd y deml wedi eu gwneud o aur hefyd. Wedi i'r Brenin Solomon orffen adeiladu'r deml i'r ARGLWYDD, dyma fe'n dod â'r holl bethau roedd ei dad Dafydd wedi eu cysegru i Dduw (arian, aur a chelfi eraill), a'u rhoi yn stordai teml yr ARGLWYDD. Dyma Solomon yn galw arweinwyr Israel (pennaeth pob llwyth a phob teulu) ato i Jerwsalem. Roedd Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD i gael ei symud o Ddinas Dafydd (sef Seion) i'w chartref newydd yn y deml. Roedd pobl Israel i gyd wedi dod at y brenin adeg Gŵyl y Pebyll ym Mis Ethanim (sef y seithfed mis). Wedi i'r arweinwyr i gyd gyrraedd, dyma'r seremoni yn dechrau. Dyma'r offeiriaid yn codi'r Arch. A dyma'r offeiriaid a'r Lefiaid yn cario Arch Duw, Pabell presenoldeb Duw a'r holl gelfi cysegredig oedd yn y babell. Roedd y Brenin Solomon, a holl bobl Israel oedd gydag e, yn mynd o flaen yr Arch ac yn aberthu defaid a gwartheg i Dduw. Cafodd cymaint o anifeiliaid eu haberthu roedd hi'n amhosibl eu cyfri i gyd! A dyma'r offeiriaid yn dod ag Arch Ymrwymiad Duw i mewn a'i gosod yn ei lle yn y gell fewnol yn y deml, sef y Lle Mwyaf Sanctaidd, o dan adenydd y ceriwbiaid. Roedd adenydd y ceriwbiaid wedi eu lledu dros ble roedd yr Arch yn eistedd. Roedd eu hadenydd yn cysgodi'r Arch a'i pholion. Ond roedd y polion mor hir, roedd hi'n bosibl gweld eu pennau nhw o'r ystafell oedd o flaen y Gell Gysegredig Fewnol; ond doedden nhw ddim i'w gweld o'r tu allan. Maen nhw yno hyd heddiw. Does yna ddim byd yn yr Arch ond y ddwy lechen garreg roedd Moses wedi eu rhoi ynddi yn Sinai. Dyma lechi'r ymrwymiad roedd yr ARGLWYDD wedi ei wneud gyda phobl Israel pan ddaeth â nhw allan o wlad yr Aifft. Wrth i'r offeiriaid ddod allan o'r Lle Sanctaidd dyma gwmwl yn llenwi Teml yr ARGLWYDD. Roedd yr offeiriaid yn methu gwneud eu gwaith oherwydd y cwmwl. Roedd ysblander yr ARGLWYDD yn llenwi ei Deml. Yna dyma Solomon yn dweud: “Mae'r ARGLWYDD yn dweud ei fod yn byw mewn cwmwl tywyll. ‘ARGLWYDD, dyma fi wedi adeiladu teml wych i ti, lle i ti fyw ynddo am byth.’” Yna dyma'r brenin yn troi i wynebu'r gynulleidfa a bendithio holl bobl Israel oedd yn sefyll yno: “Bendith ar yr ARGLWYDD, Duw Israel! Mae wedi gwneud y cwbl roedd wedi ei addo i Dafydd fy nhad. Roedd wedi dweud: ‘Ers i mi ddod â'm pobl Israel allan o'r Aifft, wnes i ddim dewis un ddinas arbennig o blith llwythau Israel i adeiladu teml i fyw ynddi. Ond gwnes i ddewis Dafydd i arwain fy mhobl Israel.’ Roedd fy nhad, Dafydd, wir eisiau adeiladu teml i anrhydeddu'r ARGLWYDD, Duw Israel. Ond dwedodd yr ARGLWYDD wrtho, ‘Ti eisiau adeiladu teml i mi, ac mae'r bwriad yn un da. Ond nid ti fydd yn ei hadeiladu. Mab wedi ei eni i ti fydd yn adeiladu teml i mi.’ A bellach mae'r ARGLWYDD wedi gwneud beth roedd wedi ei addo. Dw i wedi dod yn frenin ar Israel yn lle fy nhad Dafydd, a dw i wedi adeiladu'r deml yma i anrhydeddu'r ARGLWYDD, Duw Israel. Dw i wedi gwneud lle i'r Arch sy'n dal yr ymrwymiad wnaeth yr ARGLWYDD gyda'n hynafiaid pan ddaeth â nhw allan o wlad yr Aifft.” Yna o flaen pawb, dyma Solomon yn mynd i sefyll o flaen yr Allor. Cododd ei ddwylo i'r awyr, a gweddïo, “O ARGLWYDD, Duw Israel, does dim Duw tebyg i ti yn y nefoedd uchod nac i lawr yma ar y ddaear! Ti mor ffyddlon, yn cadw dy ymrwymiad i dy weision, y rhai sydd wir eisiau bod yn ufudd i ti. Ti wedi cadw dy addewid i Dafydd fy nhad. Heddiw, yma, ti wedi gwneud beth wnest ti ei addo. Nawr, ARGLWYDD, Duw Israel, cadw'r addewid arall wnest ti i Dafydd, fy nhad. Dyma wnest ti ddweud: ‘Bydd un o dy deulu di ar orsedd Israel am byth, dim ond i dy ddisgynyddion di fod yn ofalus eu bod yn byw yn ffyddlon i mi fel rwyt ti wedi gwneud.’ Felly nawr, O Dduw Israel, gad i'r hyn wnest ti ei ddweud wrth fy nhad, dy was Dafydd, ddod yn wir. Wrth gwrs, dydy Duw ddim wir yn gallu byw ar y ddaear! Dydy'r awyr i gyd a'r nefoedd uchod ddim digon mawr i dy ddal di! Felly pa obaith sydd i'r deml yma dw i wedi ei hadeiladu? Ond plîs gwrando fy ngweddi yn gofyn am dy help di, O ARGLWYDD fy Nuw. Ateb fi, wrth i mi weddïo'n daer arnat ti heddiw. Cadw dy lygaid ar y deml yma nos a dydd. Gwnest ti ddweud, ‘Dyma ble bydda i'n byw.’ Felly ateb weddi dy was dros y lle hwn. Gwranda ar beth mae dy was a dy bobl Israel yn ei weddïo'n daer am y lle yma. Gwranda yn y nefoedd, lle rwyt ti'n byw. Clyw ni a maddau i ni. Os ydy rhywun wedi cael ei gyhuddo o wneud drwg i'w gymydog ac yn mynnu ei fod yn ddieuog o flaen yr allor yn y deml yma, yna gwrando di o'r nefoedd a gweithredu. Barna di rhyngon nhw. Cosba'r un sy'n euog, a gadael i'r dieuog fynd yn rhydd. Rho i'r ddau beth maen nhw'n ei haeddu. Pan fydd dy bobl Israel yn cael eu concro gan y gelyn am bechu yn dy erbyn di. Os byddan nhw'n troi yn ôl atat ti, yn cydnabod pwy wyt ti ac yn gweddïo am dy help di yn y deml yma yna gwrando di o'r nefoedd. Maddau bechod dy bobl Israel, a tyrd â nhw'n ôl i'r wlad wnest ti ei rhoi i'w hynafiaid. Pan fydd dim glaw yn disgyn, am fod y bobl wedi pechu yn dy erbyn di. Os byddan nhw'n troi at y lle yma i weddïo arnat ti, yn cydnabod pwy wyt ti, ac yn stopio pechu am dy fod yn eu cosbi nhw yna gwrando di o'r nefoedd. Maddau i dy bob Israel. Dysga nhw beth ydy'r ffordd iawn i fyw, ac anfon law eto ar y wlad yma rwyt ti wedi ei rhoi i dy bobl ei chadw. Pan fydd y wlad yn cael ei tharo gan newyn neu bla — am fod y cnydau wedi eu difetha gan ormod o wres neu ormod o law, neu am eu bod wedi cael eu difa gan locustiaid, neu am fod gelynion wedi ymosod ar y wlad ac yn gwarchae ar ei dinasoedd. Beth bynnag fydd yr helynt neu'r broblem, gwrando di ar bob gweddi. Gwrando pan fydd unrhyw un o dy bobl Israel yn troi at y deml yma ac yn tywallt ei faich o dy flaen di. Gwrando yn y nefoedd lle rwyt ti'n byw, a maddau. Ti'n deall pobl i'r dim, felly rho i bob un beth mae'n ei haeddu. (Ti ydy'r unig un sy'n gwybod yn iawn beth sydd ar galon pob person byw.) Fel yna byddan nhw'n dy barchu di tra byddan nhw'n byw yn y wlad rwyt ti wedi ei roi i'w hynafiaid. A bydd pobl o wledydd eraill yn dod yma i addoli ar ôl clywed amdanat ti. Byddan nhw wedi clywed am dy enw da di, a'r ffaith dy fod ti'n gallu gwneud pethau mor anhygoel. Pan ddaw pobl felly i'r deml hon i weddïo, gwrando yn y nefoedd lle rwyt ti'n byw. Gwna beth mae'r bobl hynny'n ei ofyn gen ti. Wedyn bydd pobl drwy'r byd i gyd yn dod i dy nabod di ac yn dy barchu di, yr un fath â phobl Israel. Byddan nhw'n gwybod fod y deml yma wedi ei hadeiladu i dy anrhydeddu di. Hefyd pan fydd dy bobl yn mynd i ryfel yn erbyn eu gelynion, ble bynnag fyddi di'n eu hanfon nhw. Os byddan nhw'n troi tuag at y ddinas rwyt ti wedi ei dewis a'r deml dw i wedi ei hadeiladu i ti, ac yn gweddïo arnat ti ARGLWYDD, yna gwrando o'r nefoedd ar eu gweddi nhw am help, a gweithredu ar eu rhan nhw. Ond pan fydd dy bobl wedi pechu yn dy erbyn di (achos does neb sydd byth yn pechu!) a tithau'n wyllt gyda nhw, byddi'n gadael i'r gelyn eu dal nhw a'u cymryd yn gaeth i'w gwlad eu hunain, ble bynnag mae honno. Yna, yn y wlad ble maen nhw'n gaeth, byddan nhw'n callio ac yn newid eu ffyrdd. Byddan nhw'n troi yn ôl atat ti ac yn pledio'n daer gan ddweud, ‘Dŷn ni wedi pechu a bod yn anffyddlon a gwneud drwg.’ Byddan nhw'n troi yn ôl atat ti o ddifrif yng ngwlad y gelyn lle cawson nhw eu cymryd. Byddan nhw'n troi i weddïo tuag at eu gwlad a'r ddinas rwyt ti wedi ei dewis, a'r deml dw i wedi ei hadeiladu i ti. Gwranda o'r nefoedd ar eu gweddi nhw am help, a'u cefnogi nhw. Maddau i dy bobl yr holl bechodau a'r pethau drwg maen nhw wedi eu gwneud yn dy erbyn di. Gwna i'r rhai sydd wedi eu concro nhw eu trin nhw'n garedig. Wedi'r cwbl, dy bobl sbesial di ydyn nhw, am mai ti ddaeth â nhw allan o'r Aifft, allan o'r ffwrnais haearn. Gwranda ar fy ngweddi, ac ar dy bobl Israel pan maen nhw'n gofyn am help. Ateb nhw bob tro maen nhw'n galw arnat ti. Achos rwyt ti wedi eu dewis nhw yn bobl sbesial i ti dy hun allan o holl bobl y byd. Ie, dyna ddwedaist ti trwy Moses dy was wrth i ti ddod â'n hynafiaid allan o wlad yr Aifft, o Feistr, ARGLWYDD.” Wedi i Solomon orffen gweddïo, a gofyn y pethau yma i gyd i'r ARGLWYDD, dyma fe'n codi ar ei draed. Roedd wedi bod ar ei liniau o flaen allor yr ARGLWYDD a'i ddwylo ar led tua'r nefoedd. Dyma fe'n sefyll a bendithio holl bobl Israel â llais uchel: “Bendith ar yr ARGLWYDD! Mae wedi rhoi heddwch i'w bobl Israel, fel gwnaeth e addo. Mae wedi cadw pob un o'r addewidion gwych wnaeth e trwy Moses ei was. Dw i'n gweddïo y bydd yr ARGLWYDD ein Duw gyda ni fel roedd gyda'n hynafiaid. Dw i'n gweddïo na fydd e byth yn troi ei gefn arnon ni a'n gadael ni. Dw i'n gweddïo y bydd e'n rhoi'r awydd ynon ni i fod yn ufudd i'r holl orchmynion, rheolau a chanllawiau roddodd e i'n hynafiaid. Dw i'n gweddïo y bydd yr ARGLWYDD bob amser yn cofio geiriau'r weddi yma, ac yn cefnogi ei was a'i bobl Israel o ddydd i ddydd fel bo'r angen. Wedyn bydd pobl y byd i gyd yn dod i ddeall mai'r ARGLWYDD ydy'r unig Dduw go iawn — does dim duw arall. Dw i'n gweddïo y byddwch chi'n byw yn hollol ffyddlon i'r ARGLWYDD ein Duw, yn cadw ei reolau a'i orchmynion fel dych chi'n gwneud heddiw.” Roedd y brenin, a pobl Israel i gyd, yn aberthu anifeiliaid i'r ARGLWYDD. Dyma Solomon yn lladd dau ddeg dau o filoedd o wartheg a cant dau ddeg mil o ddefaid fel offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Dyna sut gwnaeth Solomon, a holl bobl Israel, gyflwyno'r deml i'r ARGLWYDD. Ar y diwrnod hwnnw hefyd, dyma'r brenin yn cysegru canol yr iard o flaen teml yr ARGLWYDD. Dyna ble wnaeth e offrymu aberthau i'w llosgi'n llwyr, yr offrymau o rawn, a braster yr offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Roedd yr allor bres oedd o flaen yr ARGLWYDD yn rhy fach i ddal yr holl offrymau. Bu Solomon, a phobl Israel i gyd yn dathlu ac yn cadw Gŵyl i'r ARGLWYDD ein Duw am bythefnos lawn. Roedd tyrfa fawr yno o bob rhan o'r wlad, o Fwlch Chamath yn y gogledd yr holl ffordd i Wadi'r Aifft yn y de. Y diwrnod wedyn, dyma fe'n anfon y bobl adre. Dyma nhw'n bendithio'r brenin a mynd adre'n hapus, am fod yr ARGLWYDD wedi gwneud cymaint o bethau da i'w was Dafydd ac i'w bobl Israel. Roedd Solomon wedi gorffen adeiladu teml yr ARGLWYDD, palas y brenin, a popeth arall roedd wedi bod eisiau ei wneud. A dyma'r ARGLWYDD yn dod at Solomon am yr ail dro, fel roedd wedi gwneud yn Gibeon. A dyma fe'n dweud, “Dw i wedi clywed dy weddïau a'r cwbl roeddet ti'n gofyn i mi ei wneud. A dw wedi cysegru'r deml yma rwyt ti wedi ei hadeiladu yn lle i mi fy hun am byth. Bydda i yna bob amser. Dw i eisiau i ti fyw yn onest ac yn deg fel dy dad Dafydd, a gwneud popeth dw i'n ddweud — bod yn ufudd i'r rheolau a'r canllawiau dw i wedi eu rhoi. Yna bydda i'n gwneud i dy deulu di deyrnasu ar Israel am byth. Dyna wnes i addo i Dafydd dy Dad: ‘Un o dy deulu di fydd ar orsedd Israel am byth.’ Ond os byddi di neu dy blant yn troi cefn arna i, a ddim yn dilyn y canllawiau a'r rheolau dw i wedi eu rhoi i chi; os byddwch chi'n addoli duwiau eraill, yna bydda i yn gyrru Israel allan o'r wlad dw i wedi ei rhoi iddyn nhw. A bydda i'n troi cefn ar y deml yma dw i wedi chysegru i mi fy hun. Ac wedyn bydd Israel yn destun sbort ac yn jôc i bawb. Bydd y deml yma yn bentwr o gerrig. Bydd pawb sy'n mynd heibio yn chwibanu mewn rhyfeddod ac yn gofyn, ‘Pam mae'r ARGLWYDD wedi gwneud hyn i'r wlad ac i'r deml yma?’ A bydd eraill yn ateb, ‘Am eu bod nhw wedi troi cefn ar yr ARGLWYDD eu Duw, yr un ddaeth â nhw allan o wlad yr Aifft. Maen nhw wedi cymryd duwiau eraill i'w dilyn a'u haddoli. Dyna pam mae'r ARGLWYDD wedi gadael i'r dinistr yma ddigwydd.’” Roedd dau ddeg mlynedd wedi mynd heibio ers i Solomon ddechrau codi'r ddau adeilad — teml yr ARGLWYDD a'r palas brenhinol. A dyma'r brenin Solomon yn cynnig dau ddeg o bentrefi yn Galilea i Hiram, brenin Tyrus, am fod Hiram wedi rhoi iddo goed cedrwydd a choed pinwydd a hynny o aur oedd Solomon eisiau. Ond pan aeth Hiram i weld y trefi roedd Solomon wedi eu rhoi iddo, doedd e ddim yn hapus. Dyma fe'n dweud, “Beth ydy'r trefi diwerth yma wyt ti wedi eu rhoi i mi, frawd?” A dyma fe'n galw'r ardal yn Wlad Cabwl — sef ‛da i ddim‛. A dyna mae'r ardal yn cael ei galw hyd heddiw. Dim ond pum mil cilogram o aur roddodd Hiram i Solomon amdanyn nhw. Dyma'r manylion am y gweithlu gorfodol wnaeth Solomon ei godi — i adeiladu teml yr ARGLWYDD, ei balas, y terasau a waliau Jerwsalem, a hefyd caerau amddiffynnol Chatsor, Megido a Geser. (Roedd y Pharo, brenin yr Aifft, wedi concro dinas Geser. Roedd wedi ei llosgi'n ulw a lladd y Canaaneaid oedd yn byw yno. Yna roedd wedi ei rhoi yn anrheg priodas i'w ferch, gwraig Solomon. Felly dyma Solomon yn ailadeiladu Geser.) Hefyd Beth-choron Isaf, Baalath, a Tamar yn yr anialwch. Adeiladodd y canolfannau lle roedd ei storfeydd, a'r trefi ar gyfer y cerbydau a'r ceffylau rhyfel. Roedd Solomon yn adeiladu beth bynnag roedd e eisiau, yn Jerwsalem, yn Libanus ac ar hyd a lled y wlad. Roedd yna lawer o bobl yn dal i fyw yn y wlad oedd ddim yn Israeliaid — Amoriaid, Hethiaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebwsiaid. Roedden nhw'n gorfod gweithio heb dâl i Solomon. (Roedden nhw'n dal yn y wlad, am fod Israel wedi methu cael gwared â nhw i gyd pan wnaethon nhw goncro'r wlad.) Dyma Solomon yn gorfodi'r bobl yma i weithio iddo'n ddi-dâl. A dyna'r drefn hyd heddiw. Wnaeth Solomon ddim gorfodi pobl Israel i weithio iddo fel caethweision. Nhw oedd ei filwyr, ei weision, ei swyddogion, ei gerbydwyr, capteiniaid ei gerbydau a'i farchogion. Ac roedd yna bum cant pum deg ohonyn nhw yn arolygu prosiectau adeiladu Solomon a gwneud yn siŵr fod y gweithwyr yn gwneud eu gwaith. Ar ôl i ferch y Pharo symud i fyw o ddinas Dafydd i'r palas roedd Solomon wedi ei adeiladu iddi, dyma Solomon yn adeiladu'r terasau. Dair gwaith y flwyddyn roedd Solomon yn aberthu anifeiliaid yn offrymau i'w llosgi ar yr allor roedd wedi ei hadeiladu, yn cyflwyno offrymau o rawn i'r ARGLWYDD ac yn llosgi arogldarth gyda nhw. Roedd wedi gorffen y gwaith o adeiladu'r deml. Dyma Solomon hefyd yn adeiladu llynges iddo'i hun yn Etsion-geber, sy'n agos i Elat ar lan y Môr Coch yng ngwlad Edom. A dyma Hiram yn anfon rhai o'i forwyr profiadol e i fynd gyda gweision Solomon yn y llongau. A dyma nhw'n hwylio i Offir a dod â tua un deg chwech tunnell o aur o'r fan honno i'r Brenin Solomon. Roedd brenhines Sheba wedi clywed mor enwog oedd Solomon, a'r clod roedd yn ei roi i'r ARGLWYDD. Felly dyma hi'n dod i roi prawf iddo drwy ofyn cwestiynau anodd. Cyrhaeddodd Jerwsalem gyda'i gwarchodlu yn grand i gyd, gyda nifer fawr o gamelod yn cario perlysiau, a lot fawr o aur a gemau gwerthfawr. Aeth i weld Solomon, a'i holi am bob peth oedd ar ei meddwl. Roedd Solomon yn gallu ateb ei chwestiynau i gyd. Doedd dim byd yn rhy anodd iddo ei esbonio iddi. [4-5] Roedd brenhines Sheba wedi'i syfrdanu wrth weld mor ddoeth oedd Solomon. Hefyd wrth weld y palas roedd wedi ei adeiladu, y bwydydd ar ei fwrdd, yr holl swyddogion oedd yn eistedd yno, pawb oedd yn gweini arno, eu gwisgoedd, a'r wetars i gyd. A hefyd yr holl aberthau roedd yn eu llosgi i'r ARGLWYDD yn y deml. *** A dyma hi'n dweud wrth y brenin, “Mae popeth wnes i glywed amdanat ti yn wir — yr holl bethau rwyt ti wedi eu cyflawni, ac mor ddoeth wyt ti. Doeddwn i ddim wedi credu'r peth nes i mi ddod yma a gweld y cwbl â'm llygaid fy hun. Wir, doedden nhw ddim wedi dweud yr hanner wrtho i! Mae dy ddoethineb a dy gyfoeth di'n fwy o lawer na beth ddywedwyd wrtho i. Mae'r bobl yma wedi eu bendithio'n fawr — y gweision sy'n gweini arnat ti o ddydd i ddydd ac yn cael clywed dy ddoethineb di. Bendith ar yr ARGLWYDD dy Dduw wnaeth dy ddewis di i eistedd ar orsedd Israel! Mae wedi dy wneud di yn frenin am ei fod yn caru Israel, i ti lywodraethu'n gyfiawn ac yn deg.” A dyma hi'n rhoi pedair tunnell a hanner o aur, llwythi o sbeisiau a gemau gwerthfawr i'r brenin. Welwyd erioed gymaint o berlysiau a'r hyn roedd brenhines Sheba wedi ei roi i'r Brenin Solomon. (Hefyd roedd llongau Hiram, oedd yn cario aur o Offir, wedi dod â llwythi lawer o goed arbennig, sef pren Almug, a gemau gwerthfawr. Dyma'r brenin yn gwneud grisiau i deml yr ARGLWYDD a palas y brenin o'r pren Almug, a hefyd telynau a nablau i'r cerddorion. Does neb wedi gweld cymaint o bren Almug ers hynny!) Wedyn dyma'r Brenin Solomon yn rhoi i frenhines Sheba bopeth roedd hi'n gofyn amdano. Roedd hyn ar ben y cwbl roedd e wedi ei roi iddi o'i haelioni ei hun. Yna dyma hi'n mynd yn ôl adre i'w gwlad ei hun gyda'i gweision. Roedd Solomon yn derbyn dau ddeg pum tunnell o aur bob blwyddyn, heb gyfri'r hyn roedd yn ei dderbyn mewn trethi gan fasnachwyr, y farchnad sbeis, brenhinoedd Arabia a llywodraethwyr y rhanbarthau. Dyma Solomon yn gwneud dau gant o darianau mawr o aur wedi ei guro. Roedd yna tua saith cilogram o aur ym mhob tarian! Hefyd, tri chant o darianau bach, gyda bron ddau cilogram o aur ym mhob un o'r rheiny. A dyma fe'n eu gosod nhw i fyny yn Plas Coedwig Libanus. Wedyn dyma'r Brenin Solomon yn gwneud gorsedd fawr o ifori, wedi ei gorchuddio gydag aur coeth. Roedd yna chwe gris i fyny at yr orsedd. Roedd pen llo ar gefn yr orsedd a llew yn sefyll wrth ymyl y breichiau ar y ddwy ochr. Wedyn roedd un deg dau o lewod yn sefyll ar y grisiau, un bob ochr i bob gris. Doedd gan yr un deyrnas arall orsedd debyg iddi! Roedd holl gwpanau y Brenin Solomon wedi eu gwneud o aur, a llestri Plas Coedwig Libanus i gyd o aur pur. Doedd dim byd wedi ei wneud o arian, achos doedd arian ddim yn cael ei gyfri'n werthfawr iawn bryd hynny. Roedd gan Solomon fflyd o longau masnach mawr yn hwylio'r môr gyda llongau Hiram. Bob tair blynedd roedd y llongau hynny'n dod yn ôl gydag aur, arian, ifori, mwncïod a pheunod. Felly roedd y Brenin Solomon yn fwy cyfoethog ac yn ddoethach nac unrhyw frenin arall yn unman. Ac roedd y byd i gyd eisiau dod i ymweld â Solomon i wrando ar y ddoethineb roedd yr ARGLWYDD wedi ei roi iddo. Bob blwyddyn roedd pobl yn dod â rhoddion iddo: llestri arian, llestri aur, dillad, arfau, perlysiau, ceffylau a mulod. Roedd Solomon hefyd wedi casglu cerbydau a cheffylau rhyfel. Roedd ganddo fil pedwar cant o gerbydau, ac un deg dwy o filoedd o geffylau. Roedd yn eu cadw yn y trefi cerbydau ac yn Jerwsalem. Roedd arian mor gyffredin â cherrig yn Jerwsalem, a choed cedrwydd mor gyffredin â'r coed sycamor sy'n tyfu ym mhobman ar yr iseldir. Roedd ceffylau Solomon wedi eu mewnforio o'r Aifft a Cwe. Roedd masnachwyr y brenin yn eu prynu nhw yn Cwe. Roedden nhw'n talu chwe chant o ddarnau arian am gerbyd o'r Aifft, a cant pum deg darn arian am geffyl. Roedden nhw hefyd yn eu gwerthu ymlaen i frenhinoedd yr Hethiaid a'r Syriaid. Cafodd y Brenin Solomon berthynas gyda lot fawr o ferched o wledydd eraill. Yn ogystal â merch y Pharo, roedd ganddo gariadon o Moab, Ammon, Edom, Sidon ac o blith yr Hethiaid. Dyma'r gwledydd roedd yr ARGLWYDD wedi rhybuddio pobl Israel amdanyn nhw: “Peidiwch cael perthynas gyda nhw. Maen nhw'n siŵr o'ch denu chi ar ôl eu duwiau.” Ond roedd Solomon yn dal i gael perthynas rywiol gyda nhw i gyd. Roedd ganddo saith gant o wragedd a thri chant o gariadon. Ac roedden nhw'n ei arwain ar gyfeiliorn. Wrth iddo fynd yn hŷn dyma ei wragedd yn ei ddenu ar ôl duwiau dieithr. Doedd e ddim yn gwbl ffyddlon i'r ARGLWYDD fel roedd Dafydd ei dad. Aeth Solomon i addoli Ashtart, duwies y Sidoniaid, a Milcom, eilun ffiaidd pobl Ammon. Roedd yn gwneud pethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD. Doedd e ddim yn ei ddilyn yn ffyddlon fel gwnaeth ei dad Dafydd. Aeth Solomon mor bell â chodi allor baganaidd i addoli Chemosh (eilun ffiaidd Moab) a Molech (eilun ffiaidd yr Ammoniaid) ar ben y bryn sydd i'r dwyrain o Jerwsalem. Roedd yn gwneud yr un peth i bob un o'i wragedd, iddyn nhw allu llosgi arogldarth ac aberthu anifeiliaid i'w duwiau. Roedd yr ARGLWYDD yn wirioneddol flin gyda Solomon am ei fod wedi troi i fwrdd oddi wrtho. Yr ARGLWYDD oedd e, Duw Israel oedd wedi dod at Solomon ddwywaith, a'i siarsio i beidio gwneud hyn a mynd ar ôl duwiau eraill. Ond doedd Solomon ddim wedi gwrando. Felly dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Solomon, “Am dy fod ti'n ymddwyn fel yma, ac yn cymryd dim sylw o'r ymrwymiad wnes i a'r rheolau rois i i ti, dw i'n mynd i gymryd y deyrnas oddi arnat ti a'i rhoi hi i dy was. Ond o barch at Dafydd dy dad, wna i ddim gwneud hyn yn ystod dy oes di. Bydda i'n cymryd y deyrnas oddi ar dy fab di. Ond wna i ddim ei chymryd hi i gyd. Dw i am adael un llwyth i dy fab o barch at fy ngwas Dafydd, a Jerwsalem, y ddinas dw i wedi ei dewis.” Yna dyma'r ARGLWYDD yn gwneud i Hadad, o deulu brenhinol Edom, godi yn erbyn Solomon. Yn ôl yn y cyfnod pan oedd Dafydd yn ymladd Edom roedd Joab, pennaeth ei fyddin, wedi lladd dynion Edom i gyd. Roedd wedi mynd yno i gladdu milwyr Israel oedd wedi syrthio yn y frwydr. Arhosodd Joab a byddin Israel yno am chwe mis, nes bod dynion Edom i gyd wedi eu lladd. Ond roedd Hadad wedi dianc, ac aeth i'r Aifft gyda rhai o swyddogion ei dad (Dim ond bachgen ifanc oedd e ar y pryd). Aethon nhw o Midian i Paran, lle'r ymunodd dynion eraill gyda nhw, cyn mynd ymlaen i'r Aifft. Dyma nhw'n mynd at y Pharo, brenin yr Aifft, a chael lle i fyw, bwyd, a hyd yn oed peth tir ganddo. Roedd y Pharo'n hoff iawn o Hadad, a dyma fe'n rhoi ei chwaer-yng-nghyfraith (sef chwaer y Frenhines Tachpenes) yn wraig iddo. Cafodd chwaer Tachpenes fab i Hadad, a'i alw yn Genwbath. Ond trefnodd Tachpenes i Genwbath gael ei fagu yn y palas brenhinol gyda plant y Pharo ei hun. Pan glywodd Hadad fod Dafydd wedi marw, a Joab capten byddin Israel hefyd, dyma fe'n gofyn i'r Pharo, “Wnei di adael i mi fynd adre i'm gwlad fy hun?” A dyma'r Pharo'n gofyn, “Pam? Beth wyt ti'n brin ohono dy fod eisiau mynd i dy wlad dy hun?” “Dim o gwbl,” atebodd Hadad, “ond plîs gad i mi fynd.” Gelyn arall wnaeth Duw ei godi yn erbyn Solomon oedd Reson, mab Eliada. Roedd Reson wedi rhedeg i ffwrdd oddi wrth ei feistr, y Brenin Hadadeser o Soba. Roedd wedi casglu criw o ddynion o'i gwmpas ac yn arwain gang o wrthryfelwyr. Pan goncrodd Dafydd Soba, roedd Reson a'i wŷr wedi dianc ac yna wedi cipio Damascus, a cafodd ei wneud yn frenin yno. Roedd yn elyn i Israel trwy gydol cyfnod Solomon ac yn gwneud gymaint o ddrwg â Hadad. Roedd yn gas ganddo Israel. Fe oedd yn frenin ar Syria. Un arall wnaeth droi yn erbyn y brenin Solomon oedd Jeroboam, un o'i swyddogion. Roedd Jeroboam fab Nebat yn dod o Sereda yn Effraim, ac roedd ei fam, Serŵa, yn wraig weddw. Dyma'r hanes pam wnaeth e wrthryfela yn erbyn y brenin: Roedd Solomon wedi bod yn adeiladu'r terasau, ac wedi trwsio'r bylchau oedd yn wal dinas ei dad Dafydd. Roedd hi'n amlwg fod Jeroboam yn ddyn abl. Pan welodd Solomon fod y dyn ifanc yma yn weithiwr da, dyma fe'n ei wneud yn fforman ar y gweithwyr o lwyth Joseff. Un diwrnod roedd Jeroboam wedi mynd allan o Jerwsalem. A dyma'r proffwyd Achïa o Seilo yn ei gyfarfod ar y ffordd, yn gwisgo mantell newydd sbon. Roedd y ddau ar eu pennau hunan yng nghefn gwlad. Dyma Achïa yn cymryd y fantell, a'i rhwygo yn un deg dau o ddarnau. A dyma fe'n dweud wrth Jeroboam, “Cymer di ddeg darn. Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: Dw i am gymryd teyrnas Israel oddi ar Solomon, a rhoi deg llwyth i ti. Bydd un llwyth yn cael ei gadael iddo fe, o barch at Dafydd fy ngwas, ac at Jerwsalem, y ddinas dw i wedi ei dewis o'r llwythau i gyd i fod yn ddinas i mi. Dw i'n gwneud hyn am eu bod nhw wedi troi cefn arna i. Maen nhw wedi addoli Ashtart (duwies Sidon), Chemosh (duw Moab), a Milcom (duw pobl Ammon). Dŷn nhw ddim wedi byw fel dw i'n dweud, gwneud beth sy'n iawn gen i, a bod yn ufudd i'r rheolau a'r canllawiau rois i iddyn nhw, fel gwnaeth Dafydd, tad Solomon. Ond dw i ddim am gymryd y deyrnas gyfan oddi arno. Dw i am adael iddo fe fod yn frenin tra bydd e byw, o barch at Dafydd, y gwas wnes i ei ddewis a'r un oedd yn cadw fy rheolau a'm deddfau i. Bydda i'n cymryd y deyrnas oddi ar ei fab, ac yn rhoi deg llwyth i ti. Dw i am adael un llwyth i'w fab fel y bydd llinach Dafydd fel lamp yn dal i losgi o'm blaen i yn Jerwsalem, y ddinas dw i wedi dewis byw ynddi. Ond dw i'n dy ddewis di i fod yn frenin ar Israel. Byddi'n teyrnasu ar y cyfan rwyt ti'n ddymuno. Rhaid i ti fod yn ufudd i mi, byw fel dw i'n dweud, a gwneud beth sy'n iawn gen i — bod yn ufudd i'm rheolau a'm canllawiau fel roedd fy ngwas Dafydd yn gwneud. Os gwnei di hynny, bydda i gyda ti, a bydda i'n rhoi llinach i ti yn union fel gwnes i i Dafydd. Bydda i'n rhoi Israel i ti. Dw i'n mynd i gosbi disgynyddion Dafydd o achos beth sydd wedi digwydd; ond ddim am byth.” Dyma Solomon yn ceisio lladd Jeroboam. Ond dyma Jeroboam yn dianc i'r Aifft at y brenin Shishac. Arhosodd yno nes i Solomon farw. Mae gweddill hanes Solomon, y cwbl wnaeth e ei gyflawni, a'i ddoethineb, i'w gweld yn y sgrôl Hanes Solomon. Bu Solomon yn teyrnasu yn Jerwsalem ar Israel gyfan am bedwar deg o flynyddoedd. Pan fuodd Solomon farw, cafodd ei gladdu yn Ninas Dafydd ei dad. A dyma Rehoboam, ei fab, yn dod yn frenin yn ei le. Dyma Rehoboam yn mynd i Sichem, lle roedd pobl Israel gyfan wedi dod i'w wneud yn frenin. Roedd Jeroboam fab Nebat yn dal yn yr Aifft ar y pryd. Roedd wedi ffoi yno oddi wrth y Brenin Solomon. Roedd yn dal yn yr Aifft pan glywodd beth oedd yn digwydd. Ond dyma bobl Israel yn anfon amdano, a dyma fe'n mynd gyda nhw i weld Rehoboam. “Roedd dy dad yn ein gweithio ni'n galed, ac yn gwneud bywyd yn faich. Os gwnei di symud y baich a gwneud pethau'n haws i ni, gwnawn ni dy wasanaethu di.” Dyma Rehoboam yn dweud wrthyn nhw, “Dewch yn ôl mewn deuddydd, i mi gael meddwl am y peth.” A dyma nhw'n ei adael. Dyma'r Brenin Rehoboam yn gofyn am farn y cynghorwyr hŷn (y rhai oedd yn gweithio i Solomon ei dad pan oedd yn dal yn fyw.) “Beth ydy'ch cyngor chi? Sut ddylwn ni ateb y bobl yma?” A dyma nhw'n dweud, “Os byddi di'n garedig a dangos dy fod eisiau eu helpu nhw, byddan nhw'n weision ffyddlon i ti am byth.” Ond dyma Rehoboam yn anwybyddu eu cyngor nhw, ac yn troi at y cynghorwyr ifanc yn y llys oedd yr un oed ag e. Dyma fe'n gofyn iddyn nhw, “Beth ydy'ch barn chi? Beth ddylwn i ddweud wrth y bobl yma sy'n gofyn i mi symud y baich roddodd fy nhad arnyn nhw?” A dyma'r dynion ifainc yn dweud wrtho, “Dywed wrth y bobl yna sy'n cwyno ac yn gofyn i ti symud y baich roedd dy dad wedi ei roi arnyn nhw, ‘Mae fy mys bach i yn mynd i fod yn gryfach na dad! Oedd fy nhad wedi rhoi baich trwm arnoch chi? Bydda i'n rhoi baich trymach! Oedd fy nhad yn defnyddio chwip i'ch cosbi chi? Bydda i'n defnyddio chwip fydd yn rhwygo'ch cnawd chi!’” Dyma Jeroboam, a'r bobl oedd gydag e, yn mynd yn ôl at Rehoboam ar ôl deuddydd, fel roedd y brenin wedi dweud. A dyma'r brenin yn siarad yn chwyrn gyda'r bobl, ac yn anwybyddu cyngor y dynion hŷn a gwrando ar y dynion ifanc. “Oedd fy nhad yn drwm arnoch chi?” meddai. “Wel, bydda i yn pwyso'n drymach! Oedd fy nhad yn defnyddio chwip i'ch cosbi chi? Bydda i'n defnyddio chwip fydd yn rhwygo'ch cnawd chi!” Roedd y brenin yn gwrthod gwrando ar y bobl. Ond roedd llaw'r ARGLWYDD tu ôl i'r cwbl oedd yn digwydd, er mwyn i'r neges roedd wedi ei rhoi i Jeroboam fab Nebat drwy Achïa o Seilo ddod yn wir. Pan welodd y bobl fod y brenin yn gwrthod gwrando arnyn nhw, dyma nhw'n rhoi'r neges yma iddo: “Beth sydd gynnon ni i'w wneud â Dafydd? Ydyn ni'n perthyn i deulu Jesse? Na! Yn ôl adre bobl Israel! Cei di gadw dy linach dy hun, Dafydd!” Felly dyma bobl Israel yn mynd adre. (Er, roedd rhai o bobl Israel yn byw yn nhrefi Jwda, a Rehoboam oedd eu brenin nhw.) Dyma'r Brenin Rehoboam yn anfon Adoniram, swyddog y gweithlu gorfodol, at bobl Israel, ond dyma nhw'n taflu cerrig ato a'i ladd. Felly dyma'r Brenin Rehoboam yn neidio yn ei gerbyd a dianc yn ôl i Jerwsalem. Mae gwrthryfel llwythau Israel yn erbyn disgynyddion Dafydd wedi para hyd heddiw. Pan glywodd pobl Israel fod Jeroboam wedi dod yn ôl, dyma nhw'n galw pawb at ei gilydd. Yna dyma nhw'n anfon amdano a'i wneud e'n frenin ar Israel gyfan. Dim ond llwyth Jwda oedd yn aros yn ffyddlon i deulu brenhinol Dafydd. Daeth Rehoboam, mab Solomon, yn ôl i Jerwsalem a galw dynion Jwda a llwyth Benjamin at ei gilydd. Roedd ganddo gant wyth deg mil o filwyr profiadol i fynd i ryfel yn erbyn Israel a cheisio ennill y deyrnas yn ôl. Ond cafodd Shemaia y proffwyd neges gan Dduw. “Dywed hyn wrth Rehoboam brenin Jwda ac wrth bobl Jwda a Benjamin, a phawb arall: ‘Mae'r ARGLWYDD yn dweud, “Peidiwch mynd i ryfel yn erbyn eich brodyr, pobl Israel. Ewch adre i gyd, am mai fi sydd wedi gwneud i hyn ddigwydd.”’” A dyma nhw'n gwrando ar yr ARGLWYDD a mynd yn ôl adre fel roedd e wedi dweud. Dyma Jeroboam yn adeiladu caer Sichem yn y bryniau yn Effraim, a mynd i fyw yno. Ond yna dyma fe'n adeiladu Penuel, a symud yno. Roedd Jeroboam yn ofni y byddai'r frenhiniaeth yn mynd yn ôl i deulu Dafydd. Roedd yn ofni pe bai'r bobl yn mynd i aberthu yn Nheml yr ARGLWYDD yn Jerwsalem, y bydden nhw'n cael eu denu yn ôl at eu hen feistr, Rehoboam, brenin Jwda, ac y byddai e'i hun yn cael ei ladd ganddyn nhw. Ar ôl trafod gyda'i gynghorwyr, dyma fe'n gwneud dau darw ifanc o aur, a dweud wrth y bobl, “Mae'n ormod o drafferth i chi fynd i fyny i Jerwsalem i addoli. Bobl Israel, dyma'r duwiau wnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft.” A dyma fe'n gosod un tarw aur yn Bethel, a'r llall yn Dan. Gwnaeth i Israel bechu yn ofnadwy. Aeth y bobl ag un ohonyn nhw mewn prosesiwn yr holl ffordd i Dan! Dyma fe'n adeiladu temlau lle roedd allorau lleol, a gwneud pob math o bobl yn offeiriaid — pobl oedd ddim o lwyth Lefi. A dyma fe'n sefydlu Gŵyl ar y pymthegfed diwrnod o'r wythfed mis, fel yr un yn Jwda. Yna dyma fe'n mynd at yr allor yn Bethel i aberthu anifeiliaid i'r teirw roedd wedi eu gwneud. Yn Bethel hefyd dyma fe'n apwyntio offeiriaid i'r allorau roedd e wedi eu codi. Ar y pymthegfed diwrnod o'r wythfed mis (dyddiad roedd wedi ei ddewis o'i ben a'i bastwn ei hun), dyma Jeroboam yn aberthu anifeiliaid ar yr allor wnaeth e yn Bethel. Roedd wedi sefydlu Gŵyl i bobl Israel, a mynd i fyny at yr allor ei hun i losgi arogldarth. Pan oedd Jeroboam yn sefyll wrth yr allor yn Bethel yn llosgi arogldarth, dyma broffwyd yn cyrraedd yno o Jwda, wedi ei anfon gan yr ARGLWYDD. Dyma fe'n cyhoeddi neges gan yr ARGLWYDD yn erbyn yr allor: “O allor, allor!” meddai, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud. ‘Bydd plentyn yn cael ei eni i deulu Dafydd. Joseia fydd ei enw. Bydd e'n lladd offeiriaid yr allorau lleol sy'n dod yma i losgi arogldarth! Bydd esgyrn dynol yn cael eu llosgi arnat ti! Ac mae'r ARGLWYDD yn rhoi arwydd yma heddiw. Bydd yr allor yn cael ei dryllio, a'r lludw sydd arni'n syrthio ar lawr.’” Pan glywodd y brenin beth ddwedodd y proffwyd am yr allor yn Bethel, dyma fe'n estyn ei law allan dros yr allor. “Arestiwch e!” meddai. A dyma'r fraich oedd wedi ei hestyn allan yn cael ei pharlysu. Doedd e ddim yn gallu ei thynnu'n ôl. Ac yna dyma'r allor yn dryllio a'r lludw arni yn syrthio ar lawr, yn union fel roedd y proffwyd wedi dweud wrth gyhoeddi neges yr ARGLWYDD. Yna dyma'r brenin yn pledio ar y proffwyd, “Gweddïa ar yr ARGLWYDD dy Dduw, a gofyn iddo wella fy mraich i.” A dyma'r proffwyd yn gweddïo ar yr ARGLWYDD, a dyma fraich y brenin yn cael ei gwneud yn iawn fel o'r blaen. Yna dyma'r brenin yn dweud wrth y proffwyd, “Tyrd adre gyda mi i gael rhywbeth i'w fwyta. Dw i eisiau rhoi anrheg i ti.” Ond dyma'r proffwyd yn ei ateb, “Hyd yn oed petaet ti'n rhoi hanner dy eiddo i mi, fyddwn ni ddim yn mynd gyda ti i fwyta dim nac i yfed dŵr yn y lle yma. Achos dwedodd y ARGLWYDD yn glir wrtho i, ‘Paid bwyta nac yfed dim yno, a paid mynd adre'r ffordd aethost ti yno.’” Felly dyma fe'n troi am adre ar hyd ffordd wahanol i'r ffordd ddaeth e i Fethel. Roedd yna broffwyd arall, dyn hen iawn, yn byw yn Bethel. Dyma'i feibion yn dweud yr hanes wrtho — beth oedd wedi digwydd yn Bethel y diwrnod hwnnw, a beth oedd y proffwyd wedi ei ddweud wrth y brenin. A dyma fe'n eu holi, “Pa ffordd aeth e?” Esboniodd ei feibion pa ffordd oedd y proffwyd o Jwda wedi mynd. Yna dyma fe'n gofyn iddyn nhw gyfrwyo asyn iddo. Dyma nhw'n gwneud hynny, ac aeth ar ei gefn a mynd ar ôl y proffwyd. Daeth o hyd iddo yn eistedd o dan goeden dderwen, a gofynnodd iddo, “Ai ti ydy'r proffwyd ddaeth o Jwda?” A dyma hwnnw'n ateb, “Ie.” Yna dyma fe'n dweud wrtho, “Tyrd adre gyda mi am damaid o fwyd.” Ond dyma'r proffwyd yn ateb, “Alla i ddim mynd yn ôl gyda ti, na bwyta ac yfed dim yn y lle yma. Achos dwedodd yr ARGLWYDD yn glir wrtho i, ‘Paid bwyta dim nac yfed dŵr yno, a paid mynd adre'r ffordd aethost ti yno.’” Ond dyma'r hen broffwyd yn dweud, “Dw i hefyd yn broffwyd fel ti. Mae angel wedi rhoi neges i mi gan yr ARGLWYDD yn dweud wrtho i am fynd â ti yn ôl adre gyda mi i ti gael rhywbeth i'w fwyta a'i yfed.” Ond dweud celwydd oedd e. Felly dyma'r proffwyd o Bethel yn mynd yn ôl gydag e i gael bwyd a diod yn ei dŷ. Tra roedden nhw'n bwyta dyma'r hen broffwyd oedd wedi ei ddenu'n ôl yn cael neges gan yr ARGLWYDD, ac yn dweud wrth y proffwyd o Jwda, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Ti wedi bod yn anufudd, a ddim wedi gwrando ar y gorchymyn roddodd yr ARGLWYDD dy Dduw i ti. Ti wedi dod yn ôl i fwyta ac yfed yn y lle yma, er ei fod wedi dweud wrthot ti am beidio gwneud hynny. Felly fydd dy gorff di ddim yn cael ei gladdu ym medd dy deulu.’” Ar ôl iddo orffen bwyta, dyma'r hen broffwyd o Bethel yn cyfrwyo ei asyn i'r proffwyd o Jwda. Pan oedd ar ei ffordd, dyma lew yn ymosod arno a'i ladd. Dyna lle roedd ei gorff yn gorwedd ar ochr y ffordd, a'r asyn a'r llew yn sefyll wrth ei ymyl. Dyma ryw bobl oedd yn digwydd mynd heibio yn gweld y corff ar ochr y ffordd a'r llew yn sefyll wrth ei ymyl. A dyma nhw'n sôn am y peth yn y dre lle roedd yr hen broffwyd yn byw. Pan glywodd yr hen broffwyd am y peth, dyma fe'n dweud, “Y proffwyd fuodd yn anufudd i'r ARGLWYDD ydy e. Mae'r ARGLWYDD wedi gadael i lew ei larpio a'i ladd, yn union fel gwnaeth e ddweud.” Dyma fe'n gofyn i'w feibion gyfrwyo ei asyn iddo. Wedi iddyn nhw wneud hynny dyma fe'n mynd a dod o hyd i'r corff ar ochr y ffordd, gyda'r llew a'r asyn yn sefyll wrth ei ymyl. (Doedd y llew ddim wedi bwyta'r corff nag ymosod ar yr asyn.) Dyma'r hen broffwyd yn codi'r corff ar yr asyn a mynd yn ôl i'r dre i alaru drosto a'i gladdu. Rhoddodd y corff yn ei fedd ei hun, a galaru a dweud, “O, fy mrawd!” Wedi iddo ei gladdu, dyma fe'n dweud wrth ei feibion, “Pan fydda i'n marw, claddwch fi yn yr un bedd â'r proffwyd, a gosod fy esgyrn i wrth ymyl ei esgyrn e. Bydd y neges roddodd yr ARGLWYDD iddo i'w chyhoeddi, yn erbyn allor Bethel a holl demlau lleol Samaria, yn siŵr o ddod yn wir.” Ond hyd yn oed ar ôl i hyn ddigwydd, wnaeth Jeroboam ddim stopio gwneud pethau drwg. Roedd yn dal i wneud pob math o bobl yn offeiriad i'w allorau. Roedd yn apwyntio pwy bynnag oedd yn ffansïo'r job. Y pechod yma oedd y rheswm pam gafodd teulu brenhinol Jeroboam ei chwalu a'i ddileu oddi ar wyneb y ddaear. Yr adeg yna dyma Abeia, mab Jeroboam, yn cael ei daro'n wael. A dyma Jeroboam yn dweud wrth ei wraig, “Rho ddillad gwahanol amdanat fel bod neb yn gwybod mai ngwraig i wyt ti. Yna dos i Seilo, ble mae'r proffwyd Achïa yn byw. Fe oedd y proffwyd ddwedodd wrtho i y byddwn ni'n frenin ar y bobl yma. Cymer ddeg torth, bisgedi a phot o fêl i'w rhoi iddo. Bydd e'n dweud wrthot ti beth sy'n mynd i ddigwydd i'r bachgen.” Felly dyma wraig Jeroboam yn gwneud fel roedd ei gŵr wedi dweud wrthi, a mynd i dŷ Achïa yn Seilo. Roedd Achïa yn ddall, wedi colli ei olwg yn ei henaint. Ond dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Mae gwraig Jeroboam yn dod atat ti i holi ynglŷn â'i mab sy'n sâl. Pan ddaw hi bydd yn cymryd arni fod yn rhywun arall. Dyma beth rwyt ti i'w ddweud wrthi: …” Pan glywodd Achïa sŵn ei thraed hi wrth y drws, dyma fe'n galw, “Tyrd i mewn, wraig Jeroboam! Pam wyt ti'n cymryd arnat dy fod yn rhywun arall? Mae gen i newyddion drwg i ti. Dos, a dweud wrth Jeroboam, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: Dw i wedi dy gymryd di o blith y bobl a dy wneud di'n arweinydd ar fy mhobl Israel. Dw i wedi cymryd y deyrnas oddi ar deulu Dafydd a'i rhoi i ti. Ond yn wahanol i'm gwas Dafydd, dwyt ti ddim wedi cadw fy ngorchmynion a'm dilyn i o ddifri, a gwneud beth sy'n iawn gen i. Ti wedi gwneud mwy o ddrwg na pawb aeth o dy flaen di. Ti wedi ngwylltio i drwy wneud duwiau eraill — delwau o fetel. Ti wedi fy nhaflu i o'r ffordd. Felly dw i'n mynd i wneud drwg i dy linach brenhinol di Jeroboam. Bydda i'n cael gwared â phob dyn yn Israel, y caeth a'r rhydd. Bydda i'n carthu teulu brenhinol Jeroboam ac yn llosgi'r carthion nes bod dim ar ôl! Bydd pobl Jeroboam sy'n marw yn y ddinas yn cael eu bwyta gan y cŵn. Bydd y rhai sy'n marw yng nghefn gwlad yn cael eu bwyta gan yr adar! —dw i, yr ARGLWYDD wedi dweud!’ “Dos di adre. Pan fyddi'n cyrraedd y ddinas bydd y plentyn yn marw. Bydd pobl Israel i gyd yn galaru ar ei ôl, ac yn dod i'w angladd. Fe fydd yr unig un o deulu Jeroboam fydd yn cael ei gladdu'n barchus, am mai fe ydy'r unig un o'r teulu mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, wedi gweld unrhyw ddaioni ynddo. Bydd yr ARGLWYDD yn codi brenin iddo'i hun fydd yn difa teulu Jeroboam yn llwyr. Bydd hyn yn digwydd ar unwaith! A beth ddaw wedyn? Bydd yr ARGLWYDD yn taro Israel fel brwynen yn cael ei chwipio yn llif yr afon. Bydd yn ei thynnu o'r tir da yma roddodd i'w hynafiaid ac yn gyrru'r bobl ar chwâl yr ochr draw i Afon Ewffrates. Bydd yn gwneud hyn am eu bod wedi ei wylltio trwy godi polion pren i'r dduwies Ashera. Bydd yr ARGLWYDD yn troi ei gefn ar Israel o achos yr eilunod mae Jeroboam wedi eu codi i achosi i bobl Israel bechu.” Felly dyma wraig Jeroboam yn mynd yn ôl i Tirtsa. Wrth iddi gyrraedd drws y tŷ, dyma'r bachgen yn marw. A dyma nhw'n ei gladdu a daeth Israel i gyd i alaru ar ei ôl, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud trwy ei was y proffwyd Achïa. Mae gweddill hanes Jeroboam, hanes ei ryfeloedd a'i deyrnasiad, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel. Roedd Jeroboam wedi bod yn frenin am ddau ddeg dwy o flynyddoedd. Ar ôl iddo farw daeth Nadab ei fab yn frenin yn ei le. Rehoboam, mab Solomon, oedd brenin Jwda. Roedd yn bedwar deg un oed pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am un deg saith o flynyddoedd (Jerwsalem — y ddinas roedd ARGLWYDD wedi ei dewis allan o holl lwythau Israel i fyw ynddi.) Naäma, gwraig o wlad Ammon, oedd mam Rehoboam. Roedd pobl Jwda yn gwneud pethau drwg iawn yng ngolwg ARGLWYDD, ac yn ei ddigio fwy nac roedd eu hynafiaid wedi gwneud. Roedden nhw'n codi allorau lleol, yn codi colofnau cysegredig i Baal a pholion y dduwies Ashera ar yr allorau lleol oedd ar ben bryniau ac o dan pob coeden ddeiliog. Roedd yna hyd yn oed buteinwyr teml yn y wlad. Roedden nhw'n gwneud pethau cwbl ffiaidd, dim gwahanol i'r bobloedd roedd yr ARGLWYDD wedi eu gyrru allan o'r wlad o flaen Israel. Yna, yn ystod pumed flwyddyn Rehoboam fel brenin dyma Shishac, brenin yr Aifft, yn ymosod ar Jerwsalem. Dyma fe'n dwyn trysorau teml yr ARGLWYDD a palas y brenin — y cwbl i gyd, gan gynnwys yr holl darianau aur roedd Solomon wedi eu gwneud! Dyma'r Brenin Rehoboam yn gwneud tariannau o bres yn eu lle, a'u rhoi nhw yng ngofal swyddogion y gwarchodlu oedd yn amddiffyn palas y brenin. Bob tro roedd y brenin yn mynd i'r deml, roedd y gwarchodlu brenhinol yn eu cario ac yna'n mynd â nhw'n ôl i ystafell y gwarchodlu. Mae gweddill hanes Rehoboam, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda. Roedd Rehoboam a Jeroboam yn rhyfela yn erbyn ei gilydd drwy'r amser. Pan fu farw, cafodd Rehoboam ei gladdu gyda'i hynafiaid yn ninas Dafydd. Naäma, gwraig o wlad Ammon oedd ei fam. A'i fab, Abeiam, ddaeth yn frenin yn ei le. Daeth Abeiam yn frenin ar Jwda pan oedd Jeroboam fab Nebat wedi bod yn frenin Israel ers un deg wyth o flynyddoedd. Bu'n frenin yn Jerwsalem am dair blynedd. Enw ei fam oedd Maacha, merch Afishalom. Roedd yn gwneud yr un pethau drwg â'i dad o'i flaen. Doedd e ddim yn gwbl ffyddlon i'r ARGLWYDD fel roedd y Brenin Dafydd wedi bod. Ond am ei fod yn un o ddisgynyddion Dafydd dyma'r ARGLWYDD ei Dduw yn cadw'r llinach yn fyw yn Jerwsalem, drwy roi mab iddo i'w olynu fel brenin a gwneud Jerwsalem yn ddiogel. Roedd hyn am fod Dafydd wedi plesio'r ARGLWYDD, ac wedi bod yn gwbl ufudd iddo ar hyd ei oes (heblaw am beth wnaeth e i Wreia yr Hethiad). Roedd y rhyfel rhwng Rehoboam a Jeroboam wedi para tra roedd Abeiam yn fyw. Mae gweddill hanes Abeiam, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda. Roedd y rhyfel wedi para rhwng Abeiam a Jeroboam. Pan fu farw, cafodd Abeiam ei gladdu yn ninas Dafydd. Daeth Asa ei fab yn frenin yn ei le. Roedd Jeroboam wedi bod yn frenin ar Israel am ugain mlynedd pan ddaeth Asa yn frenin ar Jwda. Bu'n frenin yn Jerwsalem am bedwar deg un o flynyddoedd. Maacha, merch Afishalom oedd ei nain. Fel y Brenin Dafydd, ei hynafiad, roedd Asa yn gwneud beth oedd yn plesio'r ARGLWYDD. Gyrrodd y puteiniaid teml allan o'r wlad, a chael gwared â'r holl eilunod ffiaidd roedd ei gyndadau wedi eu gwneud. Roedd hyd yn oed wedi diswyddo ei nain, Maacha, o fod yn fam frenhines am ei bod wedi gwneud polyn Ashera ffiaidd. Torrodd y polyn i lawr, a'i losgi wrth Nant Cidron. Er ei fod heb gael gwared â'r allorau lleol, roedd Asa yn ffyddlon i'r ARGLWYDD ar hyd ei oes. Daeth â'r celfi roedd e a'i dad wedi eu cysegru (rhai aur, arian, a llestri eraill), a'u gosod yn nheml yr ARGLWYDD. Roedd Asa, brenin Jwda yn rhyfela yn erbyn Baasha, brenin Israel drwy'r amser. Dyma Baasha, brenin Israel, yn ymosod ar Jwda, ac yn adeiladu Rama yn gaer filwrol i rwystro pobl rhag mynd a dod i diriogaeth Asa brenin Jwda. Felly dyma Asa yn cymryd y cwbl o'r arian a'r aur oedd ar ôl yn stordai teml yr ARGLWYDD a stordai palas y brenin, a'u rhoi i'w weision i fynd â'r cwbl i Ddamascus at Ben-hadad, brenin Syria (sef mab Tabrimon ac ŵyr Chesion), gyda'r neges yma: “Dw i eisiau gwneud cytundeb heddwch gyda ti, fel roedd yn arfer bod rhwng fy nhad a dy dad di. Dw i'n anfon y rhodd yma o arian ac aur i ti. Dw i eisiau i ti dorri'r cytundeb sydd rhyngot ti a Baasha, brenin Israel, er mwyn iddo stopio ymosod arnon ni.” Dyma Ben-hadad yn derbyn cynnig y brenin Asa, a dyma fe'n dweud wrth swyddogion ei fyddin am ymosod ar drefi Israel. Dyma nhw'n mynd ac yn taro Ïon, Dan, Abel-beth-maacha a tir llwyth Nafftali i gyd, gan gynnwys ardal Cinnereth. Pan glywodd Baasha am y peth, dyma fe'n stopio adeiladu Rama a symud ei fyddin yn ôl i Tirtsa. Yna dyma'r brenin Asa yn gorchymyn i bobl Jwda — pawb yn ddieithriad — i fynd i nôl y cerrig a'r coed roedd Baasha wedi bod yn eu defnyddio i adeiladu Rama. Yna dyma Asa yn eu defnyddio nhw i adeiladau Geba yn Benjamin a Mitspa. Mae gweddill hanes Asa, ei lwyddiant milwrol a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, a rhestr o'r holl drefi wnaeth e eu hadeiladu, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda. Ond pan oedd yn hen roedd Asa'n dioddef yn ddifrifol o'r gowt. Pan fuodd Asa farw, cafodd ei gladdu gyda'i hynafiaid yn ninas Dafydd. Daeth ei fab Jehosaffat yn frenin yn ei le. Yn ystod ail flwyddyn Asa yn frenin ar Jwda, cafodd Nadab, mab Jeroboam, ei wneud yn frenin Israel. Bu Nadab yn frenin am ddwy flynedd. Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD. Roedd yn ymddwyn fel ei dad, ac yn gwneud i Israel bechu. Dyma Baasha fab Achïa o lwyth Issachar yn cynllwyn yn erbyn Nadab a'i lofruddio yn Gibbethon, ar dir y Philistiaid. Roedd Nadab a byddin Israel yn gwarchae ar Gibbethon ar y pryd. Lladdodd Baasha fe yn ystod trydedd flwyddyn Asa fel brenin Jwda. A daeth Baasha yn frenin ar Israel yn lle Nadab. Yn syth ar ôl dod yn frenin dyma fe'n lladd pob aelod o deulu Jeroboam. Gafodd yr un enaid byw o'r teulu brenhinol ei adael ar ôl, fel roedd yr ARGLWYDD wedi rhybuddio trwy ei was Achïa o Seilo. Digwyddodd hyn o achos yr eilunod wnaeth Jeroboam eu codi i achosi i bobl Israel bechu. Roedd wedi gwylltio'r ARGLWYDD, Duw Israel. Mae gweddill hanes Nadab, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel. Roedd Asa, brenin Jwda, a Baasha, brenin Israel yn rhyfela yn erbyn ei gilydd drwy'r amser. Yn ystod trydedd flwyddyn Asa fel brenin Jwda, daeth Baasha yn frenin ar Israel yn ninas Tirtsa. Bu Baasha'n frenin am ddau ddeg pedair o flynyddoedd. Gwnaeth Baasha bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD. Roedd yn ymddwyn fel Jeroboam, ac yn gwneud i Israel bechu. Dyma Jehw fab Chanani yn cael neges gan yr ARGLWYDD i'w rhoi i Baasha. “Gwnes i dy godi di o'r llwch a dy wneud yn arweinydd fy mhobl Israel, ond rwyt ti wedi ymddwyn fel Jeroboam a gwneud i'm pobl bechu. Dw i wedi gwylltio'n lân gyda nhw. Felly, dw i'n mynd i gael gwared â dy deulu di, Baasha. Bydda i'n gwneud yr un peth i dy deulu di ag a wnes i i deulu Jeroboam fab Nebat. Bydd pobl Baasha sy'n marw yn y ddinas yn cael eu bwyta gan y cŵn. Bydd y rhai sy'n marw yng nghefn gwlad yn cael eu bwyta gan yr adar!” Mae gweddill hanes Baasha, y cwbl wnaeth e ei gyflawni a'i lwyddiant milwrol, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel. Pan fu Baasha farw cafodd ei gladdu yn Tirtsa. Daeth Ela, ei fab, yn frenin yn ei le. Roedd yr ARGLWYDD wedi rhoi neges i Baasha a'i deulu drwy'r proffwyd Jehw fab Chanani. Roedd yr holl ddrwg wnaeth Baasha wedi gwylltio'r ARGLWYDD, gan gynnwys y ffordd wnaeth e ddelio gyda teulu Jeroboam. Doedd e'i hun ddim gwahanol! Daeth Ela yn frenin ar Israel pan oedd Asa wedi bod yn frenin Jwda ers dau ddeg chwech o flynyddoedd. Bu Ela'n frenin yn Tirtsa am ddwy flynedd. Ond dyma Simri, un o'i swyddogion oedd yn gapten ar hanner y cerbydau rhyfel, yn cynllwyn yn ei erbyn. Roedd y brenin wedi meddwi ar ôl bod yn yfed yn drwm yn nhŷ Arsa (sef prif swyddog palas y brenin yn Tirtsa). Dyma Simri'n mynd i mewn, ymosod ar Ela a'i ladd. (Digwyddodd hyn pan oedd Asa wedi bod yn frenin Jwda ers dau ddeg saith o flynyddoedd.) A dyma Simri yn dod yn frenin ar Israel yn lle Ela. Yn syth ar ôl dod yn frenin dyma Simri yn lladd pawb o deulu brenhinol Baasha. Wnaeth e ddim gadael yr un dyn na bachgen yn fyw — lladdodd aelodau'r teulu a'i ffrindiau i gyd. Felly roedd Simri wedi difa teulu Baasha yn llwyr, yn union fel roedd Duw wedi rhybuddio drwy Jehw y proffwyd. Digwyddodd hyn i gyd oherwydd yr holl bethau drwg roedd Baasha a'i fab Ela wedi eu gwneud. Roedden nhw wedi gwneud i Israel bechu, a gwylltio'r ARGLWYDD gyda'u holl eilunod diwerth. Mae gweddill hanes Ela, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel. Daeth Simri yn frenin ar Israel pan oedd Asa wedi bod yn frenin Jwda ers dau ddeg saith o flynyddoedd. Bu Simri'n frenin Israel yn Tirtsa am saith diwrnod. Roedd byddin Israel yn ymosod ar Gibbethon, un o drefi'r Philistiaid, ar y pryd. Dyma'r neges yn cyrraedd y gwersyll fod Simri wedi cynllwyn yn erbyn y brenin a'i ladd. Felly, y diwrnod hwnnw yn y gwersyll, dyma'r fyddin yn gwneud Omri, eu cadfridog, yn frenin ar Israel. A dyma Omri a'i fyddin yn gadael Gibbethon a mynd i warchae ar Tirtsa, prifddinas Israel. Roedd Simri'n gweld bod y ddinas wedi ei chipio, felly dyma fe'n mynd i gaer y palas, rhoi'r palas ar dân, a bu farw yn y fflamau. Roedd hyn wedi digwydd am fod Simri wedi pechu. Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, fel gwnaeth Jeroboam; roedd e hefyd wedi gwneud i Israel bechu. Mae gweddill hanes Simri, a hanes ei gynllwyn, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel. Yn y cyfnod yma roedd pobl Israel wedi rhannu'n ddwy garfan. Roedd hanner y boblogaeth eisiau gwneud Tibni fab Ginath yn frenin, a'r hanner arall yn cefnogi Omri. Ond roedd dilynwyr Omri yn gryfach na chefnogwyr Tibni fab Ginath. Bu farw Tibni, a daeth Omri yn frenin. Daeth Omri yn frenin ar Israel pan oedd Asa wedi bod yn frenin Jwda ers tri deg un o flynyddoedd. Bu Omri yn frenin am un deg dwy o flynyddoedd, chwech ohonyn nhw yn Tirtsa. Prynodd Omri fryn Samaria gan Shemer am saith deg cilogram o arian. Dyma fe'n adeiladu tref ar y bryn a'i galw'n Samaria, ar ôl Shemer, cyn-berchennog y mynydd. Gwnaeth Omri fwy o ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD na neb o'i flaen. Roedd yn ymddwyn fel Jeroboam fab Nebat, ac yn gwneud i Israel bechu hefyd a gwylltio yr ARGLWYDD, Duw Israel, gyda'u holl eilunod diwerth. Mae gweddill hanes Omri, y cwbl wnaeth e ei gyflawni a'i lwyddiant milwrol, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel. Pan fu farw Omri, cafodd ei gladdu yn Samaria. A dyma Ahab, ei fab, yn dod yn frenin yn ei le. Pan ddaeth Ahab fab Omri, yn frenin ar Israel, roedd Asa wedi bod yn frenin Jwda ers tri deg saith o flynyddoedd. Bu Ahab yn frenin yn Samaria am ddau ddeg dwy o flynyddoedd. Gwnaeth Ahab fwy o ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD na neb o'i flaen. Doedd dilyn yr eilunod wnaeth Jeroboam fab Nebat eu codi ddim digon ganddo. Priododd Jesebel (merch Ethbaal brenin y Sidoniaid) ac yna dechrau plygu i Baal a'i addoli e! Adeiladodd deml i Baal yn Samaria a rhoi allor i Baal ynddi. Cododd bolyn i Ashera hefyd. Roedd Ahab wedi gwneud mwy i wylltio'r ARGLWYDD, Duw Israel, nac unrhyw frenin o'i flaen. Pan oedd Ahab yn frenin, dyma Chiel o Bethel yn ailadeiladu Jericho. Aberthodd ei fab hynaf, Abiram, pan oedd yn gosod sylfeini'r ddinas, a'i fab ifancaf, Segwf, pan oedd wedi gorffen y gwaith ac yn gosod y giatiau yn eu lle. Dyma'n union roedd yr ARGLWYDD wedi ei ddweud fyddai'n digwydd, drwy Josua fab Nwn. Dyma Elias, o Tishbe yn Gilead, yn dweud wrth Ahab, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD, Duw Israel, yn fyw (y Duw dw i'n ei addoli), fydd yna ddim gwlith na glaw y blynyddoedd nesaf yma nes i mi ddweud yn wahanol.” A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Dos i ffwrdd i'r dwyrain. Dos i guddio wrth ymyl Nant Cerith yr ochr arall i'r Afon Iorddonen. Cei ddŵr i'w yfed o'r nant, a dw i wedi dweud wrth y cigfrain am ddod â bwyd i ti yno.” Dyma Elias yn gwneud fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud, a mynd i fyw wrth Nant Cerith yr ochr arall i'r Afon Iorddonen. Roedd cigfrain yn dod â bara a chig iddo bob bore a gyda'r nos, ac roedd yn yfed dŵr o'r nant. Ond ar ôl peth amser dyma'r nant yn sychu am ei bod hi heb fwrw glaw yn y wlad o gwbl. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Cod, a dos i fyw i Sareffath yn ardal Sidon. Dw i wedi dweud wrth wraig weddw sy'n byw yno i roi bwyd i ti.” Felly dyma Elias yn mynd i Sareffath. Pan gyrhaeddodd giatiau'r dref gwelodd wraig weddw yn casglu coed tân. Dyma fe'n galw arni, “Plîs wnei di roi ychydig o ddŵr i mi i'w yfed.” Wrth iddi fynd i nôl peth dyma fe'n galw ar ei hôl, “Wnei di ddod â rhywbeth bach i mi i'w fwyta hefyd?” Ond dyma hi'n ateb, “Wir i ti, mor sicr â bod yr ARGLWYDD dy Dduw yn fyw, does gen i ddim byd. Llond dwrn o flawd mewn potyn ac ychydig o olew olewydd mewn jwg sydd gen i ar ôl. Roeddwn i wrthi'n casglu ychydig o goed tân i wneud un pryd bwyd olaf i mi a'm mab. Ar ôl i ni fwyta hwnnw byddwn ni'n llwgu.” Ond dyma Elias yn dweud wrthi, “Paid bod ag ofn. Dos i wneud hynny. Ond gwna fymryn o fara i mi gyntaf, a tyrd ag e allan yma. Cei baratoi rhywbeth i ti a dy fab wedyn. Achos dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: Ddaw'r blawd yn y potyn ddim i ben, a fydd yr olew yn y jar ddim yn darfod nes bydd yr ARGLWYDD wedi anfon glaw unwaith eto.” Felly dyma hi'n mynd a gwneud fel roedd Elias wedi dweud wrthi. Ac roedd digon o fwyd bob dydd i Elias ac iddi hi a'i theulu. Ddaeth y blawd yn y potyn ddim i ben, a wnaeth yr olew yn y jar ddim darfod, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi addo trwy Elias. Beth amser wedyn dyma fab y wraig oedd biau'r tŷ yn cael ei daro'n wael. Aeth o ddrwg i waeth, nes yn y diwedd iddo stopio anadlu. A dyma'r wraig yn dweud wrth Elias, “Pa ddrwg dw i wedi ei wneud i ti, broffwyd Duw? Wyt ti wedi dod yma i'm cosbi i am fy mhechod a lladd fy mab?” Dyma Elias yn ateb, “Rho dy fab i mi.” A dyma fe'n cymryd y bachgen o'i breichiau, a'i gario i fyny i'r llofft lle roedd yn aros, a'i roi i orwedd ar y gwely. Yna dyma fe'n galw ar yr ARGLWYDD, “O ARGLWYDD fy Nuw, wyt ti wir am wneud drwg i'r weddw yma sydd wedi rhoi llety i mi, drwy ladd ei mab hi?” A dyma fe'n ymestyn ei hun dros y bachgen dair gwaith, a galw ar yr ARGLWYDD: “O ARGLWYDD, fy Nuw, plîs tyrd â'r bachgen yma yn ôl yn fyw!” A dyma'r ARGLWYDD yn gwrando ar weddi Elias, a dyma'r bachgen yn dechrau anadlu eto. Roedd yn fyw! Dyma Elias yn codi'r bachgen a mynd ag e i lawr y grisiau yn ôl i'w fam, a dweud wrthi, “Edrych, mae dy fab yn fyw!” A dyma'r wraig yn dweud wrth Elias, “Nawr dw i'n gwybod dy fod ti'n broffwyd go iawn, a bod yr ARGLWYDD wir yn siarad trwot ti.” Ar ôl amser hir, yn ystod y drydedd flwyddyn o sychder, dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Elias. “Dos, a dangos dy hun i Ahab. Dw i'n mynd i anfon glaw ar y tir.” Felly dyma Elias yn mynd i weld Ahab. Roedd y newyn yn ddrwg iawn yn Samaria ar y pryd. Felly dyma Ahab yn galw Obadeia, y swyddog oedd yn gyfrifol am redeg y palas. (Roedd Obadeia yn ddyn oedd yn addoli'r ARGLWYDD yn ffyddlon. Pan oedd Jesebel yn lladd proffwydi'r ARGLWYDD, roedd Obadeia wedi cymryd cant o broffwydi a'u cuddio nhw fesul pum deg mewn dwy ogof. Ac roedd yn rhoi bwyd iddyn nhw, a dŵr i'w yfed.) Dyma Ahab yn dweud wrth Obadeia, “Rhaid i ni fynd trwy'r wlad i gyd, at bob ffynnon a nant. Falle y down ni o hyd i ychydig borfa i gadw'r ceffylau a'r mulod yn fyw, yn lle bod rhaid i ni golli pob un anifail.” Dyma nhw'n rhannu'r wlad gyfan rhyngddyn nhw. A dyma Ahab yn mynd i un cyfeiriad ac Obadeia yn mynd y ffordd arall. Wrth i Obadeia fynd ar ei ffordd dyma Elias yn dod i'w gyfarfod. Dyma Obadeia'n nabod Elias, a dyma fe'n plygu ar ei liniau o'i flaen a dweud, “Ai ti ydy e go iawn, fy meistr, Elias?” “Ie, fi ydy e,” meddai Elias. “Dos i ddweud wrth dy feistr fy mod i yn ôl.” Ond dyma Obadeia'n dweud, “Beth dw i wedi'i wneud o'i le? Wyt ti eisiau i Ahab fy lladd i? Mor sicr â bod yr ARGLWYDD dy Dduw yn fyw, mae fy meistr wedi anfon i bob gwlad a theyrnas i chwilio amdanat ti! Os dŷn nhw'n dweud dy fod ti ddim yno, mae'n gwneud iddyn dyngu llw eu bod nhw heb ddod o hyd i ti. A dyma ti'n dweud wrtho i, ‘Dos i ddweud wrth dy feistr, “Mae Elias yn ôl”!’ Y funud bydda i'n dy adael di, bydd Ysbryd yr ARGLWYDD yn dy gario di i ffwrdd i rywle, a fydd gen i ddim syniad i ble. Os gwna i ddweud wrth Ahab fy mod wedi dy weld di, ac yntau wedyn yn methu dod o hyd i ti, bydd e'n fy lladd i! Dw i wedi addoli'r ARGLWYDD yn ffyddlon ers pan oeddwn i'n fachgen. Oes neb wedi dweud wrthot ti beth wnes i pan oedd Jesebel yn lladd proffwydi'r ARGLWYDD? Gwnes i guddio cant o'r broffwydi, fesul pum deg, mewn dwy ogof, a rhoi bwyd iddyn nhw, a dŵr i'w yfed. A nawr, dyma ti'n gofyn i mi fynd i ddweud wrth Ahab ‘Mae Elias yn ôl’! Bydd e'n fy lladd i!” Ond dyma Elias yn addo iddo, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD holl-bwerus yn fyw (y Duw dw i'n ei wasanaethu), bydda i'n cyfarfod Ahab heddiw.” Felly dyma Obadeia'n mynd i ddweud wrth Ahab. A dyma Ahab yn dod i gyfarfod Elias. Pan welodd Ahab Elias dyma fe'n dweud, “Ai ti ydy e go iawn — yr un sy'n creu helynt i Israel?” Dyma Elias yn ateb, “Nid fi sydd wedi creu helynt i Israel. Ti a theulu dy dad sydd wedi gwrthod gwneud beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud, a ti wedi addoli delwau o Baal! “Dw i eisiau i ti gasglu pobl Israel i gyd at ei gilydd wrth fynydd Carmel. Tyrd â'r holl broffwydi mae Jesebel yn eu cynnal yno — pedwar cant pum deg o broffwydi Baal a pedwar cant o broffwydi'r dduwies Ashera.” Felly dyma Ahab yn anfon neges at holl bobl Israel, a dod â'r proffwydi i gyd at ei gilydd i fynydd Carmel. Dyma Elias yn sefyll o flaen y bobl i gyd a gofyn iddyn nhw, “Am faint mwy dych chi'n mynd i eistedd ar y ffens? Os mai'r ARGLWYDD ydy'r Duw go iawn, dilynwch e, ond os mai Baal ydy e, dilynwch hwnnw!” Ddwedodd neb yr un gair. Felly dyma Elias yn dweud wrth y bobl, “Fi ydy'r unig un sydd ar ôl o broffwydi'r ARGLWYDD, ond mae yna bedwar cant pum deg o broffwydi Baal yma. Dewch â dau darw ifanc yma. Cân nhw ddewis un tarw, yna ei dorri'n ddarnau, a'i osod ar y coed. Ond dŷn nhw ddim i gynnau tân oddi tano. Gwna i yr un fath gyda'r tarw arall — ei osod ar y coed, ond dim cynnau tân oddi tano. Galwch chi ar eich duw chi, a gwna i alw ar yr ARGLWYDD. Bydd y duw sy'n anfon tân yn dangos mai fe ydy'r Duw go iawn.” A dyma'r bobl yn ymateb, “Syniad da! Iawn!” Yna dyma Elias yn dweud wrth broffwydi Baal, “Ewch chi gyntaf. Mae yna lawer ohonoch chi, felly dewiswch darw, a'i baratoi. Yna galwch ar eich duw, ond peidiwch cynnau tân.” Felly dyma nhw'n cymryd y tarw roedden nhw wedi ei gael, a'i baratoi, a'i osod ar yr allor. A dyma nhw'n galw ar Baal drwy'r bore, nes oedd hi'n ganol dydd, “Baal, ateb ni!” Ond ddigwyddodd dim byd — dim siw na miw. Roedden nhw'n dawnsio'n wyllt o gwmpas yr allor roedden nhw wedi ei gwneud. Yna tua canol dydd dyma Elias yn dechrau gwneud hwyl am eu pennau nhw. “Rhaid i chi weiddi'n uwch! Dewch, duw ydy e! Falle ei fod e'n myfyrio, neu wedi mynd i'r tŷ bach, neu wedi mynd ar daith i rywle. Neu falle ei fod e'n cysgu, a bod angen ei ddeffro!” A dyma nhw'n gweiddi'n uwch, a dechrau torri eu hunain gyda chyllyll a gwaywffyn (dyna oedd y ddefod arferol). Roedd eu cyrff yn waed i gyd. Buon nhw wrthi'n proffwydo'n wallgof drwy'r p'nawn nes ei bod yn amser offrymu aberth yr hwyr. Ond doedd dim byd yn digwydd, dim siw na miw — neb yn cymryd unrhyw sylw. Yna dyma Elias yn galw'r bobl draw ato. Ar ôl iddyn nhw gasglu o'i gwmpas, dyma Elias yn trwsio allor yr ARGLWYDD oedd wedi cael ei dryllio. Cymerodd un deg dwy o gerrig — un ar gyfer pob un o lwythau Jacob (yr un roedd yr ARGLWYDD wedi rhoi'r enw Israel iddo). A dyma fe'n defnyddio'r cerrig i godi allor i'r ARGLWYDD. Yna dyma fe'n cloddio ffos eithaf dwfn o gwmpas yr allor. Wedyn gosododd y coed ar yr allor, torri'r tarw yn ddarnau a'i roi ar y coed. Yna dyma fe'n dweud, “Ewch i lenwi pedwar jar mawr gyda dŵr, a'i dywallt ar yr offrwm ac ar y coed.” Ar ôl iddyn nhw wneud hynny, dyma fe'n dweud, “Gwnewch yr un peth eto,” felly dyma nhw'n gwneud hynny. “Ac eto,” meddai, a dyma nhw'n gwneud y drydedd waith. Roedd yr allor yn socian, a'r dŵr wedi llenwi'r ffos o'i chwmpas. Pan ddaeth hi'n amser i offrymu aberth yr hwyr, dyma Elias yn camu at yr allor, a dweud, “O ARGLWYDD, Duw Abraham, Isaac ac Israel, gad i bawb wybod heddiw mai ti ydy Duw Israel, ac mai dy was di ydw i. Dangos fy mod i'n gwneud hyn am mai ti sydd wedi dweud wrtho i. Ateb fi, O ARGLWYDD, ateb fi, er mwyn i'r bobl yma wybod mai ti ydy'r Duw go iawn, a dy fod ti'n eu troi nhw'n ôl atat ti.” Yn sydyn dyma dân yn disgyn oddi wrth yr ARGLWYDD a llosgi'r offrwm, y coed, y cerrig a'r pridd, a hyd yn oed sychu'r dŵr oedd yn y ffos. Pan welodd y bobl beth ddigwyddodd, dyma nhw'n syrthio ar eu gliniau a'u hwynebau ar lawr, a gweiddi, “Yr ARGLWYDD ydy'r Duw go iawn! Yr ARGLWYDD ydy'r Duw go iawn!” Yna dyma Elias yn dweud, “Daliwch broffwydi Baal! Peidiwch gadael i'r un ohonyn nhw ddianc!” Ar ôl iddyn nhw gael eu dal, dyma Elias yn mynd â nhw i lawr at Afon Cison a'u lladd nhw i gyd yno. Yna dyma Elias yn dweud wrth Ahab, “Dos i fwyta ac yfed, achos mae yna sŵn glaw trwm yn dod.” Felly dyma Ahab yn mynd i fwyta ac yfed, ond aeth Elias i fyny i gopa mynydd Carmel. Plygodd i lawr i weddïo, â'i wyneb ar lawr rhwng ei liniau. A dyma fe'n dweud wrth ei was, “Dos i fyny i edrych allan dros y môr.” Dyma'r gwas yn mynd i edrych, a dweud “Does dim byd yna”. Saith gwaith roedd rhaid i Elias ddweud, “Dos eto”. Yna'r seithfed tro dyma'r gwas yn dweud, “Mae yna gwmwl bach, dim mwy na dwrn dyn, yn codi o'r môr.” A dyma Elias yn dweud, “Brysia i ddweud wrth Ahab, ‘Dringa i dy gerbyd a dos adre, rhag i ti gael dy ddal yn y storm.’” Cyn pen dim roedd cymylau duon yn yr awyr, gwynt yn chwythu a glaw trwm. Roedd Ahab yn gyrru i fynd yn ôl i Jesreel. A dyma'r ARGLWYDD yn rhoi nerth goruwchnaturiol i Elias. Dyma fe'n rhwymo'i wisg am ei ganol a rhedeg o flaen cerbyd Ahab yr holl ffordd i Jesreel. Dyma Ahab yn dweud wrth Jesebel beth roedd Elias wedi'i wneud, a'i fod wedi lladd y proffwydi i gyd. Felly dyma Jesebel yn anfon neges at Elias i ddweud, “Boed i'r duwiau fy melltithio i os na fydda i, erbyn yr adeg yma yfory, wedi dy ladd di fel gwnest ti eu lladd nhw!” Roedd Elias wedi dychryn a dyma fe'n dianc am ei fywyd i Beersheba yn Jwda. Dyma fe'n gadael ei was yno, a cerdded yn ei flaen drwy'r dydd i'r anialwch. Yna dyma fe'n eistedd o dan lwyn banadl a gofyn am gael marw. “Dw i wedi cael digon! ARGLWYDD, cymer fy mywyd i. Dw i ddim gwell na'm hynafiaid.” Yna dyma fe'n gorwedd i lawr a syrthio i gysgu dan y llwyn. A dyma angel yn dod a rhoi pwt iddo a dweud, “Cod, bwyta.” Edrychodd o'i gwmpas, ac roedd yna fara fflat wedi ei bobi ar gerrig poeth, a jwg o ddŵr wrth ei ymyl. Dyma fe'n bwyta ac yfed ac yna mynd yn ôl i gysgu eto. Dyma angel yr ARGLWYDD yn dod eto, rhoi pwt iddo a dweud, “Cod, bwyta, achos mae taith hir o dy flaen di.” Felly dyma fe'n codi, a bwyta ac yfed. Yna, ar ôl bwyta, cerddodd yn ei flaen ddydd a nos am bedwar deg diwrnod, a cyrraedd Sinai, mynydd yr ARGLWYDD. Dyma fe'n mynd i mewn i ogof i dreulio'r nos. Yn sydyn, dyma'r ARGLWYDD yn siarad gydag e, “Be wyt ti'n wneud yma, Elias?” A dyma fe'n ateb, “Dw i wedi bod yn hollol ffyddlon i'r ARGLWYDD, y Duw holl-bwerus. Ond mae pobl Israel wedi troi cefn ar dy ymrwymiad iddyn nhw. Maen nhw wedi chwalu dy allorau a lladd dy broffwydi. A dyma fi, yr unig un sydd ar ôl, ac maen nhw eisiau fy lladd i hefyd!” Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Dos allan a sefyll ar y mynydd o'm blaen i.” A dyma wynt stormus yn chwythu o flaen yr ARGLWYDD a taro'r mynydd a'r creigiau nes achosi tirlithriad. Ond doedd yr ARGLWYDD ddim yn y gwynt. Ar ôl y gwynt roedd yna ddaeargryn. Ond doedd yr ARGLWYDD ddim yn y daeargryn. Wedyn ar ôl y daeargryn daeth tân. Ond doedd yr ARGLWYDD ddim yn y tân. Wedyn ar ôl tân roedd distawrwydd llwyr. Pan glywodd Elias hyn, dyma fe'n lapio'i glogyn dros ei wyneb a mynd i sefyll wrth geg yr ogof. A dyma lais yn gofyn iddo, “Be wyt ti'n wneud yma Elias?” A dyma fe'n ateb, “Dw i wedi bod yn hollol ffyddlon i'r ARGLWYDD, y Duw holl-bwerus. Ond mae pobl Israel wedi troi cefn ar dy ymrwymiad iddyn nhw. Maen nhw wedi chwalu dy allorau di a lladd dy broffwydi. A dyma fi, yr unig un sydd ar ôl, ac maen nhw eisiau fy lladd i hefyd!” Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Dos yn ôl y ffordd daethost ti, a mynd ymlaen i anialwch Damascus. Dos i eneinio Hasael yn frenin ar Syria. Wedyn rwyt i eneinio Jehw fab Nimshi yn frenin ar Israel, ac Eliseus fab Shaffat o Abel-mechola i gymryd dy le di fel proffwyd. Bydd Jehw yn lladd pwy bynnag fydd yn dianc rhag cleddyf Hasael, a bydd Eliseus yn lladd pwy bynnag fydd yn dianc rhag cleddyf Jehw. A gyda llaw, mae gen i saith mil o bobl yn Israel sydd heb fynd ar eu gliniau i addoli Baal, a chusanu ei ddelw.” Felly dyma Elias yn mynd, ac yn dod o hyd i Eliseus fab Shaffat yn aredig. Roedd un deg dau o barau o ychen yno i gyd, ac roedd Eliseus yn gweithio gyda'r pâr olaf. Dyma Elias yn mynd heibio ac yn taflu ei glogyn dros Eliseus wrth basio. A dyma Eliseus yn gadael yr ychen, rhedeg ar ôl Elias, a dweud wrtho, “Plîs gad i mi fynd i ffarwelio â dad a mam, ac wedyn dof i ar dy ôl di.” A dyma Elias yn ateb, “Iawn, dos yn ôl, ond meddylia di beth dw i newydd ei wneud i ti!” Felly dyma Eliseus yn mynd yn ei ôl. Lladdodd y ddau ychen oedd ganddo, a defnyddio'r gêr a'r iau i wneud tân gyda nhw. Coginiodd y cig ar y tân, a dyma bobl y pentref i gyd yn cael bwyta. Yna dyma fe'n mynd ar ôl Elias, i fod yn was iddo. Dyma Ben-hadad, brenin Syria, yn casglu ei fyddin i gyd. Roedd yna dri deg dau o frenhinoedd gydag e gyda'u cerbydau a'u ceffylau. Aeth i warchae ar Samaria ac ymosod arni. A dyma fe'n anfon neges i'r ddinas at y brenin Ahab. “Dyma mae Ben-hadad yn ei ddweud: ‘Fi piau dy arian di a dy aur di. Fi piau dy hoff wragedd di a dy blant di hefyd.’” A dyma frenin Israel yn ateb, “Iawn, fy mrenin, fy meistr i! Ti sydd piau fi a phopeth sydd gen i.” Yna dyma'r negeswyr yn dod yn ôl ato eto a dweud, “Dyma mae Ben-hadad yn ei ddweud: ‘Dw i eisoes wedi dweud wrthot ti am roi dy arian, dy aur, dy wragedd a dy blant i mi. Tua'r adeg yma yfory dw i'n mynd i anfon fy ngweision atat ti, a byddan nhw'n chwilio drwy dy balas di a thai dy swyddogion, ac yn cymryd popeth gwerthfawr oddi arnat ti.’” Dyma frenin Israel yn galw holl arweinwyr y wlad at ei gilydd, a dweud, “Gwrandwch, mae'r dyn yma am greu helynt go iawn. Pan wnaeth e hawlio'r gwragedd a'r plant a'r holl arian a'r aur sydd gen i, wnes i ddim ei wrthod e.” A dyma'r arweinwyr a'r bobl yn dweud wrtho, “Paid gwrando arno! Paid cytuno.” Felly dyma Ahab yn dweud wrth negeswyr Ben-hadad, “Dwedwch wrth fy meistr, y brenin, ‘Dw i'n fodlon gwneud popeth wnest ti ofyn y tro cyntaf, ond alla i ddim cytuno i hyn.’” A dyma'r negeswyr yn mynd â'r ateb yn ôl i'w meistr. Yna dyma Ben-hadad yn anfon neges arall, “Boed i'r duwiau fy melltithio i, os bydd unrhyw beth ar ôl o Samaria ond llond dwrn o lwch i bob un o'r dynion sy'n fy nilyn i ei godi.” Ateb brenin Israel oedd, “Paid brolio wrth godi dy arfau, dim ond pan fyddi'n ei rhoi i lawr!” Roedd Ben-hadad yn diota yn ei babell gyda'r brenhinoedd eraill pan gafodd yr ateb yma. A dyma fe'n dweud wrth ei filwyr, “Paratowch i ymosod!” A dyma nhw'n paratoi i ymosod ar y ddinas. Dyma broffwyd yn mynd i weld Ahab, brenin Israel, a dweud, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Wyt ti'n gweld y fyddin anferth yna? Heddiw dw i'n mynd i'w rhoi nhw yn dy law di, a byddi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.’” A dyma Ahab yn gofyn, “Sut?” “Drwy swyddogion ifanc y taleithiau,” meddai'r proffwyd. A dyma Ahab yn gofyn, “Pwy fydd yn ymosod gyntaf?” “Ti,” meddai'r proffwyd. Felly dyma Ahab yn casglu swyddogion ifainc y taleithiau at ei gilydd, ac roedd yna ddau gant tri deg dau ohonyn nhw. Wedyn dyma fe'n casglu byddin Israel, ac roedd yna saith mil ohonyn nhw. [16-17] Dyma nhw'n mynd allan tua hanner dydd, gyda swyddogion ifanc y taleithiau yn eu harwain. Roedd Ben-hadad a'r tri deg dau brenin oedd gydag e yn yfed eu hunain yn chwil yn eu pebyll. A dyma'i sgowtiaid yn dod a dweud wrtho, “Mae yna filwyr yn dod allan o Samaria.” *** Dyma Ben-hadad yn dweud: “Daliwch nhw'n fyw — sdim ots os ydyn nhw am wneud heddwch neu am ymladd.” Roedd swyddogion ifanc y taleithiau yn arwain byddin Israel allan. A dyma nhw'n taro milwyr y gelyn nes i'r Syriaid orfod ffoi. Aeth Israel er eu holau, ond dyma Ben-hadad yn dianc ar gefn ceffyl gyda'i farchogion. Dyna sut wnaeth brenin Israel orchfygu holl gerbydau a marchogion y gelyn. Cafodd y Syriaid eu trechu'n llwyr. Yna dyma'r proffwyd yn mynd at frenin Israel a dweud wrtho, “Rhaid i ti gryfhau'r amddiffynfeydd, a penderfynu beth i'w wneud. Achos yn y gwanwyn bydd brenin Syria yn ymosod eto.” Dyma swyddogion brenin Syria yn dweud wrtho, “Duw'r bryniau ydy eu duw nhw, a dyna pam wnaethon nhw'n curo ni. Os gwnawn ni eu hymladd nhw ar y gwastadedd byddwn ni'n siŵr o ennill. Dyma sydd raid i ni ei wneud: Cael capteniaid milwrol i arwain y fyddin yn lle'r brenhinoedd yma. Yna casglu byddin at ei gilydd yn lle yr un wnest ti ei cholli, gyda'r un faint o geffylau a cherbydau. Wedyn awn ni i ymladd gyda nhw ar y gwastadedd. Byddwn ni'n siŵr o ennill.” A dyma Ben-hadad yn gwneud beth roedden nhw'n ei awgrymu. Felly yn y gwanwyn dyma Ben-hadad yn casglu byddin Syria at ei gilydd, a mynd i ymladd yn erbyn Israel yn Affec. A pan oedd byddin Israel wedi ei galw ac wedi derbyn eu cyflenwadau dyma nhw'n mynd allan i ryfel. Roedd gwersyll Israel gyferbyn â'r Syriaid ac yn edrych fel dwy ddiadell fach o eifr o'i gymharu â byddin Syria oedd yn llenwi'r wlad! Dyma'r proffwyd yn mynd i weld brenin Israel, a dweud wrtho: “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Am fod Syria wedi dweud mai Duw y bryniau ydy'r ARGLWYDD, dim Duw y ddyffrynnoedd, dw i'n mynd i roi'r fyddin anferth yma yn dy law di. Byddi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.’” Roedd y ddwy fyddin yn gwersylla gyferbyn â'i gilydd am saith diwrnod. Yna ar y seithfed diwrnod dyma'r ymladd yn dechrau. Lladdodd milwyr Israel gan mil o wŷr traed Syria mewn un diwrnod! Dyma'r gweddill yn ffoi i Affec, ond syrthiodd wal y ddinas a lladd dau ddeg saith mil ohonyn nhw. Roedd Ben-hadad wedi dianc i'r ddinas, ac yn cuddio mewn ystafell fewnol yno. A dyma'i swyddogion yn dweud wrtho, “Gwranda, dŷn ni wedi clywed fod brenhinoedd Israel yn garedig. Gad i ni wisgo sachliain, rhoi raffau am ein gyddfau a mynd allan at frenin Israel. Falle y bydd e'n arbed dy fywyd di.” Felly dyma nhw'n gwisgo sachliain a rhoi raffau am eu gyddfau a mynd allan at frenin Israel, a dweud, “Mae dy was, Ben-hadad yn gofyn, ‘Plîs, gad i mi fyw.’” “Beth? Ydy e'n dal yn fyw?” meddai brenin Israel, “Mae e fel brawd i mi.” Roedd y dynion yn cymryd hyn fel arwydd da, a dyma nhw'n ymateb yn syth, “Ie, dy frawd di ydy Ben-hadad.” Felly dyma Ahab yn dweud, “Ewch i'w nôl e.” A pan ddaeth Ben-hadad dyma Ahab yn ei dderbyn i'w gerbyd. A dyma Ben-hadad yn dweud wrtho, “Dw i am roi'r trefi wnaeth fy nhad eu cymryd oddi ar dy dad di yn ôl i ti. A cei di sefydlu canolfannau marchnata yn Damascus, fel roedd fy nhad i wedi gwneud yn Samaria.” Dyma Ahab yn dweud, “Dw i am i ni wneud cytundeb heddwch cyn dy ollwng di'n rhydd.” Felly dyma'r ddau yn gwneud cytundeb, a dyma Ben-hadad yn cael mynd yn rhydd. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth rhyw ddyn oedd yn aelod o urdd o broffwydi i ddweud wrth un arall, “Taro fi!” Ond dyma'r llall yn gwrthod. Felly dyma fe'n dweud wrtho, “Am i ti wrthod gwrando ar yr ARGLWYDD, pan fyddi di'n fy ngadael i bydd llew yn ymosod arnat ti.” Ac wrth iddo fynd oddi wrtho dyma lew yn ymosod arno a'i ladd. Yna dyma'r proffwyd yn dweud wrth ddyn arall, “Taro fi!” A dyma hwnnw'n taro'r proffwyd yn galed a'i anafu. Yna dyma proffwyd yn mynd i ddisgwyl am y brenin ar ochr y ffordd. Roedd wedi cuddio ei wyneb rhag iddo gael ei nabod. Pan ddaeth y brenin heibio, dyma'r proffwyd yn galw arno. “Roeddwn i yng nghanol y frwydr a dyma rhywun yn rhoi carcharor i mi ofalu amdano. ‘Gwylia hwn!’ meddai wrtho i, ‘Os bydd e'n dianc byddi di'n talu â'th fywyd, neu dalu dirwy o dri deg pum cilogram o arian.’ Ond tra roedd dy was yn brysur yn gwneud hyn a'r llall, dyma'r carcharor yn diflannu.” Dyma'r brenin yn ateb, “Ti wedi dweud beth ydy'r gosb, ac felly bydd hi.” Yna, heb oedi dim, dyma'r proffwyd yn dangos ei wyneb. A dyma frenin Israel yn sylweddoli ei fod yn un o'r proffwydi. A dyma'r proffwyd yn dweud wrtho, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Am i ti ollwng yn rhydd y dyn roeddwn i wedi dweud ei fod i farw, byddi di'n marw yn ei le, a bydd dy bobl di yn dioddef yn lle ei bobl e.’” Dyma frenin Israel yn mynd adre i Samaria yn sarrug a blin. Wedyn dyma hyn yn digwydd: Roedd gan ddyn o'r enw Naboth, o Jesreel, winllan reit wrth ymyl palas Ahab, brenin Samaria. A dyma Ahab yn gwneud cynnig i Naboth, “Rho dy winllan i mi, i mi gael ei throi hi'n ardd lysiau gan ei bod hi reit wrth ymyl y palas. Gwna i roi gwinllan well i ti yn ei lle hi. Neu, os wyt ti eisiau, gwna i dalu pris teg i ti amdani.” Ond dyma Naboth yn gwrthod, “Na, dim ar unrhyw gyfri! Mae'r tir wedi perthyn i'r teulu ers cenedlaethau; allwn i byth ei rhoi hi i ti. ” Felly dyma Ahab yn mynd yn ôl i'r palas yn sarrug a blin am fod Naboth wedi gwrthod rhoi'r winllan iddo. Dyma fe'n gorwedd ar ei wely wedi pwdu, ac yn gwrthod bwyta. A dyma Jesebel, ei wraig, yn dod ato a gofyn, “Pam wyt ti mewn hwyliau mor ddrwg ac yn gwrthod bwyta?” A dyma fe'n dweud, “Gwnes i ofyn i Naboth werthu ei winllan i mi, neu os oedd yn well ganddo, gwnes i gynnig ei chyfnewid hi am winllan arall. Ond mae e wedi gwrthod rhoi'r winllan i mi.” A dyma Jesebel yn dweud, “Wyt ti'n frenin Israel neu ddim? Tyrd, bwyta rywbeth. Cod dy galon! Gwna i gael gafael ar winllan Naboth i ti.” Aeth ati i ysgrifennu llythyrau yn enw Ahab, rhoi sêl y brenin arnyn nhw, a'u hanfon at yr arweinwyr a'r bobl bwysig oedd yn byw yn yr un gymuned â Naboth. Dyma ysgrifennodd hi: “Cyhoeddwch ddiwrnod o ymprydio, a rhoi Naboth i eistedd mewn lle amlwg o flaen pawb. Yna ffeindiwch ddau ddyn drwg a'i gosod nhw i eistedd gyferbyn ag e, a'u cael nhw i gyhuddo Naboth o fod wedi melltithio Duw a'r brenin. Wedyn ewch ag e allan a thaflu cerrig ato nes bydd wedi marw.” Dyma'r arweinwyr a'r bobl bwysig oedd yn byw yn y gymuned yn gwneud yn union fel roedd Jesebel wedi dweud yn y llythyrau. Dyma nhw'n cyhoeddi diwrnod o ymprydio, ac yn rhoi Naboth mewn lle amlwg o flaen y bobl. Yna dyma ddau ddyn drwg yn eistedd gyferbyn â Naboth. A dyma nhw'n ei gyhuddo o flaen pawb, a dweud, “Mae Naboth wedi melltithio Duw a'r brenin!” Felly dyma nhw'n mynd â Naboth allan o'r dre a thaflu cerrig ato nes roedd wedi marw. Wedyn, dyma nhw'n anfon neges at Jesebel, “Mae Naboth wedi cael ei ladd gyda cherrig.” Y funud y clywodd Jesebel fod Naboth wedi marw, dyma hi'n dweud wrth Ahab “Cod, cymer y winllan roedd Naboth o Jesreel wedi gwrthod ei gwerthu i ti. Dydy Naboth ddim yn fyw, mae e wedi marw.” Pan glywodd Ahab fod Naboth wedi marw, dyma fe'n mynd i lawr i'r winllan i'w hawlio hi iddo'i hun. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Elias, “Dos i gyfarfod Ahab, brenin Israel yn Samaria. Cei hyd iddo yng ngwinllan Naboth. Mae wedi mynd yno i hawlio'r winllan iddo'i hun. Dywed wrtho, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: Ar ôl llofruddio'r dyn, wyt ti hefyd am ddwyn ei eiddo?’ Dywed wrtho hefyd, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: Lle bu'r cŵn yn llyfu gwaed Naboth, bydd cŵn yn llyfu dy waed di hefyd — ie, ti!’” Dyma Ahab yn dweud wrth Elias, “Felly, ti wedi dod o hyd i mi, fy ngelyn!” A dyma Elias yn ateb, “Dw i wedi dod o hyd i ti am dy fod ti'n benderfynol o wneud pethau sy'n ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD. Mae'r ARGLWYDD yn dweud, ‘Dw i'n mynd i wneud drwg i ti, a dod â dy linach i ben. Bydda i'n cael gwared â phob dyn a bachgen yn Israel, sy'n perthyn i Ahab, y caeth a'r rhydd. Bydda i'n gwneud yr un peth i dy linach di ag a wnes i i Jeroboam fab Nebat a Baasha fab Achïa am dy fod ti wedi fy ngwylltio i a gwneud i Israel bechu.’ “A dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am Jesebel, ‘Bydd cŵn yn bwyta Jesebel o fewn waliau Jesreel.’ ‘Bydd pobl Ahab sy'n marw yn y ddinas yn cael eu bwyta gan y cŵn. Bydd y rhai sy'n marw yng nghefn gwlad yn cael eu bwyta gan yr adar!’” (Fuodd yna neb tebyg i Ahab, oedd mor benderfynol o wneud pethau oedd yn ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD. Ac roedd Jesebel ei wraig yn ei annog e. Roedd yn gwneud pethau hollol afiach wrth addoli eilunod diwerth, yn union yr un fath â'r Amoriaid, y bobl roedd yr ARGLWYDD wedi eu gyrru allan o'r wlad o flaen Israel.) Pan glywodd Ahab neges Elias, dyma fe'n rhwygo ei ddillad a gwisgo sachliain, a mynd heb fwyd. Roedd yn cysgu mewn sachliain ac yn cerdded o gwmpas yn isel ei ysbryd. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Elias, “Wyt ti wedi gweld fel mae Ahab wedi plygu mewn cywilydd o'm blaen i? Am ei fod yn edifar, wna i ddim dod a'r drwg yn ystod ei fywyd e. Bydda i'n dinistrio ei linach pan fydd ei fab yn frenin.” Aeth tair blynedd heibio heb i Israel a Syria fynd i ryfel yn erbyn ei gilydd. Yn ystod y drydedd flwyddyn aeth Jehosaffat, brenin Jwda, i ymweld â brenin Israel. Tra roedd e yno, dyma frenin Israel yn dweud wrth ei swyddogion, “Dych chi'n gwybod yn iawn mai ni sydd piau Ramoth-gilead, ond dŷn ni wedi gwneud dim i'w chymryd yn ôl oddi ar frenin Syria.” Yna dyma fe'n gofyn i Jehosaffat, “Ddoi di gyda mi i ymladd am Ramoth-gilead?” A dyma Jehosaffat yn ei ateb, “Dw i gyda ti, a bydd fy myddin i gyda dy fyddin di!” Ond yna dyma Jehosaffat yn ychwanegu, “Ond gad i ni'n gyntaf holi beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud.” Felly dyma frenin Israel yn casglu'r proffwydi at ei gilydd — roedd tua pedwar cant ohonyn nhw. A dyma fe'n gofyn iddyn nhw, “Ddylwn i ymosod ar Ramoth-gilead neu ddim?” A dyma nhw'n ateb, “Dos! Bydd y Meistr yn rhoi buddugoliaeth i'r brenin!” Ond dyma Jehosaffat yn gofyn, “Oes yna ddim un o broffwydi'r ARGLWYDD yma, i ni ofyn iddo fe hefyd?” A dyma frenin Israel yn ateb, “Oes, mae yna un dyn gallwn holi'r ARGLWYDD trwyddo. Ond dw i'n ei gasáu e, achos dydy e byth yn proffwydo dim byd da i mi, dim ond drwg. Ei enw e ydy Michea fab Imla.” “Paid siarad fel yna,” meddai Jehosaffat. Felly dyma frenin Israel yn galw swyddog draw a dweud wrtho, “Brysia! Tyrd â Michea fab Imla yma.” Roedd brenin Israel a Jehosaffat, brenin Jwda, yn eu gwisgoedd brenhinol yn eistedd ar orseddau yn y sgwâr wrth y giât i ddinas Samaria. O'u blaenau roedd yr holl broffwydi wrthi'n proffwydo. Dyma Sedeceia fab Cenaana yn gwneud cyrn haearn. A dyma fe'n cyhoeddi “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Byddi di'n cornio'r Syriaid gyda'r rhain, ac yn eu difa nhw.’” Ac roedd y proffwydi eraill i gyd yn dweud yr un fath. “Dos i ymosod ar Ramoth-gilead. Byddi'n ennill y frwydr! Mae'r ARGLWYDD yn mynd i roi buddugoliaeth i ti.” Dyma'r un oedd wedi mynd i nôl Michea yn dweud wrtho, “Gwranda, mae'r proffwydi i gyd yn cytuno fod y brenin yn mynd i lwyddo. Dywed di'r un peth, a proffwyda lwyddiant iddo.” Ond dyma Michea'n ei ateb, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, fydda i ond yn dweud beth fydd yr ARGLWYDD yn ei ddweud wrtho i.” Pan ddaeth e at y brenin dyma'r brenin yn gofyn iddo, “Michea, ddylwn i ymosod ar Ramoth-gilead neu ddim?” A dyma fe'n ateb, “Dos di! Byddi'n llwyddo. Bydd yr ARGLWYDD yn rhoi buddugoliaeth i'r brenin.” Ond dyma'r brenin yn dweud wrtho, “Faint o weithiau ydw i wedi gwneud i ti addo o flaen yr ARGLWYDD y byddi'n dweud dim byd ond y gwir wrtho i?” A dyma Michea'n dweud, “Gwelais Israel gyfan ar wasgar dros y bryniau, fel defaid heb fugail. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud, ‘Does ganddyn nhw ddim meistri. Dylen nhw i gyd fynd adre'n dawel.’” Dyma frenin Israel yn dweud wrth Jehosaffat, “Wnes i ddim dweud wrthot ti? Dydy hwn byth yn proffwydo dim byd da i mi, dim ond drwg.” A dyma Michea'n dweud eto, “Felly, gwrando ar neges yr ARGLWYDD. Gwelais yr ARGLWYDD yn eistedd ar ei orsedd, a'i fyddin o angylion yn sefyll bob ochr iddo. A dyma'r ARGLWYDD yn gofyn, ‘Pwy sy'n gallu twyllo Ahab, a gwneud iddo ymosod ar Ramoth-gilead a cael ei ladd yno?’ Ac roedd pawb yn cynnig syniadau gwahanol. Ond yna dyma ysbryd yn dod a sefyll o flaen yr ARGLWYDD, a dweud, ‘Gwna i ei dwyllo fe.’ “A dyma'r ARGLWYDD yn gofyn iddo, ‘Sut?’ “‘Gwna i fynd allan fel ysbryd celwyddog a siarad drwy ei broffwydi e,’ meddai. “A dyma'r ARGLWYDD yn dweud, ‘Dos i wneud hynny. Byddi di'n llwyddo i'w dwyllo.’ “Felly, wyt ti'n gweld? Mae'r ARGLWYDD wedi gwneud i dy broffwydi di i gyd ddweud celwydd. Mae'r ARGLWYDD am wneud drwg i ti.” Yna dyma Sedeceia fab Cenaana yn camu ymlaen a rhoi dyrnod i Michea ar ei ên, a gofyn, “Sut wnaeth Ysbryd yr ARGLWYDD fy ngadael i a dechrau siarad â ti?” A dyma Michea'n ateb, “Cei weld ar y diwrnod hwnnw pan fyddi di'n chwilio am ystafell o'r golwg yn rhywle i guddio ynddi!” Yna dyma frenin Israel yn dweud, “Cymerwch Michea a'i roi yng ngofal Amon, rheolwr y ddinas, a Joas fy mab. Dwedwch wrthyn nhw, ‘Mae'r brenin yn dweud, “Cadwch hwn yn y carchar, a rhoi dim byd ond ychydig fara a dŵr iddo nes bydda i wedi dod yn ôl yn saff.”’” A dyma Michea'n dweud, “Os ddoi di yn ôl yn saff, dydy'r ARGLWYDD ddim wedi siarad trwof fi.” A dyma fe'n dweud wrth y bobl oedd yno, “Cofiwch chi beth ddywedais i!” Dyma frenin Israel a Jehosaffat, brenin Jwda, yn mynd i ymosod ar Ramoth-gilead. A dyma frenin Israel yn dweud wrth Jehosaffat, “Dw i yn mynd i wisgo dillad gwahanol i fynd i ryfel, ond gwisga di dy ddillad brenhinol.” Felly dyma frenin Israel yn newid ei ddillad a mynd i'r frwydr. Roedd brenin Syria wedi rhoi gorchymyn i'r tri deg dau capten oedd ganddo ar ei gerbydau, “Peidiwch poeni ymladd gyda neb, yn filwyr cyffredin na swyddogion, dim ond gyda brenin Israel.” Pan welodd y capteiniaid Jehosaffat dyma nhw'n dweud, “Mae'n rhaid mai fe ydy brenin Israel!” Felly dyma nhw'n troi i fynd ar ei ôl. Ond wrth i Jehosaffat weiddi dyma nhw'n gweld mai nid brenin Israel oedd e, a dyma nhw'n gadael llonydd iddo. Yna dyma rhyw filwr yn digwydd saethu â'i fwa ar hap a taro brenin Israel rhwng dau ddarn o'i arfwisg. A dyma'r brenin yn dweud wrth yrrwr ei gerbyd, “Tro yn ôl! Dos â fi allan o'r frwydr. Dw i wedi cael fy anafu!” Aeth y frwydr yn ei blaen drwy'r dydd. Roedd y brenin Ahab yn cael ei ddal i fyny yn ei gerbyd yn gwylio'r Syriaid. Yna gyda'r nos dyma fe'n marw. Roedd y gwaed o'i anaf wedi rhedeg dros lawr y cerbyd. Wrth i'r haul fachlud dyma waedd yn lledu drwy rengoedd y fyddin, “Mae ar ben! Pawb am adre i'w dref a'i ardal ei hun.” Roedd y brenin wedi marw, a dyma nhw'n mynd ag e i Samaria, a'i gladdu yno. Dyma nhw'n golchi'r cerbyd wrth bwll Samaria (lle roedd puteiniaid yn arfer ymolchi). A daeth cŵn yno i lyfu'r gwaed, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud. Mae gweddill hanes Ahab, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni (hanes y palas ifori a'r holl drefi wnaeth e adeiladu) i'w gweld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel. Bu farw Ahab, a daeth ei fab Ahaseia yn frenin yn ei le. Daeth Jehosaffat mab Asa yn frenin ar Jwda pan oedd Ahab wedi bod yn frenin Israel ers pedair blynedd. Roedd Jehosaffat yn dri deg pum mlwydd oed pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am ddau ddeg pump o flynyddoedd. Aswba, merch Shilchi oedd ei fam. Fel Asa, ei dad, gwnaeth Jehosaffat beth oedd yn plesio'r ARGLWYDD. Ond wnaeth e ddim cael gwared â'r allorau lleol, ac roedd y bobl yn dal i aberthu anifeiliaid a llosgi arogldarth arnyn nhw. Ac roedd Jehosaffat wedi gwneud cytundeb heddwch gyda brenin Israel. Mae gweddill hanes Jehosaffat, y cwbl wnaeth e lwyddo i'w wneud a'r rhyfeloedd wnaeth e eu hymladd, i'w gweld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda. Roedd e hefyd wedi gyrru allan o'r wlad weddill y puteiniaid teml oedd yn dal yno yng nghyfnod ei dad Asa. Doedd gan Edom ddim brenin ar y pryd, dim ond rhaglaw. Adeiladodd Jehosaffat longau masnach mawr i fynd i Offir am aur; ond wnaethon nhw erioed hwylio am eu bod wedi eu dryllio yn y porthladd yn Etsion-geber. Roedd Ahaseia, mab Ahab, wedi gofyn i Jehosaffat, “Gad i'n gweision ni forio gyda'i gilydd ar y llongau.” Ond roedd Jehosaffat wedi gwrthod. Pan fuodd Jehosaffat farw, cafodd ei gladdu gyda'i hynafiaid yn ninas Dafydd. Daeth ei fab Jehoram yn frenin yn ei le. Roedd Jehosaffat wedi bod yn frenin ar Jwda am un deg saith o flynyddoedd pan ddaeth Ahaseia mab Ahab yn frenin ar Israel yn Samaria. Bu'n frenin ar Israel am ddwy flynedd. Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac ymddwyn fel ei dad a'i fam, ac fel Jeroboam fab Nebat oedd wedi achosi i bobl Israel bechu. Roedd yn addoli Baal ac yn ymgrymu iddo. Roedd yn gwylltio'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn union fel gwnaeth ei dad. Ar ôl i'r brenin Ahab farw, dyma wlad Moab yn gwrthryfela yn erbyn Israel. Tua'r un adeg dyma'r brenin Ahaseia yn syrthio o ffenest llofft ei balas yn Samaria a chael ei anafu. Dyma fe'n anfon negeswyr a dweud wrthyn nhw, “Ewch i holi Baal-sebwb, duw Ecron, os bydda i yn gwella o'r anaf yma.” Ond roedd angel yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Elias o Tishbe, “Dos i gyfarfod negeswyr Brenin Samaria, a gofyn iddyn nhw, ‘Ai am fod yna ddim Duw yn Israel dych chi'n mynd i holi Baal-sebwb, duw Ecron? Felly, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: Fyddi di ddim yn codi o'r gwely yna. Ti'n mynd i farw!’” Yna dyma Elias yn mynd i ffwrdd. Aeth y negeswyr yn ôl at Ahaseia, a dyma fe'n gofyn iddyn nhw, “Pam ydych chi wedi dod y ôl?” A dyma nhw'n ateb, “Daeth rhyw ddyn aton ni a dweud, ‘Ewch yn ôl at y brenin sydd wedi'ch anfon chi a dweud wrtho, “Ai am fod yna ddim Duw yn Israel wyt ti'n anfon dynion i holi Baal-sebwb, duw Ecron? Felly, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: Fyddi di ddim yn codi o'r gwely yna. Ti'n mynd i farw!”’” Yna dyma'r brenin yn dweud wrthyn nhw, “Disgrifiwch y dyn i mi.” A dyma nhw'n ateb, “Dyn blewog ac roedd ganddo felt ledr am ei ganol.” “Elias, y boi yna o Tishbe oedd e!”, meddai'r brenin. A dyma fe'n anfon un o gapteiniaid ei fyddin gyda pum deg o ddynion i nôl Elias. Dyma'r capten yn dod o hyd i Elias yn eistedd ar ben bryn. A dyma fe'n mynd ato a dweud, “Broffwyd Duw, mae'r brenin yn dweud wrthot ti am ddod i lawr.” Ond dyma Elias yn ei ateb, “Os dw i wir yn broffwyd Duw, bydd tân yn dod i lawr o'r awyr ac yn dy ladd di a dy ddynion!” A dyna'n union ddigwyddodd! Daeth tân i lawr o'r awyr a'i ladd e a'i filwyr. Felly dyma'r brenin yn anfon capten arall gyda pum deg o ddynion i nôl Elias. Aeth hwnnw eto at Elias a galw arno, “Broffwyd Duw, brysia! Mae'r brenin yn dweud wrthot ti am ddod i lawr.” Ond dyma Elias yn ateb eto, “Os dw i wir yn broffwyd Duw, bydd tân yn dod i lawr o'r awyr ac yn dy ladd di a dy ddynion!” A dyna ddigwyddodd eto! Daeth tân i lawr oddi wrth Dduw a'i ladd e a'i filwyr. Dyma'r brenin yn anfon trydydd capten gyda pum deg o ddynion. Pan ddaeth hwnnw at Elias, dyma fe'n mynd ar ei liniau o'i flaen a chrefu arno. “Broffwyd Duw, plîs, arbed fy mywyd i a bywyd dy weision, y dynion yma. Mae tân wedi dod i lawr o'r awyr a lladd y ddau gapten cyntaf a'u dynion. Plîs arbed fy mywyd i!” A dyma angel yr ARGLWYDD yn dweud wrth Elias, “Dos i lawr gydag e, paid bod ag ofn.” Felly dyma Elias yn mynd gydag e at y brenin. A dyma fe'n dweud wrth y brenin, “Mae'r ARGLWYDD yn dweud, ‘Oes yna ddim Duw yn Israel i'w holi? Am dy fod ti wedi troi at Baal-sebwb, duw Ecron, fyddi di ddim yn codi o'r gwely yna, ti'n mynd i farw!’” A dyna ddigwyddodd. Buodd Ahaseia farw, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud trwy Elias. Doedd ganddo ddim mab, felly dyma ei frawd Joram yn dod yn frenin yn ei le. Roedd hyn yn ystod ail flwyddyn Jehoram fab Jehosaffat yn frenin ar Jwda. Mae gweddill hanes Ahaseia, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel. Pan oedd yr ARGLWYDD ar fin cymryd Elias i'r nefoedd mewn chwyrlwynt, roedd Elias ac Eliseus yn gadael Gilgal. Dyma Elias yn dweud wrth Eliseus, “Aros di yma. Mae'r ARGLWYDD eisiau i mi fynd ymlaen i Bethel. ” Ond dyma Eliseus yn ateb, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, a tithau'n fyw, wna i ddim dy adael di.” A dyma nhw'n mynd i Bethel. Dyma aelodau o urdd proffwydi Bethel yn dod allan i gyfarfod Eliseus, a dweud wrtho, “Wyt ti'n gwybod fod yr ARGLWYDD am gymryd dy feistr oddi arnat ti heddiw?” “Ydw, dw i'n gwybod, ond peidiwch sôn am y peth,” meddai Eliseus. Yna dyma Elias yn dweud wrth Eliseus, “Aros di yma. Mae'r ARGLWYDD eisiau i mi fynd i Jericho. ” Ond dyma Eliseus yn ateb, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, a tithau'n fyw, wna i ddim dy adael di.” A dyma nhw'n dod i Jericho. Dyma aelodau o urdd proffwydi Jericho yn mynd at Eliseus, a dweud wrtho, “Wyt ti'n gwybod fod ARGLWYDD am gymryd dy feistr oddi arnat ti heddiw?” “Ydw, dw i'n gwybod, ond peidiwch sôn am y peth,” meddai Eliseus. Yna dyma Elias yn dweud wrth Eliseus, “Aros di yma. Mae'r ARGLWYDD eisiau i mi fynd at yr Afon Iorddonen. ” Ond dyma Eliseus yn ateb, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, a tithau'n fyw, wna i ddim dy adael di.” A dyma'r ddau yn mynd yn eu blaenau. Roedd pum deg aelod o'r urdd o broffwydi wedi eu dilyn nhw, a pan oedd y ddau yn sefyll ar lan yr afon, roedd y proffwydi yn eu gwylio nhw o bell. Dyma Elias yn cymryd ei glogyn a'i rholio, a taro'r dŵr gyda hi. Dyma lwybr yn agor drwy'r afon, ac dyma'r ddau yn croesi drosodd ar dir sych. Ar ôl iddyn nhw groesi, dyma Elias yn gofyn i Eliseus, “Dwed wrtho i be ga i wneud i ti cyn i mi gael fy nghymryd oddi wrthot ti?” “Plîs gad i mi gael siâr ddwbl o dy ysbryd di,” meddai Eliseus. Dyma Elias yn ateb, “Ti wedi gofyn am rhywbeth anodd. Os byddi di'n fy ngweld i'n mynd i ffwrdd, fe'i cei. Os ddim, gei di ddim.” Wrth iddyn nhw fynd yn eu blaenau yn sgwrsio dyma gerbyd o fflamau tân yn cael ei dynnu gan geffylau o dân yn dod rhyngddyn nhw, a dyma Elias yn cael ei gipio i fyny i'r nefoedd gan y chwyrlwynt. Roedd Eliseus yn ei weld, a dyma fe'n gweiddi, “Fy nhad, fy nhad! Ti oedd arfau a byddin Israel!” Welodd e mohono fe wedyn. A dyma Eliseus yn gafael yn ei ddillad a'u rhwygo'n ddau. Yna dyma fe'n codi clogyn Elias, oedd wedi syrthio oddi arno, a mynd yn ôl at lan yr Afon Iorddonen. Gafaelodd yn y clogyn oedd wedi syrthio oddi ar Elias, a gofyn, “Ydy'r ARGLWYDD, Duw Elias, wedi gadael hefyd?” Yna dyma fe'n taro'r dŵr gyda'r clogyn a dyma lwybr yn agor drwy'r afon, a croesodd Eliseus i'r ochr arall. Pan welodd proffwydi Jericho beth ddigwyddodd, dyma nhw'n dweud, “Mae ysbryd Elias wedi disgyn ar Eliseus.” A dyma nhw'n mynd ato a plygu i lawr o'i flaen. “Edrych syr, mae gynnon ni bum deg o ddynion abl yma,” medden nhw. “Gad iddyn nhw fynd i chwilio am dy feistr, rhag ofn bod y gwynt cryf anfonodd yr ARGLWYDD wedi ei ollwng ar ben rhyw fynydd neu yn rhyw gwm.” Dyma Eliseus yn ateb, “Na, peidiwch a'u hanfon nhw.” Ond buon nhw'n pwyso arno nes iddo ddechrau teimlo'n annifyr. Felly dyma fe'n cytuno, a dyma'r proffwydi yn anfon y dynion i chwilio am Elias. Buon nhw'n chwilio am dri diwrnod ond methu cael hyd iddo. Arhosodd Eliseus yn Jericho, nes iddyn nhw ddod yn ôl ato. A dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Wel? Wnes i ddim dweud wrthoch chi am beidio mynd?” Dyma bobl y dre yn dweud wrth Eliseus, “Mae'r dre yma mewn safle da, fel ti'n gweld, syr. Ond mae'r dŵr yn wael a dydy'r cnydau ddim yn tyfu.” “Dewch â llestr newydd i mi, a rhoi halen ynddo,” meddai Eliseus. Felly dyma nhw'n gwneud hynny. Yna dyma Eliseus yn mynd at lygad y ffynnon a thaflu'r halen i mewn iddi. A dyma fe'n dweud, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Dw i'n puro'r dŵr yma. Fydd e ddim yn achosi marwolaeth nag anffrwythlondeb byth eto.’” Ac mae'r dŵr yn bur hyd heddiw, yn union fel roedd Eliseus wedi dweud. Aeth Eliseus o Jericho yn ôl i Bethel. Pan oedd e ar ei ffordd dyma griw o fechgyn ifanc yn dod allan o'r dre a dechrau gwneud hwyl am ei ben. Roedden nhw'n gweiddi, “Dos i ffwrdd, y moelyn! Dos i ffwrdd, y moelyn!” Dyma fe'n troi rownd a rhythu arnyn nhw, a galw ar yr ARGLWYDD i'w melltithio nhw. A dyma ddwy arth yn dod allan o'r goedwig a llarpio pedwar deg dau o'r bechgyn. Yna dyma Eliseus yn mynd ymlaen i Fynydd Carmel, ac wedyn yn ôl i Samaria. Pan oedd Jehosaffat wedi bod yn frenin ar Jwda am un deg wyth o flynyddoedd, dyma Joram, mab Ahab, yn dod yn frenin ar Israel yn Samaria. Bu'n frenin am un deg dwy o flynyddoedd. Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD. Ond doedd e ddim mor ddrwg â'i dad a'i fam. Roedd e wedi cael gwared â'r golofn gysegredig i Baal roedd ei dad wedi ei gwneud. Ond roedd yn dal i addoli'r eilunod roedd Jeroboam fab Nebat wedi eu codi i achosi i bobl Israel bechu. Roedd yn gwrthod yn lân cael gwared â nhw. Roedd Mesha, brenin Moab yn cadw defaid. Roedd rhaid iddo dalu treth bob blwyddyn i frenin Israel — can mil o ŵyn a gwlân can mil o hyrddod. Ond pan fu farw'r brenin Ahab, dyma frenin Moab yn gwrthryfela yn erbyn brenin newydd Israel. Felly dyma'r Brenin Joram yn mynd allan o Samaria a galw byddin Israel i gyd at ei gilydd. A dyma fe'n anfon neges at Jehosaffat, brenin Jwda, yn dweud, “Mae brenin Moab wedi gwrthryfela yn fy erbyn i. Ddoi di gyda mi i ryfel yn erbyn Moab?” A dyma Jehosaffat yn ateb, “Dw i gyda ti, a bydd fy myddin i gyda dy fyddin di.” Yna dyma fe'n gofyn, “Pa ffordd awn ni?” A dyma Joram yn ateb, “Ar hyd y ffordd drwy anialwch Edom.” Felly dyma frenin Israel, brenin Jwda a brenin Edom yn mynd y ffordd hir rownd. Cymerodd saith diwrnod, a doedd ganddyn nhw ddim dŵr i'r milwyr na'r anifeiliaid oedd gyda nhw. “O, na!” meddai brenin Israel, “Ydy'r ARGLWYDD wedi'n galw ni dri brenin allan er mwyn i frenin Moab ein curo ni?” Yna dyma Jehosaffat yn gofyn, “Oes yna un o broffwydi'r ARGLWYDD yma, i ni holi'r ARGLWYDD trwyddo?” “Oes,” meddai un o weision Joram, “Eliseus fab Shaffat, oedd yn arfer helpu Elias.” A dyma Jehosaffat yn dweud, “Mae e'n un sy'n deall meddwl yr ARGLWYDD.” Felly dyma frenin Israel, Jehosaffat a brenin Edom yn mynd i'w weld. Dyma Eliseus yn dweud wrth frenin Israel, “Gad lonydd i mi. Dos at broffwydi dy dad neu broffwydi dy fam!” Ond dyma frenin Israel yn ateb, “Na, yr ARGLWYDD sydd wedi'n galw ni dri brenin allan er mwyn i frenin Moab ein curo ni!” A dyma Eliseus yn ateb, “Yr ARGLWYDD holl-bwerus dw i'n ei wasanaethu. Mor sicr â'i fod e'n fyw, fyddwn i'n cymryd dim sylw ohonot ti o gwbl oni bai am y parch sydd gen i at y Brenin Jehosaffat. Nawr dewch â rhywun sy'n canu'r delyn ata i.” Wrth i'r telynor ganu dyma Eliseus yn dod dan ddylanwad yr ARGLWYDD. A dyma fe'n dweud, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Gwnewch ffosydd yn y dyffryn yma.’ Ie, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Welwch chi ddim gwynt na glaw, ond bydd y dyffryn yma'n llawn dŵr. Byddwch chi a'ch anifeiliaid yn gallu yfed.’ Mae'n beth mor hawdd i'r ARGLWYDD ei wneud. A byddwch chi'n ennill y frwydr yn erbyn Moab hefyd. Dych chi i ddinistrio'r caerau amddiffynnol a'r trefi pwysig eraill i gyd. Dych chi i dorri'r coed ffrwythau i gyd, llenwi pob ffynnon gyda pridd, a difetha pob darn o dir da gyda cherrig.” Y bore wedyn, tua'r adeg roedden nhw'n arfer cyflwyno aberth i'r ARGLWYDD, dyma ddŵr yn dechrau llifo i lawr o gyfeiriad Edom a llenwi pobman. Roedd pobl Moab wedi clywed fod y brenhinoedd yn ymosod. Felly dyma nhw'n galw pawb oedd ddigon hen i gario arfau at ei gilydd, a mynd i ddisgwyl wrth y ffin. Pan gododd byddin Moab y bore wedyn, roedd yr haul yn tywynnu ar y dŵr. Roedd yn edrych yn goch fel gwaed i bobl Moab. “Mae'n rhaid bod y brenhinoedd wedi ymladd yn erbyn ei gilydd,” medden nhw. “Dewch, bobl Moab, i gasglu'r ysbail!” Ond pan gyrhaeddon nhw wersyll Israel, dyma fyddin Israel yn codi ac ymosod arnyn nhw, nes i Moab orfod ffoi. Aeth byddin Israel ar eu holau a'u taro. Dyma nhw'n dinistrio'r trefi i gyd, ac roedd pob dyn yn taflu carreg ar y tir da nes roedd y caeau'n llawn cerrig. Dyma nhw'n llenwi pob ffynnon gyda phridd, a torri i lawr pob coeden ffrwythau. Yn y diwedd dim ond Cir-chareseth oedd ar ôl. A dyma'r milwyr gyda ffyn tafl yn ei hamgylchynu ac ymosod arni hithau hefyd. Pan oedd brenin Moab yn gweld ei fod yn colli'r frwydr, dyma fe'n mynd â saith gant o filwyr gyda chleddyfau i geisio torri trwy rengoedd brenin Edom; ond methu wnaeth e. Felly dyma fe'n cymryd ei fab hynaf, yr un oedd i fod yn frenin ar ei ôl, a'i losgi yn aberth ar ben y wal. Trodd hi'n ffyrnig yn erbyn Israel, a dyma nhw'n rhoi'r gorau i'r frwydr a mynd yn ôl i'w gwlad eu hunain. Dyma wraig un oedd yn aelod o'r urdd o broffwydi yn dod at Eliseus a pledio am ei help. “Roedd fy ngŵr i yn un o dy ddynion di,” meddai, “ac fel ti'n gwybod, roedd e'n ddyn duwiol. Ond mae e wedi marw, a nawr mae rhywun roedd e mewn dyled iddo wedi dod i gasglu'r ddyled, ac mae am gymryd fy nau fab yn gaethweision.” Dyma Eliseus yn ateb, “Be alla i wneud? Dywed wrtho i, be sydd gen ti yn y tŷ?” “Does gen i ddim byd ond jar bach o olew, syr,” meddai. Yna dyma Eliseus yn dweud wrthi, “Dos i fenthyg llestri gan dy gymdogion. Byddi angen casglu cymaint ag y medri o lestri gweigion. Yna dos i'r tŷ gyda dy feibion, a cau'r drws tu ôl i ti. Tywallt olew i bob un llestr a rhoi'r rhai llawn ar un ochr.” Felly dyma hi'n mynd i wneud hynny, ac yn cau'r drws arni hi a'i dau fab. Wrth i'w meibion ddod â mwy a mwy o lestri iddi, roedd hi'n eu llenwi gyda'r olew. Pan oedd hi wedi llenwi'r llestri i gyd, dyma hi'n dweud wrth ei mab, “Tyrd â potyn arall i mi.” Ond dyma fe'n ateb, “Does dim mwy ar ôl.” A dyma'r olew yn darfod. Pan aeth hi i ddweud wrth y proffwyd beth oedd wedi digwydd, dyma fe'n dweud wrthi, “Dos i werthu'r olew a talu dy ddyledion. Wedyn cei di a dy feibion fyw ar yr arian fydd dros ben.” Un tro roedd Eliseus yn pasio heibio Shwnem. Roedd yna wraig bwysig yn byw yno, ac dyma hi'n mynnu bod Eliseus yn bwyta gyda hi. Felly bob tro roedd Eliseus yn mynd heibio Shwnem roedd e'n arfer galw heibio am bryd o fwyd. Roedd y wraig wedi bod yn siarad gyda'i gŵr, “Gwranda, dw i'n siŵr fod y dyn sy'n galw heibio yma o hyd yn broffwyd arbennig — yn ddyn sanctaidd iawn. Gad i ni wneud llofft fach ar y to, a rhoi gwely a bwrdd a chadair a lamp yno. Wedyn pan fydd e'n galw heibio, bydd ganddo le i aros.” Felly pan alwodd heibio'r tro wedyn, dyma Eliseus yn aros yn y llofft. Dwedodd wrth Gehasi, ei was, am alw'r wraig. A dyma hi'n dod ato. Roedd Eliseus wedi gofyn iddo ddweud wrthi, “Ti wedi mynd i'r holl drafferth yma. Be allwn ni ei wneud i ti? Alla i ddweud gair da ar dy ran di wrth y brenin, neu wrth bennaeth y fyddin?” Ond dyma hi'n ateb, “Na, mae'r teulu o'm cwmpas i, ac mae gen i bopeth dw i angen.” Felly dyma Eliseus yn gofyn i Gehasi, “Be allwn ni wneud drosti?” A dyma Gehasi'n ateb, “Wel, does ganddi hi ddim mab, ac mae ei gŵr hi'n mynd yn hen.” “Dywed wrthi am ddod yma,” meddai Eliseus. Felly dyma Gehasi yn ei galw hi, a dyma hi'n dod a sefyll wrth y drws. A dyma Eliseus yn dweud wrthi, “Yr adeg yma'r flwyddyn nesaf, bydd gen ti fab yn dy freichiau.” A dyma hi'n ymateb, “Na, syr! Rwyt ti'n broffwyd Duw. Paid dweud celwydd wrtho i.” Ond cyn hir roedd hi'n disgwyl babi, a tua'r un adeg y flwyddyn wedyn cafodd mab ei eni iddi, yn union fel roedd Eliseus wedi dweud. Ychydig flynyddoedd wedyn pan oedd y bachgen ddigon hen, roedd wedi mynd allan at ei dad adeg y cynhaeaf. Yn sydyn dyma fe'n gweiddi ar ei dad, “O, fy mhen! Mae fy mhen i'n brifo.” Dyma'r tad yn dweud wrth un o'r gweision, “Dos ag e at ei fam.” Dyma hwnnw'n ei gario yn ôl at ei fam, a bu'n eistedd ar ei glin drwy'r bore. Ond yna ganol dydd dyma fe'n marw. Dyma hi'n ei gario i fyny i lofft y proffwyd, a'i roi i orwedd ar y gwely. Yna dyma hi'n mynd allan a galw ar ei gŵr, “Dw i angen mynd i weld y proffwyd. Gad i mi gael un o'r gweision ac asen i mi fynd i'w weld ar frys ac yna dod yn ôl.” “Pam wyt ti angen mynd i'w weld e heddiw?” meddai'r gŵr. “Dydy hi ddim yn Ŵyl y lleuad newydd nac yn Saboth.” “Paid poeni, mae popeth yn iawn,” meddai. Ar ôl i'r asen gael ei chyfrwyo, dyma hi'n dweud wrth y gwas, “Tyrd, gad i ni fynd yn gyflym. Paid arafu oni bai fy mod i'n dweud wrthot ti.” Ac i ffwrdd â hi i Fynydd Carmel i weld y proffwyd. Gwelodd Eliseus hi'n dod o bell, a dyma fe'n dweud wrth Gehasi ei was, “Edrych, y wraig o Shwnem sydd acw. Brysia, rhed i'w chyfarfod, a gofyn iddi os ydy popeth yn iawn gyda hi a'i gŵr, a'i phlentyn.” “Ydy, mae popeth yn iawn,” oedd ei hateb i Gehasi. Ond pan gyrhaeddodd hi'r proffwyd ar y mynydd dyma hi'n gafael yn ei draed. Dyma Gehasi yn mynd ati gan feddwl ei symud, ond dyma'r proffwyd yn dweud wrtho, “Paid. Gad lonydd iddi. Mae rhywbeth mawr yn ei phoeni. Ond dydy'r ARGLWYDD ddim wedi dweud wrtho i beth ydy e.” Yna dyma hi'n dweud wrtho, “Syr, wnes i ofyn i ti am fab? Wnes i ddim pledio arnat ti i beidio dweud celwydd wrtho i?” Dyma Eliseus yn dweud wrth Gehasi, “Clyma dy wisg am dy ganol, a dos. Cymer fy ffon i. Paid stopio i gyfarch neb ar y ffordd. Dos a cyffwrdd wyneb y bachgen gyda'r ffon.” Ond dyma fam y plentyn yn dweud, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, a tithau'n fyw, dw i ddim am fynd yn ôl hebot ti.” Felly dyma Eliseus yn mynd gyda hi. Roedd Gehasi wedi mynd o'u blaenau nhw, ac wedi rhoi'r ffon ar wyneb y bachgen. Ond doedd yna dim ymateb o gwbl. Felly aeth yn ôl i'w cyfarfod a dweud, “Wnaeth y bachgen ddim deffro.” Pan gyrhaeddodd Eliseus y tŷ, dyna lle roedd y bachgen yn gorwedd yn farw ar ei wely. Dyma fe'n cau'r drws tu ôl iddo a gweddïo ar yr ARGLWYDD. Yna dyma fe'n mynd at y plentyn a gorwedd arno, gan roi ei geg ar geg y plentyn, ei lygaid ar ei lygaid a'i ddwylo ar ei ddwylo. Dyma fe'n ymestyn drosto nes i gorff y plentyn dwymo. Yna dyma Eliseus yn codi ar ei draed a bu'n cerdded yn ôl a blaen yn y tŷ. Wedyn aeth e'n ôl a gorwedd ar gorff y bachgen eto, a dyma'r bachgen yn tisian saith gwaith ac yn agor ei lygaid. Dyma Eliseus yn galw Gehasi a dweud wrtho, “Gofyn i fam y bachgen ddod yma.” Dyma Gehasi'n ei galw, a pan ddaeth hi dyma Eliseus yn dweud wrthi, “Cymer dy fab.” Dyma hi'n syrthio ar ei gliniau wrth ei draed. Yna dyma hi'n codi ei mab a mynd allan. Aeth Eliseus yn ôl i Gilgal, ac roedd yna newyn yn y wlad. Roedd aelodau'r urdd o broffwydi yn ymweld ag Eliseus, a dyma fe'n dweud wrth ei was, “Rho grochan mawr ar y tân i ferwi cawl iddyn nhw.” Dyma un o'r proffwydi yn mynd allan i gasglu llysiau. Daeth ar draws rhyw blanhigyn gwyllt tebyg i winwydden, a chasglu cymaint o'r ffrwyth ag y gallai ei gario yn ei glogyn. Daeth yn ôl a'u torri'n fân ac yna eu taflu i'r crochan cawl, er nad oedd yn gwybod beth oedden nhw. Dyma godi'r cawl a'i rannu i'r dynion. Ond wrth ei flasu dyma nhw'n gweiddi, “Broffwyd Duw, mae'r cawl yma'n wenwynig!” Allen nhw ddim ei fwyta. “Dewch â blawd i mi,” meddai Eliseus. Yna dyma fe'n taflu'r blawd i'r crochan, a dweud, “Iawn, gallwch ei rannu nawr, i'r dynion gael bwyta”. A doedd dim byd drwg yn y crochan. Dyma ddyn o Baal-shalisha yn dod â bara wedi ei wneud o ffrwyth cynta'r cynhaeaf i'r proffwyd — dau ddeg torth haidd a tywysennau o rawn aeddfed. Dyma Eliseus yn dweud, “Rhowch nhw i'r dynion gael bwyta.” Ond dyma'r un oedd yn gweini yn dweud, “Sut alla i fwydo cant o ddynion gyda hyn?” “Rho fe iddyn nhw,” meddai Eliseus, “achos mae'r ARGLWYDD wedi dweud y byddan nhw'n bwyta, a bydd peth dros ben.” Felly dyma fe'n rhoi'r bara iddyn nhw, ac roedd peth dros ben, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud. Roedd yna ddyn pwysig yn Syria o'r enw Naaman, pennaeth y fyddin, ac roedd gan ei feistr, y brenin, barch mawr ato. Trwyddo fe roedd yr ARGLWYDD wedi rhoi llwyddiant milwrol i wlad Syria. Ond yna cafodd y milwr dewr yma ei daro'n wael gan glefyd heintus ar y croen. Un tro pan oedd milwyr Syria yn ymosod ar Israel, roedden nhw wedi cymryd merch ifanc yn gaeth. Roedd hi'n gweithio fel morwyn i wraig Naaman. A dyma hi'n dweud wrth ei meistres, “Dyna biti na fyddai'r meistr yn gallu mynd i weld y proffwyd sydd yn Samaria. Gallai e ei wella.” Aeth Naaman i rannu gyda'i feistr, y brenin, beth roedd yr eneth o wlad Israel wedi ei ddweud. A dyma frenin Syria'n dweud wrtho, “Dos yno. Gwna i ysgrifennu llythyr at frenin Israel.” Felly dyma Naaman yn mynd. Aeth â tri chant pedwar deg cilogram o arian, chwe deg wyth cilogram o aur a deg set o ddillad gydag e. A dyma fe'n mynd â llythyr ei feistr at frenin Israel. Roedd y llythyr yn dweud, “Dw i'n anfon fy ngwas Naaman atat ti er mwyn i ti ei wella o'r afiechyd sydd ar ei groen.” Ar ôl darllen y llythyr dyma frenin Israel yn rhwygo ei ddillad a gweiddi, “Ai Duw ydw i? Oes gen i awdurdod dros fywyd a marwolaeth, neu awdurdod i iacháu y dyn yma mae e wedi ei anfon ata i? Gwyliwch chi, chwilio am esgus i ymosod arnon ni mae e!” Pan glywodd y proffwyd Eliseus fod y brenin wedi rhwygo ei ddillad, dyma fe'n anfon neges ato: “Pam wyt ti wedi rhwygo dy ddillad? Anfon e ata i, iddo gael gwybod bod yna broffwyd yn Israel.” Felly dyma Naaman yn mynd, gyda'i feirch a'i gerbydau, a sefyll y tu allan i dŷ Eliseus. A dyma Eliseus yn anfon neges ato. “Dos i ymolchi saith gwaith yn yr Afon Iorddonen, a bydd dy groen di'n gwella a byddi'n lân eto.” Ond dyma Naaman yn mynd i ffwrdd, wedi gwylltio. “Roeddwn i'n disgwyl iddo ddod allan ata i, a sefyll a gweddïo ar yr ARGLWYDD ei Dduw, symud ei law dros y man lle mae'r afiechyd, a'm gwella i. A beth bynnag, onid ydy afonydd Abana a Parpar yn Damascus, yn well na holl afonydd Israel gyda'i gilydd? Allwn i ddim bod wedi ymolchi yn y rheiny i gael fy iacháu?” Ac i ffwrdd ag e mewn tymer. Ond dyma ei weision yn mynd ato, a dweud, “Syr, petai'r proffwyd wedi gofyn i ti wneud rhywbeth anodd, oni fyddet wedi ei wneud o? Y cwbl mae e'n ei ofyn ydy, ‘Dos i ymolchi, a byddi'n lân.’” Felly dyma fe'n mynd ac ymdrochi saith gwaith yn yr Afon Iorddonen fel roedd y proffwyd wedi dweud. A dyma'i groen yn dod yn lân fel croen plentyn bach. Yna dyma fe, a'i filwyr i gyd, yn mynd yn ôl at y proffwyd. Dyma Naaman yn sefyll o'i flaen a dweud wrtho “Dw i'n gwybod nawr fod yna ddim Duw go iawn yn unman arall ond yn Israel! Plîs, wnei di dderbyn anrheg gen i, dy was?” Ond dyma Eliseus yn ateb, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD (yr un dw i'n ei wasanaethu) yn fyw, wna i gymryd dim gen ti.” Ac er i Namaan bwyso arno roedd yn dal i wrthod. Yn y diwedd dyma Naaman yn gofyn, “Os gwnei di ddim derbyn rhodd, yna plîs wnei di roi llwyth o bridd i mi — digon i ddau ful ei gario. Achos o hyn ymlaen fydda i ddim yn cyflwyno offrwm ac aberth i unrhyw dduw arall, dim ond i'r ARGLWYDD. Ond mae yna un peth bach dw i'n gobeithio y bydd yr ARGLWYDD yn ei faddau i mi: Pan fydd fy meistr, y brenin, yn mynd i deml Rimmon i addoli, bydd yn pwyso ar fy mraich i. Bydd rhaid i mi ymgrymu o flaen Rimmon pan fydd e'n gwneud hynny. Gobeithio bydd yr ARGLWYDD yn maddau i mi am hyn.” A dyma Eliseus yn dweud, “Dos adre'n dawel dy feddwl.” Doedd Naaman ddim wedi mynd yn bell, pan feddyliodd Gehasi, gwas y proffwyd Eliseus: “Mae fy meistr wedi gwneud pethau'n rhy hawdd i Naaman y Syriad drwy wrthod derbyn beth roedd yn ei gynnig iddo. Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, dw i'n mynd ar ei ôl i gael rhywbeth ganddo.” Felly dyma fe'n brysio ar ôl Naaman. Pan welodd Naaman rywun yn rhedeg ar ei ôl, dyma fe'n dod i lawr o'i gerbyd i'w gyfarfod, a gofyn, “Ydy popeth y iawn?” A dyma Gehasi yn dweud, “Ydy, mae popeth yn iawn. Mae fy meistr wedi f'anfon i ddweud fod dau broffwyd ifanc newydd gyrraedd o fryniau Effraim. Plîs wnei di roi tri deg cilogram o arian a dau set o ddillad iddyn nhw?” “Ar bob cyfri,” meddai Naaman, “gad i mi roi dwywaith hynny i ti.” Roedd yn mynnu, a dyma fe'n rhoi chwe deg cilogram o arian mewn dau fag, gyda dau set o ddillad. Yna dyma fe'n eu rhoi nhw i ddau was i'w cario i Gehasi. Wedi iddyn nhw gyrraedd y bryn, dyma Gehasi'n cymryd yr arian a'r dillad ganddyn nhw a'i cuddio nhw yn y tŷ. Yna dyma fe'n anfon y dynion i ffwrdd. Pan aeth Gehasi at ei feistr, dyma Eliseus yn gofyn iddo, “Wyt ti wedi bod i rywle Gehasi?” A dyma fe'n ateb, “Na, dw i ddim wedi bod i unman yn arbennig.” A dyma Eliseus yn dweud wrtho, “Roeddwn i wedi mynd gyda ti yn yr ysbryd pan ddaeth y dyn i lawr o'i gerbyd i dy gyfarfod di. Wnest ti ddim derbyn arian i brynu dillad a gerddi olewydd a gwinllannoedd a defaid a gwartheg a gweision a morynion? Bydd yr afiechyd roedd Naaman yn dioddef ohono arnat ti a dy deulu am byth!” Aeth Gehasi i ffwrdd oddi wrtho, ac roedd y clefyd ar ei groen yn wyn fel yr eira. Un diwrnod dyma aelodau'r urdd o broffwydi yn dweud wrth Eliseus, “Edrych, mae'r lle yma lle dŷn ni'n cyfarfod gyda ti yn rhy fach. Beth am i ni fynd at yr Afon Iorddonen. Gallwn ni i gyd gymryd coed oddi yno, a mynd ati i adeiladu lle newydd i ni gyfarfod.” “Iawn, ewch chi,” meddai Eliseus. Ond dyma un ohonyn nhw'n gofyn iddo, “Plîs wnei di ddod gyda ni?” A dyma fe'n cytuno, a mynd gyda nhw. Pan gyrhaeddon nhw'r Afon Iorddonen dyma nhw'n dechrau torri coed. Roedd un ohonyn nhw wrthi'n torri trawst, a dyma ben ei fwyell yn syrthio i'r dŵr. A dyma fe'n gweiddi, “O, syr! Bwyell wedi ei benthyg oedd hi!” Dyma broffwyd Duw yn gofyn iddo, “Ble syrthiodd hi?” Dangosodd iddo ble, ac yna dyma Eliseus yn torri cangen o bren, a'i thaflu i'r fan, a dyma'r fwyell yn dod i'r wyneb. “Gafael ynddi,” meddai Eliseus. A dyma'r proffwyd ifanc yn estyn ei law a codi'r fwyell o'r dŵr. Pan oedd brenin Syria yn rhyfela yn erbyn Israel, roedd e'n trafod y strategaeth gyda'i swyddogion milwrol. Byddai'n penderfynu codi gwersyll yn rhywle, i ymosod ar Israel. Ond wedyn byddai Eliseus, proffwyd Duw, yn anfon neges at frenin Israel i ddweud wrtho am fod yn ofalus wrth fynd heibio'r lle arbennig hwnnw, am fod byddin Syria'n dod yno i ymosod. Wedyn byddai brenin Israel yn anfon milwyr yno i amddiffyn y lle. Roedd hyn yn digwydd dro ar ôl tro. Roedd brenin Syria wedi cynhyrfu o achos hyn. A dyma fe'n galw ei swyddogion at ei gilydd, a dweud, “Dwedwch wrtho i, pa un ohonoch chi sy'n helpu brenin Israel?” Dyma un ohonyn nhw'n ateb, “Fy mrenin. Does neb ohonon ni'n gwneud hynny, syr. Eliseus y proffwyd yn Israel ydy e! Mae hyd yn oed yn rhannu gyda brenin Israel beth ti'n ddweud yn dy ystafell wely!” Felly dyma'r brenin yn dweud, “Ffeindiwch e i mi, er mwyn i mi anfon dynion yno i'w ddal e!” Dyma nhw'n darganfod fod Eliseus yn Dothan, a mynd i ddweud wrth y brenin. Felly dyma'r brenin yn anfon byddin gref yno, gyda cheffylau a cherbydau. A dyma nhw'n cyrraedd yno yn y nos ac yn amgylchynu'r dre. Yn gynnar y bore wedyn dyma was Eliseus yn codi a mynd allan. A dyna lle roedd byddin Syria gyda cheffylau a cherbydau wedi amgylchynu'r dre. A dyma'r bachgen yn dweud wrth Eliseus, “O na! Feistr, be wnawn ni?” Ond dyma Eliseus yn ateb, “Paid dychryn. Mae yna fwy ar ein hochr ni nac sydd gyda nhw.” Yna dyma Eliseus yn gweddïo, “ARGLWYDD, agor ei lygaid iddo weld.” A dyma'r ARGLWYDD yn agor llygaid y bachgen, ac roedd e'n gweld fod y bryn yn llawn ceffylau a cherbydau fel fflamau tân o gwmpas Eliseus. Wrth i fyddin Syria ddod yn nes, dyma Eliseus yn gweddïo, “ARGLWYDD, wnei di daro'r bobl yma'n ddall.” A dyma nhw'n cael eu dallu, fel roedd Eliseus wedi gofyn. Yna dyma Eliseus yn mynd atyn nhw a dweud, “Dim y ffordd yma, na'r dre yma dych chi eisiau. Dewch ar fy ôl i. Gwna i fynd â chi at y dyn dych chi'n chwilio amdano.” A dyma fe'n eu harwain nhw i Samaria. Ar ôl iddyn nhw gyrraedd, dyma Eliseus yn gweddïo eto, “ARGLWYDD, agor eu llygaid nhw iddyn nhw allu gweld.” Dyma'r ARGLWYDD yn agor eu llygaid, ac roedden nhw'n gweld eu bod yng nghanol tref Samaria. Pan welodd brenin Israel nhw dyma fe'n gofyn i Eliseus, “Fy nhad, ddylwn i eu lladd nhw'n syth?” “Na, paid lladd nhw,” meddai Eliseus. “Fyddet ti'n lladd pobl wedi eu dal mewn brwydr? Na. Rho rywbeth i'w fwyta a'i yfed iddyn nhw, ac wedyn gadael iddyn nhw fynd yn ôl at eu meistr.” Felly dyma'r brenin yn trefnu gwledd fawr iddyn nhw, a dyma nhw'n bwyta ac yn yfed. Wedyn dyma nhw'n mynd yn ôl at eu meistr. O hynny ymlaen dyma fyddin Syria yn stopio ymosod ar wlad Israel. Flynyddoedd wedyn dyma Ben-hadad, brenin Syria, yn casglu ei fyddin at ei gilydd a mynd i godi gwarchae ar Samaria. O ganlyniad doedd dim bwyd yn Samaria. Roedd y sefyllfa mor ddrwg nes bod pen asyn yn costio wyth deg o ddarnau arian, a powlen fach o dail colomennod yn costio pum darn arian. Pan oedd brenin Israel yn cerdded ar waliau'r dref, dyma rhyw wraig yn gweiddi arno, “O frenin, syr, helpa fi!” Ond dyma fe'n ateb, “Na, rhaid i'r ARGLWYDD dy helpu di. Sut alla i dy helpu di? Mae'r llawr dyrnu a'r cafn gwin yn wag!” Wedyn dyma'r brenin yn gofyn iddi “Beth sy'n bod?” A dyma hi'n ateb, “Roedd y wraig yma wedi dweud wrtho i, ‘Rho dy fab di i ni ei fwyta heddiw, a gwnawn ni fwyta fy mab i yfory.’ Felly dyma ni'n berwi fy mab i, a'i fwyta. Yna'r diwrnod wedyn dyma fi'n dweud wrthi, ‘Tyrd â dy fab di i ni gael ei fwyta fe nawr.’ Ond roedd hi wedi cuddio ei mab.” Pan glywodd y brenin hyn dyma fe'n rhwygo ei ddillad. Gan ei fod yn cerdded ar y waliau, roedd pawb yn gallu gweld ei fod e'n gwisgo sachliain oddi tanodd. A dyma'r brenin yn dweud, “Boed i Dduw ddial arna i os bydd pen Eliseus yn dal ar ei ysgwyddau erbyn diwedd y dydd!” Roedd Eliseus yn digwydd bod yn ei dŷ, ag arweinwyr Samaria o'i gwmpas. Roedd y brenin wedi anfon un o'i ddynion i'w arestio. Ond cyn iddo gyrraedd roedd Eliseus wedi dweud wrth yr arweinwyr o'i gwmpas, “Ydych chi'n gwybod beth? Mae'r cyw llofrudd yna wedi anfon dyn i dorri fy mhen i i ffwrdd. Pan fydd e'n cyrraedd, cauwch y drws a'i rwystro rhag dod i mewn. Dw i'n siŵr y bydd y brenin ei hun ddim yn bell tu ôl iddo!” Doedd Eliseus ddim wedi gorffen siarad pan gyrhaeddodd y negesydd. A dyma fe'n dweud, “Yr ARGLWYDD sydd wedi achosi'r drwg yma. Pam ddylwn i ddisgwyl help ganddo?” A dyma Eliseus yn ateb, “Gwranda ar neges yr ARGLWYDD. ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: Yr adeg yma fory, yn y farchnad wrth giât Samaria, bydd un darn arian yn ddigon i brynu sachaid o flawd mân, neu ddwy lond sach o haidd!’” Dyma swyddog agosa'r brenin, ei brif gynorthwywr, yn ateb proffwyd Duw. “Hyd yn oed petai'r ARGLWYDD yn agor llifddorau'r awyr iddi lawio ar y ddaear, allai hynny byth digwydd!” Ond dyma Eliseus ateb, “Cei weld y peth â dy lygaid dy hun, ond gei di ddim bwyta dim ohono.” Tu allan i giât y ddinas roedd pedwar dyn oedd yn dioddef o glefyd heintus ar y croen. Dyma nhw'n dweud wrth ei gilydd, “Pam ydyn ni'n aros yn y fan yma i farw? Os awn ni i mewn i'r ddinas, byddwn ni'n marw, achos does yna ddim bwyd yno. Os arhoswn ni yma, dŷn ni'n mynd i farw hefyd. Felly dewch i ni fynd drosodd at fyddin Syria. Falle y gwnân nhw'n lladd ni, ond mae yna bosibilrwydd yn gwnân nhw adael i ni fyw.” Felly'r noson honno, dyma nhw'n mynd i wersyll byddin Syria. Ond wrth iddyn nhw gyrraedd cyrion y gwersyll dyma nhw'n sylweddoli fod yna neb yno. Roedd yr ARGLWYDD wedi gwneud i fyddin Syria feddwl eu bod yn clywed sŵn byddin enfawr yn dod gyda ceffylau a cherbydau. Roedden nhw'n meddwl fod brenin Israel wedi talu i frenhinoedd yr Hethiaid a'r Aifft i ymosod arnyn nhw. Felly roedden nhw wedi dianc gyda'r nos. Roedden nhw wedi gadael eu pebyll, a'u ceffylau a'u hasynnod, a'r gwersyll fel roedd e, a ffoi am eu bywydau. Pan ddaeth y dynion oedd yn dioddef o'r gwahanglwyf i gyrion y gwersyll dyma nhw'n mynd i mewn i un o'r pebyll a buon nhw'n bwyta ac yfed ynddi. Yna dyma nhw'n cymryd arian, aur a dillad ohoni, a mynd i guddio'r cwbl. Wedyn dyma nhw'n mynd i babell arall, a dwyn o honno hefyd. Ond yna dyma nhw'n dweud wrth ei gilydd, “Dydy hyn ddim yn iawn! Mae hi'n ddiwrnod i ddathlu, a dŷn ni wedi dweud dim wrth neb. Allwn ni ddim aros tan y bore; fyddai hynny ddim yn iawn. Dewch, rhaid i ni fynd i ddweud wrthyn nhw yn y palas.” Felly dyma nhw'n mynd yn ôl i Samaria a galw ar y wylwyr y giatiau, “Dŷn ni wedi bod i wersyll byddin Syria, a doedd yna neb yno o gwbl. Glywon ni'r un siw na miw. Ond roedd y ceffylau a'r asynnod yno wedi eu clymu, a'r pebyll yn dal i sefyll.” A dyma'r gwylwyr yn pasio'r neges ymlaen i balas y brenin. Cododd y brenin o'i wely a dweud wrth ei swyddogion, “Ddweda i wrthoch chi beth mae Syria'n ei wneud. Maen nhw'n gwybod fod newyn yma, ac maen nhw wedi gadael y gwersyll a mynd i guddio i gefn gwlad. Maen nhw'n disgwyl i ni fynd allan i chwilio am fwyd, a wedyn byddan nhw'n ein dal ni, ac yn dod i mewn i'r ddinas.” Ond dyma un o'r swyddogion yn awgrymu, “Gad i ni ddewis pump o'r ceffylau sydd ar ôl, ac anfon dynion allan i weld beth sy'n digwydd. Os cân nhw eu lladd, fydd hynny ddim gwaeth na beth sy'n mynd i ddigwydd i bobl Israel i gyd os arhoswn ni yma — mae hi wedi darfod arnon ni i gyd.” Felly dyma nhw'n cymryd dau gerbyd rhyfel, a dyma'r brenin anfon dynion ar ôl byddin Syria i weld beth oedd yn digwydd. Aethon nhw ar eu holau cyn belled â'r Afon Iorddonen. (Roedd dillad a taclau o bob math ar lawr ym mhobman ar y ffordd, wedi eu taflu i ffwrdd gan y Syriaid yn eu brys.) A dyma'r sgowtiaid yn mynd yn ôl i ddweud wrth y brenin. Wedyn aeth pobl Samaria allan i wersyll byddin Syria a helpu eu hunain i beth bynnag roedden nhw'n dod o hyd iddo. A daeth hi'n wir fod un darn arian yn ddigon i brynu sachaid o flawd mân neu ddwy lond sach o haidd, yn union fel roedd ARGLWYDD wedi dweud. Roedd y brenin wedi anfon ei brif gynorthwywr i reoli pethau wrth giât y ddinas. Ond wrth i'r dyrfa ruthro allan, cafodd ei sathru dan draed a bu farw. Roedd hyn hefyd wedi digwydd yn union fel roedd Eliseus, proffwyd yr ARGLWYDD, wedi dweud pan oedd y brenin wedi ceisio ei arestio. Neges y proffwyd i'r brenin oedd, “Bydd un darn arian yn ddigon i brynu dwy lond sach o haidd neu sachaid o flawd mân! Bydd hyn yn digwydd yr adeg yma fory, yn y farchnad wrth giât Samaria.” Ond roedd swyddog agosa'r brenin, ei brif gynorthwywr, wedi ateb proffwyd Duw, “Hyd yn oed petai'r ARGLWYDD yn agor llifddorau'r awyr iddi lawio ar y ddaear, allai hynny byth digwydd!” Ac roedd Eliseus wedi ateb, “Cei weld y peth â dy lygaid dy hun, ond gei di ddim bwyta dim ohono.” A dyna'n union oedd wedi digwydd. Roedd e wedi cael ei sathru dan draed a marw wrth giât y ddinas. Roedd Eliseus wedi dweud wrth y wraig y daeth e a'i mab hi yn ôl yn fyw, “Dylet ti a dy deulu symud i fyw i rywle arall dros dro. Mae'r ARGLWYDD wedi dweud fod newyn yn mynd i daro Israel am saith mlynedd.” Ac roedd hi wedi gwneud fel roedd y proffwyd yn dweud. Roedd hi a'i theulu wedi mynd i fyw i wlad y Philistiaid. Yna, ar ddiwedd y saith mlynedd, dyma hi a'i theulu'n dod yn ôl. A dyma hi'n mynd at y brenin i apelio am gael ei thŷ a'i thir yn ôl. Yn digwydd bod, roedd y brenin wrthi'n siarad â Gehasi, gwas Eliseus. Roedd e wedi gofyn i Gehasi ddweud wrtho am yr holl bethau rhyfeddol roedd Eliseus wedi eu gwneud. A tra roedd Gehasi yn adrodd hanes Eliseus yn dod â'r bachgen marw yn ôl yn fyw, dyma'r wraig (sef mam y bachgen) yn cyrraedd i ofyn am ei thŷ a'i thir. A dyma Gehasi'n dweud, “Syr, fy mrenin, hon ydy'r union wraig roeddwn i'n sôn amdani; ei mab hi wnaeth Eliseus ei godi yn ôl yn fyw!” Dyma'r brenin yn ei holi hi, a dyma hi'n dweud yr hanes i gyd wrtho. Yna dyma fe'n penodi swyddog i ofalu amdani, a dweud wrtho, “Rho ei heiddo i gyd yn ôl iddi; a hefyd gynnyrch y tir am y cyfnod y buodd hi i ffwrdd.” Dyma Eliseus yn mynd i Damascus, prifddinas Syria. Roedd Ben-hadad, brenin Syria yn sâl. Pan ddwedon nhw wrth y brenin fod proffwyd Duw wedi cyrraedd, dyma'r brenin yn dweud wrth Hasael, ei swyddog, “Dos i weld y proffwyd, a dos â rhodd gyda ti. Gofyn iddo holi'r ARGLWYDD os bydda i yn gwella o'r salwch yma.” Felly, dyma Hasael yn mynd i weld y proffwyd, gyda rhodd iddo — pethau gorau Damascus wedi eu llwytho ar bedwar deg o gamelod. Dyma fe'n sefyll o'i flaen a dweud, “Mae dy was, Ben-hadad, brenin Syria, eisiau gwybod fydd e'n gwella o'r salwch yma?” Dyma Eliseus yn ateb, “Dos a dywed wrtho, ‘Rwyt ti'n bendant yn mynd i wella.’ Ond mae'r ARGLWYDD wedi dangos i mi y bydd e'n marw.” Roedd Eliseus yn syllu ar Hasael, nes iddo ddechrau teimlo'n anghyfforddus. Yna dyma'r proffwyd yn dechrau crïo. Dyma Hasael yn gofyn iddo, “Pam wyt ti'n crïo, syr?” A dyma Eliseus yn ateb, “Am mod i'n gwybod y niwed wyt ti'n mynd i'w wneud i bobl Israel. Ti'n mynd i losgi'n trefi ni a lladd ein dynion ifanc yn y rhyfel. Byddi'n curo'n plant bach i farwolaeth, ac yn rhwygo'r gwragedd beichiog yn agored.” A dyma Hasael yn gofyn, “Sut allwn i wneud pethau mor ofnadwy? Dw i ddim gwell na ci bach.” Atebodd Eliseus, “Mae'r ARGLWYDD wedi dangos i mi y byddi di'n frenin ar Syria.” A dyma fe'n gadael Eliseus a mynd yn ôl at ei feistr. Pan ofynnodd hwnnw iddo, “Beth ddwedodd Eliseus wrthot ti?” Dyma fe'n ateb, “Dwedodd dy fod ti'n bendant yn mynd i wella.” Ond y diwrnod wedyn, dyma Hasael yn cymryd blanced a'i gwlychu, ac yna ei rhoi dros wyneb Ben-hadad a'i fygu. Felly bu farw Ben-hadad, a dyma Hasael yn dod yn frenin yn ei le. Roedd Joram, mab Ahab, wedi bod yn frenin ar Israel ers pum mlynedd pan gafodd Jehoram, mab Jehosaffat, ei wneud yn frenin ar Jwda. Roedd yn dri deg dau pan ddaeth yn frenin, a bu'n teyrnasu yn Jerwsalem am wyth mlynedd. Ond roedd yn ymddwyn yr un fath â brenhinoedd Israel ac Ahab a'i deulu. Roedd wedi priodi merch Ahab, ac yn gwneud pethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD. Ond doedd yr ARGLWYDD ddim am ddinistrio Jwda o achos ei was Dafydd. Roedd wedi addo iddo byddai ei linach yn teyrnasu am byth. Yn ei gyfnod e dyma Edom yn gwrthryfela yn erbyn Jwda, a dewis eu brenin eu hunain. Felly dyma Jehoram yn croesi i Sair gyda'i gerbydau rhyfel. Roedd byddin Edom wedi ei amgylchynu. Dyma fe'n ymosod arnyn nhw ganol nos, ond colli'r frwydr wnaeth e, a dyma'i fyddin yn ffoi adre. Mae Edom yn dal i wrthryfela yn erbyn Jwda hyd heddiw. Ac roedd tref Libna hefyd wedi gwrthryfela yr un pryd. Mae gweddill hanes Jehoram, a cofnod o'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda. Pan fuodd Jehoram farw cafodd ei gladdu gyda'i hynafiaid yn Ninas Dafydd, a dyma'i fab, Ahaseia, yn dod yn frenin yn ei le. Roedd Joram, mab Ahab, wedi bod yn frenin ar Israel am un deg dwy o flynyddoedd pan gafodd Ahaseia, mab Jehoram, ei wneud yn frenin ar Jwda. Roedd Ahaseia yn ddau ddeg dau pan ddaeth yn frenin ar Jwda, a bu'n frenin am flwyddyn. Ei fam oedd Athaleia, wyres Omri, brenin Israel. Roedd yn ymddwyn fel Ahab a'i deulu. Roedd yn perthyn iddo trwy briodas, ac yn gwneud pethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD. Ymunodd gyda Joram, mab Ahab, i ryfela yn erbyn Hasael, brenin Syria, yn Ramoth-gilead. Cafodd Joram ei anafu yn y frwydr, ac aeth yn ôl i Jesreel i geisio gwella o'i glwyfau. Aeth Ahaseia, brenin Jwda, yno i ymweld ag e, achos roedd e'n wael iawn. Dyma Eliseus, y proffwyd, yn galw un o aelodau'r urdd o broffwydi, a dweud wrtho, “Clyma dy wisg am dy ganol, cymer y botel yma o olew olewydd, a dos i Ramoth-gilead. Wedi i ti gyrraedd yno, edrych am Jehw (mab Jehosaffat ac ŵyr i Nimshi). Dos ag e o ganol ei ffrindiau, i ystafell ar wahân. Yna cymer y botel a tywallt yr olew ar ei ben a dweud, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: Dw i'n dy eneinio di yn frenin ar Israel.’ Wedyn agor y drws a rheda i ffwrdd heb oedi.” Dyma'r proffwyd ifanc yn mynd i Ramoth-gilead. Pan gyrhaeddodd e, dyna lle roedd swyddogion y fyddin yn cyfarfod â'i gilydd. “Capten, mae gen i neges i ti,” meddai. A dyma Jehw yn gofyn, “I ba un ohonon ni?” “I ti, syr,” meddai'r proffwyd. Felly dyma Jehw yn codi a mynd i mewn i'r tŷ. Yna dyma'r proffwyd yn tywallt yr olew ar ei ben a dweud, “Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: Dw i'n dy eneinio di yn frenin ar Israel, pobl yr ARGLWYDD. Rwyt i ddinistrio teulu Ahab. Dyna sut bydda i'n dial ar Jesebel am ladd fy ngweision y proffwydi, a pawb arall oedd yn gwasanaethu'r ARGLWYDD. Dw i'n mynd i roi diwedd ar linach Ahab. Bydda i'n cael gwared â phob dyn a bachgen yn Israel, sy'n perthyn i Ahab, y caeth a'r rhydd. “‘Bydda i'n gwneud yr un peth i linach Ahab ag a wnes i i Jeroboam fab Nebat a Baasha fab Achïa. Bydd cŵn yn bwyta corff Jesebel yn ardal Jesreel. Fydd hi ddim yn cael ei chladdu.’” Yna dyma'r proffwyd yn agor y drws a rhedeg i ffwrdd. Pan aeth Jehw allan at swyddogion eraill ei feistr, dyma nhw'n gofyn iddo, “Ydy popeth yn iawn? Pam wnaeth yr idiot yna ddod i dy weld di?” A dyma fe'n ateb, “O, dych chi'n gwybod am y math yna o foi a'i rwdlan.” “Ti a dy gelwyddau!” medden nhw, “Dywed wrthon ni beth ddwedodd e.” Felly dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Dyma beth ddwedodd e, ‘Mae'r ARGLWYDD yn dweud: “Dw i'n dy eneinio di yn frenin ar Israel.”’” Heb oedi dim, dyma pob un ohonyn nhw yn gafael yn ei glogyn a'i roi dan draed Jehw ar ben y grisiau. Wedyn dyma'r corn hwrdd yn cael ei ganu, a pawb yn gweiddi, “Jehw ydy'r brenin!” Felly dyma Jehw yn cynllwyn yn erbyn Joram. (Roedd Joram wedi bod gyda byddin Israel yn Ramoth-gilead, yn amddiffyn y wlad rhag Hasael, brenin Syria. Ond roedd e wedi cael ei anafu, ac wedi mynd yn ôl i Jesreel i wella o'i glwyfau.) A dyma Jehw yn dweud wrth ei ddilynwyr, “Os ydych chi wir ar fy ochr i, peidiwch gadael i neb ddianc o'r ddinas i'w rhybuddio nhw yn Jesreel.” Yna dyma Jehw yn mynd yn ei gerbyd i Jesreel, lle roedd Joram yn gorwedd yn wael. (Dyna hefyd pryd roedd Ahaseia, brenin Jwda, wedi mynd i ymweld â Joram.) Roedd gwyliwr ar ddyletswydd ar dŵr tref Jesreel. A dyma fe'n gweld Jehw a'i filwyr yn dod. Dyma fe'n gweiddi, “Dw i'n gweld milwyr yn dod!” Dyma Joram yn gorchymyn, “Anfonwch farchog allan i'w cyfarfod i ofyn ydyn nhw'n dod yn heddychlon.” Felly dyma'r marchog yn mynd i'w cyfarfod, a gofyn, “Mae'r brenin yn gofyn, ‘Ydych chi'n dod yn heddychlon?’” Dyma Jehw yn ateb, “Dim o dy fusnes di! Dilyn di fi.” A dyma'r gwyliwr yn Jesreel yn dweud, “Aeth y marchog atyn nhw, ond dydy e ddim yn dod yn ôl.” Felly dyma Joram yn anfon ail farchog. Aeth hwnnw atyn nhw a gofyn, “Mae'r brenin yn gofyn, ‘Ydych chi'n dod yn heddychlon?’” A dyma Jehw yn ateb eto, “Dim o dy fusnes di! Dilyn di fi.” A dyma'r gwyliwr yn Jesreel yn dweud eto, “Aeth y marchog atyn nhw, ond dydy e ddim yn dod yn ôl. Mae pwy bynnag sy'n y cerbyd ar y blaen yn gyrru'n hurt; mae'n gyrru fel Jehw fab Nimshi!” Yna dyma Joram yn dweud, “Gwnewch y cerbyd yn barod i mi.” Pan oedden nhw wedi gwneud hynny, dyma Joram, brenin Israel, ac Ahaseia, brenin Jwda, yn mynd allan yn eu cerbydau eu hunain i gyfarfod Jehw. Dyma nhw'n cwrdd ar y darn o dir oedd yn arfer perthyn i Naboth o Jesreel. A dyma Joram yn gofyn i Jehw, “Ydy popeth yn iawn, Jehw?” Ond dyma Jehw yn ateb, “Fydd pethau byth yn iawn tra mae dy fam di, Jesebel, yn gwthio pobl i addoli eilunod a dewino!” Yna dyma Joram yn troi ei gerbyd i geisio dianc, ac yn gweiddi ar Ahaseia, “Mae'n frad, Ahaseia!” Ond dyma Jehw yn anelu ei fwa a saethu Joram rhwng ei ysgwyddau. Aeth y saeth drwy ei galon, a syrthiodd yn farw yn ei gerbyd. Wedyn dyma Jehw yn dweud wrth Bidcar, ei is-gapten, “Cymer y corff a'i daflu ar y darn tir oedd yn arfer perthyn i Naboth o Jesreel. Wyt ti'n cofio? Pan oedd y ddau ohonon ni'n gwasanaethu Ahab ei dad, roedd yr ARGLWYDD wedi cyhoeddi hyn yn ei erbyn: ‘Yn wir dw i wedi gweld gwaed Naboth a'i feibion, ddoe,’ meddai'r ARGLWYDD. ‘A bydda i'n talu'n ôl i ti ar yr union ddarn yma o dir.’ Felly cymer y corff a'i daflu ar y darn tir yna fel dwedodd yr ARGLWYDD.” Pan welodd Ahaseia, brenin Jwda, beth ddigwyddodd, dyma fe'n ffoi i gyfeiriad Beth-haggan. A dyma Jehw yn mynd ar ei ôl a gorchymyn i'w filwyr, “Saethwch e hefyd!” A dyma nhw'n ei saethu yn ei gerbyd ar yr allt sy'n mynd i fyny i Gwr, wrth ymyl Ibleam. Ond llwyddodd i ddianc i Megido, a dyna lle buodd e farw. Aeth ei weision a'r corff yn ôl i Jerwsalem, a'i gladdu yn ei fedd gyda'i hynafiaid yn Ninas Dafydd. Roedd Joram wedi bod yn frenin Israel am un deg un o flynyddoedd pan gafodd Ahaseia ei wneud yn frenin ar Jwda. Dyma Jehw yn mynd i Jesreel. Pan glywodd Jesebel ei fod yn dod dyma hi'n rhoi colur ar ei llygaid, gwneud ei gwallt a pwyso allan o'r ffenest. Pan gyrhaeddodd Jehw wrth giât y dref, dyma hi'n galw arno, “Wyt ti'n dod yn heddychlon? Ti ddim gwell na Simri, wnaeth lofruddio ei feistr!” Dyma Jehw yn edrych i fyny a gofyn, “Pwy sydd ar fy ochr i? Rhywun?” A dyma ddau neu dri o swyddogion y palas yn edrych i lawr arno. “Taflwch hi allan o'r ffenest,” meddai Jehw. A dyma nhw'n ei thaflu hi i lawr. Pan darodd hi'r llawr dyma'i gwaed yn sblasio ar y wal ac ar y ceffylau, a dyma Jehw yn gyrru ei gerbyd drosti. Aeth i mewn a cael pryd o fwyd. Yna dyma Jehw yn dweud, “Ewch i gladdu corff y ddynes ddiawledig yna. Roedd hi yn ferch i frenin, wedi'r cwbl.” Ond pan aethon nhw i'w chladdu hi, doedd dim byd ar ôl ond ei phenglog, ei thraed a'i dwylo. Dyma nhw'n mynd i ddweud wrth Jehw, a dyma fe'n ateb, “Dyna'n union beth ddwedodd yr ARGLWYDD fyddai'n digwydd. Y proffwyd Elias o Tishbe ddwedodd, ‘Bydd cŵn yn bwyta corff Jesebel yn ardal Jesreel. A bydd darnau o'i chorff fel tail ar wyneb y tir yn Jesreel. Fydd neb yn gallu ei nabod.’” Roedd gan Ahab saith deg o feibion yn Samaria. Felly dyma Jehw yn anfon llythyrau at swyddogion ac arweinwyr Jesreel, ac at y rhai oedd yn gofalu am feibion Ahab. Dyma oedd y llythyr yn ei ddweud: “Mae meibion eich meistr i gyd gyda chi, ac mae gynnoch chi gerbydau a cheffylau, dinas gaerog ac arfau. Felly, pan dderbyniwch chi'r llythyr yma, dewiswch chi y gorau a'r mwyaf abl o feibion eich meistr a'i wneud yn frenin yn lle ei dad. Ond yna byddwch barod i amddiffyn llinach eich meistr.” Roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau. “Mae dau frenin wedi methu ei stopio fe. Pa obaith sydd gynnon ni?” medden nhw. Felly dyma bennaeth y palas, pennaeth y ddinas, yr arweinwyr a'r rhai oedd â gofal am deulu Ahab, yn anfon y neges yma at Jehw: “Dŷn ni am fod yn weision i ti! Dŷn ni'n fodlon gwneud beth bynnag rwyt ti eisiau. Dŷn ni'n bwriadu gwneud neb arall yn frenin. Gwna di beth ti'n feddwl sy'n iawn.” Felly dyma Jehw yn anfon llythyr arall atyn nhw: “Os ydych chi wir ar fy ochr i, ac am fod yn ufudd i mi, yna torrwch bennau meibion Ahab i gyd, a dewch â nhw ata i i Jesreel erbyn yr adeg yma fory.” Pobl bwysig yn ninas Samaria oedd wedi bod yn magu y saith deg o feibion oedd gan y brenin Ahab. Ond ar ôl derbyn llythyr Jehw, dyma nhw'n eu dal nhw a lladd y cwbl. Dyma nhw'n rhoi eu pennau mewn basgedi a'u hanfon i Jesreel. Pan ddaeth y neges fod y pennau wedi cyrraedd, dyma Jehw yn dweud, “Rhowch nhw mewn dau bentwr wrth giât y ddinas, a'i gadael nhw yno tan y bore.” Yna'r bore wedyn dyma Jehw yn mynd allan yno, a dweud wrth y bobl, “Dych chi ddim ar fai. Fi ydy'r un wnaeth gynllwyn yn erbyn y brenin Joram, fy meistr, a'i ladd. Ond pwy laddodd y rhain? Mae'n hollol amlwg fod popeth ddwedodd yr ARGLWYDD yn erbyn teulu Ahab wedi dod yn wir. Fe sydd wedi gwneud yn union fel roedd wedi ei addo trwy ei was Elias.” Yna dyma Jehw yn mynd ati i ladd pawb oedd ar ôl o deulu Ahab yn Jesreel, y rhai oedd wedi bod mewn swyddi amlwg yn ei lys, ei ffrindiau a'r offeiriaid oedd gydag e. Gafodd neb ei adael yn fyw. Dyma Jehw yn cychwyn am Samaria. Ar y ffordd yno, wrth Beth-eced y Bugeiliaid, dyma fe'n dod ar draws rhai o berthnasau Ahaseia, brenin Jwda. “Pwy ydych chi?” gofynnodd iddyn nhw. A dyma nhw'n ateb, “Perthnasau i Ahaseia. Dŷn ni ar ein ffordd i ymweld â plant y brenin a phlant y fam-frenhines.” Yna dyma Jehw'n gorchymyn i'w filwyr, “Daliwch nhw'n fyw!” A dyma nhw'n eu dal nhw. Yna dyma nhw'n mynd â nhw at bydew Beth-eced a'i lladd nhw i gyd yno, pedwar deg dau ohonyn nhw. Wrth adael y fan honno dyma Jehw yn dod ar draws Jonadab fab Rechab oedd wedi bod yn chwilio amdano. Dyma Jehw'n ei gyfarch a gofyn iddo, “Wyt ti'n fy nghefnogi i fel dw i ti?” “Ydw,” meddai Jonadab. “Felly rho dy law i mi,” meddai Jehw. Dyma fe'n estyn ei law, a dyma Jehw yn ei godi ato i'w gerbyd. A dyma Jehw yn dweud wrtho, “Tyrd gyda mi, i ti gael gweld gymaint dw i ar dân dros yr ARGLWYDD.” A dyma Jonadab yn mynd gydag e yn ei gerbyd i Samaria. Ar ôl cyrraedd yno, dyma Jehw yn lladd pawb oedd ar ôl o deulu Ahab, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Elias. Casglodd Jehw y bobl i gyd at ei gilydd, a dweud, wrthyn nhw, “Roedd Ahab yn addoli Baal rhyw ychydig, ond dw i, Jehw, yn mynd i'w addoli o ddifrif. Dw i am gynnal aberth mawr i Baal. Felly galwch broffwydi Baal i gyd at ei gilydd, a'i addolwyr, a'i offeiriaid. Peidiwch a gadael neb allan. Bydd unrhyw un sy'n absennol yn cael ei ladd.” (Ond tric cyfrwys oedd y cwbl. Roedd Jehw yn bwriadu lladd addolwyr Baal.) Yna dyma Jehw yn gorchymyn, “Trefnwch ddathliad sbesial i addoli Baal!” A dyma nhw'n gwneud hynny. Dyma Jehw yn anfon neges i bob rhan o wlad Israel. A dyma bawb oedd yn addoli Baal yn dod at ei gilydd — doedd neb yn absennol. Roedd teml Baal yn llawn i'r ymylon! Yna dyma Jehw yn dweud wrth yr un oedd yn gofalu am y gwisgoedd, “Tyrd â gwisg i bob un o'r addolwyr.” A dyma fe'n gwneud hynny. Yna dyma Jehw a Jonadab fab Rechab yn mynd i deml Baal. A dyma Jehw yn dweud wrth addolwyr Baal, “Gwnewch yn siŵr fod yna neb yma sy'n addoli'r ARGLWYDD. Dim ond addolwyr Baal sydd i fod yma.” Yna dyma nhw'n dechrau aberthu a chyflwyno offrymau i'w llosgi i Baal. Roedd Jehw wedi gosod wyth deg o ddynion tu allan i'r deml. Ac roedd wedi dweud wrthyn nhw, “Os bydd rhywun yn gadael i un o'r bobl yma ddianc, bydd yn talu gyda'i fywyd!” Ar ôl gorffen cyflwyno'r offrwm i'w losgi, dyma Jehw yn rhoi gorchymyn i'r gwarchodlu a'i swyddogion, “Ewch i mewn a lladdwch nhw. Peidiwch gadael i neb ddianc.” A dyma nhw'n eu lladd nhw i gyd a gadael y cyrff yn gorwedd yno. Yna dyma'r gwarchodlu a'r swyddogion yn rhuthro i mewn i gysegr mewnol teml Baal, a chymryd y golofn gysegredig allan a'i llosgi. Dyma nhw'n dinistrio'r golofn a teml Baal hefyd. Mae'r safle'n cael ei ddefnyddio fel toiledau cyhoeddus hyd heddiw. Felly roedd Jehw wedi cael gwared ag addoli Baal o wlad Israel. Ond wnaeth e ddim stopio pobl addoli'r eilunod roedd Jeroboam fab Nebat wedi eu codi i achosi i bobl Israel bechu. Roedd y ddau darw ifanc aur yn dal yn Bethel ac yn Dan. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Jehw, “Ti wedi gwneud yn dda iawn a'm plesio i, a gwneud beth roeddwn i eisiau ei weld yn digwydd i linach Ahab. Felly, bydd dy ddisgynyddion di yn teyrnasu ar wlad Israel am bedair cenhedlaeth ar dy ôl.” Ac eto doedd Jehw ddim yn gwbl ufudd i ddeddfau'r ARGLWYDD, Duw Israel. Wnaeth e ddim troi cefn ar yr eilunod roedd Jeroboam wedi eu codi i wneud i Israel bechu. Yr adeg yna dyma'r ARGLWYDD yn dechrau cymryd tir oddi ar Israel. Roedd Hasael yn ymosod ar ffiniau Israel i gyd. Concrodd wlad Gilead, sydd i'r dwyrain o'r afon Iorddonen (tir llwythau Gad, Reuben a Manasse). Tir sy'n ymestyn yr holl ffordd o dref Aroer yn nyffryn Arnon, drwy Gilead i ardal Bashan. Mae gweddill hanes Jehw, y cwbl wnaeth e a'i lwyddiant milwrol, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel. Pan fuodd Jehw farw, cafodd ei gladdu yn Samaria, a dyma'i fab, Jehoachas, yn dod yn frenin yn ei le. Roedd Jehw wedi bod yn frenin ar Israel am ddau ddeg wyth o flynyddoedd. Pan glywodd Athaleia fod ei mab Ahaseia (brenin Jwda) wedi marw, dyma hi'n mynd ati i gael gwared â'r llinach frenhinol i gyd. Ond roedd gan Ahaseia chwaer, Jehosheba, merch i'r brenin Jehoram. Dyma hi'n cymryd Joas, mab Ahaseia, a'i sleifio i ffwrdd oddi wrth aelodau eraill y teulu brenhinol cyn iddyn nhw gael eu lladd. A dyma fe'n cael ei guddio gyda'i nyrs yn un o ystafelloedd gwely'r offeiriaid yn y deml. Felly wnaeth Athaleia ddim dod o hyd iddo, a chafodd e mo'i ladd ganddi. Bu'n cuddio gyda'i nyrs yn y deml am chwe mlynedd, tra roedd Athaleia'n rheoli'r wlad. Yna yn y seithfed flwyddyn dyma Jehoiada yn galw capteniaid y Cariaid (oedd yn arwain unedau o gannoedd) a'r gwarchodlu brenhinol i fynd i'w weld. Dyma fe'n cyfarfod gyda nhw, ac ar ôl dod i gytundeb, yn gwneud iddyn nhw gymryd llw yn y deml. Yna dyma fe'n dangos mab y brenin iddyn nhw, a gorchymyn, “Dyma dych chi i'w wneud: Ar y Saboth bydd un rhan o dair o'r unedau sydd ar ddyletswydd, yn gwarchod y palas. Bydd un rhan o dair arall wedi cymryd eu lle wrth giât Swr. A'r gweddill wrth y giât sydd tu ôl i'r gwarchodlu brenhinol. Bydd dwy o'r unedau sydd ddim ar ddyletswydd ar y Saboth yn dod i warchod y deml ac amddiffyn y brenin. Rhaid i chi sefyll o'i gwmpas gyda'ch arfau yn eich dwylo. Os bydd unrhyw un yn dod yn agos atoch, lladdwch e. Dych chi i aros gyda'r brenin ble bynnag mae'n mynd.” Dyma gapteiniaid yr unedau yn gwneud yn union fel roedd Jehoiada'r offeiriad wedi dweud. Dyma pob un yn cymryd ei uned (y rhai oedd ar ddyletswydd ar y Saboth a'r rhai oedd yn rhydd), a dod â nhw at Jehoiada. Yna dyma'r offeiriad yn rhoi gwaywffyn a tharianau i'r capteniaid, sef arfau y brenin Dafydd oedd yn cael eu cadw yn nheml yr ARGLWYDD. Yna dyma'r gwarchodlu brenhinol yn cymryd eu lle, gyda'i harfau yn eu dwylo. Roedden nhw'n sefyll mewn llinell o un ochr i'r deml i'r llall, wrth yr allor ac ym mhob rhan o'r deml, i amddiffyn y brenin. Yna dyma Jehoiada yn dod â mab y brenin allan, a rhoi'r goron ar ei ben a chopi o'r rheolau sy'n dweud sut i lywodraethu. Yna dyma nhw'n cyhoeddi mai Joas oedd y brenin, ei eneinio trwy dywallt olew ar ei ben, curo dwylo a gweiddi, “Hir oes i'r brenin!” Dyma Athaleia'n clywed sŵn y gwarchodlu a'r bobl, a mynd atyn nhw i'r deml. Yno dyma hi'n gweld y brenin yn sefyll wrth y piler yn ôl y ddefod. Roedd y capteiniaid a'r trwmpedwyr o'i gwmpas, y bobl i gyd yn dathlu a'r utgyrn yn canu ffanffer. Pan welodd hi hyn i gyd, dyma Athaleia'n rhwygo ei dillad a sgrechian gweiddi, “Brad! Brad!” Yna dyma Jehoiada'r offeiriad yn galw capteniaid y gwarchodlu, oedd yn arwain y milwyr, a dweud wrthyn nhw “Ewch â hi allan o'r deml at y rhengoedd, a lladdwch unrhyw un sydd gyda hi.” Roedd wedi dweud hyn am nad oedd hi i gael ei lladd yn y deml. Felly dyma nhw'n ei harestio hi a mynd â hi i'r palas brenhinol drwy'r fynedfa i'r stablau. A dyna lle cafodd hi ei lladd. Dyma Jehoiada yn selio'r ymrwymiad rhwng yr ARGLWYDD â'r brenin a'i bobl, iddyn nhw fod yn bobl ffyddlon i'r ARGLWYDD. Gwnaeth gytundeb rhwng y brenin a'r bobl hefyd. Yna aeth y dyrfa i gyd i mewn i deml Baal a'i dinistrio. Dyma nhw'n chwalu'r allorau a malu'r delwau i gyd yn ddarnau mân, a cafodd Mattan, offeiriad Baal, ei ladd o flaen yr allorau. Roedd Jehoiada'r offeiriad wedi gosod gwarchodlu i wylio teml yr ARGLWYDD. Yna dyma fe'n galw capteniaid y Cariaid (oedd yn arwain unedau o gannoedd) a'r gwarchodlu brenhinol, a'r bobl i gyd. A dyma nhw'n arwain y brenin mewn prosesiwn o'r deml i'r palas drwy Giât y Gwarchodlu Brenhinol. A dyma'r brenin yn eistedd ar yr orsedd. Roedd pawb drwy'r wlad i gyd yn dathlu. Roedd y ddinas yn heddychlon eto, ac Athaleia wedi cael ei lladd yn y palas. Dim ond saith oed oedd Joas pan gafodd ei wneud yn frenin ar Jwda. Daeth Joas yn frenin yn ystod seithfed flwyddyn Jehw fel brenin Israel. Bu'n frenin yn Jerwsalem am bedwar deg o flynyddoedd. Enw ei fam oedd Tsifia, ac roedd hi'n dod o Beersheba. Yr holl amser y buodd e'n frenin, gwnaeth Joas beth oedd yn plesio'r ARGLWYDD, fel roedd Jehoiada'r offeiriad wedi ei ddysgu. Ond er hynny wnaeth e ddim cael gwared â'r allorau lleol. Roedd y bobl yn dal i aberthu anifeiliaid a llosgi arogldarth arnyn nhw. Dwedodd Joas wrth yr offeiriaid, “Cymrwch yr arian sydd wedi cael ei gysegru i'r deml — treth y cyfrifiad, y pris dalwyd am unigolion, a'r rhoddion gwirfoddol. Yna defnyddiwch yr arian o'ch incwm i dalu am atgyweirio'r deml.” Ond hyd yn oed ar ôl i Joas fod yn frenin am ddau ddeg tair o flynyddoedd, doedd yr offeiriaid yn dal ddim wedi atgyweirio'r deml. Felly dyma'r brenin Joas yn galw Jehoiada a'r offeiriaid eraill i'w weld, a gofyn iddyn nhw, “Pam dych chi ddim wedi atgyweirio'r deml? O hyn ymlaen dych chi ddim i gadw unrhyw arian sy'n cael ei roi i chi. Rhaid i'r cwbl fynd tuag at atgyweirio'r deml.” Felly dyma'r offeiriaid yn cytuno i beidio cymryd mwy o arian gan y bobl, ac i roi heibio'r cyfrifoldeb i atgyweirio'r deml. Dyma Jehoiada'r offeiriad yn cymryd cist a gwneud twll yn y caead. Yna dyma fe'n rhoi'r gist ar yr ochr dde i'r allor, wrth y fynedfa i'r deml. Roedd y porthorion yn rhoi'r holl arian roedd pobl yn ei gyfrannu yn y gist. Pan oedden nhw'n gweld fod y gist yn llawn, roedd ysgrifennydd y brenin a'r archoffeiriad yn cyfri'r arian a'i roi mewn bagiau. Yna roedden nhw'n ei roi i'r fformyn oedd yn gyfrifol am y gwaith atgyweirio. Roedden nhw wedyn yn ei ddefnyddio i dalu'r seiri coed a'r adeiladwyr oedd yn gweithio ar y deml. Roedd yn mynd i'r dynion oedd yn adeiladu'r waliau a'r seiri maen, ac roedden nhw'n ei ddefnyddio i brynu coed, cerrig wedi eu naddu ac unrhyw beth arall oedd angen ar gyfer y gwaith. Tra roedd y gwaith o atgyweirio'r deml yn digwydd, gafodd dim o'r arian ei ddefnyddio i dalu am bowlenni arian, sisyrnau, dysglau, utgyrn nac unrhyw gelfi aur ac arian eraill ar gyfer y deml. Roedd y cwbl yn cael ei roi i'r fformyn oedd yn arolygu'r gwaith o atgyweirio teml yr ARGLWYDD. Doedd dim rhaid cadw cyfrifon manwl o'r arian oedd yn cael ei roi iddyn nhw, am eu bod yn gwbl onest. (Ond doedd yr arian oedd yn cael ei dalu gyda'r offrwm i gyfaddef bai a'r aberth i buro o bechod ddim yn dod i'r deml. Yr offeiriaid oedd yn cael hwnnw.) Bryd hynny dyma Hasael, brenin Syria, yn ymosod ar dre Gath a'i choncro. Yna dyma fe'n penderfynu ymosod ar Jerwsalem. Ond dyma Joas, brenin Jwda, yn talu arian mawr iddo beidio ymosod. Cymerodd Joas y cwbl roedd e a'r brenhinoedd o'i flaen (Jehosaffat, Jehoram ac Ahaseia) wedi ei gysegru i'r ARGLWYDD. Cymerodd yr aur oedd yn stordai'r deml a'r palas hefyd, ac anfon y cwbl i Hasael brenin Syria. Felly dyma Hasael a'i fyddin yn troi'n ôl a peidio ymosod ar Jerwsalem. Mae gweddill hanes Joas, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl, Hanes Brenhinoedd Jwda. [20-21] Dyma Iosafad fab Shimeath a Iehosafad fab Shomer, swyddogion Joas, yn cynllwynio yn ei erbyn a'i ladd yn Beth-milo (sydd ar y ffordd i lawr i Sila). Cafodd ei gladdu gyda'i hynafiaid yn Ninas Dafydd, a dyma'i fab, Amaseia, yn dod yn frenin yn ei le. Pan oedd Joas fab Ahaseia wedi bod yn frenin ar Jwda am ddau ddeg tair o flynyddoedd, dyma Jehoachas, mab Jehw, yn dod yn frenin ar Israel. Bu'n frenin yn Samaria am un deg saith o flynyddoedd. Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD. Roedd e'n dal i addoli'r eilunod wnaeth Jeroboam fab Nebat eu codi, y rhai oedd wedi gwneud i Israel bechu. Wnaeth e ddim troi cefn arnyn nhw. Roedd yr ARGLWYDD yn wirioneddol flin gyda phobl Israel! Dyma fe'n gadael i Hasael, brenin Syria a'i fab Ben-hadad, eu rheoli nhw am flynyddoedd lawer. Ond dyma Jehoachas yn gweddïo ar yr ARGLWYDD, a dyma'r ARGLWYDD yn gwrando am ei fod wedi gweld fel roedd Israel yn dioddef o dan frenin Syria. Felly dyma'r ARGLWYDD yn anfon un i achub Israel oddi wrth Syria, a cafodd y bobl fynd i fyw yn eu cartrefi eu hunain eto, fel o'r blaen. Ond wnaethon nhw ddim troi eu cefnau ar eilunod teulu Jeroboam oedd wedi gwneud i Israel bechu. Roedden nhw'n dal ati i bechu fel o'r blaen. Roedd hyd yn oed polyn i'r dduwies Ashera yn dal yn Samaria. Doedd gan Jehoachas ddim byddin ar ôl ychwaith, dim ond pum deg o geffylau, deg cerbyd a deg mil o filwyr troed. Roedd brenin Syria wedi eu dinistrio nhw a'u sathru nhw dan draed fel mân lwch ar lawr dyrnu. Mae gweddill hanes Jehoachas, y cwbl wnaeth e a'i lwyddiant milwrol, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel. Bu Jehoachas farw a chael ei gladdu yn Samaria, a dyma'i fab, Jehoas yn dod yn frenin yn ei le. Roedd Joas wedi bod yn frenin ar Jwda am dri deg saith o flynyddoedd, pan ddaeth Jehoas fab Jehoachas yn frenin ar Israel. Bu'n frenin yn Samaria am un deg chwech o flynyddoedd. Gwnaeth yntau hefyd bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, a gwrthod troi cefn ar yr eilunod roedd Jeroboam fab Nebat wedi eu codi i achosi i bobl Israel bechu. Roedd e'n byw yr un fath. Mae gweddill hanes Jehoas, y cwbl wnaeth e, ei lwyddiant milwrol a'i ddewrder yn y rhyfel yn erbyn Amaseia, brenin Jwda, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel. Pan fuodd Jehoas farw cafodd ei gladdu yn Samaria gyda brenhinoedd Israel, a dyma'i fab, Jeroboam, yn eistedd ar yr orsedd yn ei le. Pan oedd Eliseus yn sâl ac ar ei wely angau aeth Jehoas, brenin Israel, i'w weld. Dyma Jehoas yn torri i lawr i wylo o'i flaen a dweud, “Fy nhad, fy nhad! Ti ydy arfau a byddin Israel!” Dyma Eliseus yn dweud wrtho, “Tyrd â dy fwa a dy saethau yma.” A dyma fe'n gwneud hynny. Wedyn dyma Eliseus yn dweud wrtho, “Gafael yn y bwa.” Yna dyma Eliseus yn rhoi ei ddwylo ar ddwylo'r brenin. Wedyn dyma fe'n dweud wrtho, “Agor y ffenest sy'n wynebu'r dwyrain.” A dyma fe'n agor y ffenest. Yna dyma Eliseus yn dweud, “Saetha!” A dyma fe'n saethu. “Mae'r saeth yna'n symbol o fuddugoliaeth yr ARGLWYDD. Saeth buddugoliaeth dros Syria. Byddi di'n ymosod ar Syria yn Affec ac yn ei difa nhw'n llwyr.” Yna dyma Eliseus yn dweud, “Cymer y saethau, a taro'r llawr gyda nhw.” Felly dyma'r brenin yn gafael yn y saethau a taro'r llawr dair gwaith, ac yna stopio. Roedd y proffwyd yn flin gydag e. “Dylet ti fod wedi taro'r llawr bump neu chwe gwaith! Byddai hynny'n dangos dy fod yn mynd i ddinistrio Syria'n llwyr. Ond nawr dim ond tair gwaith fyddi di'n eu curo nhw.” Bu farw Eliseus a cafodd ei gladdu. Roedd criwiau o ddynion o Moab yn arfer ymosod ar y wlad bob gwanwyn. Un tro pan oedd rhyw ddyn yn cael ei gladdu, dyma'r bobl oedd yn ei gladdu yn gweld un o'r criwiau yna o Moab yn dod. Felly dyma nhw'n taflu corff y dyn marw i mewn i fedd Eliseus a dianc. Pan gyffyrddodd y corff esgyrn Eliseus, daeth yn ôl yn fyw a chodi ar ei draed. Roedd Hasael, brenin Syria, wedi bod yn cam-drin Israel ar hyd cyfnod Jehoachas fel brenin. Ond dyma'r ARGLWYDD yn tosturio a dangos trugaredd atyn nhw. Roedd yn garedig atyn nhw oherwydd ei ymrwymiad gydag Abraham, Isaac a Jacob. Hyd heddiw mae e'n dal i wrthod eu dinistrio nhw na chael gwared â nhw! Pan fuodd Hasael, brenin Syria, farw, daeth ei fab Ben-hadad yn frenin yn ei le. Yna dyma Jehoas fab Jehoachas yn ennill tair brwydr yn erbyn Ben-hadad a chymryd yn ôl y trefi roedd Hasael wedi eu dwyn oddi ar ei dad. Dyma Amaseia, mab Joas, yn dod yn frenin ar Jwda yn ail flwyddyn Jehoas fab Jehoachas fel brenin Israel. Roedd yn ddau ddeg pum mlwydd oed pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin am ddau ddeg naw o flynyddoedd. Enw ei fam oedd Iehoadan, ac roedd hi'n dod o Jerwsalem. Roedd Amaseia yn gwneud beth oedd yn plesio'r ARGLWYDD, er, ddim cystal â'r brenin Dafydd, ei hynafiad. Roedd yn union yr un fath â'i dad Joas. Wnaeth yntau ddim cael gwared â'r allorau lleol, ac roedd y bobl yn dal i aberthu anifeiliaid a llosgi arogldarth arnyn nhw. Ar ôl gwneud yn siŵr fod ei afael ar y deyrnas yn ddiogel, dyma fe'n dienyddio'r swyddogion hynny oedd wedi llofruddio ei dad, y brenin. Ond wnaeth e ddim lladd plant y llofruddion, am fod sgrôl Cyfraith Moses yn dweud fod yr ARGLWYDD wedi gorchymyn: “Ddylai rhieni ddim cael eu lladd am droseddau eu plant, na'r plant am droseddau eu rhieni. Dim ond y troseddwr ei hun ddylai farw.” Lladdodd ddeg mil o filwyr Edom yn Nyffryn yr Halen. Ennillodd ddinas Sela mewn brwydr, a newid ei henw i Iocteël; a dyna'r enw arni hyd heddiw. Yna dyma Amaseia'n anfon negeswyr at Jehoas, brenin Israel (mab Jehoachas ac ŵyr Jehw). Y neges oedd, “Tyrd, gad i ni wynebu'n gilydd mewn brwydr.” Dyma Jehoas, brenin Israel, yn anfon neges yn ôl at Amaseia yn dweud: “Un tro yn Libanus dyma ddraenen fach yn afon neges at goeden gedrwydd fawr i ddweud, ‘Rho dy ferch yn wraig i fy mab i.’ Ond dyma anifail gwyllt yn dod heibio a sathru'r ddraenen dan draed! Amaseia, mae'n wir dy fod ti wedi gorchfygu Edom, ond mae wedi mynd i dy ben di! Mwynha dy lwyddiant ac aros adre. Wyt ti'n edrych am drwbwl? Dw i'n dy rybuddio di, byddi di a dy deyrnas yn syrthio gyda'ch gilydd!” Ond doedd Amaseia ddim am wrando. Felly dyma Jehoas, brenin Israel, yn mynd i ryfel yn ei erbyn. Dyma nhw'n dod wyneb yn wyneb yn Beth-shemesh ar dir Jwda. Byddin Israel wnaeth ennill y frwydr, a dyma filwyr Jwda i gyd yn dianc am adre. Roedd Jehoas, brenin Israel, wedi dal Amaseia, brenin Jwda, yn Beth-shemesh. A dyma fe'n mynd ymlaen i Jerwsalem a chwalu waliau'r ddinas o Giât Effraim at Giât y Gornel, pellter o bron i ddau can metr. Yna dyma fe'n cymryd yr holl aur ac arian, a'r llestri oedd yn y deml ac yn storfa'r palas. Cymerodd wystlon hefyd, ac yna mynd yn ôl i Samaria. Mae gweddill hanes Jehoas, y cwbl wnaeth e, ei lwyddiant milwrol a'i ddewrder yn y rhyfel yn erbyn Amaseia, brenin Jwda, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel. Pan fuodd Jehoas farw cafodd ei gladdu yn Samaria gyda brenhinoedd Israel, a dyma'i fab, Jeroboam, yn dod yn frenin yn ei le. Buodd Amaseia fab Joas, brenin Jwda, fyw am un deg pump o flynyddoedd ar ôl i Jehoas, brenin Israel, farw. Mae gweddill hanes Amaseia i'w gael yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda. Dyma ryw bobl yn Jerwsalem yn cynllwynio yn ei erbyn, a dyma fe'n dianc i Lachish. Ond dyma nhw'n anfon dynion ar ei ôl a'i ladd yno. Dyma'r corff yn cael ei gymryd yn ôl i Jerwsalem ar geffylau, a cafodd ei gladdu yn Ninas Dafydd gyda'i hynafiaid. Yna dyma bobl Jwda i gyd yn cymryd Wseia, mab Amaseia, oedd yn un deg chwech oed, a'i wneud e yn frenin yn lle ei dad. Wseia wnaeth ennill tref Elat yn ôl i Jwda a'i hailadeiladu ar ôl i'w dad Amaseia farw. Pan oedd Amaseia fab Joas, wedi bod yn frenin Jwda am un deg pump o flynyddoedd, dyma Jeroboam fab Jehoas yn dod yn frenin ar Israel. Bu'n frenin yn Samaria am bedwar deg un o flynyddoedd. Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, a gwrthod troi cefn ar yr eilunod roedd Jeroboam fab Nebat wedi eu codi i achosi i bobl Israel bechu. Ennillodd dir yn ôl i Israel nes bod y ffin yn mynd o Fwlch Chamath yn y gogledd i'r Môr Marw yn y de. Roedd yr ARGLWYDD, Duw Israel, wedi dweud y byddai'n gwneud hynny trwy ei was Jona fab Amittai, y proffwyd o Gath-heffer. Roedd yr ARGLWYDD wedi gweld bod pobl Israel yn cael eu cam-drin yn erchyll. Doedd neb o gwbl ar ôl, caeth na rhydd, i'w helpu. Ond doedd yr ARGLWYDD ddim am gael gwared ag Israel yn llwyr, felly dyma fe'n anfon Jeroboam fab Jehoas i'w hachub nhw. Mae gweddill hanes Jeroboam, y cwbl wnaeth e ei gyflawni a'i lwyddiant milwrol yn adennill rheolaeth dros drefi Damascus a Chamath, i gyd i'w gweld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel. Bu farw Jeroboam a chafodd ei gladdu gyda brenhinoedd Israel. A dyma Sechareia, ei fab, yn dod yn frenin yn ei le. Pan oedd Jeroboam wedi bod yn frenin ar Israel am ddau ddeg saith o flynyddoedd, dyma Wseia, mab Amaseia, yn dod yn frenin ar Jwda. Un deg chwech oedd e pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am bum deg dwy o flynyddoedd. Enw ei fam oedd Jecholeia, ac roedd hi'n dod o Jerwsalem. Fel ei dad Amaseia roedd yn gwneud beth oedd yn plesio'r ARGLWYDD. Ond wnaeth e ddim cael gwared â'r allorau lleol, ac roedd y bobl yn dal i aberthu anifeiliaid a llosgi arogldarth arnyn nhw. Dyma'r ARGLWYDD yn ei daro'n wael — bu'n dioddef o glefyd heintus ar y croen nes iddo farw. Roedd rhaid iddo fyw ar wahân i bawb am weddill ei oes. Jotham, mab y brenin, oedd yn rhedeg y palas ac yn rheoli'r wlad ar y pryd. Mae gweddill hanes Wseia, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda. Pan fuodd Wseia farw, cafodd ei gladdu gyda'i hynafiaid yn Ninas Dafydd. Yna daeth Jotham, ei fab, yn frenin yn ei le. Pan oedd Wseia wedi bod yn frenin ar Jwda am dri deg naw o flynyddoedd daeth Sechareia fab Jeroboam yn frenin ar Israel. Bu'n frenin yn Samaria am chwe mis. Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD fel ei hynafiaid o'i flaen. Wnaeth e ddim troi cefn ar yr eilunod roedd Jeroboam fab Nebat wedi eu codi i achosi i bobl Israel bechu. Dyma Shalwm fab Jabesh, yn cynllwyn yn ei erbyn a'i ladd o flaen pawb, yna dod yn frenin yn ei le. Mae gweddill hanes Sechareia i'w gael yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel. Roedd y neges roedd yr ARGLWYDD wedi ei rhoi i Jehw wedi dod yn wir: “Bydd dy ddisgynyddion di yn teyrnasu ar wlad Israel am bedair cenhedlaeth ar dy ôl.” A dyna'n union oedd wedi digwydd. Roedd Wseia wedi bod yn frenin ar Jwda am dri deg naw o flynyddoedd pan ddaeth Shalwm fab Jabesh yn frenin ar Israel. Bu'n frenin yn Samaria am fis. Roedd Menachem fab Gadi wedi dod o Tirtsa i Samaria, a lladd Shalwm. Yna dyma fe'n dod yn frenin yn ei le. Mae gweddill hanes Shalwm, a'r cynllwyn drefnodd e, i'w gweld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel. Pan ddaeth Menachem o Tirtsa aeth i ymosod ar dre Tiffsa am i'r bobl yno wrthod ei dderbyn. Lladdodd bawb oedd yn byw yno ac yn yr ardal o gwmpas, a hyd yn oed rhwygo'n agored yr holl wragedd beichiog oedd yno. Roedd Wseia wedi bod yn frenin ar Jwda am dri deg naw o flynyddoedd pan ddaeth Menachem fab Gadi yn frenin ar Israel. Bu'n frenin yn Samaria am ddeg mlynedd. Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD ar hyd ei oes. Wnaeth e ddim troi cefn ar yr eilunod roedd Jeroboam fab Nebat wedi eu codi i achosi i bobl Israel bechu. Pan oedd Menachem yn frenin dyma Tiglath-Pileser, brenin Asyria, yn ymosod ar y wlad. Ond dyma Menachem yn rhoi tri deg pum mil cilogram o arian iddo, er mwyn ennill ei gefnogaeth a cadw'i afael yn ei safle fel brenin. Roedd Menachem wedi codi'r arian drwy drethu pobl gyfoethog Israel. Cododd dreth o dros bum cant gram o arian ar bob un ohonyn nhw, a'i dalu i frenin Asyria. Felly dyma fyddin Tiglath-Pileser yn troi'n ôl; wnaethon nhw ddim aros yn y wlad. Mae gweddill hanes Menachem, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel. Pan fu farw Menachem, dyma ei fab, Pecacheia, yn dod yn frenin yn ei le. Roedd Wseia wedi bod yn frenin ar Jwda am bum deg o flynyddoedd pan ddaeth Pecacheia, mab Menachem, yn frenin ar Israel. Bu'n frenin yn Samaria am ddwy flynedd. Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD. Wnaeth e ddim troi cefn ar yr eilunod roedd Jeroboam fab Nebat wedi eu codi i achosi i bobl Israel bechu. A dyma'i is-gapten, Pecach fab Remaleia, yn cynllwyn yn ei erbyn. Dyma hwnnw, gyda pum deg o ddynion o Gilead, yn torri i mewn i gaer y palas a lladd y brenin Pecacheia, Argob ac Arie. Yna dyma Pecach yn dod yn frenin. Mae gweddill hanes Pecacheia, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel. Roedd Wseia wedi bod yn frenin ar Jwda am bum deg dwy o flynyddoedd, pan ddaeth Pecach fab Remaleia, yn frenin ar Israel. Bu'n frenin yn Samaria am ddau ddeg o flynyddoedd. Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD. Wnaeth e ddim troi cefn ar yr eilunod roedd Jeroboam fab Nebat wedi eu codi i achosi i bobl Israel bechu. Pan oedd Pecach yn frenin ar Israel, dyma Tiglath-pileser, brenin Asyria, yn dod a gorchfygu gogledd y wlad i gyd — trefi Ïon, Abel-beth-maacha, Ianoach, Cedesh, a Chatsor, hefyd ardaloedd Gilead, Galilea, a tir Nafftali i gyd. A dyma fe'n mynd â'r bobl i gyd yn gaethion i Asyria. Yna dyma Hoshea fab Ela yn cynllwyn yn erbyn Pecach, ei ladd, a dod yn frenin yn ei le. Digwyddodd hyn pan oedd Jotham fab Wseia, wedi bod yn frenin am ddau ddeg o flynyddoedd. Mae gweddill hanes Pecach, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel. Yn ystod yr ail flwyddyn i Pecach fab Remaleia fel brenin ar Israel, daeth Jotham fab Wseia yn frenin at Jwda. Roedd yn ddau ddeg pum mlwydd oed pan ddaeth e'n frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am un deg chwech o flynyddoedd. Enw ei fam oedd Ierwsa, merch Sadoc. Fel ei dad Wseia, roedd yn gwneud beth oedd yn plesio'r ARGLWYDD. Ond wnaeth e ddim cael gwared â'r allorau lleol, ac roedd y bobl yn dal i aberthu anifeiliaid a llosgi arogldarth arnyn nhw. Jotham wnaeth adeiladu Giât Uchaf y deml. Mae gweddill hanes Jotham, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda. Dyma pryd wnaeth yr ARGLWYDD ddechrau ysgogi Resin, brenin Syria, a Pecach fab Remaleia, i ymosod ar Jwda. Pan fuodd Jotham farw, cafodd ei gladdu gyda'i hynafiaid yn Ninas Dafydd. A daeth ei fab Ahas yn frenin yn ei le. Pan oedd Pecach fab Remaleia wedi bod yn frenin ar Israel am un deg saith o flynyddoedd daeth Ahas fab Jotham yn frenin ar Jwda. Roedd Ahas yn ddau ddeg mlwydd oed pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am un deg chwech o flynyddoedd. Ond wnaeth e ddim plesio'r ARGLWYDD ei Dduw fel roedd y Brenin Dafydd wedi gwneud. Roedd yn ymddwyn yr un fath â brenhinoedd Israel. Ac yn waeth fyth, dyma fe'n llosgi ei fab yn aberth — arferiad cwbl ffiaidd y bobloedd roedd yr ARGLWYDD wedi eu gyrru allan o'r wlad o flaen Israel. Roedd yn aberthu anifeiliaid a llosgi arogldarth ar yr allorau lleol ar y bryniau ac o dan pob coeden ddeiliog. Yna dyma Resin, brenin Syria, a Pecach fab Remaleia, brenin Israel, yn dod i ryfela yn erbyn Jerwsalem. Dyma nhw'n gwarchae ar Ahas, ond roedden nhw'n methu ei goncro. (Tua'r adeg yna hefyd llwyddodd Resin, brenin Syria, i ennill dinas Elat yn ôl i Syria. Gyrrodd bobl Jwda allan o Elat, a daeth pobl o Edom yn ôl i fyw yno. Maen nhw'n dal yno hyd heddiw.) Anfonodd Ahas y neges yma at Tiglath-pileser, brenin Asyria: “Dy was di ydw i, a dw i'n dibynnu arnat ti. Mae brenin Syria a brenin Israel yn ymosod arna i. Plîs wnei di ddod i'm hachub i.” Roedd Ahas hefyd wedi cymryd yr aur a'r arian oedd yn y deml ac yn storfa'r palas, a'i anfon yn dâl i frenin Asyria. A dyma frenin Asyria yn cytuno ac yn anfon ei fyddin i ymosod ar Syria. Dyma nhw'n concro dinas Damascus, cymryd y bobl yno yn gaethion i Cir a lladd y brenin Resin. Pan aeth y Brenin Ahas i gyfarfod Tiglath-pileser, brenin Asyria, yn Damascus, dyma fe'n gweld yr allor oedd yno. Anfonodd fodel o'r allor, ei chynllun a'r holl fanylion am sut roedd wedi cael ei gwneud, at Wreia yr offeiriad. A dyma Wreia yr offeiriad yn gwneud copi o'r allor oedd yn union fel y manylion anfonodd y brenin Ahas iddo o Damascus. Roedd yr allor yn barod erbyn i'r brenin Ahas gyrraedd yn ôl o Damascus. Pan aeth y brenin i weld yr allor dyma fe'n mynd i fyny ati a chyflwyno offrwm i'w losgi ac offrwm o rawn arni. Tywalltodd offrwm o ddiod arni, a sblasio gwaed yr offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD arni. Yna dyma fe'n symud yr Allor Bres oedd yn arfer bod o flaen yr ARGLWYDD. Symudodd hi o du blaen y deml (roedd hi rhwng yr allor newydd a'r cysegr,) a'i gosod ar yr ochr, i'r gogledd o'r allor newydd. Yna dyma'r brenin Ahas yn dweud wrth Wreia yr offeiriad: “Yr allor fawr sydd i gael ei defnyddio o hyn ymlaen. Defnyddiwch hi i losgi offrwm y bore arni, a'r offrwm o rawn gyda'r nos, yr offrymau brenhinol i gyd, a'r offrymau dros y bobl gyffredin — offrymau i'w llosgi, offrymau o rawn ac offrymau o ddiod. Arni hi hefyd dych chi i sblasio gwaed yr holl anifeiliaid sy'n cael eu haberthu. Bydd yr allor bres ar gyfer fy nefnydd personol i.” A dyma Wreia'n gwneud popeth fel roedd y brenin Ahas wedi dweud wrtho. Tynnodd y brenin Ahas y fframiau oddi ar y trolïau a symud y dysglau oddi arnyn nhw. Yna dyma fe'n cymryd ‛Y Môr‛ (sef y ddisgyl fawr oedd ar gefn yr ychen pres) a'i gosod ar lwyfan o garreg. Wedyn symudodd y llwybr dan do oedd ar gyfer y Saboth, a'r fynedfa allanol oedd wedi ei hadeiladu i'r brenin fynd i'r deml. Gwnaeth hyn i gyd o achos brenin Asyria. Mae gweddill hanes Ahas, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda. Pan fuodd Ahas farw, cafodd ei gladdu gyda'i hynafiaid yn Ninas Dafydd. A dyma Heseceia, ei fab, yn dod yn frenin yn ei le. Pan oedd Ahas wedi bod yn frenin ar Jwda am un deg dwy o flynyddoedd daeth Hoshea fab Ela yn frenin ar Israel. Bu'n frenin yn Samaria am naw mlynedd. Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, ond doedd e ddim mor ddrwg â'r brenhinoedd oedd wedi bod o'i flaen. Dyma Shalmaneser, brenin Asyria, yn ymosod arno. Felly dyma Hoshea yn dod yn was i frenin Assyria a dechrau talu trethi iddo. Ond wedyn dyma frenin Asyria yn darganfod fod Hoshea yn cynllwynio yn ei erbyn. Roedd wedi anfon negeswyr at So, brenin yr Aifft, ac wedi gwrthod talu'r trethi blynyddol i Asyria. Y canlyniad oedd i frenin Asyria ei arestio a'i roi yn y carchar. Wedyn dyma frenin Asyria'n ymosod ar wlad Israel. Aeth i Samaria a bu'n gwarchae arni am bron ddwy flynedd. Roedd Hoshea wedi bod yn frenin am naw mlynedd pan gafodd Samaria ei choncro. Aeth brenin Asyria â'r bobl yn gaethion i'w wlad ei hun. Anfonodd rai i fyw i dref Halach, eraill i fyw ar lan Afon Chabor yn Gosan, ac eraill eto i drefi Media. Roedd hyn wedi digwydd am fod pobl Israel wedi bod yn anufudd i'r ARGLWYDD eu Duw — y Duw oedd wedi eu rhyddhau nhw o afael y Pharo a dod â nhw allan o'r Aifft. Roedden nhw wedi troi i addoli duwiau eraill a dilyn arferion y bobloedd roedd yr ARGLWYDD wedi eu gyrru allan o'r wlad o flaen Israel. Roedden nhw wedi dilyn esiampl brenhinoedd Israel. Roedden nhw'n gwneud pethau o'r golwg oedd yn gwbl groes i ffordd yr ARGLWYDD. Roedden nhw wedi adeiladu allorau lleol ym mhobman — yn y pentrefi bychain a'r trefi caerog mawr. Roedden nhw hefyd yn codi colofnau cysegredig i Baal a pholion y dduwies Ashera wrth yr allorau lleol oedd ar y bryniau ac o dan pob coeden ddeiliog. Roedden nhw'n llosgi arogldarth ar yr allorau lleol, yn union fel y bobloedd roedd yr ARGLWYDD wedi eu gyrru allan o'u blaenau nhw. Roedd y pethau drwg yma yn gwneud i'r ARGLWYDD ddigio. Roedden nhw'n addoli eilunod ffiaidd er bod yr ARGLWYDD wedi dweud wrthyn nhw am beidio. Roedd yr ARGLWYDD wedi anfon proffwydi a'r rhai oedd yn cael gweledigaethau i rybuddio Israel a Jwda. Roedd wedi dweud, trwyddyn nhw, “Rhaid i chi droi cefn ar y drwg a chadw fy ngorchmynion i a'r rheolau sy'n y Gyfraith rois i i'ch hynafiaid chi. Dw i wedi anfon y proffwydi i'ch atgoffa chi ohonyn nhw.” Ond doedden nhw ddim am wrando. Roedden nhw'n hollol benstiff, fel eu hynafiaid oedd yn gwrthod trystio'r ARGLWYDD eu Duw. Roedden nhw wedi gwrthod ei reolau a'r ymrwymiad roedd wedi ei wneud gyda'u hynafiaid. Wnaethon nhw ddim gwrando ar ei rybuddion, ond mynd ar ôl eilunod diwerth. Roedden nhw'n gwneud eu hunain yn ddiwerth, ac yn dynwared y gwledydd o'u cwmpas, er fod yr ARGLWYDD wedi dweud wrthyn nhw am beidio gwneud hynny. Roedden nhw wedi anwybyddu gorchmynion yr ARGLWYDD eu Duw. Roedden nhw wedi gwneud delwau metel o ddau darw ifanc, a codi polyn i'r dduwies Ashera. Roedden nhw'n plygu i'r haul a'r lleuad a'r sêr, ac yn addoli Baal. Roedden nhw hyd yn oed yn llosgi eu plant yn aberth, yn dewino ac yn darogan. Roedden nhw'n benderfynol o wneud pethau oedd yn ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, a'i bryfocio. Roedd yr ARGLWYDD yn wirioneddol flin gyda phobl Israel, a dyma fe'n eu gyrru nhw o'i olwg. Dim ond llwyth Jwda oedd ar ôl. Ond doedd Jwda chwaith ddim yn cadw gorchmynion yr ARGLWYDD eu Duw. Roedden nhw'n dilyn arferion Israel. Roedd yr ARGLWYDD wedi gwrthod pobl Israel i gyd, a'u cosbi nhw drwy adael i bobl eraill eu rheibio a'u dinistrio nhw. Gyrrodd nhw o'i olwg yn llwyr. Pan wnaeth Duw rwygo Israel oddi wrth linach Dafydd dyma nhw'n gwneud Jeroboam fab Nebat yn frenin. A dyma fe'n arwain pobl Israel i ffwrdd oddi wrth yr ARGLWYDD a gwneud iddyn nhw bechu'n ofnadwy. Dyma'r bobl yn addoli eilunod Jeroboam, a wnaethon nhw ddim troi cefn arnyn nhw o gwbl. Felly dyma'r ARGLWYDD yn gyrru Israel allan o'i olwg fel roedd wedi rhybuddio y byddai'n gwneud trwy ei weision y proffwydi. Cafodd pobl Israel eu symud o'u gwlad eu hunain i Asyria. Maen nhw dal yno heddiw. Dyma frenin Asyria yn cymryd pobl oedd yn byw yn Babilon, Cwtha, Afa, Chamath a Seffarfaîm, a'u symud nhw i fyw i drefi Samaria yn lle pobl Israel. Felly dyma nhw'n cymryd Samaria drosodd, a byw yn ei threfi. Pan ddaethon nhw yno i ddechrau doedden nhw ddim yn addoli'r ARGLWYDD. Felly dyma'r ARGLWYDD yn anfon llewod atyn nhw, a dyma'r llewod yn lladd rhai pobl. Dwedwyd wrth frenin Asyria, “Dydy'r bobloedd rwyt ti wedi eu symud i drefi Samaria ddim yn gwybod defodau duw'r wlad. Felly mae e wedi anfon llewod atyn nhw, ac mae'r rheiny yn eu lladd nhw.” A dyma frenin Asyria yn gorchymyn: “Anfonwch un o'r offeiriaid gafodd eu cymryd oddi yno yn ôl. Bydd e'n gallu byw gyda nhw a'u dysgu nhw beth mae duw'r wlad yn ei ddisgwyl.” Felly dyma un o'r offeiriaid oedd wedi cael ei gymryd o Samaria yn mynd yn ôl yno. Roedd yn byw yn Bethel ac yn dysgu'r bobl sut i barchu'r ARGLWYDD. Ac eto roedd y gwahanol bobloedd yno yn gwneud delwau o'u duwiau eu hunain hefyd, ac yn eu gosod nhw yn yr temlau lle roedd pobl Samaria wedi codi allorau lleol. Roedd pob un o'r gwahanol grwpiau o bobl yn gwneud hyn yn y trefi lle roedden nhw'n byw. Dyma'r bobl o Babilon yn gwneud eilun o Swccoth-benoth, pobl Cwth yn gwneud Nergal, pobl Chamath yn gwneud Ashima a'r Afiaid yn gwneud Nibchas a Tartac. Roedd pobl Seffarfaîm yn llosgi eu plant yn aberth i'w duwiau, Adram-melech ac Anam-melech. Ond roedden nhw'n addoli'r ARGLWYDD ar yr un pryd! Ac roedden nhw'n dewis pob math o bobl i fod yn offeiriad ac i arwain y defodau wrth yr allorau lleol yn y canolfannau hynny. Felly roedden nhw'n addoli'r ARGLWYDD ac yn gwasanaethu eu duwiau eu hunain ar yr un pryd — ac yn cadw defodau'r gwledydd o lle roedden nhw'n dod. Maen nhw'n dal i ddilyn yr un hen arferion hyd heddiw. Dŷn nhw ddim wir yn parchu'r ARGLWYDD, nac yn ufudd i'r rheolau, gorchmynion, deddfau a gofynion gafodd eu rhoi i ddisgynyddion Jacob, y dyn wnaeth Duw roi'r enw Israel iddo. Roedd yr ARGLWYDD wedi gwneud ymrwymiad gyda nhw, a rhoi'r gorchymyn yma iddyn nhw: “Peidiwch addoli duwiau eraill. Peidiwch plygu o'u blaen, eu gwasanaethu nac aberthu iddyn nhw. Dim ond fi, yr ARGLWYDD dych chi i'w addoli. Fi ddaeth â chi allan o wlad yr Aifft gyda nerth a grym mawr. Fi ydy'r un dych chi i'w addoli ac aberthu anifeiliaid iddo. A dych chi i gadw y rheolau, gorchmynion, deddfau a gofynion wnes i eu hysgrifennu i chi. Peidiwch addoli duwiau eraill. Peidiwch anghofio'r ymrwymiad wnes i gyda chi, a peidiwch addoli duwiau eraill. Fi, yr ARGLWYDD eich Duw dych chi i'w addoli, a bydda i'n eich achub chi oddi wrth eich gelynion i gyd.” Ond doedden nhw ddim am wrando. Roedden nhw'n dal i ddilyn yr un hen arferion. Roedd y gwahanol grwpiau o bobl yma i gyd yn addoli'r ARGLWYDD ac yn gwasanaethu eu heilun-dduwiau ar yr un pryd. Ac mae eu plant a'u plant hwythau yn dal i wneud yr un fath â'u hynafiaid hyd heddiw. Daeth Heseceia fab Ahas yn frenin ar Jwda yn ystod trydedd flwyddyn Hoshea fab Ela fel brenin Israel. Dau ddeg pum mlwydd oed oedd Heseceia pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am ddau ddeg naw o flynyddoedd. Enw ei fam oedd Abeia, merch Sechareia. Fel y Brenin Dafydd, ei hynafiad, roedd yn gwneud beth oedd yn plesio'r ARGLWYDD. Dyma fe'n cael gwared â'r allorau lleol, malu'r colofnau cysegredig a thorri polion y dduwies Ashera i lawr. A dyma fe hefyd yn dryllio'r sarff bres oedd Moses wedi gwneud, am fod pobl Israel yn llosgi arogldarth iddi a'i galw'n Nechwshtan. Roedd Heseceia'n trystio'r ARGLWYDD, Duw Israel. Fuodd yna ddim brenin tebyg iddo yn Jwda, o'i flaen nac ar ei ôl. Roedd yn hollol ffyddlon i'r ARGLWYDD ac yn cadw'r gorchmynion roddodd yr ARGLWYDD i Moses. Roedd yr ARGLWYDD gydag e, ac roedd yn llwyddo beth bynnag roedd e'n ei wneud. Gwrthryfelodd yn erbyn brenin Asyria a gwrthod ei wasanaethu. A concrodd wlad y Philistiaid yn llwyr — o'r pentrefi lleiaf i'r trefi caerog mawr. Roedd yn rheoli'r wlad yr holl ffordd i dref Gasa a'r ardaloedd o'i chwmpas. Yn ystod pedwaredd flwyddyn Heseceia fel brenin (a seithfed flwyddyn Hoshea fab Ela fel brenin ar Israel) daeth Shalmaneser, brenin Asyria, ac ymosod ar Samaria. Buodd yn gwarchae arni am bron ddwy flynedd cyn llwyddo i'w choncro hi. Felly cafodd Samaria ei choncro yn ystod chweched flwyddyn Heseceia fel brenin, a nawfed blwyddyn Hoshea yn frenin ar Israel, a dyma frenin Asyria yn cymryd pobl Israel yn gaethion i Asyria. Anfonodd rai i fyw i dref Halach, eraill i fyw ar lan Afon Chabor yn Gosan, ac eraill eto i drefi Media. Roedd hyn wedi digwydd am fod pobl Israel heb wrando ar ARGLWYDD eu Duw. Roedden nhw wedi torri amodau'r ymrwymiad wnaeth e gyda nhw, ac wedi diystyru'r gorchmynion roedd ei was Moses wedi eu rhoi iddyn nhw. Pan oedd Heseceia wedi bod yn frenin am bron un deg pedair o flynyddoedd, dyma Senacherib, brenin Asyria, yn ymosod ar drefi amddiffynnol Jwda, a'u dal nhw. A dyma Heseceia, brenin Jwda, yn anfon y neges yma at frenin Asyria, oedd yn Lachish: “Dw i wedi bod ar fai. Os gwnei di droi'n ôl, gwna i dalu faint bynnag wyt ti'n ei ofyn.” A dyma frenin Asyria yn rhoi dirwy o naw mil cilogram o arian a naw cant cilogram o aur i Heseceia, brenin Jwda. Felly dyma Heseceia'n rhoi'r holl arian oedd yn y deml ac yn storfa'r palas i Asyria. Dyna pryd wnaeth e stripio'r aur oedd e wedi ei roi ar ddrysau'r deml a'u fframiau, i dalu brenin Asyria. Er hynny dyma frenin Asyria yn anfon ei brif swyddog milwrol, ei brif gynghorydd, a phrif swyddog ei balas o Lachish at y Brenin Heseceia yn Jerwsalem, gyda byddin enfawr. Dyma nhw'n cyrraedd Jerwsalem a mynd i sefyll wrth sianel ddŵr y gronfa uchaf, sydd ar y ffordd i Faes y Pannwr. Yna dyma nhw'n galw ar y brenin. Ac aeth Eliacim fab Chilceia, arolygwr y palas, allan i'w cyfarfod, gyda Shefna yr ysgrifennydd a Ioach fab Asaff, y cofnodydd. Dyma brif swyddog Assyria yn dweud wrthyn nhw am roi'r neges yma i Heseceia: “Dyma mae'r Ymerawdwr, brenin Asyria yn ei ddweud: ‘Beth sy'n dy wneud di mor hyderus? Siarad gwag ydy honni fod gen ti'r strategaeth a'r gallu milwrol angenrheidiol! Pwy wyt ti'n pwyso arno go iawn, dy fod yn beiddio gwrthryfela yn fy erbyn i? Ai'r Aifft wyt ti'n ei drystio? Dydy'r ffon fagl yna ddim gwell na brwynen wedi hollti, ac mae'n torri llaw ac yn anafu pwy bynnag sy'n pwyso arni! Dyna sy'n digwydd i bawb sy'n trystio'r Pharo, brenin yr Aifft. “‘Neu ydych chi am ddweud wrtho i eich bod yn trystio'r ARGLWYDD eich Duw? Onid ydy Heseceia wedi cael gwared â'i ganolfannau addoli lleol a'i allorau e, a dweud wrth bobl Jwda mai dim ond wrth yr allor yn Jerwsalem maen nhw i addoli? Tyrd nawr, beth am drafod telerau gyda fy meistr, brenin Asyria: Betia i di, petawn i'n rhoi dwy fil o geffylau i ti, na fyddai gen ti ddigon o ddynion i'w reidio nhw! Felly sut alli di wrthod, hyd yn oed gynnig gan ddirprwy un o weision lleia fy meistr? Dwyt ti ddim yn mynd i fynnu dal ati i drystio'r Aifft am gerbydau a marchogion siawns? A beth bynnag, wyt ti'n meddwl fy mod i wedi martsio yn erbyn y wlad yma i'w dinistrio hi heb i'r ARGLWYDD fy helpu i? Yr ARGLWYDD ei hun ddwedodd wrtho i: “Dos i ymladd yn erbyn y wlad yna a'i dinistrio hi!”’” Dyma Eliacim fab Chilceia, Shefna, a Ioach yn dweud wrth y prif swyddog, “Plîs siarada yn Aramaeg hefo dy weision; dŷn ni'n deall yr iaith honno. Paid siarad hefo ni yn Hebraeg yng nghlyw y bobl sydd ar y waliau.” Ond dyma'r prif swyddog yn ateb, “Ydych chi'n meddwl mai atoch chi a'ch meistr yn unig mae fy meistr i wedi f'anfon i ddweud hyn? Na, mae'r neges i bawb sydd ar y waliau hefyd. Byddan nhw, fel chithau, yn gorfod bwyta eu cachu ac yfed eu piso eu hunain.” Yna dyma'r prif swyddog yn camu ymlaen, ac yn gweiddi'n uchel yn Hebraeg, “Gwrandwch beth mae'r Ymerawdwr, brenin Asyria, yn ei ddweud! Peidiwch gadael i Heseceia eich twyllo chi, achos fydd e ddim yn gallu'ch achub chi. A peidiwch gadael iddo eich cael chi i drystio'r ARGLWYDD, a dweud wrthoch chi, ‘Bydd yr ARGLWYDD yn ein hachub ni. Fydd y ddinas yma ddim yn syrthio i ddwylo brenin Asyria!’ Peidiwch gwrando arno! Dyma mae brenin Asyria'n ei ddweud: ‘Derbyniwch y telerau dw i'n eu cynnig; dewch allan ata i, a bydd pob un ohonoch chi'n cael bwyta o'i winwydden a'i goeden ffigys, ac yn cael yfed dŵr o'i ffynnon ei hun. Wedyn bydda i'n mynd â chi i wlad debyg i'ch gwlad chi — gwlad o fara a sudd grawnwin, o gaeau ŷd a gwinllannoedd, gwlad o olewydd, olew a mêl. Cewch fyw yno yn lle marw. “‘Peidiwch gadael i Heseceia eich camarwain chi wrth ddweud, “Bydd yr ARGLWYDD yn ein hachub ni.” Wnaeth duwiau'r gwledydd eraill achub eu tir nhw rhag brenin Asyria? Ble oedd duwiau Chamath ac Arpad? Ble oedd duwiau Seffarfaîm, Hena ac Ifa? Wnaethon nhw achub Samaria o'm gafael i? Pa un o'r duwiau yma i gyd achubodd eu gwlad o'm gafael i? Felly, sut mae'r ARGLWYDD yn mynd i achub Jerwsalem o'm gafael i?’” Ond roedd pawb yn cadw'n dawel ac yn dweud dim, achos roedd y brenin wedi gorchymyn: “Peidiwch â'i ateb e.” A dyma Eliacim fab Chilceia, arolygwr y palas, Shefna yr ysgrifennydd a Ioach fab Asaff, y cofnodydd, yn mynd at Heseceia a'u dillad wedi eu rhwygo, a dweud wrtho beth oedd y swyddog o Asyria wedi ei ddweud. Pan glywodd y brenin Heseceia hyn, dyma fe'n rhwygo ei ddillad, gwisgo sachliain a mynd i deml yr ARGLWYDD. A dyma fe'n anfon Eliacim, arolygwr y palas, Shefna, yr ysgrifennydd, a rhai o'r offeiriaid hynaf at y proffwyd Eseia fab Amos. Roedden nhw hefyd yn gwisgo sachliain. A dyma nhw'n dweud wrtho, “Dyma mae Heseceia'n ddweud: ‘Mae hi'n ddiwrnod o argyfwng, o gerydd ac o gywilydd, fel petai plant ar fin cael eu geni a'r fam heb ddigon o nerth i'w geni nhw. Petaet ti'n gweddïo dros y rhai ohonon ni sy'n dal ar ôl yn y ddinas, falle y byddai'r ARGLWYDD dy Dduw yn cymryd sylw o beth ddwedodd y swyddog gafodd ei anfon gan frenin Asyria i enllibio'r Duw byw, ac yn ei gosbi.’” Pan aeth gweision y brenin Heseceia at Eseia, dyma Eseia'n dweud wrthyn nhw, “Dwedwch wrth eich meistr: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Paid gadael i'r ffaith fod gweision bach brenin Asyria yn gwneud sbort ar fy mhen i dy ddychryn di. Dw i'n mynd i godi ofn arno fe. Bydd e'n clywed si am rywbeth ac yn mynd yn ôl i'w wlad ei hun. Bydda i'n gwneud iddo gael ei ladd gan y cleddyf yn ei wlad ei hun.”’” Yn y cyfamser roedd prif swyddog brenin Asyria wedi mynd yn ôl a darganfod fod ei feistr wedi gadael Lachish a'i fod yn ymladd yn erbyn tref Libna. Roedd wedi clywed fod y brenin Tirhaca (oedd o dras Affricanaidd ) ar ei ffordd i ymosod arno. Felly, dyma fe'n anfon negeswyr at Heseceia eto: “Dwedwch wrth Heseceia, brenin Jwda: ‘Peidiwch gadael i'r Duw dych chi'n ei drystio eich twyllo chi i feddwl na fydd Jerwsalem yn syrthio i ddwylo brenin Asyria. Dych chi'n gwybod yn iawn fod brenhinoedd Asyria wedi dinistrio'r gwledydd eraill i gyd. Ydych chi'n mynd i ddianc? Gafodd y gwledydd ddinistriodd fy rhagflaenwyr eu hachub gan eu duwiau? — beth am Gosan, Haran, Retseff, a pobl Eden oedd yn Telassar? Ble mae brenin Chamath? Neu frenin Arpad? Neu frenhinoedd Lahir, Seffarfaîm, Hena, ac Ifa?’” Ar ôl i Heseceia gymryd y llythyr gan y negeswyr, a'i ddarllen, aeth i'r deml a'i osod allan o flaen yr ARGLWYDD. Yna dyma Heseceia'n gweddïo: “O ARGLWYDD, Duw Israel, sy'n eistedd ar dy orsedd uwchben y ceriwbiaid. Ti sydd Dduw, yr unig un, dros deyrnasoedd y byd i gyd. Ti wnaeth greu y bydysawd a'r ddaear. O ARGLWYDD, plîs gwrando! Agor dy lygaid ARGLWYDD! Edrych! Gwranda ar beth mae Senacherib yn ei ddweud. Mae e wedi anfon neges sy'n enllibio'r Duw byw! ARGLWYDD, mae'n wir fod brenhinoedd Asyria wedi dinistrio'r bobloedd i gyd, a'u tiroedd, ac wedi llosgi eu duwiau nhw. Ond doedden nhw ddim yn dduwiau go iawn, dim ond coed neu gerrig wedi eu cerfio gan bobl, i'w haddoli. Felly nawr, O ARGLWYDD ein Duw, plîs achub ni o'i afael, er mwyn i deyrnasoedd y byd i gyd wybod mai ti ydy'r ARGLWYDD, yr unig Dduw go iawn.” Dyma Eseia fab Amos yn anfon y neges yma at Heseceia: “Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: Dw i wedi clywed dy weddi di am Senacherib, brenin Asyria, a dyma dw i, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud yn ei erbyn: Mae'r forwyn hardd, Seion, yn dy ddirmygu di! Mae hi'n gwneud hwyl ar dy ben di! Mae Jerwsalem hardd yn ysgwyd ei phen tu ôl i dy gefn di. Pwy wyt ti'n ei enllibio a'i wawdio? Yn erbyn pwy wyt ti'n codi dy lais, ac yn troi dy lygaid yn sarhaus? Yn erbyn Un Sanctaidd Israel! Rwyt ti wedi defnyddio dy negeswyr i enllibio'r Meistr, a dweud, ‘Gyda'r holl gerbydau rhyfel sydd gen i dringais i ben y mynyddoedd uchaf, ac i ben draw Libanus. Torrais i lawr y coed cedrwydd talaf, a'r coed pinwydd gorau, er mwyn cyrraedd copa uchaf y llechweddau coediog. Dw i wedi cloddio ffynhonnau ac yfed dŵr mewn lleoedd estron. Sychais holl ganghennau'r Afon Nil hefo gwadn fy nhraed.’ Mae'n rhaid dy fod wedi clywed! Fi sydd wedi trefnu'r cwbl ers talwm — mae'r cwbl wedi ei gynllunio ers amser maith, a nawr dw i'n troi'r cwbl yn ffaith: i ti droi caerau yn bentyrrau o rwbel. Does gan y bobl sy'n byw ynddyn nhw ddim nerth, maen nhw'n ddigalon, ac wedi eu cywilyddio. Maen nhw fel planhigion mewn cae, neu dyfiant ar ben to wedi ei grino gan wynt y dwyrain. Dw i'n gwybod popeth amdanat ti — dy symudiadau di i gyd, a sut rwyt ti wedi bod yn strancio yn fy erbyn i. Am dy fod ti wedi strancio yn fy erbyn i, a minnau wedi gorfod gwrando ar dy eiriau haerllug, dw i'n mynd i roi bachyn trwy dy drwyn di a ffrwyn yn dy geg di; a gwneud i ti fynd yn ôl y ffordd daethost ti.” “A dyma fydd yr arwydd i ti, Heseceia, fod hyn yn wir: Byddi'n bwyta beth sy'n tyfu ohono'i hun eleni, a'r flwyddyn nesa beth fydd wedi tyfu o hwnnw. Ond y flwyddyn wedyn cewch hau a medi, plannu gwinllannoedd a bwyta eu ffrwyth nhw. Bydd y bobl yn Jwda sydd wedi dianc a'u gadael ar ôl yn bwrw eu gwreiddiau eto, ac yn dwyn ffrwyth. Bydd y rhai sy'n weddill yn lledu allan o Jerwsalem; y rhai o Fynydd Seion wnaeth ddianc. Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn benderfynol o wneud hyn i gyd. Felly, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am frenin Asyria: ‘Fydd e ddim yn dod i mewn i'r ddinas yma. Fydd e ddim yn saethu saeth i mewn iddi; fydd e ddim yn ymosod arni hefo tarian, nac yn codi rampiau i warchae yn ei herbyn. Bydd e'n mynd yn ôl y ffordd daeth e. Fydd e ddim yn dod i mewn i'r ddinas yma’ —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. ‘Dw i'n mynd i amddiffyn ac achub y ddinas yma, er mwyn cadw fy enw da, ac am fy mod i wedi addo gwneud hynny i Dafydd, fy ngwas.’” A'r noson honno dyma angel yr ARGLWYDD yn mynd allan ac yn taro cant wyth deg pum mil o filwyr Asyria. Erbyn y bore wedyn roedden nhw i gyd yn gyrff meirw. Felly dyma Senacherib, brenin Asyria, yn codi ei wersyll, mynd yn ôl i Ninefe ac aros yno. Pan oedd e'n addoli yn nheml ei dduw Nisroch, dyma ei feibion, Adram-melech a Saretser, yn ei ladd gyda'r cleddyf ac yna'n dianc i ardal Ararat. A dyma fab arall iddo, Esar-chadon, yn dod yn frenin yn ei le. Tua'r adeg yna roedd Heseceia'n sâl. Roedd yn ddifrifol wael, a bu bron iddo farw. Daeth y proffwyd Eseia fab Amos ato a dweud wrtho, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: Rho drefn ar dy bethau, achos ti'n mynd i farw; dwyt ti ddim yn mynd i wella.” Ond dyma Heseceia'n troi at y wal a gweddïo, “O ARGLWYDD, plîs cofia sut dw i wedi byw yn hollol ffyddlon i ti. Dw i bob amser wedi gwneud beth oedd yn dy blesio di.” Roedd yn beichio crïo. Cyn bod Eseia wedi gadael iard ganol y palas, dyma'r ARGLWYDD yn siarad gydag e. “Dos yn ôl i ddweud wrth Heseceia, arweinydd fy mhobl, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud, Duw Dafydd dy dad: Dw i wedi gwrando ar dy weddi di, ac wedi gweld dy ddagrau di. Dw i'n mynd i dy iacháu di. Y diwrnod ar ôl yfory byddi'n mynd i deml yr ARGLWYDD. Dw i'n mynd i roi un deg pump mlynedd arall i ti. Dw i'n mynd i dy achub di a'r ddinas yma o afael brenin Asyria. Bydda i'n amddiffyn y ddinas yma, er mwyn cadw fy enw da, ac am fy mod i wedi addo gwneud hynny i Dafydd, fy ngwas.’” Yna dyma Eseia'n dweud, “Ewch i nôl bar o ffigys wedi eu gwasgu a'i roi ar y chwydd sydd wedi casglu, a bydd yn gwella.” Roedd Heseceia wedi gofyn i Eseia, “Pa arwydd ga i y bydd yr ARGLWYDD yn fy ngwella ac y bydda i'n mynd i fyny i'w deml y diwrnod ar ôl fory?” Ac roedd Eseia wedi ateb, “Dyma'r arwydd mae'r ARGLWYDD yn ei roi i ti i ddangos ei fod am wneud beth mae'n ddweud: ‘Wyt ti eisiau i'r cysgod ar y deial haul symud ymlaen ddeg gris, neu yn ôl ddeg gris?’” A dyma Heseceia'n ateb, “Mae'n hawdd i gysgod symud ymlaen ddeg gris. Ond sut all e fynd yn ôl ddeg gris?” Yna dyma'r proffwyd Eseia'n gweddïo, a dyma'r ARGLWYDD yn gwneud i'r cysgod symud yn ôl ddeg gris ar ddeial haul Ahas. Tua'r un pryd anfonodd Merodach-baladan, mab Baladan, brenin Babilon, negeswyr gyda llythyrau ac anrheg i Heseceia — roedd wedi clywed ei fod yn sâl. Roedd Heseceia wrth ei fodd eu bod nhw wedi dod, a dangosodd ei drysordy iddyn nhw — yr arian, yr aur, y perlysiau, a'r olew persawrus. Dangosodd ei stordy arfau iddyn nhw hefyd, a phopeth arall yn ei stordai. Dangosodd bopeth yn ei balas a'i deyrnas gyfan iddyn nhw! Yna dyma'r proffwyd Eseia yn mynd at y brenin Heseceia, a gofyn iddo: “Beth ddwedodd y dynion yna wrthot ti? O ble daethon nhw?” Atebodd Heseceia. “Daethon nhw o wlad bell iawn — o Babilon.” Gofynnodd Eseia wedyn, “Beth welon nhw yn dy balas di?” a dyma Heseceia'n ateb, “Popeth sydd gen i. Does dim byd yn fy stordai i gyd na welon nhw.” A dyma Eseia'n dweud wrth Heseceia, “Gwranda ar neges yr ARGLWYDD: ‘Edrych! Mae'r amser yn dod pan fydd popeth sy'n dy balas di, popeth gasglodd dy ragflaenwyr di hyd heddiw, yn cael ei gario i ffwrdd i Babilon. Fydd dim byd ar ôl!’ meddai'r ARGLWYDD. ‘Bydd rhai o dy deulu di, ie, dy ddisgynyddion di dy hun, yn cael eu cymryd i ffwrdd ac yn gwasanaethu fel swyddogion ym mhalas brenin Babilon.’” Dyma Heseceia yn dweud wrth Eseia, “Mae'r neges rwyt ti wedi ei rhannu gan yr ARGLWYDD yn dda.” Roedd e'n meddwl, “Be wedyn? O leia bydd heddwch a diogelwch tra dw i'n fyw.” Mae gweddill hanes Heseceia, ei lwyddiant milwrol a'r ffaith iddo adeiladu'r gronfa ddŵr a'r sianel i gario dŵr i'r ddinas, i'w gweld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda. Pan fu Heseceia farw, dyma Manasse, ei fab, yn dod yn frenin yn ei le. Un deg dwy flwydd oed oedd Manasse pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am bum deg pump o flynyddoedd. Enw ei fam oedd Hefftsiba. Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, pethau cwbl ffiaidd, fel y bobloedd roedd yr ARGLWYDD wedi eu gyrru allan o'r wlad o flaen Israel. Roedd wedi ailgodi'r allorau lleol gafodd eu dinistrio gan ei dad, Heseceia. Cododd allorau i Baal a polion i'r dduwies Ashera, fel roedd y brenin Ahab wedi gwneud yn Israel. Roedd yn plygu i lawr i'r sêr ac yn eu haddoli nhw. Dyma fe hyd yn oed yn adeiladu allorau paganaidd yn y deml — yn y lle'r roedd ARGLWYDD wedi dweud amdano, “Dw i am osod fy enw yn Jerwsalem.” Cododd allorau i'r sêr yn y ddwy iard yn y deml. Llosgodd ei fab yn aberth, ac roedd yn ymarfer dewiniaeth ac yn darogan. Roedd yn ymhél ag ysbrydion a pobl oedd yn siarad â'r meirw. Gwnaeth lawer iawn o bethau drwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, a'i bryfocio. Roedd hyd yn oed wedi gwneud delw o'r dduwies Ashera a'i gosod yn y deml! — y lle roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Dafydd a'i fab Solomon amdano, “Dw i wedi dewis Jerwsalem o blith llwythau Israel i gyd, a bydda i'n byw yn y deml yma am byth. Wna i ddim gyrru Israel allan o'r tir dw i wedi ei roi i'w hynafiaid, cyn belled â'u bod nhw'n gofalu gwneud beth dw i'n ei orchymyn iddyn nhw, sef cadw'r Gyfraith wnaeth fy ngwas Moses ei rhoi iddyn nhw.” Ond wnaethon nhw ddim gwrando. Ac roedd Manasse'n eu harwain nhw i wneud mwy o ddrwg na'r bobloedd roedd yr ARGLWYDD wedi eu gyrru allan o flaen Israel! Felly dyma'r ARGLWYDD yn dweud drwy ei broffwydi: “Mae Manasse, brenin Jwda wedi gwneud pethau ffiaidd, ac wedi pechu'n waeth na'r Amoriaid oedd o'i flaen. Mae wedi gwneud i bobl Jwda bechu hefyd, drwy addoli ei eilunod ffiaidd. Felly dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i ddod â dinistr ar Jerwsalem a Jwda. Bydd pawb fydd yn clywed am y peth yn geg agored. Dw i'n mynd i wneud i Jerwsalem beth wnes i i Samaria ac i linach Ahab. Bydda i'n sychu Jerwsalem yn lân fel mae rhywun yn sychu dysgl a'i throi hi wyneb i waered. Bydda i'n gwrthod y rhai sydd ar ôl o'm pobl, a'u rhoi nhw i'w gelynion. Byddan nhw fel ysbail i'w gasglu a gwobrau rhyfel i'w gelynion. Mae hyn am eu bod wedi gwneud pethau drwg, ac wedi fy nigio i, o'r diwrnod y daeth eu hynafiaid allan o'r Aifft hyd heddiw!” Ar ben popeth arall roedd Manasse wedi lladd lot fawr o bobl ddiniwed — roedd staen eu gwaed ar bob stryd yn Jerwsalem! Hyn heb sôn am y ffaith ei fod wedi arwain pobl Jwda i bechu a gwneud pethau oedd yn ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD. Mae gweddill hanes Manasse, a'r pethau wnaeth e gyflawni, (gan gynnwys yr holl bethau drwg wnaeth e), i'w gweld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda. Pan fuodd Manasse farw, cafodd ei gladdu yng ngardd y palas, sef gardd Wssa. A dyma Amon, ei fab, yn dod yn frenin yn ei le. Roedd Amon yn ddau ddeg dau pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am ddwy flynedd. Enw ei fam oedd Meshwlemeth (merch Charwts o Iotba). Gwnaeth yntau bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, yr un fath â'i dad Manasse. Roedd yn ymddwyn fel ei dad ac yn gwasanaethu ac addoli'r un eilunod ffiaidd. Roedd wedi troi ei gefn ar yr ARGLWYDD, Duw ei hynafiaid, ac wedi gwrthod ei ddilyn. Yna dyma rai o swyddogion y brenin Amon yn cynllwyn yn ei erbyn a'i ladd yn ei balas. Ond wedyn dyma bobl y wlad yn dienyddio pawb oedd wedi bod yn rhan o'r cynllwyn yn ei erbyn. A dyma nhw'n gwneud Joseia, ei fab, yn frenin yn ei le. Mae gweddill hanes yr hyn wnaeth Amon ei gyflawni i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda. Dyma nhw'n ei gladdu yn ei fedd yng ngardd Wssa, ac yna daeth Joseia ei fab yn frenin yn ei le. Wyth oed oedd Joseia pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am dri deg un o flynyddoedd. Enw ei fam oedd Iedida (merch Adaia o Botscath). Roedd yn gwneud beth oedd yn plesio'r ARGLWYDD, ac yn dilyn esiampl y brenin Dafydd, ei hynafiad, heb grwydro oddi wrth hynny o gwbl. Pan oedd Joseia wedi bod yn frenin am un deg wyth o flynyddoedd, dyma fe'n anfon ei ysgrifennydd, Shaffan (mab Atsaleia ac ŵyr Meshwlam), i deml yr ARGLWYDD. Dyma fe'n dweud wrtho, “Dos at Chilceia, yr archoffeiriad. Mae i gyfri'r arian mae'r porthorion wedi ei gasglu gan y bobl pan maen nhw'n dod i'r deml. Wedyn mae'r arian i'w roi i'r rhai sy'n goruchwylio'r gwaith ar y deml. Ac mae'r rheiny i dalu'r gweithwyr sy'n gwneud y gwaith atgyweirio, sef y seiri coed, adeiladwyr a'r seiri maen, ac i brynu coed a cherrig wedi eu naddu'n barod i atgyweirio'r deml. Does dim rhaid cadw cyfrifon manwl o'r arian fydd yn cael ei roi iddyn nhw, am eu bod yn weithwyr gonest.” Dyma Chilceia, yr archoffeiriad, yn dweud wrth Shaffan yr ysgrifennydd, “Dw i wedi ffeindio sgrôl o'r Gyfraith yn y deml!” A dyma fe'n rhoi'r sgrôl i Shaffan, iddo ei darllen. Yna dyma Shaffan yn mynd i roi adroddiad yn ôl i'r brenin: “Mae dy weision wedi cyfri'r arian oedd yn y deml, ac wedi ei drosglwyddo i'r dynion sy'n goruchwylio'r gwaith ar y deml.” Yna dyma fe'n dweud, “Mae Chilceia'r offeiriad wedi rhoi sgrôl i mi.” A dyma fe'n ei darllen i'r brenin. Wedi iddo glywed beth roedd sgrôl y Gyfraith yn ei ddweud, dyma'r brenin yn rhwygo ei ddillad. Yna dyma fe'n galw am Chilceia'r offeiriad, Achicam fab Shaffan, Achbor fab Michaia, Shaffan yr ysgrifennydd ac Asaia ei was personol. A dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Ewch i holi'r ARGLWYDD, ar fy rhan i a phobl Jwda i gyd, am beth mae'r sgrôl yma'n ddweud. Mae'r ARGLWYDD yn wirioneddol flin gyda ni am fod ein hynafiaid heb wneud beth mae'r sgrôl yma'n ddweud.” Felly dyma Chilceia, Achicam, Achbor, Shaffan ac Asaia yn mynd at y broffwydes Hulda. Roedd hi'n wraig i Shalwm (mab Ticfa ac ŵyr Charchas) oedd yn gofalu am y gwisgoedd. Roedd hi'n byw yn Jerwsalem yn y rhan newydd o'r ddinas. A dyma nhw'n dweud yr hanes wrthi. Dyma hi'n dweud, “Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Dwedwch wrth y dyn wnaeth eich anfon chi ata i, fy mod i'n mynd i ddod â dinistr ofnadwy ar y wlad yma, ac ar y bobl sy'n byw yma. Bydd yn union fel mae'r sgrôl mae brenin Jwda wedi ei ddarllen yn dweud. Dw i wedi gwylltio'n lân gyda nhw, a does dim yn mynd i newid hynny. Maen nhw wedi bod yn llosgi arogldarth i dduwiau eraill, a'm gwylltio i gyda'r delwau maen nhw wedi eu gwneud.’ Dwedwch wrth frenin Jwda, sydd wedi'ch anfon chi i holi'r ARGLWYDD, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am beth rwyt ti wedi ei glywed: “Am dy fod ti wedi teimlo i'r byw ac edifarhau pan glywaist ti fy mod i wedi rhybuddio'r lle yma, ac y byddwn i'n eu gwneud nhw'n esiampl o bobl wedi eu melltithio, dyma ti'n rhwygo dy ddillad ac wylo o'm blaen i, a dw i wedi gwrando,”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Cei di farw a chael dy gladdu mewn heddwch. Fydd dim rhaid i ti fyw i weld y dinistr ofnadwy fydd yn dod ar y wlad yma.”’” A dyma'r dynion yn mynd â'r neges yn ôl i'r brenin. Dyma'r brenin Joseia yn galw arweinwyr Jwda i gyd at ei gilydd yn Jerwsalem. Yna dyma fe'n mynd i'r deml, ac roedd pobl Jwda a Jerwsalem, yr offeiriaid a'r proffwydi gydag e. Roedd pawb yno, o'r ifancaf i'r hynaf. Yna dyma sgrôl yr ymrwymiad oedd wedi ei darganfod yn y deml yn cael ei darllen yng nghlyw pawb. A dyma'r brenin yn sefyll wrth y piler ac addo o flaen yr ARGLWYDD, i wneud ei orau glas i ddilyn yr ARGLWYDD a cadw ei orchmynion, ei ofynion, a'i reolau. Roedd yn addo cadw amodau'r ymrwymiad oedd yn y sgrôl. A dyma'r bobl yn sefyll i ddangos eu bod yn cytuno. Yna dyma'r brenin yn gorchymyn i Chilceia'r archoffeiriad a'r offeiriaid cynorthwyol a'r porthorion i gymryd allan o'r deml bopeth oedd yn cael ei ddefnyddio i addoli Baal a'r dduwies Ashera a'r sêr. A dyma fe'n llosgi'r cwbl y tu allan i Jerwsalem ar gaeau teras Cidron, ac yna mynd â'r lludw i Bethel. Yna dyma fe'n sacio'r offeiriaid ffals oedd wedi eu penodi gan frenhinoedd Jwda i losgi arogldarth ar yr allorau lleol yn nhrefi Jwda ac o gwmpas Jerwsalem (llosgi arogldarth i Baal, ac i'r haul, lleuad, planedau a sêr). Yna dyma fe'n symud polyn y dduwies Ashera o'r deml, a mynd ag e allan o Jerwsalem i ddyffryn Cidron, a'i losgi yno. Wedyn malu beth oedd ar ôl yn llwch mân, a taflu'r llwch i'r fynwent gyhoeddus. Wedyn, dyma fe'n chwalu ystafelloedd y puteinwyr yn y deml, wrth ymyl lle roedd y merched yn gwau llenni ar gyfer Ashera. Dyma fe'n symud yr offeiriaid i gyd o drefi Jwda, a difetha'r holl allorau lleol lle buon nhw'n llosgi arogldarth — o Geba i Beersheba. Wedyn dyma fe'n chwalu'r allorau i'r gafr-ddemoniaid oedd wrth giât Josua, rheolwr y ddinas — ar y chwith wrth fynd drwy'r giât i'r ddinas. Doedd offeiriaid yr allorau lleol ddim yn cael gwasanaethu wrth allor yr ARGLWYDD yn Jerwsalem. Ond roedden nhw yn cael bwyta'r bara heb furum ynddo gyda'u cyd-offeiriaid. Dyma fe'n difetha'r Toffet oedd yn nyffryn Ben-hinnom, rhag i neb losgi ei fab neu ferch yn aberth i'r duw Molech. A dyma fe'n cael gwared â'r ceffylau oedd brenhinoedd Jwda wedi eu cysegru i'r haul (roedden nhw yn yr iard, wrth y fynedfa i'r deml, wrth ymyl tŷ Nathan-melech, swyddog y palas), a llosgi cerbydau'r haul. Yna dyma fe'n chwalu'r allorau oedd brenhinoedd Jwda wedi eu codi ar y to uwchben llofft Ahas, a'r allorau roedd Manasse wedi eu hadeiladu yn y ddwy iard yn y deml. Malodd nhw'n lwch mân a thaflu'r llwch i ddyffryn Cidron. Wedyn chwalu'r allorau lleol paganaidd oedd i'r dwyrain o Jerwsalem ac i'r de o Fynydd y Llygredd, y rhai oedd wedi eu hadeiladu gan y Brenin Solomon i'r duwiau ffiaidd, Ashtart (duwies Sidon), Chemosh (duw Moab), a Milcom (duw pobl Ammon). Dyma Joseia'n malu'r colofnau cysegredig, torri i lawr bolion y dduwies Ashera a gwasgaru esgyrn dynol lle roedden nhw'n arfer bod. Dyma fe hyd yn oed yn chwalu'r allor oedd Jeroboam fab Nebat wedi ei chodi yn Bethel (yr un wnaeth i Israel bechu). Tynnodd yr allor a'r man sanctaidd i lawr a'u llosgi. Malodd yr allor leol yn llwch mân a llosgi polion y dduwies Ashera. Pan drôdd rownd dyma Joseia'n sylwi fod beddau ar ochr y bryn. Felly dyma fe'n anfon dynion i nôl esgyrn dynol o'r beddau a'u llosgi nhw ar yr allor, i'w llygru hi. A dyna sut daeth y neges roddodd yr ARGLWYDD drwy ei broffwyd yn wir, pan oedd Jeroboam yn sefyll wrth yr allor yn ystod rhyw Ŵyl. Yna dyma'r brenin Joseia yn digwydd sylwi ar fedd y proffwyd oedd wedi dweud y byddai hyn i gyd yn digwydd. “Beth ydy'r garreg fedd yna?” gofynnodd. A dyma bobl Bethel yn ateb, “Dyna fedd y proffwyd ddaeth o Jwda a proffwydo'n union beth rwyt ti wedi ei wneud ar allor Bethel.” A dyma Joseia'n dweud, “Gadwch lonydd iddo fe. Does neb i ymyrryd â'i esgyrn e.” Felly dyma nhw'n gadael llonydd i'w esgyrn e, ac esgyrn y proffwyd arall o ardal Samaria oedd wedi ei gladdu yna. Dyma Joseia hefyd yn cael gwared â'r temlau ar allorau lleol oedd yn nhrefi Samaria. Brenhinoedd Israel oedd wedi eu codi nhw, ac wedi digio'r ARGLWYDD drwy wneud hynny. Gwnaeth Joseia'r un peth i'r allorau hynny ag roedd wedi ei wneud i'r allor leol yn Bethel. Dyma fe'n lladd offeiriaid y temlau, a llosgi esgyrn dynol ar yr allorau. Ar ôl gwneud hyn i gyd, dyma Joseia'n mynd yn ôl i Jerwsalem. Yna dyma'r brenin Joseia yn gorchymyn i'r bobl, “Dych chi i ddathlu Pasg yr ARGLWYDD eich Duw, yn union fel mae'n dweud yn sgrôl yr ymrwymiad yma.” Doedd y Pasg ddim wedi cael ei gadw fel yma ers cyfnod y barnwyr — dim drwy holl gyfnod brenhinoedd Israel a Jwda. Roedd Joseia wedi bod yn frenin am un deg wyth o flynyddoedd pan gynhaliwyd y Pasg yma i'r ARGLWYDD yn Jerwsalem. Roedd Joseia hefyd wedi cael gwared â phawb oedd yn ymhél ag ysbrydion ac yn siarad â'r meirw, pob eilun-ddelw teuluol a'r eilunod ffiaidd eraill oedd i'w gweld yn Jwda a Jerwsalem. Gwnaeth ei orau glas i gadw gofynion y gyfraith oedd ar y sgrôl roedd Chilceia'r offeiriad wedi dod o hyd iddi yn y deml. Fuodd yna ddim brenin tebyg iddo o'i flaen nac ar ei ôl. Roedd wedi troi at yr ARGLWYDD â'i holl galon, ei holl enaid a'i holl nerth, i wneud fel mae Cyfraith Moses yn gofyn. Ac eto, roedd yr ARGLWYDD yn dal yn ddig gyda Jwda; roedd yr holl bethau oedd Manasse wedi eu gwneud wedi ei ddigio fe gymaint. Dwedodd, “Dw i'n mynd i droi cefn ar Jwda fel dw i wedi gwneud gydag Israel. Dw i'n mynd i wrthod y ddinas yma roeddwn i wedi ei dewis — Jerwsalem, a'r deml y dwedais i amdani, ‘Dyma ble bydda i'n byw.’” Mae gweddill hanes Joseia, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda. Yn ystod cyfnod Joseia roedd Pharo Necho, brenin yr Aifft, wedi mynd at yr Afon Ewffrates i helpu brenin Asyria. Dyma Joseia yn arwain ei fyddin allan i ymladd yn ei erbyn, ond dyma Pharo Necho yn lladd Joseia yn y frwydr yn Megido. Dyma ei weision yn mynd â'i gorff yn ôl o Megido i Jerwsalem mewn cerbyd rhyfel, a cafodd ei gladdu yn ei fedd ei hun. Yna dyma bobl y wlad yn cymryd Jehoachas, mab Joseia, a'i eneinio'n frenin yn lle ei dad. Roedd Jehoachas yn ddau ddeg tri pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am dri mis. Enw ei fam oedd Chamwtal (merch Jeremeia o Libna ). Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD fel ei hynafiaid o'i flaen. Dyma Pharo Necho yn ei ddal a'i gadw yn y ddalfa yn Ribla yn ardal Chamath, a dod a'i deyrnasiad yn Jerwsalem i ben. Ar ôl gosod treth ar y wlad o dair mil cilogram o arian a tri deg cilogram o aur, dyma Pharo Necho'n gwneud Eliacim (mab arall i Joseia) yn frenin yn lle ei dad, a newid ei enw i Jehoiacim. Yna cymryd Jehoachas i lawr i'r Aifft, a dyna lle buodd hwnnw farw. Roedd Jehoiacim yn talu'r arian a'r aur oedd y Pharo yn ei hawlio, ond i wneud hynny roedd rhaid iddo drethu'r wlad i gyd. Casglodd yr arian i dalu Pharo Necho drwy godi treth oedd yn seiliedig ar faint o eiddo oedd gan bob un. Roedd Jehoiacim yn ddau ddeg pump oed pan gafodd ei wneud yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am un deg un o flynyddoedd. Enw ei fam oedd Sebida (merch Pedaia o dref Rwma). Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD fel ei hynafiaid o'i flaen. Pan oedd Jehoiacim yn frenin, dyma Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn ymosod ar y wlad. Buodd Jehoiacim dan ei reolaeth am dair blynedd. Ond yna dyma fe'n gwrthryfela. Dyma'r ARGLWYDD yn anfon grwpiau o filwyr o Babilon, Syria, Moab ac Ammon i ymosod ar Jwda. A dyma nhw'n dinistrio'r wlad fel roedd yr ARGLWYDD wedi rhybuddio trwy ei weision y proffwydi. Does dim amheuaeth mai'r ARGLWYDD wnaeth drefnu i hyn ddigwydd. Roedd e am eu gyrru nhw o'i olwg o achos yr holl bethau drwg roedd Manasse wedi eu gwneud. Roedd wedi lladd pobl ddiniwed — roedd staen eu gwaed ym mhobman drwy Jerwsalem, a doedd yr ARGLWYDD ddim am faddau hynny. Mae gweddill hanes Jehoiacim, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda. Pan fuodd Jehoiacim farw daeth ei fab Jehoiachin yn frenin yn ei le. Wnaeth brenin yr Aifft ddim dod allan o'i wlad i ymladd eto, am fod brenin Babilon wedi concro'r holl diroedd roedd e'n arfer eu rheoli, o Wadi'r Aifft i Afon Ewffrates. Un deg wyth oed oedd Jehoiachin pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am dri mis. Enw ei fam oedd Nechwshta (merch Elnathan o Jerwsalem). Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD fel ei dad o'i flaen. Yr adeg yma dyma fyddin Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn dod a gwarchae ar Jerwsalem. Tra roedden nhw'n gwarchae arni dyma Nebwchadnesar ei hun yn dod i arwain yr ymosodiad. A dyma Jehoiachin, brenin Jwda, yn ildio ac yn mynd allan at frenin Babilon gyda'i fam, gweinidogion y llywodraeth, ei gapteiniaid a swyddogion y palas. Roedd Nebwchadnesar wedi bod yn frenin am wyth mlynedd pan gymerodd Jehoiachin yn garcharor. Yna dyma Nebwchadnesar yn cymryd trysorau'r deml i gyd, a thrysorau'r palas, a malu'r holl lestri aur roedd y brenin Solomon wedi eu gwneud i'r deml. Digwyddodd y cwbl yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi rhybuddio. A dyma fe'n cymryd pobl Jerwsalem yn gaethion, gan gynnwys y capteniaid a'r milwyr dewr, y crefftwyr a'r gweithwyr metel — deg mil o bobl i gyd. Doedd neb ar ôl ond y werin dlawd. Dyma fe'n mynd â Jehoiachin yn gaeth i Babilon, a'i fam a'i wragedd, swyddogion y palas a pobl fawr y wlad i gyd. Aeth â'r saith mil o filwyr oedd yn y wlad yn gaethion, a'r mil o ofaint a gweithwyr metel — pob milwr dewr oedd yn gallu ymladd. Yna dyma frenin Babilon yn gwneud Mataneia (ewythr Jehoiachin) yn frenin, a newid ei enw i Sedeceia. Roedd Sedeceia yn ddau ddeg un oed pan gafodd ei benodi'n frenin. Bu'n teyrnasu yn Jerwsalem am un deg un mlynedd. Enw ei fam oedd Chamwtal (merch Jeremeia o Libna ). Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn union fel y brenin Jehoiacim. Felly gyrrodd yr ARGLWYDD bobl Jerwsalem a Jwda o'i olwg am ei fod mor ddig hefo nhw. Ond yna dyma Sedeceia yn gwrthryfela yn erbyn brenin Babilon. Dyma Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn dod â'i fyddin gyfan i ymosod ar Jerwsalem. Digwyddodd hyn ar y degfed diwrnod o'r degfed mis o nawfed flwyddyn Sedeceia fel brenin. Dyma nhw'n gwersylla o gwmpas y ddinas, ac yn codi rampiau i warchae arni. Buon nhw'n gwarchae ar y ddinas am flwyddyn a hanner (blwyddyn un deg un Sedeceia fel brenin.) Erbyn y nawfed diwrnod o'r pedwerydd mis y flwyddyn honno roedd y newyn yn y ddinas mor ddrwg doedd gan y werin bobl ddim byd o gwbl i'w fwyta. Dyma'r gelyn yn llwyddo i fylchu wal y ddinas. A dyma filwyr Jwda i gyd yn ceisio dianc, a mynd allan o'r ddinas ganol nos drwy'r giât sydd rhwng y ddwy wal wrth ymyl gardd y brenin. Dyma nhw'n dianc i gyfeiriad Dyffryn Iorddonen (Roedd y Babiloniaid yn amgylchynu'r ddinas.) Ond aeth byddin Babilon ar ôl y brenin Sedeceia. Cafodd ei ddal ar wastatir Jericho, a dyma ei fyddin gyfan yn cael ei gyrru ar chwâl. Dyma nhw'n mynd â'r brenin Sedeceia i sefyll ei brawf o flaen brenin Babilon yn Ribla. Cafodd Sedeceia ei orfodi i edrych ar ei feibion yn cael eu lladd. Wedyn dyma nhw'n tynnu llygaid Sedeceia allan a'i roi mewn cadwyni pres cyn mynd ag e'n gaeth i Babilon. Rhyw fis yn ddiweddarach, dyma Nebwsaradan, capten y gwarchodlu brenhinol, un o swyddogion pwysica brenin Babilon, yn cyrraedd Jerwsalem (Roedd hyn ar y degfed diwrnod o'r pumed mis, a Nebwchadnesar wedi bod yn frenin Babilon ers un deg naw o flynyddoedd.) Dyma fe'n rhoi teml yr ARGLWYDD, palas y brenin, a'r tai yn Jerwsalem i gyd ar dân. Llosgodd yr adeiladau pwysig i gyd. Wedyn dyma fyddin Babilon oedd gyda'r capten yn bwrw i lawr y waliau o gwmpas Jerwsalem. A dyma Nebwsaradan yn mynd â'r bobl oedd wedi eu gadael ar ôl yn y ddinas, y milwyr oedd wedi mynd drosodd at y gelyn ac unrhyw grefftwyr oedd ar ôl, yn gaethion i Babilon. Ond gadawodd rai o'r bobl mwyaf tlawd yn y wlad, a rhoi gwinllannoedd a tir iddyn nhw edrych ar ei ôl. Wedyn dyma'r Babiloniaid yn malu'r offer pres oedd yn y deml — y ddwy golofn bres, y trolïau dŵr pres, a'r basn mawr pres oedd yn cael ei alw ‛Y Môr‛. A dyma nhw'n cario'r metel yn ôl i Babilon. Dyma nhw hefyd yn cymryd y bwcedi lludw, y rhawiau, y sisyrnau, y powlenni arogldarth, a phopeth arall o bres oedd yn cael ei ddefnyddio yn yr addoliad. Cymerodd capten y gwarchodlu y padellau a'r dysglau — popeth oedd wedi ei wneud o aur pur neu arian. Roedd cymaint o bres yn y ddau biler, y gronfa ddŵr a'r trolïau oedd Solomon wedi eu gwneud ar gyfer y deml, roedd y cwbl yn ormod i'w bwyso. Roedd y pileri yn wyth metr o uchder, gyda capan pres ar y top, ac roedd hwnnw yn fetr a hanner o uchder. O gwmpas top y capan roedd rhwyllwaith cain a phomgranadau yn ei haddurno, y cwbl wedi ei wneud o bres. Roedd y ddau biler yn union yr un fath. Cymerodd capten y gwarchodlu brenhinol rai carcharorion hefyd. Cymerodd Seraia (y prif-offeiriad), Seffaneia (yr offeiriad cynorthwyol), a tri porthor y deml. Wedyn o'r ddinas cymerodd swyddog y llys oedd yn gyfrifol am y milwyr, pump o gynghorwyr y brenin oedd wedi cael eu darganfod yn cuddio yn y ddinas, ac un o'r swyddogion oedd yn drafftio pobl i ymladd yn y fyddin, a chwe deg o'i ddynion gafodd eu darganfod yn y ddinas. A dyma Nebwsaradan, capten y gwarchodwyr, yn mynd â nhw at frenin Babilon i Ribla, a dyma'r brenin yn eu curo nhw a'u dienyddio nhw yno. Felly roedd pobl Jwda wedi cael eu caethgludo o'u tir. Dyma Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn penodi Gedaleia (mab Achicam ac ŵyr i Shaffan), yn llywodraethwr dros y bobl roedd wedi eu gadael ar ôl yng ngwlad Jwda. Pan glywodd swyddogion byddin Jwda a'u milwyr fod brenin Babilon wedi penodi Gedaleia i reoli'r wlad, dyma nhw'n mynd i'w gyfarfod yn Mitspa: Ishmael fab Nethaneia, Iochanan fab Careach, Seraia fab Tanchwmeth o Netoffa, a Iaasaneia (mab y Maachathiad). Daeth y rhain i gyd gyda'u milwyr. A dyma Gedaleia yn addo ar lw iddyn nhw, “Does dim rhaid i chi fod ag ofn swyddogion Babilon. Arhoswch yn wlad a gwasanaethu brenin Babilon, a bydd popeth yn iawn.” Ond yn y seithfed mis dyma Ishmael, oedd yn perthyn i'r teulu brenhinol (mab Nethaneia ac ŵyr i Elishama), yn mynd i Mitspa gyda deg o'i ddynion a lladd Gedaleia a'r dynion o Jwda a Babilon oedd yno gydag e. Yna dyma'r boblogaeth i gyd (o'r ifancaf i'r hynaf) a swyddogion y fyddin, yn ffoi i'r Aifft am eu bod ofn beth fyddai'r Babiloniaid yn ei wneud. Roedd Jehoiachin, brenin Jwda, wedi bod yn garcharor am dri deg saith o flynyddoedd pan ddaeth Efil-merodach yn frenin ar Babilon. Ar y seithfed ar hugain o'r deuddegfed mis y flwyddyn honno dyma Efil-merodach yn rhyddhau Jehoiachin o garchar. Buodd yn garedig ato, a'i anrhydeddu fwy nag unrhyw un o'r brenhinoedd eraill oedd gydag e yn Babilon. Felly dyma Jehoiachin yn newid o'i ddillad carchar. Cafodd eistedd i fwyta'n rheolaidd wrth fwrdd brenin Babilon, ac roedd yn derbyn lwfans dyddiol gan y brenin am weddill ei fywyd. Adda, Seth, Enosh, Cenan, Mahalal-el, Iered, Enoch, Methwsela, Lamech, Noa, Shem, Cham, a Jaffeth. Meibion Jaffeth: Gomer, Magog, Madai, Iafan, Twbal, Meshech, a Tiras. Disgynyddion Gomer oedd pobl Ashcenas, Riffath, a Togarma. Disgynyddion Iafan oedd pobl Elisha, Tarshish, Cittim, a Rhodos. Meibion Cham: Cwsh, Mitsraïm, Pwt, a Canaan. Disgynyddion Cwsh oedd pobl Seba, Hafila, Sabta, Raama, a Sabtecha. Disgynyddion Raama oedd pobl Sheba a Dedan. Cafodd Cwsh fab arall o'r enw Nimrod: y concwerwr cyntaf ar y ddaear. Disgynyddion Mitsraïm oedd y Lydiaid, Anamiaid, Lehabiaid (pobl Libia), Nafftwiaid, Pathrwsiaid, Caslwchiaid (y daeth y Philistiaid ohonyn nhw), a'r Cafftoriaid. Disgynyddion Canaan oedd pobl Sidon (o'i fab hynaf), a'r Hethiaid, y Jebwsiaid, Amoriaid, Girgasiaid, Hefiaid, Arciaid, Siniaid, Arfadiaid, Semariaid, a phobl Chamath. Meibion Shem: Elam, Ashŵr, Arffacsad, Lwd, ac Aram. Disgynyddion Aram oedd pobl Us, Chwl, Gether, a Meshech. Arffacsad oedd tad Shelach, a Shelach oedd tad Eber. Roedd gan Eber ddau fab — cafodd un ei alw'n Peleg, am mai dyna pryd y cafodd ieithoedd y byd eu rhannu. Enw ei frawd oedd Ioctan. Disgynyddion Ioctan oedd pobl Almodad, Sheleff, Chatsar-mafeth, Ierach, Hadoram, Wsal, Dicla, Obal, Abima-el, Sheba, Offir, Hafila, a Iobab. Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Ioctan. Cangen arall o deulu Shem: Shem, drwy Arffacsad, Shelach, Eber, Peleg, Reu, Serwg, Nachor, Tera, i Abram (sef Abraham). Meibion Abraham: Isaac ac Ishmael. A dyma eu disgynyddion nhw: Nebaioth oedd mab hynaf Ishmael, wedyn Cedar, Adbeël, Mifsam, Mishma, Dwma, Massa, Hadad, Tema, Ietwr, Naffish a Cedema. Y rhain oedd meibion Ishmael. Meibion Cetwra, partner Abraham: Simran, Iocsan, Medan, Midian, Ishbac a Shwach. Meibion Iocsan: Sheba, a Dedan. Meibion Midian: Effa, Effer, Hanoch, Abida, ac Eldaa. Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Cetwra. Abraham oedd tad Isaac. A meibion Isaac oedd Esau ac Israel. Meibion Esau: Eliffas, Reuel, Iewsh, Ialam, a Cora. Meibion Eliffas: Teman, Omar, Seffi, Gatam, Cenas, a (drwy Timna) Amalec. Meibion Reuel: Nachath, Serach, Shamma, a Missa. Meibion Seir: Lotan, Shofal, Sibeon, Ana, Dishon, Etser a Dishan. Meibion Lotan: Chori, a Homam (A Timna oedd chwaer Lotan.) Meibion Shofal: Alïan, Manachath, Ebal, Sheffo ac Onam. Meibion Sibeon: Aia, ac Ana. Mab Ana: Dishon. Meibion Dishon: Hemdan, Eshban, Ithran a Ceran. Meibion Etser: Bilhan, Saafan, a Iacân. Meibion Dishan: Us ac Aran. Dyma enwau brenhinoedd gwlad Edom yn y cyfnod cyn i Israel gael brenin: Bela fab Beor, oedd yn dod o dref Dinhaba. Ar ôl i Bela farw dyma Iobab fab Serach o Bosra yn dod yn frenin yn ei le. Ar ôl i Iobab farw, Chwsham o ardal Teman ddaeth yn frenin. Ar ôl i Chwsham farw, Hadad fab Bedad o dre Afith ddaeth yn frenin. (Hadad wnaeth orchfygu Midian mewn brwydr yn Moab.) Ar ôl i Hadad farw dyma Samla o Masreca yn dod yn frenin. Ar ôl i Samla farw, Saul o Rehoboth ar Afon Ewffrates ddaeth yn frenin. Ar ôl i Saul farw dyma Baal-chanan fab Achbor yn dod yn frenin. Wedyn ar ôl i Baal-chanan farw dyma Hadad o dre Pai yn dod yn frenin. Enw ei wraig oedd Mehetafél (merch Matred ac wyres Me-sahab). Yna dyma Hadad yn marw. A dyma enwau arweinwyr Edom: Timna, Alfa, Ietheth, Oholibama, Ela, Pinon, Cenas, Teman, Miftsar, Magdiel ac Iram. Y rhain oedd arweinwyr llwythau Edom. Dyma feibion Israel: Reuben, Simeon, Lefi, Jwda, Issachar, a Sabulon. Dan, Joseff, Benjamin, Nafftali, Gad, ac Asher. Meibion Jwda: Er, Onan a Shela. (Cafodd y tri yma eu geni i wraig o Canaan, sef merch Shwa.) Roedd Er, mab hynaf Jwda, yn gwneud pethau oedd ddim yn plesio'r ARGLWYDD, felly dyma'r ARGLWYDD yn ei ladd e. Yna dyma Tamar, merch-yng-nghyfraith Jwda yn cael dau fab iddo — sef Perets a Serach. Felly roedd gan Jwda bump mab i gyd. Meibion Perets: Hesron a Chamŵl. Meibion Serach: Simri, Ethan, Heman, Calcol a Dara — pump i gyd. Mab Carmi: Achar, yr un achosodd helynt i Israel drwy ddwyn beth oedd wedi ei gysegru i Dduw. Mab Ethan: Asareia. Meibion Hesron: Ierachmeël, Ram a Caleb. Ram oedd tad Aminadab, Aminadab oedd tad Nachshon, pennaeth llwyth Jwda. Nachshon oedd tad Salma, a Salma oedd tad Boas. Boas oedd tad Obed, ac Obed oedd tad Jesse. Jesse oedd tad Eliab (ei fab hynaf), yna Abinadab, Shamma, Nethanel, Radai, Otsem a Dafydd. A'i chwiorydd nhw oedd Serwia ac Abigail. Roedd gan Serwia dri mab — Abishai, Joab ac Asahel. Cafodd Abigail fab o'r enw Amasa, a'r tad oedd Jether yr Ismaeliad. Cafodd Caleb fab Hesron blant gyda'i wraig Aswba a gyda Ierioth. Ei meibion hi oedd Jeser, Shofaf ac Ardon. Pan fuodd Aswba farw, dyma Caleb yn priodi Effrath, a cafodd hi fab arall iddo, sef Hur. Hur oedd tad Wri, ac Wri oedd tad Betsalel. Dyma Hesron yn cael rhyw gyda merch i Machir (tad Gilead). Roedd e wedi ei phriodi pan oedd yn chwe deg oed. A dyma hi'n cael mab iddo, sef Segwf. Segwf oedd tad Jair, oedd yn berchen dau ddeg tri o bentrefi yn ardal Gilead. (Ond dyma Geshwr a Syria yn dal pentrefi Jair, a tref Cenath hefyd gyda'r chwe deg pentref o'i chwmpas.) Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Machir, tad Gilead. Ar ôl i Hesron farw dyma Caleb ei fab yn cael rhyw gydag Effrath, gweddw ei dad. A dyma hi'n cael mab iddo fe, sef Ashchwr, ddaeth yn dad i Tecoa. Meibion Ierachmeël, mab hynaf Hesron: Ram (yr hynaf), Bwna, Oren, Otsem ac Achïa. Ac roedd gan Ierachmeël wraig arall o'r enw Atara, a hi oedd mam Onam. Meibion Ram (mab hynaf Ierachmeël): Maas, Iamin ac Ecer. Meibion Onam: Shammai a Iada. Meibion Shammai: Nadab ac Abishŵr. Gwraig Abishŵr oedd Abihail, gafodd ddau blentyn iddo, sef Achban a Molid. Meibion Nadab: Seled ac Appaïm. (Buodd Seled farw heb gael plant). Mab Appaïm: Ishi. Mab Ishi: Sheshan. Mab Sheshan: Achlai. Meibion Iada (brawd Shammai): Jether a Jonathan. (Buodd Jether farw heb gael plant). Meibion Jonathan: Peleth a Sasa. Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Ierachmeël. Doedd gan Sheshan ddim meibion, dim ond merched. Roedd ganddo was o'r enw Iarcha oedd yn Eifftiwr. A dyma Sheshan yn rhoi un o'i ferched yn wraig i Iarcha, a dyma hi'n cael mab iddo, sef Attai. Attai oedd tad Nathan, Nathan oedd tad Safad, Safad oedd tad Efflal, Efflal oedd tad Obed, Obed oedd tad Jehw, Jehw oedd tad Asareia, Asareia oedd tad Chelets, Chelets oedd tad Elasa, Elasa oedd tad Sismai, Sismai oedd tad Shalwm, Shalwm oedd tad Iecameia, a Iecameia oedd tad Elishama. Meibion Caleb, brawd Ierachmeël: Mesha (ei fab hynaf), oedd yn dad i Siff, a Maresha (ei ail fab), oedd yn dad i Hebron. Meibion Hebron: Cora, Tappŵach, Recem a Shema. Shema oedd tad Racham, oedd yn dad i Iorceam. Recem oedd tad Shammai. Mab Shammai oedd Maon, oedd yn dad i Beth-tswr. Dyma Effa, partner Caleb, yn geni Haran, Motsa a Gases. Charan oedd tad Gases. Meibion Iahdai: Regem, Jotham, Geshan, Pelet, Effa a Shaäff. Dyma Maacha, partner Caleb, yn geni Shefer a Tirchana. Hi hefyd oedd mam Shaäff oedd yn dad i Madmanna, a Shefa oedd yn dad i Machbena a Gibea. Merch arall Caleb oedd Achsa. Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Caleb. Meibion Hur, mab hynaf Effrath, gwraig Caleb: Shofal (hynafiad pobl Ciriath-iearim), Salma (hynafiad pobl Bethlehem), a Chareff (hynafiad pobl Beth-gader). Disgynyddion Shofal, hynafiad Ciriath-iearim, oedd Haroe a hanner y Menwchoiaid, llwythau Ciriath-iearim — yr Ithriaid, Pwthiaid, Shwmathiaid, a'r Mishraiaid. (Roedd y Soriaid a'r Eshtaoliaid yn ddisgynyddion i'r grwpiau yma hefyd.) Disgynyddion Salma: pobl Bethlehem, y Netoffathiaid, Atroth-beth-joab, hanner arall y Manachathiaid, y Soriaid, a teuluoedd yr ysgrifenyddion oedd yn byw yn Jabets, sef y Tirathiaid, Shimeathiaid, a'r Swchathiaid. Y rhain ydy'r Ceneaid, sy'n ddisgynyddion i Chamath, tad Beth-rechab. Dyma'r meibion gafodd Dafydd pan oedd yn byw yn Hebron: Amnon oedd yr hynaf, plentyn Achinoam o Jesreel. Yr ail oedd Daniel, plentyn Abigail o Carmel, gweddw Nabal. Y trydydd oedd Absalom, mab Maacha oedd yn ferch i Talmai, brenin Geshwr. Y pedwerydd oedd Adoneia, mab Haggith. Y pumed oedd Sheffateia mab Abital. Y chweched oedd Ithream, plentyn Egla, gwraig arall iddo. Cafodd y chwech yma eu geni pan oedd Dafydd yn Hebron. Roedd yn frenin yno am saith mlynedd a hanner. Yna roedd yn frenin yn Jerwsalem am dri deg tair o flynyddoedd. A dyma'r meibion gafodd e yno: Shamma, Shofaf, Nathan, a Solomon — mam y pedwar oedd Bathseba ferch Ammiel. Naw mab arall Dafydd oedd: Ifchar, Elishwa, Eliffelet, Noga, Neffeg, Jaffia, Elishama, Eliada, ac Eliffelet. Meibion Dafydd oedd y rhain i gyd, heb gyfri plant ei bartneriaid. Tamar oedd eu chwaer nhw. Mab Solomon oedd Rehoboam, wedyn Abeia, ei fab e, ac yn y blaen drwy Asa, Jehosaffat, Jehoram, Ahaseia, Joas, Amaseia, Asareia, Jotham, Ahas, Heseceia, Manasse, Amon, a Joseia a'i bedwar mab e, Iochanan (yr hynaf), yna Jehoiacim, Sedeceia, a Shalwm. Jehoiacim oedd tad Jehoiachin a Sedeceia. Meibion Jehoiachin gafodd ei gaethgludo: Shealtiel, Malciram, Pedaia, Shenatsar, Iecameia, Hoshama, a Nedabeia. Meibion Pedaia: Serwbabel a Shimei. Meibion Serwbabel: Meshwlam a Chananeia; a Shlomit oedd eu chwaer nhw. Y pump arall oedd Chashwfa, Ohel, Berecheia, Chasadeia, a Iwshaf-chesed. Disgynyddion Chananeia: Plateia a Ieshaia, meibion Reffaia, meibion Arnan, meibion Obadeia, a meibion Shechaneia. Disgynyddion Shechaneia: Shemaia a'i feibion: Chattwsh, Igal, Barïach, Nearia, a Shaffat — chwech i gyd. Meibion Nearia: Elioenai, Heseceia, ac Asricam, tri. Meibion Elioenai: Hodafia, Eliashif, Pelaia, Accwf, Iochanan, Delaia, ac Anani — saith i gyd. Disgynyddion Jwda: Perets, Hesron, Carmi, Hur, a Shofal. Roedd Reaia fab Shofal yn dad i Iachath. Yna Iachath oedd tad Achwmai a Lahad. Y rhain oedd teuluoedd y Soriaid. Dyma feibion Etam: Jesreel, Ishma ac Idbash: ac enw eu chwaer nhw oedd Hatselelponi. Penuel oedd tad Gedor, ac Eser oedd tad Chwsha. Roedd y rhain yn ddisgynyddion i Hur, mab hynaf Effrath a hynafiad pobl Bethlehem. Roedd gan Ashchwr, tad Tecoa, ddwy wraig, sef Chela a Naära: Naära oedd mam Achwsam, Cheffer, Temeni, a Haachashtari. Y rhain oedd meibion Naära. Meibion Chela oedd Sereth, Sochar, Ethnan a Cots (tad Anwf a Hatsobeba), a hefyd hynafiad teuluoedd Achar-chel fab Harwm. Roedd Jabets yn cael ei barchu fwy na'i frodyr. (Rhoddodd ei fam yr enw Jabets iddo am ei bod wedi cael poenau ofnadwy pan gafodd e ei eni.) Gweddïodd Jabets ar Dduw Israel, “Plîs bendithia fi, a rhoi mwy o dir i mi! Cynnal fi! Cadw fi'n saff fel bod dim rhaid i mi ddioddef!” A dyma Duw yn ateb ei weddi. Celwb oedd brawd Shwcha a tad Mechir, a Mechir oedd tad Eshton. Eshton oedd tad Bethraffa, Paseach a Techinna (tad Ir-nachash). Dyma bobl Recha. Meibion Cenas: Othniel a Seraia. Meibion Othniel: Chathath a Meonothai. Meonothai oedd tad Offra. Seraia oedd tad Joab, hynafiad y bobl sy'n byw yn Ge-charashîm (sy'n cael yr enw am eu bod nhw yn grefftwyr). Meibion Caleb fab Jeffwnne: Irw, Ela, a Naäm. Mab Ela: Cenas. Meibion Jehalel-el: Siff, Siffa, Tireia, ac Asarel. Meibion Esra: Jether, Mered, Effer a Jalon. Dyma wraig Mered (Bithia) yn cael plant: Miriam, Shammai, ac Ishbach oedd yn dad i Eshtemoa. Ei wraig e o Jwda oedd mam Iered (tad Gedor), Heber (tad Socho) a Iecwthiel (tad Sanoach.) Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Bitheia, merch y Pharo, oedd wedi priodi Mered. Meibion gwraig Hodeia, chwaer Nacham: tad Ceila y Garmiad ac Eshtemoa y Maachathiad. Meibion Shimon: Amnon, Rinna, Ben-chanan, a Tilon. Disgynyddion Ishi: Socheth a Ben-socheth. Meibion Shela fab Jwda: Er (tad Lecha), Lada (tad Maresha), teuluoedd y gweithwyr lliain main yn Beth-ashbea, Iocim, dynion Cosefa, Joash a Saraff — y ddau yn arweinwyr yn Moab a Iashwfi Lechem. (Mae'r hanesion yma yn dod o archifau hynafol.) Roedden nhw'n gwneud crochenwaith, yn byw yn Netaim a Gedera, ac yn gweithio i'r brenin. Disgynyddion Simeon: Nemwel, Iamin, Iarîf, Serach, a Saul, wedyn Shalwm ei fab e, Mifsam ei fab yntau, a Mishma mab hwnnw. Disgynyddion Mishma: Chamwel ei fab, Saccwr ei ŵyr a Shimei ei or-ŵyr. Roedd gan Shimei un deg chwech mab a chwe merch. Ond doedd gan ei frodyr ddim llawer o feibion, felly wnaeth llwyth Simeon ddim tyfu cymaint â llwyth Jwda. Roedden nhw'n byw yn Beersheba, Molada, Chatsar-shwal, Bilha, Etsem, Tolad, Bethwel, Horma, Siclag, Beth-marcaboth, Chatsar-swsim, Beth-biri, a Shaaraim. Y rhain oedd eu trefi nhw nes bod Dafydd yn frenin. Pump o'i pentrefi nhw oedd Etam, Ain, Rimmon, Tochen ac Ashan; a pentrefi eraill o gwmpas y trefi yma yr holl ffordd i Baal. Dyna lle roedden nhw'n byw. Ac roedden nhw'n cadw cofrestr deuluol. Yr arweinwyr oedd: Meshofaf, Iamlech, Iosha fab Amaseia, Joel, Jehw fab Ioshifia (mab Seraia ac ŵyr Asiel), Elioenai, Iacofa, Ishochaia, Asaia, Adiel, Isimiel, Benaia, Sisa fab Shiffi (mab Alon, mab Iedaia, mab Shimri, mab Shemaia.) Y rhain sydd wedi eu henwi oedd pennau'r teuluoedd. Roedd eu niferoedd yn tyfu'n gyflym, a dyma nhw'n mynd at Fwlch Gedor, i'r dwyrain o'r dyffryn, i chwilio am borfa i'w defaid. Dyma nhw'n dod o hyd i dir pori da yno. Roedd yn wlad eang, ac roedden nhw'n saff ac yn cael llonydd yno. Rhai o ddisgynyddion Cham oedd wedi bod yn byw yno o'u blaenau nhw. Ond pan oedd Heseceia yn frenin ar Jwda, dyma'r dynion oedd wedi eu rhestru yn ymosod ar bentrefi'r Chamiaid, a'r Mewniaid oedd yn byw yno hefyd. Dyma nhw'n eu dinistrio nhw'n llwyr, a chymryd eu tiroedd oddi arnyn nhw, er mwyn cael porfa i'w defaid a'u geifr. Dan arweiniad Plateia, Nearia, Reffaia ac Wssiel (meibion Ishi), dyma bum cant o ddynion o lwyth Simeon yn mynd i fryniau Seir a lladd gweddill yr Amaleciaid oedd wedi dianc yno'n ffoaduriaid. Mae disgynyddion Simeon wedi byw yno ers hynny. Meibion Reuben, mab hynaf Israel (Reuben oedd y mab hynaf, ond am ei fod wedi cael rhyw gydag un o gariadon ei dad, dyma fe'n colli safle'r mab hynaf. Meibion Joseff, mab Israel, gafodd y safle yna yn ei le. Felly dydy'r achau ddim yn cael eu cyfrif yn ôl trefn geni. Er bod Jwda wedi dod yn gryfach na'i frodyr, ac arweinydd wedi codi o'i ddisgynyddion, roedd safle'r mab hynaf yn mynd i Joseff.) Meibion Reuben (mab hynaf Israel): Hanoch, Palw, Hesron, a Carmi. Disgynyddion Joel: Shemaia ei fab, wedyn Gog mab hwnnw, ac ymlaen drwy Shimei, Micha, Reaia, Baal, i Beëra oedd wedi cael ei gymryd yn gaeth gan Tiglath-pileser, brenin Asyria. Beëra oedd pennaeth llwyth Reuben. Dyma ei frodyr wedi eu rhestru yn ôl y drefn yn y cofrestrau teuluol: Y pennaeth oedd Jeiel, yna Sechareia, yna Bela fab Asas, ŵyr Shema a gor-ŵyr Joel. Roedd y rhain yn byw yn Aroer, a'u tir yn ymestyn i Nebo a Baal-meon. I'r dwyrain roedd eu tir yn cyrraedd ymyl yr anialwch sydd yr ochr yma i'r Afon Ewffrates. Roedd angen y tir yma i gyd am fod ganddyn nhw ormod o anifeiliaid i'w cadw yn Gilead. Pan oedd Saul yn frenin dyma nhw'n ymosod ar yr Hagriaid a'u trechu nhw. Dyma nhw'n cymryd y tir i gyd sydd i'r dwyrain o Gilead. Roedd disgynyddion Gad yn byw wrth eu hymyl, yn Bashan, a'r holl ffordd i Salca yn y dwyrain: Joel oedd yr arweinydd, wedyn Shaffam, Janai a Shaffat yn Bashan. Eu perthnasau nhw, arweinwyr saith clan arall, oedd Michael, Meshwlam, Sheba, Iorai, Jacan, Sïa, ac Eber. Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Afichaïl fab Chwri, mab Iaroach, mab Gilead, mab Michael, mab Ieshishai, mab Iachdo, mab Bws. Achi, mab Afdiel ac ŵyr i Gwni oedd pennaeth y clan. Roedden nhw'n byw yn Gilead ac ym mhentrefi Bashan, a drwy dir pori Saron i'r pen draw pellaf. Cafodd y rhain i gyd eu rhestru yn y cofrestrau teuluol pan oedd Jotham yn frenin Jwda, a Jeroboam yn frenin ar Israel. Rhwng y tri llwyth (Reuben, Gad a hanner llwyth Manasse) roedd 44,760 o ddynion dewr oedd yn gallu ymladd. Roedd y rhain yn cario tarian a chleddyf, yn gallu trin bwa saeth, ac yn rhyfelwyr da. Dyma nhw'n ymosod ar yr Hagriaid, Ietwr, Naffish, a Nodab. Cawson nhw help Duw i ymladd, a llwyddo i drechu'r Hagriaid a pawb oedd gyda nhw. Roedden nhw wedi galw ar Dduw yng nghanol y frwydr, a gofyn iddo am help. A dyma Duw yn gwrando arnyn nhw am eu bod nhw wedi ymddiried ynddo. Yna dyma nhw'n cymryd anifeiliaid yr Hagriaid — 50,000 o gamelod, 250,000 o ddefaid, a 2,000 o asynnod. Dyma nhw hefyd yn cymryd 100,000 o bobl yn gaethion. Am mai rhyfel Duw oedd hwn cafodd llawer iawn o'r gelynion eu lladd. Buon nhw'n byw ar dir yr Hagriaid hyd amser y gaethglud. Dyma hanner llwyth Manasse yn setlo yn yr ardal hefyd. Roedd yna gymaint ohonyn nhw nes iddyn nhw ymledu o Bashan i Baal-hermon, Senir a Mynydd Hermon. Dyma benaethiaid eu teuluoedd nhw: Effer, Ishi, Eliel, Asriel, Jeremeia, Hodafia, ac Iachdiel. Roedd y penaethiaid hyn yn filwyr profiadol ac yn enwog. Ond dyma nhw'n troi eu cefnau ar Dduw eu hynafiaid a mynd ar ôl duwiau pobl y wlad (y bobl oedd Duw wedi eu dinistrio o'u blaenau.) Felly dyma Duw yn annog Pwl, sef Tiglath-pileser, brenin Asyria, i fynd â phobl Reuben, Gad a hanner llwyth Manasse i'r gaethglud. Dyma fe'n mynd â nhw i Halach, Chabor, Hara ac at afon Gosan. Ac maen nhw yno hyd heddiw. Meibion Lefi: Gershon, Cohath, a Merari. Disgynyddion Cohath: Amram, Its'har, Hebron, ac Wssiel. Plant Amram: Aaron, Moses, a Miriam. Meibion Aaron: Nadab, Abihw, Eleasar, ac Ithamar. Eleasar oedd tad Phineas, Phineas yn dad i Afishŵa, Afishŵa i Bwcci, a Bwcci i Wssi. Wssi oedd tad Seracheia, Seracheia yn dad i Meraioth. Meraioth oedd tad Amareia, ac Amareia yn dad i Achitwf. Achitwf oedd tad Sadoc, a Sadoc yn dad i Achimaats. Achimaats oedd tad Asareia, ac Asareia oedd tad Iochanan. A Iochanan oedd tad yr Asareia oedd yn offeiriad yn y deml roedd Solomon wedi ei hadeiladu yn Jerwsalem. Asareia oedd tad Amareia, ac roedd Amareia yn dad i Achitwf. Achitwf oedd tad Sadoc, a Sadoc yn dad i Shalwm. Roedd Shalwm yn dad i Chilceia, Chilceia i Asareia, Asareia i Seraia, a Seraia i Iehotsadac. Cafodd Iehotsadac ei gymryd yn gaeth pan wnaeth yr ARGLWYDD ddefnyddio Nebwchadnesar i gymryd pobl Jwda a Jerwsalem i'r gaethglud. Meibion Lefi: Gershom, Cohath, a Merari. Meibion Gershom: Libni a Shimei. Meibion Cohath: Amram, Its'har, Hebron, ac Wssiel. Meibion Merari: Machli a Mwshi. Dyma'r claniau o Lefiaid bob yn deulu. Disgynyddion Gershom: Libni, ei fab, wedyn Iachath ei fab e, ac i lawr y cenedlaethau drwy Simma, Ioach, Ido, Serach, i Ieatrai. Disgynyddion Cohath: Aminadab, ei fab, wedyn Cora, ei fab e, ac i lawr y cenedlaethau drwy Assir, Elcana, Ebiasaff, Assir, Tachath, Wriel, Wseia, i Saul. Disgynyddion Elcana: Amasai ac Achimoth, wedyn ei fab Elcana, a'i fab e, Soffai, ac i lawr drwy Nachath, Eliab, Ierocham, a'i fab e Elcana. Meibion Samuel: Joel, y mab hynaf, ac Abeia, yr ail. Disgynyddion Merari: Machli, ei fab Libni, wedyn ei fab e Shimei ac i lawr y cenedlaethau drwy Wssa, Shimea, Haggia, yna Asaia. Dyma'r rhai oedd Dafydd wedi eu penodi i arwain y gerddoriaeth yn y cysegr, ar ôl i'r arch gael ei gosod yno. Buon nhw'n arwain y gerddoriaeth o flaen cysegr Pabell Presenoldeb Duw nes i Solomon adeiladu'r deml yn Jerwsalem. Roedden nhw ar ddyletswydd yn y drefn oedd wedi ei gosod. Dyma'r rhai oedd yn y swydd yma, nhw a'u meibion: Disgynyddion Cohath: Heman y cerddor, mab Joel oedd a'i linach yn estyn yn ôl trwy Samuel, Elcana, Ierocham, Eliel, Toach, Swff, Elcana, Machat, Amasai, Elcana, Joel, Asareia, Seffaneia, Tachath, Assir, Ebiasaff, Cora, Its'har, Cohath, i Lefi. Yna Asaff, un arall o lwyth Lefi, oedd yn ei helpu. Asaff oedd mab Berecheia, a'i linach yn estyn yn ôl trwy Shimea, Michael, Baaseia, Malcîa, Ethni, Serach, Adaia, Ethan, Simma, Shimei, Iachath, a Gershom, i Lefi. Yna, yn eu helpu nhw, roedd eraill o lwyth Lefi oedd yn ddisgynyddion i Merari. Eu harweinydd nhw oedd Ethan fab Cishi, oedd a'i linach yn estyn yn ôl trwy Afdi, Malŵch, Chashafeia, Amaseia, Chilceia, Amtsi, Bani, Shemer, Machli, Mwshi, a Merari, i Lefi. Roedd gweddill y Lefiaid yn gyfrifol am bopeth arall roedd angen ei wneud yn y tabernacl, sef cysegr Duw. Ond Aaron a'i feibion oedd yn gweini wrth yr allor lle roedd anifeiliaid yn cael eu llosgi a'r allor lle roedd arogldarth yn cael ei losgi. Nhw, felly, oedd yn gwneud yn gwaith yn y Lle Mwyaf Sanctaidd. Roedden nhw yn gwneud pethau'n iawn rhwng Duw ac Israel, fel roedd Moses gwas yr ARGLWYDD wedi gorchymyn. Dyma ddisgynyddion Aaron: Eleasar ei fab, wedyn Phineas ei fab e, ac ymlaen drwy Afishŵa, Bwcci, Wssi, Seracheia, Meraioth, Amareia, Achitwf, Sadoc, ac Achimaats. A dyma'r ardaloedd lle roedd disgynyddion Aaron yn byw: Dyma'r ardaloedd gafodd eu rhoi i glan Cohath (Nhw oedd y grŵp cyntaf i gael eu rhan): Dyma nhw'n cael tref Hebron yn Jwda, a'r tir pori o'i chwmpas. (Ond roedd caeau'r dref a'r pentrefi o'i chwmpas wedi eu rhoi i Caleb fab Jeffwnne.) Cafodd disgynyddion Aaron y trefi lloches canlynol hefyd: Hebron, Libna, Iattir, Eshtemoa, Cholon, Debir, Ashan, a Beth-shemesh, a'r tir pori o gwmpas pob un. Yna o fewn tiriogaeth llwyth Benjamin dyma nhw'n cael Geba, Alemeth, Anathoth, a'r tir pori o gwmpas y rheiny. Felly cafodd eu claniau nhw un deg tair o drefi i gyd. A cafodd gweddill disgynyddion Cohath ddeg pentref oedd o fewn i diriogaeth hanner llwyth Manasse. Cafodd claniau Gershom un deg tair o drefi oedd o fewn tiriogaeth llwythau Issachar, Asher, Nafftali a Manasse Cafodd claniau Merari un deg dwy o drefi oedd o fewn tiriogaeth llwythau Reuben, Gad a Sabulon. Rhoddodd pobl Israel y trefi yma, a'r tir pori o'u cwmpas, i lwyth Lefi. Roedd y trefi yma, o diriogaeth Jwda, Simeon a Benjamin, wedi eu henwi ymlaen llaw. Cafodd rhai o deuluoedd disgynyddion Cohath dir o fewn tiriogaeth llwyth Effraim. Sichem, ym mryniau Effraim, Geser, Jocmeam, a Beth-choron, Aialon, a Gath-rimmon a'r tir pori o gwmpas pob un. O diriogaeth hanner llwyth Manasse dyma weddill disgynyddion Cohath yn cael Aner a Bileam, a'r tir pori o'u cwmpas nhw. Dyma'r trefi gafodd eu rhoi i ddisgynyddion Gershom: O hanner llwyth Manasse dyma nhw'n rhoi Golan yn Bashan ac Ashtaroth, a'r tir pori o'u cwmpas nhw. O diriogaeth llwyth Issachar: Cedesh, Daberath, Ramoth, ac Anem, a'r tir pori o gwmpas pob un. O diriogaeth llwyth Asher: Mashal, Abdon, Chwcoc, a Rechob, a'r tir pori o gwmpas pob un. O diriogaeth llwyth Nafftali: Cedesh yn Galilea, Hammon, a Ciriathaim, a'r tir pori o gwmpas y rheiny. Dyma'r trefi gafodd eu rhoi i deuluoedd gweddill disgynyddion Merari: O diriogaeth llwyth Sabulon: Rimmon a Tabor a'r tir pori o'u cwmpas. O diriogaeth llwyth Reuben, yr ochr draw i'r Afon Iorddonen i'r dwyrain o Jericho: Betser yn yr anialwch, Iahats, Cedemoth, a Meffaäth, a'r tir pori o gwmpas pob un o'r rheiny. O diriogaeth llwyth Gad: Ramoth yn Gilead, Machanaîm, Cheshbon, a Iaser, a'r tir pori o gwmpas pob un. Meibion Issachar (pedwar i gyd): Tola, Pwa, Iashŵf a Shimron. Meibion Tola: Wssi, Reffaia, Ieriel, Iachmai, Ibsam a Shemwel. Nhw oedd pennau teuluoedd Tola. Roedd yna 22,600 o ddynion dewr wedi eu rhestru yn y cofrestrau teuluol adeg Dafydd. Mab Wssi: Israchïa. Meibion Israchïa: Michael, Obadeia, Joel ac Ishïa. (Roedd y pump ohonyn nhw yn benaethiaid.) Yn ôl y cofrestrau teuluol, roedd 36,000 o ddynion yn barod i ryfela am fod ganddyn nhw lot o wragedd a phlant. Roedd cyfanswm o 87,000 o ddynion dewr wedi eu rhestru ar gofrestrau teuluol claniau Issachar. Meibion Benjamin (tri i gyd): Bela, Becher, a Iediael. Meibion Bela: Etsbon, Wssi, Wssiel, Ierimoth, ac Iri. Roedd y pump ohonyn nhw yn benaethiaid eu teuluoedd. Roedd 22,034 wedi eu rhestru yn y cofrestrau teuluol. Meibion Becher: Semira, Ioash, Elieser, Elioenai, Omri, Ieremoth, Abeia, Anathoth, ac Alemeth. Roedd y rhain i gyd yn feibion i Becher. Roedd 20,200 o benaethiaid teulu a rhyfelwyr wedi eu rhestru yn eu cofrestrau teuluol. Mab Iediael: Bilhan. Meibion Bilhan: Iewsh, Benjamin, Ehwd, Cenaana, Seithan, Tarshish, ac Achishachar. Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion Iediael. Roedd 17,200 o benaethiaid teulu a rhyfelwyr yn barod i ymladd wedi eu rhestru yn eu cofrestrau teuluol. Roedd y Shwpiaid a'r Chwpiaid yn ddisgynyddion i Ir; a'r Chwshiaid yn ddisgynyddion i Acher. Meibion Nafftali: Iachtseël, Gwni, Jeser, a Shalwm — meibion Bilha. Meibion Manasse: Asriel (gafodd ei eni i bartner Syriaidd Manasse. A'i phlentyn hi hefyd oedd Machir, tad Gilead. Priododd Machir un o wragedd y Chwpiaid a'r Shwpiaid, ac roedd ganddo chwaer o'r enw Maacha.) Yna ail fab Manasse oedd Seloffchad (Dim ond merched gafodd hwnnw yn blant.) Dyma Maacha, gwraig Machir, yn cael mab, a'i alw yn Peresh. Roedd ganddo frawd o'r enw Sheresh, ac enw ei feibion oedd Wlam a Recem. Mab Wlam: Bedan. Y rhain oedd disgynyddion Gilead, mab Machir ac ŵyr Manasse. Ei chwaer Hamolecheth oedd mam Ish-hod, Abieser a Machla. Meibion Shemida oedd Acheian, Sichem, Lichi, ac Aniam. Disgynyddion Effraim: Shwtelach, ei fab Bered, wedyn i lawr y cenedlaethau drwy Tachath, Elada, Tachath, Safad, i Shwtelach. (Cafodd Eser ac Elead, dau fab arall Effraim, eu lladd gan rai o ddisgynyddion Gath oedd yn byw yn y wlad, pan aethon nhw i lawr i ddwyn eu gwartheg. Bu Effraim, eu tad, yn galaru amdanyn nhw am amser maith, a dyma ei frodyr yn dod i'w gysuro.) Yna dyma fe'n cysgu gyda'i wraig a dyma hi'n beichiogi ac yn cael bachgen arall. Galwodd Effraim e yn Bereia, am fod pethau wedi bod yn ddrwg ar ei deulu. (Merch Bereia oedd Sheëra, wnaeth adeiladu Beth-choron Isaf ac Uchaf, a hefyd Wssen-sheëra.) Reffach oedd ei fab, Resheff yn fab i hwnnw, yna i lawr drwy Telach, Tachan, Ladan, Amihwd, Elishama, Nwn, i Josua. Roedd eu tir nhw a'u cartrefi yn cynnwys Bethel a'i phentrefi, ac yn ymestyn i'r dwyrain at Naäran, ac i'r gorllewin at Geser a'i phentrefi. Hefyd Sichem a'i phentrefi cyn belled ag Aia a'i phentrefi yn y gogledd. Ar ffiniau tiriogaeth Manasse roedd trefi Beth-shean Taanach, Megido a Dor a'r pentrefi o'u cwmpas. Disgynyddion Joseff, mab Israel, oedd yn byw yno. Meibion Asher: Imna, Ishfa, Ishfi, a Bereia. A Serach oedd eu chwaer. Meibion Bereia: Heber a Malciel, oedd yn dad i Birsaith. Heber oedd tad Jafflet, Shomer, a Chotham. A Shwa oedd eu chwaer. Meibion Jafflet: Pasach, Bimhal, ac Ashfat. Y rhain oedd meibion Jafflet. Meibion ei frawd Shemer: Roga, Chwba, ac Aram. Meibion ei frawd Helem: Soffach, Imna, Shelesh, ac Amal. Meibion Soffach: Swa, Char-neffer, Shwal, Beri, Imra, Betser, Hod, Shamma, Shilsha, Ithran, a Beëra. Meibion Jether: Jeffwnne, Pispa, ac Arach. Meibion Wla: Arach, Channiel, a Ritsia. Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion Asher. Roedden nhw i gyd yn benaethiaid teulu, yn filwyr dewr ac arweinwyr medrus. Roedd 26,000 o filwyr yn barod i ymladd wedi eu rhestru yn y cofrestrau teuluol. Roedd gan Benjamin bump mab: Bela, yr hynaf, wedyn Ashbel, Achrach, Nocha, a Raffa. Meibion Bela: Adar, Gera, Abihwd Afishŵa, Naaman, Achoach Gera, Sheffwffân, a Chwram. Dyma ddisgynyddion Echwd (oedd yn benaethiaid y teuluoedd o Geba gafodd eu gorfodi i symud i Manachath): Naaman, Achïa a Gera. Gera wnaeth arwain y symudiad. Roedd yn dad i Wssa ac Achichwd. Cafodd Shacharaîm feibion yn Moab ar ôl ysgaru ei wragedd Chwshîm a Baara. Gyda'i wraig Chodesh cafodd feibion: Iobab, Sibia, Mesha, Malcam, Iewts, Sochia, a Mirma. Dyma'r meibion ganddo oedd yn arweinwyr teuluoedd. O Chwshîm cafodd Afitwf ac Elpaäl. Meibion Elpaäl: Eber, Misham, Shemed (wnaeth adeiladu Ono a Lod a'r pentrefi o'u cwmpas), Bereia a Shema. Nhw oedd penaethiaid y teuluoedd oedd yn byw yn Aialon, wnaeth yrru pobl Gath i ffwrdd. Achïo, Shashac, Ieremoth, Sebadeia, Arad, Eder, Michael, Ishpa, a Iocha oedd meibion Bereia. Sebadeia, Meshwlam, Chisci, Heber, Ishmerai, Islïa, a Iobab oedd meibion Elpaäl. Iacîm, Sichri, Sabdi, Elienai, Silthai, Eliel, Adaia, Beraia, a Shimrath oedd meibion Shimei. Ishpan, Eber, Eliel, Abdon, Sichri, Chanan, Chananeia, Elam, Antothïa, Iffdeia, a Penuel oedd meibion Shashac. Shamsherai, Shechareia, Athaleia, Iaäresheia, Elïa, a Sichri oedd meibion Ierocham. Y rhain oedd penaethiaid y teuluoedd oedd yn cael eu rhestru yn y cofrestrau teuluol. Roedden nhw'n byw yn Jerwsalem. Roedd tad Gibeon yn byw yn Gibeon (ac enw ei wraig oedd Maacha). Enw ei fab hynaf oedd Abdon, wedyn cafodd Swr, Cish, Baal, Nadab, Gedor, Achïo, Secher a Milcoth. Micloth oedd tad Shimea. Roedden nhw hefyd yn byw yn Jerwsalem gyda'i perthnasau. Ner oedd tad Cish, a Cish oedd tad Saul. Saul oedd tad Jonathan, Malci-shwa, Abinadab ac Eshbaal. Mab Jonathan: Merib-baal Merib-baal oedd tad Micha. Meibion Micha: Pithon, Melech, Tarea, ac Achas. Achas oedd tad Iehoada, a Iehoada oedd tad Alemeth, Asmafeth a Simri. Simri oedd tad Motsa, a Motsa oedd tad Binea. Raffa oedd enw mab Binea, Elasa yn fab i Raffa, ac Atsel yn fab i Elasa. Roedd gan Atsel chwe mab: Asricam oedd yr hynaf, wedyn Ishmael, Sheareia, Obadeia, a Chanan. Roedd y rhain i gyd yn feibion i Atsel. Meibion ei frawd Eshec: Wlam oedd yr hynaf, wedyn Iewsh, wedyn Eliffelet. Roedd meibion Wlam yn ddynion dewr ac yn gallu trin bwa saeth. Roedd ganddyn nhw gant pum deg o feibion ac wyrion. Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Benjamin. Cafodd cofrestrau teuluol eu cadw i bobl Israel i gyd. Maen nhw i'w gweld yn sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel. Roedd pobl Jwda wedi cael eu cymryd yn gaeth i Babilon am eu bod wedi bod yn anufudd. Y rhai cyntaf o'r Israeliaid i ddod yn ôl i fyw yn eu hardaloedd a'u trefi eu hunain oedd yr offeiriaid, y Lefiaid a gweision y deml. Dyma rai o bobl llwythau Jwda, Benjamin, Effraim a Manasse yn setlo yn Jerwsalem. [4-6] Roedd 690 o bobl o lwyth Jwda wedi setlo yn Jerwsalem: Teulu Wthai fab Amihwd, mab Omri, mab Imri, mab Bani, oedd yn un o ddisgynyddion Perets fab Jwda. Teulu Asaia, un o ddisgynyddion Shela. Teulu Iewel, un o ddisgynyddion Serach. *** *** O ddisgynyddion Benjamin: Salw fab Meshwlam, mab Hodafia, mab Hasenŵa Ibneia fab Ierocham Ela, mab Wssi ac ŵyr i Michri. Meshwlam fab Sheffateia, mab Reuel, mab Ibnïa. Roedd 956 o'u perthnasau nhw wedi eu rhestru yn y rhestrau teuluol. Roedd y dynion yma i gyd yn benaethiaid eu teuluoedd. O'r offeiriaid: Idaïa; Iehoiarif; Iachin; Asareia fab Chilceia, mab Meshwlam, mab Sadoc, mab Meraioth, mab Achitwf (oedd yn brif swyddog yn nheml Dduw); Adaia fab Ierocham, mab Pashchwr, mab Malcîa; a Maasai fab Adiel, mab Iachsera, mab Meshwlam, mab Meshilemith, mab Immer; a perthnasau iddyn nhw oedd yn benaethiaid eu teuluoedd. 1,760 o ddynion oedd yn gallu cyflawni'r gwahanol dasgau oedd i'w gwneud yn nheml Dduw. O'r Lefiaid: Shemaia fab Chashwf, mab Asricam, mab Chashafeia, oedd yn perthyn i glan Merari; Bacbacâr; Cheresh; Galal; Mataneia fab Micha, mab Sichri, mab Asaff; Obadeia fab Shemaia, mab Galal, mab Iedwthwn; a Berecheia fab Asa, mab Elcana, oedd wedi byw yn y pentrefi yn ardal Netoffa. Gofalwyr y giatiau: Shalwm, Accwf, Talmon, Achiman, a'u perthnasau. (Shalwm oedd y pennaeth.) Cyn hyn, nhw oedd y gwylwyr yng ngwersylloedd y Lefiaid i'r dwyrain o Giât y Brenin. Shalwm fab Core, mab Ebiasaff, mab Cora, a'i berthnasau ar ochr ei dad (sef y Corahiaid), oedd yn gyfrifol am warchod y fynedfa i'r cysegr. Eu hynafiaid nhw oedd wedi bod yn gyfrifol am warchod y fynedfa i wersyll yr ARGLWYDD. Phineas fab Eleasar, oedd yn arolygu'r gwaith ers talwm, ac roedd yr ARGLWYDD wedi bod gydag e. A Sechareia fab Meshelemeia oedd yn gwarchod y fynedfa i Babell Presenoldeb Duw. Roedd yna ddau gant un deg dau ohonyn nhw i gyd wedi cael eu dewis i warchod y fynedfa. Roedd eu henwau wedi eu rhestru yng nghofrestrau teuluol eu pentrefi. Y brenin Dafydd a Samuel y proffwyd oedd wedi eu penodi i'w swyddi. Felly nhw a'u disgynyddion oedd i ofalu am warchod y fynedfa i gysegr yr ARGLWYDD (sef y Tabernacl). Roedden nhw i'w warchod ar y pedair ochr: i'r dwyrain, gorllewin, gogledd a de. Roedd eu perthnasau o'r pentrefi yn dod atyn nhw bob hyn a hyn i wasanaethu gyda nhw am saith diwrnod. Roedd y pedwar prif ofalwr yn swyddogion y gellid eu trystio, ag yn gyfrifol am warchod y stordai lle roedd trysorau'r cysegr. Roedden nhw ar wyliadwriaeth drwy'r nos o gwmpas cysegr Duw. Nhw oedd yn gyfrifol amdano ac yn agor y drysau bob bore. Roedd rhai ohonyn nhw'n gyfrifol am lestri'r gwasanaeth. Roedden nhw i gyfri'r cwbl wrth eu cymryd allan a'u cadw. Roedd eraill yn gofalu am ddodrefn ac offer y lle sanctaidd. Nhw oedd â gofal am y blawd mân, y gwin, yr olew olewydd, y thus a'r perlysiau hefyd. (Ond dim ond offeiriaid oedd yn cael cymysgu'r perlysiau.) Roedd Matitheia, un o'r Lefiaid (mab hynaf Shalwm o glan Cora) yn gyfrifol am bobi'r bara ar gyfer yr offrymau. Roedd rhai o'u perthnasau, oedd yn perthyn i'r un clan, yn gyfrifol am baratoi'r bara oedd yn cael ei osod yn bentwr bob Saboth. Roedd y cantorion oedd yn benaethiaid ar deuluoedd y Lefiaid yn aros mewn ystafelloedd, ac yn rhydd o ddyletswyddau eraill. Roedd eu gwaith nhw yn mynd yn ei flaen ddydd a nos. Y rhain oedd penaethiaid teuluoedd llwyth Lefi, fel roedden nhw wedi eu rhestru yn y cofrestrau teuluol. Roedden nhw'n byw yn Jerwsalem. Roedd Jeiel (tad Gibeon) yn byw yn nhre Gibeon (ac enw ei wraig oedd Maacha). Abdon oedd enw ei fab hynaf, wedyn Swr, Cish, Baal, Ner, Nadab, Gedor, Achïo, Sechareia, a Micloth. Micloth oedd tad Shimeam. Roedden nhw hefyd yn byw gyda'i perthnasau yn Jerwsalem. Ner oedd tad Cish, a Cish oedd tad Saul. Wedyn Saul oedd tad Jonathan, Malci-shwa, Abinadab, ac Eshbaal. Mab Jonathan: Merib-baal Merib-baal oedd tad Micha. Meibion Micha: Pithon, Melech, Tarea, ac Achas. Achas oedd tad Iada, a Iada oedd tad Alemeth, Asmafeth a Simri. Simri oedd tad Motsa, a Motsa oedd tad Binea. Reffaia oedd enw mab Binea, Elasa yn fab i Reffaia, ac Atsel yn fab i Elasa. Roedd gan Atsel chwe mab: Asricam oedd yr hynaf, wedyn Ishmael, Sheareia, Obadeia, a Chanan. Roedd y rhain i gyd yn feibion i Atsel. Dyma'r Philistiaid yn dod i ryfela yn erbyn Israel. Roedd rhaid i filwyr Israel ffoi o flaen y Philistiaid a syrthiodd llawer ohonyn nhw'n farw ar fynydd Gilboa. Roedd y Philistiaid reit tu ôl i Saul a'i feibion, a dyma nhw'n llwyddo i ladd ei feibion, Jonathan, Abinadab a Malci-shwa. Roedd y frwydr yn ffyrnig o gwmpas Saul, a dyma'r bwasaethwyr yn ei daro, a'i anafu'n ddrwg. Dyma Saul yn dweud wrth y gwas oedd yn cario'i arfau, “Cymer dy gleddyf a thrywana fi. Paid gadael i'r paganiaid yma ddod a'm poenydio i.” Ond roedd gan y gwas ofn gwneud hynny. Felly dyma Saul yn cymryd y cleddyf ac yn syrthio arno. Pan welodd y gwas fod Saul wedi marw, dyma fe hefyd yn syrthio ar ei gleddyf a marw. Felly cafodd Saul a tri o'i feibion, a'i deulu i gyd eu lladd gyda'i gilydd. Dyma bobl Israel oedd yr ochr draw i'r dyffryn yn clywed fod y milwyr wedi ffoi, a bod Saul a'i feibion wedi cael eu lladd. Felly dyma nhw'n gadael eu trefi a ffoi. A dyma'r Philistiaid yn dod i fyw ynddyn nhw. Y diwrnod ar ôl y frwydr dyma'r Philistiaid yn dod i ddwyn oddi ar y cyrff meirw. A dyma nhw'n dod o hyd i Saul a'i feibion yn gorwedd yn farw ar fynydd Gilboa. Dyma nhw'n cymryd ei arfau oddi arno, torri ei ben i ffwrdd, ac anfon negeswyr drwy wlad y Philistiaid i gyhoeddi'r newyddion da yn nhemlau eu duwiau ac wrth y bobl. Wedyn dyma nhw'n rhoi arfau Saul yn nheml eu duwiau, a hongian ei ben yn nheml y duw Dagon. Pan glywodd pobl Jabesh yn Gilead am bopeth roedd y Philistiaid wedi ei wneud i Saul, dyma'r milwyr yn mynd allan i nôl cyrff Saul a'i feibion a mynd â nhw i Jabesh. Dyma nhw'n cymryd yr esgyrn a'u claddu o dan y goeden dderwen yn Jabesh, ac ymprydio am wythnos. Felly buodd Saul farw am ei fod wedi bod yn anffyddlon ac anufudd i'r ARGLWYDD. Roedd e hyd yn oed wedi troi at ddewiniaeth, yn lle gofyn am arweiniad yr ARGLWYDD. Felly dyma'r ARGLWYDD yn ei ladd ac yn rhoi ei frenhiniaeth i Dafydd fab Jesse. Dyma bobl Israel i gyd yn dod at ei gilydd yn Hebron at Dafydd, a dweud wrtho, “Edrych, dŷn ni'n perthyn i'n gilydd. Ar un adeg, pan oedd Saul yn frenin, ti oedd yn arwain byddin Israel i ryfel ac yna dod â nhw adre. Mae'r ARGLWYDD dy Dduw wedi dweud wrthot ti, ‘Ti sydd i ofalu am Israel, fy mhobl i. Ti fydd yn eu harwain nhw.’” Felly pan ddaeth arweinwyr Israel i Hebron at Dafydd, dyma'r brenin yn gwneud cytundeb gyda nhw o flaen yr ARGLWYDD. A dyma nhw'n ei eneinio'n frenin ar Israel gyfan, fel roedd Duw wedi addo drwy Samuel. Aeth Dafydd a byddin Israel i ymosod ar Jerwsalem, sef Jebws. (Y Jebwsiaid oedd wedi byw yn yr ardal honno erioed.) A dyma bobl Jebws yn dweud wrth Dafydd, “Ddoi di byth i mewn yma!” Ond llwyddodd Dafydd i ennill caer Seion (sef Dinas Dafydd). Roedd Dafydd wedi dweud, “Bydd pwy bynnag sy'n arwain yr ymosodiad ar y Jebwsiaid yn cael ei wneud yn bennaeth y fyddin!” Joab fab Serwia wnaeth arwain yr ymosodiad, a daeth yn bennaeth y fyddin. Aeth Dafydd i fyw i'r gaer, a dyna pam mae'n cael ei galw yn Ddinas Dafydd. Dyma fe'n adeiladu o'i chwmpas o'r terasau at y waliau allanol. A dyma Joab yn ailadeiladu gweddill y ddinas. Roedd Dafydd yn mynd yn fwy a mwy pwerus, achos roedd yr ARGLWYDD holl-bwerus gydag e. Dyma arweinwyr byddin Dafydd wnaeth helpu i sefydlu ei deyrnas fel brenin Israel gyfan, fel roedd yr ARGLWYDD wedi addo. Dyma restr o'i filwyr dewr: Iashofam yr Hachmoniad oedd pennaeth y swyddogion. Roedd e wedi lladd tri chant o ddynion gyda'i waywffon mewn un frwydr. Yna nesa ato fe roedd Eleasar fab Dodo o deulu Achoach, un o'r ‛Tri Dewr‛. Roedd e gyda Dafydd yn herio'r Philistiaid pan wnaethon nhw gasglu i ryfel yn Pas-dammîm. Wrth ymyl cae oedd yn llawn o haidd, roedd y fyddin wedi ffoi oddi wrth y Philistiaid. Ond yna dyma nhw'n sefyll eu tir yng nghanol y cae hwnnw. Dyma nhw'n ei amddiffyn ac yn taro'r Philistiaid, a dyma'r ARGLWYDD yn rhoi buddugoliaeth fawr iddyn nhw. Dyma dri o'r tri deg arweinydd yn mynd i lawr at Dafydd at y graig sydd wrth ymyl Ogof Adwlam. Roedd mintai o Philistiaid yn gwersylla yn Nyffryn Reffaïm. Roedd Dafydd yn y gaer ar y pryd, tra roedd prif garsiwn milwrol y Philistiaid yn Bethlehem. Un diwrnod roedd syched ar Dafydd, a dyma fe'n dweud, “Mor braf fyddai cael diod o ddŵr o'r ffynnon sydd wrth giât Bethlehem!” Felly dyma'r ‛Tri Dewr‛ yn mynd trwy ganol gwersyll y Philistiaid a chodi dŵr o'r ffynnon wrth giât Bethlehem. Dyma nhw'n dod a'r dŵr i Dafydd, ond gwrthododd ei yfed. A dyma fe'n ei dywallt yn offrwm i'r ARGLWYDD, a dweud, “O Dduw, allwn i byth wneud y fath beth! Byddai fel yfed gwaed y dynion wnaeth fentro eu bywydau i'w nôl.” Roedd yn gwrthod ei yfed am fod y dynion wedi mentro eu bywydau i'w nôl. Dyna un enghraifft o beth wnaeth y ‛Tri Dewr‛. Abishai, brawd Joab, oedd pennaeth y ‛Tri dewr‛. Roedd e wedi lladd tri chant o ddynion gyda'i waywffon un tro. Roedd yn enwog fel y Tri. I ddweud y gwir roedd e'n fwy enwog na nhw, a fe oedd eu capten nhw. Ond doedd e'i hun ddim yn un o'r ‛Tri‛. Roedd Benaia fab Jehoiada o Cabseël, yn ddyn dewr hefyd. Roedd e wedi gwneud llawer o bethau dewr. Roedd wedi lladd dau o arwyr Moab. Roedd wedi mynd i lawr a lladd llew oedd wedi syrthio i bydew ar ddiwrnod o eira. Roedd wedi lladd cawr o ddyn o'r Aifft, saith troedfedd a hanner o daldra. Roedd gan yr Eifftiwr waywffon fawr fel carfan gwehydd yn ei law, ond dim ond pastwn oedd gan Benaia. Dyma fe'n ymosod arno, dwyn y waywffon oddi ar yr Eifftiwr, a'i ladd gyda hi. Pethau fel yna wnaeth Benaia fab Jehoiada yn enwog fel y ‛Tri Dewr‛. Roedd y Tri deg arwr yn meddwl yn uchel ohono, er nad oedd yn un o'r ‛Tri‛. A dyma Dafydd yn ei wneud yn bennaeth ar ei warchodwyr personol. Dyma restr o'r milwyr dewr eraill: Asahel, brawd Joab, Elchanan fab Dodo o Bethlehem, Shamoth o Haror, Chelets o Pelon, Ira fab Iccesh o Tecoa, Abieser o Anathoth, Sibechai o Chwsha, Ilai o deulu Achoach, Maharai o Netoffa, Cheled fab Baana o Netoffa, Ithai fab Ribai o Gibea Benjamin, Benaia o Pirathon, Chwrai o Wadi Gaash, Abiel o Arba, Asmafeth o Bachwrîm, Eliachba o Shaalbon, meibion Hashem o Gison, Jonathan fab Sage o Harar, Achïam fab Sachar o Harar, Eliffal fab Wr Cheffer o Mecherath, Achïa o Pelon Chetsro o Carmel, Naärai fab Esbai, Joel brawd Nathan, Mifchar fab Hagri, Selec o Ammon, Nachrai o Beroth (oedd yn cario arfau Joab, mab Serwia), Ira yr Ithriad, Gareb yr Ithriad, Wreia yr Hethiad, Safad fab Achlai Adina fab Shisa, arweinydd llwyth Reuben, a'r tri deg o filwyr oedd gydag e, Chanan fab Maacha, Ioshaffat o Mithna, Wsïa o Ashtaroth, Shama a Jeiel, meibion Chotham o Aroer, Iediael fab Shimri, a Iocha ei frawd, o Tis, Eliel y Machafiad, Ierifai a Ioshafeia, meibion Elnaäm, ac Ithma o Moab, Eliel, Obed, a Iaäsiel o Soba. Dyma enwau'r dynion wnaeth ymuno gyda Dafydd yn Siclag, pan oedd yn dal i guddio oddi wrth Saul fab Cish. (Roedden nhw'n rhai o'r rhyfelwyr wnaeth frwydro drosto, ac yn gallu defnyddio bwa saeth neu ffon dafl gyda'r llaw dde a'r chwith. Roedden nhw o lwyth Benjamin, sef yr un llwyth â Saul): Achieser oedd yr arweinydd, a Joash, meibion Shemaa o Gibea; Jesiel a Pelet, meibion Asmafeth; Beracha, Jehw o Anathoth, Ishmaïa o Gibeon (un o arweinwyr y tri deg milwr dewr), Jeremeia, Iachsiel, Iochanan, Iosafad o Gedera, Elwsai, Ierimoth, Bealeia, Shemareia, Sheffateia o Charwff, Elcana, Ishïa, Asarel, Ioeser, Iashofam, o glan Cora, Ioela a Sebadeia, meibion Ierocham o Gedor. Dyma rai o lwyth Gad yn dod at Dafydd i'w gaer yn yr anialwch. Roedd y rhain yn ddynion dewr, yn filwyr wedi profi eu hunain mewn rhyfel. Roedden nhw'n cario tarianau a gwaywffyn. Roedd golwg fel llewod arnyn nhw, ac roedden nhw'n gallu rhedeg mor gyflym â gasél ar y bryniau. Eser oedd y pennaeth, wedyn, mewn trefn, Obadeia, Eliab, Mishmanna, Jeremeia, Attai, Eliel, Iochanan, Elsabad Jeremeia, a Machbanai. Nhw oedd y capteniaid o lwyth Gad. Roedd cant o ddynion dan y lleiaf ohonyn nhw a dros fil o dan y mwyaf. Dyma'r rhai oedd wedi croesi'r Iorddonen yn ystod y mis cyntaf, pan oedd hi wedi gorlifo ei glannau i gyd. Roedden nhw wedi gwneud i bawb oedd yn byw yn y dyffrynnoedd, i'r dwyrain ac i'r gorllewin, ffoi o'u blaenau. Dyma rai o lwyth Benjamin a llwyth Jwda hefyd, yn dod i'r gaer at Dafydd. Dyma Dafydd yn mynd allan i'w cyfarfod nhw, a dweud, “Os ydych wedi dod yn heddychlon i fy helpu i, yna dw i'n barod i ymuno â chi. Ond os ydych chi wedi dod i fy mradychu i'm gelynion, yna bydd Duw ein hynafiaid yn gweld hynny ac yn eich cosbi. Dw i wedi gwneud dim o'i le i chi.” A dyma ysbryd yn dod ar Amasai, pennaeth y tri deg, a dyma fe'n canu: “Dŷn ni gyda ti Dafydd! Ar dy ochr di fab Jesse! Heddwch a llwyddiant i ti. A heddwch i'r rhai sy'n dy helpu. Yn wir, mae dy Dduw yn dy helpu.” Felly dyma Dafydd yn eu derbyn nhw ac yn eu gwneud yn gapteiniaid ar griwiau ymosod. Roedd rhai o lwyth Manasse wedi dod drosodd at Dafydd pan aeth gyda'r Philistiaid i ymladd yn erbyn Saul. Ond wnaethon nhw ddim helpu'r Philistiaid achos, ar ôl trafod, dyma arweinwyr y Philistiaid yn eu hanfon i ffwrdd. Roedden nhw'n wedi trafod â'i gilydd a dweud, “Petai e'n mynd drosodd at ei feistr, Saul, bydden ni'n cael ein lladd!” Pan oedd Dafydd ar ei ffordd i Siclag, dyma'r dynion yma o lwyth Manasse yn ymuno gydag e: Adnach, Iosafad, Iediael, Michael, Josabad, Elihw a Silthai. Roedden nhw i gyd yn gapteiniaid ar unedau o fil yn Manasse. Buon nhw'n help mawr i Dafydd pan oedd criwiau o filwyr yn ymosod, am eu bod yn filwyr dewr ac yn gapteiniaid yn y fyddin. Yr adeg yna roedd dynion yn dod drosodd at Dafydd bob dydd, nes bod ei fyddin wedi tyfu'n fyddin enfawr. Dyma gofnod o'r milwyr a'u harweinwyr wnaeth ymuno gyda Dafydd yn Hebron, i'w wneud yn frenin yn lle Saul (fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud): O lwyth Jwda — 6,800 o filwyr arfog yn cario tarianau a gwaywffyn. O lwyth Simeon — 7,100 o filwyr dewr. O lwyth Lefi — 4,600. Daeth Jehoiada (arweinydd disgynyddion Aaron) a 3,700 o ddynion, a Sadoc, milwr ifanc, a 22 arweinydd o'i glan. O lwyth Benjamin (sef y llwyth roedd Saul yn perthyn iddo) — 3,000. Roedd y rhan fwya ohonyn nhw, cyn hynny, wedi bod yn deyrngar i Saul. O lwyth Effraim — 20,800 o filwyr, pob un yn enwog yn ei glan ei hun. O hanner llwyth Manasse — 18,000 wedi cael eu dewis i ddod i wneud Dafydd yn frenin. O lwyth Issachar — 200 o gapteiniaid a'u perthnasau i gyd oddi tanyn nhw. Roedden nhw'n deall arwyddion yr amserau, ac yn gwybod beth oedd y peth gorau i Israel ei wneud. O lwyth Sabulon — 50,000 o filwyr arfog yn barod i'r frwydr ac yn hollol deyrngar i Dafydd. O lwyth Nafftali — 1,000 o swyddogion a 37,000 o filwyr yn cario tarianau a gwaywffyn. O lwyth Dan — 28,600 o ddynion yn barod i ymladd. O lwyth Asher — 40,000 o filwyr yn barod i ymladd. O'r ochr draw i'r Afon Iorddonen (llwythau Reuben, Gad, a hanner llwyth Manasse) — 120,000 o ddynion yn cario pob math o arfau. Roedd y dynion yma i gyd yn barod i fynd i ryfel. Roedden nhw wedi dod i Hebron i wneud Dafydd yn frenin ar Israel gyfan. Ac roedd gweddill pobl Israel yn cytuno mai Dafydd ddylai fod yn frenin. Buon nhw yno yn gwledda gyda Dafydd am dri diwrnod. Roedd eu perthnasau wedi darparu bwydydd iddyn nhw. Hefyd roedd pobl eraill, o mor bell ag Issachar, Sabulon a Nafftali, yn dod â bwyd iddyn nhw ar asynnod, camelod, mulod ac ychen. Roedd yno lwythi enfawr o flawd, cacennau ffigys, sypiau o rhesins, gwin, olew olewydd, cig eidion a chig oen. Roedd Israel yn dathlu! Dyma Dafydd yn gofyn am gyngor ei swyddogion milwrol (gan gynnwys capteiniaid yr unedau o fil ac o gant). Dwedodd wrth y gynulleidfa gyfan, “Os mai dyna dych chi eisiau, ac os ydy'r ARGLWYDD ein Duw yn cytuno, gadewch i ni anfon at bawb ym mhob rhan o Israel, ac at yr offeiriaid a'r Lefiaid yn eu trefi, i'w gwahodd nhw ddod i ymuno gyda ni. Gadewch i ni symud Arch ein Duw yn ôl yma. Wnaethon ni ddim gofyn am ei arweiniad o gwbl pan oedd Saul yn frenin.” A dyma'r gynulleidfa'n cytuno. Roedd pawb yn teimlo mai dyna oedd y peth iawn i'w wneud. Felly dyma Dafydd yn galw pobl Israel i gyd at ei gilydd — o Afon Shichor yn yr Aifft i Lebo-chamath, er mwyn symud Arch Duw yno o Ciriath-iearim. Dyma Dafydd a pobl Israel i gyd yn mynd i Baäla (sef Ciriath-iearim) yn Jwda, i nôl Arch Duw. Roedd yr enw ‛Arch Duw‛ yn cyfeirio at yr ARGLWYDD sy'n eistedd ar ei orsedd uwch ben y ceriwbiaid. Dyma nhw'n gosod yr Arch ar gert newydd, a'i symud hi o dŷ Abinadab, gydag Wssa ac Achïo yn arwain y cert. Roedd Dafydd a phobl Israel i gyd yn dathlu gyda hwyl o flaen Duw, a canu i gyfeiliant telynau a nablau, tambwrinau, symbalau ac utgyrn. Pan gyrhaeddon nhw lawr dyrnu Cidon, dyma'r ychen yn baglu, a dyma Wssa yn estyn ei law i afael yn yr Arch. Roedd yr ARGLWYDD wedi digio gydag Wssa, a dyma fe'n ei daro'n farw am estyn ei law a chyffwrdd yr Arch. Bu farw yn y fan a'r lle o flaen Duw. Roedd Dafydd wedi digio fod yr ARGLWYDD wedi ymosod ar Wssa. Dyma fe'n galw'r lle yn Perets-Wssa (sef ‛y ffrwydriad yn erbyn Wssa‛). A dyna ydy enw'r lle hyd heddiw. Roedd Duw wedi codi ofn ar Dafydd y diwrnod hwnnw. “Sut all Arch Duw ddod ata i?” meddai. Felly wnaeth Dafydd ddim mynd â'r Arch adre i Ddinas Dafydd. Aeth â hi i dŷ Obed-edom, dyn o Gath. Arhosodd Arch yr ARGLWYDD yn y tŷ gyda teulu Obed-edom am dri mis. A dyma'r ARGLWYDD yn bendithio teulu Obed-edom a popeth oedd ganddo. Dyma Huram, brenin Tyrus, yn anfon negeswyr at Dafydd. Anfonodd seiri coed a seiri maen gyda nhw, a choed cedrwydd, i adeiladu palas i Dafydd. Roedd Dafydd yn gweld mai'r ARGLWYDD oedd wedi ei wneud yn frenin ar Israel ac wedi gwneud i'w deyrnas lwyddo'n fawr, er mwyn ei bobl Israel. Yn Jerwsalem dyma Dafydd yn cymryd mwy o wragedd, ac yn cael mwy o blant eto. Dyma enwau'r plant gafodd e yn Jerwsalem: Shammwa, Shofaf, Nathan, Solomon, Ifchar, Elishwa, Elpelet, Noga, Neffeg, Jaffia, Elishama, B'eliada ac Eliffelet. Pan glywodd y Philistiaid fod Dafydd wedi cael ei eneinio'n frenin ar Israel i gyd, dyma eu byddin gyfan yn mynd allan i chwilio amdano. Clywodd Dafydd am hyn, ac aeth allan i ymladd yn eu herbyn nhw. Roedd byddin y Philistiaid wedi dod ac ymosod ar Ddyffryn Reffaïm. Dyma Dafydd yn gofyn i Dduw, “Ddylwn i fynd i ymladd yn erbyn y Philistiaid? Fyddi di'n gwneud i mi ennill?” Atebodd yr ARGLWYDD, “Dos i fyny, achos bydda i yn eu rhoi nhw i ti.” Felly aeth i Baal-peratsîm a'u trechu nhw yno. Dwedodd Dafydd, “Mae Duw wedi gwneud i mi dorri trwy fy ngelynion fel llifogydd o ddŵr.” A dyna pam wnaeth e alw'r lle hwnnw yn Baal-peratsîm. Roedd y Philistiaid wedi gadael eu heilun-dduwiau ar ôl, a dyma Dafydd yn gorchymyn iddyn nhw gael eu llosgi. Dyma'r Philistiaid yn ymosod eto ar y dyffryn. A dyma Dafydd yn mynd i ofyn eto i Dduw beth i'w wneud. Y tro yma cafodd yr ateb, “Paid ymosod arnyn nhw o'r tu blaen. Dos rownd y tu ôl iddyn nhw ac ymosod o gyfeiriad y coed balsam. Pan fyddi'n clywed sŵn cyffro yn y coed, ymosod ar unwaith. Dyna'r arwydd fod Duw yn mynd o dy flaen di i daro byddin y Philistiaid.” Felly dyma Dafydd yn gwneud fel roedd Duw wedi dweud wrtho, a dyma nhw'n taro byddin y Philistiaid yr holl ffordd o Gibeon i gyrion Geser. Roedd Dafydd yn enwog ym mhobman; roedd yr ARGLWYDD wedi gwneud i'r gwledydd i gyd ei ofni. Dyma Dafydd yn codi nifer o adeiladau yn Ninas Dafydd. A dyma fe'n paratoi lle i Arch Duw, a gosod pabell yn barod iddi. Yna dyma Dafydd yn dweud, “Dim ond y Lefiaid sydd i gario Arch Duw, neb arall. Nhw mae'r ARGLWYDD wedi eu dewis i gario'r Arch ac i'w wasanaethu am byth.” Dyma Dafydd yn galw pobl Israel i gyd at ei gilydd yn Jerwsalem, i symud Arch yr ARGLWYDD i'r lle'r roedd wedi ei baratoi ar ei chyfer. Dyma fe'n galw disgynyddion Aaron a'r Lefiaid at ei gilydd hefyd: Disgynyddion Cohath: Wriel, yr arweinydd, a 120 o'i berthnasau. Disgynyddion Merari: Asaia, yr arweinydd, a 220 o'i berthnasau. Disgynyddion Gershom: Joel, yr arweinydd, a 130 o'i berthnasau. Disgynyddion Elitsaffan: Shemaia, yr arweinydd, a 200 o'i berthnasau. Disgynyddion Hebron: Eliel, yr arweinydd, ac 80 o'i berthnasau. Disgynyddion Wssiel: Aminadab, yr arweinydd, a 112 o'i berthnasau. Yna dyma Dafydd yn galw'r offeiriaid, Sadoc ac Abiathar, a'r Lefiaid, Wriel, Asaia, Joel, Shemaia, Eliel ac Aminadab. A dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Chi ydy arweinwyr y Lefiaid. Rhaid i chi a'ch perthnasau fynd trwy'r ddefod o buro eich hunain, i symud Arch yr ARGLWYDD, Duw Israel, i'r lle dw i wedi ei baratoi iddi. Roedd yr ARGLWYDD wedi'n cosbi ni y tro cyntaf am eich bod chi ddim gyda ni, a'n bod heb ofyn iddo am y ffordd iawn i'w symud.” Felly dyma'r offeiriad a'r Lefiaid yn cysegru eu hunain i symud Arch yr ARGLWYDD, Duw Israel. A dyma'r Lefiaid yn cario Arch Duw ar eu hysgwyddau gyda pholion, am fod Moses wedi dweud mai dyna oedd yr ARGLWYDD wedi ei orchymyn. Yna dyma Dafydd yn dweud wrth arweinwyr y Lefiad i ddewis rhai o'u perthnasau oedd yn gerddorion i ganu offerynnau cerdd, nablau, telynau a symbalau, ac i ganu'n llawen. Felly dyma'r Lefiaid yn penodi Heman fab Joel; un o'i berthnasau, Asaff fab Berecheia; ac un o ddisgynyddion Merari, Ethan fab Cwshaia. Yna cafodd rhai o'u perthnasau eu dewis i'w helpu: Sechareia, Iaäsiel, Shemiramoth, Ichiel, Wnni, Eliab, Benaia, Maaseia, Matitheia, Eliffelehw, Micneia ac Obed-Edom a Jeiel oedd yn gwylio'r giatiau. Roedd y cerddorion Heman, Asaff ac Ethan i seinio'r symbalau pres; Sechareia, Asiel, Shemiramoth, Ichiel, Wnni, Eliab, Maaseia, a Benaia i ganu telynau bach; Matitheia, Eliffelehw, Micneia, Obed-Edom, Jeiel ac Asaseia i ganu'r telynau mawr, gydag arweinydd yn eu harwain. Cenaneia, pennaeth y Lefiaid, oedd arweinydd y côr, am fod ganddo brofiad yn y maes; wedyn Berecheia ac Elcana yn gofalu am yr Arch, a'r offeiriaid Shefaneia, Ioshaffat, Nethanel, Amasai, Sechareia, Benaia ac Elieser, yn canu'r utgyrn o flaen yr Arch. Roedd Obed-Edom a Iecheia hefyd yn gwylio'r Arch. Felly dyma Dafydd, ac arweinwyr Israel, a chapteiniaid yr unedau o fil, yn mynd i dŷ Obed-Edom i nôl Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD i Jerwsalem, gyda dathlu mawr. Am fod Duw yn helpu'r Lefiaid i gario Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD, dyma nhw'n aberthu saith tarw ifanc a saith hwrdd. Roedd Dafydd a'r Lefiaid oedd yn cario'r arch, y cerddorion, a Cenaneia, arweinydd y côr, mewn gwisgoedd o liain main. Roedd Dafydd yn gwisgo effod hefyd, sef crys offeiriad. Felly dyma Israel gyfan yn hebrwng Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD gan weiddi, a chanu'r corn hwrdd ac utgyrn, symbalau, nablau a thelynau. Wrth i Arch yr ARGLWYDD gyrraedd Dinas Dafydd, roedd Michal merch Saul yn edrych allan drwy'r ffenest. Pan welodd hi'r brenin Dafydd yn neidio a dawnsio, doedd hi'n teimlo dim byd ond dirmyg tuag ato. Dyma nhw'n dod ag Arch Duw a'i gosod yn y babell roedd Dafydd wedi chodi iddi. Yna dyma nhw'n cyflwyno offrymau i'w llosgi ac offrymau i ofyn am fendith Duw. Ar ôl cyflwyno'r offrymau yma, dyma Dafydd yn bendithio'r bobl yn enw yr ARGLWYDD. Yna dyma fe'n rhannu bwyd i bawb yn Israel — dynion a merched. Cafodd pawb dorth o fara, teisen datys a teisen rhesin. Yna dyma fe'n penodi rhai o'r Lefiaid i arwain yr addoliad o flaen Arch yr ARGLWYDD, i ailadrodd yr hanes wrth ganu a moli'r ARGLWYDD, Duw Israel. Asaff oedd y pennaeth, a Sechareia yn ei helpu. Roedd Jeiel, Shemiramoth, Iechiel, Matitheia, Eliab, Benaia, Obed-Edom, a Jeiel yn canu nablau a thelynau gwahanol, ac Asaff yn taro'r symbalau; a'r offeiriaid, Benaia a Iachsiel yn canu utgyrn yn rheolaidd o flaen Arch Ymrwymiad Duw. Ar y diwrnod hwnnw rhoddodd Dafydd, i Asaff a'i gyfeillion, y gân hon o ddiolch: Diolchwch i'r ARGLWYDD, a galw ar ei enw! Dwedwch wrth bawb beth mae wedi ei wneud. Canwch iddo, a defnyddio cerddoriaeth i'w foli! Dwedwch am y pethau rhyfeddol mae'n eu gwneud. Broliwch ei enw sanctaidd! Boed i bawb sy'n ceisio'r ARGLWYDD ddathlu. Dewch at yr ARGLWYDD, profwch ei nerth; ceisiwch ei gwmni bob amser. Cofiwch y pethau rhyfeddol a wnaeth — ei wyrthiau, a'r cwbl y gwnaeth ei farnu! Ie, chi blant ei was Israel; plant Jacob mae wedi eu dewis. Yr ARGLWYDD ein Duw ni ydy e; yr un sy'n barnu'r ddaear gyfan. Cofiwch ei ymrwymiad bob amser, a'i addewid am fil o genedlaethau — yr ymrwymiad wnaeth e i Abraham, a'r addewid wnaeth e ar lw i Isaac. Yna ei gadarnhau yn rheol i Jacob — ymrwymiad i Israel oedd i bara am byth! “Dw i'n rhoi gwlad Canaan i chi” meddai, “yn etifeddiaeth i chi ei meddiannu.” Dim ond criw bach ohonoch chi oedd — rhyw lond dwrn yn byw yno dros dro, ac yn crwydro o un wlad i'r llall, ac o un deyrnas i'r llall. Wnaeth e ddim gadael i neb eu gormesu nhw; roedd wedi rhybuddio brenhinoedd amdanyn nhw: “Peidiwch cyffwrdd fy mhobl sbesial i; peidiwch gwneud niwed i'm proffwydi.” Y ddaear gyfan, canwch i'r ARGLWYDD! a dweud bob dydd sut mae e'n achub. Dwedwch wrth y cenhedloedd mor wych ydy e; wrth yr holl bobloedd am y pethau rhyfeddol mae'n eu gwneud. Mae'r ARGLWYDD yn Dduw mawr, ac yn haeddu ei foli! Mae'n haeddu ei barchu fwy na'r ‛duwiau‛ eraill i gyd. Eilunod diwerth ydy duwiau'r holl bobloedd, ond yr ARGLWYDD wnaeth greu y nefoedd! Mae ei ysblander a'i urddas yn amlwg; mae cryfder a llawenydd yn ei bresenoldeb. Dewch bobl y cenhedloedd! Cyhoeddwch! Cyhoeddwch mor wych ac mor gryf ydy'r ARGLWYDD! Cyhoeddwch mor wych ydy ei enw da! Dewch o'i flaen i gyflwyno rhodd iddo! Plygwch i addoli'r ARGLWYDD sydd mor hardd yn ei gysegr! Crynwch o'i flaen, bawb drwy'r byd! Mae'r ddaear yn saff, does dim modd ei symud. Boed i'r nefoedd a'r ddaear ddathlu'n llawen! Dwedwch ymysg y cenhedloedd, “Yr ARGLWYDD sy'n teyrnasu!” Boed i'r môr a phopeth sydd ynddo weiddi! Boed i'r caeau a'u cnydau ddathlu! Bydd holl goed y goedwig yn siffrwd yn llawen o flaen yr ARGLWYDD, am ei fod e'n dod — mae'n dod i roi trefn ar y ddaear! Diolchwch i'r ARGLWYDD! Mae e mor dda aton ni; Mae ei haelioni yn ddiddiwedd! Dwedwch, “Achub ni, O Dduw yr achubwr! Casgla ni ac achub ni o blith y cenhedloedd! Wedyn byddwn ni'n diolch i ti, y Duw sanctaidd, ac yn brolio'r cwbl wyt ti wedi ei wneud.” Bendith ar yr ARGLWYDD, Duw Israel, o hyn ymlaen ac i dragwyddoldeb! A dyma'r bobl i gyd yn dweud, “Amen! Haleliwia!” Dyma Dafydd yn penodi Asaff a'i frodyr i arwain yr addoliad o flaen Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD, ac i wneud popeth oedd angen ei wneud bob dydd. Gyda nhw roedd Obed-Edom a'i chwe deg wyth o frodyr. Obed-edom, mab Iedwthwn, a Chosa oedd yn gofalu am y giatiau. (Roedd wedi gadael Sadoc yr offeiriad, a'r offeiriaid eraill, i wasanaethu o flaen tabernacl yr ARGLWYDD wrth yr allor leol yn Gibeon. Roedden nhw i losgi offrymau i'r ARGLWYDD ar allor yr aberthau. Roedden nhw i wneud hyn bob bore a gyda'r nos fel mae'n dweud yn y gyfraith oedd yr ARGLWYDD wedi ei rhoi i Israel.) Yno gyda nhw roedd Heman, Iedwthwn ac eraill. Roedd y rhain wedi eu dewis wrth eu henwau i ddiolch i'r ARGLWYDD (Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!) Heman a Iedwthwn oedd yn gofalu am yr utgyrn a'r symbalau a'r offerynnau cerdd eraill oedd yn cael eu defnyddio i foli Duw. A meibion Iedwthwn oedd yn gwarchod y fynedfa. Yna dyma'r bobl i gyd yn mynd adre, ac aeth Dafydd yn ôl i fendithio ei deulu ei hun. Pan oedd Dafydd wedi setlo i lawr yn ei balas, dyma fe'n dweud wrth y proffwyd Nathan, “Edrych! Dw i'n byw yma mewn palas crand o goed cedrwydd, tra mae Arch yr ARGLWYDD yn dal mewn pabell.” A dyma Nathan yn ateb, “Mae Duw gyda ti. Gwna beth bynnag wyt ti'n feddwl sy'n iawn.” Ond y noson honno dyma Duw yn dweud wrth Nathan, “Dos i ddweud wrth fy ngwas Dafydd, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: Dwyt ti ddim yn mynd i adeiladu teml i mi fyw ynddi. Dw i erioed wedi byw mewn teml, o'r diwrnod pan ddes i â phobl Israel allan o'r Aifft hyd heddiw. Dw i wedi bod yn mynd o babell i babell. Ble bynnag roeddwn i'n teithio gyda phobl Israel, wnes i erioed gwyno i'r arweinwyr oedd yn gofalu am bobl Israel, “Pam dych chi ddim wedi adeiladu teml o goed cedrwydd i mi?”’ “Felly, dywed wrth fy ngwas Dafydd, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: Fi wnaeth dy gymryd di o'r caeau lle roeddet yn bugeilio defaid, a dy wneud di'n arweinydd ar fy mhobl Israel. Dw i wedi bod gyda ti ble bynnag rwyt ti wedi mynd, ac wedi dinistrio dy elynion o dy flaen di. Dw i'n mynd i dy wneud di'n enwog go iawn drwy'r byd i gyd. Dw i'n mynd i roi lle i fy mhobl Israel fyw. Byddan nhw'n setlo yno, a fydd neb yn tarfu arnyn nhw. Fydd dynion creulon ddim yn achosi helynt iddyn nhw fel o'r blaen, pan oeddwn i wedi penodi barnwyr i'w harwain nhw. Bellach, dw i'n mynd i drechu dy elynion di. Dw i'n dweud fod yr ARGLWYDD yn mynd i adeiladu tŷ i ti — llinach frenhinol! Ar ôl i ti farw a chael dy gladdu, bydda i'n codi un o dy linach di yn dy le — mab i ti. A bydda i'n gwneud ei deyrnas e yn gadarn. Bydd e yn adeiladu teml i mi, A bydda i'n gwneud iddo deyrnasu am byth. Bydda i yn dad iddo, a bydd e'n fab i mi. Fydda i ddim yn stopio bod yn ffyddlon iddo fe, yn wahanol i'r un o dy flaen di. Bydda i'n gwneud iddo deyrnasu am byth. Bydd ei orsedd yn gadarn fel y graig.’” Dyma Nathan yn mynd a dweud y cwbl wrth Dafydd. A dyma'r Brenin Dafydd yn mynd i mewn i eistedd o flaen yr ARGLWYDD. “O ARGLWYDD Dduw, pwy ydw i? Dw i a'm teulu yn neb. Ac eto ti wedi dod â fi mor bell! Ac fel petai hynny ddim yn ddigon, O Dduw, ti wedi siarad am y dyfodol pell yn llinach dy was! Ti'n delio gyda mi fel petawn i'n rhywun pwysig, o ARGLWYDD Dduw. Beth alla i ddweud? Ti wedi rhoi anrhydedd i dy was, ac yn gwybod sut un ydw i. ARGLWYDD, am dy fod wedi addo gwneud, ac am mai dyna oedd dy fwriad, ti wedi gwneud y pethau mawr yma i ddangos mor fawr wyt ti. “ARGLWYDD, does neb tebyg i ti! Does yna ddim duw arall heblaw ti. Dŷn ni wedi clywed am neb yr un fath â ti! A pwy sy'n debyg i dy bobl di, Israel? Mae hi'n wlad unigryw ar y ddaear. Aeth Duw i'w gollwng yn rhydd, a'u gwneud yn bobl iddo'i hun. Ti'n enwog am wneud pethau rhyfeddol pan wnest ti achub dy bobl o'r Aifft a gyrru'r cenhedloedd paganaidd allan o'r tir oedd gen ti ar eu cyfer nhw. “Ti wedi gwneud Israel yn bobl i ti dy hun am byth. Rwyt ti, ARGLWYDD, wedi dod yn Dduw iddyn nhw. Felly, ARGLWYDD, tyrd a'r addewid yma amdana i a'm teulu yn wir. Gwna fel ti wedi addo. Wedyn byddi'n sicr yn enwog am byth. Bydd pobl yn dweud, ‘yr ARGLWYDD holl-bwerus ydy Duw Israel.’ A bydd llinach dy was Dafydd yn gadarn fel y graig, am dy fod ti, Dduw Israel, wedi addo y byddi'n adeiladu tŷ i mi. A dyna pam mae dy was yn meiddio gweddïo arnat ti. Nawr, ARGLWYDD, ti ydy'r Duw go iawn. Rwyt ti wedi addo gwneud y peth da yma i dy was. Felly, bendithia linach dy was, iddi aros yn gadarn gyda thi am byth. ARGLWYDD, rwyt wedi ei bendithio, a bydd dy fendith yn aros am byth.” Ar ôl hyn dyma Dafydd yn concro'r Philistiaid, ac yn dwyn rheolaeth Gath a'r pentrefi o'i chwmpas oddi arnyn nhw. Wedyn dyma fe'n concro Moab. A daeth Moab o dan awdurdod Dafydd a thalu trethi iddo. Yna dyma Dafydd yn concro Hadadeser, brenin talaith Soba wrth Chamath. Roedd e ar ei ffordd i geisio cael yr ardal ar lan yr Ewffrates yn ôl o dan ei awdurdod. Ond dyma Dafydd yn dal mil o'i gerbydau rhyfel, saith mil o'i farchogion a dau ddeg mil o'i filwyr traed. Cadwodd gant o'r ceffylau, ond gwneud y gweddill i gyd yn gloff. Daeth Syriaid talaith Damascus i helpu Hadadeser, ond lladdodd byddin Dafydd ddau ddeg dau mil ohonyn nhw hefyd. Wedyn dyma Dafydd yn gosod garsiynau o filwyr ar dir Syriaid Damascus. Daethon nhw hefyd o dan ei awdurdod, a gorfod talu trethi iddo. Roedd yr ARGLWYDD yn gwneud i Dafydd ennill pob brwydr ble bynnag roedd e'n mynd. Aeth Dafydd â'r tariannau aur oedd gan swyddogion Hadadeser i Jerwsalem. A cymerodd lot fawr o bres hefyd o Tifchath a Cwn, trefi Hadadeser (Defnyddiodd Solomon y pres i wneud y basn mawr oedd yn cael ei alw “Y Môr,” a hefyd y pileri ac offer arall o bres.). Pan glywodd Toi, brenin Chamath, fod Dafydd wedi concro Hadadeser, brenin Soba, a'i fyddin i gyd, dyma fe'n anfon ei fab Hadoram ato i geisio telerau heddwch, ac i longyfarch Dafydd ar ei lwyddiant. (Roedd Hadadeser wedi bod yn rhyfela byth a hefyd yn erbyn Toi.) Ac aeth â pob math o gelfi aur ac arian a phres gydag e. A dyma Dafydd yn cysegru'r cwbl i'r ARGLWYDD. Roedd wedi gwneud yr un peth gyda'r holl arian ac aur roedd wedi ei gymryd o'r gwledydd wnaeth e eu concro, sef: Edom, Moab, pobl Ammon, y Philistiaid a'r Amaleciaid. Roedd Abishai fab Serwia wedi lladd un deg wyth mil o filwyr Edom yn Nyffryn yr Halen. A dyma fe'n gosod garsiynau yn Edom. Daeth Edom i gyd o dan ei awdurdod a gorfod talu trethi iddo. Roedd yr ARGLWYDD yn rhoi buddugoliaeth i Dafydd ble bynnag roedd yn mynd. Roedd Dafydd yn frenin ar Israel gyfan. Roedd yn trin ei bobl i gyd yn gyfiawn ac yn deg. Joab (mab Serwia ) oedd pennaeth y fyddin. Jehosaffat fab Achilwd oedd cofnodydd y brenin. Sadoc fab Achitwf ac Abimelech fab Abiathar oedd yr offeiriaid. Shafsha oedd ei ysgrifennydd gwladol. Benaia fab Jehoiada oedd pennaeth gwarchodlu personol y brenin (Cretiaid a Pelethiaid). Ac roedd meibion Dafydd yn brif swyddogion hefyd. Beth amser wedyn dyma Nachash, brenin yr Ammoniaid, yn marw, a'i fab yn dod yn frenin yn ei le. Dyma Dafydd yn dweud, “Dw i am fod yn garedig at Chanŵn fab Nachash, am fod ei dad wedi bod yn garedig ata i.” Felly dyma fe'n anfon ei weision i gydymdeimlo ag e ar golli ei dad. Ond pan ddaeth gweision Dafydd i wlad Ammon i gydymdeimlo â Chanŵn, dyma swyddogion y wlad yn dweud wrtho, “Wyt ti wir yn meddwl mai i ddangos parch at dy dad mae Dafydd wedi anfon y dynion yma i gydymdeimlo? Dim o gwbl! Mae'n debyg fod ei weision wedi dod atat ti i ysbïo ac archwilio'r wlad!” Felly dyma Chanŵn yn dal gweision Dafydd a'i siafio nhw, a thorri eu dillad yn eu canol, fel bod eu tinau yn y golwg. Yna eu gyrru nhw adre. Dyma negeswyr yn dod a dweud wrth Dafydd beth oedd wedi digwydd, anfonodd ddynion i'w cyfarfod. Roedd arnyn nhw gywilydd garw. Awgrymodd y dylen nhw aros yn Jericho nes bod barf pob un wedi tyfu eto. Dyma bobl Ammon yn dod i sylweddoli fod beth wnaethon nhw wedi ypsetio Dafydd. Felly dyma Chanŵn a pobl Ammon yn anfon 34,000 cilogram o arian i logi cerbydau a marchogion gan Aram-naharaim, Aram-maacha a Soba. Dyma nhw'n llogi 32,000 o gerbydau, a dyma frenin Maacha a'i fyddin yn dod ac yn gwersylla o flaen Medeba. A dyma ddynion Ammon yn dod at ei gilydd o'u trefi er mwyn mynd allan i frwydro. Pan glywodd Dafydd hyn, dyma fe'n anfon Joab allan gyda milwyr gorau'r fyddin gyfan. Yna dyma'r Ammoniaid yn dod allan a gosod eu byddin yn rhengoedd o flaen giatiau'r ddinas. Ond roedd y brenhinoedd oedd wedi dod i ymladd ar eu pennau eu hunain ar dir agored. Dyma Joab yn gweld y byddai'n rhaid iddo ymladd o'r tu blaen a'r tu ôl. Felly dyma fe'n dewis rhai o filwyr gorau byddin Israel i wynebu'r Syriaid. A dyma fe'n cael ei frawd, Abishai, i arwain gweddill y fyddin yn erbyn yr Ammoniaid. “Os bydd y Syriaid yn gryfach na ni,” meddai, “tyrd ti i'n helpu ni. Ac os bydd yr Ammoniaid yn gryfach na chi, gwna i eich helpu chi. Gad i ni fod yn ddewr! Er mwyn ein pobl, ac er mwyn trefi ein Duw. Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud fel mae'n gweld yn dda.” Felly dyma Joab a'i filwyr yn mynd allan i ymladd yn erbyn y Syriaid, a dyma'r Syriaid yn ffoi oddi wrthyn nhw. Pan welodd yr Ammoniaid fod y Syriaid yn ffoi, dyma nhw hefyd yn ffoi o flaen Abishai, ei frawd, a dianc i mewn i'r ddinas. A dyma Joab yn mynd yn ôl i Jerwsalem. Roedd y Syriaid yn gweld eu bod wedi colli'r dydd yn erbyn Israel, felly dyma nhw'n anfon am fwy o filwyr. A dyma'r Syriaid oedd yn byw yr ochr draw i Afon Ewffrates yn dod. Shoffach oedd y cadfridog yn arwain byddin Hadadeser. Pan glywodd Dafydd am hyn, dyma fe'n galw byddin Israel gyfan at ei gilydd. A dyma nhw'n croesi'r afon Iorddonen a dod i Chelam. A dyma Dafydd yn gosod ei fyddin yn rhengoedd i wynebu y Syriaid, ac yn dechrau ymladd yn eu herbyn. Dyma fyddin y Syriaid yn ffoi eto o flaen yr Israeliaid. Roedd byddin Dafydd wedi lladd saith mil o filwyr cerbyd y Syriaid, a pedwar deg mil o filwyr traed. Lladdodd Shoffach, cadfridog byddin y Syriaid, hefyd. Pan welodd milwyr Hadadeser eu bod wedi colli'r dydd, dyma nhw'n gwneud heddwch â Dafydd, a dod o dan ei awdurdod. Felly, doedd y Syriaid ddim yn fodlon helpu'r Ammoniaid eto. Yn y gwanwyn, sef yr adeg pan fyddai brenhinoedd yn arfer mynd i ryfela, dyma Joab yn arwain ei fyddin i ryfel a dinistrio gwlad yr Ammoniaid. Dyma fe'n gwarchae ar Rabba tra roedd Dafydd yn dal yn Jerwsalem, a dyma Joab yn concro Rabba a'i dinistrio. Dyma Dafydd yn cymryd coron eu brenin nhw a'i rhoi ar ei ben ei hun. Roedd hi wedi ei gwneud o dri deg cilogram o aur, ac roedd gem werthfawr arni. Casglodd Dafydd lot fawr o ysbail o'r ddinas hefyd. Symudodd y bobl allan, a'u gorfodi nhw i weithio iddo gyda llifau, ceibiau a bwyeill. Gwnaeth Dafydd yr un peth gyda pob un o drefi'r Ammoniaid. Yna aeth yn ôl i Jerwsalem gyda'i fyddin gyfan. Beth amser wedyn roedd brwydr arall yn erbyn y Philistiaid, yn Geser. Y tro hwnnw dyma Sibechai o Chwsha yn lladd Sippai, un o ddisgynyddion y Reffaiaid. Roedd y Philistiaid wedi eu trechu'n llwyr. Mewn brwydr arall eto yn erbyn y Philistiaid, dyma Elchanan fab Jair yn lladd Lachmi, brawd Goliath o Gath (yr un oedd â gwaywffon gyda choes iddi oedd fel trawst ffrâm gwehydd!) Yna roedd brwydr arall eto yn Gath. Y tro yma roedd cawr o ddyn gyda chwe bys ar ei ddwylo a'i draed — dau ddeg pedwar o fysedd i gyd. (Roedd hwn hefyd yn un o ddisgynyddion y Reffaiaid.) Roedd yn gwneud hwyl am ben Israel, a dyma Jonathan, mab Shamma brawd Dafydd, yn ei ladd e. Roedd y rhain yn ddisgynyddion i'r Reffaiaid o Gath, a Dafydd a'i filwyr wnaeth ladd pob un. Dyma satan yn codi yn erbyn Israel, a gwneud i Dafydd gyfri faint o filwyr oedd gan Israel. Felly dyma'r brenin yn dweud wrth Joab ac arweinwyr ei fyddin, “Dw i eisiau i chi gyfri faint o filwyr sydd yn Israel, o Beersheba yn y de i Dan yn y gogledd. Yna adrodd yn ôl i mi gael gwybod faint ohonyn nhw sydd.” Ond dyma Joab yn ei ateb, “O na fyddai'r ARGLWYDD yn gwneud y fyddin ganwaith yn fwy! Ond fy mrenin, syr, ydyn nhw ddim i gyd yn gwasanaethu fy meistr? Pam wyt ti eisiau gwneud y fath beth? Pam gwneud Israel yn euog?” Ond y brenin gafodd ei ffordd, a dyma Joab yn teithio drwy Israel i gyd, cyn dod yn ôl i Jerwsalem. Yna dyma Joab yn rhoi canlyniadau'r cyfrifiad i Dafydd. Roedd yna un pwynt un miliwn o ddynion Israel allai ymladd yn y fyddin — pedwar cant saith deg mil yn Jwda yn unig. Wnaeth Joab ddim cyfri llwythau Lefi a Benjamin, am ei fod yn anhapus iawn gyda gorchymyn y brenin. Roedd y peth wedi digio Duw hefyd, felly dyma fe'n cosbi Israel. Dyma Dafydd yn dweud wrth Dduw, “Dw i wedi pechu'n ofnadwy drwy wneud hyn. Plîs wnei di faddau i mi? Dw i wedi gwneud peth gwirion.” Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Gad, proffwyd Dafydd: “Dos i ddweud wrth Dafydd, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: Dw i'n rhoi tri dewis i ti. Dewis pa un wyt ti am i mi ei wneud.’” Felly dyma Gad yn mynd at Dafydd a dweud wrtho, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Dewis un o'r rhain — Tair blynedd o newyn, tri mis o gael eich erlid gan eich gelynion a'ch lladd mewn rhyfel, neu dri diwrnod o gael eich taro gan yr ARGLWYDD, pan fydd haint yn lledu trwy'r wlad ac angel yr ARGLWYDD yn lladd pobl drwy dir Israel i gyd.’ Meddwl yn ofalus cyn dweud wrtho i pa ateb dw i i'w roi i'r un sydd wedi f'anfon i.” Dyma Dafydd yn ateb Gad, “Mae'n ddewis caled! Ond mae'r ARGLWYDD mor drugarog! Byddai'n well gen i gael fy nghosbi ganddo fe na gan ddynion.” Felly dyma'r ARGLWYDD yn anfon pla ar wlad Israel, a buodd saith deg mil o bobl farw. Dyma Duw yn anfon angel i ddinistrio Jerwsalem. Ond wrth iddo wneud hynny, dyma'r ARGLWYDD yn teimlo'n sori am y niwed. Dyma fe'n rhoi gorchymyn i'r angel oedd wrthi'n difa'r bobl, “Dyna ddigon! Stopia nawr!” (Ar y pryd roedd yr angel yn sefyll wrth ymyl llawr dyrnu Ornan y Jebwsiad.) Dyma Dafydd yn gweld angel yr ARGLWYDD yn sefyll rhwng y ddaear a'r awyr a'r cleddyf yn ei law yn pwyntio at Jerwsalem. A dyma Dafydd a'r arweinwyr, oedd yn gwisgo sachliain, yn plygu a'u hwynebau ar lawr. A dyma Dafydd yn gweddïo ar Dduw, “Onid fi wnaeth benderfynu cyfri'r milwyr? Fi sydd wedi pechu a gwneud y drwg ofnadwy yma! Wnaeth y bobl ddiniwed yma ddim byd o'i le. O ARGLWYDD Dduw, cosba fi a'm teulu, a symud y pla oddi wrth dy bobl.” Felly dyma angel yr ARGLWYDD yn anfon Gad i ddweud wrth Dafydd am fynd i godi allor i'r ARGLWYDD ar lawr dyrnu Ornan y Jebwsiad. Felly dyma Dafydd yn mynd a gwneud beth roedd yr ARGLWYDD wedi gofyn i Gad ei ddweud ar ei ran. Roedd Ornan wrthi'n dyrnu ŷd pan drodd a gweld yr angel, a dyma fe a'i bedwar mab yn mynd i guddio. Yna dyma Ornan yn gweld Dafydd yn dod ato, a dyma fe'n dod allan o'r llawr dyrnu ac yn ymgrymu o flaen Dafydd â'i wyneb ar lawr. A dyma Dafydd yn dweud wrth Ornan, “Dw i eisiau i ti werthu'r llawr dyrnu i mi, er mwyn i mi godi allor i'r ARGLWYDD — gwna i dalu'r pris llawn i ti — i stopio'r pla yma ladd y bobl.” Dyma Ornan yn dweud wrth Dafydd, “Syr, cymer e, a gwneud beth bynnag wyt ti eisiau. Cymer yr ychen i'w llosgi'n aberth, a defnyddia'r sled dyrnu'n goed tân, a'r gwenith yn offrwm o rawn. Cymer y cwbl.” Ond dyma'r brenin Dafydd yn ateb Ornan, “Na, mae'n rhaid i mi dalu'r pris llawn i ti. Dw i ddim yn mynd i gyflwyno dy eiddo di yn offrwm i'r ARGLWYDD, neu aberthau i'w llosgi sydd wedi costio dim byd i mi.” Felly dyma Dafydd yn prynu'r lle gan Ornan am chwe chan darn aur. Wedyn adeiladodd allor i'r ARGLWYDD yno, a chyflwyno arni aberthau i'w llosgi ac offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. A dyma'r ARGLWYDD yn ymateb drwy anfon tân i lawr o'r awyr a llosgi y aberth ar yr allor. Dyma'r ARGLWYDD yn gorchymyn i'r angel gadw ei gleddyf. Pan welodd Dafydd fod yr ARGLWYDD wedi ateb ei weddi ar lawr dyrnu Ornan y Jebwsiad, dyma fe'n llosgi aberth yno. Yr adeg honno, roedd Tabernacl yr ARGLWYDD, (yr un roedd Moses wedi ei hadeiladu yn yr anialwch) a'r allor i losgi aberthau arni, wrth yr allor leol yn Gibeon. Ond doedd Dafydd ddim yn gallu mynd yno i ofyn am arweiniad Duw am fod arno ofn cleddyf angel yr ARGLWYDD. Dyma Dafydd yn dweud, “Dyma'r safle lle bydd teml yr ARGLWYDD Dduw, a'r allor i losgi aberthau dros Israel.” Yna dyma Dafydd yn rhoi gorchymyn i gasglu'r mewnfudwyr oedd yn byw yng ngwlad Israel at ei gilydd. Dyma fe'n penodi seiri maen i baratoi cerrig ar gyfer adeiladu teml Dduw. A dyma fe'n yn casglu lot fawr o haearn i wneud hoelion a colfachau ar gyfer y drysau, a cymaint o efydd, doedd dim posib ei bwyso. Doedd dim posib cyfri'r holl goed cedrwydd ychwaith (roedd pobl Sidon a Tyrus wedi dod â llawer iawn ohonyn nhw iddo.) A dyma Dafydd yn esbonio, “Mae Solomon, fy mab, yn ifanc ac yn ddibrofiad. Mae'n rhaid i'r deml fydd yn cael ei hadeiladu i'r ARGLWYDD fod mor wych, bydd yn enwog ac yn cael ei hedmygu drwy'r byd i gyd. Dyna pam dw i'n paratoi ar ei chyfer.” Felly roedd Dafydd wedi gwneud paratoadau mawr cyn iddo farw. Yna dyma Dafydd yn galw ei fab, Solomon, a rhoi gorchymyn iddo adeiladu teml i'r ARGLWYDD, Duw Israel. Dwedodd wrtho, “Fy mab, roeddwn i wir eisiau adeiladu teml i anrhydeddu'r ARGLWYDD fy Nuw. Ond dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, ‘Rwyt ti wedi lladd gormod o bobl ac wedi ymladd llawer o frwydrau. Felly gei di ddim adeiladu teml i mi, o achos yr holl waed sydd wedi ei dywallt. Ond gwranda, byddi'n cael mab, a bydd e'n ddyn heddychlon. Bydda i'n gwneud i'r holl elynion o'i gwmpas roi llonydd iddo. Ei enw fydd Solomon, a bydd Israel yn cael heddwch a thawelwch yn y cyfnod pan fydd e'n frenin. Bydd e'n adeiladu'r deml i mi. Bydd e'n fab i mi a bydda i'n dad iddo fe. Bydda i'n gwneud i'w linach deyrnasu ar Israel am byth.’ “Nawr, fy mab, boed i'r ARGLWYDD fod gyda ti! Boed i ti lwyddo, ac adeiladu teml i'r ARGLWYDD dy Dduw, fel dwedodd e. A boed i'r ARGLWYDD roi doethineb a dealltwriaeth i ti, pan fyddi di'n gyfrifol am Israel, i ti fod yn ufudd i gyfraith yr ARGLWYDD dy Dduw. Byddi'n siŵr o lwyddo os byddi'n cadw'n ofalus y rheolau a'r canllawiau roddodd yr ARGLWYDD i Moses ar gyfer pobl Israel. Bydd yn gryf ac yn ddewr; paid bod ag ofn a panicio. Edrych, er mod i'n siomedig, dw i wedi casglu beth sydd ei angen i adeiladu teml yr ARGLWYDD: bron 4,000 o dunelli o aur, 40,000 o dunelli o arian, a cymaint o efydd a haearn does dim posib ei bwyso! Coed a cherrig hefyd. A byddi di'n casglu mwy eto. Mae gen ti lawer iawn o weithwyr hefyd, rhai i dorri cerrig, eraill yn seiri maen a seiri coed, a crefftwyr o bob math, i weithio gydag aur, arian, efydd a haearn. Felly bwrw iddi! A boed i'r ARGLWYDD fod gyda ti!” Yna dyma Dafydd yn rhoi gorchymyn i swyddogion Israel i helpu ei fab Solomon. “Mae'r ARGLWYDD, eich Duw, gyda chi! Mae wedi rhoi heddwch i'r wlad. Mae wedi rhoi'r gwledydd o'n cwmpas i mi, ac maen nhw i gyd bellach dan awdurdod yr ARGLWYDD a'i bobl. Nawr, rhowch eich hunain yn llwyr i'r ARGLWYDD eich Duw. Ewch ati i adeiladu teml i'r ARGLWYDD Dduw, fel y gallwch ddod ag Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD ar holl lestri sanctaidd i'r deml fydd wedi ei hadeiladu i'w anrhydeddu”. Pan oedd Dafydd wedi mynd yn hen ac yn dod i ddiwedd ei oes, dyma fe'n gwneud ei fab Solomon yn frenin ar Israel. Yna dyma fe'n galw holl arweinwyr Israel, yr offeiriaid a'r Lefiaid at ei gilydd. Cafodd y Lefiaid oedd yn dri deg oed neu'n hŷn eu cyfrif, ac roedd yna 38,000 ohonyn nhw. A dyma Dafydd yn dweud, “Mae 24,000 i fod i arolygu gwaith Teml yr ARGLWYDD; 6,000 i fod yn swyddogion ac yn farnwyr; 4,000 i fod yn ofalwyr yn gwylio'r giatiau; a 4,000 i arwain y mawl i'r ARGLWYDD gyda'r offerynnau cerdd dw i wedi eu darparu ar gyfer yr addoliad.” A dyma Dafydd yn eu rhannu nhw'n grwpiau wedi eu henwi ar ôl meibion Lefi: Gershon, Cohath a Merari. Dau fab Gershon oedd Ladan a Shimei. Meibion Ladan: Iechiel yr hynaf, Setham, a Joel — tri. Meibion Shimei: Shlomith, Chasiel, a Haran — tri. Nhw oedd arweinwyr teulu Ladan. Meibion Shimei: Iachath, Sina, Iewsh, a Bereia. Dyma feibion Shimei — pedwar. Iachath oedd yr hynaf, wedyn Sisa. Doedd gan Iewsh a Bereia ddim llawer o feibion, felly roedden nhw'n cael eu cyfrif fel un teulu. Meibion Cohath: Amram, Its'har, Hebron, ac Wssiel — pedwar. Meibion Amram: Aaron a Moses. Cafodd Aaron a'i ddisgynyddion eu dewis i fod bob amser yn gyfrifol am yr offer cysegredig, i offrymu aberthau o flaen yr ARGLWYDD, ei wasanaethu a'i addoli. Roedd meibion Moses, dyn Duw, yn cael eu cyfrif yn rhan o lwyth Lefi. Meibion Moses: Gershom ac Elieser Disgynyddion Gershom: Shefwel oedd yr hynaf. Disgynyddion Elieser: Rechafia oedd yr hynaf. (Doedd gan Elieser ddim mwy o feibion, ond cafodd Rechafia lot fawr o feibion). Meibion Its'har: Shlomith oedd yr hynaf. Meibion Hebron: Ierïa oedd yr hynaf, Amareia yn ail, Iachsiel yn drydydd, ac Icameam yn bedwerydd. Meibion Wssiel: Micha oedd yr hynaf, ac Ishïa yn ail. Meibion Merari: Machli a Mwshi. Meibion Machli: Eleasar a Cish. (Bu Eleasar farw heb gael meibion, dim ond merched. A dyma eu cefndryd, meibion Cish, yn eu priodi nhw) Meibion Mwshi: Machli, Eder, ac Ieremoth — tri. Dyma ddisgynyddion Lefi yn ôl eu claniau — pob un wedi cael ei restru wrth ei enw o dan enw ei benteulu. Roedd pob un oedd dros ddau ddeg mlwydd oed i wasanaethu yr ARGLWYDD yn y deml. Roedd Dafydd wedi dweud fod yr ARGLWYDD, Duw Israel, wedi rhoi heddwch i'w bobl, ac wedi dod i aros yn Jerwsalem am byth. Felly, bellach, doedd dim rhaid i'r Lefiaid gario'r tabernacl a'r holl offer ar ei chyfer. Y peth olaf roedd Dafydd wedi ei ddweud oedd fod rhaid rhifo'r Lefiaid oedd yn dau ddeg mlwydd oed neu'n hŷn. Gwaith y Lefiaid oedd helpu'r offeiriaid, disgynyddion Aaron, wrth iddyn nhw wasanaethu yn nheml yr ARGLWYDD. Nhw oedd yn gofalu am yr iard a'r stordai, am olchi'r llestri cysegredig ac unrhyw beth arall oedd angen ei wneud yn nheml Dduw. Nhw oedd yn gyfrifol am y bara oedd yn cael ei osod yn bentwr bob dydd, y blawd mân ar gyfer yr offrwm o rawn, y bisgedi tenau, y cacennau radell, a'r holl gymysgu a'r pwyso a'r mesur. Roedden nhw i fod yn bresennol bob bore i ddiolch i'r ARGLWYDD a chanu mawl iddo. Hefyd bob gyda'r nos, a pan oedd aberth yn cael ei losgi ar y Saboth, yn fisol ar Ŵyl y lleuad newydd, ac ar y gwyliau crefyddol eraill. Roedd yn rhaid i'r nifer cywir ohonyn nhw fod yn bresennol bob tro. Nhw hefyd oedd yn gyfrifol am Babell Presenoldeb Duw a'r cysegr sanctaidd. Roedden nhw'n helpu'r offeiriaid, disgynyddion Aaron, wrth iddyn nhw wasanaethu yn nheml yr ARGLWYDD. Dyma sut cafodd disgynyddion Aaron eu rhannu'n grwpiau: Meibion Aaron: Nadab, Abihw, Eleasar, ac Ithamar. (Buodd Nadab ac Abihw farw cyn eu tad, a doedd ganddyn nhw ddim plant. Roedd Eleasar ac Ithamar yn gwasanaethu fel offeiriaid.) Dyma Dafydd, gyda help Sadoc (oedd yn ddisgynnydd i Eleasar), ac Achimelech (oedd yn ddisgynnydd i Ithamar), yn rhannu'r offeiriaid yn grwpiau oedd â chyfrifoldebau arbennig. Roedd mwy o arweinwyr yn ddisgynyddion i Eleasar nag oedd i Ithamar, a dyma sut cawson nhw eu rhannu: un deg chwech arweinydd oedd yn ddisgynyddion i Eleasar, ac wyth oedd yn ddisgynyddion i Ithamar. Er mwyn bod yn deg, cafodd coelbren ei ddefnyddio i'w rhannu nhw, fel bod pob un oedd yn gwasanaethu yn arweinwyr yn y cysegr wedi eu dewis gan Dduw. Dyma'r ysgrifennydd, Shemaia fab Nethanel (oedd yn Lefiad) yn ysgrifennu'r enwau i gyd o flaen y brenin, ei swyddogion, Sadoc yr offeiriad, Achimelech fab Abiathar, ac arweinwyr yr offeiriad a'r Lefiaid. Roedd un yn cael ei ddewis drwy ddefnyddio coelbren o deulu Eleasar, ac yna'r nesaf o deulu Ithamar. [7-18] A dyma'r drefn fel cawson nhw eu dewis: 1. — Iehoiarif — 13. — Chwpa 2. — Idaïa — 14. — Ieshebëab 3. — Charîm — 15. — Bilga 4. — Seorîm — 16. — Immer 5. — Malcîa — 17. — Chesir 6. — Miamin — 18. — Hapitsets 7. — Hacots — 19. — Pethacheia 8. — Abeia — 20. — Iechescel 9. — Ieshŵa — 21. — Iachin 10. — Shechaneia — 22. — Gamwl 11. — Eliashif — 23. — Delaia 12. — Iacîm — 24. — Maaseia *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** *** A dyna'r drefn roedden nhw'n gwneud eu gwaith yn y deml, yn ôl y canllawiau roedd Aaron, eu hynafiad, wedi eu gosod, fel roedd yr ARGLWYDD Dduw wedi dweud wrtho. Dyma weddill y Lefiaid: Shwfa-el, o ddisgynyddion Amram; Iechdeia, o ddisgynyddion Shwfa-el; Ishïa, mab hynaf Rechabeia, o ddisgynyddion Rechabeia. Shlomoth o'r Its'hariaid; Iachath, o ddisgynyddion Shlomoth. Disgynyddion Hebron: Ierïa yn arwain, yna Amareia, Iachsiel, ac Icameam. Disgynyddion Wssiel: Micha, a Shamîr (un o feibion Micha). Brawd Micha: Ishïa, a Sechareia (un o feibion Ishïa) Disgynyddion Merari: Machli a Mwshi. Mab Iaäseia: Beno. Disgynyddion Merari, o Iaäseia: Beno, Shoham, Saccwr ac Ifri. O Machli: Eleasar, oedd heb feibion. O Cish: Ierachmeël. Disgynyddion Mwshi: Machli, Eder, a Ierimoth. (Y rhain oedd y Lefiaid, wedi eu rhestru yn ôl eu teuluoedd.) Yn union fel gyda'i perthnasau yr offeiriaid, disgynyddion Aaron, cafodd coelbren ei ddefnyddio o flaen y Brenin Dafydd, Sadoc, Achimelech, penaethiaid teuluoedd, yr offeiriaid a'r Lefiaid. Doedd safle ac oedran ddim yn cael ei ystyried. Dyma Dafydd a swyddogion y fyddin yn dewis rhai o ddisgynyddion Asaff, Heman a Iedwthwn i broffwydo i gyfeiliant telynau, nablau a symbalau. Dyma'r dynion gafodd y gwaith yma: Meibion Asaff: Saccwr, Joseff, Nethaneia, ac Asarela, dan arweiniad eu tad Asaff, oedd yn proffwydo pan oedd y brenin yn dweud. Meibion Iedwthwn: Gedaleia, Seri, Ishaeia, Chashafeia, a Matitheia — chwech, dan arweiniad eu tad Iedwthwn. Roedd yn proffwydo wrth ganu'r delyn, yn diolch ac yn moli'r ARGLWYDD. Meibion Heman: Bwcïa, Mataneia, Wssiel, Shefwel, Ierimoth, Chananeia, Chanani, Eliatha, Gidalti, Romamti-Eser, Ioshbecashâ, Maloti, Hothir, a Machsïot. Roedd y rhain i gyd yn feibion i Heman, proffwyd y brenin. Roedd Duw wedi addo'r meibion yma iddo i'w wneud yn ddyn oedd yn uchel ei barch. Roedd Duw wedi rhoi un deg pedwar o feibion a thair merch iddo. Roedd tadau y rhain yn eu harolygu. Cerddorion teml yr ARGLWYDD oedden nhw, yn canu symbalau, nablau a thelynau yn yr addoliad. Y brenin ei hun oedd yn arolygu Asaff, Iedwthwn a Heman. Roedd 288 ohonyn nhw yn canu o flaen yr ARGLWYDD; i gyd yn gerddorion dawnus a phrofiadol. Dyma nhw'n defnyddio coelbren i benderfynu pryd roedden nhw ar ddyletswydd. Doedd oedran ddim yn cael ei ystyried, na p'run ai oedden nhw'n athrawon neu'n ddisgyblion. [9-31] A dyma'r drefn y cawson nhw eu dewis: 1. — Joseff o glan Asaff, ei feibion ac aelodau o'i deulu — — 12 2. — Gedaleia, ei feibion ac aelodau o'i deulu — — 12 3. — Saccwr, ei feibion ac aelodau o'i deulu — — 12 4. — Itsri, ei feibion ac aelodau o'i deulu — — 12 5. — Nethaneia, ei feibion ac aelodau o'i deulu — — 12 6. — Bwcïa, ei feibion ac aelodau o'i deulu — — 12 7. — Iesarela, ei feibion ac aelodau o'i deulu — — 12 8. — Ieshaia, ei feibion ac aelodau o'i deulu — — 12 9. — Mataneia, ei feibion ac aelodau o'i deulu — — 12 10. — Shimei, ei feibion ac aelodau o'i deulu — — 12 11. — Wssiel, ei feibion ac aelodau o'i deulu — — 12 12. — Chashafeia, ei feibion ac aelodau o'i deulu — — 12 13. — Shwfa-el, ei feibion ac aelodau o'i deulu — — 12 14. — Matitheia, ei feibion ac aelodau o'i deulu — — 12 15. — Ieremoth, ei feibion ac aelodau o'i deulu — — 12 16. — Chananeia, ei feibion ac aelodau o'i deulu — — 12 17. — Ioshbecashâ, ei feibion ac aelodau o'i deulu — — 12 18. — Chanani, ei feibion ac aelodau o'i deulu — — 12 19. — Maloti, ei feibion ac aelodau o'i deulu — — 12 20. — Eliatha, ei feibion ac aelodau o'i deulu — — 12 21. — Hothir, ei feibion ac aelodau o'i deulu — — 12 22. — Gidalti, ei feibion ac aelodau o'i deulu — — 12 23. — Machsïot, ei feibion ac aelodau o'i deulu — — 12 24. — Romamti-Eser, ei feibion ac aelodau o'i deulu — — 12 Dyma wahanol grwpiau gofalwyr y giatiau: Disgynyddion Cora: Meshelemeia, mab Core (oedd yn un o feibion Asaff) Meibion Meshelemeia: Sechareia, yr hynaf, wedyn Iediael, Sebadeia, Iathniel, Elam, Iehochanan, ac Eliehoenai. Yna meibion Obed-Edom: Shemaia, yr hynaf, wedyn Iehosafad, Ioach, Sachar, Nethanel, Ammiel, Issachar, a Pewlthai. (Roedd Duw wedi bendithio Obed-Edom yn fawr.) Roedd gan ei fab Shemaia feibion hefyd. Roedden nhw'n benaethiaid eu teuluoedd, ac yn cael eu parchu'n fawr. Meibion Shemaia oedd: Othni, Reffael, Obed, ac Elsabad. Roedd ei berthnasau, Elihw a Semacheia, yn cael eu parchu'n fawr hefyd. Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Obed-Edom. Roedd parch mawr atyn nhw, eu meibion a'u perthnasau. Roedden nhw i gyd yn ddynion abl iawn i wneud eu gwaith. Roedd chwe deg dau ohonyn nhw yn perthyn i Obed-Edom. Roedd gan Meshelemeia feibion a perthnasau uchel eu parch — un deg wyth i gyd. Roedd gan Chosa, un o ddisgynyddion Merari, feibion: Shimri oedd y mab cyntaf (er nad fe oedd yr hynaf — ei dad oedd wedi rhoi'r safle cyntaf iddo). Yna Chilceia yn ail, Tefaleia yn drydydd, a Sechareia yn bedwerydd. Nifer meibion a perthnasau Chosa oedd un deg tri. Roedd y grwpiau yma o ofalwyr wedi eu henwi ar ôl penaethiaid y teuluoedd, ac fel eu perthnasau roedd ganddyn nhw gyfrifoldebau penodol yn y deml. Dyma'r coelbren yn cael ei ddefnyddio i benderfynu pa giât oedden nhw'n gyfrifol amdani. Doedd oedran ddim yn cael ei ystyried. A dyma sut y cawson nhw eu dewis: Aeth giât y dwyrain i ofal Shelemeia; giât y gogledd i'w fab Sechareia (dyn oedd yn arbennig o ddoeth); giât y de i Obed-edom (ei feibion e oedd yn gyfrifol am y stordai); yna giât y gorllewin (a giât Shalecheth oedd ar y ffordd uchaf) i Shwpîm a Chosa. Roedd eu dyletswyddau'n cael eu rhannu'n gyfartal. Bob dydd roedd chwech Lefiad ar ddyletswydd i'r dwyrain, pedwar i'r gogledd a pedwar i'r de. Roedd dau ar ddyletswydd gyda'i gilydd yn y stordai. Wedyn wrth yr iard i'r gorllewin roedd pedwar ar ddyletswydd ar y ffordd a dau yn yr iard. (Y rhain oedd y grwpiau o ofalwyr oedd yn ddisgynyddion i Cora a Merari.) Rhai o'r Lefiaid oedd hefyd yn gyfrifol am stordai teml Dduw a'r stordai lle roedd y rhoddion yn cael eu cadw. Roedd disgynyddion Ladan (oedd yn ddisgynyddion i Gershon drwy Ladan, ac yn arweinwyr eu clan) yn cynnwys Iechieli, meibion Iechieli, Setham, a'i frawd Joel. Nhw oedd yn gyfrifol am stordai teml Dduw. Wedyn dyma'r arweinwyr oedd yn ddisgynyddion i Amram, Its'har, Hebron ac Wssiel: Shefwel, un o ddisgynyddion Gershom fab Moses, oedd arolygwr y stordai. Roedd ei berthnasau drwy Elieser yn cynnwys: Rechabeia ei fab, wedyn Ishaeia ei fab e, ac i lawr y cenedlaethau drwy Joram, Sichri i Shlomith. Shlomoth a'i berthnasau oedd yn gyfrifol am yr holl stordai lle roedd y pethau oedd wedi eu cysegru gan y Brenin Dafydd yn cael eu cadw. (A pethau wedi eu cysegru gan benaethiaid teuluoedd oedd yn gapteiniaid unedau o fil ac o gant, a swyddogion eraill y fyddin. Roedden nhw wedi cysegru peth o'r ysbail gafodd ei gasglu, a'i gyfrannu tuag at gynnal a chadw teml yr ARGLWYDD.) Roedden nhw hefyd yn gyfrifol am bopeth gafodd ei gysegru gan y proffwyd Samuel, Saul fab Cish, Abner fab Ner, a Joab fab Serwia. Shlomith a'i berthnasau oedd yn gyfrifol am bopeth oedd wedi cael ei gysegru. Roedd Cenaniahw o glan Its'har, a'i feibion, yn gyfrifol am waith tu allan i'r deml, fel swyddogion a barnwyr dros bobl Israel. Wedyn cafodd Chashafeia o glan Hebron a'i berthnasau (1,700 o ddynion abl) gyfrifoldebau yn Israel i'r gorllewin o'r Iorddonen. Roedden nhw'n gwneud gwaith yr ARGLWYDD ac yn gwasanaethu'r brenin. Wedyn Ierïa oedd pennaeth clan Hebron yn ôl y cofrestrau teuluol. (Pan oedd Dafydd wedi bod yn frenin am bedwar deg o flynyddoedd, dyma nhw'n chwilio drwy'r cofrestrau, a darganfod fod dynion abl o glan Hebron yn byw yn Iaser yn Gilead.) Roedd gan Ierïa 2,700 o berthnasau oedd yn benaethiaid teuluoedd. A dyma'r Brenin Dafydd yn rhoi'r cyfrifoldeb iddyn nhw dros lwythau Reuben, Gad a hanner llwyth Manasse. Roedden nhw hefyd yn gwneud gwaith yr ARGLWYDD ac yn gwasanaethu'r brenin. Dyma restr o benaethiaid teuluoedd Israel oedd yn gapteiniaid yn y fyddin (ar unedau o fil ac o gant), a'r swyddogion oedd yn gwasanaethu'r brenin mewn gwahanol ffyrdd. Roedd pob adran yn gwasanaethu am un mis y flwyddyn, ac roedd 24,000 o ddynion ym mhob adran. Mis 1 — Iashofam fab Safdiel a'i adran o 24,000. (Roedd yn un o ddisgynyddion Perets ac yn bennaeth ar swyddogion y fyddin i gyd yn y mis cyntaf.) Mis 2 — Dodai, un o ddisgynyddion Achoach (gyda Micloth yn gapten) a'i adran o 24,000. Mis 3 — Y trydydd arweinydd oedd Benaia, mab Jehoiada'r offeiriad, a'i adran o 24,000. (Dyma'r Benaia oedd yn arwain y tri deg milwr dewr. Ei fab Amisafad oedd capten yr adran.) Mis 4 — Asahel, brawd Joab, (Sebadeia ei fab wnaeth ei olynu) a'i adran o 24,000. Mis 5 — Shamhwth o glan Israch a'i adran o 24,000. Mis 6 — Ira fab Iccesh o Tecoa, a'i adran o 24,000. Mis 7 — Chelets o Pelon, un o ddisgynyddion Effraim, a'i adran o 24,000. Mis 8 — Sibechai o Chwsha, oedd yn perthyn i glan Serach, a'i adran o 24,000. Mis 9 — Abieser o Anathoth, un o ddisgynyddion Benjamin, a'i adran o 24,000. Mis 10 — Maharai o Netoffa, oedd yn perthyn i glan Serach, a'i adran o 24,000. Mis 11 — Benaia o Pirathon, un o ddisgynyddion Effraim, a'i adran o 24,000. Mis 12 — Cheldai o Netoffa, un o ddisgynyddion Othniel, a'i adran o 24,000. [16-22] Y swyddogion oedd yn arwain llwythau Israel: [Swyddog] — [Llwyth] Elieser fab Sichri — Reuben Sheffateia fab Maacha — Simeon Chashafeia fab Cemwel — Lefi Sadoc — disgynyddion Aaron Elihw (brawd Dafydd) — Jwda Omri, mab Michael — Issachar Ishmaïa fab Obadeia — Sabulon Ierimoth fab Asriel — Nafftali Hoshea fab Asaseia — Effraim Joel fab Pedaia — hanner llwyth Manasse Ido fab Sechareia — hanner llwyth Manasse (yn Gilead) Iaäsiel fab Abner — Benjamin Asarel fab Ierocham — Dan Y rhain oedd yn arwain llwythau Israel. *** *** *** *** *** *** Wnaeth Dafydd ddim cyfrif y bechgyn dan ugain oed. Roedd yr ARGLWYDD wedi addo gwneud pobl Israel mor niferus a'r sêr yn yr awyr. Roedd Joab fab Serwia wedi dechrau cyfrif y dynion, ond wnaeth e ddim gorffen. Roedd Duw yn ddig gydag Israel am y peth, felly wnaeth y nifer ddim cael ei gofnodi yn y sgrôl, Hanes y Brenin Dafydd. Asmafeth fab Adiel oedd yn gyfrifol am stordai'r brenin; Jonathan fab Wseia yn gyfrifol am y stordai brenhinol yn y trefi, pentrefi a'r caerau yn Israel; Esri fab Celwb yn gyfrifol am y gweithwyr amaethyddol; Shimei o Rama yn gyfrifol am y gwinllannoedd; Sabdi o Sheffam yn gyfrifol am y gwin oedd yn cael ei storio yn y gwinllannoedd; Baal-chanan o Geder yn gyfrifol am y coed olewydd a'r coed sycamorwydd ar yr iseldir; Ioash oedd yn gyfrifol am y stordai i gadw olew olewydd; Sitrai o Saron oedd yn gyfrifol am y gwartheg oedd yn pori yn Saron; Shaffat fab Adlai oedd yn gyfrifol am y gwartheg yn y dyffrynnoedd. Obil yr Ismaeliad yn gyfrifol am y camelod; Iechdeia o Meronoth yn gyfrifol am yr asennod; Iasis yr Hageriad yn gyfrifol am y defaid a'r geifr. Roedd pob un o'r rhain yn swyddogion oedd yn gyfrifol am eiddo y brenin Dafydd. Roedd Jonathan, ewythr Dafydd, yn strategydd doeth ac yn ysgrifennydd; Iechiel fab Hachmoni yn gofalu am feibion y brenin; Achitoffel oedd swyddog strategaeth y brenin; Roedd Chwshai'r Arciad yn ffrind agos i'r brenin. Jehoiada fab Benaia ac Abiathar wnaeth olynu Achitoffel. Joab oedd pennaeth byddin y brenin. Dyma Dafydd yn galw swyddogion Israel i gyd at ei gilydd i Jerwsalem — arweinwyr y llwythau, swyddogion unedau'r fyddin, capteiniaid unedau o fil ac o gant, y swyddogion oedd yn gyfrifol am eiddo ac anifeiliaid y brenin a'i feibion, swyddogion y palas, y milwyr, a'r arwyr milwrol i gyd. Dyma'r Brenin Dafydd yn codi ar ei draed a dweud: “Fy mrodyr a'm pobl, gwrandwch. Roeddwn i wir eisiau adeiladu teml lle gellid gosod Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD fel stôl droed i'n Duw. Dw i wedi gwneud y paratoadau ar gyfer ei hadeiladu. Ond dyma Duw yn dweud wrtho i, ‘Gei di ddim adeiladu teml i'm hanrhydeddu i, am dy fod ti'n ryfelwr, ac wedi lladd lot o bobl.’ “Yr ARGLWYDD, Duw Israel, ddewisodd fi o deulu fy nhad i fod yn frenin ar Israel am byth. Roedd wedi dewis llwyth Jwda i arwain, a teulu fy nhad o fewn Jwda, ac yna dewisodd fi o blith fy mrodyr, a'm gwneud i yn frenin ar Israel gyfan. Ac o'r holl feibion mae'r ARGLWYDD wedi eu rhoi i mi, mae wedi dewis Solomon i fod yn frenin ar fy ôl, i deyrnasu ar ei ran. Dwedodd wrtho i, ‘Dy fab Solomon ydy'r un fydd yn adeiladu teml i mi, a'r iardiau o'i chwmpas. Dw i wedi ei ddewis e i fod yn fab i mi, a bydda i'n dad iddo fe. Bydda i'n sefydlu ei deyrnas am byth, os bydd e'n dal ati i gadw fy ngorchmynion a'm rheolau i, fel rwyt ti'n gwneud.’ Felly, o flaen Israel gyfan, cynulliad pobl yr ARGLWYDD, a Duw ei hun yn dyst, dw i'n dweud: Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cadw gorchmynion yr ARGLWYDD eich Duw, i chi feddiannu'r wlad dda yma, a'i gadael hi'n etifeddiaeth i'ch plant am byth. “A tithau, Solomon fy mab, gwna'n siŵr dy fod yn nabod Duw dy dad. Rho dy hun yn llwyr i'w addoli a'i wasanaethu yn frwd. Mae'r ARGLWYDD yn gwybod beth sy'n mynd trwy feddwl pawb, ac yn gwybod pam maen nhw'n gwneud pethau. Os byddi di'n ceisio'r ARGLWYDD go iawn, bydd e'n gadael i ti ddod o hyd iddo. Ond os byddi di'n troi cefn arno, bydd e'n dy wrthod di am byth. Mae'r ARGLWYDD wedi dy ddewis di i adeiladu teml yn gysegr iddo. Felly bydd yn gryf a bwrw iddi!” Dyma Dafydd yn rhoi'r cynlluniau ar gyfer y deml i'w fab Solomon — cynlluniau'r cyntedd, yr adeiladau, y trysordai, y lloriau uchaf, yr ystafelloedd mewnol, a'r cysegr lle roedd caead yr Arch. Rhoddodd gynlluniau popeth oedd e wedi ei ddychmygu am iard y deml, yr ystafelloedd o'i chwmpas, stordai teml Dduw a'r stordai lle roedd y rhoddion wedi eu cysegru i Dduw yn cael eu cadw. Rhoddodd y cyfarwyddiadau ar gyfer y gwahanol grwpiau o offeiriaid a Lefiaid iddo, y gwahanol gyfrifoldebau a'r offer oedd i gael eu defnyddio wrth iddyn nhw wasanaethu yn nheml yr ARGLWYDD. Rhoddodd iddo restr o faint yn union o aur ac arian oedd i gael ei ddefnyddio i wneud y gwahanol eitemau a llestri fyddai'n cael eu defnyddio yn yr addoliad — y menora aur a'r lampau oedd arni, y rhai arian a'r lampau oedd arnyn nhw (roedd pob manylyn yn cael ei bwyso); yr aur ar gyfer y byrddau lle roedd y bara'n cael ei osod yn bentwr (faint o aur oedd i'w ddefnyddio i wneud pob un, a faint o arian oedd i'w ddefnyddio i wneud y byrddau arian); a'r aur pur oedd i gael ei ddefnyddio i wneud y ffyrc, y dysglau a'r jygiau, y powlenni bach aur a'r powlenni bach arian (union bwysau pob un), a'r aur wedi ei buro ar gyfer gwneud allor yr arogldarth. Rhoddodd iddo'r cynllun ar gyfer sedd y ceriwbiaid aur oedd yn lledu eu hadenydd i gysgodi Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD. “Dw i wedi ysgrifennu'r cwbl i lawr yn fanwl, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi fy arwain i,” meddai Dafydd wrth Solomon. “Bydd yn gryf a dewr! Bwrw iddi! Paid bod ag ofn na panicio! Mae'r ARGLWYDD Dduw, fy Nuw i, gyda ti. Fydd e ddim yn dy adael di nac yn troi cefn arnat ti nes bydd y gwaith yma i gyd ar deml yr ARGLWYDD wedi ei orffen. Dyma sut mae'r offeiriaid a'r Lefiaid wedi eu rhannu'n grwpiau i wneud holl waith teml Dduw. Mae'r gweithwyr a'r crefftwyr yn barod i dy helpu i wneud y cwbl. Mae'r swyddogion a'r bobl i gyd yn barod i wneud beth bynnag wyt ti'n ddweud.” Dyma'r Brenin Dafydd yn dweud wrth y gynulleidfa: “Llanc ifanc dibrofiad ydy fy mab Solomon, yr un mae Duw wedi ei ddewis i wneud hyn. Mae'r dasg o'i flaen yn un fawr, achos nid adeilad i ddyn fydd hwn, ond i'r ARGLWYDD Dduw. Dw i wedi gwneud fy ngorau glas i ddarparu popeth sydd ei angen i wneud y gwaith — aur, arian, pres, haearn a coed, heb sôn am lot fawr o feini gwerthfawr, fel onics (a morter glas i'w gosod nhw a'r meini eraill), gemau gwerthfawr o bob math, a marmor. Ond dw i hefyd am gyfrannu fy holl drysorau personol tuag at y gwaith, am fod teml Dduw mor bwysig yn fy ngolwg i. Bydd hyn yn ychwanegol at bopeth arall dw i wedi ei ddarparu ar gyfer y gwaith. Mae'n cynnwys mwy na 100 tunnell o aur Offir a dros 250 tunnell o arian coeth, i orchuddio waliau'r adeilad, a'r gwaith arall sydd i'w wneud gan y crefftwyr. Felly pwy arall sydd am gyfrannu heddiw tuag at adeiladu teml Dduw?” Dyma benaethiaid y teuluoedd, arweinwyr y llwythau, capteiniaid yr unedau o fil ac o gant, a'r swyddogion oedd yn arolygu gwaith y brenin yn cyfrannu at y gwaith. Dyma gafodd ei roi ganddyn nhw: dros 180 tunnell o aur, 10,000 o ddarnau aur, 375 tunnell o arian, a 3,750 tunnell o haearn. Dyma pawb yn cyfrannu eu gemau gwerthfawr i drysordy teml yrARGLWYDD hefyd, oedd dan ofal Iechiel o deulu Gershon. Roedd pawb wrth eu boddau fod cymaint wedi ei gasglu, a bod pawb wedi bod mor barod i roi. Roedd y Brenin Dafydd hefyd wrth ei fodd. Dyma Dafydd yn moli'r ARGLWYDD o flaen y gynulleidfa gyfan: “O ARGLWYDD, Duw ein tad Israel, rwyt ti'n haeddu dy fendithio am byth bythoedd! O ARGLWYDD, ti ydy'r Duw mawr, cryf, godidog, ac enwog sy'n teyrnasu dros bopeth yn y nefoedd a'r ddaear! Ti ydy'r un sy'n ben ar y cwbl i gyd! Oddi wrthot ti mae pob cyfoeth ac anrhydedd yn dod, achos ti sy'n rheoli'r cwbl i gyd. Gen ti mae pob cryfder a nerth, a ti sy'n rhoi nerth i bobl, ac yn eu gwneud nhw'n enwog. Diolch i ti ein Duw! Dŷn ni'n moli dy enw bendigedig di! “Ond pwy ydw i, a pwy ydy fy mhobl i, ein bod ni'n gallu cyfrannu fel yma? Y gwir ydy, oddi wrthot ti mae popeth yn dod yn y pen draw. Dŷn ni ddim ond yn rhoi yn ôl i ti beth sydd piau ti. O dy flaen di, dŷn ni fel ffoaduriaid yn crwydro, fel ein hynafiaid. Mae'n hamser ni ar y ddaear yma yn pasio heibio fel cysgod. Does dim byd sicr amdano. O ARGLWYDD ein Duw, dŷn ni wedi casglu'r holl gyfoeth yma i adeiladu teml i ti a dy anrhydeddu di, ond ti sydd wedi ei roi e i gyd mewn gwirionedd; ti sydd piau'r cwbl. Dw i'n gwybod, O Dduw, dy fod ti'n gwybod beth sydd ar feddwl rhywun, ac yn falch pan mae rhywun yn onest. Ti'n gwybod fy mod i'n gwneud hyn am resymau da, a dw i wedi gweld y bobl yma yn cyfrannu'n frwd ac yn llawen. O ARGLWYDD, Duw ein hynafiaid, Abraham, Isaac ac Israel, gwna i dy bobl bob amser fod eisiau gwneud beth ti'n ddweud. Gwna nhw'n hollol ffyddlon i ti. A gwna fy mab Solomon yn awyddus i ufuddhau i dy orchmynion, rheolau a gofynion, a gorffen adeiladu y deml yma dw i wedi gwneud y paratoadau ar ei chyfer.” Yna dyma Dafydd yn annerch y gynulleidfa: “Bendithiwch yr ARGLWYDD eich Duw!” A dyma'r gynulleidfa gyfan yn moli'r ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid. A dyma nhw'n plygu i lawr yn isel o flaen yr ARGLWYDD a'r brenin. Y diwrnod wedyn dyma nhw'n aberthu anifeiliaid a chyflwyno offrymau i'w llosgi i'r ARGLWYDD (mil o deirw, mil o hyrddod, a mil o ŵyn). Hefyd yr offrymau o ddiod oedd i fynd gyda nhw, a llawer iawn o aberthau eraill dros bobl Israel i gyd. Roedden nhw'n dathlu ac yn gwledda o flaen yr ARGLWYDD. Yna dyma nhw'n gwneud Solomon, mab Dafydd, yn frenin. Dyma nhw'n ei eneinio'n frenin, ac yn eneinio Sadoc yn offeiriad. Dyma Solomon yn eistedd ar orsedd yr ARGLWYDD yn lle ei dad Dafydd. Roedd yn frenin llwyddiannus iawn, ac roedd pobl Israel i gyd yn ffyddlon iddo. Dyma'r swyddogion i gyd, arweinwyr y fyddin, a meibion y Brenin Dafydd, yn addo bod yn deyrngar i'r Brenin Solomon. Dyma'r ARGLWYDD yn gwneud Solomon yn frenin mawr, a'i wneud yn enwocach nac unrhyw frenin o'i flaen. Roedd Dafydd fab Jesse wedi bod yn teyrnasu ar Israel gyfan. Bu'n frenin ar Israel am bedwar deg o flynyddoedd. Bu'n teyrnasu yn Hebron am saith mlynedd ac yna yn Jerwsalem am dri deg tair o flynyddoedd. Yna bu farw yn hen ddyn. Roedd wedi cael bywyd hir, cyfoeth ac anrhydedd. A dyma Solomon ei fab yn dod yn frenin yn ei le. Mae'r cwbl wnaeth y Brenin Dafydd ei gyflawni, o'r dechrau i'r diwedd, i'w gweld yn Negeseuon Samuel y Gweledydd, Negeseuon y Proffwyd Nathan, a Negeseuon Gad y Gweledydd. Mae'r ffeithiau i gyd yna, hanes ei lwyddiannau milwrol a popeth ddigwyddodd iddo fe, Israel, a'r gwledydd o gwmpas. Roedd Solomon fab Dafydd wedi sefydlu ei awdurdod dros ei deyrnas, achos roedd yr ARGLWYDD ei Dduw yn ei helpu ac wedi ei wneud yn frenin pwerus iawn. Dyma Solomon yn galw arweinwyr Israel i gyd at ei gilydd — arweinwyr y fyddin (sef capteiniaid ar unedau o fil ac o gant), y barnwyr, a holl arweinwyr Israel oedd yn benaethiaid teuluoedd. A dyma Solomon a'r bobl i gyd yn mynd i addoli wrth yr allor leol yn Gibeon, gan mai dyna ble roedd Pabell Presenoldeb Duw — yr un roedd Moses, gwas yr ARGLWYDD, wedi ei gwneud yn yr anialwch. (Roedd Dafydd wedi dod ag Arch Duw o Ciriath-iearim i Jerwsalem, sef y lle roedd wedi ei baratoi iddi, ac wedi codi pabell iddi yno. Ond roedd yr allor bres wnaeth Betsalel, mab Wri ac ŵyr Hur, o flaen Tabernacl yr ARGLWYDD.) Dyna lle'r aethon nhw i geisio Duw. A dyma Solomon yn mynd at yr allor bres o flaen yr ARGLWYDD, ac offrymu mil o aberthau i'w llosgi arni. Y noson honno dyma Duw yn dod at Solomon a gofyn iddo, “Beth wyt ti eisiau i mi ei roi i ti?” A dyma Solomon yn ateb, “Roeddet ti'n garedig iawn at Dafydd fy nhad, ac rwyt wedi fy ngwneud i yn frenin yn ei le. O, ARGLWYDD Dduw, gwna i'r addewid honno wnest ti i Dafydd fy nhad ddod yn wir. Ti wedi fy ngwneud i'n frenin ar gymaint o bobl ag sydd o lwch ar y ddaear. Rho i mi'r ddoethineb a'r wybodaeth sydd ei angen i lywodraethu'r bobl yma'n iawn. Fel arall, pa obaith sydd i unrhyw un lywodraethu cenedl mor fawr?” A dyma Duw'n ateb Solomon, “Am mai dyna rwyt ti eisiau, y ddoethineb a'r wybodaeth i lywodraethu'r bobl yma'n iawn — a dy fod ddim wedi gofyn am feddiannau, cyfoeth, ac anrhydedd, neu i'r rhai sy'n dy gasáu gael eu lladd; wnest ti ddim hyd yn oed gofyn am gael byw yn hir — dw i'n mynd i roi doethineb a gwybodaeth i ti. Ond dw i hefyd yn mynd i roi mwy o gyfoeth, meddiannau, ac anrhydedd i ti nag unrhyw frenin ddaeth o dy flaen neu ddaw ar dy ôl.” Felly dyma Solomon yn gadael Pabell Presenoldeb Duw oedd wrth yr allor yn Gibeon, a mynd yn ôl i Jerwsalem, lle roedd yn teyrnasu ar Israel. Roedd Solomon hefyd wedi casglu cerbydau a cheffylau rhyfel. Roedd ganddo fil pedwar cant o gerbydau, ac un deg dwy o filoedd o geffylau. Roedd yn eu cadw yn y trefi cerbydau ac yn Jerwsalem. Roedd arian ac aur mor gyffredin â cherrig yn Jerwsalem, a choed cedrwydd mor gyffredin â'r coed sycamor sy'n tyfu ym mhobman ar yr iseldir. Roedd ceffylau Solomon wedi eu mewnforio o'r Aifft a Cwe. Roedd masnachwyr y brenin yn eu prynu nhw yn Cwe. Roedden nhw'n talu chwe chant o ddarnau arian am gerbyd o'r Aifft, a cant pum deg darn arian am geffyl. Roedden nhw hefyd yn eu gwerthu ymlaen i frenhinoedd yr Hethiaid a'r Syriaid. Dyma Solomon yn gorchymyn adeiladu teml i'r ARGLWYDD a palas brenhinol iddo'i hun. Roedd gan Solomon 70,000 o labrwyr, 80,000 o chwarelwyr yn y bryniau, a 3,600 o fformyn i arolygu'r gweithwyr. Dyma Solomon yn anfon neges at Huram, brenin Tyrus: “Wnei di fy helpu i, fel gwnest ti helpu fy nhad Dafydd? Gwnest ti anfon coed cedrwydd iddo fe i adeiladu ei balas. Dw i'n mynd i adeiladu teml i'r ARGLWYDD fy Nuw. Bydd yn cael ei chysegru i losgi arogldarth persawrus iddo, gosod y bara o'i flaen, a chyflwyno offrymau sydd i'w llosgi'n llwyr iddo bob bore a nos, ar y Sabothau, y lleuadau newydd ac unrhyw adegau eraill mae'r ARGLWYDD ein Duw yn eu pennu. Mae pobl Israel i fod i wneud y pethau yma bob amser. Dw i'n mynd i adeiladu teml wych iddo, am fod ein Duw ni yn fwy na'r duwiau eraill i gyd. Ond wedyn, pwy sy'n gallu adeiladu teml iddo fe, gan fod yr awyr a'r nefoedd uchod ddim digon mawr iddo? Pwy ydw i i adeiladu teml iddo! Dim ond lle i aberthu iddo fydd hi. “Anfon grefftwr medrus ata i sy'n gweithio gydag aur, arian, pres a haearn, a hefyd lliain porffor, coch a glas, ac yn gallu cerfio. Gall e weithio gyda'r crefftwyr sydd gen i yma yn Jerwsalem a Jwda, y rhai wnaeth fy nhad Dafydd eu dewis. Ac mae gen ti weision sy'n arbenigo mewn trin coed yn Libanus. Felly anfon goed i mi hefyd — cedrwydd, pinwydd, a pren algwm. Gall y gweithwyr sydd gen i helpu dy weithwyr di i gasglu digonedd o goed i mi, achos mae'r deml dw i'n mynd i'w hadeiladu yn mynd i fod yn un fawr, wych. Gwna i dalu i dy weision di am dorri'r coed — dwy fil o dunelli o wenith, dwy fil o dunelli o haidd, cant dau ddeg mil o alwyni o win, a cant dau ddeg mil o alwyni o olew olewydd.” Dyma Huram, brenin Tyrus yn anfon llythyr yn ôl at Solomon, yn dweud, “Mae'r ARGLWYDD wedi dy wneud di'n frenin ar ei bobl am ei fod yn eu caru nhw.” Dwedodd hefyd, “Bendith ar yr ARGLWYDD, Duw Israel, yr un wnaeth greu y nefoedd a'r ddaear! Mae wedi rhoi mab doeth i Dafydd — mab llawn dirnadaeth a deall. Bydd yn adeiladu teml i'r ARGLWYDD, a palas brenhinol iddo'i hun. Dw i'n mynd i anfon crefftwr sy'n feistr yn ei waith atat ti, sef Huram-afi. Mae ei fam yn dod o lwyth Dan, ond ei dad o Tyrus. Mae e'n gallu gweithio gydag aur, arian, pres, haearn, carreg a choed, a hefyd lliain main porffor, glas a coch. Mae'n gallu cerfio unrhyw gynllun sy'n cael ei roi iddo. Gall e weithio gyda dy grefftwyr di a'r rhai ddewisodd Dafydd dy dad. Felly anfon y gwenith, haidd, olew olewydd a'r gwin rwyt ti wedi ei addo i ni, a gwnawn ni ddarparu'r holl goed sydd gen ti ei angen o Libanus, a'i anfon dros y môr ar rafftiau i Jopa. Gelli di wedyn drefnu i symud y cwbl i Jerwsalem.” Dyma Solomon yn cynnal cyfrifiad o'r holl fewnfudwyr oedd yn byw yn Israel, yn dilyn y cyfrifiad roedd Dafydd ei dad wedi ei gynnal. Roedd yna 153,600 i gyd. Dyma fe'n gwneud 70,000 ohonyn nhw yn labrwyr, 80,000 i weithio yn y chwareli yn y bryniau, a 3,600 ohonyn nhw yn arolygwyr i wneud yn siŵr fod y gwaith i gyd yn cael ei wneud. Yna dechreuodd Solomon adeiladu teml yr ARGLWYDD ar fryn Moreia yn Jerwsalem, yn y lle roedd Dafydd wedi dweud, sef ar lawr dyrnu Ornan y Jebwsiad. Dyna lle roedd yr ARGLWYDD wedi cyfarfod Dafydd. Dechreuodd adeiladu ar ail ddiwrnod yr ail fis o'i bedwaredd flwyddyn fel brenin. A dyma fesuriadau sylfaeni'r Deml roedd Solomon yn ei hadeiladu: dau ddeg saith metr o hyd a naw metr o led (yr hen fesuriadau oedd yn cael eu defnyddio.) Roedd y cyntedd o flaen y deml yn naw metr o hyd, yn erbyn ffrynt y deml, ac roedd yn naw metr o uchder. Roedd tu mewn yr ystafell wedi ei gorchuddio gydag aur pur. Rhoddodd baneli o goed pinwydd ar waliau mewnol y brif neuadd, a gorchuddio'r cwbl gydag aur pur wedi ei addurno gyda coed palmwydd a cadwyni. Roedd y deml wedi ei haddurno gyda meini gwerthfawr, ac aur o Parfaîm i orchuddio trawstiau'r to, y rhiniogau, y waliau a'r drysau. Roedd ceriwbiaid wedi eu cerfio yn addurno'r waliau. Gwnaeth y cysegr mwyaf sanctaidd yn naw metr o hyd a naw metr o led, a'i orchuddio gyda 20 tunnell o aur pur. Roedd yr hoelion aur yn pwyso pum cant saith deg gram yr un. Ac roedd wedi gorchuddio'r ystafelloedd uchaf gydag aur hefyd. Yna yn y cysegr mwyaf sanctaidd gwnaeth ddau geriwb a'i gorchuddio nhw gydag aur. Roedd adenydd y ddau geriwb yn ymestyn 9 metr ar draws. Roedd un o adenydd y ceriwb cyntaf yn cyffwrdd wal y deml, ac adenydd y ddau geriwb yn cyffwrdd ei gilydd yn y canol. Wedyn roedd aden arall yr ail geriwb yn cyffwrdd y wal yr ochr arall i'r deml. Roedd yr adenydd gyda'i gilydd yn ymestyn naw metr ar draws. Roedden nhw'n sefyll yn syth, ac yn wynebu at i mewn. Gwnaeth len o ddefnydd glas, porffor, coch a lliain main, gyda lluniau o geriwbiaid wedi ei frodio arno. O flaen y deml gwnaeth ddau biler oedd yn un deg chwech metr o uchder, gyda cap oedd dros ddau fetr o uchder ar dop y ddau. Gwnaeth gadwyni, fel y rhai yn y cysegr, i addurno top y pileri. A gwnaeth gant o dlysau siâp pomgranadau i'w gosod ar y cadwyni. Gosododd y ddau biler o flaen y brif neuadd yn y deml — un ar y dde a'r llall ar y chwith. Galwodd yr un oedd ar y dde yn Iachin a'r un oedd ar y chwith yn Boas. Dyma fe'n gwneud allor o bres, naw metr sgwâr a phedwar metr a hanner o daldra. Yna dyma fe'n gwneud basn anferth i ddal dŵr. Roedd hwn wedi ei wneud o bres wedi ei gastio, ac yn cael ei alw ‛Y Môr‛. Roedd yn bedwar metr a hanner ar draws o un ochr i'r llall, dros ddau fetr o ddyfnder ac un deg tri metr a hanner o'i hamgylch. O gwmpas ‛Y Môr‛, o dan y rhimyn, roedd dwy res o addurniadau bach yn edrych fel teirw, un bob rhyw bedwar centimetr a hanner. Roedd ‛Y Môr‛ wedi ei osod ar gefn un deg dau ychen. Roedd tri yn wynebu tua'r gogledd, tri tua'r gorllewin, tri tua'r de a thri tua'r dwyrain. Roedden nhw i gyd yn wynebu tuag allan gyda'u cynffonnau at i mewn. Roedd y basn tua lled dwrn o drwch, ac roedd ei ymyl fel ymyl cwpan siâp blodyn lili. Roedd yn dal tua saith deg pum mil litr o ddŵr. Gwnaeth ddeg dysgl bres hefyd, a gosod pump ar ochr y de a pump ar ochr y gogledd. Roedd yr offer i gyflwyno'r aberthau oedd i'w llosgi yn cael eu golchi yn y rhain, ond roedd yr offeiriaid yn ymolchi yn y basn mawr oedd yn cael ei alw ‛Y Môr‛. Yna dyma fe'n gwneud deg stand aur i ddal lampau, yn unol â'r patrwm, a'u gosod yn y deml. Roedd pump ar yr ochr dde a phump ar y chwith. Ac yna dyma fe'n gwneud deg bwrdd, a gosod y rhain yn y deml, pump ar yr ochr dde a phump ar y chwith. Gwnaeth gant o fowlenni aur hefyd. Wedyn dyma fe'n gwneud iard yr offeiriaid a'r cwrt mawr a'r drysau oedd wedi eu gorchuddio gyda pres. Yna gosododd ‛Y Môr‛ i'r de-ddwyrain o'r deml. Huram wnaeth y bwcedi lludw, y rhawiau a'r powlenni taenellu hefyd. Gorffennodd y cwbl o'r gwaith roedd y Brenin Solomon wedi ei roi iddo i'w wneud ar deml Dduw. Roedd wedi gwneud: y ddau biler, y capiau i'w gosod ar ben y ddau biler, dau set o batrymau wedi eu plethu i fynd dros y capiau, pedwar cant o bomgranadau i'w gosod yn ddwy res ar y ddau set o batrymau oedd wedi eu plethu ar y capiau ar ben y pileri. Hefyd y deg troli ddŵr, a'r deg dysgl i fynd ar y deg troli, y basn anferth oedd yn cael ei alw ‛Y Môr‛, gyda'r un deg dau ychen oddi tano, a hefyd y bwcedi lludw, y rhawiau a'r ffyrc. Roedd yr holl gelfi yma wnaeth Huram i'r Brenin Solomon ar gyfer teml yr ARGLWYDD wedi eu gwneud o bres gloyw. Roedd y cwbl wedi cael eu castio mewn clai yn y ffowndri sydd rhwng Swccoth a Sereda, wrth Afon Iorddonen. Gwnaeth Solomon gymaint o'r pethau yma, doedd dim posib gwybod beth oedd eu pwysau. Dyma Solomon yn gwneud yr holl bethau yma ar gyfer teml yr ARGLWYDD hefyd: yr allor aur, a'r byrddau roedden nhw'n rhoi'r bara arno oedd i'w osod o flaen Duw, y canwyllbrennau o aur pur, a'u lampau yn llosgi yn ôl y ddefod, wrth y fynedfa i'r gell fewnol gysegredig. Hefyd roedd y blodau, y lampau a'r gefeiliau wedi eu gwneud o aur pur. Yna y powlenni taenellu, y sisyrnau, y dysglau, y llwyau, a'r padellau tân, i gyd o aur pur. Roedd socedi'r drysau i'r cysegr mewnol (y Lle Mwyaf Sanctaidd) ac i brif neuadd y deml wedi eu gwneud o aur hefyd. Wedi i Solomon orffen adeiladu'r deml i'r ARGLWYDD, dyma fe'n dod â'r holl bethau roedd ei dad Dafydd wedi eu cysegru i Dduw (arian, aur a chelfi eraill), a'u rhoi yn stordai teml Dduw. Yna dyma Solomon yn galw arweinwyr Israel (pennaeth pob llwyth a phob teulu) ato i Jerwsalem. Roedd Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD i gael ei symud o Ddinas Dafydd (sef Seion) i'w chartref newydd yn y deml. Roedd pobl Israel i gyd wedi dod at y brenin adeg Gŵyl y Pebyll yn y seithfed mis. Wedi i'r arweinwyr i gyd gyrraedd, dyma'r seremoni yn dechrau. Dyma'r Lefiaid yn codi'r Arch. A dyma'r offeiriaid a'r Lefiaid yn cario Arch Duw, Pabell presenoldeb Duw a'r holl gelfi cysegredig oedd yn y babell. Roedd y Brenin Solomon, a holl bobl Israel oedd gydag e, yn mynd o flaen yr Arch ac yn aberthu defaid a gwartheg i Dduw. Cafodd cymaint o anifeiliaid eu haberthu roedd hi'n amhosibl eu cyfri i gyd! A dyma'r offeiriaid yn dod ag Arch Ymrwymiad Duw i mewn a'i gosod yn ei lle yn y gell fewnol yn y deml, sef y Lle Mwyaf Sanctaidd, o dan adenydd y ceriwbiaid. Roedd adenydd y ceriwbiaid wedi eu lledu dros ble roedd yr Arch yn eistedd. Roedd eu hadenydd yn cysgodi'r Arch a'i pholion. Ond roedd y polion mor hir, roedd hi'n bosibl gweld eu pennau nhw o'r ystafell o flaen y Gell Gysegredig Fewnol; ond doedden nhw ddim i'w gweld o'r tu allan. Maen nhw yno hyd heddiw. Does yna ddim byd yn yr Arch ond y ddwy lechen roedd Moses wedi eu rhoi ynddi yn Sinai. Dyma lechi'r ymrwymiad roedd yr ARGLWYDD wedi ei wneud gyda phobl Israel pan ddaeth â nhw allan o'r Aifft. Dyma'r offeiriaid yn dod allan o'r Lle Sanctaidd. Roedd pob un ohonyn nhw, o bob grŵp, wedi cysegru eu hunain. Roedd yr holl Lefiaid oedd yn gerddorion — Asaff, Heman a Iedwthwn, gyda'u meibion a'u brodyr — yn gwisgo dillad o liain main gwyn. Roedden nhw'n sefyll i'r dwyrain o'r allor yn canu eu symbalau, nablau a thelynau. Wrth eu hymyl roedd cant dau ddeg o offeiriaid yn canu utgyrn. Roedd y cerddorion a'r trwmpedwyr fel un, yn canu gyda'i gilydd i roi mawl a diolch i'r ARGLWYDD. I gyfeiliant yr utgyrn, y symbalau a'r offerynnau eraill, roedd pawb yn moli'r ARGLWYDD a chanu'r geiriau, “Mae e mor dda aton ni; Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!” Tra roedden nhw'n canu fel hyn daeth cwmwl a llenwi'r deml. Doedd yr offeiriaid ddim yn gallu cario ymlaen gyda'i gwaith o achos y cwmwl. Roedd ysblander yr ARGLWYDD yn llenwi Teml Dduw. Yna dyma Solomon yn dweud: “Mae'r ARGLWYDD yn dweud ei fod yn byw mewn cwmwl tywyll. ‘ARGLWYDD, dyma fi wedi adeiladu teml wych i ti, lle i ti fyw ynddo am byth.’” Yna dyma'r brenin yn troi i wynebu'r gynulleidfa a bendithio holl bobl Israel oedd yn sefyll yno: “Bendith ar yr ARGLWYDD, Duw Israel! Mae wedi gwneud y cwbl roedd wedi ei addo i Dafydd fy nhad. Roedd wedi dweud: ‘Ers i mi ddod â'm pobl allan o wlad yr Aifft, wnes i ddim dewis un ddinas arbennig o blith llwythau Israel i adeiladu teml i fyw ynddi. A wnes i ddim dewis dyn i arwain fy mhobl Israel chwaith. Ond nawr dw i wedi dewis Jerwsalem i aros yno, a Dafydd i arwain fy mhobl Israel.’ Roedd fy nhad, Dafydd, wir eisiau adeiladu teml i anrhydeddu'r ARGLWYDD, Duw Israel. Ond dwedodd yr ARGLWYDD wrtho, ‘Ti eisiau adeiladu teml i mi, ac mae'r bwriad yn un da. Ond nid ti fydd yn ei hadeiladu. Mab wedi ei eni i ti fydd yn adeiladu teml i mi.’ A bellach mae'r ARGLWYDD wedi gwneud beth roedd wedi ei addo. Dw i wedi dod yn frenin ar Israel yn lle fy nhad Dafydd, a dw i wedi adeiladu'r deml yma i anrhydeddu'r ARGLWYDD, Duw Israel. Dw i wedi gosod yno yr Arch sy'n dal yr ymrwymiad wnaeth yr ARGLWYDD gyda phobl Israel.” Yna o flaen pawb, dyma fe'n mynd i sefyll o flaen yr Allor. Cododd ei ddwylo i'r awyr. (Roedd Solomon wedi gwneud llwyfan o bres a'i osod yng nghanol yr iard. Roedd y llwyfan tua dwy fedr sgwâr, a dros fedr o uchder.) Safodd ar y llwyfan, yna mynd ar ei liniau o flaen pobl Israel i gyd a codi ei ddwylo i'r awyr, a gweddïo, “O ARGLWYDD, Duw Israel, does dim Duw tebyg i ti yn y nefoedd na'r ddaear! Ti mor ffyddlon, yn cadw dy ymrwymiad i dy weision, y rhai sydd wir eisiau bod yn ufudd i ti. Ti wedi cadw dy addewid i Dafydd fy nhad. Heddiw, yma, ti wedi gwneud beth wnest ti ei addo. Nawr, ARGLWYDD, Duw Israel, cadw'r addewid arall wnest ti i Dafydd, fy nhad. Dyma wnest ti ddweud: ‘Bydd un o dy deulu di ar orsedd Israel am byth, dim ond i dy ddisgynyddion di fod yn ofalus eu bod yn byw yn ffyddlon i'm cyfraith fel rwyt ti wedi gwneud.’ Felly nawr, O ARGLWYDD, Duw Israel, gad i'r hyn wnest ti ei ddweud wrth fy nhad, dy was Dafydd, ddod yn wir. Wrth gwrs, dydy Duw ddim wir yn gallu byw gyda'r ddynoliaeth ar y ddaear! Dydy'r awyr i gyd a'r nefoedd uchod ddim digon mawr i dy ddal di! Felly pa obaith sydd i'r deml yma dw i wedi ei hadeiladu? Ond plîs gwrando fy ngweddi yn gofyn am dy help di, O ARGLWYDD fy Nuw. Ateb fi, wrth i mi weddïo'n daer arnat ti. Cadw dy lygaid ar y deml yma nos a dydd. Gwnest ti ddweud y byddi di'n byw yma. Felly ateb weddi dy was dros y lle hwn. Gwranda ar beth mae dy was a dy bobl Israel yn ei weddïo'n daer am y lle yma. Gwranda yn y nefoedd, lle rwyt ti'n byw. Clyw ni a maddau i ni. Os ydy rhywun wedi cael ei gyhuddo o wneud drwg i'w gymydog ac yn mynnu ei fod yn ddieuog o flaen yr allor yn y deml yma, yna gwrando di o'r nefoedd a gweithredu. Barna di rhyngon nhw. Cosba'r un sy'n euog, a gadael i'r dieuog fynd yn rhydd. Rho i'r ddau beth maen nhw'n ei haeddu. Pan fydd dy bobl Israel yn cael eu concro gan y gelyn am bechu yn dy erbyn di. Os byddan nhw'n troi yn ôl atat ti, yn cydnabod pwy wyt ti ac yn gweddïo am dy help di yn y deml yma yna gwrando di o'r nefoedd. Maddau bechod dy bobl Israel, a tyrd â nhw'n ôl i'r wlad wnest ti ei rhoi iddyn nhw a'u hynafiaid. Pan fydd dim glaw yn disgyn, am fod y bobl wedi pechu yn dy erbyn di. Os byddan nhw'n troi at y lle yma i weddïo arnat ti, yn cydnabod pwy wyt ti, ac yn stopio pechu am dy fod yn eu cosbi nhw yna gwrando di o'r nefoedd. Maddau i dy bob Israel. Dysga nhw beth ydy'r ffordd iawn i fyw, ac anfon law eto ar y wlad yma rwyt ti wedi ei rhoi i dy bobl ei chadw. Pan fydd y wlad yn cael ei tharo gan newyn neu bla — am fod y cnydau wedi eu difetha gan ormod o wres neu ormod o law, neu am eu bod wedi cael eu difa gan locustiaid, neu am fod gelynion wedi ymosod ar y wlad ac yn gwarchae ar ei dinasoedd. Beth bynnag fydd yr helynt neu'r broblem, gwrando di ar bob gweddi. Gwranda pan fydd unrhyw un o dy bobl Israel yn troi at y deml yma ac yn tywallt ei ofid o dy flaen di. Gwranda yn y nefoedd lle rwyt ti'n byw, a maddau. Rho i bob un beth mae'n ei haeddu. (Ti ydy'r unig un sy'n gwybod yn iawn beth sydd ar galon pob person byw.) Fel yna byddan nhw'n dy barchu di ac yn byw fel rwyt ti eisiau tra byddan nhw'n byw yn y wlad rwyt ti wedi ei roi i'w hynafiaid. A bydd pobl o wledydd eraill yn dod yma i addoli ar ôl clywed amdanat ti — am dy enw da di, a'r ffaith dy fod ti'n gallu gwneud pethau mor anhygoel. Pan ddaw pobl felly i'r deml hon i weddïo, gwrando yn y nefoedd lle rwyt ti'n byw. Gwna beth mae'r bobl hynny'n ei ofyn gen ti. Wedyn bydd pobl drwy'r byd i gyd yn dod i dy nabod di ac yn dy barchu di, yr un fath â phobl Israel. Byddan nhw'n gwybod fod y deml yma wedi ei hadeiladu i dy anrhydeddu di. Hefyd pan fydd dy bobl yn mynd i ryfel yn erbyn eu gelynion, ble bynnag fyddi di'n eu hanfon nhw. Os byddan nhw'n troi tuag at y ddinas yma rwyt ti wedi ei dewis a'r deml dw i wedi ei hadeiladu i ti, ac yn gweddïo arnat ti, yna gwrando o'r nefoedd ar eu gweddi nhw am help, a gweithredu ar eu rhan nhw. Ond pan fydd dy bobl wedi pechu yn dy erbyn di (achos does neb sydd byth yn pechu!) a tithau'n wyllt gyda nhw, byddi'n gadael i'r gelyn eu dal nhw a'u cymryd yn gaeth i'w gwlad eu hunain, ble bynnag mae honno. Yna, yn y wlad ble maen nhw'n gaeth, byddan nhw'n callio ac yn newid eu ffyrdd. Byddan nhw'n troi yn ôl atat ti ac yn pledio'n daer gan ddweud, ‘Dŷn ni wedi pechu a bod yn anffyddlon a gwneud drwg.’ Byddan nhw'n troi yn ôl atat ti o ddifrif yn y wlad lle cawson nhw eu cymryd. Byddan nhw'n troi i weddïo tuag at eu gwlad a'r ddinas rwyt ti wedi ei dewis, a'r deml dw i wedi ei hadeiladu i ti. Gwranda o'r nefoedd ar eu gweddi nhw am help, a'u cefnogi nhw. Maddau i dy bobl yr holl bechodau a'r pethau drwg maen nhw wedi eu gwneud yn dy erbyn di. Felly, o Dduw, edrych a gwrando ar y gweddïau sy'n cael eu hoffrymu yn y lle yma. A nawr, o ARGLWYDD Dduw, dos i fyny i dy gartref — ti a dy Arch bwerus! Ac ARGLWYDD Dduw, boed i dy offeiriaid brofi dy achubiaeth. A boed i'r rhai sy'n ffyddlon i ti lawenhau yn dy ddaioni. O ARGLWYDD Dduw, paid troi cefn ar yr un wyt wedi ei eneinio. Cofia'r bendithion gafodd eu haddo i dy was Dafydd.” Wrth i Solomon orffen gweddïo, daeth tân i lawr o'r awyr a llosgi'r offrwm a'r aberthau. Roedd ysblander yr ARGLWYDD yn llenwi'r deml. Roedd yr offeiriaid yn methu mynd i mewn i deml yr ARGLWYDD am fod ysblander yr ARGLWYDD yn llenwi ei deml. Pan welodd pobl Israel y tân yn dod i lawr ac ysblander yr ARGLWYDD ar y deml, dyma nhw'n plygu ar eu gliniau a'u hwynebau ar y palmant. Roedden nhw'n addoli'r ARGLWYDD a diolch iddo drwy ddweud, “Mae e mor dda aton ni; Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!” Roedd y brenin, a'r bobl i gyd, yn aberthu anifeiliaid i'r ARGLWYDD. Dyma'r brenin Solomon yn lladd dau ddeg dau o filoedd o wartheg a cant dau ddeg mil o ddefaid. Dyna sut gwnaeth Solomon, a'r holl bobl, gyflwyno'r deml i Dduw. Roedd yr offeiriaid yn sefyll yn eu lle, gyda'r Lefiaid oedd yn canu'r offerynnau i foli'r ARGLWYDD. (Yr offerynnau oedd y Brenin Dafydd wedi eu gwneud a'u defnyddio ganddo i addoli a chanu, “Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!”) Gyferbyn â'r Lefiaid roedd yr offeiriaid yn canu'r utgyrn, tra roedd y dyrfa yn sefyll. Dyma Solomon yn cysegru canol yr iard o flaen teml yr ARGLWYDD. Dyna ble wnaeth e offrymu aberthau i'w llosgi'n llwyr, a braster yr offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Roedd yr allor bres wnaeth Solomon yn rhy fach i ddal yr holl offrymau. Bu Solomon, a phobl Israel i gyd yn dathlu a cadw Gŵyl am saith diwrnod. Roedd tyrfa fawr yno o bob rhan o'r wlad, o Fwlch Chamath yn y gogledd yr holl ffordd i Wadi'r Aifft yn y de. Yna ar yr wythfed diwrnod dyma nhw'n cynnal cyfarfod. Roedden nhw wedi cysegru'r allor am saith diwrnod a dathlu'r Ŵyl am saith diwrnod arall. Ar y trydydd ar hugain o'r seithfed mis dyma Solomon yn anfon y bobl adre. A dyma pawb yn gadael yn hapus ac ar ben eu digon am fod yr ARGLWYDD wedi bod mor dda i Dafydd a Solomon ac i'w bobl Israel. Roedd Solomon wedi gorffen adeiladu teml yr ARGLWYDD a palas y brenin. Gwnaeth bopeth roedd wedi bod eisiau ei wneud i'r deml a'r palas. A dyma'r ARGLWYDD yn dod at Solomon yn y nos, a dweud wrtho, “Dw i wedi ateb dy weddi a dewis y lle yma yn deml lle mae aberthau i'w cyflwyno. Pan fydda i'n gwneud iddi stopio glawio, neu'n galw locustiaid i ddifa cnydau'r tir, neu'n taro fy mhobl gyda haint, os bydd fy mhobl, ie fy mhobl i, yn cyfaddef eu bai, gweddïo arna i a'm ceisio i a stopio gwneud pethau drwg, yna bydda i'n gwrando o'r nefoedd; bydda i'n maddau eu pechod ac yn iacháu eu gwlad. “Bydda i'n gwrando ar y gweddïau sy'n cael eu cyflwyno yn y lle yma. Dw i wedi dewis a cysegru'r deml yma i fod yn gartref i mi am byth. Bydda i'n gofalu am y lle bob amser. “Dw i eisiau i ti fyw fel gwnaeth dy dad Dafydd, a gwneud popeth dw i'n ddweud — bod yn ufudd i'r rheolau a'r canllawiau dw i wedi eu rhoi. Yna bydda i'n gwneud i dy deulu di deyrnasu fel gwnes i addo i Dafydd dy Dad: ‘Un o dy deulu di fydd yn teyrnasu ar Israel am byth.’ “Ond os byddwch chi yn troi cefn arna i, a ddim yn dilyn y canllawiau a'r rheolau dw i wedi eu rhoi i chi; os byddwch chi'n addoli duwiau eraill, yna bydda i yn eu chwynnu nhw o'r tir dw i wedi ei roi iddyn nhw. Bydda i'n troi cefn ar y deml yma dw i wedi chysegru i mi fy hun. A bydda i'n eich gwneud chi'n destun sbort ac yn jôc i bawb. Ie, y deml yma hefyd, oedd yn adeilad mor wych — bydd pawb sy'n mynd heibio yn rhyfeddu ac yn gofyn, ‘Pam mae'r ARGLWYDD wedi gwneud hyn i'r wlad ac i'r deml yma?’ A bydd eraill yn ateb, ‘Am eu bod nhw wedi troi cefn ar yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid, ddaeth â nhw allan o wlad yr Aifft. Maen nhw wedi cymryd duwiau eraill i'w dilyn a'u haddoli. Dyna pam mae'r ARGLWYDD wedi gadael i'r dinistr yma ddigwydd.’” Roedd dau ddeg mlynedd wedi mynd heibio ers i Solomon ddechrau adeiladu teml yr ARGLWYDD a'r palas. Aeth ati i ailadeiladu'r trefi roedd Huram wedi eu rhoi iddo, a symud rhai o bobl Israel i fyw yno. Aeth Solomon i ymladd yn erbyn tref Chamath-Soba, a'i choncro. Adeiladodd Tadmor yn yr anialwch, a'r holl ganolfannau lle roedd ei storfeydd yn Chamath. Gwnaeth Beth-choron uchaf a Beth-choron isaf yn gaerau amddiffynnol gyda waliau a giatiau y gellid eu cloi gyda barrau, hefyd Baalath. Adeiladodd y canolfannau lle roedd ei storfeydd, a'r trefi ar gyfer y cerbydau a'r ceffylau rhyfel. Roedd Solomon yn adeiladu beth bynnag roedd e eisiau, yn Jerwsalem, yn Libanus ac ar hyd a lled y wlad. Roedd yna lawer o bobl yn dal i fyw yn y wlad oedd ddim yn Israeliaid — Hethiaid, Amoriaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebwsiaid. (Roedd disgynyddion y bobl yma'n dal yn y wlad, am fod Israel wedi methu cael gwared â nhw i gyd pan wnaethon nhw goncro'r wlad.) Dyma Solomon yn gorfodi'r bobl yma i weithio iddo'n ddi-dâl. A dyna'r drefn hyd heddiw. Wnaeth Solomon ddim gorfodi pobl Israel i weithio iddo fel caethweision. Nhw oedd ei filwyr, ei brif-swyddogion, capteiniaid ei gerbydau a'i farchogion. Roedd yna ddau gant pum deg ohonyn nhw yn gweithio i'r Brenin Solomon fel arolygwyr dros y bobl. Yna dyma Solomon yn symud merch y Pharo o ddinas Dafydd i'r palas roedd e wedi ei adeiladu iddi. “Does dim gwraig i mi yn cael byw ym mhalas Dafydd, brenin Israel — achos mae ble bynnag mae Arch yr ARGLWYDD wedi bod yn gysegredig.” Yna dyma Solomon yn cyflwyno aberthau i'w llosgi i'r ARGLWYDD ar yr allor roedd wedi ei chodi o flaen cyntedd y deml. Roedd yn gwneud hyn yn union fel roedd Moses wedi gorchymyn — bob dydd, ar bob Saboth, ar Ŵyl y lleuad newydd bob mis, ac ar y tair gŵyl fawr arall bob blwyddyn (sef Gŵyl y Bara Croyw, Gŵyl y Cynhaeaf a Gŵyl y Pebyll). Fel roedd ei dad Dafydd wedi gorchymyn, trefnodd yr offeiriaid mewn grwpiau gwahanol i gyflawni eu cyfrifoldebau. Trefnodd y Lefiaid i arwain y mawl ac i helpu'r offeiriaid fel roedd angen pob dydd. Hefyd gosododd ofalwyr y giatiau yn eu grwpiau i fod yn gyfrifol am y gwahanol giatiau. Roedd Dafydd, dyn Duw, wedi trefnu hyn i gyd. Wnaethon nhw ddim anghofio unrhyw un o orchmynion y brenin am yr offeiriaid, y Lefiaid, y trysordai a phopeth arall. Cafodd yr holl waith orchmynodd Solomon ei wneud, o'r diwrnod y cafodd y sylfaeni eu gosod nes roedd y deml wedi ei gorffen. Dyna sut cafodd teml yr ARGLWYDD ei hadeiladu. Yna dyma Solomon yn mynd i Etsion-geber, ac i Elat ar yr arfordir yng ngwlad Edom. A dyma Huram yn anfon llongau a morwyr profiadol i fynd gyda'i weision i Offir, a dod â tua un deg chwech tunnell o aur o'r fan honno i'r Brenin Solomon. Roedd brenhines Sheba wedi clywed mor enwog oedd Solomon. Felly dyma hi'n dod i roi prawf iddo drwy ofyn cwestiynau anodd. Cyrhaeddodd Jerwsalem yn grand i gyd, gyda nifer fawr o gamelod yn cario sbeisiau, a lot fawr o aur a gemau gwerthfawr. Aeth i weld Solomon, a'i holi am bob peth oedd ar ei meddwl. Roedd Solomon yn gallu ateb ei chwestiynau i gyd. Doedd dim byd yn rhy anodd iddo ei esbonio iddi. Roedd brenhines Sheba wedi'i syfrdanu wrth weld mor ddoeth oedd Solomon. A hefyd wrth weld y palas roedd wedi ei adeiladu, y bwydydd ar ei fwrdd, yr holl swyddogion oedd yn eistedd yno, pawb oedd yn gweini arno, eu gwisgoedd, a'r wetars i gyd. A hefyd yr holl aberthau roedd yn eu llosgi i'r ARGLWYDD yn y deml. A dyma hi'n dweud wrth y brenin, “Mae popeth wnes i glywed amdanat ti yn wir — yr holl bethau rwyt ti wedi eu cyflawni, ac mor ddoeth wyt ti. Doeddwn i ddim wedi credu'r peth nes i mi ddod yma a gweld y cwbl â'm llygaid fy hun. Wir, doedden nhw ddim wedi dweud yr hanner wrtho i! Mae dy ddoethineb mawr yn fwy o lawer na beth ddywedwyd wrtho i. Mae'r bobl yma wedi eu bendithio'n fawr — y gweision sy'n gweini arnat ti o ddydd i ddydd ac yn cael clywed dy ddoethineb di. Bendith ar yr ARGLWYDD dy Dduw wnaeth dy ddewis di i deyrnasu ar ei ran! Am fod dy Dduw yn caru Israel ac eisiau iddyn nhw aros am byth, mae wedi dy wneud di yn frenin, i ti lywodraethu'n gyfiawn ac yn deg.” A dyma hi'n rhoi pedair tunnell a hanner o aur, llwythi o berlysiau a gemau gwerthfawr i'r brenin. Welwyd erioed gymaint o berlysiau a'r hyn roedd brenhines Sheba wedi ei roi i'r Brenin Solomon. (Hefyd roedd gweision Huram, gyda help gweision Solomon, wedi cario aur o Offir, a llwythi lawer o goed algwm, a gemau gwerthfawr. Dyma'r brenin yn gwneud grisiau i deml yr ARGLWYDD a palas y brenin o'r pren algwm, a hefyd telynau a nablau i'r cerddorion. Doedd neb wedi gweld dim byd tebyg iddyn nhw yng ngwlad Jwda cyn hynny!) Wedyn dyma'r Brenin Solomon yn rhoi i frenhines Sheba bopeth roedd hi'n gofyn amdano — mwy nag roedd hi wedi ei roi i'r brenin. Yna dyma hi'n mynd yn ôl adre i'w gwlad ei hun gyda'i gweision. Roedd Solomon yn derbyn dau ddeg pum tunnell o aur bob blwyddyn, heb gyfri'r hyn roedd yn ei dderbyn mewn trethi gan fasnachwyr a'r farchnad sbeis. Roedd holl frenhinoedd Arabia a llywodraethwyr y rhanbarthau hefyd yn rhoi arian ac aur i Solomon. Dyma Solomon yn gwneud dau gant o darianau mawr o aur wedi ei guro. Roedd yna tua saith cilogram o aur ym mhob tarian! Hefyd, tri chant o darianau bach, gyda bron dwy cilogram o aur ym mhob un o'r rheiny. A dyma fe'n eu gosod nhw i fyny yn Plas Coedwig Libanus. Wedyn dyma'r Brenin Solomon yn gwneud gorsedd fawr o ifori, wedi ei gorchuddio gydag aur pur. Roedd yna chwe gris i fyny at yr orsedd. Roedd stôl droed aur o'i blaen a llew yn sefyll wrth ymyl y breichiau ar y ddwy ochr. Wedyn roedd un deg dau o lewod yn sefyll ar y grisiau, un bob ochr i bob gris. Doedd gan yr un deyrnas arall orsedd debyg iddi! Roedd holl gwpanau y Brenin Solomon wedi eu gwneud o aur, a llestri Plas Coedwig Libanus i gyd o aur pur. Doedd dim byd wedi ei wneud o arian, achos doedd arian ddim yn cael ei gyfri'n werthfawr iawn bryd hynny. Roedd gan Solomon fflyd o longau masnach mawr gyda gweision Huram yn eu hwylio. Bob tair blynedd roedd y llongau hynny'n dod yn ôl gydag aur, arian, ifori, mwncïod a pheunod. Felly roedd y Brenin Solomon yn fwy cyfoethog ac yn ddoethach nac unrhyw frenin arall yn unman. Ac roedd brenhinoedd y byd i gyd eisiau dod i ymweld â Solomon i wrando ar y ddoethineb roedd yr ARGLWYDD wedi ei roi iddo. Bob blwyddyn roedd pobl yn dod â rhoddion iddo: llestri arian, llestri aur, dillad, arfau, perlysiau, ceffylau a mulod. Roedd gan Solomon stablau i bedair mil o geffylau cerbyd rhyfel, ac un deg dwy o filoedd o geffylau. Roedd yn eu cadw nhw yn rhai trefi penodol ac yn Jerwsalem. Roedd yn rheoli'r holl wledydd o Afon Ewffrates i wlad y Philistiaid, i lawr at y ffin gyda'r Aifft. Roedd arian mor gyffredin â cherrig yn Jerwsalem, a choed cedrwydd mor gyffredin â'r coed sycamor sy'n tyfu ym mhobman ar yr iseldir. Roedd ceffylau Solomon wedi eu mewnforio o'r Aifft a'r gwledydd eraill i gyd. Mae gweddill hanes Solomon, o'r dechrau i'r diwedd, i'w weld yn Negeseuon y Proffwyd Nathan, Proffwydoliaeth Achïa o Seilo a Gweledigaethau y Proffwyd Ido am Jeroboam fab Nebat. Roedd Solomon yn teyrnasu yn Jerwsalem ar Israel gyfan am bedwar deg o flynyddoedd. Pan fuodd Solomon farw, dyma nhw'n ei gladdu e yn Ninas Dafydd ei dad. A dyma Rehoboam, ei fab, yn dod yn frenin yn ei le. Dyma Rehoboam yn mynd i Sichem, lle roedd pobl Israel gyfan wedi dod i'w wneud yn frenin. Roedd Jeroboam fab Nebat yn yr Aifft ar y pryd. Roedd wedi ffoi yno oddi wrth y Brenin Solomon. Roedd yn dal yno pan glywodd beth oedd yn digwydd. Ond dyma bobl Israel yn anfon amdano, a dyma fe'n mynd gyda nhw i weld Rehoboam. “Roedd dy dad yn ein gweithio ni'n galed, ac yn gwneud bywyd yn faich. Os gwnei di symud y baich a gwneud pethau'n haws i ni, gwnawn ni dy wasanaethu di.” Dyma Rehoboam yn dweud wrthyn nhw, “Dewch yn ôl mewn deuddydd, i mi gael meddwl am y peth.” A dyma nhw'n ei adael. Dyma'r Brenin Rehoboam yn gofyn am farn y cynghorwyr hŷn (y rhai oedd yn gweithio i Solomon ei dad pan oedd yn dal yn fyw.) “Beth ydy'ch cyngor chi? Sut ddylwn ni ateb y bobl yma?” A dyma nhw'n dweud, “Os byddi di'n garedig a dangos dy fod eisiau eu helpu nhw, byddan nhw'n weision ffyddlon i ti am byth.” Ond dyma Rehoboam yn anwybyddu eu cyngor nhw, ac yn troi at y cynghorwyr ifanc yn y llys oedd yr un oed ag e. Dyma fe'n gofyn iddyn nhw, “Beth ydy'ch barn chi? Beth ddylwn i ddweud wrth y bobl yma sy'n gofyn i mi symud y baich roddodd fy nhad arnyn nhw?” A dyma'r dynion ifainc yn dweud wrtho, “Dywed wrth y bobl yna sy'n cwyno ac yn gofyn i ti symud y baich roedd dy dad wedi ei roi arnyn nhw, ‘Mae fy mys bach i yn mynd i fod yn gryfach na dad! Oedd fy nhad wedi rhoi baich trwm arnoch chi? Bydda i'n rhoi baich trymach! Oedd fy nhad yn defnyddio chwip i'ch cosbi chi? Bydda i'n defnyddio chwip fydd yn rhwygo'ch cnawd chi!’” Dyma Jeroboam, a'r bobl oedd gydag e, yn mynd yn ôl at Rehoboam ar ôl deuddydd, fel roedd y brenin wedi dweud. Dyma'r brenin Rehoboam yn siarad yn chwyrn gyda nhw ac yn anwybyddu cyngor y dynion hŷn, a gwrando ar y dynion ifanc. “Oedd fy nhad drwm arnoch chi?” meddai. “Wel, bydda i yn pwyso'n drymach! Oedd fy nhad yn defnyddio chwip i'ch cosbi chi? Bydda i'n defnyddio chwip fydd yn rhwygo'ch cnawd chi!” Roedd y brenin yn gwrthod gwrando ar y bobl. Ond roedd llaw Duw tu ôl i'r cwbl oedd yn digwydd, er mwyn i'r neges roedd wedi ei rhoi i Jeroboam fab Nebat drwy Achïa o Seilo ddod yn wir. Gwelodd y bobl fod y brenin yn gwrthod gwrando arnyn nhw, a dyma nhw'n rhoi'r neges yma iddo: “Beth sydd gynnon ni i'w wneud â Dafydd? Ydyn ni'n perthyn i deulu Jesse? Na! Yn ôl adre bobl Israel! Cei di gadw dy linach dy hun, Dafydd!” Felly dyma bobl Israel yn mynd adre. (Er, roedd rhai o bobl Israel yn byw yn nhrefi Jwda, a Rehoboam oedd eu brenin nhw.) Dyma'r Brenin Rehoboam yn anfon Adoniram, swyddog y gweithlu gorfodol at bobl Israel, ond dyma nhw'n taflu cerrig ato a'i ladd. Felly dyma'r Brenin Rehoboam yn neidio yn ei gerbyd a dianc yn ôl i Jerwsalem. Mae gwrthryfel llwythau Israel yn erbyn disgynyddion Dafydd wedi para hyd heddiw. Daeth Rehoboam yn ôl i Jerwsalem a galw dynion Jwda a llwyth Benjamin at ei gilydd. Roedd ganddo gant wyth deg mil o filwyr profiadol i fynd i ryfel yn erbyn Israel a cheisio ennill y deyrnas yn ôl. Ond cafodd Shemaia y proffwyd neges gan yr ARGLWYDD. “Dywed hyn wrth Rehoboam brenin Jwda ac wrth bobl Israel yn Jwda a Benjamin: ‘Mae'r ARGLWYDD yn dweud, “Peidiwch mynd i ryfel yn erbyn eich brodyr. Ewch adre i gyd, am mai fi sydd wedi gwneud i hyn ddigwydd.”’” A dyma nhw'n gwrando ar yr ARGLWYDD a wnaethon nhw ddim ymosod ar Jeroboam. Roedd Rehoboam yn byw yn Jerwsalem. Trodd nifer o drefi yn Jwda yn gaerau amddiffynnol: Bethlehem, Etam, Tecoa, Beth-Tswr, Socho, Adwlam, Gath, Maresha, Siff, Adoraim, Lachish, Aseca, Sora, Aialon, a Hebron. Dyma'r trefi amddiffynnol oedd yn Jwda a Benjamin. Dyma fe'n cryfhau'r amddiffynfeydd, gosod swyddogion milwrol yno, ac adeiladu stordai i gadw bwyd, olew olewydd a gwin. Roedd tariannau a gwaywffyn ym mhob un o'r trefi. Gwnaeth nhw'n hollol saff, a dyna sut cadwodd ei afael ar Jwda a Benjamin. Roedd yr offeiriaid a'r Lefiaid o bob rhan o Israel yn ei gefnogi. Roedd y Lefiaid hyd yn oed wedi gadael eu tir a'u heiddo a symud i Jwda ac i Jerwsalem, achos roedd Jeroboam a'i feibion wedi eu rhwystro nhw rhag bod yn offeiriaid i'r ARGLWYDD. Roedd wedi penodi ei offeiriaid ei hun i wasanaethu wrth yr allorau lleol, ac arwain y bobl i addoli gafr-ddemoniaid a'r teirw ifanc roedd e wedi eu gwneud. A dyma bawb o lwythau Israel oedd eisiau addoli'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn dilyn y Lefiaid i Jerwsalem. Yno roedden nhw'n gallu cyflwyno aberthau i'r ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid. Roedden nhw'n cryfhau teyrnas Jwda, ac am dair blynedd roedden nhw'n cefnogi Rehoboam fab Solomon. Buon nhw'n cadw gorchmynion Dafydd a Solomon am y tair blynedd. Dyma Rehoboam yn priodi Machalath, oedd yn ferch i Ierimoth (un o feibion Dafydd) ac Abihail (oedd yn ferch i Eliab fab Jesse). Cawson nhw dri o feibion, sef Iewsh, Shemareia a Saham. Yna, ar ei hôl hi, dyma fe'n priodi Maacha, merch Absalom. Dyma hi'n cael plant hefyd, sef Abeia, Attai, Sisa a Shlomith. Roedd Rehoboam yn caru Maacha (merch Absalom) fwy na'i wragedd eraill a'i gariadon. (Roedd ganddo un deg wyth o wragedd a chwe deg o bartneriaid, a cafodd dau ddeg wyth o feibion a chwe deg o ferched.) Dyma Rehoboam yn penodi Abeia, oedd yn fab i Maacha, yn bennaeth ar ei frodyr; roedd e eisiau iddo fod yn frenin ar ei ôl. Yn ddoeth iawn gwnaeth ei feibion i gyd yn gyfrifol am wahanol drefi amddiffynnol drwy Jwda a Benjamin. Dyma fe'n rhoi digon o fwyd iddyn nhw a darparu digon o wragedd ar eu cyfer. Pan oedd teyrnas Rehoboam wedi ei sefydlu a'i chryfhau, dyma fe a pobl Jwda i gyd yn troi cefn ar gyfraith yr ARGLWYDD. Felly, yn ystod pumed flwyddyn Rehoboam fel brenin dyma Shishac, brenin yr Aifft, yn ymosod ar Jerwsalem. Roedden nhw wedi bod yn anffyddlon i'r ARGLWYDD. Roedd gan Shishac 1,200 o gerbydau rhyfel, 60,000 o farchogion, a gormod o filwyr i'w cyfrif! Roedden nhw wedi dod gydag e o'r Aifft, ac yn cynnwys milwyr o Libia, Swccoth ac Affrica. Dyma fe'n concro trefi amddiffynnol Jwda ac yn mynd i ymosod ar Jerwsalem. Roedd Rehoboam ac arweinwyr Jwda wedi dod at ei gilydd i Jerwsalem o achos ymosodiaid Shishac. Dyma'r proffwyd Shemaia yn mynd atyn nhw a dweud wrthyn nhw, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Am eich bod chi wedi troi cefn arna i, dw i wedi troi cefn arnoch chi. Dw i'n mynd i adael i Shishac eich dal chi.’” Yna dyma arweinwyr Israel a'r brenin yn cyfaddef eu bai a dweud, “Mae'r ARGLWYDD yn iawn.” Pan welodd yr ARGLWYDD eu bod nhw wedi syrthio ar eu bai, dyma fe'n rhoi'r neges yma i Shemaia: “Am eu bod wedi syrthio ar eu bai wna i ddim eu dinistrio nhw. Cân nhw eu hachub yn fuan. Dw i ddim yn mynd i ddefnyddio Shishac i dywallt fy llid ar Jerwsalem. Ond er hynny bydd rhaid iddyn nhw fod yn weision iddo, a byddan nhw'n dod i ddeall y gwahaniaeth rhwng fy ngwasanaethu i a gwasanaethu teyrnasoedd y byd.” Felly dyma Shishac, brenin yr Aifft, yn ymosod ar Jerwsalem, a dwyn trysorau teml yr ARGLWYDD a'r palas brenhinol — cymerodd y cwbl, gan gynnwys yr holl darianau aur roedd Solomon wedi eu gwneud! Roedd rhaid i'r brenin Rehoboam wneud tariannau pres yn eu lle i'w rhoi i swyddogion y gwarchodlu brenhinol oedd yn amddiffyn y palas. Roedd y gwarchodlu brenhinol yn eu defnyddio bob tro roedd y brenin yn mynd i'r deml, ond yna'n mynd â nhw'n ôl i ystafell y gwarchodlu. Pan syrthiodd Rehoboam ar ei fai wnaeth yr ARGLWYDD ddim ei ddinistrio'n llwyr. Yna buodd pethau'n dda ar Jwda. Dyma Rehoboam yn cryfhau ei deyrnas yn Jerwsalem. Roedd e'n bedwar deg un mlwydd oed pan gafodd ei wneud yn frenin, a bu'n teyrnasu yn Jerwsalem am un deg a saith o flynyddoedd. Jerwsalem, y ddinas roedd yr ARGLWYDD wedi dewis byw ynddi o holl lwythau Israel. Enw mam Rehoboam oedd Naäma, ac roedd hi'n dod o wlad Ammon. Ond roedd yn frenin drwg am ei fod heb ddilyn yr ARGLWYDD o ddifrif. Mae hanes Rehoboam, o'r dechrau i'r diwedd, a hanes ei deulu, i'w weld yn Negeseuon Shemaia y Proffwyd ac Ido y Gweledydd. Roedd Rehoboam yn rhyfela yn erbyn Jeroboam, brenin Israel, drwy gydol ei deyrnasiad. Pan fu farw, cafodd Rehoboam ei gladdu gyda'i hynafiaid yn ninas Dafydd. Ei fab Abeia ddaeth yn frenin yn ei le. Daeth Abeia yn frenin ar Jwda pan oedd Jeroboam wedi bod yn frenin Israel ers un deg wyth o flynyddoedd. Bu'n frenin yn Jerwsalem am dair blynedd. Enw ei fam oedd Michaia, merch Wriel o Gibea. Dyma ryfel yn dechrau rhwng Abeia a Jeroboam. Aeth Abeia allan i ryfel gyda byddin o filwyr dewr. Roedd ganddo bedwar can mil o ddynion arbennig. Dyma Jeroboam yn dod allan yn ei erbyn gyda byddin o wyth can mil o filwyr profiadol dewr. Dyma Abeia'n sefyll ar Fynydd Semaraïm sydd ym mryniau Effraim, a dweud, “Jeroboam ac Israel gyfan, gwrandwch arna i. Onid ydych chi'n gwybod bod yr ARGLWYDD, Duw Israel, wedi ymrwymo i roi'r frenhiniaeth i Dafydd a'i ddisgynyddion am byth? — a fydd hynny byth yn newid. Ond mae Jeroboam fab Nebat, gwas Solomon mab Dafydd, wedi gwrthryfela yn erbyn ei feistr. Casglodd griw o rapsgaliwns diwerth o'i gwmpas. Yna dyma fe'n herio Rehoboam, mab Solomon, pan oedd e'n ifanc ac ofnus ac heb ddigon o nerth i sefyll yn ei erbyn. “A nawr dyma chi yn bwriadu sefyll yn erbyn teyrnas yr ARGLWYDD sydd wedi cael ei rhoi i ddisgynyddion Dafydd. Dych chi'n llu mawr gyda'r ddau darw aur mae Jeroboam wedi gwneud i fod yn dduwiau i chi. Ond dych chi wedi cael gwared a'r offeiriaid, meibion Aaron a'r Lefiaid, ac wedi gwneud offeiriaid eraill i chi'ch hunain fel y cenhedloedd. Bellach mae unrhyw un sy'n dod i gysegru ei hunan gyda tarw ifanc a saith hwrdd yn cael bod yn offeiriad i'r duw sydd ddim yn dduw. Ond ein Duw ni ydy'r ARGLWYDD, a dŷn ni heb droi oddi wrtho. Meibion Aaron ydy'n hoffeiriaid sy'n ei wasanaethu, a'r Lefiaid yn eu helpu. Maen nhw'n llosgi aberthau ac arogldarth persawrus i'r ARGLWYDD bob bore a hwyr. Nhw hefyd sy'n rhoi'r bara i'w osod ar y bwrdd sanctaidd, ac yn cynnau'r lampau ar y ganhwyllbren aur bob gyda'r nos. Dŷn ni'n dal i gadw gorchmynion yr ARGLWYDD ein Duw, ond dych chi wedi troi oddi wrtho. Sylwch, Duw ydy'n capten ni a thrwmpedau ei offeiriaid e sy'n ein galw i ryfel. Bobl Israel, peidiwch ag ymladd yn erbyn Duw eich hynafiaid. Fyddwch chi ddim yn llwyddo.” Dyma Jeroboam yn anfon rhai o'i filwyr i fod yn barod i ymosod o'r tu cefn i fyddin Jwda. Felly tra roedd e'n wynebu Jwda, roedd eraill yn barod i ymosod o'r tu cefn. Dyma filwyr Jwda yn gweld y byddai'n rhaid iddyn nhw ymladd o'r tu blaen a'r tu ôl, a dyma nhw'n galw ar yr ARGLWYDD. Dyma'r offeiriad yn canu'r utgyrn, a dynion Jwda yn rhoi bloedd i ymosod, a dyma Duw yn taro Jeroboam a byddin Israel gyfan o flaen Abeia a byddin Jwda. Dyma fyddin Israel yn ffoi o flaen Jwda, a dyma Duw yn eu rhoi yng ngafael dynion Jwda. Lladdodd Abeia a'i ddynion nifer fawr ohonyn nhw. Roedd pum can mil o ddynion gorau Israel wedi syrthio'n farw. Collodd Israel y frwydr y diwrnod hwnnw, ac ennillodd Jwda am ei bod wedi dibynnu ar yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid. Dyma Abeia yn ymlid ar ôl Jeroboam a chymryd oddi arno drefi Bethel, Ieshana ac Effron a'r pentrefi o'u cwmpas. Wnaeth Jeroboam ddim ennill grym yn ôl yn ystod cyfnod Abeia. Yna dyma'r ARGLWYDD yn ei daro a bu farw. Yn y cyfamser roedd Abeia'n dod yn fwy a mwy pwerus. Roedd ganddo un deg pedair o wragedd, ac roedd yn dad i ddau ddeg dau o feibion ac un deg chwech o ferched. Mae gweddill hanes Abeia, beth wnaeth e a'r pethau ddwedodd e, i'w gweld yn ysgrifau'r proffwyd Ido. Pan fu farw, cafodd Abeia ei gladdu yn ninas Dafydd. Daeth Asa ei fab yn frenin yn ei le. Pan ddaeth e'n frenin roedd heddwch yn y wlad am ddeg mlynedd. Roedd Asa yn gwneud beth oedd yn dda ac yn plesio'r ARGLWYDD. Dyma fe'n cael gwared â'r allorau paganaidd a'r temlau lleol, malu'r colofnau cysegredig a thorri i lawr bolion y dduwies Ashera. Dyma fe'n dweud wrth bobl Jwda fod rhaid iddyn nhw addoli'r ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid, a cadw ei ddysgeidiaeth a'i orchmynion. Dyma fe'n cael gwared â'r holl allorau lleol a'r llestri dal arogldarth o drefi Jwda. Roedd heddwch yn y wlad pan oedd e'n frenin. Dyma Asa'n adeiladu trefi amddiffynnol yn Jwda tra roedd y wlad yn dawel. Doedd dim rhyfel yn y cyfnod hwnnw am fod yr ARGLWYDD wedi rhoi heddwch iddo. Dwedodd Asa wrth bobl Jwda, “Gadewch i ni adeiladu'r trefi yma gyda waliau a thyrau o'u cwmpas, a giatiau gyda barrau i'w cloi. Mae'r wlad yma'n dal gynnon ni am ein bod wedi ceisio yr ARGLWYDD ein Duw. Dŷn ni wedi ei geisio, ac mae e wedi rhoi heddwch i ni o bob cyfeiriad.” Felly dyma nhw'n adeiladu ac roedden nhw'n llwyddiannus iawn. Roedd gan Asa 300,000 o filwyr yn Jwda yn cario tariannau mawr a gwaywffyn. Gyda nhw roedd 280,000 o ddynion o lwyth Benjamin wedi eu harfogi gyda thariannau bach a bwasaeth. Roedden nhw i gyd yn filwr profiadol. Un tro dyma Serach o Cwsh yn Nwyrain Affrica yn ymosod arnyn nhw gyda byddin o filiwn o ddynion a thri chant o gerbydau rhyfel. Wrth iddyn nhw gyrraedd Maresha roedd Asa a'i fyddin yn Nyffryn Seffatha (heb fod yn bell o Maresha) yn paratoi i'w gwrthwynebu. Dyma Asa'n gweddïo ar yr ARGLWYDD ei Dduw: “ARGLWYDD, dim ond ti sy'n gallu helpu'r gwan pan mae byddin enfawr yn dod yn eu herbyn nhw. Helpa ni ARGLWYDD ein Duw, dŷn ni'n dibynnu arnat ti. Dŷn ni wedi dod allan yn erbyn y fyddin enfawr yma ar dy ran di. O ARGLWYDD ein Duw, paid gadael i ddyn ennill yn dy erbyn di.” Felly dyma'r ARGLWYDD yn galluogi'r brenin Asa a byddin Jwda i orchfygu'r fyddin o Cwsh yn Nwyrain Affrica. Dyma'r Affricanwyr yn ffoi gydag Asa a'i fyddin yn mynd ar eu holau cyn belled â Gerar. Cafodd byddin Cwsh ei difa'n llwyr gan yr ARGLWYDD a'i fyddin. A dyma Asa a'i ddynion yn casglu lot fawr o ysbail. Dyma nhw'n concro'r trefi o gwmpas Gerar i gyd, am fod yr ARGLWYDD wedi gwneud i'r rheiny banicio. A dyma filwyr Jwda yn casglu llwythi o bethau gwerthfawr o'r trefi hynny hefyd. A dyma nhw'n ymosod ar bebyll y rhai oedd yn gofalu am yr anifeiliaid, a dwyn llawer iawn o ddefaid a chamelod cyn mynd yn ôl i Jerwsalem. 1 Dyma ysbryd Duw yn dod ar Asareia fab Oded, a dyma fe'n mynd at y brenin Asa a dweud: “Gwrandwch arna i, Asa a phobl Jwda a Benjamin i gyd. Bydd yr ARGLWYDD gyda chi tra dych chi'n ffyddlon iddo fe. Bydd e'n ymateb pan fyddwch chi'n ei geisio. Ond os byddwch chi'n troi'ch cefn arno, bydd e'n troi ei gefn arnoch chi. Roedd Israel heb y Duw go iawn am amser maith, heb offeiriaid i'w dysgu ac heb Gyfraith. Ond yn eu helynt dyma nhw'n troi at yr ARGLWYDD, Duw Israel. Dyma nhw'n ei geisio, a dyma fe'n ymateb. Yr adeg yna doedd hi ddim yn saff i neb fynd a dod, am fod yna helyntion ofnadwy yn y gwledydd i gyd. Roedd un wlad yn dinistrio'r llall, a'r trefi yn dinistrio'i gilydd, am fod Duw wedi dod â phob math o helyntion arnyn nhw. Ond byddwch chi'n ddewr a pheidio llaesu dwylo, oherwydd fe gewch chi wobr am eich gwaith.” Roedd Asa'n teimlo'n llawer mwy hyderus ar ôl clywed beth ddwedodd y proffwyd Oded. Dyma fe'n cael gwared â'r holl eilunod ffiaidd oedd yn Jwda a Benjamin a'r trefi roedd wedi eu concro ym mryniau Effraim. Yna dyma fe'n trwsio'r allor oedd o flaen cyntedd teml yr ARGLWYDD. Casglodd bobl Jwda a Benjamin at ei gilydd, gyda phobl llwythau Effraim, Manasse a Simeon oedd wedi dod atyn nhw i fyw (Roedd llawer iawn o bobl wedi symud o Israel i Jwda ar ôl gweld fod yr ARGLWYDD ei Dduw gydag Asa.) Dyma nhw'n dod i Jerwsalem yn y trydydd mis pan oedd Asa wedi bod yn frenin am un deg pump o flynyddoedd. Dyma nhw'n aberthu i'r ARGLWYDD rai o'r anifeiliaid roedden nhw wedi eu cymryd yn ysbail, gan gynnwys saith gant o wartheg a saith mil o ddefaid. Wedyn dyma nhw'n gwneud ymrwymiad i geisio yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid, o ddifrif. Byddai pawb oedd yn gwrthod gwneud hynny yn cael eu lladd, hen ac ifanc, dynion a merched. Dyma nhw'n tyngu llw i'r ARGLWYDD gan weiddi, canu utgyrn a chwythu'r corn hwrdd. Roedd pobl Jwda i gyd yn hapus i gymryd y llw, achos roedden nhw'n hollol o ddifrif. Roedden nhw wedi ceisio'r ARGLWYDD, ac roedd yntau wedi ymateb. Roedd yr ARGLWYDD wedi rhoi heddwch iddyn nhw o bob cyfeiriad. Yna dyma'r Brenin Asa yn diswyddo ei nain, Maacha, o fod yn fam-frenhines, am ei bod wedi gwneud polyn Ashera ffiaidd. Torrodd y polyn i lawr, ei falu'n fân, a'i losgi wrth Nant Cidron. Er ei fod heb gael gwared â'r allorau lleol yn Israel roedd Asa yn ffyddlon i'r ARGLWYDD ar hyd ei oes. Daeth â'r celfi roedd e a'i dad wedi eu cysegru (rhai aur, arian, a llestri eraill), a'u gosod yn nheml Dduw. Fuodd dim rhyfel arall nes oedd Asa wedi bod yn frenin am dri deg pump o flynyddoedd. Pan oedd Asa wedi bod yn frenin ers bron dri deg chwech o flynyddoedd, dyma Baasha, brenin Israel, yn ymosod ar Jwda ac yn adeiladu Rama yn gaer filwrol i rwystro pobl rhag mynd a dod i diriogaeth Asa brenin Jwda. Dyma Asa yn cymryd y cwbl o'r arian a'r aur oedd ar ôl yn stordai teml yr ARGLWYDD a stordai palas y brenin, a'i anfon gyda'r neges yma i Ben-hadad, brenin Syria, yn Damascus: “Dw i eisiau gwneud cytundeb heddwch gyda ti, fel roedd yn arfer bod rhwng fy nhad a dy dad di. Dw i'n anfon yr arian a'r aur yma i ti. Dw i eisiau i ti dorri'r cytundeb sydd rhyngot ti a Baasha, brenin Israel, er mwyn iddo stopio ymosod arnon ni.” Dyma Ben-hadad yn derbyn cynnig y brenin Asa, a dyma fe'n dweud wrth swyddogion ei fyddin am ymosod ar drefi Israel. Dyma nhw'n taro Ïon, Dan, Abel-maim a canolfannau storfeydd Nafftali. Pan glywodd Baasha am hyn, dyma fe'n rhoi'r gorau i'r prosiect o adeiladu Rama. A dyma'r brenin Asa yn anfon pobl Jwda i nôl y cerrig a'r coed roedd Baasha wedi bod yn eu defnyddio i adeiladu Rama. Yna dyma Asa yn eu defnyddio nhw i adeiladau Geba yn Benjamin a Mitspa. Tua'r adeg honno dyma'r proffwyd Chanani yn mynd at Asa, brenin Jwda, a dweud wrtho, “Am dy fod wedi gofyn am help brenin Syria yn lle trystio'r ARGLWYDD, dy Dduw, wnei di byth orchfygu byddin Syria. Oedd gan yr Affricaniaid a'r Libiaid ddim byddinoedd mawr gyda llawer iawn o gerbydau a marchogion? Ond am dy fod wedi trystio'r ARGLWYDD dyma fe'n gadael i ti ennill y frwydr. Mae'r ARGLWYDD yn gwylio popeth sy'n digwydd ar y ddaear, ac yn barod i helpu'r rhai sy'n ei drystio fe'n llwyr. Ti wedi bod yn ffŵl. Byddi di'n ymladd rhyfeloedd yn ddi-stop o hyn ymlaen.” Roedd Asa wedi gwylltio gyda'r proffwyd am siarad fel yna, a dyma fe'n ei roi yn y carchar. Bryd hynny dechreuodd Asa orthrymu rhai o'r bobl hefyd. Mae hanes Asa, o'r dechrau i'r diwedd, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda ac Israel. Pan oedd Asa wedi bod yn frenin am bron dri deg naw o flynyddoedd dyma fe'n dechrau dioddef o glefyd ar ei draed. Er ei fod e'n dioddef yn ddifrifol o'r afiechyd wnaeth e ddim gofyn am help yr ARGLWYDD, dim ond y meddygon. Pan fuodd Asa farw, ar ôl bod yn frenin am dros bedwar deg o flynyddoedd; cafodd ei gladdu yn y bedd roedd e wedi trefnu ei chloddio o'r graig yn ninas Dafydd. Cafodd ei roi i orwedd ar elor oedd wedi ei gorchuddio gyda pherlysiau a gwahanol bersawrau. A dyma nhw'n llosgi coelcerth enfawr i'w anrhydeddu. Daeth ei fab Jehosaffat yn frenin yn ei le, ac aeth ati i gryfhau'r deyrnas iddi allu gwrthsefyll Israel. Rhoddodd filwyr yn y trefi amddiffynnol a gosod garsiynau drwy wlad Jwda i gyd, ac yn y trefi roedd Asa ei dad wedi ei hennill oddi ar Effraim. Roedd yr ARGLWYDD gyda Jehosaffat am ei fod, ar ddechrau ei deyrnasiad, yn dilyn ffyrdd ei hynafiad Dafydd. Doedd e ddim yn addoli duwiau Baal. Roedd yn addoli Duw ei hynafiaid ac yn cadw ei orchmynion, yn wahanol i bobl Israel. Felly dyma'r ARGLWYDD yn gwneud ei deyrnas yn gadarn. Roedd pobl Jwda i gyd yn dod ag anrhegion i Jehosaffat, a daeth yn gyfoethog iawn, ac roedd parch mawr ato. Roedd yn benderfynol o ddilyn yr ARGLWYDD a chael gwared â'r holl allorau lleol a polion y dduwies Ashera o Jwda. Yn ystod ei drydedd flwyddyn fel brenin dyma Jehosaffat yn anfon pump o'i swyddogion allan i drefi Jwda i ddysgu'r bobl am Gyfraith Duw. Enwau'r pump oedd Ben-chaïl, Obadeia, Sechareia, Nethanel a Michaia. Ac roedd naw o Lefiaid yn eu helpu, sef Shemaia, Nethaneia, Sebadeia, Asahel, Shemiramoth, Jonathan, Adoneia, Tobeia a Tob-adoneia. Roedd Elishama a Joram yr offeiriaid gyda nhw hefyd. Buon nhw'n teithio o gwmpas trefi Jwda i gyd yn dysgu'r bobl o Lyfr Cyfraith yr ARGLWYDD. Roedd yr ARGLWYDD wedi codi ofn ar y gwledydd o gwmpas Jwda, a doedd neb am fynd i ryfel yn erbyn Jehosaffat. Dyma rai o'r Philistiaid yn dod ag anrhegion a llwyth o arian i Jehosaffat, i dalu teyrnged iddo fel brenin. Daeth yr Arabiaid ag anifeiliaid iddo: 7,700 o hyrddod a 7,700 o fychod geifr. Roedd Jehosaffat yn fwy a mwy pwerus, ac adeiladodd gaerau a chanolfannau storio yn Jwda. Roedd ganddo lot fawr wedi ei gadw yn y canolfannau hynny, a byddin o filwyr profiadol yn Jerwsalem. Roedd y rhain wedi eu rhannu yn ôl eu llwythau fel hyn: Capteiniaid ar unedau o fil o Jwda: Adna — yn gapten ar dri chan mil o filwyr profiadol, dewr. Yna Iehochanan — yn gapten ar ddau gant wyth deg o filoedd. Yna Amaseia fab Sichri (oedd wedi gwirfoddoli i wasanaethu yr ARGLWYDD) — roedd dau gan mil o filwyr profiadol, dewr gydag e. Wedyn o lwyth Benjamin: Eliada, oedd yn filwr profiadol a dewr. Roedd dau gan mil o filwyr gydag e yn cario bwasaeth a tharian. Yna Iehosafad — gyda cant wyth deg o filoedd o filwyr arfog. Roedd y rhain i gyd yn gwasanaethu'r brenin, heb sôn am y rhai oedd wedi eu gosod yn y caerau amddiffynnol ar hyd a lled Jwda. Roedd Jehosaffat yn gyfoethog iawn ac roedd parch mawr ato. Ond dyma fe'n gwneud cytundeb gwleidyddol gydag Ahab, a'i selio drwy gael ei fab i briodi merch Ahab. Yna rai blynyddoedd yn ddiweddarach dyma fe'n mynd i ymweld ag Ahab yn Samaria. Dyma Ahab yn lladd llawer iawn o ddefaid a gwartheg i baratoi gwledd fawr i anrhydeddu Jehosaffat a'i swyddogion, a'i berswadio i fynd gydag e i ymosod ar Ramoth-gilead. Dyma Ahab, brenin Israel, yn gofyn i Jehosaffat, “Ddoi di gyda mi i ymladd am Ramoth-gilead?” A dyma Jehosaffat yn ei ateb, “Dw i gyda ti. Bydd fy myddin yn dy helpu yn y frwydr.” Ond yna dyma Jehosaffat yn ychwanegu, “Ond gad i ni'n gyntaf holi beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud.” Felly dyma frenin Israel yn casglu'r proffwydi at ei gilydd — roedd tua pedwar cant ohonyn nhw. A dyma fe'n gofyn iddyn nhw, “Ddylwn i ymosod ar Ramoth-gilead neu ddim?” A dyma nhw'n ateb, “Dos! Bydd Duw yn rhoi buddugoliaeth i'r brenin!” Ond dyma Jehosaffat yn gofyn, “Oes yna ddim un o broffwydi'r ARGLWYDD yma, i ni ofyn iddo fe hefyd?” A dyma frenin Israel yn ateb, “Oes, mae yna un dyn gallwn holi'r ARGLWYDD trwyddo. Ond dw i'n ei gasáu e, achos dydy e erioed wedi proffwydo dim byd da i mi, dim ond drwg. Ei enw e ydy Michea fab Imla.” “Paid siarad fel yna,” meddai Jehosaffat. Felly dyma frenin Israel yn galw swyddog draw a dweud wrtho, “Brysia! Tyrd â Michea fab Imla yma.” Roedd brenin Israel a Jehosaffat, brenin Jwda, yn eu gwisgoedd brenhinol, yn eistedd ar orseddau yn y sgwâr wrth giât i ddinas Samaria. O'u blaenau roedd yr holl broffwydi wrthi'n proffwydo. Dyma Sedeceia fab Cenaana yn gwneud cyrn haearn. A dyma fe'n cyhoeddi “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Byddi di'n cornio'r Syriaid gyda'r rhain, ac yn eu difa nhw.’” Ac roedd y proffwydi eraill i gyd yn dweud yr un fath. “Dos i ymosod ar Ramoth-gilead. Byddi'n ennill y frwydr! Mae'r ARGLWYDD yn mynd i roi buddugoliaeth i ti.” Dyma'r un oedd wedi mynd i nôl Michea yn dweud wrtho, “Gwranda, mae'r proffwydi i gyd yn cytuno fod y brenin yn mynd i lwyddo. Dywed di'r un peth, a proffwyda lwyddiant iddo.” Ond dyma Michea'n ei ateb, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, fydda i ond yn dweud beth fydd Duw yn ei ddweud wrtho i.” Pan ddaeth e at y brenin dyma'r brenin yn gofyn iddo, “Michea, ddylwn i ymosod ar Ramoth-gilead neu ddim?” A dyma fe'n ateb, “Dos di! Byddi'n llwyddo. Bydd Duw yn rhoi buddugoliaeth i ti!” Ond dyma'r brenin yn dweud wrtho, “Faint o weithiau ydw i wedi gwneud i ti addo o flaen yr ARGLWYDD y byddi'n dweud dim byd ond y gwir wrtho i?” A dyma Michea'n dweud, “Gwelais Israel gyfan ar wasgar dros y bryniau, fel defaid heb fugail. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud, ‘Does ganddyn nhw ddim meistri. Dylen nhw i gyd fynd adre'n dawel.’” Dyma frenin Israel yn dweud wrth Jehosaffat, “Wnes i ddim dweud wrthot ti? Dydy hwn byth yn proffwydo dim byd da i mi, dim ond drwg.” A dyma Michea'n dweud, “Felly, gwrando ar neges yr ARGLWYDD. Gwelais yr ARGLWYDD yn eistedd ar ei orsedd, a'i fyddin o angylion yn sefyll bob ochr iddo. A dyma'r ARGLWYDD yn gofyn, ‘Pwy sy'n gallu twyllo Ahab, brenin Israel, a gwneud iddo ymosod ar Ramoth-gilead a cael ei ladd yno?’ Ac roedd pawb yn cynnig syniadau gwahanol. Ond yna dyma ysbryd yn dod a sefyll o flaen yr ARGLWYDD, a dweud, ‘Gwna i ei dwyllo fe.’ A dyma'r ARGLWYDD yn gofyn iddo, ‘Sut?’ “‘Gwna i fynd allan fel ysbryd celwyddog a siarad drwy ei broffwydi e,’ meddai. “A dyma'r ARGLWYDD yn dweud, ‘Dos i wneud hynny. Byddi di'n llwyddo i'w dwyllo.’ Felly, wyt ti'n gweld? Mae'r ARGLWYDD wedi gwneud i dy broffwydi di ddweud celwydd. Mae'r ARGLWYDD am wneud drwg i ti.” Yna dyma Sedeceia fab Cenaana yn camu ymlaen a rhoi dyrnod i Michea ar ei ên, a gofyn, “Sut wnaeth Ysbryd yr ARGLWYDD fy ngadael i a dechrau siarad â ti?” A dyma Michea'n ateb, “Cei weld ar y diwrnod hwnnw pan fyddi di'n chwilio am ystafell o'r golwg yn rhywle i guddio ynddi!” Yna dyma frenin Israel yn dweud, “Cymerwch Michea a'i roi yng ngofal Amon, rheolwr y ddinas, a Joas fy mab. Dwedwch wrthyn nhw, ‘Mae'r brenin yn dweud, “Cadwch hwn yn y carchar, a rhoi dim byd ond ychydig fara a dŵr iddo nes bydda i wedi dod yn ôl yn saff.”’” A dyma Michea'n dweud, “Os ddoi di yn ôl yn saff, dydy'r ARGLWYDD ddim wedi siarad trwof fi.” A dyma fe'n dweud wrth y bobl oedd yno, “Cofiwch chi beth ddywedais i!” Dyma frenin Israel a Jehosaffat, brenin Jwda, yn mynd i ymosod ar Ramoth-gilead. A dyma frenin Israel yn dweud wrth Jehosaffat, “Dw i yn mynd i wisgo dillad gwahanol i fynd i ryfel, ond gwisga di dy ddillad brenhinol.” Felly dyma frenin Israel yn newid ei ddillad a dyma nhw'n mynd i'r frwydr. Roedd brenin Syria wedi rhoi gorchymyn i'r capteiniaid oedd ganddo ar ei gerbydau, “Peidiwch poeni ymladd gyda neb, yn filwyr cyffredin na swyddogion, dim ond gyda brenin Israel.” Pan welodd y capteiniaid Jehosaffat dyma nhw'n dweud, “Mae'n rhaid mai fe ydy brenin Israel!” Felly dyma nhw'n troi i fynd ar ei ôl. Ond wrth i Jehosaffat weiddi, dyma'r ARGLWYDD yn ei helpu. Dyma Duw yn eu harwain nhw i ffwrdd oddi wrtho. Roedden nhw'n gweld mai nid brenin Israel oedd e, a dyma nhw'n gadael llonydd iddo. Yna dyma rhyw filwr yn digwydd saethu â'i fwa ar hap a taro brenin Israel rhwng dau ddarn o'i arfwisg. A dyma'r brenin yn dweud wrth yrrwr ei gerbyd, “Tro yn ôl! Dos â fi allan o'r frwydr. Dw i wedi cael fy anafu!” Aeth y frwydr yn ei blaen drwy'r dydd. Roedd brenin Israel yn cael ei ddal i fyny yn ei gerbyd yn gwylio'r Syriaid. Yna gyda'r nos, wrth i'r haul fachlud, dyma fe'n marw. Pan gyrhaeddodd Jehosaffat adre'n ôl yn saff i'r palas yn Jerwsalem, dyma'r proffwyd Jehw fab Chanani yn mynd i'w weld. Dyma fe'n dweud wrth y brenin, “Ydy'n iawn dy fod ti'n helpu'r dyn drwg yna, Ahab, a gwneud ffrindiau hefo pobl sy'n casáu yr ARGLWYDD? Mae'r ARGLWYDD wedi digio go iawn hefo ti am wneud y fath beth. Ac eto ti wedi gwneud pethau da. Rwyt ti wedi cael gwared â pholion y dduwies Ashera o'r wlad ac wedi bod yn benderfynol o ddilyn yr ARGLWYDD.” Roedd Jehosaffat yn byw yn Jerwsalem, ond roedd yn mynd allan at y bobl i bob rhan o'r wlad, o Beersheba i fryniau Effraim, i'w hannog nhw i droi yn ôl at yr ARGLWYDD, Duw ei hynafiaid. Penododd farnwyr ym mhob un o drefi caerog Jwda, a dweud wrthyn nhw, “Gwyliwch beth dych chi'n wneud. Dim plesio pobl ydy'ch gwaith chi. Dych chi'n barnu ar ran yr ARGLWYDD, a bydd e gyda chi wrth i chi wneud hynny. Dangoswch barch ato a gwneud beth sy'n iawn. Dydy'r ARGLWYDD ddim yn hoffi anghyfiawnder, dangos ffafriaeth na derbyn breib.” Yn Jerwsalem dyma Jehosaffat hefyd yn penodi Lefiaid, offeiriaid a rhai o benaethiaid Israel i farnu ar ran yr ARGLWYDD ac i ddyfarnu unrhyw achosion rhwng y bobl. Dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Rhaid i chi ddangos parch at yr ARGLWYDD a gwneud y gwaith yn onest ac yn ddidwyll. Pan fydd eich pobl sy'n byw yn y pentrefi yn dod ag achos atoch, rhybuddiwch nhw i beidio pechu yn erbyn yr ARGLWYDD. (Bydd achosion o dywallt gwaed a materion eraill yn ymwneud â'r gyfraith a deddfau a rheolau gwahanol.) Os na wnewch chi eu rhybuddio nhw bydd Duw yn ddig gyda chi a'ch cydweithwyr. Ond os byddwch chi'n ufudd, fyddwch chi ddim yn euog. Amareia'r offeiriad fydd â'r gair olaf ar unrhyw fater yn ymwneud â cyfraith yr ARGLWYDD. A Sebadeia fab Ishmael, arweinydd llwyth Jwda, fydd yn delio gyda popeth sy'n ymwneud â'r brenin. Bydd y Lefiaid yn gweithredu fel swyddogion gweinyddol. Gwnewch eich gwaith yn hyderus! Bydd yr ARGLWYDD gyda'r rhai sy'n gwneud job dda ohoni!” Beth amser wedyn dyma fyddinoedd Moab ac Ammon, a rhai o'r Mewniaid gyda nhw, yn dod i ryfela yn erbyn Jehosaffat. Daeth negeswyr i ddweud wrth Jehosaffat, “Mae yna fyddin enfawr yn dod yn dy erbyn o gyfeiriad Edom, yr ochr draw i'r Môr Marw. Maen nhw yn Chatsason-tamar yn barod!” (Enw arall ar En-gedi oedd Chatsason-tamar). Roedd Jehosaffat wedi dychryn wrth glywed hyn, a dyma fe'n troi at yr ARGLWYDD am arweiniad. Gorchmynnodd fod pawb yn Jwda i ymprydio. Felly dyma bobl Jwda yn dod at ei gilydd i ofyn i'r ARGLWYDD am help. Roedden nhw wedi dod o bob un o drefi Jwda. Safodd Jehosaffat gyda'r dyrfa o flaen yr iard newydd yn y deml. A dyma fe'n gweddïo, “O ARGLWYDD, Duw ein hynafiaid, onid ti ydy'r Duw yn y nefoedd sy'n llywodraethu dros holl deyrnasoedd y byd? Ti'n Dduw nerthol a grymus, a does neb yn gallu sefyll yn dy erbyn. Onid ti, ein Duw, wnaeth yrru'r bobl oedd yn byw y wlad yma allan o flaen dy bobl Israel? Ti wnaeth roi'r tir yma i ddisgynyddion Abraham dy ffrind, am byth. Maen nhw wedi byw yma, ac wedi adeiladu teml i dy anrhydeddu di, gan gredu, ‘Os daw unrhyw drychineb, fel byddin yn ymosod, cael ein barnu drwy haint neu newyn, gallwn ddod i sefyll yma o dy flaen, o flaen y deml (gan dy fod ti'n bresennol yma). Gallwn alw arnat ti a byddi'n gwrando ac yn ein hachub ni.’ Ond nawr mae byddinoedd Ammon, Moab a Mynydd Seir yn ymosod arnon ni! Dyma'r bobloedd wnest ti ddim gadael i Israel eu concro ar y ffordd allan o'r Aifft. Roedd rhaid i bobl Israel fynd heibio iddyn nhw a pheidio eu difa. Ac edrych sut maen nhw'n talu'n ôl i ni nawr! Maen nhw'n dod i'n gyrru ni allan o'r tir wnest ti ei roi i ni. Ein Duw, plîs wnei di eu cosbi nhw? Dŷn ni ddim ddigon cryf i wrthsefyll y fyddin enfawr yma sy'n ymosod arnon ni. Dŷn ni ddim yn gwybod beth i'w wneud. Dŷn ni'n troi atat ti am help.” Roedd dynion Jwda i gyd yn sefyll o flaen yr ARGLWYDD gyda'i babis bach, eu gwragedd a'u plant. Yna yng nghanol y dyrfa dyma Ysbryd yr ARGLWYDD yn disgyn ar un o'r Lefiaid o dylwyth Asaff, sef Iachsiel fab Sechareia (ŵyr i Benaia fab Jeiel, mab Mataneia). Dyma fe'n dweud, “Gwrandwch bobl Jwda, a chi sy'n byw yn Jerwsalem, a'r Brenin Jehosaffat. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud wrthoch chi, ‘Peidiwch bod ag ofn a peidiwch panicio am y fyddin fawr yma. Brwydr Duw ydy hon nid eich brwydr chi. Ewch allan yn eu herbyn yfory pan fyddan nhw'n dod i fyny drwy Fwlch Sis. Byddan nhw ym mhen draw'r ceunant, o flaen Anialwch Ierwel. Fyddwch chi ddim yn gorfod ymladd y frwydr yma. Byddwch yn sefyll lle rydych chi, ac yn gweld yr ARGLWYDD yn eich achub, bobl Jwda a Jerwsalem. Peidiwch bod ag ofn na panicio. Ewch allan yn eu herbyn yfory; mae'r ARGLWYDD gyda chi!’” Yna dyma Jehosaffat yn ymgrymu â'i wyneb ar lawr, a dyma bobl Jwda a'r rhai oedd yn byw yn Jerwsalem yn plygu i lawr i addoli'r ARGLWYDD. Yna dyma'r Lefiaid o deulu Cohath a theulu Cora yn sefyll a chanu mawl i'r ARGLWYDD, Duw Israel, ar dop eu lleisiau. Yn gynnar y bore wedyn dyma nhw'n martsio allan i gyfeiriad Anialwch Tecoa. Pan oedden nhw ar fin gadael dyma Jehosaffat yn sefyll a dweud, “Gwrandwch arna i bobl Jwda, a chi sy'n byw yn Jerwsalem. Os gwnewch chi drystio'r ARGLWYDD eich Duw, byddwch yn iawn. Credwch beth ddwedodd ei broffwydi a byddwch yn llwyddo.” Ar ôl trafod gyda'r bobl dyma fe'n gosod cerddorion o flaen y fyddin i addoli'r ARGLWYDD sydd mor hardd yn ei gysegr, a chanu, “Diolchwch i'r ARGLWYDD; Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!” Wrth iddyn nhw ddechrau gweiddi a moli dyma'r ARGLWYDD yn cael grwpiau i ymosod ar fyddinoedd Ammon, Moab a Mynydd Seir oedd yn dod i ryfela yn erbyn Jwda, a'u trechu nhw. Dyma filwyr Ammon a Moab yn ymosod ar filwyr Mynydd Seir a'u dinistrio nhw'n llwyr. Ar ôl iddyn nhw wneud hynny dyma nhw'n ymosod ar ei gilydd. Erbyn i fyddin Jwda gyrraedd y tŵr gwylio sy'n edrych allan i'r anialwch, y cwbl oedd ar ôl o'r fyddin fawr oedd cyrff marw ar lawr. Roedden nhw i gyd wedi eu lladd! Dyma Jehosaffat a'i filwyr yn mynd i gasglu beth allen nhw, a chael cymaint o offer, dillad a phethau gwerthfawr, roedd gormod ohono i'w gario! Cymerodd dri diwrnod cyfan iddyn nhw gasglu'r cwbl! Ar y pedwerydd diwrnod dyma pawb yn casglu at ei gilydd yn Nyffryn Beracha i addoli'r ARGLWYDD (Dyna pam mae'r lle yn cael ei alw yn Ddyffryn Beracha — sef Dyffryn y Fendith — hyd heddiw.) Yna dyma Jehosaffat yn arwain y dynion i gyd yn ôl i Jerwsalem yn llawen. Roedd yr ARGLWYDD wedi rhoi rheswm da iddyn nhw ddathlu! Dyma nhw'n mynd i mewn i'r ddinas i sŵn nablau, telynau ac utgyrn, a dyma nhw'n mynd yn syth i deml yr ARGLWYDD. Roedd gan y gwledydd o'u cwmpas ofn Duw ar ôl clywed sut roedd yr ARGLWYDD wedi ymladd yn erbyn gelynion Israel. Cafodd teyrnas Jehosaffat heddwch; roedd Duw wedi rhoi heddwch iddo o bob cyfeiriad. Daeth Jehosaffat yn frenin ar Jwda pan oedd yn dri deg pump oed. Bu'n frenin yn Jerwsalem am ddau ddeg pump o flynyddoedd. Aswba, merch Shilchi oedd ei fam. Fel Asa, ei dad, gwnaeth Jehosaffat bethau oedd yn plesio'r ARGLWYDD. Ond gafodd yr allorau lleol ddim eu cymryd i ffwrdd, a doedd y bobl yn dal ddim yn hollol ffyddlon i Dduw eu hynafiaid. Mae gweddill hanes Jehosaffat, o'r dechrau i'r diwedd, i'w cael yn Negeseuon Jehw fab Chanani, sydd wedi ei gadw yn y sgrôl, Hanes Brenhinoedd Israel. Yn ddiweddarach dyma Jehosaffat, brenin Jwda yn dod i gytundeb gydag Ahaseia, brenin Israel, oedd yn frenin drwg. Dyma nhw'n cytuno i adeiladu llongau masnach mawr ym mhorthladd Etsion-geber. A dyma Elieser fab Dodafa o Maresha yn proffwydo yn erbyn Jehosaffat, “Am dy fod ti wedi dod i gytundeb gydag Ahaseia, bydd yr ARGLWYDD yn dryllio dy waith.” A cafodd y llongau eu dryllio, a wnaethon nhw erioed hwylio. Pan fuodd Jehosaffat farw, cafodd ei gladdu gyda'i hynafiaid yn ninas Dafydd. Daeth ei fab Jehoram yn frenin yn ei le. Roedd gan Jehoram frodyr, sef Asareia, Iechiel, Sechareia, Asareiahw, Michael a Sheffateia. Roedd y rhain i gyd yn feibion i Jehosaffat, brenin Jwda. Roedd eu tad wedi rhoi llwythi o anrhegion iddyn nhw o arian, aur a gemau yn ogystal a trefi amddiffynnol yn Jwda. Ond Jehoram gafodd fod yn frenin am mai fe oedd yr hynaf. Ar ôl sefydlu ei hun yn frenin ar deyrnas ei dad, dyma fe'n lladd ei frodyr i gyd a rhai o arweinwyr Jwda hefyd. Roedd Jehoram yn dri deg dau pan ddaeth yn frenin, a bu'n teyrnasu yn Jerwsalem am wyth mlynedd. Roedd yn ymddwyn yr un fath â brenhinoedd Israel ac Ahab a'i deulu. Roedd wedi priodi merch Ahab, ac yn gwneud pethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD. Ond doedd yr ARGLWYDD ddim am ddinistrio teulu Dafydd am ei fod wedi gwneud ymrwymiad i Dafydd. Roedd wedi addo iddo byddai ei linach yn teyrnasu am byth. Yn ei gyfnod e dyma Edom yn gwrthryfela yn erbyn Jwda, a dewis eu brenin eu hunain. Felly dyma Jehoram yn croesi gyda'i swyddogion a'i gerbydau rhyfel. Roedd byddin Edom wedi ei amgylchynu. Dyma fe'n ymosod arnyn nhw ganol nos, ond colli'r frwydr wnaeth e. Mae Edom yn dal i wrthryfela yn erbyn Jwda hyd heddiw. Ac roedd tref Libna hefyd wedi gwrthryfela yr un pryd, ac ennill annibyniaeth. Roedd hyn wedi digwydd am fod Jehoram wedi troi cefn ar yr ARGLWYDD, Duw ei hynafiaid. Roedd wedi codi allorau lleol ar y bryniau yn Jwda, ac annog pobl Jerwsalem i addoli duwiau eraill. Roedd wedi arwain pobl Jwda ar gyfeiliorn. Dyma Jehoram yn cael llythyr oddi wrth Elias, y proffwyd, yn dweud, “Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw dy hynafiad Dafydd yn ei ddweud. ‘Dwyt ti ddim wedi ymddwyn yr un fath â Jehosaffat, dy dad ac Asa, brenin Jwda. Ti wedi ymddwyn fel brenhinoedd Israel, ac arwain pobl Jwda a'r rhai sy'n byw yn Jerwsalem i droi cefn ar yr ARGLWYDD, fel mae Ahab a'i deulu wedi gwneud yn Israel. Ac yn waeth na hynny, rwyt ti wedi lladd dy frodyr, ac roedden nhw'n well dynion na ti. Felly mae'r ARGLWYDD yn mynd i daro dy bobl, dy feibion, dy wragedd a phopeth sydd piau ti. A byddi di'n mynd yn sâl ac yn dioddef yn hir o afiechyd ar y bol fydd yn mynd o ddrwg i waeth nes bydd dy goluddyn yn dod allan.’” Dyma'r ARGLWYDD yn annog y Philistiaid a'r Arabiaid oedd yn byw ar gyrion Dwyrain Affrica i godi yn erbyn Jehoram. Dyma nhw'n ymosod ar Jwda, chwalu'r amddiffynfeydd, dwyn popeth gwerthfawr o balas y brenin, a chymryd ei feibion a'i wragedd yn gaethion. Ahaseia, ei fab ifancaf, oedd yr unig un gafodd ei adael ar ôl. Ar ben hyn i gyd dyma'r ARGLWYDD yn achosi i Jehoram ddioddef o salwch marwol yn ei fol. Ar ôl tua dwy flynedd, dyma'i goluddyn yn disgyn allan oherwydd y salwch, a bu farw mewn poen ofnadwy. Wnaeth ei bobl ddim cynnau tân i'w anrhydeddu, fel roedden nhw'n arfer gwneud gyda'i hynafiaid. Roedd Jehoram yn dri deg dau pan ddaeth yn frenin, a bu'n teyrnasu yn Jerwsalem am wyth mlynedd. Doedd neb yn ei golli pan fuodd e farw. Cafodd ei gladdu yn Ninas Dafydd, ond dim ym mynwent y brenhinoedd. Dyma bobl Jerwsalem yn gwneud Ahaseia, mab ifancaf Jehoram, yn frenin yn ei le. Roedd y fyddin wnaeth ymosod ar Jwda gyda'r Arabiaid wedi lladd y meibion hŷn i gyd. Felly daeth Ahaseia (mab Jehoram) yn frenin ar Jwda. Roedd Ahaseia yn ddau ddeg dau pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin am flwyddyn. Ei fam oedd Athaleia, wyres Omri. Roedd yn ymddwyn fel Ahab a'i deulu, a'i fam oedd yn ei arwain i wneud drwg. Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, fel roedd teulu Ahab wedi gwneud. Ar ôl i'w dad farw, nhw oedd yn ei gynghori, a dyna wnaeth arwain at ei gwymp. Dyma fe'n gwrando ar eu cyngor a mynd gyda Joram fab Ahab, brenin Israel i ryfela yn erbyn Hasael, brenin Syria, yn Ramoth-gilead. Cafodd Joram ei anafu yn y frwydr, ac aeth yn ôl i Jesreel i geisio gwella o'i glwyfau. Aeth Ahaseia, brenin Jwda, yno i ymweld ag e, am ei fod yn wael iawn. Roedd Duw wedi penderfynu y byddai'r ymweliad yma yn arwain at ddiwedd Joram. Tra roedd yno, dyma Ahaseia'n mynd allan gyda Joram yn erbyn Jehw fab Nimshi. (Roedd yr ARGLWYDD wedi penodi Jehw i ladd teulu Ahab i gyd.) Tra roedd Jehw wrthi'n cosbi teulu Ahab, dyma fe'n dod ar draws rhai o arweinwyr Jwda a meibion brodyr Ahaseia oedd yn teithio gydag e. A dyma Jehw yn eu lladd yn y fan a'r lle. Wedyn dyma fe'n anfon ei ddynion i chwilio am Ahaseia, a cafodd ei ddal yn cuddio yn Samaria. Pan aethon nhw ag e at Jehw, dyma Jehw yn ei ladd. Ond dyma nhw yn rhoi angladd iawn iddo, gan ei fod yn ŵyr i Jehosaffat oedd wedi dilyn yr ARGLWYDD â'i holl galon. Doedd neb ar ôl o deulu Ahaseia yn ddigon cryf i fod yn frenin. Pan glywodd Athaleia fod ei mab Ahaseia wedi marw, dyma hi'n mynd ati i gael gwared â llinach frenhinol Jwda i gyd. Ond dyma Jehosheba, merch i'r brenin Jehoram, yn cymryd Joas, mab ei brawd Ahaseia, a'i sleifio i ffwrdd oddi wrth aelodau eraill y teulu brenhinol cyn iddyn nhw gael eu lladd. Cuddiodd e gyda'i nyrs yn un o ystafelloedd gwely'r offeiriaid yn y deml. (Roedd Jehosheba yn ferch i'r brenin Jehoram, yn wraig i Jehoiada'r offeiriad, ac yn chwaer i Ahaseia.) Felly wnaeth Athaleia ddim dod o hyd i Joas, a chafodd e mo'i ladd ganddi. Bu'n cuddio gyda'i nyrs yn y deml am chwe mlynedd, tra roedd Athaleia'n rheoli'r wlad. Yna yn y seithfed flwyddyn dyma Jehoiada yn mentro gweithredu. Dyma fe'n gwneud cytundeb gyda'r swyddogion milwrol oedd yn arwain unedau o gannoedd: Asareia fab Ierocham, Ishmael fab Iehochanan, Asareia fab Obed, Maaseia fab Adaia, ac Elishaffat fab Sichri. Dyma'r dynion yma yn teithio o gwmpas Jwda ac yn casglu'r Lefiaid i gyd o'r trefi ac arweinwyr claniau Israel. A dyma nhw i gyd yn mynd i Jerwsalem. Dyma'r gynulleidfa yn ymrwymo yn y deml i fod yn ffyddlon i'r brenin. A dyma Jehoiada yn datgan, “Dyma fab y brenin! Bydd e yn teyrnasu fel dwedodd yr ARGLWYDD am ddisgynyddion Dafydd. Dyma dych chi i'w wneud: Bydd un rhan o dair ohonoch chi offeiriaid a Lefiaid sydd ar ddyletswydd ar y Saboth yn gwarchod y drysau. Bydd un rhan o dair yn gwarchod y palas, ac un rhan o dair wrth Giât y Sylfaen. Bydd pawb arall yn mynd i sefyll yn iard teml yr ARGLWYDD. Does neb i fynd i mewn i deml yr ARGLWYDD ond yr offeiriad a'r Lefiaid sydd ar ddyletswydd. Gallan nhw fynd i mewn am eu bod yn lân yn seremonïol. Rhaid i bawb arall wneud fel mae'r ARGLWYDD wedi dweud wrthyn nhw. Rhaid i'r Lefiaid sefyll o gwmpas y brenin gydag arfau yn eu dwylo. Os bydd unrhyw un yn dod i mewn i'r deml, rhaid ei ladd. Bydd y Lefiaid gyda'r brenin ble bynnag mae'n mynd.” Dyma'r Lefiaid a pobl Jwda yn gwneud yn union fel roedd Jehoiada'r offeiriad wedi dweud. Dyma pob un yn cymryd ei uned (y rhai oedd ar ddyletswydd ar y Saboth a'r rhai oedd yn rhydd — wnaeth Jehoiada ddim eu rhyddhau nhw o'u dyletswydd.) A dyma Jehoiada'r offeiriad yn rhoi gwaywffyn a tharianau bach a mawr i'r capteniaid, sef arfau y brenin Dafydd oedd yn cael eu cadw yn nheml ARGLWYDD. Yna dyma fe'n eu gosod yn eu lle i warchod y brenin, gyda'i harfau yn eu dwylo. Roedden nhw'n sefyll mewn llinell o un ochr y deml i'r llall, wrth yr allor ac ym mhob rhan o'r deml, i amddiffyn y brenin. Yna dyma Jehoiada a'i feibion yn dod â mab y brenin allan, a rhoi'r goron ar ei ben a chopi o'r rheolau sy'n dweud sut i lywodraethu. Yna dyma nhw'n cyhoeddi mai Joas oedd y brenin, ei eneinio trwy dywallt olew ar ei ben, a gweiddi, “Hir oes i'r brenin!” Dyma Athaleia'n clywed sŵn y cyffro a'r bobl yn canmol y brenin, a dyma hi'n mynd atyn nhw i'r deml. Yno dyma hi'n gweld y brenin yn sefyll wrth y piler wrth y fynedfa. Roedd y capteiniaid a'r trwmpedwyr o'i gwmpas, y bobl i gyd yn dathlu, yr utgyrn yn canu ffanffer a'r cerddorion gyda'i hofferynnau yn arwain y dathlu. Pan welodd hyn i gyd, dyma Athaleia'n rhwygo ei dillad a sgrechian gweiddi, “Brad! Brad!” Yna dyma Jehoiada'r offeiriad yn galw capteniaid y gwarchodlu, oedd yn arwain y milwyr, a dweud wrthyn nhw, “Ewch â hi allan o'r deml at y rhengoedd, a lladdwch unrhyw un sydd gyda hi.” Roedd wedi dweud hyn am nad oedd hi i gael ei lladd yn y deml. Felly dyma nhw'n ei harestio hi a mynd â hi i'r palas brenhinol drwy'r fynedfa i'r stablau. A dyna lle cafodd hi ei lladd. Dyma Jehoiada yn selio'r ymrwymiad rhyngddo'i hun, y bobl, a'r brenin, iddyn nhw fod yn bobl ffyddlon i'r ARGLWYDD. Yna aeth y dyrfa i gyd i mewn i deml Baal a'i dinistrio. Dyma nhw'n chwalu'r allorau a malu'r delwau i gyd yn ddarnau mân, a cafodd Mattan, offeiriad Baal, ei ladd o flaen yr allorau. Roedd Jehoiada wedi gosod gwarchodlu i wylio teml yr ARGLWYDD, a rhoi eu cyfrifoldebau i'r offeiriaid o lwyth Lefi, fel roedd Dafydd wedi trefnu. Nhw oedd yn gyfrifol am yr aberthau oedd i'w llosgi i'r ARGLWYDD, fel mae cyfraith Moses yn dweud, a hefyd y dathlu a'r gerddoriaeth, fel roedd Dafydd wedi trefnu. Gosododd ofalwyr i wylio giatiau teml yr ARGLWYDD, i wneud yn siŵr fod neb oedd yn aflan mewn rhyw ffordd yn gallu mynd i mewn. Yna dyma fe'n galw capteniaid yr unedau o gannoedd, yr arweinwyr, a'r swyddogion. A dyma'r dyrfa gyfan yn eu dilyn nhw ac yn arwain y brenin mewn prosesiwn, o'r deml i'r palas drwy'r Giât Uchaf. A dyma nhw'n gosod y brenin i eistedd ar yr orsedd. Roedd pawb drwy'r wlad i gyd yn dathlu. Roedd y ddinas yn heddychlon eto, ac Athaleia wedi cael ei lladd. Roedd Joas yn saith oed pan gafodd ei wneud yn frenin ar Jwda. Bu'n frenin yn Jerwsalem am bedwar deg o flynyddoedd. Enw ei fam oedd Sifia, ac roedd hi'n dod o Beersheba. Pan oedd Jehoiada'r offeiriad yn dal yn fyw, gwnaeth Joas beth oedd yn plesio'r ARGLWYDD. Jehoiada wnaeth ddewis dwy wraig iddo, a cafodd y ddwy blant iddo — meibion a merched. Dyma Joas yn penderfynu atgyweirio teml yr ARGLWYDD. Galwodd yr offeiriaid a'r Lefiaid at ei gilydd, a dweud wrthyn nhw, “Ewch i drefi Jwda i gyd a casglu'r dreth flynyddol gan bobl Israel, i drwsio teml eich Duw. A gwnewch y peth ar unwaith!” Ond dyma'r Lefiaid yn oedi. Felly dyma'r brenin yn galw Jehoiada'r archoffeiriad i fynd i'w weld, a gofyn iddo, “Pam wyt ti ddim wedi cael y Lefiaid i gasglu'r dreth osododd Moses ar bobl Israel tuag at gynnal pabell y dystiolaeth? Roedden nhw i fod i fynd allan drwy Jwda a Jerwsalem yn ei gasglu.” (Roedd y wraig ddrwg yna, Athaleia, a'i meibion, wedi torri i mewn i deml Dduw a defnyddio llestri cysegredig teml yr ARGLWYDD i addoli duwiau Baal!) Felly dyma'r brenin yn gorchymyn gwneud cist i'w gosod tu allan i'r giât oedd yn arwain i deml yr ARGLWYDD. Wedyn dyma neges yn cael ei hanfon allan drwy Jwda a Jerwsalem yn gorchymyn i'r bobl ddod i dalu'r dreth oedd Moses, gwas Duw, wedi ei osod ar bobl Israel yn yr anialwch. A dyma'r arweinwyr a'r bobl i gyd yn gwneud hynny'n frwd, ac yn taflu'r arian i'r gist nes oedd hi'n llawn. Wedyn pan oedd y Lefiaid yn gweld fod y gist yn llawn, roedden nhw'n mynd â hi at swyddogion y brenin. Yna roedd ysgrifennydd y brenin a'r prif-offeiriad yn gwagio'r gist ac yna mynd â hi yn ôl i'w lle. Roedd hyn yn digwydd bob dydd am amser hir, a dyma nhw'n casglu lot fawr o arian. Wedyn roedd y brenin a Jehoiada yn rhoi'r arian i'r dynion oedd yn arolygu'r gwaith ar deml yr ARGLWYDD. Roedden nhw'n ei ddefnyddio i gyflogi seiri maen a seiri coed, gweithwyr haearn a chrefftwyr pres i atgyweirio a thrwsio teml yr ARGLWYDD. Pan oedden nhw wedi gorffen eu gwaith, dyma nhw'n mynd â'r arian oedd yn weddill yn ôl i'r brenin a Jehoiada. Cafodd yr arian hwnnw ei ddefnyddio i wneud offer i deml yr ARGLWYDD — offer ar gyfer y gwasanaethau a'r offrymau i'w llosgi, powlenni arogldarth, a llestri eraill o aur ac arian. Roedd offrymau i'w llosgi yn cael eu cyflwyno'n gyson yn y deml ar hyd y cyfnod pan oedd Jehoiada yn fyw. Dyma Jehoiada yn byw i fod yn hen iawn. Bu farw yn gant tri deg oed. Cafodd ei gladdu yn ninas Dafydd gyda'r brenhinoedd, am ei fod wedi gwneud cymaint o dda i Israel ar ran Duw a'i deml. Ar ôl i Jehoiada farw, dyma arweinwyr Jwda yn dod i gydnabod y brenin. Ond dyma fe'n gwrando ar eu cyngor nhw, troi cefn ar deml yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid, a dechrau addoli'r dduwies Ashera a'r delwau. Roedd Duw wedi digio go iawn hefo pobl Jwda a Jerwsalem am iddyn nhw wneud hyn. Anfonodd yr ARGLWYDD broffwydi atyn nhw i'w cael i droi yn ôl ato, ond doedden nhw'n cymryd dim sylw. Daeth ysbryd yr ARGLWYDD ar Sechareia (mab Jehoiada'r offeiriad), a dyma fe'n sefyll o flaen y bobl a cyhoeddi, “Dyma mae Duw'n ddweud. ‘Pam ydych chi'n torri gorchmynion yr ARGLWYDD? Fyddwch chi ddim yn llwyddo. Am i chi droi cefn ar yr ARGLWYDD, mae e wedi troi cefn arnoch chi.’” Ond dyma nhw'n cynllwynio yn ei erbyn, a dyma'r brenin yn gorchymyn ei ladd trwy daflu cerrig ato yn iard y deml. Wnaeth Joas y brenin ddim meddwl mor ffyddlon oedd Jehoiada (tad Sechareia) wedi bod iddo, a dyma fe'n lladd ei fab. Wrth iddo farw, dyma Sechareia'n dweud, “Boed i'r ARGLWYDD weld hyn a dy ddal di'n gyfrifol.” Ar ddiwedd y flwyddyn honno, dyma byddin Syria'n dod i ryfela yn erbyn Joas. Dyma nhw'n ymosod ar Jwda a Jerwsalem ac yn lladd yr arweinwyr i gyd, a dwyn popeth o werth a'i gymryd i frenin Damascus. Er mai byddin fechan anfonodd Syria, dyma'r ARGLWYDD yn rhoi buddugoliaeth iddyn nhw dros fyddin llawer mwy Jwda, am fod pobl Jwda wedi troi cefn ar yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid. Cafodd Joas beth roedd e'n ei haeddu. Roedd e wedi ei anafu'n ddrwg yn y frwydr, ac ar ôl i fyddin Syria adael dyma weision Joas yn cynllwynio yn ei erbyn am ei fod wedi lladd mab Jehoiada'r offeiriad. Dyma nhw'n ei lofruddio yn ei wely. Cafodd ei gladdu yn Ninas Dafydd, ond ddim ym mynwent y brenhinoedd. Y rhai wnaeth gynllwynio yn ei erbyn oedd Safad, mab Shimeath (gwraig o wlad Ammon), a Iehosafad, mab Shimrith (gwraig o Moab). Mae hanes ei feibion a'r nifer fawr o negeseuon gan Dduw yn ei erbyn, a'i hanes yn atgyweirio'r deml wedi eu cadw i gyd yn yr ysgrifau yn sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel. Daeth ei fab Amaseia yn frenin yn ei le. Roedd Amaseia'n ddau ddeg pum mlwydd oed pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin am ddau ddeg naw o flynyddoedd. Enw ei fam oedd Iehoadan, ac roedd hi'n dod o Jerwsalem. Roedd yn gwneud beth oedd yn plesio'r ARGLWYDD, er, doedd e ddim yn hollol ffyddlon. Wedi iddo wneud yn siŵr fod ei afael ar y deyrnas yn ddiogel, dyma fe'n dienyddio'r swyddogion hynny oedd wedi llofruddio ei dad, y brenin. Ond wnaeth e ddim lladd eu plant nhw, am mai dyna oedd sgrôl Moses yn ei ddweud. Dyma'r gorchymyn oedd yr ARGLWYDD wedi ei roi: “Ddylai rhieni ddim cael eu lladd am droseddau eu plant, na'r plant am droseddau eu tadau. Y troseddwr ei hun ddylai farw.” Dyma Amaseia'n casglu dynion Jwda at ei gilydd a rhoi trefn ar ei fyddin drwy benodi capteniaid ar unedau o fil a capteiniaid ar unedau o gant, a gosod teuluoedd Jwda a Benjamin yn yr unedau hynny. Dyma fe'n cyfrif y rhai oedd yn ddau ddeg oed neu'n hŷn, ac roedd yna 300,000 o ddynion da yn barod i ymladd gyda gwaywffyn a thariannau. Talodd dros dair mil cilogram o arian i gyflogi can mil o filwyr o Israel hefyd. Ond daeth proffwyd ato a dweud, “O Frenin, paid mynd â milwyr Israel allan gyda ti. Dydy'r ARGLWYDD ddim gyda Israel, sef dynion Effraim. Hyd yn oed os byddi'n ymladd yn galed, bydd Duw yn gadael i dy elynion ennill y frwydr. Mae Duw yn gallu helpu byddin a threchu byddin.” “Ond dw i wedi talu arian mawr i fyddin Israel — dros dair mil cilogram o arian,” meddai Amaseia. A dyma'r proffwyd yn ateb, “Mae'r ARGLWYDD yn gallu rhoi lot mwy na hynny i ti.” Felly dyma Amaseia'n anfon y milwyr oedd wedi dod o Effraim adre. Roedden nhw'n ddig gyda Jwda, a dyma nhw'n mynd yn ôl i'w gwlad eu hunain wedi gwylltio'n lân. Yna dyma Amaseia'n magu plwc ac arwain ei fyddin i ryfel yn Nyffryn yr Halen, a lladd deg mil o filwyr Edom. Roedden nhw wedi dal deg mil arall yn fyw. Dyma nhw'n eu harwain i ben clogwyn a'u gwthio dros yr ymyl, a cawson nhw i gyd eu lladd ar y creigiau islaw. Yn y cyfamser dyma'r milwyr oedd Amaseia wedi eu hanfon adre yn ymosod ar drefi Jwda rhwng Samaria a Beth-choron. Cafodd tair mil o bobl eu lladd ganddyn nhw a dyma nhw'n dwyn lot fawr o ysbail. Ar ôl ennill y frwydr yn erbyn byddin Edom, dyma Amaseia'n dod â'u duwiau nhw gydag e. Gwnaeth nhw'n dduwiau iddo'i hun, a'u haddoli a llosgi arogldarth o'u blaen. Roedd yr ARGLWYDD yn ddig gydag Amaseia a dyma fe'n anfon proffwyd ato gyda'r neges yma, “Pam wyt ti'n troi at y duwiau yma oedd yn methu achub eu pobl eu hunain o dy afael?” Ond dyma Amaseia yn torri ar ei draws. “Ydw i wedi dy benodi di yn gynghorwr brenhinol? Cau dy geg! Neu bydda i'n gorchymyn i ti gael dy ladd!” Dyma'r proffwyd yn stopio, ond yna ychwanegu, “Bydd Duw yn dy ladd di am wneud hyn a peidio gwrando arna i.” Yna dyma Amaseia, brenin Jwda, yn derbyn cyngor ei gynghorwyr, ac yn anfon neges at Jehoas brenin Israel (mab Jehoachas ac ŵyr Jehw). Y neges oedd, “Tyrd, gad i ni wynebu'n gilydd mewn brwydr.” Dyma Jehoas, brenin Israel, yn anfon neges yn ôl at Amaseia yn dweud: “Un tro yn Libanus dyma ddraenen fach yn afon neges at goeden gedrwydd fawr i ddweud, ‘Rho dy ferch yn wraig i fy mab i.’ Ond dyma anifail gwyllt yn dod heibio a sathru'r ddraenen dan draed! Ti'n dweud dy fod wedi gorchfygu Edom, ond mae wedi mynd i dy ben di! Mwynha dy lwyddiant nawr ac aros adre. Wyt ti'n edrych am drwbwl? Dw i'n dy rybuddio di, byddi di a dy deyrnas yn syrthio gyda'ch gilydd!” Ond doedd Amaseia ddim am wrando. (Duw oedd tu ôl i'r peth — roedd e am i'r gelyn eu gorchfygu nhw am eu bod nhw wedi mynd ar ôl duwiau Edom). Felly dyma Jehoas, brenin Israel, yn mynd i ryfel yn ei erbyn. Dyma nhw'n dod wyneb yn wyneb yn Beth-shemesh ar dir Jwda. Byddin Israel wnaeth ennill y frwydr, a dyma filwyr Jwda i gyd yn dianc am adre. Roedd Jehoas, brenin Israel, wedi dal Amaseia, brenin Jwda, yn Beth-shemesh. A dyma fe'n mynd ag e i Jerwsalem a chwalu waliau'r ddinas o Giât Effraim at Giât y Gornel, pellter o bron i ddau can metr. Yna dyma fe'n cymryd yr holl aur ac arian, a'r llestri oedd yn y deml dan ofal Obed-Edom. Cymerodd drysorau'r palas hefyd, a gwystlon, cyn mynd yn ôl i Samaria. Cafodd Amaseia fab Joas, brenin Jwda, fyw am un deg pump o flynyddoedd ar ôl i Jehoas, brenin Israel, farw. Mae gweddill hanes Amaseia, o'r dechrau i'r diwedd, i'w gael yn y sgrôl Brenhinoedd Jwda ac Israel. Pan wnaeth e droi cefn ar yr ARGLWYDD dyma rhywrai yn Jerwsalem yn cynllwynio yn ei erbyn, a dyma fe'n dianc i Lachish. Ond dyma nhw'n anfon dynion ar ei ôl a'i ladd yno. Dyma'r corff yn cael ei gymryd yn ôl ar geffylau, a cafodd ei gladdu yn Ninas Dafydd gyda'i hynafiaid. Dyma bobl Jwda yn cymryd Wseia, oedd yn un deg chwech mlwydd oed, a'i wneud yn frenin yn lle ei dad Amaseia. Adeiladodd Wseia dref Elat a'i hadfer i Jwda ar ôl i'r brenin Amaseia farw. Un deg chwech oedd e pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am bum deg dwy o flynyddoedd. Enw ei fam oedd Jecholeia, ac roedd hi'n dod o Jerwsalem. Fel ei dad Amaseia roedd yn gwneud beth oedd yn plesio'r ARGLWYDD. Sechareia oedd cynghorydd ysbrydol Wseia, a tra roedd Sechareia'n fyw roedd Wseia'n dilyn yr ARGLWYDD, ac roedd Duw yn gwneud iddo lwyddo. Aeth i ryfel yn erbyn y Philistiaid, a chwalu waliau Gath, Iabne ac Ashdod. Wedyn adeiladodd drefi yn ardal Ashdod ac ar hyd a lled tiriogaeth y Philistiaid. Roedd Duw wedi ei helpu yn ei ymgyrchoedd yn erbyn y Philistiaid, yr Arabiaid oedd yn byw yn Gwr-baal, a'r Mewniaid. Roedd yr Ammoniaid yn talu trethi iddo hefyd, a daeth yn enwog hyd at ffiniau gwlad yr Aifft am ei fod mor gryf. Dyma Wseia'n adeiladu a chryfhau tyrau amddiffynnol yn Jerwsalem, wrth Giât y Gornel, Giât y Dyffryn a lle mae'r ongl yn y wal. Adeiladodd dyrau amddiffynnol a chloddio pydewau yn yr anialwch hefyd, gan fod ganddo lawer o anifeiliaid yn Seffela ac ar y gwastadedd. Roedd yn hoff iawn o ffermio. Roedd ganddo weithiwr yn trin y tir a gofalu am y gwinllannoedd ar y bryniau ac yn Carmel. Roedd gan Wseia fyddin o filwyr yn barod i ryfela. Roedden nhw wedi cael eu trefnu yn gatrawdau gan Jeiel yr ysgrifennydd a Maaseia oedd yn swyddog yn y fyddin. Chananeia, un o swyddogion y brenin, oedd yn goruchwylio'r cyfan. Roedd yna 2,600 o bennau teuluoedd yn arwain catrawd o filwyr yn y fyddin. Roedd byddin o 370,500 o filwyr ganddyn nhw, yn barod i amddiffyn y brenin yn erbyn ei elynion. Dyma Wseia'n paratoi digon o darianau, gwaywffyn, helmedau, arfwisg, bwâu a ffyn tafl a cherrig i'r fyddin gyfan. Dyma fe'n cael pobl i ddyfeisio peiriannau rhyfel a'u gosod ar dyrau a chorneli waliau Jerwsalem. Roedd y rhain yn gallu taflu saethau a cherrig mawr. Roedd Duw wedi helpu Wseia a'i wneud yn arweinydd pwerus iawn, ac roedd yn enwog yn bell ac agos. Ond wrth fynd yn gryf dyma fe'n troi'n falch. Ac aeth ei falchder yn drech nag e. Bu'n anffyddlon i'r ARGLWYDD ei Dduw. Aeth i mewn i deml yr ARGLWYDD a llosgi arogldarth ar allor yr arogldarth. Dyma Asareia ac wyth deg o offeiriaid dewr yn mynd ar ei ôl. Dyma nhw'n herio Wseia a dweud wrtho, “Nid dy le di, Wseia, ydy llosgi arogldarth i'r ARGLWYDD. Cyfrifoldeb yr offeiriaid, disgynyddion Aaron, ydy gwneud hynny. Maen nhw wedi cael eu neilltuo'n arbennig i'r gwaith. Dos allan o'r deml. Ti wedi bod yn anffyddlon, a fydd yr ARGLWYDD ddim yn dy anrhydeddu di am hyn.” Roedd Wseia wedi gwylltio. Roedd ganddo lestr o arogldarth yn ei law, ac wrth iddo arthio a gweiddi ar yr offeiriaid dyma glefyd heintus yn torri allan ar ei dalcen. Digwyddodd hyn o flaen llygaid yr offeiriaid, yn y deml wrth ymyl allor yr arogldarth. Pan welodd Asareia'r archoffeiriad, a'r offeiriaid eraill, y dolur ar ei dalcen, dyma nhw'n ei hel allan ar frys. Yn wir roedd e ei hun yn brysio i fynd allan gan mai'r ARGLWYDD oedd wedi ei daro'n wael. Bu Wseia'n dioddef o glefyd heintus ar y croen nes iddo farw. Roedd rhaid iddo fyw ar wahân i bawb arall, a doedd e ddim yn cael mynd i deml yr ARGLWYDD. Ei fab Jotham oedd yn rhedeg y palas ac yn rheoli'r wlad bryd hynny. Mae gweddill hanes Wseia, o'r dechrau i'r diwedd, wedi ei ysgrifennu gan y proffwyd Eseia fab Amos. Pan fu farw, cafodd Wseia ei gladdu heb fod yn bell o ble claddwyd ei hynafiaid, ond mewn mynwent arall oedd yn perthyn i'r brenhinoedd. (Cafodd ei osod ar wahân am ei fod yn dioddef o glefyd heintus ar y croen.) A daeth ei fab Jotham yn frenin yn ei le. Roedd Jotham yn ddau ddeg pum mlwydd oed pan ddaeth e'n frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am un deg chwech o flynyddoedd. Enw ei fam oedd Ierwsa, merch Sadoc. Fel ei dad Wseia, roedd yn gwneud beth oedd yn plesio'r ARGLWYDD. (Ond wnaeth e ddim beiddio torri rheolau'r deml fel y gwnaeth ei dad). Ac eto roedd y bobl yn dal i bechu. Jotham adeiladodd Giât Uchaf y deml, a gwnaeth lot o waith yn ailadeiladu'r wal wrth fryn Offel. Adeiladodd drefi ar fryniau Jwda, a chaerau a thyrau amddiffynnol yn y coedwigoedd. Aeth i ryfel yn erbyn brenin yr Ammoniaid, a'i drechu. Talodd yr Ammoniaid dros dair mil cilogram o arian, mil o dunelli o wenith a mil o dunelli o haidd iddo. Roedd rhaid iddyn nhw dalu yr un faint y ddwy flynedd ganlynol hefyd. Aeth Jotham yn fwy a mwy pwerus, am ei fod yn benderfynol ei fod yn mynd i blesio yr ARGLWYDD ei Dduw. Mae gweddill hanes ei deyrnasiad, ei ymgyrchoedd milwrol a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w gweld yn y sgrôl Brenhinoedd Israel a Jwda. Roedd Jotham yn ddau ddeg pum mlwydd oed pan ddaeth e'n frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am un deg chwech o flynyddoedd. Pan fu Jotham farw, dyma nhw'n ei gladdu yn Ninas Dafydd. A daeth ei fab Ahas yn frenin yn ei le. Roedd Ahas yn ddau ddeg mlwydd oed pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am un deg chwech o flynyddoedd. Ond wnaeth e ddim plesio'r ARGLWYDD fel gwnaeth y Brenin Dafydd. Roedd yn ymddwyn yr un fath â brenhinoedd Israel. Yn waeth na hynny, gwnaeth ddelwau metel o dduwiau Baal, aberthu iddyn nhw yn Nyffryn Ben-hinnom, a llosgi ei fab yn aberth — arferiad cwbl ffiaidd y bobloedd roedd yr ARGLWYDD wedi eu gyrru allan o'r wlad o flaen Israel. Roedd yn aberthu anifeiliaid a llosgi arogldarth ar yr allorau lleol ar y bryniau ac o dan pob coeden ddeiliog. Felly dyma'r ARGLWYDD yn gadael i frenin Syria ymosod arno a'i goncro. Cafodd llawer o'r bobl eu cymryd yn gaeth i Damascus. Wedyn dyma frenin Israel yn ei orchfygu hefyd, a cafodd llawer iawn o'i fyddin eu lladd. Lladdwyd 120,000 o filwyr Jwda mewn un diwrnod gan fyddin Pecach fab Remaleia, brenin Israel. Digwyddodd hyn i gyd am fod Jwda wedi troi cefn ar yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid. Roedd Sichri, un o arwyr Effraim, wedi lladd Maaseia mab y brenin, Asricam prif swyddog y palas, ac Elcana y swyddog uchaf yn y deyrnas ar ôl y brenin ei hun. Cymerodd yr Israeliaid 200,000 o bobl yn gaeth — gwragedd a phlant. Ac roedden nhw wedi dwyn lot fawr o bethau gwerthfawr hefyd a mynd â'r cwbl yn ôl i Samaria. Roedd yna broffwyd i'r ARGLWYDD o'r enw Oded yn Samaria. Dyma fe'n mynd i gyfarfod y fyddin wrth iddyn nhw gyrraedd y ddinas, a dwedodd wrthyn nhw, “Gwrandwch. Roedd yr ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, wedi digio gyda Jwda, a gadawodd i chi eu trechu nhw. Ond dych chi wedi mynd dros ben llestri, a lladd yn gwbl ddidrugaredd, ac mae Duw wedi sylwi. A dyma chi nawr yn bwriadu gorfodi pobl Jwda a Jerwsalem i fod yn gaethweision a caethforynion i chi. Ydych chi hefyd ddim wedi gwneud drwg yng ngolwg yr ARGLWYDD eich Duw? Nawr, gwrandwch arna i. Anfonwch y rhai dych chi wedi eu cymryd yn gaeth yn ôl adre. Mae'r ARGLWYDD wedi gwylltio gyda chi.” Yna dyma rai o arweinwyr Effraim (sef Asareia fab Iehochanan, Berecheia fab Meshilemoth, Iechisceia fab Shalwm ac Amasa fab Chadlai), yn mynd i wynebu'r rhai oedd wedi dod yn ôl o'r frwydr. Dyma nhw'n dweud wrthyn nhw, “Gewch chi ddim dod â'r bobl gymeroch chi'n gaethion yma, i'n gwneud ni'n euog hefyd. Mae'r ARGLWYDD wedi digio gydag Israel fel y mae hi, heb fynd i wneud pethau'n waeth.” Felly o flaen yr arweinwyr a phawb dyma'r milwyr yn rhyddhau'r bobl oedd wedi eu cymryd yn gaeth, a rhoi popeth roedden nhw wedi ei gymryd yn ysbail yn ôl. Cafodd dynion eu dewis i ofalu am y bobl. Dyma nhw'n ffeindio dillad o'r ysbail i'r rhai oedd yn noeth eu gwisgo, rhoi sandalau, bwyd a diod iddyn nhw, ac olew i'w rwbio ar eu croen. Yna dyma nhw'n rhoi pawb oedd yn methu cerdded ar asynnod, a mynd â nhw i gyd yn ôl at eu perthnasau i Jericho, dinas y palmwydd. Wedyn dyma'r dynion yn dod yn ôl adre i Samaria. Bryd hynny dyma'r Brenin Ahas yn gofyn i frenin Asyria am help. Roedd byddin Edom wedi ymosod ar Jwda unwaith eto a chymryd pobl yn gaeth. Roedd y Philistiaid hefyd wedi bod yn ymosod ar drefi Jwda yn yr iseldir a'r Negef. Roedden nhw wedi concro a setlo yn Beth-shemesh, Aialon a Gederoth, a hefyd Socho, Timna a Gimso a'r pentrefi o'u cwmpas. Roedd yr ARGLWYDD yn dysgu gwers i Jwda am fod Ahas yn anffyddlon i'r ARGLWYDD ac wedi gadael i bethau fynd allan o reolaeth yn llwyr. Daeth Tiglath-pileser brenin Asyria ato, ond gwnaeth bethau'n waeth iddo yn lle ei helpu. Cymerodd Ahas drysorau o'r deml, y palas, ac o dai ei swyddogion a rhoi'r cwbl i frenin Asyria. Ond wnaeth hynny ddim ei helpu e. Drwy'r holl drafferthion i gyd roedd Ahas yn mynd o ddrwg i waeth, ac yn fwy anffyddlon nac erioed. Dechreuodd aberthu i dduwiau Damascus oedd wedi ei orchfygu. Roedd yn meddwl, “Gwnaeth duwiau Syria eu helpu nhw. Os gwna i aberthu iddyn nhw, falle y gwnân nhw fy helpu i.” Ond achosodd hynny ei gwymp e a Jwda gyfan. Dyma Ahas yn casglu holl lestri'r deml a'u malu'n ddarnau. Yna dyma fe'n cau drysau teml yr ARGLWYDD a chodi allorau paganaidd ar gornel pob stryd yn Jerwsalem. Cododd allorau lleol ym mhob tref yn Jwda i losgi arogldarth i dduwiau eraill. Roedd yr ARGLWYDD, Duw ei hynafiaid, wedi gwylltio'n lân gydag e. Mae gweddill hanes Ahas, a'r hyn wnaeth e, o'r dechrau i'r diwedd, i'w gweld yn y sgrôl Brenhinoedd Jwda ac Israel. Pan fuodd Ahas farw, dyma nhw'n ei gladdu gyda'i hynafiaid yn y ddinas, sef Jerwsalem. Wnaethon nhw ddim ei osod ym mynwent brenhinoedd Israel. A dyma Heseceia, ei fab, yn dod yn frenin yn ei le. Daeth Heseceia yn frenin pan oedd yn ddau ddeg pum mlwydd oed, a bu'n frenin yn Jerwsalem am ddau ddeg naw o flynyddoedd. Enw ei fam oedd Abeia, merch Sechareia. Fel y Brenin Dafydd, ei hynafiad, roedd yn gwneud beth oedd yn plesio'r ARGLWYDD. Yn syth ar ôl iddo ddod yn frenin, dyma Heseceia'n agor drysau teml yr ARGLWYDD a'u trwsio. Dyma fe'n casglu'r offeiriad a'r Lefiaid at ei gilydd yn y sgwâr ar ochr ddwyreiniol y deml, a'u hannerch, “Chi Lefiaid, gwrandwch arna i. Ewch trwy'r ddefod o buro eich hunan cyn mynd ati i gysegru teml yr ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid. Taflwch bopeth sy'n aflan allan o'r Lle Sanctaidd. Mae'n hynafiaid wedi bod yn anffyddlon a gwneud pethau oedd ddim yn plesio'r ARGLWYDD. Roedden nhw wedi troi cefn arno fe a'i deml. Dyma nhw'n cau drysau'r cyntedd a diffodd y lampau. Doedden nhw ddim yn llosgi arogldarth na chyflwyno aberthau yn y lle yma gafodd ei gysegru i Dduw Israel. Dyna pam roedd yr ARGLWYDD wedi digio gyda Jwda a Jerwsalem. Mae'n gwbl amlwg fod beth sydd wedi digwydd yn ofnadwy; mae'n achos dychryn a rhyfeddod i bobl. Dyna pam cafodd dynion eu lladd yn y rhyfel, ac wedyn eu gwragedd a'u plant yn cael eu cymryd yn gaethion. “Nawr, dw i eisiau gwneud ymrwymiad i'r ARGLWYDD, Duw Israel. Falle wedyn y bydd e'n stopio bod mor ddig gyda ni. Felly, ffrindiau, peidiwch bod yn esgeulus. Mae'r ARGLWYDD wedi eich dewis chi i'w wasanaethu ac i losgi arogldarth iddo.” A dyma'r Lefiaid yma yn codi i wneud beth roedd y brenin yn ei orchymyn: Disgynyddion Cohath: Machat fab Amasai a Joel fab Asareia Disgynyddion Merari: Cish fab Afdi ac Asareia fab Jehalel-el Disgynyddion Gershon: Ioach fab Simma ac Eden fab Ioach Disgynyddion Elitsaffan: Shimri a Jeiel Disgynyddion Asaff: Sechareia a Mataneia Disgynyddion Heman: Iechiel a Shimei Disgynyddion Iedwthwn: Shemaia ac Wssiel. Yna dyma nhw'n casglu gweddill y Lefiaid at ei gilydd a mynd trwy'r ddefod o buro eu hunain. A wedyn mynd ati i gysegru teml yr ARGLWYDD, fel roedd y brenin wedi dweud. Roedden nhw'n gwneud popeth yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn. Aeth yr offeiriaid i mewn i'r deml i'w phuro. A dyma nhw'n dod â phopeth oedd yn aflan allan i'r iard, cyn i'r Lefiaid fynd a'r cwbl allan i ddyffryn Cidron. Roedd y gwaith glanhau wedi dechrau ar ddiwrnod cynta'r mis cyntaf. Mewn wythnos roedden nhw wedi cyrraedd cyntedd teml yr ARGLWYDD. Wedyn am wythnos arall buon nhw'n cysegru'r deml, a cafodd y gwaith ei orffen ar ddiwrnod un deg chwech o'r mis. Yna dyma nhw'n mynd at y Brenin Heseceia a dweud, “Dŷn ni wedi cysegru teml yr ARGLWYDD i gyd, yr allor i losgi aberthau a'i hoffer i gyd, a'r bwrdd mae'r bara i'w osod yn bentwr arno gyda'i holl lestri. Dŷn ni hefyd wedi cysegru'r holl lestri wnaeth y Brenin Ahas eu taflu allan pan oedd yn anffyddlon i Dduw. Maen nhw yn ôl o flaen yr allor.” Yna'n gynnar y bore wedyn dyma Heseceia'n galw arweinwyr y ddinas at ei gilydd a mynd i deml yr ARGLWYDD. Aethon nhw â saith tarw ifanc, saith hwrdd, saith oen a saith bwch gafr yn aberth dros bechod y deyrnas, y deml a gwlad Jwda. A dyma'r brenin yn gofyn i'r offeiriaid (disgynyddion Aaron) eu llosgi'n offrymau ar allor yr ARGLWYDD. Felly dyma'r offeiriaid yn lladd y teirw a sblasio'r gwaed o gwmpas yr allor. Yna gwneud yr un peth gyda'r hyrddod a'r ŵyn. Yna'n olaf dyma nhw'n dod â'r bwch geifr (oedd i fod yn offrwm i lanhau o bechod) at y brenin a'r bobl eraill oedd yno iddyn nhw osod eu dwylo ar ben y geifr. Wedyn dyma'r offeiriaid yn eu lladd a rhoi'r gwaed ar yr allor yn offrwm dros bechodau Israel gyfan. Roedd y brenin wedi dweud fod yr offrymau i'w llosgi a'r aberthau dros bechodau Israel gyfan. Yna dyma'r Brenin Heseceia yn gosod y Lefiaid yn eu lle yn nheml yr ARGLWYDD gyda symbalau, nablau a thelynau, fel roedd y brenin Dafydd wedi dweud. (Yr ARGLWYDD oedd wedi rhoi'r cyfarwyddiadau yma drwy Gad, proffwyd y brenin a'r proffwyd Nathan). Felly roedd y Lefiaid yn sefyll gydag offerynnau'r Brenin Dafydd, a'r offeiriaid gydag utgyrn. A dyma Heseceia'n rhoi'r gair iddyn nhw losgi'r offrymau ar yr allor. Wrth iddyn nhw ddechrau gwneud hynny dyma ddechrau canu mawl i'r ARGLWYDD i gyfeiliant yr utgyrn ac offerynnau Dafydd, brenin Israel. Roedd y gynulleidfa gyfan yn plygu i lawr i addoli, y cantorion yn canu a'r utgyrn yn seinio nes i'r offrwm orffen llosgi. Ar ôl llosgi'r offrwm dyma'r brenin a phawb oedd gydag e yn plygu i lawr ac addoli. Yna dyma'r Brenin Heseceia yn dweud wrth y Lefiaid am foli'r ARGLWYDD drwy ganu'r caneuon ysgrifennodd y brenin Dafydd a'r proffwyd Asaff. Felly buon nhw wrthi'n canu'n llawen ac yn plygu i lawr ac yn addoli. Yna dyma Heseceia'n dweud, “Nawr dych chi wedi rhoi eich hunain yn llwyr i'r ARGLWYDD. Dewch i aberthu ac i gyflwyno offrymau diolch iddo.” Felly dyma'r bobl yn dod ag aberthau ac offrymau diolch, ac roedd rhai yn awyddus i ddod ag anifeiliaid yn offrymau i'w llosgi hefyd. Dyma faint o anifeiliaid gafodd eu rhoi gan y gynulleidfa: 70 tarw, 100 o hyrddod a 200 o ddefaid yn offrymau i'w llosgi. Roedd 600 o deirw a 3,000 o ddefaid eraill wedi cael eu rhoi, ond doedd dim digon o offeiriaid i'w blingo nhw i gyd. Felly roedd rhaid i'r Lefiaid eu helpu nhw i orffen y gwaith nes bod digon o offeiriaid wedi mynd trwy'r ddefod o buro eu hunain. (Roedd y Lefiaid wedi bod yn fwy gofalus i fynd trwy'r defodau na'r offeiriaid.) Yn ogystal â'r anifeiliaid i'w llosgi, roedd yna lawer iawn o fraster o'r offrymau diolch, a hefyd yr offrymau o ddiod oedd i fynd gyda pob offrwm i'w losgi. Felly dyma nhw'n ailddechrau addoli'r ARGLWYDD yn y deml. Ac roedd Heseceia a'r bobl i gyd yn dathlu fod Duw wedi galluogi'r cwbl i ddigwydd mor gyflym. Dyma Heseceia yn anfon neges allan drwy Israel a Jwda gyfan. Anfonodd lythyrau at lwythau Effraim a Manasse hefyd. Roedd yn galw pawb i ddod i'r deml yn Jerwsalem i ddathlu Pasg yr ARGLWYDD, Duw Israel. Roedd y brenin wedi cytuno gyda'r arweinwyr a phobl Jerwsalem i gadw'r Pasg yn yr ail fis. Roedden nhw'n methu ei gadw ar yr adeg iawn am fod dim digon o offeiriad wedi bod trwy'r ddefod o gysegru eu hunain, a doedd y bobl ddim wedi cael cyfle i ddod i Jerwsalem. Felly roedd y brenin a'r bobl yn meddwl mai dyma'r cynllun gorau. Dyma nhw'n anfon neges allan drwy Israel gyfan, o Beersheba yn y de i Dan yn y gogledd. Roedd pawb i ddod i Jerwsalem i gadw Pasg i'r ARGLWYDD, Duw Israel. Doedden nhw ddim wedi bod yn cadw'r Pasg fel Gŵyl genedlaethol, fel roedd y Gyfraith yn dweud. Cafodd negeswyr eu hanfon allan i bobman yn Israel a Jwda gyda llythyr oddi wrth y brenin a'r arweinwyr. A dyma oedd y llythyr yn ei ddweud: “Bobl Israel, trowch yn ôl at yr ARGLWYDD, Duw Abraham, Isaac ac Israel, iddo fe droi'n ôl atoch chi, yr ychydig sydd wedi dianc o afael brenhinoedd Asyria. Peidiwch bod fel eich tadau a'ch brodyr oedd yn anffyddlon i'r ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid. Dyna pam cawson nhw eu cosbi ganddo, fel dych chi'n gweld. Peidiwch bod yn ystyfnig fel eich tadau. Byddwch yn ufudd i'r ARGLWYDD, a dewch i'r deml sydd wedi ei chysegru ganddo am byth. Addolwch yr ARGLWYDD eich Duw, iddo stopio bod mor ddig gyda chi. Os gwnewch chi droi'n ôl at yr ARGLWYDD, bydd y rhai sydd wedi cymryd eich plant a'ch perthnasau'n gaeth yn dangos trugaredd arnyn nhw. Byddan nhw'n eu hanfon yn ôl i'r wlad yma. Mae'r ARGLWYDD eich Duw mor garedig a thrugarog. Fydd e ddim yn eich gwrthod chi os trowch chi'n ôl ato fe.” Aeth y negeswyr i bob tref yn Effraim a Manasse, cyn belled a Sabulon. Ond roedd y bobl yn chwerthin a gwneud hwyl ar eu pennau. Dim ond rhai pobl o Asher, Manasse a Sabulon wnaeth ufuddhau a mynd i Jerwsalem. Yn Jwda, roedd Duw wedi creu awydd yn y bobl i gyd i ufuddhau i'r brenin a'r swyddogion oedd wedi gwneud beth roedd yr ARGLWYDD yn ei orchymyn. Felly yn yr ail fis daeth tyrfa enfawr o bobl i Jerwsalem i gadw Gŵyl y Bara Croyw. A dyma nhw'n mynd ati i gael gwared â'r allorau oedd yn Jerwsalem, a taflu'r holl allorau i losgi arogldarth i ddyffryn Cidron. Cafodd oen y Pasg ei ladd ar y pedwerydd ar ddeg o'r ail fis. Cododd hyn gywilydd ar yr offeiriaid a'r Lefiaid, a dyma nhw'n mynd ati i gysegru eu hunain i fynd i deml yr ARGLWYDD i gyflwyno offrymau llosg. Dyma nhw'n sefyll yn eu lleoedd cywir, fel roedd cyfraith Moses, dyn Duw, yn dweud. Yna roedd yr offeiriaid yn derbyn gwaed yr anifeiliaid gan y Leifiaid a'i sblasio o gwmpas yr allor. Gan fod llawer o bobl yno oedd heb fynd trwy'r ddefod o buro eu hunain, y Lefiaid oedd yn lladd yr ŵyn dros bawb oedd yn methu cyflwyno'r offrwm eu hunain. Roedd y mwyafrif o bobl Effraim, Manasse, Issachar a Sabulon yn aflan, ac heb fod trwy'r ddefod o buro eu hunain. Er hynny dyma nhw'n bwyta o'r Pasg yn groes i beth mae'r Gyfraith yn ei ddweud. Ond dyma Heseceia'n gweddïo drostyn nhw, “Boed i'r ARGLWYDD da, faddau i bawb sydd wir am ddilyn eu Duw, sef yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid, er nad ydyn nhw wedi cysegru eu hunain fel mae defod puro'r deml yn gofyn.” A dyma'r ARGLWYDD yn gwrando ar weddi Heseceia, a iacháu'r bobl. Roedd pobl Israel yn Jerwsalem yn dathlu Gŵyl y Bara Croyw yn llawen am saith diwrnod. Roedd y Lefiaid a'r offeiriaid yn moli'r ARGLWYDD bob dydd, ac yn canu ei glod yn uchel ar offerynnau cerdd. Roedd Heseceia'n canmol y Lefiaid am eu dawn wrth addoli'r ARGLWYDD. Aeth y gwledda ymlaen am saith diwrnod. Roedden nhw'n cyflwyno offrymau i ofyn am fendith yr ARGLWYDD ac yn cyffesu eu pechodau i'r ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid. Yna dyma pawb yn cytuno i gadw'r Ŵyl am saith diwrnod arall. Felly dyma nhw dal ati i ddathlu'n llawen am wythnos arall. Roedd Heseceia wedi rhoi mil o deirw a saith mil a ddefaid a geifr i'r gynulleidfa. A dyma'r arweinwyr yn rhoi mil arall o deirw a deg mil o ddefaid a geifr iddyn nhw. A aeth llawer iawn mwy o offeiriaid drwy'r ddefod o buro eu hunain. Roedd pobl Jwda yno, a'r offeiriaid a'r Lefiaid, yr holl bobl oedd wedi dod o Israel, a'r mewnfudwyr oedd wedi dod o Israel i fyw yn Jwda — roedd pawb yno'n dathlu gyda'i gilydd. Hwn oedd y dathliad mwyaf fuodd yn Jerwsalem ers pan oedd Solomon fab Dafydd yn frenin ar Israel. Dyma'r offeiriaid a'r Lefiaid yn sefyll i fendithio'r bobl. Clywodd yr ARGLWYDD nhw o'i le sanctaidd yn y nefoedd. Pan oedd yr Ŵyl drosodd, dyma'r holl bobl oedd wedi bod yn bresennol yn mynd allan i drefi Jwda, Benjamin, Effraim a Manasse a malu'r colofnau cysegredig, torri i lawr bolion y dduwies Ashera a chwalu'r allorau lleol trwy holl Jwda. Wedyn dyma nhw i gyd yn mynd adre i'w trefi eu hunain. Dyma Heseceia'n gosod yr offeiriaid a'r Lefiaid mewn grwpiau gwahanol i gyflawni eu dyletswyddau — sef cyflwyno'r offrymau i'w llosgi a'r offrymau i ofyn am fendith yr ARGLWYDD, ac i weini, rhoi diolch a chanu mawl wrth y giatiau i deml yr ARGLWYDD. Roedd y brenin yn rhoi cyfran o'i anifeiliaid ei hun yn offrymau i'w llosgi'n llwyr bob bore a nos, ar y Sabothau, y lleuadau newydd ac unrhyw adegau eraill wedi eu pennu yn y Gyfraith. Yna dyma fe'n gorchymyn i'r bobl oedd yn byw yn Jerwsalem i gyfrannu siâr yr offeiriaid a'r Lefiaid fel roedd Cyfraith yr ARGLWYDD yn dweud. Pan glywodd pobl Israel hyn dyma nhw'n ymateb drwy ddod â'r gyfran gyntaf o'r ŷd, sudd grawnwin, olew olewydd, mêl a phopeth arall oedd yn tyfu yn eu caeau. Daethon nhw â lot fawr o stwff — un rhan o ddeg o bopeth. Roedd pobl Israel a Jwda oedd yn byw yn nhrefi Jwda hefyd yn cyfrannu un o bob deg o'u teirw a'u defaid, a phopeth arall roedden nhw wedi ei osod o'r neilltu i'w roi i'r ARGLWYDD. Cafodd y cwbl ei osod yn bentyrrau. Dechreuodd y pentyrru yn y trydydd mis, ac roedd hi'r seithfed mis erbyn iddyn nhw orffen. Pan welodd Heseceia a'i swyddogion yr holl bentyrrau, dyma nhw'n bendithio'r ARGLWYDD a'i bobl Israel. Yna dyma Heseceia'n holi'r offeiriaid a'r Lefiaid am y pentyrrau. A dyma Asareia yr archoffeiriad, o deulu Sadoc, yn dweud “Ers i'r bobl ddechrau dod â rhoddion i'r deml dŷn ni wedi cael digonedd i'w fwyta, ac mae lot fawr dros ben. Mae'r ARGLWYDD wedi bendithio ei bobl, ac mae yna gymaint o stwff dros ben.” Felly dyma Heseceia'n gorchymyn iddyn nhw baratoi stordai yn nheml yr ARGLWYDD. Dyma nhw'n gwneud felly, a dod â'r offrymau, y degymau, a'r pethau oedd wedi eu cysegru i'r ARGLWYDD. Un o'r Lefiaid, Conaneia, oedd yn gyfrifol am y gwaith, a'i frawd Shimei yn ddirprwy iddo. Yna dyma'r brenin Heseceia ac Asareia, pennaeth y deml, yn trefnu i Iechiel, Asaseia, Nachath, Asahel, Ierimoth, Iosafad, Eliel, Ismacheia, Machat a Benaia i weithio oddi tanyn nhw. Core fab Imna, Lefiad oedd yn gwarchod y giât ddwyreiniol, oedd yn gyfrifol am yr offrymau gwirfoddol. Fe hefyd oedd i ddosbarthu'r rhoddion oedd wedi eu cyflwyno i'r ARGLWYDD, a'r eitemau wedi eu cysegru. Wedyn roedd Eden, Miniamîn, Ieshŵa, Shemaia, Amareia a Shechaneia yn ei helpu yn nhrefi'r offeiriad. Roedden nhw i fod i rannu'r rhoddion yn deg rhwng y gwahanol deuluoedd o offeiriaid, ifanc a hen fel ei gilydd. Roedd pob gwryw oedd dros dair mlwydd oed ar y cofrestrau teuluol i dderbyn rhoddion — y rhai fyddai yn eu tro yn mynd i deml yr ARGLWYDD i gyflawni dyletswyddau'r grŵp roedden nhw'n perthyn iddi. Hefyd yr offeiriaid oedd wedi eu rhestru yn y cofrestrau teuluol, a'r Lefiaid oedd dros ugain mlwydd oed oedd wedi eu rhestru yn ôl eu dyletswyddau a'u grwpiau. A'r plant lleiaf hefyd, y gwragedd, a'r meibion a'r merched i gyd — pawb oedd ar y cofrestrau teuluol. Roedden nhw i gyd wedi bod yn ffyddlon a cysegru eu hunain. Wedyn roedd rhai wedi cael eu dewis ym mhob tref i rannu eu siâr i ddisgynyddion Aaron, sef yr offeiriad oedd yn byw yn yr ardal o gwmpas pob tref. Roedd pob gwryw o deulu offeiriadol a phob un o'r Lefiaid oedd ar y cofrestrau teuluol i gael eu siâr. Trefnodd y brenin Heseceia fod hyn i ddigwydd trwy Jwda gyfan. Gwnaeth beth oedd yn dda; gwnaeth y peth iawn; ac roedd yn ffyddlon yng ngolwg yr ARGLWYDD ei Dduw. Aeth ati o ddifrif i ailsefydlu gwasanaeth teml Dduw ac i fod yn ufudd i'r Gyfraith a dilyn ei Dduw. Ac fe lwyddodd. Ar ôl i Heseceia fod mor ffyddlon yn gwneud y pethau yma, dyma Senacherib, brenin Asyria yn ymosod ar Jwda. Dyma fe'n gwersylla o gwmpas y trefi amddiffynnol gyda'r bwriad o'u dal nhw. Pan welodd Heseceia fod Senacherib yn bwriadu ymosod ar Jerwsalem, dyma fe'n cyfarfod gyda'i swyddogion a'i arweinwyr milwrol a penderfynu cau'r ffynhonnau dŵr oedd tu allan i'r ddinas. Daeth tyrfa o weithwyr at ei gilydd i fynd ati i gau'r ffynhonnau i gyd, a'r nant oedd yn rhedeg trwy ganol y wlad. “Pam ddylai brenhinoedd Asyria gael digon o ddŵr pan maen nhw'n dod yma?” medden nhw. Wedyn dyma'r brenin Heseceia yn cryfhau'r amddiffynfeydd trwy drwsio'r waliau oedd wedi cwympo, codi tyrau amddiffynnol, adeiladu ail wal ar yr ochr allan, a chryfhau terasau dinas Dafydd. Gorchmynnodd wneud llawer iawn mwy o arfau a thariannau hefyd. Yna dyma fe'n penodi swyddogion milwrol dros y fyddin a'u casglu at ei gilydd yn y sgwâr o flaen giât y ddinas. A dyma fe'n eu hannog nhw a dweud, “Byddwch yn gryf a dewr! Peidiwch bod ag ofn a panicio am fod brenin Asyria a'i fyddin ar eu ffordd. Mae yna Un gyda ni sy'n gryfach na'r rhai sydd gyda fe. Dim ond cryfder dynol sydd ganddo fe, ond mae'r ARGLWYDD ein Duw gyda ni i'n helpu ni ac i ymladd ein brwydrau!” Roedd pawb yn teimlo'n well ar ôl clywed geiriau'r brenin. Pan oedd Senacherib, brenin Asyria, a'i fyddin yn ymosod ar Lachish, dyma fe'n anfon ei weision i Jerwsalem gyda neges i Heseceia brenin Jwda a phawb oedd yn byw yn y ddinas. Dyma oedd y neges: “Mae Senacherib brenin Asyria yn dweud, ‘Dw i wedi amgylchynu Jerwsalem. Beth sy'n eich gwneud chi mor siŵr y byddwch chi'n iawn? “Bydd yr ARGLWYDD ein Duw yn ein hachub ni o afael brenin Asyria,” meddai Heseceia. Ond mae e'n eich twyllo chi. Byddwch yn marw o newyn a syched! Onid ydy Heseceia wedi cael gwared â'i ganolfannau addoli lleol a'i allorau e, a dweud wrth bobl Jwda mai dim ond wrth un allor maen nhw i fod i addoli? Ydych chi ddim yn sylweddoli beth dw i a'm hynafiaid wedi ei wneud i'r holl wledydd eraill? Wnaeth duwiau'r gwledydd hynny fy rhwystro i rhag cymryd eu tiroedd nhw? Pa un o dduwiau'r gwledydd gafodd eu dinistrio gan fy hynafiaid wnaeth lwyddo i achub eu pobl o'm gafael i? Beth sy'n gwneud i chi feddwl y bydd eich Duw chi yn gwneud hynny? Felly peidiwch gadael i Heseceia eich twyllo a'ch camarwain chi. Peidiwch â'i gredu e. Wnaeth dim un o dduwiau'r gwledydd a'r teyrnasoedd eraill achub eu pobl o'n gafael ni. Felly pa obaith sydd gan eich duwiau chi o wneud hynny?’” Aeth gweision Senacherib ymlaen i ddweud llawer mwy o bethau tebyg yn erbyn yr ARGLWYDD Dduw a'i was Heseceia. Roedd Senacherib wedi ysgrifennu pethau oedd yn gwneud hwyl am ben yr ARGLWYDD, Duw Israel, ac yn ei sarhau. “Doedd duwiau y gwledydd eraill ddim yn gallu achub eu pobl o'm gafael i. A fydd duw Heseceia ddim yn gallu achub ei bobl e chwaith.” Yna dyma'r negeswyr yn gweiddi'n uchel yn Hebraeg ar bobl Jerwsalem oedd ar y waliau. Y bwriad oedd eu dychryn nhw, fel bod Asyria'n gallu cymryd y ddinas. Roedden nhw'n siarad am Dduw Jerwsalem fel petai'n un o'r duwiau roedd pobl y gwledydd eraill wedi eu gwneud iddyn nhw eu hunain. Felly dyma'r Brenin Heseceia a'r proffwyd Eseia fab Amos yn gweddïo ar Dduw yn y nefoedd am y peth. A dyma'r ARGLWYDD yn anfon angel a lladd holl filwyr, capteniaid a swyddogion byddin Asyria. Ac roedd rhaid i Sechareia fynd yn ôl i'w wlad ei hun wedi ei gywilyddio. Aeth i mewn i deml ei dduw, a dyma rai o'i feibion ei hun yn ei daro i lawr a'i ladd gyda'r cleddyf. A dyna sut gwnaeth yr ARGLWYDD achub Heseceia a phobl Jerwsalem o afael Senacherib, brenin Asyria a phob gelyn arall o'u cwmpas. O'r adeg yna ymlaen roedd Heseceia'n cael ei barchu gan y gwledydd eraill i gyd. Roedd llawer yn dod i Jerwsalem i roi offrwm i'r ARGLWYDD ac anrhegion gwerthfawr i Heseceia, brenin Jwda. Tua'r adeg yna roedd Heseceia'n sâl. Roedd yn ddifrifol wael — a bu bron iddo farw. Dyma fe'n gweddïo ar yr ARGLWYDD, a dyma'r ARGLWYDD yn ei ateb a rhoi arwydd iddo y byddai'n gwella. Ond doedd Heseceia ddim wedi gwerthfawrogi beth wnaeth yr ARGLWYDD iddo. Roedd e'n falch, ac roedd yr ARGLWYDD yn ddig gydag e, a gyda Jwda a Jerwsalem. Ond ar ôl hynny roedd Heseceia'n sori am iddo fod mor falch, a phobl Jerwsalem hefyd. Felly doedd yr ARGLWYDD ddim yn ddig hefo nhw wedyn tra roedd Heseceia'n dal yn fyw. Roedd Heseceia'n gyfoethog iawn ac yn cael ei barchu'n fawr. Adeiladodd stordai i gadw ei holl eiddo — arian, aur, gemau gwerthfawr, perlysiau, tariannau a phob math o bethau gwerthfawr eraill. Adeiladodd ysguboriau i ddal y gwenith, y sudd grawnwin a'r olew; beudai i'r gwahanol anifeiliaid a chorlannau i'r defaid a'r geifr. Adeiladodd drefi lawer, a phrynu nifer fawr o ddefaid, geifr a gwartheg hefyd. Roedd Duw wedi ei wneud e'n hynod o gyfoethog. Heseceia hefyd gaeodd darddiad uchaf nant Gihon a chyfeirio'r dŵr i lawr i Ddinas Dafydd yn y gorllewin. Roedd Heseceia'n llwyddiannus beth bynnag roedd e'n wneud. Pan anfonodd swyddogion Babilon negeswyr ato i'w holi am yr arwydd oedd wedi digwydd yn y wlad, dyma'r ARGLWYDD yn gadael llonydd iddo, i'w brofi a gweld beth oedd ei gymhellion go iawn. Mae gweddill hanes Heseceia, a'r pethau da wnaeth e i'w gweld yng ngweledigaeth y proffwyd Eseia fab Amos yn sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel. Pan fu Heseceia farw, dyma nhw'n ei gladdu yn rhan bwysicaf y fynwent i ddisgynyddion Dafydd. Roedd pobl Jwda a Jerwsalem yno i'w anrhydeddu pan gafodd ei gladdu. A dyma Manasse, ei fab, yn dod yn frenin yn ei le. Un deg dwy flwydd oed oedd Manasse pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am bum deg pump o flynyddoedd. Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, pethau cwbl ffiaidd, fel y bobloedd roedd yr ARGLWYDD wedi eu gyrru allan o'r wlad o flaen Israel. Roedd wedi ailgodi'r allorau lleol gafodd eu chwalu gan ei dad, Heseceia. Cododd allorau i dduwiau Baal, a polion i'r dduwies Ashera. Roedd yn plygu i lawr i'r sêr ac yn eu haddoli nhw. Dyma fe hyd yn oed yn adeiladu allorau paganaidd yn y deml — yn y lle'r roedd ARGLWYDD wedi dweud amdano, “Bydd fy enw yn Jerwsalem am byth.” Cododd allorau i'r sêr yn y ddwy iard yn y deml. Llosgodd ei fab yn aberth yn nyffryn Ben-hinnom, ac roedd yn ymarfer dewiniaeth, darogan a swynion. Roedd yn ymhél ag ysbrydion a pobl oedd yn siarad â'r meirw. Gwnaeth lawer iawn o bethau drwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, a'i bryfocio. Roedd hyd yn oed wedi gwneud delw o eilun-dduw a'i gosod yn y deml! — y lle roedd Duw wedi dweud wrth Dafydd a'i fab Solomon amdani, “Dw i wedi dewis Jerwsalem o blith llwythau Israel i gyd, a bydda i'n byw yn y deml yma am byth. Wna i ddim symud Israel allan o'r tir dw i wedi ei roi i'r hynafiaid, cyn belled â'u bod nhw'n gofalu gwneud beth dw i'n ei orchymyn iddyn nhw, sef cadw'r Gyfraith, y rheolau a'r canllawiau gafodd eu rhoi drwy Moses.” Ond wnaethon nhw ddim gwrando. Ac roedd Manasse'n eu harwain nhw i wneud mwy o ddrwg na'r bobloedd roedd yr ARGLWYDD wedi eu gyrru allan o flaen Israel! Roedd yr ARGLWYDD wedi rhybuddio Manasse a'i bobl, ond doedden nhw'n cymryd dim sylw o gwbl. Felly dyma'r ARGLWYDD yn dod ag arweinwyr byddin Asyria yn ei erbyn. Dyma nhw'n dal Manasse, rhoi bachyn yn ei drwyn a'i roi mewn cadwyni pres, a mynd ag e yn gaeth i Babilon. Yng nghanol y creisis dyma fe'n gweddïo ar yr ARGLWYDD ei Dduw, ac edifarhau go iawn o flaen Duw ei hynafiaid. Clywodd yr ARGLWYDD ei weddi a gwrando ar ei gais, a dod ag e'n ôl i fod yn frenin yn Jerwsalem. A dyna sut daeth Manasse i ddeall mai'r ARGLWYDD oedd Dduw. Wedi hyn dyma Manasse yn ailadeiladu wal allanol Dinas Dafydd, o'r gorllewin i ddyffryn Gihon at Giât y Pysgod ac yna o gwmpas y terasau. Roedd hi'n wal uchel iawn. Gosododd swyddogion milwrol yn holl drefi amddiffynnol Jwda hefyd. Yna dyma fe'n cael gwared â'r duwiau paganaidd a'r ddelw honno o deml yr ARGLWYDD, a'r holl allorau roedd e wedi eu hadeiladu ar fryn y deml ac yn Jerwsalem. Taflodd nhw allan o'r ddinas, ac yna atgyweirio allor yr ARGLWYDD a chyflwyno arni offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Yna dyma fe'n gorchymyn fod pobl Jwda i addoli'r ARGLWYDD, Duw Israel. Roedd y bobl yn dal i aberthu ar yr allorau lleol, ond dim ond i'r ARGLWYDD eu Duw. Mae gweddill hanes Manasse, gan gynnwys ei weddi ar Dduw, a beth roedd y proffwydi wedi ei ddweud wrtho ar ran yr ARGLWYDD, Duw Israel, i'w gweld yn Hanes Brenhinoedd Israel. Mae Negeseuon y Proffwydi hefyd yn cynnwys ei weddi a sut wnaeth Duw ymateb, cofnod o'i bechodau a'r holl bethau drwg wnaeth e, a lleoliad yr allorau lleol a polion y dduwies Ashera a'r delwau cerrig gododd e cyn iddo gyfaddef ei fai. Pan fuodd Manasse farw cafodd ei gladdu yn ei balas. A dyma Amon ei fab yn dod yn frenin yn ei le. Roedd Amon yn ddau ddeg dau pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am ddwy flynedd. Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, yr un fath â'i dad Manasse. Roedd yn aberthu i'r holl ddelwau cerrig roedd ei dad wedi eu gwneud, ac yn eu haddoli. A wnaeth Amon ddim troi yn ôl at yr ARGLWYDD fel ei dad. Gwnaeth fwy a mwy o bethau drwg. Yna dyma rai o'i swyddogion yn cynllwyn yn ei erbyn a'i ladd yn ei balas. Ond wedyn dyma bobl y wlad yn dienyddio pawb oedd wedi bod yn rhan o'r cynllwyn yn ei erbyn. A dyma nhw'n gwneud Joseia, ei fab, yn frenin yn ei le. Wyth oed oedd Joseia pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am dri deg un o flynyddoedd. Roedd yn gwneud beth oedd yn plesio'r ARGLWYDD, ac yn dilyn esiampl y brenin Dafydd, ei hynafiad, heb grwydro oddi wrth hynny o gwbl. Pan oedd wedi bod yn frenin am wyth mlynedd, ac yn dal yn fachgen ifanc un deg chwech mlwydd oed, dechreuodd addoli Duw fel y Brenin Dafydd. Yna pan oedd yn ugain oed aeth ati i lanhau a phuro Jwda a Jerwsalem trwy gael gwared â'r holl allorau lleol, polion y dduwies Ashera, y delwau cerrig a'r delwau o fetel tawdd. Gorchmynnodd fod allorau Baal i gael eu chwalu, a'r allorau arogldarth uwch eu pennau. Cafodd polion y dduwies Ashera eu torri i lawr, a'r eilunod a'r delwau o fetel eu malu. Roedden nhw'n eu malu'n llwch mân, ac yna'n taflu'r llwch ar feddau'r bobl oedd wedi bod yn aberthu arnyn nhw. Yna cafodd esgyrn yr offeiriaid paganaidd eu llosgi ar eu hallorau eu hunain. Ar ôl puro Jwda a Jerwsalem, dyma fe'n gwneud yr un fath yn y trefi ac adfeilion y pentrefi o'u cwmpas yn ardaloedd Manasse, Effraim a Simeon, a chyn belled a Nafftali. Chwalodd yr allorau a'r polion Ashera, malu'r delwau yn llwch mân, a dinistrio'r allorau arogldarth drwy diroedd gwlad Israel i gyd. Yna aeth yn ôl i Jerwsalem. Pan oedd wedi bod yn frenin am un deg wyth o flynyddoedd roedd yn dal i buro'r wlad a'r deml. Anfonodd Shaffan fab Atsaleia, gyda Maaseia, rheolwr y ddinas a Ioach fab Ioachas y cofnodydd, i atgyweirio teml yr ARGLWYDD ei Dduw. Dyma nhw'n mynd at Chilceia, yr archoffeiriad, a rhoi'r arian oedd wedi ei gasglu yn y deml iddo. Roedd y Lefiaid oedd yn gwarchod y drysau wedi ei gasglu gan bobl Manasse ac Effraim, a phawb oedd ar ôl yn Israel, a hefyd pobl Jwda, Benjamin a'r rhai oedd yn byw yn Jerwsalem. A dyma nhw'n ei basio ymlaen i'r rhai oedd yn goruchwylio'r gwaith ar y deml, i dalu'r gweithwyr oedd yn gwneud y gwaith atgyweirio. Cafodd yr arian ei roi i'r seiri coed a'r adeiladwyr i brynu cerrig wedi eu naddu, a choed ar gyfer y trawstiau a'r distiau, i atgyweirio'r adeiladau roedd brenhinoedd Jwda wedi eu hesgeuluso. Roedd y gweithwyr yn onest ac yn gydwybodol. Lefiaid oedd yn goruchwylio — Iachath ac Obadeia oedd yn ddisgynyddion Merari, a Sechareia a Meshwlam yn ddisgynyddion i Cohath. Roedd Lefiaid eraill oedd yn gerddorion dawnus yn goruchwylio'r labrwyr a'r gweithwyr eraill. Roedd rhai o'r Lefiaid yn ysgrifenyddion, neu yn swyddogion neu yn gofalu am y drysau. Wrth iddyn nhw ddod â'r arian oedd wedi ei roi yn y deml allan, dyma Chilceia yr offeiriad yn ffeindio sgrôl o'r Gyfraith roddodd yr ARGLWYDD i Moses. Felly dyma Chilceia'n dweud wrth Shaffan yr ysgrifennydd, “Dw i wedi ffeindio sgrôl o'r Gyfraith yn y deml!” A dyma fe'n rhoi'r sgrôl i Shaffan. Yna dyma Shaffan yn mynd â'r sgrôl a dweud wrth y brenin, “Mae dy weision wedi gwneud popeth wnest ti ddweud wrthyn nhw. Maen nhw wedi cyfri'r arian oedd yn y deml, ac wedi ei drosglwyddo i'r dynion sy'n goruchwylio ac i'r gweithwyr.” Yna aeth Shaffan yn ei flaen i ddweud wrth y brenin, “Mae Chilceia'r offeiriad wedi rhoi'r sgrôl yma i mi.” A dyma fe'n darllen ohoni i'r brenin. Pan glywodd y brenin eiriau'r Gyfraith, dyma fe'n rhwygo ei ddillad. Yna dyma fe'n galw am Chilceia, Achicam fab Shaffan, Abdon fab Micha, Shaffan yr ysgrifennydd ac Asaia ei was personol. A dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Ewch i holi'r ARGLWYDD ar fy rhan i a'r bobl sydd ar ôl yn Israel a Jwda, am beth mae'r sgrôl yma'n ddweud. Mae'r ARGLWYDD yn wirioneddol flin gyda ni am fod ein hynafiaid heb fod yn ufudd iddo a gwneud beth mae'r sgrôl yma'n ddweud.” Felly dyma Chilceia a'r rhai eraill ddewisodd y brenin yn mynd at Hulda y broffwydes. Roedd hi'n wraig i Shalwm (mab Ticfa ac ŵyr Chasra) oedd yn gofalu am y gwisgoedd. Roedd hi'n byw yn Jerwsalem yn y rhan newydd o'r ddinas. A dyma nhw'n dweud yr hanes wrthi. Dyma hi'n dweud, “Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Dwedwch wrth y dyn wnaeth eich anfon chi ata i fy mod i'n mynd i ddod â dinistr ofnadwy ar y wlad yma, ac ar y bobl sy'n byw yma. Bydd yn union fel mae'r melltithion yn y sgrôl sydd wedi ei darllen i frenin Jwda yn dweud. Dw i wedi gwylltio'n lân gyda nhw, a does dim yn mynd i newid hynny. Maen nhw wedi bod yn llosgi arogldarth i dduwiau eraill, a'm gwylltio i gyda'r delwau maen nhw wedi eu gwneud.’ Dwedwch wrth frenin Jwda, sydd wedi'ch anfon chi i holi'r ARGLWYDD, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am beth rwyt ti wedi ei glywed: “Am dy fod ti wedi teimlo i'r byw ac edifarhau pan glywaist ti fy mod i wedi rhybuddio'r lle yma. Am dy fod ti wedi edifarhau a rhwygo dy ddillad ac wylo o'm blaen i, dw i wedi gwrando,”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Cei di farw a chael dy gladdu mewn heddwch. Fydd dim rhaid i ti fyw i weld y dinistr ofnadwy fydd yn dod ar y wlad yma a'i phobl.”’” A dyma'r dynion yn mynd â'r neges yn ôl i'r brenin. Dyma'r brenin Joseia yn galw arweinwyr Jwda i gyd at ei gilydd yn Jerwsalem. Yna dyma fe'n mynd i'r deml, ac roedd pobl Jwda a Jerwsalem, yr offeiriaid a'r Lefiaid gydag e. Roedd pawb yno, o'r ifancaf i'r hynaf. Yna dyma sgrôl yr ymrwymiad oedd wedi ei darganfod yn y deml yn cael ei darllen yng nghlyw pawb. A dyma'r brenin yn sefyll yn ei le ac addo o flaen yr ARGLWYDD, i wneud ei orau glas i ddilyn yr ARGLWYDD a cadw ei orchmynion, ei ofynion a'i reolau. Roedd yn addo cadw amodau'r ymrwymiad oedd yn y sgrôl. A dyma fe'n galw ar bawb yn Jerwsalem a Benjamin i wneud yr un fath. Gwnaeth pobl Jerwsalem hynny, ac adnewyddu'r ymrwymiad gyda Duw eu hynafiaid. Felly dyma Joseia'n cael gwared a'r holl bethau ffiaidd oedd yn Israel, ac annog pobl Israel i gyd i addoli'r ARGLWYDD eu Duw. A tra buodd e'n frenin wnaethon nhw ddim stopio addoli'r ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid. Dyma Joseia'n dathlu Gŵyl y Pasg i'r ARGLWYDD yn Jerwsalem. Cafodd ŵyn y Pasg eu lladd ar y pedwerydd ar ddeg o'r mis cyntaf. Roedd Joseia wedi trefnu dyletswyddau yr offeiriaid, a'u hannog i wneud eu gwaith yn nheml yr ARGLWYDD. Wedyn dyma fe'n dweud wrth y Lefiaid oedd i ddysgu pobl Israel am yr offrymau a'r aberthau oedd i'w cysegru i'r ARGLWYDD, “Gosodwch yr Arch Sanctaidd yn y deml wnaeth Solomon, mab Dafydd brenin Israel, ei hadeiladu. Does dim angen i chi ei chario ar eich ysgwyddau bellach. Nawr rhowch eich hunain i wasanaethu'r ARGLWYDD eich Duw a'i bobl Israel! Trefnwch eich hunain yn grwpiau yn ôl eich teuluoedd fel roedd y brenin Dafydd a Solomon ei fab wedi dweud. Safwch yn y deml i helpu'r bobl o'r llwyth mae eich teulu chi yn ei gynrychioli. Lladdwch ŵyn y Pasg, mynd trwy'r ddefod o buro eich hunain, a paratoi popeth i'ch pobl allu gwneud beth roedd yr ARGLWYDD wedi ei ddweud trwy Moses.” Roedd Joseia wedi rhoi ei anifeiliaid ei hun i'r bobl oedd yno eu cyflwyno'n offrwm — 30,000 o ŵyn a geifr ifanc, a 3,000 o deirw ifanc. Rhoddodd ei swyddogion hefyd anifeiliaid yn offrymau gwirfoddol i'r bobl, yr offeiriaid a'r Lefiaid. Rhoddodd Chilceia, Sechareia a Iechiel, prif swyddogion teml Dduw 2,600 o ŵyn a geifr ifanc a 300 o wartheg. Rhoddodd Conaneia a'i frodyr Shemaia a Nethanel, a Chashafeia, Jeiel a Iosafad, arweinwyr y Lefiaid 5,000 o ŵyn a geifr ifanc ar gyfer aberth y Pasg a 500 o wartheg. Pan oedd popeth yn barod, dyma'r offeiriaid yn sefyll yn eu lle, a'r Lefiaid yn eu grwpiau, fel roedd y brenin wedi gorchymyn. Yna dyma'r nhw'n lladd ŵyn y Pasg, a dyma'r offeiriaid yn sblasio'r gwaed o gwmpas yr allor tra roedd y Lefiaid yn blingo'r anifeiliaid. Roedden nhw'n rhoi'r offrymau oedd i'w llosgi'n llwyr ar un ochr a'u rhannu i'r bobl yn eu grwpiau teuluol er mwyn i'r rheiny eu cyflwyno i'r ARGLWYDD fel mae'n dweud yn Sgrôl Moses. (Roedden nhw'n gwneud yr un peth gyda'r gwartheg hefyd.) Wedyn roedden nhw'n rhostio ŵyn y Pasg ar dân agored yn ôl y ddefod, a berwi'r offrymau sanctaidd mewn crochanau, pedyll a dysglau cyn eu rhannu'n gyflym i'r bobl. Wedyn roedd rhaid i'r Lefiaid baratoi ar gyfer eu hunain a'r offeiriad. Roedd yr offeiriaid, disgynyddion Aaron, yn dal i losgi'r offrymau a'r braster pan oedd hi'n dechrau nosi. Roedd y Lefiaid yn paratoi ar eu cyfer eu hunain a'r offeiriaid, sef disgynyddion Aaron. Roedd disgynyddion Asaff, sef y cantorion, yn aros yn eu lle fel roedd Dafydd, Asaff, Heman a Iedwthwn (proffwyd y brenin) wedi dweud. Ac roedd y rhai oedd yn gofalu am y giatiau yn aros lle roedden nhw. Doedd dim rhaid iddyn nhw adael eu lleoedd am fod y Lefiaid eraill yn paratoi eu hoffrymau nhw. Felly cafodd y paratoadau ar gyfer dathlu Pasg yr ARGLWYDD eu gwneud i gyd y diwrnod hwnnw. Cafodd yr offrymau oedd i'w llosgi'n llwyr eu cyflwyno i gyd ar allor yr ARGLWYDD fel roedd y Brenin Joseia wedi gorchymyn. Felly dyma holl bobl Israel oedd yn bresennol yn cadw'r Pasg yr adeg honno, a Gŵyl y Bara Croyw am saith diwrnod. Doedd Pasg tebyg ddim wedi ei gadw yn Israel ers cyfnod y proffwyd Samuel. Doedd dim un o frenhinoedd Israel wedi cynnal Pasg tebyg i'r un yma. Roedd y brenin Joseia, yr offeiriaid a'r Lefiaid, pobl Jwda ac Israel i gyd yno, heb sôn am bawb oedd yn byw yn Jerwsalem. Roedd Joseia wedi bod yn frenin am un deg wyth o flynyddoedd pan gynhaliwyd y Pasg yma. Ar ôl i Joseia gael trefn ar y bopeth yn y deml, dyma Necho, brenin yr Aifft, yn dod i frwydro yn Carcemish ar lan Afon Ewffrates. Aeth Joseia a'i fyddin allan i ymladd yn ei erbyn. Ond dyma Necho yn anfon negeswyr ato, “Beth sydd gan hyn i'w wneud â ti, frenin Jwda? Dw i ddim yn ymosod arnat ti; teyrnas arall dw i'n ei rhyfela. Mae Duw gyda mi, ac wedi dweud wrtho i am frysio, felly stopia ymyrryd rhag i mi dy ddinistrio di.” Ond wnaeth Joseia ddim troi yn ôl. Dyma fe'n newid ei ddillad i geisio cuddio pwy oedd e. Wnaeth e ddim gwrando ar Necho, er mai Duw oedd wedi rhoi'r neges iddo. Felly aeth allan i ryfela yn ei erbyn ar wastatir Megido. Cafodd y brenin Joseia ei saethu gan fwasaethwyr. A dyma fe'n dweud wrth ei weision, “Ewch â fi o'ma. Dw i wedi cael fy anafu'n ddrwg!” Felly dyma'i weision yn ei symud o'i gerbyd i gerbyd arall, a mynd ag e yn ôl i Jerwsalem. Ond bu farw, a cafodd ei gladdu ym mynwent ei hynafiaid. Roedd pobl Jwda a Jerwsalem i gyd yn galaru ar ei ôl. Ysgrifennodd Jeremeia gerddi i alaru ar ôl Joseia, ac mae cantorion yn dal i'w canu hyd heddiw. Mae'n draddodiad yn Israel i'w canu nhw. Maen nhw wedi eu cadw yn Llyfr y Galarnadau. Mae gweddill hanes Joseia, ei ymrwymiad i gadw beth mae Cyfraith yr ARGLWYDD yn ei ddweud, a popeth arall wnaeth e o'r dechrau i'r diwedd, i'w gweld yn y sgrôl Brenhinoedd Jwda ac Israel. [1] Dyma bobl y wlad yn cymryd Jehoachas, mab Joseia, a'i wneud yn frenin yn Jerwsalem yn lle ei dad. Roedd e'n ddau ddeg tri pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am dri mis. Dyma, Necho, brenin yr Aifft yn ei gymryd o Jerwsalem a rhoi treth ar y wlad o dair mil cilogram o arian a tri deg cilogram o aur. Wedyn dyma fe'n gwneud Eliacim, brawd Jehoachas, yn frenin ar Jwda a Jerwsalem, a newid ei enw i Jehoiacim. Yna cymryd Jehoachas, brawd y brenin, i lawr i'r Aifft. Roedd Jehoiacim yn ddau ddeg pump oed pan gafodd ei wneud yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am un deg un o flynyddoedd. Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD ei Dduw. Dyma Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn ymosod ar y wlad. Dyma fe'n ei roi mewn cadwyni pres a mynd ag e'n gaeth i Babilon. Cymerodd Nebwchadnesar rai o lestri teml yr ARGLWYDD a mynd â nhw i Babilon a'u gosod yn ei balas ei hun. Mae gweddill hanes Jehoiacim, a'r pethau ffiaidd wnaeth e, a'r cyhuddiadau yn ei erbyn, i'w gweld yn sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel a Jwda. A daeth ei fab, Jehoiachin, yn frenin yn ei le. Un deg wyth oed oedd Jehoiachin pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am dri mis a deg diwrnod. Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD. Yn y gwanwyn dyma Nebwchadnesar yn anfon rhai i'w gymryd e i Babilon, a llestri gwerthfawr o deml yr ARGLWYDD hefyd. A dyma frenin Babilon yn gwneud perthynas iddo, Sedeceia, yn frenin ar Jwda a Jerwsalem. Roedd Sedeceia yn ddau ddeg un oed pan gafodd ei benodi'n frenin. Bu'n teyrnasu yn Jerwsalem am un deg un mlynedd. Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD ei Dduw, a gwrthododd wrando ar y proffwyd Jeremeia oedd yn rhoi neges Duw iddo. Dyma fe'n gwrthryfela yn erbyn y Brenin Nebwchadnesar, er fod hwnnw wedi gwneud iddo addo o flaen Duw y byddai'n deyrngar iddo. Trodd yn ystyfnig a penstiff a gwrthod troi yn ôl at yr ARGLWYDD, Duw Israel. Roedd arweinwyr yr offeiriaid a'r bobl hefyd yn anffyddlon, ac yn gwneud yr un math o bethau ffiaidd a'r gwledydd paganaidd. Dyma nhw'n llygru'r deml oedd wedi ei chysegru i'r ARGLWYDD yn Jerwsalem. Anfonodd yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid, broffwydi i'w rhybuddio nhw dro ar ôl tro, am ei fod yn Dduw oedd yn tosturio wrth ei bobl a'i deml. Ond roedden nhw'n gwneud hwyl ar ben negeswyr Duw, yn cymryd eu geiriau'n ysgafn a dirmygu ei broffwydi. Yn y diwedd roedd yr ARGLWYDD mor ddig gyda nhw doedd dim byd allai neb ei wneud i atal y farn. Anfonodd Duw frenin Babilon yn eu herbyn. Dyma hwnnw'n lladd y dynion ifainc â'r cleddyf yn y deml. Gafodd neb eu harbed — y dynion a'r merched ifainc, na'r hen a'r oedrannus. Gadawodd yr ARGLWYDD iddo eu lladd nhw i gyd. Cymerodd bopeth o deml Dduw, bach a mawr, popeth oedd yn stordai'r deml, a trysorau'r brenin a'i swyddogion, a mynd â'r cwbl i Babilon. Wedyn dyma'r fyddin yn llosgi teml Dduw a bwrw waliau Jerwsalem i lawr. Dyma nhw'n llosgi'r palasau brenhinol a dinistrio popeth gwerthfawr oedd yno. A dyma fe'n mynd â phawb oedd heb gael eu lladd yn gaethion i Babilon. Yno buon nhw'n gaethweision i'r brenin a'i feibion nes i'r Persiaid deyrnasu. Felly daeth beth ddwedodd yr ARGLWYDD drwy Jeremeia yn wir. Cafodd y tir ei Sabothau, arhosodd heb ei drin am saith deg mlynedd. Lai na blwyddyn ar ôl i Cyrus ddod yn frenin Persia, dyma'r ARGLWYDD yn gwneud beth wnaeth e addo trwy Jeremeia. Dyma fe'n ysgogi Cyrus i anfon datganiad allan drwy'r deyrnas i gyd. Dyma'r datganiad: “Dyma mae Cyrus, brenin Persia yn ei ddweud. ‘Mae'r ARGLWYDD, Duw y nefoedd, wedi rhoi teyrnasoedd y byd i gyd i mi. Ac mae e wedi gorchymyn i mi adeiladu teml iddo yn Jerwsalem yn Jwda. Pwy ohonoch chi sy'n perthyn i'w bobl? Boed i'r ARGLWYDD eich Duw fynd gyda chi yn ôl i Jerwsalem!’” Lai na blwyddyn ar ôl i Cyrus ddod yn frenin Persia, dyma'r ARGLWYDD yn gwneud beth wnaeth e addo trwy Jeremeia. Dyma fe'n ysgogi Cyrus i anfon datganiad allan drwy'r deyrnas i gyd. Dyma'r datganiad: “Dyma mae Cyrus, brenin Persia yn ei ddweud. ‘Mae'r ARGLWYDD, Duw y nefoedd, wedi rhoi teyrnasoedd y byd i gyd i mi. Ac mae e wedi gorchymyn i mi adeiladu teml iddo yn Jerwsalem yn Jwda. Os ydych chi'n perthyn i'w bobl cewch fynd yn ôl i Jerwsalem i adeiladu teml yno i'r ARGLWYDD, Duw Israel — sef y duw sydd yn Jerwsalem. A Duw fyddo gyda chi! Dylai pawb arall, sy'n aros lle rydych chi, helpu'r rhai sy'n mynd yn ôl, drwy roi arian ac aur, cyfarpar ac anifeiliaid iddyn nhw. Hefyd offrymau gwirfoddol ar gyfer teml Dduw yn Jerwsalem.’” Felly dyma arweinwyr llwythau Jwda a Benjamin a'r offeiriaid a'r Lefiaid yn paratoi i fynd yn ôl — pawb oedd wedi eu hysbrydoli gan Dduw i fynd i adeiladu teml yr ARGLWYDD yn Jerwsalem. Ac roedd eu cymdogion i gyd yn eu helpu nhw, drwy roi llestri o arian ac aur iddyn nhw, cyfarpar, anifeiliaid, a lot fawr o anrhegion drud eraill, heb sôn am yr offrymau gwirfoddol. Yna dyma'r brenin Cyrus yn dod â'r holl lestri oedd Nebwchadnesar wedi eu cymryd o deml yr ARGLWYDD yn Jerwsalem i'w gosod yn nheml ei dduw ei hun. Rhoddodd nhw i Mithredath, ei drysorydd, a'i gael i gyfri'r cwbl a'u cyflwyno i Sheshbatsar, pennaeth Jwda, [9-10] Dyma'r rhestr o eitemau: 30 dysgl aur 1,000 o ddysglau arian 29 eitem arall o arian 30 powlen aur 410 o bowlenni arian gwahanol 1,000 o lestri eraill *** Felly cyfanswm y llestri aur ac arian oedd 5,400. Daeth Sheshbatsar â nhw i gyd i Jerwsalem pan ddaeth y caethion yn ôl o Babilon. Dyma restr o bobl y dalaith ddaeth allan o Babilon. Cawson nhw eu cymryd yn gaeth yno gan Nebwchadnesar, brenin Babilon. Daeth pob un yn ôl i Jerwsalem ac i'r trefi eraill yn Jwda lle roedden nhw'n arfer byw. Yr arweinwyr oedd Serwbabel, Ieshŵa, Nehemeia, Seraia, Reëlaia, Mordecai, Bilshan, Mispar, Bigfai, Rechwm a Baana. Dyma faint o bobl Israel ddaeth yn ôl: Teulu Parosh: 2,172 Teulu Sheffateia: 372 Teulu Arach: 775 Teulu Pachath-Moab (o deuluoedd Ieshŵa a Joab): 2,812 Teulu Elam: 1,254 Teulu Sattw: 945 Teulu Saccai: 760 Teulu Bani: 642 Teulu Bebai: 623 Teulu Asgad: 1,222 Teulu Adonicam: 666 Teulu Bigfai: 2,056 Teulu Adin: 454 Teulu Ater (sef disgynyddion Heseceia): 98 Teulu Betsai: 323 Teulu Iora: 112 Teulu Chashŵm: 223 Teulu Gibbar: 95 Dynion Bethlehem: 123 Dynion Netoffa: 56 Dynion Anathoth: 128 Dynion Asmafeth: 42 Dynion Ciriath-iearim, Ceffira a Beëroth: 743 Dynion Rama a Geba: 621 Dynion Michmas: 122 Dynion Bethel ac Ai: 223 Pobl Nebo: 52 Pobl Magbish: 156 Pobl yr Elam arall: 1,254 Pobl Charîm: 320 Pobl Lod, Hadid ac Ono: 725 Pobl Jericho: 345 Pobl Sena'a: 3,630 Yr offeiriaid: Teulu Idaïa (o linach Ieshŵa): 973 Teulu Immer: 1,052 Teulu Pashchwr: 1,247 Teulu Charîm: 1,017 Y Lefiaid: Teulu Ieshŵa a Cadmiel (o deulu Hodafia): 74 Y cantorion: Teulu Asaff: 128 Gofalwyr y giatiau: Teuluoedd Shalwm, Ater, Talmon, Accwf, Chatita a Shobai: 139 Gweision y deml: Teulu Sicha Teulu Chaswffa Teulu Tabbaoth Teulu Ceros Teulu Sïaha Teulu Padon Teulu Lebana Teulu Hagaba Teulu Accwf Teulu Hagab Teulu Shalmai Teulu Chanan Teulu Gidel Teulu Gachar Teulu Reaia Teulu Resin Teulu Necoda Teulu Gassam Teulu Wssa Teulu Paseach Teulu Besai Teulu Asna Teulu Mewnim Teulu Neffwsîm Teulu Bacbwc Teulu Chacwffa Teulu Charchwr Teulu Batslwth Teulu Mechida Teulu Charsha Teulu Barcos Teulu Sisera Teulu Temach Teulu Netsïach Teulu Chatiffa. Teuluoedd gweision Solomon: Teulu Sotai Teulu Hassoffereth Teulu Perwda Teulu Jala Teulu Darcon Teulu Gidel Teulu Sheffateia Teulu Chattil Teulu Pochereth-hatsbaîm Teulu Ami Cyfanswm gweision y deml a theuluoedd gweision Solomon: 392. Daeth pobl eraill o drefi Tel-melach, Tel-harsha, Cerwb, Adon, ac Immer hefyd (ond doedd y rhain ddim yn gallu profi eu bod nhw a'u teuluoedd yn dod o Israel yn wreiddiol): Teulu Delaia, teulu Tobeia a theulu Necoda: 652 Wedyn teuluoedd yr offeiriaid, sef teuluoedd Chafaia, Hacots, a Barsilai (dyn oedd wedi priodi un o ferched Barsilai o Gilead, ac wedi cymryd ei enw). Roedd y rhain hefyd wedi chwilio am gofnod o'u teuluoedd yn y rhestrau achau ac wedi methu ffeindio dim byd. Felly cawson nhw eu rhwystro rhag gwasanaethu fel offeiriaid. Dwedodd y llywodraethwr nad oedden nhw i gael bwyta'r bwyd oedd wedi ei gysegru nes byddai offeiriad yn codi oedd yn gallu penderfynu drwy ddefnyddio'r Wrim a'r Thwmim. Cyfanswm y bobl aeth yn ôl oedd 42,360, (heb gyfri'r 7,337 o weision a morynion oedd ganddyn nhw. Roedd yna 200 o gantorion — dynion a merched — gyda nhw hefyd). Roedd ganddyn nhw 736 o geffylau, 245 o fulod, 435 o gamelod a 6,720 o asynnod. Pan gyrhaeddon nhw deml yr ARGLWYDD yn Jerwsalem, dyma rhai o benaethiaid y claniau yn cyfrannu'n hael tuag at ailadeiladu teml Dduw ar ei safle wreiddiol. Rhoddodd pob un gymaint ag y gallen nhw ei fforddio tuag at y gwaith: tua 500 cilogram o aur, 2,800 cilogram arian, a 100 o wisgoedd i'r offeiriaid. Felly dyma'r offeiriaid, Lefiaid, cantorion, gofalwyr y giatiau a gweision y deml i gyd yn setlo i lawr yn eu trefi eu hunain. Ac aeth gweddill pobl Israel yn ôl i fyw i'w trefi hwythau hefyd. Roedd pobl Israel i gyd wedi setlo i lawr yn eu trefi. Yna yn y seithfed mis dyma pawb yn dod at ei gilydd i Jerwsalem. A dyma Ieshŵa fab Iotsadac a'r offeiriaid oedd gydag e, a Serwbabel fab Shealtiel a'i ffrindiau, yn ailadeiladu allor Duw Israel. Wedyn gallen nhw ddod ag offrymau i'w llosgi a dilyn y cyfarwyddiadau roedd Duw wedi eu rhoi i Moses, ei broffwyd. Er fod ganddyn nhw ofn y bobl leol, dyma nhw'n gosod yr allor ar ei safle wreiddiol, a dechrau llosgi offrymau i'r ARGLWYDD arni bob bore a nos. Dyma nhw'n dathlu Gŵyl y Pebyll, a cyflwyno'r nifer cywir o offrymau i'w llosgi bob dydd, fel roedd y cyfarwyddiadau'n dweud. Wedyn dyma nhw'n dod â'r offrymau arferol oedd i'w llosgi — yr offrymau misol ar Ŵyl y lleuad newydd, a'r offrymau ar gyfer y gwyliau eraill pan oedd pobl yn dod at ei gilydd i addoli; a hefyd yr offrymau roedd pobl yn eu rhoi yn wirfoddol. Dechreuon nhw losgi offrymau i'r ARGLWYDD ar ddiwrnod cynta'r seithfed mis. Ond doedd y gwaith o ailadeiladu teml yr ARGLWYDD ddim wedi dechrau eto. Felly dyma'r bobl yn rhoi arian i gyflogi seiri maen a seiri coed i weithio ar y Deml. A dyma nhw'n prynu coed cedrwydd gan bobl Sidon a Tyrus a talu am y rheiny gyda cyflenwad o fwyd, diodydd ac olew olewydd. Roedden nhw'n dod â'r coed i lawr o fryniau Libanus i'r arfordir, ac yna ar rafftiau i borthladd Jopa. Roedd y brenin Cyrus o Persia wedi rhoi caniatâd i hyn ddigwydd. Dyma'r gwaith o adeiladu teml Dduw yn dechrau flwyddyn a mis ar ôl iddyn nhw ddod yn ôl o Babilon i Jerwsalem. Serwbabel fab Shealtiel a Ieshŵa fab Iotsadac ddechreuodd y gwaith, gyda'r offeiriaid, y Lefiaid, a phawb arall oedd wedi dod yn ôl i Jerwsalem o'r gaethglud. A dyma nhw'n penodi Lefiaid oedd dros ugain oed i arolygu'r gwaith oedd yn cael ei wneud ar deml yr ARGLWYDD. Dyma Ieshŵa yn penodi ei feibion a'i berthnasau ei hun, Cadmiel a Binnŵi (sef meibion Hodafia), i fod yn gyfrifol am y gweithwyr. Hefyd meibion Chenadad, a'u meibion nhw, a'u perthnasau o lwyth Lefi. Pan gafodd sylfaeni teml yr ARGLWYDD eu gosod, dyma'r offeiriaid yn eu gwisgoedd seremonïol yn canu utgyrn, a'r Lefiaid (sef meibion Asaff) yn taro symbalau, i foli'r ARGLWYDD. Roedden nhw'n dilyn y drefn roedd Dafydd, brenin Israel, wedi ei gosod. Roedden nhw'n canu mewn antiffoni, wrth foli ac addoli'r ARGLWYDD: “Mae e mor dda aton ni; Mae ei haelioni i Israel yn ddiddiwedd!” A dyma'r dyrfa i gyd yn gweiddi'n uchel a moli'r ARGLWYDD am fod sylfaeni'r deml wedi eu gosod. Ond yng nghanol yr holl weiddi a'r dathlu, roedd llawer o'r offeiriaid, Lefiaid a'r arweinwyr hŷn yn beichio crïo. Roedden nhw'n cofio'r deml fel roedd hi, pan oedd hi'n dal i sefyll. Ond doedd neb wir yn gallu gwahaniaethu rhwng sŵn y dathlu a sŵn y crïo. Roedd pobl yn gweiddi mor uchel roedd i'w glywed o bell. Pan ddeallodd gelynion pobl Jwda a Benjamin fod y rhai ddaeth yn ôl o'r gaethglud wedi dechrau ailadeiladu teml i'r ARGLWYDD, Duw Israel, dyma nhw'n mynd at Serwbabel a'r arweinwyr eraill, a dweud, “Gadewch i ni'ch helpu chi. Dŷn ni wedi bod yn addoli eich Duw chi ac yn aberthu iddo ers i Esar-chadon, brenin Asyria, ein symud ni yma.” Ond dyma Serwbabel, Ieshŵa ac arweinwyr eraill Israel yn ateb, “Na, gewch chi ddim helpu i adeiladu teml i'n Duw ni. Ni sy'n mynd i'w hadeiladu ein hunain, i'r ARGLWYDD, Duw Israel. Mae Cyrus, brenin Persia, wedi gorchymyn i ni wneud hynny.” Yna dyma'r bobl leol yn dechrau creu trafferthion i bobl Jwda a gwneud iddyn nhw ddechrau colli plwc. Roedden nhw'n breibio swyddogion y llywodraeth i achosi problemau a rhwystro'r gwaith rhag mynd yn ei flaen. Roedd hyn yn digwydd yr holl flynyddoedd y bu Cyrus yn frenin Persia, hyd gyfnod y brenin Dareius. Pan ddaeth Ahasferus yn frenin dyma nhw'n dod â cyhuddiad arall yn erbyn pobl Jwda a Jerwsalem. A wedyn pan oedd Artaxerxes yn frenin ar Persia, dyma Bishlam, Mithredath, Tafél a'u cydweithwyr, yn ysgrifennu ato fe. Roedd y llythyr wedi ei ysgrifennu yn Aramaeg, ac yna ei gyfieithu. Dyma oedd y llythyr am Jerwsalem yn ei ddweud — wedi ei anfon at y Brenin Artaxerxes gan Rechwm yr uwch-swyddog a Shimshai yr ysgrifennydd: “Llythyr oddi wrth Rechwm yr uwch-swyddog, Shimshai yr ysgrifennydd, a'u cydweithwyr — yn farnwyr, arolygwyr, swyddogion, ac ysgrifenyddion. Hefyd pobl Erech, Babilon, a Shwshan (sef yr Elamiaid), a pawb arall gafodd eu symud i fyw yn Samaria a threfi Traws-Ewffrates gan y brenin mawr ac enwog, Ashwrbanipal.” (Mae hwn yn gopi o'r llythyr gafodd ei anfon:) “At y Brenin Artaxerxes, oddi wrth dy weision yn Traws-Ewffrates. Dylai'r brenin wybod fod yr Iddewon ddaeth aton ni yma oddi wrthoch chi wedi mynd i Jerwsalem, ac maen nhw'n ailadeiladu'r ddinas wrthryfelgar, afiach yna. Maen nhw bron â gorffen y waliau, ac yn trwsio ei sylfeini. A dylai'r brenin sylweddoli y bydd ar ei golled os bydd y gwaith yma'n cael ei orffen. Fydd dim mwy o drethi na thollau yn cael eu talu ganddyn nhw wedyn! Fel rhai sy'n deyrngar i'r brenin, fydden ni ddim eisiau i'r brenin gael ei ddifrïo. Roedden ni eisiau iddo wybod am hyn, er mwyn iddo orchymyn archwilio cofnodion ei ragflaenwyr. Bydd e'n darganfod wedyn fod Jerwsalem wedi achosi dim byd ond trwbwl i frenhinoedd a thaleithiau. Mae un helynt ar ôl y llall wedi codi o'i mewn o'r dechrau. A dyna'n union pam cafodd y ddinas ei dinistrio! Felly, dŷn ni eisiau rhybuddio'r brenin, os bydd y ddinas yma'n cael ei hailadeiladu, a'r waliau yn cael eu gorffen, fydd e ddim yn gallu cadw rheolaeth ar y rhan yma o'i deyrnas yn Traws-Ewffrates.” A dyma'r brenin yn anfon yr ateb yma: “At Rechwm yr uwch-swyddog, Shimshai yr ysgrifennydd, a'u cydweithwyr yn Samaria a'r rhannau eraill o Traws-Ewffrates: Cyfarchion! Cafodd y llythyr wnaethoch chi ei anfon aton ni ei gyfieithu a'i ddarllen o'm blaen i. Felly dyma fi'n gorchymyn edrych i mewn i'r mater, a mae'n wir fod pobl y ddinas yma wedi achosi helynt i frenhinoedd o'r dechrau. Mae brenhinoedd pwerus wedi bod yn teyrnasu dros Jerwsalem ac ardal gyfan Traws-Ewffrates, ac wedi bod yn derbyn trethi a thollau. Felly dw i am i chi orchymyn fod y gwaith i stopio, ac na ddylai'r ddinas gael ei hailadeiladu nes bydda i wedi dweud fel arall. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwneud hyn. Dŷn ni ddim eisiau i'r frenhiniaeth fod ar ei cholled.” Yn syth ar ôl i lythyr y Brenin Artaxerxes gael ei ddarllen i Rechwm, Shimshai a'u cydweithwyr, dyma nhw'n brysio draw at yr Iddewon yn Jerwsalem. Roedden nhw'n bygwth ymyrraeth filwrol os nad oedd y gwaith yn stopio. Felly roedd y gwaith ar deml Dduw yn Jerwsalem wedi dod i stop. Wnaeth y gwaith ddim ailddechrau hyd ail flwyddyn teyrnasiad y Brenin Dareius o Persia. Yna dyma'r proffwydi Haggai a Sechareia fab Ido yn proffwydo am yr Iddewon oedd yn Jwda a Jerwsalem. Roedden nhw'n siarad gydag awdurdod Duw Israel. A dyma Serwbabel fab Shealtiel a Ieshŵa fab Iotsadac yn dechrau eto ar y gwaith o ailadeiladu teml Dduw yn Jerwsalem. Roedd proffwydi Duw yn eu hannog nhw a'u helpu nhw. Ond wedyn dyma Tatnai (llywodraethwr talaith Traws-Ewffrates) a Shethar-bosnai a'i cydweithwyr yn mynd atyn nhw, a gofyn, “Pwy sydd wedi rhoi caniatâd i chi ailadeiladu'r deml yma, a gorffen codi'r waliau?” A dyma nhw'n gofyn hefyd, “Beth ydy enwau'r dynion sy'n gwneud yr adeiladu?” Ond roedd Duw yn gofalu amdanyn nhw, a doedd dim rhaid iddyn nhw stopio nes oedd adroddiad wedi ei anfon at Dareius, a llythyr am y peth wedi ei anfon yn ôl. Dyma gopi o'r llythyr wnaeth Tatnai (llywodraethwr talaith Traws-Ewffrates), Shethar-bosnai a swyddogion yn y dalaith, ei anfon at y brenin Dareius. Roedd yn darllen fel yma: At y Brenin Dareius: Cyfarchion! Dylai'r brenin wybod ein bod ni wedi mynd i dalaith Jwda. Yno mae teml y Duw mawr yn cael ei hadeiladu gyda cherrig anferth, ac mae trawstiau pren yn cael eu gosod yn y waliau. Maen nhw wrthi'n brysur yn gwneud y gwaith, ac mae'n mynd yn ei flaen yn dda. Dyma ni'n gofyn i'r arweinwyr, “Pwy sydd wedi rhoi caniatâd i chi ailadeiladu'r deml yma, a gorffen codi'r waliau?” A dyma ni'n gofyn beth oedd eu henwau nhw, er mwyn rhoi gwybod i chi mewn ysgrifen pwy ydy'r arweinwyr. A dyma'r ateb gawson ni, “Gweision Duw y nefoedd a'r ddaear ydyn ni. Dŷn ni'n ailadeiladu'r deml yma gafodd ei chodi ganrifoedd yn ôl gan un o frenhinoedd mwyaf Israel. Ond ar ôl i'n hynafiaid ni ddigio Duw y nefoedd, dyma fe'n gadael i Nebwchadnesar, brenin Babilon, eu concro nhw. Dinistriodd y deml a chymryd y bobl yn gaethion i Babilon. Ond yna, yn ystod ei flwyddyn gyntaf fel brenin, dyma Cyrus brenin Babilon yn gorchymyn fod teml Dduw i gael ei hadeiladu eto. Dyma fe hyd yn oed yn rhoi llestri aur ac arian y deml yn ôl (y rhai oedd Nebwchadnesar wedi eu cymryd o Jerwsalem i'w balas yn Babilon). Rhoddodd Cyrus nhw i ddyn o'r enw Sheshbatsar, oedd wedi ei benodi yn llywodraethwr ar Jwda, a dweud wrtho, ‘Dos â'r llestri yma yn ôl i'w gosod yn y deml yn Jerwsalem. Mae teml Dduw i gael ei hadeiladu eto ar y safle cywir.’ Felly dyma Sheshbatsar yn mynd ati i osod sylfaeni teml Dduw yn Jerwsalem, ac mae'r gwaith adeiladu yn dal i fynd yn ei flaen, ac yn dal heb ei orffen. Felly os ydy'r brenin yn hapus i wneud hynny, gallai orchymyn chwilio drwy'r archifau brenhinol yn Babilon, i weld os gwnaeth y brenin Cyrus orchymyn ailadeiladu'r deml yn Jerwsalem ai peidio. Wedyn falle y gallai'r brenin anfon i ddweud wrthon ni beth mae e eisiau i ni ei wneud.” Dyma'r brenin Dareius yn gorchymyn chwilio drwy'r archifau brenhinol oedd yn cael eu cadw yn Babilon. Cafwyd hyd i sgrôl yn y gaer ddinesig yn Echbetana, talaith Media. A dyma oedd wedi ei ysgrifennu arni: “Memorandwm: Yn ystod blwyddyn gyntaf Cyrus yn frenin, dyma fe'n rhoi gorchymyn am deml Dduw yn Jerwsalem: ‘Mae'r deml i gael ei hailadeiladu fel lle i gyflwyno aberthau. Dylai'r sylfaeni gael eu gosod, ac yna dylid ei hadeiladu yn 27 metr o uchder a 27 metr o led, gyda tair rhes o gerrig anferth, ac un rhes o goed. Bydd y trysorlys brenhinol yn talu am y gwaith. Yna hefyd, mae'r llestri aur ac arian wnaeth Nebwchadnesar eu cymryd i Babilon i gael eu rhoi yn ôl. Maen nhw i gael eu gosod ble maen nhw i fod, sef yn y deml yn Jerwsalem.’” Felly dyma Dareius yn ateb Tatnai (llywodraethwr talaith Traws-Ewffrates), Shethar-bosnai, a swyddogion y dalaith: “Rhaid i chi gadw o'r ffordd, a gadael i'r gwaith ar deml Dduw fynd yn ei flaen. Gadewch i lywodraethwr ac arweinwyr Jwda fwrw ymlaen gyda'r gwaith o ailadeiladu teml Dduw lle mae hi i fod. Dw i hefyd yn gorchymyn eich bod chi i helpu arweinwyr yr Iddewon fel bod y gwaith yn mynd yn ei flaen yn ddi-rwystr. Mae'r costau i gyd i'w talu allan o drethi talaith Traws-Ewffrates, sy'n cael eu cadw yn y trysorlys brenhinol. Dylid gwneud yn siŵr bob dydd eu bod nhw'n cael popeth sydd ei angen — teirw, hyrddod, ac ŵyn yn offrymau i'w llosgi i Dduw y nefoedd, gwenith, halen, gwin ac olew olewydd — beth bynnag mae'r offeiriaid yn Jerwsalem yn gofyn amdano. Wedyn byddan nhw'n gallu offrymu arogldarth i Dduw y nefoedd, a gweddïo dros y brenin a'i feibion. A dw i'n rhybuddio y bydd unrhyw un sy'n newid y gorchymyn yma yn marw — bydd trawst pren yn cael ei gymryd o'i dŷ a bydd y person hwnnw yn cael ei rwymo i'r trawst a'i drywanu'n farw. Wedyn bydd ei dŷ yn cael ei chwalu am ei fod wedi gwneud y fath beth. Boed i'r Duw sy'n byw yn Jerwsalem ddinistrio unrhyw frenin neu wlad sy'n ceisio newid hyn er mwyn chwalu'r deml yno. Dw i, Dareius, wedi rhoi'r gorchymyn, a dw i'n disgwyl i'r cwbl gael ei gadw i'r llythyren!” Dyma Tatnai (llywodraethwr talaith Traws-Ewffrates), Shethar-bosnai, a'i cydweithwyr yn gwneud yn union beth roedd y brenin Dareius wedi ei orchymyn. Roedd arweinwyr yr Iddewon yn dal ati i adeiladu, ac yn llwyddiannus iawn, tra roedd Haggai a Sechareia fab Ido yn dal ati i broffwydo. A dyma nhw'n gorffen y gwaith adeiladu roedd Duw Israel wedi ei orchymyn, a hefyd Cyrus, Dareius ac Artaxerxes, brenhinoedd Persia. Dyma nhw'n gorffen adeiladu'r deml ar y trydydd o fis Adar, yn chweched flwyddyn teyrnasiad y brenin Dareius. Trefnodd pobl Israel ddathliad i gysegru'r deml. Roedd pawb yno — yr offeiriaid, y Lefiaid, a pawb arall ddaeth yn ôl o'r gaethglud. Cafodd cant o deirw eu hoffrymu, dau gant o hyrddod, pedwar cant o ŵyn, ac un deg dau bwch gafr dros bechodau pobl Israel (un ar ran pob llwyth). Yna, fel mae sgrôl Moses yn dweud, dyma nhw'n rhannu'r offeiriaid a'r Lefiaid yn grwpiau, i fod yn gyfrifol am addoliad Duw yn Jerwsalem. Dyma'r bobl oedd wedi dod yn ôl o'r gaethglud yn dathlu'r Pasg ar y pedwerydd ar ddeg o'r mis cyntaf. Roedd yr offeiriaid a'r Lefiaid wedi mynd trwy'r ddefod o buro eu hunain ac wedi eu cysegru. Felly dyma nhw'n lladd ŵyn y Pasg ar ran y bobl oedd wedi dod yn ôl o'r gaethglud, ac ar ran yr offeiriaid eraill a nhw eu hunain. Cafodd aberthau'r Pasg eu bwyta gan bobl Israel a phawb arall oedd wedi ymuno gyda nhw a troi cefn ar arferion paganaidd pobloedd eraill y wlad er mwyn dilyn yr ARGLWYDD, Duw Israel. A dyma nhw'n dathlu Gŵyl y Bara Croyw yn llawen am saith diwrnod. Roedden nhw mor hapus am fod yr ARGLWYDD wedi newid agwedd brenin Asyria tuag atyn nhw, a gwneud iddo eu helpu nhw gyda'r gwaith o adeiladu teml Dduw, Duw Israel. Flynyddoedd wedyn, pan oedd Artaxerxes yn frenin Persia, dyma Esra yn symud i Jerwsalem o Babilon. (Esra oedd mab Seraia ac ŵyr Asareia fab Chilceia, ac roedd ei deulu yn ymestyn yn ôl drwy Shalwm, Sadoc, Achitwf, Amareia, Asareia, Meraioth, Seracheia, Wssi, Bwcci, Afishŵa, Phineas ac Eleasar, i Aaron y prif-offeiriad.) Hwn oedd yr Esra ddaeth yn ôl o Babilon. Roedd yn arbenigwr yn y Gyfraith roddodd yr ARGLWYDD, Duw Israel, i Moses. Roedd y brenin Artaxerxes wedi rhoi iddo bopeth roedd wedi gofyn amdano, am fod llaw yr ARGLWYDD ei Dduw arno. Yn ystod seithfed flwyddyn teyrnasiad y Brenin Artaxerxes, dyma Esra yn arwain rhai o bobl Israel yn ôl i Jerwsalem (gan gynnwys rhai o'r offeiriaid, Lefiaid, cantorion, gofalwyr y giatiau, a gweision y deml). Cyrhaeddodd Jerwsalem yn y pumed mis o'r flwyddyn honno. Roedd wedi trefnu i ddechrau'r daith ar ddiwrnod cynta'r flwyddyn, ac wedi cyrraedd Jerwsalem ar ddiwrnod cynta'r pumed mis. Roedd Duw gydag e. Roedd Esra yn ddyn oedd wedi rhoi ei fywyd i astudio cyfraith yr ARGLWYDD, i'w chadw, ac i ddysgu beth oedd ei gofynion i bobl Israel. Dyma gopi o'r llythyr roddodd y Brenin Artaxerxes i Esra yr offeiriad oedd yn arbenigwr yn y Gyfraith (sef gorchmynion yr ARGLWYDD a'i ganllawiau i Israel): “Artaxerxes, sy'n frenin ar frenhinoedd, At Esra yr offeiriad a'r arbenigwr yn y Gyfraith mae Duw y nefoedd wedi ei rhoi. Cyfarchion! Rwyf wedi rhoi gorchymyn yn dweud fod unrhyw un o bobl Israel sy'n byw yn y deyrnas, ac eisiau mynd gyda ti i Jerwsalem i gael gwneud hynny — hyd yn oed offeiriaid a Lefiaid. Mae'r brenin, a'i saith cynghorwr, yn dy awdurdodi di i gynnal ymchwiliad i weld os ydy cyfraith dy Dduw yn cael ei chadw. Rwyt hefyd i fynd ag arian ac aur gyda ti. Mae'r brenin a'i gynghorwyr am roi offrwm gwirfoddol i Dduw Israel sy'n byw yn Jerwsalem. Hefyd cei fynd a'r holl arian a'r aur fyddi wedi llwyddo i'w gasglu gan dy bobl dy hun a'r offeiriaid sy'n byw yma yn nhalaith Babilon, ac sydd eisiau cyfrannu at deml eu Duw yn Jerwsalem. Mae'r arian yma i'w ddefnyddio i brynu teirw, hyrddod, ŵyn, a'r offrymau o rawn a diod sy'n mynd gyda nhw. Dos â nhw at allor teml dy Dduw yn Jerwsalem. Wedyn gelli ddefnyddio unrhyw arian ac aur sy'n weddill i wneud beth bynnag wyt ti a dy gyd-offeiriaid yn ei feddwl sydd orau — beth bynnag wyt ti'n feddwl mae dy Dduw eisiau. Dos â'r llestri sydd wedi eu rhoi i ti ar gyfer gwasanaeth y deml, a'u rhoi nhw i dy Dduw yn Jerwsalem. Ac os oes rhywbeth arall sydd ei angen ar gyfer y deml, gelli gymryd yr arian i dalu amdano o'r trysordy brenhinol. Dw i, y Brenin Artaxerxes, yn gorchymyn penaethiaid trysordai Traws-Ewffrates i roi i Esra'r offeiriad (yr arbenigwr yng Nghyfraith Duw'r nefoedd) beth bynnag mae'n gofyn amdano. Gallwch roi iddo hyd at dair tunnell a hanner o arian, 10 tunnell o wenith, 2,000 litr o win, 2,000 litr o olew olewydd, a faint bynnag o halen mae'n gofyn amdano. Dylid rhoi i'r deml, beth bynnag mae Duw'r nefoedd eisiau. Dw i ddim eisiau iddo ddigio gydag Ymerodraeth y brenin a'i feibion. Hefyd, dw i eisiau i chi ddeall fod gynnoch chi ddim awdurdod i godi trethi na thollau o unrhyw fath ar yr offeiriaid, y Lefiaid, y cerddorion, y porthorion, gweision y deml nac unrhyw un arall sy'n gofalu am deml y Duw yma. Yna ti, Esra. Defnyddia'r ddoethineb mae dy Dduw wedi ei rhoi i ti i ddewis barnwyr a swyddogion llys. Wedyn byddan nhw'n gallu delio gydag achosion y bobl hynny yn rhanbarth Traws-Ewffrates sy'n gyfarwydd â chyfraith dy Dduw; a dylid hyfforddi'r rhai hynny sydd ddim yn gwybod y Gyfraith. Bydd unrhyw un sy'n torri cyfraith dy Dduw a chyfreithiau'r brenin yn cael eu cosbi gyda'r ddedfryd briodol — cael eu dienyddio, cael eu halltudio, colli eu heiddo neu gael eu carcharu.” Bendith ar yr ARGLWYDD, Duw ein hynafiaid, sydd wedi gwneud i'r brenin fod eisiau cefnogi'r deml yn Jerwsalem! Mae wedi peri i'r brenin, ei gynghorwyr, a'i swyddogion pwysig eraill, fod mor garedig tuag ata i. Roeddwn i'n teimlo'n fwy a mwy hyderus wrth weld fod llaw yr ARGLWYDD arna i. A dyma fi'n casglu nifer o arweinwyr pobl Israel i fynd i Jerwsalem gyda mi. Dyma'r penaethiaid, a'r bobl oedd yn perthyn i'w rhestrau teuluol nhw, ddaeth yn ôl gyda mi o Babilon. Artaxerxes oedd brenin Persia ar y pryd. [2-3] Gershom, o deulu Phineas; Daniel, o deulu Ithamar; Chattwsh fab Shechaneia, o deulu'r brenin Dafydd; Sechareia, o deulu Parosh (a 150 o ddynion oedd wedi eu cofrestru yn ôl eu teuluoedd); *** Eliehoenai fab Seracheia, o deulu Pachath-Moab (a 200 o ddynion); Shechaneia fab Iachasiël, o deulu Sattw (a 300 o ddynion); Efed fab Jonathan, o deulu Adin (a 50 o ddynion); Ieshaia fab Athaleia, o deulu Elam (a 70 o ddynion); Sebadeia fab Michael, o deulu Sheffateia (ac 80 o ddynion); Obadeia fab Iechiel, o deulu Joab (a 218 o ddynion gydag e); Shlomith fab Iosiffîa, o deulu Bani (a 160 o ddynion gydag e); Sechareia fab Bebai, o deulu Bebai (a 28 o ddynion); Iochanan fab Haccatan, o deulu Asgad (a 110 o ddynion); a'r rhai ddaeth wedyn, o deulu Adonicam. Eu henwau nhw oedd Eliffelet, Jeiel a Shemaia (a 60 o ddynion); Wthai a Saccwr, o deulu Bigfai (a 70 o ddynion). Dyma fi'n eu casglu nhw at ei gilydd wrth y gamlas sy'n rhedeg i Ahafa. Buon ni'n gwersylla yno am dri diwrnod. Roedd pobl gyffredin ac offeiriaid yno gyda ni, ond dyma fi'n darganfod fod dim Lefiaid. Felly dyma fi'n anfon am Elieser, Ariel, Shemaia, Elnathan, Iarîf, Elnathan, Nathan, Sechareia, a Meshwlam, oedd yn arweinwyr, ac am Ioiarîf ac Elnathan, oedd yn athrawon. A dyma fi'n eu hanfon nhw at Ido, oedd yn bennaeth yn Casiffia. Dwedais wrthyn nhw am ofyn i Ido a'i berthnasau, oedd yn weision y deml, i anfon dynion aton ni fyddai'n gweithio yn nheml ein Duw. Roedd Duw gyda ni, a dyma nhw'n anfon crefftwr aton ni o deulu Machli (mab Lefi ac ŵyr i Israel), sef Sherefeia. A daeth ei feibion a'i frodyr gydag e — 18 o ddynion i gyd. Chashafeia hefyd, gyda Ieshaia, o deulu Merari, a'i frodyr a'i feibion e, sef 20 o ddynion. A hefyd, rhai oedd yn weision y deml (y rhai roedd y brenin Dafydd a'i swyddogion wedi eu penodi i helpu'r Lefiaid) — 220 ohonyn nhw. A dyma enwau pob un ohonyn nhw yn cael eu rhestru. Yna dyma fi'n galw ar bawb oedd yno, wrth Gamlas Ahafa, i ymprydio a plygu o flaen ein Duw, a gofyn iddo roi siwrnai saff i ni a'n plant a'n holl eiddo. Doedd gen i mo'r wyneb i ofyn i'r brenin roi milwyr a marchogion i'n hamddiffyn ni ar y ffordd. Wedi'r cwbl, roedden ni wedi dweud wrth y brenin, “Mae Duw'n gofalu am bawb sy'n ei geisio, ond mae'n ddig iawn hefo pawb sy'n troi cefn arno.” Felly buon ni'n ymprydio a gweddïo'n daer ar Dduw am hyn, a dyma fe'n ein hateb ni. Yna dyma fi'n dewis un deg dau o arweinwyr yr offeiriaid, a hefyd Sherefeia, Chashafeia a deg o'u perthnasau. Dyma fi'n pwyso'r arian, yr aur a'r llestri oedd i fynd i deml ein Duw a rhoi'r cwbl yn eu gofal nhw (sef y pethau roedd y brenin, ei gynghorwyr a'i swyddogion, a phawb o bobl Israel oedd yn Babilon, wedi ei gyfrannu): 22 tunnell o arian llestri arian oedd yn pwyso 3.4 tunnell 3.4 tunnell o aur 20 powlen aur yn pwyso 8.4 cilogram dau lestr rhyfeddol o gain wedi eu gwneud o bres wedi ei loywi, mor werthfawr ag aur. Yna dyma fi'n dweud wrthyn nhw, “Dych chi wedi eich cysegru i'r ARGLWYDD, yn union fel mae'r llestri yma wedi eu cysegru. Offrwm gwirfoddol i'r ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, ydy'r arian a'r aur yma. Dw i eisiau i chi ofalu amdano nes byddwch chi'n pwyso'r cwbl o flaen arweinwyr yr offeiriaid, y Lefiaid, a penaethiaid teuluoedd Israel, yn stordai teml yr ARGLWYDD yn Jerwsalem.” Felly dyma'r offeiriaid a'r Lefiaid yn cymryd gofal o'r arian, yr aur a'r llestri oedd wedi cael eu pwyso, i fynd â nhw i deml ein Duw yn Jerwsalem. Dyma ni'n dechrau ar y daith o Gamlas Ahafa i Jerwsalem ar y deuddegfed diwrnod o'r mis cyntaf. Roedd Duw gyda ni, a dyma fe'n ein hachub ni rhag ein gelynion a rhag lladron ar y daith. Ar ôl cyrraedd Jerwsalem dyma ni'n gorffwys am dri diwrnod. Yna'r diwrnod wedyn dyma ni'n mynd i'r deml i bwyso'r arian a'r aur a'r llestri, a rhoi'r cwbl yng ngofal Meremoth fab Wreia, yr offeiriad. Roedd Eleasar fab Phineas gydag e, a dau Lefiad, sef Iosafad fab Ieshŵa a Noadeia fab Binnŵi. Cafodd popeth ei gyfri, ei bwyso a'i gofnodi yn y fan a'r lle. Yna dyma'r bobl oedd wedi dod yn ôl o'r gaethglud yn cyflwyno offrymau i'w llosgi i Dduw Israel — un deg dau o deirw dros bobl Israel i gyd, naw deg chwech hwrdd, a saith deg saith oen gwryw. Hefyd un deg dau bwch gafr yn offrwm dros bechod. Roedd y cwbl i gael ei losgi'n llwyr i'r ARGLWYDD. Wedyn dyma nhw'n cyflwyno gorchmynion y brenin i raglawiaid a llywodraethwyr Traws-Ewffrates, a gwnaeth y rheiny bopeth allen nhw i helpu'r bobl a'r gwaith ar deml Dduw. Ar ôl hyn i gyd dyma'r penaethiaid yn dod ata i a dweud, “Mae pobl Israel a'r offeiriaid a'r Lefiaid yn byw yr un fath â'r bobl baganaidd o'u cwmpas nhw. Maen nhw'n mynd trwy'r defodau ffiaidd roedd y Canaaneaid, Hethiaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebwsiaid, pobl Ammon, Moab, yr Aifft, a'r Amoriaid yn eu gwneud. Maen nhw hyd yn oed wedi priodi rhai o ferched y bobloedd yma, fel bod pobl sanctaidd Duw wedi cymysgu gyda'r bobl leol. Ac yn waeth na hynny, yr arweinwyr a'r swyddogion oedd y rhai cyntaf i fod yn anffyddlon!” Pan glywais hyn dyma fi'n rhwygo fy nillad, tynnu gwallt fy mhen a'm barf ac eistedd ar lawr. Roeddwn i mewn sioc. A dyma pawb oedd wir yn parchu beth roedd Duw Israel yn ei ddweud yn casglu o'm cwmpas i, am fod y bobl ddaeth yn ôl o'r gaethglud wedi bod mor anffyddlon. Bues i'n eistedd yna nes oedd hi'n amser offrwm yr hwyr. Pan ddaeth hi'n amser offrwm yr hwyr dyma fi'n codi, a'm dillad wedi eu rhwygo. Yna mynd ar fy ngliniau, dal fy nwylo ar led flaen yr ARGLWYDD fy Nuw, a gweddïo, “O Dduw! Mae gen i ormod o gywilydd dy wynebu di, fy Nuw. Dŷn ni wedi cael ein llethu'n llwyr gan ein pechodau, ac mae'n heuogrwydd wedi cyrraedd yr holl ffordd i'r nefoedd. Dŷn ni wedi pechu o ddyddiau'n hynafiaid hyd heddiw. A dyna pam dŷn ni, a'n brenhinoedd a'n hoffeiriaid wedi cael ein cam-drin gan frenhinoedd gwledydd eraill — wedi colli brwydrau, cael ein cymryd yn gaethion, colli popeth a chael ein cywilyddio. A dyna sut mae hi arnon ni heddiw. Ond nawr, yn ddiweddar, rwyt ti ARGLWYDD ein Duw wedi bod yn garedig wrthon ni. Ti wedi gadael i rai ohonon ni ddod yn ôl, ac wedi gadael i ni setlo i lawr yn dy ddinas sanctaidd. Ti wedi'n gwneud ni'n wirioneddol hapus, ac wedi'n rhyddhau ni o'n caethiwed. Roedden ni'n gaeth, ond wnest ti ddim ein gadael ni'n gaeth. Ti wedi gwneud i frenhinoedd Persia fod yn garedig aton ni. Ti wedi rhoi bywyd newydd i ni, a chyfle i ailadeiladu teml ein Duw, a dod yn ôl i fyw yn saff yn Jwda a Jerwsalem. Ond nawr, beth allwn ni ei ddweud, O Dduw? Dŷn ni wedi gwrthod gwrando ar beth roeddet ti'n ddweud drwy dy weision y proffwydi. Roedden nhw wedi dweud wrthon ni: ‘Mae'r tir dych chi'n mynd iddo wedi ei lygru gan arferion drwg y bobl sy'n byw yno. Maen nhw wedi llenwi'r wlad gyda'r pethau ffiaidd maen nhw'n eu gwneud. Felly peidiwch gadael i'ch plant briodi eu plant nhw. Peidiwch gwneud dim i'w helpu nhw i lwyddo a ffynnu. Wedyn byddwch chi'n gryf, ac yn mwynhau holl gynnyrch da'r tir, a byddwch yn gallu pasio'r cwbl ymlaen i'ch disgynyddion am byth.’ Mae'r cwbl sydd wedi digwydd i ni yn ganlyniad yr holl ddrwg dŷn ni wedi ei wneud. Ac eto, ein Duw, wnest ti mo'n cosbi ni gymaint ag oedden ni'n ei haeddu, gan dy fod wedi dod â rhai ohonon ni yn ôl. Felly ydyn ni'n mynd i dorri dy orchmynion di eto, a cymysgu trwy briodas gyda'r bobl yma sy'n gwneud pethau mor ffiaidd? Fyddai hynny ddim yn gwneud i ti ddigio cymaint gyda ni nes ein difetha ni'n llwyr, a gadael neb ar ôl? O ARGLWYDD, Duw Israel, rwyt ti'n gwneud beth sy'n iawn, a dyna pam mai criw bach ohonon ni sydd ar ôl heddiw. A dyma ni, yn sefyll o dy flaen di yn euog. Does gynnon ni ddim troed i sefyll arni.” Tra roedd Esra yn gweddïo ac yn cyffesu, ac yn crïo ar ei hyd ar lawr o flaen teml Dduw, roedd tyrfa fawr o bobl Israel — dynion, merched, a phlant — wedi casglu o'i gwmpas. Roedden nhw i gyd yn beichio crïo. A dyma Shechaneia fab Iechiel, o deulu Elam, yn dweud wrth Esra: “Dŷn ni wedi bod yn anffyddlon i Dduw yn priodi merched y bobloedd eraill sy'n byw yma. Ac eto mae gobaith i Israel er gwaetha'r cwbl. Gad i ni wneud ymrwymiad i'n Duw i yrru'r gwragedd yma a'u plant i ffwrdd, fel rwyt ti a'r rhai eraill sy'n parchu gorchmynion Duw yn cynghori. Gad i ni wneud hynny fel mae'r Gyfraith yn dweud. Tyrd, mae'n rhaid i ti wneud rhywbeth am y sefyllfa. Bwrw iddi. Dŷn ni tu cefn i ti.” Felly dyma Esra yn codi a chael arweinwyr yr offeiriaid a'r Lefiaid a pobl Israel i gyd i addo gwneud hyn. A dyma nhw i gyd yn addo ar lw y bydden nhw'n ufuddhau. Yna dyma Esra yn gadael y deml, a mynd i aros yn ystafell Iehochanan fab Eliashif. Wnaeth e ddim bwyta na hyd yn oed yfed dŵr tra roedd e yno; roedd e mor drist fod y bobl ddaeth yn ôl o'r gaethglud wedi bod mor anffyddlon. Yna cafodd cyhoeddiad ei anfon allan drwy Jwda a Jerwsalem, yn galw ar bawb ddaeth yn ôl o'r gaethglud i ddod at ei gilydd yn Jerwsalem. Byddai'r rhai oedd ddim yno o fewn tri diwrnod yn colli eu heiddo i gyd. Dyna oedd penderfyniad y swyddogion a'r arweinwyr. Byddai'r bobl hynny yn cael eu diarddel o gymdeithas y rhai ddaeth yn ôl o'r gaethglud. Felly daeth pawb o Jwda a Benjamin at ei gilydd i Jerwsalem o fewn tri diwrnod (ar yr ugeinfed diwrnod o'r nawfed mis ). Roedden nhw i gyd yn sefyll yn y sgwâr o flaen teml yr ARGLWYDD. Roedd pawb yn nerfus iawn, ac yn crynu yn y glaw. Yna dyma Esra'r offeiriad yn sefyll i'w hannerch nhw, “Dych chi wedi bod yn anffyddlon, yn cymryd merched y bobloedd eraill yn wragedd. Mae hyn wedi gwneud Israel yn fwy euog fyth o flaen Duw! Mae'n bryd i chi anrhydeddu'r ARGLWYDD, Duw eich tadau, a gwneud beth mae e eisiau. Rhaid i chi dorri pob cysylltiad gyda'r bobl a'r gwragedd paganaidd yma.” A dyma pawb oedd yno yn ateb gyda'i gilydd, “Iawn, rhaid i ni wneud fel ti'n dweud! Ond mae yna lot fawr ohonon ni, ac mae'n glawio'n drwm. Allwn ni ddim sefyll allan yma. Dydy'r mater ddim yn mynd i gael ei setlo mewn rhyw ddiwrnod neu ddau, am fod gormod ohonon ni wedi pechu yn hyn o beth. Gall y penaethiaid weithredu ar ran pawb. Wedyn gosod dyddiad penodol i bob tref, i bawb yn y dref honno sydd wedi cymryd gwragedd o blith y bobloedd eraill, i ddod yma. Gall arweinwyr a barnwyr y dref ddod gyda nhw, nes bydd Duw ddim mor ffyrnig hefo ni am beth wnaethon ni.” (Yr unig rai oedd yn erbyn y cynllun yma oedd Jonathan fab Asahel a Iachseia fab Ticfa, gyda cefnogaeth Meshwlam a Shabbethai y Lefiad.) Felly aeth y bobl yn eu blaenau gyda'r cynllun. Dyma Esra'r offeiriad yn dewis dynion oedd yn arweinwyr yn eu clan, a'u rhestru nhw wrth eu henwau. A dyma nhw'n dechrau mynd ati i ddelio gyda'r mater ar ddiwrnod cynta'r degfed mis. Roedd hi'n ddiwrnod cynta'r flwyddyn ganlynol erbyn iddyn nhw orffen delio gyda'r holl ddynion oedd wedi priodi gwragedd paganaidd. Dyma restr o'r offeiriaid oedd wedi cymryd gwragedd paganaidd: O deulu Ieshŵa fab Iotsadac a'i frodyr: Maaseia, Elieser, Iarîf a Gedaleia. (Dyma nhw'n addo gyrru eu gwragedd i ffwrdd, ac yn cyflwyno hwrdd yn offrwm i gyfaddef eu bai. ) O deulu Immer: Chanani a Sebadeia O deulu Charîm: Maaseia, Elïa, Shemaia, Iechiel ac Wseia. O deulu Pashchwr: Elioenai, Maaseia, Ishmael, Nethanel, Iosafad, ac Elasa. O'r Lefiaid: Iosafad, Shimei, Celaia (sef Celita), Pethacheia, Jwda ac Elieser. O'r cantorion: Eliashif. O'r rhai oedd yn gofalu am y giatiau: Shalwm, Telem ac Wri. Yna pobl gyffredin Israel: O deulu Parosh: Rameia, Iesïa, Malcîa, Miamin, Eleasar, Malcîa a Benaia. O deulu Elam: Mataneia, Sechareia, Iechiel, Afdi, Ieremoth ac Elïa. O deulu Sattw: Elioenai, Eliashif, Mataneia, Ieremoth, Safad ac Asisa. O deulu Bebai: Iehochanan, Chananeia, Sabbai, ac Athlai. O deulu Bani: Meshwlam, Malŵch, Adaia, Iashŵf, Sheal ac Ieremoth. O deulu Pachath-Moab: Adna, Celal, Benaia, Maaseia, Mataneia, Betsalel, Binnŵi a Manasse. O deulu Charîm: Elieser, Ishïa, Malcîa, Shemaia, Simeon, Benjamin, Malŵch, a Shemareia. O deulu Chashŵm: Matenai, Matata, Safad, Eliffelet, Ieremai, Manasse a Shimei. O deulu Bani: Maadai, Amram, Ŵel, Benaia, Bedeia, Celwhw, Faneia, Meremoth, Eliashif, Mataneia, Matenai, a Iaäsai. O deulu Binnŵi: Shimei, Shelemeia, Nathan, Adaia, Machnadebai, Shashai, Sharai, Asarel, Shelemeia, Shemareia, Shalwm, Amareia, a Joseff. O deulu Nebo: Jeiel, Matitheia, Safad, Sefina, Iadai, Joel a Benaia. Roedd y rhain i gyd wedi cymryd gwragedd paganaidd, ac roedd rhai ohonyn nhw wedi cael plant gyda'r gwragedd hynny. Dyma adroddiad gan Nehemeia fab Hachaleia: Roedd hi'n fis Cislef yn ugeinfed flwyddyn teyrnasiad Artaxerxes, ac roeddwn i yn y gaer ddinesig yn Shwshan. Dyma Chanani (oedd yn perthyn i mi) a dynion eraill o Jwda, yn dod i'm gweld i. A dyma fi'n eu holi nhw am yr Iddewon oedd wedi gadael y gaethglud, a sut oedd pethau yn Jerwsalem. A dyma nhw'n ateb, “Mae hi'n galed ar y bobl sydd wedi mynd yn ôl i'r dalaith o'r gaethglud. Maen nhw'n cael amser anodd. Mae wal Jerwsalem wedi ei chwalu, a'r giatiau wedi eu llosgi.” Pan glywais hyn i gyd, dyma fi'n eistedd i lawr. Roeddwn i'n crïo ac yn galaru am ddyddiau, a bues i'n ymprydio ac yn gweddïo ar Dduw y nefoedd. A dyma fi'n dweud, “O ARGLWYDD, Duw y nefoedd, plîs! Ti'n Dduw mawr a rhyfeddol, yn Dduw mor hael, ac yn cadw dy ymrwymiad i'r rhai sy'n dy garu di ac yn gwneud beth ti'n ddweud. O, plîs edrych a gwrando ar weddi dy was. Gwranda ar beth dw i'n ei weddïo ddydd a nos ar ran dy weision, pobl Israel. Dw i'n cyffesu ein bod ni wedi pechu yn dy erbyn di — fi a'm teulu, a pobl Israel i gyd. Dŷn ni wedi ymddwyn yn ofnadwy, ac heb gadw'r gorchmynion, y rheolau a'r canllawiau wnest ti eu rhoi i dy was Moses. Plîs cofia beth ddwedaist ti wrth Moses: ‘Os byddwch chi'n anffyddlon, bydda i'n eich gyrru chi ar chwâl drwy'r gwledydd. Ond os byddwch chi'n troi a gwneud beth dw i'n ddweud, hyd yn oed os ydy'r bobl wedi eu chwalu i ben draw'r byd, bydda i'n eu casglu nhw yn ôl i'r lle dw i wedi dewis byw ynddo.’ Dy weision di, dy bobl di ydyn nhw, ac rwyt wedi defnyddio dy rym i'w gollwng nhw'n rhydd. Plîs, o ARGLWYDD, gwrando ar weddi dy was, ac ar weddïau pawb arall sy'n awyddus i dy barchu di. Helpa dy was i lwyddo heddiw, a gwna i'r dyn yma fod yn garedig ata i.” Fi oedd y wetar oedd yn dod â gwin i'r brenin. Yna yn mis Nisan yn ugeinfed flwyddyn teyrnasiad Artaxerxes, ron i'n gweini ar y brenin fel arfer, a mynd â gwin iddo. Ond dyma'r tro cyntaf i mi erioed edrych yn drist o'i flaen. A dyma'r brenin yn gofyn i mi, “Pam wyt ti'n edrych mor ddiflas? Dwyt ti ddim yn sâl. Ond mae'n amlwg fod rhywbeth yn dy boeni di.” Pan ddwedodd hynny, roedd gen i ofn. A dyma fi'n ei ateb, “O frenin, boed i ti fyw am byth! Sut alla i beidio edrych yn drist pan mae'r ddinas ble mae fy hynafiaid wedi eu claddu yn adfeilion, a'i giatiau wedi eu llosgi?” A dyma'r brenin yn gofyn, “Beth wyt ti eisiau gen i?” Dyma fi'n gweddïo'n dawel ar Dduw y nefoedd, ac yna dweud wrth y brenin, “Os ydy'r brenin yn gweld yn dda, ac os ydy'ch gwas wedi'ch plesio chi, plîs anfonwch fi yn ôl i Jwda lle mae fy hynafiaid wedi eu claddu, i adeiladu'r ddinas eto.” Yna dyma'r brenin, gyda'i wraig yn eistedd wrth ei ymyl, yn gofyn, “Am faint fyddet ti i ffwrdd, a pryd fyddet ti yn ôl?” Gan fod y brenin yn barod i adael i mi fynd, dyma fi'n rhoi dyddiad iddo. A dyma fi'n dweud wrtho, “Os ydy'ch mawrhydi yn gweld yn dda, wnewch chi roi dogfennau i mi eu dangos i lywodraethwyr Traws-Ewffrates, i wneud yn siŵr fy mod yn cyrraedd Jwda'n saff. Hefyd, llythyr i Asaff, sy'n gofalu am goedwig y brenin, iddo roi coed i mi — coed i wneud trawstiau ar gyfer giatiau'r gaer sydd wrth ymyl y deml, waliau'r ddinas, a'r tŷ fydda i'n aros ynddo.” A dyma'r brenin yn rhoi caniatâd i mi, achos roedd hi'n amlwg fod Duw gyda mi. Dyma fi'n mynd at lywodraethwyr Traws-Ewffrates, a cyflwyno'r dogfennau gefais gan y brenin iddyn nhw. Roedd y brenin wedi rhoi swyddogion o'r fyddin a marchogion i fynd gyda mi. Ond doedd Sanbalat o Horon, a Tobeia (y swyddog o Ammon), ddim yn hapus o gwbl fod rhywun wedi cael ei anfon i helpu pobl Israel. Dri diwrnod ar ôl i mi gyrraedd Jerwsalem, dyma fi'n codi ganol nos a mynd allan gyda'r ychydig ddynion oedd gen i. Yr unig anifail oedd gyda ni oedd yr un roeddwn i'n reidio ar ei gefn. Doeddwn i ddim wedi dweud wrth neb beth roedd Duw wedi rhoi awydd yn fy nghalon i i'w wneud yn Jerwsalem. Dyma fi'n mynd allan drwy Giât y Dyffryn ganol nos, a troi i gyfeiriad Ffynnon y Ddraig a Giât y Sbwriel i edrych ar gyflwr y waliau oedd wedi eu chwalu a'r giatiau oedd wedi eu llosgi. Es ymlaen at Giât y Ffynnon a Pwll y Brenin, ond wedyn doedd dim posib i'r anifail fynd ddim pellach. Tra roedd hi'n dal yn dywyll dyma fi'n mynd i lawr i ddyffryn Cidron ac edrych ar gyflwr y waliau o'r fan honno. Wedyn trois yn ôl, a mynd yn ôl i'r ddinas drwy Giât y Dyffryn. Doedd swyddogion y ddinas ddim yn gwybod ble roeddwn i wedi bod, na beth roeddwn i wedi bod yn ei wneud. Doeddwn i ddim wedi dweud wrth neb o'r Iddewon hyd yn hyn — yr offeiriaid, y bobl fawr na'r swyddogion, nac unrhyw un arall o'r gweithwyr. Yna dyma fi'n dweud wrthyn nhw, “Dych chi'n gwybod mor anodd ydy pethau yma: mae Jerwsalem yn adfeilion a'i giatiau wedi eu llosgi. Dewch! Gadewch i ni ailadeiladu wal Jerwsalem, a dod â'r sefyllfa warthus yma i ben.” Dwedais yr hanes wrthyn nhw, fel roedd Duw wedi bod gyda mi, a beth roedd y brenin wedi ei ddweud wrtho i. A dyma nhw'n ymateb, “Gadewch i ni ddechrau adeiladu ar unwaith!” A dyma nhw'n annog ei gilydd i fynd ati i wneud y gwaith pwysig yma. Ond pan glywodd Sanbalat o Horon, Tobeia, y swyddog o Ammon, a Geshem yr Arab am ein cynlluniau, dyma nhw'n dechrau gwneud hwyl ar ein pennau a'n henllibio ni. “Beth dych chi'n wneud? Ydych chi'n meddwl gwrthryfela yn erbyn y brenin?” A dyma fi'n ateb, “Gyda help Duw byddwn ni'n llwyddo. Ei weision e ydyn ni, a dŷn ni'n mynd i ddechrau ailadeiladu'r ddinas yma. Does yna ddim lle i chi yma, a dych chi erioed wedi bod â hawl i Jerwsalem.” Dyma Eliashif yr archoffeiriad a'i gyd-offeiriaid yn mynd ati i adeiladu Giât y Defaid. Yna ei chysegru a gosod y drysau yn eu lle. Nhw wnaeth y gwaith hyd at Dŵr y Cant a Tŵr Chanan-el. Yna dynion Jericho wnaeth adeiladu'r darn nesaf, a Saccwr fab Imri y darn ar ôl hwnnw. Teulu Hassenâ wnaeth adeiladu Giât y Pysgod, a gosod ei thrawstiau a'r drysau, y bolltau a'r barrau yn eu lle. Meremoth fab Wreia ac ŵyr i Hacots wnaeth drwsio'r darn nesaf. Meshwlam fab Berecheia ac ŵyr i Meshesafel y darn wedyn. Sadoc fab Baana y darn ar ôl hwnnw, a dynion Tecoa ar y darn nesaf wedyn. Ond doedd arweinwyr Tecoa ddim yn fodlon helpu gyda'r gwaith oedd yr arolygwyr wedi ei roi iddyn nhw. Ioiada fab Paseach a Meshwlam fab Besodeia oedd yn gweithio ar Giât Ieshana. Nhw wnaeth osod y trawstiau a'r drysau, y bolltau a'r barrau yn eu lle. Yna roedd Melatia o Gibeon a Iadon o Meronoth yn gweithio ar y darn nesaf gyda dynion eraill o Gibeon a Mitspa (lle roedd llywodraethwr Traws-Ewffrates yn byw). Wedyn roedd Wssiel fab Charhaia (aelod o Urdd y Gofaint Aur) yn atgyweirio'r darn nesaf, a Chananeia (aelod o Urdd y Gwerthwyr Persawr) yn atgyweirio'r darn ar ôl hwnnw. Nhw wnaeth drwsio wal Jerwsalem yr holl ffordd at y Wal Lydan. Reffaia fab Hur, pennaeth hanner ardal Jerwsalem, oedd yn gweithio ar y darn nesaf. Iedaia fab Charwmaff ar y darn ar ôl hwnnw, gyferbyn â'i dŷ, a Chattwsh fab Chashafneia ar y darn wedyn. Roedd Malcîa fab Charîm a Chashwf fab Pachath-Moab yn gweithio ar ddarn arall ac ar Dŵr y Poptai. Yna roedd Shalwm fab Halochesh, pennaeth hanner arall ardal Jerwsalem, yn gweithio ar y darn nesaf, gyda'i ferched yn ei helpu. Chanŵn a pobl Sanoach oedd yn gweithio ar Giât y Dyffryn. Nhw wnaeth ei hailadeiladu, a gosod ei drysau, ei bolltau a'i barrau yn eu lle. Nhw hefyd wnaeth y gwaith ar y wal yr holl ffordd at Giât y Sbwriel — 450 metr i gyd. Malcîa fab Rechab, pennaeth Ardal Beth-hacerem, oedd yn gweithio ar Giât y Sbwriel. Fe wnaeth ei hailadeiladu, a gosod y drysau, y bolltau a'r barrau yn eu lle. Wedyn Shalwn fab Colchose, pennaeth ardal Mitspa, oedd yn gweithio ar Giât y Ffynnon. Ailadeiladodd hi, rhoi to arni, a gosod y drysau, bolltau a barrau yn eu lle. A fe hefyd wnaeth ailadeiladu'r wal o Bwll Siloam (wrth ymyl y gerddi brenhinol) yr holl ffordd at y grisiau sy'n mynd i lawr o Ddinas Dafydd. Yna Nehemeia fab Asbwc, pennaeth hanner ardal Beth-tswr, oedd yn gweithio ar y darn nesaf, yr holl ffordd at fynwent Dafydd, y pwll artiffisial a barics y fyddin. Lefiaid oedd yn gweithio ar y darnau nesaf — Rechwm fab Bani, ac wedyn Chashafeia, pennaeth hanner ardal Ceila. Yna Lefiaid eraill — Binnŵi fab Chenadad, pennaeth hanner arall ardal Ceila. Ar ei ôl e, Eser fab Ieshŵa, pennaeth tref Mitspa, yn gweithio ar y darn gyferbyn â'r llethr i fyny at y storfa arfau lle mae'r bwtres. Wedyn Barŵch fab Sabbai yn gweithio ar y darn rhwng y bwtres a'r drws i dŷ Eliashif yr Archoffeiriad. A Meremoth fab Wreia ac ŵyr Hacots yn gweithio ar ddarn arall o ddrws tŷ Eliashif i dalcen y tŷ. Yr offeiriaid oedd yn gweithio ar y darn nesaf — dynion oedd yn byw yn y cylch. Wedyn Benjamin a Chashwf yn gweithio gyferbyn â'u tŷ nhw. Asareia fab Maaseia ac ŵyr Ananeia, yn gweithio wrth ymyl ei dŷ e. Binnŵi fab Chenadad yn gweithio ar y darn nesaf, o dŷ Asareia at y bwtres ar y gornel. Wedyn Palal fab Wsai yn gweithio gyferbyn â'r bwtres a'r tŵr sy'n sticio allan o'r palas uchaf wrth ymyl iard y gwarchodlu. Yna roedd Pedaia fab Parosh a gweision y deml oedd yn byw ar Fryn Offel yn gweithio ar y darn i fyny at Giât y Dŵr i'r dwyrain lle mae'r tŵr sy'n sticio allan. Wedyn dynion Tecoa eto yn gweithio ar y darn o'r tŵr mawr hwnnw i wal Bryn Offel. Offeiriaid oedd yn gweithio yr ochr uchaf i Giât y Ceffylau hefyd, pob un o flaen ei dŷ ei hun. Sadoc fab Immer yn gweithio gyferbyn â'i dŷ e, a Shemaia fab Shechaneia, porthor Giât y Dwyrain, yn gweithio ar y darn nesaf. Wedyn Chananeia fab Shelemeia a Chanŵn, chweched mab Salaff, yn gweithio ar ddarn arall. Yna, ar eu holau nhw, Meshwlam fab Berecheia yn gweithio ar y darn gyferbyn â'r ystafell lle roedd e'n byw. Wedyn Malcîa, un o'r gofaint aur, yn gweithio ar y darn hyd at lety gweision y deml a'r masnachwyr, gyferbyn â Giât y Mwstro, ac i fyny at yr ystafell uwchben y gornel. Yna roedd y gofaint aur a'r masnachwyr yn gweithio ar y darn olaf, o'r ystafell uwchben y gornel at Giât y Defaid. Pan glywodd Sanbalat ein bod ni'n ailadeiladu'r waliau dyma fe'n gwylltio'n lân a dechrau galw'r Iddewon yn bob enw dan haul. Dyma fe'n dechrau dweud o flaen ei ffrindiau a milwyr Samaria, “Beth mae'r Iddewon pathetig yma'n meddwl maen nhw'n wneud? Ydyn nhw'n meddwl y gallan nhw wneud y gwaith eu hunain? Fyddan nhw'n offrymu aberthau eto? Ydych chi'n meddwl y gwnân nhw orffen y gwaith heddiw? Ydyn nhw'n meddwl y gallan nhw ddod â'r cerrig yma sydd wedi llosgi yn ôl yn fyw?” A dyma Tobeia o Ammon, oedd yn sefyll gydag e, yn dweud, “Byddai'r wal maen nhw'n ei chodi yn chwalu petai llwynog yn dringo arni!” “O ein Duw, gwrando arnyn nhw'n ein bychanu ni! Tro eu dirmyg arnyn nhw eu hunain! Gwna iddyn nhw gael eu cipio i ffwrdd fel caethion i wlad estron! Paid maddau iddyn nhw na cuddio eu pechodau o dy olwg! Maen nhw wedi cythruddo'r rhai sy'n adeiladu!” Felly dyma ni'n ailadeiladu'r wal. Roedd hi'n gyfan hyd at hanner ei huchder ac roedd y bobl yn frwd i weithio. Ond pan glywodd Sanbalat a Tobeia, yr Arabiaid, pobl Ammon a pobl Ashdod fod y gwaith o adfer waliau Jerwsalem yn dod yn ei flaen cystal, a bod y bylchau yn y wal yn cael eu cau, roedden nhw'n wyllt. A dyma nhw'n cynllwynio gyda'i gilydd i ymosod ar Jerwsalem a chreu helynt. Felly dyma ni'n gweddïo ar ein Duw, a gosod gwylwyr i edrych allan amdanyn nhw ddydd a nos. Ond yna dyma bobl Jwda yn dechrau dweud, “Mae'r gweithwyr yn blino a stryffaglu, ac mae cymaint o rwbel. Does dim gobaith i ni adeiladu a gorffen y gwaith ar y wal!” Roedd ein gelynion yn brolio, “Cyn iddyn nhw sylweddoli beth sy'n digwydd, byddwn ni yn eu canol yn eu lladd nhw, a bydd y gwaith yn dod i ben!” Roedd yr Iddewon oedd yn byw wrth eu hymyl nhw wedi'n rhybuddio ni lawer gwaith, “Dylech chi ddod yn ôl aton ni, maen nhw'n cynllwyn i ymosod.” Felly dyma fi'n gosod pobl i amddiffyn y rhannau isaf, tu ôl i'r wal yn y mannau mwyaf agored. Gosodais nhw bob yn glan, gyda cleddyfau, gwaywffyn a bwâu. Yna ar ôl edrych dros y cwbl, dyma fi'n codi i annerch yr arweinwyr, y swyddogion, a gweddill y bobl, a dweud, “Peidiwch bod a'u hofn nhw. Cofiwch mor fawr a rhyfeddol ydy'r Meistr! Byddwch barod i ymladd dros eich pobl, eich meibion, eich merched, eich gwragedd a'ch cartrefi!” Pan glywodd ein gelynion ein bod ni'n gwybod am eu cynllwyn, dyma Duw yn eu rhwystro nhw. Felly dyma pawb yn mynd yn ôl i weithio ar y wal. O'r diwrnod hwnnw ymlaen roedd hanner y dynion ifanc oedd gen i yn adeiladu a'r hanner arall yn amddiffyn. Roedd ganddyn nhw arfwisg, ac roedden nhw'n cario gwaywffyn, tariannau a bwâu. Roedd y swyddogion yn sefyll tu ôl i bobl Jwda oedd yn adeiladu'r wal. Roedd y rhai oedd yn cario beichiau yn gwneud hynny gydag un llaw, ac yn dal arf yn y llaw arall. Ac roedd gan bob un o'r adeiladwyr gleddyf wedi ei strapio am ei ganol tra roedd yn gweithio. Ond roedd canwr y corn hwrdd yn aros gyda mi. Yna dyma fi'n dweud wrth yr arweinwyr, y swyddogion a gweddill y bobl, “Mae gynnon ni lot o waith caled i'w wneud, a dŷn ni'n bell oddi wrth ein gilydd ar y wal. Pan fyddwch chi'n clywed y corn hwrdd yn cael ei ganu, dylai pawb gasglu at ei gilydd yno. Bydd ein Duw yn ymladd droson ni!” Felly dyma ni'n bwrw ymlaen gyda'r gwaith o fore gwyn tan nos, gyda hanner ohonon ni yn cario gwaywffyn. Peth arall ddwedais i bryd hynny oedd, “Dylai pawb aros dros nos yn Jerwsalem (y gweithwyr a'r rhai sy'n eu hamddiffyn). Byddan nhw'n gwarchod y ddinas dros nos, ac yn gweithio yn ystod y dydd.” Roedden ni i gyd yn cysgu yn ein dillad gwaith — fi a'm gweision, y gweithwyr a'r gwylwyr oedd gyda ni. Ac roedd pawb yn cario arf yn ei law bob amser. Ond wedyn dyma rai o'r dynion a'u gwragedd yn dechrau cwyno a protestio am eu cyd-Iddewon. Roedd rhai yn dweud, “Mae gynnon ni deuluoedd mawr, ac mae angen lot o ŷd arnon ni i allu bwyta a byw.” Roedd eraill yn dweud, “Dŷn ni'n gorfod morgeisio ein tir a'n gwinllannoedd a'n tai er mwyn prynu ŷd i osgoi llwgu.” Ac eraill eto, “Dŷn ni wedi gorfod benthyg arian i dalu trethi i'r brenin ar ein tir a'n gwinllannoedd. Dŷn ni wedi gorfod rhoi ein meibion a'n merched i weithio fel caethweision i bobl er ein bod ni a'n plant o'r un genedl ac yn rhannu'r un gwaed â nhw. Mae rhai o'n merched wedi cael eu cymryd oddi arnon ni, a dŷn ni'n gallu gwneud dim am y peth, am fod ein tir a'n gwinllannoedd yn nwylo pobl eraill.” Roeddwn i'n wyllt pan glywais i am hyn i gyd. Yna ar ôl ystyried y sefyllfa'n ofalus, dyma fi'n penderfynu mynd at y bobl fawr a'r swyddogion i gwyno: “Dych chi i gyd yn codi llogau ar ddyledion eich pobl eich hunain!” A dyma fi'n galw cyfarfod cyhoeddus i ddelio gyda'r peth. Dwedais yno, “Dŷn ni wedi gwneud popeth allwn ni i brynu'n ôl ein cyd-Iddewon sydd wedi eu gwerthu i'r cenhedloedd. A nawr dyma chi'n gwerthu eich pobl eich hunain i'ch gilydd!” Doedden nhw'n gallu dweud dim. Doedd ganddyn nhw ddim ateb. Yna dyma fi'n dweud, “Dydy beth dych chi'n ei wneud ddim yn iawn! Dylech fyw mewn ffordd sy'n dangos parch at Dduw. Fyddai ddim rhaid i chi ddiodde eich gelynion, y cenhedloedd, yn eich gwawdio chi wedyn! Dw i a'm perthnasau a'r rhai sydd gyda ni yn benthyg arian ac ŷd i bobl. Rhaid stopio'r busnes yma o gymryd tir a thai pobl i dalu dyledion! Rhowch bopeth yn ôl iddyn nhw heddiw — eu caeau, eu gwinllannoedd, eu coed olewydd a'u tai, a'r llogau dych chi'n eu cymryd am fenthyg arian, ŷd, sudd grawnwin, ac olew olewydd iddyn nhw.” A dyma nhw'n ateb, “Gwnawn ni roi'r cwbl yn ôl, a stopio hawlio dim oddi arnyn nhw. Byddwn ni'n gwneud yn union fel rwyt ti'n dweud.” Yna dyma fi'n galw am offeiriaid a gwneud i'r bobl gyfoethog a'r swyddogion fynd ar eu llw y bydden nhw'n cadw eu gair. A dyma fi'n ysgwyd popeth o bocedi fy nillad, a dweud, “Dyma fydd Duw yn ei wneud i chi os fyddwch chi ddim yn cadw eich gair. Byddwch yn colli eich tai a'ch eiddo. Bydd yn eich ysgwyd chi a byddwch yn colli popeth!” A dyma pawb yn y gynulleidfa yn ateb, “Ia, wir! Amen!” ac addoli'r ARGLWYDD. Yna gwnaeth y bobl beth roedden nhw wedi ei addo. O'r diwrnod cyntaf y ces i fy ngwneud yn llywodraethwr Jwda — sef o'r ugeinfed flwyddyn i flwyddyn tri deg dau o deyrnasiad y brenin Artaxerxes (un deg dwy o flynyddoedd i gyd) — wnes i a'm teulu ddim bwyta'r bwyd oedd yn cael ei roi i'r llywodraethwr. Roedd y llywodraethwyr o'm blaen i wedi gosod beichiau trwm ar y bobl, a chymryd bwyd a gwin oddi arnyn nhw ar ben y dreth o 40 darn arian. Roedd eu staff yn galed ar y bobl hefyd. Ond wnes i ddim ymddwyn felly, am fy mod i'n parchu Duw. Es i ati fel pawb arall i weithio ar y wal, a wnes i ddim prynu tir i mi fy hun. Ac roedd fy staff i gyd yn gweithio yno hefyd. Roedd cant a hanner o bobl, swyddogion yr Iddewon, yn bwyta gyda mi'n rheolaidd, heb sôn am ymwelwyr oedd yn dod o wledydd eraill. Bob dydd roedd un ychen, chwech o'r defaid gorau, a ffowls yn cael eu paratoi i mi, heb sôn am ddigonedd o win o bob math oedd yn cael ei roi i mi bob deg diwrnod. Er hynny, wnes i ddim hawlio'r bwyd oedd yn cael ei roi i'r llywodraethwr, am fod y baich yn drwm ar y bobl. O Dduw, cofia hyn o'm plaid i — popeth dw i wedi ei wneud i'r bobl yma. Clywodd Sanbalat, Tobeia, Geshem yr Arab, a'r gelynion eraill fy mod wedi ailadeiladu'r wal a cau'r bylchau i gyd (er fod drysau'r giatiau ddim wedi eu gosod yn eu lle bryd hynny). A dyma fi'n cael neges gan Sanbalat a Geshem yn gofyn i mi eu cyfarfod yn un o'r pentrefi ar wastatir Ono. Ond roedden nhw'n bwriadu gwneud rhyw ddrwg i mi. Felly dyma fi'n anfon neges yn ôl yn dweud, “Dw i'n gwneud gwaith pwysig, ac felly alla i ddim dod. Alla i ddim gadael i'r gwaith stopio er mwyn dod i'ch cyfarfod chi.” Dyma nhw'n cysylltu i ofyn yr un peth bedair gwaith, a rhois yr un ateb iddyn nhw bob tro. Yna'r pumed tro dyma Sanbalat yn anfon ei was gyda llythyr agored yn ei law. Dyma oedd y llythyr yn ei ddweud: “Mae yna si yn mynd o gwmpas (ac mae Geshem wedi cadarnhau hyn), dy fod ti a'r Iddewon yn bwriadu gwrthryfela, ac mai dyna pam dych chi'n adeiladu'r waliau. A'r sôn ydy dy fod ti am fod yn frenin arnyn nhw. Mae'n nhw'n dweud dy fod wedi penodi proffwydi yn Jerwsalem i gyhoeddi, ‘Mae brenin yn Jwda!’ Bydd brenin Persia yn dod i glywed am y sibrydion yma. Felly tyrd! Gad i ni drafod y mater.” Dyma fi'n anfon neges yn ôl ato yn dweud, “Dydy'r pethau rwyt ti'n ddweud amdanon ni ddim yn wir. Ffrwyth dy ddychymyg di ydy'r cwbl!” (Ceisio'n dychryn ni roedden nhw, gan feddwl y bydden ni'n llaesu dwylo ac y byddai'r gwaith ddim yn cael ei orffen. Ond roedd hyn wedi fy ngwneud i'n fwy penderfynol fyth.) Yna es i weld Shemaia fab Delaia ac ŵyr Mehetafél, oedd ddim yn gallu gadael ei dŷ. A dyma fe'n dweud, “Gad i ni gyfarfod yn y cysegr — cysegr Duw yn y Deml, a cloi ein hunain i mewn. Maen nhw'n dod i dy ladd di — dod i dy ladd di'n y nos.” Ond dyma fi'n ateb, “Ydy'n iawn i ddyn fel fi redeg i ffwrdd? A sut all dyn cyffredin fel fi fynd i mewn i'r cysegr a cael byw? Na, wna i ddim mynd.” Roedd hi'n amlwg fod Duw ddim yn siarad trwyddo — Tobeia a Sanbalat oedd wedi ei dalu i roi'r broffwydoliaeth yna. Roedd wedi cael ei dalu i'm dychryn i, er mwyn i mi bechu drwy wneud beth roedd e'n ei awgrymu. Byddai hynny wedyn wedi arwain at sgandal a rhoi enw drwg i mi. O Dduw, cofia beth mae Tobeia a Sanbalat wedi ei wneud — a hefyd Noadeia y broffwydes, a'r proffwydi eraill sy'n trïo fy nychryn i. Cafodd y wal ei gorffen ar y pumed ar hugain o fis Elwl — dim ond pum deg dau diwrnod gymrodd y gwaith! Roedd ein gelynion, a'r gwledydd o'n cwmpas, wedi dychryn a digalonni pan glywon nhw fod y gwaith wedi ei orffen. Allen nhw ddim gwadu fod Duw wedi ein helpu ni i wneud hyn. Drwy'r cyfnod yma roedd pobl bwysig Jwda a Tobeia wedi bod yn ysgrifennu'n ôl ac ymlaen at ei gilydd. Roedd yna lawer o bobl yn Jwda wedi addo cefnogi Tobeia am ddau reswm: roedd yn fab-yng-nghyfraith i Shechaneia fab Arach, ac roedd ei fab Iehochanan wedi priodi merch Meshwlam fab Berecheia. Roedden nhw'n dweud wrtho i am yr holl bethau da roedd e'n eu gwneud, ac yna'n dweud wrtho fe beth ddwedais i. Wedyn roedd Tobeia'n anfon llythyrau bygythiol ata i. Roedd y wal wedi ei gorffen, drysau'r giatiau wedi eu gosod yn eu lle, a gofalwyr y giatiau, cantorion a Lefiaid wedi eu penodi. A dyma fi'n apwyntio Chanani (perthynas i mi), a Chananeia, pennaeth y gaer, i fod yn gyfrifol am Jerwsalem. Roedd Chananeia'n ddyn y gallwn ei drystio, ac yn fwy duwiol na'r rhan fwya o bobl. Dwedais wrthyn nhw, “Ddylai giatiau'r ddinas ddim bod ar agor pan mae'r haul yn boeth ganol dydd. Dylen nhw aros dan glo nes bod y gofalwyr yn ôl ar ddyletswydd. A rhaid i chi osod rhai o bobl Jerwsalem yn wylwyr ar y waliau, ac eraill wrth eu tai.” Roedd digon o le yn y ddinas, a dim llawer o bobl yn byw ynddi. Doedd bron ddim tai wedi eu hadeiladu ynddi bryd hynny. A dyma Duw yn rhoi syniad i mi, i alw'r arweinwyr a'r swyddogion a'r bobl gyffredin at ei gilydd, a'u cofrestru nhw yn ôl eu teuluoedd. Dyma fi'n dod o hyd i restrau teuluol y rhai ddaeth yn ôl yn wreiddiol. A dyma beth oedd wedi ei gofnodi: Dyma restr o bobl y dalaith ddaeth allan o Babilon. Cawson nhw eu cymryd yn gaeth yno gan Nebwchadnesar, brenin Babilon. Daeth pob un yn ôl i Jerwsalem ac i'r trefi eraill yn Jwda lle roedden nhw'n arfer byw. Yr arweinwyr oedd Serwbabel, Ieshŵa, Nehemeia, Asareia, Raameia, Nachamani, Mordecai, Bilshan, Mispar, Bigfai, Nechwm a Baana. Dyma faint o bobl Israel ddaeth yn ôl: Teulu Parosh: 2,172 Teulu Sheffateia: 372 Teulu Arach: 652 Teulu Pachath-Moab (o deuluoedd Ieshŵa a Joab): 2,818 Teulu Elam: 1,254 Teulu Sattw: 845 Teulu Saccai: 760 Teulu Binnŵi: 648 Teulu Bebai: 628 Teulu Asgad: 1,322 Teulu Adonicam: 667 Teulu Bigfai: 2,067 Teulu Adin: 655 Teulu Ater (sef disgynyddion Heseceia): 98 Teulu Chashŵm: 328 Teulu Betsai: 324 Teulu Chariff: 112 Teulu Gibeon: 95 Dynion Bethlehem a Netoffa: 188 Dynion Anathoth: 128 Dynion Beth-asmafeth: 42 Dynion Ciriath-iearim, Ceffira a Beëroth: 743 Dynion Rama a Geba: 621 Dynion Michmas: 122 Dynion Bethel ac Ai: 123 Pobl y Nebo arall: 52 Pobl yr Elam arall: 1,254 Pobl Charîm: 320 Pobl Jericho: 345 Pobl Lod, Hadid ac Ono: 721 Pobl Sena'a: 3,930 Yr offeiriaid: Teulu Idaïa (o linach Ieshŵa): 973 Teulu Immer: 1,052 Teulu Pashchwr: 1,247 Teulu Charîm: 1,017 Y Lefiaid: Teulu Ieshŵa (drwy Cadmiel o deulu Hodefa): 74 Y cantorion: Teulu Asaff: 148 Gofalwyr y giatiau: Teuluoedd Shalwm, Ater, Talmon, Accwf, Chatita a Shobai: 138 Gweision y deml: Teulu Sicha Teulu Chaswffa Teulu Tabbaoth Teulu Ceros Teulu Sïa Teulu Padon Teulu Lebana Teulu Hagaba Teulu Shalmai Teulu Chanan Teulu Gidel Teulu Gachar Teulu Reaia Teulu Resin Teulu Necoda Teulu Gassam Teulu Wssa Teulu Paseach Teulu Besai Teulu Mewnim Teulu Neffwshesim Teulu Bacbwc Teulu Chacwffa Teulu Charchwr Teulu Batslith Teulu Mechida Teulu Charsha Teulu Barcos Teulu Sisera Teulu Temach Teulu Netsïach Teulu Chatiffa. Teuluoedd gweision Solomon: Teulu Sotai Teulu Soffereth Teulu Perida Teulu Jala Teulu Darcon Teulu Gidel Teulu Sheffateia Teulu Chattil Teulu Pochereth-hatsbaîm Teulu Amon. Cyfanswm gweision y deml a theuluoedd gweision Solomon: 392. Daeth pobl eraill o drefi Tel-melach, Tel-harsha, Cerwb, Adon, ac Immer (ond doedd y rhain ddim yn gallu profi eu bod nhw a'u teuluoedd yn dod o Israel yn wreiddiol): Teulu Delaia, teulu Tobeia a theulu Necoda: 652 Wedyn yr offeiriaid, sef teuluoedd Chafaia, Hacots, a Barsilai (dyn oedd wedi priodi un o ferched Barsilai o Gilead, ac wedi cymryd ei enw). Roedd y rhain hefyd wedi chwilio am gofnod o'u teuluoedd yn y rhestrau achau, ond wedi methu ffeindio dim byd. Felly cawson nhw eu rhwystro rhag gwasanaethu fel offeiriaid. Dwedodd y llywodraethwr nad oedden nhw i gael bwyta'r bwyd oedd wedi ei gysegru, nes byddai offeiriad yn codi oedd yn gallu penderfynu drwy ddefnyddio'r Wrim a'r Thwmim. Cyfanswm y bobl aeth yn ôl oedd 42,360, (heb gyfri'r 7,337 o weision a morynion oedd ganddyn nhw; ac roedd 245 o gantorion — dynion a merched — gyda nhw hefyd). [68-69] Roedd ganddyn nhw 736 o geffylau, 245 o fulod, 435 o gamelod a 6,720 o asynnod. *** Dyma rai o benaethiaid y claniau yn cyfrannu tuag at y gwaith. Y llywodraethwr — 8 cilogram o aur, 50 powlen, a 530 o wisgoedd i'r offeiriaid. Penaethiaid y claniau — 160 cilogram o aur a 1,300 cilogram o arian. Yna cyfraniad gweddill y bobl oedd 160 cilogram o aur a 1,200 cilogram o arian, a 67 o wisgoedd i'r offeiriaid. Felly dyma'r offeiriaid, Lefiaid, cantorion, gofalwyr y giatiau a gweision y deml i gyd yn setlo i lawr yn eu trefi eu hunain. Ac aeth gweddill pobl Israel yn ôl i fyw i'w trefi hwythau hefyd. Pan ddaeth y seithfed mis, aeth pobl Israel o'u trefi a dod at ei gilydd yn Jerwsalem yn y sgwâr o flaen Giât y Dŵr. Dyma nhw'n gofyn i Esra'r ysgrifennydd ddod yno gyda Llyfr Cyfraith Moses oedd yr ARGLWYDD wedi ei roi i bobl Israel. Felly ar ddiwrnod cynta'r seithfed mis dyma Esra'r offeiriad yn dod a darllen y cyfarwyddiadau i'r gynulleidfa oedd yno — yn ddynion a merched, a phawb oedd yn ddigon hen i ddeall. Bu'n darllen iddyn nhw yn y sgwâr o flaen Giât y Dŵr o'r bore bach hyd ganol dydd. Roedd pawb yn gwrando'n astud ar beth roedd sgrôl y Gyfraith yn ei ddweud. Roedd Esra'n sefyll ar lwyfan uchel o goed oedd wedi ei godi'n unswydd. Roedd Matitheia, Shema, Anaia, Wreia, Chilcïa, a Maaseia yn sefyll ar ei ochr dde iddo, a Pedaia, Mishael, Malcîa, Chashŵm, Chashbadana, Sechareia a Meshwlam ar y chwith. Dyma Esra yn agor y sgrôl. (Roedd pawb yn ei weld yn gwneud hyn, gan ei fod i fyny ar y llwyfan.) Pan agorodd y sgrôl, dyma'r bobl i gyd yn sefyll ar eu traed. Yna dyma Esra yn bendithio yr ARGLWYDD, y Duw mawr. A dyma'r bobl yn ateb, “Amen! Amen!” a codi eu dwylo. Yna dyma nhw'n plygu'n isel i addoli'r ARGLWYDD, a'i hwynebau ar lawr. Tra roedd y bobl yn sefyll yno, roedd nifer o Lefiaid yn dysgu'r Gyfraith iddyn nhw — Ieshŵa, Bani, Sherefeia, Iamin, Accwf, Shabbethai, Hodeia, Maaseia, Celita, Asareia, Iosafad, Chanan, a Pelaia. Roedden nhw'n darllen o sgrôl y Gyfraith bob yn adran, ac yna yn ei esbonio, fel bod y bobl yn deall beth oedd yn cael ei ddarllen. Roedd y bobl wedi dechrau crïo wrth wrando ar y Gyfraith yn cael ei darllen iddyn nhw. A dyma Nehemeia y llywodraethwr, Esra yr offeiriad a'r ysgrifennydd, a'r Lefiaid oedd yn rhoi'r esboniad, yn dweud, “Mae heddiw'n ddiwrnod wedi ei gysegru i'r ARGLWYDD eich Duw. Peidiwch galaru a crïo. Ewch i ddathlu a mwynhau pryd o fwyd a diod felys, a cofiwch rannu gyda'r rhai sydd heb ddim. Mae heddiw'n ddiwrnod wedi ei gysegru i'r Meistr. Peidiwch bod yn drist — bod yn llawen yn yr ARGLWYDD sy'n rhoi nerth i chi!” Yna dyma'r Lefiaid yn tawelu'r bobl, a dweud, “Ust! Stopiwch grïo. Mae heddiw'n ddiwrnod cysegredig.” Felly dyma'r bobl i gyd yn mynd i ffwrdd i fwyta ac yfed a rhannu beth oedd ganddyn nhw'n llawen — achos roedden nhw wedi deall beth oedd wedi cael ei ddysgu iddyn nhw. Yna'r diwrnod wedyn dyma benaethiaid y claniau, yr offeiriaid a'r Lefiaid yn cyfarfod gydag Esra yr ysgrifennydd i astudio eto beth roedd y Gyfraith yn ei ddweud. A dyma nhw'n darganfod fod yr ARGLWYDD wedi rhoi gorchymyn drwy Moses fod pobl Israel i fyw mewn llochesau dros dro yn ystod yr Ŵyl yn y seithfed mis. Roedden nhw i fod i gyhoeddi'r neges yma drwy'r trefi i gyd, ac yn Jerwsalem: “Ewch i'r bryniau i gasglu canghennau deiliog pob math o goed — olewydd, myrtwydd, palmwydd ac yn y blaen — i godi'r llochesau gyda nhw. Dyna sydd wedi ei ysgrifennu yn y Gyfraith.” Felly dyma'r bobl yn mynd allan a dod â'r canghennau yn ôl gyda nhw i godi llochesau iddyn nhw eu hunain — ar ben to eu tai, neu yn yr iard, yn iard y deml ac yn sgwâr Giât y Dŵr a Giât Effraim. Aeth pawb oedd wedi dod yn ôl o'r gaethglud ati i godi llochesau dros dro i fyw ynddyn nhw dros yr Ŵyl. Doedd pobl Israel ddim wedi gwneud fel yma ers dyddiau Josua fab Nwn. Roedd pawb yn dathlu'n llawen. Dyma Esra yn darllen o Lyfr Cyfraith Duw bob dydd, o ddechrau'r Ŵyl i'w diwedd. Dyma nhw'n cadw'r Ŵyl am saith diwrnod, ac yna yn ôl y drefn dod at ei gilydd i addoli eto. Ar y pedwerydd ar hugain o'r un mis dyma bobl Israel yn dod at ei gilydd eto. Roedden nhw'n ymprydio, yn gwisgo sachliain, ac wedi taflu pridd ar eu pennau. Dyma'r rhai oedd yn ddisgynyddion go iawn i bobl Israel yn gwahanu eu hunain oddi wrth bobl o wledydd eraill, ac yn sefyll i gyffesu eu bod nhw a'u hynafiaid wedi pechu a gwneud drwg. Buon nhw'n sefyll yno am dair awr, tra roedd Cyfraith yr ARGLWYDD eu Duw yn cael ei darllen o'r sgrôl, ac yna am dair awr arall yn cyffesu eu pechodau a plygu i lawr i addoli. Yna dyma'r Lefiaid — Ieshŵa, Bani, Cadmiel, Shefaneia, Bwnni, Sherefeia, Bani, a Cenani — yn sefyll ar y grisiau yn crïo a galw'n uchel ar yr ARGLWYDD eu Duw. Wedyn dyma grŵp arall o Lefiaid — Ieshŵa, Cadmiel, Bani, Chashafneia, Sherefeia, Hodeia, Shefaneia, a Pethacheia — yn cyhoeddi, “Safwch ar eich traed a bendithio yr ARGLWYDD eich Duw!” “Bendith arnat ti, O ARGLWYDD ein Duw, o hyn ymlaen ac i dragwyddoldeb! Boed i dy enw gwych di gael ei fendithio, er nad ydy geiriau'n ddigon i fynegi'r fendith a'r mawl! Ti ydy'r ARGLWYDD, a dim ond ti. Ti wnaeth greu yr awyr, y gofod a'r holl sêr, y ddaear a phopeth sydd arni, a'r moroedd a phopeth sydd ynddynt. Ti sydd yn cynnal y cwbl, ac mae tyrfa'r nefoedd yn plygu o dy flaen di. Ti ydy'r ARGLWYDD Dduw wnaeth ddewis Abram, a'i arwain allan o Ur yn Babilonia, a rhoi'r enw Abraham iddo. Pan welaist ei fod yn ffyddlon dyma ti'n ymrwymo gydag e i roi gwlad Canaan i'w ddisgynyddion — tir yr Hethiaid a'r Amoriaid, y Peresiaid, y Jebwsiaid a'r Girgasiaid. A dyma ti'n cadw dy air, am dy fod ti'n gwneud beth sy'n iawn. Gwelaist ein hynafiaid yn dioddef yn yr Aifft, a clywaist nhw'n gweiddi am help wrth y Môr Coch. Yna gwnest wyrthiau rhyfeddol i daro'r Pharo a'i swyddogion, a pobl y wlad, am fod mor greulon. Ti'n enwog am y pethau yma hyd heddiw. Dyma ti'n hollti'r môr o'u blaenau nhw, iddyn nhw gerdded drwy'r môr ar dir sych! Yna dyma ti'n taflu'r rhai oedd yn ceisio'u dal i'r dŵr dwfn, a dyma nhw'n suddo fel carreg dan y tonnau mawr. Ti wnaeth arwain dy bobl gyda cholofn o niwl yn y dydd, a cholofn o dân i oleuo'r ffordd yn y nos. Dyma ti'n dod i lawr ar Fynydd Sinai, a siarad gyda nhw o'r nefoedd. Rhoddaist ganllawiau teg, dysgeidiaeth wir, rheolau a gorchmynion da. Eu dysgu nhw fod y Saboth yn gysegredig, a cael Moses i ddysgu dy orchmynion, dy reolau a'th ddysgeidiaeth iddyn nhw. Rhoist fara o'r nefoedd iddyn nhw, pan oedden nhw eisiau bwyd; a dod â dŵr o'r graig pan oedden nhw'n sychedig. Yna dwedaist wrthyn nhw am fynd i gymryd y tir roeddet ti wedi addo ei roi iddyn nhw. Ond roedd ein hynafiaid yn falch ac ystyfnig, a wnaethon nhw ddim gwrando ar dy orchmynion di. Gwrthodon nhw wrando, ac anghofio'r gwyrthiau roeddet ti wedi eu gwneud yn eu plith nhw. Dyma nhw'n gwrthryfela, a dewis arweinydd i'w harwain nhw yn ôl i'r Aifft. Ond rwyt ti yn Dduw sydd yn maddau, rwyt ti mor garedig a thrugarog, mor amyneddgar ac mor anhygoel o hael! Wnest ti ddim hyd yn oed troi cefn arnyn nhw pan wnaethon nhw eilun metel ar siâp tarw ifanc a honni, ‘Dyma'r duw ddaeth â chi allan o'r Aifft!’ neu pan oedden nhw'n cablu yn ofnadwy. Am dy fod ti mor drugarog, wnest ti ddim troi cefn arnyn nhw yn yr anialwch. Roedd y golofn o niwl yn dal i'w harwain yn y dydd, a'r golofn dân yn dal i oleuo'r ffordd iddyn nhw yn y nos. Dyma ti'n rhoi dy ysbryd da i'w dysgu nhw. Wnest ti ddim stopio rhoi manna iddyn nhw i'w fwyta, a dal i roi dŵr i dorri eu syched. Dyma ti'n eu cynnal nhw am bedwar deg mlynedd. Er eu bod yn yr anialwch, doedden nhw'n brin o ddim; wnaeth eu dillad ddim treulio, a'u traed ddim chwyddo. Yna dyma ti'n rhoi teyrnasoedd a phobloedd iddyn nhw, a rhannu pob cornel o'r tir rhyngddyn nhw. Dyma nhw'n meddiannu tir Sihon, brenin Cheshbon, a tir Og, brenin Bashan. Dyma ti'n rhoi cymaint o ddisgynyddion iddyn nhw ag sydd o sêr yn yr awyr. A dod â nhw i'r tir roeddet ti wedi dweud wrth eu tadau eu bod i'w feddiannu. A dyma'r disgynyddion yn mynd i mewn a'i gymryd. Ti wnaeth goncro'r Canaaneaid oedd yn byw yn y wlad. Ti wnaeth roi'r fuddugoliaeth iddyn nhw — iddyn nhw wneud fel y mynnon nhw â'r bobl a'u brenhinoedd. Dyma nhw'n concro trefi caerog a chymryd tir ffrwythlon. Meddiannu tai yn llawn o bethau da, pydewau wedi eu cloddio, gwinllannoedd, gerddi olewydd, a digonedd o goed ffrwythau. Cafodd pawb ddigon i'w fwyta, a pesgi; roedden nhw'n byw'n fras ar dy holl ddaioni. Ond dyma nhw'n dechrau bod yn anufudd a gwrthryfela yn dy erbyn di. Troi cefn ar dy Gyfraith di, a lladd dy broffwydi oedd wedi bod yn eu siarsio i droi yn ôl atat — roedden nhw'n cablu yn ofnadwy. Felly dyma ti'n gadael i'w gelynion eu gorchfygu a'u gorthrymu. Ond dyma nhw'n gweiddi am dy help o ganol eu trafferthion, a dyma ti'n gwrando o'r nefoedd. Am dy fod ti mor barod i dosturio, dyma ti'n anfon rhai i'w hachub o afael eu gelynion. Ond yna, pan oedden nhw'n gyfforddus eto, dyma nhw'n mynd yn ôl i'w ffyrdd drwg. Felly dyma ti'n gadael i'w gelynion gael y llaw uchaf arnyn nhw. Wedyn bydden nhw'n gweiddi am dy help di eto, a byddet tithau'n gwrando o'r nefoedd ac yn eu hachub nhw dro ar ôl tro am dy fod mor drugarog. Yna roeddet ti'n eu siarsio nhw i droi yn ôl at dy Gyfraith di, ond roedden nhw'n falch ac yn gwrthod gwrando ar dy orchmynion. Dyma nhw'n gwrthod dy ganllawiau — y rhai sy'n rhoi bywyd i'r sawl sy'n ufudd iddyn nhw. Aethon nhw'n fwy a mwy ystyfnig; a gwrthryfela yn lle bod yn ufudd. Buost mor amyneddgar hefo nhw, am flynyddoedd lawer. Buodd dy Ysbryd yn eu siarsio drwy'r proffwydi. Ond doedden nhw ddim am wrando, felly dyma ti'n gadael i bobloedd gwledydd eraill eu gorchfygu. Ac eto, am dy fod ti mor drugarog, wnest ti ddim cael gwared â nhw yn llwyr; wnest ti ddim troi dy gefn arnyn nhw. Rwyt ti mor garedig a thrugarog! Felly, o ein Duw — y Duw mawr, pwerus, rhyfeddol, sy'n cadw dy ymrwymiad ac sydd mor hael — dŷn ni wedi dioddef caledi ers dyddiau brenhinoedd Asyria (ni y bobl, ein brenhinoedd, arweinwyr, offeiriaid, proffwydi, a'n hynafiaid); paid meddwl mai peth bach ydy hyn. Roeddet ti'n iawn yn gadael i'r cwbl ddigwydd i ni. Rwyt ti wedi bod yn ffyddlon; ni sydd wedi bod ar fai. Wnaeth ein brenhinoedd a'n harweinwyr, ein hoffeiriaid a'n hynafiaid, ddim cadw dy gyfraith, dy ganllawiau a'th orchmynion. Wnaethon nhw ddim dy wasanaethu di na troi cefn ar eu ffyrdd drwg, hyd yn oed pan oedd popeth ganddyn nhw: teyrnas, dy ddaioni rhyfeddol tuag atyn nhw, a'r tir da a ffrwythlon wnest ti ei roi iddyn nhw. A dyma ni, heddiw, yn gaethweision yn y tir ffrwythlon wnest ti ei roi i'n hynafiaid! Ydyn, dŷn ni'n gaethweision yma! Mae'r holl gnydau sy'n tyfu yma yn mynd i'r brenhinoedd rwyt ti wedi eu rhoi i'n rheoli, o achos ein pechodau. Maen nhw'n ein rheoli ni a'n hanifeiliaid, ac yn gwneud fel y mynnon nhw! Mae hi'n galed arnon ni! “O achos hyn i gyd dŷn ni, bobl Israel, yn gwneud ymrwymiad ysgrifenedig. Mae ein harweinwyr, ein Lefiaid a'n hoffeiriaid wedi arwyddo'r ddogfen, a'i selio.” Dyma'r enwau oedd ar y copi: Nehemeia y llywodraethwr (mab Hachaleia), a Sedeceia, Seraia, Asareia, Jeremeia, Pashchwr, Amareia, Malcîa, Chattwsh, Shefaneia, Malwch, Charîm, Meremoth, Obadeia, Daniel, Ginnethon, Barŵch, Meshwlam, Abeia, Miamin, Maaseia, Bilgai, a Shemaia. (Y rhain oedd yr offeiriaid.) Yna'r Lefiaid: Ieshŵa fab Asaneia, Binnŵi o glan Chenadad, a Cadmiel. Hefyd: Shefaneia, Hodeia, Celita, Pelaia, Chanan, Micha, Rechob, Chashafeia, Saccwr, Sherefeia, Shefaneia, Hodeia, Bani, a Beninw. Yna penaethiaid y bobl: Parosh, Pachath-Moab, Elam, Sattw, Bani, Bwnni, Asgad, Bebai, Adoneia, Bigfai, Adin, Ater, Chisceia, Asswr, Hodeia, Chashŵm, Betsai, Chariff, Anathoth, Nebai, Magpiash, Meshwlam, Chesir, Meshesafel, Sadoc, Iadwa, Plateia, Chanan, Anaia, Hoshea, Chananeia, Chashwf, Halochesh, Pilcha, Shofec, Rechwm, Chashafna, Maaseia, Achïa, Chanan, Anan, Malŵch, Charîm, a Baana. [28-29] Dyma weddill y bobl yn ymuno gyda'r arweinwyr i dyngu llw y bydden nhw'n ufudd i'r Gyfraith roddodd Duw i'w was Moses. (Roedd hyn yn cynnwys yr offeiriaid, Lefiaid, gofalwyr y giatiau, cantorion, gweision y deml, a pawb oedd wedi gwahanu eu hunain oddi wrth y bobl o wledydd eraill er mwyn bod yn ufudd i gyfraith Duw. Hefyd eu gwragedd, a'u meibion a'u merched, a pawb oedd yn ddigon hen i ddeall.) Os bydden nhw'n anufudd, roedden nhw'n cytuno y bydden nhw dan felltith. Ond roedden nhw'n addo y bydden nhw'n cadw gorchmynion yr ARGLWYDD ein Meistr, a'i reolau a'i ganllawiau. *** “Wnawn ni ddim rhoi ein merched yn wragedd i'r bobl baganaidd o'n cwmpas, na chymryd eu merched nhw yn wragedd i'n meibion ni. Os bydd y bobloedd eraill yn ceisio gwerthu grawn neu unrhyw nwyddau ar y Saboth (neu ddiwrnod cysegredig arall) wnawn ni ddim prynu ganddyn nhw. Bob saith mlynedd byddwn ni'n gadael ein caeau heb eu trin ac yn canslo pob dyled. Dŷn ni hefyd yn derbyn fod rhaid talu treth flynyddol o un rhan o dair o sicl (sef bron 4 gram o arian) i deml Dduw. Bydd hwn yn cael ei ddefnyddio i dalu am y torthau sydd i'w gosod ar fwrdd o flaen Duw, a'r gwahanol offrymau — yr offrwm dyddiol o rawn a'r offrwm i'w losgi, offrymau'r Sabothau, yr offrymau misol ar Ŵyl y lleuad newydd a'r gwyliau eraill, unrhyw offrymau eraill sydd wedi eu cysegru i Dduw, a'r offrymau puro o bechod sy'n gwneud pethau'n iawn rhwng pobl Israel a Duw. Hefyd unrhyw waith arall sydd i'w wneud i'r deml. Dŷn ni (yr offeiriaid, Lefiaid a'r bobl gyffredin) wedi trefnu (drwy fwrw coelbren) pryd yn ystod y flwyddyn mae pob teulu i ddarparu coed i'w llosgi ar allor yr ARGLWYDD ein Duw yn y deml, fel mae'n dweud yn y Gyfraith. A dŷn ni'n addo hefyd y byddwn ni, bob blwyddyn, yn dod â ffrwythau cyntaf y tir a ffrwyth cyntaf pob coeden i deml yr ARGLWYDD. Byddwn ni hefyd yn dod â'n meibion hynaf, a'r anifeiliaid cyntaf i gael eu geni, i deml Dduw i'w cyflwyno i'r offeiriaid sy'n gwasanaethu yno, fel mae'r Gyfraith yn dweud. Byddwn hefyd yn rhoi y gorau o'n toes, grawn, ffrwythau, sudd grawnwin ac olew olewydd, i'r offeiriaid yn stordai teml ein Duw. A hefyd un rhan o ddeg o'n cnydau i'w rhoi i'r Lefiaid (gan mai'r Lefiaid sy'n casglu'r ddegfed ran yn y trefi lle dŷn ni'n gweithio.) Bydd offeiriad — un o ddisgynyddion Aaron — gyda'r Lefiaid pan mae'r gyfran yma'n cael ei gasglu. Yna bydd y Lefiaid yn mynd â degfed ran o'r hyn gasglwyd i stordai teml Dduw. Bydd pobl Israel a'r Lefiaid yn mynd â'r cyfraniadau yma (o rawn, sudd grawnwin, ac olew olewydd) i'r stordai lle mae holl offer y deml yn cael ei gadw. Dyna hefyd lle mae'r offeiriaid, gofalwyr y giatiau a'r cantorion yn aros. Dŷn ni'n addo na fyddwn ni'n esgeuluso teml ein Duw.” Roedd arweinwyr y bobl wedi setlo yn Jerwsalem. A dyma gweddill y bobl yn taflu coelbren i benderfynu pwy arall oedd i symud i fyw i'r ddinas gysegredig. Roedd un o bob deg i fynd i Jerwsalem, a'r gweddill i fyw yn y trefi eraill. A dyma'r bobl yn bendithio'r dynion hynny wnaeth wirfoddoli i aros yn Jerwsalem. Dyma restr o arweinwyr y dalaith wnaeth setlo yn Jerwsalem (Roedd y rhan fwya o bobl Israel yn byw yn eu tai eu hunain yn y trefi eraill yn Jwda — a'r offeiriaid, Lefiaid, gweithwyr y deml, a disgynyddion gweision Solomon. Ond symudodd rhai o ddisgynyddion Jwda a Benjamin i fyw yn Jerwsalem.) O lwyth Jwda: Athaia fab Wseia (mab Sechareia, mab Amareia, mab Sheffateia, mab Mahalal-el, o glan Perets); Maaseia fab Barŵch (mab Colchose, mab Chasaia, mab Adaia, mab Ioiarîf, mab Sechareia, o glan Shela fab Jwda). (Cyfanswm disgynyddion Perets, y bobl ddewr wnaeth setlo yn Jerwsalem oedd 468.) O lwyth Benjamin: Salw fab Meshwlam (mab Ioed, mab Pedaia, mab Colaia, mab Maaseia, mab Ithiel, mab Ieshaia,) a'r rhai oedd yn ei ddilyn, Gabai a Salai — 928 i gyd. (Joel fab Sichri oedd y swyddog oedd yn gyfrifol amdanyn nhw, a Jwda fab Hasenŵa oedd ei ddirprwy yn y ddinas.) O'r offeiriaid: Idaïa fab Ioiarîf, Iachin, Seraia fab Chilceia (mab Meshwlam, mab Sadoc, mab Meraioth, mab Achitwf) sef archoffeiriad teml Dduw, a'i perthnasau oedd yn gweithio gyda nhw yn y deml — 822. Adaia fab Ierocham (mab Pelaleia, mab Amtsi, mab Sechareia, mab Pashchwr, mab Malcîa), a'i perthnasau oedd yn arweinwyr y clan — 242; Amash'sai fab Asarel (mab Achsai, mab Meshilemoth, mab Immer,) a'i berthnasau, y dynion dewr eraill oedd yn gweithio gydag e — 128. (Safdiel fab Hagedolîm oedd y swyddog yn gyfrifol amdanyn nhw). O'r Lefiaid: Shemaia fab Chashwf (mab Asricam, mab Chashafeia fab Bwnni); Shabbethai a Iosafad, arweinwyr y Lefiaid, oedd yn gyfrifol am y gwaith allanol ar deml Dduw; Mataneia fab Micha (mab Sabdi ac ŵyr i Asaff), oedd yn arwain y gweddi ar mawl; Bacbwceia oedd ei ddirprwy; ac Afda fab Shammwa (mab Galal, mab Iedwthwn). (Cyfanswm y Lefiaid oedd yn byw yn y ddinas sanctaidd oedd 284). Yna gofalwyr y giatiau: Accwf, Talmon a'r rhai oedd yn gwarchod y giatiau gyda nhw — 172. Roedd gweddill pobl Israel, a gweddill yr offeiriad a'r Lefiaid, yn byw yn eu tai eu hunain yn y trefi eraill yn Jwda. Roedd gweithwyr y deml yn byw yn Offel, a Sicha a Gishpa oedd yn gyfrifol amdanyn nhw. Rheolwr y Lefiaid yn Jerwsalem oedd Wssi fab Bani (mab Chashafeia, mab Mataneia, mab Micha), oedd yn un o ddisgynyddion Asaff, sef y cantorion oedd yn arwain yr addoliad yn nheml Dduw. Roedd brenin Persia wedi gorchymyn fod cyfran i'w roi iddyn nhw bob dydd. Ac roedd Pethacheia fab Meshesafel (o glan Serach o lwyth Jwda) ar gael i roi cyngor i'r brenin am faterion yn ymwneud â'r bobl. I droi at y pentrefi a'r tiroedd o'u cwmpas nhw: Dyma bobl llwyth Jwda yn setlo yn Ciriath-arba a'r pentrefi o'i chwmpas, Dibon a'i phentrefi, Icaftseël a'i phentrefi, Ieshŵa, Molada, Beth-pelet, Chatsar-shwal, a Beersheba a'i phentrefi, Siclag a Mechona a'i phentrefi, En-rimmon, Sora, Iarmwth, Sanoach, Adwlam, a'u pentrefi. Lachish a'i thiroedd, ac Aseca a'i phentrefi. Roedden nhw wedi setlo drwy'r wlad i gyd, o Beersheba yn y de i ddyffryn Hinnom yn y gogledd. Dyma bobl llwyth Benjamin yn setlo yn Geba, Michmas, Ai, a Bethel a'i phentrefi, yn Anathoth, Nob, Ananeia, Chatsor, Rama, Gittaïm, Hadid, Seboïm, Nefalat, Lod, Ono, a Dyffryn y Crefftwyr. A dyma rai o'r Lefiaid oedd yn Jwda yn symud i fyw i Benjamin. Dyma'r offeiriaid a'r Lefiaid ddaeth yn ôl i Jerwsalem o Babilon gyda Serwbabel fab Shealtiel a Ieshŵa: Seraia, Jeremeia, Esra, Amareia, Malŵch, Chattwsh, Shechaneia, Rechwm, Meremoth, Ido, Gintoi, Abeia, Miamin, Maadia, Bilga Shemaia, Ioiarîf, Idaïa, Salw, Amoc, Chilceia, ac Idaïa. (Nhw oedd penaethiaid yr offeiriaid a'i cydweithwyr yng nghyfnod Ieshŵa.) Ieshŵa, Binnŵi, Cadmiel, Sherefeia, Jwda, a Mataneia yn gyfrifol am y caneuon mawl. Bacbwceia ac Wnni a'u cydweithwyr yn sefyll gyferbyn â nhw yn y gwasanaethau. Roedd Ieshŵa yn dad i Ioiacim, Ioiacim yn dad i Eliashif, Eliashif yn dad i Ioiada, Ioiada yn dad i Jonathan, a Jonathan yn dad i Iadwa. [12-21] Dyma'r offeiriaid oedd yn arweinwyr eu clan pan oedd Ioiacim yn archoffeiriad: [Offeiriad] — [Clan] Meraia — — o glan Seraia Chananeia — — o glan Jeremeia Meshwlam — — o glan Esra Iehochanan — — o glan Amareia Jonathan — — o glan Malwch Joseff — — o glan Shefaneia Adna — — o glan Charîm Chelcai — — o glan Meraioth Sechareia — — o glan Ido Meshwlam — — o glan Ginnethon Sichri — — o glan Abeia … — — o glan Miniamîn Piltai — — o glan Moadeia Shammwa — — o glan Bilga Jonathan — — o glan Shemaia Matenai — — o glan Ioiarîf Wssi — — o glan Idaïa Calai — — o glan Salw Eber — — o glan Amoc Chashafeia — — o glan Chilceia Nethanel — — o glan Idaïa *** *** *** *** *** *** *** *** *** Wedyn, fel yr offeiriaid, cafodd y Lefiaid oedd yn arweinwyr eu claniau nhw eu rhestru (o gyfnod yr archoffeiriaid Eliashif, Ioiada, Iochanan a Iadwa hyd deyrnasiad Dareius o Persia). Roedd cofrestr o'r Lefiaid oedd yn arweinwyr claniau hyd gyfnod Iochanan wedi ei gadw yn sgrôl y cofnodion hanesyddol. Arweinwyr y Lefiaid: Chashafeia, Sherefeia, Iehoshwa, Binnŵi, a Cadmiel. Yna eu cydweithwyr oedd yn sefyll gyferbyn â nhw i foli a diolch i Dduw (Roedd un côr yn wynebu y llall fel roedd Dafydd, dyn Duw, wedi dweud.) Yna Mataneia, Bacbwceia, Obadeia, Meshwlam, Talmon ac Accwf yn ofalwyr yn gwarchod y drysau i'r stordai wrth y giatiau. Roedd y rhain i gyd yn gweithio yn y cyfnod pan oedd Ioiacim (mab Ieshŵa fab Iotsadac) yn archoffeiriad, Nehemeia yn llywodraethwr, ac Esra'r offeiriad yn arbenigwr yn y Gyfraith. Pan oedd wal Jerwsalem yn cael ei chysegru, dyma'r Lefiaid o bob man yn cael eu galw i Jerwsalem i gymryd rhan yn y dathlu. Roedden nhw yno yn canu caneuon o ddiolch i gyfeiliant symbalau, nablau a thelynau. Roedd y cantorion wedi eu casglu hefyd, o'r ardal o gwmpas Jerwsalem a pentrefi Netoffa, Beth-gilgal, a'r wlad o gwmpas Geba ac Asmafeth. (Roedd y cantorion wedi codi pentrefi iddyn nhw eu hunain o gwmpas Jerwsalem.) Pan oedd yr offeiriaid a'r Lefiaid wedi mynd trwy'r ddefod o buro eu hunain, dyma nhw'n cysegru'r bobl, y giatiau, a'r wal. Trefnais i arweinwyr Jwda sefyll ar dop y wal, a cael dau gôr i ganu mawl. Roedd un côr i arwain yr orymdaith ar y wal i gyfeiriad y de at Giât y Sbwriel. Yn eu dilyn nhw roedd Hoshaia a hanner arweinwyr Jwda. Wedyn Asareia, Esra a Meshwlam, Jwda, Benjamin, Shemaia, a Jeremeia — offeiriaid gydag utgyrn. Yna'n olaf Sechareia fab Jonathan (mab Shemaia, mab Mataneia, mab Michaia, mab Saccwr, mab Asaff) a'i gyd-gerddorion — Shemaia, Asarel, Milalai, Gilalai, Maai, Nethanel, Jwda, a Chanani — gyda'r offerynnau cerdd oedd y brenin duwiol Dafydd wedi eu dewis. (Esra yr arbenigwr yn y Gyfraith oedd yn arwain y grŵp yma). Dyma nhw'n mynd dros Giât y Ffynnon, yna yn syth ymlaen i fyny grisiau Dinas Dafydd, heibio ei balas ac at Giât y Dŵr sydd i'r dwyrain. Wedyn roedd yr ail gôr i fynd i'r cyfeiriad arall. Dyma fi'n eu dilyn nhw ar hyd y wal gyda hanner arall yr arweinwyr. Aethon ni heibio Tŵr y Poptai at y Wal Lydan, dros Giât Effraim, Giât Ieshana, Giât y Pysgod, Tŵr Chanan-el, a Tŵr y Cant, at Giât y Defaid, a stopio wrth Giât y Gwarchodwyr. Wedyn dyma'r ddau gôr oedd yn canu mawl yn cymryd eu lle yn y deml. Dyma finnau yn gwneud yr un fath, a'r grŵp o arweinwyr oedd gyda fi, a'r offeiriaid oedd yn canu utgyrn — Eliacim, Maaseia, Miniamîn, Michaia, Elioenai, Sechareia a Chananeia. Hefyd Maaseia, Shemaia, Eleasar, Wssi, Iehochanan, Malcîa, Elam ac Eser. Yna dyma'r corau yn canu dan arweiniad Israchïa. Roedd yn ddiwrnod o ddathlu a cafodd llawer iawn o aberthau eu cyflwyno. Roedd Duw wedi gwneud pawb mor hapus. Roedd y gwragedd a'r plant yno yn dathlu hefyd, ac roedd sŵn y dathlu yn Jerwsalem i'w glywed o bell. Y diwrnod hwnnw cafodd dynion eu penodi i ofalu am y stordai, lle byddai cyfraniadau'r bobl yn cael eu cadw — y ffrwythau cyntaf, a'r degymau. Dyna lle byddai cyfraniadau'r bobl i'r offeiriaid a'r Lefiaid yn cael eu casglu, yn ôl faint o gaeau oedd yn perthyn i bob pentref. Roedd pobl Jwda yn falch o'r offeiriaid a'r Lefiaid oedd yn gwasanaethu. Nhw, gyda'r cantorion a gofalwyr y giatiau, oedd yn arwain y defodau ac yn cynnal seremonïau'r puro, fel gwnaeth y brenin Dafydd a'i fab Solomon orchymyn. Ers pan oedd y brenin Dafydd ac Asaff yn fyw, roedd yna rai yn arwain y cantorion, a'r caneuon o fawl a diolch i Dduw. Felly yn amser Serwbabel a Nehemeia fel llywodraethwyr, roedd pobl Israel i gyd yn rhoi cyfran i'r cantorion a'r gofalwyr, fel roedd angen bob dydd. Roedden nhw hefyd yn cadw cyfran i'r Lefiaid, ac roedd y Lefiaid yn cadw cyfran i'r offeiriaid, disgynyddion Aaron. Ar yr un diwrnod, pan oedd Cyfraith Moses yn cael ei darllen i bawb, dyma nhw'n darganfod fod pobl Ammon a Moab wedi eu gwahardd am byth rhag perthyn i gynulleidfa pobl Dduw. Y rheswm am hynny oedd eu bod wedi gwrthod rhoi bwyd a dŵr i bobl Israel, ac wedi talu Balaam i'w melltithio nhw (er fod ein Duw ni wedi troi y felltith yn fendith!) Felly pan glywon nhw hyn yn y Gyfraith, dyma pawb oedd o dras cymysg yn cael eu taflu allan. Beth amser cyn hyn i gyd, roedd Eliashif yr offeiriad wedi ei benodi i fod yn gyfrifol am y stordai yn y deml. Roedd Eliashif yn perthyn i Tobeia, ac roedd wedi gadael i Tobeia ddefnyddio un o stordai y deml. Pethau'r deml oedd yn arfer cael eu storio yno — yr offrwm o rawn, y thus, offer y deml, a hefyd y degfed rhan o'r grawn, sudd grawnwin, ac olew olewydd oedd i gael ei roi i'r Lefiaid, y cantorion, gofalwyr y giatiau, a cyfran yr offeiriaid. Doeddwn i ddim yn byw yn Jerwsalem ar y pryd. Y flwyddyn pan oedd Artaxerxes, brenin Babilon, wedi bod yn teyrnasu ers tri deg dwy o flynyddoedd roeddwn i wedi mynd ato. Ond wedyn, beth amser ar ôl hynny, roeddwn i wedi gofyn am ganiatâd ganddo i ddod yn ôl i Jerwsalem. A dyna pryd wnes i ddarganfod y drwg roedd Eliashif wedi ei wneud yn rhoi ystafell yng nghanol teml Dduw i Tobeia ei defnyddio. Roeddwn i wedi gwylltio'n lân, a dyma fi'n gorchymyn clirio popeth oedd biau Tobeia allan o'r stordy. Yna dyma fi'n dweud fod y stordai i gael eu puro cyn i offer y deml gael ei roi yn ôl ynddyn nhw, gyda'r offrwm o rawn a'r thus. Dyma fi'n darganfod hefyd fod pobl ddim wedi bod yn rhoi eu cyfran o rawn i'r Lefiaid, ac felly roedd y Lefiaid a'r cantorion i gyd wedi gadael i weithio ar y tir. Felly dyma fi'n mynd i gwyno i swyddogion y ddinas, a gofyn “Pam mae teml Dduw yn cael ei hesgeuluso?” Wedyn dyma fi'n galw'r Lefiaid yn ôl at ei gilydd, a rhannu eu cyfrifoldebau iddyn nhw. Ar ôl hyn dechreuodd pobl Jwda i gyd ddod a'r ddegfed ran o'r grawn, sudd grawnwin ac olew olewydd i'r stordai eto. Dyma fi'n gwneud Shelemeia yr offeiriad, Sadoc yr ysgrifennydd, a Lefiad o'r enw Pedaia yn gyfrifol am y stordai, a Chanan (oedd yn fab i Saccwr ac ŵyr i Mataneia) i'w helpu. Roedden nhw'n ddynion y gallwn i eu trystio. Eu cyfrifoldeb nhw fyddai goruchwylio dosbarthu'r cwbl i'w cydweithwyr. O Dduw, plîs cofia beth dw i wedi ei wneud. Paid anghofio'r cwbl dw i wedi ei wneud ar ran teml fy Nuw a'r gwasanaethau ynddi. Yr adeg yna hefyd dyma fi'n darganfod pobl yn Jwda oedd yn sathru grawnwin ar y Saboth. Roedden nhw'n llwytho asynnod a dod â'u cnydau i'w gwerthu yn Jerwsalem ar y Saboth — grawn, gwin, grawnwin, ffigys, a pob math o bethau eraill. Dyma fi'n eu ceryddu nhw y diwrnod roedden nhw'n gwerthu'r cynnyrch yma i gyd. Roedd pobl Tyrus oedd yn byw yno yn dod â physgod a pob math o gynnyrch arall i'w werthu i bobl Jwda ar y Saboth. Roedd hyn i gyd yn digwydd yn Jerwsalem o bobman! Felly dyma fi'n mynd at bobl bwysig Jwda i wneud cwyn swyddogol. “Sut allwch chi wneud y fath ddrwg? Dych chi'n halogi'r dydd Saboth! Onid dyma sut roedd eich hynafiaid yn ymddwyn, a gwneud i Dduw ddod â'r holl helynt arnon ni a'r ddinas yma? A dyma chi nawr yn gwneud pethau'n waeth, a gwneud Duw'n fwy dig eto gydag Israel drwy halogi'r Saboth fel yma!” Dyma fi'n gorchymyn fod giatiau Jerwsalem i gael eu cau pan oedd hi'n dechrau tywyllu cyn y Saboth, a ddim i gael eu hagor nes byddai'r Saboth drosodd. Yna dyma fi'n gosod rhai o'm dynion fy hun i warchod y giatiau a gwneud yn siŵr fod dim nwyddau yn dod i mewn ar y Saboth. Arhosodd y masnachwyr a'r rhai oedd yn gwerthu gwahanol nwyddau tu allan i Jerwsalem dros nos unwaith neu ddwy. Ond dyma fi'n eu rhybuddio nhw, “Os gwnewch chi aros yma dros nos wrth y wal eto, bydda i'n eich arestio chi!” Wnaethon nhw ddim dod yno ar y Saboth o hynny ymlaen. Yna dyma fi'n dweud wrth y Lefiaid am fynd trwy'r ddefod o buro eu hunain, a dod i warchod y giatiau er mwyn cadw'r Saboth yn ddiwrnod sbesial, cysegredig. O Dduw, plîs cofia fy mod i wedi gwneud hyn. Dangos dy gariad rhyfeddol ata i drwy fy arbed i. Yr adeg yna hefyd dyma fi'n darganfod fod llawer o Iddewon wedi priodi merched o Ashdod, Ammon a Moab. Roedd hanner y plant yn siarad iaith Ashdod neu ieithoedd rhyw bobloedd eraill. Doedden nhw ddim yn gallu siarad Hebraeg. Felly dyma fi'n dod â cwyn yn eu herbyn nhw. Dyma fi'n galw melltith arnyn nhw, yn curo rhai o'r dynion, a tynnu eu gwallt. A dyma fi'n gwneud iddyn nhw fynd ar lw o flaen Duw, “Dych chi ddim i roi eich merched yn wragedd i'w meibion nhw, na chymryd eu merched nhw yn wragedd i'ch meibion nac i chi'ch hunain! Onid dyma'r math o beth wnaeth i Solomon, brenin Israel, bechu? Doedd dim brenin tebyg iddo drwy'r gwledydd i gyd. Roedd yn annwyl yng ngolwg ei Dduw, a dyma Duw yn ei wneud yn frenin ar Israel gyfan. Ond dyma'r gwragedd o wledydd eraill yn gwneud hyd yn oed iddo fe bechu! Felly ydy'n iawn i ni oddef y drwg yma dych chi'n ei wneud? Dych chi'n bod yn anffyddlon i Dduw yn priodi'r merched estron yma!” Roedd un o feibion Jehoiada, mab Eliashif yr archoffeiriad, wedi priodi merch Sanbalat o Horon. A dyma fi'n gwneud iddo adael y ddinas. O Dduw, paid anghofio beth maen nhw wedi ei wneud. Maen nhw wedi halogi'r offeiriadaeth, a'r ymrwymiad mae offeiriaid a Lefiaid yn ei wneud. Felly dyma fi'n eu puro nhw o bob dylanwad estron, ac yn rhoi cyfrifoldebau penodol i'r offeiriaid a'r Lefiaid. Dyma fi hefyd yn trefnu amserlen i roi coed i'w losgi ar yr allor, a cynnyrch cyntaf y tir. O Dduw, cofia hyn o'm plaid i. Roedd hi'r cyfnod pan oedd Ahasferus yn frenin Persia (Dyma'r Ahasferus oedd yn teyrnasu ar gant dau ddeg saith o daleithiau o India i Affrica. ) Roedd yn teyrnasu o'r gaer ddinesig yn Shwshan. Yn ystod ei drydedd flwyddyn fel brenin dyma fe'n cynnal gwledd fawr i'w swyddogion i gyd. Roedd penaethiaid byddin Persia a Media yno, a llywodraethwyr y taleithiau, a phawb arall o bwys. Roedd Ahasferus eisiau i bawb oedd yno wybod mor bwysig ac mor anhygoel gyfoethog oedd e, a'i weld yn ei holl ysblander brenhinol. Parodd y dathliadau am amser hir — chwe mis cyfan i fod yn fanwl gywir. Yna ar ddiwedd y chwe mis dyma fe'n cynnal gwledd oedd yn para am wythnos. Roedd pawb oedd yn Shwshan ar y pryd yn cael mynd, o'r bobl fawr i'r bobl fwya cyffredin. Roedd y wledd yn cael ei chynnal yn yr iard yng ngerddi'r palas brenhinol. Roedd pobman wedi ei addurno gyda llenni o liain main gwyn a phorffor. Roedd cylchoedd arian yn dal y llenni ar gordyn wedi ei wneud o liain main a gwlân porffor, ac roedden nhw'n hongian rhwng colofnau marmor. Ac roedd soffas o aur ac arian ar balmant hardd oedd â phatrymau trwyddo o feini ffelsbar, marmor, mam y perl, a cherrig lliwgar eraill. Roedd pobl yn yfed diodydd o gwpanau aur, ac roedd digonedd o'r gwin brenhinol gorau i bawb, a'r brenin yn talu am y cwbl. Gallai pobl yfed faint fynnen nhw. Roedd y brenin wedi dweud wrth y wetars i gyd am roi i bawb faint bynnag oedden nhw eisiau. Ar yr un pryd roedd y Frenhines Fasti yn cynnal gwledd i'r gwragedd i gyd ym mhalas y Brenin Ahasferus. Ar ddiwrnod ola'r wledd roedd y gwin wedi mynd i ben y brenin, a dyma fe'n gorchymyn ei saith ystafellydd (sef Mehwman, Bistha, Harbona, Bigtha, Abagtha, Sethar, a Carcas) i ddod â'r frenhines Fasti o'i flaen, yn gwisgo ei choron frenhinol. Roedd y brenin eisiau i'w westeion a'i swyddogion weld mor hardd oedd hi — roedd hi'n wraig hynod o ddeniadol. Ond pan ddwedodd yr ystafellyddion wrthi beth oedd y brenin eisiau dyma'r frenhines yn gwrthod mynd. Roedd y brenin wedi gwylltio'n lân — roedd yn gynddeiriog! Dyma fe'n galw ei gynghorwyr ato — dynion doeth oedd yn deall yr amserau. (Roedd yn arfer gan frenin ofyn am gyngor dynion oedd yn arbenigwyr yn y gyfraith.) Y dynion agosaf ato oedd Carshena, Shethar, Admatha, Tarshish, Meres, Marsena, a Memwchan. Nhw oedd uchel-swyddogion Persia a Media, y dynion mwyaf dylanwadol yn y deyrnas, ac roedden nhw'n cyfarfod gyda'r brenin yn rheolaidd. Dyma'r brenin yn gofyn iddyn nhw, “Beth ddylai ddigwydd i'r Frenhines Fasti? Beth mae'r gyfraith yn ei ddweud pan mae brenhines yn gwrthod gwneud beth mae'r brenin yn ei orchymyn?” Dyma Memwchan yn ymateb, “Nid dim ond y brenin sydd wedi ei sarhau gan y frenhines Fasti. Mae hi wedi pechu yn erbyn y swyddogion a'r bobl i gyd o'r taleithiau sy'n cael eu rheoli gan y brenin Ahasferus. Bydd gwragedd ym mhob man yn clywed am y peth a gwneud yr un fath, a dangos dim parch at eu gwŷr. Byddan nhw'n dweud, ‘Os ydy'r frenhines Fasti ddim yn ufuddhau i'w gŵr hi, y brenin Ahasferus, pam ddylen ni?’ Cyn diwedd y dydd bydd gwragedd uchel-swyddogion Persia a Media yn clywed beth wnaeth y frenhines, ac yn gwneud yr un fath i'w gwŷr! Fydd yna ddim diwedd ar y sarhau a'r ffraeo! Os ydy'r brenin yn cytuno, dylai anfon allan ddatganiad brenhinol am y peth, a'i ysgrifennu yn llyfrau cyfraith Persia a Media, fel bod dim modd ei newid. Ddylai Fasti ddim cael gweld y brenin Ahasferus byth eto, a dylai'r brenin roi ei theitl i rywun arall fyddai'n frenhines well na hi. Dylai dyfarniad y brenin gael ei gyhoeddi drwy'r deyrnas fawr yma'n gyfan. Wedyn bydd gwragedd yn parchu eu gwŷr, beth bynnag ydy eu safle cymdeithasol nhw.” Roedd y brenin a'r swyddogion eraill yn hoffi awgrym Memwchan, felly dyna wnaeth e. Anfonodd lythyrau allan i'r taleithiau i gyd. Roedd pob llythyr wedi ei ysgrifennu yn iaith y dalaith honno. Roedd yn dweud fod pob dyn i reoli ei deulu ei hun, ac y dylid siarad ei famiaith e yn y cartref. Beth amser wedyn pan oedd y Brenin Ahasferus wedi dod dros y cwbl, roedd yn meddwl am Fasti a beth wnaeth hi, ac am y gosb gafodd hi. A dyma swyddogion y brenin yn dweud, “Dylid chwilio am ferched ifanc hardd i'ch mawrhydi. Gellid penodi swyddogion drwy'r taleithiau i gyd i gasglu'r holl ferched ifanc hardd yn y deyrnas at ei gilydd i Shwshan. Wedyn gallai Hegai, yr eunuch sy'n gyfrifol am yr harîm, wneud yn siŵr eu bod nhw'n cael triniaethau harddwch a coluron. Ar ôl hynny gall y brenin ddewis y ferch sy'n ei blesio fwya i fod yn frenhines yn lle Fasti.” Roedd y brenin yn hoffi'r syniad, felly dyna wnaeth e. Roedd yna Iddew o'r enw Mordecai yn byw yn Shwshan. Roedd yn perthyn i lwyth Benjamin, ac yn fab i Jair (mab Shimei ac ŵyr i Cish oedd yn un o'r grŵp o bobl wnaeth Nebwchadnesar, brenin Babilon, eu cymryd yn gaeth o Jerwsalem gyda Jehoiachin, brenin Jwda.) Roedd Mordecai wedi magu ei gyfnither, Hadassa (sef Esther). Roedd ei thad a'i mam wedi marw, ac roedd Mordecai wedi ei mabwysiadu a'i magu fel petai'n ferch iddo fe ei hun. Roedd hi wedi tyfu'n ferch ifanc siapus a hynod o ddeniadol. Pan roddodd y brenin Ahasferus y gorchymyn i edrych am ferched hardd iddo, cafodd llawer iawn o ferched ifanc eu cymryd i gaer Shwshan, ac roedd Esther yn un ohonyn nhw. Cafodd hi a'r merched eraill eu cymryd i'r palas brenhinol, a'u rhoi dan ofal Hegai. Gwnaeth Esther argraff ar Hegai o'r dechrau. Roedd e'n ei hoffi'n fawr, ac aeth ati ar unwaith i roi coluron iddi a bwyd arbennig, a rhoddodd saith morwyn wedi eu dewis o balas y brenin iddi. Yna rhoddodd yr ystafelloedd gorau yn llety'r harîm iddi hi a'i morynion. Doedd Esther wedi dweud dim wrth neb am ei chefndir a'i theulu, am fod Mordecai wedi dweud wrthi am beidio. Roedd yn awyddus iawn i wybod sut roedd hi'n dod yn ei blaen, a beth oedd yn digwydd iddi. Felly bob dydd byddai Mordecai'n cerdded yn ôl ac ymlaen wrth ymyl iard y tŷ lle roedd y merched yn byw. Aeth blwyddyn gyfan heibio pan oedd y merched yn cael eu paratoi, cyn i'w tro nhw ddod i fynd at y Brenin Ahasferus. Roedd pob un ohonyn nhw yn gorfod mynd trwy driniaethau harddwch gyntaf — chwe mis pan oedd eu croen yn cael ei drin gydag olew olewydd a myrr, a chwe mis pan oedden nhw'n cael persawrau a coluron. Dim ond wedyn y byddai merch yn barod i fynd at y brenin, a byddai'n cael gwisgo pa ddillad bynnag fyddai hi'n ei ddewis o lety'r harîm. Byddai'n mynd ato gyda'r nos, ac yna'r bore wedyn yn mynd i ran arall o lety'r harîm, lle roedd cariadon y brenin yn aros, a Shaasgas, un o ystafellyddion y brenin yn gofalu amdanyn nhw. Fyddai'r merched yma ddim yn mynd yn ôl at y brenin oni bai fod y brenin wedi ei blesio'n fawr gan un ohonyn nhw ac yn gofyn yn benodol amdani. Pan ddaeth tro Esther i fynd at y brenin, aeth hi a dim gyda hi ond beth oedd Hegai, oedd yn gofalu am y merched, wedi ei awgrymu iddi. Roedd pawb welodd hi yn meddwl ei bod hi'n hynod o hardd. Felly dyma Esther yn mynd at y Brenin Ahasferus yn ei balas, yn y degfed mis (sef Tebeth ) o'i seithfed flwyddyn fel brenin. Roedd y brenin yn hoffi Esther fwy na'r merched eraill i gyd. Syrthiodd mewn cariad gyda hi, a'i choroni yn frenhines yn lle Fasti. A dyma fe'n trefnu gwledd fawr i'w swyddogion i gyd — gwledd Esther. A dyma fe'n cyhoeddi gwyliau cyhoeddus drwy'r taleithiau i gyd, a rhannu rhoddion i bawb ar ei gost ei hun. Pan oedd y merched ifanc yn cael eu galw at ei gilydd am yr ail waith, roedd Mordecai wedi ei benodi'n swyddog yn y llys brenhinol. Doedd Esther yn dal ddim wedi dweud dim am ei theulu a'i chefndir, fel roedd Mordecai wedi ei chynghori. Roedd hi'n dal yn ufuddhau iddo, fel roedd hi wedi gwneud ers pan oedd e'n ei magu hi. Bryd hynny, pan oedd Mordecai yn eistedd yn y llys, roedd dau o weision y brenin, Bigthan a Teresh, oedd yn gwarchod drws ystafell y brenin, wedi gwylltio ac yn cynllwynio i ladd y brenin Ahasferus. Pan glywodd Mordecai am y cynllwyn, dwedodd am y peth wrth y Frenhines Esther, ac aeth Esther i ddweud wrth y brenin ar ei ran. Dyma'r brenin yn cael ei swyddogion i ymchwilio i'r mater, a darganfod ei fod yn wir. Felly cafodd y ddau eu crogi. A dyma bopeth oedd wedi digwydd yn cael ei ysgrifennu o flaen y brenin yn sgrôl Cofnodion yr Ymerodraeth. Rywbryd wedyn, dyma'r Brenin Ahasferus yn rhoi dyrchafiad i ddyn o'r enw Haman fab Hammedatha, oedd yn dod o dras Agag. Cafodd ei benodi i swydd uwch na'r swyddogion eraill i gyd. Roedd y brenin wedi gorchymyn fod swyddogion eraill y llys brenhinol i fod i ymgrymu i Haman a dangos parch ato. Ond doedd Mordecai ddim am wneud hynny. Dyma rai o swyddogion eraill y brenin yn gofyn i Mordecai pam oedd e'n gwrthod ufuddhau i orchymyn y brenin. Er eu bod nhw wedi siarad gydag e am y peth dro ar ôl tro, doedd e ddim yn fodlon gwrando. Ond roedd e wedi esbonio iddyn nhw ei fod e'n Iddew. Felly dyma'r swyddogion yn mynd i siarad am y peth gyda Haman, i weld os byddai safiad Mordecai'n cael ei ganiatáu. Pan glywodd Haman fod Mordecai'n gwrthod ymgrymu iddo a dangos parch ato, aeth yn lloerig. Doedd delio gyda Mordecai ei hun ddim yn ddigon ganddo. Felly pan ddaeth i ddeall fod Mordecai yn Iddew, dyma Haman yn penderfynu lladd pob Iddew drwy deyrnas Ahasferus i gyd. Yn y mis cyntaf (sef Nisan ) o'r ddeuddegfed flwyddyn i Ahasferus fel brenin, dyma Haman yn mynd trwy'r ddefod o daflu'r pŵr (sef math o ddeis), i benderfynu ar ddyddiad a mis i ladd yr Iddewon. Roedd y dyddiad gafodd ei ddewis yn ystod y deuddegfed mis (sef Adar ). Yna dyma Haman yn mynd at y Brenin Ahasferus, a dweud wrtho, “Mae yna un grŵp o bobl ar wasgar drwy daleithiau dy deyrnas di, sy'n cadw ar wahân i bawb arall. Maen nhw'n cadw eu cyfreithiau eu hunain a ddim yn ufuddhau i gyfreithiau'r brenin. Ddylai'r brenin ddim gadael iddyn nhw wneud hyn. Os ydy'r brenin yn cytuno, dylid dyfarnu eu bod nhw i gyd i gael eu lladd. Dw i'n addo talu dros 300 tunnell o arian i'r trysordy brenhinol i gael swyddogion i drefnu hyn i gyd.” Felly dyma'r brenin yn tynnu ei sêl-fodrwy a'i rhoi hi i Haman, oedd yn casáu'r Iddewon. A dyma'r brenin yn dweud wrtho, “Cei wneud beth bynnag rwyt ti eisiau gyda'r arian a'r bobl yna rwyt ti'n sôn amdanyn nhw.” Felly ar y trydydd ar ddeg o'r mis cyntaf dyma ysgrifenyddion y brenin yn cael eu galw. A dyma bopeth wnaeth Haman ei orchymyn yn cael ei ysgrifennu mewn llythyrau at y rhaglawiaid a llywodraethwyr a swyddogion y taleithiau i gyd. Roedd llythyr pob talaith unigol yn cael ei ysgrifennu yn iaith y dalaith honno. Roedd y llythyrau yn cael eu hanfon yn enw'r Brenin Ahasferus, ac wedi eu selio gyda'i sêl-fodrwy e. Roedd negeswyr yn mynd â'r llythyrau i daleithiau'r deyrnas, yn gorchymyn dinistrio'r Iddewon yn llwyr, a'i lladd nhw i gyd — pobl ifanc a phobl mewn oed, gwragedd a phlant. Wedyn roedd eu heiddo i gyd i gael ei gymryd. Roedd hyn i ddigwydd ar y trydydd ar ddeg o'r deuddegfed mis (sef mis Adar). Roedd copi o'r ddogfen yma i fynd i bob talaith, ac i'w gwneud yn gyfraith ynddyn nhw i gyd. Roedd pawb i gael gwybod am y peth, er mwyn paratoi ar gyfer y diwrnod hwnnw. Felly dyma'r negeswyr yn mynd allan ar frys ar orchymyn y brenin. Roedd y gorchymyn wedi ei gyhoeddi yn y gaer ddinesig yn Shwshan. Tra roedd y brenin a Haman yn eistedd i lawr yn yfed gyda'i gilydd, roedd pobl y ddinas wedi drysu'n lân. Pan glywodd Mordecai am y peth, dyma fe'n rhwygo ei ddillad, gwisgo sachliain a rhoi lludw ar ei ben. Yna dyma fe'n mynd drwy'r ddinas yn gweiddi'n uchel mewn llais chwerw. Ond aeth e ddim pellach na giât y palas — doedd neb yn cael mynd trwy'r giât honno yn gwisgo sachliain. Drwy'r taleithiau i gyd, ble bynnag roedd datganiad a chyfraith y brenin yn cael ei chyhoeddi, roedd yr Iddewon yn galaru, yn ymprydio ac yn wylo. Roedd y rhan fwya ohonyn nhw'n gorwedd i gysgu ar sachliain a lludw. Pan ddwedodd morynion ac ystafellyddion Esther wrthi am Mordecai, roedd hi wedi ypsetio'n ofnadwy. Dyma hi'n anfon dillad i Mordecai eu gwisgo yn lle'r sachliain, ond roedd yn gwrthod eu cymryd. Felly dyma Esther yn galw am Hathach, un o ystafellyddion y brenin oedd wedi ei benodi i ofalu amdani, a dweud wrtho am fynd i ddarganfod beth oedd yn bod ar Mordecai. Dyma Hathach yn mynd i weld Mordecai yn y sgwâr tu allan i giât y palas. A dyma Mordecai yn dweud wrtho am bopeth oedd wedi digwydd, a faint o arian oedd Haman wedi addo ei dalu i'r trysordy brenhinol petai'r Iddewon yn cael eu lladd. A dyma fe'n rhoi copi ysgrifenedig i Hathach o'r gorchymyn oedd wedi ei ddosbarthu yn Shwshan yn dweud fod yr Iddewon i gael eu lladd. Gofynnodd i Hathach ei ddangos i Esther ac esbonio iddi beth oedd yn digwydd, a dweud wrthi fod rhaid iddi fynd at y brenin i bledio ac apelio arno i arbed ei phobl. Felly dyma Hathach yn mynd yn ôl a rhannu gydag Esther beth oedd Mordecai eisiau iddi ei wneud. Yna dyma Esther yn anfon Hathach yn ôl at Mordecai i ddweud wrtho, “Mae swyddogion a gweision y brenin drwy'r taleithiau i gyd yn gwybod beth mae'r gyfraith yn ddweud fydd yn digwydd i unrhyw un sy'n mynd i weld y brenin heb gael gwahoddiad — mae'r person hwnnw i farw, oni bai fod y brenin yn arbed ei fywyd drwy estyn y deyrnwialen aur ato fe neu hi. Dw i ddim wedi cael gwahoddiad i fynd i weld y brenin ers mis cyfan!” Pan ddwedodd Hathach wrth Mordecai beth oedd Esther yn ei ddweud, dyma Mordecai yn anfon yr ateb yma yn ôl: “Paid meddwl am funud y byddi di'n osgoi cael dy ladd fel pob Iddew arall am dy fod ti'n byw yn y palas. Os byddi di'n gwrthod dweud dim yr adeg yma, bydd rhywbeth yn digwydd o gyfeiriad arall i achub ac amddiffyn yr Iddewon, ond byddi di a teulu dy dad yn marw. Falle mai dyma'n union pam rwyt ti wedi dod yn rhan o'r teulu brenhinol ar yr adeg yma!” Yna dyma Esther yn anfon ateb yn ôl at Mordecai: “Wnei di gasglu'r Iddewon sy'n byw yn Shwshan at ei gilydd a'i cael nhw i ymprydio drosta i? Peidiwch bwyta nac yfed am dri diwrnod, ddydd na nos. Bydda i a'r morynion sydd gen i yn ymprydio hefyd. Wedyn gwna i fynd i weld y brenin, er fod hynny'n golygu torri'r gyfraith. Dw i'n barod i farw os oes rhaid.” Felly dyma Mordecai yn mynd ati i wneud popeth fel roedd Esther wedi dweud wrtho. Ar y trydydd diwrnod o'i hympryd, dyma Esther yn gwisgo ei dillad brenhinol, a mynd i gyntedd mewnol y palas tu allan i neuadd y brenin. Roedd y brenin yno, yn eistedd ar ei orsedd gyferbyn â'r drws. Pan welodd fod y Frenhines Esther yn sefyll yn y cyntedd tu allan, roedd e wrth ei fodd. Dyma fe'n estyn y deyrnwialen aur oedd yn ei law at Esther, a dyma hithau yn mynd ato ac yn cyffwrdd blaen y deyrnwialen. A dyma'r brenin yn gofyn iddi, “Y Frenhines Esther, beth alla i wneud i ti i? Beth wyt ti eisiau? Dw i'n fodlon rhoi hyd at hanner y deyrnas i ti!” Dyma Esther yn ateb, “Os ydy'r brenin yn gweld yn dda, byddwn i'n hoffi iddo fe a Haman ddod heddiw i wledd dw i wedi ei pharatoi.” A dyma'r brenin yn gorchymyn, “Ewch i nôl Haman ar unwaith, i ni wneud beth mae Esther yn ei ofyn.” Felly dyma'r brenin a Haman yn mynd i'r wledd roedd Esther wedi ei pharatoi. Tra'n yfed gwin yn y wledd, dyma'r brenin yn gofyn i Esther, “Gofyn am beth bynnag wyt ti eisiau, ac fe'i cei. Be fyddet ti'n hoffi i mi ei wneud? Gofyn am gymaint a hanner y deyrnas os wyt ti eisiau, a dyna gei di!” A dyma Esther yn ateb, “Dyma beth faswn i'n hoffi: Os ydw i wedi plesio'r brenin a'i fod yn gweld yn dda i roi i mi beth dw i eisiau, baswn i'n hoffi iddo fe a Haman ddod eto fory i wledd arall dw i wedi ei pharatoi. Gwna i ddweud wrth y brenin beth dw i eisiau bryd hynny.” Aeth Haman i ffwrdd y diwrnod hwnnw yn teimlo'n rêl boi. Ond yna dyma fe'n gweld Mordecai yn y llys brenhinol yn gwrthod codi iddo na dangos parch ato. Roedd Haman wedi gwylltio'n lân. Roedd e'n berwi! Ond dyma fe'n llwyddo i reoli ei dymer, ac aeth yn ei flaen adre. Ar ôl cyrraedd adre dyma fe'n galw ei ffrindiau at ei gilydd, a'i wraig Seresh. A dyma fe'n dechrau brolio am ei gyfoeth mawr, y nifer o feibion oedd ganddo, a'r ffaith fod y brenin wedi ei anrhydeddu e a'i osod e'n uwch na'r swyddogion eraill i gyd. Ac aeth ymlaen i ddweud, “A ces wahoddiad gan y Frenhines Esther i fynd gyda'r brenin i'r wledd roedd hi wedi ei pharatoi. Fi oedd yr unig un! A dw i wedi cael gwahoddiad i fynd yn ôl gyda'r brenin eto fory. Ond fydda i byth yn hapus tra mae Mordecai yr Iddew yna yn dal yn ei swydd.” Yna dyma'i wraig a'i ffrindiau i gyd yn dweud wrtho, “Adeilada grocbren anferth, dau ddeg pum metr o uchder. Yna bore fory, dos i ddweud wrth y brenin am grogi Mordecai arno. Wedyn cei fynd i'r cinio gyda'r brenin, a mwynhau dy hun.” Roedd Haman yn meddwl fod hynny'n syniad gwych. A dyma fe'n trefnu i'r crocbren gael ei adeiladu. Y noson honno roedd y brenin yn methu cysgu. Felly dyma fe'n galw am y sgrôl oedd â hanes digwyddiadau pwysig yr Ymerodraeth ynddi, a cafodd ei darllen iddo. A dyma nhw'n dod at y cofnod fod Mordecai wedi rhoi gwybod am y cynllwyn i ladd y brenin Ahasferus, gan y ddau was oedd yn gwarchod drws ystafell y brenin, sef Bigthan a Teresh. Dyma'r brenin yn gofyn, “Beth gafodd ei wneud i anrhydeddu Mordecai am beth wnaeth e?” A dyma gweision y brenin yn ateb, “Dim byd o gwbl.” Y funud honno roedd Haman wedi cyrraedd y cyntedd tu allan i'r neuadd frenhinol, i awgrymu i'r brenin y dylai Mordecai gael ei grogi ar y crocbren oedd wedi ei adeiladu iddo. A dyma'r brenin yn gofyn, “Pwy sydd yn y cyntedd tu allan?” “Haman sydd yna,” meddai'r gweision. A dyma'r brenin yn dweud, “Gadewch iddo ddod i mewn.” Pan ddaeth Haman i mewn, dyma'r brenin yn gofyn iddo, “Beth ddylid ei wneud os ydy'r brenin wir eisiau anrhydeddu rhywun?” Roedd Haman yn meddwl mai fe oedd yr un oedd y brenin eisiau ei anrhydeddu, felly dyma fe'n dweud, “Os ydy'r brenin am anrhydeddu rhywun, dylai ei arwisgo gyda mantell frenhinol, a'i osod ar geffyl mae'r brenin ei hun wedi ei farchogaeth — un sy'n gwisgo arwyddlun y frenhiniaeth ar ei dalcen. Dylai un o brif swyddogion y brenin gymryd y fantell a'r ceffyl ac arwisgo'r dyn mae'r brenin am ei anrhydeddu, ei roi i farchogaeth ar y ceffyl, a'i arwain drwy sgwâr y ddinas. A dylid cyhoeddi o'i flaen, ‘Dyma sy'n cael ei wneud i'r dyn mae'r brenin am ei anrhydeddu!’” Felly dyma'r brenin yn dweud wrth Haman, “Iawn, dos ar frys. Cymer di'r fantell a'r ceffyl, a gwna hynny i Mordecai yr Iddew sy'n eistedd yn y llys brenhinol. Gwna bopeth yn union fel gwnest ti ddisgrifio.” Felly dyma Haman yn cymryd y fantell a'r ceffyl ac yn arwisgo Mordecai. Wedyn dyma fe'n ei arwain ar y march drwy ganol y ddinas, yn cyhoeddi o'i flaen, “Dyma sy'n cael ei wneud i'r dyn mae'r brenin am ei anrhydeddu!” Ar ôl hyn i gyd, aeth Mordecai yn ôl i'r llys brenhinol, a dyma Haman yn brysio adre yn hollol ddigalon yn cuddio'i ben mewn cywilydd. Yna aeth i ddweud beth oedd wedi digwydd wrth ei wraig a'i ffrindiau i gyd. A dyma'r cynghorwyr a'i wraig Seresh yn ymateb, “Mae ar ben arnat ti os mai Iddew ydy'r Mordecai yma wyt ti wedi dechrau syrthio o'i flaen, does gen ti ddim gobaith!” Tra roedden nhw'n dal i siarad gydag e, dyma weision y brenin yn cyrraedd ac yn mynd â Haman ar frys i'r wledd roedd Esther wedi ei pharatoi. Felly dyma'r brenin a Haman yn mynd i wledda gyda'r Frenhines Esther am yr ail waith. Tra'n yfed gwin yn y wledd, dyma'r brenin yn gofyn i Esther, “Y Frenhines Esther. Gofynna am beth bynnag wyt ti eisiau, ac fe'i cei. Beth fyddet ti'n hoffi i mi ei wneud i ti? Gofyn am gymaint a hanner y deyrnas os wyt ti eisiau, a dyna gei di!” A dyma Esther yn ateb, “Os ydw i wedi plesio'r brenin, a'i fod yn gweld yn dda i roi i mi beth dw i eisiau, arbed fy mywyd i a'm pobl. Dyna dw i eisiau. Dŷn ni wedi cael ein gwerthu i gael ein lladd a'n dinistrio'n llwyr! Petaen ni wedi cael ein gwerthu'n gaethweision a chaethferched fyddwn i wedi dweud dim. Fyddai trafferth felly ddim digon pwysig i boeni'r brenin amdano.” A dyma'r Brenin Ahasferus yn gofyn i Esther, “Pwy sydd wedi gwneud hyn? Pwy fyddai'n meiddio gwneud y fath beth?” A dyma Esther yn ateb, “Dyn drwg ydy e sy'n ein casáu ni! Dyma fe — Haman!” Roedd Haman wedi dychryn am ei fywyd o flaen y brenin a'r frenhines. Roedd y brenin wedi gwylltio'n lân, a dyma fe'n codi o'r bwrdd a mynd allan i ardd y palas. Yna dyma Haman yn dechrau pledio ar y Frenhines Esther i arbed ei fywyd. Roedd yn gwybod y byddai'r brenin yn trefnu i'w ladd yn y ffordd fwya creulon. Pan ddaeth y brenin yn ôl i mewn o'r ardd, roedd Haman yn taflu ei hun ar y soffa roedd Esther yn gorwedd arni. A dyma'r brenin yn gweiddi, “Ydy e am dreisio'r frenhines hefyd, a minnau'n dal yn yr adeilad!” Wrth i'r brenin ddweud hyn, dyma'i weision yn rhoi mwgwd dros ben Haman. A dyma Harbona, un o'r gweision, yn dweud, “Mae Haman wedi adeiladu crocbren i grogi Mordecai, y dyn oedd wedi achub bywyd y brenin. Mae'r crocbren heb fod yn bell o'i dŷ, ac yn ddau ddeg pum metr o uchder.” A dyma'r brenin yn dweud, “Crogwch Haman arno!” Felly cafodd Haman ei grogi ar y crocbren oedd wedi ei fwriadu i Mordecai. Dyma dymer y brenin yn tawelu wedyn. Y diwrnod hwnnw, dyma'r Brenin Ahasferus yn rhoi ystad Haman, gelyn yr Iddewon, i'r Frenhines Esther. Yna dyma Mordecai yn cael ei alw i sefyll o flaen y brenin (Roedd Esther wedi dweud wrth y brenin eu bod nhw'n perthyn.) A dyma'r brenin yn cymryd ei sêl-fodrwy (sef yr un oedd Haman wedi bod yn ei gwisgo), a'i rhoi hi i Mordecai. Wedyn dyma Esther yn penodi Mordecai i redeg ystad Haman. Dyma Esther yn mynd i siarad â'r brenin eto. Syrthiodd wrth ei draed yn crïo, a crefu am drugaredd. Roedd ganddi eisiau iddo wrthdroi cynllun drwg Haman yr Agagiad yn erbyn yr Iddewon. A dyma'r brenin yn estyn ei deyrnwialen aur ati. Cododd Esther ar ei thraed o'i flaen a gofyn iddo, “Os ydw i wedi plesio'r brenin, ac os ydy e'n gweld yn dda i fod yn garedig ata i a rhoi i mi beth dw i eisiau, wnaiff e orchymyn mewn ysgrifen fod bwriad drwg Haman fab Hammedatha, yr Agagiad, i ladd pob Iddew drwy'r taleithiau i gyd, yn cael ei ddiddymu? Sut alla i eistedd yn ôl a gwylio'r fath drychineb yn digwydd i'm pobl, a'm teulu i gyd yn cael eu lladd?” A dyma'r Brenin Ahasferus yn dweud wrth y Frenhines Esther ac wrth Mordecai, “Dw i wedi rhoi ystad Haman i Esther, ac wedi crogi Haman am ei fod wedi bwriadu ymosod ar yr Iddewon. A nawr cewch chi ysgrifennu ar fy rhan beth bynnag dych chi'n deimlo sy'n iawn i'w wneud gyda'r Iddewon, a selio'r ddogfen gyda fy sêl-fodrwy i. Mae'n amhosib newid deddf sydd wedi ei hysgrifennu yn enw'r brenin, ac wedi ei selio gyda'i sêl-fodrwy e.” Felly ar y trydydd ar hugain o'r trydydd mis, sef Sifan, dyma ysgrifenyddion y brenin yn cael eu galw. A dyma nhw'n ysgrifennu popeth roedd Mordecai yn ei orchymyn — at yr Iddewon, ac at raglawiaid, llywodraethwyr a swyddogion pob talaith o India i Affrica (cant dau ddeg saith o daleithiau i gyd). Roedd llythyr pob talaith yn cael ei ysgrifennu yn iaith y dalaith honno, a'r llythyr at yr Iddewon yn eu hiaith nhw. Roedd Mordecai yn ysgrifennu ar ran y Brenin Ahasferus, a cafodd y llythyrau eu selio gyda sêl-fodrwy y brenin. Yna dyma'r llythyrau yn cael eu dosbarthu gan negeswyr oedd yn marchogaeth y ceffylau cyflymaf yn y stablau brenhinol. Rhoddodd y brenin ganiatád i'r Iddewon ddod at ei gilydd i amddiffyn eu hunain. Roedden nhw'n cael lladd a dinistrio milwyr unrhyw dalaith oedd yn ymosod arnyn nhw, lladd eu gwragedd a'u plant, a cymryd eu heiddo oddi arnyn nhw. Roedd hyn i gyd i ddigwydd drwy bob talaith oedd dan reolaeth y Brenin Ahasferus, ar un diwrnod penodol, sef y trydydd ar ddeg o'r deuddegfed mis (Mis Adar). Roedd copi o'r ddogfen yma i fynd i bob talaith, ac i'w gwneud yn gyfraith ynddyn nhw i gyd. Roedd pawb i gael gwybod am y peth. Wedyn byddai'r Iddewon yn barod ar gyfer y diwrnod hwnnw, i ddial ar eu gelynion. Dyma'r negeswyr yn rhuthro allan ar frys, ar gefn ceffylau o'r stablau brenhinol, a gorchymyn y brenin ganddyn nhw. Cafodd y gyfraith ei chyhoeddi yn y gaer ddinesig yn Shwshan hefyd. Pan aeth Mordecai allan oddi wrth y brenin, roedd wedi ei arwisgo mewn dillad brenhinol o borffor a gwyn. Roedd twrban euraid mawr ar ei ben, a mantell o liain main porffor ar ei ysgwyddau. Roedd pawb yn Shwshan yn dathlu, ac roedd yr Iddewon wrth eu boddau ac yn cael eu parchu gan bawb. Yn y taleithiau a'r trefi i gyd lle roedd gorchymyn y brenin wedi ei gyhoeddi, roedd yr Iddewon wedi cymryd gwyliau i ddathlu a gwledda. Ac roedd llawer o bobl eraill yn honni eu bod wedi troi'n Iddewon, am fod ganddyn nhw gymaint o ofn beth fyddai'r Iddewon yn ei wneud iddyn nhw. Roedd gorchymyn y brenin i gael ei weithredu ar y trydydd ar ddeg o'r deuddegfed mis (sef Mis Adar). Dyna'r diwrnod roedd gelynion yr Iddewon wedi tybio eu bod nhw'n mynd i gael eu trechu nhw. Ond y gwrthwyneb ddigwyddodd — cafodd yr Iddewon drechu eu gelynion. Dyma'r Iddewon yn casglu at ei gilydd yn y trefi drwy'r holl daleithiau roedd y Brenin Ahasferus yn eu rheoli. Roedden nhw'n barod i ymosod ar unrhyw un oedd yn bwriadu gwneud drwg iddyn nhw. Ond roedd ofn yr Iddewon wedi gafael yn y bobl i gyd, a doedd neb yn gallu sefyll yn eu herbyn nhw. Roedd swyddogion y taleithiau, y rhaglawiaid a'r llywodraethwyr a pawb oedd yn gwasanaethu'r brenin, yn helpu'r Iddewon, am fod ganddyn nhw i gyd ofn Mordecai. Roedd Mordecai yn ddyn pwysig iawn yn y palas, ac roedd pawb drwy'r taleithiau i gyd wedi clywed amdano wrth iddo fynd yn fwy a mwy dylanwadol. Dyma'r Iddewon yn taro eu gelynion i gyd, eu lladd a'u dinistrio. Roedden nhw'n gwneud fel y mynnon nhw. Cafodd pum cant o bobl eu lladd yn y gaer ddinesig yn Shwshan. [7-10] Cafodd deg mab Haman eu lladd, sef Parshandatha, Dalffon, Aspatha, Poratha, Adalia, Aridatha, Parmashta, Arisai, Aridai a Faisatha. Ond wnaethon nhw ddim cymryd eu heiddo nhw. *** *** *** Yr un diwrnod, dyma rywun yn dweud wrth y brenin faint o bobl oedd wedi cael eu lladd yn Shwshan. A dyma'r brenin yn dweud wrth Esther, “Mae'r Iddewon wedi lladd pum cant o bobl yn y gaer yma yn Shwshan yn unig, a deg mab Haman hefyd. Beth maen nhw wedi ei wneud yn y taleithiau eraill, tybed? Gofyn am beth bynnag wyt ti eisiau, ac fe'i cei. Beth wyt ti eisiau i mi ei wneud? Dyna gei di!” A dyma Esther yn ateb, “Os ydy'r brenin yn gweld yn dda, rho ganiatâd i'r Iddewon yn Shwshan wneud yr un peth yfory ag a wnaethon nhw heddiw; a gad i gyrff deg mab Haman gael eu hongian ar y crocbren.” Felly dyma'r brenin yn gorchymyn i hynny gael ei wneud. Cafodd cyfraith ei phasio ar gyfer tref Shwshan, a cafodd cyrff meibion Haman eu hongian yn gyhoeddus. Dyma'r Iddewon yn Shwshan yn casglu at ei gilydd ar y pedwerydd ar ddeg o fis Adar, a dyma nhw'n lladd tri chant arall. Ond wnaethon nhw ddim cymryd eu heiddo nhw. [16-17] Roedd gweddill Iddewon y taleithiau wedi dod at ei gilydd y diwrnod cynt i amddiffyn eu hunain, a cawson nhw lonydd gan eu gelynion. Roedden nhw wedi lladd saith deg pum mil o elynion i gyd, ond wnaethon nhw ddim cymryd eu heiddo nhw. A'r diwrnod wedyn, ar y pedwerydd ar ddeg o fis Adar, cawson nhw orffwys. Cafodd y diwrnod hwnnw ei wneud yn ddydd Gŵyl, i ddathlu a chynnal partïon. *** Ond roedd Iddewon yn Shwshan wedi dod at ei gilydd i ymladd ar y trydydd ar ddeg a'r pedwerydd ar ddeg, felly dyma nhw'n gorffwys ar y pymthegfed, a gwneud hwnnw yn ddydd Gŵyl i ddathlu a chynnal partïon. (A dyna pam mae'r Iddewon sy'n byw yng nghefn gwlad ac mewn pentrefi gwledig yn cadw'r pedwerydd ar ddeg o fis Adar fel diwrnod sbesial i fwynhau eu hunain a partïo, i gael gwyliau a rhoi anrhegion o fwyd i'w gilydd.) Ysgrifennodd Mordecai hanes popeth oedd wedi digwydd. Wedyn anfonodd lythyrau at yr Iddewon ym mhobman, drwy'r holl daleithiau oedd o dan reolaeth y Brenin Ahasferus, yn cadarnhau eu bod nhw i gymryd gwyliau bob blwyddyn ar y pedwerydd ar ddeg a'r pymthegfed o fis Adar. Ar y dyddiadau yna y cawson nhw lonydd gan eu gelynion — pan drodd eu trafferthion yn llawenydd a'u galar yn ddathlu. Roedden nhw i fod yn ddyddiau o bartïo a chael hwyl, rhoi anrhegion o fwyd i'w gilydd, a rhannu gyda phobl dlawd oedd mewn angen. Felly dyma'r Iddewon yn ymrwymo i wneud yr un peth bob blwyddyn, a cadw'r Ŵyl fel roedd Mordecai wedi dweud yn ei lythyr. Roedd gelyn pob Iddew, sef Haman fab Hammedatha o dras Agag, wedi cynllwynio yn erbyn yr Iddewon i'w lladd nhw. Roedd wedi mynd trwy'r ddefod o daflu'r pŵr (sef math o ddeis) gyda'r bwriad o'i dinistrio a'u lladd nhw. Ond pan glywodd y brenin am y cynllwyn, dyma fe'n gorchymyn mewn ysgrifen fod y pethau drwg roedd Haman wedi eu bwriadu yn erbyn yr Iddewon i ddigwydd i Haman ei hun. A dyma fe a cyrff ei feibion yn cael eu crogi. A'r rheswm pam mae'r Ŵyl yn cael ei galw yn Pwrim, ydy ar ôl y gair pŵr. O achos yr hyn oedd wedi ei ysgrifennu yn y llythyr, a'r cwbl roedden nhw wedi mynd trwyddo, dyma'r Iddewon yn ymrwymo y bydden nhw a'u disgynyddion, a pawb arall oedd eisiau ymuno gyda nhw, yn cadw'r ddau ddiwrnod yma yn wyliau bob blwyddyn. Roedd y dyddiau yma i'w cofio a'u dathlu bob blwyddyn gan bob teulu ym mhob cenhedlaeth drwy'r taleithiau a'r trefi i gyd. Roedd yr Iddewon i wneud yn siŵr eu bod nhw a'u disgynyddion yn cadw gwyliau'r Pwrim bob amser. A dyma'r Frenhines Esther ferch Afichaïl, gyda help Mordecai yr Iddew, yn ysgrifennu llythyr i gadarnhau beth oedd yn yr ail lythyr am Ŵyl Pwrim. Cafodd llythyrau eu hanfon i'r Iddewon yn y cant dau ddeg saith talaith oedd dan reolaeth y Brenin Ahasferus, yn galw am heddwch a sefydlogrwydd. Roedd y llythyrau yma yn dweud pryd yn union roedd Gŵyl Pwrim i gael ei chynnal. Roedd Mordecai yr Iddew wedi rhoi'r gorchymyn, a'r Frenhines Esther wedi cadarnhau y mater. A dyma'r bobl yn ymrwymo ar eu rhan eu hunain a'i disgynyddion i'w cadw, yn union fel roedden nhw wedi ymrwymo i gadw'r dyddiau i ymprydio a galaru. Felly roedd gorchymyn Esther wedi cadarnhau trefniadau'r Pwrim, a cafodd y cwbl ei ysgrifennu i lawr. Roedd y Brenin Ahasferus yn gwneud i bawb dalu trethi gorfodol — yr holl ffordd i'r arfordir a'r ynysoedd ar ymylon y deyrnas. Mae'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, ei lwyddiannau milwrol, a'r datganiad am statws Mordecai pan roddodd y brenin ddyrchafiad iddo, wedi eu cofnodi yn sgrôl Hanes Brenhinoedd Media a Persia. Mordecai oedd y swyddog uchaf yn y deyrnas, ar ôl y brenin ei hun. Roedd yn arwr i'r Iddewon ac yn cael ei edmygu'n fawr gan ei bobl i gyd. Roedd yn gwneud ei orau glas dros ei bobl, ac yn ceisio gwneud yn siŵr y byddai'r cenedlaethau i ddod yn saff. Un tro roedd dyn o'r enw Job yn byw yng ngwlad Us. Roedd yn ddyn gonest, yn trin pobl eraill yn deg, ac yn ddyn oedd yn addoli Duw o ddifri ac yn cadw draw oddi wrth ddrwg. Roedd ganddo saith mab a thair merch. A dyma restr o'i holl eiddo: saith mil o ddefaid, tair mil o gamelod, pum cant pâr o ychen a phum cant o asennod, a nifer fawr iawn o weithwyr. Roedd yn fwy cyfoethog nag unrhyw un arall o bobl y dwyrain i gyd. Roedd ei feibion yn arfer cynnal partïon yn eu cartrefi, pob un yn ei dro ar ddiwrnod penodol o'r wythnos. Bydden nhw'n gwahodd eu tair chwaer i fwyta ac yfed gyda nhw. Pan oedd yr wythnos o bartïo drosodd, byddai Job yn anfon amdanyn nhw iddyn nhw fynd trwy'r ddefod o gael eu glanhau. Byddai'n codi'n gynnar yn y bore, ac yn cyflwyno offrymau i'w llosgi i Dduw ar eu rhan nhw i gyd. Roedd yn meddwl, “Falle fod fy mhlant i wedi pechu, ac wedi melltithio Duw.” Roedd Job yn gwneud hyn yn rheolaidd. Un diwrnod dyma'r bodau nefol yn dod i sefyll o flaen yr ARGLWYDD, a dyma Satan yn dod gyda nhw. Gofynnodd yr ARGLWYDD i Satan, “Ble wyt ti wedi bod?” Atebodd Satan yr ARGLWYDD, “Dim ond crwydro yma ac acw ar y ddaear.” A dyma'r ARGLWYDD yn gofyn i Satan, “Wyt ti wedi sylwi ar fy ngwas Job? Does neb tebyg iddo ar wyneb y ddaear. Mae'n ddyn gonest ac yn trin pobl eraill yn deg; mae'n addoli Duw o ddifri ac yn cadw draw oddi wrth ddrwg.” Atebodd Satan, “Ond mae dy addoli di yn fanteisiol iddo! Y ffaith ydy, rwyt ti wedi gosod ffens o'i gwmpas i'w amddiffyn, ac o gwmpas ei deulu a popeth sydd ganddo. Ti'n gadael iddo lwyddo beth bynnag mae'n ei wneud. Mae ganddo ddigon o anifeiliaid i lenwi'r wlad i gyd! Ond petaet ti'n cymryd y cwbl oddi arno, byddai'n dy felltithio di yn dy wyneb!” Felly dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Satan, “Edrych, cei wneud beth bynnag rwyt ti eisiau i'w eiddo; ond paid cyffwrdd Job ei hun.” Yna dyma Satan yn mynd allan oddi wrth yr ARGLWYDD. Un diwrnod, roedd meibion a merched Job yn bwyta ac yn yfed gwin mewn parti yn nhŷ'r brawd hynaf. A dyma negesydd yn dod at Job a dweud, “Roedd yr ychen yn aredig, a'r asennod yn pori heb fod yn bell oddi wrthyn nhw, a dyma'r Sabeaid yn ymosod ac yn eu cymryd nhw i gyd, a lladd y gweision gyda'r cleddyf. Fi ydy'r unig un lwyddodd i ddianc i ddweud wrthot ti.” Tra roedd yn dal i siarad, dyma negesydd arall yn cyrraedd a dweud, “Mae mellten wedi lladd y defaid i gyd a'r gweision oedd yn gofalu amdanyn nhw — mae'r cwbl wedi mynd! Fi ydy'r unig un lwyddodd i ddianc i ddweud wrthot ti.” Tra roedd hwn yn dal i siarad, daeth negesydd arall eto, a dweud, “Mae Caldeaid wedi dwyn y camelod i gyd. Roedd tair mintai ohonyn nhw, yn ymosod o wahanol gyfeiriadau. Maen nhw wedi cymryd y cwbl, ac wedi lladd y gweision i gyd. Fi ydy'r unig un lwyddodd i ddianc i ddweud wrthot ti.” A tra roedd hwn yn dal i siarad dyma un arall yn dod ac yn dweud, “Roedd dy feibion a dy ferched di'n bwyta ac yn yfed gwin yn nhŷ'r brawd hynaf, ac yn sydyn dyma gorwynt ofnadwy yn chwythu dros yr anialwch ac yn taro'r tŷ. Syrthiodd yr adeilad ar ben y bobl ifanc a'u lladd nhw i gyd! Fi ydy'r unig un lwyddodd i ddianc i ddweud wrthot ti.” Dyma Job yn codi ar ei draed ac yn rhwygo ei ddillad. Yna siafiodd ei ben a mynd ar ei liniau o flaen Duw â'i wyneb ar lawr, a dweud: “Ces i fy ngeni heb ddim, a bydda i'n marw heb ddim. Yr ARGLWYDD wnaeth roi popeth i mi, a'r ARGLWYDD sydd wedi cymryd popeth oddi arna i. Boed i enw'r ARGLWYDD gael ei foli!” Er gwaetha'r cwbl, wnaeth Job ddim pechu na rhoi'r bai ar Dduw. Daeth y diwrnod eto i'r bodau nefol ddod o flaen yr ARGLWYDD. A dyma Satan yn dod gyda nhw i sefyll o flaen yr ARGLWYDD. Gofynnodd yr ARGLWYDD i Satan, “Ble wyt ti wedi bod?” Atebodd Satan yr ARGLWYDD, “Dim ond yn crwydro yma ac acw ar y ddaear.” A dyma'r ARGLWYDD yn gofyn iddo, “Wyt ti wedi sylwi ar fy ngwas Job? Does neb tebyg iddo ar wyneb y ddaear. Mae'n ddyn gonest ac yn trin pobl eraill yn deg; mae'n addoli Duw o ddifri ac yn cadw draw oddi wrth ddrwg. Ac mae mor ffyddlon ag erioed er dy fod ti wedi fy annog i ddod â dinistr arno heb achos.” Atebodd Satan, “Croen am groen! — mae pobl yn fodlon colli popeth i achub eu bywydau! Petaet ti'n ei daro ag afiechyd a gwneud iddo ddioddef, byddai'n dy felltithio di yn dy wyneb!” Felly dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Edrych, cei wneud beth bynnag wyt ti eisiau iddo; ond rhaid i ti ei gadw'n fyw.” Felly dyma Satan yn mynd allan oddi wrth yr ARGLWYDD ac yn taro Job â briwiau cas o'i gorun i'w sawdl. A dyma Job yn cymryd darn o botyn i grafu ei friwiau, a mynd i eistedd yn y lludw ar y domen sbwriel. Ac meddai ei wraig wrtho, “Ti'n dal mor ffyddlon ag erioed, wyt ti? Melltithia Dduw, er mwyn i ti gael marw!” Ond atebodd Job hi, “Ti'n siarad fel y byddai gwraig ddwl, ddi-Dduw yn siarad! Dŷn ni'n derbyn popeth da gan Dduw; oni ddylen ni dderbyn y drwg hefyd?” Er gwaetha'r cwbl, wnaeth Job ddweud dim i bechu yn erbyn Duw. Pan glywodd tri o ffrindiau Job am y trychinebau ofnadwy oedd wedi digwydd iddo, dyma nhw'n penderfynu mynd i'w weld. Y tri oedd Eliffas o Teman, Bildad o Shwach, a Soffar o Naäma. Dyma nhw'n cyfarfod â'i gilydd, a mynd ato i gydymdeimlo a cheisio ei gysuro. Pan welon nhw e o bell, doedden nhw prin yn ei nabod, a dyma nhw'n dechrau wylo'n uchel. Dyma'r tri yn rhwygo eu dillad ac yn taflu pridd i'r awyr. Buon nhw'n eistedd gydag e ar lawr ddydd a nos am wythnos. Ddwedodd neb yr un gair wrtho, achos roedden nhw'n gweld ei fod e'n dioddef yn ofnadwy. Job oedd y cyntaf i siarad, a melltithiodd y diwrnod y cafodd ei eni. Dyma ddwedodd e: “O na fyddai'r diwrnod y ces i fy ngeni yn cael ei ddileu o hanes! — y noson honno y dwedodd rhywun, ‘Mae bachgen wedi ei eni!’ O na fyddai'r diwrnod hwnnw yn dywyllwch, fel petai'r Duw sydd uchod heb erioed ei alw i fod, a golau dydd heb wawrio arno! O na fyddai tywyllwch dudew yn ei guddio; a chwmwl yn gorwedd drosto, a'r düwch yn ei ddychryn i ffwrdd! O na fyddai tywyllwch dudew wedi cipio'r noson honno, fel na fyddai'n cael ei chyfrif yn un o ddyddiau'r flwyddyn, ac na fyddai i'w gweld ar galendr y misoedd! O na fyddai'r noson honno wedi bod yn ddiffrwyth, heb sŵn neb yn dathlu'n llawen ynddi! O na fyddai'r rhai sy'n dewino wedi melltithio'r diwrnod hwnnw — y rhai sy'n gallu deffro'r ddraig yn y môr! O na fyddai'r sêr wedi diffodd y noson honno, a'r bore wedi disgwyl yn ofer am y golau, a heb weld pelydrau'r wawr — am ei bod heb gloi drysau croth fy mam, a'm rhwystro rhag gweld trybini. Pam wnes i ddim cael fy ngeni'n farw, neu ddarfod wrth ddod allan o'r groth? Pam oedd gliniau yn disgwyl amdana i, a bronnau i mi ddechrau eu sugno? Heb hynny byddwn yn gorwedd yn dawel, yn cysgu'n drwm a gorffwys yn y bedd, gyda brenhinoedd a'u cynghorwyr, y rhai fu'n codi palasau sydd bellach yn adfeilion; gydag arweinwyr oedd â digon o aur, ac wedi llenwi eu tai ag arian. Pam na ches i fy nghuddio fel erthyl marw, neu fabi wnaeth ddim gweld y golau? Yn y bedd mae holl brysurdeb pobl ddrwg wedi peidio, a'r gweithwyr oedd dan orthrwm yn cael gorffwys. Mae caethion yn cael ymlacio'n llwyr, heb lais y meistri gwaith yn gweiddi. Mae pobl fawr a chyffredin yno fel ei gilydd, a'r caethwas yn rhydd rhag ei feistr. Pam mae Duw'n rhoi golau i'r un sy'n dioddef, a bywyd i'r rhai sy'n chwerw eu hysbryd? Maen nhw'n ysu am gael marw, ond yn methu — yn chwilio am hynny yn fwy na thrysor cudd. Maen nhw'n hapus, ac yn dathlu'n llawen pan maen nhw'n cyrraedd y bedd. Pam rhoi bywyd i berson heb bwrpas, a'i gau i mewn rhag dianc o'i drybini? Yn lle bwyta dw i'n gwneud dim ond ochneidio; dw i'n griddfan ac yn beichio crïo. Mae'r hyn oeddwn yn ei ofni wedi digwydd; yr hyn oedd yn peri arswyd wedi dod yn wir. Does gen i ddim llonydd, dim heddwch, dim gorffwys — dim ond trafferthion.” A dyma Eliffas o Teman yn ymateb: “Wnei di faddau i mi os gwna i fentro dweud gair? Mae'n anodd peidio dweud rhywbeth! Meddylia gymaint o bobl wnest ti eu dysgu, a'r holl rai gwan wnest ti eu hannog a'u helpu. Roedd dy eiriau yn cynnal y rhai oedd yn baglu, ac yn cryfhau'r rhai oedd yn simsanu. Ond nawr, mae wedi digwydd i ti, a fedri di ddim godde'r peth; mae drwg wedi dy daro, a dyma ti yn anobeithio! Ydy dy grefydd ddim yn dy gynnal? Ydy dy fywyd da ddim yn rhoi gobaith i ti? Meddylia am eiliad, gafodd rhywun dieuog ei ddifa erioed? Ble cafodd y rhai sy'n byw'n iawn eu difa'n llwyr? Fel yma dw i'n ei gweld hi: Y rhai sy'n aredig drygioni ac yn hau helynt sy'n medi cynhaeaf hynny! Mae Duw yn chwythu arnyn nhw, ac maen nhw'n cael eu difa; maen nhw'n diflannu gydag anadl ei ffroenau. Maen nhw fel y llew yn rhuo, a'i rai bach yn cwyno, pan mae dannedd y llewod ifanc wedi eu torri. Heb ysglyfaeth mae'r llew cryf yn marw, a chenawon y llewes yn mynd ar wasgar. Ces neges yn dawel o'r dirgel, dim ond sibrydiad bach a glywais. Yng nghanol breuddwydion dryslyd y nos, pan mae pobl yn cysgu'n drwm. Ro'n i wedi dychryn, ac yn crynu trwof; roedd fel ias drwy fy esgyrn i gyd! Teimlais awel yn pasio heibio i'm hwyneb, a gwnaeth i flew fy nghorff sefyll. Roedd siâp rhywun yn sefyll o'm blaen, ond doeddwn i ddim yn ei nabod. Tawelwch, ac yna clywais ei lais yn sibrwd: ‘Ydy person dynol yn fwy cyfiawn na Duw? Ydy pobl yn fwy pur na'r Un wnaeth nhw? Os ydy Duw ddim yn trystio ei weision, ac yn cyhuddo ei angylion o fod yn ffôl, pa obaith sydd i'r rhai sy'n byw mewn corff o bridd, ac yn tarddu o'r llwch — y rhai y gellir eu gwasgu fel gwyfyn! Gallan nhw gael eu sathru'n farw, unrhyw bryd rhwng gwawr a machlud, a'u difa'n llwyr am byth, heb neb yn cymryd sylw. Mae rhaffau eu pebyll daearol yn cael eu codi, ac maen nhw'n marw mewn anwybodaeth.’ Galw am help! Fydd rhywun yn dy ateb di? At ba un o'r angylion sanctaidd wyt ti'n mynd i droi? Mae'r ffŵl byrbwyll yn marw o ddiffyg amynedd, a'r person dwl pan mae'n dal dig. Dw i wedi gweld y ffŵl yn llwyddo a gwreiddio, ond yna'n sydyn roedd ei gartre wedi ei felltithio. Dydy ei blant byth yn saff — byddan nhw'n colli'r achos yn y llys, heb neb i'w hachub. Bydd pobl newynog yn bwyta ei gnydau, a'i gario i ffwrdd i'w guddio; a'r rhai sy'n llwgu yn ysu am ei gyfoeth. Dydy profiadau drwg ddim yn tyfu o'r pridd, na thrafferthion yn egino o'r ddaear; ond mae pobl yn cael eu geni i drafferthion, mor siŵr ag mae gwreichion yn hedfan i fyny. Petawn i'n ti, byddwn i'n troi at Dduw, ac yn gosod fy achos o'i flaen. Mae e'n gwneud pethau mawr, tu hwnt i'n deall ni, cymaint o bethau rhyfeddol, ni ellir eu cyfri! Mae e'n anfon glaw i'r ddaear, ac yn dyfrio'r caeau. Mae e'n codi'r rhai sy'n isel, ac yn gwneud y rhai sy'n galaru yn ddiogel. Mae e'n drysu cynlluniau'r cyfrwys, i'w hatal rhag llwyddo. Mae'n gwneud i glyfrwch pobl eu baglu nhw; mae cynlluniau'r cyfrwys yn mynd o chwith. Maen nhw'n cael eu hunain mewn tywyllwch yng ngolau dydd, ac yn ymbalfalu ganol dydd fel petai'n nos! Ond mae e'n achub y tlawd rhag eu geiriau creulon, a'r anghenus o afael y rhai cryf. Felly mae gobaith i'r tlawd, ac mae anghyfiawnder yn gorfod tewi! Mae'r rhai mae Duw'n eu ceryddu wedi eu bendithio'n fawr; felly paid gwrthod disgyblaeth y Duw sy'n rheoli popeth! Mae e yn anafu, ond hefyd yn rhwymo'r anaf; Mae'n dolurio, ond mae ei ddwylo hefyd yn iacháu. Bydd yn dy achub rhag un trychineb ar ôl y llall; chei di ddim niwed byth. Mewn newyn bydd yn dy ryddhau o afael marwolaeth, ac mewn rhyfel, o afael y cleddyf. Byddi'n cael dy amddiffyn rhag y tafod maleisus; a fyddi di ddim yn ofni dinistr pan ddaw yn agos. Byddi'n gwawdio dinistr a newyn, a fydd gen ti ddim ofn anifeiliaid gwylltion. Bydd cerrig yn cytuno i gadw draw o dy dir, a fydd anifeiliaid gwylltion ddim yn ymosod arnat ti. Byddi'n gwybod fod dy gartref yn ddiogel, ac wrth archwilio dy anifeiliaid, fydd dim un ar goll. Byddi'n siŵr o gael llawer iawn o blant; bydd dy ddisgynyddion fel glaswellt ar y tir. Byddi mewn oedran mawr pan gyrhaeddi'r bedd, fel ysgub o wenith yn cael ei gasglu yn ei dymor. Edrych! Dŷn ni wedi astudio hyn yn fanwl, ac mae'n wir. Felly gwrando, a meddylia sut mae'n berthnasol i ti.” A dyma Job yn ateb: “Petai fy rhwystredigaeth yn cael ei bwyso, a'm helyntion yn cael eu rhoi mewn clorian, bydden nhw'n drymach na holl dywod y môr! Dim syndod fy mod i wedi siarad yn fyrbwyll! Mae saethau'r Duw Hollalluog yn fy nghorff, ac mae fy ysbryd wedi sugno eu gwenwyn. Mae'r dychryn mae Duw yn ei achosi fel rhes o filwyr yn ymosod arna i. Ydy asyn gwyllt yn nadu pan mae ganddo laswellt? Ydy ychen yn brefu pan mae ganddo borfa? Ydy bwyd di-flas yn cael ei fwyta heb halen? Oes blas ar y gwynwy? Dw i'n gwrthod eu cyffwrdd nhw; maen nhw'n gwneud i mi fod eisiau chwydu. O na fyddwn i'n cael fy nymuniad, a bod Duw yn rhoi i mi beth dw i eisiau. O na fyddai Duw yn fodlon fy lladd fel pryf, trwy godi ei law a'm taro i lawr! Faint bynnag o boen fyddai'n rhaid i mi ei ddiodde, byddai'n gysur i mi fy mod heb wrthod geiriau'r Un Sanctaidd. Does gen i mo'r cryfder i ddal ati; beth ydy'r pwynt o aros yn fyw? Oes gen i gryfder fel y graig? Oes gen i gnawd fel pres? Y gwir ydy, does gen i ddim nerth o gwbl! Alla i wneud dim i helpu fy hunan. Dylai rhywun sy'n anobeithio gael ffrindiau sy'n ffyddlon, hyd yn oed os ydy e'n troi ei gefn ar yr Un sy'n rheoli popeth; Ond alla i ddim dibynnu o gwbl arnoch chi, frodyr! Dych chi fel sychnant lle roedd dŵr yn gorlifo ar un adeg. Fel ffrwd sy'n dywyll o dan rew ac wedi ei chuddio o dan eira; ond cyn gynted ag y mae'n meirioli mae'n sychu — yn y gwres tanbaid mae hi'n diflannu. Mae carafanau camelod yn gadael eu llwybr, ac yn troi am y tir anial, ond mae'r ffrwd wedi mynd. Mae carafanau Tema yn chwilio am y dŵr, a marchnatwyr Sheba yn gobeithio dod o hyd iddo. Maen nhw mor hyderus, ond byddan nhw'n cael eu siomi; byddan nhw'n cyrraedd y lle, ac yn sefyll yno'n syfrdan. Ac felly dych chi! Fel nant wedi sychu, yn dda i ddim! Dych chi'n gweld fy helynt, ac yn cael eich dychryn. Ydw i wedi dweud, ‘Rhowch rodd i mi!’ neu, ‘Talwch gildwrn drosto i o'ch cyfoeth’? ‘Achubwch fi o afael y gelyn!’ neu, ‘Rhyddhewch fi o afael y gormeswyr!’? Dangoswch i mi beth wnes i, a bydda i'n tewi; Esboniwch i mi beth wnes i o'i le! Mae geiriau gonest yn gallu bod yn greulon! Ond beth mae'ch cerydd chi yn ei brofi? Ydy hi'n iawn i chi geryddu â'ch geiriau wrth gyhuddo dyn diobaith o siarad gwag? Mae fel gamblo gyda bywyd yr amddifad, neu roi bywyd eich cyfaill ar ocsiwn! Nawr dewch! Edrychwch arna i! Fyddwn i'n dweud celwydd yn eich wynebau chi? Dewch! Plîs peidiwch bod mor annheg! Meddyliwch eto! Mae fy ngonestrwydd i yn y fantol. Na, dw i ddim yn dweud celwydd, a dw i'n gwybod y gwahaniaeth rhwng drwg a da. Pam mae bywyd dyn ar y ddaear mor galed? Mae ei ddyddiau fel dyddiau gwas cyflog — fel caethwas yn dyheu am gysgod, neu was cyflog yn disgwyl am ei dâl. Mis ar ôl mis o fyw dibwrpas, a nosweithiau diddiwedd o dristwch. Pan dw i'n gorwedd i lawr, dw i'n meddwl, ‘Pryd dw i'n mynd i fedru codi?’ Mae'r nos yn llusgo'n araf, a dw i'n troi a throsi nes iddi wawrio. Mae briwiau a chrachod dros fy nghorff i gyd; mae'r croen wedi cracio ac yn casglu. Mae dyddiau fy mywyd wedi hedfan fel gwennol gwehydd, ac yn dod i ben mewn anobaith. O Dduw, cofia mai anadl ydy fy mywyd! Wna i ddim profi pleser byth eto. Fydd y llygaid sy'n edrych arna i yn fy ngweld i ddim mwy; bydda i wedi diflannu mewn chwinciad. Fel cwmwl yn chwalu ac yn diflannu, dydy'r un sy'n mynd i'r bedd byth yn dod yn ôl i fyny; fydd e byth yn mynd adre eto; a fydd y lle roedd yn byw ddim yn ei gofio. Felly, dw i ddim am gadw'n dawel! dw i'n mynd i rannu fy ngwewyr meddwl; dw i'n teimlo'n chwerw, a dw i'n mynd i gwyno. Ai'r môr ydw i, neu anghenfil y dyfroedd, i ti orfod fy nghadw yn gaeth? Pan dw i'n meddwl, ‘Bydd mynd i'r gwely'n gysur, a gorffwys yn gwneud i mi deimlo'n well,’ ti'n fy nychryn â breuddwydion, ac yn codi braw â hunllefau. Byddai'n well gen i gael fy stranglo; mae marwolaeth yn well na bodolaeth. Dw i wedi cael llond bol, does gen i ddim eisiau byw ddim mwy; Gad lonydd i mi, mae fy nyddiau'n mynd heibio fel mwg. Beth ydy person dynol, i ti boeni amdano, a rhoi cymaint o sylw iddo? Ti'n ei archwilio bob bore, ac yn ei brofi bob munud. Wyt ti byth yn mynd i edrych i ffwrdd? Rho gyfle i mi lyncu fy mhoeryn! Os dw i wedi pechu, beth dw i wedi ei wneud i ti, ti Wyliwr pobl? Pam dewis fi yn darged? Ydw i wedi troi'n gymaint o faich i ti? Pam wnei di ddim maddau i mi am droseddu, a chael gwared â'm pechod? Achos bydda i'n gorwedd yn farw cyn pen dim; byddi'n edrych amdana i, ond bydda i wedi mynd.” Dyma Bildad o Shwach yn ymateb: “Am faint wyt ti'n mynd i ddal ati i siarad fel yma? Mae dy eiriau'n wyllt fel gwynt stormus! Ydy Duw yn gwyrdroi cyfiawnder? Ydy'r Un sy'n rheoli popeth yn ystumio beth sy'n iawn? Roedd dy feibion wedi pechu yn ei erbyn, ac mae e wedi gadael iddyn nhw wynebu canlyniadau eu gwrthryfel. Ond os gwnei di droi at Dduw a gofyn i'r Duw sy'n rheoli popeth dy helpu, os wyt ti'n ddi-fai ac yn byw yn iawn, bydd e'n dy amddiffyn di, ac yn dy adfer i dy gyflwr cyfiawn. Er bod dy ddechrau'n fach, bydd dy lwyddiant yn fawr i'r dyfodol. Gofyn i'r genhedlaeth sydd wedi mynd heibio, meddylia am yr hyn wnaeth pobl ddarganfod ers talwm. (Achos dim ond yn ddiweddar y daethon ni i'r golwg, a dŷn ni'n gwybod dim; a dydy'n dyddiau ni ar y ddaear yn ddim ond cysgod.) Byddan nhw'n siŵr o dy ddysgu, ac esbonio beth wnaethon nhw ei ddeall. Ydy papurfrwyn yn gallu tyfu heb gors? Ydy brwyn yn gallu tyfu heb ddŵr? Wrth ddechrau tyfu, cyn bod yn barod i'w torri, bydden nhw'n gwywo'n gynt na'r glaswellt. Dyna sy'n digwydd i'r rhai sy'n anghofio Duw; mae gobaith yr annuwiol yn diflannu — mae fel gafael mewn edau frau, neu bwyso ar we pry cop. Mae'n pwyso arno ac yn syrthio; mae'n gafael ynddo i godi, ond yn methu. Dan wenau'r haul mae'n blanhigyn iach wedi ei ddyfrio, a'i frigau'n lledu drwy'r ardd. Mae ei wreiddiau'n lapio am bentwr o gerrig, ac yn edrych am le rhwng y meini. Ond pan mae'n cael ei godi a'i ddiwreiddio, bydd yr ardd lle roedd yn tyfu yn dweud ‘Dw i erioed wedi dy weld di.’ Dyna fydd ei ddiwedd hapus! A bydd planhigion eraill yn tyfu yn ei le. Edrych! Dydy Duw ddim yn gwrthod pobl onest, nac yn helpu pobl ddrwg! Bydd yn gwneud i ti chwerthin unwaith eto, a byddi'n gweiddi'n llawen! Bydd dy elynion yn cael eu cywilyddio, a bydd pebyll pobl ddrwg yn diflannu.” Dyma Job yn ateb: “Wrth gwrs, dw i'n gwybod fod hyn i gyd yn wir! Sut all person dynol fod yn gyfiawn o flaen Duw? Er y carai rhywun ddadlau ei achos gydag e, fyddai rhywun ddim yn gallu ateb un o bob mil o'i gwestiynau! Mae Duw mor ddoeth a grymus — Pwy sydd wedi ei herio a dod allan yn un darn? Mae e'n symud mynyddoedd heb rybudd, ac yn eu bwrw wyneb i waered yn ei ddig. Mae'n ysgwyd y ddaear o'i lle, nes bod ei cholofnau'n crynu. Mae'n rhoi gorchymyn i'r haul beidio tywynnu, ac yn cloi y sêr dan sêl. Mae e'n lledu'r awyr, ac yn sathru tonnau'r môr. Fe wnaeth yr Arth ac Orion, Pleiades a chlystyrau sêr y de. Mae'n gwneud pethau mawr, tu hwnt i'n deall ni, a phethau rhyfeddol na ellir byth eu cyfrif. Ond petai'n pasio heibio allwn i mo'i weld; mae'n symud yn ei flaen heb i mi sylwi. Petai'n cymryd rhywbeth, pwy all ei stopio? Pwy fyddai'n meiddio dweud, ‘Beth wyt ti'n wneud?’ Duw ydy e, a dydy e ddim yn atal ei ddigofaint; Mae helpwyr bwystfil y môr wedi eu bwrw i lawr. Felly pa obaith sydd i mi ei ateb, a dod o hyd i ddadleuon yn ei erbyn? Er fy mod i'n ddieuog, alla i mo'i ateb, dim ond pledio am drugaredd gan fy Marnwr. Hyd yn oed petai'n ymateb i'm gwŷs, allwn i ddim bod yn siŵr y byddai'n gwrando arna i — oherwydd mae'n fy sathru i am y nesa peth i ddim, ac wedi fy anafu drosodd a throsodd am ddim rheswm. Dydy e ddim yn rhoi cyfle i mi ddal fy ngwynt, dim ond fy llenwi â gwenwyn chwerw! Os mai prawf cryfder ydy hyn — fe ydy'r Un cry! Os mai cwestiwn o bwy sy'n iawn — pwy sy'n mynd i'w alw e i'r llys? Er fy mod i'n ddieuog, byddai fy ngeiriau'n fy nghondemnio i; Er fy mod i'n ddi-fai, byddai e'n dangos i mi fy mod yn euog. Dydw i ddim ar fai, ond dw i'n poeni dim beth fydd yn digwydd i mi; dw i wedi cael llond bol ar fywyd! ‘Does dim gwahaniaeth!’, dyna dw i'n ddweud, ‘Mae e'n dinistrio'r di-fai a'r euog fel ei gilydd.’ Pan mae ei chwip yn dod â marwolaeth sydyn, mae e'n chwerthin ar anobaith y dieuog. Mae'r tir wedi ei roi yn nwylo pobl ddrwg, ac mae Duw'n rhoi mwgwd dros lygaid ei barnwyr. Os nad fe sy'n gwneud hyn, yna pwy sydd? Mae dyddiau fy mywyd yn mynd heibio'n gynt na rhedwr; yn rhuthro i ffwrdd heb i mi weld hapusrwydd. Maen nhw'n llithro heibio fel cychod brwyn, neu fel eryr yn disgyn ar ei ysglyfaeth. Os dweda i, ‘Dw i'n mynd i stopio cwyno, dw i am wenu a bod yn hapus,’ dw i'n dychryn wrth feddwl beth fydda i'n ei ddiodde nesa. Dw i'n gwybod wnei di ddim gadael i mi fynd! Dw i'n cael fy nghyfri'n euog beth bynnag, felly beth ydy'r pwynt ymdrechu? Petawn i'n ymolchi â sebon, ac yn sgwrio fy nwylo â soda, byddet ti'n fy suddo mewn carthion nes bod hyd yn oed fy nillad yn ffiaidd i mi. Nid creadur dynol fel fi ydy Duw, felly alla i ddim dweud, ‘Gad i ni fynd i gyfraith!’ O na fyddai canolwr rhyngon ni, i osod ei law ar y naill a'r llall ohonon ni! Rhywun i symud gwialen Duw oddi arna i fel bod dim rhaid i mi ddychryn ac arswydo o'i flaen. Byddwn i'n siarad yn agored wedyn, heb ofni; ond fel mae pethau, alla i ddim gwneud hynny. Mae'n gas gen i orfod byw! Ydw, dw i'n mynd i gwyno, a dweud mor chwerw dw i'n teimlo. Dweud wrth Dduw, ‘Paid condemnio fi heb achos! Gad i mi wybod pam ti'n ymosod arna i.’ Wyt ti'n mwynhau cam-drin pobl? Taflu i ffwrdd waith dy ddwylo, a gwenu ar gynlluniau pobl ddrwg? Wyt ti'n edrych ar bethau trwy lygaid dynol? Wyt ti'n deall pethau fel mae pobl yn eu gweld nhw? Ydy dy fywyd di mor fyr â bywyd rhywun meidrol? Ydy dy flynyddoedd di'n mynd heibio fel ein blynyddoedd ni? Ai dyna pam ti'n chwilio am fy meiau i a cheisio dod o hyd i'm pechod? Ti'n gwybod yn iawn nad ydw i'n euog, ond all neb fy achub o dy ddwylo di. Dy ddwylo di wnaeth fy naddu i a'm creu, ond yna dyma ti'n troi i'm dinistrio'n llwyr! Cofia mai ti wnaeth fy siapio i fel clai. Wyt ti'n mynd i wneud llwch ohono i eto? Ti dywalltodd fi fel llaeth i'r groth, a'm ceulo fel caws ym mol fy mam. Gwisgaist fi â chnawd a chroen, a gweu fy esgyrn a'm gewynnau at ei gilydd. Ti roddodd fywyd i mi, a gofalu amdana i — dy ofal di sydd wedi fy nghadw i'n fyw. Ond roeddet ti'n cuddio dy gynllun go iawn. Dw i'n gwybod mai dyma oedd dy fwriad: Fy ngwylio i, i weld fyddwn i'n pechu, ac wedyn gwrthod gadael i mi fynd. Os ydw i'n euog — mae ar ben arna i! Ond hyd yn oed os ydw i'n ddieuog, alla i ddim codi fy mhen; dw i'n llawn cywilydd ac wedi cael llond bol o ofid. Os coda i fy mhen, rwyt yn fy hela fel llew, i ddangos dy hun yn rhyfeddol — a hynny ar fy nhraul i! Ti'n galw tystion newydd yn fy erbyn, ac yn troi'n fwy a mwy dig gyda mi; dod â byddin newydd yn fy erbyn o hyd. Felly pam wnest ti adael i mi ddod allan o'r groth? Pam wnes i ddim marw bryd hynny, cyn i neb fy ngweld i? — Byddai'n braf petawn i erioed wedi bodoli. Neu wedi cael fy nghario o'r groth i'r bedd! Mae fy nyddiau i mor brin, felly stopia! Gad lonydd i mi, i mi gael ychydig o gysur! Cyn i mi fynd — heb fyth ddod yn ôl — i wlad y twyllwch dudew, i dir y gwyll a'r fagddu, lle does ond cysgodion ac anhrefn, a lle mae'r golau ei hun fel tywyllwch.” A dyma Soffar o Naäma yn ymateb: “Mae'n rhaid ateb y malu awyr diddiwedd yma! Ydy siarad di-baid yn gwneud rhywun yn iawn? Wyt ti'n meddwl fod dy barablu di yn mynd i dewi dynion? Oes neb yn mynd i dy geryddu di am dy siarad gwawdlyd? Ti'n dweud, ‘Mae beth dw i'n gredu yn iawn, a dw i'n lân yn dy olwg di, O Dduw.’ O na fyddai Duw yn dweud rhywbeth, yn dy ateb di drosto'i hun, ac yn dangos i ti beth ydy doethineb go iawn! Mae dwy ochr i bob stori! Byddet ti'n gweld fod Duw yn dy gosbi lai nag wyt ti'n ei haeddu! Wyt ti'n meddwl dy fod yn deall hanfod Duw? Wyt ti wedi darganfod ffiniau i allu'r Un sy'n rheoli popeth? Mae'n uwch na'r nefoedd — beth alli di ei wneud? Mae'n ddyfnach nag Annwn — beth wyt ti'n ei wybod? Mae'n fwy na'r ddaear ac yn lletach na'r môr. Os ydy Duw'n dod heibio ac arestio rhywun, a mynd ag e i'r llys, pwy sy'n gallu ei rwystro? Achos mae e'n nabod y rhai sy'n twyllo; pan mae'n gweld drygioni, mae'n delio ag e. Ond mae mor amhosib i ddyn dwl droi'n ddoeth ag ydy hi i asyn gwyllt gael ei eni'n ddof! Os gwnei di droi at Dduw, ac estyn dy ddwylo ato mewn gweddi — troi cefn ar y drwg rwyt ti wedi ei wneud, a pheidio rhoi lle i anghyfiawnder — yna byddi'n dal dy ben yn uchel, heb gywilydd, ac yn gallu sefyll yn gadarn, heb ofn. Byddi'n anghofio dy holl drybini — bydd fel dŵr wedi mynd dan y bont. Bydd bywyd yn brafiach na chanol dydd, a'r adegau mwyaf tywyll yn olau fel y bore! Byddi'n teimlo'n saff, am fod gen ti obaith; yn edrych o dy gwmpas ac yn gorffwys yn ddiogel. Byddi'n gorwedd i lawr, heb angen bod ofn; a bydd llawer yn ceisio ennill dy ffafr. Ond fydd pobl ddrwg yn gweld dim o hyn. Does dim dianc iddyn nhw! Eu hunig obaith fydd cael marw.” Dyma Job yn ateb: “Mae'n amlwg eich bod chi'n bobl mor bwysig! Fydd doethineb ddim yn bod ar ôl i chi fynd! Ond mae gen innau feddwl hefyd — dw i ddim gwaeth na chi. Mae pawb yn gwybod y pethau yna! Ond dw i wedi troi yn destun sbort i'm ffrindiau — ie fi, oedd yn galw ar Dduw ac yn cael ateb. Fi, y dyn da a gonest — yn destun sbort! Mae pobl gyfforddus eu byd yn wfftio fy helyntion — ‘Dyna sy'n digwydd pan mae dyn yn llithro!’ Ond mae lladron yn cael bywyd braf, a'r rhai sy'n herio Duw yn byw yn saff — ac yn cario eu duw yn eu dwylo! Ond meddwch chi: ‘Gofyn i'r anifeiliaid — byddan nhw'n dy ddysgu; neu i'r adar — byddan nhw'n dweud wrthot ti. Neu gofyn i'r ddaear — bydd hi'n dy ddysgu, ac i bysgod y môr ddangos y ffordd i ti. Pa un ohonyn nhw sydd ddim yn gwybod mai Duw sydd wedi gwneud hyn? Yn ei law e mae bywyd pob creadur ac anadl pob person byw. Ydy'r glust ddim yn profi geiriau fel mae'r geg yn blasu bwyd? Onid pobl mewn oed sy'n ddoeth, a'r rhai sydd wedi byw'n hir sy'n deall?’ Duw ydy'r un doeth a chryf; ganddo fe y mae cyngor a deall. Does dim ailadeiladu beth mae e wedi ei chwalu; na dianc i'r sawl mae e wedi ei garcharu. Pan mae'n dal y glawogydd yn ôl, mae sychder yn dilyn; Pan mae e'n eu gollwng yn rhydd, maen nhw'n boddi'r tir. Duw ydy'r un cryf a medrus; mae'r un sydd ar goll a'r un sy'n camarwain yn atebol iddo. Mae'n arwain cynghorwyr i ffwrdd yn noeth, ac yn gwneud i farnwyr edrych fel ffyliaid. Mae'n tynnu gwisg brenhinoedd oddi arnyn nhw, ac yn rhwymo gwisg caethwas amdanyn nhw. Mae'n arwain offeiriaid i ffwrdd yn noeth, ac yn bwrw swyddogion y deml i lawr. Mae'n cau cegau'r cynghorwyr ffyddlon, ac yn diddymu cyngor y dynion doeth. Mae'n dwyn anfri ar y bobl fawr, ac yn diarfogi'r rhyfelwr cryf. Mae'n datguddio pethau dirgel y tywyllwch, ac yn dod â phethau tywyll i'r golau. Mae'n gwneud i wledydd dyfu, ac yna'n eu dinistrio; Mae'n estyn ffiniau'r gwledydd ac yna'n eu chwalu. Mae'n gwneud i arweinwyr y bobl fynd o'u pwyll, ac yn eu gadael i grwydro mewn anialwch heb lwybrau; Yn ymbalfalu heb olau yn y tywyllwch, ac yn sigledig ar eu traed fel meddwon. Ydw, dw i wedi gweld hyn i gyd; dw i wedi ei glywed a'i ddeall. Dw i'n gwybod cystal â chi; dw i ddim gwaeth na chi! Ond dw i eisiau siarad â'r Duw sy'n rheoli popeth; dw i am ddadlau fy achos gyda Duw. Dych chi'n palu celwyddau i guddio'r gwir! Cwacs! Dyna beth ydych chi. O na fyddech chi'n cau eich cegau! Dyna fyddai'r peth callaf i chi ei wneud. Gwrandwch ar beth sydd gen i i'w ddweud; rhowch gyfle i mi ddadlau fy achos. Ydych chi'n dweud y pethau annheg yma ar ran Duw? Ydych chi'n dweud celwydd er ei fwyn e? Ydych chi am adael i Dduw ddweud rhywbeth? Neu oes angen i chi ei amddiffyn e? Sut fydd hi arnoch chi pan fydd e'n eich archwilio chi? Neu allwch chi ei dwyllo fe fel dych chi'n twyllo pobl? Bydd e'n siŵr o'ch ceryddu chi am ddangos ffafr annheg ar y slei. Bydd ei ysblander yn codi arswyd arnoch chi, a bydd ei ofn yn cydio ynoch. Geiriau gwag ydy'ch dywediadau slic chi; atebion disylwedd, yn frau fel clai. Byddwch ddistaw, i mi gael cyfle i siarad. Beth bynnag fydd yn digwydd i mi, dw i ddim am ollwng gafael! Dw i'n fodlon mentro fy mywyd! Falle y bydd e'n fy lladd i; dw i heb obaith! Ond dw i'n mynd i amddiffyn fy hun o'i flaen e. Yn wir, gallai hyn droi i fod yn achubiaeth i mi — fyddai'r annuwiol byth yn meiddio sefyll o'i flaen. Gwrandwch yn ofalus arna i; clywch beth sydd gen i i'w ddweud. Cewch weld, dw i wedi paratoi fy amddiffyniad, a dw i'n gwybod mai fi sy'n iawn. Petai rhywun yn gallu profi'r achos yn fy erbyn byddwn i'n tewi wedyn a disgwyl marw. Ond gwna ddau beth i mi, o Dduw, fel bod dim rhaid i mi guddio oddi wrthot ti: Tynn dy law yn ôl, a stopia godi dychryn arna i. Yna galw fi i gyfri, a bydda i'n ymateb; neu gad i mi siarad gyntaf, i ti fy ateb i. Sawl gwaith dw i wedi gwneud camgymeriad a phechu? Dangos i mi'r pechod a'r gwrthryfel yn dy erbyn di. Pam wyt ti'n cuddio oddi wrtho i? Pam wyt ti'n fy nhrin i fel gelyn? Pam pryfocio deilen sy'n cael ei chwythu gan wynt? Pam rhedeg ar ôl us wedi sychu? Rwyt wedi dyfarnu cosb chwerw i mi, a gwneud i mi dalu am gamgymeriadau fy ieuenctid. Rwyt ti wedi rhoi fy nhraed mewn cyffion, ac yn gwylio popeth dw i'n ei wneud — rwyt ti'n marcio pob cam dw i'n ei gymryd. Dw i'n darfod fel rhywbeth yn pydru, neu ddilledyn wedi ei ddifetha gan wyfyn. Byr ydy bywyd dyn, wedi ei eni o wraig, ac mae ei ddyddiau yn llawn trafferthion. Mae'n blodeuo ac yna'n gwywo; mae'n diflannu fel cysgod, a byth yn aros. Ai ar un felly wyt ti'n syllu? Wyt ti am fy rhoi i ar brawf? Pwy all wneud yr aflan yn lân? Does neb! Mae dyddiau rhywun wedi eu rhifo; ti'n gwybod faint o fisoedd fydd e'n byw ac wedi gosod ffin fydd e byth yn ei chroesi. Edrych i ffwrdd a gad lonydd iddo, fel gwas cyflog wedi gorffen ei waith. Mae gobaith i goeden dyfu eto ar ôl cael ei thorri i lawr. Fydd ei blagur newydd ddim yn methu. Er bod ei gwreiddiau'n hen yn y pridd, a'i boncyff wedi dechrau pydru, mae'n synhwyro dŵr ac yn blaguro eto, a'i brigau'n tyfu fel petai newydd ei phlannu. Ond mae'r dyn cryfaf yn marw heb gryfder; mae'n anadlu am y tro olaf, ac mae wedi mynd. Fel dŵr yn diflannu o lyn, neu afon yn llifo i ffwrdd ac yn sychu. Mae pobl feidrol yn gorwedd a byth yn codi; Fydd dim deffro na chodi o'u cwsg tra bydd yr awyr yn dal i fod. O na fyddet ti'n fy nghuddio'n saff yn y bedd, a'm cadw o'r golwg nes i dy ddigofaint fynd heibio; yna gosod amser penodol i'm cofio i eto. Ar ôl i rywun farw, fydd e'n cael byw eto? Ar hyd fy mywyd caled byddwn i'n disgwyl i rywun ddod i'm rhyddhau. Byddet ti'n galw, a byddwn innau'n dod; byddet yn hiraethu am waith dy ddwylo. Byddet ti'n gofalu amdana i bob cam, heb wylio am fy mhechod o hyd. Byddai pob trosedd o'r golwg mewn bag wedi ei selio, a'm pechod wedi ei guddio dan orchudd. Ond na, fel mae mynyddoedd yn cael eu herydu, a chreigiau yn syrthio o'u lle; neu fel mae dŵr yn gwneud carreg yn llyfn, a glaw trwm yn golchi ymaith bridd y ddaear; dyna sut rwyt ti'n lladd gobaith rhywun. Ti'n ei drechu'n llwyr — mae ar ben arno! Rwyt yn ei anffurfio ac yn ei anfon i ffwrdd. Fydd e ddim yn gwybod os bydd ei feibion yn cael anrhydedd; nac yn ymwybodol os cân nhw eu bychanu. Dydy e'n teimlo dim ond ei boen ei hun ac yn poeni dim am neb arall.” A dyma Eliffas o Teman yn ymateb: “Ydy dyn doeth yn ateb drwy falu awyr? Ti'n llawn o wynt poeth y dwyrain! Ydy e'n dadlau ei achos drwy siarad lol, a defnyddio dim ond geiriau gwag? Dwyt ti'n dangos dim parch at Dduw, ac yn rhwystro eraill rhag myfyrio arno! Dy bechod sy'n gwneud i ti ddweud y fath bethau; rwyt ti mor gyfrwys yn y ffordd ti'n siarad. Dy eiriau dy hun sy'n dy gondemnio — nid fi; mae dy geg yn tystio yn dy erbyn di! Ai ti oedd y dyn cyntaf i gael ei eni? Oeddet ti'n bodoli cyn y bryniau? Oeddet ti wedi clustfeinio ar gyfrinachau Duw? Ai ti ydy'r unig un doeth? Beth wyt ti'n ei wybod fwy na ni? Beth wyt ti'n ei ddeall nad ydyn ni'n ei ddeall? Mae oedran a gwallt gwyn o'n plaid ni — dw i wedi byw yn hirach na dy dad! Ydy'r cysur mae Duw'n ei gynnig ddim digon? Mae ei eiriau mor garedig a thyner. Pam wyt ti'n gadael i deimladau dy reoli? Mae dy lygaid yn dangos dy fod wedi gwylltio. Sut alli di golli dy dymer gyda Duw, a gadael i'r fath eiriau groesi dy wefusau! Sut all person meidrol fod yn lân? Neu un wedi ei eni o wraig honni mai fe sy'n iawn? Os ydy Duw ddim yn gallu trystio ei angylion, a'r byd nefol ddim yn lân yn ei olwg, sut mae'n edrych ar ddynoliaeth ffiaidd, lygredig, sy'n gwneud drwg fel mae'n yfed dŵr! Gwna i ddangos i ti, os gwnei di wrando. Gwna i ddweud beth dw i wedi ei weld — pethau mae dynion doeth wedi eu dangos; pethau wedi eu dysgu gan eu tadau, Cafodd y tir ei roi iddyn nhw, a doedd pobl estron ddim yn eu plith nhw. Mae'r dyn drwg yn dioddef poen ar hyd ei fywyd; a'r gormeswr creulon drwy gydol ei holl flynyddoedd. Mae'n clywed sŵn sy'n ei fygwth o hyd, a phan mae bywyd yn braf mae'r dinistrydd yn dod. Does ganddo ddim gobaith dianc o'r tywyllwch; ac mae'n gwybod y bydd y cleddyf yn ei ladd. Mae'n crwydro — bydd yn fwyd i fwlturiaid; ac mae'n gwybod fod y diwrnod tywyll yn dod. Mae'n cael ei ddychryn gan ofid a'i lethu gan bryder, fel brenin ar fin mynd i ryfel. Am ei fod wedi codi ei ddwrn i fygwth Duw, a gwrthwynebu'r Duw sy'n rheoli popeth. Wedi ei herio ac ymosod arno â'i darian drwchus gref! Er ei fod yn llond ei groen ac yn iach a'i lwynau'n gryfion, mae'n byw mewn trefi fydd yn cael eu dinistrio, ac mewn tai lle bydd neb ar ôl; rhai fydd yn ddim mwy na pentwr o rwbel. Fydd e ddim yn aros yn gyfoethog, a fydd yr hyn sydd ganddo ddim yn para; fydd ganddo ddim eiddo ar wasgar drwy'r wlad. Fydd e ddim yn dianc o'r tywyllwch. Fel coeden a'r fflamau wedi llosgi ei brigau; bydd Duw yn anadlu arno, a bydd yn diflannu. Dylai beidio trystio'r hyn sy'n ddiwerth, a'i dwyllo ei hun, fydd dim yn cael ei dalu'n ôl iddo. Bydd yn gwywo o flaen ei amser, cyn i'w frigau gael cyfle i flaguro. Bydd fel gwinwydden yn gollwng ei grawnwin; neu goeden olewydd yn bwrw ei blodau. Mae cwmni pobl annuwiol fel coeden ddiffrwyth; ac mae tân yn llosgi pebyll y rhai sy'n derbyn breib. Maen nhw'n beichiogi helynt, yn esgor ar bechod, a'r plentyn yn y groth ydy twyll.” Dyma Job yn ateb: “Dw i wedi clywed hyn i gyd o'r blaen; Dych chi i gyd yn gysurwyr gwael! Oes dim diwedd i'r malu awyr yma? Beth sy'n dy gorddi di fod rhaid i ti gael y gair olaf? Gallwn innau siarad â chi yr un fath petaech chi yn fy lle i. Gallwn i eich drysu chi â geiriau diddiwedd, ac ysgwyd fy mhen arnoch chi. Ond eich calonogi chi fyddwn i'n wneud; eich cysuro chi, a lleddfu'r boen. Ond alla i ddweud dim i leddfu fy mhoen fy hun; ac os ydw i'n cadw'n dawel dydy'r boen ddim llai. Y ffaith ydy, mae Duw wedi fy llwyr ymlâdd! Mae e wedi dinistrio fy nheulu. Dw i'n crebachu yn ei law — dw i'n ddim ond croen ac esgyrn ac mae hynny'n tystio yn fy erbyn i. Mae e'n ddig, ac wedi fy rhwygo'n ddarnau; ac mae'n ysgyrnygu ei ddannedd arna i. Mae'n rhythu fel gelyn, ac mae pobl yn chwerthin ac yn gwneud sbort ar fy mhen. Maen nhw'n rhoi slap sarhaus i mi, ac yn uno gyda'i gilydd yn fy erbyn. Mae Duw wedi fy ngadael i'r annuwiol, ac wedi fy nhaflu i ddwylo dynion drwg. Roedd bywyd yn ddibryder, ond chwalodd y cwbl; gafaelodd yn fy ngwar a'm malu'n ddarnau mân. Mae wedi fy newis fel targed, ac mae ei saethwyr o'm cwmpas. Mae wedi trywanu fy mherfedd yn ddidrugaredd, ac mae fy ngwaed wedi ei dywallt ar lawr. Dw i fel wal mae'n torri trwyddi dro ar ôl tro, ac mae e'n rhuthro yn fy erbyn fel rhyfelwr. Mae sachliain yn sownd i'm croen; a chladdwyd pob nerth oedd gen i yn y llwch. Ar ôl wylo'n chwerw mae fy wyneb yn goch, ac mae cysgodion tywyll dan fy llygaid. Ond dw i ddim wedi gwneud niwed i neb, ac mae fy ngweddïau'n ddidwyll. Ddaear, paid gorchuddio fy ngwaed! Paid gadael i'm protest fynd o'r golwg! Hyd yn oed nawr, mae gen i dyst yn y nefoedd; mae Un all sefyll gyda mi yn yr uchelder! Ond mae fy ffrindiau'n fy nirmygu, tra dw i'n wylo dagrau o flaen Duw. O na fyddai e'n dadlau achos creadur meidrol, fel rhywun yn amddiffyn ei ffrind. Does gen i ddim llawer o flynyddoedd i fynd cyn y bydda i'n cerdded y llwybr di-droi-nôl. Dw i wedi torri fy nghalon, mae fy nyddiau'n diffodd; dim ond y bedd sydd o'm blaen. Mae pawb o'm cwmpas yn gwawdio, mae fy llygaid yn gorfod diodde'u pryfocio. Cynnig dy hun yn fechnïydd drosto i! Pwy arall sy'n fodlon gwarantu ar fy rhan? Ti wedi dallu'r rhain; dŷn nhw ddim yn deall, felly fyddan nhw ddim yn llwyddo. Maen nhw fel dyn yn cynnig gwledd i'w ffrindiau tra mae ei blant ei hun yn llwgu. Dw i wedi cael fy ngwneud yn destun sbort i'r bobl; maen nhw'n poeri yn fy wyneb. Mae fy llygaid yn pylu oherwydd y gofid, a'm corff i gyd yn ddim ond cysgod. Mae pobl dda yn methu credu'r peth, a'r un heb fai yn cael ei gythruddo gan yr annuwiol. Mae'r rhai cyfiawn yn cadw eu hunain yn bur, a'r rhai glân eu dwylo yn mynd o nerth i nerth. Felly dowch yn eich blaen i ymosod arna i eto! Does dim dyn doeth i'w gael yn eich plith chi! Mae fy mywyd ar ben, a'm cynlluniau wedi eu chwalu — pethau oeddwn i wir eisiau eu gwneud. Mae'r ffrindiau yma'n dweud fod nos yn ddydd! ‘Mae'n olau!’ medden nhw, a hithau'n hollol dywyll! Dw i'n edrych ymlaen at gartrefu yn y bedd, a gwneud fy ngwely yn y tywyllwch; Dw i'n dweud wrth y bedd, ‘Fy nhad i wyt ti,’ ac wrth y cynrhon, ‘Fy mam!’, ‘Fy chwaer!’ — Felly, ble mae fy ngobaith i? Oes rhywun yn gweld unrhyw obaith i mi? Fydd gobaith yn mynd gyda mi drwy giatiau marwolaeth? Fyddwn ni'n mynd i lawr gyda'n gilydd i'r pridd?” A dyma Bildad o Shwach yn ymateb: “Pryd wyt ti'n mynd i stopio siarad fel yma? Meddylia am funud, i ni gael cyfle i drafod. Pam wyt ti'n ein trin ni fel anifeiliaid direswm, ac yn ein hystyried ni'n dwp? Cei rwygo dy hun yn ddarnau yn dy wylltineb, ond a fydd trefn pethau yn cael ei newid er dy fwyn di? Fydd y creigiau yn cael eu symud o'u lle? Na, mae golau'r rhai drwg yn cael ei ddiffodd; fydd ei fflam e ddim yn ail gynnau. Mae'r golau yn ei babell yn gwanhau; a'r lamp uwch ei ben yn diffodd. Bydd ei gamau hyderus yn troi'n betrus; a'i gynlluniau ei hun yn ei faglu. Mae'n cerdded yn syth i'r rhwyd, ac yn camu ar y fagl. Mae ei droed yn cael ei dal mewn trap, a'r fagl yn tynhau amdani. Mae rhaff wedi ei chuddio ar y ddaear i'w ddal; mae magl ar ei lwybr. Mae'n cael ei ddychryn o bob cyfeiriad, ac mae ofnau'n ei ddilyn i bobman. Mae trychineb yn ysu amdano; a dinistr yn disgwyl iddo lithro. Mae ei groen yn cael ei fwyta gan afiechyd, a'i gorff yn dioddef y farwolaeth fwya erchyll. Mae'n cael ei lusgo allan o'i babell ddiogel, a'i alw i ymddangos o flaen brenin braw. Mae tân yn byw yn ei babell, a brwmstan yn cael ei chwalu dros ei gartre. Mae ei wreiddiau yn crino oddi tano, a'i ganghennau'n gwywo uwch ei ben. Mae pawb drwy'r wlad wedi anghofio amdano; does dim sôn am ei enw yn unman. Mae'n cael ei wthio o'r golau i'r tywyllwch, a'i yrru i ffwrdd o'r byd. Heb blant na pherthnasau i'w enw, a neb ar ôl lle roedd yn byw. Bydd pobl y gorllewin yn synnu at ei dynged, a phobl y dwyrain wedi dychryn yn lân. Ond dyna beth sy'n digwydd i'r rhai drwg; felly mae hi ar bobl sydd ddim yn nabod Duw.” Dyma Job yn ateb: “Am faint mwy dych chi'n mynd i'm poenydio, a'm dryllio gyda'ch areithio? Dych chi'n fy nwrdio i dro ar ôl tro, ac yn fy hambygio yn gwbl haerllug. A hyd yn oed petai'n wir fy mod ar fai, dim ond fi fyddai'n dioddef wedyn! Ond mae'n rhaid i chi ddangos eich bod chi'n well na fi, a defnyddio'r hyn dw i'n ddiodde i brofi eich pwynt! Dylech weld fod Duw wedi gwneud cam â mi; mae wedi f'amgylchynu ac yn gwarchae yn fy erbyn. Dw i'n gweiddi, ‘Trais!’ ond does neb yn ateb; gweiddi am help, ond does dim tegwch. Mae Duw wedi blocio fy ffordd; alla i ddim dianc! Mae wedi gwneud fy llwybr yn dywyll. Mae wedi dwyn fy urddas oddi arna i, a thynnu'r goron oddi ar fy mhen. Mae wedi fy mwrw i lawr yn llwyr — mae hi ar ben arna i! Mae fy ngobaith wedi mynd, fel coeden wedi ei diwreiddio. Mae e wedi gwylltio'n lân gyda mi, ac yn fy nhrin fel un o'i elynion. Mae ei fyddin yn ymosod gyda'i gilydd; wedi codi rampiau i warchae yn fy erbyn a gwersylla o gwmpas fy mhabell. Mae wedi gwneud i'm perthnasau gadw draw; dydy'r bobl sy'n fy nabod i ddim eisiau gwybod. Mae fy nghymdogion wedi troi cefn arna i, a'm ffrindiau gorau wedi anghofio amdana i. Mae fy morynion yn fy nhrin i fel dieithryn — fel petawn i'n rhywun o wlad arall. Dw i'n galw fy ngwas, ond dydy e ddim yn ateb, er fy mod yn crefu arno i ddod. Mae fy anadl yn atgas i'm gwraig; a dw i'n drewi'n ffiaidd i'm teulu. Mae hyd yn oed plant bach yn gwneud sbort arna i; pan dw i'n codi, maen nhw'n gwawdio. Mae fy ffrindiau agosaf yn fy ffieiddio; a'r rhai dw i'n eu caru wedi troi yn fy erbyn. Dw i'n ddim byd ond croen ac esgyrn a dw i'n dal yma o drwch blewyn! Byddwch yn garedig ata i! Chi ydy fy ffrindiau! Mae Duw wedi fy nharo i! Pam mae'n rhaid i chi hefyd fy erlid, fel Duw? Oes yna ddim diwedd ar eich ymosodiadau? O na fyddai fy ngeiriau yn cael eu hysgrifennu i lawr, a'u cofnodi'n glir mewn sgrôl; eu naddu ar graig gyda chŷn haearn, a'u llenwi â phlwm i gael eu gweld am byth! Ond dw i'n gwybod fod fy Amddiffynnwr yn fyw, ac yn y diwedd y bydd yn sefyll ar y ddaear i dystio ar fy rhan, hyd yn oed ar ôl i'm croen i gael ei ddifa. Ond cael gweld Duw tra dw i'n dal yn fyw — dyna dw i eisiau, ei weld drosof fy hun; i'm llygaid i ei weld, nid rhywun arall: Dw i'n hiraethu am hynny fwy na dim. Wrth ofyn, ‘Sut allwn ni ei erlid e?’ ac wrth ddweud, ‘Arno fe'i hun mae'r bai!’ dylech chi ofni cael eich cosbi eich hunain — mae eich dicter chi'n haeddu ei gosbi gan y cleddyf! Cofiwch fod yna farn i ddod!” Yna dyma Soffar o Naäma yn ymateb: “Dw i ddim yn hapus o gwbl! Dw i'n teimlo fod rhaid i mi ateb. Dw i wedi gwrando arnat ti'n ceryddu a sarhau, ac mae pob rheswm yn fy nghymell i ateb: Wyt ti ddim yn sylweddoli? — ers cyn cof, pan gafodd pobl eu gosod ar y ddaear gyntaf — dydy pobl ddrwg ddim yn cael dathlu'n hir. Fydd yr annuwiol ddim ond yn hapus dros dro. Er i'w falchder dyfu'n dal, nes i'w ben gyffwrdd y cymylau, bydd yn pydru fel ei garthion, ac yn diflannu am byth! Bydd y rhai oedd yn ei nabod yn gofyn, ‘Ble aeth e?’ Bydd wedi hedfan i ffwrdd fel breuddwyd wedi ei hanghofio; fel gweledigaeth ddaeth yn y nos ac yna diflannu. Fydd y bobl oedd yn sylwi arno ddim yn ei weld eto; fydd e ddim yno, lle roedd yn amlwg o'r blaen. Bydd rhaid i'w feibion dalu'n ôl i'r tlodion; bydd ei blant yn gollwng gafael ar ei gyfoeth. Yn ifanc, a'i esgyrn yn llawn egni, bydd yn gorwedd yn y llwch heb ddim. Er bod drygioni'n blasu'n felys iddo, a'i fod yn ei gadw o'r golwg dan ei dafod, i gadw'r blas yn ei geg, a cheisio ei rwystro rhag darfod; bydd yn suro yn ei stumog, ac fel gwenwyn gwiber yn ei fol. Bydd yn chwydu'r holl gyfoeth a lyncodd; bydd Duw yn gwneud iddo gyfogi. Roedd wedi sugno gwenwyn y wiber; ac mae neidr arall yn ei frathu a'i ladd. Fydd e ddim yn cael mwynhau'r nentydd, yr afonydd a'r ffrydiau diddiwedd o fêl a caws colfran. Fydd e ddim yn gallu cadw'r holl elw a lyncodd; fydd e ddim yn cael mwynhau ffrwyth ei fasnachu. Pam? Am ei fod wedi sathru'r tlodion a'u gadael i ddioddef, ac wedi dwyn tai wnaeth e ddim eu hadeiladu. Ond dydy e byth yn cael ei fodloni, a dydy ei chwant am fwy byth yn ei adael. Does dim byd ar ôl iddo ei lowcio, felly fydd ei lwyddiant ddim yn gallu para. Pan fydd ar ben ei ddigon, mae argyfwng yn dod, a phob math o helyntion yn dod ar ei draws. Tra mae'n stwffio'i fol bydd Duw yn anfon tân ei ddigofaint yn ei erbyn, ac yn tywallt ei saethau i lawr arno. Wrth iddo ddianc rhag yr arfau haearn bydd saeth bres yn ei drywanu. Wrth geisio ei thynnu allan o'i gefn, a blaen y saeth o'i iau, mae dychryn yn dod drosto. Mae tywyllwch dudew yn disgwyl am ei drysorau, a bydd tân heb ei gynnau gan berson dynol yn ei losgi'n ulw, ac yn difa popeth sydd ar ôl yn ei babell. Bydd y nefoedd yn dod â'i ddrygioni i'r golwg; bydd y ddaear yn codi i'w gyhuddo. Bydd ei gartref yn cael ei ysgubo i ffwrdd gan lifogydd; gan y llifeiriant ar ddydd digofaint Duw. Dyma dynged pobl ddrwg; dyma'r etifeddiaeth fydd Duw yn ei rhoi iddyn nhw.” Dyma Job yn ateb: “Gwrandwch yn ofalus ar beth dw i'n ddweud; rhowch cyn lleied â hynny o gysur i mi! Rhowch gyfle i mi, ac ar ôl i mi gael dweud fy mhwt cewch wneud sbort. Ai cwyn yn erbyn person meidrol sydd gen i? Felly pam ga i ddim bod ychydig yn flin? Edrychwch arna i. Bydd hyn yn eich dychryn chi. Rhowch eich llaw dros eich ceg. Dw i'n arswydo wrth feddwl am y peth! — mae fy nghorff yn crynu trwyddo. Pam mae'r rhai drwg yn cael dal i fyw a heneiddio a mynd yn fwy a mwy pwerus? Mae eu plant yn cael bywyd da gyda nhw, ac maen nhw'n byw i weld plant eu plant. Mae eu cartrefi'n saff, does dim rhaid ofni, a dŷn nhw ddim yn profi gwialen Duw'n eu cosbi. Mae eu teirw'n bridio heb fethu, a'u gwartheg yn cael lloi heb golli'r un. Mae eu plant bach yn cael rhedeg yn rhydd, ac yn prancio o gwmpas yn hapus fel ŵyn. Yn canu'n llon gyda'r tambwrîn a'r delyn, a mwynhau gwrando ar alaw'r ffliwt. Mae nhw'n cael byw yn braf am flynyddoedd, ac yna marw'n dawel a mynd i'r bedd mewn heddwch. Eu hagwedd at Dduw ydy, ‘Gad lonydd i ni, does gynnon ni ddim eisiau gwybod am dy ffyrdd di! Pwy ydy'r Un sy'n rheoli popeth? Pam ddylen ni ei wasanaethu? Beth ydy'r pwynt i ni weddïo arno?’ Ond dŷn nhw ddim yn llwyddo yn eu nerth eu hunain. Dydy ffordd y rhai drwg o feddwl yn gwneud dim sens i mi! Pa mor aml mae lamp pobl ddrwg yn cael ei diffodd yn annisgwyl? Pa mor aml mae trychineb yn dod ar eu traws? Pa mor aml mae Duw'n gwneud iddyn nhw ddiodde am ei fod yn ddig? Pa mor aml maen nhw'n cael eu chwythu i ffwrdd fel gwellt, neu fel us yn cael ei gipio ymaith gan y gwynt? Ydy Duw yn cosbi plant yr annuwiol yn eu lle? Dylai gosbi'r annuwiol eu hunain — iddyn nhw ddysgu eu gwers! Gad iddyn nhw brofi dinistr eu hunain, ac yfed o ddigofaint yr Un sy'n rheoli popeth! Dŷn nhw'n poeni dim beth fydd yn digwydd i'w teuluoedd pan fydd eu dyddiau eu hunain wedi dod i ben! All rhywun ddysgu gwers i Dduw? Onid fe sy'n barnu'r angylion yn y nefoedd uchod? Mae un dyn yn marw pan mae'n iach ac yn ffit, yn braf ei fyd ac yn ofni dim; yn edrych yn dda, a'i esgyrn yn gryfion. Mae un arall yn marw yn ddyn chwerw, heb wybod beth ydy bod yn hapus. Ond mae'r ddau fel ei gilydd yn gorwedd yn y pridd a chynrhon drostyn nhw i gyd. O ydw, dw i'n gwybod beth sydd ar eich meddyliau chi, a'r drwg dych chi'n bwriadu ei wneud i mi. Dych chi'n gofyn, ‘Ble mae tŷ'r gŵr bonheddig? Ble mae cartrefi'r bobl ddrwg wedi mynd?’ Ydych chi ddim wedi gofyn i'r rhai sy'n teithio? Allwch chi ddim gwrthod eu tystiolaeth nhw: fod pobl ddrwg yn cael eu harbed pan mae trychineb yn dod, ac yn dianc ar y dydd pan mae Duw'n ddig? Does neb yn ceryddu dyn felly am ei ffyrdd; neb yn talu nôl iddo am beth mae wedi ei wneud. Pan mae'n cael ei gario i'r fynwent, mae rhywrai yn gwylio dros ei fedd. Mae gorwedd dan bridd y dyffryn yn felys iddo, a phawb yn ei ddilyn mewn prosesiwn; ac aeth tyrfa fawr yno o'i flaen. Felly, sut allwch chi fy nghysuro i gyda'ch nonsens? Dydy'ch atebion chi yn ddim byd ond twyll!” A dyma Eliffas o Teman yn ymateb: “All person dynol fod o unrhyw help i Dduw? Ydy dyn doeth o unrhyw fudd iddo? Ydy'r Un sy'n rheoli popeth ar ei ennill os wyt ti'n ddieuog? Oes mantais iddo dy fod ti'n byw yn iawn? Ydy e'n dy alw i gyfri am dy fod wedi byw'n dduwiol? Ai dyna pam mae e'n dy farnu di? Na, mae'n rhaid dy fod wedi gwneud drwg, ac wedi pechu'n ddiddiwedd! Wedi cymryd gwystl oddi ar bobl heb achos, a'u gadael nhw yn noeth, heb ddillad. Wnest ti ddim rhoi dŵr i'r sychedig ei yfed, na bara i'w fwyta i bobl oedd yn newynu. Roeddet ti'n ddyn pwerus, yn berchen tir ac yn byw arno, ac mor freintiedig; ond yn troi gweddwon i ffwrdd heb ddim, ac yn dwyn eu hawliau oddi ar blant amddifad. Dyna pam rwyt ti wedi dy ddal yn y picil yma, ac yn sydyn yn cael dy hun mewn panig. Mae hi mor dywyll arnat ti, alli di weld dim, ac mae'r llifogydd ar fin dy foddi di! Ydy Duw ddim yn y nefoedd uchod? Edrych ar y sêr pellaf sy mor uchel! Ond rwyt ti'n dweud, ‘Beth mae Duw'n ei wybod? Ydy e'n gallu barnu drwy'r cymylau duon? Dydy e ddim yn gweld, am fod cymylau yn ei guddio wrth iddo gerdded o gwmpas yn entrychion y nefoedd!’ Wyt ti am ddilyn yr un hen ffordd dywyll mae pobl annuwiol wedi ei cherdded? — Cawson nhw eu cipio i ffwrdd o flaen eu hamser, pan lifodd y dilyw dros eu sylfeini. Roedden nhw'n dweud wrth Dduw, ‘Gad lonydd i ni!’ a ‘Beth mae'r Un sy'n rheoli popeth yn gallu ei wneud i ni?’ Ac eto Duw oedd yn llenwi eu tai â phethau da! — Dydy ffordd pobl ddrwg o feddwl yn gwneud dim sens i mi! Mae'r rhai cyfiawn yn gweld eu dinistr, ac yn llawen; mae'r diniwed yn eu gwawdio nhw. ‘Mae'r rhai cas wedi eu dinistrio, a'u cyfoeth wedi ei losgi gan dân.’ Ildia dy hun i Dduw, i ti brofi ei heddwch, wedyn bydd pethau da yn digwydd i ti. Derbyn beth mae e'n ceisio'i ddysgu i ti, a thrysora ei neges yn dy galon. Os gwnei di droi nôl at yr Un sy'n rheoli popeth, cei dy adfer. Os gwnei di stopio ymddwyn yn anghyfiawn. Os gwnei di drin dy aur fel petai'n ddim ond pridd; aur pur Offir yn ddim gwell na cherrig mewn nant, yna yr Un sy'n rheoli popeth fydd dy aur di, fe fydd fel arian gwerthfawr. Bydd yr Un sy'n rheoli popeth yn dy wefreiddio, a byddi'n gallu edrych eto ar Dduw. Byddi'n gweddïo arno, a bydd e'n gwrando arnat ti, a byddi'n cadw dy addewidion iddo. Pan fyddi'n penderfynu gwneud rhywbeth, byddi'n llwyddo, a bydd golau yn disgleirio ar dy ffyrdd. Pan fydd pobl mewn trafferthion, byddi'n galw ‘Helpa nhw!’ a bydd Duw yn achub y digalon. Bydd hyd yn oed yn achub yr euog; bydd yn dianc am fod dy ddwylo di'n lân.” Dyma Job yn ateb: “Dw i am gwyno yn ei erbyn eto heddiw; mae e'n dal i'm cosbi er fy mod i'n griddfan. O na fyddwn i'n gwybod ble i ddod o hyd iddo, a sut i gyrraedd ei orsedd, lle mae'n barnu! Byddwn yn gosod fy achos ger ei fron ac yn cyflwyno llond ceg o ddadleuon iddo. Byddwn i'n gweld wedyn sut byddai'n fy ateb i a dechrau deall beth mae'n ddweud wrtho i. Fyddai e'n fy sathru trwy ddadlau yn fy erbyn? Na, byddai'n rhoi gwrandawiad teg i mi. Yno gall dyn gonest gyflwyno ei achos o'i flaen. Byddai fy marnwr yn fy nghael yn ddieuog am byth! Dw i'n edrych i'r dwyrain, a dydy e ddim yno; i'r gorllewin, ond dw i'n dal ddim yn ei weld. Edrych i'r gogledd, a methu dod o hyd iddo; I'r de, ond does dim sôn amdano. Ond mae e'n gwybod popeth amdana i; wedi iddo fy mhrofi, bydda i'n dod allan fel aur pur. Dw i wedi ei ddilyn yn ffyddlon, ac wedi cadw ei ffyrdd heb wyro. Dw i ddim wedi tynnu'n groes i'w orchmynion; a dw i wedi trysori ei eiriau'n fwy na dim byd. Fe ydy'r unig Un; pwy all newid ei feddwl? Mae'n gwneud beth bynnag mae e eisiau. Bydd yn cyflawni ei gynllun ar fy nghyfer i, fel llawer o gynlluniau eraill sydd ganddo. Dyna pam dw i wedi dychryn o'i flaen; Mae meddwl am y peth yn codi ofn arna i. Mae Duw wedi gwneud i mi anobeithio; mae'r Un sy'n rheoli popeth yn codi arswyd arna i! Ond er gwaetha'r tywyllwch, dw i ddim wedi tewi — y tywyllwch dudew ddaeth drosta i. Pam nad ydy'r Un sy'n rheoli popeth yn cadw dyddiau barn? Pam nad ydy'r rhai sy'n ei nabod yn cael gweld hynny? Mae pobl ddrwg yn dwyn tir drwy symud ffiniau, ac yn cymryd praidd pobl eraill i'w bugeilio. Maen nhw'n dwyn asynnod yr amddifad, ac yn cadw ychen y weddw sydd mewn dyled. Maen nhw'n gwthio'r anghenus o'r ffordd, ac mae pobl dlawd yn gorfod mynd i guddio. Fel asynnod gwyllt yn yr anialwch, mae'r tlodion yn mynd allan i weithio, ac yn chwilio am fwyd ar dir diffaith — bwyd iddyn nhw a'u plant. Maen nhw'n casglu cnwd ebran o gaeau pobl eraill, a lloffa grawnwin o winllannoedd pobl ddrwg. Maen nhw'n treulio'r nos yn noeth a heb ddillad, heb orchudd i'w hamddiffyn rhag yr oerni. Maen nhw'n wlyb domen yn y glaw trwm, ac yn swatio gyda'i gilydd dan loches y graig. Mae plentyn y weddw'n cael ei gipio o'r fron, a babanod y tlawd yn cael eu cymryd am ddyled. Maen nhw'n crwydro o gwmpas yn noeth, heb ddillad, ac yn llwgu wrth gario ysgubau pobl eraill. Maen nhw'n gwasgu'r olewydd rhwng y meini, ac yn sathru'r grawnwin i'r cafnau, ond yn sychedig. Mae pobl yn griddfan marw yn y ddinas; a dynion wedi eu hanafu yn gweiddi am help; ond dydy Duw'n cyhuddo neb am wneud y drwg. Mae rhai pobl yn gwrthod y golau; dŷn nhw ddim yn gwybod am ei ffyrdd nac yn aros ar ei lwybrau. Mae'r llofrudd yn codi cyn iddi wawrio i ladd y tlawd a'r anghenus; mae e fel y lleidr yn y nos. Mae'r un sy'n godinebu yn disgwyl iddi dywyllu; mae'n gwisgo mwgwd ar ei wyneb, gan feddwl, ‘Fydd neb yn fy nabod i.’ Mae lladron yn torri i mewn i dai pobl yn y nos, ond yn cuddio o'r golwg drwy'r dydd — dŷn nhw ddim eisiau gwybod am y golau. Maen nhw i gyd yn gweld y bore fel tywyllwch; dyna pryd mae ofn yn gafael ynddyn nhw. Mae rhywun felly fel ewyn ar wyneb y dŵr. Boed i'w dir e gael ei felltithio; boed i neb alw heibio i'w winllannoedd! Fel sychder a gwres yn gwneud i ddŵr eira ddiflannu, mae'r bedd yn cipio'r rhai sydd wedi pechu. Mae'r groth yn ei anghofio, a'r cynrhon yn gwledda arno; a fydd neb yn ei gofio eto; bydd y drwg yn cael ei dorri i lawr fel coeden. Maen nhw'n manteisio ar wraig ddi-blant, ac yn cam-drin y weddw. Ond mae Duw'n gallu cael gwared â'r rhai pwerus, pan mae e'n codi, all neb fod yn siŵr y caiff fyw. Mae'n gadael iddyn nhw gredu eu bod yn saff, ond yn cadw golwg ar beth maen nhw'n ei wneud. Maen nhw'n bwysig am ychydig, ond yna'n diflannu; maen nhw'n syrthio ac yn crino fel glaswellt, ac yn gwywo fel pen y dywysen. Os nad ydy hyn yn wir, pwy sydd am wrthbrofi'r peth a dangos fy mod i'n siarad nonsens?” A dyma Bildad o Shwach yn ymateb: “Mae gan Dduw awdurdod a gallu dychrynllyd, ac mae'n sefydlu heddwch yn y nefoedd uchod. A ellir cyfrif ei fyddinoedd? Ydy ei olau e ddim yn disgleirio ar bawb? Sut all person dynol fod yn iawn gyda Duw? Sut all un sydd wedi ei eni o wraig fod yn lân? Os nad ydy'r lleuad yn ddisglair, na'r sêr yn lân yn ei olwg, pa obaith sydd i berson dynol, sydd fel pryfyn, creadur meidrol, sy'n ddim ond pryf genwair?” A dyma Job yn ateb: “O, ti'n gymaint o help i'r gwan! Ti wedi cynnal braich yr un sydd heb nerth! Mae dy gyngor mor werthfawr i rywun sydd mor ddwl! Ti wedi bod mor hael yn rhannu dy ddoethineb! Pwy wnaeth ddysgu hyn i gyd i ti? Pwy sy'n dy ysbrydoli i siarad fel yma? Mae'r meirw yn crynu o flaen Duw — pawb sy'n byw yn y byd dan y dŵr. Mae Annwn yn noeth o'i flaen, ac Abadon heb orchudd i'w guddio. Duw sy'n lledu'r sêr dros yr anhrefn, ac yn hongian y ddaear uwch y gwagle. Mae'n rhwymo'r dŵr yn ei gymylau trwchus, ond does yr un yn byrstio dan y pwysau. Mae'n cuddio wyneb y lleuad llawn drwy ledu ei gymylau drosto. Mae'n marcio'r gorwel ar wyneb y moroedd, fel terfyn rhwng y golau a'r tywyllwch. Mae colofnau'r nefoedd yn crynu, wedi eu dychryn gan ei gerydd. Mae'n gallu tawelu'r môr; trawodd fwystfil y môr i lawr drwy ei ddoethineb. Mae ei wynt yn clirio'r awyr; trywanodd y sarff wibiog â'i law. A dydy hyn prin yn cyffwrdd ei allu! — mae fel rhyw sibrydiad bach tawel. Pwy all ddychmygu holl rym ei nerth?” Yna dyma Job yn mynd yn ei flaen i ddweud: “Mor sicr â'i fod yn fyw, dydy Duw ddim wedi bod yn deg! Mae'r Un sy'n rheoli popeth wedi gwneud fy enaid yn chwerw! Tra mae bywyd yn dal ynof i, ac anadl Duw yn fy ffroenau, wna i byth ddweud gair o gelwydd, na siarad yn dwyllodrus. Wna i byth gytuno mai chi sy'n iawn! Bydda i'n onest hyd fy medd — Dw i'n dal i fynnu mai fi sy'n iawn; mae fy nghydwybod i'n glir! Boed i'm gelyn gael ei drin fel un drwg; yr un sy'n ymosod arna i, fel yr anghyfiawn. Pa obaith sydd i'r annuwiol pan mae'n marw, a Duw yn dwyn ei fywyd oddi arno? Fydd Duw yn gwrando arno'n gweiddi pan fydd mewn trafferthion? Fydd e'n ymgolli yn yr Un sy'n rheoli popeth? Fydd e'n galw ar Dduw yn ddi-baid? Dysgaf i i chi am nerth Duw, heb guddio dim o fwriad yr Un sy'n rheoli popeth. Dych chi wedi gweld y peth eich hunain, felly pam dych chi'n dal i siarad y fath nonsens? Dyma mae pobl ddrwg yn ei gael gan Dduw, a'r gormeswr yn ei dderbyn gan yr Un sy'n rheoli popeth: Er iddo gael llawer o blant — cânt eu taro â'r cleddyf; fydd gan ei deulu ddim digon o fwyd. Bydd y rhai sy'n goroesi yn marw o'r pla, a fydd dim amser i'r gweddwon alaru. Er casglu pentwr o arian fel pridd, a thomen o ddillad fel baw — gall gasglu'r cwbl, ond y cyfiawn fydd yn eu gwisgo, a'r diniwed fydd yn rhannu'r arian. Mae'r tŷ mae'n ei godi yn frau fel cocŵn gwyfyn, neu'r lloches dros dro mae'r gwyliwr yn ei greu. Mae'n mynd i'w wely yn gyfoethog, ond am y tro olaf; pan fydd yn agor ei lygaid bydd y cwbl wedi mynd. Mae dychryn yn dod drosto fel ffrydlif, a'r storm yn ei gipio yn y nos. Mae gwynt y dwyrain yn ei godi a'i gymryd, a'i ysgubo i ffwrdd o'i le; mae'n ei daro'n ddidrugaredd wrth iddo drïo'i orau i ddianc o'i afael; mae'n curo'i ddwylo'n wawdlyd, a chwibanu wrth ei yrru o'i le. Mae cloddfa i arian, a lle i aur gael ei buro. Mae haearn yn cael ei dynnu o'r ddaear, a chopr yn cael ei doddi o'r garreg. Mae dynion yn mynd â golau i'r tywyllwch, ac yn chwilio ym mhob cilfach am y mwynau sy'n y tywyllwch dudew. Maen nhw'n agor siafft ymhell oddi wrth bawb, mewn lleoedd nad oes neb wedi cerdded, ac yn siglo wrth hongian ymhell o olwg pobl. Ar y ddaear mae bwyd yn tyfu, ond islaw mae tân yn ei thoddi. Mae saffir i'w gael yn y cerrig, ac aur yn ei llwch hefyd. All aderyn rheibus ddim mynd ato; all llygad barcud ddim gweld y llwybr yno. Fu anifeiliaid rheibus ddim yn troedio yno; does dim llew wedi pasio heibio. Mae chwarelwyr yn taro'r graig galed, ac yn symud sylfeini'r mynyddoedd. Maen nhw'n agor siafftiau yn y creigiau, ac yn edrych am bethau gwerthfawr. Maen nhw'n archwilio ble mae afonydd yn tarddu a dod â'r hyn oedd o'r golwg i'r golau. Ond ble mae dod o hyd i ddoethineb? Ble mae deall i'w gael? Does neb yn gwybod ble mae; dydy e ddim i'w gael ar dir y byw. Mae'r dyfnder yn dweud, ‘Dydy e ddim yma,’ a'r môr yn dweud, ‘Dydy e ddim gen i.’ Does dim modd ei brynu gyda bar o aur, na thalu amdano drwy bwyso arian. Ellir ddim ei brynu gydag aur Offir, nac onics gwerthfawr, na saffir chwaith. Dydy aur na grisial ddim cystal, ac ni ellir ffeirio llestri o aur pur amdano. Dydy cwrel a grisial ddim gwerth sôn amdanyn nhw; mae pris doethineb yn uwch na pherlau. Dydy topas Affrica yn werth dim o'i gymharu, a dydy aur pur ddim yn ddigon i'w brynu. O ble mae doethineb yn dod? Ym mhle mae deall i'w gael? Mae wedi ei guddio oddi wrth bopeth byw, hyd yn oed yr adar yn yr awyr. Mae Abadon a Marwolaeth yn dweud, ‘Dŷn ni ond wedi clywed rhyw si amdano.’ Dim ond Duw sy'n gwybod sut i'w gyrraedd; Mae e'n gwybod o ble mae'n dod. Mae e'n gweld i bedwar ban byd; mae'n gweld popeth sydd dan yr haul. Pan benderfynodd pa mor gryf ydy'r gwynt, a mesur maint y dyfroedd; pan osododd reolau i'r glaw a llwybr i'r mellt a'r taranau, gwelodd ddoethineb, a mesur ei werth; ei sefydlu a'i archwilio'n ofalus. A dwedodd wrth y ddynoliaeth: ‘Parchu'r ARGLWYDD — dyna sy'n ddoeth; peth call ydy troi cefn ar ddrygioni.’” Yna aeth Job yn ei flaen i ddweud: “O na fyddai pethau fel yr oedden nhw o'r blaen, pan oedd Duw yn gofalu amdana i. Roedd golau ei lamp uwch fy mhen, ac ro'n i'n cerdded drwy'r tywyllwch yn ei olau e. Roedd popeth yn mynd yn iawn, ac roedd Duw fel ffrind agos i'r teulu. Roedd yr Un sy'n rheoli popeth gyda mi bryd hynny, a'm plant i gyd o'm cwmpas i. Ro'n i'n byw yn fras — ar ben fy nigon, roedd ffrydiau o olew yn llifo rhwng y meini. Ro'n i'n cerdded drwy giât y ddinas, ac yn eistedd ar y cyngor yn y sgwâr. Roedd dynion ifanc yn camu o'r ffordd i mi, a'r dynion hŷn yn codi ar eu traed. Roedd yr arweinwyr yn dal eu tafod, ac yn rhoi eu llaw dros eu cegau. Roedd y swyddogion yn cadw'n dawel, fel petai eu tafod wedi glynu wrth dop y geg. Roedd pawb oedd yn gwrando arna i yn canmol, a phawb oedd yn fy ngweld yn siarad yn dda, am fy mod i'n achub y tlawd oedd yn galw am help, a'r plentyn amddifad oedd heb neb i'w helpu. Roedd pobl oedd bron wedi marw yn fy mendithio, ac roeddwn i'n gwneud i'r weddw ganu'n llawen. Roedd cyfiawnder fel gwisg amdana i, a thegwch fel mantell a thwrban. Ro'n i'n llygaid i'r dall ac yn draed i'r cloff. Ro'n i'n dad i'r rhai mewn angen, ac yn gwrando ar achos y rhai dieithr. Ro'n i'n dryllio dannedd y dyn drwg, ac yn gwneud iddo ollwng ei ysglyfaeth. Dyma roeddwn i'n ei dybio: ‘Bydda i'n aros gyda'm teulu nes i mi farw, ac yn cael byw am flynyddoedd lawer. Bydda i fel coeden a'i gwreiddiau'n cyrraedd y dŵr, a'r gwlith yn aros ar ei changhennau. Bydd fy nerth yn cael ei adnewyddu, a'm bwa yn newydd yn fy llaw.’ Roedd pobl yn gwrando'n astud arna i, ac yn cadw'n dawel wrth i mi roi cyngor. Ar ôl i mi siarad doedd gan neb ddim mwy i'w ddweud — roedd fy ngeiriau yn disgyn yn dyner ar eu clustiau. Roedd disgwyl i mi siarad fel disgwyl am law, disgwyl yn frwd am y glaw yn y gwanwyn. Pan fyddwn i'n gwenu, bydden nhw wrth eu boddau; doedden nhw ddim eisiau fy nigio i. Fi oedd yn dangos y ffordd, fi oedd yn ben; ron i fel brenin yng nghanol ei filwyr; ron i'n cysuro'r rhai sy'n galaru. Ond bellach mae hogiau ifanc yn gwenu'n wawdlyd arna i; rhai y byddwn i'n rhoi mwy o sylw i'm cŵn defaid nag i'w tadau nhw! Dynion rhy wan i fod o iws i mi — dynion wedi colli pob cryfder. Dynion sy'n denau o angen a newyn, yn crwydro'r tir sych, a'r diffeithwch anial yn y nos. Maen nhw'n casglu planhigion gwyllt, a gwreiddiau'r banadl i gadw'n gynnes. Dynion wedi eu gyrru allan o gymdeithas, a pobl yn gweiddi arnyn nhw fel lladron. Maen nhw'n byw ar waelod ceunentydd, mewn tyllau yn y ddaear ac ogofâu. Maen nhw'n brefu fel anifeiliaid yng nghanol y chwyn, ac yn swatio gyda'i gilydd dan y llwyni. Pobl ddwl a da i ddim, wedi eu gyrru i ffwrdd o gymdeithas. Ond bellach dw i'n gocyn hitio iddyn nhw; ac yn ddim byd ond testun sbort. Maen nhw'n fy ffieiddio i, ac yn cadw draw oddi wrtho i; ac yn poeri'n fy wyneb heb feddwl ddwywaith. Am fod Duw wedi datod llinyn fy mwa a'm poenydio i, maen nhw'n ymosod arna i yn ddi-stop. Fel gang o lanciau'n codi twrw ar un ochr, i'm bwrw oddi ar fy nhraed; maen nhw'n codi rampiau i warchae a dinistrio. Maen nhw'n sefyll ar fy llwybr i'm rhwystro, ac yn llwyddo i'm llorio, heb angen unrhyw help. Fel byddin yn llifo drwy fwlch llydan; yn rholio i mewn wrth i'r waliau syrthio. Mae dychryn yn dod drosta i, fel gwynt yn ysgubo fy urddas i ffwrdd; mae'r gobaith o ddianc wedi diflannu fel cwmwl. Bellach mae fy enaid yn drist, a dyddiau dioddef wedi gafael ynof fi. Mae poenau yn fy esgyrn drwy'r nos, a gewynnau'r corff yn cnoi'n ddi-baid. Mae Duw wedi gafael yn dynn yn fy nillad, a'm tagu gyda choler fy nghrys. Mae e wedi fy nhaflu i'r mwd; dw i'n ddim byd ond llwch a lludw. O Dduw, dw i'n gweiddi am dy help, ond does dim ateb; dw i'n sefyll o dy flaen, ond dwyt ti'n cymryd dim sylw. Rwyt ti wedi troi mor greulon tuag ata i; a'm taro mor galed ac y medri. Ti wedi fy nghodi ar y corwynt; a'm taflu o gwmpas yn y storm. Dw i'n gwybod fy mod i'n mynd i farw, a mynd i'r lle sydd wedi ei bennu i bopeth byw. Wnes i erioed godi fy llaw i daro rhywun oedd yn galw am help yn ei drybini! Ro'n i'n wylo dros y rhai oedd yn cael amser caled, ac yn torri fy nghalon dros y tlawd. Ond wrth ddisgwyl y da, ddaeth dim ond drwg; wrth edrych am olau, daeth tywyllwch. Dw i'n corddi y tu mewn i mi, wrth wynebu dydd ar ôl dydd o ddioddef. Mae fy nghroen wedi duo, ond nid yn yr haul; dw i'n sefyll yn y sgwâr ac yn pledio am help. Dw i'n swnio fel brawd i'r siacal, neu gymar i'r estrys. Mae fy nghroen wedi tywyllu, a'm corff drwyddo yn llosgi gan wres. Felly mae fy nhelyn yn canu alaw drist, a'm ffliwt yn cyfeilio i'r rhai sy'n galaru. Dw i wedi ymrwymo i beidio llygadu merch ifanc. Beth fyddai rhywun felly'n ei dderbyn gan Dduw? Beth fyddai'n ei gael gan yr Un uchod sy'n rheoli popeth? Onid i'r annuwiol mae dinistr yn cael ei roi, a thrychineb i'r un sy'n gwneud drwg? Ydy e ddim wedi gweld sut dw i wedi byw? Ydy e ddim wedi gwylio pob cam? Ydw i wedi cymysgu gyda'r rhai celwyddog? Neu wedi bod yn rhy barod i dwyllo? Dylai fy mhwyso i ar glorian sy'n gywir, iddo weld fy mod i'n gwbl ddieuog. Os ydw i wedi crwydro o'i ffyrdd a gadael i'm llygaid ddenu'r galon, neu os oes staen drygioni ar fy nwylo, yna boed i eraill fwyta'r cynhaeaf wnes i ei hau, ac i'r cnwd a blennais gael ei ddinistrio! Os cafodd fy nghalon ei hudo gan wraig rhywun arall, a minnau'n dechrau loetran wrth ddrws ei thŷ, boed i'm gwraig i falu blawd i ddyn arall, a boed i ddynion eraill orwedd gyda hi! Am i mi wneud peth mor ffiaidd — pechod sy'n haeddu ei gosbi. Mae fel tân sy'n dinistrio'n llwyr, ac yn llosgi fy eiddo i gyd. Ydw i wedi diystyru cwyn caethwas neu forwyn yn fy erbyn erioed? Beth wnawn i pe byddai Duw yn codi i edrych ar y mater? Sut fyddwn i'n ei ateb? Onid Duw greodd nhw, fel fi, yn y groth? Onid yr un Duw sy wedi'n gwneud ni i gyd? Ydw i wedi gwrthod helpu'r tlawd, neu siomi'r weddw oedd yn disgwyl rhywbeth? Ydw i wedi bwyta ar fy mhen fy hun, a gwrthod ei rannu gyda'r amddifad? Na, dw i wedi ei fagu fel tad bob amser, a helpu'r weddw ar hyd fy mywyd. Wnes i erioed adael neb yn rhewi heb ddillad, na gadael rhywun tlawd heb got. Bydden nhw'n diolch i mi o waelod calon wrth i wlân fy nefaid eu cadw'n gynnes. Os gwnes i fygwth yr amddifad, wrth weld fod gen i gefnogaeth yn y llys, yna boed i'm hysgwydd gael ei thynnu o'i lle, a'm braich gael ei thorri wrth y penelin. Roedd gen i ofn i Dduw anfon dinistr; allwn i byth wynebu ei fawredd! Ydw i wedi rhoi fy hyder mewn aur, a theimlo'n saff am fod gen i aur coeth? Wnes i orfoleddu yn y cyfoeth, a'r holl feddiannau oedd gen i? Wnes i edrych ar yr haul yn tywynnu, a'r lleuad yn symud yn ei ysblander, nes i'm calon gael ei hudo'n dawel fach, a'm llaw yn taflu cusan i'w haddoli? Byddai hynny hefyd yn bechod i'w gosbi — byddwn wedi gwadu'r Duw sydd uchod. Oeddwn i'n falch pan oedd fy ngelyn mewn helynt, neu'n cael gwefr o weld pethau'n ddrwg arno? Na, wnes i ddweud dim yn ei erbyn na'i felltithio yn y gobaith y byddai'n marw. Oes unrhyw un o'm teulu wedi dweud, ‘Pam gafodd hwn a hwn ddim croeso wrth fwrdd Job’? Doedd dim rhaid i'r crwydryn gysgu allan ar y stryd, am fod fy nrws yn agored i deithwyr. Ydw i wedi ceisio cuddio fy meiau fel Adda, neu gladdu fy mhechod dan fy mantell, am fod gen i ofn barn y dyrfa, a dirmyg pawb o'm cwmpas? — cadw'n dawel a dewis peidio mynd allan. O na fyddai gen i rywun i wrando arna i! Dw i'n llofnodi f'amddiffyniad! Boed i'r Un sy'n rheoli popeth fy ateb! Boed i'r un sy'n cyhuddo ddod â gwŷs ddilys yn fy erbyn! Byddwn i'n ei chario'n gyhoeddus, a'i gwisgo fel coron ar fy mhen. Byddwn yn rhoi cyfrif iddo am bob cam, ac yn camu o'i flaen yn hyderus fel tywysog. Os ydy'r tir wedi gweiddi yn fy erbyn, a'i gwysi wedi wylo â'i gilydd — Os ydw i wedi dwyn ei gnwd heb dalu, ac achosi i'r tenantiaid lwgu, yna boed i fieri dyfu yn lle gwenith, a chwyn ffiaidd yn lle haidd!” Roedd Job wedi gorffen siarad. Felly dyma'r tri dyn yn stopio dadlau gyda Job, am ei fod mor siŵr ei fod yn iawn. Ond roedd Elihw fab Barachel o deulu Bws, oedd yn perthyn i glan Ram, wedi gwylltio lân gyda Job am fynnu mai fe oedd yn iawn ac nid Duw. Roedd yn wyllt gyda'r tri chyfaill hefyd, oedd yn condemnio Job ac eto'n methu ei ateb. Roedd Elihw wedi cadw'n dawel tra roedden nhw'n siarad gyda Job, am eu bod nhw'n hŷn nag e. Ond pan welodd Elihw nad oedd y tri yn gallu ateb Job, roedd e wedi gwylltio'n lân. Yna dyma Elihw fab Barachel o deulu Bws yn dweud fel hyn: “Dyn ifanc dw i, a chi i gyd yn hen; felly dw i wedi bod yn cadw'n dawel ac yn rhy swil i ddweud be dw i'n feddwl. Dywedais wrthof fy hun, ‘Gad i'r dynion hŷn siarad; rho gyfle i'r rhai sydd a phrofiad blynyddoedd lawer i ddangos doethineb.’ Ond Ysbryd Duw yn rhywun, anadl yr Un sy'n rheoli popeth sy'n gwneud iddo ddeall. Nid dim ond pobl mewn oed sy'n ddoeth, does dim rhaid bod yn hen i farnu beth sy'n iawn. Felly dw i'n dweud, ‘Gwrandwch arna i, a gadewch i mi ddweud be dw i'n feddwl.’ Dw i wedi bod yn disgwyl i chi orffen siarad, ac yn gwrando'n ofalus ar eich dadleuon chi, wrth i chi drafod y pethau hyn. Ond mae'n gwbl amlwg i mi fod dim un ohonoch chi'n gallu ateb Job, a gwrthbrofi'r hyn mae wedi ei ddweud. A peidiwch dweud, ‘Y peth doeth i'w wneud ydy hyn — Gadael i Dduw ei geryddu, nid dyn!’ Dydy Job ddim wedi dadlau gyda fi eto, a dw i ddim yn mynd i'w ateb gyda'ch dadleuon chi. Mae'r tri yma mewn sioc, heb ateb bellach; does ganddyn nhw ddim byd ar ôl i'w ddweud. Oes rhaid i mi ddal i ddisgwyl, a nhw'n dawel? Maen nhw wedi stopio dadlau, a ddim yn ateb. Mae fy nhro i wedi dod i ddweud fy mhwt; cyfle i mi ddweud be dw i'n feddwl. Mae gen i gymaint i'w ddweud, alla i ddim peidio dweud rhywbeth. Dw i'n teimlo fel potel o win sydd angen ei hagor; fel poteli crwyn newydd sydd ar fin byrstio. Mae'n rhaid i mi siarad, does gen i ddim dewis. Gadewch i mi ddweud rhywbeth, i'w ateb. Dw i ddim yn mynd i gadw ochr neb, na ffalsio drwy roi teitlau parchus i bobl; dw i ddim yn gwybod sut i seboni — petawn i'n gwneud hynny, byddai'r Duw a'm gwnaeth i yn fy symud yn ddigon buan! Felly Job, gwrando beth sydd gen i i'w ddweud. Gwranda'n ofalus ar fy ngeiriau i. Edrych, dw i am agor fy ngheg, a gadael i'm tafod ddweud ei dweud. Dw i'n mynd i siarad yn onest, a dweud fy marn yn gwbl agored. Ysbryd Duw luniodd fi; anadl yr Un sy'n rheoli popeth sy'n fy nghadw i'n fyw. Ateb fi, os wyt ti'n gallu; gwna dy safiad, a dadlau yn fy erbyn i. Dŷn ni'n dau yr un fath yng ngolwg Duw; ces innau hefyd fy ngwneud o'r pridd. Felly does dim byd i ti ei ofni; fydda i ddim yn llawdrwm arnat ti. Dyma wyt ti wedi ei ddweud, (clywais dy eiriau di'n glir): ‘Dw i'n ddieuog, heb wneud dim o'i le; dw i'n lân, a heb bechu. Ond mae Duw wedi troi yn fy erbyn; mae'n fy nhrin i fel gelyn. Mae wedi rhoi fy nhraed mewn cyffion, ac yn gwylio popeth dw i'n ei wneud.’ Dwyt ti ddim yn iawn. A gwna i ddweud pam: Mae Duw yn fwy na dyn. Pam wyt ti'n dadlau yn ei erbyn? Oes rhaid iddo ateb pob cwestiwn? Mae Duw yn siarad mewn un ffordd un tro, ac mewn ffordd wahanol dro arall — ond er hynny dydy pobl ddim yn deall. Mewn breuddwyd, neu weledigaeth yn y nos, pan mae pobl yn cysgu'n drwm; pan maen nhw'n gorwedd ar eu gwlâu. Mae e'n gwneud i bobl wrando — yn eu dychryn nhw gyda rhybudd i beidio gwneud rhywbeth, a'u stopio nhw rhag bod mor falch. Mae'n achub bywyd rhywun o bwll y bedd, rhag iddo groesi afon marwolaeth. Mae'n disgyblu un sy'n sâl yn ei wely a chryndod di-baid drwy ei esgyrn. Mae bwyd yn codi cyfog arno; does ganddo awydd dim byd blasus. Mae wedi colli cymaint o bwysau, nes bod ei esgyrn i gyd yn y golwg. Mae'n agos iawn at y bedd, bron â'i gipio gan negeswyr marwolaeth. Ond os daw angel at ei ochr (dim ond un o'i blaid, un o blith y mil) i ddadlau ei hawl drosto — yna bydd Duw yn drugarog wrtho. ‘Achubwch e rhag mynd i lawr i'r bedd; dw i wedi cael y pris i'w ollwng yn rhydd.’ Yna bydd ei groen yn iach fel pan oedd yn ifanc; bydd ei egni yn ôl fel yn nyddiau ieuenctid! Bydd yn gweddïo, a bydd Duw'n gwrando; bydd yn gweiddi'n llawen wrth fynd i'w bresenoldeb, a bydd Duw yn ei adfer i berthynas iawn ag e'i hun. Bydd yn canu o flaen pobl, ‘Pechais, a gwneud y peth anghywir, ond ches i mo'r gosb o'n i'n ei haeddu. Mae e wedi fy achub o afael y bedd; dw i'n dal yn fyw, ac yn gweld y golau!’ Yn wir, mae Duw yn gwneud hyn drosodd a throsodd: achub bywyd o bwll y bedd, iddo gael gweld goleuni bywyd. Edrych, Job, gwranda arna i; gwrando'n dawel i mi gael siarad. Os oes gen ti rywbeth i'w ddweud, ateb fi; dywed, achos dw i eisiau dangos dy fod ti'n iawn. Ond os oes gen ti ddim i'w ddweud, gwranda arna i; gwrando'n dawel, ac fe ddysga i beth sy'n ddoeth i ti.” Yna dwedodd Elihw: “Gwrandwch be dw i'n ddweud, chi ddynion doeth; Dych chi'n ddynion deallus, felly gwrandwch yn astud. Mae'r glust yn profi geiriau fel mae'r geg yn blasu bwyd. Gadewch i ni ystyried beth sy'n wir; a phenderfynu rhyngon beth sy'n iawn. Mae Job wedi dweud, ‘Dw i'n ddieuog; dydy Duw ddim wedi bod yn deg â mi. Fi sy'n iawn. Ydw i i fod i ddweud celwydd? Dw i wedi fy anafu, a does dim gwella ar y clwyf, er fy mod heb droseddu.’ Oes rhywun tebyg i Job? Mae'n dangos dirmyg fel yfed dŵr! Mae'n cadw cwmni cnafon ac yn ymddwyn fel pobl ddrwg! Achos mae wedi dweud, ‘Does dim pwynt byw i blesio Duw.’ Felly, gwrandwch chi ddynion deallus, Fyddai Duw byth yn gwneud drwg; a'r Un sy'n rheoli popeth yn gwneud dim o'i le! Mae e'n talu i bobl am yr hyn maen nhw'n ei wneud, mae pawb yn cael beth maen nhw'n ei haeddu! Dydy Duw yn sicr ddim yn gwneud drwg; dydy'r Un sy'n rheoli popeth ddim yn gwyrdroi cyfiawnder. Pwy roddodd y ddaear yn ei ofal? Pwy roddodd hawl iddo roi trefn ar y byd? Petai'n dewis, gallai gymryd ei ysbryd a'i anadl yn ôl, a byddai pob creadur byw yn marw, a'r ddynoliaeth yn mynd yn ôl i'r pridd. Gwranda, os wyt ti'n ddyn deallus; gwrando'n astud ar beth dw i'n ddweud. Ydy rhywun sy'n casáu cyfiawnder yn gallu llywodraethu? Wyt ti'n mynd i gondemnio'r Un Grymus a Chyfiawn sy'n dweud wrth frenin, ‘Y pwdryn diwerth!’ ac wrth wŷr bonheddig, ‘Y cnafon drwg!’? Dydy e ddim yn ochri gyda thywysogion, nac yn ffafrio'r cyfoethog ar draul y tlawd; am mai gwaith ei ddwylo e ydyn nhw i gyd! Maen nhw'n marw yn sydyn yng nghanol y nos; mae'r bobl fawr yn cael eu hysgwyd, ac yn diflannu; mae'r pwerus yn cael eu symud o'r ffordd yn hawdd. Mae e'n cadw golwg ar beth maen nhw'n ei wneud; mae'n gwybod am bob symudiad. Does dim tywyllwch na chwmwl lle gall pobl ddrwg guddio. Nid lle pobl ydy gosod amser i ddod o flaen Duw i gael eu barnu! Mae'n dryllio arweinwyr heb gynnal ymchwiliad, ac yn gosod eraill i gymryd eu lle. Am ei fod yn gwybod beth maen nhw'n ei wneud, mae'n eu dymchwel dros nos, a'u dryllio. Mae'n eu taro nhw i lawr fel pobl ddrwg, ac yn gwneud hynny o flaen pawb, am eu bod nhw wedi bod yn anffyddlon iddo, a gwrthod cymryd sylw o'i ffyrdd. Maen nhw wedi achosi i'r tlodion alw arno, a gwneud iddo wrando ar gri'r anghenus. Os ydy Duw'n cadw'n dawel, pwy sydd i'w feirniadu? Os ydy e'n cuddio, pwy all ddod o hyd iddo? Ond mae e'n dal i wylio dros wledydd a dynoliaeth, rhag i rywun annuwiol deyrnasu a gosod maglau i'r bobl. Ond os dywed rhywun wrth Dduw, ‘Dw i'n euog, a wna i ddim troseddu eto. Dysga fi am y drwg dw i ddim yn ei weld. Os dw i wedi gwneud drwg, wna i ddim yr un peth eto.’ Wyt ti'n credu y dylai Duw dalu'n ôl iddo, gan dy fod yn gwrthod gwrando? Ti sydd i ddewis, nid fi; Gad i ni glywed beth sydd gen ti i'w ddweud. Bydd dynion deallus yn dweud wrtho i — unrhyw ddyn doeth sy'n gwrando arna i — ‘Mae Job wedi dweud pethau dwl; dydy ei eiriau'n gwneud dim sens.’ Dylai gael ei gosbi i'r eithaf am siarad fel mae pobl ddrwg yn siarad. Mae e wedi gwneud mwy na phechu — mae e wedi gwrthryfela a gwawdio Duw yn ein plith ni, a chyhuddo Duw'n ddi-stop.” Yna dwedodd Elihw: “Wyt ti'n meddwl ei bod hi'n iawn i ti ddweud, ‘Fi sy'n iawn, nid Duw’? A dweud wrtho, ‘Pa fantais ydy e i ti?’ a ‘Beth ydw i'n ennill o beidio pechu?’ Gad i mi dy ateb di — ti, a dy ffrindiau gyda ti. Edrych i fyny i'r awyr, ac ystyria; Edrych ar y cymylau ymhell uwch dy ben. Os wyt ti'n pechu, sut mae hynny'n effeithio ar Dduw? Os wyt ti'n troseddu dro ar ôl tro, beth wyt ti'n ei wneud iddo fe? Os wyt ti'n gwneud beth sy'n iawn, sut mae hynny'n helpu Duw? Beth mae e'n ei dderbyn gen ti? Pobl eraill sy'n diodde pan wyt ti'n gwneud drwg, neu'n cael eu helpu pan wyt ti'n gwneud beth sy'n iawn. Mae pobl sy'n cael eu gorthrymu yn gweiddi am help, ac yn galw am rywun i'w hachub o afael y rhai pwerus. Ond does neb yn dweud, ‘Ble mae Duw, fy Nghrëwr, sy'n rhoi testun cân i mi pan mae'n nos dywyll? Ble mae'r Duw sy'n dysgu mwy i ni na'r anifeiliaid, ac sy'n ein gwneud ni'n fwy doeth na'r adar?’ Ydyn, mae'r bobl yn gweiddi, ond dydy e ddim yn ateb, am eu bod nhw'n bobl ddrwg a balch. Dŷn nhw ddim o ddifrif — a dydy Duw ddim yn gwrando; dydy'r Un sy'n rheoli popeth yn cymryd dim sylw. Felly, pam gwrando arnat ti, sy'n cwyno nad wyt yn ei weld, fod dy achos o'i flaen, a dy fod yn aros am ymateb? A hyd yn oed yn honni nad ydy e'n cosbi yn ei ddig, ac nad ydy e'n poeni dim am bechod! Mae Job yn siarad nonsens; mae'n mwydro ymlaen heb ddeall dim.” A dyma Elihw yn mynd ymlaen i ddweud: “Bydd yn amyneddgar â fi am ychydig, mae gen i fwy i'w ddweud ar ran Duw. Dw i wedi derbyn gwybodaeth o bell, a dw i am ddangos mai fy Nghrëwr sy'n iawn. Wir i ti, heb air o gelwydd, mae'r un sydd o dy flaen di wedi deall y cwbl. Mae Duw yn rymus, ond dydy e ddim yn ddirmygus; mae'n rymus ac yn gwybod beth mae'n ei wneud. Dydy e ddim yn gadael i bobl ddrwg fyw; mae'n sicrhau cyfiawnder i'r rhai sy'n dioddef. Mae e'n gofalu am y rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn. Mae'n eu hanrhydeddu nhw, a'u gosod ar orseddau fel brenhinoedd. Ond os ydyn nhw'n gaeth mewn cyffion, wedi eu rhwymo â rhwydi gorthrwm, mae e'n dangos iddyn nhw beth wnaethon nhw i droseddu, a bod mor haerllug. Mae e'n gwneud iddyn nhw wrando drwy eu disgyblu, a dweud wrthyn nhw am droi cefn ar eu drygioni. Os gwnân nhw wrando a bod yn ufudd iddo, byddan nhw'n llwyddo am weddill eu bywydau, ac yn cael blynyddoedd o hapusrwydd. Ond os na fyddan nhw'n gwrando, byddan nhw'n croesi afon marwolaeth, ac yn darfod heb ddeall dim. Mae pobl annuwiol yn dal dig; dŷn nhw ddim yn gweiddi am help pan mae Duw'n eu disgyblu. Maen nhw'n marw'n ifanc, ar ôl treulio'u bywydau gyda phuteinwyr. Ond mae Duw'n defnyddio dioddefaint i achub pobl, ac yn defnyddio poen i'w cael nhw i wrando. Y gwir ydy, mae am dy ddenu di oddi wrth ddibyn gofid, o'r gornel gyfyng i le agored; at fwrdd yn llawn o fwyd blasus. Ond rwyt ti'n wynebu barn Duw ar bobl ddrwg, a does dim dianc rhag ei farn gyfiawn. Gwylia rhag i ti gael dy hudo gan gyfoeth, ac i faint y breib dy arwain ar gyfeiliorn. Fyddai dy holl gyfoeth o unrhyw help yn dy helbul? Na fyddai, na dy holl ddylanwad chwaith! Paid dyheu am y nos, pan mae pobl yn cael eu cipio i ffwrdd. Gwylia rhag troi at y drwg — dyna pam ti'n dioddef ac yn cael dy brofi. Edrych, mae nerth Duw yn aruthrol; Pwy sy'n athro tebyg iddo? Pwy sy'n dweud wrtho beth i'w wneud? Pwy sy'n gallu dweud, ‘Ti wedi gwneud peth drwg’? Cofia mai dy le di ydy canmol ei waith, sef y rheswm mae pobl yn ei foli ar gân. Mae'r ddynoliaeth i gyd wedi gweld ei waith, mae pobl feidrol yn syllu arno o bell. Ydy, mae Duw yn fawr — y tu hwnt i'n deall ni; does dim modd cyfri hyd ei oes e! Mae'n codi dafnau o ddŵr sy'n diferu'n law mân fel tarth. Mae'r cymylau'n tywallt y glaw, mae'n arllwys yn gawodydd ar y ddaear. Oes rhywun yn deall sut mae'r cymylau'n lledu, a'r taranau sydd yn ei bafiliwn? Edrych, mae'r mellt yn lledu o'i gwmpas, ac yn goleuo gwaelod y môr. Dyma sut mae'n barnu'r cenhedloedd, ac yn rhoi digonedd o fwyd iddyn nhw. Mae'n dal y mellt yn ei ddwylo, ac yn gwneud iddyn nhw daro'r targed. Mae sŵn ei daranau'n dweud ei fod yn dod mewn storm, yn angerdd ei lid. Ac ydy, mae fy nghalon i'n crynu ac yn methu curiad. Gwrandwch ar ei lais yn rhuo, ac ar ei eiriau'n atseinio! Mae ei fellt yn fflachio drwy'r awyr — ac yn mynd i ben draw'r byd. Yna wedyn, mae'n rhuo eto, a'i lais cryf yn taranu; mae'r mellt wedi hen ddiflannu pan glywir ei lais. Mae sŵn llais Duw'n taranu yn rhyfeddol! Ac mae'n gwneud pethau gwyrthiol, tu hwnt i'n deall ni. Mae'n dweud wrth yr eira, ‘Disgyn ar y ddaear!’ neu wrth y glaw trwm, ‘Arllwys i lawr!’ Mae'n stopio pawb rhag gweithio, mae pobl yn gorfod sefyll yn segur. Mae anifeiliaid yn mynd i gysgodi, ac i guddio yn eu gwâl. Mae'r corwynt yn codi o'r de, ac oerni o wyntoedd y gogledd. Anadl Duw sy'n dod â rhew, ac mae'r llynnoedd yn rhewi'n galed. Mae'n llenwi'r cymylau trwchus â gwlybaniaeth ac yn anfon mellt ar wasgar o'r cymylau. Mae'n gwneud i'r cymylau droi a throelli, ac yn gwneud beth mae Duw'n ei orchymyn dros wyneb y ddaear i gyd. Mae'n gwneud hyn naill ai i gosbi'r tir, neu i ddangos ei gariad ffyddlon. Gwranda ar hyn, Job; Aros i ystyried y pethau rhyfeddol mae Duw'n eu gwneud. Wyt ti'n deall sut mae Duw'n trefnu'r cwbl, ac yn gwneud i'r mellt fflachio o'r cymylau? Wyt ti'n deall sut mae'r cymylau'n aros yn yr awyr? — gwaith rhyfeddol Duw, sy'n deall popeth yn berffaith. Ti, sy'n chwysu yn dy ddillad pan mae'n glòs ac yn boeth dan wynt y de. Alli di helpu Duw i ledu'r awyr, sy'n galed fel drych metel? Dywed wrthon ni beth i'w ddweud wrtho! Dŷn ni ddim yn gwybod, mae hi'n dywyll arnon ni. Fyddwn i ddim yn meiddio gofyn am gael siarad! Ydy dyn meidrol yn gofyn am gael ei lyncu ganddo? Does neb yn gallu edrych ar yr haul pan mae'n disgleirio yn yr awyr, ar ôl i'r gwynt ddod a chlirio'r cymylau i ffwrdd. Fel pelydrau euraid yn llewyrchu o'r gogledd, mae ysblander Duw yn syfrdanol! Mae'r Un sy'n rheoli popeth y tu hwnt i'n cyrraedd ni! Mae ei nerth mor aruthrol fawr! Mae'n gyfiawn ac yn gwneud beth sy'n iawn, a dydy e ddim yn gorthrymu neb. Dyna pam mae pobl yn ei ofni. Dydy e'n cymryd dim sylw o'r rhai sy'n ddoeth yn eu golwg eu hunain.” Yna dyma'r ARGLWYDD yn ateb Job o'r storm ac yn dweud: “Pwy ydy hwn sy'n amau fy nghynllun i, ac yn siarad heb ddeall dim? Torcha dy lewys fel dyn! Gofynna i gwestiynau, a gei di ateb. Ble roeddet ti pan osodais i sylfeini'r ddaear? Ateb fi os wyt ti'n gwybod y cwbl! Pwy benderfynodd beth fyddai ei maint? — ti'n siŵr o fod yn gwybod! Pwy wnaeth ddefnyddio llinyn i'w mesur? Ar beth y gosodwyd ei sylfeini? Pwy osododd ei chonglfaen? Ble oeddet ti pan oedd sêr y bore yn canu gyda'i gilydd a holl angylion Duw yn gweiddi'n llawen? Pwy gaeodd y drysau ar y môr wrth iddo arllwys allan o'r groth? Fi roddodd gymylau yn wisg amdano, a'i lapio mewn niwl trwchus. Fi osododd derfyn iddo, a'i gadw tu ôl i ddrysau wedi eu bolltio. Dywedais, ‘Cei di ddod hyd yma, ond dim pellach; dyma lle mae ymchwydd dy donnau yn stopio!’ Wyt ti erioed wedi gorchymyn i'r bore ddod, a dangos i'r wawr ble i dorri, a sut i ledu a gafael yn ymylon y ddaear, ac ysgwyd y rhai drwg oddi arni? Mae ei siâp yn dod i'r golwg fel clai dan sêl, a ffurfiau'r tir i'w gweld fel plygion dilledyn. Mae'r golau'n tarfu ar y rhai drwg, ac mae'r fraich sy'n treisio'n cael ei thorri. Wyt ti wedi bod at y ffynhonnau sy'n llenwi'r môr, neu gerdded mannau dirgel y dyfnder? Ydy giatiau marwolaeth wedi eu dangos i ti? Wyt ti wedi gweld y giatiau i'r tywyllwch dudew? Oes gen ti syniad mor fawr ydy'r ddaear? Os wyt ti'n gwybod hyn i gyd — dywed wrtho i! Pa ffordd mae mynd i ble mae'r golau'n byw? O ble mae'r tywyllwch yn dod? Wyt ti'n gallu dangos ble mae ffiniau'r ddau, a dangos iddyn nhw sut i fynd adre? Mae'n siŵr dy fod, gan dy fod wedi dy eni bryd hynny, ac wedi bod yn fyw ers cymaint o flynyddoedd! Wyt ti wedi bod i mewn i stordai'r eira, neu wedi gweld y storfeydd o genllysg sy'n cael eu cadw ar gyfer y dyddiau anodd, pan mae brwydrau a rhyfeloedd? Sut mae mynd i ble mae'r mellt yn cael eu gwasgaru? O ble daw gwynt y dwyrain i chwythu drwy'r byd? Pwy gerfiodd sianelau i'r stormydd glaw, a llwybrau i'r mellt a'r taranau, iddi lawio ar dir lle does neb yn byw, ac anialwch sydd heb unrhyw un yno? Mae'r tir anial sych yn cael ei socian, ac mae glaswellt yn tyfu drosto. Oes tad gan y glaw? Pwy genhedlodd y defnynnau gwlith? O groth pwy y daeth y rhew? Pwy roddodd enedigaeth i'r barrug, pan mae'r dŵr yn troi'n galed, ac wyneb y dyfroedd yn rhewi? Alli di blethu Pleiades neu ddatod belt Orion? Alli di ddod â'r planedau allan yn eu tymor, neu dywys yr Arth Fawr a'r Arth Fach? Wyt ti'n gyfarwydd â threfn y cosmos, a sut mae'n effeithio ar y ddaear? Alli di roi gorchymyn i'r cymylau i arllwys dŵr ar dy ben fel llif? Alli di alw ar y mellt i fflachio, a'u cael nhw i ateb ‘Dyma ni’? Pwy sy'n rhoi doethineb i'r galon a deall i'r meddwl? Pwy sy'n ddigon clyfar i gyfri'r cymylau? Pwy sy'n gallu arllwys dŵr o gostreli'r awyr a gwneud i'r pridd lifo fel llaid, ac i'r talpiau o bridd lynu wrth ei gilydd? Wyt ti'n gallu hela ysglyfaeth i'r llewes, a rhoi bwyd i'r llewod ifanc sy'n gorwedd yn eu gwâl, neu'n llechu dan y llwyni am helfa? Pwy sy'n rhoi bwyd i'r gigfran pan mae ei chywion yn galw ar Dduw a hithau'n hedfan o gwmpas heb ddim? Wyt ti'n gwybod pryd mae geifr mynydd yn cael eu geni? Wyt ti wedi gwylio'r ceirw yn esgor ar rai bach? Wyt ti wedi cyfri'r misoedd tra maen nhw'n disgwyl? Wyt ti'n gwybod pryd yn union maen nhw'n geni rhai bach, yn crymu wrth roi genedigaeth, ac yn bwrw eu brych? Mae'r rhai bach yn tyfu'n iach, allan yng nghefn gwlad; yna'n gadael y fam, a byth yn dod yn ôl. Pwy wnaeth ollwng yr asyn gwyllt, a datod ei ffrwyn iddo fynd yn rhydd? Rhoi'r anialwch yn gartre iddo, a'r tir diffaith yn lle iddo fyw. Y mae'n gwawdio twrw'r dre, ac yn fyddar i floedd unrhyw feistr. Mae'n crwydro'r mynyddoedd am borfa, yn chwilio am laswellt i'w fwyta. Fyddai'r ych gwyllt yn fodlon gweithio i ti, ac aros dros nos wrth gafn bwydo? Alli di ei gadw yn y gwys gyda rhaff? Fydd e'n dy ddilyn ac yn trin y tir? Alli di ddibynnu arno gan ei fod mor gryf, a gadael iddo wneud dy waith caled yn dy le? Fyddet ti'n disgwyl iddo i ddod yn ôl a chasglu dy rawn i'r llawr dyrnu? Mae adenydd yr estrys yn ysgwyd yn llawen; ond does ganddi ddim plu i hedfan fel y garan! Mae hi'n dodwy ei hwyau ar lawr, ac yn eu gadael i gynhesu ar y tywod, heb feddwl y gallen nhw gael eu sathru, ac y gallai anifail gwyllt eu malu dan draed. Mae'n trin ei chywion yn greulon, fel petaen nhw ddim yn perthyn iddi; dydy hi'n poeni dim y gallai ei llafur fod yn ofer. Gadawodd Duw hi heb ddoethineb, roddodd e ddim mymryn o ddeall iddi. Ond pan mae'n codi a dechrau rhedeg, mae'n chwerthin am ben y ceffyl a'i farchog! Ai ti sy'n rhoi cryfder i geffyl? Ai ti wisgodd ei wddf â'r mwng? Ai ti sy'n gwneud iddo neidio fel y locust, a chreu dychryn wrth weryru? Mae'n curo llawr y dyffryn â'i garnau, ac yn rhuthro'n frwd i'r frwydr. Does ganddo ddim ofn; does dim yn ei ddychryn; dydy e ddim yn cilio oddi wrth y cleddyf. Mae llond cawell o saethau'n chwyrlïo heibio iddo, a'r waywffon a'r cleddyf yn fflachio. Mae'n llawn cynnwrf, ac yn carlamu'n wyllt; mae'n methu aros yn llonydd pan mae'r corn hwrdd yn seinio. Mae'n synhwyro'r frwydr o bell; mae'n gweryru wrth glywed y corn hwrdd, a gwaedd swyddogion yn bloeddio gorchmynion. Ai dy ddoethineb di sy'n gwneud i'r hebog hedfan, a lledu ei adenydd i droi tua'r de? Ai dy orchymyn di sy'n gwneud i'r fwltur hofran, a gosod ei nyth ar y creigiau uchel? Mae'n byw ar y graig, lle mae'n treulio'r nos; mae'r clogwyn yn gaer ddiogel iddo. Oddi yno mae'n chwilio am fwyd, ac yn syllu arno o bell; bydd ei gywion yn llowcio gwaed. Ble mae corff marw, mae'r fwltur yno.” Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Job. “Ydy'r un sy'n dadlau gyda'r Hollalluog am ddal i'w gywiro? Beth am i ti sy'n beirniadu Duw roi ateb i mi!” A dyma Job yn ateb: “Mae'n wir, dw i'n neb. Beth alla i ddweud? Dw i'n mynd i gadw'n dawel. Dw i wedi siarad gormod, ac alla i ddim ateb eto. Dw i am ddweud dim mwy.” Yna dyma'r ARGLWYDD yn ateb Job o'r storm ac yn dweud: “Torcha dy lewys fel dyn! Gofynna i gwestiynau, a cei di ateb. Wyt ti'n gwadu fy mod i'n Dduw cyfiawn? Wyt ti'n fy nghondemnio i er mwyn profi mai ti sy'n iawn? Wyt ti mor gryf ag ydw i? Ydy dy lais di'n gallu taranu fel fy llais i? Os felly, addurna dy hun ag anrhydedd a mawrhydi. Gwisga dy hun ag ysblander ac urddas. Dangos i bawb mor ddig wyt ti; dos ar ôl y bobl falch, a'u rhoi nhw'n eu lle. Dos ar ôl y bobl falch, a'u cywilyddio nhw; sathra'r rhai drwg yn y fan a'r lle! Cladda nhw yn y llwch, a'u cloi nhw yn y bedd. Gwna i gyfaddef wedyn dy fod ti'n ddigon cryf i achub dy hun! Edrych ar y Behemoth, a greais i fel y creais i ti; mae e'n bwyta glaswellt fel ychen. Edrych mor gryf ydy ei gluniau, ac ar gryfder cyhyrau ei fol. Mae'n codi ei gynffon fel coeden gedrwydd; mae gewynnau ei gluniau wedi eu gweu i'w gilydd. Mae ei esgyrn fel pibellau pres, a'i goesau fel barrau haearn. Dyma'r creadur cryfaf a greodd Duw; dim ond ei Grëwr all dynnu'r cleddyf a'i ladd. Y bryniau sy'n rhoi bwyd iddo, ble mae'r holl anifeiliaid gwylltion eraill yn chwarae. Mae'n mynd i orwedd dan y llwyn deiliog, o'r golwg yng nghanol brwyn y gors. Mae'r llwyn yn ei guddio dan ei gysgod; a'r coed helyg sydd o'i gwmpas ger y nant. Dydy e ddim yn dychryn pan mae'r afon wedi chwyddo; mae'n ddigyffro wrth i ddŵr yr Iorddonen ruthro drosto. All unrhyw un ei ddal tra mae'n gwylio, neu wthio bachyn drwy ei drwyn? Alli di ddal y Lefiathan â bachyn pysgota? Alli di rwymo ei dafod â rhaff? Alli di roi cylch yn ei drwyn, neu wthio bachyn drwy ei ên? Fydd e'n pledio'n daer am drugaredd? Fydd e'n seboni wrth siarad gyda ti? Fydd e'n ceisio dod i gytundeb, ac addo bod yn gaethwas i ti am byth? Alli di chwarae gydag e fel aderyn, neu ei rwymo i ddifyrru dy forynion? Fydd pysgotwyr yn bargeinio amdano? Fydd e'n cael ei rannu rhwng y masnachwyr? Alli di drywanu ei groen gyda phicellau, neu roi bachau pysgota yn ei geg? Gafael ynddo, a dychmyga'r frwydr — fyddet ti ddim yn gwneud yr un peth eto! Pam? Am nad oes gobaith ei ddal; mae hyd yn oed ei olwg yn torri calon rhywun. Does neb yn ddigon dewr i ddeffro hwn, felly pwy sy'n mynd i sefyll yn fy erbyn i? Pwy sydd wedi rhoi i mi nes bod dyled arna i iddo? Fi sydd biau popeth dan y nef! Dw i ddim am fod yn dawel am ei goesau, ei gryfder, a'i gorff gosgeiddig. Pwy sy'n gallu tynnu ei got oddi arno, neu drywanu ei arfwisg blethog? Pwy sy'n gallu gwthio ei geg ar agor? Mae'r dannedd sydd o'i chwmpas yn frawychus. Mae ei gefn fel rhesi o darianau, wedi eu cloi i'w gilydd gan sêl. Mae un yn cyffwrdd y llall; maen nhw'n hollol dynn yn erbyn ei gilydd. Maen nhw wedi glynu wrth ei gilydd, a does dim modd eu gwahanu nhw. Mae'n fflachio mellt wrth disian. Mae ei lygaid fel pelydrau'r wawr. Mae fflamau yn llifo o'i geg, a gwreichion yn tasgu ohoni. Mae mwg yn dod allan o'i ffroenau fel crochan berw yn stemio. Mae ei anadl yn cynnau marwor; ac mae fflamau'n dod allan o'i geg. Mae ei wddf mor gryf, a nerth yn llamu allan o'i flaen. Mae plygion ei gnawd yn glynu wrth ei gilydd; maen nhw'n dynn amdano, a does dim modd eu symud. Mae ei galon yn galed fel y graig, yn solet fel maen melin. Pan mae'n codi mae'r rhai cryfaf yn dychryn; wrth iddo gynhyrfu maen nhw'n camu'n ôl. Dydy ei daro gyda'r cleddyf yn cael dim effaith, na gwaywffon, na saeth, na phicell. Mae'n trin haearn fel gwellt, a phres fel pren wedi pydru. Dydy saethau ddim yn gwneud iddo ffoi, ac mae cerrig tafl fel us yn ei olwg. Mae pastwn fel gwelltyn yn ei daro, ac mae'n chwerthin ar y cleddyf sy'n clecian. Oddi tano mae fel darnau o botyn wedi torri, ac mae'n gadael ei ôl yn y llaid fel llusg ddyrnu. Mae'n gwneud i'r dŵr dwfn ferwi fel crochan, ac i'r môr gorddi fel eli'n cael ei gymysgu. Mae'n gadael llwybr gloyw ar ei ôl, ac mae'r dŵr dwfn yn edrych fel gwallt gwyn. Does dim byd tebyg iddo'n fyw ar y ddaear; creadur sy'n ofni dim byd. Mae'n edrych i lawr ar bob anifail cryf; mae'n frenin ar bopeth balch.” Dyma Job yn dweud wrth yr ARGLWYDD: “Dw i'n gwybod dy fod ti'n gallu gwneud unrhyw beth; does dim modd rhwystro dy gynlluniau di. ‘Pwy ydy hwn sy'n amau fy nghynllun i, ac yn deall dim?’ meddet ti. Ti'n iawn, dw i wedi siarad am bethau doeddwn i ddim yn eu deall; pethau oedd y tu hwnt i mi, pethau allwn i mo'u dirnad nhw. ‘Gwranda arna i, a gwna i siarad; Gofynna i gwestiynau, a gei di ateb,’ meddet ti. O'r blaen, wedi clywed amdanat ti oeddwn i, ond nawr dw i wedi dy weld drosof fy hun. Felly, dw i'n tynnu'r cwbl yn ôl, ac yn edifarhau mewn llwch a lludw.” Ar ôl i'r ARGLWYDD siarad â Job, dyma fe'n dweud wrth Eliffas o Teman, “Dw i'n ddig iawn gyda ti a dy ddau ffrind, am beidio dweud beth sy'n wir amdana i, yn wahanol i fy ngwas Job. Felly cymerwch saith tarw a saith hwrdd a mynd at fy ngwas Job ac offrymu aberth i'w losgi drosoch eich hunain. Bydd fy ngwas Job yn gweddïo drosoch chi, a bydda i'n gwrando arno. Felly fydda i ddim yn delio gyda chi fel dych chi'n haeddu am beidio dweud beth sy'n wir amdana i, yn wahanol i fy ngwas Job.” Felly dyma Eliffas o Teman, Bildad o Shwach a Soffar o Naäma yn mynd a gwneud beth ddwedodd yr ARGLWYDD wrthyn nhw, a dyma'r ARGLWYDD yn gwrando ar weddi Job. Ar ôl i Job weddïo dros ei ffrindiau, dyma'r ARGLWYDD yn rhoi yn ôl iddo y cwbl oedd wedi ei golli — yn wir rhoddodd yr ARGLWYDD iddo ddwywaith cymaint ag o'r blaen. Daeth ei frodyr a'i chwiorydd, a'i hen ffrindiau i gyd, i'w dŷ am bryd o fwyd, ac i gydymdeimlo gydag e a'i gysuro am yr holl drasiedïau oedd yr ARGLWYDD wedi eu dwyn arno. Rhoddodd pob un ohonyn nhw arian a modrwy aur iddo. Dyma'r ARGLWYDD yn bendithio Job fwy yn y blynyddoedd ar ôl hynny nag roedd wedi gwneud yn y blynyddoedd blaenorol. Roedd ganddo un deg pedair mil o ddefaid, chwe mil o gamelod, mil o barau o ychen, a mil o asennod. Hefyd cafodd saith mab a thair merch. Enw'r ferch hynaf oedd Jemima, Cetsia oedd enw'r ail, a Ceren-hapwch oedd y drydedd. Doedd dim merched harddach i'w cael yn unman, a rhoddodd Job etifeddiaeth iddyn nhw fel i'w brodyr. Cafodd Job fyw am gant pedwar deg o flynyddoedd ar ôl hynny, a gwelodd bedair cenhedlaeth o'i ddisgynyddion. Felly, roedd Job yn hen ŵr mewn oedran mawr pan fuodd e farw. Mae'r un sy'n gwrthod gwrando ar gyngor pobl ddrwg wedi ei fendithio'n fawr; yr un sydd ddim yn cadw cwmni pechaduriaid, nac yn eistedd gyda'r rhai sy'n gwneud dim byd ond dilorni pobl eraill; yr un sydd wrth ei fodd yn gwneud beth mae'r ARGLWYDD eisiau, ac yn myfyrio ar y pethau mae'n eu dysgu ddydd a nos. Bydd fel coeden wedi ei phlannu wrth ffrydiau o ddŵr, yn dwyn ffrwyth yn ei thymor, a'i dail byth yn gwywo. Beth bynnag mae'n ei wneud, bydd yn llwyddo. Ond fydd hi ddim felly ar y rhai drwg! Byddan nhw fel us yn cael eu chwythu i ffwrdd gan y gwynt. Fydd y rhai drwg ddim yn gallu gwrthsefyll y farn. Fydd pechaduriaid ddim yn cael sefyll gyda'r dyrfa o rai cyfiawn. Mae'r ARGLWYDD yn gofalu am y rhai sy'n ei ddilyn, ond bydd y rhai drwg yn cael eu difa. Pam mae'r cenhedloedd yn gwrthryfela? Pam mae pobloedd yn gwastraffu eu hamser yn cynllwynio? Mae brenhinoedd daearol yn gwneud safiad; a'r llywodraethwyr yn dod at ei gilydd i ymladd yn erbyn yr ARGLWYDD a'r un mae wedi'i ddewis, y brenin. “Gadewch i ni dorri'n rhydd o'u cadwynau, a thaflu'r rhaffau sy'n ein rhwymo i ffwrdd!” Mae'r Un sydd ar ei orsedd yn y nefoedd yn chwerthin — maen nhw'n destun sbort i'r ARGLWYDD! Wedyn mae'n eu dychryn am ei fod mor ffyrnig, ac yn dweud wrthyn nhw'n ddig: “Dw i wedi gosod fy mrenin yn Seion, fy mynydd cysegredig!” Gadewch i mi ddweud beth mae'r ARGLWYDD wedi ei ddatgan: Dwedodd wrtho i, “Ti ydy fy mab i; heddiw des i yn Dad i ti. Dim ond i ti ofyn, cei etifeddu'r cenhedloedd. Bydd dy ystad di yn ymestyn i ben draw'r byd. Byddi'n eu malu â phastwn haearn yn ddarnau mân, fel darn o grochenwaith.” Felly, chi frenhinoedd, byddwch ddoeth; dysgwch eich gwers, chi arweinwyr daearol! Gwasanaethwch yr ARGLWYDD gyda pharch; byddwch yn falch ei fod wedi'ch dychryn chi! Plygwch, a thalu teyrnged i'r mab; neu bydd yn digio a cewch eich difa pan fydd yn dangos mor ddig ydy e. Mae pawb sy'n troi ato am loches wedi eu bendithio'n fawr! Salm gan Dafydd pan oedd yn ffoi oddi wrth ei fab Absalom. [1] O ARGLWYDD, mae gen i gymaint o elynion! Mae cymaint o bobl yn ymosod arna i. Mae cymaint ohonyn nhw'n dweud, “Fydd Duw ddim yn dod i'w achub e!” Saib Ond ARGLWYDD, rwyt ti fel tarian o'm cwmpas. Ti ydy'r Un dw i'n brolio amdano! Ti ydy'r Un sy'n rhoi hyder i mi. Dim ond i mi weiddi'n uchel ar yr ARGLWYDD, bydd e'n fy ateb i o'i fynydd cysegredig. Saib Dw i wedi gallu gorwedd i lawr, cysgu a deffro, am fod yr ARGLWYDD yn gofalu amdana i. Does gen i ddim ofn y miloedd o filwyr sy'n ymosod arna i o bob cyfeiriad. Côd, ARGLWYDD! Achub fi, O fy Nuw. Rho glatsien iawn i'm gelynion i gyd. Torra ddannedd y rhai drwg. “Yr ARGLWYDD sy'n achub!” Rwyt ti'n bendithio dy bobl! Saib I'r arweinydd cerdd: Salm i gyfeiliant offerynnau llinynnol. Salm Dafydd. [1] O Dduw, ateb fi pan dw i'n galw arnat! Ti ydy'r un sy'n achub fy ngham! Dw i mewn argyfwng, ond gelli di ddod â fi allan. Dangos drugaredd ata i, a gwrando ar fy ngweddi. “Chi bobl feidrol, am faint mae fy enw i gael ei sarhau? Am faint ydych chi'n mynd i roi'ch bryd ar bethau diwerth, a dilyn pethau twyllodrus?” Saib Deallwch fod yr ARGLWYDD yn cadw'r rhai ffyddlon iddo'i hun! Mae'r ARGLWYDD yn clywed pan dw i'n galw arno. Dylech chi grynu mewn ofn, a stopio pechu! Myfyriwch ar y peth ar eich gwely, a dechreuwch wylo. Dewch â chyflwyno'r aberthau iawn iddo; trowch a trystio'r ARGLWYDD. Mae llawer yn gofyn, “Pryd welwn ni ddyddiau da eto?” O ARGLWYDD, wnei di fod yn garedig aton ni? Gwna fi'n hapus eto, fel yr adeg pan mae'r cnydau ŷd a grawnwin yn llwyddo. Bydda i'n gallu gorwedd i lawr a chysgu'n dawel, am dy fod ti, O ARGLWYDD, yn fy nghadw i'n saff. I'r arweinydd cerdd: Salm i gyfeiliant ffliwt. Salm Dafydd. [1] Gwranda ar beth dw i'n ddweud, O ARGLWYDD; ystyria yn ofalus beth sy'n fy mhoeni i. Cymer sylw ohono i'n gweiddi am help, oherwydd arnat ti dw i'n gweddïo fy Mrenin a'm Duw. Gwranda arna i ben bore, O ARGLWYDD; Dw i'n pledio fy achos wrth iddi wawrio, ac yn disgwyl am ateb. Dwyt ti ddim yn Dduw sy'n mwynhau drygioni; dydy pobl ddrwg ddim yn gallu aros yn dy gwmni. Dydy'r rhai sy'n brolio ddim yn gallu sefyll o dy flaen di; ti'n casáu'r rhai sy'n gwneud drwg. Byddi'n dinistrio'r rhai sy'n dweud celwydd; mae'n gas gen ti bobl sy'n dreisgar ac yn twyllo, O ARGLWYDD. Ond dw i'n gallu mynd i mewn i dy dŷ di am fod dy gariad di mor anhygoel. Plygaf i addoli mewn rhyfeddod yn dy deml sanctaidd. O ARGLWYDD, arwain fi i wneud beth sy'n iawn. Mae yna rai sy'n fy ngwylio i ac am ymosod arna i; plîs symud y rhwystrau sydd ar y ffordd o'm blaen i. Achos dŷn nhw ddim yn dweud y gwir; eu hawydd dyfnaf ydy dinistrio pobl! Mae eu geiriau'n drewi fel bedd agored; a'u tafodau slic yn gwneud dim byd ond seboni. Dinistria nhw, O Dduw! Gwna i'w cynlluniau nhw eu baglu! Tafla nhw i ffwrdd am eu bod wedi tynnu'n groes gymaint! Maen nhw wedi gwrthryfela yn dy erbyn di! Ond gad i bawb sy'n troi atat ti am loches fod yn llawen! Gad iddyn nhw orfoleddu am byth! Cysgoda drostyn nhw, er mwyn i'r rhai sy'n caru dy enw di gael dathlu. Oherwydd byddi di'n bendithio'r rhai cyfiawn, O ARGLWYDD; bydd dy ffafr fel tarian fawr o'u cwmpas nhw. I'r arweinydd cerdd: Salm i gyfeiliant offerynnau llinynnol. Ar yr wythfed. Salm Dafydd. [1] O ARGLWYDD, paid bod yn ddig a'm cosbi i, paid dweud y drefn yn dy wylltineb. Bydd yn garedig ata i, ARGLWYDD, achos dw i mor wan. Iachâ fi, ARGLWYDD, dw i'n crynu at yr asgwrn. Dw i wedi dychryn am fy mywyd, ac rwyt ti, ARGLWYDD … — O, am faint mwy? ARGLWYDD, tyrd! Achub fi! Dangos mor ffyddlon wyt ti. Gollwng fi'n rhydd! Dydy'r rhai sydd wedi marw ddim yn dy gofio di. Pwy sy'n dy foli di yn ei fedd? Dw i wedi blino tuchan. Mae fy ngwely'n wlyb gan ddagrau bob nos; mae dagrau wedi socian lle dw i'n gorwedd. Mae fy llygaid wedi mynd yn wan gan flinder, dw i wedi ymlâdd o achos fy holl elynion. Ewch i ffwrdd, chi sy'n gwneud drwg! Mae'r ARGLWYDD wedi fy nghlywed i'n crïo. Mae wedi fy nghlywed i'n pledio am help. Bydd yr ARGLWYDD yn ateb fy ngweddi. Bydd fy holl elynion yn cael eu siomi a'u dychryn. Byddan nhw'n troi yn ôl yn sydyn, wedi siomi. Salm alar gan Dafydd. Canodd hi i'r ARGLWYDD am Cwsh, un o lwyth Benjamin. [1] O ARGLWYDD, fy Nuw, dw i'n troi atat ti am loches. Helpa fi i ddianc oddi wrth y rhai sy'n fy erlid. Achub fi, rhag iddyn nhw, fel llew, fy rhwygo'n ddarnau, ie, yn ddarnau mân, nes bod neb yn gallu fy achub. O ARGLWYDD, fy Nuw, os ydy e'n wir — os ydw i'n euog o wneud drwg, os ydw i wedi bradychu fy ffrind, (ie fi, yr un a achubodd fy ngelyn am ddim gwobr!) yna gad i'r gelyn ddod ar fy ôl i, a'm dal i. Gad iddo fy sathru dan draed, a'm gadael i orwedd mewn cywilydd ar lawr. Saib Côd, ARGLWYDD! Dangos dy fod ti'n ddig, a sefyll yn erbyn ymosodiadau ffyrnig y gelyn! Symud! Tyrd i ymladd ar fy rhan i, a dangos sut rwyt ti'n mynd i'w barnu nhw! Mae'r bobloedd wedi ymgasglu o dy gwmpas; eistedd di ar dy orsedd uwch eu pennau! Mae'r ARGLWYDD yn barnu'r cenhedloedd! Achub fy ngham, O ARGLWYDD, achos dw i wedi gwneud beth sy'n iawn. Dw i ddim ar fai. O Dduw cyfiawn, yr un sy'n treiddio'r meddwl a'r gydwybod, stopia'r holl ddrygioni mae pobl yn ei wneud. Ond gwna'r rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn yn gadarn. Mae'r Duw mawr fel tarian i mi; mae'n achub yr un sy'n byw'n iawn. Mae Duw yn farnwr cyfiawn, ond mae'n dangos bob dydd ei fod wedi digio wrth y rhai sydd ddim yn troi cefn ar bechod. Mae'n rhoi min ar ei gleddyf, yn plygu ei fwa ac yn anelu. Mae'n paratoi arfau marwol ac yn defnyddio saethau tanllyd i ymladd yn eu herbyn. Edrychwch! Mae'r dyn drwg wrthi eto! Mae'n feichiog o ddrygioni, ac yn geni dim byd ond twyll! Ond ar ôl cloddio twll dwfn i eraill, bydd yn syrthio i'w drap ei hun! Bydd y drwg mae'n ei wneud yn ei daro'n ôl; a'i drais yn ei fwrw ar ei dalcen. A bydda i'n moli'r ARGLWYDD am fod mor gyfiawn, ac yn canu emyn o fawl i enw'r ARGLWYDD Goruchaf. I'r arweinydd cerdd: Salm ar yr alaw ‛Y Gwinwryf‛. Salm Dafydd. [1] O ARGLWYDD, ein brenin, mae dy enw di mor fawr drwy'r byd i gyd! Mae dy ysblander yn gorchuddio'r nefoedd yn gyfan! Gyda lleisiau plant bach a babanod rwyt yn dangos dy nerth, yn wyneb dy elynion, i roi diwedd ar y gelyn sy'n hoffi dial. Wrth edrych allan i'r gofod, a gweld gwaith dy fysedd, y lleuad a'r sêr a osodaist yn eu lle, Beth ydy pobl i ti boeni amdanyn nhw? Pam cymryd sylw o un person dynol? Rwyt wedi ei wneud ond ychydig is na'r bodau nefol, ac wedi ei goroni ag ysblander a mawredd! Rwyt wedi ei wneud yn feistr ar waith dy ddwylo, a gosod popeth dan ei awdurdod — defaid ac ychen o bob math, a hyd yn oed yr anifeiliaid gwylltion; yr adar sy'n hedfan, y pysgod sy'n y môr, a phopeth arall sy'n teithio ar gerrynt y moroedd. O ARGLWYDD, ein brenin, mae dy enw di mor fawr drwy'r byd i gyd! I'r arweinydd cerdd: Salm i leisiau merched. Salm Dafydd. [1] Addolaf di, ARGLWYDD, o waelod calon; a sôn am yr holl bethau rhyfeddol wnest ti. Byddaf yn llawen, a gorfoleddaf ynot. Canaf emyn o fawl i dy enw, y Goruchaf. Pan mae fy ngelynion yn ceisio dianc, maen nhw'n baglu ac yn cael eu dinistrio o dy flaen di, am dy fod ti'n camu i mewn a gweithredu ar fy rhan i. Ti'n eistedd ar yr orsedd ac yn dyfarnu'n gyfiawn. Ti sy'n ceryddu'r cenhedloedd, yn dinistrio'r rhai drwg, ac yn cael gwared â nhw am byth bythoedd! Mae hi ar ben ar y gelyn! Mae eu trefi'n adfeilion, a fydd neb yn cofio ble roedden nhw. Ond mae'r ARGLWYDD yn teyrnasu am byth! Mae ar ei orsedd, yn barod i farnu. Bydd yn barnu'n deg, ac yn llywodraethu'r gwledydd yn gyfiawn. Mae'r ARGLWYDD yn hafan ddiogel i'r rhai sy'n cael eu gorthrymu — yn hafan pan maen nhw mewn trafferthion. Mae'r rhai sy'n dy nabod di yn dy drystio di. Dwyt ti ddim yn troi cefn ar y rhai sy'n dy geisio di, O ARGLWYDD. Canwch fawl i'r ARGLWYDD sy'n teyrnasu yn Seion! Dwedwch wrth bawb beth mae wedi ei wneud! Dydy e ddim yn diystyru cri y rhai sy'n dioddef; mae'r un sy'n dial ar y llofruddion yn gofalu amdanyn nhw. Dangos drugaredd ata i, O ARGLWYDD; edrych fel mae'r rhai sy'n fy nghasáu yn gwneud i mi ddioddef. Dim ond ti all fy nghadw rhag mynd trwy giatiau marwolaeth. Wedyn bydda i'n dy foli di o fewn i giatiau Seion hardd. Bydda i'n dathlu am dy fod wedi fy achub i! Mae'r cenhedloedd wedi llithro i'r twll wnaethon nhw ei gloddio; a'u traed wedi mynd yn sownd yn y rhwyd wnaethon nhw ei chuddio. Mae'r ARGLWYDD wedi dangos sut un ydy e! Mae e'n gwneud beth sy'n iawn. Mae'r rhai drwg wedi eu dal gan eu dyfais eu hunain. (Yn ddwys:) Saib Bydd y rhai drwg yn mynd i fyd y meirw. Dyna dynged y cenhedloedd sy'n diystyru Duw! Ond fydd y rhai mewn angen ddim yn cael eu hanghofio am byth; fydd gobaith ddim yn diflannu i'r rhai sy'n cael eu cam-drin. Cod, O ARGLWYDD! Paid gadael i ddynion meidrol gael eu ffordd! Boed i'r cenhedloedd gael eu barnu gen ti! Dychryn nhw, O ARGLWYDD! gad iddyn nhw wybod mai dim ond dynol ydyn nhw! Saib O ARGLWYDD, pam wyt ti'n cadw draw? Pam wyt ti'n aros o'r golwg pan mae pethau'n anodd arna i? Mae'r rhai drwg mor hy! Maen nhw'n hela'r tlawd — gwna iddyn nhw gael eu dal gan eu dyfais eu hunain! Mae'r un drwg yn brolio ei fod yn cael ei ffordd ei hun; a'r lleidr yn melltithio a dirmygu'r ARGLWYDD. Mae'r un drwg mor falch, yn swancio ac yn dweud wrth ddirmygu'r ARGLWYDD: “Dydy e ddim yn galw neb i gyfri; Dydy Duw ddim yn bodoli!” Ydy, mae'n meddwl y bydd e'n llwyddo bob amser. Dydy e'n gwybod dim am dy safonau di; ac mae'n wfftio pawb sy'n ei wrthwynebu. Mae'n meddwl wrtho'i hun, “Dw i'n hollol saff. Mae popeth yn iawn! Fydda i byth mewn trafferthion.” Mae e mor gegog! — yn llawn melltith a thwyll a gormes; a'i dafod yn gwneud dim ond drwg ac achosi trafferthion! Mae'n cuddio wrth y pentrefi, yn barod i ymosod; mae'n neidio o'i guddfan a lladd y dieuog — unrhyw un sy'n ddigon anffodus. Mae'n disgwyl yn ei guddfan fel llew yn ei ffau, yn barod i ddal y truan a'i gam-drin; ac mae'n ei ddal yn ei rwyd. Mae'n plygu i lawr, yn swatio, ac mae rhywun anlwcus yn syrthio i'w grafangau. Mae'n dweud wrtho'i hun, “Dydy Duw ddim yn poeni! Dydy e'n cymryd dim sylw. Dydy e byth yn edrych!” Cod, O ARGLWYDD! Cod dy law i'w daro, O Dduw! Paid anghofio'r rhai sy'n cael eu gorthrymu. Pam ddylai dyn drwg gael dilorni Duw a meddwl dy fod ti'n galw neb i gyfri? Ti'n gweld y cwbl — ti'n sylwi ar y poen a'r dioddefaint. A byddi'n talu'n ôl! Mae'r un oedd yn anlwcus yn dy drystio di, am mai ti sy'n helpu plant amddifad. Torra rym y dyn drwg! Galw fe i gyfrif am y drygioni roedd e'n meddwl na fyddet ti'n ei weld. Mae'r ARGLWYDD yn frenin am byth a bydd y cenhedloedd yn diflannu o'r tir! Ti'n gwrando ar lais y rhai sy'n cael eu gorthrymu yn crefu arnat, O ARGLWYDD. Byddan nhw'n teimlo'n saff am dy fod ti'n gwrando arnyn nhw. Unwaith eto byddi'n rhoi cyfiawnder i'r amddifad a'r rhai sy'n cael eu sathru; byddi'n stopio dynion meidrol rhag eu gormesu. I'r arweinydd cerdd: Salm Dafydd. [1] Dw i wedi troi at yr ARGLWYDD i'm cadw'n saff. Felly sut allwch chi ddweud wrtho i: “Dianc i'r mynyddoedd fel aderyn!”? “Gwylia dy hun! Mae'r rhai drwg yn plygu eu bwa, ac yn gosod saeth ar y llinyn i saethu o'r cysgodion at y rhai sy'n byw'n gywir!” Pan mae'r sylfeini wedi chwalu, beth all y cyfiawn ei gyflawni? Mae'r ARGLWYDD yn ei balas sanctaidd! Ie, yr ARGLWYDD — mae ei orsedd yn y nefoedd! Mae e'n gweld y cwbl! Mae'n edrych yn fanwl ar y ddynoliaeth. Mae'r ARGLWYDD yn gwylio y rhai cyfiawn, ond mae'n casáu y rhai drwg a'r rhai sy'n hoffi trais. Bydd yn tywallt tân a lafa ar y rhai drwg! Corwynt dinistriol maen nhw'n ei haeddu! Ydy, mae'r ARGLWYDD yn gyfiawn. Mae'n caru gweld cyfiawnder, a bydd y rhai sy'n byw'n gywir yn cael gweld ei wyneb. I'r arweinydd cerdd: Ar yr wythfed. Salm Dafydd. [1] Help, ARGLWYDD! Does neb ffyddlon ar ôl! Mae'r rhai sy'n driw wedi diflannu. Mae pawb yn dweud celwydd wrth ei gilydd; maen nhw'n seboni ond yn ddauwynebog. Boed i'r ARGLWYDD roi stop ar eu geiriau ffals, a rhoi taw ar bob tafod sy'n brolio! “Gallwn wneud unrhyw beth!” medden nhw. “Gallwn ddweud beth leiciwn ni! Dŷn ni'n atebol i neb!” Ond meddai'r ARGLWYDD: “Am fod yr anghenus yn dioddef trais, a'r tlawd yn griddfan mewn poen, dw i'n mynd i weithredu. Bydda i'n ei gadw'n saff; ie, dyna mae'n dyheu amdano.” Mae geiriau'r ARGLWYDD yn wir. Maen nhw fel arian wedi ei buro mewn ffwrnais bridd, neu aur wedi ei goethi'n drwyadl. Byddi'n gofalu amdanon ni, ARGLWYDD, Byddwn ni'n saff o afael y genhedlaeth ddrwg yma sy'n cerdded o gwmpas yn falch, a phobl yn canmol y pethau ofnadwy maen nhw'n eu gwneud! I'r arweinydd cerdd: Salm Dafydd. [1] Am faint mwy, ARGLWYDD? Wyt ti'n mynd i'm diystyru i am byth? Am faint mwy rwyt ti'n mynd i droi cefn arna i? Am faint mwy mae'n rhaid i mi boeni f'enaid, a dal i ddioddef fel yma bob dydd? Am faint mwy mae'r gelyn i gael y llaw uchaf? Edrych arna i! Ateb fi, O ARGLWYDD, fy Nuw! Adfywia fi, rhag i mi suddo i gwsg marwolaeth; rhag i'r gelyn ddweud, “Dw i wedi ennill!” ac i'r rhai sy'n fy nghasáu ddathlu wrth i mi syrthio. Ond na, dw i'n trystio dy fod ti'n ffyddlon! Bydda i'n gorfoleddu am dy fod wedi f'achub i. Bydda i'n canu mawl i ti, ARGLWYDD, am achub fy ngham. I'r arweinydd cerdd: Salm Dafydd. [1] Dim ond ffŵl sy'n meddwl wrtho'i hun, “Dydy Duw ddim yn bodoli.” Mae pobl yn gwneud pob math o bethau ffiaidd; does neb yn gwneud daioni. Mae'r ARGLWYDD yn edrych i lawr o'r nefoedd ar y ddynoliaeth i weld os oes unrhyw un call; unrhyw un sy'n ceisio Duw. Ond mae pawb wedi troi cefn arno, ac yn gwbl lygredig. Does neb yn gwneud daioni — dim un! Ydyn nhw wir mor dwp — yr holl rhai drwg sy'n llarpio fy mhobl fel taen nhw'n llowcio bwyd, a byth yn galw ar yr ARGLWYDD? Byddan nhw'n dychryn am eu bywydau, am fod Duw yn gofalu am y rhai cyfiawn. Dych chi'n ceisio drysu hyder yr anghenus, ond mae'r ARGLWYDD yn ei gadw'n saff. O, dw i eisiau i'r un sy'n achub Israel ddod o Seion! Pan fydd yr ARGLWYDD yn troi'r sefyllfa rownd bydd Jacob yn gorfoleddu, a bydd Israel mor hapus! Salm Dafydd. [1] ARGLWYDD, pwy sy'n cael aros yn dy babell di? Pwy sy'n cael byw ar dy fynydd cysegredig? Y sawl sy'n byw bywyd di-fai, yn gwneud beth sy'n iawn, ac yn dweud y gwir bob amser. Dydy e ddim yn defnyddio'i dafod i wneud drwg, i wneud niwed i neb, na gwneud hwyl ar ben pobl eraill. Mae'n ffieiddio'r rhai mae Duw'n eu gwrthod, ond yn anrhydeddu'r rhai sy'n parchu'r ARGLWYDD. Mae'n cadw ei air hyd yn oed pan mae hynny'n gostus iddo. Dydy e ddim yn ceisio gwneud elw wrth fenthyg arian, na derbyn breib i gondemnio'r dieuog. Fydd yr un sy'n byw felly byth yn cael ei ysgwyd. Wedi ei chofnodi gan Dafydd. [1] Amddiffyn fi, O Dduw; dw i'n troi atat ti am loches. Dywedais wrth yr ARGLWYDD, “Ti ydy fy Meistr i; mae fy lles i yn dibynnu arnat ti.” Y bobl dduwiol yn y wlad ydy fy arwyr, dw i wrth fy modd gyda nhw. Ond bydd y rhai sy'n dilyn duwiau eraill yn cael llwyth o drafferthion! Dw i eisiau dim i'w wneud â'u hoffrymau o waed. Dw i ddim am eu henwi nhw hyd yn oed! Ti, ARGLWYDD, ydy'r un dw i eisiau. Mae fy nyfodol i yn dy law di. Rwyt ti wedi rhoi tir da i mi; mae gen i etifeddiaeth hyfryd. Bendithiaf yr ARGLWYDD am fy arwain i; ac am siarad gyda mi yn y nos. Dw i mor ymwybodol fod yr ARGLWYDD gyda mi. Mae'n sefyll wrth fy ochr, a fydd dim byd yn fy ysgwyd. Felly, mae fy nghalon i'n llawen! Dw i'n gorfoleddu! Dw i'n gwybod y bydda i'n saff! Wnei di ddim gadael i mi fynd i fyd y meirw, na gadael i'r un sydd wedi cysegru ei hun i ti bydru yn y bedd. Rwyt wedi dangos y ffordd i fywyd i mi; bydd bod gyda ti yn fy llenwi â llawenydd a hyfrydwch diddiwedd bob amser. Gweddi Dafydd. [1] O ARGLWYDD, dw i'n gofyn am gyfiawnder. Gwranda arna i'n galw arnat ti. Clyw fy ngweddi, sy'n gwbl ddidwyll. Ti sy'n gallu rhoi cyfiawnder i mi. Mae dy lygaid yn gweld y gwir. Rwyt wedi dod ata i yn y nos, chwilio fy meddyliau, fy mhwyso a'm mesur a chael dim byd o'i le. Dw i'n benderfynol o beidio dweud dim i dy dramgwyddo di. Dw i'n gweld beth mae pobl eraill yn ei wneud, ond dw i wedi cadw at beth rwyt ti'n ddweud, ac wedi cadw draw o ffyrdd lladron. Dw i wedi dilyn dy lwybrau di, a heb grwydro oddi ar y ffordd o gwbl. Dw i'n galw arnat ti, achos byddi di'n ateb, O Dduw. Gwranda arna i. Clyw beth dw i'n ddweud. Dangos mor ffyddlon wyt ti drwy wneud pethau rhyfeddol! Ti sy'n gallu achub y rhai sy'n troi atat i'w hamddiffyn rhag yr ymosodwyr. Amddiffyn fi fel cannwyll dy lygad. Cuddia fi dan gysgod dy adenydd. Cuddia fi oddi wrth y rhai drwg sy'n ymosod arna i; y gelynion o'm cwmpas sydd eisiau fy lladd. Maen nhw'n gwbl ddidrugaredd! Maen nhw mor falch wrth gega! Maen nhw wedi fy amgylchynu i, ac maen nhw am fy mwrw i'r llawr. Maen nhw fel llew yn edrych am ysglyfaeth, neu lew ifanc yn llechu o'r golwg. Cod, ARGLWYDD! Dos allan yn eu herbyn. Taro nhw i lawr gyda dy gleddyf! Achub fi rhag y rhai drwg; Achub fi o afael y llofruddion, ARGLWYDD! Lladd nhw! Paid gadael iddyn nhw fyw! Ond i'r rhai sy'n werthfawr yn dy olwg — rwyt yn llenwi eu boliau, mae eu plant yn cael eu bodloni a byddan nhw'n gadael digonedd i'w rhai bach. Caf gyfiawnder, a bydda i'n gweld dy wyneb! Pan fyddaf yn deffro, bydd dy weld yn ddigon i mi! I'r arweinydd cerdd: Salm gan Dafydd, gwas yr ARGLWYDD. Canodd eiriau'r gân hon ar ôl i'r ARGLWYDD ei achub o ddwylo ei holl elynion, ac o afael Saul. Dyma ddwedodd e: [1] Dw i'n dy garu di, ARGLWYDD; ti sy'n rhoi nerth i mi. Mae'r ARGLWYDD fel craig i mi, yn gastell ac yn achubwr. Mae fy Nuw yn graig i mi lechu dani; yn darian, yn gryfder ac yn hafan ddiogel. Gelwais ar yr ARGLWYDD sy'n haeddu ei foli, ac achubodd fi oddi wrth fy ngelynion. Ro'n i'n boddi dan donnau marwolaeth; roedd llifogydd dinistr yn fy llethu. Roedd rhaffau byd y meirw o'm cwmpas; a maglau marwolaeth o'm blaen. Gelwais ar yr ARGLWYDD o ganol fy helynt, a gweiddi ar fy Nuw. Roedd yn ei deml, a clywodd fy llais; gwrandawodd arna i'n galw. Yna dyma'r ddaear yn symud a crynu. Roedd sylfeini'r mynyddoedd yn crynu ac yn ysgwyd am ei fod wedi digio. Daeth mwg allan o'i ffroenau, a thân dinistriol o'i geg; roedd marwor yn tasgu ohono. Agorodd yr awyr fel llenni a daeth i lawr. Roedd cwmwl trwchus dan ei draed. Marchogai ar geriwbiaid yn hedfan, a codi ar adenydd y gwynt. Gwisgodd dywyllwch fel gorchudd drosto — cymylau duon stormus; a gwnaeth gymylau trwchus yr awyr yn ffau o'i gwmpas. Roedd golau disglair o'i flaen; saethodd mellt o'r cymylau, cenllysg a marwor tanllyd. Yna taranodd yr ARGLWYDD yn yr awyr — sŵn llais y Goruchaf yn galw. Taflodd ei saethau a chwalu'r gelyn; roedd ei folltau mellt yn eu gyrru ar ffo. Daeth gwely'r môr i'r golwg; ac roedd sylfeini'r ddaear yn noeth wrth i ti ruo, O ARGLWYDD, a chwythu anadl o dy ffroenau. Estynnodd i lawr o'r uchelder a gafael ynof fi; tynnodd fi allan o'r dŵr dwfn. Achubodd fi o afael y gelyn ffyrnig, a'r rhai sy'n fy nghasáu oedd yn gryfach na mi. Dyma nhw'n ymosod pan roeddwn mewn helbul, ond dyma'r ARGLWYDD yn fy helpu i. Daeth â fi allan i ryddid! Achubodd fi am ei fod wrth ei fodd gyda mi. Mae'r ARGLWYDD wedi bod yn deg â mi. Dw i wedi byw'n gyfiawn; mae fy nwylo'n lân ac mae wedi rhoi fy ngwobr i mi. Do, dw i wedi dilyn yr ARGLWYDD yn ffyddlon, heb droi cefn ar Dduw na gwneud drwg. Dw i wedi cadw ei ddeddfau'n ofalus; dw i ddim wedi anwybyddu ei reolau. Dw i wedi bod yn ddi-fai ac yn ofalus i beidio pechu yn ei erbyn. Mae'r ARGLWYDD wedi rhoi fy ngwobr i mi. Dw i wedi byw'n gyfiawn, ac mae e wedi gweld bod fy nwylo'n lân. Ti'n ffyddlon i'r rhai sy'n ffyddlon; ac yn deg â'r rhai di-euog. Mae'r rhai di-fai yn dy brofi'n ddi-fai, ond rwyt ti'n fwy craff na'r rhai anonest. Ti'n achub pobl sy'n dioddef, ond yn torri crib y rhai balch. Ie, ti sy'n goleuo fy lamp, o ARGLWYDD; fy Nuw sy'n rhoi golau i mi yn y tywyllwch. Gyda ti gallaf ruthro allan i'r frwydr; gallaf neidio unrhyw wal gyda help fy Nuw! Mae Duw yn gwneud beth sy'n iawn; mae'r ARGLWYDD yn dweud beth sy'n wir. Mae fel tarian yn amddiffyn pawb sy'n troi ato. Oes duw arall ond yr ARGLWYDD? Oes craig arall ar wahân i'n Duw ni? Fe ydy'r Duw sy'n rhoi nerth i mi — mae'n symud pob rhwystr o'm blaen. Mae'n rhoi coesau fel carw i mi; fydda i byth yn llithro ar y creigiau uchel. Dysgodd fi sut i ymladd — dw i'n gallu plygu bwa o bres! Rwyt wedi fy amddiffyn fel tarian; mae dy law gref yn fy nghynnal. Mae dy ofal wedi gwneud i mi lwyddo. Ti wnaeth i mi frasgamu ymlaen a wnes i ddim baglu. Es ar ôl fy ngelynion, a'u dal nhw; wnes i ddim troi'n ôl nes roedden nhw wedi darfod. Dyma fi'n eu taro nhw i lawr, nes eu bod yn methu codi; roeddwn i'n eu sathru nhw dan draed. Ti roddodd y nerth i mi ymladd; ti wnaeth i'r gelyn blygu o'm blaen. Ti wnaeth iddyn nhw gilio yn ôl. Dinistriais y rhai oedd yn fy nghasáu yn llwyr. Roedden nhw'n galw am help, ond doedd neb i'w hachub! Roedden nhw'n galw ar yr ARGLWYDD hyd yn oed! Ond wnaeth e ddim ateb. Dyma fi'n eu malu nhw'n llwch i'w chwythu i ffwrdd gan y gwynt; a'u taflu i ffwrdd fel baw ar y strydoedd. Achubaist fi o afael y rhai oedd yn ymladd yn fy erbyn. Gwnest fi'n bennaeth ar y gwledydd. Mae pobloedd wyddwn i ddim amdanyn nhw yn derbyn fy awdurdod. Maen nhw'n plygu wrth glywed amdana i — ie, estroniaid yn crynu o'm blaen! Mae pobloedd estron wedi colli pob hyder, ac yn crynu wrth ddod allan o'u cuddfannau. Ydy, mae'r ARGLWYDD yn fyw! Bendith ar y graig sy'n fy amddiffyn i! Boed i Dduw, wnaeth fy achub i, gael ei anrhydeddu! Fe ydy'r Duw sydd wedi dial ar fy rhan i, a gwneud i bobloedd blygu o'm blaen. Fe ydy'r Duw sydd wedi fy achub i rhag fy ngelynion, a'm cipio o afael y rhai sy'n fy nghasáu. Mae wedi fy achub o ddwylo dynion treisgar. Felly, O ARGLWYDD, bydda i'n dy foli di o flaen y cenhedloedd ac yn canu mawl i dy enw: Mae'n rhoi buddugoliaeth i'w frenin — un fuddugoliaeth fawr ar ôl y llall! Mae'n aros yn ffyddlon i'w eneiniog — i Dafydd, ac i'w ddisgynyddion am byth. I'r arweinydd cerdd: Salm Dafydd. [1] Mae'r nefoedd yn dangos ysblander Duw, a'r awyr yn dweud am grefftwaith ei ddwylo. Mae'r neges yn mynd allan bob dydd; mae i'w weld yn amlwg bob nos! Does dim llais go iawn, na geiriau, na dim i'w glywed yn llythrennol. Ond mae pawb wedi clywed beth maen nhw'n ddweud; a'r neges wedi mynd i ben draw'r byd! Cododd babell i'r haul yn yr awyr. Mae'n dod allan fel priodfab o'i ystafell; neu athletwr yn frwd i redeg ras. Mae'n codi ar y gorwel, ac yn symud o un pen i'r llall. Does dim yn gallu cuddio rhag ei wres. Mae dysgeidiaeth yr ARGLWYDD yn berffaith — mae'n rhoi bywyd newydd i mi! Mae rheolau yr ARGLWYDD yn glir ac yn gwneud y person mwyaf cyffredin yn ddoeth. Mae cyngor yr ARGLWYDD yn dangos beth sy'n iawn ac yn gwneud y galon yn llawen. Mae arweiniad yr ARGLWYDD yn bur ac yn ein goleuo ni. Mae'r gorchymyn i barchu'r ARGLWYDD yn glir ac yn aros bob amser. Mae dyfarniad yr ARGLWYDD yn gywir — mae e'n gwbl deg bob amser. Mae'r pethau yma'n fwy gwerthfawr nag aur — ie, llwythi o aur coeth! Maen nhw'n felysach na'r mêl sy'n diferu o'r diliau. Ydyn, maen nhw'n rhoi goleuni i dy was; ac mae gwobr fawr i'r rhai sy'n ufuddhau. Ond pwy sy'n gweld ei feiau ei hun? O, maddau i mi pan dw i'n pechu heb yn wybod, a cadw fi rhag pechu'n fwriadol. Paid gadael i bechod reoli fy mywyd i. Yna byddaf yn ddi-fai, a dieuog o droseddu yn dy erbyn. Gad i'r cwbl dw i'n ei ddweud a'i feddwl dy blesio di, O ARGLWYDD, fy nghraig a'm hachubwr. I'r arweinydd cerdd: Salm Dafydd. [1] Boed i'r ARGLWYDD dy ateb pan wyt mewn trafferthion; boed i Dduw Jacob dy gadw di'n saff. Boed iddo anfon help o'r cysegr, a rhoi nerth i ti o Seion. Boed iddo gofio dy holl offrymau, a derbyn dy offrymau sydd i'w llosgi. Saib Boed iddo roi i ti beth wyt ti eisiau, a dod â dy gynlluniau di i gyd yn wir. Wedyn byddwn yn bloeddio'n llawen am dy fod wedi ennill y frwydr! Byddwn yn codi baner i enw ein Duw. Boed i'r ARGLWYDD roi i ti bopeth wyt ti'n gofyn amdano! Dw i'n gwybod y bydd yr ARGLWYDD yn achub ei eneiniog, y brenin. Bydd yn ei ateb o'r cysegr yn y nefoedd ac yn rhoi buddugoliaeth ryfeddol iddo, trwy ei nerth. Mae rhai yn brolio yn eu cerbydau rhyfel a'u meirch, ond dŷn ni'n brolio'r ARGLWYDD ein Duw. Byddan nhw'n syrthio ar lawr, ond byddwn ni'n sefyll yn gadarn. Bydd yr ARGLWYDD yn achub y brenin. Bydd yn ateb pan fyddwn ni'n galw arno. I'r arweinydd cerdd: Salm Dafydd. [1] O ARGLWYDD, mae'r brenin yn llawen am dy fod ti'n ei nerthu; mae'n gorfoleddu'n fawr am dy fod yn rhoi'r fuddugoliaeth iddo! Ti wedi rhoi iddo beth oedd e eisiau, wnest ti ddim gwrthod beth oedd e'n gofyn amdano. Saib Ti'n ei fendithio â phopeth da, ac yn gosod coron o aur pur ar ei ben. Gofynnodd i ti ei gadw'n fyw, a dyma ti'n rhoi bywyd iddo — bywyd hir a llinach brenhinol fydd yn aros. Mae'n enwog am dy fod wedi rhoi'r fuddugoliaeth iddo. Ti wedi rhoi iddo ysblander ac urddas. Ti wedi rhoi bendithion fydd yn para am byth, a'r boddhad a'r llawenydd o fod yn dy gwmni. Ydy, mae'r brenin yn trystio'r ARGLWYDD. Mae'n gwybod fod y Duw Goruchaf yn ffyddlon, felly fydd dim byd yn ei ysgwyd. Byddi'n llwyddo i ddal dy holl elynion; byddi'n rhy gryf i'r rhai sy'n dy gasáu. Pan fyddi'n dod i'r golwg byddi'n eu llosgi nhw mewn ffwrnais. Mae'r ARGLWYDD yn ddig, a bydd yn eu dinistrio nhw; bydd tân yn eu llosgi nhw. Byddi'n cael gwared â'u disgynyddion o'r ddaear; byddan nhw'n diflannu o blith y ddynoliaeth. Roedden nhw eisiau gwneud niwed i ti; roedd ganddyn nhw gynllun ond allen nhw byth lwyddo. Ti'n gwneud iddyn nhw droi yn ôl drwy gymryd dy fwa ac anelu dy saethau atyn nhw. Cod, ARGLWYDD! Dangos dy nerth! Byddwn yn canu mawl i ti am wneud pethau mor fawr. I'r arweinydd cerdd: Ar yr alaw ‛Ewig y wawr‛. Salm Dafydd. [1] Fy Nuw, fy Nuw, pam rwyt ti wedi troi dy gefn arna i? Dw i'n griddfan mewn poen, pam rwyt ti ddim yn fy achub i? Fy Nuw, dw i'n galw arnat ti drwy'r dydd, ond dwyt ti ddim yn ateb. Dw i'n dal ati drwy'r nos heb orffwys o gwbl. Ti ydy'r Duw Sanctaidd! Rwyt ti'n eistedd ar dy orsedd, ac yn derbyn mawl pobl Israel. Ti oedd ein hynafiaid ni'n ei drystio. Roedden nhw'n dy drystio di a dyma ti'n eu hachub nhw. Dyma nhw'n gweiddi arnat ti a llwyddo i ddianc; Roedden nhw wedi dy drystio di, a chawson nhw mo'i siomi. Dw i'n neb. Pryf ydw i, nid dyn! Dw i'n cael fy wfftio gan bobl, a'm dirmygu. Dw i'n destun sbort i bawb. Maen nhw'n gwneud ystumiau arna i, ac yn ysgwyd eu pennau. “Mae e wedi trystio'r ARGLWYDD; felly gadewch i'r ARGLWYDD ei achub, a'i ollwng e'n rhydd! Mae e mor hoff ohono!” Ti ddaeth â fi allan o'r groth. Ti wnaeth i mi deimlo'n saff ar fron fy mam. Dw i wedi dibynnu arnat ti o'r dechrau cyntaf. Ti ydy fy Nuw i ers i mi gael fy ngeni. Paid cadw draw! Mae helyntion gerllaw a does gen i neb i'm helpu. Mae teirw o'm cwmpas ym mhobman. Mae teirw cryfion Bashan yn fy mygwth. Maen nhw'n barod i'm llyncu i, fel llewod yn rhuo ac yn rhwygo ysglyfaeth. Dw i bron marw! Mae fy esgyrn i gyd wedi dod o'u lle, ac mae fy nghalon yn wan fel cwyr yn toddi tu mewn i mi. Mae fy egni wedi sychu fel potyn pridd. Mae fy nhafod wedi glynu i dop fy ngheg. Rwyt wedi fy rhoi i lwch marwolaeth. Mae cŵn wedi casglu o'm cwmpas! Criw o fwlis yn cau amdana i ac yn fy nal i lawr gerfydd fy nwylo a'm traed. Dw i'n ddim byd ond swp o esgyrn, ac maen nhw'n syllu arna i a chwerthin. Maen nhw'n rhannu fy nillad rhyngddyn nhw, ac yn gamblo am fy nghrys. O ARGLWYDD, paid ti cadw draw! Ti sy'n rhoi nerth i mi! Brysia! Helpa fi! Achub fi rhag y cleddyf! Achub fy mywyd o afael y cŵn! Gad i mi ddianc oddi wrth y llew! Achub fi rhag cyrn yr ych gwyllt! Ateb fi! Bydda i'n dweud wrth fy mrodyr sut un wyt ti; ac yn canu mawl i ti gyda'r rhai sy'n dy addoli. Ie, chi sy'n addoli'r ARGLWYDD, canwch fawl iddo! Chi ddisgynyddion Jacob, anrhydeddwch e! Chi bobl Israel i gyd, safwch o'i flaen mewn rhyfeddod! Wnaeth e ddim dirmygu na diystyru cri'r anghenus; Wnaeth e ddim troi ei gefn arno. Pan oedd yn gweiddi am help, gwrandawodd Duw. Dyna pam dw i'n dy foli di yn y gynulleidfa fawr; ac yn cadw fy addewidion o flaen y rhai sy'n dy addoli. Bydd yr anghenus yn bwyta ac yn cael digon! Bydd y rhai sy'n dilyn yr ARGLWYDD yn canu mawl iddo — Byddwch yn llawen bob amser! Bydd pobl drwy'r byd i gyd yn gwrando ac yn troi at yr ARGLWYDD. Bydd pobl y gwledydd i gyd yn ei addoli, am mai'r ARGLWYDD ydy'r Brenin! Fe sy'n teyrnasu dros y cenhedloedd. Bydd pawb sy'n iach yn plygu i'w addoli; a phawb sydd ar fin marw — ar wely angau — yn plygu glin o'i flaen! [30-31] Bydd plant yn ei wasanaethu; a bydd enw'r ARGLWYDD yn cael ei gyhoeddi i'r genhedlaeth sydd i ddod. Byddan nhw'n dweud am ei gyfiawnder wrth y rhai sydd ddim eto wedi eu geni! Ie, dweud beth mae e wedi ei wneud! Salm Dafydd. [1] Yr ARGLWYDD ydy fy mugail i; mae gen i bopeth dw i angen. Mae'n mynd â fi i orwedd mewn porfa hyfryd; ac yn fy arwain at ddŵr glân sy'n llifo'n dawel. Mae'n rhoi bywyd newydd i mi, ac yn dangos i mi'r ffordd iawn i fynd. Ydy, mae e'n enwog am ei ofal. Hyd yn oed mewn ceunant tywyll dychrynllyd, fydd gen i ddim ofn, am dy fod ti gyda mi. Mae dy ffon a dy bastwn yn fy amddiffyn i. Rwyt ti'n paratoi gwledd i mi ac mae fy ngelynion yn gorfod gwylio. Rwyt ti'n tywallt olew ar fy mhen. Mae gen i fwy na digon! Bydd dy ddaioni a dy ofal ffyddlon gyda mi weddill fy mywyd. A byddaf yn byw eto yn nhŷ'r ARGLWYDD am byth. Salm Dafydd. [1] Yr ARGLWYDD piau'r ddaear a phopeth sydd ynddi; y byd, a phawb sy'n byw ynddo. Mae wedi gosod ei sylfeini ar y moroedd, a'i sefydlu ar ffrydiau'r dyfnder. Pwy sy'n cael dringo mynydd yr ARGLWYDD? Pwy sy'n cael sefyll yn ei deml sanctaidd? — Yr un sy'n gwneud beth sy'n iawn a'i gymhellion yn bur; yr un sydd ddim yn twyllo neu'n addo rhywbeth heb fwriadu ei gyflawni. Mae'r ARGLWYDD yn bendithio pobl felly; byddan nhw'n cael eu derbyn i berthynas iawn gyda'r Duw sy'n achub. Dyma'r math o bobl sy'n cael troi ato: y rhai sydd eisiau dy gwmni di, O Dduw Jacob. Saib Giatiau'r ddinas, edrychwch! Agorwch, chi ddrysau tragwyddol, er mwyn i'r Brenin gwych gael dod i mewn! Pwy ydy'r Brenin gwych yma? — yr ARGLWYDD, cryf a dewr, yr ARGLWYDD sy'n ennill pob brwydr! Giatiau'r ddinas, edrychwch! Agorwch, chi ddrysau tragwyddol, er mwyn i'r Brenin gwych gael dod i mewn! Pwy ydy'r Brenin gwych yma? — Yr ARGLWYDD holl-bwerus! Fe ydy'r Brenin gwych! Saib Salm Dafydd. [1] O ARGLWYDD, dw i'n troi atat ti mewn gweddi. Fy Nuw, dw i'n dy drystio di; paid â'm siomi; paid gadael i'm gelynion gael hwyl ar fy mhen. Does neb sy'n dy drystio di yn cael ei siomi. Y rhai sy'n twyllo fydd yn methu, nhw fydd yn cael eu siomi! Dw i eisiau dy ddilyn di, ARGLWYDD; dysga dy ffyrdd i mi. Arwain fi ar y ffordd iawn a dysga fi, achos ti ydy'r Duw sy'n fy achub i. Dw i'n dibynnu arnat ti bob amser. O ARGLWYDD, cofia dy fod yn Dduw trugarog a ffyddlon — un felly wyt ti wedi bod erioed! Paid dal yn fy erbyn y pechodau a'r holl bethau wnes i o'i le pan oeddwn i'n ifanc. Bydd yn garedig ata i, ARGLWYDD; rwyt ti'n Dduw mor ffyddlon. Mae'r ARGLWYDD yn dda ac yn hollol deg, felly mae e'n dangos i bechaduriaid sut dylen nhw fyw. Mae'n dangos y ffordd iawn i'r rhai sy'n plygu iddo ac yn eu dysgu nhw sut i fyw. Mae'r ARGLWYDD bob amser yn ffyddlon, ac mae'r rhai sy'n cadw amodau'r ymrwymiad wnaeth e yn gallu dibynnu'n llwyr arno. Er mwyn dy enw da, O ARGLWYDD, maddau'r holl ddrwg dw i wedi ei wneud — mae yna gymaint ohono! Mae'r ARGLWYDD yn dangos i'r rhai sy'n ffyddlon iddo sut dylen nhw fyw. Byddan nhw'n mwynhau bywyd, a bydd eu plant yn etifeddu'r tir. Mae'r ARGLWYDD yn rhoi arweiniad i'w ddilynwyr ffyddlon; ac mae'n dysgu iddyn nhw oblygiadau'r ymrwymiad wnaeth e. Dw i'n troi at yr ARGLWYDD am help bob amser, am mai fe sy'n fy ngollwng i'n rhydd o rwyd y gelyn. Tyrd ata i, bydd yn garedig a helpa fi, dw i ar fy mhen fy hun, ac yn dioddef. Achub fi o'r helbul dw i ynddo; gollwng fi'n rhydd o'r argyfwng yma. Edrych arna i'n dioddef mewn poen! Maddau fy holl bechodau! Edrych gymaint o elynion sydd gen i! Maen nhw'n fy nghasáu i, ac am wneud niwed i mi! Amddiffyn fi, ac achub fi! Paid gadael i mi gael fy siomi, achos dw i wedi troi atat ti am loches. Amddiffyn fi, am fy mod i'n onest ac yn agored hefo ti; dw i'n dibynnu arnat ti, ARGLWYDD! O Dduw, gollwng Israel yn rhydd o'i holl drafferthion! Salm Dafydd. [1] Achub fy ngham, O ARGLWYDD, dw i wedi bod yn onest. Dw i wedi dy drystio di ARGLWYDD bob amser. Archwilia fi, ARGLWYDD; gosod fi ar brawf! Treiddia i'm meddwl a'm cydwybod. Dw i'n gwybod mor ffyddlon wyt ti — a dyna sydd yn fy ysgogi i fynd ymlaen. Dw i ddim yn derbyn cyngor gan bobl sy'n twyllo, nac yn cymysgu gyda rhai sy'n anonest. Dw i'n casáu cwmni dynion drwg, ac yn gwrthod cyngor pobl felly. Dw i'n golchi fy nwylo'n lân, ac am gerdded o gwmpas dy allor, O ARGLWYDD. Dw i eisiau diolch i ti, a dweud am y pethau rhyfeddol wnest ti. O ARGLWYDD, dw i'n caru'r deml lle rwyt ti'n byw; y fan lle mae dy ysblander i'w weld. Paid ysgubo fi i ffwrdd gyda phechaduriaid, na'm lladd gyda'r bobl dreisgar sydd bob amser yn cynllwyn rhyw ddrwg, neu'n barod i gynnig breib. Dw i wedi bod yn onest. Gollwng fi'n rhydd! Bydd yn garedig ata i! Dw i'n gwybod fy mod i'n saff. Bydda i'n addoli'r ARGLWYDD eto gyda'i bobl. Salm Dafydd. [1] Mae'r ARGLWYDD yn rhoi golau i mi, ac yn fy achub i; does gen i ofn neb. Mae'r ARGLWYDD fel caer yn fy amddiffyn i, does neb yn fy nychryn. Pan oedd dynion drwg yn ymosod arna i i'm llarpio fel ysglyfaeth — nhw (y gelynion oedd yn fy nghasáu), ie, nhw wnaeth faglu a syrthio. Petai byddin gyfan yn dod yn fy erbyn i, fyddai gen i ddim ofn. Petai rhyfel ar fin torri allan, byddwn i'n gwbl hyderus. Gofynnais i'r ARGLWYDD am un peth — dyma beth dw i wir eisiau: Dw i eisiau aros yn nhŷ'r ARGLWYDD am weddill fy mywyd; i ryfeddu ar haelioni'r ARGLWYDD, a myfyrio yn ei deml. Bydd e'n fy nghuddio i pan dw i mewn perygl; bydda i'n saff yn ei babell; Bydd yn fy ngosod i ar graig ddiogel, allan o gyrraedd y gelyn. Bydda i'n ennill y frwydr yn erbyn y gelynion sydd o'm cwmpas. Bydda i'n cyflwyno aberthau i Dduw, ac yn gweiddi'n llawen. Bydda i'n canu a chyfansoddi cerddoriaeth i foli'r ARGLWYDD. O ARGLWYDD, gwranda arna i'n galw arnat ti. Bydd yn garedig ata i! Ateb fi! Dw i'n gwybod dy fod ti'n dweud, “Ceisiwch fi!” Felly ARGLWYDD, dw i'n dy geisio di! Paid troi cefn arna i! Paid gwthio fi i ffwrdd. Ti sy'n gallu fy helpu i! Paid gwrthod fi! Paid â'm gadael i. O Dduw, ti ydy'r un sy'n fy achub i! Hyd yn oed petai dad a mam yn troi cefn arna i, byddai'r ARGLWYDD yn gofalu amdana i. Dangos i mi sut rwyt ti eisiau i mi fyw, O ARGLWYDD. Arwain fi ar hyd y llwybr iawn, achos mae'r rhai sy'n fy nghasáu yn fy ngwylio i. Paid gadael i'm gelynion i gael eu ffordd. Mae tystion celwyddog yn codi ac yn tystio yn fy erbyn i. Ond dw i'n gwybod yn iawn y bydda i'n profi daioni'r ARGLWYDD ar dir y byw! Gobeithia yn yr ARGLWYDD! Bydd yn ddewr ac yn hyderus! Ie, gobeithia yn yr ARGLWYDD! Salm Dafydd. [1] O ARGLWYDD, arnat ti dw i'n galw! Paid diystyru fi — ti ydy fy nghraig i. Os gwnei di ddim ateb bydda i'n siŵr o ddisgyn i'r bedd! Gwranda arna i'n galw — dw i'n erfyn am drugaredd! Dw i'n estyn fy nwylo at dy deml sanctaidd. Paid llusgo fi i ffwrdd gyda'r rhai drwg, y bobl hynny sy'n gwneud dim byd ond drwg. Maen nhw'n dweud pethau sy'n swnio'n garedig ond does dim byd ond malais yn y galon. Tala yn ôl iddyn nhw am wneud y fath beth! Rho iddyn nhw beth maen nhw'n ei haeddu! Cosba nhw! Dŷn nhw ddim yn deall y ffordd mae'r ARGLWYDD yn gweithio. Bydd e'n eu bwrw nhw i lawr, a fyddan nhw byth yn codi eto! Bendith ar yr ARGLWYDD! Ydy, mae e wedi gwrando arna i yn erfyn am drugaredd! Mae'r ARGLWYDD yn rhoi nerth i mi; mae e'n darian i'm hamddiffyn. Dw i'n ei drystio fe'n llwyr. Daeth i'm helpu, a dw i wrth fy modd! Felly dw i'n mynd i ganu mawl iddo! Mae'r ARGLWYDD yn gwneud ei bobl yn gryf. Mae e fel caer yn amddiffyn ac yn achub ei eneiniog, y brenin. Achub dy bobl! Bendithia dy bobl sbesial! Gofala amdanyn nhw fel bugail a'u cario yn dy freichiau bob amser! Salm Dafydd. [1] Dewch angylion! Cyhoeddwch! Cyhoeddwch mor wych ac mor gryf ydy'r ARGLWYDD! Cyhoeddwch mor wych ydy ei enw da! Plygwch i addoli'r ARGLWYDD sydd mor hardd yn ei gysegr. Mae llais yr ARGLWYDD i'w glywed uwchben y dŵr — sŵn y Duw gwych yn taranu. Mae'r ARGLWYDD yn taranu uwchben y dyfroedd mawr. Mae llais yr ARGLWYDD yn rymus. Mae llais yr ARGLWYDD yn urddasol. Mae llais yr ARGLWYDD yn dryllio'r cedrwydd; mae e'n dryllio coed cedrwydd Libanus. Mae'n gwneud i Libanus brancio fel llo; a Sirion fel ych gwyllt ifanc. Mae llais yr ARGLWYDD fel mellt yn fflachio. Mae llais yr ARGLWYDD yn ysgwyd yr anialwch; mae'r ARGLWYDD yn ysgwyd anialwch Cadesh. Mae llais yr ARGLWYDD yn plygu'r coed mawrion, ac yn tynnu'r dail oddi ar y fforestydd. Ac yn ei deml mae pawb yn gweiddi “Rwyt ti'n wych!” Mae'r ARGLWYDD ar ei orsedd uwchben y llifogydd. Mae'r ARGLWYDD yn Frenin ar ei orsedd am byth. Mae'r ARGLWYDD yn gwneud ei bobl yn gryf. Mae'r ARGLWYDD yn rhoi heddwch i'w bobl. Salm Dafydd. Cân ar gyfer cysegru'r deml. [1] Dw i'n dy ganmol di, O ARGLWYDD, am i ti fy nghodi ar fy nhraed; wnest ti ddim gadael i'm gelynion ddathlu. O ARGLWYDD, fy Nuw, gwaeddais arnat ti a dyma ti'n fy iacháu i. O ARGLWYDD, codaist fi allan o fyd y meirw; a'm cadw rhag disgyn i'r bedd. Canwch i'r ARGLWYDD, chi sy'n ei ddilyn yn ffyddlon, a'i foli wrth gofio mor sanctaidd ydy e! Dim ond am foment mae e'n ddig. Pan mae'n dangos ei ffafr mae'n rhoi bywyd. Gall rhywun fod yn crïo wrth fynd i orwedd gyda'r nos; ond erbyn y bore mae pawb yn dathlu'n llawen. Roedd popeth yn mynd yn dda a minnau'n meddwl, “All dim byd fynd o'i le.” Pan oeddet ti'n dangos dy ffafr, ARGLWYDD, roeddwn i'n gadarn fel y graig. Ond dyma ti'n troi dy gefn arna i, ac roedd arna i ofn am fy mywyd. Dyma fi'n galw arnat ti, ARGLWYDD, ac yn pledio arnat ti fy Meistr: “Beth ydy'r pwynt os gwna i farw, a disgyn i'r bedd? Fydd fy llwch i'n gallu dy foli di? Fydd e'n gallu sôn am dy ffyddlondeb? Gwranda arna i, ARGLWYDD, dangos drugaredd ata i. O ARGLWYDD, helpa fi!” Yna dyma ti'n troi fy nhristwch yn ddawns; tynnu'r sachliain a rhoi gwisg i mi ddathlu! Felly dw i'n mynd i ganu i ti gyda'm holl galon — wna i ddim tewi! O ARGLWYDD fy Nuw, bydda i'n dy foli di bob amser. I'r arweinydd cerdd: Salm Dafydd. [1] Dw i'n troi atat ti am loches, O ARGLWYDD; paid gadael i mi gael fy siomi. Rwyt ti'n gyfiawn, felly achub fi. Gwranda arna i! Achub fi'n fuan! Bydd yn graig ddiogel i mi, yn gaer lle bydda i'n hollol saff. Ti ydy'r graig ddiogel yna; ti ydy'r gaer. Cadw dy enw da, dangos y ffordd i mi ac arwain fi. Rhyddha fi o'r rhwyd sydd wedi ei gosod i'm dal i, Ie, ti ydy fy lle diogel i. Dw i'n rhoi fy mywyd yn dy ddwylo di. Dw i'n gwybod y gwnei di fy rhyddhau i achos ti, o ARGLWYDD, ydy'r Duw ffyddlon. Dw i'n casáu'r rhai sy'n addoli eilunod diwerth; ond dw i'n dy drystio di, ARGLWYDD. Bydda i'n dathlu'n llawen am dy fod ti wedi bod yn ffyddlon. Ti wedi gweld mor anodd mae hi arna i ac yn gwybod am yr argyfwng dw i ynddo, Paid gadael i'r gelyn fy nal i; gad i mi ddianc i le agored. Helpa fi, O ARGLWYDD, mae hi'n argyfwng arna i. Mae fy llygaid wedi mynd yn wan gan flinder — fy nghorff i gyd i ddweud y gwir. Dw i'n cael fy llethu gan boen; mae fy mlynyddoedd yn dod i ben mewn tuchan. Mae pechod wedi fy ngwneud i'n wan, ac mae fy esgyrn yn frau. Mae'r holl elynion sydd gen i yn gwneud hwyl ar fy mhen. Mae fy ffrindiau yn arswydo; mae pobl yn cadw draw pan maen nhw'n fy ngweld i ar y stryd. Maen nhw wedi anghofio amdana i, fel petawn i wedi marw! Dw i'n dda i ddim, fel jar sydd wedi torri. Dw i'n clywed beth maen nhw'n ei sibrwd, a'r straeon ofnadwy sy'n dod o bob cyfeiriad. Maen nhw'n cynllwynio yn fy erbyn i; maen nhw eisiau fy lladd i. Ond dw i'n dy drystio di, O ARGLWYDD. Dw i'n datgan yn glir, “Ti ydy fy Nuw i!” Dw i yn dy ddwylo di achub fi o afael y gelynion sydd ar fy ôl i. Bydd yn garedig at dy was. Dangos mor ffyddlon wyt ti! Achub fi! O ARGLWYDD, paid â'm siomi pan dw i'n galw arnat. Gwna i'r rhai drwg gael eu siomi! Cau eu cegau nhw unwaith ac am byth! Rho daw ar y rhai sy'n dweud celwydd; y bobl hynny sy'n herio'r rhai sy'n byw'n iawn ac mor haerllug a dirmygus ohonyn nhw. Ond mae gen ti gymaint o bethau da i'w rhoi i'r rhai sy'n dy addoli di. O flaen pawb, byddi'n rhoi'r cwbl iddyn nhw, sef y rhai sy'n troi atat ti am loches. Rwyt ti gyda nhw, ac yn ei cuddio rhag y dynion sy'n cynllwynio yn eu herbyn. Ti'n cysgodi drostyn nhw ac maen nhw'n saff rhag y tafodau miniog sy'n ymosod. Bendith ar yr ARGLWYDD! Mae wedi bod yn anhygoel o ffyddlon pan oedd y gelynion yn ymosod. Ro'n i mewn panig, ac yn meddwl, “Dwyt ti ddim yn gweld beth sy'n digwydd i mi!” Ond na, pan oeddwn i'n crefu am help roeddet ti wedi clywed. Felly carwch yr ARGLWYDD, chi sy'n ei ddilyn yn ffyddlon! Mae'r ARGLWYDD yn amddiffyn y rhai sy'n ffyddlon iddo, ond mae'n talu'n ôl yn llawn i'r rhai sy'n haerllug. Byddwch yn ddewr a hyderus, chi sy'n credu y bydd yr ARGLWYDD yn eich ateb chi. Salm Dafydd. Mascîl. [1] Mae'r un sydd wedi cael maddeuant am ei wrthryfel wedi ei fendithio'n fawr, mae ei bechodau wedi eu symud o'r golwg am byth. Mae'r un dydy'r ARGLWYDD ddim yn dal ati i gyfri ei fai yn ei erbyn wedi ei fendithio'n fawr — yr un sydd heb dwyll yn agos i'w galon. Pan oeddwn i'n cadw'n ddistaw am y peth, roedd fy esgyrn yn troi'n frau ac roeddwn i'n tuchan mewn poen drwy'r dydd. Roeddet ti'n fy mhoenydio i nos a dydd; doedd gen i ddim egni, fel pan mae'r gwres yn llethol yn yr haf. Saib Ond wedyn dyma fi'n cyfaddef fy mhechod. Wnes i guddio dim byd. “Dw i'n mynd i gyffesu'r cwbl i'r ARGLWYDD” meddwn i, ac er fy mod i'n euog dyma ti'n maddau'r cwbl. Saib Felly, pan mae rhywun sy'n dy ddilyn di'n ffyddlon yn darganfod ei fod wedi pechu, dylai weddïo arnat ti; rhag i'r dyfroedd peryglus ei ysgubo i ffwrdd. Ti ydy'r lle saff i mi guddio! Ti'n fy amddiffyn i rhag trafferthion. Mae pobl o'm cwmpas yn dathlu'n llawen am dy fod ti wedi achub. Saib Gadewch i mi ddangos y ffordd i chi, a'ch helpu chi i wybod sut i fyw. Gadewch i mi roi cyngor i chi, wyneb yn wyneb. Peidiwch bod yn ystyfnig fel mul sy'n gwrthod bod yn ufudd, neu geffyl sydd angen ffrwyn i gadw rheolaeth arno. Mae pobl ddrwg yn mynd i ddioddef yn fawr, ond mae'r ARGLWYDD yn hollol ffyddlon i'r rhai sy'n ei drystio fe. Felly chi sy'n gwneud beth sy'n iawn, Dathlwch beth mae'r ARGLWYDD wedi ei wneud! Gorfoleddwch! Bloeddiwch yn llawen, bawb sy'n byw'n gywir! Chi rai cyfiawn, canwch yn llawen i'r ARGLWYDD! Mae'n beth da i'r rhai sy'n byw'n gywir ei foli. Molwch yr ARGLWYDD gyda'r delyn; canwch iddo ar yr offeryn dectant. Canwch gân newydd iddo i gyfeiliant hyfryd a bwrlwm llawenydd. Achos mae beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud yn iawn; ac mae'r cwbl mae'n ei wneud yn gywir. Mae e'n caru beth sy'n deg ac yn gyfiawn; ac mae ei ofal ffyddlon i'w weld drwy'r byd i gyd. Dwedodd y gair, a dyma'r awyr yn cael ei chreu. Anadlodd, a daeth y sêr a'r planedau i fod. Mae e'n casglu dŵr y moroedd yn bentwr, ac yn ei gadw yn ei stordai. Dylai'r byd i gyd barchu'r ARGLWYDD! Dylai pob person byw ei ofni! Siaradodd, a digwyddodd y peth; rhoddodd orchymyn, a dyna fu. Mae'r ARGLWYDD yn drysu cynlluniau'r cenhedloedd, ac yn rhwystro bwriadau pobloedd. Beth mae'r ARGLWYDD yn ei fwriadu sy'n aros. Mae ei gynlluniau e yn para ar hyd y cenedlaethau. Mae'r genedl sydd a'r ARGLWYDD yn Dduw iddi wedi ei bendithio'n fawr, sef y bobl hynny mae wedi eu dewis yn eiddo iddo'i hun. Mae'r ARGLWYDD yn edrych i lawr o'r nefoedd; ac mae'n gweld y ddynoliaeth gyfan. Mae'n syllu i lawr o'i orsedd ar bawb sy'n byw ar y ddaear. Mae wedi gwneud pawb yn wahanol, ac mae'n sylwi ar bopeth maen nhw'n ei wneud. Nid byddin fawr sy'n achub y brenin; na'i gryfder ei hun sy'n achub milwr dewr. Dydy march rhyfel ddim yn gallu ennill brwydr; er ei fod mor gryf, dydy e ddim yn gallu achub. Yr ARGLWYDD sy'n gofalu am ei bobl, sef y rhai sy'n credu ei fod e'n ffyddlon. Fe sy'n eu harbed nhw rhag cael eu lladd, ac yn eu cadw nhw'n fyw mewn cyfnod o newyn. Mae'n gobaith ni yn yr ARGLWYDD! Fe sy'n ein helpu ni, ac yn darian i'n hamddiffyn. Fe sy'n ein gwneud ni mor llawen! Dŷn ni'n credu yn ei enw sanctaidd e. O ARGLWYDD, gad i ni brofi dy haelioni, gan ein bod wedi credu ynot ti. Salm gan Dafydd. Smaliodd ei fod yn wallgof o flaen y brenin Abimelech. Cafodd ei anfon allan, ac aeth i ffwrdd yn saff. [1] Dw i am ganmol yr ARGLWYDD bob amser; a'i foli'n ddi-baid! Dw i am frolio'r ARGLWYDD! Bydd y rhai sy'n cael eu cam-drin yn clywed ac yn llawenhau! Dewch i ganmol yr ARGLWYDD gyda mi! Gadewch i ni ei foli gyda'n gilydd! Ro'n i wedi troi at yr ARGLWYDD am help, ac atebodd fi. Achubodd fi o'm holl ofnau. Mae'r rhai sy'n troi ato yn wên i gyd; does dim mymryn o gywilydd ar eu hwynebau. Dyma i chi ddyn anghenus wnaeth alw arno, a dyma'r ARGLWYDD yn gwrando ac yn ei achub o'i holl drafferthion. Mae angel yr ARGLWYDD fel byddin yn amddiffyn y rhai sy'n ei ddilyn yn ffyddlon, ac mae'n eu hachub nhw. Profwch drosoch eich hunain mor dda ydy'r ARGLWYDD! Mae'r rhai sy'n troi ato am loches wedi eu bendithio'n fawr! Arhoswch yn ffyddlon i'r ARGLWYDD, chi sydd wedi eich dewis ganddo, mae gan y rhai sy'n ffyddlon iddo bopeth sydd arnyn nhw ei angen! Mae llewod ifanc yn gallu bod heb fwyd ac yn llwgu weithiau, ond fydd dim angen ar y rhai hynny sy'n troi at yr ARGLWYDD am help. Dewch, blant, gwrandwch arna i. Dysga i chi beth mae parchu'r ARGLWYDD yn ei olygu. Ydych chi eisiau mwynhau bywyd? Ydych chi eisiau byw yn hir a bod yn llwyddiannus? Rhaid i chi reoli'ch tafod a stopio twyllo! Troi cefn ar ddrwg a gwneud beth sy'n dda; a gwneud eich gorau i gael perthynas dda gyda phawb. Mae'r ARGLWYDD yn gofalu am y rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn, ac yn gwrando'n astud pan maen nhw'n galw arno. Ond mae e yn erbyn y rhai sy'n gwneud drygioni — bydd yn cael gwared â phob atgof ohonyn nhw o'r ddaear. Pan mae'r rhai sy'n byw'n iawn yn gweiddi am help, mae'r ARGLWYDD yn gwrando, ac yn eu hachub nhw o'u holl drafferthion. Mae'r ARGLWYDD yn agos at y rhai sydd wedi torri eu calonnau. Mae e'n achub y rhai sydd wedi anobeithio. Mae'r rhai sy'n byw yn iawn yn wynebu pob math o helyntion, ond bydd yr ARGLWYDD yn eu hachub nhw drwy'r cwbl! Mae'n amddiffyn eu hesgyrn, fydd dim un yn cael ei dorri! Mae pobl ddrwg yn cael eu dinistrio gan eu drygioni eu hunain. Bydd y rhai sy'n casáu pobl dduwiol yn cael eu cosbi. Ond mae'r rhai sy'n gwasanaethu'r ARGLWYDD yn cael mynd yn rhydd! Fydd y rhai sy'n troi ato fe am loches ddim yn cael eu cosbi! Salm Dafydd. [1] O ARGLWYDD, delia gyda'r rhai sy'n ymladd yn fy erbyn! Ymosod ar y rhai sy'n ymosod arna i! Coda dy darian fach a'r un fawr, a tyrd yma i'm helpu i! Defnyddia dy waywffon a dy bicell yn erbyn y rhai sydd ar fy ôl i. Gad i mi dy glywed di'n dweud, “Gwna i dy achub di!” Rhwystra'r rhai sydd am fy lladd i; coda gywilydd arnyn nhw! Gwna i'r rhai sydd eisiau gwneud niwed i mi droi'n ôl mewn dychryn. Gwna nhw fel us yn cael ei chwythu i ffwrdd gan y gwynt wrth i angel yr ARGLWYDD ymosod arnyn nhw! Pan fydd angel yr ARGLWYDD yn mynd ar eu holau, gwna eu llwybr nhw yn dywyll ac yn llithrig! Roedden nhw wedi gosod rhwyd i'm dal i, a hynny am ddim rheswm! Roedden nhw wedi cloddio twll i mi ddisgyn iddo. Gwna i drychineb annisgwyl ddod ar eu traws nhw! Gad iddyn nhw gael eu dal yn eu rhwyd eu hunain! Gwna iddyn nhw ddisgyn i lawr i dwll dinistr! Bydda i, wedyn, yn gallu moli'r ARGLWYDD, a llawenhau am ei fod wedi fy achub i! Bydd y cwbl ohona i'n datgan, “Pwy sy'n debyg i ti, ARGLWYDD? Ti'n achub y gwan rhag un sy'n rhy gryf iddo — achub y gwan a'r diamddiffyn rhag yr un sydd am ddwyn oddi arno.” Mae tystion celwyddog yn codi ac yn fy nghyhuddo i ar gam. Maen nhw'n talu drwg i mi am yr holl ddaioni wnes i! Maen nhw eisiau gweld diwedd arna i. Pan oedden nhw'n sâl roeddwn i'n gwisgo sachliain, ac yn mynd heb fwyd yn fwriadol. Roeddwn i'n gweddïo drostyn nhw yn ddi-baid. Roeddwn i'n cerdded o gwmpas yn galaru fel y byddwn i'n galaru dros ffrind neu frawd. Roeddwn i'n dal fy mhen yn isel fel un yn galaru ar ôl ei fam. Ond roedden nhw wrth eu boddau pan wnes i faglu! Dyma nhw'n dod at ei gilydd yn fy erbyn — wn i ddim pam — roedden nhw'n llarpio fel anifeiliaid gwylltion. Dynion annuwiol yn gwawdio am sbort, ac yn ceisio dangos eu dannedd! O ARGLWYDD, am faint wyt ti'n mynd i sefyll yna'n gwylio'r cwbl? Achub fi wrth iddyn nhw ymosod arna i; cadw fi'n saff oddi wrth y llewod ifanc! Wedyn bydda i'n diolch i ti yn y gynulleidfa fawr! Bydda i'n dy foli di o flaen tyrfa enfawr o bobl! Paid gadael i'r rhai sy'n elynion heb reswm lawenhau! Nac i'r rhai sy'n fy nghasáu i heb achos wincio ar ei gilydd. Dŷn nhw ddim am wneud lles i neb, dim ond cynllwynio yn eu herbyn, a thwyllo pobl ddiniwed. A dyma nhw'n barod i'm llyncu innau, “Aha! dŷn ni wedi dy ddal di!” medden nhw. O ARGLWYDD, rwyt ti wedi gweld y cwbl! Felly paid cadw draw! Tyrd yma! Symud! Deffra! Amddiffyn fi! Fy Nuw a'm HARGLWYDD, ymladd drosta i! Achub fy ngham, O ARGLWYDD fy Nuw, am dy fod ti'n gyfiawn. Paid gadael iddyn nhw ddal ati i wneud sbort. Paid gadael iddyn nhw feddwl, “Aha, dyma'n union beth roedden ni eisiau!” Paid gadael iddyn nhw ddweud, “Dŷn ni wedi ei ddinistrio!” Rhwystra'r rhai sydd am wneud niwed i mi; coda gywilydd arnyn nhw! Cymer y rhai sydd wedi bod yn gwawdio mor falch a gwisga nhw gyda chywilydd ac embaras! Ond gad i'r rhai sydd am i ti achub fy ngham weiddi'n llawen! Gad iddyn nhw allu dweud bob amser, “Yr ARGLWYDD sy'n rheoli! Mae am weld ei was yn llwyddo.” Wedyn bydda i'n dweud wrth bawb dy fod ti'n gwneud beth sy'n iawn. Bydda i'n canu mawl i ti drwy'r dydd. I'r arweinydd cerdd: Salm gan Dafydd, gwas yr ARGLWYDD. Oracl. [1] Mae'r duedd i droseddu yn ddwfn yng nghalon un drwg; does ganddo ddim parch at Dduw o gwbl. Mae e mor llawn ohono'i hun, mae'n ddall ac yn methu gweld y drygioni i'w gasáu. Mae popeth mae e'n ddweud yn ddrwg ac yn dwyllodrus; dydy e'n poeni dim am wneud daioni. Mae e'n gorwedd ar ei wely yn cynllwynio; mae e'n dilyn llwybr sydd ddim yn dda, ac yn gwrthod troi cefn ar ddrygioni. O ARGLWYDD, mae dy ofal cariadus yn uwch na'r nefoedd; mae dy ffyddlondeb di y tu hwnt i'r cymylau! Mae dy haelioni di mor gadarn a'r mynyddoedd uchel; mae dy gyfiawnder yn ddwfn fel y moroedd. Ti'n gofalu am bobl ac anifeiliaid, ARGLWYDD. Mae dy ofal cariadus mor werthfawr, O Dduw! Mae'r ddynoliaeth yn saff dan gysgod dy adenydd. Maen nhw'n cael bwyta o'r wledd sydd yn dy dŷ, ac yn cael yfed dŵr dy afon hyfryd di. Ti ydy'r ffynnon sy'n rhoi bywyd; dy olau di sy'n rhoi'r gallu i ni weld. Dal ati i ofalu am y rhai sy'n ffyddlon i ti, ac achub gam y rhai sy'n byw'n gywir. Paid gadael i'r rhai balch fy sathru dan draed, nac i'r rhai drwg fy ngwneud i'n ddigartref. Dw i'n gweld y rhai sy'n gwneud drygioni wedi syrthio! Dacw nhw wedi eu bwrw i lawr! Maen nhw'n methu codi! Salm Dafydd. [1] Paid digio pan mae pobl ddrwg yn llwyddo; paid bod yn genfigennus ohonyn nhw. Byddan nhw'n gwywo'n ddigon sydyn, fel glaswellt, ac yn diflannu fel egin gwan. Trystia'r ARGLWYDD a gwna beth sy'n dda, Setla i lawr yn y tir a mwynhau ei ffyddlondeb. Ceisia ffafr yr ARGLWYDD bob amser, a bydd e'n rhoi i ti bopeth wyt ti eisiau. Rho dy hun yn nwylo'r ARGLWYDD a'i drystio fe; bydd e'n gweithredu ar dy ran di. Bydd e'n achub dy gam di o flaen pawb! Bydd y ffaith fod dy achos yn gyfiawn mor amlwg a'r haul ganol dydd. Bydd yn amyneddgar wrth ddisgwyl am yr ARGLWYDD. Paid digio pan wyt ti'n gweld pobl eraill yn llwyddo wrth ddilyn eu cynlluniau cyfrwys. Paid gwylltio am y peth, na cholli dy dymer. Paid digio. Drwg ddaw iddyn nhw'n y diwedd! Bydd pobl ddrwg yn cael eu taflu allan, ond bydd y rhai sy'n gobeithio yn yr ARGLWYDD yn meddiannu'r tir! Fydd y rhai drwg ddim i'w gweld yn unman mewn ychydig! Byddi'n edrych amdanyn nhw, ond byddan nhw wedi mynd. Ond bydd y rhai sy'n cael eu cam-drin yn meddiannu'r tir, ac yn cael mwynhau heddwch a llwyddiant. Mae'r rhai drwg yn cynllwynio yn erbyn y rhai sy'n byw yn iawn, ac yn ysgyrnygu eu dannedd fel anifeiliaid gwylltion. Ond mae'r ARGLWYDD yn chwerthin ar eu pennau! Mae e'n gwybod fod eu tro nhw'n dod! Mae'r rhai drwg yn tynnu eu cleddyfau, ac yn plygu eu bwâu, i daro i lawr y rhai sy'n cael eu gorthrymu ac sydd mewn angen, ac i ladd y rhai sy'n byw'n gywir. Ond byddan nhw'n cael eu trywanu gan eu cleddyfau eu hunain, a bydd eu bwâu yn cael eu torri! Mae'r ychydig sydd gan berson sy'n byw yn iawn yn well na'r holl gyfoeth sydd gan y rhai drwg. Bydd pobl ddrwg yn colli eu grym, ond mae'r ARGLWYDD yn cynnal y rhai sy'n byw yn iawn. Mae'r ARGLWYDD yn gofalu amdanyn nhw bob dydd; mae ganddyn nhw etifeddiaeth fydd yn para am byth. Fydd dim cywilydd arnyn nhw pan mae'n ddyddiau anodd; pan fydd newyn bydd ganddyn nhw ddigon i'w fwyta. Ond bydd y rhai drwg yn marw. Bydd gelynion yr ARGLWYDD yn cael eu difa, fel gwellt yn cael ei losgi mewn ffwrn. Mae pobl ddrwg yn benthyg heb dalu'r ddyled yn ôl; ond mae'r rhai sy'n byw yn iawn yn hael ac yn dal ati i roi. Bydd y bobl mae Duw'n eu bendithio yn meddiannu'r tir, ond y rhai mae'n eu melltithio yn cael eu gyrru i ffwrdd. Mae'r ARGLWYDD yn sicrhau llwyddiant yr un sy'n byw i'w blesio. Bydd yn baglu weithiau, ond fydd e ddim yn syrthio ar ei wyneb, achos mae'r ARGLWYDD yn gafael yn ei law. Roeddwn i'n ifanc ar un adeg, ond bellach dw i mewn oed. Dw i erioed wedi gweld rhywun sy'n byw yn iawn yn cael ei siomi gan Dduw, na'i blant yn gorfod chwilio am fwyd. Mae bob amser yn hael ac yn benthyg i eraill, ac mae ei blant yn cael eu bendithio. Tro dy gefn ar ddrwg a gwna beth sy'n dda, a byddi'n saff am byth. Mae'r ARGLWYDD yn caru beth sy'n gyfiawn, a dydy e byth yn siomi'r rhai sy'n ffyddlon iddo. Maen nhw'n saff bob amser! Ond bydd plant y rhai drwg yn cael eu gyrru i ffwrdd. Bydd y rhai sy'n byw yn iawn yn meddiannu'r tir, ac yn aros yno am byth. Mae pobl dduwiol yn dweud beth sy'n ddoeth, ac yn hybu cyfiawnder. Cyfraith Duw sy'n rheoli eu ffordd o feddwl, a dŷn nhw byth yn llithro. Mae'r rhai drwg yn disgwyl am gyfle i ymosod ar y sawl sy'n byw'n iawn, yn y gobaith o'i ladd; ond fydd yr ARGLWYDD ddim gadael iddo syrthio i'w dwylo; fydd e ddim yn cael ei gondemnio yn y llys. Disgwyl am yr ARGLWYDD! Dos y ffordd mae e'n dweud a bydd e'n rhoi'r gallu i ti feddiannu'r tir. Byddi'n gweld y rhai drwg yn cael eu gyrru i ffwrdd. Dw i wedi gweld pobl ddrwg, creulon, yn llwyddo ac yn lledu fel coeden ddeiliog yn ei chynefin. Ond wedyn wrth basio heibio, sylwais eu bod wedi diflannu! Ro'n i'n edrych, ond doedd dim sôn amdanyn nhw! Edrych ar y rhai gonest! Noda'r rhai sy'n byw'n gywir! Mae dyfodol i'r rhai sy'n hybu heddwch. Ond bydd y rhai sy'n troseddu yn cael eu dinistrio'n llwyr! Does dim dyfodol i'r rhai drwg! Mae'r ARGLWYDD yn achub y rhai sy'n byw'n gywir, ac yn eu hamddiffyn pan maen nhw mewn trafferthion. Mae'r ARGLWYDD yn eu helpu ac yn eu hachub; mae'n eu hachub o afael pobl ddrwg, am eu bod wedi troi ato i'w hamddiffyn. Salm Dafydd. I'th atgoffa. [1] O ARGLWYDD, paid bod yn ddig a'm cosbi i, a dweud y drefn yn dy wylltineb. Mae dy saethau wedi fy anafu; mae dy law wedi fy nharo i. Dw i'n sâl yn gorfforol o achos dy ddigofaint di! Does dim iechyd yn fy esgyrn am fy mod wedi pechu. Dw i wedi cael fy llethu gan y drwg wnes i; mae fel baich sy'n rhy drwm i'w gario. Mae'r briwiau ar fy nghorff wedi casglu a dechrau drewi; a'r cwbl am fy mod i wedi bod mor dwp. Dw i wedi crymu. Mae gen i gywilydd ohona i'n hun. Dw i'n cerdded o gwmpas yn isel fy ysbryd drwy'r dydd. Mae fy ochrau'n boenus i gyd; dw i'n teimlo'n sâl trwyddo i. Mae rhyw boen mud yn fy llethu'n llwyr. Dw i'n griddfan mewn gwewyr meddwl. O ARGLWYDD, ti'n gwybod yn iawn be dw i eisiau! Rwyt ti wedi clywed fi'n griddfan. Mae fy nghalon i'n curo'n gyflym; does gen i ddim nerth, a dw i'n colli fy ngolwg. Mae fy ffrindiau a'm teulu yn cadw draw oddi wrtho i; a'm cymdogion yn sefyll yn bell i ffwrdd. Mae'r rhai sydd am fy lladd i yn gosod trap i mi, a'r rhai sydd am wneud niwed i mi yn siarad y faleisus ac yn dweud pethau twyllodrus drwy'r adeg. Ond dw i'n ymateb fel tawn i'n fyddar — yn gwrthod gwrando. Dw i'n ymddwyn fel rhywun sy'n fud — yn dweud dim. Dw i'n clywed dim, a dw i ddim am ddadlau gyda nhw. Ond ARGLWYDD, dw i'n disgwyl amdanat ti; byddi di'n eu hateb nhw, fy meistr a'm Duw. Dw i'n gweddïo, “Paid rhoi'r pleser iddyn nhw o gael eu ffordd!” Roedden nhw mor falch, ac yn gwawdio pan wnes i lithro! Dw i'n darfod amdana i! Dw i mewn poen ofnadwy drwy'r adeg. Dw i'n cyfaddef mod i wedi gwneud drwg. Dw i'n poeni am fy mhechod. Ond mae gen i gymaint o elynion heb achos! Cymaint o rai sy'n fy nghasáu i am ddim rheswm! Pobl sy'n talu drwg am dda, ac yn tynnu'n groes am i mi geisio gwneud beth sy'n iawn. Paid gadael fi, ARGLWYDD! O Dduw, paid ti cadw draw! Brysia! Helpa fi, O ARGLWYDD, fy achubwr! I Iedwthwn, yr arweinydd cerdd. Salm Dafydd. [1] Dyma fi'n penderfynu, “Dw i'n mynd i wylio fy hun a pheidio dweud dim byd i bechu. Dw i'n mynd i gau fy ngheg tra dw i yng nghwmni pobl ddrwg.” Roeddwn i'n hollol dawel, yn brathu fy nhafod a dweud dim. Ond roeddwn i'n troi'n fwy a mwy rhwystredig. Roedd y tensiwn yno i yn mynd o ddrwg i waeth. Roeddwn i'n methu ymatal. A dyma fi'n dweud: “O ARGLWYDD, beth ydy'r pwynt? faint o amser sydd gen i ar ôl? Bydda i wedi mynd mewn dim o amser! Ti wedi gwneud bywyd mor fyr. Dydy oes rhywun yn ddim byd yn dy olwg di. Mae bywyd y cryfaf yn mynd heibio fel tarth!” Saib Mae pobl yn pasio trwy fywyd fel cysgodion. Maen nhw'n casglu cyfoeth iddyn nhw eu hunain, heb wybod pwy fydd yn ei gymryd yn y diwedd. Beth alla i bwyso arno, felly, O ARGLWYDD? Ti dy hun ydy fy unig obaith i! Achub fi rhag canlyniadau fy ngwrthryfel. Paid gadael i ffyliaid wneud hwyl ar fy mhen. Dw i'n fud, ac yn methu dweud dim o achos beth rwyt ti wedi ei wneud. Plîs paid dal ati i'm taro! Dw i wedi cael fy nghuro i farwolaeth bron! Ti'n disgyblu pobl mor llym am eu pechodau, er mwyn i'r ysfa i bechu ddiflannu fel gwyfyn yn colli ei nerth. Ydy, mae bywyd pawb fel tarth! Saib Clyw fy ngweddi, O ARGLWYDD. Gwranda arna i'n gweiddi am help; paid diystyru fy nagrau! Dw i fel ffoadur, yn dibynnu arnat ti. Fel fy hynafiaid dw i angen dy help. Stopia syllu mor ddig arna i. Gad i mi fod yn hapus unwaith eto, cyn i mi farw a pheidio â bod. I'r arweinydd cerdd: Salm Dafydd. [1] Ar ôl disgwyl yn frwd i'r ARGLWYDD wneud rhywbeth, dyma fe'n troi ata i; roedd wedi gwrando arna i'n gweiddi am help. Cododd fi allan o'r pwll lleidiog, a'r mwd trwchus. Rhoddodd fy nhraed ar graig, a gwneud yn siŵr fy mod i ddim yn baglu. Roedd gen i gân newydd i'w chanu — cân o fawl i Dduw! Bydd llawer o bobl yn gweld beth wnaeth e, ac yn dod i drystio'r ARGLWYDD! Mae'r un sy'n trystio'r ARGLWYDD wedi ei fendithio'n fawr! Dydy e ddim yn troi am help at bobl sy'n brolio'u hunain ac yn dweud celwydd. O ARGLWYDD fy Nuw, rwyt ti wedi gwneud cymaint! — gwneud pethau rhyfeddol i gyflawni dy bwrpas ynon ni. Does neb yn gallu dy rwystro di! Dw i eisiau sôn am y pethau hyn wrth bobl eraill, ond mae yna ormod ohonyn nhw i'w cyfrif! Nid aberth ac offrwm rwyt ti eisiau; Mae hynny'n gwbl amlwg i mi! Dim am aberthau i'w llosgi ac offrymau dros bechod rwyt ti'n gofyn. [7-8] Felly dyma fi'n dweud, “O Dduw, dw i'n dod i wneud beth rwyt ti eisiau — fel mae wedi ei ysgrifennu amdana i yn y sgrôl.” Mae dy ddysgeidiaeth di yn rheoli fy mywyd i. *** Dw i wedi dweud wrth y gynulleidfa fawr am dy gyfiawnder! Dw i wedi dal dim yn ôl! Ti'n gwybod hynny, O ARGLWYDD. Wnes i ddim cadw'r peth i mi fy hun; ond dweud wrth bawb dy fod ti'n Dduw ffyddlon ac yn achub! Dw i ddim wedi cadw'n dawel am dy ofal ffyddlon di. Tyrd, ARGLWYDD, paid atal dy dosturi oddi wrtho i. Dy ofal ffyddlon di fydd yn fy amddiffyn i bob amser. Mae peryglon di-ben-draw o'm cwmpas i ym mhobman. Mae fy mhechodau wedi fy nal i. Maen nhw wedi fy nallu! Mae mwy ohonyn nhw nag sydd o wallt ar fy mhen! Dw i wedi dod i ben fy nhennyn! Plîs, ARGLWYDD, achub fi! O ARGLWYDD, brysia i'm helpu! Gwna i'r rhai sydd am fy lladd i deimlo embaras a chywilydd. Gwna i'r rhai sydd am wneud niwed i mi droi yn ôl mewn cywilydd. Gwna i'r rhai sy'n chwerthin ar fy mhen i gael eu cywilyddio a'u dinistrio. Ond gwna i bawb sy'n dy geisio di ddathlu'n llawen! Gwna i'r rhai sy'n mwynhau dy weld ti'n achub ddweud, “Mae'r ARGLWYDD mor fawr!” Dw i mewn angen ac yn ddiamddiffyn, ond mae gan yr ARGLWYDD ei fwriadau ar fy nghyfer. Ti ydy'r un sy'n gallu fy helpu a'm hachub. O fy Nuw, paid oedi! I'r arweinydd cerdd: Salm Dafydd. [1] Mae'r un sy'n garedig at y tlawd wedi ei fendithio'n fawr. Bydd yr ARGLWYDD yn ei gadw'n saff pan mae mewn perygl. Bydd yr ARGLWYDD yn ei amddiffyn ac yn achub ei fywyd, A bydd yn profi bendith yn y tir. Fydd e ddim yn gadael i'w elynion gael eu ffordd. Bydd yr ARGLWYDD yn ei gynnal pan fydd yn sâl yn ei wely, ac yn ei iacháu yn llwyr o'i afiechyd. “O ARGLWYDD, dangos drugaredd ata i,” meddwn i. “Iachâ fi. Dw i'n cyfaddef mod i wedi pechu yn dy erbyn di.” Mae fy ngelynion yn dweud pethau cas amdana i, “Pryd mae'n mynd i farw a chael ei anghofio?” Mae rhywun yn ymweld â mi, ac yn cymryd arno ei fod yn ffrind; ond ei fwriad ydy gwneud drwg i mi, ac ar ôl mynd allan, mae'n lladd arna i. Mae fy ngelynion yn sibrwd amdana i ymhlith ei gilydd, ac yn cynllwynio i wneud niwed i mi. “Mae'n diodde o afiechyd ofnadwy; fydd e ddim yn codi o'i wely byth eto.” Mae hyd yn oed fy ffrind agos — yr un roeddwn i'n ei drystio, yr un fu'n bwyta wrth fy mwrdd i — wedi troi yn fy erbyn i! Felly, O ARGLWYDD, dangos drugaredd ata i; gad i mi godi eto, i mi gael talu'n ôl iddyn nhw! Ond dw i'n gwybod fy mod i'n dy blesio di: a fydd y gelyn ddim yn bloeddio ei fod wedi ennill y fuddugoliaeth. Rwyt ti'n fy nghynnal i am fy mod i'n onest gyda ti. Dw i'n cael aros yn dy gwmni di am byth. Ie, bendith ar yr ARGLWYDD, Duw Israel, o hyn ymlaen ac i dragwyddoldeb! Amen ac Amen. I'r arweinydd cerdd: Mascîl gan Feibion Cora. [1] Fel hydd yn brefu am ddiod o ddŵr, dw i'n hiraethu go iawn amdanat ti, O Dduw. Mae gen i syched am Dduw, y Duw byw; O, pryd ga i fynd eto i sefyll o'i flaen yn ei deml? Dw i'n methu bwyta, ac yn crïo nos a dydd, wrth iddyn nhw wawdio'n ddiddiwedd, “Ble mae dy Dduw di, felly?” Wrth gofio hyn i gyd dw i'n teimlo mor drist! Cofio mynd gyda'r dyrfa i dŷ Dduw; gweiddi a moli'n llawen gyda phawb arall wrth ddathlu'r Ŵyl! F'enaid, pam rwyt ti'n teimlo mor isel? Pam wyt ti mor anniddig? Rho dy obaith yn Nuw! Bydda i'n moli Duw eto am iddo ymyrryd i'm hachub i! O fy Nuw, dw i'n teimlo mor isel. Felly dw i am feddwl amdanat ti tra dw i'n ffoadur yma. Yma mae'r Iorddonen yn tarddu o fryniau Hermon a Mynydd Misar; lle mae sŵn dwfn y rhaeadrau yn galw ar ei gilydd. Mae fel petai tonnau mawr dy fôr yn llifo trosta i! Ond dw i'n profi gofal ffyddlon yr ARGLWYDD drwy'r dydd, ac yn y nos dw i'n canu cân o fawl iddo ac yn gweddïo ar y Duw byw. Dw i'n gofyn i Dduw, fy nghraig uchel, “Pam wyt ti'n cymryd dim sylw ohono i? Pam mae'n rhaid i mi gerdded o gwmpas yn drist, am fod y gelynion yn fy ngham-drin i?” Mae'r rhai sy'n fy nghasáu i yn gwawdio; ac mae'n brathu i'r byw wrth iddyn nhw wawdio'n ddiddiwedd, “Ble mae dy Dduw di, felly?” F'enaid, pam wyt ti'n teimlo mor isel? Pam wyt ti mor anniddig? Rho dy obaith yn Nuw! Bydda i'n moli Duw eto am iddo ymyrryd i'm hachub i! Achub fy ngham, O Dduw! Dadlau fy achos yn erbyn pobl anffyddlon. Achub fi rhag y twyllwyr drwg! Ti ydy fy Nuw i — fy nghaer ddiogel i; felly pam wyt ti wedi fy ngwrthod? Pam mae'n rhaid i mi gerdded o gwmpas yn drist, am fod fy ngelynion yn fy ngham-drin i? Rho dy olau i mi, gyda dy wirionedd, i'm harwain. Byddan nhw'n dod â fi yn ôl at y mynydd sanctaidd lle rwyt ti'n byw. Bydda i'n cael mynd at allor Duw, y Duw sy'n fy ngwneud i mor hapus. Bydda i'n dy foli di gyda'r delyn, O Dduw, fy Nuw. F'enaid, pam wyt ti'n teimlo mor isel? Pam wyt ti mor anniddig? Rho dy obaith yn Nuw! Bydda i'n moli Duw eto am iddo ymyrryd i'm hachub i! I'r arweinydd cerdd: Mascîl gan Feibion Cora. [1] Dŷn ni wedi clywed, O Dduw, ac mae'n hynafiaid wedi dweud wrthon ni beth wnest ti yn eu dyddiau nhw, ers talwm. Gyda dy nerth symudaist genhedloedd, a rhoi ein hynafiaid yn y tir yn eu lle. Gwnaethost niwed i'r bobl oedd yn byw yno, a gollwng ein hynafiaid ni yn rhydd. Nid eu cleddyf roddodd y tir iddyn nhw; wnaethon nhw ddim ennill y frwydr yn eu nerth eu hunain. Na! dy nerth di, dy allu di, dy ffafr di tuag atyn nhw wnaeth y cwbl! Roeddet ti o'u plaid nhw. Ti ydy fy mrenin i, O Dduw; yr un sy'n rhoi'r fuddugoliaeth i bobl Jacob! Ti sy'n ein galluogi ni i yrru'n gelynion i ffwrdd. Gyda dy nerth di dŷn ni'n sathru'r rhai sy'n ein herbyn. Dw i ddim yn dibynnu ar fy mwa; ac nid cleddyf sy'n rhoi'r fuddugoliaeth i mi. Ti sy'n rhoi'r fuddugoliaeth dros y gelyn. Ti sy'n codi cywilydd ar y rhai sy'n ein casáu ni. Duw ydy'r un i frolio amdano bob amser! Dw i am foli ei enw'n ddi-baid. Saib Ond bellach rwyt ti wedi'n gwrthod ni, a'n cywilyddio ni! Dwyt ti ddim yn mynd allan gyda'n byddin ni. Ti'n gwneud i ni ffoi oddi wrth ein gelynion. Mae'n gelynion wedi cymryd popeth oddi arnon ni! Rwyt wedi'n rhoi fel defaid i'w lladd a'u bwyta. Rwyt wedi'n chwalu ni drwy'r gwledydd. Rwyt wedi gwerthu dy bobl am y nesa peth i ddim, wnest ti ddim gofyn pris uchel amdanyn nhw. Rwyt wedi'n dwrdio ni o flaen ein cymdogion. Dŷn ni'n destun sbort i bawb o'n cwmpas. Mae'r cenhedloedd i gyd yn ein gwawdio ni; pobl estron yn gwneud hwyl ar ein pennau ni. Does gen i ddim mymryn o urddas ar ôl. Dw i'n teimlo dim byd ond cywilydd o flaen y gelyn dialgar sy'n gwawdio ac yn bychanu. Mae hyn i gyd wedi digwydd i ni, er na wnaethon ni dy wrthod di na thorri amodau ein hymrwymiad i ti. Dŷn ni ddim wedi bod yn anffyddlon i ti, nac wedi crwydro oddi ar dy lwybrau di. Ac eto rwyt ti wedi'n sathru ni, a'n gadael ni fel adfail lle mae'r siacaliaid yn byw. Rwyt wedi'n gorchuddio ni gyda thywyllwch dudew. Petaen ni wedi anghofio enw Duw ac estyn ein dwylo mewn gweddi at ryw dduw arall, oni fyddai Duw wedi gweld hynny? Mae e'n gwybod beth sy'n mynd trwy'n meddyliau ni! O'th achos di dŷn ni'n wynebu marwolaeth drwy'r amser, dŷn ni fel defaid ar eu ffordd i'r lladd-dy. Symud! O ARGLWYDD, pam wyt ti'n cysgu? Deffra! Paid gwrthod ni am byth! Pam wyt ti'n edrych i ffwrdd, ac yn cymryd dim sylw o'r ffordd dŷn ni'n cael ein cam-drin a'n gorthrymu? Dŷn ni'n gorwedd ar ein hwynebau yn y llwch, ac yn methu codi oddi ar lawr. Tyrd, helpa ni! Dangos dy ofal ffyddlon, a gollwng ni'n rhydd. I'r arweinydd cerdd: Mascîl. Ar yr alaw ‛Y Lilïau‛ gan Feibion Cora. Cân serch. [1] Mae gen i destun cerdd hyfryd yn fy ysbrydoli. Dw i am adrodd fy marddoniaeth i'r brenin; Mae fy nhafod fel ysgrifbin yn llaw awdur profiadol. Ti ydy'r dyn mwya golygus sydd, ac mae dy eiriau mor garedig. Mae'n dangos fod Duw wedi dy fendithio di bob amser. Gwisga dy gleddyf ar dy glun, O ryfelwr! Dangos dy ysblander a dy fawredd. Dangos dy fawredd! Dos allan i ennill buddugoliaeth! Marchoga dros y gwir a thros gyfiawnder. Trwy dy nerth byddi'n cyflawni pethau rhyfeddol! Bydd dy saethau miniog yn trywanu calonnau dy elynion, a bydd pobloedd yn syrthio wrth dy draed. Byddi di, O Dduw, yn frenin ar yr orsedd am byth; a byddi di'n teyrnasu mewn ffordd sy'n deg. Ti'n caru beth sy'n iawn ac yn casáu drygioni; felly mae Duw, ie dy Dduw di, wedi dy eneinio di a thywallt olew llawenydd arnat ti fwy na neb arall. Mae arogl hyfryd myrr, aloes a casia ar dy ddillad i gyd. Mae offerynnau llinynnol o balasau ifori yn cael eu canu i dy ddifyrru di. Mae tywysogesau ymhlith dy westeion, ac mae dy briodferch yn sefyll wrth dy ochr, yn gwisgo tlysau o aur coeth Offir. Clyw, o dywysoges! Gwrando'n astud! Anghofia dy bobl a dy deulu. Gad i'r brenin gael ei hudo gan dy harddwch! Fe ydy dy feistr di bellach, felly ymostwng iddo. Bydd pobl gyfoethog Tyrus yn ceisio dy ffafr, ac yn dod ag anrhegion i ti. Mae'r dywysoges yn anhygoel o hardd, a'i gwisg briodas wedi ei brodio gyda gwaith aur manwl. Mae hi'n cael ei harwain at y brenin, ac mae gosgordd o forynion yn ei dilyn, i'w chyflwyno i ti. Maen nhw'n llawn bwrlwm wrth gael eu harwain i mewn i balas y brenin. Bydd dy feibion yn dy olynu yn llinach dy hynafiaid, ac yn cael eu gwneud yn dywysogion yn y wlad. Bydda i'n coffáu dy enw di ar hyd y cenedlaethau, a bydd pobloedd yn dy ganmol di am byth bythoedd. I'r arweinydd cerdd. Cân i leisiau merched ifanc, gan feibion Cora. [1] Mae Duw yn ein cadw ni'n saff ac yn rhoi nerth i ni. Mae e bob amser yna i'n helpu pan mae trafferthion. Felly fydd gynnon ni ddim ofn hyd yn oed petai'r ddaear yn ysgwyd, a'r mynyddoedd yn syrthio i ganol y môr gyda'i donnau gwyllt yn troelli ac yn ewynnu. Mae'r mynyddoedd yn crynu wrth iddo ymchwyddo! Saib Y mae afon! Mae ei chamlesi yn gwneud dinas Duw yn llawen. Ie, y ddinas lle mae'r Duw Goruchaf yn byw. Mae Duw yn ei chanol — fydd hi byth yn syrthio! Bydd Duw yn dod i'w helpu yn y bore bach. Mae gwledydd mewn cyffro, a theyrnasoedd yn syrthio. Pan mae Duw yn taranu mae'r ddaear yn toddi. Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus gyda ni! Mae Duw Jacob yn gaer ddiogel i ni! Saib Dewch i weld beth mae'r ARGLWYDD wedi ei wneud; y difrod rhyfeddol mae wedi ei ddwyn ar y ddaear! Mae'n dod a rhyfeloedd i ben drwy'r ddaear gyfan; Mae'n malu'r bwa ac yn torri'r waywffon, ac yn llosgi cerbydau rhyfel mewn tân. “Stopiwch! Mae'n bryd i chi ddeall mai Duw ydw i! Dw i'n llawer uwch na'r cenhedloedd; dw i'n llawer uwch na'r ddaear gyfan.” Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus gyda ni! Mae Duw Jacob yn gaer ddiogel i ni! Saib I'r arweinydd cerdd: Salm gan feibion Cora. [1] Holl bobloedd y byd, curwch ddwylo! Gwaeddwch yn llawen wrth addoli Duw! Mae'r ARGLWYDD Goruchaf yn Dduw i'w ryfeddu, ac yn Frenin mawr dros y byd i gyd. Mae'n gwneud i bobloedd ymostwng i ni; ni sy'n eu rheoli nhw. Dewisodd dir yn etifeddiaeth i ni — tir i Jacob, y bobl mae wedi eu caru, ymfalchïo ynddo. Saib Mae Duw wedi esgyn i'w orsedd, a'r dyrfa'n gweiddi'n llawen. Aeth yr ARGLWYDD i fyny, a'r corn hwrdd yn seinio! Canwch fawl i Dduw, canwch! Canwch fawl i'n brenin ni, canwch! Ydy, mae Duw yn frenin dros y byd i gyd; Canwch gân hyfryd iddo! Mae Duw yn teyrnasu dros y cenhedloedd! Mae e'n eistedd ar ei orsedd sanctaidd! Mae tywysogion y bobloedd wedi ymgasglu gyda phobl Duw Abraham. Mae awdurdod Duw dros lywodraethwyr y byd; Mae e ymhell uwch eu pennau nhw i gyd! Cân. Salm gan feibion Cora. [1] Mae'r ARGLWYDD mor fawr ac mae'n haeddu ei foli! Yn ninas ein Duw ar ei fynydd cysegredig — y copa hardd sy'n gwneud yr holl fyd yn hapus. Mynydd Seion, sydd fel copaon Saffon, ydy dinas y Brenin mawr. Mae Duw yn byw yn ei chaerau, ac mae'n adnabyddus fel caer ddiogel. Edrychwch! Mae brenhinoedd yn ffurfio cynghrair, ac yn dod i ymosod gyda'i gilydd. Ond ar ôl ei gweld roedden nhw'n fud, wedi dychryn am eu bywydau, ac yn dianc mewn panig! Roedden nhw'n crynu trwyddynt, ac yn gwingo fel gwraig yn geni plentyn, neu longau Tarshish yn cael eu dryllio gan wynt y dwyrain. Dŷn ni bellach yn dystion i'r math o beth y clywson ni amdano; yn ninas yr ARGLWYDD holl-bwerus, sef dinas ein Duw — mae e wedi ei gwneud hi'n ddiogel am byth! Saib O Dduw, dŷn ni wedi bod yn myfyrio yn dy deml am dy ofal ffyddlon. O Dduw, rwyt ti'n enwog drwy'r byd i gyd, ac yn haeddu dy foli! Rwyt ti yn sicrhau cyfiawnder. Mae mynydd Seion yn gorfoleddu! Mae pentrefi Jwda yn llawen, o achos beth wnest ti. Cerdda o gwmpas Seion, dos reit rownd! Cyfra'r tyrau, edrych yn fanwl ar ei waliau, a dos drwy ei chaerau, er mwyn i ti allu dweud wrth y genhedlaeth nesa. Dyma sut un ydy Duw, ein Duw ni, bob amser. Bydd e'n ein harwain ni tra byddwn ni byw. I'r arweinydd cerdd: Salm gan feibion Cora. [1] Gwrandwch ar hyn, chi'r bobloedd; clywch, bawb drwy'r byd i gyd — pobl o bob cefndir yn gyfoethog ac yn dlawd. Dw i'n mynd i rannu doethineb gyda chi, a dweud pethau dwfn. Dw i'n mynd i ddysgu cân am ddoethineb, a'i chanu i gyfeiliant y delyn. Pam ddylwn i ofni'r amserau anodd pan mae drygioni'r rhai sy'n twyllo yn fy mygwth? Maen nhw'n dibynnu ar eu cyfoeth, ac yn brolio'r holl bethau sydd ganddyn nhw. Ond all dyn ddim ei ryddhau ei hun, na thalu i Dduw i'w ollwng yn rhydd! (Mae pris bywyd yn rhy uchel; waeth iddo adael y mater am byth!) Ydy e'n mynd i allu byw am byth, a pheidio gweld y bedd? Na, mae hyd yn oed pobl ddoeth yn marw! Mae bywyd ffyliaid gwyllt yn dod i ben, ac maen nhw'n gadael eu cyfoeth i eraill. Maen nhw'n aros yn eu beddau am byth; byddan nhw yno ar hyd y cenedlaethau. Mae pobl gyfoethog yn enwi tiroedd ar eu holau, ond dydyn nhw eu hunain ddim yn aros. Maen nhw, fel yr anifeiliaid, yn marw. Dyna ydy tynged y rhai ffôl, a diwedd pawb sy'n dilyn eu syniadau. Saib Maen nhw'n cael eu gyrru i Annwn fel defaid; a marwolaeth yn eu bugeilio nhw. Bydd y duwiol yn teyrnasu drostyn nhw pan ddaw'r wawr. Bydd y bedd yn llyncu eu cyrff; fyddan nhw ddim yn byw yn eu tai crand ddim mwy. Ond bydd Duw yn achub fy mywyd i o grafangau'r bedd; bydd e'n dal gafael ynof fi! Saib Paid poeni pan mae dyn yn dod yn gyfoethog, ac yn ennill mwy a mwy o eiddo. Pan fydd e'n marw fydd e'n cymryd dim gydag e! Fydd ei gyfoeth ddim yn ei ddilyn i lawr i'r bedd! Gall longyfarch ei hun yn ystod ei fywyd — “Mae pobl yn fy edmygu i am wneud mor dda” — Ond bydd yntau'n mynd at ei hynafiaid, a fyddan nhw byth yn gweld golau ddydd eto. Dydy pobl gyfoethog ddim yn deall; maen nhw, fel anifeiliaid, yn marw. Salm gan Asaff. [1] Mae Duw, y Duw go iawn, sef yr ARGLWYDD, wedi siarad, ac wedi galw pawb drwy'r byd i gyd i ddod at ei gilydd. Mae Duw yn dod o Seion, y ddinas harddaf un; mae wedi ymddangos yn ei holl ysblander! Mae ein Duw yn dod, a fydd e ddim yn dawel — mae tân yn difa popeth o'i flaen, ac mae storm yn rhuo o'i gwmpas. Mae'n galw ar y nefoedd uchod, a'r ddaear isod, i dystio yn erbyn ei bobl. “Galwch fy mhobl arbennig i mewn, y rhai sydd wedi ymrwymo i mi drwy aberth.” Yna dyma'r nefoedd yn cyhoeddi ei fod yn gyfiawn, am mai Duw ydy'r Barnwr. Saib “Gwrandwch yn ofalus, fy mhobl! Dw i'n siarad! Gwrando Israel! Dw i'n tystio yn dy erbyn di! Duw ydw i, dy Dduw di! Dw i ddim yn dy geryddu di am aberthu i mi, nac am gyflwyno offrymau i'w llosgi yn rheolaidd. Ond does gen i ddim angen dy darw di, na bwch gafr o dy gorlannau — Fi piau holl greaduriaid y goedwig, a'r anifeiliaid sy'n pori ar fil o fryniau. Dw i'n nabod pob un o adar y mynydd, a fi piau'r pryfed yn y caeau! Petawn i eisiau bwyd, fyddwn i ddim yn gofyn i ti, gan mai fi piau'r byd a phopeth sydd ynddo. Ydw i angen cig eidion i'w fwyta, neu waed bychod geifr i'w yfed? — Na! Cyflwyna dy offrwm diolch i Dduw, a chadw dy addewidion i'r Goruchaf. Galw arna i pan wyt mewn trafferthion, ac fe wna i dy achub di, a byddi'n fy anrhydeddu i.” Ond dyma ddwedodd Duw wrth y rhai drwg: “Pa hawl sydd gen ti i sôn am fy nghyfriethiau, a thrafod yr ymrwymiad wnaethon ni? Dwyt ti ddim eisiau dysgu gen i; dwyt ti'n cymryd dim sylw o beth dw i'n ddweud! Pan wyt ti'n gweld lleidr, rwyt ti'n ei helpu. Ti'n cymysgu gyda dynion sy'n anffyddlon i'w gwragedd. Ti'n dweud pethau drwg o hyd, ac yn twyllo pobl wrth siarad. Ti'n cynllwyn yn erbyn dy frawd, ac yn gweld bai ar fab dy fam. Am fy mod i'n dawel pan wnest ti'r pethau hyn, roeddet ti'n meddwl fy mod i'r un fath â ti! Ond dw i'n mynd i dy geryddu di, a dwyn cyhuddiadau yn dy erbyn di. Felly meddylia am y peth, ti sy'n anwybyddu Duw! Neu bydda i'n dy rwygo di'n ddarnau, a fydd neb yn gallu dy achub di! Mae'r un sy'n cyflwyno offrwm diolch yn fy anrhydeddu i. Bydd y person sy'n byw fel dw i am iddo fyw yn cael gweld Duw yn dod i'w achub.” I'r arweinydd cerdd: Salm gan Dafydd, ar ôl i'r proffwyd Nathan fynd ato a'i geryddu am gysgu gyda Bathseba. [1] O Dduw, dangos drugaredd ata i; rwyt ti mor llawn cariad. Gan dy fod ti mor barod i dosturio, wnei di ddileu y gwrthryfel oedd yno i? Golcha'r drygioni ohono i'n llwyr, a pura fi o'm pechod. Dw i'n cyfaddef mod i wedi tynnu'n groes, a dw i'n ymwybodol iawn o'm methiant. Yn dy erbyn di dw i wedi pechu, ie, dim ond ti, a gwneud beth sy'n ddrwg yn dy olwg. Mae beth rwyt ti'n ddweud yn hollol deg, ac rwyt ti'n iawn i'm cosbi i. Y gwir ydy, ces fy ngeni'n bechadur; roedd y pechod yno pan wnaeth mam feichiogi arna i. Ond rwyt ti eisiau gonestrwydd y tu mewn; rwyt ti eisiau i mi fod yn ddoeth. Pura fi ag isop, i'm gwneud yn hollol lân; golcha fi, nes bydda i'n lanach nag eira. Gad i mi wybod beth ydy bod yn hapus eto; rwyt ti wedi malu fy esgyrn — gad i mi lawenhau eto. Paid edrych ar fy mhechodau i; dilea'r drygioni i gyd. Crea galon lân yno i, O Dduw; a rhoi ysbryd penderfynol i mi unwaith eto. Paid taflu fi i ffwrdd oddi wrthot ti, na chymryd dy Ysbryd Glân oddi arna i. Gad i mi brofi'r wefr eto o gael fy achub gen ti; a gwna fi'n awyddus i fod yn ufudd i ti. Wedyn bydda i'n dysgu'r rhai sy'n gwrthryfela i dy ddilyn di, a bydd pechaduriaid yn troi atat ti. Maddau i mi am fod wedi tywallt gwaed, O Dduw. Ti ydy'r Duw sy'n fy achub i, a bydda i'n canu am dy faddeuant di. O ARGLWYDD, agor fy ngeg, i mi gael dy foli. Nid aberthau sy'n dy blesio di; a dydy offrwm i'w losgi ddim yn dy fodloni di. Yr aberthau wyt ti eisiau ydy ysbryd wedi ei ddryllio, calon wedi ei thorri, ac ysbryd sy'n edifar — Wnei di ddim diystyru peth felly, O Dduw. Gwna i Seion lwyddo! Helpa hi! Adeilada waliau Jerwsalem unwaith eto! Wedyn bydd aberthau sy'n cael eu cyflwyno'n iawn, ac offrymau cyflawn i'w llosgi, yn dy blesio di; a bydd teirw yn cael eu hoffrymu ar dy allor di. I'r arweinydd cerdd: Mascîl. Salm gan Dafydd, pan aeth Doeg o Edom at Saul a dweud wrtho, “Mae Dafydd wedi dod i dŷ Achimelech.” [1] Wyt ti'n falch o'r drwg wnest ti, ac yn meddwl dy fod ti'n dipyn o arwr? Wel, dw i'n gwybod fod Duw yn ffyddlon! Rwyt ti'n cynllwynio dinistr, ac mae dy dafod di fel rasel finiog, y twyllwr! Mae drwg yn well na da gen ti, a chelwydd yn well na dweud y gwir. Saib Ti'n hoffi dweud pethau sy'n gwneud niwed i bobl, ac yn twyllo pobl. Ond bydd Duw yn dy daro i lawr unwaith ac am byth! Bydd yn dy gipio allan o dy babell, ac yn dy lusgo i ffwrdd o dir y byw. Saib Bydd y rhai sy'n iawn gyda Duw yn gweld y peth, ac wedi eu syfrdanu. Byddan nhw'n chwerthin ar dy ben, ac yn dweud, “Edrychwch! Dyma'r dyn oedd yn gwrthod troi at Dduw am help! Y dyn oedd yn pwyso ar ei gyfoeth, ac yn meddwl ei fod yn dipyn o foi yn dinistrio pobl eraill!” Ond dw i'n llwyddo fel coeden olewydd sy'n tyfu yn nhŷ Dduw! Dw i'n trystio Duw am ei fod yn ffyddlon bob amser. Bydda i'n dy foli di am byth, O Dduw, am beth rwyt ti wedi ei wneud. Dw i'n mynd i obeithio yn dy enw di. Mae'r rhai sy'n ffyddlon i ti yn gwybod mor dda wyt ti! I'r arweinydd cerdd: Mascîl ar yr alaw “Machalath”. Salm Dafydd. [1] Dim ond ffŵl sy'n meddwl wrtho'i hun, “Dydy Duw ddim yn bodoli.” Mae pobl yn gwneud pob math o bethau ffiaidd. Does neb yn gwneud daioni! Mae Duw yn edrych i lawr o'r nefoedd ar y ddynoliaeth i weld os oes unrhyw un call; unrhyw un sy'n ceisio Duw. Ond mae pawb wedi troi cefn arno, ac yn gwbl lygredig. Does neb yn gwneud daioni — dim un! Ydyn nhw wir mor dwp? — yr holl rhai drwg sy'n llarpio fy mhobl fel taen nhw'n llowcio bwyd, a byth yn galw ar yr ARGLWYDD? Byddan nhw'n dychryn am eu bywydau — fuodd erioed y fath beth o'r blaen — Bydd Duw yn chwalu esgyrn y rhai sy'n ymosod arnat ti. Byddi di'n codi cywilydd arnyn nhw, am fod Duw wedi eu gwrthod nhw. O dw i eisiau i'r un sy'n achub Israel ddod o Seion! Pan fydd Duw yn troi'r sefyllfa rownd bydd Jacob yn gorfoleddu, a bydd Israel mor hapus! I'r arweinydd cerdd: Mascîl i gyfeiliant offerynnau llinynnol. Salm gan Dafydd, pan aeth pobl Siff at Saul a dweud wrtho, “Mae Dafydd yn cuddio gyda ni.” [1] O Dduw, tyrd ac achub fi! Amddiffyn fi gyda dy holl nerth. O Dduw, gwrando ar fy ngweddi! Clyw beth dw i'n ddweud. Mae pobl estron wedi troi yn fy erbyn i. Mae dynion creulon am fy lladd i. Does dim bwys ganddyn nhw am Dduw. Saib Ond Duw ydy'r un sy'n fy helpu i. Yr ARGLWYDD sy'n fy nghadw i'n fyw. Tro fwriadau drwg y gelynion yn eu herbyn! Dinistria nhw, fel rwyt wedi addo gwneud. Wedyn bydda i'n dod ag offrwm gwirfoddol i'w aberthu i ti. Bydda i'n moli dy enw di, ARGLWYDD, am dy fod mor dda! Ie, rwyt yn fy achub o'm holl drafferthion; dw i'n gweld fy ngelynion yn cael eu gorchfygu! I'r arweinydd cerdd: Mascîl i gyfeiliant offerynnau llinynnol. Salm Dafydd. [1] Gwrando ar fy ngweddi, O Dduw; paid diystyru fi'n galw am dy help! Gwranda arna i, ac ateb fi. Mae'r sefyllfa yma yn fy llethu; dw i wedi drysu'n lân! Mae'r gelyn yn gweiddi arna i, ac yn bygwth pob math o ddrwg. Dŷn nhw ond eisiau creu helynt ac ymosod arna i yn wyllt. Mae fy nghalon yn rasio tu mewn i mi. Mae ofn marw wedi mynd yn drech na mi. Mae ofn a dychryn wedi fy llethu i — dw i'n methu stopio crynu! “O na fyddai gen i adenydd fel colomen, i mi gael hedfan i ffwrdd a gorffwys! Byddwn i'n hedfan yn bell i ffwrdd, ac yn aros yn yr anialwch. Saib Byddwn i'n brysio i ffwrdd i guddio, ymhell o'r storm a'r cythrwfl i gyd.” Dinistria nhw ARGLWYDD; a drysu eu cynlluniau nhw! Dw i'n gweld dim byd ond trais a chweryla yn y ddinas. Mae milwyr yn cerdded ei waliau i'w hamddiffyn ddydd a nos, ond y tu mewn iddi mae'r drwg go iawn. Pobl yn bygwth ei gilydd ym mhobman — dydy gormes a thwyll byth yn gadael ei strydoedd! Nid y gelyn sy'n fy ngwawdio i — gallwn oddef hynny; Nid y gelyn sy'n fy sarhau i — gallwn guddio oddi wrth hwnnw; Na! Ti, sy'n ddyn fel fi, yn gyfaill agos; fy ffrind i! Roedd dy gwmni di mor felys wrth i ni gerdded gyda'n gilydd yn nhŷ Dduw. Gad i'r gelynion yn sydyn gael eu taro'n farw! Gad i'r bedd eu llyncu nhw'n fyw! Does dim ond drygioni ble bynnag maen nhw! Ond dw i'n mynd i alw ar Dduw, a bydd yr ARGLWYDD yn fy achub i. Dw i'n dal ati i gwyno a phledio, fore, nos, a chanol dydd. Dw i'n gwybod y bydd e'n gwrando! Bydd e'n dod â fi allan yn saff o ganol yr ymladd, er bod cymaint yn fy erbyn i. Bydd Duw, sy'n teyrnasu o'r dechrau cyntaf, yn gwrando arna i ac yn eu trechu nhw! Saib Maen nhw'n gwrthod newid eu ffyrdd, a dangos parch tuag at Dduw. Ond am fy ffrind wnaeth droi yn fy erbyn i, torri ei air wnaeth e. Roedd yn seboni gyda'i eiriau, ond ymosod oedd ei fwriad. Roedd ei eiriau yn dyner fel olew, ond cleddyfau noeth oedden nhw go iawn. Rho dy feichiau trwm i'r ARGLWYDD; bydd e'n edrych ar dy ôl di. Wnaiff e ddim gadael i'r cyfiawn syrthio. O Dduw, byddi di'n taflu'r rhai drwg i bwll dinistr — Bydd y rhai sy'n lladd ac yn twyllo yn marw'n ifanc. Ond dw i'n dy drystio di. I'r arweinydd cerdd: Ar yr alaw “Colomen ar Goed Derw Pell”. Wedi ei hysgrifennu gan Dafydd ar ôl iddo gael ei ddal gan y Philistiaid yn Gath. [1] Dangos drugaredd ata i, O Dduw, dw i'n cael fy erlid! Mae'r gelynion yn ymosod arna i drwy'r amser. Maen nhw'n fy ngwylio i ac yn fy erlid i'n ddi-baid. Mae cymaint ohonyn nhw yn ymladd yn fy erbyn! O Dduw, y Goruchaf. Pan mae gen i ofn, dw i'n dy drystio di — Duw, yr un dw i'n gwybod sy'n cadw ei air! Dw i'n trystio Duw, does gen i ddim ofn. Beth all dynion meidrol ei wneud i mi? Maen nhw'n twistio fy ngeiriau a dim ond eisiau gwneud niwed i mi. Maen nhw'n dod at ei gilydd i ysbïo arna i. Maen nhw'n gwylio pob symudiad, ac yn edrych am gyfle i'm lladd. Wyt ti'n mynd i adael iddyn nhw lwyddo? Bwrw nhw i lawr yn dy ddig, O Dduw! Ti'n cadw cofnod bob tro dw i'n ochneidio. Ti'n casglu fy nagrau mewn costrel. Mae'r cwbl wedi ei ysgrifennu yn dy lyfr. Bydd y gelyn yn ffoi pan fydda i'n galw arnat ti. Achos dw i'n gwybod un peth — mae Duw ar fy ochr i. Duw, yr un dw i'n gwybod sy'n cadw ei air! Yr ARGLWYDD — dw i'n gwybod ei fod yn cadw ei air! Dw i'n trystio Duw, does gen i ddim ofn. Beth all dynion meidrol ei wneud i mi? Dw i'n mynd i gadw fy addewidion, O Dduw, a chyflwyno offrymau diolch i ti. Ti wedi achub fy mywyd i, a chadw fy nhraed rhag llithro. Dw i'n gallu byw i ti, O Dduw, a mwynhau goleuni bywyd. I'r arweinydd cerdd: Ar yr alaw ‛Paid dinistrio‛. Salm wedi ei hysgrifennu gan Dafydd pan oedd wedi ffoi rhag Saul i'r ogof. [1] Dangos drugaredd ata i, O Dduw, dangos drugaredd ata i! Dw i'n troi atat ti am loches. Dw i am guddio dan dy adenydd di nes bydd y storm yma wedi mynd heibio. Dw i'n galw ar Dduw, y Goruchaf; ar y Duw sydd mor dda tuag ata i. Bydd yn anfon help o'r nefoedd i'm hachub. Bydd yn herio y rhai sy'n fy erlid. Saib Bydd yn dangos ei ofal ffyddlon amdana i! Mae llewod ffyrnig o'm cwmpas i ym mhobman, rhai sy'n bwyta pobl — Mae eu dannedd fel picellau neu saethau, a'u tafodau fel cleddyfau miniog. Dangos dy hun yn uwch na'r nefoedd, O Dduw, i dy ysblander gael ei weld drwy'r byd i gyd! Maen nhw wedi gosod rhwyd i geisio fy nal — a minnau'n isel fy ysbryd. Maen nhw wedi cloddio twll ar fy nghyfer i, ond nhw fydd yn syrthio i mewn iddo! Saib Dw i'n benderfynol, O Dduw; dw i'n hollol benderfynol! Dw i'n mynd i ganu mawl i ti! Deffro, fy enaid! Deffro, nabl a thelyn! Dw i'n mynd i ddeffro'r wawr gyda'm cân. Dw i'n mynd i ddiolch i ti, O ARGLWYDD, o flaen pawb! Dw i'n mynd i ganu mawl i ti o flaen pobl o bob cenedl! Mae dy gariad di mor uchel â'r nefoedd, a dy ffyddlondeb di yn uwch na'r cymylau. Dangos dy hun yn uwch na'r nefoedd, O Dduw, i dy ysblander gael ei weld drwy'r byd i gyd! I'r arweinydd cerdd: Ar yr alaw ‛Paid dinistrio‛. Salm wedi ei hysgrifennu gan Dafydd. [1] Chi arweinwyr, ydych chi'n rhoi dedfryd gyfiawn? Ydych chi'n barnu pobl yn deg? Na! Dych chi'n anghyfiawn, ac yn lledu trais ym mhobman. Mae rhai drwg felly yn troi cefn ers cael eu geni; yn dweud celwydd a mynd eu ffordd eu hunain o'r dechrau. Maen nhw'n brathu fel neidr wenwynig, neu gobra sy'n cau ei chlustiau. Mae'n gwrthod gwrando ar alaw y swynwr, er mor hyfryd ydy'r alaw i'w hudo. Torra eu dannedd nhw, O Dduw! Dryllia ddannedd y llewod ifanc, ARGLWYDD. Gwna iddyn nhw ddiflannu fel dŵr mewn tir sych; gwna iddyn nhw saethu saethau wedi eu torri. Gwna nhw fel ôl malwen yn toddi wrth iddi symud; neu blentyn wedi marw yn y groth cyn gweld golau dydd! Bydd Duw yn eu hysgubo nhw i ffwrdd fel storm wyllt, cyn i grochan deimlo gwres tân agored. Bydd y duwiol mor hapus wrth weld dial ar yr annhegwch. Byddan nhw'n trochi eu traed yng ngwaed y rhai drwg! A bydd pobl yn dweud, “Felly mae'r rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn yn cael gwobr! Mae yna Dduw sydd yn barnu ar y ddaear!” I'r arweinydd cerdd: Ar yr alaw ‛Paid dinistrio‛. Salm wedi ei hysgrifennu gan Dafydd pan oedd Saul wedi anfon dynion i wylio ei dŷ er mwyn ei ladd. [1] Achub fi rhag fy ngelynion, O Dduw. Amddiffyn fi rhag y rhai sy'n ymosod arna i. Achub fi rhag y bobl ddrwg yma — y rhai sy'n ceisio fy lladd i. Edrych arnyn nhw'n cuddio. Maen nhw'n barod i ymosod. Mae dynion cas yn disgwyl amdana i, a minnau heb wneud dim byd i'w croesi nhw, O ARGLWYDD. Dw i ddim ar fai ond maen nhw'n rhuthro i ymosod arna i. Deffra! Gwna rywbeth i'm helpu! O ARGLWYDD, y Duw holl-bwerus, ti ydy Duw Israel. Symud! Tyrd i gosbi'r gwledydd! Paid dangos trugaredd at y bradwyr! Saib Maen nhw'n dod allan bob nos, yn udo fel y cŵn sy'n prowla trwy'r ddinas. Mae eu cegau'n glafoerio budreddi, a'u geiriau creulon fel cleddyfau — “Pwy sy'n clywed?” medden nhw. Ond rwyt ti, ARGLWYDD, yn chwerthin ar eu pennau. Byddi di'n gwawdio'r cenhedloedd. Ti ydy fy nerth i. Dw i'n disgwyl amdanat ti. Rwyt ti, O Dduw, fel craig ddiogel i mi. Ti ydy'r Duw ffyddlon fydd yn fy helpu; byddi'n gadael i mi orfoleddu dros fy ngelynion. Paid lladd nhw'n syth, neu bydd fy mhobl yn anghofio'r wers. Anfon nhw ar chwâl gyda dy nerth, cyn eu llorio nhw, O ARGLWYDD, ein tarian. Gad iddyn nhw gael eu baglu gan eu geiriau pechadurus a'r pethau drwg maen nhw'n ddweud — y balchder, y melltithion a'r celwyddau. Dinistria nhw yn dy lid! Difa nhw'n llwyr! Yna bydd pawb drwy'r byd i gyd yn gwybod fod Duw yn teyrnasu dros bobl Jacob. Saib Maen nhw'n dod allan bob nos, yn udo fel cŵn sy'n prowla trwy'r ddinas; Maen nhw'n crwydro o gwmpas yn chwilio am fwyd, ac yn udo nes iddyn nhw gael eu bodloni. Ond bydda i'n canu am dy rym di, ac yn gweiddi'n llawen bob bore am dy fod mor ffyddlon! Rwyt ti'n graig saff i mi, ac yn lle i mi guddio pan dw i mewn trafferthion. Ti ydy fy nerth i, a dw i am ganu mawl i ti! O Dduw, rwyt fel craig ddiogel i mi — y Duw ffyddlon. I'r arweinydd cerdd: Ar yr alaw “Lili'r Dystiolaeth”. Salm wedi ei hysgrifennu gan Dafydd (i'w dysgu), pan oedd yn ymladd yn erbyn Syriaid Gogledd Mesopotamia a Syriaid Soba, a Joab yn dod yn ôl ac yn gorchfygu Edom — byddin o ddeuddeg mil — yn Nyffryn yr Halen. [1] O Dduw, rwyt ti wedi'n gwrthod ni a bylchu ein hamddiffyn. Buost yn ddig gyda ni. Plîs adfer ni! Gwnaethost i'r tir grynu, a'i hollti'n agored. Selia'r holltau, cyn i'r cwbl syrthio! Ti wedi rhoi amser caled i dy bobl; a rhoi gwin i'w yfed sydd wedi'n gwneud ni'n chwil. Coda faner i'r rhai sy'n dy ddilyn allu dianc ati rhag saethau'r bwa. Saib Defnyddia dy gryfder o'n plaid, ac ateb ni er mwyn i dy rai annwyl gael eu hachub. Mae Duw wedi addo yn ei gysegr: “Dw i'n mynd i fwynhau rhannu Sichem, a mesur dyffryn Swccoth. Fi sydd piau Gilead a Manasse hefyd. Effraim ydy fy helmed i, a Jwda ydy'r deyrnwialen. Ond bydd Moab fel powlen ymolchi. Byddaf yn taflu fy esgid at Edom, ac yn dathlu ar ôl gorchfygu Philistia!” Pwy sy'n gallu mynd â fi i'r ddinas ddiogel? Pwy sy'n gallu fy arwain i Edom? Onid ti, O Dduw? Ond rwyt wedi'n gwrthod ni! Wyt ti ddim am fynd allan gyda'n byddin, O Dduw? Plîs, helpa ni i wynebu'r gelyn, achos dydy help dynol yn dda i ddim. Gyda Duw gallwn wneud pethau mawrion — bydd e'n sathru ein gelynion dan draed! I'r arweinydd cerdd: I gyfeiliant offerynnau llinynnol. Salm Dafydd. [1] Gwranda arna i'n galw, O Dduw. Gwranda ar fy ngweddi. Dw i'n galw arnat ti o ben draw'r byd. Pan dw i'n anobeithio, arwain fi at graig uchel ddiogel. Achos rwyt ti'n le saff i mi fynd; yn gaer gref lle all fy ngelynion ddim dod. Gad i mi aros yn dy babell am byth, yn saff dan gysgod dy adenydd. Saib O Dduw, clywaist yr addewidion wnes i; ti wedi rhoi etifeddiaeth i mi gyda'r rhai sy'n dy addoli. Gad i'r brenin fyw am flynyddoedd eto! Gad iddo fyw am genedlaethau lawer, ac eistedd ar yr orsedd o flaen Duw am byth! Gwylia drosto gyda dy gariad a dy ofal ffyddlon. Yna byddaf yn canu mawl i dy enw am byth, wrth i mi gadw fy addewidion i ti bob dydd. I'r arweinydd cerdd: Ar yr alaw ‛Cyffes‛. Salm Dafydd. [1] Ydw, dw i'n disgwyl yn dawel am Dduw; fe ydy'r un all fy achub i. Ie, fe ydy'r graig lle dw i'n ddiogel; lle i mi gysgodi sy'n hollol saff. Pryd ydych chi'n mynd i stopio ymosod ar ddyn? Ymosod arno i'w ddifa fel wal sydd ar fin syrthio, neu ffens sy'n simsan? Ydyn, maen nhw'n cynllunio i'w fwrw i lawr o'i safle dylanwadol. Maen nhw wrth eu boddau gyda chelwydd; maen nhw'n dweud pethau sy'n swnio'n garedig, ond yn ei felltithio yn eu calonnau. Saib Ie, disgwyl di'n dawel am Dduw, fy enaid, achos fe ydy dy obaith di. Fe ydy'r graig lle dw i'n ddiogel; lle i mi gysgodi sy'n hollol saff. Mae Duw'n edrych ar ôl fy lles i, ac mae'n rhoi nerth i mi. Dw i'n gadarn fel y graig, ac yn hollol saff gyda Duw. Gallwch ei drystio fe bob amser, bobl! Tywalltwch beth sydd ar eich calon o'i flaen. Duw ydy'n hafan ddiogel ni. Saib Dydy pobl gyffredin ddim byd ond anadl; a pobl bwysig yn ddim ond rhith! Rhowch nhw ar glorian ac mae hi'n codi! — maen nhw i gyd yn pwyso llai nag anadl. Peidiwch trystio trais i ennill cyfoeth. Peidiwch rhoi'ch gobaith mewn lladrad. Os ydych chi'n ennill cyfoeth mawr peidiwch dibynnu arno. Un peth mae Duw wedi ei ddweud, ac mae wedi ei gadarnhau: Duw ydy'r un nerthol, Ie ti, O ARGLWYDD, ydy'r un ffyddlon, sy'n rhoi i bawb beth maen nhw'n ei haeddu. Salm gan Dafydd, pan oedd yn anialwch Jwda. [1] O Dduw, ti ydy fy Nuw i! Dw i wir yn dy geisio di. Mae fy enaid yn sychedu amdanat. Mae fy nghorff yn dyheu amdanat, fel tir sych ac anial sydd heb ddŵr. Ydw, dw i wedi dy weld di yn y cysegr, a gweld dy rym a dy ysblander! Profi dy ffyddlondeb di ydy'r peth gorau am fywyd, ac mae fy ngwefusau'n dy foli di! Dw i'n mynd i dy foli fel yma am weddill fy mywyd; codi fy nwylo mewn gweddi, a galw ar dy enw. Dw i wedi fy modloni'n llwyr, fel ar ôl bwyta gwledd! Dw i'n canu mawl i ti â gwefusau llawen. Dw i'n meddwl amdanat wrth orwedd ar fy ngwely, ac yn myfyrio arnat ti yng nghanol y nos; Dw i'n cofio fel y gwnest ti fy helpu — ron i'n gorfoleddu, yn saff dan gysgod dy adenydd. Dw i am lynu'n dynn wrthot ti; dy law gref di sy'n fy nghynnal i. Bydd y rhai sy'n ceisio fy lladd i yn mynd i lawr yn ddwfn i'r ddaear. Bydd y rhai sydd am fy nharo gyda'r cleddyf yn cael eu gadael yn fwyd i siacaliaid. Ond bydd y brenin yn dathlu beth wnaeth Duw. Bydd pawb sy'n tyngu llw iddo yn gorfoleddu, pan fydd e'n cau cegau y rhai celwyddog! I'r arweinydd cerdd: Salm Dafydd. [1] Gwranda arna i, O Dduw, wrth i mi swnian. Amddiffyn fi rhag y gelynion sy'n ymosod. Cuddia fi oddi wrth y mob o ddynion drwg; y gang sydd ddim ond am godi twrw. Maen nhw'n hogi eu tafodau fel cleddyfau, ac yn anelu eu geiriau creulon fel saethau. Maen nhw'n cuddio er mwyn saethu'r dieuog — ei saethu'n ddi-rybudd. Dŷn nhw'n ofni dim. Maen nhw'n annog ei gilydd i wneud drwg, ac yn siarad am osod trapiau, gan feddwl, “Does neb yn ein gweld.” Maen nhw'n cynllwynio gyda'i gilydd, “Y cynllun perffaith!” medden nhw. (Mae'r galon a'r meddwl dynol mor ddwfn!) Ond bydd Duw yn eu taro nhw gyda'i saeth e; yn sydyn byddan nhw wedi syrthio. Bydd eu geiriau yn arwain at eu cwymp, a bydd pawb fydd yn eu gweld yn ysgwyd eu pennau'n syn. Bydd pawb yn sefyll yn syfrdan! Byddan nhw'n siarad am beth wnaeth Duw, ac yn dechrau deall sut mae e'n gweithredu. Bydd y rhai sy'n byw'n gywir yn gorfoleddu yn yr ARGLWYDD; ac yn dod o hyd i le saff ynddo fe. Bydd pawb sy'n gwneud beth sy'n iawn yn dathlu. I'r arweinydd cerdd: Salm Dafydd. Cân. [1] Safwn yn dawel, a dy addoli yn Seion, O Dduw; a chyflawni'n haddewidion i ti. Ti sy'n gwrando gweddïau, boed i bob person byw ddod atat ti! Pan mae'n holl bechodau yn ein llethu ni, rwyt ti'n maddau'r gwrthryfel i gyd. Y fath fendith sydd i'r rhai rwyt ti'n eu dewis, a'u gwahodd i dreulio amser yn iard dy deml. Llenwa ni â bendithion dy dŷ, sef dy deml sanctaidd! Ti'n gwneud pethau syfrdanol i wneud pethau'n iawn, a'n hateb O Dduw, ein hachubwr. Mae pobl drwy'r byd i gyd, ac ymhell dros y môr, yn dibynnu arnat ti. Ti, yn dy nerth, roddodd y mynyddoedd yn eu lle; Rwyt ti mor gryf! Ti sy'n tawelu'r môr stormus, a'i donnau gwyllt, a'r holl bobloedd sy'n codi terfysg. Mae pobl ym mhen draw'r byd wedi eu syfrdanu gan dy weithredoedd. O'r dwyrain i'r gorllewin maen nhw'n gweiddi'n llawen. Ti'n gofalu am y ddaear, yn ei dyfrio a'i gwneud yn hynod ffrwythlon. Mae'r sianel ddwyfol yn gorlifo o ddŵr! Ti'n rhoi ŷd i bobl drwy baratoi'r tir fel yma. Ti'n socian y cwysi ac mae dŵr yn llifo i'r rhychau. Ti'n mwydo'r tir â chawodydd, ac yn bendithio'r cnwd sy'n tyfu. Dy ddaioni di sy'n coroni'r flwyddyn! Mae dy lwybrau'n diferu digonedd! Mae hyd yn oed porfa'r anialwch yn diferu, a'r bryniau wedi eu gwisgo â llawenydd! Mae'r caeau wedi eu gorchuddio gyda defaid a geifr, a'r dyffrynnoedd yn gwisgo mantell o ŷd. Maen nhw'n gweiddi ac yn canu'n llawen. I'r arweinydd cerdd: Cân. Salm. [1] Gwaeddwch yn uchel i Dduw, holl bobl y byd! Canwch gân i ddweud mor wych ydy e, a'i foli'n hyfryd. Dwedwch wrth Dduw, “Mae dy weithredoedd di mor syfrdanol! Am dy fod ti mor rymus mae dy elynion yn crynu o dy flaen. Mae'r byd i gyd yn dy addoli, ac yn canu mawl i ti! Maen nhw'n dy foli di ar gân!” Saib Dewch i weld beth wnaeth Duw. Mae'r hyn wna ar ran pobl yn syfrdanol. Trodd y môr yn dir sych, a dyma nhw'n cerdded drwy'r afon! Gadewch i ni ddathlu'r peth! Mae e'n dal i deyrnasu yn ei nerth, ac mae'n cadw ei lygaid ar y cenhedloedd; felly peidiwch gwrthryfela a chodi yn ei erbyn. Saib O bobloedd, bendithiwch ein Duw ni; gadewch i ni glywed pobl yn ei foli! Fe sy'n ein cadw ni'n fyw; dydy e ddim wedi gadael i'n traed lithro. Ti wedi ein profi ni, O Dduw, a'n puro ni fel arian mewn ffwrnais. Ti wedi ein dal ni mewn rhwyd, a gwneud i ni ddioddef baich trwm. Ti wedi gadael i bobl farchogaeth troson ni. Dŷn ni wedi bod trwy ddŵr a thân, ond ti wedi dod â ni trwy'r cwbl i brofi digonedd. Dw i'n dod i dy deml ag offrymau llosg ac yn cadw fy addewidion, drwy wneud popeth wnes i addo pan oeddwn i mewn trafferthion. Dw i'n dod ag anifeiliaid wedi eu pesgi yn offrymau llosg — arogl hyrddod yn cael eu llosgi, teirw a bychod geifr yn cael eu haberthu. Saib Dewch i wrando, chi sy'n addoli Duw, i mi ddweud wrthoch chi beth wnaeth e i mi. Dyma fi'n gweiddi'n uchel arno am help — roeddwn i'n barod i'w foli. Petawn i'n euog o feddwl yn ddrwg amdano, fyddai'r ARGLWYDD ddim wedi gwrando arna i. Ond dyma Duw yn clywed; a gwrando ar fy ngweddi. Mae Duw yn haeddu ei foli! Wnaeth e ddim diystyru fy ngweddi, na bod yn anffyddlon i mi. I'r arweinydd cerdd: Cân i gyfeiliant offerynnol. Salm. [1] O Dduw, dangos drugaredd aton ni a'n bendithio ni. Bydd yn garedig wrthon ni. Saib Wedyn bydd pawb drwy'r byd yn gwybod sut un wyt ti; bydd y gwledydd i gyd yn gwybod dy fod ti'n gallu achub. Bydd pobloedd yn dy foli, O Dduw; bydd y bobloedd i gyd yn dy foli di! Bydd y cenhedloedd yn dathlu ac yn gweiddi'n llawen, am dy fod ti'n barnu'n hollol deg, ac yn arwain cenhedloedd y ddaear. Saib Bydd pobloedd yn dy foli, O Dduw; bydd y bobloedd i gyd yn dy foli di! Mae'r tir yn rhoi ei gynhaeaf i ni! O Dduw, ein Duw, dal ati i'n bendithio. O Dduw, bendithia ni! Wedyn bydd pobl drwy'r byd i gyd yn dy addoli. I'r arweinydd cerdd: Salm Dafydd. Cân. [1] Pan mae Duw yn codi, mae'r gelynion yn cael eu gwasgaru; mae'r rhai sydd yn ei erbyn yn dianc oddi wrtho. Chwytha nhw i ffwrdd, fel mwg yn cael ei chwythu gan y gwynt! Bydd pobl ddrwg yn cael eu difa gan Dduw, fel cwyr yn cael ei doddi gan dân. Ond bydd y rhai cyfiawn yn dathlu, ac yn gorfoleddu o flaen Duw; byddan nhw wrth eu boddau! Canwch i Dduw! Canwch gân o fawl iddo, a chanmol yr un sy'n marchogaeth y cymylau! Yr ARGLWYDD ydy ei enw! Dewch i ddathlu o'i flaen! Tad plant amddifad, yr un sy'n amddiffyn gweddwon, ie, Duw yn ei gysegr. Mae Duw yn rhoi'r digartref mewn teulu, ac yn gollwng caethion yn rhydd i sain cerddoriaeth. Ond bydd y rhai sy'n gwrthryfela yn byw mewn anialwch. O Dduw, pan oeddet ti'n arwain dy bobl allan, ac yn martsio ar draws yr anialwch, Saib dyma'r ddaear yn crynu, a'r awyr yn arllwys y glaw o flaen Duw, yr un oedd ar Sinai, o flaen Duw, sef Duw Israel. Rhoist ddigonedd o law i'r tir, O Dduw, ac adfer dy etifeddiaeth pan oedd yn gwywo. Dyna ble mae dy bobl yn byw. Buost yn dda, a rhoi yn hael i'r anghenus, O Dduw. Mae'r ARGLWYDD yn dweud y gair, ac mae tyrfa o ferched yn cyhoeddi'r newyddion da: Mae'r brenhinoedd a'u byddinoedd yn ffoi ar frys, a gwragedd tŷ yn rhannu'r ysbail. “Er dy fod wedi aros adre rhwng y corlannau, dyma i ti adenydd colomen wedi eu gorchuddio ag arian a blaenau'r adenydd yn aur melyn coeth.” Pan oedd y Duw Hollalluog yn gwasgaru'r brenhinoedd, roedd fel petai storm eira yn chwythu ar Fynydd Salmon! O fynydd anferth, mynydd Bashan; O fynydd y copaon uchel, mynydd Bashan; O fynydd y copaon uchel, pam wyt ti mor genfigennus o'r mynydd mae Duw wedi ei ddewis i fyw arno? Dyna ble bydd yr ARGLWYDD yn aros am byth! Mae gan Dduw ddegau o filoedd o gerbydau, a miloedd ar filoedd o filwyr. Mae'r ARGLWYDD gyda nhw; mae Duw Sinai wedi dod i'w gysegr! Ti wedi mynd i fyny i'r ucheldir, ac arwain caethion ar dy ôl, a derbyn rhoddion gan bobl — hyd yn oed gan y rhai oedd yn gwrthwynebu i ti aros yno, ARGLWYDD Dduw. Mae'r ARGLWYDD yn Dduw bendigedig! Mae e'n edrych ar ein holau ni o ddydd i ddydd. Duw ydy'n hachubwr ni! Saib Ein Duw ni ydy'r Duw sy'n achub! Gyda'r ARGLWYDD, ein Meistr, gallwn ddianc rhag marwolaeth. Fe ydy'r Duw sy'n taro pennau ei elynion — pob copa walltog sy'n euog o'i flaen. Dwedodd yr ARGLWYDD, “Bydda i'n dod a'r gelynion yn ôl o Bashan, ie, hyd yn oed yn ôl o waelod y môr! Byddi'n trochi dy draed yn eu gwaed, a bydd tafodau dy gŵn yn cael eu siâr o'r cyrff.” Mae pobl yn gweld dy orymdaith, O Dduw, yr orymdaith pan mae fy Nuw, fy mrenin, yn mynd i'r cysegr. Y cantorion ar y blaen, yna'r offerynnwr yng nghanol y merched ifanc sy'n taro'r tambwrîn. “Bendithiwch Dduw yn y gynulleidfa fawr! Bendithiwch yr ARGLWYDD, bawb sy'n tarddu o ffynnon Israel.” Dacw Benjamin, yr ifancaf, yn arwain; penaethiaid Jwda yn dyrfa swnllyd; penaethiaid Sabulon a Nafftali. Mae dy Dduw yn dy wneud di'n gryf! O Dduw, sydd wedi gweithredu ar ein rhan, dangos dy rym wrth ddod o dy deml yn Jerwsalem. Boed i frenhinoedd dalu teyrnged i ti! Cerydda fwystfil y corsydd brwyn, y gyr o deirw a'r bobl sy'n eu dilyn fel lloi! Gwna iddyn nhw blygu o dy flaen a rhoi arian i ti'n rhodd. Ti'n gyrru'r bobloedd sy'n mwynhau rhyfel ar chwâl! Bydd llysgenhadon yn dod o'r Aifft, a bydd pobl Affrica yn brysio i dalu teyrnged i Dduw. Canwch i Dduw, chi wledydd y byd! Canwch fawl i'r ARGLWYDD. Saib I'r un sy'n marchogaeth drwy'r awyr — yr awyr sydd yno o'r dechrau. Gwrandwch! Mae ei lais nerthol yn taranu. Cyfaddefwch mor rymus ydy Duw! Mae e'n teyrnasu yn ei holl ysblander dros Israel, ac yn dangos ei rym yn yr awyr. O Dduw, rwyt ti'n syfrdanol yn dod allan o dy gysegr! Ie, Duw Israel sy'n rhoi grym a nerth i'w bobl. Boed i Dduw gael ei anrhydeddu! I'r arweinydd cerdd: Ar yr alaw ‛Lilïau‛. Salm Dafydd. [1] Achub fi, O Dduw, mae'r dŵr i fyny at fy ngwddf. Dw i'n suddo mewn cors ddofn, a does dim byd i mi sefyll arno. Dw i mewn dyfroedd dyfnion, ac yn cael fy ysgubo i ffwrdd gan y llifogydd. Dw i wedi blino gweiddi am help; mae fy ngwddf yn sych; mae fy llygaid yn cau ar ôl bod yn disgwyl yn obeithiol am Dduw. Mae mwy o bobl yn fy nghasáu i, nag sydd o flew ar fy mhen. Mae cymaint o bobl gelwyddog yn fy erbyn i, ac eisiau fy nistrywio i. Sut alla i roi yn ôl rywbeth dw i heb ei ddwyn? O Dduw, rwyt ti'n gwybod gymaint o ffŵl ydw i. Dydy'r pethau dw i'n euog o'u gwneud ddim wedi eu cuddio oddi wrthot ti. Paid gadael i'r rhai sy'n dy drystio di fod â chywilydd ohono i, Feistr, ARGLWYDD holl-bwerus. Paid gadael i'r rhai sy'n dy ddilyn di gael eu bychanu, O Dduw Israel. Ti ydy'r rheswm pam dw i'n cael fy sarhau, a'm cywilyddio; Dydy fy nheulu ddim eisiau fy nabod i; dw i fel rhywun estron i'm brodyr a'm chwiorydd. Mae fy sêl dros dy dŷ di wedi fy meddiannu i; dw i'n cael fy sarhau gan y rhai sy'n dy sarhau di. Hyd yn oed pan oeddwn i'n wylo ac ymprydio roeddwn i'n destun sbort. Roedd pobl yn gwneud hwyl ar fy mhen pan oeddwn i'n gwisgo sachliain. Mae'r rhai sy'n eistedd wrth giât y ddinas yn siarad amdana i; a dw i'n destun cân i'r meddwon. O ARGLWYDD, dw i'n gweddïo arnat ti ac yn gofyn i ti ddangos ffafr ata i. O Dduw, am dy fod ti mor ffyddlon, ateb fi ac achub fi. Tynna fi allan o'r mwd yma. Paid gadael i mi suddo! Achub fi rhag y bobl sy'n fy nghasáu i — achub fi o'r dŵr dwfn. Paid gadael i'r llifogydd fy ysgubo i ffwrdd! Paid gadael i'r dyfnder fy llyncu. Paid gadael i geg y pwll gau arna i. Ateb fi, ARGLWYDD; rwyt ti mor ffyddlon. Tro ata i, gan dy fod ti mor drugarog; Paid troi dy gefn ar dy was — dw i mewn trafferthion, felly brysia! Ateb fi! Tyrd yma! Gollwng fi'n rhydd! Gad i mi ddianc o afael y gelynion. Ti'n gwybod fel dw i wedi cael fy sarhau, a'm bychanu a'm cywilyddio. Ti'n gweld y gelynion i gyd. Mae'r sarhau wedi torri fy nghalon i. Dw i'n anobeithio. Dw i'n edrych am gydymdeimlad, ond yn cael dim; am rai i'm cysuro, ond does neb. Yn lle hynny maen nhw'n rhoi gwenwyn yn fy mwyd, ac yn gwneud i mi yfed finegr i dorri fy syched. Gad i'w bwrdd bwyd droi'n fagl iddyn nhw, ac yn drap i'w ffrindiau nhw. Gad iddyn nhw golli eu golwg a mynd yn ddall. Gwna iddyn nhw grynu mewn ofn drwy'r adeg. Tywallt dy ddicter arnyn nhw. Gwylltia'n gynddeiriog gyda nhw. Gwna eu gwersylloedd nhw yn anial, heb neb yn byw yn eu pebyll! Maen nhw'n blino y rhai rwyt ti wedi eu taro, ac yn siarad am boen yr rhai rwyt ti wedi eu hanafu. Ychwanega hyn at y pethau maen nhw'n euog o'u gwneud. Paid gadael iddyn nhw fynd yn rhydd! Rhwbia eu henwau oddi ar sgrôl y rhai sy'n fyw, Paid rhestru nhw gyda'r bobl sy'n iawn gyda ti. Ond fi — yr un sy'n dioddef ac mewn poen — O Dduw, achub fi a chadw fi'n saff. Dw i'n mynd i ganu cân o fawl i Dduw; a'i ganmol a diolch iddo. Bydd hynny'n plesio'r ARGLWYDD fwy nag ychen, neu darw gyda chyrn a charnau. Bydd pobl gyffredin yn gweld hyn ac yn dathlu. Felly codwch eich calonnau, chi sy'n ceisio dilyn Duw! Mae'r ARGLWYDD yn gwrando ar y rhai sydd mewn angen, a dydy e ddim yn diystyru ei bobl sy'n gaeth. Boed i'r nefoedd a'r ddaear ei foli, a'r môr hefyd, a phopeth sydd ynddo! Oherwydd bydd Duw yn achub Seion ac yn adeiladu trefi Jwda eto. Bydd y bobl sy'n ei wasanaethu yn byw yno ac yn meddiannu'r wlad. Bydd eu disgynyddion yn ei hetifeddu; a bydd y rhai sy'n caru ei enw yn cael byw yno. I'r arweinydd cerdd: Salm Dafydd. I'th atgoffa. [1] O Dduw, achub fi! O ARGLWYDD, brysia i'm helpu! Gwna i'r rhai sydd am fy lladd i deimlo embaras a chywilydd. Gwna i'r rhai sydd am wneud niwed i mi droi yn ôl mewn cywilydd. Gwna i'r rhai sy'n chwerthin ar fy mhen droi yn ôl mewn cywilydd. Ond gwna i bawb sy'n dy geisio di ddathlu'n llawen! Gwna i'r rhai sy'n mwynhau dy weld ti'n achub ddweud, “Mae Duw mor fawr!” Dw i mewn angen ac yn ddiamddiffyn; O Dduw, brysia ata i! Ti ydy'r un sy'n gallu fy helpu a'm hachub. O ARGLWYDD, paid oedi! Dw i'n troi atat ti am loches, O ARGLWYDD; paid gadael i mi gael fy siomi. Rwyt ti'n gyfiawn, felly achub fi a gollwng fi'n rhydd. Gwranda arna i! Achub fi! Bydd yn graig i mi gysgodi tani — yn gaer lle bydda i'n hollol saff! Ti ydy'r graig ddiogel yna; ti ydy'r gaer. Fy Nuw, achub fi o ddwylo'r rhai drwg, ac o afael y rhai anghyfiawn a chreulon. Achos ti ydy fy ngobaith i, fy meistr, fy ARGLWYDD. Dw i wedi dy drystio di ers pan o'n i'n ifanc. Dw i'n dibynnu arnat ti ers cyn i mi gael fy ngeni; ti wedi gofalu amdana i o groth fy mam; a ti ydy testun fy mawl bob amser. Dw i wedi bod yn destun rhyfeddod i lawer, am dy fod ti wedi bod yn lle saff, cadarn i mi. Dw i'n dy foli di drwy'r adeg, ac yn dy ganmol drwy'r dydd. Paid taflu fi ffwrdd yn fy henaint; a'm gadael wrth i'r corff wanhau! Mae fy ngelynion yn siarad amdana i; a'r rhai sy'n gwylio fy mywyd yn cynllwynio. “Mae Duw wedi ei adael,” medden nhw; “Ewch ar ei ôl a'i ddal; fydd neb yn dod i'w achub!” O Dduw, paid mynd yn rhy bell! Fy Nuw, brysia i'm helpu i! Gad i'r rhai sy'n fy erbyn i gael eu cywilyddio'n llwyr. Gad i'r rhai sydd am wneud niwed i mi gael eu gwisgo mewn gwarth a chywilydd! Ond bydda i'n gobeithio bob amser, ac yn dal ati i dy foli di fwy a mwy. Bydda i'n dweud am dy gyfiawnder. Bydda i'n sôn yn ddi-baid am y ffordd rwyt ti'n achub; Mae cymaint i'w ddweud! Dw i'n dod i ddweud am y pethau mawr rwyt ti'n eu gwneud — fy meistr, fy ARGLWYDD — a dathlu'r ffaith dy fod mor gyfiawn — ie, ti yn unig! O Dduw, dw i wedi profi'r peth ers pan yn ifanc, ac wedi bod yn sôn am y pethau rhyfeddol rwyt ti'n eu gwneud hyd heddiw. Dw i bellach yn hen a'm gwallt yn wyn, ond paid gadael fi nawr, O Dduw. Dw i eisiau dweud wrth y genhedlaeth sydd i ddod am dy gryfder a'r pethau mawr rwyt ti'n eu gwneud. Mae dy gyfiawnder yn cyrraedd y nefoedd, O Dduw! Ti wedi gwneud pethau mor fawr — O Dduw, does neb tebyg i ti! Er i ti adael i mi wynebu pob math o brofiadau chwerw, wnei di adael i mi fyw eto? Wnei di fy nghodi eto o ddyfnderoedd y ddaear? Adfer fy enw da! Cysura fi unwaith eto. Yna byddaf yn dy foli gyda'r nabl, a chanmol dy ffyddlondeb, O fy Nuw! Bydda i'n canu i ti gyda'r delyn, O Un Sanctaidd Israel. Bydda i'n gweiddi'n llawen, ac yn canu i ti go iawn — ie, â'm holl nerth, am i ti ngollwng i'n rhydd. Fydda i ddim yn stopio sôn am dy gyfiawnder. Bydd y rhai oedd am wneud niwed i mi yn cael eu siomi a'u cywilyddio! Gan Solomon. [1] O Dduw, rho'r gallu i'r brenin i farnu'n deg, a gwna i fab y brenin wneud beth sy'n iawn. Helpa fe i farnu'r bobl yn ddiduedd, a thrin dy bobl anghenus yn iawn. Boed i'r mynyddoedd gyhoeddi heddwch a'r bryniau gyfiawnder i'r bobl. Bydd e'n amddiffyn achos pobl dlawd, yn achub pawb sydd mewn angen ac yn cosbi'r rhai sy'n eu cam-drin. Bydd pobl yn dy addoli tra bydd haul yn yr awyr, a'r lleuad yn goleuo, o un genhedlaeth i'r llall. Bydd fel glaw mân yn disgyn ar dir ffrwythlon, neu gawodydd trwm yn dyfrhau y tir. Gwna i gyfiawnder lwyddo yn ei ddyddiau, ac i heddwch gynyddu tra bo'r lleuad yn yr awyr. Boed iddo deyrnasu o fôr i fôr, ac o'r Afon Ewffrates i ben draw'r byd! Gwna i lwythau'r anialwch blygu o'i flaen, ac i'w elynion lyfu'r llwch. Bydd brenhinoedd Tarshish a'r ynysoedd yn talu trethi iddo; brenhinoedd Sheba a Seba yn dod â rhoddion iddo. Bydd y brenhinoedd i gyd yn plygu o'i flaen, a'r cenhedloedd i gyd yn ei wasanaethu. Mae'n achub y rhai sy'n galw arno mewn angen, a'r tlawd sydd heb neb i'w helpu. Mae'n gofalu am y gwan a'r anghenus, ac yn achub y tlodion. Mae'n eu rhyddhau nhw o afael gormes a thrais; mae eu bywyd nhw'n werthfawr yn ei olwg. Hir oes iddo! Boed iddo dderbyn aur o Sheba; Boed i bobl weddïo drosto'n ddi-baid a dymuno bendith Duw arno bob amser. Boed digonedd o ŷd yn y wlad — yn tyfu hyd at ben y mynyddoedd! Boed i'r cnydau lwyddo fel coed Libanus! Boed i bobl y trefi ffynnu fel glaswellt! Boed iddo fod yn enwog am byth; a boed i'w linach aros tra bod haul yn yr awyr! Boed i bobl gael eu bendithio trwyddo, ac i genhedloedd weld mor hapus ydy e. Bendith ar yr ARGLWYDD Dduw! Duw Israel, yr unig un sy'n gwneud pethau rhyfeddol! Bendigedig fyddo'i enw gwych am byth! Boed i'w ysblander lenwi'r byd i gyd! Ie! Amen ac Amen. Dyma ddiwedd y casgliad yma o weddïau Dafydd fab Jesse. Salm gan Asaff. [1] Ydy wir, mae Duw mor dda i Israel; i'r rhai sydd â chalon lân. Ond bu bron i mi faglu; roeddwn i bron iawn a llithro. Ro'n i'n genfigennus o'r rhai balch, wrth weld pobl ddrwg yn llwyddo. Does dim byd yn eu rhwymo nhw; maen nhw'n iach yn gorfforol; ddim yn cael eu hunain i helyntion fel pobl eraill; a ddim yn dioddef fel y gweddill ohonon ni. Maen nhw'n gwisgo balchder fel cadwyn aur am eu gwddf, a chreulondeb ydy'r wisg amdanyn nhw. Maen nhw'n llond eu croen, ac mor llawn ohonyn nhw eu hunain hefyd! Maen nhw'n gwawdio ac yn siarad yn faleisus, ac mor hunanhyderus wrth fygwth gormesu. Maen nhw'n siarad fel petai piau nhw'r nefoedd, ac yn strytian yn falch wrth drin y ddaear. Ac mae pobl Dduw yn dilyn eu hesiampl, ac yn llyncu eu llwyddiant fel dŵr. “Na, fydd Duw ddim yn gwybod!” medden nhw. “Ydy'r Goruchaf yn gwybod unrhyw beth?” Edrychwch! Dyna sut rai ydy pobl ddrwg! Yn malio dim, ac yn casglu cyfoeth. Mae'n rhaid fy mod i wedi cadw fy nghalon yn lân i ddim byd! Wedi bod mor ddiniwed wrth olchi fy nwylo! Dw i wedi cael fy mhlagio'n ddi-baid, ac wedi dioddef rhyw gosb newydd bob bore. Petawn i wedi siarad yn agored fel hyn byddwn i wedi bradychu dy bobl di. Roeddwn i'n ceisio deall y peth, a doedd e'n gwneud dim sens, nes i mi fynd i mewn i deml Dduw a sylweddoli beth oedd tynged y rhai drwg! Byddi'n eu gosod nhw mewn lleoedd llithrig; ac yn gwneud iddyn nhw syrthio i ddinistr. Byddan nhw'n cael eu dinistrio mewn chwinciad! Byddan nhw'n cael eu hysgubo i ffwrdd gan ofn. Fel breuddwyd ar ôl i rywun ddeffro, byddi di'n deffro, O ARGLWYDD, a fyddan nhw'n ddim byd ond atgof. Dw i wedi bod yn chwerw fel finegr, a gadael i'r cwbl gorddi tu mewn i mi. Dw i wedi bod mor dwp ac afresymol. Dw i wedi ymddwyn fel anifail gwyllt o dy flaen di. Ac eto, dw i'n dal gyda ti; rwyt ti'n gafael yn dynn ynof fi. Ti sy'n dangos y ffordd ymlaen i mi, a byddi'n fy nerbyn ac yn fy anrhydeddu. Pwy sydd gen i yn y nefoedd ond ti? A does gen i eisiau neb ond ti ar y ddaear chwaith. Mae'r corff a'r meddwl yn pallu, ond mae Duw'n graig ddiogel i mi bob amser. Bydd y rhai sy'n bell oddi wrthot ti yn cael eu difa; byddi'n dinistrio pawb sy'n anffyddlon i ti. Ond dw i'n gwybod mai cadw'n agos at Dduw sydd orau. Mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn fy nghadw'n saff. Dw i'n mynd i ddweud wrth bawb am beth rwyt ti wedi ei wneud! Mascîl gan Asaff. [1] O Dduw, pam wyt ti'n ddig gyda ni drwy'r amser? Pam mae dy ffroenau'n mygu yn erbyn defaid dy borfa? Cofia'r criw o bobl gymeraist ti i ti dy hun mor bell yn ôl; y bobl ollyngaist yn rhydd i fod yn llwyth sbesial i ti! Dyma Fynydd Seion ble rwyt ti'n byw! Brysia! Edrych ar yr adfeilion diddiwedd yma, a'r holl niwed mae'r gelyn wedi ei wneud i dy deml! Mae'r gelyn wedi rhuo wrth ddathlu eu concwest yn dy gysegr; a gosod eu harwyddion a'u symbolau eu hunain yno. Roedden nhw fel dynion yn chwifio bwyeill wrth glirio drysni a choed; yn dryllio'r holl waith cerfio cywrain gyda bwyeill a morthwylion. Yna rhoi dy gysegr ar dân; a dinistrio'n llwyr y deml lle roeddet ti'n aros. “Gadewch i ni ddinistrio'r cwbl!” medden nhw. A dyma nhw'n llosgi pob cysegr i Dduw yn y tir. Does dim arwydd o obaith i'w weld! Does dim proffwyd ar ôl; neb sy'n gwybod am faint mae hyn yn mynd i bara. O Dduw, am faint mwy mae'r gelyn yn mynd i wawdio? Ydy e'n mynd i gael sarhau dy enw di am byth? Pam wyt ti ddim yn gwneud rhywbeth? Pam wyt ti'n dal yn ôl? Plîs gwna rywbeth! O Dduw, ti ydy fy Mrenin i o'r dechrau! Ti ydy'r Duw sy'n gweithredu ac yn achub ar y ddaear! Ti, yn dy nerth, wnaeth hollti'r môr. Ti ddrylliodd bennau y ddraig yn y dŵr. Ti sathrodd bennau Lefiathan, a'i adael yn fwyd i greaduriaid yr anialwch. Ti agorodd y ffynhonnau a'r nentydd, a sychu llif yr afonydd. Ti sy'n rheoli'r dydd a'r nos; ti osododd y lleuad a'r haul yn eu lle. Ti roddodd dymhorau i'r ddaear; haf a gaeaf — ti drefnodd y cwbl! Cofia fel mae'r gelyn wedi dy wawdio di, ARGLWYDD; fel mae pobl ffôl wedi dy sarhau di. Paid rhoi dy golomen i'r bwystfil! Paid anghofio dy bobl druan yn llwyr. Cofia'r ymrwymiad wnest ti! Mae lleoedd tywyll sy'n guddfan i greulondeb ym mhobman. Paid gadael i'r bobl sy'n dioddef droi'n ôl yn siomedig. Gad i'r tlawd a'r anghenus foli dy enw. Cod, O Dduw, a dadlau dy achos! Cofia fod ffyliaid yn dy wawdio drwy'r adeg. Paid diystyru twrw'r gelynion, a bloeddio diddiwedd y rhai sy'n dy wrthwynebu di. I'r arweinydd cerdd: Ar yr alaw ‛Paid dinistrio‛. Salm gan Asaff; Cân. [1] Dŷn ni'n diolch i ti, O Dduw; ie, diolch i ti! Rwyt ti wrth law bob amser, ac mae pobl yn sôn am y pethau rhyfeddol rwyt ti'n eu gwneud. Meddai Duw, “Mae amser wedi ei drefnu pan fydda i'n barnu'n deg. Pan mae'r ddaear a phawb sy'n byw arni yn crynu, fi sy'n cadw ei cholofnau'n gadarn. Saib Dw i'n dweud wrth y balch, ‘Peidiwch brolio!’ ac wrth y rhai drwg, ‘Peidiwch bod yn rhy siŵr ohonoch eich hunain! Peidiwch codi eich cyrn yn uchel a bod mor heriol wrth siarad.’” Nid o'r gorllewin na'r dwyrain, nac o'r anialwch y daw buddugoliaeth — Duw ydy'r un sy'n barnu; fe sy'n tynnu un i lawr ac yn codi un arall. Oes, mae cwpan yn llaw'r ARGLWYDD ac mae'r gwin ynddi yn ewynnu ac wedi ei gymysgu. Bydd yn ei dywallt allan, a bydd y rhai drwg ar y ddaear yn ei yfed — yn yfed pob diferyn! Ond bydda i'n ei glodfori am byth, ac yn canu mawl i Dduw Jacob, sy'n dweud, “Bydda i'n torri cyrn y rhai drwg, ac yn rhoi'r fuddugoliaeth i'r rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn.” I'r arweinydd cerdd. Salm gan Asaff i gyfeiliant offerynnol. Cân. [1] Mae pawb yn Jwda'n gwybod am Dduw; mae ganddo enw da yn Israel. Mae'n byw ar fynydd Seion, yn Jerwsalem, dinas heddwch. Dyna ble torrodd e'r saethau tanllyd, y darian, y cleddyf, a'r holl arfau rhyfel. Saib Ti ydy'r Un Disglair, yr Un Hardd sy'n dod i lawr o'r mynyddoedd ar ôl trechu dy elynion. Cafodd eu milwyr dewr eu hysbeilio! Maen nhw'n ‛cysgu‛ am y tro ola! Doedd y rhyfelwr cryfaf ddim yn gallu codi bys! Dyma ti'n rhoi bloedd, O Dduw Jacob, ac roedd pob marchog a gyrrwr cerbyd yn farw. O! Rwyt ti mor rhyfeddol! Pwy sy'n gallu sefyll yn dy erbyn pan rwyt ti'n ddig? Wrth i ti gyhoeddi dy ddedfryd o'r nefoedd, roedd y ddaear wedi ei pharlysu gan ofn, wrth weld Duw yn codi i farnu ac achub y rhai sy'n cael eu cam-drin yn y tir. Saib Bydd rhai mwyaf ffyrnig y ddaear yn dy gydnabod pan fyddi'n dangos dy ddigofaint yn llawn. Gwnewch addunedau i'r ARGLWYDD eich Duw, a'u cadw! Boed i bawb sydd o'i gwmpas ddod â rhoddion i'r Duw sydd i'w ofni! Mae'n torri crib y llywodraethwyr balch, ac yn dychryn brenhinoedd y ddaear. I'r arweinydd cerdd: Salm gan Asaff ar yr alaw ‛Cyffes‛. [1] Dw i'n gweiddi'n uchel ar Dduw; yn gweiddi'n uchel ar iddo wrando arna i. Dw i mewn helbul, ac yn troi at yr ARGLWYDD; dw i wedi bod yn estyn fy nwylo ato mewn gweddi trwy'r nos, ond ches i ddim cysur. Dw i wedi bod yn ochneidio wrth feddwl am Dduw, dw i wedi bod yn myfyrio arno — ond yn anobeithio. Saib Ti sydd wedi fy nghadw i'n effro; dw i mor boenus, wn i ddim beth i'w ddweud. Dw i wedi bod yn meddwl am yr hen ddyddiau, flynyddoedd lawer yn ôl. Cofio'r gân roeddwn i'n arfer ei chanu. Meddwl drwy'r nos am y peth, a chwilio am ateb. “Ydy'r ARGLWYDD wedi troi cefn arnon ni am byth? Ydy e'n mynd i ddangos ei ffafr aton ni eto? Ydy ei ffyddlondeb e wedi dod i ben yn llwyr? Ydy'r addewidion wnaeth e byth yn mynd i gael eu cyflawni? Ydy Duw wedi anghofio sut i ddangos trugaredd? Ydy ei ddig yn gryfach na'i dosturi?” Saib “Mae meddwl y fath beth yn codi cyfog arna i: fod y Goruchaf wedi newid ei ffyrdd.” Dw i'n mynd i atgoffa fy hun beth wnaeth yr ARGLWYDD — ydw, dw i'n cofio'r pethau rhyfeddol wnest ti ers talwm! Dw i'n mynd i gofio am bopeth wnest ti, a myfyrio ar y cwbl. O Dduw, mae dy ffyrdd di yn gwbl unigryw! Oes yna dduw tebyg i'n Duw ni? Na! Ti ydy'r Duw sy'n gwneud pethau anhygoel! Ti wedi dangos dy nerth i'r bobloedd i gyd. Ti wnaeth ollwng dy bobl yn rhydd gyda dy fraich gref, sef disgynyddion Jacob a Joseff. Saib Dyma'r dyfroedd yn dy weld di, O Dduw, dyma'r dyfroedd yn dy weld di ac yn cynhyrfu. Roedd y môr dwfn yn crynu mewn ofn! Roedd y cymylau'n tywallt y glaw; yr awyr yn taranu, a dy saethau yn fflachio ym mhobman. Roedd dy lais i'w glywed yn taranu yn y storm; dy fellt yn goleuo'r byd, a'r ddaear yn crynu trwyddi. Agoraist ffordd drwy'r môr; Cerddaist drwy'r dyfroedd cryfion, er bod neb yn gweld olion dy draed. Dyma ti'n arwain dy bobl fel praidd dan ofal Moses ac Aaron. Mascîl gan Asaff. [1] Gwrandwch arna i'n eich dysgu, fy mhobl! Trowch i wrando ar beth dw i'n ddweud. Dw i'n mynd i adrodd straeon, a dweud am bethau o'r gorffennol sy'n ddirgelwch; pethau glywson ni, a'u dysgu am fod ein hynafiaid wedi adrodd y stori. A byddwn ni'n eu rhannu gyda'n plant, ac yn dweud wrth y genhedlaeth nesa. Dweud fod yr ARGLWYDD yn haeddu ei foli! Son am ei nerth a'r pethau rhyfeddol a wnaeth. Rhoddodd ei reolau i bobl Jacob, a sefydlu ei gyfraith yn Israel. Gorchmynnodd i'n hynafiaid eu dysgu i'w plant, er mwyn i'r genhedlaeth nesaf wybod sef y plant sydd heb eu geni eto — iddyn nhw, yn eu tro, ddysgu eu plant. Iddyn nhw ddysgu trystio Duw a peidio anghofio'r pethau mawr mae'n eu gwneud. Iddyn nhw fod yn ufudd i'w orchmynion, yn lle bod fel eu hynafiaid yn tynnu'n groes ac yn ystyfnig; cenhedlaeth oedd yn anghyson, ac yn anffyddlon i Dduw. Fel dynion Effraim, bwasaethwyr gwych, yn troi cefn yng nghanol y frwydr. Wnaethon nhw ddim cadw eu hymrwymiad i Dduw, na gwrando ar ei ddysgeidiaeth. Roedden nhw wedi anghofio'r cwbl wnaeth e, a'r pethau rhyfeddol oedd wedi ei ddangos iddyn nhw. Gwnaeth bethau rhyfeddol o flaen eu hynafiaid yn yr Aifft, ar wastatir Soan. Holltodd y môr a'u harwain nhw trwyddo; a gwneud i'r dŵr sefyll i fyny fel wal. Eu harwain gyda chwmwl yn ystod y dydd, ac yna tân disglair drwy'r nos. Holltodd greigiau yn yr anialwch, a rhoi digonedd o ddŵr iddyn nhw i'w yfed. Nentydd yn arllwys o'r graig; dŵr yn llifo fel afonydd! Ond roedden nhw'n dal i bechu yn ei erbyn, a herio'r Duw Goruchaf yn yr anialwch. Roedden nhw'n fwriadol yn rhoi Duw ar brawf trwy hawlio'r bwyd roedden nhw'n crefu amdano. Roedden nhw'n sarhau Duw trwy ofyn, “Ydy'r gallu gan Dduw i wneud hyn? All e baratoi gwledd i ni yn yr anialwch? Mae'n wir ei fod wedi taro'r graig, a bod dŵr wedi pistyllio allan a llifo fel afonydd. Ond ydy e'n gallu rhoi bwyd i ni hefyd? Ydy e'n gallu rhoi cig i'w bobl?” Roedd yr ARGLWYDD yn gynddeiriog pan glywodd hyn. Roedd fel tân yn llosgi yn erbyn pobl Jacob. Roedd wedi gwylltio'n lân gydag Israel, am eu bod nhw heb drystio Duw, a chredu ei fod yn gallu achub. Ond rhoddodd orchymyn i'r awyr uwch eu pennau, ac agorodd ddrysau'r nefoedd. Glawiodd fanna iddyn nhw i'w fwyta; rhoddodd ŷd o'r nefoedd iddyn nhw! Cafodd y bobl fwyta bara'r angylion! Roedd digonedd o fwyd i bawb. Yna gwnaeth i wynt y dwyrain chwythu'n yr awyr, ac arweiniodd wynt y de drwy ei nerth. Roedd hi'n glawio cig fel llwch, adar yn hedfan — cymaint â'r tywod ar lan y môr! Gwnaeth iddyn nhw ddisgyn yng nghanol y gwersyll, o gwmpas y babell lle roedd e'i hun yn aros. Felly cawson nhw fwy na digon i'w fwyta; rhoddodd iddyn nhw'r bwyd roedden nhw'n crefu amdano. Ond cyn iddyn nhw orffen bwyta, pan oedd y bwyd yn dal yn eu cegau, dyma Duw yn dangos mor ddig oedd e! Lladdodd y rhai cryfaf ohonyn nhw, a tharo i lawr rai ifanc Israel. Ond hyd yn oed wedyn roedden nhw'n dal i bechu! Doedden nhw ddim yn credu yn ei allu rhyfeddol. Yn sydyn roedd Duw wedi dod a'u dyddiau i ben; daeth y diwedd mewn trychineb annisgwyl. Pan oedd Duw yn eu taro, dyma nhw'n ei geisio; roedden nhw'n troi'n ôl ato a hiraethu amdano. Dyma nhw'n cofio mai Duw oedd eu Craig ac mai'r Duw Goruchaf oedd wedi eu rhyddhau nhw. Ond doedd eu geiriau'n ddim byd ond rhagrith; roedden nhw'n dweud celwydd. Doedden nhw ddim wir o ddifrif; nac yn ffyddlon i'w hymrwymiad. Ac eto, mae Duw mor drugarog! Roedd yn maddau iddyn nhw am fod mor wamal; wnaeth e ddim eu dinistrio nhw. Roedd yn ffrwyno ei deimladau dro ar ôl tro, yn lle arllwys ei ddicter ffyrnig arnyn nhw. Roedd yn cofio mai pobl feidrol oedden nhw; chwa o wynt yn pasio heibio heb ddod yn ôl. Roedden nhw wedi gwrthryfela mor aml yn yr anialwch, a peri gofid iddo yn y tir diffaith. Rhoi Duw ar brawf dro ar ôl tro, a digio Un Sanctaidd Israel. Anghofio beth wnaeth e pan ollyngodd nhw'n rhydd o afael y gelyn. Roedd wedi dangos iddyn nhw yn yr Aifft, a gwneud pethau rhyfeddol ar wastatir Soan: Trodd yr afonydd yn waed, fel eu bod nhw'n methu yfed y dŵr. Anfonodd haid o bryfed i'w pigo a llyffaint i ddifetha'r wlad. Tarodd eu cnydau â phla o lindys, ffrwyth y tir â phla o locustiaid. Dinistriodd y gwinwydd â chenllysg, a'r coed sycamorwydd â rhew. Trawodd y cenllysg eu gwartheg, a'r mellt eu preiddiau. Dangosodd ei fod yn ddig gyda nhw, yn wyllt gynddeiriog! Tarodd nhw â thrybini, ac anfon criw o angylion dinistriol i agor llwybr i'w lid. Wnaeth e ddim arbed eu bywydau, ond anfon haint i'w dinistrio nhw. Trawodd y mab hynaf ym mhob teulu yn yr Aifft, ffrwyth cyntaf eu cyfathrach ym mhebyll Cham. Yna aeth â'i bobl allan fel defaid, a'u harwain fel praidd yn yr anialwch. Arweiniodd nhw'n saff a heb ofn; ond cafodd y gelynion eu llyncu yn y môr. Yna daeth â nhw i'w dir cysegredig, i'r mynydd oedd wedi ei gymryd trwy rym. Gyrrodd allan genhedloedd o'u blaenau, a rhannu'r tir rhyngddyn nhw; gwnaeth i lwythau Israel setlo yn eu lle. Ond dyma nhw'n rhoi'r Duw Goruchaf ar brawf eto! Gwrthryfela yn ei erbyn, a pheidio gwneud beth oedd yn ei ofyn. Dyma nhw'n troi eu cefnau arno, a bod yn anffyddlon fel eu hynafiaid; roedden nhw fel bwa llac — yn dda i ddim! Roedd eu hallorau paganaidd yn ei ddigio; a'u delwau metel yn ei wneud yn eiddigeddus. Clywodd Duw nhw wrthi, ac roedd yn gynddeiriog; a gwrthododd Israel yn llwyr. Trodd gefn ar ei dabernacl yn Seilo, sef y babell lle roedd yn byw gyda'i bobl. Gadawodd i'w Arch gael ei dal; rhoddodd ei ysblander yn nwylo'r gelyn! Gadawodd i'w bobl gael eu lladd gan y cleddyf; roedd wedi gwylltio gyda'i etifeddiaeth. Daeth tân i ddinistrio'r dynion ifanc, ac roedd merched ifanc yn marw cyn priodi. Trawodd y cleddyf eu hoffeiriaid i lawr, a doedd dim amser i'r gweddwon alaru. Ond yna dyma'r Meistr yn deffro! Roedd fel milwr gwallgo wedi cael gormod o win. Gyrrodd ei elynion yn eu holau a chodi cywilydd arnyn nhw am byth. Ond yna gadawodd dir Joseff; a pheidio dewis llwyth Effraim. Dewisodd lwyth Jwda, a Mynydd Seion mae mor hoff ohono. Cododd ei deml yn uchel fel y nefoedd, ac yn ddiogel fel y ddaear, sydd wedi ei sefydlu am byth. Dewisodd Dafydd, ei was, a'i gymryd oddi wrth y corlannau; o fod yn gofalu am y defaid i ofalu am ei bobl Jacob, sef Israel, ei etifeddiaeth. Gofalodd amdanyn nhw gydag ymroddiad llwyr; a'u harwain mor fedrus. Salm gan Asaff. [1] O Dduw, mae'r gwledydd paganaidd wedi cymryd dy dir. Maen nhw wedi halogi dy deml sanctaidd a troi Jerwsalem yn bentwr o gerrig. Maen nhw wedi gadael cyrff dy weision yn fwyd i'r adar; a chnawd dy bobl ffyddlon i anifeiliaid gwylltion. Mae gwaed dy bobl yn llifo fel dŵr o gwmpas Jerwsalem, a does neb i gladdu'r cyrff. Dŷn ni'n gyff gwawd i'n cymdogion; ac yn destun sbort a dirmyg i bawb o'n cwmpas. Am faint mwy, O ARGLWYDD? Fyddi di'n ddig am byth? Fydd dy eiddigedd, sy'n llosgi fel tân, byth yn diffodd? Tywallt dy lid ar y bobloedd sydd ddim yn dy nabod a'r teyrnasoedd hynny sydd ddim yn dy addoli! Nhw ydy'r rhai sydd wedi llarpio Jacob a dinistrio ei gartref. Aethon ni ar gyfeiliorn, ond paid dal hynny yn ein herbyn. Brysia! Dangos dosturi aton ni, achos dŷn ni mewn trafferthion go iawn! Helpa ni, O Dduw ein hachubwr, er mwyn dy enw da. Achub ni a maddau ein pechodau, er mwyn dy enw da. Pam ddylai'r paganiaid gael dweud, “Ble mae eu Duw nhw?” Gad i ni dy weld di'n rhoi gwers i'r cenhedloedd, a talu'n ôl iddyn nhw am dywallt gwaed dy weision. Gwrando ar y carcharorion rhyfel yn griddfan! Defnyddia dy nerth i arbed y rhai sydd wedi eu condemnio i farwolaeth! Tala yn ôl yn llawn i'n cymdogion! Maen nhw wedi dy enllibio di, Feistr. Yna byddwn ni, dy bobl a phraidd dy borfa, yn ddiolchgar i ti am byth ac yn dy foli di ar hyd y cenedlaethau! I'r arweinydd cerdd: Salm gan Asaff ar “Lilïau'r Dystiolaeth”. [1] Gwrando, o fugail Israel sy'n arwain Joseff fel praidd. Ti sydd wedi dy orseddu uwch ben y ceriwbiaid, disgleiria o flaen Effraim, Benjamin, a Manasse! Dangos dy nerth i ni, a tyrd i'n hachub! Adfer ni, O Dduw! Gwena'n garedig arnon ni! Achub ni! O ARGLWYDD Dduw holl-bwerus, am faint mwy rwyt ti'n mynd i fod yn ddig gyda gweddïau dy bobl? Ti wedi eu bwydo nhw â dagrau, a gwneud iddyn nhw yfed dagrau wrth y gasgen. Ti wedi troi ein cymdogion yn ein herbyn; mae'n gelynion yn gwneud sbort ar ein pennau. O Dduw holl-bwerus, adfer ni! Gwena'n garedig arnon ni! Achub ni! Cymeraist winwydden o'r Aifft, a gyrru cenhedloedd i ffwrdd er mwyn ei thrawsblannu hi. Cliriaist le iddi, er mwyn iddi fwrw gwreiddiau a llenwi'r tir. Roedd ei chysgod dros y mynyddoedd, a'i changhennau fel rhai coed cedrwydd. Roedd ei changhennau'n cyrraedd at y môr, a'i brigau at afon Ewffrates. Pam wnest ti fwrw'r wal o'i chwmpas i lawr, fel bod pwy bynnag sy'n pasio heibio yn pigo ei ffrwyth? Mae'r baedd gwyllt wedi tyrchu o dani, a'r pryfed yn bwyta ei dail. O Dduw holl-bwerus, tro yn ôl aton ni! Edrych i lawr o'r nefoedd ac archwilia gyflwr dy winwydden! Ti dy hun wnaeth ei phlannu, a gwneud iddi dyfu. Ond bellach mae hi wedi ei llosgi a'i thorri i lawr! Mae wedi ei difetha gan dy gerydd di. Nertha'r dyn rwyt wedi ei ddewis; yr un dynol rwyt wedi ei wneud yn gryf. Wnawn ni ddim troi cefn arnat ti. Adfywia ni, a byddwn ni'n galw ar dy enw. O ARGLWYDD Dduw holl-bwerus, adfer ni! Gwena'n garedig arnon ni! Achub ni! I'r arweinydd cerdd: Salm Asaff, ar yr alaw, ‛Y Gwinwryf‛. [1] Canwch yn llawen i Dduw, ein nerth! Gwaeddwch yn uchel ar Dduw Jacob! Canwch gân, taro'r drwm, a chanu'r delyn fwyn a'r nabl! Seiniwch y corn hwrdd ar y lleuad newydd, ar ddechrau'r Ŵyl pan mae'r lleuad yn llawn. Dyma'r drefn yn Israel; gorchymyn wedi ei roi gan Dduw Jacob. Rhoddodd hi'n rheol i bobl Joseff pan ymosododd ar yr Aifft i'w gollwng yn rhydd. Dw i'n clywed iaith dw i ddim yn ei deall — “Cymerais y baich oddi ar dy ysgwyddau, a dy ollwng yn rhydd o orfod cario'r fasged. Dyma ti'n gweiddi yn dy argyfwng, a dyma fi'n dy achub; atebais di o'r lle dirgel ble mae'r taranau. Yna dy roi ar brawf wrth Ffynnon Meriba. Saib Gwrandwch, fy mhobl, dw i'n eich rhybuddio chi! O na fyddet ti'n gwrando arna i, Israel! Dwyt ti ddim i gael duw arall na phlygu i lawr i addoli duw estron. Fi, yr ARGLWYDD ydy dy Dduw di. Fi ddaeth â ti allan o wlad yr Aifft. Agor dy geg, a bydda i'n dy fwydo! Ond wnaeth fy mhobl ddim gwrando. Wnaeth Israel ddim ufuddhau i mi; felly dyma fi'n gadael iddyn nhw fod yn ystyfnig a gwneud beth bynnag roedden nhw eisiau. O na fyddai fy mhobl yn gwrando arna i! O na fyddai Israel yn fy nilyn i! Byddwn i'n trechu eu gelynion nhw yn syth; ac yn ymosod ar y rhai sy'n eu gwrthwynebu nhw.” (Boed i'r rhai sy'n casáu'r ARGLWYDD wingo o'i flaen — dyna eu tynged nhw am byth!) “Byddwn i'n bwydo Israel â'r ŷd gorau; ac yn dy fodloni gyda mêl o'r graig.” Salm gan Asaff. [1] Mae Duw'n sefyll i fyny yn y cyngor dwyfol; ac yn cyhoeddi dedfryd yng nghanol y ‛duwiau‛. “Am faint ydych chi'n mynd i farnu'n anghyfiawn a dangos ffafr at y rhai sy'n gwneud drwg?” Saib “Dylech roi dedfryd o blaid y gwan a'r amddifad! Sefyll dros hawliau y rhai anghenus sy'n cael eu gorthrymu! Cadw'r rhai sy'n wan a di-rym yn saff a'u hachub nhw o afael pobl ddrwg!” Ond dŷn nhw'n deall dim. Maen nhw'n crwydro yn y tywyllwch, tra mae sylfeini'r ddaear yn ysgwyd! Dywedais, “Duwiau ydych chi”, “meibion y Duw Goruchaf bob un ohonoch. Ond byddwch yn marw fel pobl feidrol; byddwch yn syrthio fel unrhyw arweinydd dynol.” Cod, O Dduw, i farnu'r byd! Dy etifeddiaeth di ydy'r cenhedloedd i gyd. Cân. Salm gan Asaff. [1] O Dduw, paid bod yn ddistaw! Paid diystyru ni a gwneud dim! Edrych! Mae dy elynion di'n codi twrw. Mae'r rhai sy'n dy gasáu di yn codi eu pennau. Maen nhw mor gyfrwys, ac yn cynllwynio yn erbyn dy bobl di. Maen nhw am wneud niwed i'r rhai rwyt ti'n eu trysori! Maen nhw'n dweud, “Gadewch i ni eu difa nhw'n llwyr! Fydd dim sôn am genedl Israel byth mwy.” Maen nhw'n unfrydol yn eu bwriad, ac wedi ffurfio cynghrair yn dy erbyn di — pobl Edom a'r Ismaeliaid, Moab a'r Hagriaid, Gebal, Ammon, ac Amalec, Philistia a phobl Tyrus. Mae Asyria wedi ymuno â nhw hefyd, i roi help llaw i ddisgynyddion Lot. Saib Delia gyda nhw fel y gwnest ti gyda Midian — fel y gwnest ti i Sisera a Jabin, wrth afon Cison. Cawson nhw eu dinistrio yn En-dor. Roedd eu cyrff fel tail ar wyneb y tir! Delia gyda'i harweinwyr nhw fel y gwnest ti gydag Oreb a Seeb. Gwna eu tywysogion nhw fel Seba a Tsalmwna, oedd am ddwyn y tir i gyd oddi ar Dduw. O fy Nuw, trin nhw fel plu ysgall, neu us yn cael ei chwythu gan y gwynt! Difa nhw, fel mae tân yn llosgi coedwig, a'i fflamau'n lledu dros y bryniau. Dos ar eu hôl nhw â'th storm, a'u dychryn nhw â'th gorwynt. Coda gywilydd arnyn nhw, a gwna iddyn nhw dy gydnabod di, O ARGLWYDD. Cywilydd a dychryn fydd byth yn dod i ben! Gad iddyn nhw farw yn eu gwarth! Byddan nhw'n deall wedyn mai ti ydy'r ARGLWYDD, ie, ti yn unig! Ti ydy'r Duw Goruchaf sy'n rheoli'r byd i gyd! I'r arweinydd cerdd: Salm meibion Cora, ar yr alaw, “Y Gwinwryf”. [1] Mae lle rwyt ti'n byw mor hyfryd, O ARGLWYDD holl-bwerus! Dw i'n hiraethu; ydw, dw i'n ysu am gael mynd i deml yr ARGLWYDD. Mae'r cyfan ohono i yn gweiddi'n llawen ar y Duw byw! Mae hyd yn oed aderyn y to wedi gwneud ei gartre yno! Mae'r wennol wedi gwneud nyth iddi ei hun, i fagu ei chywion wrth ymyl dy allor di, O ARGLWYDD holl-bwerus, fy Mrenin a'm Duw. Y fath fendith sydd i'r rhai sy'n aros yn dy dŷ di! Y rhai sy'n dy addoli di drwy'r adeg! Saib Y fath fendith sydd i'r rhai wyt ti'n eu cadw nhw'n saff, wrth iddyn nhw deithio'n frwd ar bererindod i dy deml! Wrth iddyn nhw basio trwy ddyffryn Bacha, byddi di wedi ei throi yn llawn ffynhonnau! Bydd y glaw cynnar wedi tywallt ei fendithion arni. Byddan nhw'n symud ymlaen o nerth i nerth, a byddan nhw i gyd yn ymddangos o flaen Duw yn Seion. O ARGLWYDD Dduw holl-bwerus, gwrando ar fy ngweddi! Clyw fi, O Dduw Jacob. Saib Edrych ar y brenin, ein tarian ni, O Dduw! Edrych yn ffafriol ar yr un wnest ti ei eneinio. Mae un diwrnod yn dy deml yn well na miloedd rhywle arall! Byddai'n well gen i aros ar drothwy tŷ fy Nuw na mynd i loetran yng nghartrefi pobl ddrwg. Mae'r ARGLWYDD Dduw yn haul ac yn darian i'n hamddiffyn ni! Mae'r ARGLWYDD yn garedig ac yn rhannu ei ysblander gyda ni. Mae e'n rhoi popeth da i'r rhai sy'n byw yn onest. O ARGLWYDD holl-bwerus, y fath fendith sydd i rywun sy'n dy drystio di! I'r arweinydd cerdd: Salm gan feibion Cora. [1] O ARGLWYDD, ti wedi bod yn garedig wrth dy dir, ac wedi rhoi llwyddiant i Jacob eto. Ti wedi symud euogrwydd dy bobl, a maddau eu pechodau i gyd. Saib Ti wedi tynnu dy lid yn ôl, a throi cefn ar dy wylltineb. Tro ni'n ôl, O Dduw, ein hachubwr! Rho heibio dy ddicter tuag aton ni. Wyt ti'n mynd i fod yn ddig gyda ni am byth? Wyt ti'n mynd i aros yn wyllt am genedlaethau? Plîs, wnei di'n hadfywio ni unwaith eto, i dy bobl gael dathlu beth wnest ti! O ARGLWYDD, dangos dy gariad ffyddlon i ni. Plîs achub ni! Dw i'n mynd i wrando beth sydd gan Dduw i'w ddweud: Ydy wir! Mae'r ARGLWYDD yn addo heddwch i'r rhai sy'n ei ddilyn yn ffyddlon — ond rhaid iddyn nhw beidio troi'n ôl at eu ffolineb! Mae e'n barod iawn i achub y rhai sy'n ei ddilyn e; wedyn bydd ei ysblander i'w weld yn ein tir eto. Bydd cariad a gwirionedd yn dod at ei gilydd; bydd cyfiawnder a heddwch yn cusanu. Bydd gwirionedd yn tarddu o'r tir, a chyfiawnder yn edrych i lawr o'r nefoedd. Bydd yr ARGLWYDD yn rhoi pethau da i ni; a bydd y tir yn rhoi ei gnydau. Bydd cyfiawnder yn mynd o'i flaen ac yn paratoi'r ffordd iddo. Gweddi. Salm Dafydd. [1] Gwranda, O ARGLWYDD, ac ateb fi! Dw i'n wan ac yn ddiamddiffyn. Cadw fi'n saff. Dw i'n ffyddlon i ti! Achub dy was. Ti ydy fy Nuw a dw i'n dy drystio di. Dangos drugaredd ata i, O ARGLWYDD! Dw i wedi bod yn gweiddi arnat ti'n ddi-baid. Gwna dy was yn llawen eto! Dw i'n gweddïo'n daer arnat ti ARGLWYDD. Rwyt ti, ARGLWYDD, yn dda ac yn maddau. Rwyt ti mor anhygoel o hael at y rhai sy'n galw arnat ti! Gwranda ar fy ngweddi, O ARGLWYDD! Edrych! Dw i'n erfyn am drugaredd! Dw i mewn trafferthion ac yn galw arnat, am mai ti sy'n gallu fy ateb i. Does dim un o'r duwiau eraill yn debyg i ti, ARGLWYDD! Does neb arall yn gallu gwneud y pethau rwyt ti'n eu gwneud. Bydd yr holl genhedloedd rwyt ti wedi eu creu yn dod ac yn plygu o dy flaen di, O ARGLWYDD! Byddan nhw'n anrhydeddu dy enw di, am dy fod ti'n Dduw mawr ac yn gwneud pethau anhygoel! Ti ydy'r unig Dduw go iawn! Dysga fi sut i fyw, O ARGLWYDD, i mi dy ddilyn di'n ffyddlon. Gwna fi'n benderfynol o d'addoli di'n iawn. Bydda i'n dy addoli o waelod calon, O ARGLWYDD fy Nuw, ac yn anrhydeddu dy enw am byth. Mae dy gariad tuag ata i mor fawr! Ti wedi fy achub i o ddyfnder Annwn. O Dduw, mae yna bobl haerllug wedi troi yn fy erbyn i. Mae yna griw creulon am fy lladd i, Does dim bwys ganddyn nhw amdanat ti. Ond rwyt ti, O ARGLWYDD, mor drugarog a charedig, rwyt mor amyneddgar! Mae dy haelioni a dy ffyddlondeb di yn anhygoel! Tro ata i, a dangos drugaredd! Rho dy nerth i dy was, Achub blentyn dy gaethferch! Dangos i mi ryw arwydd o dy ddaioni, er mwyn i'r rhai sy'n fy nghasáu i weld hynny a chael eu cywilyddio am dy fod ti, ARGLWYDD, wedi fy helpu i a'm cysuro. Salm gan feibion Cora. Cân. [1] Mae ei sylfeini ar y mynyddoedd sanctaidd! Mae'r ARGLWYDD yn caru dinas Seion fwy nag unrhyw fan arall yn nhir Jacob. Mae pethau hyfryd yn cael eu dweud amdanat ti, O ddinas Duw. Saib Wrth sôn am yr Aifft a Babilon wrth y rhai sy'n fy nabod i — Philistia, Tyrus, a dwyrain Affrica hefyd — dywedir, “Cafodd hwn a hwn ei eni yno.” A dyma fydd yn cael ei ddweud am Seion: “Cafodd pob un o'r rhain eu geni yno! Mae'r Duw Goruchaf ei hun yn ei gwneud hi'n ddiogel!” Bydd yr ARGLWYDD yn cofrestru'r cenhedloedd: “Cafodd hwn a hwn ei eni yno.” Saib Bydd cantorion a dawnswyr yn dweud amdani: “Mae ffynhonnell pob bendith ynot ti!” Cân. Salm gan feibion Cora. I'r arweinydd cerdd: ar “Mahalath Leanoth”. Mascîl gan Heman yr Esrachiad. [1] O ARGLWYDD, y Duw sy'n fy achub, dw i'n gweiddi am dy help bob dydd ac yn gweddïo arnat ti bob nos. Plîs cymer sylw o'm gweddi, a gwranda arna i'n galw arnat ti. Dw i mewn helynt dychrynllyd; yn wir, dw i bron marw. Mae pobl yn fy ngweld i fel un sydd ar ei ffordd i'r bedd. Dyn cryf wedi colli ei nerth i gyd, ac wedi ei adael i farw a'i daflu i fedd cyffredin gyda'r milwyr eraill sydd wedi eu lladd — y rhai wyt ti ddim yn eu cofio bellach, ac sydd ddim angen dy ofal bellach. Ti wedi fy ngosod i ar waelod y Pwll, mewn tywyllwch dudew yn y dyfnder. Mae dy ddig yn pwyso'n drwm arna i. Dw i'n boddi dan dy donnau di. Saib Ti wedi gwneud i'm ffrindiau agos gadw draw; dw i'n ffiaidd yn eu golwg nhw. Dw i wedi fy nal ac yn methu dianc. Mae fy llygaid yn wan gan flinder; O ARGLWYDD, dw i wedi galw arnat ti bob dydd; dw i'n estyn fy nwylo mewn gweddi atat ti. Wyt ti'n gwneud gwyrthiau i'r rhai sydd wedi marw? Ydy'r meirw yn codi i dy foli di? Saib Ydy'r rhai sydd yn y bedd yn sôn am dy gariad ffyddlon? Oes sôn am dy ffyddlondeb di yn Abadon? Ydy'r rhai sy'n y lle tywyll yn gwybod am dy wyrthiau? Oes sôn am dy gyfiawnder ym myd angof? Ond dw i wedi bod yn galw arnat ti am help, ARGLWYDD. Dw i'n gweddïo arnat ti bob bore. Felly pam, O ARGLWYDD, wyt ti'n fy ngwrthod i? Pam wyt ti wedi troi dy gefn arna i? Dw i wedi diodde a bron marw lawer gwaith ers yn ifanc; dw i wedi gorfod wynebu pethau ofnadwy, nes fy mod wedi fy mharlysu. Mae dy lid wedi llifo drosta i; mae dy ddychryn wedi fy ninistrio. Mae'r cwbl yn troelli o'm cwmpas fel llifogydd; maen nhw'n cau amdana i o bob cyfeiriad. Ti wedi gwneud i ffrindiau a chymdogion gadw draw oddi wrtho i — Yr unig gwmni sydd gen i bellach ydy'r tywyllwch! Mascîl gan Ethan yr Esrachiad. [1] Dw i'n mynd i ganu am byth am gariad yr ARGLWYDD; dweud am dy ffyddlondeb wrth un genhedlaeth ar ôl y llall. Cyhoeddi fod dy haelioni yn ddiddiwedd; dy ffyddlondeb mor sicr â'r nefoedd. Dwedaist, “Dw i wedi gwneud ymrwymiad i'r un dw i wedi ei ddewis, ac wedi tyngu llw wrth Dafydd fy ngwas: ‘Bydda i'n gwneud dy ddisgynyddion yn sefydlog am byth ac yn cynnal dy orsedd ar hyd y cenedlaethau.’” Saib Mae'r pethau rhyfeddol rwyt ti'n eu gwneud yn cael eu canmol yn y nefoedd, O ARGLWYDD, a dy ffyddlondeb hefyd gan yr angylion sanctaidd! Pwy sy'n debyg i'r ARGLWYDD yn y cymylau uchod? Pa un o'r bodau nefol sy'n debyg i'r ARGLWYDD? Duw ydy'r un sy'n codi braw ar yr angylion sanctaidd; mae e mor syfrdanol i'r rhai sydd o'i gwmpas. O ARGLWYDD Dduw holl-bwerus, Oes rhywun mor gryf â ti, ARGLWYDD? Mae ffyddlondeb yn dy amgylchynu! Ti sy'n rheoli'r môr mawr: pan mae ei donnau'n codi, rwyt ti'n eu tawelu. Ti sathrodd yr anghenfil Rahab; roedd fel corff marw! Ti chwalodd dy elynion gyda dy fraich gref. Ti sydd piau'r nefoedd, a'r ddaear hefyd; ti wnaeth y byd a phopeth sydd ynddo. Ti greodd y gogledd a'r de; mae mynyddoedd Tabor a Hermon yn canu'n llawen i ti. Mae dy fraich di mor bwerus, ac mae dy law di mor gref. Mae dy law dde wedi ei chodi'n fuddugoliaethus. Tegwch a chyfiawnder ydy sylfaen dy orsedd. Cariad ffyddlon a gwirionedd sy'n dy nodweddu di. Mae'r rhai sy'n dy addoli di'n frwd wedi eu bendithio'n fawr! O ARGLWYDD, nhw sy'n profi dy ffafr di. Maen nhw'n llawenhau ynot ti drwy'r dydd; ac yn cael eu cynnal gan dy gyfiawnder. Ti sy'n rhoi nerth ac ysblander iddyn nhw. Dy ffafr di sy'n rhoi'r fuddugoliaeth i ni! Ti, ARGLWYDD, ydy'n tarian. Ti ydy'n brenin ni, Un Sanctaidd Israel. Un tro, dyma ti'n siarad gyda dy ddilynwyr ffyddlon mewn gweledigaeth. “Dw i wedi rhoi nerth i ryfelwr,” meddet ti; “dw i wedi codi bachgen ifanc o blith y bobl. Dw i wedi dod o hyd i Dafydd, fy ngwas; a'i eneinio'n frenin gyda'r olew sanctaidd. Bydda i yn ei gynnal e, ac yn rhoi nerth iddo. Fydd dim un o'i elynion yn ei gael i dalu teyrnged, a fydd dim un gormeswr yn ei ddarostwng. Bydda i'n sathru ei elynion o'i flaen; ac yn taro i lawr y rhai sy'n ei gasáu. Bydd e'n cael profi fy ffyddlondeb a'm cariad; a bydda i'n ei anfon i ennill buddugoliaeth. Bydda i'n gosod ei law chwith dros y môr, a'i law dde ar afonydd Ewffrates. Bydd e'n dweud wrtho i, ‘Ti ydy fy Nhad i, fy Nuw, a'r graig sy'n fy achub i.’ Bydda i'n ei wneud e yn fab hynaf i mi, yn uwch na holl frenhinoedd y byd. Bydda i'n aros yn ffyddlon iddo am byth; mae fy ymrwymiad iddo yn hollol ddiogel. Bydd ei ddisgynyddion yn ei olynu am byth, a'i orsedd yn para mor hir â'r nefoedd. Os bydd ei feibion yn troi cefn ar fy nysgeidiaeth ac yn gwrthod gwneud beth dw i'n ddweud; os byddan nhw'n torri fy rheolau i, a ddim yn cadw fy ngorchmynion i, bydda i'n eu cosbi nhw gyda gwialen am eu gwrthryfel; gyda plâu am iddyn nhw fynd ar gyfeiliorn. Ond fydda i ddim yn stopio ei garu e, a fydda i ddim yn anffyddlon iddo. Fydda i ddim yn torri'r ymrwymiad wnes i; bydda i'n gwneud beth wnes i addo iddo. Dw i, y Duw sanctaidd, wedi tyngu llw, na fydda i byth yn twyllo Dafydd. Bydd ei linach yn aros am byth, a'i orsedd yn para tra mae haul o'm blaen i. Mae wedi ei sefydlu am byth, fel mae'r lleuad yn dyst ffyddlon i mi yn yr awyr.” Saib Ond rwyt wedi ei wrthod, a'i wthio i'r naill ochr! Rwyt wedi gwylltio gyda'r brenin, dy eneiniog. Rwyt wedi dileu'r ymrwymiad i dy was; ac wedi llusgo ei goron drwy'r baw. Rwyt wedi bwrw ei waliau i lawr, a gwneud ei gaerau yn adfeilion. Mae pawb sy'n pasio heibio yn dwyn oddi arno. Mae e'n destun sbort i'w gymdogion! Ti wedi gadael i'r rhai sy'n ei gasáu ei goncro, a rhoi achos i'w elynion i gyd ddathlu. Rwyt wedi troi min ei gleddyf arno fe'i hun, a heb ei helpu yn y frwydr. Rwyt wedi dod â'i deyrnasiad gwych i ben, ac wedi bwrw ei orsedd i lawr. Rwyt wedi ei droi'n hen ddyn cyn pryd; ac wedi ei orchuddio â chywilydd. Saib Am faint mwy, O ARGLWYDD? Wyt ti wedi troi dy gefn arnon ni am byth? Fydd dy lid di'n llosgi fel tân am byth? Cofia mor fyr ydy fy mywyd! Wyt ti wedi creu'r ddynoliaeth i ddim byd? Does neb byw yn gallu osgoi marw. Pwy sy'n gallu achub ei hun o afael y bedd? Saib O ARGLWYDD, ble mae'r cariad hwnnw wnest ti ei addo'n bendant i Dafydd? Cofia, ARGLWYDD, sut mae dy weision wedi eu cam-drin; a'r baich dw i wedi ei gario wrth i baganiaid wneud hwyl ar ein pennau. Cofia sut mae dy elynion wedi'n cam-drin ni, O ARGLWYDD, ac wedi cam-drin dy eneiniog ble bynnag mae'n mynd. Bendith ar yr ARGLWYDD am byth! Amen ac Amen. Gweddi Moses, dyn Duw. [1] Fy Meistr, rwyt ti wedi bod yn lle saff i ni guddio ar hyd y cenedlaethau. Cyn i'r mynyddoedd gael eu geni, a chyn bod y ddaear a'r byd yn bodoli, roeddet ti yn Dduw, o dragwyddoldeb pell. Ti sy'n anfon pobl yn ôl i'r pridd drwy ddweud, “Ewch yn ôl, chi bobl feidrol!” Mae mil o flynyddoedd yn dy olwg di fel diwrnod sydd wedi pasio heibio, neu fel gwylfa nos. Ond mae pobl yn cael eu llethu gan gwsg, ac yna fel glaswellt yn adfywio yn y bore. Mae'n tyfu ac yn llawn bywyd yn y bore, ond erbyn iddi nosi mae wedi gwywo a sychu. Dyna sut dŷn ni'n gwywo pan rwyt ti'n gwylltio; mae dy lid yn ein dychryn ni am ein bywydau. Ti'n gwybod am ein methiant ni i gyd, ac yn gweld ein pechodau cudd ni. Mae'n bywydau ni'n mynd heibio dan dy ddig; mae'n blynyddoedd ni'n darfod fel ochenaid. Dŷn ni'n byw am saith deg o flynyddoedd, wyth deg os cawn ni iechyd; ond mae'r gorau ohonyn nhw'n llawn trafferthion! Maen nhw'n mynd heibio mor sydyn! A dyna ni wedi mynd! Does neb eto wedi profi holl rym dy lid. Mae dy ddig yn hawlio parch! Felly dysga ni i wneud y gorau o'n dyddiau, a gwna ni'n ddoeth. Tro yn ôl aton ni, ARGLWYDD! — Faint mwy mae'n rhaid i ni ddisgwyl? Dangos drugaredd at dy weision. Gad i ni brofi dy gariad ffyddlon yn y bore, yn gwneud i ni ganu'n llawen bob dydd! Gad i ni brofi hapusrwydd am yr un cyfnod ag rwyt ti wedi'n cosbi ni — sef y blynyddoedd hynny pan mae popeth wedi mynd o'i le. Gad i dy weision dy weld ti'n gwneud pethau mawr eto! Gad i'n plant ni weld mor wych wyt ti! Boed i'r Meistr, ein Duw ni, fod yn garedig aton ni. Gwna i'n hymdrechion ni lwyddo. Ie, gwna i'n hymdrechion ni lwyddo! Bydd y sawl mae'r Duw Goruchaf yn ei amddiffyn yn aros yn saff dan gysgod yr Hollalluog. Dywedais, “ARGLWYDD, rwyt ti'n gaer ddiogel, yn lle hollol saff i mi fynd. Ti ydy fy Nuw i, yr un dw i'n ei drystio.” Bydd Duw yn dy achub di o drap yr heliwr, a rhag y pla marwol. Bydd e'n rhoi ei adain drosot ti, a byddi'n saff o dan blu ei adenydd. Mae'r ffaith fod Duw yn dweud y gwir yn darian sy'n dy amddiffyn di. Paid bod ag ofn dim sy'n dy ddychryn yn y nos, na'r saeth sy'n hedfan yn y dydd; yr haint sy'n llechu yn y tywyllwch, na'r dinistr sy'n taro'n sydyn ganol dydd. Gall mil o ddynion syrthio ar dy law chwith, a deg mil ar y dde, ond fyddi di ddim yn cael dy gyffwrdd. Byddi'n cael gweld drosot ti dy hun — byddi'n gweld y rhai drwg yn cael eu cosbi. Wyt, rwyt ti'n lle saff i mi guddio. ARGLWYDD! Gad i'r Duw Goruchaf fod yn hafan ddiogel i ti, a fyddi di ddim yn cael unrhyw niwed. Fydd dim haint yn dod yn agos i dy gartre di. Achos bydd e'n gorchymyn i'w angylion dy amddiffyn di ble bynnag rwyt ti'n mynd. Byddan nhw'n dy ddal yn eu breichiau fel na fyddi'n taro dy droed ar garreg. Byddi di'n sathru'r llew a'r cobra dan draed; fydd llewod ifanc a nadroedd ddim yn beryg i ti. “Dw i'n mynd i gadw'r un sy'n ffyddlon i mi yn saff,” meddai'r ARGLWYDD; “bydda i'n amddiffyn yr un sy'n fy nabod i. Pan fydd e'n galw arna i, bydda i'n ateb. Bydda i gydag e drwy bob argyfwng. Bydda i'n ei achub e ac yn ei anrhydeddu. Bydd e'n cael byw i oedran teg, a mwynhau bywyd, am fy mod wedi ei achub.” Salm. Cân ar gyfer y dydd saboth. [1] Mae'n beth da diolch i'r ARGLWYDD, a chanu mawl i dy enw di, y Duw Goruchaf. Canu yn y bore am dy gariad, a chyda'r nos am dy ffyddlondeb, i gyfeiliant offeryn dectant a nabl a thannau'r delyn. Ti'n fy ngwneud i mor hapus, O ARGLWYDD; a dw i'n canu'n uchel o achos y cwbl rwyt ti'n wneud. Ti'n gwneud pethau mawr, O ARGLWYDD! Mae dy feddyliau di mor ddwfn! Dim ond twpsyn sydd ddim yn gweld hynny; dim ond ffŵl fyddai ddim yn deall! Mae pobl ddrwg yn llwyddo — ond maen nhw fel glaswellt — Er bod y rhai sy'n gwneud drwg fel petaen nhw'n blodeuo, byddan nhw'n cael eu dinistrio am byth! Ond ti ydy'r Un sydd uwchlaw popeth, a hynny am byth, O ARGLWYDD. Bydd dy elynion di, ARGLWYDD, bydd dy elynion di yn cael eu dinistrio! Bydd pawb sy'n gwneud drygioni yn cael eu gwasgaru! Ti wedi fy ngwneud i'n gryf fel ych gwyllt; ti wedi fy eneinio i ag olew iraidd. Bydda i'n cael gweld y gelynion sy'n fy ngwylio yn cael eu trechu; a chlywed y rhai drwg sy'n ymosod arna i yn chwalu. Ond bydd y rhai cyfiawn yn blodeuo fel palmwydd; ac yn tyfu'n gryf fel coed cedrwydd yn Libanus. Maen nhw wedi eu plannu yn nheml yr ARGLWYDD, ac yn blodeuo yn yr iard sydd yno. Byddan nhw'n dal i roi ffrwyth pan fyddan nhw'n hen; byddan nhw'n dal yn ffres ac yn llawn sudd. Maen nhw'n cyhoeddi fod yr ARGLWYDD yn gyfiawn — mae e'n graig saff i mi, a does dim anghyfiawnder yn agos ato. Yr ARGLWYDD sy'n teyrnasu! Mae wedi ei arwisgo'n hardd. Mae'r ARGLWYDD wedi ei arwisgo, a'i gryfder fel gwregys am ei ganol. Mae'r ddaear yn saff, a does dim modd ei symud! Cest dy orseddu'n frenin amser maith yn ôl; ti wedi bodoli bob amser! Roedd y tonnau'n codi'n uchel, O ARGLWYDD, roedd sŵn y tonnau fel taranau, sŵn y tonnau trymion yn torri. Ond roedd yr ARGLWYDD, sydd yn uwch na'r cwbl, yn gryfach na sŵn y dyfroedd mawr, ac yn gryfach na thonnau mawr y môr. Mae dy orchmynion di yn hollol sicr. Sancteiddrwydd sy'n addurno dy dŷ, O ARGLWYDD, a hynny am byth! O Dduw sy'n dial pob cam! O ARGLWYDD! O Dduw sy'n dial pob cam, disgleiria! Cod ar dy draed, Farnwr y ddaear, a rhoi beth maen nhw'n haeddu i'r rhai balch! Am faint mwy mae'r rhai drwg, O ARGLWYDD — am faint mwy mae'r rhai drwg i gael dathlu? Maen nhw'n chwydu eu geiriau balch wrth frolio eu hunain. Maen nhw'n sathru dy bobl dan draed, O ARGLWYDD, ac yn cam-drin dy etifeddiaeth. Mae'n nhw'n lladd y gweddwon a'r mewnfudwyr, ac yn llofruddio'r plant amddifad. Maen nhw'n meddwl, “Dydy'r ARGLWYDD ddim yn gweld, dydy Duw Jacob yn cymryd dim sylw.” Chi bobl dwp, mae'n bryd i chi ddeall! Chi ffyliaid, pryd ydych chi'n mynd i gallio? Ydy'r un roddodd siâp i'r glust ddim yn clywed? Ydy'r un wnaeth greu y llygad ddim yn gweld? Ydy'r un sy'n disgyblu'r cenhedloedd ddim yn cosbi? — Fe ydy'r un sy'n dysgu gwersi i'r ddynoliaeth! Mae'r ARGLWYDD yn gwybod fod cynlluniau dynol yn wastraff amser, fel tarth yn diflannu! Mae'r un sy'n cael ei ddisgyblu gen ti wedi ei fendithio'n fawr, ARGLWYDD; yr un rwyt ti'n dysgu dy gyfraith iddo. Mae'n dawel ei feddwl pan mae pethau'n anodd. Mae'n gwybod y bydd y rhai drwg yn syrthio i dwll. Fydd yr ARGLWYDD ddim yn siomi ei bobl. Fydd e ddim yn troi cefn ar ei etifeddiaeth. Cyfiawnder fydd yn cario'r dydd, a'r rhai sy'n byw'n gywir yn ei ddilyn. Oes rhywun am ochri gyda fi yn erbyn y rhai drwg? Oes rhywun am sefyll hefo fi yn erbyn pobl ddrwg? Na, byddai ar ben arna i oni bai fod yr ARGLWYDD wedi fy helpu! Pan oeddwn i'n dweud, “Dw i'n llithro! Mae ar ben arna i!” roedd dy ffyddlondeb di, O ARGLWYDD, yn fy nghynnal. Pan oeddwn i'n poeni am bob math o bethau, roedd dy gefnogaeth di yn fy ngwneud i'n llawen. Wyt ti'n gallu partneru gyda llywodraeth anghyfiawn sy'n achosi dioddefaint trwy ei deddfau? Maen nhw'n casglu at ei gilydd yn erbyn y cyfiawn; ac yn condemnio pobl ddiniwed i farwolaeth. Ond mae'r ARGLWYDD yn gaer ddiogel i mi; mae fy Nuw yn graig lle dw i'n hollol saff. Bydd e'n talu'n ôl iddyn nhw am eu drygioni! Bydd e'n defnyddio eu drygioni eu hunain i'w dinistrio! Bydd yr ARGLWYDD ein Duw yn eu dinistrio nhw! Dewch, gadewch i ni ganu'n llawen i'r ARGLWYDD, a gweiddi'n mawl i'r Graig sy'n ein hachub! Gadewch i ni fynd ato yn llawn diolch; gweiddi'n uchel a chanu mawl iddo! Achos yr ARGLWYDD ydy'r Duw mawr; y Brenin mawr sy'n uwch na'r ‛duwiau‛ i gyd. Mae mannau dyfna'r ddaear yn ei ddwylo, a chopaon y mynyddoedd hefyd! Fe sydd piau'r môr, am mai fe wnaeth ei greu; a'r tir hefyd, gan mai ei ddwylo fe wnaeth ei siapio. Dewch, gadewch i ni ei addoli ac ymgrymu iddo; mynd ar ein gliniau o flaen yr ARGLWYDD ein Crëwr. Fe ydy'n Duw ni, a ni ydy ei bobl e; y defaid mae'n gofalu amdanyn nhw. O na fyddech chi'n gwrando arno heddiw! “Peidiwch bod yn ystyfnig fel yn Meriba, neu ar y diwrnod hwnnw yn Massa, yn yr anialwch. Yno roedd eich hynafiaid wedi herio fy awdurdod, a phrofi fy amynedd, er eu bod wedi gweld beth wnes i! Am bedwar deg mlynedd ron i'n eu ffieiddio nhw: ‘Maen nhw'n bobl hollol anwadal,’ meddwn i; ‘dyn nhw ddim eisiau fy nilyn i.’ Felly digiais, a dweud ar lw, ‘Chân nhw byth fynd i'r lle sy'n saff i orffwys gyda mi!’” Canwch gân newydd i'r ARGLWYDD. Y ddaear gyfan, canwch i'r ARGLWYDD! Canwch i'r ARGLWYDD! Canmolwch ei enw, a dweud bob dydd sut mae e'n achub. Dwedwch wrth y cenhedloedd mor wych ydy e; wrth yr holl bobloedd am y pethau rhyfeddol mae'n eu gwneud. Mae'r ARGLWYDD yn Dduw mawr ac yn haeddu ei foli! Mae'n haeddu ei barchu fwy na'r ‛duwiau‛ eraill i gyd. Eilunod diwerth ydy duwiau'r holl bobloedd, ond yr ARGLWYDD wnaeth greu y nefoedd! Mae ei ysblander a'i urddas yn amlwg; mae ei gryfder a'i harddwch yn ei deml. Dewch bobl y cenhedloedd! Cyhoeddwch! Cyhoeddwch mor wych ac mor gryf ydy'r ARGLWYDD! Cyhoeddwch mor wych ydy ei enw da! Dewch i'w deml i gyflwyno rhodd iddo! Plygwch i addoli'r ARGLWYDD sydd mor hardd yn ei gysegr! Crynwch o'i flaen, bawb drwy'r byd! Dwedwch ymysg y cenhedloedd, “Yr ARGLWYDD sy'n teyrnasu!” Felly mae'r ddaear yn saff, does dim modd ei symud. Bydd e'n barnu'r byd yn deg. Boed i'r nefoedd a'r ddaear ddathlu'n llawen! Boed i'r môr a phopeth sydd ynddo weiddi! Boed i'r caeau a'u cnydau ddathlu! Bydd holl goed y goedwig yn siffrwd yn llawen o flaen yr ARGLWYDD, am ei fod yn dod — mae'n dod i roi trefn ar y ddaear! Bydd yn barnu'r byd yn hollol deg, a'r bobloedd i gyd ar sail beth sy'n wir. Yr ARGLWYDD sy'n teyrnasu! Gall y ddaear ddathlu, a'r ynysoedd i gyd lawenhau! Mae cwmwl trwchus o'i gwmpas; a'i orsedd wedi ei sylfaenu ar degwch a chyfiawnder. Mae tân yn mynd allan o'i flaen, ac yn llosgi ei elynion ym mhobman. Mae ei fellt yn goleuo'r byd; a'r ddaear yn gwingo wrth ei weld. Mae'r mynyddoedd yn toddi fel cwyr o flaen yr ARGLWYDD, o flaen Meistr y ddaear gyfan. Mae'r nefoedd yn cyhoeddi ei fod yn gyfiawn, a'r bobloedd i gyd yn gweld ei ysblander. Mae'r rhai sy'n addoli eilun-dduwiau yn cywilyddio — y rhai oedd mor falch o'u delwau diwerth. Mae'r ‛duwiau‛ i gyd yn plygu o'i flaen. Roedd Seion yn hapus pan glywodd hyn, ac roedd pentrefi Jwda'n dathlu am dy fod ti'n barnu'n deg, O ARGLWYDD. Achos rwyt ti, ARGLWYDD, yn Dduw dros yr holl fyd; rwyt ti'n llawer gwell na'r holl ‛dduwiau‛ eraill i gyd. Mae'r ARGLWYDD yn caru'r rhai sy'n casáu drygioni. Mae e'n amddiffyn y rhai sy'n ffyddlon iddo, ac yn eu hachub nhw o afael pobl ddrwg. Mae golau'n disgleirio ar y rhai sy'n byw'n gywir, a llawenydd ar y rhai sy'n onest. Chi rai cyfiawn, byddwch yn llawen yn yr ARGLWYDD, a'i foli wrth gofio mor sanctaidd ydy e! Salm [1] Canwch gân newydd i'r ARGLWYDD, am ei fod wedi gwneud pethau anhygoel! Mae ei fraich gref, wedi ennill y fuddugoliaeth iddo. Mae'r ARGLWYDD wedi dangos ei allu i achub! Mae wedi dangos i'r cenhedloedd ei fod yn Dduw cyfiawn. Mae wedi cofio ei gariad a'i ffyddlondeb i bobl Israel; ac mae pawb drwy'r byd i gyd wedi gweld Duw yn achub. Dewch, bawb drwy'r byd i gyd, gwaeddwch yn uchel i'r ARGLWYDD! Gweiddi'n llawen, a chanu mawl iddo! Canwch fawl ar y delyn i'r ARGLWYDD; canwch gân hyfryd i gyfeiliant y delyn! Seiniwch yr utgyrn a chwythu'r corn hwrdd. Dewch, bawb drwy'r byd i gyd, gwaeddwch yn uchel i'r ARGLWYDD, y Brenin! Boed i'r môr a phopeth sydd ynddo weiddi; a'r byd hefyd, a phawb sy'n byw ynddo. Boed i'r afonydd guro dwylo, ac i'r mynyddoedd ganu'n llawen gyda'i gilydd o flaen yr ARGLWYDD! Achos mae e'n dod i roi trefn ar y ddaear! Bydd e'n barnu'r byd yn hollol deg, a'r bobloedd yn gwbl gyfiawn. Yr ARGLWYDD sy'n teyrnasu, felly dylai'r gwledydd grynu! Boed i'r ddaear gyfan grynu o flaen yr un sydd wedi ei orseddu uwch ben y ceriwbiaid! Yr ARGLWYDD ydy'r Duw mawr yn Seion; yr un sy'n rheoli'r holl bobloedd. Boed i bawb dy addoli di — y Duw mawr, rhyfeddol! Ti ydy'r Duw sanctaidd! Ti ydy'r brenin cryf sy'n caru cyfiawnder! Ti ydy'r un sydd wedi dangos beth ydy tegwch, ac yn hybu cyfiawnder a chwarae teg yn Jacob. Addolwch yr ARGLWYDD ein Duw! Ymgrymwch i lawr wrth ei stôl droed! Mae e'n sanctaidd! Roedd Moses, ac Aaron ei offeiriad, a Samuel yn galw ar ei enw — Roedden nhw'n galw ar yr ARGLWYDD, ac roedd e'n ateb. Siaradodd gyda nhw o'r golofn o niwl. Roedden nhw'n ufudd i'w orchmynion, a'r rheolau roddodd iddyn nhw. O ARGLWYDD ein Duw, roeddet ti'n eu hateb nhw. Roeddet ti'n Dduw oedd yn barod i faddau iddyn nhw, ond roeddet ti hefyd yn eu galw i gyfrif am eu drygioni. Addolwch yr ARGLWYDD ein Duw! Ymgrymwch i lawr ar ei fynydd cysegredig, achos mae'r ARGLWYDD ein Duw yn sanctaidd! Salm o ddiolch. [1] Gwaeddwch yn uchel i'r ARGLWYDD holl bobl y byd! Addolwch yr ARGLWYDD yn llawen; a dod o'i flaen gan ddathlu! Cyffeswch mai'r ARGLWYDD sydd Dduw; Fe ydy'r un a'n gwnaeth ni, a ni ydy ei bobl e — y defaid mae'n gofalu amdanyn nhw. Ewch drwy'r giatiau gan ddiolch iddo, ac i mewn i'w deml yn ei foli! Rhowch ddiolch iddo! A bendithio ei enw! Achos mae'r ARGLWYDD mor dda! Mae ei haelioni yn ddiddiwedd; ac mae'n aros yn ffyddlon o un genhedlaeth i'r llall. Salm Dafydd. [1] Canaf am ffyddlondeb a chyfiawnder. Canaf gân i ti, O ARGLWYDD! Canaf delyneg am dy ffordd berffaith. Pryd wyt ti'n mynd i ddod ata i? Dw i wedi byw bywyd didwyll yn y palas. Dw i ddim am ystyried bod yn anonest; dw i'n casáu twyll, ac am gael dim i'w wneud â'r peth. Does gen i ddim meddwl mochaidd, a dw i am gael dim i'w wneud â'r drwg. Dw i'n rhoi taw ar bwy bynnag sy'n enllibio'i gymydog yn y dirgel. Alla i ddim diodde pobl falch sy'n llawn ohonyn nhw eu hunain. Dw i wedi edrych am y bobl ffyddlon yn y wlad, i'w cael nhw i fyw gyda mi. Dim ond pobl onest sy'n cael gweithio i mi. Does neb sy'n twyllo yn cael byw yn y palas. Does neb sy'n dweud celwydd yn cael cadw cwmni i mi. Dw i bob amser yn rhoi taw ar y rhai sy'n gwneud drwg yn y wlad. Dw i'n cael gwared â'r rhai sy'n gwneud drwg o ddinas yr ARGLWYDD. Gweddi rhywun sy'n diodde, ac yn tywallt ei galon o flaen yr ARGLWYDD. [1] O ARGLWYDD, clyw fy ngweddi; gwrando arna i'n gweiddi am help. Paid troi cefn arna i pan dw i mewn trafferthion. Gwranda arna i! Rho ateb buan i mi pan dw i'n galw. Mae fy mywyd i'n diflannu fel mwg, ac mae fy esgyrn yn llosgi fel marwor poeth. Dw i mor ddigalon, ac yn gwywo fel glaswellt. Dw i ddim yn teimlo fel bwyta hyd yn oed. Dw i ddim yn stopio tuchan; mae fy esgyrn i'w gweld drwy fy nghroen. Dw i fel jac-y-do yn yr anialwch; fel tylluan yng nghanol adfeilion. Dw i'n methu cysgu. Dw i fel aderyn unig ar ben tŷ. Mae fy ngelynion yn fy enllibio drwy'r dydd; maen nhw'n fy rhegi ac yn gwneud sbort ar fy mhen. Lludw ydy'r unig fwyd sydd gen i, ac mae fy niod wedi ei gymysgu â dagrau, am dy fod ti'n ddig ac wedi gwylltio hefo fi. Rwyt ti wedi gafael yno i, a'm taflu i ffwrdd fel baw! Mae fy mywyd fel cysgod ar ddiwedd y dydd; dw i'n gwywo fel glaswellt. Ond byddi di, ARGLWYDD, ar dy orsedd am byth! Mae pobl yn galw ar dy enw ar hyd y cenedlaethau! Byddi di yn codi ac yn dangos trugaredd at Seion eto. Mae'n bryd i ti fod yn garedig ati! Mae'r amser i wneud hynny wedi dod. Mae dy weision yn caru ei meini, ac yn teimlo i'r byw wrth weld y rwbel! Wedyn bydd y cenhedloedd yn parchu enw'r ARGLWYDD. Bydd brenhinoedd y byd i gyd yn ofni ei ysblander. Bydd yr ARGLWYDD yn ailadeiladu Seion! Bydd yn cael ei weld yn ei holl ysblander. Achos mae e'n gwrando ar weddi y rhai sydd mewn angen; dydy e ddim yn diystyru eu cri nhw. Dylai hyn gael ei ysgrifennu i lawr ar gyfer y dyfodol, er mwyn i bobl sydd heb gael eu geni eto, foli'r ARGLWYDD. Bydd yr ARGLWYDD yn edrych i lawr o'i gysegr uchel iawn, Bydd yn edrych i lawr ar y ddaear o'r nefoedd uchod, ac yn gwrando ar riddfan y rhai oedd yn gaeth. Bydd yn rhyddhau y rhai oedd wedi eu condemnio i farwolaeth. Wedyn bydd enw'r ARGLWYDD yn cael ei gyhoeddi o Seion, a bydd e'n cael ei addoli yn Jerwsalem. Bydd pobl o'r gwledydd i gyd yn dod at ei gilydd i addoli'r ARGLWYDD. Mae wedi ysigo fy nerth i ar ganol y daith, Mae wedi penderfynu rhoi bywyd byr i mi. “O Dduw, paid cymryd fi hanner ffordd drwy fy mywyd! — Rwyt ti'n aros ar hyd y cenedlaethau. Ti osododd y ddaear yn ei lle ers talwm; a gwaith dy ddwylo di ydy'r sêr a'r planedau. Byddan nhw'n darfod, ond rwyt ti'n aros. Byddan nhw'n mynd yn hen fel dillad wedi eu gwisgo. Byddi di'n eu tynnu fel dilledyn, a byddan nhw wedi mynd. Ond rwyt ti yn aros am byth — dwyt ti byth yn mynd yn hen! Bydd plant dy weision yn dal i gael byw yma, a bydd eu plant nhw yn saff yn dy bresenoldeb di.” Salm Dafydd. [1] Fy enaid, bendithia'r ARGLWYDD! Y cwbl ohono i, bendithia'i enw sanctaidd! Fy enaid, bendithia'r ARGLWYDD! Paid anghofio'r holl bethau caredig a wnaeth. Mae wedi maddau dy fethiant i gyd, ac wedi iacháu pob salwch oedd arnat. Mae wedi dy gadw di rhag mynd i'r bedd, ac wedi dy goroni gyda'i gariad a'i drugaredd. Mae wedi rhoi mwy na digon o bethau da i ti, nes gwneud i ti deimlo'n ifanc eto, yn gryf ac yn llawn bywyd fel eryr! Mae'r ARGLWYDD bob amser yn deg, ac yn rhoi cyfiawnder i'r rhai sy'n cael eu gorthrymu. Dwedodd wrth Moses sut oedd e am i ni fyw, a dangosodd i bobl Israel beth allai ei wneud. Mae'r ARGLWYDD mor drugarog a charedig; mor amyneddgar ac anhygoel o hael! Dydy e ddim yn ceryddu pobl yn ddiddiwedd, nac yn dal dig am byth. Wnaeth e ddim delio gyda'n pechodau ni fel roedden ni'n haeddu, na talu'n ôl i ni am ein holl fethiant. Fel mae'r nefoedd yn uchel uwch y ddaear, mae ei gariad ffyddlon fel tŵr dros y rhai sy'n ei barchu. Mor bell ac ydy'r dwyrain o'r gorllewin, mae wedi symud y gosb am i ni wrthryfela. Fel mae tad yn caru ei blant, mae'r ARGLWYDD yn caru'r rhai sy'n ei barchu. Ydy, mae e'n gwybod am ein defnydd ni; mae'n cofio mai dim ond pridd ydyn ni. Mae bywyd dynol fel glaswellt — mae fel blodyn gwyllt, yn tyfu dros dro; pan mae'r gwynt yn dod heibio, mae wedi mynd; ble roedd does dim sôn amdano. Ond mae cariad yr ARGLWYDD at y rhai sy'n ei barchu yn para am byth bythoedd! Mae e'n cadw ei air i genedlaethau o blant — sef y rhai sy'n ffyddlon i'w ymrwymiad, ac sy'n gofalu gwneud beth mae e'n ddweud. Mae'r ARGLWYDD wedi sefydlu ei orsedd yn y nefoedd, ac mae'n teyrnasu yn frenin dros bopeth! Bendithiwch yr ARGLWYDD, ei angylion! — chi rai cryfion sy'n gwneud beth mae'n ddweud sy'n gwrando ac yn ufudd iddo. Bendithiwch yr ARGLWYDD, ei holl fyddinoedd! — chi weision sy'n ei wasanaethu; Bendithiwch yr ARGLWYDD, bopeth mae wedi ei greu! — ym mhobman ble mae e'n teyrnasu. Fy enaid, bendithia'r ARGLWYDD! Fy enaid, bendithia'r ARGLWYDD! O ARGLWYDD, fy Nuw, rwyt ti mor fawr! Rwyt wedi dy wisgo ag ysblander ac urddas. Mae mantell o oleuni wedi ei lapio amdanat. Ti wnaeth ledu'r awyr fel pabell uwch ein pennau. Ti wnaeth osod trawstiau dy balas yn uwch fyth, a gwneud dy gerbyd o'r cymylau i deithio ar adenydd y gwynt. Ti sy'n gwneud y gwyntoedd yn negeswyr i ti, a fflamau o dân yn weision. Ti wnaeth osod y ddaear ar ei sylfeini, er mwyn iddi beidio gwegian byth. Roedd y dyfroedd dwfn yn ei gorchuddio fel gwisg; roedd dŵr uwchben y mynyddoedd. Ond dyma ti'n gweiddi, a dyma nhw'n ffoi, a rhuthro i ffwrdd rhag dy daranau swnllyd, — cododd y mynyddoedd, suddodd y dyffrynnoedd ac aeth y dŵr i'r lle roeddet ti wedi ei baratoi iddo. Gosodaist ffiniau allai'r moroedd ddim eu croesi, i'w rhwystro rhag gorchuddio'r ddaear byth eto. Ti sy'n gwneud i nentydd lifo rhwng yr hafnau, a ffeindio'i ffordd i lawr rhwng y mynyddoedd. Mae'r anifeiliaid gwylltion yn cael yfed, a'r asynnod gwylltion yn torri eu syched. Mae adar yn nythu wrth eu hymyl ac yn canu yng nghanol y dail. Ti sy'n dyfrio'r mynyddoedd o dy balas uchel. Ti'n llenwi'r ddaear â ffrwythau. Ti sy'n rhoi glaswellt i'r gwartheg; planhigion i bobl eu tyfu iddyn nhw gael bwyd o'r tir — gwin i godi calon, olew i roi sglein ar eu hwynebau, a bara i'w cadw nhw'n fyw. Mae'r coed anferth yn cael digon i'w yfed — y cedrwydd blannodd yr ARGLWYDD yn Libanus ble mae'r adar yn nythu, a'r coed pinwydd ble mae'r storc yn cartrefu. Mae'r mynyddoedd uchel yn gynefin i'r geifr gwyllt, a'r clogwyni yn lloches i'r brochod. Ti wnaeth y lleuad i nodi'r tymhorau; a'r haul, sy'n gwybod pryd i fachlud. Ti sy'n dod â'r tywyllwch iddi nosi, pan mae anifeiliaid y goedwig yn dod allan. Mae'r llewod yn rhuo am ysglyfaeth ac yn gofyn i Dduw am eu bwyd. Wedyn, pan mae'r haul yn codi, maen nhw'n mynd i'w ffeuau i orffwys. A dyna pryd mae pobl yn deffro, a mynd allan i weithio nes iddi nosi. O ARGLWYDD, rwyt wedi creu cymaint o wahanol bethau! Rwyt wedi gwneud y cwbl mor ddoeth. Mae'r ddaear yn llawn o dy greaduriaid di! Draw acw mae'r môr mawr sy'n lledu i bob cyfeiriad, a phethau byw na ellid byth eu cyfri ynddo — creaduriaid bach a mawr. Mae'r llongau yn teithio arno, a'r morfil a greaist i chwarae ynddo. Maen nhw i gyd yn dibynnu arnat ti i roi bwyd iddyn nhw pan mae ei angen. Ti sy'n ei roi a nhw sy'n ei fwyta. Ti'n agor dy law ac maen nhw'n cael eu digoni. Pan wyt ti'n troi dy gefn arnyn nhw, maen nhw'n dychryn. Pan wyt ti'n cymryd eu hanadl oddi arnyn nhw, maen nhw'n marw ac yn mynd yn ôl i'r pridd. Ond pan wyt ti'n anadlu, maen nhw'n cael eu creu, ac mae'r tir yn cael ei adfywio. Boed i ysblander yr ARGLWYDD gael ei weld am byth! Boed i'r ARGLWYDD fwynhau y cwbl a wnaeth! Dim ond iddo edrych ar y ddaear, mae hi'n crynu! Pan mae'n cyffwrdd y mynyddoedd, maen nhw'n mygu! Dw i'n mynd i ganu i'r ARGLWYDD tra bydda i byw! Moli fy Nuw ar gerddoriaeth tra bydda i. Boed i'm myfyrdod ei blesio. Dw i'n mynd i fod yn llawen yn yr ARGLWYDD. Boed i bechaduriaid gael eu dinistrio o'r tir, ac i bobl ddrwg beidio â bod ddim mwy. Fy enaid, bendithia'r ARGLWYDD! Haleliwia! Diolchwch i'r ARGLWYDD, a galw ar ei enw! Dwedwch wrth bawb beth mae wedi ei wneud. Canwch iddo, a defnyddio cerddoriaeth i'w foli! Dwedwch am y pethau rhyfeddol mae'n eu gwneud. Broliwch ei enw sanctaidd! Boed i bawb sy'n ceisio'r ARGLWYDD ddathlu. Dewch at yr ARGLWYDD, profwch ei nerth; ceisiwch ei gwmni bob amser. Cofiwch y pethau rhyfeddol a wnaeth — ei wyrthiau, a'r cwbl y gwnaeth ei farnu! Ie, chi blant ei was Abraham; plant Jacob mae wedi eu dewis. Yr ARGLWYDD ein Duw ni ydy e; yr un sy'n barnu'r ddaear gyfan. Mae e'n cofio ei ymrwymiad bob amser, a'i addewid am fil o genedlaethau — yr ymrwymiad wnaeth e i Abraham, a'r addewid wnaeth ar lw i Isaac. Yna ei gadarnhau yn rheol i Jacob — ymrwymiad i Israel oedd i bara am byth! “Dw i'n rhoi gwlad Canaan i chi” meddai, “yn etifeddiaeth i chi ei meddiannu.” Dim ond criw bach ohonyn nhw oedd — rhyw lond dwrn yn byw yno dros dro, ac yn crwydro o un wlad i'r llall, ac o un deyrnas i'r llall. Wnaeth e ddim gadael i neb eu gormesu nhw; roedd wedi rhybuddio brenhinoedd amdanyn nhw: “Peidiwch cyffwrdd fy mhobl sbesial i; peidiwch gwneud niwed i'm proffwydi.” Ond wedyn daeth newyn ar y wlad; cymerodd eu bwyd oddi arnyn nhw. Ond roedd wedi anfon un o'u blaenau, sef Joseff, gafodd ei werthu fel caethwas. Roedd ei draed mewn cyffion; roedd coler haearn am ei wddf, nes i'w eiriau ddod yn wir ac i neges yr ARGLWYDD ei brofi'n iawn. Dyma'r brenin yn ei ryddhau o'r carchar; llywodraethwr y cenhedloedd yn ei ollwng yn rhydd. Gwnaeth e'n gyfrifol am ei balas, a rhoi iddo'r awdurdod i reoli popeth oedd ganddo. Disgyblu'r arweinwyr eraill fel y mynnai, a dysgu doethineb i'r cynghorwyr hŷn. Yna dyma Israel yn symud i'r Aifft; aeth Jacob i fyw dros dro yn nhir Cham. Gwnaeth Duw i'w bobl gael llawer o blant, llawer mwy na'i gelynion nhw. Dechreuodd y gelynion gasáu ei bobl, a cham-drin ei weision. Wedyn dyma Duw yn anfon ei was Moses, ac Aaron, yr un oedd wedi ei ddewis. Dyma nhw'n dweud am yr arwyddion gwyrthiol roedd Duw yn mynd i'w gwneud yn nhir Cham: Anfon tywyllwch, ac roedd hi'n dywyll iawn! Wnaethon nhw ddim herio beth ddwedodd. Troi eu dŵr nhw yn waed nes i'r pysgod i gyd farw. Llenwi'r wlad hefo llyffaint — hyd yn oed y palasau brenhinol. Rhoddodd orchymyn, a daeth haid o bryfed — gwybed drwy'r tir ym mhobman. Anfonodd stormydd cenllysg yn lle glaw, a mellt drwy'r wlad i gyd. Taro eu gwinwydd a'u coed ffigys, a bwrw coed i lawr drwy'r wlad. Gorchymyn anfon locustiaid — llawer iawn gormod ohonyn nhw i'w cyfri. Roedden nhw'n difetha'r planhigion i gyd, ac yn bwyta popeth oedd yn tyfu ar y tir! Yna lladd plentyn hynaf pob teulu drwy'r wlad — ffrwyth cyntaf eu cyfathrach. Daeth ag Israel allan yn cario arian ac aur! Doedd neb drwy'r llwythau i gyd yn baglu. Roedd pobl yr Aifft mor falch pan aethon nhw, achos roedd Israel wedi codi dychryn arnyn nhw. Wedyn rhoddodd Duw gwmwl i'w cysgodi, a tân i roi golau yn y nos. Dyma nhw'n gofyn am fwyd, a dyma soflieir yn dod; rhoddodd ddigonedd o fwyd iddyn nhw o'r awyr. Holltodd graig, nes bod dŵr yn pistyllio allan ohoni; roedd yn llifo fel afon drwy dir sych. Oedd, roedd Duw'n cofio'r addewid cysegredig oedd wedi ei wneud i'w was Abraham. Daeth â'i bobl allan yn dathlu! Roedd y rhai wedi eu dewis ganddo'n bloeddio canu. Rhoddodd dir y cenhedloedd iddyn nhw; cawson nhw fwynhau ffrwyth llafur pobl eraill. Gwnaeth hyn er mwyn iddyn nhw gadw ei reolau a bod yn ufudd i'w ddysgeidiaeth. Haleliwia! Haleliwia! Diolchwch i'r ARGLWYDD! Mae e mor dda aton ni; Mae ei haelioni yn ddiddiwedd! Pwy sy'n gallu dweud am yr holl bethau mawr mae'r ARGLWYDD wedi eu gwneud? Pwy sy'n gallu dweud gymaint mae e'n haeddu ei foli? Y fath fendith sydd i'r rhai sy'n byw yn gywir, ac yn gwneud beth sy'n iawn bob amser! Cofia fi, O ARGLWYDD, pan fyddi di'n helpu dy bobl; sylwa arna i pan fyddi di'n eu hachub nhw! Dw i eisiau gweld y rhai rwyt ti wedi eu dewis yn llwyddo, dw i eisiau rhannu eu llawenydd nhw, a dathlu gyda dy bobl di. Dŷn ni, fel ein hynafiaid, wedi pechu yn dy erbyn di; dŷn ni wedi mynd ar gyfeiliorn, a gwneud drwg. Wnaeth ein hynafiaid yn yr Aifft ddim gwerthfawrogi dy wyrthiau rhyfeddol. Dyma nhw'n anghofio popeth wnest ti yn dy gariad, a gwrthryfela yn erbyn y Duw Goruchaf wrth y Môr Coch. Ac eto achubodd nhw, er mwyn ei enw da, ac er mwyn dangos ei nerth. Gwaeddodd ar y Môr Coch a'i sychu! Yna eu harwain drwy'r dyfnder, fel petai'n dir anial. Cadwodd nhw'n saff rhag y rhai oedd yn eu casáu, a'u rhyddhau o afael y gelyn. Dyma'r dŵr yn llifo'n ôl dros y gelynion, gan adael dim un ar ôl yn fyw. Roedden nhw'n credu beth ddwedodd e wedyn, ac yn canu mawl iddo! Ond dyma nhw'n anghofio'r cwbl wnaeth e'n fuan iawn! Wnaethon nhw ddim disgwyl am ei arweiniad. Roedden nhw'n ysu am gael cig yn yr anialwch, a dyma nhw'n rhoi Duw ar brawf yn y tir sych. Rhoddodd iddyn nhw beth roedden nhw eisiau, ond yna eu taro nhw gyda chlefyd oedd yn eu gwneud yn wan. Roedd pobl yn y gwersyll yn genfigennus o Moses, ac o Aaron, yr un roedd yr ARGLWYDD wedi ei gysegru. Agorodd y ddaear a llyncu Dathan, a gorchuddio'r rhai oedd gydag Abiram. Cafodd tân ei gynnau yn eu plith nhw, a dyma'r fflamau yn llosgi'r bobl ddrwg hynny. Wedyn dyma nhw'n gwneud eilun o darw yn Sinai, a phlygu i addoli delw o fetel! Cyfnewid y Duw bendigedig am ddelw o ychen sy'n bwyta glaswellt! Roedden nhw wedi anghofio'r Duw achubodd nhw! Anghofio'r Duw wnaeth bethau mor fawr yn yr Aifft — y gwyrthiau rhyfeddol yn nhir Cham, a'r pethau anhygoel wrth y Môr Coch. Pan oedd Duw yn bygwth eu dinistrio nhw, dyma Moses, y dyn oedd wedi ei ddewis, yn sefyll yn y bwlch ac yn troi ei lid i ffwrdd. Wedyn dyma nhw'n gwrthod y tir hyfryd, ac yn gwrthod credu yr addewid roddodd e. Roedden nhw'n cwyno yn eu pebyll ac yn gwrthod bod yn ufudd i'r ARGLWYDD. Felly dyma Duw yn mynd ar ei lw y byddai'n eu lladd nhw yn yr anialwch! Byddai'n gwasgaru eu disgynyddion i'r cenhedloedd a'u chwalu nhw drwy'r gwledydd. A dyma nhw'n dechrau addoli Baal-peor, a bwyta aberthau wedi eu cyflwyno i bethau marw! Roedd beth wnaethon nhw'n gwneud Duw yn ddig, a dyma bla yn mynd ar led yn eu plith. Yna dyma Phineas yn ymyrryd, a dyma'r pla yn stopio. Cafodd ei dderbyn i berthynas iawn gyda Duw, a hynny am byth! Dyma nhw'n digio Duw eto wrth Ffynnon Meriba a bu'n rhaid i Moses ddiodde o'u hachos. Roedden nhw wedi ei wneud e mor chwerw nes iddo ddweud pethau byrbwyll. Wedyn, wnaethon nhw ddim dinistrio'r cenhedloedd fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn. Yn lle hynny dyma nhw'n cymysgu gyda'r cenhedloedd a dechrau byw yr un fath â nhw. Roedden nhw'n addoli eu duwiau, a dyma hynny'n gwneud iddyn nhw faglu. Dyma nhw'n aberthu eu meibion a'u merched i gythreuliaid! Ie, tywallt gwaed plant diniwed — gwaed eu meibion a'u merched eu hunain! — a'u haberthu nhw i eilun-dduwiau Canaan. Roedd y tir wedi ei lygru gan y gwaed gafodd ei dywallt. Roedd beth wnaethon nhw'n eu llygru nhw; roedden nhw'n ymddwyn yn anffyddlon. Felly dyma'r ARGLWYDD yn gwylltio'n lân hefo nhw! Roedd yn ffieiddio ei bobl ei hun! Dyma fe'n eu rhoi nhw yn nwylo'r cenhedloedd; a gadael i'w gelynion eu rheoli. Roedd gelynion yn eu gormesu; roedden nhw dan eu rheolaeth nhw'n llwyr! Er bod Duw wedi eu hachub nhw dro ar ôl tro, roedden nhw'n dal yn ystyfnig ac yn tynnu'n groes. Aeth pethau o ddrwg i waeth o achos eu drygioni. Ond pan oedd Duw'n gweld eu bod nhw mewn trybini ac yn eu clywed nhw'n gweiddi am help, roedd yn cofio'r ymrwymiad wnaeth e iddyn nhw ac yn ymatal o achos ei gariad atyn nhw. Gwnaeth i bawb oedd yn eu dal nhw'n gaeth fod yn garedig atyn nhw. Achub ni, O ARGLWYDD ein Duw! Casgla ni at ein gilydd o blith y cenhedloedd! Wedyn byddwn ni'n diolch i ti, y Duw sanctaidd, ac yn brolio'r cwbl rwyt ti wedi ei wneud. Bendith ar yr ARGLWYDD, Duw Israel, o hyn ymlaen ac i dragwyddoldeb! Gadewch i'r bobl i gyd ddweud, “Amen!” Haleliwia! Diolchwch i'r ARGLWYDD! Mae e mor dda aton ni! Mae ei haelioni yn ddiddiwedd! Gadewch i'r rhai mae'r ARGLWYDD wedi eu gollwng yn rhydd ddweud hyn, ie, y rhai sydd wedi eu rhyddhau o afael y gelyn. Maen nhw'n cael eu casglu o'r gwledydd eraill, o'r dwyrain, gorllewin, gogledd a de. Roedden nhw'n crwydro ar goll yn yr anialwch gwyllt, ac yn methu dod o hyd i dre ble gallen nhw fyw. Roedden nhw eisiau bwyd ac roedd syched arnyn nhw, ac roedden nhw wedi colli bob egni. Dyma nhw'n galw ar yr ARGLWYDD yn eu trybini, a dyma fe'n eu hachub o'u trafferthion, ac yn eu harwain nhw'n syth i le y gallen nhw setlo i lawr. Gadewch iddyn nhw ddiolch i'r ARGLWYDD am ei gariad ffyddlon, a'r pethau rhyfeddol mae wedi eu gwneud ar ran pobl! Mae wedi rhoi diod i'r sychedig, a bwyd da i'r rhai oedd yn llwgu. Roedd rhai yn byw mewn tywyllwch dudew, ac yn gaeth mewn cadwyni haearn, am eu bod nhw wedi gwrthod gwrando ar Dduw, a gwrthod gwneud beth roedd y Goruchaf eisiau. Deliodd hefo nhw drwy wneud iddyn nhw ddiodde. Roedden nhw'n baglu, a doedd neb i'w helpu. Yna dyma nhw'n galw ar yr ARGLWYDD yn eu trybini, a dyma fe'n eu hachub o'u trafferthion. Daeth â nhw allan o'r tywyllwch, a thorri'r rhaffau oedd yn eu rhwymo. Gadewch iddyn nhw ddiolch i'r ARGLWYDD am ei gariad ffyddlon, a'r pethau rhyfeddol mae wedi eu gwneud ar ran pobl! Mae wedi dryllio'r drysau pres, a thorri'r barrau haearn. Buodd rhai yn anfoesol, ac roedd rhaid iddyn nhw ddiodde am bechu a chamfihafio. Roedden nhw'n methu cadw eu bwyd i lawr, ac roedden nhw'n agos at farw. Ond dyma nhw'n galw ar yr ARGLWYDD yn eu trybini, a dyma fe'n eu hachub o'u trafferthion. Dyma fe'n gorchymyn iddyn nhw gael eu hiacháu, ac yn eu hachub nhw o bwll marwolaeth. Gadewch iddyn nhw ddiolch i'r ARGLWYDD am ei gariad ffyddlon, a'r pethau rhyfeddol mae wedi eu gwneud ar ran pobl! Gadewch iddyn nhw gyflwyno offrymau diolch iddo, a chanu'n llawen am y cwbl mae wedi ei wneud! Aeth rhai eraill ar longau i'r môr, i ennill bywoliaeth ar y môr mawr. Cawson nhw hefyd weld beth allai'r ARGLWYDD ei wneud, y pethau rhyfeddol wnaeth e ar y moroedd dwfn. Roedd yn rhoi gorchymyn i wynt stormus godi, ac yn gwneud i'r tonnau godi'n uchel. I fyny i'r awyr, ac i lawr i'r dyfnder â nhw! Roedd ganddyn nhw ofn am eu bywydau. Roedd y cwch yn siglo a gwegian fel rhywun wedi meddwi, a doedd eu holl brofiad ar y môr yn dda i ddim. Dyma nhw'n galw ar yr ARGLWYDD yn eu trybini, a dyma fe'n eu hachub o'u trafferthion. Gwnaeth i'r storm dawelu; roedd y tonnau'n llonydd. Roedden nhw mor falch fod y storm wedi tawelu, ac aeth Duw â nhw i'r porthladd o'u dewis. Gadewch iddyn nhw ddiolch i'r ARGLWYDD am ei gariad ffyddlon, a'r pethau rhyfeddol mae wedi eu gwneud ar ran pobl! Gadewch iddyn nhw ei ganmol yn y gynulleidfa, a'i foli o flaen yr arweinwyr. Mae e'n gallu troi afonydd yn anialwch, a ffynhonnau dŵr yn grasdir sych, tir ffrwythlon yn dir diffaith am fod y bobl sy'n byw yno mor ddrwg. Neu gall droi'r anialwch yn byllau dŵr, a'r tir sych yn ffynhonnau! Yna rhoi pobl newynog i fyw yno, ac adeiladu tref i setlo i lawr ynddi. Maen nhw'n hau hadau yn y caeau ac yn plannu coed gwinwydd, ac yn cael cynhaeaf mawr. Mae'n eu bendithio a rhoi llawer o blant iddyn nhw, a dydy e ddim yn gadael iddyn nhw golli anifeiliaid. Bydd y rhai sy'n gorthrymu yn colli pobl, yn dioddef pwysau gormes, trafferthion a thristwch. Mae Duw yn dwyn anfri ar y bobl fawr ac yn eu gadael i grwydro mewn anialwch heb lwybrau. Ond mae'n cadw'r rhai sydd mewn angen yn saff, rhag iddyn nhw ddiodde, ac yn cynyddu eu teuluoedd fel preiddiau. Mae'r rhai sy'n byw yn gywir yn gweld hyn ac yn dathlu — Ond mae'r rhai drwg yn gorfod tewi. Dylai'r rhai sy'n ddoeth gymryd sylw o'r pethau hyn, a myfyrio ar gariad ffyddlon yr ARGLWYDD. Cân. Salm Dafydd. [1] Dw i'n gwbl benderfynol, O Dduw. Dw i am ymroi yn llwyr i ganu mawl i ti! Deffro, nabl a thelyn! Dw i am ddeffro'r wawr gyda'm cân! Dw i'n mynd i ddiolch i ti, O ARGLWYDD, o flaen pawb! Dw i'n mynd i ganu mawl i ti o flaen pobl o bob cenedl! Mae dy gariad di'n uwch na'r nefoedd, a dy ffyddlondeb di'n uwch na'r cymylau! Dangos dy hun yn uwch na'r nefoedd, O Dduw, i dy ysblander gael ei weld drwy'r byd i gyd! Defnyddia dy gryfder o'n plaid, ac ateb ni er mwyn i dy rai annwyl gael eu hachub. Mae Duw wedi addo yn ei gysegr: “Dw i'n mynd i fwynhau rhannu Sichem, a mesur dyffryn Swccoth. Fi sydd piau Gilead a Manasse hefyd. Effraim ydy fy helmed i, a Jwda ydy'r deyrnwialen. Ond bydd Moab fel powlen ymolchi. Byddaf yn taflu fy esgid at Edom, ac yn gorfoleddu ar ôl gorchfygu Philistia!” Pwy sy'n gallu mynd â fi i'r ddinas ddiogel? Pwy sy'n gallu fy arwain i Edom? Onid ti, O Dduw? Ond rwyt wedi'n gwrthod ni! Wyt ti ddim am fynd allan gyda'n byddin, O Dduw? Plîs, helpa ni i wynebu'r gelyn, achos dydy help dynol yn dda i ddim. Gyda Duw gallwn wneud pethau mawrion — bydd e'n sathru ein gelynion dan draed! I'r arweinydd cerdd: Salm gan Dafydd. [1] O Dduw, yr un dw i'n ei addoli, paid diystyru fi. Mae pobl ddrwg a thwyllodrus yn siarad yn fy erbyn i, ac yn dweud celwydd amdana i. Maen nhw o'm cwmpas ym mhobman gyda'u geiriau cas; yn ymosod arna i am ddim rheswm. Dw i'n dangos cariad, ac maen nhw'n cyhuddo! Ond dw i'n dal i weddïo drostyn nhw. Maen nhw'n talu drwg am dda, a chasineb am gariad. “Anfon rywun drwg i ymosod arno!” medden nhw, “Gwna i rywun ei gyhuddo a mynd ag e i'r llys! Anfon e i sefyll ei brawf, a chael ei ddedfrydu'n euog! Ystyria ei weddi yn bechod. Paid gadael iddo gael byw'n hir! Gad i rywun arall gymryd ei waith. Gwna ei blant yn amddifad, a'i wraig yn weddw! Gwna i'w blant grwydro o adfeilion eu cartref, i gardota am fwyd. Gwna i'r un mae mewn dyled iddo gymryd ei eiddo i gyd, ac i bobl ddieithr gymryd ei gyfoeth! Paid gadael i rywun fod yn garedig ato; na dangos tosturi at ei blant! Dinistria ei ddisgynyddion i gyd; gwna i enw'r teulu ddiflannu mewn un genhedlaeth! Boed i'r ARGLWYDD gofio drygioni ei gyndadau, a boed i bechod ei fam byth ddiflannu. Boed i'r ARGLWYDD eu cofio nhw bob amser, ac i'w henwau gael eu torri allan o hanes! Dydy e erioed wedi dangos cariad! Mae wedi erlid pobl dlawd ac anghenus, a gyrru'r un sy'n ddigalon i'w farwolaeth. Roedd e wrth ei fodd yn melltithio pobl — felly melltithia di fe! Doedd e byth yn bendithio pobl — cadw fendith yn bell oddi wrtho! Roedd melltithio iddo fel gwisgo ei ddillad! Roedd fel dŵr yn ei socian, neu olew wedi treiddio i'w esgyrn. Gwna felltith yn glogyn iddo'i gwisgo gyda belt yn ei rhwymo bob amser.” Boed i'r ARGLWYDD dalu yn ôl i'm cyhuddwyr, y rhai sy'n dweud y pethau drwg yma amdana i. Ond nawr, O ARGLWYDD, fy meistr, gwna rywbeth i'm helpu, er mwyn dy enw da. Mae dy gariad ffyddlon mor dda, felly achub fi! Dw i'n dlawd ac yn anghenus, ac mae fy nghalon yn rasio o achos fy helbul. Dw i'n diflannu fel cysgod ar ddiwedd y dydd. Dw i fel locust yn cael ei chwythu i ffwrdd. Mae fy ngliniau yn wan ar ôl mynd heb fwyd; dw i wedi colli pwysau, ac yn denau fel ystyllen. Dw i'n ddim byd ond testun sbort i bobl! Maen nhw'n edrych arna i ac yn ysgwyd eu pennau. Helpa fi, O ARGLWYDD, fy Nuw; achub fi am fod dy gariad mor ffyddlon. Wedyn bydd pobl yn gwybod mai dyna wyt ti'n wneud, ac mai ti, O ARGLWYDD, sydd wedi fy achub i. Maen nhw'n melltithio, ond bendithia di fi! Wrth iddyn nhw ymosod, drysa di nhw, a bydd dy was yn dathlu! Bydd y cyhuddwyr yn cael eu cywilyddio, byddan nhw'n gwisgo embaras fel clogyn. Ond bydda i'n canu mawl i'r ARGLWYDD; ac yn ei ganmol yng nghanol y dyrfa fawr, Mae e'n sefyll gyda'r un sydd mewn angen, ac yn ei achub o afael y rhai sy'n ei gondemnio. Salm gan Dafydd. [1] Dwedodd yr ARGLWYDD wrth fy arglwydd, “Eistedd yma yn y sedd anrhydedd nes i mi wneud dy elynion yn stôl dan dy draed di.” Bydd yr ARGLWYDD yn estyn dy deyrnas o Seion, a byddi'n rheoli'r gelynion sydd o dy gwmpas! Mae dy bobl yn barod i dy ddilyn i'r frwydr. Ar y bryniau sanctaidd bydd byddin ifanc yn dod atat fel gwlith yn codi o groth y wawr. Mae'r ARGLWYDD wedi tyngu llw, a fydd e ddim yn torri ei air, “Rwyt ti'n offeiriad am byth, yr un fath â Melchisedec.” Mae'r ARGLWYDD, sydd ar dy ochr dde di, yn sathru brenhinoedd ar y diwrnod pan mae'n ddig. Mae'n cosbi'r cenhedloedd, yn pentyrru'r cyrff marw ac yn sathru eu harweinwyr drwy'r byd i gyd. Ond bydd e'n yfed o'r nant ar ochr y ffordd, ac yn codi ar ei draed yn fuddugol. Haleliwia! Dw i'n diolch i'r ARGLWYDD o waelod calon, o flaen y gynulleidfa o'i bobl ffyddlon. Mae'r ARGLWYDD yn gwneud pethau mor fawr! Maen nhw'n bleser pur i bawb sy'n myfyrio arnyn nhw. Mae'r cwbl yn dangos ei ysblander a'i urddas, a'i fod e bob amser yn ffyddlon. Mae pawb yn sôn am y pethau rhyfeddol mae'n eu gwneud! Mae'r ARGLWYDD mor garedig a thrugarog! Mae e'n rhoi bwyd i'w rai ffyddlon; mae bob amser yn cofio'r ymrwymiad wnaeth e. Dwedodd wrth ei bobl y byddai'n gwneud pethau mawr, a rhoi tir cenhedloedd eraill iddyn nhw. Mae e wedi bod yn ffyddlon ac yn gyfiawn. Mae'r pethau mae'n eu dysgu yn gwbl ddibynadwy, ac yn sefyll am byth. Maen nhw'n ffyddlon ac yn deg. Mae wedi gollwng ei bobl yn rhydd, ac wedi sicrhau fod ei ymrwymiad yn sefyll bob amser. Mae ei enw'n sanctaidd ac i gael ei barchu. Parchu'r ARGLWYDD ydy'r cam cyntaf i fod yn ddoeth. Mae pawb sy'n gwneud hynny yn gwneud y peth call. Mae e'n haeddu ei foli am byth! Haleliwia! Mae bendith fawr i'r un sy'n parchu'r ARGLWYDD ac wrth ei fodd yn gwneud beth mae'n ei ddweud. Bydd ei ddisgynyddion yn llwyddiannus; cenhedlaeth o bobl dduwiol yn cael eu bendithio. Bydd e'n gyfoethog, a bob amser yn byw'n gywir. Mae golau yn disgleirio yn y tywyllwch i'r duwiol; y sawl sy'n garedig, yn drugarog ac yn gwneud beth sy'n iawn. Mae pethau'n mynd yn dda i'r un sy'n hael wrth fenthyg ac yn rheoli ei fusnes yn gyfiawn. Fydd dim byd yn tarfu arno; bydd pobl yn cofio ei fod wedi byw'n gywir. Does ganddo ddim ofn newyddion drwg; mae e'n trystio'r ARGLWYDD yn llwyr. Mae e'n dawel ei feddwl, ac yn ofni dim; mae'n disgwyl gweld ei elynion yn syrthio yn y diwedd. Mae e'n rhannu ac yn rhoi yn hael i'r tlodion; bydd pobl yn cofio ei haelioni bob amser. Bydd yn llwyddo ac yn cael ei anrhydeddu. Bydd pobl ddrwg yn gwylltio pan welan nhw hyn. Byddan nhw'n ysgyrnygu eu dannedd, ac yn colli pob hyder, am fod eu gobeithion nhw wedi diflannu. Haleliwia! Molwch e, weision yr ARGLWYDD! Molwch enw'r ARGLWYDD! Boed i enw'r ARGLWYDD gael ei fendithio, nawr ac am byth. Boed i enw'r ARGLWYDD gael ei foli drwy'r byd i gyd! Yr ARGLWYDD sy'n teyrnasu dros yr holl genhedloedd! Mae ei ysblander yn uwch na'r nefoedd. Does neb tebyg i'r ARGLWYDD ein Duw, sy'n eistedd ar ei orsedd uchel! Mae'n plygu i lawr i edrych ar y nefoedd a'r ddaear oddi tano. Mae e'n codi pobl dlawd o'r baw, a'r rhai sydd mewn angen o'r domen sbwriel. Mae'n eu gosod i eistedd gyda'r bobl fawr, ie, gydag arweinwyr ei bobl. Mae'n rhoi cartref i'r wraig ddi-blant, ac yn ei gwneud hi'n fam hapus. Haleliwia! Pan aeth pobl Israel allan o'r Aifft — pan adawodd teulu Jacob y wlad lle roedden nhw'n siarad iaith estron — daeth Jwda yn dir cysegredig, ac Israel yn deyrnas iddo. Dyma'r Môr Coch yn eu gweld nhw'n dod ac yn symud o'r ffordd. Dyma lif yr Iorddonen yn cael ei ddal yn ôl. Roedd y mynyddoedd yn neidio fel hyrddod, a'r bryniau yn prancio fel ŵyn. Beth wnaeth i ti symud o'r ffordd, fôr? Beth wnaeth dy ddal di yn ôl, Iorddonen? Beth wnaeth i chi neidio fel hyrddod, fynyddoedd? Beth wnaeth i chi brancio fel ŵyn, fryniau? Cryna, ddaear, am fod yr ARGLWYDD yn dod! Mae Duw Jacob ar ei ffordd! Y Duw wnaeth droi'r graig yn bwll o ddŵr. Do, llifodd ffynnon ddŵr o garreg fflint! Nid ni, O ARGLWYDD, nid ni — ti sy'n haeddu'r anrhydedd i gyd, am ddangos y fath gariad a ffyddlondeb. Pam dylai pobl y cenhedloedd ddweud, “Ble mae eu Duw nhw nawr?” Y gwir ydy mae Duw yn y nefoedd, ac mae'n gwneud beth bynnag mae eisiau! Dydy eu heilunod nhw'n ddim ond arian ac aur wedi eu siapio gan ddwylo dynol. Mae ganddyn nhw gegau, ond allan nhw ddim siarad; llygaid, ond allan nhw ddim gweld; clustiau, ond allan nhw ddim clywed; trwynau, ond allan nhw ddim arogli; dwylo, ond allan nhw ddim teimlo; traed, ond allan nhw ddim cerdded; a dydy eu gyddfau ddim yn gallu gwneud sŵn! Mae'r bobl sy'n eu gwneud nhw, a'r bobl sydd yn eu haddoli nhw, yn troi'n debyg iddyn nhw! Israel, cred di yn yr ARGLWYDD! Fe sy'n dy helpu di ac yn dy amddiffyn di. Chi offeiriaid, credwch yn yr ARGLWYDD! Fe sy'n eich helpu ac yn eich amddiffyn chi. Chi sy'n addoli'r ARGLWYDD, credwch yn yr ARGLWYDD! Fe sy'n eich helpu chi ac yn eich amddiffyn chi. Mae'r ARGLWYDD yn cofio amdanon ni, a bydd yn ein bendithio ni — Bydd yn bendithio pobl Israel; Bydd yn bendithio teulu Aaron; Bydd yn bendithio'r rhai sy'n addoli'r ARGLWYDD, yn ifanc a hen. Boed i'r ARGLWYDD roi plant i chi; ie, i chi a'ch plant hefyd! Boed i'r ARGLWYDD, wnaeth greu y nefoedd a'r ddaear, eich bendithio chi! Yr ARGLWYDD sydd piau'r nefoedd, ond mae wedi rhoi'r ddaear yng ngofal y ddynoliaeth. Dydy'r meirw ddim yn gallu moli'r ARGLWYDD, maen nhw wedi mynd i dawelwch y bedd. Ond dŷn ni'n mynd i foli'r ARGLWYDD o hyn allan, ac am byth! Haleliwia! Dw i wir yn caru'r ARGLWYDD am ei fod yn gwrando ar fy ngweddi. Mae e'n troi i wrando arna i a dw i'n mynd i ddal ati i alw arno bob amser. Roedd rhaffau marwolaeth wedi eu rhwymo amdana i; roedd ofn y bedd wedi gafael ynof fi. Ro'n i mewn helbul! Roedd fy sefyllfa'n druenus! A dyma fi'n galw ar yr ARGLWYDD, “O ARGLWYDD, plîs achub fi!” Mae'r ARGLWYDD mor hael a charedig; ydy, mae ein Duw ni mor drugarog. Mae'r ARGLWYDD yn amddiffyn pobl gyffredin; achubodd fi pan oeddwn i'n teimlo mor isel. Ond bellach dw i'n gallu ymlacio eto! Mae'r ARGLWYDD wedi achub fy ngham! Wyt, rwyt ti wedi achub fy mywyd i, cymryd y dagrau i ffwrdd, a'm cadw i rhag baglu. Dw i'n mynd i fyw'n ffyddlon i'r ARGLWYDD ar dir y byw. Roeddwn i'n credu ynddo pan ddywedais, “Dw i'n diodde yn ofnadwy,” ond yna dweud mewn panig, “Alla i ddim trystio unrhyw un.” Sut alla i dalu nôl i'r ARGLWYDD am fod mor dda tuag ata i? Dyma offrwm o win i ddiolch iddo am fy achub, a dw i am alw ar enw'r ARGLWYDD. Dw i am gadw fy addewidion i'r ARGLWYDD o flaen ei bobl. Mae bywyd pob un o'i bobl ffyddlon yn werthfawr yng ngolwg yr ARGLWYDD. Plîs ARGLWYDD, dw i wir yn un o dy weision ac yn blentyn i dy forwyn. Rwyt ti wedi datod y clymau oedd yn fy rhwymo i. Dw i'n cyflwyno offrwm i ddiolch i ti ac yn galw ar enw yr ARGLWYDD. Dw i am gadw fy addewidion i'r ARGLWYDD o flaen y bobl sy'n ei addoli yn ei deml yn Jerwsalem. Haleliwia! Molwch yr ARGLWYDD, chi genhedloedd i gyd! Canwch fawl iddo, holl bobloedd y byd! Mae ei gariad tuag aton ni mor fawr! Mae'r ARGLWYDD bob amser yn ffyddlon. Haleliwia! Diolchwch i'r ARGLWYDD! Mae e mor dda aton ni! Mae ei haelioni yn ddiddiwedd! Gadewch i Israel gyfan ddweud, “Mae ei haelioni yn ddiddiwedd.” Gadewch i'r offeiriaid ddweud, “Mae ei haelioni yn ddiddiwedd.” Gadewch i bawb arall sy'n addoli'r ARGLWYDD ddweud, “Mae ei haelioni yn ddiddiwedd.” Ro'n i mewn helbul, a dyma fi'n galw ar yr ARGLWYDD. Dyma'r ARGLWYDD yn ateb ac yn fy helpu i ddianc. Mae'r ARGLWYDD ar fy ochr, felly fydd gen i ddim ofn. Beth all pobl ei wneud i mi? Mae'r ARGLWYDD ar fy ochr i'm helpu, felly bydda i'n gweld fy ngelynion yn syrthio. Mae'n llawer gwell troi at yr ARGLWYDD am loches na trystio pobl feidrol! Mae'n llawer gwell troi at yr ARGLWYDD am loches na trystio'r arweinwyr. Roedd y paganiaid yn ymosod arna i; ond dyma'r ARGLWYDD yn fy helpu i'w gyrru nhw i ffwrdd. Roedden nhw'n ymosod arna i o bob cyfeiriad; ond dyma'r ARGLWYDD yn fy helpu i'w gyrru nhw i ffwrdd. Roedden nhw o'm cwmpas i fel haid o wenyn; ond dyma nhw'n diflannu mor sydyn â drain yn llosgi. Dyma'r ARGLWYDD yn fy helpu i'w gyrru i ffwrdd. Roedden nhw'n gwasgu arna i'n galed, a bu bron i mi syrthio; ond dyma'r ARGLWYDD yn fy helpu. Yr ARGLWYDD sy'n rhoi nerth a chân i mi! Fe sydd wedi fy achub i. Mae pobl Dduw i'w clywed yn canu am y fuddugoliaeth yn eu pebyll, “Mae'r ARGLWYDD mor gryf! Mae'r ARGLWYDD yn fuddugol! Mae ARGLWYDD mor gryf!” Dw i'n fyw! Wnes i ddim marw! Bydda i'n dweud beth wnaeth yr ARGLWYDD! Roedd yr ARGLWYDD wedi fy nghosbi'n llym, ond wnaeth e ddim gadael i mi gael fy lladd. Agorwch giatiau cyfiawnder i mi er mwyn i mi fynd i mewn i ddiolch i'r ARGLWYDD! Giât yr ARGLWYDD ydy hon — dim ond y rhai cyfiawn sy'n cael mynd trwyddi. Diolch i ti am ateb fy ngweddi, ac am fy achub i. Mae'r garreg wrthododd yr adeiladwyr wedi cael ei gwneud yn garreg sylfaen. Yr ARGLWYDD wnaeth hyn, mae'r peth yn rhyfeddol yn ein golwg! Mae heddiw'n ddiwrnod i'r ARGLWYDD — gadewch i ni ddathlu a bod yn llawen! O ARGLWYDD, plîs achub ni! O ARGLWYDD, gwna i ni lwyddo! Mae'r un sy'n dod i gynrychioli'r ARGLWYDD wedi ei fendithio'n fawr — Bendith arnoch chi i gyd o deml yr ARGLWYDD! Yr ARGLWYDD ydy'r Duw go iawn, ac mae wedi rhoi ei olau i ni. Gadewch i ni ddathlu! Ewch at yr allor gyda changhennau coed palmwydd. Ti ydy fy Nuw i a dw i'n diolch i ti! Ti ydy fy Nuw i a dw i'n dy ganmol di! Diolchwch i'r ARGLWYDD! Mae e mor dda aton ni! Mae ei haelioni yn ddiddiwedd! Mae'r rhai sy'n byw yn iawn, a gwneud beth mae cyfraith yr ARGLWYDD yn ei ddweud wedi eu bendithio'n fawr! Mae'r rhai sy'n gwneud beth mae'n ddweud, ac yn rhoi eu hunain yn llwyr iddo wedi eu bendithio'n fawr! Dŷn nhw'n gwneud dim drwg, ond ymddwyn fel mae e eisiau. Ti wedi gorchymyn fod dy ofynion i gael eu cadw'n ofalus. O na fyddwn i bob amser yn ymddwyn fel mae dy ddeddfau di'n dweud! — Wedyn fyddwn i ddim yn teimlo cywilydd wrth feddwl am dy orchmynion di. Dw i'n diolch i ti o waelod calon wrth ddysgu mor deg ydy dy reolau. Dw i'n mynd i gadw dy ddeddfau; felly paid troi cefn arna i'n llwyr! Sut mae llanc ifanc i ddal ati i fyw bywyd glân? — drwy wneud fel rwyt ti'n dweud. Dw i wedi rhoi fy hun yn llwyr i ti; paid gadael i mi grwydro oddi wrth dy orchmynion di. Dw i'n trysori dy neges di yn fy nghalon; er mwyn peidio pechu yn dy erbyn. Rwyt ti'n fendigedig, O ARGLWYDD! Dysga dy ddeddfau i mi. Dw i'n ailadrodd yn uchel y rheolau rwyt ti wedi eu rhoi. Mae byw fel rwyt ti'n dweud yn rhoi mwy o lawenydd na'r cyfoeth mwya. Dw i am fyfyrio ar dy ofynion, a chadw fy llygaid ar dy ffyrdd. Mae dy ddeddfau di yn rhoi'r pleser mwya i mi! Dw i ddim am anghofio beth rwyt ti'n ddweud. Helpa dy was! Cadw fi'n fyw i mi allu gwneud beth rwyt ti'n ddweud. Agor fy llygaid, i mi allu deall y pethau rhyfeddol rwyt ti'n eu dysgu. Dw i ddim ond ar y ddaear yma dros dro. Paid cuddio dy orchmynion oddi wrtho i. Dw i'n ysu am gael gwybod beth ydy dy ddyfarniad di. Rwyt ti'n ceryddu pobl falch, ac yn melltithio'r rhai sy'n crwydro oddi wrth dy orchmynion di. Wnei di symud yr holl wawdio a'r cam-drin i ffwrdd? Dw i'n cadw dy reolau di. Er bod arweinwyr yn cynllwynio yn fy erbyn i, mae dy was yn astudio dy ddeddfau. Mae dy ofynion di yn hyfrydwch pur i mi, ac yn rhoi arweiniad cyson i mi. Dw i'n methu codi o'r llwch! Adfywia fi fel rwyt wedi addo! Dyma fi'n dweud beth oedd yn digwydd, a dyma ti'n ateb. Dysga dy ddeddfau i mi. Gad i mi ddeall sut mae byw yn ffyddlon i dy ofynion, a bydda i'n myfyrio ar y pethau rhyfeddol rwyt ti'n eu gwneud. Mae tristwch yn fy lladd i! Cod fi ar fy nhraed fel gwnest ti addo! Symud unrhyw dwyll sydd ynof fi; a rho dy ddysgeidiaeth i mi. Dw i wedi dewis byw'n ffyddlon i ti; a chadw fy llygaid ar dy reolau di. Dw i'n dal gafael yn dy orchmynion; ARGLWYDD, paid siomi fi! Dw i wir eisiau byw'n ffyddlon i dy orchmynion; helpa fi i weld y darlun mawr. O ARGLWYDD, dysga fi i fyw fel mae dy gyfraith di'n dweud; a'i dilyn i'r diwedd. Helpa fi i ddeall, a bydda i'n cadw dy ddysgeidiaeth di; bydda i'n ymroi i wneud popeth mae'n ei ofyn. Arwain fi i ddilyn llwybr dy orchmynion; dyna dw i eisiau ei wneud. Gwna fi'n awyddus i gadw dy amodau di yn lle bod eisiau llwyddo'n faterol. Cadw fi rhag edrych ar bethau diwerth! Gad i mi brofi bywyd wrth ddilyn dy ffyrdd di! Gwna beth wnest ti ei addo i dy was, i ennyn parch ac addoliad ynof fi. Cymer yr holl wawdio ofnadwy i ffwrdd, Mae dy ddedfryd di bob amser yn iawn. Dw i'n dyheu am wneud beth rwyt ti'n ei ofyn; Rho fywyd newydd i mi drwy dy ffyddlondeb. Gad i mi brofi dy gariad, O ARGLWYDD. Achub fi, fel rwyt wedi addo. Wedyn bydda i'n gallu ateb y rhai sy'n fy enllibio, gan fy mod i'n credu beth rwyt ti'n ddweud. Paid rhwystro fi rhag dweud beth sy'n wir, dw i wedi rhoi fy ngobaith yn dy ddyfarniad di. Wedyn bydda i'n ufudd i dy ddysgeidiaeth di am byth bythoedd! Gad i mi gerdded yn rhydd am fy mod i wedi ymroi i wneud beth rwyt ti eisiau. Bydda i'n dweud wrth frenhinoedd am dy ofynion. Fydd gen i ddim cywilydd. Mae dy orchmynion yn rhoi'r pleser mwya i mi, dw i wir yn eu caru nhw! Dw i'n cydnabod ac yn caru dy orchmynion, ac yn myfyrio ar dy ddeddfau. Cofia beth ddwedaist ti wrth dy was — dyna beth sydd wedi rhoi gobaith i mi. Yr hyn sy'n gysur i mi pan dw i'n isel ydy fod dy addewidion di yn rhoi bywyd i mi. Mae pobl falch wedi bod yn fy ngwawdio i'n greulon, ond dw i ddim wedi gwyro oddi wrth dy ddysgeidiaeth di. Dw i'n cofio dy reolau ers talwm, O ARGLWYDD, ac mae hynny'n rhoi cysur i mi. Dw i'n gwylltio'n lân wrth feddwl am y bobl ddrwg hynny sy'n gwrthod dy ddysgeidiaeth di. Dy ddeddfau di fu'n destun i'm cân ble bynnag dw i wedi byw! Dw i'n cofio dy enw di yn y nos, O ARGLWYDD, ac yn gwneud beth rwyt ti'n ei ddysgu. Dyna dw i wedi ei wneud bob amser — ufuddhau i dy ofynion di. Ti, ARGLWYDD, ydy fy nghyfran i: Dw i'n addo gwneud fel rwyt ti'n dweud. Dw i'n erfyn arnat ti o waelod calon: Dangos drugaredd ata i, fel rwyt wedi addo gwneud. Dw i wedi bod yn meddwl am fy mywyd, ac wedi penderfynu troi yn ôl at dy ofynion di. Heb unrhyw oedi, dw i'n brysio i wneud beth rwyt ti'n ei orchymyn. Mae pobl ddrwg yn gosod trapiau i bob cyfeiriad, ond dw i ddim yn anghofio dy ddysgeidiaeth di. Ganol nos dw i'n codi i ddiolch am dy fod ti'n dyfarnu'n gyfiawn. Dw i'n ffrind i bawb sy'n dy ddilyn di, ac yn gwneud beth rwyt ti'n ei ofyn. Mae dy gariad di, O ARGLWYDD, yn llenwi'r ddaear! Dysga dy ddeddfau i mi. Rwyt wedi bod yn dda tuag ata i fel y gwnest ti addo, O ARGLWYDD. Rho'r gallu i mi wybod beth sy'n iawn; dw i'n trystio dy orchmynion di. Roeddwn i'n arfer mynd ar gyfeiliorn, ac roeddwn i'n dioddef, ond bellach dw i'n gwneud beth rwyt ti'n ddweud. Rwyt ti'n dda, ac yn gwneud beth sy'n dda: dysga dy ddeddfau i mi. Mae pobl falch wedi bod yn palu celwydd amdana i, ond dw i'n gwneud popeth alla i i gadw dy orchmynion. Pobl cwbl ddideimlad ydyn nhw, ond dw i wrth fy modd gyda dy ddysgeidiaeth di. Roedd yn beth da i mi orfod dioddef, er mwyn i mi ddysgu cadw dy ddeddfau. Mae beth rwyt ti'n ei ddysgu yn fwy gwerthfawr na miloedd o ddarnau arian ac aur. Ti sydd wedi fy ngwneud i a'm siapio i; helpa fi i ddeall er mwyn dysgu dy orchmynion di. Bydd pawb sy'n dy barchu mor hapus wrth weld y newid ynof fi, am mai dy eiriau di sy'n rhoi gobaith i mi. O ARGLWYDD, dw i'n gwybod fod beth rwyt ti'n benderfynu yn iawn; roeddet ti'n fy nisgyblu i am dy fod ti mor ffyddlon i mi. Gad i dy gariad ffyddlon di roi cysur i mi, fel gwnest ti addo i dy was. Mae dy ddysgeidiaeth di'n rhoi'r pleser mwya i mi felly gad i mi brofi dy dosturi, a chael byw. Gad i'r rhai balch gael eu cywilyddio am wneud drwg i mi ar gam! Dw i'n mynd i astudio dy ofynion di. Gwna i'r rhai sy'n dy barchu ac yn dilyn dy reolau fy nerbyn i yn ôl. Gwna i mi roi fy hun yn llwyr i ddilyn dy ddeddfau fel bydd dim cywilydd arna i. Dw i'n dyheu i ti fy achub i! Dy eiriau di sy'n rhoi gobaith i mi! Mae fy llygaid yn blino wrth ddisgwyl i ti wneud beth rwyt wedi ei addo: “Pryd wyt ti'n mynd i'm cysuro i?” meddwn i. Dw i fel potel groen wedi crebachu gan fwg! Ond dw i ddim wedi diystyru dy ddeddfau. Am faint mwy mae'n rhaid i mi ddisgwyl? Pryd wyt ti'n mynd i gosbi'r rhai sy'n fy erlid i? Dydy'r bobl falch yna ddim yn cadw dy gyfraith di; maen nhw wedi cloddio tyllau i geisio fy nal i. Dw i'n gallu dibynnu'n llwyr ar dy orchmynion di; mae'r bobl yma'n fy erlid i ar gam! Helpa fi! Maen nhw bron â'm lladd i, ond dw i ddim wedi troi cefn ar dy orchmynion di. Yn dy gariad ffyddlon, cadw fi'n fyw, a bydda i'n gwneud popeth rwyt ti'n ei ofyn. Dw i'n gallu dibynnu ar dy eiriau di, ARGLWYDD; maen nhw'n ddiogel yn y nefoedd am byth. Ti wedi bod yn ffyddlon ar hyd y cenedlaethau! Ti roddodd y ddaear yn ei lle, ac mae'n aros yno. Mae popeth yn disgwyl dy arweiniad di, mae'r cwbl yn dy wasanaethu di. Byddwn i wedi marw o iselder oni bai fy mod wrth fy modd gyda dy ddysgeidiaeth. Wna i byth anghofio dy reolau di, rwyt ti wedi rhoi bywyd newydd i mi trwyddyn nhw. Ti sydd piau fi. Achub fi! Dw i wedi ymroi i wneud beth wyt ti eisiau. Mae dynion drwg eisiau fy ninistrio, ond dw i'n myfyrio ar dy orchmynion. Mae yna ben draw i bopeth arall, ond mae dy orchmynion di yn ddiderfyn! O, dw i wrth fy modd hefo dy ddysgeidiaeth di! Dw i'n myfyrio ynddi drwy'r dydd. Mae dy orchmynion di gyda mi bob amser; maen nhw'n fy ngwneud i'n gallach na'm gelynion; Dw i wedi dod i ddeall mwy na'm hathrawon i gyd, am fy mod i'n myfyrio ar dy ddeddfau di. Dw i wedi dod i ddeall yn well na'r rhai mewn oed, am fy mod i'n cadw dy ofynion di. Dw i wedi cadw draw o bob llwybr drwg er mwyn gwneud beth rwyt ti'n ddweud. Dw i ddim wedi troi cefn ar dy reolau di, am mai ti dy hun sydd wedi fy nysgu i. Mae'r pethau rwyt ti'n eu dweud mor dda, maen nhw'n felys fel mêl. Dy orchmynion di sy'n rhoi deall i mi; ac felly dw i'n casáu pob ffordd ffals. Mae dy eiriau di yn lamp i'm traed, ac yn goleuo fy llwybr. Dw i wedi addo ar lw y bydda i'n derbyn dy ddedfryd gyfiawn. Dw i'n dioddef yn ofnadwy; O ARGLWYDD, adfywia fi, fel rwyt wedi addo! O ARGLWYDD, derbyn fy offrwm o fawl, a dysga dy ddeddfau i mi. Er bod fy mywyd mewn perygl drwy'r adeg, dw i ddim wedi diystyru dy ddysgeidiaeth di. Mae pobl ddrwg wedi gosod trap i mi, ond dw i ddim wedi crwydro oddi wrth dy ofynion. Mae dy ddeddfau di wedi cael eu rhoi i mi am byth; maen nhw'n bleser pur i mi! Dw i'n benderfynol o ddilyn dy ddeddfau: mae'r wobr yn para am byth. Dw i'n casáu pobl ddauwynebog; ond dw i wrth fy modd hefo dy ddysgeidiaeth di. Ti ydy'r lle saff i mi guddio! Ti ydy'r darian sy'n fy amddiffyn! Dy eiriau di sy'n rhoi gobaith i mi! Ewch i ffwrdd, chi sy'n gwneud drwg! Dw i'n bwriadu cadw gorchmynion fy Nuw. Cynnal fi, fel rwyt wedi addo, i mi gael byw; paid gadael i mi gael fy siomi. Cynnal fi a chadw fi'n saff, a bydda i'n myfyrio ar dy ddeddfau di bob amser. Ti'n gwrthod y rhai sy'n crwydro oddi wrth dy ddeddfau — pobl ffals a thwyllodrus ydyn nhw. Ti'n taflu pobl ddrwg y byd i ffwrdd fel sothach! Felly dw i wrth fy modd hefo dy ddeddfau di. Mae meddwl amdanat ti yn codi croen gŵydd arna i; mae dy reolau di yn ddigon i godi ofn arna i. Dw i wedi gwneud beth sy'n iawn ac yn dda; paid gadael fi yn nwylo'r rhai sydd am wneud drwg i mi. Plîs addo y byddi'n cadw dy was yn saff. Stopia'r bobl falch yma rhag fy ngormesu. Mae fy llygaid wedi blino disgwyl i ti fy achub i, ac i dy addewid sicr ddod yn wir. Dangos dy haelioni rhyfeddol at dy was; dysga dy ddeddfau i mi. Dy was di ydw i. Helpa fi i ddeall a gwybod yn union beth rwyt ti'n ei orchymyn. Mae'n bryd i ti weithredu, ARGLWYDD! Mae'r bobl yma yn torri dy reolau. Dw i'n meddwl y byd o dy orchmynion di; mwy nag aur, yr aur mwyaf coeth. Dw i'n dilyn dy ofynion di yn fanwl; dw i'n casáu pob ffordd ffals. Mae dy ddeddfau di yn rhyfeddol, a dyna pam dw i'n eu cadw nhw. Mae dy eiriau di yn goleuo materion, ac yn rhoi deall i bobl gyffredin. Dw i'n dyheu, dw i'n disgwyl yn geg agored ac yn ysu am dy orchmynion di. Tro ata i, a bydd yn garedig ata i; dyna rwyt ti'n ei wneud i'r rhai sy'n caru dy enw di. Dangos di'r ffordd ymlaen i mi; paid gadael i'r rhai drwg gael y llaw uchaf arna i! Gollwng fi'n rhydd o afael y rhai sy'n fy ngormesu, er mwyn i mi wneud beth rwyt ti'n ei ddweud. Bydd yn garedig at dy was, a dysga dy ddeddfau i mi. Mae'r dagrau yn llifo fel afon gen i am fod pobl ddim yn ufudd i dy ddysgeidiaeth di. Rwyt ti yn gyfiawn, O ARGLWYDD; ac mae dy reolau di yn gwbl deg. Mae'r deddfau rwyt ti wedi eu rhoi yn gyfiawn; ac yn gwbl ddibynadwy. Dw i'n gwylltio'n lân wrth weld fy ngelynion yn diystyru beth rwyt ti'n ddweud. Mae dy eiriau di wedi eu profi'n wir, ac mae dy was wrth ei fodd gyda nhw. Er fy mod i'n cael fy mychanu a'm dirmygu, dw i ddim wedi diystyru dy orchmynion di. Mae dy gyfiawnder di yn para am byth; Mae dy ddysgeidiaeth di yn wir. Pan dw i mewn trafferthion ac mewn trybini, mae dy orchmynion di yn hyfrydwch pur i mi. Mae dy reolau cyfiawn yn para am byth; rho'r gallu i mi eu deall, i mi gael byw. Dw i'n gweiddi arnat ti o waelod calon! “Ateb fi, ARGLWYDD, er mwyn i mi gadw dy ddeddfau.” Dw i'n gweiddi arnat ti, “Achub fi, er mwyn i mi gadw dy reolau.” Dw i'n codi cyn iddi wawrio i alw am dy help! Dy eiriau di sy'n rhoi gobaith i mi! Dw i'n dal yn effro cyn i wylfa'r nos ddechrau, ac yn myfyrio ar dy eiriau. Gwranda arna i, yn unol â dy gariad ffyddlon; O ARGLWYDD, rho fywyd i mi, yn unol â dy gyfiawnder! Mae'r rhai sydd am wneud drwg i mi yn dod yn nes! Maen nhw'n bell iawn o dy ddysgeidiaeth di. Ond rwyt ti bob amser yn agos, ARGLWYDD, ac mae dy orchmynion di i gyd yn wir. Dw i wedi dysgu ers talwm fod dy reolau di yn aros am byth. Edrych fel dw i'n dioddef, ac achub fi! dw i ddim wedi diystyru dy ddysgeidiaeth di. Dadlau fy achos a helpa fi! Cadw fi'n saff, fel rwyt wedi addo gwneud. Does gan y rhai drwg ddim gobaith cael eu hachub gen ti; dŷn nhw ddim yn ymroi i wneud beth rwyt ti eisiau. Rwyt ti mor drugarog, O ARGLWYDD; adfywia fi yn unol â dy gyfiawnder! Mae gen i lawer iawn o elynion yn fy erlid i; ond dw i ddim wedi gwyro oddi wrth dy ddeddfau di. Mae gweld pobl heb ffydd yn codi pwys arna i, am eu bod nhw ddim yn cadw dy reolau di. Dw i wrth fy modd hefo dy ofynion! O ARGLWYDD, cadw fi'n saff, fel rwyt wedi addo. Mae popeth rwyt ti'n ddweud yn gwbl ddibynadwy; mae pob un o dy reolau cyfiawn yn para am byth. Mae'r awdurdodau wedi fy erlid i ar gam! Ond mae dy eiriau di yn rhoi gwefr i mi. Mae dy eiriau di yn fy ngwneud i mor hapus, fel rhywun sydd wedi dod o hyd i drysor gwerthfawr. Dw i'n casáu ac yn ffieiddio diffyg ffydd; ond dw i wrth fy modd hefo dy ddysgeidiaeth di. Dw i'n dy addoli di saith gwaith y dydd am dy fod ti'n dyfarnu'n gyfiawn. Mae'r rhai sy'n caru dy ddysgeidiaeth di yn gwbl saff; does dim yn gwneud iddyn nhw faglu. Dw i'n edrych ymlaen at gael fy achub gen ti, O ARGLWYDD! Dw i'n cadw dy orchmynion di; dw i'n ufuddhau i dy ddeddfau di ac yn eu caru nhw'n fawr. Dw i'n ufuddhau i dy orchmynion a dy ddeddfau di. Ti'n gwybod yn iawn am bopeth dw i'n wneud. Gwranda arna i'n pledio o dy flaen di, O ARGLWYDD; helpa fi i ddeall, fel rwyt ti'n addo gwneud. Dw i'n cyflwyno beth dw i'n ofyn amdano i ti. Achub fi fel rwyt wedi addo. Bydd moliant yn llifo oddi ar fy ngwefusau, am dy fod ti'n dysgu dy ddeddfau i mi. Bydd fy nhafod yn canu am dy eiriau, am fod dy reolau di i gyd yn gyfiawn. Estyn dy law i'm helpu. Dw i wedi dewis dilyn dy orchmynion di. Dw i'n dyheu i ti fy achub i, ARGLWYDD; Mae dy ddysgeidiaeth di yn hyfrydwch pur i mi. Gad i mi fyw, i mi gael dy foli! gad i dy reolau di fy helpu i. Dw i wedi crwydro fel dafad oedd ar goll. Tyrd i edrych amdana i! Dw i ddim wedi diystyru dy orchmynion di. Cân yr orymdaith. [1] Yn fy argyfwng dyma fi'n galw ar yr ARGLWYDD ac atebodd fi! “O ARGLWYDD, achub fi rhag gwefusau celwyddog, a thafodau twyllodrus!” Dyma gei di ganddo — ie, dyma fydd dy gosb — ti, dafod twyllodrus: Saethau miniog y milwyr wedi eu llunio ar dân golosg! Dw i wedi bod mor ddigalon, yn gorfod byw dros dro yn Meshech, ac aros yng nghanol pebyll Cedar. Dw i wedi cael llond bol ar fyw yng nghanol pobl sy'n casáu heddwch. Dw i'n siarad am heddwch, ac maen nhw eisiau rhyfela! Cân yr orymdaith. [1] Dw i'n edrych i fyny i'r mynyddoedd. O ble daw help i mi? Daw help oddi wrth yr ARGLWYDD, yr Un wnaeth greu y nefoedd a'r ddaear. Fydd e ddim yn gadael i dy droed lithro; dydy'r Un sy'n gofalu amdanat ddim yn cysgu. Wrth gwrs! Dydy'r un sy'n gofalu am Israel ddim yn gorffwys na chysgu! Yr ARGLWYDD sy'n gofalu amdanat ti; mae'r ARGLWYDD wrth dy ochr di yn dy amddiffyn di. Fydd yr haul ddim yn dy lethu di ganol dydd, na'r lleuad yn effeithio arnat ti yn y nos. Bydd yr ARGLWYDD yn dy amddiffyn rhag pob perygl; bydd yn dy gadw di'n fyw. Bydd yr ARGLWYDD yn dy gadw di'n saff ble bynnag ei di, o hyn allan ac am byth. Cân yr orymdaith. Salm Dafydd. [1] Ro'n i wrth fy modd pan ddwedon nhw wrtho i, “Gadewch i ni fynd i deml yr ARGLWYDD.” Dyma ni yn sefyll y tu mewn i dy giatiau, O Jerwsalem! Mae Jerwsalem yn ddinas wedi ei hadeiladu, i bobl ddod at ei gilydd ynddi. Mae'r llwythau yn mynd ar bererindod iddi, ie, llwythau'r ARGLWYDD. Mae'n ddyletswydd ar bobl Israel i roi diolch i'r ARGLWYDD. Dyma ble mae'r llysoedd barn yn eistedd, llysoedd barn llywodraeth Dafydd. Gweddïwch am heddwch i Jerwsalem: “Boed i'r rhai sy'n dy garu di lwyddo. Boed heddwch y tu mewn i dy waliau, a diogelwch o fewn dy gaerau.” Er mwyn fy mhobl a'm ffrindiau dw i'n gweddïo am heddwch i ti. Er mwyn teml yr ARGLWYDD ein Duw, dw i'n gofyn am lwyddiant i ti. Cân yr orymdaith. [1] Dw i'n edrych i fyny arnat ti sydd wedi dy orseddu yn y nefoedd. Fel mae llygaid caethweision yn edrych ar law eu meistri, neu lygaid caethforwyn yn edrych ar law ei meistres, mae ein llygaid ni yn edrych ar yr ARGLWYDD ein Duw, ac yn disgwyl iddo ddangos ei ffafr. Bydd yn garedig wrthon ni, O ARGLWYDD, dangos drugaredd! Dŷn ni wedi cael ein sarhau hen ddigon. Dŷn ni wedi cael llond bol ar fod yn destun sbort i bobl hunanfodlon, a chael ein sarhau gan rai balch. Cân yr orymdaith. Salm Dafydd. [1] Oni bai fod yr ARGLWYDD ar ein hochr ni — gall Israel ddweud yn glir — Oni bai fod yr ARGLWYDD ar ein hochr ni pan oedd dynion yn ymosod arnon ni, bydden nhw wedi'n llyncu ni'n fyw. Roedden nhw mor ffyrnig yn ein herbyn! Bydden ni wedi'n llethu'n llwyr gan y dyfroedd ac wedi boddi yn y llifogydd! Byddai rhuthr y dŵr wedi'n llethu. Bendith ar yr ARGLWYDD! Wnaeth e ddim gadael i'w dannedd ein rhwygo ni. Dŷn ni fel aderyn wedi dianc o drap yr heliwr; torrodd y trap a dyma ni'n llwyddo i ddianc. Yr ARGLWYDD wnaeth ein helpu — Crëwr y nefoedd a'r ddaear. Cân yr orymdaith. [1] Mae'r rhai sy'n trystio'r ARGLWYDD fel Mynydd Seion — does dim posib ei symud, mae yna bob amser. Fel mae Jerwsalem gyda bryniau o'i chwmpas, mae'r ARGLWYDD yn cofleidio ei bobl o hyn allan ac am byth. Fydd teyrnwialen drygioni ddim yn cael aros ar y tir sydd wedi ei roi i'r rhai cyfiawn, rhag i'r rhai cyfiawn droi at ddrygioni. Bydd yn dda, O ARGLWYDD, at y rhai da, sef y rhai hynny sy'n byw yn iawn. Ond am y bobl sy'n dilyn eu ffyrdd troëdig — boed i'r ARGLWYDD eu symud nhw o'r ffordd gyda'r rhai sy'n gwneud drwg. Heddwch i Israel! Cân yr orymdaith. [1] Ar ôl i'r ARGLWYDD roi llwyddiant i Seion eto, roedden ni fel rhai yn breuddwydio — roedden ni'n chwerthin yn uchel, ac yn canu'n llon. Roedd pobl y cenhedloedd yn dweud: “Mae'r ARGLWYDD wedi gwneud pethau mawr iddyn nhw!” Ydy, mae'r ARGLWYDD wedi gwneud pethau mawr i ni. Dŷn ni mor hapus! O ARGLWYDD, wnei di roi llwyddiant i ni eto, fel pan mae ffrydiau dŵr yn llifo yn anialwch y Negef? Bydd y rhai sy'n wylo wrth hau yn canu'n llawen wrth fedi'r cynhaeaf. Mae'r un sy'n cario ei sach o hadau yn crïo wrth fynd i hau. Ond bydd yr un sy'n cario'r ysgubau yn dod adre dan ganu'n llon! Cân yr orymdaith. Salm Solomon. [1] Os ydy'r ARGLWYDD ddim yn adeiladu'r tŷ, mae'r adeiladwyr yn gweithio'n galed i ddim pwrpas. Os ydy'r ARGLWYDD ddim yn amddiffyn dinas, mae'r gwyliwr yn cadw'n effro i ddim byd. Does dim pwynt codi'n fore nac aros ar eich traed yn hwyr i weithio'n galed er mwyn cael bwyd i'w fwyta. Ie, Duw sy'n darparu ar gyfer y rhai mae'n eu caru, a hynny tra maen nhw'n cysgu. Ac ie, yr ARGLWYDD sy'n rhoi meibion i bobl; gwobr ganddo fe ydy ffrwyth y groth. Mae meibion sy'n cael eu geni i ddyn pan mae'n ifanc fel saethau yn llaw'r milwr. Mae'r dyn sy'n llenwi ei gawell gyda nhw wedi ei fendithio'n fawr! Fydd e ddim yn cael ei gywilyddio wrth ddadlau gyda'i elynion wrth giât y ddinas. Cân yr orymdaith. [1] Mae'r un sy'n parchu'r ARGLWYDD ac yn gwneud beth mae e eisiau, wedi ei fendithio'n fawr. Byddi'n bwyta beth fuost ti'n gweithio mor galed i'w dyfu. Byddi'n cael dy fendithio, a byddi'n llwyddo! Bydd dy wraig fel gwinwydden ffrwythlon yn dy dŷ. Bydd dy feibion o gwmpas dy fwrdd fel blagur ar goeden olewydd. Dyna i ti sut mae'r dyn sy'n parchu'r ARGLWYDD yn cael ei fendithio! Boed i'r ARGLWYDD dy fendithio di o Seion! Cei weld Jerwsalem yn llwyddo am weddill dy fywyd, A byddi'n cael byw i weld dy wyrion. Heddwch i Israel! Cân yr orymdaith. [1] “Maen nhw wedi ymosod arna i lawer gwaith ers pan oeddwn i'n ifanc,” gall Israel ddweud. “Maen nhw wedi ymosod arna i lawer gwaith ers pan oeddwn i'n ifanc, ond dŷn nhw ddim wedi fy nhrechu i.” Mae dynion wedi aredig ar fy nghefn ac agor cwysi hirion. Ond mae'r ARGLWYDD yn ffyddlon, ac wedi torri'r rhaffau sy'n tynnu aradr y rhai drwg. Gwna i bawb sy'n casáu Seion gael eu cywilyddio a'u gyrru yn ôl! Gwna nhw fel glaswellt ar ben to yn gwywo cyn ei dynnu; dim digon i lenwi dwrn yr un sy'n medi, na breichiau'r un sy'n casglu'r ysgubau! A fydd y rhai sy'n pasio heibio ddim yn dweud, “Bendith yr ARGLWYDD arnoch chi! Bendith arnoch chi yn enw'r ARGLWYDD.” Cân yr orymdaith. [1] Dw i mewn dyfroedd dyfnion, ARGLWYDD, a dw i'n galw arnat ti! O ARGLWYDD, gwrando ar fy nghri! Gwranda arna i'n galw arnat ti! Dw i'n erfyn yn daer am drugaredd! O ARGLWYDD, os wyt ti'n cadw golwg ar bechodau, pa obaith sydd i unrhyw un? Ond rwyt ti'n barod i faddau, ac felly mae pobl yn dy addoli di. Dw i'n troi at yr ARGLWYDD; dw i'n troi ato ac yn disgwyl yn llawn gobaith. Dw i'n trystio beth mae e'n ddweud. Dw i'n dyheu i'r Meistr ddod fwy na'r gwylwyr yn disgwyl am y bore, ie, y gwylwyr am y bore. O Israel, trystia'r ARGLWYDD! Mae cariad yr ARGLWYDD mor ffyddlon, ac mae e mor barod i'n gollwng ni'n rhydd! Fe ydy'r un fydd yn rhyddhau Israel o ganlyniadau ei holl ddrygioni! Cân yr orymdaith. Salm Dafydd. [1] O ARGLWYDD, dw i ddim yn berson balch nac yn edrych i lawr ar bobl eraill. Dw i ddim yn chwilio am enwogrwydd nac yn gwneud pethau sy'n rhy anodd i mi. Dw i wedi dysgu bod yn dawel a diddig, fel plentyn bach ym mreichiau ei fam. Ydw, dw i'n dawel a bodlon fel y plentyn sy'n cael ei gario. O Israel, trystia'r ARGLWYDD o hyn allan ac am byth. Cân yr orymdaith. [1] O ARGLWYDD, paid anghofio Dafydd. Roedd e wedi cael amser mor galed. Roedd e wedi addo i'r ARGLWYDD a mynd ar ei lw i Un Cryf Jacob: “Dw i ddim am fynd i'r tŷ, na dringo i'm gwely; dw i ddim am adael i'm llygaid orffwys, na chau fy amrannau, nes dod o hyd i le i'r ARGLWYDD, ie, rhywle i Un Cryf Jacob fyw.” Clywson fod yr Arch yn Effrata; a dod o hyd iddi yng nghefn gwlad Jaar. Gadewch i ni fynd i mewn i'w dabernacl, ac ymgrymu wrth ei stôl droed! O ARGLWYDD, dos i fyny i dy deml gyda dy Arch bwerus! Boed i dy offeiriaid wisgo cyfiawnder, boed i'r rhai sy'n ffyddlon i ti weiddi'n llawen! Paid troi cefn ar yr un rwyt wedi ei eneinio o achos Dafydd dy was. Roedd yr ARGLWYDD wedi addo i Dafydd — aeth ar ei lw, a dydy e ddim yn torri ei air — “Dw i'n mynd i osod un o dy ddisgynyddion di ar dy orsedd. Os bydd dy feibion yn cadw'r ymrwymiad wnaethon ni a'r amodau dw i wedi eu gosod iddyn nhw, bydd dy linach frenhinol yn para am byth.” Mae'r ARGLWYDD wedi dewis Seion; mae e wedi penderfynu aros yno. “Dyma ble bydda i yn gorffwys am byth,” meddai, “dw i'n mynd i deyrnasu yma. Ie, dyna dw i eisiau. Dw i'n mynd i'w gwneud hi'n ddinas lwyddiannus, a rhoi digonedd o fwyd i'r rhai anghenus ynddi. Dw i'n mynd i roi achubiaeth yn wisg i'w hoffeiriaid, a bydd ei rhai ffyddlon yn gweiddi'n llawen! Dw i'n mynd i godi olynydd cryf i Dafydd; bydd fel lamp wedi ei rhoi i oleuo'r bobl. Bydda i'n gwisgo ei elynion mewn cywilydd, ond bydd coron yn disgleirio ar ei ben e.” Cân yr orymdaith. Salm Dafydd. [1] Mae mor dda, ydy mae mor hyfryd pan mae brodyr yn eistedd gyda'i gilydd. Mae fel olew persawrus yn llifo i lawr dros y farf — dros farf Aaron ac i lawr dros goler ei fantell. Mae fel gwlith Hermon yn disgyn ar fryniau Seion! Dyna ble mae'r ARGLWYDD wedi gorchymyn i'r fendith fod — bywyd am byth! Cân yr orymdaith. [1] Dewch! Bendithiwch yr ARGLWYDD, bawb ohonoch chi sy'n gwasanaethu'r ARGLWYDD, ac yn sefyll drwy'r nos yn nheml yr ARGLWYDD. Codwch eich dwylo, a'u hestyn allan tua'r cysegr! Bendithiwch yr ARGLWYDD! Boed i'r ARGLWYDD, sydd wedi creu y nefoedd a'r ddaear, eich bendithio chi o Seion! Haleliwia! Molwch enw'r ARGLWYDD! Addolwch e, chi sy'n gwasanaethu'r ARGLWYDD ac sy'n sefyll yn nheml yr ARGLWYDD, yn yr iard sydd yn nhŷ Dduw. Molwch yr ARGLWYDD, am fod yr ARGLWYDD mor dda! Canwch i'w enw, mae'n hyfryd cael gwneud hynny! Mae'r ARGLWYDD wedi dewis pobl Jacob iddo'i hun, ac Israel fel ei drysor sbesial. Dw i'n gwybod fod yr ARGLWYDD yn fawr; mae ein Duw ni yn well na'r ‛duwiau‛ eraill i gyd. Mae'r ARGLWYDD yn gwneud beth bynnag mae e eisiau, yn y nefoedd, ar y ddaear, ac i lawr i waelodion y moroedd dwfn. Mae e'n gwneud i'r cymylau godi ym mhen draw'r ddaear; mae'n anfon mellt gyda'r glaw, ac yn dod â'r gwynt allan o'i stordai. Fe wnaeth daro plentyn hynaf pob teulu yn yr Aifft, a'r anifeiliaid cyntafanedig hefyd. Gwnaeth arwyddion gwyrthiol yn yr Aifft yn erbyn y Pharo a'i weision i gyd; Concrodd lawer o wledydd a lladd nifer o frenhinoedd — Sihon, brenin yr Amoriaid, Og, brenin Bashan, a theuluoedd brenhinol Canaan i gyd. Rhoddodd eu tir yn etifeddiaeth — yn etifeddiaeth i'w bobl Israel. O ARGLWYDD, mae dy enw di yn para am byth, ac yn cael ei gofio ar hyd y cenedlaethau. Mae'r ARGLWYDD yn amddiffyn ei bobl ac yn tosturio wrth ei weision. Dydy eilunod y cenhedloedd yn ddim byd ond arian ac aur, wedi eu siapio gan ddwylo dynol. Mae ganddyn nhw gegau, ond allan nhw ddim siarad; llygaid, ond allan nhw ddim gweld; clustiau, ond allan nhw ddim clywed. Does dim bywyd ynddyn nhw! Mae'r bobl sy'n eu gwneud nhw, a'r bobl sydd yn eu haddoli hefyd, yn troi'n debyg iddyn nhw! Bendithiwch yr ARGLWYDD, chi bobl Israel! Bendithiwch yr ARGLWYDD, chi offeiriaid! Bendithiwch yr ARGLWYDD, chi Lefiaid! Bendithiwch yr ARGLWYDD, chi rai ffyddlon yr ARGLWYDD! Boed i'r ARGLWYDD, sy'n byw yn Jerwsalem, gael ei fendithio yn Seion! Haleliwia! Diolchwch i'r ARGLWYDD! Mae e mor dda aton ni! Mae ei haelioni yn ddiddiwedd! Rhowch ddiolch i'r Duw sy'n uwch na'r duwiau i gyd! Mae ei haelioni yn ddiddiwedd! Rhowch ddiolch i Arglwydd yr Arglwyddi! Mae ei haelioni yn ddiddiwedd! Fe ydy'r unig un sydd wedi gwneud gwyrthiau rhyfeddol. Mae ei haelioni yn ddiddiwedd! Fe sydd wedi creu y nefoedd drwy ei allu. Mae ei haelioni yn ddiddiwedd! Fe sydd wedi lledu'r ddaear dros y dyfroedd. Mae ei haelioni yn ddiddiwedd! Fe sydd wedi gwneud y goleuadau mawrion. Mae ei haelioni yn ddiddiwedd! Yr haul i reoli'r dydd. Mae ei haelioni yn ddiddiwedd! a'r lleuad a'r sêr i reoli'r nos. Mae ei haelioni yn ddiddiwedd! Fe wnaeth daro plant hynaf yr Aifft, Mae ei haelioni yn ddiddiwedd! a dod ag Israel allan o'u canol nhw, Mae ei haelioni yn ddiddiwedd! gyda nerth a chryfder rhyfeddol. Mae ei haelioni yn ddiddiwedd! Fe wnaeth hollti'r Môr Coch, Mae ei haelioni yn ddiddiwedd! a gadael i Israel fynd trwy ei ganol, Mae ei haelioni yn ddiddiwedd! Fe wnaeth daflu'r Pharo a'i fyddin i'r Môr Coch, Mae ei haelioni yn ddiddiwedd! ac arwain ei bobl drwy'r anialwch. Mae ei haelioni yn ddiddiwedd! Fe wnaeth daro brenhinoedd cryfion i lawr, Mae ei haelioni yn ddiddiwedd! a lladd brenhinoedd enwog — Mae ei haelioni yn ddiddiwedd! Sihon, brenin yr Amoriaid, Mae ei haelioni yn ddiddiwedd! ac Og, brenin Bashan. Mae ei haelioni yn ddiddiwedd! Rhoddodd eu tir yn etifeddiaeth — Mae ei haelioni yn ddiddiwedd! yn etifeddiaeth i bobl Israel, sy'n ei wasanaethu. Mae ei haelioni yn ddiddiwedd! Cofiodd amdanon ni pan oedden ni'n isel, Mae ei haelioni yn ddiddiwedd! a'n hachub ni o afael ein gelynion, Mae ei haelioni yn ddiddiwedd! Fe sy'n rhoi bwyd i bob creadur byw, Mae ei haelioni yn ddiddiwedd! Rhowch ddiolch i'r Duw sy'n y nefoedd! Mae ei haelioni yn ddiddiwedd! Wrth afonydd Babilon, dyma ni'n eistedd ac yn wylo wrth gofio am Seion. Dyma ni'n hongian ein telynau ar y coed poplys yno. Roedd y rhai oedd yn ein dal ni'n gaeth eisiau i ni ganu; a'n poenydwyr yn ein piwsio i'w difyrru: “Canwch un o ganeuon Seion i ni!” Sut allen ni ganu caneuon yr ARGLWYDD ar dir estron? Os anghofia i di, Jerwsalem, boed i'm llaw dde gael ei pharlysu. Boed i'm tafod lynu wrth dop fy ngeg petawn i'n anghofio amdanat ti, a phetai Jerwsalem yn ddim pwysicach na phopeth arall sy'n rhoi pleser i mi. Cofia, O ARGLWYDD, beth wnaeth pobl Edom y diwrnod hwnnw pan syrthiodd Jerwsalem. Roedden nhw'n gweiddi, “Chwalwch hi! Chwalwch hi i'w sylfeini!” Babilon hardd, byddi dithau'n cael dy ddinistrio! Bydd yr un fydd yn talu'n ôl i ti ac yn dy drin fel gwnest ti'n trin ni, yn cael ei fendithio'n fawr! Bydd yr un fydd yn gafael yn dy blant di ac yn eu hyrddio nhw yn erbyn y creigiau yn cael ei fendithio'n fawr! Salm Dafydd. [1] Dw i'n diolch i ti o waelod calon, ac yn canu mawl i ti o flaen y duwiau! Dw i'n ymgrymu i gyfeiriad dy deml sanctaidd ac yn moli dy enw am dy gariad a dy ffyddlondeb. Mae dy enw a dy addewid di yn well na phopeth sy'n bod. Dyma fi'n galw, a dyma ti'n ateb, fy ysbrydoli, a rhoi hyder i mi. Bydd brenhinoedd y byd i gyd yn diolch i ti, O ARGLWYDD, pan fyddan nhw'n clywed y cwbl rwyt ti'n ei addo. Byddan nhw'n canu am weithredoedd yr ARGLWYDD: “Mae dy ysblander di, ARGLWYDD, mor fawr!” Er bod yr ARGLWYDD mor fawr, mae'n gofalu am y gwylaidd; ac mae'n gwybod o bell am y balch. Pan dw i mewn trafferthion, rwyt yn fy achub o afael y gelyn gwyllt; ti'n estyn dy law gref i'm helpu. Bydd yr ARGLWYDD yn talu'n ôl ar fy rhan i! O ARGLWYDD, mae dy haelioni yn ddiddiwedd! Paid troi cefn ar dy bobl, gwaith dy ddwylo! I'r arweinydd cerdd: Salm Dafydd. [1] O ARGLWYDD, rwyt ti'n fy archwilio i, ac yn gwybod popeth amdana i. Ti'n gwybod pryd dw i'n eistedd ac yn codi; ti'n gwybod beth sydd ar fy meddwl i o bell. Ti'n cadw golwg arna i yn teithio ac yn gorffwys; yn wir, ti'n gwybod am bopeth dw i'n wneud. Ti'n gwybod beth dw i'n mynd i'w ddweud cyn i mi agor fy ngheg, ARGLWYDD. Rwyt ti yna o'm blaen i a'r tu ôl i mi, mae dy law di arna i i'm hamddiffyn. Ti'n gwybod popeth amdana i! Mae tu hwnt i mi — mae'n ddirgelwch llwyr, mae'n ormod i mi ei ddeall. Ble alla i fynd oddi wrth dy Ysbryd? I ble alla i ddianc oddi wrthot ti? Petawn i'n mynd i fyny i'r nefoedd, rwyt ti yno; petawn i'n gorwedd i lawr yn Annwn, dyna ti eto! Petawn i'n hedfan i ffwrdd gyda'r wawr ac yn mynd i fyw dros y môr, byddai dy law yno hefyd, i'm harwain; byddai dy law dde yn gafael yn dynn ynof fi. Petawn i'n gofyn i'r tywyllwch fy nghuddio, ac i'r golau o'm cwmpas droi yn nos, dydy hyd yn oed tywyllwch ddim yn dywyll i ti! Mae'r nos yn olau fel y dydd i ti; mae goleuni a thywyllwch yr un fath! Ti greodd fy meddwl a'm teimladau; a'm plethu i yng nghroth fy mam. Dw i'n dy foli di, am fod dy waith di mor syfrdanol a rhyfeddol! Mae'r cwbl rwyt ti'n wneud yn anhygoel! Ti'n fy nabod i i'r dim! Roeddet ti'n gweld fy ffrâm i pan oeddwn i'n cael fy siapio yn y dirgel, ac yn cael fy ngweu at ei gilydd yn nyfnder y ddaear. Roeddet ti'n fy ngweld i cyn bod siâp arna i! Roedd hyd fy mywyd wedi ei drefnu — pob diwrnod wedi ei gofnodi yn dy lyfr, a hynny cyn i un fynd heibio! O Dduw, mae dy feddyliau di'n rhy ddwfn i mi; mae gormod ohonyn nhw i'w deall! Petawn i'n ceisio eu cyfri nhw, byddai mwy nag sydd o ronynnau tywod! Bob tro dw i'n deffro rwyt ti'n dal yna gyda mi! O Dduw, pam wnei di ddim lladd y rhai drwg, a gwneud i'r dynion treisgar yma fynd i ffwrdd? Maen nhw'n dweud pethau maleisus amdanat ti! Dy elynion di ydyn nhw! Maen nhw'n dweud celwydd!. O ARGLWYDD, mae'n gas gen i y rhai sy'n dy gasáu di! Mae'r bobl sy'n dy herio yn codi pwys arna i! Dw i'n eu casáu nhw â chas perffaith! Maen nhw'n elynion i mi hefyd. Archwilia fi, O Dduw, i weld beth sydd ar fy meddwl; Treiddia'n ddwfn, a deall fel dw i'n poeni. Edrych i weld a ydw i'n gwneud rhywbeth o'i le, ac arwain fi ar hyd yr hen lwybr. I'r arweinydd cerdd: Salm Dafydd. [1] Achub fi, O ARGLWYDD, rhag pobl ddrwg. Cadw fi'n saff rhag y dynion treisiol, sy'n cynllwynio i wneud drwg i mi, ac yn ymosod a chreu helynt. Mae ganddyn nhw dafodau miniog; maen nhw'n brathu fel nadroedd, ac mae gwenwyn neidr dan eu gwefusau. Saib O ARGLWYDD, paid gadael i bobl ddrwg gael gafael ynof fi! Cadw fi'n saff rhag y dynion treisiol sydd eisiau fy maglu i. Mae dynion balch yn cuddio trap i mi; pobl lygredig yn lledu rhwydau i mi; ac yn gosod maglau ar fy llwybr. Saib Dywedais wrth yr ARGLWYDD: “Ti ydy fy Nuw i.” Gwranda, O ARGLWYDD, wrth i mi erfyn am drugaredd! O ARGLWYDD, Meistr, ti ydy'r un cryf sy'n achub; ti oedd yn gysgod i mi yn y frwydr. O ARGLWYDD, paid gadael i'r rhai drwg gael eu ffordd! Paid gadael i'w cynllwyn nhw lwyddo, rhag iddyn nhw ymffrostio. Saib Ac am y rhai sydd o'm cwmpas i — boed i'r pethau drwg maen nhw wedi ddweud eu llethu! Boed i farwor tanllyd ddisgyn arnyn nhw! Boed iddyn nhw gael eu taflu i bydewau, byth i godi eto! Paid gadael i enllibwyr aros yn y tir. Gad i ddrygioni'r dynion treisgar eu hela nhw a'u bwrw nhw i lawr. Dw i'n gwybod y bydd yr ARGLWYDD yn gweithredu ar ran y rhai sy'n diodde. Bydd yn sicrhau cyfiawnder i'r rhai mewn angen. Bydd y rhai cyfiawn yn sicr yn moli dy enw di! Bydd y rhai sy'n byw'n gywir yn aros yn dy gwmni di. Salm Dafydd. [1] ARGLWYDD, dw i'n galw arnat: Brysia! Helpa fi! Gwranda arna i'n galw arnat ti. Derbyn fy ngweddi fel offrwm o arogldarth, a'm dwylo sydd wedi eu codi fel aberth yr hwyr. O ARGLWYDD, gwarchod fy ngheg a gwylia ddrws fy ngwefusau. Paid gadael i mi feddwl dweud dim byd drwg, na gwneud dim gyda dynion sydd felly! Cadw fi rhag bwyta eu danteithion. Boed i rywun sy'n byw'n gywir ddod i'm taro i, a'm ceryddu mewn cariad! Dyna'r olew gorau — boed i'm pen beidio ei wrthod. Dw i'n gweddïo o hyd ac o hyd yn erbyn eu drygioni. Pan fyddan nhw'n syrthio i ddwylo'r Graig, eu Barnwr, byddan nhw'n gwerthfawrogi beth ddywedais i. Fel petai rhywun yn aredig ac yn troi y pridd, mae ein hesgyrn wedi eu gwasgaru wrth geg Annwn. Arnat ti dw i'n edrych, O ARGLWYDD, fy Meistr; Dw i'n dod atat am loches, paid a'm gadael mewn perygl! Cadw fi i ffwrdd o'r trapiau maen nhw wedi eu gosod, ac oddi wrth faglau y rhai drwg. Gad iddyn nhw syrthio i'w rhwydi eu hunain, tra dw i'n llwyddo i ddianc. Mascîl. Salm gan Dafydd, pan oedd yn yr ogof. Gweddi. [1] Dw i'n gweiddi'n uchel ar yr ARGLWYDD; dw i'n pledio ar i'r ARGLWYDD fy helpu. Dw i'n tywallt y cwbl sy'n fy mhoeni o'i flaen, ac yn dweud wrtho am fy holl drafferthion. Pan dw i wedi anobeithio'n llwyr, rwyt ti'n gwylio'r ffordd i mi. Maen nhw wedi cuddio magl ar y llwybr o'm blaen i. Dw i'n edrych i'r dde — ond does neb yn cymryd sylw ohono i. Mae dianc yn amhosib! — does neb yn poeni amdana i. Dw i'n gweiddi arnat ti, ARGLWYDD; a dweud, “Ti ydy'r unig le saff i mi fynd, does gen i neb arall ar dir y byw!” Gwranda arna i'n gweiddi, dw i'n teimlo mor isel. Achub fi o afael y rhai sydd ar fy ôl; maen nhw'n rhy gryf i mi. Gollwng fi'n rhydd o'r carchar yma, er mwyn i mi foli dy enw di. Bydd y rhai cyfiawn yn casglu o'm cwmpas am dy fod ti wedi achub fy ngham. Salm Dafydd. [1] O ARGLWYDD, gwrando ar fy ngweddi. Gwranda arna i'n pledio am dy help di! Ti'n Dduw ffyddlon a chyfiawn, felly plîs ateb fi. Paid rhoi dy was ar brawf, achos does neb yn ddieuog yn dy olwg di. Mae'r gelyn wedi dod ar fy ôl i, ac wedi fy sathru i'r llawr. Mae wedi gwneud i mi eistedd yn y tywyllwch fel y rhai sydd wedi marw ers talwm. Dw i'n anobeithio! Dw i wedi fy mharlysu gan ddychryn! Ond wedyn dw i'n cofio am beth wnest ti yn y gorffennol, ac yn myfyrio ar y cwbl wnest ti ei gyflawni. Dw i'n estyn fy nwylo allan atat ti. Dw i fel tir sych yn hiraethu am law! Saib Brysia! Ateb fi, ARGLWYDD! Alla i ddim diodde dim mwy! Paid troi i ffwrdd oddi wrtho i, neu bydda i'n syrthio i bwll marwolaeth. Gad i mi glywed am dy gariad ffyddlon di yn y bore, achos dw i'n dy drystio di. Gad i mi wybod pa ffordd i fynd — dw i'n dyheu amdanat ti! Achub fi o afael y gelyn, O ARGLWYDD; dw i'n rhedeg atat ti am gysgod. Dysga fi i wneud beth wyt ti eisiau, achos Ti ydy fy Nuw i. Boed i dy Ysbryd hael di fy arwain i rywle saff. Achub fi, O ARGLWYDD, er mwyn dy enw da. Ti'n Dduw cyfiawn, felly arwain fi allan o'r helynt yma. Rwyt ti mor ffyddlon. Delia gyda'r gelynion! Dinistria'r rhai sy'n ymosod arna i, achos dy was di ydw i. Salm Dafydd. [1] Bendith ar yr ARGLWYDD, fy nghraig i! Mae e wedi dysgu fy nwylo i ymladd, a'm bysedd i frwydro. Mae'r Un ffyddlon fel castell o'm cwmpas; fy hafan ddiogel a'r un sy'n fy achub i. Fy nharian, a'r un dw i'n cysgodi ynddo. Mae e'n gwneud i wledydd eraill ymostwng i mi. O ARGLWYDD, beth ydy pobl i ti boeni amdanyn nhw? Pam ddylet ti feddwl ddwywaith am berson dynol? Mae pobl fel tarth. Mae bywyd fel cysgod yn pasio heibio. O ARGLWYDD, gwthia'r awyr o'r ffordd, a tyrd i lawr! Cyffwrdd y mynyddoedd, a gwna iddyn nhw fygu! Gwna i fellt fflachio a chwala'r gelyn! Anfon dy saethau i lawr a'u gyrru nhw ar ffo! Estyn dy law i lawr o'r entrychion. Achub fi! Tynna fi allan o'r dŵr dwfn! Achub fi o afael estroniaid sy'n dweud celwyddau ac sy'n torri pob addewid. O Dduw, dw i am ganu cân newydd i ti, i gyfeiliant offeryn dectant. Canu i ti sydd wedi rhoi buddugoliaeth i frenhinoedd, ac achub dy was Dafydd rhag y cleddyf marwol. Achub fi o afael estroniaid sy'n dweud celwyddau ac sy'n torri pob addewid. Bydd ein meibion fel planhigion ifanc wedi tyfu yn eu hieuenctid; a'n merched fel y pileri ar gorneli'r palas, wedi eu cerfio i harddu'r adeilad. Bydd ein hysguboriau'n llawn o bob math o fwyd; a bydd miloedd o ddefaid, ie, degau o filoedd, yn ein caeau. Bydd ein gwartheg yn iach — heb bla a heb erthyliad; A fydd dim wylo yn y strydoedd. Mae pobl mor ffodus pan mae pethau felly! Mae'r bobl sydd â'r ARGLWYDD yn Dduw iddyn nhw wedi eu bendithio'n fawr! Cân o fawl. Salm Dafydd. [1] Dw i'n mynd i dy ganmol di, fy Nuw a'm brenin, a bendithio dy enw di am byth bythoedd! Dw i eisiau dy ganmol di bob dydd a dy foli di am byth bythoedd! Mae'r ARGLWYDD yn fawr, ac yn haeddu ei foli! Mae ei fawredd tu hwnt i'n deall ni. Bydd un genhedlaeth yn dweud wrth y nesa am dy weithredoedd, ac yn canmol y pethau mawr rwyt ti'n eu gwneud. Byddan nhw'n dweud mor rhyfeddol ydy dy ysblander a dy fawredd, a bydda i'n sôn am y pethau anhygoel rwyt ti'n eu gwneud. Bydd pobl yn sôn am y pethau syfrdanol rwyt ti'n eu gwneud, a bydda i'n adrodd hanes dy weithredoedd mawrion. Byddan nhw'n cyhoeddi dy ddaioni diddiwedd di, ac yn canu'n llawen am dy gyfiawnder. Mae'r ARGLWYDD mor garedig a thrugarog; mor amyneddgar ac anhygoel o hael! Mae'r ARGLWYDD yn dda i bawb; mae'n dangos tosturi at bopeth mae wedi ei wneud. Mae'r cwbl rwyt ti wedi ei greu yn dy foli di, O ARGLWYDD! Ac mae'r rhai sydd wedi profi dy gariad ffyddlon yn dy fendithio! Byddan nhw'n dweud am ysblander dy deyrnasiad, ac yn siarad am dy nerth; er mwyn i'r ddynoliaeth wybod am y pethau mawr rwyt ti'n eu gwneud, ac am ysblander dy deyrnasiad. Mae dy deyrnasiad yn para drwy'r oesoedd, ac mae dy awdurdod yn para ar hyd y cenedlaethau! Mae'r ARGLWYDD yn cadw ei air; ac yn ffyddlon ym mhopeth mae'n ei wneud. Mae'r ARGLWYDD yn cynnal pawb sy'n syrthio, ac yn gwneud i bawb sydd wedi eu plygu drosodd sefyll yn syth. Mae popeth byw yn edrych yn ddisgwylgar arnat ti, a ti'n rhoi bwyd iddyn nhw pan mae ei angen. Mae dy law di yn agored; rwyt ti mor hael! Ti'n rhoi'r bwyd sydd ei angen i bob creadur byw. Mae'r ARGLWYDD yn gyfiawn bob amser, ac yn ffyddlon ym mhopeth mae'n ei wneud. Mae'r ARGLWYDD yn agos at y rhai sy'n galw arno; at bawb sy'n ddidwyll pan maen nhw'n galw arno. Mae'n rhoi eu dymuniad i'r rhai sy'n ei barchu; mae'n eu clywed nhw'n galw, ac yn eu hachub. Mae'r ARGLWYDD yn amddiffyn pawb sy'n ei garu, ond bydd yn dinistrio'r rhai drwg i gyd. Bydda i'n cyhoeddi fod yr ARGLWYDD i'w foli, a bydd pob creadur byw yn bendithio ei enw sanctaidd, … am byth bythoedd! Haleliwia! Mola'r ARGLWYDD, meddwn i wrthof fy hun! Dw i'n mynd i foli'r ARGLWYDD ar hyd fy mywyd, a chanu mawl i'm Duw tra dw i'n bodoli! Paid trystio'r rhai sy'n teyrnasu — dyn meidrol sydd ddim yn gallu achub. Mae'r anadl yn mynd allan ohono, ac mae'n mynd yn ôl i'r pridd; a'r diwrnod hwnnw mae ei holl bolisïau yn dod i ben! Mae'r un mae Duw Jacob yn ei helpu wedi ei fendithio'n fawr, Yr un sy'n dibynnu ar yr ARGLWYDD ei Dduw, y Duw a wnaeth y nefoedd, y ddaear, y môr a phopeth sydd ynddyn nhw. Mae e bob amser yn cadw ei air, yn rhoi cyfiawnder i'r rhai sy'n cael eu gorthrymu, a bwyd i'r rhai newynog. Mae'r ARGLWYDD yn gollwng carcharorion yn rhydd. Mae'r ARGLWYDD yn rhoi eu golwg i bobl ddall. Mae'r ARGLWYDD yn gwneud i bawb sydd wedi eu plygu drosodd sefyll yn syth. Mae'r ARGLWYDD yn caru'r rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn. Mae'r ARGLWYDD yn gofalu am y mewnfudwyr ac yn cynnal y plant amddifad a'r gweddwon. Ond mae e'n gwneud i'r rhai drwg golli eu ffordd. Bydd yr ARGLWYDD yn teyrnasu am byth; dy Dduw di, Seion, ar hyd y cenedlaethau. Haleliwia! Haleliwia! [1] Mae mor dda canu mawl i Dduw! Mae'n beth hyfryd rhoi iddo'r mawl mae'n ei haeddu. Mae'r ARGLWYDD yn ailadeiladu Jerwsalem, ac yn casglu pobl Israel sydd wedi bod yn alltudion. Mae e'n iacháu y rhai sydd wedi torri eu calonnau, ac yn rhwymo eu briwiau. Mae e wedi cyfri'r sêr i gyd, a rhoi enw i bob un ohonyn nhw. Mae'n Meistr ni mor fawr, ac mor gryf! Mae ei ddeall yn ddi-ben-draw! Mae'r ARGLWYDD yn rhoi hyder i'r rhai sy'n cael eu gorthrymu, ond yn bwrw'r rhai drwg i'r llawr. Canwch gân o fawl i'r ARGLWYDD, a chreu alaw i Dduw ar y delyn fach. Mae'n gorchuddio'r awyr gyda chymylau, ac yn rhoi glaw i'r ddaear. Mae'n gwneud i laswellt dyfu ar y mynyddoedd, yn rhoi bwyd i bob anifail gwyllt, ac i gywion y gigfran pan maen nhw'n galw. Dydy cryfder ceffyl ddim yn creu argraff arno, a dydy cyflymder rhedwr ddim yn ei ryfeddu. Y bobl sy'n ei barchu sy'n plesio'r ARGLWYDD; y rhai hynny sy'n rhoi eu gobaith yn ei gariad ffyddlon. O Jerwsalem, canmol yr ARGLWYDD! O Seion, mola dy Dduw! Mae e wedi gwneud barrau dy giatiau yn gryf, ac wedi bendithio dy blant o dy fewn. Mae'n gwneud dy dir yn ddiogel, ac yn rhoi digonedd o'r ŷd gorau i ti. Mae'n anfon ei orchymyn drwy'r ddaear, ac mae'n cael ei wneud ar unwaith. Mae'n anfon eira fel gwlân, yn gwasgaru barrug fel lludw, ac yn taflu cenllysg fel briwsion. Pwy sy'n gallu goddef yr oerni mae'n ei anfon? Wedyn mae'n gorchymyn i'r cwbl feirioli — mae'n anadlu arno ac mae'r dŵr yn llifo. Mae wedi rhoi ei neges i Jacob, ei ddeddfau a'i ganllawiau i bobl Israel. Wnaeth e ddim hynny i unrhyw wlad arall; dŷn nhw'n gwybod dim am ei reolau. Haleliwia! Haleliwia! Molwch yr ARGLWYDD o'r nefoedd! Molwch e o'r uchder! Molwch e, ei holl angylion! Molwch e, ei holl fyddinoedd! Molwch e, haul a lleuad! Molwch e, yr holl sêr! Molwch e, y nefoedd uchod, a'r dŵr sydd uwchben y nefoedd! Boed iddyn nhw foli enw'r ARGLWYDD, am mai fe orchymynodd iddyn nhw gael eu creu. Fe roddodd nhw yn eu lle am byth bythoedd, a gosod trefn fydd byth yn newid. Molwch yr ARGLWYDD, chi sydd ar y ddaear, a'r holl forfilod mawr yn y môr dwfn. Y mellt a'r cenllysg, yr eira a'r niwl, a'r gwynt stormus sy'n ufudd iddo. Y mynyddoedd a'r bryniau i gyd, y coed ffrwythau a'r coed cedrwydd; pob anifail gwyllt a dof, ymlusgiaid ac adar. Yr holl frenhinoedd a'r gwahanol bobloedd, yr arweinwyr a'r barnwyr i gyd; bechgyn a merched hen ac ifanc gyda'i gilydd Boed iddyn nhw foli enw'r ARGLWYDD! Mae ei enw e yn uwch na'r cwbl; Mae ei ysblander yn gorchuddio'r nefoedd a'r ddaear! Mae wedi rhoi buddugoliaeth i'w bobl, ac enw da i bawb sydd wedi profi ei gariad ffyddlon, sef Israel, y bobl sy'n agos ato. Haleliwia! Haleliwia! Canwch gân newydd i'r ARGLWYDD, Rhowch foliant iddo yn y gynulleidfa o'i bobl ffyddlon. Boed i Israel lawenhau yn ei Chrëwr! Boed i blant Seion gael eu gwefreiddio gan eu Brenin! Boed iddyn nhw ei addoli gyda dawns; ac ar y drwm a'r delyn fach. Achos mae'r ARGLWYDD wrth ei fodd gyda'i bobl! Mae'n gwisgo'r rhai sy'n cael eu gorthrymu gyda buddugoliaeth. Boed i'r rhai sydd wedi profi ei gariad ffyddlon ddathlu; a gweiddi'n llawen wrth orffwys ar eu clustogau. Canu mawl i Dduw gyda chleddyfau miniog yn eu dwylo, yn barod i gosbi'r cenhedloedd, a dial ar y bobloedd. Gan rwymo eu brenhinoedd â chadwyni, a'u pobl bwysig mewn hualau haearn. Dyma'r ddedfryd gafodd ei chyhoeddi arnyn nhw; a'r fraint fydd i'r rhai sydd wedi profi ei gariad ffyddlon. Haleliwia! Haleliwia! Molwch Dduw yn ei deml! Molwch e yn ei nefoedd gadarn! Molwch e am wneud pethau mor fawr! Molwch e am ei fod mor wych! Molwch e drwy chwythu'r corn hwrdd! Molwch e gyda'r nabl a'r delyn! Molwch e gyda drwm a dawns! Molwch e gyda llinynnau a ffliwt! Molwch e gyda sŵn symbalau! Molwch e gyda symbalau'n atseinio! Boed i bopeth sy'n anadlu foli'r ARGLWYDD! Haleliwia! Diarhebion Solomon, mab Dafydd, brenin Israel: I dy helpu i fod yn ddoeth a dysgu byw yn iawn; ac i ti ddeall beth sy'n gyngor call. I ti ddysgu sut i fod yn bwyllog, yn gyfiawn, yn gytbwys, ac yn deg. I ddysgu rhai gwirion i fod yn gall, a dangos y ffordd iawn i bobl ifanc. (Bydd y doeth yn gwrando ac eisiau dysgu mwy; a'r rhai sy'n gall yn derbyn arweiniad.) Hefyd i ti ddeall dihareb a gallu dehongli dywediadau doeth a phosau. Parchu'r ARGLWYDD ydy'r cam cyntaf at wybodaeth; does gan ffyliaid ddim diddordeb mewn bod yn ddoeth na dysgu byw yn iawn. Fy mab, gwrando ar beth mae dy dad yn ei ddweud; a paid anghofio beth ddysgodd dy fam i ti. Bydd beth ddysgon nhw i ti fel torch hyfryd ar dy ben, neu gadwyni hardd am dy wddf. Fy mab, os ydy cwmni drwg yn ceisio dy ddenu di, paid mynd gyda nhw. Os dwedan nhw, “Tyrd gyda ni! Gad i ni guddio i ymosod ar rywun; mygio rhywun diniwed am ddim rheswm! Gad i ni eu llyncu nhw'n fyw, fel y bedd; a rhoi crasfa iawn iddyn nhw, nes byddan nhw bron marw. Cawn ni pob math o bethau gwerthfawr; a llenwi ein tai gyda phethau wedi eu dwyn. Tyrd gyda ni! Bydd yn fentrus! — byddwn yn rhannu popeth gawn ni.” Fy mab, paid mynd y ffordd yna; cadw draw oddi wrthyn nhw. Maen nhw'n rhuthro i wneud drwg; maen nhw ar frys i dywallt gwaed. Fel mae'r rhwyd sy'n cael ei gosod yn golygu dim byd i'r aderyn, dŷn nhw ddim yn gweld y perygl — maen nhw'n dinistrio eu bywydau eu hunain! Ie, dyna sy'n digwydd i'r rhai sy'n elwa ar draul eraill; mae ymddwyn felly yn difetha bywyd y person ei hun! Mae doethineb yn gweiddi ar y strydoedd, ac yn codi ei llais ar y sgwâr. Mae'n sefyll ar gorneli'r strydoedd prysur ac yn galw allan; ac yn dweud ei dweud wrth giatiau'r ddinas: “Ydych chi bobl wirion yn mwynhau anwybodaeth? Ydych chi sy'n gwawdio am ddal ati? A chi rai dwl, ydych chi byth eisiau dysgu? Peidiwch diystyru beth dw i'n ddweud! Dw i'n mynd i dywallt fy nghalon, a dweud beth sydd ar fy meddwl wrthoch chi. Roeddech chi wedi gwrthod ymateb pan o'n i'n galw, ac yn cymryd dim sylw pan wnes i estyn llaw atoch chi. Roeddech chi'n diystyru'r cyngor oedd gen i ac yn gwrthod gwrando arna i'n ceryddu. Ond fi fydd yn chwerthin pan fyddwch chi mewn trafferthion; fi fydd yn gwawdio pan fyddwch chi'n panicio! Bydd dychryn yn dod arnoch chi fel storm, a thrychineb yn eich taro chi fel corwynt! Byddwch mewn helbul ac mewn argyfwng go iawn. Byddwch chi'n galw arna i bryd hynny, ond fydda i ddim yn ateb; byddwch chi'n chwilio'n daer amdana i, ond yn methu dod o hyd i mi. Roeddech chi wedi gwrthod dysgu, ac wedi dangos dim parch at yr ARGLWYDD. Gwrthod y cyngor rois i, a cymryd dim sylw pan oeddwn i'n dweud y drefn. Felly bydd rhaid i chi wynebu canlyniadau eich ffyrdd, a byddwch wedi cael llond bol ar eich cynlluniau. Bydd anufudd-dod pobl wirion yn eu lladd nhw, a difaterwch pobl ddwl yn eu dinistrio. Ond bydd pwy bynnag sy'n gwrando arna i yn saff, yn dawel eu meddwl, ac yn ofni dim.” Fy mab, os byddi di'n derbyn beth dw i'n ddweud, ac yn trysori'r hyn dw i'n ei orchymyn; Os gwnei di wrando'n astud ar ddoethineb, a cheisio deall yn iawn; Os byddi di'n gofyn am gyngor doeth, ac yn awyddus i ddeall yn iawn; Os byddi'n ceisio doethineb fel arian ac yn chwilio amdani fel am drysor wedi ei guddio, yna byddi di'n deall sut i barchu'r ARGLWYDD a byddi'n dod i wybod am Dduw. Achos yr ARGLWYDD sy'n rhoi doethineb; beth mae e'n ddweud sy'n rhoi gwybodaeth a deall. Mae'n rhoi llwyddiant i'r un sy'n gwneud beth sy'n iawn — ac mae fel tarian i amddiffyn y sawl sy'n byw yn onest. Mae'n gwneud yn siŵr fod cyfiawnder yn llwyddo, ac mae'n gwarchod y rhai sy'n ffyddlon iddo. Byddi'n deall beth sy'n iawn, yn gytbwys, ac yn deg — ie, popeth sy'n dda. Pan fydd doethineb yn rheoli dy ffordd o feddwl a gwybod beth sydd orau yn dy gofleidio di, bydd y ffordd wnei di ei dilyn yn saff, a bydd deall yn dy warchod. Bydd yn dy gadw di rhag dilyn y drwg, a rhag y bobl hynny sy'n twyllo o hyd — y rhai sydd wedi troi cefn ar ffyrdd gonest i ddilyn llwybrau tywyll. Maen nhw wrth eu boddau yn gwneud drwg ac yn mwynhau twyllo — Pobl anonest ydyn nhw, ac maen nhw'n dilyn ffyrdd troellog. Bydd yn dy achub di rhag y wraig anfoesol, yr un llac ei moesau sy'n fflyrtian drwy'r adeg, yr un sydd wedi gadael ei gŵr, a diystyru'r addewidion wnaeth hi o flaen Duw. Mae ei thŷ hi yn llwybr llithrig i farwolaeth; mae ei dilyn hi yn arwain i fyd y meirw. Does neb sy'n mynd ati hi'n gallu troi yn ôl, a chael eu hunain ar lwybr bywyd unwaith eto. Dilyn di ffordd y rhai sy'n byw yn dda, cadw di at lwybrau'r rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn. Y rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn fydd yn byw yn y tir, y rhai sy'n byw'n onest fydd yn cael aros yno. Bydd pobl ddrwg yn cael eu gyrru i ffwrdd, a'r rhai sy'n twyllo yn cael eu rhwygo o'r tir. Fy mab, paid anghofio beth dw i'n ei ddysgu i ti; cadw'r pethau dw i'n eu gorchymyn yn dy galon. Byddi'n byw yn hirach ac yn cael blynyddoedd da; bydd eu dilyn nhw yn gwneud byd o les i ti. Bydd yn garedig ac yn ffyddlon bob amser; clyma bethau felly fel cadwyn am dy wddf, ysgrifenna nhw ar lech ar dy galon. Yna byddi'n cael dy dderbyn, ac yn cael enw da gan Dduw a chan bobl eraill. Trystia'r ARGLWYDD yn llwyr; paid dibynnu ar dy syniadau dy hun. Gwrando arno fe bob amser, a bydd e'n dangos y ffordd iawn i ti. Paid meddwl dy fod ti'n glyfar; Dangos barch at yr ARGLWYDD a throi dy gefn ar ddrygioni. Bydd byw felly yn cadw dy gorff yn iach, ac yn gwneud byd o les i ti. Defnyddia dy gyfoeth i anrhydeddu'r ARGLWYDD; rho siâr cyntaf dy gnydau iddo fe. Wedyn bydd dy ysguboriau yn llawn, a dy gafnau yn llawn o sudd grawnwin. Fy mab, paid diystyru disgyblaeth yr ARGLWYDD, na thorri dy galon pan mae e'n dy gywiro di. Achos mae'r ARGLWYDD yn disgyblu'r rhai mae'n eu caru, fel mae tad yn cosbi'r plentyn mae mor falch ohono. Y fath fendith sydd i'r sawl sy'n darganfod doethineb, ac yn llwyddo i ddeall. Mae'n gwneud mwy o elw nag arian, ac yn talu'n ôl lawer mwy nag aur. Mae hi'n fwy gwerthfawr na gemau; does dim trysor tebyg iddi. Mae bywyd llawn yn ei llaw dde, a chyfoeth ac anrhydedd yn ei llaw chwith. Mae ei ffyrdd yn llawn haelioni, a'i llwybrau yn arwain i heddwch a diogelwch. Mae hi fel coeden sy'n rhoi bywyd i'r rhai sy'n gafael ynddi, ac mae'r rhai sy'n dal gafael ynddi mor hapus! Doethineb yr ARGLWYDD osododd sylfeini'r ddaear; a'i ddeall e wnaeth drefnu'r bydysawd. Ei drefn e wnaeth i'r ffynhonnau dŵr dorri allan, ac i'r awyr roi dafnau o wlith. Fy mab, paid colli golwg ar gyngor doeth a'r ffordd iawn; dal dy afael ynddyn nhw. Byddan nhw'n rhoi bywyd i ti ac yn addurn hardd am dy wddf. Yna byddi'n cerdded trwy fywyd yn saff a heb faglu. Pan fyddi'n gorwedd i lawr, fydd dim byd i'w ofni; byddi'n gorwedd ac yn gallu cysgu'n braf. Fydd gen ti ddim ofn yr annisgwyl, na'r drychineb sy'n dod ar bobl ddrwg. Bydd yr ARGLWYDD yn rhoi hyder i ti; bydd e'n dy gadw di rhag syrthio i drap. Pan mae gen ti'r cyfle i helpu rhywun, paid gwrthod gwneud cymwynas â nhw. Paid dweud wrth rywun, “Tyrd yn ôl rywbryd eto; bydda i'n dy helpu di yfory,” a tithau'n gallu gwneud hynny'n syth. Paid meddwl gwneud drwg i rywun pan mae'r person yna'n dy drystio di. Paid codi ffrae gyda rhywun am ddim rheswm, ac yntau heb wneud dim drwg i ti. Paid bod yn genfigennus o rywun sy'n cam-drin pobl eraill, na dilyn ei esiampl. Mae'n gas gan yr ARGLWYDD bobl sy'n twyllo, ond mae ganddo berthynas glos gyda'r rhai sy'n onest. Mae melltith yr ARGLWYDD ar dai pobl ddrwg, ond mae e'n bendithio cartrefi'r rhai sy'n byw'n iawn. Mae e'n dirmygu'r rhai sy'n gwawdio pobl eraill, ond yn hael at y rhai gostyngedig. Bydd pobl ddoeth yn cael eu canmol, ond y rhai dwl yn cael eu cywilyddio. Blant, clywch beth mae'ch tad yn ei ddysgu i chi. Gwrandwch, i chi ddysgu sut i fod yn ddoeth. Dw i'n dysgu beth sy'n dda, felly peidiwch troi cefn ar beth dw i'n ddweud. Roeddwn i'n blentyn ar un adeg, yn unig blentyn, ac yn annwyl iawn yng ngolwg mam. Roedd dad yn fy nysgu i, ac yn dweud wrtho i, “Dal dy afael yn yr hyn dw i'n ddweud; Gwna beth dw i'n ei orchymyn, i ti gael bywyd da. Mynna fod yn ddoeth, mynna ddeall yn iawn; paid anghofio, na throi cefn ar beth dw i'n ddweud. Paid troi cefn ar ddoethineb — bydd hi'n dy warchod di; os gwnei di ei charu, bydd hi'n dy amddiffyn di. Mynna fod yn ddoeth o flaen popeth arall! Petai'n costio popeth sydd gen ti — mynna ddeall. Os byddi'n meddwl yn uchel ohoni, bydd hi'n dy helpu di; cofleidia hi, a bydd hi'n dod ag anrhydedd i ti. Bydd yn gosod torch hardd ar dy ben; coron fydd yn dy anrhydeddu di.” Fy mab, gwrando'n ofalus ar beth dw i'n ddweud, a byddi di'n cael byw yn hir. Dw i wedi dy ddysgu di i fod yn ddoeth; ac wedi dy osod di ar y llwybr iawn. Byddi'n cerdded yn dy flaen yn hyderus; byddi'n rhedeg heb faglu o gwbl. Dal yn dynn yn beth wyt ti'n ddysgu, paid gollwng gafael. Cadw'r cwbl yn saff — mae'n rhoi bywyd i ti! Paid dilyn llwybrau pobl ddrwg; paid mynd yr un ffordd â nhw. Cadw draw! Paid mynd yn agos! Tro rownd a mynd i'r cyfeiriad arall! Allan nhw ddim cysgu heb fod wedi gwneud drwg. Maen nhw'n colli cwsg os nad ydyn nhw wedi baglu rhywun. Drygioni ydy'r bara sy'n eu cadw nhw'n fyw, A thrais ydy'r gwin maen nhw'n ei yfed! Mae llwybr y rhai sy'n byw yn iawn yn ddisglair fel y wawr, ac yn goleuo fwyfwy nes mae'n ganol dydd. Ond mae ffordd pobl ddrwg yn dywyll; dŷn nhw ddim yn gwybod beth fydd yn eu baglu nhw. Fy mab, gwrando ar beth dw i'n ddweud; gwrando'n astud ar fy ngeiriau. Paid colli golwg arnyn nhw; cadw nhw'n agos at dy galon. Maen nhw'n rhoi bywyd i'r un sy'n eu cael, a iechyd i'r corff cyfan. Gwarchod dy galon o flaen pob dim arall, achos dyna ffynhonnell dy fywyd. Paid dweud celwydd; paid dweud pethau i dwyllo pobl. Edrych yn syth o dy flaen, cadw dy olwg ar ble wyt ti'n mynd. Gwylia'r ffordd rwyt ti'n mynd, a byddi'n gwneud y peth iawn. Paid crwydro i'r dde na'r chwith; cadw draw oddi wrth beth sy'n ddrwg. Fy mab, clyw, dyma gyngor doeth i ti; gwrando'n ofalus ar beth dw i'n ddweud. Er mwyn i ti fynd y ffordd iawn, ac i dy eiriau bob amser fod yn ddoeth. Mae gwefusau'r wraig anfoesol yn diferu fel mêl, a'i geiriau hudol yn llyfn fel olew; Ond mae hi'n troi allan i fod yn chwerw fel y wermod, ac yn finiog fel cleddyf. Mae ei dilyn hi yn arwain at farwolaeth; mae ei chamau yn arwain i'r bedd. Dydy hi'n gwybod dim am fywyd go iawn; mae hi ar goll — a ddim yn sylweddoli hynny. Felly, fy mab, gwrando'n ofalus arna i, a paid troi cefn ar beth dw i'n ddweud. Cadw draw oddi wrthi hi! Paid mynd yn agos at ddrws ei thŷ hi, rhag i ti golli pob hunan-barch, ac i'w gŵr creulon gymryd dy fywyd oddi arnat ti. Rhag i bobl ddieithr lyncu dy gyfoeth di, ac i rywun arall gael popeth rwyt ti wedi gweithio'n galed amdano. Wedyn byddi'n griddfan yn y diwedd, pan fydd dy gorff wedi ei ddifetha. Byddi'n dweud, “Pam wnes i gasáu disgyblaeth gymaint? Pam wnes i wrthod cymryd sylw o gerydd? Pam wnes i ddim gwrando ar fy athrawon, a chymryd sylw o'r rhai oedd yn fy nysgu i? Bu bron i bopeth chwalu'n llwyr i mi, a hynny o flaen pawb yn y gymdeithas.” Yfed ddŵr o dy ffynnon dy hun! Ei dŵr ffres hi a neb arall. Fyddet ti eisiau i ddŵr dy ffynnon di lifo allan i'r strydoedd? Na, cadw hi i ti dy hun, paid gadael i neb arall ei chael. Gad i dy ffynnon gael ei bendithio! Mwynha dy hun gyda'r wraig briodaist ti pan yn ifanc — dy ewig hyfryd, dy afr dlos. Gad i'w bronnau roi boddhad i ti, i ti ymgolli yn ei chariad bob amser. Fy mab, pam gwirioni ar ferch anfoesol? Ydy anwesu bronnau gwraig rhywun arall yn iawn? Cofia fod Duw yn gweld popeth ti'n wneud. Mae'n gweld y cwbl, o'r dechrau i'r diwedd. Bydd yr un sy'n gwneud drwg yn cael ei ddal gan ei ddrygioni! — bydd wedi ei rwymo gan raffau ei bechod ei hun. Bydd yn marw am fod ganddo ddim disgyblaeth, ac wedi meddwi ar chwarae'r ffŵl. Fy mab, dywed dy fod wedi gwarantu benthyciad rhywun, ac wedi cytuno i dalu ei ddyledion. Os wyt mewn picil, wedi dy ddal gan dy eiriau ac wedi dy rwymo gan beth ddwedaist ti, dyma ddylet ti ei wneud i ryddhau dy hun (achos rwyt ti wedi chwarae i ddwylo'r person arall): Dos ato i bledio am gael dy ryddhau. Dos, a'i blagio! Paid oedi! — Dim cwsg na gorffwys nes bydd y mater wedi ei setlo. Achub dy hun, fel carw yn dianc rhag yr heliwr, neu aderyn yn dianc o law'r adarwr. Ti'r diogyn, edrych ar y morgrugyn; astudia ei ffyrdd, a dysga sut i fod yn ddoeth. Does ganddo ddim arweinydd, swyddog, na rheolwr, ac eto mae'n mynd ati i gasglu bwyd yn yr haf, a storio'r hyn sydd arno'i angen adeg y cynhaeaf. Am faint wyt ti'n mynd i orweddian yn dy wely, y diogyn? Pryd wyt ti'n mynd i ddeffro a gwneud rhywbeth? “Ychydig bach mwy o gwsg, pum munud arall! Swatio'n gyfforddus yn y gwely am ychydig.” Ond bydd tlodi yn dy daro di fel lleidr creulon; bydd prinder yn ymosod arnat ti fel milwr arfog! Dydy'r un sy'n mynd o gwmpas yn twyllo, yn ddim byd ond cnaf drwg! Mae'n wincio ar bobl drwy'r adeg, mae ei draed yn aflonydd, ac mae'n pwyntio bys at bawb. Ei unig fwriad ydy creu helynt! Mae o hyd eisiau dechrau ffrae. Bydd trychineb annisgwyl yn ei daro! Yn sydyn bydd yn torri, a fydd dim gwella arno! Dyma chwe peth mae'r ARGLWYDD yn eu casáu; ac un arall sy'n ffiaidd ganddo: llygaid balch, tafod celwyddog, dwylo sy'n tywallt gwaed pobl ddiniwed, calon sy'n cynllwynio drwg, traed sy'n brysio i wneud drwg, tyst sy'n dweud celwydd, a rhywun sy'n dechrau ffrae mewn teulu. Fy mab, gwna beth orchmynodd dy dad i ti; paid troi dy gefn ar beth ddysgodd dy fam i ti. Cadw nhw ar flaen dy feddwl bob amser; gwisga nhw fel cadwyn am dy wddf. Ble bynnag fyddi di'n mynd, byddan nhw'n dy arwain di; pan fyddi'n gorwedd i orffwys, byddan nhw'n edrych ar dy ôl di; pan fyddi di'n deffro, byddan nhw'n rhoi cyngor i ti. Mae gorchymyn fel lamp, a dysgeidiaeth fel golau, ac mae cerydd a disgyblaeth yn arwain i fywyd. Bydd yn dy gadw rhag y ferch ddrwg, a rhag y wraig anfoesol. Paid gadael i'r awydd i'w chael hi afael ynot ti, na gadael iddi hi dy drapio di drwy fflyrtian â'i llygaid. Mae putain yn dy adael gyda dim ond torth o fara; ond mae gwraig dyn arall yn cymryd popeth — gall gostio dy fywyd! Ydy dyn yn gallu cario marwor poeth yn ei boced heb losgi ei ddillad? Ydy dyn yn gallu cerdded ar farwor heb losgi ei draed? Mae cysgu gyda gwraig dyn arall yr un fath; does neb sy'n gwneud hynny yn osgoi cael ei gosbi. Does neb yn dirmygu lleidr sy'n dwyn am fod eisiau bwyd arno; Ond os ydy e'n cael ei ddal, rhaid iddo dalu'n llawn; bydd yn colli popeth sydd ganddo. Does gan y rhai sy'n godinebu ddim sens o gwbl; dim ond rhywun sydd am ddinistrio'i hun sy'n gwneud peth felly. Bydd yn cael ei guro a'i gam-drin; a fydd y cywilydd byth yn ei adael. Bydd gŵr y wraig yn wyllt gynddeiriog; fydd e'n dangos dim trugaredd pan ddaw'r cyfle i ddial. Fydd e ddim yn fodlon ystyried unrhyw iawndal; bydd yn gwrthod dy arian, faint bynnag wnei di ei gynnig iddo. Fy mab, gwna beth dw i'n ddweud; a thrysori'r hyn dw i'n ei orchymyn. Gwna beth dw i'n ei orchymyn, i ti gael bywyd da; paid tynnu dy lygad oddi ar beth dw i'n ddysgu. Cadw nhw fel modrwy ar dy fys; ysgrifenna nhw ar lech dy galon. Dywed wrth ddoethineb, “Ti fel chwaer i mi,” a gwna gyngor doeth yn ffrind gorau. Bydd yn dy warchod di rhag y wraig anfoesol; rhag yr un llac ei moesau sy'n fflyrtian drwy'r adeg. Roeddwn i'n sefyll yn y tŷ, ac yn edrych allan o'r ffenest. Gwelais fachgen ifanc a dim sens ganddo gyda chriw gwyllt o bobl ifanc. Roedd yn croesi'r stryd at y groesffordd sy'n arwain at ei thŷ hi. Roedd hi'n hwyr yn y dydd, ac yn dechrau nosi a thywyllu. Yn sydyn dyma'r wraig yn dod allan i'w gyfarfod, wedi ei gwisgo fel putain — roedd ei bwriad hi'n amlwg. (Dynes swnllyd, ddigywilydd, sydd byth yn aros adre. Ar y stryd un funud, ar y sgwâr y funud nesa, yn loetran ar bob cornel.) Mae hi'n gafael yn y bachgen a'i gusanu, ac yn dweud yn bowld: “Tyrd, mae gen i fwyd adre — cig yr offrwm rois i; dw i wedi gwneud popeth oedd ei angen. A dyma fi, wedi dod allan i dy gyfarfod di — roeddwn i'n edrych amdanat ti, a dyma ti! Dw i wedi paratoi'r gwely! Mae yna gynfasau glân arno, a chwilt lliwgar hyfryd o'r Aifft. Mae'n arogli'n hyfryd o bersawr — myrr, aloes, a sinamon. Tyrd, gad i ni ymgolli mewn pleserau rhywiol; mwynhau ein hunain yn caru drwy'r nos. Dydy'r gŵr ddim adre — mae e wedi mynd ar daith bell. Mae e wedi mynd gyda'i arian, ar fusnes, a fydd e ddim yn ôl tan ddiwedd y mis.” Dyma hi'n llwyddo i'w berswadio; roedd wedi ei ddenu gyda'i fflyrtian. Dyma'r llanc yn mynd ar ei hôl ar unwaith, fel ych yn mynd i'r lladd-dy, neu garw yn neidio i drap cyn i saeth ei drywanu! Roedd fel aderyn wedi hedfan yn syth i'r rhwyd, heb sylweddoli ei fod yn mynd i golli ei fywyd. Nawr gwrandwch arna i, fechgyn; gwrandwch yn ofalus ar beth dw i'n ddweud: Peidiwch hyd yn oed meddwl amdani; peidiwch mynd yn agos ati. Mae hi wedi achosi i lawer un syrthio; mae yna fyddin o ddynion cryf wedi diodde! Mae ei thŷ hi yn draffordd i'r bedd, a'i ystafell wely yn siambr marwolaeth! Mae doethineb yn galw, a deall yn codi ei llais. Mae hi'n sefyll ar fannau uchaf y dref, wrth ymyl y croesffyrdd, ac wrth ymyl giatiau'r ddinas. Mae hi'n gweiddi wrth y fynedfa, “Dw i'n galw arnoch chi i gyd, bobl! Dw i'n galw ar y ddynoliaeth gyfan. Chi rai gwirion, dysgwch sut mae bod yn gall; chi bobl ddwl, dysgwch chithau rywbeth. Gwrandwch, achos mae gen i bethau gwych i'w dweud; dw i am ddweud beth sy'n iawn wrthoch chi. Dw i bob amser yn dweud y gwir; mae'n gas gen i gelwydd. Mae pob gair dw i'n ddweud yn iawn, does dim twyll, dim celwydd. Mae'r peth yn amlwg i unrhyw un sy'n gall, ac mae unrhyw un craff yn gweld eu bod yn iawn. Cymer beth dw i'n ei ddysgu, mae'n well nag arian; ac mae'r arweiniad dw i'n ei roi yn well na'r aur gorau.” Ydy, mae doethineb yn well na gemau gwerthfawr; does dim byd tebyg iddi. “Dw i, Doethineb, yn byw gyda callineb; fi sy'n dangos y ffordd iawn i bobl. Mae parchu'r ARGLWYDD yn golygu casáu'r drwg. Dw i'n casáu balchder snobyddlyd, pob ymddygiad drwg a thwyll. Fi sy'n rhoi cyngor doeth, fi ydy'r ffordd orau a fi sy'n rhoi cryfder. Fi sy'n rhoi'r gallu i frenhinoedd deyrnasu, ac i lywodraethwyr lunio cyfreithiau cyfiawn. Dw i'n galluogi arweinwyr i reoli, a pobl fawr a barnwyr i wneud y peth iawn. Dw i'n caru'r rhai sy'n fy ngharu i, ac mae'r rhai sy'n chwilio amdana i yn fy nghael. Dw i'n rhoi cyfoeth ac anrhydedd i bobl, cyfoeth sy'n para, a thegwch. Mae fy ffrwyth i yn well nag aur, ie, aur coeth, a'r cynnyrch sydd gen i yn well na'r arian gorau. Dw i'n dangos y ffordd i fyw'n gyfiawn, a gwneud beth sy'n iawn ac yn deg. Dw i'n rhoi etifeddiaeth gyfoethog i'r rhai sy'n fy ngharu; ac yn llenwi eu trysordai nhw. Roedd yr ARGLWYDD wedi fy ngeni i cyn iddo wneud dim byd arall. Ces fy apwyntio yn bell, bell yn ôl, ar y dechrau cyntaf, cyn i'r ddaear fodoli. Doedd y moroedd ddim yno pan gyrhaeddais i, a doedd dim ffynhonnau yn llawn dŵr. Doedd y mynyddoedd ddim wedi eu gosod yn eu lle, a doedd y bryniau ddim yn bodoli. Doedd y ddaear a chefn gwlad ddim yna, na hyd yn oed y talpiau cyntaf o bridd. Roeddwn i yno pan roddodd Duw y bydysawd yn ei le; a phan farciodd y gorwel ar wyneb y moroedd. Pan roddodd y cymylau yn yr awyr, a pan wnaeth i'r ffynhonnau ddechrau tasgu dŵr. Pan osododd ffiniau i'r môr, fel bod y dŵr ddim yn anufudd iddo; a pan osododd sylfeini'r ddaear. Roeddwn i yno fel crefftwr, yn rhoi pleser pur iddo bob dydd, wrth ddawnsio a dathlu'n ddi-stop o'i flaen. Roeddwn i'n dawnsio ar wyneb y ddaear, ac roedd y ddynoliaeth yn rhoi pleser pur i mi. Nawr, blant, gwrandwch arna i; Mae'r rhai sy'n gwneud beth dw i'n ddweud mor hapus. Gwrandwch ar beth dw i'n ddweud a byddwch ddoeth; peidiwch troi cefn arno. Mae'r rhai sy'n gwrando arna i yn derbyn y fath fendith, maen nhw'n gwylio amdana i wrth y drws bob dydd, yn disgwyl i mi ddod allan. Mae'r rhai sy'n chwilio amdana i yn cael bywyd; mae'r ARGLWYDD yn dda atyn nhw. Ond mae'r rhai sy'n pasio heibio i mi yn peryglu eu hunain; mae pawb sy'n fy nghasáu i yn caru marwolaeth.” Mae Doethineb wedi adeiladu ei thŷ; ac mae wedi naddu saith colofn iddo. Mae hi wedi paratoi gwledd, cymysgu'r gwin, a gosod y bwrdd. Mae hi wedi anfon ei morynion allan i alw ar bobl drwy'r dre. Mae'n dweud wrth bobl sy'n brin o synnwyr cyffredin, “Dewch yma, chi bobl wirion! Dewch i fwyta gyda mi, ac yfed y gwin dw i wedi ei gymysgu. Stopiwch fod mor ddwl, i chi gael byw; dechreuwch gerdded ffordd gall.” Ceisia gywiro rhywun balch sy'n gwawdio a cei lond ceg! Cerydda rhywun drwg a byddi'n cael dy gam-drin. Cerydda'r un balch sy'n gwawdio, a bydd yn dy gasáu di; ond os gwnei di geryddu'r doeth bydd e'n diolch i ti. Rho gyngor i'r doeth, a byddan nhw'n ddoethach; dysga'r rhai sy'n byw yn iawn a byddan nhw'n dysgu mwy. Parchu'r ARGLWYDD ydy'r cam cyntaf i fod yn ddoeth, ac mae nabod yr Un Sanctaidd yn rhoi deall. Trwof fi byddi di'n cael byw yn hir; byddi'n cael blynyddoedd ychwanegol. Os wyt ti'n ddoeth, mae hynny'n beth da i ti; ond os wyt ti'n falch, ti fydd yn wynebu'r canlyniadau. Mae'r wraig arall, sef Ffolineb, yn gwneud lot o sŵn; mae hi'n wirion, ac yn deall dim byd. Mae hi'n eistedd wrth ddrws ei thŷ, neu ar fainc mewn lle amlwg yn y dre. Mae hi'n galw ar y rhai sy'n pasio heibio ac yn meindio eu busnes eu hunain. Mae'n dweud wrth bobl sy'n brin o synnwyr cyffredin, “Dewch yma, chi bobl wirion! Mae dŵr sydd wedi ei ddwyn yn felys; a bara sy'n cael ei fwyta ar y slei yn flasus!” Ond dŷn nhw ddim yn sylweddoli mai byd yr ysbrydion sydd y ffordd yna, a bod y rhai dderbyniodd ei gwahoddiad yn gwledda yn y bedd! Diarhebion Solomon: Mae plentyn doeth yn gwneud ei dad yn hapus; ond plentyn ffôl yn gwneud ei fam yn drist. Dydy ennill ffortiwn trwy dwyll o ddim lles, ond mae gonestrwydd yn achub bywyd o berygl marwol. Dydy'r ARGLWYDD ddim yn gadael i rywun cyfiawn lwgu, Ond mae'n rhwystro'r rhai drwg rhag cael beth maen nhw eisiau. Mae diogi yn arwain i dlodi, ond gwaith caled yn ennill cyfoeth. Mae'r un sy'n casglu ei gnwd yn yr haf yn gall, ond yr un sy'n cysgu drwy'r cynhaeaf yn achosi cywilydd. Mae cawodydd o fendith yn disgyn ar y cyfiawn, ond mae geiriau pobl ddrwg yn cuddio creulondeb. Mae'n fendith cofio am rywun cyfiawn, ond bydd enw'r drwg yn pydru. Mae'r un sy'n ddoeth yn derbyn cyngor, ond mae'r ffŵl sy'n siarad dwli yn syrthio. Mae'r un sy'n byw yn onest yn byw'n ddibryder, Ond bydd y gwir yn dod i'r golwg am yr un sy'n twyllo. Mae'r un sy'n wincio o hyd yn creu helynt; ond mae'r sawl sy'n ceryddu'n agored yn dod â heddwch. Mae geiriau person cyfiawn yn ffynnon sy'n rhoi bywyd, ond mae geiriau pobl ddrwg yn cuddio creulondeb. Mae casineb yn codi twrw, ond mae cariad yn cuddio pob bai. Mae pobl gall yn siarad yn ddoeth, ond gwialen sydd ei angen ar rai sydd heb synnwyr cyffredin. Mae pobl ddoeth yn storio gwybodaeth; ond mae siarad dwl yn dod â dinistr yn agos. Mae holl eiddo'r cyfoethog fel caer ddiogel; ond tlodi'r tlawd yn ddinistr. Gwobr y person sy'n byw'n iawn ydy bywyd; ond cosb am bechod ydy cyflog pobl ddrwg. Mae derbyn cyngor yn arwain i fywyd, ond gwrthod gwrando ar gerydd yn arwain ar gyfeiliorn. Mae'r un sy'n cuddio casineb yn twyllo, a'r sawl sy'n enllibio pobl eraill yn ffŵl. Mae siarad gormod yn siŵr o dramgwyddo rhywun; mae'r person call yn brathu ei dafod. Mae geiriau person da fel arian gwerthfawr, ond dydy syniadau pobl ddrwg yn dda i ddim. Mae cyngor person da yn fwyd i gynnal pobl, ond mae ffyliaid yn marw o ddiffyg synnwyr cyffredin. Bendith yr ARGLWYDD sy'n cyfoethogi bywyd, dydy ymdrech dynol yn ychwanegu dim ato. Mae ffŵl yn cael sbort wrth wneud drygau, ond doethineb sy'n rhoi mwynhad i bobl gall. Bydd yr hyn mae pobl ddrwg yn ei ofni yn digwydd iddyn nhw; ond bydd rhai sy'n byw'n iawn yn cael beth maen nhw eisiau. Fydd dim sôn am bobl ddrwg pan fydd y corwynt wedi mynd heibio, Ond mae sylfeini'r rhai sy'n byw'n iawn yn aros yn gadarn. Mae anfon rhywun diog ar neges, fel yfed finegr, neu gael mwg yn eich llygaid. Mae parchu'r ARGLWYDD yn rhoi bywyd hir i chi, ond mae blynyddoedd y rhai drwg yn cael eu byrhau. Gall y cyfiawn edrych ymlaen at lawenydd, ond does gan bobl ddrwg ddim gobaith. Mae'r ARGLWYDD yn gaer i amddiffyn y rhai sy'n byw yn iawn, ond bydd pobl ddrwg yn cael eu dinistrio. Fydd y cyfiawn byth yn cael ei symud; ond fydd y rhai drwg ddim yn cael byw yn y tir. Mae'r rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn yn siarad yn gall, ond bydd y rhai sy'n twyllo yn cael eu tewi. Mae'r cyfiawn yn gwybod beth sy'n iawn i'w ddweud; ond mae pobl ddrwg yn twyllo. Mae'n gas gan yr ARGLWYDD glorian dwyllodrus; ond mae defnyddio pwysau cywir wrth ei fodd. Mae snobyddiaeth yn arwain at gywilydd, pobl wylaidd ydy'r rhai doeth. Mae gonestrwydd yn arwain y rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn; ond mae twyll yn dinistrio'r rhai sy'n twyllo. Fydd cyfoeth yn dda i ddim ar ddydd y farn, ond mae byw yn iawn yn achub bywyd. Mae cyfiawnder rhywun gonest yn dangos y ffordd iawn iddo, ond mae'r un sy'n gwneud drwg yn syrthio o achos ei ddrygioni. Mae cyfiawnder rhywun gonest yn ei achub ond mae'r un sy'n twyllo yn cael ei ddal gan ei driciau. Pan mae rhywun drwg yn marw, dyna ni — does dim gobaith dydy'r cyfoeth oedd ganddo yn dda i ddim bellach. Mae'r cyfiawn yn cael ei achub rhag helyntion, a'r un sy'n gwneud drwg yn gorfod cymryd ei le! Mae'r annuwiol yn dinistrio pobl gyda'i eiriau, ond mae'r cyfiawn yn deall hynny ac yn cael ei arbed. Pan mae'r cyfiawn yn llwyddo mae'r ddinas wrth ei bodd; mae gweiddi llawen ynddi pan mae'r rhai drwg yn cael eu dinistrio. Mae dinas yn ffynnu pan mae pobl dda yn cael eu bendithio, ond mae geiriau pobl ddrwg yn ei dinistrio hi. Does dim sens gan rywun sy'n bychanu pobl eraill; mae'r person call yn cadw'n dawel. Mae'r un sy'n hel clecs yn bradychu cyfrinach, ond mae ffrind go iawn yn cadw cyfrinach. Heb arweiniad clir mae gwlad yn methu, mae llwyddiant yn dod gyda digon o gyngor doeth. Mae gwarantu benthyciad i rywun dieithr yn gofyn am drwbwl; gwell bod yn saff a gwrthod. Mae gwraig hael yn ennill parch; mae dynion creulon yn cipio cyfoeth. Mae person caredig yn gwneud lles iddo'i hun, a rhywun sy'n greulon yn achosi trwbwl iddo'i hun. Dydy'r elw mae pobl ddrwg yn ei wneud yn ddim byd ond rhith, ond mae'r rhai sy'n gweithio dros gyfiawnder yn cael gwobr go iawn. Mae gwir gyfiawnder yn arwain at fywyd, ond dilyn y drwg yn arwain at farwolaeth. Mae'n gas gan yr ARGLWYDD bobl sy'n twyllo, ond mae'r rhai sy'n byw yn onest yn rhoi pleser iddo. Fydd pobl ddrwg yn sicr ddim yn osgoi cosb, ond bydd y rhai sy'n byw'n iawn yn cael mynd yn rhydd. Mae gwraig hardd heb sens fel modrwy aur yn nhrwyn hwch. Dydy'r cyfiawn ond eisiau gwneud beth sy'n dda; ond mae gobaith pobl ddrwg yn arwain i ddigofaint. Mae un yn rhoi yn hael, ac yn ennill mwy o gyfoeth; ac un arall yn grintachlyd, ac ar ei golled. Mae'r bobl sy'n fendith i eraill yn llwyddo; a'r rhai sy'n rhoi dŵr i eraill yn cael eu diwallu. Mae'r un sy'n cadw ei ŷd iddo'i hun yn haeddu melltith, ond mae'r un sy'n ei werthu yn cael ei fendithio. Mae'r un sy'n ymdrechu i wneud da yn ennill ffafr; ond drwg ddaw ar y rhai sy'n edrych am helynt. Bydd rhywun sy'n dibynnu ar ei gyfoeth yn syrthio, ond y rhai sy'n byw yn iawn yn blodeuo. Bydd yr un sy'n creu trwbwl i'w deulu yn etifeddu dim; bydd y ffŵl yn gaethwas i rywun sydd wedi bod yn ddoeth. Mae byw yn iawn yn dwyn ffrwyth, fel coeden sy'n rhoi bywyd; ond mae trais yn lladd pobl. Os ydy'r rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn yn cael eu tâl ar y ddaear, beth ddaw o'r rhai drwg sy'n anufudd i Dduw? Mae rhywun sy'n barod i gael ei gywiro yn caru gwybodaeth; ond mae'r un sy'n gwrthod derbyn cerydd yn ddwl! Mae pobl dda yn profi ffafr yr ARGLWYDD, ond mae'r rhai sydd â chynlluniau cyfrwys yn cael eu cosbi ganddo. Dydy drygioni ddim yn rhoi sylfaen gadarn i fywyd, ond mae gwreiddiau dwfn gan y rhai sy'n byw yn iawn. Mae gwraig dda yn gwneud i'w gŵr deimlo fel brenin, ond mae un sy'n codi cywilydd arno fel cancr i'r esgyrn. Mae bwriadau'r rhai sy'n byw yn iawn yn dda, ond cyngor pobl ddrwg yn dwyllodrus. Mae geiriau pobl ddrwg yn barod i ymosod a lladd, ond bydd beth mae pobl gyfiawn yn ei ddweud yn eu hachub nhw. Mae pobl ddrwg yn cael eu dymchwel ac yn diflannu, ond mae cartrefi pobl dda yn sefyll yn gadarn. Mae person deallus yn cael enw da; ond mae'r rhai sy'n twyllo yn cael eu dirmygu. Mae'n well bod yn neb o bwys a gweithio i gynnal eich hun na chymryd arnoch eich bod yn rhywun ac eto heb fwyd. Mae pobl dda yn gofalu am eu hanifeiliaid, ond mae hyd yn oed ‛tosturi‛ pobl ddrwg yn greulon! Bydd yr un sy'n trin ei dir yn cael digon o fwyd, ond does dim sens gan yr un sy'n gwastraffu amser. Mae pobl ddrwg yn blysio am ffrwyth eu drygioni; ond gwreiddiau y cyfiawn sy'n rhoi cnwd. Mae geiriau pobl ddrwg yn eu baglu nhw, ond mae'r un sy'n gwneud y peth iawn yn dianc rhag trafferthion. Mae rhywun yn derbyn canlyniadau beth mae'n ei ddweud; ac yn cael ei dalu am beth mae'n ei wneud. Mae'r ffŵl byrbwyll yn meddwl ei fod e'n gwybod orau; ond mae'r person doeth yn derbyn cyngor. Mae'r ffŵl yn dangos ar unwaith ei fod wedi gwylltio, ond mae'r person call yn anwybyddu'r ffaith ei fod wedi ei sarhau. Mae tyst gonest yn dweud y gwir, ond tyst celwyddog yn twyllo. Mae siarad yn fyrbwyll fel cleddyf yn trywanu, ond mae geiriau doeth yn iacháu. Mae geiriau gwir yn aros bob amser, ond celwydd yn para ond am ennyd. Twyllo ydy bwriad y rhai sy'n cynllwyn i wneud drwg; ond mae'r rhai sy'n hybu heddwch yn profi llawenydd. Fydd y rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn yn cael dim niwed, ond bydd pobl ddrwg yn cael llwythi o drafferthion. Mae'n gas gan yr ARGLWYDD gelwydd, ond mae'r rhai sy'n dweud y gwir yn ei blesio. Mae person call yn cuddio beth mae'n ei wybod, ond mae ffyliaid yn cyhoeddi eu nonsens. Pobl sy'n gweithio'n galed fydd yn arweinwyr; bydd y rhai diog yn cael eu hunain yn gaethweision. Mae pryder yn gallu llethu rhywun, ond mae gair caredig yn codi calon. Mae'r un sy'n gwneud beth sy'n iawn yn dangos y ffordd i'w ffrind, ond mae person drwg yn arwain rhywun ar gyfeiliorn. Does gan rywun diog byth helfa i'w rostio, ond mae gan y gweithiwr caled gyfoeth gwerthfawr. Mae byw yn iawn yn arwain i fywyd, ond ffordd arall yn arwain i farwolaeth. Mae plentyn doeth yn gwrando pan mae ei dad yn ei gywiro, ond dydy plant sy'n meddwl eu bod nhw'n gwybod yn well ddim yn gwrando ar gerydd. Mae canlyniadau da i eiriau caredig, ond dydy'r twyllwr yn cynnig dim byd ond trais. Mae'r person sy'n ffrwyno'i dafod yn diogelu ei hun, ond yr un sy'n methu cau ei geg yn dinistrio ei hun. Mae'r person diog eisiau pethau, ond yn cael dim; ond bydd y person gweithgar yn cael popeth mae e eisiau. Mae'r person cyfiawn yn casáu celwydd; ond y person drwg yn dwyn cywilydd a gwarth arno'i hun. Mae cyfiawnder yn amddiffyn y rhai sy'n byw yn iawn; Ond mae'r pechadur yn cael ei faglu gan ei ddrygioni. Mae un heb ddim yn cymryd arno ei fod yn gyfoethog, ac un arall yn gyfoethog yn cymryd arno ei fod yn dlawd. Gall y cyfoethog gael ei fygwth am ei gyfoeth, ond dydy'r person tlawd ddim yn cael y broblem yna. Mae golau'r cyfiawn yn disgleirio'n llachar; ond mae'r person drwg fel lamp sy'n diffodd. Dydy balchder yn gwneud dim ond creu trafferthion; mae pobl ddoeth yn derbyn cyngor. Mae cyfoeth gafodd ei ennill heb ymdrech yn diflannu'n hawdd, ond bydd cyfoeth sydd wedi ei gasglu o dipyn i beth yn cynyddu. Mae gobaith sy'n cael ei ohirio yn torri'r galon, ond mae dymuniad sy'n dod yn wir fel pren sy'n rhoi bywyd. Bydd pethau'n mynd yn ddrwg i'r un sy'n gwrthod cyngor; ond bydd y person sy'n gwrando ar orchymyn yn cael ei wobrwyo. Mae dysgu gan rai doeth fel ffynnon sy'n rhoi bywyd, ac yn ei gadw rhag syrthio i faglau marwolaeth. Mae dangos tipyn o sens yn ennill ffafr; ond mae byw fel twyllwr yn arwain at ddinistr. Mae pawb call yn gwneud beth sy'n ddoeth, ond mae'r ffŵl yn dangos ei dwpdra. Mae negesydd gwael yn achosi dinistr; ond mae negesydd ffyddlon yn dod â iachâd. Tlodi a chywilydd fydd i'r un sy'n gwrthod cael ei gywiro; ond bydd y sawl sy'n gwrando ar gerydd yn cael ei ganmol. Mae dymuniad wedi ei gyflawni yn beth melys; ond mae'n gas gan ffyliaid droi cefn ar ddrwg. Mae cwmni pobl ddoeth yn eich gwneud chi'n ddoeth, ond mae cadw cwmni ffyliaid yn gofyn am drwbwl. Mae helyntion yn dilyn pechaduriaid, ond bydd bywyd yn dda i'r rhai sy'n byw'n gyfiawn. Mae person da yn gadael etifeddiaeth i'w wyrion a'i wyresau, ond mae cyfoeth pechaduriaid yn mynd i'r rhai sy'n byw'n gyfiawn. Mae digon o fwyd yn tyfu ar dir pobl dlawd; ond mae anghyfiawnder yn ei ysgubo i ffwrdd. Mae'r sawl sy'n atal y wialen yn casáu ei blentyn; mae'r un sy'n ei garu yn ei ddisgyblu o'r dechrau cyntaf. Mae gan bobl gyfiawn ddigon i'w fwyta, ond boliau gwag sydd gan bobl ddrwg. Mae gwraig ddoeth yn adeiladu ei chartref, ond mae'r un ffôl yn ei rwygo i lawr â'i dwylo ei hun. Mae'r person sy'n byw'n iawn yn parchu'r ARGLWYDD; ond mae'r rhai sy'n twyllo yn ei ddirmygu. Mae siarad balch y ffŵl yn wialen ar ei gefn, ond mae geiriau'r doeth yn ei amddiffyn. Heb ychen, mae'r cafn bwydo yn wag; mae cryfder ychen yn dod â chynhaeaf mawr. Dydy tyst gonest ddim yn dweud celwydd; Ond mae gau-dyst yn palu celwyddau. Mae gwawdiwr yn chwilio am ddoethineb, ac yn methu ei gael; ond mae person deallus yn dysgu'n rhwydd. Cadw draw o gwmni person ffôl, achos wnei di ddysgu dim ganddo. Mae person call yn gwybod ble mae e'n mynd, ond mae ffyliaid yn mynd ar goll yn eu ffolineb. Mae ffyliaid yn gwawdio offrwm dros euogrwydd, ond mae'r rhai sy'n byw yn iawn yn profi ffafr Duw. Dim ond y galon ei hun sy'n gwybod mor chwerw ydy hi, a does neb arall yn gallu rhannu ei llawenydd. Bydd tai pobl ddrwg yn syrthio, ond bydd cartre'r un sy'n byw'n iawn yn llwyddo. Mae yna ffordd o fyw sy'n edrych yn iawn i bobl, ond arwain i farwolaeth mae hi yn y pen draw. Gall y galon fod yn drist hyd yn oed pan mae rhywun yn chwerthin, ac mae hapusrwydd yn gallu troi'n dristwch yn y diwedd. Bydd pobl ddiegwyddor yn wynebu canlyniadau eu ffyrdd; ond pobl dda yn cael eu gwobrwyo am eu gweithredoedd. Mae'r twpsyn yn fodlon credu unrhyw beth; ond mae'r person call yn fwy gofalus. Mae rhywun doeth yn cymryd gofal, ac yn troi cefn ar ddrygioni, ond mae'r ffŵl yn rhy hyderus ac yn rhuthro i mewn yn fyrbwyll. Mae rhywun sy'n fyr ei dymer yn gwneud pethau ffôl; ac mae'n gas gan bobl rai sydd â chynlluniau gyfrwys. Mae pobl ddiniwed yn etifeddu ffolineb, ond pobl gall yn cael eu coroni â gwybodaeth. Bydd pobl ddrwg yn ymgrymu o flaen y da, a'r rhai wnaeth ddrwg yn disgwyl wrth giatiau'r cyfiawn. Mae hyd yn oed cymdogion y person tlawd yn ei gasáu, ond mae gan y cyfoethog lot o ffrindiau. Mae rhywun sy'n malio dim am bobl eraill yn pechu; ond mae bendith fawr i'r rhai sy'n helpu pobl mewn angen. Onid ydy'r rhai sy'n cynllwynio drwg yn mynd ar goll? Ond mae'r rhai sy'n bwriadu gwneud daioni yn garedig ac yn ffyddlon. Mae elw i bob gwaith caled, ond mae gwneud dim ond siarad yn arwain i dlodi. Mae'r doeth yn cael cyfoeth yn goron; ond ffolineb ydy torch ffyliaid. Mae tyst sy'n dweud y gwir yn achub bywydau; ond mae'r un sy'n palu celwyddau yn dwyllwr. Mae parchu'r ARGLWYDD yn rhoi hyder, ac yn lle diogel i blant rhywun gysgodi. Mae parchu'r ARGLWYDD yn ffynnon sy'n rhoi bywyd, ac yn troi rhywun oddi wrth faglau marwolaeth. Mae bod yn frenin ar boblogaeth fawr yn anrhydedd; ond heb bobl dydy llywodraethwr yn neb. Mae rheoli'ch tymer yn beth call iawn i'w wneud; ond mae colli'ch tymer yn dangos eich bod yn ddwl. Mae ysbryd tawel yn iechyd i'r corff; ond cenfigen fel cancr yn pydru'r esgyrn. Mae'r un sy'n gormesu'r tlawd yn amharchu ei Grëwr; ond mae bod yn garedig at rywun mewn angen yn anrhydeddu Duw. Mae pobl ddrwg yn cael eu dymchwel gan eu drygioni eu hunain; ond mae gonestrwydd y rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn yn eu cadw nhw'n saff. Mae doethineb yn eistedd yn gyfforddus ym meddwl rhywun sy'n synhwyrol, ond ydy ffyliaid yn gwybod amdano o gwbl? Mae cyfiawnder yn gwneud gwlad yn un wych; ond pechod yn dwyn gwarth ar bobl. Mae'r brenin yn dangos ffafr at was da; ond yn digio wrth un sy'n dda i ddim. Mae ateb caredig yn tawelu tymer; ond dweud pethau cas yn gwylltio pobl. Mae geiriau person doeth yn hybu gwybodaeth, ond mae cegau ffyliaid yn chwydu ffolineb. Mae'r ARGLWYDD yn gweld popeth, mae'n gwylio'r drwg a'r da. Mae gair caredig fel coeden sy'n rhoi bywyd, ond mae dweud celwydd yn torri calon. Mae'r ffŵl yn diystyru disgyblaeth ei dad, ond mae'r sawl sy'n gwrando ar gerydd yn gall. Mae digon o gyfoeth yn nhŷ person cyfiawn, ond trafferthion fydd unig gyflog pobl ddrwg. Mae pobl ddoeth yn rhannu gwybodaeth; ond dydy ffyliaid ddim yn gwneud hynny. Mae'n gas gan yr ARGLWYDD offrymau pobl ddrwg, ond mae gweddi'r rhai sy'n byw yn iawn yn ei blesio. Mae'n gas gan yr ARGLWYDD ymddygiad pobl ddrwg, ond mae'n caru'r rhai sy'n trïo byw'n iawn. Mae'r un sydd wedi troi cefn ar y ffordd yn cael ei ddisgyblu'n llym; bydd yr un sy'n gwrthod cael ei gywiro yn marw. Mae'r ARGLWYDD yn gweld beth sy'n digwydd yn Annwn, felly mae'n sicr yn gwybod beth sy'n mynd trwy feddyliau pobl! Dydy'r un sy'n gwawdio pobl eraill ddim yn hoffi cael ei gywiro; dydy e ddim yn fodlon gofyn cyngor gan rywun doeth. Mae calon lawen yn rhoi gwên ar yr wyneb; ond mae calon drist yn llethu'r ysbryd. Mae person call eisiau dysgu mwy; ond mae ffŵl yn cael ei fwydo ar ffolineb. Mae pobl sy'n diodde yn cael bywyd caled, ond mae bodlonrwydd fel gwledd ddiddiwedd. Mae ychydig bach gan rywun sy'n parchu'r ARGLWYDD yn well na chyfoeth mawr gyda helbulon. Mae platiaid o lysiau ble mae cariad yn well na gwledd o gig eidion â chasineb. Mae rhywun sy'n fyr ei dymer yn creu helynt; ond mae person amyneddgar yn tawelu ffrae. Mae'r ffordd mae person diog yn ymddwyn fel llwyn o fieri, ond mae llwybr yr un sy'n gwneud beth sy'n iawn fel priffordd agored. Mae plentyn doeth yn gwneud ei dad yn hapus; ond plentyn ffôl yn dangos dim parch at ei fam. Mae chwarae'r ffŵl yn hwyl i rywun heb sens; ond mae person call yn cadw ar y llwybr iawn. Mae cynlluniau'n mynd ar chwâl heb ymgynghori, ond yn llwyddo pan fydd llawer yn rhoi cyngor. Mae ateb parod yn gwneud rhywun yn hapus, ac mor dda ydy gair yn ei bryd! Mae llwybr bywyd ar i fyny i'r doeth, ac yn ei droi oddi wrth Annwn isod. Bydd yr ARGLWYDD yn chwalu tŷ y balch, ond mae'n gwneud eiddo'r weddw yn ddiogel. Mae'n gas gan yr ARGLWYDD feddyliau drwg, ond mae geiriau caredig yn bur yn ei olwg. Mae rhywun sy'n elwa ar draul eraill yn creu trwbwl i'w deulu; ond bydd yr un sy'n gwrthod breib yn cael byw. Mae'r person cyfiawn yn meddwl cyn ateb, tra mae'r person drwg yn chwydu aflendid. Mae'r ARGLWYDD yn cadw draw oddi wrth bobl ddrwg, ond mae'n gwrando ar weddi'r rhai sy'n byw'n gywir. Mae gwên yn llonni'r galon; a newyddion da yn rhoi cryfder i'r corff. Mae'r glust sy'n gwrando ar gerydd buddiol yn byw yng nghwmni'r doeth. Mae'r un sy'n gwrthod cael ei gywiro yn ei gasáu ei hun; ond yr un sy'n gwrando ar gerydd yn dangos synnwyr. Mae parchu'r ARGLWYDD yn dysgu rhywun i fod yn ddoeth; a gostyngeiddrwydd yn arwain i anrhydedd. Mae pobl yn gallu gwneud penderfyniadau, ond yr ARGLWYDD sydd a'r gair olaf. Mae pobl bob amser yn meddwl eu bod yn gwneud y peth iawn, ond mae'r ARGLWYDD yn pwyso a mesur y cymhellion. Rho bopeth wnei di yn nwylo'r ARGLWYDD, a bydd dy gynlluniau'n llwyddo. Mae gan yr ARGLWYDD bwrpas i bopeth mae'n ei wneud, hyd yn oed pobl ddrwg ar gyfer dydd dinistr. Mae'n gas gan yr ARGLWYDD bobl falch; fyddan nhw'n sicr ddim yn osgoi cael eu cosbi. Mae caredigrwydd a ffyddlondeb yn cuddio beiau pobl eraill, a dangos parch at yr ARGLWYDD yn troi rhywun oddi wrth ddrwg. Pan mae ymddygiad rhywun yn plesio'r ARGLWYDD, mae hyd yn oed ei elynion yn troi'n ffrindiau. Mae'n well cael ychydig a byw'n iawn, na chael cyfoeth mawr drwy fod yn anonest. Mae pobl yn gallu cynllunio beth i'w wneud, ond yr ARGLWYDD sy'n arwain y ffordd. Y brenin sy'n dweud beth ydy beth; dydy e byth yn barnu'n annheg. Mae'r ARGLWYDD eisiau clorian teg; rhaid i bob un o'r pwysau sy'n y gôd fod yn gywir. Mae brenhinoedd yn casáu torcyfraith, am mai cyfiawnder sy'n gwneud gorsedd yn ddiogel. Mae dweud y gwir yn ennill ffafr brenhinoedd; maen nhw'n hoffi pobl onest. Mae gwylltio brenin yn arwain i farwolaeth ond bydd person doeth yn gallu ei dawelu. Mae gwên ar wyneb y brenin yn arwain i fywyd; mae ei ffafr fel cwmwl glaw yn y gwanwyn. Mae dysgu bod yn ddoeth yn llawer gwell nag aur; a chael deall yn well nag arian. Mae ffordd glir o flaen yr un sy'n osgoi drygioni; ac mae'r person sy'n gwylio ble mae'n mynd yn saff. Mae balchder yn dod o flaen dinistr, a brolio cyn baglu. Mae'n well bod yn ostyngedig gyda'r anghenus na rhannu ysbail gyda'r balch. Mae'r un sy'n gwrando ar neges Duw yn llwyddo; a'r un sy'n trystio'r ARGLWYDD yn hapus. Mae'r person doeth yn cael ei gyfri'n gall; ac mae geiriau caredig yn helpu rhywun i ddysgu. Mae synnwyr cyffredin fel ffynnon sy'n rhoi bywyd i rywun, ond mae ffyliaid yn talu'r pris am eu ffolineb. Mae person doeth yn meddwl cyn siarad; mae ei eiriau yn dwyn perswâd. Mae geiriau caredig fel diliau mêl, yn felys eu blas ac yn iach i'r corff. Mae yna ffordd o fyw sy'n edrych yn iawn i bobl, ond arwain i farwolaeth mae hi yn y pen draw. Mae'r angen am fwyd yn gwneud i rywun weithio'n galed, a bol gwag yn ei yrru yn ei flaen. Mae dihiryn drwg yn chwilio am helynt, ac mae ei eiriau'n gwneud niwed fel tân. Mae person croes yn achosi cynnen, a'r un sy'n hel clecs yn chwalu ffrindiau. Mae person treisgar yn denu pobl, ac yn eu harwain nhw i wneud pethau sydd ddim yn dda. Mae'n wincio pan mae'n bwriadu twyllo, a rhoi ei fys ar ei wefusau wrth wneud drwg. Mae gwallt gwyn fel coron hardd; mae i'w chael wrth fyw yn gyfiawn. Mae ymatal yn well nag ymosod, a rheoli'r tymer yn well na choncro dinas. Mae'r deis yn cael ei daflu, ond mae'r canlyniad yn llaw'r ARGLWYDD. Mae crystyn sych a thipyn o heddwch yn well na gwledd fawr lle mae pobl yn ffraeo. Bydd gwas da yn rheoli mab sy'n achos cywilydd, a bydd yn rhannu'r etifeddiaeth fel un o'r teulu. Tawddlestr i arian, a ffwrnais i aur, ond yr ARGLWYDD sy'n profi'r galon. Mae'r rhai sy'n gwneud drwg yn gwrando ar gyngor drwg; a'r un sy'n dweud celwydd yn rhoi sylw i eiriau maleisus. Mae'r sawl sy'n chwerthin ar y tlawd yn amharchu ei Grëwr; a bydd yr un sy'n mwynhau gweld trychineb yn cael ei gosbi. Coron pobl mewn oed ydy eu wyrion a'u wyresau, a balchder plant ydy eu rhieni. Dydy geiriau gwych ddim yn gweddu i ffŵl; llai fyth celwydd i ŵr bonheddig. Mae breib fel swyn i'r un sy'n ei gynnig; ble bynnag mae'n troi, mae'n llwyddo. Mae'r sawl sy'n cuddio bai yn ceisio cyfeillgarwch, ond yr un sy'n hel clecs yn colli ffrindiau. Mae gair o gerydd yn gwneud mwy o argraff ar ddyn doeth na chwipio ffŵl gant o weithiau. Dydy rhywun drwg ond eisiau gwrthryfela; felly bydd swyddog creulon yn cael ei anfon yn ei erbyn. Gwell cyfarfod arthes wedi colli ei chenawon na ffŵl yn siarad nonsens. Fydd trafferthion byth yn gadael tŷ rhywun sy'n talu drwg am dda. Mae dechrau ffrae fel crac mewn argae; gwell tewi cyn i bethau fynd yn draed moch. Dau beth sy'n gas gan yr ARGLWYDD — gollwng yr euog yn rhydd a chosbi'r dieuog. Wnaiff arian yn llaw ffŵl ddim prynu doethineb. Pam talu am wersi, ac yntau ddim eisiau deall? Mae ffrind yn ffyddlon bob amser; a brawd wedi ei eni i helpu mewn helbul. Does dim sens gan rywun sy'n cytuno i dalu dyled rhywun arall. Mae'r un sy'n hoffi tramgwyddo yn hoffi trafferthion; a'r un sy'n brolio yn gofyn am drwbwl. Fydd yr un sy'n twyllo ddim yn llwyddo; mae'r rhai sy'n edrych am helynt yn mynd i drafferthion. Mae'r un sy'n magu plentyn ffôl yn profi tristwch; does dim mwynhad i dad plentyn gwirion. Mae llawenydd yn iechyd i'r corff; ond mae iselder ysbryd yn sychu'r esgyrn. Person drwg sy'n derbyn breib yn dawel bach i wyrdroi cyfiawnder. Mae'r person craff yn gweld yn glir beth sy'n ddoeth; ond dydy'r ffŵl ddim yn gwybod ble i edrych. Mae plentyn ffôl yn achosi gofid i'w dad a dolur calon i'w fam. Dydy cosbi rhywun dieuog ddim yn iawn; byddai fel rhoi curfa i swyddog llys am fod yn onest. Mae'r un sy'n brathu ei dafod yn dangos synnwyr cyffredin; a'r person pwyllog yn dangos ei fod yn gall. Gall hyd yn oed ffŵl sy'n cadw'n dawel gael ei ystyried yn ddoeth; a'r un sy'n cau ei geg, yn ddeallus. Mae'r un sy'n cadw ar wahân yn plesio ei hun, ac yn gwrthod unrhyw gyngor doeth. Does gan ffŵl ddim awydd o gwbl i ddeall, dim ond lleisio'i farn ei hun. Mae dirmyg yn dilyn y drwg, a gwawdio yn dilyn gwarth. Mae geiriau rhywun fel dŵr dwfn; ffynnon o ddoethineb fel nant yn llifo. Dydy dangos ffafr at yr euog ddim yn beth da, na gwrthod cyfiawnder i'r dieuog. Mae geiriau ffŵl yn achosi ffrae; mae'n gofyn am drwbwl! Mae siarad ffŵl yn arwain i ddinistr; mae'n cael ei rwydo gan ei eiriau ei hun. Mae gwrando ar glecs fel bwyd blasus — mae'r cwbl yn cael ei lyncu. Mae'r un sy'n ddiog yn ei waith yn perthyn yn agos i'r fandal. Mae enw'r ARGLWYDD fel tŵr solet; mae'r rhai sy'n byw'n iawn yn rhedeg ato i fod yn saff. Ond caer ddiogel y cyfoethog ydy ei gyfoeth; mae'n dychmygu ei fod yn wal uchel i'w amddiffyn. Cyn i'r chwalfa ddod roedd digon o frolio; gostyngeiddrwydd sy'n arwain i anrhydedd. Mae ateb rhywun yn ôl cyn gwrando arno yn beth dwl i'w wneud, ac yn dangos diffyg parch. Gall ysbryd rhywun ei gynnal drwy afiechyd; ond mae iselder ysbryd yn faich trwm i'w gario. Mae'r person call am ddysgu mwy; ac mae'r doeth yn chwilio am wybodaeth. Mae rhoi rhodd i rywun yn agor drysau i gyfarfod pobl bwysig. Mae'r cyntaf i gyflwyno ei dystiolaeth yn ymddangos yn iawn nes i rywun ddod a'i groesholi. Mae taflu coelbren yn rhoi terfyn ar ffraeo, ac yn setlo dadl ffyrnig. Mae perthynas wedi digio yn ystyfnig fel caer; a chwerylon fel barrau i gloi giatiau castell. Rhaid i rywun ddysgu byw gyda'i eiriau; mae dweud y peth iawn yn rhoi boddhad. Mae'r tafod yn gallu rhoi bywyd a marwolaeth; ac mae'r rhai sy'n hoffi siarad yn gorfod byw gyda'u geiriau. Mae'r dyn sydd wedi ffeindio gwraig yn hapus; mae'r ARGLWYDD wedi bod yn dda ato. Mae'r person tlawd yn pledio am help; ond mae'r cyfoethog yn ei ateb yn swta. Mae rhai ffrindiau yn gallu brifo rhywun, ond mae ffrind go iawn yn fwy ffyddlon na brawd. Mae'n well bod yn dlawd ac yn onest nac yn ffŵl sy'n dweud celwydd. Dydy sêl heb ddeall ddim yn beth da; mae'r rhai sydd ar ormod o frys yn colli'r ffordd. Ffolineb pobl sy'n difetha eu bywydau, ond maen nhw'n dal dig yn erbyn yr ARGLWYDD. Mae cyfoeth yn denu llawer o ffrindiau, ond mae ffrind person tlawd yn troi cefn arno. Bydd tyst celwyddog yn cael ei gosbi; fydd rhywun sy'n palu celwyddau ddim yn dianc. Mae llawer yn crafu i ennill ffafr pobl bwysig, ac mae pawb eisiau bod yn ffrindiau gyda rhywun hael. Mae perthnasau rhywun tlawd eisiau cael gwared ag e; does dim syndod fod ei ffrindiau yn ei osgoi! Mae'n gofyn am help, ond does dim ymateb. Mae'r person doeth yn caru ei fywyd; a'r un sy'n gwneud yn siŵr ei fod yn deall yn hapus. Bydd tyst celwyddog yn cael ei gosbi; mae wedi darfod ar rywun sy'n palu celwyddau. Dydy byw'n foethus ddim yn gweddu i ffŵl; llai fyth, caethwas yn rheoli ei feistr. Mae rhywun call yn rheoli ei dymer; mae i'w ganmol am faddau i rywun sy'n pechu'n ei erbyn. Mae brenin dig fel llew yn rhuo; ond mae ei ffafr fel gwlith ar laswellt. Mae plentyn ffôl yn achosi trafferthion i'w dad; a gwraig sy'n swnian fel dŵr yn diferu'n ddi-baid. Mae plant yn etifeddu tŷ ac eiddo gan eu rhieni, ond yr ARGLWYDD sy'n rhoi gwraig ddoeth. Mae diogi yn achosi trwmgwsg; bydd y person diog yn llwgu. Mae'r sawl sy'n cadw'r gorchmynion yn cael byw; ond bydd yr un sy'n diystyru ei ffyrdd yn marw. Mae rhoi yn hael i'r tlawd fel benthyg i'r ARGLWYDD; bydd e'n talu'n ôl iddo am fod mor garedig. Disgybla dy blentyn tra mae gobaith iddo, ond paid colli dy limpyn yn llwyr. Mae'r un sy'n fyr ei dymer yn gorfod talu'r pris; os wyt am ei helpu, byddi'n gorfod gwneud hynny fwy nag unwaith. Gwrando ar gyngor, a bydd barod i dderbyn cerydd, a byddi'n ddoeth yn y diwedd. Mae gan bobl bob math o gynlluniau, ond cynllun yr ARGLWYDD fydd yn cael ei gyflawni. Mae ffyddlondeb yn beth dymunol mewn person; gwell bod yn dlawd na dweud celwydd. Mae parchu'r ARGLWYDD yn arwain i fywyd; mae person felly yn dawel ei feddwl, ac yn ofni dim drwg. Mae'r diogyn yn estyn am fwyd, ond yn rhy ddiog i'w godi at ei geg! Cura'r un sy'n gwawdio, a bydd y gwirion yn dysgu gwers; cywira rywun call a bydd yn dysgu mwy fyth. Mae plentyn sy'n dwyn oddi ar ei dad ac yn gyrru ei fam o'i chartre yn achos cywilydd a gwarth. Fy mab, os byddi'n stopio gwrando pan wyt ti'n cael dy gywiro, byddi wedi troi dy gefn ar ddoethineb. Mae tyst sy'n twyllo yn dibrisio cyfiawnder, a pobl ddrwg wrth eu boddau gyda chelwydd. Bydd y rhai sy'n gwawdio yn cael eu cosbi a'r ffyliaid yn cael eu curo. Mae gwin yn gwawdio, a cwrw yn creu helynt; dydy'r rhai sy'n meddwi ddim yn ddoeth. Mae brenin sy'n bygwth fel llew yn rhuo; mae'r sawl sy'n ei wylltio yn mentro'i fywyd. Mae gwrthod ffraeo yn beth call i'w wneud, gall unrhyw ffŵl godi helynt. Os nad ydy'r dyn diog yn aredig yn y gwanwyn, pan ddaw'r cynhaeaf, fydd e'n cael dim byd. Mae bwriad y meddwl dynol fel dŵr dwfn, ond gall person deallus ei ddwyn i'r golwg. Mae llawer o bobl yn honni bod yn ffrindiau triw, ond pwy allwch chi ei drystio go iawn? Pan mae rhywun yn byw bywyd cyfiawn a gonest, mae ei blant wedi eu bendithio'n fawr. Mae brenin sy'n eistedd ar yr orsedd i farnu yn gallu gwahaniaethu rhwng drwg a da. Oes unrhyw un yn gallu dweud, “Dw i wedi cadw fy nghalon yn lân; dw i'n hollol lân a heb bechod”? Mae twyllo wrth bwyso a mesur yn rhywbeth sy'n gas gan yr ARGLWYDD. Mae'r ffordd mae person ifanc yn ymddwyn yn dangos ydy e'n gymeriad glân a gonest ai peidio. Y glust sy'n clywed a'r llygad sy'n gweld — yr ARGLWYDD wnaeth y ddwy. Paid bod yn rhy hoff o dy gwsg, rhag i ti fynd yn dlawd; cadw'n effro, a bydd gen ti ddigon i'w fwyta. Mae'r prynwr yn dadlau, “Dydy e ddim yn werth rhyw lawer,” ond yna'n mynd i ffwrdd ac yn brolio'i hun am gael bargen. Mae digonedd o aur i'w gael, a pherlau hefyd; mae geiriau doeth fel gem werthfawr. Cymer ei wisg, gan ei fod wedi gwarantu benthyciad rhywun; cadw hi'n warant os gwnaeth hynny dros bobl ddieithr. Falle fod bwyd sydd wedi ei ddwyn yn flasus, ond bydd dy geg yn llawn graean yn y diwedd. Mae cyngor da yn gwneud i gynlluniau lwyddo; ewch i ryfel gyda strategaeth glir. Mae'r un sy'n hel clecs yn methu cadw cyfrinach; paid cael dim i'w wneud â'r llac ei dafod. Os ydy rhywun yn melltithio ei dad neu ei fam, bydd ei lamp yn diffodd mewn tywyllwch dudew. Pan mae rhywun yn derbyn etifeddiaeth yn rhy hawdd, fydd dim bendith yn y diwedd. Paid dweud, “Bydda i'n talu'r pwyth yn ôl!” Disgwyl i'r ARGLWYDD achub dy gam di. Mae twyllo wrth bwyso nwyddau yn gas gan yr ARGLWYDD; dydy clorian dwyllodrus ddim yn dda. Yr ARGLWYDD sy'n trefnu'r ffordd mae rhywun yn mynd; sut all unrhyw un wybod beth sydd o'i flaen? Mae'n gamgymeriad i rywun gyflwyno rhodd i Dduw yn fyrbwyll, a dim ond meddwl wedyn beth wnaeth e addo ei wneud. Mae brenin doeth yn gwahanu'r drwg oddi wrth y da, ac yna'n troi'r olwyn sy'n eu dyrnu nhw. Mae'r gydwybod fel lamp gan yr ARGLWYDD, yn chwilio'n ddwfn beth sydd yn y galon. Cariad a ffyddlondeb sy'n amddiffyn y brenin; a'i gariad e sy'n ei gadw ar yr orsedd. Mae pobl yn edmygu cryfder dynion ifanc, ond gwallt gwyn sy'n rhoi urddas i bobl mewn oed. Mae dioddefaint a chleisiau yn cael gwared â drwg, ac yn delio gyda'r person y tu mewn. Mae penderfyniadau'r brenin fel sianel ddŵr yn llaw'r ARGLWYDD; mae'n ei arwain i ble bynnag mae e eisiau. Mae pobl bob amser yn meddwl eu bod yn gwneud y peth iawn, ond mae'r ARGLWYDD yn pwyso a mesur y cymhellion. Mae cael rhywun yn gwneud beth sy'n gyfiawn ac yn deg yn well gan yr ARGLWYDD nag aberthau. Mae snobyddiaeth a balchder — sy'n nodweddu pobl ddrwg — yn bechod. Mae llwyddiant yn dod o gynllunio gofalus a gwaith caled; ond dydy brys gwyllt ond yn arwain i dlodi. Mae ffortiwn wedi ei ennill drwy ddweud celwydd fel tarth sy'n diflannu — magl i farwolaeth. Mae pobl ddrwg yn cael eu llusgo i ffwrdd gan eu trais, maen nhw'n gwrthod gwneud beth sy'n iawn. Mae pobl yn gallu bod yn dwyllodrus ac yn rhyfedd, ond mae'r sawl sy'n bur yn gwneud beth sy'n iawn. Mae byw mewn cornel yn yr atig yn well na rhannu cartref gyda gwraig gecrus. Mae person drwg yn ysu am gael gwneud drwg, ac yn dangos dim trugaredd at bobl eraill. Pan mae'r gwawdiwr yn cael ei gosbi mae'r gwirion yn dysgu gwers; ond mae'r person doeth yn dysgu wrth wrando. Mae'r Duw cyfiawn yn gweld cartrefi pobl ddrwg; bydd yn dod â dinistr arnyn nhw. Os ydy rhywun yn gwrthod gwrando ar gri'r tlawd, bydd e'n gweiddi hefyd, a fydd neb yn ei ateb. Mae rhodd cyfrinachol yn tawelu llid, a cildwrn yn tewi'r un sydd wedi colli ei dymer. Mae'r rhai cyfiawn wrth eu bodd yn gwneud beth sy'n iawn, ond mae'n ddychryn i bobl ddrwg. Bydd pwy bynnag sy'n crwydro oddi ar y llwybr iawn yn cael ei hun yn gorffwys gyda'r ysbrydion. Bydd y sawl sydd ond eisiau bywyd o bleser yn cael ei hun yn dlawd; dydy gwin a bywyd moethus ddim yn gwneud rhywun yn gyfoethog. Bydd y drwg yn talu'r pris yn lle'r cyfiawn; a'r twyllwr yn diodde yn lle'r un sy'n onest. Mae'n well byw mewn tir anial na gorfod diodde gwraig gecrus a blin. Mae'r person doeth yn cynilo, ond mae person ffôl yn gwario'r cwbl sydd ganddo. Mae'r un sy'n ceisio gwneud beth sy'n iawn a bod yn garedig yn cael bywyd, llwyddiant ac enw da. Mae dyn doeth yn gallu concro dinas sydd â byddin bwerus a bwrw i lawr y gaer oedden nhw'n teimlo'n saff ynddi. Mae'r person sy'n gwylio beth mae'n ei ddweud ac yn ffrwyno'i dafod yn cadw ei hun allan o drafferthion. Mae'r person balch, haerllug — yr un sy'n gwawdio pobl eraill — yn gwneud pethau cwbl ddigywilydd. Mae blys person diog yn ddigon i'w ladd, am ei fod yn gwrthod gweithio â'i ddwylo. Mae'n dyheu ac yn ysu am fwy drwy'r adeg, tra mae'r person cyfiawn yn rhoi yn ddi-baid. Mae'n gas gan Dduw aberth sy'n cael ei gyflwyno gan rywun drwg, yn enwedig os ydy ei fwriad wrth ddod ag e yn ddrwg. Mae tyst celwyddog yn cael ei dewi; y tyst oedd wedi gwrando sy'n cael y gair ola. Mae person drwg yn smalio ac yn bwrw yn ei flaen; ond mae'r person gonest yn meddwl ble mae'n mynd. Does dim doethineb na deall na chyngor sy'n gallu ennill y dydd ar yr ARGLWYDD. Mae milwyr wedi paratoi meirch ar gyfer y rhyfel, ond yr ARGLWYDD sy'n rhoi'r fuddugoliaeth. Mae enw da yn well na chyfoeth mawr, a charedigrwydd yn well nag arian ac aur. Mae un peth sy'n wir am y cyfoethog a'r tlawd: yr ARGLWYDD wnaeth greu y ddau ohonyn nhw. Mae'r person call yn gweld problem ac yn ei hosgoi; ond y gwirion yn bwrw yn ei flaen ac yn gorfod talu'r pris. Mae gostyngeiddrwydd a parch at yr ARGLWYDD yn arwain i gyfoeth, anrhydedd a bywyd. Mae drain a maglau ar lwybr pobl sy'n twyllo; ond mae'r person sy'n ofalus yn cadw draw oddi wrthyn nhw. Dysga blentyn y ffordd orau i fyw; a fydd e ddim yn troi cefn arni pan fydd e'n hŷn. Fel mae'r cyfoethog yn rheoli'r tlawd, mae'r un sydd mewn dyled yn gaethwas i'r benthyciwr. Bydd y rhai sy'n hau drygioni yn medi helyntion, a bydd eu gwialen greulon yn cael ei thorri. Bydd person hael yn cael ei fendithio am rannu ei fwyd gyda'r tlawd. Taflwch allan yr un sy'n creu helynt, a bydd y cweryla'n peidio, bydd y ffraeo a'r sarhau yn stopio. Pwy bynnag sy'n ddidwyll a'i eiriau'n garedig, bydd yn ffrindiau gyda'r brenin. Mae'r ARGLWYDD yn gofalu am yr un sy'n gwybod y gwir; ond mae'n tanseilio beth mae'r twyllwr yn ei ddweud. Mae'r diogyn yn dweud, “Mae yna lew yna! Mae'n beryg bywyd i fynd allan i'r stryd.” Mae fflyrtian y wraig anfoesol fel pwll dwfn; mae'r rhai sy'n digio'r ARGLWYDD yn syrthio iddo. Pan mae ffolineb wedi cael gafael ar feddwl person ifanc, bydd gwialen disgyblaeth yn cael gwared ag e. Dydy gwneud arian drwy gam-drin pobl dlawd, neu roi anrhegion i'r cyfoethog, yn ddim byd ond colled! Gwranda'n astud ar beth mae'r doethion wedi ei ddweud; a meddylia am y pethau dw i'n eu dysgu i ti. Mae'n beth da i'r rhain wreiddio'n ddwfn ynot ti ac iddyn nhw fod ar flaen dy dafod bob amser. Dw i am eu rhannu nhw hefo ti heddiw — ie, ti — er mwyn i ti drystio'r ARGLWYDD. Dw i wedi eu hysgrifennu nhw i lawr — “Y Tri Deg Cyngor Doeth”, i ti ddysgu'r gwir, a beth sy'n iawn, a mynd â'r atebion iawn i'r rhai wnaeth dy anfon di. Paid dwyn oddi ar y tlawd, achos maen nhw'n dlawd; na chymryd mantais o bobl mewn angen yn y llys. Bydd yr ARGLWYDD yn sefyll hefo nhw, ac yn gorthrymu'r rhai sy'n eu gorthrymu nhw. Paid gwneud ffrindiau gyda rhywun piwis, na chadw cwmni rhywun sydd â thymer wyllt, rhag i ti hefyd droi felly, a methu dianc. Paid bod yn rhy barod i gytuno i dalu dyledion rhywun arall; Os na fyddi di'n gallu talu byddi'n colli popeth, hyd yn oed dy wely! Paid symud yr hen ffiniau gafodd eu gosod gan dy hynafiaid. Pan weli di rywun sy'n fedrus yn ei waith — bydd hwnnw'n gwasanaethu brenhinoedd, nid pobl does neb wedi clywed amdanyn nhw. Pan wyt ti'n eistedd i lawr i fwyta gyda llywodraethwr, gwylia'n ofalus sut rwyt ti'n ymddwyn; dal yn ôl, paid llowcio dy fwyd. Paid stwffio dy hun ar ei ddanteithion, mae'n siŵr ei fod e eisiau rhywbeth gen ti! Paid lladd dy hun yn ceisio gwneud arian; bydd yn ddigon call i ymatal. Cyn i ti droi rownd mae e wedi mynd! Mae'n magu adenydd ac yn hedfan i ffwrdd fel eryr. Paid bwyta wrth fwrdd person cybyddlyd; paid stwffio dy hun ar ei ddanteithion. Mae e'n cadw cyfri o bopeth wyt ti'n ei fwyta! Mae'n dweud, “Tyrd, bwyta ac yfed faint fynni di,” ond dydy e ddim yn meddwl y peth go iawn. Byddi'n chwydu'r ychydig rwyt wedi ei fwyta, ac wedi gwastraffu dy eiriau caredig. Paid dweud gormod wrth ffŵl, fydd e'n gwneud dim ond gwawdio dy eiriau doeth di. Paid symud yr hen ffiniau, a dwyn tir oddi ar yr amddifad; mae'r Un sy'n eu hamddiffyn nhw yn gryf, a bydd yn cymryd eu hachos yn dy erbyn di. Penderfyna dy fod eisiau dysgu a gwrando ar eiriau doeth. Paid bod ag ofn disgyblu dy blentyn; dydy gwialen ddim yn mynd i'w ladd e. Defnyddia'r wialen a byddi'n achub ei fywyd. Fy mab, os dysgi di fod yn ddoeth, bydda i'n hapus iawn. Bydda i wrth fy modd yn dy glywed di'n dweud beth sy'n iawn. Paid cenfigennu wrth y rhai sy'n pechu — bydd di'n ffyddlon i Dduw bob amser. Wedyn bydd pethau'n iawn yn y diwedd, a bydd gen ti obaith fydd byth yn dy siomi. Gwranda, fy mab, a bydd ddoeth; penderfyna ddilyn y ffordd iawn. Paid cael gormod i'w wneud gyda'r rhai sy'n goryfed, ac yn stwffio eu hunain hefo bwyd. Bydd y rhai sy'n meddwi a gorfwyta yn mynd yn dlawd; fydd ganddyn nhw ddim egni, a byddan nhw mewn carpiau. Gwranda ar dy dad, ddaeth â ti i'r byd; a paid diystyru dy fam pan fydd hi'n hen. Gafael yn y gwirionedd, a paid â'i ollwng, doethineb hefyd, a disgyblaeth a deall! Os ydy plentyn yn gwneud beth sy'n iawn bydd ei dad mor hapus; mae plentyn doeth yn rhoi'r fath bleser i'w rieni. Bydd dy dad a dy fam wrth eu boddau; gwna'r un ddaeth â ti i'r byd yn hapus! Dw i eisiau dy sylw di, fy mab; gwylia'n ofalus, a dysga gen i. Mae putain fel pwll dwfn; a gwraig anfoesol fel pydew cul. Mae hi'n disgwyl amdanat ti fel lleidr; ac yn gwneud mwy a mwy o ddynion yn anffyddlon i'w gwragedd. Pwy sy'n teimlo'n wael ac yn druenus? Pwy sy'n ffraeo ac yn dadlau drwy'r adeg? Pwy sy'n cael damweiniau diangen? Pwy sydd â llygaid cochion? Y rhai sy'n yfed i'r oriau mân, ac yn trïo rhyw ddiod newydd o hyd. Paid llygadu'r gwin coch yna sy'n edrych mor ddeniadol yn y gwydr ac yn mynd i lawr mor dda. Bydd yn dy frathu fel neidr yn y diwedd; bydd fel brathiad gwiber. Byddi'n gweld pethau rhyfedd, a bydd dy feddwl wedi drysu'n lân. Bydd fel mynd i dy wely mewn storm ar y môr, neu geisio gorwedd i gysgu ar ben yr hwylbren. “Ces fy nharo, ond wnes i deimlo dim byd; Ces fy nghuro, ond dw i'n cofio dim am y peth. Pryd dw i'n mynd i sobri? — dw i angen diod arall.” Paid cenfigennu wrth bobl ddrwg, na bod eisiau cadw cwmni iddyn nhw. Dŷn nhw'n meddwl am ddim byd ond trais a sut i wneud drwg i bobl eraill. Mae'n cymryd gallu i adeiladu tŷ, a deall i osod seiliau cadarn iddo. Mae angen gwybodaeth i lenwi'r ystafelloedd gyda phob math o bethau gwerthfawr a hardd. Mae person doeth yn gryf, a person deallus yn ddylanwadol. Mae angen strategaeth i ymladd brwydr, a digon o gyngor doeth i ennill buddugoliaeth. Mae doethineb allan o gyrraedd y ffŵl; does ganddo ddim i'w ddweud pan mae'r arweinwyr yn cyfarfod. Mae'r sawl sy'n cynllunio i wneud drwg yn cael yr enw o fod yn gyfrwys. Mae castiau'r ffŵl yn bechod, ac mae'n gas gan bobl berson sy'n gwawdio. Os wyt ti'n un i golli hyder dan bwysau, mae gen ti angen mwy o nerth. Achub y rhai sy'n cael eu llusgo i ffwrdd i'w lladd! Bydd barod i helpu'r rhai sy'n baglu i'r bedd. Os byddi di'n dweud, “Ond doedden ni'n gwybod dim am y peth,” cofia fod yr Un sy'n pwyso'r galon yn gweld y gwir! Mae Duw yn dy wylio di, ac mae e'n gwybod; a bydd pawb yn cael beth maen nhw'n ei haeddu. Fy mab, bwyta fêl — mae'n dda i ti; ac mae diliau mêl yn felys yn dy geg. A'r un modd mae doethineb yn dda i ti. Os wyt ti'n ddoeth, byddi'n iawn yn y diwedd; a bydd gen ti obaith fydd byth yn dy siomi. Paid llechu fel lleidr tu allan i gartre dyn da; a paid torri i mewn i'w dŷ. Gelli faglu pobl dda dro ar ôl tro, ond byddan nhw'n codi ar eu traed; tra mae un anffawd yn ddigon i fwrw pobl ddrwg i lawr. Paid dathlu pan mae dy elyn yn syrthio; paid bod yn falch os ydy e'n cael ei fwrw i lawr, rhag i'r ARGLWYDD weld y peth, a bod yn flin hefo ti; wedyn bydd e'n arbed y gelyn rhag y gosb. Paid digio pan mae pobl ddrwg yn llwyddo; paid bod yn genfigennus ohonyn nhw — does dim dyfodol iddyn nhw. Mae'r person drwg fel lamp sy'n diffodd. Fy mab, dylet ti barchu'r ARGLWYDD a'r brenin, a pheidio cadw cwmni'r rhai sy'n gwrthryfela. Yn sydyn bydd dinistr yn dod arnyn nhw; pwy ŵyr faint o ddrwg allan nhw ei achosi? Dyma fwy o eiriau'r doethion: Dydy dangos ffafriaeth wrth farnu ddim yn beth da. Bydd barnwr sy'n gollwng yr euog yn rhydd yn cael ei felltithio gan bobl, a'i gondemnio gan wledydd; Ond bydd bywyd yn braf i'r un sy'n barnu'n deg; bydd e'n cael ei fendithio'n fawr. Mae rhoi ateb gonest fel cusan ar y gwefusau. Rho drefn ar dy waith tu allan, a chael y caeau'n barod i'w plannu, ac wedyn mynd ati i adeiladu dy dŷ. Paid rhoi tystiolaeth yn erbyn rhywun heb achos da; a paid camarwain pobl. Paid dweud, “Dw i'n mynd i dalu'r pwyth yn ôl! Bydda i'n dial arno am beth wnaeth e.” Roeddwn i'n pasio heibio cae y dyn diog, a gwinllan un sydd heb sens; Roedd drain wedi tyfu drosto, a chwyn ym mhobman, a'r wal gerrig o'i gwmpas wedi syrthio. Wrth edrych a meddwl am y peth, roedd beth welais i yn dysgu gwers i mi: “Ychydig bach mwy o gwsg; pum munud arall! Swatio'n gyfforddus yn y gwely am ychydig.” Ond bydd tlodi yn dy daro di fel lleidr creulon; bydd prinder yn ymosod arnat ti fel milwr arfog. Diarhebion Solomon ydy'r rhain hefyd, wedi eu casglu gan weision Heseceia, brenin Jwda: Braint Duw ydy cadw pethau'n ddirgelwch; braint brenhinoedd ydy chwilio a darganfod. Fel mae'r awyr yn rhy uchel, a'r ddaear yn rhy ddofn, does neb yn gwybod beth sy'n mynd trwy feddwl brenhinoedd. Ar ôl gwahanu'r amhuredd o'r arian, mae'r gof yn gallu creu llestr hardd. Ar ôl symud y rhai drwg o ŵydd y brenin bydd cyfiawnder yn gwneud ei orsedd yn ddiogel. Paid canmol dy hun o flaen y brenin, a mynd i eistedd yn y seddi pwysig. Mae'n well cael rhywun yn dweud, “Symud i fyny,” na chael dy gywilyddio o flaen pobl bwysig. Paid bod ar ormod o frys i fynd i'r llys am dy fod wedi gweld rhywbeth. Beth os fydd rhywun arall yn dweud yn groes i ti? Trafod y peth yn breifat gyda'r person hwnnw, a paid dweud am y peth wrth neb arall. Does gen ti ddim eisiau i rywun dy gondemnio di, ac i ti gael enw drwg am byth. Mae gair o ganmoliaeth fel gemwaith aur mewn tlws arian. Mae gwrando ar gerydd gan rywun doeth fel modrwy aur, neu dlws o aur coeth. Mae negesydd ffyddlon yn adfywio ysbryd ei feistri, fel dŵr oer ar ddiwrnod poeth o gynhaeaf. Cymylau a gwynt, ond dim glaw — felly mae'r un sy'n brolio'i haelioni, ond byth yn rhoi. Gyda tipyn o amynedd gellir perswadio llywodraethwr; ac mae geiriau tyner yn delio gyda gwrthwynebiad. Pan gei fêl, paid cymryd mwy nag wyt ei angen, rhag i ti fwyta gormod, a chwydu'r cwbl i fyny. Paid mynd i dŷ rhywun arall yn rhy aml, rhag iddo gael llond bol, a throi yn dy erbyn di. Mae tyst sy'n dweud celwydd mewn achos llys yn gwneud niwed fel pastwn, neu gleddyf, neu saeth finiog. Mae trystio rhywun sy'n ddi-ddal mewn amser anodd fel diodde o'r ddannodd neu fod yn simsan ar dy draed. Mae canu caneuon i rywun sydd â chalon drist fel tynnu dillad ar ddiwrnod oer, neu roi halen ar friw. Os ydy dy elyn yn llwgu, rho fwyd iddo; os ydy e'n sychedig, rho ddŵr iddo i'w yfed. Byddi'n tywallt marwor tanllyd ar ei ben, a bydd yr ARGLWYDD yn rhoi dy wobr i ti. Mae gwynt y gogledd yn dod â glaw, a thafod sy'n bradychu cyfrinach yn dod â gwg. Mae byw mewn cornel yn yr atig yn well na rhannu cartref gyda gwraig gecrus. Mae derbyn newyddion da o wlad bell fel diod o ddŵr oer i wddf sych. Mae dyn da sy'n plygu i ddyn drwg fel ffynnon yn llawn mwd neu bydew wedi ei ddifetha. Dydy bwyta gormod o fêl ddim yn beth da, a dydy edrych am ganmoliaeth ddim yn iawn. Mae rhywun sy'n methu rheoli ei dymer fel dinas a'i waliau wedi eu bwrw i lawr. Fel eira yn yr haf a glaw adeg cynhaeaf, dydy anrhydedd ddim yn siwtio ffŵl. Fel aderyn y to yn gwibio heibio, neu wennol yn hedfan, dydy melltith heb ei haeddu ddim yn gorffwys. Chwip i geffyl a ffrwyn i asyn, a gwialen i gefn ffyliaid. Paid ateb ffŵl fel mae e'n siarad, neu byddi di'n debyg iddo; ateb ffŵl fel mae e'n siarad, a bydd e'n meddwl ei fod e'n glyfar. Mae anfon neges drwy law ffŵl fel rhywun yn mwynhau gwneud niwed iddo'i hun. Mae dihareb yn cael ei hadrodd gan ffŵl fel coesau rhywun cloff yn hongian yn llipa. Mae rhoi anrhydedd i ffŵl mor wyrion â rhwymo carreg mewn ffon dafl. Mae dihareb yn cael ei hadrodd gan ffŵl, fel llwyn o fieri yn llaw meddwyn. Mae'r un sy'n cyflogi ffŵl neu feddwyn fel bwasaethwr yn anafu pawb sy'n mynd heibio. Mae ffŵl sy'n ailadrodd beth wnaeth e, fel ci yn mynd yn ôl at ei chwŷd. Mae mwy o obaith i ffŵl nag i rywun sy'n meddwl ei fod yn gwybod popeth. Mae'r diogyn yn dweud, “Mae na lew ar y ffordd! Mae e'n rhydd yn y stryd!” Mae diogyn yn troi ar ei wely fel drws yn siglo'n ôl a blaen ar ei golfachau! Mae'r diogyn yn estyn ei law am fwyd, ond yn blino gorfod ei godi i'w geg. Mae'r diogyn yn meddwl ei fod e'n gallach na saith o bobl sy'n rhoi cyngor da. Mae busnesa yn ffrae rhywun arall fel gafael mewn ci peryglus wrth ei glustiau. [18-19] Mae twyllo rhywun arall ac wedyn dweud, “Dim ond jôc oedd e,” fel dyn gwallgo yn taflu ffaglau tân a saethau marwol i bob cyfeiriad. *** Mae tân yn diffodd os nad oes coed i'w llosgi, ac mae ffrae yn tawelu os nad oes rhywun yn hel clecs. Ond mae rhywun sy'n dechrau ffrae fel rhoi glo ar farwor neu goed ar y tân. Mae gwrando ar glecs fel bwyd blasus — mae'r cwbl yn cael ei lyncu. Mae tafod sy'n rhy barod a bwriad sy'n ddrwg fel farnis clir ar botyn pridd. Mae gelyn yn smalio, ond ei fwriad ydy twyllo; paid â'i gredu pan mae'n dweud pethau caredig, achos mae pob math o bethau ffiaidd ar ei feddwl. Mae'n cuddio ei gasineb trwy dwyll, ond bydd ei ddrygioni yn dod yn amlwg i bawb. Mae rhywun yn gallu cloddio twll a syrthio i'w drap ei hun; pan mae rhywun yn rholio carreg, gall rolio yn ôl drosto! Mae tafod celwyddog yn casáu y rhai mae'n eu brifo; ac mae seboni yn arwain i ddinistr. Paid brolio am beth wnei di yfory, ti ddim yn gwybod beth all ddigwydd mewn diwrnod. Gad i rywun arall dy ganmol di, paid ti â brolio dy hun. Mae carreg yn drom, ac mae pwysau i dywod, ond mae ffŵl sy'n pryfocio yn waeth na'r ddau. Mae gwylltio yn greulon a cholli tymer yn llethu, ond mae cenfigen yn waeth na'r ddau. Mae cerydd gonest yn well na peidio dangos cariad. Mae'n well cael eich brifo gan ffrind, na chael eich cusanu'n ddi-baid gan rywun sy'n eich casáu. Mae rhywun sydd wedi cael digon i'w fwyta yn gwrthod mêl, ond i'r sawl sy'n llwgu, mae'r peth mwyaf chwerw yn blasu'n felys. Mae rhywun sydd wedi gadael ei gartre fel aderyn wedi gadael ei nyth. Fel mae olew a phersawr yn gwneud rhywun yn hapus, mae cyngor ffrind yn gwneud bywyd yn felys. Paid troi cefn ar ffrind neu un o ffrindiau'r teulu, a fydd dim rhaid i ti redeg i dŷ perthynas pan fyddi mewn trafferthion. Mae ffrind sy'n agos yn well na pherthynas pell. Bydd ddoeth, fy mab, a gwna fi'n hapus, er mwyn i mi fedru ateb y rhai sy'n gwneud sbort ar fy mhen. Mae'r person call yn gweld perygl ac yn ei osgoi; ond y gwirion yn bwrw yn ei flaen ac yn gorfod talu'r pris. Cymer ei wisg, gan ei fod wedi gwarantu benthyciad rhywun arall; cadw hi'n warant os gwnaeth hynny dros wraig anfoesol. Mae gweiddi'n uchel wrth gyfarch ffrind yn gynnar yn y bore yn gallu bod yn fwy o felltith na dim arall. Mae gwraig gecrus yr un fath â diwrnod pan mae hi'n glawio'n ddi-stop; mae rhoi taw arni fel ceisio stopio'r gwynt rhag chwythu, neu ddal olew yn y llaw. Fel haearn yn hogi haearn mae un person yn hogi meddwl rhywun arall. Yr un sy'n gofalu am y goeden ffigys sy'n bwyta ei ffrwyth, a bydd y gwas sy'n gofalu am ei feistr yn cael ei anrhydeddu. Fel adlewyrchiad o'r wyneb mewn dŵr, mae'r bersonoliaeth yn adlewyrchu beth sy'n y galon. Dydy Annwn ac Abadon byth yn cael digon, a dydy'r llygad dynol byth yn fodlon chwaith. Tawddlestr i arian, a ffwrnais i aur, a chanmoliaeth i brofi sut un ydy person. Gelli falu'r ffŵl fel ŷd gyda pestl mewn mortar ond fydd ei ffolineb ddim yn ei adael. Edrych ar ôl dy ddefaid yn iawn, a gofala am y geifr; achos dydy cyfoeth ddim yn para am byth, a dydy coron ddim yn aros bob amser. Ar ôl cario'r gwair mae'r glaswellt yn tyfu eto, ac ar ôl i gnwd y bryniau gael ei gasglu, bydd yr ŵyn yn rhoi dillad i ti a'r bychod geifr yn talu am y tir. A bydd digon o laeth geifr i ti fwydo dy deulu, a chadw dy forynion. Mae pobl ddrwg yn ffoi pan does neb ar eu holau, ond mae'r rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn yn hyderus fel llew ifanc. Pan mae gwlad mewn anhrefn mae pawb eisiau arwain, ond mae'n cymryd arweinydd doeth a deallus i'w gwneud hi'n sefydlog. Mae person tlawd sy'n gormesu pobl eraill sydd mewn angen fel storm o law trwm sy'n dinistrio cnydau. Mae'r rhai sy'n gwrthod Cyfraith Dduw yn canmol pobl ddrwg, ond mae'r rhai sy'n cadw'r Gyfraith yn eu gwrthwynebu nhw. Dydy pobl ddrwg ddim yn gwybod beth ydy cyfiawnder, ond mae'r rhai sy'n ceisio'r ARGLWYDD yn ei ddeall i'r dim. Mae'n well bod yn dlawd ac yn onest nac yn gyfoethog ac yn ddauwynebog. Mae plentyn doeth yn gwrando ar beth sy'n cael ei ddysgu iddo ond mae'r un sy'n cymysgu gyda criw da i ddim yn codi cywilydd ar ei dad. Mae yna un sy'n gwneud arian drwy godi llogau uchel, ond bydd ei gyfoeth yn mynd i rywun sy'n garedig at y tlawd. Mae'n gas gan Dduw wrando ar weddi rhywun sy'n gwrthod gwrando ar y Gyfraith. Bydd rhywun sy'n camarwain pobl dda, a'u cael nhw i wneud drwg yn syrthio i mewn i'w drap ei hun, ond bydd pethau'n mynd yn dda i'r un sy'n onest. Mae person cyfoethog yn meddwl ei fod e'n glyfar, ond mae'r person tlawd sy'n gall yn gweld trwyddo. Pan mae pobl dda yn ennill, mae dathlu mawr, ond pan mae pobl ddrwg yn dod i rym, mae pawb yn cuddio. Fydd y sawl sy'n cuddio'i feiau ddim yn llwyddo; yr un sy'n cyfaddef ac yn stopio gwneud pethau felly sy'n cael trugaredd. Mae'r un sy'n dangos gofal wedi ei fendithio'n fawr, ond mae person penstiff yn syrthio i bob math o drafferthion. Mae llywodraethwr drwg dros bobl dlawd fel llew yn rhuo neu arth yn prowla. Arweinydd heb sens sy'n gormesu o hyd; yr un sy'n gwrthod elwa ar draul eraill sy'n cael byw'n hir. Bydd yr un sy'n euog o lofruddio yn ffoi hyd ei fedd — ddylai neb ei helpu. Bydd yr un sy'n byw'n onest yn saff, ond bydd person dauwynebog yn siŵr o syrthio. Bydd y sawl sy'n trin ei dir yn cael digon o fwyd, ond yr un sy'n gwastraffu amser yn cael dim ond tlodi. Bydd y person cydwybodol yn cael ei fendithio'n fawr, ond yr un sydd ond eisiau gwneud arian sydyn yn cael ei gosbi. Dydy dangos ffafriaeth ddim yn beth da; ond mae rhai pobl yn fodlon gwneud drwg am damaid o fara! Mae person cybyddlyd eisiau gwneud arian sydyn, heb sylweddoli mai colled sy'n dod iddo. Mae'r un sy'n barod i roi gair o gerydd yn cael mwy o barch yn y diwedd na'r un sy'n seboni. Mae'r un sy'n dwyn oddi ar ei dad a'i fam, ac yna'n dweud, “wnes i ddim byd o'i le,” yn ffrind i lofrudd. Mae person hunanol yn creu helynt, ond mae'r un sy'n trystio'r ARGLWYDD yn llwyddo. Mae trystio'r hunan yn beth twp i'w wneud, ond mae'r sawl sy'n ymddwyn yn gall yn saff. Fydd dim angen ar y sawl sy'n rhoi i'r tlodion, ond mae'r un sy'n cau ei lygaid i'r angen yn cael ei felltithio go iawn. Pan mae pobl ddrwg yn dod i rym, mae pawb yn cuddio, ond pan maen nhw'n syrthio, bydd y rhai cyfiawn yn llwyddo. Pan mae rhywun yn troi'n ystyfnig ar ôl cael ei geryddu dro ar ôl tro, yn sydyn bydd e'n torri, a fydd dim gwella arno. Pan mae pobl dda yn llwyddo, mae dathlu mawr, ond pan mae'r rhai drwg yn rheoli, mae pobl yn griddfan. Mae'r un sy'n caru doethineb yn gwneud ei dad yn hapus, ond bydd y dyn sy'n cadw cwmni puteiniaid yn gwastraffu ei eiddo. Mae brenin yn gwneud gwlad yn sefydlog drwy weithredu'n gyfiawn, ond mae'r un sy'n trethu'r bobl yn drwm yn ei rhwygo i lawr. Mae'r un sy'n seboni ei gyfaill yn taenu rhwyd i'w ddal ynddi. Mae pobl ddrwg yn cael eu trapio gan eu drygioni, ond mae'r cyfiawn yn hapus ac yn canu'n braf. Mae gan y cyfiawn gonsýrn am hawliau pobl dlawd; ond dydy pobl ddrwg ddim yn gweld pam y dylid poeni. Mae'r rhai sy'n gwawdio pobl eraill yn creu helynt, ond mae'r doeth yn tawelu dig. Pan mae person doeth yn mynd â ffŵl i gyfraith, bydd digon o arthio a gwawdio, ond dim heddwch! Mae llofruddion yn casáu pobl onest, ond mae'r rhai cyfiawn yn eu hamddiffyn nhw. Mae'r ffŵl yn colli ei limpyn yn lân, ond mae'r doeth yn rheoli ei dymer. Pan mae llywodraethwr yn gwrando ar gelwydd, mae ei swyddogion i gyd yn ddrwg. Mae un peth sy'n wir am y cyfoethog a'r tlawd: yr ARGLWYDD sydd wedi rhoi bywyd i'r ddau. Os ydy brenin yn trin pobl dlawd yn deg bydd ei orsedd yn ddiogel bob amser. Mae gwialen a cherydd yn gwneud plentyn yn ddoeth, ond mae plentyn afreolus yn codi cywilydd ar ei fam. Pan mae pobl ddrwg mewn grym, mae mwy o droseddu, ond bydd y cyfiawn yn gweld eu cwymp. Disgybla dy blentyn i fod yn dawel dy feddwl; a bydd bywyd yn bleserus i ti. Heb weledigaeth gan Dduw does dim rheolaeth ar bobl, ond mae'r rhai sy'n cadw'r Gyfraith wedi eu bendithio'n fawr. Dydy geiriau ddim yn ddigon i ddisgyblu gwas; falle ei fod e'n deall, ond fydd e ddim yn gwrando. Mae mwy o obaith i ffŵl nag i rywun sy'n rhy barod ei dafod. Pan mae caethwas wedi ei sbwylio ers yn blentyn, fydd dim ond trafferthion yn y diwedd. Mae'r un sy'n fyr ei dymer yn creu helynt, a'r un sy'n gwylltio'n hawdd yn troseddu'n aml. Mae balchder yn arwain i gywilydd, ond bydd person gostyngedig yn cael ei anrhydeddu. Mae rhywun sy'n helpu lleidr yn elyn iddo'i hun; mae'n cael ei alw i dystio, ond yn dweud dim. Mae bod ag ofn pobl yn drap peryglus, ond mae'r un sy'n trystio'r ARGLWYDD yn saff. Mae llawer yn ceisio ennill ffafr llywodraethwr, ond yr ARGLWYDD sy'n rhoi cyfiawnder i bobl. Mae pobl dda yn casáu'r rhai sy'n gwneud drwg, ac mae'r rhai sy'n gwneud drwg yn casáu'r rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn. Geiriau Agwr fab Iace, o Massa. Dyma neges y dyn: Nid Duw ydw i. Nid Duw ydw i; dydy'r gallu ddim gen i. Dw i'n greadur rhy ddwl i fod yn ddynol! Does gen i ddim sens. Dw i heb ddysgu i fod yn ddoeth, a dw i'n gwybod dim am yr Un Sanctaidd. Pwy sydd wedi mynd i fyny i'r nefoedd, a dod yn ôl i lawr eto? Pwy sydd wedi gallu dal gafael yn y gwynt? Pwy sydd wedi gallu lapio'r moroedd mewn mantell? Pwy sydd wedi mesur y ddaear o un pen i'r llall? Beth ydy ei enw e, ac enw ei fab? — dywed os wyt ti'n gwybod. Mae pob un o eiriau Duw wedi eu profi. Mae e'n darian i amddiffyn y rhai sy'n ei drystio. Paid ychwanegu dim at ei eiriau, rhag iddo dy geryddu di, a phrofi dy fod ti'n dweud celwydd. Dw i'n gofyn am ddau beth gen ti — rho nhw i mi cyn i mi farw: Yn gyntaf, cadw fi rhag dweud celwydd a thwyllo; ac yn ail, paid rhoi tlodi na chyfoeth i mi, ond rho ddigon o fwyd i mi bob dydd. Ie, cadw fi rhag teimlo fod popeth gen i, ac yna dy wrthod di, a dweud, “Pwy ydy'r ARGLWYDD?” A cadw fi rhag dwyn am fy mod yn dlawd, a rhoi enw drwg i Dduw. Paid hel straeon am gaethwas wrth ei feistr, rhag iddo dy felltithio di, ac i ti orfod talu'r pris. Mae yna bobl sy'n melltithio eu tadau, ac sydd ddim yn fendith i'w mamau. Mae yna bobl sy'n meddwl eu bod nhw'n dda, ond sydd heb eu glanhau o garthion eu pechod. Mae yna bobl sydd mor snobyddlyd; maen nhw'n meddwl eu bod nhw'n well na pawb arall! Mae yna bobl sydd a dannedd fel cleddyfau, a'u brathiad fel cyllyll. Maen nhw'n llarpio pobl dlawd y tir, a'r rhai hynny sydd mewn angen. Mae gan y gele ddwy ferch, “Rho fwy!” a “Rho fwy!” Mae tri peth sydd byth yn fodlon; pedwar sydd byth yn dweud, “Dyna ddigon!”: Y bedd, croth ddiffrwyth, tir sydd angen dŵr, a thân — dydy'r rhain byth yn dweud “Digon!” Llygad sy'n gwneud sbort ar dad ac yn malio dim am wrando ar mam — bydd hi'n cael ei thynnu allan gan gigfrain, a'i bwyta gan y fwltur. Mae tri peth y tu hwnt i mi; pedwar fydda i byth yn eu darganfod: Ffordd yr eryr drwy'r awyr; ffordd y neidr dros graig; llwybr llong yn hwylio'r moroedd; a llwybr cariad dyn a merch. Ond ffordd gwraig anffyddlon i'w gŵr ydy: Bwyta, sychu ei cheg, a dweud, “Wnes i ddim byd o'i le.” Mae tri peth yn gwneud i'r ddaear grynu, pedwar peth all hi mo'i ddiodde: Caethwas yn cael ei wneud yn frenin; ffŵl yn cael gormod i'w fwyta; gwraig heb ei charu yn priodi; a morwyn yn cymryd gŵr ei meistres. Mae pedwar peth ar y ddaear sy'n fach, ond sy'n ddoeth dros ben: Morgrug, sy'n greaduriaid bach gwan, ond sy'n casglu eu bwyd yn yr haf. Brochod, sydd ddim yn gryf chwaith, ond sy'n gwneud eu cartrefi yn y creigiau. Locustiaid, sydd heb frenin i'w rheoli, ond sy'n mynd allan mewn rhengoedd trefnus. A madfallod — gelli eu dal yn dy law, ond gallan nhw fynd i mewn i balasau brenhinoedd! Mae tri peth sy'n cerdded yn urddasol, pedwar sy'n symud mor hardd: Y llew, y cryfaf o'r anifeiliaid, sy'n ffoi oddi wrth ddim byd. Ceiliog yn torsythu, bwch gafr, a brenin yn arwain ei bobl. Os wyt ti wedi actio'r ffŵl wrth frolio, neu wedi bod yn cynllwynio drwg, dal dy dafod! Fel mae corddi llaeth yn gwneud menyn, a taro'r trwyn yn tynnu gwaed, mae gwylltio pobl yn arwain i wrthdaro. Y pethau ddysgodd Lemwel, brenin Massa, gan ei fam: O fy mab! O blentyn annwyl fy nghroth! Y mab wnes i ei gyflwyno i Dduw! Paid gwastraffu dy nerth i gyd ar ferched, a rhoi dy holl egni i'r rhai sy'n dinistrio brenhinoedd. O Lemwel, ddylai brenhinoedd ddim yfed gwin, ac arweinwyr ddim ysu am gwrw, rhag iddyn nhw yfed ag anghofio'r deddfau, a sathru ar hawliau'r tlodion. Rhowch ddiod feddwol i'r rhai sy'n marw a gwin i'r un sy'n diodde'n chwerw. Gadewch iddyn nhw yfed i anghofio'u tlodi, a fydd dim rhaid iddyn nhw gofio'u trafferthion. Siarad ar ran y bobl hynny sydd heb lais, ac amddiffyn y rhai sydd wedi colli popeth. Coda dy lais o'u plaid nhw, barna'n gyfiawn, a dadlau dros hawliau'r rhai mewn angen a'r tlawd. Pwy sy'n gallu dod o hyd i wraig dda? Mae hi'n fwy gwerthfawr na gemau. Mae ei gŵr yn ymddiried ynddi'n llwyr, ac ar ei ennill bob amser. Mae hi'n dda iddo bob amser, a byth yn gwneud drwg. Mae hi'n edrych am wlân a defnydd arall ac yn mwynhau gweu a gwnïo. Mae hi fel fflyd o longau masnach yn cario bwyd o wledydd pell. Mae hi'n codi yn yr oriau mân, i baratoi bwyd i'w theulu, a rhoi gwaith i'w morynion. Mae hi'n meddwl yn ofalus cyn prynu cae, a defnyddio'i harian i blannu gwinllan ynddo. Mae hi'n bwrw iddi'n frwd, ac yn gweithio'n galed. Mae hi'n gwneud yn siŵr fod ei busnes yn llwyddo; dydy ei lamp ddim yn diffodd drwy'r nos. Mae hi'n brysur yn nyddu â'i dwylo, a'i bysedd yn trin y gwlân. Mae hi'n rhoi yn hael i'r tlodion; ac yn helpu pwy bynnag sydd mewn angen. Dydy hi ddim yn poeni am ei theulu pan ddaw eira, am fod digon o ddillad cynnes ganddyn nhw. Mae hi'n gwneud cwiltiau i'r gwely, a dillad o liain main drud. Mae ei gŵr yn adnabyddus ar gyngor y ddinas, ac yn eistedd gyda'r arweinwyr i gyd. Mae hi'n gwneud defnydd i'w werthu, a dillad i'r masnachwyr eu prynu. Mae hi'n wraig o gymeriad cryf ac urddasol, ac yn edrych ymlaen i'r dyfodol yn hyderus. Mae hi'n siarad yn ddoeth bob amser, ac yn garedig wrth ddysgu eraill. Mae hi'n gofalu am y teulu i gyd, a dydy hi byth yn segur. Mae ei phlant yn tyfu ac yn meddwl y byd ohoni; ac mae ei gŵr yn ei chanmol i'r cymylau, “Mae yna lawer o ferched da i'w cael, ond rwyt ti'n well na nhw i gyd.” Mae prydferthwch yn gallu twyllo, a harddwch yn arwynebol. Gwraig sy'n parchu'r ARGLWYDD sydd yn haeddu cael ei chanmol. Rhowch glod iddi am beth mae wedi ei gyflawni, a boed i arweinwyr y ddinas ei chanmol am ei gwaith. Geiriau yr Athro, mab Dafydd; brenin yn Jerwsalem. Mae'n ddiystyr! — meddai'r Athro — dydy e'n gwneud dim sens! Mae'r cwbl yn hollol abswrd! Beth ydy'r pwynt gwneud unrhyw beth? Beth sydd i'w ennill o weithio'n galed yn y byd yma? Mae un genhedlaeth yn mynd, ac un arall yn dod, ond dydy'r byd ddim yn newid o gwbl. Mae'r haul yn codi ac yn machlud, yna rhuthro'n ôl i'r un lle, i godi eto. Mae'r gwynt yn chwythu i'r de, ac yna'n troi i'r gogledd. Mae'n troi ac yn troi, cyn dod yn ôl i'r un lle yn y diwedd. Mae'r nentydd i gyd yn llifo i'r môr, ac eto dydy'r môr byth yn llawn; maen nhw'n mynd yn ôl i lifo o'r un lle eto. Mae'r cwbl yn un cylch diddiwedd! Dydy hi ddim posib dweud popeth. Dydy'r llygad byth wedi gweld digon, na'r glust wedi clywed nes ei bod yn fodlon. Fydd dim yn wahanol yn y dyfodol — Yr un pethau fydd yn cael eu gwneud ac o'r blaen; Does dim byd newydd dan yr haul! Weithiau mae pobl yn dweud am rywbeth, “Edrychwch, dyma i chi beth newydd!” Ond mae wedi digwydd o'r blaen, ymhell yn ôl, o flaen ein hamser ni. Does neb yn cofio pawb sydd wedi mynd, a fydd neb yn y dyfodol yn cofio pawb aeth o'u blaenau nhw chwaith. Roeddwn i, yr Athro, yn frenin ar wlad Israel yn Jerwsalem. Dyma fi'n mynd ati o ddifrif i astudio ac edrych yn fanwl ar bopeth sy'n digwydd yn y byd. Mae'n waith caled, wedi ei roi gan Dduw i'r ddynoliaeth. Edrychais ar bopeth oedd yn cael ei wneud ar y ddaear, a dod i'r casgliad fod dim atebion slic — mae fel ceisio rheoli'r gwynt: Does dim modd sythu rhywbeth sydd wedi ei blygu, na chyfrif rhywbeth sydd ddim yna! Meddyliais, “Dw i'n fwy llwyddiannus ac yn ddoethach na neb sydd wedi teyrnasu yn Jerwsalem o'm blaen i. Mae gen i ddoethineb a gwybodaeth.” Dyma fi'n mynd ati o ddifrif i geisio deall gwerth doethineb, a deall pam mae pobl yn gwneud pethau mor hurt a ffôl. Ond dw i wedi dod i'r casgliad ei bod yn dasg amhosib, fel ceisio rheoli'r gwynt: Po fwya'r doethineb, mwya'r dolur; mae gwybod mwy yn arwain i fwy o boen calon. Meddyliais, “Reit, dw i'n mynd i weld beth sydd gan bleser i'w gynnig!” Ond wedyn dod i'r casgliad mai nid dyna'r ateb chwaith. “Mae byw dim ond i gael hwyl a sbri yn hurt!” meddwn i. Ac am fyw i bleser, dwedais, “Beth ydy'r pwynt?” Dyma fi'n ceisio gweld fyddai codi'r galon gyda gwin, nes dechrau actio'r ffŵl, yn ateb. Ceisio bod yn ddoeth oeddwn i. Roeddwn i eisiau gweld a oedd hynny'n beth da i bobl ei wneud yn yr amser byr sydd ganddyn nhw ar y ddaear. Wedyn dyma fi'n casglu mwy a mwy o eiddo. Dyma fi'n adeiladu tai i mi fy hun, ac yn plannu gwinllannoedd. Dyma fi'n cynllunio gerddi a pharciau brenhinol i mi fy hun, ac yn plannu pob math o goed ffrwythau ynddyn nhw. Yna adeiladu pyllau dŵr — digon i ddyfrio'r holl goed oedd gen i yn tyfu. Prynais weithwyr i mi fy hun — dynion a merched, ac roedd gen i weision eraill oedd wedi eu geni yn y tŷ brenhinol. Roedd gen i fwy o wartheg a defaid nac unrhyw un oedd wedi bod yn Jerwsalem o'm blaen i. Dyma fi'n casglu arian ac aur i mi fy hun hefyd, a thrysorau gwerthfawr brenhinoedd a thaleithiau eraill. Roedd gen i gantorion (dynion a merched) i'm difyrru, a digonedd o bleser rhywiol — harîm o ferched hardd. Oedd, roedd gen i fwy o gyfoeth nac unrhyw un oedd wedi bod o'm blaen i yn Jerwsalem. Ond yn dal i geisio bod yn ddoeth. Roeddwn i'n cael beth bynnag oedd yn cymryd fy ffansi. Roeddwn i'n gallu profi pob pleser, fel y mynnwn i. Roeddwn i'n mwynhau'r gwaith caled, a dyna oedd fy ngwobr i am fy ymdrech. Ond yna dechreuais feddwl am y cwbl roeddwn i wedi ei gyflawni, a'r holl ymdrech oedd wedi mynd i mewn i gael popeth oedd gen i — a dod i'r casgliad ei fod yn gwneud dim sens, a bod y cwbl fel ceisio rheoli'r gwynt. Beth mae rhywun yn ei ennill yn y pen draw? Beth mwy fydd y brenin nesaf yn gallu ei wneud? Dim ond beth sydd wedi ei gyflawni eisoes! Dechreuais feddwl eto am y gwahaniaeth rhwng doethineb a'r pethau hurt a ffôl mae pobl yn eu gwneud. Des i'r casgliad fod mwy o bwynt i ddoethineb na ffolineb — mae fel y gwahaniaeth rhwng golau a thywyllwch. “Mae pobl ddoeth yn gwybod ble maen nhw'n mynd, ond mae ffyliaid yn cerdded mewn tywyllwch.” Ond wedyn, yr un dynged sy'n disgwyl y naill a'r llall. Meddyliais, “Yr un peth fydd yn digwydd i mi ac i'r ffŵl yn y diwedd! Felly beth ydy'r pwynt bod mor ddoeth?” Des i'r casgliad fod hyn hefyd yn gwneud dim sens. Fydd dyn doeth, fel y ffŵl, ddim yn cael ei gofio yn hir iawn. Byddan nhw wedi cael eu hanghofio yn y dyfodol. Mae'n ofnadwy! Mae'r doeth yn marw yn union yr un fath â'r rhai ffôl. Felly roeddwn i'n casáu bywyd, am fod popeth sy'n digwydd yn y byd yn hollol annheg yn fy ngolwg i. Mae'r cwbl mor ddiystyr — mae fel ceisio rheoli'r gwynt. Roeddwn i'n casáu'r ffaith fy mod i wedi gweithio mor galed i gael pethau ar y ddaear yma, ac wedyn fod rhaid i mi adael y cwbl i'r un fyddai'n dod ar fy ôl i. A phwy a ŵyr fydd y person hwnnw'n ddoeth neu'n ffŵl? Ond bydd e'n dal i reoli'r holl gyfoeth dw i wedi gweithio mor galed amdano a defnyddio fy noethineb i'w gael. Dydy hyn chwaith yn gwneud dim sens! Roeddwn i'n hollol ddigalon wrth feddwl am bopeth roeddwn i wedi ei gyflawni ar y ddaear. Mae rhywun yn gweithio'n galed, ac yn defnyddio'i holl ddoethineb a'i wybodaeth a'i allu i gael y cwbl, ac wedyn mae'n ei basio ymlaen i rywun sydd wedi gwneud dim i'w ennill. Dydy'r peth yn gwneud dim sens ac mae'n hollol annheg. Beth mae rhywun yn ei ennill ar ôl yr holl ymdrech diddiwedd? Dim ond pryder a rhwystredigaeth drwy'r dydd, ac wedyn methu ymlacio yn y nos hyd yn oed! Dydy e'n gwneud dim sens! Y peth gorau all rhywun ei wneud ydy bwyta, yfed a mwynhau ei waith. A dyma fi'n sylweddoli mai Duw sy'n rhoi hyn i gyd i ni. Heb Dduw does neb yn gallu bwyta na mwynhau bywyd go iawn. Duw sy'n rhoi'r doethineb a'r gallu i fwynhau ei hun i'r sawl sy'n ei blesio. Ond dim ond yr holl drafferth o gasglu a phentyrru eiddo mae'r un sydd ddim yn ei blesio yn ei gael — a hynny i ddim byd yn y diwedd ond i'w basio ymlaen i rywun sydd yn plesio Duw! Mae'n anodd gwneud sens o'r cwbl — mae fel ceisio rheoli'r gwynt. Mae amser wedi ei bennu i bopeth, amser penodol i bopeth sy'n digwydd yn y byd: Amser i gael eich geni ac amser i farw, Amser i blannu ac amser i godi beth blannwyd; Amser i ladd ac amser i iacháu, Amser i chwalu rhywbeth ac amser i adeiladu; Amser i wylo ac amser i chwerthin, Amser i alaru ac amser i ddawnsio; Amser i daflu cerrig i ffwrdd ac amser i gasglu cerrig, Amser i gofleidio ac amser i beidio cofleidio; Amser i chwilio ac amser i dderbyn fod rhywbeth ar goll, Amser i gadw rhywbeth ac amser i daflu i ffwrdd; Amser i rwygo ac amser i bwytho, Amser i gadw'n dawel ac amser i siarad; Amser i garu ac amser i gasáu; Amser i ryfel ac amser i heddwch. Felly beth mae'r gweithiwr yn ei ennill ar ôl ei holl ymdrech? Dw i wedi ystyried yr holl bethau mae Duw wedi eu rhoi i bobl eu gwneud: Mae Duw'n gwneud i bopeth ddigwydd yn berffaith ar yr amser iawn. Mae hefyd wedi gwneud pobl yn ymwybodol o'r tragwyddol, ond dydy pobl ddim yn gallu darganfod popeth mae Duw'n bwriadu ei wneud yn ystod eu bywydau. Felly des i'r casgliad mai'r peth gorau all pobl ei wneud ydy bod yn hapus a mwynhau eu hunain tra byddan nhw byw. Rhodd Duw i bawb ydy iddyn nhw fwyta ac yfed a mwynhau eu holl weithgareddau. Des i'r casgliad hefyd fod popeth mae Duw yn ei wneud yn aros am byth: Does dim modd ychwanegu ato, na thynnu dim oddi wrtho. Mae Duw wedi gwneud pethau fel hyn er mwyn i bobl ei barchu. “Mae popeth a fu yn dal i fod, a popeth fydd fel popeth sydd. Mae Duw'n gwneud eto beth sydd wedi mynd heibio.” Peth arall dw i'n ei weld o hyd ac o hyd: Lle byddwn i'n disgwyl cyfiawnder a thegwch mae drygioni! Meddyliais, “Bydd Duw yn barnu'r bobl sy'n gwneud beth sy'n iawn a'r rhai sy'n gwneud drygioni. Mae amser wedi ei bennu i bopeth, a bydd pob gweithred yn cael ei barnu.” Wedyn meddyliais, “Mae Duw yn gwneud i bobl weld eu bod nhw ddim gwell nag anifeiliaid.” Mae tynged pobl ac anifeiliaid yn union yr un fath: mae'r naill a'r llall yn marw, a'r un anadl sy'n eu cadw nhw'n fyw. Dydy pobl ddim gwell nag anifeiliaid. Dydy e'n gwneud dim sens! Mae'r ddau yn mynd i'r un lle yn y pen draw; mae'r ddau wedi dod o'r pridd ac yn mynd yn ôl i'r pridd. Does neb wir yn gwybod fod ysbryd pobl yn codi i fyny, ac ysbryd anifeiliaid yn mynd i lawr i'r ddaear. Felly des i'r casgliad mai'r peth gorau all rhywun ei wneud ydy mwynhau ei waith. Dyna ei unig wobr. Pwy ŵyr beth fydd yn digwydd ar ôl iddo farw? Dyma fi'n ystyried yr holl orthrwm sy'n digwydd yn y byd. Gwelais ddagrau y rhai sy'n cael eu gorthrymu, ond doedd neb yn eu cysuro nhw. Doedd neb i'w hachub nhw o afael y gorthrymwyr. Roedd rhaid i mi longyfarch y rhai oedd eisoes wedi marw, am eu bod yn well eu byd na'r rhai sy'n dal yn fyw. Ond mae'n well fyth ar y rhai hynny sydd ddim wedi cael eu geni, a ddim yn gorfod edrych ar yr holl ddrygioni sy'n digwydd yn y byd! Yna dyma fi'n ystyried holl waith caled a thalentau pobl. Dydy hynny i gyd yn ddim byd ond cystadleuaeth rhwng pobl a'i gilydd! Does dim sens yn y peth! Mae fel ceisio rheoli'r gwynt! “Mae'r ffŵl yn plethu ei freichiau ac yn gwastraffu ei fywyd,” Ac eto, “Mae un llond llaw gyda gorffwys yn well na dau lond llaw o ganlyniad i orweithio.” Ydy, mae fel ceisio rheoli'r gwynt! Yna dyma fi'n ystyried rhywbeth arall sy'n gwneud dim sens o gwbl: Rhywun sydd ar ei ben ei hun yn llwyr — heb gymar na phlant na pherthnasau — ac eto'n gweithio'n ddi-stop, a byth yn fodlon gyda beth sydd ganddo. “Pam dw i'n gwneud hyn, ac amddifadu fy hun o fwynhad?” meddai. Dydy peth felly yn gwneud dim sens! Mae'n drist iawn. “Mae dau gyda'i gilydd yn well nag un.” Wrth weithio gyda'i gilydd mae'r ddau berson ar eu hennill. Os bydd un yn syrthio, bydd y llall yn gallu ei helpu i godi. Ond druan o'r person sydd ar ei ben ei hun, heb neb i'w helpu i godi. Hefyd, “Os ydy dau yn gorwedd gyda'i gilydd maen nhw'n cadw'n gynnes.” Ond sut mae rhywun i fod i gadw'n gynnes pan fydd ar ei ben ei hun? “Pan fydd rhywun yn ymosod, mae dau yn fwy tebygol o'i rwystro nag un.” “Dydy rhaff deircainc ddim yn hawdd i'w thorri!” “Mae bachgen ifanc doeth o gefndir tlawd yn well na brenin mewn oed sy'n ffôl ac yn gwrthod derbyn cyngor.” Hyd yn oed os oedd e yn y carchar cyn dod i reoli, ac wedi'i eni'n dlawd yn y wlad y byddai'n teyrnasu arni. Yna dyma fi'n gweld yr holl bobl sy'n byw yn y byd yn sefyll o gwmpas bachgen ifanc arall fyddai'n ei olynu. Doedd dim posib cyfri'r holl bobl roedd yn eu harwain! Ac eto fydd y cenedlaethau i ddod ddim yn gwerthfawrogi hwnnw. Dydy hyn chwaith yn gwneud dim sens — mae fel ceisio rheoli'r gwynt. Gwylia beth rwyt ti'n ei wneud wrth fynd i addoli Duw. Dos yno i wrando, ddim i gyflwyno offrwm ffyliaid, oherwydd dydy'r rheiny ddim yn gwybod eu bod nhw'n gwneud rhywbeth o'i le. Paid bod yn rhy barod dy dafod, ac ar ormod o frys i ddweud dy farn wrth Dduw. Mae Duw yn y nefoedd a thithau ar y ddaear. Dylet ti bwyso a mesur dy eiriau. “Mae breuddwydion yn dod wrth boeni gormod, a siarad ffôl wrth ddweud gormod.” Pan wyt ti'n gwneud adduned i Dduw, paid oedi cyn ei chyflawni. Dydy Duw ddim yn cael ei blesio gan ffyliaid. Gwna beth rwyt ti wedi addo'i wneud. Mae'n well peidio gwneud adduned yn y lle cyntaf na gwneud un ac wedyn peidio'i chyflawni! Paid gadael i dy eiriau wneud i ti bechu, ac wedyn ceisio dadlau o flaen yr offeiriad, “camgymeriad oedd e!” Paid digio Duw, a gwneud iddo ddinistrio popeth rwyt wedi gweithio amdano! “Mae gormod o freuddwydio ac o wneud addewidion gwag.” Dangos di barch at Dduw. Os wyt ti'n gweld pobl dlawd yn cael eu gormesu, hawliau'n cael eu gwrthod ac anghyfiawnder mewn rhyw wlad, paid rhyfeddu at y peth! Mae pob swyddog yn atebol i'w oruchwyliwr, ac mae rhai uwch fyth dros y rheiny wedyn. Mae cynnyrch y tir i fod i bawb — ac mae'r brenin i fod i feithrin hyn! “Dydy rhywun sydd ag obsesiwn am arian byth yn fodlon fod ganddo ddigon; na'r un sy'n caru cyfoeth yn hapus gyda'i enillion.” Dydy e'n gwneud dim sens! “Po fwya'r llwyddiant, mwya'r bobl sydd i'w cynnal ganddo.” Felly beth mae'r perchennog yn ei ennill heblaw fod ganddo rywbeth i edrych arno? “Mae gorffwys yn felys i weithiwr cyffredin, faint bynnag sydd ganddo i'w fwyta, ond mae'r ffaith fod gan y cyfoethog fwy na digon yn ei rwystro rhag cysgu'n dawel.” Dyma rywbeth ofnadwy dw i wedi sylwi arno, ond mae'n digwydd o hyd: Pobl yn cadw eu cyfoeth iddyn nhw eu hunain rhag ofn i rhyw anffawd ddigwydd. Ond yna mae'n colli'r cwbl drwy ryw bwl o anlwc. Er ei fod wedi cael mab, does ganddo ddim i'w basio ymlaen i'r mab hwnnw. Mae plentyn yn cael ei eni i'r byd heb ddim, ac mae'n gadael y byd heb ddim. Does neb yn gallu mynd a'i gyfoeth gydag e. Mae'n beth trist ofnadwy. Yn union fel mae'n dod i'r byd heb ddim, mae'n gadael heb ddim. Felly faint gwell ydy e? Beth ydy'r pwynt ymdrechu i ddim byd? Mae'n treulio ei fywyd i gyd dan gwmwl marwolaeth! — yn rhwystredig, yn dioddef o salwch ac yn flin. Dim ond un peth dw i'n ei weld sy'n dda ac yn llesol go iawn: fod rhywun yn bwyta ac yn yfed ac yn mwynhau ei waith caled yn y byd yma am yr ychydig amser mae Duw wedi ei roi iddo. Dyna ei wobr. Ac os ydy Duw wedi rhoi cyfoeth ac eiddo iddo, a'r gallu i'w mwynhau, derbyn ei wobr a chael pleser yn y cwbl mae'n ei wneud — rhodd gan Dduw ydy'r pethau yma i gyd. Pan mae Duw wedi llenwi ei fywyd â llawenydd, dydy rhywun felly ddim yn poeni rhyw lawer fod bywyd mor fyr. Rhywbeth ofnadwy arall dw i wedi sylwi arno yn y byd, ac mae'n effeithio ar lot o bobl: Mae Duw weithiau yn rhoi cymaint o arian, eiddo a chyfoeth i berson nes bod ganddo bopeth mae arno ei angen a'i eisiau. Ond wedyn dydy Duw ddim yn rhoi'r gallu iddo fwynhau'r cwbl! Yn lle hynny mae rhywun arall yn cael ei fwynhau. Does dim sens i'r peth! Mae'n ofnadwy! Hyd yn oed petai rhywun yn cael cant o blant ac yn byw i oedran mawr — sdim ots faint o flynyddoedd! Gallai fyw am byth! Os nad ydy e'n cael mwynhau ei lwyddiant, mae babi sy'n cael ei eni'n farw yn well ei fyd na rhywun felly! Ac i beth mae hwnnw'n cael ei eni? Mae'n ddiystyr! Mae'n diflannu i'r tywyllwch, a does neb yn gwybod ei enw na dim arall amdano. Dydy e ddim wedi profi gwres yr haul. Ond o leia mae'n cael gorffwys, felly'n well ei fyd na'r person arall! Neu cymrwch fod rhywun yn cael byw am ddwy fil o flynyddoedd ond heb brofi unrhyw lwyddiant materol. Onid i'r un lle maen nhw i gyd yn mynd yn y pen draw? “Mae pawb yn gweithio'n galed i gael bwyd i'w fwyta, ond dydy'r stumog byth yn fodlon.” Felly pa fantais sydd gan rhywun doeth dros y ffŵl? Pa fantais sydd gan rywun tlawd sy'n gwybod sut i fyw mewn perthynas ag eraill? “Mae bod yn fodlon gyda'r hyn sydd gynnoch chi yn well na breuddwydio am gael mwy o hyd.” Dydy'r pethau yma i gyd yn gwneud dim sens — mae fel ceisio rheoli'r gwynt. Mae popeth sy'n digwydd wedi ei drefnu ymlaen llaw. Mae pobl yn gwybod mai creaduriaid dynol ydyn nhw. All pobl ddim dadlau gyda Duw am eu tynged, gan ei fod e'n llawer cryfach. Dydy dadlau diddiwedd yn helpu dim. Beth sy'n cael ei ennill? Pwy sy'n gwybod beth ydy'r peth gorau i rywun ei wneud gyda'i fywyd? Dim ond am gyfnod byr mae'n cael byw, ac mae ei fywyd llawn cwestiynau yn mynd heibio mewn chwinciad. Oes yna unrhyw un yn rhywle sy'n gallu dweud beth fydd yn digwydd yn y dyfodol? “Mae enw da yn well na phersawr drud,” a'r diwrnod dych chi'n marw yn well na dydd eich geni. Mae'n well mynd i gartref lle mae pawb yn galaru nag i dŷ lle mae pawb yn cael parti. Marw fydd y diwedd i bawb, a dylai pobl ystyried hynny. Mae tristwch yn well na chwerthin — er bod tristwch ar yr wyneb, gall wneud lles i'r galon. Mae'r doeth yn meddwl am ystyr marwolaeth, ond ffyliaid yn meddwl am ddim ond miri. Mae'n well gwrando ar y doeth yn rhoi cerydd nac ar ffyliaid yn canu eich clodydd. Oherwydd mae sŵn ffŵl yn chwerthin fel brigau yn clecian wrth losgi dan grochan. Mae'n ddiystyr! Mae gormesu'n gwneud i'r doeth edrych fel ffŵl, ac mae breib yn llygru barn pobl. “Mae gorffen rhywbeth yn well na'i ddechrau,” ac “Mae amynedd yn well na balchder.” Paid gwylltio'n rhy sydyn; gwylltineb sydd yng nghalon ffyliaid. Paid gofyn, “Pam oedd pethau gymaint gwell ers talwm?” Dydy'r rhai doeth ddim yn meddwl felly. Mae doethineb, fel etifeddiaeth, yn beth da ac yn fanteisiol i bob person byw, oherwydd mae doethineb, fel arian, yn gysgod i'n cadw'n saff. Ond mantais doethineb ydy hyn: mae doethineb yn cadw'r doeth yn fyw. Ystyriwch bopeth mae Duw wedi ei wneud! Pwy sy'n gallu sythu beth mae e wedi ei blygu? Felly mwynhewch fywyd pan mae pethau'n mynd yn dda; ond pan mae popeth yn mynd o'i le, cofiwch hyn: Duw sydd tu ôl i'r naill a'r llall, felly all neb wybod yn iawn beth fydd yn digwydd yn y dyfodol. Yn ystod fy mywyd llawn penbleth, dw i wedi gweld y cwbl: Rhywun sy'n ffyddlon i Dduw yn marw'n ifanc er ei holl ddaioni, a rhywun drwg yn cael byw'n hir er gwaetha'i holl ddrygioni. Paid bod yn rhy siŵr ohonot ti dy hun, dy fod yn berson cyfiawn a doeth, rhag i ti gael dy siomi! A paid rhoi dy hun yn llwyr i ddrygioni ac ymddwyn fel ffŵl. Pam ddylet ti farw cyn dy amser? Y peth gorau i'w wneud ydy dal gafael yn y naill gyngor a'r llall, oherwydd mae'r person sy'n parchu Duw yn osgoi y ddau eithaf. “Mae doethineb yn rhoi mwy o rym i rywun na deg o lywodraethwyr mewn dinas.” “Does neb drwy'r byd i gyd mor gyfiawn nes ei fod yn gwneud dim ond da, a byth yn pechu.” Hefyd, “Paid cymryd sylw o bopeth sy'n cael ei ddweud, rhag i ti glywed dy was yn dweud pethau drwg amdanat ti!” Oherwydd mae'n dda i ti gofio dy fod ti dy hun wedi dweud pethau drwg am bobl eraill lawer gwaith. Ceisiais ddefnyddio fy noethineb i ddeall y cwbl, ond methu cael atebion. Mae'n anodd deall popeth sy'n digwydd — mae'r pethau yma yn llawer rhy ddwfn i unrhyw un ddarganfod yr atebion i gyd. Dyma fi'n troi fy sylw i astudio ac ymchwilio'n fanwl i geisio deall beth ydy doethineb, a pa mor dwp ydy drygioni, ac mor wallgof ydy ffolineb. Dw i wedi darganfod mai peth chwerw iawn ydy'r wraig sydd fel magl heliwr, yn rhwydo dyn, a'i breichiau amdano fel cadwyni. Mae'r dyn sy'n plesio Duw yn llwyddo i ddianc o'i gafael, ond mae'r un sy'n pechu yn cael ei ddal ganddi. Dyma'r casgliad dw i wedi dod iddo, meddai'r Athro — wrth geisio deall y cwbl o dipyn i beth: (Dw i wedi bod yn ymchwilio iddo'n gyson, ond heb eto gael ateb digonol, fel maen nhw'n dweud, “Cefais ddim ond un dyn mewn mil, ond dw i ddim wedi darganfod gwraig yn eu plith nhw o gwbl.”) Yr un casgliad dw i wedi dod iddo ydy hwn: Gwnaeth Duw y ddynoliaeth yn gyfiawn, ond maen nhw i gyd wedi dilyn pob math o syniadau. Pwy sy'n ddoeth go iawn? Pwy sy'n gallu esbonio pethau? “Mae doethineb rhywun yn gwneud i'w wyneb oleuo, Ac mae'r olwg galed ar ei wyneb yn diflannu.” Dw i'n dweud, “Gwranda ar orchymyn y brenin — gan dy fod wedi tyngu llw o flaen Duw i wneud hynny.” Paid bod ar frys i fynd o'i bresenoldeb; a paid oedi pan fydd pethau'n anghysurus. Gall y brenin wneud unrhyw beth mae'n ei ddewis. Mae gan y brenin awdurdod llwyr, a does gan neb hawl i ofyn iddo, “Beth wyt ti'n wneud?” Fydd yr un sy'n ufudd iddo ddim yn cael ei hun i drafferthion. Mae'r person doeth yn deall fod amser a threfn i bopeth. Mae amser penodol a threfn i bopeth. Ond mae'r perygl o ryw drasiedi'n digwydd yn pwyso'n drwm ar bobl. Does neb yn gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd, hyd yn oed pan mae ar fin digwydd. Pwy sy'n gallu dweud? A does gan neb y gallu i ddal ati i anadlu pan mae'n marw; does neb yn gallu gohirio'r foment y bydd yn marw. All milwr ddim cael ei ryddhau o ganol y frwydr, a'r un modd all gwneud drwg ddim achub pobl ddrwg. Wrth i mi fynd ati o ddifrif i feddwl am bopeth sy'n digwydd yn y byd, dw i wedi sylweddoli hyn: mae gan rai pobl awdurdod dros eraill i wneud niwed iddyn nhw. Yna gwelais bobl ddrwg yn cael angladd parchus. Roedden nhw'n arfer mynd a dod o'r lle sanctaidd, tra roedd y rhai yn y ddinas oedd wedi byw yn iawn yn cael eu hanghofio. Beth ydy'r pwynt? Os ydy drygioni ddim yn cael ei gosbi ar unwaith, mae pobl yn cael eu hannog i wneud drwg. Mae pechadur yn cyflawni'r un drwg ganwaith, ac yn dal i gael byw'n hir. Ond dw i'n gwybod yn iawn y bydd hi'n well ar y rhai sy'n parchu Duw yn y pen draw, am eu bod nhw'n dangos parch ato. Fydd hi ddim yn dda ar y rhai sy'n gwneud pethau drwg, oherwydd, fel cysgod, fyddan nhw ddim yn aros yn hir, am nad ydyn nhw'n parchu Duw. Ond wedyn, dyma beth sy'n gwneud dim sens yn y byd yma: Mae rhai pobl sydd wedi byw yn ufudd i Dduw yn cael eu trin fel petaen nhw wedi gwneud drwg; ac mae rhai pobl ddrwg sy'n cael eu trin fel petaen nhw wedi byw yn iawn! Fel dw i'n dweud, dydy'r peth yn gwneud dim sens! Felly dw i'n argymell y dylid mwynhau bywyd. Y peth gorau all rhywun ei wneud ar y ddaear yma ydy bwyta, yfed a mwynhau ei hun. Mae'r pleserau yma yn rhywbeth mae Duw yn eu rhoi iddo ochr yn ochr â'i holl waith caled yn ystod ei fywyd. Es i ati o ddifrif i geisio ddeall beth ydy doethineb ac edrych yn fanwl ar bopeth sy'n digwydd yn y byd — hyd yn oed mynd heb gwsg nos a dydd — ac ystyried popeth mae Duw wedi ei wneud. Y gwir ydy does neb yn deall popeth sy'n digwydd yn y byd. Sdim ots pa mor galed mae pobl yn trïo, does neb yn deall go iawn. Hyd yn oed os oes rhai pobl glyfar yn honni eu bod nhw'n gwybod, dŷn nhw ddim wir yn deall. Felly ystyriais y cwbl yn fanwl, i geisio deall trefn popeth. A dod i'r casgliad fod y bobl sy'n gwneud beth sy'n iawn (y rhai doeth a'r cwbl maen nhw'n ei wneud) yn llaw Duw. Fyddan nhw'n cael eu caru neu eu casáu? Does neb yn gwybod beth sydd o'u blaenau nhw. A'r un dynged sy'n disgwyl pawb: y rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn, a'r rhai drwg, y rhai sy'n barod i addoli, a'r rhai sydd ddim; yr un sy'n cyflwyno aberth i Dduw, a'r un sydd ddim yn aberthu. Mae'r un peth yn digwydd i'r bobl sy'n plesio Duw ac i'r rhai sydd ddim; i'r un sy'n tyngu llw i Dduw, a'r un sy'n gwrthod gwneud hynny. Dyna sydd mor annheg am yr hyn sy'n digwydd yn y byd: yr un dynged sy'n wynebu pawb! Mae pawb fel petaen nhw am wneud drwg; mae'r ffordd maen nhw'n byw yn wallgof! A beth sy'n dod wedyn? — marwolaeth! Does dim eithriadau! O leia mae gan rywun sy'n fyw rywbeth i edrych ymlaen ato — “Mae ci byw yn well ei fyd na llew marw”. Mae'r byw yn gwybod eu bod nhw'n mynd i farw, ond dydy'r meirw'n gwybod dim byd! Does dim gwobr arall yn eu disgwyl nhw, ac mae pawb yn eu hanghofio nhw. Beth oedden nhw'n ei garu, beth oedden nhw'n ei gasáu, a'r hyn oedd yn eu gwneud nhw'n genfigennus — mae'r cwbl wedi hen fynd! Does ganddyn nhw ddim rhan byth eto yn yr hyn sy'n digwydd yn y byd. Dos, mwynha dy fwyd ac yfa dy win yn llawen! Dyna mae Duw am i ti ei wneud. Gwisga dy ddillad gorau, a pharatoi dy hun i fynd allan i fwynhau. Mwynha fywyd gyda'r wraig rwyt ti'n ei charu am y cyfnod byr wyt ti yn y byd dryslyd yma. Mae'n rhodd Duw i ti am dy holl waith caled ar y ddaear. Gwna dy orau glas beth bynnag wyt ti'n ei wneud. Fydd dim cyfle i weithio na myfyrio, dim gwybodaeth na doethineb ym myd y meirw lle rwyt ti'n mynd. Yna, ystyriais eto yr hyn sy'n digwydd yn y byd: Dydy'r cyflymaf ddim bob amser yn ennill y ras, Na'r cryfaf yn ennill y frwydr; Dydy'r doethaf ddim yn llwyddo bob tro, Na'r clyfraf yn cael y cyfoeth, Dydy'r un sy'n nabod eraill ddim bob amser yn cael ei ffafrio. Mae damweiniau'n gallu digwydd i bawb. Does neb yn gwybod pryd ddaw ei amser. Fel pysgod yn cael eu dal mewn rhwyd, neu adar mewn magl, mae rhyw anffawd yn gallu dod ar draws pobl yn gwbl ddirybudd. Dyma enghraifft o rywbeth welais i'n digwydd, gafodd effaith mawr arna i: Roedd tref fechan lle nad oedd llawer o bobl yn byw. Daeth brenin cryf i ymosod arni, ei hamgylchynu ac adeiladu rampiau mawr i warchae yn ei herbyn. Ond roedd dyn tlawd oedd yn ddoeth iawn yn byw yn y dref. Dyma fe'n llwyddo i achub y dref drwy ei ddoethineb. Ac eto doedd neb yn ei gofio! Dw i wedi dweud: “Mae doethineb yn well na grym.” Mae hynny'n wir hyd yn oed os ydy doethineb y dyn tlawd yn cael ei ddirmygu a'i eiriau'n cael eu diystyru. Mae'n well gwrando ar eiriau pwyllog y doeth nac ar lywodraethwr yn gweiddi yng nghanol ffyliaid. Mae doethineb yn well nag arfau rhyfel ond mae un weithred ffôl yn gallu dinistrio llawer o dda. Mae pryfed marw'n gwneud i bersawr ddrewi, ac mae ychydig ffolineb yn gallu troi'r fantol yn erbyn doethineb mawr. Mae gogwydd y doeth at y da, ond mae'r ffŵl yn dewis y drwg. Mae'r ffordd mae'r ffŵl yn ymddwyn yn dangos i bawb ei fod yn dwpsyn! Pan mae'r llywodraethwr wedi gwylltio gyda ti, paid symud; wrth i ti beidio cynhyrfu bydd ei dymer e'n tawelu. Dyma beth ofnadwy arall dw i wedi ei weld — camgymeriad mae llywodraethwr yn gallu ei wneud: Ffyliaid yn cael eu gosod mewn safle o awdurdod, a pobl fonheddig yn cael eu hunain ar y gwaelod. Dw i wedi gweld caethweision ar gefn ceffylau a thywysogion yn cerdded ar droed fel gweision. Gall rhywun sy'n cloddio twll syrthio i mewn iddo, a'r un sy'n torri trwy wal gerrig gael ei frathu gan neidr. Gall gweithiwr mewn chwarel gael ei anafu gan y meini, a'r un sy'n hollti coed gael niwed gan y coed. Os nad oes min ar y fwyell, os na chafodd ei hogi, rhaid defnyddio mwy o egni. Mae doethineb bob amser yn helpu! Os ydy neidr yn brathu cyn cael ei swyno, mae'r swynwr wedi methu! Mae geiriau'r doeth yn ennill ffafr, ond mae'r ffŵl yn dinistrio'i hun gyda'i eiriau. Mae'n dechrau trwy siarad dwli, ac yn darfod trwy ddweud pethau hollol wallgof. Mae'r ffŵl yn siarad gormod! Does neb yn gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd, hyd yn oed pan mae ar fin digwydd. Pwy sy'n gallu dweud? Mae gwaith yn blino'r ffŵl yn lân, dydy e byth yn gwybod ble mae e'n mynd. Gwae'r wlad sydd â brenin plentynnaidd, a'i thywysogion yn dechrau gwledda'n gynnar yn y bore! Ond mae'n braf ar bobl sydd â'u brenin yn gallu rheoli, a'u tywysogion yn gwybod pryd mae'n iawn i wledda — dan reolaeth, ac nid i feddwi! Mae to sy'n syrthio yn ganlyniad diogi; mae'n gollwng dŵr am fod dim wedi ei wneud. Mae bwyd yn cael ei baratoi i'w fwynhau, ac mae gwin yn gwneud bywyd yn llon, ond wrth gwrs arian ydy'r ateb i bopeth! Paid hyd yn oed meddwl beirniadu'r brenin, na melltithio pobl gyfoethog yn dy ystafell wely. Gallai aderyn bach ddweud wrth eraill, neu ailadrodd beth ddwedaist ti. “Bydd yn hael a rhannu dy gynnyrch — ac ymhen amser fe gei dy dalu'n ôl. Rho beth ohono i nifer o wahanol bobl, wyddost ti ddim beth all fynd o'i le yn dy fywyd.” Pan mae'r cymylau'n dduon, byddan nhw'n tywallt glaw ar y ddaear. Sdim ots i ba gyfeiriad mae coeden yn syrthio, bydd yn aros lle syrthiodd. Fydd ffermwr sy'n disgwyl tywydd perffaith byth yn hau, a'r un sy'n gwylio pob cwmwl byth yn medi cynhaeaf. Yn union fel na elli wybod sut mae anadl bywyd yn mynd i gorff plentyn yng nghroth ei fam, alli di ddim rhagweld beth fydd Duw'n ei wneud, a fe sydd wedi creu popeth. Hau dy had yn y bore, a phaid segura gyda'r nos; wyddost ti ddim pa un fydd yn llwyddo — y naill neu'r llall, neu'r ddau fel ei gilydd. “Mae golau bywyd mor felys, ac mae'n hyfryd cael gweld yr haul!” Os ydy rhywun yn cael oes hir, dylai fwynhau'r blynyddoedd i gyd, ond rhaid cofio fod dyddiau tywyll marwolaeth yn hirach. Mae popeth sydd i ddod yn ddirgelwch! Ti'n ifanc! Mwynha dy hun tra mae gen ti gyfle! Cei ddigon o hwyl a sbri pan wyt ti'n ifanc. Gwna be fynni di, beth bynnag sy'n cymryd dy ffansi — ond cofia y bydd Duw yn dy alw i gyfrif am y cwbl. Paid cael dy lethu gan boenau bywyd, a chadwa dy hun yn iach! Dydy ieuenctid a gwallt du ddim yn para'n hir! Cofia dy Grëwr tra rwyt yn ifanc, cyn i'r dyddiau anodd gyrraedd a'r blynyddoedd ddod pan fyddi'n dweud, “Dw i'n cael dim pleser ynddyn nhw.” Cyn i'r haul a golau'r lleuad a'r sêr droi'n dywyll, a'r cymylau'n dod yn ôl eto ar ôl y glaw: Pan mae gwylwyr y tŷ yn crynu, a dynion cryfion yn crymu; y rhai sy'n malu'r grawn yn y felin yn mynd yn brin, a'r rhai sy'n edrych drwy'r ffenestri yn colli eu golwg. Pan mae'r drysau i'r stryd wedi cau, a sŵn y felin yn malu wedi tawelu; pan mae rhywun yn cael ei ddeffro'n gynnar gan gân aderyn er fod holl seiniau byd natur yn distewi. Pan mae gan rywun ofn uchder ac ofn mynd allan ar y stryd. Pan mae blodau'r pren almon yn troi'n wyn, y ceiliog rhedyn yn llusgo symud, a chwant rhywiol wedi hen fynd. Pan mae pobl yn mynd i'w cartref tragwyddol, a'r galarwyr yn dod allan ar y stryd. Cyn i'r llinyn arian dorri ac i'r fowlen aur falu, a'r llestr wrth y ffynnon yn deilchion, a'r olwyn i'w godi wedi torri wrth y pydew. Pan mae'r corff yn mynd yn ôl i'r pridd fel yr oedd, ac anadl bywyd yn mynd yn ôl at Dduw, yr un a'i rhoddodd. Mae'n ddiystyr! — meddai'r Athro — dydy'r cwbl yn gwneud dim sens! Roedd yr Athro yn ddyn doeth, a dysgodd ddoethineb i'r bobl. Bu'n pwyso a mesur gwirionedd llawer o ddywediadau, ac yn eu gosod mewn trefn. Roedd yr Athro yn ceisio dod o hyd i ddywediadau oedd wrth ei fodd, ac wrth ysgrifennu roedd yn dweud y gwir plaen. Mae dywediadau'r doeth yn procio'r meddwl; maen nhw'n brathu weithiau, fel hoelion mewn ffon i yrru anifeiliaid. Yr un Bugail sydd wedi rhoi'r casgliad i gyd i ni. Un rhybudd olaf, fy mab. Gellid ysgrifennu llyfrau diddiwedd am y pethau yma, ac mae astudio yn waith caled sydd byth yn dod i ben. I grynhoi, y cwbl sydd i'w ddweud yn y diwedd ydy hyn: Addola Dduw a gwna beth mae e'n ddweud! Dyna beth ddylai pawb ei wneud. Oherwydd bydd Duw yn galw pawb i gyfrif am bopeth wnaethon nhw — hyd yn oed beth oedd o'r golwg — y da a'r drwg. Cân serch orau Solomon. Tyrd, cusana fi drosodd a throsodd! Mae dy anwesu cariadus yn well na gwin, ac arogl dy bersawr mor hyfryd. Rwyt fel yr olew persawrus gorau — does dim syndod fod merched ifanc yn dy garu di. Tyrd, cymer fi gyda ti; gad i ni frysio! Fy mrenin, dos â fi i dy ystafell wely. Gad i ni fwynhau a chael pleser; mae profi gwefr dy gyffyrddiad yn well na gwin. Mae'n ddigon teg fod merched ifanc yn dy garu di. Ferched Jerwsalem, Mae fy nghroen yn ddu ond dw i'n hardd — yn dywyll fel pebyll duon pobl Cedar, a hardd fel llenni palas Solomon. Peidiwch syllu arna i am fy mod yn ddu a'r haul wedi rhoi croen tywyll i mi. Roedd fy mrodyr wedi gwylltio gyda mi, a gwneud i mi ofalu am y gwinllannoedd; ond methais ofalu amdana i fy hun. Fy nghariad, dywed wrtho i, Ble rwyt ti'n arwain dy ddefaid? Ble fyddan nhw'n gorffwys ganol dydd? Dywed wrtho i, rhag i mi orfod gwisgo fêl a chrwydro o gwmpas preiddiau dy ffrindiau. O'r harddaf o ferched! Os nad wyt yn gwybod, dilyn olion traed y praidd a bwyda dy eifr wrth wersyll y bugeiliaid. F'anwylyd, rwyt fel y gaseg ifanc harddaf sy'n tynnu cerbydau'r Pharo. Mae tlysau ar dy fochau hardd, a chadwyn o emau hyfryd am dy wddf. Dw i am roi tlysau aur i ti, wedi eu haddurno ag arian. Tra roedd fy mrenin yn gorwedd ar ei wely, roedd arogl fy mhersawr yn llenwi'r awyr. Mae fy nghariad fel cwdyn o fyrr hyfryd yn gorwedd trwy'r nos rhwng fy mronnau. Mae fy nghariad fel tusw o flodau henna o winllannoedd ffrwythlon En-gedi. O, rwyt mor hardd f'anwylyd! O, rwyt mor hardd! Mae dy lygaid fel colomennod. O, rwyt mor olygus fy nghariad — ac mor hyfryd! Mae'r gwyrddni fel canopi o'n cwmpas yn gorchuddio'n gwely. Mae canghennau'r coed cedrwydd fel trawstiau'n y to uwch ein pen; a'r coed pinwydd fel paneli. Un blodyn saffrwn ar wastatir Saron ydw i; dim ond lili fach o'r dyffryn. F'anwylyd, o'i gymharu â merched eraill rwyt ti fel lili yng nghanol mieri. Fy nghariad, o'i gymharu â dynion eraill rwyt ti fel coeden afalau yng nghanol y goedwig. Mae'n hyfryd cael eistedd dan dy gysgod, ac mae dy ffrwyth â'i flas mor felys. Aeth â fi i mewn i'r gwindy a'm gorchuddio â'i gariad. Helpwch fi! Adfywiwch fi gyda ffrwythau melys ac afalau — dw i'n glaf o gariad. Mae ei law chwith dan fy mhen, a'i law dde yn fy anwesu. Ferched Jerwsalem, dw i'n pledio arnoch o flaen y gasél a'r ewig gwyllt: Peidiwch trïo cyffroi cariad rhywiol nes mae'n barod. Ust! Fy nghariad sydd yna! Edrychwch! Dyma fe'n dod, yn llamu dros y mynyddoedd ac yn neidio dros y bryniau fel gasél neu garw ifanc. Mae yma! Yr ochr arall i'r wal! Mae'n edrych drwy'r ffenest ac yn sbecian drwy'r ddellt. Mae'n galw arna i: “F'anwylyd, tyrd! Gad i ni fynd, fy un hardd. Edrych! Mae'r gaeaf drosodd; mae'r glaw trwm wedi hen fynd. Mae blodau gwyllt i'w gweld ym mhobman, y tymor pan mae'r cread yn canu a cŵan y durtur i'w glywed drwy'r wlad. Mae'r ffrwyth ar y coed ffigys yn aeddfedu a'r blodau ar y gwinwydd yn arogli'n hyfryd. F'anwylyd, tyrd! Gad i ni fynd, fy un hardd.” Fy ngholomen, rwyt o'm cyrraedd o'r golwg yn holltau'r graig a'r ogofâu ar y clogwyni! Gad i mi dy weld a chlywed dy lais; mae sŵn dy lais mor swynol, a'th olwg mor ddeniadol. Daliwch lwynogod; y llwynogod bach sydd am ddifetha gwinllannoedd — a'n gwinllannoedd yn blodeuo. Fi piau nghariad, a fe piau fi; mae e'n pori yng nghanol y lilïau. Tyrd, fy nghariad, hyd nes iddi wawrio ac i gysgodion y nos ddiflannu — bydd fel gasél neu garw ifanc yn croesi'r hafnau rhwng y bryniau creigiog. Wrth orwedd ar fy ngwely'n y nos byddai gen i hiraeth am fy nghariad; dyheu am ei gwmni, ond methu ei gael. “Dw i'n mynd i godi i edrych amdano'n y dre — crwydro'r strydoedd a'r sgwariau yn chwilio am fy nghariad.” Dyheu am ei gwmni, ond methu ei gael. Dyma'r gwylwyr nos yn fy ngweld wrth grwydro ar batrôl o gwmpas y dre. Gofynnais, “Welsoch chi fy nghariad?” Prin roeddwn wedi eu pasio pan ddes i o hyd i'm cariad! Gafaelais ynddo'n dynn a gwrthod ei ollwng nes mynd ag e i dŷ fy mam, i'w hystafell wely. Ferched Jerwsalem, dw i'n pledio arnoch o flaen y gasél a'r ewig gwyllt: Peidiwch trïo cyffroi cariad rhywiol nes mae'n barod. Beth sy'n dod o gyfeiriad yr anialwch, yn codi llwch fel colofnau o fwg? Fel mwg yr arogldarth yn codi o'r allor — myrr a thus a phob powdr persawrus sydd ar werth gan fasnachwyr teithiol. Edrychwch! Soffa-gludo Solomon ydy hi! Mae chwe deg o filwyr o'i gwmpas — arwyr dewr Israel. Mae gan bob un ei gleddyf yn barod, ac maen nhw wedi eu hyfforddi i ryfela. Mae cleddyf pob un ar ei glun i'w amddiffyn rhag peryglon y nos. Mae gan Solomon gadair gludo wedi ei gwneud o goed o Libanus. Mae ei pholion o arian a'i ffrâm o aur; ei sedd o ddefnydd porffor a'r tu mewn wedi ei addurno â chariad. Ferched Jerwsalem, dewch allan! Dewch ferched Seion i syllu ar Solomon yn gwisgo'r goron gafodd gan ei fam ar ddiwrnod ei briodas — diwrnod hapusaf ei fywyd! O, rwyt mor hardd f'anwylyd! O, rwyt mor hardd! Mae dy lygaid fel colomennod y tu ôl i'r fêl. Mae dy wallt du yn llifo fel praidd o eifr yn dod i lawr o fynydd Gilead. Mae dy ddannedd yn wyn fel rhes o ddefaid newydd eu cneifio a'u golchi. Maen nhw i gyd yn berffaith; does dim un ar goll. Mae dy wefusau fel edau goch, a'th geg mor siapus. Tu ôl i'r fêl mae dy fochau a'u gwrid fel pomgranadau. Mae dy wddf fel tŵr Dafydd a'r rhesi o gerrig o'i gwmpas; mil o darianau yn hongian arno, fel arfau milwyr arwrol. Mae dy fronnau yn berffaith fel dwy gasél ifanc, efeilliaid yn pori ymysg y lilïau. Rhaid i mi fynd a dringo mynydd myrr a bryn thus, ac aros yno hyd nes iddi wawrio ac i gysgodion y nos ddiflannu. Mae popeth amdanat mor hardd f'anwylyd! Ti'n berffaith! Tyrd gyda mi o Libanus, fy nghariad, tyrd gyda mi o fryniau Libanus. Tyrd i lawr o gopa Amana, o ben Senir, sef copa Hermon; Tyrd i lawr o ffeuau'r llewod a lloches y llewpard. Ti wedi cipio fy nghalon, ferch annwyl, fy nghariad. Ti wedi cipio fy nghalon gydag un edrychiad, un em yn dy gadwyn. Mae dy gyffyrddiad mor hyfryd, ferch annwyl, fy nghariad. Mae dy anwesu cariadus gymaint gwell na gwin, ac arogl dy bersawr yn well na pherlysiau. Mae dy gusan yn felys fy nghariad, yn diferu fel diliau mêl. Mae mêl a llaeth dan dy dafod, ac mae sawr dy ddillad fel persawr Libanus. Fy merch annwyl, fy nghariad — rwyt fel gardd breifat dan glo; yn ffynnon gaiff neb yfed ohoni. Rwyt yn ardd baradwysaidd o bomgranadau, yn llawn o'r ffrwyth gorau. Gardd bersawrus hudolus o henna hyfryd, nard a saffrwn, sbeisiau pêr a sinamon thus o wahanol fathau, myrr ac aloes — pob un o'r perlysiau drutaf. Ti ydy'r ffynnon yn yr ardd — ffynnon o ddŵr glân gloyw yn llifo i lawr bryniau Libanus. Deffra, wynt y gogledd; tyrd, wynt y de! Chwytha ar fy ngardd i ledu sawr ei pherlysiau. Tyrd i mewn i dy ardd fy nghariad, a gwledda ar ei ffrwyth gorau. Dw i'n dod i'm gardd, ferch annwyl, fy nghariad — i gasglu fy myrr a'm perlysiau, i flasu y diliau a'r mêl, ac i yfed y gwin a'r llaeth. Mwynhewch y wledd gariadon! Yfwch a meddwi ar anwesu a charu! Roeddwn yn gorffwys, ond roedd fy meddwl yn effro. Ust! Llais fy nghariad; mae'n curo — “Agor i mi ddod i mewn, f'anwylyd, fy nghariad, fy ngholomen berffaith. Mae fy ngwallt yn wlyb gan wlith, a'm pen yn llaith gan niwl y nos.” “Ond dw i'n noeth, heb ddim amdana i. Ti am i mi wisgo eto wyt ti? A dw i wedi golchi fy nhraed. Oes rhaid i mi eu baeddu eto?” Yna gwthiodd ei law i agor y drws, a teimlais wefr yn mynd trwyddo i. Codais i'w adael i mewn; roedd fy nwylo'n diferu o fyrr — roedd y myrr yn llifo i lawr fy mysedd pan afaelais yn yr handlen. Agorais y drws i'm cariad, ond roedd e wedi troi a mynd! Suddodd fy nghalon o'm mewn pan aeth. Chwiliais amdano, ond methu ei gael; Gelwais arno, ond doedd dim ateb. Dyma'r gwylwyr nos yn fy ngweld wrth grwydro ar batrôl o gwmpas y dre. Dyma nhw'n fy nghuro a'm cam-drin, a rhwygo fy nghlogyn oddi arna i — y gwylwyr nos oedd yn gwarchod waliau'r ddinas! Ferched Jerwsalem, gwrandwch — Os dewch chi o hyd i'm cariad, dwedwch wrtho mod i'n glaf o gariad. O'r harddaf o ferched, beth sy'n gwneud dy gariad yn well na dynion eraill? Beth sy'n gwneud dy gariad yn well na dynion eraill, i ti grefu mor daer â hyn? Mae nghariad yn ffit ac yn iach; mae'n sefyll allan yng nghanol y dyrfa. Mae ei wyneb a'i wedd fel aur pur, a'i wallt cyrliog yn ddu fel y frân. Mae ei lygaid fel colomennod wrth nentydd dŵr, yn wyn fel llaeth ac yn berffaith yn eu lle. Mae arogl ei fochau fel gwely o berlysiau, a chusan ei wefusau fel y lili yn diferu o fyrr. Mae ei freichiau cyhyrog fel aur wedi eu haddurno â meini gwerthfawr. A'i gorff lluniaidd fel ifori llyfn wedi ei orchuddio â meini saffir. Mae ei goesau fel pileri o farmor wedi eu gosod ar sylfaen o aur pur. Mae e'n sefyll fel mynyddoedd Libanus a'u coed cedrwydd urddasol. Mae ei gusan mor felys; mae popeth amdano'n ddeniadol! Dyna fy nghariad, dyna fy nghymar, ferched Jerwsalem. Ble'r aeth dy gariad, ti'r harddaf o ferched? Ble'r aeth e? Gad i ni chwilio amdano gyda'n gilydd. Mae nghariad wedi mynd i lawr i'w ardd — i'w welyau o berlysiau. Mae wedi mynd i bori yn y gerddi, a chasglu'r lilïau. Fy nghariad piau fi, a fi piau nghariad; mae e'n pori yng nghanol y lilïau. F'anwylyd, rwyt ti'n hardd fel dinas Tirtsa, ac mor hyfryd â Jerwsalem. Yn odidog! Yn gwbl syfrdanol! Paid edrych arna i — mae dy lygaid yn fy aflonyddu! Mae dy wallt du yn llifo fel praidd o eifr yn dod i lawr o fynydd Gilead. Mae dy ddannedd yn wyn fel rhes o ddefaid newydd eu golchi. Maen nhw i gyd yn berffaith; does dim un ar goll. Tu ôl i'r fêl mae dy fochau a'u gwrid fel pomgranadau. Gallwn gael chwe deg brenhines, wyth deg o bartneriaid, a merched ifanc di-rif! Ond mae hi'n unigryw, fy ngholomen berffaith. Merch arbennig ei mam; hoff un yr un â'i cenhedlodd. Mae pob merch ifanc sy'n ei gweld yn ei hedmygu; Mae pob brenhines a chariad yn canu am ei harddwch: “Pwy ydy hon sy'n codi fel y wawr? Pwy ydy hi? — mor hardd â'r lleuad llawn, mor bur â phelydrau'r haul. Yn odidog! Yn gwbl syfrdanol!” Es i lawr i'r berllan lle mae'r coed cnau, i weld y tyfiant yn y dyffryn; i weld a oedd y winwydden wedi blaguro, a'r pomgranadau'n blodeuo. Roeddwn wedi cynhyrfu'n lân. Tyrd, rho fyrr dy gariad i mi, o ferch fy mhobl fonheddig. Tyrd yma! Tyrd yma ti'r un berffaith! Tyrd yma! Tyrd yma i mi edrych arnat ti. Pam? Fyddet ti am edrych arna i, dy un berffaith, fel un yn dawnsio yng nghanol y gwersyll? Mae dy draed yn dy sandalau mor hardd, o ferch fonheddig. Mae dy gluniau mor siapus — fel gemwaith gan grefftwr medrus. Mae dy wain ddirgel fel cwpan gron yn llawn o'r gwin cymysg gorau. Mae dy fol fel pentwr o wenith a chylch o lilïau o'i gwmpas. Mae dy fronnau yn berffaith fel dwy gasél ifanc, efeilliaid. Mae dy wddf fel tŵr o ifori, a'th lygaid fel llynnoedd Cheshbon ger mynedfa Bath-rabbîm. Mae dy drwyn hardd fel y tŵr yn Libanus sy'n wynebu dinas Damascus. Ti'n dal dy ben yn uchel fel Mynydd Carmel ac mae dy wallt hardd fel edafedd drud yn dal y brenin yn gaeth yn ei dresi. O! rwyt mor hardd! Mor hyfryd! Ti'n fy hudo, fy nghariad! Ti'n dal fel coeden balmwydd, a'th fronnau'n llawn fel ei sypiau o ddatys. Dw i am ddod a dringo'r goeden a gafael yn ei ffrwythau. Mae dy fronnau fel sypiau o rawnwin, a'u sawr yn felys fel afalau. Mae dy gusanau fel y gwin gorau yn llifo'n rhydd ar fy ngwefusau wrth i ni fynd i gysgu. Fy nghariad piau fi, ac mae f'eisiau. Tyrd, fy nghariad, gad i ni fynd i'r caeau; gad i ni dreulio'r nos rhwng y blodau henna. Gad i ni godi'n gynnar a mynd lawr i'r gwinllannoedd, i weld os ydy'r winwydden wedi blaguro a'u blodau wedi agor; ac i weld os ydy'r pomgranadau'n blodeuo — yno gwnaf roi fy hun i ti. Yno bydd persawr hyfryd y mandragorau yn llenwi'r awyr, a danteithion pleser wrth ein drysau — y cwbl dw i wedi ei gadw i'w rannu gyda ti fy nghariad. O na fyddet ti fel brawd bach i mi, wedi ei fagu ar fron fy mam; byddwn yn dy gusanu di'n agored, a fyddai neb yn meddwl yn ddrwg amdana i. Af â ti i dŷ fy mam, yr un ddysgodd bopeth i mi. Rhof i ti win yn gymysg â pherlysiau; gwin melys fy mhomgranadau. Mae ei law chwith dan fy mhen, a'i law dde yn fy anwesu. Ferched Jerwsalem, dw i'n pledio arnoch: Pam trïo cyffroi cariad rhywiol cyn ei fod yn barod? Pwy sy'n dod o gyfeiriad yr anialwch yn pwyso ar fraich ei chariad? Cynhyrfais di dan y goeden afalau. Dyna ble gwnaeth dy fam dy genhedlu, a dyna ble gest ti dy eni. Gosod fi fel sêl ar dy galon, fel sêl-fodrwy ar dy law. Mae gafael cariad yn gryf fel marwolaeth, ac mae nwyd angerddol mor ddi-ildio â'r bedd. Mae ei fflamau'n fflachio'n wyllt, fel tân sy'n llosgi'n wenfflam. All dyfroedd y môr ddim diffodd cariad; all llifogydd mo'i ysgubo i ffwrdd. Petai rhywun yn cynnig ei gyfoeth i gyd amdano, byddai'n ddim byd ond testun sbort. Mae gynnon ni chwaer fach a'i bronnau heb dyfu. Beth wnawn ni i'w helpu pan gaiff ei haddo i'w phriodi? Os ydy hi'n saff fel wal, gallwn ei haddurno gyda thyrau arian! Os ydy hi fel drws, gallwn ei bordio gyda coed cedrwydd! Roeddwn i fel wal, ond bellach mae fy mronnau fel tyrau, felly dw i'n gwbl aeddfed yn ei olwg e. Roedd gan Solomon winllan yn Baal-hamon, a rhoddodd y winllan ar rent i denantiaid. Byddai pob un yn talu mil o ddarnau arian am ei ffrwyth. Mae'r mil o ddarnau arian i ti Solomon, a dau gant i'r rhai sy'n gofalu am ei ffrwyth; ond mae fy ngwinllan i i mi'n unig. Ti sy'n aros yn y gerddi, mae yna ffrindiau'n gwrando am dy lais; ond gad i mi fod yr un sy'n ei glywed. Brysia, fy nghariad! — bydd fel gasél neu garw ifanc ar fynyddoedd y perlysiau. Gweledigaeth Eseia fab Amos. (Dyma welodd e am Jwda a Jerwsalem yn ystod y blynyddoedd pan oedd Wseia, Jotham, Ahas, a Heseceia yn frenhinoedd Jwda.) Gwranda nefoedd! Clyw ddaear! Mae'r ARGLWYDD yn dweud: “Dw i wedi magu plant a gofalu amdanyn nhw — ond maen nhw wedi gwrthryfela yn fy erbyn i. Mae ychen yn nabod ei berchennog ac asyn yn gwybod ble mae cafn bwydo ei feistr: ond dydy Israel ddim yn fy nabod i; dydy fy mhobl i'n cymryd dim sylw!” O! druan ohonot ti'r wlad sy'n pechu! Pobl sy'n llawn drygioni! Nythaid o rai sy'n gwneud drwg! Plant pwdr! Maen nhw wedi troi cefn ar yr ARGLWYDD, A dirmygu Un Sanctaidd Israel, Maen nhw wedi pellhau oddi wrtho. Pam dych chi'n dal ati i wrthryfela? Ydych chi eisiau cael eich curo eto? Mae briwiau ar bob pen a'r corff yn hollol wan. Does unman yn iach o'r corun i'r sawdl: Dim ond clwyfau a chleisiau, a briwiau agored — Heb eu gwella na'u rhwymo, ac heb olew i'w hesmwytho. Mae eich gwlad fel anialwch, a'ch dinasoedd wedi eu llosgi'n ulw; Mae dieithriaid yn bwyta eich cnydau o flaen eich llygaid — Anialwch wedi ei ddinistrio gan estroniaid! Dim ond Seion hardd sydd ar ôl — fel caban yng nghanol gwinllan, neu gwt mewn gardd lysiau; fel dinas yn cael ei gwarchae. Oni bai fod yr ARGLWYDD holl-bwerus wedi gadael i rai pobl fyw, bydden ni wedi'n dinistrio fel Sodom, neu wedi diflannu'n llwyr fel Gomorra. Gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD, arweinwyr Sodom! Gwrandwch ar beth mae Duw'n ei ddysgu i chi, bobl Gomorra! “Beth ydy pwynt eich holl aberthau chi?” meddai'r ARGLWYDD. “Dw i wedi cael llond bol o hyrddod yn offrymau i'w llosgi, o fraster anifeiliaid a gwaed teirw. Dw i ddim eisiau eich ŵyn a'ch bychod geifr chi. Dych chi'n ymddangos o'm blaen i — Ond pwy ofynnodd i chi ddod i stompio drwy'r deml? Stopiwch ddod â'ch offrymau diystyr! Mae'r arogldarth yn troi arna i! Dych chi'n dathlu Gŵyl y lleuad newydd a'r Sabothau, ac yn cynnal cyfarfodydd eraill, Ond alla i ddim diodde'r drygioni sy'n mynd gyda'ch dathliadau crefyddol chi. Dw i'n casáu'r lleuadau newydd a'ch gwyliau eraill chi. Maen nhw'n faich arna i; alla i mo'i diodde nhw. Pan fyddwch chi'n codi'ch dwylo i weddïo, bydda i'n edrych i ffwrdd. Gallwch chi weddïo faint fynnoch chi, ond fydda i ddim yn gwrando. Mae gwaed ar eich dwylo chi! Ymolchwch! Byddwch yn lân! Ewch â'r pethau drwg dych chi'n eu gwneud allan o'm golwg i! Stopiwch wneud drwg; Dysgwch wneud da. Brwydrwch dros gyfiawnder; o blaid y rhai sy'n cael eu gorthrymu. Cefnogwch hawliau plant amddifad, a dadlau dros achos y weddw. Dewch, gadewch i ni ddeall ein gilydd,” —meddai'r ARGLWYDD. “Os ydy'ch pechodau chi'n goch llachar, gallan nhw droi'n wyn fel yr eira; Os ydyn nhw'n goch tywyll, gallan nhw fod yn wyn fel gwlân. Os dych chi'n fodlon gwrando a gwneud be dw i'n ddweud, cewch fwyta cynnyrch da'r tir; Ond os byddwch chi'n ystyfnig ac yn gwrthod gwrando, byddwch chi'n cael eich difa gan y cleddyf,” —mae'r ARGLWYDD wedi dweud. Ond o! Mae Seion wedi troi'n butain. Roedd hi'n ddinas ffyddlon, yn llawn o bobl yn gwneud beth oedd yn iawn. Cyfiawnder oedd yn arfer byw ynddi — ond bellach llofruddion. Mae dy arian wedi ei droi'n amhuredd; mae dy win wedi ei gymysgu â dŵr! Mae dy arweinwyr wedi gwrthryfela, ac yn ffrindiau i ladron; Maen nhw i gyd yn hoffi breib, Ac yn chwilio am wobr. Wnân nhw ddim amddiffyn plentyn amddifad na gwrando ar achos y weddw. Felly, dyma mae'r Meistr yn ei ddweud (yr ARGLWYDD holl-bwerus), Arwr Israel! — “O! bydda i'n dangos fy nig i'r rhai sy'n fy erbyn! Bydda i'n dial ar fy ngelynion! Bydda i'n ymosod arnat ac yn symud dy amhuredd â thoddydd. Bydda i'n cael gwared â'r slag i gyd! Bydda i'n rhoi barnwyr gonest i ti fel o'r blaen, a cynghorwyr doeth, fel roedden nhw ers talwm. Wedyn byddi di'n cael dy alw ‛Y Ddinas Gyfiawn‛, ‛Tref Ffyddlon‛.” Bydd Seion yn cael ei gollwng yn rhydd pan ddaw'r dyfarniad; a'r rhai sy'n troi'n ôl yn cael cyfiawnder. Ond bydd y rhai sydd wedi gwrthryfela a phechu yn cael eu sathru; Bydd hi wedi darfod ar y rhai sydd wedi troi cefn ar yr ARGLWYDD. Bydd gynnoch chi gywilydd o'r coed derw cysegredig oeddech chi mor hoff ohonyn nhw. Byddwch chi wedi drysu o achos y gerddi paganaidd oeddech wedi eu dewis. Byddwch fel coeden dderwen â'i dail wedi gwywo, neu fel gardd sydd heb ddŵr. Bydd y rhai cryf fel fflwff, a'u gwaith fel gwreichionen. Bydd y ddau yn llosgi gyda'i gilydd, a neb yn gallu diffodd y tân! Y neges gafodd Eseia fab Amos am Jwda a Jerwsalem: Yn y dyfodol, bydd mynydd teml yr ARGLWYDD wedi ei osod yn ben ar y mynyddoedd eraill, a'i godi'n uwch na'r bryniau. Bydd y gwledydd i gyd yn llifo yno, a llawer o bobl yn mynd yno a dweud: “Dewch! Gadewch i ni ddringo Mynydd yr ARGLWYDD, a mynd i deml Duw Jacob, iddo ddysgu ei ffyrdd i ni, ac i ninnau fyw fel mae e am i ni fyw.” Achos o Seion y bydd yr arweiniad yn dod, a neges yr ARGLWYDD o Jerwsalem. Bydd e'n barnu achosion rhwng y cenhedloedd ac yn setlo dadleuon rhwng pobloedd lawer. Byddan nhw'n curo eu cleddyfau yn sychau aradr a'u gwaywffyn yn grymanau tocio. Fydd gwledydd ddim yn ymladd ei gilydd, nac yn hyfforddi milwyr i fynd i ryfel. Bobl Jacob — Dewch! gadewch i ni fyw yng ngolau'r ARGLWYDD. Achos rwyt ti wedi gwrthod dy bobl, pobl Jacob, am eu bod nhw'n llawn o ofergoelion y dwyrain; yn dweud ffortiwn fel y Philistiaid ac yn gwneud busnes gydag estroniaid. Mae'r wlad yn llawn o arian ac aur, does dim diwedd ar eu trysorau; Mae'r wlad yn llawn o feirch rhyfel, does dim diwedd ar eu cerbydau rhyfel. Mae'r wlad yn llawn eilunod diwerth, ac maen nhw'n plygu i addoli gwaith eu dwylo — pethau maen nhw eu hunain wedi eu creu! Bydd pobl yn cael eu darostwng a pawb yn cywilyddio — paid maddau iddyn nhw! Ewch i guddio yn y graig, a claddu eich hunain yn y llwch, rhag i ysblander a mawredd yr ARGLWYDD eich dychryn chi! Bydd y ddynoliaeth yn cael ei darostwng am ei balchder, a hunanhyder pobl feidrol yn cael ei dorri. Dim ond yr ARGLWYDD fydd yn cael ei ganmol bryd hynny! Mae gan yr ARGLWYDD holl-bwerus ddiwrnod arbennig i ddelio gyda pob un balch a snobyddlyd, a phawb sy'n canmol eu hunain — i dorri eu crib nhw! Bydd yn delio gyda cedrwydd Libanus, sydd mor dal ac urddasol; gyda choed derw Bashan; gyda'r holl fynyddoedd uchel a'r bryniau balch; gyda phob tŵr uchel, a phob wal solet; gyda llongau masnach Tarshish, a'r cychod pleser i gyd. Dyna pryd bydd balchder y ddynoliaeth yn cael ei dynnu i lawr, a hunanhyder pobl yn syrthio. Dim ond yr ARGLWYDD fydd yn cael ei ganmol bryd hynny! Bydd yr eilunod diwerth yn diflannu. Bydd pobl yn mynd i guddio mewn ogofâu yn y creigiau a thyllau yn y ddaear — rhag i ysblander a mawredd yr ARGLWYDD eu dychryn pan fydd yn dod ac yn gwneud i'r ddaear grynu. Bryd hynny bydd pobl yn taflu'r eilunod arian a'r eilunod aur i'r tyrchod daear a'r ystlumod — yr eilunod wnaethon nhw eu gwneud i'w haddoli. Byddan nhw'n mynd i guddio mewn ogofâu yn y creigiau, a hafnau yn y clogwyni, rhag i ysblander a mawredd yr ARGLWYDD eu dychryn pan fydd yn dod ac yn gwneud i'r ddaear grynu. Peidiwch rhoi'ch ffydd mewn pobl sydd â dim byd ond anadl yn eu ffroenau! Achos pa werth sydd iddyn nhw? Edrychwch! Mae'r Meistr, yr ARGLWYDD holl-bwerus yn mynd i gymryd o Jerwsalem a Jwda bopeth sy'n eu cynnal a'u cadw nhw: bwyd a dŵr, arwyr a milwyr dewr; barnwr a phroffwyd, yr un sy'n dewino a'r arweinydd; grŵp-gapten a swyddog, strategydd a hudwr medrus, a'r un sy'n sibrwd swynau. Bydda i'n rhoi bechgyn i lywodraethu arnyn nhw, a bwlis creulon i'w rheoli nhw. Bydd y bobl yn gorthrymu ei gilydd — un yn erbyn y llall. Bydd pobl ifanc yn ymosod ar henoed, a phobl gyffredin yn ymosod ar y bonheddig. Bydd dyn yn gafael yn ei gyfaill yn nhŷ ei dad, a dweud: “Mae gen ti got — bydd di'n feistr arnon ni. Cei di wneud rhywbeth o'r llanast ma,” Ond bydd y llall yn protestio, ac yn dweud, “Alla i ddim gwella'ch briwiau chi, does gen i ddim bwyd yn y tŷ a does gen i ddim côt chwaith. Peidiwch gwneud fi yn feistr arnoch chi!” Mae Jerwsalem yn gwegian, a Jwda wedi syrthio, am ddweud a gwneud pethau yn erbyn yr ARGLWYDD, a herio ei fawredd. Mae eu ffafriaeth wrth farnu yn tystio yn eu herbyn; maen nhw'n arddangos eu pechod fel Sodom, heb geisio cuddio dim! Gwae nhw! Maen nhw wedi dod â dinistr arnyn nhw eu hunain. Dywed: Bydd hi'n dda ar y rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn; byddan nhw'n cael bwyta ffrwyth eu gweithredoedd. Ond gwae y rhai sy'n gwneud drwg, bydd pethau'n ddrwg arnyn nhw; byddan nhw'n cael blas o'r hyn wnaethon nhw i bobl eraill. Bydd plant yn feistri ar fy mhobl, a merched yn eu rheoli. O fy mhobl! mae dy arweinwyr yn dy gamarwain; maen nhw wedi dy ddrysu. Mae'r ARGLWYDD yn sefyll i ddadlau ei achos, mae'n codi ar ei draed i farnu'r bobloedd. Mae'r ARGLWYDD yn dod â'r cyhuddiad yma yn erbyn arweinwyr a thywysogion ei bobl: “Chi ydy'r rhai sydd wedi dinistrio'r winllan! Mae'r hyn sydd wedi ei ddwyn oddi ar y tlawd yn eich tai chi. Sut allech chi feiddio sathru fy mhobl i, a gorthrymu'r rhai tlawd?” —meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD holl-bwerus. Yna dwedodd yr ARGLWYDD: “Mae merched Seion mor falch, yn dal eu pennau i fyny, yn fflyrtian â'u llygaid ac yn cerdded gyda chamau bach awgrymog, a'u tlysau ar eu traed yn tincian wrth iddyn nhw fynd” Felly bydd y Meistr yn gwneud i rash ddod ar bennau merched Seion. Bydd yr ARGLWYDD yn siafio eu talcennau nhw. Bryd hynny, bydd yr ARGLWYDD yn cael gwared â'u tlysau nhw — y tlysau traed, y rhubanau, yr addurniadau siâp cilgant, y clustdlysau, y breichledau, a'r fêl; y dïadem, y cadwyni, a'r sash; y ffiolau persawr a'r swynoglau; y sêl-fodrwy a'r fodrwy drwyn; y dillad hardd, y mentyll, a'r siôl; y pyrsiau, y gwisgoedd sidan, a'r dillad lliain; y twrban a'r glogyn. Wedyn — yn lle persawr bydd pydredd; yn lle'r rhwymyn bydd rhaff; yn lle steil gwallt bydd moelni; yn lle mantell wedi ei brodio bydd sachliain. Ie, cywilydd yn lle harddwch. Bydd dy ddynion yn cael eu lladd gan y cleddyf, a'th filwyr yn syrthio yn y frwydr. Bydd galaru wrth giatiau'r ddinas — bydd wedi ei gwagio ac yn eistedd ar lawr. Bryd hynny, bydd saith o ferched yn gafael mewn un dyn, ac yn dweud, “Gad i ni dy briodi di — Gwnawn fwyta ein bwyd ein hunain, a gwisgo'n dillad ein hunain. Ond cymer ein cywilydd ni i ffwrdd!” Bryd hynny, bydd blaguryn yr ARGLWYDD yn rhoi harddwch ac ysblander, a bydd ffrwyth y tir yn cynnig urddas a mawredd, i'r ychydig rai fydd ar ôl yn Israel. Bydd y rhai sydd ar ôl yn Seion, ac wedi eu gadael yn Jerwsalem yn cael eu galw'n sanctaidd — pawb sydd wedi eu cofnodi i fyw yn Jerwsalem. Pan fydd yr ARGLWYDD wedi glanhau budreddi merched Seion, bydd yn cael gwared ag euogrwydd Jerwsalem — trwy farnu a charthu. Bydd yr ARGLWYDD yn dod â chwmwl yn y dydd a thân yn llosgi yn y nos, a'i osod uwchben y cysegr a'r man cyfarfod ar Fynydd Seion. Yn wir, bydd ei ysblander yn hongian fel canopi dros bopeth. Bydd fel caban i gysgodi rhag y gwres yn ystod y dydd, ac yn lloches i gysgodi rhag y storm o law. Gad i mi ganu cân i'm cariad annwyl — Cân fy nghariad am ei winllan. Roedd gan fy nghariad winllan ar fryn oedd yn ffrwythlon iawn. Palodd y tir a chlirio'r cerrig, a phlannu gwinwydden arbennig ynddi. Adeiladodd dŵr gwylio yn ei chanol, a naddu gwinwasg ynddi. Roedd yn disgwyl cael grawnwin da, ond gafodd e ddim ond rhai drwg. Felly, chi bobl Jerwsalem a'r rhai sy'n byw yn Jwda — Beth ydy'ch barn chi? Beth ddylwn ni ei wneud gyda'm gwinllan? Oedd yna rywbeth mwy y gallwn ei wneud i'm gwinllan nag a wnes i? Pan oeddwn i'n disgwyl cael grawnwin da pam ges i ddim ond rhai drwg? Nawr, gadewch i mi ddweud wrthoch chi be dw i'n mynd i wneud gyda'm gwinllan: Dw i'n mynd i symud ei chlawdd iddi gael ei dinistrio; a chwalu'r wal iddi gael ei sathru dan draed. Bydda i'n ei gwneud yn dir diffaith; fydd neb yn ei thocio na'i chwynnu, a bydd yn tyfu'n wyllt gyda mieri a drain. A bydda i'n gorchymyn i'r cymylau beidio glawio arni. Gwinllan yr ARGLWYDD holl-bwerus ydy pobl Israel, a'r planhigion ofalodd amdanyn nhw ydy pobl Jwda. Roedd yn disgwyl gweld cyfiawnder, ond trais a gafodd. Roedd yn disgwyl am degwch, ond gwaedd daer a glywodd! Gwae y rhai sy'n cydio tŷ wrth dŷ, ac yn ychwanegu cae at gae, nes bod dim lle i neb arall fyw yn y wlad! Dw i wedi clywed yr ARGLWYDD holl-bwerus yn dweud: Bydd llawer o dai yn cael eu dinistrio, Fydd neb yn byw yn y tai mawr, crand. Bydd deg acer o winllan yn rhoi llai na chwe galwyn o win; a chae lle heuwyd deg mesur o had yn rhoi ond un mesur yn ôl. Gwae'r rhai sy'n codi'n fore i yfed diod feddwol, ac yn aros ar eu traed gyda'r nos dan ddylanwad gwin. Y rhai sy'n cael partïon gyda'r delyn a'r nabl, y drwm a'r pib — a gwin! Ond sy'n cymryd dim sylw o'r ARGLWYDD, nac yn gweld beth mae'n ei wneud. Felly, bydd fy mhobl yn cael eu caethgludo am beidio cymryd sylw. Bydd y bobl fawr yn marw o newyn, a'r werin yn gwywo gan syched. Bydd chwant bwyd ar fyd y meirw, bydd yn agor ei geg yn anferth, a bydd ysblander Jerwsalem a'i chyffro, ei sŵn a'i sbri yn llithro i lawr iddo. Bydd pobl yn cael eu darostwng a pawb yn cywilyddio; bydd llygaid y balch wedi syrthio. Ond bydd yr ARGLWYDD holl-bwerus wedi ei ddyrchafu trwy ei gyfiawnder; a'r Duw sanctaidd wedi profi ei fod yn sanctaidd drwy ei degwch. Bydd ŵyn yn pori yno fel yn eu cynefin, a chrwydriaid yn bwyta yn adfeilion y cyfoethog. Gwae'r rhai sy'n llusgo drygioni gyda rhaffau twyll, a llusgo pechod ar eu holau fel trol! Y rhai sy'n dweud, “Gadewch iddo wneud rhywbeth yn sydyn, i ni gael gweld; Gadewch i ni weld pwrpas Un Sanctaidd Israel, i ni gael gwybod beth ydy e!” Gwae'r rhai sy'n galw drwg yn dda a da yn ddrwg; sy'n dweud fod tywyllwch yn olau a golau yn dywyllwch; sy'n galw'r chwerw yn felys a'r melys yn chwerw! Gwae'r rhai sy'n meddwl eu bod nhw'n ddoeth, ac yn ystyried eu hunain mor glyfar! Gwae'r rhai sy'n arwyr wrth yfed gwin — ac yn meddwl eu bod nhw'n rêl bois wrth gymysgu'r diodydd! Y rhai sy'n gollwng troseddwyr yn rhydd am freib, ac yn gwrthod rhoi dedfryd gyfiawn i'r dieuog. Felly, fel gwellt yn llosgi yn y fflamau a gwair yn crino yn y gwres, bydd eu gwreiddiau yn pydru, a'u blagur yn cael ei chwythu ymaith fel llwch. Am eu bod wedi gwrthod beth mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddysgu, a chymryd dim sylw o neges Un Sanctaidd Israel. Dyna pam roedd yr ARGLWYDD wedi digio gyda'i bobl. Dyna pam wnaeth e droi yn eu herbyn nhw, a'u taro nhw. Roedd y mynyddoedd yn crynu, a'r cyrff yn gorwedd fel sbwriel ar y strydoedd. Ac eto wnaeth Duw ddim tawelu, roedd yn dal yn eu herbyn nhw. Bydd e'n codi baner i alw cenedl o bell, ac yn chwibanu ar un o ben draw'r byd. Ac edrychwch, maen nhw'n dod ar ras wyllt! Does neb yn blino nac yn baglu'n ei rhengoedd; neb yn pendwmpian nac yn cysgu; neb â'i felt wedi ei datod, na charrai ei esgid wedi torri. Mae eu saethau'n finiog, a'u bwâu i gyd yn dynn. Mae carnau'r meirch yn galed fel carreg, ac olwynion eu cerbydau yn troi fel corwynt. Mae eu rhuad fel llew, maen nhw'n rhuo fel llewod ifanc sy'n chwyrnu wrth ddal yr ysglyfaeth a'i lusgo i ffwrdd — all neb ei achub! Bryd hynny, bydd sŵn y rhuo fel tonnau'r môr yn taro'r tir. Wrth edrych tua'r tir gwelir tywyllwch ac argyfwng, a'r golau'n troi'n dywyllwch yn y cymylau o ewyn. Yn y flwyddyn y buodd y brenin Wseia farw, gwelais y Meistr yn eistedd ar orsedd uchel, ac ymylon ei wisg yn llenwi'r deml. Roedd seraffiaid yn hofran uwch ei ben, ac roedd gan bob un ohonyn nhw chwe adain: dwy i guddio'i wyneb, dwy i guddio'i goesau, a dwy i hedfan. Ac roedd un yn galw ar y llall, ac yn dweud, “Sanctaidd! Sanctaidd! Sanctaidd! yr ARGLWYDD holl-bwerus! Mae ei ysblander yn llenwi'r ddaear gyfan!” Roedd sylfeini ffrâm y drws yn ysgwyd wrth iddyn nhw alw, a'r neuadd yn llenwi gyda mwg. Gwaeddais yn uchel, “Gwae fi! Mae hi ar ben arna i! Dyn gyda gwefusau aflan ydw i, a dw i'n byw yng nghanol pobl gyda gwefusau aflan; ac eto dw i wedi gweld y Brenin gyda'm llygaid fy hun — yr ARGLWYDD holl-bwerus.” Yna dyma un o'r seraffiaid yn hedfan ata i, ac roedd ganddo farworyn poeth wedi ei gymryd oddi ar yr allor mewn gefel. Cyffyrddodd fy ngwefusau gydag e, a dweud, “Edrych, mae hwn wedi cyffwrdd dy wefusau di, felly mae dy euogrwydd di wedi mynd, a talwyd iawn am dy bechod.” Yna clywais lais fy Arglwydd yn dweud: “Pwy dw i'n mynd i'w anfon? Pwy sy'n barod i fynd ar ein rhan ni?” A dyma fi'n dweud, “Dyma fi; anfon fi.” Yna dwedodd, “Dos, a dweud wrth y bobl yma: ‘Gwrandwch yn astud, ond peidiwch â deall; Edrychwch yn ofalus, ond peidiwch â dirnad.’ Gwna nhw'n ystyfnig, tro eu clustiau'n fyddar, a chau eu llygaid — rhag iddyn nhw weld â'u llygaid, clywed â'u clustiau, deall go iawn, a throi a chael eu hiacháu.” Dyma fi'n gofyn, “Am faint o amser, fy Arglwydd?” A dyma fe'n ateb: “Nes bydd trefi wedi eu dinistrio a neb yn byw ynddyn nhw; tai heb bobl ynddyn nhw, a'r tir wedi ei ddifetha, a'i adael yn ddiffaith.” Bydd yr ARGLWYDD yn gyrru'r boblogaeth i ffwrdd — a bydd llawer iawn o ardaloedd gwag drwy'r wlad. Ond os bydd un rhan o ddeg ar ôl, fydd hwnnw eto'n cael ei losgi? “Bydd fel coeden anferth neu dderwen wedi ei thorri i lawr, a dim ond boncyff ar ôl. Ond bydd y boncyff yn ddechrau newydd, fel had sanctaidd.” Yn y cyfnod pan oedd Ahas (mab Jotham ac ŵyr i Wseia) yn frenin ar Jwda, dyma Resin (brenin Syria) a Pecach fab Remaleia (brenin Israel), yn ymosod ar Jerwsalem; ond wnaethon nhw ddim llwyddo i'w gorchfygu hi. Pan ddaeth y newyddion i balas brenhinol Dafydd fod Syria ac Effraim mewn cynghrair, roedd y brenin a'r bobl wedi cynhyrfu. Roedden nhw fel coed yn y goedwig yn ysgwyd o flaen y gwynt. Felly dwedodd yr ARGLWYDD wrth Eseia, “Dos hefo dy fab Shear-iashŵf i gyfarfod ag Ahas wrth derfyn y sianel ddŵr sy'n dod o'r Llyn Uchaf, ar ffordd Maes y Golchwyr. Dywed wrtho: ‘Paid panicio. Paid bod ag ofn. Does dim rhaid torri dy galon am fod Resin a'r Syriaid a mab Remaleia wedi gwylltio — dau stwmp ydyn nhw; dim mwy na ffaglau myglyd!’ Mae'r Syriaid — hefo Effraim a mab Remaleia — wedi cynllwynio yn dy erbyn di, a dweud, ‘Gadewch i ni ymosod ar Jwda, codi ofn arni a'i gorchfygu. Yna gallwn osod mab Tafél yn frenin arni.’ “Ond dyma mae'r Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud: Fydd y cynllun ddim yn llwyddo, Fydd y peth ddim yn digwydd. [8-9] Damascus ydy prifddinas Syria, a Resin ydy pennaeth Damascus. Samaria ydy prifddinas Effraim, a Remaleia ydy pennaeth Samaria. Mewn llai na chwe deg pum mlynedd Bydd Effraim wedi chwalu a peidio â bod yn bobl. Os na wnewch chi gredu, wnewch chi'n sicr ddim sefyll.” *** Dyma'r ARGLWYDD yn siarad gydag Ahas eto: “Gofyn i'r ARGLWYDD dy Dduw roi arwydd i ti — unrhyw beth, does dim ffiniau.” Ond dyma Ahas yn ateb, “Na wna i, dw i ddim am roi'r ARGLWYDD ar brawf.” Yna dwedodd Eseia, “Gwrandwch, balas Dafydd. Ydy ddim digon eich bod chi'n trethu amynedd pobl heb orfod trethu amynedd fy Nuw hefyd? Felly, mae'r Meistr ei hun yn mynd i roi arwydd i chi! Edrychwch, bydd y ferch ifanc yn feichiog, ac yn cael mab — a bydd y plentyn yn cael ei alw yn Emaniwel. Cyn iddo ddod i wybod y gwahaniaeth rhwng drwg a da, bydd yn bwyta caws colfran a mêl. Cyn iddo allu gwrthod y drwg a dewis y da, bydd tir y ddau frenin wyt ti'n eu hofni wedi ei adael yn wag. “Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud i ti a dy bobl a phalas dy dad fynd trwy gyfnod na fu ei debyg ers i Effraim wrthryfela yn erbyn Jwda — bydd yn dod â brenin Asyria yma.” Bryd hynny, bydd yr ARGLWYDD yn chwibanu ar y gwybed sydd yn afonydd pell yr Aifft a'r gwenyn sydd yng ngwlad Asyria. Byddan nhw'n dod ac yn glanio yn y wadïau serth a'r hafnau sy'n y creigiau, yn y llwyni drain a'r lleoedd i ddyfrio anifeiliaid. Bryd hynny, bydd y Meistr yn defnyddio'r rasel mae wedi ei llogi yr ochr draw i Afon Ewffrates (sef brenin Asyria) i siafio'r pen a'r blew ar y rhannau preifat; a bydd yn siafio'r farf hefyd. Bryd hynny, bydd dyn yn cadw heffer a dwy afr, Byddan nhw'n rhoi digon o laeth iddo fwyta caws colfran. Caws colfran a mêl fydd bwyd pawb sydd ar ôl yn y wlad. Bryd hynny, bydd pobman lle roedd mil o goed gwinwydd (oedd yn werth mil o ddarnau arian) yn anialwch o ddrain a mieri. Bydd dynion ond yn mynd yno gyda bwa saeth am fod y tir i gyd yn anialwch o ddrain a mieri. Fydd neb yn mynd i'r bryniau i drin y tir gyda chaib am fod cymaint o ddrain a mieri. Yn lle hynny bydd yn dir agored i wartheg a defaid bori arno. Yna dwedodd yr ARGLWYDD wrtho i, “Dos i nôl hysbysfwrdd mawr ac ysgrifenna arno'n glir ‘I Maher-shalal-has-bas’”. Dyma fi'n cymryd dau dyst gyda mi, dynion y gallwn i ddibynnu arnyn nhw, sef Wreia yr offeiriad a Sechareia fab Ieberecheia. Wedyn dyma fi'n gorwedd gyda'm gwraig a dyma hi'n beichiogi. Bachgen gafodd hi, a dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Galw fe'n Maher-shalal-has-bas, achos cyn i'r bachgen allu dweud ‘dad’ neu ‘mam’, bydd brenin Asyria wedi cymryd cyfoeth Damascus a Samaria i gyd.” A dyma'r ARGLWYDD yn siarad gyda mi eto: “Mae'r bobl yma wedi gwrthod dŵr Siloa, sy'n llifo'n dawel, ac wedi plesio Resin a mab Remaleia. Felly, bydd y Meistr yn gwneud i holl ddŵr cryf yr Ewffrates lifo trostyn nhw — sef brenin Asyria a'i fyddin. Bydd fel afon yn torri allan o'i sianelau, ac yn gorlifo'i glannau. Bydd yn rhedeg drwy Jwda fel llifogydd ac yn codi at y gwddf. Mae ei adenydd wedi eu lledu dros dy dir i gyd, Emaniwel!” Casglwch i ryfel, chi bobloedd — ond cewch eich dryllio! Gwrandwch, chi sydd ym mhen draw'r byd: Paratowch i ryfel — ond cewch eich dryllio; Paratowch i ryfel — ond cewch eich dryllio! Cynlluniwch strategaeth — ond bydd yn methu! Cytunwch beth i'w wneud — ond fydd e ddim yn llwyddo. Achos mae Duw gyda ni! Dyma ddwedodd yr ARGLWYDD wrtho i — fel petai'n gafael ynof fi a'm rhybuddio i beidio mynd yr un ffordd â'r bobl yma: “Peidiwch dweud, ‘Cynllwyn ydy e!’ bob tro mae'r bobl yma'n dweud fod cynllwyn! Does dim rhaid dychryn na bod ag ofn beth maen nhw'n ei ofni. Yr ARGLWYDD holl-bwerus ydy'r un i'w barchu! Fe ydy'r unig un i'w ofni, a dychryn rhagddo! Bydd e yn gysegr — ond i ddau deulu brenhinol Israel bydd yn garreg sy'n baglu pobl a chraig sy'n gwneud iddyn nhw syrthio. Bydd fel trap neu fagl i'r rhai sy'n byw yn Jerwsalem. Bydd llawer yn baglu, yn syrthio ac yn cael eu dryllio; ac eraill yn cael eu rhwymo a'u dal.” Bydd y rhybudd yma'n cael ei rwymo, a'r ddysgeidiaeth yn cael ei selio a'i gadw gan fy nisgyblion i. Dw i'n mynd i ddisgwyl am yr ARGLWYDD, er ei fod e wedi troi cefn ar bobl Jacob — dw i'n ei drystio fe! Dyma fi, a'r plant mae'r ARGLWYDD wedi eu rhoi i mi. Maen nhw'n arwyddion ac yn rhybudd i Israel oddi wrth yr ARGLWYDD holl-bwerus, sy'n byw ar Fynydd Seion. Bydd pobl yn dweud wrthoch chi, “Ewch i holi'r swynwyr a'r dewiniaid sy'n sgrechian a griddfan. Oni ddylai pobl geisio eu ‛duwiau‛ — holi'r meirw ar ran y byw?” “At y gyfraith a'r dystiolaeth! Os nad ydyn nhw'n siarad yn gyson â'r neges yma maen nhw yn y tywyllwch.” Maen nhw'n cerdded o gwmpas mewn eisiau a newyn. Am eu bod yn llwgu byddan nhw'n gwylltio ac yn melltithio eu brenin a'u ‛duwiau‛, wrth edrych i fyny. Wrth edrych ar y tir does dim i'w weld ond trwbwl a thywyllwch, düwch a gwewyr meddwl — bydd wedi ei daflu i dywyllwch dudew. Ond fydd y tywyllwch ddim yn para i'r tir aeth drwy'r fath argyfwng! Y tro cyntaf, cafodd tir Sabulon a thir Nafftali eu cywilyddio; ond yn y dyfodol bydd Duw yn dod ag anrhydedd i Galilea'r Cenhedloedd, ar Ffordd y Môr, a'r ardal yr ochr arall i'r Afon Iorddonen. Mae'r bobl oedd yn byw yn y tywyllwch wedi gweld golau llachar. Mae golau wedi gwawrio ar y rhai oedd yn byw dan gysgod marwolaeth. Ti wedi lluosogi'r genedl, a'i gwneud yn hapus iawn; Maen nhw'n dathlu o dy flaen di fel ffermwyr adeg y cynhaeaf, neu filwyr yn cael sbri wrth rannu'r ysbail. Achos rwyt ti wedi torri'r iau oedd yn faich arnyn nhw, a'r ffon oedd yn curo eu cefnau nhw — sef gwialen y meistr gwaith — fel y gwnest ti bryd hynny yn Midian. Bydd yr esgidiau fu'n sathru maes y gâd, a'r gwisgoedd gafodd eu rholio mewn gwaed, yn cael eu taflu i'r fflamau i'w llosgi. Achos mae plentyn wedi cael ei eni i ni; mab wedi cael ei roi i ni. Bydd e'n cael y cyfrifoldeb o lywodraethu. A bydd yn cael ei alw yn Strategydd rhyfeddol, y Duw arwrol, Tad yr oesoedd, Tywysog heddwch. Fydd ei lywodraeth ddim yn stopio tyfu, a bydd yn dod â llwyddiant di-ben-draw i orsedd Dafydd a'i deyrnas. Bydd yn ei sefydlu a'i chryfhau a teyrnasu'n gyfiawn ac yn deg o hyn allan, ac am byth. Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn benderfynol o wneud hyn i gyd. Dyma'r neges anfonodd y Meistr yn erbyn Jacob, a dyna ddigwyddodd i Israel. Roedd y bobl i gyd yn cydnabod hynny — Effraim a'r rhai sy'n byw yn Samaria. Er yn dal yn falch ac ystyfnig, yn honni: “Mae'r blociau pridd wedi syrthio, ond byddwn yn ailadeiladu hefo cerrig nadd! Mae'r coed sycamor wedi eu torri i lawr, ond gadewch i ni dyfu cedrwydd yn eu lle!” Gadawodd yr ARGLWYDD i elynion Resin ei gorchfygu hi. Roedd e wedi arfogi ei gelynion — daeth Syria o'r dwyrain a Philistia o'r gorllewin — Roedd eu cegau'n llydan agored, a dyma nhw'n llyncu tir Israel. Eto wnaeth Duw ddim stopio bod yn ddig, roedd yn dal yn eu herbyn nhw. Dydy'r bobl ddim wedi troi'n ôl at yr un wnaeth eu taro nhw; Dŷn nhw ddim wedi ceisio'r ARGLWYDD holl-bwerus. Felly bydd yr ARGLWYDD yn torri pen a chynffon Israel; y gangen balmwydd a'r frwynen ar yr un diwrnod. Yr arweinwyr a'r bobl bwysig — nhw ydy'r pen; y proffwydi sy'n dysgu celwydd — nhw ydy'r gynffon. Mae'r arweinwyr wedi camarwain, a'r rhai sy'n eu dilyn wedi llyncu'r cwbl. Dyna pam nad ydy'r ARGLWYDD yn hapus gyda'r bobl ifanc; Dydy e ddim yn gallu cysuro'r plant amddifad a'r gweddwon. Maen nhw i gyd yn annuwiol ac yn ddrwg; maen nhw i gyd yn dweud pethau dwl. Eto wnaeth Duw ddim stopio bod yn ddig, roedd yn dal yn eu herbyn nhw. Mae drygioni yn llosgi fel tân, ac yn dinistrio'r drain a'r mieri; mae'n llosgi drwy ddrysni'r coed nes bod y mwg yn codi yn golofnau. Pan mae'r ARGLWYDD holl-bwerus wedi digio, mae'r wlad yn llosgi. Mae'r bobl fel tanwydd, a does neb yn poeni am neb arall. Maen nhw'n torri cig fan yma, ond yn dal i newynu; maen nhw'n bwyta fan acw ond ddim yn cael digon. Maen nhw'n brathu ac anafu ei gilydd — Manasse'n ymosod ar Effraim ac Effraim ar Manasse, a'r ddau yn ymladd yn erbyn Jwda! Eto wnaeth Duw ddim stopio bod yn ddig, Roedd yn dal yn eu herbyn nhw. Gwae'r rhai sy'n rhoi dyfarniad anghyfiawn ac ysgrifennu deddfau sy'n gormesu pobl. Maen nhw'n dwyn cyfiawnder oddi ar bobl dlawd, a chymryd eu hawliau oddi ar yr anghenus. Maen nhw'n dwyn oddi ar y gweddwon, ac yn ysbeilio plant amddifad! Beth wnewch chi ar ddiwrnod y cosbi, pan fydd dinistr yn dod o bell? At bwy fyddwch chi'n rhedeg am help? I ble'r ewch chi i guddio eich trysor? Bydd rhaid crymu gyda'r carcharorion eraill, neu syrthio gyda phawb arall sy'n cael eu lladd! Eto wnaeth Duw ddim stopio bod yn ddig, Roedd yn dal yn eu herbyn nhw. Gwae Asyria, y wialen dw i'n ei defnyddio pan dw i'n ddig, Mae'r ffon sy'n dangos fy mod i wedi gwylltio yn ei llaw hi. Dw i'n ei hanfon yn erbyn cenedl annuwiol, ac yn dweud wrthi am ymosod ar y bobl sy'n fy nigio i; i ysbeilio a rheibio a'u sathru dan draed fel baw ar y stryd. Ond dim dyna ydy bwriad Asyria — rhywbeth arall sydd ganddi hi mewn golwg. Ei bwriad hi ydy dinistrio, a difa gwledydd yn llwyr — llawer ohonyn nhw! Mae'n meddwl, “Mae brenhinoedd wedi dod yn swyddogion i mi! Onid ydy Calno yr un fath â Carcemish? a Chamath fel Arpad? a Samaria fel Damascus? Gan fy mod i wedi cael gafael yn y gwledydd hynny a'u heilun-dduwiau — gwledydd oedd â llawer mwy o ddelwau na Jerwsalem a Samaria — bydda i'n gwneud yr un peth i Jerwsalem a'i heilunod ag a wnes i i Samaria a'i delwau.” Ond pan fydd y Meistr wedi gorffen delio gyda Mynydd Seion a Jerwsalem, bydd e'n cosbi brenin Asyria am fod mor falch ac mor llawn ohono'i hun. Am feddwl fel hyn: “Dw i wedi gwneud y cwbl am fy mod i mor gryf. Roedd gen i strategaeth glyfar, a dw i wedi dileu ffiniau gwledydd. Dw i wedi cymryd eu trysorau nhw, ac wedi bwrw brenhinoedd i lawr fel tarw. Cefais afael ar gyfoeth y gwledydd mor hawdd a dwyn wyau o nyth: heb neb yn fflapio'i adenydd nag yn agor ei big i drydar.” Ydy bwyell o unrhyw werth heb rywun i'w thrin? Ydy llif yn bwysicach na'r un sy'n ei defnyddio? Fel petai gwialen yn chwifio'r dyn sy'n ei chodi! Fel petai ffon yn codi'r person sydd ddim yn bren! Felly, bydd y Meistr—yr ARGLWYDD holl-bwerus— yn anfon afiechyd fydd yn nychu ei filwyr iach; bydd twymyn yn taro ei ysblander ac yn llosgi fel tân. Bydd Golau Israel yn troi'n dân, a'r Un Sanctaidd yn fflam. Bydd yn llosgi'r drain a'r mieri mewn diwrnod, a dinistrio'r goedwig a'r berllan yn llwyr. Bydd fel bywyd dyn sâl yn diflannu. Bydd cyn lleied o goed ar ôl bydd plentyn bach yn gallu eu cyfri! Bryd hynny, fydd y rhai sydd ar ôl yn Israel a'r rhai hynny o bobl Jacob sydd wedi dianc ddim yn pwyso ar y genedl wnaeth eu gorthrymu nhw; Byddan nhw'n pwyso'n llwyr ar yr ARGLWYDD, Un sanctaidd Israel. Bydd rhan fechan, ie, rhan fechan o Jacob yn troi yn ôl at y Duw cryf. Israel, hyd yn oed petai dy bobl mor niferus â thywod y môr, dim ond nifer fechan fydd yn dod yn ôl. Mae'r dinistr yn sicr. Mae'r gosb sydd wedi ei haeddu yn dod fel llifogydd! Mae fy Meistr, yr ARGLWYDD holl-bwerus, yn barod i ddod â'r dinistr sydd wedi ei ddyfarnu ar y tir. Felly, dyma mae fy Meistr, yr ARGLWYDD holl-bwerus, yn ei ddweud: “O fy mhobl, sy'n byw yn Seion, peidiwch bod ag ofn Asyria — er iddo dy daro di gyda'i wialen a dy fygwth gyda'i ffon fel y gwnaeth yr Eifftiaid. Yn fuan iawn bydd fy nig wedi ei dawelu, a bydda i'n troi i'w dinistrio nhw.” Bydd yr ARGLWYDD holl-bwerus yn chwifio ei chwip uwch eu pennau, fel y gwnaeth pan drawodd Midian wrth Graig Oreb. Bydd yn codi ei wialen fel y gwnaeth dros yr Eifftiaid wrth y môr. Bryd hynny, bydd y pwysau'n cael ei symud oddi ar dy ysgwyddau di, a bydd iau Assyria'n cael ei dorri oddi ar dy war am ei fod mor hunanfodlon. Daeth y gelyn ac ymosod ar Aiath, ac yna aeth ymlaen i Migron cyn paratoi ei gêr yn Michmas. Yna croesi'r bwlch ac aros yn Geba dros nos. Roedd Rama wedi dychryn, a pobl Gibea, tref Saul, yn ffoi. “Rho sgrech, Bath-galîm! Gwrando'n astud, Laisha! Ateb hi, Anathoth!” Mae Madmena yn ffoi, a phobl Gebim yn cuddio. Heddiw mae'r gelyn yn Nob yn ysgwyd ei ddwrn bygythiol yn erbyn mynydd Seion a bryn Jerwsalem! Edrych! Mae'r Meistr—yr ARGLWYDD holl-bwerus— yn mynd i hollti canghennau'r coed gyda nerth brawychus. Bydd yn torri'r coed talaf i lawr, a bydd y rhai uchel yn syrthio. Bydd yn torri trwy ddrysni'r goedwig gyda bwyell, a bydd coed mawr Libanus yn cwympo. Ond bydd brigyn newydd yn tyfu o foncyff Jesse, a changen ffrwythlon yn tyfu o'i wreiddiau. Bydd ysbryd yr ARGLWYDD yn gorffwys arno: ysbryd doethineb rhyfeddol, ysbryd strategaeth sicr, ysbryd defosiwn a pharch at yr ARGLWYDD. Bydd wrth ei fodd yn ufuddhau i'r ARGLWYDD: fydd e ddim yn barnu ar sail yr olwg gyntaf, nac yn gwneud penderfyniad ar sail rhyw si. Bydd yn barnu achos pobl dlawd yn deg ac yn rhoi dyfarniad cyfiawn i'r rhai sy'n cael eu cam-drin yn y tir. Bydd ei eiriau fel gwialen yn taro'r ddaear a bydd yn lladd y rhai drwg gyda'i anadl. Bydd cyfiawnder a ffyddlondeb fel belt am ei ganol. Bydd y blaidd yn cyd-fyw gyda'r oen, a'r llewpard yn gorwedd i lawr gyda'r myn gafr. Bydd y llo a'r llew ifanc yn pori gyda'i gilydd, a bachgen bach yn gofalu amdanyn nhw. Bydd y fuwch a'r arth yn pori gyda'i gilydd, a'u rhai ifanc yn cydorwedd; a bydd y llew yn bwyta gwellt fel ych. Bydd babi bach yn chwarae wrth nyth y cobra a phlentyn bach yn rhoi ei law ar dwll y wiber. Fydd neb yn gwneud drwg nac yn dinistrio dim ar y mynydd sydd wedi ei gysegru i mi. Fel mae'r môr yn llawn dop o ddŵr, bydd y ddaear yn llawn pobl sy'n nabod yr ARGLWYDD. Bryd hynny, bydd y ffaith fod boncyff Jesse yn dal i sefyll yn arwydd clir i bobloedd — bydd cenhedloedd yn dod ato am gyngor, a bydd ei le yn ysblennydd. Bryd hynny, bydd y Meistr yn mynd ati i ryddhau gweddill ei bobl o wlad Asyria — ac hefyd o'r Aifft, Pathros, Dwyrain Affrica, Elam, Babilonia, Chamath, a'r ynysoedd. Bydd yn codi baner i alw'r cenhedloedd, ac yn casglu'r bobl gafodd eu halltudio o Israel. Bydd yn casglu pobl Jwda gafodd eu gwasgaru o bedwar ban byd. Yna bydd cenfigen Effraim yn darfod a bydd yr elyniaeth rhyngddi â Jwda yn dod i ben. Fydd Effraim ddim yn cenfigennu wrth Jwda, a fydd Jwda ddim yn plagio Effraim. Byddan nhw'n ymosod ar y Philistiaid i'r gorllewin, ac yn ysbeilio pobl y dwyrain gyda'i gilydd. Bydd Edom a Moab yn cael eu rheoli ganddyn nhw, a bydd pobl Ammon fel gwas bach iddyn nhw. Bydd yr ARGLWYDD yn sychu Môr yr Aifft. Bydd yn codi ei law dros Afon Ewffrates ac yn anfon gwynt ffyrnig i'w hollti'n saith sychnant, er mwyn gallu ei chroesi heb wlychu'r traed. Felly bydd priffordd ar gyfer gweddill ei bobl sydd wedi eu gadael yn Asyria, fel yr un oedd i bobl Israel pan ddaethon nhw allan o wlad yr Aifft. Bryd hynny, byddi'n dweud: “Dw i eisiau diolch i ti, O ARGLWYDD! Er dy fod wedi digio gyda fi, rwyt wedi troi oddi wrth dy ddig a'm cysuro. Edrychwch ar y Duw sydd wedi fy achub i! Bydda i'n ei drystio, a fydd gen i ddim ofn. Yr ARGLWYDD sy'n rhoi nerth a chân i mi! Yr ARGLWYDD sydd wedi fy achub i.” Byddwch yn codi dŵr yn llawen o ffynhonnau achubiaeth. Byddwch yn dweud bryd hynny: “Diolchwch i'r ARGLWYDD, a galw ar ei enw. Dwedwch wrth bobl y gwledydd beth wnaeth e; Cyhoeddwch fod ei enw wedi ei godi'n uchel. Canwch salmau i'r ARGLWYDD, am iddo wneud peth mawr! Gwnewch yn siŵr fod y byd i gyd yn gwybod am y peth! Bloeddiwch ganu'n llawen, chi sy'n byw yn Seion! Mae'r Un sydd yn eich plith yn fawr — Un Sanctaidd Israel.” Y neges gafodd Eseia fab Amos am Babilon “Codwch faner ar ben mynydd, a gweiddi'n uchel arnyn nhw! Codwch eich llaw i'w galw i mewn drwy giatiau'r bobl fawr! Dw i wedi rhoi gorchymyn i'r rhai dw i wedi eu dewis, a galw fy milwyr cryfion i ddangos mor ddig dw i; milwyr balch sy'n brolio.” Gwrandwch! Mae sŵn cynnwrf ar y mynyddoedd — fel byddin enfawr; Gwrandwch! Sŵn twrw'r gwledydd! Cenhedloedd yn casglu at ei gilydd! Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn casglu byddin i ryfel! Maen nhw'n dod o wlad bell, y tu hwnt i'r gorwel — yr ARGLWYDD ac arfau ei lid, yn dod i ddinistrio'r holl dir! Udwch! Mae dydd barn yr ARGLWYDD yn agos! Mae'n dod fel dinistr oddi wrth yr Un sy'n rheoli popeth. Felly, bydd pob llaw yn llipa, a phawb wedi digalonni a'u llethu gan ddychryn. Bydd poen a phryder wedi gafael ynddyn nhw, a byddan nhw'n gwingo mewn poen fel gwraig yn cael babi. Byddan nhw'n syllu'n syn ar ei gilydd, a'u hwynebau'n gwrido o gywilydd. Ydy! Mae dydd barn yr ARGLWYDD yn dod; dydd creulon ei lid ffyrnig a thanbaid, i droi'r ddaear yn anialwch diffaith, a chael gwared â phechaduriaid ohoni. Fydd y sêr a'u clystyrau ddim yn rhoi golau. Bydd yr haul yn dywyll pan fydd yn codi, a'r lleuad ddim yn llewyrchu. “Bydda i'n cosbi'r byd am ei holl ddrygioni, a phobl ddrwg am eu pechod. Bydda i'n rhoi diwedd ar falchder pobl haerllug, ac yn torri crib y rhai creulon. Bydd pobl yn fwy prin nag aur pur — yn fwy prin nag aur Offir. Bydda i'n gwneud i'r awyr grynu, ac i'r ddaear ysgwyd o'i lle.” Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn barnu ar ddiwrnod ei lid ffyrnig. Bydd pawb yn troi at ei bobl ei hun ac yn dianc i'w gynefin; fel gasél yn dianc pan mae'n cael ei hela, neu ddefaid ar wasgar a neb i'w casglu. Bydd pawb sy'n cael ei ddarganfod yn cael ei drywanu, a phawb sy'n cael ei ddal yn cael ei ladd â'r cleddyf. Bydd eu plant bach yn cael eu curo i farwolaeth, a'u lladd o flaen eu llygaid; eu cartrefi'n cael eu gwagio, a'u gwragedd yn cael eu treisio. “Ond edrychwch, dw i'n codi'r Mediaid yn eu herbyn nhw. Fydd arian ddim yn rhwystro'r rheiny, nac aur yn eu denu i droi. Bydd eu bwâu yn taro'r dynion ifanc i lawr. Fydd dim tosturi at fabis bach, a fyddan nhw ddim yn arbed bywyd y plant.” Bydd Babilon, y deyrnas harddaf — ysblander a balchder ei phobl — wedi ei bwrw i lawr gan Dduw fel Sodom a Gomorra. Fydd neb yn byw yno byth eto; neb o gwbl ar hyd y cenedlaethau — dim bedowin yn codi ei babell, na bugail yn gorffwys ei braidd. Bydd ysbrydion yr anialwch yn gorwedd yno, a'r tai yn llawn creaduriaid yn udo. Bydd y dylluan yn byw yno, a'r gafr-ddemoniaid yn llamu o gwmpas. Bydd bwganod yn sgrechian yn ei hadfeilion, a siacaliaid yn ei phlastai. Mae ei hamser bron ar ben; fydd ei dyddiau ddim yn cael eu hestyn. Ond bydd yr ARGLWYDD yn maddau i Jacob, ac yn dewis Israel unwaith eto. Bydd yn eu gosod nhw yn eu tir eu hunain, a bydd ffoaduriaid yn ymuno gyda nhw ac yn uniaethu gyda phobl Jacob. Bydd pobloedd eraill yn eu harwain yn ôl i'w mamwlad. Bydd pobl Jacob yn rhannu tir yr ARGLWYDD rhyngddyn nhw, i'w drin gan eu gweision a'u morynion. Byddan nhw'n caethiwo'r rhai wnaeth eu caethiwo nhw, ac yn feistri ar y rhai wnaeth eu gorthrymu nhw. Pan fydd yr ARGLWYDD wedi rhoi llonydd i ti o dy holl drafferthion a dy helbulon, a'r holl waith caled pan oeddet ti'n gaethwas, byddi'n adrodd y gerdd ddychan yma am frenin Babilon: “Ble mae'r gormeswr wedi diflannu? Mae ei falchder wedi dod i ben! Mae'r ARGLWYDD wedi torri ffon y rhai drwg, a gwialen y gormeswyr. Roedd yn ddig ac yn taro cenhedloedd yn ddi-stop. Roedd yn sathru pobloedd yn ddidrugaredd a'u herlid yn ddi-baid. Bellach mae'r ddaear yn dawel a digyffro; ac mae'r bobl yn canu'n llawen. Mae hyd yn oed y coed pinwydd yn hapus, a'r coed cedrwydd yn Libanus: ‘Ers i ti gael dy fwrw i lawr, dydy'r torrwr coed ddim yn dod yn ein herbyn ni!’ Mae byd y meirw isod mewn cyffro, yn barod i dy groesawu di — Bydd y meirw'n deffro, sef arweinwyr y byd, a bydd brenhinoedd gwledydd y ddaear yn codi oddi ar eu gorseddau. Byddan nhw i gyd yn dy gyfarch di, ‘Felly, ti hyd yn oed! — rwyt tithau'n wan fel ni! Mae dy holl rwysg a sain cerdd dy liwtiau wedi ei dynnu i lawr i Annwn! Bydd y cynrhon yn wely oddi tanat a phryfed genwair yn flanced drosot ti! Y fath gwymp! — Ti, seren ddisglair, mab y wawr, wedi syrthio o'r nefoedd! Ti wedi dy dorri i lawr i'r ddaear — ti oedd yn sathru'r holl wledydd! Roeddet ti'n meddwl i ti dy hun, “Dw i'n mynd i ddringo i'r nefoedd, a gosod fy ngorsedd yn uwch na sêr Duw. Dw i'n mynd i eistedd ar Fynydd y gynulleidfa yn y gogledd pell. Dw i'n mynd i ddringo ar gefn y cymylau, a gwneud fy hun fel y Duw Goruchaf.” O'r fath gwymp! — Rwyt wedi dod i lawr i fyd y meirw, i'r lle dyfnaf yn y Pwll! Mae pobl yn dy weld ac yn syllu arnat, ac yn pendroni: “Ai hwn ydy'r dyn wnaeth i'r ddaear grynu, a dychryn teyrnasoedd? Ai fe ydy'r un drodd y byd yn anialwch, a dinistrio'i ddinasoedd — heb fyth ryddhau ei garcharorion i fynd adre?”’ Mae brenhinoedd y gwledydd i gyd — pob un ohonyn nhw — yn gorwedd yn grand yn eu beddau eu hunain. Ond ti? — cest ti dy adael heb dy gladdu, yn ffiaidd, fel ffetws wedi ei erthylu. Fel corff marw yn y dillad a wisgai pan gafodd ei drywanu gan y cleddyf. Fel y rhai sy'n syrthio i waelod y pwll, neu gorff yn cael ei sathru dan draed. Gei di ddim angladd fel brenhinoedd eraill, am dy fod ti wedi dinistrio dy wlad dy hun a lladd dy bobl dy hun. Boed i neb byth eto gofio'r fath hil o bobl ddrwg! Paratowch floc i ddienyddio ei feibion o achos drygioni eu tad. Peidiwch gadael iddyn nhw godi i feddiannu'r tir a llenwi'r byd gyda'i dinasoedd!” Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: “Bydda i'n codi yn eu herbyn nhw. Bydda i'n dileu pob enw o Babilon, a lladd phawb sy'n dal ar ôl yno, eu plant a'u disgynyddion i gyd. Bydda i'n llenwi'r wlad â draenogod a'i throi'n gors o byllau dŵr mwdlyd. Bydda i'n ei hysgubo i ffwrdd hefo brwsh dinistr,” —yr ARGLWYDD holl-bwerus sy'n dweud hyn. Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus wedi tyngu llw: “Bydd popeth yn digwydd yn union fel dwedais i; bydd fy nghynlluniau yn dod yn wir. Bydda i'n dryllio grym Asyria yn fy nhir, ac yn ei sathru ar fy mryniau. Bydd ei iau yn cael ei dynnu oddi arnyn nhw, a'r baich trwm yn disgyn oddi ar eu cefnau. Dyna'r cynllun sydd gen i ar gyfer y ddaear gyfan. Dyna pam mae fy llaw yn barod i ddelio gyda'r cenhedloedd i gyd.” Mae gan yr ARGLWYDD holl-bwerus gynllun — Pwy sy'n mynd i'w rwystro? Mae ei law yn barod i weithredu — Pwy sy'n mynd i'w ddal yn ôl? Neges gafodd ei roi yn y flwyddyn y buodd y Brenin Ahas farw: Peidiwch dathlu, chi'r Philistiaid i gyd, am fod y ffon fuodd yn eich curo chi wedi ei thorri. O wreiddyn y neidr bydd gwiber yn codi, gwiber wibiog fydd ei ffrwyth. Bydd y tlotaf o'r tlawd yn cael pori, a'r rhai anghenus yn gorwedd yn ddiogel. Ond bydda i'n defnyddio newyn i ddinistrio dy wreiddyn, a bydd yn lladd pawb sydd ar ôl. Udwch wrth y giatiau; sgrechian yn y ddinas; Mae Philistia i gyd mewn dychryn! Achos mae cwmwl yn dod o'r gogledd, a does neb yn ei rhengoedd yn llusgo eu traed. Beth ydy'r ateb i negeswyr y genedl? Fod yr ARGLWYDD wedi gwneud Seion yn saff, a bod lloches yno i'w bobl anghenus. Neges am Moab. Do, cafodd ei dinistrio mewn noson, cafodd Ar yn Moab ei difrodi'n llwyr; Do, cafodd ei dinistrio mewn noson, cafodd Cir yn Moab ei difrodi'n llwyr. Maen nhw wedi mynd i'r deml, ac i'r allor leol yn Dibon i wylo. Mae Moab yn udo am beth ddigwyddodd i Nebo a Medeba. Mae pob pen yn foel, pob barf wedi ei siafio, ac maen nhw'n gwisgo sachliain yn y strydoedd. Mae pawb yn udo ac yn beichio crïo ar bennau'r tai ac yn y sgwariau. Mae sgrechian yn Cheshbon ac Eleale, ac mae'r sŵn i'w glywed mor bell â Iahats. Felly, mae milwyr Moab yn gweiddi a crynu trwyddynt mewn ofn. Mae fy nghalon yn gwaedu dros Moab — a'r ffoaduriaid sy'n dianc i Soar ac Eglath-shalisheia. Maen nhw'n wylo wrth ddringo ar lethr Lwchith Mae gwaedd dinistr yn codi ar y ffordd i Choronaïm. Mae dyfroedd Nimrim wedi sychu; mae'r glaswellt wedi gwywo, a phob tyfiant yn methu. Mae pob planhigyn wedi diflannu. Felly, maen nhw'n cario eu cynilion a'u heiddo dros Sychnant yr Helyg. Ydy, mae sŵn y sgrechian wedi lledu drwy wlad Moab i gyd: mae'r udo i'w glywed mor bell ag Eglaim, hyd yn oed yn Beër-elim! Mae dyfroedd Dimon yn llawn gwaed. Ond dw i'n mynd i wneud pethau'n waeth eto i Dimon: Bydd llew yn ymosod ar weddill Moab, a'r rhai sydd ar ôl yn y tir. Anfon oen oddi wrth lywodraethwr y wlad, o Sela yn yr anialwch i fynydd Seion hardd: “Mae merched Moab wrth rydau Arnon, fel adar wedi eu tarfu a'u gyrru o'r nyth. Rhowch gyngor! Gwnewch benderfyniad! Rhowch gysgod i ni rhag y gelyn, fel oerni'r nos rhwng gwres dau ddydd: Cuddiwch ein ffoaduriaid! Peidiwch bradychu'r rhai sy'n ffoi. Rhowch loches i ffoaduriaid Moab; Cuddiwch nhw rhag y gelyn sy'n dinistrio.” Pan fydd yr un creulon wedi diflannu, a'r ysbeilio wedi dod i ben, a'r gormeswyr wedi diflannu o'r tir, bydd brenin dibynadwy yn cael ei orseddu — un o deulu Dafydd. Bydd yn teyrnasu'n ffyddlon, bydd yn frwd dros gyfiawnder ac yn hybu tegwch. “Dŷn ni wedi clywed am falchder Moab — mae ei phobl mor falch! Yn snobyddlyd, yn brolio ac mor haerllug — ond mae ei brolio hi'n wag.” Felly, mae Moab yn udo; mae pawb yn Moab yn udo! Mae'r rhai a anafwyd yn griddfan am deisennau ffrwyth melys Cir-chareseth. Mae'r ffrwyth ar gaeau teras Cheshbon a gwinllannoedd Sibma wedi gwywo. Mae'r rhai sy'n rheoli'r cenhedloedd wedi torri eu gwinwydd gorau. Roedden nhw'n cyrraedd hyd at Iaser, ac yn ymestyn i'r anialwch; roedd eu brigau wedi ymledu ac yn cyrraedd at y môr. Felly dw i'n wylo gyda Iaser dros winwydd Sibma. Gwlychaf di â'm dagrau Cheshbon ac Eleale, am fod y gweiddi llawen am ffrwythau aeddfed dy gynhaeaf wedi dod i ben. Mae'r miri a'r hwyl wedi ei ysgubo i ffwrdd o'r gerddi. Does dim canu na sŵn dathlu i'w glywed yn y gwinllannoedd. Does neb yn sathru'r grawnwin i'r cafnau — mae'r bwrlwm wedi tewi. Felly mae fy mol yn murmur dros Moab fel tannau telyn, a'r cwbl sydd yno i dros Cir-cheres. Pan mae pobl Moab yn mynd at yr allor leol, ac yn gweddïo'n daer yn y cysegr, fydd dim byd yn tycio. Dyna'r neges roddodd yr ARGLWYDD i Moab o'r blaen. Ond mae'r ARGLWYDD yn dweud nawr: Mewn tair blynedd union bydd poblogaeth anferth Moab yn crebachu. Fydd dim hyd yn oed llond dwrn ar ôl — neb o bwys. Neges am Damascus. “Edrychwch ar Damascus! Dydy hi ddim yn ddinas bellach — mae hi'n bentwr o gerrig! Bydd ei phentrefi yn wag am byth: lle i breiddiau orwedd heb neb i'w dychryn. Bydd trefi caerog Effraim, a sofraniaeth Damascus yn diflannu. Bydd y rhai sydd ar ôl yn Syria yn yr un cyflwr ‛gwych‛ ag Israel!” —yr ARGLWYDD holl-bwerus sy'n dweud hyn. “Bryd hynny, bydd gwychder Jacob wedi pylu, a'i gorff iach yn denau fel sgerbwd: Yn lle bod fel cae o ŷd yn cael ei gynaeafu, a breichiau'r medelwr yn llawn, bydd fel y tywysennau sy'n cael eu lloffa yn Nyffryn Reffaïm — dim ond ychydig loffion fydd ar ôl. Bydd fel ysgwyd coeden olewydd, a dim ond dau neu dri ffrwyth yn disgyn o'r brigau uchaf, a pedwar neu bump o'r prif ganghennau,” —meddai'r ARGLWYDD, Duw Israel. Bryd hynny, bydd pobl yn troi at eu Crëwr. Byddan nhw'n edrych at Un Sanctaidd Israel am help, yn lle syllu ar yr allorau godon nhw, polion y dduwies Ashera a'r llestri dal arogldarth — eu gwaith llaw eu hunain. Bryd hynny, bydd eu trefi caerog fel yr adfeilion adawyd gan yr Amoriaid a'r Hefiaid pan ymosododd Israel arnyn nhw — wedi eu dinistrio'n llwyr. Rwyt wedi anghofio'r Duw wnaeth dy achub; ac anwybyddu'r Graig — dy gaer ddiogel. Felly rwyt yn trin gerddi i'r ‛Anwylyd‛, a plannu sbrigyn i dduw estron! Ti'n codi ffens o'i gwmpas y diwrnod rwyt yn ei blannu; ei weld yn blaguro y bore hwnnw a disgwyl pentwr o gynhaeaf! Ond y cwbl gei di fydd pryder a poen na ellir ei wella! Gwae! Mae byddinoedd y gwledydd yn dod! Maen nhw'n rhuo fel tonnau'r môr; Mae sŵn y rhuo fel sŵn dŵr mawr yn llifo. Ond er bod y bobl yn rhuo fel sŵn dŵr mawr, bydd Duw'n eu ceryddu, a byddan nhw'n ffoi. Byddan nhw'n cael eu gyrru fel mân us o flaen y gwynt, neu blu ysgall o flaen corwynt. Fin nos, daw dychryn sydyn, ond erbyn y bore does dim ar ôl. Dyna fydd yn digwydd i'r rhai sy'n ein hysbeilio, dyna sy'n disgwyl y rhai sy'n ein rheibio! Gwae wlad yr adenydd chwim wrth afonydd dwyrain Affrica! Mae'n anfon negeswyr dros y môr, mewn cychod brwyn ar wyneb y dŵr. Ewch, negeswyr cyflym, at genedl o bobl dal gyda chroen llyfn — pobl sy'n cael eu hofni ym mhobman; cenedl gref sy'n hoffi ymladd, sydd â'i thir wedi ei rannu gan afonydd. “Gwrandwch bawb drwy'r byd i gyd; pawb sy'n byw ar y ddaear: Byddwch yn ei weld! — fel baner ar ben y bryniau. Byddwch yn ei glywed! — fel sŵn y corn hwrdd yn cael ei chwythu!” Dyma ddwedodd yr ARGLWYDD wrtho i: “Dw i'n mynd i aros yn llonydd ac edrych o'm lle — fel tes yr haul yn tywynnu, neu gwmwl gwlith yng ngwres y cynhaeaf.” Adeg y cynhaeaf grawn, pan mae'r blagur wedi mynd, a'r grawnwin yn dechrau aeddfedu, bydd yn torri'r brigau gyda chyllell, ac yn tocio'r canghennau sy'n lledu. Bydd y cwbl yn cael ei adael i'r eryrod ar y mynydd ac i'r anifeiliaid gwylltion. Bydd yr adar yn byw drwy'r haf arnyn nhw, a'r anifeiliaid gwylltion trwy'r gaeaf. Bryd hynny bydd pobl dal gyda chroen llyfn yn dod â rhoddion i'r ARGLWYDD holl-bwerus — pobl sy'n cael eu hofni ym mhobman; cenedl gref sy'n hoffi ymladd, sydd â'i thir wedi ei rannu gan afonydd. Dônt i'r lle mae enw'r ARGLWYDD holl-bwerus arno: i Fynydd Seion. Neges am yr Aifft. Edrychwch! Mae'r ARGLWYDD yn marchogaeth ar gwmwl cyflym, ac yn dod i'r Aifft. Bydd eilunod diwerth yr Aifft yn crynu o'i flaen, a bydd yr Eifftiaid yn digalonni. “Achos bydd gwrthdaro sifil yn yr Aifft; bydd yr Eifftwyr yn ymladd ei gilydd, un yn erbyn y llall, dinas yn erbyn dinas, teyrnas yn erbyn teyrnas. Bydd yr Aifft wedi anobeithio, a bydda i wedi drysu ei chynlluniau. Byddan nhw'n troi at eu heilunod diwerth am arweiniad, ac at yr ysbrydegwyr, y dewiniaid a'r rhai sy'n dweud ffortiwn. Bydda i'n rhoi'r Eifftiaid yn nwylo meistri gwaith caled, a bydd brenin creulon yn teyrnasu arnyn nhw.” —y Meistr, yr ARGLWYDD holl-bwerus sy'n dweud hyn. Bydd yr Afon Nil yn sychu, a gwely'r afon yn grasdir sych. Bydd y camlesi yn drewi, canghennau'r Afon Nil yn sychu, a'r brwyn a'r hesg yn pydru. Bydd y tir ar y delta yn ddiffaith, a bydd popeth sy'n cael ei hau ar y lan yn crino ac yn cael ei chwythu i ffwrdd — fydd dim ar ôl. Bydd y pysgotwyr yn galaru ac yn cwyno — pawb sy'n taflu bachyn i'r afon, neu'n bwrw rhwyd ar wyneb y dŵr. Bydd y gweithwyr llin yn gofidio hefyd, y rhai sy'n cribo a'r gwehyddion. Bydd y rhai sy'n gwneud brethyn wedi eu llethu gan bryder, a phawb sy'n cael eu cyflogi wedi torri eu calonnau. Mae arweinwyr Soan yn ffyliaid. Mae cynghorwyr mwya doeth y Pharo yn dweud pethau cwbl hurt! Sut allwch chi ddweud wrth y Pharo, “Dw i'n un o'r rhai doeth, o urdd yr hen frenhinoedd”? Ble maen nhw? Ble mae dy rai doeth di? Gad iddyn nhw ddweud wrthot ti a deall beth mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn bwriadu ei wneud i'r Aifft. Mae arweinwyr Soan yn ffyliaid, ac arweinwyr Memffis wedi eu twyllo; Mae penaethiaid ei llwythau wedi arwain yr Aifft ar gyfeiliorn. Mae'r ARGLWYDD wedi ei chymysgu a'i drysu, a gwneud iddi faglu dros bobman, fel meddwyn yn mynd igam-ogam yn ei gyfog. All neb wneud dim i helpu'r Aifft — pen na chynffon, cangen balmwydd na brwynen. Bryd hynny bydd yr Eifftiaid yn wan fel merched. Byddan nhw'n crynu mewn ofn am fod yr ARGLWYDD holl-bwerus yn codi ei law i'w taro nhw. Bydd sôn am Jwda'n codi dychryn ar yr Aifft. Bydd pawb fydd yn cofio ei arwyddion yn crynu wrth feddwl am beth mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn bwriadu ei wneud iddyn nhw. Bryd hynny bydd pum tref yn yr Aifft yn siarad iaith Canaan ac yn tyngu llw o ffyddlondeb i'r ARGLWYDD holl-bwerus. Dinas yr Haul fydd enw un ohonyn nhw. Bryd hynny bydd allor i'r ARGLWYDD yng nghanol yr Aifft, a colofn wedi ei chysegru i'r ARGLWYDD ar y ffin. Bydd yn arwydd i atgoffa'r Aifft pwy ydy'r ARGLWYDD holl-bwerus. Pan fyddan nhw'n gweiddi ar yr ARGLWYDD am help yn erbyn y rhai sy'n eu gorthrymu nhw, bydd e'n anfon un i'w hachub nhw ac ymladd drostyn nhw. Achos bydd yr ARGLWYDD yn datguddio ei hun i'r Eifftiaid, a byddan nhw'n dod i'w nabod e bryd hynny. Byddan nhw'n ei addoli gydag aberth ac offrwm o rawn, yn gwneud addunedau iddo, ac yn eu cadw. Os bydd yr ARGLWYDD yn taro'r Aifft gyda phla, bydd yn ei tharo ac yna yn ei gwella. Os byddan nhw'n troi yn ôl at yr ARGLWYDD, bydd e'n ymateb iddyn nhw ac yn eu hiacháu nhw. Bryd hynny, bydd priffordd o'r Aifft i Asyria. Bydd yr Asyriaid yn mynd i'r Aifft, a'r Eifftiaid yn mynd i Asyria, a bydd yr Eifftiaid a'r Asyriaid yn addoli gyda'i gilydd. Bryd hynny, Israel fydd y trydydd partner gyda'r Aifft ac Asyria ac yn cael eu bendithio ar y ddaear, Bydd yr ARGLWYDD holl-bwerus yn eu bendithio nhw, ac yn dweud, “Bendith ar yr Aifft, fy mhobl, ac ar Asyria, gwaith fy llaw, ac ar Israel, fy etifeddiaeth.” Roedd hi'r flwyddyn yr anfonodd Sargon, brenin Asyria, ei brif swyddog milwrol i ymosod ar dref Ashdod, a'i choncro. Dyma'r ARGLWYDD yn siarad gydag Eseia fab Amos, a dweud, “Dos, datod y sachliain oddi amdanat, a tynna dy sandalau i ffwrdd.” A dyma Eseia yn gwneud hynny, a cherdded o gwmpas yn noeth a heb ddim am ei draed. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud, “Arwydd ydy hwn sy'n rhybudd i'r Aifft a Teyrnas Cwsh yn Nwyrain Affrica: Fel mae fy ngwas Eseia wedi cerdded o gwmpas am dair blynedd yn noeth a heb ddim am ei draed, bydd brenin Asyria yn arwain yr Eifftiaid i ffwrdd, ac yn caethgludo pobl Cwsh — ifanc a hen, yn noeth a heb ddim am eu traed, a'u tinau yn y golwg — bydd yn sarhad ar yr Aifft! Byddan nhw'n ddigalon, a bydd ganddyn nhw gywilydd o'r Affricaniaid (y rhai roedden nhw wedi gobeithio ynddyn nhw), a'r Aifft (y rhai roedden nhw'n eu brolio). Bryd hynny, bydd y rhai sy'n byw ar yr arfordir yma yn dweud, ‘Os ydy hyn wedi digwydd i'r Aifft, pa obaith sydd i ni? Roedden ni wedi gobeithio mai nhw fyddai'n ein helpu ni ac yn ein hachub rhag brenin Asyria.’” Neges am “yr Anialwch wrth y môr” (sef Babilon): Fel y gwyntoedd stormus sy'n rhuthro drwy'r Negef, mae e'n dod o'r anialwch, o wlad sydd i'w hofni. Cafodd gweledigaeth erchyll ei rhoi i mi: “Mae'r bradwr yn bradychu, a'r dinistrydd yn dinistrio! Ymlaen, Elam! Gwarchae arni, Media! Dw i am roi taw ar y griddfan mae wedi ei achosi.” Yn sydyn, mae fy nghorff yn ddolur i gyd; Mae poenau yn gafael yno i fel gwraig mewn poen wrth gael babi. Dw i wedi fy llethu gan beth dw i'n ei glywed, ac wedi dychryn gan beth dw i'n ei weld. Mae'r galon yn pwmpio a dw i'n crynu mewn panig. Mae fy mreuddwyd am wawr newydd wedi troi'n hunllef: Mae “Trefnwch wledd” wedi troi'n “Gosodwch wylwyr!” “Bwytwch ac yfwch!” wedi troi'n “Codwch swyddogion! Paratowch y tariannau!” Achos dyma ddwedodd y Meistr wrtho i: “Dos, gosod wyliwr i edrych allan, a dweud beth mae'n ei weld. Pan fydd yn gweld cerbyd gyda phâr o geffylau, marchog ar asyn neu farchog ar gamel, dylai ddal sylw a gwylio'n ofalus.” Yna dyma'r gwyliwr yn gweiddi'n uchel: “Meistr, dw i wedi sefyll ar y tŵr gwylio drwy'r dydd, ac wedi edrych allan bob nos. Ac edrych draw! Mae rhywun yn dod — Dyn mewn cerbyd gyda phâr o geffylau!” Ac mae'n gweiddi'n uchel, “Mae wedi syrthio! Mae Babilon wedi syrthio! Mae'r delwau o'i holl dduwiau yn ddarnau mân ar lawr!” Chi sydd wedi dioddef — fy mhobl ar fy llawr dyrnu: Dw i wedi dweud wrthoch chi beth glywais i gan yr ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel. Neges am Dwma. Mae rhywun yn galw arna i o Seir: “Wyliwr, faint o'r nos sydd ar ôl? Wyliwr, faint o'r nos sydd ar ôl?” Atebodd y gwyliwr, “Mae'r bore yn dod, ond daw'r nos yn ôl. Os ydych chi am ofyn eto, gofynnwch. Trowch! Dewch yn ôl!” Neges am Arabia. Cuddiwch yn nrysni'r anialwch, chi grwydriaid Dedan! Rhowch ddiod o ddŵr i'r sychedig, chi sy'n byw yn Tema; rhowch fara i'r ffoaduriaid, achos maen nhw'n dianc rhag y rhyfel: rhag y cleddyf wedi ei dynnu o'r wain, rhag y bwa sy'n barod i saethu, a rhag caledi'r frwydr. Achos dyma ddwedodd fy Meistr wrtho i: “Mewn blwyddyn union bydd ysblander Cedar wedi darfod; nifer fach iawn o arwyr Cedar sy'n saethu gyda'r bwa fydd ar ôl.” Mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, wedi dweud. Neges am ‛Ddyffryn y Weledigaeth‛: Beth sy'n digwydd yma? Pam mae pawb wedi mynd i ben y toeau? Roeddet ti mor llawn bwrlwm — yn ddinas mor swnllyd! yn dre llawn miri! Nid cleddyf wnaeth ladd dy feirwon, na'r frwydr chwaith. Rhedodd dy arweinwyr i ffwrdd, ond eu dal heb fwasaethwyr. Cafodd pawb oedd wedi eu gadael ar ôl eu carcharu gyda'r rhai wnaeth ddianc yn bell. Dyna pam dw i'n dweud, “Gadewch lonydd i mi! gadewch i mi wylo'n chwerw. Peidiwch boddran ceisio fy nghysuro am fod fy mhobl druan wedi eu dinistrio.” Ydy, mae fy Meistr, yr ARGLWYDD holl-bwerus, wedi trefnu diwrnod o banig, sathru, a dryswch — yn Nyffryn y Weledigaeth mae sŵn waliau'n syrthio, a pobl yn gweiddi ar y mynydd. Mae Elam wedi codi'r gawell saethau, gyda'i marchogion a'i cherbydau, ac mae milwyr Cir wedi paratoi eu tariannau. Mae dy ddyffrynnoedd, dy dir gorau, yn llawn o gerbydau, a'r marchogion yn rhengoedd tu allan i'r giatiau. Mae'r sgrîn oedd yn amddiffyn Jwda wedi ei symud. Felly, bryd hynny, dyma chi'n mynd i Blas y Goedwig, i nôl yr arfau oedd wedi eu storio. Roeddech chi'n gweld fod llawer iawn o fylchau yn waliau Dinas Dafydd. Felly dyma gasglu dŵr o'r Llyn Isaf, cyfri'r tai yn Jerwsalem a chwalu rhai er mwyn gwneud waliau'r ddinas yn ddiogel. Yna adeiladu cronfa rhwng y ddwy wal i ddal dŵr yr hen lyn. Ond wnaethoch chi ddim cymryd sylw o'r Un wnaeth y cwbl, na meddwl am yr Un oedd wedi cynllunio hyn ers talwm. Bryd hynny dyma fy Meistr, yr ARGLWYDD holl-bwerus, yn galw ar bobl i wylo a galaru, i siafio'r pen a gwisgo sachliain. Ond yn lle hynny roedd hwyl a miri, lladd gwartheg a defaid, bwyta cig ac yfed gwin. “Gadewch i ni gael parti ac yfed! Falle byddwn ni'n marw fory!” Roeddwn i wedi clywed yr ARGLWYDD holl-bwerus yn dweud: “Fydd dim byd yn gwneud iawn am y pechod yma nes i chi farw,” Ie, dyna ddwedodd fy Meistr, yr ARGLWYDD holl-bwerus. Mae fy Meistr, yr ARGLWYDD holl-bwerus yn dweud: “Dos i ofyn i'r swyddog, y Shefna yna sy'n gyfrifol am y palas: ‘Beth sy'n digwydd yma? Pwy roddodd ganiatâd i ti dorri bedd i ti dy hun yma? Torri bedd i ti dy hun mewn lle pwysig; Naddu lle i ti dy hun gael gorffwys yn y graig! Mae'r ARGLWYDD yn mynd i dy daflu di i ffwrdd — dy hyrddio di'n bell, ti bwysigyn! Bydd yn dy lapio di'n dynn, yn dy rolio i fyny fel pelen ac yn dy daflu i ffwrdd i wlad eang iawn! A dyna ble byddi di'n marw. Yr unig gerbydau crand i gario dy gorff fydd y cywilydd ddaeth ar dŷ dy feistr! Dw i'n mynd i dy ddiswyddo di! Byddi di'n cael dy fwrw i lawr o dy safle! Bryd hynny bydda i'n galw ar fy ngwas Eliacim fab Chilceia, ac yn ei arwisgo fe gyda dy grys di, a'r sash sydd am dy ganol. Bydda i'n rhoi dy awdurdod di iddo fe, a bydd e'n gofalu am bawb sy'n byw yn Jerwsalem a pobl Jwda i gyd. Bydda i'n rhoi allwedd tŷ Dafydd iddo. Fydd neb yn gallu cau yr hyn mae'n ei agor, nac agor yr hyn mae e'n ei gau. Bydda i'n ei osod yn gadarn yn ei le — fel hoelen wedi ei tharo i wal. Bydd e'n cael y sedd anrhydedd yn nhŷ ei dad. Bydd y cyfrifoldeb am deulu ei dad arno fe: pawb, o'r egin a'r dail; bydd y llestri bach i gyd, y powlenni a'r gwahanol jariau yn hongian arno.’” “Bryd hynny,”—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus—“bydd yr hoelen oedd mor sownd yn dod yn rhydd. Bydd yn cael ei thorri a bydd yn syrthio, a bydd y llwyth oedd yn hongian arni yn cael ei dynnu i lawr.” Mae'r ARGLWYDD wedi dweud! Neges am Tyrus: Udwch, longau masnach Tarshish! Does dim porthladd i fynd adre iddo — achos mae wedi ei ddryllio! Cafodd y newyddion ei gyhoeddi o Cyprus. Galarwch, chi sy'n byw ar yr arfordir, chi fasnachwyr Sidon. Maen nhw wedi croesi'r môr i'w chyflenwi; croesi'r dyfroedd mawrion gyda had o Sihor a chynhaeaf yr Afon Nil; dyna oedd ei henillion — hi oedd marchnad y gwledydd. Cywilydd arnat ti, Sidon! achos mae'r môr — y gaer ddiogel honno — wedi dweud, “Fi ydy'r un sydd heb ddiodde poenau wrth gael plant. Dw i heb fagu bechgyn ifanc na merched ifanc!” Pan fydd yr Aifft yn clywed am y peth byddan nhw'n gwingo mewn poen wrth glywed am Tyrus. Croeswch drosodd i Tarshish — Udwch, chi sy'n byw ar yr arfordir! Ai dyma'r ddinas gawsoch chi'r fath firi ynddi? — y ddinas sydd a hanes mor hen iddi? Ai hon deithiodd mor bell i fasnachu? Pwy drefnodd i hyn ddigwydd i Tyrus, y ddinas oedd yn gwisgo coron, a'i masnachwyr yn dywysogion ac yn bobl mor bwysig? Yr ARGLWYDD holl-bwerus drefnodd y peth — i ddirmygu ei balchder yn ei harddwch, a chodi cywilydd ar y bobl bwysig i gyd. Hwyliwch adre bobl Tarshish, i drin eich tir fel y rhai sy'n ffermio wrth yr Afon Nil; does dim harbwr i chi yma bellach. Pan gododd yr ARGLWYDD ei law dros y môr gwnaeth i deyrnasoedd grynu mewn ofn! Yr ARGLWYDD roddodd orchymyn i ddinistrio trefi caerog Canaan. Dwedodd, “Dyna ddigon o dy rialtwch ferch Sidon, sydd wedi ei gorthrymu.” Dos! cod, a chroesa drosodd i Cyprus, Ond fyddi di ddim yn cael llonydd yno chwaith! Edrychwch ar wlad Babilonia — y bobl sydd wedi peidio â bod! Rhoddodd Asyria nhw i'r anifeiliaid gwylltion. Codi tyrau i warchae arni, ysbeilio ei phlastai a'i throi yn adfeilion. Udwch, longau masnach Tarshish, achos mae eich caer ddiogel wedi ei dinistrio! Bryd hynny bydd Tyrus yn cael ei anghofio am saith deg mlynedd, sef hyd bywyd brenin. Ond ar ôl hynny bydd Tyrus fel y gân honno am y butain: Cymer delyn, crwydra'r ddinas, butain a anghofiwyd; Cân dy alaw unwaith eto, i wneud i bobl gofio. Achos ar ôl saith deg mlynedd, bydd yr ARGLWYDD yn adfer Tyrus eto; bydd yn mynd yn ôl i werthu ei hun fel putain, a denu holl wledydd y byd i wneud busnes gyda hi. Ond bydd ei helw a'i henillion yn cael eu cysegru i'r ARGLWYDD. Fydd e ddim yn cael ei gadw a'i storio; bydd ei helw yn mynd i'r rhai sy'n agos at yr ARGLWYDD, iddyn nhw gael digonedd o fwyd, a'r dillad gorau. Edrych! Mae'r ARGLWYDD yn difetha'r tir a'i adael yn wag! Mae'n ei droi â'i ben i lawr, ac yn gwasgaru'r rhai sy'n byw arno. Bydd yr un peth yn digwydd i'r offeiriad ac i'r bobl gyffredin, i'r gwas a'i feistr, i'r forwyn a'i meistres, i'r gwerthwr a'r prynwr, i'r benthyciwr a'r un sy'n benthyg, i'r credydwr a'r un mewn dyled. Bydd y tir yn hollol wag — wedi ei ysbeilio'n llwyr. Yr ARGLWYDD sydd wedi dweud. Mae'r tir yn sych; mae'n gwywo. Mae'r byd yn gwanio; mae'n gwywo. Mae ei phobl bwysica yn wan. Mae'r tir ei hun wedi ei lygru gan y rhai sy'n byw arno. Maen nhw wedi anwybyddu'r ddysgeidiaeth, newid y deddfau, a thorri'r ymrwymiad oedd i fod am byth. Dyna pam mae'r wlad wedi ei melltithio'n llwyr, a'i phobl yn cael eu cosbi. Dyna pam mae'r rhai sy'n byw ar y tir wedi diflannu, nes bod bron neb ar ôl. Mae'r sudd grawnwin yn sychu, a'r coed gwinwydd yn gwywo, a'r holl hwyl a'r miri'n troi'n riddfan. Mae sŵn llawen y tambwrîn wedi tewi, yr holl firi swnllyd wedi peidio, a sain hyfryd y delyn yn dawel. Does neb yn canu wrth yfed gwin; ac mae'r cwrw yn blasu'n chwerw. Dinas mewn anhrefn wedi ei dryllio! Pob tŷ wedi ei gau i fyny, rhag i rywun fynd iddo. Mae pobl yn gweiddi am win ar y strydoedd: mae pob hwyl wedi peidio, a miri wedi ei daflu allan o'r wlad. Mae'r ddinas wedi ei gadael mewn llanast llwyr, a'i giatiau wedi eu dryllio'n ddarnau. Fel yna bydd hi yn y tir, ymhlith y gwledydd: Fel coeden olewydd sy'n cael ei hysgwyd, a'r lloffa sy'n digwydd pan mae'r cynhaeaf grawnwin drosodd. Ond bydd rhai'n codi eu lleisiau ac yn gweiddi'n llawen! Bydd rhai'n canu clod o'r gorllewin am fod yr ARGLWYDD mor fawreddog. Felly, addolwch yr ARGLWYDD yn y dwyrain ac ar arfordir ac ynysoedd y gorllewin — addolwch enw'r ARGLWYDD, Duw Israel. Mae canu i'w glywed o ben draw'r byd: “Mae'r Un Cyfiawn mor wych!” Ond wedyn dw i'n dweud: “Mae ar ben arna i! Mae ar ben arna i! Gwae fi! Mae bradwyr yn bradychu! Bradwyr yn bradychu â'u brad!” Panig, pydew a thrap i bawb sy'n byw yn y wlad! Bydd pawb sy'n ffoi mewn dychryn yn disgyn i lawr i dwll. A bydd pawb sy'n dringo o'r twll yn cael ei ddal mewn trap! Mae'r llifddorau wedi eu hagor yn yr awyr, ac mae sylfeini'r ddaear yn crynu. Mae'r tir wedi cracio drosto; mae wedi hollti'n ddarnau, ac yn cael ei erydu'n llwyr. Mae'r tir yn gwegian fel meddwyn, ac yn sigledig fel cwt gwyliwr. Bydd yn cael ei lorio gan euogrwydd, Bydd yn syrthio, a byth yn codi eto! Bryd hynny, bydd yr ARGLWYDD yn cosbi pwerau'r awyr uchod a brenhinoedd y ddaear isod. Byddan nhw'n cael eu casglu at ei gilydd fel carcharorion mewn dwnsiwn, a'i cloi yn y carchar, i wynebu eu tynged ar ôl amser hir. Bydd y lleuad yn cywilyddio a'r haul yn swil, pan fydd yr ARGLWYDD holl-bwerus yn teyrnasu ar Fynydd Seion ac yn Jerwsalem, yn ei holl ysblander o flaen arweinwyr y bobl. ARGLWYDD, ti ydy fy Nuw i! Dw i'n dy ganmol di! Dw i'n moli dy enw! Ti wedi gwneud peth rhyfeddol — rhywbeth gafodd ei gynllunio ymhell yn ôl; ti'n gwbl ddibynadwy! Ti wedi troi dinas y gelyn yn bentwr o gerrig! Troi'r gaer amddiffynnol yn adfeilion! Gaiff y palas estron byth ei ailadeiladu! Felly bydd gwledydd cryfion yn dy anrhydeddu di! A threfi'r cenhedloedd creulon yn dy barchu di! Ond rwyt ti'n dal yn lle diogel i'r rhai tlawd guddio; yn lle i'r anghenus gysgodi mewn argyfwng — yn lloches rhag y storm, cysgod rhag gwres yr haul. Pan mae pobl greulon yn ein taro fel storm o law trwm, neu fel gwres yr haul yn crasu'r tir, rwyt ti'n tewi twrw'r estroniaid. Mae fel cysgod cwmwl yn dod i leddfu'r gwres, ac mae cân y gormeswr creulon yn cael ei dewi. Ar y mynydd hwn bydd yr ARGLWYDD holl-bwerus yn paratoi gwledd o fwyd blasus i'r cenhedloedd i gyd. Gwledd o winoedd aeddfed — bwyd blasus gyda'r gwin gorau. Ar y mynydd hwn bydd yn dinistrio'r llen sy'n gorchuddio wynebau'r bobloedd, a'r gorchudd sy'n bwrw cysgod dros y cenhedloedd i gyd. Bydd marwolaeth wedi ei lyncu am byth. Bydd fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn sychu'r dagrau oddi ar bob wyneb, a symud y cywilydd sydd wedi bod ar ei bobl o'r tir. —mae'r ARGLWYDD wedi dweud. Bryd hynny bydd y bobl yn dweud: “Dyma'n Duw ni; yr un roedden ni'n disgwyl iddo'n hachub ni. Dyma'r ARGLWYDD roedden ni'n ei drystio; Gadewch i ni ddathlu a mwynhau ei achubiaeth.” Ydy, mae llaw yr ARGLWYDD yn gorffwys ar y mynydd hwn. Bydd Moab yn cael ei sathru ganddo fel gwellt yn cael ei sathru mewn tomen. Bydd yn estyn ei ddwylo ar led yn ei chanol, fel nofiwr yn estyn ei ddwylo i nofio. Bydd yn gwneud i falchder Moab suddo hefo symudiad ei ddwylo. Bydd y waliau diogel sy'n eu hamddiffyn yn cael eu bwrw i lawr ganddo; bydd yn eu chwalu i'r llawr — nes byddan nhw yn y llwch. Bryd hynny, bydd y gân hon yn cael ei chanu yng ngwlad Jwda: Mae gynnon ni ddinas gref; achubiaeth ydy ei waliau mewnol ac allanol hi. Agorwch y giatiau, i'r genedl gyfiawn ddod i mewn a gweld ei ffyddlondeb. Mae'r rhai sy'n dy drystio di yn gallu bod yn hollol dawel eu meddwl. Trystiwch yr ARGLWYDD bob amser, achos wir, mae'r ARGLWYDD yn graig am byth. Mae'n tynnu'r rhai balch i lawr. Mae'n gwneud i'r ddinas saff syrthio — syrthio i'r llawr nes bydd yn y llwch. Mae'n cael ei sathru dan draed — traed y rhai anghenus, a sodlau y rhai tlawd. Mae'r llwybr yn wastad i'r un sy'n gwneud beth sy'n iawn; rwyt ti'n gwneud ffordd y cyfiawn yn llyfn. Dŷn ni'n edrych atat ti, O ARGLWYDD, i wneud y peth iawn; cofio dy enw di ydy'n hiraeth dyfnaf ni. Yn y nos dw i'n dyheu amdanat o waelod calon, mae'r cwbl sydd ynof yn dy geisio di'n daer; achos pan mae'r hyn sy'n iawn yn dy olwg di'n cael ei wneud yn y wlad, maen nhw'n dysgu beth sy'n iawn i bawb yn y byd. Pan mae'r un sy'n gwneud drwg yn cael ei esgusodi, dydy e ddim yn dysgu beth sy'n iawn. Mae'n dal i wneud drwg mewn gwlad o bobl onest — dydy e'n dangos dim parch at fawredd yr ARGLWYDD. ARGLWYDD, rwyt ar fin gweithredu ond dŷn nhw ddim wedi sylwi. Gad iddyn nhw gywilyddio wrth weld dy sêl dros dy bobl, a'th dân yn llosgi dy elynion. O ARGLWYDD! Ti wedi rhoi heddwch perffaith i ni; Ti sydd wedi cyflawni'r cwbl ar ein rhan ni! O ARGLWYDD ein Duw, mae meistri eraill wedi bod yn ein rheoli ni, ond dim ond ti oedden ni'n ei gydnabod. Mae'r lleill wedi marw, a fyddan nhw ddim yn byw; cysgodion ydyn nhw, a wnân nhw byth godi. Ti wnaeth benderfynu eu tynged nhw, eu dinistrio nhw a chael gwared â phob atgof ohonyn nhw. Ti wedi gwneud i'r genedl dyfu, O ARGLWYDD, Ti wedi gwneud i'r genedl dyfu, ac ennill anrhydedd i ti dy hun. Ti wedi estyn ffiniau'r wlad. ARGLWYDD, pan oedd hi'n argyfwng arnyn nhw dyma nhw'n dy geisio di. Roeddet ti wedi eu ceryddu nhw am yr holl sibrwd swynion. Roedden ni o dy flaen di, O ARGLWYDD, fel gwraig ar fin cael plentyn, yn gwingo ac yn sgrechian mewn poen. Ond os oedden ni'n feichiog, os oedden ni'n gwingo, doedden ni'n geni dim byd ond gwynt. Gafodd y wlad mo'i hachub; a doedd dim plant wedi eu geni i fyw yn y tir. Ond bydd dy feirw di yn dod yn fyw! Bydd cyrff marw yn codi eto! Deffrwch a chanwch yn llawen, chi sy'n byw yn y pridd! Bydd dy olau fel gwlith y bore yn rhoi bywyd i dir y meirwon. Ewch, fy mhobl! Ewch i'ch ystafelloedd, a chloi'r drysau ar eich hôl. Cuddiwch am funud fach, nes i'w lid basio heibio. Achos mae'r ARGLWYDD yn dod allan i gosbi pobl y ddaear am eu drygioni. Bydd y tir yn dangos y trais fu arno, a ddim yn cuddio'r rhai gafodd eu lladd byth mwy. Bryd hynny bydd yr ARGLWYDD yn cosbi Lefiathan, y neidr wibiog, gyda'i gleddyf llym, mawr a didostur — Lefiathan, y neidr droellog; a bydd yn lladd Rahab, anghenfil y môr. Bryd hynny byddwch yn canu'r gân ‛Y Winllan Hyfryd‛: Fi, yr ARGLWYDD, sy'n gofalu amdani, ac yn ei dyfrio hi bob amser. Dw i'n ei gwylio hi nos a dydd, rhag i rywun wneud niwed iddi. Dw i ddim yn ddig bellach: Petai rhywun yn rhoi drain a mieri i mi, byddwn yn mynd allan i ryfel yn eu herbyn, ac yn eu llosgi nhw'n ulw. Ond os ydyn nhw am i mi eu hamddiffyn nhw, rhaid iddyn nhw wneud heddwch hefo fi; ie, rhaid iddyn nhw wneud heddwch hefo fi. Mae'r amser yn dod pan fydd Jacob yn bwrw gwreiddiau, ac Israel yn tyfu ac yn blodeuo — bydd y byd i gyd yn llawn o'i ffrwyth. Gafodd e ei daro fel yr un wnaeth ei daro fe? Wnaeth e ddiodde lladdfa debyg i'r un wnaeth ei ladd e? Cafodd ei yrru i ffwrdd a'i gaethgludo i'w alw i gyfrif. Cafodd ei chwythu i ffwrdd gan wynt cryf ar ddydd y storm. Felly, dyma sut mae gwneud iawn am fai Jacob, a dyma fydd canlyniad symud ei bechod: Bydd cerrig yr allor yn cael eu malu i gyd fel petaen nhw'n garreg galch — a polion y dduwies Ashera a'r llestri dal arogldarth wedi eu torri i gyd. Mae'r ddinas gaerog wedi ei gadael yn wag; cartrefi gwag wedi eu gadael fel tir diffaith. Mae lloi yn pori yno, yn gorwedd i lawr ac yn bwyta popeth sydd ar y canghennau. Yna mae'r brigau'n sychu, ac yn torri; ac mae merched yn dod ac yn cynnau tân hefo nhw. Pobl oedd ddim yn deall oedden nhw; felly doedd Duw'n dangos dim trugaredd, doedd eu Crëwr yn dangos dim caredigrwydd atyn nhw. Bryd hynny, bydd yr ARGLWYDD yn ysgwyd y goeden, o Afon Ewffrates i Wadi'r Aifft; a byddwch chi, blant Israel, yn cael eich casglu bob yn un! Bryd hynny, bydd y corn hwrdd yn cael ei ganu; bydd y rhai oedd ar goll yng ngwlad Asyria, a'r rhai oedd wedi cael eu gyrru i wlad yr Aifft, yn dod i addoli'r ARGLWYDD ar y mynydd cysegredig, yn Jerwsalem. Gwae Samaria! Bydd coron falch meddwon Effraim yn syrthio, a'i harddwch yn ddim ond blodau wedi gwywo — blodau oedd yn tyfu ar ben dyffryn ffrwythlon. Maen nhw'n chwil gaib! Edrychwch! Mae gan y Meistr un cryf a dewr sydd fel storm o genllysg, ie, drycin ddinistriol — fel storm pan mae'r glaw yn arllwys i lawr ac yn bwrw popeth i'r llawr. Bydd coron falch meddwon Effraim wedi ei sathru dan draed, a'i blodau wedi gwywo — y blodau oedd yn tyfu ar ben dyffryn ffrwythlon. Byddan nhw fel ffigysen gynnar cyn i'r cynhaeaf ddod. Bydd rhywun yn sylwi arni ac yn ei llyncu yr eiliad mae'n gafael ynddi. Bryd hynny, bydd yr ARGLWYDD holl-bwerus yn goron hardd, ac yn dorch wedi ei phlethu'n hyfryd i'r bobl fydd wedi eu gadael ar ôl. Bydd yn rhoi arweiniad i'r un sy'n eistedd i farnu, a nerth i'r rhai sy'n amddiffyn giatiau'r ddinas. Ond mae'r rhain wedi meddwi'n gaib ar win; maen nhw'n chwil ar ôl yfed cwrw. Mae'r offeiriad a'r proffwyd wedi meddwi'n gaib ar gwrw a drysu'n lân ar win. Maen nhw'n chwil ar ôl yfed cwrw, a'i gweledigaethau'n ddryslyd; maen nhw'n baglu wrth farnu. Mae chwŷd a charthion dros y byrddau i gyd, does dim lle'n lân o gwbl. “Pwy mae e'n gallu ei ddysgu? I bwy fyddai e'n gallu esbonio rhywbeth? I blantos bach sydd newydd ddod oddi ar y frest? Dim ond ailadrodd llythrennau'r wyddor, ‘a, b,’ ‘a, b,’ ‘c, ch, d,’ ‘c, ch, d’ tyrd yma, bach; fan yma, bach!” O'r gorau, bydd yn siarad gyda nhw fel un yn siarad yn aneglur mewn iaith estron. Roedd wedi dweud wrthyn nhw: “Dyma le saff, lle i'r blinedig orffwys; dyma le i chi orwedd i lawr.” Ond doedd neb yn fodlon gwrando. Felly dyma neges yr ARGLWYDD iddyn nhw: “‘a, b,’ ‘a, b,’ ‘c, ch, d,’ ‘c, ch, d’ tyrd yma, bach; fan yma, bach!” Wrth geisio mynd yn eu blaenau byddan nhw'n syrthio ar eu tinau, yn cael eu dryllio a'u rhwymo a'u dal. Felly dyma neges yr ARGLWYDD i chi sy'n gwawdio; chi arweinwyr y bobl yn Jerwsalem! Chi sy'n brolio, “Dŷn ni wedi gwneud cytundeb gyda Marwolaeth, a taro bargen i osgoi'r bedd. Pan fydd y dinistr yn ysgubo trwodd, fydd e ddim yn ein cyffwrdd ni. Dŷn ni wedi gwneud twyll yn lle i guddio, a chelwydd yn lle saff i gysgodi.” Dyma mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud: “Edrychwch, dw i'n mynd i osod carreg yn Seion, carreg ddiogel, conglfaen gwerthfawr, sylfaen hollol gadarn. Fydd pwy bynnag sy'n credu ddim yn panicio. Bydda i'n gwneud cyfiawnder yn llinyn mesur, a tegwch yn llinyn plwm. Bydd cenllysg yn ysgubo'r twyll, sef eich lle i guddio, a bydd dŵr y llifogydd yn boddi'ch lle saff i gysgodi. Bydd eich cytundeb hefo Marwolaeth yn cael ei dorri, a'ch bargen gyda'r bedd yn chwalu. Pan fydd y dinistr yn ysgubo trwodd, chi fydd yn diodde'r difrod. Bydd yn eich taro chi bob tro y bydd yn dod heibio. Bydd yn dod un bore ar ôl y llall, bob dydd a bob nos.” Bydd deall y neges yma yn achosi dychryn ofnadwy. Mae'r gwely'n rhy fyr i ymestyn arno, a'r garthen yn rhy gul i rywun ei lapio amdano! Bydd yr ARGLWYDD yn codi fel y gwnaeth ar Fynydd Peratsîm; bydd yn cyffroi i wneud ei waith fel y gwnaeth yn Nyffryn Gibeon — ond bydd yn waith rhyfedd! Bydd yn cyflawni'r dasg — ond bydd yn dasg ddieithr! Felly, stopiwch wawdio, rhag i'ch rhwymau gael eu tynhau. Dw i wedi clywed fy Meistr, yr ARGLWYDD holl-bwerus, yn gorchymyn dinistrio'r wlad gyfan. Gwrandwch yn astud ar hyn! Gwnewch yn siŵr eich bod yn clywed be dw i'n ddweud. Ydy'r sawl sy'n aredig yn aredig drwy'r amser heb hau? Ydy e'n troi'r tir a'i lyfnu'n ddi-baid? Ar ôl ei lefelu, onid ydy e'n gwasgaru ffenigl a hadau cwmin? Onid ydy e'n hau gwenith mewn rhes, haidd yn ei le, a sbelt yn ei wely? Ei Dduw sy'n ei ddysgu; mae'n dysgu'r ffordd iawn iddo. Dydy ffenigl ddim yn cael ei ddyrnu gyda sled, na cwmin gydag olwyn trol. Mae ffenigl yn cael ei guro hefo ffon, a cwmin gyda gwialen. Mae gwenith yn cael ei falu, ond ddim yn ddiddiwedd. Mae olwyn trol yn rholio trosto, ond dydy'r ceffylau ddim yn ei sathru. A'r ARGLWYDD holl-bwerus sydd wedi trefnu hyn hefyd — Mae ganddo gynllun gwych, ac mae'n rhyfeddol o ddoeth. Gwae Ariel! Ariel, y ddinas ble roedd Dafydd yn byw! Mae'r blynyddoedd yn mynd heibio a'r gwyliau yn pasio yn eu tro. Ond dw i'n mynd i'w phoenydio, a bydd yn griddfan ac ochneidio. Bydd Ariel yn allor i aberthu i mi. Bydda i'n gwersylla o dy gwmpas, yn gwarchae arnat hefo byddin ac offer gwarchae i ymosod arnat ti. Byddi'n cael dy dynnu i lawr, a byddi'n galw o'r pridd; bydd dy eiriau fel rhywun yn mwmian o'r llwch. Byddi'n swnio fel ysbryd yn codi o'r pridd, bydd dy eiriau fel rhywun yn sibrwd o'r llwch. A bydd y dyrfa greulon ddaeth yn dy erbyn yn cael eu malu fel llwch mân. Bydd y dyrfa o ormeswyr fel us yn cael ei chwythu i ffwrdd. Yn sydyn, mewn chwinciad, bydd yr ARGLWYDD holl-bwerus yn eu cosbi gyda tharan, daeargryn, a sŵn byddarol; gyda corwynt, storm, a thân yn dinistrio. A bydd yr holl genhedloedd wnaeth ryfela yn erbyn Ariel — ymosod arni, ei gwarchae a'i gormesu — fel breuddwyd, neu weledigaeth yn y nos. Bydd fel rhywun sy'n llwgu yn breuddwydio ei fod yn bwyta, ac yna'n deffro a'i fol yn dal yn wag; neu rywun sydd â syched arno yn breuddwydio ei fod yn yfed, ac yna'n deffro yn teimlo'n wan a'i geg yn sych grimp. Felly bydd hi ar yr holl genhedloedd sy'n rhyfela yn erbyn Mynydd Seion. Arhoswch. Cewch eich syfrdanu! Ydych chi'n hollol ddall? Wedi meddwi — ond ddim ar win! Yn chwil — ond ddim ar gwrw! Mae'r ARGLWYDD wedi'ch gwneud chi'n gysglyd. Mae e wedi cau eich llygaid chi'r proffwydi, Ac wedi rhoi mwgwd dros eich pennau chi sy'n cael gweledigaethau. Mae pob gweledigaeth fel neges mewn dogfen sydd wedi ei selio. Mae'n cael ei roi i rywun sy'n gallu darllen, a gofyn iddo, “Darllen hwn i mi”, ond mae hwnnw'n ateb, “Alla i ddim, mae wedi ei selio”. Yna mae'n cael ei roi i rywun sydd ddim yn gallu darllen, a gofyn i hwnnw, “Darllen hwn i mi”, a'i ateb e ydy “Dw i ddim yn gallu darllen.” Dyma ddwedodd y Meistr: Mae'r bobl yma'n dod ata i ac yn dweud pethau gwych amdana i, ond mae eu calonnau'n bell oddi wrtho i. Dydy eu haddoliad nhw yn ddim ond traddodiad dynol wedi ei ddysgu iddyn nhw. Felly, dw i'n mynd i syfrdanu'r bobl yma dro ar ôl tro gyda un rhyfeddod ar ôl y llall. Ond bydd doethineb y deallus yn darfod, a chrebwyll pobl glyfar wedi ei guddio. Gwae'r rhai sy'n ceisio cuddio eu cynlluniau oddi wrth yr ARGLWYDD! Y rhai sy'n gweithio yn y tywyllwch, ac yn dweud, “Pwy sy'n ein gweld ni?” “Pwy sy'n gwybod amdanon ni?” Dych chi mor droëdig! Ydy'r crochenydd i gael ei ystyried fel clai? Fel petai'r hyn gafodd ei greu yn dweud am yr un a'i gwnaeth, “Wnaeth e mohono i!” Neu'r hyn gafodd ei siapio yn dweud am yr un â'i siapiodd, “Dydy e'n deall dim!” Yn fuan iawn, oni fydd Libanus yn cael ei throi yn berllan, a Carmel yn cael ei ystyried yn goedwig. Bryd hynny, bydd y byddar yn clywed geiriau o lyfr, a bydd llygaid pobl ddall yn gweld ar ôl bod mewn tywyllwch dudew. Bydd y rhai sy'n cael eu gorthrymu yn llawenhau yn yr ARGLWYDD, a'r bobl dlotaf yn gorfoleddu yn Un Sanctaidd Israel. Fydd dim gormeswyr o hynny ymlaen, a bydd y rhai sy'n gwawdio yn peidio â bod; bydd pawb sy'n dal ati i wneud drwg yn cael eu torri i ffwrdd. Y rhai sy'n gwneud i rywun edrych fel troseddwr, ac yn gosod trap i'r un sy'n erlyn yn y llys wrth giatiau'r ddinas, a gwneud iddo droi ymaith achos cyfiawn gyda dadl wag. Felly, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud wrth Deulu Jacob — y Duw brynodd ryddid i Abraham: Fydd Jacob ddim yn cael ei gywilyddio eto! Fydd ei wyneb ddim yn gwelwi eto! Achos pan fyddan nhw'n gweld eu plant a beth fydda i wedi ei wneud yn eu plith, byddan nhw'n anrhydeddu fy enw i. Bydd pobl yn anrhydeddu Un Sanctaidd Jacob Ac yn dangos parch go iawn at Dduw Israel. Bydd y rhai sydd wedi mynd ar gyfeiliorn yn dod i ddeall, a'r rhai sy'n cwyno o hyd wedi dysgu gwers. “Gwae chi blant ystyfnig!” meddai'r ARGLWYDD — “yn gwneud cynlluniau sy'n groes i be dw i eisiau, a ffurfio cynghreiriau wnes i mo'i hysbrydoli! A'r canlyniad? — pentyrru un pechod ar y llall! Rhuthro i lawr i'r Aifft heb ofyn i mi, a gofyn i'r Pharo eu hamddiffyn a'u cuddio dan gysgod yr Aifft. Ond bydd cael y Pharo i amddiffyn yn codi cywilydd, a bydd cuddio dan gysgod yr Aifft yn siom mawr, er bod ganddo swyddogion yn Soan a llysgenhadon mor bell â Chanes. Cânt eu cywilyddio'n llwyr am fod yr Aifft yn dda i ddim iddyn nhw — dim help o gwbl! Fyddan nhw'n elwa dim, ond yn profi siom a chywilydd.” Neges am ‛Anifeiliaid y Negef‛: Yn nhir trafferthion a chaledi, gwlad y llewes a'r llew cry, y neidr a'r wiber wibiog, maen nhw'n cario eu cyfoeth ar gefn asynnod, a'u trysorau ar gefn camelod, ar ran pobl sy'n dda i ddim. Mae'r Aifft yn ddiwerth! Dŷn nhw ddim help o gwbl! Felly, dw i'n ei galw hi, “Rahab gysglyd.” Tyrd nawr, Ysgrifenna hi ar lechen a'i chofnodi mewn sgrôl, i fod yn dystiolaeth barhaol i'r dyfodol. Achos maen nhw'n bobl anufudd, ac yn blant sy'n twyllo — plant sy'n gwrthod gwrando ar beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddysgu. Pobl sy'n dweud wrth y rhai sy'n cael gweledigaethau, “Peidiwch â cheisio gweledigaeth,” ac wrth y proffwydi, “Peidiwch proffwydo a dweud wrthon ni beth sy'n iawn. Dwedwch bethau neis, er ei fod yn gelwydd! Trowch o'r ffordd! Ewch oddi ar y llwybr iawn! Stopiwch ein hatgoffa ni am Un Sanctaidd Israel!” Felly, dyma mae Un Sanctaidd Israel yn ei ddweud: Am eich bod wedi gwrthod y neges yma, a dewis rhoi'ch ffydd mewn gormeswr twyllodrus — bydd y bai yma fel wal uchel yn bochio, ac yn sydyn, mewn chwinciad, mae'n syrthio. Bydd yn torri'n ddarnau, fel jwg pridd yn cael ei falu'n deilchion — bydd wedi darfod. Fydd dim un darn yn ddigon o faint i godi marwor o badell dân, neu wagio dŵr o bwll. Dyma mae'r Meistr, yr ARGLWYDD, Un Sanctaidd Israel, yn ei ddweud: “Os trowch yn ôl a trystio cewch eich achub; Wrth aros yn llonydd a chredu y cewch fuddugoliaeth.” Ond dych chi ddim yn fodlon gwneud hynny. “Na,” meddech chi. “Gadewch i ni ddianc ar gefn meirch!” — a dyna wnewch chi. “Gadewch i ni farchogaeth yn gyflym!” — ond bydd y rhai sydd ar eich ôl yn gyflymach! Bydd un gelyn yn bygwth a mil yn dianc; pump yn bygwth a pawb yn dianc. Bydd cyn lleied ar ôl byddan nhw fel polyn fflag ar ben bryn, neu faner ar ben mynydd. Ond mae'r ARGLWYDD wir eisiau bod yn garedig atoch chi; bydd yn siŵr o godi i faddau i chi. Achos mae'r ARGLWYDD yn Dduw cyfiawn; ac mae'r rhai sy'n disgwyl amdano yn cael bendith fawr! Wir i chi bobl Seion — chi sy'n byw yn Jerwsalem — fyddwch chi ddim yn wylo wedyn. Bydd e'n garedig atoch chi pan fyddwch chi'n galw. Bydd e'n ateb yr eiliad mae'n eich clywed chi. Er bod y Meistr wedi rhoi helynt i chi'n fwyd, a dioddefaint yn ddŵr, fydd y Duw sy'n eich tywys ddim yn cuddio mwyach, byddwch yn ei weld yn eich arwain. Wrth wyro i'r dde neu droi i'r chwith, byddwch yn clywed llais y tu ôl i chi'n dweud: “Dyma'r ffordd; ewch y ffordd yma!” Byddwch yn ffieiddio'r delwau wedi eu gorchuddio ag arian, a'r delwau metel gydag aur yn eu gorchuddio. Byddwch yn eu taflu i ffwrdd fel cadach misglwyf, ac yn dweud “Budreddi!” Bydd e'n rhoi glaw i'r had rwyt wedi ei hau yn y pridd, a bydd y tir yn rhoi cnwd da, cyfoethog. Bydd digonedd o borfa i dy anifeiliaid bryd hynny, a bydd yr ychen a'r asynnod sy'n gweithio ar y tir yn cael eu bwydo gyda'r ebran gorau, wedi ei nithio â fforch a rhaw. Bydd nentydd a ffrydiau o ddŵr yn llifo ar bob mynydd a bryn uchel — ar ddiwrnod y lladdfa fawr pan fydd y tyrau amddiffynnol yn syrthio. Bydd y lleuad yn disgleirio fel yr haul, a bydd yr haul yn disgleirio saith gwaith cryfach nag arfer (fel golau saith diwrnod mewn un!) ar y diwrnod pan fydd yr ARGLWYDD yn rhwymo briwiau ei bobl, ac yn iacháu'r anafiadau gawson nhw pan darodd e nhw. Edrychwch! Mae'r ARGLWYDD ei hun yn dod o bell, yn wyllt gynddeiriog, yn corddi o'i fewn. Mae'n siarad yn ddig, a'i eiriau fel tân yn difa. Mae ei dymer fel llifogydd gwyllt yn cyrraedd at y gwddf. Bydd yn ysgwyd y cenhedloedd mewn gogr i'w dinistrio, ac yn rhoi ffrwyn yng ngheg pobloedd i'w harwain ar gyfeiliorn. Ond byddwch chi'n canu, fel petai'n noson i ddathlu gŵyl. Byddwch yn llawen ac yn dawnsio i gyfeiliant pib wrth fynd i fynydd yr ARGLWYDD, Craig Israel. Bydd yr ARGLWYDD yn bloeddio'n uchel, a bydd ei fraich gref yn dod i lawr ac yn eu taro'n wyllt gynddeiriog, fel fflamau tân yn difa, neu gorwynt, storm a chenllysg. Bydd llais yr ARGLWYDD yn chwalu Asyria, sef y wialen ddefnyddiodd i daro. Bydd yn eu waldio gyda'r pastwn ddewisodd ac yn eu curo i gyfeiliant drymiau a thelynau, pan fydd yn mynd allan i ryfel yn eu herbyn. Mae'r goelcerth angladdol wedi ei pharatoi cyn hyn; mae'n barod ar gyfer eu brenin. Mae'r pwll tân yn ddwfn ac yn llydan, ac mae digon o goed i'w tanio. Bydd anadl yr ARGLWYDD fel llif lafa yn dod i'w llosgi. Gwae'r rhai sy'n mynd i lawr i'r Aifft am help, a'u ffydd mewn ceffylau rhyfel! Y rhai sy'n dibynnu ar eu holl gerbydau a'u nifer fawr o farchogion, yn lle edrych ar Un Sanctaidd Israel a gofyn am help yr ARGLWYDD. Ond mae e hefyd yn ddoeth! Fe sy'n dod â trwbwl, a dydy e ddim yn torri ei air. Bydd yn codi yn erbyn y genedl ddrwg a'r rhai sy'n ei helpu i bechu. Pobl feidrol ydy'r Eifftiaid, nid Duw, a'u ceffylau yn gnawd, nid ysbryd! Pan fydd yr ARGLWYDD yn estyn ei law, bydd yr helpwr yn baglu a'r un sy'n cael ei help yn syrthio — Bydd hi wedi darfod ar y ddau gyda'i gilydd! Dyma mae'r ARGLWYDD wedi ei ddweud wrtho i: Fel mae llew, neu lew ifanc, yn rhuo uwchben ei ysglyfaeth, a ddim yn dychryn wrth glywed sŵn criw o fugeiliaid yn dod ar ei ôl. Dyna sut bydd yr ARGLWYDD holl-bwerus yn dod i lawr i ymladd dros Fynydd Seion ar ei bryn. Fel mae adar yn hofran yn yr awyr, bydd yr ARGLWYDD holl-bwerus yn amddiffyn Jerwsalem. Bydd yn ei hamddiffyn a'i hachub yn ei harbed a'i rhyddhau. Blant Israel, trowch yn ôl at yr Un dych chi wedi gwrthryfela mor ddifrifol yn ei erbyn. Bryd hynny bydd pob un ohonoch yn gwrthod yr eilunod o arian ac aur a wnaeth eich dwylo pechadurus. “Bydd Asyria'n cael ei difa, ond nid gan gleddyf dynol; cleddyf Duw fydd yn eu taro. Byddan nhw'n ffoi rhag y cleddyf, ond bydd eu milwyr gorau yn gaethweision. Bydd eu ‛craig‛ yn diflannu mewn dychryn, a'u swyddogion yn ffoi rhag baner eu gelyn.” Dyna mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud — sydd a'i dân yn Seion, a'i ffwrnais yn Jerwsalem. Edrychwch, bydd brenin yn teyrnasu yn gyfiawn, a'i dywysogion yn rheoli yn deg. Bydd pob un ohonyn nhw fel cysgod rhag y gwynt, a lloches rhag y storm; fel nentydd o ddŵr mewn tir sych, neu gysgod craig enfawr mewn crasdir. Bydd llygaid y rhai sy'n gweld yn edrych, a chlustiau'r rhai sy'n clywed yn gwrando. Bydd y difeddwl yn oedi ac yn sylwi, a thafod y rhai sydd ag atal dweud yn siarad yn glir. Fydd y ffŵl ddim yn cael ei alw'n ŵr bonheddig, na'r twyllwr yn cael ei anrhydeddu. Achos dweud pethau ffôl mae ffŵl a cynllunio i wneud pethau drwg. Mae'n ymddwyn yn annuwiol ac yn dweud celwydd am yr ARGLWYDD. Mae'n gadael y newynog hefo stumog wag ac yn gwrthod rhoi diod i'r sychedig. Mae arfau'r twyllwr yn ddrwg. Mae'n cynllunio i wneud drwg — dinistrio pobl dlawd trwy eu twyllo a cham-drin yr anghenus yn y llys. Ond mae bwriadau'r person anrhydeddus yn dda, ac mae bob amser yn gwneud beth sy'n nobl. Chi wragedd cyfforddus, safwch! Gwrandwch arna i! Chi ferched heb bryder yn y byd, gwrandwch beth dw i'n ddweud! Mewn llai na blwyddyn, cewch chi sydd mor hyderus eich ysgwyd. Bydd y cynhaeaf grawnwin yn methu, a dim ffrwyth i'w gasglu. Dylech chi sy'n gyfforddus ddechrau poeni! Dylech chi sydd mor ddibryder ddechrau crynu! Tynnwch eich dillad! Stripiwch! Gwisgwch sachliain am eich canol, ac am y bronnau sy'n galaru! Dros y caeau hyfryd, a'r coed gwinwydd ffrwythlon. Dros dir fy mhobl, bydd drain a mieri yn tyfu. Ie, dros yr holl dai hyfryd, a'r dre llawn miri. Bydd y palas wedi ei adael, a'r ddinas boblog yn wag. Bydd y tyrau amddiffyn ar y bryniau yn troi'n foelydd am byth — yn gynefin i asynnod gwyllt a phorfa i breiddiau. Nes i ysbryd oddi uchod gael ei dywallt arnon ni, i'r anialwch gael ei droi'n gaeau ffrwythlon, a'r caeau droi'n goedwig. Pan fydd cyfiawnder yn aros yn yr anialwch a thegwch yn cartrefu yn y caeau. Bydd cyfiawnder yn arwain i heddwch, ac wedyn bydd llonydd a diogelwch am byth. Bydd fy mhobl yn byw mewn cymunedau saff, tai diogel, a lleoedd i orffwys yn dawel. Er i'r goedwig gael ei thorri i lawr gan genllysg ac i'r ddinas orwedd mewn cywilydd, y fath fendith fydd i chi sy'n hau wrth ffrydiau dŵr, ac yn gollwng yr ych a'r asyn yn rhydd i bori. Gwae ti'r dinistriwr sydd heb gael dy ddinistrio; ti'r bradwr sydd heb gael dy fradychu! Pan fyddi wedi gorffen dinistrio, cei di dy ddinistrio; pan fyddi wedi gorffen bradychu, cei di dy fradychu! O ARGLWYDD, bydd yn drugarog wrthon ni! Dŷn ni'n disgwyl amdanat ti. Bydd di yn nerth i ni yn y bore, ac achub ni pan dŷn ni mewn trwbwl. Pan wyt ti'n rhuo mae pobl yn ffoi! Pan wyt ti'n codi mae cenhedloedd yn gwasgaru! Mae'r ysbail maen nhw'n ei adael yn cael ei gasglu fel petai lindys neu haid o locustiaid wedi disgyn arno. Mae'r ARGLWYDD mor ardderchog! Mae'n byw yn yr uchelder! Mae'n llenwi Seion gyda chyfiawnder a thegwch. Fe sy'n rhoi sicrwydd iddi bob amser. Stôr helaeth o achubiaeth, doethineb, gwybodaeth, a pharch at yr ARGLWYDD — dyna ei drysor iddi. Gwrandwch! Mae eu harwr yn gweiddi y tu allan! Mae negeswyr heddwch yn wylo'n chwerw! Mae'r priffyrdd yn wag! Mae'r teithwyr wedi diflannu! Mae'r cytundebau wedi eu torri, a'r tystion yn cael eu dirmygu. Does dim parch at fywyd dynol. Y fath alar! Mae'r tir wedi darfod amdano! Mae Libanus yn crino a gwywo! Mae Saron fel anialwch, a Bashan a Carmel wedi colli eu dail. “Dw i'n mynd i godi nawr,” meddai'r ARGLWYDD, “Dw i'n mynd i godi i fyny, cewch weld mor uchel ydw i! Dim ond us dych chi'n ei feichiogi; dim ond gwellt fydd yn cael ei eni! Mae eich ysbryd fel tân fydd yn eich dinistrio chi! Bydd eich pobl fel calch wedi ei losgi, neu ddrain wedi eu torri a'u rhoi ar dân. Chi sy'n bell i ffwrdd, gwrandwch beth dw i wedi ei wneud! A chi sy'n agos, gwelwch mor nerthol ydw i.” Mae pechaduriaid Seion wedi dychryn, Mae'r rhai annuwiol yn crynu mewn ofn. “Pwy all oroesi yn y tân dinistriol yma? Pwy all fyw gyda fflamau sydd byth yn diffodd?” Yr un sy'n gwneud beth sy'n iawn ac yn dweud y gwir, sy'n gwrthod elwa drwy dwyll, na derbyn breib, yn gwrthod gwrando ar gynllwyn i dywallt gwaed, ac yn cau ei lygaid rhag cael ei ddenu i wneud drwg. Person felly fydd yn saff rhag y cwbl, a chreigiau uchel yn gaer o'i gwmpas. Bydd bwyd yn cael ei roi i'w gynnal a bydd digonedd o ddŵr iddo. Byddi'n gweld brenin yn ei holl ysblander, a thir eang yn ymestyn i'r pellter. Byddi'n cofio am yr ofn a fu unwaith, “Ble mae'r un oedd yn cyfri'r trethi? Ble mae'r un oedd yn pwyso'r arian? Ble mae'r un oedd yn cyfri'r tyrau?” Fyddi di ddim yn gweld y bobl farbaraidd yna eto — yn siarad iaith doeddet ti ddim yn ei deall, ac yn paldaruo'n ddiystyr. Dychmyga Seion, dinas ein gwyliau crefyddol! Byddi'n gweld Jerwsalem fel lle tawel i fyw — pabell does dim rhaid ei phacio, gyda pegiau fydd neb yn eu tynnu byth eto, a rhaffau fydd byth yn torri. Bydd yr ARGLWYDD yno gyda ni yn ei fawredd! Ardal o afonydd a ffrydiau llydan yn llifo, ond heb longau gali sy'n cael eu rhwyfo na llongau hwylio mawr yn mynd heibio. Yr ARGLWYDD ydy'n barnwr ni, Yr ARGLWYDD ydy'n llywodraethwr ni, Yr ARGLWYDD ydy'n brenin ni — fe ydy'r un fydd yn ein hachub ni! Byddi'n cael dy ddarn o dir a fyddan nhw ddim yn gallu gosod eu polyn fflag na chodi eu baner yno. Bydd digonedd o ysbail i gael ei rannu, a bydd hyd yn oed y cloff yn cael ei siâr. Fydd neb sy'n byw yno'n dweud, “Dw i'n sâl!” Bydd y bobl sy'n byw yno wedi cael maddeuant am bob bai. Dewch yma, chi wledydd, i wrando! Gwrandwch ar hyn, chi bobloedd y byd! Boed i'r ddaear a phawb arni wrando; y byd, a phopeth sydd ynddo. Mae'r ARGLWYDD wedi digio gyda'r gwledydd; mae'n wyllt gyda'u holl fyddinoedd; a bydd yn eu dinistrio a'u lladd nhw. Bydd y rhai gaiff eu lladd yn cael eu taflu allan — bydd y drewdod yn ofnadwy a bydd y mynyddoedd wedi eu trochi â'u gwaed. Bydd y sêr i gyd yn diffodd, a'r awyr yn cael ei rholio fel sgrôl. Bydd y sêr i gyd yn syrthio fel dail yn disgyn o'r winwydden, neu ffrwyth aeddfed oddi ar goeden ffigys. “Bydd fy nghleddyf i'w weld yn yr awyr, ac edrychwch, bydd yn syrthio ar Edom, ar y bobl dw i wedi eu dedfrydu i'w difrodi.” Mae'r ARGLWYDD am drochi ei gleddyf mewn gwaed, a'i fodloni gyda brasder anifeiliaid — gwaed ŵyn a bychod geifr, a'r brasder ar arennau hyrddod. Ydy, mae'r ARGLWYDD yn cynnal aberth yn Bosra, a lladdfa yn Edom. Bydd ychen gwyllt yn syrthio gyda nhw, bustych a theirw. Bydd eu tir wedi socian mewn gwaed, a'r llawr wedi ei orchuddio gan frasder. Mae gan yr ARGLWYDD ddydd i ddial — mae'n bryd i dalu'r pwyth yn ôl ar ran Seion. Bydd afonydd o byg yn gorlifo yn Edom, a bydd ei phridd yn troi'n lafa. Bydd ei thir yn troi'n byg sy'n llosgi, a fydd y tân ddim yn diffodd ddydd na nos; bydd mwg yn codi ohono am byth. Bydd yn gorwedd yn adfeilion am genedlaethau; fydd neb yn cerdded y ffordd honno byth bythoedd. Bydd tylluanod a draenogod yn ei feddiannu; y dylluan wen a'r gigfran fydd yn nythu yno. Bydd Duw yn ei fesur i achosi anhrefn ac yn ei bwyso i'w wagio. I ble'r aeth ei huchelwyr? Does dim y fath beth a theyrnas ar ôl! Mae ei harweinwyr i gyd wedi diflannu. Bydd drain yn tyfu yn ei phlastai; danadl a mieri yn ei threfi caerog. Bydd y wlad yn gartref i siacaliaid, ac yn dir i'r estrys fyw ynddo. Bydd ysbrydion yr anialwch a bwganod yn cyfarfod yno, a'r gafr-ddemoniaid yn galw ar ei gilydd. Yno bydd creaduriaid y nos yn gorffwys ac yn nythu, a neidr wenwynig yn gorwedd ar ei hwyau, i'w deor a gofalu amdanynt. A bydd adar rheibus hefyd yn casglu yno, pob un gyda'i gymar. Astudiwch a darllenwch sgroliau'r ARGLWYDD, heb adael dim allan, a heb fethu llinell. Yr ARGLWYDD sydd wedi gorchymyn y cwbl, a'i ysbryd e sydd wedi eu casglu at ei gilydd. Fe sydd wedi rhoi eu siâr i bob un ac wedi rhannu'r tir rhyngddyn nhw hefo llinyn mesur. Bydd yn etifeddiaeth iddyn nhw am byth — byddan nhw'n byw yno ar hyd yr oesoedd. Bydd yr anialwch a'r tir sych yn llawen, bydd y diffeithwch yn dathlu ac yn blodeuo — yn blodeuo'n sydyn fel saffrwn. Bydd yn dathlu'n llawen ac yn gweiddi; bydd ysblander Libanus yn cael ei roi iddi, a harddwch Carmel a Saron. Byddan nhw'n gweld ysblander yr ARGLWYDD, a harddwch ein Duw ni. Cryfhewch y dwylo llesg; a gwnewch y gliniau gwan yn gadarn! Dwedwch wrth y rhai ofnus, “Byddwch yn ddewr! Peidiwch bod ag ofn! Edrychwch ar ein Duw! Mae e'n dod i ddial! Y tâl dwyfol! Mae e ei hun yn dod i'ch achub chi!” Bydd llygaid pobl ddall yn cael eu hagor, a chlustiau pobl fyddar hefyd. Bydd y cloff yn neidio fel hydd, a'r mud yn gweiddi'n llawen! Achos bydd dŵr yn tasgu yn yr anialwch, ac afonydd yn llifo yn y diffeithwch. Bydd y tywod poeth yn troi'n bwll dŵr, a'r tir sych yn ffynhonnau'n ffrydio. Bydd y fan ble roedd siacaliaid yn gorweddian yn troi'n gorsydd o frwyn. Bydd priffordd; ie, ffordd yno sy'n cael ei galw, ‛Y Ffordd Sanctaidd‛. Fydd neb sy'n aflan yn cael teithio arni — mae ar gyfer y rhai sy'n cerdded y Ffordd. Fydd ffyliaid ddim yn crwydro ar ei hyd. Fydd dim llew yno, a fydd anifail gwyllt ddim yn dod yn agos ati — fydd dim i'w cael yno. Ond bydd y rhai sydd wedi eu rhyddhau yn cerdded ar ei hyd. Bydd y bobl ollyngodd yr ARGLWYDD yn rhydd yn dod yn ôl i Seion yn bloeddio canu! Bydd y llawenydd sy'n para am byth yn goron ar eu pennau! Byddan nhw'n cael eu gwefreiddio gan hwyl a gorfoledd, am fod galar a griddfan wedi dianc i ffwrdd. Pan oedd Heseceia wedi bod yn frenin am bron un deg pedair o flynyddoedd, dyma Senacherib, brenin Asyria, yn ymosod ar drefi amddiffynnol Jwda a'u dal nhw. Yna dyma frenin Asyria yn anfon ei gadfridog yn erbyn y Brenin Heseceia yn Jerwsalem, a byddin enfawr gydag e. Dyma'r prif swyddog yn aros wrth sianel ddŵr y Pwll Uchaf, ar y ffordd i Faes y Pannwr. Ac aeth Eliacim fab Chilceia, arolygwr y palas, allan i'w gyfarfod gyda Shefna yr ysgrifennydd, a Ioach fab Asaff, y cofnodydd. Dyma brif swyddog Assyria yn dweud wrthyn nhw am roi'r neges yma i Heseceia: “Dyma mae'r Ymerawdwr, brenin Asyria yn ei ddweud: ‘Beth sy'n dy wneud di mor hyderus? Siarad gwag ydy honni fod gen ti'r strategaeth a'r gallu milwrol angenrheidiol! Pwy wyt ti'n pwyso arno go iawn, dy fod yn beiddio gwrthryfela yn fy erbyn i? Ai'r Aifft wyt ti'n ei drystio? Dydy'r ffon fagl yna ddim gwell na brwynen wedi hollti, ac mae'n torri llaw ac yn anafu pwy bynnag sy'n pwyso arni. Dyna sy'n digwydd i bawb sy'n trystio'r Pharo, brenin yr Aifft. Neu ydych chi am ddweud wrtho i eich bod yn trystio'r ARGLWYDD eich Duw? Onid ydy Heseceia wedi cael gwared â'i ganolfannau addoli lleol a'i allorau e, a dweud wrth bobl Jwda mai dim ond wrth yr allor yn Jerwsalem maen nhw i addoli? Tyrd nawr, beth am drafod telerau gyda fy meistr, brenin Asyria: Betia i di, petawn i'n rhoi dwy fil o geffylau i ti, na fyddai gen ti ddigon o ddynion i'w reidio nhw! Felly sut alli di wrthod, hyd yn oed gynnig gan ddirprwy un o weision lleia fy meistr? Dwyt ti ddim yn mynd i fynnu dal ati i drystio'r Aifft am gerbydau a marchogion siawns? A beth bynnag, wyt ti'n meddwl fy mod i wedi martsio yn erbyn y wlad yma i'w dinistrio hi heb i'r ARGLWYDD fy helpu i? Yr ARGLWYDD ei hun ddwedodd wrtho i: “Dos i ymladd yn erbyn y wlad yna a'i dinistrio hi!”’” Dyma Eliacim, Shefna, a Ioach yn dweud wrth y prif swyddog, “Plîs siarada yn Aramaeg hefo dy weision; dŷn ni'n deall yr iaith honno. Paid siarad hefo ni yn Hebraeg yng nghlyw y bobl sydd ar y waliau.” Ond dyma'r prif swyddog yn ateb, “Ydych chi'n meddwl mai atoch chi a'ch meistr yn unig mae fy meistr i wedi f'anfon i ddweud hyn? Na, mae'r neges i bawb sydd ar y waliau hefyd. Byddan nhw, fel chithau, yn gorfod bwyta eu cachu ac yfed eu piso eu hunain.” Yna dyma'r prif swyddog yn camu ymlaen, ac yn gweiddi'n uchel yn Hebraeg, “Gwrandwch beth mae'r Ymerawdwr, brenin Asyria, yn ei ddweud! Peidiwch gadael i Heseceia eich twyllo chi, achos fydd e ddim yn gallu'ch achub chi. A peidiwch gadael iddo eich cael chi i drystio'r ARGLWYDD, a dweud wrthoch chi, ‘Bydd yr ARGLWYDD yn ein hachub ni. Fydd y ddinas yma ddim yn syrthio i ddwylo brenin Asyria!’ Peidiwch gwrando arno! Dyma mae brenin Asyria'n ei ddweud: ‘Derbyniwch y telerau dw i'n eu cynnig; dewch allan ata i, a bydd pob un ohonoch chi'n cael bwyta o'i winwydden a'i goeden ffigys, ac yn cael yfed dŵr o'i ffynnon ei hun. Wedyn bydda i'n mynd â chi i wlad debyg i'ch gwlad chi — gwlad o fara a sudd grawnwin, o gaeau ŷd a gwinllannoedd. Gwyliwch rhag i Heseceia eich camarwain chi wrth ddweud, “Bydd yr ARGLWYDD yn ein hachub ni.” Wnaeth duwiau'r gwledydd eraill achub eu tir nhw rhag brenin Asyria? Ble oedd duwiau Chamath ac Arpad? Ble oedd duwiau Seffarfaîm? Wnaethon nhw achub Samaria o'm gafael i? Pa un o'r duwiau yma i gyd achubodd eu gwlad o'm gafael i? Felly, sut mae'r ARGLWYDD yn mynd i achub Jerwsalem o'm gafael i?’” Ond roedd pawb yn cadw'n dawel ac yn dweud dim, achos roedd y brenin wedi gorchymyn: “Peidiwch â'i ateb e.” A dyma Eliacim fab Chilceia, arolygwr y palas, Shefna yr ysgrifennydd a Ioach fab Asaff, y cofnodydd yn mynd at Heseceia a'u dillad wedi eu rhwygo, a dweud wrtho beth oedd y swyddog o Asyria wedi ei ddweud. Pan glywodd y brenin Heseceia hyn, dyma fe'n rhwygo ei ddillad, gwisgo sachliain a mynd i deml yr ARGLWYDD. A dyma fe'n anfon Eliacim, arolygwr y palas, Shefna, yr ysgrifennydd, a rhai o'r offeiriaid hynaf at y proffwyd Eseia fab Amos. Roedden nhw hefyd yn gwisgo sachliain. A dyma nhw'n dweud wrtho, “Dyma mae Heseceia'n ddweud: ‘Mae hi'n ddiwrnod o argyfwng, o gerydd ac o gywilydd, fel petai plant ar fin cael eu geni a'r fam heb ddigon o nerth i'w geni nhw. Petaet ti'n gweddïo dros y rhai ohonon ni sy'n dal ar ôl yn y ddinas, falle y byddai'r ARGLWYDD dy Dduw yn cymryd sylw o beth ddwedodd y swyddog gafodd ei anfon gan frenin Asyria i enllibio'r Duw byw, ac yn ei gosbi.’” Pan aeth gweision y brenin Heseceia at Eseia, dyma Eseia'n dweud wrthyn nhw, “Dwedwch wrth eich meistr: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Paid gadael i'r ffaith fod gweision bach brenin Asyria yn gwneud sbort ar fy mhen i dy ddychryn di. Dw i'n mynd i godi ofn arno fe. Bydd e'n clywed si am rywbeth ac yn mynd yn ôl i'w wlad ei hun. Bydda i'n gwneud iddo gael ei ladd gan y cleddyf yn ei wlad ei hun.”’” Yn y cyfamser roedd prif swyddog brenin Asyria wedi mynd yn ôl a darganfod fod ei feistr wedi gadael Lachish a'i fod yn ymladd yn erbyn tref Libna. Roedd wedi clywed fod y brenin Tirhaca (oedd o dras Affricanaidd ) ar ei ffordd i ymosod arno. Felly, dyma fe'n anfon negeswyr at Heseceia eto: “Dwedwch wrth Heseceia, brenin Jwda: ‘Peidiwch gadael i'r Duw dych chi'n ei drystio eich twyllo chi i feddwl na fydd Jerwsalem yn syrthio i ddwylo brenin Asyria. Dych chi'n gwybod yn iawn fod brenhinoedd Asyria wedi dinistrio'r gwledydd eraill i gyd. Ydych chi'n mynd i ddianc? Gafodd y gwledydd ddinistriodd fy rhagflaenwyr eu hachub gan eu duwiau? — beth am Gosan, Haran, Retseff, a pobl Eden oedd yn Telassar? Ble mae brenin Chamath? Neu frenin Arpad? Neu frenhinoedd Lahir, Seffarfaîm, Hena, ac Ifa?’” Ar ôl i Heseceia gymryd y llythyr gan y negeswyr, a'i ddarllen, aeth i'r deml a'i osod allan o flaen yr ARGLWYDD. Yna dyma Heseceia'n gweddïo: “O ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, sy'n eistedd ar dy orsedd uwchben y ceriwbiaid. Ti sydd Dduw, yr unig un, dros deyrnasoedd y byd i gyd. Ti wnaeth greu y bydysawd a'r ddaear. O ARGLWYDD, plîs gwrando! Agor dy lygaid ARGLWYDD! Edrych! Gwranda ar beth mae Senacherib yn ei ddweud. Mae e wedi anfon neges sy'n enllibio'r Duw byw! ARGLWYDD, mae'n wir fod brenhinoedd Asyria wedi dinistrio'r bobloedd i gyd, a'u tiroedd, ac wedi llosgi eu duwiau nhw. Ond doedden nhw ddim yn dduwiau go iawn, dim ond coed neu gerrig wedi eu cerfio gan bobl, i'w haddoli. Felly nawr, O ARGLWYDD ein Duw, achub ni o'i afael, er mwyn i deyrnasoedd y byd i gyd wybod mai ti ydy'r ARGLWYDD, yr unig un go iawn.” Dyma Eseia fab Amos yn anfon y neges yma at Heseceia: “Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Am dy fod ti wedi gweddïo am Senacherib, brenin Asyria, dyma dw i, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud yn ei erbyn: “Mae'r forwyn hardd, Seion, yn dy ddirmygu di! Mae hi'n gwneud hwyl ar dy ben di! Mae Jerwsalem hardd yn ysgwyd ei phen tu ôl i dy gefn di. Pwy wyt ti'n ei enllibio a'i wawdio? Yn erbyn pwy wyt ti'n codi dy lais, ac yn troi dy lygaid yn sarhaus? Yn erbyn Un Sanctaidd Israel! Ti wedi defnyddio dy weision i enllibio'r Meistr, a dweud, ‘Gyda'r holl gerbydau rhyfel sydd gen i dringais i ben y mynyddoedd uchaf, ac i ben draw Libanus. Torrais i lawr y coed cedrwydd talaf, a'r coed pinwydd gorau, er mwyn cyrraedd copa uchaf y llechweddau coediog. Dw i wedi cloddio ffynhonnau ac yfed o'u dŵr. Sychais holl ganghennau'r afon Nil hefo gwadn fy nhraed.’ Mae'n rhaid dy fod wedi clywed! Fi sydd wedi trefnu'r cwbl ers talwm — mae'r cwbl wedi ei gynllunio ers amser maith, a nawr dw i'n troi'r cwbl yn ffaith: i ti droi caerau yn bentyrrau o rwbel. Does gan y bobl sy'n byw ynddyn nhw ddim nerth, maen nhw'n ddigalon, ac wedi eu cywilyddio. Maen nhw fel planhigion mewn cae, neu dyfiant ar ben to wedi ei grino gan wynt y dwyrain. Dw i'n gwybod popeth amdanat ti — dy symudiadau di i gyd, a sut rwyt ti wedi bod yn strancio yn fy erbyn i. Am dy fod ti wedi strancio yn fy erbyn i, a minnau wedi gorfod gwrando ar dy eiriau haerllug, dw i'n mynd i roi bachyn trwy dy drwyn di a ffrwyn yn dy geg di; a gwneud i ti fynd yn ôl y ffordd daethost ti.” A dyma fydd yr arwydd i ti, Heseceia, fod hyn yn wir: Byddi'n bwyta beth sy'n tyfu ohono'i hun eleni, a'r flwyddyn nesa beth fydd wedi tyfu o hwnnw. Ond y flwyddyn wedyn cewch hau a medi, plannu gwinllannoedd a bwyta eu ffrwyth nhw. Bydd y bobl yn Jwda sydd wedi dianc a'u gadael ar ôl yn bwrw eu gwreiddiau eto, ac yn dwyn ffrwyth. Bydd y rhai sy'n weddill yn lledu allan o Jerwsalem; y rhai o Fynydd Seion wnaeth ddianc. Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn benderfynol o wneud hyn i gyd.’ Felly, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am frenin Asyria: ‘Fydd e ddim yn dod i mewn i'r ddinas yma. Fydd e ddim yn saethu saeth i mewn iddi; fydd e ddim yn ymosod arni hefo tarian, nac yn codi rampiau i warchae yn ei herbyn. Bydd e'n mynd yn ôl y ffordd daeth e. Fydd e ddim yn dod i mewn i'r ddinas yma’ —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. ‘Dw i'n mynd i amddiffyn ac achub y ddinas yma, er mwyn cadw fy enw da, ac am fy mod i wedi addo gwneud hynny i Dafydd, fy ngwas.’” A dyma angel yr ARGLWYDD yn mynd allan ac yn taro cant wyth deg pum mil o filwyr Asyria. Erbyn y bore wedyn roedden nhw i gyd yn gyrff meirw. Felly dyma Senacherib brenin Asyria, yn codi ei wersyll, mynd yn ôl i Ninefe ac aros yno. Pan oedd e'n addoli yn nheml ei dduw Nisroch, dyma ei feibion, Adram-melech a Saretser, yn ei ladd gyda'r cleddyf ac yna'n dianc i ardal Ararat. A dyma fab arall iddo, Esar-chadon, yn dod yn frenin yn ei le. Tua'r adeg yna roedd Heseceia'n sâl. Roedd yn ddifrifol wael, a bu bron iddo farw. Daeth y proffwyd Eseia fab Amos ato a dweud wrtho, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: Rho drefn ar dy bethau, achos ti'n mynd i farw; dwyt ti ddim yn mynd i wella.” Ond dyma Heseceia yn troi at y wal ac yn gweddïo, “O ARGLWYDD, plîs cofia sut dw i wedi byw yn hollol ffyddlon i ti. Dw i bob amser wedi gwneud beth oedd yn dy blesio di.” Roedd yn beichio crïo. Yna dyma'r ARGLWYDD yn rhoi neges i Eseia: “Dos yn ôl i ddweud wrth Heseceia: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud (Duw Dafydd dy dad): “Dw i wedi gwrando ar dy weddi di, ac wedi gweld dy ddagrau di. Dw i'n mynd i roi un deg pump mlynedd arall i ti. Dw i'n mynd i dy achub di a'r ddinas yma o afael brenin Asyria. Bydda i'n amddiffyn y ddinas yma.” “‘A dyma'r arwydd mae'r ARGLWYDD yn ei roi i ti i brofi y bydd e'n gwneud beth mae e wedi ei addo: Edrych! Dw i'n mynd i wneud i'r cysgod sydd wedi disgyn ar risiau Ahas fynd yn ôl i fyny ddeg gris.’” Yna dyma gysgod yr haul yn codi oddi ar ddeg o'r grisiau yr oedd eisoes wedi disgyn arnyn nhw. Dyma ysgrifennodd Heseceia, brenin Jwda, ar ôl iddo wella o'i salwch: “Dywedais, ‘Dw i'n mynd i farw, a minnau ond canol oed. Dw i wedi cael fy anfon drwy giatiau Annwn am weddill fy nyddiau.’ Dywedais: ‘Ga i byth weld yr ARGLWYDD yn y bywyd hwn eto; nac edrych ar y ddynoliaeth fel y rhai sydd wedi peidio â bod.’ Mae fy mywyd wedi ei gymryd oddi arna i a'i symud fel pabell bugail. Roedd fy mywyd wedi ei rholio i fyny fel lliain wedi ei dorri i ffwrdd o'r wŷdd. Rhwng y bore a'r nos byddet wedi rhoi diwedd arna i. Yn y bore, roedd fel petai llew yn malu fy esgyrn i gyd. Rhwng y bore a'r nos byddet wedi rhoi diwedd arna i. Dw i'n trydar fel gwennol neu durtur, ac yn cŵan fel colomen, wrth i'm llygaid blinedig fethu edrych i fyny. ‘Fy ARGLWYDD! Dw i'n cael fy llethu! Achub fi!’ Beth alla i ei ddweud? Dwedodd wrtho i beth fyddai'n ei wneud, a dyna wnaeth e! Roedd rhaid i mi gerdded yn ofalus am fod fy enaid mor chwerw. Mae fy arglwydd wedi fy nghuddio, ac mae bywyd yn fy nghalon eto. Mae'r ARGLWYDD wedi rhoi gorffwys i mi. ‘Rwyt ti'n fy iacháu ac wedi fy nghadw'n fyw.’ Yn wir, roedd yr holl chwerwder yma yn lles i mi: ‘Ceraist fi, a'm hachub o bwll difodiant, a thaflu fy holl bechodau tu ôl i ti. Dydy'r rhai sydd yn Annwn ddim yn diolch i ti, a dydy'r rhai sydd wedi marw ddim yn dy foli di. Dydy'r rhai sydd wedi disgyn i'r pwll ddim yn gobeithio yn dy ffyddlondeb di. Y rhai byw, dim ond y rhai byw sy'n gallu diolch i ti fel dw i'n gwneud heddiw. Mae tad yn dweud wrth ei blant am dy ffyddlondeb di: Mae'r ARGLWYDD wedi'n hachub ni! Gadewch i ni ganu offerynnau cerdd yn nheml yr ARGLWYDD weddill ein bywydau!’” Roedd Eseia wedi dweud, “Ewch i nôl bar o ffigys wedi eu gwasgu a'i roi ar y chwydd sydd wedi casglu, a bydd yn gwella.” Roedd Heseceia wedi gofyn, “Pa arwydd ga i y bydda i'n mynd i fyny i deml yr ARGLWYDD eto?” Tua'r un pryd anfonodd Merodach-baladan, mab Baladan, brenin Babilon, negeswyr gyda llythyrau ac anrheg i Heseceia — roedd wedi clywed ei fod yn sâl ac wedi gwella. Roedd Heseceia wrth ei fodd eu bod nhw wedi dod, a dangosodd ei drysordy iddyn nhw — yr arian, yr aur, y perlysiau, a'r olew persawrus. Dangosodd ei stordy arfau iddyn nhw hefyd, a phopeth arall yn ei stordai. Dangosodd bopeth yn ei balas a'i deyrnas gyfan iddyn nhw! Yna dyma'r proffwyd Eseia yn mynd at y brenin Heseceia, a gofyn iddo: “Beth ddwedodd y dynion yna wrthot ti? O ble daethon nhw?” Atebodd Heseceia. “Daethon nhw ata i o wlad bell iawn — o Babilon.” Gofynnodd Eseia wedyn, “Beth welon nhw yn dy balas di?” a dyma Heseceia'n ateb, “Popeth sydd gen i. Does dim byd yn fy stordai i gyd na welon nhw.” A dyma Eseia'n dweud wrth Heseceia, “Gwrando ar neges yr ARGLWYDD holl-bwerus: ‘Edrych! Mae'r amser yn dod pan fydd popeth sy'n dy balas di, popeth gasglodd dy ragflaenwyr di hyd heddiw, yn cael ei gario i ffwrdd i Babilon. Fydd dim byd ar ôl!’ meddai'r ARGLWYDD. Bydd rhai o dy deulu di, ie, dy ddisgynyddion di dy hun, yn cael eu cymryd i ffwrdd ac yn gwasanaethu fel swyddogion ym mhalas brenin Babilon.” Dyma Heseceia yn dweud wrth Eseia, “Mae'r neges rwyt ti wedi ei rhannu gan yr ARGLWYDD yn dda.” Roedd e'n meddwl, “Be wedyn? O leia bydd heddwch a diogelwch tra dw i'n fyw.” “Cysurwch nhw; cysurwch fy mhobl i,” — dyna mae eich Duw yn ei ddweud. “Byddwch yn garedig wrth Jerwsalem, a dweud wrthi fod y dyddiau caled drosodd; mae hi wedi derbyn y gosb am ei drygioni. Yn wir, mae'r ARGLWYDD wedi gwneud iddi dalu'n llawn am ei holl bechodau.” Mae llais yn gweiddi'n uchel: “Cliriwch y ffordd i'r ARGLWYDD yn yr anialwch; gwnewch briffordd syth i Dduw drwy'r diffeithwch! Bydd pob dyffryn yn cael ei lenwi, pob mynydd a bryn yn cael ei lefelu. Bydd y tir anwastad yn cael ei wneud yn llyfn, a bydd cribau'r mynyddoedd yn wastatir. Bydd ysblander yr ARGLWYDD yn dod i'r golwg, a bydd y ddynoliaeth gyfan yn ei weld yr un pryd.” —mae'r ARGLWYDD wedi dweud. Mae'r llais yn dweud, “Gwaedda!” Ac un arall yn gofyn, “Gweiddi be?” “Mae pobl feidrol fel glaswellt,” meddai, “a ffyddlondeb dynol fel blodyn gwyllt: mae'r glaswellt yn crino, a'r blodyn yn gwywo pan mae'r ARGLWYDD yn chwythu arnyn nhw.” Ie, glaswellt ydy'r bobl. Mae'r glaswellt yn crino, a'r blodyn yn gwywo, ond mae neges yr ARGLWYDD yn aros am byth! Seion, sy'n cyhoeddi newyddion da, dringa i ben mynydd uchel! Ie, Jerwsalem, sy'n cyhoeddi newyddion da, gwaedda'n uchel! Gwaedda! Paid bod ag ofn! Dywed wrth drefi Jwda: “Dyma'ch Duw chi!” Edrych! Mae'r Meistr, yr ARGLWYDD, yn dod fel milwr cryf i deyrnasu gyda nerth. Edrych! Mae ei wobr ganddo; mae'n dod a'i roddion o'i flaen. Bydd yn bwydo ei braidd fel bugail: bydd yn codi'r ŵyn yn ei freichiau ac yn eu cario yn ei gôl, tra'n arwain y defaid sy'n eu magu. Pwy sydd wedi dal y moroedd yng nghledr ei law, a mesur yr awyr rhwng ei fysedd? Pwy sydd wedi dal pridd y ddaear mewn padell, pwyso'r mynyddoedd mewn mantol a'r bryniau gyda chlorian? Pwy sydd wedi gosod ffiniau i ysbryd yr ARGLWYDD, neu roi arweiniad iddo fel ei gynghorydd personol? Gyda pwy mae Duw'n trafod i gael gwybod beth i'w wneud? Pwy sy'n ei ddysgu i wneud y peth iawn? Pwy sy'n rhoi gwybodaeth iddo? Pwy sy'n ei helpu i ddeall? Dydy'r cenhedloedd ond diferyn mewn bwced; dim mwy na llwch ar glorian! Dydy'r ynysoedd yn ddim mwy na llwch mân. Does dim digon o goed tân yn Libanus, na digon o anifeiliaid chwaith, i baratoi offrwm teilwng i'w losgi iddo. Dydy'r gwledydd i gyd yn ddim o'i gymharu ag e — maen nhw fel rhywbeth dibwys yn ei olwg, yn llai na dim byd! Felly, i bwy mae Duw yn debyg yn eich barn chi? Gyda beth allwch chi ei gymharu? Eilun? Cerfiwr sy'n siapio hwnnw, a gof yn ei orchuddio ag aur a gwneud bachau i'w ddal yn ei le! Mae'r sawl sy'n rhy dlawd yn dewis pren fydd ddim yn pydru, ac yn edrych am y crefftwr gorau i wneud eilun sydd ddim yn symud! Ydych chi ddim yn gwybod? Ydych chi ddim wedi clywed? Oes neb wedi dweud wrthoch chi o'r dechrau? Ydych chi ddim yn deall sut gafodd y ddaear ei sylfaenu? Fe ydy'r Un sy'n eistedd uwchben y ddaear, ac mae'r bobl sy'n byw arni fel ceiliogod rhedyn o'i flaen. Fe ydy'r Un sy'n taenu'r awyr fel llenni, ac yn ei lledu allan fel pabell i fyw ynddi. Fe ydy'r un sy'n gwneud y pwysigion yn neb, a'r rhai sy'n llywodraethu ar y ddaear yn ddim. Prin eu bod wedi eu plannu, prin eu bod wedi eu hau, prin eu bod wedi bwrw gwreiddiau yn y tir — mae e'n chwythu arnyn nhw ac maen nhw'n gwywo, ac mae gwynt stormus yn eu cario i ffwrdd fel us. “I bwy dw i'n debyg yn eich barn chi? Oes rhywun arall cystal?” —meddai'r Un Sanctaidd. Edrychwch i fyny ar y sêr! Pwy wnaeth eu creu nhw? Pwy sy'n eu galw nhw allan bob yn un? Pwy sy'n galw pob un wrth ei enw? Mae e mor gryf ac mor anhygoel o nerthol — does dim un ohonyn nhw ar goll. Jacob, pam wyt ti'n dweud, “Dydy'r ARGLWYDD ddim yn gweld beth sy'n digwydd i mi”? Israel, pam wyt ti'n honni, “Dydy Duw yn cymryd dim sylw o'm hachos i”? Wyt ti ddim yn gwybod? Wyt ti ddim wedi clywed? Yr ARGLWYDD ydy'r Duw tragwyddol! Fe sydd wedi creu y ddaear gyfan. Dydy ei nerth e ddim yn pallu; Dydy e byth yn blino. Mae e'n rhy ddoeth i unrhyw un ei ddeall! Fe sy'n gwneud y gwan yn gryf, ac yn rhoi egni i'r blinedig. Mae pobl ifanc yn pallu ac yn blino, a'r rhai mwya ffit yn baglu ac yn syrthio; ond bydd y rhai sy'n pwyso ar yr ARGLWYDD yn cael nerth newydd. Byddan nhw'n hedfan i fyny fel eryrod; yn rhedeg heb flino a cerdded ymlaen heb stopio. Byddwch dawel a gwrando, ynysoedd; dw i am i'r bobloedd gael nerth newydd. Boed iddyn nhw nesáu i ddweud eu dweud. Gadewch i ni ddod at ein gilydd yn y llys barn. Pwy sydd wedi codi'r un o'r dwyrain? Pwy mae Cyfiawnder yn ei alw i'w ddilyn? Mae'n rhoi gwledydd iddo eu concro, ac i fwrw eu brenhinoedd i lawr. Mae ei gleddyf yn eu gwneud fel llwch, a'i fwa yn eu gyrru ar chwâl fel us. Mae'n mynd ar eu holau, ac yn pasio heibio'n ddianaf; dydy ei draed ddim yn cyffwrdd y llawr! Pwy sydd wedi gwneud hyn i gyd? Pwy alwodd y cenedlaethau o'r dechrau? — Fi, yr ARGLWYDD, oedd yno ar y dechrau a bydda i yno yn y diwedd hefyd. Fi ydy e! Mae'r ynysoedd yn gweld, ac maen nhw'n ofni, mae pob cwr o'r ddaear yn crynu. Dyma nhw'n dod, maen nhw'n agos! Maen nhw'n helpu ei gilydd, ac mae un yn annog y llall, “Bydd yn ddewr!” Mae'r saer coed yn annog y gof aur, a'r un sy'n bwrw gyda'r morthwyl yn annog yr un sy'n taro'r einion. Mae'n canmol y gwaith sodro, “Mae'n dda!” ac yna'n ei hoelio'n saff, a dweud “Fydd hwnna ddim yn symud!” Ond Israel, ti ydy fy ngwas i, Jacob, ti dw i wedi ei ddewis — disgynyddion Abraham, fy ffrind i. Des i â ti yma o bell, a'th alw o ben draw'r byd; a dweud wrthot ti: “Ti ydy fy ngwas i.” Dw i wedi dy ddewis di! Dw i ddim wedi troi cefn arnat ti! Paid bod ag ofn, achos dw i gyda ti. Paid dychryn — fi ydy dy Dduw di! Dw i'n dy nerthu di ac yn dy helpu di, Dw i'n dy gynnal di ac yn dy achub di hefo fy llaw dde. Bydd pawb sy'n codi yn dy erbyn di yn cael eu cywilyddio a'i drysu. Bydd y rhai sy'n ymladd yn dy erbyn di yn diflannu ac yn marw. Byddi'n edrych am y rhai sy'n ymosod arnat ti ac yn methu dod o hyd iddyn nhw. Bydd y rhai sy'n rhyfela yn dy erbyn di yn diflannu ac yn peidio â bod. Fi, yr ARGLWYDD, ydy dy Dduw di, yn rhoi cryfder i dy law dde di, ac yn dweud wrthot ti: “Paid bod ag ofn. Bydda i'n dy helpu di.” Paid bod ag ofn, y pryf Jacob, y lindys bach Israel — Bydda i'n dy helpu di! —meddai'r ARGLWYDD— Fi sy'n dy ryddhau di, sef Un Sanctaidd Israel. Bydda i'n dy wneud di yn llusg dyrnu — un newydd, hefo llawer iawn o ddannedd. Byddi'n dyrnu mynyddoedd a'u malu ac yn gwneud bryniau fel us. Byddi'n eu nithio nhw, a bydd gwynt stormus yn eu chwythu i ffwrdd. Bydd corwynt yn eu gyrru ar chwâl. Ond byddi di yn llawenhau yn yr ARGLWYDD, Ac yn canu mawl i Un Sanctaidd Israel. Ond am y bobl dlawd ac anghenus sy'n chwilio am ddŵr ac yn methu cael dim; ac sydd bron tagu gan syched: bydda i, yr ARGLWYDD, yn eu hateb nhw; fydda i, Duw Israel, ddim yn eu gadael nhw. Bydda i'n gwneud i nentydd lifo ar y bryniau anial, ac yn agor ffynhonnau yn y dyffrynnoedd. Bydda i'n troi'r anialwch yn byllau dŵr, a'r tir sych yn ffynhonnau. Bydda i'n plannu coed cedrwydd yno, coed acasia, myrtwydd, ac olewydd; bydda i'n gosod coed cypres, coed llwyfen a choed pinwydd hefyd — er mwyn i bobl weld a gwybod, ystyried a sylweddoli, mai'r ARGLWYDD sydd wedi gwneud hyn, ac mai Un Sanctaidd Israel sydd wedi peri iddo ddigwydd. “Cyflwynwch eich achos,” meddai'r ARGLWYDD. “Sut ydych chi am bledio?”, meddai Brenin Jacob. “Dewch â'ch duwiau yma i ddweud wrthon ni beth sy'n mynd i ddigwydd. Beth am ddweud wrthon ni beth broffwydon nhw yn y gorffennol? — i ni allu penderfynu wrth weld y canlyniadau. Neu ddweud beth sy'n mynd i ddigwydd yn y dyfodol? Dwedwch wrthon ni beth sydd i ddod, er mwyn i ni gael gwybod eich bod chi'n dduwiau! Gwnewch rywbeth — da neu ddrwg — fydd yn ein rhyfeddu ni! Ond y gwir ydy, dych chi ddim yn bod; allwch chi wneud dim byd o gwbl! Mae rhywun sy'n dewis eich addoli chi yn ffiaidd! Fi wnaeth godi'r un o'r gogledd, ac mae wedi dod; yr un o'r dwyrain sy'n galw ar fy enw i. Mae wedi sathru arweinwyr fel sathru mwd, neu fel mae crochenydd yn sathru clai. Pwy arall ddwedodd am hyn wrthon ni o'r dechrau? Pwy wnaeth ddweud am y peth ymlaen llaw, i ni allu dweud, ‘Roedd e'n iawn!’? Wnaeth neb sôn am y peth — ddwedodd neb ddim. Na, does neb wedi'ch clywed chi'n dweud gair! Fi wnaeth ddweud gyntaf wrth Seion: ‘Edrychwch! Maen nhw'n dod!’ Fi wnaeth anfon negesydd gyda newyddion da i Jerwsalem! Dw i'n edrych, a does yr un o'r rhain yn gallu rhoi cyngor nac ateb cwestiwn gen i. Y gwir ydy, mae'n nhw'n afreal — dŷn nhw'n gallu gwneud dim byd o gwbl! Mae eu delwau metel mor ddisylwedd ag anadl! Dyma fy ngwas, yr un dw i'n ei gynnal; yr un dw i wedi ei ddewis, ac sydd wrth fy modd i! Rhof fy ysbryd iddo, a bydd yn dysgu cyfiawnder i'r cenhedloedd. Fydd e ddim yn gweiddi a chodi ei lais, nac yn gadael i neb glywed ei lais ar y strydoedd. Fydd e ddim yn torri brwynen fregus, nac yn diffodd llin sy'n mygu. Bydd e'n dangos y ffordd iawn i ni. Fydd e ddim yn methu nac yn anobeithio nes iddo sefydlu'r ffordd iawn ar y ddaear. Mae'r ynysoedd yn disgwyl am ei ddysgeidiaeth.” Dyma mae'r ARGLWYDD Dduw yn ei ddweud — yr un greodd yr awyr, a'i lledu allan; yr un wnaeth siapio'r ddaear a phopeth ynddi; yr un sy'n rhoi anadl i'r bobl sy'n byw arni, a bywyd i'r rhai sy'n cerdded arni: “Fi ydy'r ARGLWYDD, dw i wedi dy alw i wneud beth sy'n iawn, a gafael yn dy law. Dw i'n gofalu amdanat ti, ac yn dy benodi yn ganolwr fy ymrwymiad i bobl, ac yn olau i genhedloedd — i agor llygaid y dall, rhyddhau carcharorion o'u celloedd, a'r rhai sy'n byw yn y tywyllwch o'r carchar. Fi ydy'r ARGLWYDD, dyna fy enw i. Dw i ddim yn rhannu fy ysblander gyda neb arall, na rhoi'r clod dw i'n ei haeddu i ddelwau. Mae'r pethau cyntaf ddwedais wedi dod yn wir, a nawr dw i'n cyhoeddi pethau newydd. Dw i'n gadael i chi glywed amdanyn nhw cyn iddyn nhw ddechrau digwydd.” Canwch gân newydd i'r ARGLWYDD, canwch ei glod o ben draw'r byd — chi sy'n hwylio ar y môr, a'r holl greaduriaid sydd ynddo, a chi sy'n byw ar yr ynysoedd! Boed i'r anialwch a'i drefi godi eu lleisiau, a'r pentrefi ble mae crwydriaid Cedar yn byw. Canwch yn llawen, chi sy'n byw yn Sela, a gweiddi'n uchel o ben y mynyddoedd. Boed iddyn nhw roi clod i'r ARGLWYDD, a dweud am ei ysblander ar yr ynysoedd. Mae'r ARGLWYDD yn mynd allan fel milwr ar dân ac yn frwd i ymladd yn y rhyfel. Mae e'n gweiddi — yn wir, mae e'n rhuo wrth ymosod ar ei elynion. “Dw i wedi bod yn ddistaw yn rhy hir; wedi cadw'n dawel, a dal fy hun yn ôl. Ond nawr, fel gwraig yn cael plentyn, dw i'n sgrechian a gwingo a griddfan. Dw i'n mynd i ddifetha'r bryniau a'r mynyddoedd, a gwneud i bob tyfiant wywo. Dw i'n mynd i wneud yr afonydd yn sych, a sychu'r pyllau dŵr hefyd. Dw i'n mynd i arwain y rhai sy'n ddall ar hyd ffordd sy'n newydd, a gwneud iddyn nhw gerdded ar hyd llwybrau sy'n ddieithr iddyn nhw. Bydda i'n gwneud y tywyllwch yn olau o'u blaen ac yn gwneud y tir anwastad yn llyfn. Dyma dw i'n addo ei wneud — a dw i'n cadw fy ngair. Bydd y rhai sy'n trystio eilunod yn cael eu gyrru'n ôl a'u cywilyddio, sef y rhai sy'n dweud wrth ddelwau metel, ‘Chi ydy'n duwiau ni!’” Gwrandwch, chi'r rhai byddar; ac edrychwch, chi sy'n ddall! Pwy sy'n ddall fel fy ngwas, neu'n fyddar fel y negesydd dw i'n ei anfon? Pwy sy'n ddall fel yr un wedi ymrwymo iddo? Pwy sy'n ddall fel gwas yr ARGLWYDD? Er dy fod yn gweld llawer, dwyt ti ddim yn ystyried; er bod gen ti glustiau, dwyt ti ddim yn gwrando. Roedd yr ARGLWYDD wedi ei blesio ei fod yn gyfiawn, a'i fod yn gwneud yn fawr o'r gyfraith, ac yn ei chadw. Ond mae'r bobl hyn wedi colli popeth: maen nhw i gyd wedi eu dal mewn tyllau, a'u carcharu mewn celloedd. Maen nhw'n ysglyfaeth, a does neb i'w hachub; maen nhw'n ysbail, a does neb yn dweud “Rho nhw'n ôl!” Pwy sy'n barod i wrando ar hyn? Gwrandwch yn astud o hyn ymlaen! Pwy adawodd i Jacob gael ei ysbeilio, a rhoi Israel i'r lladron? Yr ARGLWYDD wrth gwrs — yr un wnaethon nhw bechu yn ei erbyn! Doedden nhw ddim am fyw fel roedd e eisiau, na bod yn ufudd i'w ddysgeidiaeth. Felly dyma fe'n tywallt ei lid arnyn nhw, a thrais rhyfel. Roedd y fflamau o'u cwmpas ym mhobman, ond wnaethon nhw ddim dysgu'r wers. Cawson nhw eu llosgi, ond gymron nhw ddim sylw. Nawr, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud — yr un wnaeth dy greu di, Jacob, a rhoi siâp i ti, Israel: “Paid bod ag ofn! Dw i wedi dy ollwng di'n rhydd! Dw i wedi dy alw wrth dy enw! Fi piau ti! Pan fyddi di'n mynd trwy lifogydd, bydda i gyda ti; neu drwy afonydd, fyddan nhw ddim yn dy gario di i ffwrdd. Wrth i ti gerdded trwy dân, fyddi di'n cael dim niwed; fydd y fflamau ddim yn dy losgi di. Achos fi ydy'r ARGLWYDD dy Dduw di, Un Sanctaidd Israel, dy Achubwr di! Rhoddais yr Aifft yn dâl amdanat ti, Cwsh a Seba yn dy le di. Dw i'n dy drysori di, ac yn dy garu di, achos ti'n werthfawr yn fy ngolwg i. Dw i'n barod i roi'r ddynoliaeth yn gyfnewid amdanat ti, a'r bobloedd yn dy le di. Paid bod ag ofn, achos dw i gyda ti. Bydda i'n dod â'th ddisgynyddion di yn ôl o'r dwyrain, ac yn dy gasglu di o'r gorllewin. Bydda i'n dweud wrth y gogledd, ‘Gollwng nhw!’ ac wrth y de, ‘Paid dal neb yn ôl!’ Tyrd â'm meibion i o wledydd pell, a'm merched o ben draw'r byd — pawb sydd â'm henw i arnyn nhw, ac wedi eu creu i ddangos fy ysblander i. Ie, fi wnaeth eu siapio a'u gwneud nhw. Dewch â nhw allan! Y rhai sy'n ddall er bod ganddyn nhw lygaid, ac yn fyddar er bod ganddyn nhw glustiau. Mae'r cenhedloedd i gyd wedi dod at ei gilydd, a gwledydd y byd wedi ymgasglu. Pa un o'u duwiau nhw ddwedodd am hyn, a dweud ymlaen llaw am beth sydd wedi digwydd? Gadewch iddyn nhw alw tystion i brofi eu hunain, er mwyn i bobl eu clywed, a dweud, ‘Mae'n wir!’” “Chi ydy fy nhystion i,” —meddai'r ARGLWYDD— “a'r gwas dw i wedi ei ddewis i wybod ac i gadarnhau eich bod chi'n deall mai fi ydy e. Doedd dim duw o'm blaen i, a fydd yna ddim un ar fy ôl i. Fi, ie fi ydy'r unig ARGLWYDD, a does neb ond fi yn gallu achub. Fi wnaeth ddweud ymlaen llaw, fi wnaeth achub, fi wnaeth ei gyhoeddi, dim rhyw dduw dieithr — a dych chi'n dystion o'r peth.” —meddai'r ARGLWYDD— “Fi ydy'r unig Dduw, Fi ydy e o'r dechrau cyntaf! Does neb yn gallu cipio rhywun oddi arna i. Pan dw i'n gwneud rhywbeth, does neb yn gallu ei ddadwneud.” Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud — yr un sy'n dy ryddhau, Un Sanctaidd Israel: “Dw i'n mynd i'w anfon e i Babilon er dy fwyn di. Bydda i'n bwrw ei barrau haearn i lawr, a throi bloeddio llawen y Babiloniaid yn alar. Fi ydy'ch Un Sanctaidd chi, yr ARGLWYDD, eich Brenin chi, yr un greodd Israel.” Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud — yr un agorodd ffordd drwy'r môr, a llwybr drwy'r dyfroedd mawr; yr un ddinistriodd gerbydau a cheffylau, a'r fyddin ddewr i gyd (Maen nhw'n gorwedd gyda'i gilydd, a fyddan nhw ddim yn codi. Cawson nhw eu diffodd, fel diffodd cannwyll): “Peidiwch hel atgofion am y gorffennol, a dim ond meddwl am beth ddigwyddodd o'r blaen! Edrychwch! Dw i'n gwneud rhywbeth newydd! Mae ar fin digwydd! Ydych chi ddim yn ei weld? Dw i'n mynd i agor ffordd drwy'r anialwch, a rhoi afonydd yn y tir diffaith. Bydd anifeiliaid gwylltion yn diolch i mi, y siacaliaid a'r estrys, am fy mod wedi rhoi dŵr yn yr anialwch, ac afonydd mewn tir diffaith, i roi diod i'r bobl dw i wedi eu dewis — y bobl wnes i eu llunio i mi fy hun, iddyn nhw fy moli i.” “Ond dwyt ti ddim wedi galw arna i, Jacob; rwyt ti wedi blino arna i, Israel. Dwyt ti ddim wedi dod â dafad yn offrwm i'w losgi i mi, nac wedi fy anrhydeddu gydag aberthau. Dw i ddim wedi pwyso arnat ti am offrwm o rawn, na dy boeni di am yr arogldarth o thus. Dwyt ti ddim wedi prynu sbeisiau pêr i mi na'm llenwi gyda brasder dy aberthau. Yn lle hynny, rwyt ti wedi rhoi baich dy bechodau arna i, a'm blino gyda dy ddrygioni. Fi, ie, fi — er fy mwyn fy hun — ydy'r un sy'n dileu dy wrthryfel di, ac yn anghofio am dy bechodau di. Atgoffa fi. Gad i ni drafod gyda'n gilydd. Gad i mi glywed dy ochr di o'r stori; ceisia di brofi dy fod yn ddieuog! Pechodd dy dad cyntaf yn fy erbyn i, wedyn cododd dy arweinwyr yn fy erbyn i. Felly dyma fi'n halogi arweinwyr y cysegr, a gadael i Jacob gael ei alltudio ac i Israel fod yn destun sbort.” Ond gwrando nawr, Jacob, fy ngwas, ac Israel, yr un dw i wedi ei dewis. Dyma mae'r ARGLWYDD a'th wnaeth di yn ei ddweud — yr un wnaeth dy siapio di yn y groth; yr un sy'n dy helpu: “Paid bod ag ofn, Jacob, fy ngwas, Israel, yr un dw i wedi ei dewis. Fel dw i'n tywallt dŵr ar y ddaear sychedig, a glaw ar dir sych, bydda i'n tywallt fy Ysbryd ar dy ddisgynyddion di, a'm bendith ar dy blant. Byddan nhw'n tyfu fel glaswellt, ac fel coed helyg ar lan ffrydiau o ddŵr. Bydd un yn dweud, ‘Dw i'n perthyn i'r ARGLWYDD,’ un arall yn cymryd yr enw ‘Jacob,’ ac un arall eto yn ysgrifennu ar ei law ‘eiddo'r ARGLWYDD’ ac yn galw ei hun yn ‘Israel.’” Dyma mae'r ARGLWYDD, Brenin Israel, yn ei ddweud — yr un sy'n eu rhyddhau nhw, yr ARGLWYDD holl-bwerus: “Fi ydy'r cyntaf, a fi ydy'r olaf! Does dim duw arall yn bod ar wahân i mi. Pwy sy'n debyg i mi? Boed iddo honni'r peth, a dadlau ei achos! Dwedais i wrth bobl ers talwm beth oedd i ddod; beth am iddo fe ddweud beth sy'n mynd i ddigwydd! Peidiwch bod ag ofn! Peidiwch dychryn! Ydw i ddim wedi dweud wrthoch chi ers talwm? Do, dw i wedi dweud, a chi ydy'r tystion! Oes yna unrhyw dduw arall ar wahân i mi? Na, does dim Craig arall; dw i ddim yn gwybod am un! Mae'r rhai sy'n gwneud eilunod yn gwastraffu eu hamser. Dydy'r pethau maen nhw mor hoff ohonyn nhw yn dda i ddim! A dydy'r rhai sy'n tystio iddyn nhw ddim yn gweld! Dŷn nhw'n gwybod dim — ac felly maen nhw'n cael eu cywilyddio. Pwy sy'n ddigon dwl i wneud duw neu gastio delw all wneud dim? Mae pawb sy'n gweithio arno yn cael eu cywilyddio. Crefftwyr, ie, ond creaduriaid meidrol ydyn nhw. Gadewch iddyn nhw ddod at ei gilydd i wneud safiad! Byddan nhw'n cael eu dychryn a'u cywilyddio. Mae'r gof yn defnyddio'i offer i baratoi'r metel ar y tân. Mae'n ei siapio gyda morthwyl, ac yn gweithio arno gyda nerth bôn braich. Ond pan mae eisiau bwyd arno, mae ei nerth yn pallu; heb yfed dŵr, byddai'n llewygu. Mae'r saer coed yn ei fesur gyda llinyn, ac yn ei farcio gyda phensil; mae'n ei lyfnhau gyda plaen, ac yn ei farcio gyda chwmpawd. Yna mae'n ei gerfio i siâp dynol; ei wneud i edrych fel bod dynol, a'i osod mewn teml. Mae'n torri coed cedrwydd; mae'n dewis coeden gypres neu dderwen sydd wedi tyfu'n gryf yng nghanol y goedwig. Mae'n plannu coed pinwydd, ac mae'r glaw yn gwneud iddyn nhw dyfu. Mae'n defnyddio peth ohono fel coed tân i gadw ei hun yn gynnes. Mae'n cynnau tân i bobi bara gydag e ac yn defnyddio'r gweddill i wneud duw i'w addoli! Mae'n cerfio eilun, ac yna'n plygu iddo! Mae'n llosgi ei hanner yn y tân ac yn rhostio cig arno. Mae'n bwyta'r cig nes mae ei fol yn llawn; ac yn cynhesu o flaen y tân, ac yn dweud, ‘O! mae tân go iawn mor braf!’ Wedyn mae'n defnyddio beth sydd ar ôl i wneud eilun yn dduw iddo'i hun! Mae'n plygu o'i flaen, ac yn ei addoli! Mae'n gweddïo arno a dweud, ‘Achub fi! — ti ydy fy Nuw i!’ Dŷn nhw'n gwybod dim! Dŷn nhw ddim yn meddwl! Maen nhw wedi mynd yn ddall, ac mae eu meddyliau ar gau. Dŷn nhw ddim yn meddwl am funud, dŷn nhw'n gwybod nac yn deall dim: ‘Dw i wedi llosgi ei hanner yn y tân; wedi pobi bara arno, a rhostio cig i'w fwyta — yna gwneud y gweddill yn eilun ffiaidd! Dw i'n plygu i lawr i ddarn o bren!’ Mae e'n bwyta lludw! Mae ei feddwl wedi mynd ar gyfeiliorn! Mae'n methu achub ei hun na dod rownd i gyfaddef, ‘Twyll ydy'r peth sydd yn fy llaw i!’ Cofia'r pethau yma, Jacob achos ti ydy fy ngwas i, Israel. Fi wnaeth dy siapio di, ac rwyt ti'n was i mi — fydda i ddim yn dy anghofio di, Israel. Dw i wedi ysgubo dy wrthryfel di i ffwrdd fel cwmwl, a dy bechodau di fel niwl — Tro yn ôl ata i! Dw i wedi dy ryddhau di.” Canwch fawl, nefoedd, achos mae'r ARGLWYDD wedi ei wneud! Gwaeddwch yn uchel, ddyfnderoedd y ddaear! Bloeddiwch, fynyddoedd, a'r fforestydd a'u holl goed! Achos mae'r ARGLWYDD wedi rhyddhau Jacob, ac wedi dangos ei ysblander yn Israel. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud — yr un sy'n dy ryddhau di; yr un wnaeth dy siapio di yn y groth: “Fi, yr ARGLWYDD, sydd wedi gwneud y cwbl: fi fy hun wnaeth daenu'r awyr, a lledu'r ddaear ar fy mhen fy hun. Fi sy'n torri swynion dewiniaid, ac yn gwneud ffyliaid o'r rhai sy'n darogan; gwneud i'r doethion lyncu eu geiriau, a gwneud nonsens o'u gwybodaeth nhw. Dw i'n cadarnhau'r hyn mae fy ngwas yn ei ddweud, ac yn gwneud beth mae ei negeswyr yn ei gynghori. Dw i'n dweud wrth Jerwsalem, ‘Bydd pobl yn byw ynot ti,’ ac wrth bentrefi Jwda, ‘Byddwch yn cael eich adeiladu; dw i'n mynd i ailgodi'r adfeilion.’ Fi ydy'r un ddwedodd wrth y môr, ‘Bydd sych!’ ac wrth yr afonydd, ‘Dw i'n mynd i'ch sychu chi!’ A fi hefyd sy'n dweud wrth Cyrus, ‘Fy mugail wyt ti.’ Bydd e'n gwneud beth dw i eisiau! Bydd yn dweud wrth Jerwsalem, ‘Cei dy adeiladu eto,’ ac wrth y Deml: ‘Cei dy ail-sefydlu.’” Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud wrth Cyrus, yr un mae wedi ei eneinio; yr un mae wedi gafael yn ei law, iddo sathru gwledydd o'i flaen a diarfogi brenhinoedd. Yr un mae wedi agor drysau iddo heb adael unrhyw giât ar gau: “Dw i'n mynd o dy flaen di i fwrw waliau dinasoedd i lawr, dryllio drysau pres a thorri'r barrau haearn. Dw i'n mynd i roi i ti drysorau sydd yn y tywyllwch, stôr o gyfoeth wedi ei guddio o'r golwg — er mwyn i ti wybod mai fi, yr ARGLWYDD, Duw Israel, sydd wedi dy alw di wrth dy enw. Dw i wedi dy alw di wrth dy enw er mwyn fy ngwas Jacob, ac er mwyn Israel, yr un dw i wedi ei ddewis. Dw i'n mynd i roi teitl i ti, er nad wyt ti'n fy nabod. Fi ydy'r ARGLWYDD a does dim un arall; does dim duw ar wahân i mi. Dw i'n mynd i dy arfogi di, er nad wyt ti'n fy nabod. Dw i eisiau i bawb, o'r dwyrain i'r gorllewin, wybod fod neb arall ond fi. Fi ydy'r ARGLWYDD a does dim un arall. Fi sy'n rhoi golau, ac yn creu twyllwch, yn dod â heddwch ac yn creu trwbwl — Fi, yr ARGLWYDD, sy'n gwneud y cwbl. Arllwys law i lawr, o awyr! Glawiwch gyfiawnder, gymylau! Agor, ddaear! er mwyn i achubiaeth dyfu, ac i degwch flaguro: Fi, yr ARGLWYDD, sydd wedi ei wneud.” Gwae'r sawl sy'n dadlau gyda'i Wneuthurwr, ac yntau'n ddim byd ond darn o lestr wedi torri ar lawr! Ydy'r clai yn dweud wrth y crochenydd, “Beth yn y byd wyt ti'n wneud?” neu, “Does dim dolen ar dy waith”? Gwae'r un sy'n dweud wrth dad, “Beth wyt ti'n ei genhedlu?” neu wrth fam, “Beth wyt ti'n ei eni?” Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud — Un Sanctaidd Israel wnaeth ei siapio: “Dych chi'n fy holi am ddyfodol fy mhlant? Dych chi am ddweud wrtho i beth i'w wneud? Fi wnaeth y ddaear, a chreu y ddynoliaeth arni. Fi fy hun wnaeth ledu'r awyr, a rhoi trefn ar y sêr. A fi sydd wedi codi Cyrus i achub ac wedi gwneud y ffordd o'i flaen yn rhwydd. Bydd e'n ailadeiladu fy ninas i, ac yn gollwng fy mhobl gafodd eu caethgludo yn rhydd heb unrhyw dâl na gwobr,” —meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Bydd cyfoeth yr Aifft ac enillion Affrica a'r Sabeaid tal, yn dod yn eiddo i ti. Byddan nhw'n dy ddilyn di mewn cadwyni, yn plygu o dy flaen di, ac yn pledio: ‘Dim ond gyda ti mae Duw, a does dim duw arall o gwbl!’” Ti'n sicr yn Dduw sy'n cuddio ei hun, O Dduw Israel, yr un sy'n achub! Bydd y rhai sy'n cerfio eilunod yn teimlo cywilydd ac embaras — byddan nhw i gyd yn sleifio i ffwrdd mewn cywilydd. Y mae Israel yn saff gyda'r ARGLWYDD ac yn cael ei hachub am byth! Fydd hi ddim yn profi cywilydd nac embaras byth bythoedd! Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud, sef Crëwr y nefoedd! Yr unig Dduw! Yr un wnaeth y ddaear, ei siapio a'i gosod yn ei lle — nid i fod yn ddiffaith, ond i bobl fyw arni: “Fi ydy'r ARGLWYDD, does dim un arall. Dw i ddim wedi siarad yn gyfrinachol, mewn rhyw le tywyll. Wnes i ddim dweud wrth blant Jacob, ‘Edrychwch amdana i i ddim pwrpas’ — Dw i, yr ARGLWYDD, yn dweud beth sy'n iawn, ac yn dweud y gwir. Dewch yma at eich gilydd. Dewch ata i gyda'ch gilydd, chi ffoaduriaid y cenhedloedd! Dydy'r rhai sy'n cario delwau pren yn gwybod dim, na'r rhai sy'n gweddïo ar dduwiau sydd ddim yn gallu achub! Cyflwynwch eich tystiolaeth — gadewch iddyn nhw drafod gyda'i gilydd! Pwy ddwedodd am hyn ymlaen llaw? Pwy soniodd am y peth o'r dechrau? Onid fi, yr ARGLWYDD? Does dim duw arall yn bod ar wahân i mi! Fi ydy'r Duw cyfiawn sy'n achub — does dim un arall! Dewch o ben draw'r byd; trowch ata i i gael eich achub! Achos fi ydy Duw, a does dim un arall. Dw i wedi mynd ar fy llw, dw i'n dweud y gwir, fydda i'n cymryd dim yn ôl: ‘Bydd pob glin yn plygu i mi, a phob tafod yn tyngu i mi! Byddan nhw'n dweud: “Ydy, mae'r ARGLWYDD yn Dduw cyfiawn a chryf!”’” Bydd y rhai gododd yn ei erbyn yn troi ato mewn cywilydd. Bydd disgynyddion Israel yn cael eu hachub gan yr ARGLWYDD ac yn canu mawl iddo. Mae Bel ar ei liniau, a Nabw yn gorwedd ar ei wyneb. Baich ar gefn anifeiliaid ydy eu delwau nhw; pethau mae'n rhaid eu cario — llwyth trwm ar gefn anifeiliaid blinedig! Maen nhw hefyd wedi syrthio, a phlygu gyda'i gilydd; doedd dim modd arbed y llwyth, ac maen nhw ar eu ffordd i'r gaethglud. “Gwrandwch arna i, bobl Jacob, a phawb sydd ar ôl o bobl Israel. Fi wnaeth eich cario chi pan oeddech chi yn y groth, a dw i wedi eich cynnal chi ers i chi gael eich geni. A bydd pethau yr un fath pan fyddwch chi'n hen; bydda i'n dal i'ch cario chi pan fydd eich gwallt wedi troi'n wyn! Fi wnaeth chi, a fi sy'n eich cario chi — fi sy'n gwneud y cario, a fi sy'n achub. Pwy sy'n cymharu hefo fi? Oes rhywun tebyg i mi? Dwedwch i bwy dw i'n debyg? Oes rhywun sydd yr un fath â mi? Mae rhai pobl yn gwagio'r aur o'u pwrs ac yn pwyso eu harian mewn clorian, yna'n talu gweithiwr metel i wneud duw iddyn nhw, ac wedyn yn ei addoli a syrthio ar eu hwynebau o'i flaen! Mae'n rhaid iddyn nhw ei gario ar eu hysgwyddau, ac wedyn maen nhw'n ei osod ar ei draed, a dydy e ddim yn gallu symud! Os ydy rhywun yn galw arno, dydy e ddim yn ateb; a dydy e ddim yn gallu achub neb o'i trafferthion! Cofiwch chi hynny, a dal gafael yn y ffaith! Meddyliwch am y peth, chi wrthryfelwyr! Cofiwch beth dw i wedi ei wneud yn y gorffennol. Achos fi sydd Dduw, a does dim un arall yn bod. Fi ydy Duw, a does neb tebyg i mi. Dw i'n dweud o'r dechrau beth fydd yn digwydd ar y diwedd, ac yn dangos ymlaen llaw bethau sydd heb ddigwydd eto. Dw i'n dweud: ‘Bydd fy nghynllun i yn digwydd; Dw i'n cyflawni popeth dw i'n ei fwriadu.’ Fi alwodd yr aderyn rheibus yna o'r dwyrain; yr un ddaeth o bell i gyflawni fy mhwrpas i. Pan dw i'n dweud rhywbeth, mae'n siŵr o ddigwydd; fi sydd wedi ei gynllunio, a bydda i'n siŵr o'i wneud! Gwrandwch arna i, chi bobl benstiff, sy'n cadw draw oddi wrth beth sy'n iawn: Dw i ar fin gwneud pethau'n iawn; dydy hyn ddim yn y dyfodol pell — fydd achubiaeth ddim yn cael ei ohirio. Dw i'n mynd i achub Seion! A rhoi fy ysblander i Israel!” “I lawr â ti! Eistedd yn y llwch, o wyryf, ferch Babilon. Eistedd ar lawr ferch y Babiloniaid, mae dy ddyddiau ar yr orsedd wedi darfod. Gei di ddim dy alw yn dyner ac yn dlos byth eto. Gafael yn y felin law i falu blawd. Tynn dy fêl, rhwyga dy wisg, a dangos dy goesau wrth gerdded drwy afonydd. Byddi'n gwbl noeth, a bydd dy rannau preifat yn y golwg. Dw i'n mynd i ddial, a fydd neb yn fy rhwysto i.” Dyna mae'r un sy'n ein gollwng ni'n rhydd yn ei ddweud —yr ARGLWYDD holl-bwerus ydy ei enw— Un Sanctaidd Israel. “Eistedd yn dawel! Dos i'r tywyllwch, ferch y Babiloniaid. Gei di ddim dy alw yn ‛Feistres y Teyrnasoedd‛ byth eto. Roeddwn wedi digio gyda'm pobl, felly cosbais fy etifeddiaeth; rhoddais nhw yn dy ddwylo di, ond wnest ti ddangos dim trugaredd atyn nhw. Roeddet ti hyd yn oed yn cam-drin pobl mewn oed. ‘Fi fydd y feistres am byth,’ meddet ti. Wnest ti ddim meddwl am funud beth fyddai'n digwydd yn y diwedd. Felly, gwrando ar hyn, ti sy wedi dy sbwylio — ti sy'n ofni neb na dim, ac yn meddwl, ‘Fi ydy'r un! — Does neb tebyg i mi! Fydda i byth yn weddw, nac yn gwybod beth ydy colli plant.’ Ond yn sydyn bydd y ddau beth yn digwydd ar yr un diwrnod: colli dy blant a chael dy hun yn weddw. Byddi'n cael dy lethu'n llwyr ganddyn nhw, er gwaetha dy holl ddewino a'th swynion gorau. Roeddet ti mor hunanfodlon yn dy ddrygioni, ac yn meddwl, ‘Does neb yn fy ngweld i.’ Roedd dy ddoethineb a dy glyfrwch yn dy arwain ar gyfeiliorn, ac roeddet ti'n dweud wrthot ti dy hun, ‘Fi ydy'r un! — Does neb tebyg i mi!’ Ond mae dinistr yn dod, a fydd dy holl swynion ddim yn ei gadw draw. Mae trychineb ar fin disgyn, a fyddi di ddim yn gallu ei droi i ffwrdd. Yn sydyn bydd dinistr yn dod arnat heb yn wybod. Dal ati gyda dy swynion a'th ddewino — rwyt wedi bod yn ymarfer ers yn blentyn! Falle y cei di help! Falle y byddi'n dychryn y gelyn! Ti'n gwastraffu dy amser yn gwrando ar holl gynghorion y rhai sy'n syllu i'r awyr ac yn darllen y sêr, ac yn dweud o fis i fis beth sy'n mynd i ddigwydd i ti! Gad iddyn nhw sefyll i fyny a dy achub di! Maen nhw fel gwellt yn cael ei losgi'n y tân. Allan nhw ddim achub eu hunain rhag gwres y fflamau cryfion. Nid glo i dwymo wrtho ydy hwn, neu dân i eistedd o'i flaen! Dyna faint o help ydyn nhw i ti! — y rhai buost ti'n delio gyda nhw ers yn blentyn. Maen nhw i gyd wedi mynd eu ffordd eu hunain, a does neb ar ôl i dy achub di!” Gwrandwch ar hyn, bobl Jacob — chi sy'n cael eich galw wrth yr enw ‛Israel‛ ac yn ddisgynyddion i Jwda; sy'n tyngu i enw'r ARGLWYDD ac yn galw ar Dduw Israel — ond heb fod yn ddidwyll wrth wneud hynny. (Maen nhw'n galw eu hunain yn ‛bobl y ddinas sanctaidd‛, ac yn honni pwyso ar Dduw Israel, sef yr ARGLWYDD holl-bwerus): “Dw i wedi sôn ers talwm am y pethau fyddai'n digwydd; dwedais yn glir i bawb glywed. Yna'n sydyn gweithredais, a dyma nhw'n digwydd. Ro'n i'n gwybod mor benstiff wyt ti — mae gewynnau dy wddf fel haearn a dy dalcen yn galed fel pres. Dyna pam wnes i roi gwybod i ti'n bell yn ôl, a dweud yn glir cyn i ddim ddigwydd — rhag i ti ddweud, ‘Fy eilun-dduw wnaeth hyn, fy eilun a'm delw metel wnaeth ei drefnu.’ Ti wedi clywed hyn i gyd; edrych, pam wnei di ddim cydnabod y peth? A nawr dw i'n mynd i ddweud pethau newydd, pethau cudd allet ti ddim eu gwybod o'r blaen pethau newydd sbon, ddim o'r gorffennol. Dwyt ti ddim wedi clywed hyn cyn heddiw, rhag i ti ddweud, ‘Ro'n i'n gwybod hynny!’ Dwyt ti ddim wedi clywed, dwyt ti ddim yn gwybod; allet ti ddim bod wedi clywed hyn o'r blaen. Er fy mod i'n gwybod dy fod ti'n twyllo ac yn cael dy alw'n rebel ers i ti gael dy eni, dw i wedi atal fy llid er mwyn cadw fy enw da a bod yn amyneddgar er mwyn i mi gael fy moli; dw i wedi ymatal rhag dy ddinistrio di. Edrych, dw i wedi dy buro di, ond nid fel arian; dw i wedi dy brofi di yn ffwrnais dioddefaint. Er fy mwyn fy hun yn unig dw i'n gwneud hyn — Pam dylai fy enw da gael ei halogi? Dw i ddim yn rhannu fy ysblander gyda neb arall! Gwrandwch arna i, bobl Jacob, ac Israel, y rhai dw i wedi eu galw: Fi ydy e — fi ydy'r cyntaf, a fi ydy'r olaf hefyd. Gosodais sylfeini'r ddaear gyda'm dwylo fy hun, a lledu'r awyr gyda'm llaw dde. Dw i'n eu galw nhw, ac maen nhw'n sefyll gyda'i gilydd. ‘Dewch at eich gilydd i gyd, a gwrando! Pa un o'ch duwiau ddwedodd am y pethau yma? — y bydd ffrind yr ARGLWYDD yn cyflawni ei fwriad yn erbyn Babilon, ac yn defnyddio'i holl nerth yn erbyn pobl Caldea.’ Fi ddwedodd! Fi alwodd e. Fi ddaeth ag e allan, a bydd yn llwyddo. Dewch ata i yma i glywed hyn: ‘Dw i ddim wedi siarad yn gyfrinachol erioed; a pan mae'n digwydd dw i yna.’” Felly nawr mae fy Meistr, sef yr ARGLWYDD, wedi fy anfon i gyda'i ysbryd. Dyma mae'r ARGLWYDD sy'n dy ollwng yn rhydd yn ei ddweud — Un Sanctaidd Israel: “Fi ydy'r ARGLWYDD dy Dduw, sy'n dy ddysgu di er dy les, ac yn dy arwain di ar hyd y ffordd y dylet ti fynd. O na fyddet ti wedi gwrando ar fy ngorchmynion! Byddai dy heddwch yn llifo fel afon, a dy gyfiawnder fel tonnau'r môr. Byddai gen ti ddisgynyddion fel y tywod, a plant mor niferus â'r gronynnau o dywod. Fyddai eu henw nhw ddim wedi ei dorri i ffwrdd a'i ddileu o'm gŵydd i. Ewch allan ar frys o Babilon! Dianc oddi wrth bobl Caldea! Dwedwch beth sy'n digwydd a gweiddi'n llawen. Cyhoeddwch y peth! Anfonwch y neges i ben draw'r byd! Dwedwch: ‘Mae'r ARGLWYDD wedi gollwng ei was Jacob yn rhydd! Wnaethon nhw ddim profi syched, er iddo eu harwain nhw drwy'r anialwch. Gwnaeth i ddŵr lifo o'r graig iddyn nhw; holltodd y graig a dyma ddŵr yn tasgu allan.’ Does dim heddwch i bobl ddrwg.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. Gwrandwch arna i, ynysoedd! Daliwch sylw, chi bobloedd o bell: Galwodd yr ARGLWYDD fi cyn i mi gael fy ngeni, Rhoddodd fy enw i mi pan oeddwn i'n dal yng nghroth fy mam. Gwnaeth fy ngheg fel cleddyf miniog, a chuddiodd fi dan gysgod ei law. Gwnaeth fi fel saeth loyw; a chuddiodd fi yn ei gawell. Dwedodd wrtho i, “Ti ydy fy ngwas i, Israel, y caf fy anrhydeddu trwyddi.” Meddyliais fy mod wedi gweithio'n galed i ddim byd, a gwastraffu fy holl egni i ddim pwrpas. Ond mae fy achos yn llaw'r ARGLWYDD, a bydd fy Nuw yn rhoi fy ngwobr i mi. Nawr, mae'r ARGLWYDD — wnaeth fy llunio i yn y groth i fod yn was iddo — yn dweud ei fod am adfer pobl Jacob a dod ag Israel yn ôl ato'i hun. Bydda i wedi fy anrhydeddu yng ngolwg yr ARGLWYDD, am mai Duw sy'n fy nerthu i. Yna dwedodd, “Mae'n beth rhy fach i ti fod yn was i mi dim ond i godi llwythau Jacob ar eu traed ac adfer yr ychydig rai fydd ar ôl yn Israel. Bydda i'n dy wneud di yn olau i'r cenhedloedd, er mwyn i bobl o ben draw'r byd gael eu hachub.” Dyma mae'r ARGLWYDD — sy'n rhyddhau Israel, yr Un Sanctaidd — yn ei ddweud wrth yr un sy'n cael ei dirmygu; cenedl sy'n cael ei ffieiddio, a gwas y rhai sy'n llywodraethu: “Bydd brenhinoedd yn gweld ac yn codi ar eu traed, a bydd tywysogion yn ymgrymu, am fod yr ARGLWYDD, sydd wedi bod mor ffyddlon, Un Sanctaidd Israel wedi dy ddewis di.” Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Bydda i'n dy ateb di pan fydd yr amser yn iawn, ac yn dy helpu di pan ddaw'r dydd i mi achub. Fi sydd wedi dy siapio di, a dy benodi di'n ganolwr fy ymrwymiad i'r bobl — bydda i'n adfer y wlad, ac yn rhoi'r hawliau ar y tir yn ôl i'w phobl. Byddi'n dweud wrth garcharorion, ‘Cewch fod yn rhydd,’ ac wrth y rhai sy'n y tywyllwch, ‘Dewch i'r golwg.’ Byddan nhw fel defaid yn pori ar ochr y ffyrdd, ac yn cael porfa ar lethrau'r bryniau. Fydd dim syched nag eisiau bwyd arnyn nhw; fydd y gwynt poeth a'r haul ddim yn eu taro nhw. Achos bydd yr un sy'n eu caru nhw yn eu harwain, ac yn mynd â nhw at ffynhonnau o ddŵr. Bydda i'n gwneud y mynyddoedd yn ffordd agored, ac yn adeiladu priffyrdd amlwg.” Edrychwch! Mae rhai yn dod o bell. Edrychwch! Mae rhai yn dod o'r gogledd, eraill o'r gorllewin, a rhai o wlad Sinim. Cân nefoedd, a dathla, ddaear! Torrwch allan i ganu'n llawen, fynyddoedd! Achos mae'r ARGLWYDD wedi cysuro ei bobl, ac wedi tosturio wrth y rhai fu'n dioddef. “Dwedodd Seion, ‘Mae'r ARGLWYDD wedi troi cefn arna i; mae fy Meistr wedi fy anghofio i.’ Ydy gwraig yn gallu anghofio'r babi ar ei bron? Ydy hi'n gallu peidio dangos tosturi at ei phlentyn? Hyd yn oed petaen nhw yn anghofio, fyddwn i'n sicr ddim dy anghofio di! Dw i wedi cerfio dy enw ar gledrau fy nwylo! Wna i byth golli golwg ar dy waliau di. Bydd dy adeiladwyr yn gweithio'n gyflymach na'r rhai wnaeth dy ddinistrio di; mae'r rhai achosodd y fath lanast wedi mynd! Edrych o dy gwmpas! Maen nhw i gyd yn ymgasglu! Maen nhw'n dod atat ti! Mor sicr â'r ffaith fy mod i'n fyw,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn— “byddi di'n eu gwisgo nhw fel gemau, ac fel priodferch yn ei gwisg briodas. Er dy fod wedi dy daro, dy ddifetha a dy ddinistrio fel gwlad, bellach fydd dim digon o le i bawb sydd am fyw ynot ti, a bydd y rhai wnaeth dy ddinistrio yn bell i ffwrdd. Bydd y plant gafodd eu geni yn y cyfnod o golled yn dweud yn dy glyw di, ‘Mae hi'n rhy gyfyng yn y lle yma; symudwch i wneud lle i ni!’ A byddi di'n meddwl i ti dy hun, ‘Pwy gafodd y plant yma i mi? Roeddwn i'n weddw ac yn methu cael plant. Roeddwn wedi cael fy ngwrthod a'm gadael — felly pwy fagodd y rhain? Roeddwn wedi fy ngadael ar fy mhen fy hun — felly o ble daeth y rhain i gyd?’” Dyma mae'r Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud: “Dw i'n gwneud arwydd i alw'r cenhedloedd, ac yn codi fy maner i'r bobloedd. Byddan nhw'n cario dy feibion yn eu côl, a dy ferched ar eu hysgwyddau. Bydd brenhinoedd yn gofalu amdanat ti, a breninesau yn famau maeth. Byddan nhw'n plygu o'th flaen a'u hwynebau ar lawr, ac yn llyfu'r llwch wrth dy draed di. A byddi di'n deall mai fi ydy'r ARGLWYDD — fydd y rhai sydd a'u gobaith ynof fi ddim yn cael eu siomi. Ydy'n bosib dwyn ysbail oddi ar ryfelwr, neu ryddhau caethion o law gormeswr?” Wel, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Bydd caethion yn cael eu cymryd oddi ar ryfelwr, ac ysbail yn cael ei ddwyn oddi ar ormeswr; Bydda i'n ymladd gyda dy elynion di, ac yn achub dy blant di. Bydda i'n gwneud i dy ormeswyr fwyta eu cnawd eu hunain; byddan nhw'n meddwi ar eu gwaed eu hunain, fel ar win melys. A bydd y ddynoliaeth gyfan yn gwybod mai fi ydy'r ARGLWYDD sy'n dy achub di ac yn dy ollwng yn rhydd — Un Cryf Jacob!” Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Ble mae'r dystysgrif ysgariad rois i i'ch mam pan anfonais hi i ffwrdd? I bwy oeddwn i mewn dyled nes gorfod eich gwerthu chi iddyn nhw? Cawsoch eich gwerthu am fod mor ddrwg; cafodd eich mam ei hanfon i ffwrdd am eich bod wedi gwrthryfela. Pam oedd neb yna pan ddes i? Pam wnaeth neb ateb pan oeddwn i'n galw? Ydy fy llaw i'n rhy wan i ryddhau? Ydw i'n rhy wan i achub? Edrychwch! Fi wnaeth geryddu'r môr a'i sychu! Galla i droi afonydd yn anialwch! Roedd pysgod yn pydru am eu bod heb ddŵr, wedi marw o syched! Galla i wisgo'r awyr mewn du a'i gorchuddio â sachliain.” Rhoddodd fy Meistr, yr ARGLWYDD, dafod i mi siarad ar ei ran; dw i wedi dysgu sut i gysuro'r blinedig. Bob bore mae'n fy neffro i, ac yn fy nghael i wrando fel mae disgybl yn gwrando ac yn dysgu. Mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, wedi fy nysgu i wrando, a dw i ddim wedi gwrthryfela na throi fy nghefn arno. Rhoddais fy nghefn i'r rhai oedd yn fy chwipio, a'm gên i'r rhai oedd yn tynnu'r farf. Wnes i ddim cuddio fy wyneb oddi wrth yr amarch a'r poeri. Mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn fy helpu — felly dw i ddim yn derbyn yr amarch. Dw i'n gwneud fy wyneb yn galed fel fflint, a dw i'n gwybod na fydda i'n cywilyddio. Mae'r un sy'n fy amddiffyn i wrth ymyl — Pwy sy'n meiddio ymladd yn fy erbyn? Gadewch i ni wynebu'n gilydd! Pwy sydd am fy ngwrthwynebu i? Gadewch iddo ddod ata i! Mae fy Meistr, yr ARGLWYDD yn fy helpu i — Pwy sy'n mynd i'm cael yn euog o wneud drwg? Edrychwch! Byddan nhw'n treulio fel dilledyn; bydd gwyfyn yn eu difetha nhw. Pwy ohonoch sy'n parchu'r ARGLWYDD? Pwy sy'n gwrando ar lais ei was? — Dylai'r sawl sy'n cerdded mewn tywyllwch dudew, heb olau ganddo o gwbl, drystio'r ARGLWYDD a phwyso ar ei Dduw. Ond chi sy'n cynnau'ch tân eich hunain ac yn paratoi ffaglau — cerddwch yng ngolau fflam eich tân a'r ffaglau ydych wedi eu tanio! Dyma fydd yn dod i chi o'm llaw i: Byddwch chi'n gorwedd i gael eich poenydio! “Gwrandwch arna i, chi sy'n awyddus i wneud beth sy'n iawn, ac yn ceisio'r ARGLWYDD: Ystyriwch y graig y cawsoch eich naddu ohoni, a'r chwarel y cawsoch eich cloddio ohoni. Meddyliwch am Abraham, eich tad, a Sara, y cawsoch eich geni iddi. Roedd ar ei ben ei hun pan wnes i alw arno, ond bendithiais e, a'i wneud yn llawer. Bydd yr ARGLWYDD yn cysuro Seion, bydd yn cysuro ei hadfeilion. Bydd yn gwneud ei hanialwch fel Eden, a'i diffeithwch fel gardd yr ARGLWYDD. Bydd llawenydd a dathlu i'w glywed ynddi, lleisiau'n diolch a sŵn canu. Gwrandwch arna i, fy mhobl; daliwch sylw, fy nghenedl. Achos bydda i'n dysgu pobl, a bydd fy nghyfiawnder yn olau i'r bobloedd. Dw i ar fin gwneud pethau'n iawn, dw i ar fy ffordd i achub, a bydd fy mraich gref yn rheoli pobloedd. Bydd yr ynysoedd yn troi ata i, ac yn disgwyl yn frwd i mi ddangos fy nerth. Edrychwch i fyny i'r awyr, ac edrychwch ar y ddaear islaw: Bydd yr awyr yn gwasgaru fel mwg, y ddaear yn treulio fel dillad, a'r bobl sy'n byw arni yn marw fel gwybed, ond mae fy achubiaeth i yn aros am byth, a'm cyfiawnder ddim yn pallu. Gwrandwch arna i, chi sy'n gwybod beth sy'n iawn, y bobl sydd â'm cyfraith yn eu calonnau. Peidiwch bod ag ofn pan mae pobl feidrol yn eich sarhau chi, na digalonni pan maen nhw'n gwneud sbort. Bydd gwyfyn yn eu bwyta fel dilledyn, a'r pryf dillad yn eu llyncu fel gwlân. Bydd fy nghyfiawnder yn para am byth, a'm hachubiaeth o un genhedlaeth i'r llall.” Deffra! Deffra! Dangos dy nerth o fraich yr ARGLWYDD! Deffra, fel yn yr hen ddyddiau, yn yr amser a fu! Onid ti dorrodd Rahab yn ddarnau, a thrywanu'r ddraig? Onid ti sychodd y môr, a dŵr y dyfnder mawr? Onid ti wnaeth ddyfnder y môr yn ffordd i'r rhai gafodd eu rhyddhau gerdded arni? Bydd y bobl ollyngodd yr ARGLWYDD yn rhydd yn dod yn ôl i Seion yn bloeddio canu! Bydd y llawenydd sy'n para am byth yn goron ar eu pennau! Byddan nhw'n cael eu gwefreiddio gan hwyl a gorfoledd, am fod galar a griddfan wedi dianc i ffwrdd. “Fi, fi ydy'r un sy'n eich cysuro chi! Pam wyt ti'n ofni dyn meidrol — pobl feidrol sydd fel glaswellt? Wyt ti wedi anghofio'r ARGLWYDD sydd wedi dy greu di? Yr un wnaeth ledu'r awyr a gosod sylfaeni'r ddaear! Pam mae gen ti ofn am dy fywyd drwy'r amser fod y gormeswr wedi gwylltio ac yn barod i dy daro di i lawr? Ble mae llid y gormeswr beth bynnag? Bydd yr un caeth yn cael ei ryddhau ar frys! Fydd e ddim yn marw yn ei gell nac yn llwgu. Fi ydy'r ARGLWYDD dy Dduw di sy'n corddi'r môr yn donnau mawrion — yr ARGLWYDD holl-bwerus ydy fy enw i. Dw i wedi rhoi neges i ti ei rhannu ac wedi dy amddiffyn di dan gysgod fy llaw; Fi roddodd yr awyr yn ei le a gwneud y ddaear yn gadarn! A dw i wedi dweud wrth Seion: ‘Fy mhobl i ydych chi!’” Deffra! Deffra! Saf ar dy draed, Jerwsalem — ti sydd wedi yfed o'r gwpan roddodd yr ARGLWYDD i ti yn ei lid! Ti sydd wedi yfed y gwpan feddwol i'w gwaelod! Does yr un o'r meibion gafodd eu geni iddi yn ei harwain; does dim un o'r meibion fagodd hi yn gafael yn ei llaw. Mae dau beth wedi digwydd i ti: llanast a dinistr — pwy sy'n cydymdeimlo gyda ti? newyn a'r cleddyf — sut alla i dy gysuro di? Mae dy blant wedi llewygu! Maen nhw'n gorwedd ar gornel pob stryd, fel antelop wedi ei ddal mewn rhwyd — yn feddw gan ddigofaint yr ARGLWYDD, wedi eu ceryddu gan dy Dduw. Felly, gwrando ar hyn, ti'r un druenus sydd wedi meddwi, ond ddim ar win! Dyma mae dy feistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud, y Duw sy'n dadlau achos ei bobl: “Edrych! Dw i wedi cymryd y cwpan meddwol o dy law di, y gostrel rois i i ti yn fy llid. Does dim rhaid i ti yfed ohoni byth eto! Bydda i'n ei rhoi yn nwylo'r rhai wnaeth dy ormesu a dweud wrthot, ‘Gorwedd i lawr, i ni gerdded drosot ti’ — Roedd rhaid i ti roi dy gefn i fod fel stryd i bobl ei sathru.” Deffra! Deffra! Dangos dy nerth, Seion! Gwisga dy ddillad hardd, Jerwsalem, y ddinas sanctaidd! Fydd y paganiaid aflan sydd heb eu henwaedu byth yn dod i mewn i ti eto. Cod ar dy draed, ac ysgwyd y llwch oddi arnat, eistedd ar dy orsedd, Jerwsalem! Tynna'r gefynnau oddi am dy wddf Seion, y gaethferch hardd! Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Cawsoch eich gwerthu am ddim, a fydd arian ddim yn eich rhyddhau chi.” Dyma mae'r Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud: “I ddechrau, aeth fy mhobl i fyw dros dro yn yr Aifft; ac wedyn dyma Asyria yn eu gormesu nhw. Felly, beth sy'n digwydd yma?” —meddai'r ARGLWYDD— “Mae fy mhobl wedi eu cipio i ffwrdd am ddim rheswm, ac mae'r rhai sy'n eu rheoli yn gwawdio.” —meddai'r ARGLWYDD— “Mae pethau drwg yn cael eu dweud amdana i drwy'r amser. Ond bryd hynny bydd fy mhobl yn fy nabod, ac yn gwybod mai fi ydy'r un sy'n dweud, ‘Dyma fi!’” Mae mor wych gweld negesydd yn dod dros y mynyddoedd yn cyhoeddi fod heddwch. Mae ganddo newyddion da — mae e'n cyhoeddi fod achubiaeth ac yn dweud wrth Seion, “Dy Dduw di sy'n teyrnasu!” Clyw! Mae'r rhai sy'n gwylio dy furiau yn galw; maen nhw'n gweiddi'n llawen gyda'i gilydd! Maen nhw'n gweld, o flaen eu llygaid, yr ARGLWYDD yn dod yn ôl i Seion. Gwaeddwch chithau hefyd, adfeilion Jerwsalem! Mae'r ARGLWYDD yn cysuro ei bobl ac yn mynd i ollwng Jerwsalem yn rhydd. Mae'r ARGLWYDD wedi dangos ei nerth i'r cenhedloedd i gyd, ac mae pobl o ben draw'r byd yn gweld ein Duw ni yn achub. Ewch! Ewch! I ffwrdd â chi! Peidiwch cyffwrdd dim byd aflan! Chi sy'n cario llestri'r ARGLWYDD Cadwch eich hunain yn lân wrth fynd allan oddi yno. Ond does dim rhaid i chi adael ar frys na dianc fel ffoaduriaid, achos mae'r ARGLWYDD yn mynd o'ch blaen chi, ac mae Duw Israel yn eich amddiffyn o'r tu cefn. “Edrychwch! Bydd fy ngwas yn llwyddo; bydd yn cael ei ganmol a'i godi yn uchel iawn. Fel roedd llawer wedi dychryn o'i weld yn edrych mor ofnadwy — prin yn ddynol (doedd e ddim yn edrych fel dyn), bydd e'n puro llawer o genhedloedd. Bydd brenhinoedd yn fud o'i flaen — byddan nhw'n gweld rhywbeth oedd heb ei egluro, ac yn deall rhywbeth oedden nhw heb glywed amdano. Pwy fyddai'n credu'r neges glywon ni? Oes rhywun wedi gweld un grymus yr ARGLWYDD? Doedd e wrth dyfu o'i flaen yn ddim mwy na brigyn, neu wreiddyn mewn tir sych. O ran ei olwg, doedd dim yn ein denu i edrych arno; dim oedd yn ei wneud yn arbennig o ddeniadol. Cafodd ei ddirmygu a'i wrthod gan bobl; yn ddyn wnaeth ddiodde, yn gyfarwydd â phoen. Roedd pobl yn troi eu hwynebau i ffwrdd oddi wrtho; cafodd ei ddirmygu, a wnaethon ni mo'i werthfawrogi. Ac eto, cymerodd ein salwch ni arno'i hun, a diodde ein poenau ni yn ein lle. Roedden ni'n meddwl ei fod yn cael ei gosbi, a'i guro a'i gam-drin gan Dduw. Do, cafodd ei anafu am ein bod ni wedi gwrthryfela, cafodd ei sathru am ein bod ni ar fai. Cafodd ei gosbi i wneud pethau'n iawn i ni; ac am iddo fe gael ei guro cawson ni ein hiacháu. Dŷn ni i gyd wedi crwydro fel defaid — pob un wedi mynd ei ffordd ei hun; ond mae'r ARGLWYDD wedi rhoi ein pechod ni i gyd arno fe. Cafodd ei gam-drin a'i boenydio, ond wnaeth e ddweud dim; fel oen yn cael ei arwain i'r lladd-dy. Yn union fel mae dafad yn dawel pan mae'n cael ei chneifio, wnaeth e ddweud dim. Cafodd ei gymryd i ffwrdd heb achos llys teg — a pwy oedd yn malio beth oedd yn digwydd iddo? Cafodd ei dorri i ffwrdd o dir y byw, a'i daro am fod fy mhobl i wedi gwrthryfela. Y bwriad oedd ei gladdu gyda throseddwyr, ond cafodd fedd un cyfoethog. Roedd wedi gweithredu'n ddi-drais, a ddim wedi twyllo neb. Ac eto, yr ARGLWYDD wnaeth benderfynu ei gleisio, ac achosi iddo ddiodde. Wrth roi ei hun yn offrwm dros bechod, bydd yn gweld ei blant ac yn cael byw yn hir. Bydd yn cyflawni bwriadau'r ARGLWYDD. Ar ôl y dioddef i gyd bydd yn gweld beth wnaeth, a bydd yn gwbl fodlon. Bydd fy ngwas cyfiawn yn gwneud llawer o bobl yn gyfiawn, ac yn cario baich eu beiau ar ei ysgwyddau. Felly, y dyrfa yna fydd ei siâr e, a bydd yn rhannu'r ysbail gyda'r rhai cryfion, am ei fod wedi rhoi ei hun i farw, a'i gyfri'n un o'r gwrthryfelwyr. Cymerodd bechodau llawer o bobl arno'i hun ac ymyrryd ar ran gwrthryfelwyr.” “Cân yn llawen, ti sy'n methu cael plant, ac sydd erioed wedi geni plentyn! Bloeddia ganu'n llawen, ti sydd heb brofi poenau wrth eni plentyn! Bydd gan y wraig sydd ar ei phen ei hun fwy o blant na'r wraig sydd wedi priodi.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Gwna fwy o le i dy babell, a lledu'r llenni lle rwyt ti'n byw! Estyn nhw allan! Paid dal yn ôl! Gwna'r rhaffau'n hirach, rho'r pegiau'n sownd. Byddi'n ymledu allan i bob cyfeiriad! Bydd dy ddisgynyddion yn meddiannu gwledydd eraill, ac yn byw mewn dinasoedd gafodd eu gadael yn adfeilion. Paid bod ag ofn, gei di ddim dy wrthod. Paid synnu, gei di ddim dy siomi! Byddi'n anghofio cywilydd dy ieuenctid, ac yn cofio dim am warth dy gyfnod fel gweddw. Mae'r un wnaeth dy greu di wedi dy briodi di! — yr ARGLWYDD holl-bwerus ydy ei enw e. Bydd Un Sanctaidd Israel yn dy ollwng di'n rhydd — ie, ‘Duw yr holl daear’. Mae'r ARGLWYDD yn dy alw di yn ôl! — fel gwraig oedd wedi ei gadael ac yn anobeithio; gwraig ifanc oedd wedi ei hanfon i ffwrdd.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Gwrthodais di am ennyd fach, ond gyda thosturi mawr bydda i'n dod â ti'n ôl. Ro'n i wedi gwylltio am foment, ac wedi troi i ffwrdd oddi wrthot ti. Ond gyda chariad sy'n para am byth bydda i'n garedig atat ti eto,” —meddai'r ARGLWYDD, sy'n dy ollwng di'n rhydd. “Mae'r un fath â'r dilyw yng nghyfnod Noa: Fel gwnes i addo bryd hynny na fyddai'r ddaear yn cael ei boddi byth eto, Dw i'n addo i chi na fydda i'n ddig hefo chi, nac yn eich cosbi eto. Falle y bydd y mynyddoedd yn symud a'r bryniau yn cael eu hysgwyd, ond bydd fy nghariad i atoch chi yn aros, a fydd fy ymrwymiad heddwch ddim yn siglo,” —meddai'r ARGLWYDD, sy'n dy garu di. “Ti sydd mor druenus, wedi dy daro gan stormydd a heb dy gysuro! Dw i'n mynd i osod dy gerrig mewn morter glas, a defnyddio saffir fel dy sylfeini. Bydda i'n gwneud dy dyrau o emau, dy giatiau o risial coch, a bydd dy waliau i gyd yn feini gwerthfawr. Bydd pob un o dy blant yn cael eu dysgu gan yr ARGLWYDD, a bydd dy blant yn profi heddwch mawr. Byddi wedi dy sylfaenu ar gyfiawnder, a fyddi di ddim yn cael dy orthrymu. Fydd dim rhaid i ti fod ag ofn, a fydd dychryn ddim yn dod yn agos atat ti. Os bydd rhywun eisiau ymladd hefo ti, nid fi fydd tu ôl i hynny: Bydd pwy bynnag sydd eisiau ymladd hefo ti yn syrthio, am mai ti wyt ti. Os fi wnaeth greu y gof sy'n chwythu'r tân marwor gyda'i fegin, i wneud offer ar gyfer ei waith; fi hefyd sy'n creu y dinistriwr i ddinistrio. Ond fydd yr arfau sydd wedi eu llunio i dy daro di ddim yn llwyddo, a bydd y rhai sy'n codi i dystio yn dy erbyn yn cael eu condemnio. Dyna ydy etifeddiaeth gweision yr ARGLWYDD, a'r hyn dw i wedi ei wneud iddyn nhw.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Hei! Os oes syched arnoch chi, dewch at y dŵr! Os nad oes gynnoch chi arian, dewch beth bynnag! Prynwch a bwytwch. Dewch! Prynwch win a llaeth heb arian — mae am ddim! Pam gwario'ch arian ar rywbeth sydd ddim yn fwyd, a'ch cyflog ar rywbeth sydd ddim yn bodloni? Gwrandwch yn ofalus arna i! Cewch fwyta bwyd blasus, a mwynhau danteithion. Gwrandwch arna i, a dewch yma. Os gwnewch chi wrando, cewch fyw! Bydda i'n gwneud ymrwymiad hefo chi fydd yn para am byth — fel y bendithion sicr wnes i eu haddo i Dafydd. Gwnes i e yn dyst i bobloedd, yn arweinydd yn rheoli gwledydd.” Byddi di'n galw ar genedl wyt ti ddim yn ei nabod, a bydd cenedl sydd ddim yn dy nabod di yn rhedeg atat ti — o achos yr ARGLWYDD dy Dduw, Un Sanctaidd Israel sydd wedi dy anrhydeddu di. Dewch at yr ARGLWYDD tra mae ar gael! Galwch arno tra mae'n agos! Rhaid i'r euog droi cefn ar eu ffyrdd drwg, a'r rhai sy'n creu helynt ar eu bwriadau — troi'n ôl at yr ARGLWYDD, iddo ddangos trugaredd; troi at ein Duw ni, achos mae e mor barod i faddau. Dydy fy mwriadau i ddim yr un fath â'ch bwriadau chi, a dydy fy ffyrdd i ddim yr un fath â'ch ffyrdd chi —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. Fel mae'r nefoedd gymaint uwch na'r ddaear, mae fy ffyrdd i yn uwch na'ch ffyrdd chi, a'm bwriadau i yn well na'ch bwriadau chi. Ond fel y glaw a'r eira sy'n disgyn o'r awyr a ddim yn mynd yn ôl nes dyfrio'r ddaear gan wneud i blanhigion dyfu a rhoi hadau i'w hau a bwyd i'w fwyta, felly mae'r neges dw i'n ei chyhoeddi: dydy hi ddim yn dod yn ôl heb wneud ei gwaith — mae'n gwneud beth dw i eisiau, ac yn llwyddo i gyflawni ei phwrpas. Ie, byddwch chi'n mynd allan yn llawen ac yn cael eich arwain mewn heddwch. Bydd y mynyddoedd a'r bryniau yn bloeddio canu o'ch blaen, a'r coed i gyd yn curo dwylo. Bydd coed pinwydd yn tyfu yn lle drain, a llwyni myrtwydd yn lle mieri. Byddan nhw'n sefyll yno i atgoffa pobl am yr ARGLWYDD, fel arwydd parhaol fydd ddim yn cael ei dynnu i lawr. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Gwnewch beth sy'n iawn! Gwnewch beth sy'n deg! Dw i ar fin achub, a dangos fy nghyfiawnder. Y fath fendith fydd i'r bobl sy'n gwneud hyn, a'r rhai hynny sy'n dal gafael yn y peth. Y rhai sy'n cadw'r saboth, heb ei wneud yn aflan, ac yn stopio ei hunain rhag gwneud drwg. Ddylai'r estron sydd wedi ymrwymo i'r ARGLWYDD ddim dweud: ‘Mae'r ARGLWYDD yn fy nghadw i ar wahân i'w bobl’. A ddylai'r eunuch ddim dweud, ‘Coeden sydd wedi gwywo ydw i.’ Achos dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: I'r eunuchiaid hynny sy'n cadw fy Sabothau — sy'n dewis gwneud beth dw i eisiau ac yn glynu'n ffyddlon i'r ymrwymiad wnes i — dw i'n mynd i godi cofeb yn fy nhŷ, y tu mewn i'w waliau; rhywbeth gwell na meibion a merched! a rhoi enw iddyn nhw fydd yn para am byth. Ac i'r bobl estron sydd wedi ymrwymo i wasanaethu'r ARGLWYDD, ei garu, a dod yn weision iddo — pawb sy'n cadw'r saboth heb ei wneud yn aflan, ac sy'n glynu'n ffyddlon i'r ymrwymiad wnes i — Bydda i'n eu harwain at fy mynydd cysegredig i ddathlu'n llawen yn fy nhŷ gweddi. Bydd croeso iddyn nhw ddod ag offrymau i'w llosgi ac aberthau i'w cyflwyno ar fy allor i; achos bydd fy nhŷ i yn cael ei alw yn dŷ gweddi i'r holl genhedloedd.” Dyma mae'r Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud, yr un sy'n casglu ffoaduriaid Israel at ei gilydd: “Dw i'n mynd i gasglu mwy eto at y rhai sydd eisoes wedi eu casglu.” “Dewch i fwyta, chi anifeiliaid gwylltion! Dewch, holl anifeiliaid y goedwig! Mae'r gwylwyr i gyd yn ddall, ac yn deall dim. Maen nhw fel cŵn mud sy'n methu cyfarth — yn breuddwydio, yn gorweddian, ac wrth eu bodd yn pendwmpian. Ond maen nhw hefyd yn gŵn barus sydd byth yn gwybod pryd maen nhw wedi cael digon; bugeiliaid sy'n deall dim! Mae pob un wedi mynd ei ffordd ei hun, ac maen nhw i gyd yn ceisio elwa rywsut. ‘Dewch, dw i am nôl gwin! Gadewch i ni feddwi ar gwrw! Cawn wneud yr un fath yfory — bydd hyd yn oed yn well!’ Mae rhywun cyfiawn yn marw, a does neb yn malio. Mae pobl ffyddlon yn cael eu cymryd, a does neb yn sylweddoli fod y cyfiawn yn cael eu symud i'w harbed rhag y drwg sy'n dod. Bydd y rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn yn profi heddwch, ac yn cael gorffwys ar eu gwlâu. Dewch yma, chi blant y rhai sy'n dweud ffortiwn; disgynyddion y rhai sy'n godinebu ac yn puteinio! Ar ben bwy ydych chi'n gwneud sbort? Ar bwy ydych chi'n gwneud ystumiau ac yn tynnu tafod? Dych chi'n blant i rebeliaid, yn ddisgynyddion rhai sy'n dweud celwydd; a'ch nwydau rhywiol yn llosgi wrth addoli dan bob coeden ddeiliog. Chi sy'n aberthu plant yn y dyffrynnoedd, ac yn hafnau'r creigiau. Cerrig llithrig yr hafnau ydy dy gyfran di; mentra di gyda nhw! Iddyn nhw rwyt ti wedi tywallt dy offrwm o ddiod, a chyflwyno dy offrwm o fwyd. Ddylwn i ymatal rhag dial yn wyneb hyn i gyd? Rwyt yn gwneud dy wely ar ben pob mynydd uchel; ac yn mynd yno i gyflwyno dy aberthau. Er fod arwydd wedi ei osod tu ôl i ffrâm drws dy dŷ, ti wedi ngadael i a gorwedd yn agored ar dy wely. Ti wedi ymrwymo dy hun i'r duwiau, wedi mwynhau gorweddian yn noeth a dewis dilyn dy chwantau. Yna mynd i lawr i weld y brenin gyda rhoddion o olew a llwyth o bersawr. Anfonaist negeswyr at un oedd yn bell i ffwrdd, hyd yn oed i Annwn! Er fod yr holl deithio'n dy flino, wnest ti ddim rhoi i fyny! Llwyddaist i gael digon o egni i ddal ati. Pwy oedd yn dy boeni a gwneud i ti ofni a dweud celwydd? Doeddet ti ddim yn meddwl amdana i nac yn cymryd unrhyw sylw ohona i. Ai'r rheswm wyt ti ddim yn fy ofni i ydy mod i wedi bod yn ddistaw mor hir? Gwna i ddweud beth dw i'n feddwl o dy weithredoedd da: fydd y rheiny ddim yn gallu dy helpu! A fydd dy gasgliad o dduwiau ddim yn dy helpu pan fyddi di'n gweiddi — does dim bywyd nag anadl ynddyn nhw! Ond bydd y rhai sy'n troi ata i yn meddiannu'r tir ac yn etifeddu fy mynydd cysegredig i. Dyma fydd yn cael ei ddweud: Adeiladwch! Adeiladwch! Cliriwch y ffordd! Symudwch bob rhwystr o ffordd fy mhobl! Dyma mae'r Un uchel iawn yn ei ddweud, yr un sy'n aros am byth, a'i enw yn sanctaidd: Dw i'n byw mewn lle uchel a sanctaidd, ond dw i hefyd gyda'r rhai gostyngedig sydd wedi eu sathru — dw i'n adfywio'r rhai gostyngedig, ac yn codi calon y rhai sydd wedi eu sathru. Dw i ddim yn mynd i ddadlau drwy'r adeg, na dal dig am byth. Dw i ddim eisiau i ysbryd y bobl ballu, gan mai fi sy'n rhoi anadl iddyn nhw fyw. Roeddwn i'n ddig am eu bod yn elwa trwy drais. Dyma fi'n eu taro, a troi i ffwrdd wedi digio, ond roedden nhw'n dal i fynd eu ffordd eu hunain! Do, dw i wedi gweld beth mae nhw'n wneud, ond dw i'n mynd i'w hiacháu nhw. Dw i'n mynd i'w harwain a'u cysuro; cysuro'r rhai sy'n galaru, a rhoi lle iddyn nhw ddathlu: Heddwch a llwyddiant i bawb yn bell ac agos! Dw i'n mynd i'w hiacháu nhw,” —meddai'r ARGLWYDD. “Ond bydd y rhai drwg fel môr stormus sy'n methu bod yn dawel, a'i ddŵr yn corddi'r llaid a'r baw. Fydd dim heddwch i bobl ddrwg,” —meddai fy Nuw. “Gwaedda mor uchel ag y medri di, heb ddal yn ôl; Cod dy lais fel sain corn hwrdd! Dywed wrth fy mhobl eu bod nhw wedi gwrthryfela, ac wrth bobl Jacob eu bod nhw wedi pechu. Maen nhw'n troi ata i bob dydd, ac yn awyddus i ddysgu am fy ffyrdd. Maen nhw'n ôl pob golwg yn genedl sy'n gwneud beth sy'n iawn ac sydd heb droi cefn ar ddysgeidiaeth eu Duw. Maen nhw'n gofyn i mi am y ffordd iawn, ac yn awyddus i glosio at Dduw. ‘Pam oeddet ti ddim yn edrych pan oedden ni'n ymprydio?’ medden nhw, ‘Pam oeddet ti ddim yn cymryd sylw pan oedden ni'n cosbi ein hunain?’ Am eich bod chi'n ymprydio i blesio'ch hunain ac yn cam-drin eich gweithwyr yr un pryd! Dych chi'n ymprydio i ffraeo a ffustio, Dim dyna'r ffordd i ymprydio os ydych chi eisiau i Dduw wrando. Ai dyma sut ymprydio dw i eisiau? — diwrnod pan mae pobl yn llwgu eu hunain, ac yn plygu eu pennau fel planhigyn sy'n gwywo? Diwrnod i orwedd ar sachliain a lludw? Ai dyna beth wyt ti'n ei alw'n ymprydio, yn ddiwrnod sy'n plesio'r ARGLWYDD? Na, dyma'r math o ymprydio dw i eisiau: cael gwared â chadwyni anghyfiawnder; datod rhaffau'r iau, a gollwng y rhai sy'n cael eu gormesu yn rhydd; dryllio popeth sy'n rhoi baich ar bobl. Rhannu dy fwyd gyda'r newynog, rhoi lle i fyw i'r rhai tlawd sy'n ddigartref a rhoi dillad i rywun rwyt yn ei weld yn noeth. Peidio ceisio osgoi gofalu am dy deulu. Wedyn bydd dy olau'n disgleirio fel y wawr, a byddi'n cael dy adfer yn fuan. Bydd dy gyfiawnder yn mynd o dy flaen di, a bydd ysblander yr ARGLWYDD yn dy amddiffyn o'r tu ôl. Wedyn, byddi'n galw, a bydd yr ARGLWYDD yn ateb; byddi'n gweiddi, a bydd e'n dweud, ‘Dw i yma’. Rhaid cael gwared â'r iau sy'n gorthrymu, stopio pwyntio bys, a siarad yn gas. Rhaid i ti wneud popeth fedri i helpu'r newynog, a chwrdd ag anghenion y rhai sy'n diodde — Wedyn bydd dy olau yn disgleirio yn y tywyllwch, a bydd dy dristwch yn troi'n olau fel canol dydd! Bydd yr ARGLWYDD yn dy arwain bob amser; yn torri dy syched pan wyt ti mewn anialwch poeth, ac yn dy wneud yn gryf. Byddi fel gardd wedi ei dyfrio, neu ffynnon ddŵr sydd byth yn sychu. Byddi'n ailgodi'r hen adfeilion, ac yn adeiladu ar yr hen sylfeini. Byddi'n cael dy alw yn ‛Atgyweiriwr y waliau‛ ac yn ‛Adferwr y strydoedd‛, i bobl fyw yno. Os gwnei di stopio teithio ar y Saboth, a plesio dy hun ar fy niwrnod sbesial i; os gwnei di alw'r Saboth yn ‛bleser‛, parchu diwrnod sbesial yr ARGLWYDD, dangos parch ato drwy beidio gwneud beth wyt ti eisiau, plesio dy hun, a siarad fel y mynni — wedyn gelli ddisgwyl i'r ARGLWYDD gael ei blesio. Byddi'n llwyddo, a fydd dim yn dy rwystro, a cei fwynhau etifeddiaeth Jacob, dy dad.” —mae'r ARGLWYDD wedi dweud. Edrychwch, dydy'r ARGLWYDD ddim yn rhy wan i achub; a dydy e ddim yn rhy fyddar i glywed! Mae eich drygioni chi wedi'ch gwahanu chi oddi wrth Dduw. Eich pechodau chi sydd wedi gwneud iddo guddio'i wyneb a gwrthod gwrando arnoch chi. Mae tywallt gwaed yn gwneud eich dwylo'n aflan, a phechod yn baeddu eich bysedd. Mae eich gwefusau'n dweud celwydd a'ch tafod yn sibrwd twyll. Does neb yn sefyll dros beth sy'n iawn, a neb sy'n mynd i'r llys yn onest; ond yn dibynnu ar eiriau gwag a chelwydd. Maen nhw'n achosi drygioni ac yn esgor ar drafferthion. Maen nhw wedi deor wyau nadroedd, ac yn nyddu gwe pry copyn. Bydd pwy bynnag sy'n bwyta'r wyau hynny'n marw, ac os ydy un yn torri, mae neidr yn dod allan ohono. Dydy'r gwe pry copyn ddim yn gwneud dillad; allan nhw ddim gwisgo'r hyn maen nhw'n ei nyddu. Mae popeth maen nhw'n ei wneud yn ddrwg, ac maen nhw'n llawn trais. Maen nhw'n rhedeg at y drwg, ac yn barod iawn i ladd pobl ddiniwed. Maen nhw bob amser yn meddwl am wneud drwg, ac yn achosi llanast a dinistr. Dŷn nhw'n gwybod dim am wir heddwch, a byth yn gwneud beth sy'n iawn. Mae'r ffyrdd maen nhw'n eu dilyn yn droellog, a fydd dim heddwch i'r rhai sy'n cerdded y ffordd honno. Felly dyna pam nad ydy'r sefyllfa wedi ei sortio, ac nad ydy Duw wedi gwneud pethau'n iawn. Dŷn ni'n disgwyl am olau, ond does dim ond tywyllwch! edrych am lygedyn o obaith, ond yn crwydro yn y gwyll. Dŷn ni'n ymbalfalu wrth y wal fel pobl ddall; yn ceisio teimlo'n ffordd fel rhai sydd ddim yn gweld. Dŷn ni'n baglu ganol dydd, fel petai wedi tywyllu; dŷn ni fel cyrff meirw pan ddylen ni fod yn llawn egni. Dŷn ni i gyd yn chwyrnu'n ddig fel eirth neu'n cwyno a cŵan fel colomennod. Dŷn ni'n edrych am gyfiawnder, ond ddim yn ei gael; am achubiaeth, ond mae allan o'n cyrraedd. Dŷn ni wedi gwrthryfela mor aml yn dy erbyn di, mae'n pechodau yn tystio yn ein herbyn ni. Y gwir ydy, dŷn ni'n dal i wrthryfela, a dŷn ni'n gwybod yn iawn ein bod wedi methu: Gwrthryfela, gwadu'r ARGLWYDD a throi cefn ar Dduw. Cymryd mantais anghyfiawn, bradychu, a palu celwyddau! Felly mae'r hyn sy'n iawn yn cael ei wthio i ffwrdd a chyfiawnder yn cadw draw. Mae gwirionedd yn baglu yn y gymdeithas, a gonestrwydd yn methu dod i mewn. Mae gwirionedd wedi diflannu, ac mae'r un sy'n troi cefn ar ddrwg yn cael ei ysbeilio. Pan welodd yr ARGLWYDD fod dim cyfiawnder roedd yn anhapus iawn. Pan welodd nad oedd neb o gwbl yn ymyrryd, roedd yn arswydo. Ond yna, dyma fe'i hun yn mynd ati i achub, a'i gyfiawnder yn ei yrru'n ei flaen. Gwisgodd gyfiawnder fel arfwisg, ac achubiaeth yn helmed ar ei ben. Rhoddodd ddillad dial amdano, a gwisgo sêl fel mantell. Bydd yn rhoi i bawb beth maen nhw'n ei haeddu — llid i'r rhai sydd yn ei wrthwynebu, a chosb i'w elynion; bydd yn talu'n ôl yn llawn i ben draw'r byd. Bydd pobl o'r gorllewin yn parchu enw'r ARGLWYDD, a phobl o'r dwyrain yn gweld ei ysblander. Bydd e'n dod fel afon sy'n llifo'n gryf, ac ysbryd yr ARGLWYDD yn ei yrru yn ei flaen. “Bydd e'n dod i Jerwsalem i ollwng yn rhydd, ac at y rhai yn Jacob sy'n troi cefn ar eu gwrthryfel,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. Dyma fy ymrwymiad i iddyn nhw, meddai'r ARGLWYDD: “Bydd fy Ysbryd i arnat ti, a fydd y neges dw i wedi ei rhoi i ti ddim yn dy adael di; byddi di a dy blant, a phlant dy blant, yn ei chofio o hyn allan ac am byth.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Cod! Disgleiria! Mae dy olau wedi dod. Mae ysblander yr ARGLWYDD wedi gwawrio arnat! Er bod tywyllwch yn gorchuddio'r ddaear, a thywyllwch dudew dros y gwledydd; bydd yr ARGLWYDD yn tywynnu arnat ti, a bydd ei ysblander i'w weld arnat. Bydd cenhedloedd yn dod at dy oleuni, a brenhinoedd yn troi at dy wawr ddisglair. Edrych o dy gwmpas! Maen nhw i gyd yn ymgasglu! Maen nhw'n dod atat ti! Bydd dy feibion yn dod o wledydd pell, a dy ferched yn cael eu cario adre. Pan weli hyn byddi'n wên i gyd; bydd dy galon yn curo wrth brofi'r wefr. Bydd cyfoeth y moroedd yn cael ei roi i ti, a cyfoeth y gwledydd yn dod atat. Bydd gyrroedd o gamelod yn llenwi dy strydoedd; camelod o Midian, Effa a Sheba. Byddan nhw'n cario aur a thus, ac yn canu mawl i'r ARGLWYDD. Bydd holl ddefaid a geifr Cedar yn cael eu casglu atat, a bydd hyrddod Nebaioth yna i ti eu defnyddio; byddan nhw'n aberthau derbyniol ar fy allor i. Bydda i'n gwneud fy nhŷ hardd yn harddach fyth! Pwy ydy'r rhain sy'n symud fel cwmwl, ac yn hedfan fel colomennod i'w nythod? Mae cychod yr ynysoedd yn ymgasglu, a llongau masnach Tarshish ar y blaen. Maen nhw'n dod â dy blant o bell, a'u harian a'u haur hefo nhw, i'w gyflwyno i'r ARGLWYDD dy Dduw — Un Sanctaidd Israel, sydd wedi dy anrhydeddu. Bydd estroniaid yn ailadeiladu dy waliau, a'u brenhinoedd nhw yn dy wasanaethu di. Achos, er fy mod wedi dy daro di pan oeddwn i'n ddig dw i am ddangos tosturi a bod yn garedig. Bydd dy giatiau ar agor drwy'r amser; fyddan nhw ddim yn cael eu cau ddydd na nos — er mwyn i gyfoeth y cenhedloedd a'u brenhinoedd gael ei gario i mewn. Bydd y wlad neu'r deyrnas sy'n gwrthod dy wasanaethu yn syrthio; bydd y gwledydd hynny'n cael eu dinistrio'n llwyr. Bydd coed gorau Libanus yn dod i ti — coed cypres, planwydd a pinwydd i harddu fy nghysegr, ac anrhydeddu'r lle mae fy nhraed i'n gorffwys. Bydd plant y rhai oedd yn dy ormesu yn dod o dy flaen ac ymgrymu. Bydd y rhai oedd yn dy gasáu yn plygu'n isel ar y llawr wrth dy draed di. Byddan nhw'n dy alw di yn ‘Ddinas yr ARGLWYDD’, a ‘Seion Un Sanctaidd Israel.’ Yn lle bod wedi dy wrthod, a dy gasáu, a neb yn mynd trwot ti, bydda i'n dy wneud di'n destun balchder am byth — yn llawenydd o un genhedlaeth i'r llall. Byddi'n yfed o laeth y cenhedloedd, ac yn sugno bronnau brenhinoedd. Wedyn byddi di'n gwybod mai fi ydy'r ARGLWYDD sy'n dy achub, Ie, fi, Un Cryf Jacob, sy'n dy ollwng di yn rhydd. Bydda i'n dod ag aur yn lle pres ac arian yn lle haearn; pres yn lle coed a haearn yn lle cerrig. ‛Heddwch‛ fydd yn llywodraethu arnat, a ‛Cyfiawnder‛ fydd dy feistri. Fydd neb yn gweiddi ‘Trais!’ yn y wlad byth eto, a fydd dim dinistr o fewn dy ffiniau. Byddi'n galw dy waliau yn ‛Achubiaeth‛ a dy giatiau yn ‛Foliant‛. Fydd dim angen yr haul i oleuo'r dydd, na llewyrch y lleuad yn olau yn y nos. Yr ARGLWYDD fydd dy olau di am byth, a bydd ysblander dy Dduw yn disgleirio arnat. Fydd dy haul ddim yn machlud byth mwy, a llewyrch y lleuad ddim yn cilio; yr ARGLWYDD fydd dy olau di am byth, a bydd dy gyfnod o alaru drosodd. Bydd dy bobl i gyd yn gyfiawn, ac yn etifeddu'r tir am byth. Nhw ydy'r blagur dw i wedi ei blannu, gwaith fy llaw sy'n fy anrhydeddu. Bydd yr un fechan yn troi yn llwyth; a'r lleiaf yn troi'n genedl fawr. Fi ydy'r ARGLWYDD! Pan ddaw'r amser iawn bydda i'n gwneud hyn ar frys!” Mae Ysbryd fy Meistr, yr ARGLWYDD, arna i, am fod yr ARGLWYDD wedi fy eneinio i'w wasanaethu. Mae wedi fy anfon i gyhoeddi newyddion da i'r tlodion, i drin briwiau y rhai sydd wedi torri eu calonnau, a chyhoeddi fod y rhai sy'n gaeth i gael rhyddid, ac i ollwng carcharorion yn rhydd; i gyhoeddi fod blwyddyn ffafr yr ARGLWYDD yma, a'r diwrnod pan fydd Duw yn dial; i gysuro'r rhai sy'n galaru — ac i roi i alarwyr Seion dwrban ar eu pennau yn lle lludw, ac olew llawenydd yn lle galar, mantell mawl yn lle ysbryd anobaith. Byddan nhw'n cael eu galw yn goed hardd, wedi eu plannu gan yr ARGLWYDD i arddangos ei ysblander. Byddan nhw'n ailadeiladu'r hen hen adfeilion, yn codi lleoedd oedd wedi eu dinistrio, ac yn adfer trefi oedd wedi eu difa ac heb neb yn byw ynddyn nhw ers cenedlaethau. Bydd dieithriaid yn gofalu am dy ddefaid di, ac estroniaid yn aredig y tir ac yn trin y coed gwinwydd. Byddwch chi'n cael eich galw yn ‛Offeiriaid yr ARGLWYDD‛, ‛Gweision Duw‛ fydd y teitl arnoch chi. Byddwch chi'n bwydo ar gyfoeth y cenhedloedd ac yn mwynhau eu holl drysorau nhw. Yn lle'r cywilydd byddwch chi'n derbyn siâr ddwbl, ac yn lle'r gwarth byddwch chi'n dathlu yn eich etifeddiaeth. Felly, byddan nhw'n etifeddu siâr ddwbl yn eu tir, ac yn profi llawenydd fydd yn para am byth. Fi ydy'r ARGLWYDD; dw i'n caru cyfiawnder, ac yn casáu gweld lladrata'r offrwm sydd i'w losgi. Bydda i'n siŵr o roi eu gwobr iddyn nhw, a bydda i'n gwneud ymrwymiad gyda nhw fydd yn para am byth. Bydd eu plant yn adnabyddus ymhlith y cenhedloedd, a'u disgynyddion ymhlith y bobloedd. Bydd pawb sy'n eu gweld nhw yn cydnabod mai nhw ydy'r rhai mae'r ARGLWYDD wedi eu bendithio. Mae'r ARGLWYDD yn fy ngwneud i mor llawen, ac mae fy Nuw yn fy ngwefreiddio i. Mae e wedi fy ngwisgo ag achubiaeth a rhoi cyfiawnder yn fantell o'm cwmpas. Dw i fel priodfab yn gwisgo twrban hardd, neu briodferch wedi ei haddurno â'i thlysau. Fel mae planhigion yn tyfu o'r ddaear, a ffrwythau'n tyfu yn yr ardd, bydd fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn gwneud i gyfiawnder a moliant dyfu yng ngŵydd y cenhedloedd i gyd. “Er mwyn Seion dw i ddim yn mynd i dewi! Er mwyn Jerwsalem dw i ddim yn mynd i orffwys, nes bydd ei chyfiawnder yn disgleirio fel golau llachar a'i hachubiaeth yn llosgi fel ffagl.” Bydd y gwledydd yn gweld dy gyfiawnder, a'r holl frenhinoedd yn gweld dy ysblander; a byddi di'n cael enw newydd gan yr ARGLWYDD ei hun. Byddi fel coron hardd yn llaw yr ARGLWYDD, neu dwrban brenhinol yn llaw dy Dduw. Gei di byth eto yr enw ‛Gwrthodedig‛, a fydd dy wlad ddim yn cael ei galw yn ‛Anialwch‛. Na, byddi'n cael dy alw ‛Fy hyfrydwch‛, a bydd dy wlad yn cael yr enw ‛Fy mhriod‛. Achos bydd yr ARGLWYDD wrth ei fodd gyda ti, a bydd dy wlad fel gwraig ffrwythlon iddo. Fel mae bachgen yn priodi merch ifanc, bydd dy blant yn dy briodi di; ac fel mae priodfab wrth ei fodd gyda'i wraig, bydd dy Dduw wrth ei fodd gyda ti. Dw i'n gosod gwylwyr ar dy waliau di, O Jerwsalem. Fyddan nhw ddim yn dawel nos na dydd! Chi sy'n gweddïo ar yr ARGLWYDD, peidiwch tewi; peidiwch rhoi llonydd iddo nes iddo adfer Jerwsalem, a'i gwneud yn destun mawl drwy'r byd. Mae'r ARGLWYDD wedi tyngu llw i'w gryfder: “Dw i ddim yn mynd i roi dy ŷd yn fwyd i dy elynion byth eto! A fydd plant estroniaid ddim yn yfed y gwin wnest ti weithio mor galed amdano. Bydd y rhai sy'n medi'r cynhaeaf yn ei fwyta ac yn moli'r ARGLWYDD. A bydd y rhai sy'n casglu'r grawnwin yn yfed y sudd yn fy nghysegr sanctaidd.” Dowch i mewn! Dowch i mewn drwy'r giatiau! Cliriwch y ffordd i'r bobl ddod! Adeiladwch! Adeiladwch briffordd! Symudwch bob carreg sy'n rhwystr! Codwch faner dros y bobloedd! Mae'r ARGLWYDD wedi cyhoeddi hyn drwy'r byd i gyd: “Dwedwch wrth Seion annwyl, ‘Edrych! Mae dy Achubwr yn dod! Edrych! Mae ei wobr ganddo; mae'n dod a'i roddion o'i flaen.’” Byddan nhw'n cael eu galw, “Y Bobl Sanctaidd. Pobl Rydd yr ARGLWYDD.” A byddi di, Jerwsalem, yn cael dy alw, “Yr un gafodd ei cheisio,” “Dinas heb ei gwrthod.” Pwy ydy hwn sy'n dod o Edom — o Bosra a'i ddillad yn goch? Pwy ydy'r un, yn ei wisgoedd brenhinol, sy'n martsio'n hyderus a diflino. “Fi ydy e, sy'n cyhoeddi cyfiawnder; yr un sy'n gallu achub.” Pam mae dy ddillad yn goch? Maen nhw fel dillad un sy'n sathru grawnwin. “Dw i wedi sathru'r grawnwin fy hun; doedd neb o gwbl gyda fi. Sethrais nhw yn fy llid, a'i gwasgu dan draed yn fy nicter, nes i'w gwaed nhw sblasio ar fy nillad; dw i wedi staenio fy nillad i gyd. Roedd y diwrnod i ddial ar fy meddwl, a'r flwyddyn i ollwng yn rhydd wedi dod. Pan edrychais, doedd neb yno i helpu; ron i'n synnu fod neb yno i roi cymorth. Felly dyma fi'n mynd ati i achub, a'm dicter yn fy ngyrru ymlaen. Sethrais genhedloedd yn fy llid, a'u meddwi nhw gyda fy nig, a thywallt eu gwaed ar lawr.” Dw i'n mynd i atgoffa pobl mor hael a charedig ydy'r ARGLWYDD, a dw i'n mynd i ganu ei glod — am y cwbl mae'r ARGLWYDD wedi ei wneud i ni, a'r holl bethau da mae e wedi eu gwneud i bobl Israel. Mae e mor drugarog ac mor hael! Meddyliodd: “Fy mhobl i ydyn nhw, plant fydd ddim yn anffyddlon.” Felly dyma fe'n eu hachub nhw. Pan oedden nhw'n diodde roedd e'n diodde hefyd, a dyma fe'n anfon ei angel i'w hachub. Yn ei gariad a'i drugaredd, daeth i'w gollwng nhw'n rhydd. Cododd nhw, a'u cario nhw ar hyd y cyfnod hwnnw. Ond dyma nhw'n gwrthryfela, ac yn tristáu ei Ysbryd Glân. Felly trodd yn elyn iddyn nhw, ac ymladd yn eu herbyn nhw. Yna dyma fe'n cofio'r hen ddyddiau — Moses … a'i bobl! Ble mae'r Un ddaeth â nhw drwy'r Môr gyda bugeiliaid ei braidd? Ble mae'r Un wnaeth roi ei Ysbryd Glân yn eu plith nhw — yr Un wnaeth roi ei nerth i Moses? Ble mae'r Un wnaeth hollti'r môr o'u blaenau a gwneud enw iddo'i hun am byth? Ble mae'r Un wnaeth eu harwain nhw drwy'r dyfnder fel ceffyl yn carlamu ar dir agored? Rhoddodd Ysbryd yr ARGLWYDD orffwys iddyn nhw, fel gwartheg yn mynd i lawr i'r dyffryn. Dyna sut wnest ti arwain dy bobl a gwneud enw gwych i ti dy hun! Edrych i lawr o'r nefoedd, o'r lle sanctaidd a hardd ble rwyt ti'n byw! Ble mae dy sêl a dy nerth di bellach? Ble mae hiraeth dy galon a dy gariad? Paid dal yn ôl, achos ti ydy'n Tad ni! Hyd yn oed petai Abraham ddim yn cymryd sylw, ac Israel ddim yn ein nabod ni, ti ydy'n Tad ni, O ARGLWYDD! Ti ydy'r Un sy'n ein rhyddhau ni! — dyna dy enw di ers y dyddiau hynny. ARGLWYDD, pam wyt ti wedi gadael i ni grwydro oddi ar dy ffyrdd di? Pam wyt ti wedi'n gwneud ni'n ystyfnig nes ein bod ddim yn dy barchu di? Maddau i ni, er mwyn dy weision, dy lwythau di dy hun! Cafodd dy bobl feddiannu'r tir am gyfnod byr, ond wedyn sathrodd dy elynion dy gysegr dan draed. Ni oedd dy bobl di o'r dechrau — wnest ti erioed lywodraethu drostyn nhw, a gawson nhw erioed eu henwi ar dy ôl di. O na fyddet ti'n rhwygo'r awyr a dod i lawr, nes bod y mynyddoedd yn crynu o dy flaen di — byddai fel tân yn llosgi brigau sych, neu'n gwneud i ddŵr ferwi — i dy elynion ddod i wybod pwy wyt ti ac i'r cenhedloedd grynu o dy flaen di! Roeddet ti'n arfer gwneud pethau syfrdanol, cwbl annisgwyl! Roeddet ti'n dod i lawr ac roedd y mynyddoedd yn crynu o dy flaen. Does neb erioed wedi clywed a does neb wedi gweld Duw tebyg i ti, sy'n gweithredu o blaid y rhai sy'n ei drystio fe. Ti'n helpu'r rhai sy'n mwynhau gwneud beth sy'n iawn, ac sy'n cofio sut un wyt ti. Er dy fod ti'n ddig am ein bod ni'n pechu o hyd, gallen ni ddal gael ein hachub! Ond bellach dŷn ni i gyd fel rhywbeth aflan, mae hyd yn oed ein gorau ni fel dillad isaf budron. Dŷn ni i gyd wedi gwywo fel deilen, Ac mae'n methiant, fel y gwynt, yn ein chwythu i ffwrdd. Does neb yn galw ar dy enw di, nac yn gwneud ymdrech i ddal gafael ynot ti. Ti wedi troi i ffwrdd oddi wrthon ni, a gwneud i ni wynebu'n methiant! Ac eto, ARGLWYDD, ti ydy'n Tad ni! Gwaith dy ddwylo di ydyn ni — ni ydy'r clai a ti ydy'r crochenydd. Paid gwylltio'n llwyr hefo ni, ARGLWYDD! Paid dal dig am ein methiant am byth! Edrych arnon ni i gyd, dy bobl! Mae dy drefi sanctaidd yn anialwch! Mae Seion yn anialwch, a Jerwsalem yn adfeilion. Mae'r deml gysegredig a hardd ble roedd ein hynafiaid yn dy foli di, wedi cael ei llosgi'n ulw. Mae ein trysorau'n beil o rwbel. Wyt ti'n mynd i ddal i ymatal er gwaetha hyn i gyd, ARGLWYDD? Wyt ti'n mynd i sefyll yna'n dawel tra dŷn ni'n cael ein cosbi mor drwm? “Roeddwn yno i rai oedd ddim yn gofyn amdana i; dangosais fy hun i rai oedd ddim yn chwilio amdana i. Dywedais, ‘Dyma fi! Dyma fi!’ wrth wlad oedd ddim yn galw ar fy enw. Bues i'n estyn fy llaw drwy'r amser at bobl oedd yn gwrthryfela; pobl yn gwneud beth oedd ddim yn dda, ac yn dilyn eu mympwy eu hunain. Roedden nhw yn fy nigio o hyd ac o hyd — yn aberthu yn y gerddi paganaidd ac yn llosgi aberthau ar allor frics; yn eistedd yng nghanol beddau, ac yn treulio'r nos mewn mannau cudd; yn bwyta cig moch a phowlenni o gawl gyda cig aflan ynddo; neu'n dweud, ‘Cadw draw! dw i'n rhy lân i ti ddod yn agos ata i!’ Mae pobl fel yna yn gwneud i mi wylltio, mae fel tân sy'n llosgi heb stopio. Edrychwch! Mae wedi ei gofnodi o'm blaen i! Dw i ddim am ei ddiystyru — dw i'n mynd i dalu'n ôl yn llawn! Talu'n ôl i bob un ohonyn nhw am eu pechodau, a phechodau eu hynafiaid hefyd.” —meddai'r ARGLWYDD— “Roedden nhw'n llosgi arogldarth ar y mynyddoedd, ac yn fy enllibio i ar y bryniau. Bydda i'n talu'n ôl iddyn nhw'n llawn am bopeth wnaethon nhw o'r dechrau cyntaf!” Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Fel mae sudd da mewn swp o rawnwin, a rhywun yn dweud, ‘Paid difetha fe; mae daioni ynddo,’ felly y bydda i'n gwneud er mwyn fy ngweision — fydda i ddim yn eu dinistrio nhw i gyd. Bydda i'n rhoi disgynyddion i Jacob, a pobl i etifeddu fy mynyddoedd yn Jwda. Bydd y rhai dw i wedi eu dewis yn eu feddiannu, a bydd fy ngweision yn byw yno. Bydd Saron yn borfa i ddefaid, a Dyffryn Achor, sy'n le i wartheg orwedd, yn eiddo i'r bobl sy'n fy ngheisio i. Ond chi sydd wedi troi cefn ar yr ARGLWYDD, a diystyru fy mynydd cysegredig i; chi sy'n gosod bwrdd i'r duw ‘Ffawd,’ ac yn llenwi cwpanau o win i'r duw ‛Tynged‛. Dw i'n eich condemnio i gael eich lladd gan y cleddyf! Byddwch chi'n penlinio i gael eich dienyddio — achos roeddwn i'n galw, a wnaethoch chi ddim ateb; roeddwn i'n siarad, a wnaethoch chi ddim gwrando. Roeddech chi'n gwneud pethau oeddwn i'n eu casáu, ac yn dewis pethau oedd ddim yn fy mhlesio.” Felly dyma mae fy Meistr, yr ARGLWYDD yn ei ddweud: “Bydd fy ngweision yn bwyta, a chi'n llwgu. Bydd fy ngweision yn yfed, a chi'n sychedu. Bydd fy ngweision yn llawen, a chi'n cael eich cywilyddio. Bydd fy ngweision yn canu'n braf, a chi'n wylo mewn poen, ac yn griddfan mewn gwewyr meddwl. Bydd eich enw yn cael ei ddefnyddio fel melltith gan y rhai dw i wedi eu dewis. Bydd y Meistr, yr ARGLWYDD, yn dy ladd di! Ond bydd enw hollol wahanol gan ei weision. Bydd pwy bynnag drwy'r byd sy'n derbyn bendith yn ei gael wrth geisio bendith gan y Duw ffyddlon; a'r sawl yn unman sy'n tyngu llw o ffyddlondeb yn ei gael wrth dyngu llw i enw'r Duw ffyddlon. Bydd trafferthion y gorffennol yn cael eu hanghofio, ac wedi eu cuddio o'm golwg. Achos dw i'n mynd i greu nefoedd newydd a daear newydd! Bydd pethau'r gorffennol wedi eu hanghofio; fyddan nhw ddim yn croesi'r meddwl. Ie, dathlwch a mwynhau am byth yr hyn dw i'n mynd i'w greu. Achos dw i'n mynd i greu Jerwsalem i fod yn hyfrydwch, a'i phobl yn rheswm i ddathlu. Bydd Jerwsalem yn hyfrydwch i mi, a'm pobl yn gwneud i mi ddathlu. Fydd sŵn crïo a sgrechian ddim i'w glywed yno byth eto. Fydd babis bach ddim yn marw'n ifanc, na phobl mewn oed yn marw'n gynnar. Bydd rhywun sy'n marw yn gant oed yn cael ei ystyried yn llanc ifanc, a'r un sy'n marw heb gyrraedd y cant yn cael ei ystyried dan felltith. Byddan nhw'n adeiladu tai ac yn byw ynddyn nhw; byddan nhw'n plannu gwinllannoedd ac yn bwyta eu ffrwyth. Fyddan nhw ddim yn adeiladu tai i rywun arall fyw ynddyn nhw, nac yn plannu i rywun arall fwyta'r ffrwyth. Bydd fy mhobl yn byw mor hir â choeden; bydd y rhai dw i wedi eu dewis yn cael mwynhau'n llawn waith eu dwylo. Fyddan nhw ddim yn gweithio'n galed i ddim byd; fyddan nhw ddim yn magu plant i'w colli. Byddan nhw'n bobl wedi eu bendithio gan yr ARGLWYDD, a'u plant gyda nhw hefyd. Bydda i'n ateb cyn iddyn nhw alw arna i; bydda i wedi clywed cyn iddyn nhw orffen siarad. Bydd y blaidd a'r oen yn pori gyda'i gilydd, a bydd y llew yn bwyta gwellt fel ych; ond llwch y ddaear fydd bwyd y neidr. Fyddan nhw'n gwneud dim drwg na niwed yn fy mynydd cysegredig i.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Y nefoedd ydy fy ngorsedd i, a'r ddaear ydy fy stôl droed i. Ble allech chi adeiladu teml fel yna i mi? Ble dych chi am ei roi i mi i orffwys? Onid fi sydd wedi creu popeth sy'n bodoli? Fi ddaeth â nhw i fod!” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Ac eto dyma pwy dw i'n cymryd sylw ohonyn nhw: Y rhai tlawd sy'n teimlo'n annigonol ac sy'n parchu fy neges. Ond am y bobl sy'n lladd ychen ac yna'n llofruddio rhywun, yn aberthu oen ac yna'n torri gwddf ci, yn cyflwyno offrwm o rawn ac yna'n aberthu gwaed moch, yn llosgi arogldarth ac yna'n addoli eilun-dduwiau — maen nhw wedi dewis mynd eu ffordd eu hunain ac yn mwynhau gwneud y pethau ffiaidd yma — bydda i'n dewis eu cosbi nhw'n llym, a throi eu hofnau gwaetha yn realiti. Pan oeddwn i'n galw, wnaeth neb ateb; pan oeddwn i'n siarad, doedd neb yn gwrando. Roedden nhw'n gwneud pethau oeddwn i'n eu casáu, ac yn dewis pethau oedd ddim yn fy mhlesio.” Gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD, chi sy'n parchu beth mae'n ei ddweud! Mae eich pobl eich hunain yn eich casáu chi a'ch cau chi allan am sefyll drosta i. Maen nhw'n dweud yn wawdlyd: “Boed i'r ARGLWYDD gael ei anrhydeddu, i ni eich gweld chi'n cael eich gwneud yn hapus.” Ond byddan nhw'n cael eu cywilyddio. Gwrandwch! Mae twrw yn dod o'r ddinas, a sŵn yn dod o'r deml! Sŵn yr ARGLWYDD yn talu'n ôl i'w elynion. All gwraig gael plentyn heb boenau geni? All hi eni mab cyn i'r pyliau ddechrau? Na! Pwy glywodd am y fath beth? Pwy welodd rywbeth felly'n digwydd? Ydy gwlad yn geni plant mewn diwrnod? Ydy cenedl yn dod i fod mewn moment? Ond dyma Seion newydd ddechrau esgor ac mae eisoes wedi cael ei phlant! “Fyddwn i'n gadael i'r dŵr dorri heb eni plentyn?” —yr ARGLWYDD sy'n gofyn. “Fyddwn i'n dechrau'r broses eni, ac yna'n ei rhwystro?” —ie, dy Dduw sy'n gofyn. Byddwch yn llawen dros Jerwsalem a dathlu gyda hi, bawb ohonoch chi sy'n ei charu! Ymunwch yn y dathlu, chi fu'n galaru drosti — i chi gael sugno ei bronnau a chael eich bodloni, cael blas wrth lepian ar hyfrydwch ei thethi. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Dw i'n rhoi iddi heddwch perffaith fel afon, a bydd cyfoeth y cenhedloedd fel ffrwd yn gorlifo iddi. Byddwch yn cael sugno ei bronnau a'ch cario fel babi, ac yn chwarae ar ei gliniau fel plentyn bach. Bydda i'n eich cysuro chi fel mam yn cysuro ei phlentyn; byddwch chi'n cael eich cysuro yn Jerwsalem.” Byddwch wrth eich bodd wrth weld hyn, a bydd eich corff cyfan yn cael ei adnewyddu. Bydd hi'n amlwg fod nerth yr ARGLWYDD gyda'i weision; ond ei fod wedi digio gyda'i elynion. Ydy, mae'r ARGLWYDD yn dod mewn tân ac mae sŵn ei gerbydau fel corwynt. Mae'n dod i ddangos ei fod yn ddig, ac i geryddu gyda fflamau tân. Achos bydd yr ARGLWYDD yn barnu pawb hefo tân a gyda'i gleddyf, a bydd llawer yn cael eu lladd ganddo. “Mae hi ar ben ar bawb sy'n cysegru eu hunain a mynd trwy'r ddefod o ‛buro‛ eu hunain i ddilyn yr un yn y canol ac addoli yn y gerddi paganaidd, gan wledda ar gig moch a phethau ffiaidd eraill fel llygod,” meddai'r ARGLWYDD. “Dw i'n gwybod beth maen nhw'n ei wneud a'i feddwl. Dw i'n mynd i gasglu'r gwledydd i gyd, a phobl o bob iaith, iddyn nhw ddod a gweld fy ysblander i. Bydda i'n gosod arwydd yn eu canol nhw, ac anfon at y cenhedloedd rai o'r bobl fydd wedi llwyddo i ddianc: i Tarshish, at y Libiaid a'r Lydiaid (y rhai sy'n defnyddio bwa saeth); i Twbal, Groeg, a'r ynysoedd pell sydd heb glywed sôn amdana i na gweld fy ysblander i. Byddan nhw'n dweud wrth y cenhedloedd am fy ysblander i. A byddan nhw'n dod â'ch perthnasau o'r gwledydd i gyd yn offrwm i'r ARGLWYDD. Dod â nhw ar gefn ceffylau, mewn wagenni a throlïau, ar gefn mulod a chamelod, i Jerwsalem, fy mynydd sanctaidd”—meddai'r ARGLWYDD—“yn union fel mae pobl Israel yn dod ag offrwm o rawn i deml yr ARGLWYDD mewn llestr glân. A bydda i'n dewis rhai ohonyn nhw i fod yn offeiriaid ac yn Lefiaid,” meddai'r ARGLWYDD. “Fel y bydd y nefoedd newydd a'r ddaear newydd dw i'n mynd i'w gwneud yn aros am byth o'm blaen i” —meddai'r ARGLWYDD— “felly y bydd eich plant a'ch enw chi yn aros. O un Ŵyl y lleuad newydd i'r llall, ac o un saboth i saboth arall, bydd pawb yn dod i addoli o'm blaen i.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Byddan nhw'n mynd allan ac yn gweld cyrff y rhai hynny oedd wedi gwrthryfela yn fy erbyn i: Fydd y cynrhon ynddyn nhw ddim yn marw, na'r tân sy'n eu llosgi nhw yn diffodd; byddan nhw'n ffiaidd yng ngolwg pawb.” Neges Jeremeia, mab Chilceia oedd yn offeiriad yn Anathoth (tref ar dir llwyth Benjamin). Roedd yr ARGLWYDD wedi rhoi neges iddo am y tro cyntaf pan oedd Joseia fab Amon wedi bod yn frenin ar Jwda ers un deg tair o flynyddoedd. Dyma Duw yn dal ati i roi negeseuon iddo pan oedd Jehoiacim, mab Joseia yn frenin, ac wedyn am yr un deg un mlynedd y buodd Sedeceia (mab arall Joseia) yn frenin. Yn y pumed mis yn y flwyddyn olaf honno, cafodd pobl Jerwsalem eu cymryd i ffwrdd yn gaethion. Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi: “Roeddwn i'n dy nabod di cyn i mi dy siapio di yn y groth, ac wedi dy ddewis di cyn i ti gael dy eni. Dyma fi'n dy benodi di'n broffwyd i siarad â gwledydd y byd.” “O! Feistr, ARGLWYDD!” meddwn i, “Alla i ddim siarad ar dy ran di, dw i'n rhy ifanc.” Ond dyma'r ARGLWYDD yn ateb, “Paid dweud, ‘Dw i'n rhy ifanc.’ Byddi di'n mynd i ble dw i'n dy anfon di ac yn dweud beth dw i'n ddweud wrthot ti. Paid bod ag ofn pobl,” meddai'r ARGLWYDD “achos dw i gyda ti i ofalu amdanat.” Wedyn dyma'r ARGLWYDD yn estyn ei law ac yn cyffwrdd fy ngheg i, a dweud, “Dyna ti. Dw i'n rhoi fy ngeiriau i yn dy geg di. Ydw, dw i wedi dy benodi di heddiw a rhoi awdurdod i ti dros wledydd a theyrnasoedd. Byddi'n tynnu o'r gwraidd ac yn chwalu, yn dinistrio ac yn bwrw i lawr, yn adeiladu ac yn plannu.” Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Jeremeia, beth wyt ti'n weld?”. A dyma fi'n ateb, “Dw i'n gweld cangen o goeden almon.” A dyma'r ARGLWYDD yn dweud, “Ie, yn hollol. Dw i'n gwylio i wneud yn siŵr y bydd beth dw i'n ddweud yn dod yn wir.” Yna'r ail waith dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Beth wyt ti'n weld?”. A dyma fi'n ateb, “Dw i'n gweld crochan yn berwi, ac mae ar fin cael ei dywallt o gyfeiriad y gogledd.” “Ie,” meddai'r ARGLWYDD wrtho i, “bydd dinistr yn cael ei dywallt ar bobl y wlad yma o gyfeiriad y gogledd. Edrych, dw i'n mynd i alw ar bobloedd a brenhinoedd y gogledd:” (Yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn) “‘Byddan nhw'n gosod eu gorseddau wrth giatiau Jerwsalem. Byddan nhw'n ymosod ar y waliau o'i chwmpas, ac ar drefi eraill Jwda i gyd.’ “Bydda i'n cyhoeddi'r ddedfryd yn erbyn fy mhobl, ac yn eu cosbi nhw am yr holl bethau drwg maen nhw wedi ei wneud — sef troi cefn arna i a llosgi arogldarth i dduwiau eraill. Addoli pethau maen nhw wedi eu gwneud gyda'i dwylo eu hunain!” “Ond ti, Jeremeia, bydd di'n barod. Dos, a dweud wrthyn nhw bopeth dw i'n ddweud wrthot ti. Paid bod a'u hofn nhw, neu bydda i'n dy ddychryn di o'u blaenau nhw. Ond heddiw dw i'n dy wneud di fel tref gaerog, neu fel colofn haearn neu wal bres. Byddi'n gwneud safiad yn erbyn y wlad i gyd, yn erbyn brenhinoedd Jwda, ei swyddogion, ei hoffeiriaid a'i phobl. Byddan nhw'n trïo dy wrthwynebu di, ond yn methu, am fy mod i gyda ti yn edrych ar dy ôl,” meddai'r ARGLWYDD. Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi neges arall i mi: “Dos, a gwna'n siŵr fod pobl Jerwsalem yn clywed y neges yma: Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Dw i'n cofio mor awyddus oeddet ti i'm plesio i, a'r cariad roeddet ti'n ei ddangos, fel merch ifanc ar fin priodi. Dyma ti'n fy nilyn i drwy'r anialwch mewn tir oedd heb ei drin. Roedd Israel wedi ei chysegru i'r ARGLWYDD, fel ffrwyth cyntaf ei gynhaeaf. Roedd pawb oedd yn ei chyffwrdd yn cael eu cyfri'n euog, a byddai dinistr yn dod arnyn nhw.’” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. Gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD bobl Jacob — llwythau Israel i gyd. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Pa fai gafodd eich hynafiaid yno i eu bod wedi crwydro mor bell oddi wrtho i? Dilyn delwau diwerth, a gwneud eu hunain yn dda i ddim. Wnaethon nhw ddim gofyn, ‘Ble mae'r ARGLWYDD ddaeth â ni allan o wlad yr Aifft, a'n harwain ni drwy'r anialwch? — ein harwain trwy dir diffaith oedd yn llawn tyllau; tir sych a thywyll; tir does neb yn mynd trwyddo, a lle does neb yn byw.’ Des i a chi i dir ffrwythlon a gadael i chi fwynhau ei ffrwyth a'i gynnyrch da. Ond pan aethoch i mewn yno dyma chi'n llygru'r tir, a gwneud y wlad rois i'n etifeddiaeth i chi yn ffiaidd yn fy ngolwg i. Wnaeth yr offeiriaid ddim gofyn, ‘Ble mae'r ARGLWYDD?’ Doedd y rhai sy'n dysgu'r Gyfraith ddim yn fy nabod i. Roedd yr arweinwyr yn gwrthryfela yn fy erbyn, a'r proffwydi'n rhoi negeseuon ar ran y duw Baal, ac yn dilyn delwau diwerth. Felly, dyma fi eto'n dod â cyhuddiad yn eich erbyn chi, a bydda i'n cyhuddo eich disgynyddion hefyd.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Ewch drosodd i ynys Cyprus i weld; neu anfonwch rywun i Cedar i ymchwilio. Ydy'r fath beth wedi digwydd erioed o'r blaen? Oes gwlad arall wedi newid ei duwiau? (A dydy'r rheiny ddim yn dduwiau go iawn!) Ond mae fy mhobl i wedi fy ffeirio i, y Duw gwych, am ‛dduwiau‛ sydd ond delwau diwerth. Mae'r nefoedd mewn sioc fod y fath beth yn gallu digwydd! Mae'n ddychryn! Mae'r peth yn syfrdanol!” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Mae fy mhobl wedi gwneud dau beth drwg: Maen nhw wedi troi cefn arna i, y ffynnon o ddŵr glân gloyw, a chloddio pydewau iddyn nhw eu hunain — pydewau wedi cracio sydd ddim yn dal dŵr!” “Ydy Israel yn gaethwas? Na! Gafodd e ei eni'n gaethwas? Naddo! Felly, pam mae e'n cael ei gipio gan y gelyn? Mae'r gelyn yn rhuo drosto fel llewod ifanc yn rhuo'n swnllyd. Mae'r wlad wedi ei difetha, a'i threfi'n adfeilion heb neb yn byw yno bellach. A daw milwyr yr Aifft, o drefi Memffis a Tachpanches i siafio'ch pennau chi, bobl Israel. Ti Israel ddaeth â hyn arnat dy hun, trwy droi dy gefn ar yr ARGLWYDD dy Dduw pan oedd e'n dangos y ffordd i ti. Felly beth ydy'r pwynt mynd i lawr i'r Aifft neu droi at Asyria am help? Ydy yfed dŵr yr Afon Nil neu'r Ewffrates yn mynd i dy helpu di? Bydd dy ddrygioni'n dod â'i gosb, a'r ffaith i ti droi cefn arna i yn dysgu gwers i ti. Cei weld fod troi cefn ar yr ARGLWYDD dy Dduw, a dangos dim parch tuag ata i, yn ddrwg iawn ac yn gwneud niwed mawr,” —meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD holl-bwerus. “Ymhell bell yn ôl torrais yr iau oedd ar dy war a dryllio'r rhaffau oedd yn dy rwymo; ond dyma ti'n dweud, ‘Wna i ddim dy wasanaethu di!’ Felly addolaist dy ‛dduwiau‛ ar ben pob bryn a than pob coeden ddeiliog, a gorweddian ar led fel putain. Roeddwn i wedi dy blannu di yn y tir fel gwinwydden arbennig o'r math gorau. Sut wnest ti droi'n winwydden wyllt a'i ffrwyth yn ddrwg a drewllyd? Gelli drïo defnyddio powdr golchi a llwythi o sebon i geisio ymolchi, ond dw i'n dal i weld staen dy euogrwydd di.” —Y Meistr, yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Sut elli di ddweud, ‘Dw i ddim yn aflan. Wnes i ddim addoli duwiau Baal’? Meddylia beth wnest ti yn y dyffryn! Rwyt fel camel ifanc yn rhuthro i bob cyfeiriad a ddim yn gwybod ble i droi! Rwyt fel asen wyllt wedi ei magu yn yr anialwch yn sniffian yr awyr am gymar pan mae'n amser paru. Does dim modd ei dal hi'n ôl pan mae'r nwyd yna. Does dim rhaid i'r asynnod flino yn rhedeg ar ei hôl, mae hi yna'n disgwyl amdanyn nhw adeg paru. Paid gadael i dy esgidiau dreulio a dy wddf sychu yn rhedeg ar ôl duwiau eraill. Ond meddet ti, ‘Na! Does dim pwynt! Dw i'n caru'r duwiau eraill yna, a dw i am fynd ar eu holau nhw eto.’ Fel lleidr, dydy Israel ond yn teimlo cywilydd pan mae wedi cael ei dal! Brenhinoedd a swyddogion, offeiriaid a phroffwydi — maen nhw i gyd yr un fath. Maen nhw'n dweud wrth ddarn o bren, ‘Ti ydy fy nhad i!’ ac wrth garreg, ‘Ti ydy fy mam, ddaeth â fi i'r byd!’ Ydyn, maen nhw wedi troi cefn arna i yn lle troi ata i. Ond wedyn, pan maen nhw mewn trafferthion maen nhw'n gweiddi arna i, ‘Tyrd, achub ni!’ Felly ble mae'r duwiau wyt ti wedi eu gwneud i ti dy hun? Gad iddyn nhw ddod i dy achub di, os gallan nhw, pan wyt ti mewn trafferthion! Wedi'r cwbl, Jwda, mae gen ti gymaint o dduwiau ag sydd gen ti o drefi! Pam ydych chi'n rhoi'r bai arna i? Chi ydy'r rhai sydd wedi gwrthryfela yn fy erbyn i.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Dyma fi'n cosbi dy bobl, ond doedd dim pwynt; doedden nhw ddim yn fodlon cael eu cywiro. Chi eich hunain laddodd eich proffwydi fel llew ffyrnig yn ymosod ar ei brae.” Bobl, gwrandwch beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud! “Ydw i wedi bod fel anialwch i Israel? Ydw i wedi bod fel tir tywyll i chi? Felly pam mae fy mhobl yn dweud, ‘Dŷn ni'n rhydd i wneud beth leiciwn ni Dŷn ni ddim am droi atat byth eto’? Ydy merch ifanc yn anghofio gwisgo ei thlysau? Ydy priodferch yn anghofio ei gwisg briodas? Na! — Ond mae fy mhobl wedi fy anghofio i ers gormod o flynyddoedd i'w cyfri. Ti'n un da iawn am redeg ar ôl dy gariadon. Byddai'r butain fwya profiadol yn dysgu lot fawr gen ti! Ar ben hynny mae olion gwaed y tlawd a'r diniwed ar eich dillad, er eich bod chi ddim wedi eu dal nhw yn torri i mewn i'ch tai. Ac eto, er gwaetha'r cwbl ti'n dal i ddweud, ‘Dw i wedi gwneud dim byd o'i le; does bosib ei fod e'n dal yn ddig hefo fi!’ Gwylia dy hun! Dw i'n mynd i dy farnu di am ddweud, ‘Dw i ddim wedi pechu.’ Pam wyt ti'n ei chael hi mor hawdd i newid ochr? Gofyn am help un, ac wedyn y llall! Byddi di'n cael dy siomi gan yr Aifft yn union fel y cest ti dy siomi gan Asyria. Byddi'n dod allan o'r sefyllfa yma hefo dy ddwylo dros dy wyneb mewn cywilydd. Mae'r ARGLWYDD wedi gwrthod y rhai rwyt ti'n pwyso arnyn nhw; fyddi di ddim yn llwyddo gyda'i help nhw. Os ydy dyn yn ysgaru ei wraig, a hithau wedyn yn ei adael ac yn priodi rhywun arall, dydy'r dyn cyntaf ddim yn gallu ei chymryd hi yn ôl. Byddai gwneud hynny'n llygru'r tir! Ti wedi actio fel putain gyda dy holl gariadon; felly wyt ti'n meddwl y cei di ddod yn ôl ata i?” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Edrych ar y bryniau o dy gwmpas! Oes rhywle rwyt heb orwedd i gael rhyw? Roeddet ti'n eistedd ar ochr y ffordd, fel bedowin yn yr anialwch, yn disgwyl amdanyn nhw! Ti wedi llygru'r tir gyda dy holl buteinio a'th ddrygioni. Dyna pam does dim glaw wedi bod, a dim sôn am gawodydd y gwanwyn. Ond roeddet ti mor benstiff â phutain ac yn teimlo dim cywilydd o gwbl. Ac eto dyma ti'n galw arna i, ‘Fy nhad! Ti wedi bod yn ffrind agos ers pan o'n i'n ifanc — Wyt ti'n mynd i ddal dig am byth? Wyt ti ddim yn mynd i aros felly, nac wyt?’ Ie, dyna beth ti'n ddweud, ond yna'n dal i wneud cymaint o ddrwg ag y medri di!” Pan oedd Joseia yn frenin dwedodd yr ARGLWYDD wrtho i, “Ti wedi gweld beth wnaeth Israel chwit-chwat — mynd i ben pob bryn uchel a gorwedd dan bob coeden ddeiliog a chwarae'r butain drwy addoli duwiau eraill. Hyd yn oed wedyn roeddwn i yn gobeithio y byddai hi'n troi'n ôl ata i. Ond wnaeth hi ddim. Ac roedd Jwda, ei chwaer anffyddlon, wedi gweld y cwbl. Gwelodd fi'n rhoi papurau ysgariad i Israel ac yn ei hanfon hi i ffwrdd am fod yn anffyddlon i mi mor aml, drwy addoli duwiau eraill. Ond wnaeth hynny ddim gwahaniaeth i Jwda. Dyma hithau'n mynd ac yn puteinio yn union yr un fath! Roedd Israel yn cymryd y cwbl mor ysgafn, ac roedd hi wedi llygru'r tir drwy addoli duwiau o bren a charreg. Ond er gwaetha hyn i gyd, dydy Jwda, ei chwaer anffyddlon, ddim wedi troi'n ôl ata i go iawn. Dydy hi ddim ond yn esgus bod yn sori,” meddai'r ARGLWYDD. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Roedd Israel chwit-chwat yn well na Jwda anffyddlon! Felly, dos i wledydd y gogledd i ddweud wrth bobl Israel, ‘Tro yn ôl ata i, Israel anffyddlon!’ meddai'r ARGLWYDD. ‘Dw i ddim yn mynd i edrych yn flin arnat ti o hyn ymlaen. Dw i'n Dduw trugarog! Fydda i ddim yn dal dig am byth. Dim ond i ti gyfaddef dy fai — cyfaddef dy fod wedi gwrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD dy Dduw, a rhoi dy hun i dduwiau eraill dan bob coeden ddeiliog. Cyfaddef dy fod ti ddim wedi gwrando arna i,’ meddai'r ARGLWYDD. “‘Trowch yn ôl ata i, bobl anffyddlon,’ meddai'r ARGLWYDD. ‘Fi ydy'ch gŵr chi go iawn. Bydda i'n eich cymryd chi yn ôl i Seion — bob yn un o'r pentrefi a bob yn ddau o'r gwahanol deuluoedd. Bydda i'n rhoi arweinwyr i chi sy'n ffyddlon i mi. Byddan nhw'n gofalu amdanoch chi'n ddoeth ac yn ddeallus.’ Bydd y boblogaeth yn cynyddu eto, a bryd hynny,” meddai'r ARGLWYDD, “fydd pobl ddim yn dweud pethau fel, ‘Mae gynnon ni Arch ymrwymiad yr ARGLWYDD!’ Fydd y peth ddim yn croesi'r meddwl. Fyddan nhw ddim yn ei chofio hi nac yn ei cholli hi! A fydd dim angen gwneud un newydd. Bryd hynny bydd dinas Jerwsalem yn cael ei galw yn orsedd yr ARGLWYDD. Bydd pobl o wledydd y byd i gyd yn dod at ei gilydd yno i addoli'r ARGLWYDD. Fyddan nhw ddim yn dal ati'n ystyfnig i ddilyn y duedd sydd ynddyn nhw i wneud drwg. Bryd hynny bydd pobl Jwda a phobl Israel yn teithio yn ôl gyda'i gilydd o'r gaethglud yn y gogledd. Byddan nhw'n dod yn ôl i'r wlad rois i i'w hynafiaid i'w hetifeddu.” “Roeddwn i'n arfer meddwl, ‘Dw i'n mynd i dy drin di fel mab! Dw i'n mynd i roi'r tir hyfryd yma i ti — yr etifeddiaeth orau yn y byd i gyd!’ Roeddwn i'n arfer meddwl y byddet ti'n fy ngalw i ‘Fy nhad’ a byth yn troi cefn arna i. Ond yn lle hynny, buoch yn anffyddlon i mi, bobl Israel, fel gwraig sy'n anffyddlon i'w gŵr.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. Mae lleisiau i'w clywed ar ben y bryniau. Sŵn pobl Israel yn crïo ac yn pledio ar eu ‛duwiau‛. Maen nhw wedi anghofio'r ARGLWYDD eu Duw a chrwydro mor bell oddi wrtho! “Dewch yn ôl ata i bobl anffyddlon; gadewch i mi eich gwella chi!” “Iawn! Dyma ni'n dod,” meddai'r bobl. “Ti ydy'r ARGLWYDD ein Duw ni. Dydy eilun-dduwiau'r bryniau yn ddim ond twyll, a'r holl rialtwch wrth addoli ar y mynyddoedd. Yr ARGLWYDD ein Duw ydy'r unig un all achub Israel. Ond mae Baal, y duw ffiaidd yna, wedi llyncu'r cwbl wnaeth ein hynafiaid weithio mor galed amdano o'r dechrau — eu defaid a'u gwartheg, eu meibion a'u merched. Gadewch i ni orwedd mewn cywilydd, a'n gwarth fel blanced troson ni. Dŷn ni a'n hynafiaid wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD ein Duw o'r dechrau cyntaf hyd heddiw. Dŷn ni ddim wedi bod yn ufudd iddo o gwbl.” “Dim ond i ti droi yn ôl, o Israel,” meddai'r ARGLWYDD “Ie, troi yn ôl! Cael gwared â'r eilun-dduwiau ffiaidd yna o'm golwg i a stopio crwydro o hyn ymlaen. Dweud y gwir, a bod yn onest wrth dyngu llw, ‘Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw!’ Wedyn bydd y cenhedloedd am iddo eu bendithio nhw, a byddan nhw'n ymffrostio ynddo.” Ie, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud wrthoch chi bobl Jwda a Jerwsalem: “Rhaid i chi drin y tir caled, a peidio hau had da yng nghanol drain. Rhoi eich hunain yn llwyr i'r ARGLWYDD, newid eich agwedd a chael gwared â phob rhwystr. Os na wnewch chi, bydda i'n ddig. Bydda i fel tân yn llosgi a neb yn gallu ei ddiffodd, o achos yr holl ddrwg dych chi wedi ei wneud.” “Cyhoeddwch hyn yn Jwda, a dweud wrth bawb yn Jerwsalem: ‘Chwythwch y corn hwrdd i rybuddio pobl drwy'r wlad i gyd.’ Gwaeddwch yn uchel, ‘Dewch, rhaid dianc i'r trefi caerog!’ Codwch arwydd yn dweud, ‘I Seion!’ Ffowch i le saff! Peidiwch sefyllian! Dw i ar fin dod â dinistr o gyfeiriad y gogledd — trychineb ofnadwy! Mae llew wedi dod allan o'i ffau! Mae'r un sy'n dinistrio cenhedloedd ar ei ffordd. Mae'n dod i ddifetha'r wlad, a gwneud ei threfi yn adfeilion lle bydd neb yn byw. Felly gwisgwch sachliain, a galaru ac udo: ‘Mae'r ARGLWYDD yn dal wedi digio'n lân hefo ni.’” “Y diwrnod hwnnw,” meddai'r ARGLWYDD, “bydd y brenin a'i swyddogion wedi colli pob hyder. Bydd yr offeiriaid yn syfrdan a'r proffwydi'n methu dweud gair.” Fy ymateb i oedd, “O! Feistr, ARGLWYDD, mae'n rhaid dy fod ti wedi twyllo'r bobl yma'n llwyr, a Jerwsalem hefyd! Roeddet ti wedi addo heddwch i Jerwsalem, ond mae cleddyf yn cyffwrdd ein gyddfau ni!” Bryd hynny bydd yr ARGLWYDD yn dweud wrth y bobl yma ac wrth Jerwsalem, “Bydd gwynt poeth o fryniau'r anialwch yn chwythu ar fy mhobl druan. Nid rhyw wynt ysgafn i nithio'r had a chwythu'r us i ffwrdd fydd e. Na, bydd yn wynt llawer rhy gryf i hynny! Dw i fy hun yn mynd i'w barnu nhw.” Edrychwch! Mae'r gelyn yn dod fel cymylau'n casglu. Mae sŵn ei gerbydau fel sŵn corwynt, a'i geffylau yn gyflymach nag eryrod. “Gwae ni, mae hi ar ben arnon ni!” meddai'r bobl. O, Jerwsalem, golcha'r drwg o dy galon i ti gael dy achub. Am faint wyt ti'n mynd i ddal gafael yn dy syniadau dinistriol? Mae negeswyr yn dod i gyhoeddi dinistr, o dref Dan ac o fryniau Effraim. Cyhoeddwch i'r gwledydd o'i chwmpas, “Maen nhw yma!” a dwedwch wrth Jerwsalem, “Mae'r rhai sy'n ymosod ar ddinasoedd wedi dod o wlad bell, ac yn bloeddio, ‘I'r gâd!’ yn erbyn trefi Jwda.” Maen nhw'n cau amdani o bob cyfeiriad, fel gwylwyr yn gofalu am gae. “Ydy, mae hi wedi gwrthryfela yn fy erbyn i,” meddai'r ARGLWYDD. Ti wedi dod â hyn arnat dy hun, am y ffordd rwyt wedi byw a'r pethau rwyt wedi eu gwneud. Bydd dy gosb yn brofiad chwerw! Bydd fel cleddyf yn treiddio i'r byw! O'r poen dw i'n ei deimlo! Mae fel gwayw yn fy mol, ac mae fy nghalon i'n pwmpio'n wyllt. Alla i ddim cadw'n dawel wrth glywed y corn hwrdd yn seinio a'r milwyr yn gweiddi “I'r gâd!” Mae un dinistr yn dod ar ôl y llall, nes bod y wlad i gyd wedi ei difetha. Yn sydyn mae pob pabell wedi ei dinistrio, a'u llenni wedi eu rhwygo mewn chwinciad. Am faint mae'n rhaid edrych ar faneri'r gelyn? Am faint rhaid i'r rhyfela fynd ymlaen? “Mae fy mhobl yn ffyliaid. Dŷn nhw ddim yn fy nabod i go iawn. Maen nhw fel plant heb ddim sens. Dŷn nhw'n deall dim byd! Maen nhw'n hen lawiau ar wneud drwg, ond ddim yn gwybod sut i wneud beth sy'n dda.” Edrychais ar y ddaear, ac roedd yn anrhefn gwag. Edrychais i'r awyr, a doedd dim golau! Edrychais ar y mynyddoedd, ac roedden nhw'n crynu! Roedd y bryniau i gyd yn gwegian. Edrychais eto — doedd dim pobl yn unman, ac roedd yr adar i gyd wedi hedfan i ffwrdd. Edrychais, ac roedd y tir amaeth wedi troi'n anialwch, a'r trefi i gyd yn adfeilion. Yr ARGLWYDD oedd wedi achosi'r cwbl, am ei fod wedi digio'n lân hefo ni. Ie, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Bydd y tir i gyd yn destun sioc ond fydda i ddim yn ei ddinistrio'n llwyr. Bydd y ddaear yn galaru, a'r awyr wedi tywyllu. Dw i wedi dweud yn glir beth dw i am ei wneud, a dw i ddim yn bwriadu newid fy meddwl.” Mae sŵn y marchogion a'r bwasaethwyr yn dod, ac mae pawb yn ffoi o'r trefi. Maen nhw'n cuddio yn y llwyni, ac yn dringo'r clogwyni. Mae'r trefi'n wag — does neb ar ôl ynddyn nhw! A tithau'r ddinas sy'n mynd i gael dy ddinistrio — Beth wyt ti'n wneud yn dy ddillad gorau? Pam wyt ti'n addurno dy hun hefo dy dlysau? Pam wyt ti'n rhoi colur ar dy lygaid? Does dim pwynt i ti wisgo colur. Mae dy ‛gariadon‛ wedi dy wrthod; maen nhw eisiau dy ladd di! I ddweud y gwir, dw i wedi clywed sŵn crïo. Sŵn gwraig ifanc mewn poen wrth gael ei babi cyntaf. Sŵn Seion yn anadlu'n drwm, ac yn pledio am help: “Mae ar ben arna i! Mae'r llofruddion yma wedi cael y gorau arna i.” “Ewch yn ôl ac ymlaen drwy strydoedd Jerwsalem. Edrychwch yn fanwl ym mhobman; chwiliwch yn ei sgwariau cyhoeddus. Os allwch chi ddod o hyd i un person sy'n gwneud beth sy'n iawn ac yn onest, gwna i faddau i'r ddinas gyfan!” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. Mae'r bobl yma'n tyngu llw, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw …” Ond y gwir ydy fod eu geiriau'n gelwydd! O ARGLWYDD, onid gonestrwydd wyt ti eisiau? Ti'n ei cosbi nhw, a dŷn nhw'n cymryd dim sylw. Bron i ti eu dinistrio, ond maen nhw'n gwrthod cael eu cywiro. Maen nhw mor ystyfnig, ac yn gwrthod newid eu ffyrdd. Wedyn dyma fi'n meddwl, “Pobl dlawd gyffredin ydy'r rhain. Maen nhw wedi ymddwyn yn ddwl; dŷn nhw ddim yn gwybod beth mae'r ARGLWYDD eisiau, a beth mae Duw yn ei ddisgwyl ganddyn nhw. Gwna i fynd i siarad gyda'r arweinwyr. Byddan nhw'n gwybod beth mae'r ARGLWYDD eisiau, a beth mae Duw yn ei ddisgwyl ganddyn nhw.” Ond roedden nhw hefyd fel ychen wedi torri'r iau yn gwrthod gadael i Dduw eu harwain nhw. Felly, bydd y gelyn yn dod i ymosod fel llew o'r goedwig. Bydd yn neidio arnyn nhw fel blaidd o'r anialwch. Bydd fel llewpard yn stelcian tu allan i'w trefi, a bydd unrhyw un sy'n mentro allan yn cael ei rwygo'n ddarnau! Maen nhw wedi gwrthryfela ac wedi troi cefn ar Dduw mor aml. “Jerwsalem — sut alla i faddau i ti am hyn? Mae dy bobl wedi troi cefn arna i. Maen nhw wedi cymryd llw i ‛dduwiau‛ sydd ddim yn bod! Er fy mod i wedi rhoi popeth oedd ei angen iddyn nhw dyma nhw'n ymddwyn fel gwraig sy'n anffyddlon i'w gŵr. Maen nhw'n heidio i dai puteiniaid, fel meirch cryfion yn awchu am gaseg; pob un yn gweryru am wraig ei gymydog. Ddylwn i ddim eu cosbi nhw am hyn?” meddai'r ARGLWYDD. “Ddylwn i ddim dial ar wlad fel yma?” “Ewch i lawr y rhesi o goed gwinwydd, a difetha, ond peidiwch â'i dinistrio nhw'n llwyr. Torrwch y canghennau sy'n blaguro i ffwrdd, achos dŷn nhw ddim yn perthyn i'r ARGLWYDD. Mae pobl Israel a Jwda wedi bod yn anffyddlon i mi.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Ydyn, maen nhw wedi gwrthod credu'r ARGLWYDD a dweud pethau fel, ‘Dydy e'n neb! Does dim dinistr i ddod go iawn. Welwn ni ddim rhyfel na newyn. Mae'r proffwydi'n malu awyr! Dydy Duw ddim wedi rhoi neges iddyn nhw! Gadewch i'r hyn maen nhw'n ddweud ddigwydd iddyn nhw eu hunain!’” Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Duw holl-bwerus, yn ei ddweud: “Am eu bod nhw'n dweud hyn, dw i'n mynd i roi neges i ti fydd fel fflam dân yn eu llosgi nhw fel petaen nhw'n goed tân.” “Gwranda Israel,” meddai'r ARGLWYDD “Dw i'n mynd i ddod â gwlad o bell i ymosod arnat ti — gwlad sydd wedi bod o gwmpas ers talwm. Dwyt ti ddim yn siarad ei hiaith hi, nac yn deall beth mae'r bobl yn ei ddweud. Mae ei milwyr i gyd yn gryfion, a'i chawell saethau fel bedd agored. Byddan nhw'n bwyta dy gnydau a dy fwyd. Byddan nhw'n lladd dy feibion a dy ferched. Byddan nhw'n bwyta dy ddefaid a dy wartheg. Byddan nhw'n difetha dy goed gwinwydd a dy goed ffigys. Byddan nhw'n ymosod, ac yn dinistrio dy gaerau amddiffynnol — a thithau'n meddwl eu bod nhw mor saff! “Ond hyd yn oed bryd hynny fydda i ddim yn eich dinistrio chi'n llwyr,” meddai'r ARGLWYDD. “A Jeremeia, pan fydd y bobl yn gofyn, ‘Pam mae'r ARGLWYDD ein Duw wedi gwneud y pethau yma i ni?’, byddi di'n ateb, ‘Am eich bod wedi ei wrthod e, a gwasanaethu duwiau estron yn eich gwlad eich hunain, byddwch chi'n gwasanaethu pobl estron mewn gwlad ddieithr.’” “Dwedwch fel hyn wrth ddisgynyddion Jacob, a cyhoeddwch y peth drwy Jwda: ‘Gwrandwch, chi bobl ddwl sy'n deall dim — chi sydd â llygaid, ond yn gweld dim, chi sydd â chlustiau, ond yn clywed dim: Oes gynnoch chi ddim parch ata i?’ meddai'r ARGLWYDD. ‘Ddylech chi ddim gwingo mewn ofn o'm blaen i? Fi roddodd dywod ar y traeth fel ffin nad ydy'r môr i'w chroesi. Er bod y tonnau'n hyrddio, fyddan nhw ddim yn llwyddo; er eu bod nhw'n rhuo, ân nhw ddim heibio. Ond mae'r bobl yma mor benstiff, ac yn tynnu'n groes; maen nhw wedi troi cefn a mynd eu ffordd eu hunain. Dŷn nhw ddim wir o ddifrif yn dweud, “Gadewch i ni barchu'r ARGLWYDD ein Duw. Mae'n rhoi'r glaw i ni yn y gwanwyn a'r hydref; mae'n rhoi'r cynhaeaf i ni ar yr adeg iawn.” Mae'ch drygioni wedi rhoi stop ar y pethau yma! Mae'ch pechodau chi wedi cadw'r glaw i ffwrdd.’ ‘Mae yna bobl ddrwg iawn ymhlith fy mhobl i. Maen nhw fel helwyr adar yn cuddio ac yn gwylio, ar ôl gosod trapiau i ddal pobl. Fel caets sy'n llawn o adar wedi eu dal, mae eu tai yn llawn o enillion eu twyll. Dyna pam maen nhw mor gyfoethog a phwerus, wedi pesgi ac yn edrych mor dda. Does dim pen draw i'w drygioni nhw! Dŷn nhw ddim yn rhoi cyfiawnder i'r amddifad, nac yn amddiffyn hawliau pobl dlawd. Ddylwn i ddim eu cosbi nhw am hyn?’ meddai'r ARGLWYDD. ‘Ddylwn i ddim dial ar wlad fel yma?’ Mae beth sy'n digwydd yn y wlad yma'n erchyll, mae'n warthus! Mae'r proffwydi'n dweud celwydd, a'r offeiriaid yn rheoli fel maen nhw eisiau. Ac mae fy mhobl i wrth eu boddau gyda'r sefyllfa! Ond beth wnewch chi pan ddaw'r cwbl i ben?” “Bobl Benjamin, ffowch i le saff! A dianc o ganol Jerwsalem! Chwythwch y corn hwrdd yn Tecoa, a chynnau tân yn Beth-hacerem i rybuddio'r bobl. Mae byddin yn dod o'r gogledd i ddinistrio popeth. Mae Seion hardd fel porfa hyfryd, ond daw byddin iddi fel bugeiliaid yn arwain eu praidd. Byddan nhw'n codi eu pebyll o'i chwmpas, a bydd yn cael ei phori nes bydd dim ar ôl! ‘Paratowch i ymladd yn ei herbyn! Dewch! Gadewch i ni ymosod arni ganol dydd!’ ‘Hen dro, mae'n dechrau nosi — mae'r haul yn machlud a'r cysgodion yn hir.’ ‘Sdim ots! Gadewch i ni ymosod ganol nos, a dinistrio ei phalasau yn llwyr.’ Ie, dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: ‘Torrwch goed a chodi ramp i ymosod ar ei waliau. Hi ydy'r ddinas sydd i'w chosbi; does dim byd ond gormes ynddi! Mae rhyw ddrwg yn tarddu ohoni'n ddi-baid, fel dŵr yn llifo o ffynnon. Sŵn trais a dinistr sydd i'w glywed ar ei strydoedd; a dw i'n gweld ond pobl wedi eu hanafu ym mhob man.’ Felly dysga dy wers, Jerwsalem! Neu bydda i'n troi yn dy erbyn, ac yn dy ddinistrio'n llwyr. Fydd neb yn byw ynot ti!” Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: “Byddan nhw'n lloffa'n llwyr y rhai fydd wedi eu gadael ar ôl. Byddan nhw fel casglwr grawnwin yn edrych dros y brigau yr ail waith i wneud yn siŵr fod dim ffrwyth wedi ei adael.” “Ond pwy sy'n mynd i wrando hyd yn oed os gwna i eu rhybuddio nhw? Maen nhw'n gwrthod gwrando. Dŷn nhw'n cymryd dim sylw! Mae dy neges, ARGLWYDD, yn jôc — does ganddyn nhw ddim eisiau ei glywed! Fel ti, dw i'n hollol ddig gyda nhw, ARGLWYDD; alla i ddim ei ddal yn ôl.” “Felly tywallt dy ddig ar y plant sy'n chwarae ar y stryd, ac ar y criw o bobl ifanc. Bydd cyplau priod yn cael eu cymryd i ffwrdd, y bobl hŷn a'r henoed. Bydd eu tai yn cael eu rhoi i'r gelynion, a'u caeau, a'u gwragedd hefyd! Dw i'n mynd i daro pawb sy'n byw yn y wlad yma!” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Maen nhw i gyd yn farus am elw anonest — y bobl gyffredin a'r arweinwyr. Hyd yn oed y proffwydi a'r offeiriaid — maen nhw i gyd yn twyllo! Mae'r help mae'n nhw'n ei gynnig yn arwynebol a gwag. ‘Bydd popeth yn iawn,’ medden nhw; Ond dydy popeth ddim yn iawn! Dylai fod cywilydd arnyn nhw am y fath beth! Ond na! does ganddyn nhw ddim mymryn o gywilydd. Dŷn nhw ddim yn gwybod beth ydy gwrido! Felly byddan nhw'n cael eu lladd gyda pawb arall. Bydda i'n eu cosbi nhw, a byddan nhw'n syrthio.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Dych chi'n sefyll ar groesffordd, felly holwch am yr hen lwybrau — sef y ffordd sy'n arwain i fendith. Ewch ar hyd honno, a cewch orffwys wedyn.” Ond ymateb y bobl oedd “Na, dim diolch!” “Anfonais broffwydi fel gwylwyr i'ch rhybuddio chi. Os ydy'r corn hwrdd yn rhoi rhybudd, rhaid i chi ymateb. Ond roeddech chi'n gwrthod cymryd unrhyw sylw. Felly chi'r cenhedloedd, gwrandwch ar hyn. Cewch weld beth fydd yn digwydd i'r bobl yma. Gwranda dithau ddaear. Dw i'n dod â dinistr ar y bobl yma. Bydda i'n talu'n ôl iddyn nhw am eu holl gynllwynio. Dŷn nhw ddim wedi cymryd sylw o beth dw i'n ddweud, ac maen nhw wedi gwrthod beth dw i'n ddysgu iddyn nhw. Beth ydy'r pwynt cyflwyno thus o Sheba i mi, neu sbeisiau persawrus o wlad bell? Dw i ddim yn gallu derbyn eich offrymau i'w llosgi, a dydy'ch aberthau chi ddim yn plesio chwaith.” Felly, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Dw i'n mynd i osod cerrig o'u blaenau nhw, i wneud i'r bobl yma faglu a syrthio. Bydd rhieni a phlant, cymdogion a ffrindiau yn marw.” Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Gwyliwch! Mae byddin yn dod o gyfeiriad y gogledd. Mae gwlad gref ym mhen draw'r byd yn paratoi i ryfel. Mae ei milwyr wedi gafael yn y bwa a'r cleddyf; maen nhw'n greulon a fyddan nhw'n dangos dim trugaredd. Mae sŵn eu ceffylau'n carlamu fel sŵn y môr yn rhuo. Mae eu rhengoedd nhw mor ddisgybledig, ac maen nhw'n dod yn eich erbyn chi, bobl Seion.” “Dŷn ni wedi clywed amdanyn nhw, Does dim byd allwn ni ei wneud. Mae dychryn wedi gafael ynon ni fel gwraig mewn poen wrth gael babi. Paid mentro allan i gefn gwlad. Paid mynd allan ar y ffyrdd. Mae cleddyf y gelyn yn barod. Does ond dychryn ym mhobman!” “Fy mhobl annwyl, gwisgwch sachliain a rholio mewn lludw. Galarwch ac wylwch fel petai eich unig blentyn wedi marw — dyna'r golled fwya chwerw! Mae'r gelyn sy'n dinistrio yn dod unrhyw funud!” “Jeremeia, dw i am i ti brofi fy mhobl, fel un sy'n profi safon metel. Dw i am i ti eu gwylio nhw, a phwyso a mesur.” “Maen nhw'n ofnadwy o benstiff, yn dweud celwyddau, ac mor galed â haearn neu bres. Maen nhw i gyd yn creu llanast llwyr! Mae'r fegin yn chwythu'n ffyrnig, a'r tân yn poethi. Ond mae gormod o amhurdeb i'r plwm ei symud. Mae'r broses o buro wedi methu, a'r drwg yn dal yno. ‛Arian diwerth‛ ydy'r enw arnyn nhw, am fod yr ARGLWYDD wedi eu gwrthod nhw.” Dyma neges arall roddodd yr ARGLWYDD i Jeremeia: “Dos i sefyll wrth y giât i deml yr ARGLWYDD, a chyhoeddi'r neges yma: ‘Bobl Jwda, sy'n mynd i mewn drwy'r giatiau yma i addoli'r ARGLWYDD, gwrandwch! Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn dweud fod rhaid i chi ddechrau newid eich ffyrdd. Os gwnewch chi, cewch chi aros yn eich gwlad. Peidiwch credu'r twyll sy'n addo y byddwch chi'n saff wrth ddweud, “Teml yr ARGLWYDD ydy hon! Teml yr ARGLWYDD ydy hi! Teml yr ARGLWYDD!” “‘Rhaid i chi newid eich ffyrdd, dechrau trin pobl eraill yn deg, peidio cam-drin mewnfudwyr, plant amddifad a gwragedd gweddwon. Peidio lladd pobl ddiniwed ac addoli eilun-dduwiau paganaidd. Dych chi ond yn gwneud drwg i chi'ch hunain! Os newidiwch chi eich ffyrdd, bydda i'n gadael i chi aros yn y wlad yma, sef y wlad rois i i'ch hynafiaid chi i'w chadw am byth bythoedd. “‘Ond dyma chi, yn credu'r celwydd fydd ddim help i chi yn y diwedd! Ydy'n iawn eich bod chi'n dwyn, llofruddio, godinebu, dweud celwydd ar lw, llosgi arogldarth i Baal, ac addoli eilun-dduwiau dych chi'n gwybod dim amdanyn nhw, ac wedyn dod i sefyll yn y deml yma — fy nheml i — a dweud “Dŷn ni'n saff!”? Yna cario ymlaen i wneud yr holl bethau ffiaidd yna! Ydy'r deml yma — fy nheml i — wedi troi yn guddfan i ladron? Gwyliwch eich hunain! Dw i wedi gweld beth ydych chi'n wneud,’” meddai'r ARGLWYDD. “‘Ewch i Seilo, ble roeddwn i'n cael fy addoli o'r blaen. Ewch i weld beth wnes i yno, o achos yr holl bethau drwg wnaeth fy mhobl — pobl Israel. A nawr, dych chi'n gwneud yr un pethau!’” meddai'r ARGLWYDD. “‘Dw i wedi ceisio dweud wrthoch chi dro ar ôl tro, ond doeddech chi ddim am wrando. Roeddwn i'n galw arnoch chi, ond doeddech chi ddim am ateb. Felly, dw i'n mynd i ddinistrio'r deml yma dych chi'n meddwl fydd yn eich cadw chi'n saff — ie, fy nheml i fy hun. Dw i'n mynd i ddinistrio'r lle yma rois i i chi a'ch hynafiaid, yn union fel y gwnes i ddinistrio Seilo! Dw i'n mynd i'ch gyrru chi o'm golwg i, yn union fel gwnes i yrru pobl Israel i ffwrdd. ’” “A ti Jeremeia, paid gweddïo dros y bobl yma. Paid galw arna i na gweddïo drostyn nhw. Paid pledio arna i i'w helpu nhw, achos fydda i ddim yn gwrando arnat ti. Wyt ti ddim yn gweld beth maen nhw'n ei wneud drwy drefi Jwda a strydoedd Jerwsalem? Mae'r plant yn casglu coed tân, y tadau'n cynnau'r tân a'r gwragedd yn paratoi toes i wneud cacennau i'r dduwies maen nhw'n ei galw'n ‛Frenhines y Nefoedd‛! Maen nhw'n tywallt offrwm o ddiod i dduwiau paganaidd dim ond i'm gwylltio i. Ond dim fi ydy'r un sy'n cael ei frifo!” meddai'r ARGLWYDD. “Brifo nhw'u hunain, a cywilyddio nhw'n hunain maen nhw yn y pen draw.” Felly dyma mae'r Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud: “Dw i'n wyllt gandryll, a bydda i'n tywallt fy llid ar y lle yma. Bydd pobl ac anifeiliaid, coed a chnydau yn cael eu dinistrio. Bydd fel tân sydd ddim yn diffodd.” Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: “Cymerwch gig yr offrwm sydd i'w losgi'n llwyr a'i ychwanegu at yr aberthau eraill. Waeth i chi fwyta hwnnw hefyd! Pan ddes i â'ch hynafiaid chi allan o wlad yr Aifft, nid rhoi rheolau iddyn nhw am offrymau i'w llosgi ac aberthau wnes i. Beth ddywedais i oedd, ‘Gwrandwch ar beth dw i'n ddweud. Bydda i'n Dduw i chi a byddwch chi'n bobl i mi. Dw i eisiau i chi fyw yn union fel dw i'n dweud wrthoch chi, a bydd pethau'n mynd yn dda i chi.’ “Ond doedden nhw ddim am wrando na chymryd unrhyw sylw ohono i. Dim ond dilyn y duedd ynddyn nhw i wneud drwg, a mynd yn bellach oddi wrtho i yn lle dod yn nes. Ond o'r diwrnod y daeth eich hynafiaid allan o'r Aifft hyd heddiw dw i wedi dal ati i anfon fy ngweision y proffwydi atoch chi, dro ar ôl tro. Ond doedd neb yn gwrando arna i nac yn cymryd unrhyw sylw. Roedden nhw'n hollol benstiff — hyd yn oed yn waeth na'u hynafiaid. “Dywed hyn i gyd wrthyn nhw, Jeremeia. Ond fyddan nhw ddim yn gwrando arnat ti. Byddi di'n galw arnyn nhw, ond paid disgwyl iddyn nhw ymateb. Dywed wrthyn nhw, ‘Mae'r wlad yma wedi gwrthod gwrando ar yr ARGLWYDD ei Duw, a gwrthod cael ei dysgu. Mae gonestrwydd wedi diflannu! Dydy pobl ddim hyd yn oed yn honni ei ddilyn bellach!’ ‘Siafiwch eich gwallt, bobl Jerwsalem, a'i daflu i ffwrdd. Canwch gân angladdol ar ben y bryniau. Mae'r ARGLWYDD wedi'ch gwrthod, a throi ei gefn ar y genhedlaeth yma sydd wedi ei ddigio.’” “Dw i wedi gwrthod pobl Jwda am eu bod nhw wedi gwneud drwg,” meddai'r ARGLWYDD. “Maen nhw'n llygru fy nheml i drwy osod eilun-dduwiau ffiaidd ynddi. Maen nhw hefyd wedi codi allorau paganaidd yn Toffet yn Nyffryn Ben-hinnom. Maen nhw'n aberthu eu plant bach yn y tân! Wnes i erioed ddweud wrthyn nhw am wneud y fath beth. Fyddai peth felly byth wedi croesi fy meddwl i! “Felly mae'r amser yn dod,” meddai'r ARGLWYDD, “pan fydd neb yn galw'r lle yn Toffet neu dyffryn Ben-hinnom. ‛Dyffryn Llofruddiaeth‛ fydd enw'r lle. Fydd dim digon o le i gladdu pawb fydd yn cael eu lladd yno. Bydd cyrff dynol yn fwyd i adar ac anifeiliaid gwylltion. Fydd yna neb ar ôl i'w dychryn nhw i ffwrdd. Dw i'n mynd i roi taw ar sŵn pobl yn chwerthin a joio ar strydoedd Jerwsalem, ac yn mwynhau eu hunain mewn parti priodas. Bydd y wlad yn anialwch diffaith.” Meddai'r ARGLWYDD, “Bryd hynny, bydd esgyrn brenhinoedd Jwda yn cael eu cymryd allan o'u beddau; ac esgyrn y swyddogion hefyd, a'r offeiriaid a'r proffwydi, a phawb arall oedd yn byw yn Jerwsalem. Byddan nhw'n cael eu gosod allan dan yr haul a'r lleuad a'r sêr. Dyma'r ‛duwiau‛ roedden nhw'n eu caru a'u gwasanaethu, yn addo bod yn ffyddlon iddyn nhw, yn ceisio arweiniad ganddyn nhw ac yn eu haddoli. A fydd yr esgyrn ddim yn cael eu casglu eto i'w claddu. Byddan nhw'n gorwedd fel tail ar wyneb y tir! “Bydd rhai o'r bobl ddrwg yma wedi byw drwy'r cwbl a'u hanfon i ffwrdd i leoedd eraill. Ond byddai'n well gan y rheiny petaen nhw wedi marw!”—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus. “Jeremeia, dywed wrthyn nhw mai dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Pan mae pobl yn syrthio, ydyn nhw ddim yn codi eto? Pan maen nhw'n colli'r ffordd, ydyn nhw ddim yn troi yn ôl? Os felly, pam mae'r bobl yma'n dal i fynd y ffordd arall? Pam mae pobl Jerwsalem yn dal i droi cefn arna i? Maen nhw'n dal gafael mewn twyll, ac yn gwrthod troi'n ôl ata i. Dw i wedi gwrando'n ofalus arnyn nhw, a dŷn nhw ddim yn dweud y gwir. Does neb yn sori am y drwg maen nhw wedi ei wneud; neb yn dweud, “Dw i ar fai.” Maen nhw i gyd yn mynd eu ffordd eu hunain, fel ceffyl yn rhuthro i'r frwydr. Mae'r crëyr yn gwybod pryd i ymfudo, a'r durtur, y wennol a'r garan. Maen nhw i gyd yn dod yn ôl ar yr adeg iawn o'r flwyddyn. Ond dydy fy mhobl i'n cymryd dim sylw o'r hyn dw i, yr ARGLWYDD, yn ei ofyn ganddyn nhw. Sut allwch chi ddweud, “Dŷn ni'n ddoeth, mae Cyfraith yr ARGLWYDD gynnon ni.”? Y gwir ydy fod athrawon y gyfraith yn ysgrifennu pethau sy'n gwyrdroi beth mae'n ei ddweud go iawn. Bydd y dynion doeth yn cael eu cywilyddio. Byddan nhw'n syfrdan wrth gael eu cymryd i'r ddalfa. Nhw wnaeth wrthod neges yr ARGLWYDD — dydy hynny ddim yn ddoeth iawn! Felly bydda i'n rhoi eu gwragedd i ddynion eraill, a'u tir i'w concwerwyr. Maen nhw i gyd yn farus am elw anonest — y bobl gyffredin a'r arweinwyr. Hyd yn oed y proffwydi a'r offeiriaid — maen nhw i gyd yn twyllo! Mae'r help mae'n nhw'n ei gynnig yn arwynebol a gwag. “Bydd popeth yn iawn,” medden nhw; Ond dydy popeth ddim yn iawn! Dylai fod cywilydd arnyn nhw am y fath beth! Ond na! does ganddyn nhw ddim mymryn o gywilydd. Dŷn nhw ddim yn gwybod beth ydy gwrido! Felly byddan nhw'n cael eu lladd gyda pawb arall. Bydda i'n eu cosbi nhw, a byddan nhw'n syrthio.’” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Pan oeddwn i eisiau casglu'r cynhaeaf,” meddai'r ARGLWYDD “doedd dim grawnwin na ffigys yn tyfu ar y coed. Roedd hyd yn oed y dail ar y coed wedi gwywo. Roedden nhw wedi colli popeth rois i iddyn nhw.” “Pam ydyn ni'n eistedd yma yn gwneud dim? Gadewch i ni ddianc i'r trefi caerog, a marw yno. Mae'r ARGLWYDD ein Duw wedi ein condemnio ni i farwolaeth. Mae e wedi gwneud i ni yfed dŵr gwenwynig am ein bod wedi pechu yn ei erbyn. Roedden ni'n gobeithio y byddai popeth yn iawn, ond i ddim pwrpas; roedden ni'n edrych am amser gwell, ond dim ond dychryn gawson ni. Mae sŵn ceffylau'r gelyn yn ffroeni i'w glywed yn Dan. Mae pawb yn crynu mewn ofn wrth glywed y ceffylau'n gweryru. Maen nhw ar eu ffordd i ddinistrio'r wlad a phopeth sydd ynddi! Maen nhw'n dod i ddinistrio'r trefi, a phawb sy'n byw ynddyn nhw.” “Ydw, dw i'n anfon byddin y gelyn i'ch plith chi, fel nadroedd gwenwynig all neb eu swyno. A byddan nhw'n eich brathu chi.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Dw i wedi fy llethu gan dristwch. Dw i'n teimlo'n sâl. Gwrandwch ar fy mhobl druan yn gweiddi ar hyd a lled y wlad: ‘Ydy'r ARGLWYDD wedi gadael Seion? Ydy ei Brenin hi ddim yno bellach?’” “Pam maen nhw wedi fy nigio i gyda'u heilunod a'u delwau diwerth? ‘Mae'r cynhaeaf heibio, mae'r haf wedi dod i ben, a dŷn ni'n dal ddim wedi'n hachub,’ medden nhw.” Dw i'n diodde wrth weld fy mhobl annwyl i'n diodde. Dw i'n galaru. Dw i'n anobeithio. Oes yna ddim eli yn Gilead? Oes dim meddyg yno? Felly pam nad ydy briw fy mhobl wedi gwella? O na fyddai fy mhen yn ffynnon ddŵr a'r dagrau yn pistyllio o'm llygaid, Wedyn byddwn i'n crïo ddydd a nos am y rhai hynny o'm pobl sydd wedi cael eu lladd! O na fyddai gen i gaban yn yr anialwch — llety ble mae teithwyr yn aros dros nos. Wedyn byddwn i'n gallu dianc, a mynd i ffwrdd oddi wrth fy mhobl. Maen nhw i gyd wedi bod yn anffyddlon i Dduw. Cynulleidfa o fradwyr ydyn nhw! “Mae eu tafodau fel bwa wedi ei blygu i saethu celwyddau. Maen nhw wedi dod yn bwerus yn y wlad drwy fod yn anonest. Ac maen nhw wedi mynd o ddrwg i waeth! Does ganddyn nhw ddim eisiau fy nabod i.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Gwyliwch eich ffrindiau! Allwch chi ddim trystio'ch perthnasau hyd yn oed! Maen nhw i gyd yn twyllo ei gilydd, ac yn dweud celwyddau cas am ei gilydd. Mae pawb yn twyllo eu ffrindiau. Does neb yn dweud y gwir. Maen nhw wedi hen arfer dweud celwydd; yn pechu, ac yn rhy wan i newid eu ffyrdd. Pentyrru gormes ar ben gormes, a twyll ar ben twyll! Does ganddyn nhw ddim eisiau fy nabod i,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. Felly dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: “Dw i'n mynd i'w puro nhw mewn tân a'u profi nhw. Beth arall alla i ei wneud â'm pobl druan? Mae eu tafodau fel saethau marwol, yn dweud celwydd drwy'r amser. Maen nhw'n dweud eu bod yn dymuno'n dda i'w cymdogion, ond yn eu calon yn bwriadu brad! Ddylwn i ddim eu cosbi nhw am hyn?” meddai'r ARGLWYDD “Ddylwn i ddim dial ar wlad fel yma?” Dw i'n mynd i grïo'n uchel am y mynyddoedd, a galaru dros diroedd pori'r anialwch. Maen nhw wedi llosgi, a does neb yn teithio'r ffordd honno. Does dim sŵn anifeiliaid yn brefu. Mae hyd yn oed yr adar a'r anifeiliaid gwylltion wedi dianc oddi yno. “Bydda i'n gwneud Jerwsalem yn bentwr o rwbel, ac yn lle i siacaliaid fyw. Bydda i'n dinistrio pentrefi Jwda, a fydd neb yn gallu byw ynddyn nhw.” Pwy sy'n ddigon doeth i ddeall pam mae hyn wedi digwydd? Gyda pwy mae'r ARGLWYDD wedi siarad, er mwyn iddo esbonio'r peth? Pam mae'r wlad wedi ei difetha'n llwyr, a'r tir fel anialwch does neb yn teithio trwyddo? A dyma'r ARGLWYDD yn ateb, “Am eu bod nhw wedi troi cefn ar y ddysgeidiaeth rois i iddyn nhw. Dŷn nhw ddim wedi gwrando arna i, a gwneud beth ro'n i'n ddweud. Yn lle hynny maen nhw wedi bod yn hollol ystyfnig a gwneud beth maen nhw eisiau, ac wedi addoli'r duwiau Baal yr un fath â'u hynafiaid. Felly, dyma dw i, Duw Israel, yr ARGLWYDD holl-bwerus, yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i roi profiadau chwerw yn fwyd i'r bobl, a dŵr gwenwynig barn iddyn nhw i'w yfed.’ “Dw i'n mynd i'w gyrru nhw ar chwâl. Byddan nhw ar goll mewn gwledydd dŷn nhw, fel eu hynafiaid, yn gwybod dim amdanyn nhw. Bydd byddinoedd eu gelynion yn mynd ar eu holau nes bydda i wedi eu dinistrio nhw'n llwyr.” Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: “Meddyliwch yn ofalus beth sy'n digwydd. Galwch am y gwragedd sy'n galaru dros y meirw. Anfonwch am y rhai mwyaf profiadol. Ie, galwch arnyn nhw i ddod ar frys, a dechrau wylofain yn uchel. Crïo nes bydd y dagrau'n llifo, a'n llygaid ni'n socian. Mae sŵn crïo uchel i'w glywed yn Seion: ‘Mae hi ar ben arnon ni! Dŷn ni wedi'n cywilyddio'n llwyr, Rhaid i ni adael ein gwlad, achos maen nhw wedi chwalu'n tai ni i gyd.’” “Felly, chi wragedd, gwrandwch beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud. Gwrandwch yn ofalus ar ei eiriau. Dysgwch eich merched i alaru. Dysgwch y gân angladdol yma i'ch gilydd: ‘Mae marwolaeth wedi dringo drwy'r ffenestri; mae wedi dod i mewn i'n palasau. Mae wedi cipio ein plant oedd yn chwarae yn y strydoedd, a'r bechgyn ifanc oedd yn cyfarfod ar y sgwâr yn y trefi.’” Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Bydd cyrff marw yn gorwedd fel tail wedi ei wasgaru ar gae, neu ŷd wedi ei dorri a'i adael yn sypiau, a neb yn ei gasglu.” Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Ddylai pobl glyfar ddim brolio eu clyfrwch, na'r pwerus eu bod nhw'n bobl bwerus; a ddylai pobl gyfoethog ddim brolio'i cyfoeth. Dim ond un peth ddylai pobl frolio amdano: eu bod nhw yn fy nabod i, ac wedi deall mai fi ydy'r ARGLWYDD sy'n llawn cariad, yn deg, ac yn gwneud beth sy'n iawn ar y ddaear. A dw i eisiau i bobl wneud yr un fath,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Gwyliwch!” meddai'r ARGLWYDD. “Mae'r amser yn dod pan fydda i'n cosbi'r rhai sydd ond wedi cael enwaediad corfforol — pobl yr Aifft, Jwda, Edom, Ammon, Moab, a'r bobl sy'n byw ar ymylon yr anialwch. Does dim un ohonyn nhw wedi eu henwaedu go iawn, a dydy calon pobl Israel ddim wedi ei henwaedu go iawn chwaith.” [1-2] Bobl Israel, gwrandwch beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud wrthoch chi: “Peidiwch gwneud yr un fath â'r gwledydd paganaidd. Peidiwch cymryd sylw o ‛arwyddion‛ y sêr a'r planedau, a gadael i bethau felly eich dychryn chi, fel maen nhw'n dychryn y gwledydd hynny. *** Dydy arferion paganaidd felly yn dda i ddim! Mae coeden yn cael ei thorri i lawr yn y goedwig, ac mae cerfiwr yn gwneud eilun ohoni gyda chŷn. Wedyn mae'n ei addurno gydag arian ac aur, ac yn defnyddio morthwyl a hoelion i'w ddal yn ei le, rhag iddo syrthio! Mae'r eilunod yma fel bwganod brain mewn gardd lysiau. Allan nhw ddim siarad; allan nhw ddim cerdded, felly mae'n rhaid eu cario nhw i bobman. Peidiwch bod a'u hofn nhw — allan nhw wneud dim niwed i chi, na gwneud dim i'ch helpu chi chwaith!” “O ARGLWYDD, does dim un ohonyn nhw'n debyg i ti. Ti ydy'r Duw mawr, sy'n enwog am dy fod mor bwerus! Ti ydy Brenin y cenhedloedd, felly dylai pawb dy addoli di — dyna wyt ti'n ei haeddu! Dydy pobl fwya doeth y gwledydd i gyd a'r teyrnasoedd ddim byd tebyg i ti. Pobl wyllt a dwl ydyn nhw, yn meddwl y gall eilun pren eu dysgu nhw! Maen nhw'n dod ag arian wedi ei guro o Tarshish, ac aur pur o Wffas, i orchuddio'r delwau. Dim ond gwaith llaw cerfiwr a gof aur ydy'r rheiny; a'u dillad glas a phorffor yn waith teiliwr medrus! Yr ARGLWYDD ydy'r unig Dduw go iawn — y Duw byw, sy'n frenin am byth! Pan mae e'n ddig mae'r ddaear yn crynu. Mae'r cenhedloedd yn cuddio oddi wrth ei ddicter.” (Dylech ddweud wrth y cenhedloedd: “Wnaeth y ‛duwiau‛ yma ddim creu y nefoedd a'r ddaear. Byddan nhw i gyd yn diflannu — fydd dim sôn amdanyn nhw yn unman!”) Yr ARGLWYDD ddefnyddiodd ei rym i greu y ddaear. Fe ydy'r un osododd y byd yn ei le trwy ei ddoethineb, a lledu'r awyr trwy ei ddeall. Mae sŵn ei lais yn gwneud i'r awyr daranu. Mae'n gwneud i gymylau ddod i'r golwg ar y gorwel. Mae'n gwneud i fellt fflachio yng nghanol y glaw. Mae'n dod â'r gwynt allan o'i stordai i chwythu. Mae pobl mor ddwl! Dŷn nhw'n gwybod dim byd! Bydd yr eilunod yn codi cywilydd ar y rhai a'i gwnaeth nhw. Duwiau ffals ydy'r delwau; does dim bywyd ynddyn nhw. Dŷn nhw'n dda i ddim! Pethau i wneud sbort ohonyn nhw! Mae'r amser yn dod pan gân nhw eu cosbi a'u dinistrio. Dydy Duw Jacob ddim byd tebyg iddyn nhw. Fe ydy'r un wnaeth greu pob peth, ac mae pobl Israel yn bobl sbesial iddo. Yr ARGLWYDD holl-bwerus ydy ei enw! Mae'r gelyn o'ch cwmpas yn gwarchae, felly heliwch eich pac yn barod i fynd! Ie, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: Dw i'n mynd i daflu'r bobl allan o'r wlad yma, nawr! Maen nhw'n mynd i fod mewn helbul go iawn, a byddan nhw'n teimlo'r peth i'r byw. Meddai Jerwsalem, “Mae ar ben arna i! Dw i wedi fy anafu'n ddifrifol. Roeddwn i'n arfer meddwl, ‘Salwch ydy e a bydda i'n dod drosto.’ Mae fy mhabell wedi ei dryllio, a'r rhaffau i gyd wedi eu torri. Mae fy mhlant wedi mynd, a fyddan nhw ddim yn dod yn ôl. Does neb ar ôl i godi'r babell eto, nac i hongian y llenni tu mewn iddi. Mae'r arweinwyr wedi bod mor ddwl! Dŷn nhw ddim wedi gofyn i'r ARGLWYDD am arweiniad. Maen nhw wedi methu'n llwyr, ac mae eu praidd nhw wedi eu gyrru ar chwâl. Gwrandwch! Mae'r si ar led! Mae'n dod! Sŵn twrw'r fyddin yn dod o gyfeiriad y gogledd. Mae'n dod i droi trefi Jwda yn rwbel, ac yn lle i siacaliaid fyw. ARGLWYDD, dw i'n gwybod na all pobl reoli eu bywydau. Dŷn nhw ddim yn gallu trefnu beth sy'n mynd i ddigwydd. Felly, ARGLWYDD, cywira ni, ond paid bod yn rhy galed. Paid gwylltio, neu bydd dim ohonon ni ar ôl. Tywallt dy lid ar y bobloedd sydd ddim yn dy nabod, a'r llwythau hynny sydd ddim yn dy addoli. Nhw ydy'r rhai sydd wedi llarpio pobl Jacob — wedi eu dinistrio nhw'n llwyr a gadael y wlad yn adfeilion.” Dyma neges arall roddodd yr ARGLWYDD i Jeremeia: “Atgoffa bobl Jwda a'r rhai sy'n byw yn Jerwsalem o amodau yr ymrwymiad wnes i gydag Israel. Dywed wrthyn nhw fod yr ARGLWYDD, Duw Israel, yn dweud: ‘Melltith ar bwy bynnag sy'n diystyru amodau'r ymrwymiad. Pan ddes i â'ch hynafiaid chi allan o'r Aifft, o'r ffwrnais haearn, dwedais wrthyn nhw, “Rhaid i chi wrando arna i a chadw'r amodau dw i'n eu gosod. Os gwnewch chi hynny, byddwch chi'n bobl i mi, a bydda i'n Dduw i chi.” Wedyn roeddwn i'n gallu rhoi beth wnes i addo iddyn nhw — tir ffrwythlon lle mae llaeth a mêl yn llifo. A dyna'r wlad ble dych chi'n byw heddiw.’” A dyma fi'n ateb, “Amen! Mae'n wir ARGLWYDD!” Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i: “Cyhoedda'r neges yma yn nhrefi Jwda ac ar strydoedd Jerwsalem: ‘Gwrandwch ar amodau yr ymrwymiad rhyngon ni, a'u cadw nhw. Roeddwn i wedi rhybuddio'ch hynafiaid chi pan ddes i â nhw allan o'r Aifft. A dw i wedi dal ati i wneud hynny hyd heddiw, i'ch cael chi i wrando arna i. Ond doedd neb am wneud beth roeddwn i'n ddweud na cymryd unrhyw sylw. Roedden nhw'n ystyfnig, ac yn dal ati i ddilyn y duedd ynddyn nhw i wneud drwg. Felly, dw i wedi eu cosbi nhw, yn union fel roedd amodau'r ymrwymiad yn dweud — am wrthod gwneud beth roeddwn i'n ddweud.’” A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i: “Mae pobl Jwda a'r rhai sy'n byw yn Jerwsalem wedi cynllwynio yn fy erbyn i. Maen nhw wedi mynd yn ôl a gwneud yr union bethau drwg roedd eu hynafiaid yn eu gwneud. Maen nhw wedi gwrthod gwrando arna i, ac wedi addoli duwiau eraill. Mae gwlad Israel a gwlad Jwda wedi torri amodau'r ymrwymiad wnes i gyda'i hynafiaid nhw. Felly, dyma dw i, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i ddod â dinistr arnyn nhw, a fyddan nhw ddim yn gallu dianc. A phan fyddan nhw'n gweiddi arna i am help, wna i ddim gwrando arnyn nhw. Wedyn bydd pobl trefi Jwda a phobl Jerwsalem yn gweiddi am help gan y duwiau maen nhw wedi bod yn llosgi arogldarth iddyn nhw. Ond fydd y duwiau hynny yn sicr ddim yn gallu eu hachub nhw o'u trafferthion! A hynny er bod gen ti, Jwda, gymaint o dduwiau ag sydd gen ti o drefi! Ac er bod gan bobl Jerwsalem gymaint o allorau ag sydd o strydoedd yn y ddinas, i losgi arogldarth i'r duw ffiaidd yna, Baal!’ “A ti Jeremeia, paid gweddïo dros y bobl yma. Paid galw arna i na gweddïo drostyn nhw. Paid pledio arna i i'w helpu nhw. Wna i ddim gwrando arnyn nhw pan fyddan nhw'n gweiddi am help o ganol eu trafferthion. Pa hawl sydd gan fy mhobl annwyl i ddod i'm teml ar ôl gwneud cymaint o bethau erchyll? Ydy aberthu cig anifeiliaid yn mynd i gael gwared â'r drygioni? Fyddwch chi'n gallu bod yn hapus wedyn? Roeddwn i, yr ARGLWYDD, wedi dy alw di yn goeden olewydd ddeiliog gyda ffrwyth hyfryd arni. Ond mae storm fawr ar y ffordd: dw i'n mynd i dy roi di ar dân, a byddi'n llosgi yn y fflamau gwyllt. Fydd dy ganghennau di yn dda i ddim wedyn. Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, wnaeth dy blannu di yn y wlad, wedi cyhoeddi fod dinistr yn dod arnat ti. Mae'n dod am fod gwledydd Israel a Jwda wedi gwneud drwg, a'm gwylltio i drwy losgi arogldarth i Baal.” Dangosodd yr ARGLWYDD — ron i'n gwybod wedyn; dangosodd beth roedden nhw'n bwriadu ei wneud. Ro'n i fel oen bach diniwed yn cael ei arwain i'r lladd-dy; ddim yn sylweddoli mai yn fy erbyn roedd eu cynllwyn, “Rhaid i ni ddinistrio'r goeden a'i ffrwyth! Gadewch i ni ei ladd, a'i dorri o dir y byw, a bydd pawb yn anghofio amdano.” “O ARGLWYDD holl-bwerus, rwyt ti'n barnu'n deg! Ti'n gweld beth mae pobl yn ei feddwl a'i fwriadu. Tala nôl iddyn nhw am beth maen nhw'n ei wneud. Dw i'n dy drystio di i ddelio gyda'r sefyllfa.” Felly, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am y dynion o Anathoth sydd eisiau fy lladd i. (Roedden nhw wedi dweud y bydden nhw'n fy lladd i os nad oeddwn i'n stopio proffwydo fel roedd yr ARGLWYDD yn dweud wrtho i). Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud amdanyn nhw: “Dw i'n mynd i'w cosbi nhw! Bydd eu bechgyn ifanc yn cael eu lladd yn y rhyfel, a bydd eu plant yn marw o newyn. Fydd yna neb ar ôl yn fyw! Mae'r amser iddyn nhw gael eu cosbi wedi dod.” ARGLWYDD, ti sydd bob amser yn iawn pan dw i'n cwyno am rywbeth. Ond mae'n rhaid i mi ofyn hyn — Pam mae pobl ddrwg yn llwyddo? Pam mae'r rhai sy'n twyllo yn cael bywyd mor hawdd? Ti'n eu plannu nhw fel coed, ac maen nhw'n bwrw gwreiddiau. Maen nhw'n tyfu ac yn dwyn ffrwyth. Maen nhw'n siarad amdanat ti trwy'r amser, ond dwyt ti ddim yn bwysig iddyn nhw go iawn. Ond rwyt ti'n fy nabod i, ARGLWYDD. Ti'n fy ngwylio, ac wedi profi fy agwedd i atat ti. Llusga'r bobl ddrwg yma i ffwrdd fel defaid i gael eu lladd; cadw nhw o'r neilltu ar gyfer diwrnod y lladdfa. Am faint mae'n rhaid i'r sychder aros, a glaswellt y caeau fod wedi gwywo? Mae'r anifeiliaid a'r adar wedi diflannu o'r tir am fod y bobl sy'n byw yma mor ddrwg, ac am eu bod nhw'n dweud, “Dydy Duw ddim yn gweld beth dŷn ni'n ei wneud.” “Os ydy rhedeg ras gyda dynion yn dy flino di, sut wyt ti'n mynd i fedru cystadlu gyda cheffylau? Os wyt ti'n baglu ar y tir agored, beth am yn y goedwig wyllt ar lan yr Iorddonen? Y gwir ydy, mae hyd yn oed dy berthnasau wedi dy fradychu di. Maen nhw hefyd yn gweiddi'n groch yn dy erbyn di. Felly paid â'i credu nhw, hyd yn oed os ydyn nhw'n dweud pethau caredig. Dw i wedi troi cefn ar fy nheml, a gwrthod y bobl ddewisais. Dw i'n mynd i roi'r bobl wnes i eu caru yn nwylo eu gelynion. Mae fy mhobl wedi troi arna i fel llew yn y goedwig. Maen nhw'n rhuo arna i, felly dw i yn eu herbyn nhw. Mae'r wlad fel ffau hienas ac adar rheibus yn hofran o'u cwmpas! Casglwch yr anifeiliaid gwylltion i gyd. Gadewch iddyn nhw ddod i ddinistrio. Mae arweinwyr y gwledydd yn dinistrio fy ngwinllan, a sathru'r tir ddewisais. Byddan nhw'n troi y wlad hyfryd yn anialwch diffaith. Byddan nhw'n ei dinistrio hi'n llwyr, nes bydd yn grastir gwag. Bydd y tir i gyd wedi ei ddinistrio, a does neb o gwbl yn malio. Bydd byddin ddinistriol yn dod dros fryniau'r anialwch. Nhw ydy'r cleddyf mae'r ARGLWYDD yn ei ddefnyddio i ddod â dinistr o un pen o'r wlad i'r llall. Fydd neb yn saff! Mae fy mhobl wedi hau gwenith, ond dim ond drain fyddan nhw'n ei gasglu! Maen nhw wedi gweithio'n galed i ddim byd. Bydd eu cnydau bach yn achos cywilydd, am fod yr ARGLWYDD wedi digio'n lân hefo nhw.” Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am y gwledydd drwg o'n cwmpas ni sy'n ymosod ar y tir roddodd e i'w bobl Israel: “Dw i'n mynd i symud pobl y gwledydd hynny o'u tir, a gollwng pobl Jwda yn rhydd o'u canol nhw. Ond ar ôl symud y bobl bydda i'n troi ac yn dangos trugaredd atyn nhw, a rhoi eu tir yn ôl iddyn nhw i gyd. Bydd pawb yn mynd adre i'w wlad ei hun. Ond bydd rhaid iddyn nhw ddysgu byw fel fy mhobl i. Ar un adeg roedden nhw'n dysgu fy mhobl i dyngu llw yn enw y duw Baal. Ond bryd hynny byddan nhw'n dweud ‘Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw,’ wrth dyngu llw, a byddan nhw hefyd yn cael eu hystyried yn bobl i mi. Os wnân nhw ddim gwrando, bydda i'n eu diwreiddio nhw ac yn eu dinistrio nhw'n llwyr,” meddai'r ARGLWYDD. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i: “Dos i brynu lliain isaf newydd, a'i wisgo am dy ganol. A paid â'i olchi.” Felly dyma fi'n prynu lliain isaf fel y dwedodd yr ARGLWYDD, a'i wisgo am fy nghanol. Wedyn dyma'r ARGLWYDD yn rhoi neges arall i mi, a dweud, “Cymer y lliain isaf brynaist ti, yr un rwyt ti'n ei wisgo, a dos at yr Afon Ewffrates. Cuddia fe yno mewn hollt yn y graig.” Felly dyma fi'n mynd ac yn ei guddio wrth yr Ewffrates fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud. Aeth amser maith heibio, a dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Dos at yr Afon Ewffrates i nôl y lliain ddywedais i wrthot ti am ei guddio yno.” Felly dyma fi'n mynd yno a palu am y lliain lle roeddwn i wedi ei guddio. Roedd wedi ei ddifetha, ac yn dda i ddim. A dyma fi'n cael neges arall gan yr ARGLWYDD yn dweud, “Dyna sut bydda i'n difetha balchder Jwda a Jerwsalem. Mae'r bobl ddrwg yma yn gwrthod gwrando arna i. Maen nhw'n ystyfnig ac yn mynnu gwneud beth maen nhw eisiau. Maen nhw'n addoli eilun-dduwiau paganaidd. Felly byddan nhw'n cael eu difetha fel y lliain yma, sy'n dda i ddim bellach. Yn union fel lliain isaf wedi ei rwymo'n dynn am ganol dyn, roeddwn i wedi rhwymo pobl Israel a Jwda amdana i,” meddai'r ARGLWYDD. “Roeddwn i eisiau iddyn nhw fod yn bobl sbesial i mi, yn fy anrhydeddu i, ac yn fy addoli i. Ond roedden nhw'n gwrthod gwrando.” “Felly dywed wrthyn nhw mai dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Mae pob jar gwin i gael ei lenwi â gwin!’ A byddan nhw'n ateb, ‘Wrth gwrs! Dŷn ni'n gwybod hynny'n iawn.’ Yna dywed di wrthyn nhw mai dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i lenwi pobl y wlad yma nes byddan nhw'n feddw gaib — y brenhinoedd sy'n ddisgynyddion i Dafydd, yr offeiriaid, y proffwydi, a phobl Jerwsalem i gyd. Bydda i'n eu malu nhw fel jariau yn erbyn ei gilydd, rhieni a'u plant. Fydda i'n dangos dim trueni na thosturi atyn nhw. Bydda i'n eu dinistrio nhw,’” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. Gwrandwch! Peidiwch bod yn falch! —mae'r ARGLWYDD wedi dweud. Rhowch i'r ARGLWYDD eich Duw y parch mae'n ei haeddu cyn iddo ddod â thywyllwch arnoch chi. Cyn i chi faglu a syrthio wrth iddi dywyllu ar y mynyddoedd. Cyn i'r golau dych chi'n chwilio amdano droi'n dristwch ac yn dywyllwch dudew. Os wnewch chi ddim gwrando, bydda i'n mynd o'r golwg i grïo am eich bod mor falch. Bydda i'n beichio crïo, a bydd y dagrau'n llifo, am fod praidd yr ARGLWYDD wedi ei gymryd yn gaeth. “Dywed wrth y brenin a'r fam frenhines: ‘Dewch i lawr o'ch gorseddau ac eistedd yn y llwch. Bydd eich coronau hardd yn cael eu cymryd oddi arnoch. Bydd giatiau trefi'r Negef wedi eu cau, a neb yn gallu eu hagor. Bydd pobl Jwda i gyd yn cael eu caethgludo!’” “Edrych, Jerwsalem. Mae'r gelyn yn dod o'r gogledd. Ble mae'r praidd gafodd ei rhoi yn dy ofal di? Ble mae'r ‛defaid‛ roeddet ti mor falch ohonyn nhw? Sut fyddi di'n teimlo pan fydd yr ARGLWYDD yn gosod y rhai wnest ti ffrindiau gyda nhw i dy reoli di? Byddi'n gwingo mewn poen fel gwraig ar fin cael babi. Byddi'n gofyn i ti dy hun, ‘Pam mae'r pethau yma wedi digwydd i mi? Pam mae fy nillad wedi eu rhwygo i ffwrdd? Pam dw i wedi fy nhreisio fel hyn?’ A'r ateb ydy, am dy fod ti wedi gwneud cymaint o ddrwg! Ydy dyn du yn gallu newid lliw ei groen? Ydy'r llewpard yn gallu cael gwared â'i smotiau? Na. A does dim gobaith i chi wneud da, am eich bod wedi hen arfer gwneud drwg!” “Dw i'n mynd i'ch gyrru chi ar chwâl, fel us yn cael ei chwythu i bobman gan wynt yr anialwch. Dyna beth sy'n dod i ti! Dyna wyt ti'n ei haeddu. Ti wedi fy anghofio i, a troi at dduwiau ffals yn fy lle. Bydda i'n dy gywilyddio di — yn codi dy sgert dros dy wyneb a bydd pawb yn gweld dy rannau preifat. Dw i wedi gweld y pethau ffiaidd ti'n eu gwneud: godinebu, a gweryru'n nwydus ar ôl duwiau eraill. Ti wedi puteinio gyda nhw ar ben y bryniau ac yn y caeau. Mae hi ar ben arnat ti, Jerwsalem! Fyddi di byth yn lân! Am faint mwy mae hyn i fynd ymlaen?” Y negeseuon roddodd yr ARGLWYDD i Jeremeia am y sychder: “Mae pobl Jwda yn galaru. Mae'r busnesau yn y trefi yn methu. Mae pobl yn gorwedd ar lawr mewn anobaith. Mae Jerwsalem yn gweiddi am help. Mae'r meistri yn anfon eu gweision i nôl dŵr; mae'r rheiny'n cyrraedd y pydewau a'u cael yn hollol sych. Maen nhw'n mynd yn ôl gyda llestri gwag, yn siomedig ac yn ddigalon. Maen nhw'n mynd yn ôl yn cuddio'u pennau mewn cywilydd. Mae'r tir wedi sychu a chracio am nad ydy hi wedi glawio. Mae'r gweision fferm yn ddigalon, ac yn cuddio'u pennau mewn cywilydd. Mae hyd yn oed yr ewig yn troi cefn ar y carw bach sydd newydd ei eni, am fod dim glaswellt ar ôl. Mae'r asynnod gwyllt ar y bryniau moel yn nadu fel siacaliaid. Mae eu llygaid yn pylu am fod dim porfa yn unman.” “O ARGLWYDD, er bod ein pechodau yn tystio yn ein herbyn, gwna rywbeth i'n helpu ni er mwyn dy enw da. Dŷn ni wedi troi cefn arnat ti lawer gwaith, ac wedi pechu yn dy erbyn di. Ti ydy unig obaith Israel — ein hachubwr pan oedden ni mewn trwbwl. Pam wyt ti fel estron yn y wlad? Pam wyt ti fel teithiwr sydd ond yn aros am noson? Pam ddylet ti ymddangos fel rhywun gwan, neu arwr sydd ddim yn gallu achub ddim mwy? Ond rwyt ti gyda ni, ARGLWYDD. Dŷn ni'n cael ein nabod fel dy bobl di. Paid troi dy gefn arnon ni!” Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am ei bobl: “Maen nhw wrth eu bodd yn mynd i grwydro. Maen nhw'n mynd ble bynnag maen nhw eisiau. Felly dw i ddim yn eu derbyn nhw fel fy mhobl ddim mwy. Bydda i'n cofio'r pethau drwg maen nhw wedi ei wneud ac yn eu cosbi nhw am eu pechodau.” A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i: “Paid gweddïo dros y bobl yma. Hyd yn oed os byddan nhw'n ymprydio, fydda i'n cymryd dim sylw. Ac os byddan nhw'n offrymu aberth llosg ac offrwm o rawn, fydda i ddim yn eu derbyn nhw. Bydda i'n eu dinistrio nhw â rhyfel, newyn a haint.” A dyma fi'n dweud, “Ond Meistr, ARGLWYDD, mae'r proffwydi yn dweud wrthyn nhw, ‘Bydd popeth yn iawn! Fydd dim rhyfel na newyn, dim ond heddwch a llwyddiant.’” A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i: “Mae'r proffwydi'n dweud celwydd. Maen nhw'n honni eu bod nhw'n siarad drosta i, ond wnes i ddim eu hanfon nhw. Wnes i ddim eu penodi nhw na rhoi neges iddyn nhw. Maen nhw'n proffwydo gweledigaethau ffals ac yn darogan pethau diwerth. Maen nhw'n twyllo eu hunain. “Felly dyma dw i, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud am y proffwydi sy'n hawlio eu bod nhw'n siarad drosta i ac yn dweud fod dim rhyfel na newyn yn mynd i fod: ‘Rhyfel a newyn fydd yn lladd y proffwydi hynny.’ A bydd y bobl maen nhw'n proffwydo iddyn nhw hefyd yn marw o ganlyniad i ryfel a newyn. Bydd eu cyrff yn cael eu taflu allan ar strydoedd Jerwsalem, a fydd neb yno i'w claddu nhw na'u gwragedd na'u plant. Bydda i'n tywallt arnyn nhw beth maen nhw'n ei haeddu am eu drygioni. Dywed fel hyn wrthyn nhw, Jeremeia: ‘Dw i'n colli dagrau nos a dydd; alla i ddim stopio crïo dros fy mhobl druan. Mae'r wyryf annwyl wedi cael ergyd farwol. Mae hi wedi cael ei hanafu'n ddifrifol. Pan dw i'n mynd allan i gefn gwlad, dw i'n gweld y rhai sydd wedi cael eu lladd gyda'r cleddyf. Pan dw i'n cerdded drwy'r ddinas, dw i'n gweld canlyniadau erchyll y newyn. Mae'r proffwydi a'r offeiriaid yn mynd ymlaen â'i busnes; dŷn nhw ddim yn deall beth sy'n digwydd.’” “ARGLWYDD, wyt ti wir wedi gwrthod Jwda? Wyt ti'n casáu Seion bellach? Pam wyt ti wedi'n taro ni mor galed nes bod dim gobaith i ni wella? Roedden ni'n gobeithio y byddai popeth yn iawn, ond i ddim pwrpas; roedden ni'n edrych am amser gwell, ond dim ond dychryn gawson ni. ARGLWYDD, dŷn ni'n cyfadde'n drygioni, a bod ein hynafiaid wedi gwneud drwg hefyd. Dŷn ni wedi pechu go iawn yn dy erbyn di. ARGLWYDD, er mwyn dy enw da, paid â'n gwrthod ni. Paid dirmygu'r lle ble mae dy orsedd wych di. Cofia'r ymrwymiad wnest ti hefo ni. Paid â'i dorri! Oes un o eilunod diwerth y cenhedloedd yn gallu anfon glaw? Neu ydy glaw yn dod o'r awyr ohono'i hun? Wrth gwrs ddim! Ti, ARGLWYDD Dduw, sy'n gwneud y cwbl, A dyna pam mai ti ydy'n gobaith ni.” Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud hyn wrtho i: “Hyd yn oed petai Moses a Samuel yn dod i bledio dros y bobl yma, fyddwn i ddim yn eu helpu nhw. Dos â nhw o ngolwg i! Anfon nhw i ffwrdd! Ac os byddan nhw'n gofyn, ‘Ble awn ni?’, dywed wrthyn nhw: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Bydd y rhai sydd i farw o haint yn marw o haint. Bydd y rhai sydd i farw yn y rhyfel yn marw yn y rhyfel. Bydd y rhai sydd i farw o newyn yn marw o newyn. Bydd y rhai sydd i gael eu cymryd yn gaethion yn cael eu cymryd yn gaethion.”’ Bydd pedwar peth ofnadwy yn digwydd iddyn nhw,” meddai'r ARGLWYDD: “Bydd y cleddyf yn eu lladd. Bydd cŵn yn llusgo'r cyrff i ffwrdd. Bydd adar yn eu bwyta a'r anifeiliaid gwylltion yn gorffen beth sydd ar ôl. Bydd beth fydd yn digwydd iddyn nhw yn dychryn pobl y gwledydd i gyd. Dyna'r gosb am beth wnaeth Manasse fab Heseceia, brenin Jwda, yn Jerwsalem.” “Pwy sy'n mynd i deimlo trueni drosot ti, Jerwsalem? Fydd unrhyw un yn cydymdeimlo hefo ti? Fydd unrhyw un yn stopio i holi sut wyt ti? Ti wedi troi cefn arna i”, meddai'r ARGLWYDD. “Rwyt ti wedi mynd o ddrwg i waeth! Felly dw i'n mynd i dy daro di a dy ddinistrio di. Dw i wedi blino rhoi cyfle arall i ti o hyd. Dw i'n mynd i wahanu'r us a'r grawn ym mhob un o drefi'r wlad. Dw i'n mynd i ddinistrio fy mhobl, a chymryd eu plant i ffwrdd, am eu bod nhw wedi gwrthod newid eu ffyrdd. Bydd mwy o weddwon nag o dywod ar lan y môr. Bydda i'n lladd dy filwyr ifanc ganol dydd, a chwalu bywydau eu mamau. Bydd dioddef a dychryn yn dod drostyn nhw'n sydyn. Bydd y fam oedd â saith o feibion yn anadlu'n drwm mewn panig, ac yn llewygu. Mae'r haul oedd yn disgleirio yn ei bywyd wedi machlud ganol dydd. Mae hi'n eistedd mewn cywilydd a gwarth. A bydd y rhai sydd ar ôl yn cael eu lladd gan gleddyf y gelyn,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “O, mam! Dw i'n sori fy mod i wedi cael fy ngeni! Ble bynnag dw i'n mynd dw i'n dadlau a tynnu'n groes i bobl! Dw i ddim wedi benthyg arian i neb na benthyg arian gan neb. Ond mae pawb yn fy rhegi i!” A dyma'r ARGLWYDD yn ateb: “Onid ydw i wedi dy wneud di'n gryf am reswm da? Bydda i'n gwneud i dy elynion bledio am dy help di pan fyddan nhw mewn trafferthion. “Oes rhywun yn gallu torri haearn, haearn o'r gogledd gyda phres ynddo?” “Am eich bod wedi pechu drwy'r wlad, bydda i'n rhoi eich cyfoeth a'ch trysorau yn ysbail i'ch gelynion. Byddwch yn gwasanaethu eich gelynion mewn gwlad ddieithr. Mae fy llid yn llosgi fel tân fydd ddim yn diffodd.” “ARGLWYDD, ti'n gwybod beth sy'n digwydd. Cofia amdana i, a tyrd i'm helpu i. Tyrd i dalu'n ôl i'r bobl hynny sy'n fy erlid i. Paid bod mor amyneddgar nes gadael iddyn nhw fy lladd i. Dw i'n diodde'r gwawdio er dy fwyn di. Wrth i ti siarad ron i'n llyncu pob gair; roedd dy eiriau yn fy ngwneud i mor hapus — ron i wrth fy modd! I ti dw i'n perthyn O ARGLWYDD, y Duw holl-bwerus. Wnes i ddim ymuno hefo pawb arall yn chwerthin a joio. Na, roeddwn i'n cadw ar wahân am fod dy law di arna i. Roeddwn i wedi gwylltio hefo nhw. Felly pam dw i'n dal i ddioddef? Pam dw i'n gorfod goddef hyn i gyd — fel petawn i wedi fy anafu, a'r briw yn gwrthod gwella? Wyt ti'n mynd i'm siomi fel nant sydd wedi sychu? — wadi sydd a'i dŵr wedi diflannu.” A dyma ateb yr ARGLWYDD: “Rhaid i ti stopio siarad fel yna! Gwna i dy gymryd di'n ôl wedyn, a cei ddal ati i'm gwasanaethu i. Dywed bethau gwerth eu dweud yn lle siarad rwtsh, wedyn cei ddal ati i siarad ar fy rhan i. Ti sydd i ddylanwadu arnyn nhw, nid nhw yn dylanwadu arnat ti! Dw i'n mynd i dy wneud di yn gryf fel wal bres. Byddan nhw'n ymosod arnat ti ond yn methu dy drechu di. Bydda i'n edrych ar dy ôl di ac yn dy achub di.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Bydda i'n dy achub di o afael y bobl ddrwg yma, ac yn dy ryddhau o grafangau pobl greulon,” Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi: “Paid priodi na chael plant yn y wlad yma. Achos dyma sy'n mynd i ddigwydd i'r plant fydd yn cael eu geni yma, ac i'w mamau a'u tadau nhw: Byddan nhw'n marw o afiechydon erchyll. Fydd neb yn galaru ar eu hôl nhw, a neb yn eu claddu nhw. Byddan nhw'n gorwedd fel tail ar wyneb y tir, wedi eu lladd yn y rhyfel neu wedi marw o newyn, a bydd yr adar a'r anifeiliaid gwylltion yn bwyta eu cyrff.” Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Paid mynd i dŷ ble mae rhywun wedi marw. Paid mynd i alaru nac i gydymdeimlo. Dw i ddim am roi llwyddiant na heddwch i'r bobl yma eto. Dw i ddim am ddangos caredigrwydd na thrugaredd atyn nhw. Bydd yr arweinwyr a'r bobl gyffredin yn marw yn y wlad yma. Fyddan nhw ddim yn cael eu claddu, a fydd neb yn galaru ar eu hôl nhw. Fydd pobl ddim yn torri eu hunain a chyllyll a siafio eu pennau i ddangos mor drist ydyn nhw. Fydd neb yn mynd â bwyd i'r rhai sy'n galaru, i godi eu calonnau nhw, na rhoi gwin iddyn nhw chwaith, i'w cysuro ar ôl iddyn nhw golli mam neu dad. “Paid mynd i rywle ble mae pobl yn gwledda a partïo chwaith. Dw i, yr ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn dweud fy mod i'n mynd i roi taw ar sŵn pobl yn chwerthin a joio yn y wlad yma — sŵn pobl yn mwynhau eu hunain mewn parti priodas. Cewch fyw i weld y peth yn digwydd! “Pan fyddi di'n dweud hyn i gyd wrth y bobl, byddan nhw'n siŵr o ofyn i ti, ‘Pam mae'r ARGLWYDD yn bygwth gwneud y pethau ofnadwy yma i ni? Beth ydyn ni wedi ei wneud o'i le? Sut ydyn ni wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD ein Duw?’ Dywed di wrthyn nhw mai dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Am bod eich hynafiaid chi wedi troi cefn arna i. Aethon nhw i addoli a gwasanaethu duwiau eraill; troi cefn arna i, a gwrthod beth ddysgais i iddyn nhw. Ond dych chi'n waeth na'ch hynafiaid! Dych chi'n ystyfnig, yn dilyn y duedd ynoch chi i wneud drwg, ac wedi gwrthod gwrando arna i. Felly dw i'n mynd i'ch taflu chi allan o'r wlad yma, a'ch gyrru chi i wlad dych chi a'ch hynafiaid yn gwybod dim amdani. Byddwch chi'n addoli duwiau eraill yno, nos a dydd. Fydda i ddim yn teimlo'n sori drosoch chi!’” “Ac eto, mae amser gwell i ddod,” meddai'r ARGLWYDD. “Yn lle dweud, ‘Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, yr un achubodd bobl Israel o'r Aifft …’ bydd pobl yn dweud, ‘Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, yr un achubodd bobl Israel o dir y gogledd ac o'r gwledydd lle roedd wedi eu gyrru nhw.’ Achos bryd hynny dw i'n mynd i ddod â nhw yn ôl i'r wlad rois i i'w hynafiaid nhw.” Ond ar hyn o bryd, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Dw i'n anfon am y gelynion, fydd yn dod i ddal y bobl yma fel pysgotwyr. Wedyn bydda i'n anfon am eraill i ddod fel helwyr. Byddan nhw'n eu hela nhw o'r mynyddoedd a'r bryniau lle maen nhw'n cuddio yn y creigiau. Achos dw i'n gweld popeth maen nhw'n ei wneud — y cwbl! Allan nhw ddim cuddio'u pechodau oddi wrtho i. Rhaid iddyn nhw'n gyntaf ddiodde'r gosb lawn maen nhw'n ei haeddu am eu drygioni a'u pechod. Maen nhw wedi llygru fy nhir i gyda delwau marw o'u heilun-dduwiau ffiaidd, a llenwi fy etifeddiaeth â'u defodau afiach.” “O ARGLWYDD, ti sy'n rhoi nerth i mi, ac yn fy amddiffyn; ti ydy'r lle saff i mi ddianc iddo pan dw i mewn trafferthion. Bydd cenhedloedd o bob rhan o'r byd yn dod atat ti ac yn dweud: ‘Roedd ein hynafiaid wedi eu magu i addoli delwau diwerth, pethau da i ddim oedd yn gallu helpu neb. Ydy pobl yn gallu gwneud eu duwiau eu hunain? Na! dydy pethau felly ddim yn dduwiau go iawn.’” “Felly, dw i'n mynd i'w dysgu nhw,” meddai'r ARGLWYDD. “Dw i'n mynd i ddangos iddyn nhw unwaith ac am byth mor gryf ydw i, a byddan nhw'n gwybod mai'r ARGLWYDD ydy fy enw i.” “Mae pechod pobl Jwda wedi ei gerfio gyda chun haearn ar lech eu calonnau. Mae fel arysgrif wedi ei grafu gyda diemwnt ar y cyrn ar gorneli'r allorau. Dydy'r plant yn gwybod am ddim byd ond am allorau paganaidd a pholion y dduwies Ashera! Maen nhw wedi eu gosod wrth ymyl pob coeden ddeiliog ar ben bob bryn, ar y mynyddoedd ac yn y caeau. Bydda i'n rhoi eich cyfoeth a'ch trysorau yn ysbail i'ch gelynion. Dyma'r pris fyddwch chi'n ei dalu am yr holl bechu drwy'r wlad. Byddwch chi'n colli gafael yn y wlad rois i'n etifeddiaeth i chi. Byddwch yn gwasanaethu eich gelynion mewn gwlad ddieithr. Mae fy llid yn llosgi fel tân fydd ddim yn diffodd.” Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Melltith ar y rhai sy'n trystio pobl feidrol a chryfder dynol, a'r galon wedi troi cefn arna i. Byddan nhw'n sych fel prysglwyn ar dir anial, heb ddim gobaith i'r dyfodol. Byddan nhw'n aros yn yr anialwch poeth, mewn tir diffaith lle does neb yn gallu byw. Ond mae yna fendith fawr i'r rhai sy'n fy nhrystio i ac yn rhoi eu hyder ynof fi. Byddan nhw'n gryf fel coeden wedi ei phlannu ar lan afon, a'i gwreiddiau'n ymwthio i'r dŵr. Dydy'r gwres crasboeth yn poeni dim arni hi; mae ei dail yn aros yn wyrdd. A does dim lle i boeni pan ddaw blwyddyn o sychder; bydd ei ffrwyth yn dal i dyfu arni. Oes rhywun yn deall y galon ddynol? Mae'n fwy twyllodrus na dim, a does dim gwella arni. Dw i, yr ARGLWYDD, yn chwilio'r galon ac yn gwybod beth sydd ar feddyliau pobl. Dw i'n rhoi i bawb beth mae'n nhw'n ei haeddu am y ffordd maen nhw wedi ymddwyn. Mae pobl sy'n gwneud arian drwy dwyll fel petrisen yn eistedd ar wyau wnaeth hi mo'i dodwy. Byddan nhw'n colli'r cwbl yn annisgwyl, ac yn dangos yn y diwedd mai ffyliaid oedden nhw.” “ARGLWYDD, ti sydd ar dy orsedd wych sy'n uchel o'r dechrau cyntaf: ti ydy'r lle saff i ni droi! ARGLWYDD, ti ydy gobaith Israel, a bydd pawb sy'n troi cefn arnat ti yn cael eu cywilyddio. Byddan nhw'n cael eu cofrestru ym myd y meirw am iddyn nhw droi cefn arna i, yr ARGLWYDD, y ffynnon o ddŵr glân croyw.” “ARGLWYDD, dim ond ti sy'n gallu fy iacháu; dim ond ti sy'n gallu fy achub. Ti ydy'r un dw i'n ei foli! Gwrando beth maen nhw'n ddweud wrtho i! ‘Beth am y neges yma gest ti gan yr ARGLWYDD? Tyrd! Gad i ni ei weld yn digwydd!’ Gwnes i dy annog i atal y dinistr. Doedd gen i ddim eisiau gweld y diwrnod o drwbwl di-droi-nôl yn cyrraedd. Ti'n gwybod yn iawn beth ddywedais i. Roedd y cwbl yn agored o dy flaen di. Paid dychryn fi; ti ydy'r lle saff i mi guddio pan mae pethau'n ddrwg arna i. Gwna i'r rhai sy'n fy erlid i gywilyddio; paid codi cywilydd arna i. Gad iddyn nhw gael eu siomi; paid siomi fi. Tyrd â'r dyddiau drwg arnyn nhw, a dinistria nhw'n llwyr!” Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i: “Dos i sefyll wrth Giât y Bobl ble mae brenhinoedd Jwda yn mynd i mewn ac allan o'r ddinas. Yna dos at giatiau eraill y ddinas. Dywed wrth y bobl yno: ‘Frenhinoedd Jwda, pobl Jwda, a phawb sy'n byw yn Jerwsalem; pawb sy'n dod trwy'r giatiau yma, gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD. Gwyliwch am eich bywydau eich bod chi ddim yn cario pethau i'w gwerthu drwy giatiau Jerwsalem ar y Saboth. Peidiwch cario dim allan o'ch tai chwaith, a mynd i weithio ar y Saboth. Dw i eisiau i'r Saboth fod yn ddiwrnod sbesial, fel y dwedais i wrth eich hynafiaid. Ond wnaethon nhw ddim gwrando na chymryd unrhyw sylw. Roedden nhw'n hollol benstiff, ac yn gwrthod dysgu gwers.’ “‘Ond os gwnewch chi wrando arna i,’ meddai'r ARGLWYDD, ‘(peidio cario pethau i'w gwerthu drwy giatiau Jerwsalem ar Saboth, cadw'r Saboth yn ddiwrnod sbesial, a pheidio gweithio ar y diwrnod hwnnw), bydd brenhinoedd, disgynyddion Dafydd, yn dal i ddod drwy'r giatiau yma yn eu cerbydau ac ar geffylau. Bydd eu swyddogion yn dod gyda nhw, a phobl Jwda a Jerwsalem hefyd. Bydd pobl yn byw yn y ddinas yma am byth. Bydd pobl yn dod yma o drefi Jwda a'r ardal o gwmpas Jerwsalem, o dir llwyth Benjamin, o'r iseldir yn y gorllewin, o'r bryniau ac o'r Negef yn y de. Byddan nhw'n dod i deml yr ARGLWYDD gydag offrymau i'w llosgi ac aberthau, offrymau o rawn ac arogldarth, ac offrymau diolch. Ond rhaid i chi wrando arna i, a chadw'r Saboth yn ddiwrnod sbesial, a pheidio cario pethau i'w gwerthu drwy giatiau Jerwsalem ar y Saboth. Os wnewch chi ddim gwrando bydda i'n rhoi giatiau Jerwsalem ar dân. Fydd y tân ddim yn diffodd, a bydd plastai Jerwsalem i gyd yn cael eu llosgi'n ulw.’” Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi neges arall i Jeremeia: “Dos i lawr i weithdy'r crochenydd, a bydda i'n siarad gyda ti yno.” Felly dyma fi'n mynd i lawr i'r crochendy, a dyna ble roedd y crochenydd yn gweithio ar y droell. Pan oedd rhywbeth o'i le ar y potyn roedd yn ei wneud o'r clai, byddai'n dechrau eto, ac yn gwneud rhywbeth oedd yn edrych yn iawn. A dyma'r ARGLWYDD yn rhoi neges i mi: “Ydw i ddim yn gallu gwneud yr un peth i ti, wlad Israel? Rwyt ti yn fy nwylo i fel mae'r clai yn nwylo'r crochenydd. Galla i ddweud un funud fy mod i'n mynd i chwynnu a chwalu a dinistrio gwlad arbennig. Ond os ydy pobl y wlad dw i'n ei bygwth yn stopio gwneud drwg, fydda i ddim yn ei dinistrio hi fel roeddwn i wedi dweud. Dro arall bydda i'n addo adeiladu gwlad neu deyrnas arbennig a'i gwneud hi'n sefydlog. Ond os ydy pobl y wlad honno'n gwneud drwg ac yn gwrthod gwrando arna i, fydda i ddim yn gwneud y pethau da wnes i addo iddi. “Felly dywed wrth bobl Jwda a'r rhai sy'n byw yn Jerwsalem fod yr ARGLWYDD yn dweud: ‘Dw i'n paratoi i wneud drwg i chi, ac yn bwriadu eich cosbi chi. Felly rhaid i bob un ohonoch newid eich ffyrdd a stopio gwneud y pethau drwg dych chi'n eu gwneud.’ “Ond byddan nhw'n dweud, ‘Does dim pwynt. Dŷn ni'n mynd i ddal ati i wneud beth dŷn ni eisiau.’” Felly dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Gofyn i bobl y gwledydd eraill os ydyn nhw wedi clywed am y fath beth! Mae Jerwsalem, dinas lân Israel, wedi gwneud peth cwbl ffiaidd! Ydy'r eira'n diflannu oddi ar lethrau creigiog Libanus? Ydy nentydd oer y mynyddoedd pell yn stopio llifo? Nac ydyn. Ond mae fy mhobl wedi fy anghofio i. Maen nhw'n llosgi arogldarth i eilun-dduwiau diwerth! Gwnaeth hynny iddyn nhw faglu a gadael yr hen ffyrdd a mynd ar goll ar lwybrau diarffordd. O ganlyniad, bydd pethau ofnadwy yn digwydd i'r wlad. Fydd pobl ddim yn stopio chwibanu mewn rhyfeddod. Bydd pawb sy'n pasio heibio yn dychryn ac yn ysgwyd eu pennau'n syn. Dw i'n mynd i wneud i'w gelynion eu gyrru nhw ar chwâl, fel tywod yn cael ei yrru gan wynt y dwyrain. Bydda i'n troi cefn arnyn nhw yn lle troi i'w helpu nhw pan ddaw'r drychineb.” A dyma'r bobl yn dweud, “Dewch, gadewch i ni ddelio hefo Jeremeia. Bydd yn dal gynnon ni offeiriaid i roi arweiniad i ni, dynion doeth i roi cyngor i ni, a phroffwydi i roi neges Duw i ni. Dewch, gadewch i ni ddod â cyhuddiadau yn ei erbyn. Fydd dim rhaid i ni wrando arno fe o gwbl wedyn.” “ARGLWYDD, wnei di ymateb plîs? Gwranda beth mae fy ngelynion yn ei ddweud. Ydy'n iawn i dalu drwg am dda? Maen nhw wedi cloddio twll i mi. Wyt ti ddim yn cofio fel roeddwn i'n pledio ar eu rhan nhw o dy flaen di? Roeddwn i'n ceisio dy stopio di rhag bod yn ddig hefo nhw. Felly gad i'w plant nhw lwgu! Gad iddyn nhw farw yn y rhyfel! Gwna eu gwragedd yn weddwon heb blant. Gad i'r dynion hŷn gael eu lladd gan heintiau, a'r bechgyn ifanc wrth ymladd yn y rhyfel. Gad i sŵn sgrechian gael ei glywed yn y tai wrth i gangiau o filwyr ymosod arnyn nhw'n ddirybudd. Maen nhw wedi cloddio twll i mi a gosod trapiau i geisio fy nal. ARGLWYDD, rwyt ti'n gwybod eu bod nhw'n bwriadu fy lladd i. Paid maddau iddyn nhw eto. Paid cuddio eu pechodau nhw o dy olwg. Gad iddyn nhw faglu o dy flaen. Delia gyda nhw yn dy ddig.” Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i: “Dos i brynu jwg gan y crochenydd. Wedyn dos ag arweinwyr y bobl a'r offeiriaid hynaf gyda ti i ddyffryn Ben-hinnom sydd tu allan i Giât y Sbwriel. Yno, dywed wrthyn nhw beth dw i'n ddweud wrthot ti. Dywed, ‘Gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD, frenhinoedd Jwda a phobl Jerwsalem. Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: “Dw i'n mynd i ddod â dinistr ofnadwy i'r lle yma. Bydd pawb fydd yn clywed am y peth yn geg agored. Mae'r bobl yma wedi troi cefn arna i, a gwneud y lle yma fel lle estron. Maen nhw wedi llosgi arogldarth i dduwiau eraill — duwiau nad oedden nhw na'u hynafiaid na brenhinoedd Jwda yn gwybod dim amdanyn nhw! Ac maen nhw wedi tywallt gwaed plant diniwed yma! Maen nhw wedi adeiladu allorau paganaidd, ac wedi llosgi eu plant yn aberth i Baal. Wnes i erioed ddweud wrthyn nhw am wneud hynny. Fyddai'r fath beth byth yn croesi fy meddwl i! “‘“Felly mae'r amser yn dod,” meddai'r ARGLWYDD, “pan fydd neb yn galw'r lle yn Toffet neu ddyffryn Ben-hinnom. Dyffryn y Lladdfa fydd enw'r lle. Bydda i'n drysu cynlluniau pobl Jwda a Jerwsalem. Byddan nhw'n cael eu lladd gan eu gelynion yn y rhyfel. Bydd adar ac anifeiliaid gwylltion yn bwyta eu cyrff nhw. Bydd y ddinas yma'n cael ei dinistrio'n llwyr. Bydd pawb sy'n pasio heibio wedi dychryn am eu bywydau, ac yn chwibanu mewn rhyfeddod wrth weld y dinistr. Bydda i'n gwneud iddyn nhw fwyta eu meibion a'u merched. Byddan nhw'n bwyta cyrff pobl am fod y sefyllfa wedi mynd mor ddrwg, a'r gelynion yn gwarchae arnyn nhw ac yn rhoi'r fath bwysau arnyn nhw.”’ “Wedyn dw i eisiau i ti falu'r jwg yn deilchion o flaen y dynion fydd wedi mynd hefo ti, yna dweud wrthyn nhw fod yr ARGLWYDD holl-bwerus yn dweud: ‘Dw i'n mynd i ddryllio'r wlad yma a'r ddinas, yn union fel cafodd y jwg yma ei dorri'n deilchion. Does dim gobaith ei drwsio! Bydd cyrff yn cael eu claddu yma yn Toffet nes bydd dim lle ar ôl! A bydd hi'r un fath ar y ddinas yma a'i phobl,’ meddai'r ARGLWYDD. ‘Bydd hi fel Toffet yma! Am fod pobl wedi aberthu i'r sêr, a thywallt offrwm o ddiod i dduwiau eraill ar doeau'r tai a thoeau palasau brenhinoedd Jwda, bydd Jerwsalem hefyd wedi ei llygru gan gyrff yr un fath â Toffet.’” Ar ôl dod yn ôl o Toffet, ble roedd yr ARGLWYDD wedi ei anfon i broffwydo, dyma Jeremeia'n mynd i deml yr ARGLWYDD a sefyll yn yr iard ac annerch y bobl yno. “Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Yn fuan iawn dw i'n mynd i ddod â dinistr ar y ddinas yma a'r pentrefi sydd o'i chwmpas, yn union fel y dwedais i. Mae'r bobl wedi bod mor benstiff, a gwrthod gwrando arna i.’” Clywodd Pashchwr fab Immer beth ddwedodd Jeremeia. (Pashchwr oedd yr offeiriad oedd yn gyfrifol am gadw trefn yn y deml.) A dyma fe'n gorchymyn arestio Jeremeia, ei guro a'i rwymo mewn cyffion wrth Giât Uchaf Benjamin yn y deml. Y bore wedyn dyma Pashchwr yn gollwng Jeremeia'n rhydd. A dyma Jeremeia'n dweud wrtho, “Nid Pashchwr mae'r ARGLWYDD yn dy alw di ond ‘Dychryn ym mhobman.’ Achos dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Byddi di a dy ffrindiau wedi dychryn am eich bywydau. Byddi'n edrych arnyn nhw'n cael eu lladd gan eu gelynion. Dw i'n mynd i roi pobl Jwda yn nwylo brenin Babilon. Bydd e'n cymryd rhai yn gaeth i Babilon, a bydd rhai yn cael eu lladd. Bydd cyfoeth y ddinas yma i gyd yn cael ei gario i ffwrdd i Babilon. Bydd y gelynion yn cymryd holl eiddo'r bobl, popeth gwerthfawr sydd ganddyn nhw, a thrysorau brenhinol Jwda. Byddi di a dy deulu, dy weision a dy forynion i gyd, yn cael eich cymryd yn gaethion i Babilon. Dyna ble byddi di a dy ffrindiau'n marw ac yn cael eich claddu, sef pawb y buost ti'n pregethu celwydd iddyn nhw ac yn dweud y byddai popeth yn iawn.’” ARGLWYDD, ti wedi fy nhwyllo i, a dw innau wedi gadael i ti wneud hynny. Ti gafodd y llaw uchaf am dy fod ti'n gryfach na fi. A dyma fi bellach yn ddim byd ond testun sbort i bobl. Mae pawb yn chwerthin ar fy mhen i! Bob tro dw i'n agor fy ngheg rhaid i mi weiddi, “Mae trais a dinistr yn dod!” Mae neges yr ARGLWYDD yn fy ngwneud yn ddim byd ond jôc a thestun sbort i bobl drwy'r amser. Dw i'n meddwl weithiau, “Wna i ddim sôn amdano eto. Dw i'n mynd i wrthod siarad ar ei ran!” Ond wedyn mae ei neges fel tân y tu mewn i mi. Mae fel fflam yn llosgi yn fy esgyrn. Dw i'n trïo fy ngorau i'w ddal yn ôl, ond alla i ddim! Dw i wedi clywed lot fawr o bobl yn hel straeon amdana i. “‛Dychryn ym mhobman‛ wir! Gadewch i ni ddweud wrth yr awdurdodau amdano!” Mae hyd yn oed y rhai oedd yn ffrindiau i mi yn disgwyl i'm gweld i yn baglu. “Falle y gallwn ei ddenu i wneud rhywbeth gwirion, wedyn byddwn ni'n gallu dial arno!” Ond mae'r ARGLWYDD hefo fi fel rhyfelwr ffyrnig. Felly, y rhai sy'n fy erlid i fydd yn baglu. Fyddan nhw ddim yn ennill! Byddan nhw'n teimlo cywilydd mawr am eu methiant. Fydd y gwarth byth yn cael ei anghofio! O ARGLWYDD holl-bwerus, sy'n profi'r rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn. Ti'n gwybod beth mae pobl yn ei feddwl a'i fwriadu. Tala nôl iddyn nhw am beth maen nhw'n ei wneud. Dw i'n dy drystio di i ddelio gyda'r sefyllfa. Canwch i'r ARGLWYDD! Molwch yr ARGLWYDD! Mae e'n achub y tlawd o afael pobl ddrwg. Melltith ar y diwrnod ces i fy ngeni! Does dim byd da am y diwrnod y cafodd mam fi. Melltith ar y person roddodd y newyddion i dad a'i wneud mor hapus wrth ddweud, “Mae gen ti fab!” Boed i'r person hwnnw fod fel y trefi hynny gafodd eu dinistrio'n ddidrugaredd gan yr ARGLWYDD; yn clywed sŵn sgrechian yn y bore, a sŵn gweiddi yn y rhyfel ganol dydd! Pam wnaeth e ddim fy lladd i cyn i mi ddod allan o'r groth? Byddai croth fy mam yn fedd i mi, a hithau'n feichiog am byth. Pam oedd rhaid i mi gael fy ngeni o gwbl? Dw i wedi gweld dim byd ond trafferthion a thristwch, ac wedi profi dim byd ond cywilydd ar hyd fy mywyd! Dyma neges arall roddodd yr ARGLWYDD i Jeremeia, pan gafodd Pashchwr fab Malcîa, a'r offeiriad Seffaneia fab Maaseia eu danfon ato gan y Brenin Sedeceia. “Wnei di ofyn i'r ARGLWYDD ein helpu ni?” medden nhw. “Mae Nebwchadnesar, brenin Babilon, ar fin ymosod arnon ni. Falle y bydd yr ARGLWYDD yn gwneud gwyrth fel yn y gorffennol, ac yn ei anfon i ffwrdd oddi wrthon ni.” A dyma oedd ateb Jeremeia: “Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Mae dy fyddin wedi mynd allan i ymladd yn erbyn byddin brenin Babilon, ond dw i'n mynd i wneud iddyn nhw droi yn ôl. Bydda i'n dod â nhw yn ôl i'r ddinas yma. Dw i'n wyllt, ac wedi digio'n fawr hefo chi, a dw i fy hun yn mynd i ymladd yn eich erbyn chi gyda'm holl nerth a'm grym. Dw i'n mynd i daro popeth byw yn y ddinas yma — yn bobl ac anifeiliaid. Byddan nhw'n marw o haint erchyll. Wedyn,’ meddai'r ARGLWYDD, ‘bydda i'n rhoi Sedeceia, brenin Jwda (a'i swyddogion a phawb arall fydd yn dal yn fyw, ar ôl yr haint y rhyfel a'r newyn) yn nwylo Nebwchadnesar, brenin Babilon. Bydd eu gelynion yn eu dal nhw, ac yn eu lladd â'r cleddyf. Fyddan nhw'n dangos dim piti. Fydd neb yn cael eu harbed. Fydd dim trugaredd o gwbl!’ “Yna dywed wrth bobl Jerwsalem mai dyma dw i, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud wrthyn nhw: ‘Dw i'n rhoi dewis i chi — ffordd bywyd neu ffordd marwolaeth. Bydd y rhai sy'n aros yn y ddinas yma yn cael eu lladd yn y rhyfel, neu'n marw o newyn neu haint. Ond bydd pawb sy'n mynd allan ac yn ildio i'r Babiloniaid sy'n gwarchae ar y ddinas yma, yn cael byw. Dw i wedi penderfynu gwneud drwg i'r ddinas yma yn lle gwneud da. Dw i'n mynd i adael i frenin Babilon ei choncro hi, a bydd yn ei llosgi'n ulw.’” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. [11-12] Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud wrth deulu brenhinol Jwda, sy'n perthyn i linach Dafydd: “Gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD — ‘Gwnewch yn siŵr fod pobl yn cael tegwch yn y llysoedd. Achubwch bobl sy'n dioddef o grafangau'r rhai sy'n eu gormesu nhw. Os na wnewch chi, bydda i'n ddig. Bydda i fel tân yn llosgi a neb yn gallu ei ddiffodd, o achos yr holl ddrwg dych chi wedi ei wneud. *** Hei, ti sydd wedi dy orseddu uwchben y dyffryn ar y byrdd-dir creigiog — dw i yn dy erbyn di!’ —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. ‘Dych chi'n dweud, “Fydd neb yn gallu ymosod arnon ni yma. Does gan neb obaith dod i mewn aton ni!” Ond dw i'n mynd i roi'r gosb dych chi'n ei haeddu i chi,’ —meddai'r ARGLWYDD. ‘Bydda i'n rhoi dy balas ar dân, a bydd popeth o dy gwmpas yn cael ei losgi.’” Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Dos i lawr i balas brenin Jwda, a rho'r neges yma iddo: ‘Frenin Jwda, gwrando ar neges yr ARGLWYDD — ti sy'n perthyn i deulu brenhinol Dafydd, dy swyddogion a phawb arall sy'n mynd drwy'r giatiau yma. Mae'r ARGLWYDD yn dweud: “Gwnewch beth sy'n gyfiawn ac yn deg, ac achubwch bobl sy'n dioddef o grafangau'r rhai sy'n eu gormesu nhw. Peidiwch cam-drin a chymryd mantais o fewnfudwyr, plant amddifad a gweddwon. A peidiwch lladd pobl ddiniwed. Os ewch chi ati i wneud beth dw i'n ddweud bydd disgynyddion Dafydd yn dal i deyrnasu. Byddan nhw'n dod drwy'r giatiau yma mewn cerbydau ac ar gefn ceffylau, gyda'i swyddogion a'u pobl. Ond os byddwch chi'n gwrthod gwrando, dw i'n addo ar fy llw y bydd y palas yma yn rwbel.”’” Yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am balas brenin Jwda: “Ti fel tir ffrwythlon Gilead i mi, neu fel y coed ar fynyddoedd Libanus. Ond bydda i'n dy wneud di'n anialwch, a fydd neb yn byw yn dy drefi di. Mae gen i rai sy'n barod i dy ddinistrio di, pob un yn cario ei arfau. Byddan nhw'n torri'r coed cedrwydd gorau, ac yn taflu'r cwbl i'r tân. “Bydd pobl o wledydd eraill yn pasio heibio'r ddinas yma, ac yn gofyn, ‘Pam mae'r ARGLWYDD wedi gwneud y fath beth i'r ddinas wych yma?’ A bydd yr ateb yn cael ei roi. ‘Am fod y bobl wedi troi cefn ar yr ymrwymiad i'r ARGLWYDD eu Duw, ac wedi addoli a gwasanaethu duwiau eraill.’” “Paid crïo am fod y brenin wedi marw. Paid galaru ar ei ôl. Crïa am y brenin sy'n cael ei gymryd i ffwrdd. Fydd e ddim yn dod yn ôl adre, Gaiff e byth weld ei wlad eto. Achos dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am Shalwm fab Joseia brenin Jwda, ddaeth i deyrnasu ar ôl ei dad Joseia: ‘Mae e wedi ei gymryd i ffwrdd, a fydd e byth yn dod yn ôl. Bydd e'n marw yn y wlad lle cafodd ei gymryd yn gaeth. Fydd e byth yn gweld y wlad yma eto.’” “Gwae yr un anghyfiawn sy'n adeiladu ei balas; yr un sy'n trin pobl yn annheg wrth godi'r lloriau uchaf. Mae'n gwneud i'w bobl weithio am ddim; dydy e ddim yn talu cyflog iddyn nhw. Mae'n dweud wrtho'i hun, ‘Dw i'n mynd i adeiladu palas gwych, gyda llofftydd mawr, a digon o ffenestri. Dw i'n mynd i osod paneli o goed cedrwydd drwyddo, a'i beintio yn goch llachar.’ Ydy bod â mwy o baneli cedrwydd yn dy wneud di'n well brenin? Meddylia am dy dad. Roedd e'n hapus os oedd ganddo fwyd a diod. Roedd yn gwneud beth oedd yn gyfiawn ac yn deg, ac roedd pethau'n mynd yn dda gydag e. Roedd yn amddiffyn hawliau pobl dlawd ac anghenus, ac roedd pethau'n mynd yn dda. Onid dyna beth mae fy nabod i yn ei olygu?” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Ond rwyt ti'n hunanol ac yn anonest. Ti'n lladd pobl ddiniwed, yn twyllo ac yn gorthrymu'r bobl.” Felly, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am Jehoiacim fab Joseia, brenin Jwda: “Fydd neb yn galaru ar ei ôl, a dweud, ‘O, dw i mor drist, fy mrawd! O, dw i mor drist, fy chwaer!’ Fydd neb yn dweud ‘O, druan o'n harglwydd ni’ ‘O, druan o'r brenin!’ Fydd ei angladd ddim gwell na phan mae asyn yn marw — Bydd ei gorff yn cael ei lusgo allan o'r ddinas a'i daflu tu allan i giatiau Jerwsalem.” Dringwch fynyddoedd Libanus, a galaru yno. Gwaeddwch yn uchel ar fryniau Bashan. Ewch i alaru ar fynyddoedd Afarîm Mae eich ‛cariadon‛ i gyd wedi eu concro! Gwnes i eich rhybuddio pan oeddech chi'n byw'n ddibryder, ond yr ymateb ges i oedd, “Dŷn ni ddim am wrando.” Dyma sut dych chi wedi bod o'r dechrau cyntaf — dych chi erioed wedi bod yn barod i wrando. Bydd eich arweinwyr yn cael eu chwythu i ffwrdd gan y gwynt. Bydd eich ‛cariadon‛ i gyd wedi eu cymryd yn gaeth. Bryd hynny bydd gynnoch chi gywilydd go iawn o'r holl bethau drwg wnaethoch chi. Falle eich bod chi'n teimlo'n reit saff, fel aderyn yn nythu ar goed cedrwydd Libanus. Ond byddwch yn griddfan mewn poen pan ddaw'r farn. Byddwch fel gwraig mewn poen wrth gael babi. “Mor sicr a'm bod i fy hun yn fyw,” meddai'r ARGLWYDD, “er dy fod ti, Jehoiachin fab Jehoiacim, brenin Jwda wedi bod yn sêl-fodrwy ar fy llaw dde, bydda i'n dy dynnu i ffwrdd. Bydda i'n dy roi di yn nwylo'r rhai sydd eisiau dy ladd di, y rhai hynny rwyt ti eu hofni nhw, sef Nebwchadnesar, brenin Babilon a'i fyddin. A bydda i'n dy daflu di a dy fam i wlad ddieithr, a dyna ble byddwch chi'n marw. Gewch chi byth ddod yn ôl yma, er eich holl hiraeth.” Ai jwg diwerth wedi ei dorri ydy'r dyn Jehoiachin? (fel potyn pridd does neb ei eisiau). Pam mae e a'i blant wedi eu taflu i ffwrdd? (wedi eu taflu i wlad ddieithr). Wlad, wlad, wlad, gwrando ar neges yr ARGLWYDD. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Gwnewch gofnod fod y dyn yma'n ddi-etifedd! (dyn fydd yn gweld dim llwyddiant). Fydd dim un o'i blant yn teyrnasu yn Jwda ar ei ôl. Fydd neb yn ei ddilyn ar orsedd Dafydd.” “Mae ar ben ar arweinwyr y wlad!” meddai'r ARGLWYDD. “Yn lle gofalu am fy mhobl fel mae bugeiliaid yn gofalu am eu defaid maen nhw'n gwneud niwed iddyn nhw a'u gyrru nhw ar chwâl.” Felly dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud am y ‛bugeiliaid‛ yma sydd i fod i ofalu am fy mhobl: “Dych chi wedi chwalu'r praidd a gyrru'r defaid i ffwrdd yn lle gofalu amdanyn nhw. Felly bydda i'n eich cosbi chi am y drwg dych chi wedi ei wneud,” meddai'r ARGLWYDD. “Ond dw i'n mynd i gasglu'r defaid sydd ar ôl at ei gilydd. Bydda i'n eu casglu nhw o'r gwledydd lle gwnes i eu gyrru nhw, a'u harwain nhw yn ôl i'w corlan. Byddan nhw'n cael rhai bach a bydd mwy a mwy ohonyn nhw. Bydda i'n penodi arweinwyr fydd yn gofalu'n iawn amdanyn nhw. Fydd dim rhaid iddyn nhw fod ag ofn. Fydd dim byd i'w dychryn nhw, a fydd dim un ohonyn nhw yn mynd ar goll,” meddai'r ARGLWYDD. “Mae'r amser yn dod,” meddai'r ARGLWYDD, “pan fydda i'n gwneud i flaguryn dyfu ar goeden deuluol Dafydd, un fydd yn gwneud beth sy'n iawn. Bydd e'n frenin fydd yn teyrnasu'n ddoeth. Bydd e'n gwneud beth sy'n gyfiawn ac yn deg yn y wlad. Bryd hynny bydd Jwda'n cael ei hachub a bydd Israel yn saff. Yr enw ar y brenin yma fydd, ‘Yr ARGLWYDD sy'n rhoi cyfiawnder i ni.’ “Ac eto, mae amser gwell i ddod,” meddai'r ARGLWYDD. “Yn lle dweud, ‘Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, yr un achubodd bobl Israel o'r Aifft …’ bydd pobl yn dweud, ‘Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, yr un achubodd bobl Israel o dir y gogledd ac o'r gwledydd lle roedd wedi eu gyrru nhw.’ A bryd hynny byddan nhw'n cael byw yn eu gwlad eu hunain.” Neges am y proffwydi: Dw i wedi cynhyrfu'n lân, a dw i'n crynu trwyddo i. Dw i fel dyn wedi meddwi; fel rhywun sy'n chwil gaib. Alla i ddim diodde'r ffordd mae'r ARGLWYDD a'i neges yn cael ei drin. Mae'r wlad yn llawn pobl sy'n anffyddlon iddo. Mae'r tir wedi sychu am ei fod wedi ei felltithio. Does dim porfa yn yr anialwch — mae wedi gwywo. A'r cwbl am eu bod nhw'n byw bywydau drwg ac yn camddefnyddio eu grym. “Mae'r proffwydi a'r offeiriaid yn bobl annuwiol. Dw i wedi gweld y pethau ofnadwy maen nhw'n eu gwneud hyd yn oed yn y deml ei hun!” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Felly bydd eu llwybrau yn dywyll a llithrig. Byddan nhw'n baglu ac yn syrthio. Dw i'n mynd i ddod â dinistr arnyn nhw. Mae'r amser iddyn nhw gael eu cosbi wedi dod.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Gwelais broffwydi Samaria gynt yn gwneud peth cwbl anweddus: Roedden nhw'n proffwydo ar ran y duw Baal, ac yn camarwain fy mhobl, Israel. A nawr dw i'n gweld proffwydi Jerwsalem yn gwneud rhywbeth yr un mor erchyll. Maen nhw'n anffyddlon i mi ac yn dilyn celwydd! Maen nhw'n annog y rhai sy'n gwneud drwg yn lle ceisio eu cael nhw i stopio. Maen nhw mor ddrwg â Sodom yn fy ngolwg i. Mae pobl Jerwsalem fel pobl Gomorra.” Felly, dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud am y proffwydi: “Dw i'n mynd i wneud i'r bobl yma ddioddef yn chwerw, ac yfed dŵr gwenwynig barn. Mae proffwydi Jerwsalem yn gyfrifol am ledu annuwioldeb drwy'r wlad i gyd.” Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: “Peidiwch gwrando ar beth mae'r proffwydi yna'n ei ddweud — maen nhw'n eich twyllo gyda'u gobaith gwag. Maen nhw'n rhannu eu ffantasïau yn lle beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud. Maen nhw'n dal ati i ddweud wrth y rhai sy'n ddirmygus ohono i, ‘Mae'r ARGLWYDD yn dweud y bydd popeth yn iawn!’ Maen nhw'n dweud wrth y rhai sy'n ystyfnig, ‘Fydd dim byd drwg yn digwydd i chi.’ Ond prun ohonyn nhw sy'n gwybod cynlluniau'r ARGLWYDD, ac wedi clywed a deall beth mae e'n ddweud? Prun ohonyn nhw sydd wedi gwrando arno?” Gwyliwch chi! Bydd yr ARGLWYDD yn ddig. Bydd yn dod fel storm. Bydd fel corwynt dinistriol yn disgyn ar y rhai drwg. Fydd llid yr ARGLWYDD ddim yn tawelu nes bydd wedi gwneud popeth mae'n bwriadu ei wneud. Byddwch chi'n dod i ddeall y peth yn iawn ryw ddydd. “Wnes i ddim anfon y proffwydi yma, ond roedden nhw'n rhedeg i gyhoeddi eu neges. Wnes i ddim rhoi neges iddyn nhw, ond roedden nhw'n dal i broffwydo. Petaen nhw wedi sefyll o'm blaen a gwrando, bydden nhw wedi cyhoeddi fy neges i'm pobl. Bydden nhw wedi gwneud iddyn nhw droi cefn ar ddrwg.” “Ai rhyw dduw bach lleol ydw i?” meddai'r ARGLWYDD. “Onid fi ydy'r Duw sy'n gweld popeth o bell?” “Pwy sy'n gallu cuddio oddi wrtho i?” meddai'r ARGLWYDD. “Dw i ym mhobman drwy'r nefoedd a'r ddaear!” “Dw i wedi clywed beth mae'r proffwydi yn ei ddweud. Maen nhw'n honni siarad drosta i, ond yn dweud celwydd! ‘Dw i wedi cael breuddwyd! Dw i wedi cael breuddwyd!’ medden nhw. Am faint mae'n rhaid i hyn fynd ymlaen? Am faint maen nhw'n mynd i ddal ati i ddweud celwydd? Maen nhw'n twyllo eu hunain! Ydyn nhw'n mynd i newid rywbryd? Am faint maen nhw'n mynd i rannu eu breuddwydion gyda'i gilydd, a cheisio cael fy mhobl i anghofio pwy ydw i? Dyna beth wnaeth eu hynafiaid — anghofio amdana i ac addoli'r duw Baal. Gadewch i'r proffwyd gafodd freuddwyd ei rhannu fel breuddwyd. Ond dylai'r un dw i wedi rhoi neges iddo gyhoeddi'r neges yna'n ffyddlon.” “Allwch chi ddim cymharu'r gwellt gyda'r grawn!” meddai'r ARGLWYDD. “Mae fy neges i fel tân yn llosgi,” meddai'r ARGLWYDD. “Mae fel gordd yn dryllio carreg.” “Felly, dw i eisiau i chi ddeall fy mod i yn erbyn y proffwydi hynny sy'n dwyn y neges gan ei gilydd,” meddai'r ARGLWYDD. “Dw i yn erbyn y proffwydi hynny sy'n dweud beth maen nhw eisiau, ac yna'n honni, ‘Dyma beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud …’ Dw i eisiau i chi ddeall,” meddai'r ARGLWYDD, “fy mod i yn erbyn y proffwydi hynny sy'n cyhoeddi'r celwydd maen nhw wedi ei ddychmygu. Maen nhw'n camarwain fy mhobl gyda'u celwyddau a'u honiadau anghyfrifol. Wnes i ddim eu hanfon nhw na dweud wrthyn nhw beth i'w wneud. Dŷn nhw ddim yn helpu'r bobl yma o gwbl,” meddai'r ARGLWYDD. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Jeremeia, pan mae'r bobl yma, neu broffwyd neu offeiriad, yn gofyn i ti, ‘Beth ydy'r baich mae'r ARGLWYDD yn ei roi arnon ni nawr?’ dywed wrthyn nhw, ‘Chi ydy'r baich, a dw i'n mynd i'ch taflu chi i ffwrdd,’ Ac os bydd proffwyd, offeiriad, neu unrhyw un arall yn dweud, ‘Mae'r ARGLWYDD yn rhoi baich trwm arnon ni,’ bydda i'n cosbi'r dyn hwnnw a'i deulu. Dyma ddylech chi fod yn ei ofyn i'ch gilydd: ‘Beth oedd ateb yr ARGLWYDD?’ neu ‘Beth ddwedodd yr ARGLWYDD?’ Rhaid i chi stopio dweud fod yr ARGLWYDD yn rhoi baich trwm arnoch chi. Y pethau dych chi'ch hunain yn eu dweud ydy'r ‛baich‛. Dych chi wedi gwyrdroi neges ein Duw ni, yr ARGLWYDD holl-bwerus, y Duw byw! Beth ddylech chi ei ofyn i'r proffwyd ydy, ‘Beth oedd ateb yr ARGLWYDD?’ neu ‘Beth ddwedodd yr ARGLWYDD?’ Os daliwch chi ati i ddweud, ‘Mae'r ARGLWYDD yn rhoi baich trwm arnon ni,’ dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Dych chi'n dal i ddweud “Mae'r ARGLWYDD yn rhoi baich trwm arnon ni,” er fy mod i wedi dweud yn glir wrthoch chi am beidio gwneud hynny. Felly, dw i'n mynd i'ch codi chi a'ch taflu chi i ffwrdd — chi a'r ddinas rois i i'ch hynafiaid chi. Bydda i'n eich gwneud chi'n jôc, a byddwch yn cael eich cywilyddio am byth.’” Roedd Nebwchadnesar, brenin Babilon, wedi cymryd Jehoiachin fab Jehoiacim, brenin Jwda, yn gaeth i Babilon. Cymerodd y swyddogion i gyd hefyd, a'r seiri coed a'r gweithwyr metel. A dyma'r ARGLWYDD yn rhoi gweledigaeth i mi. Roeddwn i'n gweld dwy fasged yn llawn o ffigys wedi eu gosod o flaen teml yr ARGLWYDD Roedd y ffigys yn un fasged yn rhai da iawn, fel ffigys wedi aeddfedu'n gynnar. Ond roedd y ffigys yn y fasged arall wedi mynd yn ddrwg, a ddim yn ffit i'w bwyta. Dyma'r ARGLWYDD yn gofyn i mi, “Beth wyt ti'n weld, Jeremeia?” A dyma fi'n ateb, “Ffigys. Mae'r rhai da yn edrych yn hyfryd, ond mae'r lleill wedi mynd yn rhy ddrwg i'w bwyta.” Yna dyma fi'n cael y neges yma gan yr ARGLWYDD: “Dyma dw i, yr ARGLWYDD, Duw Israel yn ei ddweud: ‘Mae'r ffigys da yn cynrychioli'r bobl sydd wedi eu cymryd yn gaeth i wlad y Babiloniaid. Dw i wedi eu hanfon nhw yno er eu lles eu hunain, a dw i'n mynd i ddod â nhw'n ôl i'r wlad yma. Bydda i'n eu hadeiladu nhw, dim eu bwrw nhw i lawr. Bydda i'n eu plannu nhw yn y tir, dim yn eu tynnu fel chwyn. Bydda i'n rhoi'r awydd ynddyn nhw i gydnabod mai fi ydy'r ARGLWYDD. Nhw fydd fy mhobl i, a fi fydd eu Duw nhw. Byddan nhw'n troi'n ôl ata i go iawn.’ “Ond,” meddai'r ARGLWYDD, “mae'r ffigys drwg yn cynrychioli Sedeceia brenin Jwda a'i swyddogion, a'r bobl hynny sydd wedi eu gadael ar ôl yn Jerwsalem neu sydd wedi mynd i fyw i'r Aifft. Bydd beth fydd yn digwydd iddyn nhw yn dychryn pobl y gwledydd eraill i gyd. Byddan nhw'n jôc. Bydda i'n gwneud esiampl ohonyn nhw. Byddan nhw'n destun sbort, ac yn esiampl o bobl wedi eu melltithio. Dyna sut fydd hi arnyn nhw ble bynnag wna i eu gyrru nhw. Bydda i'n anfon rhyfel, newyn a haint i'w taro nhw nes byddan nhw wedi cael eu dinistrio'n llwyr o'r wlad rois i iddyn nhw a'u hynafiaid.” Cafodd Jeremeia neges gan yr ARGLWYDD am bobl Jwda yn ystod y bedwaredd flwyddyn pan oedd Jehoiacim fab Joseia yn frenin ar Jwda (oedd hefyd y flwyddyn y cafodd Nebwchadnesar ei wneud yn frenin Babilon). Dyma ddwedodd y proffwyd Jeremeia wrth bobl Jwda a'r rhai oedd yn byw yn Jerwsalem: “Mae'r ARGLWYDD wedi bod yn siarad hefo fi ers dau ddeg tair o flynyddoedd — o'r adeg pan oedd Joseia fab Amon wedi bod yn frenin am un deg a tair o flynyddoedd hyd heddiw. Dw i wedi dweud wrthoch chi dro ar ôl tro beth oedd ei neges, ond dych chi ddim wedi gwrando. Ac mae'r ARGLWYDD wedi dal ati i anfon ei weision y proffwydi atoch chi. Ond dych chi ddim wedi gwrando na chymryd unrhyw sylw. Y neges oedd, ‘Rhaid i bob un ohonoch chi stopio gwneud y pethau drwg dych chi'n eu gwneud, wedyn byddwch chi'n cael aros yn y wlad roddodd yr ARGLWYDD i chi a'ch hynafiaid am byth bythoedd. Stopiwch addoli a gwasanaethu duwiau eraill, a'm gwylltio i drwy blygu i eilunod dych chi eich hunain wedi eu cerfio. Wedyn fydda i'n gwneud dim drwg i chi. “‘Ond wnaethoch chi ddim gwrando arna i,’ meddai'r ARGLWYDD. ‘Dych chi wedi fy ngwylltio i gyda'ch eilunod. Dych chi wedi dod â drwg arnoch chi'ch hunain.’ “Felly dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: ‘Dych chi ddim wedi gwrando arna i. Felly, dyma dw i, yr ARGLWYDD, yn mynd i'w wneud: Dw i'n mynd i anfon am bobloedd y gogledd, ac am fy ngwas i, Nebwchadnesar brenin Babilon. Dw i'n mynd i'w cael nhw i ymosod ar y wlad yma a'i phobl ac ar y gwledydd o'i chwmpas hefyd. Dw i'n mynd i'w dinistrio nhw'n llwyr. Bydd pethau ofnadwy yn digwydd yma. Fydd pobl ddim yn stopio rhyfeddu at y llanast. Bydda i'n rhoi taw ar sŵn pobl yn chwerthin a joio, ac yn mwynhau eu hunain mewn parti priodas. Fydd dim sŵn maen melin yn troi, a dim golau lamp i'w weld yn y tai. Bydd y wlad yn anialwch diffaith. A bydd y gwledydd yn gorfod gwasanaethu brenin Babilon am saith deg mlynedd. “‘Ar ddiwedd y saith deg mlynedd bydda i'n cosbi brenin Babilon a'i wlad am y drwg wnaethon nhw. Bydd gwlad y Babiloniaid yn cael ei dinistrio am byth. Bydd popeth wnes i ei fygwth yn digwydd iddi — popeth sydd wedi ei ysgrifennu yn y llyfr yma, sef beth mae Jeremeia wedi ei broffwydo yn erbyn y gwledydd i gyd. Bydd brenin a phobl Babilon yn gorfod gwasanaethu brenhinoedd a gwledydd eraill. Bydda i'n talu'n ôl iddyn nhw am beth wnaethon nhw.’” Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud wrtho i: “Cymer y gwpan yma gen i. Mae hi'n llawn dop o win fy llid. Cymer hi, a gwna i'r gwledydd dw i'n dy anfon di atyn nhw yfed ohoni. Byddan nhw'n yfed, ac yn stagro yn ôl ac ymlaen. Bydd y rhyfela dw i'n ei anfon i'w cosbi nhw yn eu gyrru nhw'n wallgof.” Felly dyma fi'n cymryd y gwpan o law'r ARGLWYDD, ac yn gwneud i'r holl wledydd ble'r anfonodd fi yfed ohoni: Jerwsalem a threfi Jwda, ei brenhinoedd a'i swyddogion. Byddan nhw'n cael eu dinistrio a'u difetha'n llwyr. Bydd pobl yn chwibanu mewn rhyfeddod wrth weld yr holl bethau dychrynllyd fydd yn digwydd, a bydd yn esiampl o wlad wedi ei melltithio. Mae'n dechrau digwydd heddiw! Yna'r Pharo (brenin yr Aifft) a'i weision a'i swyddogion, pobl yr Aifft i gyd, a'r bobl o dras cymysg sy'n byw yno. Wedyn brenhinoedd gwlad Us, a brenhinoedd trefi'r Philistiaid i gyd: pobl Ashcelon, Gasa, Ecron, a beth sydd ar ôl o Ashdod. Wedyn pobl Edom, Moab ac Ammon. Brenhinoedd Tyrus a Sidon, a brenhinoedd y trefi eraill ar yr arfordir. Pobl Dedan, Tema, Bws, a'r bobl sy'n byw ar ymylon yr anialwch. Brenhinoedd Arabia a brenhinoedd y gwahanol lwythau nomadig yn yr anialwch. Brenhinoedd Simri, Elam a Media i gyd. Brenhinoedd y gogledd i gyd, pell ac agos, a phob un gwlad sydd ar wyneb y ddaear. Ac yn olaf bydd rhaid i frenin Babilon ei hun yfed o'r gwpan. “Dywed di wrthyn nhw wedyn fod yr ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn dweud: ‘Yfwch nes byddwch chi'n feddw ac yn chwydu. Yfwch nes byddwch yn syrthio ac yn methu codi ar eich traed eto, o achos y rhyfel dw i'n ei anfon i'ch cosbi chi.’ “Os byddan nhw'n gwrthod cymryd y gwpan gen ti, ac yfed ohoni, dywed wrthyn nhw, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: “Does gynnoch chi ddim dewis. Bydd rhaid i chi yfed! Gwyliwch chi, dw i wedi dechrau cosbi Jerwsalem, fy ninas i fy hun. Os felly, ydych chi'n mynd i osgoi cael eich cosbi? Na! Dw i'n mynd i ddod â rhyfel ar bawb sy'n byw ar y ddaear.” Fi, yr ARGLWYDD holl-bwerus, sy'n dweud hyn.’ Felly, Jeremeia, proffwyda fel hyn yn eu herbyn nhw: ‘Mae'r ARGLWYDD yn rhuo fel llew oddi uchod, o'r lle sanctaidd ble mae'n byw. Mae'n rhuo yn erbyn y bobl mae'n byw yn eu plith. Bydd yn gweiddi fel un yn sathru'r grawnwin, wrth gosbi pawb sy'n byw ar wyneb y ddaear. Bydd twrw'r frwydr yn atseinio drwy'r byd i gyd. Mae'r ARGLWYDD yn cyhuddo'r cenhedloedd, ac yn mynd i farnu'r ddynoliaeth gyfan. Bydd pobl ddrwg yn cael eu lladd gan y cleddyf!’” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: “Mae trychineb yn mynd i ddod ar un wlad ar ôl y llall. Mae gwynt stormus ar fin dod o ben draw'r byd.” Bydd y rhai fydd wedi eu lladd gan yr ARGLWYDD bryd hynny wedi eu gwasgaru ar hyd a lled y byd. Fydd neb yn galaru ar eu hôl nhw, a neb yn casglu'r cyrff i'w claddu. Byddan nhw'n gorwedd fel tail wedi ei wasgaru ar wyneb y tir. Dechreuwch udo a chrïo, chi arweinwyr y bobl! Rholiwch yn y lludw, chi sy'n bugeilio praidd fy mhobl. Mae diwrnod y lladdfa wedi dod. Cewch eich gwasgaru. Byddwch fel llestr gwerthfawr wedi syrthio a malu'n ddarnau. Fydd yr arweinwyr ddim yn gallu rhedeg i ffwrdd. Fydd dim dianc i'r rhai sy'n bugeilio'r praidd! Gwrandwch ar sŵn yr arweinwyr yn crïo! Gwrandwch ar fugeiliaid y praidd yn udo! Mae'r ARGLWYDD ar fin dinistrio eu tir nhw. Bydd y borfa dawel ble maen nhw'n aros yn anialwch difywyd am fod yr ARGLWYDD wedi digio'n lân hefo nhw. Mae'r ARGLWYDD fel llew wedi dod allan o'i ffau. Mae wedi digio'n lân a bydd y wlad yn cael ei difetha gan gleddyf y gelyn. [1] Pan ddaeth Jehoiacim fab Joseia yn frenin ar Jwda ces i'r neges yma gan yr ARGLWYDD: Dyma'r ARGLWYDD yn dweud, “Dos i sefyll yn iard teml yr ARGLWYDD. Siarada gyda'r bobl o holl drefi Jwda sydd wedi dod yno i addoli. Dywed wrthyn nhw bopeth fydda i'n ei ddweud — pob gair! Falle y gwnân nhw wrando a stopio gwneud drwg. Wedyn fydda i ddim yn eu dinistrio nhw fel roeddwn i wedi bwriadu gwneud am yr holl bethau drwg roedden nhw'n eu gwneud. Dywed wrthyn nhw mai dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Rhaid i chi wrando arna i, a byw fel dw i wedi'ch dysgu chi i fyw. Rhaid i chi wrando ar neges fy ngweision y proffwydi. Dw i wedi eu hanfon nhw atoch chi dro ar ôl tro, ond dych chi wedi cymryd dim sylw. Felly os daliwch chi i wrthod gwrando bydda i'n dinistrio'r deml yma fel gwnes i ddinistrio Seilo, a bydda i'n gwneud y ddinas yma'n esiampl i'r gwledydd o ddinas sydd wedi ei melltithio.’” Roedd yr offeiriaid a'r proffwydi a'r bobl i gyd wedi clywed Jeremeia yn dweud y pethau yma yn y deml. Ac yn syth ar ôl iddo orffen dweud popeth roedd yr ARGLWYDD wedi ei orchymyn iddo, dyma'r offeiriaid a'r proffwydi a'r bobl i gyd yn gafael ynddo gan weiddi, “Ti'n mynd i farw am hyn! Rhag dy gywilydd di, yn honni fod yr ARGLWYDD wedi dweud wrthot ti am broffwydo'r fath bethau! Sut alli di broffwydo fod y deml yma yn mynd i gael ei dinistrio yr un fath â Seilo, a bod dinas Jerwsalem yn mynd i gael ei chwalu, ac y bydd neb yn byw ynddi?” A dyma'r bobl yn dechrau hel o gwmpas Jeremeia yn y deml. Pan glywodd swyddogion Jwda beth oedd yn digwydd, dyma nhw'n rhuthro draw o'r palas brenhinol i deml yr ARGLWYDD ac yn cynnal achos llys wrth y Giât Newydd. Dyma'r offeiriaid a'r proffwydi yn dweud wrth y llys a'r bobl beth oedd y cyhuddiad yn erbyn Jeremeia, “Rhaid dedfrydu'r dyn yma i farwolaeth! Mae wedi proffwydo yn erbyn y ddinas yma. Dych chi wedi ei glywed eich hunain.” Yna dyma Jeremeia yn amddiffyn ei hun: “Yr ARGLWYDD sydd wedi fy anfon i, a dweud wrtho i am broffwydo popeth ydych chi wedi fy nghlywed i'n ei ddweud yn erbyn y deml a'r ddinas yma. Rhaid i chi newid eich ffyrdd, a gwneud beth mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei ddweud. Os gwnewch chi hynny, fydd e ddim yn eich dinistrio chi fel roedd e wedi bygwth gwneud. Ond dw i'n eich dwylo chi. Gwnewch chi beth bynnag dych chi'n feddwl sy'n iawn. Ond deallwch hyn: Os gwnewch chi fy lladd i, byddwch yn tywallt gwaed dyn dieuog. Byddwch chi a'r ddinas yma a'i phobl yn gyfrifol am wneud hynny. Achos y ffaith ydy mai'r ARGLWYDD sydd wedi fy anfon i i'ch rhybuddio chi.” Dyma'r swyddogion a'r bobl yn dweud wrth yr offeiriaid a'r proffwydi, “Dydy'r dyn yma ddim yn haeddu marw. Mae e wedi siarad ar ran yr ARGLWYDD ein Duw.” A dyma rai o arweinwyr hŷn Jwda yn codi a dweud wrth y dyrfa o bobl oedd yno, “Pan oedd Heseceia yn frenin ar Jwda, roedd Micha o Moresheth wedi proffwydo ac wedi dweud wrth y bobl, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: Bydd Seion yn cael ei haredig fel cae, a bydd Jerwsalem yn bentwr o gerrig. Bydd y bryn ble mae'r deml yn sefyll, yn goedwig wedi tyfu'n wyllt.’ Wnaeth Heseceia a phobl Jwda roi Micha i farwolaeth? Naddo! Dangosodd Heseceia barch at yr ARGLWYDD a crefu arno i fod yn garedig wrthyn nhw. Wedyn wnaeth yr ARGLWYDD ddim eu dinistrio nhw fel roedd e wedi bygwth gwneud. Ond dŷn ni mewn peryg o wneud drwg mawr i ni'n hunain!” Roedd yna ddyn arall o'r enw Wreia fab Shemaia o Ciriath-iearim yn proffwydo ar ran yr ARGLWYDD. Roedd e hefyd wedi proffwydo yn erbyn y ddinas yma a'r wlad, yn union yr un fath â Jeremeia. Pan glywodd y brenin Jehoiacim a'i warchodwyr a'i swyddogion beth oedd y proffwyd yn ei ddweud, roedd yn mynd i'w ladd. Ond dyma Wreia'n clywed am y bwriad a dyma fe'n dianc am ei fywyd i'r Aifft. Dyma'r brenin Jehoiacim yn anfon dynion i'r Aifft i'w ddal (Roedd Elnathan fab Achbor yn un ohonyn nhw), a dyma nhw'n dod ag Wreia yn ôl yn garcharor at y brenin Jehoiacim. Dyma Jehoiacim yn gorchymyn ei ladd gyda'r cleddyf, a chafodd ei gorff ei gladdu ym mynwent y bobl gyffredin. Ond roedd Achicam fab Shaffan o blaid Jeremeia, a gwrthododd drosglwyddo Jeremeia i'r bobl i gael ei ladd. Yn fuan ar ôl i Sedeceia fab Joseia ddod yn frenin ar Jwda dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i Jeremeia: Dyma ddwedodd yr ARGLWYDD wrtho i: “Gwna iau i ti dy hun, a'i rwymo am dy wddf gyda strapiau lledr. Wedyn anfon neges at frenhinoedd Edom, Moab, Ammon, Tyrus a Sidon. Rho'r neges i'r llysgenhadon maen nhw wedi eu hanfon at y brenin Sedeceia yn Jerwsalem. Dyma'r neges: ‘Mae Duw Israel, yr ARGLWYDD holl-bwerus, yn dweud, “Fi ydy'r Duw wnaeth greu y ddaear a'r holl bobl ac anifeiliaid sydd arni. Dw i'n Dduw cryf a nerthol, a fi sy'n dewis pwy sy'n ei rheoli. Dw i wedi penderfynu rhoi eich gwledydd chi i gyd yn nwylo fy ngwas, y brenin Nebwchadnesar o Babilon. Mae hyd yn oed yr anifeiliaid gwylltion yn ei wasanaethu e! Bydd y gwledydd i gyd yn ei wasanaethu e, a'i fab a'i ŵyr. Ond wedyn bydd yr amser yn dod pan fydd ei wlad e'n syrthio, a bydd nifer o wledydd eraill a brenhinoedd mawrion yn gorchfygu Babilon ac yn ei rheoli hi. “‘“Ond beth os bydd gwlad neu deyrnas yn gwrthod ymostwng i Nebwchadnesar, brenin Babilon? Beth fydd yn digwydd i'r wlad sy'n gwrthod rhoi ei gwar dan iau Babilon? Bydda i fy hun yn ei chosbi! Bydda i'n anfon rhyfel, newyn a haint, nes bydd Babilon wedi eu dinistrio nhw yn llwyr. Felly peidiwch gwrando ar eich proffwydi, na'r bobl hynny sy'n dweud ffortiwn drwy ddehongli breuddwydion, cysylltu gyda'r meirw neu ddewino — y rhai sy'n dweud fydd dim rhaid i chi wasanaethu brenin Babilon. Maen nhw'n dweud celwydd. Os gwrandwch chi arnyn nhw byddwch chi'n cael eich cymryd i ffwrdd yn bell o'ch gwlad. Bydda i'n eich gyrru chi i ffwrdd, a byddwch yn marw yno. Ond bydd y wlad sy'n rhoi ei gwar dan iau brenin Babilon, a'i wasanaethu e, yn cael llonydd. Byddan nhw'n cael dal ati i drin eu tir a byw yn eu gwlad eu hunain. Fi, yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.”’” Dwedais yr un peth wrth Sedeceia, brenin Jwda. “Rhaid i chi roi eich gwar dan iau brenin Babilon, a'i wasanaethu e a'i bobl. Os gwnewch chi hynny cewch fyw. Pam ddylet ti â'th bobl gael eich lladd gan y cleddyf, neu drwy newyn a haint? Yn ôl yr ARGLWYDD dyna fydd yn digwydd i unrhyw wlad sy'n gwrthod plygu i frenin Babilon. Peidiwch gwrando ar y proffwydi sy'n dweud wrthoch na fydd raid i chi wasanaethu brenin Babilon. Maen nhw'n dweud celwydd! ‘Wnes i ddim eu hanfon nhw,’ meddai'r ARGLWYDD. ‘Mae'n nhw'n honni eu bod nhw'n siarad drosta i, ond proffwydo celwydd maen nhw. Os gwrandwch chi arnyn nhw bydda i'n eich gyrru chi i ffwrdd, a byddwch chi a'r proffwydi sy'n dweud celwydd yn marw yn y gaethglud.’” Wedyn dyma fi'n dweud wrth yr offeiriaid a'r bobl i gyd, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Peidiwch gwrando ar y proffwydi sy'n dweud wrthoch chi y bydd dodrefn a llestri gwerthfawr y deml yn dod yn ôl o Babilon.’ Maen nhw'n dweud celwydd. Peidiwch gwrando arnyn nhw. Os gwnewch chi wasanaethu brenin Babilon, cewch fyw. Pam ddylai'r ddinas yma gael ei dinistrio? Os ydyn nhw'n broffwydi go iawn ac os ydy'r ARGLWYDD yn siarad hefo nhw, gwell iddyn nhw ddechrau gweddïo'n daer ar yr ARGLWYDD holl-bwerus — gweddïo na fydd y dodrefn a'r llestri sydd ar ôl yn y deml a palas y brenin yn cael eu cymryd i ffwrdd i Babilon! Achos dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud am y pileri pres o flaen y deml, y ddysgl fawr bres sy'n cael ei galw ‛Y Môr‛, a'r trolïau pres, ac am bob dodrefnyn arall gwerthfawr sydd wedi ei adael yn y ddinas yma. (Dyma'r pethau adawodd Nebwchadnesar brenin Babilon yn Jerwsalem pan aeth â Jehoiachin fab Jehoiacim, brenin Jwda, a phobl bwysig Jerwsalem i gyd yn gaethion i Babilon.) Ie, dyma mae Duw Israel, yr ARGLWYDD holl-bwerus, yn ei ddweud am y pethau gwerthfawr sydd wedi eu gadael yn y deml a palas y brenin yn Jerwsalem: ‘Bydd y cwbl yn cael eu cario i ffwrdd i Babilon ac yn aros yno nes bydda i'n dewis gwneud rhywbeth amdanyn nhw. Wedyn bydda i'n dod â nhw'n ôl i'r lle yma eto,’ Fi, yr ARGLWYDD, sy'n dweud hyn.” Yr un flwyddyn, ar ddechrau cyfnod Sedeceia fel brenin Jwda (sef pumed mis y bedwaredd flwyddyn o'i deyrnasiad), dyma Hananeia fab Asswr, y proffwyd o Gibeon, yn dweud wrth Jeremeia yn y deml o flaen yr offeiriaid a'r bobl i gyd: “Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i dorri iau brenin Babilon! Mewn llai na dwy flynedd dw i'n mynd i ddod â phopeth wnaeth Nebwchadnesar brenin Babilon ei gymryd oddi yma yn ôl. Dw i hefyd yn mynd i ddod â Jehoiachin fab Jehoiacim, brenin Jwda, yn ôl, a phawb arall gafodd eu cymryd yn gaeth i Babilon.’ Mae'r ARGLWYDDyn dweud, ‘Dw i'n mynd i dorri iau brenin Babilon.’” A dyma'r proffwyd Jeremeia yn ateb y proffwyd Hananeia, o flaen yr offeiriaid a phawb arall oedd yn y deml. “Amen! Boed i'r ARGLWYDD wneud hynny! Boed i'r ARGLWYDD ddod â dy broffwydoliaeth di yn wir! O na fyddai'n gwneud hynny, a dod â holl offer y deml yn ôl o Babilon, a'r bobl gafodd eu cymryd yno'n gaeth hefyd! Ond na, gwrando di nawr ar beth sydd gen i i'w ddweud wrthot ti a'r bobl yma i gyd. Ers amser maith mae'r proffwydi ddaeth o dy flaen di a fi wedi proffwydo fod rhyfel, trychinebau a heintiau yn mynd i daro llawer o wledydd a theyrnasoedd mawr. Os oedd proffwyd yn proffwydo y byddai popeth yn iawn, yr unig ffordd i wybod os oedd yr ARGLWYDD wedi ei anfon oedd pan fyddai ei neges yn dod yn wir. ” Yna dyma'r proffwyd Hananeia yn cymryd yr iau oddi ar war Jeremeia a'i dorri. A dyma Hananeia yn datgan o flaen pawb: “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Mewn llai na dwy flynedd dw i'n mynd i dynnu iau Nebwchadnesar, brenin Babilon, oddi ar war y gwledydd i gyd, a'i dorri.’” Yna dyma'r proffwyd Jeremeia yn mynd i ffwrdd. Yn fuan ar ôl i Hananeia dorri'r iau oedd ar war Jeremeia, dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i Jeremeia: “Dos i ddweud wrth Hananeia fod yr ARGLWYDD yn dweud: ‘Ti wedi torri'r iau pren dim ond i roi un haearn yn ei le! Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: “Dw i wedi rhoi iau haearn ar war y gwledydd yma i gyd. Bydd rhaid iddyn nhw wasanaethu Nebwchadnesar, brenin Babilon. Bydd hyd yn oed yr anifeiliaid gwylltion yn ei wasanaethu e!”’” Yna dyma'r proffwyd Jeremeia yn dweud wrth Hananeia, “Gwranda, Hananeia. Dydy'r ARGLWYDD ddim wedi dy anfon di. Ti'n gwneud i'r bobl yma gredu celwydd! Felly, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Mae hi ar ben arnat ti! Ti'n mynd i farw cyn diwedd y flwyddyn yma, am dy fod ti wedi annog pobl i wrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD.’” Ar flwyddyn honno cyn pen deufis roedd y proffwyd Hananeia wedi marw. Dyma lythyr Jeremeia at yr arweinwyr oedd ar ôl, yr offeiriaid a'r proffwydi, a phawb arall o Jerwsalem oedd wedi eu cymryd yn gaeth i Babilon gan y brenin Nebwchadnesar. (Roedd hyn ar ôl i'r brenin Jehoiachin a'r fam frenhines, swyddogion y palas brenhinol, arweinwyr Jwda a Jerwsalem, y seiri coed a'r gweithwyr metel i gyd gael eu cymryd i ffwrdd yn gaeth o Jerwsalem.) Elasa fab Shaffan a Gemareia fab Chilceia aeth a'r llythyr yno. Roedden nhw wedi eu hanfon i Babilon at Nebwchadnesar gan Sedeceia, brenin Jwda. Dyma'r llythyr: Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud wrth y bobl mae wedi eu hanfon yn gaeth o Jerwsalem i Babilon: “Adeiladwch dai a setlo i lawr. Plannwch erddi a bwyta'r hyn sy'n tyfu ynddyn nhw. Priodwch a chael plant. Dewiswch wragedd i'ch meibion a gadael i'ch merched briodi, er mwyn iddyn nhw hefyd gael plant. Dw i eisiau i'ch niferoedd chi dyfu, yn lle lleihau. Gweithiwch dros heddwch a llwyddiant y ddinas ble dw i wedi mynd â chi'n gaeth. Gweddïwch ar yr ARGLWYDD drosti. Ei llwyddiant hi fydd eich llwyddiant chi.” Achos dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: “Peidiwch gadael i'r proffwydi sydd gyda chi, a'r rhai hynny sy'n dweud ffortiwn, eich twyllo chi. Peidiwch cymryd sylw o'u breuddwydion. Maen nhw'n hawlio eu bod nhw'n siarad drosta i, ond yn dweud celwydd! Wnes i ddim eu hanfon nhw,” meddai'r ARGLWYDD. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Pan fydd Babilon wedi rheoli am saith deg mlynedd bydda i'n cymryd sylw ohonoch chi eto. Dyna pryd y bydda i'n gwneud y pethau da dw i wedi eu haddo, a dod â chi yn ôl yma i'ch gwlad eich hunain. Fi sy'n gwybod beth dw i wedi ei gynllunio ar eich cyfer chi,” meddai'r ARGLWYDD. “Dw i'n bwriadu eich bendithio chi, dim gwneud niwed i chi. Dw i am roi dyfodol llawn gobaith i chi. Byddwch yn galw arna i ac yn gweddïo, a bydda i'n gwrando. Os byddwch chi'n chwilio amdana i o ddifri, â'ch holl galon, byddwch chi'n fy ffeindio i. Bydda i'n gadael i chi ddod o hyd i mi,” meddai'r ARGLWYDD. “Bydda i'n rhoi'r cwbl wnaethoch chi ei golli yn ôl i chi. Bydda i'n eich casglu chi yn ôl o'r holl wledydd wnes i eich gyrru chi i ffwrdd iddyn nhw. Bydda i'n dod â chi adre i'ch gwlad eich hunain.” “Ond mae'r ARGLWYDD wedi rhoi proffwydi i ni yma yn Babilon,” meddech chi. Felly gwrandwch beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am y brenin sy'n eistedd ar orsedd Dafydd yma yn Jerwsalem, ac am eich perthnasau sy'n dal i fyw yma a heb gael eu cymryd i ffwrdd yn gaethion gyda chi: Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: “Dw i'n mynd i anfon rhyfel, newyn a haint i'w taro nhw. Byddan nhw fel ffigys ffiaidd sydd ddim ffit i'w bwyta. Dw i'n mynd i anfon rhyfel, newyn a haint i'w taro nhw. Bydd beth fydd yn digwydd iddyn nhw yn dychryn pobl y gwledydd i gyd. Byddan nhw'n enghraifft o wlad wedi ei melltithio. Bydd pethau ofnadwy yn digwydd, pethau fydd yn achosi i bobl chwibanu mewn rhyfeddod. A byddan nhw'n destun sbort i'r gwledydd lle bydda i'n eu hanfon nhw'n gaeth. Bydd hyn yn digwydd am eu bod nhw heb wrando na chymryd sylw o beth dw i wedi ei ddweud dro ar ôl tro drwy fy ngweision y proffwydi,” meddai'r ARGLWYDD. Felly — chi sydd wedi eich gyrru i ffwrdd o Jerwsalem yn gaeth i Babilon — gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD. Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud am Ahab fab Colaia a Sedeceia fab Maaseia sy'n proffwydo celwydd ac yn hawlio eu bod nhw'n siarad drosta i: “Dw i'n mynd i'w rhoi nhw yn nwylo Nebwchadnesar, brenin Babilon, a bydd e'n eu lladd nhw o'ch blaenau chi. Bydd gan bobl Jwda sy'n gaeth yn Babilon y dywediad yma wrth felltithio rhywun: ‘Boed i'r ARGLWYDD dy wneud di fel Sedeceia ac Ahab, gafodd eu llosgi'n fyw gan frenin Babilon!’ Maen nhw wedi gwneud pethau gwarthus yn Israel. Cysgu gyda gwragedd dynion eraill, a dweud celwydd tra'n honni eu bod nhw'n siarad drosta i. Wnes i ddim dweud dim wrthyn nhw. Ond dw i'n gwybod yn iawn ac wedi gweld beth maen nhw wedi ei wneud,” meddai'r ARGLWYDD. Yna dywed wrth Shemaia o Nechelam: Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel yn ei ddweud: “Anfonaist lythyrau ar dy liwt dy hun at y bobl sydd yn Jerwsalem, ac at Seffaneia fab Maaseia a'r offeiriaid eraill i gyd, yn dweud fel hyn, ‘Mae'r ARGLWYDD wedi dy wneud di'n offeiriad yn lle Jehoiada, i fod yn gyfrifrifol am beth sy'n digwydd yn y deml. Ac mae rhyw wallgofddyn yn dod yno a chymryd arno ei fod yn broffwyd. Dylet ei ddal a rhoi coler haearn a chyffion arno. Dylet ti fod wedi ceryddu Jeremeia o Anathoth am gymryd arno ei fod yn broffwyd. Mae e wedi anfon neges aton ni yn Babilon, yn dweud, “Dych chi'n mynd i fod yna am amser hir. Adeiladwch dai a setlo i lawr. Plannwch erddi a bwyta'r hyn sy'n tyfu ynddyn nhw.”’” Darllenodd Seffaneia'r offeiriad y llythyr i Jeremeia. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Jeremeia, “Anfon y neges yma at y bobl sydd wedi eu cymryd yn gaeth i Babilon: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am Shemaia o Nechelam: “Mae Shemaia yn siarad fel petai'n broffwyd, ond wnes i ddim ei anfon e. Mae e wedi gwneud i chi gredu celwydd!” Felly, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Dw i'n mynd i gosbi Shemaia a'i deulu. Fydd neb ohonyn nhw'n cael byw i weld y pethau da dw i'n mynd i'w gwneud i'm pobl. Fi, yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. Mae e wedi annog pobl i wrthryfela yn fy erbyn i.”’” Dyma neges arall roddodd yr ARGLWYDD i Jeremeia: “Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Dw i eisiau i ti ysgrifennu popeth dw i'n ei ddweud wrthot ti ar sgrôl. Mae'r amser yn dod,’ meddai'r ARGLWYDD, ‘pan fydda i'n rhoi'r cwbl wnaeth fy mhobl Israel a Jwda ei golli yn ôl iddyn nhw. Dw i'n mynd i ddod â nhw'n ôl i'r wlad rois i i'w hynafiaid. Byddan nhw'n ei chymryd hi'n ôl eto.’” Dyma'r neges roddodd yr ARGLWYDD i mi am bobl Israel a Jwda: “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Sŵn pobl yn gweiddi mewn panig a dychryn sydd i'w glywed; does dim sôn am heddwch!’ Ond meddyliwch am hyn: Ydy dyn yn gallu cael babi? Na? Felly pam dw i'n gweld y dynion cryfion yma i gyd yn dal eu boliau fel gwraig yn cael babi? Pam mae eu hwynebau nhw i gyd yn wyn fel y galchen? O! Mae'n amser caled ofnadwy! Does erioed gyfnod tebyg wedi bod o'r blaen. Mae'n argyfwng ofnadwy ar bobl Jacob — ac eto byddan nhw yn cael eu hachub.” Yr ARGLWYDD holl-bwerus sy'n dweud hyn, “Bryd hynny bydda i'n torri'r iau sydd ar eu gwar a dryllio'r rhaffau sy'n eu dal yn gaeth. Fydd pobl estron ddim yn feistri arnyn nhw o hynny ymlaen. Byddan nhw'n gwasanaethu'r ARGLWYDD eu Duw a'r un o linach Dafydd fydda i'n ei wneud yn frenin arnyn nhw.” “Felly, peidiwch bod ag ofn bobl Jacob, fy ngweision,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Peidiwch anobeithio bobl Israel. Dw i'n mynd i'ch achub chi a'ch plant o'r wlad bell lle buoch yn gaeth. Bydd pobl Jacob yn dod yn ôl adre ac yn mwynhau heddwch. Byddan nhw'n teimlo'n saff a fydd neb yn eu dychryn nhw. Dw i gyda chi, i'ch achub chi,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Dw i'n mynd i ddinistrio'r gwledydd hynny lle gwnes i eich gyrru chi ar chwâl, ond wna i ddim eich dinistrio chi. Ydw, dw i'n mynd i'ch disgyblu, ond dim ond faint dych chi'n ei haeddu; alla i ddim peidio'ch cosbi chi o gwbl.” Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Does dim modd gwella dy friwiau; ti wedi dy anafu'n ddifrifol. Does neb yn gallu dy helpu di. Does dim eli i wella'r dolur; does dim iachâd. Mae dy ‛gariadon‛ i gyd wedi dy anghofio di. Dŷn nhw'n poeni dim amdanat ti! Dw i wedi dy daro di fel petawn i'n elyn; rwyt wedi diodde cosb greulon, am dy fod wedi bod mor ddrwg ac wedi pechu mor aml. Pam wyt ti'n cwyno am dy friwiau? Does dim modd gwella dy boen Dw i wedi gwneud hyn i gyd i ti am dy fod ti wedi bod mor ddrwg ac wedi pechu mor aml. Ond bydd y rhai wnaeth dy larpio di yn cael eu llarpio. Bydd dy elynion i gyd yn cael eu cymryd yn gaeth. Bydd y rhai wnaeth dy ysbeilio yn cael eu hysbeilio, a'r rhai wnaeth ddwyn dy drysorau yn colli popeth. Ydw, dw i'n mynd i dy iacháu di; Dw i'n mynd i wella dy friwiau,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Roedden nhw'n dy alw di ‘yr un gafodd ei gwrthod’. ‘Does neb yn poeni am Seion,’ medden nhw.” Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Dw i'n mynd i adfer tai pobl Jacob, a thosturio wrth eu teuluoedd. Bydd y ddinas yn cael ei chodi eto ar safle ei hadfeilion, a'r palas yn cael ei ailadeiladu ble roedd o'r blaen. Bydd canu mawl a diolch a sŵn pobl yn joio i'w glywed yn dod oddi yno. Bydda i'n gwneud i'w poblogaeth dyfu yn lle lleihau; Bydda i'n eu hanrhydeddu yn lle eu bod yn cael eu bychanu. Bydd disgynyddion Jacob yn profi'r bendithion fel o'r blaen. Bydda i'n eu sefydlu nhw eto fel cymuned o bobl, a bydda i'n cosbi pawb sydd am eu gorthrymu nhw. Bydd eu harweinydd yn un o'u pobl eu hunain; bydd yr un sy'n eu rheoli yn dod o'u plith. Bydda i'n ei wahodd i ddod ata i, a bydd yn dod. Pwy fyddai'n mentro dod heb gael gwahoddiad?” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Byddwch chi'n bobl i mi, a bydda i'n Dduw i chi.” Gwyliwch chi! Mae'r ARGLWYDD yn ddig. Mae'n dod fel storm; fel corwynt dinistriol fydd yn disgyn ar y rhai drwg. Fydd llid ffyrnig yr ARGLWYDD ddim yn tawelu nes bydd wedi gwneud popeth mae'n bwriadu ei wneud. Byddwch chi'n dod i ddeall y peth yn iawn ryw ddydd. “Bryd hynny,” meddai'r ARGLWYDD, “fi fydd Duw pob llwyth yn Israel, a byddan nhw yn bobl i mi.” Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Cafodd pobl Israel osgoi'r cleddyf a profi ffafr Duw yn yr anialwch, wrth iddyn nhw chwilio am le i orffwys. Roedd yr ARGLWYDD wedi ymddangos iddo mewn gwlad bell, a dweud, ‘Mae fy nghariad i atat ti yn gariad sy'n para am byth, a dyna pam dw i wedi aros yn ffyddlon i ti. Bydda i'n dy ailadeiladu eto, o wyryf annwyl Israel! Byddi'n gafael yn dy dambwrîn eto, ac yn mynd allan i ddawnsio a joio. Byddi'n plannu gwinllannoedd ar fryniau Samaria unwaith eto. A'r rhai fydd yn eu plannu fydd yn cael mwynhau eu ffrwyth. Mae'r amser yn dod pan fydd y gwylwyr yn gweiddi ar fryniau Effraim: “Dewch! Gadewch i ni fynd i fyny i Seion i addoli'r ARGLWYDD ein Duw.”’” Ie, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Canwch yn llawen dros bobl Israel, a gweiddi o blaid y wlad bwysicaf. Gweiddi ac addoli gan ddweud, ‘Achub dy bobl, o ARGLWYDD, achub y rhai sydd ar ôl o Israel.’ ‘Ydw, dw i'n mynd i ddod â nhw o dir y gogledd; dw i'n mynd i'w casglu nhw o ben draw'r byd. Bydd pobl ddall a chloff yn dod gyda nhw; gwragedd beichiog hefyd, a'r rhai sydd ar fin cael plant. Bydd tyrfa fawr yn dod yn ôl yma. Byddan nhw'n dod yn eu dagrau, yn gweddïo wrth i mi eu harwain yn ôl. Bydda i'n eu harwain wrth ymyl afonydd o ddŵr ac ar hyd llwybrau gwastad ble byddan nhw ddim yn baglu. Fi ydy tad Israel; Effraim ydy fy mab hynaf.’” Gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD, chi'r cenhedloedd i gyd, a'i gyhoeddi yn y gwledydd pell ar yr arfordir a'r ynysoedd: “Bydd yr ARGLWYDD, wnaeth yrru pobl Israel ar chwâl, yn eu casglu eto ac yn gofalu amdanyn nhw fel bugail yn gofalu am ei braidd. ” Mae'r ARGLWYDD yn mynd i ryddhau pobl Jacob. Bydd yn eu gollwng nhw'n rhydd o afael yr un wnaeth eu trechu nhw. Byddan nhw'n dod gan ganu'n frwd ar fynydd Seion. Byddan nhw'n wên i gyd am fod yr ARGLWYDD mor dda. Mae'n rhoi ŷd, sudd grawnwin ac olew olewydd, ŵyn a lloi bach. Mae'n gwneud bywyd fel gardd hyfryd wedi ei dyfrio. Fyddan nhw byth yn teimlo'n llesg a blinedig eto. Yna bydd y merched ifanc yn dawnsio'n llawen, a'r bechgyn ifanc a'r dynion hŷn yn dathlu gyda'i gilydd. Bydda i'n troi eu galar yn llawenydd. Bydda i'n eu cysuro nhw, a rhoi hapusrwydd yn lle tristwch. Bydd gan yr offeiriaid fwy na digon o aberthau, a bydd fy mhobl yn cael digonedd o bethau da, —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Mae cri i'w chlywed yn Rama, sŵn wylo chwerw a galaru mawr — Rachel yn crïo am ei phlant. Mae'n gwrthod cael ei chysuro, am eu bod nhw wedi mynd.” Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Stopia grïo. Paid colli mwy o ddagrau. Dw i'n mynd i roi gwobr i ti am dy waith. Bydd dy blant yn dod yn ôl o wlad y gelyn. Mae gobaith i'r dyfodol,” meddai'r ARGLWYDD “Bydd dy blant yn dod yn ôl i'w gwlad eu hunain. Dw i wedi clywed pobl Effraim yn dweud yn drist, ‘Roedden ni'n wyllt fel tarw ifanc heb ei ddofi. Ti wedi'n disgyblu ni, a dŷn ni wedi dysgu'n gwers. Gad i ni ddod yn ôl i berthynas iawn hefo ti. Ti ydy'r ARGLWYDD ein Duw ni. Roedden ni wedi troi cefn arnat ti, ond bellach dŷn ni wedi troi'n ôl. Ar ôl gweld ein bai roedden ni wedi'n llethu gan alar am fod mor wirion! Roedd gynnon ni gywilydd go iawn am y ffordd roedden ni wedi ymddwyn pan oedden ni'n ifanc.’ Yn wir mae pobl Effraim yn dal yn blant i mi! Maen nhw'n blant annwyl yn fy ngolwg i. Er fy mod wedi gorfod eu ceryddu nhw, dw i'n dal yn eu caru nhw. Mae'r teimladau mor gryf yno i, alla i ddim peidio dangos trugaredd atyn nhw.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. O wyryf annwyl Israel! Cofia'r ffordd aethost ti. Gosod arwyddion, a chodi mynegbyst i ganfod y ffordd yn ôl. Tyrd yn ôl! Tyrd adre i dy drefi dy hun. Am faint wyt ti'n mynd i oedi, ferch anffyddlon? Mae'r ARGLWYDD yn creu rhywbeth newydd — mae fel benyw yn amddiffyn dyn! Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel yn ei ddweud: “Dw i'n mynd i roi'r cwbl wnaeth pobl Jwda ei golli yn ôl iddyn nhw, a byddan nhw'n dweud eto am Jerwsalem: ‘O fynydd cysegredig ble mae cyfiawnder yn byw, boed i'r ARGLWYDD dy fendithio di!’ Bydd pobl yn byw gyda'i gilydd yn nhrefi Jwda unwaith eto. Bydd yno ffermwyr a bugeiliaid crwydrol yn gofalu am eu praidd. Bydda i'n rhoi diod i'r rhai sydd wedi blino, ac yn adfywio'r rhai sy'n teimlo'n llesg.” Yn sydyn dyma fi'n deffro ac yn edrych o'm cwmpas. Roeddwn i wedi bod yn cysgu'n braf! “Mae'r amser yn dod,” meddai'r ARGLWYDD, “pan fydd poblogaeth fawr a digonedd o anifeiliaid yn Israel a Jwda unwaith eto. Yn union fel roeddwn i'n gwylio i wneud yn siŵr eu bod nhw'n cael eu tynnu o'r gwraidd a'u chwalu, eu dinistrio a'u bwrw i lawr, yn y dyfodol bydda i'n gwylio i wneud yn siŵr eu bod nhw'n cael eu hadeiladu a'u plannu'n ddiogel,” meddai'r ARGLWYDD. “Bryd hynny fydd pobl ddim yn dweud pethau fel: ‘Mae'r rhieni wedi bwyta grawnwin surion ond y plant sy'n diodde'r blas drwg.’ Bydd pawb yn marw am ei bechod ei hun. Pwy bynnag sy'n bwyta'r grawnwin surion fydd yn diodde'r blas drwg.” “Mae'r amser yn dod,” meddai'r ARGLWYDD, “pan fydda i'n gwneud ymrwymiad newydd gyda phobl Israel a Jwda. Fydd hwn ddim yr un fath â'r un wnes i gyda'u hynafiaid (pan afaelais yn eu llaw a'u harwain allan o'r Aifft). Roedden nhw wedi torri amodau'r ymrwymiad hwnnw, er fy mod i wedi bod yn ŵr ffyddlon iddyn nhw. Dyma'r ymrwymiad fydda i'n ei wneud gyda phobl Israel bryd hynny,” meddai'r ARGLWYDD: “Bydda i'n rhoi fy nghyfraith yn eu calonnau nhw, ac yn ei hysgrifennu ar eu meddyliau nhw. Fi fydd eu Duw nhw, a nhw fydd fy mhobl i. Fyddan nhw ddim yn gorfod dysgu pobl eraill, a dweud wrth ei gilydd, ‘Rhaid i ti ddod i nabod yr ARGLWYDD’. Byddan nhw i gyd yn fy nabod i, y bobl gyffredin a'r arweinwyr, am fy mod i'n maddau iddyn nhw am y pethau wnaethon nhw o'i le, ac yn anghofio eu pechodau am byth.” Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud — yr un sydd wedi gosod trefn i'r haul roi golau yn y dydd a'r lleuad a'r sêr roi eu golau yn y nos; yr un sy'n corddi'r môr yn donnau mawrion — yr ARGLWYDD holl-bwerus ydy ei enw e: “Byddai dileu pobl Israel fel cenedl yr un fath â chael gwared â threfn natur!” Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Mae'n amhosib mesur yr awyr a'r gofod, neu archwilio sylfeini'r ddaear. Mae'r un mor amhosib i mi wrthod pobl Israel am bopeth drwg maen nhw wedi ei wneud,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Mae'r amser yn dod,” meddai'r ARGLWYDD, “pan fydd dinas Jerwsalem yn cael ei hadeiladu i mi eto, o Dŵr Chanan-el i Giât y Gornel. Bydd ei ffiniau yn ymestyn i'r gorllewin at Fryn Gareb ac yna'n troi i'r de i lawr i Goath. Bydd hyd yn oed y dyffryn ble cafodd yr holl gyrff marw a'u lludw eu taflu, a'r holl gaeau i lawr at Nant Cidron yn y dwyrain at gornel Giât y Ceffylau, yn rhan o'r ddinas fydd wedi ei chysegru i'r ARGLWYDD. Fydd y ddinas ddim yn cael ei chwynnu na'i bwrw i lawr byth eto.” Rhoddodd yr ARGLWYDD neges arall i Jeremeia pan oedd Sedeceia wedi bod yn frenin ar Jwda ers bron ddeg mlynedd. Roedd hi'n flwyddyn un deg wyth o deyrnasiad Nebwchadnesar, ac roedd byddin Babilon yn gwarchae ar Jerwsalem. Roedd Jeremeia yn y ddalfa yn iard y gwarchodlu ym mhalas brenin Jwda. Sedeceia oedd wedi gorchymyn ei gadw yno ar ôl ei holi pam ei fod yn proffwydo fod yr ARGLWYDD yn dweud: “Dw i'n mynd i roi'r ddinas yma i frenin Babilon. Bydd e'n ei choncro hi. Bydd y brenin Sedeceia yn cael ei ddal, a bydd yn cael ei osod i sefyll ei brawf o flaen brenin Babilon a'i wynebu'n bersonol. Yna bydd Sedeceia'n cael ei gymryd i Babilon, a bydd yn aros yno nes bydda i, yr ARGLWYDD, wedi gorffen delio hefo fe. Gallwch ddal ati i ymladd yn erbyn y Babiloniaid, ond wnewch chi ddim ennill!” Dyna pryd dwedodd Jeremeia, “Mae'r ARGLWYDD wedi rhoi'r neges yma i mi: ‘Bydd Chanamel, mab dy ewythr Shalwm, yn dod i dy weld di. Bydd yn gofyn i ti brynu'r cae sydd ganddo yn Anathoth, am mai ti ydy'r perthynas agosaf, ac felly ti sydd â'r hawl cyntaf i'w brynu.’ A dyna'n union ddigwyddodd. Dyma Chanamel, cefnder i mi, yn dod i'm gweld yn iard y gwarchodlu. Gofynnodd i mi, ‘Wyt ti eisiau prynu'r cae sydd gen i yn Anathoth, yn ardal Benjamin? Ti sydd â'r hawl cyntaf i'w brynu am mai ti ydy'r perthynas agosaf. Pryna fe i ti dy hun.’ Pan ddigwyddodd hyn roeddwn i'n gwybod yn iawn fod yr ARGLWYDD wedi siarad gyda mi. “Felly dyma fi'n prynu'r cae sydd yn Anathoth gan Chanamel, a thalu un deg saith darn arian amdano. Dyma fi'n arwyddo'r gweithredoedd a'i selio o flaen tystion, pwyso'r arian mewn clorian a thalu iddo. Roedd dau gopi o'r gweithredoedd — un wedi ei selio oedd yn cynnwys amodau a thelerau'r cytundeb, a'r llall yn gopi agored. Wedyn dyma fi'n eu rhoi nhw i Barŵch (mab Nereia ac ŵyr i Machseia). Gwnes hyn i gyd o flaen fy nghefnder Chanamel a'r dynion oedd wedi ardystio'r gweithredoedd, a phawb arall o bobl Jwda oedd yn eistedd yn iard y gwarchodlu. Yna dyma fi'n dweud wrth Barŵch o'u blaenau nhw i gyd, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: “Cymer y gweithredoedd yma, y copi sydd wedi ei selio a'r un agored, a'i rhoi mewn jar pridd i'w cadw'n saff am amser hir.” Achos dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: “Bydd tai a chaeau a gwinllannoedd yn cael eu prynu yn y wlad yma eto.”’ “Ar ôl rhoi'r gweithredoedd i Barŵch dyma fi'n gweddïo ar yr ARGLWYDD: ‘O! Feistr, ARGLWYDD! Ti ydy'r Duw cryf a nerthol sydd wedi creu y nefoedd a'r ddaear. Does dim byd yn rhy anodd i ti ei wneud. Ti'n dangos cariad diddiwedd at filoedd. Ond rwyt ti hefyd yn gadael i blant ddiodde am bechodau eu rhieni. Ti ydy'r Duw mawr, yr Un grymus! Yr ARGLWYDD holl-bwerus ydy dy enw di. Ti ydy'r Duw doeth sy'n gwneud pethau rhyfeddol. Ti'n gweld popeth mae pobl yn eu gwneud. Ti sy'n rhoi i bawb beth maen nhw'n ei haeddu am y ffordd maen nhw wedi ymddwyn. Ti wnaeth arwyddion gwyrthiol a phethau rhyfeddol yng ngwlad yr Aifft. Ti'n enwog hyd heddiw yn Israel ac ar hyd a lled y byd am beth wnest ti. Defnyddiaist dy nerth rhyfeddol i ddod â'th bobl Israel allan o wlad yr Aifft, a dychryn y bobl yno gyda'r gwyrthiau mwyaf syfrdanol. Ac wedyn dyma ti'n rhoi'r wlad ffrwythlon yma iddyn nhw — tir lle mae llaeth a mêl yn llifo! Dyna oeddet ti wedi ei addo i'w hynafiaid nhw. Ond pan ddaethon nhw i gymryd y wlad drosodd, wnaethon nhw ddim gwrando arnat ti na byw fel roeddet ti wedi eu dysgu nhw. Wnaethon nhw ddim byd oeddet ti'n ei ddweud. Dyma pam mae'r dinistr yma wedi dod arnyn nhw. Mae rampiau gwarchae wedi eu codi o gwmpas y ddinas, yn barod i'w chymryd hi. Mae'r rhyfela, y newyn a'r haint, yn siŵr o arwain at y ddinas yma'n cael ei choncro gan y Babiloniaid. Fel y gweli, mae popeth yn digwydd yn union fel gwnest ti rybuddio. Ac eto, er fod y Babiloniaid yn mynd i goncro'r ddinas yma, rwyt ti wedi dweud wrtho i am brynu'r cae yma, a chael tystion i wneud y peth yn gyfreithlon.’” Dyma'r ARGLWYDD yn ateb Jeremeia: “Yr ARGLWYDD ydw i, Duw y ddynoliaeth gyfan. Mae'n wir, does dim byd yn rhy anodd i mi ei wneud. Felly, dyma dw i'n ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i roi'r ddinas yma yn nwylo'r Babiloniaid. Bydd Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn ei choncro. Bydd byddin Babilon yn ymosod ac yn dod i mewn i'r ddinas yma, yn ei rhoi ar dân ac yn ei llosgi'n ulw. Bydd y tai ble buodd pobl yn aberthu i Baal ar eu toeau, ac yn tywallt offrwm o ddiod i dduwiau eraill, yn cael eu llosgi. Roedd pethau fel yna yn fy ngwylltio i. Dydy pobl Israel a Jwda wedi gwneud dim byd ond drwg o'r dechrau cyntaf. Maen nhw wedi fy nigio i drwy addoli eilunod maen nhw eu hunain wedi eu cerfio,’ meddai'r ARGLWYDD. ‘Mae'r ddinas yma wedi fy ngwylltio i'n lân o'r diwrnod pan gafodd ei hadeiladu hyd heddiw. Felly rhaid i mi gael gwared â hi. Mae pobl Israel a Jwda wedi fy ngwylltio'n lân drwy wneud cymaint o bethau drwg — nhw a'u brenhinoedd a'u swyddogion, yr offeiriaid a'r proffwydi, pobl Jwda i gyd, a phawb sy'n byw yn Jerwsalem! Maen nhw wedi troi cefn arna i yn lle troi ata i! Dw i wedi ceisio eu dysgu nhw dro ar ôl tro, ond roedden nhw'n gwrthod gwrando a chael eu cywiro. Maen nhw'n llygru fy nheml i drwy osod eilun-dduwiau ffiaidd ynddi. Maen nhw hefyd wedi codi allorau paganaidd i Baal yn Nyffryn Ben-hinnom. Maen nhw'n aberthu eu plant bach i Molech! Wnes i erioed ddweud wrthyn nhw am wneud y fath beth. Fyddai peth felly byth wedi croesi fy meddwl i! Mae wedi gwneud i Jwda bechu yn ofnadwy!’ “‘Mae'r rhyfel, a'r newyn a haint yn mynd i arwain at roi'r ddinas yma yn nwylo brenin Babilon,’ meddech chi. Gwir. Ond nawr dw i, yr ARGLWYDD, Duw Israel, am ddweud hyn am y ddinas yma: ‘Dw i'n mynd i gasglu fy mhobl yn ôl o'r gwledydd ble gwnes i eu gyrru nhw. Ro'n i wedi gwylltio'n lân hefo nhw. Roeddwn i'n ffyrnig! Ond dw i'n mynd i ddod â nhw'n ôl i'r lle yma, a byddan nhw'n cael byw yma yn hollol saff. Fi fydd eu Duw nhw, a nhw fydd fy mhobl i. Byddan nhw i gyd yn benderfynol o fyw yn ffyddlon i mi bob amser, a bydd hynny'n dda iddyn nhw a'u plant ar eu holau. Bydda i'n gwneud ymrwymiad gyda nhw fydd yn para am byth — ymrwymiad i beidio stopio gwneud daioni iddyn nhw. Bydda i'n plannu ynddyn nhw barch ata i fydd yn dod o waelod calon, a fyddan nhw byth yn troi cefn arna i eto. Bydda i wrth fy modd yn gwneud pethau da iddyn nhw. Bydda i'n eu plannu nhw yn y tir yma eto. Bydda i'n ffyddlon iddyn nhw, ac yn rhoi fy hun yn llwyr i wneud hyn i gyd.’ “Ie, dyma dw i, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud: ‘Fel y bydda i'n dod â'r dinistr mawr yma arnyn nhw, bydda i wedyn yn dod â'r holl bethau da dw i'n ei addo iddyn nhw.’ ‘Ond mae'r wlad yma'n anialwch diffaith,’ meddech chi. ‘Does dim pobl nag anifeiliaid yn byw yma. Mae'r wlad wedi ei choncro gan y Babiloniaid.’ Ond gwrandwch, bydd caeau yn cael eu prynu yn y wlad yma unwaith eto. Bydd caeau yn cael eu prynu a'u gwerthu yma eto, a gweithredoedd yn cael eu harwyddo a'u selio o flaen tystion. Bydd hyn yn digwydd yn nhir Benjamin, yr ardal o gwmpas Jerwsalem, trefi Jwda, yn y bryniau, yn yr iseldir yn y gorllewin a'r Negef yn y de. Bydda i'n rhoi'r cwbl wnaethon nhw ei golli yn ôl iddyn nhw,” meddai'r ARGLWYDD. Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi neges i Jeremeia yr ail waith (Roedd yn dal yn gaeth yn iard y gwarchodlu ar y pryd): “Fi, yr ARGLWYDD, sy'n gwneud hyn. Dw i'n cyflawni beth dw i'n ei fwriadu. Yr ARGLWYDD ydy fy enw i. Galwa arna i, a bydda i'n ateb. Gwna i ddangos i ti bethau mawr cudd allet ti ddim eu gwybod ohonot dy hun. “Dyma dw i, yr ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Mae tai y ddinas yma a hyd yn oed y palasau brenhinol wedi eu chwalu i gael deunydd i amddiffyn rhag y rampiau gwarchae a'r ymosodiadau. Dych chi'n bwriadu ymladd y Babiloniaid, ond bydd y tai yma yn cael eu llenwi hefo cyrff marw. Dw i'n mynd i daro pobl y ddinas yma yn ffyrnig. Dw i wedi troi cefn arnyn nhw am eu bod nhw wedi gwneud cymaint o ddrwg. “‘Ond bydda i yn iacháu'r ddinas yma eto. Dw i'n mynd i'w gwella nhw, a rhoi heddwch a'i cadw nhw'n saff am byth. Bydda i'n rhoi popeth wnaeth Israel a Jwda ei golli yn ôl iddyn nhw. Dw i'n mynd i'w hadeiladu nhw eto, fel roedden nhw o'r blaen. Dw i'n mynd i'w glanhau nhw o'u holl bechodau yn fy erbyn i. Bydda i'n maddau eu pechodau a'u gwrthryfel yn fy erbyn i. Bydd y gwledydd i gyd yn clywed am y pethau da fydda i'n eu gwneud iddyn nhw. Bydd y ddinas yma yn fy ngwneud i'n enwog, ac yn dod ag anrhydedd a mawl i mi, am fy mod i wedi gwneud ei phobl hi mor llawen. Bydd y gwledydd wedi dychryn am fy mod i wedi gwneud cymaint o dda i'r ddinas ac wedi rhoi heddwch iddi.’” “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Dych chi'n dweud am y lle yma, “Mae'r wlad yma'n anialwch diffaith. Does dim pobl nag anifeiliaid yn byw yma.” Gwir! Yn fuan iawn bydd pentrefi Jwda a strydoedd Jerwsalem yn wag — fydd neb yn byw yma, a fydd dim anifeiliaid yma chwaith. Ac eto bydd sŵn pobl yn chwerthin ac yn joio a mwynhau eu hunain mewn parti priodas i'w glywed yma eto. A bydd sŵn pobl yn canu wrth fynd i'r deml i gyflwyno offrwm diolch i'r ARGLWYDD: “Diolchwch i'r ARGLWYDD holl-bwerus. Mae e mor dda aton ni; Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!” Dw i'n mynd i roi'r cwbl oedd gan y wlad ar y dechrau yn ôl iddi,’ meddai'r ARGLWYDD. “Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: ‘Mae'n wir — bydd y lle yma yn adfeilion, heb bobl nag anifeiliaid yn byw yma. Ond yna ryw ddydd bydd bugeiliaid unwaith eto yn arwain eu praidd i orffwys yma. Bydd bugeiliaid yn cyfrif eu defaid wrth iddyn nhw fynd i'r gorlan yn y pentrefi i gyd, yn y bryniau a'r iseldir i'r gorllewin, yn y Negef i'r de, ar dir llwyth Benjamin, yn yr ardal o gwmpas Jerwsalem ac yn nhrefi Jwda i gyd. Fi, yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn! “‘Mae'r amser yn dod,’ meddai'r ARGLWYDD, ‘pan fydda i'n gwneud beth dw i wedi addo ei wneud i bobl Israel a Jwda. Bryd hynny, bydda i'n gwneud i flaguryn dyfu ar goeden deuluol Dafydd, un fydd yn gwneud beth sy'n iawn. Bydd e'n gwneud beth sy'n gyfiawn ac yn deg yn y wlad. Bryd hynny bydd Jwda'n cael ei hachub, a bydd Jerwsalem yn saff. Bydd e'n cael ei alw, “Yr ARGLWYDD sy'n rhoi cyfiawnder i ni.” ’ “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Bydd un o ddisgynyddion Dafydd yn eistedd ar orsedd Israel am byth. A bydd yna bob amser offeiriaid o lwyth Lefi yn sefyll o'm blaen i gyflwyno offrymau i'w llosgi, offrymau o rawn, ac aberthau.’” Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i Jeremeia: “Dyma dw i, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud: ‘Does neb yn gallu torri'r patrwm o nos a dydd yn dilyn ei gilydd mewn trefn. A'r un fath, does neb yn gallu torri'r ymrwymiad dw i wedi ei wneud i Dafydd fy ngwas, sef y bydd un o'i ddisgynyddion yn frenin bob amser. A does neb yn gallu torri'r ymrwymiad dw i wedi ei wneud i lwyth Lefi chwaith. Bydd cymaint o ddisgynyddion gan Dafydd fy ngwas, a'r rhai o lwyth Lefi sy'n fy ngwasanaethu i. Byddan nhw fel y sêr yn yr awyr neu'r tywod ar lan y môr — yn gwbl amhosib i'w cyfri!’ ” Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i Jeremeia: “Mae'n siŵr dy fod ti wedi clywed beth mae pobl yn ei ddweud — ‘Mae'r ARGLWYDD wedi gwrthod y ddau deulu wnaeth e ddewis!’ Does ganddyn nhw ddim parch at fy mhobl i. Dŷn nhw ddim yn eu hystyried nhw'n genedl ddim mwy. Ond dw i, yr ARGLWYDD, yn addo hyn: Dw i wedi gosod trefn i reoli dydd a nos, ac wedi gosod deddfau i'r awyr a'r ddaear. Dydy'r pethau yna byth yn mynd i gael eu newid. A'r un modd dw i ddim yn mynd i wrthod disgynyddion Jacob. Bydd un o ddisgynyddion Dafydd yn teyrnasu ar ddisgynyddion Abraham, Isaac a Jacob. Byddan nhw'n cael popeth maen nhw wedi ei golli yn ôl. Dw i'n mynd i ddangos trugaredd atyn nhw.” Roedd Nebwchadnesar, brenin Babilon, a'i fyddin (oedd yn cynnwys milwyr o'r holl wledydd roedd wedi eu concro) yn ymosod ar Jerwsalem a'r trefi o'i chwmpas. A dyna pryd rhoddodd yr ARGLWYDD neges arall i Jeremeia, a dweud wrtho am fynd i ddweud wrth Sedeceia, brenin Jwda: “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i roi'r ddinas yma yn nwylo brenin Babilon, a bydd yn ei llosgi'n ulw. A fyddi di ddim yn dianc o'i afael. Byddi'n cael dy ddal ac yn cael dy osod i sefyll dy brawf o'i flaen a'i wynebu'n bersonol. Wedyn byddi'n cael dy gymryd i Babilon.’ Ond gwrando ar beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud amdanat ti, Sedeceia, brenin Jwda. Mae'n dweud: ‘Fyddi di ddim yn cael dy ddienyddio. Byddi'n cael marw'n dawel. Byddan nhw'n llosgi arogldarth yn dy angladd di, yn union fel gwnaethon nhw i'r brenhinoedd oedd o dy flaen di. Byddan nhw'n wylo ac yn galaru ar dy ôl di, “O! ein meistr!” Dw i'n addo i ti. Fi, yr ARGLWYDD, sy'n dweud hyn.’” Felly, dyma'r proffwyd Jeremeia yn dweud hyn i gyd wrth Sedeceia, brenin Jwda. Roedd byddin brenin Babilon yn dal i ymladd yn erbyn Jerwsalem ar y pryd, ac hefyd yn erbyn Lachish ac Aseca, yr unig gaerau amddiffynnol yn Jwda oedd yn dal eu tir. Cafodd Jeremeia neges arall gan yr ARGLWYDD ar ôl i'r brenin Sedeceia ymrwymo gyda'r bobl yn Jerwsalem i ollwng eu caethweision yn rhydd. Roedd pawb i fod i ryddhau y dynion a'r merched oedd yn gaethweision. Doedd neb i fod i gadw un o'u pobl eu hunain o Jwda yn gaeth. Cytunodd pawb, yr arweinwyr a'r bobl i gyd, ac ymrwymo i ollwng eu caethweision yn rhydd — y dynion a'r merched oedd wedi bod yn gweithio iddyn nhw. Ar y dechrau dyma nhw'n gwneud beth roedden nhw wedi ei addo. Ond ar ôl hynny dyma nhw'n newid eu meddyliau, a cymryd y dynion a'r merched yn ôl, a'u gorfodi i weithio fel caethweision eto. Dyna pryd rhoddodd yr ARGLWYDD y neges yma i Jeremeia: “Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Pan ddes i â'ch hynafiaid chi allan o'r Aifft, a'u rhyddhau nhw o fod yn gaethweision, gwnes i gytundeb gyda nhw: “Bob saith mlynedd rhaid i chi ollwng yn rhydd eich cydwladwyr Hebreig sydd wedi gwerthu eu hunain i chi ac wedi'ch gwasanaethu chi am chwe mlynedd.” Ond wnaeth eich hynafiaid ddim gwrando na chymryd unrhyw sylw ohono i. Ond yna'n ddiweddar dyma chi'n newid eich ffyrdd a gwneud beth roeddwn i eisiau. Dyma chi'n gadael i'ch cydwladwyr fynd yn rhydd, ac mewn seremoni yn y deml ymrwymo i gadw at hynny. Ond wedyn dyma chi'n newid eich meddwl eto a dangos bod gynnoch chi ddim parch ata i go iawn. Dyma chi'n cymryd y dynion a'r merched oedd wedi cael eu gollwng yn rhydd i fyw eu bywydau eu hunain, a'u gwneud nhw'n gaethweision unwaith eto! “‘Felly, dyma dw i, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud: “Dych chi ddim wedi gwrando arna i go iawn. Dych chi ddim wedi gollwng eich cymdogion a'ch cydwladwyr yn rhydd. Felly dw i'n mynd roi rhyddid i ryfel, newyn a haint eich lladd chi.” Fi, yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Bydd beth fydd yn digwydd i chi yn dychryn pobl y gwledydd i gyd. Bydda i'n cosbi'r bobl hynny sydd wedi torri amodau'r ymrwymiad. Bydda i'n eu gwneud nhw fel y llo gafodd ei dorri yn ei hanner ganddyn nhw wrth dyngu'r llw a cherdded rhwng y darnau. Bydda i'n cosbi swyddogion Jwda, swyddogion Jerwsalem, swyddogion y llys brenhinol, yr offeiriaid, a phawb arall wnaeth gerdded rhwng y darnau o'r llo. Byddan nhw'n cael eu rhoi yn nwylo'r gelynion sydd am eu lladd nhw. Bydd eu cyrff yn fwyd i adar ac anifeiliaid gwylltion. Bydd y brenin Sedeceia a'i swyddogion yn cael eu rhoi yn nwylo'r gelynion hefyd. Mae brenin Babilon a'i fyddin wedi mynd i ffwrdd a stopio ymosod arnoch chi am y tro. Ond dw i, yr ARGLWYDD, yn mynd i orchymyn iddyn nhw ddod yn ôl yn fuan iawn. Byddan nhw'n ymladd yn erbyn y ddinas yma, yn ei choncro, ac yn ei llosgi'n ulw. Bydd trefi Jwda yn cael eu dinistrio'n llwyr, a fydd neb yn byw yno.”’” Dyma neges roddodd yr ARGLWYDD i Jeremeia pan oedd Jehoiacim fab Joseia yn frenin ar Jwda: “Dos i'r gymuned ble mae'r Rechabiaid yn byw, i siarad â nhw a'u gwahodd nhw i deml yr ARGLWYDD. Dos â nhw i un o'r ystafelloedd ochr, a chynnig gwin iddyn nhw i'w yfed.” Felly dyma fi'n mynd i nôl Jaasaneia (mab Jeremeia ac ŵyr Chafatsineia) a'i frodyr a'i feibion, a gweddill y gymuned o Rechabiaid, a mynd â nhw i deml yr ARGLWYDD. Es â nhw i'r ystafell ble roedd disgyblion y proffwyd Chanan fab Igdaleia yn aros — sef drws nesa i'r ystafell ble roedd swyddogion y deml yn aros, ac uwch ben ystafell Maaseia fab Shalwm, prif borthor y deml. Dyma fi'n rhoi jygiau o win a chwpanau o'u blaenau nhw, a dweud, “Cymerwch win.” Ond dyma nhw'n ateb, “Na. Dŷn ni ddim yn yfed gwin am fod Jonadab fab Rechab ein cyndad ni wedi dweud wrthon ni am beidio. ‘Dylech chi a'ch plant byth yfed gwin,’ meddai. ‘Peidiwch adeiladu tai. Peidiwch tyfu cnydau. A peidiwch plannu na phrynu gwinllan. Dych chi i fyw mewn pebyll bob amser. Os gwnewch chi hynny byddwch yn byw am hir yn y wlad lle ydych chi'n crwydro.’ Dŷn ni a'n gwragedd a'n plant bob amser wedi gwrando a bod yn ufudd i orchymyn Jonadab fab Rechab ein cyndad. Dŷn ni erioed wedi yfed gwin nac adeiladu tai, does gynnon ni ddim gwinllannoedd, caeau na chnydau, a dŷn ni bob amser wedi byw mewn pebyll. Dŷn ni wedi gwrando a gwneud yn union beth ddwedodd ein cyndad Jonadab wrthon ni. Ond pan ddaeth Nebwchadnesar brenin Babilon i ymosod ar y wlad, dyma ni'n penderfynu dianc i Jerwsalem oddi wrth fyddin Babilon a byddin Syria. A dyna pam dŷn ni yma yn Jerwsalem.” Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i Jeremeia: “Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, am i ti ei ddweud wrth bobl Jwda a'r rhai sy'n byw yn Jerwsalem: ‘Pam wnewch chi ddim dysgu gwers o hyn, a gwrando ar beth dw i'n ddweud?’ meddai'r ARGLWYDD. ‘Roedd Jonadab fab Rechab wedi dweud wrth ei ddisgynyddion am beidio yfed gwin, ac maen nhw wedi gwrando arno. Dŷn nhw erioed wedi yfed gwin. Ond dw i wedi bod yn siarad hefo chi dro ar ôl tro, a dych chi byth yn gwrando arna i. Dw i wedi anfon un proffwyd ar ôl y llall i'ch rhybuddio chi, a dweud, “Rhaid i chi stopio gwneud y pethau drwg dych chi'n eu gwneud. Rhaid i chi newid eich ffyrdd a peidio addoli a gwasanaethu eilun-dduwiau paganaidd, wedyn cewch fyw yn y wlad rois i i chi a'ch hynafiaid.” Ond wnaethoch chi ddim cymryd unrhyw sylw na gwrando ar beth roeddwn i'n ddweud. Mae disgynyddion Jonadab fab Rechab wedi gwneud beth ddwedodd e wrthyn nhw, ond dych chi ddim wedi bod yn ufudd i mi.’ Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Duw holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i daro pobl Jwda a'r rhai sy'n byw yn Jerwsalem hefo pob dinistr dw i wedi ei fygwth. Dw i wedi siarad hefo nhw a dŷn nhw ddim wedi gwrando. Dw i wedi galw arnyn nhw a dŷn nhw ddim wedi ateb.’” Yna dyma Jeremeia'n dweud wrth y gymuned o Rechabiaid: “Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Dych chi wedi gwrando ar orchymyn eich cyndad Jonadab. Dych chi wedi gwneud popeth ddwedodd e wrthych chi ei wneud.’ Felly mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn dweud hyn: ‘Bydd un o ddisgynyddion Jonadab fab Rechab yn fy ngwasanaethu i bob amser.’” Yn y bedwaredd flwyddyn pan oedd Jehoiacim fab Joseia yn frenin ar Jwda, dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i Jeremeia: “Cymer sgrôl, ac ysgrifennu arni bopeth dw i wedi ei ddweud wrthot ti am Israel a Jwda a'r gwledydd eraill i gyd. Ysgrifenna bopeth dw i wedi ei ddweud ers i mi ddechrau siarad gyda ti yn y cyfnod pan oedd Joseia yn frenin. Pan fydd pobl Jwda yn clywed am yr holl bethau ofnadwy dw i'n bwriadu ei wneud iddyn nhw, falle y byddan nhw'n stopio gwneud yr holl bethau drwg maen nhw'n eu gwneud, a bydda i'n maddau iddyn nhw am y drwg a'r pechod maen nhw wedi ei wneud.” Felly dyma Jeremeia yn galw am Barŵch fab Nereia i'w helpu. Wrth i Jeremeia adrodd pob un neges roedd yr ARGLWYDD wedi ei roi iddo, roedd Barŵch yn ysgrifennu'r cwbl i lawr ar y sgrôl. Wedyn dyma Jeremeia yn dweud wrth Barŵch, “Dw i'n cael fy rhwystro rhag mynd i mewn i deml yr ARGLWYDD. Felly dos di yno y tro nesa mae pobl trefi Jwda yn mynd i ymprydio. Dw i eisiau i ti ddarllen yn gyhoeddus yr holl negeseuon rwyt ti wedi eu hysgrifennu yn y sgrôl, yn union fel gwnes i eu hadrodd nhw. Falle y gwnân nhw bledio ar yr ARGLWYDD i faddau iddyn nhw, ac y gwnân nhw stopio gwneud y pethau drwg maen nhw wedi bod yn eu gwneud. Mae'r ARGLWYDD wedi dweud yn glir ei fod e wedi gwylltio'n lân gyda nhw.” Felly dyma Barŵch yn gwneud yn union fel roedd Jeremeia wedi dweud wrtho. Aeth i deml yr ARGLWYDD a darllen negeseuon yr ARGLWYDD o'r sgrôl. Roedd pobl Jerwsalem a'r holl bobl oedd wedi dod i mewn o drefi Jwda yn cynnal ympryd. Roedd hyn yn y nawfed mis o'r bumed flwyddyn pan oedd Jehoiacim fab Joseia yn frenin ar Jwda. A dyma Barŵch yn mynd i deml yr ARGLWYDD, i ystafell Gemareia (mab Shaffan, yr ysgrifennydd brenhinol). Roedd ystafell Gemareia wrth iard uchaf y deml wrth ymyl y Giât Newydd. A dyma Barŵch yn darllen yn uchel o'r sgrôl bopeth oedd Jeremeia wedi ei ddweud wrtho. Dyma Michaia (mab Gemareia ac ŵyr i Shaffan) yn clywed Barŵch yn darllen y negeseuon gan yr ARGLWYDD oedd yn y sgrôl. Felly aeth i lawr i balas y brenin, a mynd i ystafell yr ysgrifennydd brenhinol. Roedd swyddogion y llys brenhinol yno i gyd mewn cyfarfod: Elishama yr ysgrifennydd, Delaia fab Shemaia, Elnathan fab Achbor, Gemareia fab Shaffan, Sedeceia fab Chananeia a'r swyddogion eraill. Dyma Michaia yn dweud wrthyn nhw am bopeth roedd Barŵch wedi ei ddarllen yn gyhoeddus o'r sgrôl. Felly dyma swyddogion y llys yn anfon Iehwdi (oedd yn fab i Nethaneia, ŵyr i Shelemeia, ac yn or-ŵyr i Cwshi) at Barŵch i'w nôl ac i ddweud wrtho am ddod â'r sgrôl oedd e wedi ei darllen gydag e. Felly dyma Barŵch yn mynd atyn nhw a'r sgrôl gydag e. “Eistedd i lawr a darllen y sgrôl i ni,” medden nhw. Felly dyma Barŵch yn ei darllen iddyn nhw. Roedden nhw i gyd wedi dychryn yn lân pan glywon nhw'r negeseuon. “Rhaid i ni ddweud wrth y brenin am hyn i gyd,” medden nhw. Yna dyma nhw'n gofyn i Barŵch, “Dywed wrthon ni, sut gest ti'r negeseuon yma i gyd? Ai pethau ddwedodd Jeremeia ydyn nhw?” “Ie,” meddai Barŵch, “roedd Jeremeia'n adrodd y cwbl, a finnau wedyn yn ysgrifennu'r cwbl mewn inc ar y sgrôl.” A dyma'r swyddogion yn dweud wrth Barŵch, “Rhaid i ti a Jeremeia fynd i guddio, a peidio gadael i neb wybod ble ydych chi.” Dyma nhw'n cadw'r sgrôl yn saff yn ystafell Elishama yr ysgrifennydd brenhinol. Wedyn aethon nhw i ddweud wrth y brenin am y cwbl. Dyma'r brenin yn anfon Iehwdi i nôl y sgrôl. Aeth Iehwdi i'w nôl o ystafell Elishama, ac yna ei darllen i'r brenin a'r swyddogion oedd yn sefyll o'i gwmpas. Y nawfed mis oedd hi, ac roedd y brenin yn eistedd yn y gaeafdy lle roedd tân yn llosgi mewn padell dân o'i flaen. Bob tro roedd Iehwdi wedi darllen tair neu bedair colofn byddai'r brenin yn eu torri i ffwrdd gyda chyllell fach a'u taflu i'r tân yn y badell. Gwnaeth hyn nes oedd y sgrôl gyfan wedi ei llosgi. Wnaeth y brenin a'i swyddogion ddim cynhyrfu o gwbl pan glywon nhw'r negeseuon, a wnaethon nhw ddim rhwygo eu dillad i ddangos eu bod nhw'n edifar. Roedd Elnathan, Delaia a Gemareia wedi pledio ar y brenin i beidio llosgi'r sgrôl, ond wnaeth e ddim gwrando arnyn nhw. A dyma'r brenin yn gorchymyn i Ierachmeël (un o'r tywysogion brenhinol), Seraia fab Asriel a Shelemeia fab Abdeël, arestio Barŵch y copïwr a Jeremeia'r proffwyd. Ond roedd yr ARGLWYDD wedi eu cuddio nhw. Ar ôl i'r brenin losgi'r sgrôl (sef yr un roedd Barŵch wedi ysgrifennu arni bopeth oedd Jeremeia wedi ei ddweud), dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Jeremeia: “Cymer sgrôl arall, ac ysgrifennu arni bopeth oedd ar y sgrôl wreiddiol gafodd ei llosgi gan Jehoiacim. Yna dywed wrth Jehoiacim, brenin Jwda fy mod i, yr ARGLWYDD, yn dweud: ‘Rwyt wedi llosgi'r sgrôl, a gofyn i Jeremeia pam wnaeth e ysgrifennu arni fod brenin Babilon yn mynd i ddod i ddinistrio'r wlad yma, a chipio pobl ac anifeiliaid ohoni.’ Felly dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am Jehoiacim, brenin Jwda: ‘Fydd neb o'i ddisgynyddion yn eistedd ar orsedd Dafydd. Pan fydd e farw fydd ei gorff ddim yn cael ei gladdu — bydd yn cael ei daflu i orwedd allan yn haul poeth y dydd a barrug y nos. Dw i'n mynd i'w gosbi e a'i ddisgynyddion a'i swyddogion am yr holl bethau drwg maen nhw wedi eu gwneud. Bydda i'n eu taro nhw (a pobl Jerwsalem a Jwda) hefo pob dinistr dw i wedi ei fygwth, am iddyn nhw ddal i wrthod gwrando.’” Felly dyma Jeremeia'n rhoi sgrôl arall i Barŵch fab Nereia, y copïwr. A dyma Barŵch yn ysgrifennu arni bopeth oedd Jeremeia'n ei ddweud — y negeseuon oedd ar y sgrôl gafodd ei llosgi gan Jehoiacim, brenin Jwda. A cafodd llawer o negeseuon eraill tebyg eu hychwanegu. Sedeceia, mab i Joseia, wnaeth olynu Jehoiachin fab Jehoiacim yn frenin ar Jwda. Cafodd Sedeceia ei benodi'n frenin gan Nebwchadnesar, brenin Babilon. Ond wnaeth e a'i swyddogion, na'r bobl gyffredin chwaith, ddim gwrando ar beth roedd yr ARGLWYDD yn ei ddweud drwy'r proffwyd Jeremeia. Er hynny, dyma'r brenin Sedeceia yn anfon Iehwchal fab Shelemeia a'r offeiriad Seffaneia fab Maaseia at Jeremeia. Dwedodd wrthyn nhw am ofyn iddo, “Plîs gweddïa y bydd yr ARGLWYDD ein Duw yn ein helpu ni.” (Ar y pryd roedd Jeremeia'n dal yn rhydd i fynd a dod. Doedd e ddim eto wedi cael ei roi yn y carchar.) Roedd byddin Babilon wedi stopio ymosod ar Jerwsalem am y tro. Roedden nhw wedi clywed fod byddin y Pharo yn dod i fyny o'r Aifft, ac felly dyma nhw'n gadael Jerwsalem. A dyma'r ARGLWYDD yn rhoi neges i Jeremeia: “Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: Dwedwch wrth frenin Jwda wnaeth eich anfon chi ata i am help: ‘Bydd byddin y Pharo, sydd ar ei ffordd i'ch helpu chi, yn mynd yn ôl adre i'r Aifft, a bydd y Babiloniaid yn dod yn ôl i ymosod ar y ddinas yma. Byddan nhw'n ei choncro ac yn ei llosgi'n ulw.’ Mae'r ARGLWYDD yn dweud: ‘Peidiwch twyllo'ch hunain i feddwl y bydd y Babiloniaid yn mynd i ffwrdd ac yn gadael llonydd i chi. Fyddan nhw ddim yn mynd i ffwrdd. Hyd yn oed petaech chi'n llwyddo i ddinistrio'r fyddin sy'n dod i ymladd yn eich erbyn chi, a gadael dim ond llond dwrn o ddynion wedi eu hanafu yn gorwedd yn eu pebyll, bydden nhw'n codi eto ac yn llosgi'r ddinas yma'n ulw.’” Roedd byddin Babilon wedi gadael Jerwsalem am fod byddin y Pharo ar ei ffordd, a dyma Jeremeia'n cychwyn allan o Jerwsalem i fynd adre i ardal Benjamin. Roedd yn mynd i dderbyn ei siâr e o'r tir oedd piau'r teulu. Ond pan gyrhaeddodd Giât Benjamin dyma capten y gwarchodlu, sef Ireia (mab Shelemeia ac ŵyr i Chananeia), yn ei stopio. “Ti'n mynd drosodd at y Babiloniaid!” meddai wrtho. Ond dyma Jeremeia'n ateb, “Na, dydy hynny ddim yn wir. Dw i ddim yn mynd drosodd at y Babiloniaid.” Ond roedd Ireia'n gwrthod gwrando arno, a dyma fe'n arestio Jeremeia a mynd ag e at y swyddogion. Roedd y swyddogion yn wyllt gynddeiriog hefo Jeremeia. Ar ôl ei guro dyma nhw'n ei garcharu yn nhŷ Jonathan, yr ysgrifennydd brenhinol — roedd y tŷ wedi cael ei droi'n garchar. Felly roedd Jeremeia yn y carchar, wedi ei roi mewn dwnsiwn. A buodd yno am amser hir. Dyma'r brenin Sedeceia yn anfon am Jeremeia, a dod ag e i'r palas i'w holi'n gyfrinachol. “Oes gen ti neges gan yr ARGLWYDD?” meddai. “Oes,” meddai Jeremeia, “Ti'n mynd i gael dy roi yn nwylo brenin Babilon!” Wedyn dyma Jeremeia'n gofyn i'r brenin, “Pa ddrwg dw i wedi ei wneud i ti, neu i dy swyddogion, neu i'r bobl yma? Pam ydych chi wedi fy nhaflu i yn y carchar? A ble mae'r proffwydi hynny wnaeth broffwydo y byddai brenin Babilon ddim yn ymosod ar y wlad yma? Plîs gwranda arna i, f'arglwydd frenin. Dw i'n pledio am drugaredd. Bydda i'n marw os gwnei di f'anfon i yn ôl i'r carchar yna yn nhŷ Jonathan yr ysgrifennydd.” Felly dyma'r brenin Sedeceia yn gorchymyn cadw Jeremeia yn iard y gwarchodlu. Rhoddodd orchymyn hefyd ei fod i gael dogn o fara ffres o Stryd y Pobyddion bob dydd, o leia tra bod bara i'w gael yn y ddinas. Felly cafodd Jeremeia ei gadw yn iard y gwarchodlu. Roedd Sheffateia fab Mattan, Gedaleia fab Pashchwr, Iwchâl fab Shelemeia, a Pashchwr fab Malcîa, wedi clywed beth oedd Jeremeia wedi bod yn ei ddweud wrth y bobl. Roedd yn dweud “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Bydd pawb sy'n aros yn y ddinas yma yn cael eu lladd yn y rhyfel, neu'n marw o newyn neu haint. Ond bydd y rhai sy'n ildio i'r Babiloniaid yn cael byw.’ Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Bydd y ddinas yma yn cael ei rhoi yn nwylo byddin brenin Babilon. Byddan nhw'n ei dal hi.’” Felly dyma'r pedwar swyddog yn mynd at y brenin a dweud, “Rhaid i'r dyn yma farw! Mae e'n torri calonnau'r milwyr a'r bobl sydd ar ôl yn y ddinas yma. Dydy e ddim yn trïo helpu'r bobl yma o gwbl — gwneud niwed iddyn nhw mae e!” “O'r gorau,” meddai'r brenin Sedeceia, “gwnewch beth fynnoch chi ag e. Alla i ddim eich stopio chi.” Felly dyma nhw'n cymryd Jeremeia a'i daflu i bydew Malcîa, aelod o'r teulu brenhinol. Mae'r pydew yn iard y gwarchodlu, a dyma nhw'n ei ollwng i lawr iddo gyda rhaffau. Doedd dim dŵr yn y pydew, ond roedd mwd ar y gwaelod. A dyma Jeremeia yn suddo i mewn i'r mwd. Yna dyma Ebed-melech, dyn du o Affrica oedd yn swyddog yn y llys brenhinol, yn clywed eu bod nhw wedi rhoi Jeremeia yn y pydew. Roedd y brenin mewn achos llys wrth Giât Benjamin ar y pryd. Dyma Ebed-melech yn gadael y palas ac yn mynd i siarad â'r brenin. “Fy mrenin, syr,” meddai, “mae'r dynion yna wedi gwneud peth drwg iawn yn y ffordd maen nhw wedi trin y proffwyd Jeremeia. Maen nhw wedi ei daflu i mewn i'r pydew. Mae'n siŵr o lwgu i farwolaeth yno achos does prin dim bwyd ar ôl yn y ddinas.” Felly dyma'r brenin yn rhoi'r gorchymyn yma i Ebed-melech o Affrica: “Dos â tri deg o ddynion gyda ti, a thynnu'r proffwyd Jeremeia allan o'r pydew cyn iddo farw.” Felly dyma Ebed-melech yn cymryd y dynion gydag e. Aeth i'r palas a nôl hen ddillad a charpiau o'r ystafell dan y trysordy. Gollyngodd nhw i lawr i Jeremeia yn y pydew gyda rhaffau. Wedyn dyma Ebed-melech yn dweud wrth Jeremeia, “Rho'r carpiau a'r hen ddillad yma rhwng dy geseiliau a'r rhaffau.” A dyma Jeremeia'n gwneud hynny. Yna dyma nhw'n tynnu Jeremeia allan o'r pydew gyda'r rhaffau. Ond roedd rhaid i Jeremeia aros yn iard y gwarchodlu wedyn. Dyma'r brenin Sedeceia yn anfon am y proffwyd Jeremeia i'w gyfarfod wrth y drydedd fynedfa i deml yr ARGLWYDD. A dyma fe'n dweud wrth Jeremeia, “Dw i eisiau dy holi di. Paid cuddio dim oddi wrtho i.” Ond dyma Jeremeia'n ateb, “Os gwna i ddweud y cwbl wrthot ti, byddi'n fy lladd i. A wnei di ddim gwrando arna i os gwna i roi cyngor i ti beth bynnag.” Ond dyma'r brenin Sedeceia yn addo i Jeremeia, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD sy'n rhoi bywyd i ni yn fyw, wna i ddim dy ladd di, a wna i ddim dy roi di yn nwylo'r dynion hynny sydd eisiau dy ladd di chwaith.” Felly dyma Jeremeia'n dweud wrth Sedeceia, “Dyma mae'r ARGLWYDD, y Duw holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Rhaid i ti ildio i swyddogion brenin Babilon. Os gwnei di, byddi di a dy deulu yn cael byw, a fydd y ddinas yma ddim yn cael ei llosgi. Ond os byddi'n gwrthod ildio iddyn nhw, bydd y ddinas yma yn cael ei rhoi yn nwylo'r Babiloniaid, a byddan nhw'n ei llosgi'n ulw. A fyddi di ddim yn dianc o'u gafael nhw chwaith.’” Dyma'r brenin Sedeceia yn dweud wrth Jeremeia, “Mae gen i ofn y bobl hynny o Jwda sydd wedi mynd drosodd at y Babiloniaid. Os bydd y Babiloniaid yn fy rhoi i yn eu dwylo nhw byddan nhw'n fy ngham-drin i.” “Na, fydd hynny ddim yn digwydd,” meddai Jeremeia. “Gwna di beth mae'r ARGLWYDD wedi ei ddweud trwyddo i, a bydd popeth yn iawn. Bydd dy fywyd yn cael ei arbed. Ond os gwnei di wrthod ildio, mae'r ARGLWYDD wedi dangos i mi beth fydd yn digwydd — Bydd y merched sydd ar ôl yn y palas brenhinol yn cael eu cymryd at swyddogion brenin Babilon, a dyma fydd yn cael ei ddweud amdanat ti: ‘Mae dy ffrindiau wedi dy gamarwain di! Maen nhw wedi cael y gorau arnat ti! Pan oedd dy draed yn sownd yn y mwd dyma nhw'n cerdded i ffwrdd!’ Bydd dy wragedd a dy blant i gyd yn cael eu cymryd gan y Babiloniaid. A fyddi di dy hun ddim yn dianc o'u gafael nhw chwaith — bydd brenin Babilon yn dy ddal di. A bydd y ddinas yma'n cael ei llosgi'n ulw.” “Paid gadael i neb wybod am y sgwrs yma,” meddai Sedeceia wrth Jeremeia. “Os gwnei di bydd dy fywyd mewn perygl. Petai'r swyddogion yn dod i glywed fy mod i wedi siarad gyda ti ac yn dod atat i ofyn, ‘Beth ddwedaist ti wrth y brenin? A beth ddwedodd e wrthot ti? Dywed y cwbl wrthon ni, neu byddwn ni'n dy ladd di!’ Petai hynny'n digwydd, dywed wrthyn nhw, ‘Ro'n i'n pledio ar i'r brenin beidio fy anfon i'n ôl i'r dwnsiwn yn nhŷ Jonathan i farw yno.’” A dyna ddigwyddodd. Pan ddaeth y swyddogion at Jeremeia i'w holi, dyma fe'n dweud yn union beth oedd y brenin wedi ei orchymyn iddo. Wnaethon nhw ddim ei groesholi ddim mwy, achos doedd neb wedi clywed y sgwrs rhwng Jeremeia a'r brenin. Felly cafodd Jeremeia ei gadw yn y ddalfa yn iard y gwarchodlu hyd y dydd pan gafodd Jerwsalem ei choncro. Dyma Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn dod â'i fyddin gyfan i ymosod ar Jerwsalem a gwarchae arni. Digwyddodd hyn yn y degfed mis o nawfed flwyddyn Sedeceia yn frenin ar Jwda. Buon nhw'n gwarchae arni am flwyddyn a hanner. Yna ar y nawfed diwrnod o'r pedwerydd mis ym mlwyddyn un deg un o deyrnasiad Sedeceia dyma nhw'n torri trwy waliau'r ddinas. Dyma swyddogion brenin Babilon yn dod ac yn eistedd wrth y Giât Ganol — Nergal-sharetser o Samgar, Nebo-sarsechîm (prif swyddog y llys), Nergal-sharetser (oedd yn uchel-swyddog), a'r swyddogion eraill i gyd. Roedd y Brenin Sedeceia a'i filwyr wedi dianc. Roedden nhw wedi gadael y ddinas yn ystod y nos, drwy ardd y brenin ac yna allan drwy'r giât sydd rhwng y ddwy wal. Wedyn mynd i gyfeiriad Dyffryn Iorddonen. Ond aeth byddin Babilon ar eu holau a dal Sedeceia ar wastatir Jericho. Dyma nhw'n mynd ag e i sefyll ei brawf o flaen Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn Ribla yn ardal Chamath. Cafodd Sedeceia ei orfodi i edrych ar ei feibion yn cael eu lladd gan frenin Babilon. A cafodd pobl bwysig Jwda i gyd eu lladd ganddo hefyd. Wedyn dyma fe'n tynnu llygaid Sedeceia allan a'i roi mewn cadwyni pres cyn mynd ag e'n gaeth i Babilon. Dyma'r Babiloniaid yn llosgi'r palas brenhinol a thai y bobl a bwrw waliau Jerwsalem i lawr. Wedyn dyma Nebwsaradan, capten y gwarchodlu brenhinol, yn mynd â'r bobl oedd ar ôl yn y ddinas yn gaeth i Babilon — gan gynnwys y bobl oedd wedi dianc ato o Jerwsalem yn gynharach. Yr unig bobl gafodd eu gadael ganddo yn Jwda oedd rhai o'r bobl gyffredin dlawd oedd heb eiddo o gwbl. Rhoddodd gaeau a gwinllannoedd iddyn nhw i ofalu amdanyn nhw. Roedd Nebwchadnesar, brenin Babilon, wedi rhoi gorchymyn i Nebwsaradan, capten y gwarchodlu brenhinol, am Jeremeia. “Ffeindia Jeremeia, a gofalu amdano. Paid gwneud dim drwg iddo. Gwna beth mae e'n ei ofyn i ti.” Felly dyma Nebwsaradan (capten y gwarchodlu brenhinol), Nebwshasban (prif swyddog y llys), Nergal-sharetser (oedd yn uchel-swyddog), a swyddogion eraill brenin Babilon yn anfon am Jeremeia a'i gymryd o iard y gwarchodlu. Yna dyma nhw'n cael Gedaleia (mab Achicam ac ŵyr i Shaffan) i ofalu amdano a'i gymryd i'w dŷ. Ond dewisodd Jeremeia aros gyda'r bobl gyffredin. Roedd yr ARGLWYDD wedi rhoi neges i Jeremeia pan oedd yn y ddalfa yn iard y gwarchodlu: “Dos i ddweud wrth Ebed-melech yr Affricanwr: Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i wneud beth ddywedais i i'r ddinas yma — gwneud drwg iddi yn lle gwneud da. A byddi di yma i weld y cwbl yn digwydd. Ond bydda i'n dy arbed di pan fydd y peth yn digwydd,’ meddai'r ARGLWYDD. ‘Fyddi di ddim yn cael dy ddal gan y bobl rwyt ti'n eu hofni. Bydda i'n dy achub di. Gei di ddim dy ladd yn y rhyfel. Byddi di'n cael byw, am dy fod ti wedi trystio yno i.’” Yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. Dyma neges arall roddodd yr ARGLWYDD i Jeremeia, pan gafodd ei ollwng yn rhydd gan Nebwsaradan, capten y gwarchodlu brenhinol. Roedd yn Rama, wedi ei rwymo mewn cadwyni fel pawb arall o Jwda a Jerwsalem oedd yn cael eu cymryd yn gaeth i Babilon. Yna dyma Nebwsaradan yn cymryd Jeremeia o'r neilltu a dweud wrtho, “Roedd yr ARGLWYDD dy Dduw wedi bygwth dinistrio'r lle yma, a dyna wnaeth e. Mae wedi gwneud beth ddwedodd am eich bod chi wedi pechu yn ei erbyn a gwrthod gwrando arno. Dyna pam mae hyn wedi digwydd i chi. Nawr, dw i wedi tynnu dy gadwyni ac yn dy ollwng di'n rhydd. Os wyt ti eisiau dod hefo fi i Babilon, tyrd, a gwna i edrych ar dy ôl di. Ond does dim rhaid i ti ddod os wyt ti ddim eisiau. Ti'n rhydd i fynd i ble bynnag rwyt ti eisiau. Os wyt ti am aros, dos yn ôl at Gedaleia (mab Achicam ac ŵyr i Shaffan) sydd wedi ei benodi gan frenin Babilon yn llywodraethwr dros drefi Jwda. Aros gydag e a'r bobl yno. Neu dos i ble bynnag arall rwyt ti eisiau.” Yna ar ôl rhoi bwyd ac arian i Jeremeia, dyma gapten y gwarchodlu brenhinol yn gadael iddo fynd. A dyma Jeremeia yn mynd i Mitspa at Gedaleia fab Achicam. Arhosodd yno gyda'r bobl oedd wedi eu gadael ar ôl yn y wlad. Roedd rhai o swyddogion byddin Jwda a'u milwyr wedi bod yn cuddio yng nghefn gwlad. Dyma nhw'n clywed fod brenin Babilon wedi penodi Gedaleia fab Achicam i reoli'r wlad, a bod dynion, gwragedd a phlant mwya tlawd y wlad wedi eu gadael yno a heb eu cymryd yn gaeth i Babilon. Felly dyma nhw'n mynd i gyfarfod Gedaleia yn Mitspa — Ishmael fab Nethaneia, Iochanan a Jonathan (meibion Careach), Seraia fab Tanchwmeth, meibion Effai o Netoffa, a Iesaneia (mab y Maachathiad). Daeth y rhain i gyd gyda'u milwyr. A dyma Gedaleia yn addo iddyn nhw, “Does dim rhaid i chi fod ag ofn ildio i'r Babiloniaid. Arhoswch yn y wlad a gwasanaethu brenin Babilon, a bydd popeth yn iawn. Bydda i'n aros yn Mitspa ac yn eich cynrychioli pan fydd y Babiloniaid yn dod i'n cyfarfod ni. Ewch chi i gasglu'r cynhaeaf grawnwin, y ffigys aeddfed a'r olew, a'i storio mewn jariau. Cewch setlo i lawr yn y trefi dych chi wedi eu cipio.” Roedd llawer o bobl Jwda wedi dianc yn ffoaduriaid i Moab, gwlad Ammon, Edom a gwledydd eraill, a dyma nhw'n clywed beth oedd wedi digwydd. Clywon nhw fod brenin Babilon wedi gadael i rai pobl aros yn Jwda, a'i fod wedi penodi Gedaleia i reoli'r wlad. Felly dyma'r bobl hynny i gyd yn dod adre i wlad Jwda o'r gwledydd ble roedden nhw wedi bod yn ffoaduriaid, a mynd i Mitspa i gyfarfod Gedaleia. A dyma nhw hefyd yn casglu cynhaeaf enfawr o rawnwin a ffigys. Un diwrnod dyma Iochanan fab Careach a swyddogion eraill y fyddin oedd wedi bod yn cuddio yng nghefn gwlad yn mynd i Mitspa eto i gyfarfod Gedaleia. A dyma nhw'n dweud wrtho, “Wyt ti'n gwybod fod Baalis, brenin Ammon, wedi anfon Ishmael fab Nethaneia i dy lofruddio di?” Ond doedd Gedaleia ddim yn eu credu nhw. Wedyn dyma Iochanan fab Careach yn cael gair preifat hefo Gedaleia ym Mitspa. “Gad i mi fynd i ladd Ishmael fab Nethaneia,” meddai. “Fydd neb yn gwybod am y peth. Rhaid i ni beidio gadael iddo dy lofruddio di, neu bydd pobl Jwda sydd wedi dy gefnogi di yn mynd ar chwâl, a bydd y rhai sydd ar ôl yn Jwda yn diflannu!” Ond dyma Gedaleia yn ateb Iochanan, “Paid meiddio gwneud y fath beth! Dydy beth rwyt ti'n ddweud am Ishmael ddim yn wir.” Yna yn y seithfed mis dyma Ishmael (mab Nethaneia ac ŵyr i Elishama) yn mynd i gyfarfod Gedaleia fab Achicam yn Mitspa. Roedd deg o ddynion eraill gydag e. (Roedd Ishmael yn perthyn i'r teulu brenhinol, ac roedd wedi bod yn un o brif swyddogion y brenin Sedeceia.) Roedden nhw'n cael pryd bwyd gyda'i gilydd yn Mitspa. Ond yn sydyn dyma Ishmael a'r dynion oedd gydag e yn codi ac yn tynnu eu cleddyfau a lladd Gedaleia, y dyn oedd brenin Babilon wedi ei benodi i reoli'r wlad. Lladdodd Ishmael hefyd bob un o swyddogion Jwda oedd gyda Gedaleia yn Mitspa, a rhai milwyr o Babilon oedd yn digwydd bod yno. Y diwrnod wedyn, cyn i neb glywed fod Gedaleia wedi ei lofruddio, dyma wyth deg o ddynion yn cyrraedd yno o Sichem, Seilo a Samaria. Roedden nhw wedi siafio eu barfau, rhwygo eu dillad a thorri eu hunain â chyllyll, ac yn dod ag offrymau o rawn ac arogldarth i'w gyflwyno i'r ARGLWYDD yn y deml yn Jerwsalem. Aeth Ishmael allan i'w cyfarfod nhw. Roedd yn cymryd arno ei fod yn crïo. A pan ddaeth atyn nhw, dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Dewch i weld Gedaleia fab Achicam.” Ond pan aethon nhw i mewn i'r ddinas, dyma Ishmael a'r dynion oedd gydag e yn eu lladd nhw hefyd a taflu eu cyrff i bydew. Llwyddodd deg ohonyn nhw i arbed eu bywydau trwy ddweud wrth Ishmael, “Paid lladd ni. Mae gynnon ni stôr o wenith, haidd, olew a mêl wedi ei guddio mewn cae.” Felly wnaeth Ishmael ddim eu lladd nhw gyda'r lleill. Roedd y pydew lle taflodd Ishmael gyrff y dynion laddwyd yn un mawr. (Dyma'r pydew oedd Asa, brenin Jwda, wedi ei adeiladu pan oedd yn amddiffyn y ddinas rhag Baasha, brenin Israel.) Ond roedd Ishmael wedi llenwi'r pydew gyda'r cyrff! Yna dyma Ishmael yn cymryd pawb oedd yn Mitspa yn gaeth — roedd hyn yn cynnwys merched o'r teulu brenhinol, a phawb arall oedd Nebwsaradan, capten y gwarchodlu brenhinol, wedi eu gosod dan awdurdod Gedaleia fab Achicam. Cymerodd Ishmael nhw i gyd yn gaeth a cychwyn ar ei ffordd yn ôl i wlad Ammon. Pan glywodd Iochanan fab Careach a swyddogion eraill y fyddin am y pethau erchyll oedd Ishmael fab Nethaneia wedi eu gwneud, dyma nhw'n mynd â'u milwyr i ymladd yn ei erbyn. Cawson nhw hyd iddo wrth y pwll mawr yn Gibeon. Roedd y bobl oedd Ishmael wedi eu cymryd yn gaethion o Mitspa wrth eu boddau pan welon nhw Iochanan a swyddogion eraill y fyddin gydag e. Dyma nhw'n troi a mynd drosodd at Iochanan fab Careach. Ond llwyddodd Ishmael fab Nethaneia ac wyth o ddynion eraill i ddianc a croesi drosodd i wlad Ammon. Dyma Iochanan fab Careach, a swyddogion eraill y fyddin oedd gydag e, yn arwain y bobl oedd wedi eu hachub i ffwrdd. (Roedd dynion, gwragedd a phlant, a swyddogion y llys yn eu plith, sef y bobl roedd Ishmael fab Nethaneia wedi eu cymryd yn gaeth o Mitspa ar ôl llofruddio Gedaleia fab Achicam.) Ar ôl gadael Gibeon dyma nhw'n aros yn Llety Cimham, sydd wrth ymyl Bethlehem. Y bwriad oedd mynd i'r Aifft i ddianc oddi wrth y Babiloniaid. Roedd ganddyn nhw ofn beth fyddai'r Babiloniaid yn ei wneud am fod Ishmael fab Nethaneia wedi llofruddio Gedaleia, y dyn oedd brenin Babilon wedi ei benodi i reoli'r wlad. Dyma swyddogion y fyddin i gyd, gan gynnwys Iochanan fab Careach a Iesaneia fab Hoshaia, a pawb arall (y bobl gyffredin a'r arweinwyr) yn mynd at y proffwyd Jeremeia, a gofyn iddo, “Plîs wnei di weddïo ar yr ARGLWYDD dy Dduw droson ni — fel ti'n gweld does ond criw bach ohonon ni ar ôl. Gofyn i'r ARGLWYDD dy Dduw ddangos i ni ble i fynd a beth i'w wneud.” A dyma Jeremeia yn ateb, “Iawn. Gwna i weddïo ar yr ARGLWYDD eich Duw fel dych chi'n gofyn, a dweud wrthoch chi bopeth fydd yr ARGLWYDD yn ei ddweud. Gwna i guddio dim byd.” A dyma nhw'n ateb Jeremeia, “Bydd yr ARGLWYDD ei hun yn dyst yn ein herbyn os na wnawn ni yn union beth fydd e'n ei ddweud wrthon ni trwot ti. Dŷn ni'n dy anfon di at yr ARGLWYDD ein Duw, a sdim ots os byddwn ni'n hoffi beth mae'n ei ddweud ai peidio byddwn ni'n gwrando arno. Os gwnawn ni hynny, bydd popeth yn iawn.” Ddeg diwrnod wedyn dyma'r ARGLWYDD yn siarad â Jeremeia. Felly dyma Jeremeia yn galw am Iochanan fab Careach a swyddogion eraill y fyddin, a gweddill y bobl — y bobl gyffredin a'r arweinwyr. Yna dyma Jeremeia'n dweud wrthyn nhw, “Anfonoch chi fi at yr ARGLWYDD, Duw Israel, gyda'ch cais; a dyma beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Os gwnewch chi aros yn y wlad yma, bydda i'n eich adeiladu chi. Fydda i ddim yn eich bwrw chi i lawr. Bydda i'n eich plannu chi yn y tir yma, a ddim yn eich tynnu fel chwyn. Dw i'n wirioneddol drist o fod wedi'ch dinistrio chi. Ond bellach does dim rhaid i chi fod ag ofn brenin Babilon. Peidiwch bod a'i ofn, achos dw i gyda chi, i'ch achub chi o'i afael. Dw i'n mynd i fod yn garedig atoch chi, a gwneud iddo fe fod yn garedig atoch chi trwy adael i chi fynd yn ôl i'ch tir.’ “Os byddwch chi'n gwrthod gwrando ar yr ARGLWYDD eich Duw, a mynnu, ‘Na, dŷn ni ddim am aros yma, dŷn ni am fynd i wlad yr Aifft i fyw. Fydd dim rhaid i ni wynebu rhyfel yno, a clywed sŵn y corn hwrdd yn ein galw i ymladd. Fydd dim rhaid i ni lwgu yno …’ Os dyna wnewch chi, dyma neges yr ARGLWYDD i chi sydd ar ôl o bobl Jwda. Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel yn ei ddweud: ‘Os ydych chi mor benderfynol o fynd i'r Aifft a setlo yno, bydd y rhyfel dych chi'n ei ofni yn eich dilyn chi i wlad yr Aifft. Bydd y newyn dych chi'n poeni amdano yn dod ar eich hôl chi hefyd, a byddwch chi'n marw yno. Bydd pawb sy'n penderfynu mynd i setlo yn yr Aifft yn cael eu lladd mewn rhyfel, neu yn marw o newyn neu haint. Bydd y dinistr fydda i'n ei anfon arnyn nhw mor ofnadwy fydd neb ar ôl yn fyw.’ “Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Yn union fel gwnes i dywallt fy llid mor ffyrnig ar bobl Jerwsalem, bydda i'n tywallt fy llid arnoch chi pan ewch chi i'r Aifft. Bydd pethau ofnadwy yn digwydd i chi, a byddwch yn destun sbort ac yn esiampl o bobl wedi eich melltithio. A fyddwch chi ddim yn gweld y lle yma byth eto.’ “Chi bobl Jwda sydd ar ôl yma, mae'r ARGLWYDD yn dweud wrthoch chi, ‘Peidiwch mynd i'r Aifft.’ Dw i am i chi ddeall fy mod i wedi eich rhybuddio chi heddiw. Dych chi'n gwneud camgymeriad dybryd. Bydd yn costio'ch bywydau i chi! Chi anfonodd fi at yr ARGLWYDD Dduw. ‘Gweddïa ar yr ARGLWYDD ein Duw droson ni’ meddech chi. ‘Dywed wrthon ni beth mae'r ARGLWYDD ein Duw yn ei ddweud, ac fe wnawn ni hynny.’ Wel, dyma fi wedi dweud wrthoch chi heddiw, ond dych chi ddim am wrando. Dych chi ddim am wneud beth mae'r ARGLWYDD eich Duw wedi fy anfon i i'w ddweud wrthoch chi. Felly dw i eisiau i chi ddeall y byddwch chi'n cael eich lladd gan y cleddyf, neu'n marw o newyn a haint yn y lle dych chi'n bwriadu mynd i fyw.” Pan oedd Jeremeia wedi gorffen dweud wrth y bobl beth oedd neges yr ARGLWYDD eu Duw iddyn nhw, dyma Asareia fab Hoshaia, Iochanan fab Careach a dynion eraill oedd yn meddwl eu bod nhw'n gwybod yn well yn ateb Jeremeia, “Ti'n dweud celwydd! Dydy'r ARGLWYDD ein Duw ddim wedi dweud wrthon ni am beidio mynd i fyw i'r Aifft. Barŵch fab Nereia sydd wedi dy annog di i ddweud hyn, er mwyn i'r Babiloniaid ein dal ni, a'n lladd neu ein cymryd ni'n gaeth i Babilon.” Felly wnaeth Iochanan fab Careach a swyddogion y fyddin a gweddill y bobl ddim aros yn Jwda fel y dwedodd yr ARGLWYDD wrthyn nhw. Dyma Iochanan a'r swyddogion eraill yn mynd â'r bobl oedd ar ôl yn Jwda gyda nhw i'r Aifft. (Roedd ffoaduriaid gyda nhw, sef y rhai oedd wedi dod yn ôl i fyw yn Jwda o'r gwledydd ble roedden nhw wedi dianc. Hefyd y bobl oedd Nebwsaradan, capten y gwarchodlu brenhinol wedi eu gadael yng ngofal Gedaleia — dynion, gwragedd, plant, a merched o'r teulu brenhinol. Aethon nhw hyd yn oed â'r proffwyd Jeremeia a Barŵch fab Nereia gyda nhw.) Aethon nhw i'r Aifft am eu bod nhw'n gwrthod gwrando ar yr ARGLWYDD. A dyma nhw'n cyrraedd Tachpanches. Yn Tachpanches dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Jeremeia: “Cymer gerrig mawr a'u claddu nhw dan y pafin morter sydd o flaen y fynedfa i balas y Pharo yn Tachpanches. Dw i eisiau i bobl Jwda dy weld ti'n gwneud hyn. Wedyn dywed wrthyn nhw mai dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i anfon am fy ngwas Nebwchadnesar, brenin Babilon. Dw i'n mynd i osod ei orsedd e ar y cerrig yma dw i wedi eu claddu, a bydd e'n codi canopi drosti. Mae e'n dod i daro gwlad yr Aifft. Bydd y rhai sydd i farw o haint yn marw o haint. Bydd y rhai sydd i gael eu cymryd yn gaethion yn cael eu cymryd yn gaethion. Bydd y rhai sydd i farw yn y rhyfel yn marw yn y rhyfel. Bydd e'n rhoi temlau duwiau'r Aifft ar dân. Bydd e'n llosgi'r delwau neu'n mynd â nhw i ffwrdd. Bydd e'n clirio gwlad yr Aifft yn lân fel bugail yn pigo'r llau o'i ddillad. Wedyn bydd e'n gadael y lle heb gael unrhyw niwed. Bydd e'n malu obelisgau Heliopolis, ac yn llosgi temlau duwiau'r Aifft yn ulw.’” Dyma neges arall roddodd yr ARGLWYDD i Jeremeia am bobl Jwda oedd yn byw yn yr Aifft, yn Migdol ger Tachpanches, a Memffis yn y gogledd, a tir Pathros i'r de hefyd: “Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Dych chi wedi gweld y dinistr anfonais i ar Jerwsalem a threfi Jwda i gyd. Pentwr o gerrig ydyn nhw bellach, a does neb yn byw ynddyn nhw. Digwyddodd hyn i gyd am fod y bobl yno wedi gwneud cymaint o ddrwg, a'm gwylltio i drwy addoli duwiau eraill a llosgi arogldarth iddyn nhw. Duwiau oedden nhw doeddech chi na'ch hynafiaid yn gwybod dim amdanyn nhw. Roeddwn i'n anfon fy ngweision y proffwydi atoch chi dro ar ôl tro, yn pledio arnoch chi i beidio ymddwyn mor ffiaidd am fy mod i'n casáu'r fath beth! Ond wnaethoch chi ddim gwrando na chymryd unrhyw sylw ohona i. Wnaeth y bobl ddim troi cefn ar eu drygioni na stopio offrymu i'r duwiau eraill. Felly dyma fi'n tywallt fy llid yn ffyrnig arnyn nhw — roedd fel tân yn llosgi drwy drefi Jwda a strydoedd Jerwsalem. Dyna pam maen nhw'n adfeilion diffaith hyd heddiw.’ “Felly nawr mae'r ARGLWYDD, y Duw holl-bwerus, Duw Israel, yn gofyn: ‘Pam ydych chi'n dal ati i wneud niwed i chi'ch hunain? Pam ddylai pob dyn, gwraig, plentyn a babi bach gael ei gipio i ffwrdd o Jwda, fel bod neb o gwbl ar ôl? Pam dych chi'n fy ngwylltio i drwy addoli eilunod dych chi eich hunain wedi eu cerfio? Ac yma yn yr Aifft, lle daethoch chi i fyw, dych chi'n llosgi arogldarth i dduwiau eraill. Ydych chi eisiau cael eich torri i ffwrdd? Ydych chi eisiau bod yn esiampl o bobl wedi eu melltithio ac yn destun sbort yng ngolwg y gwledydd i gyd? Ydych chi wedi anghofio'r holl ddrwg wnaeth eich hynafiaid yng ngwlad Jwda ac ar strydoedd Jerwsalem — y drwg wnaeth brenhinoedd Jwda a'u gwragedd, a chi eich hunain a'ch gwragedd? Does neb wedi dangos eu bod nhw'n sori o gwbl! Does neb wedi dangos parch ata i, na byw'n ffyddlon i'r ddysgeidiaeth a'r rheolau rois i i chi a'ch hynafiaid.’ “Felly dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Dw i'n bendant yn mynd i ddod â dinistr arnoch chi. Dw i'n mynd i gael gwared â chi'n llwyr. Byddwch chi i gyd yn marw — pawb oedd ar ôl yn Jwda ac wnaeth benderfynu dod i fyw i'r Aifft, yn bobl gyffredin ac arweinwyr. Byddwch chi i gyd yn cael eich lladd yn y rhyfel neu'n marw o newyn. Bydd pethau ofnadwy yn digwydd i chi, a byddwch yn destun sbort ac yn esiampl o bobl wedi eich melltithio. Dw i'n mynd i gosbi'r rhai sy'n byw yn yr Aifft, fel gwnes i gosbi pobl Jerwsalem. Dw i'n mynd i'w taro nhw gyda rhyfel, newyn a haint. Fydd neb o bobl Jwda oedd ar ôl ac a aeth i lawr i'r Aifft yn dianc. Maen nhw'n hiraethu am gael mynd yn ôl i wlad Jwda, ond gân nhw ddim — ar wahân i lond dwrn o ffoaduriaid.’” Dyma'r dynion oedd yn gwybod bod eu gwragedd wedi bod yn llosgi arogldarth i dduwiau eraill, a'r gwragedd oedd yno hefyd, yn ateb Jeremeia. (Roedd tyrfa fawr ohonyn nhw — sef pobl Jwda oedd yn byw yn Pathros, de'r Aifft.) “Ti'n dweud dy fod ti'n siarad ar ran yr ARGLWYDD. Wel, dŷn ni ddim yn mynd i wrando arnat ti! Dŷn ni wedi addo llosgi arogldarth a thywallt offrwm o ddiod i'r dduwies ‛Brenhines y Nefoedd‛. Roedd ein hynafiaid a'n brenhinoedd a'n harweinwyr yn gwneud hynny yn nhrefi Jwda ac ar strydoedd Jerwsalem, a bryd hynny roedd gynnon ni ddigon o fwyd, roedd pethau'n dda arnon ni a doedd dim trafferthion. Ond ers i ni stopio llosgi arogldarth a thywallt offrwm o ddiod iddi, dŷn ni wedi bod mewn angen — mae llawer o'n pobl ni wedi cael eu lladd yn y rhyfel neu wedi marw o newyn.” A dyma'r gwragedd oedd yno'n dweud, “Mae'n wir ein bod ni wedi bod yn llosgi arogldarth a thywallt offrwm o ddiod i Frenhines y Nefoedd, ond wyt ti'n meddwl ein bod ni wedi bod yn gwneud cacennau a thywallt offrwm o ddiod iddi heb fod ein gwŷr yn gwybod am y peth ac yn ein cefnogi?” A dyma Jeremeia yn eu hateb nhw, y dynion a'u gwragedd: “Wnaeth yr ARGLWYDD ddim anghofio'r arogldarth wnaethoch chi ei losgi i eilun-dduwiau ar strydoedd Jerwsalem. Roeddech chi a'ch hynafiaid, eich brenhinoedd a'ch swyddogion, a'r bobl gyffredin yn gwneud hynny. A doedd yr ARGLWYDD ddim yn gallu diodde'r holl ddrwg a'r pethau ffiaidd roeddech chi'n eu gwneud. Cafodd y wlad ei dinistrio a'i difetha'n llwyr ganddo. Cafodd ei gwneud yn esiampl o wlad wedi ei melltithio. Does neb yn byw yno heddiw. Am eich bod chi wedi llosgi arogldarth i dduwiau eraill; am eich bod chi wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD a gwrthod gwrando arno; am eich bod chi ddim wedi byw fel dysgodd e chi, a chadw ei reolau a'i ddeddfau — dyna pam mae'r dinistr yma wedi digwydd.” Yna dyma Jeremeia yn dweud fel hyn wrthyn nhw, yn arbennig y gwragedd: “Gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD, chi bobl Jwda sydd yng ngwlad yr Aifft. Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Dych chi'r gwragedd wedi gwneud yn union beth roeddech chi'n ddweud! Roeddech chi'n dweud eich bod chi wedi addo llosgi arogldarth a thywallt offrwm o ddiod i Frenhines y Nefoedd, ac mai dyna oeddech chi'n mynd i'w wneud. Iawn! Ewch ymlaen! Cadwch eich gair!’ Ond gwrandwch ar beth sydd gan yr ARGLWYDD i'w ddweud wrthoch chi: ‘Dw i wedi tyngu llw i'm enw mawr fy hun,’ meddai'r ARGLWYDD. ‘Fydd neb o bobl Jwda sydd yn yr Aifft yn galw arna i na dweud, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD, ein Meistr, yn fyw …” Dw i'n gwylio, i wneud yn siŵr mai drwg fydd yn digwydd iddyn nhw, dim da. Byddan nhw'n cael eu lladd yn y rhyfel ac yn marw o newyn. Fydd neb ar ôl! Ychydig iawn iawn fydd yn llwyddo i ddianc rhag y cleddyf. Byddan nhw'n mynd yn ôl i wlad Jwda o'r Aifft. Bydd y bobl o Jwda ddaeth i fyw i wlad yr Aifft yn gwybod mai beth dw i'n ddweud sy'n wir, nid beth maen nhw'n ddweud! Byddwch chi'n gwybod wedyn fod y dinistr dw i'n ei fygwth yn mynd i ddigwydd. A dyma'r prawf fy mod i'n mynd i'ch cosbi chi,’ meddai'r ARGLWYDD: ‘Dw i'n mynd i roi Pharo Hoffra, brenin yr Aifft, yng ngafael y gelynion sydd eisiau ei ladd. Bydd yn union fel y gwnes i Sedeceia, brenin Jwda, pan gafodd ei ddal gan Nebwchadnesar, brenin Babilon, oedd am ei ladd e.’” Dyma'r proffwyd Jeremeia yn rhoi neges i Barŵch fab Nereia oedd yn ysgrifennu'r cwbl roedd Jeremeia'n ei ddweud mewn sgrôl. (Roedd hyn yn ystod y bedwaredd flwyddyn pan oedd Jehoiacim fab Joseia yn frenin ar Jwda ): [2-3] “Barŵch, rwyt ti'n dweud, ‘Mae hi ar ben arna i! Mae'r ARGLWYDD wedi rhoi tristwch ar ben y poen oedd yna'n barod! Dw i wedi blino tuchan. Alla i ddim gorffwys.’ Wel, dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud wrthot ti: *** ‘Dw i'n mynd i fwrw i lawr beth dw i wedi ei adeiladu, a thynnu o'r gwraidd beth dw i wedi ei blannu. Bydda i'n gwneud hyn drwy'r byd i gyd. Ddylet ti ddim disgwyl pethau mawr i ti dy hun. Dw i'n dod â dinistr ar y ddynoliaeth gyfan. Ond bydda i'n dy gadw di'n fyw ble bynnag ei di.’ —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.” Y negeseuon roddodd yr ARGLWYDD i Jeremeia am y gwledydd eraill. Dyma'r neges am yr Aifft, ac am fyddin Pharo Necho, brenin yr Aifft, oedd yn gwersylla yn Carcemish ar lan afon Ewffrates. (Cafodd y fyddin ei threchu gan Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn y bedwaredd flwyddyn pan oedd Jehoiacim fab Joseia yn frenin ar Jwda ): “I'ch rhengoedd! Tariannau'n barod! I'r gâd! Harneisiwch y ceffylau i'r cerbydau! Ar gefnau eich stalwyni! Helmedau ymlaen! Pawb i'w le! Rhowch fin ar eich picellau! Arfwisg ymlaen!” “Ond beth dw i'n weld?” meddai'r ARGLWYDD. “Maen nhw wedi dychryn. Maen nhw'n ffoi Mae'r milwyr dewr yn syrthio. Maen nhw'n dianc am eu bywydau, heb edrych yn ôl.” Does ond dychryn ym mhobman! Dydy'r cyflymaf ddim yn gallu dianc; dydy'r cryfaf ddim yn llwyddo i ffoi. Maen nhw'n baglu ac yn syrthio ar lan Afon Ewffrates yn y gogledd. Pwy ydy'r wlad sy'n codi fel yr Afon Nil, a'r afonydd sy'n llifo iddi ac yn gorlifo? Yr Aifft sy'n codi ac yn brolio ei bod yn mynd i orchuddio'r ddaear fel llifogydd, a dinistrio dinasoedd a'u pobl. “Ymlaen! Rhuthrwch i'r frwydr farchogion! Gyrrwch yn wyllt yn eich cerbydau! Martsiwch yn eich blaenau, filwyr traed — y cynghreiriaid o Affrica a Libia gyda'i tariannau; a'r rhai o Lydia sy'n trin bwa saeth.” Ond mae beth fydd yn digwydd y diwrnod hwnnw yn llaw'r Meistr, yr ARGLWYDD holl-bwerus. Diwrnod o dalu'n ôl i'w elynion. Bydd y cleddyf yn difa nes cael digon; bydd wedi meddwi ar eu gwaed! Mae'r Meistr, yr ARGLWYDD holl-bwerus, yn eu cyflwyno nhw'n aberth ar lan Afon Ewffrates yn y gogledd. Dos i fyny i Gilead i chwilio am eli, o wyryf annwyl yr Aifft! Gelli drïo pob moddion dan haul, ond i ddim pwrpas — does dim gwella i fod i ti! Bydd y gwledydd yn clywed am dy gywilydd. Bydd sŵn dy gri am help yn mynd drwy'r byd i gyd. Bydd dy filwyr cryfaf yn baglu dros ei gilydd, ac yn syrthio gyda'i gilydd! Y neges roddodd yr ARGLWYDD i Jeremeia am Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn dod i ymosod ar wlad yr Aifft: “Cyhoeddwch hyn drwy wlad yr Aifft, yn Migdol, Memffis a Tachpanches: ‘Pawb i'w le! Byddwch barod i amddiffyn! Mae pobman o'ch cwmpas yn cael ei ddinistrio gan y gelyn.’ Pam mae dy dduw Apis wedi ffoi? Pam wnaeth dy darw ddim dal ei dir? Am bod yr ARGLWYDD wedi ei fwrw i lawr! Gwnaeth i lu o filwyr syrthio a baglu dros ei gilydd wrth geisio dianc. ‘Gadewch i ni fynd yn ôl at ein pobl,’ medden nhw. ‘Mynd yn ôl i'n gwledydd ein hunain, a dianc rhag i'r gelyn ein lladd!’ Bydd y Pharo, brenin yr Aifft, yn cael y llysenw ‘Ceg fawr wedi colli ei gyfle!’” “Mor sicr a'm bod i fy hun yn fyw,” meddai'r Brenin (yr ARGLWYDD holl-bwerus ydy ei enw e), “mae'r gelyn yn dod i ymosod ar yr Aifft. Bydd yn sefyll fel Mynydd Tabor yng nghanol y bryniau, neu Fynydd Carmel ar lan y môr. ‘Paciwch eich bagiau bobl yr Aifft, yn barod i'ch cymryd yn gaethion!’ Mae Memffis yn mynd i gael ei difetha; bydd yn adfeilion gyda neb yn byw yno. Mae'r Aifft fel heffer a golwg da arni, ond bydd haid o bryfed o'r gogledd yn dod a'i phigo. Mae'r milwyr tâl sydd yn ei chanol fel lloi wedi eu pesgi. Ond byddan nhw hefyd yn troi a dianc gyda'i gilydd; wnân nhw ddim sefyll eu tir. Mae'r dydd y cân nhw eu dinistrio wedi dod; mae'n bryd iddyn nhw gael eu cosbi. Mae'r Aifft fel neidr yn llithro i ffwrdd yn dawel, tra mae byddin y gelyn yn martsio'n hyderus. Maen nhw'n dod yn ei herbyn gyda bwyeill, fel dynion yn mynd i dorri coed. Bydd yr Aifft fel coedwig drwchus yn cael ei thorri i lawr, —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. Mae'r dyrfa sy'n dod yn ei herbyn fel haid o locustiaid! Mae'n amhosib eu cyfri nhw! Bydd pobl yr Aifft yn cael eu cywilyddio. Byddan nhw'n cael eu concro gan fyddin o'r gogledd.” Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn dweud: “Dw i'n mynd i gosbi Amon, sef duw Thebes, a chosbi'r Aifft, ei duwiau a'i brenhinoedd. Dw i'n mynd i gosbi'r Pharo, a phawb sy'n ei drystio fe. Dw i'n mynd i'w rhoi nhw yn nwylo'r rhai sydd eisiau eu lladd nhw — sef Nebwchadnesar, brenin Babilon, a'i filwyr. Ond ar ôl hynny bydd pobl yn byw yng ngwlad yr Aifft fel o'r blaen,” meddai'r ARGLWYDD. “Felly, peidiwch bod ag ofn bobl Jacob, fy ngweision,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Peidiwch anobeithio bobl Israel. Dw i'n mynd i'ch achub chi a'ch plant o'r wlad bell lle buoch yn gaeth. Bydd pobl Jacob yn dod yn ôl adre ac yn mwynhau heddwch. Byddan nhw'n teimlo'n saff a fydd neb yn eu dychryn nhw. Peidiwch bod ag ofn, bobl Jacob, fy ngweision,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn— “dw i gyda chi. Dw i'n mynd i ddinistrio'r gwledydd hynny lle gwnes i eich gyrru chi ar chwâl, ond wna i ddim eich dinistrio chi. Bydda i yn eich disgyblu chi, ond dim ond faint dych chi'n ei haeddu; alla i ddim peidio'ch cosbi chi o gwbl.” Y neges roddodd yr ARGLWYDD i Jeremeia am y Philistiaid, cyn i'r Pharo ymosod ar Gasa. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Edrychwch! Mae'r gelynion yn codi yn y gogledd fel afon ar fin gorlifo. Byddan nhw'n dod fel llifogydd i orchuddio'r tir. Byddan nhw'n dinistrio'r wlad a phopeth ynddi, y trefi a phawb sy'n byw ynddyn nhw. Bydd pobl yn gweiddi mewn dychryn, a phopeth byw yn griddfan mewn poen. Bydd sŵn y ceffylau'n carlamu, y cerbydau'n clecian, a'r olwynion yn rymblan. Bydd rhieni'n ffoi am eu bywydau heb feddwl troi'n ôl i geisio achub eu plant am fod arnynt gymaint o ofn. Mae'r diwrnod wedi dod i'r Philistiaid gael eu dinistrio, a'r cynghreiriaid sydd ar ôl yn Tyrus a Sidon. Ydw, dw i'r ARGLWYDD yn mynd i ddinistrio'r Philistiaid, y bobl ddaeth drosodd o ynys Creta. Bydd pobl Gasa yn siafio eu pennau mewn galar, ac Ashcelon yn cael eu taro'n fud. Am faint ydych chi sydd ar ôl ar y gwastatir yn mynd i ddal ati i dorri eich hunain â chyllyll?” “O! gleddyf yr ARGLWYDD, am faint wyt ti'n mynd i ddal ati i ladd? Dos yn ôl i'r wain! Aros yno, a gorffwys!” “Ond sut mae'n gallu gorffwys pan mae'r ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo? Fe sydd wedi dweud wrtho am ymosod ar dref Ashcelon a phobl yr arfordir.” Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud am Moab: “Mae hi ar ben ar dref Nebo! Bydd hi'n cael ei dinistrio. Bydd Ciriathaim yn cael ei chywilyddio a'i choncro — bydd y gaer yn cael ei chywilyddio a'i bwrw i lawr. Fydd Moab ddim yn cael ei hedmygu eto! Bu cynllwynio yn Cheshbon i'w dinistrio: ‘Dewch! Gadewch i ni roi diwedd ar y wlad!’ Tref Madmen, cei dithau dy dawelu — Does dim dianc rhag y rhyfel i fod. Gwrandwch ar y gweiddi yn Choronaïm! ‘Dinistr llwyr! Mae'n adfeilion!’ Mae Moab wedi ei dryllio! Bydd ei phlant yn gweiddi allan. Byddan nhw'n dringo llethrau Lwchith ac yn wylo'n chwerw wrth fynd. Ar y ffordd i lawr i Choronaïm bydd sŵn pobl yn gweiddi mewn dychryn. ‘Ffowch am eich bywydau! — byddwch fel prysglwyn unig yn yr anialwch.’ Am dy fod wedi trystio dy ymdrechion a dy gyfoeth dy hun, byddi di hefyd yn cael dy goncro. Bydd dy dduw Chemosh yn cael ei gymryd i ffwrdd, a'i offeiriaid a'i swyddogion gydag e. Mae'r gelyn sy'n dinistrio yn dod i daro'r trefi i gyd, fydd dim un yn dianc. Bydd trefi'r dyffryn yn cael eu dinistrio, a'r trefi ar y byrdd-dir uchel hefyd. Dw i, yr ARGLWYDD, wedi dweud. Côd garreg fedd i Moab, achos bydd yn cael ei throi'n adfeilion. Bydd ei threfi yn cael eu dinistrio a fydd neb yn byw ynddyn nhw.” (Melltith ar unrhyw un sy'n ddiog wrth wneud gwaith yr ARGLWYDD! Melltith ar unrhyw un sydd ddim yn defnyddio ei gleddyf i dywallt gwaed!) “Mae Moab wedi teimlo'n saff o'r dechrau cyntaf. Mae hi wedi cael llonydd, fel gwin wedi hen setlo, a heb gael ei dywallt o un jar i'r llall. Dydy hi erioed wedi cael ei chymryd yn gaeth; mae fel gwin sydd wedi cadw ei flas a'i arogl. “Ond mae'r amser yn dod pan fydda i'n anfon dynion i'w selar i'w thywallt allan a malu'r jariau'n ddarnau,” meddai'r ARGLWYDD. “Bydd gan Moab gywilydd o'i heilun-dduw Chemosh, fel roedd gan Israel gywilydd o'r llo roedd yn ei drystio yn Bethel. Mae dynion Moab yn brolio, ‘Dŷn ni'n arwyr! Dŷn ni'n filwyr cryfion!’ Ond mae'r un sy'n dinistrio Moab yn dod. Bydd ei threfi'n cael eu concro, a'i milwyr ifanc gorau'n cael eu lladd,” —y Brenin, sef yr ARGLWYDD holl-bwerus, sy'n dweud hyn. “Mae dinistr Moab ar fin digwydd; mae'r drwg ddaw arni'n dod yn fuan. Galarwch drosti, chi wledydd sydd o'i chwmpas a phawb sy'n gwybod amdani. Dwedwch, ‘O! Mae ei grym wedi ei golli; mae'r deyrnwialen hardd wedi ei thorri!’ Dewch i lawr o'ch safle balch ac eistedd yn y baw, chi sy'n byw yn Dibon. Bydd yr un fydd yn dinistrio Moab yn ymosod ac yn dymchwel y caerau sy'n eich amddiffyn. Chi sy'n byw yn Aroer, safwch ar ochr y ffordd yn gwylio. Gofynnwch i'r dynion a'r merched sy'n dianc, ‘Beth sydd wedi digwydd?’ Byddan nhw'n ateb: ‘Mae Moab wedi ei chywilyddio — mae wedi ei choncro.’ Udwch a chrïo! Cyhoeddwch ar lan Afon Arnon ‘Mae Moab wedi ei dinistrio.’” Mae trefi'r byrdd-dir i gael eu barnu — Holon, Iahats, Meffaäth, Dibon, Nebo, Beth-diblathaim, Ciriathaim, Beth-gamwl, Beth-meon, Cerioth a Bosra. Bydd trefi Moab i gyd yn cael eu cosbi — pell ag agos. “Mae corn Moab wedi ei dorri, a'i nerth wedi dod i ben,” meddai'r ARGLWYDD. Roedd Moab yn brolio ei bod yn well na'r ARGLWYDD. Ond bydd fel meddwyn yn rholio yn ei chwŷd. Bydd pawb yn chwerthin ar ei phen! Onid chi, bobl Moab, oedd yn chwerthin ar ben Israel? Roeddech yn ei thrin fel petai'n lleidr, ac yn ysgwyd eich pennau bob tro roedd rhywun yn sôn amdani. Bobl Moab, gadewch eich trefi a mynd i fyw yn y creigiau; fel colomennod yn nythu ar y clogwyni uwchben y ceunant. Dŷn ni wedi clywed am falchder Moab — mae ei phobl mor falch! yn hunandybus, yn brolio, yn snobyddlyd, ac mor llawn ohoni ei hun! “Dw innau'n gwybod mor filain ydy hi,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Mae ei brolio hi'n wag, ac yn cyflawni dim byd! Felly, bydda i'n udo dros bobl Moab. Bydda i'n crïo dros Moab gyfan, ac yn griddfan dros bobl Cir-cheres. Bydda i'n wylo dros winwydden Sibma mwy na mae tref Iaser yn wylo trosti. Roedd ei changhennau'n ymestyn i'r Môr Marw ar un adeg; roedden nhw'n cyrraedd mor bell â Iaser. Ond mae'r gelyn sy'n dinistrio'n mynd i ddifetha ei chnydau o ffigys a grawnwin. Bydd pleser a llawenydd yn diflannu'n llwyr o dir ffrwythlon Moab. Bydda i'n stopio'r gwin rhag llifo i'r cafnau; fydd neb yn gweiddi'n llawen wrth sathru'r grawnwin — bydd gweiddi, ond bydd y gweiddi'n wahanol. “Bydd y gweiddi a'r galar yn Cheshbon i'w glywed yn Eleale a hyd yn oed Iahats. Bydd i'w glywed o Soar i Choronaïm ac Eglath-shalisheia. Bydd hyd yn oed dŵr Nimrim yn cael ei sychu. Fydd neb yn mynd i fyny i aberthu ar yr allorau paganaidd, ac yn llosgi arogldarth i dduwiau Moab,” meddai'r ARGLWYDD. “Felly bydd fy nghalon yn griddfan fel pibau dros Moab. Pibau chwyth yn canu cân i alaru dros bobl Cir-cheres. Bydd y cyfoeth wnaethon nhw ei gasglu yn diflannu. “Bydd pawb wedi siafio'r pen a'r farf. Bydd pawb wedi torri eu dwylo a chyllyll, ac yn gwisgo sachliain. Fydd dim byd ond galaru i'w glywed ar bennau'r tai ac ar y sgwariau. Dw i'n mynd i dorri Moab fel potyn pridd does neb ei eisiau,” meddai'r ARGLWYDD. “Bydd wedi ei dorri'n deilchion! Bydd y bobl yn udo! Bydd Moab yn troi ei chefn mewn cywilydd! Bydd yn destun sbort ac yn olygfa ddychrynllyd i'r gwledydd o'i chwmpas.” Ie, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Edrychwch! bydd y gelyn fel eryr yn lledu ei adenydd ac yn plymio i lawr ar Moab. Bydd ei threfi yn cael eu meddiannu, a'r caerau sy'n ei hamddiffyn yn cael eu dal. Ar y diwrnod hwnnw bydd milwyr Moab wedi dychryn fel gwraig ar fin cael babi! Bydd Moab yn cael ei dinistrio ac yn peidio â bod yn genedl, am ei bod hi wedi brolio ei bod yn well na'r ARGLWYDD. Panig, pydew a thrap sydd o'ch blaenau chi, bobl Moab! —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. Bydd pawb sy'n ffoi mewn dychryn yn disgyn i lawr i dwll. A bydd pawb sy'n dringo o'r twll yn cael ei ddal mewn trap! Mae'r amser wedi dod i mi gosbi Moab, —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. Bydd ffoaduriaid yn sefyll wedi ymlâdd dan gysgod waliau Cheshbon. Mae tân wedi lledu o Cheshbon, fflamau o diriogaeth y Brenin Sihon. Mae'n llosgi ar hyd ffiniau Moab i ben y mynyddoedd yng ngwlad y bobl ryfelgar. Mae hi ar ben arnat ti, Moab! Dych chi bobl sy'n addoli Chemosh wedi eich difa. Mae eich meibion yn garcharorion, a'ch merched wedi eu cymryd yn gaethion. Ond yn y dyfodol, bydda i'n rhoi'r cwbl gollodd Moab yn ôl iddi.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. Dyma ddiwedd y neges o farn ar Moab. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am bobl Ammon: “Oes gan Israel ddim disgynyddion? Oes neb ohonyn nhw ar ôl i etifeddu'r tir? Ai dyna pam dych chi sy'n addoli Milcom wedi dwyn tir Gad a setlo yn ei drefi? Felly mae'r amser yn dod” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn— “pan fydd sŵn rhyfel i'w glywed yn Rabba. Bydd prifddinas Ammon yn domen o adfeilion, a bydd ei phentrefi yn cael eu llosgi'n ulw. Wedyn bydd Israel yn cymryd ei thir yn ôl gan y rhai gymrodd ei thir oddi arni,” —meddai'r ARGLWYDD. “Udwch, bobl Cheshbon, am fod Ai wedi ei bwrw i lawr! Gwaeddwch, chi sy'n y pentrefi o gwmpas Rabba! Gwisgwch sachliain a galarwch! Rhedwch o gwmpas yn anafu eich hunain! Bydd eich duw Milcom yn cael ei gymryd i ffwrdd, a'i offeiriaid a'i swyddogion gydag e! Pam dych chi'n brolio eich bod mor gryf? Mae eich cryfder yn diflannu, bobl anffyddlon! Roeddech yn trystio eich cyfoeth, ac yn meddwl, ‘Pwy fyddai'n meiddio ymosod arnon ni?’ Wel, dw i'n mynd i dy ddychryn di o bob cyfeiriad,” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD holl-bwerus. “Byddi'n cael dy yrru ar chwâl, a fydd neb yna i helpu'r ffoaduriaid. “Ond wedyn bydda i'n rhoi'r cwbl gollodd Ammon yn ôl iddi.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud am Edom: “Oes rhywun doeth ar ôl yn Teman? Oes neb call ar ôl i roi cyngor? Ydy eu doethineb nhw wedi diflannu? Ffowch! Trowch yn ôl! Ewch i guddio'n bell, bobl Dedan! Dw i'n dod â dinistr ar ddisgynyddion Esau mae'n amser i mi eu cosbi. Petai casglwyr grawnwin yn dod atat ti, oni fydden nhw'n gadael rhywbeth i'w loffa? Petai lladron yn dod yn y nos, bydden nhw ond yn dwyn beth oedden nhw eisiau! Ond dw i'n mynd i gymryd popeth oddi ar bobl Esau. Bydda i'n dod o hyd iddyn nhw; fyddan nhw ddim yn gallu cuddio. Bydd eu plant, eu perthnasau, a'u cymdogion i gyd yn cael eu dinistrio. Fydd neb ar ôl! Gadael dy blant amddifad gyda mi, gwna i ofalu amdanyn nhw. Bydd dy weddwon hefyd yn gallu dibynnu arna i.” Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Os oes rhaid i bobl ddiniwed ddiodde, wyt ti'n meddwl y byddi di'n dianc? Na! Bydd rhaid i tithau yfed o gwpan barn. Dw i wedi addo ar lw,” meddai'r ARGLWYDD. “Bydd Bosra yn cael ei throi'n adfeilion. Bydd yn destun sbort. Bydd yn cael ei dinistrio'n llwyr, a'i gwneud yn enghraifft o bobl wedi eu melltithio. Bydd eu trefi yn cael eu gadael yn adfeilion am byth.” “Ces i neges gan yr ARGLWYDD, pan gafodd negesydd ei anfon i'r gwledydd, yn dweud, ‘Dowch at eich gilydd i ymosod arni hi. Gadewch i ni fynd i ryfel yn ei herbyn!’” “Dw i'n mynd i dy wneud di'n wlad fach wan; bydd pawb yn cael hwyl ar dy ben. Mae dy allu i ddychryn pobl a dy falchder wedi dy dwyllo di. Ti'n byw yn saff yng nghysgod y graig, yn byw ar ben y mynydd — ond hyd yn oed petaet ti'n gwneud dy nyth mor uchel â'r eryr, bydda i'n dy dynnu di i lawr.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Bydd Edom yn cael ei dinistrio'n llwyr. Bydd pawb sy'n pasio heibio wedi dychryn am eu bywydau ac yn chwibanu mewn rhyfeddod wrth weld y dinistr. Bydd yn union yr un fath â Sodom a Gomorra a'r pentrefi o'u cwmpas. Fydd neb yn byw nac yn setlo i lawr yno eto,”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Bydda i'n gyrru pobl Edom o'u tir, fel llew yn dod allan o goedwig wyllt yr Iorddonen ac yn gyrru'r praidd yn y borfa agored ar chwâl. Bydda i'n dewis y meheryn gorau i'w llarpio. Achos pwy sy'n debyg i mi? Pwy sy'n mynd i'm galw i gyfri? Pa fugail sy'n gallu sefyll yn fy erbyn i?” Dyma gynllun yr ARGLWYDD yn erbyn Edom. Dyma mae'n bwriadu ei wneud i bobl Teman. “Bydd hyd yn oed yr ŵyn bach yn cael eu llusgo i ffwrdd. Bydd eu corlan yn cael ei dinistrio am beth wnaethon nhw. Bydd pobl y ddaear yn crynu wrth glywed am eu cwymp. Bydd eu sŵn nhw'n gweiddi i'w glywed wrth y Môr Coch. Edrychwch! Bydd y gelyn fel eryr yn codi i'r awyr, yn lledu ei adenydd ac yn plymio i lawr ar Bosra. Ar y diwrnod hwnnw bydd milwyr Edom wedi dychryn, fel gwraig ar fin cael babi!” Neges am Damascus: “Mae pobl Chamath ac Arpad wedi drysu. Maen nhw wedi clywed newyddion drwg. Maen nhw'n poeni ac wedi cynhyrfu fel môr stormus sy'n methu bod yn llonydd. Mae pobl Damascus wedi colli pob hyder, ac wedi ffoi mewn panig. Mae poen a phryder wedi gafael ynddyn nhw, fel gwraig ar fin cael babi. Bydd y ddinas enwog yn wag cyn bo hir — y ddinas oedd unwaith yn llawn bwrlwm a hwyl! Bydd ei bechgyn ifanc yn syrthio'n farw ar ei strydoedd, a'i milwyr i gyd yn cael eu lladd ar y diwrnod hwnnw,” —yr ARGLWYDD holl-bwerus sy'n dweud hyn. “Bydda i'n llosgi waliau Damascus, a bydd y tân yn dinistrio caerau amddiffynnol Ben-hadad.” Neges am Cedar ac ardaloedd Chatsor, gafodd eu taro gan Nebwchadnesar, brenin Babilon. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Fyddin Babilon, codwch ac ymosod ar Cedar! Dinistriwch bobl y dwyrain. Cymerwch eu pebyll a'u preiddiau, eu llenni a'u hoffer, a'u camelod i gario'r cwbl i ffwrdd. Bydd pobl yn gweiddi: ‘Does ond dychryn ym mhobman!’ Bobl Chatsor, rhedwch i ffwrdd; ewch i guddio mewn ogofâu! Mae Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn bwriadu ymosod arnoch chi. Mae e'n bwriadu eich dinistrio chi! Codwch, ac ymosod ar wlad sy'n meddwl ei bod mor saff!” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. Does dim giatiau dwbl gyda barrau i'w hamddiffyn, a does neb wrth ymyl i'w helpu. Bydd y milwyr yn cymryd ei chamelod a'i gyrroedd o wartheg yn ysbail. Bydda i'n gyrru ar chwâl bawb sy'n byw ar ymylon yr anialwch. Daw dinistr arnyn nhw o bob cyfeiriad, —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. Bydd Chatsor wedi ei throi'n adfeilion am byth. Bydd yn lle i siacaliaid fyw — fydd neb yn byw nac yn setlo i lawr yno. Y neges roddodd yr ARGLWYDD i Jeremeia am wlad Elam, yn fuan ar ôl i Sedeceia gael ei wneud yn frenin ar Jwda. Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: “Dw i'n mynd i ladd bwasaethwyr Elam, sef asgwrn cefn eu grym milwrol. Dw i'n mynd i ddod â gelynion yn erbyn pobl Elam o bob cyfeiriad, a byddan nhw'n cael eu gyrru ar chwâl. Bydd ffoaduriaid o Elam yn dianc i bobman. Bydd pobl Elam wedi eu dychryn yn lân gan y gelynion sydd am eu lladd nhw. Dw i wedi gwylltio'n lân hefo nhw, a dw i'n mynd i'w dinistrio nhw,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Bydda i'n anfon byddinoedd eu gelynion ar eu holau, nes bydda i wedi eu dinistrio nhw'n llwyr. Bydda i'n teyrnasu dros Elam. Bydda i'n lladd eu brenin a'u swyddogion,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Ond wedyn bydda i'n rhoi'r cwbl gollodd Elam yn ôl iddi,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. Y neges roddodd yr ARGLWYDD am Babilon a gwlad Babilonia, drwy'r proffwyd Jeremeia: “Cyhoeddwch y newyddion drwy'r gwledydd i gyd; peidiwch dal dim yn ôl. Gwnewch yn siŵr fod pawb yn clywed ac yn deall: ‘Mae Babilon yn mynd i syrthio! Bydd y duw Bel yn cael ei gywilyddio! Bydd Merodach yn cael ei falu! Bydd eilun-dduwiau Babilon yn cael eu cywilyddio! Bydd ei delwau diwerth yn cael eu malu. Bydd gwlad yn ymosod arni o gyfeiriad y gogledd. Bydd yn ei dinistrio hi'n llwyr, a fydd neb yn byw yno. Bydd pobl ac anifeiliaid wedi dianc i ffwrdd.’ “Bryd hynny,” meddai'r ARGLWYDD, “bydd pobl Israel a phobl Jwda yn dod adre gyda'i gilydd.” Byddan nhw'n crïo wrth gerdded, ac eisiau perthynas iawn gyda'u Duw eto. Byddan nhw'n holi am y ffordd i Seion, ac yna'n troi i'r cyfeiriad hwnnw. Byddan nhw'n ymrwymo i fod yn ffyddlon i'r ARGLWYDD, a fydd yr ymrwymiad hwnnw byth yn cael ei anghofio. “Mae fy mhobl wedi bod fel defaid oedd ar goll. Roedd eu bugeiliaid wedi gadael iddyn nhw grwydro i ffwrdd. Maen nhw wedi bod yn crwydro ar y mynyddoedd — crwydro o gopa un bryn i'r llall; wedi anghofio'r ffordd yn ôl i'r gorlan. Roedd pawb ddaeth ar eu traws yn eu llarpio. Ond wedyn roedd y gelynion hynny'n dweud, ‘Does dim bai arnon ni. Maen nhw wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD. Fe oedd eu porfa go iawn nhw — unig obaith eu hynafiaid.’” “Ffowch o Babilon! Ewch allan o wlad y Babiloniaid! Am y cyntaf i adael! — fel y bychod geifr sy'n arwain y praidd. Dw i'n mynd i wneud i nifer o wledydd cryfion o'r gogledd ymosod ar Babilon. Byddan nhw'n trefnu eu hunain yn rhesi i ymosod arni, yn dod o'r gogledd ac yn ei choncro hi. Bydd eu saethau'n taro'r targed bob tro, fel saethau'r milwyr gorau. Bydd gwlad Babilonia yn cael ei hysbeilio. Bydd milwyr y gelyn yn cymryd popeth maen nhw eisiau,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Bobl Babilon, chi wnaeth ysbeilio gwlad fy mhobl i. Roeddech chi mor hapus, ac yn dathlu. Roeddech chi'n prancio o gwmpas fel lloi mewn cae. Roeddech chi'n gweryru fel meirch. Ond bydd Babilon eich mamwlad yn cael ei chywilyddio'n fawr, a'r wlad lle cawsoch eich geni yn teimlo'r gwarth. I ddweud y gwir, hi fydd y lleiaf pwysig o'r gwledydd i gyd! Bydd hi'n anialwch sych a diffaith.” Am fod yr ARGLWYDD wedi digio fydd neb yn cael byw yno — bydd Babilon yn cael ei dinistrio'n llwyr. Bydd pawb sy'n pasio heibio wedi eu syfrdanu, ac yn chwibanu wrth weld beth ddigwyddodd iddi. “Pawb i'w le, yn barod i ymosod ar Babilon! Dewch, chi sy'n trin y bwa saeth, saethwch ati! Defnyddiwch eich saethau i gyd! Mae hi wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD. Gwaeddwch wrth ymosod o bob cyfeiriad. Mae'n rhoi arwydd ei bod am ildio. Mae ei thyrau amddiffynnol wedi syrthio, a'i waliau wedi eu bwrw i lawr. Fi, yr ARGLWYDD, sy'n dial arni. Gwna i iddi beth wnaeth hi i eraill! Bydd y rhai sy'n hau hadau yn cael eu cipio o Babilon; a'r rhai sy'n trin y cryman adeg cynhaeaf hefyd. Bydd pawb yn ffoi at eu pobl eu hunain, a dianc i'w gwledydd rhag i'r gelyn eu lladd.” Mae Israel fel praidd wedi ei yrru ar chwâl gan lewod. Brenin Asyria oedd y cyntaf i'w llarpio nhw, a nawr mae Nebwchadnesar, brenin Babilon, wedi cnoi beth oedd ar ôl o'r esgyrn! Felly, dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: “Dw i'n mynd i gosbi brenin Babilon a'i bobl, fel gwnes i gosbi brenin Asyria. Bydda i'n dod â phraidd Israel yn ôl i'w borfa ei hun. Byddan nhw'n pori ar fynydd Carmel ac yn ardal Bashan. Byddan nhw'n cael eu digoni ar fryniau Effraim ac yn ardal Gilead. Bryd hynny,” meddai'r ARGLWYDD, “Fydd Israel yn gwneud dim byd o'i le; fydd dim pechod i'w gael yn Jwda. Dw i'n mynd i faddau i'r rhai wnes i eu cadw'n fyw.” “Ewch i ymosod ar wlad Merathaim! Ymosodwch ar bobl Pecod! Lladdwch nhw a'u dinistrio'n llwyr,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Gwnewch bopeth dw i'n ei orchymyn i chi. Mae sŵn rhyfel i'w glywed yn y wlad — Sŵn dinistr ofnadwy! Roedd Babilon fel gordd yn malu'r ddaear; ond bellach mae'r ordd wedi ei thorri! Mae Babilon wedi ei gwneud yn olygfa ddychrynllyd i'r gwledydd i gyd. Roeddwn i wedi gosod trap i ti, Babilon, a chest dy ddal cyn i ti sylweddoli beth oedd yn digwydd! Am dy fod wedi ymladd yn fy erbyn i, yr ARGLWYDD, cest dy ddal a'th gymryd yn gaeth.” Mae'r ARGLWYDD wedi agor ei stordy arfau; mae wedi dod ag arfau ei ddigofaint i'r golwg. Mae gan y Meistr, yr ARGLWYDD holl-bwerus, waith i'w wneud yng ngwlad y Babiloniaid. “Dewch yn ei herbyn hi o ben draw'r byd! Agorwch ei hysguboriau hi! Trowch hi'n domen o adfeilion! Dinistriwch hi'n llwyr! Peidiwch gadael unrhyw un ar ôl yn fyw! Lladdwch ei milwyr hi i gyd, fel teirw yn cael eu gyrru i'r lladd-dy! Ydy, mae hi ar ben arnyn nhw! Mae'r diwrnod iddyn nhw gael eu cosbi wedi dod!” Gwrandwch ar y ffoaduriaid sy'n dianc o Babilon. Maen nhw ar eu ffordd i Seion, i ddweud sut mae'r ARGLWYDD wedi dial — wedi dial ar Babilon am beth wnaethon nhw i'w deml. “Galwch am fwasaethwyr i ymosod ar Babilon! Galwch ar bawb sy'n trin y bwa saeth i ddod yn ei herbyn hi! Codwch wersyll o gwmpas y ddinas! Does neb i gael dianc! Talwch yn ôl iddi am beth wnaeth hi. Gwnewch iddi hi beth wnaeth hi i eraill. Mae hi wedi ymddwyn yn haerllug yn erbyn yr ARGLWYDD, Un Sanctaidd Israel. Felly, bydd ei bechgyn ifanc yn syrthio'n farw ar ei strydoedd, a'i milwyr i gyd yn cael eu lladd ar y diwrnod hwnnw,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Gwranda! Dw i yn dy erbyn di, ddinas falch, meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD holl-bwerus. Mae'r diwrnod pan dw i'n mynd i dy gosbi di wedi dod. Bydd y ddinas falch yn baglu ac yn syrthio, a fydd neb yna i'w chodi ar ei thraed. Dw i'n mynd i roi dy drefi di ar dân, a bydd popeth o dy gwmpas yn cael ei losgi'n ulw.” Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: “Mae pobl Israel a phobl Jwda yn cael eu cam-drin. Mae'r rhai wnaeth eu caethiwo yn dal gafael ynddyn nhw, ac yn gwrthod eu gollwng nhw'n rhydd. Ond mae'r un fydd yn eu rhyddhau nhw yn gryf—yr ARGLWYDD holl-bwerus ydy ei enw e. Bydd e'n gweithredu ar eu rhan nhw, ac yn dod â heddwch i'w gwlad nhw. Ond bydd yn aflonyddu ar y bobl sy'n byw yn Babilon. Bydd cleddyf yn taro'r Babiloniaid,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Bydd yn taro pawb sydd yn byw yn Babilon. Bydd yn taro ei swyddogion a'i gwŷr doeth! Bydd cleddyf yn taro ei phroffwydi ffals, a bydd hi'n amlwg mai ffyliaid oedden nhw. Bydd cleddyf yn taro ei milwyr, a byddan nhw'n cael eu difa! Bydd cleddyf yn taro eu ceffylau a'u cerbydau rhyfel. Bydd yn taro'r milwyr tramor sydd gyda hi, a byddan nhw'n wan fel merched! Bydd cleddyf yn taro ei thrysorau, a bydd y cwbl yn cael ei gymryd i ffwrdd yn ysbail. Bydd sychder yn taro'r wlad, a bydd y cyflenwad dŵr yn dod i ben! Achos mae'r wlad yn llawn o eilun-dduwiau a delwau dychrynllyd sy'n eu gyrru nhw'n wallgof! Felly ysbrydion yr anialwch, bwganod ac estrys fydd yn byw yn Babilon. Fydd pobl yn byw yno byth eto — neb o gwbl ar hyd y cenedlaethau. Bydd yn union yr un fath â Sodom a Gomorra a'r pentrefi o'u cwmpas. Fydd neb yn byw nac yn setlo i lawr yno eto.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Gwyliwch! Mae byddin yn dod o gyfeiriad y gogledd. Mae gwlad gref a brenhinoedd ym mhen draw'r byd yn paratoi i ryfel. Mae ei milwyr wedi gafael yn y bwa a'r cleddyf maen nhw'n greulon a fyddan nhw'n dangos dim trugaredd. Mae sŵn eu ceffylau'n carlamu fel sŵn y môr yn rhuo. Mae eu rhengoedd nhw mor ddisgybledig, ac maen nhw'n dod yn eich erbyn chi, bobl Babilon.” Mae brenin Babilon wedi clywed amdanyn nhw. Does dim byd allith e ei wneud. Mae dychryn wedi gafael ynddo, fel gwraig mewn poen wrth gael babi. “Bydda i'n gyrru pobl Babilon o'u tir, fel llew yn dod allan o goedwig wyllt yr Iorddonen ac yn gyrru'r praidd yn y borfa agored ar chwâl. Bydda i'n dewis y meheryn gorau i'w llarpio. Achos pwy sy'n debyg i mi? Pwy sy'n mynd i'm galw i i gyfri? Pa fugail sy'n gallu sefyll yn fy erbyn i?” Dyma gynllun yr ARGLWYDD yn erbyn Babilon. Dyma mae'n bwriadu ei wneud i wlad Babilonia: “Bydd hyd yn oed yr ŵyn bach yn cael eu llusgo i ffwrdd. Bydd eu corlan yn cael ei dinistrio am beth wnaethon nhw. Bydd pobl y ddaear yn crynu wrth glywed fod Babilon wedi ei choncro. Bydd eu sŵn nhw'n gweiddi i'w glywed drwy'r gwledydd i gyd.” Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Dw i'n mynd i ddod â corwynt dinistriol yn erbyn Babilon, ac yn erbyn y bobl sy'n byw yn Babilonia. Bydda i'n anfon pobl estron i'w nithio; bydd fel gwynt yn chwythu'r us i ffwrdd. Bydd y wlad yn cael ei gadael yn wag. Byddan nhw'n ymosod o bob cyfeiriad ar y diwrnod hwnnw pan fydd pethau'n ddrwg arni. Peidiwch rhoi cyfle i'r bwasaethwr roi llinyn ar ei fwa; nac amser iddo roi ei arfwisg amdano. Lladdwch y bechgyn ifanc i gyd! Dinistriwch y fyddin yn llwyr!” Bydd pobl Babilon yn syrthio'n farw, wedi eu hanafu ar strydoedd y ddinas. Dydy Duw, yr ARGLWYDD holl-bwerus, ddim wedi troi cefn ar Israel a Jwda. Mae gwlad Babilonia yn euog o bechu yn erbyn Un sanctaidd Israel! Ffowch o ganol Babilon! Rhedwch am eich bywydau bawb! Does dim rhaid i chi ddiodde am ei bod hi'n cael ei chosbi. Mae'r amser wedi dod i'r ARGLWYDD dalu'n ôl iddi. Bydd yn rhoi iddi beth mae'n ei haeddu! Roedd Babilon fel cwpan aur yn llaw'r ARGLWYDD. Roedd wedi gwneud y byd i gyd yn feddw. Roedd gwledydd wedi yfed y gwin ohoni, ac wedi eu gyrru'n wallgof. Ond yn sydyn mae Babilon yn mynd i syrthio a dryllio. “Udwch drosti! Dewch ag eli i wella'i briwiau! Falle y bydd hi'n cael ei hiacháu! ‘Bydden ni wedi ceisio helpu Babilon, ond doedd dim modd ei helpu. Gadewch i ni fynd adre i'n gwledydd ein hunain. Mae'r farn sy'n dod arni'n anferthol! Mae fel pentwr enfawr sy'n ymestyn i'r entrychion, ac yn codi i'r cymylau!’” “Mae'r ARGLWYDD wedi achub ein cam ni. Dewch! Gadewch i ni fynd i ddweud wrth Seion beth mae'r ARGLWYDD ein Duw wedi ei wneud.” “Rhowch fin ar y saethau! Llanwch eich cewyll!” (Mae'r ARGLWYDD yn gwneud i frenhinoedd Media godi yn erbyn Babilon. Mae e'n bwriadu dinistrio Babilon. Dyna sut mae'r ARGLWYDD yn mynd i ddial arnyn nhw. Mae'n mynd i ddial arnyn nhw am beth wnaethon nhw i'w deml e.) “Rhowch yr arwydd i ymosod ar waliau Babilon! Dewch â mwy o filwyr! Gosodwch wylwyr o'i chwmpas! Paratowch grwpiau i ymosod arni!” Mae'r ARGLWYDD yn mynd i wneud beth mae wedi ei gynllunio yn erbyn pobl Babilon. “Ti'n byw yng nghanol yr afonydd a'r camlesi. Rwyt wedi casglu cymaint o drysorau. Ond mae dy ddiwedd wedi dod; mae edau dy fywyd ar fin cael ei dorri!” Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus wedi addo ar lw, “Dw i'n mynd i lenwi'r wlad â milwyr y gelyn. Byddan nhw fel haid o locustiaid ym mhobman. Byddan nhw'n gweiddi'n llawen am eu bod wedi ennill y frwydr.” Yr ARGLWYDD ddefnyddiodd ei rym i greu y ddaear. Fe ydy'r un osododd y byd yn ei le trwy ei ddoethineb, a lledu'r awyr trwy ei ddeall. Mae sŵn ei lais yn gwneud i'r awyr daranu. Mae'n gwneud i gymylau ddod i'r golwg ar y gorwel. Mae'n gwneud i fellt fflachio yng nghanol y glaw. Mae'n dod â'r gwynt allan o'i stordai i chwythu. Mae pobl mor ddwl! Dŷn nhw'n gwybod dim byd! Bydd yr eilunod yn codi cywilydd ar y rhai a'i gwnaeth nhw. Duwiau ffals ydy'r delwau; does dim bywyd ynddyn nhw. Dŷn nhw'n dda i ddim! Pethau i wneud sbort ohonyn nhw! Mae'r amser yn dod pan gân nhw eu cosbi a'u dinistrio. Dydy Duw Jacob ddim byd tebyg iddyn nhw. Fe ydy'r un wnaeth greu pob peth, ac mae pobl Israel yn bobl sbesial iddo. Yr ARGLWYDD holl-bwerus ydy ei enw! “Ti ydy fy mhastwn rhyfel i; yr arf dw i'n ei ddefnyddio yn y frwydr. Dw i wedi dryllio gwledydd gyda ti, a dinistrio teyrnasoedd gyda ti. Dw i wedi taro ceffylau a'u marchogion gyda ti; cerbydau rhyfel a'r milwyr sy'n eu gyrru. Dw i wedi taro dynion a merched; dynion hŷn, bechgyn a merched ifanc. Dw i wedi taro bugeiliaid a'u preiddiau; ffermwyr a'r ychen maen nhw'n aredig gyda nhw. Dw i wedi taro llywodraethwyr a swyddogion gyda ti. “Dw i'n mynd i dalu'n ôl i Babilon a phawb sy'n byw yn Babilonia am yr holl bethau drwg wnaethon nhw yn Seion o flaen eich llygaid chi.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Dw i yn dy erbyn di, Babilon!” meddai'r ARGLWYDD. “Ti ydy'r llosgfynydd sy'n dinistrio'r byd i gyd. Dw i'n mynd i dy daro di, a dy rolio di i lawr oddi ar y clogwyni. Byddi fel llosgfynydd mud. Fydd neb yn defnyddio carreg ohonot ti fel maen congl na charreg sylfaen. Byddi'n adfeilion am byth.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Rhowch arwydd clir a chwythu'r corn hwrdd i alw'r gwledydd i ryfel yn erbyn Babilon — Ararat, Minni ac Ashcenas. Penodwch gadfridog i arwain yr ymosodiad. Dewch â cheffylau rhyfel fel haid o locustiaid. Paratowch wledydd i ymladd yn ei herbyn hi — brenhinoedd Media, ei llywodraethwyr a'i swyddogion, a'r gwledydd sy'n cael eu rheoli ganddi.” Mae'r ddaear yn crynu ac yn gwingo mewn poen, am fod bwriadau'r ARGLWYDD yn mynd i gael eu cyflawni. Mae'n mynd i ddinistrio gwlad Babilon yn llwyr, a fydd neb yn byw yno. Bydd milwyr Babilon yn stopio ymladd. Byddan nhw'n cuddio yn eu caerau. Fydd ganddyn nhw ddim nerth i gario mlaen; byddan nhw'n wan fel merched. Bydd eu tai yn y ddinas yn cael eu llosgi. Bydd barrau eu giatiau wedi eu torri. Bydd negeswyr yn rhedeg, un ar ôl y llall, i ddweud wrth frenin Babilon fod y ddinas gyfan wedi cael ei dal. Mae'r rhydau, lle gallai pobl ddianc, wedi eu cymryd. Mae'r corsydd brwyn, lle gallai pobl guddio, wedi eu llosgi. Mae'r fyddin mewn panig. Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel yn ei ddweud: “Bydd Babilon fel llawr dyrnu pan mae'n cael ei sathru. Mae amser cynhaeaf yn dod yn fuan iawn!” Nebwchadnesar, brenin Babilon, wnaeth fy llarpio, a gyrru fy mhobl i ffwrdd. Llyncodd fi fel anghenfil, a llenwi ei fol gyda'm cyfoeth. Gadawodd fi fel plât gwag wedi ei glirio'n llwyr. “Rhaid i Babilon dalu am y ffordd gwnaeth hi ein treisio ni!” meddai'r bobl sy'n byw yn Seion. “Dial ar bobl Babilonia am dywallt gwaed fy mhobl,” meddai Jerwsalem. Felly, dyma beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Dw i'n mynd i weithredu ar dy ran di. Dw i'n mynd i dalu'n ôl i'r Babiloniaid am beth wnaethon nhw i ti. Dw i'n mynd i wagio ei chyflenwad dŵr hi, a sychu ei ffynhonnau. Bydd Babilon yn bentwr o rwbel, ac yn lle i siacaliaid fyw. Bydd pethau ofnadwy yn digwydd yno a bydd pobl yn chwibanu mewn rhyfeddod. Fydd neb yn byw yno. Byddan nhw'n rhuo fel llewod gyda'i gilydd, ac yn chwyrnu fel rhai bach eisiau bwyd. Wrth awchu am fwyd bydda i'n rhoi gwledd o'u blaenau, ac yn eu meddwi nes byddan nhw'n chwil gaib. Byddan nhw'n llewygu, ac yn syrthio i gysgu, a fyddan nhw byth yn deffro eto,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Bydda i'n eu harwain nhw fel ŵyn i'r lladd-dy, neu hyrddod a bychod geifr sydd i gael eu haberthu.” “Meddyliwch! Bydd Babilon yn cael ei dal! Bydd y ddinas mae'r byd yn ei chanmol yn cael ei chymryd! Bydd beth fydd yn digwydd i Babilon yn dychryn y gwledydd i gyd! Bydd y môr yn ysgubo drosti. Bydd tonnau gwyllt yn ei gorchuddio hi. Bydd beth fydd yn digwydd i'w threfi yn creu dychryn. Bydd yn troi'n dir sych anial — tir ble does neb yn byw ac heb bobl yn pasio trwyddo. Dw i'n mynd i gosbi'r duw Bel yn Babilon. Bydda i'n gwneud iddo chwydu beth mae wedi ei lyncu. Fydd y gwledydd ddim yn llifo ato ddim mwy. Bydd waliau Babilon yn syrthio! Dewch allan ohoni, fy mhobl! Rhedwch am eich bywydau, bob un ohonoch chi! A dianc oddi wrth lid ffyrnig yr ARGLWYDD! Peidiwch torri'ch calon na bod ag ofn pan glywch y si'n mynd ar led drwy'r wlad. Bydd un stori'n mynd o gwmpas un flwyddyn, ac un arall y flwyddyn wedyn. Bydd trais ofnadwy yn y wlad, wrth i lywodraethwyr ymladd yn erbyn ei gilydd. Mae'r amser yn dod pan fydda i'n cosbi eilun-dduwiau Babilon. Bydd y wlad i gyd yn cael ei chywilyddio, a bydd pobl yn syrthio'n farw ym mhobman. Bydd y nefoedd a'r ddaear a phopeth ynddyn nhw yn canu'n llawen am beth fydd yn digwydd i Babilon. Bydd byddin yn dod o gyfeiriad y gogledd i'w dinistrio nhw,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Rhaid i Babilon syrthio, am ei bod wedi lladd cymaint o bobl Israel, ac am ei bod wedi lladd cymaint o bobl drwy'r byd i gyd.” Chi bobl wnaeth lwyddo i ddianc rhag cael eich lladd gan gleddyf Babilon, ewch allan ohoni ar frys! Peidiwch loetran! Cofiwch yr ARGLWYDD yn y wlad bell. Meddyliwch am Jerwsalem. “Mae gynnon ni gywilydd; dŷn ni wedi cael ein sarhau. Mae'r gwarth i'w weld ar ein hwynebau. Aeth paganiaid i mewn i'r lleoedd sanctaidd yn nheml yr ARGLWYDD.” “Felly mae'r amser yn dod,” meddai'r ARGLWYDD, “pan fydda i'n cosbi eu heilun-dduwiau nhw, a bydd pobl wedi eu hanafu yn griddfan mewn poen drwy'r wlad i gyd. Hyd yn oed petai waliau Babilon yn cyrraedd i'r awyr, a'i chaerau'n anhygoel o gryfion, byddwn i'n anfon byddin i'w dinistrio hi,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. Gwrandwch! — pobl yn gweiddi yn Babilon! Sŵn dinistr ofnadwy'n dod o wlad Babilonia! Mae'r ARGLWYDD yn mynd i ddinistrio Babilon. Mae e'n mynd i roi taw ar ei thwrw! Bydd sŵn y gelyn fel sŵn tonnau'n rhuo — byddin a'i sŵn yn fyddarol. Ydy, mae'r gelyn sy'n dinistrio'n ymosod! Bydd milwyr Babilon yn cael eu dal, a'i bwâu yn cael eu torri. Mae'r ARGLWYDD yn Dduw sy'n cosbi. Bydd yn talu'n ôl yn llawn iddyn nhw! “Bydda i'n meddwi ei swyddogion a'i gwŷr doeth, ei llywodraethwyr, ei phenaethiaid a'i milwyr. Byddan nhw'n syrthio i gysgu am byth. Fyddan nhw ddim yn deffro eto,” meddai'r Brenin —yr ARGLWYDD holl-bwerus ydy ei enw e. Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: “Bydd wal drwchus dinas Babilon yn cael ei bwrw i lawr. Bydd ei giatiau uchel yn cael eu llosgi. Bydd ymdrechion y bobloedd i ddim byd. Bydd holl lafur y gwledydd yn cael ei losgi!” Dyna'r negeseuon oedd y proffwyd Jeremeia wedi eu rhoi i Seraia (mab Nereia ac ŵyr i Machseia). Seraia oedd swyddog llety'r brenin, ac roedd wedi mynd gyda Sedeceia, brenin Jwda, i Babilon yn y bedwaredd flwyddyn i Sedeceia fel brenin. Roedd Jeremeia wedi ysgrifennu mewn sgrôl am y dinistr ofnadwy oedd yn mynd i ddod ar Babilon. Yna dwedodd wrth Seraia: “Gwna'n siŵr dy fod yn darllen y cwbl yn uchel i'r bobl ar ôl cyrraedd Babilon. Wedyn gweddïa, ‘O ARGLWYDD, rwyt ti wedi dweud yn glir dy fod ti'n mynd i ddinistrio'r lle yma. Fydd dim pobl nac anifeiliaid yn gallu byw yma. Bydd yn lle anial am byth.’ Ar ôl darllen y sgrôl, rhwyma hi wrth garreg a'i thaflu i ganol yr Afon Ewffrates. Yna gwna'r datganiad yma: ‘Fel hyn bydd Babilon yn suddo, a fydd hi byth yn codi eto, o achos yr holl ddinistr dw i'n ei anfon arni.’” Dyma ddiwedd neges Jeremeia. Roedd Sedeceia yn ddau ddeg un oed pan gafodd ei benodi'n frenin. Bu'n teyrnasu yn Jerwsalem am un deg un mlynedd. Enw ei fam oedd Chamwtal (merch Jeremeia o Libna ). Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn union fel y brenin Jehoiacim. Felly gyrrodd yr ARGLWYDD bobl Jerwsalem a Jwda o'i olwg am ei fod mor ddig hefo nhw. Ond yna dyma Sedeceia yn gwrthryfela yn erbyn brenin Babilon. A dyma Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn dod â'i fyddin gyfan i ymosod ar Jerwsalem. Digwyddodd hyn ar y degfed diwrnod o'r degfed mis yn nawfed flwyddyn Sedeceia fel brenin. Dyma nhw'n gwersylla o gwmpas y ddinas, ac yn codi rampiau i warchae arni. Buon nhw'n gwarchae ar y ddinas am flwyddyn a hanner (blwyddyn un deg un Sedeceia fel brenin.) Erbyn y nawfed diwrnod o'r pedwerydd mis y flwyddyn honno roedd y newyn yn y ddinas mor ddrwg doedd gan y werin bobl ddim byd o gwbl i'w fwyta. Dyma'r gelyn yn llwyddo i fylchu wal y ddinas. A dyma filwyr Jwda i gyd yn ceisio dianc, a mynd allan o'r ddinas ganol nos drwy'r giât sydd rhwng y ddwy wal wrth ymyl gardd y brenin. Dyma nhw'n dianc i gyfeiriad Dyffryn Iorddonen (Roedd y Babiloniaid yn amgylchynu'r ddinas.) Ond aeth byddin Babilon ar ôl y brenin Sedeceia. Cafodd ei ddal ar wastatir Jericho, a dyma ei fyddin gyfan yn cael ei gyrru ar chwâl. Dyma nhw'n mynd â'r brenin Sedeceia i sefyll ei brawf o flaen brenin Babilon yn Ribla yn ardal Chamath. Cafodd Sedeceia ei orfodi i edrych ar ei feibion yn cael eu lladd gan frenin Babilon. Cafodd swyddogion Jwda i gyd eu lladd ganddo yn Ribla hefyd. Wedyn dyma fe'n tynnu llygaid Sedeceia allan a'i roi mewn cadwyni pres cyn mynd ag e'n gaeth i Babilon. Yn Babilon cafodd Sedeceia ei roi yn y carchar, a dyna lle bu nes iddo farw. Rhyw fis yn ddiweddarach, dyma Nebwsaradan, capten y gwarchodlu brenhinol, un o swyddogion pwysica brenin Babilon, yn cyrraedd Jerwsalem (Roedd hyn ar y degfed diwrnod o'r pumed mis, a Nebwchadnesar wedi bod yn frenin Babilon ers un deg naw o flynyddoedd.) Dyma fe'n rhoi teml yr ARGLWYDD, palas y brenin, a'r tai yn Jerwsalem i gyd ar dân. Llosgodd yr adeiladau pwysig i gyd. Wedyn dyma fyddin Babilon oedd gyda'r capten yn bwrw i lawr y waliau o gwmpas Jerwsalem. A dyma Nebwsaradan yn mynd â'r bobl dlawd a phawb oedd wedi eu gadael ar ôl yn y ddinas, y milwyr oedd wedi mynd drosodd at y gelyn ac unrhyw grefftwyr oedd ar ôl, yn gaethion i Babilon. Ond gadawodd rai o'r bobl mwyaf tlawd yn y wlad, a rhoi gwinllannoedd a tir iddyn nhw edrych ar ei ôl. Wedyn dyma'r Babiloniaid yn malu'r offer pres oedd yn y deml — y ddwy golofn bres, y trolïau pres, a'r basn mawr pres oedd yn cael ei alw “Y Môr”. A dyma nhw'n cario'r metel yn ôl i Babilon. Dyma nhw hefyd yn cymryd y bwcedi lludw, y rhawiau, y sisyrnau, y dysglau, y powlenni arogldarth, a phopeth arall o bres oedd yn cael ei ddefnyddio yn yr addoliad. Cymerodd capten y gwarchodlu bopeth oedd wedi ei wneud o aur neu arian — y powlenni bach, y padellau, y dysglau, bwcedi lludw, y lampau ar stand, y padellau a phowlenni'r offrwm o ddiod. Roedd cymaint o bres yn yr offer oedd y Brenin Solomon wedi eu gwneud ar gyfer y deml — pres y ddau biler, y ddysgl bres fawr sy'n cael ei galw “Y Môr”, y deuddeg tarw pres oedd dan y Môr, a'r trolïau pres — roedd y cwbl yn ormod i'w bwyso. Roedd y pileri yn wyth metr o uchder, pum metr a hanner o gylchedd, yn wag y tu mewn, ac wedi eu gwneud o fetel oedd tua 75 milimetr o drwch. Ar dop y pileri roedd capan pres oedd tua dau fetr o uchder. O gwmpas top y capan roedd rhwyllwaith cain a phomgranadau yn ei haddurno, y cwbl wedi ei wneud o bres. Roedd y ddau biler yn union yr un fath. Roedd naw deg chwech o bomgranadau ar yr ochrau, a chyfanswm o gant o gwmpas y rhwyllwaith ar y top. Cymerodd capten y gwarchodlu brenhinol rai carcharorion hefyd. Cymerodd Seraia (y prif-offeiriad), Seffaneia (yr offeiriad cynorthwyol), a tri porthor y deml. Wedyn o'r ddinas cymerodd swyddog y llys oedd yn gyfrifol am y milwyr, saith o gynghorwyr y brenin oedd wedi cael eu darganfod yn cuddio yn y ddinas, ac un o'r swyddogion oedd yn drafftio pobl i ymladd yn y fyddin, a chwe deg o'i ddynion gafodd eu darganfod yn y ddinas. A dyma Nebwsaradan, capten y gwarchodwyr, yn mynd â nhw at frenin Babilon i Ribla, a dyma'r brenin yn eu curo nhw a'u dienyddio nhw yno. Felly roedd pobl Jwda wedi cael eu caethgludo o'u tir. Dyma nifer y bobl gafodd eu caethgludo gan Nebwchadnesar: Yn ei seithfed flwyddyn fel brenin, 3,023 o bobl Jwda. Ym mlwyddyn un deg wyth o'i deyrnasiad, 832 o bobl. Yna ym mlwyddyn dau ddeg tri o'i deyrnasiad, cymerodd Nebwsaradan, capten y gwarchodlu brenhinol, 745 o Iddewon yn gaethion. Cafodd 4,600 o bobl eu caethgludo i gyd. Roedd Jehoiachin, brenin Jwda, wedi bod yn garcharor am dri deg saith o flynyddoedd pan ddaeth Efil-merodach yn frenin ar Babilon. Ar y pumed ar hugain o'r deuddegfed mis y flwyddyn honno dyma Efil-merodach yn rhyddhau Jehoiachin o'r carchar. Buodd yn garedig ato, a'i anrhydeddu fwy nag unrhyw un o'r brenhinoedd eraill oedd gydag e yn Babilon. Felly dyma Jehoiachin yn newid o'i ddillad carchar. Cafodd eistedd i fwyta'n rheolaidd wrth fwrdd brenin Babilon, ac roedd yn derbyn lwfans dyddiol gan y brenin am weddill ei fywyd. O! Mae'r ddinas oedd yn fwrlwm o bobl yn eistedd mor unig! Mae'r ddinas oedd yn enwog drwy'r byd bellach yn wraig weddw. Roedd hi fel tywysoges y taleithiau, ond bellach mae'n gaethferch. Mae hi'n beichio crïo drwy'r nos, a'r dagrau'n llifo i lawr ei hwyneb. Does dim un o'i chariadon yno i'w chysuro. Mae ei ffrindiau i gyd wedi ei bradychu ac wedi troi'n elynion iddi. Mae pobl Jwda wedi eu cymryd i ffwrdd yn gaethion; ar ôl diodde'n hir maen nhw'n gaethweision. Mae'n nhw'n byw mewn gwledydd eraill ac yn methu'n lân a setlo yno. Mae'r gelynion oedd yn eu herlid wedi eu dal; doedd ganddyn nhw ddim gobaith dianc. Mae'r ffyrdd gwag i Jerwsalem yn galaru; Does neb yn teithio i'r gwyliau i ddathlu. Does dim pobl yn mynd trwy giatiau'r ddinas. Dydy'r offeiriaid yn gwneud dim ond griddfan, ac mae'r merched ifanc, oedd yno'n canu a dawnsio, yn drist. Mae Jerwsalem mewn cyflwr truenus! Ei gelynion sy'n ei rheoli, ac mae bywyd mor braf iddyn nhw am fod yr ARGLWYDD wedi ei chosbi hi am wrthryfela yn ei erbyn mor aml. Mae ei phlant wedi eu cymryd i ffwrdd yn gaethion gan y gelyn. Mae popeth oedd hi'n ymfalchïo ynddo wedi ei gymryd oddi ar Jerwsalem. Roedd ei harweinwyr fel ceirw yn methu dod o hyd i borfa, ac yn rhy wan i ddianc oddi wrth yr heliwr. Mae Jerwsalem, sy'n dlawd a digartre, yn cofio ei holl drysorau — sef y pethau gwerthfawr oedd piau hi o'r blaen. Pan gafodd ei choncro gan ei gelynion doedd neb yn barod i'w helpu. Roedd ei gelynion wrth eu boddau, ac yn chwerthin yn ddirmygus wrth iddi gael ei dinistrio. Roedd Jerwsalem wedi pechu'n ofnadwy, felly cafodd ei thaflu i ffwrdd fel peth aflan. Mae pawb oedd yn ei hedmygu bellach yn gwneud sbort wrth ei gweld hi'n noeth. A dyna lle mae hithau'n griddfan ar lawr ac yn cuddio ei hwyneb mewn cywilydd. Wnaeth hi ddim meddwl beth fyddai'n digwydd yn y diwedd. Mae gwaed ei misglwyf wedi difetha ei dillad. Roedd ei chwymp yn rhyfeddol! Doedd neb yno i'w chysuro. “O ARGLWYDD, edrych arna i'n diodde!” meddai, “Mae'r gelyn wedi fy nghuro.” Mae'r gelyn wedi cymryd ei thrysorau hi i gyd. Ydy, mae hi wedi gorfod gwylio milwyr paganaidd yn mynd i mewn i'r deml sanctaidd. Ie, y bobl wnest ti wrthod gadael iddyn nhw fod yn rhan o'r gynulleidfa o addolwyr! Mae pobl Jerwsalem yn griddfan wrth chwilio am rywbeth i'w fwyta. Maen nhw'n gorfod gwerthu popeth gwerthfawr i gael bwyd i gadw'n fyw. “Edrych, ARGLWYDD, dw i'n dda i ddim bellach!” Ydy e ddim bwys i chi sy'n pasio heibio? Edrychwch arna i'n iawn. Oes rhywun wedi diodde fel dw i wedi diodde? Yr ARGLWYDD wnaeth hyn i mi pan oedd wedi digio'n lân. Anfonodd dân i lawr o'r nefoedd, oedd yn llosgi yn fy esgyrn. Gosododd rwyd i'm dal i, rhag i mi fynd ddim pellach. Mae wedi fy ngadael ar fy mhen fy hun; dw i'n teimlo'n sâl drwy'r amser. Mae ngwrthryfel wedi ei rwymo fel iau ar fy ngwddf. Duw ei hun sydd wedi ei rwymo. Mae e wedi gosod ei iau ar fy ngwar, a'm gwneud i yn hollol wan. Mae'r Meistr wedi fy rhoi yn nwylo'r gelyn, ac alla i wneud dim yn eu herbyn. Mae'r Meistr wedi taflu allan y milwyr dewr oedd yn fy amddiffyn. Mae wedi galw byddin i ymladd yn fy erbyn ac i sathru fy milwyr ifanc dan draed. Ydy, mae'r Meistr wedi sathru pobl Jwda annwyl fel sathru grawnwin mewn gwinwasg. Dyna pam dw i'n crïo. Dyna pam mae'r dagrau'n llifo. Does gen i neb wrth law i'm cysuro; neb i godi fy nghalon. Does gan fy mhlant ddim dyfodol. Mae'r gelyn wedi eu gorchfygu. Mae Seion yn begian am help, ond does neb yno i'w chysuro hi. Mae'r ARGLWYDD wedi gorchymyn i'r gwledydd o'u cwmpas ymosod ar bobl Jacob. Mae Jerwsalem yn eu canol nhw fel peth aflan y dylid ei daflu i ffwrdd. Yr ARGLWYDD sy'n iawn; dw i wedi tynnu'n groes i beth ddwedodd e. Gwrandwch arna i, bawb! Edrychwch gymaint dw i'n ei ddiodde. Mae fy merched a'm dynion ifanc wedi cael eu cymryd i ffwrdd yn gaethion. Roeddwn i'n galw ar fy ffrindiau am help ond dyma nhw i gyd yn troi cefn arna i. Bu farw'r offeiriaid a'r arweinwyr yn y ddinas wrth edrych am fwyd i gadw eu hunain yn fyw. ARGLWYDD, edrych mor ddrwg mae hi arna i! Dw i'n corddi tu mewn. Dw i'n torri fy nghalon, achos dw i'n gwybod mod i wedi gwrthryfela'n llwyr. Allan ar y stryd mae'r gelyn yn lladd; yn y tai mae pobl yn marw o newyn. Maen nhw wedi fy nghlywed i'n griddfan, a does yna neb i'm cysuro. Mae fy ngelynion wedi clywed am fy helyntion, ac maen nhw'n falch dy fod wedi gwneud hyn i mi. Brysied y diwrnod rwyt wedi sôn amdano, pan gân nhw eu cosbi run fath â fi! Edrych ar yr holl bethau drwg maen nhw'n eu gwneud! Delia hefo nhw fel rwyt wedi delio gyda mi am wrthryfela yn dy erbyn o hyd ac o hyd. Dw i'n methu stopio griddfan ac wedi digalonni'n llwyr! O! Mae'r Meistr wedi digio'n lân, ac wedi rhoi Jerwsalem dan gwmwl tywyll! Mae'r ddinas oedd yn ysblander Israel wedi ei bwrw i lawr i'r llwch o'r nefoedd. Yn ei lid ffyrnig, mae Duw wedi gwrthod ei deml, sef ei stôl droed sydd ar y ddaear. Mae wedi dinistrio cartrefi pobl Jacob heb ddangos trugaredd o gwbl. Yn ei ddig mae wedi dinistrio'r trefi caerog oedd yn amddiffyn Jwda. Mae wedi bwrw i lawr y wlad a'i harweinwyr ac achosi cywilydd mawr. Yn ei lid ffyrnig mae wedi dinistrio grym byddin Israel yn llwyr. Stopiodd eu hamddiffyn nhw pan oedd y gelyn yn ymosod. Roedd fel tân yn llosgi drwy'r wlad ac yn difa popeth ar dir Jacob. Roedd fel gelyn yn anelu ei fwa saeth, a'i law dde yn barod i saethu. Lladdodd bawb oedd yn annwyl yn ei olwg. Do, tywalltodd ei lid fel tân ar gartrefi Jerwsalem. Roedd yr Arglwydd fel gelyn yn dinistrio Israel. Mae wedi dinistrio'r plastai i gyd, a dymchwel ei chaerau amddiffynnol. Bellach, dim ond griddfan a galar sydd i'w glywed drwy wlad Jwda. Mae wedi chwalu ei deml fel caban mewn gwinllan. Mae wedi dinistrio canolfan y gwyliau sanctaidd. Daeth pob Gŵyl grefyddol a Saboth i ben yn Seion. Yn ei lid ffyrnig trodd ei gefn ar y brenin a'r offeiriaid. Mae'r Meistr wedi gwrthod ei allor. Mae wedi troi cefn ar ei deml. Mae wedi gadael i'r gelyn rwygo ei waliau i lawr. Roedd sŵn y gelyn yn gweiddi yn nheml yr ARGLWYDD fel sŵn pobl yn dathlu yno ar ddydd Gŵyl. Roedd yr ARGLWYDD yn benderfynol o droi waliau dinas Jerwsalem yn adfeilion. Roedd wedi cynllunio'n ofalus beth i'w wneud, ac aeth ati i'w dinistrio nhw'n llwyr. Bellach mae'r waliau oedd yn amddiffyn y ddinas yn gorwedd yn llesg fel pobl yn galaru. Mae giatiau'r ddinas yn gorwedd ar lawr, a'r barrau oedd yn eu cloi wedi malu. Mae'r brenin a'r arweinwyr wedi eu cymryd yn gaeth. Does neb i roi arweiniad o'r Gyfraith, a does gan y proffwydi ddim gweledigaeth gan yr ARGLWYDD. Mae'r henoed sydd ar ôl yn Jerwsalem yn eistedd ar lawr yn hollol dawel. Maen nhw wedi taflu pridd ar eu pennau ac yn gwisgo sachliain yn eu tristwch. Mae merched ifanc Jerwsalem yn syllu ar lawr yn ddigalon. Mae fy llygaid innau'n llawn dagrau. Mae fy stumog yn corddi y tu mewn i mi. Mae'r hyn sydd wedi digwydd i'm pobl yn fy ngwneud i'n sâl. Mae plant a babis bach yn llwgu a llewygu ar strydoedd y ddinas! Mae plant yn galw ar eu mamau. “Dw i eisiau bwyd. Dw i eisiau diod.” Maen nhw'n llewygu ar y strydoedd fel milwyr wedi eu hanafu. Maen nhw'n marw yn araf ym mreichiau eu mamau. Dw i ddim yn gwybod beth i'w ddweud. Dw i wedi gweld dim byd tebyg. Jerwsalem annwyl, beth alla i ei wneud i dy helpu di? Mae dy anaf mor ddwfn â'r môr mawr; does neb yn gallu dy iacháu. Roedd gweledigaethau dy broffwydi yn gelwydd ac yn dwyll! Yn lle gwneud pethau'n iawn eto drwy ddangos dy bechod i ti, roedden nhw'n cyhoeddi pethau ffals ac yn dy gamarwain di. Mae pawb sy'n pasio heibio yn curo dwylo'n wawdlyd. Maen nhw'n chwibanu'n ddirmygus ac yn ysgwyd eu pennau ar Jerwsalem druan. “Ha! Felly dyma'r un oedd yn cael ei disgrifio fel ‘y ddinas harddaf un sy'n gwneud yr holl fyd yn hapus’?” Mae dy elynion i gyd yn gwneud hwyl am dy ben; yn gwawdio ac yn gwneud ystumiau arnat. “Dŷn ni wedi ei dinistrio hi!” medden nhw. “Roedden ni wedi edrych ymlaen at y diwrnod yma, ac o'r diwedd mae wedi dod!” Mae'r ARGLWYDD wedi gwneud beth oedd yn ei fwriadu. Mae wedi gwneud beth oedd yn ei ddweud. Roedd wedi bygwth hyn ers talwm. Mae wedi dinistrio heb ddangos trugaredd. Mae wedi gadael i'r gelyn ddathlu dy orchfygu, ac ymffrostio fod ei fyddin mor bwerus. Gwaeddwch yn daer ar yr Arglwydd! O waliau Jerwsalem, gadewch i'r dagrau lifo fel afon ddydd a nos! Peidiwch gorffwyso; peidiwch gadael i'r dagrau stopio! Cod! Gwaedda am help yn y nos! Gwna hynny drosodd a throsodd. Tywallt beth sydd ar dy galon o flaen yr Arglwydd! Estyn dy ddwylo ato mewn gweddi, i bledio dros y plant sy'n marw o newyn ar gornel pob stryd. Edrych! ARGLWYDD, meddylia am y peth! I bwy arall wyt ti wedi gwneud hyn? Ydy'n iawn fod gwragedd yn bwyta'r plant maen nhw wedi gofalu amdanyn nhw? Ddylai offeiriaid a phroffwydi gael eu lladd yn nheml yr ARGLWYDD? Mae hen ac ifanc yn gorwedd yn farw ar lwch y strydoedd. Bechgyn a merched ifanc wedi eu taro gan gleddyf y gelyn. Ti wnaeth hyn pan ddangosaist dy lid ffyrnig. Lleddaist nhw yn ddidrugaredd. Cafodd y gelyn, oedd yn creu dychryn ym mhobman, wahoddiad gen ti, fel petai'n ddydd Gŵyl. Ond diwrnod i ti ddangos dy lid ffyrnig oedd e, a doedd neb i ddianc na chael byw. Do, lladdodd y gelyn y plant wnes i eu mwytho a'u magu. Dw i yn ddyn sy'n gwybod beth ydy dioddef. Mae gwialen llid Duw wedi fy nisgyblu i. Mae e wedi fy ngyrru i ffwrdd i fyw yng nghanol tywyllwch dudew. Ydy, mae wedi fy nharo i dro ar ôl tro, yn ddi-stop. Mae wedi curo fy nghorff yn ddim, ac wedi torri fy esgyrn. Mae fel byddin wedi fy amgylchynu, yn ymosod arna i gyda gwasgfa chwerw. Mae wedi gwneud i mi eistedd yn y tywyllwch fel y rhai sydd wedi marw ers talwm. Mae wedi cau amdana i, ac alla i ddim dianc. Mae'n fy nal i lawr gyda chadwyni trymion. Dw i'n gweiddi'n daer am help, ond dydy e'n cymryd dim sylw. Mae wedi blocio pob ffordd allan; mae pob llwybr fel drysfa! Mae e fel arth neu lew yn barod i ymosod arna i. Llusgodd fi i ffwrdd a'm rhwygo'n ddarnau. Allwn i wneud dim i amddiffyn fy hun. Anelodd ei fwa saeth ata i; fi oedd ei darged. Gollyngodd ei saethau a'm trywanu yn fy mherfedd. Mae fy mhobl wedi fy ngwneud i'n destun sbort, ac yn fy ngwawdio i ar gân. Mae e wedi gwneud i mi fwyta llysiau chwerw; mae wedi llenwi fy mol gyda'r wermod. Mae wedi gwneud i mi gnoi graean, ac wedi rhwbio fy ngwyneb yn y baw. Does gen i ddim tawelwch meddwl; dw i wedi anghofio beth ydy bod yn hapus. Dywedais, “Alla i ddim cario mlaen. Dw i wedi colli pob gobaith yn yr ARGLWYDD.” Mae meddwl amdana i fy hun yn dlawd a digartre yn brofiad chwerw! Mae ar fy meddwl drwy'r amser, ac mae'n fy ngwneud yn isel fy ysbryd. Ond wedyn dw i'n cofio hyn, a dyma sy'n rhoi gobaith i mi: Mae cariad ffyddlon yr ARGLWYDD yn ddiddiwedd, a'i garedigrwydd e'n para am byth. Maen nhw'n dod yn newydd bob bore. “ARGLWYDD, rwyt ti mor anhygoel o ffyddlon!” “Dim ond yr ARGLWYDD sydd gen i,” meddwn i, “felly ynddo fe dw i'n gobeithio.” Mae'r ARGLWYDD yn dda i'r rhai sy'n ei drystio, ac i bwy bynnag sy'n troi ato am help. Mae'n beth da i ni ddisgwyl yn amyneddgar i'r ARGLWYDD ddod i'n hachub ni. Mae'n beth da i rywun ddysgu ymostwng tra mae'n dal yn ifanc. Dylai rhywun eistedd yn dawel pan mae'r ARGLWYDD yn ei ddisgyblu e. Dylai orwedd ar ei wyneb ar lawr yn y gobaith y bydd yr ARGLWYDD yn ymyrryd. Dylai droi'r foch arall i'r sawl sy'n ei daro, a bod yn fodlon cael ei gam-drin a'i enllibio. Fydd yr Arglwydd ddim yn ein gwrthod ni am byth. Er ei fod yn gwneud i rywun ddiodde, bydd yn tosturio, achos mae ei gariad e mor fawr. Dydy e ddim eisiau gwneud i bobl ddioddef nac achosi poen i bobl. Os ydy carcharorion gwlad yn cael eu sathru, a hawliau dynol yn cael eu diystyru, a hynny o flaen y Duw Goruchaf ei hun; os ydy cwrs cyfiawnder yn cael ei wyrdroi yn y llys — ydy'r Arglwydd ddim yn gweld y cwbl? Pwy sy'n gallu gorchymyn i unrhyw beth ddigwydd heb i'r Arglwydd ei ganiatáu? Onid y Duw Goruchaf sy'n dweud beth sy'n digwydd — p'run ai dinistr neu fendith? Pa hawl sydd gan rywun i gwyno pan mae'n cael ei gosbi am ei bechod? Gadewch i ni edrych yn fanwl ar ein ffordd o fyw, a throi nôl at yr ARGLWYDD. Gadewch i ni droi'n calonnau a chodi'n dwylo at Dduw yn y nefoedd, a chyffesu, “Dŷn ni wedi gwrthryfela'n ddifrifol, a dwyt ti ddim wedi maddau i ni. Rwyt wedi gwisgo dy lid amdanat a dod ar ein holau, gan ladd pobl heb ddangos trugaredd. Ti wedi cuddio dy hun mewn cwmwl nes bod ein gweddïau ddim yn torri trwodd. Ti wedi'n gwneud ni fel sbwriel a baw yng ngolwg y bobloedd. Mae ein gelynion i gyd yn gwneud hwyl ar ein pennau. Mae panig a'r pydew wedi'n dal ni, difrod a dinistr.” Mae afonydd o ddagrau yn llifo o'm llygaid am fod fy mhobl wedi cael eu dinistrio. Mae'r dagrau'n llifo yn ddi-baid; wnân nhw ddim stopio nes bydd yr ARGLWYDD yn edrych i lawr o'r nefoedd ac yn ein gweld ni. Mae gweld beth sydd wedi digwydd i ferched ifanc fy ninas yn fy ngwneud i mor drist. Mae fy ngelynion wedi fy nal fel aderyn, heb reswm da i wneud hynny. Maen nhw wedi fy nhaflu i waelod pydew ac yna ei gau gyda charreg. Roedd y dŵr yn codi uwch fy mhen; ron i'n meddwl fy mod i'n mynd i foddi. Ond dyma fi'n galw arnat ti am help, O ARGLWYDD, o waelod y pydew. Dyma ti'n clywed fi'n pledio, “Helpa fi! Paid gwrthod gwrando arna i!” A dyma ti'n dod ata i pan o'n i'n galw, a dweud, “Paid bod ag ofn!” Fy Meistr, rwyt wedi dadlau fy achos; rwyt wedi dod i'm hachub. Ti wedi gweld y drwg gafodd ei wneud i mi, O ARGLWYDD, felly wnei di farnu o'm plaid i? Ti wedi gweld eu malais nhw, a'r holl gynllwynio yn fy erbyn i. Ti wedi eu clywed nhw'n gwawdio, O ARGLWYDD, a'r holl gynllwynio yn fy erbyn i. Mae'r rhai sy'n ymosod arna i yn sibrwd ac yn hel straeon yn fy erbyn drwy'r amser. Edrycha arnyn nhw! — O fore gwyn tan nos maen nhw'n fy ngwawdio i ar gân. Tala yn ôl iddyn nhw am beth wnaethon nhw, O ARGLWYDD; rho iddyn nhw beth maen nhw'n ei haeddu. Gyrra nhw'n wallgof! Melltithia nhw! Dos ar eu holau yn dy lid, a'u dileu nhw oddi ar wyneb y ddaear, O ARGLWYDD. O! Mae'r aur wedi colli ei sglein. Dydy'r aur pur ddim yn edrych fel aur ddim mwy! Mae gemau gwerthfawr ar chwâl ar gornel pob stryd. Roedd plant gwerthfawr Seion yn werth eu pwysau mewn aur. Ond bellach — O! maen nhw mor ddiwerth a photiau pridd wedi eu gwneud gan grochenydd! Mae hyd yn oed y siacal yn magu ei rai bach ac yn eu bwydo ar y fron, ond mae fy mhobl i yn esgeulus o'u plant fel yr estrys yn yr anialwch. Mae tafodau'r babanod yn glynu i dop eu cegau am fod syched arnyn nhw. Mae plant bach yn cardota am fwyd, ond does neb yn rhoi unrhyw beth iddyn nhw. Mae'r bobl oedd yn arfer gwledda ar fwydydd moethus yn marw o newyn ar y strydoedd. Mae'r rhai gafodd eu magu mewn dillad crand yn crafu drwy'r sbwriel am rywbeth bach. Mae fy mhobl wedi cael eu cosbi am eu pechod fwy na gafodd Sodom am ei gwrthryfel. Cafodd Sodom ei dinistrio'n sydyn gan Dduw, heb i neb droi llaw i'w helpu. Roedd arweinwyr Jerwsalem yn lanach na'r eira ac wyn fel llaeth. Roedd eu cyrff yn iach, ac yn sgleinio fel cwrel neu saffir. Ond bellach mae eu hwynebau yn ddu fel parddu. Does neb yn eu nabod nhw ar y strydoedd. Dŷn nhw'n ddim byd ond croen ac asgwrn, ac mae eu croen wedi sychu fel pren. Roedd y rhai gafodd eu lladd gyda'r cleddyf yn fwy ffodus na'r rhai sy'n marw o newyn — y rhai mae bywyd yn llifo'n araf ohonyn nhw, am fod ganddyn nhw ddim i'w fwyta. Pan gafodd fy mhobl eu dinistrio, roedd mamau, oedd unwaith yn dyner, yn coginio eu plant i'w bwyta! Dyma'r ARGLWYDD yn bwrw arnom ei lid i gyd. Tywalltodd ei ddig ffyrnig a chynnau tân wnaeth losgi sylfeini Seion. Doedd dim un brenin wedi dychmygu, na neb arall drwy'r byd i gyd, y gallai unrhyw elyn neu ymosodwr goncro dinas Jerwsalem. Ond dyna ddigwyddodd, am fod ei phroffwydi wedi pechu a'i hoffeiriaid wedi gwrthryfela. Nhw oedd gyfrifol am ladd pobl ddiniwed yn y ddinas. Maen nhw'n crwydro'r strydoedd fel pobl ddall. Does neb yn beiddio cyffwrdd eu dillad nhw, am fod y gwaed wnaethon nhw ei dywallt wedi eu gwneud nhw'n aflan. Mae pobl yn gweiddi arnyn nhw, “Cadwch draw! Dych chi'n aflan! Ewch i ffwrdd! Peidiwch cyffwrdd ni!” Felly dyma nhw'n ffoi ac maen nhw'n crwydro o gwmpas o un wlad i'r llall heb gael croeso yn unman. Yr ARGLWYDD ei hun wnaeth eu gyrru ar chwâl, a dydy e ddim yn gofalu amdanyn nhw ddim mwy. Does neb yn dangos parch at yr offeiriaid, a does neb yn malio am yr arweinwyr. Roedd ein llygaid ni wedi blino wrth i ni wastraffu'n hamser yn edrych am help. Roedden ni'n edrych allan o'r tŵr gwylio yn disgwyl am wlad wnaeth ddim dod i'n hachub ni. Roedd ein gelynion yn ein hela bob cam o'r ffordd. Doedd hi ddim yn saff i ni fynd allan i'r strydoedd hyd yn oed. Roedd y diwedd yn agos; roedd ein dyddiau wedi eu rhifo; oedd, roedd y diwedd wedi dod! Daeth y gelyn ar ein holau. Roedden nhw'n gyflymach nag eryrod. Roedden nhw'n ein hela ni ar y bryniau, ac yn disgwyl i ymosod arnon ni yn yr anialwch. Cafodd anadl bywyd y genedl, sef y brenin oedd wedi ei eneinio gan yr ARGLWYDD, ei ddal mewn trap ganddyn nhw. Dyma'r un oedden ni'n credu fyddai'n ein hamddiffyn, a'n galluogi i oroesi yng nghanol y cenhedloedd. Chwarddwch chi am y tro, bobl Edom, a chi sy'n byw yn ngwlad Us, ond mae'ch tro chi yn dod! Bydd rhaid i chithau yfed o gwpan barn Duw, nes byddwch chi'n feddw ac yn noeth. Dych chi wedi cael eich cosbi, bobl Jerwsalem, ond fyddwch chi ddim yn aros yn gaethion yn hir iawn. Ond bydd Duw yn eich cosbi chi am eich pechod, bobl Edom. Bydd eich drygioni yn dod i'r amlwg. ARGLWYDD, cofia beth sydd wedi digwydd i ni. Edrycha arnon ni yn ein cywilydd! Mae'n gwlad wedi ei rhoi yn nwylo'r gelyn, a'n cartrefi wedi eu meddiannu gan bobl estron. Dŷn ni fel plant amddifad, heb dadau, ac mae ein mamau fel gwragedd gweddwon. Rhaid i ni brynu dŵr i'w yfed, a thalu am y coed tân dŷn ni'n ei gasglu. Dŷn ni'n cael ein gyrru fel anifeiliaid â iau ar eu gwarrau; wedi blino'n lân, ac yn cael dim gorffwys. Gwnaethon gytundeb gyda'r Aifft ac Asyria, er mwyn cael digon o fwyd i fyw. Roedd ein hynafiaid, sy'n farw bellach, wedi pechu; a dŷn ni'n diodde canlyniadau eu drygioni nhw. Mae caethweision yn feistri arnon ni, a does neb yn gallu'n hachub ni o'u gafael nhw. Dŷn ni'n gorfod mentro'n bywydau i nôl bwyd, am fod lladron arfog yn cuddio yng nghefn gwlad. Mae newyn yn achosi i ni ddiodde o dwymyn; mae ein croen yn teimlo'n boeth fel ffwrn. Mae'r gwragedd yn cael eu treisio yn Seion, a'r merched ifanc yn nhrefi Jwda. Mae'r gelyn wedi crogi ein harweinwyr, a cham-drin y rhai hynaf ohonynt. Mae'r dynion ifanc yn cael eu gorfodi i weithio'r maen melin, a'r bechgyn yn baglu wrth gario llwyth o goed. Dydy'r arweinwyr hŷn ddim yn cyfarfod wrth giât y ddinas, ac mae'r bechgyn ifanc wedi stopio canu eu cerddoriaeth. Mae pob llawenydd wedi diflannu; yn lle dawnsio dŷn ni'n galaru. Mae'r dathlu wedi dod i ben. Gwae ni, dŷn ni wedi pechu! Dŷn ni'n teimlo'n sâl, ac wedi colli pob hyder; mae'r sbarc wedi diflannu o'n llygaid, am fod Mynydd Seion yn gorwedd yn wag; dim ond siacaliaid sydd yno'n prowla. Ond rwyt ti, ARGLWYDD, yn teyrnasu am byth; mae dy orsedd yn para ar hyd y cenedlaethau. Pam wyt ti wedi anghofio amdanon ni? Pam wyt ti wedi troi cefn arnon ni mor hir? Tynn ni'n ôl atat dy hun, ARGLWYDD, i ni droi nôl. Gwna ni eto fel roedden ni ers talwm. Neu wyt ti wedi'n gwrthod ni'n llwyr? Wyt ti wedi digio'n lân gyda ni? Pan oeddwn i'n dri deg oed, roeddwn i'n byw wrth Gamlas Cebar yn Babilon gyda'r bobl oedd wedi cael eu caethgludo yno o Jwda. Ar y pumed diwrnod o'r pedwerydd mis roedd fel petai'r nefoedd wedi agor, a Duw yn rhoi gweledigaethau i mi. (Roedd hyn bum mlynedd ar ôl i'r brenin Jehoiachin gael ei gymryd yn gaeth i Babilon). Offeiriad ydw i, Eseciel fab Bwsi, a dyma'r ARGLWYDD yn rhoi neges i mi pan oeddwn i wrth Gamlas Cebar yng ngwlad Babilon. Roedd yr ARGLWYDD wedi fy nghyffwrdd i yno! Wrth i mi edrych, ron i'n gweld storm yn dod o'r gogledd. Roedd cwmwl anferth, a mellt yn fflachio, a golau llachar o'i gwmpas. Roedd ei ganol yn llachar fel tân mewn ffwrnais fetel. Yna o'i ganol dyma bedwar ffigwr yn dod i'r golwg. Roedden nhw'n edrych fel creaduriaid byw. Roedden nhw yr un siâp a phobl, ond roedd gan bob un bedwar wyneb a phedair adain. Roedden nhw'n sefyll i fyny'n syth fel pobl, ond carnau llo oedd eu traed. Ac roedden nhw'n gloywi fel pres wedi ei sgleinio. Roedd ganddyn nhw freichiau a dwylo dynol o dan eu hadenydd, ac roedd eu hadenydd nhw'n cyffwrdd ei gilydd. Am bod ganddyn nhw bedwar wyneb doedden nhw ddim yn troi, dim ond symud yn syth yn eu blaenau i ba gyfeiriad bynnag roedden nhw'n mynd. Roedd gan bob un ohonyn nhw un wyneb dynol, wedyn wyneb llew ar yr ochr dde, wyneb tarw ar y chwith, a wyneb eryr ar y cefn. Roedden nhw'n dal eu hadenydd ar led — roedd dwy aden gan bob un yn cyffwrdd adenydd y creaduriaid oedd bob ochr iddyn nhw, a'r ddwy aden arall yn gorchuddio eu cyrff. Roedden nhw'n mynd ble bynnag roedd yr ysbryd am fynd — yn syth yn eu blaenau, heb droi o gwbl. Yn eu canol roedd rhywbeth oedd yn edrych fel marwor yn llosgi, ac roedd y tân fel ffaglau yn symud yn ôl ac ymlaen rhwng y creaduriaid byw. Roedd yn llosgi'n danbaid ac roedd gwreichion yn saethu allan ohono i bob cyfeiriad, ac roedd y creaduriaid byw eu hunain yn symud yn ôl ac ymlaen fel fflachiadau mellt. Wedyn sylwais fod olwyn ar lawr wrth ymyl pob un o'r pedwar creadur. Roedd yr olwynion yn sgleinio fel meini saffir. Roedd pob olwyn yr un fath, gydag olwyn arall tu mewn iddyn nhw ar ongl sgwâr. Felly pan oedden nhw'n symud roedden nhw'n gallu mynd i unrhyw un o'r pedwar cyfeiriad heb orfod troi. Roedd ymylon yr olwynion yn anferth, wedi eu gorchuddio gyda llygaid. Pan oedd y creaduriaid byw yn symud, roedd yr olwynion wrth eu hymyl nhw'n symud. Pan oedd y creaduriaid yn codi oddi ar y ddaear, roedd yr olwynion yn codi hefyd. Roedd y creaduriaid yn mynd ble bynnag roedd yr ysbryd am fynd, ac roedd yr olwynion yn codi gyda nhw am fod ysbryd y creaduriaid byw yn yr olwynion hefyd. Roedd yr olwynion yn symud ac yn stopio ac yn codi gyda'r creaduriaid am fod ysbryd y creaduriaid byw yn yr olwynion. Uwch ben y creaduriaid byw roedd rhywbeth oedd yn edrych yn debyg i lwyfan oedd yn sgleinio fel grisial. Roedd wedi ei ledu fel cromen uwch eu pennau. Dyna lle roedd y creaduriaid byw, o dan y llwyfan yma, gyda'i hadenydd yn ymestyn allan at ei gilydd. Roedd gan bob un ohonyn nhw ddwy aden yn gorchuddio ei gorff hefyd. Pan oedd y creaduriaid yn hedfan, roeddwn i'n clywed sŵn eu hadenydd nhw — sŵn tebyg i raeadr, neu lais y Duw mawr sy'n rheoli popeth, neu fyddin enfawr yn martsio. Wedyn pan oedden nhw'n stopio roedden nhw'n rhoi eu hadenydd i lawr. Dyma nhw'n stopio, a chlywais lais yn dod o'r llwyfan oedd uwch eu pennau. Uwch ben y llwyfan roedd rhywbeth oedd yn edrych fel gorsedd wedi ei gwneud o saffir. Wedyn ar yr orsedd roedd ffigwr oedd yn edrych fel person dynol. O'i ganol i fyny roedd yn edrych fel tân yn llosgi mewn ffwrnais fetel, ac o'i ganol i lawr fel fflamau tân. Roedd golau llachar yn disgleirio o'i gwmpas. Roedd mor hardd a'r enfys yn y cymylau ar ôl iddi lawio. Dyma fi'n sylweddoli mai ysblander yr ARGLWYDD ei hun oedd e, felly dyma fi'n mynd ar fy ngwyneb ar lawr. A dyma fi'n clywed llais yn siarad â mi. Dyma'r llais yn dweud, “Ddyn, saf ar dy draed; dw i eisiau siarad â ti.” Dyma ysbryd yn dod i mewn i mi a gwneud i mi sefyll ar fy nhraed. A dyma'r llais oedd yn siarad â mi yn dweud: “Ddyn, dw i'n dy anfon di at bobl Israel. Maen nhw wedi gwrthryfela yn fy erbyn i — nhw a'u hynafiaid hefyd. Maen nhw'n bobl benstiff ac ystyfnig. Rwyt i ddweud wrthyn nhw, ‘Dyma mae'r Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud.’ Os byddan nhw'n gwrando neu beidio — wedi'r cwbl maen nhw'n griw o rebeliaid — byddan nhw o leia'n gwybod fod proffwyd wedi bod gyda nhw. “Ond paid dychryn pan fyddan nhw'n dy fygwth di. Bydd fel cael mieri a drain o dy gwmpas di ym mhobman, neu eistedd yng nghanol sgorpionau — ond paid ti bod ag ofn wrth iddyn nhw fygwth ac edrych yn gas arnat ti. Dywed di wrthyn nhw beth ydy'r neges gen i, os ydyn nhw am wrando neu beidio. Maen nhw'n griw anufudd. Gwna di'n siŵr dy fod ti'n gwrando arna i. Paid ti â tynnu'n groes. Agor dy geg a bwyta'r hyn dw i'n ei roi i ti.” A dyna pryd gwelais i law wedi ei hestyn allan ata i. Roedd y llaw yn dal sgrôl. Dyma'r sgrôl yn cael ei hagor o'm blaen i. Roedd ysgrifen ar y ddwy ochr — a'r teitl oedd “Caneuon o alar, tristwch a gwae”. A dyma'r llais yn dweud wrtho i, “Ddyn, bwyta'r sgrôl yma sydd o dy flaen, ac wedyn mynd i siarad gyda phobl Israel.” Felly dyma fi'n agor fy ngheg, a dyma fe'n bwydo'r sgrôl i mi. A dyma fe'n dweud, “Ddyn, llenwa dy fol gyda'r sgrôl yma dw i'n ei rhoi i ti.” A dyma fi'n ei bwyta. Roedd hi'n blasu'n felys fel mêl. A dyma fe'n dweud wrtho i, “Ddyn, dos at bobl Israel a dweud beth ydy fy neges i iddyn nhw. Dw i ddim yn dy anfon di at bobl sy'n siarad iaith wyt ti ddim yn ei deall. Pobl Israel ydyn nhw. Petawn i'n dy anfon di at dyrfa o bobl sy'n siarad iaith wyt ti ddim yn ei deall, mae'n siŵr y byddai'r rheiny yn gwrando arnat ti! Ond fydd pobl Israel ddim yn gwrando arnat ti, achos dŷn nhw ddim yn fodlon gwrando arna i. Maen nhw'n bobl ofnadwy o benstiff ac ystyfnig. Felly dw i'n mynd i dy wneud di'r un mor benderfynol a penstiff ag ydyn nhw! Bydda i'n dy wneud di yn galed fel diemwnt (sy'n gletach na charreg fflint!) Paid bod ag ofn. Paid gadael iddyn nhw dy ddychryn di. Maen nhw'n griw o rebeliaid. “Felly, gwranda di'n ofalus ar bopeth dw i'n ddweud, a'i gymryd o ddifrif. Dos at dy gydwladwyr, y bobl gafodd eu symud yma yn gaethion gyda ti. Dywed wrthyn nhw, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud.’ Dw i am i ti wneud hyn os ydyn nhw'n dewis gwrando neu beidio.” Yna cododd yr ysbryd fi oddi ar y llawr. Clywais sŵn rymblan y tu ôl i mi wrth i ysblander yr ARGLWYDD godi o'i le. Adenydd y creaduriaid byw oedd yn rhwbio yn erbyn ei gilydd, a sŵn yr olwynion wrth eu hymyl yn troi. Roedd fel sŵn rymblan mawr. Cododd yr ysbryd fi oddi ar y llawr, a'm cario i ffwrdd. Ro'n i'n teimlo'n flin ac yn llawn emosiwn. Roedd dylanwad yr ARGLWYDD arna i ac roedd yn rheoli beth oedd yn digwydd i mi yn llwyr. Dyma fi'n cyrraedd Tel-abib, sydd wrth ymyl Camlas Cebar. Bues i yno am wythnos, yn eistedd yn syfrdan yng nghanol y bobl oedd wedi cael eu caethgludo. Yna ar ôl wythnos dyma fi'n cael neges gan yr ARGLWYDD: “Ddyn, dw i'n dy benodi di yn wyliwr i warchod pobl Israel. Rhaid i ti eu rhybuddio nhw pan fydda i'n rhoi neges i ti. Pan dw i'n dweud wrth rywun drwg, ‘Rwyt ti'n siŵr o farw,’ a tithau ddim wedi ei rybuddio a'i annog i newid ei ffyrdd a byw, bydd e'n marw am ei fod wedi pechu a bydda i'n dy ddal di'n gyfrifol ei fod wedi marw. Ond os byddi di wedi ei rybuddio, ac yntau wedi gwrthod newid ei ffyrdd, bydd e'n marw am ei fod wedi pechu ond byddi di wedi achub dy hun. “Ar y llaw arall, os ydy rhywun sydd fel arfer yn gwneud beth sy'n iawn yn newid ei ffyrdd ac yn dechrau gwneud pethau drwg, bydda i'n achosi i rywbeth ddigwydd fydd yn gwneud i'r person hwnnw syrthio. Bydd e'n marw. Os na fyddi di wedi ei rybuddio bydd e'n marw am ei fod wedi pechu. Fydd y pethau da wnaeth e o'r blaen ddim yn cyfrif. A bydda i'n dy ddal di'n gyfrifol am beth fydd yn digwydd. Ond os byddi di wedi ei rybuddio fe i beidio pechu, ac yntau wedi gwrando arnat ti, bydd e'n cael byw, a byddi di hefyd wedi achub dy hun.” Dyma ddylanwad yr ARGLWYDD yn dod arna i, a dyma fe'n dweud, “Cod ar dy draed. Dos allan i'r dyffryn, a bydda i'n siarad gyda ti yno.” Felly dyma fi'n codi'n syth, ac yn mynd allan i'r dyffryn. A dyma fi'n gweld ysblander yr ARGLWYDD eto, yn union yr un fath ag wrth Gamlas Cebar. Syrthiais ar fy ngwyneb ar lawr. Ond yna dyma ysbryd yn mynd i mewn i mi ac yn fy nghodi ar fy nhraed. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Dos, a cau dy hun i mewn yn dy dŷ. Bydd y bobl yma'n dy rwymo di gyda rhaffau, er mwyn dy rwystro di rhag cymysgu gyda nhw y tu allan. Bydda i'n gwneud i dy dafod di sticio i dop dy geg a fyddi di ddim yn gallu siarad na dweud wrthyn nhw beth maen nhw'n ei wneud o'i le. Maen nhw'n griw o rebeliaid. Ond pan fydd gen i rywbeth i'w ddweud wrthot ti, bydda i'n agor dy geg di i ti allu dweud wrthyn nhw, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud.’ Cân nhw ddewis os ydyn nhw am wrando neu beidio. Maen nhw'n griw o rebeliaid.” “Ddyn, cymer fricsen fawr, ei gosod o dy flaen a thynnu llun map o ddinas Jerwsalem arni. Wedyn gwna fodel o fyddin yn gwarchae arni: waliau gwarchae, ramp, gwersylloedd milwyr ac offer fel hyrddod rhyfel o'i chwmpas. Yna cymer badell haearn, a'i gosod i fyny fel wal haearn rhyngot ti a'r ddinas. Wedyn gwylia hi, drwy'r amser, fel taset ti'n gwarchae arni. Mae beth fyddi di'n wneud yn rhybudd i bobl Israel. “Yna dw i eisiau i ti orwedd ar dy ochr chwith am dri chant naw deg diwrnod. Byddi'n dioddef wrth orfod cario baich pechod pobl Israel (diwrnod am bob blwyddyn maen nhw wedi pechu). Wedyn ar ôl i ti gario baich pechod pobl Israel, gorwedd ar dy ochr dde am bedwar deg diwrnod. Byddi'n cario baich pechod pobl Jwda (sef diwrnod am bob blwyddyn eto). “Dal ati i wylio'r model o'r gwarchae ar Jerwsalem. Torcha dy lewys, a proffwyda yn erbyn y ddinas. Bydda i'n dy rwymo di gyda rhaffau, a byddi'n methu symud na throi drosodd nes bydd dyddiau'r gwarchae drosodd. “Wedyn cymer ŷd, haidd, ffa, ffacbys, miled a sbelt, a'u cadw mewn llestr gyda'i gilydd. Defnyddia'r cymysgedd i wneud bara i ti dy hun. Dyna fyddi di'n ei fwyta pan fyddi'n gorwedd ar dy ochr am dri chant naw deg diwrnod. Dim ond wyth owns y dydd fyddi di'n ei gael i'w fwyta, a hynny yr un amser bob dydd. Wedyn ychydig dros hanner litr o ddŵr i'w yfed — hwnnw eto i'w yfed yr un amser bob dydd. Gwna rywbeth fel bara haidd fflat ohono, a defnyddio carthion dynol wedi eu sychu yn danwydd i'w bobi o flaen pawb. Gwna hyn fel darlun symbolaidd o'r ffaith y bydd pobl Israel yn bwyta bwyd sy'n aflan ar ôl cael eu gyrru i ganol y gwledydd paganaidd.” “O, na! ARGLWYDD, Meistr, Dw i erioed wedi bwyta dim byd sy'n ‛aflan‛ o'r blaen — fel carcas anifail oedd wedi marw ohono'i hun, neu un gafodd ei ladd gan anifeiliaid gwylltion, neu unrhyw gig sy'n ‛aflan‛.” Felly dyma'r ARGLWYDD yn ateb, “Iawn, cei di ddefnyddio tail gwartheg yn lle carthion dynol. Cei bobi dy fara ar hwnnw.” Yna aeth yn ei flaen i ddweud, “Yn fuan iawn fydd yna ddim bwyd yn Jerwsalem. Bydd pobl yn poeni am fod bwyd yn brin, ac yn anobeithio am fod y cyflenwad dŵr yn isel. Byddan nhw'n edrych mewn dychryn ar ei gilydd yn llwgu. Byddan nhw'n gwywo'n ddim o achos eu pechodau.” “Ddyn, dw i eisiau i ti gymryd cleddyf miniog, a'i ddefnyddio fel rasel i siafio dy ben a dy farf. Wedyn cymer glorian i bwyso'r gwallt wyt ti wedi ei dorri, a'i rannu'n dri. Rwyt i losgi traean ohono yn y ddinas pan fydd y cyfnod o warchae symbolaidd drosodd. Yna cymryd traean arall a'i dorri'n ddarnau mân gyda'r cleddyf o gwmpas y ddinas. Yna taflu'r traean sydd ar ôl i'r gwynt ei chwalu i bobman. Dw i'n mynd i dynnu fy nghleddyf o'i wain, a mynd ar eu holau nhw! Ond cymer rhyw ychydig bach o'r gwallt a'i gadw'n saff yn dy boced. Byddi'n cymryd ychydig o hwnnw i'w losgi yn y tân. Bydd y tân hwnnw'n lledu ac yn dinistrio Israel i gyd.” Dyma mae'r Meistr, yr ARGLWYDD yn ei ddweud: “Dyma Jerwsalem. Dw i wedi rhoi'r lle canolog iddi hi, gyda'r gwledydd eraill i gyd o'i chwmpas. Ond mae pobl Jerwsalem wedi torri fy rheolau a gwrthod gwrando arna i, a gwneud mwy o ddrwg nag unrhyw wlad arall!” Felly dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr yn ei ddweud: “Dych chi'n achosi mwy o drafferth na'r gwledydd o'ch cwmpas chi i gyd! Dych chi wedi torri fy rheolau a gwrthod gwrando arna i. Allwch chi ddim hyd yn oed cadw safonau'r gwledydd paganaidd o'ch cwmpas chi! Felly dw i'n mynd i ddelio gyda chi — ie, fi, yr ARGLWYDD. Dw i'n eich erbyn chi! Dw i'n mynd i'ch cosbi chi, a bydd y gwledydd i gyd yn cael gweld y peth. Dw i'n mynd i wneud rhywbeth dw i erioed wedi ei wneud o'r blaen a fydda i byth yn ei wneud eto, am eich bod chi wedi gwneud pethau mor ffiaidd. Bydd pethau'n mynd mor wael yn Jerwsalem, bydd rhieni'n bwyta eu plant a plant yn bwyta eu rhieni! Dw i'n mynd i'ch barnu chi, a bydd y bobl hynny fydd yn llwyddo i oroesi yn cael eu gyrru ar chwâl i bob cyfeiriad.” “Mor sicr a'r ffaith fy mod i'n fyw,” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD, “Am eich bod chi wedi llygru fy lle sanctaidd i gyda'ch eilunod a'r holl bethau ffiaidd eraill dych chi wedi eu gwneud, dw i'n mynd i'ch torri chi i ffwrdd. Fydd yna ddim trugaredd o gwbl! Bydd traean poblogaeth Jerwsalem yn marw yn y ddinas o haint a newyn. Bydd traean arall yn cael eu lladd yn y rhyfel. A bydd y traean sydd ar ôl yn cael eu gyrru ar chwâl i bob cyfeiriad. Ond bydda i'n tynnu fy nghleddyf o'i wain ac yn mynd ar eu holau nhw!” “Ar ôl hynny bydda i wedi tywallt hynny o ddigofaint sydd gen i arnyn nhw! Byddan nhw'n gweld, wedyn, fy mod i wedi bod yn hollol o ddifri, ac wedi cael fy mrifo go iawn ganddyn nhw. Fyddi di Jerwsalem yn ddim byd ond tomen o adfeilion. Byddi'n destun sbort i bawb sy'n pasio heibio. Bydd y gwledydd sydd o dy gwmpas wrth eu boddau yn enllibio ac yn cega pan fydda i'n dy farnu di ac yn dy gosbi mor ffyrnig. Yr ARGLWYDD ydw i, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod! Bydda i'n saethu saethau creulon newyn atoch chi, a'ch dinistrio chi. Fydd gynnoch chi ddim bwyd ar ôl. Bydd newyn ac anifeiliaid gwylltion yn lladd eich plant chi. Bydd afiechydon ofnadwy a thrais yn eich llethu chi. Bydda i'n anfon byddin i ymosod arnoch chi. Yr ARGLWYDD ydw i, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod!” Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i: “Ddyn, dw i eisiau i ti droi i wynebu mynyddoedd Israel, a proffwydo yn eu herbyn nhw. “Dywed, ‘Fynyddoedd Israel, gwrandwch ar neges y Meistr, yr ARGLWYDD! Dyma mae e'n ddweud wrth y mynyddoedd a'r bryniau, y ceunentydd a'r dyffrynnoedd: Dw i'n anfon byddin i ymosod arnoch chi, a dinistrio'ch allorau paganaidd lleol chi. Fydd yr allorau'n ddim byd ond rwbel, a'r llestri i losgi arogldarth wedi eu malu'n ddarnau. Bydd pobl yn syrthio'n farw o flaen eich eilunod da i ddim. Bydd cyrff meirw yn gorwedd o'u blaen, ac esgyrn pobl ym mhobman o gwmpas yr allorau. Fydd dim dianc! Bydd eich trefi'n cael eu dinistrio'n llwyr, a'r allorau paganaidd yn ddim byd ond rwbel. Bydd yr eilunod wedi eu malu a'u bwrw i lawr, a'r llestri arogldarth yn ddarnau. Fydd dim byd o'ch gwaith llaw chi ar ôl! Bydd cyrff marw ym mhobman! Byddwch chi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD. “‘Ond bydda i'n gadael i rai ohonoch chi ddianc. Bydd y rheiny'n ffoaduriaid wedi eu gyrru ar chwâl drwy'r gwledydd. A byddan nhw'n cofio amdana i yno! Byddan nhw'n sylweddoli sut roedden nhw'n torri fy nghalon i wrth fod mor anffyddlon a dilyn pa dduw bynnag oedd yn cymryd eu ffansi. Bydd ganddyn nhw gymaint o gywilydd am eu bod wedi cymryd rhan mewn defodau mor ffiaidd. Byddan nhw'n deall mai fi ydy'r ARGLWYDD, ac mai nid bygythiad gwag oedd y drychineb ddaeth arnyn nhw!’” Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: “Dangos mor ddig wyt ti trwy ysgwyd dy ddwrn a stampio dy draed, a gweiddi, ‘Gwae!’ o achos yr holl bethau ffiaidd mae pobl Israel wedi eu gwneud. Byddan nhw'n cael eu lladd gan gleddyf y gelyn, newyn, neu haint.” Bydd pobl yn marw ym mhobman! Bydd y rhai sy'n bell i ffwrdd yn marw o afiechydon, y rhai sy'n agos yn cael eu lladd gan y gelyn, ac unrhyw un sydd ar ôl yn marw o newyn. Bydda i'n tywallt hynny o ddigofaint sydd gen i arnyn nhw! Bydd eu cyrff marw yn gorwedd ym mhobman, am eu bod nhw wedi bod yn llosgi arogldarth i'w heilunod. Bydd cyrff o gwmpas yr eilunod a'r allorau paganaidd, ar bob bryn uchel a mynydd, a dan pob coeden ddeiliog. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD! Dw i'n mynd i'w taro nhw'n galed. Fydd eu tir nhw yn ddim byd ond anialwch diffaith, yr holl ffordd o'r diffeithwch yn y de i Ribla yn y gogledd. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD! Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i: “Ddyn, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud wrth Israel: Mae'r diwedd yn dod! Mae'r diwedd yn dod ar y wlad gyfan! Dw i wedi digio go iawn. Dw i'n mynd i'ch cosbi chi am y ffordd dych chi wedi ymddwyn. Dw i'n mynd i'ch galw chi i gyfri am yr holl bethau ffiaidd dych chi wedi eu gwneud. Fydd yna ddim trugaredd i chi! Dw i'n mynd i'ch galw chi i gyfri am eich ymddygiad, a bydd rhaid i chi wynebu canlyniadau y pethau ffiaidd wnaethoch chi. Byddwch chi'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD. “Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Mae yna drychineb ofnadwy yn dod, un heb ei thebyg. Mae'r diwedd yn dod! Mae'n dod go iawn! Mae hi ar ben arnoch chi! Mae'r farn yn dod ar bawb sy'n byw yn y wlad yma! Mae hi ar ben! Mae'r diwrnod mawr yn agos! Bydd sŵn pobl yn gweiddi mewn panig ar y mynyddoedd yn lle sŵn pobl yn dathlu ac yn cael hwyl. Dw i'n mynd i dywallt fy llid arnoch chi nawr. Cewch weld gymaint dw i wedi gwylltio. Dw i'n mynd i'ch cosbi chi am y ffordd dych chi wedi ymddwyn. Dw i'n mynd i'ch galw chi i gyfri am yr holl bethau ffiaidd dych chi wedi eu gwneud. Fydd yna ddim trugaredd! Dw i'n mynd i'ch galw chi i gyfri am eich ymddygiad, a bydd rhaid i chi wynebu canlyniadau y pethau ffiaidd wnaethoch chi. Byddwch chi'n deall wedyn mai fi, yr ARGLWYDD, sydd wedi'ch taro chi. “Edrychwch! Y diwrnod mawr! Mae'r farn ar ei ffordd! Mae anghyfiawnder a drygioni wedi blodeuo! Mae trais wedi troi'n wialen i gosbi drygioni. Fydd neb ar ôl — neb o'r werin, neb o'r cyfoethog, neb o'r pwysigion. Mae'n amser! Mae'r diwrnod wedi dod! Fydd y prynwr ddim yn dathlu, na'r gwerthwr yn drist. Mae Duw wedi digio gyda pawb. Fydd y gwerthwr ddim yn cael yr eiddo'n ôl. Mae beth mae Duw wedi ei ddweud yn mynd i ddigwydd. Bydd pawb yn cael eu cosbi am eu pechod. “Mae'r utgorn yn galw pawb i fod yn barod, ond does dim ymateb a does neb yn paratoi i ymladd. Mae fy nigofaint i wedi eu parlysu nhw. Mae cleddyfau'r gelyn yn barod y tu allan i waliau'r ddinas. Mae haint a newyn yn disgwyl amdanyn nhw y tu mewn. Bydd pwy bynnag sydd yng nghefn gwlad yn cael ei ladd gan y cleddyf, a bydd pawb yn y ddinas yn marw o newyn a haint. Bydd y rhai sy'n dianc yn rhedeg i'r mynyddoedd. Byddan nhw fel colomennod yn cŵan wrth alaru am eu pechodau. Fydd pobl ddim yn gwybod beth i'w wneud, a byddan nhw'n gwlychu eu hunain mewn ofn. Byddan nhw'n gwisgo sachliain, ac yn crynu mewn ofn. Bydd y cywilydd i'w weld ar eu hwynebau, a byddan nhw wedi siafio eu pennau. “Fydd aur ac arian yn golygu dim iddyn nhw. Bydd fel sbwriel ar y stryd. Fydd eu cyfoeth ddim yn eu hachub nhw ar y diwrnod pan fydd yr ARGLWYDD yn barnu! A fyddan nhw ddim yn gallu prynu bwyd gydag e. Eu harian nhw wnaeth eu baglu nhw a'u harwain nhw i bechu! Roedden nhw wedi defnyddio eu tlysau hardd i wneud delwau ffiaidd — duwiau da i ddim. Ond bydd y cwbl fel sbwriel afiach. Bydda i'n ei roi yn ysbail i bobl o wledydd eraill. Bydd paganiaid drwg yn ei gymryd ac yn poeri arno. Bydda i'n edrych i ffwrdd tra maen nhw'n treisio fy nheml i. Bydd fandaliaid yn dod i mewn i'r ddinas, yn ei threisio ac yn creu hafoc llwyr. (Bydd hyn i gyd yn digwydd o achos y tywallt gwaed ofnadwy sy'n y wlad a'r creulondeb sydd yn y ddinas.) Bydd y wlad waethaf un yn dod ac yn cymryd eu tai nhw. Bydda i'n rhoi taw ar eu holl falchder ac yn dinistrio'r holl leoedd cysegredig sydd ganddyn nhw. Byddan nhw wedi eu parlysu! Byddan nhw'n ysu am heddwch, ond yn cael dim. Bydd un drychineb ar ôl y llall, a dim byd ond newyddion drwg. Fydd gan y proffwydi ddim gweledigaeth i'w gynnig. Fydd yr offeiriaid ddim yn gallu rhoi arweiniad o'r Gyfraith, a fydd yr arweinwyr gwleidyddol ddim yn gwybod beth i'w ddweud. Bydd y brenin yn gwisgo dillad galar, a bydd y bobl gyffredin mewn sioc. Bydda i'n delio gyda nhw am y ffordd maen nhw wedi bod yn byw, ac yn eu trin nhw fel roedden nhw wedi trin pobl eraill. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD!” Roedd hi chwe blynedd ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar y pumed diwrnod o'r chweched mis. Roeddwn i'n eistedd yn y tŷ gydag arweinwyr Jwda o'm blaen i. A dyma ddylanwad yr ARGLWYDD yn dod arna i. Wrth i mi edrych dyma fi'n gweld ffigwr oedd yn edrych fel person dynol. O'i ganol i lawr roedd fel fflamau tân, ac o'i ganol i fyny roedd yn llachar fel ffwrnais fetel. Dyma fe'n estyn ei law a gafael yn fy ngwallt. Yna cododd yr ysbryd fi i fyny i'r awyr a mynd â fi i Jerwsalem mewn gweledigaeth. Aeth â fi at ddrws y giât fewnol sy'n wynebu'r gogledd, lle roedd y ddelw oedd wedi gwneud yr ARGLWYDD mor ddig. A dyna lle roedd ysblander Duw Israel o'm blaen i, yn union yr un fath â'r hyn welais i yn y dyffryn y tro cyntaf. A dyma Duw'n dweud wrtho i: “Ddyn, edrych i gyfeiriad y gogledd.” Dyma fi'n edrych, a dyna ble roedd allor i'r ddelw oedd wedi gwneud Duw mor ddig. “Edrych beth mae'r bobl yn ei wneud!” meddai Duw. “Mae pobl Israel yn gwneud pethau cwbl ffiaidd, ac yn fy ngyrru i allan o'r deml. Ond mae yna bethau gwaeth na hyn!” Dyma fe'n mynd â fi at fynedfa'r cyntedd. Wrth i mi edrych dyma fi'n gweld twll yn y wal. “Torra trwy'r twll,” meddai Duw. Felly dyma fi'n gwthio drwy'r twll ac yn darganfod drws. “Dos i mewn, i ti gael gweld y pethau cwbl ffiaidd maen nhw'n eu gwneud yna!” meddai Duw Felly dyma fi'n mynd i mewn. Ar y waliau o'm blaen i roedd lluniau o bob math o ymlusgiaid a chreaduriaid ffiaidd eraill, a'r holl eilun-dduwiau mae pobl Israel wedi bod yn eu haddoli. Dyna lle roedd saith deg o arweinwyr Israel yn sefyll o flaen y lluniau yma oedd wedi eu cerfio ar y waliau, a Jaasaneia fab Shaffan yn y canol. Roedd pob un ohonyn nhw yn dal llestr i losgi arogldarth, ac roedd mwg yr arogldarth yn yr awyr ym mhobman. A dyma Duw yn dweud wrtho i: “Ddyn, wyt ti'n gweld beth mae arweinwyr Israel yn ei wneud yn y tywyllwch — pob un ohonyn nhw o flaen ei hoff eilun? ‘Dydy'r ARGLWYDD ddim yn gweld. Mae e wedi troi cefn ar y wlad,’ medden nhw. Ond rwyt ti'n mynd i weld pethau gwaeth fyth!” Dyma fe'n mynd â fi at giât y gogledd yn y deml. A dyna lle roedd merched yn mynd trwy'r ddefod o wylo ar ôl Tammws, duw ffrwythlondeb Babilon! “Edrych ar hyn!” meddai Duw wrtho i. “Ond mae gwaeth i ddod eto!” Dyma fe'n mynd â fi i iard fewnol teml yr ARGLWYDD. Ac yno, wrth y fynedfa i'r cysegr, rhwng y cyntedd a'r allor, roedd tua dau ddeg pump o ddynion. Roedden nhw wedi troi eu cefnau ar y cysegr, ac yn wynebu'r dwyrain a plygu i lawr i addoli'r haul! “Edrych ar hyn!” meddai Duw wrtho i eto. “Ai peth bach ydy'r ffaith fod pobl Jwda'n gwneud y pethau ffiaidd yma? Maen nhw wedi fy ngwylltio i ddigon yn barod yn llenwi'r wlad hefo trais. A dyma nhw eto yn codi dau fys ata i! Bydda i'n ymateb yn ffyrnig! Fydd yna ddim trugaredd! Cân nhw weiddi am drugaredd faint fynnan nhw, ond wna i ddim gwrando.” Wedyn dyma fi'n clywed Duw yn gweiddi'n uchel, “Dewch yma, chi sy'n mynd i ddinistrio'r ddinas! Dewch gyda'ch arfau i wneud eich gwaith!” Gwelais chwe dyn yn dod o gyfeiriad y giât uchaf sy'n wynebu'r gogledd. Roedd gan bob un arf, sef pastwn, yn ei law. Roedd dyn arall gyda nhw, mewn gwisg o liain, ac roedd ganddo offer ysgrifennu wedi ei strapio am ei ganol. Dyma nhw'n dod i'r deml, ac yn sefyll wrth ymyl yr allor bres. Dyma ysblander Duw Israel yn codi oddi ar y cerbyd a'r ceriwbiaid ac yn symud at garreg drws y deml. A dyma'r ARGLWYDD yn galw ar y dyn mewn gwisg o liain oedd yn cario'r offer ysgrifennu, a dweud wrtho: “Dos o gwmpas dinas Jerwsalem, a rho farc ar dalcen pawb sy'n galaru'n drist am yr holl bethau ffiaidd sy'n digwydd yma.” Wedyn clywais e'n dweud wrth y lleill: “Ewch o gwmpas y ddinas ar ei ôl a lladd pawb sydd heb eu marcio. Does neb i ddianc! Byddwch yn hollol ddidrugaredd! Lladdwch nhw i gyd — yr hen a'r ifanc, gwragedd a phlant! Ond peidiwch cyffwrdd unrhyw un sydd â marc ar ei dalcen. Dechreuwch yma yn y deml.” Felly dyma nhw'n dechrau gyda'r arweinwyr oedd yn sefyll o flaen y deml. “Gwnewch y deml yn lle sydd wedi ei lygru, gyda chyrff marw ar lawr ym mhobman! Wedyn ewch allan a lladd pobl drwy'r ddinas i gyd.” Pan aethon nhw allan i'r ddinas ces fy ngadael yn sefyll yno ar fy mhen fy hun. A dyma fi'n mynd ar fy ngwyneb ar lawr, a gweddïo'n uchel ar Dduw, “O, na! ARGLWYDD, Feistr. Wyt ti'n mynd i ladd pawb sydd ar ôl yn Israel drwy dywallt dy lid ar Jerwsalem fel yma?” A dyma fe'n ateb, “Mae pobl Israel a Jwda wedi pechu yn ofnadwy yn fy erbyn i. Mae cymaint o dywallt gwaed drwy'r wlad, ac anghyfiawnder yn y ddinas. Ac mae pobl yn dweud, ‘Mae'r ARGLWYDD wedi troi cefn ar y wlad. Dydy e ddim yn gweld beth bynnag!’ Felly, dw i ddim yn teimlo'n sori drostyn nhw o gwbl. Fydd yna ddim trugaredd! Dw i'n mynd i dalu'n ôl iddyn nhw am beth maen nhw wedi ei wneud!” Wedyn dyma'r dyn mewn gwisg o liain oedd yn cario offer ysgrifennu yn cyrraedd yn ôl, a dweud, “Dw i wedi gwneud beth ddwedaist ti.” Yna wrth i mi edrych dyma fi'n gweld, ar y llwyfan uwch ben y ceriwbiaid, rywbeth oedd yn edrych yn debyg i orsedd wedi ei gwneud o saffir yn dod i'r golwg. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth y dyn mewn gwisg o liain: “Dos rhwng yr olwynion o dan y ceriwbiaid, llenwi dy ddwylo gyda'r marwor poeth, a'u taflu nhw dros y ddinas i gyd.” A dyma fi'n ei weld yn mynd i nôl y marwor. (Roedd y ceriwbiaid yn sefyll i gyfeiriad y de o'r deml ar y pryd, ac roedd cwmwl yn llenwi'r iard fewnol.) Dyma ysblander yr ARGLWYDD yn codi oddi ar y cerbyd a'r ceriwbiaid ac yn symud at garreg drws y deml. Dyma'r cwmwl yn llenwi'r deml i gyd, ac roedd ysblander yr ARGLWYDD yn disgleirio'n llachar yn yr iard fewnol. Roedd sŵn adenydd y ceriwbiaid i'w glywed o'r iard allanol. Roedd fel sŵn y Duw sy'n rheoli popeth yn siarad. Pan ddwedodd yr ARGLWYDD wrth y dyn mewn gwisg o liain, “Cymer beth o'r tân sydd rhwng yr olwynion dan y ceriwbiaid,” dyma fe'n mynd a sefyll wrth ymyl un o'r olwynion. [7-8] Roedd gan y ceriwbiaid ddwylo a breichiau dynol o dan eu hadenydd. A dyma un o'r ceriwbiaid yn estyn ei law at y tân oedd rhyngddyn nhw, ac yn cymryd peth ohono a'i roi yn nwylo'r dyn oedd mewn gwisg o liain. Ar ôl cymryd y tân dyma'r dyn yn mynd allan. *** Wrth i mi edrych dyma fi'n sylwi ar y pedair olwyn wrth ymyl y ceriwbiaid. Roedd un olwyn wrth ymyl pob ceriwb, ac roedden nhw'n sgleinio fel meini saffir. Roedd y pedair olwyn yn edrych yn union yr un fath â'i gilydd. Roedd fel petai olwyn arall y tu mewn iddyn nhw ar ongl sgwâr. Pan oedd y ceriwbiaid yn symud roedden nhw'n gallu mynd i unrhyw un o'r pedwar cyfeiriad heb orfod troi. Pa gyfeiriad bynnag roedden nhw'n mynd, roedd y wynebau eraill yn eu dilyn, heb orfod troi. Roedd eu cyrff yn gyfan — eu cefnau, eu dwylo a'u hadenydd — wedi eu gorchuddio â llygaid, ac roedd olwynion y pedwar wedi eu gorchuddio â llygaid hefyd. Clywais yr olwynion yn cael eu galw yn ‛olwynion yn chwyrlïo‛. Roedd gan bob un o'r ceriwbiaid bedwar wyneb: wyneb tarw, wyneb dynol, wyneb llew ac wyneb eryr. A dyma'r ceriwbiaid yn mynd at i fyny. Nhw oedd y creaduriaid byw roeddwn i wedi eu gweld wrth Gamlas Cebar. Pan oedd y ceriwbiaid yn symud, roedd yr olwynion wrth eu hymyl nhw'n symud. Pan oedd y ceriwbiaid yn lledu eu hadenydd i godi oddi ar y ddaear, roedd yr olwynion yn aros gyda nhw. Pan oedd y ceriwbiaid yn stopio neu'n codi, roedd yr olwynion yn stopio a chodi gyda nhw, am fod ysbryd y creaduriaid byw yn yr olwynion. A dyma ysblander yr ARGLWYDD yn symud i ffwrdd o'r deml, ac yn hofran uwchben y ceriwbiaid. Ac wrth i mi edrych, dyma'r ceriwbiaid yn lledu eu hadenydd ac yn codi oddi ar y ddaear (a'r olwynion gyda nhw). Ond dyma nhw'n stopio wrth y fynedfa i giât ddwyreiniol y deml, gydag ysblander Duw Israel yn hofran uwch eu pennau. Nhw oedd y creaduriaid byw roeddwn i wedi eu gweld o dan Dduw Israel pan oeddwn wrth Gamlas Cebar. Roeddwn i'n sylweddoli mai ceriwbiaid oedden nhw. Roedd gan bob un bedwar wyneb a phedair aden, gyda breichiau a dwylo dynol o dan yr adenydd. Roedd eu hwynebau yn union yr un fath â'r rhai roeddwn i wedi eu gweld wrth Gamlas Cebar. Roedden nhw'n symud yn syth yn eu blaenau. Dyma'r ysbryd yn fy nghodi ac yn mynd â fi at giât ddwyreiniol teml yr ARGLWYDD. Yno, wrth y fynedfa i'r giât, dyma fi'n gweld dau ddeg pump o ddynion. Yn eu plith roedd Jaasaneia fab Asswr a Plateia fab Benaia, oedd yn arweinwyr sifil. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Ddyn, y dynion yma sydd yn cynllwynio drwg ac yn rhoi cyngor gwael i bobl y ddinas. ‘Fydd dim angen adeiladu tai yn y dyfodol agos,’ medden nhw. ‘Y crochan ydy'r ddinas yma, a ni ydy'r cig sy'n cael aros ynddo.’ Felly, proffwyda yn eu herbyn nhw! Gad iddyn nhw glywed y neges yn glir, ddyn!” A dyma Ysbryd yr ARGLWYDD yn dod arna i, a dwedodd wrtho i am ddweud: “Dyma neges yr ARGLWYDD: ‘Dyna beth ydych chi'n ddweud, ie? Wel, dw i'n gwybod beth sy'n mynd trwy eich meddyliau chi! Chi sy'n gyfrifol am farwolaeth llawer iawn o bobl yn y ddinas yma. Mae ei strydoedd yn llawn o gyrff y meirw.’ Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Y ddinas yma ydy'r crochan, a'r holl gyrff meirw sydd wedi eu taflu ar y strydoedd ydy'r cig. Chi ydy'r rhai dw i'n mynd i'w taflu allan! Mae gynnoch chi ofn i'r gelyn ymosod gyda'i gleddyf. Wel, dw i'n mynd i wneud i'r gelyn hwnnw ymosod arnoch chi,’ meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD. ‘Bydda i'n eich barnu chi, drwy eich taflu chi allan o'r ddinas a'ch rhoi chi yn nwylo pobl o wlad arall. Byddwch chi'n cael eich lladd yn y rhyfel. Bydd y farn yma'n digwydd o fewn ffiniau gwlad Israel, a byddwch chi'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD. Fydd y ddinas yma ddim yn grochan i chi, a nid chi fydd y cig ynddo! Bydda i'n eich barnu chi ar dir Israel, a byddwch chi'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD. Dych chi wedi torri fy rheolau i, a gwrthod gwrando arna i. Dych chi wedi ymddwyn fel pobl y gwledydd paganaidd o'ch cwmpas chi!’” Wrth i mi gyhoeddi'r neges yma, dyma Plateia fab Benaia yn syrthio'n farw. A dyma fi'n mynd ar fy ngwyneb ar lawr, a gweddïo'n uchel ar Dduw, “O na! ARGLWYDD, Feistr. Wyt ti'n mynd i ladd pawb sydd ar ôl yn Israel?” Yna dyma'r ARGLWYDD yn rhoi neges arall i mi: “Ddyn, mae'r bobl sy'n byw yn Jerwsalem wedi bod yn dweud am dy frodyr a dy berthnasau di a phawb o bobl Israel sydd wedi eu cymryd yn gaethion, ‘Maen nhw'n bell i ffwrdd oddi wrth yr ARGLWYDD. Mae'r wlad yma wedi cael ei rhoi i ni bellach.’ “Felly dywed di fel yma: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Er fy mod i wedi eu hanfon nhw yn bell i ffwrdd, a'i chwalu nhw drwy'r gwledydd eraill, dw i fy hun wedi bod yn lle saff iddyn nhw aros dros dro yn y gwledydd hynny.’ “Dywed fel yma: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud wrthyn nhw: Dw i'n mynd i'ch casglu chi o'r gwledydd lle dych chi ar chwâl, a dw i'n mynd i roi gwlad Israel yn ôl i chi.’ “Byddan nhw'n dod yn ôl ac yn cael gwared â'r holl eilunod a'r pethau ffiaidd sy'n cael eu gwneud yma. Bydda i'n rhoi calon newydd iddyn nhw, ac ysbryd newydd hefyd. Bydda i'n cael gwared â'r galon galed, ystyfnig sydd ynddyn nhw, ac yn rhoi calon dyner iddyn nhw. Byddan nhw'n cadw fy rheolau i, ac yn gwneud beth dw i'n ddweud. Nhw fydd fy mhobl i, a fi fydd eu Duw nhw. Ond am y bobl hynny sy'n addoli'r eilunod ac yn mynd trwy'r defodau ffiaidd yma, bydda i'n talu'n ôl iddyn nhw am beth maen nhw wedi ei wneud.” Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud. Yna dyma'r ceriwbiaid yn lledu eu hadenydd i hedfan. Roedd yr olwynion wrth eu hymyl, ac ysblander Duw Israel yn hofran uwch eu pennau. Dyma ysblander yr ARGLWYDD yn codi a gadael y ddinas, yna aros uwchben y mynydd sydd i'r dwyrain o'r ddinas. Yna cododd yr ysbryd fi, ac aeth Ysbryd Duw a fi yn ôl yn fy ngweledigaeth at y caethion yn Babilon. A dyna ddiwedd y weledigaeth. Felly dyma fi'n dweud wrth y bobl yn y gaethglud am bopeth roedd yr ARGLWYDD wedi ei ddangos i mi. Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi: “Ddyn, mae'r bobl rwyt ti'n byw gyda nhw yn griw o rebeliaid. Mae ganddyn nhw lygaid, ond dŷn nhw'n gweld dim byd! Mae ganddyn nhw glustiau, ond dŷn nhw'n clywed dim byd! Criw o rebeliaid ydyn nhw! “Felly dyma dw i eisiau i ti ei wneud: Pacia dy fag fel taset ti'n ffoadur yn dianc o'i gartref ac yn paratoi i fynd i ffwrdd i rywle arall. Gwna hyn yng ngolau dydd, fel bod pawb yn gallu gweld beth ti'n wneud. Falle y gwnân nhw ddeall eu bod nhw'n griw anufudd. Gad iddyn nhw dy weld di yn pacio dy fag gyda'r pethau rwyt ti eu hangen. Yna gyda'r nos rwyt i fynd i ffwrdd o'u blaenau nhw, yn union fel byddai ffoadur yn gwneud. Gad iddyn nhw dy weld di yn torri twll yn y wal, ac yn mynd â dy bac allan trwyddo. Yna rho dy bac ar dy gefn, a cherdded i ffwrdd wrth iddi dywyllu. Gorchuddia dy wyneb, a paid edrych yn ôl ar y tir. Dw i'n dy ddefnyddio di fel darlun i ddysgu gwers i bobl Israel.” Felly dyma fi'n gwneud yn union beth ddwedodd Duw wrtho i. Yn ystod y dydd dyma fi'n pacio pethau i fynd i ffwrdd fel ffoadur, ac yna pan oedd hi'n nosi dyma fi'n torri twll drwy'r wal. Wedyn, o flaen llygaid pawb, dyma fi'n rhoi'r pecyn ar fy nghefn ac yn cerdded i ffwrdd wrth iddi dywyllu. Y bore wedyn dyma fi'n cael neges gan yr ARGLWYDD: “Ddyn, roedd pobl Israel, y criw o rebeliaid yna, wedi gofyn i ti, ‘Beth wyt ti'n wneud?’ Dywed wrthyn nhw, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Mae'r neges yma i Sedeceia, pennaeth pobl Jerwsalem, ac i holl bobl Israel sy'n dal yno.’ Esbonia dy fod ti'n ddarlun i ddysgu gwers iddyn nhw. Bydd yr hyn wnest ti yn digwydd iddyn nhw. Byddan nhw'n ffoaduriaid, ac yn cael eu cymryd yn gaethion. Bydd hyd yn oed Sedeceia, y pennaeth, yn codi ei bac fin nos, yn mynd allan trwy dwll yn y wal ac yn gorchuddio ei wyneb am na fydd yn cael gweld y tir byth eto. Ond bydd e'n cael ei ddal. Bydda i'n taflu fy rhwyd drosto, ac yn mynd ag e'n gaeth i Babilon. Ond fydd byth yn gweld y wlad honno lle bydd e'n marw. Bydd ei weision a'i forynion, a'i filwyr i gyd yn cael eu chwalu i bob cyfeiriad, a bydd y gelyn yn mynd ar eu holau gyda'i gleddyf. Pan fydda i wedi eu gyrru nhw ar chwâl drwy'r gwledydd paganaidd i gyd, byddan nhw'n sylweddoli mai fi ydy'r ARGLWYDD! Ond bydda i'n gadael i griw bach ohonyn nhw fyw. Fydd cleddyf y gelyn, y newyn, a'r haint ddim yn lladd y rheiny. Yn y gwledydd lle byddan nhw'n mynd dw i eisiau iddyn nhw gyfaddef yr holl bethau ffiaidd maen nhw wedi eu gwneud. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.” Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi: “Cryna mewn ofn wrth fwyta dy fwyd, a dychryn wrth yfed dy ddŵr. Yna rhanna'r neges yma: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud am y bobl sy'n dal i fyw yn Israel a Jerwsalem: “Fyddan nhw ddim yn gallu bwyta ac yfed heb grynu mewn ofn a phoeni am eu bywydau. Mae'r wlad yn mynd i gael ei difetha, a byddan nhw'n colli popeth am iddyn nhw fod mor greulon. Bydd y trefi a'r pentrefi lle mae pobl yn byw yn cael eu dinistrio, a bydd y tir yn cael ei adael yn ddiffaith. Byddwch chi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.”’” Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi: “Ddyn, mae yna ddywediad yn Israel, ‘Mae amser yn mynd heibio, a dydy'r proffwydoliaethau ddim wedi dod yn wir.’ Felly dywed di wrthyn nhw, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i roi stop ar y math yna o siarad. Fydd pobl Israel ddim yn dweud hynny eto!’ Dywed wrthyn nhw, ‘Yn fuan iawn bydd popeth dw i wedi ei ddangos yn dod yn wir! Fydd yna ddim mwy o weledigaethau ffals a darogan pethau deniadol yn Israel. Fi, yr ARGLWYDD fydd yn siarad, a bydd beth dw i'n ddweud yn dod yn wir. Fydd dim mwy o oedi. Bydd beth dw i'n ddweud yn dod yn wir yn eich cyfnod chi rebeliaid anufudd.’ Dyna neges y Meistr, yr ARGLWYDD.” Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi: “Ddyn, wyt ti wedi clywed beth mae pobl Israel yn ei ddweud? ‘Sôn am rywbryd yn bell yn y dyfodol mae e. Fydd y broffwydoliaeth ddim yn dod yn wir am amser hir iawn.’ Felly dywed di wrthyn nhw, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Fydd dim mwy o oedi! Bydd beth dw i'n ddweud yn dod yn wir!’” Dyna neges y Meistr, yr ARGLWYDD. Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi: “Ddyn, dw i eisiau i ti broffwydo yn erbyn y proffwydi hynny o Israel sy'n cyhoeddi ffrwyth eu dychymyg eu hunain a'i alw'n ‛broffwydoliaeth‛. Dywed wrthyn nhw, ‘Dyma mae'r Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud: Gwae'r proffwydi yna sy'n dychmygu pethau a ddim yn gweld beth dw i'n ei ddangos sy'n digwydd go iawn! Israel, mae dy broffwydi fel siacaliaid yng nghanol adfeilion! Dŷn nhw ddim wedi mynd ati i drwsio'r bylchau yn y wal, er mwyn i bobl Israel allu sefyll yn gadarn ar y diwrnod pan fydd yr ARGLWYDD yn barnu. Dŷn nhw'n rhannu dim byd ond ffantasi a chelwydd! “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud,” medden nhw, ond wnaeth yr ARGLWYDD ddim eu hanfon nhw! Ac maen nhw'n disgwyl i'w geiriau ddod yn wir! Ond ffantasi pur a chelwydd ydy honni, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud,” pan dw i ddim wedi dweud y fath beth. “‘Felly dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr yn ei ddweud: Dw i'n mynd i ddelio gyda chi, achos dych chi wedi bod yn siarad nonsens ac yn cyhoeddi celwydd. Dw i'n mynd i daro'r proffwydi hynny sydd ond yn dychmygu pethau a dweud celwydd. Fyddan nhw ddim yn cael bod ar y cyngor sy'n arwain fy mhobl, na hyd yn oed yn cael eu cyfri'n rhan o bobl Israel, nac yn cael mynd i mewn i wlad Israel eto.’ Byddwch chi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD. “Ydyn, maen nhw wedi camarwain pobl. Maen nhw wedi dweud ‘Bydd popeth yn iawn!’ pan nad ydy pethau'n iawn o gwbl. Mae fel adeiladu wal sych sydd braidd yn simsan, a phobl yn meddwl y bydd peintio drosti yn ei gwneud hi'n saffach! Dywed wrth y rhai sy'n peintio: ‘Pan ddaw glaw trwm a chenllysg a gwynt stormus, a'r wal wedi syrthio, bydd pobl yn gofyn, “Beth ddigwyddodd i'ch gwaith chi?” “‘Felly dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n ddig, a dw i'n mynd i anfon gwynt stormus, glaw trwm, a chenllysg fydd yn achosi difrod ofnadwy. Bydda i'n chwalu'r wal wnaethoch chi ei pheintio. Fydd dim ohoni'n sefyll. A pan fydd hi'n syrthio, byddwch chithau'n cael eich dinistrio gyda hi, a byddwch chi'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD. Dw i'n mynd i dywallt hynny o ddigofaint sydd gen i ar y wal, ac ar y rhai fuodd yn ei pheintio. Ac wedyn bydda i'n dweud, “Dyna ni, mae'r wal wedi mynd, a'r peintwyr hefyd — sef y proffwydi yna yn Israel oedd yn proffwydo am Jerwsalem ac yn dweud ‘Bydd popeth yn iawn!’ pan nad oedd pethau'n iawn o gwbl.” Dyna neges y Meistr, yr ARGLWYDD.’ “Ddyn, dw i eisiau i ti droi at y merched hynny sy'n proffwydo dim byd ond ffrwyth eu dychymyg eu hunain. Proffwyda yn eu herbyn nhw, a dweud, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Gwae'r merched yna sy'n gwnïo breichledau hud i'w gwisgo ar yr arddwrn, a sgarffiau hud i'w gwisgo ar y pen. Eu hunig fwriad ydy trapio pobl! Ydych chi'n meddwl y cewch chi drapio fy mhobl i ac wedyn llwyddo i ddianc eich hunain? Dych chi wedi gwneud i bobl droi cefn arna i am lond dwrn o haidd ac ychydig dameidiau o fara. Drwy ddweud celwydd wrth fy mhobl, sy'n mwynhau gwrando ar gelwydd, dych chi wedi lladd pobl ddylai fod wedi cael byw, a chynnig bywyd i'r rhai ddylai farw! “‘Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Deallwch chi fy mod i yn erbyn y breichledau hud dych chi'n eu defnyddio i drapio pobl fel dal adar. Bydda i'n eu rhwygo nhw oddi ar eich breichiau chi, a gollwng y bobl dych chi'n ceisio eu dal yn rhydd. Bydda i'n tynnu'r sgarffiau hud oddi ar eich pennau chi, ac yn achub fy mhobl o'ch gafael chi. Dw i ddim yn mynd i adael i chi ddal gafael ynddyn nhw ddim mwy. Byddwch chi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD. “‘Dych chi wedi lladd ysbryd pobl dda gyda'ch celwyddau (pobl fyddwn i byth eisiau gwneud drwg iddyn nhw). A dych chi wedi annog pobl ddrwg i ddal ati i wneud drwg, yn lle troi ac achub eu bywydau. Ond gewch chi ddim cario mlaen gyda'ch ffantasi a'ch dewino! Dw i'n mynd i achub fy mhobl o'ch gafael chi, a byddwch chi'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.’” Dyma rai o arweinwyr Israel yn dod ata i, ac yn eistedd o'm blaen i. Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi: “Ddyn, mae'r dynion yma wedi troi at eilunod. Maen nhw wedi rhoi sylw i bethau sy'n gwneud iddyn nhw bechu. Pam ddylwn i adael iddyn nhw ofyn unrhyw beth i mi? Felly dywed wrthyn nhw, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Os ydy unrhyw un yn Israel yn troi at eilunod, a rhoi sylw i bethau sy'n gwneud iddyn nhw bechu, a wedyn yn dod at broffwyd i geisio arweiniad, bydda i, yr ARGLWYDD, yn rhoi iddyn nhw'r ateb maen nhw a'i heilunod yn ei haeddu! Bydda i'n gwneud hyn i'w galw nhw i gyfri, am eu bod nhw wedi pellhau oddi wrtho i a mynd ar ôl eu heilunod i gyd.’ “Felly dw i am i ti ddweud wrth bobl Israel, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Trowch yn ôl ata i! Dw i eisiau i chi droi cefn ar eich eilunod, a stopio gwneud y pethau ffiaidd dych chi wedi bod yn eu gwneud. Os ydy unrhyw un yn Israel (hyd yn oed mewnfudwyr sy'n byw yn y wlad) yn troi cefn arna i, mynd ar ôl eilunod a rhoi sylw i bethau sy'n gwneud iddyn nhw bechu, ac wedyn yn mynd at broffwyd i geisio arweiniad, bydda i, yr ARGLWYDD, yn rhoi iddyn nhw'r ateb maen nhw'n ei haeddu! Bydda i'n troi yn erbyn pobl felly, ac yn eu gwneud nhw'n destun sbort. Bydda i'n gwneud esiampl ohonyn nhw, ac yn eu torri nhw i ffwrdd o gymdeithas fy mhobl. Byddwch chi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD. “‘A pan fydd proffwyd yn cael ei dwyllo i roi neges sydd ddim yn wir, bydda i, yr ARGLWYDD, yn gwneud ffŵl ohono. Bydda i'n ei daro a'i daflu allan o gymdeithas pobl Israel. Bydd y ddau ohonyn nhw'n cael eu cosbi am eu pechod — y proffwyd, a'r un oedd wedi mynd ato i ofyn am arweiniad. Wedyn fydd pobl Israel ddim yn crwydro oddi wrtho i, a llygru eu hunain drwy wrthryfela yn fy erbyn i. Nhw fydd fy mhobl i, a fi fydd eu Duw nhw,’” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD. Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi: “Ddyn, os ydy gwlad yn pechu yn fy erbyn i drwy fod yn anffyddlon, a finnau wedyn yn eu taro nhw drwy wneud bwyd yn brin, a peri i newyn ladd pobl ac anifeiliaid, hyd yn oed petai Noa, Daniel a Job yn byw yno, fyddai eu daioni nhw yn achub neb ond nhw eu hunain.” Dyna ydy neges y Meistr, yr ARGLWYDD. “Neu petawn i'n gadael i anifeiliaid gwylltion fynd drwy'r wlad yn lladd y plant i gyd, a bod neb yn gallu teithio drwy'r wlad am ei bod hi'n rhy beryglus. Hyd yn oed petai'r tri dyn yna'n byw yno ar y pryd, fyddai neb ond nhw eu hunain yn cael eu hachub. Byddai'r wlad yn cael ei difetha'n llwyr, a fydden nhw ddim hyd yn oed yn gallu achub eu plant eu hunain,” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD. “Neu petawn i'n gadael i fyddin ymosod ar y wlad, a dweud, ‘Mae cleddyf y gelyn i gael lladd pobl ac anifeiliaid drwy'r wlad i gyd!’ Hyd yn oed petai'r tri dyn yna'n byw yno ar y pryd, fyddai neb ond nhw eu hunain yn cael eu hachub. Fydden nhw ddim hyd yn oed yn gallu achub eu plant eu hunain,” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD. “Neu petawn i'n anfon afiechydon ofnadwy ac yn tywallt fy llid arnyn nhw, nes bod pobl ac anifeiliaid yn marw. Hyd yn oed petai Noa, Daniel a Job yn byw yno ar y pryd, fyddai neb ond nhw eu hunain yn cael eu hachub. Fydden nhw ddim hyd yn oed yn gallu achub eu plant eu hunain,” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD. “Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Bydd hi'n erchyll pan fydda i'n anfon y pedwar yma i farnu Jerwsalem — cleddyf, newyn, anifeiliaid gwylltion, ac afiechydon ofnadwy — i ladd pobl ac anifeiliaid. Ond creda neu beidio, bydd yna rai yn llwyddo i ddod allan yn fyw! Byddan nhw'n dod yma i Babilon atat ti. Pan fyddi di'n gweld sut maen nhw'n ymddwyn, byddi'n teimlo'n well am beth fydd wedi digwydd i Jerwsalem, a'r cwbl wnes i iddi. Fyddi di ddim yn teimlo mor ddrwg am y peth pan weli beth maen nhw'n ei wneud. Byddi'n gweld fod gen i reswm da am wneud beth wnes i.” Dyna neges y Meistr, yr ARGLWYDD. Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi: “Ddyn, o'r holl wahanol fathau o goed sydd i'w cael, ydy pren y winwydden yn dda i rywbeth? Wyt ti'n gallu gwneud rhywbeth defnyddiol gydag e? Ydy o'n ddigon cryf i wneud peg i hongian pethau arno? Na, y gwir ydy, dydy e'n dda i ddim byd ond i'w losgi. Ac mae'n llosgi'n rhy gyflym beth bynnag! Fydd yr hyn sydd ar ôl ohono wedyn yn dda i rywbeth? Na. Os oedd e ddim yn ddefnyddiol cyn ei losgi, sut all e fod o ddefnydd i unrhyw un pan mae e wedi ei losgi'n ulw? “Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Mae pobl Jerwsalem fel pren y winwydden. Dŷn nhw'n dda i ddim ond i gael eu llosgi! Dw i wedi troi yn eu herbyn nhw. Falle eu bod nhw wedi llwyddo i ddianc o'r tân unwaith, ond maen nhw'n dal yn mynd i gael eu llosgi! Pan fydd hyn yn digwydd, byddwch chi'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD! Bydda i'n gwneud y tir yn anialwch diffaith, am eu bod nhw wedi bod yn anffyddlon i mi,’” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD. Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi: “Ddyn, dw i eisiau i ti wneud i Jerwsalem wynebu'r ffaith ei bod wedi gwneud pethau ffiaidd. Dywed fel hyn, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud wrth Jerwsalem: I'r Canaaneaid paganaidd rwyt ti'n perthyn go iawn! Ti wedi dy eni a dy fagu gyda nhw! Roedd dy dad yn Amoriad a dy fam yn Hethiad. Pan gest ti dy eni gafodd dy linyn bogail mo'i dorri. Wnaeth neb dy olchi, rhwbio halen ar dy gorff, na lapio cadachau geni amdanat ti. Doedd neb yn poeni amdanat ti; neb yn teimlo trueni drosot ti. Cest dy daflu allan i farw. Doedd gan neb dy eisiau di. “‘Yna dyma fi'n dod heibio ac yn dy weld di'n gorwedd ar lawr yn cicio. Ac wrth i ti orwedd yna yn dy waed, dyma fi'n dweud, “Rhaid i ti fyw!” Dyma fi'n gwneud i ti dyfu a llwyddo, fel cnwd mewn cae. Ac yn wir, dyma ti yn tyfu ac yn aeddfedu yn wraig ifanc hardd gyda bronnau llawn a gwallt hir hyfryd. Ond roeddet ti'n dal yn gwbl noeth. “‘Yna dyma fi'n dod heibio eto a gweld dy fod yn ddigon hen i gael rhyw. Dyma fi'n estyn ymyl fy mantell dros dy gorff noeth di. Dyma fi'n addo bod yn ffyddlon i ti, ac yn dy briodi di. Fy ngwraig i oeddet ti.’” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD. “‘Dyma fi'n dy olchi di gyda dŵr, golchi'r gwaed i ffwrdd, a rhwbio olew persawrus drosot ti. Rhoddais fantell hardd wedi ei brodio a sandalau lledr i ti eu gwisgo; a ddillad costus o liain main drud a sidan. Rhoddais dlysau a gemwaith i ti — breichledau ar dy fraich a chadwyn am dy wddf, modrwy i dy drwyn, clustdlysau, a choron hardd ar dy ben. Roeddet wedi dy harddu gydag arian ac aur, yn gwisgo dillad o liain main drud, sidan a defnydd wedi ei frodio'n hardd. Roeddet ti'n bwyta'r bwyd gorau, wedi ei baratoi gyda blawd mân, mêl ac olew. Roeddet ti'n hynod o hardd, ac yn edrych fel brenhines! Roeddet ti'n enwog drwy'r byd am dy harddwch. Roeddet ti'n berffaith, am fy mod i wedi rhoi popeth i dy wneud di mor hardd,’” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD. “‘Ond aeth y cwbl i dy ben di. Dyma ti'n defnyddio dy enwogrwydd i ddechrau cysgu o gwmpas. Roeddet ti fel putain yn cynnig dy gorff i bwy bynnag oedd yn pasio heibio. Gallai unrhyw un dy gael di. Roeddet ti'n defnyddio dy ddillad hardd i addurno allorau paganaidd, ac yn gorwedd yno i buteinio! Mae'r peth yn anhygoel! A dyma ti'n cymryd dy dlysau hardd o aur ac arian i wneud delwau gwrywaidd anweddus a'u haddoli nhw yn fy lle i. Wedyn cymryd y defnydd wedi ei frodio i'w haddurno nhw, a chyflwyno fy olew a'm harogldarth i iddyn nhw. Roeddet ti hyd yn oed yn offrymu iddyn nhw y bwyd roeddwn i wedi ei roi i ti — bwyd hyfryd oedd wedi ei baratoi gyda blawd mân, mêl ac olew. Ie, dyna'n union ddigwyddodd!’” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD. “‘Roeddet ti hyd yn oed yn aberthu dy blant, yn fechgyn a merched, fel bwyd i dy eilun-dduwiau! Oedd dy buteindra ddim yn ddigon? Oedd rhaid i ti ladd fy mhlant i hefyd, a'u haberthu nhw i eilun-dduwiau paganaidd? Ac yng nghanol y puteinio a'r holl bethau ffiaidd yma roeddet ti'n eu gwneud, wnest ti ddim meddwl am funud beth oedd wedi digwydd pan oeddet ti'n fabi bach newydd dy eni, yn gorwedd yn dy waed yn noeth ac yn cicio. “‘Gwae ti!’ Dyna ydy neges y Meistr, yr ARGLWYDD. ‘Ar ben yr holl ddrwg yma ti wedi codi stondin a phabell i ti dy hun ar bob stryd! Ti'n codi dy stondin a chywilyddio dy hun drwy ledu dy goesau i bwy bynnag oedd yn pasio heibio! Roeddet ti'n puteinio gyda dy gymdogion yr Eifftiaid, oedd bob amser yn barod i gael rhyw. Roeddet ti'n mynd o ddrwg i waeth ac yn fy ngwylltio i'n lân. Felly dyma fi'n dy daro di'n galed, ac yn cymryd tir oddi arnat ti. Dyma fi'n gadael i dy elynion, y Philistiaid, dy reibio di. Roedd y ffordd roeddet ti'n ymddwyn yn ddigon i godi embaras arnyn nhw hyd yn oed! “‘Wedyn dyma ti'n rhoi dy hun i'r Asyriaid! Doeddet ti byth yn fodlon; byth wedi cael digon. Roedd gen ti eisiau mwy o hyd! A dyma roi dy hun i wlad y masnachwyr, sef Babilon. Ond doedden nhw ddim yn dy fodloni di chwaith. “‘Mae'n dangos mor wan wyt ti,’ meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD. ‘Doedd gen ti ddim cywilydd o gwbl, fel putain yn codi stondin a phabell i ti dy hun ar bob stryd. Ond yn wahanol i buteiniaid eraill, doeddet ti ddim yn derbyn unrhyw dâl! “‘Gwraig anffyddlon wyt ti! Mae'n well gen ti roi dy hun i ddynion eraill nac i dy ŵr dy hun! Mae puteiniaid go iawn yn codi arian am eu gwasanaeth, ond dim ti! Na, rwyt ti'n rhoi anrhegion i dy gariadon ac yn cynnig tâl er mwyn eu perswadio nhw i ddod o bob cyfeiriad i dy gymryd di! Ti ddim byd tebyg i'r puteiniaid sy'n cael eu talu am ryw. Does neb wir dy eisiau di! Dwyt ti ddim yn cael dy dalu; rhaid i ti dalu iddyn nhw! Mae'r peth yn hollol groes i'r arfer! “‘Felly, gwrando ar neges yr ARGLWYDD i ti, butain — Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Rwyt ti wedi tywallt dy haelioni rhywiol yn ddi-stop, a tynnu dy ddillad i ddangos popeth i dy gariadon. Ti wedi mynd ar ôl eilun-dduwiau ffiaidd, ac wedi lladd dy blant a'i haberthu iddyn nhw. Felly gwylia di beth dw i'n mynd i'w wneud: Dw i'n mynd i gasglu dy gariadon di at ei gilydd — y rhai roeddet ti'n eu caru a'r rhai roeddet ti'n eu casáu. Dw i'n mynd i'w casglu nhw o dy gwmpas di, ac yna dy stripio di'n noeth o'u blaenau nhw, a byddan nhw'n gweld dy rannau preifat. Bydda i'n cyhoeddi'r ddedfryd (sef beth mae gwragedd sydd wedi godinebu neu lofruddio yn ei haeddu), yn tywallt fy nigofaint ac yn gweinyddu'r gosb eithaf. Bydda i'n gadael i dy gariadon ddinistrio dy allorau di, a bwrw i lawr dy stondin. Byddan nhw'n rhwygo dy ddillad oddi arnat, yn dwyn y gemwaith hardd sydd gen ti, ac yn dy adael di'n noeth. Byddan nhw'n galw'r mob i ymosod arnat ti drwy daflu cerrig, dy hacio di'n ddarnau gyda chleddyfau a llosgi dy dai. Bydd llawer o wragedd eraill yn gwylio hyn i gyd yn digwydd i ti. Dw i'n mynd i roi stop ar dy buteinio di! Fyddi di byth yn talu rhywun i ddod atat ti eto. “‘Ar ôl gwneud hynny bydda i'n gallu ymatal, a gadael llonydd i ti. Bydda i'n gallu bod yn dawel. Fydd dim rhaid gwylltio ddim mwy. “‘Am dy fod wedi anghofio'r dyddiau cynnar hynny, ac wedi fy ngwylltio i'n lân drwy ymddwyn fel gwnest ti, dw i'n mynd i dalu yn ôl i ti,’” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD. “‘Ti wedi ymddwyn yn hollol ffiaidd, a hynny ar ben yr holl bethau anweddus eraill ti wedi eu gwneud! Y dywediad mae pobl yn ei ddefnyddio wrth sôn amdanat ti, ydy: “Fel y fam y bydd y ferch.” Ti'n union fel dy fam! Roedd hithau'n casáu ei gŵr a'i phlant. Ac roedd dy chwiorydd yr un fath. Hethiad oedd eich mam chi, ac Amoriad oedd eich tad! Dy chwaer fawr di oedd Samaria, yn byw i'r gogledd gyda'i merched. A dy chwaer fach di oedd Sodom, yn byw i'r de gyda'i merched hithau. Ti wedi ymddwyn yr un fath â nhw, ac wedi copïo eu harferion ffiaidd nhw. Yn wir, mewn byr o dro rwyt ti wedi mynd lot gwaeth na nhw! “‘Mor sicr â'r ffaith mai fi ydy'r Duw byw,’ meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD, ‘doedd dy chwaer Sodom a'i merched ddim yn ymddwyn mor ddrwg ag wyt ti a dy ferched wedi gwneud! Drwg dy chwaer Sodom oedd ei bod hi'n mwynhau byw'n foethus, yn gorfwyta, yn gwbl ddi-hid ac yn gwneud dim i helpu pobl dlawd oedd mewn angen. Roedden nhw'n snobyddlyd, ac yn gwneud peth cwbl ffiaidd. Felly dyma fi'n cael gwared â nhw, fel rwyt ti'n gwybod yn iawn. Ac wedyn Samaria — wnaeth hi ddim hanner y drwg rwyt ti wedi ei wneud! Yn wir, mae dy chwiorydd yn edrych yn reit ddiniwed o'i cymharu â ti! Dylet ti fod â chywilydd ohonot ti dy hun. Mae dy ymddygiad di wedi bod yn erchyll; rwyt ti wedi gwneud iddyn nhw edrych yn dda! Dylai'r fath beth godi cywilydd arnat ti! “‘Ryw ddydd dw i'n mynd i adfer eu sefyllfa nhw, Sodom a Samaria. A bydda i'n adfer dy sefyllfa dithau hefyd, i ti deimlo cywilydd go iawn am beth wnest ti, yn gwneud iddyn nhw deimlo'n eitha da! Bydd dy chwiorydd, Sodom a Samaria a'u pobl, yn cael eu hadfer i'w safle blaenorol. A thithau yr un fath. Roedd Sodom yn destun sbort gen ti pan oedd pethau'n mynd yn dda arnat ti, cyn i dy ddrygioni di ddod i'r golwg. Bellach ti dy hun ydy'r testun sbort, gan bobl Edom a'i chymdogion y Philistiaid a phawb arall o dy gwmpas di. Rhaid i ti dderbyn y canlyniadau am dy ymddygiad anweddus a'r holl bethau ffiaidd ti wedi eu gwneud, meddai'r ARGLWYDD. “‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Ydw i'n mynd i ddelio gyda ti fel rwyt ti'n haeddu am gymryd dy lw yn ysgafn a torri'r ymrwymiad oedd rhyngon ni? Na, dw i'n cofio'r ymrwymiad wnes i gyda ti pan oeddet ti'n ifanc, a bydda i'n gwneud ymrwymiad gyda ti fydd yn para am byth. Wedyn byddi di'n cofio sut wnest ti ymddwyn, ac yn teimlo cywilydd mawr pan fyddi di'n derbyn dy ddwy chwaer yn ôl, yr hynaf a'r ifancaf. Dw i'n eu rhoi nhw i ti fel merched, er bod yr ymrwymiad wnes i ddim yn rhoi rheidrwydd arna i i wneud hynny. Dyma'r ymrwymiad dw i'n ei wneud gyda ti, a byddi'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD. Byddi'n cofio beth wnest ti, ac yn teimlo cywilydd mawr. Bydda i wedi maddau'r cwbl i ti, a gwneud iawn am bopeth wnest ti, a fyddi di ddim yn meiddio dweud gair,’” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD. Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi: “Ddyn, dyma bos i ti ei rannu gyda phobl Israel. Stori iddyn nhw. Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Eryr mawr a'i adenydd enfawr a'i blu hirion ar eu blaenau. Daeth eryr a'i wisg amryliw draw i Libanus. Pigo coron y goeden gedrwydd a thorri ei brigyn uchaf. Ei gario i ffwrdd i wlad masnachwyr, a'i blannu yn ninas y farchnad. Cymerodd un o hadau'r wlad a'i blannu mewn pridd da, yn sbrigyn wedi ei osod ar lan y dŵr fel coeden helygen. Blagurodd, a throi yn winwydden yn tyfu a lledu'n isel. Roedd ei gwreiddiau oddi tanodd a'i changhennau'n ymestyn at yr eryr. Tyfodd ei changhennau a daeth dail ar ei brigau. Ond roedd eryr mawr arall, gydag adenydd enfawr a thrwch o blu hardd. A dyma'r winwydden yn troi ei gwreiddiau at hwnnw, ac yn ymestyn ei changhennau ato i gael ei dyfrio ganddo. Roedd wedi ei phlannu mewn pridd da ar lan digonedd o ddŵr, i'w changhennau ledu ac i ffrwyth dyfu arni, yn winwydden hardd.’ Ond dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Fydd hi'n llwyddo? Na — bydd yr eryr yn ei chodi o'r gwraidd, yn tynnu ei ffrwyth oddi arni, a'i gadael i bydru. Bydd ei dail ir yn gwywo. Fydd dim angen byddin fawr gref i dynnu ei gwreiddiau o'r pridd. Ar ôl ei thrawsblannu, fydd hi'n llwyddo? Na — bydd gwynt poeth y dwyrain yn chwythu a bydd hi'n crino'n llwyr. Bydd hi'n gwywo yn y tir lle tyfodd!’” Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi: “Dywed wrth rebeliaid anufudd Israel: ‘Does gynnoch chi ddim syniad am beth dw i'n sôn, nac oes?’ Dywed wrthyn nhw, ‘Dyma'r ystyr. Daeth brenin Babilon i Jerwsalem a chymryd brenin Jwda a'i swyddogion yn garcharorion i Babilon. Wedyn dyma frenin Babilon yn gwneud cytundeb gydag un o deulu brenhinol Jwda, a'i gael i addo ar lw y byddai'n ufudd iddo. A gwnaeth yr un peth gyda rhai o bobl fawr y wlad. Roedd eisiau cadw'r wlad yn wan, a gwneud yn siŵr na fyddai hi'n gwrthryfela yn ei erbyn. Os oedd hi am gadw ei hunaniaeth, byddai'n rhaid iddi gadw amodau'r cytundeb. Ond dyma'r un wnaeth y cytundeb yn gwrthryfela yn erbyn brenin Babilon drwy anfon ei lysgenhadon i'r Aifft i ofyn am geffylau rhyfel a byddin fawr. Fydd e'n llwyddo? Ydy e'n mynd i allu torri'r cytundeb ac osgoi cael ei gosbi? Na, bydd e'n cael ei ladd. Mor sicr â'r ffaith mai fi ydy'r Duw byw,’ meddai'r ARGLWYDD, ‘bydd e'n marw yn Babilon, gwlad y brenin wnaeth y cytundeb gydag e yn y lle cyntaf a gadael iddo lywodraethu. Fydd y Pharo gyda'i fyddin fawr a'i holl rym milwrol ddim help o gwbl pan fydd Babilon yn ymosod ar Jerwsalem eto ac yn codi rampiau a thyrau gwarchae yn ei herbyn. Bydd lot fawr o bobl yn cael eu lladd. Roedd e wedi gwneud cytundeb ar lw ac yna ei dorri; addo bod yn ufudd ac yna torri ei air. Gwylia di, fydd e ddim yn dianc!’ “Felly dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr yn ei ddweud: ‘Mor sicr â'r ffaith mai fi ydy'r Duw byw, dw i'n mynd i'w gosbi e am dorri ei ymrwymiad i mi a'r cytundeb wnaeth e o'm blaen i. Bydd e'n cael ei ddal. Bydda i'n taflu fy rhwyd drosto a mynd ag e'n gaeth i Babilon, a bydda i'n ei farnu yno am iddo fy mradychu i. Bydd ei filwyr gorau yn cael eu lladd yn y rhyfel, a'r gweddill yn cael eu gwasgaru i bob cyfeiriad. Byddwch chi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD sy'n dweud beth sydd i ddod.’ “Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i gymryd sbrigyn o ben uchaf y goeden gedrwydd; bydda i'n ei bigo o goron y goeden, a'i blannu ar ben mynydd uchel. Bydda i'n ei blannu ar fynydd uchaf Israel. Bydd yn tyfu'n goeden gedrwydd hardd ffrwythlon, a bydd adar o bob math yn nythu ynddi ac yn cysgodi dan ei changhennau. Bydd pob coeden yng nghefn gwlad yn cydnabod mai fi ydy'r ARGLWYDD. Fi sy'n gwneud y goeden fawr yn fach a'r goeden fach yn fawr. Fi sy'n gwneud i goeden ir grino, ac i goeden farw flaguro eto. Fi ydy'r ARGLWYDD, a bydd beth dw i'n ddweud yn digwydd!’” Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi: “Beth ydy'r dywediad yna dych chi'n ei ddefnyddio o hyd am wlad Israel, ‘Mae'r rhieni wedi bwyta grawnwin surion, ond y plant sy'n diodde'r blas drwg.’? Mor sicr â'r ffaith mai fi ydy'r Duw byw,” meddai'r ARGLWYDD, “fydd y dywediad yma ddim i'w glywed yn Israel eto. Mae pob unigolyn yn atebol i mi — y rhieni a'r plant fel ei gilydd. Mae pob person yn marw am ei bechod ei hun. “Meddyliwch am rywun sy'n gwneud beth sy'n iawn, ac yn ymddwyn yn gyfiawn ac yn deg. Dydy e ddim yn mynd at allorau paganaidd ar y mynyddoedd i fwyta o'r aberthau, nac yn addoli eilun-dduwiau Israel. Dydy e ddim wedi cysgu gyda gwraig rhywun arall, nac yn cael rhyw gyda gwraig pan mae'r misglwyf arni. Dydy e'n cam-drin neb. Mae'n talu'n ôl beth bynnag gafodd ei roi iddo'n ernes. Dydy e ddim yn dwyn oddi ar bobl eraill, ond yn rhannu ei fwyd gyda'r newynog, a rhoi dillad i'r noeth. Dydy e ddim yn cymryd mantais o bobl drwy godi llog ar fenthyciad. Mae'n osgoi gwneud unrhyw beth sy'n anghyfiawn, ac mae bob amser yn onest ac yn deg wrth drin pobl eraill. Mae e'n gwneud beth dw i'n ddweud, ac yn cadw fy rheolau i. Dyna beth ydy byw bywyd da! Bydd person felly yn sicr o gael byw,” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD. “Cymrwch wedyn fod mab y dyn yna'n troi allan i fod yn lleidr ac yn llofrudd. Mae'n gwneud y pethau drwg yma i gyd (pethau wnaeth ei dad ddim un ohonyn nhw): Mae'n mynd at allorau paganaidd ar y mynyddoedd ac yn bwyta o'r aberthau. Mae'n cysgu gyda gwraig rhywun arall. Mae'n cam-drin pobl dlawd sydd mewn angen ac yn dwyn. Dydy e ddim yn talu'n ôl beth gafodd ei roi iddo'n ernes. Mae'n addoli eilun-dduwiau, ac yn gwneud pethau cwbl ffiaidd. Ac mae'n cymryd mantais o bobl drwy godi llog uchel ar fenthyciad. Fydd e'n cael byw? Na, dim o gwbl! Rhaid iddo farw am wneud pethau mor ffiaidd. Arno fe fydd y bai. “Wedyn cymrwch fod hwnnw'n cael mab, sy'n gweld yr holl ddrwg mae ei dad yn ei wneud ac yn penderfynu peidio dilyn ei esiampl. Dydy e ddim yn mynd at allorau paganaidd ar y mynyddoedd i fwyta o'r aberthau, nac yn addoli eilun-dduwiau Israel. Dydy e ddim wedi cysgu gyda gwraig rhywun arall. Dydy e'n cam-drin neb. Mae'n talu'n ôl beth bynnag gafodd ei roi iddo'n ernes. Dydy e ddim yn dwyn oddi ar bobl eraill, ond yn rhannu ei fwyd gyda'r newynog, a rhoi dillad i'r noeth. Mae'n osgoi gwneud unrhyw beth sy'n anghyfiawn. Dydy e ddim yn cymryd mantais o bobl drwy godi llog uchel ar fenthyciad. Mae'n cadw fy rheolau i ac yn gwneud beth dw i'n ddweud. “Fydd y dyn yma ddim yn cael ei gosbi am beth wnaeth ei dad! Bydd e'n cael byw. Ond bydd ei dad, oedd yn gorthrymu pobl a chymryd mantais annheg ohonyn nhw, yn dwyn eiddo ei gydwladwyr a gwneud pob math o bethau drwg eraill, yn cael ei gosbi. Bydd rhaid iddo farw. ‘Beth?’ meddech chi, ‘Ydy'r mab ddim yn dioddef o gwbl am yr holl ddrwg wnaeth ei dad?’ Na, pan mae'r mab yn gwneud beth sy'n iawn ac yn deg, yn cadw fy rheolau a gwneud beth dw i'n ddweud, bydd e'n cael byw. Yr un sy'n pechu fydd yn marw. Fydd mab ddim yn dioddef am y drwg wnaeth ei dad, a fydd tad ddim yn dioddef am ddrygioni ei fab. Bydd y bobl sy'n gwneud beth sy'n iawn yn cael eu gwobr, a bydd pobl ddrwg yn cael eu cosbi am beth wnaethon nhw. “Ond os ydy rhywun sydd wedi gwneud pethau drwg yn troi cefn ar y ffordd yna o fyw ac yn dechrau gwneud beth sy'n iawn ac yn deg a gwrando arna i, bydd e'n cael byw. Fydd dim rhaid iddo farw. Fydda i ddim yn cadw rhestr o'i holl bechodau e. Am ei fod e wedi dechrau gwneud beth sy'n iawn bydd e'n cael byw. “Ydw i'n mwynhau gweld pobl ddrwg yn marw?” meddai'r ARGLWYDD. “Wrth gwrs ddim! Byddai'n well gen i eu gweld nhw'n troi cefn ar yr holl ddrwg a chael byw. Ond wedyn, ar y llaw arall, os bydd person da yn stopio gwneud beth sy'n iawn ac yn dechrau gwneud yr holl bethau ffiaidd mae pobl ddrwg yn eu gwneud, fydd e'n cael byw? Na fydd. Bydda i'n anghofio'r holl bethau da wnaeth e. Am ei fod e wedi bod yn anffyddlon i mi a pechu yn fy erbyn i, bydd rhaid iddo farw. “‘Ond dydy hynny ddim yn iawn!’ meddech chi. “Gwrandwch, bobl Israel: Ydych chi'n dweud fy mod i ddim yn gwneud y peth iawn? Onid chi sydd ddim yn gwneud y peth iawn? Pan mae pobl dda yn stopio gwneud beth sy'n iawn, ac yn dechrau byw bywyd drwg, bydd rhaid iddyn nhw farw. Byddan nhw'n marw o achos y pethau drwg maen nhw wedi eu gwneud. A pan mae person drwg yn troi cefn ar y ffordd yna o fyw, ac yn dechrau gwneud beth sy'n iawn ac yn deg, bydd e'n achub ei fywyd. Am ei fod wedi meddwl am y peth a penderfynu stopio ymddwyn felly bydd e'n cael byw. Fydd dim rhaid iddo farw. “Ond mae pobl Israel yn dal i gwyno, ‘Dydy hynny ddim yn iawn!’ Ai fi ydy'r un sydd ddim yn gwneud beth sy'n iawn, bobl Israel? Onid chi ydy'r rhai sydd ddim yn gwneud y peth iawn? “Felly, bobl Israel, bydda i'n barnu pob un ohonoch chi ar sail sut ydych chi wedi byw,” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD. “Trowch gefn ar eich gwrthryfel, a fydd eich pechod ddim yn eich dinistrio chi. Stopiwch dynnu'n groes i mi, a chewch galon newydd ac ysbryd newydd! Pam ddylech chi ddewis marw, bobl Israel? Dw i ddim yn mwynhau gweld unrhyw un yn marw,” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD. “Felly trowch gefn ar y cwbl, a cewch fyw!” “Dw i am i ti ganu cân i alaru am arweinwyr Israel. Dywed fel hyn: ‘Sut un oedd dy fam di? Onid llewes gyda'r llewod, yn gorwedd gyda'r llewod ifanc ac yn magu ei chenawon? Magodd un o'i chenawon, a thyfodd i fod yn llew ifanc cryf. Dysgodd sut i hela a rhwygo ei ysglyfaeth; roedd yn bwyta cnawd dynol. Clywodd y gwledydd o'i gwmpas amdano, a chafodd ei ddal yn eu trap. Dyma nhw'n ei gymryd gyda bachau yn gaeth i'r Aifft. Pan welodd y fam ei fod wedi mynd, a bod ei gobaith wedi chwalu, cymerodd un arall o'i chenawon, a'i fagu i fod yn llew ifanc cryf. Cerddodd yng nghanol y llewod, wedi tyfu i fod yn llew ifanc cryf. Dysgodd sut i hela a rhwygo ei ysglyfaeth; roedd yn bwyta cnawd dynol. Cymerodd y gweddwon iddo'i hun a dinistrio'r trefi'n llwyr. Pan oedd yn rhuo, roedd yn codi ofn ar bawb drwy'r wlad. Daeth byddinoedd y gwledydd o'i gwmpas i ymosod arno. Dyma nhw'n taflu eu rhwyd drosto a'i ddal yn eu trap; rhoi coler a bachyn am ei wddf, a mynd ag e at frenin Babilon. Cafodd ei ddal yn gaeth yn y carchar fel bod ei ruo i'w glywed ddim mwy ar fynyddoedd Israel. Roedd dy fam fel gwinwydden gyda brigau hirion wedi ei phlannu ar lan y dŵr. Roedd ei changhennau yn llawn ffrwyth am fod digon o ddŵr iddi. Tyfodd ei changhennau'n ddigon cryf i wneud teyrnwialen brenin ohonyn nhw. Tyfodd yn uchel at y cymylau; roedd pawb yn ei gweld am ei bod mor dal ac mor ganghennog. Ond cafodd ei thynnu o'r gwraidd a'i thaflu ar lawr. Chwythodd gwynt poeth y dwyrain a chrino ei changhennau ffrwythlon. Llosgodd yn y tân. Bellach mae wedi ei phlannu yn yr anialwch mewn tir sych, cras. Lledodd y tân o'i changen gref a'i llosgi o'i gwraidd i'w brigau. Doedd dim cangen ddigon cryf ar ôl i wneud teyrnwialen ohoni.’ Dyma gân i alaru! Cân ar gyfer angladd ydy hi!” Roedd hi'r seithfed flwyddyn ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar y degfed diwrnod o'r pumed mis. A dyma rai o arweinwyr Israel yn dod ac yn eistedd o'm blaen i a gofyn am arweiniad gan yr ARGLWYDD. Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi: “Ddyn, dywed wrth arweinwyr Israel, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dych chi eisiau i mi roi arweiniad i chi, ydych chi? Wel, mor sicr â'r ffaith mai fi ydy'r Duw byw, gewch chi ddim arweiniad gen i, meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.’ “Ddyn, wyt ti'n barod i gyhoeddi'r farn? Wyt ti'n barod i gyhoeddi'r farn, a'u cael nhw i wynebu'r pethau ffiaidd wnaeth eu hynafiaid? Dywed wrthyn nhw, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Pan ddewisais Israel a cyflwyno fy hun i ddisgynyddion Jacob, dyma fi'n tyngu llw ac yn addo iddyn nhw, “Fi ydy'r ARGLWYDD, eich Duw chi.” Dyma fi'n addo eu rhyddhau nhw o wlad yr Aifft, a'u harwain nhw i wlad roeddwn i wedi ei dewis yn arbennig ar eu cyfer. Tir lle roedd llaeth a mêl yn llifo! Y wlad harddaf o'r cwbl i gyd! Dywedais, “Rhaid i chi gael gwared â'r eilun-dduwiau ffiaidd dych chi'n eu haddoli. Stopiwch lygru'ch hunain gydag eilunod yr Aifft. Fi ydy'r ARGLWYDD, eich Duw chi.” Ond roedden nhw'n tynnu'n groes i mi, ac yn gwrthod gwrando. Wnaethon nhw ddim cael gwared â'i heilun-dduwiau ffiaidd, na throi cefn ar eilunod yr Aifft. Dyma fi'n bygwth tywallt fy llid arnyn nhw, a dangos faint roeddwn i wedi gwylltio pan oedden nhw'n dal yn yr Aifft, ond wnes i ddim. Doeddwn i ddim eisiau i fy enw da gael ei sarhau gan y bobl o'u cwmpas nhw. Roeddwn i am ddangos sut un oeddwn i drwy ddod â nhw allan o'r Aifft. “‘A dyna wnes i. Dod â nhw allan o wlad yr Aifft, a'i harwain nhw i'r anialwch. Rhois reolau iddyn nhw, a dweud sut roeddwn i eisiau iddyn nhw fyw. Byddai'r rhai fyddai'n gwneud y pethau yma yn cael byw go iawn. Dyma fi'n rhoi ‛Sabothau‛ iddyn nhw hefyd, i'w hatgoffa nhw o'r berthynas rhyngon ni. Roeddwn i eisiau iddyn nhw ddeall fy mod i, yr ARGLWYDD, wedi eu gwneud nhw'n wahanol, yn bobl sbesial i mi. “‘Ond dyma bobl Israel yn gwrthryfela yn yr anialwch. Wnaethon nhw ddim cadw fy rheolau na byw fel ron i eisiau. (Byddai'r rhai sy'n gwneud y pethau yna wedi cael byw go iawn!) A dyma nhw'n diystyru'r dyddiau Saboth yn llwyr hefyd. Ro'n i'n bygwth tywallt fy llid arnyn nhw yn y fan a'r lle; eu dinistrio nhw'n llwyr yn yr anialwch! Ond wnes i ddim. Doeddwn i ddim eisiau i fy enw da gael ei sarhau gan y bobl oedd wedi fy ngweld i'n dod â nhw allan o'r Aifft. Ond dyma fi'n tyngu ar lw yn yr anialwch, a dweud na fyddwn i'n eu harwain nhw i'r wlad oedd gen i ar eu cyfer nhw — tir lle roedd llaeth a mêl yn llifo! Y wlad harddaf o'r cwbl i gyd! Roedden nhw wedi gwrthod cadw fy rheolau, wedi gwrthod byw fel ron i eisiau, ac wedi diystyru'r dyddiau Saboth rois i iddyn nhw. Pam? Am fod eu calonnau'n dal i ddilyn yr eilunod! Ac eto, bod yn garedig atyn nhw wnes i. Wnes i ddim eu dinistrio nhw'n llwyr yn yr anialwch. “‘Dyma fi'n dweud wrth eu plant yn yr anialwch: “Peidiwch byw yr un fath â'ch rhieni. Peidiwch dilyn eu ffyrdd nhw, a llygru eich hunain yn addoli eu heilun-dduwiau. Fi ydy'r ARGLWYDD, eich Duw chi. Dw i eisiau i chi fyw fel dw i'n dweud a chadw fy rheolau i. A dw i eisiau i chi gadw'r dyddiau Saboth yn sbesial, i'ch atgoffa chi o'r berthynas sydd rhyngon ni. Byddwch chi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi.” “‘Ond dyma'r plant yn gwrthryfela yn fy erbyn i hefyd. Wnaethon nhw ddim cadw fy rheolau na byw fel ron i eisiau (Byddai'r rhai sy'n gwneud y pethau yna wedi cael byw go iawn.) A dyma nhw'n diystyru'r dyddiau Saboth yn llwyr hefyd. Ro'n i'n bygwth tywallt fy llid arnyn nhw yn y fan a'r lle, yn yr anialwch. Ond dyma fi'n dal yn ôl. Doeddwn i ddim eisiau i fy enw da gael ei sarhau gan y bobl oedd wedi fy ngweld i'n dod â nhw allan o'r Aifft. Ond dyma fi'n tyngu ar lw yn yr anialwch, a dweud y byddwn i'n eu gyrru nhw ar chwâl i'r cenhedloedd, a'u gwasgaru nhw drwy'r gwledydd i gyd. Roedden nhw wedi gwrthod cadw fy rheolau, wedi gwrthod byw fel roeddwn i eisiau, ac wedi diystyru'r dyddiau Saboth rois i iddyn nhw. Pam? Am fod eu calonnau'n dal i ddilyn yr eilunod! Felly dyma fi'n gadael iddyn nhw ddilyn rheolau oedd ddim yn dda iddyn nhw a canllawiau oedd ddim yn rhoi bywyd go iawn. Dyma fi'n gadael iddyn nhw lygru eu hunain gyda'r rhoddion roedden nhw'n ei cyflwyno i'w duwiau — roedden nhw'n llosgi eu plentyn cyntaf yn aberth! Dylen nhw fod wedi gweld mor erchyll oedd y fath beth. Ro'n i eisiau iddyn nhw wybod mai fi ydy'r ARGLWYDD.’ “Ddyn, dw i eisiau i ti fynd i siarad gyda phobl Israel a dweud wrthyn nhw, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Mae eich hynafiaid wedi dal ati i ddangos dirmyg ata i a bod yn anffyddlon. Roedden nhw wedi cael dod i'r wlad roeddwn i wedi ei haddo iddyn nhw. Ond y funud roedden nhw'n dod ar draws bryn uchel neu goeden ddeiliog, roedden nhw'n aberthu ac yn cyflwyno offrymau oedd yn fy nigio i. Roedden nhw'n llosgi arogldarth i'w duwiau ac yn tywallt offrymau o ddiod iddyn nhw. A dyma fi'n gofyn iddyn nhw, “Beth ydy'r allor baganaidd yma dych chi'n heidio ati?”’” (Dyna pam mae'r lle'n cael ei alw ‛Yr Allor‛ hyd heddiw.) “Felly, dywed wrth bobl Israel, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Chithau hefyd? Ydych chi'n mynd i lygru'ch hunain fel gwnaeth eich hynafiaid? Ydych chi'n mynd i buteinio drwy addoli eilun-dduwiau ffiaidd? Bob tro dych chi'n cyflwyno rhoddion i'ch duwiau a llosgi'ch plentyn cyntaf yn aberth, dych chi'n llygru'ch hunain. Ydw i'n mynd i adael i chi ofyn am arweiniad gen i, bobl Israel? Mor sicr â'r ffaith mai fi ydy'r Duw byw, meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD, gewch chi ddim arweiniad gen i!’” “‘“Dŷn ni'n mynd i fod yr un fath â pawb arall,” meddech chi. “Fel pobl y gwledydd o'n cwmpas ni sy'n addoli duwiau o bren a charreg.” Ond fydd hynny byth yn digwydd. Mor sicr â'r ffaith mai fi ydy'r Duw byw,’ meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD, ‘Fi fydd yn frenin arnoch chi, a bydda i'n tywallt fy llid, ac yn teyrnasu gyda nerth a chryfder rhyfeddol. Bydda i'n dod â chi allan o ganol y bobloedd, ac yn eich casglu chi o'r gwledydd lle dych chi wedi eich gwasgaru. Ie, bydda i'n tywallt fy llid gyda nerth a chryfder rhyfeddol. Bydda i'n dod â chi allan i anialwch y cenhedloedd, a bydd rhaid i chi wynebu cael eich barnu yno. Yn union fel roedd rhaid i mi farnu eich hynafiaid yn anialwch yr Aifft, bydda i'n eich barnu chi,’ meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD. ‘Bydda i'n edrych ar bob un ohonoch chi yn ei dro wrth i chi basio dan fy ffon fugail, ac yn eich dal chi at amodau'r ymrwymiad rhyngon ni. Bydda i'n cael gwared â phawb sy'n gwrthryfela a tynnu'n groes i mi. Byddan nhw yn cael dod allan o'r wlad maen nhw ynddi ar hyn o bryd, ond gân nhw ddim mynd yn ôl i wlad Israel! Byddwch chi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD. “‘Bobl Israel, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud wrthoch chi: “Ewch, bob un ohonoch chi — ewch i addoli'ch eilun-dduwiau! Ond wedyn, peidiwch sarhau fy enw sanctaidd i gyda'ch rhoddion a'ch eilunod. Dim ond ar y mynydd dw i wedi ei gysegru — sef mynydd uchel Israel — y bydd pobl Israel yn fy addoli i, ie, pawb drwy'r wlad i gyd. Bydda i'n eu derbyn nhw yno. Dyna ble dych chi i ddod â chyflwyno rhoddion ac offrymau ac aberthau sanctaidd i mi. Pan fydda i'n dod â chi allan o ganol y bobloedd a'ch casglu chi o'r gwledydd lle dych chi wedi eich gwasgaru, cewch eich derbyn gen i fel arogl hyfryd eich aberthau. A bydd pobl y gwledydd yn gweld mai fi ydy'r Duw sanctaidd sydd gyda chi. Byddwch chi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD, pan fydda i'n gadael i chi fynd yn ôl i wlad Israel, sef y wlad wnes i addo ei rhoi i'ch hynafiaid. Byddwch chi'n edrych yn ôl ac yn gweld beth wnaethoch chi i lygru'ch hunain. Bydd gynnoch chi gywilydd eich bod wedi gwneud pethau mor ofnadwy. A byddwch chi'n deall mai fi ydy'r ARGLWYDD, am fy mod i wedi delio gyda chi mewn ffordd oedd yn diogelu fy enw da i, a dim fel roeddech chi'n ei haeddu am fod mor ddrwg a gwneud pethau mor ffiaidd!”’” Dyna neges y Meistr, yr ARGLWYDD. Yna dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi: “Ddyn, dw i eisiau i ti droi i wynebu'r de, a pregethu yn erbyn y de drwy gyhoeddi proffwydoliaeth yn erbyn coedwig y Negef. Dywed wrth goedwig y Negef, ‘Gwranda ar neges yr ARGLWYDD i ti. Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i gynnau tân yn dy ganol, a bydd yn llosgi'r coed gwyrdd yn ogystal â'r coed sydd wedi crino. Fydd y fflamau tanbaid ddim yn diffodd, a bydd y tir i gyd, o'r de i'r gogledd, wedi ei losgi'n ddu. Bydd pawb yn gweld mai fi, yr ARGLWYDD ddechreuodd y tân, ac na fydd yn diffodd.’” “O ARGLWYDD, fy meistr!” meddwn i, “Mae pawb yn cwyno fod beth dw i'n ddweud yn dim ond darluniau diystyr!” Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi: “Ddyn, dw i eisiau i ti droi i wynebu Jerwsalem, a pregethu yn erbyn ei lleoedd cysegredig hi. Proffwyda yn erbyn Israel, a dweud, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: Dw i'n mynd i ddelio gyda chi! Dw i'n mynd i dynnu fy nghleddyf o'r wain a lladd pawb, y da a'r drwg! Ydw, dw i'n mynd i ladd y da a'r drwg. Bydda i'n tynnu fy nghleddyf ac yn taro pawb, o'r de i'r gogledd! Bydd pawb yn deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD, ac mai fi sydd wedi tynnu'r cleddyf, a fydd e ddim yn mynd yn ôl i'r wain!’ “Felly griddfan di, ddyn! Griddfan yn chwerw o'u blaenau a syrthio ar lawr yn dy ddyblau fel petaet ti mewn poen. Pan fyddan nhw'n gofyn i ti, ‘Beth sy'n bod?’ dywed wrthyn nhw, ‘Mae newyddion dychrynllyd ar ei ffordd. Bydd pawb wedi dychryn am eu bywydau, a ddim yn gwybod beth i'w wneud. Byddan nhw'n teimlo'n gwbl ddiymadferth, ac yn gwlychu eu hunain mewn ofn.’” Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi: “Ddyn, proffwyda fel yma, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: Cleddyf! Cleddyf! Wedi ei hogi a'i sgleinio. Wedi ei hogi i ladd, ac yn fflachio fel mellten. Pwy sy'n chwerthin nawr? Mae teyrnwialen Jwda wedi ei gwrthod a phob ffon debyg iddi! Mae'r cleddyf wedi ei rhoi i'w sgleinio a'i dal yng nghledr y llaw. Mae wedi ei hogi a'i glanhau i'w rhoi yn llaw y lladdwr. Gwaedda, ddyn, galara! Mae'r cleddyf i daro fy mhobl, ac arweinwyr Israel i gyd! Bydd y galar yn llethol! Ydy, mae'r profi'n dod! Pa obaith sydd pan mae teyrnwialen Jwda wedi ei gwrthod?’ meddai'r ARGLWYDD. Dw i eisiau i ti broffwydo, ddyn, ac ysgwyd dy ddwrn arnyn nhw. Dywed, ‘Bydd y cleddyf yn taro ddwywaith … na, tair! Cleddyf i ladd! Bydd cleddyf y lladdfa fawr yn closio o bob cyfeiriad! Bydd pawb yn wan gan ddychryn a nifer fawr yn baglu a syrthio. Mae cleddyf y lladdfa fawr yn disgwyl wrth y giatiau i gyd. O! Mae'n fflachio fel mellten wrth gael ei chwifio i ladd! Ergyd i'r dde, a slaes i'r chwith! Mae'n taro â'i min ble bynnag y myn. Byddaf finnau'n ysgwyd fy nwrn a dangos faint dw i wedi gwylltio. Yr ARGLWYDD ydw i, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod.’” Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi: “Ddyn, dw i eisiau i ti wneud map a marcio dwy ffordd y gallai cleddyf brenin Babilon ddod. Mae'r ddwy ffordd i ddechrau o'r un lle. Yna ble maen nhw'n fforchio dw i eisiau i ti godi arwydd ffordd yn pwyntio at y ddinas — Marcia ddwy ffordd i'r cleddyf fynd — un i Rabba, dinas pobl Ammon, a'r llall i Jerwsalem, y gaer yn Jwda. Mae brenin Babilon wedi stopio ble mae'r ffordd yn fforchio, ac yn ansicr pa ffordd i fynd. Mae'n aros i ddewino: mae'n ysgwyd saethau, yn ceisio arweiniad ei eilun-ddelwau teuluol, ac yn archwilio iau anifeiliaid wedi eu haberthu. Mae'n agor ei law dde, a dyna'r arweiniad — i droi am Jerwsalem. Rhaid paratoi hyrddod rhyfel i fwrw'r giatiau, bloeddio'r gorchymyn i ymosod, a chodi rampiau a thyrau gwarchae. Bydd pobl Jerwsalem yn meddwl ei fod wedi gwneud camgymeriad, am eu bod wedi gwneud cytundeb gyda Babilon. Ond mae'n dangos eu bod nhw'n euog, a byddan nhw'n cael eu cymryd yn gaeth. “Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Dych chi wedi ei gwneud hi'n gwbl amlwg eich bod chi'n euog. Dych chi wedi troseddu, a does gynnoch chi ddim cywilydd o'ch pechod. Mae pawb yn ei weld! Felly byddwch yn cael eich cymryd yn gaeth. “‘A tithau, Sedeceia, dywysog llwgr a drwg Israel — mae dy ddiwrnod wedi dod. Ie, dydd barn! Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Tynna dy goron oddi ar dy ben! Mae pethau'n mynd i newid! Codi'r rhai sy'n ‛neb‛, a thorri crib y balch! Adfeilion! Adfeilion! Bydd y lle'n adfeilion llwyr! Fydd dim yn newid nes i'r un dw i wedi rhoi iddo'r hawl i farnu ddod. Bydda i'n ei rhoi iddo fe.’” “Ond yna, ddyn, proffwyda fel yma, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud am gosb pobl Ammon: Cleddyf! Cleddyf, yn cael ei chwifio i ladd. Wedi ei sgleinio i ddifa, ac yn fflachio fel mellten. “‘Mae gweledigaethau dy broffwydi'n ffug, a'r arweiniad trwy ddewino yn gelwydd! Mae'r cleddyf ar yddfau pobl lwgr a drwg. Ydy, mae eich diwrnod wedi dod. Ie, dydd barn! “‘Fydd y cleddyf ddim yn ôl yn ei wain nes i mi eich barnu chi yn y wlad lle cawsoch eich geni. Dw i'n mynd i dywallt fy llid arnoch chi, a'ch ffrwydro gyda tân fy ffyrnigrwydd. Bydda i'n eich rhoi chi yn nwylo dynion gwyllt sy'n gwybod sut i ddinistrio. Byddwch yn danwydd i'r tân. Bydd eich gwaed wedi ei dywallt ar y tir. Fydd neb yn eich cofio. Yr ARGLWYDD ydw i, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod!’” Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi: “Wel ddyn, wyt ti'n barod i gyhoeddi'r farn? Wnei di farnu dinas y tywallt gwaed? Gwna iddi wynebu'r ffaith ei bod wedi gwneud pethau hollol ffiaidd! Dywed wrthi, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: O ddinas, mae cymaint o waed wedi ei dywallt ynot ti, mae dydd barn wedi dod i ti. Mae cymaint o eilun-dduwiau ynot ti, rwyt ti wedi llygru dy hun yn llwyr. Ti'n euog o lofruddiaeth ac addoli eilun-dduwiau. Ti wedi gwneud i dy ddiwedd ddod yn agos. Dw i'n mynd i dy wneud di'n destun sbort i'r gwledydd o dy gwmpas. Byddi di'n jôc drwy'r byd i gyd. Bydd pawb ym mhobman yn gwneud hwyl ar dy ben. Byddi'n enwog am dy ddrygioni a dy helyntion. “‘“Mae arweinwyr Israel sy'n byw ynot ti wedi defnyddio'i hawdurdod i dywallt gwaed. Mae yna bobl ynot ti sy'n dirmygu tad a mam, yn gormesu mewnfudwyr, ac yn cam-drin plant amddifad a gwragedd gweddwon. Mae dy bobl wedi trin y pethau sanctaidd sy'n cael eu cyflwyno i mi yn ysgafn, ac wedi diystyru'r dyddiau Saboth rois i chi! Mae rhai ynot ti wedi dweud celwydd a hel clecs am bobl ac yn gyfrifol am dywallt eu gwaed. Mae eraill yn bwyta aberthau paganaidd ar y mynyddoedd, ac yn gwneud pethau hollol ffiaidd. Mae yna rai sy'n cael rhyw gyda gwraig eu tad, neu'n gorfodi gwragedd sy'n diodde o'r misglwyf i gael rhyw gyda nhw. Mae un yn cam-drin gwraig ei gymydog yn rhywiol; ac un arall yn gorfodi ei ferch-yng-nghyfraith i gael rhyw, neu'n treisio ei chwaer neu ei hanner chwaer. Mae yna rai sy'n derbyn tâl i lofruddio. Dych chi'n cymryd mantais o bobl drwy godi llog uchel ar fenthyciadau, ac yn gorfodi arian oddi ar bobl. Dych chi wedi fy anghofio i,” meddai'r ARGLWYDD, y Meistr. “‘“Dw i'n ysgwyd fy nwrn arnoch chi. Mae'r holl elwa anonest yma, a'r holl dywallt gwaed yn eich plith chi yn gwneud i mi wylltio. Cawn weld faint o blwc sydd gynnoch chi! Tybed pa mor ddewr fyddwch chi pan fydda i'n delio gyda chi? Fi ydy'r ARGLWYDD, a bydd beth dw i'n ddweud yn digwydd! Bydda i'n eich gyrru chi ar chwâl drwy'r gwledydd, ac yn rhoi stop ar y cwbl. Dw i'n fodlon i'm henw da i gael ei sarhau gan y cenhedloedd o'ch achos chi. Byddwch chi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.”’” Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi: “Ddyn, mae pobl Israel fel yr amhuredd sydd ar ôl pan mae metel yn cael ei goethi mewn ffwrnais! Maen nhw fel y slag diwerth sy'n cael ei adael pan mae copr, tin, haearn a phlwm yn cael ei goethi. Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Am eich bod chi'n ddim byd ond amhuredd dw i'n mynd i'ch casglu chi at eich gilydd i ganol Jerwsalem. Dw i'n ddig, a dw i'n mynd i'ch casglu chi yno a'ch toddi chi, yn union fel mae arian, copr, haearn, plwm a tin yn cael eu rhoi mewn ffwrnais i'w toddi yn y tân. Dw i'n mynd i'ch casglu chi yno, a'ch toddi chi gyda tân fy ffyrnigrwydd! Byddwch chi'n cael eich toddi fel arian mewn ffwrnais. Byddwch chi'n sylweddoli fy mod i, yr ARGLWYDD, wedi tywallt fy llid ffyrnig arnoch chi!’” Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi: “Ddyn, dywed wrth Jerwsalem, ‘Pan fydda i'n dangos fy llid fydd dim glaw na hyd yn oed cawod ysgafn yn disgyn ar dy dir.’ Mae ei harweinwyr yn cynllwynio fel llewod sy'n rhuo wrth rwygo'r ysglyfaeth. Maen nhw'n dwyn arian a phopeth gwerthfawr oddi ar bobl, ac yn gadael llawer o wragedd yn weddwon. Mae'r offeiriaid yn torri fy nghyfraith ac yn halogi'r pethau sanctaidd sy'n cael eu cyflwyno i mi. Dŷn nhw ddim yn gwahaniaethu rhwng y cysegredig a'r cyffredin, na rhwng y glân a'r aflan. Maen nhw'n diystyru'r Sabothau rois i iddyn nhw. Maen nhw'n pardduo fy enw i! Mae ei swyddogion fel bleiddiaid yn rheibio — yn tywallt gwaed a dinistrio bywydau — er mwyn elw anonest. Mae ei phroffwydi yn honni eu bod wedi cael gweledigaeth neu neges gan Dduw pan nad ydyn nhw go iawn. ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud,’ medden nhw. Ond dydy'r ARGLWYDD ddim wedi dweud y fath beth! Maen nhw'n meddwl fod peintio drosti yn mynd i wneud wal simsan yn saff! Mae pobl y wlad wedi bod yn gorthrymu'r bobl dlawd sydd mewn angen, a dwyn oddi arnyn nhw. Maen nhw wedi gormesu mewnfudwyr a'u trin nhw'n gwbl annheg. “Dyma fi'n edrych i weld os oedd rhywun fyddai'n trwsio'r wal ac yn sefyll yn y bwlch, fel bod dim rhaid i mi ddinistrio'r ddinas. Ond doedd neb. Felly dw i wedi tywallt fy llid arnyn nhw, a'u dinistrio nhw gyda tân fy ffyrnigrwydd. Dw i'n talu'n ôl iddyn nhw am beth maen nhw wedi ei wneud.” Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud. [1] Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi: “Ddyn, roedd yna ddwy wraig oedd yn ferched i'r un fam. Pan oedden nhw'n ifanc iawn dyma nhw'n dechrau actio fel puteiniaid yn yr Aifft. Roedden nhw'n gadael i ddynion afael yn eu bronnau ac anwesu eu cyrff. Enw'r chwaer hynaf oedd Ohola, ac enw'r ifancaf oedd Oholiba. Roeddwn i wedi eu priodi nhw, a dyma nhw'n cael plant i mi. (Samaria ydy Ohola, a Jerwsalem ydy Oholiba.) “Roedd Ohola yn actio fel putain pan oedd hi hefo fi, ac yn ysu am gael rhyw gyda'i chariadon — swyddogion milwrol Asyria yn eu lifrai porffor, capteiniaid a swyddogion eraill; dynion golygus i gyd, yn farchogion yn y cafalri. Roedd hi'n rhoi ei hun iddyn nhw — dynion ifanc gorau Asyria i gyd. Roedd hi'n halogi ei hun yn addoli eu heilun-dduwiau nhw ac yn rhoi ei hun iddyn nhw. Roedd hi'n dal ati i buteinio fel roedd hi'n gwneud pan yn ferch ifanc yn yr Aifft, yn gadael i ddynion gael rhyw gyda hi, anwesu ei bronnau, a gwneud beth bynnag roedden nhw eisiau. Felly dyma fi'n gadael i'w chariadon, yr Asyriaid, ei chael hi — dyna oedd hi eisiau. Dyma nhw'n rhwygo ei dillad oddi arni, cymryd ei meibion a'i merched yn gaethion ac yna ei lladd hi. Roedd ei henw'n warth. Roedd y merched i gyd yn meddwl ei bod hi wedi cael beth roedd yn ei haeddu. “Er fod Oholiba, ei chwaer, wedi gweld hyn i gyd, dyma hi'n ymddwyn yn waeth fyth! Roedd hi'n hollol wyllt — fel hwren hollol lac ei moesau! Roedd hi'n ysu am gael rhyw gyda'r Asyriaid; swyddogion a chapteiniaid, milwyr yn eu lifrai gwych, a marchogion yn y cafalri — dynion ifanc golygus i gyd. Ro'n i'n gweld ei bod wedi halogi ei hun, a mynd yr un ffordd â'i chwaer. “Ond aeth hi ymlaen i wneud pethau llawer gwaeth na'i chwaer! Dyma hi'n gweld lluniau o ddynion Babilon wedi eu cerfio'n goch llachar ar waliau. Roedd pob un gyda sash am ei ganol, a twrban hardd ar ei ben. Roedden nhw'n edrych fel swyddogion milwrol; dynion Babilon, o'r wlad oedd yn cael ei galw yn Caldea. Pan welodd hi'r lluniau roedd hi'n ysu i'w cael nhw, a dyma hi'n anfon gwahoddiad iddyn nhw ddod ati. Felly dyma'r Babiloniaid yn dod ac yn neidio i'r gwely gyda hi. Dyma nhw'n ei halogi a'i threisio hi, nes iddi hi wedyn droi yn eu herbyn nhw am beidio dangos parch ati. “A dyna sut wnes i ymateb iddi hi, am orwedd yn ôl a chynnig ei hun iddyn nhw mor agored! Roeddwn i wedi ymateb yr un fath i'w chwaer. Ond doedd hi'n poeni dim! Aeth o ddrwg i waeth! Roedd hi'n dal i actio fel y butain yn yr Aifft pan oedd hi'n eneth ifanc! Roedd ganddi hiraeth am ei chariadon Eifftaidd oedd â pidynnau fel asynnod, ac yn bwrw had fel stalwyni. Dyna sut roedd hi'n cofio'i hymddygiad yn eneth ifanc, gyda dynion yr Aifft yn anwesu ei chorff ac yn gafael yn ei bronnau. “Felly, Oholiba, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i wneud i'r cariadon wnest ti droi yn eu herbyn nhw godi yn dy erbyn di. Byddan nhw'n ymosod arnat ti o bob cyfeiriad — y Babiloniaid a pobl Caldea i gyd, llwythau Pecod, Shoa a Coa, a'r Asyriaid i gyd. Dynion ifanc golygus, yn swyddogion a chapteiniaid, cadfridogion ac arwyr milwrol — i gyd yn y cafalri. Byddan nhw'n ymosod arnat ti gyda'i cerbydau, wagenni, a byddin enfawr. Byddan nhw'n trefnu eu hunain yn rhengoedd o dy gwmpas di, gyda'i tariannau bach a mawr ac yn gwisgo'u helmedau. Bydda i'n gadael iddyn nhw dy gosbi di yn ôl eu safonau eu hunain. “Dw i wedi cynhyrfu, a dw i'n mynd i ddangos i ti mor wyllt ydw i! Bydd y fyddin sy'n ymosod arnat ti yn dy drin di'n gwbl farbaraidd! Byddan nhw'n torri trwynau a chlustiau pobl i ffwrdd, ac yn lladd pawb yn gwbl ddidrugaredd. Byddan nhw'n cymryd dy blant yn gaethion, a bydd pawb sydd ar ôl yn cael eu llosgi'n fyw. Byddan nhw'n tynnu dillad pobl oddi arnyn nhw, ac yn dwyn eu tlysau hardd. Dw i'n mynd i roi stop ar dy ymddygiad anweddus di, a'r holl buteinio ddechreuodd yn yr Aifft! Fyddi di ddim yn edrych yn ôl yn hiraethus ar y dyddiau yna byth eto! “Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Ydw, dw i'n mynd i dy roi di yn nwylo'r bobl hynny rwyt ti'n eu casáu, sef y cariadon hynny wnest ti droi cefn arnyn nhw. Byddan nhw'n gas atat ti, yn cymryd popeth wyt ti wedi gweithio amdano ac yn dy adael di'n noeth. Bydd pawb yn dy weld di'n noeth, fel pan roeddet ti'n byw'n anweddus ac yn puteinio. Bydd hyn i gyd yn digwydd am dy fod ti wedi puteino gyda gwledydd paganaidd a llygru dy hun yn addoli eu heilun-dduwiau nhw. Ti wedi mynd yr un ffordd â dy chwaer, a bydd cwpan y farn yfodd hi ohono yn cael ei basio ymlaen i ti. “Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Byddi'n yfed o gwpan dy chwaer — cwpan fawr, ddofn, yn llawn i'r ymylon (a bydd pawb yn gwneud hwyl ar dy ben.) Byddi'n hollol feddw ac yn y felan: Mae cwpan dy chwaer, Samaria, yn gwpan dychryn a dinistr. Byddi'n yfed pob diferyn cyn ei falu'n ddarnau ac yna rhwygo dy fronnau. “Fi ydy'r ARGLWYDD, y Meistr, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod. “Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Am dy fod ti wedi anghofio amdana i, a troi dy gefn yn llwyr arna i, bydd rhaid i ti wynebu canlyniadau'r ymddygiad anweddus a'r puteinio.” A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Ddyn, Wyt ti'n barod i gyhoeddi'r farn ar Ohola ac Oholiba? Dywed wrthyn nhw mor ffiaidd maen nhw wedi bod! Maen nhw wedi godinebu a thywallt gwaed. Maen nhw wedi godinebu drwy addoli eilun-dduwiau, a thywallt gwaed eu plant drwy eu llosgi'n aberth. Ar ben y cwbl maen nhw wedi halogi'r cysegr a diystyru'r dyddiau Saboth rois i iddyn nhw. Yr un diwrnod ac roedden nhw'n lladd eu meibion i'r eilun-dduwiau, roedden nhw'n dod i mewn i'r deml i addoli! Halogi'r cysegr, fy nhŷ i! “Ac wedyn roedden nhw'n anfon negeswyr i wlad bell i ofyn am help. A beth wnest ti pan wnaeth y rheiny gyrraedd? Cael bath, rhoi colur ar dy lygaid, a gwisgo dy dlysau. Wedyn gorwedd yn ôl ar soffa grand, a bwrdd llawn o'i blaen gydag arogldarth ac olew arno — fy rhai i! Roedd sŵn tyrfa o bobl yn diota a chael amser da gyda ti — dynion o bob man, hyd yn oed Sabeaid o'r anialwch. Roedden nhw'n rhoi breichledau i'r chwiorydd, a tiaras hardd i'w gwisgo ar eu pennau. “A dyma fi'n dweud, ‘Os ydyn nhw wir eisiau putain fel hon sydd wedi hen ddarfod amdani, cân nhw gario ymlaen!’ A dyna ddigwyddodd. Dyma nhw'n mynd at y ddwy, Ohola ac Oholiba, i gael rhyw. Merched hollol wyllt ac anfoesol! Ond bydd dynion cyfiawn yn eu barnu nhw, a rhoi'r gosb maen nhw'n ei haeddu am odinebu a thywallt gwaed. Dyna'n hollol maen nhw'n euog o'i wneud. “Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dewch â byddin yn eu herbyn nhw i greu dychryn ac i ddwyn oddi arnyn nhw! Bydd y fyddin yn eu lladd drwy daflu cerrig atyn nhw, ac yn eu taro nhw i lawr gyda chleddyfau. Bydd yn lladd eu plant nhw ac yn llosgi eu tai! Dw i'n mynd i roi stop ar yr holl ymddygiad anweddus yma, er mwyn i wragedd eraill ddysgu gwers a peidio gwneud yr un peth. Byddan nhw'n talu'n ôl i ti am y ffordd rwyt ti wedi ymddwyn. Byddi'n cael dy gosbi am bechu gyda dy eilun-dduwiau. A byddi'n deall wedyn mai fi ydy'r Meistr, yr ARGLWYDD.” Roedd hi'r nawfed flwyddyn ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar y degfed diwrnod o'r degfed mis. A dyma fi'n cael y neges yma gan yr ARGLWYDD: “Ddyn, dw i eisiau i ti ysgrifennu dyddiad heddiw i lawr. Heddiw ydy'r union ddiwrnod mae brenin Babilon wedi dechrau ymosod ar Jerwsalem. Rhanna'r darlun yma gyda rebeliaid anufudd Israel: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Rho'r crochan ar y tân, a'i lenwi gyda dŵr. Rho ddarnau o gig ynddo, y darnau gorau — y goes a'r ysgwydd. Ei lenwi gyda'r esgyrn da o'r anifeiliaid gorau. Rho bentwr o goed tân oddi tano, a berwi'r cig a'i goginio a'r esgyrn yn dal ynddo. “‘Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Gwae ddinas y tywallt gwaed — y crochan sy'n llawn budreddi — budreddi sy'n dal ynddo! Tynnwch y darnau allan bob yn un. Sdim ots am y drefn. Mae'r gwaed dywalltwyd yn dal ynddi. Cafodd ei dywallt ar garreg i bawb ei weld, yn lle ei dywallt ar lawr i'r pridd ei lyncu. Felly dw i'n mynd i dywallt ei gwaed hi ar garreg agored, er mwyn i bawb weld faint dw i wedi digio, ac mai fi sy'n dial arni hi! “‘Felly dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Gwae ddinas y tywallt gwaed! Dw i'n mynd i gasglu pentwr o goed; digon o goed i wneud tanllwyth o dân! Coginio'r cig yn dda gyda digon o sbeisys. Wedyn gwagio'r crochan a llosgi'r esgyrn. Yna rhoi'r crochan gwag yn ôl ar y tân golosg, a'i boethi nes bydd y copr yn gloywi'n chwilboeth, yr amhuredd o'i fewn yn toddi a'r budreddi yn cael ei losgi i ffwrdd. Ond mae'r holl ymdrech i ddim pwrpas — mae'r budreddi yn dal yna! Rhaid ei losgi! “‘Yr amhuredd ydy dy ymddygiad anweddus di. Dw i wedi ceisio dy lanhau di, ond i ddim pwrpas. Fyddi di ddim yn lân eto nes bydda i wedi tywallt fy llid i gyd arnat ti. Yr ARGLWYDD ydw i, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod! Mae'r amser wedi dod i mi wneud rhywbeth! Does dim troi'n ôl. Fydda i'n dangos dim piti, nac yn teimlo'n sori am y peth. Dw i'n mynd i dy gosbi di am y cwbl rwyt ti wedi ei wneud, meddai'r ARGLWYDD, y Meistr.’” Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi: “Ddyn, dw i'n gwybod fod hyn yn mynd i fod yn ergyd galed, ond dw i'n mynd i gymryd y wraig wyt ti wedi gwirioni arni oddi arnat ti. Ond paid galaru amdani. Paid wylo. Paid colli dagrau. Byddi'n drist, ond cadwa'r peth i ti dy hun. Paid galaru'n gyhoeddus. Rho dwrban ar dy ben a sandalau ar dy draed. Paid cuddio hanner isaf dy wyneb, na derbyn bwyd gan bobl sy'n dod atat ti i gydymdeimlo.” Y noson honno buodd fy ngwraig farw. Ond y bore wedyn dyma fi'n gwneud beth ddywedwyd wrtho i, a mynd allan i bregethu. A dyma'r bobl yn gofyn i mi, “Beth ydy ystyr hyn? Pam wyt fel yma?” A dyma fi'n dweud wrthyn nhw fod yr ARGLWYDD wedi rhoi'r neges yma i mi: “Dywed wrth bobl Israel, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i ddinistrio'r deml — ie, y deml sy'n gwneud i chi deimlo mor siŵr ohonoch chi'ch hunain, yr un dych chi wedi gwirioni'n lân arni. Bydd y plant gafodd eu gadael ar ôl yn Jwda yn cael eu lladd. Rhaid i chi wneud yr un fath â fi. Peidio cuddio hanner isaf yr wyneb na derbyn bwyd gan bobl sydd eisiau cydymdeimlo. Gwisgo twrban ar eich pennau a sandalau ar eich traed. Peidio galaru na wylo. Ond byddwch chi'n gwywo o'ch mewn, o achos yr holl ddrwg dych chi wedi ei wneud. Dw i'n defnyddio Eseciel fel darlun i ddysgu gwers i chi. Rhaid i chi wneud yr un fath. Byddwch chi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r Meistr, yr ARGLWYDD.’ “A ti, ddyn, dyma fydd yn digwydd i ti ar y diwrnod y bydda i'n cymryd y ddinas sy'n eu gwneud nhw mor hapus oddi arnyn nhw, a'r deml maen nhw a'u plant wedi gwirioni'n lân arni: Ar y diwrnod hwnnw bydd ffoadur fydd wedi llwyddo i ddianc yn dod atat ti i ddweud beth ddigwyddodd. A byddi di'n cael siarad yn rhydd eto. Byddi'n siarad gyda'r un wnaeth ddianc, a ddim yn gorfod cadw'n dawel ddim mwy. Dw i'n dy ddefnyddio di fel darlun i ddysgu gwers i bobl Israel, iddyn nhw ddeall mai fi ydy'r ARGLWYDD.” Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi: “Ddyn, dw i eisiau i ti droi i wynebu gwlad Ammon a proffwydo yn eu herbyn nhw. Dywed wrth bobl Ammon, ‘Gwrandwch ar neges y Meistr, yr ARGLWYDD, i chi. Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: “Ha, ha!” meddech chi. Roeddech chi'n chwerthin pan gafodd y deml ei dinistrio, gwlad Israel ei gadael yn anial, a phobl Jwda eu caethgludo. Ond gwyliwch chi'ch hunain! Dw i'n mynd i'ch gwneud chi'n gaethweision i bobl y dwyrain. Maen nhw'n dod i godi eu pebyll a symud i fyw yn eich plith chi. Byddan nhw'n cymryd eich ffrwythau chi ac yn yfed llaeth eich preiddiau chi. Bydda i'n gwneud Rabba yn dir comin i gamelod bori arno ac Ammon yn gorlan i ddefaid. Byddwch chi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD. “Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Am eich bod chi wedi ysgwyd dwrn a stampio'ch traed ar Israel, a dathlu a gweiddi hwrê yn sbeitlyd pan gafodd y wlad ei dinistrio, dw i'n mynd i'ch taro chi'n galed! Dw i'n mynd i adael i'r cenhedloedd eich cymryd chi. Byddwch chi'n peidio bod yn genedl. Dw i'n mynd i'ch dinistrio chi'n llwyr. A byddwch chi'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD!’” “Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Mae Moab a Seir yn honni fod pobl Jwda ddim gwahanol i neb arall! Felly dyma dw i'n mynd i'w wneud iddyn nhw: dw i'n mynd i agor ffin ddwyreiniol Moab a dinistrio'r trefi hyfryd sydd yno — Beth-ieshimoth, Baal-meon a Ciriathaim. Dw i'n mynd i roi eich tir a'ch pobl yn nwylo'r llwythau o'r dwyrain. Bydd Ammon yn peidio bod yn genedl. A dw i'n mynd i farnu Moab hefyd. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD!’” “Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Mae pobl Edom yn euog. Am eu bod wedi dal ati i ddial mor gas ar Jwda, maen nhw'n euog.’ Ie, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i daro Edom yn galed, a lladd pawb sy'n byw yno, pobl ac anifeiliaid. Bydd y wlad yn anialwch diffaith. Bydd pawb yn cael eu lladd yn y rhyfel, yr holl ffordd o Teman i Dedan yn y de. Bydda i'n defnyddio fy mhobl Israel i ddial ar Edom. Bydd y ffordd fyddan nhw'n delio gydag Edom yn dangos faint dw i wedi gwylltio, a bydd pobl Edom yn gwybod mai fi sy'n dial arnyn nhw, meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.’” “Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Mae'r Philistiaid wedi bod yn gwbl farbaraidd tuag at Jwda. Maen nhw wedi bod mor sbeitlyd tuag at Jwda, a bob amser wedi bod eisiau ei dinistrio hi. Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Gwyliwch chi! Dw i'n mynd i daro'r Philistiaid yn galed. Dw i'n mynd i ladd y Cerethiaid a dinistrio pawb fydd ar ôl ar yr arfordir. Dw i'n mynd i ddial arnyn nhw a'u cosbi nhw'n wyllt. A pan fydda i'n dial, byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD!’” Roedd hi un deg un mlynedd ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar ddiwrnod cynta'r flwyddyn, a dyma fi'n cael neges gan yr ARGLWYDD: “Ddyn, dyma mae Tyrus wedi bod yn ei ddweud am Jerwsalem: ‘Hwrê! Mae'r giât i'r ddinas fasnach ryngwladol wedi ei dryllio! Bydda i'n cael ei busnes! Dw i'n mynd i fod yn gyfoethog! Ydy, mae hi wedi'i dinistrio.’ “Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Gwyliwch eich hunain! Dw i'n mynd i ddelio gyda chi! O, Tyrus! Mae byddinoedd y gwledydd yn dod yn dy erbyn di fel tonnau gwyllt y môr. Byddan nhw'n dinistrio dy waliau ac yn bwrw'r tyrau amddiffynnol i lawr.’ Bydda i'n clirio'r rwbel oddi arni ac yn gadael dim ar ôl ond craig noeth. Bydd fel ynys yng nghanol y môr, yn dda i ddim ond i daenu rhwydau pysgota. Fi ydy'r ARGLWYDD, y Meistr, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod. Bydd byddinoedd o wledydd eraill yn concro Tyrus, a bydd y pentrefi yn yr ardal o'i chwmpas yn cael eu dinistrio yn y rhyfel. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD. “Ie, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Gwyliwch chi! Dw i'n dod â'r brenin Nebwchadnesar, yr un sy'n frenin ar frenhinoedd, i lawr o Babilon yn y gogledd, a bydd yn ymosod ar Tyrus. Bydd ganddo geffylau, cerbydau rhyfel, marchogion a byddin enfawr. Bydd yn dinistrio'r pentrefi gwledig o dy gwmpas di. Wedyn bydd yn codi tyrau gwarchae a rampiau i ymosod arnat ti. Bydd llu o filwyr gyda'i tariannau yn dod yn dy erbyn di! Bydd yn bwrw dy waliau gyda'i hyrddod rhyfel ac yn chwalu dy dyrau amddiffynnol gyda'i arfau haearn. Bydd y llwch fydd yn cael ei godi gan yr holl geffylau rhyfel yn dy orchuddio di! Bydd sŵn y cafalri a'r holl wagenni a cherbydau rhyfel yn ddigon i ysgwyd dy waliau di. Bydd e'n dod i mewn trwy dy giatiau yn fuddugoliaethus ar ôl i'w fyddin dorri trwy'r waliau. Bydd carnau'r ceffylau yn sathru dy strydoedd. Bydd dy bobl yn cael eu lladd gan y cleddyf, a bydd dy golofnau enwog yn cael eu bwrw i lawr. Byddan nhw'n dwyn dy gyfoeth a dy eiddo i gyd. Byddan nhw'n bwrw dy waliau i lawr ac yn dinistrio dy dai gwych. Bydd y cerrig a'r coed a'r rwbel i gyd yn cael ei daflu i'r môr. Bydda i'n rhoi taw ar dy ganeuon di, a fydd neb yn clywed sŵn dy delynau byth eto. Fydd dim ar ôl ond craig noeth. Fyddi di'n ddim byd ond lle i daenu rhwydau pysgota. Gei di byth dy adeiladu eto. Yr ARGLWYDD ydw i, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod!’ “Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud wrth Tyrus: ‘Bydd yr arfordir cyfan yn crynu pan fyddi di'n syrthio, a sŵn dy bobl wedi eu hanafu yn griddfan wedi'r lladdfa. Bydd llywodraethwyr yr arfordir i gyd yn camu i lawr o'i gorseddau. Byddan nhw'n tynnu eu clogynnau brenhinol a'u dillad hardd. Dychryn fydd yr unig wisg amdanyn nhw. Byddan nhw'n eistedd ar lawr yn crynu trwyddynt o achos beth fydd wedi digwydd i ti. Byddan nhw'n canu'r gân yma o alar ar dy ôl: O ddinas enwog ar y môr, rwyt wedi dy ddinistrio! Ti oedd yn rheoli'r tonnau, gyda dy bobl yn codi dychryn ar y ddynoliaeth gyfan. Ond bellach mae'r arfordir yn crynu ar ddydd dy gwymp. Mae'r ynysoedd i gyd mewn sioc am dy fod wedi mynd.’ “Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Bydda i'n dy wneud di yn anialwch diffaith, fel trefi sy'n adfeilion gyda neb yn byw ynddyn nhw. Bydd fel tswnami, a tithau'n cael dy foddi dan donnau gwyllt y môr. Byddi'n cael dy hun yn y Pwll — pwll marwolaeth; yn gorwedd yno gyda phobl sydd wedi marw ers talwm. Byddi'n adfeilion wedi dy gladdu yn nyfnder y ddaear. Fydd neb yn byw ynot ti, a fyddi di byth eto'n cael dy barchu ar dir y byw. Bydd dy ddiwedd yn erchyll. Fydd dim sôn amdanat ti o hynny ymlaen. Bydd pobl yn chwilio amdanat ond yn methu dod o hyd i ti.’” Dyna neges y Meistr, yr ARGLWYDD. Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi: “Ddyn, dw i eisiau i ti ganu cân i alaru ar ôl Tyrus. Dywed wrth Tyrus, sy'n eistedd wrth borthladdoedd, ac yn ganolfan fasnachol bwysig i weddill y byd: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: O Tyrus, rwyt yn brolio mai ti ydy harddwch yn ei berffeithrwydd. Gyda dy ffiniau yng nghanol y moroedd, cest dy lunio fel y llong berffaith — dy fyrddau o goed pinwydd Senir a dy fast o goed cedrwydd Libanus. Dy rwyfau o goed derw Bashan, a dy gorff yn bren cypres o dde Cyprus, wedi ei addurno ag ifori. Dy hwyl o liain main gorau'r Aifft wedi ei brodio'n batrymau, ac yn faner i bawb dy nabod. Y llen dros y dec yn borffor a phiws; defnydd o lannau Elisha. Arweinwyr Sidon ac Arfad oedd dy rwyfwyr, a dynion medrus Tyrus yn forwyr wrth yr helm. Roedd arweinwyr Gebal ar dy fwrdd yn trwsio unrhyw niwed. Roedd y llongau i gyd a'u criwiau yn galw yn dy borthladdoedd i gyfnewid nwyddau. Roedd dynion o wledydd pell — Persia, Lydia a Libia — yn filwyr yn dy fyddin. Yn hongian tarian a helmed ar dy waliau; ac yn rhoi i ti enw gwych. “‘Roedd dynion Arfad a Helech yn gwarchod dy waliau, a dynion Gammad ar y tyrau amddiffynnol. Roedden nhw'n hongian eu cewyll saethau ar dy waliau, a gwneud dy harddwch yn berffaith. “‘Roeddet ti'n masnachu gyda Tarshish bell, ac yn cyfnewid arian, haearn, tin a phlwm am dy nwyddau. Roedd Iafan, Twbal a Meshech yn cyfnewid caethweision a nwyddau pres. Beth-togarma yn cyfnewid ceffylau, meirch a mulod. Roeddet ti'n masnachu gyda phobl Rhodos, a llawer o ynysoedd eraill. Roedden nhw'n talu gydag ifori a choed eboni. Roedd Edom yn delio gyda ti am dy fod yn gwerthu cymaint o bethau gwahanol. Roedden nhw'n talu gyda meini gwerthfawr, defnydd porffor, defnydd wedi ei frodio, lliain main drud, cwrel, a rhuddem. A Jwda a gwlad Israel hefyd, yn cyfnewid gwenith o Minnith, ffigys, mêl, olew olewydd a gwm balm. Roedd Damascus yn delio gyda ti am fod gen ti gymaint o nwyddau ac am dy fod ti mor gyfoethog. Roedden nhw'n dod â gwin o Chelbon, gwlân o Sachar, a casgenni o win o Isal. Haearn bwrw, powdr casia a sbeisiau persawrus hefyd. Roedd Dedan yn cynnig eu carthenni cyfrwy. Arabia a shîcs Cedar yn gwerthu ŵyn, hyrddod a geifr. Masnachwyr Sheba a Raama yn cynnig eu perlysiau gorau, meini gwerthfawr o bob math ac aur. Roedd Haran, Canne ac Eden, a masnachwyr Sheba, Ashŵr a Cilmad yn gwsmeriaid i ti hefyd, yn cynnig dillad costus, defnydd porffor, brodwaith a charpedi amryliw wedi eu clymu a'u plethu'n dynn. Roedd llongau masnach mawr yn cludo dy nwyddau ar draws y moroedd. Roeddet fel llong wedi ei llwytho'n llawn, yng nghanol y moroedd. Ond aeth dy rwyfwyr â ti i ganol storm ar y môr mawr! Daeth gwynt y dwyrain i dy ddryllio yng nghanol y moroedd. “‘Mae diwrnod dy ddryllio'n dod, a byddi'n suddo yng nghanol y môr, gyda dy gyfoeth i gyd, dy nwyddau, dy fasnach, dy forwyr, dy rwyfwyr, dy grefftwyr, dy fasnachwyr a dy filwyr — pawb sydd ar dy fwrdd. Bydd y morwyr yn gweiddi nes i gefn gwlad grynu. Bydd rhwyfwyr a morwyr yn gadael eu llongau i sefyll ar dir sych. Byddan nhw'n galaru'n uchel ac yn crïo'n chwerw; byddan nhw'n taflu pridd ar eu pennau ac yn rholio mewn lludw. Byddan nhw'n siafio eu pennau ac yn gwisgo sachliain. Byddan nhw'n wylo'n chwerw wrth alaru ar dy ôl. Yn nadu canu cân o alar ar dy ôl: “Pwy oedd fel Tyrus, fel tŵr yng nghanol y môr?” Roedd dy nwyddau'n cael eu dadlwytho o'r moroedd, i gwrdd ag angen pobloedd. Roedd dy gyfoeth mawr a dy nwyddau yn cyfoethogi brenhinoedd i ben draw'r byd! Ond bellach rwyt yn llong wedi ei dryllio yn gorwedd ar waelod y môr. Mae dy nwyddau a'r criw i gyd wedi suddo a boddi gyda ti. Mae pobl yr arfordir i gyd wedi dychryn yn lân; brenhinoedd yn crynu mewn braw, a'r poen i'w weld ar eu hwynebau. Mae masnachwyr y gwledydd yn chwibanu mewn rhyfeddod arnat. Roedd dy ddiwedd yn erchyll a fydd dim sôn eto amdanat.’” Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi: “Dywed wrth dywysog Tyrus, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Ti mor falch! Ti'n meddwl dy fod ti'n dduw, ac yn eistedd ar orsedd y duwiau yng nghanol y moroedd! Duw wir! Dim ond dyn meidrol wyt ti, er dy fod yn honni pethau mor fawr. Ti'n meddwl dy fod ti'n fwy doeth na Daniel! Does dim byd sy'n ddirgelwch i ti! Ti wedi defnyddio dy graffter a dy glyfrwch i gael mwy o gyfoeth. Ti wedi casglu aur ac arian i dy goffrau. Ti wedi defnyddio dy graffter masnachol i gael mwy o gyfoeth, ond mae dy gyfoeth wedi chwyddo dy ben. Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Am dy fod yn meddwl dy fod ti'n dduw dw i'n mynd i ddod â byddin o wlad estron yn dy erbyn di — y wlad fwya creulon sydd. Byddan nhw'n tynnu eu cleddyfau ac yn taro dy glyfrwch rhyfeddol a difetha dy ysblander. Byddi'n cael dy anfon i lawr i Bwll distryw ac yn marw'n greulon yng nghanol y môr. Wyt ti'n mynd i ddal ati i honni dy fod yn dduw pan fyddi wyneb yn wyneb â'r rhai fydd yn dy ladd? Dyn meidrol fyddi di yn eu golwg nhw, nid duw! Byddi'n cael dy ladd yn y ffordd fwya creulon gan fyddin o wlad estron. Fi ydy'r ARGLWYDD, y Meistr, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod.’” Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi: “Ddyn, dw i eisiau i ti ganu cân i alaru ar ôl brenin Tyrus. Dywed wrtho, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Roeddet ti'n batrwm o berffeithrwydd! Mor ddoeth, ac yn rhyfeddol o hardd! Roeddet ti'n byw yn Eden, gardd Duw. Roeddet wedi dy addurno gyda gemau gwerthfawr — rhuddem, topas, emrallt, saffir melyn, onics, iasbis, saffir, glasfaen, a beryl. Roedd y cwbl wedi eu gosod yn gywrain mewn aur pur, ac wedi eu cyflwyno i ti ar y diwrnod cest ti dy greu. Roeddwn wedi dy osod yno gydag angel gwarcheidiol â'i adenydd ar led, ar y mynydd wnaeth Duw ei gysegru. Roeddet yn cerdded yng nghanol y gemau o dân. O'r diwrnod y cest dy greu roeddet ti'n ymddwyn yn berffaith … ond yna cest dy ddal yn pechu. Roedd yr holl fasnachu wedi dy droi yn dreisiol. Dyma ti'n pechu. Dyma fi'n dy yrru i ffwrdd o fynydd Duw. Roedd yr angel gwarcheidiol yn dy gadw draw o'r gemau o dân. Roeddet wedi troi'n falch am dy fod mor hardd. Camddefnyddio dy ddoethineb am dy fod mor llawn ohonot dy hun. A dyna pam wnes i dy fwrw i lawr, a gwneud sioe ohonot ti o flaen brenhinoedd eraill. Roeddet wedi dinistrio dy leoedd cysegredig o achos dy holl ddrygioni a'r twyllo wrth fasnachu. Felly dyma fi'n gwneud i dân gynnau y tu mewn i ti; a dy ddifa di. Llosgaist yn dwr o ludw o flaen pawb. Roedd pawb oedd yn dy nabod mewn sioc, am fod dy ddiwedd wedi bod mor erchyll.’” Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi: “Ddyn, dw i eisiau i ti droi i wynebu Sidon, a proffwydo yn ei herbyn hi. Dywed fel yma, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Gwylia dy hun! Dw i'n mynd i ddelio gyda ti, Sidon. Dw i'n mynd i ddangos fy ysblander yn dy ganol di. Bydd pobl yn gweld mai fi ydy'r ARGLWYDD pan fydda i'n ei barnu hi, ac yn dangos y gallu sydd gen i a neb arall. Bydda i'n anfon afiechydon ofnadwy a thrais ar ei strydoedd. Bydd ei phobl yn cael eu lladd wrth i fyddin ymosod arni o bob cyfeiriad. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD. “‘Fydd pobl Israel ddim yn gorfod diodde eu cymdogion maleisus yn pigo ac yn rhwygo fel drain a mieri. A byddan nhw hefyd yn deall mai fi ydy'r ARGLWYDD, y Meistr. “‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Bydda i'n casglu pobl Israel at ei gilydd o'r holl wledydd lle maen nhw ar chwâl. Bydda i'n dangos y gallu sydd gen i a neb arall i'r gwledydd i gyd. Bydd pobl Israel yn byw unwaith eto yn y tir rois i i'm gwas Jacob. Byddan nhw'n cael byw yno'n saff, adeiladu tai a plannu gwinllannoedd. Byddan nhw'n cael byw yn saff ar ôl i mi farnu'r cymdogion maleisus sydd o'u cwmpas nhw. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD, eu Duw nhw.’” Roedd hi ddeg mlynedd ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar y deuddegfed diwrnod o'r degfed mis. Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi: “Ddyn, dw i eisiau i ti droi i wynebu'r Pharo, brenin yr Aifft, a proffwydo yn ei erbyn e a holl wlad yr Aifft. Dyma rwyt ti i'w ddweud, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i ddelio gyda ti! y Pharo, brenin yr Aifft; y ddraig fawr sy'n gorwedd yng nghanol ei ffosydd. “Fi piau'r Afon Nil,” meddet ti, “a fi sydd wedi ei chreu hi.” Bydda i'n rhoi bachyn yn dy ên ac yn dy lusgo allan o'r dŵr gyda pysgod o'r ffosydd yn glynu wrth dy groen. Bydda i'n dy daflu i'r anialwch, ti a physgod y ffosydd. Byddi'n gorwedd, heb dy gladdu, i farw ar dir agored — yn fwyd i'r anifeiliaid ac i'r adar. Yna bydd pawb sy'n byw yn yr Aifft yn gweld mai fi ydy'r ARGLWYDD. Ti wedi bod yn ffon fagl wan fel brwynen i bobl Israel bwyso arni. Dyma nhw'n gafael ynot ti, ond dyma ti'n torri ac yn bwrw eu hysgwydd o'i lle. Wrth iddyn nhw bwyso arnat ti dyma ti'n hollti a gadael eu cluniau'n sigledig. “‘Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n anfon byddin i ymosod arnat ti, a bydd yr holl bobl a'r anifeiliaid yn cael eu lladd. Bydd yr Aifft yn dir diffaith gwag. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD. “‘Am dy fod wedi dweud “Fi piau'r Afon Nil, a fi sydd wedi ei chreu hi,” dw i'n mynd i ddelio gyda ti a dy ffosydd. Dw i'n mynd i droi gwlad yr Aifft yn anialwch diffaith yr holl ffordd o Migdol yn y gogledd i Aswan yn y de, sydd ar y ffin gydag Ethiopia. Fydd neb yn gallu byw yno am bedwar deg o flynyddoedd — fydd dim pobl nag anifeiliaid yn crwydro yno. Bydda i'n gwneud gwlad yr Aifft yn anialwch gwaeth nag unrhyw wlad. Bydd ei threfi a'i dinasoedd yn adfeilion. Bydd pobl yr Aifft yn cael eu gyrru ar chwâl drwy'r gwledydd i gyd. “‘Ond yna, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Ar ddiwedd y pedwar deg mlynedd bydda i'n casglu pobl yr Aifft o'r gwledydd lle roedden nhw ar chwâl. Bydda i'n adfer sefyllfa pobl yr Aifft a dod â nhw yn ôl i ardal Pathros, i wlad eu mebyd. Ond gwlad ddi-nod fydd yr Aifft. Bydd hi'n un o'r gwledydd lleia dylanwadol, a fydd hi byth yn rheoli gwledydd eraill eto. A fydd Israel ddim yn pwyso arni byth eto. Bydd hi'n atgoffa Israel o'i phechod yn troi at yr Aifft am help. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.’” Roedd hi ddau ddeg saith mlynedd ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar ddiwrnod cynta'r flwyddyn. A dyma fi'n cael neges gan yr ARGLWYDD: “Ddyn, mae byddin Nebwchadnesar brenin Babilon wedi brwydro'n galed yn erbyn Tyrus. Maen nhw wedi gweithio'u bysedd at yr asgwrn, ond dydy'r milwyr wedi ennill dim ar ôl yr holl ymdrech! Felly dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i roi gwlad yr Aifft yn nwylo Nebwchadnesar, brenin Babilon. Bydd e'n cymryd holl gyfoeth y wlad ac yn ysbeilio ei thrysorau i dalu cyflog i'w filwyr. Dw i'n mynd i roi gwlad yr Aifft iddo i'w ddigolledu am yr holl ymdrech yn ymosod ar Tyrus. Mae e wedi bod yn gwneud hyn i mi.” Dyna neges y Meistr, yr ARGLWYDD. “Bryd hynny bydda i'n gwneud Israel yn wlad gref unwaith eto, a bydd pobl yn gwrando ar beth rwyt ti'n ddweud. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.” A dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi: “Ddyn, proffwyda a dywed: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Uda, “O na! Mae'r diwrnod wedi dod!” Ydy, mae'r diwrnod mawr yn agos; dydd barn yr ARGLWYDD! Diwrnod o gymylau duon bygythiol; amser anodd i'r gwledydd i gyd. Mae byddin yn dod i ymosod ar yr Aifft a bydd teyrnas Cwsh mewn panig wrth weld pobl yr Aifft yn syrthio'n farw, cyfoeth y wlad yn cael ei gario i ffwrdd a'i sylfeini'n cael eu dinistrio. “‘Bydd pobl o ddwyrain Affrica, Pwt, Lydia a Libia sy'n byw yn yr Aifft, a hyd yn oed pobl Israel sy'n byw yno yn cael eu lladd yn y rhyfel.’ Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Bydd y rhai sy'n cefnogi'r Aifft yn syrthio. Bydd ei balchder yn ei grym yn chwilfriw! Bydd pawb yn cael eu lladd yn y brwydro yr holl ffordd o Migdol i Aswan.’” —y Meistr, yr ARGLWYDD, sy'n dweud hyn. “‘Bydd yr Aifft yn anialwch gwaeth nag unrhyw wlad. Bydd ei threfi a'i dinasoedd yn adfeilion. Byddan nhw'n sylweddoli mai fi ydy'r ARGLWYDD pan fydda i'n cynnau tân yn yr Aifft ac yn sathru pawb sy'n ei chefnogi. Pan fydd hynny'n digwydd bydda i'n anfon negeswyr mewn llongau i ddychryn pobl ddibryder teyrnas Cwsh. Pan glywan nhw beth sy'n digwydd i'r Aifft bydd panig yn dod drostyn nhw! Gwyliwch! Mae'n dod!’” “‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i ddefnyddio Nebwchadnesar, brenin Babilon, i roi diwedd ar fyddin enfawr yr Aifft. Bydd e a'i fyddin, byddin y wlad fwya creulon yn y byd, yn dod i lawr i ddinistrio'r Aifft. Byddan nhw'n tynnu eu cleddyfau i ymosod, ac yn llenwi'r wlad gyda chyrff marw. Bydda i'n sychu ei ffosydd, ac yn rhoi'r wlad yn nwylo dynion drwg. Bydda i'n defnyddio byddin estron i ddinistrio'r wlad a phopeth ynddi. Yr ARGLWYDD ydw i, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod! “‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i ddinistrio dy eilunod, a chael gwared â duwiau diwerth Memffis. Fydd neb ar ôl i arwain gwlad yr Aifft. Bydd dychryn drwy'r wlad i gyd. Bydda i'n dinistrio Pathros, yn cynnau tân yn Soan ac yn cosbi Thebes. Bydda i'n tywallt fy llid ar gaer Pelwsiwm ac yn lladd holl filwyr Thebes. Ydw dw i'n mynd i gynnau tân yn yr Aifft. Bydd Pelwsiwm yn gwingo mewn poen, Thebes yn cael ei thorri i lawr a Memffis yn dioddef trais diddiwedd. Bydd milwyr ifanc Heliopolis a Bwbastis yn cael eu lladd, a'r bobl i gyd yn cael eu cymryd i ffwrdd yn gaethion. Bydd hi'n ddiwrnod tywyll ar Tachpanches pan fydda i'n dod â grym gwleidyddol yr Aifft i ben. Bydd ei balchder yn ei grym wedi darfod. Bydd cwmwl yn ei gorchuddio, a bydd ei merched yn cael eu cymryd i ffwrdd yn gaethion. Dw i'n mynd i farnu'r Aifft. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.’” Roedd hi un deg un mlynedd ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar y seithfed diwrnod o'r mis cyntaf, a dyma fi'n cael neges gan yr ARGLWYDD: “Ddyn, dw i wedi torri braich y Pharo, brenin yr Aifft. Dydy'r fraich ddim wedi cael ei rhwymo i roi cyfle iddi wella, ac felly fydd hi byth yn ddigon cryf i drin cleddyf eto. Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Gwyliwch chi! Dw i'n mynd i ddelio gyda'r Pharo, brenin yr Aifft. Dw i'n mynd i dorri ei freichiau — y fraich gref, a'r un sydd eisoes wedi torri — a bydd ei gleddyf yn syrthio ar lawr. Bydd pobl yr Aifft yn cael eu gyrru ar chwâl drwy'r gwledydd i gyd. Ond bydda i'n cryfhau breichiau brenin Babilon, ac yn rhoi fy nghleddyf i yn ei law. Bydda i'n torri breichiau'r Pharo, a bydd e'n griddfan mewn poen, fel dyn wedi ei anafu ac sydd ar fin marw. Bydda i'n cryfhau breichiau brenin Babilon, ond bydd breichiau'r Pharo yn llipa. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD, ac mai fi sydd wedi rhoi'r cleddyf yn llaw brenin Babilon iddo ymosod ar wlad yr Aifft. Bydd pobl yr Aifft yn cael eu gyrru ar chwâl drwy'r gwledydd i gyd. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD!” Roedd hi un deg un mlynedd ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar ddiwrnod cynta'r trydydd mis. A dyma fi'n cael y neges yma gan yr ARGLWYDD: “Ddyn, dywed wrth y Pharo, brenin yr Aifft, a'i bobl i gyd: ‘Oes rhywbeth sy'n cymharu â dy fawredd di? Roedd Asyria fel coeden gedrwydd yn Libanus, a'i changhennau hardd fel cysgod y goedwig. Roedd yn aruthrol dal, a'i brigau uchaf yn y cymylau. Y dŵr oedd yn gwneud iddi dyfu, a'r ffynhonnau dwfn yn ei gwneud yn dal. Roedd nentydd yn llifo o'i chwmpas; a sianeli dŵr yn dyfrio'r coed i gyd. Ond roedd y goeden hon yn dalach na'r coed o'i chwmpas i gyd. Canghennau mawr a brigau hirion, a'i gwreiddiau'n lledu at y dŵr. Roedd yr adar i gyd yn nythu yn ei brigau, a'r anifeiliaid gwyllt yn geni rhai bach dan ei changhennau. Roedd y gwledydd mawr i gyd yn byw dan ei chysgod. Roedd yn rhyfeddol o hardd, gyda changhennau hirion; a'i gwreiddiau'n ymestyn yn ddwfn at ddigonedd o ddŵr. Doedd coed cedrwydd eraill gardd Duw ddim yn cystadlu â hi. Doedd canghennau'r coed pinwydd ddim byd tebyg; a'r coed planwydd yn ddim o'u cymharu â hi. Doedd dim un o goed gardd Duw mor hardd â hon! Fi wnaeth hi'n hardd gyda'i holl ganghennau. Roedd coed Eden i gyd, coed gardd Duw, yn genfigennus ohoni. “‘Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Am ei bod hi mor falch ohoni ei hun, mor aruthrol dal gyda'i brigau uchaf yn y cymylau, rhois hi yn nwylo arweinydd y cenhedloedd, i'w chosbi am ei drygioni. Dw i wedi ei thaflu hi i ffwrdd. Mae byddin estron y wlad fwya creulon wedi ei thorri i lawr a'i gadael i orwedd ar y mynyddoedd. Mae ei changhennau'n gorwedd ar chwâl yn y dyffrynnoedd a'r ceunentydd. Mae pawb oedd yn cysgodi oddi tani wedi ffoi pan gafodd ei thaflu i ffwrdd. Mae'r adar i gyd yn clwydo ar ei boncyff marw, a'r anifeiliaid gwyllt yn cerdded dros ei changhennau. “‘Digwyddodd hyn i stopio i unrhyw goeden arall dyfu mor dal nes bod ei brigau uchaf yn y cymylau. Byddan nhw i gyd, fel pobl feidrol, yn marw yn nyfnder y ddaear. Byddan nhw'n ymuno gyda phawb arall sydd yn y Pwll. “‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Pan aeth Asyria i lawr i'r bedd, roedd y dyfnder yn galaru amdani. Dyma fi'n dal yr afonydd yn ôl oddi wrthi. Gwisgais Libanus mewn du, a gwneud i'r coed eraill i gyd wywo. Roedd y gwledydd i gyd yn crynu pan glywon nhw amdani'n syrthio, pan wnes i ei thaflu i lawr i fyd y meirw gyda pawb arall sydd yn y Pwll. Yn y byd tanddaearol cafodd coed Eden i gyd a'r gorau o goed Libanus, pob un oedd wedi cael digon o ddŵr, eu bodloni. Roedd ei chefnogwyr i gyd (y gwledydd oedd wedi byw dan ei chysgod) wedi mynd i lawr i fyd y meirw gyda hi, i ymuno gyda pawb arall oedd wedi eu lladd gan y cleddyf. “‘Pa un o goed Eden sydd unrhyw beth tebyg i ti? Ond byddi dithau'n cael dy fwrw i lawr i ddyfnder y ddaear gyda choed Eden. Byddi'n byw gyda'r paganiaid eraill gafodd eu lladd gan y cleddyf!’ Dyna fydd yn digwydd i'r Pharo a'i fyddin enfawr,” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD. Roedd hi ddeuddeg mlynedd ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar ddiwrnod cynta'r deuddegfed mis, a dyma fi'n cael neges gan yr ARGLWYDD: “Ddyn, dw i eisiau i ti ganu cân i alaru ar ôl y Pharo, brenin yr Aifft, a dweud wrtho: ‘Roeddet ti'n gweld dy hun fel llew yng nghanol y gwledydd, ond ti fwy fel draig yn y môr. Ti'n sblasio yn y ffosydd, ac yn corddi'r dŵr gyda dy draed a baeddu'r ffosydd.’ Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Bydda i'n taflu fy rhwyd drosot ti (bydd tyrfa enfawr o bobl yno), ac yn dy lusgo allan o'r dŵr gyda'm llusgrwyd. Wedyn bydda i'n dy daflu di ar dir sych, a bydd yr adar yn dod ac yn byw arnat ti, a'r anifeiliaid gwylltion yn llenwi eu hunain arnat. Bydd dy gig ar y mynyddoedd a'r gweddillion yn y dyffrynnoedd. Bydda i'n socian y tir gyda dy waed di, yr holl ffordd i ben y mynyddoedd, a bydd dy waed yn llenwi'r ceunentydd i gyd. Pan fydda i'n dy ddiffodd bydda i'n rhoi gorchudd ar yr awyr, ac yn diffodd y sêr i gyd. Bydd cwmwl yn cuddio'r haul, ac yn rhwystro'r lleuad rhag llewyrchu. Bydd pob golau yn yr awyr yn diffodd, a bydd tywyllwch drwy'r wlad i gyd,” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD. “Bydd pobloedd lawer wedi cynhyrfu pan fydd y cenhedloedd yn clywed am dy ddinistr. Hyd yn oed gwledydd dwyt ti erioed wedi clywed amdanyn nhw. Bydd pobl mewn sioc o glywed beth fydd wedi digwydd i ti. Bydd brenhinoedd wedi dychryn am eu bywydau pan fydda i'n chwifio fy nghleddyf o'u blaenau nhw. Ar y diwrnod y byddi di'n syrthio byddan nhw'n crynu trwyddynt yn ofni am eu bywydau eu hunain.” Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Bydd cleddyf brenin Babilon yn ymosod arnat ti. Bydda i'n gwneud i gleddyfau milwyr cryfion ladd dy fyddin enfawr di — nhw ydy'r milwyr mwyaf creulon sydd. Byddan nhw'n torri balchder yr Aifft, a bydd ei byddin enfawr yn cael ei dinistrio. Bydd yr anifeiliaid sy'n pori ar lan y dŵr yn cael eu lladd i gyd. Fydd y dŵr ddim yn cael ei faeddu eto gan draed dynol na charnau anifeiliaid. Bydd y dŵr drwy'r Aifft yn glir, a'r afonydd yn llifo'n llyfn fel olew. “Dyna neges y Meistr, yr ARGLWYDD. Pan fydda i'n troi gwlad yr Aifft yn anialwch ac yn dinistrio popeth sydd ynddi; Pan fydda i'n lladd pawb sy'n byw yno, byddan nhw'n sylweddoli mai fi ydy'r ARGLWYDD. “Dyma'r gân angladdol fyddan nhw'n ei chanu. Bydd merched y gwledydd i gyd yn ei chanu ac yn galaru am yr Aifft a'i byddin enfawr.” Dyna neges y Meistr, yr ARGLWYDD. Ddeuddeg mlynedd ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar y pymthegfed diwrnod o'r un mis, dyma fi'n cael neges gan yr ARGLWYDD. “Ddyn, uda dros fyddin yr Aifft. ‘I lawr â hi! I lawr â hi at drefi a dinasoedd y gwledydd pwerus eraill sydd yn nyfnder y ddaear. I lawr â hi gyda phawb sy'n mynd i'r Pwll!’ Wyt ti'n harddach na'r gwledydd eraill? Na! Dos i lawr i orwedd gyda'r gwledydd paganaidd. Byddi'n gorwedd gyda phawb arall sydd wedi eu lladd mewn rhyfel! Mae'r cleddyf yn barod i'w taro nhw; bydd yr Aifft a'i byddin yn cael eu llusgo i ffwrdd. Bydd arweinwyr grymus y gwledydd yn gwawdio'r Aifft a'i chefnogwyr: ‘Dyma nhw wedi cyrraedd, i orwedd gyda'r paganiaid eraill sydd wedi eu lladd gan y cleddyf.’ “Mae brenin Asyria yna, a beddau ei fyddin enfawr ym mhobman. Pob un wedi ei ladd gan y cleddyf. Mae eu beddau yn gorchuddio llethrau dyfnaf y Pwll, ac mae ei chefnogwyr o'i chwmpas. Ie, dyma nhw, y rhai oedd yn codi dychryn ar bawb drwy'r byd! “Mae Elam yna, a beddau ei byddin enfawr hithau ym mhobman. Pob un wedi ei ladd gan y cleddyf. Hwythau'n baganiaid wedi mynd i lawr i ddyfnder y ddaear, ond ar un adeg yn codi dychryn ar bawb drwy'r byd. Bellach maen nhw'n gorwedd mewn cywilydd gyda phawb arall sy'n disgyn i'r Pwll! Mae hithau'n gorffwys gyda'r meirw, a beddau ei byddin enfawr ym mhobman. Paganiaid wedi eu lladd gan y cleddyf am eu bod wedi codi dychryn ar bawb drwy'r byd. Bellach maen nhw'n gorwedd mewn cywilydd gyda phawb arall sy'n disgyn i'r Pwll! “Mae Meshech a Twbal yna, a beddau eu byddinoedd hwythau ym mhobman. Paganiaid wedi eu lladd gan y cleddyf am eu bod wedi codi dychryn ar bawb drwy'r byd. Dŷn nhw ddim gydag arwyr dewr y gorffennol, wedi eu claddu'n anrhydeddus gyda'i harfau — gyda'r cleddyf wedi ei osod dan y pen a'r darian yn gorwedd ar yr esgyrn. Roedden nhw hefyd yn codi dychryn ar bawb drwy'r byd. A byddi dithau, y Pharo, yn gorwedd wedi dy dorri gyda'r paganiaid eraill gafodd eu lladd gan y cleddyf! “Mae Edom yna, gyda'i brenhinoedd a'i phenaethiaid i gyd. Er eu bod mor gryf ar un adeg, maen nhw'n gorwedd gyda'r rhai sydd wedi eu lladd gan y cleddyf. Maen nhw'n gorwedd gyda'r paganiaid eraill sydd wedi mynd i lawr i'r Pwll. “Mae arweinwyr gwledydd y gogledd yno i gyd, a'r Sidoniaid. Y rhai oedd yn codi dychryn bellach yn gorwedd mewn cywilydd gyda'r meirw — gyda'r paganiaid eraill gafodd eu lladd gan y cleddyf. Maen nhw'n gorwedd mewn cywilydd gyda phawb arall sy'n disgyn i'r Pwll. “Bydd y Pharo yn eu gweld, ac yn cael ei gysuro mai nid ei fyddin enfawr e oedd yr unig un i gael ei lladd gan y cleddyf,” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD. “Er fy mod wedi eu defnyddio nhw i godi dychryn ar bawb drwy'r byd, bydd y Pharo a'i fyddin yn gorwedd gyda'r paganiaid eraill gafodd eu lladd gan y cleddyf.” Dyna neges y Meistr, yr ARGLWYDD. [1] A dyma fi'n cael neges arall gan yr ARGLWYDD: “Ddyn, dywed hyn wrth dy bobl, ‘Pan dw i'n gadael i fyddin ymosod ar wlad, mae pobl y wlad honno'n dewis un o'i plith i fod yn wyliwr. Mae'n gweld byddin y gelyn yn dod ac yn chwythu'r corn hwrdd i rybuddio'r bobl. Os ydy pobl yn clywed y corn hwrdd ond yn cymryd dim sylw, nhw fydd ar fai pan gân nhw eu lladd. Roedden nhw wedi clywed y corn hwrdd, ond ei anwybyddu. Arnyn nhw mae'r bai. Petaen nhw wedi gwrando bydden nhw'n dal yn fyw. Ond beth petai'r gwyliwr heb ganu'r corn hwrdd i rybuddio'r bobl pan welodd y fyddin yn dod? Mae rhywun yn cael ei ladd. Mae'r person hwnnw'n marw am ei fod e'i hun wedi pechu, ond bydda i'n dal y gwyliwr yn gyfrifol am achosi iddo gael ei ladd. “Ddyn, ti dw i wedi ei benodi yn wyliwr i warchod pobl Israel. Rhaid i ti eu rhybuddio nhw pan fydda i'n rhoi neges i ti. Pan dw i'n dweud wrth rywun drwg, ‘Rwyt ti'n siŵr o farw,’ a tithau ddim yn ei rybuddio fod rhaid iddo newid ei ffyrdd, bydd e'n marw am ei fod wedi pechu a bydda i yn dy ddal di'n gyfrifol ei fod wedi marw. Ond os byddi di wedi ei rybuddio i newid ei ffyrdd, ac yntau wedi gwrthod gwneud hynny, bydd e'n marw am ei fod wedi pechu ond byddi di wedi achub dy hun. “Ddyn, dyma rwyt ti i'w ddweud wrth bobl Israel: ‘Dych chi wedi bod yn dweud, “Mae hyn i gyd yn digwydd am ein bod ni wedi gwrthryfela ac wedi pechu. Mae wedi darfod arnon ni. Pa obaith sydd?”’ Wel, dywed wrthyn nhw, ‘Mor sicr â'r ffaith mai fi ydy'r Duw byw, dydy gweld pobl ddrwg yn marw yn rhoi dim pleser i mi. Byddai'n well gen i iddyn nhw newid eu ffyrdd a chael byw. Dewch bobl Israel, trowch gefn ar eich drygioni. Pam ddylech chi farw?’ “Ddyn, dywed wrth dy bobl, ‘Fydd daioni y bobl sy'n gwneud beth sy'n iawn ddim yn eu hachub nhw pan fyddan nhw'n gwrthryfela. A fydd drygioni pobl ddrwg ddim yn eu condemnio nhw os gwnân nhw newid eu ffyrdd a stopio gwneud drwg. Fydd yr holl bethau da mae rhywun wedi ei gwneud ddim yn ei achub os ydy e'n dewis pechu wedyn.’ Os dw i'n dweud wrth rywun sy'n gwneud beth sy'n iawn ei fod yn cael byw ac mae e'n dewis pechu wedyn, bydd yr holl bethau da wnaeth e yn cael eu hanghofio. Bydd e'n marw am ei fod wedi pechu. Ond os ydw i'n dweud wrth rywun drwg, ‘Rwyt ti'n siŵr o farw,’ a hwnnw wedyn yn troi cefn ar ei bechod a gwneud beth sy'n iawn ac yn dda (Os bydd e'n talu'n ôl beth gafodd ei roi iddo'n ernes, yn rhoi beth mae wedi ei ddwyn yn ôl, yn cadw'r deddfau sy'n rhoi bywyd ac yn peidio pechu) bydd e'n cael byw. Fydd e ddim yn marw. Bydd y pechodau wnaeth e yn cael eu hanghofio. Mae e'n gwneud beth sy'n iawn ac yn dda, a bydd e'n cael byw.” “Ond mae dy bobl yn dweud, ‘Dydy beth mae'r Meistr yn ei wneud ddim yn iawn!’ Y gwir ydy mai'r ffordd maen nhw'n ymddwyn sydd ddim yn iawn! Pan mae pobl sy'n gwneud beth sy'n iawn yn newid eu ffyrdd ac yn dewis gwneud drwg, byddan nhw'n marw. Ond os ydy pobl ddrwg yn troi cefn ar eu pechod ac yn gwneud beth sy'n iawn ac yn dda, byddan nhw'n cael byw. Ac eto, dych chi bobl Israel yn dweud, ‘Dydy beth mae'r Meistr yn ei wneud ddim yn iawn!’ Felly, bobl Israel, bydda i'n barnu pob un ohonoch chi ar sail beth dych chi wedi ei wneud.” Ddeuddeg mlynedd ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar y pumed diwrnod o'r degfed mis, dyma ffoadur oedd wedi llwyddo i ddianc o Jerwsalem yn dod ata i a dweud, “Mae'r ddinas wedi syrthio!” Roedd yr ARGLWYDD wedi fy nghyffwrdd i y noson cynt, ac erbyn i'r ffoadur gyrraedd y bore wedyn roeddwn i'n gallu siarad eto. Oeddwn, roeddwn i'n gallu siarad; doeddwn i ddim yn fud. Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi: “Ddyn, mae'r rhai sy'n byw yng nghanol adfeilion Israel yn siarad fel yma: ‘Un dyn oedd Abraham, ac eto llwyddodd i feddiannu'r wlad i gyd! Mae yna lot fawr ohonon ni. Mae'r wlad yma'n siŵr o gael ei rhoi i ni!’ Felly, dywed wrthyn nhw, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dych chi'n bwyta cig sydd â'r gwaed yn dal ynddo, yn addoli eilun-dduwiau ac yn lladd pobl ddiniwed. Ydych chi wir yn meddwl y bydd y wlad yn cael ei rhoi i chi? Dych chi'n dibynnu ar eich arfau, yn gwneud pethau ffiaidd, ac yn cysgu gyda gwraig rhywun arall. Fydd y wlad yn cael ei rhoi i chi?’ “Dywed hyn wrthyn nhw, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Mor sicr â'r ffaith mai fi ydy'r Duw byw, bydd y rhai sy'n byw yng nghanol yr adfeilion yn cael eu lladd gan y cleddyf, a phawb ar y tir agored yn fwyd i anifeiliaid gwylltion, a bydd y rhai sy'n cuddio mewn cuddfannau saff ac ogofâu yn cael eu taro'n farw gan heintiau. Bydda i'n troi'r wlad yn anialwch diffaith. Bydd ei balchder yn ei grym yn dod i ben. Bydd mynyddoedd Israel mor anial, fydd neb yn cerdded drostyn nhw.’ Byddan nhw'n sylweddoli mai fi ydy'r ARGLWYDD pan fydda i'n troi'r wlad yn anialwch diffaith o achos yr holl bethau ffiaidd maen nhw wedi eu gwneud. “Ddyn, mae dy bobl yn siarad amdanat ti o gwmpas y ddinas ac ar y stepen drws, ac yn dweud wrth ei gilydd, ‘Dewch i wrando ar y neges gan yr ARGLWYDD.’ Mae tyrfa ohonyn nhw'n dod ac yn eistedd o dy flaen di. Maen nhw'n gwrando ond dŷn nhw ddim yn gweithredu. Dŷn nhw ddim yn gwneud beth dw i'n ddweud. Maen nhw'n gofyn am fwy ond gwneud arian ac elwa ar draul pobl eraill ydy eu hobsesiwn nhw. Adloniant ydy'r cwbl iddyn nhw. Ti fel canwr yn canu caneuon serch. Mae gen ti lais hyfryd ac rwyt ti'n offerynnwr medrus. Maen nhw'n gwrando ond dŷn nhw ddim yn gweithredu. Pan fydd y cwbl yn dod yn wir — ac mae'n mynd i ddigwydd — byddan nhw'n gwybod fod proffwyd wedi bod gyda nhw.” Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi: “Ddyn, proffwyda yn erbyn bugeiliaid Israel (sef yr arweinwyr). Dywed wrthyn nhw, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Gwae chi, fugeiliaid Israel, sy'n gofalu am neb ond chi'ch hunain! Oni ddylai bugeiliaid ofalu am y praidd? Dych chi'n yfed eu llaeth nhw, yn gwisgo eu gwlân ac yn lladd yr ŵyn gorau i'w rhostio, ond dych chi ddim yn gofalu am y praidd! Dych chi ddim wedi helpu'r rhai gwan, gwella y rhai sy'n sâl na rhwymo briwiau y rhai sydd wedi eu hanafu. Dych chi ddim wedi edrych am y rhai sydd wedi crwydro a mynd ar goll. Na, yn lle hynny, dych chi wedi eu rheoli nhw a'u bygwth fel meistri creulon. Bellach maen nhw ar chwâl am fod dim bugail wedi gofalu amdanyn nhw. Maen nhw'n cael eu llarpio gan anifeiliaid gwylltion. Mae fy nefaid wedi crwydro dros y mynyddoedd a'r bryniau uchel i gyd. Maen nhw ar wasgar drwy'r byd i gyd, a does neb yn edrych a chwilio amdanyn nhw. “‘Felly, chi fugeiliaid, dyma neges yr ARGLWYDD i chi: Mor sicr â'r ffaith mai fi ydy'r Duw byw, meddai'r ARGLWYDD, y Meistr, mae fy nefaid yn cael eu llarpio gan anifeiliaid gwylltion am fod dim bugail wedi gofalu amdanyn nhw. Mae'r bugeiliaid wedi gofalu amdanyn nhw eu hunain yn lle mynd i edrych am y defaid. Felly, chi fugeiliaid, dyma neges yr ARGLWYDD i chi: Mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn dweud, “Dw i yn erbyn y bugeiliaid! Dw i'n ei dal nhw'n gyfrifol, a fyddan nhw ddim yn cael gofalu am y praidd o hyn ymlaen. Na, fydd dim mwy o ofalu am neb ond nhw eu hunain! Gân nhw ddim bwyta'r defaid eto; bydda i'n achub y defaid o'i gafael nhw.” “‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i fy hun am fynd allan i chwilio am fy nefaid. A dw i'n mynd i ddod o hyd iddyn nhw. Fel mae bugail yn chwilio am ei braidd pan maen nhw wedi mynd ar chwâl, bydda i'n dod o hyd i'm praidd i. Bydda i'n eu hachub nhw o ble bynnag aethon nhw ar y diwrnod tywyll, stormus hwnnw. Dw i'n mynd i ddod â nhw adre o'r gwledydd eraill; dod â nhw yn ôl i'w tir eu hunain. Dw i'n mynd i adael iddyn nhw bori ar fryniau a dyffrynnoedd Israel, ble bynnag mae porfa iddyn nhw. Ydw, dw i'n mynd i roi porfa iddyn nhw ar ben bryniau Israel. Byddan nhw'n gorwedd mewn porfa hyfryd ac yn bwydo ar laswellt cyfoethog bryniau Israel. Dw i fy hun yn mynd i ofalu amdanyn nhw, a rhoi lle iddyn nhw orwedd i lawr, meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD. Dw i'n mynd i chwilio am y rhai sydd ar goll, a dod â'r rhai sydd wedi crwydro yn ôl adre. Dw i'n mynd i rwymo briwiau y rhai sydd wedi eu hanafu, a helpu'r rhai sy'n wan. Ond bydd y rhai cyfoethog a chryf yn cael eu dinistrio. Bydda i'n gofalu eu bod nhw'n cael beth maen nhw'n ei haeddu! “‘Ie, dyma beth mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud wrthoch chi'r defaid: Dw i'n mynd i wahaniaethu rhwng un ddafad a'r llall, a rhwng yr hyrddod a'r bychod geifr. Ydy bwydo ar borfa dda ddim digon i chi? Oes rhaid i chi sathru gweddill y borfa hefyd? Wrth yfed y dŵr glân oes rhaid i chi faeddu gweddill y dŵr drwy sathru'r mwd? Pam ddylai gweddill fy nefaid i orfod bwyta'r borfa sydd wedi ei sathru gynnoch chi ac yfed dŵr sydd wedi ei faeddu? “‘Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i wahaniaethu rhwng y defaid tewion a'r defaid tenau. Dych chi'r rhai cryfion wedi gwthio'r rhai gwan o'r ffordd. Dych chi wedi eu cornio nhw a'i gyrru nhw i ffwrdd. Ond dw i'n mynd i achub fy nefaid. Fyddan nhw ddim yn cael eu cam-drin o hyn ymlaen. Ydw, dw i'n mynd i wahaniaethu rhwng un ddafad a'r llall. “‘Dw i'n mynd i apwyntio un bugail i ofalu amdanyn nhw, sef fy ngwas Dafydd. Bydd e yn fugail arnyn nhw. Fi, yr ARGLWYDD fydd eu Duw nhw, a'm gwas Dafydd fydd pennaeth y wlad i'w harwain nhw. Fi ydy'r ARGLWYDD, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod. “‘Bydda i'n gwneud ymrwymiad i roi heddwch iddyn nhw. Bydda i'n cael gwared â'r anifeiliaid gwylltion o'r tir. Byddan nhw'n saff i aros yn yr anialwch, ac yn gallu cysgu yn y goedwig hyd yn oed. Bydda i'n eu bendithio nhw, a'r ardaloedd o gwmpas fy mryn hefyd. Bydd glaw yn disgyn ar yr adeg iawn; cawodydd yn dod â bendith! Bydd ffrwythau'n tyfu ar y coed yng nghefn gwlad, a chnydau yn tyfu o'r tir. Byddan nhw i gyd yn teimlo'n saff. Byddan nhw'n gwybod mai fi ydy'r ARGLWYDD pan fydda i'n torri'r iau a'u gollwng nhw'n rhydd o afael y rhai wnaeth eu caethiwo nhw, a fydd gwledydd eraill byth eto'n eu dinistrio nhw. Fydd anifeiliaid gwylltion ddim yn ymosod arnyn nhw. Byddan nhw'n hollol saff. Fyddan nhw'n ofni dim. Bydda i'n gwneud i'w cnydau nhw lwyddo, a fyddan nhw byth yn dioddef o newyn eto. A fyddan nhw byth eto'n destun sbort i'r gwledydd o'u cwmpas. Byddan nhw'n gwybod yn iawn wedyn fy mod i, yr ARGLWYDD eu Duw, gyda nhw, ac mai nhw, pobl Israel, ydy fy mhobl i.’” Dyna neges y Meistr, yr ARGLWYDD. “Chi, fy nefaid i sy'n byw ar fy mhorfa i, ydy fy mhobl i. A fi ydy'ch Duw chi,” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD. Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi: “Ddyn, dw i eisiau i ti droi i wynebu Edom, a proffwydo yn ei herbyn. Dywed wrthi, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i ddelio gyda ti, Edom. Dw i'n mynd i dy daro di'n galed, a dy droi di yn anialwch diffaith! Bydda i'n gwneud dy drefi'n adfeilion. Byddi fel anialwch! A byddwch chi'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD. “‘Rwyt ti bob amser wedi casáu pobl Israel. Roeddet ti'n ymosod arnyn nhw gyda'r cleddyf pan oedden nhw mewn trafferthion, pan o'n i eisoes wedi eu cosbi nhw. Felly, mor sicr â'r ffaith mai fi ydy'r Duw byw, gan dy fod ti mor hoff o dywallt gwaed mae lladdfa ar ei ffordd i ti! Bydda i'n troi Edom yn anialwch diffaith. Bydd hyd yn oed y rhai sy'n pasio trwodd yn cael eu lladd. Bydd cyrff marw yn gorchuddio dy fynyddoedd. Bydd pobl wedi eu lladd gan y cleddyf yn gorwedd ar y bryniau, yn y dyffrynnoedd ac ym mhob ceunant. Byddi'n adfeilion am byth. Fydd neb yn byw ynot ti. A byddwch chi'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD. “‘Roeddet ti'n dweud, “Bydd y ddwy wlad yna yn perthyn i mi! Bydda i'n eu cymryd nhw,” — er bod yr ARGLWYDD yna. Felly, mor sicr â'r ffaith mai fi ydy'r Duw byw,’ meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD, ‘dw i'n mynd i ddelio gyda ti fel rwyt ti'n haeddu, am fod mor gas a chenfigennus a sbeitlyd. Bydda i'n dangos pwy ydw i iddyn nhw, drwy dy gosbi di. Byddi'n gwybod wedyn fy mod i, yr ARGLWYDD, wedi clywed yr holl bethau sarhaus rwyt ti wedi bod yn eu dweud am fynyddoedd Israel. “Maen nhw wedi eu dinistrio,” meddet ti, “Maen nhw yna ar blât i ni!” Roeddet ti'n brolio dy hun a ddim yn stopio gwneud sbort ar fy mhen i — ydw, dw i wedi clywed y cwbl!’ Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Bydd y byd i gyd yn dathlu pan fydda i'n dy droi di'n adfeilion. Pan gafodd gwlad Israel ei dinistrio roeddet ti'n dathlu. Ond nawr mae'r un peth yn mynd i ddigwydd i ti! Bydd Edom, ie pawb drwy'r wlad i gyd, yn cael eu dinistrio! Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.’” “Ddyn, dw i eisiau i ti broffwydo wrth fynyddoedd Israel, a dweud: ‘Israel fynyddig, gwrando ar neges yr ARGLWYDD: Mae'r gelyn wedi bod yn dy wawdio di. “Ha! ha!” medden nhw, “Mae'r bryniau hynafol yna'n perthyn i ni bellach!”’ Felly ddyn, proffwyda a dweud: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Mae dy elynion wedi ymosod arnat ti o bob cyfeiriad, yn dinistrio ac yn dy gam-drin di. Mae gwledydd wedi dwyn dy dir di. Mae pobl yn hel straeon ac yn gwneud jôcs amdanat ti. Felly Israel, gwrando ar neges y Meistr, yr ARGLWYDD. Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud wrth y mynyddoedd a'r bryniau, y dyffrynnoedd a'r ceunentydd, yr holl adfeilion a'r trefi gwag sydd wedi eu dinistrio a'i dilorni gan y gwledydd sydd ar ôl o dy gwmpas — Ie, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n wyllt gyda'r gwledydd yna ac wedi siarad yn gryf yn eu herbyn nhw. Yn arbennig Edom, sydd wedi bod mor sbeitlyd tuag ata i. Roedd hi wrth ei bodd yn cymryd y tir oddi arna i.’ “Felly dw i eisiau i ti broffwydo am wlad Israel, a dweud wrth y mynyddoedd a'r bryniau, y dyffrynnoedd a'r ceunentydd, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n wyllt gyda'r gwledydd yna am dy fod ti wedi gorfod eu diodde nhw'n dy fychanu di. Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n addo i ti — mae ei tro nhw i gael eu bychanu yn dod! “‘Ond bydd dy ganghennau di yn tyfu, Israel fynyddig, a bydd ffrwythau'n pwyso'n drwm arnyn nhw; ffrwythau ar gyfer fy mhobl, Israel. Byddan nhw'n dod yn ôl adre'n fuan! Gwranda, dw i ar dy ochr di. Dw i'n mynd i dy helpu di. Bydd y tir yn cael ei aredig eto, a chnydau'n cael eu plannu. Bydd dy boblogaeth yn tyfu drwy'r wlad i gyd. Bydd pobl yn byw yn dy drefi, a'r adfeilion yn cael eu hadeiladu. Bydd y wlad yn fwrlwm o fywyd eto — pobl ac anifeiliaid yn magu rhai bach. Bydd pobl yn byw ynot ti unwaith eto, a bydd pethau'n well arnat ti nag erioed o'r blaen. Byddwch chi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD. Bydda i'n dod â'm pobl Israel yn ôl i bob rhan o'r wlad. Byddan nhw'n etifeddu'r tir. A fyddi di ddim yn cymryd eu plant oddi arnyn nhw byth eto. “‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Mae pobl yn cael hwyl ar dy ben di, ac yn dweud, “Mae Israel yn wlad sy'n dinistrio ei phobl ei hun — fydd dim plant ar ôl yno!” Ond fyddwch chi ddim yn dinistrio'ch pobl a cholli'ch plant o hyn ymlaen, meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD. Fydda i ddim yn gadael i'r gwledydd eraill eich sarhau chi. Fydd dim rhaid i chi deimlo cywilydd o flaen pawb. Fyddwch chi ddim yn colli eich plant.’” Dyna neges y Meistr, yr ARGLWYDD. Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi: “Ddyn, pan oedd pobl Israel yn byw yn eu gwlad eu hunain, roedden nhw wedi llygru'r wlad drwy'r ffordd roedden nhw'n ymddwyn. Roedd yn aflan, fel gwraig pan mae'n dioddef o'r misglwyf. Felly dw i wedi tywallt fy llid arnyn nhw, am eu bod nhw wedi tywallt gwaed a llygru'r wlad gyda'i heilunod. Dw i wedi eu gyrru nhw ar chwâl drwy'r gwledydd. Dw i wedi eu cosbi nhw am y ffordd roedden nhw'n ymddwyn. “Ond wedyn, roedden nhw'n dal i sarhau fy enw sanctaidd ar ôl cyrraedd y gwledydd hynny. Roedd pobl yn dweud amdanyn nhw, ‘Maen nhw i fod yn bobl yr ARGLWYDD, ond maen nhw wedi colli eu tir!’ Roeddwn i'n poeni am fy enw da. Roedd yn cael ei sarhau gan bobl Israel ble bynnag roedden nhw'n mynd. “Felly dywed wrth bobl Israel, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i ddim yn gwneud hyn er eich mwyn chi, bobl Israel, ond er mwyn cadw fy enw da — yr enw dych chi wedi ei sarhau ym mhobman. Dw i'n mynd i ddangos mor wych ydy fy enw i — yr enw dych chi wedi ei sarhau ym mhobman. Bydd y gwledydd i gyd yn deall mai fi ydy'r ARGLWYDD. Bydd beth fydd yn digwydd i chi yn dangos yn glir iddyn nhw mor wych ydw i. “‘Bydda i'n eich casglu chi a dod â chi allan o'r gwledydd i gyd, a mynd â chi yn ôl i'ch gwlad eich hunain. Bydda i'n taenellu dŵr glân arnoch chi, a byddwch chi'n cael eich glanhau o bopeth sy'n eich gwneud chi'n aflan, ac yn stopio addoli eilun-dduwiau. Bydda i'n rhoi calon newydd i chi, ac yn rhoi ysbryd newydd i chi. Byddai'n cymryd y galon garreg ystyfnig i ffwrdd ac yn rhoi calon newydd dyner i chi. Dw i'n mynd i anadlu fy Ysbryd fy hun i mewn i chi, i wneud yn siŵr eich bod chi'n ufudd i mi ac yn gwneud beth sy'n iawn. Wedyn byddwch chi'n cael byw yn y wlad rois i i'ch hynafiaid chi. Chi fydd fy mhobl i, a fi fydd eich Duw chi. Bydda i'n eich achub chi o ganlyniadau'r holl bethau aflan wnaethoch chi. Byddai'n gwneud i'r caeau roi cnydau mawr i chi, yn lle anfon newyn arnoch chi. Bydd digonedd o ffrwythau'n tyfu ar y coed, a bydd cnydau'r caeau i gyd yn llwyddo. Fyddwch chi byth eto'n gorfod cywilyddio am fod y gwledydd o'ch cwmpas chi'n eich gweld chi'n diodde o newyn. Byddwch chi'n edrych yn ôl ac yn cofio'r holl bethau drwg wnaethoch chi, ac yn teimlo cywilydd ofnadwy am yr holl bechodau a'r pethau ffiaidd wnaethoch chi. Ond dw i eisiau i hyn fod yn glir: Dw i ddim yn gwneud hyn er eich mwyn chi, meddai'r ARGLWYDD, y Meistr. Dylech chi fod â chywilydd go iawn o'r ffordd dych chi wedi ymddwyn! “‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Pan fydda i'n eich glanhau chi o'ch pechodau, bydda i'n dod â phobl yn ôl i fyw yn y trefi. Bydd yr adfeilion yn cael eu hadeiladu eto. Bydd y tir anial yn cael ei drin a'i aredig eto, yn lle bod pawb yn ei weld wedi tyfu'n wyllt. Bydd pobl yn dweud, “Mae'r wlad yma oedd yn anial wedi troi i fod fel gardd Eden unwaith eto. Mae'r trefi oedd yn adfeilion wedi eu hadeiladu eto, ac mae pobl yn byw ynddyn nhw!” Bydd y gwledydd sydd ar ôl o'ch cwmpas chi yn sylweddoli mai fi sydd wedi achosi i'r trefi gael eu hadeiladu ac i'r tir gael ei drin unwaith eto. Fi ydy'r ARGLWYDD, a bydd beth dw i'n ddweud yn digwydd!’ “Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i adael i bobl Israel ofyn i mi wneud hyn iddyn nhw. Bydd yna gymaint o bobl ag sydd o ddefaid yn y wlad! Bydd fel yr holl ddefaid sy'n cael eu cymryd i'w haberthu yn Jerwsalem adeg y gwyliau crefyddol! Bydd yr holl drefi oedd yn adfeilion yn llawn pobl unwaith eto! A bydd pawb yn deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.” Roedd dylanwad yr ARGLWYDD arna i, a dyma'i Ysbryd yn mynd â fi i ffwrdd ac yn fy ngosod yng nghanol dyffryn llydan. Roedd y dyffryn yn llawn o esgyrn. Gwnaeth i mi gerdded o gwmpas drwy'i canol nhw, yn ôl ac ymlaen. Roedden nhw ym mhobman! Esgyrn sychion ar lawr y dyffryn i gyd. Yna gofynnodd i mi, “Ddyn, oes gobaith i'r esgyrn yma ddod yn ôl yn fyw eto?” A dyma fi'n ateb, “Meistr, ARGLWYDD, dim ond ti sy'n gwybod hynny.” Yna dyma fe'n gofyn i mi broffwydo dros yr esgyrn, a dweud wrthyn nhw: “Esgyrn sychion, gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD. Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i roi anadl ynoch chi, a dod â chi yn ôl yn fyw. Dw i'n mynd i roi cnawd arnoch chi, gewynnau a chyhyrau, a rhoi croen amdanoch chi. Wedyn bydda i'n rhoi anadl ynoch chi, a byddwch chi'n dod yn ôl yn fyw. Byddwch chi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.’” Felly, dyma fi'n proffwydo fel roedd Duw wedi dweud wrtho i. Ac wrth i mi wneud hynny dyma fi'n clywed sŵn ratlo, a dyma'r esgyrn yn dod at ei gilydd, pob un yn ôl i'w le. Wrth i mi edrych dyma fi'n gweld gewynnau a chyhyrau'n dod arnyn nhw, a chroen yn ffurfio amdanyn nhw, ond doedd dim anadl ynddyn nhw. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Proffwyda i'r anadl ddod. Ddyn, proffwyda a dweud, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Tyrd anadl, o'r pedwar gwynt. Anadla ar y cyrff yma, iddyn nhw ddod yn ôl yn fyw.’” Felly, dyma fi'n proffwydo fel roedd Duw wedi dweud wrtho i a dyma nhw'n dechrau anadlu. Roedden nhw'n fyw! A dyma nhw'n sefyll ar eu traed, yn un fyddin enfawr. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Ddyn, pobl Israel ydy'r esgyrn yma. Maen nhw'n dweud, ‘Does dim gobaith! — dŷn ni wedi'n taflu i ffwrdd, fel esgyrn sychion.’ Ond dw i eisiau i ti broffwydo a dweud wrthyn nhw, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i agor eich beddau, a dod â chi allan yn fyw! O fy mhobl, dw i'n mynd i'ch arwain chi yn ôl i wlad Israel! Pan fydda i'n agor eich beddau a dod â chi allan, byddwch chi'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD. Dw i'n mynd i anadlu fy Ysbryd fy hun i mewn i chi, a byddwch yn byw. Dw i'n mynd i'ch setlo chi i lawr yn ôl yn eich gwlad eich hunain, a byddwch chi'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD. Mae beth dw i'n ddweud yn mynd i ddigwydd,’” meddai'r ARGLWYDD. Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi: “Ddyn, dw i eisiau i ti gymryd ffon, ac ysgrifennu arni, ‘Jwda a holl bobl Israel sydd gydag e.’ Yna cymer ffon arall, ac ysgrifennu arni hi, ‘ffon Joseff, sef Effraim, a holl bobl Israel sydd gydag e.’ Dal nhw gyda'i gilydd yn dy law, fel un ffon. Yna pan fydd dy bobl yn gofyn, ‘Wyt ti am esbonio i ni beth rwyt ti'n wneud?’ Dywed wrthyn nhw, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i gymryd y ffon sy'n cynrychioli Joseff a'r llwythau sydd gydag e, a'i chysylltu hi gyda ffon Jwda. Byddan nhw'n un ffon yn fy llaw i.’ Dal y ffyn rwyt ti wedi ysgrifennu arnyn nhw o'u blaenau, a dweud fel yma, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i gasglu pobl Israel o'r gwledydd lle'r aethon nhw. Dw i'n mynd i'w casglu nhw o'r gwledydd hynny, a dod â nhw adre i'w gwlad eu hunain. Dw i'n mynd i'w gwneud nhw'n un genedl eto, ar fynyddoedd Israel. Un brenin fydd ganddyn nhw, a fyddan nhw byth eto wedi eu rhannu'n ddwy wlad ar wahân. Fyddan nhw ddim yn llygru eu hunain yn addoli eu heilunod ffiaidd, nac yn gwrthryfela yn fy erbyn i. Dw i'n mynd i'w hachub nhw er eu bod nhw wedi troi oddi wrtho i a phechu. Dw i'n mynd i'w glanhau nhw. Nhw fydd fy mhobl i, a fi fydd eu Duw nhw. Fy ngwas Dafydd fydd yn frenin arnyn nhw. Yr un bugail fydd ganddyn nhw i gyd. Byddan nhw'n ufudd i mi, ac yn gwneud beth sy'n iawn. “‘Byddan nhw'n byw yn y tir rois i i'm gwas Jacob, lle roedd eu hynafiaid yn byw. Byddan nhw'n cael byw yno, a'u plant, a'u disgynyddion am byth. Fy ngwas Dafydd fydd eu pennaeth nhw am byth. Bydda i'n gwneud ymrwymiad i roi heddwch iddyn nhw — ymrwymiad fydd yn para am byth. Bydda i'n eu setlo nhw yn y tir, yn gwneud i'r boblogaeth dyfu eto, a gosod y deml yn eu canol nhw am byth. Bydda i'n byw gyda nhw. Fi fydd eu Duw nhw, a nhw fydd fy mhobl i. Pan fydd fy nheml yn eu canol nhw am byth, bydd y cenhedloedd yn gwybod fy mod i, yr ARGLWYDD, wedi cysegru Israel i mi fy hun.’” Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi “Ddyn, dw i eisiau i ti droi i wynebu Gog o dir Magog, sef y tywysog sy'n teyrnasu dros Meshech a Twbal. Proffwyda yn ei erbyn, a dweud: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i ddelio gyda ti, Gog, tywysog Meshech a Twbal. Dw i'n mynd i dy droi di rownd, rhoi bachyn yn dy ên, a dy arwain di a dy fyddin i ryfel — gyda dy geffylau a dy farchogion arfog, yn dyrfa enfawr yn cario tariannau mawr a bach ac yn chwifio eu cleddyfau. Bydd byddinoedd Persia, dwyrain Affrica a Libia gyda nhw. Hwythau hefyd wedi eu harfogi gyda thariannau a helmedau. Hefyd Gomer a'i byddin, a Beth-togarma o'r gogledd pell, a llawer o bobloedd eraill. “‘“Bydd barod — ti a phawb arall sydd gyda ti. Ti sydd i arwain. Ar ôl amser hir, byddi'n cael dy alw i wlad Israel. Gwlad wedi ei hadfer ar ôl cael ei dinistrio gan ryfel. Gwlad â'i phobl wedi eu casglu at ei gilydd ar y mynyddoedd oedd wedi bod yn anial am amser hir. Pobl wedi dod adre ac yn teimlo'n saff yn eu gwlad. Byddi'n ymosod arnyn nhw fel storm. Byddi di a dy fyddin, a byddinoedd yr holl wledydd eraill, fel cwmwl du yn dod dros y wlad.” “‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Bryd hynny byddi di'n cael syniad, ac yn cynllwynio i wneud drwg. “Dw i am ymosod ar Israel. Gwlad o drefi heb waliau na giatiau a barrau i'w hamddiffyn! Fydd ei phobl ddim yn disgwyl y peth; maen nhw'n teimlo mor saff! Dw i'n mynd i ysbeilio a rheibio'r bobl sydd wedi eu casglu at ei gilydd o'r gwledydd, yn byw lle roedd adfeilion, yn ffermio gwartheg a marchnata, ac yn meddwl mai nhw ydy canolbwynt y byd!” Bydd Sheba a Dedan a marchnatwyr Tarshish yn gofyn, “Wyt ti wedi dod i ysbeilio? Wyt ti wedi casglu dy fyddin i reibio'r wlad — cymryd yr arian a'r aur, y gwartheg a phopeth arall sydd ganddyn nhw?”’ “Felly ddyn, proffwyda a dywed wrth Gog: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Bryd hynny, pan fydd fy mhobl Israel yn teimlo'n saff, bydd rhywbeth yn tynnu dy sylw. Byddi'n gadael dy wlad yn y gogledd pell, ac yn dod gyda tyrfa enfawr — dy gafalri a dy fyddin fawr. Byddi'n dod fel cwmwl du dros y wlad. Ac yn y dyfodol pan fydd hyn yn digwydd, Gog, bydd y gwledydd i gyd yn cydnabod pwy ydw i. Bydd beth fydd yn digwydd i ti, Gog, yn dangos yn glir iddyn nhw mor wych ydw i. “‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Ai ti ydy'r un gwnes i sôn amdano yn y gorffennol drwy fy ngweision y proffwydi yn Israel? Roedden nhw'n proffwydo yn bell yn ôl, flwyddyn ar ôl blwyddyn, y byddwn i'n dod â ti yn eu herbyn nhw. “‘“Y diwrnod hwnnw, pan fydd Gog yn ymosod ar wlad Israel, bydda i wedi cynhyrfu, a gwylltio'n lân. Bydd tân fy ffyrnigrwydd yn llosgi. Bydd daeargryn yn ysgwyd gwlad Israel bryd hynny. Bydd pawb a phopeth yn crynu mewn ofn o'm blaen i — pysgod, adar, anifeiliaid gwylltion, creaduriaid bach a phryfed, a phob person byw! Bydd y mynyddoedd yn cael eu bwrw i lawr, y clogwyni'n dryllio a pob wal sydd wedi ei hadeiladu yn syrthio. Bydda i'n galw am gleddyf i ymosod arnat ti ar fynyddoedd Israel, Gog,” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD. “Bydd dy filwyr yn dechrau ymladd yn erbyn ei gilydd. Bydda i'n barnu Gog gydag afiechydon ofnadwy, a thrais. Bydd storm yn arllwys i lawr arno fe a'i fyddin, a phawb arall sydd gyda nhw — cenllysg, tân a lafa. Dw i'n mynd i godi i fyny a dangos mor wych ydw i. Bydda i'n dangos pwy ydw i i'r gwledydd i gyd. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.”’ “Ddyn, proffwyda yn erbyn Gog, a dweud, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i ddelio gyda ti Gog, tywysog Meshech a Twbal! Dw i'n mynd i dy droi di rownd, a dy lusgo di o'r gogledd pell i ymosod ar fynyddoedd Israel. Ond wedyn bydda i'n taro'r bwa o dy law dde a'r saethau o dy law chwith. Byddi di a dy filwyr, a phawb arall sydd gyda ti, yn syrthio'n farw ar fynyddoedd Israel. Byddi'n fwyd i bob math o adar rheibus ac anifeiliaid gwylltion. Byddi'n disgyn yn farw ar dir agored. Fi ydy'r ARGLWYDD, y Meistr, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod. Bydda i'n anfon tân ar Magog a'r bobl sy'n byw ar yr arfordir, ac sy'n teimlo eu bod nhw mor saff. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD. Dw i ddim yn mynd i adael i fy enw sanctaidd i gael ei sarhau o hyn allan. A bydd y cenhedloedd yn deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD, Un Sanctaidd Israel. “‘Mae'n dod! Ydy, mae'n mynd i ddigwydd!’ meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD. ‘Dyma'r diwrnod soniais i amdano. Bydd y rhai sy'n byw yn y trefi yn Israel yn mynd allan i losgi'r arfau rhyfel i gyd — y tariannau bach a mawr, pob bwa saeth, pastwn rhyfel a gwaywffon — byddan nhw'n dal i'w llosgi am saith mlynedd! Fydd dim angen coed o gefn gwlad na thorri coed o'r fforestydd. Byddan nhw'n llosgi'r arfau. Byddan nhw'n ysbeilio a rheibio y bobl oedd wedi eu rheibio nhw,’ meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD. “‘Bydda i wedi paratoi mynwent anferth yn Israel i Gog a'i filwyr — yn Nyffryn y Teithwyr, i'r dwyrain o'r Môr Marw. Bydd y dyffryn yn cael ei gau i deithwyr, am fod Gog a'i fyddin i gyd wedi eu claddu yno. Byddan nhw'n galw'r dyffryn yn Ddyffryn Hamon-Gog o hynny ymlaen. Bydd yn cymryd saith mis i bobl Israel lanhau y tir o'r cyrff, a'i claddu nhw i gyd. Bydd pawb yn Israel yn gorfod helpu gyda'r gwaith. Bydd y diwrnod y bydda i'n dangos mor wych ydw i yn ddiwrnod mawr i bobl Israel. “‘Ar ddiwedd y saith mis bydd criwiau o ddynion yn cael eu penodi i chwilio drwy'r wlad am unrhyw gyrff sydd wedi eu gadael ar ôl, a'u claddu nhw. Byddan nhw gwneud yn siŵr fod y tir wedi ei lanhau'n gyfan gwbl. Pan fydd un o'r dynion yn dod o hyd i asgwrn dynol byddan nhw'n marcio'r fan gydag arwydd er mwyn i'r rhai sy'n eu claddu ei gymryd i ffwrdd a'i gladdu yn y fynwent dorfol yn Nyffryn Hamon-Gog. (Bydd tref o'r enw Hamona yno hefyd.) Byddan nhw'n glanhau y tir.’ “A ti, ddyn, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Galw'r adar a'r anifeiliaid gwylltion at ei gilydd. Dywed wrthyn nhw, “Dewch yma. Dw i wedi paratoi lladdfa — gwledd i chi ar fynyddoedd Israel! Dewch i fwyta eu cnawd ac yfed eu gwaed. Cewch fwyta cyrff milwyr ac yfed gwaed penaethiaid y gwledydd — hyrddod, ŵyn, bychod geifr, teirw, a lloi wedi eu pesgi yn Bashan. Byddwch yn stwffio eich hunain ar frasder, ac yn meddwi ar waed yn y wledd dw i wedi ei pharatoi i chi. Byddwch yn dod at fy mwrdd ac yn gwledda ar gnawd ceffylau a marchogion, arwyr a milwyr o bob math,” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD. “‘Bydda i'n dangos fy ysblander i'r cenhedloedd. Bydd y gwledydd i gyd yn fy ngweld i'n eu barnu nhw, ac mor rymus ydw i. O hynny ymlaen, bydd pobl Israel yn deall mai fi ydy'r ARGLWYDD eu Duw nhw. Bydd y cenhedloedd yn deall fod pobl Israel wedi eu cymryd yn gaeth am bechu trwy fod yn anffyddlon i mi. Felly dyma fi'n troi i ffwrdd oddi wrthyn nhw ac yn gadael i'w gelynion eu lladd nhw. Dyma nhw'n cael beth roedden nhw'n ei haeddu am wneud pethau mor aflan a gwrthryfela yn fy erbyn i.’ “Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i adfer sefyllfa pobl Jacob, a dangos trugaredd at bobl Israel. Dw i'n mynd i ddangos fy sêl dros fy enw sanctaidd. Byddan nhw'n teimlo cywilydd go iawn am fod mor anffyddlon i mi, pan fyddan nhw'n byw yn saff yn y wlad a neb yn eu dychryn nhw. Bydda i'n dangos mor wych ydw i trwy beth fydd yn digwydd iddyn nhw. Bydda i wedi dod â nhw adre o wledydd eu gelynion. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD eu Duw. Fi wnaeth eu cymryd nhw'n gaeth i'r cenhedloedd, a fi fydd yn eu casglu nhw'n ôl i'w gwlad eu hunain. Fydda i'n gadael neb ar ôl. Fydda i ddim yn troi i ffwrdd oddi wrthyn nhw byth eto. Bydda i'n tywallt fy ysbryd ar bobl Israel.’” Dyna neges y Meistr, yr ARGLWYDD. [1] Roedd hi'n ddechrau'r flwyddyn, ddau ddeg pum mlynedd ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar y degfed diwrnod o'r mis cyntaf. (Sef un deg pedair blynedd ar ôl i ddinas Jerwsalem gael ei dinistrio). Roedd dylanwad yr ARGLWYDD arna i, a dyma fe'n mynd â fi i wlad Israel. Aeth â fi yno mewn gweledigaeth a'm gosod ar ben mynydd uchel iawn. Roedd adeiladau i'w gweld i gyfeiriad y de, tebyg i ddinas. Dyma fe'n mynd â fi yno; ac yno'n sefyll o flaen giât y ddinas roedd dyn oedd yn ddisglair fel pres. Roedd ganddo dâp mesur a ffon fesur yn ei law. Dwedodd wrtho i, “Ddyn, edrych yn ofalus a gwrando'n astud. Dw i eisiau i ti sylwi'n fanwl ar bopeth dw i'n ddangos i ti. Dyna pam mae Duw wedi dod â ti yma. Rwyt i fynd yn ôl a dweud wrth bobl Israel am bopeth rwyt ti wedi ei weld.” Roedd wal o gwmpas adeiladau'r deml. Roedd ffon fesur tua tri metr o hyd yn llaw y dyn. Roedd y wal yn dri metr o drwch a tri metr o uchder. Yna aeth at y giât oedd yn wynebu'r dwyrain. Dringodd i fyny'r grisiau a mesur y trothwy allanol. Roedd yn dri metr o ddyfnder. Roedd cilfachau i'r gwarchodwyr bob ochr i'r fynedfa — pob un yn dri metr sgwâr, gyda wal dau fetr a hanner rhyngddyn nhw. Roedd trothwy mewnol y fynedfa i'r ystafell gyntedd o flaen cwrt y deml yn dri metr o ddyfnder. Yna mesurodd yr ystafell gyntedd. Roedd yn bedwar metr o hyd, gyda colofnau oedd yn fetr o drwch. Roedd y cyntedd hwn yn wynebu cwrt y deml. Roedd tair cilfach bob ochr i'r fynedfa, sef y giât ddwyreiniol. Roedden nhw i gyd yr un faint, a'r waliau rhyngddyn nhw yn mesur yr un faint. Roedd lled y fynedfa yn bum metr a chwarter, a'i hyd bron yn saith metr. Roedd wal fach hanner metr o daldra o flaen pob un o'r cilfachau, a'r cilfachau eu hunain yn dri metr sgwâr. Yna mesurodd led y fynedfa o'r to uwchben wal gefn un gilfach i'r to uwchben wal gefn y gilfach gyferbyn â hi. Roedd yn un deg tri metr. Mesurodd y colofnau i gyd (o du blaen y fynedfa i gwrt y deml), ac roedden nhw'n dri deg un metr a hanner o uchder. Mesurodd y pellter o du blaen y fynedfa i du blaen yr ystafell gyntedd fewnol. Roedd yn ddau ddeg chwech metr. Roedd yna ffenestri cul yn waliau cilfachau'r gwarchodwyr ac o gwmpas yr ystafell gyntedd. Ac roedd y colofnau wedi eu haddurno gyda coed palmwydd. Yna aeth â fi allan i gwrt allanol y deml. Roedd yna bafin o gwmpas yr iard, a tri deg o ystafelloedd o gwmpas y pafin. Roedd y pafin yn cysylltu'r giatiau, ac roedd yr un lled a'r giatiau eu hunain. Dyma'r pafin isaf. Yna dyma fe'n mesur y pellter rhwng y tu mewn i'r giât isaf a tu blaen yr iard fewnol. Roedd yn bum deg dau metr a hanner. Aeth â fi wedyn o'r ochr ddwyreiniol i'r ochr ogleddol. Mesurodd hyd a lled y fynedfa i'r iard allanol sy'n wynebu'r gogledd. Roedd y cilfachau (tair bob ochr), y colofnau a'r ystafell gyntedd yr un fath â'r giât gyntaf: dau ddeg chwech metr o hyd ac un deg tri metr o led. Roedd y ffenestri, yr ystafell gyntedd a'r coed palmwydd yr un fath ag yn y giât ddwyreiniol. Roedd saith gris i fyny at y giât ac roedd ystafell gyntedd ar yr ochr fewnol. Roedd giât arall i'r iard fewnol gyferbyn a'r fynedfa ar yr ochr ogleddol, fel gyda'r fynedfa ddwyreiniol. Mesurodd y pellter o'r naill i'r llall ac roedd yn bum deg dau metr a hanner. Yna aeth â fi i'r ochr ddeheuol. Mesurodd y colofnau a'r cilfachau ar y giât ddeheuol ac roedden nhw yr un faint a'r lleill. Roedd y ffenestri yno a'r ffenestri yn yr ystafell gyntedd yr un fath â'r lleill, ac roedd hyd a lled y fynedfa yr un fath hefyd, sef dau ddeg chwech metr wrth un deg tri metr. Roedd saith gris yn mynd i fyny at y giât, ac roedd ystafell gyntedd ar yr ochr fewnol. Ac roedd coed palmwydd ar y colofnau, un bob ochr. Roedd giât i'r iard fewnol yn wynebu'r de hefyd. Mesurodd y pellter o un giât i'r llall, ac roedd yn bum deg dau metr a hanner. Yna aeth â fi i'r iard fewnol drwy'r giât ddeheuol. Mesurodd y fynedfa, ac roedd yr un faint â'r lleill. Roedd y cilfachau, y colofnau a'r ystafell gyntedd yr un faint â'r lleill; roedd ei ffenestri'r un fath; ac roedd yn mesur dau ddeg chwech metr wrth un deg tri metr. Roedd cynteddau o'i chwmpas, yn un deg tri metr o hyd a dau fetr a hanner o led. Roedd yr ystafell gyntedd yn wynebu'r iard allanol. Roedd coed palmwydd ar ei cholofnau. Roedd wyth gris i fyny at y giât. Yna aeth â fi i ochr ddwyreiniol yr iard fewnol. Mesurodd y fynedfa, ac roedd yr un faint â'r lleill. Roedd y cilfachau, y colofnau a'r ystafell gyntedd yr un faint â'r lleill; roedd ei ffenestri'r un fath; ac roedd yn ddau ddeg chwech metr wrth un deg tri metr. Roedd yr ystafell gyntedd yn wynebu'r iard allanol. Roedd coed palmwydd ar ei cholofnau. Roedd wyth gris i fyny at y giât. Yna aeth â fi at y giât ogleddol, a'i mesur. Roedd yr un faint â'r lleill — y cilfachau, y colofnau a'r ystafell gyntedd; roedd ei ffenestri'r un fath; ac roedd yn mesur dau ddeg chwech metr wrth un deg tri metr. Roedd yr ystafell gyntedd yn wynebu'r iard allanol. Roedd coed palmwydd ar ei cholofnau. Roedd wyth gris i fyny at y giât. Roedd drws i mewn i ystafell arall wrth ymyl ystafell y cyntedd. Dyma lle roedd yr offrymau i'w llosgi yn cael eu golchi. Yn ystafell gyntedd y fynedfa roedd dau fwrdd bob ochr, lle roedd yr anifeiliaid ar gyfer y gwahanol offrymau yn cael eu lladd — yr offrwm i'w losgi, yr offrwm i lanhau o bechod, a'r offrwm i gyfaddef bai. Roedd byrddau tu allan i'r ystafell gyntedd hefyd, dau bob ochr i'r grisiau sy'n mynd at fynedfa'r gogledd. Felly roedd wyth bwrdd i gyd — pedwar y tu allan i'r fynedfa a pedwar y tu mewn — lle roedd yr anifeiliaid i'w haberthu yn cael eu lladd. Roedd y pedwar bwrdd ar gyfer yr offrymau i'w llosgi wedi eu cerfio o garreg. Roedden nhw tua wyth deg centimetr sgwâr, a hanner can centimetr o uchder. Roedd yr offer oedd yn cael ei ddefnyddio i ladd yr anifeiliaid yn cael eu hongian ar fachau 75 milimetr o hyd oedd ar y waliau o gwmpas. Roedd cyrff yr anifeiliaid oedd i'w haberthu i'w gosod ar y byrddau. Y tu allan i'r giât yn yr iard fewnol roedd dwy ystafell — un wrth ochr y giât ogleddol yn wynebu'r de, a'r llall wrth ochr y giât ddeheuol yn wynebu'r gogledd. A dyma'r dyn yn dweud wrtho i, “Ystafell yr offeiriaid sy'n gofalu am y deml ydy'r un sy'n wynebu'r de, ac ystafell yr offeiriaid sy'n gofalu am yr allor ydy'r un sy'n wynebu'r gogledd. Disgynyddion Sadoc ydy'r dynion yma, sef yr unig rai o ddisgynyddion Lefi sy'n cael mynd yn agos at yr ARGLWYDD i'w wasanaethu e.” Yna mesurodd yr iard. Roedd yn bum deg dau metr a hanner sgwâr, gyda'r allor yn sefyll o flaen y deml. Aeth â fi at gyntedd y deml ei hun a mesur ei dwy golofn. Roedden nhw tua dau fetr a hanner sgwâr. Roedd y giât yn saith metr o led a'r waliau bob ochr yn fetr a hanner o drwch. Roedd hyd y cyntedd yn ddeg metr a hanner a'i led yn bum metr a thri chwarter, gyda deg gris yn mynd i fyny ato a colofnau bob ochr. Yna dyma'r dyn yn mynd â fi i mewn i gysegr allanol adeilad y deml. Mesurodd y colofnau bob ochr i'r fynedfa. Roedden nhw'n dri metr o led. Roedd y fynedfa ei hun yn bum metr a chwarter, ac roedd y waliau bob ochr yn ddau fetr a hanner o drwch. Roedd y cysegr allanol yn ddau ddeg un metr o hyd a deg metr a hanner o led. Yna aeth y dyn i mewn i'r cysegr mewnol. Mesurodd y colofnau bob ochr i'r fynedfa yn fetr o led, y fynedfa ei hun yn dri metr, a'r waliau bob ochr i'r fynedfa yn dri metr a hanner. Roedd yr ystafell yn ddeg metr a hanner sgwâr, ar ben pella'r cysegr allanol. “Dyma'r Lle Mwyaf Sanctaidd,” meddai wrtho i. Yna mesurodd wal y deml, ac roedd hi'n dri metr o drwch. Roedd pob un o'r ystafelloedd ochr o gwmpas y deml yn ddau fetr o led. Roedd yr ystafelloedd ochr ar dri llawr, tri deg ar bob llawr. Roedd y trawstiau o dan yr ystafelloedd yma yn gorwedd ar siliau o gwmpas y wal. Doedden nhw ddim wedi eu gosod yn wal y deml ei hun. Roedd yr ystafelloedd ar y llawr canol yn lletach na'r rhai ar y llawr isaf, a'r rhai ar llawr uchaf yn lletach eto. Roedd grisiau yn arwain o'r llawr isaf i'r llawr uchaf drwy'r llawr canol. Roedd y deml wedi ei hadeiladu ar deras tri metr o uchder, ac roedd y teras yma'n rhoi sylfaen i'r ystafelloedd ochr. Roedd wal allanol yr ystafelloedd ochr dros ddau fetr a hanner o drwch. Roedd lle agored rhwng ystafelloedd ochr y deml a'r ystafelloedd ar wal allanol yr iard fewnol; roedd y lle agored yma o gwmpas y deml i gyd ac yn ddeg metr a hanner o led. Roedd dau ddrws o bob ystafell ochr i'r lle agored — un yn wynebu'r gogledd a'r llall yn wynebu'r de. Roedd dau fetr a hanner o deras o gwmpas y cwbl. Roedd yr adeilad oedd yn wynebu'r iard sydd ar wahân ar ochr orllewinol y deml yn dri deg saith metr o led. Roedd wal allanol yr adeilad yn ddau fetr a hanner o drwch ac yn bedwar deg saith metr o hyd. Yna mesurodd y deml ei hun. Roedd yn bum deg dau metr a hanner o hyd, ac roedd yr iard sydd ar wahân o'i chwmpas yn bum deg dau metr a hanner arall. Hefyd roedd lled y deml a'r iard sydd ar wahân ar yr ochr ddwyreiniol iddi yn bum deg dau metr a hanner. Yna mesurodd hyd yr adeilad oedd yn wynebu'r iard sydd ar wahân tu cefn i'r deml gyda'r galeri bob ochr, ac roedd yn bum deg dau metr a hanner. Roedd tu mewn y cysegr allanol a'r cyntedd oedd yn wynebu'r cwrt wedi eu panelu mewn pren i gyd. Roedd pob trothwy, y ffenestri culion a'r galerïau ar y tair ochr oedd yn wynebu'r trothwy wedi eu panelu o'r llawr at y ffenestri. O gwmpas y ffenestri, ar y wal sydd uwch ben y fynedfa i'r cysegr mewnol ac ar y tu allan a'r tu mewn i'r cysegr mewnol ei hun roedd y cwbl wedi ei addurno gyda ceriwbiaid a choed palmwydd. Roedd coeden balmwydd a ceriwb bob yn ail. Roedd gan bob ceriwb ddau wyneb — wyneb dyn ac wyneb llew. Roedd y rhain wedi eu cerfio dros y deml i gyd. Roedden nhw'n addurno'r cysegr allanol i gyd, o'r llawr i'r darn o wal sydd uwch ben y fynedfa i'r cysegr mewnol. Roedd colofnau sgwâr bob ochr i fynedfa'r cysegr allanol. Yna o flaen y cysegr mewnol roedd rhywbeth oedd yn edrych fel allor bren. Roedd yn fetr a hanner o uchder ac yn fetr o hyd. Roedd ei gorneli, ei waelod a'i ochrau yn bren. A dyma'r dyn yn dweud wrtho i, “Dyma'r bwrdd sy'n sefyll o flaen yr ARGLWYDD.” Roedd drysau dwbl i mewn i'r cysegr allanol ac i'r cysegr mewnol, gyda'r drysau'n agor at allan ac i mewn. Roedd ceriwbiaid a choed palmwydd wedi eu cerfio ar ddrysau'r cysegr allanol, yr un fath â'r rhai ar y waliau. Ac roedd canopi pren uwch ben y cyntedd y tu allan. Roedd ffenestri culion gyda coed palmwydd bob ochr iddyn nhw yn addurno waliau'r cyntedd. Roedd canopïau uwch ben ystafelloedd ochr y deml hefyd. Yna aeth y dyn â fi i'r iard allanol, i'r ochr ogleddol. Roedd bloc o ystafelloedd yno gyferbyn â'r iard sydd ar wahân ac wrth ymyl yr adeilad ger y wal ogleddol. Roedd yn bum deg dau metr a hanner o hyd ac yn ddau ddeg chwech metr a chwarter o led. Roedd y bloc yma o ystafelloedd yn edrych dros yr iard fewnol oedd yn ddeg metr a hanner o led un ochr, a dros bafin yr iard allanol ar yr ochr arall. Roedd wedi ei adeiladu ar dri llawr. O flaen yr ystafelloedd roedd llwybr pum metr a chwarter o led a pum deg dau metr a hanner o hyd. Roedd eu drysau'n wynebu'r gogledd. Roedd yr ystafelloedd ar y llawr uchaf yn fwy cul, am fod y galerïau yn cymryd mwy o le nag ar y llawr isaf a'r llawr canol. Am eu bod ar dair lefel, a heb golofnau i'w cynnal fel yr ystafelloedd yn yr iard, roedd yr ystafelloedd uwch wedi eu gosod yn bellach yn ôl na'r rhai oddi tanyn nhw. Roedd wal dau ddeg chwech metr o hyd rhwng yr ystafelloedd a'r iard allanol. Roedd y bloc o ystafelloedd oedd yn wynebu'r iard allanol yn ddau ddeg chwech metr o hyd, ond y rhai oedd yn wynebu'r deml yn bum deg dau metr a hanner. Roedd mynedfa i'r ystafelloedd isaf o'r iard allanol ar yr ochr ddwyreiniol. Ar yr ochr ddeheuol ar hyd wal yr iard allanol roedd bloc arall o ystafelloedd gyferbyn â'r iard sydd ar wahân ac wrth ymyl yr adeilad ger y wal ogleddol. Roedd llwybr o'u blaenau nhw. Roedden nhw'n union yr un fath â'r ystafelloedd ar yr ochr ogleddol. Roedden nhw yr un hyd a lled â'r lleill, a'r drysau a phopeth arall yn yr un lle. Roedd y drysau'n wynebu'r de, ac roedd mynedfa i'r ystafelloedd ar yr ochr ddwyreiniol. A dyma'r dyn yn dweud wrtho i: “Mae'r ystafelloedd yma i'r gogledd a'r de, ac sy'n wynebu'r iard sydd ar wahân, yn ystafelloedd sydd wedi eu cysegru. Dyna lle mae'r offeiriaid sy'n mynd at yr ARGLWYDD yn bwyta'r offrymau sanctaidd. Dyna lle byddan nhw'n gosod yr offrymau — yr offrwm o rawn, yr offrwm i lanhau o bechod, a'r offrwm i gyfaddef bai. Mae'r ystafelloedd yma wedi eu cysegru i'r pwrpas hwnnw. Dydy'r offeiriaid ddim i fynd yn syth allan o'r cysegr i'r iard allanol. Rhaid iddyn nhw dynnu'r dillad cysegredig maen nhw wedi bod yn gweinidogaethu ynddyn nhw a gwisgo dillad eraill cyn mynd allan i ble mae'r bobl yn cael mynd.” Ar ôl iddo orffen mesur y tu mewn i adeiladau'r deml, aeth y dyn â fi allan drwy'r giât ddwyreiniol a mesur y tu allan i'r cwbl. Defnyddiodd ei ffon fesur ar yr ochr ddwyreiniol ac roedd yn ddau gant chwe deg dau metr a hanner. [17-19] Yna mesurodd yr ochr ogleddol, yr ochr ddeheuol a'r ochr orllewinol, ac roedden nhw i gyd yr un faint. *** *** Mesurodd y wal ar y pedair ochr. Roedd yn ddau cant chwe deg dau metr a hanner bob ffordd. Roedd y waliau yma'n gwahanu'r cysegredig oddi wrth y cyffredin. [1] Yna aeth â fi at y giât oedd yn wynebu'r dwyrain. Yno gwelais ysblander Duw Israel yn dod o gyfeiriad y dwyrain. Roedd ei sŵn yn debyg i sŵn rhaeadr ac roedd ei ysblander yn goleuo'r ddaear i gyd. Roedd yr un fath â'r weledigaeth ges i pan ddaeth e i ddinistrio'r ddinas, a'r un pan oeddwn i wrth Gamlas Cebar. Dyma fi'n mynd ar fy ngwyneb ar lawr. A dyma ysblander yr ARGLWYDD yn mynd yn ôl i mewn i'r deml drwy'r giât oedd yn wynebu'r dwyrain. Yna cododd yr ysbryd fi a mynd â fi i'r iard fewnol. A dyna lle roeddwn i yn syllu ar ysblander yr ARGLWYDD yn llenwi'r deml. A dyma fi'n clywed llais yn siarad â mi o adeilad y deml. (Roedd y dyn yn dal i sefyll wrth fy ymyl i.) Dwedodd y llais: “Ddyn, dyma lle mae fy ngorsedd i a'r lle i mi orffwys fy nhraed. Bydda i'n byw yma gyda phobl Israel am byth. Fydd pobl Israel a'u brenhinoedd ddim yn sarhau fy enw sanctaidd i eto drwy eu puteindra ysbrydol na thrwy godi cofgolofnau i'w brenhinoedd pan fyddan nhw'n marw. Wrth adeiladu eu palasau drws nesa i'm teml i, gyda dim byd ond wal denau yn eu gwahanu nhw, roedden nhw'n sarhau fy enw sanctaidd i drwy'r pethau ffiaidd roedden nhw'n eu gwneud. Felly dyma fi'n eu difa nhw pan oeddwn i'n ddig. Ond nawr rhaid i'r puteinio ysbrydol stopio a rhaid i'r cofgolofnau brenhinol fynd, a wedyn bydda i'n byw gyda nhw am byth. “Beth dw i eisiau i ti ei wneud, ddyn, ydy disgrifio'r deml rwyt ti wedi ei gweld i bobl Israel, er mwyn iddyn nhw fod â chywilydd o'u pechod. Gwna iddyn nhw astudio'r cynllun yn fanwl wedyn bydd ganddyn nhw gywilydd go iawn o beth wnaethon nhw. Dangos gynllun y deml i gyd iddyn nhw — pob mynedfa a drws, y cyfarwyddiadau a'r rheolau i gyd. Tynna lun manwl o'r cwbl iddyn nhw, er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn deall y cynllun ac yn cadw'n ffyddlon ato. “A dyma beth sydd raid ei ddeall am y deml — mae'n hollol sanctaidd! Mae top y mynydd i gyd, lle mae'r deml i gael ei hadeiladu, wedi ei gysegru'n llwyr. Mae hon yn egwyddor gwbl sylfaenol.” “A dyma fesuriadau'r allor: Mae ei gwter i fod yn bum deg dwy centimetr a hanner o ddyfnder ac yn bum deg dwy centimetr a hanner o led, gydag ymyl o tua dau ddeg centimetr o'i chwmpas. Uchder yr allor ei hun o'r llawr i'r sil isaf yn un metr, a lled y sil yn bum deg dwy centimetr a hanner. Yna o'r sil gyntaf i'r ail sil, mae'n ddau fetr arall, a lled y sil honno eto yn bum deg dwy centimetr a hanner. Wedyn mae top yr allor yn ddau fetr arall eto, gyda corn yn codi o'r pedair cornel. Mae top yr allor ei hun yn chwe metr a chwarter o hyd a chwe metr a chwarter o led, gyda sil sy'n ei gwneud yn saith metr a chwarter bob ffordd. Mae'r ymyl yn ddau ddeg chwech centimetr gyda gwter bum deg dau centimetr a hanner o led o'i chwmpas. Mae'r grisiau yn mynd i fyny ati o'r ochr ddwyreiniol.” Wedyn dyma fe'n dweud, “Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Dyma'r rheolau am yr offrymau i'w llosgi a'r gwaed sydd i'w sblasio ar yr allor pan fydd wedi ei hadeiladu. Rhaid rhoi tarw ifanc yn offrwm i lanhau o bechod i'r offeiriaid o lwyth Lefi sy'n ddisgynyddion Sadoc ac sy'n dod ata i i'm gwasanaethu i. Dylid cymryd peth o'r gwaed a'i roi ar bedwar corn yr allor, ar bedair cornel y sil a reit rownd yr ymyl. Bydd yn ei gwneud yn lân ac yn iawn i'w defnyddio. Wedyn rhaid cymryd corff y tarw sy'n offrwm i lanhau o bechod a'i losgi yn y lle iawn tu allan i'r cysegr. “‘Yna ar yr ail ddiwrnod rhaid offrymu bwch gafr sydd â dim o'i le arno yn offrwm i lanhau o bechod. Byddan nhw'n glanhau yr allor, fel y gwnaethon nhw cyn offrymu'r tarw. Ar ôl ei glanhau, rhaid offrymu tarw ifanc sydd â dim byd o'i le arno a hefyd hwrdd sydd â dim byd o'i le arno. Rhaid eu cyflwyno'n offrwm i'r ARGLWYDD. Bydd yr offeiriaid yn taenu halen arnyn nhw, ac yna ei rhoi nhw yn offrwm i'w losgi'n llwyr i'r ARGLWYDD. “‘Rwyt i gyflwyno bwch gafr bob dydd am saith diwrnod, yn offrwm i lanhau o bechod, a hefyd tarw ifanc a hwrdd, y ddau yn anifeiliaid heb unrhyw beth o'i le arnyn nhw. Am saith diwrnod byddan nhw'n gwneud yr allor yn lân ac yn iawn i'w defnyddio. Dyna sut mae'r allor i gael ei chysegru. Ar ôl gwneud hynny, o'r wythfed diwrnod ymlaen bydd yr offeiriaid yn gallu cyflwyno offrymau i'w llosgi ac offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD; a bydda i'n eich derbyn chi,’ meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.” Yna aeth y dyn â fi yn ôl at giât allanol y cysegr sy'n wynebu'r dwyrain, ond roedd wedi ei chau. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i: “Bydd y giât yma yn aros wedi ei chau. Does neb yn cael mynd trwyddi. Mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, wedi mynd trwyddi, felly rhaid iddi aros ar gau. Dim ond pennaeth y wlad sydd i gael eistedd yn y fynedfa i fwyta o flaen yr ARGLWYDD. Bydd yn mynd i mewn drwy'r cyntedd ochr ac yn mynd allan yr un ffordd.” Yna aeth y dyn â fi i'r iard fewnol drwy'r giât sy'n wynebu'r gogledd o flaen y deml. Wrth i mi edrych, ron i'n gweld ysblander yr ARGLWYDD yn llenwi'r deml a dyma fi'n mynd ar fy ngwyneb ar lawr. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Ddyn, dw i am i ti sylwi ar hyn. Edrych yn ofalus a gwrando'n astud ar bopeth dw i'n ei ddweud am reolau a deddfau teml yr ARGLWYDD. Sylwa'n fanwl ar bob mynedfa i'r deml a'r drysau allan o'r cysegr. Dywed wrth y rebeliaid, pobl Israel, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dyna ddigon! Mae'r holl bethau ffiaidd yma wedi mynd yn rhy bell! Dych chi'n dod â phobl o'r tu allan i weithio yn y cysegr, paganiaid llwyr sy'n dangos dim parch ata i. Dych chi'n llygru'r deml drwy gynnig beth sydd piau fi — sef y brasder a'r gwaed — iddyn nhw. Dych chi wedi torri'r ymrwymiad rhyngon ni drwy wneud yr holl bethau ffiaidd yma. Dych chi ddim wedi cadw'r rheolau wrth drin y pethau sanctaidd; dych chi wedi gadael i baganiaid edrych ar ôl y lle yma! Felly dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dydy'r paganiaid sy'n byw gyda'm pobl Israel ddim i gael mynd i mewn i'r cysegr eto. “‘Bydd y Lefiaid wnaeth droi cefn arna i a mynd ar ôl eilunod, fel pawb arall yn Israel, yn cael eu dal yn gyfrifol am eu pechod. Byddan nhw'n gweithio yn y cysegr ond dim ond fel dynion diogelwch. Nhw hefyd fydd yn lladd yr anifeiliaid sydd i'w llosgi, a'r aberthau, yn lle'r bobl eu hunain. Byddan nhw fel gweision i'r bobl. Am eu bod nhw wedi helpu'r bobl i addoli eilunod a gwneud i bobl Israel faglu a pechu yn fy erbyn i, ar fy llw, bydd rhaid iddyn nhw wynebu canlyniadau eu pechod, meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD. Fyddan nhw ddim yn cael dod yn agos ata i i wasanaethu fel offeiriaid, na chyffwrdd dim byd dw i wedi ei gysegru. Bydd rhaid iddyn nhw fyw gyda'r cywilydd o fod wedi mynd trwy'r holl ddefodau ffiaidd yna. Byddan nhw'n gweithio fel gofalwyr y deml ac yn gwneud yr holl waith cynnal a chadw ynddi. “‘Ond bydd yr offeiriaid o lwyth Lefi sy'n ddisgynyddion Sadoc, yn cael dod ata i a gwasanaethu fel offeiriaid. Roedden nhw wedi dal ati i wneud eu gwaith yn ffyddlon yn y deml pan oedd gweddill pobl Israel wedi troi cefn arna i a mynd i addoli eilunod. Byddan nhw'n dod i gyflwyno brasder a gwaed yr aberthau i mi.’” Dyna neges y Meistr, yr ARGLWYDD. “‘Byddan nhw'n dod i mewn i'r cysegr i weini wrth fy mwrdd i a gwneud eu dyletswyddau. “‘Pan fyddan nhw'n dod i mewn trwy giatiau'r iard fewnol rhaid iddyn nhw wisgo dillad o liain. Dŷn nhw ddim i wisgo gwlân o gwbl pan maen nhw'n gwasanaethu yn yr iard fewnol neu yn adeilad y Deml ei hun. Rhaid iddyn nhw wisgo twrban o liain a dillad isaf o liain — dim byd fyddai'n gwneud iddyn nhw chwysu. Ond pan fyddan nhw'n mynd allan at y bobl i'r iard allanol rhaid iddyn nhw newid eu dillad; cadw'r dillad roedden nhw'n gwasanaethu ynddyn nhw yn yr ystafelloedd sydd wedi eu neilltuo i'r pwrpas hwnnw, a gwisgo eu dillad bob dydd. Wedyn fyddan nhw ddim yn peryglu'r bobl drwy ddod â nhw i gysylltiad â'r dillad sanctaidd. “‘Rhaid iddyn nhw dorri eu gwallt yn rheolaidd — peidio siafio eu pennau, na thyfu eu gwallt yn rhy hir. Dydy offeiriad ddim i yfed gwin cyn mynd i mewn i'r iard fewnol. Dŷn nhw ddim i briodi gwraig weddw na gwraig sydd wedi cael ysgariad, dim ond un o ferched Israel sy'n wyryf neu wraig weddw oedd yn briod ag offeiriad o'r blaen. Byddan nhw'n dysgu'r bobl i wahaniaethu rhwng beth sy'n gysegredig a beth sy'n gyffredin, a dangos iddyn nhw sut i wahaniaethu rhwng beth sy'n aflan ac yn lân. “‘Pan mae pobl yn mynd ag achos i'r llys, yr offeiriaid fydd yn barnu ac yn gwneud yn union beth dw i'n ddweud. Byddan nhw'n cadw'r deddfau a'r rheolau am y Gwyliau a'r dyddiau Saboth dw i wedi eu trefnu. “‘Rhaid iddyn nhw beidio gwneud eu hunain yn aflan drwy fynd yn agos at gorff marw, ac eithrio corff tad, mam, mab, merch, brawd neu chwaer. Pan fydd yr offeiriad yn lân eto bydd rhaid iddo ddisgwyl am saith diwrnod arall cyn mynd i mewn i'r cysegr. A pan fydd yn mynd i'r iard fewnol i wasanaethu yn y cysegr eto, bydd rhaid iddo gyflwyno offrwm i lanhau o bechod,’” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD. “‘Fydd gan offeiriaid ddim tir nag eiddo. Fi ydy eu hunig etifeddiaeth nhw. Yr offrymau fydd eu bwyd nhw — sef yr offrwm o rawn, yr offrwm i lanhau o bechod, a'r offrwm i gyfaddef bai, a beth bynnag arall sy'n cael ei gadw o'r neilltu i Dduw gan bobl Israel. A'r offeiriaid fydd piau ffrwythau cyntaf y cynhaeaf hefyd. Wrth i chi gyflwyno'r rhain, a'r offrwm cyntaf o does hefyd, bydd yr ARGLWYDD yn bendithio eich cartrefi. Dydy'r offeiriaid ddim i fwyta unrhyw aderyn neu anifail sydd wedi marw ohono'i hun neu wedi cael ei ladd gan anifail gwyllt. “‘Pan fyddwch chi'n rhannu'r tir rhwng llwythau Israel, rhaid i chi roi cyfran ohono i'r ARGLWYDD — darn o dir wedi ei gysegru'n arbennig. Mae i fod dros wyth milltir o hyd a dros chwe milltir a hanner o led. Bydd yr ardal yna i gyd yn dir cysegredig. (Mae darn o dir 260 metr wrth 260 metr i'w ddefnyddio ar gyfer y Deml, a llain o dir agored gwag o'i gwmpas sy'n 26 metr o led.) Mesurwch ddarn o dir dros wyth milltir o hyd a tair milltir a chwarter o led. Bydd y cysegr a'r Lle Mwyaf Sanctaidd wedi ei osod yn ei ganol. Bydd yn dir wedi ei gysegru'n arbennig. Tir i'r offeiriaid sy'n gwasanaethu yn y cysegr ac sy'n cael mynd yn agos at yr ARGLWYDD i'w wasanaethu e. Dyna ble bydd yr offeiriaid yn byw, a dyna hefyd ble bydd y Deml. Wedyn bydd darn o dir wyth milltir o hyd a tair milltir a chwarter o led ar gyfer pentrefi y Lefiaid sy'n gwasanaethu yn y deml. “‘Wrth ochr y tir cysegredig yna, bydd darn o dir wyth milltir o hyd a dros filltir a hanner o led, lle gall unrhyw un o bobl Israel fyw. “‘Wedyn bydd dau ddarn o dir ar gyfer pennaeth y wlad — un i'r gorllewin o'r tir cysegredig, a'r llall i'r dwyrain. Bydd ei ffiniau yn gyfochrog â ffiniau tiroedd y llwythau. Dyna'i diroedd e yn Israel. Fydd arweinwyr y wlad ddim yn gormesu fy mhobl o hyn ymlaen. Byddan nhw'n parchu ffiniau'r tir sydd wedi ei roi i bob un o lwythau Israel. “‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dyna ddigon! Chi arweinwyr Israel, stopiwch yr holl drais a'r gormes yma! Gwnewch beth sy'n iawn ac yn deg. Stopiwch daflu pobl allan o'u cartrefi. Defnyddiwch glorian sy'n gywir, a mesurau sych a hylifol cywir. Dylai pob mesur sych a hylifol fod yr un fath, ac yn gywir. Rhaid cael mesur safonol, a rhaid i bob mesur arall fod yn gyson â'r safon hwnnw. A rhaid i werth arian fod yn gywir hefyd. Pum darn arian yn bump go iawn, a deg yn ddeg. Rhaid bod hanner cant o ddarnau arian mewn mina. “‘Dyma'r offrwm sydd i'w gyflwyno: un rhan o chwe deg o'r ŷd a'r haidd; un rhan o gant o'r olew olewydd; ac un ddafad o bob praidd o ddau gant sy'n pori ar dir Israel. Bydd y rhain yn cael eu defnyddio ar gyfer yr offrwm o rawn, yr offrwm sydd i'w losgi'n llwyr, a'r offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD, i wneud pethau'n iawn rhyngddyn nhw â Duw,’” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD. “Bydd pawb drwy'r wlad i gyd yn gyfrifol i ddod â chyflwyno'r offrymau yma i bennaeth y wlad. Bydd y pennaeth wedyn yn gyfrifol am yr offrymau i'w llosgi, yr offrymau o rawn a'r offrymau o ddiod ar gyfer y Gwyliau, yr offrymau misol a'r Sabothau — pob un o wyliau crefyddol Israel. Fe fydd yn cyflwyno'r aberthau dros bechod, yr offrymau o rawn, yr offrymau i'w llosgi'n llwyr a'r offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD, er mwyn gwneud pethau'n iawn rhwng pobl Israel a Duw. “‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Ar ddiwrnod cynta'r flwyddyn rhaid aberthu tarw ifanc sydd â dim byd o'i le arno i wneud y cysegr yn lân. Bydd yr offeiriad yn cymryd peth o waed yr offrwm i lanhau o bechod a'i roi ar gilbyst drws y deml, ar bedair cornel sil yr allor ac ar byst y giât i'r iard fewnol. Rhaid gwneud yr un peth ar y seithfed o'r mis, ar ran unrhyw un sydd wedi pechu'n ddamweiniol neu heb wybod am y peth. Dyna sut bydd yr offeiriad yn gwneud y deml yn lân. “‘Mae Gŵyl y Pasg i'w dathlu ar y pedwerydd ar ddeg o'r mis cyntaf, a rhaid bwyta bara heb furum ynddo am saith diwrnod. Ar y diwrnod hwnnw mae pennaeth y wlad i ddarparu tarw ifanc yn offrwm i lanhau o bechod ar ei ran ei hun a'r bobl. Yna am saith diwrnod yr Ŵyl mae i gyflwyno anifeiliaid yn offrwm i gael eu llosgi'n llwyr i'r ARGLWYDD: saith tarw ifanc a saith hwrdd bob dydd, pob un yn anifail â dim byd o'i le arno. Hefyd un bwch gafr bob dydd yn offrwm i lanhau o bechod. Bydd e hefyd yn rhoi deg cilogram o rawn a pedair litr o olew olewydd gyda pob tarw a phob hwrdd. A bydd yn darparu'r un offrymau ar saith diwrnod Gŵyl y Pebyll sy'n dechrau ar y pymthegfed diwrnod o'r seithfed mis — sef yr offrwm i lanhau o bechod, yr offrymau i'w llosgi, yr offrwm o rawn a'r olew olewydd. “‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Bydd y giât i'r iard fewnol sy'n wynebu'r dwyrain wedi ei chau ar y chwe diwrnod gwaith; ond bydd yn cael ei hagor ar y diwrnod Saboth ac ar Ŵyl y lleuad newydd bob mis. Bydd pennaeth y wlad yn dod i mewn trwy gyntedd allanol y giât. Bydd yn sefyll wrth ymyl pyst y giât tra bydd yr offeiriaid yn cyflwyno'r offrwm sydd i'w losgi'n llwyr a'r offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Bydd yn ymgrymu i addoli ar drothwy'r giât, ac yna'n mynd allan. Ond fydd y giât ddim yn cael ei chau nes iddi nosi. Bydd y bobl gyffredin yn addoli tu allan i'r fynedfa honno ar y Sabothau ac ar Ŵyl y lleuad newydd bob mis. “‘Dyma fydd pennaeth y wlad yn ei roi yn offrwm i'w losgi bob Saboth: chwe oen ac un hwrdd heb ddim byd o'i le arnyn nhw. Bydd deg cilogram o rawn yn cael ei offrymu gyda'r hwrdd, a faint bynnag mae e eisiau ei roi gyda phob oen. Mae hefyd i roi galwyn o olew olewydd gyda phob mesur o rawn. Ar Ŵyl y lleuad newydd mae i offrymu tarw ifanc, chwe oen ac un hwrdd — anifeiliaid sydd â dim byd o'i le arnyn nhw. Offrwm o rawn hefyd — sef deg cilogram gyda'r tarw, deg cilogram gyda'r hwrdd, faint bynnag mae e eisiau ei roi gyda phob oen, a galwyn o olew olewydd gyda phob mesur o rawn. Mae pennaeth y wlad i fynd at y giât drwy'r cyntedd allanol, a mynd allan yr un ffordd. “‘Ond pan mae'r bobl gyffredin yn mynd i addoli'r ARGLWYDD ar y gwyliau crefyddol, mae pwy bynnag sy'n mynd i mewn trwy giât y gogledd i fynd allan drwy giât y de, a'r ffordd arall. Does neb i fynd allan yr un ffordd ag yr aeth i mewn; rhaid iddyn nhw ddefnyddio'r giât gyferbyn. Ar yr adegau yma bydd pennaeth y wlad yn mynd i mewn ac allan gyda gweddill y bobl. “‘Adeg y gwyliau crefyddol dylid cyflwyno deg cilogram o rawn gyda'r tarw, deg cilogram gyda'r hwrdd, a faint bynnag mae rhywun eisiau gyda'r ŵyn. A galwyn o olew olewydd gyda phob mesur o rawn. Pan mae pennaeth y wlad yn cyflwyno offrwm sy'n cael ei roi'n wirfoddol, offrwm i'w losgi'n llwyr neu offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD, a hynny o'i ddewis ei hun, bydd y giât sy'n wynebu'r dwyrain yn cael ei hagor iddo. Bydd yn cyflwyno'r offrymau yn union fel mae'n gwneud ar y Saboth. Wedyn bydd yn mynd allan, a bydd y giât yn cael ei chau tu ôl iddo. “‘Bob bore rhaid i oen blwydd oed sydd â dim byd o'i le arno gael ei gyflwyno yn offrwm i'w losgi'n llwyr i'r ARGLWYDD. Gyda'r oen rhaid cyflwyno offrwm o rawn bob bore — tua dau gilogram ac un rhan o dair o alwyn o olew olewydd i wlychu'r blawd. Fydd y rheol yma am yr offrwm o rawn byth yn newid. Mae'r oen, yr offrwm o rawn a'r olew olewydd i'w gyflwyno bob bore yn offrwm i'w losgi'n llwyr. “‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Os ydy pennaeth y wlad yn rhoi tir i un o'i feibion ei etifeddu, bydd y tir hwnnw'n perthyn iddo fe a'i ddisgynyddion am byth. Ond os ydy e'n rhoi tir i un o'i weision, bydd yn perthyn i'r gwas hyd flwyddyn y rhyddhau; bryd hynny bydd y pennaeth yn cael y tir yn ôl. Dim ond y meibion sy'n cael cadw'r etifeddiaeth am byth. Ddylai pennaeth y wlad ddim cymryd tir pobl oddi arnyn nhw a'u gorfodi nhw i adael eu cartrefi. Dim ond ei dir ei hun mae'n cael ei roi i'w feibion. Ddylai fy mhobl ddim cael eu gyrru oddi ar eu tir.’” Wedyn aeth â fi trwy'r fynedfa sydd wrth ymyl y giât ac i mewn i ystafelloedd yr offeiriaid oedd yn wynebu'r gogledd. Dangosodd ystafell i mi oedd reit ar y pen draw ar yr ochr orllewinol. “Dyma lle mae'r offeiriaid yn berwi cig yr offrwm i gyfaddef bai a'r offrwm i lanhau o bechod,” meddai. “Dyma hefyd lle maen nhw'n pobi'r offrwm o rawn. Maen nhw'n gwneud y cwbl yma er mwyn osgoi mynd â'r offrymau drwy'r iard allanol a peryglu'r bobl drwy ddod â nhw i gysylltiad â phethau sy'n sanctaidd.” Wedyn aeth â fi allan i'r iard allanol a mynd â fi heibio pedair cornel yr iard. Roedd cwrt bach arall ym mhob cornel: pedwar cwrt bach yr un maint, sef dau ddeg metr wrth un deg pump. Roedd wal gerrig isel o gwmpas pob un ohonyn nhw, a nifer o leoedd tân ar gyfer coginio wrth waelod y wal. “Dyma'r ceginau ble mae gweision y deml yn berwi'r cig o aberthau y bobl,” meddai wrtho i. Aeth y dyn â fi yn ôl at fynedfa'r deml ei hun. Gwelais fod dŵr yn tarddu allan o dan drothwy y deml ac yn llifo i gyfeiriad y dwyrain (sef y cyfeiriad roedd y deml yn ei wynebu). Roedd y dŵr yn llifo ar hyd wal ddeheuol y deml, i'r de o'r allor. Yna aeth y dyn â fi allan drwy giât y gogledd a rownd at y giât allanol sy'n wynebu'r dwyrain. Yno roedd y dŵr i'w weld yn pistyllio allan ar yr ochr ddeheuol i'r giât. Aeth y dyn allan i gyfeiriad y dwyrain gyda llinyn mesur yn ei law. Mesurodd 525 metr ac yna fy arwain drwy'r dŵr. Roedd i fyny at fy fferau. Mesurodd 525 metr arall, ac yna fy arwain drwy'r dŵr eto. Erbyn hyn roedd i fyny at fy ngliniau. Mesurodd 525 metr arall, ac roedd y dŵr i fyny at fy nghanol. Yna mesurodd 525 metr arall ac roedd yn afon amhosib i'w chroesi ar droed. Roedd y dŵr yn ddigon dwfn i nofio ynddo, ond doedd hi ddim yn bosib cerdded trwyddo. Yna dwedodd wrtho i, “Ddyn, wyt ti wedi gweld hyn?” Yna aeth â fi yn ôl i lan yr afon. Pan gyrhaeddais yno gwelais fod lot fawr o goed yn tyfu bob ochr i'r afon. “Mae'r dŵr yma,” meddai wrtho i “yn llifo allan tua'r dwyrain, i lawr i'r Araba ac yna i'r Môr Marw. Pan mae'n gwagio i'r Môr, mae'r dŵr hallt yn troi yn ddŵr glân, ffres. Ble bynnag mae'r afon yn llifo bydd creaduriaid o bob math yn byw ac yn ffynnu. Bydd llwythi o bysgod yn byw yn y Môr am fod yr afon wedi troi y dŵr hallt yn ddŵr glân. Ble bynnag mae'r dŵr yn llifo bydd bywyd yn llwyddo. Bydd pysgotwyr yn sefyll ar lan y Môr Marw. Byddan nhw'n taenu eu rhwydi pysgota yr holl ffordd o En-gedi i En-eglaim. Bydd y Môr Marw yn llawn pysgod o bob math, yn union fel Môr y Canoldir. Ond bydd y corsydd a'r pyllau o'i gwmpas yn aros yn hallt. Bydd coed ffrwythau o bob math yn tyfu bob ochr i'r afon. Fydd eu dail byth yn gwywo, a bydd ffrwyth yn tyfu arnyn nhw bob amser. Bydd cnwd newydd yn tyfu arnyn nhw bob mis am fod eu dŵr yn llifo o'r cysegr. Bydd eu ffrwyth yn fwyd, a'i dail yn iacháu.” Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dyma'r ffiniau ar gyfer rhannu'r tir rhwng deuddeg llwyth Israel (Bydd Joseff yn cael dwy ran). Mae'r tir i'w rannu'n gyfartal rhwng y llwythau. Roeddwn i wedi ei addo i'r hynafiaid, ac mae'n cael ei roi yn etifeddiaeth i chi. “A dyma'r ffiniau: Bydd ffin y gogledd yn rhedeg o Fôr y Canoldir ar hyd ffordd Chethlon a Bwlch Chamath i Sedad. Wedyn i Berotha a Sibraim (sydd ar y ffin rhwng Damascus a Chamath), ac yna'r holl ffordd i Chatser-hatticon (sydd ar y ffin gyda Chawran). Felly bydd y ffin yn rhedeg o Fôr y Canoldir i Chatsar-einan ar y ffin gyda Damascus a Chamath i'r gogledd. Dyna ffin y gogledd. Wedyn i'r dwyrain mae'r ffin yn rhedeg o'r pwynt yna rhwng Chawran a Damascus, i lawr Afon Iorddonen rhwng Israel a Gilead, ac wedyn heibio'r Môr Marw cyn belled â Tamar yn y de. Dyna'r ffin i'r dwyrain. Yn y de, bydd y ffin yn rhedeg ar draws o Tamar at Ffynnon Meriba yn Cadesh, ar hyd Wadi'r Aifft ac allan i Fôr y Canoldir. Dyna ffin y de. Wedyn i'r gorllewin, Môr y Canoldir ei hun fydd y ffin i fyny'r holl ffordd at bwynt gyferbyn â Bwlch Chamath. Dyna ffin y gorllewin. “Dyma sut mae'r tir o fewn y ffiniau yma i gael ei rannu rhwng llwythau Israel. Mae i'w rannu rhyngoch yn etifeddiaeth i chi a'r mewnfudwyr sy'n byw gyda chi ac yn magu eu plant yn eich plith. Rhaid i chi eu trin nhw fel petaen nhw wedi eu geni yn Israeliaid. Maen nhw i gael etifeddu tir fel pawb arall. Ble bynnag mae mewnfudwr yn byw, mae i gael tir i'w etifeddu gyda pawb arall yn y llwyth hwnnw,” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD. “Dyma enwau llwythau Israel, a'r tir mae pob un i'w dderbyn: Bydd Dan reit yn y gogledd, wrth ymyl ffordd Chethlon i Fwlch Chamath, cyn belled â Chatsar-einan ar y ffin gyda Damascus a Chamath i'r gogledd. Bydd tir Dan yn ymestyn ar draws y wlad o'r dwyrain i'r gorllewin. Wedyn y nesaf i lawr, yn ffinio gyda Dan, ac eto'n ymestyn o'r dwyrain i'r gorllewin, bydd Asher. Wedyn Nafftali, i'r de o Asher. Wedyn Manasse. Wedyn Effraim. Wedyn Reuben. Ac wedyn Jwda. Pob un ohonyn nhw yn ymestyn ar draws y wlad o'r dwyrain i'r gorllewin. “Yna'n ffinio gyda Jwda bydd y tir cysegredig sy'n wyth milltir o led, a'r un hyd â tiroedd y llwythau o'r dwyrain i'r gorllewin; a bydd y cysegr yn ei ganol. Bydd y tir sydd wedi ei gysegru a'i neilltuo i'r ARGLWYDD yn wyth milltir o hyd, a tair milltir a chwarter o led. Bydd y tir yma sydd wedi ei gysegru yn cael ei rannu rhwng yr offeiriaid — wyth milltir o'r gogledd i'r de, a tair milltir a hanner o'r dwyrain i'r gorllewin. A bydd cysegr yr ARGLWYDD yn ei ganol. Hwn fydd y tir i'r offeiriaid, sef disgynyddion Sadoc wnaeth ddal ati i wneud eu gwaith heb grwydro i ffwrdd fel y gwnaeth gweddill pobl Israel a'r Lefiaid. Eu darn arbennig nhw o'r tir fydd e; y tir mwyaf cysegredig o'r cwbl, gyda tir y Lefiaid eraill drws nesa iddyn nhw. “Bydd tir y Lefiaid hefyd yn wyth milltir o hyd a tair milltir a chwarter o led. Bydd y cwbl gyda'i gilydd yn wyth milltir o hyd a chwe milltir a hanner o led. Dydy'r tir arbennig yma byth i gael ei werthu na'i gyfnewid, na'i ddefnyddio gan unrhyw un arall. Mae wedi ei gysegru a'i neilltuo'n arbennig i'r ARGLWYDD. “Bydd y gweddill — milltir a hanner o led ac wyth milltir o hyd — yn dir cyhoeddus i adeiladu tai arno neu ei gadw'n dir agored. Ond bydd y ddinas yn ei ganol. Bydd y ddinas yn mesur milltir a hanner bob ffordd. A bydd tir agored rhyw gant tri deg metr o led o gwmpas y ddinas i gyd. Bydd gweddill y tir, sydd bob ochr i'r tir cysegredig yn dir amaeth, i dyfu bwyd ar gyfer y bobl sy'n gweithio yn y ddinas. Tair milltir a hanner ar yr ochr ddwyreiniol, a tair milltir a hanner i'r gorllewin. Bydd y tir yma'n cael ei ffermio gan bobl o'r gwahanol lwythau sydd wedi dod i weithio yn y ddinas. Bydd y darn tir i gyd (y tiroedd cysegredig a tiroedd y ddinas gyda'i gilydd) yn wyth milltir i bob cyfeiriad. “Pennaeth y wlad fydd piau'r gweddill (sef beth sydd ar ôl bob ochr i'r tir cysegredig a thir amaeth y ddinas.) Bydd yn ymestyn o ymylon yr wyth milltir o dir cysegredig, yr holl ffordd i'r ffin ddwyreiniol un ochr ac i Fôr y Canoldir yr ochr arall. A bydd y tir cysegredig a'r deml ei hun yn y canol. Bydd tir y Lefiaid yn y canol hefyd, a tir amaeth y ddinas, gyda tir pennaeth y wlad bob ochr iddo. Bydd tir y pennaeth yn ymestyn o ffin Jwda i ffin Benjamin. “Wedyn tiroedd gweddill y llwythau: Tir Benjamin nesaf, yn ymestyn ar draws y wlad o'r dwyrain i'r gorllewin. Wedyn tir Simeon. Wedyn Issachar. Wedyn Sabulon. Ac yn olaf Gad. A bydd tir Gad yn dilyn y ffin ddeheuol, ar draws o Tamar at Ffynnon Meriba yn Cadesh, ar hyd Wadi'r Aifft ac allan i Fôr y Canoldir. Dyma'r tir sydd i gael ei rannu rhwng llwythau Israel,” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD. Dyma ddisgrifiad o'r ddinas o'r tu allan: Ar yr ochr ogleddol, sydd filltir a hanner o hyd, bydd tair giât wedi eu henwi ar ôl llwythau Israel — giât Reuben, giât Jwda, a giât Lefi. Ar yr ochr ddwyreiniol, sydd eto filltir a hanner o hyd, bydd tair giât — giât Joseff, giât Benjamin, a giât Dan. Ar yr ochr ddeheuol, sydd filltir a hanner o hyd, bydd tair giât — giât Simeon, giât Issachar, a giât Sabulon. Ac ar yr ochr orllewinol, sydd eto filltir a hanner o hyd, bydd tair giât — giât Gad, giât Asher, a giât Nafftali. Mae'r ddinas yn mesur chwe milltir o'i chwmpas i gyd, ac enw'r ddinas o hynny ymlaen fydd Iahwe-Shamma: “Mae'r ARGLWYDD yna.” Yn y drydedd flwyddyn pan oedd y Brenin Jehoiacim yn teyrnasu ar Jwda, dyma Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn ymosod ar Jerwsalem a gwarchae arni. A dyma Duw yn gadael iddo ddal Jehoiacim, brenin Jwda. Cymerodd nifer o bethau o'r deml hefyd. Aeth â nhw yn ôl i wlad Babilon, a'i cadw yn y trysordy yn nheml ei dduw. Dyma'r brenin yn gorchymyn i Ashpenas, prif swyddog ei balas, chwilio am Israeliaid ifanc oedd yn perthyn i'r teulu brenhinol a theuluoedd bonedd eraill — dynion ifanc cryfion, iach a golygus. Rhai galluog, wedi cael addysg dda, ac yn fechgyn doeth, cymwys i weithio yn y palas. Roedden nhw i ddysgu iaith Babilon, a hefyd dysgu am lenyddiaeth y wlad. A dyma'r brenin yn gorchymyn eu bod i gael bwyta'r bwyd a'r gwin gorau, wedi ei baratoi yn y gegin frenhinol. Ac roedd rhaid iddyn nhw gael eu hyfforddi am dair blynedd cyn dechrau gweithio i'r brenin. Roedd pedwar o'r rhai gafodd eu dewis yn dod o Jwda — Daniel, Hananeia, Mishael, ac Asareia. Ond dyma'r prif swyddog yn rhoi enwau newydd iddyn nhw. Galwodd Daniel yn Belteshasar, Hananeia yn Shadrach, Mishael yn Meshach, ac Asareia yn Abednego. Dyma Daniel yn penderfynu nad oedd e am i wneud ei hun yn aflan drwy fwyta'r bwyd a'r gwin oedd y brenin am ei roi iddo. Gofynnodd i'r prif swyddog am ganiatâd i beidio bwyta'r bwyd brenhinol. Roedd Duw wedi gwneud i'r swyddog hoffi Daniel a bod yn garedig ato, ond meddai wrtho, “Mae fy meistr y brenin wedi dweud beth ydych chi i'w fwyta a'i yfed. Mae arna i ofn beth fyddai'n wneud petaech chi'n edrych yn fwy gwelw a gwan na'r bechgyn eraill yr un oed â chi. Byddech chi'n rhoi fy mywyd i ar y lein!” Ond wedyn dyma Daniel yn siarad â'r swyddog oedd wedi cael ei benodi i ofalu amdano fe, Hananeia, Mishael ac Asareia. “Pam wnei di ddim profi ni am ddeg diwrnod? Gad i ni fwyta dim ond llysiau a dŵr, ac wedyn cei di weld sut fyddwn ni'n cymharu gyda'r bechgyn eraill sy'n bwyta'r bwyd brenhinol. Cei benderfynu gwneud beth bynnag wyt ti eisiau wedyn.” Felly dyma'r gwas oedd yn gofalu amdanyn nhw yn cytuno, ac yn eu profi nhw am ddeg diwrnod. Ar ddiwedd y deg diwrnod roedd Daniel a'i ffrindiau yn edrych yn well ac yn iachach na'r bechgyn eraill i gyd, er bod y rheiny wedi bod yn bwyta'r bwydydd gorau o gegin y palas. Felly dyma'r gwas oedd yn gofalu amdanyn nhw yn dal ati i roi llysiau iddyn nhw yn lle'r bwydydd cyfoethog a'r gwin roedden nhw i fod i'w gael. Rhoddodd Duw allu anarferol i'r pedwar ohonyn nhw i ddysgu am lenyddiaeth a phopeth arall. Roedd gan Daniel yn arbennig y ddawn i ddehongli gweledigaethau a breuddwydion. Ar ddiwedd y cyfnod o hyfforddiant dyma'r prif swyddog yn mynd â nhw o flaen y brenin Nebwchadnesar. Dyma'r brenin yn eu cyfweld nhw, a doedd dim un ohonyn nhw cystal â Daniel, Hananeia, Mishael ac Asareia. Felly dyma'r pedwar ohonyn nhw'n cael eu penodi i weithio i'r brenin. Beth bynnag oedd y brenin yn eu holi nhw amdano, roedd eu gwybodaeth a'i cyngor doeth nhw ddeg gwaith gwell nag unrhyw ddewin neu swynwr doeth drwy'r Ymerodraeth gyfan. Roedd Daniel yn dal yno y flwyddyn y daeth Cyrus yn frenin. Yn ystod yr ail flwyddyn pan oedd Nebwchadnesar yn frenin cafodd freuddwyd oedd yn ei boeni gymaint roedd yn colli cwsg am y peth. Dyma fe'n galw'r swynwyr, y dewiniaid, y consurwyr a'r dynion doeth at ei gilydd i esbonio'r freuddwyd iddo. Dyma nhw'n dod a sefyll o flaen y brenin. A dyma'r brenin yn dweud wrthyn nhw, “Dw i wedi cael breuddwyd, a dw i eisiau gwybod beth ydy'r ystyr.” A dyma'r dynion doeth yn ateb [yn Aramaeg ], “O frenin! Boed i chi fyw am byth! Dwedwch beth oedd y freuddwyd wrth eich gweision, a gwnawn ni ddweud beth mae'n ei olygu.” “Na,” meddai'r brenin, “yn bendant ddim. Dw i wedi penderfynu fod rhaid i chi ddweud beth oedd y freuddwyd a beth mae'n ei olygu. Os na wnewch chi bydd eich cyrff chi'n cael eu rhwygo'n ddarnau, a'ch cartrefi chi'n cael eu troi'n domen sbwriel! Ond os gallwch chi ddweud wrtho i beth oedd y freuddwyd ges i, a beth mae'n ei olygu bydda i'n pentyrru anrhegion, gwobrau ac anrhydeddau arnoch chi. Felly dwedwch beth oedd y freuddwyd, a beth mae'n ei olygu!” Ond dyma nhw'n dweud eto, “Os bydd y brenin mor garedig â dweud wrthon ni beth oedd y freuddwyd, gwnawn ni ddweud wrtho beth mae'n ei olygu.” “Dw i'n deall eich gêm chi,” meddai'r brenin. “Dych chi'n gweld mor benderfynol ydw i a dych chi'n chwarae am amser. Os wnewch chi ddim dweud wrtho i beth oedd y freuddwyd bydd hi ar ben arnoch chi. Dych chi'n mynd i wneud rhyw esgusion a hel straeon celwyddog yn y gobaith y bydd y sefyllfa'n newid. Felly dwedwch wrtho i beth oedd y freuddwyd. Bydd hi'n amlwg i mi wedyn eich bod chi yn gallu esbonio'r ystyr.” A dyma'r dynion doeth yn ateb y brenin, “Does neb ar wyneb daear allai wneud beth mae'r brenin yn ei ofyn. A does yna erioed frenin (sdim ots pa mor bwerus oedd e) wedi gofyn y fath beth i'w ddewiniaid, ei swynwyr neu ei ddynion doeth. Mae'r brenin yn gofyn am rywbeth sy'n amhosib! Dim ond y duwiau sy'n gwybod yr ateb — a dŷn nhw ddim yma gyda ni!” Pan glywodd hynny, dyma'r brenin yn gwylltio'n lân, a gorchymyn fod dynion doeth Babilon i gyd i gael eu lladd. Roedd y gorchymyn ar fin cael ei weithredu, ac roedd Daniel a'i ffrindiau'n mynd i gael eu dienyddio hefyd. Ond dyma Daniel yn cael gair yng nghlust Arioch, capten gwarchodlu'r brenin, oedd wedi mynd allan i ddienyddio'r dynion doeth i gyd. Gofynnodd i Arioch, “Capten, pam mae'r brenin wedi rhoi gorchymyn mor galed?” A dyma Arioch yn dweud beth oedd wedi digwydd. Felly dyma Daniel yn gofyn i'r brenin roi ychydig amser iddo, a byddai'n esbonio iddo beth oedd ystyr y freuddwyd. Wedyn aeth Daniel adre, a dweud wrth ei ffrindiau Hananeia, Mishael ac Asareia am y peth. Gofynnodd iddyn nhw weddïo y byddai Duw y nefoedd yn drugarog, ac yn dweud wrthyn nhw beth oedd ystyr ddirgel y freuddwyd. Wedyn fydden nhw ddim yn cael eu dienyddio gyda gweddill dynion doeth Babilon. Y noson honno dyma Daniel yn cael yr ateb i'r dirgelwch, mewn gweledigaeth yn ystod y nos. A dyma fe'n moli Duw y nefoedd, a dweud, “Boed i enw Duw gael ei foli am byth! Mae e'n Dduw doeth a chryf. Fe sy'n rheoli amser ac yn arwain hanes. Fe sy'n codi brenhinoedd ac yn eu diorseddu nhw. Fe sy'n rhoi doethineb i'r doeth, a gwybodaeth i bobl ddeallus. Mae e'n datguddio pethau sy'n ddirgelwch llwyr. Mae e'n gweld beth sy'n y tywyllwch; mae golau o'i gwmpas e bob amser. Dw i'n dy foli di! Clod i ti! O Dduw fy hynafiaid. Rwyt ti wedi rhoi doethineb a nerth i mi. Ti wedi dangos beth roedden ni angen ei wybod, a rhoi i mi'r ateb i gwestiwn y brenin.” Felly dyma Daniel yn mynd at Arioch, oedd wedi cael y gwaith o ladd dynion doeth Babilon i gyd. Dwedodd wrtho, “Paid lladd dynion doeth Babilon. Dos â fi i weld y brenin. Gwna i ddweud wrtho beth ydy ystyr y freuddwyd.” Felly'n syth bin dyma Arioch yn mynd â Daniel i weld y brenin, a dweud wrtho, “Dw i wedi dod o hyd i ddyn, un o gaethion Jwda, sy'n gallu dweud wrth y brenin beth ydy ystyr ei freuddwyd!” Dyma'r brenin yn gofyn i Daniel (oedd yn cael ei alw yn Belteshasar), “Ydy hyn yn wir? Wyt ti'n gallu dweud beth oedd y freuddwyd, a dweud wrtho i beth mae'n ei olygu?” Dyma Daniel yn ateb y brenin, “Does neb ar wyneb daear — dynion doeth, swynwyr, dewiniaid na chonsurwyr — yn gallu datrys y dirgelwch yma i'r brenin. Ond mae yna Dduw yn y nefoedd sy'n gallu dangos ystyr pob dirgelwch. Mae'r Duw yma wedi dangos i Nebwchadnesar beth sy'n mynd i ddigwydd yn y dyfodol. “Dyma beth welaist ti yn dy freuddwyd: Tra roedd y brenin yn cysgu yn ei wely cafodd freuddwyd am bethau yn y dyfodol. Dangosodd yr Un sy'n datrys pob dirgelwch bethau sy'n mynd i ddigwydd. Dw i ddim wedi cael yr ateb i'r dirgelwch am fy mod i'n fwy doeth na phawb arall, ond am fod Duw eisiau i'r brenin ddeall y freuddwyd gafodd e. “Eich mawrhydi, beth welsoch chi oedd cerflun anferth — roedd yn aruthrol fawr ac yn disgleirio'n llachar. Roedd yn ddigon i ddychryn unrhyw un. Roedd pen y cerflun wedi ei wneud o aur, ei frest a'i freichiau yn arian, ei fol a'i gluniau yn bres, ei goesau yn haearn, a'i draed yn gymysgedd o haearn a chrochenwaith. Tra roeddech chi'n edrych arno dyma garreg yn cael ei thorri o ochr mynydd gan law anweledig. Dyma'r garreg yn taro'r cerflun ar ei draed, ac yn eu malu nhw'n ddarnau. A dyma'r cerflun anferth yn syrthio'n ddarnau — yr haearn, crochenwaith, pres, arian ac aur. Roedd y cwbl yn ddarnau mân, fel us ar lawr dyrnu. A cafodd y cwbl ei chwythu i ffwrdd gan y gwynt. Doedd dim sôn amdano. Ond wedyn dyma'r garreg wnaeth daro'r cerflun yn troi yn fynydd enfawr oedd i'w weld yn amlwg drwy'r byd i gyd. “Dyna oedd y freuddwyd. A nawr, fe esbonia i beth ydy ystyr y cwbl i'r brenin: Eich mawrhydi, dych chi'n frenin ar frenhinoedd lawer. Mae Duw y nefoedd wedi rhoi awdurdod, pŵer, grym ac anrhydedd i chi. Dych chi'n teyrnasu ar y byd i gyd — ble bynnag mae pobl, anifeiliaid gwylltion ac adar yn byw. Chi ydy'r pen o aur. Ond bydd teyrnas arall yn dod ar eich ôl chi; fydd hi ddim mor fawr â'ch ymerodraeth chi. Ar ôl hynny bydd trydedd teyrnas yn codi i reoli'r byd i gyd — dyma'r un o bres. Wedyn bydd y bedwaredd deyrnas yn codi. Bydd hon yn gryf fel haearn. Yn union fel mae haearn yn malu popeth mae'n ei daro, bydd y deyrnas yma yn dinistrio a sathru popeth aeth o'i blaen. Ac wedyn y traed a'r bodiau welsoch chi (oedd yn gymysgedd o haearn a chrochenwaith) — bydd hon yn deyrnas ranedig. Bydd ganddi beth o gryfder yr haearn ynddi, ond haearn wedi ei gymysgu â chrochenwaith ydy e. Cymysgedd o gryfder yr haearn a breuder y crochenwaith. Mae'r cymysgedd hefyd yn dangos y bydd pobloedd yn cymysgu trwy briodas, ond ddim yn aros gyda'i gilydd — yn union fel haearn a chrochenwaith, sydd ddim yn cymysgu gyda'i gilydd. “Yn amser y brenhinoedd yna bydd Duw y nefoedd yn sefydlu teyrnas fydd byth yn cael ei dinistrio. Fydd y deyrnas yma byth yn cael ei choncro a'i chymryd drosodd gan bobl eraill. Bydd yn chwalu'r teyrnasoedd eraill, ac yn dod â nhw i ben. Ond bydd y deyrnas hon yn aros am byth. Dyna ystyr y garreg gafodd ei thorri o ochr mynydd gan law anweledig, a malu'r cwbl yn ddarnau — yr haearn, y pres, y crochenwaith, yr arian a'r aur. Mae'r Duw mawr wedi dangos i'r brenin beth fydd yn digwydd yn y dyfodol. Dyna oedd y freuddwyd, ac mae'r esboniad yn gywir hefyd.” Dyma'r brenin Nebwchadnesar yn plygu o flaen Daniel â'i wyneb ar lawr, a gorchymyn cyflwyno aberthau a llosgi arogldarth iddo. Dwedodd wrth Daniel, “Ti ydy'r unig un sydd wedi gallu datrys y dirgelwch. Felly, does dim amheuaeth fod dy Dduw di yn Dduw ar y duwiau i gyd, ac yn feistr ar bob brenin. Mae e'n gallu datguddio pob dirgelwch!” Dyma'r brenin yn rhoi un o swyddi uchaf y deyrnas i Daniel, ac yn rhoi llwythi o anrhegion iddo. Gwnaeth Daniel yn Llywodraethwr talaith Babilon gyfan, ac yn bennaeth dynion doeth Babilon i gyd. A gofynnodd Daniel i'r brenin apwyntio Shadrach, Meshach ac Abednego yn rheolwyr gweinyddiaeth talaith Babilon. Roedd Daniel yn weinidog yn llywodraeth y brenin. Dyma'r brenin Nebwchadnesar yn gwneud delw aur oedd yn 27 metr o uchder ac yn dri metr o led. Cafodd y cerflun ei osod ar wastadedd Dwra yn nhalaith Babilon. Yna anfonodd orchymyn allan yn galw penaethiaid y taleithiau, yr uchel-swyddogion a'r llywodraethwyr i gyd at ei gilydd i seremoni dadorchuddio'r ddelw; hefyd rheolwyr a chomisiynwyr, cynghorwyr y brenin, trysoryddion, barnwyr, ynadon, a phawb arall o bwys. A dyma nhw i gyd yn dod i'r seremoni. Roedd pawb yno, yn sefyll o flaen y ddelw oedd Nebwchadnesar wedi ei chodi. Yna dyma swyddog yn cyhoeddi'n uchel, “Dyma orchymyn y brenin i bawb sydd yma, o bob gwlad ac iaith: Pan fydd y gerddoriaeth yn dechrau — y corn, ffliwt, telyn, trigon, crythau, pibau a'r offerynnau eraill — mae pawb i blygu i lawr ac addoli y ddelw aur mae'r brenin Nebwchadnesar wedi ei chodi. Bydd pwy bynnag sy'n gwrthod plygu ac addoli'r ddelw, yn cael eu taflu ar unwaith i mewn i ffwrnais o dân. ” Felly yr eiliad y clywodd y bobl yr offerynnau i gyd, dyma pawb, o bob gwlad ac iaith yn plygu i lawr ac yn addoli'r ddelw aur oedd Nebwchadnesar wedi ei chodi. Ond dyma rai o'r dynion doeth yn mynd at y brenin, a dechrau lladd ar yr Iddewon. “O frenin! Boed i chi fyw am byth!” medden nhw. “Roeddech chi wedi gorchymyn fod pawb i blygu i lawr ac addoli'r ddelw aur pan oedden nhw'n clywed y gerddoriaeth yn dechrau. A bod pwy bynnag sy'n gwrthod plygu ac addoli'r ddelw, i gael eu taflu i mewn i ffwrnais o dân. Ond mae yna Iddewon yma — Shadrach, Meshach ac Abednego — gafodd eu penodi yn rheolwyr talaith Babilon gynnoch chi. Maen nhw wedi gwrthod gwrando, eich mawrhydi. Dŷn nhw ddim yn addoli eich duwiau chi, ac maen nhw'n gwrthod addoli y ddelw aur dych chi wedi ei chodi.” Dyma Nebwchadnesar yn gwylltio'n lân, ac yn gorchymyn dod â Shadrach, Meshach ac Abednego o'i flaen. Felly dyma nhw'n dod â'r tri o flaen y brenin. A dyma Nebwchadnesar yn gofyn iddyn nhw, “Shadrach, Meshach ac Abednego. Ydy e'n wir eich bod chi ddim yn addoli fy nuwiau i, a'ch bod chi wedi gwrthod addoli'r ddelw aur dw i wedi ei chodi? Dw i'n fodlon rhoi un cyfle arall i chi. Pan fyddwch chi'n clywed yr offerynnau, os ydych chi'n barod i blygu i lawr ac addoli y ddelw dw i wedi ei chodi, bydd popeth yn iawn. Ond os byddwch chi'n gwrthod, byddwch chi'n cael eich taflu ar unwaith i mewn i'r ffwrnais o dân. Pa dduw sy'n mynd i'ch achub chi o'm gafael i wedyn?” Ond dyma Shadrach, Meshach ac Abednego yn ateb y brenin, “Does dim pwynt i ni eich ateb chi. Os ydy'r Duw dŷn ni'n ei addoli yn bodoli, bydd e'n gallu'n hachub ni o'r ffwrnais dân ac o'ch gafael chi, o frenin. Ond hyd yn oed os ydy e ddim yn gwneud hynny, sdim gwahaniaeth. Does gynnon ni ddim bwriad addoli eich duwiau chi, na'r ddelw aur dych chi wedi ei chodi.” Roedd Nebwchadnesar yn lloerig gyda Shadrach, Meshach ac Abednego. Roedd ei wyneb yn dweud y cwbl! Rhoddodd orchymyn fod y ffwrnais i gael ei thanio saith gwaith poethach nag arfer. Yna gorchmynnodd i ddynion cryfion o'r fyddin rwymo Shadrach, Meshach ac Abednego a'u taflu nhw i mewn i'r ffwrnais. A dyma'r tri yn cael eu rhwymo a'u taflu i'r ffwrnais heb hyd yn oed dynnu eu dillad. Roedden nhw'n dal i wisgo'r cwbl — clogyn, trowsus, twrban, a phob dilledyn arall. Am fod y brenin wedi gorchymyn gwneud y ffwrnais mor eithafol o boeth, dyma'r fflamau yn llamu allan o'r ffwrnais a lladd y milwyr wrth iddyn nhw daflu Shadrach, Meshach ac Abednego i'r tân. Felly dyma Shadrach, Meshach ac Abednego yn syrthio, wedi eu rhwymo'n dynn, i ganol y tân yn y ffwrnais. Ond yna'n sydyn dyma'r brenin Nebwchadnesar yn neidio ar ei draed mewn braw. “Onid tri dyn wnaethon ni eu rhwymo a'i taflu i'r tân?” meddai wrth ei gynghorwyr. “Ie, yn sicr,” medden nhw. “Ond edrychwch!” gwaeddodd y brenin. “Dw i'n gweld pedwar o bobl, yn cerdded yn rhydd yng nghanol y tân. A dŷn nhw ddim wedi cael unrhyw niwed! Ac mae'r pedwerydd yn edrych fel petai'n fod dwyfol.” Dyma Nebwchadnesar yn mynd mor agos ac y gallai at ddrws y ffwrnais, a gweiddi: “Shadrach, Meshach, Abednego, gweision y Duw Goruchaf. Dowch allan! Dowch yma!” A dyma'r tri yn cerdded allan o'r tân. Dyma benaethiaid y taleithiau, yr uchel-swyddogion, y llywodraethwyr a chynghorwyr y brenin i gyd yn casglu o'u cwmpas nhw. Doedd y tân ddim wedi eu llosgi nhw o gwbl, dim un blewyn. Doedd dim niwed i'w dillad. Doedd dim hyd yn oed arogl llosgi arnyn nhw! Ac meddai Nebwchadnesar, “Moliant i Dduw Shadrach, Meshach ac Abednego! Anfonodd angel i achub ei weision oedd yn trystio ynddo. Roedden nhw'n fodlon herio gorchymyn y brenin, a hyd yn oed marw cyn addoli unrhyw dduw ond eu Duw eu hunain. Felly dw i am ei wneud yn ddeddf fod neb o unrhyw wlad neu iaith i ddweud unrhyw beth yn erbyn Duw Shadrach, Meshach ac Abednego. Os gwnân nhw, bydd eu cyrff yn cael eu rhwygo'n ddarnau, a'u cartrefi yn cael eu troi'n domen sbwriel! Achos does yr un Duw arall yn gallu achub fel yma.” A dyma'r brenin yn rhoi dyrchafiad a swyddi gwell fyth yn nhalaith Babilon i Shadrach, Meshach ac Abednego. Y brenin Nebwchadnesar, at y bobl i gyd, o bob gwlad ac iaith — pawb drwy'r byd: Heddwch a llwyddiant i chi i gyd! Dw i eisiau dweud wrthoch chi am y ffordd wyrthiol mae'r Duw Goruchaf wedi dangos ei hun i mi. Mae'r arwyddion mae'n eu rhoi yn rhyfeddol! Mae ei wyrthiau yn syfrdanol! Fe ydy'r un sy'n teyrnasu am byth, ac yn rheoli popeth o un genhedlaeth i'r llall! Roeddwn i, Nebwchadnesar, yn byw'n foethus ac yn ymlacio adre yn y palas. Ond un noson ces i freuddwyd wnaeth fy nychryn i go iawn. Roedd beth welais i yn hunllef ddychrynllyd. Felly dyma fi'n gorchymyn fod dynion doeth Babilon i gyd i gael eu galw, er mwyn iddyn nhw ddweud wrtho i beth oedd ystyr ddirgel y freuddwyd. Dyma'r dewiniaid, y swynwyr, y dynion doeth a'r consurwyr i gyd yn dod, a dyma fi'n dweud wrthyn nhw beth oedd y freuddwyd. Ond doedden nhw ddim yn gallu dweud wrtho i beth oedd hi'n ei olygu. Ond wedyn dyma Daniel yn dod (yr un gafodd ei alw'n Belteshasar, ar ôl y duw roeddwn i'n ei addoli) — mae ysbryd y duwiau sanctaidd ynddo fe. A dyma fi'n dweud wrtho yntau beth oedd y freuddwyd. “Belteshasar. Ti ydy'r prif swynwr. Dw i'n gwybod fod ysbryd y duwiau sanctaidd ynot ti, a does run dirgelwch yn peri penbleth i ti. Dw i eisiau i ti ddweud beth ydy ystyr y freuddwyd yma. “Dyma beth welais i yn y freuddwyd: Roeddwn i'n gweld coeden fawr yng nghanol y ddaear — roedd hi'n anhygoel o dal. Roedd y goeden yn tyfu'n fawr ac yn gref. Roedd y goeden yn ymestyn mor uchel i'r awyr roedd i'w gweld o bobman drwy'r byd i gyd. Roedd ei dail yn hardd, ac roedd digonedd o ffrwyth arni — digon o fwyd i bawb! Roedd anifeiliaid gwylltion yn cysgodi dani, ac adar yn nythu yn ei brigau. Roedd popeth byw yn cael eu bwyd oddi arni. “Tra roeddwn yn gweld hyn yn y freuddwyd, dyma angel sanctaidd yn dod i lawr o'r nefoedd. Dyma fe'n gweiddi'n uchel, ‘Torrwch y goeden i lawr, a thorri ei changhennau i ffwrdd! Tynnwch ei dail a chwalu ei ffrwyth! Gyrrwch yr anifeiliaid i ffwrdd, a heliwch yr adar o'i brigau! Ond gadewch y boncyff a'r gwreiddiau yn y ddaear, gyda rhwymyn o haearn a phres amdano. Bydd y gwlith yn ei wlychu gyda'r glaswellt o'i gwmpas; a bydd yn bwyta planhigion gwyllt gyda'r anifeiliaid. Bydd yn sâl yn feddyliol, ac yn meddwl ei fod yn anifail. Bydd yn aros felly am amser hir. Mae'r angylion wedi cyhoeddi hyn, a'r rhai sanctaidd wedi rhoi'r ddedfryd! “‘Y bwriad ydy fod pob person byw i ddeall fod y Duw Goruchaf yn teyrnasu dros lywodraethau'r byd. Mae'n gallu eu rhoi i bwy bynnag mae eisiau, hyd yn oed y person mwyaf di-nod.’ “Dyna'r freuddwyd ges i,” meddai Nebwchadnesar. “Dw i eisiau i ti, Belteshasar, ddweud beth mae'n ei olygu. Does neb arall o ddynion doeth y deyrnas wedi gallu esbonio'r ystyr i mi. Ond dw i'n siŵr y byddi di'n gallu, am fod ysbryd y duwiau sanctaidd ynot ti.” Roedd Daniel (oedd hefyd yn cael ei alw'n Belteshasar) dan deimlad am beth amser. Roedd beth oedd yn mynd trwy ei feddwl yn ei ddychryn. Ond dyma'r brenin yn dweud wrtho, “Belteshasar, paid poeni. Paid gadael i'r freuddwyd dy ddychryn di.” Ac meddai Belteshasar, “Meistr, o na fyddai'r freuddwyd wedi ei rhoi i'ch gelynion chi, a'i hystyr ar gyfer y rhai sy'n eich casáu chi! Y goeden welsoch chi'n tyfu'n fawr ac yn gref, yn ymestyn mor uchel i'r awyr nes ei bod i'w gweld o bobman drwy'r byd i gyd — yr un gyda dail hardd a digonedd o ffrwyth arni, a'r anifeiliaid gwylltion yn cysgodi dani, a'r adar yn nythu yn ei brigau — chi ydy'r goeden yna, eich mawrhydi. Dych chi'n frenin mawr a chryf. Dych chi mor fawr, mae'ch awdurdod chi dros y byd i gyd. Ond wedyn dyma chi'n gweld angel yn dod i lawr o'r nefoedd, ac yn dweud, ‘Torrwch y goeden i lawr, a'i dinistrio, ond gadewch y boncyff yn y ddaear gyda rhwymyn o haearn a phres amdano. Fel y glaswellt o'i gwmpas, bydd y gwlith yn ei wlychu, a bydd yn byw gyda'r anifeiliaid gwylltion am amser hir.’ Dyma ystyr y freuddwyd, eich mawrhydi: Mae'r Duw Goruchaf wedi penderfynu mai dyma sy'n mynd i ddigwydd i'm meistr, y brenin. Byddwch chi'n cael eich cymryd allan o gymdeithas, ac yn byw gyda'r anifeiliaid gwylltion. Byddwch chi'n bwyta glaswellt fel ychen, ac allan yn yr awyr agored yn cael eich gwlychu gan wlith. Bydd amser hir yn mynd heibio, nes i chi ddeall fod y Duw Goruchaf yn teyrnasu dros lywodraethau'r byd, ac yn eu rhoi i bwy bynnag mae eisiau. Ond fel y boncyff a'r gwreiddiau yn cael eu gadael, byddwch chi'n cael eich teyrnas yn ôl pan fyddwch chi'n cydnabod fod yr Un nefol yn rheoli'r cwbl. Felly plîs ga i roi cyngor i chi, eich mawrhydi. Trowch gefn ar eich pechod, a gwneud y peth iawn. Stopiwch wneud pethau drwg, a dechrau bod yn garedig at bobl dlawd. Falle, wedyn, y cewch chi ddal i fod yn llwyddiannus.” Ond digwyddodd y cwbl i Nebwchadnesar. Flwyddyn yn ddiweddarach pan oedd yn cerdded ar do ei balas brenhinol yn Babilon, dwedodd fel yma: “Edrychwch ar Babilon, y ddinas wych yma! Fi sydd wedi adeiladu'r cwbl, yn ganolfan frenhinol i ddangos mor bwerus ac mor fawr ydw i.” Doedd y brenin ddim wedi gorffen ei frawddeg pan glywodd lais o'r nefoedd yn dweud: “Dyma sy'n cael ei ddweud wrthot ti, y brenin Nebwchadnesar: mae dy deyrnas wedi ei chymryd oddi arnat ti! Byddi'n cael dy gymryd allan o gymdeithas, yn byw gyda'r anifeiliaid gwylltion, ac yn bwyta glaswellt fel ychen. Bydd amser hir yn mynd heibio cyn i ti ddeall fod y Duw Goruchaf yn teyrnasu dros lywodraethau'r byd, ac yn eu rhoi i bwy bynnag mae eisiau.” A dyna ddigwyddodd yn syth wedyn. Daeth beth gafodd ei ddweud am Nebwchadnesar yn wir. Cafodd ei gymryd allan o gymdeithas. Dechreuodd fwyta glaswellt, fel ychen. Roedd ei gorff yn cael ei wlychu gan wlith yn yr awyr agored, nes bod ei wallt wedi tyfu fel plu eryr, a'i ewinedd fel crafangau aderyn. “Ond yn y diwedd, dyma fi, Nebwchadnesar, yn troi at yr Un nefol, a ces fy iacháu yn feddyliol. Dechreuais foli y Duw Goruchaf, ac addoli'r Un sy'n byw am byth. Mae ei awdurdod yn para am byth, ac mae'n teyrnasu o un genhedlaeth i'r llall. Dydy pobl y byd i gyd yn ddim o'i gymharu ag e. Mae'n gwneud beth mae ei eisiau gyda'r grymoedd nefol, a phobl ar y ddaear. Does neb yn gallu ei stopio na'i herio trwy ddweud, ‘Beth wyt i'n wneud?’ “Pan ges i fy iacháu, ces fynd yn ôl i fod yn frenin, gydag anrhydedd ac ysblander. Daeth gweinidogion y llywodraeth a'r uchel-swyddogion i gyd i'm gwneud yn frenin unwaith eto. Roedd gen i fwy o awdurdod nag erioed! A dyna pam dw i'n addoli, ac yn rhoi'r clod a'r anrhydedd i gyd i Frenin y nefoedd, sydd bob amser yn gwneud beth sy'n iawn ac yn deg. Mae'n rhoi'r rhai balch yn eu lle!” Roedd y brenin Belshasar wedi trefnu gwledd i fil o'i uchel-swyddogion. A dyna ble roedd e'n yfed gwin o'i blaen nhw i gyd. Pan oedd y gwin wedi mynd i'w ben dyma Belshasar yn gorchymyn dod â'r llestri aur ac arian oedd ei ragflaenydd, Nebwchadnesar, wedi eu cymryd o'r deml yn Jerwsalem. Roedd am yfed ohonyn nhw, gyda'i uchel-swyddogion, ei wragedd a'i gariadon i gyd. Felly dyma nhw'n dod â'r llestri aur ac arian oedd wedi eu cymryd o deml Duw yn Jerwsalem. A dyma'r brenin a'i uchel-swyddogion, ei wragedd a'i gariadon yn yfed ohonyn nhw. Wrth yfed y gwin roedden nhw'n canmol eu duwiau — eilun-dduwiau wedi eu gwneud o aur, arian, pres, haearn, pren a charreg. Yna'n sydyn roedd bysedd llaw ddynol i'w gweld yng ngolau'r lamp, yn ysgrifennu rhywbeth ar wal blastr yr ystafell. Roedd y brenin yn gallu gweld y llaw yn ysgrifennu. Aeth yn welw gan ddychryn. Roedd ei goesau'n wan a'i liniau'n crynu. Gwaeddodd yn uchel a galw am ei ddewiniaid, y dynion doeth a'r swynwyr. Dwedodd wrthyn nhw “Bydd pwy bynnag sy'n darllen yr ysgrifen a dweud beth mae'n ei olygu yn cael ei anrhydeddu — bydd yn cael ei wisgo mewn porffor, yn cael cadwyn aur am ei wddf, ac yn cael y drydedd swydd uchaf yn y deyrnas.” Felly dyma'r dynion doeth i gyd yn dod i mewn, ond allai run ohonyn nhw ddarllen yr ysgrifen na dweud beth oedd ei ystyr. Erbyn hyn roedd y brenin Belshasar wedi dychryn am ei fywyd. Roedd yn wyn fel y galchen ac roedd ei uchel-swyddogion i gyd wedi drysu'n lân. Pan glywodd y fam frenhines yr holl sŵn roedd y brenin a'i uchel-swyddogion yn ei wneud, aeth i mewn i'r neuadd fwyta. “O frenin! Boed i ti fyw am byth!” meddai. “Paid dychryn. Paid eistedd yna'n welw. Mae yna ddyn yn dy deyrnas sydd ag ysbryd y duwiau sanctaidd ynddo. Pan oedd Nebwchadnesar yn frenin, daeth yn amlwg fod gan y dyn yma ddirnadaeth, deall, a doethineb fel petai'n un o'r duwiau ei hun. Gwnaeth Nebwchadnesar e yn brif swynwr, ac roedd yn bennaeth ar yr dewiniaid, swynwyr a'r dynion doeth i gyd. Roedd yna rywbeth cwbl arbennig am y dyn yma, Daniel (gafodd yr enw Belteshasar gan y brenin). Roedd ganddo feddwl anarferol o graff, gwybodaeth a gallu i esbonio ystyr breuddwydion, egluro posau, a datrys problemau cymhleth. Galw am Daniel, a bydd e'n dweud wrthot ti beth mae'r ysgrifen yn ei olygu.” Felly dyma nhw'n dod â Daniel at y brenin. A dyma'r brenin yn gofyn iddo, “Ai ti ydy'r Daniel gafodd ei gymryd yn gaeth o Jwda gan fy rhagflaenydd, y brenin Nebwchadnesar? Dw i wedi clywed fod ysbryd y duwiau sanctaidd ynot ti, a bod gen ti ddirnadaeth, a deall, a doethineb anarferol. Dw i wedi gofyn i'r dynion doeth a'r swynwyr ddarllen ac esbonio'r ysgrifen yma i mi, ond dŷn nhw ddim yn gallu. Ond dw i wedi cael ar ddeall dy fod ti'n gallu dehongli pethau a datrys problemau cymhleth. Felly, os gelli di ei ddarllen a dweud wrtho i beth mae'n ei olygu, byddi'n cael dy wisgo mewn porffor, yn cael cadwyn aur am dy wddf, ac yn cael y drydedd swydd uchaf yn y deyrnas.” Ond dyma Daniel yn ateb y brenin, “Cadwch eich rhoddion a'u rhoi nhw i rywun arall. Ond gwna i ddweud wrth y brenin beth ydy ystyr yr ysgrifen. Eich mawrhydi, roedd y Duw Goruchaf wedi rhoi awdurdod brenhinol ac ysblander mawr i Nebwchadnesar eich rhagflaenydd chi. Roedd Duw wedi ei wneud mor fawr nes bod gan bawb o bob gwlad ac iaith ei ofn. Roedd yn lladd pwy bynnag roedd e'n dewis ei ladd, ac yn arbed pwy bynnag oedd e eisiau. Doedd dim dal pwy fyddai e'n ei anrhydeddu, a pwy fyddai'n ei sathru nesa. Ond trodd yn ddyn balch ac ystyfnig, cymerodd Duw ei orsedd a'i anrhydedd oddi arno. Cafodd ei gymryd allan o gymdeithas. Roedd yn meddwl ei fod yn anifail ac yn byw gyda'r asynnod gwyllt. Roedd yn bwyta glaswellt fel ychen, a'i gorff yn cael ei wlychu gan wlith yn yr awyr agored. Bu felly nes iddo ddeall mai'r Duw Goruchaf sy'n teyrnasu dros lywodraethau'r byd, a'i fod yn eu rhoi i bwy bynnag mae e eisiau. “Roeddech chi, Belshasar, yn gwybod hyn i gyd, ond dych chithau wedi bod yr un mor falch. Dych chi wedi herio Arglwydd y nefoedd, drwy gymryd llestri ei deml a'i defnyddio nhw i yfed gwin ohonyn nhw — chi a'ch uchel-swyddogion, gyda'ch gwragedd a'ch cariadon i gyd. Ac wedyn dych chi wedi canmol eich duwiau o aur, arian, pres, haearn, pren a charreg — duwiau sy'n gweld, clywed na deall dim! Ond dych chi ddim wedi canmol y Duw sy'n rhoi anadl i chi fyw, ac sy'n dal eich bywyd a'ch tynged yn ei law! Dyna pam anfonodd e'r llaw i ysgrifennu'r neges yma. “Dyma beth sydd wedi ei ysgrifennu: MENE, MENE, TECEL, a PHARSIN A dyma ystyr y geiriau: Ystyr MENE ydy ‛cyfrif‛. Mae dyddiau eich teyrnasiad wedi eu rhifo. Mae Duw'n dod â nhw i ben. Ystyr TECEL ydy ‛pwyso‛. Chi wedi'ch pwyso yn y glorian, a'ch cael yn brin. Ystyr PARSIN ydy ‛rhannu‛. Mae'ch teyrnas wedi ei rhannu'n ei hanner a'i rhoi i Media a Persia.” Dyma Belshasar yn gorchymyn fod Daniel i gael ei wisgo mewn porffor, i gael cadwyn aur am ei wddf, ac i'w ddyrchafu i'r drydedd swydd uchaf yn y deyrnas. Ond ar y noson honno cafodd Belshasar, brenin Babilon, ei lofruddio. Daeth Dareius y Mediad yn frenin ar y deyrnas. Roedd yn chwe deg dwy mlwydd oed. Dyma Dareius yn penderfynu rhannu'r deyrnas gyfan yn gant dau ddeg o daleithiau, a penodi pennaeth ar bob un. Byddai penaethiaid y taleithiau yma yn atebol i dri comisiynydd, ac roedd Daniel yn un o'r rheiny. Y tri comisiynydd oedd yn gofalu am bethau ar ran y brenin. Yn fuan iawn daeth hi'n amlwg fod Daniel yn llawer mwy galluog na'r comisiynwyr eraill a penaethiaid y taleithiau i gyd — roedd ganddo allu cwbl anarferol. Yn wir, roedd y brenin yn bwriadu rhoi'r deyrnas i gyd dan ei ofal. O ganlyniad i hynny roedd y comisiynwyr eraill a penaethiaid y taleithiau eisiau ffeindio bai ar y ffordd roedd Daniel yn delio gyda gweinyddiaeth y deyrnas. Ond roedden nhw'n methu dod o hyd i unrhyw sgandal na llygredd. Roedd Daniel yn gwbl ddibynadwy. Doedd dim tystiolaeth o unrhyw esgeulustod na thwyll. “Does gynnon ni ddim gobaith dod â cyhuddiad yn erbyn y Daniel yma, oni bai ein bod yn dod o hyd i rywbeth sy'n gysylltiedig â chyfraith ei Dduw,” medden nhw. Felly dyma'r comisiynwyr a penaethiaid y taleithiau yn cynllwyn gyda'i gilydd, ac yn mynd at y brenin a dweud wrtho, “Frenin Dareius, bydd fyw am byth! Mae comisiynwyr y deyrnas, yr uchel-swyddogion, penaethiaid y taleithiau, a chynghorwyr y brenin, a'r llywodraethwyr yn meddwl y byddai'n syniad da i'r brenin wneud cyfraith newydd yn gorchymyn fel hyn: ‘Am dri deg diwrnod mae pawb i weddïo arnoch chi, eich mawrhydi. Os ydy rhywun yn gweddïo ar unrhyw dduw neu ar unrhyw berson arall, bydd yn cael ei daflu i ffau'r llewod.’ Felly, eich mawrhydi, cyhoeddwch y gwaharddiad ac arwyddo'r ddogfen, fel ei bod yn gwbl amhosib i'w newid. Bydd yn rhan o gyfraith Media a Persia, sy'n aros, a byth i gael ei newid.” Felly dyma'r brenin Dareius yn arwyddo'r gwaharddiad. Pan glywodd Daniel fod y gyfraith yma wedi ei harwyddo, aeth adre, a mynd ar ei liniau i weddïo fel roedd wedi gwneud bob amser. Roedd ganddo ystafell i fyny'r grisiau, a'i ffenestri'n agor i gyfeiriad Jerwsalem. Dyna ble roedd yn mynd dair gwaith bob dydd i weddïo ar Dduw a diolch iddo. Dyma'r dynion oedd wedi cynllwyn gyda'i gilydd yn mynd i dŷ Daniel, a'i gael yno'n gweddïo ac yn gofyn i Dduw am help. Felly dyma nhw'n mynd yn ôl at y brenin, ac yn ei atgoffa am y gwaharddiad. “Wnaethoch chi ddim arwyddo cyfraith yn gwahardd pobl am dri deg diwrnod rhag gweddïo ar unrhyw dduw na neb arall ond chi eich hun, eich mawrhydi? Ac yn dweud y byddai unrhyw un sy'n gwneud hynny yn cael ei daflu i'r llewod?” “Do, yn bendant,” meddai'r brenin. “Mae bellach yn rhan o gyfraith Media a Persia, sydd byth i gael ei newid.” Yna dyma nhw'n dweud wrth y brenin, “Dydy'r dyn Daniel yna, oedd yn un o'r caethion o Jwda, yn cymryd dim sylw ohonoch chi na'ch gwaharddiad eich mawrhydi. Mae'n dal ati i weddïo ar ei Dduw dair gwaith bob dydd.” Pan glywodd y brenin hyn, doedd e ddim yn hapus o gwbl. Roedd yn ceisio meddwl am ffordd i achub Daniel. Buodd wrthi drwy'r dydd yn ceisio meddwl am ffordd y gallai ei helpu. Ond gyda'r nos dyma'r dynion yn mynd yn ôl gyda'i gilydd at y brenin, ac yn dweud wrtho, “Cofiwch, eich mawrhydi, fod y gwaharddiad yn rhan o gyfraith Media a Persia. Dydy cyfraith sydd wedi cael ei harwyddo gan y brenin byth i gael ei newid.” Felly dyma'r brenin yn gorchymyn dod â Daniel ato, a'i fod i gael ei daflu i ffau'r llewod. Ond meddai'r brenin wrth Daniel, “Bydd dy Dduw, yr un rwyt ti'n ei addoli mor ffyddlon, yn dy achub di.” Cafodd carreg fawr ei rhoi dros geg y ffau, a dyma'r brenin yn gosod ei sêl arni gyda'i fodrwy, a'i uchel-swyddogion yr un fath, fel bod dim modd newid tynged Daniel. Yna dyma'r brenin yn mynd yn ôl i'w balas. Wnaeth e fwyta dim byd y noson honno. Gwrthododd gael ei ddifyrru, ac roedd yn methu'n lân a cysgu drwy'r nos. Pan oedd hi'n dechrau gwawrio'r bore wedyn dyma'r brenin yn brysio yn ôl at ffau'r llewod, ac wrth agosáu at y ffau dyma fe'n galw ar Daniel mewn llais pryderus, “Daniel! Gwas y Duw byw. Ydy'r Duw wyt ti'n ei addoli mor ffyddlon wedi gallu dy achub di rhag y llewod?” A dyma Daniel yn ateb, “O frenin! Boed i chi fyw am byth! Ydy, mae fy Nuw wedi anfon ei angel i gau cegau'r llewod, a dŷn nhw ddim wedi mrifo i o gwbl. Achos roeddwn i'n ddieuog yng ngolwg Duw — ac yn eich golwg chi hefyd, eich mawrhydi. Wnes i ddim drwg i chi.” Roedd y brenin wrth ei fodd, a dyma fe'n gorchymyn codi Daniel allan o'r ffau. Dyma nhw'n gwneud hynny, a doedd e ddim mymryn gwaeth, am ei fod wedi trystio'i Dduw. Wedyn dyma'r brenin yn gorchymyn fod y dynion oedd wedi ymosod mor giaidd ar Daniel yn cael eu harestio, a'i taflu i ffau'r llewod — a'u gwragedd a'u plant gyda nhw. Cyn iddyn nhw gyrraedd gwaelod y ffau roedd y llewod arnyn nhw ac wedi eu rhwygo nhw'n ddarnau. Dyma'r brenin Dareius yn ysgrifennu at y bobl i gyd, o bob gwlad ac iaith — pawb drwy'r byd i gyd: “Heddwch a llwyddiant i chi i gyd! Dw i'n cyhoeddi fod pawb sy'n byw o fewn ffiniau'r deyrnas dw i'n frenin arni, i ofni a pharchu Duw Daniel. Fe ydy'r Duw byw, ac mae e gyda ni bob amser! Fydd ei deyrnas byth yn syrthio, a bydd ei awdurdod yn aros am byth. Mae e'n achub ei bobl, ac yn gwneud gwyrthiau rhyfeddol yn y nefoedd ac ar y ddaear. Mae wedi achub Daniel o afael y llewod!” Felly roedd Daniel yn llwyddiannus iawn yn ystod teyrnasiad Dareius, sef Cyrus o Persia. Yn ystod blwyddyn gyntaf teyrnasiad Belshasar, brenin Babilon, cafodd Daniel freuddwyd — gweledigaeth tra roedd yn cysgu yn ei wely. Ysgrifennodd grynodeb o'r freuddwyd. “Yn y weledigaeth ges i y noson honno roedd storm fawr ar y môr, a gwyntoedd yn chwythu o bob cyfeiriad. A dyma bedwar creadur mawr yn codi allan o'r môr, pob un ohonyn nhw'n wahanol i'w gilydd. “Roedd y cyntaf yn edrych fel llew, ond gydag adenydd fel eryr. Tra roeddwn i'n edrych, cafodd yr adenydd eu rhwygo oddi arno. Yna cafodd ei godi nes ei fod yn sefyll ar ei draed fel person dynol, a cafodd feddwl dynol. “Wedyn dyma fi'n gweld ail greadur — un gwahanol. Roedd hwn yn edrych fel arth. Roedd yn symud o ochr i ochr, ac roedd ganddo dair asen yn ei geg, rhwng ei ddannedd. A dyma lais yn dweud wrtho, ‘Dos! Ymosod, a llarpio llawer o bobl!’ “Yna, wrth i mi edrych, dyma greadur arall yn dod i'r golwg. Roedd hwn yn edrych fel llewpard, ond roedd ganddo bedair o adenydd ar ei gefn, fel adenydd adar. Roedd gan y creadur yma bedwar pen, a chafodd awdurdod i lywodraethu. “Wedyn, yn y weledigaeth ges i y noson honno, dyma bedwerydd creadur yn dod i'r golwg. Roedd hwn yn un erchyll, dychrynllyd, ac yn ofnadwy o gryf. Roedd ganddo ddwy res o ddannedd haearn. Roedd yn llarpio a chnoi, a sathru beth bynnag oedd ar ôl dan draed. Roedd yn hollol wahanol i'r creaduriaid eraill, ac roedd ganddo ddeg corn. “Tra roeddwn i'n edrych ar y cyrn, dyma gorn arall — un bach — yn codi rhyngddyn nhw. Dyma dri o'r cyrn eraill yn cael eu gwthio o'u gwraidd i wneud lle i'r un bach. Roedd gan y corn yma lygaid tebyg i lygaid person dynol, a cheg oedd yn brolio pethau mawr. “Wrth i mi syllu arno, cafodd gorseddau eu gosod i fyny, a dyma'r Un Hynafol yn eistedd. Roedd ei ddillad yn wyn fel eira, a'i wallt fel gwlân oen. Roedd ei orsedd yn fflamau tân, a'i holwynion yn wenfflam. Roedd afon o dân yn llifo allan oddi wrtho. Roedd miloedd ar filoedd yn ei wasanaethu, a miliynau lawer yn sefyll o'i flaen. Eisteddodd y llys, ac agorwyd y llyfrau. “Ro'n i'n dal i edrych wrth i'r corn bach ddal ati i frolio pethau mawr. Ac wrth i mi edrych dyma'r pedwerydd creadur yn cael ei ladd a'i daflu i'r tân. (Cafodd yr awdurdod i lywodraethu ei gymryd oddi ar y creaduriaid eraill, er eu bod wedi cael byw am gyfnod ar ôl hynny). “Yn fy ngweledigaeth y noson honno, gwelais un oedd yn edrych fel person dynol yn dod ar gymylau'r awyr. Aeth i fyny at yr Un Hynafol — cafodd ei gymryd ato. A derbyniodd awdurdod, anrhydedd a grym. Roedd rhaid i bawb, o bob gwlad ac iaith ei anrhydeddu. Mae ei awdurdod yn dragwyddol — fydd e byth yn dod i ben. Fydd ei deyrnasiad byth yn cael ei dinistrio. “Roeddwn i, Daniel, wedi cynhyrfu'r tu mewn. Roedd y gweledigaethau wedi fy nychryn i. Dyma fi'n mynd at un o'r rhai oedd yn sefyll yno, a gofyn beth oedd ystyr y cwbl. A dyma fe'n esbonio'r freuddwyd i mi. “‘Mae'r pedwar creadur mawr yn cynrychioli pedwar brenin daearol fydd yn teyrnasu. Ond yn y diwedd bydd pobl sanctaidd y Duw Goruchaf yn cael teyrnasu — byddan nhw'n teyrnasu am byth!’ “Ond wedyn roeddwn i eisiau gwybod mwy am y pedwerydd creadur, yr un oedd yn hollol wahanol i'r lleill. Roedd hwnnw'n wirioneddol ddychrynllyd gyda'i ddannedd haearn a'i grafangau pres. Roedd yn llarpio a chnoi, a sathru dan draed bopeth oedd yn dal i sefyll. Roeddwn i hefyd eisiau gwybod beth oedd y deg corn ar ei ben, a'r corn bach gododd wedyn a gwneud i dri o'r lleill syrthio. Dyma'r corn oedd gyda llygaid, a cheg oedd yn brolio pethau mawr. Roedd y corn yma'n edrych yn gryfach na'r lleill. Roeddwn i'n gweld y corn yma yn brwydro yn erbyn pobl sanctaidd Duw ac yn eu trechu nhw. Dyna oedd yn digwydd hyd nes i'r Un Hynafol ddod a barnu o blaid pobl sanctaidd y Duw Goruchaf. A dyma nhw wedyn yn cael teyrnasu. “Dyma ddwedodd wrtho i: ‘Mae'r pedwerydd creadur yn cynrychioli ymerodraeth fydd yn wahanol i bob teyrnas arall. Bydd yn llyncu'r byd i gyd, ac yn sathru pawb a phopeth. Mae'r deg corn yn cynrychioli deg brenin fydd yn teyrnasu ar yr ymerodraeth. Ond wedyn bydd brenin arall yn codi — brenin gwahanol i'r lleill. Bydd yn bwrw i lawr dri brenin o'i flaen. Bydd yn herio'r Duw Goruchaf ac yn cam-drin ei bobl sanctaidd. Bydd yn ceisio newid yr amserau osodwyd yn y gyfraith, a bydd pobl Dduw dan ei reolaeth am gyfnod, dau gyfnod, a hanner cyfnod. Yna wedi i'r llys eistedd bydd ei awdurdod yn cael ei gymryd oddi arno, a'i ddinistrio'n llwyr — am byth! Bydd awdurdod brenhinol a grym pob teyrnas dan y nef yn cael ei roi i bobl sanctaidd Duw. Mae Duw yn teyrnasu'n dragwyddol, a bydd pob awdurdod arall yn ei wasanaethu ac yn ufudd iddo.’ “A dyna ddiwedd y weledigaeth. Roeddwn i, Daniel, wedi dychryn. Ro'n i'n welw. Ond cedwais y cwbl i mi fy hun.” Yn ystod trydedd flwyddyn teyrnasiad Belshasar, ces i, Daniel, weledigaeth arall. Roedd hon yn dilyn yr un roeddwn wedi ei chael o'r blaen. Y tro hwn gwelais fy hun yn Shwshan, y gaer sydd yn nhalaith Elam. Roeddwn yn sefyll wrth ymyl Camlas Wlai. A gwelais hwrdd yn sefyll wrth ymyl y gamlas. Roedd gan yr hwrdd ddau gorn hir, ond roedd un corn yn hirach na'r llall, er ei fod wedi dechrau tyfu ar ôl y llall. Roedd yr hwrdd yn rhuthro, ac yn ymosod ar bopeth i'r gorllewin, gogledd a de. Doedd dim un anifail arall yn gallu sefyll yn ei erbyn na'i rwystro. Roedd yn gwneud fel y mynnai, ac yn brolio'i hun. Tra roeddwn i'n edrych ar hyn, dyma fwch gafr yn dod dros y tir o gyfeiriad y gorllewin. Roedd yn symud mor gyflym doedd ei draed ddim yn cyffwrdd y llawr. Roedd gan y bwch un corn amlwg ar ganol ei dalcen. Daeth at yr hwrdd gyda'r ddau gorn roeddwn i wedi ei weld wrth y gamlas, a rhuthro'n ffyrnig yn ei erbyn. Roeddwn yn edrych arno'n ymosod yn wyllt ar yr hwrdd, a'i daro mor galed nes iddo dorri dau gorn yr hwrdd. Doedd gan yr hwrdd ddim gobaith! Dyma'r bwch gafr yn bwrw'r hwrdd i lawr, a'i sathru dan draed. Doedd neb yn gallu achub yr hwrdd o'i afael. Tyfodd y bwch gafr mor fawr nes ei fod yn brolio fwy fyth. Ond pan oedd ar ei gryfaf, dyma ei gorn anferth yn cael ei dorri. Yn ei le tyfodd pedwar corn mawr oedd yn pwyntio, un i bob cyfeiriad. Ond yna, allan o un ohonyn nhw, dyma gorn bach arall yn codi. Roedd yn fach i ddechrau, ond tyfodd yn fawr iawn, ac ymestyn i gyfeiriad y de a'r dwyrain, ac i gyfeiriad y Wlad Hardd. Tyfodd mor dal nes iddo gyrraedd y fyddin nefol, a bwrw rhai ohonyn nhw (sef y sêr) i lawr, a'i sathru nhw dan draed. Ond aeth mor bell â herio Tywysog y fyddin nefol. Stopiodd yr aberthu dyddiol, a dinistrio ei deml. Roedd ei fyddin yn sefyll yn erbyn yr aberthu dyddiol fel gweithred o wrthryfel, a disodli'r gwir. Roedd yn llwyddo i wneud beth bynnag oedd e eisiau. Wedyn dyma fi'n clywed bod sanctaidd yn siarad, ac un sanctaidd arall yn gofyn iddo. “Am faint mwy mae hyn yn mynd i fynd ymlaen — y gwrthryfel yma sy'n stopio'r aberthu dyddiol, a'r deml a'r fyddin yn cael eu sathru dan draed?” Atebodd y llall, “Am ddwy fil tri chant bore a hwyr. Wedyn bydd y deml yn cael ei gwneud yn iawn eto.” Roeddwn i, Daniel, yn edrych ar hyn i gyd, ac yn ceisio gwneud sens o'r cwbl. Yna'n sydyn, roedd un oedd yn edrych fel person dynol yn sefyll o'm blaen i. A dyma fi'n clywed llais rhywun yn galw o gyfeiriad Camlas Wlai, “Gabriel, esbonia i'r dyn yma beth sy'n digwydd.” Felly dyma fe'n dod ata i. Roedd gen i ofn am fy mywyd, a dyma fi'n disgyn ar fy ngwyneb ar lawr o'i flaen. A dyma fe'n dweud, “Ddyn, rhaid i ti ddeall mai gweledigaeth am y diwedd ydy hon.” Wrth iddo ddweud hyn dyma fi'n llewygu. Roeddwn i'n fflat ar fy ngwyneb ar lawr. Ond dyma fe'n cyffwrdd fi, a'm codi ar fy nhraed. Yna dwedodd, “Dw i'n mynd i ddweud wrthot ti beth fydd yn digwydd ar ddiwedd y cyfnod o ddigofaint. Gweledigaeth am y diwedd ydy hon. Mae'r hwrdd welaist ti, gyda dau gorn, yn cynrychioli brenhinoedd Media a Persia. Y bwch gafr welaist ti ydy brenin y Groegiaid, a'r corn mawr ar ganol ei dalcen ydy'r brenin cyntaf. Mae'r pedwar corn ddaeth yn lle'r un gafodd ei dorri, yn dangos y bydd Ymerodraeth Groeg yn rhannu'n bedair teyrnas. Ond fydd dim un ohonyn nhw mor gryf â'r gyntaf. Pan fydd y teyrnasoedd yma ar fin dod i ben, a'i gwrthryfel ar ei waethaf, bydd brenin caled, twyllodrus yn codi. Bydd yn troi'n bwerus iawn (ond ddim drwy ei nerth ei hun). Bydd yn achosi'r dinistr mwyaf ofnadwy. Bydd yn llwyddo i wneud beth bynnag mae e eisiau. Bydd yn dinistrio'r bobl mae'r angylion yn eu hamddiffyn. Bydd yn llwyddo i dwyllo llawer drwy ei glyfrwch, ac yn brolio ei fawredd ei hun. Bydd yn dinistrio llawer o bobl sy'n meddwl eu bod yn saff. Bydd yn herio'r un sy'n Dywysog ar dywysogion, ond yna'n sydyn bydd yn cael ei dorri gan law anweledig. “Mae'r weledigaeth am y dwy fil tri chant bore a hwyr yn wir, ond i'w selio a'i chadw o'r golwg. Mae'n sôn am amser yn y dyfodol pell.” Roeddwn i, Daniel, yn swp sâl am rai dyddiau. Ond yna, ar ôl gwella, dyma fi'n cario mlaen i weithio i'r brenin. Ond roedd y weledigaeth wedi fy syfrdanu. Doedd hi ddim yn gwneud sens i mi. Dyma Dareius o Media, mab Ahasferus, yn cael ei wneud yn frenin ar Ymerodraeth Babilon. Yn ystod blwyddyn gyntaf ei deyrnasiad roeddwn i, Daniel, wedi bod yn darllen yr ysgrifau sanctaidd. Dyma fi'n gweld fod yr ARGLWYDD wedi dweud wrth y proffwyd Jeremeia y byddai Jerwsalem yn adfeilion am saith deg o flynyddoedd. Felly dyma fi'n troi at Dduw, y Meistr, a pledio arno mewn gweddi. Ro'n i'n ymprydio, yn gwisgo sachliain, ac wedi rhoi lludw ar fy mhen. Ro'n i'n gweddïo ar yr ARGLWYDD fy Nuw, a cyffesu, “O Feistr, plîs! Ti ydy'r Duw mawr a rhyfeddol! Ti'n Dduw ffyddlon sy'n cadw dy ymrwymiad i'r bobl sy'n dy garu ac sy'n ufudd i ti. Ond dŷn ni wedi pechu a gwneud beth sy'n ddrwg. Dŷn ni wedi gwrthryfela, ac wedi troi cefn ar dy orchmynion di a dy safonau di. Dŷn ni wedi gwrthod gwrando ar dy weision, y proffwydi. Roedden nhw wedi siarad ar dy ran di gyda'n brenhinoedd ni a'n harweinwyr, ein hynafiaid a'n pobl i gyd. “Feistr, rwyt ti wedi gwneud popeth yn iawn, ond does gynnon ni ddim ond lle i gywilyddio — pobl Jwda a Jerwsalem, pobl Israel i gyd — y bobl sydd ar chwâl drwy'r gwledydd lle rwyt ti wedi eu gyrru nhw am iddyn nhw dy fradychu di. O ARGLWYDD, cywilydd arnon ni! — cywilydd ar ein brenhinoedd a'n harweinwyr a'n hynafiaid i gyd. Dŷn ni wedi pechu yn dy erbyn di. Ond rwyt ti, ein Duw a'n Meistr ni, yn Dduw trugarog sy'n maddau, er ein bod ni wedi gwrthryfela yn dy erbyn. Wnaethon ni gymryd dim sylw ohonot ti pan oeddet ti'n ein dysgu ni drwy dy weision y proffwydi, ac yn dweud wrthon ni sut ddylen ni fyw. “Mae pobl Israel i gyd wedi mynd yn rhy bell, ac wedi troi cefn arnat ti a diystyru beth roeddet ti'n ddweud. Felly mae'r felltith roeddet ti wedi ein rhybuddio ni amdani mor ddifrifol yng Nghyfraith Moses wedi digwydd, am ein bod ni wedi pechu yn dy erbyn di. Ti wedi gwneud beth roeddet ti wedi ei fygwth i ni a'n harweinwyr. Mae wedi bod yn drychineb ofnadwy. Does erioed y fath drwbwl wedi bod yn unman ag a ddigwyddodd yn Jerwsalem. Mae wedi digwydd yn union fel mae cyfraith Moses yn dweud. Ac eto dŷn ni ddim wedi gwneud pethau'n iawn gyda'r ARGLWYDD ein Duw drwy droi cefn ar ein pechod a cydnabod dy fod ti'n ffyddlon. Roedd yr ARGLWYDD yn gwybod beth oedd e'n wneud, a daeth â'r dinistr arnon ni. Mae popeth mae'r ARGLWYDD yn ei wneud yn iawn, a doedden ni ddim wedi gwrando arno. “Felly, o Dduw ein Meistr ni, sy'n enwog hyd heddiw am dy gryfder yn arwain dy bobl allan o wlad yr Aifft: dŷn ni wedi pechu a gwneud drwg. O Feistr, rwyt ti bob amser yn gwneud beth sy'n iawn; plîs stopia fod yn wyllt gyda dy ddinas, Jerwsalem, a'r mynydd rwyt wedi ei gysegru. Am ein bod ni wedi pechu, a'n hynafiaid wedi gwneud cymaint o ddrwg, dydy Jerwsalem a dy bobl di yn ddim byd ond testun sbort i bawb o'u cwmpas nhw! Felly, o Dduw, gwrando ar dy was yn pledio a gweddïo arnat ti. Er dy fwyn dy hun wnei di edrych yn garedig eto ar dy deml sydd wedi ei dinistrio. O Dduw, gwrando'n astud ar beth dw i'n ofyn. Edrych ar stad y ddinas yma sy'n cael ei chysylltu â dy enw di! Dŷn ni ddim yn gweddïo fel yma am ein bod ni'n honni ein bod wedi gwneud beth sy'n iawn, ond am dy fod ti mor anhygoel o drugarog. O Feistr, gwrando! O Feistr, maddau! O Feistr, edrych a gwna rywbeth! O Dduw, paid oedi — er dy fwyn dy hun! Er mwyn dy ddinas, a'r bobl sy'n cael eu cysylltu â dy enw di.” Roeddwn i'n dal ati i weddïo, a cyffesu fy mhechod a pechod fy mhobl Israel, ac yn pledio ar yr ARGLWYDD fy Nuw ar ran Jerwsalem a'r mynydd sydd wedi ei gysegru ganddo. A tra roeddwn i'n gweddïo dyma Gabriel, yr un oedd yn y weledigaeth arall pan oeddwn i wedi fy llethu'n llwyr, yn dod ata i tua amser offrwm yr hwyr. Dyma fe'n esbonio i mi, “Dw i wedi dod yma er mwyn i ti ddeall pethau'n iawn. Cafodd yr ateb ei roi wrth i ti ddechrau gweddïo, a dw i wedi dod yma i'w rannu gyda ti. Rwyt ti'n sbesial iawn yng ngolwg Duw. Felly gwrando'n ofalus, i ti ddeall y weledigaeth. Mae saith deg cyfnod o saith wedi eu pennu i dy bobl a'r ddinas sanctaidd roi diwedd ar eu gwrthryfel. I ddod â'r pechu i ben, delio gyda drygioni a gwneud pethau'n iawn unwaith ac am byth. I gadarnhau y weledigaeth broffwydol, ac eneinio y Lle Mwyaf Sanctaidd. Felly rhaid i ti ddeall: O'r amser pan gafodd y gorchymyn ei roi i adfer ac ailadeiladu Jerwsalem nes daw un wedi ei eneinio yn arweinydd, bydd saith cyfnod o saith. Bydd y ddinas yn cael ei hadfer a'i hailadeiladu gyda strydoedd a ffosydd amddiffyn am chwe deg dau cyfnod o saith. Ond bydd hi'n amser caled, argyfyngus. Ar ôl y chwe deg dau cyfnod o saith, bydd yr un wedi ei eneinio yn cael ei dorri i ffwrdd, bydd heb ddim. Yna bydd y ddinas a'r deml yn cael eu dinistrio gan fyddin arweinydd arall sydd i ddod. Bydd y diwedd yn dod fel llif. Bydd rhyfela'n para i'r diwedd. Mae dinistr wedi ei gyhoeddi. Bydd yn gwneud ymrwymiad gyda'r tyrfaoedd am un cyfnod o saith. Ond hanner ffordd drwy'r saith bydd yn stopio'r aberthau a'r offrymau. Yna ar yr adain bydd yn codi eilun ffiaidd sy'n dinistrio, nes i'r dinistr sydd wedi ei ddyfarnu ddod ar yr un sy'n dinistrio.” Yn ystod trydedd flwyddyn teyrnasiad Cyrus, brenin Persia, cafodd Daniel (oedd hefyd yn cael ei alw'n Belteshasar) neges arall. Neges am rywbeth fyddai wir yn digwydd — amser o ryfela a dioddef. Ac roedd Daniel wedi deall y neges a'r weledigaeth gafodd. Ar y pryd, roeddwn i, Daniel, wedi bod yn galaru am dair wythnos lawn. Ro'n i'n bwyta bwyd plaen — dim byd cyfoethog, dim cig na gwin. A wnes i ddim rhwbio olew ar fy nghorff nes oedd y tair wythnos drosodd. Yna ar y pedwerydd ar hugain o'r mis cyntaf ron i'n sefyll ar lan yr afon fawr, y Tigris. Gwelais ddyn yn sefyll o'm blaen i mewn gwisg o liain, gyda belt o aur pur Wffas am ei ganol. Roedd ei gorff yn sgleinio fel meini saffir. Roedd ei wyneb yn llachar fel mellten, a'i lygaid fel fflamau o dân. Roedd ei freichiau a'i goesau yn gloywi fel pres wedi ei sgleinio. Ac roedd ei lais fel sŵn taranau. Fi, Daniel, oedd yr unig un welodd hyn i gyd. Welodd y dynion oedd gyda mi ddim byd. Ond roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau, a dyma nhw'n rhedeg i ffwrdd i guddio. Felly dyna lle roeddwn i'n sefyll yno ar fy mhen fy hun yn gwylio'r cwbl. Ro'n i'n teimlo fy hun yn mynd yn wan. Doedd gen i ddim egni ar ôl. Ro'n i'n hollol wan. Pan glywais e'n dechrau siarad dyma fi'n llewygu. Ro'n i'n fflat ar fy ngwyneb ar lawr. Ond yna dyma law yn fy nghyffwrdd, a'm codi ar fy nwylo a'm gliniau. “Daniel,” meddai, “rwyt ti'n sbesial iawn yng ngolwg Duw. Gwranda ar beth dw i'n mynd i'w ddweud wrthot ti. Saf ar dy draed. Dw i wedi cael fy anfon atat ti.” Pan ddwedodd hyn, dyma fi'n sefyll ar fy nhraed, ond ron i'n dal i grynu. Yna dwedodd, “Daniel, paid bod ag ofn. Mae Duw wedi clywed dy weddi ers y diwrnod cyntaf i ti blygu o'i flaen i geisio deall. A dw i wedi dod o achos dy weddi. Ces fy nal yn ôl am dair wythnos gan arweinydd teyrnas Persia. Ond yna dyma Michael, un o'r prif arweinwyr, yn dod i'm helpu pan oeddwn i'n sefyll yn erbyn brenhinoedd Persia ar fy mhen fy hun. Ond dw i yma nawr, i dy helpu di i ddeall beth sy'n mynd i ddigwydd i dy bobl yn y dyfodol. Gweledigaeth am y dyfodol ydy hi.” Tra roedd yn siarad roeddwn i'n edrych i lawr, ac yn methu dweud gair. Yna dyma un oedd yn edrych fel person dynol yn cyffwrdd fy ngwefusau, a dyma fi'n dechrau siarad. “Syr,” meddwn i wrtho, “mae beth dw i wedi ei weld yn ormod i'w gymryd. Dw i'n teimlo'n hollol wan. Meistr, sut alla i sydd ddim ond gwas, siarad â rhywun fel ti? Does gen i ddim nerth ar ôl. Dw i prin yn gallu anadlu!” Yna dyma'r un oedd yn edrych fel person dynol yn fy nghyffwrdd i eto, a rhoi nerth i mi. “Paid bod ag ofn,” meddai. “Ti'n ddyn sbesial iawn yng ngolwg Duw. Bydd popeth yn iawn. Bydd yn ddewr! Bydd yn ddewr go iawn!” Wrth iddo siarad roeddwn i'n teimlo fy hun yn cryfhau. A dyma fi'n dweud, “Gelli siarad nawr, syr. Rwyt ti wedi gwneud i mi deimlo'n well.” Yna meddai, “Wyt ti'n gwybod pam dw i wedi dod atat ti? Yn fuan iawn rhaid i mi fynd yn ôl i ymladd yn erbyn arweinydd Persia. Ond ar ôl i mi wneud hynny, bydd arweinydd y Groegiaid yn dod. Ond yn gyntaf, gad i mi ddweud wrthot ti beth sydd wedi ei ysgrifennu mewn llyfr sy'n ddibynadwy. Does neb i'm helpu i yn eu herbyn nhw ond Michael, eich arweinydd chi. A dw i wedi bod yn ymladd a'i helpu e ers blwyddyn gyntaf teyrnasiad Dareius o Media.” “Nawr, gad i mi ddweud wrthot ti beth sydd wir yn mynd i ddigwydd: Mae tri brenin arall yn mynd i deyrnasu ar Persia. Ac wedyn pedwerydd, fydd yn llawer mwy cyfoethog na nhw i gyd. Bydd yn defnyddio ei gyfoeth i gael pawb i ymladd gydag e yn erbyn teyrnas y Groegiaid. Yna bydd brenin pwerus yn codi. Bydd ganddo deyrnas anferth, a bydd yn gwneud beth bynnag fydd e eisiau. Yn fuan ar ôl iddo ddod i rym bydd ei ymerodraeth yn rhannu'n bedair. Ond dim ei blant fydd yn teyrnasu, a fydd y deyrnas ddim mor ddylanwadol ag oedd hi. Bydd yn cael ei rhwygo gan eraill a'i rhannu rhyngddyn nhw. “Wedyn bydd brenin y de yn dod i rym. Ond bydd un o'i swyddogion ei hun yn gryfach, ac yn codi yn ei erbyn. Bydd ei deyrnas e yn fwy fyth. Ar ôl rhai blynyddoedd bydd cynghrair yn cael ei sefydlu rhwng brenin y gogledd a brenin y de. Bydd merch brenin y de yn priodi brenin y gogledd i selio'r cytundeb. Ond fydd ei dylanwad hi ddim yn para, a fydd e ddim yn aros mewn grym chwaith. Bydd hi, ei gweision a'i morynion, ei phlentyn, a'i thad yn cael eu lladd. “Ond yna bydd un o'i pherthnasau hi yn codi i'r orsedd yn lle ei dad. Bydd yn ymosod ar fyddin brenin y gogledd, yn meddiannu ei gaer, ac yn ennill buddugoliaeth fawr. Bydd yn mynd â'i duwiau nhw yn ôl i'r Aifft, y delwau i gyd a'r holl lestri gwerthfawr o aur ac arian. Ond bydd yn gadael llonydd i frenin y gogledd am rai blynyddoedd ar ôl hynny. Ac wedyn bydd brenin y gogledd yn ymosod ar deyrnas brenin y de; ond fydd e ddim yn llwyddiannus — bydd rhaid iddo fynd yn ôl i'w wlad ei hun. Yna bydd ei feibion yn casglu byddin enfawr i fynd i ryfel, a bydd y fyddin yn dod fel llif ac yn ymosod dro ar ôl tro, gan dorri trwodd yr holl ffordd at gaer brenin y de. “Bydd brenin y de wedi ei gythruddo, ac yn dod allan i ymladd yn erbyn brenin y gogledd ac yn trechu'r fyddin enfawr oedd hwnnw wedi ei chasglu. Ar ôl llwyddo i yrru byddin y gelyn i ffwrdd, bydd brenin y de yn meddwl ei fod yn anorchfygol. Bydd yn achosi hil-laddiad miloedd ar filoedd o bobl. Ond fydd ei lwyddiant ddim yn para'n hir. Mewn ychydig flynyddoedd, bydd brenin y gogledd yn dod yn ôl gyda byddin fwy fyth. Bydd yn ymosod ar y de gyda byddin aruthrol fawr a digonedd o arfau. “Yn y cyfamser bydd llawer o rai eraill yn gwrthryfela yn erbyn brenin y de. Bydd eithafwyr o blith dy bobl dy hun yn codi, yn breuddwydio y gallan nhw lwyddo, ond methu wnân nhw. Ond yna bydd brenin y gogledd yn dod ac yn codi rampiau gwarchae, a choncro dinas gaerog ddiogel. Fydd byddin y de ddim yn llwyddo i'w hamddiffyn. Fydd y milwyr gorau yno ddim yn gallu eu stopio nhw. Bydd yr ymosodwr yn gwneud beth bynnag mae e eisiau, a fydd neb yn gallu ei rwystro. Bydd yn concro'r Wlad Hardd, a bydd y gallu ganddo i'w dinistrio'n llwyr. Ei nod fydd rheoli'r ymerodraeth gyfan. Bydd yn cynnig telerau heddwch ac yn cynnig ffurfio cynghrair drwy roi un o'i ferched yn wraig i frenin y de. Ei fwriad fydd dinistrio teyrnas y de, ond fydd ei gynllun ddim yn llwyddo. “Bydd yn troi ei olygon wedyn at y dinasoedd o gwmpas Môr y Canoldir, ac yn concro llawer ohonyn nhw. Ond bydd arweinydd byddin arall yn rhoi stop ar y gormes. Bydd y gormeswr yn cael ei ormesu! Felly bydd yn troi am adre i amddiffyn ei wlad ei hun, ond bydd e'n syrthio, a bydd e'n diflannu unwaith ac am byth. “Bydd ei olynydd yn anfon un allan i godi trethi afresymol i gynnal cyfoeth ac ysblander y frenhiniaeth. Ond fydd e ddim yn teyrnasu'n hir. Bydd e'n marw, ond ddim yn gyhoeddus nac mewn brwydr. “Ar ôl hwnnw bydd dyn cwbl ffiaidd yn cymryd yr orsedd — er mai nid fe oedd yn yr olyniaeth. Bydd yn llwyddo i gipio grym yn gwbl ddi-drafferth drwy gynllwyn a thwyll. Bydd grym milwrol enfawr yn cael ei drechu a'i ddinistrio ganddo. A bydd yr arweinydd crefyddol yn cael ei ladd hefyd. Bydd yn gwneud addewidion twyllodrus i sefydlu cytundebau heddwch. Ond yna'n dwyn y grym i gyd gyda chriw bach o gefnogwyr. Wedyn, pan fydd pobl gyfoethocaf y wlad yn teimlo'n saff, bydd yn gwneud rhywbeth na wnaeth neb o'i hynafiaid. Bydd yn dwyn eu cyfoeth ac yn ei rannu i'w gefnogwyr. Yna bydd yn cynllunio i ymosod ar drefi caerog eraill, ond fydd hyn ddim yn para'n hir iawn. “Bydd yn mynd ati i ddangos ei hun drwy godi byddin fawr yn erbyn brenin y de. Bydd brenin y de yn ymladd yn ei erbyn gyda byddin fwy fyth, ond ddim yn llwyddo am fod cynllwyn yn ei erbyn. Bydd ei uchel-swyddogion ei hun yn ei dorri. Bydd ei fyddin yn cael ei hysgubo i ffwrdd, a bydd llawer iawn yn cael eu lladd. Bydd y ddau frenin yn cyfarfod wrth y bwrdd i drafod telerau heddwch. Ond bwriad y ddau fel ei gilydd fydd gwneud drwg i'r llall, a fyddan nhw'n gwneud dim ond dweud celwydd wrth ei gilydd. Ond fydd hynny'n gwneud dim gwahaniaeth am fod yr amser yn dod pan fydd y cwbl yn dod i ben. Bydd brenin y gogledd yn mynd yn ôl i'w wlad ei hun gyda llwythi o gyfoeth. Ar ei ffordd yn ôl, ei fwriad fydd delio gyda phobl yr ymrwymiad sanctaidd. Ar ôl gwneud hynny bydd yn mynd adre. “Y flwyddyn wedyn bydd yn ymosod ar y de eto, ond fydd pethau ddim yr un fath y tro yma. Bydd llongau rhyfel o'r gorllewin yn dod yn ei erbyn, a bydd yn colli ei hyder. Bydd yn troi yn ôl, ac ar ei ffordd adre yn dangos ei rwystredigaeth drwy gam-drin pobl yr ymrwymiad sanctaidd. Bydd yn gwobrwyo'r rhai sy'n troi cefn ar eu crefydd. Bydd ei fyddin yn mynd i mewn i'r deml ac yn ei halogi. Bydd yn stopio'r aberthu dyddiol, ac yn codi eilun ffiaidd sy'n dinistrio yno. Bydd yn defnyddio gweniaith i lygru'r rhai sydd wedi bod yn anffyddlon i'r ymrwymiad. Ond bydd y bobl sy'n nabod Duw yn sefyll yn gryf yn ei erbyn. Bydd y rhai doeth yn dysgu trwch y boblogaeth beth i'w wneud. Ond bydd cyfnod anodd yn dilyn, pan fydd llawer yn cael eu lladd gan y cleddyf, eu llosgi, eu caethiwo, ac yn colli popeth. Pan fydd hyn yn digwydd, byddan nhw'n cael rhywfaint o help. Ond fydd llawer o'r rhai fydd yn ymuno â nhw ddim wir o ddifrif. Bydd hyd yn oed rhai o'r arweinwyr doeth yn syrthio. Bydd hyn yn rhan o'r coethi, y puro a'r glanhau sydd i ddigwydd cyn i'r diwedd ddod. Ac mae'r diwedd hwnnw yn sicr o ddod. “Bydd y brenin yn gwneud beth bynnag mae e eisiau. Bydd yn brolio ei fod e'i hun yn fwy na'r duwiau i gyd; a bydd yn dweud pethau hollol warthus yn erbyn y Duw mawr. A bydd yn llwyddo i ddianc, nes bydd y cyfnod o ddigofaint wedi dod i ben. Mae beth sydd wedi ei benderfynu yn mynd i ddigwydd. Fydd e'n dangos dim parch at dduwiau ei hynafiaid, hyd yn oed ffefryn y merched. Fydd e'n dangos dim parch at unrhyw dduw. Bydd yn brolio ei fod e'i hun yn fwy na nhw i gyd. Yn eu lle nhw bydd yn addoli duw'r canolfannau milwrol — duw doedd ei hynafiaid yn gwybod dim amdano. Bydd yn tywallt aur, arian, gemau ac anrhegion costus eraill arno. Bydd yn ymosod ar ganolfannau milwrol eraill gyda help duw estron. Bydd yn anrhydeddu'r rhai sy'n ildio iddo. Bydd yn rhoi awdurdod iddyn nhw ac yn rhannu'r tir rhyngddyn nhw. “Yna yn y diwedd bydd brenin y de yn codi yn ei erbyn. Ond bydd brenin y gogledd yn ei daro yn ôl yn galed gyda cerbydau, marchogion, a llynges o longau rhyfel. Bydd yn concro gwledydd ac yn ysgubo trwyddyn nhw fel afon wedi gorlifo. Bydd yn goresgyn y Wlad Hardd. Bydd llawer o wledydd yn cael eu concro, ond bydd Edom, Moab ac arweinwyr Ammon yn cael dianc. Wrth iddo ymestyn allan bydd yn taro un wlad ar ôl y llall. Fydd hyd yn oed yr Aifft ddim yn dianc. Bydd yn rheoli holl drysorau'r Aifft — yr aur, yr arian, a phopeth arall. Bydd Libia a Cwsh yn ildio iddo. “Ond yna, bydd adroddiadau o'r dwyrain a'r gogledd yn achosi panig. Bydd yn mynd allan yn wyllt i ddinistrio a lladd llawer iawn o bobl. Bydd yn codi ei babell frenhinol i wersylla rhwng Môr y Canoldir a'r Mynydd Cysegredig. Dyna ble bydd yn cwrdd â'i ddiwedd, a fydd neb yn gallu ei helpu. Bryd hynny bydd Michael yn codi — yr arweinydd mawr sy'n gofalu am dy bobl. Bydd amser caled — gwaeth na dim mae'r wlad wedi ei brofi erioed o'r blaen. Ond bydd dy bobl di yn dianc — pawb sydd â'i henwau wedi eu hysgrifennu yn y llyfr. Bydd llawer o'r rhai sy'n gorwedd yn farw, wedi eu claddu ym mhridd y ddaear, yn deffro — rhai i fywyd tragwyddol ac eraill i gywilydd bodolaeth ffiaidd. Ond bydd y rhai doeth yn disgleirio fel golau dydd. Bydd y rhai sy'n arwain y werin bobl i fyw mewn perthynas iawn â Duw yn disgleirio fel sêr am byth bythoedd. “Rhaid i ti, Daniel, gadw'r neges yma'n gyfrinachol a selio'r sgrôl nes bydd y diwedd wedi dod. Bydd llawer yn rhuthro yma ac acw yn ceisio deall beth sy'n digwydd.” Yna dyma fi, Daniel, yn gweld dau arall yn sefyll yna — un bob ochr i'r afon. Dyma un ohonyn nhw'n dweud wrth y dyn oedd mewn gwisg o liain, oedd erbyn hyn yn sefyll uwch ben yr afon, “Pryd mae'r pethau mawr yma'n mynd i ddigwydd?” A dyma'r dyn oedd mewn gwisg o liain ac yn sefyll uwch ben yr afon, yn codi ei ddwy law i'r awyr ac yn tyngu ar lw i'r Un sy'n byw am byth: “Mae am gyfnod, dau gyfnod a hanner cyfnod. Wedyn pan fydd grym yr un sy'n sathru pobl gysegredig Duw wedi dod i ben bydd y diwedd wedi dod.” Roeddwn i wedi ei glywed, ond ddim yn deall. Felly dyma fi'n gofyn, “Syr, beth fydd yn digwydd yn y diwedd?” Atebodd, “Dos di, Daniel. Mae'r neges yma i'w gadw'n gyfrinachol ac wedi ei selio nes bydd y diwedd wedi dod. Bydd llawer o bobl yn cael eu puro, eu glanhau a'u coethi drwy'r cwbl. Ond bydd pobl ddrwg yn dal ati i wneud drwg. Fyddan nhw ddim yn deall. Dim ond y rhai doeth fydd yn deall beth sy'n digwydd. O'r amser pan fydd yr aberthu dyddiol yn cael ei stopio a'r eilun ffiaidd sy'n dinistrio yn cael ei godi yn ei le, mae mil dau gant naw deg o ddyddiau. Mae'r rhai sy'n disgwyl yn ffyddlon nes bydd mil tri chant tri deg pump o ddyddiau wedi mynd heibio wedi eu bendithio'n fawr. “Felly dos di yn dy flaen. Gelli fod yn dawel dy feddwl. Pan ddaw'r diwedd, byddi di'n codi i dderbyn dy wobr.” Dyma'r neges roddodd yr ARGLWYDD i Hosea fab Beëri. Roedd yn proffwydo pan oedd Wseia, Jotham, Ahas a Heseceia yn frenhinoedd ar Jwda, a Jeroboam fab Jehoas, yn frenin ar Israel. Pan ddechreuodd yr ARGLWYDD siarad drwy Hosea, dwedodd wrtho: “Dos, a priodi gwraig sy'n puteinio. Bydd hi'n puteinio ac yn cael plant siawns. Mae fel y wlad yma, sy'n puteinio o hyd drwy droi cefn arna i, yr ARGLWYDD.” Felly dyma Hosea yn priodi Gomer, merch Diblaim. Dyma hi'n cael ei hun yn feichiog, ac yn geni mab iddo. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Hosea, “Galw fe'n Jesreel, achos yn fuan iawn dw i'n mynd i gosbi llinach frenhinol Jehw am y tywallt gwaed yn Jesreel. Dw i'n mynd i ddod â teyrnas Israel i ben. Bydda i'n dinistrio grym milwrol Israel yn Nyffryn Jesreel.” Pan oedd Gomer yn feichiog eto, dyma hi'n cael merch y tro yma. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Hosea, “Galw hi'n Lo-rwhama (sef ‛dim trugaredd‛). Fydda i'n dangos dim trugaredd at wlad Israel o hyn ymlaen. Maen nhw wedi fy mradychu i. Ond bydda i yn dangos trugaredd at wlad Jwda. Fi, yr ARGLWYDD eu Duw, fydd yn eu hachub nhw, nid arfau a grym milwrol a rhyfela.” Cyn gynted ag roedd Gomer wedi stopio bwydo Lo-rwhama ar y fron, roedd hi'n feichiog eto, a dyma hi'n cael mab arall. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud, “Galw fe'n Lo-ammi (sef ‛dim fy mhobl‛). Achos dych chi ddim yn bobl i mi, a dw i ddim yn Dduw i chi.” Ond yn y dyfodol, bydd poblogaeth Israel fel y tywod ar lan y môr — yn amhosib i'w cyfrif. Yn yr union le lle dwedwyd wrthyn nhw, “Dych chi ddim yn bobl i mi” byddan nhw'n cael eu galw yn “blant y Duw byw”! Bydd pobl Jwda a pobl Israel yn uno gyda'i gilydd. Byddan nhw'n dewis un arweinydd, ac yn codi eto o'r tir. Bydd hi'n ddiwrnod mawr i Jesreel! “Byddi'n galw dy frawd yn Ammi (sef ‛fy mhobl‛), a dy chwaer yn Rwhama (sef ‛trugaredd‛)! Plediwch yn daer gyda'ch mam (Dydy hi ddim yn wraig i mi, a dw i ddim yn ŵr iddi hi.) Plediwch arni i stopio peintio ei hwyneb fel putain, a dangos ei bronnau i bawb. Neu bydda i'n rhwygo ei dillad oddi arni — bydd hi'n hollol noeth, fel ar ddiwrnod ei geni. Bydda i'n troi'r wlad yn anialwch. Bydd fel tir sych; a bydd hi'n marw o syched. Fydda i'n dangos dim trugaredd at ei phlant, am mai plant siawns ydyn nhw, am iddi buteinio. Hwren anffyddlon ydy eu mam nhw; mae hi wedi ymddwyn yn warthus. Roedd hi'n dweud: ‘Dw i'n mynd at fy nghariadon. Maen nhw'n rhoi bwyd a dŵr i mi, gwlân, llin, olew, a diodydd.’ Felly, dw i am gau ei ffordd gyda drain a chodi wal i'w rhwystro, fel ei bod hi'n colli ei ffordd. Wedyn, pan fydd hi'n rhedeg ar ôl ei chariadon, bydd hi'n methu eu cyrraedd nhw. Bydd hi'n chwilio, ond yn methu ffeindio nhw. Bydd hi'n dweud wedyn, ‘Dw i am fynd yn ôl at fy ngŵr. Roedd pethau lot gwell arna i bryd hynny.’ “Dydy hi ddim yn barod i gydnabod mai fi sy'n rhoi'r ŷd a'r sudd grawnwin a'r olew olewydd iddi. A fi wnaeth roi'r holl arian a'r aur iddi hefyd — ond aeth ei phobl a rhoi'r cwbl i Baal! Felly, dw i'n mynd i gymryd yr ŷd yn ôl, a'r cynhaeaf grawnwin hefyd. Dw i'n mynd i gymryd yn ôl y gwlân a'r llin oeddwn i wedi ei roi iddi i'w gwisgo. Yn fuan iawn, dw i'n mynd i wneud iddi sefyll yn noethlymun o flaen ei chariadon. Fydd neb yn gallu ei helpu hi! Bydd ei holl bartïo ar ben: ei gwyliau crefyddol, ei dathliadau misol a'i Sabothau wythnosol — pob un parti! Bydda i'n difetha ei gwinllannoedd a'i choed ffigys — roedd hi'n honni mai tâl gan ei chariadon oedd y cwbl. Bydda i'n troi'r cwbl yn ddrysni llawn chwyn wedi tyfu'n wyllt; dim ond anifeiliaid gwylltion fydd yn bwyta eu ffrwyth. Bydda i'n ei chosbi am bob diwrnod y buodd hi'n llosgi arogldarth i ddelwau o Baal. Roedd hi'n gwisgo'i chlustdlysau a'i gemwaith i fynd ar ôl ei chariadon, ond yn fy anghofio i!” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Felly, dw i'n mynd i'w denu hi yn ôl ata i. Dw i'n mynd i'w harwain hi yn ôl i'r anialwch a siarad yn rhamantus gyda hi eto. Wedyn, dw i'n mynd i roi ei gwinllannoedd iddi, a troi Dyffryn y Drychineb yn Giât Gobaith Bydd hi'n canu fel pan oedd hi'n ifanc, pan ddaeth hi allan o wlad yr Aifft. Bryd hynny,” meddai'r ARGLWYDD, “byddi'n galw fi, ‛fy ngŵr‛; fyddi di byth eto'n fy ngalw i, ‛fy meistr‛. Bydda i'n gwneud i ti anghofio enwau'r delwau o Baal; fyddi di ddim yn eu defnyddio byth eto. Bryd hynny, bydda i'n gwneud ymrwymiad gyda'r anifeiliaid gwyllt, yr adar, a'r holl bryfed ar y ddaear Bydda i'n cael gwared ag arfau rhyfel — y bwa saeth a'r cleddyf; A bydd fy mhobl yn byw'n saff a dibryder. Bydda i'n dy gymryd di'n wraig i mi am byth. Bydda i'n dy drin di'n deg, yn gyfiawn, ac yn dangos cariad a charedigrwydd atat. Bydda i'n ffyddlon i ti bob amser, a byddi di'n fy nabod i, yr ARGLWYDD. Bryd hynny, bydda i'n ymateb i ti'n frwd,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Bydda i'n rhoi cymylau i'r awyr, a bydd yr awyr yn rhoi glaw i'r tir. Bydd y tir yn rhoi dŵr i'r ŷd, y grawnwin a'r olewydd. A bydd ffrwyth y tir ar gael i Jesreel. Bydda i'n ei phlannu i mi fy hun yn y tir. Bydd ‛heb drugaredd‛ yn cael profi trugaredd. Bydda i'n dweud wrth ‛nid fy mhobl‛, ‛dych chi'n bobl i mi‛. A byddan nhw'n ateb, ‘Ti ydy'n Duw ni!’.” Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i: “Dos, a dangos gariad at dy wraig eto, er bod ganddi gariad arall a'i bod yn anffyddlon i ti. Dyna'n union fel mae'r ARGLWYDD yn caru pobl Israel, er eu bod nhw'n troi at eilun-dduwiau ac yn offrymu teisennau ffrwyth melys iddyn nhw.” Felly dyma fi'n mynd a talu un deg pump darn arian a chan cilogram o haidd amdani. A dyma fi'n dweud wrthi, “O hyn allan ti'n mynd i aros gyda mi. Dwyt ti ddim i weithio fel putain na chael rhyw gydag unrhyw ddyn, hyd yn oed gyda fi.” Mae pobl Israel yn mynd i fod am amser hir heb frenin nag arweinydd eu hunain, heb fedru aberthu, heb golofnau cysegredig, heb arweiniad offeiriad nac eilun-ddelwau teuluol. Ond wedyn yn y dyfodol bydd pobl Israel yn troi yn ôl at yr ARGLWYDD eu Duw a'u brenin o deulu Dafydd. Bryd hynny byddan nhw'n plygu i'r ARGLWYDD a'i barchu, ac yn profi eto mor dda ydy e. Bobl Israel, gwrandwch ar y neges sydd gan yr ARGLWYDD i chi! Mae'r ARGLWYDD yn dwyn achos yn erbyn pobl y wlad: “Does yna neb sy'n ffyddlon, neb sy'n garedig, neb sy'n nabod Duw go iawn. Ond mae yna ddigon o regi, twyllo, llofruddio, dwyn a godinebu! Mae yna drais ym mhobman! A dyna pam fydd y wlad yn methu a'i phobl yn mynd yn wan. Bydd hyd yn oed yr anifeiliaid gwyllt a'r adar a'r pysgod yn diflannu! Peidiwch pwyntio'r bys at bobl eraill, a rhoi'r bai arnyn nhw. Mae fy achos yn eich erbyn chi offeiriaid! Byddwch yn baglu yng ngolau dydd, a bydd eich proffwydi ffals yn baglu gyda chi yn y nos. Bydd dychryn yn eich dinistrio! Mae fy mhobl yn cael eu dinistrio am nad ydyn nhw'n fy nabod i. Dych chi offeiriaid ddim eisiau fy nabod i, felly dw i ddim eisiau chi yn offeiriaid. Dych chi wedi gwrthod dysgeidiaeth eich Duw felly dw i'n mynd i wrthod eich plant chi. Wrth i'r offeiriaid ennill mwy a mwy o gyfoeth maen nhw'n pechu mwy yn fy erbyn i — cyfnewid yr Un Gwych am beth gwarthus! Maen nhw'n bwyta offrymau dros bechod fy mhobl! Maen nhw eisiau i'r bobl bechu! Ac mae'r bobl yn gwneud yr un fath â'r offeiriaid — felly bydda i'n eu cosbi nhw i gyd am y drwg; talu'n ôl iddyn nhw am beth maen nhw wedi ei wneud. Byddan nhw'n bwyta, ond byth yn cael digon. Byddan nhw'n cael rhyw, ond ddim yn cael plant. Maen nhw wedi troi cefn ar yr ARGLWYDD a bwrw ati i buteinio. Mae gwin wedi drysu fy mhobl! Maen nhw'n troi at ddarn o bren am help, a disgwyl ateb gan ffon hud rhyw swynwr! Mae'r obsesiwn am ryw wedi gwneud iddyn nhw golli'r ffordd, ac maen nhw'n puteinio eu hunain i ffwrdd oddi wrth eu Duw. Maen nhw'n aberthu ar gopa'r mynyddoedd, a llosgi arogldarth ar ben y bryniau — dan gysgod hyfryd rhyw dderwen, coeden boplys neu derebinth. A'r canlyniad? Mae eich merched yn buteiniaid, a'ch merched-yng-nghyfraith yn godinebu! Ond pam ddylwn i gosbi dy ferched am buteinio, a'th ferched-yng-nghyfraith am odinebu? Mae'r dynion yr un fath! — yn ‛addoli‛ gyda hwren, ac yn aberthu gyda putain teml! ‘Bydd pobl ddwl yn mynd i ddistryw!’ Er dy fod ti, O Israel, yn godinebu, boed i Jwda osgoi pechu. Paid mynd i gysegr Gilgal! Paid mynd i fyny i Beth-afen! Paid tyngu llw, ‘Fel mae'r ARGLWYDD yn fyw …’ Mae Israel anufudd yn ystyfnig fel mul! Cyn bo hir bydd yr ARGLWYDD yn ei gyrru allan i bori, a bydd fel oen bach ar dir agored! Mae pobl Effraim yn briod ag eilunod — gad iddyn nhw fod! Ar ôl yfed yn drwm nes bod dim diod ar ôl, maen nhw'n troi at buteiniaid teml ac yn joio eu mochyndra digywilydd! Ond bydd corwynt yn eu cipio, a bydd eu haberthau'n achos cywilydd go iawn. Gwrandwch, chi offeiriaid! Daliwch sylw, bobl Israel! Clywch, chi'r teulu brenhinol! Mae'r farn ar fin dod arnoch! Dych chi wedi bod fel trap i bobl Mitspa, a rhwyd i ddal pobl Tabor; yn wrthryfelwyr wedi achosi lladdfa ddifrifol, a bydda i'n eich cosbi chi i gyd. Dw i'n gwybod yn iawn am Effraim. Dydy Israel ddim yn gallu cuddio oddi wrtho i! Rwyt ti Effraim wedi troi at buteinio — mae Israel wedi ei llygru'n llwyr. Mae eu drygioni'n eu rhwystro rhag troi yn ôl at eu Duw. Mae puteindra ysbrydol wedi eu meddiannu, a dŷn nhw ddim yn nabod yr ARGLWYDD. Mae balchder Israel yn tystio yn ei herbyn. Bydd Israel ac Effraim yn syrthio o achos eu drygioni. A bydd Jwda, hefyd, yn syrthio gyda nhw. Wedyn, byddan nhw'n mynd at yr ARGLWYDD gyda'i defaid a'u geifr a'u bustych. Ond bydd yn rhy hwyr! Bydd e wedi eu gadael nhw. Maen nhw wedi bradychu'r ARGLWYDD ac maen nhw wedi cael plant siawns. Yn fuan iawn, ar Ŵyl y Lleuad Newydd, byddan nhw a'u tir yn cael eu difa. Chwythwch y corn hwrdd yn Gibea! Canwch utgorn yn Rama! Rhybuddiwch bobl Beth-afen! Ti fydd gyntaf, Benjamin! Bydd Effraim yn cael ei dinistrio ar ddydd y cosbi! Mae beth dw i'n ei ddweud wrth lwythau Israel yn mynd i ddigwydd. Mae arweinwyr Jwda fel rhai sy'n symud terfyn i ddwyn tir; a bydda i'n tywallt fy llid arnyn nhw fel llifogydd! Bydd Effraim yn cael ei orthrymu, a'i sathru pan fydda i'n barnu; am ei fod wedi penderfynu dilyn eilunod diwerth. Bydda i fel gwyfyn yn difa Effraim, fel pydredd i bobl Jwda. Pan welodd Effraim ei fod yn sâl, a Jwda'n gweld ei ddolur, dyma Effraim yn troi at Asyria am help gan ‛y brenin mawr‛. Ond dydy e ddim yn gallu dy helpu. Fydd e ddim yn gwella dy glwyf! Fi sy'n ymosod ar Effraim a Jwda, fel llew yn rhwygo ei ysglyfaeth. Fi — ie, fi! Bydda i'n eu rhwygo nhw'n ddarnau a'i cario nhw i ffwrdd. Fydd neb yn gallu eu helpu. Bydda i'n mynd yn ôl i'm ffau nes byddan nhw'n cyfaddef eu bai. Wedyn, byddan nhw'n chwilio amdana i; yn eu helbul, byddan nhw'n chwilio'n daer amdana i: “Dewch! Gadewch i ni droi'n ôl at yr ARGLWYDD. Fe sydd wedi'n rhwygo'n ddarnau, ond bydd e'n iacháu! Fe sydd wedi'n hanafu ni, ond bydd e'n gwella'r briwiau! Bydd yn rhoi bywyd newydd i ni mewn ychydig; bydd wedi'n codi ni'n ôl yn fyw mewn dim o bryd. Cawn fyw yn ei gwmni, a'i nabod yn iawn. Gadewch i ni fwrw iddi i gydnabod yr ARGLWYDD. Bydd yn dod allan i'n hachub, mor sicr â bod y wawr yn torri. Bydd yn dod fel glaw y gaeaf neu gawodydd y gwanwyn i ddyfrio'r tir.” O, beth wna i gyda chi, bobl Effraim? Beth wna i gyda chi, bobl Jwda? Mae eich ffyddlondeb fel tarth y bore, neu'r gwlith sy'n diflannu'n gynnar. Dyna pam dw i wedi anfon y proffwydi i'ch taro. Dw i'n mynd i'ch lladd chi fel y dwedais wrth gyhoeddi barn. Mae'r farn yn siŵr o ddod, fel golau'r wawr. Ffyddlondeb sy'n fy mhlesio, nid aberthau! Nabod Duw, nid dim ond offrwm i'w losgi. Maen nhw wedi sathru fy ymrwymiad fel Adda! Maen nhw wedi fy mradychu i! Mae Gilead yn dref o bobl ddrwg, ac mae olion traed gwaedlyd yn staen ar ei strydoedd. Mae'r urdd o offeiriaid fel gang o ladron, yn cuddio i ymosod ar bobl — yn llofruddio ar y ffordd i Sichem. Maen nhw'n gwneud cymaint o ddrwg! Dw i wedi gweld pobl Israel yn gwneud pethau cwbl ffiaidd! Mae Effraim yn puteinio — mae Israel wedi ei llygru'n llwyr! Mae cynhaeaf barn yn dod i tithau, Jwda! Dw i eisiau i'm pobl lwyddo eto; dw i eisiau iacháu Israel. Ond mae pechod Effraim yn y golwg, a drygioni Samaria mor amlwg. Maen nhw mor dwyllodrus! Mae lladron yn torri i mewn i'r tai, a gangiau'n dwyn ar y strydoedd. Dŷn nhw ddim yn sylweddoli fy mod i'n gweld y drwg i gyd. Mae eu drygioni fel baw drostyn nhw — dw i'n ei weld o flaen fy llygaid! Mae'r brenin yn mwynhau gweld drwg a'r tywysogion yn twyllo. Maen nhw i gyd yn godinebu! Maen nhw fel popty crasboeth — does dim rhaid i'r pobydd brocio'r tân tra mae'n tylino'r toes, na pan mae'n cael ei bobi! Mae'r brenin yn cynnal parti, ac mae'r tywysogion yn meddwi; Mae e'n cynllwynio gyda paganiaid ac yn troi ata i gan fwriadu brad. Bwriadau sydd fel popty poeth, yn mudlosgi drwy'r nos ac yn cynnau'n fflamau tân yn y bore. Maen nhw i gyd fel popty crasboeth, yn lladd eu llywodraethwyr. Mae eu brenhinoedd i gyd wedi syrthio, a does dim un yn galw arna i! Mae Effraim wedi cymysgu gyda'r cenhedloedd. Mae fel bara tenau wedi ei losgi ar un ochr! Mae estroniaid yn sugno ei nerth, a dydy e ddim wedi sylwi! Mae fel hen ddyn a'i wallt yn britho heb iddo sylwi! Mae balchder Israel yn tystio yn ei herbyn. Wnân nhw ddim troi'n ôl at yr ARGLWYDD eu Duw! Er gwaetha'r cwbl maen nhw'n gwrthod troi ato. Mae Effraim fel colomen ddisynnwyr, hawdd i'w thwyllo — mae'n galw ar yr Aifft am help, ac wedyn yn troi at Asyria. Bydda i'n taflu fy rhwyd i'w rhwystro rhag hedfan; bydda i'n eu dal nhw fel dal adar, ac yn eu cosbi nhw pan glywa i nhw'n heidio at ei gilydd. Gwae nhw am geisio dianc oddi wrtho i! Dinistr gân nhw am wrthryfela yn fy erbyn i! Sut alla i eu gollwng nhw'n rhydd pan maen nhw'n dweud celwydd amdana i? Dŷn nhw ddim yn galw arna i o ddifrif. Maen nhw'n gorweddian ar eu gwlâu yn gweiddi, a torri eu hunain â chyllyll wrth ofyn am ŷd a grawnwin. Maen nhw wedi troi cefn arna i, er mai fi wnaeth eu dysgu nhw. Fi wnaeth eu gwneud nhw'n gryf, ond maen nhw'n cynllwynio i wneud drwg i mi. Maen nhw'n troi at Baal! Maen nhw fel bwa llac, yn dda i ddim. Byddan nhw'n cael eu lladd gan y gelyn am siarad mor hy yn fy erbyn. Byddan nhw'n destun sbort i bobl yr Aifft. Canwch y corn hwrdd! Rhybuddiwch y bobl! Mae eryr yn hofran uwch teml yr ARGLWYDD. Maen nhw wedi torri amodau'r ymrwymiad gyda mi, ac wedi gwrthryfela yn erbyn fy nghyfraith. Mae Israel yn galw arna i, “O Dduw, dŷn ni'n dy gydnabod di!” Ond mae'n rhy hwyr! Mae Israel wedi gwrthod y da, a bydd y gelyn yn ei erlyn. Maen nhw wedi dewis brenhinoedd heb ofyn i mi. Maen nhw wedi urddo arweinwyr heb i mi gytuno. Maen nhw wedi gwneud eilunod gyda'r arian a'r aur oedd ganddyn nhw — ffordd dda i ddinistrio'i hunain! Dw i wedi gwrthod tarw Samaria. Dw i wedi digio'n lân gyda nhw! Fydd hi ddim yn hir nes i mi eu cosbi nhw, er mai pobl Israel ydyn nhw! Cafodd y peth hwnnw ei greu gan grefftwr — nid Duw ydy e! Felly, bydd tarw Samaria yn cael ei falu'n ddarnau mân! Maen nhw wedi hau gwynt, ond byddan nhw'n medi corwynt! ‛Dydy ŷd heb ben ddim yn rhoi blawd.‛ Hyd yn oed petai'n rhoi cnwd, pobl estron fydd yn ei fwyta. Bydd Israel wedi ei llyncu gan y cenhedloedd; bydd fel darn o sbwriel wedi ei daflu i ffwrdd. Maen nhw wedi mynd i fyny i Asyria — fel asyn gwyllt yn crwydro'n unig. Mae Effraim wedi bod yn talu am ei chariadon. Am ei bod nhw wedi talu am gariad y cenhedloedd, dw i'n mynd i'w casglu nhw i gael eu barnu, a byddan nhw'n gwywo dan orthrwm y brenin mawr. Er fod Effraim wedi adeiladu allorau i aberthu dros bechod, maen nhw wedi eu troi yn allorau i bechu! Er fy mod wedi rhoi cyfreithiau manwl iddyn nhw, maen nhw'n trin y cwbl fel rhywbeth hollol ddieithr! Mae'n nhw'n dod i offrymu aberthau er mwyn cael bwyta'r cig! Dydy'r ARGLWYDD ddim yn eu derbyn nhw! Yn fuan iawn, bydd yn delio gyda'i pechodau nhw, ac yn eu cosbi nhw; byddan nhw'n mynd yn ôl i'r Aifft! Mae Israel wedi anghofio'i Chrëwr. Mae Jwda wedi adeiladu palasau, a chryfhau ei chaerau amddiffynnol. Ond bydda i'n anfon tân i'w threfi, ac yn llosgi ei phalasau. O Israel, stopia ddathlu a gweiddi'n llawen fel y paganiaid; ti wedi bod yn anffyddlon i dy Dduw. Ti'n hoffi derbyn cyflog putain wrth ‛addoli‛ ar bob llawr dyrnu! Fydd dy gynhaeaf ŷd ddim digon i fwydo dy bobl, a bydd y grawnwin o'r gwinllannoedd yn dy siomi. Fyddan nhw ddim yn aros ar dir yr ARGLWYDD. Bydd Effraim yn mynd yn ôl i'r Aifft, ac yn bwyta bwyd aflan yn Asyria. Fyddan nhw ddim yn gallu tywallt gwin i'r ARGLWYDD, nac offrymu aberthau iddo. Bydd yr aberthau'n aflan, fel bwyd pobl sy'n galaru; bydd pawb sy'n ei fwyta'n cael eu llygru. Bydd eu bwyd i'w boliau'n unig; fydd e ddim yn mynd yn agos i deml yr ARGLWYDD. Felly, beth wnewch chi ar Ddydd Gŵyl — sut fyddwch chi'n dathlu Gwyliau'r ARGLWYDD? Hyd yn oed os byddan nhw'n dianc o'r dinistr, bydd yr Aifft yn cael gafael ynddyn nhw, a Memffis yn eu claddu nhw. Bydd chwyn yn chwennych eu trysorau a mieri'n meddiannu eu tai. Mae cyfnod y cosbi wedi cyrraedd! Mae dydd y farn wedi dod! Mae'n bryd i Israel wybod! “Mae'r proffwyd yn hurt! Mae'r dyn ysbrydol yn wallgof!” Ti wedi pechu gymaint, ac mor llawn casineb! Mae'r proffwyd yn wyliwr dros Effraim ar ran Duw. Ond mae trapiau'n cael eu gosod ar ei lwybrau; a dim byd ond casineb ato yn nheml ei Dduw. Mae'r llygredd yn mynd o ddrwg i waeth, fel digwyddodd yn Gibea gynt. Bydd Duw yn delio gyda'u drygioni ac yn eu cosbi am eu pechodau. Roedd darganfod Israel fel dod o hyd i rawnwin yn yr anialwch. I mi, roedd dy hynafiaid fel y ffrwyth cyntaf i dyfu ar goeden ffigys. Ond dyma nhw'n cyrraedd Baal-peor, a rhoi eu hunain i eilun cywilyddus — cyn pen dim aethon nhw mor ffiaidd â'r eilun roedden nhw'n ei addoli. “Bydd ysblander Effraim yn hedfan i ffwrdd fel aderyn! Bydd heb blant — byth yn beichiogi. Bydd yn ddiffrwyth! Hyd yn oed petaen nhw'n magu plant, bydda i'n eu cipio nhw i ffwrdd — fydd dim un ar ôl. Gwae nhw! Dw i'n mynd i droi cefn arnyn nhw! Roeddwn i'n gweld Effraim fel coeden balmwydd wedi ei phlannu mewn cae hyfryd, ond byddan nhw'n dod â'i plant allan i'w lladd.” Rho iddyn nhw, ARGLWYDD — Ond beth roi di iddyn nhw? — Rho grothau sy'n erthylu, a bronnau wedi sychu! “Am wneud yr holl ddrwg yn Gilgal, dw i'n eu casáu nhw. Dw i'n mynd i'w gyrru nhw allan o'm tir o achos eu holl ddrygioni. Dw i ddim yn eu caru nhw bellach; mae eu swyddogion i gyd mor ystyfnig. Bydd pobl Effraim yn cael eu taro'n galed — mae'r gwreiddyn wedi sychu; a does dim ffrwyth yn tyfu. A hyd yn oed petaen nhw'n cael plant, byddwn i'n lladd eu babis bach del!” Bydd fy Nuw yn eu gwrthod nhw am beidio gwrando arno; ac yn gwneud iddyn nhw grwydro ar goll ymhlith y cenhedloedd! Roedd Israel fel gwinwydden iach a'i ffrwyth yn drwm ar ei changhennau. Ond po fwya o ffrwyth gafwyd, mwya o allorau a godwyd. Wrth i gnydau'r tir lwyddo byddai'r colofnau cysegredig yn cael eu haddurno. Maen nhw'n rhagrithio, felly byddan nhw'n cael eu cosbi. Bydd yr ARGLWYDD ei hun yn chwalu'r allorau ac yn malu'r colofnau. Yn fuan iawn byddan nhw'n cyfaddef, “Does dim brenin am ein bod heb barchu'r ARGLWYDD. Ond beth wnaeth brenin i ni beth bynnag?” Maen nhw'n llawn geiriau gwag, addewidion wedi eu torri, a chytundebau diwerth. Mae achosion llys yn lledu fel chwyn gwenwynig mewn cae wedi ei aredig. Bydd pobl Samaria yn ofni beth ddigwydd i lo Beth-afen. Bydd y bobl yn galaru gyda'r offeiriaid ffals a fu'n dathlu, am fod ei ysblander wedi ei gipio, a'i gario i Asyria yn anrheg i'r brenin mawr. Bydd Effraim yn destun sbort, ac Israel yn cywilyddio o achos yr eilun o bren. Bydd Samaria'n cael ei dinistrio, a'i brenin yn cael ei gipio fel brigyn yn cael ei gario ar lif afon. Bydd yr allorau paganaidd yn cael eu dinistrio — sef y lleoedd lle bu Israel yn pechu. Bydd drain ac ysgall yn tyfu dros yr allorau. Byddan nhw'n dweud wrth y mynyddoedd, “Cuddiwch ni!” ac wrth y bryniau, “Syrthiwch arnon ni!” “Israel, ti wedi pechu ers y digwyddiad erchyll yn Gibea. A does dim byd wedi newid! Onid rhyfel oedd canlyniad yr holl ddrwg yn Gibea? A dw i'n barod i gosbi eto. Dw i'n mynd i gasglu'r cenhedloedd i ymosod arnat ti a dy gymryd yn gaeth am y ddau bechod. Roedd Effraim fel heffer wedi ei hyfforddi, ac wrth ei bodd yn sathru'r grawn. Ond dw i'n mynd i roi iau trwm ar ei gwddf, a gêr i wneud i Effraim aredig. Bydd rhaid i Jwda aredig a Jacob lyfnu'r tir ei hun! Heuwch hadau cyfiawnder, a chewch gynhaeaf o gariad gen i. Trin tir eich calon galed — ceisio'r ARGLWYDD nes iddo ddod gyda chawodydd achubiaeth. Ond rwyt wedi plannu drygioni, a medi anghyfiawnder, ac yna bwyta ffrwyth y twyll. Ti wedi dibynnu ar gerbydau rhyfel, a phwyso ar faint dy fyddin. Felly daw sŵn brwydro ar dy bobl, a bydd dy gaerau i gyd yn syrthio. “Bydd fel y frwydr honno pan ddinistriodd y Brenin Shalman Beth-arbel, a'r mamau'n cael eu curo i farwolaeth gyda'u plant. Dyna fydd yn digwydd i ti, Bethel, am wneud cymaint o ddrwg! Pan fydd y diwrnod hwnnw'n gwawrio, bydd brenin Israel wedi mynd am byth. Pan oedd Israel yn blentyn roeddwn yn ei garu, a gelwais fy mab allan o'r Aifft. Ond po fwya roeddwn i'n galw, pellaf roedden nhw'n mynd. Roedden nhw'n aberthu i ddelwau o Baal, a llosgi arogldarth i eilunod. Fi ddysgodd Effraim i gerdded; a'i arwain gerfydd ei law. Ond wnaeth ei bobl ddim cydnabod mai fi ofalodd amdanynt. Fi wnaeth eu harwain gyda thennyn lledr — tennyn cariad. Fi gododd yr iau oddi ar eu gwddf, a fi wnaeth blygu i'w bwydo. Byddan nhw'n mynd yn ôl i'r Aifft! Bydd Asyria'n eu rheoli, am iddyn nhw wrthod troi'n ôl ata i. Bydd cleddyf yn fflachio'n eu trefi. Bydd y gelyn yn malu'r giatiau, a'u lladd er gwaetha'u cynlluniau. Mae fy mhobl yn mynnu troi cefn arna i. Maen nhw'n galw ar Baal, ond fydd e byth yn eu helpu nhw! Sut alla i dy roi heibio, Effraim? Ydw i'n mynd i adael i ti fynd, Israel? Sut alla i dy roi heibio fel Adma? Ydw i'n mynd i dy drin fel Seboïm? Na, dw i wedi newid fy meddwl! Mae tosturi wedi cynnau'n fy nghalon. Alla i ddim gadael llonydd i'm llid losgi. Alla i ddim dinistrio Effraim yn llwyr! Duw ydw i, nid dyn fel chi, yr Un Sanctaidd — dw i ddim am ddod i ddinistrio.” Bydd yr ARGLWYDD yn rhuo fel llew, a byddan nhw'n ei ddilyn eto. Pan fydd e'n rhuo, bydd ei blant yn dod o'r gorllewin yn llawn cyffro. Dod ar frys fel adar o'r Aifft, neu golomennod yn hedfan o Asyria. “Bydda i'n eu casglu nhw'n ôl i'w cartrefi.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. Ac eto celwydd Effraim sydd o'm cwmpas; dydy pobl Israel yn gwneud dim byd ond twyllo. Ac mae Jwda'n crwydro yn ôl ac ymlaen oddi wrth Dduw — yr Un Sanctaidd, sydd mor ffyddlon. Mae Effraim yn rhedeg ar ôl cysgodion — mae fel ffŵl sy'n dyheu am wynt poeth y dwyrain! Dim ond twyllo diddiwedd, a dinistr yn ei ddilyn. Mae'n gwneud cytundeb gydag Asyria, ac wedyn yn anfon olew olewydd yn dâl i'r Aifft! Mae'r ARGLWYDD am ddwyn achos yn erbyn Jwda: bydd yn cosbi pobl Jacob am y ffordd maen nhw wedi ymddwyn; talu'n ôl iddyn nhw am beth maen nhw wedi ei wneud. Daliodd ei frawd yn ôl yn y groth, a hyd yn oed ymladd gyda Duw fel oedolyn! Reslo gydag angel heb golli — crïo a pledio arno i'w fendithio. Dyma Duw yn ei gyfarfod yn Bethel a siarad gydag e yno — Ie, yr ARGLWYDD! Y Duw holl-bwerus! Yr ARGLWYDD ydy ei enw am byth! Rhaid i ti droi'n ôl at Dduw! — byw bywyd o gariad a chyfiawnder, a disgwyl yn ffyddiog am dy Dduw. Fel masnachwyr gyda chlorian sy'n twyllo, maen nhw wrth eu boddau'n manteisio. Ac mae Effraim yn brolio: “Dw i'n gyfoethog! Dw i wedi gwneud arian mawr! A does neb yn gallu gweld y twyll, neb yn gweld fy mod yn euog o unrhyw bechod.” “Fi ydy'r ARGLWYDD dy Dduw ddaeth â ti allan o wlad yr Aifft. Dw i'n mynd i wneud i ti fyw mewn pebyll eto, fel pan wnes i dy gyfarfod yn yr anialwch. Dw i wedi siarad drwy'r proffwydi — mewn gweledigaethau a negeseuon.” Ydy Gilead yn addoli eilunod? Ydy, a does dim dyfodol i'w phobl! Ydyn nhw'n aberthu teirw yn Gilgal? Ydynt, ond bydd eu hallorau fel pentwr o gerrig mewn cae wedi ei aredig! Roedd rhaid i Jacob ddianc i wlad Aram — gweithiodd Israel fel gwas i gael gwraig, a cadw defaid i dalu amdani. Yna defnyddiodd yr ARGLWYDD broffwyd i arwain Israel allan o'r Aifft, ac i'w cadw nhw'n fyw yn yr anialwch. Ond mae Effraim wedi ei bryfocio i ddigio. Bydd ei Feistr yn ei ddal yn gyfrifol am y tywallt gwaed, ac yn gwneud iddo dalu am fod mor ddirmygus. Pan oedd llwyth Effraim yn siarad roedd pawb yn crynu — roedd pawb yn ei barchu yn Israel. Ond buont ar fai yn addoli Baal, a dyna oedd eu diwedd. Ac maen nhw'n dal i bechu! Maen nhw wedi gwneud delwau o fetel tawdd; eilunod cywrain wedi eu gwneud o arian — ond dim ond gwaith llaw crefftwyr ydy'r cwbl! Mae yna ddywediad amdanyn nhw: “Mae'r bobl sy'n aberthu yn cusanu teirw!” Byddan nhw wedi mynd fel tarth y bore, neu'r gwlith sy'n diflannu'n gynnar; fel us yn cael ei chwythu o'r llawr dyrnu, neu fwg sy'n dianc drwy ffenest. “Ond fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw, ers i chi ddod allan o wlad yr Aifft. Peidiwch arddel unrhyw dduw ond fi — Fi ydy'r unig un sy'n achub! Fi wnaeth fwydo'ch pobl yn yr anialwch, mewn tir sych, diffaith. Ond wedi eu bwydo, roedden nhw'n fodlon — mor fodlon nes iddyn nhw droi'n falch, ac yna fy anghofio i! Felly bydda i'n rhuthro arnyn nhw fel llew, ac yn llechian fel llewpard ar ochr y ffordd. Bydda i'n ymosod arnyn nhw fel arth wedi colli ei chenawon; a'i llarpio nhw fel llew, neu anifail gwyllt yn rhwygo'i ysglyfaeth. Dw i'n mynd i dy ddinistrio di, O Israel! Pwy sydd yna i dy helpu di? Ble mae dy frenin, iddo fe dy achub di? Ble mae'r arweinwyr yn dy drefi? Ti ofynnodd, ‘Rho frenin a swyddogion i mi’. Wel, rhois frenin i ti am fy mod yn ddig, a dw i wedi ei gipio i ffwrdd am fy mod yn fwy dig fyth! Mae'r dyfarniad ar Effraim wedi ei gofnodi, a'i gosb wedi ei gadw'n saff iddo. Bydd yn dod yn sydyn, fel poenau ar wraig sy'n cael babi; mae'r amser wedi dod, ac mae'r plentyn dwl yn gwrthod dod allan o'r groth, a byw. Ydw i'n mynd i'w hachub nhw o fyd y meirw? Ydw i'n mynd i'w rhyddhau o afael marwolaeth? O farwolaeth! Ble mae dy blâu di? O fedd! Ble mae dy ddinistr di? Fydda i'n dangos dim trugaredd!” Falle ei fod yn llwyddo fel brwyn mewn cors, ond bydd yr ARGLWYDD yn dod â gwynt poeth y dwyrain i fyny o gyfeiriad yr anialwch. Bydd y dŵr yn sychu, a'r ffynhonnau'n diflannu, a'r bwydydd yn y stordai yn cael eu difetha. Bydd Samaria yn cael ei galw i gyfri am wrthryfela yn erbyn ei Duw. Bydd y bobl yn cael eu lladd yn y rhyfel, plant bach yn cael eu curo i farwolaeth, a'r gwragedd beichiog yn cael eu rhwygo'n agored. O Israel, tro yn ôl at yr ARGLWYDD dy Dduw. Dy ddrygioni wnaeth i ti syrthio. Siarad gydag e. Tro yn ôl ato, a dweud, “Maddau'n llwyr i ni am ein drygioni. Derbyn ein gweddi o gyffes. Derbyn ein mawl fel offrwm i ti. Dydy Asyria ddim yn gallu'n hachub. Wnawn ni ddim marchogaeth i ryfel. Wnawn ni ddim galw ‛ein duwiau‛ ar y delwau wnaethon ni byth eto. ARGLWYDD, dim ond ti sy'n garedig at yr amddifad!” “Dw i'n mynd i'w gwella o'u gwrthgilio, a'u caru nhw'n ddiamod. Dw i'n mynd i droi cefn ar fy nig. Bydda i fel gwlith i Israel — bydd hi'n blodeuo fel saffrwn, a bydd ganddi wreiddiau dwfn fel coed Libanus. Bydd ei blagur yn tyfu; bydd yn hardd fel coeden olewydd, a bydd ei harogl yn hyfryd fel fforestydd Libanus. Bydd pobl yn byw eto dan ei chysgod. Bydd fel ŷd yn tyfu neu winwydden yn lledu; bydd yn enwog fel gwin Libanus. Fydd gan Effraim ddim i'w wneud ag eilunod byth eto! Bydda i'n ateb ei weddi ac yn gofalu amdano. Dw i fel coeden binwydd fytholwyrdd, bydda i'n rhoi ffrwyth i chi drwy'r flwyddyn.” Pwy sy'n ddoeth? Bydd e'n deall. Pwy sy'n gall? Bydd e'n gwybod. Mae ffyrdd yr ARGLWYDD yn iawn — bydd pobl gyfiawn yn eu dilyn, ond y rhai sy'n gwrthryfela yn baglu. Y neges roddodd yr ARGLWYDD i Joel fab Pethwel. Gwrandwch ar hyn chi arweinwyr; a phawb arall sy'n byw yn y wlad, daliwch sylw! Ydych chi wedi gweld y fath beth? Oes rhywbeth fel yma wedi digwydd erioed o'r blaen? Dwedwch wrth eich plant am y peth. Gwnewch yn siŵr y bydd eich plant yn dweud wrth eu plant nhw, a'r rheiny wedyn wrth y genhedlaeth nesaf. Mae un haid o locustiaid ar ôl y llall wedi dinistrio'r cnydau i gyd! Beth bynnag oedd wedi ei adael ar ôl gan un haid roedd yr haid nesaf yn ei fwyta! Sobrwch, chi griw meddw, a dechrau crïo! Chi yfwyr gwin, dechreuwch udo! Does dim ar ôl! Mae'r gwin melys wedi ei gymryd oddi arnoch. Mae byddin fawr bwerus yn ymosod ar y wlad — gormod ohonyn nhw i'w cyfrif! Mae ganddyn nhw ddannedd fel llew neu lewes yn rhwygo'r ysglyfaeth. Maen nhw wedi dinistrio'r coed gwinwydd, a does dim ar ôl o'r coed ffigys. Maen nhw wedi rhwygo'r rhisgl i ffwrdd, a gadael y canghennau'n wynion. Wylwch, a nadu'n uchel, fel merch ifanc yn galaru mewn sachliain am fod y dyn roedd hi ar fin ei briodi wedi marw. Does neb yn gallu mynd ag offrwm o rawn i'r deml nac offrwm o ddiod i'w gyflwyno i'r ARGLWYDD. Mae'r offeiriaid sydd i fod i wasanaethu'r ARGLWYDD yn galaru. Mae'r caeau'n wag. Does dim byd yn tyfu ar y tir. Does dim cnydau ŷd na haidd, dim grawnwin i roi ei sudd, a dim olew o'r olewydd. Mae'r ffermwyr wedi anobeithio, a'r rhai sy'n gofalu am y gwinllannoedd yn udo crïo. Does dim ŷd na haidd yn tyfu; mae'r cnydau i gyd wedi methu. Mae'r gwinwydd wedi crino, ac mae'r coed olewydd wedi gwywo. Does dim pomgranadau, dim datys, a dim afalau. Mae'r coed ffrwythau i gyd wedi crino; Ac mae llawenydd y bobl wedi gwywo hefyd! Chi'r offeiriaid, gwisgwch sachliain a dechrau galaru. Crïwch yn uchel, chi sy'n gwasanaethu wrth yr allor. Weision Duw, treuliwch y nos yn galaru mewn sachliain, am fod neb yn dod ag offrwm i'r deml. Does neb bellach yn dod ag offrwm o rawn nac offrwm o ddiod i'w gyflwyno i'r ARGLWYDD. Trefnwch ddiwrnod pan fydd pawb yn ymprydio; yn stopio gweithio, ac yn dod at ei gilydd i addoli Duw. Dewch a'r arweinwyr a phawb arall at ei gilydd i deml yr ARGLWYDD eich Duw; dewch yno i weddïo ar yr ARGLWYDD. O na! Mae dydd barn yr ARGLWYDD yn agos! Mae'r Duw sy'n rheoli popeth yn dod i'n dinistrio ni! Bydd yn ddiwrnod ofnadwy! Does gynnon ni ddim bwyd o'n blaenau, a dim byd i ddathlu'n llawen yn nheml Dduw! Mae'r hadau wedi sychu yn y ddaear. Mae'r stordai'n wag a'r ysguboriau'n syrthio. Does dim cnydau i'w rhoi ynddyn nhw! Mae'r anifeiliaid yn brefu'n daer. Mae'r gwartheg yn crwydro mewn dryswch, am fod dim porfa iddyn nhw. Mae hyd yn oed y defaid a'r geifr yn dioddef. ARGLWYDD, dw i'n galw arnat ti am help. Mae'r tir pori fel petai tân wedi ei losgi; a fflamau wedi difetha'r coed i gyd. Mae'r anifeiliaid gwylltion yn brefu arnat ti am fod pob ffynnon a nant wedi sychu, a thir pori'r anialwch wedi ei losgi gan dân. Chwythwch y corn hwrdd yn Seion; Rhybuddiwch bobl o ben y mynydd cysegredig! Dylai pawb sy'n byw yn y wlad grynu mewn ofn, am fod dydd barn yr ARGLWYDD ar fin dod. Ydy, mae'n agos! Bydd yn ddiwrnod tywyll ofnadwy; diwrnod o gymylau duon bygythiol. Mae byddin enfawr yn dod dros y bryniau. Does dim byd tebyg wedi digwydd erioed o'r blaen, a welwn ni ddim byd tebyg byth eto. Mae fflamau tân o'u cwmpas, yn dinistrio popeth sydd yn eu ffordd. Mae'r wlad o'u blaenau yn ffrwythlon fel Gardd Eden, ond tu ôl iddyn nhw mae fel anialwch diffaith. Does dim posib dianc! Maen nhw'n edrych fel ceffylau, ac yn carlamu fel meirch rhyfel. Maen nhw'n swnio fel cerbydau rhyfel yn rhuthro dros y bryniau; fel sŵn clecian fflamau'n llosgi bonion gwellt, neu sŵn byddin enfawr yn paratoi i ymosod. Mae pobl yn gwingo mewn panig o'u blaenau; mae wynebau pawb yn troi'n welw o ofn. Fel tyrfa o filwyr, maen nhw'n martsio ac yn dringo i fyny'r waliau. Maen nhw'n dod yn rhesi disgybledig does dim un yn gadael y rhengoedd. Dŷn nhw ddim yn baglu ar draws ei gilydd; mae pob un yn martsio'n syth yn ei flaen. Dydy saethau a gwaywffyn ddim yn gallu eu stopio. Maen nhw'n rhuthro i mewn i'r ddinas, yn dringo dros y waliau, ac i mewn i'r tai. Maen nhw'n dringo i mewn fel lladron drwy'r ffenestri. Mae fel petai'r ddaear yn crynu o'u blaenau, a'r awyr yn chwyrlïo. Mae'r haul a'r lleuad yn tywyllu, a'r sêr yn diflannu. Mae llais yr ARGLWYDD yn taranu wrth iddo arwain ei fyddin. Mae eu niferoedd yn enfawr! Maen nhw'n gwneud beth mae'n ei orchymyn. Ydy, mae dydd yr ARGLWYDD yn ddiwrnod mawr; mae'n ddychrynllyd! — Pa obaith sydd i unrhyw un? Ond dyma neges yr ARGLWYDD: “Dydy hi ddim yn rhy hwyr. Trowch yn ôl ata i o ddifri. Ewch heb fwyd. Trowch ata i yn eich dagrau, a galaru am eich ymddygiad. Rhwygwch eich calonnau, yn lle dim ond rhwygo eich dillad.” Trowch yn ôl at yr ARGLWYDD eich Duw! Mae e mor garedig a thrugarog; mor amyneddgar ac yn anhygoel o hael, a ddim yn hoffi cosbi. Pwy ŵyr? Falle y bydd e'n drugarog ac yn troi yn ôl. Falle y bydd e'n dewis bendithio o hyn ymlaen! Wedyn cewch gyflwyno offrwm o rawn ac offrwm o ddiod i'r ARGLWYDD eich Duw! Chwythwch y corn hwrdd yn Seion! Trefnwch ddiwrnod pan fydd pawb yn peidio bwyta; yn stopio gweithio, ac yn dod at ei gilydd i addoli Duw. Casglwch y bobl i gyd, a paratoi pawb i ddod at ei gilydd i addoli. Dewch a'r arweinwyr at ei gilydd. Dewch a'r plant yno, a'r babis bach. Dylai hyd yn oed y rhai sydd newydd briodi ddod — does neb i gadw draw! Dylai'r offeiriaid, y rhai sy'n gwasanaethu'r ARGLWYDD, wylo o'r cyntedd i'r allor, a gweddïo fel hyn: “ARGLWYDD, wnei di faddau i dy bobl? Paid gadael i'r wlad yma droi'n destun sbort. Paid gadael i baganiaid ein llywodraethu ni! Pam ddylai pobl y gwledydd gael dweud, ‘Felly, ble mae eu Duw nhw?’” Wedyn dyma'r ARGLWYDD yn dangos ei sêl dros y wlad. Buodd yn drugarog at ei bobl. Dyma fe'n dweud wrth ei bobl: “Edrychwch! Dw i'n mynd i'ch bendithio chi unwaith eto! Dw i'n mynd i roi cnydau da i chi, a digonedd o sudd grawnwin ac olew olewydd. Bydd gynnoch chi fwy na digon! Fyddwch chi ddim yn destun sbort i'r gwledydd o'ch cwmpas chi. Bydda i'n gyrru'r un ddaeth o'r gogledd i ffwrdd, ac yn ei wthio i dir sych a diffaith. Bydd yr hanner blaen yn cael eu gyrru i'r Môr Marw yn y dwyrain, a'r hanner ôl yn cael eu gyrru i Fôr y Canoldir yn y gorllewin. Yno y byddan nhw'n pydru, a bydd eu drewdod yn codi.” Ydy, mae e'n gwneud pethau mor wych! Ti ddaear, paid bod ag ofn! Gelli ddathlu a bod yn llawen, am fod yr ARGLWYDD yn gwneud pethau mor wych! Anifeiliaid gwylltion, peidiwch bod ag ofn! Mae glaswellt yn tyfu eto ar y tir pori, ac mae ffrwythau'n tyfu ar y coed. Mae'r coed ffigys a'r gwinwydd yn llawn ffrwyth. Dathlwch chithau, bobl Seion! Mwynhewch beth mae Duw wedi ei wneud! Mae wedi rhoi'r glaw cynnar i chi ar yr adeg iawn — rhoi'r glaw cynnar yn yr hydref, a'r glaw diweddar yn y gwanwyn, fel o'r blaen. “Bydd y llawr dyrnu yn orlawn o ŷd, a'r cafnau yn gorlifo o sudd grawnwin ac olew olewydd. Bydda i'n rhoi popeth wnaethoch chi ei golli yn ôl i chi — popeth wnaeth y locustiaid ei fwyta; y fyddin fawr wnes i ei hanfon yn eich erbyn chi. Bydd gynnoch chi fwy na digon i'w fwyta. Byddwch chi'n moli'r ARGLWYDD eich Duw, sydd wedi gwneud pethau mor wych ar eich rhan chi. Fydd fy mhobl byth eto'n cael eu cywilyddio. Israel, byddi'n gwybod fy mod i gyda ti, ac mai fi ydy'r ARGLWYDD dy Dduw — yr unig Dduw sy'n bod. Fydd fy mhobl byth eto'n cael eu cywilyddio.” “Ar ôl hynny, bydda i'n tywallt fy Ysbryd ar y bobl i gyd. Bydd eich meibion a'ch merched yn proffwydo; bydd dynion hŷn yn cael breuddwydion, a dynion ifanc yn cael gweledigaethau. Bydda i hyd yn oed yn tywallt fy Ysbryd ar y gweision a'r morynion. Bydd pethau rhyfeddol yn digwydd yn yr awyr ac ar y ddaear — gwaed a thân a cholofnau o fwg. Bydd yr haul yn troi'n dywyll, a'r lleuad yn mynd yn goch fel gwaed cyn i'r diwrnod mawr a dychrynllyd yna ddod, sef dydd barn yr ARGLWYDD.” Bydd pwy bynnag sy'n galw ar enw'r ARGLWYDD yn cael ei achub. Fel mae'r ARGLWYDD wedi addo: “ar Fynydd Seion, sef Jerwsalem, bydd rhai yn dianc.” Bydd rhai o'r bobl yn goroesi — pobl wedi eu galw gan yr ARGLWYDD. Bryd hynny, bydda i'n gwneud i Jwda a Jerwsalem lwyddo eto. Yna bydda i'n casglu'r cenhedloedd i gyd i “Ddyffryn Barn yr ARGLWYDD” Yno bydda i'n eu barnu nhw am y ffordd maen nhw wedi trin fy mhobl arbennig i, Israel. Am eu gyrru nhw ar chwâl i bobman, rhannu y tir rois i iddyn nhw a gamblo i weld pwy fyddai'n eu cael nhw'n gaethion. Gwerthu bachgen bach am wasanaeth putain, a merch fach am win i'w yfed. Pam wnaethoch chi'r pethau yma Tyrus a Sidon ac ardal Philistia? Oeddech chi'n ceisio talu'n ôl i mi? Byddwch chi'n talu yn fuan iawn am beth wnaethoch chi! Dwyn fy arian a'm aur, a rhoi'r trysorau gwerthfawr oedd gen i yn eich temlau paganaidd chi. Gwerthu pobl Jwda a Jerwsalem i'r Groegiaid, er mwyn eu symud nhw yn bell o'u gwlad eu hunain. Wel, dw i'n mynd i ddod â nhw'n ôl. A bydda i'n gwneud i chi dalu am beth wnaethoch chi! Bydda i'n rhoi eich meibion a'ch merched chi i bobl Jwda eu gwerthu nhw. Byddan nhw'n eu gwerthu nhw i'r Sabeaid sy'n byw yn bell i ffwrdd. Dw i, yr ARGLWYDD, wedi dweud! Cyhoedda wrth y cenhedloedd: Paratowch eich hunain i fynd i ryfel. Galwch eich milwyr gorau! Dewch yn eich blaen i ymosod! Curwch eich sychau aradr yn gleddyfau, a'ch crymanau tocio yn waywffyn. Bydd rhaid i'r ofnus ddweud, “Dw i'n filwr dewr!” Brysiwch! Dewch, chi'r gwledydd paganaidd i gyd. Dewch at eich gilydd yno! (“ARGLWYDD, anfon dy filwyr di i lawr yno!”) Dewch yn eich blaen, chi'r cenhedloedd, i Ddyffryn Barn yr ARGLWYDD. Yno bydda i'n eistedd i lawr i farnu'r cenhedloedd i gyd. Mae'r cynhaeaf yn barod i'w fedi gyda'r cryman! Mae'r gwinwasg yn llawn grawnwin sy'n barod i'w sathru! Bydd y cafnau yn gorlifo! Maen nhw wedi gwneud cymaint o ddrwg. Mae tyrfaoedd enfawr yn Nyffryn y dyfarniad! Mae dydd barn yr ARGLWYDD yn agos yn Nyffryn y dyfarniad! Mae'r haul a'r lleuad wedi tywyllu, a'r sêr wedi diflannu. Mae'r ARGLWYDD yn rhuo o Seion; a'i lais yn taranu o Jerwsalem, nes bod yr awyr a'r ddaear yn crynu. Ond mae'r ARGLWYDD yn lle saff i'w bobl guddio ynddo, mae e'n gaer ddiogel i bobl Israel. Byddwch chi'n deall mai fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw a'm bod i'n byw ar Seion, fy mynydd cysegredig. Bydd dinas Jerwsalem yn lle cysegredig, a fydd byddinoedd estron ddim yn mynd yno byth eto. Bryd hynny bydd gwin melys yn diferu o'r mynyddoedd, a llaeth yn llifo o'r bryniau; fydd nentydd Jwda byth yn sychu. Bydd ffynnon yn tarddu a dŵr yn llifo allan o deml yr ARGLWYDD, i ddyfrio Dyffryn y Coed Acasia. Am iddyn nhw fod mor greulon at bobl Jwda, a lladd pobl ddiniwed yno, bydd yr Aifft yn dir diffaith gwag ac Edom yn anialwch llwm. Ond bydd pobl Jwda yn saff bob amser, ac yn byw yn Jerwsalem o un genhedlaeth i'r llall. Wna i ddial ar y rhai wnaeth dywallt eu gwaed nhw? Gwnaf! Bydda i'n eu cosbi nhw. Bydda i, yr ARGLWYDD, yn byw yn Seion am byth! Neges Amos, oedd yn un o ffermwyr defaid Tecoa. Ddwy flynedd cyn y daeargryn cafodd Amos weledigaethau gan Dduw am Israel. Ar y pryd, roedd Wseia yn frenin ar Jwda, a Jeroboam fab Jehoas yn frenin ar Israel. Dyma ddwedodd Amos: “Mae'r ARGLWYDD yn rhuo o Seion, a'i lais yn taranu o Jerwsalem, nes bod porfa'r anifeiliaid yn gwywo, a glaswellt mynydd Carmel yn sychu.” Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Mae Damascus wedi pechu dro ar ôl tro, felly dw i'n mynd i'w cosbi nhw. Maen nhw wedi bod yn greulon at bobl Gilead, a'u rhwygo gyda sled a dannedd haearn iddi. Felly bydda i'n llosgi'r palas gododd y brenin Hasael, a bydd y tân yn dinistrio caerau amddiffynnol Ben-hadad. Bydda i'n dryllio barrau giatiau Damascus, yn cael gwared â'r un sy'n llywodraethu ar Ddyffryn Afen, a'r un sy'n teyrnasu yn Beth-eden. Bydd pobl Syria yn cael eu cymryd yn gaeth i ardal Cir.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Mae Gasa wedi pechu dro ar ôl tro, felly dw i'n mynd i'w cosbi nhw. Maen nhw wedi cymryd pentrefi cyfan yn gaeth, a'u gwerthu nhw i wlad Edom, Felly bydda i'n llosgi waliau Gasa, a bydd y tân yn dinistrio ei chaerau amddiffynnol. Bydda i'n cael gwared â'r un sy'n llywodraethu yn ninas Ashdod a'r un sy'n teyrnasu yn Ashcelon. Bydda i'n ymosod ar ddinas Ecron, nes bydd neb o'r Philistiaid ar ôl yn fyw!” —fy Meistr, yr ARGLWYDD, sy'n dweud hyn. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Mae Tyrus wedi pechu dro ar ôl tro, felly dw i'n mynd i'w cosbi nhw. Maen nhw wedi torri'r cytundeb gyda'i brodyr drwy gymryd pentrefi cyfan yn gaeth, a'u gwerthu nhw i wlad Edom, Felly bydda i'n llosgi waliau Tyrus, a bydd y tân yn dinistrio ei chaerau amddiffynnol.” Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Mae Edom wedi pechu dro ar ôl tro, felly dw i'n mynd i'w cosbi nhw. Maen nhw wedi ymosod ar eu brodyr gyda'r cleddyf a dangos dim trugaredd atyn nhw. Am iddyn nhw ddal ati i ymosod yn wyllt heb stopio'r trais o gwbl, dw i'n mynd i anfon tân i losgi Teman, a dinistrio caerau amddiffynnol Bosra.” Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Mae pobl Ammon wedi pechu dro ar ôl tro, felly dw i'n mynd i'w cosbi nhw. Maen nhw wedi rhwygo a lladd gwragedd beichiog Gilead er mwyn ennill mwy o dir iddyn nhw eu hunain. Felly bydda i'n llosgi waliau Rabba, a bydd y tân yn dinistrio ei chaerau amddiffynnol. Yng nghanol y bloeddio ar ddydd y frwydr, pan fydd yr ymladd yn ffyrnig fel storm, bydd eu brenin a'i holl swyddogion yn cael eu cymryd yn gaeth gyda'i gilydd.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. [1] Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Mae Moab wedi pechu dro ar ôl tro, felly dw i'n mynd i'w cosbi nhw. Maen nhw wedi cymryd esgyrn brenin Edom a'u llosgi nhw'n galch. Felly bydda i'n anfon tân i losgi Moab, a dinistrio caerau amddiffynnol Cerioth. Bydd pobl Moab yn marw yn sŵn y brwydro, yng nghanol y bloeddio a sŵn y corn hwrdd yn seinio. Bydda i'n cael gwared â'i brenin hi ac yn lladd ei holl swyddogion gydag e.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Mae Jwda wedi pechu dro ar ôl tro, felly dw i'n mynd i'w cosbi nhw. Maen nhw wedi troi eu cefnau ar gyfraith yr ARGLWYDD, a heb gadw ei orchmynion e. Maen nhw'n cael eu harwain ar gyfeiliorn gan y duwiau ffals oedd eu hynafiaid yn eu dilyn. Felly bydda i'n anfon tân i losgi Jwda, a dinistrio caerau amddiffynnol Jerwsalem.” Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Mae Israel wedi pechu dro ar ôl tro, felly dw i'n mynd i'w cosbi nhw. Maen nhw'n gwerthu'r dieuog am arian, a'r rhai mewn dyled am bâr o sandalau! — sathru'r tlawd fel baw ar lawr, a gwthio'r gwan o'r ffordd! Ac mae dyn a'i dad yn cael rhyw gyda'r un gaethferch, ac yn amharchu fy enw glân i wrth wneud y fath beth. Maen nhw'n gorwedd wrth ymyl yr allorau ar ddillad sydd wedi eu cadw'n warant am ddyled. Maen nhw'n yfed gwin yn nheml Duw — gwin wedi ei brynu gyda'r dirwyon roeson nhw i bobl! Ac eto, fi wnaeth ddinistrio'r Amoriaid o flaen eich hynafiaid chi! — yr Amoriaid oedd yn dal fel cedrwydd ac yn gryf fel coed derw. Ond dyma fi'n eu torri nhw i lawr yn llwyr, o'u brigau uchaf i'w gwreiddiau! Fi wnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft a'ch arwain chi drwy'r anialwch am bedwar deg o flynyddoedd, ac yna rhoi tir yr Amoriaid i chi! Dewisais rai o'ch plant i fod yn broffwydi a rhai o'ch bechgyn ifanc i fod yn Nasareaid. Onid dyna ydy'r gwir, bobl Israel?” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Ond bellach, dych chi'n gwneud i'r Nasareaid yfed gwin, ac yn dweud wrth y proffwydi am gau eu cegau! Felly gwyliwch chi! Bydda i'n eich dal chi'n ôl, fel trol sydd ond yn gallu symud yn araf bach am fod llwyth trwm o ŷd arni. Bydd y cyflymaf ohonoch chi yn methu dianc, a'r cryfaf yn teimlo'n hollol wan. Bydd y milwr yn methu amddiffyn ei hun, a'r bwasaethwr yn methu dal ei dir. Bydd y rhedwr cyflyma'n methu dianc, a'r un sydd ar gefn ceffyl yn methu achub ei fywyd. Bydd y milwyr mwyaf dewr yn gollwng eu harfau ac yn rhedeg i ffwrdd yn noeth ar y diwrnod hwnnw.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. Bobl Israel, gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD yn eich erbyn chi. Chi, y bobl ddois i â nhw allan o wlad yr Aifft. “O blith holl bobloedd y ddaear, chi ydy'r rhai wnes i ddewis — a dyna pam mae'n rhaid i mi eich galw chi i gyfrif am yr holl ddrwg dych chi wedi ei wneud.” Ydy dau berson yn gallu teithio gyda'i gilydd heb fod wedi trefnu i gyfarfod? Ydy llew yn rhuo yn y goedwig pan does ganddo ddim ysglyfaeth? Ydy llew ifanc yn grwnian yn fodlon yn ei ffau oni bai ei fod wedi dal rhywbeth? Ydy aderyn yn cael ei ddal mewn rhwyd os nad oes abwyd yn y trap? Ydy trap ar lawr yn cau yn sydyn heb fod rhywbeth wedi ei ddal ynddo? Ydy pobl ddim yn dychryn yn y dre wrth glywed y corn hwrdd yn seinio fod ymosodiad? Ydy dinistr yn gallu dod ar ddinas heb i'r ARGLWYDD adael i'r peth ddigwydd? Dydy fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn gwneud dim byd heb ddangos ei gynllun i'w weision y proffwydi. Pan mae'r llew yn rhuo, pwy sydd ddim yn ofni? Mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, wedi siarad, felly pwy sy'n mynd i wrthod proffwydo? Cyhoedda hyn i'r rhai sy'n byw yn y plastai yn Ashdod ac yn y plastai yng ngwlad yr Aifft! Dywed: “Dewch at eich gilydd i ben bryniau Samaria i weld yr anhrefn llwyr sydd yn y ddinas, a'r gormes sy'n digwydd yno. Allan nhw ddim gwneud beth sy'n iawn!” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Yn eu plastai maen nhw'n storio trysorau sydd wedi eu dwyn trwy drais.” Felly dyma mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud: “Bydd gelyn yn amgylchynu'r wlad! Bydd yn rhwygo popeth oddi arni ac yn ei gadael yn noeth. Bydd ei chaerau amddiffynnol yn cael eu hysbeilio'n llwyr!” Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Fel bugail yn ‛achub‛ unrhyw beth o safn y llew — dwy goes, neu ddarn o'r glust — dyna'r math o ‛achub‛ fydd ar bobl Israel sy'n byw yn Samaria. Dim ond coes y gwely neu gornel y fatras fydd ar ôl! Gwranda ar hyn, a rhybuddia bobl Jacob” —fy Meistr, yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn, y Duw holl-bwerus— “Pan fydda i'n cosbi Israel am wrthryfela, bydda i'n dinistrio'r allor sydd yn Bethel. Bydd y cyrn ar gorneli'r allor yn cael eu torri ac yn disgyn ar lawr. Bydda i'n dymchwel eu tai, a'u tai haf nhw hefyd. Bydd y tai oedd wedi eu haddurno ag ifori yn adfeilion. Bydd y plastai yn cael eu chwalu'n llwyr!” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. Gwrandwch ar hyn, chi wartheg Bashan! Ie, chi wragedd Samaria dw i'n ei olygu! Chi sy'n twyllo pobl dlawd, ac yn gwneud i'r gwan ddioddef. Chi sy'n dweud wrth eich gwŷr, “Tyrd â diod i ni gael parti!” Mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn mynd ar ei lw, mor sicr â'i fod yn sanctaidd: “Gwyliwch chi! Mae'r amser yn dod pan fyddan nhw'n eich arwain chi i ffwrdd â bachau — pob copa walltog gyda bachau pysgota. Byddwch chi'n cael eich llusgo allan o'r ddinas drwy'r tyllau yn y wal gyferbyn a'ch tai — Byddwch chi'n cael eich taflu ar y domen sbwriel!” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Dewch i'r cysegr yn Bethel i bechu yn fy erbyn i! Dewch i'r cysegr yn Gilgal, a phechu mwy fyth! Dewch i gyflwyno eich aberth yn y bore a thalu'r degwm y diwrnod wedyn. Dewch i losgi eich offrwm diolch gyda bara sydd â burum ynddo! Dewch i wneud sioe wrth gyflwyno eich offrwm gwirfoddol! Dych chi wrth eich bodd yn gwneud pethau felly, bobl Israel.” —fy Meistr, yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Fi oedd yr un ddaeth â newyn arnoch chi yn eich holl drefi; doedd gynnoch chi ddim i'w fwyta yn unman. Ac eto wnaethoch chi ddim troi yn ôl ata i.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Fi rwystrodd hi rhag glawio pan oedd y cnydau angen glaw i dyfu. Roeddwn i'n rhoi glaw i un dre a dim glaw i dre arall. Roedd hi'n glawio ar un cae, ond doedd cae arall yn cael dim glaw o gwbl ac roedd y cnwd yn gwywo. Roedd pobl dwy neu dair o drefi yn llusgo'u ffordd i dre arall, yn y gobaith o gael dŵr i'w yfed, ond doedd dim digon yno i dorri syched pobl. Ac eto wnaethoch chi ddim troi yn ôl ata i.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Dyma fi'n eich cosbi chi drwy anfon haint a llwydni ar eich cnydau. Dro ar ôl tro cafodd eich gerddi a'ch gwinllannoedd, eich coed ffigys a'ch coed olewydd, eu dinistrio'n llwyr gan blâu o locustiaid. Ac eto wnaethoch chi ddim troi yn ôl ata i.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Dyma fi'n anfon afiechydon i'ch poenydio, fel y plâu yn yr Aifft. Dyma fi'n lladd eich milwyr ifanc yn y rhyfel, a chymryd eich meirch rhyfel oddi arnoch. Roedd yr holl gyrff marw yn drewi yn eich gwersyll. Ac eto wnaethoch chi ddim troi yn ôl ata i.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Dyma fi'n dinistrio rhai ohonoch chi fel gwnes i ddinistrio Sodom a Gomorra. Roeddech chi fel darn o bren yn mudlosgi ar ôl cael ei gipio o'r tân. Ac eto wnaethoch chi ddim troi yn ôl ata i.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Felly, dw i'n mynd i dy gosbi di, Israel. Dyna dw i'n mynd i'w wneud, felly, bydd barod i wynebu dy Dduw!” Edrych! Duw wnaeth y mynyddoedd, a chreu y gwynt. — y Duw sydd wedi dweud wrth bobl beth sydd ganddo eisiau — Fe sy'n troi y wawr yn dywyllwch, ac yn rheoli popeth ar y ddaear —yr ARGLWYDD ydy ei enw e, y Duw holl-bwerus! Gwrandwch arna i'n galaru! Dw i'n canu cân angladdol er cof amdanat ti, wlad Israel: “Mae Israel fel merch ifanc wedi ei tharo i lawr, mae hi'n gorwedd ar bridd ei gwlad a does neb i'w chodi ar ei thraed.” Achos dyma mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud am wlad Israel: “Dim ond cant fydd ar ôl yn y dre anfonodd fil allan i'r fyddin, a dim ond deg fydd ar ôl yn y dre anfonodd gant i'r fyddin.” Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud wrthot ti, wlad Israel: “Tro yn ôl ata i, a chei fyw! Paid troi i gyfeiriad y cysegr yn Bethel, mynd i ymweld â chysegr Gilgal na chroesi'r ffin a mynd i lawr i Beersheba. Bydd pobl Gilgal yn cael eu caethgludo, a fydd Bethel ddim mwy na rhith!” Tro yn ôl at yr ARGLWYDD, a chei fyw! Os na wnei di bydd e'n rhuthro drwy wlad Joseff fel tân ac yn llosgi Bethel yn ulw; a fydd neb yn gallu diffodd y tân. Druan ohonoch chi, sy'n troi cyfiawnder yn beth chwerw, ac yn gwrthod gwneud beth sy'n iawn yn y tir! Duw ydy'r un wnaeth y sêr — Pleiades ac Orïon. Fe sy'n troi'r tywyllwch yn fore, ac yn troi'r dydd yn nos dywyll. Mae e'n cymryd dŵr o'r môr ac yn ei arllwys yn gawodydd ar y tir —yr ARGLWYDD ydy ei enw e! Mae'n bwrw dinistr ar y mannau mwyaf diogel, nes bod caerau amddiffynnol yn troi'n adfeilion! Dych chi'n casáu'r un sy'n herio anghyfiawnder yn y llys; ac yn ffieiddio unrhyw un sy'n dweud y gwir. Felly, am i chi drethu pobl dlawd yn drwm a dwyn yr ŷd oddi arnyn nhw: Er eich bod chi wedi adeiladu'ch tai crand o gerrig nadd, gewch chi ddim byw ynddyn nhw. Er eich bod chi wedi plannu gwinllannoedd hyfryd, gewch chi byth yfed y gwin ohonyn nhw. Dych chi wedi troseddu yn fy erbyn i mor aml, ac wedi pechu'n ddiddiwedd drwy gam-drin pobl onest, a derbyn breib i wrthod cyfiawnder i bobl dlawd pan maen nhw yn y llys! Byddai unrhyw un call yn cadw'n dawel, achos mae'n amser drwg. Ewch ati i wneud da eto yn lle gwneud drwg, a chewch fyw! Wedyn bydd yr ARGLWYDD, y Duw holl-bwerus, gyda chi go iawn (fel dych chi'n meddwl ei fod e nawr!) Casewch ddrwg a charu'r da, a gwneud yn siŵr fod tegwch yn y llysoedd. Wedyn, falle y bydd yr ARGLWYDD, y Duw holl-bwerus, yn garedig at y llond dwrn o bobl sydd ar ôl yng ngwlad Joseff. Ond o achos yr holl bethau drwg dych chi'n eu gwneud, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud — fy Meistr i, y Duw holl-bwerus: “Bydd wylo uchel ym mhob sgwâr, a sŵn pobl yn gweiddi ar bob stryd ‘O, na! na!’ Bydd y rhai tlawd sy'n gweithio ar y tir yn cael eu galw i alaru, a bydd y galarwyr proffesiynol yno yn nadu'n uchel. Bydd pobl yn wylo'n uchel, hyd yn oed yn y gwinllannoedd, achos dw i'n dod i'ch cosbi chi.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. Druan ohonoch chi! Chi sy'n edrych ymlaen at y diwrnod pan fydd yr ARGLWYDD yn dod! Sut allwch chi edrych ymlaen at y diwrnod hwnnw? Diwrnod tywyll fydd e, heb ddim golau o gwbl! Bydd fel petai rhywun yn dianc oddi wrth lew ac yn sydyn mae arth yn dod i'w gyfarfod. Mae'n llwyddo i gyrraedd y tŷ'n ddiogel, ond yna'n pwyso yn erbyn y wal ac yn cael ei frathu gan neidr! Felly bydd hi ar y diwrnod pan fydd yr ARGLWYDD yn dod — diwrnod tywyll fydd e, dim un golau! Ie, tywyllwch dudew heb lygedyn o olau! “Dw i'n casáu eich gwyliau crefyddol chi, ac yn eu diystyru nhw. Dydy'ch addoliad chi'n rhoi dim pleser i mi. Er i chi ddod i gyflwyno aberthau i'w llosgi i mi, ac offrymau bwyd, wna i ddim eu derbyn nhw. Gallwch ddod ac offrymu eich anifeiliaid gorau i mi, ond fydda i'n cymryd dim sylw o gwbl! Plîs stopiwch ddod yma i forio canu eich emynau, does gen i ddim eisiau clywed sŵn eich offerynnau cerdd chi. Beth dw i eisiau ydy gweld cyfiawnder fel dŵr yn gorlifo, a thegwch fel ffrwd gref sydd byth yn sychu. “Wnaethoch chi gyflwyno aberthau ac offrymau i mi yn ystod y pedwar deg mlynedd yn yr anialwch, bobl Israel? “A nawr mae'n well gynnoch chi gario eich ‛brenin‛ Saccwth, a'ch delw o Caiwan — sef duwiau'r sêr dych chi wedi eu llunio i chi'ch hunain! Felly, bydda i'n eich gyrru chi'n gaethion i wlad sydd tu draw i Damascus.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn, sef yr un sy'n cael ei alw y Duw holl-bwerus. Gwae chi sydd mor gyfforddus yn Seion, ac yn teimlo mor saff ar fryniau Samaria! Chi bobl bwysig y genedl sbesial ma — ie, chi mae pobl Israel yn troi atyn nhw am arweiniad. Dych chi'n dweud wrthyn nhw, “Ewch draw i ddinas Calne, i weld sut mae pethau yno! Ewch yn eich blaen wedyn i Chamath fawr, ac i lawr i Gath y Philistiaid. Ydy pethau'n well arnyn nhw nag ar y ddwy wlad yma? Oes ganddyn nhw fwy o dir na chi?” Dych chi'n gwrthod derbyn fod dydd drwg yn dod. Dych chi'n gofyn am gyfnod o drais! Druan ohonoch chi, sy'n diogi ar eich soffas ifori moethus. Yn gorweddian ar glustogau cyfforddus, ac yn mwynhau gwledda ar gig oen a'r cig eidion gorau. Yn mwmian canu i gyfeiliant y nabl — a meddwl eich bod chi'n gerddorion gwych fel y Brenin Dafydd! Dych chi'n yfed gwin wrth y galwyni ac yn pampro eich cyrff gyda'r olew gorau! Ond dych chi'n poeni dim fod dinistr yn dod ar bobl Joseff! Felly, chi fydd y rhai cyntaf i gael eich caethgludo, a hynny'n fuan iawn! Bydd y gwledda a'r gorweddian yn dod i ben! Mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn tyngu iddo'i hun: “Dw i'n casáu balchder gwlad Jacob, ac yn ffieiddio ei phlastai. Bydda i'n cyhoeddi y bydd dinas Samaria a'i phobl yn cael eu rhoi yn llaw'r gelyn.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn, y Duw holl-bwerus. Os bydd deg o bobl yn dal yn fyw mewn tŷ, byddan nhw'n marw. Yna bydd perthynas yn dod i gasglu'r cyrff o'r tŷ — gyda'r bwriad o'u llosgi. A bydd yn galw ar rywun sy'n cuddio yng nghefn y tŷ, “Oes unrhyw un arall yn fyw ond ti?” ac yn cael yr ateb, “Na, neb.” Yna bydd yn dweud, “Ust! paid hyd yn oed â dweud enw'r ARGLWYDD”. Felly, mae'r ARGLWYDD yn rhoi'r gorchymyn: “Mae'r tai mawr crand i gael eu chwalu'n ulw, a'r tai cyffredin hefyd, yn ddarnau mân.” Ydy ceffylau'n gallu carlamu dros greigiau mawrion? Ydy'n bosib ei aredig hefo ychen? Ac eto dych chi wedi troi cyfiawnder yn wenwyn marwol ac wedi gwneud yr hyn sy'n iawn yn beth chwerw. Dych chi mor falch eich bod chi wedi concro tref Lo-debâr, a meddech chi wedyn, “Dŷn ni wedi dal Carnaïm! Roedden ni'n rhy gryf iddyn nhw!” Ond gwylia di, wlad Israel, —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn, y Duw holl-bwerus. Dw i'n codi cenedl i ymladd yn dy erbyn di. Bydd yn dy ormesu di o Fwlch Chamath yn y gogledd i Wadi'r Araba lawr yn y de! Dyma fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn dangos hyn i mi: Roedd yn creu haid o locustiaid pan oedd y cnwd diweddar yn dechrau tyfu (y cnwd sy'n cael ei blannu ar ôl i'r brenin fedi'r cnwd cyntaf). Roedden nhw'n mynd i ddinistrio'r planhigion i gyd, a dyma fi'n dweud, “O Feistr, ARGLWYDD, plîs maddau! Sut all pobl Jacob oroesi? Maen nhw'n rhy wan.” A dyma'r ARGLWYDD yn newid ei feddwl. “Fydd hyn ddim yn digwydd,” meddai'r ARGLWYDD. Dyma fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn dangos hyn i mi: Roedd fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn mynd i ddefnyddio tân i gosbi ei bobl. Roedd yn mynd i sychu'r dŵr sydd yn ddwfn dan y ddaear, a llosgi'r caeau i gyd. Dyma fi'n dweud, “O Feistr, ARGLWYDD, paid! Sut all pobl Jacob oroesi? Maen nhw'n rhy wan.” Dyma'r ARGLWYDD yn newid ei feddwl. “Fydd hyn ddim yn digwydd chwaith,” meddai'r ARGLWYDD. Wedyn dyma fe'n dangos hyn i mi: Roedd yn sefyll ar ben wal wedi ei hadeiladu gyda llinyn plwm, ac yn dal llinyn plwm yn ei law. Gofynnodd yr ARGLWYDD i mi, “Beth wyt ti'n weld, Amos?” Dyma finnau'n ateb, “Llinyn plwm”. A dyma fy Meistr yn dweud, “Dw i'n mynd i ddefnyddio llinyn plwm i fesur fy mhobl Israel. Dw i ddim yn mynd i faddau iddyn nhw eto. Bydd allorau paganaidd pobl Isaac yn cael eu chwalu, a chanolfannau addoli pobl Israel yn cael eu dinistrio'n llwyr. Dw i'n mynd i ymosod ar deulu brenhinol Jeroboam hefo cleddyf.” Roedd Amaseia, prif-offeiriad Bethel, wedi anfon y neges yma at Jeroboam, brenin Israel: “Mae Amos yn cynllwynio yn dy erbyn di, a hynny ar dir Israel. All y wlad ddim dioddef dim mwy o'r pethau mae e'n ei ddweud. Achos mae e'n dweud pethau fel yma: ‘Bydd Jeroboam yn cael ei ladd mewn rhyfel, a bydd pobl Israel yn cael eu cymryd i ffwrdd o'u gwlad yn gaethion.’” Roedd Amaseia hefyd wedi dweud wrth Amos, “Gwell i ti fynd o ma, ti a dy weledigaethau! Dianc yn ôl i wlad Jwda! Dos i ennill dy fywoliaeth yno, a phroffwyda yno! Paid byth proffwydo yn Bethel eto, achos dyma lle mae'r brenin yn addoli, yn y cysegr brenhinol.” A dyma Amos yn ateb Amaseia: “Dw i ddim yn broffwyd proffesiynol, nac yn perthyn i urdd o broffwydi. Bridio anifeiliaid a thyfu coed ffigys oeddwn i'n ei wneud. Ond dyma'r ARGLWYDD yn fy nghymryd i ffwrdd o ffermio defaid, ac yn dweud wrtho i, ‘Dos i broffwydo i'm pobl Israel.’ Felly, gwrando, dyma neges yr ARGLWYDD. Ti'n dweud wrtho i am stopio proffwydo i bobl Israel a phregethu i bobl Isaac. Ond dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Bydd dy wraig di yn gwerthu ei chorff fel putain yn y strydoedd, a bydd dy feibion a dy ferched yn cael eu lladd yn y rhyfel. Bydd dy dir di'n cael ei rannu i eraill, a byddi di'n marw mewn gwlad estron. Achos bydd Israel yn cael ei chymryd i ffwrdd yn gaeth o'i thir.’” Dyma fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn dangos hyn i mi: basged yn llawn ffigys aeddfed. A gofynnodd i mi, “Beth wyt ti'n weld, Amos?” Dyma finnau'n ateb, “Basged yn llawn ffigys aeddfed”. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i: “Mae'r diwedd wedi dod ar fy mhobl Israel. Dw i ddim yn mynd i faddau iddyn nhw eto. Bydd y merched sy'n canu yn y palas yn udo crïo ar y diwrnod hwnnw”—fy Meistr, yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn—“Bydd cymaint o gyrff marw yn gorwedd ym mhobman! Distawrwydd llethol!” Gwrandwch ar hyn, chi sy'n sathru'r gwan, ac eisiau cael gwared â phobl dlawd yn y wlad. Chi sy'n mwmblan i'ch hunain, “Pryd fydd Gŵyl y lleuad newydd drosodd? — i ni gael gwerthu'n cnydau eto. Pryd fydd y dydd saboth drosodd? — i ni gael gwerthu'r ŷd eto. Gallwn godi pris uchel am fesur prin, a defnyddio clorian sy'n twyllo. Gallwn brynu am arian bobl dlawd sydd mewn dyled, a'r rhai sydd heb ddigon i dalu am bâr o sandalau. Gallwn gymysgu'r gwastraff gyda'r grawn!” Mae'r ARGLWYDD yn tyngu i'w enw ei hun, Balchder Jacob: “Wna i byth anghofio beth maen nhw wedi ei wneud.” Felly bydd y ddaear yn ysgwyd o achos hyn a phawb sy'n byw arni yn galaru. Bydd y ddaear gyfan yn codi fel yr Afon Nil; yn chwyddo ac yna'n suddo fel yr Afon yn yr Aifft. “A'r diwrnod hwnnw,” —fy Meistr, yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn— “bydda i'n gwneud i'r haul fachlud ganol dydd, a bydd y wlad yn troi'n dywyll yng ngolau dydd. Bydda i'n troi eich partïon yn angladdau a'ch holl ganeuon yn gerddi galar. Bydda i'n rhoi sachliain amdanoch chi, a bydd pob pen yn cael ei siafio. Bydd fel y galaru pan mae rhywun wedi colli unig fab; fydd y cwbl yn ddim byd ond un profiad chwerw. “Gwyliwch chi! mae'r amser yn dod” —fy Meistr, yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn— “pan fydda i'n anfon newyn drwy'r wlad.” Dim newyn am fara neu syched am ddŵr, ond awydd gwirioneddol i glywed neges yr ARGLWYDD. Bydd pobl yn crwydro o Fôr y Canoldir yn y gorllewin i'r Môr Marw yn y de, ac o'r gogledd i'r dwyrain, er mwyn cael clywed neges yr ARGLWYDD, ond byddan nhw'n methu. Bryd hynny, bydd merched ifanc hardd a dynion ifanc cryf yn llewygu am fod syched arnyn nhw — Y rhai sy'n tyngu llw i eilun cywilyddus Samaria, ac yn dweud, “Fel mae dy dduw di yn fyw, Dan!” neu “Fel mae'r un cryf sydd ynot ti yn fyw Beersheba!” — byddan nhw'n syrthio, a byth yn codi eto. Gwelais fy Meistr yn sefyll wrth yr allor, ac meddai fel hyn: “Taro ben y colofnau nes bydd y sylfeini'n ysgwyd! Bydd y cwbl yn syrthio ar ben yr addolwyr, A bydda i'n lladd pawb sydd ar ôl mewn rhyfel. Fydd neb o gwbl yn llwyddo i ddianc! Hyd yn oed tasen nhw'n cloddio i lawr i Fyd y Meirw, byddwn i'n dal i gael gafael ynddyn nhw! A tasen nhw'n dringo i fyny i'r nefoedd, byddwn i'n eu tynnu nhw i lawr oddi yno. Petaen nhw'n mynd i guddio ar ben Mynydd Carmel, byddwn i'n dod o hyd iddyn nhw, ac yn eu dal nhw. A tasen nhw'n cuddio o ngolwg i ar waelod y môr, byddwn i'n cael y Sarff sydd yno i'w brathu nhw. Petai eu gelynion nhw yn eu gyrru nhw i'r gaethglud, byddwn i'n gorchymyn i'r cleddyf eu lladd nhw yno. Dw i'n hollol benderfynol o wneud drwg iddyn nhw ac nid da.” Fy Meistr, yr ARGLWYDD, y Duw holl-bwerus, ydy'r un sy'n cyffwrdd y ddaear ac mae'n toddi; a bydd pawb sy'n byw arni yn galaru. Bydd y ddaear gyfan yn codi fel yr Afon Nil; yn chwyddo ac yna'n suddo fel yr Afon yn yr Aifft. Mae e'n adeiladu cartref iddo'i hun yn y nefoedd ac yn gosod sylfeini ei stordy ar y ddaear. Mae'n galw'r dŵr o'r môr ac yn ei arllwys yn gawodydd ar y tir —yr ARGLWYDD ydy ei enw e! “I mi, bobl Israel, dych chi ddim gwahanol i bobl dwyrain Affrica.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Mae'n wir fy mod i wedi arwain Israel o wlad yr Aifft, ond fi hefyd ddaeth â'r Philistiaid o ynys Creta a'r Syriaid o Cir.” Gwyliwch chi! Mae'r Meistr, yr ARGLWYDD, yn cadw golwg ar y wlad bechadurus. “Dw i'n mynd i'w dinistrio hi oddi ar wyneb y ddaear! Ond wna i ddim dinistrio pobl Jacob yn llwyr,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Gwyliwch chi! Bydda i'n rhoi'r gorchymyn ac yn ysgwyd pobl Israel, sydd yng nghanol y cenhedloedd, fel mae rhywun yn ysgwyd ŷd mewn gogr, a fydd dim cerrig mân yn disgyn trwodd. Bydd fy mhobl sydd wedi pechu yn cael eu lladd yn y rhyfel, sef y rhai hynny sy'n dweud mor siŵr, ‘Fydd dim byd drwg yn digwydd i ni, na hyd yn oed yn dod yn agos aton ni.’ Ar y diwrnod hwnnw, bydda i'n ailsefydlu teyrnas Dafydd sydd wedi syrthio. Bydda i'n trwsio'r bylchau ynddo ac yn adeiladu ei adfeilion. Bydda i'n ei adfer i fod fel yr oedd yn yr hen ddyddiau. Byddan nhw'n cymryd meddiant eto o'r hyn sydd ar ôl o wlad Edom, a'r holl wledydd eraill oedd yn perthyn i mi,” —meddai'r ARGLWYDD, sy'n mynd i wneud hyn i gyd. “Gwyliwch chi!” meddai'r ARGLWYDD, “Mae'r amser yn dod, pan fydd cymaint o gnwd, bydd hi'n amser aredig eto cyn i'r cynhaeaf i gyd gael ei gasglu! A bydd cymaint o rawnwin, byddan nhw'n dal i'w sathru pan fydd yr amser wedi dod i hau'r had eto. Bydd gwin melys yn diferu o'r mynyddoedd a bydd yn llifo i lawr y bryniau. Bydda i'n dod â'm pobl Israel yn ôl i'w gwlad. Byddan nhw'n ailadeiladu'r trefi sy'n adfeilion, ac yn cael byw ynddyn nhw unwaith eto. Byddan nhw'n plannu gwinllannoedd ac yn yfed y gwin. Byddan nhw'n trin eu gerddi ac yn bwyta'r ffrwythau. Bydda i'n plannu fy mhobl yn eu tir eu hunain, a fydd neb yn eu diwreiddio nhw o'r wlad dw i wedi ei rhoi iddyn nhw.” —yr ARGLWYDD, eich Duw chi, sy'n dweud hyn. Gweledigaeth Obadeia. Dyma beth mae'r Meistr, yr ARGLWYDD, wedi ei ddweud am Edom. Cawson ni neges gan yr ARGLWYDD, pan gafodd negesydd ei anfon i'r gwledydd, yn dweud, “Codwch! Gadewch i ni fynd i ryfel yn ei herbyn!” Mae'r ARGLWYDD yn dweud wrth Edom: “Dw i'n mynd i dy wneud di'n wlad fach wan; byddan nhw'n cael cymaint o hwyl ar dy ben. Mae dy falchder wedi dy dwyllo di! Ti'n byw yn saff yng nghysgod y graig, ac mae dy gartre mor uchel nes dy fod yn meddwl, ‘Fydd neb yn gallu fy nhynnu i lawr o'r fan yma!’ Ond hyd yn oed petaet ti'n gallu codi mor uchel â'r eryr, a gosod dy nyth yng nghanol y sêr, bydda i'n dy dynnu di i lawr!” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Petai lladron yn dod atat ti, neu ysbeilwyr yn y nos, bydden nhw ond yn dwyn beth roedden nhw eisiau! Petai casglwyr grawnwin yn dod atat ti, oni fydden nhw'n gadael rhywbeth i'w loffa? Ond byddi di'n cael dy ddinistrio'n llwyr! Bydd pobl Esau yn colli popeth; bydd y trysorau gasglon nhw wedi eu dwyn! Mae dy gynghrheiriaid wedi dy dwyllo; cei dy yrru at dy ffiniau. Mae dy ‛helpwyr‛ wedi cael y llaw uchaf arnat ti, a'r ‛ffrindiau‛ oedd yn gwledda gyda ti wedi gosod trap heb i ti wybod.” “Bryd hynny” meddai'r ARGLWYDD, “bydda i'n difa rhai doeth Edom, a bydd y deallus yn diflannu o fynydd Esau. Bydd dy filwyr dewr wedi dychryn, Teman; fydd neb yn goroesi ar fynydd Esau. O achos y lladdfa, a'th drais yn erbyn Jacob dy frawd, bydd cywilydd yn dy orchuddio, a byddi'n cael dy ddinistrio am byth. Pan oeddet ti'n sefyll o'r neilltu tra roedd dieithriaid yn dwyn ei heiddo; pan oedd byddin estron yn mynd trwy ei giatiau a gamblo am gyfoeth Jerwsalem, doeddet ti ddim gwell nag un ohonyn nhw! Sut allet ti syllu a mwynhau'r drychineb ddaeth i ran dy frawd? Sut allet ti ddathlu wrth weld pobl Jwda ar ddiwrnod eu difa? Sut allet ti chwerthin ar ddiwrnod y dioddef? Sut allet ti fynd at giatiau fy mhobl ar ddiwrnod eu trychineb? Syllu a mwynhau eu trallod ar ddiwrnod eu trychineb. Sut allet ti ddwyn eu heiddo ar ddiwrnod eu trychineb? Sut allet ti sefyll ar y groesffordd ac ymosod ar y ffoaduriaid! Sut allet ti eu rhoi yn llaw'r gelyn ar ddiwrnod y dioddef? Ydy, mae diwrnod yr ARGLWYDD yn agos, a bydda i'n barnu'r cenhedloedd i gyd. Byddi'n diodde beth wnest ti i eraill; cei dy dalu'n ôl am beth gafodd ei wneud. Fel y gwnaethoch chi yfed ar y mynydd sydd wedi ei gysegru i mi, bydd y gwledydd i gyd yn yfed ac yfed — yfed nes byddan nhw'n chwil. Bydd fel petaen nhw erioed wedi bodoli. Ond ar Fynydd Seion bydd rhai yn dianc — bydd yn lle cysegredig eto. Bydd teulu Jacob yn ennill y tir yn ôl oddi ar y rhai wnaeth ei gymryd oddi arnyn nhw. Teulu Jacob fydd y tân, a theulu Joseff fydd y fflamau, a theulu Esau fydd y bonion gwellt! Byddan nhw'n eu llosgi a'u difa, a fydd neb o deulu Esau ar ôl.” —mae'r ARGLWYDD wedi dweud. Byddan nhw'n cipio'r Negef oddi ar bobl mynydd Esau, a Seffela oddi ar y Philistiaid. Byddan nhw'n ennill yn ôl dir Effraim a'r ardal o gwmpas Samaria, a bydd pobl Benjamin yn meddiannu Gilead. Bydd byddin o bobl Israel o'r gaethglud yn adennill tir Canaan i fyny at Sareffath; a pobl Jerwsalem sydd yn Seffarad bell yn meddiannu pentrefi'r Negef. Bydd y rhai gafodd eu hachub yn mynd i Fynydd Seion ac yn rheoli Edom — a'r ARGLWYDD fydd yn teyrnasu. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Jona, fab Amittai, “Dos i ddinas fawr Ninefe, ar unwaith! Dw i eisiau i ti gyhoeddi barn ar y bobl yno, achos dw i wedi gweld yr holl bethau drwg maen nhw'n wneud.” Ond dyma Jona'n ffoi i'r cyfeiriad arall, i Sbaen. Roedd eisiau dianc oddi wrth yr ARGLWYDD. Aeth i lawr i borthladd Jopa, a dod o hyd i long oedd ar fin hwylio i Tarshish, yn Sbaen. Ar ôl talu am ei docyn aeth gyda nhw ar y cwch a hwylio i ffwrdd, er mwyn dianc oddi wrth yr ARGLWYDD. Ond dyma'r ARGLWYDD yn gwneud i wynt cryf chwythu ar y môr. Roedd y storm mor wyllt nes bod y llong mewn perygl o gael ei dryllio. Roedd criw y llong wedi dychryn am eu bywydau. Dyma pob un yn gweiddi ar ei dduw am help. A dyma nhw'n dechrau taflu'r cargo i'r môr, er mwyn gwneud y llong yn ysgafnach. Ond roedd Jona'n cysgu'n drwm drwy'r cwbl! Roedd e wedi mynd i lawr i'r howld i orwedd i lawr, ac wedi syrthio i gysgu. Dyma'r capten yn dod ar ei draws, a'i ddeffro. “Beth wyt ti'n meddwl wyt ti'n wneud yn cysgu yma!” meddai. “Côd, a galw ar dy dduw! Falle y bydd e'n ein helpu ni, a'n cadw ni rhag boddi.” Dyma griw'r llong yn dod at ei gilydd, a dweud, “Gadewch i ni ofyn i'r duwiau ddangos i ni pwy sydd ar fai am y storm ofnadwy yma.” Felly dyma nhw'n taflu coelbren, a darganfod mai Jona oedd e. Dyma nhw'n gofyn i Jona, “Dywed, pam mae'r drychineb yma wedi digwydd? Beth ydy dy waith di? O ble wyt ti'n dod? O ba wlad? Pa genedl wyt ti'n perthyn iddi?” A dyma Jona'n ateb, “Hebrëwr ydw i. Dw i'n addoli'r ARGLWYDD, Duw y nefoedd. Fe ydy'r Duw sydd wedi creu y môr a'r tir.” Pan glywon nhw hyn roedd y dynion wedi dychryn fwy fyth. “Beth wyt ti wedi'i wneud o'i le?” medden nhw. (Roedden nhw'n gwybod ei fod e'n ceisio dianc oddi wrth yr ARGLWYDD, am ei fod e wedi dweud hynny wrthyn nhw'n gynharach.) Roedd y storm yn mynd o ddrwg i waeth. A dyma'r morwyr yn gofyn i Jona, “Beth wnawn ni hefo ti? Oes rhywbeth allwn ni wneud i dawelu'r storm yma?” Dyma fe'n ateb, “Taflwch fi i'r môr a bydd y storm yn tawelu. Arna i mae'r bai eich bod chi yn y storm ofnadwy yma.” Ond yn lle gwneud hynny dyma'r morwyr yn ceisio rhwyfo'n galed i gyrraedd y tir. Ond methu wnaethon nhw; roedd y storm yn dal i fynd o ddrwg i waeth. Felly dyma nhw'n gweddïo ar yr ARGLWYDD, “O, plîs ARGLWYDD, paid gadael i ni farw o achos y dyn yma. Paid cosbi ni am wneud hyn iddo os ydy e'n ddieuog. Ti sydd wedi achosi hyn i gyd i ddigwydd.” Yna dyma nhw'n gafael yn Jona a'i daflu i'r môr, a dyma'r storm yn tawelu. Roedd hyn wedi gwneud i'r morwyr ofni'r ARGLWYDD go iawn, a dyma nhw'n addo ar lw y bydden nhw'n offrymu aberthau iddo. A dyma'r ARGLWYDD yn anfon pysgodyn mawr i lyncu Jona. Roedd Jona ym mol y pysgodyn am dri diwrnod a thair noson. Dyma Jona yn gweddïo ar yr ARGLWYDD ei Dduw o fol y pysgodyn. Roeddwn i mewn trafferthion, a dyma fi'n galw ar yr ARGLWYDD, a dyma fe'n fy ateb i. Dyma fi'n gweiddi am dy help di, o ganol byd y meirw, a dyma ti'n gwrando arna i! Teflaist fi i'r dyfnder; i waelod y môr. Roedd y cerrynt o'm cwmpas, a'r tonnau mawr yn torri uwch fy mhen. Ro'n i'n meddwl fy mod i wedi cael fy ysgubo i ffwrdd gen ti am byth, ac y byddwn i byth yn cael gweld dy deml sanctaidd di eto! Roeddwn i bron boddi — roedd y môr dwfn o'm cwmpas, a gwymon wedi lapio am fy mhen. Roeddwn i wedi suddo at waelod isa'r mynyddoedd. Roedd giatiau Byd y Meirw wedi cloi tu ôl i mi am byth. Ond dyma ti, ARGLWYDD Dduw, yn fy achub i o'r Pwll dwfn. Pan oedd fy mywyd yn llithro i ffwrdd, dyma fi'n galw arnat ti, ARGLWYDD; a dyma ti'n gwrando ar fy ngweddi o dy deml sanctaidd. Mae'r rhai sy'n addoli eilunod diwerth yn troi cefn ar dy drugaredd di. Ond dw i'n mynd i offrymu aberth i ti, a chanu mawl i ti'n gyhoeddus. Bydda i'n gwneud beth dw i wedi ei addo! Yr ARGLWYDD ydy'r un sy'n achub! Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth y pysgodyn am chwydu Jona ar dir sych. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Jona unwaith eto. “Dos i ddinas fawr Ninefe ar unwaith! Dw i eisiau i ti gyhoeddi'r neges dw i'n ei rhoi i ti.” Y tro yma dyma Jona'n gwneud hynny, fel roedd yr ARGLWYDD eisiau, a mynd yn syth i Ninefe. (Roedd Ninefe yn ddinas anferth. Roedd hi'n cymryd tri diwrnod i gerdded trwyddi!) Ar ôl cerdded trwyddi am ddiwrnod, dyma Jona'n cyhoeddi, “Mewn pedwar deg diwrnod bydd dinas Ninefe yn cael ei dinistrio!” Dyma bobl Ninefe yn credu neges Duw. A dyma nhw'n galw ar bawb i ymprydio (sef peidio bwyta) ac i wisgo sachliain — y bobl gyfoethog a'r tlawd. Pan glywodd brenin Ninefe am y peth, dyma fe hyd yn oed yn codi o'i orsedd, tynnu ei wisg frenhinol i ffwrdd, rhoi sachliain amdano, ac eistedd mewn lludw. [7-8] Wedyn dyma fe'n gwneud datganiad cyhoeddus: “Dyma mae'r brenin a'i swyddogion yn ei orchymyn: Does neb o bobl Ninefe i fwyta nac yfed (na'r anifeiliaid chwaith — gwartheg na defaid.) Rhaid i bawb wisgo sachliain. A dylid hyd yn oed rhoi sachliain ar yr anifeiliaid. Mae pawb i weddïo'n daer ar Dduw, a stopio gwneud drwg a bod mor greulon. *** Pwy a ŵyr? Falle y bydd Duw yn newid ei feddwl ac yn stopio bod mor ddig gyda ni, a bydd dim rhaid i ni farw.” Pan welodd Duw eu bod nhw wedi stopio gwneud y pethau drwg roedden nhw'n arfer eu gwneud, wnaeth e ddim eu cosbi nhw fel roedd e wedi bygwth gwneud cyn hynny. Doedd Jona ddim yn hapus. Roedd e wedi gwylltio'n lân. Dyma fe'n gweddïo: O ARGLWYDD, plîs na! Ro'n i'n gwybod mai dyma fyddai'n digwydd! Dyna feddyliais i pan oeddwn i adre yn fy ngwlad fy hun, a dyna pam wnes i geisio dianc i Tarshish! Ti'n Dduw mor garedig a thrugarog, mor amyneddgar ac anhygoel o hael, a ddim yn hoffi cosbi! Lladd fi! Mae'n well gen i farw na byw i weld hyn! Dyma'r ARGLWYDD yn gofyn iddo, “Ydy'n iawn i ti wylltio fel yma?” Dyma Jona'n mynd allan o'r ddinas i gyfeiriad y dwyrain, ac eistedd i lawr. Gwnaeth loches iddo'i hun, ac eistedd yn ei gysgod, yn disgwyl i weld beth fyddai'n digwydd i Ninefe. A dyma'r ARGLWYDD Dduw yn gwneud i blanhigyn bach dyfu uwch ben Jona. Roedd i gysgodi drosto, i'w gadw rhag bod yn rhy anghyfforddus. Roedd Jona wrth ei fodd gyda'r planhigyn. Ond yn gynnar iawn y bore wedyn dyma Duw yn anfon pryfyn i ymosod ar y planhigyn, a dyma fe'n gwywo. Yna yn ystod y dydd dyma Duw yn anfon gwynt poeth o'r dwyrain. Roedd yr haul mor danbaid nes bod Jona bron llewygu. Roedd e eisiau marw, a dyma fe'n gweiddi, “Byddai'n well gen i farw na byw!” Ond dyma'r ARGLWYDD yn gofyn iddo, “Ydy'n iawn i ti fod wedi gwylltio fel yma o achos planhigyn bach?” Ac meddai Jona, “Ydy, mae yn iawn. Dw i yn wyllt!” A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho: “Ti wedi cynhyrfu am blanhigyn bach wnest ti ddim gofalu amdano na gwneud iddo dyfu. Roedd e wedi tyfu dros nos a gwywo'r diwrnod wedyn! Ydy hi ddim yn iawn i mi fod â chonsýrn am y ddinas fawr yma, Ninefe? Mae yna dros gant dau ddeg o filoedd o bobl ddiniwed yn byw ynddi — a lot fawr o anifeiliaid hefyd!” Dyma'r neges roddodd yr ARGLWYDD i Micha o Moresheth. Roedd yn proffwydo pan oedd Jotham, Ahas, a Heseceia yn frenhinoedd ar Jwda. Dyma ddangosodd Duw iddo am Samaria a Jerwsalem. Gwrandwch, chi bobl i gyd! Cymrwch sylw, bawb sy'n byw drwy'r byd! Mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn dyst yn eich erbyn; mae'n eich cyhuddo chi o'i deml sanctaidd. Edrychwch! Mae'r ARGLWYDD yn dod! Mae'n dod i lawr ac yn sathru'r mynyddoedd! Bydd y mynyddoedd yn dryllio dan ei draed, a'r dyffrynnoedd yn hollti. Bydd y creigiau'n toddi fel cwyr mewn tân, ac yn llifo fel dŵr ar y llethrau. Pam? Am fod Jacob wedi gwrthryfela, a pobl Israel wedi pechu. Sut mae Jacob wedi gwrthryfela? Samaria ydy'r drwg! Ble mae allorau paganaidd Jwda? Yn Jerwsalem! “Dw i'n mynd i droi Samaria yn bentwr o gerrig mewn cae agored — bydd yn lle i blannu gwinllannoedd! Dw i'n mynd i hyrddio ei waliau i'r dyffryn a gadael dim ond sylfeini'n y golwg. Bydd ei delwau'n cael eu dryllio, ei thâl am buteinio yn llosgi'n y tân, a'r eilunod metel yn bentwr o sgrap! Casglodd nhw gyda'i thâl am buteinio, a byddan nhw'n troi'n dâl i buteiniaid eto.” Dyna pam dw i'n galaru a nadu, a cherdded heb sandalau ac mewn carpiau; yn udo'n uchel fel siacaliaid, a sgrechian cwyno fel cywion estrys. Fydd salwch Samaria ddim yn gwella! Mae wedi lledu i Jwda — mae hyd yn oed arweinwyr fy mhobl yn Jerwsalem wedi dal y clefyd! ‛Peidiwch dweud am y peth yn Gath!‛ Peidiwch crïo rhag iddyn nhw eich clywed! Bydd pobl Beth-leaffra yn rholio yn y llwch. Bydd pobl Shaffir yn pasio heibio yn noeth ac mewn cywilydd. Bydd pobl Saänan yn methu symud, a Beth-haetsel yn gwneud dim ond galaru — fydd hi ddim yn dy helpu eto. Bydd pobl Maroth yn aflonydd wrth ddisgwyl am rywbeth gwell i ddigwydd na'r difrod mae'r ARGLWYDD wedi ei anfon, ac sy'n gwasgu ar giatiau Jerwsalem. Clymwch eich cerbydau wrth y ceffylau, bobl Lachish! Chi wnaeth wrthryfela fel Israel ac arwain pobl Seion i bechu! Bydd rhaid i chi ddweud ffarwél wrth Moresheth-gath, a bydd tai Achsib yn siomi — bydd fel ffynnon wedi sychu i frenhinoedd Israel. Bobl Maresha, bydd gelyn yn dod i goncro a dal eich tref, a bydd arweinwyr Israel yn ffoi i ogof Adwlam eto. Felly, Jerwsalem, siafia dy ben i alaru am y plant rwyt ti'n dotio atyn nhw. Gwna dy dalcen yn foel fel y fwltur, am fod y gelyn yn mynd i'w cymryd nhw'n gaeth. Gwae nhw, y rhai sy'n dyfeisio drygioni a gorweddian ar eu gwlâu yn cynllwynio. Wedyn codi gyda'r wawr i wneud y drwg — maen nhw'n gwneud beth maen nhw eisiau. Maen nhw'n cymryd y tir maen nhw'i eisiau, ac yn dwyn eu tai oddi ar bobl. Maen nhw'n cipio cartrefi trwy dwyll a thrais ac yn dwyn etifeddiaeth pobl eraill. Felly, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Dw i'n cynllunio i ddod â dinistr ar y criw pobl yma. Fydd dim modd i chi ddianc! Dim mwy o swancio i chi! — mae pethau'n mynd i fod yn ddrwg! Bryd hynny, bydd pobl yn gwneud hwyl am eich pen chi drwy ganu galarnad i chi'n sbeitlyd — ‘Mae ar ben arnon ni! Mae ein tir yn cael ei werthu! Mae Duw wedi cymryd y cwbl, a rhoi ein tir i fradwyr anffyddlon!’” Felly fydd neb yn mesur y tir eto i chi gael siâr ohono gyda phobl yr ARGLWYDD. “Stopia falu awyr!” medden nhw'n lloerig. “Ddylai neb siarad fel yna! Fyddwn ni ddim yn cael ein cywilyddio.” Ai fel hyn mae pobl Jacob yn meddwl? — “Dydy'r ARGLWYDD ddim yn colli ei dymer. Fyddai e byth yn gwneud y fath beth!” “Mae'r pethau da dw i'n eu haddo yn digwydd i'r rhai sy'n byw yn iawn. Ond yn ddiweddar mae fy mhobl wedi codi yn fy erbyn fel gelyn. Dych chi'n dwyn y fantell a'r crys oddi ar bobl ddiniwed sy'n pasio heibio fel milwyr yn dod adre o ryfel. Dych chi'n gyrru gweddwon o'u cartrefi clyd, a dwyn eu heiddo oddi ar eu plant am byth. Felly symudwch! I ffwrdd â chi! Does dim lle i chi orffwys yma! Dych chi wedi llygru'r lle, ac wedi ei ddifetha'n llwyr! Petai rhywun yn dod heibio yn malu awyr a thwyllo, ‘Dw i'n addo y cewch chi joio digonedd o win a chwrw!’ — byddech wrth eich bodd yn gwrando ar hwnnw! Bydda i'n eich casglu chi i gyd, bobl Jacob. Bydda i'n galw pawb sydd ar ôl yn Israel at ei gilydd fel defaid mewn corlan. Byddwch fel praidd yng nghanol eu porfa yn brefu, yn dyrfa enfawr o bobl. Bydd yr un sy'n torri trwodd yn eu harwain nhw allan i ryddid. Byddan nhw'n mynd allan drwy'r giatiau a gadael gyda'u brenin ar y blaen. Yr ARGLWYDD ei hun fydd yn eu harwain!” Yna dywedais, “Gwrandwch, arweinwyr Jacob, chi sy'n arwain pobl Israel. Dylech wybod beth ydy cyfiawnder! Ond dych chi'n casáu'r da ac yn caru'r drwg! Dych chi'n blingo fy mhobl yn fyw, ac yn ymddwyn fel canibaliaid! Dych chi'n bwyta cnawd fy mhobl, yn eu blingo nhw'n fyw a malu eu hesgyrn. Torri eu cyrff yn ddarnau fel cig i'w daflu i'r crochan.” Ryw ddydd byddan nhw'n galw ar yr ARGLWYDD am help, ond fydd e ddim yn ateb. Bydd e'n troi ei gefn arnyn nhw bryd hynny am eu bod wedi gwneud cymaint o ddrwg. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud wrth y proffwydi: “Dych chi'n camarwain fy mhobl! Dych chi'n addo heddwch am bryd o fwyd, ond os na gewch chi'ch talu dych chi'n bygwth rhyfel! Felly bydd hi'n nos arnoch chi, heb weledigaeth — byddwch yn y tywyllwch, yn gallu dehongli dim. Bydd yr haul wedi machlud arnoch chi, a'ch dydd wedi dod i ben! Bydd cywilydd ar y proffwydi, a bydd y dewiniaid wedi drysu. Fyddan nhw'n dweud dim, am fod Duw ddim yn ateb.” Ond dw i, ar y llaw arall, yn llawn o nerth Ysbryd yr ARGLWYDD ac yn credu'n gryf mewn cyfiawnder. Dw i'n herio Jacob am ei wrthryfel, ac yn gwneud i Israel wynebu ei phechod. Gwrandwch, arweinwyr Jacob, chi sy'n arwain pobl Israel — chi sy'n casáu cyfiawnder ac yn gwyrdroi'r gwir. Dych chi'n adeiladu Seion trwy drais, a Jerwsalem trwy lygredd a thwyll. Mae'r barnwyr yn derbyn breib, yr offeiriaid yn dysgu am elw, a'r proffwydi'n dehongli am dâl — tra'n honni pwyso ar yr ARGLWYDD! “Mae'r ARGLWYDD gyda ni!” medden nhw. “Does wir ddim dinistr i ddod!” Felly chi sydd ar fai! Bydd Seion yn cael ei haredig fel cae, a bydd Jerwsalem yn bentwr o gerrig. Bydd y bryn ble mae'r deml yn sefyll yn goedwig wedi tyfu'n wyllt. Yn y dyfodol, bydd mynydd teml yr ARGLWYDD wedi ei osod yn ben ar y mynyddoedd eraill a'i godi'n uwch na'r bryniau. Bydd y gwledydd i gyd yn llifo yno a llawer o bobl yn mynd yno a dweud: “Dewch! Gadewch i ni ddringo Mynydd yr ARGLWYDD, a mynd i deml Duw Jacob, iddo ddysgu ei ffyrdd i ni, ac i ninnau fyw fel mae e am i ni fyw.” Achos o Seion y bydd yr arweiniad yn dod, a neges yr ARGLWYDD o Jerwsalem. Bydd e'n barnu achosion rhwng y cenhedloedd ac yn setlo dadleuon rhwng y gwledydd mawr pell. Byddan nhw'n curo eu cleddyfau yn sychau aradr a'u gwaywffyn yn grymanau tocio. Fydd gwledydd ddim yn ymladd ei gilydd, nac yn hyfforddi milwyr i fynd i ryfel. Bydd pawb yn eistedd dan ei winwydden a'i goeden ffigys ei hun, heb angen bod ofn. Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus wedi addo'r peth! Tra mae'r gwledydd o'n cwmpas yn dilyn eu duwiau eu hunain, byddwn ni yn dilyn yr ARGLWYDD ein Duw am byth bythoedd! “Bryd hynny,” meddai'r ARGLWYDD, “bydda i'n galw'r rhai cloff, ac yn casglu'r rhai sydd ar chwâl, a'r rhai wnes i eu hanafu. Y rhai cloff fydd y cnewyllyn sydd ar ôl; a bydd y rhai fu ar chwâl yn troi'n genedl gref. Bydd yr ARGLWYDD yn frenin arnyn nhw ar Fynydd Seion, o hyn allan ac am byth!” A byddi di — y tŵr i wylio'r praidd, sef dinas gaerog pobl Seion — yn cael dy safle anrhydeddus yn ôl. Bydd y deyrnas yn perthyn i Jerwsalem. Ond nawr, pam wyt ti'n gweiddi a sgrechian? Oes gen ti ddim brenin i dy helpu? Ydy dy arweinydd doeth di wedi marw? Ai dyna pam ti'n gwingo mewn poen fel gwraig ar fin cael babi? Gwingwch a gwaeddwch, bobl Seion, fel gwraig mewn poen wrth gael babi! Bydd rhaid i chi adael y ddinas a gwersylla yng nghefn gwlad, ar eich ffordd i Babilon. Ond yno bydd yr ARGLWYDD yn eich achub, a'ch gollwng yn rhydd o afael y gelyn. Ar hyn o bryd mae gwledydd lawer wedi casglu i ymladd yn dy erbyn. “Rhaid dinistrio Jerwsalem,” medden nhw. “Cawn ddathlu wrth weld Seion yn syrthio!” Ond dŷn nhw ddim yn gwybod beth ydy bwriad yr ARGLWYDD! Dŷn nhw ddim yn deall ei gynllun e — i'w casglu nhw fel gwenith i'r llawr dyrnu! Tyrd i ddyrnu, ferch Seion! Dw i'n mynd i roi cyrn o haearn a carnau o bres i ti; a byddi'n sathru llawer o wledydd. Byddi'n rhoi'r ysbail i gyd i'r ARGLWYDD, ac yn cyflwyno eu cyfoeth i Feistr y ddaear gyfan. Ar hyn o bryd rwyt ti'n torri dy hun â chyllyll ti ddinas dan ymosodiad! Mae'r gelyn yn gwarchae arnon ni! Maen nhw'n taro arweinydd Israel ar y foch gyda theyrnwialen. Ond wedyn ti, Bethlehem Effrata, rwyt ti'n un o'r pentrefi lleiaf pwysig yn Jwda. Ond ohonot ti y daw un fydd yn teyrnasu yn Israel — Un sydd â'i wreiddiau yn mynd yn ôl i'r dechrau yn y gorffennol pell. Felly bydd yr ARGLWYDD yn rhoi pobl Israel i'r gelyn, hyd nes bydd yr un sy'n cael y babi wedi geni'r plentyn. Wedyn bydd gweddill ei deulu yn dod adre at blant Israel. Bydd yn codi i arwain ei bobl fel bugail yn gofalu am ei braidd. Bydd yn gwneud hyn yn nerth yr ARGLWYDD a gydag awdurdod yr ARGLWYDD ei Dduw. Byddan nhw yno i aros, achos bydd e'n cael ei anrhydeddu gan bawb i ben draw'r byd. Bydd e'n dod â heddwch i ni. Os bydd Asyria'n ymosod ar ein tir ac yn ceisio mynd i mewn i'n plastai, bydd digon o arweinwyr i'w rhwystro! Byddan nhw'n rheoli Asyria gyda'r cleddyf; gwlad Nimrod gyda llafnau parod! Bydd ein brenin yn ein hachub pan fydd Asyria'n ymosod ar ein gwlad, ac yn ceisio croesi ein ffiniau. Bydd pobl Jacob sydd ar ôl ar wasgar yng nghanol y bobloedd, fel y gwlith mae'r ARGLWYDD yn ei anfon, neu gawodydd o law ar laswellt — sydd ddim yn dibynnu ar bobl na disgwyl am eu caniatâd cyn dod. Bydd pobl Jacob sydd ar ôl yn byw yn y gwledydd, ar wasgar yng nghanol y bobloedd. Byddan nhw fel llew yng nghanol yr anifeiliaid gwylltion, neu lew ifanc yng nghanol praidd o ddefaid — yn rhydd i ladd a rhwygo heb neb i'w stopio. Byddi'n codi dy law i daro'r rhai sy'n dy erbyn, a dinistrio dy elynion i gyd! “Bryd hynny,” meddai'r ARGLWYDD, “bydda i'n cael gwared â'ch arfau i gyd — y ceffylau a'r cerbydau rhyfel. Bydda i'n dinistrio trefi'r wlad ac yn bwrw i lawr y caerau amddiffynnol. Bydda i'n stopio eich dewino a'ch swynion, a fydd neb ar ôl i ddweud ffortiwn. Bydda i'n dinistrio eich delwau cerfiedig a'ch colofnau cysegredig. Fyddwch chi byth eto yn plygu i addoli gwaith eich dwylo eich hunain. Bydda i'n diwreiddio polion y dduwies Ashera, ac yn dinistrio eich eilun-dduwiau. Bydda i'n dial yn wyllt ar y gwledydd sy'n gwrthod gwrando arna i.” Gwrandwch beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Codwch i amddiffyn eich hunain o flaen y bryniau a'r mynyddoedd! Chi fynyddoedd a sylfeini'r ddaear gwrandwch ar gyhuddiad yr ARGLWYDD.” (Mae'n dwyn achos yn erbyn ei bobl. Mae ganddo ddadl i'w setlo gydag Israel.) “Fy mhobl, beth wnes i o'i le? Beth wnes i i'ch diflasu chi? Atebwch! Fi wnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft, a'ch rhyddhau o fod yn gaethweision. Anfonais Moses i'ch arwain, ac Aaron a Miriam gydag e. Fy mhobl, cofiwch beth roedd Balac, brenin Moab, am ei wneud, a sut wnaeth Balaam fab Beor ei ateb. Cofiwch beth ddigwyddodd rhwng Sittim a Gilgal — i chi weld fod yr ARGLWYDD wedi eich trin yn deg.” Sut alla i dalu i'r ARGLWYDD? Beth sydd gen i i'w gynnig wrth blygu i addoli y Duw mawr? Ydy aberthau i'w llosgi yn ddigon? Y lloi gorau i'w llosgi'n llwyr? Fyddai mil o hyrddod yn ei blesio, neu afonydd diddiwedd o olew olewydd? Ddylwn i aberthu fy mab hynaf yn dâl am wrthryfela? — rhoi bywyd fy mhlentyn am fy mhechod? Na, mae'r ARGLWYDD wedi dweud beth sy'n dda, a beth mae e eisiau gen ti: Hybu cyfiawnder, bod yn hael bob amser, a byw'n wylaidd ac ufudd i dy Dduw. “Gwrandwch!” Mae'r ARGLWYDD yn galw pobl Jerwsalem — (Mae'n beth doeth i barchu dy enw, o Dduw.) “Gwrandwch lwyth Jwda a'r rhai sy'n casglu yn y ddinas! Ydw i'n mynd i anwybyddu'r trysorau a gawsoch trwy dwyll, a'r mesur prin, sy'n felltith? Fyddai'n iawn i mi oddef y clorian sy'n dweud celwydd, a'r bag o bwysau ysgafn? Mae'r cyfoethog yn treisio'r tlawd, a'r bobl i gyd yn dweud celwydd — twyll ydy eu hiaith gyntaf nhw! Dw i'n mynd i'ch taro a'ch anafu'n ddifrifol, cewch eich dinistrio am bechu. Byddwch yn bwyta, ond byth yn cael digon. Bydd eich plentyn yn marw'n y groth, cyn cael ei eni; a bydda i'n gadael i'r cleddyf ladd y rhai sy'n cael eu geni! Byddwch yn plannu cnydau ond byth yn medi'r cynhaeaf. Byddwch yn gwasgu'r olewydd ond gewch chi ddim defnyddio'r olew. Byddwch yn sathru'r grawnwin, ond gewch chi ddim yfed y gwin. Dych chi'n cadw deddfau drwg y brenin Omri, ac efelychu arferion drwg y brenin Ahab! — a dilyn eu polisïau pwdr. Felly bydda i'n eich dinistrio chi, a bydd pobl yn eich gwawdio ac yn gwneud sbort am eich pen.” Dw i mor ddigalon! Dw i fel rhywun yn chwilio'n daer am ffrwyth ar ôl i'r ffrwythau haf a'r grawnwin gael eu casglu. Does dim un swp o rawnwin ar ôl, na'r ffigys cynnar dw i mor hoff ohonyn nhw. Does neb caredig a hael ar ôl yn y wlad! Mae'r bobl onest i gyd wedi mynd. Mae pawb yn edrych am gyfle i ymosod ar rywun arall; maen nhw fel helwyr yn gosod trapiau i'w gilydd. Maen nhw'n rai da am wneud drwg! — mae arweinwyr a barnwyr yn derbyn breib; does ond rhaid i'r pwysigion ddweud beth maen nhw eisiau a byddan nhw'n dyfeisio rhyw sgam i'w bodloni. Mae'r gorau ohonyn nhw fel drain, a'r mwya gonest fel llwyn o fieri. Mae'r gwylwyr wedi'ch rhybuddio; mae dydd y farn yn dod ar frys — mae anhrefn llwyr ar ei ffordd! Peidiwch trystio neb! Allwch chi ddim dibynnu ar eich ffrindiau, na hyd yn oed eich gwraig — peidiwch dweud gair wrthi hi! Fydd mab ddim yn parchu ei dad, a bydd merch yn herio ei mam; merch-yng-nghyfraith yn erbyn mam-yng-nghyfraith — eich gelynion pennaf fydd eich teulu agosaf! Dw i am droi at yr ARGLWYDD am help. Dw i'n disgwyl yn hyderus am y Duw sy'n achub. Dw i'n gwybod y bydd e'n gwrando arna i. “Peidiwch dathlu'n rhy fuan, elynion! Er fy mod wedi syrthio, bydda i'n codi eto. Er bod pethau'n dywyll ar hyn o bryd, bydd yr ARGLWYDD yn olau i mi. Rhaid i mi oddef cosb yr ARGLWYDD am fy mod wedi pechu yn ei erbyn. Ond yna bydd e'n ochri gyda mi ac yn ennill yr achos ar fy rhan. Bydd yn fy arwain i allan i'r golau; bydda i'n cael fy achub ganddo. Bydd fy ngelynion yn gweld hyn, a byddan nhw'n profi siom ac embaras. Fi fydd yn dathlu, wrth eu gweld nhw, y rhai oedd yn dweud, ‘Ble mae dy Dduw di?’, yn cael eu sathru fel baw ar y strydoedd.” Y fath ddiwrnod fydd hwnnw! — diwrnod i ailadeiladu dy waliau; diwrnod i ehangu dy ffiniau! Diwrnod pan fydd pobl yn dod atat yr holl ffordd o Asyria i drefi'r Aifft, o'r Aifft i'r Afon Ewffrates, o un arfordir i'r llall, ac o'r mynyddoedd pellaf. Ond bydd gweddill y ddaear yn ddiffaith, o achos y ffordd mae pobl wedi byw. ARGLWYDD, tyrd i fugeilio dy bobl, dy braidd arbennig dy hun; y rhai sy'n byw'n unig mewn tir llawn drysni tra mae porfa fras o'u cwmpas. Gad iddyn nhw bori ar gaeau Bashan a Gilead, fel roedden nhw'n gwneud ers talwm. Gad iddyn nhw weld dy wyrthiau, fel yr adeg pan aethon nhw allan o wlad yr Aifft! Bydd y gwledydd yn gweld hyn, a bydd eu grym yn troi'n gywilydd. Byddan nhw'n sefyll yn syn, ac fel petaen nhw'n clywed dim! Byddan nhw'n llyfu'r llwch fel nadroedd neu bryfed yn llusgo ar y llawr. Byddan nhw'n ofni am eu bywydau, ac yn crynu wrth ddod allan o'u cuddfannau i dy wynebu di, yr ARGLWYDD ein Duw. Oes duw tebyg i ti? — Na! Ti'n maddau pechod ac yn anghofio gwrthryfel y rhai sydd ar ôl o dy bobl. Dwyt ti ddim yn digio am byth; rwyt wrth dy fodd yn bod yn garedig a hael. Byddi'n tosturio wrthon ni eto. Byddi'n delio gyda'n drygioni, ac yn taflu'n pechodau i waelod y môr. Byddi'n ffyddlon i bobl Jacob ac yn dangos dy drugaredd i blant Abraham — fel gwnest ti addo i'n hynafiaid amser maith yn ôl. Neges am ddinas Ninefe: Cofnod o weledigaeth Nahum o Elcosh. Mae'r ARGLWYDD yn Dduw eiddigeddus sy'n dial; Mae'r ARGLWYDD yn dial, ac mae ei ddicter yn ffyrnig. Mae'r ARGLWYDD yn dial ar ei elynion, ac yn wyllt gyda'i wrthwynebwyr. Mae'r ARGLWYDD yn amyneddgar ac yn gryf — ond dydy e ddim yn gadael i'r euog osgoi'r gosb. Mae'n martsio yn y corwynt a'r storm, ac mae'r cymylau fel llwch dan ei draed. Mae'n gweiddi ar y môr a'i sychu, ac yn sychu'r afonydd i gyd. Mae porfa Bashan a Carmel yn gwywo, ac mae blodau Libanus yn gwywo. Mae'r mynyddoedd yn crynu a'r bryniau'n toddi o'i flaen. Mae'r tir yn troi'n ddiffeithwch o'i flaen, y byd, a phopeth sy'n byw ynddo. Pwy all oroesi o flaen ei ddicter? Pwy all wrthsefyll ei ffyrnigrwydd? Mae'n tywallt ei lid fel tân, ac mae'r creigiau'n cael eu dryllio ganddo. Mae'r ARGLWYDD yn dda, ac yn gaer ddiogel mewn argyfwng; Mae'n gofalu am y rhai sy'n troi ato am help. Ond mae'n gyrru ei elynion i'r tywyllwch; fel llifogydd sy'n ysgubo popeth ymaith, bydd yn rhoi diwedd ar Ninefe'n llwyr. Unrhyw gynlluniau sydd gen ti yn ei erbyn, bydd yr ARGLWYDD yn eu dinistrio'n llwyr: fydd ei elyn ddim yn codi yn ei erbyn yr ail waith! Byddan nhw fel dynion wedi meddwi'n gaib; Byddan nhw'n cael eu llosgi fel drysni o ddrain, neu fonion gwellt wedi sychu'n llwyr. Ohonot ti, Ninefe, y daeth un oedd yn cynllwynio drwg yn erbyn yr ARGLWYDD — strategydd drygioni! Ond dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Er eu bod nhw'n gryf ac yn niferus, byddan nhw'n cael eu torri i lawr, ac yn diflannu. Er fy mod i wedi dy gosbi di, Jwda, fydda i ddim yn dy gosbi di eto; dw i'n mynd i dorri'r iau roddodd e ar dy war a dryllio'r rhaffau sy'n dy rwymo.” Mae'r ARGLWYDD wedi datgan am Ninefe: “Fydd gen ti ddim disgynyddion bellach. Dw i'n mynd i gael gwared â'r eilunod a'r delwau metel o demlau dy dduwiau. Bydda i'n paratoi bedd i ti fydd yn dangos mor ddibwys oeddet ti.” Edrychwch! Mae negesydd yn dod dros y mynyddoedd yn cyhoeddi heddwch! “Dathla dy wyliau crefyddol, O Jwda, a chadw dy addewidion! Fydd y rhai drwg byth yn dy orchfygu eto; byddan nhw'n cael eu dinistrio'n llwyr.” Ninefe, mae'r ‛chwalwr‛ yn dod i ymosod! “Gosod filwyr i amddiffyn dy waliau!” “Gwylia'r ffordd! Gwna dy hun yn barod! Casgla dy rym milwrol!” (Mae'r ARGLWYDD yn adfer anrhydedd ei bobl — gwinwydden Jacob, ac Israel hefyd. Roedd fandaliaid wedi dod a'i dinistrio, a difetha ei changhennau.) Mae tarianau ei filwyr yn goch, arwyr sy'n gwisgo ysgarlad; Mae'r cerbydau dur fel fflamau o dân yn barod i ymosod, a'r gwaywffyn yn cael eu chwifio. Mae'r cerbydau'n rhuthro'n wyllt drwy'r strydoedd, ac yn rasio yn ôl ac ymlaen drwy'r sgwâr. Maen nhw'n fflachio fel ffaglau tân, ac yn gwibio fel mellt. Mae'n galw ei swyddogion i ymosod; maen nhw'n baglu wrth wthio yn eu blaenau, yn rhuthro, hyrddio at y wal, a chodi sgrîn amddiffyn i gysgodi dani. Mae'r llifddorau'n agor a'r palas ar fin syrthio. Stripio'r frenhines a'i chymryd i'r gaethglud, a'i morynion yn cŵan fel colomennod, yn galaru gan guro eu bronnau. Mae Ninefe fel argae wedi torri — mae pawb yn dianc ohoni! “Stopiwch! Stopiwch!” — ond does neb yn troi yn ôl. “Cymerwch yr arian! Cymerwch yr aur!” Mae trysorau Ninefe'n ddiddiwedd; mae pob math o bethau gwerthfawr ynddi! Distryw, difrod, a dinistr! Calonnau'n toddi, gliniau'n crynu, lwynau gwan, wynebau gwelw! Beth sydd wedi digwydd i ffau'r llewod? Ble mae'r llewod ifanc i gael eu bwydo? Byddai'r llew a'r llewes yn cerdded yno, a'u cenawon yn saff, a neb yn eu tarfu. Ble mae'r llew oedd yn rhwygo'i ysglyfaeth — ei ladd i'w lewesau a'i roi i'w rai bach? Roedd ei ogof yn llawn ysglyfaeth a'i ffau'n llawn cnawd wedi ei ddryllio. “Dw i'n mynd i ddelio gyda ti,” —meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus. “Bydda i'n llosgi dy gerbydau'n llwyr; bydd dy ‛lewod ifanc‛ yn marw'n y frwydr. Dw i'n mynd i gael gwared â'th ysglyfaeth o'r tir, a fydd neb eto'n clywed llais dy negeswyr.” Gwae ddinas y tywallt gwaed, sy'n llawn celwyddau ac yn llawn trais, a'r lladd byth yn stopio! Daeth sŵn clec y chwip a thwrw'r olwynion, meirch yn carlamu a cherbydau'n crynu! Marchogion yn ymosod, cleddyfau'n fflachio, gwaywffyn yn disgleirio! Pobl wedi eu lladd ym mhobman; tomenni diddiwedd o gyrff — maen nhw'n baglu dros y meirwon! A'r cwbl o achos drygioni'r butain ddeniadol oedd yn feistres swynion, yn gwerthu ei hun i'r cenhedloedd a swyno a thwyllo pobloedd. “Dw i'n mynd i ddelio gyda ti,” —meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus. “Bydda i'n dy gywilyddio di — yn codi dy sgert dros dy wyneb; bydd y cenhedloedd yn dy weld yn noeth a theyrnasoedd yn gweld dy rannau preifat! Bydda i'n taflu budreddi ar dy ben, a'th wneud yn destun sbort ac yn sioe. Fydd neb yn gallu edrych yn hir — Bydd pawb yn troi i ffwrdd a dweud, ‘Mae Ninefe'n adfeilion, a does neb yn cydymdeimlo!’ Ble wna i ddod o hyd i rywun i dy gysuro di, Ninefe?” Wyt ti'n saffach na Thebes, ar lan yr afon Nil? Roedd y dŵr fel môr yn glawdd o'i chwmpas, a'r afon fel rhagfur iddi. Roedd yn rheoli'r Aifft a dwyrain Affrica; roedd ei grym yn ddi-ben-draw! — mewn cynghrair â Pwt a Libia. Ond cafodd ei phobl eu caethgludo, a'i phlant bach eu curo i farwolaeth ar gornel pob stryd. Roedden nhw'n gamblo am ei phobl bwysig, ac yn rhwymo ei harweinwyr â chadwyni. Byddi dithau hefyd yn feddw ac wedi dy faeddu. Byddi dithau'n ceisio cuddio rhag y gelyn. Bydd dy gaerau i gyd fel coed ffigys gyda'i ffrwythau cynta'n aeddfed. O'u hysgwyd bydd y ffrwyth yn syrthio i gegau'r rhai sydd am eu bwyta! Bydd dy filwyr fel merched gwan yn dy ganol; a giatiau dy wlad ar agor i'r gelyn; bydd tân yn llosgi'r barrau sy'n eu cloi. Dos i dynnu dŵr i'w gadw ar gyfer y gwarchae! Cryfha dy gaerau! Cymer fwd a sathra'r clai, a gwneud brics yn y mowld! Bydd tân yn dy losgi di yno, a'r cleddyf yn dy dorri i lawr — cei dy ddifa fel cnwd gan lindys. Lluosoga fel y lindys, ac fel y locust ifanc; roedd gen ti fwy o fasnachwyr nag sydd o sêr yn yr awyr. Ond maen nhw fel lindys yn bwrw'i groen a hedfan i ffwrdd. Roedd dy warchodwyr a'th weision sifil fel haid o locustiaid yn eistedd ar waliau ar ddiwrnod oer; ond pan mae'r haul yn codi maen nhw'n hedfan i ffwrdd, a does neb yn gwybod i ble. Mae dy fugeiliaid yn cysgu, frenin Asyria! Mae dy arweinwyr yn pendwmpian! Mae dy bobl fel defaid ar wasgar dros y bryniau, a does neb i'w casglu. Does dim gwella ar dy glwyf — mae dy anaf yn farwol. Bydd pawb fydd yn clywed y newyddion amdanat yn dathlu a curo dwylo. Oes rhywun wnaeth ddianc rhag dy greulondeb diddiwedd? Y neges gafodd y proffwyd Habacuc gan yr ARGLWYDD: “ARGLWYDD, am faint mwy rhaid i mi alw cyn i ti fy ateb i? Dw i'n gweiddi, ‘Trais!’ ond dwyt ti ddim yn achub. Pam wyt ti'n caniatáu y fath anghyfiawnder? Pam wyt ti'n gadael i'r fath ddrygioni fynd yn ei flaen? Does dim i'w weld ond dinistr a thrais! Dim byd ond ffraeo a mwy o wrthdaro! Mae'r gyfraith wedi colli ei grym, a does dim cyfiawnder byth. Mae pobl ddrwg yn bygwth pobl ddiniwed, a chyfiawnder wedi ei dwistio'n gam.” “Edrychwch ar y cenhedloedd, a cewch sioc go iawn. Mae rhywbeth ar fin digwydd fyddwch chi ddim yn ei gredu, petai rhywun yn dweud wrthoch chi! Dw i'n codi'r Babiloniaid — y genedl greulon a gwyllt sy'n ysgubo ar draws y byd yn concro a dwyn cartrefi pobl eraill. Maen nhw'n codi braw ac arswyd ar bawb. Maen nhw'n falch ac yn gwneud fel y mynnon. Mae eu ceffylau yn gyflymach na'r llewpard, ac yn fwy siarp na bleiddiaid yn y nos. Maen nhw'n carlamu am bellter enfawr, ac yn disgyn fel fwlturiaid ar ysglyfaeth. Trais ydy eu hunig fwriad. Maen nhw'n hollol benderfynol, ac yn casglu carcharorion rif y tywod. Maen nhw'n gwneud sbort o frenhinoedd, ac yn chwerthin ar lywodraethwyr. Dydy caer amddiffynnol yn ddim byd ond jôc iddyn nhw; maen nhw'n codi rampiau, yn gwarchae a gorchfygu. Yna i ffwrdd â nhw fel y gwynt! Dynion sy'n addoli eu grym milwrol; a byddan nhw'n cael eu galw i gyfri.” “Ond ARGLWYDD, ti ydy'r Duw oedd ar waith yn yr hen ddyddiau! Ti ydy'r Duw Sanctaidd, fyddi di byth yn marw! ARGLWYDD, ti'n eu defnyddio nhw i farnu! Ein Craig, rwyt ti wedi eu penodi nhw i gosbi! Mae dy lygaid yn rhy lân i edrych ar ddrygioni! Sut alli di esgusodi annhegwch? Sut wyt ti'n gallu dioddef pobl mor dwyllodrus? Sut alli di eistedd yn dawel tra mae pobl ddrwg yn llyncu pobl sy'n well na nhw? Rwyt ti'n gwneud pobl fel pysgod, neu greaduriaid y môr heb neb i'w harwain. Mae'r gelyn yn eu dal nhw gyda bachyn; mae'n eu llusgo nhw yn y rhwyd wnaeth ei thaflu. Wrth eu casglu gyda'i rwyd bysgota mae'n dathlu'n llawen ar ôl gwneud mor dda. Wedyn mae'n cyflwyno aberthau ac yn llosgi arogldarth i'w rwydau. Nhw sy'n rhoi bywyd bras iddo, a digonedd i'w fwyta Ydy e'n mynd i gael dal ati i wagio ei rwydi, a dinistrio gwledydd yn ddidrugaredd? Dw i'n mynd i sefyll ar y tŵr gwylio, ac edrych allan o wal y ddinas. Disgwyl i weld beth fydd Duw yn ei ddweud, a sut fydd e'n ateb y gŵyn sydd gen i.” A dyma'r ARGLWYDD yn ateb: “Ysgrifenna'r neges yma yn glir ar lechi, i'r negeswr sy'n rhedeg allu ei ddarllen yn hawdd. Mae'n weledigaeth o beth sy'n mynd i ddigwydd; mae'n dangos sut fydd pethau yn y diwedd. Os nad ydy e'n digwydd yn syth, bydd yn amyneddgar — mae'n siŵr o ddod ar yr amser iawn. A dyma'r neges: Mae'r gelyn mor falch a'i gymhellion yn ddrwg, ond bydd yr un cyfiawn yn byw trwy ei ffyddlondeb. Bydd gwin ei lwyddiant yn achos cwymp i'r gelyn balch, anfodlon. Mae ganddo chwant bwyd fel y bedd; fel marwolaeth, dydy e byth yn fodlon. Dyna pam mae'r gelyn yn casglu ac yn concro un wlad ar ôl y llall. Bydd y gwledydd hynny yn ei wawdio ryw ddydd! Byddan nhw'n gwneud hwyl am ei ben ar gân! — ‘Gwae'r un sy'n cymryd eiddo oddi ar bobl! (Am faint mae hyn i ddigwydd?) Gwneud ei hun yn gyfoethog trwy elwa ar draul eraill!’ Bydd y bobl wyt ti mewn dyled iddyn nhw yn codi heb unrhyw rybudd. Byddan nhw'n deffro'n sydyn, yn dy ddychryn ac yn cymryd dy eiddo di. Am dy fod ti wedi dwyn oddi ar lawer o wledydd, bydd y rhai sydd ar ôl yn dwyn oddi arnat ti. Bydd hyn yn digwydd am dy fod wedi lladd cymaint o bobl, a dinistrio gwledydd a dinasoedd. Gwae chi sydd wedi ennill cyfoeth i'ch teulu drwy fanteisio'n annheg ar bobl eraill. Chi sydd wedi gwneud yn siŵr fod eich nyth eich hunain yn saff — yn uchel, allan o gyrraedd unrhyw berygl. Mae eich sgam wedi dwyn cywilydd ar eich teulu. Drwy ddinistrio cymaint o wledydd dych chi wedi dwyn dinistr arnoch eich hunain. Bydd y cerrig yn waliau dy dŷ yn gweiddi allan, a'r trawstiau pren yn tystio yn dy erbyn. Gwae'r un sy'n tywallt gwaed i adeiladu dinas, ac yn gosod ei sylfeini ar anghyfiawnder. Gwylia di! Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus wedi datgan: Bydd ymdrechion y bobloedd yn cael eu llosgi. Bydd holl lafur y gwledydd i ddim byd. Fel mae'r môr yn llawn dop o ddŵr, bydd pawb drwy'r byd yn gwybod mor wych ydy'r ARGLWYDD. Gwae'r un sy'n gorfodi pobl eraill i yfed y gwin sy'n cael ei dywallt o gwpan dy ddigofaint. Eu meddwi nhw er mwyn edrych arnyn nhw'n noeth. Byddi di'n feddw o gywilydd, nid mawredd! Dy dro di i oryfed a dangos dy rannau preifat. Mae cwpan digofaint yr ARGLWYDD yn dod i ti! Byddi'n chwydu cywilydd yn lle brolio dy ysblander mawreddog! Byddi'n talu am ddinistrio coedwigoedd Libanus! Byddi'n dychryn am dy fywyd am i ti ladd yr holl fywyd gwyllt yno; am dy fod ti wedi lladd cymaint o bobl, a dinistrio gwledydd a dinasoedd. Ydy delw wedi ei gerfio o unrhyw werth? Neu eilun o fetel sy'n camarwain pobl? Pam fyddai'r crefftwr wnaeth ei lunio yn ei drystio? Rhyw ‛dduw‛ diwerth sydd ddim yn gallu siarad! Gwae'r un sy'n dweud wrth ddarn o bren, ‘Deffra!’ neu wrth garreg fud, ‘Gwna rywbeth!’ Ydy peth felly'n gallu rhoi arweiniad? Mae wedi ei orchuddio'n grand gydag aur neu arian, ond does dim bywyd ynddo! Ond mae'r ARGLWYDD yn ei balas sanctaidd. Ust! Mae'r byd i gyd yn fud o'i flaen!” Gweddi'r proffwyd Habacuc. Ar “Shigionoth”. ARGLWYDD, dw i wedi clywed beth rwyt ti'n gallu ei wneud. Mae'n syfrdanol! Gwna yr un peth eto yn ein dyddiau ni. Dangos dy nerth yn ein dyddiau. Er dy fod yn ddig, dangos drugaredd aton ni! Dw i'n gweld Duw yn dod eto o Teman; a'r Un Sanctaidd o Fynydd Paran. Saib Mae ei ysblander yn llenwi'r awyr, ac mae'r ddaear i gyd yn ei foli. Mae e'n disgleirio fel golau llachar. Daw mellten sy'n fforchio o'i law, lle mae'n cuddio ei nerth. Mae'r pla yn mynd allan o'i flaen, a haint yn ei ddilyn. Pan mae'n sefyll mae'r ddaear yn crynu; pan mae'n edrych mae'r gwledydd yn dychryn. Mae'r mynyddoedd hynafol yn dryllio, a'r bryniau oesol yn suddo, wrth iddo deithio'r hen ffyrdd. Dw i'n gweld pebyll llwyth Cwshan mewn panig, a llenni pebyll Midian yn crynu. Ydy'r afonydd wedi dy gynhyrfu di, ARGLWYDD? Wyt ti wedi gwylltio gyda'r afonydd? Wyt ti wedi digio gyda'r môr? Ai dyna pam rwyt ti wedi dringo i dy gerbyd? — cerbyd dy fuddugoliaeth. Mae dy fwa wedi ei dynnu allan, a dy saethau yn barod i ufuddhau i ti. Saib Mae afonydd yn llifo ac yn hollti'r ddaear. Mae'r mynyddoedd yn gwingo wrth dy weld yn dod. Mae'n arllwys y glaw, a'r storm ar y môr yn rhuo a'r tonnau'n cael eu taflu'n uchel. Mae'r haul a'r lleuad yn aros yn llonydd; mae fflachiadau dy saethau, a golau llachar dy waywffon yn eu cuddio. Rwyt ti'n stompio drwy'r ddaear yn wyllt, a sathru'r gwledydd dan draed. Ti'n mynd allan i achub dy bobl; i achub y gwas rwyt wedi ei eneinio. Ti'n taro arweinydd y wlad ddrwg, a'i gadael yn noeth o'i phen i'w chynffon. Saib Ti'n trywanu ei milwyr gyda'u picellau eu hunain, wrth iddyn nhw ruthro ymlaen i'n chwalu ni. Roedden nhw'n chwerthin a dathlu wrth gam-drin y tlawd yn y dirgel. Roedd dy geffylau yn sathru'r môr, ac yn gwneud i'r dŵr ewynnu. Pan glywais y sŵn, roedd fy mol yn corddi, a'm gwefusau'n crynu. Roedd fy nghorff yn teimlo'n wan, a'm coesau'n gwegian. Dw i'n mynd i ddisgwyl yn dawel i ddydd trybini ddod ar y bobl sy'n ymosod arnon ni. Pan mae'r goeden ffigys heb flodeuo, a'r grawnwin heb dyfu yn y winllan; Pan mae'r coed olewydd wedi methu, a dim cnydau ar y caeau teras; Pan does dim defaid yn y gorlan, nag ychen yn y beudy; Drwy'r cwbl, bydda i'n addoli'r ARGLWYDD ac yn dathlu'r Duw sydd yn fy achub i! Mae'r ARGLWYDD, fy meistr, yn rhoi nerth i mi, ac yn gwneud fy nhraed mor saff â'r carw sy'n crwydro'r ucheldir garw. I'r arweinydd cerdd: ar offerynnau llinynnol. Dyma'r neges roddodd yr ARGLWYDD i Seffaneia. Roedd Seffaneia yn fab i Cwshi, mab Gedaleia, mab Amareia, mab Heseceia. Cafodd y neges pan oedd Joseia fab Amon yn frenin ar Jwda. “Dw i am glirio popeth yn llwyr oddi ar y ddaear,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Dw i am glirio pobl ac anifeiliaid. Dw i am glirio adar a physgod (yr holl ddelwau a'r bobl ddrwg.) Dw i'n mynd i gael gwared â'r ddynoliaeth oddi ar wyneb y ddaear,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Dw i'n mynd i daro Jerwsalem a phawb sy'n byw yn Jwda. Dw i am gael gwared ag addoli Baal yn llwyr, a fydd neb yn cofio'r offeiriaid ffals ac anffyddlon. Dw i am gael gwared â'r rhai sy'n addoli'r haul a'r lleuad a'r sêr o ben y toeau, a'r rhai sy'n honni eu bod yn ffyddlon i'r ARGLWYDD tra'n tyngu llw yn enw Milcom. A dw i am gael gwared â'r rhai sydd wedi troi cefn arna i, yr ARGLWYDD, a byth yn troi ata i am help nac arweiniad.” Ust! o flaen y Meistr, yr ARGLWYDD! Mae dydd barn yr ARGLWYDD yn agos. Mae'r ARGLWYDD wedi paratoi'r aberth, ac wedi cysegru'r rhai mae'n eu gwahodd. “Ar ddiwrnod yr aberth mawr,” meddai'r ARGLWYDD, “dw i'n mynd i gosbi swyddogion a theulu'r brenin, a phawb sy'n gwisgo fel paganiaid. Ar y diwrnod hwnnw bydda i yn cosbi pawb sy'n neidio dros y stepen drws, ac yn llenwi palas eu meistr gyda chyfoeth wedi ei ddwyn trwy drais a gormes.” “Ar y diwrnod hwnnw hefyd,” meddai'r ARGLWYDD, “bydd sŵn gweiddi wrth Giât y Pysgod, a sgrechian o ran newydd y ddinas; bydd twrw mawr yn dod o'r bryniau. Udwch, chi sy'n oedi yn y farchnad, achos bydd y masnachwyr wedi mynd, a'r rhai sy'n trin arian wedi eu taflu allan. Bryd hynny, bydda i'n chwilio drwy Jerwsalem gyda lampau, ac yn cosbi'r rhai sy'n hunanfodlon a di-hid, sy'n meddwl, ‘Fydd yr ARGLWYDD yn gwneud dim byd — na da na drwg.’ Bydd eu heiddo'n cael ei ddwyn, a'u tai yn cael eu chwalu. Maen nhw'n adeiladu tai newydd, ond gân nhw ddim byw ynddyn nhw. Maen nhw'n plannu gwinllannoedd ond gân nhw ddim yfed y gwin. ” Mae dydd barn yr ARGLWYDD yn agos; y dydd mawr — bydd yma'n fuan! Bydd sŵn chwerw i'w glywed y diwrnod hwnnw; sŵn milwyr cryf yn gweiddi crïo. Bydd yn ddydd i Dduw fod yn ddig. Bydd yn ddiwrnod o helynt a gofid; yn ddiwrnod o ddifrod a dinistr. Bydd yn ddiwrnod tywyll ofnadwy; diwrnod o gymylau duon bygythiol. Bydd sŵn y corn hwrdd, y bloeddio a'r brwydro yn bygwth y trefi caerog a'r tyrau amddiffynnol. “Am bod y bobl wedi digio'r ARGLWYDD bydda i'n achosi helbul iddyn nhw! — byddan nhw ar goll fel pobl ddall. Bydd eu gwaed yn cael ei dywallt fel llwch, a'u perfeddion ar wasgar fel tail. Fydd arian ac aur ddim yn eu harbed nhw ar y diwrnod pan fydd yr ARGLWYDD yn barnu. Bydd ei ddicter fel tân yn difa'r ddaear. Bydd dinistr llwyr a sydyn yn dod ar bawb drwy'r byd i gyd.” Dewch, casglwch at eich gilydd, y genedl sydd heb gywilydd. Dewch cyn i'r cwbl ddod yn wir, ac i'ch cyfle olaf ddiflannu fel us — Cyn i'r ARGLWYDD wylltio'n lân gyda chi; cyn i'w ddydd barn eich dal chi! Gofynnwch i'r ARGLWYDD eich helpu, chi sy'n cael eu cam-drin yn y wlad ac sy'n ufudd i'w orchmynion. Gwnewch beth sy'n iawn. Byddwch yn ostyngedig. Falle y cewch eich cuddio mewn lle saff ar y diwrnod pan fydd yr ARGLWYDD yn barnu. Bydd tref Gasa'n wag ac Ashcelon yn adfeilion. Bydd pobl Ashdod wedi eu gyrru i ffwrdd cyn canol dydd, a tref Ecron wedi ei bwrw i lawr. Gwae chi sy'n byw ar lan y môr — bobl Philistia ddaeth o Creta. Amdanat ti Canaan, wlad y Philistiaid, mae'r ARGLWYDD wedi dweud yn dy erbyn: “Bydda i'n dy ddinistrio, a fydd neb ar ôl!” Bydd yr arfordir yn dir pori — dolydd i fugeiliaid a chorlannau defaid. Bydd tir y glannau yn eiddo i'r bobl sydd ar ôl o Jwda; Nhw fydd yn pori yno ac yn cysgu'r nos yn nhai Ashcelon. Bydd yr ARGLWYDD eu Duw yn dod atyn nhw, a rhoi llwyddiant iddyn nhw eto. “Dw i wedi clywed Moab yn gwawdio a phobl Ammon yn enllibio — gwawdio fy mhobl, a bygwth eu ffiniau. Felly, mor sicr â'r ffaith mai fi ydy'r Duw byw,” —meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel. “Bydd Moab fel Sodom ac Ammon fel Gomorra! — yn llawn chwyn a phyllau halen, ac yn dir diffaith am byth. Bydd y rhai sydd ar ôl o'm pobl yn dwyn eu heiddo, a'r gweddill o'm gwlad yn cymryd eu tir.” Dyna fydd eu tâl am eu balchder, am wawdio a bygwth pobl yr ARGLWYDD holl-bwerus. Bydd yr ARGLWYDD yn eu dychryn, a bydd holl dduwiau'r ddaear yn ddim. Yna bydd pobl pob cenedl yn addoli'r ARGLWYDD yn eu gwledydd eu hunain. A chi, bobl dwyrain Affrica, bydd fy nghleddyf yn eich lladd chi. Bydd yr ARGLWYDD yn taro'r gogledd ac yn dinistrio Asyria. Bydd dinas Ninefe yn adfeilion; yn sych fel anialwch diffaith. Bydd pob math o anifeiliaid gwylltion yn gorwedd yn ei chanol. Bydd tylluanod yn clwydo yn ei hadfeilion, ac yn hwtian yn y ffenestri. Bydd rwbel ar bob rhiniog a'r waliau'n noeth am fod yr holl waith coed wedi ei rwygo allan. Dyna ddaw o'r ddinas llawn miri oedd yn ofni neb na dim! Roedd yn meddwl, “Fi ydy'r un! — Does neb tebyg i mi!” Ond fydd dim ond adfeilion ar ôl — lle i anifeiliaid gwyllt gael byw! Bydd pawb sy'n mynd heibio yn ei gwawdio a gwneud ystumiau arni. Mae ar ben ar y ddinas ystyfnig, lygredig, sy'n gormesu ei phobl! Mae'n gwrthod gwrando ar neb, na derbyn cyngor. Dydy hi ddim yn trystio'r ARGLWYDD nac yn gofyn am arweiniad ei Duw. Mae ei harweinwyr fel llewod yn rhuo yn ei chanol. Mae ei swyddogion fel bleiddiaid yn y nos yn lladd eu prae a gadael dim ar ôl erbyn y bore. Mae ei phroffwydi'n brolio ac yn twyllo. Mae ei hoffeiriaid yn llygru beth sy'n sanctaidd, ac yn torri Cyfraith Duw. Ac eto mae'r ARGLWYDD cyfiawn yn ei chanol. Dydy e'n gwneud dim sy'n annheg. Mae ei gyfiawnder i'w weld bob bore, mae mor amlwg a golau dydd. Ond does gan y rhai drwg ddim cywilydd. “Dw i wedi dinistrio gwledydd eraill a chwalu eu tyrau amddiffyn. Mae eu strydoedd yn wag heb neb yn cerdded arnyn nhw. Mae eu dinasoedd wedi eu difa. Does neb ar ôl, run enaid byw. Meddyliais, ‘Byddi'n fy mharchu i nawr, a derbyn y cyngor dw i'n ei roi i ti! A fydd dim rhaid i dy dai gael eu dinistrio gan y gosb roeddwn wedi ei fwriadu.’ Ond na, roedden nhw'n dal ar frys i wneud popeth sydd o'i le.” Felly mae'r ARGLWYDD yn datgan, “Arhoswch chi amdana i! Mae'r diwrnod yn dod pan fydda i'n codi ac yn ymosod. Dw i'n bwriadu casglu'r cenhedloedd at ei gilydd a tywallt fy nigofaint ffyrnig arnyn nhw. Bydd fy nicter fel tân yn difa'r ddaear!” “Yna bydda i'n rhoi geiriau glân i'r holl bobloedd, iddyn nhw i gyd addoli'r ARGLWYDD. A byddan nhw i gyd yn ufudd gyda'i gilydd. O'r tu draw i afonydd pell dwyrain Affrica bydd y rhai sy'n gweddïo arna i yn dod ag anrhegion i mi. Bryd hynny, Jerwsalem, fydd neb yn codi cywilydd arnat ti am yr holl bethau ti wedi'i gwneud yn fy erbyn i. Bydda i'n cael gwared â'r rhai balch sy'n brolio. Fydd neb yn ymffrostio ar fy mynydd cysegredig i. Bydda i'n gadael y rhai tlawd gafodd eu cam-drin yn dy ganol, a byddan nhw'n trystio'r ARGLWYDD. Fydd y rhai sydd ar ôl o Israel yn gwneud dim byd drwg, yn dweud dim celwydd nac yn twyllo. Byddan nhw fel defaid yn pori'n ddiogel ac yn gorwedd heb neb i'w dychryn.” Canwch yn llawen, bobl Seion! Gwaeddwch yn uchel bobl Israel! Byddwch lawen a gorfoleddwch â'ch holl galon, bobl Jerwsalem! Mae'r ARGLWYDD wedi cymryd y gosb i ffwrdd, ac yn cael gwared â dy elynion di. Bydd Brenin Israel yn dy ganol a fydd dim rhaid i ti fod ag ofn. Yr adeg hynny byddan nhw'n dweud wrth Jerwsalem, “Paid bod ag ofn, Seion! Paid anobeithio. Mae'r ARGLWYDD dy Dduw gyda ti, fel arwr i dy achub di. Bydd e wrth ei fodd gyda ti. Bydd yn dy fwytho gyda'i gariad, ac yn dathlu a chanu'n llawen am dy fod yn ôl.” “Bydda i'n casglu'r rhai sy'n galaru am y gwyliau, y rhai hynny mae'r cywilydd wedi bod yn faich arnyn nhw. Bryd hynny bydda i'n delio gyda'r rhai wnaeth dy gam-drin. Bydda i'n achub y defaid cloff ac yn casglu'r rhai gafodd eu gyrru ar chwâl. Bydd pobl drwy'r byd yn gwybod, ac yn eu canmol yn lle codi cywilydd arnyn nhw. Bryd hynny bydda i'n dod â chi'n ôl; bydda i'n eich casglu chi at eich gilydd. Byddwch chi'n enwog drwy'r byd i gyd, pan fydda i'n gwneud i chi lwyddo eto,” —meddai'r ARGLWYDD. Ar ddiwrnod cynta'r chweched mis o ail flwyddyn teyrnasiad y Brenin Dareius, dyma'r proffwyd Haggai yn rhoi'r neges yma gan yr ARGLWYDD i Serwbabel fab Shealtiel, llywodraethwr Jwda, a hefyd i Jehoshwa fab Iehotsadac, yr archoffeiriad: Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: “Mae'r bobl yma'n dweud, ‘Mae'n rhy fuan i ni ailadeiladu teml yr ARGLWYDD.’” A dyma'r proffwyd Haggai yn rhoi'r neges yma gan yr ARGLWYDD: “Ydy hi'n iawn eich bod chi'n byw yn eich tai crand, tra mae'r deml yma yn adfail? Felly dyma mae yr ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: ‘Meddyliwch am funud beth dych chi'n wneud! Dych chi wedi hau digon, ond bach iawn ydy'r cynhaeaf; dych chi'n bwyta, ond byth yn cael eich llenwi; dych chi'n yfed, ond heb gael eich bodloni; dych chi'n gwisgo dillad, ond yn methu cadw'n gynnes; mae fel petai'r cyflog mae pobl yn ei ennill yn mynd i bwrs sydd a thwll ynddo! Ie, meddyliwch am funud beth dych chi'n wneud!’ —meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus. ‘Ewch i'r bryniau a dod â coed yn ôl i adeiladu'r deml; bydd hynny'n fy mhlesio, a bydd pobl yn fy mharchu,’ meddai'r ARGLWYDD. ‘Roeddech chi'n disgwyl cnydau da, ond yn cael cnydau gwael. Roeddech chi'n ei gasglu, ond yna byddwn i'n ei chwythu i ffwrdd!’ —meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus. ‘Pam? — Am fod fy nhŷ i yn adfeilion, a chithau'n rhy brysur yn poeni amdanoch chi'ch hunain! Dyna pam mae'r awyr heb roi gwlith, a'r tir wedi peidio tyfu cnydau. Fi sydd wedi anfon sychder drwy'r wlad — ar y bryniau, ar yr ŷd a'r grawnwin a'r olewydd a phopeth arall sy'n tyfu o'r ddaear, ar bobl ac anifeiliaid, ac ar ffrwyth eich holl waith caled.’” Dyma Serwbabel fab Shealtiel, Jehoshwa fab Iehotsadac yr archoffeiriad, a phawb arall, yn gwneud beth roedd yr ARGLWYDD eu Duw yn ei ddweud, a gwrando ar neges Haggai, y proffwyd roedd e wedi ei anfon. Roedd y bobl yn parchu'r ARGLWYDD eto. Yna dyma Haggai, negesydd yr ARGLWYDD, yn rhoi neges arall gan Dduw i'r bobl, “‘Dw i gyda chi,’ meddai'r ARGLWYDD.” Dyma'r ARGLWYDD yn sbarduno Serwbabel fab Shealtiel, llywodraethwr Jwda a Jehoshwa fab Iehotsadac, yr archoffeiriad, a phawb arall hefyd: a dyma nhw'n bwrw iddi â'r gwaith o adeiladu teml eu Duw, yr ARGLWYDD holl-bwerus. Dechreuodd y gwaith ar y pedwerydd ar hugain o'r chweched mis. Yna ar yr unfed ar hugain o'r seithfed mis yn yr ail flwyddyn i'r Brenin Dareius deyrnasu, dyma'r proffwyd Haggai yn cael y neges yma gan yr ARGLWYDD: “Dos i siarad â Serwbabel fab Shealtiel, llywodraethwr Jwda, a'r archoffeiriad Jehoshwa fab Iehotsadac. Dywed wrthyn nhw, a phawb arall hefyd: ‘Pwy ohonoch chi yma welodd y deml fel roedd hi ers talwm, yn ei holl ysblander? A sut mae'n edrych i chi nawr? Dim byd o'i chymharu mae'n siŵr! Ond dal ati, Serwbabel. Dal ati, Jehoshwa fab Iehotsadac. A daliwch chithau ati, bawb’—meddai'r ARGLWYDD. ‘Daliwch ati i weithio, oherwydd dw i gyda chi’—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus. ‘Fel gwnes i addo i chi pan ddaethoch chi allan o wlad yr Aifft, mae fy Ysbryd yn dal gyda chi. Peidiwch bod ag ofn!’” “Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: ‘Unwaith eto, cyn bo hir, dw i'n mynd i ysgwyd y nefoedd a'r ddaear, y môr a'r tir. Bydda i'n ysgwyd y gwledydd i gyd. Byddan nhw'n dod ac yn cyflwyno eu trysorau, a bydda i'n llenwi'r deml yma â chyfoeth ac ysblander,’—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus. ‘Fi piau'r arian, a fi piau'r aur,’—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus. ‘Bydd y deml yma yn llawer harddach yn y dyfodol nag oedd hi o'r blaen,’—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus; ‘a bydda i'n dod â llwyddiant a heddwch i'r lle yma.’ Ydy, mae'r ARGLWYDD holl-bwerus wedi dweud.” Ar y pedwerydd ar hugain o'r nawfed mis yn yr ail flwyddyn i'r Brenin Dareius deyrnasu, cafodd y proffwyd Haggai y neges yma gan yr ARGLWYDD: Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: “Gofynnwch i'r offeiriaid am arweiniad o'r Gyfraith: ‘Os ydy rhywun yn cario cig anifail wedi ei aberthu wedi ei lapio yn ei fantell, a'r dilledyn hwnnw wedyn yn cyffwrdd â bara neu stiw, gwin, olew, neu rhyw fwyd arall, fydd e'n gwneud y bwydydd hynny'n gysegredig?’” Ateb yr offeiriaid oedd, “Na fydd.” A dyma Haggai yn gofyn wedyn, “Os ydy rhywun sy'n aflan am ei fod wedi cyffwrdd corff marw yn dod i gysylltiad â'r bwydydd hynny, fydd hynny'n gwneud y bwydydd yn aflan?” A dyma'r offeiriaid yn ateb, “Bydd.” Yna dyma Haggai yn dweud: “‘Mae'r un peth yn wir am y bobl yma a'r genedl yma,’ meddai'r ARGLWYDD, ‘a'u cynnyrch nhw i gyd. Mae popeth maen nhw'n ei offrymu yn aflan! “‘Meddyliwch sut roedd pethau cyn i'r gwaith o ailadeiladu teml yr ARGLWYDD ddechrau. Pan oedd rhywun yn disgwyl dau ddeg mesur o ŷd, doedd ond deg yno; ac os oedd rhywun eisiau codi hanner can mesur o win o'r cafn, doedd ond dau ddeg yno. Ro'n i'n eich cosbi chi drwy anfon gormod o wres, gormod o law neu genllysg ar eich cnydau, ond wnaethoch chi ddim troi ata i,’ meddai'r ARGLWYDD. “‘Meddyliwch sut mae pethau wedi bod ers y diwrnod pan gafodd y sylfaeni eu gosod i ailadeiladu teml yr ARGLWYDD, ie, hyd heddiw (y pedwerydd ar hugain o'r nawfed mis): Falle nad oes grawn yn yr ysgubor, ac nad ydy'r gwinwydd, y coed ffigys, y pomgranadau a'r coed olewydd wedi rhoi eu ffrwyth eto, ond o heddiw ymlaen dw i'n mynd i'ch bendithio chi.’” A dyma Haggai yn cael ail neges gan yr ARGLWYDD ar y pedwerydd ar hugain o'r mis: “Dywed hyn wrth Serwbabel, llywodraethwr Jwda: ‘Dw i'n mynd i ysgwyd y nefoedd a'r ddaear. Dw i'n mynd i chwalu gorseddau brenhinol a dinistrio grym llywodraethau'r gwledydd. Bydda i'n troi'r cerbydau rhyfel drosodd, gyda'i gyrrwyr. Bydd ceffylau rhyfel yn syrthio, a'u marchogion yn lladd ei gilydd. “‘Ar y diwrnod hwnnw,’—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus—‘bydda i'n dy gymryd di, Serwbabel fy ngwas, ac yn dy wneud di fel sêl-fodrwy. Dw i wedi dy ddewis di.’ Dyna mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud.” Yn yr wythfed mis o ail flwyddyn teyrnasiad y Brenin Dareius, dyma'r proffwyd Sechareia (mab Berecheia ac ŵyr i Ido) yn cael y neges yma gan yr ARGLWYDD: “Roedd yr ARGLWYDD wedi digio gyda'ch hynafiaid chi. Felly dywed wrth y bobl: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: Trowch yn ôl ata i, a bydda i'n troi atoch chi. Ie, dyna mae e'n ddweud. Peidiwch bod yr un fath â'ch hynafiaid, oedd yn cymryd dim sylw o gwbl pan oedd y proffwydi yn dweud wrthyn nhw fy mod i eisiau iddyn nhw stopio gwneud pethau drwg, meddai'r ARGLWYDD. A ble mae'ch hynafiaid chi bellach? Maen nhw a'r proffwydi wedi hen fynd! Ond daeth y cwbl ddywedais i fyddai'n digwydd iddyn nhw yn wir! Roedden nhw'n edifar wedyn, ac roedd rhaid iddyn nhw gyfaddef, “Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus wedi gwneud beth ddwedodd e, a dyna roedden ni'n ei haeddu.”’” Ar y pedwerydd ar hugain o fis un ar ddeg (sef mis Shebat ) yn ail flwyddyn teyrnasiad Dareius, dyma'r proffwyd Sechareia yn cael neges arall gan yr ARGLWYDD. Dwedodd Sechareia: Ces i weledigaeth yng nghanol y nos. Gwelais ddyn ar gefn ceffyl fflamgoch. Roedd e'n sefyll rhwng y llwyni myrtwydd yn y ceunant. Roedd ceffylau eraill tu ôl iddo — rhai fflamgoch, rhai llwyd a rhai gwyn. Roedd angel yna wrth ymyl, a dyma fi'n gofyn iddo, “Beth ydy ystyr hyn, syr?” A dyma fe'n ateb, “Gwna i ddangos i ti.” Yna dyma'r dyn oedd yn sefyll rhwng y llwyni myrtwydd yn siarad, a dweud, “Yr ARGLWYDD sydd wedi anfon y rhain i chwilio a gweld beth sy'n digwydd ar y ddaear.” A dyma'r marchogion eraill yn rhoi adroddiad i angel yr ARGLWYDD oedd yn sefyll rhwng y llwyni myrtwydd: “Dŷn ni wedi bod i edrych dros y ddaear gyfan, ac mae pobman dan reolaeth ac yn dawel.” Yna dyma angel yr ARGLWYDD yn gofyn, “ARGLWYDD holl-bwerus, rwyt ti wedi bod yn flin gyda Jerwsalem a threfi eraill Jwda ers saith deg o flynyddoedd bellach. Am faint mwy, cyn i ti i ddangos trugaredd atyn nhw?” A dyma'r ARGLWYDD yn ateb a dweud pethau caredig i gysuro'r angel oedd yn siarad â mi. A dyma'r angel yn troi ata i, a dweud wrtho i, “Cyhoedda fod yr ARGLWYDD holl-bwerus yn dweud, ‘Dw i'n teimlo i'r byw dros Jerwsalem a dros Seion. Ond dw i wedi digio go iawn gyda'r gwledydd hynny sydd mor gyfforddus a hunanfodlon! Oeddwn, roeddwn i yn ddig gyda'm pobl, ond aeth y rhain yn rhy bell gyda'i creulondeb! Felly, dw i'n mynd i droi'n ôl at Jerwsalem, a dangos trugaredd ati. Dw i'n mynd i adeiladu fy nheml yno eto. Bydd syrfëwr yn dod i fesur Jerwsalem unwaith eto.’ Ie, dyna mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud. Cyhoedda'n uchel eto beth ydy neges yr ARGLWYDD holl-bwerus: ‘Bydd y trefi'n fwrlwm o fywyd ac yn llwyddo. Bydd yr ARGLWYDD yn cysuro Seion, ac yn dangos eto ei fod wedi dewis Jerwsalem iddo'i hun,’” Pan edrychais eto, gwelais bedwar corn anifail. Dyma fi'n gofyn i'r angel oedd yn siarad â mi, “Beth ydy'r cyrn yma?” A dyma fe'n ateb, “Y cyrn yma ydy'r gwledydd pwerus wnaeth yrru Jwda, Israel a Jerwsalem ar chwâl.” Yna dyma'r ARGLWYDD yn dangos pedwar gof i mi. A dyma fi'n gofyn, “Beth mae'r rhain yn mynd i'w wneud?” A dyma fe'n ateb, “Y cyrn ydy'r gwledydd pwerus wnaeth yrru pobl Jwda ar chwâl, nes bod neb ar ôl. Ond mae'r gofaint wedi dod i ddychryn gelynion Jwda, a malu cyrn y gwledydd wnaeth ymosod arni a chwalu ei phobl i bob cyfeiriad.” Edrychais eto, a gweld dyn gyda llinyn mesur yn ei law. Gofynnais iddo, “Ble ti'n mynd?” A dyma fe'n ateb, “I fapio Jerwsalem, a mesur ei hyd a'i lled.” Yna dyma'r angel oedd wedi bod yn siarad â mi yn cerdded i ffwrdd, a daeth angel arall i'w gyfarfod. Dwedodd hwnnw wrtho, “Brysia! Dos i ddweud wrth y dyn ifanc yna y bydd dim waliau i Jerwsalem. Bydd cymaint o bobl ac anifeiliaid yn byw ynddi! Mae'r ARGLWYDD yn dweud, ‘Bydda i fy hun fel wal o dân o'i chwmpas, a bydd fy ysblander yn disgleirio o'i mewn hi.’” “Hei, dewch! Gallwch ddianc o dir y gogledd!” meddai'r ARGLWYDD. “Ro'n i wedi eich chwalu chi i bob cyfeiriad, i'r pedwar gwynt. Ond gallwch ddianc o Babilon a dod adre, bobl Seion!” Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: Ar ôl i'w ysblander ddod, bydd yn fy anfon i at y gwledydd wnaeth ymosod arnoch chi, i ddweud fod unrhyw un sy'n eich cyffwrdd chi yn cyffwrdd cannwyll ei lygad! “Dw i'n mynd i'w cosbi nhw mor galed, bydd eu caethion yn cymryd popeth oddi arnyn nhw!” meddai. Byddwch chi'n gwybod wedyn mai'r ARGLWYDD holl-bwerus sydd wedi fy anfon i. “Canwch a dathlwch, bobl Seion! Dw i'n dod i fyw yn eich canol chi,” meddai'r ARGLWYDD. “Bydd llawer o wledydd yn uniaethu â'r ARGLWYDD bryd hynny, a byddan nhw hefyd yn bobl i mi. Yn wir, bydda i'n byw yn eich canol chi i gyd.” Byddwch chi'n gwybod wedyn mai'r ARGLWYDD holl-bwerus sydd wedi fy anfon i atoch chi. Bydd yr ARGLWYDD yn cymryd Jwda fel ei ran arbennig e o'r wlad gysegredig, a bydd yn dewis Jerwsalem iddo'i hun unwaith eto. Ust! Pawb drwy'r byd, byddwch dawel o flaen yr ARGLWYDD! Mae e ar fin gweithredu eto o'r lle sanctaidd ble mae'n byw. Yna dangosodd i mi Jehoshwa yr archoffeiriad yn sefyll o flaen angel yr ARGLWYDD, ac roedd Satan ar yr ochr dde iddo yn ei gyhuddo. Ond dyma'r ARGLWYDD yn dweud, “Dw i'n dy geryddu di Satan! Dw i, yr ARGLWYDD, sydd wedi dewis Jerwsalem, yn dy geryddu di! Mae'r dyn yma fel darn o bren sydd wedi ei gipio allan o'r tân.” Roedd Jehoshwa'n sefyll o flaen yr angel, yn gwisgo dillad oedd yn hollol fochaidd. A dyma'r angel yn dweud wrth y rhai oedd o'i gwmpas, “Tynnwch y dillad ffiaidd yna oddi arno.” Yna dyma fe'n dweud wrth Jehoshwa, “Dw i wedi maddau dy bechodau di, a dw i'n mynd i dy arwisgo di mewn dillad hardd.” A dyma fi'n dweud, “Gad iddyn nhw roi twrban glân ar ei ben hefyd.” Felly dyma nhw'n rhoi twrban glân ar ei ben, a rhoi'r wisg amdano, tra roedd yr angel yn sefyll yno. Yna dyma angel yr ARGLWYDD yn siarsio Jehoshwa, a dweud wrtho, “Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: ‘Os gwnei di fyw fel dw i eisiau a gwneud dy ddyletswyddau, ti fydd yn gofalu am y deml a'r iard o'i chwmpas. Byddi'n cael rhyddid i fynd a dod o'm blaen i fel yr angylion sy'n sefyll yma. Felly gwrando Jehoshwa, a'r offeiriaid sy'n gweithio gyda ti — dych chi i gyd yn arwydd fy mod i am anfon fy ngwas, y Blaguryn. Am y garreg yma dw i'n ei gosod o flaen Jehoshwa (un garreg gyda saith wyneb iddi) — dw i'n mynd i grafu arni eiriau'r ARGLWYDD holl-bwerus, sy'n dweud y bydda i'n symud pechod o'r tir mewn un diwrnod.’ Ac meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus—‘Bryd hynny bydd pawb yn gwahodd ei gilydd i eistedd ac ymlacio dan ei winwydden a'i goeden ffigys. ’” Wedyn dyma'r angel oedd wedi bod yn siarad â mi yn dod yn ôl a'm hysgwyd, fel petai'n deffro rhywun oedd wedi bod yn cysgu. Gofynnodd i mi, “Beth wyt ti'n weld?” A dyma fi'n ateb, “Menora o aur pur, gyda powlen ar y top a saith lamp arni, a saith sianel yn rhedeg iddyn nhw. Ac roedd dwy goeden olewydd wrth ei hymyl — un bob ochr i'r powlen.” A dyma fi'n gofyn i'r angel oedd yn siarad â mi, “Beth ydy'r rhain, syr?” “Wyt ti wir ddim yn gwybod?” meddai'r angel. “Nac ydw, syr,” meddwn innau. Yna dwedodd wrtho i, “Dyma neges yr ARGLWYDD i Serwbabel: ‘Nid grym na chryfder sy'n llwyddo, ond fy Ysbryd i.’ Ie, dyna mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud. Fyddi di fynydd mawr yn ddim rhwystr i Serwbabel! Byddi fel tir gwastad! Bydd e'n dod â'r garreg olaf i'w gosod yn ei lle, i sŵn gweiddi, ‘Mae'n hyfryd! Mae'n hyfryd!’” Yna dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi: “Serwbabel wnaeth osod sylfaeni y deml yma, a bydd e'n gorffen y gwaith.” Byddwch chi'n gwybod wedyn mai'r ARGLWYDD holl-bwerus sydd wedi fy anfon i atoch chi. “Pwy wnaeth ddirmygu'r dechreuadau bach? Byddwch yn dathlu wrth weld y garreg â'r plât tin arni yn llaw Serwbabel! Felly mae'r saith lamp yn cynrychioli llygaid yr ARGLWYDD, sy'n gwylio popeth sy'n digwydd ar wyneb y ddaear.” A dyma fi'n gofyn i'r angel, “Beth ydy ystyr y ddwy goeden olewydd, un bob ochr i'r menora?” A gofynnais hefyd, “Beth ydy ystyr y ddau estyniad i'r coed olewydd sy'n tywallt olew euraid i'r sianeli?” “Wyt ti wir ddim yn gwybod beth ydyn nhw?” meddai. “Nac ydw, syr,” meddwn innau. A dyma fe'n dweud, “Maen nhw'n cynrychioli'r ddau ddyn sydd wedi eu heneinio i wasanaethu Duw, Meistr y ddaear gyfan.” Yna dyma fi'n edrych eto, a gweld sgrôl yn hedfan! Dyma'r angel yn gofyn i mi, “Beth wyt ti'n weld?” A dyma fi'n ateb, “Dw i'n gweld sgrôl yn hedfan. Mae'n anferth — tua naw metr o hyd, a pedwar metr a hanner o led!” A dyma fe'n dweud wrtho i, “Geiriau melltith sydd arni, ac mae'n mynd allan drwy'r wlad i gyd. Mae un ochr yn dweud y bydd unrhyw un sy'n dwyn yn cael ei daflu allan o'r gymuned. Mae'r ochr arall yn dweud y bydd yr un peth yn digwydd i'r rhai sy'n dweud celwydd. ” Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: “Dw i wedi anfon y felltith yma allan i gartref pob lleidr, a phawb sy'n defnyddio fy enw i wrth ddweud celwydd ar lw. Bydd y felltith yn dinistrio'r tŷ hwnnw'n llwyr — y coed a'r cerrig.” Yna dyma'r angel oedd yn siarad â mi yn camu ymlaen a dweud, “Edrych! Beth wyt ti'n ei weld yn mynd i ffwrdd?” “Beth ydy e?” meddwn i. “Casgen ydy hi,” meddai'r angel. “Mae'n cynrychioli drygioni pawb drwy'r wlad i gyd.” Yna dyma'r caead plwm oedd ar y gasgen yn cael ei godi, a dyna lle roedd gwraig yn eistedd yn y gasgen! A dyma'r angel yn dweud, “Mae'r wraig yma'n cynrychioli drygioni.” A dyma fe'n ei gwthio hi yn ôl i'r gasgen a slamio'r caead o blwm yn ôl i'w le. Yna dyma fi'n edrych eto, a gweld dwy wraig yn hedfan drwy'r awyr. (Roedd ganddyn nhw adenydd mawr fel crëyr.) Dyma nhw'n codi'r gasgen a hedfan i ffwrdd yn uchel i'r awyr. A dyma fi'n gofyn i'r angel, “I ble maen nhw'n mynd â'r gasgen?” A dyma fe'n ateb, “I wlad Babilonia, i adeiladu teml iddi. Pan fydd y deml yn barod, bydd y gasgen yn cael ei gosod ar bedestal yno.” Edrychais eto, a'r tro yma roedd pedwar cerbyd rhyfel yn dod i'r golwg rhwng dau fynydd — mynyddoedd o bres. Ceffylau fflamgoch oedd yn tynnu'r cerbyd cyntaf, ceffylau duon yr ail, ceffylau gwynion y trydydd, a cheffylau llwyd yr olaf. Roedden nhw i gyd yn geffylau rhyfel cryfion. Dyma fi'n gofyn i'r angel oedd yn siarad â mi, “Beth ydy'r rhain, syr?” A dyma'r angel yn ateb, “Dyma bedwar gwynt y nefoedd wedi eu hanfon allan gan Feistr y ddaear gyfan. Mae'r cerbyd gyda'r ceffylau duon yn mynd i gyfeiriad y gogledd, a'r rhai gwynion i'r gorllewin. Ac mae'r cerbyd gyda'r ceffylau llwyd yn mynd i'r de.” Roedd y ceffylau cryfion i'w gweld yn ysu i fynd allan ar batrôl drwy'r ddaear. A dyma'r Meistr yn dweud wrthyn nhw, “Ewch! Ewch allan ar batrôl drwy'r ddaear gyfan.” Felly i ffwrdd â nhw. Yna dyma fe'n galw arna i, “Edrych! Mae'r rhai sydd wedi mynd i dir y gogledd wedi tawelu fy ysbryd i yno.” Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi: “Mae Cheldai, Tobeia a Idaïa newydd ddod yn ôl o Babilon. Dos ar unwaith i dŷ Joseia fab Seffaneia, a derbyn y rhoddion mae'r bobl sy'n y gaethglud wedi ei anfon gyda nhw. Cymer arian ac aur i wneud coron frenhinol a'i gosod ar ben Jehoshwa fab Iehotsadac, yr archoffeiriad. Yna dywed wrtho, ‘Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn dweud, Edrych! Mae'r dyn sy'n cael ei alw y Blaguryn yn blaguro! Mae'n mynd i adeiladu teml yr ARGLWYDD. Ie, fe sy'n mynd i adeiladu teml yr ARGLWYDD! Bydd yn cael ei arwisgo, ac yn eistedd mewn ysblander fel brenin ar ei orsedd. A bydd offeiriad yn rhannu ei awdurdod, a'r ddau ohonyn nhw yn cytuno'n llwyr gyda'i gilydd. Yna bydd y goron yn cael ei chadw yn nheml yr ARGLWYDD i atgoffa Cheldai, Tobeia, Idaïa a Joseia fab Seffaneia. “‘Bydd pobl yn dod o bell i adeiladu teml yr ARGLWYDD. Byddwch chi'n gwybod wedyn mai'r ARGLWYDD holl-bwerus sydd wedi fy anfon i atoch chi. Bydd hyn i gyd yn digwydd os byddwch chi wir yn ufudd i'r ARGLWYDD eich Duw.’” Yn y bedwaredd flwyddyn o deyrnasiad y Brenin Dareius, ar y pedwerydd o fis Cislef (sef y nawfed mis), dyma'r ARGLWYDD yn rhoi neges i Sechareia. Roedd pobl Bethel wedi anfon Saretser a Regem-melech a'i ddynion i ofyn am fendith yr ARGLWYDD. Roedden nhw hefyd i fynd i deml yr ARGLWYDD holl-bwerus, a gofyn i'r offeiriaid a'r proffwydi, “Ddylen ni ddal i alaru ac ymprydio yn y pumed mis, fel dŷn ni wedi gwneud ar hyd y blynyddoedd?” Dyma fi'n cael neges gan yr ARGLWYDD holl-bwerus. “Dywed wrth bobl y wlad, a'r offeiriaid i gyd: ‘Dych chi wedi bod yn ymprydio ac yn galaru yn y pumed a'r seithfed mis ers saith deg mlynedd. Ond ydych chi wir wedi bod yn gwneud hynny i mi? Na, fel pan dych chi'n yfed a gwledda, dych chi'n ei wneud i blesio'ch hunain!’ Dyna'n union beth roedd yr ARGLWYDD yn ei ddweud drwy ei broffwydi bryd hynny, pan oedd Jerwsalem a'r pentrefi o'i chwmpas yn ffynnu, a pobl yn byw yn y Negef i'r de a'r iseldir yn y gorllewin.” A dyma Sechareia'n cael neges arall gan yr ARGLWYDD. “Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus wedi bod yn ei ddweud, ‘Byddwch yn deg bob amser, yn garedig a thrugarog at eich gilydd. Peidiwch cam-drin gwragedd gweddwon, plant amddifad, mewnfudwyr a phobl dlawd. A peidiwch bwriadu drwg i unrhyw un arall.’ “Ond doedden nhw'n cymryd dim sylw. Roedden nhw'n hollol benstiff, ac yn gwrthod yn lân a gwrando. Roedd eu calonnau'n galed fel diemwnt, nes eu bod yn gwrthod gwrando ar fy nysgeidiaeth, nac ar y negeseuon eraill roedd fy Ysbryd wedi eu rhoi i'r proffwydi cynnar yna eu cyhoeddi. A dyna pam wnaeth yr ARGLWYDD holl-bwerus dywallt ei lid arnyn nhw. “Dwedodd yr ARGLWYDD holl-bwerus. ‘Pan oeddwn i'n galw arnyn nhw, doedden nhw ddim yn gwrando. Felly pan fyddan nhw'n galw arna i, fydda i ddim yn gwrando chwaith. Yn lle hynny bydda i'n eu hysgubo nhw i ffwrdd mewn storm i wledydd dieithr.’ “A dyna pam mae'r wlad yma'n anial, heb neb yn mynd a dod ynddi. Nhw sydd wedi gwneud y tir hyfryd yma yn anialwch diffaith!” Dyma fi'n cael neges gan yr ARGLWYDD holl-bwerus: “Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn dweud, ‘Dw i'n teimlo i'r byw dros Seion. Dw i wedi gwylltio'n lân am beth maen nhw wedi ei wneud iddi.’ “Mae'r ARGLWYDD yn dweud, ‘Dw i'n dod yn ôl i Fynydd Seion, a bydda i'n byw yn Jerwsalem. Bydd Jerwsalem yn cael ei galw ‛Y Ddinas Ffyddlon‛, ‛Mynydd yr ARGLWYDD holl-bwerus‛, ‛Y Mynydd Cysegredig‛.’ “Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn dweud hefyd, ‘Bydd dynion a gwragedd mewn oed yn eistedd ar sgwariau Jerwsalem unwaith eto — pob un yn pwyso ar ei ffon am eu bod nhw mor hen. A bydd sgwariau'r ddinas yn llawn plant — bechgyn a merched yn chwarae'n braf. Falle fod y peth yn swnio'n amhosibl i'r criw bach ohonoch chi sydd yma nawr,’—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus—‘ond ydych chi'n meddwl ei fod yn amhosibl i mi?’ “Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: Dw i'n mynd i achub fy mhobl o wledydd y dwyrain a'r gorllewin, a dod â nhw'n ôl i Jerwsalem i fyw. Fy mhobl i fyddan nhw, a bydda i'n Dduw iddyn nhw. Bydda i'n ffyddlon ac yn deg â nhw. “Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: Dych chi'n clywed heddiw yr un peth gafodd ei ddweud gan y proffwydi pan gafodd sylfaeni teml yr ARGLWYDD holl-bwerus eu gosod i'w hadeiladu eto, sef, ‘Daliwch ati! Cyn hynny doedd pobl nac anifeiliaid yn ennill dim am eu gwaith! Doedd hi ddim yn saff i bobl fynd a dod. Ro'n i'n gwneud i bawb dynnu'n groes i'w gilydd. Ond nawr mae pethau'n mynd i fod yn wahanol i'r bobl yma sydd ar ôl,’—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus. ‘Bydd llonydd i bobl hau cnydau. Bydd ffrwyth yn tyfu ar y winwydden, a'r tir yn rhoi cnwd da. Bydd yr awyr yn rhoi glaw a gwlith i'r ddaear. Dyna sut fydd hi bob amser i'r bobl yma sydd ar ôl! O'r blaen, roeddech chi'n cael eich ystyried yn wlad wedi ei melltithio, Israel a Jwda. Ond dw i'n mynd i'ch achub chi, a byddwch chi'n amlwg yn bobl wedi eu bendithio. Peidiwch bod ag ofn! Daliwch ati!’ Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn dweud, ‘Fel roeddwn i am eich cosbi chi pan oedd eich hynafiaid yn fy ngwylltio i (a dyna'n union beth wnes i), dw i bellach am wneud pethau da i bobl Jerwsalem a Jwda — felly peidiwch bod ag ofn! “‘Dyma beth dw i eisiau i chi ei wneud: Dwedwch y gwir wrth eich gilydd. Hybu cyfiawnder a thegwch yn y llysoedd barn. Peidio bwriadu drwg i'ch gilydd. Peidio dweud celwydd ar lw. Dw i'n casáu pethau fel yna,’ meddai'r ARGLWYDD.” Dyma fi'n cael neges gan yr ARGLWYDD holl-bwerus: “Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn dweud, ‘Bydd y dyddiau o ympryd yn y pedwerydd, pumed, seithfed a degfed mis yn troi'n ddigwyddiadau hapus — yn bartïon i bobl Jwda ddathlu! Ond rhaid caru'r gwir a byw yn heddychlon!’ “Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn dweud, ‘Ryw ddydd, bydd pobl o bob man yn dod yma. Bydd pobl o un dref yn mynd i ddweud wrth dref arall, “Gadewch i ni droi at yr ARGLWYDD holl-bwerus, a gofyn iddo'n bendithio ni. Dewch gyda ni! Dŷn ni'n mynd!”’ Bydd lot o bobl wahanol, a gwledydd cryfion yn dod i Jerwsalem, ac yn gofyn i'r ARGLWYDD holl-bwerus eu bendithio nhw. “Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: Bryd hynny bydd deg o bobl o bob gwlad ac iaith yn gafael yn ymyl mantell Iddew, a dweud, ‘Gad i ni fynd gyda chi. Dŷn ni wedi clywed fod Duw gyda chi! ’” Y neges roddodd yr ARGLWYDD am ardal Chadrach, yn arbennig tref Damascus. (Mae llygad yr ARGLWYDD ar y ddynoliaeth fel mae ar lwythau Israel i gyd.) Ac am Chamath, sy'n ffinio gyda Damascus, a Tyrus a Sidon hefyd, sy'n meddwl ei bod mor glyfar. Mae Tyrus wedi gwneud ei hun mor gryf ac mor gyfoethog — mae wedi pentyrru arian fel pridd, ac aur fel baw ar y strydoedd! Ond bydd y Meistr yn cymryd y cwbl, ac yn suddo ei llongau yn y môr. Bydd tref Tyrus yn cael ei llosgi'n ulw! Bydd Ashcelon yn gweld hyn ac yn dychryn. Bydd Gasa yn gwingo mewn ofn; ac Ecron hefyd wedi anobeithio'n llwyr. Bydd brenin Gasa yn cael ei ladd, a fydd neb ar ôl yn Ashcelon. A bydd pobl o dras cymysg yn setlo yn Ashdod. Dw i'n mynd i dorri crib y Philistiaid! Yna wnân nhw byth eto fwyta dim gyda gwaed ynddo, na chig wedi ei aberthu i eilun-dduwiau. Bydd y rhai sydd ar ôl yn Philistia yn dod i gredu yn ein Duw — byddan nhw fel un o deuluoedd Jwda. A bydd pobl Ecron fel y Jebwsiaid. Bydda i'n gwersylla o gwmpas y deml, i'w hamddiffyn rhag y byddinoedd sy'n mynd a dod. Fydd neb yn ymosod ar fy mhobl i'w gormesu nhw byth eto. Dw i fy hun yn gofalu amdanyn nhw. Dathlwch bobl Seion! Gwaeddwch yn llawen, bobl Jerwsalem! Edrych! Mae dy frenin yn dod. Mae e'n gyfiawn ac yn achub; Mae'n addfwyn ac yn marchogaeth ar asyn, ie, ar ebol asen. Bydda i'n symud y cerbydau rhyfel o Israel, a mynd â'r ceffylau rhyfel i ffwrdd o Jerwsalem. Bydd arfau rhyfel yn cael eu dinistrio! Yna bydd y brenin yn cyhoeddi heddwch i'r gwledydd. Bydd yn teyrnasu o fôr i fôr, ac o'r Afon Ewffrates i ben draw'r byd! Yna chi, fy mhobl — oherwydd yr ymrwymiad rhyngon ni, wedi ei selio â gwaed — dw i'n mynd i ryddhau eich carcharorion o'r pydew oedd heb ddŵr ynddo. Dewch adre i'r gaer ddiogel, chi garcharorion — mae gobaith! Dw i'n cyhoeddi heddiw eich bod i gael popeth gollwyd yn ôl — dwywaith cymaint! Jwda ydy'r bwa dw i'n ei blygu, ac Israel ydy'r saeth. Bydda i'n codi dy bobl di, Seion, yn erbyn gwlad Groeg. Bydd Seion fel cleddyf rhyfelwr yn fy llaw. Yna bydd yr ARGLWYDD i'w weld uwchben ei bobl, a'i saeth yn tanio fel mellten. Bydd y Meistr, yr ARGLWYDD, yn chwythu'r corn hwrdd, ac yn ymosod fel gwynt stormus o'r de. Bydd yr ARGLWYDD holl-bwerus yn amddiffyn ei bobl. Byddan nhw'n concro'r gelyn gyda ffyn tafl, ac yn gwledda a dathlu fel meddwon. Bydd fel y gwaed o bowlen yr aberth yn cael ei sblasio ar gyrn yr allor. Bryd hynny, bydd yr ARGLWYDD eu Duw yn eu hachub, am mai nhw ydy praidd ei bobl. Byddan nhw'n disgleirio ar ei dir fel cerrig gwerthfawr mewn coron — Mor werthfawr! Mor hardd! Bydd ŷd a sudd grawnwin yn gwneud y dynion a'r merched ifanc yn gryf. Gofynnwch i'r ARGLWYDD am law adeg tymor cawodydd y gwanwyn — yr ARGLWYDD sy'n anfon y stormydd. Bydd yn anfon cawodydd trwm o law a bydd digon o gnydau yn tyfu i bawb. Mae eilun-ddelwau teuluol yn camarwain pobl, a'r rhai sy'n dweud ffortiwn yn twyllo — mae eu breuddwydion yn ffals, a'u cysur yn ddiwerth. Felly mae'r bobl yn crwydro fel defaid, heb fugail i'w hamddiffyn. “Dw i wedi gwylltio'n lân gyda ‛bugeiliaid‛ y gwledydd, ac yn mynd i'w cosbi nhw — y ‛bychod‛ sydd ar y blaen!” Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn mynd i ofalu am ei braidd, sef pobl Jwda, a'u gwneud nhw fel ceffylau rhyfel cryfion. Ohonyn nhw y daw y garreg sylfaen, Ohonyn nhw daw'r peg i ddal y babell, Ohonyn nhw daw'r bwa rhyfel, Ohonyn nhw daw pob arweinydd cryf. Byddan nhw fel milwyr dewr mewn brwydr yn martsio drwy'r mwd ar faes y gâd. Am fod yr ARGLWYDD gyda nhw, byddan nhw'n ymladd ac yn curo cafalri'r gelyn. “Dw i'n mynd i wneud teyrnas Jwda'n gryf, ac achub pobl Israel. Dw i'n mynd i ddod â nhw'n ôl a dangos trugaredd atyn nhw — bydd fel petawn i erioed wedi eu gwrthod nhw. Fi ydy'r ARGLWYDD eu Duw nhw, a dw i'n mynd i'w hateb nhw. Bydd pobl Israel fel milwyr dewr yn dathlu fel petaen nhw wedi meddwi. Bydd eu plant mor hapus wrth weld hynny, ac yn gorfoleddu yn yr ARGLWYDD. Dw i'n mynd i chwibanu i'w casglu nhw at ei gilydd — dw i'n eu gollwng nhw'n rhydd! Bydd cymaint ohonyn nhw ag o'r blaen. Er i mi eu gwasgaru drwy'r gwledydd, byddan nhw'n meddwl amdana i mewn mannau pell — a byddan nhw a'u plant yn dod yn ôl Bydda i'n dod â nhw yn ôl o'r Aifft, ac yn eu casglu nhw o Asyria; mynd â nhw i dir Gilead a Libanus, a fydd hyd yn oed hynny ddim digon o le. Byddan nhw'n croesi'r môr stormus, a bydd e'n tawelu'r tonnau. Bydd dŵr dwfn yr Afon Nil yn sychu, balchder Asyria'n cael ei dorri, a'r Aifft yn rheoli ddim mwy. Bydda i'n gwneud fy mhobl yn gryf, a byddan nhw'n byw fel dw i'n dweud,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. Agor dy giatiau, Libanus, a bydd tân yn llosgi dy goed cedrwydd. Bydd y coed pinwydd yn udo, am fod y coed cedrwydd wedi syrthio — mae'r coed mawreddog wedi eu difrodi. Bydd coed derw Bashan yn udo, am fod y goedwig drwchus wedi ei thorri i lawr. Gwrandwch ar y bugeiliaid yn udo — am fod y borfa odidog wedi ei difetha! Gwrandwch ar y llewod ifanc yn rhuo — am fod coedwig yr Iorddonen wedi ei difa! Dyma mae'r ARGLWYDD fy Nuw yn ei ddweud: “Bugeilia'r praidd sydd i fynd i'r lladd-dy. Mae'r rhai sy'n eu prynu yn eu lladd heb deimlo unrhyw gywilydd. Mae'r rhai sy'n eu gwerthu yn diolch i'r ARGLWYDD am eu gwneud nhw'n gyfoethog. A dydy'r bugeiliaid yn poeni dim amdanyn nhw. Ac o hyn ymlaen, fydda i'n poeni dim am bobl y wlad yma,” meddai'r ARGLWYDD. “Bydda i'n eu troi nhw yn erbyn ei gilydd, a rhoi pob un yng ngafael ei frenin. Bydd y rheiny'n dod â dinistr i'r wlad, a fydda i'n achub neb o'u gafael.” Felly dyma fi'n bugeilio'r praidd oedd i fynd i'r lladd-dy ar ran y masnachwyr. Cymerais ddwy ffon, a galw un yn ‛Haelioni‛ a'r llall yn ‛Undod‛. Yna es i fugeilio'r praidd a sacio'r tri bugail mewn un mis. Roeddwn wedi colli pob amynedd gyda'r masnachwyr, a doedd ganddyn nhw ddim parch ata i chwaith. Yna dyma fi'n dweud wrthyn nhw, “Dw i ddim am ofalu am y praidd i chi! Y rhai sydd i farw, cân nhw farw. Y rhai sydd i fynd ar goll, cân nhw fynd ar goll. A'r rhai fydd yn dal yn fyw, cân nhw fwyta cnawd ei gilydd!” Yna dyma fi'n cymryd fy ffon ‛Haelioni‛, a'i thorri, i ddangos fod yr ymrwymiad wnes i gyda phobl Israel i gyd wedi ei ganslo. Cafodd ei ganslo y diwrnod hwnnw, ac roedd y masnachwyr oedd yn fy ngwylio i yn gwybod fod hyn yn neges gan yr ARGLWYDD. Yna dyma fi'n dweud wrthyn nhw, “Os ydych chi'n fodlon, rhowch fy nghyflog i mi. Os na, anghofiwch am y peth.” Felly dyma nhw'n talu tri deg darn arian yn gyflog i mi. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Tafla eu harian ‛hael‛ nhw i'r trysordy!” Dyna'r cwbl roedden nhw'n meddwl oeddwn i'n werth! Felly dyma fi'n rhoi'r arian i drysordy teml yr ARGLWYDD. Yna dyma fi'n cymryd y ffon arall, ‛Undod‛, a thorri honno, i ddangos fod y berthynas rhwng Jwda ac Israel wedi darfod. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Cymer offer bugail eto — bugail da i ddim. Dw i'n rhoi arweinydd i'r wlad yma — bugail fydd yn poeni dim am y defaid sy'n marw, nac yn mynd i chwilio am y rhai sydd wedi crwydro. Fydd e ddim yn iacháu'r rhai sydd wedi eu hanafu, nac yn bwydo'r rhai iach. Ond bydd yn bwyta cig yr ŵyn gorau, a thorri eu carnau i ffwrdd. Mae ar ben ar fy mugail diwerth sy'n troi cefn ar y praidd! Bydd cleddyf yn taro ei fraich ac yn anafu ei lygad dde. Bydd yn colli defnydd o'i fraich, ac yn cael ei ddallu yn ei lygad dde!” Y neges roddodd yr ARGLWYDD am Israel — ie, neges gan yr ARGLWYDD, Yr Un wnaeth ledu'r awyr a gosod sylfaeni'r ddaear, a rhoi anadl bywyd i bobl. “Dw i'n mynd i wneud Jerwsalem yn gwpan feddwol. Bydd yn gwneud i'r gwledydd o'i chwmpas feddwi'n gaib pan fyddan nhw'n ymosod arni hi a Jwda. “Bryd hynny bydda i'n gwneud Jerwsalem yn garreg enfawr rhy drwm i'r gwledydd ei chario. Bydd pawb sy'n ceisio ei symud yn gwneud niwed difrifol iddyn nhw eu hunain! Bydd y gwledydd i gyd yn dod yn ei herbyn.” “Bryd hynny,” meddai'r ARGLWYDD, “bydda i'n gwneud i'r ceffylau rhyfel ddrysu'n llwyr, ac yn gyrru'r marchogion i banig. Bydda i'n gwylio Jwda'n ofalus. Bydd fel petai ceffylau'r gelynion i gyd yn ddall! Yna bydd arweinwyr Jwda yn sylweddoli mai cryfder pobl Jerwsalem ydy eu Duw, yr ARGLWYDD holl-bwerus. “Bryd hynny bydda i'n gwneud arweinwyr Jwda fel padell dân mewn pentwr o goed, neu ffagl yn llosgi mewn tas wair. Byddan nhw'n llosgi'r gwledydd sydd o'u cwmpas. A bydd pobl Jerwsalem yn setlo i lawr unwaith eto yn eu cartref, dinas Jerwsalem. Bydd yr ARGLWYDD yn rhoi buddugoliaeth i fyddin Jwda gyntaf, fel bod arweinwyr Jerwsalem a llinach frenhinol Dafydd ddim yn cael mwy o anrhydedd na phobl gyffredin Jwda. “Bryd hynny bydd yr ARGLWYDD ei hun yn amddiffyn pobl Jerwsalem. Bydd y person gwannaf yn eu plith fel y Brenin Dafydd ei hun, a bydd y teulu brenhinol fel Duw, neu angel yr ARGLWYDD yn mynd o'u blaenau. “Bryd hynny bydda i'n mynd ati i ddinistrio'r gwledydd sy'n ymosod ar Jerwsalem! Bydda i'n tywallt ar deulu brenhinol Dafydd a phobl Jerwsalem awydd i brofi haelioni Duw a'i faddeuant. Wrth edrych arna i, yr un maen nhw wedi ei drywanu, byddan nhw'n galaru fel mae pobl yn galaru am eu hunig fab. Byddan nhw'n wylo'n chwerw, fel rhieni'n wylo ar ôl colli eu hunig blentyn neu eu mab hynaf. “Bryd hynny, bydd sŵn y galaru yn Jerwsalem fel y galaru yn Hadad-rimmon ar wastatir Megido. [12-13] Bydd y wlad i gyd yn galaru, pob clan ar wahân, a'r dynion a'r gwragedd yn galaru ar wahân — teulu brenhinol Dafydd, a'u gwragedd ar wahân; teulu Nathan, a'u gwragedd ar wahân; teulu Lefi, a'u gwragedd ar wahân; teulu Shimei, a'u gwragedd ar wahân; *** a phob clan arall oedd ar ôl — pob teulu yn galaru ar eu pennau eu hunain, a'u gwragedd yn galaru ar eu pennau eu hunain.” “Bryd hynny bydd ffynnon wedi ei hagor bob amser i deulu brenhinol Dafydd a phobl Jerwsalem, i'w glanhau o bechod ac aflendid.” “Bryd hynny hefyd,”—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus—“dw i'n mynd i gael gwared â'r eilunod o'r tir. Fydd neb yn cofio eu henwau nhw hyd yn oed. A bydda i hefyd yn cael gwared â'r proffwydi ffals a'r ysbrydion aflan o'r tir. Wedyn os bydd rhywun yn proffwydo, bydd ei dad a'i fam yn dweud wrtho, ‘Rhaid i ti farw! Ti'n honni siarad ar ran yr ARGLWYDD, ond yn proffwydo celwydd!’ A bydd ei dad a'i fam yn ei drywanu i farwolaeth. “Bryd hynny bydd gan broffwyd gywilydd o'i weledigaethau, a bydd yn ceisio cuddio'r gwir drwy stopio gwisgo clogyn blewog proffwydi. Bydd yn gwadu popeth a dweud, ‘Fi? Dw i ddim yn broffwyd. Dw i wedi bod yn gweithio fel gwas ar y tir es pan oeddwn i'n ifanc.’ Yna bydd rhywun yn gofyn iddo, ‘Felly, beth ydy'r creithiau yna ar dy frest di?’ A bydd yn ateb, ‘Ces fy anafu yn nhŷ ffrindiau.’” Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud, “Deffra gleddyf! Ymosod ar fy mugail, y dyn sy'n agos ata i. Taro'r bugail, a bydd y praidd yn mynd ar chwâl. Bydda i'n taro'r rhai bach hefyd. Dyna fydd yn digwydd drwy'r wlad i gyd,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Bydd dwy ran o dair yn cael eu lladd, gan adael un rhan o dair ar ôl. A bydda i'n arwain y rheiny trwy dân, i'w puro fel mae arian yn cael ei buro, a'i profi fel mae aur yn cael ei brofi. Byddan nhw'n galw ar fy enw i, a bydda i'n ateb. Bydda i'n dweud, ‘Fy mhobl i ydy'r rhain,’ a byddan nhw'n dweud, ‘Yr ARGLWYDD ydy ein Duw ni.’” Mae dydd yr ARGLWYDD yn dod, pan fydd eich eiddo i gyd yn cael ei gymryd a'i rannu o'ch blaen chi. Dw i'n mynd i gasglu'r gwledydd at ei gilydd i ryfel yn erbyn Jerwsalem. Bydd y ddinas yn cael ei choncro, eich cartrefi'n cael eu gwagio, a'ch gwragedd yn cael eu treisio. Bydd hanner y boblogaeth yn cael eu cymryd i ffwrdd yn gaethion, ond yr hanner arall yn aros yn y ddinas. Ond yna bydd yr ARGLWYDD yn mynd allan i ymladd yn erbyn y gwledydd hynny, fel gwnaeth e ymladd yn y gorffennol. Bryd hynny bydd e'n sefyll ar Fynydd yr Olewydd i'r dwyrain o Jerwsalem. A bydd Mynydd yr Olewydd yn hollti o'r dwyrain i'r gorllewin, gan adael dyffryn llydan. Bydd hanner y mynydd yn symud tua'r gogledd, a hanner tua'r de. A byddwch chi'n dianc ar hyd y dyffryn yma yr holl ffordd i Atsel, fel gwnaethoch chi ddianc adeg y daeargryn pan oedd Wseia'n frenin ar Jwda. Yna bydd fy ARGLWYDD Dduw yn dod, a'i angylion sanctaidd gydag e. Bryd hynny fydd dim golau — bydd y sêr disglair yn rhewi. Bydd yn ddiwrnod unigryw. Yr ARGLWYDD sy'n gwybod pryd. Fydd dim dydd na nos; ac eto bydd hi'n dal yn olau gyda'r nos. Bryd hynny hefyd bydd dŵr glân croyw yn llifo allan o Jerwsalem — ei hanner yn llifo i'r dwyrain, i'r Môr Marw, a'r hanner arall i'r gorllewin, i Fôr y Canoldir. Bydd yn llifo rownd y flwyddyn, haf a gaeaf. A bydd yr ARGLWYDD yn frenin dros y byd i gyd. Yr ARGLWYDD fydd yr unig un, a'i enw e fydd yn cael ei addoli. Bydd y tir i gyd (o Geba i Rimmon, sydd i'r de o Jerwsalem) yn cael ei droi yn wastatir. Ond bydd Jerwsalem gyfan yn sefyll yn uchel yn ei lle — o Giât Benjamin i safle'r Giât gyntaf ac yna ymlaen at Giât y Gornel, ac o Dŵr Chanan-el i'r cafnau gwin brenhinol. Bydd pobl yn byw yno, a fydd y ddinas byth eto'n cael ei melltithio a'i dinistrio. Bydd Jerwsalem yn hollol saff. Ond bydd yr ARGLWYDD yn anfon pla i daro'r gwledydd hynny wnaeth ymosod ar Jerwsalem: Bydd eu cyrff yn pydru tra byddan nhw'n dal ar eu traed. Bydd eu llygaid yn pydru'n eu pennau. Bydd eu tafodau'n pydru'n eu cegau. Bryd hynny bydd yr ARGLWYDD yn achosi panig llwyr yn eu plith. Byddan nhw'n ymladd ei gilydd! Bydd hyd yn oed Jwda yn ymuno yn y ffrwgwd! A bydd cyfoeth y gwledydd yn cael ei gasglu i Jerwsalem — aur, arian a llwythi o ddillad. Bydd pla yn taro'r anifeiliaid yng ngwersylloedd y gelyn — bydd eu ceffylau, mulod, camelod, asynnod, a'r anifeiliaid eraill i gyd yn cael eu taro gan bla. Yna bydd pawb fydd yn dal yn fyw (o'r gwledydd hynny wnaeth ymosod ar Jerwsalem) yn mynd i Jerwsalem bob blwyddyn i addoli'r Brenin, yr ARGLWYDD holl-bwerus, ac i ddathlu Gŵyl y Pebyll. Ac os bydd unrhyw grŵp o bobl drwy'r byd i gyd yn gwrthod mynd i Jerwsalem i addoli'r Brenin, yr ARGLWYDD holl-bwerus, fyddan nhw'n cael dim glaw. Os bydd yr Eifftiaid yn gwrthod mynd, fyddan nhw'n cael dim glaw. Bydd yr ARGLWYDD yn eu taro nhw gyda'r plâu mae'n eu hanfon ar y gwledydd hynny sy'n gwrthod mynd i ddathlu Gŵyl y Pebyll. Dyna sut bydd yr Aifft ac unrhyw wlad arall sy'n gwrthod mynd i ddathlu'r Ŵyl, yn cael eu cosbi. Bryd hynny bydd y geiriau “Wedi ei gysegru i'r ARGLWYDD” i'w gweld ar glychau harnais ceffylau. Bydd y crochanau i ferwi cig yn y Deml yr un mor gysegredig â'r powlenni taenellu o flaen yr allor. Bydd pob crochan yn Jerwsalem a Jwda wedi ei gysegru i'r ARGLWYDD holl-bwerus. Bydd y bobl sy'n dod i aberthu yn gallu eu defnyddio i ferwi cig yr aberthau ynddyn nhw. A bryd hynny fydd dim marchnatwyr yn nheml yr ARGLWYDD holl-bwerus. Y neges roddodd yr ARGLWYDD i Israel trwy Malachi. “Dw i wedi'ch caru chi,” meddai'r ARGLWYDD. Ond dych chi'n gofyn, “Sut wyt ti wedi dangos dy gariad aton ni?” Ac mae'r ARGLWYDD yn ateb, “Onid oedd Esau'n frawd i Jacob? Dw i wedi caru Jacob ond gwrthod Esau. Dw i wedi gwneud ei fryniau yn ddiffeithwch; a'i dir yn gartre i siacaliaid yr anialwch.” Mae Edom yn dweud, “Mae'n trefi wedi eu chwalu, ond gallwn ailadeiladu'r adfeilion.” Ond dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: “Gallan nhw adeiladu, ond bydda i yn bwrw i lawr! Byddan nhw'n cael eu galw yn wlad ddrwg, ac yn bobl mae'r ARGLWYDD wedi digio hefo nhw am byth.” Cewch weld y peth drosoch eich hunain, a byddwch yn dweud, “Yr ARGLWYDD sy'n rheoli, hyd yn oed y tu allan i ffiniau Israel!” “Mae mab yn parchu ei dad a chaethwas yn parchu ei feistr. Os dw i'n dad, ble mae'r parch dw i'n ei haeddu? Ac os ydw i'n feistr, pam nad ydw i'n cael fy mharchu?” —meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus. “Dych chi offeiriaid yn dangos dim ond dirmyg tuag ata i!” “Sut ydyn ni wedi dy ddirmygu di?” meddech chi. “Trwy offrymu bwyd sy'n halogi fy allor i.” “Sut ydyn ni wedi ei halogi?” meddech chi wedyn. “Trwy feddwl, ‘Sdim ots mai bwrdd yr ARGLWYDD ydy e.’” Pan dych chi'n cyflwyno anifail dall i'w aberthu, ydy hynny ddim yn ddrwg? Pan dych chi'n cyflwyno anifail cloff neu sâl, ydy hynny ddim yn ddrwg? Rhowch e i lywodraethwr y wlad! Fyddai e'n cael ei blesio? Fyddai e'n garedig atoch chi? —meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus. Nawr, ceisiwch ofyn am fendith Duw! Fydd e'n garedig atoch chi? Os mai offrymau fel yma dych chi'n eu rhoi iddo, fydd e'n garedig atoch chi? Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn dweud: “O na fyddai un ohonoch chi'n cloi giatiau'r deml, fel ei bod hi'n amhosib i roi tân ar fy allor — y cwbl i ddim pwrpas!” “Dw i ddim yn hapus hefo chi o gwbl,” —meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus— “a dw i ddim yn mynd i dderbyn eich offrwm chi! O un pen o'r byd i'r llall, bydd fy enw'n cael ei barchu drwy'r gwledydd i gyd! Bydd arogldarth ac offrwm pur yn cael ei gyflwyno i mi ym mhobman. Bydd fy enw'n cael ei barchu drwy'r gwledydd i gyd!” —meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus. “Ond dych chi'n dangos dirmyg tuag ata i wrth feddwl, ‘Does dim byd sbesial am fwrdd y Meistr; pa wahaniaeth beth sy'n cael ei roi arno?’ ‘Pam boddran?’ meddech chi, ac wfftio'r cwbl;” —meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus— “ac yna dod ag anifeiliaid wedi eu dwyn, rhai cloff, a rhai sâl, a cyflwyno'r rheiny'n offrwm i mi! Ydw i wir i fod i'w derbyn nhw gynnoch chi?” —yr ARGLWYDD sy'n gofyn. “Melltith ar y twyllwr sy'n addo hwrdd perffaith o'i braidd, ac yna'n rhoi un gwael yn aberth i mi! Dw i yn Frenin mawr” —meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus— “ac mae parch ata i drwy'r gwledydd i gyd.” Nawr, chi offeiriaid, dyma orchymyn i chi: “Os wnewch chi ddim gwrando a phenderfynu dangos parch tuag ata i,” —meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus— “bydda i'n dod â'r felltith arnoch chi, ac yn troi eich bendithion chi yn felltith. (Yn wir, dw i wedi gwneud hynny, am eich bod chi ddim o ddifrif.) Bydda i'n ceryddu eich disgynyddion, a rhwbio eich wyneb yn y perfeddion — perfeddion aberthau eich gwyliau crefyddol, a byddwch yn cael eich taflu allan gyda nhw! Byddwch yn gwybod wedyn mai fi roddodd y gorchymyn hwn i chi, fod fy ymrwymiad gyda Lefi i'w gadw,” —meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus. “Roeddwn wedi ymrwymo i roi bywyd a heddwch iddo. Dyna rois i iddo, ac roedd e i fod i'm parchu ac ymostwng o'm blaen i. Roedd i ddysgu'r gwir, a doedd e ddim i dwyllo; Roedd i fyw yn gwbl ufudd i mi, ac i droi llawer o bobl oddi wrth ddrwg. Roedd geiriau offeiriad i amddiffyn y gwir, a'r hyn mae'n ei ddysgu i roi arweiniad i bobl; gan ei fod yn negesydd i'r ARGLWYDD holl-bwerus. Ond dych chi wedi troi cefn ar y ffordd iawn; dych chi wedi dysgu pethau sydd wedi gwneud i lawer o bobl faglu. Dych chi wedi llygru'r ymrwymiad gyda Lefi,” —meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus. “Felly dw i'n mynd i'ch gwneud chi'n rai sy'n cael eu diystyru a'u bychanu gan bawb, am nad ydych chi wedi bod yn ffyddlon i mi, a dydy'ch dysgeidiaeth chi ddim wedi bendithio pobl.” Onid un tad sydd gynnon ni i gyd? Onid yr un Duw wnaeth ein creu ni? Felly pam ydyn ni'n anffyddlon i'n gilydd ac yn torri ymrwymiad ein tadau? Mae pobl Jwda wedi bod yn anffyddlon, ac wedi gwneud pethau ffiaidd yn Israel a Jerwsalem. Maen nhw wedi halogi'r lle sanctaidd mae'r ARGLWYDD yn ei garu, drwy briodi merched sy'n addoli duwiau eraill. Boed i'r ARGLWYDD daflu allan o bebyll Jacob bob un sy'n gwneud y fath beth, ac yna'n cyflwyno offrwm i'r ARGLWYDD holl-bwerus. A dyma beth arall dych chi'n ei wneud: Dych chi'n gorchuddio allor yr ARGLWYDD gyda'ch dagrau, wrth wylo a chwyno am nad ydy e'n cymryd sylw o'ch offrwm chi ddim mwy, ac yn gwrthod derbyn eich rhodd. “Ond pam?” meddech chi. Am fod yr ARGLWYDD yn dyst i'r addewidion wnest ti i dy wraig pan briodaist. Ti wedi bod yn anffyddlon iddi er mai hi ydy dy gymar di, a'r un wnest ti ymrwymo iddi drwy briodas. Oni wnaeth Duw chi'n un? Gwnaeth chi'n un cnawd ac ysbryd. A beth sydd gan Dduw eisiau o'r undod? Onid plant duwiol? Felly gwyliwch eich hunain! Ddylai neb fod yn anffyddlon i'r wraig briododd pan yn ifanc. “Dw i'n casáu ysgariad,” —meddai'r ARGLWYDD, Duw Israel— “a'r rhai sy'n euog o drais,” —meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus. Felly gwyliwch eich hunain! Ddylai neb fod yn anffyddlon. Dych chi wedi blino'r ARGLWYDD â'ch holl siarad. “Sut ydyn ni wedi ei flino fe?” meddech chi, Trwy ddweud, “Mae pawb sy'n gwneud drwg yn dda yng ngolwg yr ARGLWYDD — mae wrth ei fodd gyda nhw!” neu trwy ofyn, “Ble mae'r Duw cyfiawn yma?” “Edrychwch, dw i'n anfon fy negesydd, a bydd e'n paratoi'r ffordd ar fy nghyfer i. Ac yn sydyn, bydd y Meistr dych chi'n ei geisio yn dod i'w deml. Ydy, mae angel yr ymrwymiad, dych chi'n honni ei hoffi, ar ei ffordd!” —meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus. Ond pa obaith sydd ar y diwrnod pan ddaw? Pwy all oroesi pan ddaw i'r golwg? Achos mae e fel tân sy'n toddi metel neu sebon y golchwr. Bydd yn eistedd fel un sy'n coethi arian; ac yn puro disgynyddion Lefi — bydd yn eu gloywi fel aur ac arian, er mwyn iddyn nhw gyflwyno offrymau iawn i'r ARGLWYDD. Bryd hynny bydd offrymau Jwda a Jerwsalem yn plesio'r ARGLWYDD fel roedden nhw ers talwm, yn yr hen ddyddiau. “Dw i'n mynd i ddod atoch chi i farnu; dw i'n barod i dystio yn erbyn pawb sydd ddim yn fy mharchu — y rhai sy'n dewino ac yn godinebu, sy'n dweud celwydd ar lw, sy'n gormesu gweithwyr (trwy atal eu cyflog), yn cam-drin gweddwon a phlant amddifad, ac yn gwrthod eu hawliau i fewnfudwyr,” —meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus. “Ie, fi ydy'r ARGLWYDD, a dw i ddim wedi newid, a dych chi ddim wedi stopio bod yn blant i'ch tad Jacob!” “Ers canrifoedd dych chi wedi bod yn troi cefn ar fy neddfau, a ddim yn eu cadw. Trowch yn ôl ata i, a bydda i'n troi atoch chi” —meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus. “Pam bod angen i ni droi'n ôl?” meddech chi. “Ydy'n iawn i ddwyn oddi ar Dduw? Ac eto dych chi'n dwyn oddi arna i.” “Sut ydyn ni'n dwyn oddi arnat ti?” meddech chi. “Trwy gadw'r degymau a'r offrymau. Dych chi'n diodde melltith, am eich bod chi'n dwyn oddi arna i — ie, y cwbl lot ohonoch chi! Dewch â'r degwm llawn i'r stordy, fel bod yna fwyd yn fy nheml. Ie, rhowch fi ar brawf,” —meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus— “a chewch weld y bydda i'n agor llifddorau'r nefoedd ac yn tywallt bendith arnoch chi; fyddwch chi'n brin o ddim byd! Bydda i'n cael gwared â'r locustiaid, rhag iddyn nhw ddinistrio cnydau'r tir; fydd y gwinwydd yn y winllan ddim yn methu,” —meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus. “Bydd y gwledydd eraill i gyd yn dweud eich bod wedi eich bendithio, am eich bod yn byw mewn gwlad mor hyfryd,” —meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus. “Dych chi wedi dweud pethau ofnadwy yn fy erbyn i,” —meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus. “Beth ydyn ni wedi ei ddweud yn dy erbyn di?” meddech chi. “Chi'n dweud, ‘Does dim pwynt gwasanaethu Duw. Beth ydyn ni wedi ei ennill o wrando arno a mynd o gwmpas yn edrych yn drist o flaen yr ARGLWYDD holl-bwerus? Mae'r bobl sy'n haerllug yn hapus! — maen nhw'n gwneud drwg ac yn llwyddo; maen nhw'n herio Duw ac yn dianc!’” Ond yna, dyma'r rhai oedd wir yn parchu'r ARGLWYDD yn trafod gyda'i gilydd. Clywodd yr ARGLWYDD nhw, a chymryd sylw o'r peth, a gorchymyn i gofnod gael ei ysgrifennu yn y sgrôl sy'n rhestru'r rhai sy'n parchu'r ARGLWYDD ac yn meddwl yn uchel ohono. “Nhw fydd fy mhobl i,” —meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus— “fy nhrysor sbesial ar y diwrnod sy'n dod. Bydda i'n gofalu amdanyn nhw fel mae tad yn gofalu am fab sy'n gweithio iddo. Byddwch chi'n gweld y gwahaniaeth rhwng yr un sydd wedi byw'n iawn a'r rhai drwg, rhwng y sawl sy'n gwasanaethu Duw a'r rhai sydd ddim. Ydy, mae'r diwrnod yn dod; mae fel ffwrnais yn llosgi. Bydd yr holl rai haerllug sy'n gwneud drwg yn cael eu llosgi fel bonion gwellt, ar y diwrnod sy'n dod,” —meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus. “Byddan nhw'n llosgi'n ulw nes bydd dim gwreiddyn na changen ar ôl. Ond bydd haul cyfiawnder yn gwawrio arnoch chi sy'n fy mharchu i, a iachâd yn ei belydrau. Byddwch yn mynd allan, yn neidio fel llo wedi ei ollwng yn rhydd. Byddwch yn sathru'r rhai drwg, a byddan nhw fel lludw dan eich traed ar y diwrnod y bydda i'n gweithredu,” —meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus. Cofiwch ddysgeidiaeth Moses, fy ngwas; y rheolau a'r canllawiau rois iddo ar Fynydd Sinai ar gyfer Israel gyfan. Edrychwch, dw i'n anfon y proffwyd Elias atoch chi cyn i ddiwrnod mawr a dychrynllyd yr ARGLWYDD ddod. Bydd yn annog rhieni a phlant i droi'n ôl ata i, rhag i mi ddod a taro'r wlad, a'i dinistrio'n llwyr. Rhestr achau Iesu y Meseia, oedd yn un o ddisgynyddion y Brenin Dafydd, ac Abraham hefyd: Abraham oedd tad Isaac, Isaac oedd tad Jacob, Jacob oedd tad Jwda a'i frodyr, Jwda oedd tad Peres a Sera (a Tamar oedd eu mam), Peres oedd tad Hesron, Hesron oedd tad Ram, Ram oedd tad Aminadab, Aminadab oedd tad Nahson, Nahson oedd tad Salmon, Salmon oedd tad Boas (a Rahab oedd ei fam), Boas oedd tad Obed (a Ruth oedd ei fam), Obed oedd tad Jesse, a Jesse oedd tad y Brenin Dafydd. Dafydd oedd tad Solomon (ac roedd ei fam wedi bod yn wraig i Wreia), Solomon oedd tad Rehoboam, Rehoboam oedd tad Abeia, Abeia oedd tad Asa, Asa oedd tad Jehosaffat, Jehosaffat oedd tad Jehoram, Jehoram oedd tad Wseia, Wseia oedd tad Jotham, Jotham oedd tad Ahas, Ahas oedd tad Heseceia, Heseceia oedd tad Manasse, Manasse oedd tad Amon, Amon oedd tad Joseia, a Joseia oedd tad Jechoneia a'i frodyr (a hynny ar yr adeg y cafodd yr Iddewon eu caethgludo i Babilon). Ar ôl y gaethglud i Babilon: Jechoneia oedd tad Shealtiel, Shealtiel oedd tad Sorobabel, Sorobabel oedd tad Abiwd, Abiwd oedd tad Eliacim, Eliacim oedd tad Asor, Asor oedd tad Sadoc, Sadoc oedd tad Achim, Achim oedd tad Eliwd, Eliwd oedd tad Eleasar, Eleasar oedd tad Mathan, Mathan oedd tad Jacob, a Jacob oedd tad Joseff (gŵr Mair — y ferch gafodd Iesu, y Meseia, ei eni iddi). Felly roedd un deg pedair cenhedlaeth o Abraham i'r Brenin Dafydd, un deg pedair cenhedlaeth o Dafydd hyd nes i'r Iddewon gael eu caethgludo i Babilon, ac un deg pedair cenhedlaeth o'r gaethglud i'r Meseia. Dyma ddigwyddodd pan gafodd Iesu y Meseia ei eni: Roedd ei fam, Mair, wedi cael ei haddo i fod yn wraig i Joseff. Ond cyn iddyn nhw briodi a chael rhyw, dyma nhw'n darganfod fod yr Ysbryd Glân wedi ei gwneud hi'n feichiog. Roedd Joseff, oedd yn mynd i'w phriodi, yn ddyn da a charedig. Doedd e ddim eisiau gwneud esiampl ohoni a'i chyhuddo hi'n gyhoeddus, felly roedd yn ystyried yn dawel fach i ganslo'r briodas. Roedd wedi bod yn meddwl am hyn pan gafodd freuddwyd: gwelodd angel Duw yn dod ato a dweud wrtho, “Joseff fab Dafydd, paid petruso mynd â Mair adre i fod yn wraig i ti, am mai'r Ysbryd Glân sydd wedi gwneud iddi feichiogi. Bachgen fydd hi'n ei gael. Rwyt i roi'r enw Iesu iddo, am mai fe fydd yn achub ei bobl o'u pechodau.” Digwyddodd hyn er mwyn i beth ddwedodd Duw drwy ei broffwyd ddod yn wir: “Edrychwch! Bydd merch ifanc sy'n wyryf yn feichiog ac yn cael mab. Bydd y plentyn yn cael ei alw yn Emaniwel” (Ystyr Emaniwel ydy “Mae Duw gyda ni.” ) Pan ddeffrodd Joseff, gwnaeth beth roedd angel Duw wedi ei ddweud wrtho. Priododd Mair, ond chafodd e ddim rhyw hefo hi nes i'w mab gael ei eni. A rhoddodd yr enw Iesu iddo. Cafodd Iesu ei eni yn Bethlehem yn Jwdea, yn y cyfnod pan oedd Herod yn frenin. Ar ôl hynny daeth gwŷr doeth o wledydd y dwyrain i Jerwsalem i ofyn, “Ble mae'r un sydd newydd gael ei eni yn frenin yr Iddewon? Gwelon ni ei seren yn codi yn y dwyrain, a dŷn ni yma i dalu teyrnged iddo.” Pan glywodd y Brenin Herod hyn roedd wedi cynhyrfu'n lân. Roedd cynnwrf yn Jerwsalem hefyd. Felly galwodd Herod y prif offeiriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith Iddewig i'w gyfarfod. Gofynnodd iddyn nhw, “Ble mae'r Meseia i fod i gael ei eni?” “Yn Bethlehem Jwdea,” medden nhw. “Dyna ysgrifennodd y proffwyd: ‘Bethlehem, yn nhir Jwda — Nid rhyw bentref dibwys yn Jwda wyt ti; achos ohonot ti daw un i deyrnasu, un fydd yn fugail i arwain fy mhobl Israel.’” Ar ôl cael gwybod hyn, dyma Herod yn galw'r gwŷr doeth i gyfarfod preifat. Cafodd wybod ganddyn nhw pryd yn union oedd y seren wedi ymddangos. Yna dwedodd, “Ewch i Bethlehem i chwilio am y plentyn. Yna gadewch i mi wybod pan ddowch o hyd iddo, er mwyn i mi gael mynd i dalu teyrnged iddo hefyd.” Ar ôl gwrando beth oedd gan y brenin i'w ddweud, i ffwrdd â nhw. Dyma'r seren yn mynd o'u blaen, nes iddi aros uwchben yr union fan lle roedd y plentyn. Roedden nhw wrth eu bodd! Pan aethon nhw i mewn i'r tŷ, dyna lle roedd y plentyn gyda'i fam, Mair, a dyma nhw'n disgyn ar eu gliniau o'i flaen a'i addoli. Yna dyma nhw'n agor eu paciau a rhoi anrhegion gwerthfawr iddo — aur a thus a myrr Rhybuddiodd Duw nhw mewn breuddwyd i beidio mynd yn ôl at Herod, felly dyma'r gwŷr doeth yn teithio yn ôl i'w gwlad eu hunain ar hyd ffordd wahanol. Ar ôl iddyn nhw fynd, cafodd Joseff freuddwyd arall. Gwelodd angel Duw yn dweud wrtho, “Rhaid i chi ddianc ar unwaith! Dos â'r plentyn a'i fam i'r Aifft, ac aros yno nes i mi ddweud ei bod yn saff i chi ddod yn ôl. Mae Herod yn ceisio dod o hyd i'r plentyn er mwyn ei ladd.” Felly cododd Joseff ganol nos a gadael am yr Aifft gyda'r plentyn a'i fam. Buon nhw yn yr Aifft nes oedd Herod wedi marw. Felly daeth beth ddwedodd yr Arglwydd drwy'r proffwyd yn wir: “Gelwais fy mab allan o'r Aifft.” Aeth Herod yn wyllt gynddeiriog pan sylweddolodd fod y gwŷr doeth wedi ei dwyllo. Anfonodd filwyr i Bethlehem a'r cylch i ladd pob bachgen bach dan ddwyflwydd oed — hynny ar sail beth oedd y gwŷr doeth wedi ei ddweud wrtho am y dyddiad y daeth y seren i'r golwg. A dyna sut daeth geiriau y proffwyd Jeremeia yn wir: “Mae cri i'w chlywed yn Rama, sŵn wylo chwerw a galaru mawr — Rachel yn crïo am ei phlant. Mae'n gwrthod cael ei chysuro, am eu bod nhw wedi mynd.” Pan fuodd Herod farw, cafodd Joseff freuddwyd arall yn yr Aifft. Gwelodd angel yr Arglwydd yn dweud wrtho, “Dos â'r plentyn a'i fam yn ôl i wlad Israel. Mae'r bobl oedd am ei ladd wedi marw.” Felly dyma nhw'n mynd yn ôl i wlad Israel. Ond pan glywodd Joseff mai Archelaus, mab Herod, oedd llywodraethwr newydd Jwdea, roedd ganddo ofn mynd yno. Cafodd ei rybuddio mewn breuddwyd eto, a throdd i gyfeiriad Galilea, a mynd i fyw i dref Nasareth. Felly daeth yr hyn ddwedodd y proffwydi am y Meseia yn wir unwaith eto: “Bydd yn cael ei alw yn Nasaread.” Yr adeg yna dechreuodd Ioan Fedyddiwr bregethu yn anialwch Jwdea. Dyma'r neges oedd ganddo, “Trowch gefn ar bechod, achos mae'r Un nefol yn dod i deyrnasu.” Dyma pwy oedd y proffwyd Eseia wedi sôn amdano: “Llais yn gweiddi'n uchel yn yr anialwch, ‘Paratowch y ffordd i'r Arglwydd ddod! Gwnewch y llwybrau'n syth iddo!’” Roedd dillad Ioan wedi eu gwneud o flew camel gyda belt lledr am ei ganol, a'i fwyd oedd locustiaid a mêl gwyllt. Roedd pobl o Jerwsalem a phob man arall yn Jwdea a dyffryn Iorddonen yn heidio allan ato. Pan oedden nhw'n cyfaddef eu pechodau roedd yn eu bedyddio nhw yn Afon Iorddonen. Dyma rai o'r Phariseaid a'r Sadwceaid yn dod i gael eu bedyddio ganddo. Pan welodd Ioan nhw, dwedodd yn blaen wrthyn nhw: “Dych chi fel nythaid o nadroedd! Pwy sydd wedi'ch rhybuddio chi i ddianc rhag y gosb sy'n mynd i ddod? Rhaid i chi ddangos yn y ffordd dych chi'n byw eich bod chi wedi newid go iawn. A pheidiwch meddwl eich bod chi'n saff drwy ddweud ‘Abraham ydy'n tad ni.’ Gallai Duw droi'r cerrig yma sydd ar lawr yn blant i Abraham! Mae bwyell barn Duw yn barod i dorri'r gwreiddiau i ffwrdd! Bydd pob coeden heb ffrwyth da yn tyfu arni yn cael ei thorri i lawr a'i thaflu i'r tân! “Dŵr dw i'n ei ddefnyddio i'ch bedyddio chi, fel arwydd eich bod chi'n troi at Dduw. Ond ar fy ôl i mae un llawer mwy grymus na fi yn dod — fyddwn i ddim digon da i fod yn gaethwas iddo hyd yn oed, i gario ei sandalau. Bydd hwnnw yn eich bedyddio chi gyda'r Ysbryd Glân a gyda thân. Mae ganddo fforch nithio yn ei law i wahanu'r grawn a'r us. Bydd yn clirio'r llawr dyrnu, yn casglu ei wenith i'r ysgubor ac yn llosgi'r us mewn tân sydd byth yn diffodd.” Bryd hynny daeth Iesu o Galilea at Afon Iorddonen i gael ei fedyddio gan Ioan. Ond ceisiodd Ioan ei rwystro. Meddai wrtho, “Fi ddylai gael fy medyddio gen ti! Pam wyt ti'n dod ata i?” Atebodd Iesu, “Gwna beth dw i'n ei ofyn; dyma sy'n iawn i'w wneud.” Felly cytunodd Ioan i'w fedyddio. Ar ôl cael ei fedyddio, yr eiliad y daeth allan o'r dŵr, dyma'r awyr yn rhwygo'n agored, a gwelodd Ysbryd Duw yn dod i lawr fel colomen ac yn glanio arno. A dyma lais o'r nefoedd yn dweud: “Hwn ydy fy Mab annwyl i; mae wedi fy mhlesio i'n llwyr.” Yn syth wedyn dyma'r Ysbryd yn arwain Iesu allan i'r anialwch i gael ei demtio gan y diafol. Ar ôl bwyta dim byd am bedwar deg diwrnod, roedd yn llwgu. Dyna pryd y daeth y diafol i'w demtio. “Os mai Mab Duw wyt ti, gwna i'r cerrig yma droi'n fara,” meddai. “Na!”, atebodd Iesu, “Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud mai ‘Nid bwyd ydy'r unig beth mae pobl ei angen i fyw, ond popeth mae Duw yn ei ddweud.’” Wedyn dyma'r diafol yn mynd â Iesu i'r ddinas sanctaidd (hynny ydy Jerwsalem) a gwneud iddo sefyll ar y tŵr uchaf un yn y deml. “Os mai Mab Duw wyt ti,” meddai, “neidia i lawr o'r fan yma. Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: ‘Bydd Duw yn gorchymyn i'w angylion dy ddal yn eu breichiau, fel na fyddi'n taro dy droed ar garreg.’” Atebodd Iesu, “Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud hefyd: ‘Paid rhoi'r Arglwydd dy Dduw ar brawf.’ ” Yna dyma'r diafol yn mynd ag e i ben mynydd uchel iawn, a dangos holl wledydd y byd a'u cyfoeth iddo. A dwedodd y diafol wrtho, “Cei di'r cwbl gen i os gwnei di blygu i lawr i fy addoli i.” Ond dyma Iesu'n dweud, “Dos i ffwrdd Satan! Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: ‘Addola'r Arglwydd dy Dduw, a'i wasanaethu e'n unig.’ ” Yna dyma'r diafol yn ei adael, a daeth yr angylion ato a gofalu amdano. Pan glywodd Iesu fod Ioan wedi cael ei garcharu, gadawodd Jwdea a mynd yn ôl i Galilea. Ond yn lle mynd i Nasareth, aeth i fyw i Capernaum sydd ar lan y llyn yn ardal Sabulon a Nafftali. Felly dyma beth ddwedodd Duw drwy'r proffwyd Eseia yn dod yn wir: “Tir Sabulon a thir Nafftali, sydd ar Ffordd y Môr, a'r ardal yr ochr draw i Afon Iorddonen, hynny ydy Galilea, lle mae pobl o genhedloedd eraill yn byw — Mae'r bobl oedd yn byw mewn tywyllwch wedi gweld golau llachar; ac mae golau wedi gwawrio ar y rhai sy'n byw dan gysgod marwolaeth.” Dyna pryd y dechreuodd Iesu gyhoeddi ei neges, “Trowch gefn ar bechod, achos mae'r Un nefol yn dod i deyrnasu.” Un tro roedd Iesu'n cerdded ar lan Llyn Galilea, a gwelodd ddau frawd — Simon, roedd pawb yn ei alw'n Pedr, a'i frawd Andreas. Pysgotwyr oedden nhw, ac roedden nhw wrthi'n taflu rhwyd i'r llyn. Dyma Iesu'n galw arnyn nhw, “Dewch, dilynwch fi, a gwna i chi'n bysgotwyr sy'n dal pobl yn lle pysgod.” Heb oedi, dyma'r ddau yn gollwng eu rhwydi a mynd ar ei ôl. Wrth gerdded yn ei flaen, gwelodd Iesu ddau frawd arall, Iago ac Ioan, dau fab Sebedeus. Roedden nhw mewn cwch hefo Sebedeus eu tad yn trwsio eu rhwydi. Dyma Iesu'n eu galw nhw hefyd, a dyma nhw'n gadael y cwch a'u tad a dechrau dilyn Iesu. Roedd Iesu'n teithio ar hyd a lled Galilea, yn dysgu'r bobl yn y synagogau, yn cyhoeddi'r newyddion da am deyrnasiad Duw, ac yn iacháu pob afiechyd a salwch oedd ar bobl. Daeth Iesu'n enwog y tu allan i Galilea, ac roedd pobl o bob rhan o Syria yn dod â phawb oedd yn sâl ato — pobl oedd yn dioddef o afiechydon gwahanol, neu mewn poen, eraill yng ngafael cythreuliaid, yn dioddef o ffitiau epileptig, neu wedi eu parlysu. Iachaodd Iesu nhw i gyd. Roedd tyrfaoedd o bobl yn ei ddilyn i bobman — pobl o Galilea, y Decapolis, Jerwsalem a Jwdea, ac o'r ochr draw i Afon Iorddonen. Pan welodd Iesu yr holl dyrfaoedd, aeth i fyny i ben y mynydd. Pan eisteddodd i lawr, daeth ei ddilynwyr ato, a dechreuodd eu dysgu, a dweud: “Mae'r rhai sy'n teimlo'n dlawd ac annigonol wedi eu bendithio'n fawr, oherwydd mae'r Un nefol yn teyrnasu yn eu bywydau. Mae'r rhai sy'n galaru wedi eu bendithio'n fawr, oherwydd byddan nhw'n cael eu cysuro. Mae'r rhai addfwyn sy'n cael eu gorthrymu wedi eu bendithio'n fawr, oherwydd byddan nhw'n etifeddu'r ddaear. Mae'r rhai sy'n llwgu a sychedu am gyfiawnder wedi eu bendithio'n fawr, oherwydd byddan nhw'n cael eu bodloni'n llwyr. Mae'r rhai sy'n dangos trugaredd wedi eu bendithio'n fawr, oherwydd byddan nhw'n cael profi trugaredd eu hunain. Mae'r rhai sydd â chalon bur wedi eu bendithio'n fawr, oherwydd byddan nhw'n cael gweld Duw. Mae'r rhai sy'n hyrwyddo heddwch wedi eu bendithio'n fawr, oherwydd byddan nhw'n cael eu galw'n blant Duw. Mae'r rhai sy'n dioddef erledigaeth am eu bod yn byw'n gyfiawn wedi eu bendithio'n fawr, oherwydd mae'r Un nefol yn teyrnasu yn eu bywydau. “Pan fydd pobl yn eich sarhau chi, a'ch erlid, ac yn dweud pethau drwg amdanoch chi am eich bod yn perthyn i mi, dych chi wedi'ch bendithio'n fawr! Byddwch yn llawen! Mwynhewch er gwaetha'r cwbl, achos mae gan Dduw yn y nefoedd wobr fawr i chi. Cofiwch fod y proffwydi oedd yn byw ers talwm wedi cael eu herlid yn union yr un fath! “Chi ydy halen y ddaear. Ond pan mae'r halen wedi colli ei flas pa obaith sydd i'w wneud yn hallt eto? Dydy e'n dda i ddim ond i'w daflu i ffwrdd a'i sathru dan draed. “Chi ydy'r golau sydd yn y byd. Mae'n amhosib cuddio dinas sydd wedi ei hadeiladu ar ben bryn. A does neb yn goleuo lamp i'w gosod o dan fowlen! Na, dych chi'n gosod lamp ar fwrdd er mwyn iddi roi golau i bawb yn y tŷ. Dyna sut dylai'ch golau chi ddisgleirio, er mwyn i bobl foli'ch Tad yn y nefoedd wrth weld y pethau da dych chi'n eu gwneud. “Peidiwch meddwl fy mod i wedi dod i gael gwared â Chyfraith Moses ac ysgrifau'r Proffwydi. Dim o gwbl! Dw i wedi dod i ddangos beth maen nhw'n ei olygu. Credwch chi fi, fydd dim un llythyren na manylyn lleia o'r Gyfraith yn cael ei ddileu nes bydd y nefoedd a'r ddaear yn diflannu. Rhaid i'r cwbl ddigwydd gyntaf. Bydd pwy bynnag sy'n torri'r gorchymyn lleia, ac yn dysgu pobl eraill i wneud yr un peth, yn cael ei ystyried y lleia yn y deyrnas nefol. Ond bydd pwy bynnag sy'n byw yn ufudd i'r gorchmynion ac yn dysgu eraill i wneud hynny, yn cael ei ystyried y mwya yn y deyrnas nefol. Dw i'n dweud hyn — os fyddwch chi ddim yn byw'n fwy cyfiawn na'r Phariseaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith, fyddwch chi byth yn un o'r rhai mae'r Un nefol yn teyrnasu yn eu bywydau. “Dych chi wedi clywed beth oedd yn cael ei ddweud wrth bobl ers talwm: ‘Paid llofruddio’ — (ac y bydd pawb sy'n llofruddio rhywun yn euog ac yn cael eu barnu). Ond dw i'n dweud wrthoch chi fod y sawl sy'n gwylltio gyda rhywun arall yn euog ac yn cael ei farnu. Os ydy rhywun yn sarhau ei gyfaill drwy ei alw'n idiot, mae'n atebol i'r Sanhedrin. Ond os bydd rhywun yn dweud ‘y diawl dwl’ wrth rywun arall, mae mewn perygl o losgi yn nhân uffern. “Felly, os wyt ti wrth yr allor yn y deml yn addoli Duw, ac yn cofio yno fod gan rhywun gŵyn yn dy erbyn, gad dy offrwm yno. Dos i wneud pethau'n iawn gyda nhw'n gyntaf; cei di gyflwyno dy offrwm i Dduw wedyn. “Os bydd rhywun yn dy gyhuddo o rywbeth ac yn mynd â ti i'r llys, setla'r mater ar unwaith cyn cyrraedd y llys. Ydy'n well gen ti iddo fynd â ti o flaen y barnwr, ac i'r barnwr orchymyn i swyddog dy roi yn y carchar? Cred di fi, chei di ddim dy ryddhau nes byddi wedi talu pob ceiniog. “Dych chi wedi clywed beth oedd yn cael ei ddweud, ‘Paid godinebu’ Ond dw i'n dweud wrthoch chi fod unrhyw ddyn sy'n llygadu gwraig a'i feddwl ar ryw eisoes wedi cyflawni godineb gyda hi. Os ydy dy lygad orau yn gwneud i ti bechu, tynna hi allan a'i thaflu i ffwrdd. Mae'n well i ti golli rhan fach o dy gorff nag i dy gorff cyfan gael ei daflu i uffern. Ac os ydy dy law gryfaf yn gwneud i ti bechu, torra hi i ffwrdd a'i thaflu ymaith. Mae'n well i ti golli rhan o dy gorff nag i dy gorff cyfan gael ei daflu i uffern. “Mae wedi cael ei ddweud, ‘Rhaid i bwy bynnag sy'n ysgaru ei wraig roi tystysgrif ysgariad iddi.’ Ond dw i'n dweud wrthoch chi fod dyn sy'n ysgaru ei wraig am unrhyw reswm ond ei bod hi wedi bod yn anffyddlon iddo, yn gwneud iddi hi odinebu. Hefyd mae dyn sy'n priodi gwraig sydd wedi cael ysgariad yn godinebu. “Dych chi hefyd wedi clywed i hyn gael ei ddweud wrth bobl ers talwm: ‘Paid gwneud llw, ac wedyn ei dorri. Rhaid cadw pob llw wyt ti wedi ei wneud i'r Arglwydd.’ Ond dw i'n dweud wrthoch chi, Peidiwch tyngu llw o gwbl: ddim i'r nefoedd, am mai dyna orsedd Duw; nac i'r ddaear, y stôl iddo orffwys ei draed arni; nac i Jerwsalem, am mai hi ydy dinas Duw, y Brenin Mawr. Peidiwch tyngu llw hyd yn oed i'ch pen eich hun, oherwydd allwch chi ddim troi un blewyn yn ddu neu'n wyn. Yn lle hynny, dwedwch y gwir bob amser — dylai dweud ‘Ie’ olygu ‘Ie’, a dweud ‘Na’ olygu ‘Na’. Y diafol sy'n gwneud i chi fod eisiau dweud mwy na hynny. “Dych chi wedi clywed fod hyn yn cael ei ddweud, ‘Llygad am lygad, a dant am ddant.’ Ond dw i'n dweud wrthoch chi: Peidiwch ceisio talu'n ôl. Os ydy rhywun yn rhoi clatsien i ti ar dy foch dde, cynnig y foch arall iddo. Ac os ydy rhywun am dy siwio a chymryd dy grys, rho dy gôt iddo hefyd. Os ydy milwr Rhufeinig yn dy orfodi i gario ei bac am un filltir, dos di ddwy. Rho i bwy bynnag sy'n gofyn i ti am rywbeth, a paid gwrthod y sawl sydd eisiau benthyg rhywbeth gen ti. “Dych chi wedi clywed i hyn gael ei ddweud: ‘Rwyt i garu dy gymydog’ — (ac ‘i gasáu dy elyn’). Ond dw i'n dweud wrthoch chi: Carwch eich gelynion a gweddïwch dros y rhai sy'n eich erlid chi! Wedyn byddwch yn dangos eich bod yn blant i'ch Tad yn y nefoedd, am mai dyna'r math o beth mae e'n ei wneud — mae'n gwneud i'r haul dywynnu ar y drwg a'r da, ac yn rhoi glaw i'r rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn a'r rhai sydd ddim. Pam dylech chi gael gwobr am garu'r bobl hynny sy'n eich caru chi? Onid ydy hyd yn oed y rhai sy'n casglu trethi i Rufain yn gwneud cymaint â hynny? Ac os mai dim ond eich teip chi o bobl dych chi'n eu cyfarch, beth dych chi'n ei wneud sy'n wahanol? Mae hyd yn oed y paganiaid yn gwneud hynny! Ond rhaid i chi fod yn berffaith, yn union fel mae'ch Tad nefol yn berffaith. “Byddwch yn ofalus i beidio gwneud sioe o'ch crefydd, er mwyn i bobl eraill eich gweld chi. Os gwnewch chi hynny, chewch chi ddim gwobr gan eich Tad yn y nefoedd. “Felly, pan fyddi'n rhoi arian i'r tlodion, paid trefnu ffanffer er mwyn gwneud yn siŵr fod pawb yn gwybod am y peth. Dyna mae'r rhai sy'n gwneud sioe o'u crefydd yn ei wneud yn y synagogau ac ar y strydoedd. Maen nhw eisiau i bobl eraill eu canmol nhw. Credwch chi fi, dyna'r unig wobr gân nhw! Pan fyddi di'n rhoi arian i'r tlodion, paid gadael i'r llaw chwith wybod beth mae'r llaw dde yn ei wneud. Dylai pob rhodd fod yn gyfrinach. Bydd dy Dad, sy'n gweld pob cyfrinach, yn rhoi dy wobr i ti. “A pheidiwch gweddïo fel y rhai sy'n gwneud sioe o'u crefydd. Maen nhw wrth eu boddau pan mae pobl yn edrych arnyn nhw yn codi i weddïo yn y synagogau neu ar strydoedd prysur. Credwch chi fi, dyna'r unig wobr gân nhw! Pan fyddi di'n gweddïo, dos i ystafell o'r golwg, cau y drws, a gweddïo ar dy Dad sydd yno gyda ti er dy fod ddim yn ei weld e. Wedyn bydd dy Dad, sy'n gweld pob cyfrinach, yn rhoi dy wobr i ti. A phan fyddwch chi'n gweddïo, peidiwch mwydro ymlaen yn ddiddiwedd fel mae'r paganiaid yn gwneud. Maen nhw'n meddwl y bydd Duw yn gwrando am eu bod yn gweddïo mor hir. Peidiwch chi â bod fel yna. Mae'ch Tad chi'n gwybod yn union beth sydd ei angen arnoch chi cyn i chi ddweud gair. “Dyma sut dylech chi weddïo: ‘Ein Tad sydd yn y nefoedd, dŷn ni eisiau i dy enw di gael ei anrhydeddu. Dŷn ni eisiau i ti ddod i deyrnasu, ac i'r cwbl sy'n dda yn dy olwg di ddigwydd yma ar y ddaear fel mae'n digwydd yn y nefoedd. Rho i ni ddigon o fwyd i'n cadw ni'n fyw am heddiw. Maddau i ni am bob dyled i ti yn union fel dŷn ni'n maddau i'r rhai sydd mewn dyled i ni. Cadw ni rhag syrthio pan fyddwn ni'n cael ein profi, ac achub ni o afael y drwg.’ “Os gwnewch chi faddau i bobl pan maen nhw wedi gwneud cam â chi, bydd eich Tad nefol yn maddau i chi hefyd. Ond os na wnewch chi faddau i'r bobl sydd wedi gwneud cam â chi, fydd eich Tad ddim yn maddau'ch pechodau chi. “Pan fyddwch chi'n ymprydio, peidiwch gwneud i'ch hunain edrych yn drist er mwyn gwneud sioe; mae'r bobl sy'n gwneud hynny yn cuddio eu hwynebau er mwyn i bobl sylwi eu bod yn ymprydio. Credwch chi fi, dyna'r unig wobr gân nhw! Pan fyddi di'n ymprydio, rho olew ar dy ben, criba dy wallt a golcha dy wyneb. Wedyn fydd neb yn gallu gweld dy fod ti'n ymprydio. Dim ond dy Dad, sy'n anweledig, fydd yn gweld; a bydd dy Dad, sy'n gweld pob cyfrinach, yn rhoi dy wobr i ti. “Peidiwch casglu trysorau i chi'ch hunain yn y byd yma. Mae gwyfyn a rhwd yn gallu eu difetha, ac mae lladron yn gallu dod â'u dwyn. Casglwch drysorau i chi'ch hunain yn y nefoedd — all gwyfyn a rhwd ddifetha dim byd yno, a does dim lladron yno i ddwyn dim byd. Lle bynnag mae dy drysor di y bydd dy galon di. “Y llygad ydy lamp y corff. Felly, mae llygad iach (sef bod yn hael) yn gwneud dy gorff yn olau trwyddo. Ond mae llygad sâl (sef bod yn hunanol) yn gwneud dy gorff yn dywyll trwyddo. Felly os ydy dy oleuni di yn dywyllwch, mae'n dywyll go iawn arnat ti! “Does neb yn gallu gweithio i ddau feistr gwahanol ar yr un pryd. Mae un yn siŵr o gael y flaenoriaeth ar draul y llall. Allwch chi ddim bod yn was i Dduw ac i arian ar yr un pryd. “Felly, dyma dw i'n ddweud — peidiwch poeni beth i'w fwyta a beth i'w yfed a beth i'w wisgo. Onid oes mwy i fywyd na bwyd a dillad? Meddyliwch am adar er enghraifft: Dyn nhw ddim yn hau nac yn medi nac yn storio mewn ysguboriau — ac eto mae eich Tad nefol yn eu bwydo nhw. Dych chi'n llawer mwy gwerthfawr na nhw. Allwch chi ddim hyd yn oed gwneud eich bywyd eiliad yn hirach trwy boeni! “A pham poeni am ddillad? Meddyliwch sut mae blodau gwyllt yn tyfu. Dydy blodau ddim yn gweithio nac yn nyddu. Ac eto, doedd hyd yn oed y Brenin Solomon yn ei ddillad crand ddim yn edrych mor hardd ag un ohonyn nhw. Os ydy Duw yn gofalu fel yna am flodau gwyllt (sy'n tyfu heddiw, ond yn cael eu llosgi fel tanwydd fory), mae'n siŵr o ofalu amdanoch chi! Ble mae'ch ffydd chi? Peidiwch poeni felly, a dweud, ‘Beth wnawn ni fwyta?’ neu ‘Beth wnawn ni yfed?’ neu ‘Beth wisgwn ni?’ Y paganiaid sy'n poeni am bethau felly. Mae'ch Tad nefol yn gwybod am bopeth sydd ei angen arnoch chi. Gwnewch yn siŵr mai'r flaenoriaeth i chi ydy ymostwng i'w deyrnasiad e a gwneud beth sy'n iawn yn ei olwg, ac wedyn cewch y pethau eraill yma i gyd. Felly, peidiwch poeni am fory, cewch groesi'r bont honno pan ddaw. Mae'n well wynebu problemau un dydd ar y tro. “Peidiwch bod yn feirniadol o bobl eraill, ac wedyn wnaiff Duw mo'ch barnu chi. Oherwydd cewch chi'ch barnu yn yr un ffordd â dych chi'n barnu pobl eraill. Y pren mesur dych chi'n ei ddefnyddio ar bobl eraill fydd yn cael ei ddefnyddio arnoch chi. “Pam wyt ti'n poeni am y sbecyn o flawd llif sydd yn llygad rhywun arall, pan mae trawst o bren yn sticio allan o dy lygad dy hun!? Sut alli di ddweud, ‘Gad i mi dynnu'r sbecyn yna allan o dy lygad di,’ pan mae trawst yn sticio allan o dy lygad dy hun? Rwyt ti mor ddauwynebog! Tynna'r trawst allan o dy lygad dy hun yn gyntaf, ac wedyn byddi'n gweld yn ddigon clir i dynnu'r sbecyn allan o lygad y person arall. “Peidiwch rhoi beth sy'n sanctaidd i gŵn, rhag iddyn nhw ymosod arnoch chi a'ch rhwygo chi'n ddarnau. Peidiwch taflu perlau gwerthfawr i foch, fydd yn gwneud dim ond eu sathru nhw dan draed. “Daliwch ati i ofyn a byddwch yn ei gael; chwiliwch a byddwch yn dod o hyd iddo; curwch ar y drws a bydd yn cael ei agor. Mae pawb sy'n gofyn yn derbyn; pawb sy'n chwilio yn cael; ac mae'r drws yn cael ei agor i bawb sy'n curo. “Pwy ohonoch chi fyddai'n rhoi carreg i'ch plentyn pan mae'n gofyn am fara? Neu neidr pan mae'n gofyn am bysgodyn? Felly os dych chi sy'n ddrwg yn gwybod sut i roi anrhegion da i'ch plant, mae'ch Tad yn y nefoedd yn siŵr o roi rhoddion da i'r rhai sy'n gofyn iddo! Dylech chi bob amser drin pobl eraill fel byddech chi'n hoffi iddyn nhw eich trin chi. Mae'n egwyddor sy'n crynhoi popeth mae Cyfraith Moses ac ysgrifau'r proffwydi'n ei ddweud. “Ewch i mewn drwy'r fynedfa gul. Oherwydd mae'r fynedfa i'r ffordd sy'n arwain i ddinistr yn llydan. Mae'n ddigon hawdd dilyn y ffordd honno, ac mae llawer o bobl yn mynd arni. Ond mae'r fynedfa sy'n arwain i fywyd yn gul, a'r llwybr yn galed. Does ond ychydig o bobl yn dod o hyd iddi. “Gwyliwch allan am broffwydi ffug. Bleiddiaid rheibus ydyn nhw go iawn, ond yn rhoi'r argraff i chi eu bod mor ddiniwed â defaid. Y ffordd i'w nabod nhw ydy drwy edrych ar y ffrwyth yn eu bywydau nhw. Dydy grawnwin ddim yn tyfu ar ddrain, na ffigys ar ysgall. Felly lle mae ffrwyth da mae coeden iach, ond os ydy'r ffrwyth yn ddrwg mae'r goeden yn wael. Dydy ffrwyth drwg ddim yn tyfu ar goeden iach, na ffrwyth da ar goeden wael! Bydd pob coeden sydd heb ffrwyth da yn tyfu arni yn cael ei thorri i lawr a'i llosgi. Felly y ffordd i nabod y proffwydi ffug ydy drwy edrych ar y ffrwyth yn eu bywydau nhw. “Fydd pawb sy'n fy ngalw i'n ‛Arglwydd‛ ddim yn cael dod dan deyrnasiad yr Un nefol, dim ond y bobl hynny sy'n gwneud beth mae fy Nhad yn y nefoedd yn ei ofyn. Ar y diwrnod hwnnw pan fydd Duw yn dod i farnu, bydd llawer o bobl yn dweud wrtho i ‘Arglwydd, Arglwydd, oni fuon ni'n proffwydo ar dy ran di, ac yn bwrw allan gythreuliaid a gwneud llawer iawn o wyrthiau eraill?’ Ond bydda i'n dweud wrthyn nhw'n blaen, ‘Dw i erioed wedi'ch nabod chi. Ewch o ma! Pobl ddrwg ydych chi!’ “Felly dyma sut bobl ydy'r rhai sy'n gwrando arna i ac yna'n gwneud beth dw i'n ei ddweud. Maen nhw fel dyn call sy'n adeiladu ei dŷ ar graig solet. Daeth glaw trwm a llifogydd a gwyntoedd cryf i daro yn erbyn y tŷ hwnnw, ond wnaeth y tŷ ddim syrthio am fod ei sylfeini ar graig solet. Ond mae pawb sy'n gwrando arna i heb wneud beth dw i'n ei ddweud yn debyg i ddyn dwl sy'n adeiladu ei dŷ ar dywod! Daeth glaw trwm a llifogydd a gwyntoedd cryf i daro yn erbyn y tŷ hwnnw, a syrthiodd y tŷ a chwalu'n llwyr.” Pan oedd Iesu wedi gorffen dweud y pethau yma, roedd y tyrfaoedd yn rhyfeddu at beth roedd yn ei ddysgu. Roedd yn wahanol i'r arbenigwyr yn y Gyfraith — roedd ganddo awdurdod oedd yn gwneud i bobl wrando arno. Roedd tyrfaoedd o bobl yn ei ddilyn pan ddaeth i lawr o ben y mynydd. Yna dyma ddyn oedd yn dioddef o'r gwahanglwyf yn dod ato a mynd ar ei liniau o'i flaen. “Arglwydd,” meddai, “gelli di fy ngwneud i'n iach os wyt ti eisiau.” Dyma Iesu'n estyn ei law a chyffwrdd y dyn. “Dyna dw i eisiau,” meddai, “bydd lân.” A'r eiliad honno cafodd y dyn ei wneud yn holliach! A dyma Iesu'n dweud wrtho, “Gwna'n siŵr dy fod ti'n dweud wrth neb beth sydd wedi digwydd. Dos i ddangos dy hun i'r offeiriad, a chyflwyno'r offrwm ddwedodd Moses y dylet ti ei gyflwyno, yn dystiolaeth i'r bobl dy fod ti wedi cael dy iacháu.” Wrth i Iesu fynd i mewn i Capernaum, daeth swyddog milwrol Rhufeinig ato yn pledio arno i'w helpu. “Arglwydd,” meddai, “mae ngwas i gartre, yn gorwedd yn ei wely wedi ei barlysu. Mae'n dioddef yn ofnadwy.” Atebodd Iesu, “Dof i'w iacháu.” Ond meddai'r swyddog wrtho, “Arglwydd, dw i ddim yn deilwng i ti ddod i mewn i nhŷ i. Does ond rhaid i ti ddweud a bydd fy ngwas yn cael ei iacháu. Mae swyddogion uwch fy mhen i yn rhoi gorchmynion i mi, ac mae gen innau filwyr o danaf fi. Dw i'n dweud ‘Dos’ wrth un, ac mae'n mynd; ‘Tyrd yma’ wrth un arall ac mae'n dod. Dw i'n dweud ‘Gwna hyn’ wrth fy ngwas, ac mae'n ei wneud.” Roedd Iesu wedi ei syfrdanu pan glywodd beth ddwedodd y dyn. Meddai wrth y rhai oedd yn ei ddilyn, “Wir i chi, dw i ddim wedi gweld neb o bobl Israel sydd â ffydd fel yna! Dw i'n dweud wrthoch chi, bydd llawer o bobl yn dod o bob rhan o'r byd ac yn eistedd i lawr i wledda gydag Abraham, Isaac a Jacob pan ddaw'r Un nefol i deyrnasu. Ond bydd ‛dinasyddion y deyrnas‛ yn cael eu taflu allan i'r tywyllwch lle bydd pobl yn wylo'n chwerw ac mewn artaith.” Yna dwedodd Iesu wrth y swyddog milwrol, “Dos! Cei yr hyn wnest ti gredu allai ddigwydd.” A dyna'n union pryd cafodd y gwas ei iacháu. Dyma Iesu'n mynd i gartref Pedr. Yno gwelodd fam-yng-nghyfraith Pedr yn ei gwely gyda gwres uchel. Cyffyrddodd Iesu ei llaw hi a diflannodd y tymheredd oedd ganddi, a dyma hi'n codi o'i gwely a gwneud pryd o fwyd iddo. Pan oedd hi'n dechrau nosi dyma bobl yn dod â llawer iawn o rai oedd yng ngafael cythreuliaid at Iesu. Doedd ond rhaid iddo ddweud gair i fwrw allan yr ysbrydion drwg a iacháu pawb oedd yn sâl. Felly dyma beth ddwedodd Duw drwy'r proffwyd Eseia yn dod yn wir: “Cymerodd ein gwendidau arno'i hun, a chario ein hafiechydon i ffwrdd.” Pan welodd Iesu'r tyrfaoedd o bobl oedd o'i gwmpas, penderfynodd fod rhaid croesi i ochr draw'r llyn. Yna dyma un o'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn dod ato a dweud, “Athro, dw i'n fodlon dy ddilyn di ble bynnag byddi di'n mynd.” Atebodd Iesu, “Mae gan lwynogod ffeuau ac adar nythod, ond does gen i, Mab y Dyn, ddim lle i orffwys.” Dyma un arall o'i ddilynwyr yn dweud wrtho, “Arglwydd, gad i mi fynd adre i gladdu fy nhad gyntaf.” Ond ateb Iesu oedd, “Dilyn di fi. Gad i'r rhai sy'n farw eu hunain gladdu eu meirw.” Felly i ffwrdd â Iesu i'r cwch, a'i ddisgyblion ar ei ôl. Yn gwbl ddirybudd, cododd storm ofnadwy ar y llyn, nes bod y cwch yn cael ei gladdu gan y tonnau. Ond cysgodd Iesu'n drwm drwy'r cwbl! Dyma'r disgyblion yn mynd ato mewn panig a'i ddeffro, “Achub ni Arglwydd!” medden nhw, “Dŷn ni'n mynd i foddi!” “Pam dych chi mor ofnus?” meddai Iesu, “Ble mae'ch ffydd chi?” Yna cododd ar ei draed a cheryddu'r gwynt a'r tonnau, ac yn sydyn roedd pobman yn hollol dawel. Roedd y disgyblion yn gwbl syfrdan. “Beth ydyn ni i'w wneud o'r dyn yma?” medden nhw, “Mae hyd yn oed y gwyntoedd a'r tonnau yn ufuddhau iddo!” Ar ôl iddo groesi'r llyn i ardal y Gadareniaid, dyma ddau ddyn oedd yng ngafael cythreuliaid yn dod i'w gyfarfod o gyfeiriad y fynwent. Roedd y dynion yma mor beryglus, doedd hi ddim yn saff i bobl fynd heibio'r ffordd honno. Dyma nhw'n gweiddi'n uchel, “Gad di lonydd i ni Fab Duw! Wyt ti wedi dod yma i'n poenydio ni cyn i'r amser pan fydd hynny'n digwydd ddod?” Roedd cenfaint fawr o foch yn pori draw oddi wrthyn nhw, a dyma'r cythreuliaid yn pledio arno, “Gad i ni fynd i mewn i'r genfaint o foch acw os wyt ti'n mynd i'n bwrw ni allan.” “Ewch!” meddai Iesu. Felly allan â nhw o'r dyn ac i mewn i'r moch. A'r peth nesa, dyma'r moch i gyd yn rhuthro i lawr y llechwedd serth a boddi yn y llyn. Dyma'r rhai oedd yn gofalu am y moch yn rhedeg i ffwrdd i'r dre i adrodd y stori, a dweud am bopeth oedd wedi digwydd i'r dynion oedd wedi bod yng ngafael cythreuliaid. Yna dyma pawb yn dod allan o'r dre i gyfarfod Iesu. Ar ôl dod o hyd iddo, dyma nhw'n pwyso arno i adael eu hardal. Dyma Iesu'n mynd i mewn i gwch a chroesi'r llyn yn ôl i'w dref ei hun. A dyma rhyw bobl yn dod â dyn wedi ei barlysu ato, yn gorwedd ar fatras. Pan welodd Iesu eu ffydd nhw, dwedodd wrth y dyn oedd wedi ei barlysu, “Cod dy galon, ffrind; mae dy bechodau wedi eu maddau.” Dyma rhai o'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn dweud wrth ei gilydd, “Mae'r dyn yma'n cablu!” Ond roedd Iesu'n gwybod yn iawn beth oedd yn mynd trwy eu meddyliau, ac meddai, “Pam dych chi'n meddwl yn ddrwg amdana i? Beth ydy'r peth hawsaf i'w ddweud — ‘Mae dy bechodau wedi eu maddau,’ neu, ‘Cod ar dy draed a cherdda’? Cewch weld fod gen i, Fab y Dyn, hawl i faddau pechodau ar y ddaear …” Yna dyma Iesu'n troi at y dyn oedd wedi ei barlysu, a dweud, “Saf ar dy draed, cymer dy fatras a dos adre.” Yna cododd y dyn ar ei draed ac aeth adre. Roedd y dyrfa wedi dychryn, ac yn moli Duw, am iddo roi'r fath awdurdod i ddyn. Wrth i Iesu fynd yn ei flaen, gwelodd ddyn o'r enw Mathew yn eistedd yn y swyddfa dollau lle roedd yn gweithio. “Tyrd, dilyn fi,” meddai Iesu wrtho; a chododd Mathew ar unwaith a mynd ar ei ôl. Yn nes ymlaen aeth Iesu a'i ddisgyblion i dŷ Mathew am bryd o fwyd. Daeth criw mawr o'r rhai oedd yn casglu trethi i Rufain, a phobl eraill roedd y Phariseaid yn eu hystyried yn ‛bechaduriaid‛, i'r parti hefyd. Wrth weld hyn, dyma'r Phariseaid yn gofyn i'w ddisgyblion, “Pam mae eich athro yn bwyta gyda'r bradwyr sy'n casglu trethi i Rufain a phobl eraill sy'n ddim byd ond ‛pechaduriaid‛?” Clywodd Iesu nhw, ac meddai, “Dim pobl iach sydd angen meddyg, ond pobl sy'n sâl. Mae'n bryd i chi ddysgu beth ydy ystyr y dywediad: ‘Trugaredd dw i eisiau, nid aberthau.’ Dw i wedi dod i alw pechaduriaid, dim rhai sy'n meddwl eu bod nhw heb fai.” Dyma ddisgyblion Ioan yn dod ato a gofyn iddo, “Dŷn ni a'r Phariseaid yn ymprydio, ond dydy dy ddisgyblion di ddim. Pam?” Atebodd Iesu nhw, “Dydy pobl ddim yn mynd i wledd briodas i fod yn drist ac i alaru! Maen nhw yno i ddathlu gyda'r priodfab! Ond bydd y priodfab yn cael ei gymryd i ffwrdd oddi wrthyn nhw, a byddan nhw'n ymprydio bryd hynny. “Does neb yn trwsio hen ddilledyn gyda chlwt o frethyn newydd sydd heb shrincio. Byddai'r clwt o frethyn yn tynnu ar y dilledyn ac yn achosi rhwyg gwaeth. A dydy gwin sydd heb aeddfedu ddim yn cael ei dywallt i hen boteli crwyn. Wrth i'r gwin aeddfedu byddai'r crwyn yn byrstio ac yn difetha, a'r gwin yn cael ei golli. Na, rhaid tywallt y gwin i boteli crwyn newydd, a bydd y poteli a'r gwin yn cael ei gadw.” Tra oedd yn dweud hyn, dyma un o'r arweinwyr Iddewig yn dod ato ac yn plygu ar ei liniau o'i flaen. “Mae fy merch fach newydd farw,” meddai, “ond tyrd i roi dy law arni, a daw yn ôl yn fyw.” Cododd Iesu a mynd gyda'r dyn, ac aeth y disgyblion hefyd. Dyna pryd y daeth rhyw wraig oedd wedi bod yn dioddef o waedlif ers deuddeng mlynedd a sleifio i fyny y tu ôl iddo a chyffwrdd y taselau ar ei glogyn. Roedd yn meddwl, “Petawn i ond yn llwyddo i gyffwrdd ei glogyn ca i fy iacháu.” Trodd Iesu a'i gweld, ac meddai wrthi, “Cod dy galon, wraig annwyl. Am i ti gredu rwyt wedi dy iacháu.” A'r eiliad honno cafodd y wraig ei hiacháu. Pan gyrhaeddodd Iesu dŷ'r dyn, roedd tyrfa swnllyd o bobl yn galaru, a rhai yn canu pibau. “Ewch i ffwrdd!” meddai wrthyn nhw, “Dydy'r ferch fach ddim wedi marw — cysgu mae hi!” Dechreuodd pobl chwerthin am ei ben, ond dyma Iesu'n anfon y dyrfa allan o'r tŷ. Yna aeth at y ferch fach a gafael yn ei llaw, a chododd ar ei thraed. Aeth yr hanes am hyn ar led drwy'r ardal honno i gyd. Pan aeth Iesu yn ei flaen oddi yno dyma ddau ddyn dall yn ei ddilyn, gan weiddi'n uchel, “Helpa ni, Fab Dafydd!” Ar ôl mynd i mewn i'r tŷ, dyma'r dynion yn dod ato, a gofynnodd iddyn nhw, “Ydych chi'n credu go iawn y galla i wneud hyn?” “Ydyn, Arglwydd,” medden nhw. Yna cyffyrddodd eu llygaid nhw a dweud, “Cewch beth dych wedi ei gredu sy'n bosib,” ac roedden nhw'n gallu gweld eto. Dyma Iesu'n eu rhybuddio'n llym, “Gwnewch yn siŵr fod neb yn gwybod am hyn.” Ond pan aethon nhw allan, dyma nhw'n dweud wrth bawb drwy'r ardal i gyd amdano. Wrth iddyn nhw adael, dyma rhyw bobl yn dod â dyn at Iesu oedd yn methu siarad am ei fod yng ngafael cythraul. Pan gafodd y cythraul ei fwrw allan ohono, dyma'r dyn yn dechrau siarad. Roedd y dyrfa wedi ei syfrdanu, a phobl yn dweud, “Does dim byd tebyg i hyn wedi digwydd yn Israel erioed o'r blaen.” Ond roedd y Phariseaid yn dweud, “Tywysog y cythreuliaid sy'n rhoi'r gallu iddo wneud hyn.” Roedd Iesu'n teithio o gwmpas yr holl drefi a'r pentrefi yn dysgu'r bobl yn eu synagogau, yn cyhoeddi'r newyddion da am deyrnasiad Duw, ac yn iacháu pob afiechyd a salwch. Roedd gweld tyrfaoedd o bobl yn ennyn tosturi ynddo, am eu bod fel defaid heb fugail, ar goll ac yn gwbl ddiymadferth. Ac meddai wrth ei ddisgyblion, “Mae'r cynhaeaf mor fawr, a'r gweithwyr mor brin! Felly, gofynnwch i Arglwydd y cynhaeaf anfon mwy o weithwyr i'w feysydd.” Galwodd y deuddeg disgybl at ei gilydd, a rhoi awdurdod iddyn nhw i fwrw ysbrydion drwg allan o bobl a iacháu pob afiechyd a salwch. Dyma enwau'r deuddeg oedd i'w gynrychioli: Simon (oedd yn cael ei alw yn Pedr), Andreas (brawd Pedr), Iago fab Sebedeus, Ioan (brawd Iago), Philip, Bartholomeus, Tomos, a Mathew (oedd yn casglu trethi i Rufain), Iago fab Alffeus, Thadeus, Simon y Selot a Jwdas Iscariot (yr un a'i bradychodd). Nhw oedd y deuddeg anfonodd Iesu allan. A dyma fe'n rhoi'r cyfarwyddiadau yma iddyn nhw: “Peidiwch mynd at y cenhedloedd eraill nac i mewn i un o bentrefi'r Samariaid. Ewch yn lle hynny at bobl Israel, sydd fel defaid ar goll. Dyma'r neges i chi ei chyhoeddi wrth fynd: ‘Mae'r Un nefol yn dod i deyrnasu.’ Ewch i iacháu pobl sy'n glaf, dod â phobl sydd wedi marw yn ôl yn fyw, iacháu'r rhai sy'n dioddef o'r gwahanglwyf, a bwrw allan gythreuliaid o fywydau pobl. Gan eich bod wedi derbyn y cwbl am ddim, rhowch yn rhad ac am ddim. Peidiwch cymryd arian, na hyd yn oed newid mân, gyda chi; dim bag teithio, na dillad sbâr na sandalau sbâr na ffon. Mae'r gweithiwr yn haeddu ei fara menyn. “Ble bynnag ewch chi, i dref neu bentref, edrychwch am rywun sy'n barod i'ch croesawu, ac aros yng nghartre'r person hwnnw nes byddwch yn gadael yr ardal. Wrth fynd i mewn i'r cartref, cyfarchwch y rhai sy'n byw yno. Os oes croeso yno, bydd yn cael ei fendithio; os oes dim croeso yno, cymerwch y fendith yn ôl. Os bydd rhywun yn gwrthod rhoi croeso i chi ac yn gwrthod gwrando ar eich neges chi, ysgydwch y llwch oddi ar eich traed pan fyddwch yn gadael y tŷ neu'r dref honno. Credwch chi fi, bydd hi'n well ar dir Sodom a Gomorra ar ddydd y farn nag ar y dref honno! Dw i'n eich anfon chi allan fel defaid i ganol pac o fleiddiaid. Felly byddwch yn graff fel nadroedd ond yn ddiniwed fel colomennod. “Gwyliwch eich hunain! Bydd pobl yn eich dwyn o flaen yr awdurdodau ac yn eich chwipio yn eu synagogau. Cewch eich llusgo o flaen llywodraethwyr a brenhinoedd a'ch cyhuddo o fod yn ddilynwyr i mi, a byddwch yn tystiolaethu iddyn nhw ac i bobl o wledydd eraill amdana i. Pan gewch eich arestio, peidiwch poeni beth i'w ddweud o flaen y llys na sut i'w ddweud. Bydd y peth iawn i'w ddweud yn dod i chi ar y pryd. Dim chi fydd yn siarad, ond Ysbryd eich Tad fydd yn siarad trwoch chi. “Bydd dyn yn bradychu ei frawd i gael ei ladd, a thad yn bradychu ei blentyn. Bydd plant yn troi yn erbyn eu rhieni, ac yn eu rhoi i'r awdurdodau i'w dienyddio. Bydd pawb yn eich casáu chi am eich bod yn ddilynwyr i mi, ond bydd y rhai sy'n sefyll yn gadarn i'r diwedd un yn cael eu hachub. Pan fyddwch yn cael eich erlid yn un lle, ffowch i rywle arall. Credwch chi fi, fyddwch chi ddim wedi gorffen mynd trwy drefi Israel cyn i mi, Mab y Dyn, ddod mewn gogoniant. “Dydy disgybl ddim yn dysgu ei athro, a dydy caethwas ddim uwchlaw ei feistr. Mae'n ddigon i ddisgybl fod yn debyg i'w athro, ac i gaethwas fod yn gyfartal â'i feistr. Os ydy pennaeth y tŷ yn cael ei alw'n Beelsebwl (hynny ydy y diafol), ydy pawb arall yn y teulu yn disgwyl cael pethau'n haws? “Felly peidiwch â'u hofni nhw. Bydd popeth sydd wedi ei guddio yn dod i'r golwg, a phob cyfrinach yn cael ei datgelu. Yr hyn dw i'n ei ddweud o'r golwg, dwedwch chi'n agored yng ngolau dydd; beth sy'n cael ei sibrwd yn eich clust, cyhoeddwch yn uchel o bennau'r tai. Peidiwch bod ofn pobl. Maen nhw'n gallu lladd y corff ond fedran nhw ddim lladd y person go iawn. Duw ydy'r un i'w ofni — mae'r gallu ganddo e i ddinistrio'r person a'i gorff yn uffern. Beth ydy gwerth aderyn y to? Dych chi'n gallu prynu dau ohonyn nhw am newid mân! Ond does dim un aderyn bach yn syrthio'n farw heb i'ch Tad wybod am y peth. Mae Duw hyd yn oed wedi cyfri gwallt eich pen chi! Felly peidiwch bod ofn dim byd; dych chi'n llawer mwy gwerthfawr na haid fawr o adar y to! “Pwy bynnag sy'n dweud yn agored o flaen pobl eraill ei fod yn credu ynof fi, bydda innau'n dweud yn agored o flaen fy Nhad yn y nefoedd fod y person hwnnw'n perthyn i mi. Ond pwy bynnag sy'n gwadu ei fod yn credu ynof fi o flaen pobl eraill, bydda innau'n gwadu o flaen fy Nhad yn y nefoedd fod y person hwnnw'n perthyn i mi. “Peidiwch meddwl fy mod i wedi dod â heddwch i'r byd! Dw i ddim yn dod â heddwch, ond cleddyf. Dw i wedi dod i droi ‘mab yn erbyn ei dad, a merch yn erbyn ei mam; merch-yng-nghyfraith yn erbyn mam-yng-nghyfraith — Bydd eich teulu agosaf yn troi'n elynion i chi.’ “Dydy'r sawl sy'n caru ei dad a'i fam yn fwy na fi ddim yn haeddu perthyn i mi; a dydy'r sawl sy'n caru mab neu ferch yn fwy na fi ddim yn haeddu perthyn i mi; Dydy'r sawl sydd ddim yn codi ei groes, a cherdded yr un llwybr o hunanaberth â mi, ddim yn haeddu perthyn i mi. Bydd y sawl sy'n ceisio amddiffyn ei fywyd yn colli'r bywyd go iawn, ond y sawl sy'n barod i ollwng gafael ar ei fywyd er fy mwyn i yn diogelu bywyd go iawn iddo'i hun. “Mae pwy bynnag sy'n rhoi croeso i chi yn rhoi croeso i mi, a phwy bynnag sy'n rhoi croeso i mi yn rhoi croeso i Dduw, yr un sydd wedi f'anfon i. Bydd pwy bynnag sy'n rhoi croeso i broffwyd am ei fod yn cyhoeddi neges Duw yn derbyn yr un wobr â'r proffwyd, a phwy bynnag sy'n rhoi croeso i un cyfiawn am ei fod yn gwneud beth sy'n iawn yng ngolwg Duw yn derbyn yr un wobr â'r un cyfiawn. Does ond rhaid i rywun roi diod o ddŵr oer i un o'r rhai bach yma sy'n ddilynwyr i mi, a chredwch chi fi, bydd y person yna'n siŵr o gael ei wobr.” Pan oedd Iesu wedi gorffen dysgu ei ddeuddeg disgybl, aeth yn ei flaen ar ei daith o gwmpas trefi Galilea yn dysgu ac yn pregethu. Pan glywodd Ioan Fedyddiwr, oedd yn y carchar, beth oedd Crist yn ei wneud, anfonodd ei ddisgyblion i ofyn iddo, “Ai ti ydy'r Meseia sydd i ddod, neu ddylen ni ddisgwyl rhywun arall?” Ateb Iesu oedd, “Ewch yn ôl a dweud wrth Ioan beth dych chi wedi ei glywed a'i weld: Mae pobl ddall yn cael gweld, pobl gloff yn cerdded, pobl sy'n dioddef o'r gwahanglwyf yn cael eu hiacháu, pobl fyddar yn clywed, a phobl sydd wedi marw yn dod yn ôl yn fyw. Ac mae'r newyddion da yn cael ei gyhoeddi i bobl dlawd! Ac un peth arall: Mae bendith fawr i bwy bynnag sydd ddim yn colli hyder ynddo i.” Wrth i ddisgyblion Ioan adael, dechreuodd Iesu siarad â'r dyrfa am Ioan: “Sut ddyn aethoch chi allan i'r anialwch i'w weld? Brwynen wan yn cael ei chwythu i bob cyfeiriad gan y gwynt? Na? Pam aethoch chi allan felly? I weld dyn mewn dillad crand? Wrth gwrs ddim! Mewn palasau mae pobl grand yn byw! Felly, pam aethoch chi allan? I weld proffwyd? Ie, a dw i'n dweud wrthoch chi ei fod e'n fwy na phroffwyd. Dyma'r un mae'r ysgrifau sanctaidd yn sôn amdano: ‘Edrych! — dw i'n anfon fy negesydd o dy flaen di, i baratoi'r ffordd i ti.’ Wir i chi, mae Ioan Fedyddiwr yn fwy na neb arall sydd wedi byw erioed. Ac eto mae'r person lleia pwysig yn nheyrnas yr Un nefol yn fwy nag e. Ers i Ioan ddechrau pregethu, mae teyrnas yr Un nefol wedi bod yn torri allan yn rymus, a'r rhai sy'n rhuthro trwodd yn cael gafael ynddi. Achos roedd yr holl broffwydi a Chyfraith Moses yn sôn am y peth fel rhywbeth oedd i ddigwydd yn y dyfodol, nes i Ioan ddod i'r golwg. Felly, os dych chi'n fodlon derbyn y peth, fe ydy'r Elias oedd i ddod. Gwrandwch yn ofalus os dych chi'n awyddus i ddysgu. “Sut mae disgrifio'r genhedlaeth yma? Mae hi fel plant yn eistedd yn sgwâr y farchnad yn cwyno am ei gilydd fel hyn: ‘Roedden ni'n chwarae priodas, ond wnaethoch chi ddim dawnsio; Roedden ni'n chwarae angladd, ond wnaethoch chi ddim galaru.’ Am fod Ioan ddim yn bwyta ac yn yfed fel pawb arall, roedden nhw'n dweud, ‘Mae yna gythraul ynddo.’ Ond wedyn dyma fi, Mab y Dyn yn dod, yn bwyta ac yn yfed, a maen nhw'n dweud, ‘y bolgi! Meddwyn yn diota a stwffio'i hun! Ffrind i'r twyllwyr sy'n casglu trethi i Rufain ac i bechaduriaid eraill ydy e!’ Gallwch nabod doethineb go iawn yn ôl pa mor gyson ydy'r dadleuon. Dych chi mor anghyson mae'ch ffolineb chi'n amlwg!” Dechreuodd Iesu feirniadu pobl y trefi hynny lle gwnaeth y rhan fwyaf o'i wyrthiau, am eu bod heb droi at Dduw. “Gwae ti, Chorasin! Gwae ti, Bethsaida! Petai'r gwyrthiau wnes i ynoch chi wedi digwydd yn Tyrus a Sidon, byddai'r bobl yno wedi hen ddangos eu bod yn edifar trwy wisgo sachliain a thaflu lludw ar eu pennau. Wir i chi, bydd hi'n well ar Tyrus a Sidon ar ddydd y farn nag arnoch chi! A beth amdanat ti, Capernaum? Wyt ti'n meddwl y byddi di'n cael dy anrhydeddu? Na, byddi di'n cael dy fwrw i lawr i'r dyfnder tywyll! Petai'r gwyrthiau wnes i ynot ti wedi digwydd yn Sodom, byddai Sodom yn dal yma heddiw! Wir i chi, bydd hi'n well ar Sodom ar ddydd y farn nag arnat ti!” Bryd hynny dyma Iesu'n dweud, “Fy Nhad, Arglwydd y nefoedd a'r ddaear. Diolch i ti am guddio'r pethau yma oddi wrth y bobl sy'n meddwl eu bod nhw mor ddoeth a chlyfar, a'u dangos i rai sy'n agored fel plant bach. Ie, fy Nhad, dyna sy'n dy blesio di. “Mae fy Nhad wedi rhoi popeth yn fy ngofal i. Does neb yn nabod y Mab go iawn ond y Tad, a does neb yn nabod y Tad go iawn ond y Mab, a'r rhai hynny mae'r Mab wedi dewis ei ddangos iddyn nhw. “Dewch ata i, bawb sy'n cael eich llethu gan feichiau trwm, a rhof i orffwys i chi. Dewch gyda mi o dan fy iau i, er mwyn i chi ddysgu gen i. Dw i'n addfwyn ac yn ostyngedig, a chewch chi orffwys. Mae fy iau i yn gyfforddus a dw i ddim yn gosod beichiau trwm ar bobl.” Bryd hynny aeth Iesu drwy ganol caeau ŷd ar y dydd Saboth. Roedd ei ddisgyblion eisiau bwyd, a dyma nhw'n dechrau tynnu rhai o'r tywysennau ŷd a'u bwyta. Wrth weld hyn dyma'r Phariseaid yn dweud wrtho, “Edrych! Mae dy ddisgyblion di yn torri rheolau'r Gyfraith ar y Saboth!” Atebodd Iesu nhw, “Ydych chi ddim wedi darllen beth wnaeth Dafydd pan oedd e a'i griw o ddilynwyr yn llwgu? Aeth i mewn i dŷ Dduw, a bwyta'r bara oedd wedi ei gysegru a'i osod yn offrwm i Dduw. Mae'r Gyfraith yn dweud fod ganddo fe a'i ddilynwyr ddim hawl i'w fwyta; dim ond yr offeiriaid oedd â hawl. Neu ydych chi ddim wedi darllen beth mae'r Gyfraith yn ei ddweud am y Saboth? Mae'r offeiriaid yn torri rheolau'r Saboth trwy weithio yn y deml! Ac eto maen nhw'n cael eu cyfri'n ddieuog. Gwrandwch — mae rhywbeth mwy na'r deml yma! Petaech chi wedi deall ystyr y gosodiad, ‘Trugaredd dw i eisiau, nid aberthau,’ fyddech chi ddim yn condemnio'r dieuog. Mae gen i, Fab y Dyn, hawl i ddweud beth sy'n iawn ar y Saboth.” Aeth oddi yno a mynd i'w synagog nhw, ac roedd dyn yno oedd â'i law yn ddiffrwyth. Roedden nhw'n edrych am unrhyw esgus i gyhuddo Iesu, felly dyma nhw'n gofyn iddo, “Ydy'r Gyfraith yn dweud ei bod hi'n iawn i iacháu pobl ar y Saboth?” Atebodd nhw, “Petai dafad un ohonoch chi'n syrthio i ffos ar y Saboth, fyddech chi ddim yn mynd i'w chodi hi allan? Mae person yn llawer mwy gwerthfawr na dafad! Felly, ydy, mae'n iawn yn ôl y Gyfraith i wneud daioni ar y Saboth.” Yna dwedodd wrth y dyn, “Estyn dy law allan.” Ac wrth i'r dyn wneud hynny cafodd y llaw ei gwella'n llwyr, nes ei bod mor gryf â'r llaw arall. Ond dyma'r Phariseaid yn mynd allan i drafod sut allen nhw ladd Iesu. Roedd Iesu'n gwybod yn iawn beth oedd yn digwydd, ac aeth i ffwrdd oddi yno. Roedd llawer o bobl yn ei ddilyn, ac iachaodd bob un ohonyn nhw oedd yn glaf, ond roedd yn eu rhybuddio i beidio dweud pwy oedd e. Dyma sut daeth yr hyn ddwedodd Duw drwy'r proffwyd Eseia yn wir: “Dyma'r un dw i wedi ei ddewis yn was i mi, yr un dw i'n ei garu, ac mor falch ohono; Rhof fy Ysbryd Glân iddo, a bydd yn cyhoeddi cyfiawnder i'r cenhedloedd. Fydd e ddim yn cweryla nac yn gweiddi i dynnu sylw ato'i hun, a fydd neb yn clywed ei lais ar y strydoedd; Fydd e ddim yn torri brwynen wan, nac yn diffodd cannwyll sy'n mygu. Bydd e'n arwain cyfiawnder i fod yn fuddugol. Bydd pobl o'r holl genhedloedd yn rhoi eu gobaith ynddo.” Dyma nhw'n dod â dyn at Iesu oedd yn ddall ac yn methu siarad am ei fod yng ngafael cythraul. Dyma Iesu'n ei iacháu, ac roedd yn gallu siarad a gweld wedyn. Roedd y bobl i gyd yn rhyfeddu, ac yn dweud, “Tybed ai hwn ydy Mab Dafydd?” Ond pan glywodd y Phariseaid am y peth, dyma nhw'n dweud, “Beelsebwl (y diafol ei hun), tywysog y cythreuliaid, sy'n rhoi'r gallu iddo wneud hyn.” Roedd Iesu'n gwybod yn iawn beth oedd yn mynd trwy'u meddyliau, ac meddai wrthyn nhw, “Bydd teyrnas lle mae yna ryfel cartref yn syrthio, a bydd dinas neu deulu sy'n ymladd â'i gilydd o hyd yn syrthio hefyd. Os ydy Satan yn ymladd yn erbyn ei hun, a'i deyrnas wedi ei rhannu, sut mae'n bosib i'w deyrnas sefyll? Os mai Beelsebwl sy'n rhoi'r gallu i mi, pwy sy'n rhoi'r gallu i'ch dilynwyr chi? Byddan nhw'n eich barnu chi. Ond os mai Ysbryd Duw sy'n rhoi'r gallu i mi fwrw allan gythreuliaid, yna mae Duw wedi dod i deyrnasu. “Neu sut all rhywun fynd i mewn i gartre'r dyn cryf a dwyn ei eiddo heb rwymo'r dyn cryf yn gyntaf? Bydd yn gallu dwyn popeth o'i dŷ wedyn. “Os dydy rhywun ddim ar fy ochr i, mae yn fy erbyn i. Ac os dydy rhywun ddim yn gweithio gyda mi, mae'n gweithio yn fy erbyn i. Felly gwrandwch — mae maddeuant i'w gael am bob pechod a chabledd, ond does dim maddeuant i'r rhai sy'n cablu yn erbyn yr Ysbryd. Bydd rhywun sydd wedi dweud rhywbeth yn fy erbyn i, Mab y Dyn, yn cael maddeuant, ond does dim maddeuant i bwy bynnag sy'n dweud rhywbeth yn erbyn yr Ysbryd Glân, yn yr oes yma nac yn yr oes i ddod. “Dewiswch y naill neu'r llall — fod y goeden yn iach a'i ffrwyth yn dda, neu fod y goeden yn ddrwg a'i ffrwyth yn ddrwg. Y ffrwyth sy'n dangos sut goeden ydy hi. Dych chi fel nythaid o nadroedd! Sut allwch chi sy'n ddrwg ddweud unrhyw beth da? Mae'r hyn mae pobl yn ei ddweud yn dangos beth sy'n eu calonnau nhw. Mae pobl dda yn rhannu'r daioni sydd wedi ei storio o'u mewn, a phobl ddrwg yn rhannu'r drygioni sydd wedi ei storio ynddyn nhw. Ar ddydd y farn, bydd rhaid i bobl roi cyfri am bob peth byrbwyll wnaethon nhw ei ddweud. Cei dy ddyfarnu'n euog neu'n ddieuog ar sail beth ddwedaist ti.” Dyma rai o'r arbenigwyr yn y Gyfraith a'r Phariseaid yn dod ato, a dweud wrtho, “Athro, gad i ni dy weld di'n gwneud rhyw arwydd gwyrthiol.” Atebodd nhw, “Cenhedlaeth ddrwg ac anffyddlon sy'n gofyn am gael gweld gwyrth fyddai'n arwydd iddyn nhw o pwy ydw i! Yr unig arwydd gân nhw ydy arwydd y proffwyd Jona. Fel y daeth Jona allan yn fyw o fol y pysgodyn mawr ar ôl tri diwrnod, felly y bydda i, Mab y Dyn, yn dod yn ôl yn fyw o berfedd y ddaear. Bydd pobl Ninefe hefyd yn condemnio pobl y genhedlaeth yma, am eu bod nhw wedi newid eu ffyrdd ar ôl clywed pregethu Jona. Mae un mwy na Jona yma nawr! A bydd Brenhines Seba yn condemnio'r genhedlaeth yma ar ddydd y farn. Roedd hi'n fodlon teithio o ben draw'r byd i wrando ar ddoethineb Solomon. Mae un mwy na Solomon yma nawr! “Pan mae ysbryd drwg yn dod allan o rywun, mae'n mynd i grwydro lleoedd anial yn chwilio am le i orffwys. Ond pan mae'n methu dod o hyd i rywle, mae'n meddwl, ‘Af i yn ôl i lle roeddwn i'n byw.’ Mae'n cyrraedd ac yn darganfod y tŷ yn wag ac wedi ei lanhau a'i dacluso trwyddo. Wedyn mae'n mynd â saith ysbryd gwaeth na'i hun i fyw gydag e. Mae'r person mewn gwaeth cyflwr ar y diwedd nag oedd ar y dechrau! Fel yna fydd hi ar y genhedlaeth ddrwg yma.” Tra oedd Iesu'n dal i siarad â'r bobl, cyrhaeddodd ei fam a'i frodyr yno. Dyma nhw'n sefyll y tu allan a gofyn am gael gair gydag e. Dwedodd rhywun wrtho, “Mae dy fam a'th frodyr yn sefyll y tu allan, eisiau siarad gyda ti.” Dyma fe'n ateb, “Pwy ydy fy mam? Pwy ydy fy mrodyr i?” A chan bwyntio at ei ddisgyblion, meddai, “Dyma fy mam a'm brodyr i. Mae pwy bynnag sy'n gwneud beth mae fy Nhad nefol eisiau yn frawd a chwaer a mam i mi.” Y diwrnod hwnnw aeth Iesu allan ac eistedd ar lan Llyn Galilea. Roedd cymaint o dyrfa wedi casglu o'i gwmpas nes bod rhaid iddo fynd i eistedd mewn cwch tra oedd y bobl i gyd yn sefyll ar y lan. Roedd yn defnyddio llawer o straeon i rannu ei neges gyda nhw: “Aeth ffermwr allan i hau had. Wrth iddo wasgaru'r had, dyma beth ohono yn syrthio ar y llwybr, a dyma'r adar yn dod a'i fwyta. Dyma beth o'r had yn syrthio ar dir creigiog lle doedd ond haen denau o bridd. Tyfodd yn ddigon sydyn, ond yn yr haul poeth dyma'r tyfiant yn gwywo. Doedd ganddo ddim gwreiddiau. Yna dyma beth o'r had yn syrthio i ganol drain, ond tyfodd y drain a thagu'r planhigion. Ond syrthiodd peth o'r had ar bridd da. Tyfodd cnwd da yno — beth ohono gan gwaith, chwe deg gwaith neu dri deg gwaith mwy na chafodd ei hau.” “Gwrandwch yn ofalus os dych chi'n awyddus i ddysgu!” Daeth y disgyblion ato a gofyn, “Pam wyt ti'n dweud y straeon yma wrthyn nhw?” Dyma oedd ei ateb: “Dych chi'n cael gwybod beth ydy'r gyfrinach am deyrnasiad yr Un nefol, ond dydyn nhw ddim. Bydd y rhai sydd wedi deall rhywfaint eisoes yn derbyn mwy, a byddan nhw ar ben eu digon! Ond am y rhai hynny sydd heb ddeall dim — bydd hyd yn oed yr hyn maen nhw yn ei ddeall yn cael ei gymryd oddi arnyn nhw. Dyna pam dw i'n defnyddio straeon i siarad â nhw. Er eu bod yn edrych, dŷn nhw ddim yn gweld; er eu bod yn gwrando, dŷn nhw ddim yn clywed nac yn deall. Ynddyn nhw mae'r hyn wnaeth Eseia ei broffwydo yn dod yn wir: ‘Byddwch chi'n gwrando'n astud, ond byth yn deall; Byddwch chi'n edrych yn ofalus, ond byth yn dirnad. Maen nhw'n rhy ystyfnig i ddysgu unrhyw beth — maen nhw'n fyddar, ac wedi cau eu llygaid. Fel arall, bydden nhw'n gweld â'u llygaid, yn clywed â'u clustiau, yn deall go iawn, ac yn troi, a byddwn i'n eu hiacháu nhw’. Ond dych chi'n cael y fath fraint o weld a chlywed y cwbl! Wir i chi, mae llawer o broffwydi a phobl dduwiol wedi hiraethu am gael gweld beth dych chi'n ei weld a chlywed beth dych chi'n ei glywed, ond chawson nhw ddim. “Felly dyma beth ydy ystyr stori'r ffermwr yn hau: Pan mae rhywun yn clywed y neges am y deyrnas a ddim yn deall, mae'r Un drwg yn dod ac yn cipio beth gafodd ei hau yn y galon. Dyna'r had ddisgynnodd ar y llwybr. Yr had sy'n syrthio ar dir creigiog ydy'r sawl sy'n derbyn y neges yn frwd i ddechrau. Ond dydy'r neges ddim yn gafael yn y person go iawn, ac felly dydy e ddim yn para'n hir iawn. Pan mae argyfwng yn codi, neu wrthwynebiad am ei fod wedi credu, mae'n troi cefn yn ddigon sydyn! Wedyn yr had syrthiodd i ganol drain ydy'r sawl sy'n clywed y neges, ond mae'n rhy brysur yn poeni am hyn a'r llall ac yn ceisio gwneud arian. Felly mae'r neges yn cael ei thagu a does dim ffrwyth i'w weld yn ei fywyd. Ond yr had sy'n syrthio ar dir da ydy'r sawl sy'n clywed y neges ac yn ei deall. Mae'r effaith fel cnwd anferth — can gwaith neu chwe deg gwaith neu dri deg gwaith mwy na gafodd ei hau.” Dwedodd Iesu stori arall wrthyn nhw: “Mae teyrnasiad yr Un nefol fel dyn yn hau had da yn ei gae. Tra oedd pawb yn cysgu, dyma rywun oedd yn ei gasáu yn hau chwyn yng nghanol y gwenith. Pan ddechreuodd y gwenith egino a thyfu, daeth y chwyn i'r golwg hefyd. “Daeth gweision y ffermwr ato a dweud, ‘Feistr, onid yr had gorau gafodd ei hau yn dy gae di? O ble mae'r holl chwyn yma wedi dod?’ “‘Rhywun sy'n fy nghasáu i sy'n gyfrifol am hyn’ meddai. “‘Felly, wyt ti am i ni fynd i godi'r chwyn?’ meddai ei weision. “‘Na,’ meddai'r dyn, ‘Rhag ofn i chi godi peth o'r gwenith wrth dynnu'r chwyn. Gadewch i'r gwenith a'r chwyn dyfu gyda'i gilydd. Wedyn pan ddaw'r cynhaeaf bydda i'n dweud wrth y rhai fydd yn casglu'r cynhaeaf: Casglwch y chwyn gyntaf, a'u rhwymo'n fwndeli i'w llosgi; wedyn cewch gasglu'r gwenith a'i roi yn fy ysgubor.’” Dwedodd stori arall wrthyn nhw: “Mae teyrnasiad yr Un nefol fel hedyn mwstard yn cael ei blannu gan rywun yn ei gae. Er mai dyma'r hedyn lleia un, mae'n tyfu i fod y planhigyn mwya yn yr ardd. Mae'n tyfu'n goeden y gall yr adar ddod i nythu yn ei changhennau!” Dwedodd stori arall eto: “Mae teyrnasiad yr Un nefol fel burum. Mae gwraig yn ei gymryd a'i gymysgu gyda digonedd o flawd nes iddo ledu drwy'r toes i gyd.” Roedd Iesu'n dweud popeth wrth y dyrfa drwy adrodd straeon; doedd e'n dweud dim heb ddefnyddio stori fel darlun. Felly dyma beth ddwedodd Duw drwy'r proffwyd yn dod yn wir: “Siaradaf drwy adrodd straeon, Dwedaf bethau sy'n ddirgelwch ers i'r byd gael ei greu.” Gadawodd Iesu y dyrfa a mynd i mewn i'r tŷ. Aeth ei ddisgyblion i mewn ato a gofyn iddo, “Wnei di esbonio'r stori am y chwyn i ni?” Atebodd Iesu, “Fi, Mab y Dyn, ydy'r un sy'n hau yr had da. Y byd ydy'r cae, ac mae'r hadau da yn cynrychioli'r bobl sy'n perthyn i'r deyrnas. Y bobl sy'n perthyn i'r un drwg ydy'r chwyn, a'r gelyn sy'n eu hau nhw ydy'r diafol. Diwedd y byd ydy'r cynhaeaf, a'r angylion ydy'r rhai fydd yn casglu'r cynhaeaf. “Dyma fydd yn digwydd pan ddaw diwedd y byd — fel y chwyn sy'n cael eu casglu i'w llosgi, bydd Mab y Dyn yn anfon yr angylion allan, a byddan nhw'n chwynnu o blith y bobl sy'n perthyn i'w deyrnas bawb sy'n gwneud i bobl bechu, a phawb sy'n gwneud drwg. Bydd yr angylion yn eu taflu nhw i'r ffwrnais, lle bydd pobl yn wylo'n chwerw ac mewn artaith. Wedyn bydd y bobl wnaeth beth sy'n iawn yn disgleirio fel yr haul pan ddaw eu Tad nefol i deyrnasu. Gwrandwch yn ofalus os dych chi'n awyddus i ddysgu. “Mae teyrnasiad yr Un nefol fel trysor wedi ei guddio mewn cae. Dyma rywun yn ei ffeindio ac yna'n ei guddio eto. Wedyn mynd yn llawen a gwerthu popeth oedd ganddo er mwyn gallu prynu'r cae hwnnw. “Mae teyrnasiad yr Un nefol hefyd yn debyg i fasnachwr yn casglu perlau gwerthfawr. Ar ôl dod o hyd i un perl arbennig o werthfawr, mae'n mynd i ffwrdd ac yn gwerthu'r cwbl sydd ganddo er mwyn gallu prynu'r un perl hwnnw. “Unwaith eto, mae teyrnasiad yr Un nefol yn debyg i rwyd sy'n cael ei gollwng i'r llyn a phob math o bysgod yn cael eu dal ynddi. Mae'r pysgotwyr yn llusgo'r rhwyd lawn i'r lan. Wedyn mae'r pysgod da yn cael eu cadw a'u storio, ond y pysgod diwerth yn cael eu taflu i ffwrdd. Dyna fydd yn digwydd pan ddaw diwedd y byd. Bydd yr angylion yn dod i gasglu'r bobl ddrwg o blith y bobl wnaeth beth sy'n iawn, ac yn eu taflu nhw i'r ffwrnais dân, lle bydd pobl yn wylo'n chwerw ac mewn artaith. “Ydych chi wedi deall hyn i gyd?” gofynnodd Iesu. “Ydyn,” medden nhw. Yna meddai wrthyn nhw, “Felly mae pob athro yn yr ysgrifau sanctaidd sydd wedi ymostwng i deyrnasiad yr Un nefol fel perchennog tir sy'n dod â thrysorau newydd a hen allan o'i ystordy.” Pan oedd Iesu wedi gorffen dweud y straeon yma, aeth yn ôl i Nasareth lle cafodd ei fagu. Dechreuodd ddysgu'r bobl yn eu synagog, ac roedden nhw'n rhyfeddu ato. “Ble gafodd hwn y fath ddoethineb, a'r gallu yma i wneud gwyrthiau?” medden nhw. “Mab y saer ydy e! Onid Mair ydy ei fam? Onid Iago, Joseff, Simon a Jwdas ydy ei frodyr? Mae ei chwiorydd i gyd yn byw yma! Felly, ble cafodd e hyn i gyd?” Roedden nhw wedi cymryd yn ei erbyn. Ond dyma Iesu'n dweud wrthyn nhw: “Mae proffwyd yn cael ei barchu ym mhobman ond yn yr ardal lle cafodd ei fagu, a chan ei deulu ei hun!” Wnaeth Iesu ddim llawer o wyrthiau yno am eu bod nhw ddim yn credu. Tua'r adeg yna clywodd y llywodraethwr Herod y straeon am Iesu. Dwedodd wrth ei swyddogion, “Ioan Fedyddiwr sydd wedi dod yn ôl yn fyw! Dyna pam mae'n gallu gwneud gwyrthiau.” Herod oedd wedi arestio Ioan Fedyddiwr a'i roi yn y carchar. Roedd wedi gwneud hynny o achos ei berthynas â Herodias, gwraig ei frawd, Philip. Roedd Ioan wedi dweud wrtho dro ar ôl tro: “Dydy'r Gyfraith ddim yn caniatáu i ti ei chymryd hi.” Er bod Herod eisiau lladd Ioan, roedd ganddo ofn gwneud hynny am fod y bobl yn ystyried Ioan yn broffwyd. Ond yna, ar ddiwrnod pen-blwydd Herod dyma ferch Herodias yn perfformio dawns yn y parti. Roedd hi wedi plesio Herod cymaint nes iddo dyngu ar lw y byddai'n rhoi iddi beth bynnag oedd hi'n gofyn amdano. Gyda'i mam yn ei hannog, dwedodd wrtho, “Dw i eisiau i ti dorri pen Ioan Fedyddiwr, a'i roi i mi ar hambwrdd.” Doedd y brenin ddim yn hapus o gwbl, ond am ei fod wedi addo ar lw o flaen ei westeion, rhoddodd orchymyn iddo gael ei roi iddi. Anfonodd filwyr i'r carchar i dorri pen Ioan i ffwrdd. Wedyn, dyma nhw'n dod â'r pen ar hambwrdd a'i roi i'r ferch fach, a rhoddodd hithau e i'w mam. Dyma ddisgyblion Ioan yn cymryd y corff a'i gladdu, ac wedyn yn mynd i ddweud wrth Iesu beth oedd wedi digwydd. Pan glywodd Iesu beth oedd wedi digwydd, aeth i ffwrdd mewn cwch i le tawel i fod ar ei ben ei hun. Ond clywodd y tyrfaoedd am hyn, a'i ddilyn ar droed o'r trefi. Pan gyrhaeddodd Iesu'r lan, roedd gweld y dyrfa fawr yno yn ennyn tosturi ynddo, a iachaodd y rhai oedd yn sâl. Roedd hi'n dechrau nosi, felly dyma'r disgyblion yn dod ato a dweud, “Mae'r lle yma'n anial ac mae'n mynd yn hwyr. Anfon y bobl i ffwrdd, iddyn nhw gael mynd i'r pentrefi i brynu bwyd.” Atebodd Iesu, “Does dim rhaid iddyn nhw fynd i ffwrdd. Rhowch chi rywbeth i'w fwyta iddyn nhw.” Medden nhw wrtho, “Dim ond pum torth fach a dau bysgodyn sydd gynnon ni.” “Dewch â nhw i mi,” meddai. A dwedodd wrth y bobl am eistedd i lawr ar y glaswellt. Wedyn cymerodd y pum torth a'r ddau bysgodyn ac offrymu gweddi o ddiolch i Dduw. Torrodd y bara a rhoi'r torthau i'w ddisgyblion, a dyma'r disgyblion yn eu rhannu i'r bobl. Cafodd pawb ddigon i'w fwyta, a dyma nhw'n codi deuddeg llond basged o dameidiau oedd wedi eu gadael dros ben. Roedd tua pum mil o ddynion wedi cael eu bwydo, heb sôn am wragedd a phlant! Dyma Iesu'n gwneud i'w ddisgyblion fynd yn ôl i'r cwch a chroesi drosodd o'i flaen. Ar ôl iddo anfon y dyrfa adre, aeth i ben mynydd er mwyn cael lle tawel i weddïo. Roedd yno ar ei ben ei hun ac roedd hi'n nosi. Erbyn hynny roedd y cwch yn bell o'r tir, ac yn cael ei daro gan y tonnau am fod y gwynt yn ei erbyn. Yna, rywbryd ar ôl tri o'r gloch y bore, aeth Iesu allan atyn nhw, gan gerdded ar y dŵr. Pan welodd y disgyblion e'n cerdded ar y llyn, roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau. “Ysbryd ydy e!” medden nhw, gan weiddi mewn ofn. Ond dyma Iesu'n dweud wrthyn nhw, “Mae'n iawn! Fi ydy e. Peidiwch bod ag ofn.” “Arglwydd, os mai ti sydd yna” meddai Pedr, “gad i mi ddod atat ti ar y dŵr.” “Iawn, tyrd,” meddai Iesu. Yna camodd Pedr allan o'r cwch a dechrau cerdded ar y dŵr tuag at Iesu. Ond pan welodd mor gryf oedd y gwynt, roedd arno ofn. Dechreuodd suddo, a gwaeddodd allan “Achub fi, Arglwydd!” Dyma Iesu'n estyn ei law allan a gafael ynddo. “Ble mae dy ffydd di?” meddai wrtho, “Pam wnest ti amau?” Wrth iddyn nhw ddringo i mewn i'r cwch dyma'r gwynt yn tawelu Dyma'r rhai oedd yn y cwch yn ei addoli, a dweud, “Ti ydy Mab Duw go iawn.” Ar ôl croesi'r llyn, dyma nhw'n glanio yn Genesaret. Dyma'r dynion yno yn nabod Iesu, ac yn anfon i ddweud wrth bawb drwy'r ardal i gyd. Roedd pobl yn dod â phawb oedd yn sâl ato ac yn pledio arno i adael iddyn nhw gyffwrdd y taselau ar ei glogyn. Roedd pawb oedd yn ei gyffwrdd yn cael eu hiacháu. Dyma Phariseaid ac arbenigwyr yn y Gyfraith o Jerwsalem yn dod at Iesu, a gofyn iddo, “Pam mae dy ddisgyblion di yn gwneud beth sy'n groes i'r traddodiad? Maen nhw'n bwyta heb fynd drwy'r ddefod o olchi eu dwylo!” Atebodd Iesu, “A pham dych chi'n mynd yn groes i orchymyn Duw er mwyn cadw'ch traddodiadau? Er enghraifft, gorchmynnodd Duw, ‘Gofala am dy dad a dy fam’ a ‘Rhaid i bwy bynnag sy'n sarhau ei dad neu ei fam gael ei ladd.’ Ond dych chi'n dweud ei bod yn iawn dweud wrth rieni mewn oed, ‘Alla i ddim gofalu amdanoch chi. Mae beth o'n i'n mynd i'w roi i chi wedi ei gyflwyno'n rhodd i Dduw,’ Does dim rhaid ‛gofalu am dad‛ wedyn. Er mwyn cadw'ch traddodiad dych chi'n osgoi gwneud beth mae Duw'n ei ddweud. Dych chi mor ddauwynebog! Roedd Eseia yn llygad ei le pan broffwydodd amdanoch chi: ‘Mae'r bobl yma'n dweud pethau gwych amdana i, ond mae eu calonnau yn bell oddi wrtho i. Mae eu haddoliad yn ddiystyr; mân-reolau dynol ydy'r cwbl maen nhw'n ei ddysgu.’” Yna dyma Iesu'n galw'r dyrfa ato a dweud wrthyn nhw, “Gwrandwch er mwyn i chi ddeall. Dim beth dych chi'n ei fwyta sy'n eich gwneud chi'n ‛aflan‛; y pethau dych chi'n eu dweud sy'n eich gwneud chi'n ‛aflan‛.” A dyma'r disgyblion yn mynd ato a dweud wrtho, “Mae beth ddwedaist ti wedi cythruddo'r Phariseaid go iawn!” Atebodd yntau, “Bydd pob planhigyn wnaeth fy Nhad nefol ddim ei blannu yn cael ei dynnu i fyny. Gadewch iddyn nhw — arweinwyr dall ydyn nhw! Os ydy dyn dall yn arwain dyn dall arall, bydd y ddau yn disgyn i ffos gyda'i gilydd.” Yna meddai Pedr, “Esbonia i ni beth ydy ystyr y dywediad.” “Ydych chi'n dal mor ddwl?” meddai Iesu. “Ydych chi ddim yn gweld fod bwyd ddim ond yn mynd drwy'r stumog ac yna'n dod allan yn y tŷ bach? Ond mae'r pethau dych chi'n eu dweud yn dod o'r galon, a dyna sy'n eich gwneud chi'n ‛aflan‛. O'ch calon chi mae meddyliau drwg yn dod, a phethau fel llofruddio, godinebu, anfoesoldeb rhywiol, dwyn, rhoi tystiolaeth ffug, a hel straeon cas. Dyma'r pethau sy'n gwneud rhywun yn ‛aflan‛. Dydy bwyta heb gadw'r ddefod o olchi'r dwylo ddim yn eich gwneud chi'n ‛aflan‛.” Gadawodd Iesu Galilea ac aeth i ffwrdd i gylch Tyrus a Sidon. Daeth gwraig ato (gwraig o'r ardal oedd o dras Cananeaidd), a gweiddi, “Arglwydd, Fab Dafydd, helpa fi! Mae fy merch yn dioddef yn ofnadwy am ei bod yng ngafael cythraul.” Wnaeth Iesu ddim ymateb o gwbl. A dyma'i ddisgyblion yn dod ato a phwyso arno, “Anfon hi i ffwrdd, mae hi'n boen yn dal ati i weiddi ar ein holau ni!” Felly atebodd Iesu hi, “Dim ond at bobl Israel, sydd fel defaid ar goll, ces i fy anfon.” Ond dyma'r wraig yn dod a phenlinio o'i flaen. “Helpa fi, Arglwydd!” meddai. Atebodd Iesu, “Dydy hi ddim yn iawn i bobl daflu bwyd y plant i'r cŵn.” “Digon gwir, Arglwydd,” meddai'r wraig, “ond mae hyd yn oed y cŵn yn bwyta'r briwsion sy'n disgyn oddi ar fwrdd eu meistr.” Atebodd Iesu, “Wraig annwyl, mae gen ti lot o ffydd! Cei beth ofynnaist amdano.” A dyna'r union adeg y cafodd ei merch ei hiacháu. Pan adawodd Iesu'r ardal honno, teithiodd ar lan Llyn Galilea. Yna aeth i ben mynydd ac eistedd i lawr. Daeth tyrfaoedd mawr o bobl ato, gyda phobl oedd yn gloff, neu'n ddall, neu'n anabl, neu'n fud. Cawson nhw eu gosod o'i flaen, a iachaodd nhw. Roedd y bobl wedi eu syfrdanu wrth weld y mud yn siarad, pobl anabl wedi cael eu hiacháu, y cloff yn cerdded a'r dall yn gweld. A dyma nhw'n dechrau moli Duw Israel. Dyma Iesu'n galw ei ddisgyblion ato a dweud, “Dw i'n teimlo dros y bobl yma i gyd; maen nhw wedi bod yma ers tri diwrnod heb gael dim i'w fwyta. Dw i ddim am iddyn nhw fynd i ffwrdd heb gael rhywbeth i'w fwyta, rhag iddyn nhw lewygu ar y ffordd.” Meddai'r disgyblion, “Ble gawn ni ddigon o fara i fwydo'r fath dyrfa mewn lle mor anial!” “Sawl torth o fara sydd gynnoch chi?” meddai Iesu. “Saith,” medden nhw, “a rhyw ychydig o bysgod bach.” Yna dwedodd Iesu wrth y dyrfa am eistedd i lawr. Cymerodd y saith torth a'r pysgod, ac offrymu gweddi o ddiolch i Dduw, yna eu torri a'u rhoi i'r disgyblion, a dyma'r disgyblion yn eu rhannu i'r bobl. Cafodd pawb ddigon i'w fwyta, ac roedd saith llond cawell o dameidiau bwyd dros ben. Roedd pedair mil o ddynion wedi cael eu bwydo, heb sôn am wragedd a phlant! Ar ôl i Iesu anfon y dyrfa adre aeth i mewn i'r cwch a chroesi i ardal Magadan. Daeth Phariseaid a Sadwceaid at Iesu a gofyn iddo brofi pwy oedd drwy wneud rhyw arwydd gwyrthiol. Atebodd nhw, “Pan mae'r haul yn machlud dych chi'n dweud, ‘Bydd hi'n braf fory — mae'r awyr yn goch,’ ac yna yn y bore, ‘Bydd hi'n stormus heddiw — mae'r awyr yn goch a'r cymylau'n ddu.’ Dych chi'n gwybod sut mae'r tywydd yn argoeli, ond does gynnoch chi ddim syniad sut i ddeall yr arwyddion sydd yma nawr. Cenhedlaeth ddrwg ac anffyddlon sy'n gofyn am gael gweld gwyrth fyddai'n arwydd iddyn nhw o pwy ydw i! Yr unig arwydd gân nhw ydy arwydd y proffwyd Jona.” Yna gadawodd nhw a mynd i ffwrdd. Pan groesodd y disgyblion ochr arall y llyn, roedden nhw wedi anghofio mynd â bara gyda nhw. “Byddwch yn ofalus,” meddai Iesu wrthyn nhw, “a cadwch draw oddi wrth furum y Phariseaid a'r Sadwceaid.” Wrth drafod y peth dyma'r disgyblion yn dod i'r casgliad ei fod yn tynnu sylw at y ffaith eu bod heb fynd â bara gyda nhw. Roedd Iesu'n gwybod beth oedden nhw'n ei drafod, ac meddai, “Ble mae'ch ffydd chi? Pam dych chi'n poeni eich bod heb fara? Ydych chi'n dal ddim yn deall? Ydych chi ddim yn cofio'r pum torth i fwydo'r pum mil, a sawl basgedaid wnaethoch chi eu casglu? Neu'r saith torth i fwydo'r pedair mil, a sawl llond cawell wnaethoch chi eu casglu? Ydych chi ddim yn gweld mod i ddim yn siarad am fara go iawn? Dw i am i chi gadw draw oddi wrth furum y Phariseaid a'r Sadwceaid.” Roedden nhw'n deall wedyn ei fod ddim sôn am fara go iawn; eisiau iddyn nhw osgoi dysgeidiaeth y Phariseaid a'r Sadwceaid oedd e. Pan gyrhaeddodd Iesu ardal Cesarea Philipi, gofynnodd i'w ddisgyblion, “Pwy mae pobl yn ei ddweud ydw i, Mab y Dyn?” “Mae rhai yn dweud Ioan Fedyddiwr,” medden nhw, “eraill yn dweud Elias, ac eraill eto'n dweud Jeremeia neu un o'r proffwydi.” “Ond beth amdanoch chi?” meddai. “Pwy dych chi'n ddweud ydw i?” Atebodd Simon Pedr, “Ti ydy'r Meseia, Mab y Duw byw.” “Rwyt ti wedi dy fendithio'n fawr, Simon fab Jona,” meddai Iesu, “am mai dim person dynol ddangosodd hyn i ti, ond fy Nhad yn y nefoedd. A dw i'n dweud wrthyt ti mai ti ydy Pedr (y garreg). A dyma'r graig dw i'n mynd i adeiladu fy eglwys arni hi, a fydd grym marwolaeth ddim yn ei gorchfygu hi. Dw i'n mynd i roi allweddi teyrnas yr Un nefol i ti; bydd beth bynnag rwyt ti'n ei rwystro ar y ddaear wedi ei rwystro yn y nefoedd, a bydd beth bynnag rwyt ti'n ei ganiatáu ar y ddaear wedi ei ganiatáu yn y nefoedd.” Yna dyma Iesu'n rhybuddio ei ddisgyblion i beidio dweud wrth neb mai fe oedd y Meseia. O hynny ymlaen dechreuodd Iesu esbonio i'w ddisgyblion fod rhaid iddo fynd i Jerwsalem. Byddai'r arweinwyr Iddewig, y prif offeiriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn gwneud iddo ddiodde'n ofnadwy. Byddai'n cael ei ladd, ond yna'n dod yn ôl yn fyw ddeuddydd wedyn. Dyma Pedr yn mynd ag e i'r naill ochr, a dweud y drefn wrtho am ddweud y fath bethau. “Duw a'n gwaredo!” meddai, “Wnaiff y fath beth byth ddigwydd i ti, Arglwydd!” Ond trodd Iesu, a dweud wrth Pedr, “Dos o'm golwg i Satan! Rwyt ti'n rhwystr i mi; rwyt ti'n meddwl fel mae pobl yn meddwl yn lle gweld pethau fel mae Duw'n eu gweld nhw.” Yna dyma Iesu'n dweud wrth ei ddisgyblion, “Os ydy rhywun am fy nilyn i, rhaid iddyn nhw stopio rhoi nhw eu hunain gyntaf. Rhaid iddyn nhw aberthu eu hunain dros eraill a cherdded yr un llwybr â mi. Bydd y rhai sy'n ceisio achub eu hunain yn colli'r bywyd go iawn, ond bydd y rhai hynny sy'n barod i ollwng gafael yn eu bywydau er fy mwyn i, yn dod o hyd i fywyd go iawn. Beth ydy'r pwynt o gael popeth sydd gan y byd i'w gynnig, a cholli'r enaid? Oes unrhyw beth sy'n fwy gwerthfawr na'r enaid? Bydda i, Mab y Dyn, yn dod yn ôl yn holl ysblander y Tad, a'r angylion gyda mi. Bydda i'n rhoi gwobr i bawb ar sail beth maen nhw wedi ei wneud. Credwch chi fi, wnaiff rhai ohonoch chi sy'n sefyll yma ddim marw cyn cael gweld Mab y Dyn yn dod i deyrnasu.” Chwe diwrnod wedyn aeth Iesu i ben mynydd uchel, a mynd â Pedr, Iago ac Ioan (brawd Iago) gydag e. Dyma olwg Iesu'n cael ei drawsnewid o flaen eu llygaid — roedd ei wyneb yn disgleirio fel yr haul, a throdd ei ddillad yn wyn llachar fel golau. Wedyn dyma Moses ac Elias yn ymddangos, yn sgwrsio gyda Iesu. Dyma Pedr yn dweud wrth Iesu, “Arglwydd, mae'n dda cael bod yma. Os wyt ti eisiau, gwna i godi tair lloches yma — un i ti, un i Moses, ac un i Elias.” Roedd yn dal i siarad pan ddaeth cwmwl disglair i lawr o'u cwmpas, a dyma lais o'r cwmwl yn dweud, “Fy Mab annwyl i ydy hwn; mae wedi fy mhlesio i'n llwyr. Gwrandwch arno!” Pan glywodd y disgyblion y llais roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau, a dyma nhw'n syrthio ar eu hwynebau ar lawr. Ond dyma Iesu'n mynd atyn nhw a'u cyffwrdd, a dweud wrthyn nhw, “Codwch, peidiwch bod ag ofn.” Pan wnaethon nhw edrych i fyny doedd neb i'w weld yno ond Iesu. Pan oedden nhw'n dod i lawr o'r mynydd, dyma Iesu'n dweud yn glir wrthyn nhw, “Peidiwch sôn wrth neb am beth dych chi wedi ei weld nes bydda i, Mab y Dyn, wedi dod yn ôl yn fyw ar ôl marw.” Dyma'r disgyblion yn gofyn iddo, “Felly pam mae'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn dweud fod rhaid i Elias ddod yn ôl cyn i'r Meseia gyrraedd?” Atebodd Iesu, “Mae Elias yn dod reit siŵr, a bydd yn rhoi trefn ar bopeth. Dw i'n dweud wrthoch chi fod Elias wedi dod eisoes, ond wnaethon nhw mo'i nabod, ac maen nhw wedi ei gam-drin. A bydda i, Mab y Dyn, yn dioddef yr un fath ganddyn nhw.” Dyna pryd deallodd y disgyblion ei fod yn siarad am Ioan Fedyddiwr. Pan ddaethon nhw at y dyrfa, dyma ddyn yn dod at Iesu a phenlinio o'i flaen. “Arglwydd, helpa fy mab i,” meddai. “Mae'n cael ffitiau ac yn dioddef yn ofnadwy. Mae'n syrthio yn aml i ganol y tân, neu i ddŵr. Des i ag e at dy ddisgyblion di, ond doedden nhw ddim yn gallu ei iacháu.” “Pam dych chi mor ystyfnig ac amharod i gredu?” meddai Iesu, “Am faint dw i'n mynd i aros gyda chi? Am faint alla i'ch dioddef chi? Tyrd â'r bachgen yma ata i.” Dyma Iesu'n ceryddu'r cythraul, a daeth allan o'r bachgen, a chafodd ei iacháu y foment honno. Dyma'r disgyblion yn gofyn yn breifat i Iesu, “Pam oedden ni'n methu ei fwrw allan?” “Am eich bod chi'n credu cyn lleied,” meddai. “Credwch chi fi, petai'ch ffydd chi mor fach â hedyn mwstard, gallech chi ddweud wrth y mynydd yma, ‘Symud i'r fan acw’ a byddai'n symud. Fyddai dim byd yn amhosib i chi. ” *** Pan ddaethon nhw at ei gilydd yn Galilea, dyma Iesu'n dweud wrthyn nhw, “Dw i, Mab y Dyn, yn mynd i gael fy mradychu i afael pobl fydd yn fy lladd, ond ddeuddydd wedyn bydda i'n dod yn ôl yn fyw.” Roedd y disgyblion yn ofnadwy o drist. Pan gyrhaeddodd Iesu a'i ddisgyblion Capernaum, daeth y rhai oedd yn casglu'r dreth i gynnal y deml at Pedr (hynny ydy y dreth o ddwy ddrachma). Dyma nhw'n gofyn iddo, “Ydy dy athro di'n talu treth y deml?” “Ydy, mae e” atebodd Pedr. Pan aeth Pedr adre, cyn iddo gael cyfle i ddweud gair, dyma Iesu'n gofyn iddo, “Simon, beth wyt ti'n feddwl? Gan bwy mae brenhinoedd yn casglu tollau a threthi — gan eu plant eu hunain neu gan bobl eraill?” “Gan bobl eraill,” meddai Pedr. “Felly does dim rhaid i'r plant dalu,” meddai Iesu wrtho. “Ond rhag i ni beri tramgwydd iddyn nhw, dos at y llyn a thaflu lein i'r dŵr. Cymer y pysgodyn cyntaf wnei di ei ddal, ac yn ei geg cei ddarn arian fydd yn ddigon i'w dalu. Defnyddia hwnnw i dalu'r dreth drosto i a thithau.” Bryd hynny daeth y disgyblion at Iesu a gofyn iddo, “Pwy ydy'r pwysica yn nheyrnas yr Un nefol?” Galwodd blentyn bach ato, a'i osod yn y canol o'u blaenau, ac yna dwedodd: “Credwch chi fi, os na newidiwch chi i fod fel plant bach, fyddwch chi byth yn un o'r rhai mae'r Un nefol yn teyrnasu yn eu bywydau. Felly, pwy bynnag sy'n ystyried ei hun yn fach, fel y plentyn yma, ydy'r pwysica yn nheyrnas yr Un nefol. “Ac mae pwy bynnag sy'n rhoi croeso i blentyn bach fel yma am ei fod yn perthyn i mi, yn rhoi croeso i mi. Ond pwy bynnag sy'n gwneud i un o'r rhai bach yma sy'n credu ynof fi bechu, byddai'n well i'r person hwnnw gael maen melin wedi ei rwymo am ei wddf, ac iddo foddi yn eigion y môr. “Gwae'r sawl sy'n achosi i bobl eraill bechu! Mae temtasiynau yn siŵr o ddod, ond gwae'r sawl fydd yn gwneud y temtio! Os ydy dy law neu dy droed yn gwneud i ti bechu, torra hi i ffwrdd a'i thaflu ymaith. Mae'n well i ti fynd i mewn i'r bywyd newydd wedi dy anafu neu'n gloff, na bod â dwy law a dwy droed a chael dy daflu i'r tân tragwyddol! Ac os ydy dy lygad yn gwneud i ti bechu, tynna hi allan a'i thaflu i ffwrdd. Mae'n well i ti fynd i mewn i'r bywyd newydd gyda dim ond un llygad na bod dwy gen ti a chael dy daflu i dân uffern. “Gwnewch yn siŵr eich bod chi ddim yn edrych i lawr ar un o'r rhai bach yma. Wir i chi, mae'r angylion sy'n eu gwarchod nhw yn gallu mynd i bresenoldeb fy Nhad yn y nefoedd unrhyw bryd. *** “Beth ydych chi'n feddwl? Meddyliwch am ddyn a chant o ddefaid ganddo, a bod un ohonyn nhw'n crwydro i ffwrdd. Oni fyddai'n gadael y naw deg naw ar y bryniau ac yn mynd i chwilio am yr un sydd ar goll? Credwch chi fi, os daw o hyd iddi, mae'r un ddafad yna yn rhoi mwy o lawenydd iddo na'r naw deg naw wnaeth ddim mynd ar goll! Yr un fath, dydy'ch Tad yn y nefoedd ddim am i unrhyw un o'r rhai bach yma gael eu colli. “Os ydy crediniwr arall yn pechu yn dy erbyn, dos i siarad gydag e am y peth wyneb yn wyneb — paid dweud wrth neb arall. Os bydd yn gwrando arnat byddi wedi adfer y berthynas rhyngoch. Ond os fydd e ddim yn gwrando arnat, dos ag un neu ddau o bobl gyda ti, achos ‘rhaid cael dau neu dri tyst i gadarnhau fod rhywbeth yn wir.’ Os bydd yn dal i wrthod gwrando, dos â'r mater o flaen yr eglwys. Ac os bydd hyd yn oed yn gwrthod gwrando ar yr eglwys, dylid ei drin fel pagan neu'r rhai sy'n casglu trethi i Rufain! “Credwch chi fi, bydd pa bethau bynnag dych chi'n eu rhwystro ar y ddaear wedi eu rhwystro yn y nefoedd, a bydd pa bethau bynnag dych chi'n eu caniatáu ar y ddaear wedi eu caniatáu yn y nefoedd. “A pheth arall hefyd: Pan mae dau ohonoch chi ar y ddaear yn cytuno i ofyn am arweiniad wrth ddelio ag unrhyw fater, cewch hynny gan fy Nhad yn y nefoedd. Pan mae dau neu dri sy'n perthyn i mi wedi dod at ei gilydd, dw i yna gyda nhw.” Gofynnodd Pedr i Iesu, “Arglwydd, sawl gwaith ddylwn i faddau i frawd neu chwaer sy'n dal i bechu yn fy erbyn? Gymaint â saith gwaith?” Atebodd Iesu, “Na, wir i ti, dim saith gwaith, ond o leia saith deg saith gwaith! “Dyna sut mae'r Un nefol yn teyrnasu — mae fel brenin oedd wedi benthyg arian i'w swyddogion, ac am archwilio'r cyfrifon. Roedd newydd ddechrau ar y gwaith pan ddaethon nhw â dyn o'i flaen oedd mewn dyled o filiynau lawer iddo. Doedd y swyddog ddim yn gallu talu'r ddyled, felly gorchmynnodd y meistr i'r dyn a'i wraig a'i blant gael eu gwerthu yn gaethweision, a bod y cwbl o'i eiddo i gael ei werthu hefyd, i dalu'r ddyled. “Syrthiodd y dyn ar ei liniau o'i flaen, a phledio, ‘Rho amser i mi, a tala i'r cwbl yn ôl i ti.’ Roedd y brenin yn teimlo trueni drosto, felly canslodd y ddyled gyfan a gadael iddo fynd yn rhydd. “Ond pan aeth y dyn allan, daeth ar draws un o'i gydweithwyr oedd mewn dyled fechan iddo. Gafaelodd ynddo a dechrau ei dagu, gan ddweud ‘Pryd wyt ti'n mynd i dalu dy ddyled i mi?’ “Dyma'r cydweithiwr yn syrthio ar ei liniau a chrefu, ‘Rho amser i mi, a tala i'r cwbl yn ôl i ti.’ “Ond gwrthododd y dyn wrando arno. Yn lle hynny, aeth â'r mater at yr awdurdodau, a cafodd ei gydweithiwr ei daflu i'r carchar nes gallai dalu'r ddyled. “Roedd y gweision eraill wedi ypsetio'n fawr pan welon nhw beth ddigwyddodd, a dyma nhw'n mynd ac yn dweud y cwbl wrth y brenin. “Felly dyma'r brenin yn galw'r dyn yn ôl. ‘Y cnaf drwg!’ meddai wrtho, ‘wnes i ganslo dy ddyled di yn llwyr am i ti grefu mor daer o mlaen i. Ddylet ti ddim maddau i dy gydweithiwr fel gwnes i faddau i ti?’ “Roedd y brenin yn gandryll, felly gorchmynnodd daflu'r swyddog i'r carchar i gael ei arteithio, nes iddo dalu'r cwbl o'r ddyled yn ôl. “Dyna sut fydd fy Nhad nefol yn delio gyda chi os na wnewch chi faddau'n llwyr i'ch gilydd.” Pan oedd Iesu wedi gorffen dweud y pethau yma i gyd, gadawodd Galilea a mynd i Jwdea a'r ardal yr ochr draw i'r Iorddonen. Cafodd ei ddilyn gan dyrfaoedd mawr, ac iachaodd eu cleifion. Dyma ryw Phariseaid yn dod ato i geisio'i faglu drwy ofyn, “Ydy'r Gyfraith yn dweud ei bod yn iawn i ddyn ysgaru ei wraig am unrhyw reswm?” Atebodd Iesu nhw, “Ydych chi ddim wedi darllen beth wnaeth Duw ar y dechrau? — ‘Gwnaeth bobl yn wryw ac yn fenyw’ a dweud, ‘felly bydd dyn yn gadael ei dad a'i fam ac yn cael ei uno â'i wraig, a bydd y ddau yn dod yn un.’ Dim dau berson ar wahân ydyn nhw wedyn, ond uned. Felly ddylai neb wahanu beth mae Duw wedi ei uno.” Ond dyma nhw'n gofyn iddo, “Ond pam felly wnaeth Moses ddweud fod rhaid i ddyn roi tystysgrif ysgariad i'w wraig cyn ei hanfon i ffwrdd?” “Wyddoch chi pam wnaeth Moses ganiatáu i chi ysgaru eich gwragedd?” meddai Iesu. “Am fod pobl fel chi mor ystyfnig! Ond dim felly oedd hi ar y dechrau. Wir i chi, mae unrhyw un sy'n ysgaru ei wraig er mwyn priodi gwraig arall yn godinebu, oni bai fod ei wraig wedi bod yn anffyddlon iddo.” Meddai'r disgyblion wrtho, “Mae'n well i ddyn beidio priodi o gwbl os mai fel yna y mae hi!” Atebodd Iesu, “All pawb ddim derbyn y peth, ond mae Duw wedi rhoi'r gallu i rai. Mae rhai pobl wedi eu geni'n eunuchiaid, eraill wedi cael eu sbaddu a'u gwneud yn eunuchiaid, ac mae rhai yn dewis peidio priodi er mwyn gwasanaethu teyrnas yr Un nefol. Dylai'r rhai sydd â'r gallu i dderbyn hyn ei dderbyn.” Dyma bobl yn dod â'u plant bach at Iesu er mwyn iddo roi ei ddwylo arnyn nhw a gweddïo drostyn nhw. Ond roedd y disgyblion yn dweud y drefn wrthyn nhw. Ond meddai Iesu, “Gadewch i'r plant bach ddod ata i. Peidiwch â'u rhwystro, am mai rhai fel nhw sy'n derbyn teyrnasiad yr Un nefol.” Ar ôl iddo roi ei ddwylo arnyn nhw, aeth yn ei flaen oddi yno. Daeth dyn at Iesu a gofyn iddo, “Athro, pa weithred dda sy'n rhaid i mi ei gwneud i gael bywyd tragwyddol?” “Pam wyt ti'n gofyn i mi am beth sy'n dda?” atebodd Iesu. “Does dim ond Un sy'n dda, a Duw ydy hwnnw. Os wyt ti eisiau mynd i'r bywyd, ufuddha i'r gorchmynion.” “Pa rai?” meddai. Atebodd Iesu, “ ‘Peidio llofruddio, peidio godinebu, peidio dwyn, peidio rhoi tystiolaeth ffals, gofalu am dy dad a dy fam,’ a ‘caru dy gymydog fel rwyt ti'n dy garu dy hun’.” “Dw i wedi cadw'r rheolau yma i gyd,” meddai'r dyn ifanc. “Ond mae rhywbeth ar goll.” Atebodd Iesu, “Os wyt ti am gyrraedd y nod, dos, a gwertha dy eiddo i gyd a rho'r arian i bobl dlawd. Wedyn cei drysor yn y nefoedd. Yna tyrd, dilyn fi.” Pan glywodd y dyn ifanc hyn, cerddodd i ffwrdd yn siomedig, am ei fod yn ddyn cyfoethog iawn. Dyma Iesu'n dweud wrth ei ddisgyblion, “Credwch chi fi, mae'n anodd i rywun cyfoethog adael i'r Un nefol deyrnasu yn ei fywyd. Gadewch i mi ddweud eto — mae'n haws i gamel wthio drwy grau nodwydd nag i bobl gyfoethog adael i Dduw deyrnasu yn eu bywydau.” Roedd y disgyblion yn rhyfeddu wrth ei glywed yn dweud hyn. “Oes gobaith i unrhyw un gael ei achub felly?” medden nhw. Ond dyma Iesu'n edrych arnyn nhw, a dweud, “Mae'r peth yn amhosib i bobl ei wneud, ond mae Duw yn gallu! Mae Duw'n gallu gwneud popeth!” Yna dyma Pedr yn ymateb, “Ond dŷn ni wedi gadael y cwbl i dy ddilyn di! Felly beth fyddwn ni'n ei gael?” Meddai Iesu wrthyn nhw, “Credwch chi fi — pan fydd popeth yn cael ei wneud yn newydd, a Mab y Dyn yn eistedd ar ei orsedd hardd, cewch chi sydd wedi fy nilyn i eistedd ar ddeuddeg gorsedd i farnu deuddeg llwyth gwlad Israel. Bydd pwy bynnag sydd wedi mynd oddi cartref, a gadael brodyr a chwiorydd, tad neu fam neu blant neu diroedd er fy mwyn i yn derbyn can gwaith cymaint, ac yn cael bywyd tragwyddol. Ond bydd llawer o'r rhai sydd ar y blaen yn cael eu hunain yn y cefn, a'r rhai sydd yn y cefn yn cael bod ar y blaen.” “Dyma sut mae'r Un nefol yn teyrnasu — mae fel dyn busnes yn mynd allan gyda'r wawr i gyflogi pobl i weithio yn ei winllan. Cyn eu hanfon i'w winllan cytunodd i dalu'r cyflog arferol iddyn nhw o un darn arian am ddiwrnod o waith. “Yna, tua naw o'r gloch y bore, aeth allan eto a gweld rhai eraill yn sefyllian o gwmpas sgwâr y farchnad yn gwneud dim byd. ‘Os ewch chi i weithio yn y winllan i mi, tala i gyflog teg i chi,’ meddai. Felly i ffwrdd â nhw. “Gwnaeth yn union yr un peth pan aeth allan tua chanol dydd, ac eto am dri o'r gloch y p'nawn. Hyd yn oed am bump o'r gloch y p'nawn gofynnodd i ryw bobl, ‘Pam dych chi'n sefyllian yma yn gwneud dim byd trwy'r dydd?’ “‘Does neb wedi'n cyflogi ni,’ medden nhw. “Felly meddai wrthyn nhw, ‘Ewch i weithio yn y winllan i mi.’ “Pan oedd hi wedi mynd yn hwyr galwodd perchennog y winllan ei fforman, ac meddai wrtho, ‘Galw'r gweithwyr draw a talu eu cyflog iddyn nhw. Dechreua gyda'r rhai olaf i gael eu cyflogi a gorffen gyda'r rhai cyntaf.’ “Dyma'r gweithwyr oedd wedi dechrau tua pump o'r gloch y p'nawn yn dod ac yn cael un darn arian bob un. Felly pan ddaeth y rhai gafodd eu cyflogi yn gynnar yn y bore, roedden nhw'n disgwyl derbyn mwy. Ond un darn arian gafodd pob un ohonyn nhw hefyd. Wrth dderbyn eu tâl dyma nhw'n dechrau cwyno. ‘Dim ond am awr weithiodd y rhai olaf yna,’ medden nhw, ‘A dych chi wedi rhoi'r un faint iddyn nhw ag i ni sydd wedi gweithio'n galed drwy'r dydd.’ “Ond meddai'r dyn busnes wrth un ohonyn nhw, ‘Gwranda gyfaill, dw i ddim yn annheg. Gwnest ti gytuno i weithio am y cyflog arferol, hynny ydy un darn arian am ddiwrnod o waith. Felly cymer dy gyflog a dos adre. Fy newis i ydy rhoi'r un faint i'r person olaf un i gael ei gyflogi. Mae gen i hawl i wneud beth fynna i gyda f'arian fy hun! Ai bod yn hunanol wyt ti am fy mod i'n dewis bod yn hael?’ “Felly bydd y rhai sydd yn y cefn yn cael bod ar y blaen a'r rhai sydd ar y blaen yn cael eu hunain yn y cefn.” Pan oedd Iesu ar ei ffordd i Jerwsalem, aeth â'r deuddeg disgybl i'r naill ochr i siarad gyda nhw. “Pan gyrhaeddwn ni Jerwsalem, bydda i, Mab y Dyn, yn cael fy mradychu i'r prif offeiriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith. Byddan nhw'n rhoi dedfryd marwolaeth arna i, ac yna'n fy rhoi yn nwylo'r Rhufeiniaid. Bydd y rheiny yn gwneud sbort ar fy mhen, fy chwipio a'm croeshoelio. Ond yna ddeuddydd wedyn bydda i'n dod yn ôl yn fyw!” Dyma fam Iago ac Ioan, sef gwraig Sebedeus, yn mynd at Iesu gyda'i meibion. Aeth ar ei gliniau o'i flaen i ofyn ffafr ganddo. “Beth ga i wneud i chi?” gofynnodd Iesu. Dyma'r fam yn ateb, “Baswn i'n hoffi i'm meibion i gael eistedd bob ochr i ti pan fyddi'n teyrnasu.” “Dych chi ddim yn gwybod am beth dych chi'n siarad!” meddai Iesu. “Allwch chi yfed o'r gwpan chwerw dw i'n mynd i yfed ohoni?” “Gallwn,” medden nhw wrtho. Dwedodd Iesu, “Byddwch chi'n yfed o'm cwpan i, ond dim fi sydd i ddweud pwy sy'n cael eistedd bob ochr i mi. Mae'r lleoedd hynny wedi eu cadw i bwy bynnag mae fy Nhad wedi eu dewis.” Pan glywodd y deg disgybl arall am y peth, roedden nhw'n wyllt gyda'r ddau frawd. Ond dyma Iesu'n eu galw nhw i gyd at ei gilydd a dweud, “Dych chi'n gwybod sut mae'r rhai sy'n llywodraethu'r cenhedloedd yn ymddwyn — maen nhw wrth eu bodd yn dangos eu hawdurdod ac yn ei lordio hi dros bobl. Ond rhaid i chi fod yn wahanol. Rhaid i'r sawl sydd am arwain ddysgu gwasanaethu, a phwy bynnag sydd am fod yn geffyl blaen fod yn was i eraill. Wnes i, hyd yn oed, ddim disgwyl i bobl eraill fy ngwasanaethu i, er mai fi ydy Mab y Dyn; des i fel gwas i aberthu fy mywyd er mwyn talu'r pris i ryddhau llawer o bobl.” Wrth iddo fynd allan o Jericho gyda'i ddisgyblion, roedd tyrfa fawr yn dilyn Iesu. Roedd dau ddyn dall yn cardota ar ochr y ffordd, a phan ddeallodd y ddau ohonyn nhw mai Iesu oedd yn mynd heibio, dyma nhw'n gweiddi, “Helpa ni Fab Dafydd!” “Cauwch eich cegau!” meddai'r dyrfa wrthyn nhw. Ond yn lle hynny dyma nhw'n gweiddi'n uwch, “Arglwydd! Helpa ni Fab Dafydd!” Dyma Iesu'n stopio, a'u galw nhw draw a gofyn, “Beth ga i wneud i chi?” Dyma nhw'n ateb, “Arglwydd, dŷn ni eisiau gweld.” Roedd Iesu'n llawn tosturi, a dyma fe'n cyffwrdd eu llygaid nhw. Yn sydyn roedden nhw'n gallu gweld! A dyma nhw'n ei ddilyn e. Dyma nhw'n cyrraedd Bethffage wrth Fynydd yr Olewydd yn ymyl Jerwsalem, a dyma Iesu'n dweud wrth ddau ddisgybl, “Ewch i'r pentref acw sydd o'ch blaen chi, ac wrth fynd i mewn iddo dewch o hyd i asen wedi ei rhwymo a'i hebol gyda hi. Dewch â nhw yma i mi, ac os bydd rhywun yn ceisio'ch rhwystro, dwedwch, ‘Mae'r meistr eu hangen nhw; bydd yn eu hanfon yn ôl wedyn.’” Digwyddodd hyn er mwyn i beth ddwedodd Duw drwy ei broffwyd ddod yn wir: “Dywed wrth bobl Seion, ‘Edrych! Mae dy frenin yn dod! Mae'n addfwyn ac yn marchogaeth ar asen; ie, ar ebol asyn.’” I ffwrdd â'r disgyblion, a gwneud yn union beth ddwedodd Iesu wrthyn nhw. Pan ddaethon nhw â'r asen a'i hebol yn ôl, dyma nhw'n taflu eu cotiau arnyn nhw, a dyma Iesu'n eistedd ar gefn yr ebol. Dechreuodd y dyrfa daflu eu cotiau fel carped ar y ffordd o'i flaen, neu dorri dail o'r coed a'u lledu ar y ffordd. Roedd y dyrfa y tu blaen a'r tu ôl iddo yn gweiddi, “Clod i Fab Dafydd!” “Mae'r un sy'n dod i gynrychioli'r Arglwydd wedi ei fendithio'n fawr!” “Clod i Dduw yn y nefoedd uchaf!” Roedd y ddinas gyfan mewn cynnwrf pan aeth Iesu i mewn i Jerwsalem. “Pwy ydy hwn?” meddai rhai. Ac roedd y dyrfa o'i gwmpas yn ateb, “Iesu, y proffwyd o Nasareth yn Galilea.” Aeth Iesu i mewn i gwrt y deml a gyrru allan bawb oedd yn prynu a gwerthu yn y farchnad yno. Gafaelodd ym myrddau'r rhai oedd yn cyfnewid arian a'u troi drosodd, a hefyd meinciau y rhai oedd yn gwerthu colomennod. Yna dwedodd, “Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “‘Bydd fy nhŷ i yn cael ei alw yn dŷ gweddi.’ Ond dych chi'n ei droi yn ‘guddfan i ladron’!” Roedd pobl ddall a rhai cloff yn dod ato i'r deml, ac roedd yn eu hiacháu nhw. Ond roedd y prif offeiriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith wedi gwylltio'n lân wrth weld y gwyrthiau rhyfeddol roedd yn eu gwneud, a'r plant yn gweiddi yn y deml, “Clod i Fab Dafydd!” “Wyt ti ddim yn clywed beth mae'r plant yma'n ei ddweud?” medden nhw wrtho. “Ydw,” atebodd Iesu. “Ydych chi erioed wedi darllen yn yr ysgrifau sanctaidd, “‘Rwyt wedi dysgu plant a babanod i dy foli di’?” Dyma fe'n eu gadael nhw, a mynd allan i Bethania, lle arhosodd dros nos. Yn gynnar y bore wedyn roedd ar ei ffordd yn ôl i'r ddinas, ac roedd e eisiau bwyd. Gwelodd goeden ffigys ar ochr y ffordd, ac aeth draw ati ond doedd dim byd ond dail yn tyfu arni. Yna dwedodd, “Fydd dim ffrwyth yn tyfu arnat ti byth eto!”, a dyma'r goeden yn gwywo. Pan welodd y disgyblion hyn roedden nhw wedi eu syfrdanu. “Sut wnaeth y goeden wywo mor sydyn?” medden nhw. “Credwch chi fi,” meddai Iesu, “dim ond i chi gredu a pheidio amau, gallech chi wneud mwy na beth gafodd ei wneud i'r goeden ffigys. Gallech chi ddweud wrth y mynydd yma, ‘Dos, a thaflu dy hun i'r môr,’ a byddai'n digwydd. Dim ond i chi gredu, cewch beth bynnag dych chi'n gofyn amdano wrth weddïo.” Dyma Iesu'n mynd i gwrt y deml a dechrau dysgu'r bobl yno. A dyma'r prif offeiriaid a'r arweinwyr Iddewig eraill yn dod ato, a gofyn iddo “Pa hawl sydd gen ti i wneud beth wnest ti? Pwy roddodd yr awdurdod i ti?” Atebodd Iesu nhw, “Gadewch i mi ofyn cwestiwn i chi. Os rhowch chi'r ateb i mi, ateba i'ch cwestiwn chi. Roedd Ioan yn bedyddio. Ai Duw anfonodd e neu ddim?” Wrth drafod y peth gyda'i gilydd, dyma nhw'n dweud, “Os atebwn ni ‘Ie’, bydd yn gofyn i ni, ‘Pam doeddech chi ddim yn ei gredu felly?’ Ond allwn ni ddim dweud ‘Na’ … rhag ofn i'r dyrfa ymosod arnon ni. Maen nhw i gyd yn meddwl fod Ioan yn broffwyd.” Felly dyma nhw'n gwrthod ateb, “Dŷn ni ddim yn gwybod,” medden nhw. “Felly dw i ddim yn mynd i ateb eich cwestiwn chi chwaith,” meddai Iesu. “Beth ydych chi'n feddwl? Roedd rhyw ddyn a dau o blant ganddo. Meddai wrth yr hynaf, ‘Dos i weithio yn y winllan heddiw.’ “‘Na wna i’ meddai hwnnw, ond yn nes ymlaen newidiodd ei feddwl a mynd. “Dyma'r tad yn mynd at y mab arall a dweud yr un peth. Atebodd hwnnw, ‘Siŵr iawn, dad,’ ond aeth e ddim. “Pa un o'r ddau fab wnaeth beth oedd y tad eisiau?” “Y cyntaf,” medden nhw. Meddai Iesu wrthyn nhw, “Credwch chi fi, bydd y rhai sy'n casglu trethi i Rufain a'r puteiniaid yn dod i berthyn i deyrnasiad Duw o'ch blaen chi! Achos roedd Ioan wedi dod i ddangos y ffordd iawn i chi, a dyma chi'n gwrthod ei gredu. Ond dyma'r bobl sy'n casglu trethi i Rufain a'r puteiniaid yn credu! A hyd yn oed ar ôl gweld hynny'n digwydd, wnaethoch chi ddim newid eich meddwl a'i gredu e! “Gwrandwch ar stori arall: Roedd rhyw ddyn a thir ganddo wedi plannu gwinllan. Cododd ffens o'i chwmpas, cloddio lle i wasgu'r sudd o'r grawnwin ac adeiladu tŵr i'w gwylio. Yna gosododd y winllan ar rent i rhyw ffermwyr cyn mynd i ffwrdd ar daith bell. “Pan oedd hi'n amser casglu'r grawnwin, anfonodd weision at y tenantiaid i nôl ei siâr o'r ffrwyth. Ond dyma'r tenantiaid yn gafael yn y gweision, ac yn ymosod ar un, lladd un arall, a llabyddio un arall gyda cherrig. Felly dyma'r dyn yn anfon gweision eraill, mwy ohonyn nhw y tro yma, ond dyma'r tenantiaid yn gwneud yr un peth i'r rheiny. “Yn y diwedd dyma'r dyn yn anfon ei fab atyn nhw. ‘Byddan nhw'n parchu fy mab i,’ meddai. Ond pan welodd y tenantiaid y mab, dyma nhw'n dweud wrth ei gilydd: ‘Hwn sy'n mynd i etifeddu'r winllan. Os lladdwn ni hwn cawn ni'r winllan.’ Felly dyma nhw'n gafael ynddo, a'i daflu allan o'r winllan a'i ladd. “Felly, beth fydd y dyn biau'r winllan yn ei wneud i'r tenantiaid pan ddaw yn ôl?” Dyma nhw'n ateb, “Bydd yn lladd y cnafon drwg! Wedyn bydd yn gosod y winllan ar rent i denantiaid newydd, fydd yn barod i roi ei siâr o'r ffrwythau iddo bob tymor.” Dwedodd Iesu wrthyn nhw, “Ydych chi erioed wedi darllen yn yr ysgrifau sanctaidd: ‘Mae'r garreg wrthododd yr adeiladwyr wedi cael ei gwneud yn garreg sylfaen; yr Arglwydd wnaeth hyn, ac mae'r peth yn rhyfeddol yn ein golwg.’? “Hyn dw i'n ei ddweud: fod y breintiau o fod dan deyrnasiad Duw yn cael eu cymryd oddi arnoch chi a'u rhoi i bobl fydd yn dangos ei ffrwyth yn eu bywydau. Bydd pwy bynnag sy'n baglu ar y garreg yma yn dryllio'n ddarnau, a bydd pwy bynnag mae'r garreg yn syrthio arno yn cael ei fathru.” Pan glywodd y prif offeiriaid a'r Phariseaid straeon Iesu, roedden nhw'n gwybod yn iawn ei fod yn sôn amdanyn nhw. Roedden nhw eisiau ei arestio, ond roedd ofn y dyrfa arnyn nhw, am fod y bobl yn credu ei fod yn broffwyd. Dyma Iesu'n dweud stori arall wrthyn nhw: “Mae teyrnasiad yr Un nefol yn debyg i frenin yn rhoi gwledd briodas i'w fab. Anfonodd ei weision i ddweud wrth y rhai oedd wedi cael gwahoddiad fod popeth yn barod, ond roedden nhw'n gwrthod dod. “Anfonodd weision eraill i ddweud wrthyn nhw: ‘Mae'r wledd yn barod. Dw i wedi lladd teirw a bustych, felly dewch i'r wledd!’ “Ond wnaethon nhw ddim cymryd unrhyw sylw, dim ond cerdded i ffwrdd — un i'w faes, ac un arall i'w fusnes. Yna dyma'r gweddill yn gafael yn y gweision a'u cam-drin nhw a'u lladd. Roedd y brenin yn wyllt gynddeiriog. Anfonodd ei fyddin i ladd y llofruddion a llosgi eu tref. “Yna meddai wrth ei weision, ‘Mae'r wledd briodas yn barod, ond doedd y rhai gafodd wahoddiad ddim yn haeddu cael dod. Felly ewch i sefyll ar y priffyrdd sy'n mynd allan o'r ddinas, a gwahodd pwy bynnag ddaw heibio i ddod i'r wledd.’ Felly dyma'r gweision yn mynd allan i'r strydoedd a chasglu pawb allen nhw ddod o hyd iddyn nhw — y drwg a'r da. A llanwyd y neuadd briodas â gwesteion. “Ond pan ddaeth y brenin i mewn i edrych ar y gwesteion, sylwodd fod yno un oedd ddim wedi ei wisgo mewn dillad addas ar gyfer priodas. ‘Gyfaill,’ meddai wrtho, ‘sut wnest ti lwyddo i ddod i mewn yma heb fod yn gwisgo dillad ar gyfer priodas?’ Allai'r dyn ddim ateb. “Yna dyma'r brenin yn dweud wrth ei weision, ‘Rhwymwch ei ddwylo a'i draed, a'i daflu allan i'r tywyllwch, lle bydd pobl yn wylo'n chwerw ac mewn artaith.’ “Mae llawer wedi cael gwahoddiad, ond ychydig sy'n cael eu dewis.” Dyma'r Phariseaid yn mynd allan wedyn a chynllwynio sut i'w gornelu a'i gael i ddweud rhywbeth fyddai'n ei gael i drwbwl. Dyma nhw'n anfon rhai o'u disgyblion ato gyda rhai o gefnogwyr Herod. “Athro,” medden nhw, “dŷn ni'n gwybod dy fod ti'n onest ac yn dysgu mai ffordd Duw ydy'r gwirionedd. Dwyt ti ddim yn un i gael dy ddylanwadu gan bobl eraill, dim ots pwy ydyn nhw. Felly, beth ydy dy farn di? Ydy'n iawn i ni dalu trethi i lywodraeth Rhufain?” Ond roedd Iesu'n gwybod mai drwg oedden nhw'n ei fwriadu, ac meddai wrthyn nhw, “Dych chi mor ddauwynebog! Pam dych chi'n ceisio nal i? Dangoswch i mi ddarn arian sy'n cael ei ddefnyddio i dalu'r dreth.” Dyma nhw'n dod â darn arian iddo, a dyma fe'n gofyn iddyn nhw, “Llun pwy ydy hwn? Am bwy mae'r arysgrif yma'n sôn?” “Cesar,” medden nhw. Felly meddai Iesu, “Rhowch beth sydd biau Cesar i Cesar, a'r hyn biau Duw i Dduw.” Roedden nhw wedi eu syfrdanu pan glywon nhw ei ateb. Felly dyma nhw'n ei adael a mynd i ffwrdd. Yr un diwrnod dyma rhai o'r Sadwceaid yn dod i ofyn cwestiwn iddo. Roedden nhw'n dadlau fod pobl ddim yn mynd i ddod yn ôl yn fyw ar ôl marw. “Athro,” medden nhw, “Dwedodd Moses, ‘os ydy dyn yn marw heb gael plant, rhaid i'w frawd briodi'r weddw a chael plant yn ei le.’” “Nawr, roedd saith brawd yn ein plith ni. Priododd y cyntaf, ond buodd farw cyn cael plant. A digwyddodd yr un peth i'r ail a'r trydydd, reit i lawr i'r seithfed. Y wraig ei hun oedd yr olaf i farw. Dyma'n cwestiwn ni: Pan fydd yr atgyfodiad yn digwydd, gwraig pa un o'r saith fydd hi? Roedd hi wedi bod yn wraig iddyn nhw i gyd!” Atebodd Iesu, “Dych chi'n deall dim! Dych chi ddim wedi deall yr ysgrifau sanctaidd a dych chi'n gwybod dim byd am allu Duw. Fydd pobl ddim yn priodi pan ddaw'r atgyfodiad; byddan nhw yr un fath â'r angylion yn y nefoedd. A bydd atgyfodiad! — Ydych chi ddim wedi darllen beth ddwedodd Duw? — ‘Fi ydy Duw Abraham, Duw Isaac, a Duw Jacob.’ Dim Duw pobl wedi marw ydy Duw, ond Duw'r rhai sy'n fyw!” Roedd y dyrfa yn rhyfeddu wrth glywed yr hyn oedd Iesu'n ei ddysgu. Ar ôl clywed fod Iesu wedi rhoi taw ar y Sadwceaid, daeth y Phariseaid at ei gilydd. Dyma un ohonyn nhw, oedd yn arbenigwr yn y Gyfraith, yn gofyn cwestiwn i geisio ei faglu: “Athro, Pa un o'r gorchmynion yn y Gyfraith ydy'r pwysica?” Atebodd Iesu: “ ‘Rwyt i garu'r Arglwydd dy Dduw â'th holl galon, ac â'th holl enaid a'th holl feddwl.’ Dyma'r gorchymyn cyntaf a'r pwysica. Ond mae yna ail un sydd yr un fath: ‘Rwyt i garu dy gymydog fel rwyt ti'n dy garu dy hun.’ Mae'r cwbl sydd yn y Gyfraith a'r Proffwydi yn dibynnu ar y ddau orchymyn yma.” Tra oedd y Phariseaid yno gyda'i gilydd, gofynnodd Iesu gwestiwn iddyn nhw, “Beth ydy'ch barn chi am y Meseia? Mab pwy ydy e?” “Mab Dafydd,” medden nhw. A dyma Iesu'n dweud, “Os felly, sut mae Dafydd, dan ddylanwad yr Ysbryd, yn ei alw'n ‛Arglwydd‛? Achos mae'n dweud, ‘Dwedodd yr Arglwydd wrth fy arglwydd: “Eistedd yma yn y sedd anrhydedd, nes i mi osod dy elynion dan dy draed.”’ Os ydy Dafydd yn ei alw'n ‛Arglwydd‛, sut mae'n gallu bod yn fab iddo?” Doedd gan yr un ohonyn nhw ateb, felly o hynny ymlaen wnaeth neb feiddio gofyn mwy o gwestiynau iddo. Yna dyma Iesu'n dweud wrth y dyrfa ac wrth ei ddisgyblion: “Mae'r arbenigwyr yn y Gyfraith a'r Phariseaid â'r hawl i ddehongli Cyfraith Moses, ac wrth gwrs ‘Dylech chi wrando arnyn nhw a gwneud popeth maen nhw'n ei ddweud.’ Ond peidiwch dilyn eu hesiampl nhw — dŷn nhw ddim yn byw beth maen nhw'n ei bregethu. Maen nhw'n gosod beichiau trwm ar ysgwyddau pobl, rheolau crefyddol sy'n eu llethu nhw, ond wnân nhw ddim codi bys bach i helpu pobl i gario'r baich. “Maen nhw'n gwneud popeth er mwyn dangos eu hunain. Maen nhw'n gwneud yn siŵr fod y blychau gweddi ar eu breichiau a'u talcennau yn amlwg, a'r taselau hirion ar eu clogyn yn dangos mor dduwiol ydyn nhw. Maen nhw wrth eu bodd yn cael y seddi gorau mewn gwleddoedd a'r seddi pwysica yn y synagogau, a chael pobl yn symud o'u ffordd a'u cyfarch yn barchus yn sgwâr y farchnad, a'u galw yn ‛Rabbi‛. “Peidiwch chi â gadael i neb eich galw'n ‛Rabbi‛. Dim ond un athro sydd gynnoch chi, a dych chi i gyd yn gydradd, fel brodyr a chwiorydd i'ch gilydd. A peidiwch rhoi'r teitl anrhydedd ‛Y tad‛ i neb. Duw yn y nefoedd ydy'ch Tad chi. A pheidiwch â gadael i neb eich galw'n ‛meistr‛ chwaith. Un meistr sydd gynnoch chi, a'r Meseia ydy hwnnw. Rhaid i'r arweinydd fod yn was. Bydd pwy bynnag sy'n gwthio ei hun i'r top yn cael ei dynnu i lawr, a phwy bynnag sy'n gwasanaethu eraill yn cael ei godi i'r top. “Gwae chi'r arbenigwyr yn y Gyfraith a Phariseaid! Dych chi mor ddauwynebog! Dych chi'n cau drws yn wyneb pobl, a'u rhwystro rhag dod dan deyrnasiad yr Un nefol. Dych chi'ch hunain ddim yn mynd i mewn, nac yn fodlon gadael i unrhyw un sydd am fynd i mewn gael mynediad. *** “Gwae chi'r arbenigwyr yn y Gyfraith a Phariseaid! Dych chi mor ddauwynebog! Dych chi'n barod i deithio dros fôr a thir i gael un person i gredu yr un fath â chi. Ond yna dych chi'n ei droi'n blentyn uffern — ddwywaith gwaeth na chi'ch hunain! “Gwae chi! Arweinwyr dall ydych chi! Er enghraifft, dych chi'n dweud: ‘Os ydy rhywun yn enwi'r deml wrth dyngu llw, dydy'r llw ddim yn ddilys; ond os ydy rhywun yn enwi trysor y deml, mae wedi ei rwymo gan ei lw.’ Y ffyliaid dall! Pa un ydy'r pwysica — y trysor, neu'r deml sy'n gwneud y trysor yn gysegredig? “Dyma enghraifft arall: ‘Os ydy rhywun yn enwi'r allor wrth dyngu llw, dydy'r llw ddim yn ddilys; ond os ydy rhywun yn enwi'r offrwm ar yr allor, mae wedi ei rwymo gan ei lw.’ Dych chi mor ddall! Pa un ydy'r pwysica — yr offrwm, neu'r allor sy'n gwneud yr offrwm yn gysegredig? Os ydy rhywun yn enwi'r allor wrth dyngu llw, mae hynny'n cynnwys popeth sydd arni hefyd! Ac os ydy rhywun yn enwi'r deml wrth dyngu llw, mae hefyd yn cyfeirio at Dduw, sy'n bresennol yn y deml. Ac os ydy rhywun yn enwi'r nefoedd wrth dyngu llw, mae'n cyfeirio at orsedd Duw, ac at Dduw ei hun, sy'n eistedd arni. “Gwae chi'r arbenigwyr yn y Gyfraith a Phariseaid! Dych chi mor ddauwynebog! Dych chi'n ofalus iawn gyda rhyw fanion fel rhoi un rhan o ddeg o beth sydd gynnoch chi i Dduw — hyd yn oed perlysiau fel mintys, anis a chwmin! Ond dych chi'n talu dim sylw i faterion pwysica'r Gyfraith — byw'n gyfiawn, bod yn drugarog ac yn ffyddlon i Dduw. Dylech chi wneud y pethau pwysica yma heb ddiystyru'r pethau eraill. Arweinwyr dall ydych chi! Dych chi'n hidlo dŵr rhag i chi lyncu gwybedyn, ond yna'n llyncu camel! “Gwae chi'r arbenigwyr yn y Gyfraith a Phariseaid! Dych chi mor ddauwynebog! Dych chi'n glanhau'r tu allan i'r gwpan neu'r ddysgl, ond cawsoch chi'r bwyd a'r diod oedd ynddyn nhw trwy drais a hunanoldeb. Y Pharisead dall! Glanha'r tu mewn i'r gwpan neu'r ddysgl gyntaf; wedyn bydd y tu allan yn lân hefyd. “Gwae chi'r arbenigwyr yn y Gyfraith a Phariseaid! Dych chi mor ddauwynebog! Dych chi fel beddau wedi eu gwyngalchu. Mae'r cwbl yn edrych yn ddel iawn y tu allan, ond y tu mewn maen nhw'n llawn o esgyrn pobl wedi marw a phethau afiach eraill. Dych chi'r un fath! Ar y tu allan dych chi'n edrych yn bobl dda a duwiol, ond y tu mewn dych chi'n llawn rhagrith a drygioni! “Gwae chi'r arbenigwyr yn y Gyfraith a Phariseaid! Dych chi mor ddauwynebog! Dych chi'n codi cofgolofnau i anrhydeddu'r proffwydi ac yn gofalu am feddau pobl dduwiol y gorffennol. Dych chi'n dweud, ‘Petaen ni'n byw bryd hynny, fydden ni ddim wedi lladd y proffwydi, fel gwnaeth ein cyndeidiau.’ Felly! Dych chi'n cydnabod eich bod yn ddisgynyddion i'r rhai lofruddiodd y proffwydi! Iawn! Cariwch ymlaen! Waeth i chi orffen beth ddechreuodd eich cyndeidiau! “Dych chi fel nythaid o nadroedd gwenwynig! Sut allwch chi osgoi cael eich dedfrydu i uffern!? Bydda i'n anfon proffwydi atoch chi, a phobl ddoeth ac athrawon. Byddwch yn lladd rhai ohonyn nhw a'u croeshoelio; byddwch yn gwneud i eraill ddioddef drwy eu chwipio yn eich synagogau. Byddwch yn eu herlid o un lle i'r llall. Felly, chi fydd yn gyfrifol am yr holl bobl ddiniwed sydd wedi eu lladd ar y ddaear, o Abel (wnaeth ddim o'i le), hyd Sechareia fab Beracheia, gafodd ei lofruddio gynnoch chi yn y deml rhwng y cysegr a'r allor. Credwch chi fi, bydd y genhedlaeth bresennol yn cael ei chosbi am hyn i gyd. “O! Jerwsalem, Jerwsalem! Y ddinas sy'n lladd y proffwydi a llabyddio'r negeswyr mae Duw'n eu hanfon ati. Mor aml dw i wedi hiraethu am gael casglu dy blant at ei gilydd, fel mae iâr yn casglu ei chywion dan ei hadenydd — ond doedd gen ti ddim diddordeb! Edrych! Mae Duw wedi gadael dy deml — mae'n wag! Dw i'n dweud hyn — fyddi di ddim yn fy ngweld i eto nes byddi'n dweud, ‘Mae'r un sy'n dod i gynrychioli'r Arglwydd wedi ei fendithio'n fawr!’ ” Wrth i Iesu adael y deml dyma'i ddisgyblion yn dod ato ac yn tynnu ei sylw at yr adeiladau. “Ydych chi'n gweld y rhain i gyd?” meddai. “Credwch chi fi, bydd y cwbl yn cael ei chwalu, a fydd dim un garreg wedi ei gadael yn ei lle.” Yn nes ymlaen, pan oedd Iesu'n eistedd ar ochr Mynydd yr Olewydd, daeth ei ddisgyblion ato yn breifat a gofyn, “Pryd mae beth roeddet ti'n sôn amdano yn mynd i ddigwydd? Fydd unrhyw rybudd i ddangos i ni dy fod di'n dod, a bod diwedd y byd wedi cyrraedd?” Atebodd Iesu: “Gwyliwch fod neb yn eich twyllo chi. Bydd llawer yn dod yn hawlio fy awdurdod i, ac yn dweud, ‘Fi ydy'r Meseia,’ a byddan nhw'n llwyddo i dwyllo llawer o bobl. Bydd rhyfeloedd a byddwch yn clywed sôn am ryfeloedd. Ond peidiwch cynhyrfu — mae pethau felly'n siŵr o ddigwydd, ond fydd y diwedd yn dal heb ddod. Bydd gwledydd a llywodraethau yn rhyfela yn erbyn ei gilydd. Bydd newyn mewn gwahanol leoedd, a daeargrynfeydd. Dim ond y dechrau ydy hyn i gyd! “Cewch eich arestio a'ch cam-drin a'ch lladd. Bydd pobl ym mhob gwlad yn eich casáu chi am eich bod yn ddilynwyr i mi. Bydd llawer yn troi cefn arna i bryd hynny, ac yn bradychu a casáu ei gilydd. Bydd proffwydi ffug yn codi ac yn twyllo llawer iawn o bobl. Bydd mwy a mwy o ddrygioni, bydd cariad y rhan fwyaf yn oeri, ond bydd yr un sy'n sefyll yn gadarn i'r diwedd un yn cael ei achub. A bydd y newyddion da am deyrnasiad Duw yn cael ei gyhoeddi drwy'r byd i gyd. Bydd pob gwlad yn ei glywed, a dim ond wedyn fydd y diwedd yn dod. “Pan fydd beth soniodd y proffwyd Daniel amdano yn digwydd, hynny ydy ‘Yr eilun ffiaidd sy'n dinistrio’ yn sefyll yn y cysegr sanctaidd (rhaid i'r un sy'n darllen ddeall hyn!), dylai pawb sydd yn Jwdea ddianc i'r mynyddoedd. Fydd dim cyfle i neb sydd y tu allan i'w dŷ fynd i mewn i nôl unrhyw beth. A ddylai neb sydd allan yn y maes fynd adre i nôl ei gôt hyd yn oed. Mor ofnadwy fydd hi ar wragedd beichiog a mamau sy'n magu plant bach bryd hynny! Gweddïwch y bydd dim rhaid i chi ffoi yn ystod y gaeaf neu ar ddydd Saboth. Achos bryd hynny bydd argyfwng gwaeth nag unrhyw beth welwyd erioed o'r blaen — a fydd dim byd tebyg yn y dyfodol chwaith! Oni bai iddo gael ei wneud yn gyfnod byr, fyddai neb yn dianc! Ond bydd yn cael ei wneud yn gyfnod byr er mwyn y bobl mae Duw wedi eu dewis. Felly, os bydd rhywun yn dweud, ‘Edrych! Hwn ydy'r Meseia!’ neu ‘Dacw fe!’ peidiwch credu'r peth. Bydd llawer i ‛Feseia‛ ffug a phroffwydi ffug yn dod ac yn gwneud gwyrthiau syfrdanol. Bydden nhw'n twyllo'r bobl hynny mae Duw wedi eu dewis petai'r fath beth yn bosib! Cofiwch mod i wedi dweud hyn ymlaen llaw. “Felly os bydd rhywun yn dweud wrthoch chi, ‘Mae'r Meseia acw, allan yn yr anialwch,’ peidiwch mynd yno i edrych; neu ‘mae e'n cuddio yma,’ peidiwch credu'r peth. Fydd dim amheuaeth o gwbl pan ddaw Mab y Dyn yn ôl — bydd mor amlwg â mellten yn goleuo'r awyr o'r dwyrain i'r gorllewin. Bydd mor amlwg â'r ffaith fod yna gorff marw ble bynnag mae fwlturiaid wedi casglu. “Ond yn union ar ôl yr argyfwng hwnnw, ‘Bydd yr haul yn tywyllu, a'r lleuad yn peidio rhoi golau; bydd y sêr yn syrthio o'r awyr, a'r planedau yn ansefydlog.’ “Yna bydd arwydd i'w weld yn yr awyr yn rhybuddio fod Mab y Dyn ar fin dod, a bydd pob llwyth o bobl ar y ddaear yn galaru. Bydd pawb yn fy ngweld i, Mab y Dyn, yn dod ar gymylau'r awyr gyda grym ac ysblander mawr. Bydd utgorn yn canu ffanffer uchel a bydd Duw yn anfon ei angylion i gasglu'r rhai mae wedi eu dewis o bob rhan o'r byd. “Dysgwch wers gan y goeden ffigys: Pan mae'r brigau'n dechrau blaguro a dail yn dechrau tyfu arni, gwyddoch fod yr haf yn agos. Felly'r un fath, pan fyddwch yn gweld y pethau yma i gyd, byddwch yn gwybod ei fod ar fin dod yn ôl — reit y tu allan i'r drws! Credwch chi fi, bydd y genhedlaeth bresennol yn dal yma pan fydd hyn yn digwydd. Bydd yr awyr a'r ddaear yn diflannu, ond mae beth dw i'n ddweud yn aros am byth. “Does neb ond y Tad yn gwybod y dyddiad a pha amser o'r dydd y bydd hyn yn digwydd — dydy'r angylion ddim yn gwybod, na hyd yn oed y Mab ei hun! Bydd hi yr un fath ag oedd hi yn amser Noa pan fydda i, Mab y Dyn, yn dod yn ôl. Yn y dyddiau yn union cyn y llifogydd, roedd pobl yn bwyta ac yn yfed ac yn priodi ac yn y blaen, hyd y diwrnod pan aeth Noa i mewn i'r arch. Doedd ganddyn nhw ddim syniad beth oedd yn mynd i ddigwydd nes i'r llifogydd ddod a'u hysgubo nhw i gyd i ffwrdd! Fel yna'n union y bydd hi pan fydda i, Mab y Dyn, yn dod yn ôl. Bydd dau allan yn y maes; bydd un yn cael ei gymryd i fwrdd ac un yn cael ei adael. Bydd dwy wraig yn malu ŷd gyda melin law; bydd un yn cael ei chymryd i ffwrdd ac un yn cael ei gadael. “Gwyliwch felly, achos dych chi ddim yn gwybod y dyddiad pan bydd eich Arglwydd yn dod yn ôl. Meddyliwch! Petai perchennog y tŷ yn gwybod ymlaen llaw pryd yn ystod y nos roedd y lleidr yn dod, byddai wedi aros i wylio a'i rwystro rhag torri i mewn i'w dŷ. Felly rhaid i chi fod yn barod drwy'r adeg. Bydda i, Mab y Dyn, yn cyrraedd pan fyddwch chi ddim yn disgwyl! “Felly pwy ydy'r swyddog doeth mae'r meistr yn gallu dibynnu arno? Mae wedi ei benodi i fod yn gyfrifol am y gweision i gyd, ac i'w bwydo'n rheolaidd. Ac os bydd yn gwneud ei waith yn iawn pan ddaw'r meistr yn ôl, bydd yn cael ei wobrwyo. Wir i chi, bydd yn cael y cyfrifoldeb o ofalu am eiddo'r meistr i gyd! Ond beth petai'r swyddog yna'n un drwg, ac yn meddwl iddo'i hun, ‘Mae'r meistr wedi bod i ffwrdd yn hir iawn,’ ac yn mynd ati i gam-drin ei gydweithwyr, a bwyta ac yfed gyda'r meddwon. Byddai'r meistr yn dod yn ôl yn gwbl ddirybudd, a'i gosbi'n llym a'i daflu allan gyda'r rhai hynny sy'n gwneud sioe o'u crefydd. Yno bydd pobl yn wylo'n chwerw ac mewn artaith.” “Bryd hynny, pan fydd yr Un nefol yn dod i deyrnasu, bydd yr un fath â deg morwyn briodas yn mynd allan gyda lampau yn y nos i gyfarfod â'r priodfab. Roedd pump ohonyn nhw'n ddwl, a phump yn gall. Aeth y rhai dwl allan heb olew sbâr. Ond roedd y lleill yn ddigon call i fynd ag olew sbâr gyda nhw. Roedd y priodfab yn hir iawn yn cyrraedd, ac felly dyma nhw i gyd yn dechrau pendwmpian a disgyn i gysgu. “Am hanner nos dyma rhywun yn gweiddi'n uchel: ‘Mae'r priodfab wedi cyrraedd! Dewch allan i'w gyfarfod!’ “Dyma'r merched yn deffro ac yn goleuo eu lampau eto. Ond meddai'r morynion dwl wrth y rhai call, ‘Rhowch beth o'ch olew chi i ni! Mae'n lampau ni'n diffodd!’ “‘Na wir,’ meddai'r lleill, ‘fydd gan neb ddigon wedyn. Rhaid i chi fynd i brynu peth yn rhywle.’ “Ond tra oedden nhw allan yn prynu mwy o olew, dyma'r priodfab yn cyrraedd. Aeth y morynion oedd yn barod i mewn i'r wledd briodas gydag e, a dyma'r drws yn cael ei gau. “Yn nes ymlaen cyrhaeddodd y lleill yn ôl, a dyma nhw'n galw, ‘Syr! Syr! Agor y drws i ni!’ “Ond dyma'r priodfab yn ateb, ‘Ond dw i ddim yn eich nabod chi!’ “Gwyliwch eich hunain felly! Dych chi ddim yn gwybod y dyddiad na'r amser o'r dydd pan fydda i'n dod yn ôl. “Pan ddaw'r Un nefol i deyrnasu, bydd yr un fath â dyn yn mynd oddi cartref: Galwodd ei weision at ei gilydd a rhoi ei eiddo i gyd yn eu gofal nhw. Rhoddodd swm arbennig yng ngofal pob un yn ôl ei allu — pum talent (hynny ydy tri deg mil o ddarnau arian) i un, dwy dalent (hynny ydy deuddeg mil) i un arall, ac un dalent (hynny ydy chwe mil) i'r llall. Wedyn aeth i ffwrdd ar ei daith. Dyma'r gwas oedd wedi cael pum talent yn bwrw iddi ar unwaith i farchnata gyda'i arian, a llwyddodd i ddyblu'r swm oedd ganddo. Llwyddodd yr un gyda dwy dalent i wneud yr un peth. Ond y cwbl wnaeth yr un gafodd un dalent oedd gwneud twll yn y ddaear a chadw arian ei feistr yn saff ynddo. “Aeth amser hir heibio, yna o'r diwedd daeth y meistr yn ôl adre a galw ei weision i roi cyfri am yr arian oedd wedi ei roi yn eu gofal nhw. Dyma'r un oedd wedi derbyn y pum talent yn dod a dweud wrtho, ‘Feistr, rhoist ti dri deg mil o ddarnau arian yn fy ngofal i. Dw i wedi llwyddo i wneud tri deg mil arall.’ “‘Da iawn ti!’ meddai'r meistr, ‘Rwyt ti'n weithiwr da, a galla i ddibynnu arnat ti! Rwyt ti wedi bod yn ffyddlon wrth drin yr ychydig rois i yn dy ofal di, felly dw i'n mynd i roi llawer iawn mwy o gyfrifoldeb i ti. Tyrd gyda mi i ddathlu!’ “Wedyn dyma'r un oedd wedi derbyn dwy dalent yn dod ac yn dweud, ‘Feistr, rhoist ti ddeuddeg mil o ddarnau arian yn fy ngofal i. Dw i wedi llwyddo i wneud deuddeg mil arall.’ “‘Da iawn ti!’ meddai'r meistr, ‘Rwyt ti'n weithiwr da, a galla i ddibynnu arnat ti! Rwyt ti wedi bod yn ffyddlon wrth drin yr ychydig rois i yn dy ofal di, felly dw i'n mynd i roi llawer iawn mwy o gyfrifoldeb i ti. Tyrd gyda mi i ddathlu!’ “Wedyn dyma'r un oedd wedi derbyn un dalent yn dod. ‘Feistr,’ meddai, ‘Mae pawb yn gwybod dy fod ti'n ddyn caled. Rwyt ti'n ecsbloetio pobl ac yn gwneud elw ar draul eu gwaith caled nhw. Roedd gen i ofn gwneud colled, felly dw i wedi cadw dy arian di'n saff mewn twll yn y ddaear. Felly dyma dy arian yn ôl — mae'r cwbl yna.’ “Dyma'r meistr yn ei ateb, ‘Y cnaf diog, da i ddim! Dw i'n ddyn caled ydw i — yn ecsbloetio pobl ac yn gwneud elw ar draul eu gwaith caled nhw? Dylet ti o leia fod wedi rhoi'r arian mewn cyfri cadw yn y banc, i mi ei gael yn ôl gyda rhyw fymryn o log!’ “Cymerwch yr arian oddi arno, a'i roi i'r un cyntaf sydd â deg talent ganddo. Bydd y rhai sydd wedi gwneud defnydd da o beth sydd ganddyn nhw yn derbyn mwy, a bydd ganddyn nhw ddigonedd. Ond am y rhai sy'n gwneud dim byd, bydd hyd yn oed yr ychydig sydd ganddyn nhw yn cael ei gymryd oddi arnyn nhw! Taflwch y gwas diwerth i'r tywyllwch, lle bydd pobl yn wylo'n chwerw ac mewn artaith! “Pan fydd Mab y Dyn yn dod yn ôl, bydd yn dod fel brenin i deyrnasu. Bydd yn dod mewn ysblander, a'r holl angylion gydag e, ac yn eistedd ar yr orsedd hardd sydd yno ar ei gyfer yn y nefoedd. Bydd yr holl genhedloedd yn cael eu casglu o'i flaen, a bydd yn eu rhannu'n ddau grŵp fel mae bugail yn gwahanu'r defaid a'r geifr. Bydd yn rhoi'r defaid ar ei ochr dde a'r geifr ar ei ochr chwith. “Dyma fydd y Brenin yn ei ddweud wrth y rhai sydd ar ei ochr dde, ‘Chi ydy'r rhai mae fy Nhad wedi eu bendithio, felly dewch i dderbyn eich etifeddiaeth. Mae'r cwbl wedi ei baratoi ar eich cyfer ers i'r byd gael ei greu. Dewch, oherwydd chi roddodd fwyd i mi pan roeddwn i'n llwgu; chi roddodd ddiod i mi pan roedd syched arna i; chi roddodd groeso i mi pan doeddwn i ddim yn nabod neb; chi roddodd ddillad i mi pan roeddwn i'n noeth; chi ofalodd amdana i pan roeddwn i'n sâl; chi ddaeth i ymweld â mi pan roeddwn i yn y carchar.’ “Ond bydd y rhai cyfiawn yma yn gofyn iddo, ‘Arglwydd, pryd welon ni ti'n llwgu a rhoi rhywbeth i ti i'w fwyta, neu'n sychedig a rhoi diod i ti? Pryd wnaethon ni dy groesawu di pan oeddet ti'n nabod neb, neu roi dillad i ti pan oeddet ti'n noeth? Pryd welon ni ti'n sâl neu yn y carchar a mynd i ymweld â ti?’ “A bydd y Brenin yn ateb, ‘Credwch chi fi, pan wnaethoch chi helpu'r person lleiaf pwysig sy'n perthyn i mi, gwnaethoch chi fy helpu i.’ “Yna bydd yn dweud wrth y rhai sydd ar ei ochr chwith, ‘Dych chi wedi'ch melltithio! Ewch i ffwrdd oddi wrtho i, i'r tân tragwyddol sydd wedi ei baratoi i'r diafol a'i gythreuliaid. Roesoch chi ddim byd i mi pan oeddwn i'n llwgu; roesoch chi ddim diod i mi pan oedd syched arna i; ches i ddim croeso gynnoch chi pan oeddwn i'n ddieithr; roesoch chi ddim dillad i mi eu gwisgo pan oeddwn i'n noeth; a wnaethoch chi ddim gofalu amdana i pan oeddwn i'n sâl ac yn y carchar.’ “A byddan nhw'n gofyn iddo, ‘Arglwydd, pryd welon ni ti'n llwgu neu'n sychedig, neu'n nabod neb neu'n noeth neu'n sâl neu yn y carchar, a gwrthod dy helpu di?’ “Bydd yn ateb, ‘Credwch chi fi, beth bynnag wrthodoch chi ei wneud i helpu'r un lleiaf pwysig o'r rhain, gwrthodoch chi ei wneud i mi.’ “Wedyn byddan nhw'n mynd i ffwrdd i gael eu cosbi'n dragwyddol, ond bydd y rhai cyfiawn yn cael bywyd tragwyddol.” Pan oedd Iesu wedi gorffen dweud y pethau yma i gyd, meddai wrth ei ddisgyblion, “Fel dych chi'n gwybod, mae'n Ŵyl y Pasg nos fory. Bydda i, Mab y Dyn, yn cael fy mradychu i'm croeshoelio.” Yr un adeg, roedd y prif offeiriaid ac arweinwyr Iddewig eraill yn cyfarfod ym mhalas Caiaffas yr archoffeiriad, i drafod sut allen nhw arestio Iesu a'i ladd. “Ond dim yn ystod yr Ŵyl,” medden nhw, “neu bydd reiat.” Pan oedd Iesu yn Bethania, aeth am bryd o fwyd i gartref dyn roedd pawb yn ei alw yn ‛Simon y gwahanglwyf‛. Roedd yno'n bwyta pan ddaeth gwraig ato gyda jar alabaster hardd yn llawn o bersawr drud, a thywallt y persawr ar ei ben. Roedd y disgyblion yn wyllt pan welon nhw hi'n gwneud hyn. “Am wastraff!” medden nhw, “Gallai rhywun fod wedi gwerthu'r persawr yna am arian mawr, a rhoi'r cwbl i bobl dlawd.” Roedd Iesu'n gwybod beth oedden nhw'n ei ddweud, ac meddai wrthyn nhw, “Gadewch lonydd i'r wraig! Mae hi wedi gwneud peth hyfryd. Bydd pobl dlawd o gwmpas bob amser, ond fydda i ddim yma bob amser. Wrth dywallt y persawr yma arna i mae hi wedi paratoi fy nghorff ar gyfer ei gladdu. Credwch chi fi, ble bynnag fydd y newyddion da yn cael ei gyhoeddi drwy'r byd i gyd, bydd pobl yn cofio beth wnaeth y wraig yma hefyd.” Ar ôl i hyn ddigwydd aeth Jwdas Iscariot, un o'r deuddeg disgybl, at y prif offeiriaid a gofyn iddyn nhw, “Faint wnewch chi dalu i mi os wna i ei fradychu e?” A dyma nhw'n cytuno i roi tri deg darn arian iddo. O hynny ymlaen roedd Jwdas yn edrych am ei gyfle i fradychu Iesu iddyn nhw. Ar ddiwrnod cyntaf Gŵyl y Bara Croyw, gofynnodd y disgyblion i Iesu, “Ble rwyt ti am fwyta swper y Pasg? — i ni fynd i'w baratoi.” “Ewch i'r ddinas at hwn a hwn,” meddai. “Dwedwch wrtho: ‘Mae'r athro'n dweud fod yr amser wedi dod. Mae am ddathlu'r Pasg gyda'i ddisgyblion yn dy dŷ di.’” Felly dyma'r disgyblion yn gwneud yn union fel roedd Iesu wedi dweud wrthyn nhw, ac yn paratoi swper y Pasg yno. Yn gynnar y noson honno eisteddodd Iesu wrth y bwrdd gyda'r deuddeg disgybl. Tra roedden nhw'n bwyta, meddai wrthyn nhw, “Wir i chi, mae un ohonoch chi'n mynd i'm bradychu i.” Roedden nhw'n drist iawn, ac yn dweud wrtho, un ar ôl y llall, “Meistr, dim fi ydy'r un, nage?” Atebodd Iesu, “Bydd un ohonoch chi yn fy mradychu i — un ohonoch chi sydd yma, ac wedi trochi ei fwyd yn y ddysgl saws gyda mi. Rhaid i mi, Mab y Dyn, farw yn union fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud. Ond gwae'r un sy'n mynd i'm bradychu i! Byddai'n well arno petai erioed wedi cael ei eni!” Wedyn dyma Jwdas, yr un oedd yn mynd i'w fradychu, yn dweud, “Rabbi, dim fi ydy'r un, nage?” “Ti sydd wedi dweud,” atebodd Iesu. Tra oedden nhw'n bwyta, dyma Iesu'n cymryd torth, ac yna, ar ôl adrodd y weddi o ddiolch, ei thorri a'i rhannu i'w ddisgyblion. “Cymerwch y bara yma, a'i fwyta,” meddai. “Dyma fy nghorff i.” Yna cododd y cwpan, adrodd y weddi o ddiolch eto, a'i basio iddyn nhw, a dweud, “Yfwch o hwn, bob un ohonoch chi. Dyma fy ngwaed, sy'n selio ymrwymiad Duw i'w bobl. Mae'n cael ei dywallt ar ran llawer o bobl, i faddau eu pechodau nhw. Wir i chi — fydda i ddim yn yfed y gwin yma eto nes daw'r dydd pan fydda i'n ei yfed o'r newydd gyda chi pan fydd fy Nhad yn teyrnasu.” Wedyn, ar ôl canu emyn, dyma nhw'n mynd allan i Fynydd yr Olewydd. “Dych chi i gyd yn mynd i droi cefn arna i heno” meddai Iesu wrthyn nhw. “Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: ‘Bydda i'n taro'r bugail, a bydd y praidd yn mynd ar chwâl.’ Ond ar ôl i mi ddod yn ôl yn fyw, af i o'ch blaen chi i Galilea.” Dyma Pedr yn dweud yn bendant, “Wna i byth droi cefn arnat ti, hyd yn oed os bydd pawb arall yn gwneud hynny!” “Wir i ti,” meddai Iesu wrtho, “heno, cyn i'r ceiliog ganu, byddi di wedi gwadu dair gwaith dy fod di'n fy nabod i.” Ond meddai Pedr, “Na! Wna i byth wadu mod i'n dy nabod di! Hyd yn oed os bydd rhaid i mi farw gyda thi!” Ac roedd y disgyblion eraill i gyd yn dweud yr un peth. Dyma Iesu'n mynd gyda'i ddisgyblion i le o'r enw Gethsemane. “Eisteddwch chi yma,” meddai wrthyn nhw, “dw i'n mynd draw acw i weddïo.” Aeth â Pedr a dau fab Sebedeus gydag e, a dechreuodd deimlo tristwch ofnadwy a gwewyr meddwl oedd yn ei lethu. “Mae'r tristwch dw i'n ei deimlo yn ddigon i'm lladd i,” meddai wrthyn nhw, “Arhoswch yma i wylio gyda mi.” Aeth yn ei flaen ychydig, a syrthio ar ei wyneb ar lawr a gweddïo, “Fy Nhad, gad i'r cwpan chwerw yma fynd i ffwrdd os ydy hynny'n bosib. Ond paid gwneud beth dw i eisiau, gwna beth rwyt ti eisiau.” Pan aeth yn ôl at ei ddisgyblion roedden nhw'n cysgu. A meddai wrth Pedr, “Felly, allech chi ddim cadw golwg gyda mi am un awr fechan? Cadwch yn effro, a gweddïwch y byddwch chi ddim yn syrthio pan gewch chi'ch profi. Mae'r ysbryd yn frwd, ond y corff yn wan.” Yna aeth i ffwrdd a gweddïo eto, “Fy Nhad, os ydy hi ddim yn bosib i'r cwpan chwerw yma fynd i ffwrdd heb i mi yfed ohono, gwna i beth rwyt ti eisiau.” Ond pan ddaeth yn ôl, roedden nhw wedi syrthio i gysgu eto — roedden nhw'n methu'n lân â chadw eu llygaid ar agor. Felly gadawodd nhw a mynd i ffwrdd i weddïo yr un peth eto y drydedd waith. Yna daeth yn ôl at ei ddisgyblion a dweud wrthyn nhw, “Dych chi'n cysgu eto? Yn dal i orffwys? Edrychwch! Mae'r foment wedi dod. Dw i, Mab y Dyn, ar fin cael fy mradychu i afael pechaduriaid. Codwch, gadewch i ni fynd! Mae'r bradwr wedi cyrraedd!” Wrth iddo ddweud y peth, dyma Jwdas, un o'r deuddeg disgybl, yn ymddangos gyda thyrfa yn cario cleddyfau a phastynau. Roedd y prif offeiriaid a'r arweinwyr Iddewig eraill wedi eu hanfon nhw i ddal Iesu. Roedd Jwdas y bradwr wedi trefnu y byddai'n rhoi arwydd iddyn nhw: “Yr un fydda i'n ei gyfarch â chusan ydy'r dyn i'w arestio.” Aeth Jwdas yn syth at Iesu. “Helo Rabbi!”, meddai, ac yna ei gyfarch â chusan. “Gwna beth rwyt wedi dod yma i'w wneud gyfaill,” meddai Iesu wrtho. Yna gafaelodd y lleill yn Iesu a'i arestio. Ond yn sydyn, dyma un o ffrindiau Iesu yn tynnu cleddyf allan a tharo gwas yr archoffeiriad. Torrodd ei glust i ffwrdd. “Cadw dy gleddyf!” meddai Iesu wrtho, “Bydd pawb sy'n trin y cleddyf yn cael eu lladd gan y cleddyf. Wyt ti ddim yn sylweddoli y gallwn i alw ar fy Nhad am help, ac y byddai'n anfon miloedd ar filoedd o angylion ar unwaith? Ond sut wedyn fyddai'r ysgrifau sanctaidd sy'n dweud fod rhaid i hyn i gyd ddigwydd yn dod yn wir?” “Ydw i'n arwain gwrthryfel neu rywbeth?” meddai Iesu wrth y dyrfa oedd yno. “Ai dyna pam mae angen y cleddyfau a'r pastynau yma? Pam wnaethoch chi ddim fy arestio i yn y deml? Roeddwn i'n eistedd yno bob dydd, yn dysgu'r bobl. Ond mae hyn i gyd wedi digwydd er mwyn i beth mae'r proffwydi'n ei ddweud yn yr ysgrifau sanctaidd ddod yn wir.” Yna dyma'r disgyblion i gyd yn ei adael ac yn dianc. Dyma'r rhai oedd wedi arestio Iesu yn mynd ag e i dŷ Caiaffas yr archoffeiriad, lle roedd yr arbenigwyr yn y Gyfraith a'r arweinwyr eraill wedi dod at ei gilydd. Ond dyma Pedr yn dilyn o bell nes cyrraedd iard tŷ'r archoffeiriad. Aeth i mewn, ac eistedd i lawr gyda'r gweision diogelwch, a disgwyl i weld beth fyddai'n digwydd. Roedd y prif offeiriaid a'r Sanhedrin (hynny ydy yr uchel-lys Iddewig) yn edrych am dystion oedd yn barod i ddweud celwydd am Iesu, er mwyn iddyn nhw ei ddedfrydu i farwolaeth. Ond er i lawer o bobl ddod ymlaen a dweud celwydd amdano, chawson nhw ddim tystiolaeth allen nhw ei ddefnyddio yn ei erbyn. Yn y diwedd dyma ddau yn dod ymlaen a dweud, “Dwedodd y dyn yma, ‘Galla i ddinistrio teml Dduw a'i hadeiladu eto o fewn tri diwrnod.’” Felly dyma'r archoffeiriad yn codi ar ei draed a dweud wrth Iesu, “Wel, oes gen ti ateb? Beth am y dystiolaeth yma yn dy erbyn di?” Ond ddwedodd Iesu ddim. Yna dyma'r archoffeiriad yn dweud wrtho, “Dw i'n dy orchymyn di yn enw'r Duw byw i'n hateb ni! Ai ti ydy'r Meseia, mab Duw?” “Ie,” meddai Iesu, “fel rwyt ti'n dweud. Ond dw i'n dweud wrthoch chi i gyd: Rhyw ddydd byddwch chi'n fy ngweld i, Mab y Dyn, yn llywodraethu gyda'r Un Grymus ac yn dod yn ôl ar gymylau'r awyr.” Wrth glywed beth ddwedodd Iesu, dyma'r archoffeiriad yn rhwygo ei ddillad. “Cabledd!” meddai, “Pam mae angen tystion arnon ni?! Dych chi i gyd newydd ei glywed yn cablu. Beth ydy'ch dyfarniad chi?” Dyma nhw'n ateb, “Rhaid iddo farw!” Yna dyma nhw'n poeri yn ei wyneb ac yn ei ddyrnu. Roedd rhai yn ei daro ar draws ei wyneb ac yna'n dweud, “Tyrd! Proffwyda i ni, Feseia! Pwy wnaeth dy daro di y tro yna?” Yn y cyfamser, roedd Pedr yn eistedd allan yn yr iard, a dyma un o'r morynion yn dod ato a dweud, “Roeddet ti'n un o'r rhai oedd gyda'r Galilead yna, Iesu!” Ond gwadu'r peth wnaeth Pedr o flaen pawb. “Does gen i ddim syniad am beth wyt ti'n sôn,” meddai. Aeth allan at y fynedfa i'r iard, a dyma forwyn arall yn ei weld yno, a dweud wrth y bobl o'i chwmpas, “Roedd hwn gyda Iesu o Nasareth.” Ond gwadu'r peth wnaeth Pedr eto gan daeru: “Dw i ddim yn nabod y dyn!” Ychydig wedyn, dyma rai eraill oedd yn sefyll yno yn mynd at Pedr a dweud, “Ti'n un ohonyn nhw'n bendant! Mae'n amlwg oddi wrth dy acen di.” Dyma Pedr yn dechrau rhegi a melltithio, “Dw i ddim yn nabod y dyn!” meddai. A'r foment honno dyma'r ceiliog yn canu. Yna cofiodd Pedr beth ddwedodd Iesu: “Byddi di wedi gwadu dy fod di'n fy nabod i dair gwaith cyn i'r ceiliog ganu.” Aeth allan yn beichio crïo. Yn gynnar iawn yn y bore, dyma'r holl brif offeiriaid a'r arweinwyr Iddewig eraill yn penderfynu fod rhaid i Iesu gael ei ddedfrydu i farwolaeth. Felly, dyma nhw'n ei rwymo a'i drosglwyddo i Peilat, y llywodraethwr. Pan sylweddolodd Jwdas, y bradwr, fod Iesu'n mynd i gael ei ddienyddio, roedd yn edifar am beth wnaeth e. Aeth â'r tri deg darn arian yn ôl i'r prif offeiriaid a'r arweinwyr. “Dw i wedi pechu;” meddai, “dw i wedi bradychu dyn cwbl ddieuog.” “Does dim ots gynnon ni.” medden nhw, “Dy gyfrifoldeb di ydy hynny.” Felly dyma Jwdas yn taflu'r arian ar lawr y deml a mynd allan a chrogi ei hun. Dyma'r prif offeiriaid yn codi'r darnau arian. “Allwn ni ddim rhoi'r arian yma yn nhrysorfa'r deml. Mae yn erbyn y Gyfraith i dderbyn arian gafodd ei dalu am ladd rhywun.” Felly dyma nhw'n cytuno i ddefnyddio'r arian i brynu Maes y Crochenydd fel mynwent i gladdu pobl oedd ddim yn Iddewon. A dyna pam mai ‛Maes y Gwaed‛ ydy'r enw arno hyd heddiw. A dyna sut daeth geiriau'r proffwyd Jeremeia yn wir: “Dyma nhw'n cymryd y tri deg darn arian (dyna oedd ei werth yng ngolwg pobl Israel), a phrynu maes y crochenydd, fel yr oedd yr Arglwydd wedi dweud.” Yn y cyfamser, roedd Iesu'n sefyll ei brawf o flaen y llywodraethwr Rhufeinig. Dyma Peilat yn dweud wrtho, “Felly, ti ydy Brenin yr Iddewon, ie?” “Ti sy'n dweud,” atebodd Iesu. Ond pan oedd y prif offeiriaid a'r arweinwyr yn cyflwyno eu hachos yn ei erbyn, roedd Iesu'n gwrthod ateb. A dyma Peilat yn gofyn iddo, “Wyt ti ddim yn clywed y cyhuddiadau yma sydd ganddyn nhw yn dy erbyn di?” Ond wnaeth Iesu ddim ateb hyd yn oed un cyhuddiad! Doedd y peth yn gwneud dim sens i'r llywodraethwr. Adeg y Pasg roedd hi'n arferiad gan y llywodraethwr i ryddhau un carcharor — un roedd y dyrfa'n ei ddewis. Roedd un carcharor roedd pawb yn gwybod amdano — dyn o'r enw Barabbas. Felly pan oedd y dyrfa wedi ymgasglu, dyma Peilat yn gofyn iddyn nhw, “Pa un o'r ddau dych chi am i mi ei ollwng yn rhydd? Barabbas, neu Iesu, yr un sy'n cael ei alw ‛Y Meseia‛?” (Roedd yn gwybod yn iawn eu bod wedi arestio Iesu am eu bod yn genfigennus ohono.) Roedd Peilat yno'n eistedd yn sedd y barnwr pan ddaeth neges iddo oddi wrth ei wraig: “Mae'r dyn yna'n ddieuog — paid gwneud dim byd iddo. Ces i hunllef ofnadwy amdano neithiwr.” Ond roedd y prif offeiriaid a'r arweinwyr Iddewig wedi bod yn perswadio'r dyrfa i ofyn am ryddhau Barabbas, er mwyn gwneud yn siŵr fod Iesu'n cael ei ddienyddio. Gofynnodd y llywodraethwr eto, “Pa un o'r ddau yma dych chi eisiau i mi ei ryddhau?” Dyma nhw'n ateb, “Barabbas!” “Felly, beth dw i i'w wneud gyda'r Iesu yma, sy'n cael ei alw ‛Y Meseia‛?” Dyma nhw i gyd yn gweiddi, “Ei groeshoelio!” “Pam?” meddai Peilat, “Beth mae e wedi ei wneud o'i le?” Ond dyma nhw'n dechrau gweiddi'n uwch, “Croeshoelia fe!” Dyma Peilat yn gweld fod dim pwynt cario ymlaen am fod y dyrfa'n dechrau cynhyrfu. Felly galwodd am ddŵr, a golchi ei ddwylo o flaen pawb. “Dim fi sy'n gyfrifol am ladd y dyn yma,” meddai. “Chi sy'n gyfrifol!” Dyma'r bobl yn ateb gyda'i gilydd, “Iawn, ni fydd yn gyfrifol am y peth — ni a'n plant!” Felly dyma Peilat yn rhyddhau Barabbas iddyn nhw. Wedyn gorchmynnodd fod Iesu i gael ei chwipio, ac yna ei ddedfrydu i gael ei groeshoelio. Dyma filwyr Rhufeinig yn mynd â Iesu i'r palas (Pencadlys y llywodraethwr), a galw'r holl fintai i gasglu o'i gwmpas. Dyma nhw'n tynnu ei ddillad a rhoi clogyn ysgarlad amdano, plethu drain i wneud coron i'w rhoi ar ei ben, rhoi gwialen yn ei law dde a phenlinio o'i flaen a gwneud hwyl am ei ben. “Eich mawrhydi! Brenin yr Iddewon!” medden nhw. Roedden nhw'n poeri arno, ac yn ei daro ar ei ben dro ar ôl tro gyda'r wialen. Pan oedden nhw wedi blino cael sbort, dyma nhw'n tynnu'r clogyn oddi arno, a'i wisgo yn ei ddillad ei hun unwaith eto. Wedyn dyma nhw'n ei arwain allan i gael ei groeshoelio. Ar eu ffordd allan, daeth dyn o Cyrene o'r enw Simon i'w cyfarfod, a dyma'r milwyr yn ei orfodi i gario croes Iesu. Ar ôl cyrraedd y lle sy'n cael ei alw yn Golgotha (sef ‛Lle y Benglog‛), dyma nhw'n cynnig diod o win wedi ei gymysgu gyda chyffur chwerw i Iesu, ond ar ôl ei flasu gwrthododd Iesu ei yfed. Ar ôl ei hoelio ar y groes, dyma nhw'n gamblo i weld pwy fyddai'n cael ei ddillad. Wedyn dyma nhw'n eistedd i lawr i gadw golwg arno. Roedd arwydd uwch ei ben yn dweud beth oedd y cyhuddiad yn ei erbyn: DYMA IESU — BRENIN YR IDDEWON. Cafodd dau leidr eu croeshoelio yr un pryd, un bob ochr iddo. Roedd y bobl oedd yn pasio heibio yn gwneud sbort am ei ben, ac yn hyrddio enllibion ato, “Felly! Ti sy'n mynd i ddinistrio'r deml a'i hadeiladu eto o fewn tri diwrnod? Tyrd yn dy flaen! Achub dy hun! Tyrd i lawr o'r groes yna, os mai ti ydy Mab Duw go iawn!” Roedd y prif offeiriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith a'r arweinwyr Iddewig eraill yno hefyd yn cael sbort ymhlith ei gilydd. “Roedd e'n achub pobl eraill,” medden nhw, “ond dydy e ddim yn gallu achub ei hun! Beth am i ni ei weld yn dod i lawr oddi ar y groes yna, os mai Brenin Israel ydy e! Gwnawn ni gredu wedyn! Mae'n dweud ei fod e'n trystio Duw, gadewch i ni weld Duw yn ei achub e! Onid oedd e'n dweud ei fod yn Fab Duw?” Roedd hyd yn oed y lladron gafodd eu croeshoelio gydag e yn ei sarhau a'i enllibio. O ganol dydd hyd dri o'r gloch y p'nawn aeth yn hollol dywyll drwy'r wlad i gyd. Yna am dri o'r gloch gwaeddodd Iesu'n uchel, “Eli, Eli, lama sabachthani?” — sy'n golygu, “Fy Nuw, fy Nuw, pam wyt ti wedi troi dy gefn arna i?” Pan glywodd rhai o'r bobl oedd yn sefyll yno hyn, medden nhw, “Mae'n galw ar y proffwyd Elias am help.” Dyma un ohonyn nhw'n rhedeg ar unwaith i nôl ysbwng, a'i drochi mewn gwin sur rhad. Yna fe'i cododd ar flaen ffon i'w gynnig i Iesu i'w yfed. Ond dyma'r lleill yn dweud, “Gad lonydd iddo, i ni gael gweld os daw Elias i'w achub.” Yna ar ôl gweiddi'n uchel eto, dyma Iesu'n marw. Dyna'n union pryd wnaeth y llen oedd yn hongian yn y deml rwygo yn ei hanner o'r top i'r gwaelod. Roedd y ddaear yn crynu a'r creigiau yn hollti, a chafodd beddau eu hagor. (Ar ôl i Iesu ddod yn ôl yn fyw cododd cyrff llawer iawn o bobl dduwiol allan o'u beddau, a mynd i mewn i Jerwsalem, y ddinas sanctaidd, a gwelodd llawer iawn o bobl nhw.) Dyma'r daeargryn a phopeth arall ddigwyddodd yn dychryn y capten Rhufeinig a'i filwyr oedd wedi bod yn cadw golwg ar Iesu. Gwaeddodd, “Mab Duw oedd y dyn yma, reit siŵr!” Roedd nifer o wragedd wedi bod yn gwylio beth oedd yn digwydd o bell. Roedden nhw wedi dilyn Iesu yr holl ffordd o Galilea i ofalu fod ganddo bopeth oedd arno'i angen. Roedd Mair Magdalen yn un ohonyn nhw, Mair mam Iago a Joseff, a mam Iago a Ioan, sef gwraig Sebedeus hefyd. Ychydig cyn iddi nosi, dyma ddyn o'r enw Joseff (dyn cyfoethog o Arimathea oedd yn un o ddilynwyr Iesu) yn mynd at Peilat. Aeth i ofyn i Peilat am ganiatâd i gymryd corff Iesu, a dyma Peilat yn gorchymyn rhoi'r corff iddo. Dyma Joseff yn cymryd y corff a'i lapio mewn lliain glân. Yna fe'i rhoddodd i orwedd yn ei fedd newydd ei hun, un wedi ei naddu yn y graig. Wedyn, ar ôl rholio carreg drom dros geg y bedd, aeth i ffwrdd. Roedd Mair Magdalen a'r Fair arall wedi bod yno yn eistedd gyferbyn â'r bedd yn gwylio'r cwbl. Y diwrnod wedyn, hynny ydy y dydd Saboth, dyma'r prif offeiriaid a'r Phariseaid yn mynd i weld Peilat. “Syr,” medden nhw wrtho, “un peth ddwedodd y twyllwr yna pan oedd e'n dal yn fyw oedd, ‘Bydda i'n dod yn ôl yn fyw ymhen deuddydd’. Felly wnei di orchymyn i'r bedd gael ei wneud yn ddiogel hyd drennydd. Bydd hynny'n rhwystro'i ddisgyblion rhag dod a dwyn y corff, a mynd o gwmpas wedyn yn dweud wrth bobl ei fod wedi dod yn ôl yn fyw. Byddai'r twyll yna'n waeth na'r twyll cyntaf!” “Cymerwch filwyr,” meddai Peilat, “ac ewch i wneud y bedd mor ddiogel ag y gallwch chi.” Felly dyma nhw'n mynd a gosod sêl ar y garreg oedd dros geg y bedd, a rhoi milwyr ar ddyletswydd i'w gwarchod. Yna'n gynnar fore Sul, pan oedd y Saboth Iddewig drosodd, a hithau'n dechrau gwawrio, dyma Mair Magdalen a'r Fair arall yn mynd i edrych ar y bedd. Yn sydyn roedd daeargryn mawr. Dyma angel yr Arglwydd yn dod i lawr o'r nefoedd a rholio'r garreg oddi ar geg y bedd ac eistedd arni. Roedd wyneb yr angel yn disgleirio'n llachar fel mellten, a'i ddillad yn wyn fel eira. Roedd y milwyr yn crynu gan ofn a dyma nhw'n llewygu. Yna dyma'r angel yn dweud wrth y gwragedd, “Peidiwch bod ag ofn. Dw i'n gwybod eich bod chi'n edrych am Iesu, yr un gafodd ei groeshoelio. Dydy e ddim yma; mae wedi dod yn ôl yn fyw! Dyna'n union beth ddwedodd fyddai'n digwydd. Dewch yma i weld lle bu'n gorwedd. Yna ewch ar frys a dweud hyn wrth ei ddisgyblion: ‘Mae Iesu wedi dod yn ôl yn fyw, ac mae'n mynd i Galilea o'ch blaen chi. Cewch ei weld yno.’ Edrychwch, fi sydd wedi dweud wrthoch chi.” Felly dyma'r gwragedd yn rhedeg ar frys o'r bedd i ddweud wrth y disgyblion. Roedden nhw wedi dychryn, ac eto roedden nhw'n teimlo rhyw wefr. Yna'n sydyn dyma Iesu'n eu cyfarfod nhw. “Helo,” meddai. Dyma nhw'n rhedeg ato ac yn gafael yn ei draed a'i addoli. “Peidiwch bod ag ofn,” meddai Iesu wrthyn nhw, “Ewch i ddweud wrth fy mrodyr i am fynd i Galilea; byddan nhw'n cael fy ngweld i yno.” Tra roedd y gwragedd ar eu ffordd, dyma rhai o'r milwyr yn mynd i'r ddinas i ddweud wrth y prif offeiriaid am bopeth oedd wedi digwydd. Yna aeth y prif offeiriaid i gyfarfod gyda'r arweinwyr eraill i drafod beth i'w wneud. Dyma nhw'n penderfynu talu swm mawr o arian i'r milwyr i ddweud celwydd. “Dyma beth dych chi i'w ddweud: medden nhw, ‘Daeth ei ddisgyblion yn ystod y nos a dwyn y corff tra oedden ni'n cysgu.’ Peidiwch poeni os bydd y llywodraethwr yn clywed y stori, deliwn ni gyda hynny a gwneud yn siŵr na chewch chi'ch cosbi.” Felly dyma'r milwyr yn cymryd yr arian ac yn gwneud beth ddwedwyd wrthyn nhw. Dyma'r stori mae'r Iddewon i gyd yn dal i'w defnyddio heddiw! Dyma'r un deg un disgybl yn mynd i Galilea, i'r mynydd lle roedd Iesu wedi dweud wrthyn nhw am fynd. Pan welon nhw Iesu, dyma nhw'n ei addoli — er bod gan rai ohonyn nhw amheuon. Wedyn dyma Iesu'n mynd atyn nhw ac yn dweud, “Dw i wedi cael awdurdod llwyr i reoli popeth yn y nefoedd ac ar y ddaear. Felly ewch i wneud pobl o bob gwlad yn ddisgyblion i mi, a'u bedyddio nhw fel arwydd eu bod nhw wedi dod i berthynas â'r Tad, a'r Mab a'r Ysbryd Glân. A dysgwch nhw i wneud popeth dw i wedi ei ddweud wrthoch chi. Gallwch chi fod yn siŵr y bydda i gyda chi bob amser, nes bydd diwedd y byd wedi dod.” Mae'r newyddion da am Iesu y Meseia, Mab Duw yn dechrau fel hyn: Mae'n dweud yn llyfr y proffwyd Eseia: “Edrych — dw i'n anfon fy negesydd o dy flaen di, i baratoi'r ffordd i ti” — “Llais yn gweiddi'n uchel yn yr anialwch, ‘Paratowch y ffordd i'r Arglwydd ddod! Gwnewch y llwybrau'n syth iddo!’” Dyna beth wnaeth Ioan — roedd yn bedyddio pobl yn yr anialwch ac yn cyhoeddi fod hyn yn arwydd eu bod yn troi cefn ar eu pechodau ac yn derbyn maddeuant gan Dduw. Roedd pobl cefn gwlad Jwdea a dinas Jerwsalem yn heidio allan ato. Pan oedden nhw'n cyfaddef eu pechodau roedd yn eu bedyddio nhw yn Afon Iorddonen. Roedd Ioan yn gwisgo dillad o flew camel gyda belt lledr am ei ganol, ac roedd yn bwyta locustiaid a mêl gwyllt. Dyma oedd ei neges: “Mae un llawer mwy grymus na fi yn dod ar fy ôl i — fyddwn i ddim digon da i fod yn gaethwas yn plygu i lawr i ddatod carrai ei sandalau. Dw i'n defnyddio dŵr i'ch bedyddio chi, ond bydd hwn yn eich bedyddio chi â'r Ysbryd Glân.” Tua'r adeg yna daeth Iesu o Nasareth, Galilea i gael ei fedyddio gan Ioan yn yr Iorddonen. Yr eiliad y daeth Iesu allan o'r dŵr, gwelodd yr awyr yn rhwygo'n agored a'r Ysbryd Glân yn disgyn arno fel colomen. A dyma lais o'r nefoedd yn dweud: “Ti ydy fy Mab annwyl i; rwyt ti wedi fy mhlesio i'n llwyr.” Yn syth wedyn dyma'r Ysbryd yn gyrru Iesu allan i'r anialwch. Arhosodd yno am bedwar deg diwrnod, yn cael ei demtio gan Satan. Roedd anifeiliaid gwylltion o'i gwmpas, ond roedd yno angylion yn gofalu amdano. Ar ôl i Ioan gael ei roi yn y carchar aeth Iesu i Galilea a chyhoeddi newyddion da Duw. “Mae'n amser!” meddai. “Mae'r foment wedi dod! Mae Duw yn dod i deyrnasu! Trowch gefn ar bechod a chredu'r newyddion da!” Pan oedd Iesu'n cerdded wrth Lyn Galilea, gwelodd ddau frawd, Simon ac Andreas. Pysgotwyr oedden nhw, ac roedden nhw wrthi'n taflu rhwyd i'r llyn. “Dewch,” meddai Iesu, “dilynwch fi, a gwna i chi'n bysgotwyr sy'n dal pobl yn lle pysgod.” Heb oedi dyma'r ddau yn gollwng eu rhwydi a mynd ar ei ôl. Ychydig yn nes ymlaen gwelodd Iago ac Ioan, dau fab Sebedeus. Roedden nhw wrthi'n trwsio eu rhwydi yn eu cwch. Dyma Iesu'n eu galw nhw hefyd, a dyma nhw'n gadael eu tad Sebedeus gyda'r gweision yn y cwch a dechrau dilyn Iesu. Wedyn dyma nhw'n mynd i Capernaum. Ar y dydd Saboth (pan oedd yr Iddewon yn addoli Duw), aeth Iesu i'r synagog a dechrau dysgu'r bobl. Roedd pawb yn rhyfeddu at beth roedd yn ei ddysgu. Roedd yn wahanol i'r arbenigwyr yn y Gyfraith — roedd ganddo awdurdod oedd yn gwneud i bobl wrando arno. Yna'n sydyn dyma ryw ddyn oedd yn y synagog yn rhoi sgrech uchel. (Roedd y dyn wedi ei feddiannu gan ysbryd drwg). “Gad di lonydd i ni, Iesu o Nasareth. Rwyt ti yma i'n dinistrio ni. Dw i'n gwybod pwy wyt ti — Un Sanctaidd Duw!” “Bydd ddistaw!” meddai Iesu'n ddig. “Tyrd allan ohono!” Dyma'r ysbryd drwg yn gwneud i'r dyn ysgwyd yn ffyrnig, yna daeth allan ohono gyda sgrech uchel. Roedd pawb wedi cael sioc, ac yn gofyn i'w gilydd, “Beth sy'n mynd ymlaen? Mae'r hyn mae'n ei ddysgu yn newydd — mae ganddo'r fath awdurdod! Mae hyd yn oed ysbrydion drwg yn gorfod ufuddhau iddo.” Roedd y sôn amdano yn lledu fel tân gwyllt drwy holl ardal Galilea. Yn syth ar ôl gadael y synagog, dyma nhw'n mynd i gartref Simon ac Andreas, gyda Iago ac Ioan. Yno roedd mam-yng-nghyfraith Simon yn ei gwely yn dioddef o wres uchel. Dyma nhw'n dweud wrth Iesu, ac aeth e ati a gafael yn ei llaw, a'i chodi ar ei thraed. Diflannodd y tymheredd oedd ganddi, a dyma hi'n codi a gwneud pryd o fwyd iddyn nhw. Wrth i'r haul fachlud y noson honno dechreuodd pobl ddod at Iesu gyda rhai oedd yn sâl neu wedi eu meddiannu gan gythreuliaid. Roedd fel petai'r dref i gyd yno wrth y drws! Dyma Iesu'n iacháu nifer fawr o bobl oedd yn dioddef o wahanol afiechydon. Bwriodd gythreuliaid allan o lawer o bobl hefyd. Roedd y cythreuliaid yn gwybod yn iawn pwy oedd Iesu, ond roedd yn gwrthod gadael iddyn nhw ddweud gair. Y bore wedyn cododd Iesu'n gynnar iawn. Roedd hi'n dal yn dywyll pan adawodd y tŷ, ac aeth i le unig i weddïo. Dyma Simon a'r lleill yn mynd i edrych amdano, ac ar ôl dod o hyd iddo dyma nhw'n dweud yn frwd: “Mae pawb yn edrych amdanat ti!” Atebodd Iesu, “Gadewch i ni fynd yn ein blaenau i'r pentrefi nesa, i mi gael cyhoeddi'r newyddion da yno hefyd. Dyna pam dw i yma.” Felly teithiodd o gwmpas Galilea, yn pregethu yn y synagogau a bwrw cythreuliaid allan o bobl. Dyma ddyn oedd yn dioddef o'r gwahanglwyf yn dod ato ac yn pledio ar ei liniau o'i flaen, “Gelli di fy ngwneud i'n iach os wyt ti eisiau.” Yn llawn tosturi, dyma Iesu yn estyn ei law a chyffwrdd y dyn. “Dyna dw i eisiau,” meddai, “bydd lân!” Dyma'r gwahanglwyf yn diflannu y foment honno. Cafodd y dyn ei iacháu. Dyma Iesu'n rhybuddio'r dyn yn llym cyn gadael iddo fynd: “Gwna'n siŵr dy fod ti ddim yn dweud wrth unrhyw un beth sydd wedi digwydd. Dos i ddangos dy hun i'r offeiriad a chyflwyno beth ddwedodd Moses y dylet ei gyflwyno, yn dystiolaeth i'r bobl dy fod ti wedi cael dy iacháu.” Ond dyma'r dyn yn dechrau mynd o gwmpas yn dweud wrth bawb beth oedd wedi digwydd. O ganlyniad, doedd Iesu ddim yn gallu mynd a dod yn agored mewn unrhyw dref. Roedd yn aros allan mewn lleoedd unig. Ond roedd pobl yn dal i ddod ato o bob cyfeiriad! Ychydig ddyddiau wedyn, aeth Iesu yn ôl i Capernaum. Aeth y si o gwmpas ei fod wedi dod adre, a daeth tyrfa mor fawr i'w weld nes bod dim lle hyd yn oed i sefyll y tu allan i'r drws. Dyma Iesu'n cyhoeddi neges Duw iddyn nhw. Yna daeth rhyw bobl â dyn oedd wedi ei barlysu ato. Roedd pedwar yn ei gario, ond yn methu mynd yn agos at Iesu am fod yno gymaint o dyrfa. Felly dyma nhw'n torri twll yn y to uwch ei ben, a gollwng y dyn i lawr ar y fatras oedd yn gorwedd arni. Pan welodd Iesu'r ffydd oedd ganddyn nhw, dwedodd wrth y dyn oedd wedi ei barlysu, “Ffrind, mae dy bechodau wedi eu maddau.” Roedd rhai o'r arbenigwyr yn y Gyfraith yno. Yr hyn oedd yn mynd trwy'u meddyliau nhw oedd, “Sut mae'n gallu dweud y fath beth? Cabledd ydy dweud peth felly! Duw ydy'r unig un sy'n gallu maddau pechodau!” Roedd Iesu'n gwybod yn iawn mai dyna oedden nhw'n ei feddwl, ac meddai wrthyn nhw, “Pam dych chi'n meddwl mod i'n cablu? Beth ydy'r peth hawsaf i'w ddweud wrth y dyn — ‘Mae dy bechodau wedi eu maddau,’ neu, ‘Cod ar dy draed, cymer dy fatras a cherdda’? Cewch weld fod gen i, Fab y Dyn, hawl i faddau pechodau ar y ddaear!” A dyma Iesu'n troi at y dyn oedd wedi ei barlysu, a dweud wrtho, “Cod ar dy draed, cymer dy fatras, a dos adre.” A dyna'n union wnaeth y dyn! Cododd ar ei draed yn y fan a'r lle, cymryd ei fatras, a cherdded allan o flaen pawb. Roedd pawb wedi eu syfrdanu'n llwyr, ac yn moli Duw. “Dŷn ni erioed wedi gweld dim byd tebyg i hyn!” medden nhw. Aeth Iesu allan at y llyn unwaith eto. Daeth tyrfa fawr o bobl ato, ac roedd yn eu dysgu. Yna wrth fynd yn ei flaen, gwelodd Lefi fab Alffeus yn eistedd yn y swyddfa dollau lle roedd yn gweithio. “Tyrd, dilyn fi,” meddai Iesu wrtho; a chododd Lefi ar unwaith a mynd ar ei ôl. Yn nes ymlaen aeth Iesu a'i ddisgyblion am bryd o fwyd i dŷ Lefi. Roedd criw mawr o'r rhai oedd yn casglu trethi i Rufain a phobl eraill roedd y Phariseaid yn eu hystyried yn ‛bechaduriaid‛ yn y parti hefyd. (Pobl felly oedd llawer o'r rhai oedd yn dilyn Iesu). Wrth iddyn nhw ei weld e'n bwyta gyda ‛pechaduriaid‛ a casglwyr trethi, dyma rai o'r Phariseaid oedd yn arbenigwyr yn y Gyfraith yn gofyn i'w ddisgyblion: “Pam mae e'n bwyta gyda'r bradwyr sy'n casglu trethi i Rufain, a phobl eraill sy'n ddim byd ond ‛pechaduriaid‛?” Clywodd Iesu hyn, a dwedodd wrthyn nhw, “Dim pobl iach sydd angen meddyg, ond pobl sy'n sâl. Dw i wedi dod i alw pechaduriaid, dim y rhai sy'n meddwl eu bod nhw heb fai.” Roedd disgyblion Ioan a'r Phariseaid yn ymprydio (hynny ydy, peidio bwyta am gyfnod er mwyn ceisio canolbwyntio'n llwyr ar Dduw). Felly dyma rhyw bobl yn gofyn i Iesu, “Mae disgyblion Ioan a disgyblion y Phariseaid yn ymprydio, ond dydy dy ddisgyblion di ddim. Pam?” Atebodd Iesu nhw, “Dydy pobl ddim yn mynd i wledd briodas i ymprydio! Maen nhw yno i ddathlu gyda'r priodfab. Maen nhw yno i fwynhau eu hunain! Ond bydd y priodfab yn cael ei gymryd i ffwrdd oddi wrthyn nhw, a byddan nhw'n ymprydio bryd hynny. “Does neb yn trwsio hen ddilledyn gyda chlwt o frethyn newydd sydd heb shrincio. Byddai'r brethyn newydd yn tynnu ar yr hen ac yn achosi rhwyg gwaeth. A does neb yn tywallt gwin sydd heb aeddfedu i hen boteli crwyn. Byddai'r crwyn yn byrstio wrth i'r gwin aeddfedu, a'r poteli a'r gwin yn cael eu difetha. Na, rhaid defnyddio poteli crwyn newydd i'w ddal.” Roedd Iesu'n croesi drwy ganol caeau ŷd ryw ddydd Saboth, a dyma'i ddisgyblion yn dechrau tynnu rhai o'r tywysennau ŷd. “Edrych!” meddai'r Phariseaid, “Pam mae dy ddisgyblion di yn torri rheolau'r Gyfraith ar y Saboth?” Atebodd Iesu nhw, “Ydych chi erioed wedi darllen beth wnaeth Dafydd pan oedd e a'i griw o ddilynwyr yn llwgu? Pan oedd Abiathar yn archoffeiriad aeth i mewn i dŷ Dduw a bwyta'r bara oedd wedi ei gysegru a'i osod yn offrwm i Dduw. Mae'r Gyfraith yn dweud mai dim ond yr offeiriaid sy'n cael ei fwyta, ond cymerodd Dafydd beth, a'i roi i'w ddilynwyr hefyd.” Yna dwedodd wrthyn nhw, “Cafodd y dydd Saboth ei roi er lles pobl, dim i gaethiwo pobl. Felly mae gen i, Fab y Dyn, hawl i ddweud beth sy'n iawn hyd yn oed ar y Saboth.” Dro arall eto pan aeth Iesu i'r synagog, roedd yno ddyn oedd â'i law yn ddiffrwyth. Roedd yna rai yn gwylio Iesu'n ofalus i weld a fyddai'n iacháu'r dyn ar y Saboth. Roedden nhw'n edrych am unrhyw esgus i'w gyhuddo! Dyma Iesu'n galw'r dyn ato, “Tyrd i sefyll yma'n y canol.” Wedyn dyma Iesu'n gofyn i'r rhai oedd eisiau ei gyhuddo, “Beth mae'r Gyfraith yn ei ddweud sy'n iawn i'w wneud ar y dydd Saboth: pethau da neu bethau drwg? Achub bywyd neu ladd?” Ond wnaeth neb ateb. Edrychodd Iesu arnyn nhw bob yn un — roedd yn ddig ac wedi cynhyrfu drwyddo am eu bod mor ystyfnig. Yna dwedodd wrth y dyn, “Estyn dy law allan.” Ac wrth i'r dyn wneud hynny cafodd y llaw ei gwella'n llwyr. Dyma'r Phariseaid yn mynd allan ar unwaith i drafod gyda chefnogwyr Herod sut allen nhw ladd Iesu. Aeth Iesu at y llyn gyda'i ddisgyblion iddyn nhw gael ychydig o lonydd, ond dyma dyrfa fawr yn ei ddilyn — pobl o Galilea, ac o Jwdea, Jerwsalem, ac Idwmea yn y de, a hyd yn oed o'r ardaloedd yr ochr draw i'r Iorddonen ac o ardal Tyrus a Sidon yn y gogledd. Roedd pawb eisiau ei weld ar ôl clywed am y pethau roedd yn eu gwneud. Gan fod tyrfa mor fawr yno gofynnodd Iesu i'r disgyblion gael cwch bach yn barod, rhag ofn i'r dyrfa ei wasgu. Y broblem oedd fod cymaint o bobl oedd yn sâl yn gwthio ymlaen i'w gyffwrdd. Roedd pawb yn gwybod ei fod wedi iacháu cymaint o bobl. A phan oedd pobl wedi eu meddiannu gan ysbrydion drwg yn ei weld, roedden nhw'n syrthio ar lawr o'i flaen a gweiddi, “Mab Duw wyt ti!” Ond roedd Iesu'n eu rhybuddio nhw i beidio dweud pwy oedd e. Aeth Iesu i fyny i ben mynydd a galw ato y rhai roedd wedi eu dewis, a dyma nhw'n mynd ato. Dewisodd ddeuddeg ohonyn nhw fel ei gynrychiolwyr personol. Nhw fyddai gydag e drwy'r amser, ac roedd am eu hanfon allan i gyhoeddi'r newyddion da, a rhoi awdurdod iddyn nhw i fwrw cythreuliaid allan o bobl. Y deuddeg a ddewisodd oedd: Simon (yr un roedd Iesu'n ei alw'n Pedr); Iago fab Sebedeus a'i frawd Ioan (“Meibion y Daran” oedd Iesu'n eu galw nhw); Andreas, Philip, Bartholomeus, Mathew, Tomos, Iago fab Alffeus, Thadeus, Simon y Selot a Jwdas Iscariot (yr un a'i bradychodd). Pan aeth Iesu yn ôl i'r tŷ lle roedd yn aros, roedd cymaint o dyrfa wedi casglu yno nes bod dim cyfle i'w ddisgyblion ac yntau gael bwyta hyd yn oed. Pan glywodd ei deulu am hyn, dyma nhw'n penderfynu fod rhaid rhoi stop ar y peth. “Mae'n wallgof”, medden nhw. Roedd yr arbenigwyr yn y Gyfraith, oedd wedi teithio o Jerwsalem, yn dweud amdano, “Mae wedi ei feddiannu gan Beelsebwl, tywysog y cythreuliaid! Dyna sut mae'n gallu bwrw allan gythreuliaid!” Felly dyma Iesu'n eu galw draw ac yn eu hateb drwy ddefnyddio darlun: “Sut mae Satan yn gallu bwrw ei hun allan? Dydy teyrnas lle mae rhyfel cartref byth yn mynd i sefyll! Neu os ydy teulu yn ymladd â'i gilydd o hyd, bydd y teulu hwnnw'n chwalu. A'r un fath, os ydy Satan yn ymladd yn erbyn ei hun a'i deyrnas wedi ei rhannu, fydd e ddim yn sefyll; mae hi ar ben arno! Y gwir ydy, all neb fynd i mewn i gartre'r dyn cryf a dwyn ei eiddo heb rwymo'r dyn cryf yn gyntaf. Bydd yn gallu dwyn popeth o'i dŷ wedyn. Credwch chi fi — mae maddeuant i'w gael am bob pechod, hyd yn oed am gabledd, ond does dim maddeuant i'r sawl sy'n cablu yn erbyn yr Ysbryd Glân; mae'r person hwnnw'n euog o bechod sy'n aros am byth.” (Dwedodd hyn am eu bod wedi dweud fod ysbryd drwg ynddo.) Dyna pryd y cyrhaeddodd mam Iesu a'i frodyr yno. Dyma nhw'n sefyll y tu allan, ac yn anfon rhywun i'w alw. Roedd tyrfa yn eistedd o'i gwmpas, a dyma nhw'n dweud wrtho, “Mae dy fam a dy frodyr y tu allan yn edrych amdanat ti.” Atebodd, “Pwy ydy fy mam a'm brodyr i?” “Dyma fy mam a'm brodyr i!” meddai, gan edrych ar y rhai oedd yn eistedd mewn cylch o'i gwmpas. “Mae pwy bynnag sy'n gwneud beth mae Duw eisiau yn frawd a chwaer a mam i mi.” Dechreuodd Iesu ddysgu'r bobl ar lan Llyn Galilea unwaith eto. Roedd tyrfa enfawr wedi casglu o'i gwmpas nes bod rhaid iddo eistedd mewn cwch ar y llyn, tra roedd y bobl i gyd yn sefyll ar y lan. Roedd yn defnyddio llawer o straeon i ddarlunio beth roedd yn ei ddysgu iddyn nhw. “Gwrandwch!” meddai: “Aeth ffermwr allan i hau hadau. Wrth iddo wasgaru'r had, dyma peth ohono yn syrthio ar y llwybr, a dyma'r adar yn dod a'i fwyta. Dyma beth o'r had yn syrthio ar dir creigiog lle doedd ond haen denau o bridd. Tyfodd yn ddigon sydyn ond yn yr haul poeth dyma'r tyfiant yn gwywo. Doedd ganddo ddim gwreiddiau. Yna dyma beth o'r had yn syrthio i ganol drain. Tyfodd y drain a thagu'r planhigion, felly doedd dim grawn yn y dywysen. Ond syrthiodd peth o'r had ar bridd da. Tyfodd cnwd da yno — cymaint â thri deg, chwe deg neu hyd yn oed gan gwaith mwy na gafodd ei hau.” “Gwrandwch yn ofalus os dych chi'n awyddus i ddysgu!” Yn nes ymlaen, pan oedd ar ei ben ei hun, dyma'r deuddeg disgybl a rhai eraill oedd o'i gwmpas yn gofyn iddo beth oedd ystyr y stori. Dyma ddwedodd wrthyn nhw: “Dych chi'n cael gwybod y gyfrinach am deyrnasiad Duw. Ond i'r rhai sydd y tu allan dydy'r cwbl ddim ond straeon. Felly, ‘maen nhw'n edrych yn ofalus ond yn gweld dim, maen nhw'n clywed yn iawn ond byth yn deall; rhag iddyn nhw droi cefn ar bechod a chael maddeuant!’ ” “Os dych chi ddim yn deall y stori yma, sut dych chi'n mynd i ddechrau deall unrhyw stori gen i! Mae'r ffermwr yn cynrychioli rhywun sy'n rhannu neges Duw gyda phobl. Yr had ar y llwybr ydy'r bobl hynny sy'n clywed y neges, ond mae Satan yn dod yr eiliad honno ac yn cipio'r neges oddi arnyn nhw. Wedyn yr had gafodd ei hau ar dir creigiog ydy'r bobl hynny sy'n derbyn y neges yn frwd i ddechrau. Ond dydy'r neges ddim yn gafael ynddyn nhw go iawn, a dŷn nhw ddim yn para'n hir iawn. Pan mae argyfwng yn codi, neu wrthwynebiad am eu bod wedi credu, maen nhw'n troi cefn yn ddigon sydyn. Wedyn mae pobl eraill yn gallu bod fel yr had syrthiodd i ganol drain. Maen nhw'n clywed y neges, ond maen nhw'n rhy brysur yn poeni am hyn a'r llall, yn ceisio gwneud arian a chasglu mwy a mwy o bethau. Felly mae'r neges yn cael ei thagu a does dim ffrwyth i'w weld yn eu bywydau. Ond yr had sy'n syrthio ar dir da ydy'r bobl hynny sy'n clywed y neges ac yn ei chredu. Mae'r effaith ar eu bywydau nhw fel cnwd anferth — tri deg, chwe deg, neu hyd yn oed gan gwaith mwy na gafodd ei hau.” Dwedodd wrthyn nhw wedyn, “Ydych chi'n mynd â lamp i mewn i ystafell ac yna'n rhoi powlen drosti neu'n ei chuddio dan y gwely? Na, dych chi'n gosod y lamp ar fwrdd iddi oleuo'r ystafell. Bydd popeth sydd wedi ei guddio yn cael ei weld yn glir maes o law. Bydd pob cyfrinach yn dod i'r golwg. Gwrandwch yn ofalus os dych chi'n awyddus i ddysgu!” Yna aeth yn ei flaen i ddweud “Gwyliwch beth dych chi'n gwrando arno. Y mesur dych chi'n ei ddefnyddio fydd yn cael ei ddefnyddio arnoch chi — a mwy! Bydd y rhai sydd wedi deall rhywfaint eisoes yn derbyn mwy; ond am y rhai hynny sydd heb ddeall dim, bydd hyd yn oed beth maen nhw'n meddwl eu bod yn ei ddeall yn cael ei gymryd oddi arnyn nhw.” Dwedodd Iesu wedyn, “Dyma i chi ddarlun arall o deyrnasiad Duw. Mae fel ffermwr yn hau had ar y tir. Mae'r wythnosau'n mynd heibio, a'r dyn yn cysgu'r nos ac yn codi'r bore. Mae'r had gafodd ei hau yn egino ac yn dechrau tyfu heb i'r dyn wneud dim mwy. Mae'r cnwd yn tyfu o'r pridd ohono'i hun — gwelltyn yn gyntaf, wedyn y dywysen, a'r hadau yn y dywysen ar ôl hynny. Pan mae'r cnwd o wenith wedi aeddfedu, mae'r ffermwr yn ei dorri gyda'i gryman am fod y cynhaeaf yn barod.” Gofynnodd wedyn: “Sut mae disgrifio teyrnasiad Duw? Pa ddarlun arall allwn ni ddefnyddio? Mae fel hedyn mwstard yn cael ei blannu yn y pridd. Er mai dyma'r hedyn lleia un mae'n tyfu i fod y planhigyn mwya yn yr ardd. Mae adar yn gallu nythu a chysgodi yn ei ganghennau!” Roedd Iesu'n defnyddio llawer o straeon fel hyn i rannu ei neges, cymaint ag y gallen nhw ei ddeall. Doedd e'n dweud dim heb ddefnyddio stori fel darlun. Ond yna roedd yn esbonio'r cwbl i'w ddisgyblion pan oedd ar ei ben ei hun gyda nhw. Yn hwyr y p'nawn hwnnw, a hithau'n dechrau nosi, dwedodd Iesu wrth ei ddisgyblion, “Gadewch i ni groesi i ochr draw'r llyn.” Felly dyma nhw'n gadael y dyrfa, a mynd gyda Iesu yn y cwch roedd wedi bod yn eistedd ynddo. Aeth cychod eraill gyda nhw hefyd. Yn sydyn cododd storm ofnadwy. Roedd y tonnau mor wyllt nes bod dŵr yn dod i mewn i'r cwch ac roedd mewn peryg o suddo. Ond roedd Iesu'n cysgu'n drwm drwy'r cwbl ar glustog yn starn y cwch. Dyma'r disgyblion mewn panig yn ei ddeffro, “Athro, wyt ti ddim yn poeni ein bod ni'n mynd i foddi?” Cododd Iesu a cheryddu'r gwynt, a dweud wrth y tonnau, “Distaw! Byddwch lonydd!” Ac yn sydyn stopiodd y gwynt chwythu ac roedd pobman yn hollol dawel. Yna meddai wrth ei ddisgyblion, “Pam dych chi mor ofnus? Ydych chi'n dal ddim yn credu?” Roedden nhw wedi eu syfrdanu'n llwyr. “Pwy ydy hwn?” medden nhw, “Mae hyd yn oed y gwynt a'r tonnau yn ufuddhau iddo!” Dyma nhw'n croesi'r llyn i ardal Gerasa. Wrth i Iesu gamu allan o'r cwch, dyma ddyn oedd ag ysbryd drwg ynddo yn dod ato o gyfeiriad y fynwent — yno roedd yn byw, yng nghanol y beddau. Allai neb gadw rheolaeth arno, hyd yn oed trwy roi cadwyni arno. Roedd yn aml yn cael ei rwymo gyda chadwyni am ei ddwylo a'i draed, ond lawer gwaith roedd wedi llwyddo i dorri'r cadwyni a dianc. Doedd neb yn gallu ei gadw dan reolaeth. A dyna lle roedd, ddydd a nos, yn y fynwent ac ar y bryniau cyfagos yn sgrechian ac anafu ei hun â cherrig. Pan welodd Iesu'n dod o bell, rhedodd i'w gyfeiriad a phlygu ar lawr o'i flaen. Rhoddodd sgrech a gwaeddodd nerth ei ben, “Gad di lonydd i mi, Iesu, mab y Duw Goruchaf! Paid poenydio fi er mwyn Duw!” (Roedd Iesu newydd orchymyn i'r ysbryd drwg ddod allan o'r dyn.) Gofynnodd Iesu iddo wedyn, “Beth ydy dy enw di?” “Lleng ydw i,” atebodd, “achos mae llawer iawn ohonon ni yma.” Roedden nhw'n crefu ar i Iesu i beidio eu hanfon nhw i ffwrdd o'r ardal honno. Roedd cenfaint fawr o foch yn pori ar ochr bryn cyfagos, a dyma'r ysbrydion drwg yn pledio arno, “Anfon ni i'r moch acw; gad i ni fyw ynddyn nhw.” Dyma Iesu'n rhoi caniatâd iddyn nhw fynd, ac allan a'r ysbrydion drwg o'r dyn ac i mewn i'r moch. Dyma'r moch i gyd, tua dwy fil ohonyn nhw, yn rhuthro i lawr y llechwedd serth i mewn i'r llyn, a boddi. Dyma'r rhai oedd yn gofalu am y moch yn rhedeg i ffwrdd a dweud wrth bawb ym mhobman beth oedd wedi digwydd. Pan ddaeth y bobl allan at Iesu i weld drostyn nhw eu hunain, roedden nhw wedi dychryn. Dyna lle roedd y dyn oedd wedi bod yng ngafael y cythreuliaid, yn eistedd yn dawel gyda dillad amdano ac yn ei iawn bwyll. Pan ddwedodd y llygad-dystion eto beth oedd wedi digwydd i'r dyn a'r moch, dyma'r bobl yn mynnu fod Iesu'n gadael eu hardal. Pan oedd Iesu ar fin mynd i mewn i'r cwch, dyma'r dyn oedd wedi bod yng ngafael y cythreuliaid yn dod ato ac erfyn am gael aros gydag e. “Na,” meddai Iesu, “Dos adre at dy deulu a dywed wrthyn nhw am y cwbl mae Duw wedi ei wneud i ti, a sut mae wedi bod mor drugarog.” Felly i ffwrdd â'r dyn a dechrau dweud wrth bawb yn ardal Decapolis am bopeth oedd Iesu wedi ei wneud iddo. Roedd pawb wedi eu syfrdanu. Ar ôl i Iesu groesi mewn cwch yn ôl i ochr arall Llyn Galilea, dyma dyrfa fawr yn casglu o'i gwmpas ar lan y dŵr. Daeth un o arweinwyr y synagog ato, dyn o'r enw Jairus. Aeth ar ei liniau o flaen Iesu a phledio'n daer, “Mae fy merch fach i'n marw. Plîs tyrd i'w hiacháu drwy roi dy ddwylo arni, iddi gael byw.” Felly aeth Iesu gyda'r dyn. Roedd tyrfa fawr o bobl o'i gwmpas yn gwthio o bob cyfeiriad. Yn eu canol roedd gwraig oedd wedi bod â gwaedlif arni ers deuddeng mlynedd. Roedd hi wedi dioddef yn ofnadwy dan ofal llawer o feddygon, ac wedi gwario ei harian i gyd ar gael ei thrin, ond yn lle gwella roedd hi wedi mynd o ddrwg i waeth. Roedd wedi clywed am Iesu, a sleifiodd y tu ôl iddo yng nghanol y dyrfa, gan feddwl, “Dim ond i mi lwyddo i gyffwrdd ei ddillad, ca i fy iacháu.” Pan lwyddodd i gyffwrdd ymyl ei glogyn dyma'r gwaedu yn stopio'n syth. Roedd hi'n gallu teimlo ei bod wedi ei hiacháu. Sylweddolodd Iesu fod nerth wedi llifo allan ohono, a throdd yng nghanol y dyrfa a gofyn, “Pwy gyffyrddodd fy nillad i?” Atebodd ei ddisgyblion, “Sut alli di ofyn y fath gwestiwn a'r dyrfa yma'n gwthio o dy gwmpas di?” Ond roedd Iesu'n dal i edrych o gwmpas i weld pwy oedd wedi ei gyffwrdd. Roedd y wraig yn gwybod yn iawn beth oedd wedi digwydd iddi, ac felly dyma hi'n dod ac yn syrthio o'i flaen yn dal i grynu. Dwedodd yr hanes i gyd wrtho. Yna meddai e wrthi, “Wraig annwyl, am i ti gredu rwyt wedi dy iacháu. Dos adre! Bendith Duw arnat ti! Mae'r dioddef ar ben.” Tra roedd Iesu'n siarad, roedd rhyw bobl o dŷ Jairus wedi cyrraedd, a dweud wrtho, “Mae dy ferch wedi marw, felly does dim pwynt poeni'r athro ddim mwy.” Ond chymerodd Iesu ddim sylw o beth gafodd ei ddweud, dim ond dweud wrth Jairus, “Paid bod ofn; dalia i gredu.” Dim ond Pedr, a Iago a'i frawd Ioan gafodd fynd yn eu blaenau gyda Iesu. Dyma nhw'n cyrraedd cartref Jairus, ac roedd y lle mewn cynnwrf, a phobl yn crïo ac yn udo mewn galar. Pan aeth Iesu i mewn dwedodd wrthyn nhw, “Beth ydy'r holl sŵn yma? Pam dych chi'n crïo? Dydy'r ferch fach ddim wedi marw — cysgu mae hi!” Dechreuodd pobl chwerthin am ei ben, ond dyma Iesu'n eu hanfon nhw i gyd allan o'r tŷ. Yna aeth a'r tad a'r fam a'r tri disgybl i mewn i'r ystafell lle roedd y ferch fach. Gafaelodd yn ei llaw, a dweud wrthi, “Talitha cŵm” (sef, “Cod ar dy draed, ferch fach!”) A dyma'r ferch, oedd yn ddeuddeg oed, yn codi ar ei thraed a dechrau cerdded o gwmpas. Roedd y rhieni a'r disgyblion wedi eu syfrdanu'n llwyr. Rhybuddiodd nhw i beidio dweud wrth neb beth oedd wedi digwydd; yna dwedodd “Rhowch rywbeth i'w fwyta iddi.” Gadawodd Iesu'r ardal honno a mynd yn ôl gyda'i ddisgyblion i Nasareth, lle cafodd ei fagu. Ar y dydd Saboth dechreuodd ddysgu yn y synagog. Roedd y bobl oedd yn gwrando arno yn rhyfeddu. “Ble wnaeth hwn ddysgu'r pethau yma i gyd?” medden nhw. “Ble gafodd e'r holl ddoethineb, a'r gallu i wneud gwyrthiau? Saer ydy e! Mab Mair! Brawd Iago, Joseff, Jwdas a Simon! Mae ei chwiorydd yn dal i fyw yn y pentref ma!” Roedden nhw wedi cymryd yn ei erbyn. Dyma Iesu'n dweud wrthyn nhw, “Mae proffwyd yn cael ei barchu ym mhobman ond yn y dre lle cafodd ei fagu — gan ei bobl ei hun a'i deulu ei hun!” Felly allai Iesu ddim gwneud rhyw lawer o wyrthiau yno, dim ond gosod ei ddwylo ar ychydig bobl oedd yn sâl iawn i'w hiacháu nhw. Roedd yn rhyfeddu eu bod nhw mor amharod i gredu. Aeth Iesu ar daith o gwmpas y pentrefi yn dysgu'r bobl. Galwodd y deuddeg disgybl at ei gilydd, a'u hanfon allan bob yn ddau a rhoi awdurdod iddyn nhw i fwrw allan ysbrydion drwg. Dyma ddwedodd wrthyn nhw: “Peidiwch mynd â dim byd ond ffon gyda chi — dim bwyd, dim bag teithio na hyd yn oed newid mân. Gwisgwch sandalau, ond peidiwch mynd â dillad sbâr. Ble bynnag ewch chi, arhoswch yn yr un tŷ nes byddwch yn gadael y dref honno. Os bydd dim croeso i chi yn rhywle, neu os bydd pobl yn gwrthod gwrando arnoch, ysgydwch y llwch oddi ar eich traed wrth adael. Bydd hynny'n arwydd o farn Duw arnyn nhw!” Felly i ffwrdd â nhw i bregethu fod rhaid i bobl droi at Dduw a newid eu ffyrdd. Roedden nhw'n bwrw allan llawer o gythreuliaid ac yn eneinio llawer o bobl ag olew a'u hiacháu nhw. Roedd y Brenin Herod wedi clywed am beth oedd yn digwydd, am fod pawb yn gwybod am Iesu. Roedd rhai yn dweud, “Ioan Fedyddiwr sydd wedi dod yn ôl yn fyw. Dyna pam mae'n gallu gwneud gwyrthiau.” Roedd rhai yn dweud, “Elias ydy e”, ac eraill yn meddwl ei fod yn broffwyd, fel un o broffwydi mawr y gorffennol. Pan glywodd Herod beth oedd Iesu'n ei wneud, dwedodd ar unwaith “Ioan ydy e! Torrais ei ben i ffwrdd ac mae wedi dod yn ôl yn fyw!” Herod oedd wedi gorchymyn i Ioan Fedyddiwr gael ei arestio a'i roi yn y carchar. Roedd wedi gwneud hynny o achos ei berthynas â Herodias. Er ei bod yn wraig i'w frawd Philip, roedd Herod wedi ei phriodi. Roedd Ioan wedi dweud wrtho dro ar ôl tro, “Dydy'r Gyfraith ddim yn caniatáu i ti gymryd gwraig dy frawd.” Felly roedd Herodias yn dal dig yn erbyn Ioan, ac eisiau ei ladd. Ond doedd hi ddim yn gallu am fod gan Herod barch mawr at Ioan. Roedd yn ei amddiffyn am ei fod yn gwybod fod Ioan yn ddyn duwiol a chyfiawn. Er bod Herod yn anesmwyth wrth glywed beth oedd Ioan yn ei ddweud, roedd yn mwynhau gwrando arno. Ond gwelodd Herodias ei chyfle pan oedd Herod yn dathlu ei ben-blwydd. Roedd ei brif swyddogion, penaethiaid y fyddin a phobl bwysig Galilea i gyd wedi eu gwahodd i'r parti. Yn ystod y dathlu dyma ferch Herodias yn perfformio dawns. Roedd hi wedi plesio Herod a'i westeion yn fawr. Dwedodd Herod wrthi, “Gofyn am unrhyw beth gen i, a bydda i'n ei roi i ti.” Rhoddodd ei air iddi ar lw, “Cei di beth bynnag rwyt ti eisiau, hyd yn oed hanner y deyrnas!” Aeth y ferch allan at ei mam, “Am beth wna i ofyn?”, meddai wrthi. “Gofyn iddo dorri pen Ioan Fedyddiwr,” meddai ei mam wrthi. Felly dyma hi yn brysio'n ôl i mewn at y brenin, gyda'i chais: “Dw i eisiau i ti dorri pen Ioan Fedyddiwr nawr, a'i roi i mi ar hambwrdd.” Doedd y brenin ddim yn hapus o gwbl — roedd yn hollol ddigalon. Ond am ei fod wedi addo ar lw o flaen ei westeion, doedd ganddo mo'r wyneb i'w gwrthod hi. Felly dyma fe'n anfon un o'i filwyr ar unwaith i ddienyddio Ioan. “Tyrd â'i ben yn ôl yma,” meddai. Felly aeth y milwr i'r carchar a thorri pen Ioan i ffwrdd. Daeth yn ei ôl gyda'r pen ar hambwrdd a'i roi i'r ferch, ac aeth hithau ag e i'w mam. Pan glywodd disgyblion Ioan beth oedd wedi digwydd dyma nhw'n cymryd y corff a'i roi mewn bedd. Pan gyrhaeddodd yr apostolion yn ôl, dyma nhw'n dechrau dweud yn frwd wrth Iesu am y cwbl roedden nhw wedi ei wneud a'i ddysgu. Ond roedd cymaint o bobl yn mynd a dod nes bod dim cyfle iddyn nhw fwyta hyd yn oed. Felly dyma Iesu'n dweud, “Gadewch i ni fynd i ffwrdd i rywle tawel i chi gael gorffwys.” I ffwrdd â nhw mewn cwch i le tawel i fod ar eu pennau eu hunain. Ond roedd llawer o bobl wedi eu gweld yn gadael, ac wedi cerdded ar frys o'r holl drefi a chyrraedd yno o'u blaenau. Pan gyrhaeddodd Iesu'r lan, roedd gweld y dyrfa fawr yno yn ennyn tosturi ynddo, am eu bod fel defaid heb fugail i ofalu amdanyn nhw. Felly treuliodd amser yn dysgu llawer o bethau iddyn nhw. Roedd hi'n mynd yn hwyr, felly dyma'i ddisgyblion yn dod ato a dweud, “Mae'r lle yma'n anial, ac mae'n mynd yn hwyr. Anfon y bobl i ffwrdd i'r pentrefi sydd o gwmpas, iddyn nhw gael mynd i brynu rhywbeth i'w fwyta.” Ond atebodd Iesu, “Rhowch chi rywbeth i'w fwyta iddyn nhw.” “Beth? Ni?” medden nhw, “Byddai'n costio ffortiwn i gael bwyd iddyn nhw i gyd!” “Ewch i weld faint o fwyd sydd ar gael,” meddai. Dyma nhw'n gwneud hynny, a dod yn ôl a dweud, “Pum torth fach a dau bysgodyn!” Dyma Iesu'n dweud wrthyn nhw am wneud i'r bobl eistedd mewn grwpiau ar y glaswellt. Felly dyma pawb yn eistedd mewn grwpiau o hanner cant i gant. Wedyn dyma Iesu'n cymryd y pum torth a'r ddau bysgodyn, ac offrymu gweddi o ddiolch i Dduw. Torrodd y bara a'i roi i'w ddisgyblion i'w rannu i'r bobl, a gwneud yr un peth gyda'r ddau bysgodyn. Cafodd pawb ddigon i'w fwyta, a dyma nhw'n codi deuddeg llond basged o dameidiau o fara a physgod oedd dros ben. Roedd tua pum mil o ddynion wedi cael eu bwydo yno! Yn syth wedyn dyma Iesu'n gwneud i'w ddisgyblion fynd yn ôl i'r cwch a chroesi drosodd o'i flaen i Bethsaida, tra roedd yn anfon y dyrfa adre. Ar ôl ffarwelio gyda nhw, aeth i ben mynydd er mwyn cael lle tawel i weddïo. Roedd hi'n nosi, a'r cwch ar ganol y llyn, ac yntau ar ei ben ei hun ar y tir. Gwelodd fod y disgyblion yn cael trafferthion wrth geisio rhwyfo yn erbyn y gwynt. Yna rywbryd ar ôl tri o'r gloch y bore aeth Iesu allan atyn nhw, gan gerdded ar y dŵr. Roedd fel petai'n mynd heibio iddyn nhw, a dyma nhw'n ei weld yn cerdded ar y llyn. Roedden nhw'n meddwl eu bod yn gweld ysbryd, a dyma nhw'n gweiddi mewn ofn. Roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau. Ond dyma Iesu'n dweud wrthyn nhw, “Mae'n iawn! Fi ydy e. Peidiwch bod ag ofn.” Yna, wrth iddo ddringo i mewn i'r cwch, dyma'r gwynt yn tawelu. Roedden nhw wedi dychryn go iawn, ac mewn sioc. Doedden nhw ddim wedi deall arwyddocâd y torthau o fara; roedden nhw mor ystyfnig. Ar ôl croesi'r llyn dyma nhw'n glanio yn Genesaret a chlymu'r cwch. Dyma bobl yn nabod Iesu yr eiliad ddaethon nhw o'r cwch. Dim ots lle roedd yn mynd, roedd pobl yn rhuthro drwy'r ardal i gyd yn cario pobl oedd yn sâl ar fatresi a dod â nhw ato. Dyna oedd yn digwydd yn y pentrefi, yn y trefi ac yng nghefn gwlad. Roedden nhw'n gosod y cleifion ar sgwâr y farchnad ac yn pledio arno i adael iddyn nhw gyffwrdd y taselau ar ei glogyn. Roedd pawb oedd yn ei gyffwrdd yn cael eu hiacháu. Dyma'r Phariseaid a rhai o'r arbenigwyr yn y Gyfraith oedd wedi dod o Jerwsalem yn casglu o gwmpas Iesu. Roedden nhw wedi sylwi fod rhai o ddisgyblion Iesu ddim yn golchi eu dwylo yn y ffordd iawn cyn bwyta. (Dydy'r Phariseaid a phobl Jwda byth yn bwyta heb fynd trwy ddefod golchi dwylo fel mae'r traddodiad crefyddol yn gofyn. Wnân nhw ddim bwyta dim wedi ei brynu yn y farchnad chwaith heb fynd trwy ddefod golchi. Ac mae ganddyn nhw lawer o reolau eraill tebyg, fel defod golchi cwpanau, jygiau a llestri copr o bob math.) Gofynnodd y Phariseaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith i Iesu, “Pam dydy dy ddisgyblion di ddim yn cadw'r traddodiad. Maen nhw'n bwyta heb olchi eu dwylo!” Atebodd Iesu, “Roedd Eseia yn llygad ei le pan broffwydodd amdanoch chi. Dych chi mor ddauwynebog! “Dyma ddwedodd e: ‘Mae'r bobl yma'n dweud pethau gwych amdana i, ond mae eu calonnau yn bell oddi wrtho i. Mae eu haddoliad yn ddiystyr; mân-reolau dynol ydy'r cwbl maen nhw'n ei ddysgu.’ “Dych chi'n diystyru beth mae Duw wedi ei orchymyn, ac yn lle hynny yn glynu wrth eich traddodiad crefyddol.” “Ie, gwrthod beth mae Duw yn ei ddweud er mwyn cadw'ch traddodiadau eich hunain!” meddai wrthyn nhw. “Er enghraifft, dwedodd Moses, ‘Gofala am dy dad a dy fam,’ a, ‘Rhaid i bwy bynnag sy'n sarhau ei dad neu ei fam gael ei ladd.’ Ond dych chi'n dweud ei bod yn iawn dweud wrth rieni mewn oed: ‘Alla i ddim gofalu amdanoch chi. Mae beth o'n i'n mynd i'w roi i chi wedi ei gyflwyno'n rhodd i Dduw.’ Wedyn wrth gwrs, does dim rhaid i chi wneud dim i helpu'ch rhieni. Dych chi'n defnyddio'ch traddodiad i osgoi gwneud beth mae Duw'n ei ddweud. Ac mae digon o enghreifftiau eraill o'r un math o beth y gallwn i sôn amdanyn nhw.” Dyma Iesu'n galw'r dyrfa ato eto, a dweud wrthyn nhw, “Gwrandwch arna i, dw i am i chi i gyd ddeall hyn. Dydy beth dych chi'n ei fwyta ddim yn eich gwneud chi'n ‛aflan‛. Beth sy'n dod allan ohonoch chi sy'n eich gwneud chi'n ‛aflan‛ — pethau dych chi'n eu dweud a'u gwneud.” *** Pan aeth i mewn i'r tŷ ar ôl gadael y dyrfa, gofynnodd ei ddisgyblion iddo esbonio'r peth iddyn nhw. “Ydych chi wir mor ddwl?” meddai. “Ydych chi ddim yn gweld mai dim beth dych chi'n ei fwyta sy'n eich gwneud chi'n ‛aflan‛? Dydy bwyd ddim yn mynd yn agos at y galon, dim ond pasio drwy'r stumog ac yna dod allan yn y tŷ bach.” (Wrth ddweud hyn roedd Iesu'n dweud fod pob bwyd yn iawn i'w fwyta.) “Yr hyn sy'n dod allan o'r galon sy'n eich gwneud chi'n ‛aflan‛,” meddai. “O'r tu mewn i chi mae meddyliau drwg yn dod, a phethau fel anfoesoldeb rhywiol, dwyn, llofruddio, godinebu, bod yn farus, bod yn faleisus, twyllo, penrhyddid, bod yn hunanol, hel straeon cas, bod yn haerllug ac ymddwyn yn ffôl. Y pethau drwg yma sy'n dod allan ohonoch chi sy'n eich gwneud chi'n ‛aflan‛.” Gadawodd Iesu Galilea ac aeth i fyny i ardal Tyrus. Ceisiodd gadw'r ffaith ei fod yn aros yno'n gyfrinach, ond methodd. Yn wir, yn syth ar ôl clywed ei fod yno, daeth rhyw wraig ato a syrthio i lawr o'i flaen — roedd ganddi ferch fach oedd wedi ei meddiannu gan ysbryd drwg. Gwraig wedi ei geni yn Syro-Phoenicia oedd hi, dim Iddewes, ac roedd hi'n pledio ar i Iesu fwrw'r cythraul allan o'i merch. Dwedodd Iesu wrthi, “Rhaid i'r plant gael bwyta beth maen nhw eisiau gyntaf. Dydy hi ddim yn iawn i bobl daflu bwyd y plant i'r cŵn.” “Digon gwir, Arglwydd,” meddai'r wraig, “ond mae hyd yn oed y cŵn dan y bwrdd yn cael bwyta briwsion y plant.” “Am i ti roi ateb mor dda,” meddai Iesu wrthi, “cei fynd adre; mae'r cythraul wedi gadael dy ferch.” Felly aeth adre, a dyna lle roedd ei merch yn gorwedd ar ei gwely, a'r cythraul wedi ei gadael. Aeth Iesu yn ei flaen o ardal Tyrus a mynd trwy Sidon ac yna yn ôl i lawr at Lyn Galilea i ardal Decapolis. Yno daeth rhyw bobl a dyn ato oedd yn fyddar ac yn methu siarad yn glir, a gofyn iddo osod ei ddwylo ar y dyn a'i iacháu. Aeth Iesu a'r dyn i ffwrdd o olwg y dyrfa. Rhoddodd ei fysedd yng nghlustiau'r dyn ac wedyn poeri ar ei fysedd cyn cyffwrdd tafod y dyn. Edrychodd i fyny i'r nefoedd, ac meddai gydag ochenaid ddofn, “Eph-phatha!” (sy'n golygu, “Agor!”) Ar unwaith roedd y dyn yn gallu clywed a siarad yn glir. Dwedodd Iesu wrthyn nhw am beidio dweud wrth neb beth oedd wedi digwydd. Ond po fwya oedd Iesu'n dweud wrth bobl i beidio, mwya oedden nhw'n dweud wrth bawb am y pethau roedd yn eu gwneud. Roedd pobl wedi eu syfrdanu'n llwyr ganddo. “Mae popeth mae'n ei wneud mor ffantastig,” medden nhw. “Mae hyd yn oed yn gwneud i bobl fyddar glywed ac i bobl fud siarad!” Roedd tyrfa fawr arall wedi casglu o'i gwmpas tua'r un adeg. Am bod dim bwyd gan y bobl, dyma Iesu'n galw ei ddisgyblion ato a dweud, “Dw i'n teimlo dros y bobl yma i gyd; maen nhw wedi bod yma ers tri diwrnod heb gael dim i'w fwyta. Os na chân nhw rywbeth i'w fwyta byddan nhw'n llewygu ar y ffordd adre. Mae rhai ohonyn nhw wedi dod o bell.” Atebodd y disgyblion, “Pa obaith sydd i unrhyw un ddod o hyd i ddigon o fwyd iddyn nhw yn y lle anial yma?!” Gofynnodd Iesu, “Sawl torth o fara sydd gynnoch chi?” “Saith,” medden nhw. Yna dwedodd Iesu wrth y dyrfa am eistedd i lawr. Cymerodd y saith torth ac offrymu gweddi o ddiolch i Dduw, yna eu torri a'u rhoi i'w ddisgyblion i'w rhannu i'r bobl. A dyna wnaeth y disgyblion. Roedd ychydig o bysgod bach ganddyn nhw hefyd; a gwnaeth Iesu yr un peth gyda'r rheiny. Cafodd pawb ddigon i'w fwyta, ac roedd saith llond cawell o dameidiau bwyd dros ben. Roedd tua pedair mil o bobl yno! Ar ôl eu hanfon i ffwrdd, aeth i mewn i'r cwch gyda'i ddisgyblion a chroesi i ardal Dalmanwtha. Daeth Phariseaid ato, a dechrau ffraeo. “Profa pwy wyt ti drwy wneud rhyw arwydd gwyrthiol,” medden nhw. Ochneidiodd Iesu'n ddwfn, a dweud: “Pam mae'r bobl yma o hyd yn gofyn am wyrth fyddai'n arwydd iddyn nhw o pwy ydw i? Wir i chi, chân nhw ddim un gen i!” Yna gadawodd nhw, a mynd yn ôl i mewn i'r cwch a chroesi drosodd i ochr arall Llyn Galilea. Roedd y disgyblion wedi anghofio mynd â bwyd gyda nhw. Dim ond un dorth fach oedd ganddyn nhw yn y cwch. Dyma Iesu'n eu rhybuddio nhw: “Byddwch yn ofalus, a cadwch draw oddi wrth furum y Phariseaid a burum Herod hefyd,” Wrth drafod y peth dyma'r disgyblion yn dod i'r casgliad mai tynnu sylw at y ffaith fod ganddyn nhw ddim bara oedd e. Roedd Iesu'n gwybod beth roedden nhw'n ddweud, a gofynnodd iddyn nhw: “Pam dych chi'n poeni eich bod heb fara? Ydych chi'n dal ddim yn deall? Pryd dych chi'n mynd i ddysgu? Ydych chi wedi troi'n ystyfnig? Ydych chithau hefyd yn ddall er bod llygaid gynnoch chi, ac yn fyddar er bod clustiau gynnoch chi? Ydych chi'n cofio dim byd? Pan o'n i'n rhannu'r pum torth rhwng y pum mil, sawl basgedaid o dameidiau oedd dros ben wnaethoch chi eu casglu?” “Deuddeg,” medden nhw. “A phan o'n i'n rhannu'r saith torth i'r pedair mil, sawl llond cawell o dameidiau wnaethoch chi eu casglu?” “Saith,” medden nhw. “Ydych chi'n dal ddim yn deall?” meddai Iesu wrthyn nhw. Dyma nhw'n cyrraedd Bethsaida, a dyma rhyw bobl yn dod â dyn dall at Iesu a gofyn iddo ei gyffwrdd. Gafaelodd Iesu yn llaw y dyn dall a'i arwain allan o'r pentref. Ar ôl poeri ar lygaid y dyn a gosod dwylo arno, gofynnodd Iesu iddo, “Wyt ti'n gweld o gwbl?” Edrychodd i fyny, ac meddai, “Ydw, dw i'n gweld pobl; ond maen nhw'n edrych fel coed yn symud o gwmpas.” Yna rhoddodd Iesu ei ddwylo ar lygaid y dyn eto. Pan agorodd y dyn ei lygaid, roedd wedi cael ei olwg yn ôl! Roedd yn gweld popeth yn glir. Dyma Iesu'n ei anfon adre, a dweud wrtho, “Paid mynd i mewn i'r pentref.” Aeth Iesu a'i ddisgyblion yn eu blaenau i'r pentrefi o gwmpas Cesarea Philipi. Ar y ffordd yno gofynnodd iddyn nhw, “Pwy mae pobl yn ddweud ydw i?” Dyma nhw'n ateb, “Mae rhai yn dweud mai Ioan Fedyddiwr wyt ti; eraill yn dweud Elias; a phobl eraill eto'n dweud mai un o'r proffwydi wyt ti.” “Ond beth amdanoch chi?” gofynnodd, “Pwy dych chi'n ddweud ydw i?” Atebodd Pedr, “Ti ydy'r Meseia.” Yna dyma Iesu'n eu rhybuddio nhw i beidio dweud hynny wrth neb. Dechreuodd esbonio iddyn nhw fod rhaid iddo fe, Mab y Dyn, ddioddef yn ofnadwy. Byddai'r arweinwyr Iddewig, y prif offeiriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn ei wrthod. Byddai'n cael ei ladd, ond yna'n dod yn ôl yn fyw ddeuddydd wedyn. Roedd yn siarad yn hollol blaen gyda nhw. Felly dyma Pedr yn mynd ag e i'r naill ochr a dweud drefn wrtho am ddweud y fath bethau. Ond trodd Iesu i edrych ar ei ddisgyblion, ac yna dweud drefn wrth Pedr o'u blaenau nhw. “Dos o'm golwg i Satan!” meddai. “Rwyt ti'n meddwl fel mae pobl yn meddwl yn lle gweld pethau fel mae Duw'n eu gweld nhw.” Wedyn galwodd y dyrfa ato gyda'i ddisgyblion, a dwedodd wrthyn nhw: “Rhaid i bwy bynnag sydd am fy nilyn i stopio rhoi nhw eu hunain gyntaf. Rhaid iddyn nhw aberthu eu hunain dros eraill a cherdded yr un llwybr â mi. Bydd y rhai sy'n ceisio cadw eu bywyd eu hunain yn colli'r bywyd go iawn, ond y rhai sy'n barod i ollwng gafael ar eu bywyd er fy mwyn i a'r newyddion da, yn diogelu bywyd go iawn. Beth ydy'r pwynt o gael popeth sydd gan y byd i'w gynnig, a cholli'r enaid? Oes gynnoch chi unrhyw beth sy'n fwy gwerthfawr na'r enaid? Pawb sydd â chywilydd ohono i a beth dw i'n ei ddweud yn yr oes ddi-gred a phechadurus yma, bydd gen i, Fab y Dyn, gywilydd ohonyn nhw pan fydda i'n dod yn ôl yn holl ysblander y Tad, a'r angylion sanctaidd gyda mi.” Yna meddai wrthyn nhw, “Credwch chi fi, wnaiff rhai ohonoch chi sy'n sefyll yma ddim marw cyn cael gweld Duw'n dod mewn grym i deyrnasu.” Chwe diwrnod wedyn aeth Iesu i ben mynydd uchel, a mynd â Pedr, Iago ac Ioan gydag e. Roedden nhw yno ar eu pennau eu hunain. Dyma olwg Iesu'n cael ei drawsnewid o flaen eu llygaid. Trodd ei ddillad yn wyn llachar; yn wynnach nag y gallai unrhyw bowdr golchi fyth eu glanhau. Wedyn dyma Elias a Moses yn ymddangos o'u blaenau, yn sgwrsio gyda Iesu. Dyma Pedr yn dweud wrth Iesu, “Rabbi, mae'n dda cael bod yma. Gad i ni godi tair lloches — un i ti, un i Moses ac un i Elias.” (Doedd ganddo ddim syniad beth roedd yn ei ddweud go iawn — roedd y tri ohonyn nhw wedi dychryn cymaint!) Wedyn dyma gwmwl yn dod i lawr a chau o'u cwmpas, a dyma lais o'r cwmwl yn dweud: “Fy Mab annwyl i ydy hwn. Gwrandwch arno!” Yn sydyn dyma nhw'n edrych o'u cwmpas, a doedd neb i'w weld yno ond Iesu. Pan oedden nhw'n dod i lawr o'r mynydd dyma Iesu'n dweud wrthyn nhw i beidio sôn wrth neb am beth welon nhw nes y byddai e, Mab y Dyn, wedi codi yn ôl yn fyw. (Felly cafodd y digwyddiad ei gadw'n gyfrinach, ond roedden nhw'n aml yn trafod gyda'i gilydd beth oedd ystyr “codi yn ôl yn fyw.”) Dyma nhw'n gofyn iddo, “Pam mae'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn dweud fod rhaid i Elias ddod yn ôl cyn i'r Meseia gyrraedd?” Atebodd Iesu, “Mae Elias yn dod gyntaf reit siŵr, i roi trefn ar bopeth. Ond pam mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud fod Mab y Dyn yn mynd i ddioddef llawer a chael ei wrthod? Dw i'n dweud wrthoch chi fod Elias wedi dod, ac maen nhw wedi ei gam-drin yn union fel y mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud.” Pan ddaethon nhw at y disgyblion eraill roedd tyrfa fawr o'u cwmpas, a'r arbenigwyr yn y Gyfraith yno'n dadlau gyda nhw. Cafodd y bobl sioc o weld Iesu, a dyma nhw'n rhedeg i'w gyfarch. “Am beth dych chi'n ffraeo gyda nhw?” gofynnodd. Dyma rhyw ddyn yn ei ateb, “Athro, des i â'm mab atat ti; mae'n methu siarad am ei fod wedi ei feddiannu gan ysbryd drwg sy'n ei wneud yn fud. Pan mae'r ysbryd drwg yn gafael ynddo mae'n ei daflu ar lawr, ac yna mae'n glafoerio a rhincian ei ddannedd ac yn mynd yn stiff i gyd. Gofynnais i dy ddisgyblion di fwrw'r ysbryd allan, ond doedden nhw ddim yn gallu.” “Pam dych chi mor amharod i gredu?” meddai Iesu, “Am faint dw i'n mynd i aros gyda chi? Am faint alla i'ch dioddef chi? Dewch â'r bachgen yma.” Wrth iddyn nhw ddod â'r bachgen at Iesu dyma'r ysbryd drwg yn ei weld ac yn gwneud i'r bachgen gael ffit epileptig. Syrthiodd ar lawr a rholio o gwmpas yn glafoerio o'i geg. Dyma Iesu'n gofyn i'r tad, “Ers faint mae e fel hyn?” “Ers pan yn blentyn bach,” atebodd y dyn. “Mae'r ysbryd drwg wedi ei daflu i ganol tân neu geisio'i foddi mewn dŵr lawer gwaith. Os wyt ti'n gallu gwneud unrhyw beth i'n helpu ni, plîs gwna.” “Beth wyt ti'n feddwl ‘Os wyt ti'n gallu’?” meddai Iesu. “Mae popeth yn bosib i'r sawl sy'n credu!” Gwaeddodd tad y bachgen ar unwaith, “Dw i yn credu! Helpa di fi i beidio amau!” Pan welodd Iesu fod tyrfa o bobl yn rhedeg i weld beth oedd yn digwydd, dyma fe'n ceryddu'r ysbryd drwg a dweud wrtho, “Ysbryd mud a byddar, tyrd allan o'r plentyn yma, a paid byth mynd yn ôl eto.” Dyma'r ysbryd yn rhoi sgrech ac yn gwneud i'r bachgen ysgwyd yn ffyrnig, ond yna daeth allan. Roedd y bachgen yn gorwedd mor llonydd nes bod llawer yn meddwl ei fod wedi marw. Ond gafaelodd Iesu yn ei law a'i godi, a safodd ar ei draed. Ar ôl i Iesu fynd i mewn i dŷ, gofynnodd ei ddisgyblion iddo'n breifat, “Pam oedden ni'n methu ei fwrw allan?” Atebodd Iesu, “Dim ond trwy weddi mae ysbrydion drwg fel yna'n dod allan.” Dyma nhw'n gadael yr ardal honno ac yn teithio drwy Galilea. Doedd gan Iesu ddim eisiau i unrhyw un wybod ble roedden nhw, am ei fod wrthi'n dysgu ei ddisgyblion. “Dw i, Mab y Dyn,” meddai wrthyn nhw, “yn mynd i gael fy mradychu i afael pobl fydd yn fy lladd, ond ddeuddydd ar ôl cael fy lladd bydda i'n dod yn ôl yn fyw.” Doedd gan y disgyblion ddim syniad am beth oedd e'n sôn, ond roedd arnyn nhw ofn gofyn iddo. Dyma nhw'n cyrraedd Capernaum. Pan oedd yn y tŷ lle roedden nhw'n aros gofynnodd Iesu i'r disgyblion, “Am beth oeddech chi'n dadlau ar y ffordd?” Ond wnaeth neb ateb. Roedden nhw wedi bod yn dadlau pwy oedd y pwysica. Eisteddodd Iesu i lawr, a galw'r deuddeg disgybl ato, ac meddai wrthyn nhw, “Rhaid i'r sawl sydd am fod yn geffyl blaen ddysgu mynd i'r cefn a gwasanaethu pawb arall.” Gosododd blentyn bach yn y canol o'u blaenau. Yna cododd y plentyn yn ei freichiau, a dweud wrthyn nhw, “Mae pwy bynnag sy'n rhoi croeso i blentyn bach fel yma am eu bod yn perthyn i mi, yn rhoi croeso i mi; ac mae pwy bynnag sy'n rhoi croeso i mi, yn croesawu'r Un sydd wedi fy anfon i.” Dyma Ioan yn dweud wrtho, “Athro, gwelon ni rhywun yn bwrw allan gythreuliaid yn dy enw di, a dyma ni'n dweud wrtho am stopio, am ei fod e ddim yn un o'n criw ni.” “Peidiwch gwneud hynny,” meddai Iesu. “Does neb yn gwneud gwyrth yn fy enw i yn mynd i ddweud pethau drwg amdana i y funud nesa. Os ydy rhywun ddim yn ein herbyn ni, mae o'n plaid ni. Credwch chi fi, mae unrhyw un sy'n rhoi diod o ddŵr i chi am eich bod yn bobl y Meseia yn siŵr o gael ei wobr. “Pwy bynnag sy'n gwneud i un o'r rhai bach yma sy'n credu ynof fi bechu, byddai'n well iddo gael ei daflu i'r môr gyda maen melin wedi ei rwymo am ei wddf. Os ydy dy law yn gwneud i ti bechu, torra hi i ffwrdd. Mae'n well i ti fynd i mewn i'r bywyd newydd wedi dy anafu, na bod gen ti ddwy law a mynd i uffern, lle dydy'r tân byth yn diffodd. *** Ac os ydy dy droed yn gwneud i ti bechu, torra hi i ffwrdd. Mae'n well i ti fynd i'r bywyd newydd yn gloff, na bod gen ti ddwy droed a chael dy daflu i uffern. *** Ac os ydy dy lygad yn gwneud i ti bechu, tynna hi allan. Mae'n well i ti fynd i mewn i deyrnas Dduw gyda dim ond un llygad na bod gen ti ddwy a chael dy daflu i uffern, lle ‘dydy'r cynrhon ddim yn marw, a'r tân byth yn diffodd.’ “Bydd pawb yn cael eu puro â thân. “Mae halen yn beth defnyddiol, ond pan mae'n colli ei flas, pa obaith sydd i'w wneud yn hallt eto? Byddwch â halen ynoch, a byw'n heddychlon gyda'ch gilydd.” Yna gadawodd Iesu'r fan honno, a mynd i Jwdea a'r ardal yr ochr draw i'r Iorddonen. Unwaith eto daeth tyrfa o bobl ato, ac fel arfer buodd wrthi'n eu dysgu. Dyma rhyw Phariseaid yn dod ato i geisio'i faglu drwy ofyn: “Ydy'r Gyfraith yn dweud ei bod yn iawn i ddyn ysgaru ei wraig?” Atebodd Iesu, “Beth oedd y gorchymyn roddodd Moses i chi?” “Dwedodd Moses ei fod yn iawn,” medden nhw, “Dim ond i ddyn roi tystysgrif ysgariad iddi cyn ei hanfon i ffwrdd.” “Wyddoch chi pam ysgrifennodd Moses y ddeddf yna?” meddai Iesu. “Am fod pobl fel chi mor ystyfnig! Pan greodd Duw bopeth ar y dechrau cyntaf, gwnaeth bobl ‘yn wryw ac yn fenyw’. ‘Felly bydd dyn yn gadael ei dad a'i fam, ac yn cael ei uno â'i wraig, a bydd y ddau yn dod yn un.’ Dim dau berson ar wahân ydyn nhw wedyn, ond uned. Felly ddylai neb wahanu beth mae Duw wedi ei uno!” Pan oedden nhw yn ôl yn y tŷ, dyma'r disgyblion yn holi Iesu am hyn Dwedodd wrthyn nhw: “Mae unrhyw un sy'n ysgaru ei wraig er mwyn priodi gwraig arall yn godinebu.” (Ac os ydy gwraig yn ysgaru ei gŵr er mwyn priodi dyn arall, mae hithau'n godinebu.) Roedd pobl yn dod â'u plant bach at Iesu er mwyn iddo eu cyffwrdd a'u bendithio. Ond roedd y disgyblion yn dweud y drefn wrthyn nhw. Roedd Iesu'n ddig pan welodd nhw'n gwneud hynny. “Gadewch i'r plant bach ddod ata i,” meddai wrthyn nhw, “Peidiwch eu rhwystro, am mai rhai fel nhw sy'n derbyn teyrnasiad Duw. Credwch chi fi, heb ymddiried fel plentyn bach, wnewch chi byth ddod yn un o'r rhai mae Duw'n teyrnasu yn eu bywydau.” Yna cododd y plant yn ei freichiau, rhoi ei ddwylo arnyn nhw a'u bendithio. Pan oedd Iesu ar fin gadael, dyma ddyn yn rhedeg ato a syrthio ar ei liniau o'i flaen. “Athro da,” meddai, “Beth sydd rhaid i mi ei wneud i gael bywyd tragwyddol?” “Pam wyt ti'n fy ngalw i'n dda?” meddai Iesu, “Onid Duw ydy'r unig un sy'n dda? Ti'n gwybod beth wnaeth Duw ei orchymyn: ‘Paid llofruddio, paid godinebu, paid dwyn, paid rhoi tystiolaeth ffals, paid twyllo, gofala am dy dad a dy fam.’ ” Atebodd y dyn, “Athro, dw i wedi cadw'r rheolau yma i gyd ers pan o'n i'n fachgen ifanc.” Roedd Iesu wedi hoffi'r dyn yn fawr. Edrychodd arno, a dweud, “Mae yna un peth arall ar ôl. Dos, a gwertha dy eiddo i gyd a rho'r arian i bobl dlawd. Wedyn cei di drysor yn y nefoedd. Yna tyrd, dilyn fi.” Roedd wyneb y dyn yn dweud y cwbl. Cerddodd i ffwrdd yn siomedig, am ei fod yn ddyn cyfoethog iawn. Dyma Iesu'n troi at ei ddisgyblion a dweud, “Mae hi mor anodd i bobl gyfoethog adael i Dduw deyrnasu yn eu bywydau!” Roedd y disgyblion wedi eu syfrdanu gan yr hyn roedd yn ei ddweud. Ond dwedodd Iesu eto, “Wyddoch chi beth? Mae pobl yn ei chael hi mor anodd i adael i Dduw deyrnasu yn eu bywydau! Mae'n haws i gamel wthio drwy grau nodwydd nag i bobl gyfoethog adael i Dduw deyrnasu yn eu bywydau.” Roedd y disgyblion yn rhyfeddu fwy fyth, ac yn gofyn i'w gilydd, “Oes gobaith i unrhyw un gael ei achub felly?” Dyma Iesu'n edrych arnyn nhw, a dweud, “Mae'r peth yn amhosib i bobl ei wneud, ond mae Duw yn gallu! Mae Duw'n gallu gwneud popeth!” Yna dyma Pedr yn dechrau dweud, “Ond dŷn ni wedi gadael y cwbl i dy ddilyn di!” “Credwch chi fi,” meddai Iesu, “Bydd pwy bynnag sydd wedi mynd oddi cartref a gadael brodyr a chwiorydd, mam neu dad, neu blant neu diroedd er fy mwyn i a'r newyddion da yn derbyn can gwaith cymaint yn y bywyd yma! Bydd yn derbyn cartrefi, brodyr, chwiorydd, mamau, plant, a thiroedd — ac erledigaeth ar ben y cwbl. Ond yn yr oes sydd i ddod byddan nhw'n derbyn bywyd tragwyddol! Ond bydd llawer o'r rhai sydd ar y blaen yn cael eu hunain yn y cefn, a'r rhai sydd yn y cefn yn cael bod ar y blaen.” Roedden nhw ar eu ffordd i Jerwsalem. Roedd Iesu'n cerdded ar y blaen, a'r disgyblion yn ei ddilyn, ond wedi eu syfrdanu ei fod yn mynd yno. Roedd pawb arall oedd yn ei ddilyn yn ofni'n fawr. Aeth Iesu â'r deuddeg disgybl i'r naill ochr eto i ddweud wrthyn nhw beth oedd yn mynd i ddigwydd iddo. “Pan gyrhaeddwn ni Jerwsalem,” meddai, “Bydda i, Mab y Dyn, yn cael fy mradychu i'r prif offeiriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith. Byddan nhw'n rhoi dedfryd marwolaeth arna i, ac yna'n fy rhoi yn nwylo'r Rhufeiniaid. Bydd y rheiny yn gwneud sbort ar fy mhen, yn poeri arna i, yn fy chwipio a'm lladd. Ond yna, dau ddiwrnod wedyn, bydda i'n dod yn ôl yn fyw.” Aeth Iago ac Ioan, meibion Sebedeus, i siarad â Iesu. “Athro, dŷn ni eisiau gofyn ffafr,” medden nhw. “Beth ga i wneud i chi?” gofynnodd. Dyma nhw'n ateb, “Dŷn ni eisiau cael eistedd bob ochr i ti pan fyddi'n teyrnasu.” “Dych chi ddim yn gwybod am beth dych chi'n siarad!” meddai Iesu. “Allwch chi yfed o'r un gwpan chwerw â mi, neu gael eich bedyddio â'r un bedydd â mi?” “Gallwn,” medden nhw. Yna dwedodd Iesu wrthyn nhw, “Byddwch chi'n yfed o'r un gwpan â mi, a chewch eich bedyddio â'r un bedydd a mi, ond dim fi sydd i ddweud pwy sy'n cael eistedd bob ochr i mi. Mae'r lleoedd hynny wedi eu cadw i bwy bynnag mae Duw wedi eu dewis.” Pan glywodd y deg disgybl arall am y peth, roedden nhw'n wyllt gyda Iago ac Ioan. Felly dyma Iesu'n eu galw nhw i gyd at ei gilydd, a dweud wrthyn nhw, “Dych chi'n gwybod sut mae'r pwysigion sy'n llywodraethu'r cenhedloedd yn ymddwyn — maen nhw wrth eu bodd yn dangos eu hawdurdod ac yn ei lordio hi dros bobl. Ond rhaid i chi fod yn wahanol. Rhaid i'r sawl sydd am arwain ddysgu gwasanaethu, a phwy bynnag sydd am fod yn geffyl blaen fod yn was i bawb arall. Wnes i ddim disgwyl i bobl eraill fy ngwasanaethu i, er mai fi ydy Mab y Dyn; des i fel gwas i aberthu fy mywyd er mwyn talu'r pris i ryddhau llawer o bobl.” Dyma nhw'n cyrraedd Jericho. Roedd tyrfa fawr yn dilyn Iesu a'i ddisgyblion allan o'r dref, a dyma nhw'n pasio heibio dyn dall oedd yn cardota ar ochr y ffordd — Bartimeus oedd enw'r dyn (hynny ydy, ‛mab Timeus‛). Pan ddeallodd mai Iesu o Nasareth oedd yno, dechreuodd weiddi, “Iesu! Fab Dafydd! Helpa fi!” “Cau dy geg!” meddai rhai o'r bobl wrtho. Ond yn lle hynny dechreuodd weiddi'n uwch fyth, “Iesu! Fab Dafydd! Helpa fi!” Dyma Iesu'n stopio, “Dwedwch wrtho am ddod yma,” meddai. Felly dyma nhw'n galw'r dyn dall, “Hei! Cod dy galon! Mae'n galw amdanat ti. Tyrd!” Felly taflodd y dyn dall ei glogyn i ffwrdd, neidio ar ei draed a mynd at Iesu. Dyma Iesu'n gofyn iddo, “Beth ga i wneud i ti?” “Rabbwni,” atebodd y dyn dall, “Dw i eisiau gallu gweld.” Yna dwedodd Iesu, “Dos, am i ti gredu rwyt wedi dy iacháu.” Yn sydyn roedd y dyn yn gweld, a dilynodd Iesu ar hyd y ffordd. Dyma nhw'n cyrraedd Bethffage a Bethania wrth Fynydd yr Olewydd yn ymyl Jerwsalem. Dyma Iesu'n dweud wrth ddau o'i ddisgyblion, “Ewch i'r pentref acw sydd o'ch blaen chi, ac wrth fynd i mewn iddo dewch o hyd i ebol wedi ei rwymo — un does neb wedi bod ar ei gefn o'r blaen. Dewch â'r ebol i mi, ac os bydd rhywun yn gofyn, ‘Beth dych chi'n ei wneud?’ dwedwch, ‘Mae'r meistr ei angen; bydd yn ei anfon yn ôl wedyn.’” Felly i ffwrdd â nhw, a dyna lle roedd yr ebol, allan yn y stryd wedi ei rwymo wrth ddrws. Wrth iddyn nhw ei ollwng yn rhydd dyma rhyw bobl oedd yn sefyll yno yn dweud, “Hei! Beth dych chi'n ei wneud?” Dyma nhw'n dweud yn union beth ddwedodd Iesu wrthyn nhw, a dyma'r bobl yn gadael iddyn nhw fynd. Pan ddaethon nhw â'r ebol at Iesu dyma nhw'n taflu eu cotiau drosto, a dyma Iesu'n eistedd ar ei gefn. Dechreuodd pobl daflu eu cotiau fel carped ar y ffordd o'i flaen, neu ganghennau deiliog oedden nhw wedi eu torri o'r caeau. Roedd pobl y tu blaen a'r tu ôl iddo yn gweiddi, “Clod i ti!” “Mae'r un sy'n dod i gynrychioli'r Arglwydd wedi ei fendithio'n fawr!” “Mae teyrnas ein cyndad Dafydd wedi ei bendithio!” “Clod i Dduw yn y nefoedd uchaf!” Dyma Iesu'n mynd i mewn i Jerwsalem ac i'r deml. Edrychodd o gwmpas ar bopeth oedd yno cyn gadael. Gan ei bod yn mynd yn hwyr, aeth yn ôl i Bethania gyda'r deuddeg disgybl. Y diwrnod wedyn, wrth adael Bethania, roedd Iesu eisiau bwyd. Gwelodd goeden ffigys ddeiliog yn y pellter, ac aeth i edrych rhag ofn bod ffrwyth arni. Ond doedd dim byd ond dail, am ei bod hi ddim yr adeg iawn o'r flwyddyn i'r ffigys fod yn barod. “Fydd neb yn bwyta dy ffrwyth di byth eto!” meddai Iesu. Clywodd y disgyblion beth ddwedodd e. Pan gyrhaeddodd Iesu Jerwsalem, aeth i gwrt y deml a dechrau gyrru allan bawb oedd yn prynu a gwerthu yn y farchnad yno. Gafaelodd ym myrddau'r rhai oedd yn cyfnewid arian a'u troi drosodd, a hefyd meinciau y rhai oedd yn gwerthu colomennod. Yna gwrthododd adael i unrhyw un gario pethau i'w gwerthu i mewn i'r deml. Yna dechreuodd eu dysgu, “Onid ydy'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: ‘Bydd fy nhŷ i yn cael ei alw yn dŷ gweddi i'r holl genhedloedd.’? Ond dych chi wedi troi'r lle yn ‘guddfan i ladron’!” Clywodd y prif offeiriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith beth ddwedodd e, a mynd ati i geisio dod o hyd i ffordd i'w ladd. Roedden nhw'n ei weld yn fygythiad i'w hawdurdod, am fod y bobl wedi eu syfrdanu gan ei eiriau. Pan ddechreuodd hi nosi, dyma Iesu a'i ddisgyblion yn gadael y ddinas. Y bore wedyn roedden nhw'n pasio'r goeden ffigys eto. Roedd hi wedi gwywo'n llwyr! Cofiodd Pedr eiriau Iesu'r diwrnod cynt, ac meddai, “Rabbi, edrych! Mae'r goeden wnest ti ei melltithio wedi gwywo!” “Rhaid i chi gredu yn Nuw,” meddai Iesu. “Credwch chi fi, does ond rhaid i chi ddweud wrth y mynydd yma, ‘Dos, a thaflu dy hun i'r môr’ — heb amau o gwbl, dim ond credu y gwnaiff ddigwydd — a bydd yn digwydd! Felly dw i'n dweud wrthoch chi, cewch beth bynnag dych chi'n gofyn amdano wrth weddïo, dim ond i chi gredu y byddwch yn ei dderbyn. Ond cyn gweddïo'n gyhoeddus, rhaid i chi faddau i unrhyw un sydd wedi gwneud rhywbeth yn eich erbyn. Wedyn bydd eich Tad yn y nefoedd yn maddau'ch pechodau chi.” *** Dyma nhw'n cyrraedd yn ôl i Jerwsalem. Pan oedd Iesu'n cerdded o gwmpas y deml, dyma'r prif offeiriaid, yr arbenigwyr yn y Gyfraith a'r arweinwyr Iddewig eraill yn dod ato, a gofyn iddo “Pa hawl sydd gen ti i wneud beth wnest ti? Pwy roddodd yr awdurdod i ti?” Atebodd Iesu, “Gadewch i mi ofyn cwestiwn i chi. Atebwch chi hwn, ac ateba i'ch cwestiwn chi. Dwedwch wrtho i — Ai Duw anfonodd Ioan i fedyddio neu ddim?” Wrth drafod y peth gyda'i gilydd, dyma nhw'n dweud, “Os atebwn ni ‘Ie’, bydd yn gofyn, ‘Pam doeddech chi ddim yn ei gredu felly?’ Ond allwn ni byth ddweud ‘Na’ …” (Roedd ganddyn nhw ofn y bobl, am fod pawb yn meddwl fod Ioan yn broffwyd.) Felly dyma nhw'n gwrthod ateb, “Dŷn ni ddim yn gwybod,” medden nhw. “Felly dw i ddim yn mynd i ateb eich cwestiwn chi chwaith,” meddai Iesu. Roedd Iesu'n defnyddio straeon i ddarlunio beth roedd e eisiau'i ddweud, ac meddai wrthyn nhw: “Roedd rhyw ddyn wedi plannu gwinllan. Cododd ffens o'i chwmpas, cloddio lle i wasgu'r sudd o'r grawnwin ac adeiladu tŵr i'w gwylio. Yna gosododd y winllan ar rent i rhyw ffermwyr cyn mynd i ffwrdd ar daith bell. Pan oedd hi'n amser casglu'r grawnwin anfonodd un o'i weision i nôl ei siâr o'r ffrwyth gan y tenantiaid. Ond dyma'r tenantiaid yn gafael yn y gwas, ei guro a'i anfon i ffwrdd heb ddim. Felly dyma'r dyn yn anfon gwas arall; dyma nhw'n cam-drin hwnnw a'i anafu ar ei ben. Pan anfonodd was arall eto, cafodd hwnnw ei ladd. Digwyddodd yr un peth i lawer o weision eraill — cafodd rhai eu curo ac eraill eu lladd. “Dim ond un oedd ar ôl y gallai ei anfon, a'i fab oedd hwnnw, ac roedd yn ei garu'n fawr. Yn y diwedd dyma fe'n ei anfon, gan feddwl, ‘Byddan nhw'n parchu fy mab i.’ “Ond dyma'r tenantiaid yn dweud wrth ei gilydd, ‘Hwn sy'n mynd i etifeddu'r winllan. Os lladdwn ni hwn cawn ni'r winllan i ni'n hunain.’ Felly dyma nhw'n gafael ynddo a'i ladd a thaflu ei gorff allan o'r winllan. “Beth fydd y dyn biau'r winllan yn ei wneud? Dweda i wrthoch chi beth! — bydd yn dod ac yn lladd y tenantiaid a rhoi'r winllan i rai eraill. Ydych chi ddim wedi darllen hyn yn yr ysgrifau sanctaidd: ‘Mae'r garreg wrthododd yr adeiladwyr wedi cael ei gwneud yn garreg sylfaen; yr Arglwydd wnaeth hyn, ac mae'r peth yn rhyfeddol yn ein golwg’? ” Roedden nhw eisiau ei arestio, am eu bod yn gwybod yn iawn ei fod e'n sôn amdanyn nhw yn y stori. Ond roedd ofn y dyrfa arnyn nhw; felly roedd rhaid iddyn nhw adael llonydd iddo a mynd i ffwrdd. Wedyn dyma'r arweinwyr Iddewig yn anfon rhai o'r Phariseaid a rhai o gefnogwyr Herod gyda'i gilydd at Iesu. Roedden nhw eisiau ei gael i ddweud rhywbeth fyddai'n ei gael i drwbwl. Dyma nhw'n mynd ato a dweud, “Athro, dŷn ni'n gwybod dy fod di'n onest. Dwyt ti ddim yn un i gael dy ddylanwadu gan bobl eraill, dim ots pwy ydyn nhw. Rwyt ti'n dysgu ffordd Duw, ac yn glynu wrth yr hyn sy'n wir. Felly dywed wrthon ni — Ydy'n iawn i ni dalu trethi i lywodraeth Rhufain? Ddylen ni eu talu nhw neu ddim?” Ond roedd Iesu'n gweld eu twyll yn iawn. “Pam dych chi'n ceisio nal i?” meddai wrthyn nhw. “Dewch â darn arian i mi.” Dyma nhw'n rhoi un iddo, a dyma Iesu'n gofyn iddyn nhw, “Llun pwy ydy hwn? Am bwy mae'r arysgrif yma'n sôn?” “Cesar,” medden nhw. Felly meddai Iesu, “Rhowch beth sydd biau Cesar i Cesar, a'r hyn biau Duw i Dduw.” Roedden nhw wedi eu syfrdanu'n llwyr ganddo. Wedyn dyma rai o'r Sadwceaid yn dod i ofyn cwestiwn iddo. (Dyma'r arweinwyr Iddewig sy'n dweud fod pobl ddim yn mynd i ddod yn ôl yn fyw ar ôl marw.) “Athro,” medden nhw, “rhoddodd Moses y rheol yma i ni: ‘Os ydy dyn yn marw a gadael ei wraig heb blentyn, rhaid i frawd y dyn hwnnw briodi'r weddw a chael plant yn ei le.’ Nawr, roedd saith brawd. Priododd yr hynaf, a buodd farw heb adael plant. Dyma'r ail frawd yn priodi'r weddw, ond buodd yntau farw heb gael plentyn. Digwyddodd yr un peth gyda'r trydydd. I ddweud y gwir, er iddyn nhw i gyd briodi'r wraig wnaeth yr un o'r saith adael plentyn ar ei ôl. Yn y diwedd dyma'r wraig yn marw hefyd. Dyma'n cwestiwn ni: Pan fydd yr atgyfodiad yn digwydd, gwraig pwy fydd hi? Roedd hi wedi bod yn wraig i'r saith ohonyn nhw!” Atebodd Iesu, “Dych chi'n deall dim! Dych chi ddim wedi deall yr ysgrifau sanctaidd a dych chi'n gwybod dim byd am allu Duw. Fydd pobl ddim yn priodi pan fydd y meirw'n dod yn ôl yn fyw; byddan nhw yr un fath â'r angylion yn y nefoedd. A bydd y meirw yn dod yn ôl yn fyw! — ydych chi ddim wedi darllen beth ysgrifennodd Moses? Yn yr hanes am y berth yn llosgi, dwedodd Duw wrtho, ‘Fi ydy Duw Abraham, Duw Isaac, a Duw Jacob’. Dim Duw pobl wedi marw ydy Duw, ond Duw'r rhai sy'n fyw! Dych chi wedi camddeall yn llwyr!” Roedd un o'r arbenigwyr yn y Gyfraith yno'n gwrando arnyn nhw'n dadlau. Pan welodd fod Iesu wedi rhoi ateb da iddyn nhw, gofynnodd yntau gwestiwn iddo. “O'r holl orchmynion i gyd, pa un ydy'r pwysica?” gofynnodd. Atebodd Iesu, “Y gorchymyn pwysica ydy hwn: ‘Gwrando Israel! Yr Arglwydd ein Duw ydy'r unig Arglwydd. Rwyt i garu'r Arglwydd dy Dduw â'th holl galon, ac â'th holl enaid, â'th holl feddwl ac â'th holl nerth.’ A'r ail ydy: ‘Rwyt i garu dy gymydog fel rwyt ti'n dy garu dy hun.’ Does dim un gorchymyn sy'n bwysicach na'r rhain.” “Rwyt ti'n iawn, athro,” meddai'r dyn, “Mae'n wir — un Duw sydd, a does dim un arall yn bod. Ei garu fe â'r holl galon, ac â'r holl feddwl ac â'r holl nerth sydd ynon ni sy'n bwysig, a charu cymydog fel dŷn ni'n caru'n hunain. Mae hyn yn bwysicach na'r aberthau llosg a'r offrymau i gyd.” Roedd Iesu'n gweld oddi wrth ei ymateb ei fod wedi deall, a dwedodd wrtho, “Dwyt ti ddim yn bell iawn o deyrnas Dduw.” O hynny ymlaen doedd neb yn meiddio gofyn mwy o gwestiynau iddo. Pan oedd Iesu wrthi'n dysgu yng nghwrt y deml, gofynnodd, “Pam mae'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn dweud fod y Meseia yn fab i Dafydd? Dafydd ei hun ddwedodd, dan ddylanwad yr Ysbryd Glân: ‘Dwedodd yr Arglwydd wrth fy arglwydd: “Eistedd yma yn y sedd anrhydedd nes i mi osod dy elynion dan dy draed.”’ Mae Dafydd yn ei alw'n ‛Arglwydd‛! Felly, sut mae'n gallu bod yn fab iddo?” Roedd yno dyrfa fawr wrth eu boddau yn gwrando arno. Dyma rai pethau eraill ddysgodd Iesu iddyn nhw, “Gwyliwch yr arbenigwyr yn y Gyfraith. Maen nhw wrth eu bodd yn cerdded o gwmpas yn swancio yn eu gwisgoedd swyddogol, a chael pawb yn eu cyfarch ac yn talu sylw iddyn nhw yn y farchnad. Mae'n rhaid iddyn nhw gael y seddi gorau yn y synagogau, ac eistedd ar y bwrdd uchaf mewn gwleddoedd. Maen nhw'n dwyn popeth oddi ar wragedd gweddwon ac wedyn yn ceisio rhoi'r argraff eu bod nhw'n dduwiol gyda'u gweddïau hir! Bydd pobl fel nhw yn cael eu cosbi'n llym.” Eisteddodd Iesu gyferbyn â'r blychau casglu lle roedd pobl yn cyfrannu arian i drysorfa'r deml, a gwylio'r y dyrfa yn rhoi eu harian yn y blychau. Roedd llawer o bobl gyfoethog yn rhoi arian mawr. Ond yna daeth gwraig weddw dlawd a rhoi dwy geiniog i mewn (oedd yn werth dim byd bron). Dyma Iesu'n galw ei ddisgyblion ato a dweud, “Credwch chi fi, mae'r wraig weddw dlawd yna wedi rhoi mwy nag unrhyw un arall. Newid mân oedd pawb arall yn ei roi, gan fod ganddyn nhw hen ddigon dros ben. Ond rhoddodd hon y cwbl oedd ganddi i fyw arno.” Wrth iddyn nhw adael y deml, dyma un o'r disgyblion yn dweud, “Edrych ar y cerrig anferth yma, athro! Mae'r adeiladau yma'n fendigedig!” Atebodd Iesu, “Ydych chi'n gweld yr adeiladau mawr yma i gyd? Bydd y cwbl yn cael ei chwalu, a fydd dim un garreg wedi ei gadael yn ei lle.” Yn nes ymlaen, pan oedd Iesu'n eistedd ar ochr Mynydd yr Olewydd, gyferbyn â'r deml, dyma Pedr, Iago, Ioan ac Andreas yn dod ato ac yn gofyn iddo'n breifat, “Pryd mae beth roeddet ti'n sôn amdano yn mynd i ddigwydd? Fydd unrhyw rybudd cyn i'r pethau yma i gyd ddigwydd?” Atebodd Iesu: “Gwyliwch fod neb yn eich twyllo chi. Bydd llawer yn dod yn hawlio fy awdurdod i, a dweud ‘Fi ydy'r Meseia,’ a byddan nhw'n llwyddo i dwyllo llawer o bobl. Bydd rhyfeloedd a byddwch yn clywed sôn am ryfeloedd. Ond peidiwch cynhyrfu — mae pethau felly'n siŵr o ddigwydd, ond fydd y diwedd yn dal heb ddod. Bydd gwledydd a llywodraethau yn rhyfela yn erbyn ei gilydd. Bydd daeargrynfeydd mewn gwahanol leoedd, a newyn. Dim ond y dechrau ydy hyn! “Gwyliwch eich hunain. Cewch eich dwyn o flaen yr awdurdodau, a'ch curo yn y synagogau. Cewch eich cyhuddo o fod yn ddilynwyr i mi o flaen llywodraethwyr a brenhinoedd, a byddwch yn tystiolaethu iddyn nhw amdana i. Rhaid i'r newyddion da gael ei gyhoeddi ym mhob gwlad gyntaf. Peidiwch poeni ymlaen llaw beth i'w ddweud pan gewch eich arestio a'ch rhoi ar brawf. Dwedwch beth fydd yn dod i chi ar y pryd, achos dim chi fydd yn siarad, ond yr Ysbryd Glân. “Bydd dyn yn bradychu ei frawd i gael ei ladd, a thad yn bradychu ei blentyn. Bydd plant yn troi yn erbyn eu rhieni ac yn eu rhoi i'r awdurdodau i'w dienyddio. Bydd pawb yn eich casáu chi am eich bod yn ddilynwyr i mi, ond bydd y rhai sy'n sefyll yn gadarn i'r diwedd un yn cael eu hachub. “Pan welwch ‘yr eilun ffiaidd sy'n dinistrio’ wedi ei osod lle na ddylai fod (rhaid i'r un sy'n darllen ddeall hyn!), yna dylai pawb sydd yn Jwdea ddianc i'r mynyddoedd. Fydd dim cyfle i rywun sydd y tu allan i'w dŷ fynd i mewn i nôl unrhyw beth. A ddylai neb sydd allan yn y maes fynd adre i nôl ei gôt hyd yn oed. Mor ofnadwy fydd hi ar wragedd beichiog a mamau sy'n magu plant bach bryd hynny! Gweddïwch y bydd ddim yn digwydd yn y gaeaf, achos bryd hynny bydd argyfwng gwaeth nag unrhyw beth welwyd erioed o'r blaen — ers i Dduw greu'r byd! A fydd dim byd tebyg yn y dyfodol chwaith! Oni bai i'r Arglwydd ei wneud yn gyfnod byr, fyddai neb yn dianc! Ond mae'n gwneud hynny er mwyn y bobl mae wedi eu dewis iddo'i hun. Felly, os bydd rhywun yn dweud, ‘Edrych! Hwn ydy'r Meseia!’ neu, ‘Edrych! Dacw fe!’ peidiwch credu'r peth. Bydd llawer i ‛Feseia‛ ffug a phroffwydi ffug yn dod ac yn gwneud gwyrthiau syfrdanol. Bydden nhw'n twyllo'r bobl hynny mae Duw wedi eu dewis petai'r fath beth yn bosib! Felly gwyliwch! Dw i wedi dweud hyn i gyd ymlaen llaw. “Ond bryd hynny, ar ôl yr argyfwng, ‘Bydd yr haul yn tywyllu, a'r lleuad yn peidio rhoi golau; bydd y sêr yn syrthio o'r awyr, a'r planedau yn ansefydlog.’ “Bryd hynny bydd pawb yn fy ngweld i, Mab y Dyn, yn dod mewn cymylau gyda grym ac ysblander mawr. Yna bydd yn anfon yr angylion i gasglu'r rhai mae wedi eu dewis o bob rhan o'r byd. “Dysgwch wers gan y goeden ffigys: Pan mae'r brigau'n dechrau blaguro a dail yn dechrau tyfu arni, gwyddoch fod yr haf yn agos. Felly'r un fath, pan fyddwch yn gweld y pethau yma'n digwydd, byddwch yn gwybod ei fod ar fin dod yn ôl — reit tu allan i'r drws! Credwch chi fi, bydd pobl y genhedlaeth bresennol yn dal yma pan fydd hyn yn digwydd. Bydd yr awyr a'r ddaear yn diflannu, ond mae beth dw i'n ei ddweud yn aros am byth. “Does neb ond y Tad ei hun yn gwybod y dyddiad a pha amser o'r dydd y bydd hyn yn digwydd — dydy'r angylion ddim yn gwybod, na hyd yn oed y Mab ei hun! Gwyliwch eich hunain! Cadwch yn effro! Dych chi ddim yn gwybod pryd fydd e'n digwydd. Mae fel dyn sy'n mynd i ffwrdd oddi cartref: Mae'n gadael ei dŷ yng ngofal ei weision ac yn rhoi gwaith penodol i bob un, ac mae'n dweud wrth yr un sy'n gofalu am y drws i edrych allan amdano. “Gwyliwch felly, am eich bod chi ddim yn gwybod pryd fydd perchennog y tŷ yn dod yn ôl — gall ddod gyda'r nos, neu ganol nos, neu'n gynnar iawn yn y bore, neu ar ôl iddi wawrio. Bydd yn dod heb rybudd, felly peidiwch gadael iddo'ch dal chi'n cysgu. Dw i'n dweud yr un peth wrth bawb: ‘Gwyliwch!’” Ychydig dros ddiwrnod oedd cyn y Pasg a Gŵyl y Bara Croyw. Roedd y prif offeiriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn dal i edrych am esgus i arestio Iesu a'i ladd. Ond medden nhw, “Dim yn ystod yr Ŵyl, neu bydd reiat.” Pan oedd Iesu yn Bethania, aeth am bryd o fwyd i gartref dyn roedd pawb yn ei alw yn ‛Simon y gwahanglwyf‛. Tra roedd Iesu'n bwyta daeth gwraig ato gyda jar alabaster hardd yn llawn o bersawr costus, olew nard pur. Torrodd y sêl ar y jar a thywallt y persawr ar ei ben. Roedd rhai o'r bobl oedd yno wedi digio go iawn — “Am wastraff!” medden nhw, “Gallai rhywun fod wedi gwerthu'r persawr yna am ffortiwn a rhoi'r arian i bobl dlawd.” Roedden nhw'n gas iawn ati hi. “Gadewch lonydd iddi,” meddai Iesu. “Pam dych chi'n ei phoeni hi? Mae hi wedi gwneud peth hyfryd. Bydd pobl dlawd o gwmpas bob amser, a gallwch eu helpu nhw unrhyw bryd. Ond fydda i ddim yma bob amser. Gwnaeth hi beth allai ei wneud. Tywalltodd bersawr arna i, i baratoi fy nghorff i'w gladdu. Credwch chi fi, ble bynnag fydd y newyddion da yn cael ei gyhoeddi drwy'r byd i gyd, bydd pobl yn cofio beth wnaeth y wraig yma hefyd.” Ar ôl i hyn ddigwydd aeth Jwdas Iscariot, oedd yn un o'r deuddeg disgybl, at y prif offeiriaid i fradychu Iesu iddyn nhw. Roedden nhw wrth eu bodd pan glywon nhw beth oedd ganddo i'w ddweud, a dyma nhw'n addo rhoi arian iddo. Felly roedd yn edrych am gyfle i fradychu Iesu iddyn nhw. Ar ddiwrnod cyntaf Gŵyl y Bara Croyw (hynny ydy, y diwrnod pan oedd hi'n draddodiad i ladd oen y Pasg), gofynnodd disgyblion Iesu iddo, “Ble rwyt ti am fwyta swper y Pasg? — i ni fynd yno i'w baratoi.” Felly anfonodd ddau o'i ddisgyblion i Jerwsalem, a dweud wrthyn nhw, “Wrth fynd i mewn i'r ddinas, bydd dyn yn dod i'ch cyfarfod yn cario llestr dŵr. Ewch ar ei ôl, a gofyn i berchennog y tŷ y bydd yn mynd iddo, ‘Mae'r athro eisiau gwybod ble mae'r ystafell westai iddo ddathlu'r Pasg gyda'i ddisgyblion?’ Bydd yn mynd â chi i ystafell fawr i fyny'r grisiau wedi ei pharatoi'n barod. Gwnewch swper i ni yno.” Felly, i ffwrdd â'r disgyblion i'r ddinas, a digwyddodd popeth yn union fel roedd Iesu wedi dweud. Felly dyma nhw'n paratoi swper y Pasg yno. Yn gynnar y noson honno aeth Iesu yno gyda'r deuddeg disgybl. Tra roedden nhw'n bwyta, dyma Iesu'n dweud, “Wir i chi, mae un ohonoch chi'n mynd i'm bradychu i. Un ohonoch chi sy'n bwyta gyda mi yma.” Dyma nhw'n mynd yn drist iawn, a dweud un ar ôl y llall, “Dim fi ydy'r un, nage?” “Un ohonoch chi'r deuddeg,” meddai Iesu, “Un ohonoch chi sy'n bwyta yma, ac yn trochi ei fara yn y ddysgl saws gyda mi. Rhaid i mi, Mab y Dyn, farw yn union fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud. Ond gwae'r un sy'n mynd i'm bradychu i! Byddai'n well arno petai erioed wedi cael ei eni!” Tra roedden nhw'n bwyta dyma Iesu'n cymryd torth, ac yna, ar ôl adrodd y weddi o ddiolch, ei thorri a'i rhannu i'w ddisgyblion. “Cymerwch y bara yma” meddai, “Dyma fy nghorff i.” Yna cododd y cwpan, adrodd y weddi o ddiolch eto a'i basio iddyn nhw, a dyma nhw i gyd yn yfed ohono. “Dyma fy ngwaed,” meddai, “sy'n selio ymrwymiad Duw i'w bobl. Mae'n cael ei dywallt ar ran llawer o bobl. Credwch chi fi, fydda i ddim yn yfed gwin eto, nes daw'r diwrnod hwnnw pan fydda i'n yfed o'r newydd pan fydd Duw yn teyrnasu.” Wedyn ar ôl canu emyn, dyma nhw'n mynd allan i Fynydd yr Olewydd. “Dych chi i gyd yn mynd i droi cefn arna i,” meddai Iesu wrthyn nhw. “Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: ‘Bydda i'n taro'r bugail, a bydd y defaid yn mynd ar chwâl.’ Ond ar ôl i mi ddod yn ôl yn fyw af i o'ch blaen chi i Galilea.” “Wna i byth droi cefn arnat ti!” meddai Pedr wrtho. “Hyd yn oed os bydd pawb arall yn gwneud hynny!” “Wir i ti,” meddai Iesu wrtho, “heno, cyn i'r ceiliog ganu ddwywaith, byddi di wedi gwadu dair gwaith dy fod yn fy nabod i!” Ond roedd Pedr yn mynnu, “Na! wna i byth wadu mod i'n dy nabod di! Hyd yn oed os bydd rhaid i mi farw gyda thi!” Ac roedd y lleill yn dweud yr un peth. Dyma Iesu'n mynd gyda'i ddisgyblion i le o'r enw Gethsemane. “Eisteddwch chi yma,” meddai wrthyn nhw, “dw i'n mynd i weddïo.” Aeth a Pedr, Iago ac Ioan gydag e, a dechreuodd brofi dychryn a gwewyr meddwl oedd yn ei lethu. “Mae'r tristwch dw i'n ei deimlo yn ddigon i'm lladd i,” meddai wrthyn nhw. “Arhoswch yma a gwylio.” Aeth yn ei flaen ychydig, a syrthio ar lawr a gweddïo i'r profiad ofnadwy oedd o'i flaen fynd i ffwrdd petai hynny'n bosib. “ Abba! Dad!” meddai, “Mae popeth yn bosib i ti. Cymer y cwpan chwerw yma oddi arna i. Ond paid gwneud beth dw i eisiau, gwna beth rwyt ti eisiau.” Pan aeth yn ôl at ei ddisgyblion roedden nhw'n cysgu. A meddai wrth Pedr, “Simon, wyt ti'n cysgu? Allet ti ddim cadw golwg am un awr fechan? Cadwch yn effro, a gweddïwch y byddwch chi ddim yn syrthio pan gewch chi'ch profi. Mae'r ysbryd yn frwd, ond y corff yn wan.” Yna aeth Iesu i ffwrdd a gweddïo'r un peth eto. Ond pan ddaeth yn ôl roedden nhw wedi syrthio i gysgu eto — roedden nhw'n methu'n lân â chadw eu llygaid ar agor. Doedden nhw ddim yn gwybod beth i'w ddweud. Pan ddaeth yn ôl y drydedd waith, meddai wrthyn nhw, “Dych chi'n cysgu eto? Dal i orffwys? Dyna ni, mae'r foment wedi dod. Dw i, Mab y Dyn, ar fin cael fy mradychu i afael pechaduriaid. Codwch, gadewch i ni fynd! Mae'r bradwr wedi cyrraedd!” Ac ar unwaith, wrth iddo ddweud y peth, dyma Jwdas yn cyrraedd, un o'r deuddeg disgybl, gyda thyrfa yn cario cleddyfau a phastynau. Roedd y prif offeiriaid, yr arbenigwyr yn y Gyfraith a'r arweinwyr Iddewig eraill wedi eu hanfon nhw i ddal Iesu. Roedd Jwdas y bradwr wedi trefnu y byddai'n rhoi arwydd iddyn nhw: “Yr un fydda i'n ei gyfarch â chusan ydy'r dyn; arestiwch e, a'i gadw yn y ddalfa.” Pan gyrhaeddodd, aeth Jwdas yn syth at Iesu. “Rabbi!” meddai, ac yna ei gyfarch â chusan. Yna gafaelodd y lleill yn Iesu a'i arestio. Ond dyma un o'r rhai oedd yno yn tynnu cleddyf allan a tharo gwas yr archoffeiriad. Torrodd ei glust i ffwrdd. “Ydw i'n arwain gwrthryfel neu rywbeth?” meddai Iesu. “Ai dyna pam mae angen y cleddyfau a'r pastynau yma? Pam wnaethoch chi ddim fy arestio i yn y deml? Roeddwn i yno gyda chi bob dydd, yn dysgu'r bobl. Ond rhaid i bethau ddigwydd fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud.” Dyma'r disgyblion i gyd yn ei adael, a dianc. Ond roedd un dyn ifanc yn dilyn Iesu, yn gwisgo dim amdano ond crys nos o liain. Dyma nhw'n ceisio ei ddal e, ond gadawodd ei grys a rhedodd y bachgen i ffwrdd yn noeth. Dyma nhw'n mynd â Iesu at yr archoffeiriad. Roedd y prif offeiriaid a'r arweinwyr eraill, a'r arbenigwyr yn y Gyfraith wedi dod at ei gilydd. Roedd Pedr wedi bod yn dilyn o bell. Aeth i mewn i iard tŷ'r archoffeiriad. Eisteddodd yno gyda'r gweision diogelwch yn cadw'n gynnes wrth y tân. Roedd y prif offeiriaid a'r Sanhedrin (hynny ydy yr uchel-lys Iddewig) yn edrych am dystiolaeth yn erbyn Iesu er mwyn ei ddedfrydu i farwolaeth. Ond chawson nhw ddim tystiolaeth, er fod digon o bobl yn barod i ddweud celwydd ar lw. Y broblem oedd fod eu straeon yn gwrth-ddweud ei gilydd. Yn y diwedd, dyma rhywrai yn tystio fel hyn (dweud celwydd oedden nhw): “Clywon ni e'n dweud, ‘Dw i'n mynd i ddinistrio'r deml yma sydd wedi ei hadeiladu gan ddynion a chodi un arall o fewn tri diwrnod heb help dynion.’” Hyd yn oed wedyn doedd eu tystiolaeth ddim yn gyson! Felly dyma'r archoffeiriad yn codi ar ei draed ac yn gofyn i Iesu, “Wel, oes gen ti ateb? Beth am y dystiolaeth yma yn dy erbyn di?” Ond ddwedodd Iesu ddim gair. Yna gofynnodd yr archoffeiriad eto, “Ai ti ydy'r Meseia, Mab yr Un Bendigedig?” “Ie, fi ydy e,” meddai Iesu. “A byddwch chi'n fy ngweld i, Mab y Dyn, yn llywodraethu gyda'r Un Grymus ac yn dod yn ôl ar gymylau'r awyr.” Wrth glywed yr hyn ddwedodd Iesu dyma'r archoffeiriad yn rhwygo ei ddillad. “Pam mae angen tystion arnon ni?!” meddai. “Dych chi i gyd wedi ei glywed yn cablu. Beth ydy'ch dyfarniad chi?” A dyma nhw i gyd yn dweud ei fod yn haeddu ei gondemnio i farwolaeth. Yna dyma rai ohonyn nhw'n dechrau poeri ato, a rhoi mwgwd dros ei lygaid, a'i ddyrnu yn ei wyneb. “Tyrd, Proffwyda!”, medden nhw. Wedyn dyma'r gweision diogelwch yn ei gymryd i ffwrdd a'i guro. Yn y cyfamser roedd Pedr yn yr iard i lawr y grisiau, a daeth un o forynion yr archoffeiriad heibio. Digwyddodd sylwi ar Pedr yn cadw'n gynnes yno, a stopiodd i edrych arno. “Roeddet ti'n un o'r rhai oedd gyda'r Nasaread Iesu yna!” meddai. Ond gwadu wnaeth Pedr. “Does gen i ddim syniad am beth rwyt ti'n sôn,” meddai, ac aeth allan at y fynedfa. Ond dyma'r forwyn yn ei weld eto, ac meddai wrth y rhai oedd yn sefyll o gwmpas yno, “Mae hwn yn un ohonyn nhw.” Ond gwadu wnaeth Pedr eto. Ychydig wedyn, dyma rai eraill oedd yn sefyll yno yn dweud wrth Pedr, “Ti'n un ohonyn nhw yn bendant! Mae'n amlwg dy fod ti'n dod o Galilea.” Dyma Pedr yn dechrau rhegi a melltithio, “Dw i ddim yn nabod y dyn yma dych chi'n sôn amdano!” A'r foment honno dyma'r ceiliog yn canu am yr ail waith. Yna cofiodd Pedr eiriau Iesu: “Byddi di wedi gwadu dy fod yn fy nabod i dair gwaith cyn i'r ceiliog ganu ddwywaith.” Torrodd i lawr a beichio crïo. Yn gynnar iawn yn y bore, dyma'r prif offeiriaid a'r arweinwyr eraill, gyda'r arbenigwyr yn y Gyfraith a'r Sanhedrin cyfan, yn penderfynu beth i'w wneud. Dyma nhw'n rhwymo Iesu a'i drosglwyddo i Peilat. Dyma Peilat yn dweud wrtho, “Felly, ti ydy Brenin yr Iddewon, ie?” “Ti sy'n dweud,” atebodd Iesu. Roedd y prif offeiriaid yn ei gyhuddo o bob math o bethau, felly gofynnodd Peilat iddo eto, “Oes gen ti ddim i'w ddweud? Edrych cymaint o bethau maen nhw'n dy gyhuddo di o'u gwneud.” Ond wnaeth Iesu ddim ateb o gwbl. Doedd y peth yn gwneud dim sens i Peilat. Adeg y Pasg roedd hi'n draddodiad i ryddhau un carcharor — un oedd y bobl yn ei ddewis. Roedd dyn o'r enw Barabbas yn y carchar — un o'r terfysgwyr oedd yn euog o lofruddiaeth adeg y gwrthryfel. Felly dyma'r dyrfa'n mynd at Peilat a gofyn iddo wneud yn ôl ei arfer. “Beth am i mi ryddhau hwn i chi, ‛Brenin yr Iddewon‛?” meddai Peilat. (Roedd yn gwybod fod y prif offeiriaid wedi arestio Iesu am eu bod yn genfigennus ohono.) Ond dyma'r prif offeiriaid yn cyffroi'r dyrfa a'u cael i ofyn i Peilat ryddhau Barabbas yn ei le. “Felly beth dw i i'w wneud gyda'r un dych chi'n ei alw'n ‛Frenin yr Iddewon‛?” gofynnodd Peilat. A dyma nhw'n dechrau gweiddi, “Croeshoelia fe!” “Pam?” meddai Peilat, “Beth mae wedi ei wneud o'i le?” Ond dyma nhw'n dechrau gweiddi'n uwch, “Croeshoelia fe!” Gan ei fod am blesio'r dyrfa dyma Peilat yn rhyddhau Barabbas iddyn nhw. Wedyn gorchmynnodd fod Iesu i gael ei chwipio, ac yna ei ddedfrydu i gael ei groeshoelio. Dyma'r milwyr Rhufeinig yn mynd â Iesu i'r iard yn y palas (hynny ydy, Pencadlys y llywodraethwr) a galw'r holl fintai at ei gilydd. Dyma nhw'n rhoi clogyn porffor amdano, ac yn plethu drain i wneud coron i'w rhoi ar ei ben. Wedyn dyma nhw'n dechrau ei saliwtio, “Eich mawrhydi! Brenin yr Iddewon!” Roedden nhw'n ei daro ar ei ben gyda gwialen drosodd a throsodd, ac yn poeri arno. Wedyn roedden nhw'n mynd ar eu gliniau o'i flaen ac yn esgus talu teyrnged iddo. Pan oedden nhw wedi blino cael sbort, dyma nhw'n tynnu'r clogyn porffor oddi arno a'i wisgo yn ei ddillad ei hun unwaith eto. Wedyn dyma nhw'n ei arwain allan i gael ei groeshoelio. Roedd dyn o Cyrene o'r enw Simon yn digwydd mynd heibio (tad Alecsander a Rwffus) — roedd ar ei ffordd i mewn i'r ddinas. A dyma'r milwyr yn ei orfodi i gario croes Iesu. Dyma nhw'n dod â Iesu i Golgotha (sy'n golygu ‛Lle y Benglog‛), a dyma nhw'n cynnig gwin wedi ei gymysgu â chyffur iddo, ond gwrthododd ei gymryd. Ar ôl ei hoelio ar y groes dyma nhw'n gamblo i weld pwy fyddai'n cael ei ddillad. Naw o'r gloch y bore oedd hi pan wnaethon nhw ei groeshoelio. Roedd arwydd ysgrifenedig yn dweud beth oedd y cyhuddiad yn ei erbyn. Y geiriau ar yr arwydd oedd: BRENIN YR IDDEWON. Cafodd dau leidr eu croeshoelio yr un pryd, un bob ochr iddo. *** Roedd y bobl oedd yn pasio heibio yn gwneud sbort am ei ben, ac yn hyrddio enllibion ato, “Felly! Ti sy'n mynd i ddinistrio'r deml a'i hadeiladu eto o fewn tri diwrnod!? Tyrd yn dy flaen! Achub dy hun oddi ar y groes yna!” Roedd y prif offeiriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith yno hefyd yn cael sbort ymhlith ei gilydd. “Roedd e'n achub pobl eraill,” medden nhw, “ond dydy e ddim yn gallu achub ei hun! Beth am i ni gael gweld y Meseia yma, Brenin Israel, yn dod i lawr oddi ar y groes. Gwnawn ni gredu wedyn!” Roedd hyd yn oed y rhai oedd wedi eu croeshoelio gydag e yn ei sarhau. O ganol dydd hyd dri o'r gloch y p'nawn aeth yn hollol dywyll drwy'r wlad i gyd. Yna am dri o'r gloch gwaeddodd Iesu'n uchel, “Eloi, Eloi, lama sabachthani?” sy'n golygu, “Fy Nuw, fy Nuw, pam wyt ti wedi troi dy gefn arna i?” Pan glywodd rhai o'r bobl oedd yn sefyll yno hyn, “Ust!” medden nhw, “Mae'n galw ar y proffwyd Elias am help.” Dyma un ohonyn nhw'n rhedeg ac yn trochi ysbwng mewn gwin sur rhad, a'i godi ar flaen ffon i'w gynnig i Iesu i'w yfed. “Gadewch lonydd iddo,” meddai, “i ni gael gweld os daw Elias i'w dynnu i lawr.” Ond yna dyma Iesu'n gweiddi'n uchel, yna stopio anadlu a marw. A dyma'r llen oedd yn hongian yn y deml yn rhwygo yn ei hanner o'r top i'r gwaelod. Roedd capten milwrol Rhufeinig yn sefyll yno wrth y groes. Pan welodd sut buodd Iesu farw, ei eiriau oedd, “Mab Duw oedd y dyn yma, reit siŵr!” Roedd nifer o wragedd hefyd yn sefyll yn gwylio beth oedd yn digwydd o bell, gan gynnwys Mair Magdalen, Mair mam Iago bach a Joses, a hefyd Salome. Roedden nhw wedi bod yn dilyn Iesu o gwmpas Galilea gan wneud yn siŵr fod ganddo bopeth roedd ei angen. Roedden nhw, a llawer o wragedd eraill wedi dod i Jerwsalem gydag e. Roedd hi'n nos Wener (sef, y diwrnod cyn y Saboth). Wrth iddi ddechrau nosi aeth un o aelodau blaenllaw y Sanhedrin i weld Peilat — dyn o'r enw Joseff oedd yn dod o Arimathea. Roedd Joseff yn ddyn duwiol oedd yn disgwyl am deyrnasiad Duw, a gofynnodd i Peilat am ganiatâd i gymryd corff Iesu. Roedd Peilat yn methu credu bod Iesu eisoes wedi marw, a galwodd am y capten a gofyn iddo os oedd wedi marw ers peth amser. Pan ddwedodd hwnnw ei fod, rhoddodd Peilat ganiatâd i Joseff gymryd y corff. Ar ôl prynu lliain dyma Joseff yn tynnu'r corff i lawr a'i lapio yn y lliain. Yna fe'i rhoddodd i orwedd mewn bedd oedd wedi ei naddu yn y graig. Wedyn rholiodd garreg dros geg y bedd. Roedd Mair Magdalen a Mair mam Joses yno'n edrych lle cafodd ei osod. Yn hwyr ar y nos Sadwrn, pan oedd y Saboth drosodd, aeth Mair Magdalen, Salome a Mair mam Iago i brynu perlysiau ar gyfer eneinio corff Iesu. Yna'n gynnar iawn ar y bore Sul, pan oedd hi yn gwawrio, dyma nhw'n mynd at y bedd. Roedden nhw wedi bod yn trafod ar eu ffordd yno pwy oedd yn mynd i rolio'r garreg oddi ar geg y bedd iddyn nhw. Ond pan gyrhaeddon nhw'r bedd dyma nhw'n gweld fod y garreg, oedd yn un drom iawn, eisoes wedi ei rholio i ffwrdd. Wrth gamu i mewn i'r bedd, dyma nhw'n dychryn, achos roedd dyn ifanc yn gwisgo mantell wen yn eistedd yno ar yr ochr dde. “Peidiwch dychryn,” meddai wrthyn nhw. “Dych chi'n edrych am Iesu o Nasareth gafodd ei groeshoelio. Mae wedi dod yn ôl yn fyw! Dydy e ddim yma. Edrychwch, dyma lle cafodd ei gorff ei roi i orwedd. Ewch, a dweud wrth ei ddisgyblion a Pedr, ‘Mae Iesu'n mynd i Galilea o'ch blaen chi. Cewch ei weld yno, yn union fel roedd wedi dweud.’” Dyma'r gwragedd yn mynd allan ac yn rhedeg oddi wrth y bedd, yn crynu drwyddynt ac mewn dryswch. Roedd ganddyn nhw ofn dweud wrth unrhyw un am y peth. Pan ddaeth Iesu yn ôl yn fyw yn gynnar ar y bore Sul, dangosodd ei hun gyntaf i Mair Magdalen, y wraig y bwriodd saith o gythreuliaid allan ohoni. Aeth hithau i ddweud wrth y rhai oedd wedi bod gydag e. Roedden nhw'n galaru ac yn crïo. Pan ddwedodd hi fod Iesu'n fyw a'i bod hi wedi ei weld, doedden nhw ddim yn ei chredu. Dangosodd ei hun wedyn, mewn ffurf wahanol, i ddau o'i ddilynwyr oedd ar eu ffordd o Jerwsalem i'r wlad. Dyma nhw hefyd yn brysio'n ôl i Jerwsalem i ddweud wrth y lleill; ond doedden nhw ddim yn eu credu nhw chwaith. Yn nes ymlaen dangosodd Iesu ei hun i'r unarddeg disgybl pan oedden nhw'n cael pryd o fwyd. Ar ôl dweud y drefn wrthyn nhw am fod mor ystyfnig yn gwrthod credu y rhai oedd wedi ei weld ar ôl iddo ddod yn ôl yn fyw, dwedodd wrthyn nhw, “Ewch i gyhoeddi'r newyddion da i bawb drwy'r byd i gyd. Bydd pob un sy'n credu ac yn cael ei fedyddio yn cael ei achub, ond pob un sy'n gwrthod credu yn cael ei gondemnio. A bydd yr arwyddion gwyrthiol yma'n digwydd i'r rhai sy'n credu: Byddan nhw'n bwrw cythreuliaid allan o bobl yn fy enw i; ac yn siarad ieithoedd gwahanol. Byddan nhw'n gallu gafael mewn nadroedd; ac os byddan nhw'n yfed gwenwyn, fyddan nhw ddim yn dioddef o gwbl; byddan nhw'n gosod eu dwylo ar bobl sy'n glaf, a'u hiacháu nhw.” Ar ôl i'r Arglwydd Iesu orffen siarad â nhw, cafodd ei gymryd i fyny i'r nefoedd i lywodraethu yno gyda Duw. O hynny ymlaen aeth y disgyblion allan i bregethu ym mhob man. Roedd yr Arglwydd yn gweithio gyda nhw, ac yn cadarnhau fod y neges yn wir drwy'r arwyddion gwyrthiol oedd yn digwydd yr un pryd. Theoffilws, syr — Fel dych chi'n gwybod, mae yna lawer o bobl wedi mynd ati i gasglu'r hanesion am yr hyn sydd wedi digwydd yn ein plith ni. Cafodd yr hanesion yma eu rhannu â ni gan y rhai fu'n llygad-dystion i'r cwbl o'r dechrau cyntaf, ac sydd ers hynny wedi bod yn cyhoeddi neges Duw. Felly, gan fy mod innau wedi astudio'r pethau yma'n fanwl, penderfynais fynd ati i ysgrifennu'r cwbl yn drefnus i chi, syr. Byddwch yn gwybod yn sicr wedyn fod y pethau gafodd eu dysgu i chi yn wir. Pan oedd Herod yn frenin ar Jwdea, roedd dyn o'r enw Sachareias yn offeiriad. Roedd yn perthyn i deulu offeiriadol Abeia, ac roedd ei wraig Elisabeth hefyd yn un o ddisgynyddion Aaron, brawd Moses. Roedd y ddau ohonyn nhw yn bobl dda yng ngolwg Duw, ac yn gwneud yn union fel roedd e'n dweud. Ond doedd Elisabeth ddim yn gallu cael plant, ac roedd y ddau ohonyn nhw'n eithaf hen. Un tro, pan oedd y teulu offeiriadol oedd Sachareias yn perthyn iddo yn gwasanaethu yn y deml, roedd Sachareias yno gyda nhw yn gwneud ei waith fel offeiriad. A fe oedd yr un gafodd ei ddewis, trwy daflu coelbren, i losgi arogldarth wrth fynd i mewn i'r cysegr. (Taflu coelbren oedd y ffordd draddodiadol roedd yr offeiriaid yn ei defnyddio i wneud y dewis.) Pan oedd yn amser i'r arogldarth gael ei losgi, roedd yr holl bobl oedd wedi dod yno i addoli yn gweddïo y tu allan. Roedd Sachareias wrthi'n llosgi'r arogldarth, ac yn sydyn gwelodd un o angylion yr Arglwydd o'i flaen yn sefyll ar yr ochr dde i'r allor. Roedd Sachareias wedi dychryn am ei fywyd. Ond dyma'r angel yn dweud wrtho: “Paid bod ofn, Sachareias; mae Duw wedi clywed dy weddi. Mae Elisabeth dy wraig yn mynd i gael plentyn — dy fab di! Ioan ydy'r enw rwyt i'w roi iddo, a bydd yn dy wneud di'n hapus iawn. A bydd llawer iawn o bobl eraill yn llawen hefyd am ei fod wedi ei eni. Bydd e'n was pwysig iawn i'r Arglwydd Dduw. Fydd e ddim yn yfed gwin nac unrhyw ddiod feddwol, ond bydd wedi cael ei lenwi â'r Ysbryd Glân hyd yn oed cyn iddo gael ei eni. Bydd yn troi llawer iawn o bobl Israel yn ôl at yr Arglwydd eu Duw. Gyda'r un ysbryd a nerth a oedd gan y proffwyd Elias bydd yn mynd allan i gyhoeddi fod yr Arglwydd yn dod, ac yn paratoi'r bobl ar ei gyfer. Bydd yn gwella perthynas rhieni â'u plant, ac yn peri i'r rhai sydd wedi bod yn anufudd weld mai byw yn iawn sy'n gwneud synnwyr.” “Sut alla i gredu'r fath beth?” meddai Sachareias wrth yr angel, “Wedi'r cwbl, dw i'n hen ddyn ac mae ngwraig i mewn oed hefyd.” Dyma'r angel yn ateb, “Gabriel ydw i. Fi ydy'r angel sy'n sefyll o flaen Duw i'w wasanaethu. Fe sydd wedi fy anfon i siarad â ti a dweud y newyddion da yma wrthot ti. Gan dy fod ti wedi gwrthod credu beth dw i'n ei ddweud, byddi'n methu siarad nes bydd y plentyn wedi ei eni. Ond daw'r cwbl dw i'n ei ddweud yn wir yn amser Duw.” Tra roedd hyn i gyd yn digwydd, roedd y bobl yn disgwyl i Sachareias ddod allan o'r deml. Roedden nhw'n methu deall pam roedd e mor hir. Yna pan ddaeth allan, roedd yn methu siarad â nhw. A dyma nhw'n sylweddoli ei fod wedi gweld rhywbeth rhyfeddol yn y deml — roedd yn ceisio esbonio iddyn nhw drwy wneud arwyddion, ond yn methu siarad. Ar ôl i'r cyfnod pan oedd Sachareias yn gwasanaethu yn y deml ddod i ben, aeth adre. Yn fuan wedyn dyma ei wraig Elisabeth yn darganfod ei bod hi'n disgwyl babi, a dyma hi'n cadw o'r golwg am bum mis. “Yr Arglwydd Dduw sydd wedi gwneud hyn i mi!” meddai. “Mae wedi bod mor garedig, ac wedi symud y cywilydd roeddwn i'n ei deimlo am fod gen i ddim plant.” Pan oedd Elisabeth chwe mis yn feichiog, anfonodd Duw yr angel Gabriel i Nasareth, un o drefi Galilea, at ferch ifanc o'r enw Mair. Roedd Mair yn wyryf (heb erioed gael rhyw), ac wedi ei haddo'n wraig i ddyn o'r enw Joseff. Roedd e'n perthyn i deulu y Brenin Dafydd. Dyma'r angel yn mynd ati a'i chyfarch, “Mair, mae Duw wedi dangos ffafr atat ti! Mae'r Arglwydd gyda thi!” Ond gwnaeth yr angel i Mair deimlo'n ddryslyd iawn. Doedd hi ddim yn deall o gwbl beth roedd yn ei feddwl. Felly dyma'r angel yn dweud wrthi, “Paid bod ofn, Mair. Mae Duw wedi dewis dy fendithio di'n fawr. Rwyt ti'n mynd i fod yn feichiog, a byddi di'n cael mab. Iesu ydy'r enw rwyt i'w roi iddo. Bydd yn ddyn pwysig iawn, a bydd yn cael ei alw'n Fab y Duw Goruchaf. Bydd yr Arglwydd Dduw yn ei osod i eistedd ar orsedd y Brenin Dafydd, a bydd yn teyrnasu dros bobl Jacob am byth. Fydd ei deyrnasiad byth yn dod i ben!” Ond meddai Mair, “Sut mae'r fath beth yn bosib? Dw i erioed wedi cael rhyw gyda neb.” Dyma'r angel yn esbonio iddi, “Bydd yr Ysbryd Glân yn dod arnat ti, a nerth y Duw Goruchaf yn gofalu amdanat ti. Felly bydd y plentyn fydd yn cael ei eni yn berson sanctaidd — bydd yn cael ei alw yn Fab Duw. Meddylia! Mae hyd yn oed Elisabeth, sy'n perthyn i ti, yn mynd i gael plentyn er ei bod hi mor hen. Roedd pawb yn gwybod ei bod hi'n methu cael plant, ond mae hi chwe mis yn feichiog! Rwyt ti'n gweld, does dim byd sy'n amhosib i Dduw ei wneud.” A dyma Mair yn dweud, “Dw i eisiau gwasanaethu'r Arglwydd Dduw. Felly gad i beth rwyt wedi ei ddweud ddod yn wir.” Wedyn dyma'r angel yn ei gadael hi. Cyn gynted ag y gallai dyma Mair yn mynd i'r dref yng nghanol bryniau Jwda lle roedd Sachareias ac Elisabeth yn byw. Pan gyrhaeddodd y tŷ dyma hi'n cyfarch Elisabeth, a dyma babi Elisabeth yn neidio yn ei chroth hi. Cafodd Elisabeth ei hun ei llenwi â'r Ysbryd Glân pan glywodd lais Mair, a gwaeddodd yn uchel: “Mair, rwyt ti wedi dy fendithio fwy nag unrhyw wraig arall, a bydd y babi rwyt ti'n ei gario wedi ei fendithio hefyd! Pam mae Duw wedi rhoi'r fath fraint i mi? — cael mam fy Arglwydd yn dod i ngweld i! Wir i ti, wrth i ti nghyfarch i, dyma'r babi sydd yn fy nghroth i yn neidio o lawenydd pan glywais dy lais di. Rwyt ti wedi dy fendithio'n fawr, am dy fod wedi credu y bydd yr Arglwydd yn gwneud beth mae wedi ei ddweud wrthot ti.” A dyma Mair yn ymateb: “O, dw i'n moli'r Arglwydd! Mae Duw, fy Achubwr, wedi fy ngwneud i mor hapus! Roedd yn gwybod bod ei forwyn yn ferch gyffredin iawn, ond o hyn ymlaen bydd pobl o bob oes yn dweud fy mod wedi fy mendithio, Mae Duw, yr Un Cryf, wedi gwneud pethau mawr i mi — Mae ei enw mor sanctaidd! Mae bob amser yn trugarhau wrth y rhai sy'n ymostwng iddo. Mae wedi defnyddio ei rym i wneud pethau rhyfeddol! — Mae wedi gyrru y rhai balch ar chwâl. Mae wedi cymryd eu hawdurdod oddi ar lywodraethwyr, ac anrhydeddu'r bobl hynny sy'n ‛neb‛. Mae wedi rhoi digonedd o fwyd da i'r newynog, ac anfon y bobl gyfoethog i ffwrdd heb ddim! Mae wedi helpu ei was Israel, a dangos trugaredd at ei bobl. Dyma addawodd ei wneud i'n cyndeidiau ni — dangos trugaredd at Abraham a'i ddisgynyddion am byth.” Arhosodd Mair gydag Elisabeth am tua tri mis cyn mynd yn ôl adre. Pan ddaeth yr amser i fabi Elisabeth gael ei eni, bachgen bach gafodd hi. Clywodd ei chymdogion a'i pherthnasau y newyddion, ac roedden nhw i gyd yn hapus hefyd fod yr Arglwydd wedi bod mor garedig wrthi hi. Wythnos ar ôl i'r babi gael ei eni roedd pawb wedi dod i seremoni enwaedu y bachgen, ac yn cymryd yn ganiataol mai Sachareias fyddai'n cael ei alw, yr un fath â'i dad. Ond dyma Elisabeth yn dweud yn glir, “Na! Ioan fydd ei enw.” “Beth?” medden nhw, “Does neb yn y teulu gyda'r enw yna.” Felly dyma nhw'n gwneud arwyddion i ofyn i Sachareias beth oedd e eisiau galw ei fab. Gofynnodd am lechen i ysgrifennu arni, ac er syndod i bawb, ysgrifennodd y geiriau “Ioan ydy ei enw.” Yr eiliad honno cafodd ei allu i siarad yn ôl, a dechreuodd foli Duw. Roedd ei gymdogion i gyd wedi eu syfrdanu, ac roedd pawb drwy ardal bryniau Jwdea yn siarad am beth oedd wedi digwydd. Roedd pawb yn gofyn, “Beth fydd hanes y plentyn yma?” Roedd hi'n amlwg i bawb fod llaw Duw arno. Dyma Sachareias, tad y plentyn, yn cael ei lenwi â'r Ysbryd Glân, ac yn proffwydo fel hyn: “Molwch yr Arglwydd — Duw Israel! Mae wedi dod i ollwng ei bobl yn rhydd. Mae wedi anfon un cryf i'n hachub ni — un yn perthyn i deulu ei was, y Brenin Dafydd. Dyma'n union addawodd ymhell yn ôl, drwy ei broffwydi sanctaidd: Bydd yn ein hachub ni rhag ein gelynion ac o afael pawb sy'n ein casáu ni. Mae wedi trugarhau, fel yr addawodd i'n cyndeidiau, ac wedi cofio'r ymrwymiad cysegredig a wnaeth pan aeth ar ei lw i Abraham: i'n hachub ni o afael ein gelynion, i ni allu ei wasanaethu heb ofni neb na dim, a byw yn bobl sanctaidd a chyfiawn tra byddwn fyw. A thithau, fy mab bach, byddi di'n cael dy alw yn broffwyd i'r Duw Goruchaf; oherwydd byddi'n mynd o flaen yr Arglwydd i baratoi'r ffordd ar ei gyfer. Byddi'n dangos i'w bobl sut mae cael eu hachub trwy i'w pechodau gael eu maddau. Oherwydd mae Duw yn dirion ac yn drugarog, ac mae ei oleuni ar fin gwawrio arnon ni o'r nefoedd. Bydd yn disgleirio ar y rhai sy'n byw yn y tywyllwch gyda chysgod marwolaeth drostyn nhw, ac yn ein harwain ar hyd llwybr heddwch.” Tyfodd y plentyn Ioan yn fachgen cryf yn ysbrydol. Yna aeth i fyw i'r anialwch nes iddo gael ei anfon i gyhoeddi ei neges i bobl Israel. Tua'r un adeg dyma Cesar Awgwstws yn gorchymyn cynnal cyfrifiad drwy'r Ymerodraeth Rufeinig i gyd. (Hwn oedd y cyfrifiad cyntaf, gafodd ei gynnal cyn bod Cwiriniws yn llywodraethwr Syria.) Roedd pawb yn mynd adre i'r trefi lle cawson nhw eu geni, i gofrestru ar gyfer y cyfrifiad. Felly gan fod Joseff yn perthyn i deulu'r Brenin Dafydd, gadawodd Nasareth yn Galilea, a mynd i gofrestru yn Jwdea — yn Bethlehem, hynny ydy tref Dafydd. Aeth yno gyda Mair oedd yn mynd i fod yn wraig iddo, ac a oedd erbyn hynny'n disgwyl babi. Tra roedden nhw yno daeth yn amser i'r babi gael ei eni, a dyna lle cafodd ei phlentyn cyntaf ei eni — bachgen bach. Dyma hi'n lapio cadachau geni yn ofalus amdano, a'i osod i orwedd mewn cafn ar gyfer bwydo anifeiliaid. Doedd dim llety iddyn nhw aros ynddo. Yn ardal Bethlehem roedd bugeiliaid allan drwy'r nos yn yr awyr agored yn gofalu am eu defaid. Yn sydyn dyma nhw'n gweld un o angylion yr Arglwydd, ac roedd ysblander yr Arglwydd fel golau llachar o'u cwmpas nhw. Roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau. Ond dyma'r angel yn dweud wrthyn nhw, “Peidiwch bod ofn. Mae gen i newyddion da i chi! Newyddion fydd yn gwneud pobl ym mhobman yn llawen iawn. Mae eich Achubwr wedi cael ei eni heddiw, yn Bethlehem (tref y Brenin Dafydd). Ie, y Meseia! Yr Arglwydd! Dyma sut byddwch chi'n ei nabod e: Dewch o hyd iddo yn fabi bach wedi ei lapio mewn cadachau ac yn gorwedd mewn cafn bwydo anifeiliaid.” Yn sydyn dyma filoedd o angylion eraill yn dod i'r golwg, roedd fel petai holl angylion y nefoedd yno yn addoli Duw! “Gogoniant i Dduw yn y nefoedd uchaf, heddwch ar y ddaear islaw, a bendith Duw ar bobl.” Pan aeth yr angylion i ffwrdd yn ôl i'r nefoedd, dyma'r bugeiliaid yn dweud wrth ei gilydd, “Dewch! Gadewch i ni fynd i Bethlehem, i weld beth mae'r Arglwydd wedi ei ddweud wrthon ni sydd wedi digwydd.” Felly i ffwrdd â nhw, a dyma nhw'n dod o hyd i Mair a Joseff a'r babi bach yn gorwedd mewn cafn bwydo anifeiliaid. Ar ôl ei weld, dyma'r bugeiliaid yn mynd ati i ddweud wrth bawb beth oedd wedi digwydd, a beth ddwedodd yr angel wrthyn nhw am y plentyn yma. Roedd pawb glywodd am y peth yn rhyfeddu at yr hyn roedd y bugeiliaid yn ei ddweud. Ond roedd Mair yn cofio pob manylyn ac yn meddwl yn aml am y cwbl oedd wedi cael ei ddweud am ei phlentyn. Aeth y bugeiliaid yn ôl i'w gwaith gan ganmol a moli Duw am bopeth roedden nhw wedi ei weld a'i glywed. Roedd y cwbl yn union fel roedd yr angel wedi dweud. Pan oedd y plentyn yn wythnos oed cafodd ei enwaedu, a'i alw yn Iesu. Dyna oedd yr enw roddodd yr angel iddo hyd yn oed cyn iddo gael ei genhedlu yng nghroth Mair. Pan oedd pedwar deg diwrnod wedi mynd heibio ers i'r bachgen gael ei eni, roedd y cyfnod o buro mae Cyfraith Moses yn sôn amdano wedi dod i ben. Felly aeth Joseff a Mair i Jerwsalem i gyflwyno eu mab cyntaf i'r Arglwydd (Mae Cyfraith Duw yn dweud: “Os bachgen ydy'r plentyn cyntaf i gael ei eni, rhaid iddo gael ei gysegru i'r Arglwydd” a hefyd fod rhaid offrymu aberth i'r Arglwydd — “pâr o durturod neu ddwy golomen” ). Roedd dyn o'r enw Simeon yn byw yn Jerwsalem — dyn da a duwiol. Roedd dylanwad yr Ysbryd Glân yn drwm ar ei fywyd, ac roedd yn disgwyl yn frwd i'r Meseia ddod i helpu Israel. Roedd yr Ysbryd Glân wedi dweud wrtho y byddai'n gweld y Meseia cyn iddo fe farw. A'r diwrnod hwnnw dyma'r Ysbryd yn dweud wrtho i fynd i'r deml. Felly pan ddaeth rhieni Iesu yno gyda'u plentyn i wneud yr hyn roedd y Gyfraith yn ei ofyn, dyma Simeon yn cymryd y plentyn yn ei freichiau a dechrau moli Duw fel hyn: “O Feistr Sofran! Gad i mi, dy was, bellach farw mewn heddwch! Dyma wnest ti ei addo i mi — dw i wedi gweld yr Achubwr gyda fy llygaid fy hun. Rwyt wedi ei roi i'r bobl i gyd; yn olau er mwyn i genhedloedd eraill allu gweld, ac yn rheswm i bobl Israel dy foli di.” Roedd Mair a Joseff yn rhyfeddu at y pethau oedd yn cael eu dweud am Iesu. Yna dyma Simeon yn eu bendithio nhw, a dweud wrth Mair, y fam: “Bydd y plentyn yma yn achos cwymp i lawer yn Israel ac yn fendith i eraill. Bydd yn rhybudd sy'n cael ei wrthod, a bydd yr hyn mae pobl yn ei feddwl go iawn yn dod i'r golwg. A byddi di'n dioddef hefyd, fel petai cleddyf yn trywanu dy enaid di.” Roedd gwraig o'r enw Anna, oedd yn broffwydes, yn y deml yr un pryd. Roedd yn ferch i Phanuel o lwyth Aser, ac yn hen iawn. Roedd hi wedi bod yn weddw ers i'w gŵr farw dim ond saith mlynedd ar ôl iddyn nhw briodi. Erbyn hyn roedd hi'n wyth deg pedair mlwydd oed. Fyddai hi byth yn gadael y deml — roedd hi yno ddydd a nos yn addoli Duw, ac yn ymprydio a gweddïo. Daeth at Mair a Joseff pan oedd Simeon gyda nhw a dechrau moli Duw a diolch iddo. Roedd yn siarad am Iesu gyda phawb oedd yn edrych ymlaen at ryddid i Jerwsalem. Pan oedd Joseff a Mair wedi gwneud popeth roedd Cyfraith yr Arglwydd yn ei ofyn, dyma nhw'n mynd yn ôl adre i Nasareth yn Galilea. Tyfodd y plentyn yn fachgen cryf a doeth iawn, ac roedd hi'n amlwg bod ffafr Duw arno. Byddai rhieni Iesu yn arfer mynd i Jerwsalem i ddathlu Gŵyl y Pasg bob blwyddyn, a phan oedd Iesu yn ddeuddeg oed aethon nhw yno i'r Ŵyl fel arfer. Pan oedd yr Ŵyl drosodd dyma ei rieni yn troi am adre, heb sylweddoli fod Iesu wedi aros yn Jerwsalem. Roedden nhw wedi teithio drwy'r dydd gan gymryd yn ganiataol ei fod gyda'i ffrindiau yn rhywle. Dyma nhw'n mynd ati i edrych amdano ymhlith eu ffrindiau a'u perthnasau, ond methu dod o hyd iddo. Felly dyma nhw'n mynd yn ôl i Jerwsalem i edrych amdano. Roedd hi'r trydydd diwrnod cyn iddyn nhw ddod o hyd iddo! Roedd wedi bod yn y deml, yn eistedd gyda'r athrawon ac yn gwrando arnyn nhw ac yn gofyn cwestiynau. Roedd pawb welodd e yn rhyfeddu gymaint roedd yn ei ddeall. Cafodd ei rieni y fath sioc pan ddaethon nhw o hyd iddo, a dyma'i fam yn gofyn iddo, “Machgen i, pam rwyt ti wedi gwneud hyn i ni? Mae dy dad a fi wedi bod yn poeni'n ofnadwy ac yn chwilio ym mhobman amdanat ti.” Gofynnodd Iesu iddyn nhw, “Pam roedd rhaid i chi chwilio? Wnaethoch chi ddim meddwl y byddwn i'n siŵr o fod yn nhŷ fy Nhad?” Ond doedd ei rieni ddim wir yn deall beth roedd yn ei olygu. Felly aeth Iesu yn ôl i Nasareth gyda nhw a bu'n ufudd iddyn nhw. Roedd Mair yn cofio pob manylyn o beth ddigwyddodd, a beth gafodd ei ddweud. Tyfodd Iesu'n fachgen doeth a chryf. Roedd ffafr Duw arno, ac roedd pobl hefyd yn hoff iawn ohono. [1-2] Flynyddoedd yn ddiweddarach, tra roedd yn byw yn yr anialwch, cafodd Ioan, mab Sachareias, neges gan Dduw. Erbyn hynny roedd Tiberiws Cesar wedi bod yn teyrnasu ers pymtheng mlynedd; Pontius Peilat oedd llywodraethwr Jwdea, Herod yn is-lywodraethwr ar Galilea, ei frawd Philip ar Itwrea a Trachonitis, a Lysanias ar Abilene; ac roedd Annas a Caiaffas yn archoffeiriaid. *** Teithiodd Ioan drwy'r ardal o gwmpas Afon Iorddonen, yn cyhoeddi bod rhaid i bobl gael eu bedyddio, fel arwydd eu bod nhw'n troi cefn ar eu pechodau ac yn derbyn maddeuant gan Dduw. Roedd yn union fel mae'n dweud yn llyfr y proffwyd Eseia: “Llais yn gweiddi'n uchel yn yr anialwch, ‘Paratowch y ffordd i'r Arglwydd ddod! Gwnewch y llwybrau'n syth iddo! Bydd pob dyffryn yn cael ei lenwi, pob mynydd a bryn yn cael ei lefelu. Bydd y ffyrdd troellog yn cael eu gwneud yn syth, a'r lonydd anwastad yn cael eu gwneud yn llyfn. Bydd y ddynoliaeth gyfan yn gweld Duw yn achub.’” Roedd Ioan yn dweud yn blaen wrth y tyrfaoedd oedd yn mynd allan ato i gael eu bedyddio ganddo: “Dych chi fel nythaid o nadroedd! Pwy sydd wedi'ch rhybuddio chi i ddianc rhag y gosb sy'n mynd i ddod? Rhaid i chi ddangos yn y ffordd dych chi'n byw eich bod wedi newid go iawn. A pheidiwch meddwl eich bod chi'n saff drwy ddweud, ‘Abraham ydy'n tad ni.’ Gallai Duw droi'r cerrig yma sydd ar lawr yn blant i Abraham! Mae bwyell barn Duw yn barod i dorri'r gwreiddiau i ffwrdd! Bydd pob coeden heb ffrwyth da yn tyfu arni yn cael ei thorri i lawr a'i thaflu i'r tân!” “Felly, beth ddylen ni ei wneud?” gofynnodd y dyrfa. Atebodd Ioan, “Os oes gynnoch chi ddwy gôt, rhowch un ohonyn nhw i berson tlawd sydd heb un o gwbl. A gwnewch yr un fath gyda bwyd.” Roedd rhai oedd yn casglu trethi i'r Rhufeiniaid yn dod i gael eu bedyddio hefyd, a dyma nhw'n gofyn iddo, “Beth ddylen ni ei wneud, athro?” “Peidio casglu mwy o arian nag y dylech chi,” meddai wrthyn nhw. “A beth ddylen ni ei wneud?” meddai rhyw filwyr ddaeth ato. “Peidiwch dwyn arian oddi ar bobl”, oedd ateb Ioan iddyn nhw, “a pheidiwch cyhuddo pobl ar gam er mwyn gwneud arian. Byddwch yn fodlon ar eich cyflog.” Roedd pobl yn teimlo fod rhywbeth mawr ar fin digwydd, a phawb yn dechrau meddwl tybed ai Ioan oedd y Meseia. Ond ateb Ioan iddyn nhw i gyd oedd, “Dŵr dw i'n ei ddefnyddio i'ch bedyddio chi. Ond mae un llawer mwy grymus na fi yn dod yn fuan — rhywun sydd mor bwysig, fyddwn i ddim yn deilwng o fod yn gaethwas sy'n datod carrai ei sandalau hyd yn oed! Bydd hwnnw yn eich bedyddio chi gyda'r Ysbryd Glân a gyda thân. Mae ganddo fforch nithio yn ei law i wahanu'r grawn a'r us. Bydd yn clirio'r llawr dyrnu, yn casglu'r gwenith i'w ysgubor ac yn llosgi'r us mewn tân sydd byth yn diffodd.” Roedd Ioan yn dweud llawer o bethau eraill tebyg wrth annog y bobl a chyhoeddi'r newyddion da iddyn nhw. Ond yna dyma Ioan yn ceryddu Herod, y llywodraethwr, yn gyhoeddus. Ei geryddu am ei berthynas gyda Herodias, gwraig ei frawd, ac am lawer o bethau drwg eraill roedd wedi eu gwneud. A'r canlyniad oedd i Herod ychwanegu at weddill y drygioni a wnaeth drwy roi Ioan yn y carchar. Pan oedd Ioan wrthi'n bedyddio'r bobl i gyd, dyma Iesu'n dod i gael ei fedyddio hefyd. Wrth iddo weddïo, dyma'r awyr yn rhwygo'n agored a'r Ysbryd Glân yn disgyn arno — ar ffurf colomen. A dyma lais o'r nefoedd yn dweud: “Ti ydy fy Mab annwyl i; rwyt ti wedi fy mhlesio i'n llwyr.” Roedd Iesu tua tri deg mlwydd oed pan ddechreuodd deithio o gwmpas yn dysgu'r bobl a iacháu. Roedd pawb yn cymryd ei fod yn fab i Joseff, oedd yn fab i Eli, mab Mathat, mab Lefi, mab Melci, mab Janai, mab Joseff, mab Matathïas, mab Amos, mab Nahum, mab Esli, mab Nagai, mab Maath, mab Matathïas, mab Semein, mab Josech, mab Joda, mab Joanan, mab Rhesa, mab Sorobabel, mab Shealtiel, mab Neri, mab Melci, mab Adi, mab Cosam, mab Elmadam, mab Er, mab Josua, mab Elieser, mab Jorim, mab Mathat, mab Lefi, mab Simeon, mab Jwda, mab Joseff, mab Jonam, mab Eliacim, mab Melea, mab Menna, mab Matatha, mab Nathan, mab Dafydd, mab Jesse, mab Obed, mab Boas, mab Salmon, mab Nahson, mab Aminadab, mab Admin, mab Ram, mab Hesron, mab Peres, mab Jwda, mab Jacob, mab Isaac, mab Abraham, mab Tera, mab Nachor, mab Serwg, mab Reu, mab Peleg, mab Eber, mab Sela, mab Cenan, mab Arffacsad, mab Shem, mab Noa, mab Lamech, mab Methwsela, mab Enoch, mab Jared, mab Mahalal-el, mab Cenan, mab Enosh, mab Seth, mab Adda, mab Duw. Roedd Iesu'n llawn o'r Ysbryd Glân pan aeth yn ôl o ardal yr Iorddonen. Gadawodd i'r Ysbryd ei arwain i'r anialwch, lle cafodd ei demtio gan y diafol am bedwar deg diwrnod. Wnaeth Iesu ddim bwyta o gwbl yn ystod y dyddiau yna, ac erbyn y diwedd roedd yn llwgu. Dyma'r diafol yn dweud wrtho, “Os mai Mab Duw wyt ti, gwna i'r garreg yma droi'n dorth o fara.” Atebodd Iesu, “Na! Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud ‘Dim bwyd ydy'r unig beth mae pobl ei angen i fyw.’ ” Dyma'r diafol yn ei arwain i le uchel ac yn dangos holl wledydd y byd iddo mewn eiliad. Ac meddai'r diafol wrtho, “Gwna i adael i ti reoli'r rhain i gyd, a chael eu cyfoeth nhw hefyd. Mae'r cwbl wedi eu rhoi i mi, ac mae gen i hawl i'w rhoi nhw i bwy bynnag dw i'n ei ddewis. Felly, os gwnei di fy addoli i, cei di'r cwbl.” Atebodd Iesu, “Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: ‘Addola'r Arglwydd dy Dduw, a'i wasanaethu e yn unig.’ ” Dyma'r diafol yn mynd â Iesu i Jerwsalem a gwneud iddo sefyll ar y tŵr uchaf un yn y deml. “Os mai Mab Duw wyt ti,” meddai, “neidia i lawr o'r fan yma. Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: ‘Bydd Duw yn gorchymyn i'w angylion dy gadw'n saff; byddan nhw'n dy ddal yn eu breichiau, fel na fyddi'n taro dy droed ar garreg.’ ” Atebodd Iesu, “Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud hefyd: ‘Paid rhoi'r Arglwydd dy Dduw ar brawf.’ ” Pan oedd y diafol wedi ceisio temtio Iesu bob ffordd bosib, gadawodd iddo nes i gyfle arall godi. Aeth Iesu yn ôl i Galilea yn llawn o nerth yr Ysbryd, ac aeth y sôn amdano ar led drwy'r ardal gyfan. Roedd yn dysgu yn y synagogau, ac yn cael ei ganmol gan bawb. A daeth i Nasareth, lle cafodd ei fagu, a mynd i'r synagog ar y Saboth fel roedd yn arfer ei wneud. Safodd ar ei draed i ddarllen o'r ysgrifau sanctaidd. Sgrôl proffwydoliaeth Eseia gafodd ei roi iddo, a dyma fe'n ei hagor, a dod o hyd i'r darn sy'n dweud: “Mae Ysbryd yr Arglwydd arna i, oherwydd mae wedi fy eneinio i i gyhoeddi newyddion da i bobl dlawd. Mae wedi fy anfon i gyhoeddi fod y rhai sy'n gaeth i gael rhyddid, a pobl sy'n ddall i gael eu golwg yn ôl, a'r rhai sy'n cael eu cam-drin i ddianc o afael y gormeswr, a dweud hefyd fod y flwyddyn i'r Arglwydd ddangos ei ffafr wedi dod.” Caeodd y sgrôl a'i rhoi yn ôl i'r dyn oedd yn arwain yr oedfa yn y synagog, ac yna eisteddodd. Roedd pawb yn y synagog yn syllu arno. Yna dwedodd, “Mae'r geiriau yma o'r ysgrifau sanctaidd wedi dod yn wir heddiw.” Roedd pawb yn dweud pethau da amdano, ac yn rhyfeddu at y pethau gwych roedd yn eu dweud. “Onid mab Joseff ydy hwn?” medden nhw. Yna dwedodd Iesu wrthyn nhw, “Mae'n siŵr y byddwch chi'n cyfeirio at yr hen ddywediad: ‘Iachâ dy hun, feddyg!’ hynny ydy, ‘y math o beth dŷn ni wedi ei glywed i ti eu gwneud yn Capernaum, gwna yma yn dy dref dy hun.’” “Ond y gwir plaen ydy, does dim parch at broffwyd yn y dre lle cafodd ei fagu! Gallwch fod yn reit siŵr fod llawer iawn o wragedd gweddwon yn Israel yn amser y proffwyd Elias. Wnaeth hi ddim glawio am dair blynedd a hanner ac roedd newyn trwm drwy'r wlad i gyd. Ond chafodd Elias mo'i anfon at yr un ohonyn nhw. Cafodd ei anfon at wraig o wlad arall — gwraig weddw yn Sareffat yn ardal Sidon! Ac roedd llawer o bobl yn Israel yn dioddef o'r gwahanglwyf pan oedd y proffwyd Eliseus yn fyw. Ond Naaman o wlad Syria oedd yr unig un gafodd ei iacháu!” Roedd pawb yn y synagog wedi gwylltio wrth ei glywed yn dweud hyn. Dyma nhw'n codi ar eu traed a gyrru Iesu allan o'r dref i ben y bryn roedd y dre wedi ei hadeiladu arno. Roedden nhw'n bwriadu ei daflu dros y clogwyn, ond llwyddodd i fynd drwy ganol y dyrfa ac aeth ymlaen ar ei daith. Aeth i Capernaum, un o drefi Galilea, a dechrau dysgu'r bobl yno ar y Saboth. Roedd pawb yn rhyfeddu at beth roedd yn ei ddysgu, am fod ei neges yn gwneud i bobl wrando arno. Un tro dyma rhyw ddyn oedd yn y synagog yn rhoi sgrech uchel. (Roedd y dyn wedi ei feddiannu gan gythraul, hynny ydy ysbryd drwg). “Aaaaar! Gad di lonydd i ni, Iesu o Nasareth. Rwyt ti yma i'n dinistrio ni. Dw i'n gwybod pwy wyt ti — Un Sanctaidd Duw!” “Bydd ddistaw!” meddai Iesu'n ddig. “Tyrd allan ohono!” A dyma'r cythraul yn taflu'r dyn ar lawr o flaen pawb, yna daeth allan ohono heb wneud dim mwy o niwed iddo. Roedd pawb wedi cael sioc, ac yn gofyn, “Beth sy'n mynd ymlaen? Mae ganddo'r fath awdurdod! Mae hyd yn oed yn gallu gorfodi ysbrydion drwg i ufuddhau iddo a dod allan o bobl!” Aeth y newyddion amdano ar led fel tân gwyllt drwy'r ardal i gyd. Dyma Iesu'n gadael y synagog ac yn mynd i gartref Simon. Yno roedd mam-yng-nghyfraith Simon yn sâl iawn gyda gwres uchel. Dyma nhw'n gofyn i Iesu ei helpu hi. Plygodd Iesu drosti a gorchymyn i'r gwres i fynd, a diflannodd y tymheredd oedd ganddi yn y fan a'r lle! Yna dyma hi'n codi o'i gwely a gwneud pryd o fwyd iddyn nhw. Ar ôl i'r haul fachlud roedd y Saboth drosodd, a daeth pobl at Iesu gyda'u perthnasau oedd yn dioddef o bob math o salwch. Roedd yn eu hiacháu drwy roi ei ddwylo ar bob un ohonyn nhw. A daeth cythreuliaid allan o lawer o bobl hefyd. Roedden nhw'n gweiddi, “Mab Duw wyt ti!” am eu bod yn gwybod yn iawn mai Iesu oedd y Meseia, ond roedd yn gwrthod gadael iddyn nhw ddweud dim byd mwy. Wrth iddi wawrio y bore wedyn aeth Iesu i ffwrdd i le unig. Roedd tyrfaoedd o bobl yn edrych amdano, ac ar ôl ei gael dyma nhw'n ceisio ei stopio rhag mynd. Ond meddai Iesu, “Rhaid i mi gyhoeddi'r newyddion da am Dduw yn teyrnasu yn y trefi eraill hefyd. Dyna pam dw i wedi cael fy anfon yma.” Felly aeth ati i bregethu yn y synagogau drwy wlad Jwdea. Un diwrnod roedd Iesu'n sefyll ar lan Llyn Galilea, ac roedd tyrfa o bobl o'i gwmpas yn gwthio ymlaen i wrando ar neges Duw. Gwelodd fod dau gwch wedi eu gadael ar y lan tra roedd y pysgotwyr wrthi'n golchi eu rhwydi. Aeth i mewn i un o'r cychod, a gofyn i Simon, y perchennog, ei wthio allan ychydig oddi wrth y lan. Yna eisteddodd a dechrau dysgu'r bobl o'r cwch. Pan oedd wedi gorffen siarad dwedodd wrth Simon, “Dos â'r cwch allan lle mae'r dŵr yn ddwfn, a gollwng y rhwydi i ti gael dalfa o bysgod.” “Meistr,” meddai Simon wrtho, “buon ni'n gweithio'n galed drwy'r nos neithiwr heb ddal dim byd! Ond am mai ti sy'n gofyn, gollynga i y rhwydi.” Dyna wnaethon nhw a dyma nhw'n dal cymaint o bysgod nes i'r rhwydi ddechrau rhwygo. Dyma nhw'n galw ar eu partneriaid yn y cwch arall i ddod i'w helpu. Pan ddaeth y rheiny, cafodd y ddau gwch eu llenwi â chymaint o bysgod nes eu bod bron â suddo! Pan welodd Simon Pedr beth oedd wedi digwydd, syrthiodd ar ei liniau o flaen Iesu a dweud, “Dos i ffwrdd oddi wrtho i, Arglwydd; dw i'n ormod o bechadur!” Roedd Simon a'i gydweithwyr wedi dychryn wrth weld faint o bysgod gafodd eu dal; ac felly hefyd partneriaid Simon — Iago ac Ioan, meibion Sebedeus. Dyma Iesu'n dweud wrth Simon, “Paid bod ofn; o hyn ymlaen byddi di'n dal pobl yn lle pysgod.” Felly ar ôl llusgo eu cychod i'r lan, dyma nhw'n gadael popeth i fynd ar ei ôl. Yn un o'r trefi dyma Iesu'n cyfarfod dyn oedd â gwahanglwyf dros ei gorff i gyd. Pan welodd hwnnw Iesu, syrthiodd ar ei wyneb ar lawr a chrefu am gael ei iacháu, “Arglwydd, gelli di fy ngwneud i'n iach os wyt ti eisiau.” Dyma Iesu yn estyn ei law a chyffwrdd y dyn. “Dyna dw i eisiau,” meddai, “bydd lân!” A'r eiliad honno dyma'r gwahanglwyf yn diflannu. Ar ôl ei rybuddio i beidio dweud wrth neb beth oedd wedi digwydd, dyma Iesu'n dweud wrtho, “Dos i ddangos dy hun i'r offeiriad. Ac fel y dwedodd Moses, dos ag offrwm gyda ti, yn dystiolaeth i'r bobl dy fod ti wedi cael dy iacháu.” Ond roedd y newyddion amdano yn mynd ar led fwy a mwy. Roedd tyrfaoedd mawr o bobl yn dod i wrando arno ac i gael eu hiacháu. Ond byddai Iesu'n aml yn mynd o'r golwg i leoedd unig yn yr anialwch i weddïo. Un diwrnod, pan oedd Iesu wrthi'n dysgu'r bobl, roedd Phariseaid ac arbenigwyr yn y Gyfraith yn eistedd, heb fod yn bell, yn gwrando arno. (Roedden nhw wedi dod yno o bob rhan o Galilea, a hefyd o Jwdea a Jerwsalem). Ac roedd nerth yr Arglwydd yn galluogi Iesu i iacháu pobl. A dyma ryw bobl yn dod â dyn oedd wedi ei barlysu ato, yn gorwedd ar fatras. Roedden nhw'n ceisio mynd i mewn i'w osod i orwedd o flaen Iesu. Pan wnaethon nhw fethu gwneud hynny am fod yno gymaint o dyrfa, dyma nhw'n mynd i fyny ar y to ac yn tynnu teils o'r to i'w ollwng i lawr ar ei fatras i ganol y dyrfa, reit o flaen Iesu. Pan welodd Iesu'r ffydd oedd ganddyn nhw, dwedodd wrth y dyn, “Mae dy bechodau wedi eu maddau.” Dyma'r Phariseaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn dechrau meddwl, “Pwy ydy hwn, ei fod yn cablu fel hyn? Duw ydy'r unig un sy'n gallu maddau pechodau!” Roedd Iesu'n gwybod beth oedd yn mynd trwy'u meddyliau, a gofynnodd iddyn nhw, “Pam dych chi'n meddwl mod i'n cablu? Beth ydy'r peth hawsaf i'w ddweud — ‘Mae dy bechodau wedi eu maddau,’ neu ‘Cod ar dy draed a cherdda’? Cewch weld fod gen i, Fab y Dyn, hawl i faddau pechodau ar y ddaear.” A dyma Iesu'n troi at y dyn oedd wedi ei barlysu a dweud wrtho, “Cod ar dy draed, cymer dy fatras, a dos adre.” A dyna'n union wnaeth y dyn! Cododd ar ei draed o flaen pawb yn y fan a'r lle, cymryd y fatras roedd wedi bod yn gorwedd arni, ac aeth adre gan foli Duw. Roedd pawb wedi eu syfrdanu'n llwyr ac roedden nhw hefyd yn moli Duw. “Dŷn ni wedi gweld pethau anhygoel heddiw,” medden nhw. Ar ôl hyn aeth Iesu allan a gwelodd un oedd yn casglu trethi i Rufain, dyn o'r enw Lefi, yn eistedd yn y swyddfa dollau lle roedd yn gweithio. “Tyrd, dilyn fi,” meddai Iesu wrtho; a dyma Lefi'n codi ar unwaith, gadael popeth, a mynd ar ei ôl. Dyma Lefi yn trefnu parti mawr i Iesu yn ei dŷ, ac roedd criw mawr o ddynion oedd yn casglu trethi i Rufain a phobl eraill yno'n bwyta gyda nhw. Ond dyma'r Phariseaid a'u harbenigwyr nhw yn y Gyfraith yn cwyno i'w ddisgyblion, “Pam dych chi'n bwyta ac yfed gyda'r bradwyr sy'n casglu trethi i Rufain, a phobl eraill sy'n ddim byd ond ‛pechaduriaid‛?” Dyma Iesu'n eu hateb nhw, “Dim pobl iach sydd angen meddyg, ond pobl sy'n sâl. Dw i wedi dod i alw pechaduriaid i droi at Dduw, dim y rhai sy'n meddwl eu bod nhw heb fai.” Dyma nhw'n dweud wrth Iesu, “Mae disgyblion Ioan yn ymprydio ac yn gweddïo'n aml, a disgyblion y Phariseaid yr un fath. Pam mae dy rai di yn dal ati i fwyta ac yfed drwy'r adeg?” Atebodd Iesu nhw, “Ydych chi'n gorfodi pobl sy'n mynd i wledd briodas i ymprydio? Maen nhw yno i ddathlu gyda'r priodfab! Ond bydd y priodfab yn cael ei gymryd i ffwrdd oddi wrthyn nhw, a byddan nhw'n ymprydio bryd hynny.” Yna dyma Iesu'n dweud fel hyn wrthyn nhw: “Does neb yn rhwygo darn o frethyn oddi ar ddilledyn newydd a'i ddefnyddio i drwsio hen ddilledyn. Byddai'r dilledyn newydd wedi ei rwygo, a'r darn newydd o frethyn ddim yn gweddu i'r hen. A does neb yn tywallt gwin sydd heb aeddfedu i hen boteli crwyn. Byddai'r crwyn yn byrstio, y gwin yn cael ei golli a'r poteli yn cael eu difetha. Na, rhaid defnyddio poteli crwyn newydd i'w ddal. Ond y peth ydy, does neb eisiau'r gwin newydd ar ôl bod yn yfed yr hen win! ‘Mae'n well gynnon ni'r hen win,’ medden nhw!” Roedd Iesu'n croesi drwy ganol caeau ŷd ryw ddydd Saboth, a dyma'i ddisgyblion yn dechrau tynnu rhai o'r tywysennau ŷd, eu rhwbio yn eu dwylo a'u bwyta. Gofynnodd rhai o'r Phariseaid, “Pam dych chi'n torri rheolau'r Gyfraith ar y Saboth?” Atebodd Iesu, “Ydych chi ddim wedi darllen beth wnaeth Dafydd pan oedd e a'i ddilynwyr yn llwgu? Aeth i mewn i dŷ Dduw a chymryd y bara oedd wedi ei gysegru a'i osod yn offrwm i Dduw. Mae'r Gyfraith yn dweud mai dim ond yr offeiriaid sy'n cael ei fwyta, ond cymerodd Dafydd beth, a'i roi i'w ddilynwyr hefyd.” Wedyn dyma Iesu'n dweud wrthyn nhw, “Mae gen i, Fab y Dyn, hawl i ddweud beth sy'n iawn ar y Saboth.” Ar ryw Saboth arall, roedd Iesu'n dysgu yn y synagog, ac roedd yno ddyn oedd â'i law dde yn ddiffrwyth. Roedd y Phariseaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn ei wylio'n ofalus — oedd e'n mynd i iacháu'r dyn yma ar y Saboth? Roedden nhw'n edrych am unrhyw esgus i ddwyn cyhuddiad yn ei erbyn. Ond roedd Iesu'n gwybod beth oedd yn mynd trwy'u meddyliau nhw, a galwodd y dyn ato, “Tyrd yma i sefyll o flaen pawb.” Felly cododd ar ei draed a sefyll lle gallai pawb ei weld. “Gadewch i mi ofyn i chi,” meddai Iesu wrth y rhai oedd eisiau ei gyhuddo, “beth mae'r Gyfraith yn ei ddweud sy'n iawn i'w wneud ar y dydd Saboth: pethau da neu bethau drwg? Achub bywyd neu ddinistrio bywyd?” Edrychodd Iesu arnyn nhw bob yn un, ac yna dwedodd wrth y dyn, “Estyn dy law allan.” Gwnaeth hynny a chafodd y llaw ei gwella'n llwyr. Roedden nhw'n wyllt gynddeiriog, a dyma nhw'n dechrau trafod gyda'i gilydd pa ddrwg y gallen nhw ei wneud i Iesu. Rhyw ddiwrnod aeth Iesu i ben mynydd i weddïo, a buodd wrthi drwy'r nos yn gweddïo ar Dduw. Pan ddaeth hi'n fore, galwodd ei ddisgyblion ato a dewis deuddeg ohonyn nhw fel ei gynrychiolwyr personol: Simon (yr un roedd Iesu'n ei alw'n Pedr), Andreas (brawd Pedr) Iago, Ioan, Philip, Bartholomeus, Mathew, Tomos, Iago fab Alffeus, Simon (oedd yn cael ei alw ‛y Selot‛), Jwdas fab Iago, a Jwdas Iscariot a drodd yn fradwr. Yna aeth i lawr i le gwastad. Roedd tyrfa fawr o'i ddilynwyr gydag e, a nifer fawr o bobl eraill o bob rhan o Jwdea, ac o Jerwsalem a hefyd o arfordir Tyrus a Sidon yn y gogledd. Roedden nhw wedi dod i wrando arno ac i gael eu hiacháu. Cafodd y rhai oedd yn cael eu poeni gan ysbrydion drwg eu gwella, ac roedd pawb yn ceisio'i gyffwrdd am fod nerth yn llifo ohono ac yn eu gwella nhw i gyd. Yna trodd Iesu at ei ddisgyblion, a dweud: “Dych chi sy'n dlawd wedi'ch bendithio'n fawr, oherwydd mae Duw yn teyrnasu yn eich bywydau. Dych chi sy'n llwgu ar hyn o bryd wedi'ch bendithio'n fawr, oherwydd cewch chi wledd fydd yn eich bodloni'n llwyr ryw ddydd. Dych chi sy'n crïo ar hyn o bryd wedi'ch bendithio'n fawr, oherwydd cewch chwerthin yn llawen ryw ddydd. Dych chi wedi'ch bendithio'n fawr pan fydd pobl yn eich casáu a'ch cau allan a'ch sarhau, a'ch enwau'n cael eu pardduo am eich bod yn perthyn i mi, Mab y Dyn. “Felly byddwch yn llawen pan mae'r pethau yma'n digwydd! Neidiwch o lawenydd! Achos mae gwobr fawr i chi yn y nefoedd. Cofiwch mai dyna'n union sut roedd hynafiaid y bobl yma yn trin y proffwydi. Ond gwae chi sy'n gyfoethog, oherwydd dych chi eisoes wedi cael eich bywyd braf. Gwae chi sydd â hen ddigon i'w fwyta, oherwydd daw'r dydd pan fyddwch chi'n llwgu. Gwae chi sy'n chwerthin yn ddi-hid ar hyn o bryd, oherwydd byddwch yn galaru ac yn crïo. Gwae chi sy'n cael eich canmol gan bawb, oherwydd dyna roedd hynafiaid y bobl yma'n ei wneud i'r proffwydi ffug. “Dw i'n dweud wrthoch chi sy'n gwrando: Carwch eich gelynion, gwnewch ddaioni i'r bobl sy'n eich casáu chi, bendithiwch y rhai sy'n eich melltithio chi, a gweddïwch dros y rhai sy'n eich cam-drin chi. Os ydy rhywun yn rhoi clatsien i ti ar un foch, tro'r foch arall ato. Os ydy rhywun yn dwyn dy gôt, paid â'i rwystro rhag cymryd dy grys hefyd. Rho i bawb sy'n gofyn am rywbeth gen ti, ac os bydd rhywun yn cymryd rhywbeth piau ti, paid â'i hawlio yn ôl. Dylech chi drin pobl eraill fel byddech chi'n hoffi iddyn nhw eich trin chi. “Pam dylech chi gael eich canmol am garu'r bobl hynny sy'n eich caru chi? Mae hyd yn oed ‛pechaduriaid‛ yn gwneud hynny! Neu am wneud ffafr i'r rhai sy'n gwneud ffafr i chi? Mae ‛pechaduriaid‛ yn gwneud hynny hefyd! Neu os dych chi'n benthyg i'r bobl hynny sy'n gallu'ch talu chi'n ôl, beth wedyn? Mae hyd yn oed ‛pechaduriaid‛ yn fodlon benthyg i'w pobl eu hunain — ac yn disgwyl cael eu talu yn ôl yn llawn! Carwch chi eich gelynion. Gwnewch ddaioni iddyn nhw. Rhowch fenthyg iddyn nhw heb ddisgwyl cael dim byd yn ôl. Cewch chi wobr fawr am wneud hynny. Bydd hi'n amlwg eich bod yn blant i'r Duw Goruchaf, am mai dyna'r math o beth mae e'n ei wneud — mae'n garedig i bobl anniolchgar a drwg. Rhaid i chi fod yn garedig, fel mae Duw eich tad yn garedig. “Peidiwch bod yn feirniadol o bobl eraill, ac wedyn wnaiff Duw mo'ch barnu chi. Peidiwch eu condemnio nhw, a chewch chi mo'ch condemnio. Os gwnewch faddau i bobl eraill cewch chi faddeuant. Os gwnewch roi, byddwch yn derbyn. Cewch lawer iawn mwy yn ôl — wedi ei wasgu i lawr, a'i ysgwyd i wneud lle i fwy! Bydd yn gorlifo! Y mesur dych chi'n ei ddefnyddio i roi fydd yn cael ei ddefnyddio i roi'n ôl i chi.” Yna dyma Iesu'n dyfynnu'r hen ddywediad: “‘Ydy dyn dall yn gallu arwain dyn dall arall?’ Nac ydy wrth gwrs! Bydd y ddau yn disgyn i ffos gyda'i gilydd! Dydy disgybl ddim yn dysgu ei athro — ond ar ôl cael ei hyfforddi'n llawn mae'n dod yn debyg i'w athro. “Pam rwyt ti'n poeni am y sbecyn o flawd llif sydd yn llygad rhywun arall, pan mae trawst o bren yn sticio allan o dy lygad di dy hun!? Sut alli di ddweud, ‘Gyfaill, gad i mi dynnu'r sbecyn yna sydd yn dy lygad di,’ pan wyt ti'n methu'n lân â gweld dim am fod trawst yn sticio allan o dy lygad dy hun? Rwyt ti mor ddauwynebog! Tynna'r trawst allan o dy lygad dy hun yn gyntaf, ac wedyn byddi'n gweld yn ddigon clir i dynnu'r sbecyn allan o lygad y person arall. “Dydy ffrwyth drwg ddim yn tyfu ar goeden iach, na ffrwyth da ar goeden wael. Y ffrwyth sy'n dangos sut goeden ydy hi. Dydy ffigys ddim yn tyfu ar ddrain, na grawnwin ar fieri. Mae pobl dda yn gwneud y daioni sydd wedi ei storio yn eu calonnau, a phobl ddrwg yn gwneud y drygioni sydd wedi ei storio yn eu calonnau nhw. Mae beth mae pobl yn ei ddweud yn dangos beth sydd yn eu calonnau nhw. “Pam dych chi'n fy ngalw i'n ‛Arglwydd‛ ac eto ddim yn gwneud beth dw i'n ei ddweud? Gwna i ddangos i chi sut bobl ydy'r rhai sy'n gwrando arna i ac yna'n gwneud beth dw i'n ei ddweud. Maen nhw fel dyn sy'n mynd ati i adeiladu tŷ ac yn tyllu'n ddwfn i wneud yn siŵr fod y sylfeini ar graig solet. Pan ddaw llifogydd, a llif y dŵr yn taro yn erbyn y tŷ hwnnw, bydd yn sefyll am ei fod wedi ei adeiladu'n dda. Ond mae'r rhai sy'n gwrando arna i heb wneud beth dw i'n ei ddweud yn debyg i ddyn sy'n adeiladu tŷ heb osod sylfaen gadarn iddo. Pan fydd llif y dŵr yn taro yn erbyn y tŷ hwnnw, bydd yn syrthio'n syth ac yn cael ei ddinistrio'n llwyr.” Ar ôl i Iesu orffen dweud hyn i gyd wrth y bobl, aeth i mewn i Capernaum. Roedd gwas i swyddog milwrol Rhufeinig yn sâl ac ar fin marw. Roedd gan ei feistr feddwl uchel iawn ohono. Pan glywodd y swyddog Rhufeinig am Iesu, anfonodd rai o'r arweinwyr Iddewig ato i ofyn iddo ddod i iacháu'r gwas. Dyma nhw'n dod at Iesu ac yn pledio arno i helpu'r dyn. “Mae'r dyn yma yn haeddu cael dy help di. Mae e'n caru ein pobl ni ac wedi adeiladu synagog i ni,” medden nhw. Felly dyma Iesu'n mynd gyda nhw. Roedd Iesu bron â chyrraedd y tŷ pan anfonodd y swyddog Rhufeinig rai o'i ffrindiau i ddweud wrtho: “Arglwydd, paid trafferthu dod yma, dw i ddim yn deilwng i ti ddod i mewn i nhŷ i. Dyna pam wnes i ddim dod i dy gyfarfod di fy hun. Does ond rhaid i ti ddweud, a bydd fy ngwas yn cael ei iacháu. Mae swyddogion uwch fy mhen i yn rhoi gorchmynion i mi, ac mae gen innau filwyr o danaf fi. Dw i'n dweud ‘Dos’ wrth un, ac mae'n mynd; ‘Tyrd yma’ wrth un arall ac mae'n dod. Dw i'n dweud ‘Gwna hyn’ wrth fy ngwas, ac mae'n ei wneud.” Roedd Iesu wedi ei syfrdanu pan glywodd hyn. Trodd at y dyrfa oedd yn ei ddilyn, ac meddai, “Dw i'n dweud wrthoch chi, dw i ddim wedi gweld neb o bobl Israel sydd â ffydd fel yna!” Dyma'r dynion oedd wedi eu hanfon ato yn mynd yn ôl i'r tŷ, a dyna lle roedd y gwas yn holliach! Yn fuan wedyn, dyma Iesu'n mynd i dref o'r enw Nain. Roedd ei ddisgyblion a thyrfa fawr o bobl gydag e. Pan oedd ar fin cyrraedd giât y dref roedd pobl mewn angladd ar y ffordd allan. Bachgen ifanc oedd wedi marw — unig fab rhyw wraig weddw. Roedd tyrfa fawr o bobl y dre yn yr angladd. Pan welodd Iesu'r wraig weddw roedd yn teimlo drosti, ac meddai wrthi, “Paid crïo.” Yna gwnaeth rywbeth cwbl annisgwyl — cyffwrdd yr arch! Dyma'r rhai oedd yn ei chario yn sefyll yn stond. “Fachgen ifanc,” meddai Iesu, “dw i'n dweud wrthot ti am godi!” A dyma'r bachgen oedd wedi marw yn codi ar ei eistedd a dechrau siarad. A dyma Iesu'n ei roi yn ôl i'w fam. Roedd pawb wedi eu syfrdanu'n llwyr, a dyma nhw'n dechrau moli Duw. “Mae proffwyd mawr wedi codi yn ein plith ni!” medden nhw. “Mae Duw wedi dod aton ni i helpu ei bobl.” Aeth yr hanes yma am Iesu ar led fel tân gwyllt, drwy Jwdea gyfan ac ymhellach na hynny. Roedd disgyblion Ioan Fedyddiwr wedi mynd i ddweud wrtho am bopeth roedd Iesu'n ei wneud. Felly dyma Ioan yn anfon dau ohonyn nhw at yr Arglwydd Iesu i ofyn iddo, “Ai ti ydy'r Meseia sydd i ddod, neu ddylen ni ddisgwyl rhywun arall?” Dyma nhw'n dod o hyd i Iesu a dweud wrtho, “Mae Ioan Fedyddiwr eisiau gwybod, ‘Ai ti ydy'r Meseia sydd i ddod, neu ddylen ni ddisgwyl rhywun arall?’” Yr adeg yna roedd Iesu wedi bod wrthi'n iacháu llawer o bobl oedd yn dioddef o afiechydon a phoenau, a dylanwad ysbrydion drwg. Roedd wedi rhoi eu golwg yn ôl i lawer o bobl ddall hefyd. Felly ei ateb iddyn nhw oedd, “Ewch yn ôl a dweud wrth Ioan beth dych chi wedi ei weld a'i glywed: Mae pobl ddall yn cael gweld, pobl gloff yn cerdded, pobl sy'n dioddef o'r gwahanglwyf yn cael eu hiacháu, pobl fyddar yn clywed, a phobl sydd wedi marw yn dod yn ôl yn fyw. Ac mae'r newyddion da yn cael ei gyhoeddi i bobl dlawd! Ac un peth arall: Mae bendith fawr i bwy bynnag sydd ddim yn colli hyder ynddo i.” Ar ôl i negeswyr Ioan fynd, dechreuodd Iesu siarad â'r dyrfa am Ioan: “Sut ddyn aethoch chi allan i'r anialwch i'w weld? Brwynen wan yn cael ei chwythu i bob cyfeiriad gan y gwynt? Na? Beth roeddech chi'n ei ddisgwyl? Dyn yn gwisgo dillad crand? Wrth gwrs ddim! Mewn palasau mae pobl grand yn byw! Felly ai proffwyd aethoch chi allan i'w weld? Ie! A dw i'n dweud wrthoch chi ei fod e'n fwy na phroffwyd. Dyma'r un mae'r ysgrifau sanctaidd yn sôn amdano: ‘Edrych! — dw i'n anfon fy negesydd o dy flaen di, i baratoi'r ffordd i ti.’ Dw i'n dweud wrthoch chi, mae Ioan yn fwy na neb arall sydd wedi byw erioed. Ond mae'r person lleia pwysig yn nheyrnas Dduw yn fwy nag e.” (Roedd y bobl gyffredin glywodd neges Ioan, hyd yn oed y dynion sy'n casglu trethi i Rufain, yn cydnabod mai ffordd Duw oedd yn iawn — dyna pam gawson nhw eu bedyddio gan Ioan. Ond roedd y Phariseaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith wedi gwrthod gwneud beth oedd Duw eisiau, a doedden nhw ddim wedi cael eu bedyddio gan Ioan.) “Sut mae disgrifio'r dynion yma?” meddai Iesu, “I beth maen nhw'n debyg? Maen nhw fel plant yn eistedd yn sgwâr y farchnad yn cwyno am ei gilydd fel hyn: ‘Roedden ni'n chwarae priodas, ond wnaethoch chi ddim dawnsio; Roedden ni'n chwarae angladd, Ond wnaethoch chi ddim wylo.’ Am fod Ioan Fedyddiwr ddim yn bwyta bara ac yfed gwin, roeddech chi'n dweud, ‘Mae cythraul ynddo.’ Ond wedyn dyma fi, Mab y Dyn yn dod, yn bwyta ac yn yfed fel pawb arall, a dyma chi'n dweud, ‘y bolgi! Meddwyn yn diota a stwffio'i hun! Ffrind i'r twyllwyr sy'n casglu trethi i Rufain ac i bechaduriaid ydy e!’ Gallwch nabod doethineb go iawn yn ôl pa mor gyson fydd pobl. Dych chi mor anghyson, mae'ch ffolineb chi'n amlwg!” Roedd un o'r Phariseaid wedi gwahodd Iesu i swper, felly aeth Iesu i'w dŷ ac eistedd wrth y bwrdd. Dyma wraig o'r dref oedd yn adnabyddus am ei bywyd anfoesol yn clywed fod Iesu yn cael pryd o fwyd yng nghartre'r Pharisead, ac aeth yno gyda blwch hardd yn llawn o bersawr. Plygodd y tu ôl iddo wrth ei draed, yn crïo. Roedd ei dagrau yn gwlychu ei draed, felly sychodd nhw â'i gwallt a'u cusanu ac yna tywallt y persawr arnyn nhw. Pan welodd y dyn oedd wedi gwahodd Iesu beth oedd yn digwydd, meddyliodd, “Petai'r dyn yma yn broffwyd byddai'n gwybod pa fath o wraig sy'n ei gyffwrdd — dydy hi'n ddim byd ond pechadures!” Ond dyma Iesu'n dweud wrtho, “Simon, dw i eisiau dweud rhywbeth wrthot ti.” “Beth athro?” meddai. “Roedd dau o bobl mewn dyled i fenthyciwr arian. Pum can denariws oedd dyled un, a hanner can denariws oedd dyled y llall. Ond pan oedd y naill a'r llall yn methu ei dalu'n ôl, dyma'r benthyciwr yn canslo dyled y ddau! Felly, pa un o'r ddau wyt ti'n meddwl fydd yn ei garu fwyaf?” “Mae'n debyg mai'r un gafodd y ddyled fwyaf wedi ei chanslo,” meddai Simon. “Rwyt ti'n iawn,” meddai Iesu. Yna dyma Iesu'n troi at y wraig, ac yn dweud wrth Simon, “Edrych ar y wraig yma. Pan ddes i mewn i dy dŷ di, ches i ddim dŵr i olchi fy nhraed. Ond mae hon wedi gwlychu fy nhraed â'i dagrau a'u sychu â'i gwallt. Wnest ti ddim fy nghyfarch i â chusan, ond dydy hon ddim wedi stopio cusanu fy nhraed i ers i mi gyrraedd. Wnest ti ddim rhoi croeso i mi drwy roi olew ar fy mhen, ond mae hon wedi tywallt persawr ar fy nhraed. Felly dw i'n dweud wrthot ti, mae pob un o'i phechodau hi wedi eu maddau — ac mae hi wedi dangos cariad mawr ata i. Ond bach iawn ydy cariad y sawl sydd wedi cael maddeuant am bethau bach.” Wedyn dyma Iesu'n dweud wrth y wraig ei hun, “Mae dy bechodau wedi eu maddau.” A dyma'r gwesteion eraill yn dechrau siarad ymhlith ei gilydd, “Pwy ydy hwn, yn meddwl y gall faddau pechodau?” Dyma Iesu'n dweud wrth y wraig, “Am i ti gredu rwyt wedi dy achub; dos adre! Bendith Duw arnat ti!” Am beth amser wedyn roedd Iesu'n teithio o gwmpas y trefi a'r pentrefi yn cyhoeddi'r newyddion da am Dduw yn teyrnasu. Roedd y deuddeg disgybl gydag e, a hefyd rhyw wragedd oedd wedi cael eu hiacháu o effeithiau ysbrydion drwg ac afiechydon: Mair, oedd yn cael ei galw'n Magdalen — roedd saith o gythreuliaid wedi dod allan ohoni hi; Joanna, gwraig Chwsa (prif reolwr palas Herod); Swsana, a nifer o rai eraill oedd yn defnyddio eu harian i helpu i gynnal Iesu a'i ddisgyblion. Dwedodd y stori yma pan oedd tyrfa fawr o bobl o wahanol drefi wedi casglu at ei gilydd: “Aeth ffermwr allan i hau hadau. Wrth iddo wasgaru'r had, dyma beth ohono yn syrthio ar y llwybr. Cafodd ei sathru dan draed, a dyma'r adar yn ei fwyta. Dyma beth ohono yn syrthio ar dir creigiog, ond wrth ddechrau tyfu dyma fe'n gwywo am fod dim dŵr ganddo. A dyma beth yn syrthio i ganol drain. Tyfodd y drain yr un pryd a thagu'r planhigion. Ond syrthiodd peth ohono ar bridd da. Tyfodd hwnnw, a rhoddodd gnwd oedd gan gwaith mwy na beth gafodd ei hau.” Ar ôl dweud hyn, galwodd allan yn uchel, “Gwrandwch yn ofalus os dych chi'n awyddus i ddysgu!” Yn nes ymlaen dyma'i ddisgyblion yn gofyn iddo beth oedd ystyr y stori. Atebodd Iesu, “Dych chi'n cael gwybod beth ydy'r gyfrinach am deyrnasiad Duw, ond i eraill dw i ddim ond yn adrodd straeon, felly, ‘Er eu bod yn edrych, chân nhw ddim gweld; er eu bod yn gwrando, chân nhw ddim deall.’ “Dyma beth ydy ystyr y stori: Neges Duw ydy'r hadau. Y rhai ar y llwybr ydy'r bobl sy'n clywed y neges, ond mae'r diafol yn dod ac yn cipio'r neges oddi arnyn nhw, i'w rhwystro nhw rhag credu a chael eu hachub. Y rhai ar y tir creigiog ydy'r bobl hynny sy'n derbyn y neges yn frwd i ddechrau, ond dydy'r neges ddim yn gafael ynddyn nhw. Maen nhw'n credu am sbel, ond pan ddaw'r amser iddyn nhw gael eu profi maen nhw'n rhoi'r gorau iddi. Yna'r rhai syrthiodd i ganol drain ydy'r bobl sy'n clywed y neges, ond mae poeni drwy'r adeg am bethau fel cyfoeth a phleserau yn eu tagu, a dŷn nhw ddim yn aeddfedu. Ond yr hadau syrthiodd i bridd da ydy'r bobl hynny sy'n clywed y neges ac yn dal gafael i'r diwedd — pobl sydd â chalon agored ddidwyll. Mae'r effaith ar eu bywydau nhw fel cnwd anferth. “Dydy pobl ddim yn goleuo lamp ac yna'n rhoi rhywbeth drosti neu'n ei chuddio dan y gwely. Na, mae'n cael ei gosod ar fwrdd, er mwyn i bawb sy'n dod i mewn allu gweld. Bydd popeth sydd wedi ei guddio yn cael ei weld yn glir maes o law. Bydd pob cyfrinach yn cael ei rhannu ac yn dod i'r golwg. Felly gwrandwch yn ofalus. Bydd y rhai sydd wedi deall yn derbyn mwy; ond am y rhai hynny sydd heb ddeall, bydd hyd yn oed yr hyn maen nhw'n meddwl maen nhw'n ei ddeall yn cael ei gymryd oddi arnyn nhw.” Yna cyrhaeddodd mam Iesu a'i frodyr yno, ond roedden nhw'n methu mynd yn agos ato o achos y dyrfa. Dwedodd rhywun wrtho, “Mae dy fam a dy frodyr yn sefyll y tu allan, eisiau dy weld di.” Ond atebodd Iesu, “Fy mam a'm brodyr i ydy'r bobl sy'n clywed neges Duw ac yn gwneud beth mae'n ei ddweud.” Un diwrnod dwedodd Iesu wrth ei ddisgyblion, “Beth am i ni groesi i ochr draw'r llyn?” Felly i ffwrdd â nhw mewn cwch. Wrth groesi'r llyn syrthiodd Iesu i gysgu. Daeth storm ofnadwy ar y llyn ac roedd y cwch yn llenwi â dŵr nes eu bod nhw mewn peryg o suddo. Dyma'r disgyblion yn mynd at Iesu a'i ddeffro, ac yn dweud wrtho, “Feistr! dŷn ni'n suddo feistr!” Cododd Iesu ar ei draed a cheryddu'r gwynt a'r tonnau gwyllt; a dyma'r storm yn stopio, ac roedd pobman yn hollol dawel. “Ble mae'ch ffydd chi?” gofynnodd i'w ddisgyblion. Roedden nhw wedi dychryn ac yn rhyfeddu at beth ddigwyddodd. “Pwy ydy hwn?” medden nhw, “Mae hyd yn oed yn rhoi gorchymyn i'r gwynt a'r dŵr, ac maen nhw'n ufuddhau iddo.” Dyma nhw'n cyrraedd ardal Gerasa sydd yr ochr draw i'r llyn o Galilea. Wrth i Iesu gamu allan o'r cwch i'r lan dyma ddyn o'r dref oedd yng ngafael cythreuliaid yn dod i'w gyfarfod. Doedd y dyn yma ddim wedi gwisgo dillad na byw mewn tŷ ers amser maith — roedd wedi bod yn byw yng nghanol y beddau. Pan welodd Iesu, rhoddodd y dyn sgrech a syrthio i lawr o'i flaen tan weiddi nerth ei ben, “Gad di lonydd i mi, Iesu, mab y Duw Goruchaf! Dw i'n crefu arnat ti, paid poenydio fi!” (Roedd Iesu newydd orchymyn i'r ysbryd drwg ddod allan o'r dyn. Ers amser hir roedd yr ysbryd wedi meistroli'r dyn yn llwyr. Roedd rhaid iddo gael ei warchod, gyda'i ddwylo a'i draed mewn cadwyni. Ond roedd yn llwyddo i ddianc o hyd, ac roedd y cythraul yn ei yrru allan i'r anialwch.) A dyma Iesu'n gofyn iddo, “Beth ydy dy enw di?” “Lleng,” atebodd, achos roedd llawer o gythreuliaid wedi mynd iddo. Roedden nhw'n pledio'n daer ar i Iesu beidio gorchymyn iddyn nhw fynd i'r dyfnder tywyll. Roedd cenfaint fawr o foch yn pori ar ochr bryn cyfagos, a dyma'r cythreuliaid yn pledio ar Iesu i adael iddyn nhw fynd i fyw yn y moch. Felly dyma Iesu'n rhoi caniatâd iddyn nhw. Pan aeth y cythreuliaid allan o'r dyn a mynd i mewn i'r moch, dyma'r moch i gyd yn rhuthro i lawr y llechwedd serth i mewn i'r llyn, a boddi. Pan welodd y rhai oedd yn gofalu am y moch beth ddigwyddodd, dyma nhw'n rhedeg i ffwrdd a dweud wrth bawb. Aeth pobl allan i weld drostyn nhw'u hunain. Dyma nhw'n dychryn pan ddaethon nhw at Iesu, achos dyna lle roedd y dyn roedd y cythreuliaid wedi mynd allan ohono yn eistedd yn dawel o flaen Iesu yn gwisgo dillad ac yn ei iawn bwyll. Dwedodd y llygad-dystion eto sut roedd y dyn yng ngafael cythreuliaid wedi cael ei iacháu. Felly ar ôl hynny dyma bobl ardal Gerasa i gyd yn gofyn i Iesu adael, achos roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau. Felly aeth Iesu yn ôl i'r cwch. Dyma'r dyn roedd y cythreuliaid wedi mynd allan ohono yn erfyn am gael aros gydag e, ond dyma Iesu yn ei anfon i ffwrdd a dweud wrtho, “Dos yn ôl adre i ddweud am y cwbl mae Duw wedi ei wneud i ti.” Felly i ffwrdd â'r dyn, a dweud wrth bawb yn y dref am bopeth roedd Iesu wedi ei wneud iddo. Pan aeth Iesu yn ôl i ochr draw'r llyn, roedd tyrfa yno i'w groesawu — roedden nhw wedi bod yn disgwyl amdano. Dyma ddyn o'r enw Jairus, un o arweinwyr y synagog, yn dod ato. Syrthiodd ar ei liniau o flaen Iesu a chrefu'n daer arno i fynd i'w dŷ. Roedd ei ferch fach ddeuddeg oed, oedd yn unig blentyn, yn marw. Wrth iddo fynd, roedd y dyrfa yn gwasgu o'i gwmpas. Yn eu canol roedd gwraig oedd wedi bod â gwaedlif arni ers deuddeng mlynedd, a doedd neb yn gallu ei gwella. Sleifiodd at Iesu o'r tu ôl iddo a chyffwrdd y taselau ar ei glogyn, a dyma'r gwaedu yn stopio'n syth. “Pwy gyffyrddodd fi?” gofynnodd Iesu. Wrth i bawb wadu'r peth, dyma Pedr yn dweud, “Ond Feistr, mae'r bobl yma i gyd yn gwthio ac yn gwasgu o dy gwmpas di!” Ond dyma Iesu'n dweud, “Mae rhywun wedi nghyffwrdd i; dw i'n gwybod fod nerth wedi llifo allan ohono i.” Pan sylweddolodd y wraig ei bod hi ddim yn mynd i osgoi sylw, dyma hi'n dod a syrthio o'i flaen yn dal i grynu. Esboniodd o flaen pawb pam roedd hi wedi cyffwrdd Iesu, a'i bod wedi cael ei hiacháu y funud honno. A dyma Iesu'n dweud wrthi, “Wraig annwyl, am i ti gredu rwyt wedi dy iacháu. Dos adre! Bendith Duw arnat ti!” Tra oedd Iesu'n siarad, roedd dyn o dŷ Jairus wedi cyrraedd, a dweud wrtho, “Mae dy ferch wedi marw, felly paid poeni'r athro ddim mwy.” Pan glywodd Iesu hyn, meddai wrth Jairus, “Paid bod ofn; dalia i gredu, a bydd hi'n cael ei hiacháu.” Pan gyrhaeddodd dŷ Jairus, dim ond Pedr, Ioan a Iago, a rhieni'r ferch fach gafodd fynd i mewn gydag e. Roedd y lle'n llawn o bobl yn galaru ac udo crïo ar ei hôl. “Stopiwch y sŵn yma,” meddai Iesu, “dydy hi ddim wedi marw — cysgu mae hi!” Dechreuodd pobl chwerthin am ei ben, gan eu bod nhw'n gwybod ei bod hi wedi marw. Dyma Iesu'n gafael yn llaw'r ferch fach a dweud, “Cod ar dy draed mhlentyn i!” Daeth bywyd yn ôl i'w chorff a chododd ar ei thraed yn y fan a'r lle. Wedyn dyma Iesu'n dweud wrthyn nhw am roi rhywbeth i'w fwyta iddi. Roedd ei rhieni wedi eu syfrdanu, ond rhybuddiodd Iesu nhw i beidio dweud wrth neb beth oedd wedi digwydd. Galwodd Iesu y deuddeg disgybl at ei gilydd, a rhoi nerth ac awdurdod iddyn nhw fwrw allan gythreuliaid a iacháu pobl. Yna anfonodd nhw allan i gyhoeddi bod Duw yn teyrnasu, ac i iacháu pobl. Dwedodd wrthyn nhw: “Peidiwch mynd â dim byd gyda chi — dim ffon, dim bag teithio, dim bwyd, dim arian, dim hyd yn oed dillad sbâr. Pan gewch groeso yng nghartre rhywun, arhoswch yno nes byddwch chi'n gadael y dre. Os na chewch chi groeso yn rhywle, ysgydwch y llwch oddi ar eich traed wrth adael y dref honno. Bydd hynny'n arwydd o farn Duw arnyn nhw!” Felly i ffwrdd â nhw i deithio o un pentref i'r llall gan gyhoeddi'r newyddion da a iacháu pobl ym mhobman. Clywodd y llywodraethwr Herod am y cwbl oedd yn digwydd. Roedd mewn penbleth, am fod rhai yn dweud mai Ioan Fedyddiwr oedd wedi dod yn ôl yn fyw. Roedd eraill yn dweud mai'r proffwyd Elias oedd wedi dod, ac eraill eto'n meddwl mai un o broffwydi'r gorffennol oedd wedi dod yn ôl yn fyw. “Torrais ben Ioan i ffwrdd,” meddai Herod, “felly, pwy ydy hwn dw i'n clywed y pethau yma amdano?” Roedd ganddo eisiau gweld Iesu. Pan ddaeth yr apostolion yn ôl, dyma nhw'n dweud wrth Iesu beth roedden nhw wedi ei wneud. Yna aeth Iesu â nhw i ffwrdd ar eu pennau eu hunain, i dref o'r enw Bethsaida. Ond clywodd y tyrfaoedd ble roedd wedi mynd, a'i ddilyn yno. Dyma Iesu'n eu croesawu ac yn siarad â nhw am Dduw yn teyrnasu, a iacháu y rhai ohonyn nhw oedd yn sâl. Yn hwyr yn y p'nawn dyma'r deuddeg disgybl yn dod ato a dweud wrtho, “Anfon y dyrfa i ffwrdd, iddyn nhw fynd i'r pentrefi sydd o gwmpas i gael llety a bwyd. Mae'r lle yma yn anial.” Ond dwedodd Iesu, “Rhowch chi rywbeth i'w fwyta iddyn nhw.” “Dim ond pum torth fach a dau bysgodyn sydd gynnon ni,” medden nhw. “Wyt ti'n disgwyl i ni fynd i brynu bwyd i'r bobl yma i gyd?” (Roedd tua pum mil o ddynion yno!) Dyma Iesu'n dweud wrth ei ddisgyblion, “Gwnewch iddyn nhw eistedd mewn grwpiau o tua hanner cant.” Dyma'r disgyblion yn gwneud hynny, ac eisteddodd pawb. Wedyn dyma Iesu'n cymryd y pum torth a'r ddau bysgodyn, ac offrymu gweddi o ddiolch i Dduw. Torrodd y bara a'i roi i'w ddisgyblion i'w rannu i'r bobl. Cafodd pawb ddigon i'w fwyta, a dyma nhw'n casglu deuddeg llond basged o dameidiau oedd dros ben. Un tro pan oedd Iesu wedi bod yn gweddïo ar ei ben ei hun, aeth at ei ddisgyblion a gofyn iddyn nhw, “Pwy mae'r bobl yn ei ddweud ydw i?” Dyma nhw'n ateb, “Mae rhai yn dweud mai Ioan Fedyddiwr wyt ti; eraill yn dweud Elias; a phobl eraill eto'n dweud fod un o'r proffwydi ers talwm wedi dod yn ôl yn fyw.” “Ond beth amdanoch chi?” meddai. “Pwy dych chi'n ddweud ydw i?” Atebodd Pedr, “Meseia Duw.” Ond dyma Iesu'n pwyso'n drwm arnyn nhw i beidio dweud wrth neb. Dwedodd wrthyn nhw, “Mae'n rhaid i mi, Mab y Dyn, ddioddef yn ofnadwy. Bydd yr arweinwyr, y prif offeiriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn fy ngwrthod i. Bydda i'n cael fy lladd, ond yna'n dod yn ôl yn fyw ddeuddydd wedyn.” Yna dwedodd wrth bawb oedd yno: “Rhaid i bwy bynnag sydd am fy nilyn i stopio rhoi nhw eu hunain gyntaf. Rhaid iddyn nhw aberthu eu hunain dros eraill bob dydd, a cherdded yr un llwybr â mi. Bydd y rhai sy'n ceisio cadw eu bywyd eu hunain yn colli'r bywyd go iawn, ond y rhai sy'n barod i ollwng gafael ar eu bywyd er fy mwyn i yn diogelu bywyd go iawn. Beth ydy'r pwynt o gael popeth sydd gan y byd i'w gynnig, a cholli eich hunan? Pawb sydd â chywilydd ohono i a beth dw i'n ei ddweud, bydd gen i, Fab y Dyn, gywilydd ohonyn nhw pan fydda i'n dod yn ôl yn fy holl ysblander, sef ysblander y Tad a'i angylion sanctaidd. Credwch chi fi, wnaiff rhai ohonoch chi sy'n sefyll yma ddim marw cyn cael gweld Duw'n teyrnasu.” Tuag wythnos ar ôl iddo ddweud hyn, aeth Iesu i weddïo i ben mynydd, a mynd â Pedr, Iago ac Ioan gydag e. Wrth iddo weddïo newidiodd ei olwg, a throdd ei ddillad yn wyn llachar. A dyma nhw'n gweld dau ddyn, Moses ac Elias, yn sgwrsio gyda Iesu. Roedd hi'n olygfa anhygoel, ac roedden nhw'n siarad am y ffordd roedd Iesu'n mynd i adael y byd, hynny ydy beth oedd ar fin digwydd iddo yn Jerwsalem. Roedd Pedr a'r lleill wedi bod yn teimlo'n gysglyd iawn, ond dyma nhw'n deffro go iawn pan welon nhw ysblander Iesu a'r ddau ddyn yn sefyll gydag e. Pan oedd Moses ac Elias ar fin gadael, dyma Pedr yn dweud wrth Iesu, “Feistr, mae'n dda cael bod yma. Gad i ni godi tair lloches — un i ti, un i Moses ac un i Elias.” (Doedd ganddo ddim syniad go iawn beth roedd yn ei ddweud!) Tra roedd yn dweud hyn, dyma gwmwl yn dod i lawr a chau o'u cwmpas. Roedden nhw wedi dychryn wrth iddyn nhw fynd i mewn i'r cwmwl. A dyma lais yn dod o'r cwmwl a dweud, “Fy Mab i ydy hwn — yr un dw i wedi ei ddewis. Gwrandwch arno!” Ar ôl i'r llais ddweud hyn, roedd Iesu ar ei ben ei hun unwaith eto. Dyma'r lleill yn cadw'n dawel am y peth — ddwedon nhw ddim wrth neb bryd hynny am beth roedden nhw wedi ei weld. Y diwrnod wedyn, pan ddaethon nhw i lawr o'r mynydd, daeth tyrfa fawr i'w gyfarfod. Dyma ryw ddyn yn y dyrfa yn gweiddi ar Iesu, “Athro, dw i'n crefu arnat ti i edrych ar fy mab i — dyma fy unig blentyn i! Mae yna ysbryd yn gafael ynddo'n aml, ac yn sydyn mae'n sgrechian; wedyn mae'r ysbryd yn gwneud iddo gael ffit nes ei fod yn glafoerio. Dydy'r ysbryd prin yn gadael llonydd iddo! Mae'n ei ddinistrio! Roeddwn i'n crefu ar dy ddisgyblion di i'w fwrw allan, ond doedden nhw ddim yn gallu.” “Pam dych chi mor ystyfnig ac amharod i gredu?” meddai Iesu, “Am faint dw i'n mynd i aros gyda chi a'ch dioddef chi? Tyrd â dy fab yma.” Wrth i'r bachgen ddod ato dyma'r cythraul yn ei fwrw ar lawr mewn ffit epileptig. Ond dyma Iesu'n ceryddu'r ysbryd drwg, iacháu'r bachgen a'i roi yn ôl i'w dad. Roedd pawb wedi eu syfrdanu wrth weld nerth Duw ar waith. Tra roedd pawb wrthi'n rhyfeddu at yr holl bethau roedd Iesu'n eu gwneud, dwedodd wrth ei ddisgyblion, “Gwnewch yn siŵr eich bod yn cofio fy mod i wedi dweud hyn: Dw i, Mab y Dyn, yn mynd i gael fy mradychu.” Doedd gan y disgyblion ddim syniad am beth oedd e'n sôn. Roedd yn ddirgelwch iddyn nhw, ac roedden nhw'n methu'n lân a deall beth roedd yn ei olygu, ond roedd arnyn nhw ofn gofyn iddo am y peth. Dyma'r disgyblion yn dechrau dadlau pwy ohonyn nhw oedd y pwysica. Roedd Iesu'n gwybod beth oedd yn mynd trwy eu meddyliau, a gosododd blentyn bach i sefyll wrth ei ymyl. Yna meddai wrthyn nhw, “Mae pwy bynnag sy'n rhoi croeso i'r plentyn bach yma am ei fod yn perthyn i mi, yn rhoi croeso i mi; ac mae pwy bynnag sy'n rhoi croeso i mi yn croesawu'r Un sydd wedi fy anfon i. Mae'r un lleia pwysig ohonoch chi yn bwysig dros ben.” “Feistr,” meddai Ioan, “gwelon ni rywun yn bwrw allan gythreuliaid yn dy enw di, a dyma ni'n dweud wrtho am stopio, am ei fod e ddim yn un o'n criw ni.” “Peidiwch gwneud hynny,” meddai Iesu. “Os ydy rhywun ddim yn eich erbyn chi, mae o'ch plaid chi.” Dyma Iesu'n cychwyn ar y daith i Jerwsalem, gan fod yr amser yn agosáu iddo fynd yn ôl i'r nefoedd. Anfonodd negeswyr o'i flaen, a dyma nhw'n mynd i un o bentrefi Samaria i baratoi ar ei gyfer; ond dyma'r bobl yno yn gwrthod rhoi croeso iddo am ei fod ar ei ffordd i Jerwsalem. Pan glywodd Iago ac Ioan am hyn, dyma nhw'n dweud wrth Iesu, “Arglwydd, wyt ti am i ni alw tân i lawr o'r nefoedd i'w dinistrio nhw?” A dyma Iesu'n troi atyn nhw a'u ceryddu nhw am ddweud y fath beth. A dyma nhw'n mynd yn eu blaenau i bentref arall. Wrth iddyn nhw gerdded ar hyd y ffordd, dyma rywun yn dweud wrtho, “Dw i'n fodlon dy ddilyn di ble bynnag byddi di'n mynd!” Atebodd Iesu, “Mae gan lwynogod ffeuau ac adar nythod, ond does gen i, Mab y Dyn, ddim lle i orffwys.” Dwedodd Iesu wrth rywun arall, “Tyrd, dilyn fi.” Ond dyma'r dyn yn dweud, “Arglwydd, gad i mi fynd adre i gladdu fy nhad gyntaf.” Ond ateb Iesu oedd, “Gad i'r rhai sy'n farw eu hunain gladdu eu meirw; dy waith di ydy cyhoeddi fod Duw yn dod i deyrnasu.” Dwedodd rhywun arall wedyn, “Gwna i dy ddilyn di, Arglwydd; ond gad i mi fynd i ffarwelio â'm teulu gyntaf.” Atebodd Iesu, “Dydy'r sawl sy'n gafael yn yr aradr ac yn edrych yn ôl ddim ffit i wasanaethu'r Duw sy'n teyrnasu.” Ar ôl hyn dyma Iesu'n penodi saith deg dau o rai eraill a'u hanfon o'i flaen bob yn ddau i'r lleoedd roedd ar fin mynd iddyn nhw. Meddai wrthyn nhw, “Mae'r cynhaeaf mor fawr, a'r gweithwyr mor brin! Felly, gofynnwch i Arglwydd y cynhaeaf anfon mwy o weithwyr i'w feysydd. Ewch! Dw i'n eich anfon chi allan fel ŵyn i ganol pac o fleiddiaid. Peidiwch mynd â phwrs na bag teithio na sandalau gyda chi; a pheidiwch stopio i gyfarch neb ar y ffordd. “Pan ewch i mewn i gartre rhywun, gofynnwch i Dduw fendithio'r cartref hwnnw cyn gwneud unrhyw beth arall. Os oes rhywun yna sy'n agored i dderbyn y fendith, bydd yn cael ei fendithio; ond os oes neb, bydd y fendith yn dod yn ôl arnoch chi. Peidiwch symud o gwmpas o un tŷ i'r llall; arhoswch yn yr un lle, gan fwyta ac yfed beth bynnag sy'n cael ei roi o'ch blaen chi. Mae gweithiwr yn haeddu ei gyflog. “Os byddwch yn cael croeso mewn rhyw dref, bwytwch beth bynnag sy'n cael ei roi o'ch blaen chi. Ewch ati i iacháu y rhai sy'n glaf yno, a dweud wrthyn nhw, ‘Mae Duw ar fin dod i deyrnasu.’ Ond os ewch i mewn i ryw dref heb gael dim croeso yno, ewch allan i'w strydoedd a dweud, ‘Dŷn ni'n sychu llwch eich tref chi i ffwrdd oddi ar ein traed ni, fel arwydd yn eich erbyn chi! Ond gallwch fod yn reit siŵr o hyn — bod Duw ar fin dod i deyrnasu!’ Wir i chi, bydd hi'n well ar Sodom ar ddydd y farn nag ar y dref honno! “Gwae ti, Chorasin! Gwae ti, Bethsaida! Petai'r gwyrthiau wnes i ynoch chi wedi digwydd yn Tyrus a Sidon, byddai'r bobl yno wedi hen ddangos eu bod yn edifar, trwy eistedd ar lawr yn gwisgo sachliain a thaflu lludw ar eu pennau. Bydd hi'n well ar Tyrus a Sidon ar ddydd y farn nag arnoch chi! A beth amdanat ti, Capernaum? Wyt ti'n meddwl y byddi di'n cael dy anrhydeddu? Na, byddi di'n cael dy fwrw i lawr i'r dyfnder tywyll! “Mae pwy bynnag sy'n gwrando ar eich neges chi yn fy nerbyn i, a phwy bynnag sy'n eich gwrthod chi yn fy ngwrthod i hefyd. Ac mae pwy bynnag sy'n fy ngwrthod i yn gwrthod Duw, yr un sydd wedi fy anfon i.” Pan ddaeth y saith deg dau yn ôl, dyma nhw'n dweud yn frwd, “Arglwydd, mae hyd yn oed y cythreuliaid yn ufuddhau i ni wrth i ni dy enwi di.” Atebodd Iesu, “Gwelais Satan yn syrthio fel mellten o'r awyr! Dw i wedi rhoi'r awdurdod i chi dros holl nerth y gelyn! Gallwch sathru ar nadroedd a sgorpionau a fydd dim byd yn gwneud niwed i chi! Ond peidiwch bod yn llawen am fod ysbrydion drwg yn ufuddhau i chi; y rheswm dros fod yn llawen ydy bod eich enwau wedi eu hysgrifennu yn y nefoedd.” Bryd hynny roedd Iesu'n fwrlwm o lawenydd yr Ysbryd Glân, ac meddai “Fy Nhad. Arglwydd y nefoedd a'r ddaear. Diolch i ti am guddio'r pethau yma oddi wrth y bobl sy'n meddwl eu bod nhw mor ddoeth a chlyfar, a'u dangos i'r rhai sy'n agored fel plant bach. Ie, fy Nhad, dyna sy'n dy blesio di. “Mae fy Nhad wedi rhoi popeth yn fy ngofal i. Does neb yn nabod y Mab go iawn ond y Tad, a does neb yn nabod y Tad go iawn ond y Mab, a'r rhai hynny mae'r Mab wedi dewis ei ddangos iddyn nhw.” Pan oedden nhw ar eu pennau eu hunain trodd at ei ddisgyblion a dweud, “Dych chi'n cael y fath fraint o weld beth sy'n digwydd! Dw i'n dweud wrthoch chi fod llawer o broffwydi a brenhinoedd wedi bod yn ysu am gael gweld beth dych chi'n ei weld a chlywed beth dych chi'n ei glywed, ond chawson nhw ddim.” Un tro safodd un o'r arbenigwyr yn y Gyfraith ar ei draed i roi prawf ar Iesu. Gofynnodd iddo, “Athro, beth sydd raid i mi ei wneud i gael bywyd tragwyddol?” Atebodd Iesu, “Beth mae Cyfraith Moses yn ei ddweud? Sut wyt ti'n ei deall?” Meddai'r dyn: “ ‘Rwyt i garu'r Arglwydd dy Dduw â'th holl galon, ac â'th holl enaid, â'th holl nerth ac â'th holl feddwl,’ a, ‘Rwyt i garu dy gymydog fel rwyt ti'n dy garu dy hun.’ ” “Rwyt ti'n iawn!” meddai Iesu. “Gwna hynny a chei di fywyd.” Ond roedd y dyn eisiau cyfiawnhau ei hun, felly gofynnodd i Iesu, “Ond pwy ydy fy nghymydog i?” Dyma sut atebodd Iesu: “Roedd dyn yn teithio i lawr o Jerwsalem i Jericho, a dyma ladron yn ymosod arno. Dyma nhw'n dwyn popeth oddi arno, ac yna ei guro cyn dianc. Cafodd ei adael bron marw ar ochr y ffordd. Dyma offeiriad Iddewig yn digwydd dod heibio, ond pan welodd y dyn yn gorwedd yno croesodd i ochr arall y ffordd a mynd yn ei flaen. A dyma un o Lefiaid y deml yn gwneud yr un peth; aeth i edrych arno, ond yna croesi'r ffordd a mynd yn ei flaen. Ond yna dyma Samariad yn dod i'r fan lle roedd y dyn yn gorwedd. Pan welodd e'r dyn, roedd yn teimlo trueni drosto. Aeth ato a rhwymo cadachau am ei glwyfau, a'u trin gydag olew a gwin. Yna cododd y dyn a'i roi ar gefn ei asyn ei hun, a dod o hyd i lety a gofalu amdano yno. Y diwrnod wedyn rhoddodd ddau ddenariws i berchennog y llety. ‘Gofala amdano,’ meddai wrtho, ‘Ac os bydd costau ychwanegol, gwna i dalu i ti y tro nesa bydda i'n mynd heibio.’ “Felly” meddai Iesu, “yn dy farn di, pa un o'r tri fu'n gymydog i'r dyn wnaeth y lladron ymosod arno?” Dyma'r arbenigwr yn y Gyfraith yn ateb, “Yr un wnaeth ei helpu.” Yna dwedodd Iesu, “Dos dithau a gwna'r un fath.” Wrth i Iesu deithio yn ei flaen i Jerwsalem gyda'i ddisgyblion, daeth i bentref lle roedd gwraig o'r enw Martha yn byw. A dyma hi'n rhoi croeso iddo i'w chartre. Roedd gan Martha chwaer o'r enw Mair, ac eisteddodd hi o flaen yr Arglwydd yn gwrando ar yr hyn roedd e'n ei ddweud. Ond roedd yr holl baratoadau roedd angen eu gwneud yn cymryd sylw Martha i gyd, a daeth at Iesu a gofyn iddo, “Arglwydd, dwyt ti ddim yn poeni bod fy chwaer wedi gadael i mi wneud y gwaith i gyd? Dywed wrthi am ddod i helpu!” “Martha annwyl,” meddai'r Arglwydd wrthi, “rwyt ti'n poeni ac yn cynhyrfu am y pethau yna i gyd, ond dim ond un peth sydd wir yn bwysig. Mae Mair wedi dewis y peth hwnnw, a fydd neb yn gallu ei gymryd oddi arni hi.” Un diwrnod roedd Iesu'n gweddïo mewn lle arbennig. Pan oedd wedi gorffen, dyma un o'i ddisgyblion yn gofyn iddo, “Arglwydd, dysgodd Ioan ei ddisgyblion i weddïo, felly dysga di ni.” Dwedodd wrthyn nhw, “Wrth weddïo dwedwch fel hyn: ‘Dad, dŷn ni eisiau i dy enw di gael ei anrhydeddu. Dŷn ni eisiau i ti ddod i deyrnasu. Rho i ni ddigon o fwyd i'n cadw ni'n fyw bob dydd. Maddau ein pechodau i ni — achos dŷn ni'n maddau i'r rhai sy'n pechu yn ein herbyn ni. Cadw ni rhag syrthio pan fyddwn ni'n cael ein profi.’” Yna dwedodd hyn: “Cymerwch fod gynnoch chi ffrind, a'ch bod yn mynd ato am hanner nos ac yn dweud, ‘Wnei di fenthyg tair torth o fara i mi? Mae yna ffrind arall i mi wedi galw heibio i ngweld i, a does gen i ddim byd i'w roi iddo i'w fwyta.’ “Mae'r ffrind sydd yn y tŷ yn ateb, ‘Gad lonydd i mi. Dw i wedi cloi'r drws ac mae'r plant yn y gwely gyda mi. Alla i ddim dy helpu di.’ Ond wir i chi, er ei fod yn gwrthod codi i roi bara iddo am eu bod yn ffrindiau; am ei fod yn dal ati i ofyn bydd yn codi yn y diwedd, ac yn rhoi popeth mae e eisiau iddo. “Daliwch ati i ofyn a byddwch yn ei gael; chwiliwch a byddwch yn dod o hyd iddo; curwch y drws a bydd yn cael ei agor. Mae pawb sy'n gofyn yn derbyn; pawb sy'n chwilio yn cael; ac mae'r drws yn cael ei agor i bawb sy'n curo. “Pwy ohonoch chi fyddai'n rhoi neidr i'ch plentyn pan mae'n gofyn am bysgodyn? Neu sgorpion pan mae'n gofyn am ŵy? Wrth gwrs ddim! Felly os ydych chi sy'n ddrwg yn gwybod sut i roi anrhegion da i'ch plant, mae'r Tad nefol yn siŵr o roi'r Ysbryd Glân i'r rhai sy'n gofyn iddo!” Roedd Iesu'n bwrw cythraul allan o ddyn oedd yn fud. Pan aeth y cythraul allan ohono dyma'r dyn yn dechrau siarad, ac roedd y bobl yno wedi eu syfrdanu. Ond roedd rhai yn dweud, “Beelsebwl (y diafol ei hun), tywysog y cythreuliaid, sy'n rhoi'r gallu iddo wneud hyn.” Ac roedd eraill yn ceisio cael Iesu i brofi ei hun drwy wneud rhyw arwydd gwyrthiol. Ond roedd Iesu'n gwybod beth oedd yn mynd trwy eu meddyliau, ac meddai wrthyn nhw: “Bydd teyrnas lle mae yna ryfel cartref yn syrthio, a bydd teulu sy'n ymladd â'i gilydd o hyd yn chwalu. Os ydy Satan yn ymladd ei hun, a'i deyrnas wedi ei rhannu, sut mae'n bosib i'w deyrnas sefyll? Dw i'n gofyn y cwestiwn am eich bod chi'n honni mai Beelsebwl sy'n rhoi'r gallu i mi fwrw allan gythreuliaid. Felly os mai Beelsebwl sy'n rhoi'r gallu i mi, pwy sy'n rhoi'r gallu i'ch dilynwyr chi? Byddan nhw'n eich barnu chi! Ond os mai Duw sy'n rhoi'r gallu i mi fwrw allan gythreuliaid, yna mae Duw wedi dod i deyrnasu. “Pan mae dyn cryf arfog yn amddiffyn ei gartref, mae ei eiddo yn ddiogel. Ond pan mae rhywun cryfach yn ymosod arno a'i drechu, mae'n cymryd ei arfau oddi ar y dyn, ac yn dwyn ei eiddo. “Os dydy rhywun ddim ar fy ochr i, mae yn fy erbyn i. Ac os dydy rhywun ddim yn gweithio gyda mi, mae'n gweithio yn fy erbyn i. “Pan mae ysbryd drwg yn dod allan o rywun, mae'n mynd i grwydro lleoedd anial yn edrych am le i orffwys. Ond yna pan mae'n methu dod o hyd i rywle, mae'n meddwl, ‘Dw i am fynd yn ôl i lle roeddwn i'n byw.’ Mae'n cyrraedd ac yn darganfod y tŷ wedi ei lanhau a'i dacluso trwyddo. Wedyn mae'n mynd â saith ysbryd gwaeth na'i hun i fyw gydag e! Mae'r person mewn gwaeth cyflwr ar y diwedd nag oedd ar y dechrau!” Pan oedd Iesu wrthi'n dweud y pethau yma, dyma ryw wraig yn y dyrfa yn gweiddi, “Mae dy fam, wnaeth dy gario di'n ei chroth a'th fagu ar ei bronnau, wedi ei bendithio'n fawr!” Atebodd Iesu, “Mae'r rhai sy'n gwrando ar neges Duw ac yn ufuddhau iddo wedi eu bendithio'n fwy!” Wrth i'r dyrfa fynd yn fwy, meddai Iesu, “Mae'r genhedlaeth yma yn ddrwg. Mae pobl yn gofyn am gael gweld gwyrth fyddai'n arwydd iddyn nhw o pwy ydw i. Ond yr unig arwydd gân nhw ydy arwydd y proffwyd Jona. Fel roedd beth ddigwyddodd i Jona yn arwydd i bobl Ninefe, bydd yr hyn fydd yn digwydd i mi, Mab y Dyn, yn arwydd i bobl y genhedlaeth yma. Bydd Brenhines Seba yn condemnio pobl y genhedlaeth yma ar ddydd y farn, achos roedd hi'n fodlon teithio o ben draw'r byd i wrando ar ddoethineb Solomon. Mae un mwy na Solomon yma nawr! Bydd pobl Ninefe hefyd yn condemnio pobl y genhedlaeth yma, am eu bod nhw wedi newid eu ffyrdd ar ôl clywed pregethu Jona. Mae un mwy na Jona yma nawr! “Does neb yn goleuo lamp ac wedyn yn ei gosod yn rhywle o'r golwg neu o dan fowlen. Mae lamp yn cael ei gosod mewn lle amlwg, fel bod pawb sy'n dod i mewn yn cael golau. Dy lygad di ydy lamp y corff. Mae llygad iach, sef bod yn hael, yn gwneud dy gorff yn olau trwyddo. Ond llygad sâl ydy bod yn hunanol, a bydd dy gorff yn dywyll trwyddo. Felly gwylia, rhag ofn bod y golau sydd gen ti yn dywyllwch! Felly os ydy dy gorff yn olau trwyddo, heb dywyllwch yn unman, bydd dy fywyd i gyd yn olau fel petai lamp yn disgleirio arnat ti.” Ar ôl i Iesu orffen siarad, dyma un o'r Phariseaid yn ei wahodd i'w gartref am bryd o fwyd. Felly aeth Iesu yno ac eistedd wrth y bwrdd. Roedd y dyn oedd wedi ei wahodd yn synnu gweld Iesu yn eistedd wrth y bwrdd heb fynd trwy'r ddefod Iddewig o olchi ei ddwylo cyn bwyta. Dyma'r Arglwydd Iesu yn dweud wrtho, “Dych chi'r Phariseaid yn glanhau tu allan y cwpan neu'r ddysgl, ond y tu mewn dych chi'n gwbl hunanol a drwg! Y ffyliaid dall! Oes gan Dduw ddim diddordeb yn y tu mewn yn ogystal â'r tu allan? Rhowch beth sydd tu mewn i'r ddysgl i'r tlodion (yn lle ei gadw i chi'ch hunain) — wedyn byddwch yn lân i gyd. “Gwae chi'r Phariseaid! Dych chi'n ofalus iawn gyda rhyw fanion fel rhoi un rhan o ddeg o beth sydd gynnoch chi i Dduw — hyd yn oed o'ch mintys, arianllys a'ch perlysiau eraill! Ond dych chi'n esgeuluso byw'n gyfiawn a charu Duw. Dylech wneud y pethau pwysicach yma heb ddiystyru'r pethau eraill. “Gwae chi'r Phariseaid! Dych chi wrth eich bodd yn cael y seddi pwysica yn y synagogau a chael pobl yn symud o'ch ffordd chi a'ch cyfarch yn barchus yn sgwâr y farchnad. “Gwae chi! Dych chi fel beddau mewn cae heb ddim arwydd i ddweud fod bedd yna, a phobl yn llygru eu hunain wrth gerdded drostyn nhw heb wybod beth maen nhw'n ei wneud!” Dyma un o'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn ymateb, “Athro, rwyt ti'n ein sarhau ni hefyd wrth ddweud y fath bethau!” “Ie, a gwae chi'r arbenigwyr yn y Gyfraith!” meddai Iesu. “Dych chi'n llethu pobl gyda'ch rheolau crefyddol, a wnewch chi ddim codi bys bach i'w helpu nhw a gwneud pethau'n haws iddyn nhw. “Gwae chi! Dych chi'n codi cofgolofnau i anrhydeddu'r proffwydi, a'ch cyndeidiau chi laddodd nhw! Dych chi'n gwybod yn iawn beth wnaeth eich cyndeidiau, ac yn cytuno â nhw; nhw laddodd y proffwydi dych chi'n codi'r cofgolofnau iddyn nhw! Dyma ddwedodd Duw yn ei ddoethineb, ‘Bydda i'n anfon proffwydi a negeswyr atyn nhw. Byddan nhw'n lladd rhai ac yn erlid y lleill.’ Bydd y genhedlaeth yma'n cael ei galw i gyfrif am ladd pob un o'r proffwydi ers i'r byd gael ei greu — o lofruddiaeth Abel hyd Sechareia, gafodd ei lofruddio rhwng yr allor a'r cysegr. Dw i'n dweud wrthoch chi, bydd y genhedlaeth yma yn cael ei galw i gyfrif am y cwbl! “Gwae chi'r arbenigwyr yn y Gyfraith! Dych chi wedi cuddio allwedd y drws sy'n arwain at ddeall yr ysgrifau sanctaidd oddi wrth y bobl. Felly dych chi'ch hunain ddim yn mynd i mewn, a dych chi'n rhwystro pobl eraill rhag mynd i mewn hefyd.” Ar ôl iddo adael y tŷ, dyma'r Phariseaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn dechrau gwrthwynebu Iesu'n ffyrnig. Roedden nhw'n ymosod arno gyda chwestiynau di-baid, yn y gobaith o'i gael i ddweud rhywbeth bydden nhw'n gallu ei ddefnyddio yn ei erbyn. Yn y cyfamser roedd tyrfa yn ymgasglu — miloedd o bobl yn ymwthio a sathru ar draed ei gilydd. Dyma Iesu'n siarad â'i ddisgyblion yn gyntaf, ac meddai wrthyn nhw: “Cadwch draw oddi wrth furum y Phariseaid, sef y ffaith eu bod nhw mor ddauwynebog. Bydd popeth sydd wedi ei guddio yn dod i'r golwg, a phob cyfrinach yn cael ei datgelu. Bydd popeth ddwedoch chi o'r golwg yn cael ei glywed yng ngolau dydd, a beth gafodd ei sibrwd tu ôl i ddrysau caeëdig yn cael ei gyhoeddi'n uchel o bennau'r tai. “Ffrindiau, peidiwch bod ofn pobl. Maen nhw'n gallu lladd eich corff chi, ond ddim mwy na hynny. Gwrandwch, Duw ydy'r un i'w ofni — mae'r hawl ganddo fe i'ch taflu chi i uffern ar ôl lladd y corff! Ie, ofnwch Dduw! Beth ydy gwerth aderyn y to? Dych chi'n gallu prynu pump ohonyn nhw am newid mân! Ond mae Duw'n gofalu am bob un aderyn bach. Dych chi'n llawer mwy gwerthfawr na haid fawr o adar y to! Mae Duw hyd yn oed wedi cyfri gwallt eich pen chi! Felly peidiwch bod ofn dim byd. “Dych chi'n gallu bod yn siŵr o hyn: pwy bynnag sy'n dweud yn agored o flaen pobl eraill ei fod yn credu ynof fi, bydda i, Mab y Dyn, yn dweud yn agored o flaen angylion Duw fod y person hwnnw'n perthyn i mi. Ond pwy bynnag sy'n gwadu ei fod yn credu ynof fi, bydda i'n gwadu o flaen angylion Duw fod y person hwnnw'n perthyn i mi. A bydd pawb sydd wedi dweud rhywbeth yn fy erbyn i, Mab y Dyn, yn cael maddeuant, ond does dim maddeuant i'r sawl sy'n cablu'r Ysbryd Glân. “Pan fyddwch ar brawf yn y synagogau, neu o flaen y llywodraethwyr a'r awdurdodau, peidiwch poeni am eich amddiffyniad, beth i'w ddweud. Bydd yr Ysbryd Glân yn dangos i chi beth i'w ddweud yn y fan a'r lle.” Yna dyma rywun o ganol y dyrfa yn galw arno, “Athro, mae fy mrawd yn gwrthod rhannu'r eiddo mae dad wedi ei adael i ni. Dywed wrtho am ei rannu.” Atebodd Iesu, “Ffrind, pwy wnaeth fi yn farnwr neu'n ganolwr i sortio rhyw broblem felly rhyngoch chi'ch dau?” Yna dwedodd, “Gwyliwch eich hunain! Mae'r awydd i gael mwy a mwy o bethau yn beryglus. Dim faint o bethau sydd gynnoch chi sy'n rhoi bywyd go iawn i chi.” A dwedodd stori wrthyn nhw: “Roedd rhyw ddyn cyfoethog yn berchen tir, a chafodd gnwd arbennig o dda un cynhaeaf. ‘Does gen i ddim digon o le i storio'r cwbl,’ meddai. ‘Beth wna i?’ “‘Dw i'n gwybod! Tynnu'r hen ysguboriau i lawr, ac adeiladau rhai mwy yn eu lle! Bydd gen i ddigon o le i storio popeth wedyn. Yna bydda i'n gallu eistedd yn ôl a dweud wrtho i'n hun, “Mae gen i ddigon i bara am flynyddoedd lawer. Dw i'n mynd i ymlacio a mwynhau fy hun yn bwyta ac yn yfed.”’ “Ond dyma Duw yn dweud wrtho, ‘Y ffŵl dwl! Heno ydy'r noson rwyt ti'n mynd i farw. Pwy fydd yn cael y cwbl rwyt ti wedi ei gasglu i ti dy hun?’ “Ie, fel yna bydd hi ar bobl sy'n casglu cyfoeth iddyn nhw eu hunain ond sy'n dlawd mewn gwirionedd, am eu bod heb Dduw.” Yna dyma Iesu'n dweud wrth ei ddisgyblion: “Felly, dyma dw i'n ddweud — peidiwch poeni beth i'w fwyta a beth i'w wisgo. Mae mwy i fywyd na bwyd a dillad. Meddyliwch am gigfrain: Dyn nhw ddim yn hau nac yn medi, a does ganddyn nhw ddim ystordy nag ysgubor — ac eto mae Duw'n eu bwydo nhw. Dych chi'n llawer mwy gwerthfawr yn ei olwg nag adar! Allwch chi ddim hyd yn oed gwneud eich bywyd eiliad yn hirach drwy boeni! Os allwch chi ddim gwneud peth bach fel yna, beth ydy'r pwynt o boeni am bopeth arall? “Meddyliwch sut mae blodau'n tyfu. Dydyn nhw ddim yn gweithio nac yn nyddu. Ac eto, doedd hyd yn oed y Brenin Solomon yn ei ddillad crand ddim yn edrych mor hardd ag un ohonyn nhw. Os ydy Duw yn gofalu fel yna am flodau gwyllt (sy'n tyfu heddiw, ond yn cael eu llosgi fel tanwydd fory), mae'n siŵr o ofalu amdanoch chi! Ble mae'ch ffydd chi? Felly peidiwch treulio'ch bywyd yn poeni am fwyd a diod! Pobl sydd ddim yn credu sy'n poeni am bethau felly. Mae'ch Tad yn gwybod beth sydd ei angen arnoch chi. Gwnewch yn siŵr mai'r flaenoriaeth i chi ydy ymostwng i deyrnasiad Duw, ac wedyn cewch y pethau eraill yma i gyd. “Fy mhraidd bach i, peidiwch bod ofn. Mae Duw yn benderfynol o rannu ei deyrnas â chi. Gwerthwch eich eiddo a rhoi'r arian i'r tlodion. Gofalwch fod gynnoch chi bwrs sy'n mynd i bara am byth, trysor sydd ddim yn colli ei werth. Dydy lleidr ddim yn gallu dwyn y trysor nefol, na gwyfyn yn gallu ei ddifetha. Ble bynnag mae dy drysor di y bydd dy galon di. “Byddwch yn barod bob amser; a cadwch eich lampau yn olau, fel petaech yn disgwyl i'r meistr gyrraedd adre o wledd briodas. Pan fydd yn cyrraedd ac yn curo'r drws, byddwch yn gallu agor y drws yn syth. Bydd y gweision hynny sy'n effro ac yn disgwyl am y meistr yn cael eu gwobrwyo — wir i chi, bydd y meistr yn mynd ati i weini arnyn nhw, a byddan nhw'n eistedd wrth y bwrdd i fwyta! Falle y bydd hi'n oriau mân y bore pan fydd yn cyrraedd, ond bydd y gweision sy'n effro yn cael eu gwobrwyo. “Meddyliwch! Petai perchennog y tŷ yn gwybod ymlaen llaw pryd roedd y lleidr yn dod, byddai wedi ei rwystro rhag torri i mewn i'w dŷ! Rhaid i chi fod yn barod drwy'r adeg, achos bydda i, Mab y Dyn, yn cyrraedd pan fyddwch chi ddim yn disgwyl!” Gofynnodd Pedr, “Ydy'r stori yma i ni yn unig neu i bawb?” Atebodd yr Arglwydd, “Pwy ydy'r rheolwr doeth mae'r meistr yn gallu dibynnu arno? Mae wedi ei benodi i fod yn gyfrifol am y gweision i gyd, ac i'w bwydo'n rheolaidd. Ac os bydd yn gwneud ei waith yn iawn pan ddaw'r meistr yn ôl, bydd yn cael ei wobrwyo. Wir i chi, bydd yn cael y cyfrifoldeb o ofalu am eiddo'r meistr i gyd! Ond beth petai'r gwas yn meddwl wrtho'i hun, ‘Mae'r meistr yn hir iawn yn cyrraedd,’ ac yn mynd ati i gam-drin y gweision a'r morynion eraill, ac i bartïo ac yfed a meddwi? Byddai'r meistr yn dod yn ôl yn gwbl ddirybudd, a'i gosbi'n llym a'i daflu allan gyda'r rhai sydd ddim yn credu. “Bydd y gwas sy'n gwybod yn iawn beth mae'r meistr eisiau, ond ddim yn mynd ati i wneud hynny, yn cael ei gosbi'n llym. Ond os dydy'r gwas ddim yn gwybod ei fod wedi gwneud rhywbeth o'i le, bydd y gosb yn ysgafn. Mae disgwyl llawer gan y sawl oedd wedi derbyn llawer; ac mae gofyn llawer mwy yn ôl gan y sawl oedd yn gyfrifol am lawer. “Dw i wedi dod i gynnau tân ar y ddaear, a byddwn i'n hoffi petai'r gwaith eisoes wedi ei wneud! Ond mae gen i brofiad dychrynllyd i fynd trwyddo, a dw i'n teimlo pwysau dychrynllyd nes bydd y cwbl drosodd! Ydych chi'n meddwl mod i wedi dod i roi heddwch i'r byd? Na, wir i chi! Dim heddwch ond rhwygiadau. Bydd teuluoedd yn cael eu rhwygo, tri yn erbyn a dau o blaid, neu fel arall. Bydd tad yn erbyn ei fab a mab yn erbyn ei dad; mam yn erbyn ei merch a merch yn erbyn ei mam; mam-yng-nghyfraith yn erbyn merch-yng-nghyfraith a merch-yng-nghyfraith yn erbyn mam-yng-nghyfraith!” Yna dyma Iesu'n troi at y dyrfa a dweud: “Os gwelwch chi gwmwl yn codi yn y gorllewin, ‘Mae'n mynd i lawio,’ meddech chi ar unwaith, ac mae hi yn glawio. Neu pan fydd gwynt y de yn chwythu, dych chi'n dweud, ‘Mae'n mynd i fod yn boeth,’ a dych chi'n iawn. Am ragrithwyr! Dych chi'n gwybod sut i ddehongli arwyddion y tywydd. Pam allwch chi ddim dehongli beth sy'n digwydd nawr? “Pam allwch chi ddim penderfynu beth sy'n iawn? Os ydy rhywun yn mynd â ti i'r llys, gwna dy orau i gymodi cyn cyrraedd yno. Ydy'n well gen ti gael dy lusgo o flaen y barnwr, a'r barnwr yn gorchymyn i swyddog dy daflu di yn y carchar? Wir i ti, chei di ddim dy ryddhau nes byddi wedi talu pob ceiniog.” Dyma bobl yn dod a dweud wrth Iesu fod Peilat wedi lladd rhyw bobl o Galilea pan oedden nhw wrthi'n aberthu i Dduw. “Ydych chi'n meddwl fod y Galileaid yna yn bechaduriaid gwaeth na phobl eraill Galilea? Ai dyna pam wnaethon nhw ddioddef?” “Nage! dim o gwbl! Cewch chithau hefyd eich dinistrio os fyddwch chi ddim yn newid eich ffyrdd a throi at Dduw!” “Neu beth am y bobl yna gafodd eu lladd pan syrthiodd tŵr Siloam ar eu pennau? — un deg wyth ohonyn nhw! Ydych chi'n meddwl eu bod nhw'n waeth na phawb arall oedd yn byw yn Jerwsalem?” “Nac oedden! Dim o gwbl! Ond byddwch chithau hefyd yn cael eich dinistrio os fyddwch chi ddim yn troi at Dduw!” Yna dwedodd y stori yma: “Roedd rhyw ddyn wedi plannu coeden ffigys yn ei winllan. Bu'n disgwyl a disgwyl i rywbeth dyfu arni, ond chafodd e ddim byd. Felly dyma'r dyn yn dweud wrth y gwas oedd yn gweithio fel garddwr iddo, ‘Dw i wedi bod yn disgwyl i ffrwyth dyfu ar y goeden ffigys yma ers tair blynedd, ac wedi cael dim. Torra hi i lawr, mae hi'n wastraff o dir da.’ “‘Ond syr,’ meddai'r garddwr, ‘gad hi am flwyddyn arall, i mi balu o'i chwmpas hi a rhoi digon o wrtaith iddi. Wedyn os bydd ffrwyth yn tyfu arni, gwych! Ond os bydd dim ffrwyth eto, yna torrwn hi i lawr.’” Roedd Iesu'n dysgu yn un o'r synagogau ryw Saboth, ac roedd gwraig yno oedd ag ysbryd drwg wedi ei gwneud hi'n anabl ers un deg wyth mlynedd. Roedd ei chefn wedi crymu nes ei bod yn methu sefyll yn syth o gwbl. Dyma Iesu'n ei gweld hi ac yn ei galw draw ato. “Wraig annwyl,” meddai wrthi “rwyt ti'n mynd i gael dy iacháu o dy wendid.” Yna rhoddodd ei ddwylo arni, a dyma ei chefn yn sythu yn y fan a'r lle. A dechreuodd foli Duw. Ond roedd arweinydd y synagog wedi gwylltio am fod Iesu wedi iacháu ar y Saboth. Cododd a dweud wrth y bobl oedd yno, “Mae yna chwe diwrnod i weithio. Dewch i gael eich iacháu y dyddiau hynny, dim ar y Saboth!” Ond meddai'r Arglwydd wrtho, “Rwyt ti mor ddauwynebog! Dych chi i gyd yn gollwng ychen ac asyn yn rhydd ar y Saboth, ac yn eu harwain at ddŵr! Dyma i chi un o blant Abraham — gwraig wedi ei rhwymo gan Satan ers un deg wyth mlynedd! Onid ydy'n iawn iddi hi hefyd gael ei gollwng yn rhydd ar y Saboth?” Roedd ei eiriau yn codi cywilydd ar ei wrthwynebwyr i gyd. Ond roedd y bobl gyffredin wrth eu bodd gyda'r holl bethau gwych roedd yn eu gwneud. Gofynnodd Iesu, “Sut beth ydy teyrnasiad Duw? Sut alla i ei ddisgrifio? Mae fel hedyn mwstard yn cael ei blannu gan rywun yn ei ardd. Tyfodd yn goeden, a daeth yr adar i nythu yn ei changhennau!” A gofynnodd eto, “Sut beth ydy teyrnasiad Duw? Mae fel burum. Mae gwraig yn ei gymryd ac yn ei gymysgu gyda digonedd o flawd nes iddo ledu drwy'r toes i gyd.” Ar ei ffordd i Jerwsalem roedd Iesu'n galw yn y trefi a'r pentrefi i gyd ac yn dysgu'r bobl. Dyma rywun yn gofyn iddo, “Arglwydd, ai dim ond ychydig bach o bobl sy'n mynd i gael eu hachub?” Dyma'i ateb: “Gwnewch eich gorau glas i gael mynd drwy'r drws cul. Wir i chi, bydd llawer yn ceisio mynd i mewn ond yn methu. Pan fydd perchennog y tŷ wedi codi i gau'r drws, bydd hi'n rhy hwyr. Byddwch chi'n sefyll y tu allan yn curo ac yn pledio, ‘Syr, agor y drws i ni.’ Ond bydd yn ateb, ‘Dw i ddim yn gwybod pwy ydych chi.’ Byddwch chithau'n dweud, ‘Buon ni'n bwyta ac yn yfed gyda ti. Roeddet ti'n dysgu ar ein strydoedd ni.’ A bydd e'n ateb eto, ‘Dw i ddim yn eich nabod chi. Ewch o ma! Pobl ddrwg ydych chi i gyd!’ “Byddwch chi'n wylo'n chwerw ac mewn artaith, wrth weld Abraham, Isaac a Jacob a'r holl broffwydi yn nheyrnas Dduw, a chi'ch hunain wedi eich taflu allan. Bydd pobl yn dod o bob rhan o'r byd i wledda pan ddaw Duw i deyrnasu. Yn wir bydd y rhai sydd yn y cefn yn cael bod ar y blaen, a'r rhai sydd ar y blaen yn cael eu hunain yn y cefn.” Yna daeth rhyw Phariseaid at Iesu a dweud wrtho, “Rhaid i ti ddianc o ma. Mae Herod Antipas eisiau dy ladd di.” Atebodd Iesu, “Ewch i ddweud wrth y llwynog, ‘Bydda i'n bwrw cythreuliaid allan ac yn iacháu pobl heddiw a fory, a'r diwrnod wedyn bydda i wedi cyrraedd lle dw i'n mynd.’ Mae'n rhaid i mi ddal i fynd am dri diwrnod arall — does dim un proffwyd yn marw y tu allan i Jerwsalem! “O! Jerwsalem, Jerwsalem! Y ddinas sy'n lladd y proffwydi ac yn llabyddio'r negeswyr mae Duw'n eu hanfon ati. Mor aml dw i wedi hiraethu am gael casglu dy blant at ei gilydd, fel mae iâr yn casglu ei chywion dan ei hadenydd — ond doedd gen ti ddim diddordeb! Edrych! Mae Duw wedi gadael dy deml. Dw i'n dweud hyn — fyddi di ddim yn fy ngweld i eto nes byddi'n dweud, ‘Mae'r un sy'n dod i gynrychioli'r Arglwydd wedi ei fendithio'n fawr!’ ” Un Saboth, roedd Iesu wedi mynd am bryd o fwyd i gartref un o arweinwyr y Phariseaid. Roedd pawb yno'n ei wylio'n ofalus, am fod dyn o'i flaen oedd a'i freichiau a'i goesau wedi chwyddo'n fawr am fod y dropsi arno. Gofynnodd Iesu i'r Phariseaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith, “Ydy'n iawn yn ôl y Gyfraith i iacháu ar y Saboth neu ddim?” Ond wnaethon nhw ddim ateb. Felly dyma Iesu'n rhoi ei ddwylo ar y dyn, a'i iacháu ac yna ei anfon i ffwrdd. Wedyn gofynnodd iddyn nhw, “Petai plentyn neu ychen un ohonoch chi yn syrthio i mewn i bydew ar y Saboth, fyddech chi ddim yn mynd i'w dynnu allan ar unwaith?” Doedd ganddyn nhw ddim ateb. Yna sylwodd Iesu hefyd fod y gwesteion i gyd yn ceisio cael y lleoedd gorau wrth y bwrdd. A dwedodd fel hyn wrthyn nhw: “Pan wyt ti'n cael gwahoddiad i wledd briodas, paid bachu'r sedd orau wrth y bwrdd. Falle fod rhywun pwysicach na ti wedi cael gwahoddiad. Wedyn byddai'n rhaid i'r sawl wnaeth dy wahodd di ofyn i ti symud — ‘Wnei di symud, i'r person yma gael eistedd.’ Am embaras! Gorfod symud i eistedd yn y sedd leia pwysig! Mae'n llawer gwell i ti fynd ac eistedd yn y sedd honno, wedyn pan fydd y sawl roddodd wahoddiad i ti'n cyrraedd, bydd yn dweud, ‘Ffrind annwyl, tyrd yn nes, mae hon yn sedd well.’ Byddi di'n cael dy anrhydeddu yn lle cael dy gywilyddio o flaen y gwesteion eraill. Bydd Duw yn torri crib pobl falch, ac yn anrhydeddu'r rhai gostyngedig.” Wedyn dyma Iesu'n dweud hyn wrth y dyn oedd wedi ei wahodd i'r pryd bwyd, “Pan fyddi'n gwahodd pobl am bryd o fwyd, paid gwahodd dy ffrindiau, dy frodyr a dy chwiorydd, dy berthnasau, neu dy gymdogion cyfoethog. Mae'n bosib i bobl felly roi gwahoddiad yn ôl i ti, ac wedyn byddi di wedi derbyn dy dâl. Dyma beth ddylet ti ei wneud: Pan fyddi di'n trefnu gwledd, rho wahoddiad i bobl dlawd, methedig, cloff a dall, a byddi di'n cael dy fendithio. Dydyn nhw ddim yn gallu talu'n ôl i ti, ond byddi'n cael dy dâl pan fydd y rhai sydd â pherthynas iawn gyda Duw yn codi yn ôl yn fyw.” Clywodd un o'r bobl oedd yn eistedd wrth y bwrdd hyn, a dwedodd wrth Iesu, “Mae'r rhai fydd yn cael bwyta yn y wledd pan ddaw Duw i deyrnasu wedi eu bendithio'n fawr!” Atebodd Iesu: “Roedd rhyw ddyn wedi trefnu gwledd fawr a gwahodd llawer o bobl iddi. Pan oedd popeth yn barod, anfonodd ei was i ddweud wrth y rhai oedd wedi cael gwahoddiad, ‘Dewch, mae'r wledd yn barod.’ “Ond dyma bob un ohonyn nhw yn dechrau hel esgusion. Dyma un yn dweud, ‘Dw i newydd brynu ychydig o dir, ac mae'n rhaid i mi fynd i'w weld. Wnei di f'esgusodi fi os gweli di'n dda?’ “Dyma un arall yn dweud, ‘Dw i newydd brynu pum pâr o ychen, a dw i'n mynd i roi prawf arnyn nhw. Wnei di f'esgusodi fi os gweli di'n dda?’ “A dyma un arall eto yn dweud, ‘Dw i newydd briodi, felly alla i ddim dod.’ “Felly dyma'r gwas yn mynd yn ôl a dweud wrth ei feistr beth oedd wedi digwydd. Roedd y meistr wedi gwylltio, ac meddai wrth y gwas, ‘Dos i'r dre ar unwaith, a thyrd â'r bobl sy'n cardota ar y strydoedd i mewn yma — y tlawd, y methedig, pobl sy'n gloff ac yn ddall.’ “Pan ddaeth y gwas yn ôl dwedodd wrth ei feistr, ‘Syr, dw i wedi gwneud beth ddwedaist ti, ond mae yna fwy o le ar ôl o hyd.’ “Felly dyma'r meistr yn dweud, ‘Dos allan o'r ddinas, i'r ffyrdd a'r lonydd yng nghefn gwlad. Perswadia'r bobl sydd yno i ddod. Dw i eisiau i'r tŷ fod yn llawn. Fydd yna ddim lle i neb o'r bobl hynny gafodd eu gwahodd! Fyddan nhw ddim yn cael tamaid o'r wledd dw i wedi ei threfnu.’” Roedd tyrfa fawr o bobl yn teithio gyda Iesu, a dyma fe'n troi atyn nhw a dweud: “Os ydy rhywun am fy nilyn i, rhaid i mi ddod o flaen popeth arall yn ei fywyd. Rhaid i'w gariad ata i wneud i bob perthynas arall edrych fel casineb! — ei dad a'i fam, ei wraig a'i blant, ei frodyr a'i chwiorydd — ie, hyd yn oed bywyd ei hun! Neu all e ddim bod yn ddisgybl i mi. A does neb yn gallu bod yn ddisgybl i mi chwaith heb gario ei groes a cherdded yr un llwybr o hunanaberth. “Does neb yn mynd ati i adeiladu adeilad mawr heb eistedd i lawr yn gyntaf i amcangyfri'r gost a gwneud yn siŵr fod ganddo ddigon o arian i orffen y gwaith. Does dim pwynt iddo fynd ati i osod y sylfeini ac wedyn darganfod ei fod yn methu ei orffen. Byddai pawb yn gwneud hwyl ar ei ben, ac yn dweud ‘Edrychwch, dyna'r dyn ddechreuodd y gwaith ar yr adeilad acw a methu ei orffen!’ “A dydy brenin ddim yn mynd i ryfel heb eistedd gyda'i gynghorwyr yn gyntaf, ac ystyried ydy hi'n bosib i'w fyddin o ddeg mil o filwyr drechu'r fyddin o ugain mil sy'n ymosod arno. Os ydy'r peth yn amhosib bydd yn anfon swyddogion i geisio cytuno ar delerau heddwch — a hynny pan fydd byddin y gelyn yn dal yn bell i ffwrdd! Dych chi yn yr un sefyllfa. All neb fod yn ddisgybl i mi heb roi heibio popeth arall er mwyn fy nilyn i. “Mae halen yn ddefnyddiol, ond pan mae'n colli ei flas pa obaith sydd i'w wneud yn hallt eto? Dydy e'n gwneud dim lles i'r pridd nac i'r domen dail; rhaid ei daflu i ffwrdd. “Gwrandwch yn ofalus os dych chi'n awyddus i ddysgu!” Roedd y dynion oedd yn casglu trethi i Rufain a phobl eraill oedd yn cael eu hystyried yn ‛bechaduriaid‛ yn casglu o gwmpas Iesu i wrando arno. Ond roedd y Phariseaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn cwyno a mwmblan, “Mae'r dyn yma'n rhoi croeso i bobl sy'n ‛bechaduriaid‛! Mae hyd yn oed yn bwyta gyda nhw!” Felly dyma Iesu'n dweud y stori yma wrthyn nhw: “Dychmygwch fod gan un ohonoch chi gant o ddefaid, a bod un ohonyn nhw wedi mynd ar goll. Oni fyddai'n gadael y naw deg naw ar y tir agored ac yn mynd i chwilio am y ddafad aeth ar goll nes dod o hyd iddi? A phan mae'n dod o hyd iddi mae mor llawen! Mae'n ei chodi ar ei ysgwyddau ac yn mynd adre. Wedyn mae'n galw ei ffrindiau a'i gymdogion draw, ac yn dweud wrthyn nhw, ‘Dewch i ddathlu; dw i wedi dod o hyd i'r ddafad oedd wedi mynd ar goll.’ Wir i chi, dyna sut mae hi yn y nefoedd — mae mwy o ddathlu am fod un pechadur wedi troi at Dduw nag am naw deg naw o bobl sy'n meddwl eu bod nhw'n iawn a dim angen newid! “Neu petai gan ryw wraig ddeg darn arian, ac yn colli un ohonyn nhw. Byddai hi'n cynnau lamp ac yn mynd ati i lanhau'r tŷ i gyd, a chwilio ym mhob twll a chornel am y darn arian nes iddi ddod o hyd iddo. Pan mae'n dod o hyd iddo, mae'n galw ei ffrindiau a'i chymdogion draw, ac yn dweud wrthyn nhw, ‘Dewch i ddathlu; dw i wedi dod o hyd i'r darn arian oedd wedi mynd ar goll.’ Wir i chi, dyna sut mae Duw yn dathlu o flaen ei angylion pan mae un pechadur yn troi ato!” Aeth Iesu yn ei flaen i ddweud stori arall: “Roedd rhyw ddyn a dau fab ganddo. Dyma'r mab ifancaf yn mynd at ei dad a dweud, ‘Dad, dw i eisiau i ti roi fy siâr i o'r ystâd i mi nawr.’ Felly dyma'r tad yn cytuno i rannu popeth oedd ganddo rhwng y ddau fab. “Yn fuan wedyn, dyma'r mab ifancaf yn gwerthu'r cwbl lot, gadael cartref a theithio i wlad bell. Yno gwastraffodd ei arian i gyd ar fywyd gwyllt. Ar ôl iddo golli'r cwbl bu newyn difrifol drwy'r wlad, ac roedd yn dechrau llwgu. Llwyddodd i berswadio rhywun i roi gwaith iddo, a chafodd ei anfon allan i'r caeau i ofalu am foch. Aeth pethau mor ddrwg nes ei fod yn cael ei demtio i fwyta peth o'r bwyd moch! Doedd neb yn rhoi dim arall iddo. “Calliodd o'r diwedd, ac meddai ‘Beth dw i'n ei wneud yn y fan yma yn llwgu i farwolaeth? Mae dad yn cyflogi gweithwyr, ac mae ganddyn nhw ddigonedd o fwyd. Af i adre at dad, a dweud wrtho: Dad, dw i wedi pechu yn erbyn Duw ac yn dy erbyn di. Dw i ddim yn haeddu cael fy ngalw'n fab i ti ddim mwy. Gad i mi fod yn un o'r gweithwyr sy'n cael eu cyflogi gen ti.’ Felly i ffwrdd ag e yn ôl adre. “Gwelodd ei dad e'n dod pan oedd yn dal yn bell i ffwrdd. Roedd ei dad wedi cynhyrfu, a rhedodd at ei fab, a'i gofleidio a'i gusanu. “A dyma'r mab yn dweud wrtho, ‘Dad, dw i wedi pechu yn erbyn Duw ac yn dy erbyn di. Dw i ddim yn haeddu cael fy ngalw'n fab i ti ddim mwy.’ Meddai'r tad wrth y gweision, ‘Brysiwch! Ewch i nôl mantell iddo ei gwisgo — yr un orau! Rhowch fodrwy ar ei fys a sandalau ar ei draed. Yna ewch i ladd y llo sydd wedi cael ei besgi, i ni gael parti! Roedd fy mab i wedi marw, ond mae wedi dod yn ôl yn fyw; roedd e ar goll, ond dŷn ni wedi ei gael yn ôl.’ Felly dyma'r parti'n dechrau. “Tra oedd hyn i gyd yn digwydd roedd y mab hynaf allan yn gweithio yn y caeau. Wrth ddod yn ôl at y tŷ roedd yn clywed sŵn cerddoriaeth a dawnsio. Galwodd fachgen ifanc ato, a gofyn iddo beth oedd yn digwydd. ‘Mae dy frawd yma!’ meddai hwnnw, ‘Mae dy dad wedi lladd y llo oedd wedi ei besgi i ddathlu ei fod wedi ei gael yn ôl yn saff.’ “Ond dyma'r mab hynaf yn digio, a gwrthod mynd i mewn. Felly dyma'i dad yn dod allan a chrefu arno i fynd i mewn. Ond meddai wrth ei dad, ‘Edrych! Dw i wedi slafio ar hyd y blynyddoedd yma, heb erioed wrthod gwneud unrhyw beth i ti. Ches i erioed fyn gafr gen ti i gael parti gyda fy ffrindiau! Ond dyma hwn yn dod adre — y mab yma sydd gen ti — yr un sydd wedi gwastraffu dy arian di i gyd ar buteiniaid. O! mae'n rhaid i ti ladd y llo sydd wedi ei besgi i hwn!’ “‘Machgen i,’ meddai'r tad wrtho, ‘rwyt ti yma bob amser, a ti sydd biau popeth sydd gen i ar ôl. Ond roedd rhaid i ni ddathlu — roedd dy frawd wedi marw, ond mae wedi dod yn ôl yn fyw; roedd e ar goll, ond dŷn ni wedi ei gael yn ôl!’” Dyma Iesu'n dweud y stori yma wrth ei ddisgyblion: “Roedd rhyw ddyn cyfoethog yn cyflogi fforman, ac wedi clywed sibrydion ei fod yn gwastraffu ei eiddo. Felly dyma'r dyn yn galw'r fforman i'w weld, a gofyn iddo, ‘Beth ydy hyn dw i'n ei glywed amdanat ti? Dw i eisiau gweld y llyfrau cyfrifon. Os ydy'r stori'n wir, cei di'r sac.’ “‘Beth dw i'n mynd i wneud?’ meddyliodd y fforman. ‘Dw i'n mynd i golli fy job. Dw i ddim yn ddigon cryf i fod yn labrwr, a fyddwn i byth yn gallu cardota. Dw i'n gwybod! Dw i'n mynd i wneud rhywbeth fydd yn rhoi digon o ffrindiau i mi, wedyn pan fydda i allan o waith bydd digon o bobl yn rhoi croeso i mi yn eu cartrefi.’ “A dyma beth wnaeth — cysylltodd â phob un o'r bobl oedd mewn dyled i'w feistr. Gofynnodd i'r cyntaf, ‘Faint o ddyled sydd arnat ti i'm meistr i?’ “‘Wyth can galwyn o olew olewydd,’ meddai. “Yna meddai'r fforman, ‘Tafla'r bil i ffwrdd. Gad i ni ddweud mai pedwar cant oedd e.’ “Yna gofynnodd i un arall, ‘Faint ydy dy ddyled di?’ “‘Can erw o wenith,’ atebodd. “‘Tafla'r bil i ffwrdd,’ meddai'r fforman. ‘Dwedwn ni wyth deg.’ “Roedd rhaid i'r meistr edmygu'r fforman am fod mor graff, er ei fod yn anonest. Ac mae'n wir fod pobl y byd yn fwy craff wrth drin pobl eraill na phobl y golau. Dw i'n dweud wrthoch chi, gwnewch ffrindiau trwy ddefnyddio'ch arian er lles pobl eraill. Pan fydd gynnoch chi ddim ar ôl, bydd croeso i chi yn y nefoedd. “Os gellir eich trystio chi gyda pethau bach, gellir eich trystio chi gyda pethau mawr. Ond os ydych chi'n twyllo gyda phethau bach, sut mae eich trystio chi gyda pethau mawr? Felly os dych chi ddim yn onest wrth drin arian, pwy sy'n mynd i'ch trystio chi gyda'r gwir gyfoeth? Os dych chi ddim yn onest wrth drin eiddo pobl eraill, pwy sy'n mynd i roi eiddo i chi ei gadw i chi'ch hun? “Does neb yn gallu gweithio i ddau feistr gwahanol ar yr un pryd. Mae un yn siŵr o gael y flaenoriaeth ar draul y llall. Allwch chi ddim bod yn was i Dduw ac arian ar yr un pryd.” Pan glywodd y Phariseaid hyn roedden nhw'n gwneud hwyl am ben Iesu, gan eu bod nhw'n hoff iawn o'u harian. Ond dyma Iesu'n dweud wrthyn nhw, “Dych chi'n hoffi rhoi'r argraff eich bod chi mor dduwiol, ond mae Duw yn gwybod beth sydd yn eich calonnau chi! Mae beth mae pobl yn ei gyfri'n bwysig yn ddiwerth yng ngolwg Duw.” “Cyfraith Moses ac ysgrifau'r Proffwydi oedd gynnoch chi nes i Ioan Fedyddiwr ddechrau pregethu. Ond ers hynny mae'r newyddion da fod Duw'n teyrnasu yn cael ei gyhoeddi, ac mae pawb yn cael eu hannog yn frwd i ymateb. Ond dydy hynny ddim yn golygu fod y Gyfraith bellach yn ddiwerth. Bydd y nefoedd a'r ddaear yn diflannu cyn i'r manylyn lleia o'r Gyfraith golli ei rym. “Os ydy dyn yn ysgaru ei wraig er mwyn priodi rhywun arall mae'n godinebu. Hefyd, mae'r dyn sy'n priodi'r wraig sydd wedi ei hysgaru yn godinebu.” “Roedd rhyw ddyn cyfoethog oedd bob amser yn gwisgo'r dillad mwya crand ac yn byw yn foethus. Y tu allan i'w dŷ roedd dyn tlawd o'r enw Lasarus yn cael ei adael i gardota; dyn oedd â briwiau dros ei gorff i gyd. Dyna lle roedd, yn disgwyl am unrhyw sbarion bwyd oedd yn cael eu taflu gan y dyn cyfoethog! Byddai cŵn yn dod ato ac yn llyfu'r briwiau agored ar ei gorff. “Un diwrnod dyma'r cardotyn yn marw, a daeth yr angylion i'w gario i'r nefoedd at Abraham. Ond pan fuodd y dyn cyfoethog farw, a chael ei gladdu, aeth i uffern. Yno roedd yn dioddef yn ofnadwy, ac yn y pellter roedd yn gweld Abraham gyda Lasarus. Gwaeddodd arno, ‘Fy nhad Abraham, plîs helpa fi! Anfon Lasarus yma i roi blaen ei fys mewn dŵr a'i roi ar fy nhafod i'w hoeri. Dw i mewn poen ofnadwy yn y tân yma!’ “Ond dyma Abraham yn ei ateb, ‘Fy mab, roedd gen ti bopeth roeddet ti eisiau ar y ddaear, ond doedd gan Lasarus ddim byd. Bellach mae e yma'n cael ei gysuro, a tithau'n cael dy arteithio. A beth bynnag mae'r hyn rwyt yn ei ofyn yn amhosib, achos mae yna agendor enfawr yn ein gwahanu ni. Does neb yn gallu croesi oddi yma atat ti, a does neb yn gallu dod drosodd o lle rwyt ti aton ni chwaith.’ “Felly dyma'r dyn cyfoethog yn dweud, ‘Os felly dw i'n ymbil arnat ti, plîs wnei di anfon Lasarus i rybuddio fy nheulu i. Mae gen i bum brawd, a fyddwn i ddim am iddyn nhw ddod i'r lle ofnadwy yma pan fyddan nhw farw.’ “Ond atebodd Abraham, ‘Mae Cyfraith Moses ac ysgrifau'r proffwydi yn eu rhybuddio nhw. Does ond rhaid iddyn nhw wrando ar y rheiny.’ “‘Na, fy nhad,’ meddai'r dyn cyfoethog. ‘Petai rhywun sydd wedi marw yn cael ei anfon atyn nhw, bydden nhw'n troi cefn ar eu pechod.’ “Ond meddai Abraham, ‘Os dydyn nhw ddim yn gwrando ar Moses a'r Proffwydi, fyddan nhw ddim yn gwrando chwaith os bydd rhywun yn dod yn ôl yn fyw ar ôl marw.’” Dwedodd Iesu wrth ei ddisgyblion: “Bydd bob amser bethau'n digwydd sy'n temtio pobl i bechu, ond gwae'r sawl sy'n gwneud y temtio! Byddai'n well i'r person hwnnw gael ei daflu i'r môr gyda maen melin wedi ei rwymo am ei wddf, na gorfod wynebu canlyniadau gwneud i un o'r rhai bach yma bechu. Felly gwyliwch eich hunain! Os ydy rhywun arall sy'n credu ynof fi yn pechu, rhaid i ti ei geryddu; ond pan mae'n edifar ac yn troi cefn ar ei bechod, rhaid i ti faddau iddo. Hyd yn oed petai'n pechu yn dy erbyn saith gwaith y dydd, ond yn dod yn ôl bob tro ac yn gofyn am faddeuant, rhaid i ti faddau.” Dyma'r apostolion yn gofyn i'r Arglwydd, “Sut allwn ni gael mwy o ffydd?” Atebodd Iesu, “Petai'ch ffydd chi mor fach â hedyn mwstard, gallech chi ddweud wrth y goeden forwydden yma am gael ei chodi o'r ddaear wrth ei gwreiddiau a'i thaflu i'r môr, a byddai'n gwneud hynny! “Pan mae eich gwas yn dod i'r tŷ ar ôl bod wrthi'n aredig y tir neu'n gofalu am y defaid drwy'r dydd, ydych chi'n dweud wrtho, ‘Tyrd i eistedd i lawr yma, a bwyta’? Na, dych chi'n dweud, ‘Gwna swper i mi gyntaf. Cei di fwyta wedyn.’ A dych chi ddim yn diolch iddo, am fod y gwas ddim ond yn gwneud beth mae gwas i fod i'w wneud. Felly chithau — ar ôl gwneud popeth dw i'n ei ofyn, dylech chi ddweud, ‘Dŷn ni'n haeddu dim. Gweision ydyn ni, sydd ddim ond yn gwneud beth mae disgwyl i ni ei wneud.’” Aeth Iesu ymlaen ar ei ffordd i Jerwsalem, a daeth at y ffin rhwng Galilea a Samaria. Wrth iddo fynd i mewn i ryw bentref, dyma ddeg dyn oedd yn dioddef o'r gwahanglwyf yn dod i'w gyfarfod. Dyma nhw'n sefyll draw ac yn gweiddi'n uchel arno o bell, “Feistr! Iesu! — wnei di'n helpu ni?” Pan welodd Iesu nhw, dwedodd wrthyn nhw, “Ewch i ddangos eich hunain i'r offeiriaid.” Ac roedden nhw ar eu ffordd i wneud hynny pan wnaeth y gwahanglwyf oedd ar eu cyrff ddiflannu! Dyma un ohonyn nhw'n troi'n ôl pan welodd ei fod wedi cael ei iacháu. Roedd yn gweiddi'n uchel, “Clod i Dduw!” Taflodd ei hun ar lawr o flaen Iesu, a diolch iddo am yr hyn roedd wedi ei wneud. (Gyda llaw, Samariad oedd y dyn!) Meddai Iesu, “Roeddwn i'n meddwl mod i wedi iacháu deg o ddynion. Ble mae'r naw arall? Ai dim ond y Samariad yma sy'n fodlon rhoi'r clod i Dduw?” Yna dwedodd wrth y dyn, “Cod ar dy draed, a dos adre. Am i ti gredu rwyt wedi dy iacháu.” Un diwrnod, dyma'r Phariseaid yn gofyn i Iesu, “Pryd mae teyrnasiad Duw yn mynd i ddechrau?” Atebodd Iesu, “Does yna ddim arwyddion gweledig yn dangos fod teyrnasiad Duw wedi cyrraedd! Fydd pobl ddim yn gallu dweud, ‘Mae yma!’ neu ‘Mae draw acw!’ achos mae Duw yma'n teyrnasu yn eich plith chi.” Roedd yn siarad am hyn gyda'i ddisgyblion wedyn, ac meddai, “Mae'r amser yn dod pan fyddwch chi'n dyheu am gael rhyw gipolwg bach o'r dyddiau pan fydda i, Mab y Dyn gyda chi eto, ond byddwch yn methu. Bydd pobl yn honni fod Mab y Dyn wedi dod yn ôl; ‘Mae yma!’ neu ‘Mae draw acw!’ byddan nhw'n ei ddweud. Ond peidiwch gwrando arnyn nhw a mynd allan i edrych amdano. Fydd dim amheuaeth o gwbl pan ddaw Mab y Dyn yn ôl — bydd mor amlwg â mellten yn goleuo'r awyr o un pen i'r llall! Ond cyn i hynny ddigwydd mae'n rhaid i mi ddioddef yn ofnadwy a chael fy ngwrthod gan bobl y genhedlaeth bresennol. “Bydd hi yn union yr un fath â roedd hi yn amser Noa pan fydda i, Mab y Dyn, yn dod yn ôl. Roedd pobl yn bwyta ac yn yfed ac yn priodi ac yn y blaen, hyd y diwrnod pan aeth Noa i mewn i'r arch. Wedyn daeth y llifogydd a'u dinistrio nhw i gyd! “A'r un fath yn amser Lot. Roedd pobl yn bwyta ac yn yfed, yn prynu a gwerthu, yn ffermio ac yn adeiladu. Ond wedyn pan adawodd Lot Sodom daeth tân a brwmstan i lawr o'r awyr a'u dinistrio nhw i gyd. “Fel yna'n union fydd hi pan fydda i, Mab y Dyn, yn dod i'r golwg. Y diwrnod hwnnw fydd yna ddim cyfle i neb sydd y tu allan i'w dŷ fynd i mewn i bacio ei bethau. A ddylai neb sydd allan yn y maes feddwl mynd adre. Cofiwch beth ddigwyddodd i wraig Lot! Bydd y rhai sy'n ceisio achub eu hunain yn colli'r bywyd go iawn, ond y rhai sy'n barod i ollwng gafael ar eu bywyd yn diogelu bywyd go iawn. Y noson honno bydd dau yn rhannu gwely; bydd un yn cael ei gymryd i ffwrdd a'r llall yn cael ei adael. Bydd dwy wraig yn malu ŷd gyda'i gilydd; bydd un yn cael ei chymryd i ffwrdd a'r llall yn cael ei gadael.” *** “Arglwydd, ble bydd hyn yn digwydd?” gofynnodd y disgyblion. Atebodd Iesu, “Bydd mor amlwg â'r ffaith fod yna gorff marw lle mae fwlturiaid wedi casglu.” Dwedodd Iesu stori wrth ei ddisgyblion i ddangos y dylen nhw ddal ati i weddïo, a pheidio byth ag anobeithio: “Roedd barnwr yn byw mewn rhyw dref,” meddai, “dyn oedd ddim yn parchu Duw na neb arall. Ac yn yr un dref roedd gwraig weddw oedd yn mynd ato o hyd ac o hyd i ofyn iddo farnu rhywun oedd wedi gwneud niwed iddi. “Chymerodd y barnwr ddim sylw ohoni i ddechrau. Ond yn y diwedd roedd wedi cael hen ddigon — ‘Dw i ddim yn ddyn duwiol a dw i ddim yn poeni beth mae pobl eraill yn ei feddwl ohono i. Ond bydd y wraig yma wedi ngyrru i'n wallgof os na wna i beth mae hi eisiau!’” Yna meddai'r Arglwydd, “Gwrandwch, mae gwers i'w dysgu yma. Dych chi'n gwybod beth ddwedodd y barnwr drwg. Felly beth am Dduw? Dych chi ddim yn meddwl y bydd e'n amddiffyn y bobl mae wedi eu dewis iddo'i hun? Fydd e ddim yn oedi! Bydd yn ymateb ar unwaith i'r rhai sy'n galw arno ddydd a nos! Dw i'n dweud wrthoch chi, bydd yn rhoi dedfryd gyfiawn iddyn nhw, a hynny ar frys! Ond, pan fydda i, Mab y Dyn, yn dod yn ôl, faint o bobl fydd yn dal i gredu bryd hynny?” Dwedodd Iesu y stori yma wrth rai pobl oedd yn meddwl eu bod nhw eu hunain mor dduwiol, ac yn edrych i lawr eu trwynau ar bawb arall: “Aeth dau ddyn i weddïo yn y deml. Pharisead oedd un ohonyn nhw, a'r llall yn ddyn oedd yn casglu trethi i Rufain. Dyma'r Pharisead yn sefyll ar ei draed yn hyderus, a dyma oedd ei weddi: ‘O Dduw, dw i yn diolch i ti mod i ddim yr un fath â phobl eraill. Dw i ddim yn twyllo na gwneud dim byd drwg arall, a dw i ddim yn gwneud pethau anfoesol. Dw i ddim yr un fath â'r bradwr yma! Dw i'n ymprydio ddwywaith yr wythnos ac yn rhoi un rhan o ddeg o bopeth sydd gen i i'r deml.’ “Ond roedd y casglwr trethi wedi mynd i sefyll mewn rhyw gornel ar ei ben ei hun. Doedd e ddim yn meiddio edrych i fyny hyd yn oed. Yn lle hynny roedd yn curo ei frest mewn cywilydd. Dyma oedd ei weddi e: ‘O Dduw, wnei di faddau i mi. Dw i'n bechadur ofnadwy.’ “Dw i'n dweud wrthoch chi mai'r casglwr trethi, dim y Pharisead, oedd yr un aeth adre a'i berthynas gyda Duw yn iawn. Bydd Duw yn torri crib pobl falch ac yn anrhydeddu'r rhai gostyngedig.” Roedd pobl yn dod â'u babanod at Iesu er mwyn iddo eu cyffwrdd a'u bendithio. Ond pan welodd y disgyblion nhw, dyma nhw'n dweud y drefn wrthyn nhw. Ond dyma Iesu'n eu galw nhw ato. “Gadewch i'r plant bach ddod ata i,” meddai, “Peidiwch eu rhwystro, am mai rhai fel nhw sy'n derbyn teyrnasiad Duw. Credwch chi fi, heb ymddiried fel plentyn bach, wnewch chi byth ddod yn un o'r rhai mae Duw'n teyrnasu yn eu bywydau.” Un tro gofynnodd rhyw arweinydd crefyddol y cwestiwn yma i Iesu: “Athro da, beth alla i ei wneud i gael bywyd tragwyddol?” “Pam wyt ti'n fy ngalw i'n dda?” meddai Iesu. “Onid Duw ydy'r unig un sy'n dda? Ti'n gwybod beth wnaeth Duw ei orchymyn: ‘Paid godinebu, paid llofruddio, paid dwyn, paid rhoi tystiolaeth ffals, gofala am dy dad a dy fam.’ ” Atebodd y dyn, “Dw i wedi cadw'r rheolau yma i gyd ers pan o'n i'n fachgen ifanc.” Pan glywodd Iesu hynny, dwedodd wrth y dyn, “Mae un peth arall ar ôl. Gwertha bopeth, dy eiddo i gyd, a rhannu'r arian gyda phobl dlawd. Wedyn cei di drysor yn y nefoedd. Yna tyrd, dilyn fi.” Doedd y dyn ddim yn hapus o gwbl pan glywodd beth ddwedodd Iesu, am ei fod yn ddyn cyfoethog dros ben. Edrychodd Iesu ar y dyn yn cerdded i ffwrdd, ac meddai wrth ei ddisgyblion, “Mae hi mor anodd i bobl gyfoethog adael i Dduw deyrnasu yn eu bywydau! Mae'n haws i gamel wthio drwy grau nodwydd nag i bobl gyfoethog adael i Dduw deyrnasu yn eu bywydau!” Dyma'r rhai glywodd hyn yn dweud, “Oes gobaith i unrhyw un gael ei achub felly?” Atebodd Iesu, “Mae Duw yn gallu gwneud beth sy'n amhosib i bobl ei wneud.” Dyma Pedr yn ymateb, “Ond dŷn ni wedi gadael popeth sydd gynnon ni i dy ddilyn di!” “Credwch chi fi,” meddai Iesu wrthyn nhw, “bydd pwy bynnag sydd wedi mynd oddi cartref a gadael gwraig neu frodyr neu rieni neu blant er mwyn teyrnas Dduw yn derbyn llawer iawn mwy yn y bywyd yma. Ac yn yr oes sydd i ddod byddan nhw'n derbyn bywyd tragwyddol!” Aeth Iesu â'r deuddeg disgybl i'r naill ochr, a dweud wrthyn nhw, “Pan gyrhaeddwn ni Jerwsalem, daw'r cwbl mae'r proffwydi wedi ei ysgrifennu amdana i, Mab y Dyn, yn wir. Bydda i'n cael fy rhoi yn nwylo'r Rhufeiniaid. Byddan nhw'n gwneud sbort ar fy mhen, yn fy ngham-drin, ac yn poeri arna i. Yna bydda i'n cael fy chwipio a'm lladd. Ond yna, ddeuddydd wedyn bydda i'n dod yn ôl yn fyw.” Doedd y disgyblion ddim yn deall hyn o gwbl. Roedd y cwbl yn ddirgelwch pur iddyn nhw, a doedd ganddyn nhw ddim syniad am beth roedd e'n siarad. Pan oedd Iesu'n agosáu at Jericho dyma ddyn dall oedd yn cardota ar ochr y ffordd yn clywed sŵn tyrfa o bobl yn pasio heibio, a dyma fe'n gofyn, “Beth sy'n digwydd?” “Iesu o Nasareth sy'n pasio heibio,” meddai rhywun wrtho. Felly dyma'r dyn dall yn gweiddi'n uchel, “Iesu! Fab Dafydd! Helpa fi!” “Cau dy geg!” meddai'r bobl oedd ar flaen y dyrfa. Ond yn lle hynny dechreuodd weiddi'n uwch fyth, “Iesu! Fab Dafydd! Helpa fi!” Dyma Iesu'n stopio, ac yn dweud wrthyn nhw am ddod â'r dyn ato. Pan ddaeth ato, gofynnodd i'r dyn, “Beth ga i wneud i ti?” “Arglwydd,” meddai, “dw i eisiau gallu gweld.” Yna dwedodd Iesu wrtho, “Iawn, cei di weld; am i ti gredu rwyt wedi dy iacháu.” Yn sydyn roedd y dyn yn gweld, a dilynodd Iesu gan foli Duw. Ac roedd pawb welodd beth ddigwyddodd yn moli Duw hefyd! Aeth Iesu yn ei flaen i mewn i Jericho, ac roedd yn mynd drwy'r dref. Roedd dyn o'r enw Sacheus yn byw yno — Iddew oedd yn arolygwr yn adran casglu trethi Rhufain. Roedd yn ddyn hynod o gyfoethog. Roedd arno eisiau gweld Iesu, ond roedd yn ddyn byr ac yn methu ei weld am fod gormod o dyrfa o'i gwmpas. Rhedodd ymlaen a dringo coeden sycamorwydden oedd i lawr y ffordd lle roedd Iesu'n mynd, er mwyn gallu gweld. Pan ddaeth Iesu at y goeden, edrychodd i fyny a dweud wrtho, “Sacheus, tyrd i lawr. Mae'n rhaid i mi ddod i dy dŷ di heddiw.” Dringodd Sacheus i lawr ar unwaith a rhoi croeso brwd i Iesu i'w dŷ. Doedd y bobl welodd hyn ddim yn hapus o gwbl! Roedden nhw'n cwyno a mwmblan, “Mae wedi mynd i aros i dŷ ‛pechadur‛ — dyn ofnadwy!” Ond dyma Sacheus yn dweud wrth Iesu, “Arglwydd, dw i'n mynd i roi hanner popeth sydd gen i i'r rhai sy'n dlawd. Ac os ydw i wedi twyllo pobl a chymryd mwy o drethi nag y dylwn i, tala i bedair gwaith cymaint yn ôl iddyn nhw.” Meddai Iesu, “Mae'r bobl sy'n byw yma wedi gweld beth ydy achubiaeth heddiw. Mae'r dyn yma wedi dangos ei fod yn fab i Abraham. Dw i, Mab y Dyn, wedi dod i chwilio am y rhai sydd ar goll, i'w hachub nhw.” Roedd y dyrfa'n gwrando ar bopeth roedd Iesu'n ei ddweud. Gan ei fod yn dod yn agos at Jerwsalem, dwedodd stori wrthyn nhw i gywiro'r syniad oedd gan bobl fod teyrnasiad Duw yn mynd i ddod unrhyw funud. Dyma'r stori: “Roedd rhyw ddyn pwysig aeth i ffwrdd i wlad bell i gael ei wneud yn frenin ar ei bobl. Ond cyn mynd, galwodd ddeg o'i weision ato a rhannu swm o arian rhyngddyn nhw. ‘Defnyddiwch yr arian yma i farchnata ar fy rhan, nes do i yn ôl adre,’ meddai. “Ond roedd ei bobl yn ei gasáu, a dyma nhw'n anfon cynrychiolwyr ar ei ôl i ddweud eu bod nhw ddim eisiau iddo fod yn frenin arnyn nhw. “Ond cafodd ei wneud yn frenin, a phan ddaeth adre galwodd ato y gweision hynny oedd wedi rhoi'r arian iddyn nhw. Roedd eisiau gwybod a oedden nhw wedi llwyddo i wneud elw. Dyma'r cyntaf yn dod, ac yn dweud ei fod wedi llwyddo i wneud elw mawr — deg gwaith cymaint â'r swm gwreiddiol! ‘Da iawn ti!’ meddai'r meistr, ‘Rwyt ti'n weithiwr da. Gan dy fod di wedi bod yn ffyddlon wrth drin yr ychydig rois i yn dy ofal di, dw i am dy wneud di'n rheolwr ar ddeg dinas.’ “Wedyn dyma'r ail yn dod ac yn dweud ei fod yntau wedi gwneud elw — pum gwaith cymaint â'r swm gwreiddiol. ‘Da iawn ti!’ meddai'r meistr, ‘Dw i am dy osod di yn rheolwr ar bum dinas.’ “Wedyn dyma was arall yn dod ac yn rhoi'r arian oedd wedi ei gael yn ôl i'w feistr, a dweud, ‘Dw i wedi cadw'r arian yn saff i ti. Roedd gen i ofn gwneud colled gan dy fod di'n ddyn caled. Rwyt ti'n ecsbloetio pobl, ac yn dwyn eu cnydau nhw.’ “Atebodd y meistr, ‘Dw i'n ddyn caled ydw i — yn ecsbloetio pobl ac yn dwyn eu cnydau nhw? Iawn! Dyna sut cei di dy drin gan dy fod ti'n was da i ddim! Pam wnest ti ddim rhoi'r arian mewn cyfri banc? Byddwn i o leia wedi ei gael yn ôl gyda rhyw fymryn o log!’ “Felly dyma'r brenin yn rhoi gorchymyn i'r rhai eraill oedd yn sefyll yno, ‘Cymerwch yr arian oddi arno, a'i roi i'r un oedd wedi gwneud y mwya o elw!’ “‘Ond feistr,’ medden nhw, ‘Mae gan hwnnw hen ddigon yn barod!’ “Atebodd y meistr nhw, ‘Bydd y rhai sydd wedi gwneud defnydd da o beth sydd ganddyn nhw yn derbyn mwy; ond am y rhai sy'n gwneud dim byd, bydd hyd yn oed yr ychydig sydd ganddyn nhw'n cael ei gymryd oddi arnyn nhw! Dw i'n mynd i ddelio gyda'r gelynion hynny oedd ddim eisiau i mi fod yn frenin arnyn nhw hefyd — dewch â nhw yma, a lladdwch nhw i gyd o mlaen i!’” Ar ôl dweud y stori, aeth Iesu yn ei flaen i gyfeiriad Jerwsalem. Pan oedd ar fin cyrraedd Bethffage a Bethania wrth Fynydd yr Olewydd yn ymyl Jerwsalem, dwedodd wrth ddau o'i ddisgyblion, “Ewch i'r pentref acw sydd o'ch blaen. Wrth fynd i mewn iddo, dewch o hyd i ebol wedi ei rwymo — un does neb wedi bod ar ei gefn o'r blaen. Dewch â'r ebol i mi. Os bydd rhywun yn gofyn, ‘Pam ydych chi'n ei ollwng yn rhydd?’ dwedwch wrthyn nhw, ‘Mae'r meistr ei angen.’” Felly i ffwrdd â'r ddau ddisgybl; a dyna lle roedd yr ebol yn union fel roedd Iesu wedi dweud. Wrth iddyn nhw ei ollwng yn rhydd, dyma'r rhai oedd biau'r ebol yn dweud, “Hei! Beth ydych chi'n ei wneud?” “Mae'r meistr ei angen,” medden nhw. Pan ddaethon nhw â'r ebol at Iesu dyma nhw'n taflu eu cotiau drosto, a dyma Iesu'n eistedd ar ei gefn. Wrth iddo fynd yn ei flaen, dyma bobl yn taflu eu cotiau fel carped ar y ffordd. Pan gyrhaeddon nhw'r fan lle mae'r ffordd yn mynd i lawr o Fynydd yr Olewydd, dyma'r dyrfa oedd yn dilyn Iesu yn dechrau gweiddi'n uchel a chanu mawl i Dduw o achos yr holl wyrthiau rhyfeddol roedden nhw wedi eu gweld: “Mae'r Brenin sy'n dod i gynrychioli'r Arglwydd wedi ei fendithio'n fawr! ” “Heddwch yn y nefoedd a chlod i Dduw yn y goruchaf!” Ond dyma ryw Phariseaid oedd yn y dyrfa yn troi at Iesu a dweud, “Athro, cerydda dy ddisgyblion am ddweud y fath bethau!” Atebodd Iesu, “Petaen nhw'n tewi, byddai'r cerrig yn dechrau gweiddi.” Wrth iddyn nhw ddod yn agos at Jerwsalem dyma Iesu yn dechrau crïo wrth weld y ddinas o'i flaen. “Petaet ti hyd yn oed heddiw ond wedi deall beth fyddai'n dod â heddwch parhaol i ti! Ond mae'n rhy hwyr, a dydy heddwch ddim o fewn dy gyrraedd o gwbl. Mae dydd yn dod pan fydd dy elynion yn codi gwrthglawdd yn dy erbyn ac yn dy gau i mewn ac ymosod arnat o bob cyfeiriad. Cei di dy sathru dan draed, ti a'r bobl sy'n byw ynot. Bydd waliau'r ddinas yn cael eu chwalu'n llwyr, am dy fod wedi gwrthod dy Dduw ar y foment honno pan ddaeth i dy helpu di.” Aeth i mewn i gwrt y deml a dechrau gyrru allan bawb oedd yn gwerthu yno. Meddai wrthyn nhw, “Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud, ‘Bydd fy nhŷ i yn cael ei alw yn dŷ gweddi’; ond dych chi wedi troi'r lle yn ‘guddfan i ladron’!” Wedi hynny, roedd yn mynd i'r deml bob dydd ac yn dysgu'r bobl. Roedd y prif offeiriaid, yr arbenigwyr yn y Gyfraith, a'r arweinwyr crefyddol eraill yn cynllwynio i'w ladd. Ond doedden nhw ddim yn gwybod beth i'w wneud, gan fod y bobl gyffredin yn dal ar bob gair roedd yn ei ddweud. Un diwrnod roedd Iesu'n dysgu'r bobl ac yn cyhoeddi'r newyddion da yn y deml. Dyma'r prif offeiriaid, yr arbenigwyr yn y Gyfraith a'r arweinwyr Iddewig eraill yn dod ato, a gofyn iddo, “Pa hawl sydd gen ti i wneud beth wnest ti? Pwy yn union roddodd yr awdurdod i ti?” Atebodd Iesu, “Gadewch i mi ofyn un cwestiwn i chi'n gyntaf. Dwedwch wrtho i — Ai Duw anfonodd Ioan i fedyddio neu ddim?” Wrth drafod y peth gyda'i gilydd, dyma nhw'n dweud, “Os atebwn ni ‘Ie’, bydd yn gofyn, ‘Pam doeddech chi ddim yn ei gredu?’ Ond allwn ni ddim dweud ‘Na’ … Bydd y bobl yn ein llabyddio ni â cherrig. Maen nhw'n credu'n gwbl bendant fod Ioan yn broffwyd.” Felly dyma nhw'n dweud eu bod nhw ddim yn gwybod yr ateb. “Felly dw i ddim yn mynd i ateb eich cwestiwn chi chwaith,” meddai Iesu. Aeth yn ei flaen i ddweud y stori yma wrth y bobl: “Roedd dyn wedi plannu gwinllan. Gosododd y winllan ar rent i rhyw ffermwyr cyn mynd i ffwrdd am amser hir. Pan oedd hi'n amser casglu'r grawnwin anfonodd un o'i weision i nôl y siâr roedd y tenantiaid i fod i'w rhoi iddo. Ond dyma'r tenantiaid yn curo'r gwas a'i anfon i ffwrdd heb ddim. Felly dyma'r dyn yn anfon gwas arall; dyma nhw'n curo hwnnw hefyd a'i gam-drin a'i anfon i ffwrdd heb ddim. Pan anfonodd was arall eto, dyma nhw'n anafu hwnnw'n ddifrifol a'i daflu allan. “‘Beth wna i?’ meddai'r dyn oedd biau'r winllan. ‘Dw i'n gwybod! Anfona i fy mab annwyl atyn nhw. Byddan nhw'n ei barchu e.’ “Ond pan welodd y tenantiaid y mab, dyma nhw'n dweud wrth ei gilydd: ‘Hwn sy'n mynd i etifeddu'r winllan. Os lladdwn ni hwn cawn ni'r winllan i ni'n hunain!’ Felly dyma nhw'n ei daflu allan o'r winllan a'i ladd. Felly beth fydd y dyn biau'r winllan yn ei wneud iddyn nhw? Bydd yn dod ac yn lladd y tenantiaid hynny ac yn rhoi'r winllan i bobl eraill.” Pan glywodd y bobl y stori yma, eu hymateb oedd, “Na! Byth!” Edrychodd Iesu i fyw eu llygaid, ac meddai, “Felly beth ydy ystyr y geiriau yma o'r ysgrifau sanctaidd: ‘Mae'r garreg wrthododd yr adeiladwyr wedi cael ei gwneud yn garreg sylfaen’? Bydd pawb sy'n baglu dros y garreg honno yn dryllio'n ddarnau, a bydd pwy bynnag mae'r garreg yn syrthio arno yn cael ei fathru.” Roedd yr arbenigwyr yn y Gyfraith a'r prif offeiriaid yn gwybod yn iawn ei fod yn sôn amdanyn nhw yn y stori. Roedden nhw eisiau gafael ynddo yn y fan a'r lle, ond roedd arnyn nhw ofn y bobl. Roedden nhw'n ei wylio'n ofalus, a dyma nhw'n anfon dynion ato oedd yn cymryd arnynt eu bod yn ddidwyll. Roedden nhw'n gobeithio dal Iesu yn dweud rhywbeth o'i le, ac wedyn bydden nhw'n gallu dod â chyhuddiad yn ei erbyn o flaen y llywodraethwr Rhufeinig. Felly dyma'r rhai gafodd eu hanfon i geisio ei dwyllo yn gofyn iddo, “Athro, dŷn ni'n gwybod fod yr hyn rwyt ti'n ei ddweud ac yn ei ddysgu yn wir. Dwyt ti ddim yn dangos ffafriaeth, ac rwyt ti'n dysgu ffordd Duw ac yn glynu wrth yr hyn sy'n wir. Ydy'n iawn i ni dalu trethi i lywodraeth Rhufain?” Ond roedd Iesu'n gweld eu bod yn ceisio'i dwyllo. “Dewch â darn arian yma,” meddai wrthyn nhw. “Llun pwy sydd arno? Am bwy mae'r arysgrif yma'n sôn?” “Cesar,” medden nhw. “Felly,” meddai Iesu, “Rhowch beth sydd biau Cesar i Cesar, a'r hyn biau Duw i Dduw.” Felly roedden nhw wedi methu ei gael i ddweud unrhyw beth o'i le o flaen y bobl. Roedd ei ateb wedi eu syfrdanu'n llwyr — doedden nhw ddim yn gallu dweud dim. Dyma rai o'r Sadwceaid yn dod i ofyn cwestiwn i Iesu. (Nhw ydy'r arweinwyr Iddewig sy'n dweud fod pobl ddim yn mynd i ddod yn ôl yn fyw ar ôl marw.) “Athro,” medden nhw, “rhoddodd Moses y rheol yma i ni: os ydy dyn yn marw heb gael plant, rhaid i frawd y dyn hwnnw briodi'r weddw a chael plant yn ei le Nawr, roedd saith brawd. Priododd yr hynaf, a buodd farw heb gael plant. [30-31] Dyma'r ail, ac yna'r trydydd yn priodi'r weddw. Yn wir, digwyddodd yr un peth gyda'r saith — wnaeth yr un ohonyn nhw adael plentyn ar ei ôl. *** Dyma'r wraig yn marw wedyn hefyd. Felly dyma'n cwestiwn ni: ‘Pan fydd yr atgyfodiad yn digwydd, gwraig pwy fydd hi?’ Roedd hi wedi bod yn wraig i'r saith ohonyn nhw!” Atebodd Iesu, “Yn y bywyd yma mae pobl yn priodi. Ond yn yr oes sydd i ddod, fydd pobl ddim yn priodi — sef y bobl hynny sy'n cael eu cyfri'n deilwng i fod yn rhan ohoni ac wedi codi yn ôl yn fyw. A fyddan nhw ddim yn marw eto. Byddan nhw yr un fath â'r angylion yn hynny o beth. Maen nhw'n blant Duw wedi eu codi yn ôl i fywyd newydd. A bydd y meirw'n dod yn ôl yn fyw! Mae hyd yn oed Moses yn dangos fod hynny'n wir! Yn yr hanes am y berth yn llosgi mae'n dweud mai'r Arglwydd Dduw ydy ‘Duw Abraham, Duw Isaac a Duw Jacob’. Dim Duw pobl wedi marw ydy Duw, ond Duw'r rhai sy'n fyw! Maen nhw i gyd yn fyw iddo fe!” Dyma rai o'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn ymateb, “Go dda, athro! Clywch, clywch!” O hynny ymlaen doedd neb yn meiddio gofyn mwy o gwestiynau iddo. Yna dyma Iesu'n dweud wrthyn nhw, “Pam maen nhw'n dweud fod y Meseia yn fab i Dafydd? Mae Dafydd ei hun yn dweud yn Llyfr y Salmau: ‘Dwedodd yr Arglwydd wrth fy arglwydd: “Eistedd yma yn y sedd anrhydedd nes i mi wneud i dy elynion blygu fel stôl i ti orffwys dy draed arni.”’ Mae Dafydd yn ei alw'n ‛Arglwydd‛! Felly sut mae'n gallu bod yn fab iddo?” Tra roedd y bobl i gyd yn gwrando, dwedodd Iesu wrth ei ddisgyblion, “Gwyliwch yr arbenigwyr yn y Gyfraith. Maen nhw wrth eu bodd yn cerdded o gwmpas yn swancio yn eu gwisgoedd swyddogol, ac yn hoffi cael pawb yn eu cyfarch ac yn talu sylw iddyn nhw yn sgwâr y farchnad. Mae'n rhaid iddyn nhw gael y seddi gorau yn y synagogau, ac eistedd ar y bwrdd uchaf mewn gwleddoedd. Maen nhw'n dwyn popeth oddi ar wragedd gweddwon ac wedyn yn ceisio rhoi'r argraff eu bod nhw'n dduwiol gyda'u gweddïau hir! Bydd pobl fel nhw yn cael eu cosbi'n llym.” Pan oedd yn y deml, sylwodd Iesu ar y bobl gyfoethog yn rhoi arian yn y blychau casglu at drysorfa'r deml. Yna daeth gwraig weddw dlawd a rhoi dwy geiniog i mewn. “Credwch chi fi,” meddai Iesu, “mae'r wraig weddw dlawd yna wedi rhoi mwy yn y blwch na neb arall. Newid mân oedd pawb arall yn ei roi, gan fod ganddyn nhw hen ddigon dros ben; ond yn ei thlodi rhoddodd y wraig yna y cwbl oedd ganddi i fyw arno.” Roedd rhai o'i ddisgyblion yn tynnu sylw at waith cerrig hardd y deml a'r meini coffa oedd yn ei haddurno. Ond dyma Iesu'n dweud, “Mae'r amser yn dod pan fydd y cwbl welwch chi yma yn cael ei chwalu, a fydd dim un garreg wedi ei gadael yn ei lle.” A dyma nhw'n gofyn iddo, “Pryd mae hyn i gyd yn mynd i ddigwydd, Athro? Fydd unrhyw rybudd cyn i'r pethau yma ddigwydd?” Atebodd Iesu: “Gwyliwch fod neb yn eich twyllo chi. Bydd llawer yn dod yn hawlio fy awdurdod i, a dweud, ‘Fi ydy'r Meseia’ a ‘Mae'r diwedd wedi dod’. Peidiwch eu dilyn nhw. Pan fyddwch yn clywed am ryfeloedd a chwyldroadau, peidiwch dychryn. Mae'r pethau yma'n siŵr o ddigwydd gyntaf, ond fydd diwedd y byd ddim yn digwydd yn syth wedyn.” Dwedodd wrthyn nhw, “Bydd gwledydd a llywodraethau yn rhyfela yn erbyn ei gilydd. Bydd daeargrynfeydd mawr, a newyn a heintiau mewn gwahanol leoedd, a digwyddiadau dychrynllyd eraill ac arwyddion o'r nefoedd yn rhybuddio pobl. “Ond cyn i hyn i gyd ddigwydd, byddwch chi'n cael eich erlid a'ch cam-drin. Cewch eich llusgo o flaen y synagogau a'ch rhoi yn y carchar. Cewch eich cyhuddo o fod yn ddilynwyr i mi o flaen brenhinoedd a llywodraethwyr. Ond bydd y cwbl yn gyfle i chi dystio amdana i. Felly peidiwch poeni ymlaen llaw beth i'w ddweud wrth amddiffyn eich hunain. Bydda i'n rhoi'r geiriau iawn i chi. Fydd gan y rhai sy'n eich gwrthwynebu chi ddim ateb! Byddwch yn cael eich bradychu gan eich rhieni, eich brodyr a'ch chwiorydd, eich perthnasau eraill a'ch ffrindiau. Bydd rhai ohonoch chi yn cael eich lladd. Bydd pawb yn eich casáu chi am eich bod yn ddilynwyr i mi. Ond byddwch chi'n hollol saff; wrth sefyll yn gadarn y cewch chi fywyd. “Byddwch chi'n gwybod fod Jerwsalem ar fin cael ei dinistrio pan welwch chi fyddinoedd yn ei hamgylchynu. Bryd hynny dylai pawb sydd yn Jwdea ddianc i'r mynyddoedd. Dylai pawb ddianc o'r ddinas, a ddylai neb yng nghefn gwlad fynd yno i chwilio am loches. Dyna pryd y bydd Duw yn ei chosbi, a bydd y cwbl mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud am y peth yn dod yn wir. Mor ofnadwy fydd hi ar wragedd beichiog a mamau sy'n magu plant bach bryd hynny! Bydd trybini mawr yn y tir, a bydd digofaint Duw ar y genedl. Byddan nhw'n cael eu lladd gan y cleddyf neu'n cael eu symud i wledydd eraill yn garcharorion. Bydd pobl o genhedloedd eraill yn concro Jerwsalem a'i sathru dan draed hyd nes i amser y cenhedloedd hynny ddod i ben. “Bydd pethau rhyfedd yn digwydd yn yr awyr — arwyddion yn yr haul, y lleuad a'r sêr. Ar y ddaear bydd gwledydd mewn cynnwrf a ddim yn gwybod beth i'w wneud am fod y môr yn corddi a thonnau anferth yn codi. Bydd pobl yn llewygu mewn dychryn wrth boeni am yr hyn sy'n mynd i ddigwydd i'r byd, achos bydd hyd yn oed y sêr a'r planedau yn ansefydlog. Bryd hynny bydd pawb yn fy ngweld i, Mab y Dyn, yn dod mewn cymylau gyda grym ac ysblander mawr. Pan fydd hyn i gyd yn dechrau digwydd, safwch ar eich traed a daliwch eich pennau'n uchel. Mae rhyddid ar ei ffordd!” Dyma fe'n darlunio'r peth fel yma: “Meddyliwch am y goeden ffigys a'r coed eraill i gyd. Pan maen nhw'n dechrau deilio dych chi'n gwybod fod yr haf yn agos. Felly'r un fath, pan fyddwch yn gweld y pethau yma'n digwydd, byddwch yn gwybod fod Duw ar fin dod i deyrnasu. “Credwch chi fi, bydd y genhedlaeth bresennol yn dal yma pan fydd hyn yn digwydd. Bydd yr awyr a'r ddaear yn diflannu, ond mae beth dw i'n ei ddweud yn aros am byth. “Gwyliwch eich hunain! Peidiwch gwastraffu'ch bywydau yn gwneud dim byd ond joio, meddwi a phoeni am bethau materol, neu bydd y diwrnod hwnnw yn eich dal chi'n annisgwyl — bydd fel cael eich dal mewn trap. A bydd yn digwydd i bawb drwy'r byd i gyd. Cadwch eich llygaid yn agored! Gweddïwch y byddwch chi'n gallu osgoi'r pethau ofnadwy sy'n mynd i ddigwydd, ac y cewch chi sefyll o flaen Mab y Dyn.” Roedd Iesu yn dysgu pobl yn y deml bob dydd, ac yna gyda'r hwyr yn mynd yn ôl i dreulio'r nos ar ochr Mynydd yr Olewydd. Yn gynnar bob bore roedd tyrfa o bobl yn casglu at ei gilydd i wrando arno yn y deml. Roedd hi'n agos at Ŵyl y Bara Croyw, sy'n dechrau gyda dathlu'r Pasg. Roedd y prif offeiriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn dal i edrych am ffordd i gael gwared â Iesu. Ond roedd arnyn nhw ofn beth fyddai'r bobl yn ei wneud. Ond yna aeth Satan i mewn i Jwdas Iscariot, oedd yn un o'r deuddeg disgybl. Aeth Jwdas at y prif offeiriaid a swyddogion diogelwch y deml, i drafod sut y gallai fradychu Iesu iddyn nhw. Roedden nhw wrth eu bodd, a dyma nhw'n addo rhoi arian iddo. Cytunodd yntau a dechrau edrych am gyfle i fradychu Iesu iddyn nhw pan oedd y dyrfa ddim o gwmpas. Daeth diwrnod cyntaf Gŵyl y Bara Croyw (hynny ydy, y diwrnod pan roedd rhaid aberthu oen y Pasg). Dyma Iesu'n anfon Pedr ac Ioan yn eu blaenau i wneud y trefniadau. “Ewch i baratoi swper y Pasg i ni, er mwyn i ni i gyd gael bwyta gyda'n gilydd,” meddai wrthyn nhw. “Ble rwyt ti am i ni fynd i'w baratoi?” medden nhw wrtho. Atebodd e, “Wrth i chi fynd i mewn i'r ddinas bydd dyn yn dod i'ch cyfarfod yn cario llestr dŵr. Ewch ar ei ôl i mewn i'r tŷ y bydd yn mynd iddo, a gofyn i'r perchennog, ‘Mae'r athro eisiau gwybod ble mae'r ystafell westai, iddo ddathlu'r Pasg gyda'i ddisgyblion.’ Bydd yn mynd â chi i fyny'r grisiau i ystafell fawr wedi ei pharatoi'n barod. Gwnewch swper i ni yno.” I ffwrdd â nhw, a digwyddodd popeth yn union fel roedd Iesu wedi dweud. Felly dyma nhw'n paratoi swper y Pasg yno. Yn gynnar y noson honno eisteddodd Iesu wrth y bwrdd, a'i apostolion gydag e. Meddai wrthyn nhw, “Dw i wedi edrych ymlaen yn fawr at gael bwyta'r swper Pasg yma gyda chi cyn i mi ddioddef. Dw i'n dweud wrthoch chi y bydda i ddim yn ei fwyta eto nes i'r cwbl gael ei gyflawni pan ddaw Duw i deyrnasu.” Yna cymerodd gwpan o win, adrodd gweddi o ddiolch, ac yna dweud wrth ei ddisgyblion, “Cymerwch hwn a'i rannu rhyngoch. Dw i'n dweud wrthoch chi, fydda i ddim yn yfed gwin eto nes i Dduw ddod i deyrnasu.” Yna cymerodd dorth o fara, ac yna, ar ôl adrodd y weddi o ddiolch, ei thorri a'i rhannu i'w ddisgyblion. “Dyma fy nghorff i, sy'n cael ei roi drosoch chi. Gwnewch hyn i gofio amdana i.” Wedyn ar ôl bwyta swper gafaelodd yn y cwpan eto, a dweud, “Mae'r cwpan yma'n cynrychioli'r ymrwymiad newydd drwy fy ngwaed i, sy'n cael ei dywallt ar eich rhan chi. Ond mae'r un sy'n mynd i mradychu i yn eistedd wrth y bwrdd yma gyda mi. Rhaid i mi, Mab y Dyn, farw fel mae wedi ei drefnu, ond gwae'r un sy'n mynd i'm bradychu i!” Yna dechreuodd y disgyblion drafod pwy ohonyn nhw fyddai'n gwneud y fath beth. Ond yna dyma ddadl yn codi yn eu plith nhw ynglŷn â pha un ohonyn nhw oedd y pwysica. Felly dwedodd Iesu wrthyn nhw, “Mae brenhinoedd y cenhedloedd yn ei lordio hi dros bobl; ac mae pobl fawr eraill sy'n hoffi dangos eu hawdurdod yn cael teitlau fel ‛Cyfaill y bobl‛! Ond dim fel yna dylech chi fod. Dylai'r pwysica ohonoch chi ymddwyn fel y person lleia pwysig, a dylai'r un sy'n arwain fod fel un sy'n gwasanaethu. Pwy ydy'r pwysica fel arfer? Ai'r sawl sy'n eistedd wrth y bwrdd neu'r sawl sy'n gwasanaethu? Y sawl sy'n eistedd wrth y bwrdd wrth gwrs! Ond dw i yma fel un sy'n gwasanaethu. “Dych chi wedi sefyll gyda mi drwy'r treialon, a dw i'n mynd i roi hawl i chi deyrnasu yn union fel gwnaeth y Tad ei roi i mi. Cewch chi fwyta ac yfed wrth fy mwrdd i pan fydda i'n teyrnasu, a byddwch yn eistedd ar orseddau i farnu deuddeg llwyth gwlad Israel. “Simon, Simon — mae Satan wedi bod eisiau eich cymryd chi i gyd i'ch ysgwyd a'ch profi chi fel mae us yn cael ei wahanu oddi wrth y gwenith. Ond dw i wedi gweddïo drosot ti, Simon, y byddi di ddim yn colli dy ffydd. Felly pan fyddi di wedi troi'n ôl dw i eisiau i ti annog a chryfhau'r lleill.” “Ond Arglwydd,” meddai Pedr, “dw i'n fodlon mynd i'r carchar neu hyd yn oed farw drosot ti!” “Pedr,” meddai'r Arglwydd wrtho, “gwranda'n ofalus ar beth dw i'n ei ddweud. Cyn i'r ceiliog ganu bore fory byddi di wedi gwadu dair gwaith dy fod di hyd yn oed yn fy nabod i.” Wedyn dyma Iesu'n gofyn i'w ddisgyblion, “Pan wnes i'ch anfon chi allan heb bwrs na bag teithio na sandalau sbâr, fuoch chi'n brin o gwbl?” “Naddo,” medden nhw. Yna dwedodd wrthyn nhw, “Ond nawr, ewch â'ch pwrs a'ch bag gyda chi; ac os oes gynnoch chi ddim cleddyf, gwerthwch eich côt i brynu un. Mae'r broffwydoliaeth sy'n dweud, ‘Roedd yn cael ei ystyried yn un o'r gwrthryfelwyr’, yn mynd i ddod yn wir. Ydy, mae'r cwbl sydd wedi ei ysgrifennu amdana i yn yr ysgrifau sanctaidd yn mynd i ddod yn wir.” “Edrych, Arglwydd,” meddai'r disgyblion, “mae gynnon ni ddau gleddyf yn barod!” “Dyna ddigon!” meddai. Dyma Iesu'n mynd allan i Fynydd yr Olewydd eto, fel roedd wedi gwneud bob nos. Ac aeth ei ddisgyblion ar ei ôl. Pan gyrhaeddodd lle roedd yn mynd, dwedodd wrthyn nhw, “Gweddïwch y byddwch chi ddim yn syrthio pan gewch chi'ch profi.” Yna aeth yn ei flaen dafliad carreg, a mynd ar ei liniau a dechrau gweddïo, “Dad, os wyt ti'n fodlon, cymer y cwpan chwerw yma oddi arna i. Ond paid gwneud beth dw i eisiau, gwna beth rwyt ti eisiau.” Yna gwelodd angel o'r nefoedd, ac roedd yr angel yn ei annog ac yn cryfhau ei benderfyniad. Gweddïodd yn fwy taer, ond gan ei fod mewn cymaint o boen meddwl, roedd ei chwys yn disgyn ar lawr fel dafnau o waed. Pan gododd ar ei draed a mynd yn ôl at ei ddisgyblion roedden nhw'n cysgu. Roedd tristwch yn eu llethu nhw. Gofynnodd iddyn nhw, “Pam dych chi'n cysgu? Codwch ar eich traed, a gweddïwch y byddwch chi ddim yn syrthio pan gewch chi'ch profi.” Wrth iddo ddweud hyn, dyma dyrfa yn dod ato. Jwdas, un o'r deuddeg disgybl oedd yn eu harwain, ac aeth at Iesu i'w gyfarch â chusan. Ond dyma Iesu'n gofyn iddo, “Wyt ti'n bradychu Mab y Dyn â chusan?” Pan sylweddolodd dilynwyr Iesu beth oedd ar fin digwydd, dyma nhw'n gweiddi, “Arglwydd, wyt ti eisiau i ni ymladd gyda'r cleddyfau yma?” A dyma un ohonyn nhw yn taro gwas yr archoffeiriad, a thorri ei glust dde i ffwrdd. “Stopiwch! Dyna ddigon!” meddai Iesu. Yna cyffyrddodd glust y dyn a'i iacháu. Yna dwedodd wrth y prif offeiriaid, swyddogion diogelwch y deml a'r arweinwyr eraill oedd wedi dod i'w ddal, “Ydw i'n arwain gwrthryfel neu rywbeth? Ai dyna pam mae angen y cleddyfau a'r pastynau yma? Pam na ddalioch chi fi yn y deml? Roeddwn i yno gyda chi bob dydd! Ond dyma'ch cyfle chi — yr amser pan mae pwerau'r tywyllwch yn rheoli.” Dyma nhw'n gafael ynddo, a mynd ag e i dŷ'r archoffeiriad. Roedd Pedr yn eu dilyn o bell. Ond yna ar ôl iddyn nhw gynnau tân yng nghanol yr iard dyma Pedr yn mynd yno ac yn eistedd gyda nhw. Dyma un o'r morynion yn sylwi ei fod yn eistedd yno. Edrychodd hi'n ofalus arno yng ngolau'r tân, ac yna dweud, “Roedd y dyn yma gyda Iesu!” Ond gwadu wnaeth Pedr. “Dw i ddim yn nabod y dyn, ferch!” meddai. Yna ychydig yn ddiweddarach dyma rywun arall yn sylwi arno ac yn dweud, “Rwyt ti'n un ohonyn nhw!” “Na dw i ddim!” atebodd Pedr. Yna ryw awr yn ddiweddarach dyma rywun arall eto yn dweud, “Does dim amheuaeth fod hwn gyda Iesu; mae'n amlwg ei fod yn dod o Galilea.” Atebodd Pedr, “Does gen i ddim syniad am beth rwyt ti'n sôn, ddyn!” A dyma'r ceiliog yn canu wrth iddo ddweud y peth. Dyma'r Arglwydd Iesu yn troi ac yn edrych yn syth ar Pedr. Yna cofiodd Pedr beth roedd yr Arglwydd wedi ei ddweud: “Byddi di wedi gwadu dy fod yn fy nabod i dair gwaith cyn i'r ceiliog ganu.” Aeth allan yn beichio crïo. Dyma'r milwyr oedd yn cadw Iesu yn y ddalfa yn dechrau gwneud hwyl ar ei ben a'i guro. Dyma nhw'n rhoi mwgwd arno ac yna ei daro a dweud wrtho, “Tyrd, Proffwyda! Pwy wnaeth dy daro di y tro yna?” Roedden nhw'n ei regi ac yn hyrddio pob math o enllibion ato. Pan oedd hi'n gwawrio dyma'r Sanhedrin yn cyfarfod, hynny ydy, yr arweinwyr oedd yn brif-offeiriaid neu'n arbenigwyr yn y Gyfraith. A dyma Iesu'n cael ei osod o'u blaenau nhw. “Dywed wrthon ni ai ti ydy'r Meseia,” medden nhw. Atebodd Iesu, “Fyddech chi ddim yn credu taswn i yn dweud. A taswn i'n gofyn y cwestiwn i chi, wnaech chi ddim ateb. Ond o hyn ymlaen, bydd Mab y Dyn yn llywodraethu gyda'r Duw grymus.” “Felly wyt ti'n dweud mai ti ydy Mab Duw?” medden nhw gyda'i gilydd. “Chi sydd wedi dweud y peth,” meddai. A dyma nhw'n dweud, “Pam mae angen tystiolaeth bellach? Dŷn ni wedi ei glywed yn dweud y peth ei hun.” Yna dyma nhw i gyd yn codi a mynd ag e at Peilat. Dyma nhw'n dechrau dadlau eu hachos yn ei erbyn, “Mae'r dyn yma wedi bod yn camarwain ein pobl. Mae'n gwrthwynebu talu trethi i lywodraeth Rhufain, ac mae'n honni mai fe ydy'r brenin, y Meseia.” Felly dyma Peilat yn dweud wrth Iesu, “Felly, ti ydy Brenin yr Iddewon, ie?” “Ti sy'n dweud,” atebodd Iesu. Yna dyma Peilat yn troi at y prif offeiriaid a'r dyrfa ac yn cyhoeddi, “Dw i ddim yn credu fod unrhyw sail i ddwyn cyhuddiad yn erbyn y dyn yma.” Ond roedden nhw'n benderfynol, “Mae'n creu helynt drwy Jwdea i gyd wrth ddysgu'r bobl. Dechreuodd yn Galilea, a nawr mae wedi dod yma.” “Felly un o Galilea ydy e?” meddai Peilat. Pan sylweddolodd hynny, anfonodd Iesu at Herod Antipas, gan ei fod yn dod o'r ardal oedd dan awdurdod Herod. (Roedd Herod yn digwydd bod yn Jerwsalem ar y pryd.) Roedd Herod wrth ei fodd ei fod yn cael cyfle i weld Iesu. Roedd wedi clywed amdano ers amser maith, ac wedi bod yn gobeithio cael ei weld yn gwneud rhywbeth gwyrthiol. Gofynnodd un cwestiwn ar ôl y llall i Iesu, ond roedd Iesu'n gwrthod ateb. A dyna lle roedd y prif offeiriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn ei gyhuddo'n ffyrnig. Yna dyma Herod a'i filwyr yn dechrau gwneud hwyl am ei ben a'i sarhau. Dyma nhw'n ei wisgo mewn mantell grand, a'i anfon yn ôl at Peilat. Cyn i hyn i gyd ddigwydd roedd Herod a Peilat wedi bod yn elynion, ond dyma nhw'n dod yn ffrindiau y diwrnod hwnnw. Dyma Peilat yn galw'r prif offeiriaid a'r arweinwyr eraill, a'r bobl at ei gilydd, a chyhoeddi ei ddedfryd: “Daethoch â'r dyn yma i sefyll ei brawf ar y cyhuddiad o fod yn arwain gwrthryfel. Dw i wedi ei groesholi o'ch blaen chi i gyd, a dw i'n ei gael yn ddieuog o'r holl gyhuddiadau. Ac mae'n amlwg fod Herod wedi dod i'r un casgliad gan ei fod wedi ei anfon yn ôl yma. Dydy e ddim wedi gwneud unrhyw beth i haeddu marw. Felly dysga i wers iddo â'r chwip ac yna ei ollwng yn rhydd.” *** Dyma nhw i gyd yn gweiddi gyda'i gilydd, “Lladda fe! Gollwng Barabbas yn rhydd!” (Roedd Barabbas yn y carchar am godi terfysg yn Jerwsalem ac am lofruddiaeth.) Dyma Peilat yn eu hannerch nhw eto. Roedd e eisiau gollwng Iesu yn rhydd. Ond roedden nhw wedi dechrau gweiddi drosodd a throsodd, “Croeshoelia fe! Croeshoelia fe!” Gofynnodd iddyn nhw'r drydedd waith, “Pam? Beth mae wedi ei wneud o'i le? Dydy'r dyn ddim yn euog o unrhyw drosedd sy'n haeddu dedfryd o farwolaeth! Felly dysga i wers iddo â'r chwip ac yna ei ollwng yn rhydd.” Ond roedd y dyrfa'n gweiddi'n uwch ac yn uwch, ac yn mynnu fod rhaid i Iesu gael ei groeshoelio, ac yn y diwedd cawson nhw eu ffordd. Dyma Peilat yn penderfynu rhoi beth roedden nhw eisiau iddyn nhw. Rhyddhaodd Barabbas, y dyn oedd yn y carchar am derfysg a llofruddiaeth, a dedfrydu Iesu i farwolaeth fel roedden nhw eisiau iddo wneud. Wrth iddyn nhw arwain Iesu i ffwrdd roedd Simon o Cyrene ar ei ffordd i mewn i'r ddinas, a dyma nhw'n ei orfodi i gario croes Iesu. Roedd tyrfa fawr o bobl yn ei ddilyn, gan gynnwys nifer o wragedd yn galaru ac wylofain. Ond dyma Iesu'n troi ac yn dweud wrthyn nhw, “Ferched Jerwsalem, peidiwch crïo drosto i; crïwch drosoch eich hunain a'ch plant. Mae'r amser yn dod pan fyddwch yn dweud, ‘Mae'r gwragedd hynny sydd heb blant wedi eu bendithio'n fawr! — y rhai sydd erioed wedi cario plentyn yn y groth na bwydo plentyn ar y fron!’ A ‘byddan nhw'n dweud wrth y mynyddoedd, “Syrthiwch arnon ni!” ac wrth y bryniau, “Cuddiwch ni!”’ Os ydy hyn yn cael ei wneud i'r goeden sy'n llawn dail, beth fydd yn digwydd i'r un sydd wedi marw?” Roedd dau ddyn arall oedd yn droseddwyr yn cael eu harwain allan i gael eu dienyddio gyda Iesu. Felly ar ôl iddyn nhw gyrraedd y lle sy'n cael ei alw ‛Y Benglog‛, dyma nhw'n hoelio Iesu ar groes a'r ddau droseddwr arall un bob ochr iddo. Ond yr hyn ddwedodd Iesu oedd, “Dad, maddau iddyn nhw. Dyn nhw ddim yn gwybod beth maen nhw'n ei wneud.” A dyma'r milwyr yn gamblo i weld pwy fyddai'n cael ei ddillad. Roedd y bobl yno'n gwylio'r cwbl, a'r arweinwyr yn chwerthin ar ei ben a'i wawdio. “Roedd e'n achub pobl eraill,” medden nhw, “felly gadewch iddo'i achub ei hun, os mai fe ydy'r Meseia mae Duw wedi ei ddewis!” Roedd y milwyr hefyd yn gwneud sbort am ei ben. Roedden nhw'n cynnig gwin sur rhad iddo ac yn dweud, “Achub dy hun os mai ti ydy Brenin yr Iddewon!” Achos roedd arwydd uwch ei ben yn dweud: DYMA FRENIN YR IDDEWON. A dyma un o'r troseddwyr oedd yn hongian yno yn dechrau ei regi hefyd: “Onid ti ydy'r Meseia? Achub dy hun, a ninnau hefyd!” Ond dyma'r troseddwr arall yn ei geryddu. “Does arnat ti ddim ofn Duw a thithau ar fin marw hefyd? Dŷn ni'n haeddu cael ein cosbi am yr hyn wnaethon ni. Ond wnaeth hwn ddim byd o'i le.” Yna meddai, “Iesu, cofia amdana i pan fyddi di'n teyrnasu.” Dyma Iesu'n ateb, “Wir i ti — cei di ddod gyda mi i baradwys heddiw.” Roedd hi tua chanol dydd erbyn hyn, ac aeth yn hollol dywyll drwy'r wlad i gyd hyd dri o'r gloch y p'nawn. Roedd fel petai golau'r haul wedi diffodd! Dyna pryd wnaeth y llen hir oedd yn hongian yn y deml rwygo yn ei hanner. A dyma Iesu'n gweiddi'n uchel, “Dad, dw i'n rhoi fy ysbryd yn dy ddwylo di,” ac ar ôl dweud hynny stopiodd anadlu a marw. Pan welodd y capten milwrol oedd yno beth ddigwyddodd, dechreuodd foli Duw a dweud, “Roedd y dyn yma'n siŵr o fod yn ddieuog!” A phan welodd y dyrfa oedd yno beth ddigwyddodd, dyma nhw'n troi am adre'n galaru. Ond arhosodd ei ffrindiau agos i wylio o bell beth oedd yn digwydd — gan gynnwys y gwragedd oedd wedi ei ddilyn o Galilea. Roedd yna ddyn o'r enw Joseff oedd yn dod o dref Arimathea yn Jwdea. Roedd yn ddyn da a gonest, ac yn aelod o'r Sanhedrin Iddewig, ond doedd e ddim wedi cytuno â'r penderfyniad wnaeth yr arweinwyr eraill. Roedd Joseff yn ddyn oedd yn disgwyl i Dduw ddod i deyrnasu. Aeth i ofyn i Peilat am ganiatâd i gymryd corff Iesu. Tynnodd y corff i lawr a'i lapio gyda lliain ac yna ei roi i orwedd mewn bedd newydd oedd wedi ei naddu yn y graig — doedd neb erioed wedi ei gladdu yno o'r blaen. Roedd hi'n hwyr bnawn dydd Gwener a'r Saboth ar fin dechrau. Roedd y gwragedd o Galilea oedd gyda Iesu wedi dilyn Joseff, ac wedi gweld y bedd lle cafodd y corff ei osod. Ar ôl mynd adre i baratoi cymysgedd o berlysiau a pheraroglau i eneinio'r corff, dyma nhw'n gorffwys dros y Saboth, fel mae Cyfraith Moses yn ei ddweud. Yn gynnar iawn y bore Sul aeth y gwragedd at y bedd gyda'r perlysiau roedden nhw wedi eu paratoi. Dyma nhw'n darganfod fod y garreg fawr oedd ar geg y bedd wedi ei rholio i ffwrdd, a phan aethon nhw i mewn i'r bedd doedd y corff ddim yno! Roedden nhw wedi drysu'n lân, ond yna'n sydyn dyma ddau ddyn mewn dillad llachar yn sefyll wrth eu hymyl. Roedd y gwragedd wedi dychryn am eu bywydau, a dyma nhw'n plygu a'u hwynebau i lawr o'u blaenau. Yna dyma'r dynion yn gofyn iddyn nhw, “Pam dych chi'n edrych mewn bedd am rywun sy'n fyw? Dydy Iesu ddim yma; mae yn ôl yn fyw! Dych chi ddim yn cofio beth ddwedodd e pan oedd gyda chi yn Galilea? Dwedodd y byddai e, Mab y Dyn, yn cael ei drosglwyddo i afael dynion pechadurus fyddai'n ei groeshoelio; ond yna ddeuddydd wedyn byddai e'n dod yn ôl yn fyw.” A dyma nhw'n cofio beth roedd wedi ei ddweud. Felly dyma nhw'n gadael y bedd a mynd yn ôl i ddweud beth oedd wedi digwydd wrth yr unarddeg disgybl a phawb arall. Aeth Mair Magdalen, Joanna, Mair mam Iago, a nifer o wragedd eraill i ddweud yr hanes wrth yr apostolion. Ond doedd yr apostolion ddim yn eu credu nhw — roedden nhw'n meddwl fod y stori yn nonsens llwyr. Ond dyma Pedr yn rhedeg at y bedd i edrych. Plygodd i edrych i mewn i'r bedd a gweld y stribedi o liain yn gorwedd yno'n wag. Gadawodd y bedd yn methu'n lân a deall beth oedd wedi digwydd. Yr un diwrnod, roedd dau o ddilynwyr Iesu ar eu ffordd i bentref Emaus, sydd ryw saith milltir o Jerwsalem. Roedden nhw'n sgwrsio am bopeth oedd wedi digwydd. Wrth i'r drafodaeth fynd yn ei blaen dyma Iesu'n dod atyn nhw a dechrau cerdded gyda nhw. Ond doedden nhw ddim yn sylweddoli pwy oedd e, am fod Duw wedi eu rhwystro rhag ei nabod e. Gofynnodd iddyn nhw, “Am beth dych chi'n dadlau gyda'ch gilydd?” Dyma nhw'n sefyll yn stond. (Roedd eu tristwch i'w weld ar eu hwynebau.) A dyma Cleopas, un ohonyn nhw, yn dweud, “Mae'n rhaid mai ti ydy'r unig berson yn Jerwsalem sydd ddim yn gwybod beth sydd wedi digwydd y dyddiau dwetha yma!” “Gwybod beth?” gofynnodd. “Beth sydd wedi digwydd i Iesu o Nasareth,” medden nhw. “Roedd yn broffwyd i Dduw ac yn siaradwr gwych, ac roedd pawb wedi ei weld yn gwneud gwyrthiau rhyfeddol. Ond dyma'r prif offeiriaid a'r arweinwyr crefyddol eraill yn ei arestio a'i drosglwyddo i'r Rhufeiniaid i gael ei ddedfrydu i farwolaeth, a'i groeshoelio. Roedden ni wedi gobeithio mai fe oedd y Meseia oedd yn mynd i ennill rhyddid i Israel. Digwyddodd hynny echdoe — Ond mae yna fwy … Yn gynnar y bore ma dyma rai o'r merched oedd gyda ni yn mynd at y bedd lle roedd ei gorff wedi cael ei osod, ond doedd y corff ddim yno! Roedden nhw'n dweud eu bod nhw wedi gweld angylion, a bod y rheiny wedi dweud wrthyn nhw fod Iesu'n fyw. Felly dyma rai o'r dynion oedd gyda ni yn mynd at y bedd i edrych, ac roedd popeth yn union fel roedd y gwragedd wedi dweud. Ond welon nhw ddim Iesu o gwbl.” “Dych chi mor ddwl!” meddai Iesu wrth y ddau oedd e'n cerdded gyda nhw, “Pam dych chi'n ei chael hi mor anodd i gredu'r cwbl ddwedodd y proffwydi? Maen nhw'n dweud fod rhaid i'r Meseia ddioddef fel hyn cyn iddo gael ei anrhydeddu!” A dyma Iesu'n mynd dros bopeth ac yn esbonio iddyn nhw beth roedd Moses a'r proffwydi eraill wedi ei ddweud amdano yn yr ysgrifau sanctaidd. Pan oedden nhw bron â chyrraedd pen y daith, dyma Iesu'n dweud ei fod e'n mynd yn ei flaen. Ond dyma nhw'n erfyn yn daer arno: “Tyrd i aros gyda ni dros nos; mae'n mynd yn hwyr.” Felly aeth i aros gyda nhw. Pan oedden nhw'n eistedd wrth y bwrdd i fwyta, cymerodd dorth o fara, ac adrodd gweddi o ddiolch cyn ei thorri a'i rhannu iddyn nhw. Yn sydyn dyma nhw'n sylweddoli mai Iesu oedd gyda nhw, a'r foment honno diflannodd o'u golwg. Dyma nhw'n dweud wrth ei gilydd, “Roedden ni'n teimlo rhyw wefr, fel petai'n calonnau ni ar dân, wrth iddo siarad â ni ar y ffordd ac esbonio beth mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud!” Ymhen dim o amser roedden nhw ar eu ffordd yn ôl i Jerwsalem. Dyma nhw'n dod o hyd i'r unarddeg disgybl a phawb arall gyda nhw, a'r peth cyntaf gafodd ei ddweud wrthyn nhw oedd, “Mae'n wir! Mae'r Arglwydd wedi dod yn ôl yn fyw. Mae Simon Pedr wedi ei weld!” Yna dyma'r ddau yn dweud beth oedd wedi digwydd iddyn nhw ar eu taith, a sut wnaethon nhw sylweddoli pwy oedd Iesu wrth iddo dorri'r bara. Roedden nhw'n dal i siarad am y peth pan ddaeth Iesu a sefyll yn y canol. “Shalôm!” meddai wrthyn nhw. Roedden nhw wedi cael braw. Roedden nhw'n meddwl eu bod nhw'n gweld ysbryd. Ond dyma Iesu'n gofyn iddyn nhw, “Beth sy'n bod? Pam dych chi'n amau pwy ydw i? Edrychwch ar fy nwylo a'm traed i. Fi sydd yma go iawn! Cyffyrddwch fi. Byddwch chi'n gweld wedyn mai dim ysbryd ydw i. Does gan ysbryd ddim corff ag esgyrn fel hyn!” Roedd yn dangos ei ddwylo a'i draed iddyn nhw wrth ddweud y peth. Roedden nhw'n teimlo rhyw gymysgedd o lawenydd a syfrdandod, ac yn dal i fethu credu'r peth. Felly gofynnodd Iesu iddyn nhw, “Oes gynnoch chi rywbeth i'w fwyta yma?” Dyma nhw'n rhoi darn o bysgodyn wedi ei goginio iddo, a dyma Iesu'n ei gymryd a'i fwyta o flaen eu llygaid. Yna dwedodd wrthyn nhw, “Pan o'n i gyda chi, dwedais fod rhaid i'r cwbl ysgrifennodd Moses amdana i yn y Gyfraith, a beth sydd yn llyfrau'r Proffwydi a'r Salmau, ddod yn wir.” Wedyn esboniodd iddyn nhw beth mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud, er mwyn iddyn nhw ddeall. “Mae'r ysgrifau yn dweud fod y Meseia yn mynd i ddioddef a marw, ac yna dod yn ôl yn fyw ddeuddydd wedyn. Rhaid cyhoeddi'r neges yma yn Jerwsalem a thrwy'r gwledydd i gyd: fod pobl i droi cefn ar eu pechod a bod Duw'n barod i faddau iddyn nhw. Chi ydy'r llygad-dystion sydd wedi gweld y cwbl! Felly dw i'n mynd i anfon beth wnaeth fy Nhad ei addo i chi — arhoswch yma yn y ddinas nes i'r Ysbryd Glân ddod i lawr a'ch gwisgo chi gyda nerth.” Yna dyma Iesu'n mynd â nhw allan i ymyl Bethania. Wrth iddo godi ei ddwylo i'w bendithio nhw cafodd ei gymryd i ffwrdd i'r nefoedd, ac roedden nhw'n ei addoli. Wedyn dyma nhw'n mynd yn ôl i Jerwsalem yn llawen, a threulio eu hamser i gyd yn y deml yn moli Duw. Y Gair oedd yn bod ar y dechrau cyntaf. Roedd y Gair gyda Duw, a Duw oedd y Gair. Roedd gyda Duw o'r dechrau cyntaf un. Trwyddo y crëwyd popeth sy'n bod. Does dim yn bodoli ond beth greodd e. Ynddo fe roedd bywyd, a'r bywyd hwnnw'n rhoi golau i bobl. Mae'r golau yn dal i ddisgleirio yn y tywyllwch, a'r tywyllwch wedi methu ei ddiffodd. Daeth dyn o'r enw Ioan i'r golwg. Duw oedd wedi anfon Ioan i roi tystiolaeth — ac i ddweud wrth bawb am y golau, er mwyn i bawb ddod i gredu drwy'r hyn oedd yn ei ddweud. Dim Ioan ei hun oedd y golau; dim ond dweud wrth bobl am y golau roedd e'n wneud. Roedd y golau go iawn, sy'n rhoi golau i bawb, ar fin dod i'r byd. Roedd y Gair yn y byd, ac er mai fe greodd y byd, wnaeth pobl y byd mo'i nabod. Daeth i'w wlad ei hun, a chael ei wrthod gan ei bobl ei hun. Ond cafodd pawb wnaeth ei dderbyn, (sef y rhai sy'n credu ynddo) hawl i ddod yn blant Duw. Dim am fod ganddyn nhw waed Iddewig; (Dim canlyniad perthynas rywiol a chwant gŵr sydd yma) Duw sydd wedi eu gwneud nhw'n blant iddo'i hun! Daeth y Gair yn berson o gig a gwaed; daeth i fyw yn ein plith ni. Gwelon ni ei ysblander dwyfol, ei ysblander fel Mab unigryw wedi dod oddi wrth y Tad yn llawn haelioni a gwirionedd. Dyma'r un oedd Ioan yn sôn amdano. Cyhoeddodd yn uchel, “Dyma'r un ddwedais i amdano, ‘Mae'r un sy'n dod ar fy ôl i yn bwysicach na fi. Roedd e'n bodoli o'm blaen i.’” Ynddo fe mae un fendith hael wedi cael ei rhoi yn lle'r llall — a hynny i bob un ohonon ni! Rhoddodd Moses Gyfraith Duw i ni; wedyn dyma rodd hael Duw a'i wirionedd yn dod i ni yn Iesu y Meseia. Does neb erioed wedi gweld Duw, ond mae'r Mab unigryw hwn (sy'n Dduw ei hun, gyda'r berthynas agosaf posib â'r Tad), wedi dweud yn glir amdano. Dyma'r arweinwyr Iddewig yn Jerwsalem yn anfon offeiriaid a Lefiaid at Ioan Fedyddiwr i ofyn iddo pwy oedd. Dwedodd Ioan yn blaen wrthyn nhw, “Dim fi ydy'r Meseia.” “Felly pwy wyt ti?” medden nhw. “Ai Elias y proffwyd wyt ti?” “Nage” meddai Ioan. “Ai y Proffwyd soniodd Moses amdano wyt ti?” Atebodd eto, “Na.” “Felly, pwy wyt ti'n ddweud wyt ti?” medden nhw yn y diwedd, “i ni gael rhoi rhyw ateb i'r rhai sydd wedi'n hanfon ni. Beth fyddet ti'n ei ddweud amdanat ti dy hun?” Atebodd Ioan drwy ddyfynnu geiriau'r proffwyd Eseia: “ Llais yn gweiddi'n uchel yn yr anialwch, ‘Cliriwch y ffordd i'r Arglwydd!’ Dyna ydw i.” Yna dyma'r rhai ohonyn nhw oedd yn Phariseaid yn gofyn iddo, “Ond pa hawl sydd gen ti i fedyddio os mai dim ti ydy'r Meseia, nag Elias, na'r Proffwyd?” Atebodd Ioan nhw, “Dŵr dw i'n ei ddefnyddio i fedyddio pobl. Ond mae rhywun dych chi ddim yn ei nabod yn sefyll yn eich plith chi — sef yr un sy'n dod ar fy ôl i. Fyddwn i ddim digon da i fod yn gaethwas i ddatod carrai ei sandalau hyd yn oed!” Digwyddodd hyn i gyd yn Bethania yr ochr draw i Afon Iorddonen, lle roedd Ioan yn bedyddio. Y diwrnod wedyn gwelodd Ioan Iesu yn dod i'w gyfeiriad. “Edrychwch!” meddai, “Dacw Oen Duw, yr un sy'n cymryd pechod y byd i ffwrdd. Dyma'r dyn ddwedais i amdano, ‘Mae un sy'n dod ar fy ôl i yn bwysicach na fi. Roedd e'n bodoli o'm blaen i.’ Doeddwn i ddim yn gwybod mai fe oedd yr un. Ond dw i wedi bod yn bedyddio â dŵr er mwyn i Israel ei weld e.” Yna dyma Ioan yn dweud hyn: “Gwelais yr Ysbryd Glân yn disgyn o'r nefoedd fel colomen ac yn aros arno. Cyn hynny doeddwn i ddim yn gwybod mai fe oedd yr un, ond roedd yr un anfonodd fi i fedyddio â dŵr wedi dweud wrtho i, ‘Os gweli di'r Ysbryd yn dod i lawr ac yn aros ar rywun, dyna'r un fydd yn bedyddio â'r Ysbryd Glân.’ A dyna welais i'n digwydd! Dw i'n dweud wrthoch chi mai Iesu ydy Mab Duw.” Roedd Ioan yno eto'r diwrnod wedyn gyda dau o'i ddisgyblion. Wrth i Iesu fynd heibio, roedd Ioan yn syllu arno, ac meddai “Edrychwch! Oen Duw!” Dyma'r ddau ddisgybl glywodd beth ddwedodd Ioan yn mynd i ddilyn Iesu. Trodd Iesu a'u gweld nhw'n ei ddilyn, a gofynnodd iddyn nhw, “Beth dych chi eisiau?” “Rabbi” medden nhw “ble rwyt ti'n aros?” (Ystyr y gair Hebraeg ‛Rabbi‛ ydy ‛Athro‛) Atebodd Iesu nhw, “Dewch i weld.” Felly dyma nhw'n mynd i weld lle roedd yn aros, a threulio gweddill y diwrnod gydag e. Roedd hi tua pedwar o'r gloch y p'nawn erbyn hynny. Andreas (brawd Simon Pedr) oedd un o'r ddau, a'r peth cyntaf wnaeth wedyn oedd mynd i chwilio am ei frawd Simon, a dweud wrtho, “Dŷn ni wedi dod o hyd i'r Meseia” (gair Hebraeg sy'n golygu ‛Yr un wedi ei eneinio'n frenin‛). Aeth Andreas ag e i gyfarfod Iesu. Edrychodd Iesu arno, ac yna dweud, “Simon fab Ioan wyt ti. Ond Ceffas fyddi di'n cael dy alw,” (enw sy'n golygu'r un peth â Pedr, sef ‛craig‛). Y diwrnod wedyn penderfynodd Iesu fynd i Galilea. Daeth o hyd i Philip, a dweud wrtho, “Tyrd, dilyn fi.” Roedd Philip hefyd (fel Andreas a Pedr), yn dod o dref Bethsaida. Yna aeth Philip i edrych am Nathanael a dweud wrtho, “Dŷn ni wedi dod o hyd i'r dyn yr ysgrifennodd Moses amdano yn y Gyfraith, a'r un soniodd y proffwydi amdano hefyd — Iesu, mab Joseff o Nasareth.” “Nasareth?” meddai Nathanael, “— ddaeth unrhyw beth da o'r lle yna erioed?” “Tyrd i weld,” meddai Philip. Pan welodd Iesu Nathanael yn dod ato, meddai amdano, “Dyma ddyn fyddai'n twyllo neb — Israeliad go iawn!” “Sut wyt ti'n gwybod sut un ydw i?” meddai Nathanael. Atebodd Iesu, “Gwelais di'n myfyrio dan y goeden ffigys, cyn i Philip dy alw di.” Dyma Nathanael yn ateb, “Rabbi, ti ydy mab Duw; ti ydy Brenin Israel.” Meddai Iesu wrtho, “Wyt ti'n credu dim ond am fy mod i wedi dweud i mi dy weld di dan y goeden ffigys?” Yna dwedodd wrthyn nhw i gyd “Cewch weld pethau mwy na hyn! Credwch chi fi, byddwch chi'n gweld y nefoedd yn agor, ac angylion Duw yn mynd i fyny ac yn dod i lawr arna i, Mab y Dyn.” Dau ddiwrnod wedyn roedd priodas yn Cana, pentref yn Galilea. Roedd mam Iesu yno, ac roedd Iesu a'i ddisgyblion wedi derbyn y gwahoddiad i'r briodas hefyd. Pan doedd dim gwin ar ôl, dyma fam Iesu'n dweud wrtho, “Does ganddyn nhw ddim mwy o win.” Atebodd Iesu, “Mam annwyl, gad lonydd i mi. Paid busnesa. Dydy fy amser i ddim wedi dod eto.” Ond dwedodd ei fam wrth y gweision, “Gwnewch beth bynnag fydd yn ei ddweud wrthoch chi.” Roedd chwech ystên garreg wrth ymyl (y math sy'n cael eu defnyddio gan yr Iddewon i ddal dŵr ar gyfer y ddefod o ymolchi seremonïol). Roedd pob un ohonyn nhw'n dal rhwng wyth deg a chant dau ddeg litr. Dwedodd Iesu wrth y gweision, “Llanwch yr ystenau yma gyda dŵr.” Felly dyma nhw'n eu llenwi i'r top. Yna dwedodd wrthyn nhw, “Cymerwch beth ohono a mynd ag e i lywydd y wledd.” Dyma nhw'n gwneud hynny, a dyma llywydd y wledd yn blasu'r dŵr oedd wedi ei droi'n win. Doedd ganddo ddim syniad o ble roedd wedi dod (ond roedd y gweision oedd wedi codi'r dŵr yn gwybod). Yna galwodd y priodfab ato ac meddai wrtho, “Mae pobl fel arfer yn dod â'r gwin gorau allan gyntaf a'r gwin rhad yn nes ymlaen ar ôl i'r gwesteion gael gormod i'w yfed. Pam wyt ti wedi cadw'r gorau i'r diwedd?” Y wyrth hon yn Cana Galilea oedd y gyntaf wnaeth Iesu fel arwydd o pwy oedd. Roedd yn dangos ei ysblander, a dyma'i ddisgyblion yn credu ynddo. Ar ôl y briodas aeth Iesu i lawr i Capernaum gyda'i fam a'i frodyr a'i ddisgyblion, ac aros yno am ychydig ddyddiau. Roedd yn amser Gŵyl y Pasg (un o wyliau'r Iddewon), a dyma Iesu'n mynd i Jerwsalem. Yng nghwrt y deml gwelodd bobl yn gwerthu ychen, defaid a colomennod, ac eraill yn eistedd wrth fyrddau yn cyfnewid arian. Felly gwnaeth chwip o reffynnau, a'u gyrru nhw i gyd allan o'r deml gyda'r defaid a'r ychen. Chwalodd holl arian y rhai oedd yn cyfnewid arian, a throi eu byrddau drosodd. Yna meddai wrth y rhai oedd yn gwerthu colomennod “Ewch â'r rhain allan oddi yma! Stopiwch droi tŷ fy Nhad i yn farchnad!” Yna cofiodd ei ddisgyblion fod yr ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Bydd fy sêl dros dy dŷ di yn fy meddiannu i.” Ond dyma'r arweinwyr Iddewig yn ei herio, “Pa arwydd gwyrthiol wnei di i brofi i ni fod gen ti hawl i wneud hyn i gyd?” Atebodd Iesu nhw, “Dinistriwch y deml hon, a gwna i ei hadeiladu hi eto o fewn tri diwrnod.” Atebodd yr arweinwyr Iddewig, “Mae'r deml wedi bod yn cael ei hadeiladu ers pedwar deg chwech mlynedd! Wyt ti'n mynd i'w hadeiladu mewn tri diwrnod?” (Ond y deml oedd Iesu'n sôn amdani oedd ei gorff. Ar ôl i Iesu ddod yn ôl yn fyw, cofiodd ei ddisgyblion ei fod wedi dweud hyn, a dyma nhw'n credu'r ysgrifau sanctaidd a beth ddwedodd Iesu.) Tra roedd Iesu yn Jerwsalem yn ystod Gŵyl y Pasg, daeth llawer o bobl i gredu ynddo am eu bod nhw wedi ei weld e'n gwneud arwyddion gwyrthiol. Ond doedd Iesu ddim yn eu trystio nhw — roedd e'n deall pobl i'r dim. Doedd dim angen neb i esbonio iddo, am ei fod e'n gwybod yn iawn sut mae'r meddwl dynol yn gweithio. Un noson ar ôl iddi dywyllu daeth un o'r arweinwyr Iddewig at Iesu. Pharisead o'r enw Nicodemus oedd y dyn. Meddai wrth Iesu, “Rabbi, dŷn ni'n gwybod dy fod di'n athro wedi ei anfon gan Dduw i'n dysgu ni. Mae'r gwyrthiau rwyt ti'n eu gwneud yn profi fod Duw gyda ti.” Dyma Iesu'n ymateb trwy ddweud hyn wrtho: “Cred di fi — all neb weld Duw'n teyrnasu heb fod wedi cael ei eni oddi uchod.” “Sut gall unrhyw un gael ei eni pan mae'n oedolyn?” gofynnodd Nicodemus. “Allan nhw'n sicr ddim mynd i mewn i'r groth am yr ail waith i gael eu geni felly!” Atebodd Iesu, “Cred di fi, all neb brofi Duw'n teyrnasu heb fod wedi cael ei eni drwy ddŵr a drwy'r Ysbryd. Mae'r corff dynol yn rhoi genedigaeth i berson dynol, ond yr Ysbryd sy'n rhoi genedigaeth ysbrydol. Ddylet ti ddim synnu wrth i mi ddweud, ‘Rhaid i chi gael eich geni oddi uchod.’ Mae'r gwynt yn chwythu i bob cyfeiriad. Rwyt yn clywed ei sŵn, ond dwyt ti ddim yn gallu dweud o ble mae'n dod nag i ble mae'n mynd. Felly mae hi hefyd gyda phawb sydd wedi eu geni drwy'r Ysbryd.” “Sut mae hynny'n gallu digwydd?” gofynnodd Nicodemus. “Dyma ti,” meddai Iesu, “yr athro parchus yng ngolwg pobl Israel, a dwyt ti ddim yn deall! Cred di fi, dŷn ni'n siarad am beth dŷn ni'n ei wybod, ac yn dweud am beth dŷn ni wedi ei weld, ond dych chi ddim yn ein credu ni. Os dw i wedi siarad â chi am bethau sy'n digwydd ar y ddaear a dych chi ddim yn credu, sut byddwch chi'n credu os gwna i siarad am bethau'r byd nefol? Fi, Mab y Dyn ydy'r unig un sydd wedi dod o'r nefoedd, a does neb arall wedi mynd i'r nefoedd. Cododd Moses neidr bres ar bolyn yn yr anialwch. Bydda i, Mab y Dyn, yn cael fy nghodi yr un fath. Bydd pawb sy'n credu ynof fi yn cael bywyd tragwyddol. “Ydy, mae Duw wedi caru'r byd cymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bwy bynnag sy'n credu ynddo beidio mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol. Oherwydd anfonodd Duw ei Fab i achub y byd, dim i gondemnio'r byd. Dydy'r rhai sy'n credu ynddo ddim yn cael eu condemnio. Ond mae'r rhai sydd ddim yn credu wedi eu condemnio eisoes, am eu bod nhw wedi gwrthod credu ym Mab unigryw Duw. Dyma'r dyfarniad: Mae golau wedi dod i'r byd, ond roedd pobl yn caru'r tywyllwch yn fwy na'r golau, am eu bod nhw'n gwneud drygioni o hyd. Mae pawb sy'n gwneud drygioni yn casáu'r golau. Maen nhw'n gwrthod dod allan i'r golau rhag ofn i'w gweithredoedd gael eu gweld. Ond mae'r rhai sy'n ufudd i'r gwirionedd yn dod allan i'r golau, ac mae'n amlwg mai Duw sy'n rhoi'r nerth iddyn nhw wneud beth sy'n iawn.” Ar ôl hyn gadawodd Iesu a'i ddisgyblion Jerwsalem, a mynd i gefn gwlad Jwdea. Yno bu'n treulio amser gyda nhw, ac yn bedyddio pobl. Yr un pryd, roedd Ioan hefyd yn bedyddio yn Ainon ger Salim. Roedd digon o ddŵr yno, ac roedd pobl yn mynd ato yn gyson i gael eu bedyddio. (Roedd hyn cyn i Ioan gael ei garcharu.) Dechreuodd rhyw arweinydd Iddewig ddadlau gyda disgyblion Ioan Fedyddiwr am y ddefod o ymolchi seremonïol. Dyma disgyblion Ioan yn dod ato a dweud wrtho, “Rabbi, wyt ti'n gwybod y dyn oedd gyda ti yr ochr draw i Afon Iorddonen — yr un rwyt ti wedi bod yn sôn amdano? Wel, mae e'n bedyddio hefyd, ac y mae pawb yn mynd ato fe.” Atebodd Ioan, “Dim ond gwneud y gwaith mae Duw wedi ei roi iddo mae rhywun yn gallu wneud. Dych chi'n gallu tystio fy mod i wedi dweud, ‘Dim fi ydy'r Meseia. Dw i wedi cael fy anfon o'i flaen e.’ Mae'r briodferch yn mynd at y priodfab. Mae'r gwas priodas yn edrych ymlaen at hynny, ac mae wrth ei fodd pan mae'n digwydd. A dyna pam dw i'n wirioneddol hapus. Rhaid iddo fe ddod i'r amlwg; rhaid i mi fynd o'r golwg.” Daeth Iesu o'r nefoedd, ac mae uwchlaw pawb arall. Mae unrhyw berson daearol yn siarad fel un sydd o'r ddaear. Ond mae Iesu uwchlaw popeth. Mae'n dweud am beth mae wedi ei weld a'i glywed yn y nefoedd, a does neb yn ei gredu! Ond mae'r rhai sydd yn credu yn hollol sicr fod Duw yn dweud y gwir. Oherwydd mae Iesu yn dweud yn union beth mae Duw'n ei ddweud. Mae Duw'n rhoi'r Ysbryd iddo heb ddal dim yn ôl. Mae Duw y Tad yn caru'r Mab ac wedi rhoi popeth yn ei ofal e. Mae bywyd tragwyddol gan bawb sy'n credu yn y Mab, ond fydd y rhai sy'n gwrthod y Mab ddim hyd yn oed yn cael cipolwg o'r bywyd hwnnw. Bydd digofaint Duw yn aros arnyn nhw. Roedd y Phariseaid wedi dod i wybod fod Iesu yn ennill ac yn bedyddio mwy o ddilynwyr na Ioan Fedyddiwr (er mai'r disgyblion oedd yn gwneud y bedyddio mewn gwirionedd, dim Iesu.) Pan glywodd Iesu am hyn, gadawodd Jwdea a mynd yn ôl i Galilea. Ar y ffordd roedd rhaid iddo basio drwy Samaria. Daeth i bentref o'r enw Sychar, yn ymyl y darn tir enwog roedd Jacob wedi ei roi i'w fab Joseff ers talwm. A dyna lle roedd ffynnon Jacob. Roedd Iesu wedi blino'n lân, ac eisteddodd i orffwys wrth y ffynnon. Roedd hi tua chanol dydd. Daeth gwraig yno i godi dŵr. Samariad oedd y wraig, a gofynnodd Iesu iddi, “Ga i ddiod gen ti?” (Roedd ei ddisgyblion wedi mynd i'r dre i brynu bwyd.) “Iddew wyt ti,” meddai'r wraig, “Sut alli di ofyn i mi am ddiod? Dw i'n wraig o Samaria.” (Y rheswm pam wnaeth hi ymateb fel yna oedd fod Iddewon fel arfer yn gwrthod defnyddio'r un llestri â'r Samariaid.) Atebodd Iesu, “Taset ti ond yn gwybod beth sydd gan Dduw i'w roi i ti, a phwy ydw i sy'n gofyn i ti am ddiod! Ti fyddai'n gofyn wedyn, a byddwn i'n rhoi dŵr bywiol i ti.” “Syr,” meddai'r wraig, “Ble mae'r ‛dŵr bywiol‛ yma sydd gen ti? Does gen ti ddim bwced i godi dŵr ac mae'r pydew yn ddwfn. Wyt ti'n meddwl dy fod di'n fwy na'n tad ni, Jacob? Jacob roddodd y pydew i ni. Buodd e'n yfed y dŵr yma, a'i feibion hefyd a'i anifeiliaid.” Atebodd Iesu, “Bydd syched eto ar bawb sy'n yfed y dŵr yma, ond fydd dim syched byth ar y rhai sy'n yfed y dŵr dw i'n ei roi. Yn wir, bydd y dŵr dw i'n ei roi yn troi'n ffynnon o ddŵr y tu mewn iddyn nhw, fel ffrwd yn llifo i fywyd tragwyddol.” Meddai'r wraig wrtho, “Syr, rho beth o'r dŵr hwnnw i mi! Wedyn fydd dim syched arna i eto, a fydd dim rhaid i mi ddal ati i ddod yma i nôl dŵr.” Yna dwedodd Iesu wrthi, “Dos i nôl dy ŵr, a tyrd yn ôl yma wedyn.” “Does gen i ddim gŵr,” meddai'r wraig. “Rwyt ti'n iawn!” meddai Iesu wrthi, “Does gen ti ddim gŵr. Y gwir ydy dy fod wedi cael pump o wŷr, a dwyt ti ddim yn briod i'r dyn sy'n byw gyda ti bellach. Mae beth ddwedaist ti'n wir.” “Dw i'n gweld dy fod ti'n broffwyd syr,” meddai'r wraig. “Dywed wrtho i, roedd ein hynafiaid ni'r Samariaid yn addoli ar y mynydd hwn, ond dych chi'r Iddewon yn mynnu mai Jerwsalem ydy'r lle iawn i addoli.” Atebodd Iesu, “Cred di fi, mae'r amser yn dod pan fydd pobl ddim yn addoli'r Tad yma ar y mynydd hwn nac yn Jerwsalem chwaith. Dych chi'r Samariaid ddim yn gwybod beth dych chi'n ei addoli go iawn; dŷn ni'r Iddewon yn nabod y Duw dŷn ni'n ei addoli, am mai drwy'r Iddewon mae achubiaeth Duw yn dod. Ond mae'r amser yn dod, ac mae yma'n barod, pan fydd Ysbryd Duw yn galluogi pobl i addoli Duw fel y mae mewn gwirionedd. Pobl sy'n ei addoli fel hyn sydd gan Dduw eisiau. Ysbryd ydy Duw, ac Ysbryd Duw sy'n galluogi pobl i addoli Duw fel y mae mewn gwirionedd.” Meddai'r wraig, “Dw i'n gwybod fod Meseia (sy'n golygu ‘Yr un wedi ei eneinio'n frenin’) yn dod. Pan ddaw, bydd yn esbonio popeth i ni.” “Fi ydy e,” meddai Iesu wrthi, “yr un sy'n siarad â ti.” Dyna pryd daeth ei ddisgyblion yn ôl. Roedden nhw'n rhyfeddu ei weld yn siarad â gwraig, ond wnaethon nhw ddim gofyn iddi “Beth wyt ti eisiau?”, na “Pam wyt ti'n siarad gyda hi?” i Iesu. Dyma'r wraig yn gadael ei hystên ddŵr, a mynd yn ôl i'r pentref. Dwedodd wrth y bobl yno, “Dewch i weld dyn oedd yn gwybod popeth amdana i. Allai e fod y Meseia tybed?” Felly dyma'r bobl yn mynd allan o'r pentref i gyfarfod Iesu. Yn y cyfamser roedd ei ddisgyblion wedi bod yn ceisio ei gael i fwyta rhywbeth. “Rabbi,” medden nhw, “bwyta.” Ond dyma ddwedodd Iesu: “Mae gen i fwyd i'w fwyta dych chi'n gwybod dim amdano.” “Ddaeth rhywun arall â bwyd iddo'i fwyta?” meddai'r disgyblion wrth ei gilydd. “Gwneud beth mae Duw'n ddweud ydy fy mwyd i,” meddai Iesu, “a gorffen y gwaith mae wedi ei roi i mi. Mae pobl yn dweud ‘Mae pedwar mis rhwng hau a medi.’ Dw i'n dweud, ‘Agorwch eich llygaid! Edrychwch ar y caeau! Mae'r cynhaeaf yn barod!’ Mae'r gweithwyr sy'n medi'r cynhaeaf yn cael eu cyflog, maen nhw'n casglu'r cnwd, sef y bobl sy'n cael bywyd tragwyddol. Mae'r rhai sy'n hau a'r rhai sy'n medi'r cynhaeaf yn dathlu gyda'i gilydd! Mae'r hen ddywediad yn wir: ‘Mae un yn hau ac arall yn medi.’ Dw i wedi'ch anfon chi i fedi cynhaeaf wnaethoch chi ddim gweithio amdano. Mae pobl eraill wedi gwneud y gwaith caled, a chithau'n casglu'r ffrwyth.” Roedd nifer o Samariaid y pentref wedi credu yn Iesu am fod y wraig wedi dweud, “Roedd yn gwybod popeth amdana i.” Felly pan ddaethon nhw ato, dyma nhw'n ei annog i aros gyda nhw, ac arhosodd yno am ddau ddiwrnod. Daeth llawer iawn mwy o bobl i gredu ynddo ar ôl clywed beth oedd ganddo i'w ddweud. A dyma nhw'n dweud wrth y wraig, “Dŷn ni'n credu bellach am ein bod ni wedi ei glywed ein hunain, nid dim ond o achos beth ddwedaist ti. Dŷn ni'n reit siŵr mai'r dyn yma ydy Achubwr y byd.” Ar ôl aros yno am ddau ddiwrnod dyma Iesu'n mynd yn ei flaen i Galilea. Roedd Iesu wedi bod yn dweud bod proffwyd ddim yn cael ei barchu yn yr ardal lle cafodd ei fagu. Ond pan gyrhaeddodd Galilea cafodd groeso brwd gan y bobl oedd wedi bod yn Jerwsalem adeg Gŵyl y Pasg a gweld y cwbl oedd e wedi ei wneud yno. Aeth yn ôl i bentref Cana, lle roedd wedi troi'r dŵr yn win. Clywodd un o swyddogion llywodraeth Herod yn Capernaum fod Iesu wedi dod yn ôl o Jwdea i Galilea. Roedd mab y dyn mor sâl roedd ar fin marw, felly aeth y dyn i Cana i chwilio am Iesu ac ymbil arno i fynd i lawr i iacháu ei fab. Dwedodd Iesu, “Heb gael gweld arwyddion a gwyrthiau rhyfeddol wnewch chi bobl byth gredu!” “Ond syr,” meddai'r swyddog wrtho, “tyrd gyda mi cyn i'm plentyn bach i farw.” “Dos di,” meddai Iesu wrtho, “mae dy fab yn mynd i fyw.” Dyma'r dyn yn credu beth ddwedodd Iesu, a mynd. Tra oedd ar ei ffordd adre, daeth ei weision i'w gyfarfod gyda'r newyddion fod y bachgen yn mynd i fyw. Gofynnodd iddyn nhw pryd yn union wnaeth e ddechrau gwella, a dyma nhw'n ateb, “Diflannodd y gwres tua un o'r gloch p'nawn ddoe.” Sylweddolodd y tad mai dyna'n union pryd ddwedodd Iesu wrtho, “mae dy fab yn mynd i fyw.” Felly daeth y dyn a phawb yn ei dŷ i gredu yn Iesu. Hon oedd yr ail wyrth wnaeth Iesu yn Galilea fel arwydd o pwy oedd. Gwnaeth e'r wyrth ar ôl dod yn ôl o Jwdea i Galilea. Beth amser yn ddiweddarach, aeth Iesu i Jerwsalem eto i un o wyliau'r Iddewon. Yn Jerwsalem wrth ymyl Giât y Defaid mae pwll o'r enw Bethsatha (enw Hebraeg). O gwmpas y pwll mae pum cyntedd colofnog gyda tho uwchben pob un. Roedd nifer fawr o bobl anabl yn gorwedd yno — rhai yn ddall, eraill yn gloff neu wedi eu parlysu. *** Roedd un dyn yno oedd wedi bod yn anabl ers tri deg wyth o flynyddoedd. Gwelodd Iesu e'n gorwedd yno, ac roedd yn gwybod ers faint roedd y dyn wedi bod yn y cyflwr hwnnw, felly gofynnodd iddo, “Wyt ti eisiau gwella?” “Syr,” meddai'r dyn, “does gen i neb i'm helpu i fynd i mewn i'r pwll pan mae'r dŵr yn cyffroi. Tra dw i'n ceisio mynd i mewn, mae rhywun arall yn llwyddo i gyrraedd o mlaen i.” Yna dwedodd Iesu wrtho, “Saf ar dy draed! Cod dy fatras a cherdda.” A dyma'r dyn yn cael ei wella ar unwaith; cododd ei fatras a dechrau cerdded. Digwyddodd hyn ar ddydd Saboth yr Iddewon, felly dyma'r arweinwyr Iddewig yn dweud wrth y dyn oedd wedi cael ei iacháu, “Mae'n ddydd Saboth heddiw; rwyt ti'n torri'r gyfraith wrth gario dy fatras!” Ond atebodd, “Ond y dyn wnaeth fy iacháu i — dwedodd wrtho i, ‘Cod dy fatras a cherdda.’” Felly dyma nhw'n gofyn iddo, “Pwy ydy'r dyn ddwedodd hynny wrthot ti?” Ond doedd gan y dyn gafodd ei iacháu ddim syniad, ac roedd Iesu wedi llithro i ffwrdd am fod tyrfa fawr wedi casglu yno. Yn nes ymlaen daeth Iesu o hyd i'r dyn yn y deml, a dweud wrtho, “Edrych, rwyt ti bellach yn iach. Stopia bechu neu gallai rhywbeth gwaeth ddigwydd i ti.” Aeth y dyn a dweud wrth yr arweinwyr mai Iesu oedd wedi ei wella. Dyna pam dechreuodd yr arweinwyr Iddewig erlid Iesu — am ei fod yn gwneud pethau fel hyn ar y dydd Saboth. Ond dyma'r ateb roddodd Iesu iddyn nhw: “Mae fy Nhad yn dal i weithio drwy'r amser, felly dw innau'n gweithio hefyd.” Am iddo ddweud hyn roedd yr arweinwyr crefyddol yn ceisio'n galetach fyth i'w ladd; doedd e ddim yn unig yn torri rheolau'r dydd Saboth, roedd hefyd yn galw Duw yn Dad iddo'i hun, a gwneud ei hun yn gyfartal â Duw. Dyma ddwedodd Iesu wrthyn nhw: “Credwch chi fi, dydy'r Mab ddim yn gallu gwneud unrhyw beth ohono'i hun; dim ond beth mae'n gweld ei Dad yn ei wneud. Dw i y Mab yn gwneud yn union beth mae'r Tad yn ei wneud. Mae'r Tad yn caru'r Mab ac yn dangos iddo bopeth mae'n ei wneud. Bydda i'n gwneud pethau mwy na iacháu'r dyn yma — pethau fydd yn eich syfrdanu chi hyd yn oed! Bydd y Mab yn dod â pwy bynnag mae'n ei ddewis yn ôl yn fyw, yn union fel y mae'r Tad yn codi'r meirw a rhoi bywyd iddyn nhw. Hefyd, dydy'r Tad ddim yn barnu neb — mae wedi rhoi'r awdurdod i farnu yng ngofal y Mab, er mwyn i bawb anrhydeddu'r Mab yn union fel y maen nhw'n anrhydeddu'r Tad. Pwy bynnag sy'n gwrthod anrhydeddu'r Mab, mae hefyd yn gwrthod anrhydeddu Duw'r Tad anfonodd y Mab i'r byd. “Credwch chi fi, mae bywyd tragwyddol gan y rhai sy'n gwrando ar beth dw i'n ei ddweud, ac yn credu yn Nuw wnaeth fy anfon i. Dyn nhw ddim yn cael eu condemnio; maen nhw wedi croesi o fod yn farw i fod yn fyw. Credwch chi fi, mae'r amser yn dod, ac mae yma'n barod, pan fydd y rhai sy'n farw yn clywed llais Mab Duw a bydd pob un sy'n gwrando ar beth mae'n ei ddweud yn byw. Fel mae gan y Tad fywyd ynddo'i hun i'w roi i eraill, mae wedi caniatáu i'r Mab fod a bywyd ynddo'i hun i'w roi i eraill. Ac mae hefyd wedi rhoi'r awdurdod iddo i farnu am mai fe ydy Mab y Dyn. “Peidiwch rhyfeddu at hyn! Mae'r amser yn dod pan fydd pawb sy'n eu beddau yn clywed llais Mab Duw ac yn dod allan — bydd y rhai sydd wedi gwneud daioni yn codi i gael bywyd tragwyddol, a bydd y rhai sydd wedi gwneud drygioni yn codi i gael eu barnu. Ond dw i'n gwneud dim ohono i'n hun; dw i'n barnu yn union fel dw i'n clywed. A dw i'n dyfarnu'n iawn, achos dw i ddim yn gwneud beth dw i eisiau, dim ond beth mae Duw, wnaeth fy anfon i, eisiau. “Petawn i ond yn tystio ar fy rhan fy hun, fyddai'r dystiolaeth ddim yn ddilys. Ond mae un arall sy'n rhoi tystiolaeth o'm plaid i, a dw i'n gwybod fod ei dystiolaeth e amdana i yn ddilys. “Dyma chi'n anfon negeswyr at Ioan Fedyddiwr a rhoddodd dystiolaeth i chi am y gwir. Does dim angen tystiolaeth ddynol arna i; ond dw i'n cyfeirio ato er mwyn i chi gael eich achub. Roedd Ioan fel lamp ddisglair, a dyma chi'n mwynhau sefyll yn ei olau am gyfnod. “Ond mae gen i dystiolaeth bwysicach na beth ddwedodd Ioan. Mae beth dw i'n ei wneud (y gwaith mae'r Tad wedi ei roi i mi ei gyflawni), yn dystiolaeth fod y Tad wedi fy anfon i. Ac mae'r Tad ei hun, yr un anfonodd fi, wedi tystiolaethu amdana i. Ond dych chi ddim wedi clywed ei lais heb sôn am ei weld! Dych chi ddim yn gwrando ar beth mae e'n ddweud, achos dych chi'n gwrthod credu ynof fi, yr un mae wedi ei anfon. Dych chi'n astudio'r ysgrifau sanctaidd yn ddiwyd am eich bod yn meddwl y cewch fywyd tragwyddol wrth wneud hynny. Tystiolaethu amdana i mae'r ysgrifau hynny. Ac eto dych chi'n gwrthod troi ata i er mwyn cael y bywyd yna! “Dw i ddim yn edrych am ganmoliaeth pobl. Dw i'n eich nabod chi'n iawn. Dw i'n gwybod eich bod chi ddim yn caru Duw go iawn. Dw i wedi dod i gynrychioli fy Nhad, a dych chi'n fy ngwrthod i; ond os daw rhywun arall ar ei liwt ei hun, byddwch yn ei dderbyn e! Sut allwch chi gredu? Dych chi'n mwynhau canmol eich gilydd, tra'n gwneud dim ymdrech i dderbyn y ganmoliaeth sy'n dod oddi wrth yr unig Dduw. “Ond peidiwch tybio mai fi fydd yn eich cyhuddo chi o flaen y Tad. Moses ydy'r un sy'n eich cyhuddo chi. Ie, Moses, yr un dych chi wedi bod yn pwyso arno. Tasech chi wir yn credu Moses, byddech chi'n fy nghredu i, achos amdana i ysgrifennodd Moses! Ond gan eich bod chi ddim yn credu beth ysgrifennodd e, sut ydych chi'n gallu credu beth dw i'n ei ddweud?” Beth amser ar ôl hyn croesodd Iesu i ochr draw Llyn Galilea (hynny ydy, Llyn Tiberias). Aeth tyrfa fawr o bobl ar ei ôl am eu bod wedi gweld yr arwyddion gwyrthiol o iacháu pobl oedd yn sâl. Dringodd Iesu i ben y bryn, ac eistedd yno gyda'i ddisgyblion. Roedd Gŵyl y Pasg (un o wyliau'r Iddewon) yn agos. Pan welodd Iesu dyrfa fawr yn dod tuag ato, gofynnodd i Philip, “Ble dŷn ni'n mynd i brynu bwyd i'r bobl yma i gyd?” (Roedd eisiau gweld beth fyddai ymateb Philip, achos roedd Iesu'n gwybod beth oedd e'n mynd i'w wneud). Atebodd Philip, “Byddai angen ffortiwn i brynu digon o fwyd i bob un ohonyn nhw gael tamaid bach!” Yna dyma un o'r disgyblion eraill, Andreas (brawd Simon Pedr), yn dweud, “Mae bachgen yma sydd â phum torth haidd a dau bysgodyn bach ganddo. Ond dydy hynny fawr o werth hefo cymaint o bobl!” Dwedodd Iesu, “Gwnewch i'r bobl eistedd.” Roedd digon o laswellt lle roedden nhw, a dyma'r dyrfa (oedd yn cynnwys tua pum mil o ddynion) yn eistedd. Yna cymerodd Iesu y torthau, ac ar ôl dweud gweddi o ddiolch, eu rhannu i'r bobl oedd yn eistedd. Yna gwnaeth yr un peth gyda'r pysgod, a chafodd pawb cymaint ag oedd arnyn nhw eisiau. Ar ôl i bawb gael llond eu boliau, dwedodd Iesu wrth ei ddisgyblion, “Casglwch y tameidiau sydd dros ben. Peidiwch gwastraffu dim.” Felly dyma nhw'n eu casglu a llenwi deuddeg basged gyda'r tameidiau o'r pum torth haidd oedd heb eu bwyta. Ar ôl i'r bobl weld yr arwydd gwyrthiol hwn, roedden nhw'n dweud, “Mae'n rhaid mai hwn ydy'r Proffwyd ddwedodd Moses ei fod yn dod i'r byd.” Gan fod Iesu'n gwybod eu bod nhw'n bwriadu ei orfodi i fod yn frenin, aeth i ffwrdd i fyny'r mynydd unwaith eto ar ei ben ei hun. Pan oedd hi'n dechrau nosi, aeth ei ddisgyblion i lawr at y llyn, a mynd i mewn i gwch i groesi'r llyn yn ôl i Capernaum. Roedd hi'n dechrau tywyllu, a doedd Iesu ddim wedi dod yn ôl atyn nhw eto. Roedd y tonnau wedi dechrau mynd yn arw am fod gwynt cryf yn chwythu. Pan oedden nhw wedi rhwyfo rhyw dair neu bedair milltir, gwelon nhw Iesu yn cerdded ar y dŵr i gyfeiriad y cwch. Roedden nhw wedi dychryn, ond meddai Iesu wrthyn nhw, “Fi ydy e. Peidiwch bod ag ofn.” Yna roedden nhw'n fodlon ei dderbyn i'r cwch, ond yn sydyn roedd y cwch wedi cyrraedd y lan roedden nhw'n anelu ati. Y diwrnod wedyn roedd tyrfa o bobl yn dal i ddisgwyl yr ochr draw i'r llyn. Roedden nhw'n gwybod mai dim ond un cwch bach oedd wedi bod yno, a bod y disgyblion wedi mynd i ffwrdd yn hwnnw eu hunain. Doedd Iesu ddim wedi mynd gyda nhw. Ond roedd cychod eraill o Tiberias wedi glanio heb fod ymhell o'r lle roedden nhw wedi bwyta ar ôl i'r Arglwydd roi diolch. Pan sylweddolodd y dyrfa fod Iesu ddim yno, na'i ddisgyblion chwaith, dyma nhw'n mynd i mewn i'r cychod hynny a chroesi i Capernaum i chwilio amdano. Pan ddaethon nhw o hyd iddo ar ôl croesi'r llyn, dyma nhw'n gofyn iddo, “Rabbi, pryd ddest ti yma?” Atebodd Iesu, “Credwch chi fi, dych chi'n edrych amdana i am eich bod wedi bwyta'r torthau a llenwi'ch boliau, dim am eich bod wedi deall arwyddocâd y wyrth. Dim y math o fwyd sy'n difetha dylech chi ymdrechu i'w gael, ond y bwyd sy'n para i fywyd tragwyddol — fi, Mab y Dyn sy'n rhoi'r bwyd hwnnw i chi. Mae Duw y Tad wedi dangos fod sêl ei fendith arna i.” Felly dyma nhw'n gofyn iddo, “Beth sydd raid i ni ei wneud? Beth mae Duw yn ei ofyn gynnon ni?” Atebodd Iesu, “Dyma beth mae Duw am i chi ei wneud: credu ynof fi, yr un mae wedi ei anfon.” Felly dyma nhw'n gofyn iddo, “Felly gwna wyrth fydd yn arwydd clir i ni o pwy wyt ti. Byddwn ni'n credu ynot ti wedyn. Beth wyt ti am ei wneud? Cafodd ein hynafiaid y manna i'w fwyta yn yr anialwch. Mae'n dweud yn yr ysgrifau sanctaidd: ‘Rhoddodd fara o'r nefoedd iddyn nhw i'w fwyta.’ ” Atebodd Iesu, “Credwch chi fi, wnaeth Moses ddim rhoi bara o'r nefoedd i chi; fy Nhad sy'n rhoi bara o'r nefoedd i chi nawr — y bara go iawn. Bara Duw ydy'r un sy'n dod i lawr o'r nefoedd ac yn rhoi bywyd i'r byd.” “Syr,” medden nhw, “o hyn ymlaen rho'r bara hwnnw i ni.” Yna dyma Iesu'n datgan, “Fi ydy'r bara sy'n rhoi bywyd. Fydd pwy bynnag ddaw ata i ddim yn llwgu, a fydd pwy bynnag sy'n credu ynof fi ddim yn sychedu. Ond fel dw i wedi dweud, er eich bod chi wedi gweld dych chi'n dal ddim yn credu. Bydd pawb mae'r Tad yn ei roi i mi yn dod ata i, a fydda i byth yn gyrru i ffwrdd unrhyw un sy'n dod ata i. Dw i ddim wedi dod i lawr o'r nefoedd i wneud beth dw i fy hun eisiau, ond i wneud beth mae'r hwn anfonodd fi eisiau. A dyma beth mae'r hwn anfonodd fi yn ei ofyn — na fydda i'n colli neb o'r rhai mae wedi eu rhoi i mi, ond yn dod â nhw yn ôl yn fyw ar y dydd olaf. Beth mae fy Nhad eisiau ydy bod pawb sy'n edrych at y Mab ac yn credu ynddo yn cael bywyd tragwyddol. Bydda i'n dod â nhw yn ôl yn fyw ar y dydd olaf.” Ond dechreuodd yr arweinwyr Iddewig gwyno amdano, am ei fod yn dweud, “Fi ydy'r bara ddaeth i lawr o'r nefoedd.” “Onid Iesu, mab Joseff, ydy e?” medden nhw, “dŷn ni'n nabod ei dad a'i fam. Sut mae'n gallu dweud, ‘Dw i wedi dod i lawr o'r nefoedd’?” “Stopiwch gwyno ymhlith eich gilydd,” meddai Iesu. “Dydy pobl ddim yn gallu dod ata i heb fod y Tad anfonodd fi yn eu tynnu nhw, a bydda i yn dod â nhw yn ôl yn fyw ar y dydd olaf. Mae'n dweud yn ysgrifau'r Proffwydi: ‘Byddan nhw i gyd yn cael eu dysgu gan Dduw.’ Mae pawb sy'n gwrando ar y Tad, ac yn dysgu ganddo, yn dod ata i. Ond does neb wedi gweld y Tad. Dim ond yr un sydd wedi dod oddi wrth Dduw sydd wedi gweld y Tad — neb arall. Credwch chi fi, mae bywyd tragwyddol gan bwy bynnag sy'n credu. Fi ydy'r bara sy'n rhoi bywyd. Er bod eich hynafiaid wedi bwyta'r manna yn yr anialwch, buon nhw farw. Ond mae'r bara sy'n dod i lawr o'r nefoedd yn cael ei fwyta gan bobl, a fyddan nhw ddim yn marw. A fi, sydd wedi dod i lawr o'r nefoedd, ydy'r bara sy'n rhoi bywyd. Os ydy rhywun yn bwyta'r bara hwn bydd yn byw am byth. A'r bara dw i'n ei roi ydy fy nghnawd i, er mwyn i'r byd gael byw.” Dyma'r arweinwyr Iddewig yn dechrau ffraeo'n filain gyda'i gilydd. “Sut all y dyn hwn roi ei gnawd i ni i'w fwyta?” medden nhw. Dwedodd Iesu wrthyn nhw, “Credwch chi fi, os wnewch chi ddim bwyta cnawd Mab y Dyn ac yfed ei waed, fyddwch chi ddim yn cael bywyd. Mae bywyd tragwyddol gan y rhai hynny sy'n bwydo ar fy nghnawd i ac yn yfed fy ngwaed i, a bydda i yn dod â nhw yn ôl yn fyw ar y dydd olaf. Oherwydd mae fy nghnawd i yn fwyd go iawn a'm gwaed i yn ddiod go iawn. Mae gan y rhai sy'n bwyta fy nghnawd i ac yn yfed fy ngwaed i berthynas agos gyda mi, ac mae gen i berthynas agos gyda nhw. Yn union fel mae'r Tad byw wedi fy anfon i, a dw i'n byw o achos y Tad, bydd yr un sy'n bwydo arna i yn byw o'm hachos i. Mae'n wahanol i'r bara fwytaodd eich hynafiaid. Buon nhw farw. Ond dyma fara ddaeth i lawr o'r nefoedd, a bydd pwy bynnag sy'n ei fwyta yn byw am byth.” Roedd yn dysgu yn y synagog yn Capernaum pan ddwedodd hyn i gyd. Ond ymateb llawer o'i ddilynwyr wrth glywed y cwbl oedd, “Mae'n dweud pethau rhy galed. Pwy sy'n mynd i wrando arno?” Roedd Iesu'n gwybod fod ei ddisgyblion yn cwyno am hyn, ac meddai wrthyn nhw, “Ydych chi'n mynd i droi cefn arna i? Sut fydd hi pan welwch chi fi, Mab y Dyn, yn mynd i fyny i ble roeddwn i o'r blaen? Ysbryd Duw sy'n rhoi bywyd; dydy pobl o gig a gwaed ddim yn gallu. Mae beth dw i wedi ei ddweud wrthoch chi yn dod o'r Ysbryd ac yn rhoi bywyd. Ac eto mae rhai ohonoch chi yn gwrthod credu.” (Roedd Iesu'n gwybod o'r dechrau cyntaf pwy oedd ddim wir yn credu, a hefyd pwy oedd yn mynd i'w fradychu e.) Aeth yn ei flaen i ddweud, “Dyma pam ddwedais i wrthoch chi fod neb yn gallu dod ata i oni bai fod y Tad wedi rhoi'r gallu iddyn nhw ddod.” Ar ôl hyn dyma nifer o'i ddilynwyr yn troi cefn arno ac yn stopio ei ddilyn. “Dych chi ddim yn mynd i adael hefyd, ydych chi?” meddai Iesu wrth y deuddeg disgybl. “Arglwydd, at bwy awn ni?” meddai Simon Pedr, “Mae beth rwyt ti'n ei ddweud yn arwain i fywyd tragwyddol. Dŷn ni wedi dod i gredu, a dŷn ni'n gwybod mai ti ydy Un Sanctaidd Duw.” Ond yna dyma Iesu'n dweud, “Onid fi ddewisodd chi'r deuddeg? Ac eto mae un ohonoch chi'n ddiafol!” (Jwdas, mab Simon Iscariot oedd yn ei olygu, yr un oedd yn mynd i'w fradychu yn nes ymlaen — er ei fod yn un o'r deuddeg disgybl.) Wedi hyn aeth Iesu o gwmpas Galilea. Roedd yn cadw draw yn fwriadol o Jwdea am fod yr arweinwyr Iddewig yno am ei ladd. Ond pan oedd Gŵyl y Pebyll (un arall o wyliau'r Iddewon) yn agos, dyma frodyr Iesu'n dweud wrtho, “Dylet ti adael yr ardal hon a mynd i Jwdea, i'r dilynwyr sydd gen ti yno gael gweld y gwyrthiau wyt ti'n eu gwneud! Does neb sydd am fod yn ffigwr cyhoeddus amlwg yn gweithredu o'r golwg. Gan dy fod yn gallu gwneud y pethau hyn, dangos dy hun i bawb!” (Doedd hyd yn oed ei frodyr ei hun ddim yn credu ynddo.) “Dydy hi ddim yn amser i mi fynd eto” meddai Iesu wrthyn nhw, “ond gallwch chi fynd unrhyw bryd. Dydy'r byd ddim yn gallu'ch casáu chi, ond mae'n fy nghasáu i am fy mod yn tystio fod yr hyn mae'n ei wneud yn ddrwg. Ewch chi i'r Ŵyl. Dw i ddim yn barod i fynd i'r Ŵyl eto, am ei bod hi ddim yr amser iawn i mi fynd.” Ar ôl dweud hyn arhosodd yn Galilea. Fodd bynnag, ar ôl i'w frodyr fynd i'r Ŵyl, daeth yr amser i Iesu fynd hefyd. Ond aeth yno'n ddistaw bach, allan o olwg y cyhoedd. Yn yr Ŵyl roedd yr arweinwyr Iddewig yn edrych allan amdano. “Ble mae e?” medden nhw. Roedd llawer o siarad amdano'n ddistaw bach ymhlith y tyrfaoedd. Rhai yn dweud ei fod yn ddyn da. Eraill yn dweud ei fod yn twyllo pobl. Ond doedd neb yn mentro dweud dim yn gyhoeddus amdano am fod ganddyn nhw ofn yr arweinwyr Iddewig. Roedd hi dros hanner ffordd drwy'r Ŵyl cyn i Iesu fynd i gwrt allanol y deml a dechrau dysgu yno. Roedd yr arweinwyr crefyddol yn rhyfeddu ac yn gofyn, “Ble cafodd y dyn y fath wybodaeth heb fod wedi cael ei hyfforddi?” Atebodd Iesu, “Dim fi biau'r ddysgeidiaeth. Mae'n dod oddi wrth Dduw, yr un anfonodd fi. Bydd pwy bynnag sy'n dewis gwneud beth mae Duw eisiau yn darganfod fod beth dw i'n ei ddysgu yn dod oddi wrth Dduw, a fy mod i ddim yn siarad ar fy liwt fy hun. Mae'r rhai sy'n siarad ohonyn nhw eu hunain yn ceisio ennill anrhydedd iddyn nhw eu hunain, ond mae'r un sy'n gweithio i anrhydeddu'r un wnaeth ei anfon e yn ddyn gonest; does dim byd ffals amdano. Oni wnaeth Moses roi'r Gyfraith i chi? Ac eto does neb ohonoch chi'n ufuddhau i'r Gyfraith. Pam dych chi'n ceisio fy lladd i?” “Mae cythraul yn dy wneud di'n wallgof,” atebodd y dyrfa. “Pwy sy'n ceisio dy ladd di?” Meddai Iesu wrthyn nhw, “Gwnes i un wyrth ar y dydd Saboth, a dych chi i gyd mewn sioc! Ac eto, am fod Moses wedi dweud fod rhaid i chi gadw defod enwaedu (er mai dim gan Moses ddaeth hi mewn gwirionedd, ond gan dadau'r genedl), dych chi'n enwaedu bachgen ar y Saboth. Nawr, os ydy'n iawn i fachgen gael ei enwaedu ar ddydd Saboth er mwyn peidio torri Cyfraith Moses, pam dych chi wedi gwylltio am fy mod i wedi iacháu rhywun yn llwyr ar y Saboth? Stopiwch fod mor arwynebol wrth farnu; barnwch yn gywir bob amser.” Roedd rhai o bobl Jerwsalem yn gofyn, “Onid hwn ydy'r dyn maen nhw'n ceisio'i ladd? Dyma fe'n siarad yn gwbl agored, a dŷn nhw'n dweud dim! Tybed ydy'r awdurdodau wedi dod i'r casgliad mai fe ydy'r Meseia? Ond wedyn, dŷn ni'n gwybod o ble mae'r dyn hwn yn dod; pan ddaw'r Meseia, fydd neb yn gwybod o ble mae'n dod.” Roedd Iesu'n dal i ddysgu yng nghwrt y deml ar y pryd, a dyma fe'n cyhoeddi'n uchel, “Ydych chi'n fy nabod i, ac yn gwybod o ble dw i'n dod? Dw i ddim wedi dod ar fy liwt fy hun. Duw sydd wedi fy anfon i go iawn, a dych chi ddim yn ei nabod e. Dw i'n ei nabod e, achos dw i wedi dod oddi wrtho fe. Fe ydy'r un anfonodd fi.” Pan ddigwyddodd hyn dyma nhw'n ceisio'i ddal, ond lwyddodd neb i'w gyffwrdd, am fod ei amser iawn ddim wedi dod eto. Ac eto, daeth llawer o bobl yn y dyrfa i gredu ynddo. Eu dadl oedd, “Pan ddaw'r Meseia, fydd e'n gallu cyflawni mwy o arwyddion gwyrthiol na hwn?” Daeth y Phariseaid i wybod fod sibrydion fel hyn yn mynd o gwmpas. Felly dyma'r prif offeiriaid a'r Phariseaid yn anfon swyddogion diogelwch o'r deml i'w arestio. Dwedodd Iesu, “Dw i yma gyda chi am amser byr eto, ac wedyn dw i'n mynd yn ôl at Dduw, yr un anfonodd fi. Byddwch chi'n edrych amdana i, ond yn methu dod o hyd i mi. Fyddwch chi ddim yn gallu dod i ble bydda i.” Meddai'r arweinwyr Iddewig, “I ble mae'r dyn yma'n bwriadu mynd os fyddwn ni ddim yn gallu dod o hyd iddo? Ydy e'n mynd at ein pobl ni sy'n byw ar wasgar mewn gwledydd eraill, a dysgu pobl y gwledydd hynny? Beth mae'n e'n ei olygu wrth ddweud, ‘Byddwch chi'n edrych amdana i, ond yn methu dod o hyd i mi,’ a ‘Fyddwch chi'n methu dod i ble bydda i’?” Ar uchafbwynt yr Ŵyl, sef y diwrnod olaf, dyma Iesu'n sefyll ac yn cyhoeddi'n uchel, “Os oes syched ar rywun, dylai ddod i yfed ata i. Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: ‘Bydd ffrydiau o ddŵr sy'n rhoi bywyd yn llifo o'r rhai hynny!’ ” (Sôn oedd am yr Ysbryd Glân. Roedd y rhai oedd wedi credu ynddo yn mynd i dderbyn yr Ysbryd yn nes ymlaen. Ond doedd yr Ysbryd ddim wedi dod eto, am fod Iesu ddim wedi ei anrhydeddu.) Ar ôl clywed beth ddwedodd Iesu, dyma rhai o'r bobl yn dweud, “Mae'n rhaid mai'r Proffwyd soniodd Moses amdano ydy'r dyn hwn!” Roedd eraill yn dweud, “Y Meseia ydy e!” Ond eraill wedyn yn dal i ofyn, “Sut all y Meseia ddod o Galilea? Onid ydy'r ysgrifau sanctaidd yn dweud fod y Meseia i ddod o deulu y Brenin Dafydd, ac o Bethlehem, lle roedd Dafydd yn byw?” Felly roedd y dyrfa wedi eu rhannu — rhai o'i blaid ac eraill yn ei erbyn. Roedd rhai eisiau ei arestio, ond lwyddodd neb i'w gyffwrdd. Aeth swyddogion diogelwch y deml yn ôl at y prif offeiriaid a'r Phariseaid, a gofynnodd y rheiny iddyn nhw, “Pam wnaethoch chi ddim dod ag e yma?” “Does neb erioed wedi siarad fel y dyn hwn,” medden nhw. “Beth!” atebodd y Phariseaid, “Ydy e wedi'ch twyllo chi hefyd?” “Oes unrhyw un o'r arweinwyr neu o'r Phariseaid wedi credu ynddo? Nac oes! Dim ond y werin ddwl yma sy'n gwybod dim byd am y Gyfraith — ac maen nhw dan felltith beth bynnag!” Roedd Nicodemus yno ar y pryd (y dyn oedd wedi mynd at Iesu'n gynharach), a gofynnodd, “Ydy'n Cyfraith ni yn condemnio pobl heb roi gwrandawiad teg iddyn nhw gyntaf er mwyn darganfod y ffeithiau?” Medden nhw wrtho “Wyt ti'n dod o Galilea hefyd? Edrych di i mewn i'r peth, dydy proffwydi ddim yn dod o Galilea!” Yna dyma nhw i gyd yn mynd adre. Ond aeth Iesu i Fynydd yr Olewydd. Pan wawriodd hi y bore wedyn, roedd Iesu yn ôl yng nghwrt y deml. Dyma dyrfa yn casglu o'i gwmpas, ac eisteddodd Iesu i'w dysgu nhw. Tra roedd yn dysgu'r bobl dyma rai o'r arbenigwyr yn y Gyfraith a'r Phariseaid yn dod ato gyda gwraig oedd wedi cael ei dal yn godinebu. Dyma nhw'n ei rhoi hi i sefyll yn y canol o flaen pawb, ac yna medden nhw wrth Iesu, “Athro, mae'r wraig hon wedi cael ei dal yn cael rhyw gyda dyn oedd ddim yn ŵr iddi. Yn y Gyfraith mae Moses yn dweud fod gwragedd o'r fath i gael eu llabyddio i farwolaeth gyda cherrig. Beth wyt ti'n ei ddweud am y mater?” (Roedden nhw'n defnyddio'r cwestiwn fel trap, er mwyn cael sail i ddwyn cyhuddiad yn ei erbyn.) Ond dyma Iesu'n plygu i lawr a dechrau ysgrifennu gyda'i fys yn y llwch ar lawr. Ond wrth iddyn nhw ddal ati i bwyso arno i ateb, edrychodd i fyny a dweud wrthyn nhw, “Os oes un ohonoch chi ddynion ddim wedi pechu, taflwch chi'r garreg gyntaf ati hi.” Yna plygodd eto ac ysgrifennu ar lawr. Ar ôl clywed beth ddwedodd e, dyma'r dynion yn gadael. Y rhai hynaf aeth gyntaf, a'r lleill yn dilyn, nes oedd neb ar ôl ond Iesu, a'r wraig yn dal i sefyll o'i flaen. Edrychodd i fyny eto, a gofyn iddi, “Wel, wraig annwyl, ble maen nhw? Oes neb wedi dy gondemnio di?” “Nac oes syr, neb” meddai. “Dw innau ddim yn dy gondemnio di chwaith,” meddai Iesu. “Felly dos, a pheidio pechu fel yna eto.” Pan roedd Iesu'n annerch y bobl dro arall, dwedodd, “Fi ydy golau'r byd. Bydd gan y rhai sy'n fy nilyn i olau i'w harwain nhw i fywyd, a fyddan nhw byth yn cerdded mewn tywyllwch.” Ond dyma'r Phariseaid yn ymateb, “Rhoi tystiolaeth ar dy ran dy hun rwyt ti. Dydy tystiolaeth felly ddim yn ddilys.” Atebodd Iesu, “Hyd yn oed os ydw i'n tystio ar fy rhan fy hun, mae'r dystiolaeth yna'n ddilys. Dw i'n gwybod o ble dw i wedi dod ac i ble dw i'n mynd. Ond does gynnoch chi ddim syniad o ble dw i wedi dod nac i ble dw i'n mynd. Dych chi'n barnu yn ôl safonau dynol; dw i'n barnu neb felly. Ond pan dw i'n barnu, dw i'n dyfarnu'n gywir, am fy mod i ddim yn barnu ar fy mhen fy hun. Mae'r Tad sydd wedi fy anfon i yn barnu gyda mi. Mae eich Cyfraith chi'n dweud yn glir fod tystiolaeth dau ddyn yn ddilys. Dw i fy hun yn rhoi tystiolaeth, a'r Tad ydy'r tyst arall, yr un sydd wedi fy anfon i.” “Ble mae dy dad di?” medden nhw. “Dych chi ddim wir yn gwybod pwy ydw i,” atebodd Iesu, “nac yn nabod fy Nhad chwaith. Tasech chi'n gwybod pwy ydw i, byddech chi'n nabod fy Nhad i hefyd.” Dwedodd hyn pan oedd yn dysgu yn y deml wrth ymyl y blychau lle roedd pobl yn rhoi eu harian i'r drysorfa. Ond wnaeth neb ei ddal, am fod ei amser iawn ddim wedi dod. Dwedodd Iesu wrthyn nhw dro arall, “Dw i'n mynd i ffwrdd. Byddwch chi'n edrych amdana i, ond yn marw yn eich pechod. Dych chi ddim yn gallu dod ble dw i'n mynd.” Gwnaeth hyn i'r arweinwyr a phobl Jwdea ofyn, “Ydy e'n mynd i ladd ei hun neu rywbeth? Ai dyna pam mae'n dweud, ‘Dych chi ddim yn gallu dod i ble dw i'n mynd’?” Ond aeth yn ei flaen i ddweud, “Dych chi'n dod o'r ddaear; dw i'n dod oddi uchod. O'r byd hwn dych chi'n dod; ond dw i ddim yn dod o'r byd hwn. Dyna pam ddwedais i y byddwch chi'n marw yn eich pechod — os wnewch chi ddim credu mai fi ydy e, byddwch chi'n marw yn eich pechod.” “Mai ti ydy pwy?” medden nhw. “Yn union beth dw i wedi ei ddweud o'r dechrau,” atebodd Iesu. “Mae gen i lawer i'w ddweud amdanoch chi, a digon i'w gondemnio. Mae'r un sydd wedi fy anfon i yn dweud y gwir, a beth dw i wedi ei glywed ganddo fe dw i'n ei gyhoeddi i'r byd.” Doedden nhw ddim yn deall ei fod yn siarad am Dduw y Tad. Felly dwedodd Iesu, “Pan byddwch wedi fy nghodi i, Mab y Dyn, i fyny, dyna pryd byddwch chi'n gwybod mai fi ydy e, ac nad ydw i yn gwneud dim ar fy mhen fy hun, dim ond dweud beth mae'r Tad wedi ei ddysgu i mi. Mae'r un sydd wedi fy anfon i gyda mi; dydy e ddim wedi fy ngadael ar fy mhen fy hun, achos dw i bob amser yn gwneud beth sy'n ei blesio.” Daeth llawer o bobl i gredu ynddo tra roedd yn siarad. A dwedodd Iesu wrth yr Iddewon hynny oedd wedi credu ynddo, “Os daliwch chi afael yn beth dw i wedi ei ddangos i chi, dych chi'n ddilynwyr go iawn i mi. Byddwch yn dod i wybod beth sy'n wir, a bydd y gwirionedd hwnnw'n rhoi rhyddid i chi.” “Dŷn ni'n ddisgynyddion i Abraham,” medden nhw, “fuon ni erioed yn gaethweision! Felly beth wyt ti'n ei feddwl wrth ddweud, ‘Byddwch chi'n cael bod yn rhydd’?” Atebodd Iesu, “Credwch chi fi, mae pawb sy'n pechu wedi ei gaethiwo gan bechod. Dydy caethwas ddim yn perthyn i'r teulu mae'n ei wasanaethu, ond mae mab yn perthyn am byth. Felly os ydy'r Mab yn rhoi eich rhyddid i chi byddwch yn rhydd go iawn. Dw i'n gwybod eich bod chi'n ddisgynyddion i Abraham, ond dych chi'n ceisio fy lladd i am eich bod chi ddim yn deall beth dw i'n ei ddweud go iawn. Dw i'n cyhoeddi beth dw i wedi ei weld gyda'r Tad. Dych chi'n gwneud beth mae'ch tad chi'n ei ddweud wrthoch chi.” “Abraham ydy'n tad ni,” medden nhw. “Petaech chi wir yn blant i Abraham,” meddai Iesu, “byddech chi'n gwneud beth wnaeth Abraham. Ond dyma chi, yn benderfynol o'm lladd i, a minnau ond wedi cyhoeddi'r gwirionedd glywais i gan Dduw. Doedd Abraham ddim yn gwneud pethau felly! Na, gwneud y pethau mae'ch tad chi'n eu gwneud dych chi.” “Dim plant siawns ydyn ni!” medden nhw, “Duw ei hun ydy'r unig Dad sydd gynnon ni.” “Ond petai Duw yn Dad i chi,” meddai Iesu, “byddech chi'n fy ngharu i, am fy mod i wedi dod yma oddi wrth Dduw. Dw i ddim wedi dod ar fy liwt fy hun; Duw sydd wedi fy anfon i. Pam dydy fy ngeiriau i ddim yn gwneud synnwyr i chi? Am eich bod yn methu clywed y neges sydd gen i. Y diafol ydy eich tad chi, a dych chi'n fodlon gwneud beth mae'ch tad eisiau. Llofrudd oedd e o'r dechrau, heb lynu wrth y gwir, am fod dim lle i'r gwir ynddo. Pan mae'n dweud celwydd, mae'n siarad ei famiaith! Celwyddgi ydy e, a thad pob celwydd! Ond dw i'n dweud y gwir, felly dych chi ddim yn fy nghredu i! Oes unrhyw un ohonoch chi'n gallu profi fy mod i'n euog o bechu? Felly pam dych chi'n gwrthod credu pan dw i'n dweud y gwir? Mae pwy bynnag sy'n blentyn i Dduw yn gwrando ar beth mae Duw yn ei ddweud. Y rheswm pam dych chi ddim yn gwrando ydy am eich bod chi ddim yn blant i Dduw.” “Y Samariad ddiawl!” medden nhw, “Dŷn ni'n iawn. Mae cythraul ynot ti!” “Does gen i ddim cythraul,” meddai Iesu, “Beth dw i'n ei wneud ydy anrhydeddu fy Nhad, a dych chi'n fy sarhau i. Dw i ddim yn edrych am glod i mi fy hun; ond mae un sy'n ei geisio, a fe ydy'r un sy'n barnu. Credwch chi fi — fydd pwy bynnag sy'n dal gafael yn yr hyn dw i wedi ei ddangos iddyn nhw byth yn gweld marwolaeth.” Pan ddwedodd hyn dyma'r arweinwyr Iddewig yn gweiddi, “Mae'n amlwg fod cythraul ynot ti! Buodd Abraham farw, a'r proffwydi hefyd, a dyma ti yn honni y bydd y rhai sy'n credu beth rwyt ti'n ddweud ddim yn marw. Wyt ti'n fwy o ddyn nag Abraham, tad y genedl? Buodd e farw, a'r proffwydi hefyd! Pwy wyt ti'n feddwl wyt ti?” Atebodd Iesu, “Os dw i'n canmol fy hun, dydy'r clod yna'n golygu dim byd. Fy Nhad sy'n fy nghanmol i, yr un dych chi'n hawlio ei fod yn Dduw i chi. Ond dych chi ddim wedi dechrau dod i'w nabod; dw i yn ei nabod e'n iawn. Petawn i'n dweud mod i ddim yn ei nabod e, byddwn innau'n gelwyddog fel chi. Dw i yn ei nabod e ac yn gwneud beth mae'n ei ddangos i mi. Roedd Abraham (eich tad chi) yn gorfoleddu wrth feddwl y câi weld yr amser pan fyddwn i'n dod; fe'i gwelodd, ac roedd wrth ei fodd.” “Dwyt ti ddim yn hanner cant eto!” meddai'r arweinwyr Iddewig wrtho, “Wyt ti'n honni dy fod di wedi gweld Abraham?” Atebodd Iesu, “Credwch chi fi — dw i'n bodoli ers cyn i Abraham gael ei eni.” Pan ddwedodd hyn, dyma nhw'n codi cerrig i'w labyddio'n farw, ond cuddiodd Iesu ei hun, a llithro allan o'r deml. Un diwrnod roedd Iesu'n mynd heibio, a gwelodd ddyn oedd wedi bod yn ddall ers iddo gael ei eni. Gofynnodd y disgyblion iddo, “Rabbi, pwy wnaeth bechu i achosi i'r dyn yma gael ei eni'n ddall — fe ei hun, neu ei rieni?” “Dim ei bechod e na phechod ei rieni sy'n gyfrifol,” meddai Iesu. “Digwyddodd er mwyn i allu Duw gael ei arddangos yn ei fywyd. Tra mae hi'n dal yn olau dydd, rhaid i ni wneud gwaith yr un sydd wedi fy anfon i. Mae'r nos yn dod, pan fydd neb yn gallu gweithio. Tra dw i yn y byd, fi ydy golau'r byd.” Ar ôl dweud hyn, poerodd ar lawr a gwneud mwd allan o'r poeryn, ac wedyn ei rwbio ar lygaid y dyn dall. Yna meddai wrtho, “Dos i ymolchi i Bwll Siloam” (enw sy'n golygu ‛Anfonwyd‛). Felly aeth y dyn i ymolchi, a phan ddaeth yn ôl roedd yn gallu gweld! Dyma'i gymdogion, a phawb oedd yn ei nabod fel y dyn oedd yn cardota yn gofyn, “Onid hwn ydy'r dyn oedd yn arfer cardota?” Roedd rhai yn dweud “Ie”, ac eraill yn dweud, “Nage — er, mae'n debyg iawn iddo.” Ond dyma'r dyn ei hun yn dweud, “Ie, fi ydy e.” “Ond, sut wyt ti'n gallu gweld?” medden nhw. “Dyma'r dyn maen nhw'n ei alw'n Iesu yn gwneud mwd,” meddai, “ac yn ei rwbio ar fy llygaid. Yna dwedodd wrtho i am fynd i Siloam i ymolchi. A dyna wnes i. Ar ôl i mi ymolchi roeddwn i'n gallu gweld!” “Ble mae e?” medden nhw. “Wn i ddim,” meddai. Dyma nhw'n mynd â'r dyn oedd wedi bod yn ddall at y Phariseaid. Roedd hi'n ddydd Saboth Iddewig pan oedd Iesu wedi gwneud y mwd i iacháu'r dyn. Felly dyma'r Phariseaid hefyd yn dechrau holi'r dyn sut oedd e'n gallu gweld. Atebodd y dyn, “Rhoddodd fwd ar fy llygaid, es i ymolchi, a dw i'n gweld.” Meddai rhai o'r Phariseaid, “All e ddim bod yn negesydd Duw, am ei fod e ddim yn cadw rheolau'r Saboth.” Ond roedd eraill yn dweud, “Sut mae rhywun sy'n bechadur cyffredin yn gallu gwneud y fath arwyddion gwyrthiol?” Felly roedden nhw'n anghytuno â'i gilydd. Yn y diwedd dyma nhw'n troi at y dyn dall eto, “Beth sydd gen ti i'w ddweud amdano? Dy lygaid di agorodd e.” Atebodd y dyn, “Mae'n rhaid ei fod yn broffwyd.” Ond roedd yr arweinwyr Iddewig yn gwrthod credu ei fod wedi bod yn ddall nes i'w rieni ddod yno. “Ai eich mab chi ydy hwn?” medden nhw. “Gafodd e ei eni'n ddall? Ac os felly, sut mae e'n gallu gweld nawr?” “Ein mab ni ydy e”, atebodd y rhieni, “a dŷn ni'n gwybod ei fod wedi cael ei eni'n ddall. Ond does gynnon ni ddim syniad sut mae'n gallu gweld bellach, na phwy wnaeth iddo allu gweld. Gofynnwch iddo fe. Mae'n ddigon hen! Gall siarad drosto'i hun.” (Y rheswm pam roedd ei rieni'n ymateb fel hyn oedd am fod arnyn nhw ofn yr arweinwyr Iddewig. Roedd yr awdurdodau Iddewig wedi cytuno y byddai unrhyw un fyddai'n cyffesu mai Iesu oedd y Meseia yn cael ei ddiarddel o'r synagog. Felly dyna pam ddwedodd y rhieni, “Mae'n ddigon hen. Gofynnwch iddo fe.”) Dyma nhw'n galw'r dyn oedd wedi bod yn ddall o'u blaenau am yr ail waith, ac medden nhw wrtho “Dywed y gwir o flaen Duw. Dŷn ni'n gwybod fod y dyn wnaeth dy iacháu di yn bechadur.” Atebodd e, “Wn i ddim os ydy e'n bechadur a'i peidio, ond dw i'n hollol sicr o un peth — roeddwn i'n ddall, a bellach dw i'n gallu gweld!” Dyma nhw'n gofyn iddo eto, “Beth yn union wnaeth e? Sut agorodd e dy lygaid di?” Atebodd y dyn, “Dw i wedi dweud unwaith, a dych chi ddim wedi gwrando. Pam dych chi eisiau mynd trwy'r peth eto? Ydych chi hefyd eisiau bod yn ddilynwyr iddo?” Yna dyma nhw'n dechrau rhoi pryd o dafod iddo, “Ti sy'n ddilynwr i'r boi! Disgyblion Moses ydyn ni! Dŷn ni'n gwybod fod Duw wedi siarad â Moses, ond wyddon ni ddim byd am hwn — dim hyd yn oed o ble mae'n dod!” “Wel, mae hynny'n anhygoel!” meddai'r dyn, “Rhoddodd y dyn fy ngolwg i mi, a dych chi ddim yn gwybod o ble mae'n dod. Dŷn ni'n gwybod bod Duw ddim yn gwrando ar bechaduriaid, ond ar y bobl dduwiol hynny sy'n gwneud beth mae e eisiau. Does neb erioed wedi clywed am rywun yn agor llygaid person gafodd ei eni'n ddall! Oni bai fod y dyn wedi dod oddi wrth Dduw, allai e wneud dim byd.” “Wyt ti'n ceisio rhoi darlith i ni?” medden nhw, “Cest ti dy eni mewn pechod a dim byd arall!” A dyma nhw'n ei ddiarddel. Clywodd Iesu eu bod nhw wedi diarddel y dyn, ac ar ôl dod o hyd iddo, gofynnodd iddo, “Wyt ti'n credu ym Mab y Dyn?” “Pwy ydy hwnnw, syr?” meddai'r dyn. “Dywed wrtho i, er mwyn i mi gredu ynddo.” Dwedodd Iesu, “Rwyt ti wedi ei weld; fi sy'n siarad â ti ydy e.” Yna dwedodd y dyn, “Arglwydd, dw i'n credu,” a phlygu o'i flaen i'w addoli. Dwedodd Iesu, “Mae'r ffaith fy mod i wedi dod i'r byd yn arwain i farn. Mae'r rhai sy'n ddall yn cael gweld a'r rhai sy'n gweld yn cael eu dallu.” Roedd rhai o'r Phariseaid yno pan ddwedodd hyn, ac medden nhw, “Beth? Dŷn ni ddim yn ddall, ydyn ni?” Atebodd Iesu, “Petaech chi'n ddall, fyddech chi ddim yn euog o bechu; ond am eich bod yn honni eich bod yn gweld, dych chi'n euog, ac yn aros felly. “Credwch chi fi, lleidr ydy'r un sy'n dringo i mewn i gorlan y defaid heb fynd drwy'r giât. Mae'r bugail sy'n gofalu am y defaid yn mynd i mewn drwy'r giât. Mae'r un sy'n gwylio'r gorlan dros nos yn agor y giât iddo, ac mae ei ddefaid ei hun yn nabod ei lais. Mae'n galw pob un o'i ddefaid wrth eu henwau, ac yn eu harwain nhw allan. Ar ôl iddo fynd â nhw i gyd allan, mae'n cerdded o'u blaenau nhw, ac mae ei ddefaid yn ei ddilyn am eu bod yn nabod ei lais. Fyddan nhw byth yn dilyn rhywun dieithr. Dyn nhw ddim yn nabod lleisiau pobl ddieithr, a byddan nhw'n rhedeg i ffwrdd oddi wrthyn nhw.” Dyna'r darlun ddefnyddiodd Iesu, ond doedden nhw ddim yn deall ei ystyr. Felly dwedodd Iesu eto, “Credwch chi fi — fi ydy'r giât i'r defaid fynd trwyddi. Lladron yn dwyn oedd pob un ddaeth o'm blaen i. Wnaeth y defaid ddim gwrando arnyn nhw. Fi ydy'r giât, a'r rhai sy'n mynd i mewn trwof fi sy'n ddiogel. Byddan nhw'n mynd i mewn ac allan, ac yn dod o hyd i borfa. Mae'r lleidr yn dod gyda'r bwriad o ddwyn a lladd a dinistrio. Dw i wedi dod i roi bywyd i bobl, a hwnnw'n fywyd ar ei orau. “Fi ydy'r bugail da. Mae'r bugail da yn fodlon marw dros y defaid. Mae'r gwas sy'n cael ei dalu i ofalu am y defaid yn rhedeg i ffwrdd pan mae'n gweld y blaidd yn dod. (Dim fe ydy'r bugail, a does ganddo ddim defaid ei hun). Mae'n gadael y defaid, ac mae'r blaidd yn ymosod ar y praidd ac yn eu gwasgaru nhw. Dim ond am ei fod yn cael ei dalu mae'n edrych ar ôl y defaid, a dydy e'n poeni dim amdanyn nhw go iawn. “Fi ydy'r bugail da. Dw i'n nabod fy nefaid fy hun ac maen nhw'n fy nabod i — yn union fel y mae'r Tad yn fy nabod i a dw innau'n nabod y Tad. Dw i'n fodlon marw dros y defaid. Mae gen i ddefaid eraill sydd ddim yn y gorlan yma. Rhaid i mi eu casglu nhw hefyd, a byddan nhw'n gwrando ar fy llais. Yna byddan nhw'n dod yn un praidd, a bydd un bugail. Mae fy Nhad yn fy ngharu i am fy mod yn mynd i farw'n wirfoddol, er mwyn dod yn ôl yn fyw wedyn. Does neb yn cymryd fy mywyd oddi arna i; fi fy hun sy'n dewis rhoi fy mywyd yn wirfoddol. Mae gen i'r gallu i'w roi a'r gallu i'w gymryd yn ôl eto. Mae fy Nhad wedi dweud wrtho i beth i'w wneud.” Roedd beth roedd yn ei ddweud yn achosi rhaniadau eto ymhlith yr Iddewon. Roedd llawer ohonyn nhw'n dweud, “Mae cythraul ynddo! Mae'n hurt bost! Pam ddylen ni wrando arno?” Ond roedd pobl eraill yn dweud, “Dydy e ddim yn siarad fel rhywun wedi ei feddiannu gan gythraul. Ydy cythraul yn gallu rhoi golwg i bobl ddall?” Roedd y gaeaf wedi dod, ac roedd hi'n amser dathlu Gŵyl y Cysegru yn Jerwsalem. Roedd Iesu yno yng nghwrt y deml, yn cerdded o gwmpas Cyntedd Colofnog Solomon. Dyma'r arweinwyr Iddewig yn casglu o'i gwmpas, a gofyn iddo, “Am faint wyt ti'n mynd i'n cadw ni'n disgwyl? Dywed wrthon ni'n blaen os mai ti ydy'r Meseia.” “Dw i wedi dweud,” meddai Iesu, “ond dych chi'n gwrthod credu. Mae'r gwyrthiau dw i yn eu gwneud ar ran fy Nhad yn dweud y cwbl. Ond dych chi ddim yn credu am eich bod chi ddim yn ddefaid i mi. Mae fy nefaid i yn fy nilyn am eu bod yn nabod fy llais i, a dw i'n eu nabod nhw. Dw i'n rhoi bywyd tragwyddol iddyn nhw, a fyddan nhw byth yn mynd i ddistryw. Does neb yn gallu eu cipio nhw oddi arna i. Fy Nhad sydd wedi eu rhoi nhw i mi, ac mae e'n fwy na phawb a phopeth yn y bydysawd. Does neb yn gallu eu cipio nhw o afael fy Nhad. Dw i a'r Tad yn un.” Unwaith eto dyma'r arweinwyr Iddewig yn codi cerrig i'w labyddio'n farw, ond meddai Iesu wrthyn nhw, “Dych chi wedi fy ngweld i'n gwneud lot fawr o bethau da — gwyrthiau'r Tad. Am ba un o'r rhain dych chi'n fy llabyddio i?” “Dŷn ni ddim yn dy labyddio am wneud unrhyw beth da,” atebodd yr arweinwyr Iddewig, “ond am gablu! Am dy fod ti sydd ond yn ddynol, yn honni mai Duw wyt ti.” Ond atebodd Iesu nhw, “Mae'n dweud yn eich ysgrifau sanctaidd chi, ‘Dywedais, “Duwiau ydych chi.”’ Dych chi ddim yn gallu diystyru'r ysgrifau sanctaidd! Felly os oedd yr arweinwyr ddwedodd Duw hynny wrthyn nhw yn ‛dduwiau‛ sut dych chi'n gallu dweud fy mod i'n cablu dim ond am fy mod i wedi dweud ‘Fi ydy mab Duw’? Y Tad ddewisodd fi a'm hanfon i i'r byd. Os ydw i ddim yn gwneud gwaith fy Nhad peidiwch credu ynof fi. Ond os dw i yn gwneud yr un fath â'm Tad, credwch yn yr hyn dw i'n ei wneud er eich bod chi ddim yn credu ynof fi. Wedyn dowch chi i wybod a deall fod y Tad ynof fi, a minnau yn y Tad.” Dyma nhw'n ceisio ei ddal unwaith eto, ond llwyddodd i ddianc o'u gafael nhw. Yna aeth Iesu yn ôl ar draws Afon Iorddonen i'r lle roedd Ioan Fedyddiwr wedi bod yn bedyddio yn y dyddiau cynnar. Arhosodd Iesu yno a daeth llawer o bobl allan ato. Roedden nhw yn dweud, “Wnaeth Ioan ddim gwneud unrhyw wyrth, ond roedd popeth ddwedodd e am y dyn hwn yn wir.” A daeth llawer i gredu yn Iesu yn y lle hwnnw. Roedd dyn o'r enw Lasarus yn sâl. Roedd yn dod o Bethania, pentref Mair a'i chwaer Martha. (Mair oedd wedi tywallt persawr ar yr Arglwydd Iesu a sychu ei draed gyda'i gwallt, a'i brawd hi oedd Lasarus, oedd yn sâl yn ei wely.) Dyma'r chwiorydd yn anfon neges at Iesu, “Arglwydd, mae dy ffrind annwyl di'n sâl.” Pan gafodd y neges, meddai Iesu, “Dim marwolaeth fydd yn cael y gair olaf. Na, ei bwrpas ydy dangos mor wych ydy Duw. A bydd Mab Duw yn cael ei anrhydeddu drwyddo hefyd.” Roedd Iesu'n hoff iawn o Martha a'i chwaer a Lasarus. Ac eto, ar ôl clywed fod Lasarus yn sâl, arhosodd Iesu lle roedd e am ddau ddiwrnod arall. Yna dwedodd wrth ei ddisgyblion, “Gadewch inni fynd yn ôl i Jwdea.” “Ond Rabbi,” medden nhw, “roedd yr arweinwyr Iddewig yn Jwdea yn ceisio dy ladd gynnau! Wyt ti wir am fynd yn ôl yno?” Atebodd Iesu, “Onid oes deuddeg awr o olau dydd? Dydy'r rhai sy'n cerdded yn ystod y dydd ddim yn baglu, am fod ganddyn nhw olau'r haul. Mae rhywun yn baglu wrth gerdded yn y nos, am fod dim golau ganddo.” Yna dwedodd wrthyn nhw, “Mae ein ffrind Lasarus wedi syrthio i gysgu. Dw i i'n mynd yno i'w ddeffro.” “Arglwydd,” meddai'r disgyblion, “os ydy e'n cysgu, bydd yn gwella.” Ond marwolaeth oedd Iesu'n ei olygu wrth ‛gwsg‛. Roedd ei ddisgyblion wedi cael y syniad ei fod yn golygu gorffwys naturiol. Felly dyma Iesu'n dweud wrthyn nhw'n blaen, “Mae Lasarus wedi marw, a dw i'n falch fy mod i ddim yno er eich mwyn chi. Dw i eisiau i chi gredu. Gadewch inni fynd ato.” Yna dyma Tomos (oedd yn cael ei alw ‛Yr Efaill‛) yn dweud wrth y disgyblion eraill, “Dewch, gadewch i ni fynd i farw gydag e!” Pan gyrhaeddodd Iesu, deallodd fod Lasarus wedi cael ei gladdu ers pedwar diwrnod. Roedd Bethania llai na dwy filltir o Jerwsalem, ac roedd llawer o bobl o Jwdea wedi dod at Mair a Martha i gydymdeimlo â nhw ar golli eu brawd. Pan glywodd Martha fod Iesu'n dod, aeth allan i'w gyfarfod, ond arhosodd Mair yn y tŷ. “Arglwydd,” meddai Martha wrth Iesu, “taset ti wedi bod yma, fyddai fy mrawd ddim wedi marw. Ond er hynny, dw i'n dal i gredu fod Duw yn rhoi i ti beth bynnag wyt ti'n ei ofyn ganddo.” Dwedodd Iesu wrthi, “Bydd dy frawd yn dod yn ôl yn fyw.” Atebodd Martha, “Dw i'n gwybod y bydd yn dod yn ôl yn fyw adeg yr atgyfodiad ar y dydd olaf.” Dwedodd Iesu wrthi, “Fi ydy'r atgyfodiad a'r bywyd. Bydd pawb sy'n credu ynof fi yn dod yn fyw, er iddyn nhw farw; a bydd y rhai sy'n fyw ac yn credu ynof fi ddim yn marw go iawn. Wyt ti'n credu hyn?” “Ydw, Arglwydd,” meddai Martha wrtho, “dw i'n credu mai ti ydy'r Meseia, Mab Duw, yr un oedd i ddod i'r byd.” Ar ôl iddi ddweud hyn, aeth yn ei hôl a dweud yn dawel fach wrth Mair, “Mae'r Athro yma, ac mae'n gofyn amdanat ti.” Pan glywodd Mair hyn, dyma hi'n codi ar frys i fynd ato. (Doedd Iesu ddim wedi cyrraedd y pentref eto, roedd yn dal yn y fan lle roedd Martha wedi ei gyfarfod.) Roedd pobl o Jwdea wedi bod gyda Mair yn y tŷ yn cydymdeimlo gyda hi. Pan welon nhw hi'n codi mor sydyn i fynd allan, dyma nhw'n mynd ar ei hôl, gan feddwl ei bod hi'n mynd at y bedd i alaru. Ond pan gyrhaeddodd Mair Iesu a'i weld, syrthiodd wrth ei draed a dweud, “Arglwydd, taset ti wedi bod yma, fyddai fy mrawd ddim wedi marw.” Wrth ei gweld hi'n wylofain yn uchel, a'r bobl o Jwdea oedd yno yn wylofain gyda hi, cynhyrfodd Iesu drwyddo ac roedd yn ddig. “Ble dych chi wedi ei gladdu?” gofynnodd. “Tyrd i weld, Arglwydd,” medden nhw. Roedd Iesu yn ei ddagrau. “Edrychwch gymaint oedd yn ei garu e!” meddai'r bobl oedd yno. Ond roedd rhai ohonyn nhw'n dweud, “Oni allai hwn, roddodd ei olwg i'r dyn dall yna, gadw Lasarus yn fyw?” Roedd Iesu'n dal wedi cynhyrfu pan ddaeth at y bedd. (Ogof oedd y bedd, a charreg wedi ei gosod dros geg yr ogof.) “Symudwch y garreg,” meddai. Ond dyma Martha, chwaer y dyn oedd wedi marw, yn dweud “Arglwydd, bydd yn drewi bellach; mae wedi ei gladdu ers pedwar diwrnod.” Meddai Iesu wrthi, “Wnes i ddim dweud wrthot ti y byddi di'n gweld mor wych ydy Duw, dim ond i ti gredu?” Felly dyma nhw'n symud y garreg. Yna edrychodd Iesu i fyny, a dweud, “Dad, diolch i ti am wrando arna i. Dw i fy hun yn gwybod dy fod ti'n gwrando arna i bob amser, ond dw i'n dweud hyn er mwyn y bobl sy'n sefyll yma, iddyn nhw gredu mai ti sydd wedi fy anfon i.” Ar ôl dweud hyn, dyma Iesu'n gweiddi'n uchel, “Lasarus, tyrd allan!” A dyma'r dyn oedd wedi marw'n dod allan. Roedd ei freichiau a'i goesau wedi eu rhwymo gyda stribedi o liain, ac roedd cadach am ei wyneb. “Tynnwch nhw i ffwrdd” meddai Iesu, “a'i ollwng yn rhydd.” Felly daeth llawer o bobl Jwdea i gredu ynddo — y rhai oedd wedi dod i ymweld â Mair, a gweld beth wnaeth Iesu. Ond aeth rhai ohonyn nhw at y Phariseaid a dweud beth oedd Iesu wedi ei wneud. A dyma'r prif offeiriaid a'r Phariseaid hynny yn galw cyfarfod o'r Sanhedrin Iddewig. “Pam ydyn ni ddim yn gwneud rhywbeth?” medden nhw. “Mae'r dyn yma'n gwneud llawer o arwyddion gwyrthiol. Os wnawn ni adael iddo fynd yn ei flaen, bydd pawb yn credu ynddo! Bydd y Rhufeiniaid yn dod ac yn dinistrio ein teml a'n gwlad ni.” Ond dyma un ohonyn nhw, Caiaffas, oedd yn archoffeiriad y flwyddyn honno, yn dweud fel hyn: “Dych chi mor ddwl! Onid ydy'n well i un person farw dros y bobl nag i'r genedl gyfan gael ei dinistrio?” (Doedd e ddim yn dweud hyn ohono'i hun. Beth ddigwyddodd oedd ei fod e, oedd yn archoffeiriad y flwyddyn honno, wedi proffwydo y byddai Iesu'n marw dros y genedl. A dim dros y genedl Iddewig yn unig, ond hefyd dros holl blant Duw ym mhobman, er mwyn eu casglu nhw at ei gilydd a'u gwneud nhw'n un.) Felly o'r diwrnod hwnnw ymlaen roedden nhw yn cynllwynio i ladd Iesu. Felly doedd Iesu ddim yn mynd o gwmpas yn gyhoeddus ymhlith pobl Jwdea wedi hynny. Gadawodd yr ardal a mynd i bentref o'r enw Effraim oedd wrth ymyl yr anialwch. Buodd yn aros yno gyda'i ddisgyblion. Pan oedd y Pasg Iddewig yn agosáu, roedd llawer o bobl yn mynd i Jerwsalem i gadw'r ddefod o ymolchi eu hunain yn seremonïol i baratoi ar gyfer y Pasg ei hun. Roedden nhw yn edrych am Iesu drwy'r adeg, ac yn sefyllian yng nghwrt y deml a gofyn i'w gilydd, “Beth dych chi'n feddwl? Dydy e ddim yn mynd i ddod i'r Ŵyl, siawns!” (Roedd y prif offeiriaid a'r Phariseaid wedi gorchymyn fod unrhyw un oedd yn gwybod lle roedd Iesu i ddweud wrthyn nhw, er mwyn iddo gael ei arestio.) Chwe diwrnod cyn Gŵyl y Pasg cyrhaeddodd Iesu Bethania, lle roedd Lasarus yn byw (y dyn ddaeth Iesu ag e yn ôl yn fyw.) Roedd swper wedi ei drefnu i anrhydeddu Iesu. Roedd Martha yn gweini, a Lasarus yn un o'r rhai oedd yn eistedd gydag Iesu wrth y bwrdd. Daeth Mair i mewn gyda jar hanner litr o nard pur, oedd yn bersawr drud iawn. Tywalltodd y persawr ar draed Iesu ac wedyn sychu ei draed gyda'i gwallt. Roedd arogl y persawr i'w glywed drwy'r tŷ i gyd. Ond yna dyma Jwdas Iscariot (y disgybl oedd yn mynd i fradychu Iesu yn nes ymlaen) yn protestio, “Roedd y persawr yna'n werth ffortiwn! Dylid bod wedi ei werthu, a rhoi'r arian i bobl dlawd!” (Ond doedd e ddim wir yn poeni am y tlodion. Beth oedd tu ôl i'w eiriau oedd y ffaith ei fod yn lleidr. Roedd Iesu a'i ddisgyblion yn rhannu un pwrs, a Jwdas oedd yn gyfrifol amdano, ond byddai'n arfer helpu ei hun i'r arian.) “Gad lonydd iddi,” meddai Iesu. “Mae hi wedi cadw beth sydd ganddi ar gyfer y diwrnod pan fydda i'n cael fy nghladdu. Bydd pobl dlawd o gwmpas i chi eu helpu nhw bob amser, ond fydda i ddim yma bob amser.” Roedd tyrfa fawr o bobl Jwdea wedi darganfod fod Iesu yn Bethania. Dyma nhw'n mynd yno, ddim yn unig i weld Iesu, ond hefyd i weld Lasarus yr un ddaeth Iesu ag e yn ôl yn fyw. Ond roedd y prif offeiriaid wedi penderfynu fod rhaid cael gwared â Lasarus hefyd, am fod llawer o bobl o Jwdea wedi eu gadael nhw a dod i gredu yn Iesu o'i achos e. Y diwrnod wedyn clywodd y dyrfa fawr oedd wedi dod i'r Ŵyl fod Iesu ar ei ffordd i Jerwsalem. Dyma nhw'n torri canghennau o'r coed palmwydd a mynd allan i'w gyfarfod gan weiddi, “Clod iddo!” “Mae'r un sy'n dod i gynrychioli'r Arglwydd wedi ei fendithio'n fawr!” “Ie, dyma Frenin Israel!” Eisteddodd Iesu ar gefn asyn, fel mae'n dweud yn yr ysgrifau sanctaidd, “Paid ag ofni, ddinas Jerwsalem. Edrych! dy frenin sy'n dod, ar gefn ebol asen.” (Doedd y disgyblion ddim wedi deall arwyddocâd hyn i gyd ar y pryd. Dim ond ar ôl i Iesu gael ei anrhydeddu wnaethon nhw sylweddoli fod y pethau yma wedi eu hysgrifennu amdano, a'u bod nhw wedi digwydd iddo.) Roedd llawer iawn o'r bobl yn y dyrfa wedi gweld Iesu'n galw Lasarus allan o'r bedd a dod ag e yn ôl yn fyw, ac roedden nhw wedi bod yn dweud wrth bawb arall beth ddigwyddodd. Dyna pam roedd cymaint o bobl wedi mynd allan i'w gyfarfod — roedden nhw wedi clywed am yr arwydd gwyrthiol roedd wedi ei wneud. Roedd y Phariseaid yn dweud wrth ei gilydd, “Does dim pwynt! Edrychwch! Mae fel petai'r byd i gyd yn mynd ar ei ôl e!” Roedd rhai pobl oedd ddim yn Iddewon wedi mynd i addoli yn Jerwsalem adeg Gŵyl y Pasg. Dyma nhw'n mynd at Philip (oedd yn dod o Bethsaida, Galilea), a gofyn iddo, “Syr, dŷn ni eisiau gweld Iesu.” Aeth Philip i ddweud wrth Andreas, ac wedyn aeth y ddau ohonyn nhw i ddweud wrth Iesu. Ymateb Iesu oedd dweud fel hyn: “Mae'r amser wedi dod i mi, Mab y Dyn, gael fy anrhydeddu. Credwch chi fi, bydd hedyn o wenith yn aros fel y mae, yn ddim ond un hedyn bach, os fydd e ddim yn disgyn ar y ddaear a marw. Ond os bydd yn marw, bydd yn troi yn gnwd o hadau. Bydd y sawl sy'n meddwl am neb ond ei hun yn colli ei fywyd, tra bydd y sawl sy'n rhoi ei hun yn olaf yn y byd hwn yn cael bywyd tragwyddol. Os dych chi am fy ngwasanaethu i rhaid i chi ddilyn yr un llwybr â mi. Byddwch chi'n cael eich hun yn yr un sefyllfa a fi. Y rhai sy'n fy ngwasanaethu i fydd Duw, fy Nhad, yn eu hanrhydeddu. “Ar hyn o bryd dw i wedi cynhyrfu. Beth alla i ddweud? O Dad, achub fi rhag y profiad ofnadwy sydd i ddod? Na! dyma pam dw i wedi dod. Dad, dangos di mor wych wyt ti!” A dyma lais o'r nefoedd yn dweud, “Dw i wedi gwneud hynny, a bydda i'n gwneud eto.” Roedd rhai o'r bobl oedd yno yn meddwl mai sŵn taran oedd, ac eraill yn dweud “Na, angel oedd yn siarad ag e!” Ond meddai Iesu, “Er eich mwyn chi daeth y llais, dim er fy mwyn i. Mae'r amser wedi dod i'r byd gael ei farnu. Bydd Satan, tywysog y byd hwn, yn cael ei daflu allan. A phan ga i fy nghodi i fyny ar y groes, bydda i'n tynnu pobl o bobman ata i fy hun.” (Dwedodd hyn er mwyn dangos sut oedd yn mynd i farw.) “Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud fod y Meseia yn mynd i aros am byth,” meddai'r dyrfa wrtho, “felly am beth wyt ti'n sôn pan wyt ti'n dweud fod rhaid i Fab y Dyn farw? Pwy ydy'r ‛Mab y Dyn‛ yma rwyt ti'n sôn amdano?” Yna dwedodd Iesu wrthyn nhw, “Bydd y golau gyda chi am ychydig mwy. Cerddwch yn y golau tra mae gyda chi, rhag i'r tywyllwch gael y llaw uchaf arnoch chi. Dydy'r rhai sy'n cerdded yn y tywyllwch ddim yn gwybod ble maen nhw'n mynd. Credwch yn y golau tra mae gyda chi, er mwyn i chi ddod yn bobl sy'n olau.” Ar ôl iddo ddweud hyn, dyma Iesu'n mynd ac yn cadw o'u golwg nhw. Ond er bod Iesu wedi gwneud cymaint o arwyddion gwyrthiol o'u blaenau nhw, roedden nhw'n dal i wrthod credu ynddo. Dyma'n union a ddwedodd y proffwyd Eseia fyddai'n digwydd: “Arglwydd, oes rhywun wedi credu ein neges? Oes rhywun wedi gweld mor rymus ydy'r Arglwydd?” Os oedd hi'n amhosib iddyn nhw gredu, mae Eseia'n dweud pam mewn man arall: “Mae'r Arglwydd wedi dallu eu llygaid a chaledu eu calonnau; Fel arall, bydden nhw'n gweld a'u llygaid, yn deall go iawn, ac yn troi, a byddwn i'n eu hiacháu nhw.” (Dwedodd Eseia y pethau yma am ei fod wedi gweld ysblander dwyfol Iesu. Am Iesu roedd e'n siarad.) Ac eto roedd nifer o arweinwyr crefyddol, hyd yn oed, wedi dod i gredu ynddo. Ond doedden nhw ddim yn barod i gyfadde'n agored eu bod nhw'n credu am eu bod yn ofni'r Phariseaid, a ddim am gael eu diarddel o'r synagog. Roedd yn well ganddyn nhw gael eu canmol gan bobl na chan Dduw. Yna dyma Iesu'n cyhoeddi'n uchel, “Mae'r rhai sy'n credu ynof fi yn credu yn Nuw hefyd, yn yr un sydd wedi fy anfon i. Pan maen nhw yn fy ngweld i maen nhw'n gweld yr un sydd wedi fy anfon i. Dw i wedi dod fel golau i'r byd, fel bod dim rhaid i'r bobl sy'n credu ynof fi aros yn y tywyllwch. “Ond am y rhai sydd wedi clywed beth dw i'n ei ddweud a gwrthod ufuddhau — dim fi sy'n eu condemnio nhw. Dod i achub y byd wnes i, dim dod i gondemnio'r byd. Ond bydd pawb sy'n fy ngwrthod i ac yn gwrthod derbyn beth dw i'n ei ddweud yn cael eu barnu — bydd beth ddwedais i yn eu condemnio nhw ar y dydd olaf. Dw i ddim wedi siarad ar fy liwt fy hun. Y Tad sydd wedi fy anfon i sydd wedi dweud wrtho i beth i'w ddweud, a sut i'w ddweud. A dw i'n gwybod fod beth mae e'n ei ddweud yn arwain i fywyd tragwyddol. Felly dw i'n dweud yn union beth mae'r Tad yn ei ddweud wrtho i.” Erbyn hyn roedd hi bron yn amser dathlu Gŵyl y Pasg. Roedd Iesu'n gwybod fod yr amser wedi dod iddo adael y byd a mynd at y Tad. Roedd wedi caru y rhai oedd yn perthyn iddo, ac yn awr dangosodd iddyn nhw mor fawr oedd ei gariad. Roedden nhw wrthi'n bwyta swper. Roedd y diafol eisoes wedi rhoi'r syniad i Jwdas, mab Simon Iscariot, i fradychu Iesu. Gwyddai Iesu fod y Tad wedi rhoi popeth yn ei ddwylo e. Roedd wedi dod oddi wrth Dduw, ac roedd yn mynd yn ôl at Dduw. Cododd oddi wrth y bwrdd, tynnu ei fantell allanol, a rhwymo tywel am ei ganol. Yna tywalltodd ddŵr i fowlen a dechrau golchi traed ei ddisgyblion, a'u sychu gyda'r tywel oedd am ei ganol. Pan ddaeth tro Simon Pedr, dyma Simon yn dweud, “Arglwydd, wyt ti'n mynd i olchi fy nhraed i?” Atebodd Iesu, “Dwyt ti ddim yn deall beth dw i'n wneud ar hyn o bryd, ond byddi'n dod i ddeall yn nes ymlaen.” Ond meddai Pedr, “Na, byth! chei di ddim golchi fy nhraed i!” “Os ga i ddim dy olchi di,” meddai Iesu, “dwyt ti ddim yn perthyn i mi.” “Os felly, Arglwydd,” meddai Simon Pedr, “golcha fy nwylo a'm pen i hefyd, nid dim ond fy nhraed i!” Atebodd Iesu, “Does dim rhaid i rywun sydd wedi cael bath ymolchi eto, dim ond golchi ei draed, am fod gweddill ei gorff yn lân. A dych chi'n lân — pawb ond un ohonoch chi.” (Roedd yn gwybod pwy oedd yn mynd i'w fradychu; a dyna pam y dwedodd e fod un ohonyn nhw ddim yn lân.) Ar ôl iddo orffen golchi eu traed nhw, gwisgodd ei fantell eto a mynd yn ôl i'w le. “Ydych chi'n deall beth dw i wedi ei wneud i chi?” meddai. “Dych chi'n fy ngalw i yn ‛Athro‛ neu yn ‛Arglwydd‛, ac mae hynny'n iawn, am mai dyna ydw i. Felly, am fy mod i, eich Arglwydd a'ch Athro wedi golchi eich traed chi, dylech chi olchi traed eich gilydd. Dw i wedi rhoi esiampl i chi er mwyn i chi wneud yr un peth i'ch gilydd. Credwch chi fi, dydy caethwas ddim uwchlaw ei feistr, a dydy negesydd ddim yn bwysicach na'r un wnaeth ei anfon e. Dych chi'n gwybod hyn bellach, ond gwneud y pethau yma sy'n dod â bendith. “Dw i ddim yn dweud hyn amdanoch chi i gyd. Dw i'n nabod y rhai dw i wedi eu dewis yn dda. Ond mae'n rhaid i beth mae'r ysgrifau sanctaidd yn ddweud ddod yn wir: ‘Mae'r un fu'n bwyta gyda mi wedi troi yn fy erbyn i.’ “Dw i'n dweud nawr, cyn i'r peth ddigwydd, ac wedyn pan fydd yn digwydd byddwch yn credu mai fi ydy e. Credwch chi fi, mae rhywun sy'n rhoi croeso i negesydd sydd wedi ei anfon gen i, yn rhoi croeso i mi. Ac mae pwy bynnag sy'n rhoi croeso i mi yn croesawu'r Tad sydd wedi fy anfon i.” Ar ôl dweud hyn, roedd Iesu'n amlwg wedi cynhyrfu trwyddo. A dwedodd yn gwbl glir, “Credwch chi fi, mae un ohonoch chi'n mynd i'm bradychu i.” Syllodd y disgyblion ar ei gilydd, heb syniad yn y byd am bwy oedd e'n sôn. Roedd y disgybl oedd Iesu'n ei garu'n fawr yn eistedd agosaf at Iesu. Dyma Simon Pedr yn gwneud arwydd i hwnnw ofyn i Iesu pwy oedd yn ei olygu. Felly pwysodd yn ôl at Iesu, a gofyn iddo, “Arglwydd, am bwy rwyt ti'n sôn?” Atebodd Iesu, “Yr un wna i roi darn o fara iddo wedi ei drochi'n y ddysgl saws.” Yna rhoddodd ddarn o fara yn y saws, a'i basio i Jwdas, mab Simon Iscariot. Yr eiliad y cymerodd Jwdas y bara, dyma Satan yn mynd i mewn iddo. “Dos ar unwaith,” meddai Iesu wrtho, “Gwna beth rwyt ti'n mynd i'w wneud.” Ond doedd neb arall wrth y bwrdd yn deall beth oedd Iesu'n ei olygu. Gan mai Jwdas oedd yn gofalu am y pwrs arian, roedd rhai yn tybio fod Iesu'n dweud wrtho am fynd i brynu beth oedd ei angen ar gyfer dathlu'r Ŵyl, neu i fynd i roi rhodd i bobl dlawd. Aeth Jwdas allan yn syth ar ôl cymryd y bara. Roedd hi'n nos. Ar ôl i Jwdas adael dwedodd Iesu, “Mae'n amser i mi, Mab y Dyn, gael fy anrhydeddu, ac i Dduw gael ei anrhydeddu drwy beth fydd yn digwydd i mi. Os ydy Duw wedi ei anrhydeddu ynof fi, bydd Duw yn fy anrhydeddu i ynddo'i hun, ac yn fy anrhydeddu ar unwaith. “Fy mhlant annwyl i, fydda i ddim ond gyda chi am ychydig mwy. Byddwch yn edrych amdana i, ond yn union fel dwedais i wrth yr arweinwyr Iddewig, allwch chi ddim dod i ble dw i'n mynd. “Dw i'n rhoi gorchymyn newydd i chi: Carwch eich gilydd. Rhaid i chi garu'ch gilydd yn union fel dw i wedi'ch caru chi. Dyma sut bydd pawb yn gwybod eich bod chi'n ddilynwyr i mi, am eich bod chi'n caru'ch gilydd.” “Ble rwyt ti'n mynd, Arglwydd?” gofynnodd Simon Pedr iddo. Atebodd Iesu, “Ar hyn o bryd allwch chi ddim dod i ble dw i'n mynd. Ond byddwch yn dod yno yn nes ymlaen.” “Pam alla i ddim dod rwan?” meddai Pedr, “dw i'n fodlon marw drosot ti!” Atebodd Iesu, “Wnei di wir farw drosof fi? Cred di fi, cyn i'r ceiliog ganu, byddi di wedi gwadu dair gwaith dy fod di'n fy nabod i!” “Peidiwch cynhyrfu,” meddai Iesu wrth y disgyblion “Credwch yn Nuw, a chredwch ynof fi hefyd.” “Mae digon o le i fyw yn nhŷ fy Nhad; byddwn i wedi dweud wrthoch chi os oedd hi fel arall. Dw i'n mynd yno i baratoi lle ar eich cyfer chi. Wedyn dw i'n mynd i ddod yn ôl, a bydda i'n mynd â chi yno gyda mi, a chewch chi aros yno gyda mi. Dych chi'n gwybod y ffordd i ble dw i'n mynd.” “Ond Arglwydd,” meddai Tomos “dŷn ni ddim yn gwybod ble rwyt ti'n mynd, felly sut allwn ni wybod y ffordd yno?” “Fi ydy'r ffordd,” atebodd Iesu, “Fi ydy'r un gwir, y bywyd. Does neb yn gallu dod i berthynas gyda Duw y Tad ond trwof fi. Os dych chi wedi dod i fy nabod i, byddwch yn nabod fy Nhad hefyd. Yn wir, dych chi yn ei nabod e bellach, ac wedi ei weld.” “Arglwydd,” meddai Philip, “dangos y Tad i ni, a fydd angen dim mwy arnon ni!” Atebodd Iesu: “Dw i wedi bod gyda chi i gyd ers cymaint o amser! Wyt ti'n dal ddim yn fy nabod i, Philip? Mae pwy bynnag sydd wedi fy ngweld i wedi gweld y Tad. Felly sut alli di ddweud, ‘Dangos y Tad i ni’? Wyt ti ddim yn credu fy mod i yn y Tad, a bod y Tad ynof fi? Dw i ddim yn dweud pethau ar fy liwt fy hun. Y Tad, sy'n byw ynof fi, sydd ar waith. Credwch beth dw i'n ddweud — dw i yn y Tad ac mae'r Tad ynof fi. Os ydy fy ngeiriau i ddim yn ddigon, dylech chi o leia gredu o achos y pethau dw i'n eu gwneud. Credwch chi fi, bydd pwy bynnag sy'n credu ynof fi yn gwneud yr un pethau ag ydw i wedi bod yn eu gwneud. Yn wir, byddan nhw'n gwneud llawer iawn mwy, am fy mod i yn mynd at y Tad. Bydda i'n gwneud beth bynnag ofynnwch chi am awdurdod i'w wneud, fel bod y Mab yn anrhydeddu'r Tad. Cewch ofyn i mi am awdurdod i wneud unrhyw beth, ac fe'i gwnaf. “Os dych chi'n fy ngharu i, byddwch yn gwneud beth dw i'n ei ddweud. Bydda i'n gofyn i'r Tad, a bydd e'n rhoi un arall fydd yn sefyll gyda chi ac yn aros gyda chi am byth — sef yr Ysbryd sy'n dangos y gwir i chi. Dydy'r byd ddim yn gallu ei dderbyn am fod y byd ddim yn ei weld nac yn ei nabod. Ond dych chi yn ei nabod am ei fod yn sefyll gyda chi ac am ei fod yn mynd i fod ynoch chi. Wna i ddim eich gadael chi ar eich pennau eich hunain — dw i'n mynd i ddod yn ôl atoch chi. Cyn hir, fydd y byd ddim yn fy ngweld i eto, ond byddwch chi'n fy ngweld i. Am fy mod i'n mynd i fyw eto, bydd gynnoch chithau fywyd. Byddwch yn sylweddoli y diwrnod hwnnw fy mod i yn y Tad. A byddwch chi ynof fi a minnau ynoch chi. Y rhai sy'n derbyn beth dw i'n ei ddweud ac yn gwneud beth dw i'n ddweud ydy'r rhai sy'n fy ngharu i. Bydd y Tad yn caru y rhai sy'n fy ngharu i, a bydda i yn eu caru nhw hefyd, ac yn egluro fy hun iddyn nhw.” “Ond, Arglwydd,” meddai Jwdas (dim Jwdas Iscariot), “Sut dy fod di am ddangos dy hun i ni ond ddim i'r byd?” Atebodd Iesu, “Bydd y rhai sy'n fy ngharu i yn gwneud beth dw i'n ddweud wrthyn nhw. Bydd fy Nhad yn eu caru nhw, a byddwn ni'n dod atyn nhw i fyw gyda nhw. Fydd pwy bynnag sydd ddim yn fy ngharu ddim yn gwneud beth dw i'n ddweud. A dim fy neges i fy hun dw i'n ei rhannu, ond neges gan y Tad sydd wedi fy anfon i. “Dw i wedi dweud y pethau hyn tra dw i'n dal gyda chi. Ond mae un fydd yn sefyll gyda chi, sef yr Ysbryd Glân mae'r Tad yn mynd i'w anfon ar fy rhan. Bydd e'n dysgu popeth i chi ac yn eich atgoffa o bopeth dw i wedi ei ddweud. Heddwch — dyna dw i'n ei roi yn rhodd i chi; yr heddwch go iawn sydd gen i, a neb arall, i'w roi. Dw i ddim yn rhoi heddwch yn yr un ffordd a'r byd. Peidiwch cynhyrfu, a peidiwch bod yn llwfr. “Dych chi wedi clywed fi'n dweud, ‘Dw i'n mynd i ffwrdd, a dw i'n mynd i ddod yn ôl atoch chi.’ Petaech chi wir yn fy ngharu i, byddech yn falch fy mod i'n mynd at y Tad, achos mae'r Tad yn fwy na fi. Dw i wedi dweud nawr, cyn i'r peth ddigwydd, er mwyn i chi gredu pan fydd yn digwydd. Does gen i ddim llawer mwy o amser i siarad â chi, am fod Satan, tywysog y byd hwn, ar ei ffordd. Ond does ganddo ddim awdurdod drosof fi. Rhaid i'r byd weld fy mod i'n caru'r Tad ac yn gwneud yn union beth mae'r Tad yn ei ddweud. “Dewch, gadewch i ni fynd.” “Fi ydy'r winwydden go iawn, a Duw, fy Nhad i, ydy'r garddwr. Mae'n llifio i ffwrdd unrhyw gangen sydd heb ffrwyth yn tyfu arni. Ond os oes ffrwyth yn tyfu ar gangen, mae'n trin ac yn tocio'r gangen honno'n ofalus er mwyn i fwy o ffrwyth dyfu arni. Dych chi wedi cael eich trin gan yr hyn dw i wedi ei ddweud wrthoch chi. Arhoswch ynof fi, ac arhosa i ynoch chi. Fydd ffrwyth ddim yn tyfu ar gangen oni bai ei bod hi'n dal ar y winwydden. All eich bywydau chi ddim bod yn ffrwythlon oni bai eich bod chi wedi eich cysylltu â mi. “Fi ydy'r winwydden; chi ydy'r canghennau. Os gwnewch chi aros ynof fi, a minnau ynoch chi, bydd digonedd o ffrwyth yn eich bywydau. Ond allwch chi wneud dim ar wahân i mi. Os gwnewch chi ddim aros ynof fi, byddwch fel y gangen sy'n cael ei thaflu i ffwrdd ac sy'n gwywo. Mae'r canghennau hynny'n cael eu casglu a'u taflu i'r tân i'w llosgi. Os arhoswch ynof fi, a dal gafael yn beth ddwedais i, gofynnwch i Dduw am unrhyw beth, a byddwch yn ei gael. Bydd eich bywydau yn llawn ffrwyth. Bydd hi'n amlwg eich bod yn ddisgyblion i mi, a bydd fy Nhad yn cael ei anrhydeddu. “Dw i wedi'ch caru chi yn union fel mae'r Tad wedi fy ngharu i. Arhoswch yn fy nghariad i. Byddwch yn aros yn fy nghariad i drwy wneud beth dw i'n ei ddweud, fel dw i wedi bod yn ufudd i'm Tad ac wedi aros yn ei gariad e. Dw i wedi dweud y pethau hyn er mwyn i chi fod yn llawen fel dw i'n llawen. Byddwch chi'n wirioneddol hapus! Dyma dw i'n ei orchymyn: Carwch eich gilydd fel dw i wedi eich caru chi. Y cariad mwya all unrhyw un ei ddangos ydy bod yn fodlon marw dros ei ffrindiau. Dych chi'n amlwg yn ffrindiau i mi os gwnewch chi beth dw i'n ei ddweud. Dw i ddim yn eich galw chi'n weision bellach. Dydy meistr ddim yn trafod ei fwriadau gyda gweision. Na, ffrindiau i mi ydych chi, achos dw i wedi rhannu gyda chi bopeth mae'r Tad wedi ei ddweud. Dim chi ddewisodd fi; fi ddewisodd chi, i chi fynd allan a byw bywydau ffrwythlon — hynny ydy, yn llawn o'r ffrwyth sy'n aros. Ac i chi gael beth bynnag ofynnwch chi i'r Tad amdano gyda fy awdurdod i. “Dyma dw i'n ei orchymyn: Carwch eich gilydd. Os ydy'r byd yn eich casáu chi, cofiwch bob amser ei fod wedi fy nghasáu i gyntaf. Tasech chi'n perthyn i'r byd, byddai'r byd yn eich caru chi. Ond dych chi ddim yn perthyn i'r byd, achos dw i wedi eich dewis chi allan o'r byd, felly mae'r byd yn eich casáu chi. Cofiwch beth ddwedais i wrthoch chi: ‘Dydy caethwas ddim uwchlaw ei feistr.’ Os ydyn nhw wedi fy erlid i, byddan nhw'n eich erlid chithau hefyd. Os ydyn nhw wedi gwneud beth dw i'n ei ddweud wrthyn nhw, byddan nhw'n gwneud beth dych chi'n ei ddweud. Byddan nhw'n eich trin chi felly am eich bod chi'n gweithio i mi. Y gwir ydy, dŷn nhw ddim yn nabod Duw, yr Un sydd wedi fy anfon i. Petawn i heb ddod a siarad â nhw, fydden nhw ddim yn euog o bechod. Ond bellach, does ganddyn nhw ddim esgus am eu pechod. Mae pob un sy'n fy nghasáu i yn casáu Duw y Tad hefyd. Petaen nhw heb fy ngweld i'n gwneud pethau wnaeth neb arall erioed, fydden nhw ddim yn euog o bechod. Ond maen nhw wedi gweld, ac maen nhw wedi fy nghasáu i a'r Tad. Ond dyna oedd i fod — dyna'n union sydd wedi ei ysgrifennu yn yr ysgrifau sanctaidd: ‘Maen nhw wedi fy nghasáu i am ddim rheswm.’ “Mae'r un fydd yn sefyll gyda chi yn dod. Bydda i'n ei anfon atoch chi. Mae'n dod oddi wrth y Tad — yr Ysbryd sy'n dangos i chi beth sy'n wir. Bydd e'n dweud wrth bawb amdana i. A byddwch chi'n dweud amdana i hefyd, am eich bod wedi bod gyda mi o'r dechrau. “Dw i wedi dweud hyn i gyd wrthoch chi er mwyn i chi beidio troi cefn arna i. Byddwch chi'n cael eich diarddel o'r synagog. Ac mae'r amser yn dod pan bydd pobl yn meddwl eu bod nhw'n gwneud ffafr i Dduw trwy eich lladd chi. Byddan nhw'n eich trin chi felly am eu bod nhw ddim wedi nabod y Tad na fi. Ond dw i wedi dweud hyn i gyd wrthoch chi, wedyn pan ddaw'r amser hwnnw byddwch chi'n cofio fy mod i wedi eich rhybuddio chi. Wnes i ddim dweud hyn wrthoch chi ar y dechrau am fy mod i wedi bod gyda chi. “Bellach dw i'n mynd yn ôl at Dduw, yr un anfonodd fi, a does neb ohonoch chi'n gofyn, ‘Ble rwyt ti'n mynd?’ Ond am fy mod wedi dweud hyn, dych chi'n llawn tristwch. Ond credwch chi fi: Mae o fantais i chi fy mod i'n mynd i ffwrdd. Os wna i ddim mynd, fydd yr un sy'n sefyll gyda chi ddim yn dod; ond pan af fi, bydda i'n ei anfon atoch chi. Pan ddaw, bydd yn dangos fod syniadau'r byd o bechod, cyfiawnder a barn yn anghywir: o bechod am eu bod nhw ddim yn credu ynof fi; o gyfiawnder am fy mod i'n mynd at y Tad, a fyddwch chi ddim yn dal i ngweld i mwyach; ac o farn am fod Duw eisoes wedi condemnio Satan, tywysog y byd hwn. “Mae gen i lawer mwy i'w ddweud wrthoch chi, ond mae'n ormod i chi ei gymryd ar hyn o bryd. Ond pan ddaw e, sef yr Ysbryd sy'n dangos y gwir i chi, bydd yn eich arwain chi i weld y gwir i gyd. Fydd e ddim yn siarad ar ei liwt ei hun — bydd ond yn dweud beth mae'n ei glywed, a bydd yn dweud wrthoch chi beth fydd yn digwydd. Bydd yn fy anrhydeddu i drwy gymryd beth dw i'n ei ddweud a'i rannu gyda chi. Mae popeth sydd gan y Tad yn eiddo i mi hefyd, a dyna pam dw i'n dweud y bydd yr Ysbryd yn cymryd beth dw i'n ei ddweud a'i rannu gyda chi. “Yn fuan iawn bydda i wedi mynd, a fyddwch chi ddim yn fy ngweld i ddim mwy. Yna'n fuan iawn wedyn byddwch yn fy ngweld i eto.” Dyma'i ddisgyblion yn gofyn i'w gilydd, “Beth mae'n ei olygu wrth ddweud, ‘Yn fuan iawn bydda i wedi mynd, a fyddwch chi ddim yn fy ngweld i ddim mwy. Yna'n fuan iawn wedi hynny byddwch yn fy ngweld eto’? A beth mae ‘Am fy mod i'n mynd at y Tad’ yn ei olygu? Beth ydy ystyr ‘Yn fuan iawn’? Dŷn ni ddim yn deall.” Roedd Iesu'n gwybod eu bod nhw eisiau gofyn iddo am hyn, felly meddai wrthyn nhw, “Dych chi'n trafod beth dw i'n ei olygu wrth ddweud, ‘Yn fuan iawn bydda i wedi mynd, a fyddwch chi ddim yn fy ngweld i ddim mwy. Yna'n fuan iawn wedyn byddwch yn fy ngweld eto.’ Credwch chi fi, Byddwch chi'n galaru ac yn crïo tra bydd y byd yn dathlu. Byddwch yn drist go iawn, ond bydd y tristwch yn troi'n llawenydd. Mae gwraig mewn poen pan mae'n cael babi, ond mae hi mor llawen pan mae ei babi wedi cael ei eni mae hi'n anghofio'r poen! Yr un fath gyda chi: Dych chi'n teimlo'n drist ar hyn o bryd. Ond bydda i yn eich gweld chi eto a byddwch chi'n dathlu, a fydd neb yn gallu dwyn eich llawenydd oddi arnoch chi. Fydd dim cwestiynau gynnoch chi i'w gofyn y diwrnod hwnnw. Credwch chi fi, bydd fy Nhad yn rhoi i chi beth bynnag a ofynnwch i mi am awdurdod i'w wneud. Dych chi ddim wedi gofyn am awdurdod i wneud dim hyd yn hyn. Gofynnwch a byddwch yn derbyn. Byddwch chi'n wirioneddol hapus! “Dw i wedi bod yn defnyddio darluniau wrth siarad â chi hyd yn hyn, ond mae'r amser yn dod pan fydd dim angen gwneud hynny. Bydda i'n gallu siarad yn blaen gyda chi am fy Nhad. Y diwrnod hwnnw byddwch yn gofyn i Dduw am fy awdurdod i. Dim fi fydd yn gofyn i'r Tad ar eich rhan chi. Na, mae'r Tad ei hun yn eich caru chi am eich bod chi wedi fy ngharu i, ac am eich bod chi wedi credu fy mod wedi dod oddi wrth y Tad. Dw i wedi dod i'r byd oddi wrth y Tad, a dw i ar fin gadael y byd a mynd yn ôl at y Tad.” “Nawr rwyt ti'n siarad yn blaen!” meddai'r disgyblion. “Dim darluniau i'w dehongli. Dŷn ni'n gweld bellach dy fod di'n gwybod pob peth. Does dim rhaid i ti ofyn i unrhyw un beth maen nhw'n ei feddwl hyd yn oed. Mae hynny'n ddigon i wneud i ni gredu dy fod di wedi dod oddi wrth Dduw.” “Dych chi'n credu ydych chi?” meddai Iesu. “Mae'r amser yn dod, yn wir mae yma, pan fyddwch chi'n mynd ar chwâl. Bydd pob un ohonoch chi'n mynd adre, a byddwch yn fy ngadael i ar fy mhen fy hun. Ond dw i ddim wir ar fy mhen fy hun, am fod fy Nhad gyda fi. “Dw i wedi dweud y pethau hyn wrthoch chi, er mwyn i chi gael yr heddwch go iawn sydd ynof fi. Dim ond trafferthion gewch chi yn y byd hwn. Ond codwch eich calonnau, dw i wedi concro'r byd.” Ar ôl dweud hyn, edrychodd Iesu i fyny i'r nefoedd a dechrau gweddïo: “Dad, mae'r amser iawn wedi dod. Anrhydedda dy Fab, er mwyn i mi, y Mab hwnnw, ddangos dy ysblander di. Rwyt wedi rhoi awdurdod i mi dros y ddynoliaeth gyfan, i mi roi bywyd tragwyddol i'r rhai roist ti i berthyn i mi. Dyma beth ydy bywyd tragwyddol: iddyn nhw dy nabod di, yr unig Dduw sy'n bodoli go iawn, a Iesu y Meseia wyt ti wedi ei anfon. Dw i wedi dy anrhydeddu di ar y ddaear drwy orffen y gwaith roist ti i mi. Yn awr, Dad, rho i mi eto yr anrhydedd a'r ysblander oedd gen i pan oeddwn gyda ti hyd yn oed cyn i'r byd ddechrau. “Dw i wedi dangos sut un wyt ti i'r rhai roist ti i mi allan o'r byd. Dy bobl di oedden nhw, a dyma ti'n eu rhoi nhw i mi, ac maen nhw wedi derbyn dy neges di. Bellach maen nhw'n gwybod mai oddi wrthyt ti mae popeth wyt wedi ei roi i mi wedi dod. Dw i wedi dweud wrthyn nhw beth ddwedaist ti wrtho i, ac maen nhw wedi derbyn y cwbl. Maen nhw'n gwybod go iawn fy mod wedi dod oddi wrthyt ti, ac yn credu mai ti sydd wedi fy anfon i. Dw i'n gweddïo drostyn nhw. Dw i ddim yn gweddïo dros y byd, ond dros y rhai rwyt ti wedi eu rhoi i berthyn i mi. Dw i'n gweddïo drostyn nhw am mai dy bobl di ydyn nhw. Dy bobl di ydy pawb sydd gen i, a'm pobl i ydy dy bobl di, a dw i'n cael fy anrhydeddu trwyddyn nhw. Dw i ddim yn aros yn y byd ddim mwy, ond maen nhw yn dal yn y byd. Dw i'n dod atat ti. Dad Sanctaidd, cadw'r rhai wyt ti wedi eu rhoi i mi yn saff ac yn ffyddlon i ti dy hun, er mwyn iddyn nhw ddod yn un fel dŷn ni'n un. Tra dw i wedi bod gyda nhw, dw i wedi eu cadw nhw'n saff ac yn ffyddlon i ti. A chafodd dim un ohonyn nhw ei golli ar wahân i'r un oedd ar ei ffordd i ddinistr, er mwyn i'r ysgrifau sanctaidd ddod yn wir. “Dw i'n dod atat ti nawr, ond dw i'n dweud y pethau hyn tra dw i'n dal yn y byd er mwyn iddyn nhw gael bod yn wirioneddol hapus fel fi. Dw i wedi rhoi dy neges di iddyn nhw ac mae'r byd wedi eu casáu nhw, am eu bod nhw ddim yn perthyn i'r byd fwy na dw i'n perthyn i'r byd. Dw i ddim yn gweddïo ar i ti eu cymryd nhw allan o'r byd, ond ar i ti eu hamddiffyn nhw rhag yr un drwg. Dyn nhw ddim yn perthyn i'r byd fwy na dw i'n perthyn i'r byd. Cysegra nhw i ti dy hun drwy'r gwirionedd; mae dy neges di yn wir. Dw i yn eu hanfon nhw allan i'r byd yn union fel wnest ti fy anfon i. Dw i'n cysegru fy hun er eu mwyn nhw, er mwyn iddyn nhw fod wedi eu cysegru drwy'r gwirionedd. “Nid dim ond drostyn nhw dw i'n gweddïo. Dw i'n gweddïo hefyd dros bawb fydd yn credu ynof fi drwy eu neges nhw; dw i'n gweddïo y byddan nhw i gyd yn un, Dad, yn union fel rwyt ti a fi yn un. Dw i am iddyn nhw hefyd fod ynon ni er mwyn i'r byd gredu mai ti sydd wedi fy anfon i. Dw i wedi rhoi iddyn nhw rannu'r ysblander a roist ti i mi, er mwyn iddyn nhw fod yn un fel dŷn ni yn un: Fi ynddyn nhw a ti ynof fi. Dw i am iddyn nhw gael eu dwyn i undod llawn i adael i'r byd wybod mai ti sydd wedi fy anfon i, a dy fod ti wedi eu caru nhw yn union fel rwyt wedi fy ngharu i. “Dad, dw i am i'r rhai wyt ti wedi eu rhoi i mi fod gyda mi ble rydw i, iddyn nhw weld fy ysblander i — yr ysblander roist ti i mi am dy fod di wedi fy ngharu i ers cyn i'r byd gael ei greu. “Dad Cyfiawn, dydy'r byd ddim yn dy nabod di, ond dw i yn dy nabod, ac mae'r rhain wedi dod i wybod mai ti sydd wedi fy anfon i. Dw i wedi dangos pwy wyt ti iddyn nhw, a bydda i yn dal ati i wneud hynny, er mwyn iddyn nhw garu eraill fel rwyt ti wedi fy ngharu i, ac i mi fy hun fod ynddyn nhw.” Ar ôl gorffen gweddïo, dyma Iesu'n croesi Dyffryn Cidron gyda'i ddisgyblion. Dyma nhw'n dod at ardd olewydd oedd yno ac yn mynd i mewn iddi. Roedd Jwdas, y bradwr, yn gwybod am y lle, am fod Iesu a'i ddisgyblion wedi cyfarfod yno lawer gwaith. Felly aeth Jwdas i'r ardd, gyda mintai o filwyr a swyddogion diogelwch wedi eu hanfon gan y prif offeiriaid a'r Phariseaid. Roedden nhw'n cario ffaglau a lanternau ac arfau. Roedd Iesu'n gwybod yn union beth oedd yn mynd i ddigwydd iddo, felly aeth atyn nhw a gofyn, “Am bwy dych chi'n edrych?” “Iesu o Nasareth,” medden nhw. “Fi ydy e,” meddai Iesu. (A dyna lle roedd Jwdas, y bradwr, yn sefyll yno gyda nhw!) Pan ddwedodd Iesu “Fi ydy e,” dyma nhw'n symud at yn ôl ac yn syrthio ar lawr. Gofynnodd iddyn nhw eto, “Pwy dych chi eisiau?” A dyma nhw'n dweud “Iesu o Nasareth.” “Dw i wedi dweud wrthoch chi mai fi ydy e,” meddai Iesu. “Felly os mai fi ydy'r un dych chi'n edrych amdano, gadewch i'r dynion hyn fynd yn rhydd.” (Er mwyn i beth ddwedodd e yn gynharach ddod yn wir: “Dw i ddim wedi colli neb o'r rhai roist ti i mi.”) Yna dyma Simon Pedr yn tynnu cleddyf allan ac yn taro gwas yr archoffeiriad, a thorri ei glust dde i ffwrdd. (Malchus oedd enw'r gwas.) “Cadw dy gleddyf!” meddai Iesu wrtho, “Wyt ti'n meddwl fy mod i ddim yn barod i ddioddef, ac yfed o'r cwpan chwerw mae'r Tad wedi ei roi i mi?” Dyma'r fintai o filwyr a'i chapten a swyddogion yr arweinwyr Iddewig yn arestio Iesu a'i rwymo. Aethon nhw ag e at Annas gyntaf, sef tad-yng-nghyfraith Caiaffas oedd yn archoffeiriad y flwyddyn honno. (Caiaffas oedd yr un oedd wedi awgrymu i'r arweinwyr Iddewig y byddai'n well i un person farw dros y bobl.) Dyma Simon Pedr ac un arall o'r disgyblion yn mynd ar ôl Iesu. Roedd yr archoffeiriad yn nabod y disgybl arall hwnnw yn dda, felly cafodd fynd i mewn gyda Iesu i iard tŷ'r archoffeiriad. Ond roedd rhaid i Pedr aros wrth y drws y tu allan. Yna dyma'r disgybl oedd yr archoffeiriad yn ei nabod, yn mynd yn ôl ac yn perswadio'r ferch oedd yn cadw'r drws i adael Pedr i mewn. Ond meddai hi wrth Pedr, “Onid wyt ti'n un o ddisgyblion y dyn yna?” Ond dyma Pedr yn ateb, “Nac ydw.” Roedd hi'n oer, ac roedd y gweithwyr a'r swyddogion diogelwch yn sefyll o gwmpas tân golosg roedden nhw wedi ei gynnau i gadw'n gynnes. Felly dyma Pedr hefyd yn mynd i sefyll gyda nhw i gadw'n gynnes. Yn y cyfamser roedd Iesu'n cael ei groesholi gan yr archoffeiriad am beth roedd yn ei ddysgu, ac am ei ddisgyblion. “Dw i wedi bod yn siarad yn gwbl agored,” meddai Iesu. “Roeddwn i bob amser yn dysgu yn y synagogau neu yn y deml, lle roedd y bobl yn cwrdd. Doedd gen i ddim cyfrinachau. Pam wyt ti'n fy holi i? Hola'r bobl oedd yn gwrando arna i. Maen nhw'n gwybod beth dw i wedi ei ddweud.” Pan atebodd Iesu felly dyma un o'r swyddogion oedd yno yn ei daro ar draws ei wyneb. “Ai dyna sut wyt ti'n ateb yr archoffeiriad!” meddai. “Os dwedais i rywbeth o'i le,” meddai Iesu, “dywed wrth bawb beth. Ond os oedd beth ddwedais i yn iawn, pam wnest ti fy nharo i?” Yna anfonodd Annas e, yn dal wedi ei rwymo, at Caiaffas yr archoffeiriad. Tra roedd Simon Pedr yn sefyll wrth y tân yn cadw'n gynnes, gofynnwyd iddo eto, “Wyt ti ddim yn un o'i ddisgyblion e?” Ond gwadu wnaeth Pedr, “Nac ydw,” meddai. Wedyn dyma un o weithwyr yr archoffeiriad yn ei herio (perthynas i'r dyn oedd Pedr wedi torri ei glust i ffwrdd), “Onid ti welais i gydag e yn yr ardd?” Ond gwadu wnaeth Pedr eto, a'r foment honno dyma'r ceiliog yn canu. Aeth yr arweinwyr Iddewig a Iesu oddi wrth Caiaffas i'r pencadlys Rhufeinig. Erbyn hyn roedd hi'n dechrau gwawrio. Aethon nhw ddim i mewn i'r pencadlys, am eu bod nhw ddim eisiau torri'r rheolau ynglŷn â glendid seremonïol; roedden nhw eisiau gallu bwyta swper y Pasg. Felly daeth Peilat allan atyn nhw a gofyn, “Beth ydy'r cyhuddiadau yn erbyn y dyn hwn?” “Fydden ni ddim wedi ei drosglwyddo i ti oni bai ei fod wedi troseddu,” medden nhw. “Felly cymerwch chi e,” meddai Peilat. “Defnyddiwch eich cyfraith eich hunain i'w farnu.” “Ond does gynnon ni mo'r awdurdod i'w ddedfrydu i farwolaeth,” medden nhw. (Digwyddodd hyn fel bod beth ddwedodd Iesu am y ffordd roedd yn mynd i farw yn dod yn wir.) Aeth Peilat yn ôl i mewn i'r palas, a galwodd Iesu i ymddangos o'i flaen a dweud wrtho, “Felly, ti ydy Brenin yr Iddewon, ie?” “Wyt ti'n gofyn ohonot ti dy hun,” meddai Iesu, “neu ai eraill sydd wedi dweud hyn amdana i?” “Dw i ddim yn Iddew!” atebodd Peilat. “Dy bobl di a'u prif offeiriaid sydd wedi dy drosglwyddo di i mi. Beth yn union wyt ti wedi ei wneud?” Atebodd Iesu, “Dydy nheyrnas i ddim yn dod o'r byd yma. Petai hi, byddai fy ngweision wedi ymladd yn galed i'm cadw i rhag cael fy arestio gan yr awdurdodau Iddewig. Mae fy nheyrnas i yn dod o rywle arall.” “Felly rwyt ti yn frenin!” meddai Peilat. Atebodd Iesu, “Ti sy'n defnyddio'r gair ‛brenin‛. Y rheswm pam ges i fy ngeni, a pham dw i wedi dod i'r byd ydy i dystio i beth sy'n wir go iawn. Mae pawb sydd ar ochr y gwir yn gwrando arna i.” “Beth ydy gwirionedd?” meddai Peilat. Yna aeth allan at yr arweinwyr Iddewig eto a dweud, “Dw i ddim yn ei gael yn euog o unrhyw drosedd. Mae'n arferiad i mi ryddhau un carcharor i chi adeg y Pasg. Ydych chi eisiau i mi ryddhau hwn, ‛Brenin yr Iddewon‛?” “Na!” medden nhw, gan weiddi eto, “Dim hwn. Barabbas dŷn ni eisiau!” (Terfysgwr oedd Barabbas.) Felly dyma Peilat yn gorchymyn i Iesu gael ei chwipio. Dyma'r milwyr yn plethu drain i wneud coron i'w rhoi am ei ben, ac yn gwisgo clogyn borffor amdano. Yna roedden nhw'n mynd ato drosodd a throsodd, a'i gyfarch gyda'r geiriau, “Eich mawrhydi, Brenin yr Iddewon!”, ac wedyn ei daro ar ei wyneb. Yna aeth Peilat allan eto a dweud wrth y dyrfa, “Dw i'n dod ag e allan eto, i chi wybod fy mod i ddim yn ei gael e'n euog o unrhyw drosedd.” Daeth Iesu allan yn gwisgo'r goron ddrain a'r clogyn borffor, ac meddai Peilat wrthyn nhw, “Edrychwch, dyma'r dyn!” Y foment y gwelodd y prif offeiriaid a'u swyddogion e, dyma nhw'n dechrau gweiddi, “Croeshoelia fe! Croeshoelia fe!” Ond meddai Peilat, “Cymerwch chi e a'i groeshoelio eich hunain! Lle dw i'n y cwestiwn, mae e'n ddieuog.” “Mae gynnon ni Gyfraith,” meddai'r arweinwyr Iddewig, “ac yn ôl y Gyfraith honno mae'n rhaid iddo farw, am ei fod wedi galw ei hun yn Fab Duw.” Pan glywodd Peilat hyn, roedd yn ofni fwy fyth. Aeth yn ôl i mewn i'r palas a gofyn i Iesu, “O ble wyt ti wedi dod?” Ond roddodd Iesu ddim ateb iddo. “Wyt ti'n gwrthod siarad â fi?” meddai Peilat. “Wyt ti ddim yn sylweddoli mai fi sydd â'r awdurdod i naill ai dy ryddhau di neu i dy groeshoelio di?” Atebodd Iesu, “Fyddai gen ti ddim awdurdod o gwbl drosto i oni bai ei fod wedi ei roi i ti gan Dduw, sydd uwchlaw pawb. Felly mae'r un drosglwyddodd fi i ti yn euog o bechod llawer gwaeth.” O hynny ymlaen roedd Peilat yn gwneud ei orau i ollwng Iesu yn rhydd. Ond dyma'r arweinwyr Iddewig yn gweiddi eto, “Os gollyngi di'r dyn yna'n rhydd, dwyt ti ddim yn gyfaill i Cesar! Mae unrhyw un sy'n hawlio ei fod yn frenin yn gwrthryfela yn erbyn yr ymerawdwr Cesar!” Pan glywodd Peilat hyn, daeth â Iesu allan eto, ac eisteddodd yn sedd y barnwr yn y lle oedd yn cael ei alw ‛Y Palmant‛ (‛Gabbatha‛ yn Hebraeg). Roedd hi'n ddiwrnod paratoi ar gyfer wythnos y Pasg, tua canol dydd. “Dyma fe, eich brenin chi,” meddai Peilat wrth y dyrfa. Ond dyma nhw'n gweiddi, “I ffwrdd ag e! I ffwrdd ag e! Croeshoelia fe!” “Dych chi am i mi groeshoelio eich brenin chi?” meddai Peilat. “Cesar ydy'n hunig frenin ni!” oedd ateb y prif offeiriaid. Yn y diwedd dyma Peilat yn gadael iddyn nhw gael eu ffordd, ac yn rhoi Iesu i'w groeshoelio. Felly aeth y milwyr ag Iesu i ffwrdd. Aeth allan, yn cario ei groes, i'r lle sy'n cael ei alw Lle y Benglog (‛Golgotha‛ yn Hebraeg). Yno, dyma nhw'n hoelio Iesu ar groes, a dau arall hefyd — un bob ochr iddo, a Iesu yn y canol. Trefnodd Peilat fod arwydd yn cael ei rwymo ar ei groes, yn dweud: IESU O NASARETH, BRENIN YR IDDEWON. Gwelodd llawer o Iddewon yr arwydd yma, am fod y lle y cafodd Iesu ei groeshoelio yn agos at y ddinas. Roedd yr arwydd mewn tair iaith — Hebraeg, Lladin a Groeg. Aeth y prif offeiriaid at Peilat i gwyno, “Ddylet ti ddim ysgrifennu, ‛Brenin yr Iddewon‛, ond yn hytrach fod y dyn yna'n hawlio mai fe oedd Brenin yr Iddewon.” Atebodd Peilat, “Dw i wedi ei ysgrifennu, a dyna ddiwedd ar y mater.” Pan wnaeth y milwyr groeshoelio Iesu, dyma nhw'n cymryd ei ddillad a'u rhannu rhwng y pedwar ohonyn nhw. Ond roedd ei grys yn un darn o frethyn o'r top i'r gwaelod. Felly dyma nhw'n dweud, “Gadewch inni beidio rhwygo hwn. Gadewch i ni gamblo amdano.” Digwyddodd hyn er mwyn i'r ysgrifau sanctaidd ddod yn wir, “Maen nhw wedi rhannu fy nillad rhyngddyn nhw, a gamblo am fy nghrys.” Dyna'n union wnaeth y milwyr! Roedd mam Iesu yn sefyll wrth ymyl ei groes, a hefyd ei fodryb, a Mair gwraig Clopas a Mair Magdalen. Pan welodd Iesu ei fam yn sefyll yno, a'r disgybl oedd Iesu'n ei garu'n fawr yn sefyll gyda hi, meddai wrth ei fam, “Mam annwyl, cymer e fel mab i ti,” ac meddai wrth y disgybl, “Gofala amdani hi fel petai'n fam i ti.” Felly o hynny ymlaen aeth mam Iesu i fyw gyda'r disgybl hwnnw. Roedd Iesu'n gwybod ei fod wedi gwneud popeth oedd gofyn iddo'i wneud. “Dw i'n sychedig,” meddai, gan gyflawni beth oedd yr ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud. Roedd jwg o win sur rhad wrth ymyl, felly dyma nhw'n trochi ysbwng yn y gwin a'i rwymo ar goesyn isop i'w godi i fyny at wefusau Iesu. Ar ôl cael diod, dyma Iesu'n dweud, “Mae'r cwbl wedi ei wneud.” Yna plygodd ei ben a marw. Gan ei bod yn ddiwrnod paratoi ar gyfer wythnos y Pasg, a'r Saboth hwnnw'n ddiwrnod arbennig iawn, dyma'r arweinwyr Iddewig yn mynd i weld Peilat. Doedd ganddyn nhw ddim eisiau i'r cyrff gael eu gadael yn hongian ar y croesau dros y Saboth. Dyma nhw'n gofyn i Peilat ellid torri coesau Iesu a'r ddau leidr iddyn nhw farw'n gynt, ac wedyn gallai'r cyrff gael eu cymryd i lawr. Felly dyma'r milwyr yn dod ac yn torri coesau'r ddau ddyn oedd wedi eu croeshoelio gyda Iesu. Ond pan ddaethon nhw at Iesu gwelon nhw ei fod wedi marw'n barod. Yn lle torri ei goesau, dyma un o'r milwyr yn trywanu Iesu yn ei ochr gyda gwaywffon, a dyma ddŵr a gwaed yn llifo allan. Dw i'n dweud beth welais i â'm llygaid fy hun, ac mae beth dw i'n ei ddweud yn wir. Mae'r cwbl yn wir, a dw i'n rhannu beth welais i er mwyn i chi gredu. Digwyddodd y pethau hynny er mwyn i beth sydd yn yr ysgrifau sanctaidd ddod yn wir: “Fydd dim un o'i esgyrn yn cael ei dorri,” ac fel mae'n dweud yn rhywle arall, “Byddan nhw'n edrych ar yr un maen nhw wedi ei drywanu.” Wedi hynny dyma Joseff o Arimathea yn mynd at Peilat i ofyn am ganiatâd i gymryd corff Iesu. (Roedd Joseff yn un o ddilynwyr Iesu, ond yn cadw'n ddistaw am y peth am fod ganddo ofn yr arweinwyr Iddewig.) Cafodd ganiatâd Peilat, a daeth a chymryd y corff. Roedd Nicodemus gydag e hefyd, sef y dyn oedd wedi mynd i weld Iesu ganol nos. Daeth Nicodemus a tua 34 cilogram o fyrr ac aloes, i'w ddefnyddio wrth rwymo corff Iesu â stribedi o liain. Dyma sut roedd yr Iddewon yn arfer claddu pobl. Roedd gardd wrth ymyl y man lle cafodd Iesu ei groeshoelio, ac roedd bedd newydd yn yr ardd — doedd neb erioed wedi ei gladdu ynddo o'r blaen. Am ei bod hi'n bnawn Gwener (y diwrnod cyn y dydd Saboth Iddewig), ac am fod y bedd mor agos, dyma nhw'n rhoi Iesu i orwedd yno. Yn gynnar iawn ar y bore Sul, a hithau'n dal yn dywyll, dyma Mair Magdalen yn mynd at y bedd a darganfod fod y garreg fawr oedd ar geg y bedd wedi ei symud. Felly dyma hi'n rhedeg at Simon Pedr a'r disgybl arall (yr un oedd Iesu'n ei garu'n fawr), a dweud wrthyn nhw, “Maen nhw wedi cymryd yr Arglwydd allan o'r bedd, a dŷn ni ddim yn gwybod ble maen nhw wedi ei roi e!” Felly dyma Pedr a'r disgybl arall yn mynd allan i fynd at y bedd. Rhedodd y ddau gyda'i gilydd, ond dyma'r disgybl arall yn rhedeg yn gynt na Pedr a chyrraedd yno o'i flaen. Plygodd i edrych i mewn i'r bedd, a gweld y stribedi o liain yn gorwedd yno, ond aeth e ddim i mewn. Yna dyma Simon Pedr yn cyrraedd ar ei ôl ac yn mynd yn syth i mewn i'r bedd. Gwelodd yntau'r stribedi o liain yn gorwedd yno. Gwelodd hefyd y cadach oedd wedi bod am wyneb Iesu, ond roedd hwnnw wedi ei blygu a'i osod o'r neilltu ar wahân i'r stribedi lliain. Yna, yn y diwedd, dyma'r disgybl arall (oedd wedi cyrraedd y bedd gyntaf) yn mynd i mewn hefyd. Pan welodd e'r cwbl, credodd. (Doedden nhw ddim eto wedi deall fod yr ysgrifau sanctaidd yn dweud fod rhaid i Iesu ddod yn ôl yn fyw.) Aeth y disgyblion yn ôl adre, ond safodd Mair wrth ymyl y bedd yn crïo. Plygodd i lawr i edrych i mewn i'r bedd a gweld dau angel mewn dillad gwyn yn eistedd lle roedd corff Iesu wedi cael ei roi i orwedd — un wrth y pen a'r llall wrth y traed. Dyma nhw'n gofyn i Mair, “Wraig annwyl, pam rwyt ti'n crïo?” “Maen nhw wedi cymryd fy Arglwydd i ffwrdd,” atebodd, “a dw i ddim yn gwybod ble maen nhw wedi mynd ag e” Dyna pryd y trodd hi rownd a gweld rhywun yn sefyll o'i blaen. Iesu oedd yno, ond doedd hi ddim yn sylweddoli mai Iesu oedd e. “Wraig annwyl,” meddai Iesu wrthi, “pam rwyt ti'n crïo? Am bwy rwyt ti'n chwilio?” Roedd hi'n meddwl mai'r garddwr oedd e, a dwedodd, “Syr, os mai ti sydd wedi ei symud, dywed lle rwyt ti wedi ei roi e, a bydda i'n mynd i'w nôl e.” Yna dyma Iesu'n dweud, “Mair.” Trodd ato, ac meddai yn Hebraeg, “Rabbwni!” (sy'n golygu ‛Athro‛). Dyma Iesu'n dweud wrthi, “Paid dal gafael ynof fi. Dw i ddim yn mynd i fyny at y Tad eto. Dos at fy mrodyr i a dweud wrthyn nhw, ‘Dw i'n mynd at fy Nhad a'm Duw, eich Tad a'ch Duw chi hefyd.’” Yna aeth Mair Magdalen at y disgyblion a dweud: “Dw i wedi gweld yr Arglwydd!” A dwedodd wrthyn nhw beth oedd e wedi ei ddweud wrthi. Y noson honno, sef nos Sul, roedd y disgyblion gyda'i gilydd. Er bod y drysau wedi eu cloi am fod ganddyn nhw ofn yr arweinwyr Iddewig, dyma Iesu'n dod i mewn a sefyll yn y canol. “Shalôm!” meddai wrthyn nhw. Yna dangosodd ei ddwylo a'i ochr iddyn nhw. Roedd y disgyblion mor hapus pan welon nhw'r Arglwydd. Yna dwedodd Iesu eto, “Shalôm! Yn union fel anfonodd y Tad fi, dw i hefyd yn eich anfon chi.” Wedyn chwythodd arnyn nhw, a dweud, “Derbyniwch yr Ysbryd Glân. Os gwnewch chi faddau pechodau rhywun, bydd y pechodau hynny yn cael eu maddau; ond os fyddwch chi ddim yn maddau iddyn nhw, fyddan nhw ddim yn cael maddeuant.” Doedd Tomos ddim yno pan wnaeth Iesu ymddangos (Tomos oedd yn cael ei alw ‛Yr Efaill‛ — un o'r deuddeg disgybl). Dyma'r lleill yn dweud wrtho, “Dŷn ni wedi gweld yr Arglwydd!” Ond ei ymateb oedd, “Nes i mi gael gweld ôl yr hoelion yn ei arddyrnau, a rhoi fy mys yn y briwiau hynny a rhoi fy llaw i mewn yn ei ochr, wna i byth gredu'r peth!” Wythnos yn ddiweddarach roedd y disgyblion yn y tŷ eto, a'r tro hwn roedd Tomos yno gyda nhw. Er bod y drysau wedi eu cloi, daeth Iesu i mewn a sefyll yn y canol a dweud, “Shalôm!” Trodd at Tomos a dweud, “Edrych ar fy arddyrnau; rho dy fys i mewn ynddyn nhw. Estyn dy law i'w rhoi yn fy ochr i. Stopia amau! Creda!” A dyma Tomos yn dweud, “Fy Arglwydd a'm Duw!” “Rwyt ti wedi dod i gredu am dy fod wedi fy ngweld i,” meddai Iesu wrtho. “Mae'r rhai fydd yn credu heb weld yn mynd i gael eu bendithio'n fawr.” Gwelodd y disgyblion Iesu yn gwneud llawer o arwyddion gwyrthiol eraill, ond dw i ddim wedi ysgrifennu amdanyn nhw yma. Ond mae'r cwbl sydd yma wedi ei ysgrifennu er mwyn i chi gredu mai Iesu ydy'r Meseia, mab Duw. Pan fyddwch chi'n credu byddwch chi'n cael bywyd tragwyddol trwyddo. Dyma Iesu'n ymddangos i'w ddisgyblion eto wrth Lyn Tiberias. Dyma beth ddigwyddodd: Roedd criw ohonyn nhw gyda'i gilydd — Simon Pedr, Tomos (oedd yn cael ei alw ‛Yr Efaill‛), Nathanael o Cana Galilea, meibion Sebedeus, a dau ddisgybl arall. “Dw i'n mynd i bysgota,” meddai Simon Pedr wrth y lleill. A dyma nhw'n ateb, “Dŷn ni am ddod hefyd.” Felly dyma nhw'n mynd allan mewn cwch, ond wnaethon nhw ddal dim drwy'r nos. Pan oedd hi yn dechrau gwawrio dyma Iesu'n sefyll ar lan y llyn, ond doedd y disgyblion ddim yn gwybod mai Iesu oedd yno. Galwodd arnyn nhw, “Oes gynnoch chi bysgod ffrindiau?” “Nac oes,” medden nhw. Yna dwedodd Iesu, “Taflwch y rhwyd ar ochr dde'r cwch, a byddwch yn dal rhai.” Dyma nhw'n gwneud hynny, a chafodd cymaint o bysgod eu dal nes eu bod nhw'n methu tynnu'r rhwyd yn ôl i'r cwch. Dyma'r disgybl roedd Iesu'n ei garu'n fawr yn dweud wrth Pedr, “Yr Arglwydd ydy e!” A dyma Simon Pedr yn rhwymo dilledyn am ei ganol (achos doedd ganddo ddim byd amdano), yna neidio i'r dŵr. Daeth y disgyblion eraill ar ei ôl yn y cwch, gan lusgo'r rhwyd oedd yn llawn o bysgod ar eu holau. (Doedden nhw ond ryw 90 metr o'r lan.) Ar y lan roedd tân golosg a physgod yn coginio arno, ac ychydig fara. “Dewch a rhai o'r pysgod dych chi newydd eu dal,” meddai Iesu wrthyn nhw. Felly dyma Simon Pedr yn mynd i mewn i'r cwch a llusgo'r rhwyd i'r lan. Roedd hi'n llawn o bysgod mawrion, 153 ohonyn nhw, ond er hynny wnaeth y rhwyd ddim rhwygo. “Dewch i gael brecwast,” meddai Iesu. Doedd dim un o'r disgyblion yn meiddio gofyn iddo, “Pwy wyt ti?” — roedden nhw yn gwybod yn iawn mai'r Arglwydd oedd e. Yna dyma Iesu'n cymryd y bara a'i roi iddyn nhw, a gwneud yr un peth gyda'r pysgod. Dyma'r trydydd tro i Iesu adael i'w ddisgyblion ei weld ar ôl iddo ddod yn ôl yn fyw. Pan roedden nhw wedi gorffen bwyta, dyma Iesu'n troi at Simon Pedr a dweud, “Simon fab Ioan, wyt ti wir yn fy ngharu i fwy na'r rhain?” “Ydw, Arglwydd,” atebodd, “rwyt ti'n gwybod mod i'n dy garu di.” Dwedodd Iesu wrtho, “Gofala am fy ŵyn.” Yna gofynnodd Iesu eto, “Simon fab Ioan, wyt ti wir yn fy ngharu i?” Dwedodd eto, “Ydw, Arglwydd, rwyt ti'n gwybod mod i'n dy garu di.” Meddai Iesu, “Arwain fy nefaid.” Yna gofynnodd Iesu iddo'r drydedd waith, “Simon fab Ioan, wyt ti'n fy ngharu i?” Roedd Pedr yn ddigalon fod Iesu wedi gofyn eto'r drydedd waith, “Wyt ti'n fy ngharu i?” “Arglwydd,” meddai, “rwyt ti'n gwybod pob peth; rwyt ti'n gwybod mod i'n dy garu di.” Yna dwedodd Iesu, “Gofala am fy nefaid. Cred di fi, pan oeddet ti'n ifanc roeddet yn gwisgo ac yn mynd i ble bynnag oeddet ti eisiau; ond pan fyddi'n hen byddi'n estyn allan dy freichiau, a bydd rhywun arall yn dy rwymo di ac yn dy arwain i rywle dwyt ti ddim eisiau mynd.” (Dwedodd Iesu hyn i ddangos sut roedd Pedr yn mynd i anrhydeddu Duw trwy farw.) Yna dyma Iesu'n dweud wrtho, “Dilyn fi.” Dyma Pedr yn troi a gweld y disgybl roedd Iesu yn ei garu yn eu dilyn nhw. (Dyma'r un oedd wedi pwyso'n ôl at Iesu yn y swper a gofyn, “Arglwydd, pwy sy'n mynd i dy fradychu di?”) Pan welodd Pedr e, gofynnodd i Iesu, “Arglwydd, beth fydd yn digwydd iddo fe?” Atebodd Iesu, “Petawn i am iddo aros yn fyw nes i mi ddod yn ôl, beth ydy hynny i ti? Dilyn di fi.” A dyna pam aeth y stori ar led ymhlith y credinwyr fod y disgybl hwnnw ddim yn mynd i farw. Ond dim dweud ei fod e ddim yn mynd i farw wnaeth Iesu; dim ond dweud, “Petawn i am iddo aros yn fyw nes i mi ddod yn ôl, beth ydy hynny i ti?” Fi ydy'r disgybl hwnnw — yr un welodd hyn i gyd ac sydd wedi ysgrifennu am y cwbl. Ac mae popeth dw i'n ei ddweud yn wir. Gwnaeth Iesu lawer o bethau eraill hefyd. Petai hanes pob un ohonyn nhw yn cael ei gadw, dw i ddim yn meddwl y byddai'r byd i gyd yn gallu dal yr holl lyfrau fyddai'n cael eu hysgrifennu! Annwyl Theoffilws: Ysgrifennais yn fy llyfr cyntaf am y pethau aeth Iesu ati i'w gwneud a'u dysgu cyn iddo gael ei gymryd yn ôl i fyny i'r nefoedd. Cyn mynd dwedodd wrth yr apostolion beth oedd am iddyn nhw ei wneud yn nerth yr Ysbryd Glân. Am bron chwe wythnos ar ôl iddo gael ei groeshoelio dangosodd ei hun iddyn nhw dro ar ôl tro, a phrofi y tu hwnt i bob amheuaeth ei fod yn fyw. Roedd yn siarad â nhw am beth mae teyrnasiad Duw yn ei olygu. Un o'r troeon hynny pan oedd yn cael pryd o fwyd gyda nhw, dwedodd fel hyn: “Peidiwch gadael Jerwsalem nes byddwch wedi derbyn y rhodd mae fy Nhad wedi ei addo. Dych chi'n cofio fy mod wedi siarad am hyn o'r blaen. Roedd Ioan yn bedyddio gyda dŵr, ond mewn ychydig ddyddiau cewch chi'ch bedyddio gyda'r Ysbryd Glân.” Pan oedd y disgyblion yn cyfarfod gyda Iesu roedden nhw'n gofyn iddo o hyd, “Arglwydd, ai dyma pryd rwyt ti'n mynd i ryddhau Israel a'i gwneud yn wlad annibynnol unwaith eto?” Ateb Iesu oedd: “Duw sy'n penderfynu pethau felly. Does dim rhaid i chi wybod beth ydy'r amserlen mae Duw wedi ei threfnu. Ond bydd yr Ysbryd Glân yn disgyn arnoch chi, ac yn rhoi nerth i chi ddweud amdana i wrth bawb — yn Jerwsalem a Jwdea, yn Samaria, a drwy'r byd i gyd.” Yna ar ôl iddo ddweud hynny cafodd ei godi i fyny i'r awyr o flaen eu llygaid. Dyma gwmwl yn dod o'i gwmpas a diflannodd o'u golwg. Tra roedden nhw'n syllu i'r awyr yn edrych arno'n mynd, yn sydyn dyma ddau ddyn mewn dillad gwyn yn ymddangos wrth eu hymyl nhw, a dweud, “Chi Galileaid, beth dych chi'n ei wneud yma yn syllu i'r awyr? Mae Iesu wedi cael ei gymryd i'r nefoedd oddi wrthoch chi. Ond yn union yr un fath ag y gweloch e'n mynd bydd yn dod yn ôl eto.” Digwyddodd hyn i gyd ar Fynydd yr Olewydd oedd rhyw dri chwarter milltir i ffwrdd o'r ddinas. Dyma nhw'n cerdded yn ôl i Jerwsalem a mynd yn syth i'r ystafell honno i fyny'r grisiau yn y tŷ lle roedden nhw'n aros. Roedd Pedr yno, Ioan, Iago ac Andreas, Philip a Tomos, Bartholomeus a Mathew, Iago fab Alffeus, Simon y Selot a Jwdas fab Iago. Roedden nhw'n cyfarfod yno'n gyson i weddïo gyda'i gilydd, gyda Mair mam Iesu, a'i frodyr, a nifer o wragedd. Un tro roedd tua cant ac ugain yno yn y cyfarfod, a safodd Pedr yn y canol, a dweud: “Frodyr a chwiorydd, roedd rhaid i beth mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud ddigwydd. Yn bell yn ôl roedd y Brenin Dafydd, dan ddylanwad yr Ysbryd Glân, wedi sôn am Jwdas yr un wnaeth arwain y bobl at Iesu i'w arestio. Roedd wedi bod yn un ohonon ni ac wedi gwasanaethu gyda ni!” (Prynodd Jwdas faes gyda'r tâl gafodd am y brad. Yno syrthiodd i'w farwolaeth, a byrstiodd ei gorff yn agored nes bod ei berfedd yn y golwg. Daeth pawb yn Jerwsalem i wybod am beth ddigwyddodd, a dechreuodd pobl alw y lle yn eu hiaith nhw yn Aceldama, sef ‛Maes y Gwaed‛.) “Dyma mae llyfr y Salmau yn cyfeirio ato,” meddai Pedr, “ ‘Bydded ei le yn anial, heb neb yn byw yno.’ “Ac mae'n dweud hefyd, ‘Gad i rywun arall gymryd ei waith.’ “Felly mae'n rhaid i ni ddewis rhywun i gymryd ei le — un ohonoch chi oedd gyda ni pan oedd yr Arglwydd Iesu yma. Rhywun fuodd yno drwy'r adeg, o'r dechrau cyntaf pan gafodd ei fedyddio gan Ioan i'r diwedd pan gafodd Iesu ei gymryd i fyny i'r nefoedd. Rhaid i'r person, fel ni, fod yn dyst i'r ffaith fod Iesu wedi dod yn ôl yn fyw.” Dyma ddau enw yn cael eu cynnig: Joseff oedd un, sef Barsabas (sy'n cael ei alw'n Jwstus weithiau hefyd), a Mathïas oedd y llall. Felly dyma nhw'n gweddïo, “Arglwydd, rwyt ti'n nabod calon pawb. Dangos i ni pa un o'r ddau yma rwyt ti wedi ei ddewis i wasanaethu fel cynrychiolydd personol i Iesu yn lle Jwdas; mae hwnnw wedi'n gadael ni, ac wedi mynd lle mae'n haeddu.” Yna dyma nhw'n taflu coelbren, a syrthiodd o blaid Mathïas; felly cafodd e ei ddewis i fod yn gynrychiolydd personol i Iesu gyda'r unarddeg. Ar ddiwrnod dathlu Gŵyl y Pentecost roedd pawb gyda'i gilydd eto. Ac yn sydyn dyma nhw'n clywed sŵn o'r awyr, fel gwynt cryf yn chwythu drwy'r ystafell lle roedden nhw'n cyfarfod. Ac wedyn roedd fel petai rhywbeth tebyg i fflamau tân yn dod i lawr ac yn gorffwys ar ben pob un ohonyn nhw. Dyma pawb oedd yno yn cael eu llenwi â'r Ysbryd Glân ac yn dechrau siarad mewn ieithoedd eraill. Yr Ysbryd oedd yn eu galluogi nhw i wneud hynny. Bryd hynny roedd Iddewon crefyddol o wahanol wledydd wedi dod i aros yn Jerwsalem. Clywon nhw'r sŵn hefyd, ac roedd tyrfa fawr wedi casglu at ei gilydd i weld beth oedd yn digwydd. Roedden nhw wedi drysu, am fod pob un ohonyn nhw yn clywed ei iaith ei hun yn cael ei siarad. Roedd y peth yn syfrdanol! “Onid o Galilea mae'r bobl yma'n dod?” medden nhw. “Sut maen nhw'n gallu siarad ein hieithoedd ni?” (Roedd Parthiaid yno, a Mediaid, Elamitiaid, pobl o Mesopotamia, Jwdea a Capadocia, Pontus ac Asia, Phrygia, Pamffilia, yr Aifft, a'r rhan o Libia sydd wrth ymyl Cyrene; pobl oedd ar ymweliad o Rufain — rhai yn Iddewon ac eraill yn bobl oedd wedi troi at y grefydd Iddewig — a hefyd Cretiaid ac Arabiaid) “Maen nhw'n siarad ein hieithoedd ni, ac yn dweud am y pethau rhyfeddol mae Duw wedi eu gwneud!” Dyna lle roedden nhw yn sefyll yn syn, heb ddim clem beth oedd yn digwydd. “Beth sy'n mynd ymlaen?” medden nhw. Ond roedd rhai yno'n gwatwar a dweud, “Maen nhw wedi meddwi!” Dyma Pedr yn codi ar ei draed i annerch y dyrfa, a'r unarddeg arall wrth ei ymyl: “Arweinwyr, bobl Jwdea, a phawb arall sy'n aros yma yn Jerwsalem, gwrandwch yn ofalus — gwna i esbonio i chi beth sy'n digwydd. Dydy'r bobl yma ddim wedi meddwi, fel mae rhai ohonoch chi'n dweud. Mae'n rhy gynnar i hynny! Naw o'r gloch y bore ydy hi! “Na, beth sy'n digwydd ydy beth soniodd y proffwyd Joel amdano: ‘Mae Duw yn dweud: Yn y cyfnod olaf Bydda i'n tywallt fy ysbryd ar y bobl i gyd. Bydd eich meibion a'ch merched yn proffwydo, bydd dynion ifanc yn cael gweledigaethau, a dynion hŷn yn cael breuddwydion. Bryd hynny bydda i'n tywallt fy Ysbryd ar fy ngweision i gyd, yn ddynion a merched, a byddan nhw'n proffwydo. Bydd pethau rhyfeddol yn digwydd yn yr awyr ac arwyddion gwyrthiol yn digwydd ar y ddaear — gwaed a thân a mwg yn lledu ym mhobman. Bydd yr haul yn troi'n dywyll a'r lleuad yn mynd yn goch fel gwaed cyn i'r diwrnod mawr, rhyfeddol yna ddod, sef, Dydd yr Arglwydd. Bydd pawb sy'n galw ar enw'r Arglwydd yn cael eu hachub.’ “Bobl Israel, gwrandwch beth dw i'n ei ddweud: Dangosodd Duw i chi ei fod gyda Iesu o Nasareth — dych chi'n gwybod hynny'n iawn, am fod Duw wedi gwneud gwyrthiau rhyfeddol trwyddo, a phethau eraill oedd yn dangos pwy oedd e. Roedd Duw'n gwybod ac wedi trefnu ymlaen llaw beth fyddai'n digwydd iddo. Dyma chi, gyda help y Rhufeiniaid annuwiol yn ei ladd drwy ei hoelio a'i hongian ar groes. Ond dyma Duw yn ei godi yn ôl yn fyw a'i ollwng yn rhydd o grafangau marwolaeth. Roedd yn amhosib i farwolaeth ddal gafael ynddo! Dyna'n union ddwedodd y Brenin Dafydd: ‘Gwelais fod yr Arglwydd gyda mi bob amser. Am ei fod yn sefyll wrth fy ochr i fydd dim yn fy ysgwyd i. Felly mae nghalon i'n llawen a'm tafod yn gorfoleddu; mae fy nghorff yn byw mewn gobaith, am na fyddi di'n fy ngadael i gyda'r meirw, gadael i'r un sydd wedi cysegru ei hun i ti bydru yn y bedd. Rwyt wedi dangos y ffordd i fywyd i mi; bydd bod gyda thi yn fy llenwi â llawenydd.’ “Frodyr a chwiorydd, mae'n amlwg bod y Brenin Dafydd ddim yn sôn amdano'i hun. Buodd farw a chafodd ei gladdu ganrifoedd yn ôl, ac mae ei fedd yn dal gyda ni heddiw. Ond roedd Dafydd yn broffwyd, ac yn gwybod fod Duw wedi addo y byddai un o'i ddisgynyddion yn eistedd ar ei orsedd, sef y Meseia. Roedd yn sôn am rywbeth fyddai'n digwydd yn y dyfodol. Sôn am y Meseia'n dod yn ôl yn fyw roedd Dafydd pan ddwedodd na chafodd ei adael gyda'r meirw ac na fyddai ei gorff y pydru'n y bedd! A dyna ddigwyddodd! — mae Duw wedi codi Iesu yn ôl yn fyw, a dŷn ni'n lygad-dystion i'r ffaith! Bellach mae'n eistedd yn y sedd anrhydedd ar ochr dde Duw. Rhoddodd y Tad yr Ysbryd Glân oedd wedi ei addo iddo, er mwyn iddo ei dywallt arnon ni. Dyna dych chi wedi ei weld a'i glywed yn digwydd yma heddiw. “Meddyliwch am y peth! — chafodd y Brenin Dafydd mo'i godi i fyny i'r nefoedd, ac eto dwedodd hyn: ‘Dwedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd: “Eistedd yma yn y sedd anrhydedd nes i mi wneud i dy elynion blygu fel stôl i ti orffwys dy draed arni.”’ “Felly dw i am i Israel gyfan ddeall hyn: Mae Duw wedi gwneud yr Iesu wnaethoch chi ei groeshoelio yn Arglwydd, a Meseia.” Roedd pobl wedi eu hysgwyd i'r byw gan beth ddwedodd Pedr, a dyma nhw'n gofyn iddo ac i'r apostolion eraill, “Frodyr, beth ddylen ni wneud?” Dyma Pedr yn ateb, “Rhaid i chi droi cefn ar eich pechod, a chael eich bedyddio fel arwydd eich bod yn perthyn i Iesu y Meseia a bod Duw yn maddau eich pechodau chi. Wedyn byddwch chi'n derbyn yr Ysbryd Glân yn rhodd gan Dduw. Mae Duw wedi addo hyn i chi ac i'ch disgynyddion, ac i bobl sy'n byw yn bell i ffwrdd — pawb fydd yr Arglwydd ein Duw yn eu galw ato'i hun.” Aeth Pedr yn ei flaen i ddweud llawer iawn mwy wrthyn nhw. Roedd yn eu rhybuddio nhw ac yn apelio'n daer, “Achubwch eich hunain o afael y gymdeithas droëdig yma!” Dyma'r rhai wnaeth gredu beth oedd Pedr yn ei ddweud yn cael eu bedyddio — tua tair mil ohonyn nhw y diwrnod hwnnw! Roedden nhw'n dal ati o ddifri. Yn dilyn beth oedd yr apostolion yn ei ddysgu, yn rhannu popeth, yn bwyta a dathlu Swper yr Arglwydd ac yn gweddïo gyda'i gilydd. Roedd rhyw ymdeimlad o ryfeddod dwfn yn eu plith nhw. Roedd yr apostolion yn gwneud gwyrthiau rhyfeddol oedd yn dangos fod Duw gyda nhw. Roedd pawb oedd yn credu yn teimlo eu bod nhw'n un teulu, ac yn rhannu popeth gyda'i gilydd. Roedden nhw'n gwerthu eu heiddo er mwyn gallu helpu pwy bynnag oedd mewn angen. Roedden nhw'n dal ati i gyfarfod bob dydd yng nghwrt y deml, ac yn bwyta a dathlu Swper yr Arglwydd yn nhai ei gilydd. Roedden nhw'n moli Duw, ac roedd agwedd pobl tuag atyn nhw yn bositif iawn. Roedd mwy a mwy o bobl yn ymuno a nhw, ac yn cael eu hachub gan Dduw, bob dydd. Un diwrnod, am dri o'r gloch y p'nawn, roedd Pedr ac Ioan ar eu ffordd i'r deml i'r cyfarfod gweddi. Wrth y fynedfa sy'n cael ei galw ‛Y Fynedfa Hardd‛ roedd dyn oedd ddim wedi gallu cerdded erioed. Roedd yn cael ei gario yno bob dydd i gardota gan y bobl oedd yn mynd a dod i'r deml. Pan oedd Pedr ac Ioan yn pasio heibio gofynnodd iddyn nhw am arian. Dyma'r ddau yn edrych arno, a dyma Pedr yn dweud, “Edrych arnon ni.” Edrychodd y dyn arnyn nhw, gan feddwl ei fod yn mynd i gael rhywbeth ganddyn nhw. “Does gen i ddim arian i'w roi i ti,” meddai Pedr, “ond cei di beth sydd gen i i'w roi. Dw i'n dweud hyn gydag awdurdod Iesu y Meseia o Nasareth — cod ar dy draed a cherdda.” Yna gafaelodd yn llaw dde y dyn a'i helpu i godi ar ei draed. Cryfhaodd traed a choesau'r dyn yr eiliad honno, a dyma fe'n neidio ar ei draed a dechrau cerdded! Aeth i mewn i'r deml gyda nhw, yn neidio ac yn moli Duw. Roedd pawb yn ei weld yn cerdded ac yn moli Duw, ac yn sylweddoli mai hwn oedd y dyn oedd yn arfer eistedd i gardota wrth ‛Fynedfa Hardd‛ y deml. Roedden nhw wedi eu syfrdanu'n llwyr o achos beth oedd wedi digwydd iddo. Dyna lle roedd y cardotyn a'i freichiau am Pedr ac Ioan, a dyma'r bobl yn tyrru i mewn i Gyntedd Colofnog Solomon lle roedden nhw. Pan welodd Pedr y bobl o'u cwmpas, dwedodd wrthyn nhw: “Pam dych chi'n rhyfeddu at hyn, bobl Israel? Pam syllu arnon ni fel petai gynnon ni'r gallu ynon ni'n hunain i wneud i'r dyn yma gerdded, neu fel tasen ni'n rhyw bobl arbennig o dduwiol? Duw sydd wedi gwneud y peth — Duw Abraham, Isaac a Jacob; Duw ein cyndeidiau ni. Gwnaeth hyn i anrhydeddu ei was Iesu. Yr Iesu wnaethoch chi ei drosglwyddo i'r awdurdodau Rhufeinig i gael ei ladd. Yr un wnaethoch chi ei wrthod pan oedd Peilat yn fodlon ei ryddhau. Gwrthod yr un glân a chyfiawn, a gofyn iddo ryddhau llofrudd yn ei le. Ie, chi laddodd awdur bywyd, ond dyma Duw yn dod ag e yn ôl yn fyw! Dŷn ni'n dystion i'r ffaith! Iesu roddodd y nerth i'r dyn yma o'ch blaen chi gael ei iacháu. Enw Iesu, a'r ffaith ein bod ni'n credu ynddo sydd wedi ei wneud yn iach o flaen eich llygaid chi. “Frodyr a chwiorydd, dw i'n gwybod eich bod chi ddim yn sylweddoli beth oeddech yn ei wneud; ac mae'r un peth yn wir am eich arweinwyr chi. Ond dyma sut wnaeth Duw gyflawni beth oedd y proffwydi wedi dweud fyddai'n digwydd i'r Meseia, sef fod rhaid iddo ddioddef. Felly trowch gefn ar eich pechod, a throi at Dduw, a bydd eich pechodau chi'n cael eu maddau. Yna bydd yr Arglwydd yn anfon ei fendith, cyn iddo anfon y Meseia atoch unwaith eto, sef Iesu. Mae'n rhaid iddo aros yn y nefoedd nes daw'r amser pan fydd Duw yn gwneud popeth yn iawn am byth. Roedd wedi dweud hyn ymhell yn ôl drwy ei broffwydi. Dwedodd Moses, ‘Bydd yr Arglwydd eich Duw yn codi Proffwyd arall fel fi o'ch plith chi. Rhaid i chi wrando'n ofalus ar bopeth fydd yn ei ddweud wrthoch chi. Bydd pwy bynnag sy'n gwrthod gwrando ar y Proffwyd hwnnw yn cael ei dorri allan yn llwyr o blith pobl Dduw.’ “Yn wir, roedd pob un o'r proffwydi, o Samuel ymlaen, yn dweud ymlaen llaw am y cwbl fyddai'n digwydd yn ein dyddiau ni. Chi ydy'r plant sydd i etifeddu beth wnaeth y proffwydi ei addo a'r ymrwymiad wnaeth Duw i'ch cyndeidiau chi. Dyma ddwedodd wrth Abraham: ‘Trwy dy ddisgynyddion di bydd holl bobloedd y byd yn cael eu bendithio.’ Pan ddaeth Duw â'i was Iesu i'r golwg, cafodd ei anfon atoch chi'n gyntaf, i'ch bendithio chi drwy droi pob un ohonoch chi o'ch ffyrdd drwg.” Tra oedd Pedr ac Ioan wrthi'n siarad â'r bobl dyma'r offeiriaid yn dod draw atyn nhw gyda phennaeth gwarchodlu'r deml a rhai o'r Sadwceaid. Doedden nhw ddim yn hapus o gwbl fod Pedr ac Ioan yn dysgu'r bobl am Iesu ac yn dweud y byddai pobl sydd wedi marw yn dod yn ôl yn fyw. Felly dyma nhw'n arestio'r ddau a'u cadw yn y ddalfa dros nos am ei bod hi wedi mynd yn hwyr yn y dydd. Ond roedd llawer o'r bobl a glywodd beth roedden nhw'n ei ddweud wedi dod i gredu. Erbyn hyn roedd tua pum mil o ddynion yn credu yn Iesu, heb sôn am y gwragedd a'r plant! Y diwrnod wedyn dyma'r cyngor, sef yr arweinwyr a'r henuriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith, yn cyfarfod yn Jerwsalem. Roedd Annas, yr archoffeiriad, yno, hefyd Caiaffas, Ioan, Alecsander ac aelodau eraill o deulu'r archoffeiriad. Dyma nhw'n galw Pedr ac Ioan i ymddangos o'u blaenau a dechrau eu holi: “Pa bŵer ysbrydol, neu pa enw wnaethoch chi ei ddefnyddio i wneud hyn?” Dyma Pedr, wedi ei lenwi â'r Ysbryd Glân, yn eu hateb: “Arweinwyr a henuriaid y genedl. Ydyn ni'n cael ein galw i gyfrif yma heddiw am wneud tro da i ddyn oedd yn methu cerdded? Os dych chi eisiau gwybod sut cafodd y dyn ei iacháu, dweda i wrthoch chi. Dw i am i bobl Israel i gyd wybod! Enw Iesu y Meseia o Nasareth sydd wedi iacháu y dyn yma sy'n sefyll o'ch blaen chi. Yr Iesu wnaethoch chi ei groeshoelio, ond daeth Duw ag e yn ôl yn fyw. Iesu ydy'r un mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud fel hyn amdano: ‘Mae'r garreg wrthodwyd gynnoch chi'r adeiladwyr, wedi cael ei gwneud yn garreg sylfaen.’ Fe ydy'r unig un sy'n achub! Does neb arall yn unman sy'n gallu achub pobl.” Roedd aelodau'r cyngor yn rhyfeddu fod Pedr ac Ioan mor hyderus. Roedden nhw'n gweld mai dynion cyffredin di-addysg oedden nhw, ond yn ymwybodol hefyd fod y dynion yma wedi bod gyda Iesu. Gan fod y dyn oedd wedi cael ei iacháu yn sefyll yno o'u blaenau, doedd dim byd arall i'w ddweud. Felly dyma nhw'n eu hanfon allan o'r Sanhedrin er mwyn trafod y mater gyda'i gilydd. “Beth wnawn ni â'r dynion yma?” medden nhw. “Mae pawb yn Jerwsalem yn gwybod eu bod wedi cyflawni gwyrth anhygoel, a dŷn ni ddim yn gallu gwadu hynny. Ond mae'n rhaid stopio hyn rhag mynd ymhellach. Rhaid i ni eu rhybuddio nhw i beidio dysgu am yr Iesu yma byth eto.” Dyma nhw yn eu galw i ymddangos o'u blaenau unwaith eto, a dweud wrthyn nhw am beidio siarad am Iesu na dysgu amdano byth eto. Ond dyma Pedr ac Ioan yn ateb, “Beth ydych chi'n feddwl fyddai Duw am i ni ei wneud — gwrando arnoch chi, neu ufuddhau iddo fe? Allwn ni ddim stopio sôn am y pethau dŷn ni wedi eu gweld a'u clywed.” Dyma nhw'n eu bygwth eto, ond yna'n eu gollwng yn rhydd. Doedd dim modd eu cosbi nhw, am fod y bobl o'u plaid nhw. Roedd pawb yn moli Duw am yr hyn oedd wedi digwydd. Roedd hi'n wyrth anhygoel! Roedd y dyn dros bedwar deg oed a doedd e ddim wedi cerdded erioed o'r blaen! Ar ôl iddyn nhw gael eu rhyddhau, dyma Pedr ac Ioan yn mynd yn ôl at eu ffrindiau a dweud yr hanes i gyd, a beth oedd y prif offeiriaid a'r henuriaid wedi ei fygwth. Ar ôl clywed yr hanes, dyma nhw'n gweddïo gyda'i gilydd: “O Feistr Sofran,” medden nhw, “Ti sy'n rheoli'r cwbl, a thi ydy'r Un sydd wedi creu yr awyr a'r ddaear a'r môr a'r cwbl sydd ynddyn nhw. Ti ddwedodd drwy'r Ysbryd Glân yng ngeiriau dy was, y Brenin Dafydd: ‘Pam mae'r cenhedloedd mor gynddeiriog, a'r bobloedd yn gwastraffu eu hamser yn cynllwynio? Mae brenhinoedd daearol yn gwneud safiad a'r llywodraethwyr yn dod at ei gilydd i wrthwynebu'r Arglwydd, ac i wrthwynebu ei Eneiniog.’ “Dyna ddigwyddodd yn y ddinas yma! Daeth Herod Antipas a Pontius Peilat, pobl o Israel ac o genhedloedd eraill at ei gilydd yn erbyn Iesu, dy was sanctaidd wnest ti ei eneinio. Ond dim ond gwneud beth roeddet ti wedi ei drefnu i ddigwydd oedden nhw! Felly, Arglwydd, edrych arnyn nhw yn ein bygwth ni nawr. Rho'r gallu i dy weision i gyhoeddi dy neges di yn gwbl ddi-ofn. Dangos dy fod ti gyda ni drwy ddal ati i iacháu pobl, a rhoi awdurdod dy was sanctaidd Iesu i ni, i wneud gwyrthiau rhyfeddol.” Ar ôl iddyn nhw weddïo, dyma'r adeilad lle roedden nhw'n cyfarfod yn cael ei ysgwyd. Dyma nhw'n cael eu llenwi eto â'r Ysbryd Glân, ac roedden nhw'n cyhoeddi neges Duw yn gwbl ddi-ofn. Roedd undod go iawn ymhlith y credinwyr i gyd. Doedd neb yn dweud “Fi biau hwnna!.” Roedden nhw'n rhannu popeth gyda'i gilydd. Roedd cynrychiolwyr Iesu yn cael rhyw nerth rhyfedd i dystio'n glir fod yr Arglwydd Iesu wedi dod yn ôl yn fyw, ac roedden nhw i gyd yn teimlo fod Duw mor dda tuag atyn nhw. Doedd neb ohonyn nhw mewn angen, am fod pobl oedd yn berchen tir neu dai yn eu gwerthu, ac yn rhoi'r arian i'r apostolion i'w rannu i bwy bynnag oedd mewn angen. Er enghraifft, Joseff, y dyn roedd yr apostolion yn ei alw'n Barnabas (sy'n golygu ‛yr anogwr‛). Iddew o dras llwyth Lefi yn byw yn Cyprus. Gwerthodd hwnnw dir oedd ganddo a rhoi'r arian i'r apostolion. Roedd dyn arall o'r enw Ananias, a'i wraig Saffeira, wedi gwerthu peth o'u heiddo. Ond dyma Ananias yn cadw peth o'r arian iddo'i hun a mynd â'r gweddill i'r apostolion gan honni mai dyna'r cwbl oedd wedi ei gael. Roedd e a'i wraig wedi cytuno mai dyna fydden nhw'n ei wneud. Pan ddaeth at yr apostolion dyma Pedr yn dweud wrtho, “Ananias, pam rwyt ti wedi gadael i Satan gael gafael ynot ti? Rwyt ti wedi dweud celwydd wrth yr Ysbryd Glân trwy gadw peth o'r arian gest ti am y tir i ti dy hun! Ti oedd biau'r tir, ac roedd gen ti hawl i wneud beth fynnet ti â'r arian. Beth wnaeth i ti feddwl gwneud y fath beth? Dim wrthon ni rwyt ti wedi dweud celwydd, ond wrth Dduw!” Pan glywodd Ananias yr hyn ddwedodd Pedr, syrthiodd yn farw yn y fan a'r lle. Roedd pawb glywodd beth ddigwyddodd wedi dychryn am eu bywydau. Yna daeth dynion ifanc a lapio'r corff cyn ei gario allan i'w gladdu. Rhyw dair awr yn ddiweddarach dyma'i wraig yn dod i'r golwg. Doedd hi'n gwybod dim byd am yr hyn roedd wedi digwydd. Felly, dyma Pedr yn gofyn iddi, “Dywed wrtho i, ai dyma faint o arian gest ti ac Ananias am y tir wnaethoch chi ei werthu?” “Ie,” meddai hi, “dyna'n union faint gawson ni.” Ac meddai Pedr, “Beth wnaeth i'r ddau ohonoch chi gytuno i roi Ysbryd yr Arglwydd ar brawf? Gwranda! Mae'r dynion ifanc wnaeth gladdu dy ŵr di tu allan i'r drws, a byddan nhw'n dy gario di allan yr un fath.” A dyma hithau yn disgyn ar lawr yn farw yn y fan a'r lle. Daeth y dynion ifanc i mewn, gweld ei bod hi'n farw, a'i chario hithau allan i'w chladdu wrth ymyl ei gŵr. Roedd yr eglwys i gyd, a phawb arall glywodd am y peth, wedi dychryn am eu bywydau. Roedd yr apostolion yn gwneud llawer o wyrthiau rhyfeddol ymhlith y bobl — gwyrthiau oedd yn dangos fod Duw gyda nhw. Byddai'r credinwyr i gyd yn cyfarfod gyda'i gilydd yng Nghyntedd Colofnog Solomon yn y deml. Fyddai neb arall yn meiddio ymuno gyda nhw, er bod gan bobl barch mawr tuag atyn nhw. Ac eto roedd mwy a mwy o bobl yn dod i gredu yn yr Arglwydd — yn ddynion a merched. Roedd pobl yn dod â'r cleifion allan i'r stryd ar welyau a matresi yn y gobaith y byddai o leia cysgod Pedr yn disgyn ar rai ohonyn nhw wrth iddo gerdded heibio. Roedd tyrfaoedd hefyd yn dod o'r trefi o gwmpas Jerwsalem gyda phobl oedd yn sâl neu'n cael eu poenydio gan ysbrydion drwg, ac roedd pob un ohonyn nhw yn cael eu hiacháu. Roedd yr Archoffeiriad a'i gyd-Sadwceaid yn genfigennus. Felly dyma nhw'n arestio'r apostolion a'u rhoi yn y carchar. Ond yn ystod y nos dyma angel yr Arglwydd yn dod ac yn agor drysau'r carchar a'u gollwng yn rhydd. Dwedodd wrthyn nhw, “Ewch i'r deml, sefyll yno a dweud wrth bobl am y bywyd newydd yma.” Felly ar doriad gwawr dyma nhw'n mynd i'r deml a gwneud beth ddwedodd yr angel wrthyn nhw, a dechrau dysgu'r bobl. Pan gyrhaeddodd yr archoffeiriad a'i swyddogion ar gyfer y cyfarfod o'r Sanhedrin — sef cyfarfod llawn o arweinwyr Israel — dyma nhw'n anfon dynion i nôl yr apostolion o'r carchar. Ond pan gyrhaeddodd rheiny'r celloedd, doedd yr apostolion ddim yno! Felly dyma nhw'n mynd yn ôl at y Sanhedrin a dweud, “Pan aethon ni i'r carchar roedd wedi ei gloi yn ddiogel, ac roedd swyddogion yno yn gwarchod y drysau; ond pan agoron nhw'r gell i ni, doedd neb i mewn yno!” Pan glywodd y prif offeiriaid a phennaeth gwarchodlu'r deml hyn, roedden nhw wedi drysu'n lân, ac yn meddwl “Beth nesa!” Dyna pryd daeth rhywun i mewn a dweud, “Dych chi'n gwybod beth! — mae'r dynion wnaethoch chi eu rhoi yn y carchar yn sefyll yn y deml yn dysgu'r bobl!” Felly dyma'r capten a'i swyddogion yn mynd i arestio'r apostolion eto, ond heb ddefnyddio trais. Roedd ganddyn nhw ofn i'r bobl gynhyrfu a dechrau taflu cerrig atyn nhw a'u lladd. Dyma nhw'n dod â'r apostolion o flaen y Sanhedrin i gael eu croesholi gan yr archoffeiriad. “Cawsoch chi orchymyn clir i beidio sôn am y dyn yna,” meddai, “ond dych chi wedi bod yn dweud wrth bawb yn Jerwsalem amdano, ac yn rhoi'r bai arnon ni am ei ladd!” Atebodd Pedr a'r apostolion eraill: “Mae'n rhaid i ni ufuddhau i Dduw, dim i ddynion meidrol fel chi! Duw ein cyndeidiau ni ddaeth â Iesu yn ôl yn fyw ar ôl i chi ei ladd drwy ei hoelio ar bren! Ac mae Duw wedi ei osod i eistedd yn y sedd anrhydedd yn y nefoedd. Iesu ydy'r Tywysog a'r Achubwr sy'n rhoi cyfle i Israel droi'n ôl at Dduw a chael eu pechodau wedi eu maddau. Dŷn ni'n gwybod fod hyn i gyd yn wir, ac mae'r Ysbryd Glân hefyd yn tystio i'r ffaith gyda ni. Dyma'r Ysbryd mae Duw yn ei roi i bawb sy'n ufuddhau iddo.” Pan glywon nhw beth ddwedodd yr apostolion roedden nhw'n gynddeiriog. Roedden nhw eisiau eu lladd nhw! Ond dyma Pharisead o'r enw Gamaliel yn sefyll ar ei draed (Roedd Gamaliel yn arbenigwr yn y Gyfraith, ac yn ddyn oedd gan bawb barch mawr ato). Rhoddodd orchymyn i'r apostolion gael eu cymryd allan o'r cyfarfod am ychydig, ac yna dwedodd hyn: “Ddynion. Arweinwyr Israel. Rhaid meddwl yn ofalus cyn penderfynu beth i'w wneud â'r dynion yma. Ydych chi'n cofio Theudas? Cododd hwnnw beth amser yn ôl, yn honni ei fod yn arweinydd mawr. Roedd tua pedwar cant o ddynion yn ei ddilyn, ond cafodd ei ladd a cafodd ei ddilynwyr eu gwasgaru. Wnaeth dim byd ddod o'r peth. Wedyn, cawsoch chi Jwdas y Galilead yn arwain gwrthryfel adeg y cyfrifiad. Cafodd yntau ei ladd, a cafodd ei ddilynwyr e eu gyrru ar chwâl. Felly, dyma fyddwn i yn ei gynghori yn yr achos sydd o'n blaenau ni: Peidiwch gwneud dim gyda nhw. Gadewch lonydd iddyn nhw. Chwalu wnân nhw os mai dim ond syniadau pobl sydd y tu ôl i'r cwbl. Ond os oes gan Dduw rywbeth i'w wneud a'r peth, wnewch chi byth eu stopio nhw; a chewch eich hunain yn brwydro yn erbyn Duw.” Llwyddodd Gamaliel i'w perswadio nhw. Felly dyma nhw'n galw'r apostolion yn ôl i mewn ac yn gorchymyn iddyn nhw gael eu curo. Ar ôl eu rhybuddio nhw eto i beidio sôn am Iesu, dyma nhw'n eu gollwng yn rhydd. Roedd yr apostolion yn llawen wrth adael y Sanhedrin. Roedden nhw'n ei chyfri hi'n fraint eu bod wedi cael eu cam-drin am ddilyn Iesu. Bob dydd, yn y deml ac yn eu tai, roedden nhw'n dal ati i ddysgu'r bobl a chyhoeddi'r newyddion da mai Iesu ydy'r Meseia. Ond wrth i nifer y bobl oedd yn credu dyfu, cododd problemau. Roedd y rhai oedd o gefndir Groegaidd yn cwyno am y rhai oedd yn dod o gefndir Hebreig. Roedden nhw'n teimlo fod eu gweddwon nhw yn cael eu hesgeuluso gan y rhai oedd yn gyfrifol am ddosbarthu bwyd bob dydd. Felly dyma'r Deuddeg yn galw'r credinwyr i gyd at ei gilydd. “Cyhoeddi a dysgu pobl beth ydy neges Duw ydy'n gwaith ni, dim trefnu'r ffordd mae bwyd yn cael ei ddosbarthu” medden nhw. “Felly frodyr a chwiorydd, dewiswch saith dyn o'ch plith — dynion mae pawb yn eu parchu ac yn gwybod eu bod yn llawn o'r Ysbryd Glân — dynion sy'n gallu gwneud y gwaith. Dŷn ni'n mynd i roi'r cyfrifoldeb yma iddyn nhw. Wedyn byddwn ni'n gallu rhoi'n sylw i gyd i weddi a dysgu pobl beth ydy neges Duw.” Roedd y syniad yma'n plesio pawb, a dyma nhw'n dewis y rhain: Steffan (dyn oedd yn credu'n gryf ac yn llawn o'r Ysbryd Glân), a Philip, Procorws, Nicanor, Timon, Parmenas, a Nicolas o Antiochia (oedd ddim yn Iddew, ond wedi troi at y grefydd Iddewig, a bellach yn dilyn y Meseia). Dyma nhw'n eu cyflwyno i'r apostolion, ac ar ôl gweddïo dyma'r apostolion yn eu comisiynu nhw ar gyfer y gwaith drwy roi eu dwylo arnyn nhw. Roedd neges Duw yn mynd ar led, a nifer y disgyblion yn Jerwsalem yn tyfu'n gyflym. Roedd nifer fawr o'r offeiriaid Iddewig yn dilyn y Meseia hefyd. Roedd Steffan yn ddyn oedd â ffafr Duw arno a nerth Duw ar waith yn ei fywyd. Roedd yn gwneud gwyrthiau rhyfeddol ymhlith y bobl oedd yn dangos fod Duw gydag e. Ond dyma rhai o aelodau'r synagog oedd yn cael ei galw'n ‛Synagog y Dynion Rhydd‛ yn codi yn ei erbyn. Iddewon o Cyrene ac Alecsandria oedden nhw, yn ogystal â rhai o Cilicia ac o dalaith Asia. Dyma nhw'n dechrau dadlau gyda Steffan, ond doedden nhw ddim yn gallu ateb ei ddadleuon. Roedd mor ddoeth, ac roedd yr Ysbryd Glân yn amlwg yn siarad trwyddo. Felly dyma nhw'n defnyddio tacteg wahanol, ac yn perswadio rhyw ddynion i ddweud celwydd amdano: “Dŷn ni wedi clywed Steffan yn dweud pethau cableddus am Moses ac am Dduw.” Wrth gwrs achosodd hyn stŵr ymhlith y bobl a'r henuriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith. Dyma nhw'n arestio Steffan ac roedd rhaid iddo ymddangos o flaen y Sanhedrin. Dyma rai yn dweud celwydd wrth roi tystiolaeth ar lw: “Mae'r dyn yma o hyd ac o hyd yn dweud pethau yn erbyn y deml ac yn erbyn Cyfraith Moses. Dŷn ni wedi ei glywed yn dweud y bydd yr Iesu yna o Nasareth yn dinistrio'r deml yma ac yn newid y traddodiadau wnaeth Moses eu rhoi i ni.” Dyma pob un o aelodau'r Sanhedrin yn troi i syllu ar Steffan. Roedd ei wyneb yn disgleirio fel wyneb angel. Dyma'r archoffeiriad yn gofyn iddo, “Ydy'r cyhuddiadau yma'n wir?” A dyma oedd ateb Steffan: “Frodyr, ac arweinwyr parchus, gwrandwch arna i. Roedd y Duw gogoneddus wedi ymddangos i Abraham pan oedd e'n dal i fyw yn Mesopotamia — cyn iddo symud i Haran hyd yn oed. ‘Dw i am i ti adael dy wlad a'th bobl,’ meddai Duw wrtho, ‘a mynd i ble bydda i'n ei ddangos i ti.’ “Felly gadawodd wlad y Caldeaid, a setlo i lawr yn Haran. Wedyn, ar ôl i'w dad farw, dyma Duw yn ei arwain ymlaen i'r wlad yma dych chi'n byw ynddi nawr. Chafodd Abraham ei hun ddim tir yma — dim o gwbl! Ond roedd Duw wedi addo iddo y byddai'r wlad i gyd yn perthyn iddo fe a'i ddisgynyddion ryw ddydd — a hynny pan oedd gan Abraham ddim plentyn hyd yn oed! Dyma ddwedodd Duw: ‘Bydd rhaid i dy ddisgynyddion di fyw fel ffoaduriaid mewn gwlad arall. Byddan nhw'n gaethweision yno, ac yn cael eu cam-drin am bedwar can mlynedd. Ond bydda i'n cosbi'r genedl fydd wedi eu cam-drin nhw’ meddai Duw, ‘a chân nhw adael y wlad honno a dod i'm haddoli i yn y fan yma.’ Dyna pryd wnaeth Duw ddweud wrth Abraham mai defod enwaediad oedd i fod yn arwydd o'r ymrwymiad yma. Felly pan gafodd Abraham fab, sef Isaac, dyma fe'n enwaedu y plentyn yn wyth diwrnod oed. Yna Isaac oedd tad Jacob, a Jacob oedd tad y deuddeg patriarch roddodd eu henwau i ddeuddeg llwyth Israel. “Roedd y dynion hynny (meibion Jacob) yn genfigennus o'u brawd Joseff, dyma nhw'n ei werthu fel caethwas i'r Aifft. Ond roedd Duw gyda Joseff ac yn ei achub o bob creisis. Roedd Duw wedi gwneud Joseff yn ddyn doeth iawn. Daeth i ennill parch y Pharo, brenin yr Aifft, a dyma'r Pharo yn ei benodi yn llywodraethwr ar y wlad gyfan, a'i wneud yn gyfrifol am redeg y palas brenhinol. “Ond bryd hynny dyma newyn yn taro'r Aifft i gyd a gwlad Canaan. Roedd ein pobl ni'n dioddef yn ofnadwy am fod dim bwyd yn unman. Clywodd Jacob fod gwenith ar werth yn yr Aifft, ac anfonodd ei feibion (sef ein cyndeidiau ni) yno i brynu bwyd. Pan aethon nhw yno yr ail waith, dwedodd Joseff pwy oedd wrth ei frodyr. Dyna pryd ddaeth y Pharo i wybod am deulu Joseff. Felly dyma Joseff yn cael Jacob a'r teulu cyfan (saith deg pump o bobl i gyd) i fynd i lawr i'r Aifft. Yn yr Aifft y buodd Jacob farw — a'i feibion, ein cyndeidiau ni. Ond cafodd eu cyrff eu cario yn ôl i Sechem a'u claddu yn y tir oedd Abraham wedi ei brynu gan feibion Hamor. “Wrth i'r amser agosáu i Dduw wneud yr hyn oedd wedi ei addo i Abraham, roedd nifer ein pobl ni yn yr Aifft wedi tyfu'n fawr. Erbyn hynny, roedd brenin newydd yn yr Aifft — un oedd yn gwybod dim byd am Joseff. Buodd hwnnw'n gas iawn i'n pobl ni, a'u gorfodi nhw i adael i'w babis newydd eu geni farw. “Dyna pryd cafodd Moses ei eni. Doedd hwn ddim yn blentyn cyffredin! Roedd ei rieni wedi ei fagu o'r golwg yn eu cartref am dri mis. Ond pan gafodd ei adael allan, dyma ferch y Pharo yn dod o hyd iddo, ac yn ei gymryd a'i fagu fel petai'n blentyn iddi hi ei hun. Felly cafodd Moses yr addysg orau yn yr Aifft; roedd yn arweinydd galluog iawn, ac yn llwyddo beth bynnag oedd e'n wneud. “Pan oedd yn bedwar deg mlwydd oed, penderfynodd fynd i ymweld â'i bobl ei hun, sef pobl Israel. Dyna pryd y gwelodd un ohonyn nhw yn cael ei gam-drin gan ryw Eifftiwr. Ymyrrodd Moses i'w amddiffyn a lladd yr Eifftiwr. Roedd yn rhyw obeithio y byddai ei bobl yn dod i weld fod Duw wedi ei anfon i'w hachub nhw, ond wnaethon nhw ddim. Y diwrnod wedyn gwelodd ddau o bobl Israel yn ymladd â'i gilydd. Ymyrrodd eto, a cheisio eu cael i gymodi. ‘Dych chi'n frodyr i'ch gilydd ffrindiau! Pam dych chi'n gwneud hyn?’ “Ond dyma'r dyn oedd ar fai yn gwthio Moses o'r ffordd ac yn dweud wrtho, ‘Pwy sydd wedi rhoi'r hawl i ti ein rheoli ni a'n barnu ni? Wyt ti am fy lladd i fel gwnest ti ladd yr Eifftiwr yna ddoe?’ Clywed hynny wnaeth i Moses ddianc o'r wlad. Aeth i Midian. Er ei fod yn ddieithryn yno, setlodd i lawr a cafodd dau fab eu geni iddo. “Bedwar deg o flynyddoedd yn ddiweddarach, yn yr anialwch wrth ymyl Mynydd Sinai, dyma angel yn ymddangos i Moses yng nghanol fflamau perth oedd ar dân. Doedd ganddo ddim syniad beth oedd yn ei weld. Wrth gamu ymlaen i weld yn agosach, clywodd lais yr Arglwydd yn dweud, ‘Duw dy gyndeidiau di ydw i, Duw Abraham, Isaac a Jacob.’ Erbyn hyn roedd Moses yn crynu drwyddo gan ofn, a ddim yn meiddio edrych ar yr hyn oedd o'i flaen. Ond dyma'r Arglwydd yn dweud wrtho, ‘Tynna dy sandalau; rwyt ti'n sefyll ar dir cysegredig. Dw i wedi gweld y ffordd mae fy mhobl i'n cael eu cam-drin yn yr Aifft. Dw i wedi eu clywed nhw'n griddfan a dw i'n mynd i'w rhyddhau nhw. Tyrd, felly; dw i'n mynd i dy anfon di yn ôl i'r Aifft.’ “Moses oedd yr union ddyn oedden nhw wedi ei wrthod pan wnaethon nhw ddweud, ‘Pwy sydd wedi rhoi'r hawl i ti ein rheoli ni a'n barnu ni?’ Drwy gyfrwng yr angel a welodd yn y berth cafodd ei anfon gan Dduw ei hun i'w harwain nhw a'u hachub nhw! Drwy wneud gwyrthiau rhyfeddol oedd yn dangos fod Duw gydag e, arweiniodd y bobl allan o'r Aifft, drwy'r Môr Coch ac yn yr anialwch am bedwar deg o flynyddoedd. “Moses ddwedodd wrth bobl Israel, ‘Bydd Duw yn codi proffwyd arall fel fi o'ch plith chi.’ Roedd yn arwain y bobl pan oedden nhw gyda'i gilydd yn yr anialwch. Gyda Moses y siaradodd yr angel ar Fynydd Sinai. Derbyniodd neges fywiol i'w phasio ymlaen i ni. Ac eto gwrthododd ein hynafiaid wrando arno! Roedden nhw eisiau mynd yn ôl i'r Aifft! Dyma nhw'n dweud wrth Aaron, ‘Gwna dduwiau i ni i'n harwain ni. Pwy ŵyr beth sydd wedi digwydd i'r Moses hwnnw wnaeth ein harwain ni allan o'r Aifft.’ Felly dyma nhw'n gwneud eilun ar ffurf llo, aberthu iddo a chynnal parti i anrhydeddu rhywbeth roedden nhw wedi ei lunio â'i dwylo eu hunain! Trodd Duw ei gefn arnyn nhw a gadael iddyn nhw fwrw ymlaen i addoli'r sêr a'r planedau yn yr awyr. Dyma'n union beth sydd wedi ei ysgrifennu yn llyfr y proffwydi: ‘Wnaethoch chi gyflwyno aberthau ac offrymau i mi yn ystod y pedwar deg mlynedd yn yr anialwch, O bobl Israel? Na! Mae'n well gynnoch chi anrhydeddu allor Molech a Reffan, duw'r sêr, a'r eilunod wnaethoch chi i'w haddoli nhw. Felly dw i'n mynd i'ch anfon chi'n gaethion ymhell i ffwrdd i Babilon.’ “Roedd ‛pabell y dystiolaeth‛ gyda'n hynafiaid ni yn yr anialwch. Roedd wedi cael ei gwneud yn union yn ôl y patrwm oedd Duw wedi ei ddangos i Moses. Pan oedd Josua yn arwain y bobl i gymryd y tir oddi ar y cenhedloedd gafodd eu bwrw allan o'r wlad yma gan Dduw, dyma nhw'n mynd â'r babell gyda nhw. Ac roedd hi'n dal gyda nhw hyd cyfnod y Brenin Dafydd. “Roedd Dafydd wedi profi ffafr Duw, a gofynnodd am y fraint o gael codi adeilad parhaol i Dduw Jacob. Ond Solomon oedd yr un wnaeth adeiladu'r deml. Ond wedyn, dydy'r Duw Goruchaf ddim yn byw mewn adeiladau wedi eu codi gan ddynion! Yn union fel mae'r proffwyd yn dweud: ‘Y nefoedd ydy fy ngorsedd i, a'r ddaear yn stôl i mi orffwys fy nhraed arni. Allech chi adeiladu teml fel yna i mi? meddai'r Arglwydd. Ble dych chi'n mynd i'w roi i mi i orffwys? Onid fi sydd wedi creu popeth sy'n bodoli?’ “Dych chi mor benstiff! Dych chi fel y paganiaid — yn ystyfnig a byddar! Dych chi'n union yr un fath â'ch hynafiaid — byth yn gwrando ar yr Ysbryd Glân! Fuodd yna un proffwyd gafodd mo'i erlid gan eich cyndeidiau? Nhw lofruddiodd hyd yn oed y rhai broffwydodd fod yr Un Cyfiawn yn dod — sef y Meseia. A dych chi nawr wedi ei fradychu a'i ladd e! Dych chi wedi gwrthod ufuddhau i Gyfraith Duw, a chithau wedi ei derbyn hi gan angylion!” Roedd yr hyn ddwedodd Steffan wedi gwneud yr arweinwyr Iddewig yn wyllt gandryll. Dyma nhw'n troi'n fygythiol, ond roedd Steffan yn llawn o'r Ysbryd Glân, ac wrth edrych i fyny gwelodd ogoniant Duw a Iesu yn sefyll ar ei ochr dde. “Edrychwch!” meddai, “dw i'n gweld y nefoedd ar agor! Mae Mab y Dyn wedi ei anrhydeddu — mae'n sefyll ar ochr dde Duw.” Dyma nhw'n gwrthod gwrando ar ddim mwy, a chan weiddi nerth eu pennau dyma nhw'n rhuthro ymlaen i ymosod arno. Ar ôl ei lusgo allan o'r ddinas dyma nhw'n dechrau taflu cerrig ato i'w labyddio i farwolaeth. Roedd y rhai oedd wedi tystio yn ei erbyn wedi tynnu eu mentyll, a'u rhoi yng ngofal dyn ifanc o'r enw Saul. Wrth iddyn nhw daflu cerrig ato i'w ladd, roedd Steffan yn gweddïo, “Arglwydd Iesu, derbyn fy ysbryd i.” Yna syrthiodd ar ei liniau a gweiddi'n uchel, “Arglwydd, paid dal nhw'n gyfrifol am y pechod yma.” Ac ar ôl dweud hynny, buodd farw. Roedd Saul yno, yn cytuno'n llwyr y dylai Steffan farw. O'r diwrnod hwnnw ymlaen dechreuodd yr eglwys yn Jerwsalem gael ei herlid yn ffyrnig, a dyma pawb ond yr apostolion yn gwasgaru drwy Jwdea a Samaria. Cafodd Steffan ei gladdu gan ddynion duwiol fu'n galaru'n fawr ar ei ôl. Ond dyma Saul yn mynd ati i ddinistrio'r eglwys. Roedd yn mynd o un tŷ i'r llall ac yn arestio dynion a merched fel ei gilydd a'u rhoi yn y carchar. Roedd y credinwyr oedd wedi eu gwasgaru yn dweud wrth bobl beth oedd y newyddion da ble bynnag oedden nhw'n mynd. Er enghraifft, aeth Philip i dref yn Samaria a chyhoeddi'r neges am y Meseia yno. Roedd tyrfaoedd o bobl yn dod i wrando ar beth roedd Philip yn ei ddweud, wrth weld yr arwyddion gwyrthiol oedd e'n eu gwneud. Roedd ysbrydion drwg yn dod allan o lawer o bobl gan sgrechian, ac roedd llawer o bobl oedd wedi eu parlysu neu'n gloff yn cael iachâd. Felly roedd llawenydd anhygoel yn y dre. Yn y dre honno roedd dewin o'r enw Simon wedi bod yn ymarfer ei swynion ers blynyddoedd, ac yn gwneud pethau oedd yn rhyfeddu pawb yn Samaria. Roedd yn ystyried ei hun yn rhywun pwysig dros ben. Roedd pawb, o'r ifancaf i'r hynaf, yn sôn amdano ac yn dweud fod nerth y duw roedden nhw'n ei alw ‛Yr Un Pwerus‛ ar waith ynddo. Roedd ganddo lawer o ddilynwyr, a phobl wedi cael eu syfrdanu ers blynyddoedd lawer gan ei ddewiniaeth. Ond nawr, dyma'r bobl yn dod i gredu'r newyddion da oedd Philip yn ei gyhoeddi am Dduw yn teyrnasu ac am enw Iesu y Meseia. Cafodd nifer fawr o ddynion a merched eu bedyddio. Yna credodd Simon ei hun a chael ei fedyddio. Ac roedd yn dilyn Philip i bobman, wedi ei syfrdanu'n llwyr gan y gwyrthiau rhyfeddol oedd yn dangos mor glir fod Duw gyda Philip. Pan glywodd yr apostolion yn Jerwsalem fod pobl yn Samaria wedi credu'r neges am Dduw, dyma nhw'n anfon Pedr ac Ioan yno. Yn syth ar ôl cyrraedd, dyma nhw'n gweddïo dros y credinwyr newydd yma — ar iddyn nhw dderbyn yr Ysbryd Glân, achos doedd yr Ysbryd Glân ddim wedi disgyn arnyn nhw eto. Y cwbl oedd wedi digwydd oedd eu bod wedi cael eu bedyddio fel arwydd eu bod nhw'n perthyn i'r Arglwydd Iesu. Pan osododd Pedr ac Ioan eu dwylo arnyn nhw, dyma nhw'n derbyn yr Ysbryd Glân. Pan welodd Simon fod yr Ysbryd Glân yn dod pan roedd yr apostolion yn gosod eu dwylo ar bobl, cynigodd dalu iddyn nhw am y gallu i wneud yr un peth. “Rhowch y gallu yma i minnau hefyd, er mwyn i bawb fydda i yn gosod fy nwylo arnyn nhw dderbyn yr Ysbryd Glân,” meddai. Ond dyma Pedr yn ei ateb, “Gad i dy arian bydru gyda ti! Rhag dy gywilydd di am feddwl y gelli di brynu rhodd Duw! Does gen ti ddim rhan yn y gwaith — dydy dy berthynas di gyda Duw ddim yn iawn. Tro dy gefn ar y drygioni yma a gweddïa ar yr Arglwydd. Falle y gwnaiff faddau i ti am feddwl y fath beth. Rwyt ti'n ddyn chwerw, ac mae pechod wedi dy ddal di yn ei grafangau.” Meddai Simon, “Gweddïa ar yr Arglwydd drosto i, fel na fydd beth rwyt ti'n ei ddweud yn digwydd i mi.” Ar ôl tystiolaethu a chyhoeddi neges Duw yn Samaria, dyma Pedr ac Ioan yn mynd yn ôl i Jerwsalem. Ond ar eu ffordd dyma nhw'n galw yn nifer o bentrefi'r Samariaid i gyhoeddi'r newyddion da. Roedd Philip wedi cael neges gan angel yr Arglwydd yn dweud wrtho: “Dos i lawr i'r de i ffordd yr anialwch, sef y ffordd o Jerwsalem i Gasa.” Aeth Philip ar unwaith, a phan oedd ar ei ffordd dyma fe'n dod ar draws eunuch oedd yn swyddog pwysig yn llywodraeth y Candace, sef Brenhines Ethiopia — fe oedd pennaeth ei thrysorlys. Roedd wedi bod yn Jerwsalem yn addoli Duw, ac roedd yn darllen llyfr proffwydoliaeth Eseia wrth deithio yn ei gerbyd ar ei ffordd adre. Dyma'r Ysbryd Glân yn dweud wrth Philip, “Dos a rheda wrth ymyl y cerbyd acw.” Felly dyma Philip yn rhedeg at y cerbyd, ac roedd yn clywed y dyn yn darllen o lyfr proffwydoliaeth Eseia. Felly gofynnodd Philip iddo, “Wyt ti'n deall beth rwyt ti'n ei ddarllen?” “Sut alla i ddeall heb i rywun ei esbonio i mi?” meddai'r dyn. Felly gofynnodd i Philip fynd i eistedd yn y cerbyd gydag e. Dyma'r adran o'r ysgrifau sanctaidd roedd yr eunuch yn ei ddarllen: “Cafodd ei arwain fel dafad i'r lladd-dy. Yn union fel mae oen yn dawel pan mae'n cael ei gneifio, wnaeth e ddweud dim. Cafodd ei gam-drin heb achos llys teg. Sut mae'n bosib sôn am ddisgynyddion iddo? Cafodd ei dorri i ffwrdd o dir y byw.” A dyma'r eunuch yn gofyn i Philip, “Dywed wrtho i, ydy'r proffwyd yn sôn amdano'i hun neu am rywun arall?” Felly dyma Philip yn dechrau gyda'r rhan honno o'r ysgrifau sanctaidd, ac yn mynd ati i ddweud y newyddion da am Iesu wrtho. Wrth fynd yn eu blaenau, dyma nhw'n dod at le lle roedd dŵr. “Edrych,” meddai'r eunuch, “mae dŵr yn y fan yma. Oes yna unrhyw reswm pam ddylwn i ddim cael fy medyddio?” *** Rhoddodd orchymyn i'r cerbyd stopio. Wedyn aeth gyda Philip i lawr i'r dŵr, a dyma Philip yn ei fedyddio yn y fan a'r lle. Wrth iddyn nhw ddod yn ôl allan o'r dŵr, dyma Ysbryd yr Arglwydd yn cipio Philip i ffwrdd. Wnaeth yr eunuch mo'i weld ar ôl hynny, ond aeth yn ei flaen ar ei daith yn llawen. Cafodd Philip ei hun yn Asotus! Yna aeth yn ei flaen i Cesarea gan gyhoeddi'r newyddion da ym mhob un o'r trefi ar y ffordd. Yn y cyfamser roedd Saul yn dal i fynd o gwmpas yn bygwth lladd dilynwyr yr Arglwydd. Roedd wedi mynd at yr Archoffeiriad i ofyn am lythyrau i synagogau Damascus yn rhoi'r hawl iddo arestio unrhyw un oedd yn dilyn y Ffordd. Roedd ganddo awdurdod i gadw dynion a merched yn y ddalfa a mynd â nhw'n gaeth i Jerwsalem. Roedd yn agos at Damascus pan fflachiodd golau disglair o'r nefoedd o'i gwmpas. Syrthiodd ar lawr a chlywed llais yn dweud wrtho: “Saul? Saul? Pam rwyt ti'n fy erlid i?” “Pwy wyt ti, syr?” gofynnodd Saul. “Iesu ydw i,” atebodd, “yr un rwyt ti'n ei erlid. Nawr cod ar dy draed a dos i mewn i'r ddinas. Cei di wybod yno beth mae'n rhaid i ti ei wneud.” Roedd y rhai oedd yn teithio gydag e yn sefyll yn fud; roedden nhw'n clywed y llais ond doedden nhw ddim yn gweld neb. Cododd Saul ar ei draed, ond pan agorodd ei lygaid, doedd e ddim yn gallu gweld. Felly dyma nhw'n gafael yn ei law ac yn ei arwain i mewn i dre Damascus. Arhosodd yno am dri diwrnod. Roedd yn ddall ac yn gwrthod bwyta nac yfed dim. Yn byw yn Damascus roedd disgybl o'r enw Ananias oedd wedi cael gweledigaeth o'r Arglwydd yn galw arno — “Ananias!” “Ie, Arglwydd,” atebodd. A dyma'r Arglwydd yn dweud wrtho, “Dos i dŷ Jwdas yn Stryd Union a gofyn am ddyn o Tarsus o'r enw Saul. Mae yno'n gweddïo. Dw i wedi dangos iddo y bydd dyn o'r enw Ananias yn mynd ato a gosod ei ddwylo arno iddo gael ei olwg yn ôl.” “Ond Arglwydd,” meddai Ananias, “dw i wedi clywed llawer o hanesion am y dyn yma. Mae wedi gwneud pethau ofnadwy i dy bobl di yn Jerwsalem. Mae'r prif offeiriaid wedi rhoi awdurdod iddo ddod yma i arestio pawb sy'n credu ynot ti.” Ond meddai'r Arglwydd wrth Ananias, “Dos! Dyma'r dyn dw i wedi ei ddewis i ddweud amdana i wrth bobl o genhedloedd eraill a'u brenhinoedd yn ogystal ag wrth bobl Israel. Bydda i'n dangos iddo y bydd e'i hun yn dioddef llawer am fy nilyn i.” Felly dyma Ananias yn mynd. Aeth i mewn i'r tŷ, gosod ei ddwylo ar Saul a dweud wrtho, “Saul, frawd. Mae'r Arglwydd Iesu, wnaeth ymddangos i ti ar dy ffordd yma, wedi fy anfon i atat ti er mwyn i ti gael dy olwg yn ôl, a chei dy lenwi â'r Ysbryd Glân hefyd.” Yr eiliad honno dyma rywbeth tebyg i gen yn syrthio oddi ar lygaid Saul, ac roedd yn gallu gweld eto. Cododd ar ei draed a chafodd ei fedyddio. Wedyn cymerodd rywbeth i'w fwyta, a chael ei gryfder yn ôl. Arhosodd Saul gyda'r disgyblion yn Damascus am beth amser. Aeth ati ar unwaith i bregethu yn y synagogau mai Iesu ydy Mab Duw. Roedd pawb a'i clywodd wedi eu syfrdanu. “Onid dyma'r dyn wnaeth achosi'r fath drafferth i'r rhai sy'n dilyn yr Iesu yma yn Jerwsalem? Roedden ni'n meddwl ei fod wedi dod yma ar ran y prif offeiriaid i arestio'r bobl hynny a'u rhoi yn y carchar.” Roedd pregethu Saul yn mynd yn gryfach ac yn gryfach bob dydd, a doedd yr Iddewon yn Damascus ddim yn gallu dadlau yn ei erbyn wrth iddo brofi mai Iesu ydy'r Meseia. Felly ar ôl peth amser dyma'r arweinwyr Iddewig yn cynllwynio i'w ladd. Ond clywodd Saul am eu bwriad, a'r ffaith eu bod yn gwylio giatiau'r ddinas yn ofalus ddydd a nos er mwyn ei ddal a'i lofruddio. Felly dyma rhai o'r credinwyr yn ei ollwng i lawr mewn basged drwy agoriad yn wal y ddinas. Pan gyrhaeddodd Saul Jerwsalem, ceisiodd fynd at y credinwyr yno, ond roedd ganddyn nhw ei ofn. Doedden nhw ddim yn credu ei fod wedi dod yn Gristion go iawn. Ond dyma Barnabas yn ei dderbyn, ac yn mynd ag e at yr apostolion. Dwedodd wrthyn nhw sut gwelodd Saul yr Arglwydd pan roedd yn teithio i Damascus, a beth oedd yr Arglwydd wedi ei ddweud wrtho. Hefyd dwedodd ei fod wedi pregethu am Iesu yn gwbl ddi-ofn pan oedd yn Damascus. Felly cafodd ei dderbyn gan yr apostolion, ac roedd yn mynd o gwmpas Jerwsalem yn gwbl agored yn dweud wrth bawb am yr Arglwydd Iesu. Buodd yn siarad ac yn dadlau gyda rhyw Iddewon Groegaidd, ond y canlyniad oedd iddyn nhw benderfynu ei ladd. Pan glywodd y credinwyr am y peth, dyma nhw'n mynd â Saul i Cesarea, ac yna ei anfon yn ei flaen i Tarsus lle roedd ei gartref. Ar ôl hyn cafodd yr eglwys yn Jwdea, Galilea a Samaria gyfnod o dawelwch a llwyddiant — roedd ffydd y credinwyr yn cryfhau ac roedd eu niferoedd yn tyfu hefyd. Roedden nhw'n byw mewn ffordd oedd yn dangos eu bod yn ofni'r Arglwydd, a'r Ysbryd Glân yn eu hannog yn eu blaenau. Roedd Pedr yn teithio o gwmpas y wlad, ac aeth i ymweld â'r Cristnogion oedd yn Lyda. Yno daeth ar draws dyn o'r enw Aeneas, oedd wedi ei barlysu ac wedi bod yn gaeth i'w wely ers wyth mlynedd. Dyma Pedr yn dweud wrtho, “Aeneas, mae Iesu y Meseia am dy iacháu di. Cod ar dy draed a phlyga dy fatras.” Cafodd Aeneas ei iacháu ar unwaith. Dyma pawb oedd yn byw yn Lyda a Sharon yn troi at yr Arglwydd pan welon nhw Aeneas yn cerdded. Yna yn Jopa, roedd disgybl o'r enw Tabitha (Dorcas fyddai ei henw yn yr iaith Roeg ). Roedd hi bob amser wedi gwneud daioni a helpu pobl dlawd, ond tua'r adeg yna aeth yn glaf, a buodd farw. Cafodd ei chorff ei olchi a'i osod i orwedd mewn ystafell i fyny'r grisiau. Pan glywodd y credinwyr fod Pedr yn Lyda (sydd ddim yn bell iawn o Jopa), dyma nhw'n anfon dau ddyn ato i ofyn iddo, “Plîs, tyrd ar unwaith!” Aeth Pedr gyda nhw, ac wedi iddo gyrraedd dyma fynd ag e i fyny'r grisiau i'r ystafell. Roedd yr ystafell yn llawn o wragedd gweddwon yn eu dagrau yn dangos iddo'r mentyll a'r dillad eraill roedd Dorcas wedi eu gwneud iddyn nhw pan roedd hi'n dal yn fyw. Dyma Pedr yn anfon pawb allan o'r ystafell, ac yna aeth ar ei liniau a gweddïo. Yna trodd at gorff y wraig oedd wedi marw, a dweud wrthi, “Tabitha, cod ar dy draed.” Agorodd ei llygaid! A phan welodd Pedr eisteddodd i fyny. Gafaelodd Pedr yn ei llaw a'i helpu i sefyll ar ei thraed. Wedyn galwodd Pedr y credinwyr a'r gwragedd gweddwon yn ôl i mewn a dangos iddyn nhw fod Dorcas yn fyw. Dyma'r newyddion yn mynd ar led drwy dre Jopa fel tân gwyllt, a daeth llawer iawn o bobl i gredu yn yr Arglwydd. Arhosodd Pedr yno am gryn amser, yn lletya yn nhŷ gweithiwr lledr o'r enw Simon. Roedd dyn o'r enw Cornelius yn byw yn Cesarea, oedd yn swyddog milwrol yn y Gatrawd Eidalaidd. Roedd e a'i deulu yn bobl grefyddol a duwiol; roedd yn rhoi'n hael i'r Iddewon oedd mewn angen ac yn ddyn oedd yn gweddïo ar Dduw yn rheolaidd. Un diwrnod, tua tri o'r gloch y p'nawn, cafodd weledigaeth. Gwelodd un o angylion Duw yn dod ato ac yn galw arno, “Cornelius!” Roedd Cornelius yn syllu arno mewn dychryn. “Beth, Arglwydd?” meddai. Atebodd yr angel, “Mae dy weddïau a'th roddion i'r tlodion wedi cael eu derbyn fel offrwm gan Dduw. Anfon ddynion i Jopa i nôl dyn o'r enw Simon Pedr. Mae'n aros yn nhŷ Simon y gweithiwr lledr ar lan y môr.” Pan aeth yr angel i ffwrdd, dyma Cornelius yn galw dau o'i weision a milwr duwiol oedd yn un o'i warchodwyr personol. Dwedodd wrthyn nhw beth oedd wedi digwydd, a'u hanfon i Jopa. Tua chanol dydd y diwrnod wedyn pan roedd gweision Cornelius bron â chyrraedd Jopa, roedd Pedr wedi mynd i fyny i ben y to i weddïo. Dechreuodd deimlo ei fod eisiau bwyd. Tra roedd cinio yn cael ei baratoi cafodd weledigaeth. Gwelodd yr awyr yn agor a rhywbeth tebyg i gynfas fawr yn cael ei gollwng i lawr i'r ddaear wrth ei phedair cornel. Y tu mewn i'r gynfas roedd pob math o anifeiliaid, ymlusgiaid ac adar. A dyma lais yn dweud wrtho, “Cod Pedr, lladd beth wyt ti eisiau, a'i fwyta.” “Dwyt ti ddim o ddifri, Arglwydd!” meddai Pedr. “Dw i erioed wedi bwyta dim byd sy'n cael ei gyfri'n aflan neu'n anghywir i'w fwyta.” Ond meddai'r llais, “Os ydy Duw wedi dweud fod rhywbeth yn iawn i'w fwyta, paid ti â dweud fel arall!” Digwyddodd yn union yr un peth dair gwaith! Yna'n sydyn aeth y gynfas yn ôl i fyny i'r awyr. Roedd Pedr yn methu'n lân â deall beth oedd ystyr y weledigaeth. Yna tra roedd yn meddwl am y peth cyrhaeddodd y dynion roedd Cornelius wedi eu hanfon. Dyma nhw'n sefyll y tu allan i'r giât, a galw i ofyn os oedd Simon Pedr yn aros yno. Yn y cyfamser, tra roedd Pedr yn pendroni am y weledigaeth gafodd, dwedodd yr Ysbryd Glân wrtho, “Simon, mae tri dyn yma'n edrych amdanat ti, felly dos i lawr atyn nhw. Dos gyda nhw, am mai fi sydd wedi eu hanfon nhw. Paid petruso.” Felly dyma Pedr yn mynd i lawr y grisiau a dweud wrth y dynion, “Fi dych chi'n edrych amdano. Pam dych chi yma?” Atebodd y dynion, “Ein meistr ni, Cornelius, sy'n swyddog yn y fyddin sydd wedi'n hanfon ni yma. Mae e'n ddyn da a duwiol sy'n cael ei barchu'n fawr gan yr Iddewon i gyd. Dwedodd angel wrtho am dy wahodd i'w dŷ iddo gael clywed beth sydd gen ti i'w ddweud.” Felly dyma Pedr yn croesawu'r dynion i mewn i'r tŷ i aros dros nos. Y diwrnod wedyn dyma Pedr yn mynd gyda nhw, ac aeth rhai o gredinwyr Jopa gydag e hefyd. Dyma nhw'n cyrraedd Cesarea y diwrnod wedyn. Roedd Cornelius yn disgwyl amdanyn nhw, ac wedi galw ei berthnasau a'i ffrindiau draw. Pan ddaeth Pedr i mewn trwy'r drws, dyma Cornelius yn mynd ato a syrthio i lawr o'i flaen fel petai'n ei addoli. Ond dyma Pedr yn gwneud iddo godi: “Saf ar dy draed,” meddai wrtho, “dyn cyffredin ydw i fel ti.” Roedd Pedr wrthi'n sgwrsio gyda Cornelius wrth fynd i mewn, a gwelodd fod criw mawr o bobl wedi dod i wrando arno. A dyma ddwedodd wrthyn nhw: “Dych chi'n gwybod fod ein Cyfraith ni'r Iddewon ddim yn caniatáu i ni gymysgu gyda phobl o genhedloedd eraill. Ond mae Duw wedi dangos i mi fod gen i ddim hawl i ystyried unrhyw un yn aflan. Felly pan anfonoch chi amdana i, doedd dim dadl am y peth — des i ar unwaith. Ga i ofyn felly, pam wnaethoch chi anfon amdana i?” Atebodd Cornelius: “Bedwar diwrnod yn ôl tua'r adeg yma, sef tri o'r gloch y p'nawn, roeddwn i yn y tŷ yn gweddïo. Yn sydyn roedd dyn yn sefyll o mlaen i a'i ddillad yn disgleirio'n llachar. Dwedodd wrtho i ‘Cornelius, mae Duw wedi clywed dy weddi a derbyn dy roddion i'r tlodion. Anfon rywun i Jopa i nôl dyn o'r enw Simon Pedr. Mae'n aros yng nghartre Simon, gweithiwr lledr sy'n byw ar lan y môr.’ Felly dyma fi'n anfon amdanat ti ar unwaith. Dw i'n ddiolchgar i ti am ddod. Felly dŷn ni yma i gyd i wrando ar y cwbl mae'r Arglwydd Dduw am i ti ei ddweud wrthon ni.” Felly dyma Pedr yn dechrau eu hannerch: “Dw i'n deall yn iawn erbyn hyn, y dywediad hwnnw fod Duw ddim yn dangos ffafriaeth! Mae'n derbyn pobl o bob gwlad sy'n ei addoli ac yn gwneud beth sy'n iawn. Anfonodd Duw ei neges at bobl Israel, a dweud y newyddion da fod bywyd llawn i'w gael drwy Iesu y Meseia, sy'n Arglwydd ar bopeth. Dych chi'n gwybod, mae'n siŵr, beth fuodd yn digwydd yn Jwdea. Dechreuodd y cwbl yn Galilea ar ôl i Ioan ddechrau galw pobl i gael eu bedyddio. Roedd Duw wedi eneinio Iesu o Nasareth â'r Ysbryd Glân ac â nerth rhyfeddol. Roedd yn mynd o gwmpas yn gwneud daioni ac yn iacháu pawb oedd yn dioddef am fod y diafol yn eu poeni nhw. Roedd Duw gydag e! Dŷn ni'n llygad-dystion i'r cwbl! Gwelon ni bopeth wnaeth Iesu yn Jerwsalem a gweddill Israel. Cafodd ei ladd drwy gael ei hoelio ar bren ganddyn nhw, ond ddeuddydd yn ddiweddarach dyma Duw yn dod ag e'n ôl yn fyw! Gwelodd pobl e'n fyw! (Wnaeth pawb mo'i weld, dim ond y rhai ohonon ni oedd Duw wedi eu dewis i fod yn llygad-dystion.) Buon ni'n bwyta ac yn yfed gydag e ar ôl iddo ddod yn ôl yn fyw! Rhoddodd orchymyn i ni gyhoeddi'r newyddion da ym mhobman, a dweud mai fe ydy'r un mae Duw wedi ei benodi i farnu pawb — pawb sy'n fyw a phawb sydd wedi marw. Fe ydy'r un mae'r proffwydi i gyd yn sôn amdano, ac yn dweud y bydd pechodau pawb sy'n credu ynddo yn cael eu maddau.” Tra oedd Pedr ar ganol dweud hyn i gyd, dyma'r Ysbryd Glân yn disgyn ar bawb oedd yn gwrando. Roedd y credinwyr Iddewig oedd gyda Pedr wedi eu syfrdanu'n llwyr fod yr Ysbryd Glân wedi cael ei dywallt ar bobl o genhedloedd eraill! Ond dyna oedd wedi digwydd — roedden nhw'n eu clywed nhw'n siarad mewn ieithoedd dieithr ac yn moli Duw. A dyma Pedr yn dweud, “Oes unrhyw un yn gallu gwrthwynebu bedyddio'r bobl yma â dŵr? Maen nhw wedi derbyn yr Ysbryd Glân yn union yr un fath â ni!” Felly dyma Pedr yn dweud eu bod nhw i gael eu bedyddio fel arwydd o ddod i berthynas â Iesu y Meseia. Wedyn dyma nhw'n gofyn i Pedr aros gyda nhw am beth amser. Clywodd yr apostolion a'r credinwyr yn Jwdea fod pobl o genhedloedd eraill wedi credu neges Duw. Ond pan aeth Pedr yn ôl i Jerwsalem, cafodd ei feirniadu'n hallt gan rai o'r credinwyr Iddewig, “Rwyt ti wedi mynd at bobl o genhedloedd eraill a hyd yn oed bwyta gyda nhw!” medden nhw. Dyma Pedr yn dweud wrthyn nhw'n union beth oedd wedi digwydd: “Roeddwn i yn Jopa, ac wrthi'n gweddïo ryw ddiwrnod pan ges i weledigaeth. Gwelais i rywbeth tebyg i gynfas fawr yn cael ei gollwng i lawr o'r awyr wrth ei phedair cornel. Daeth i lawr reit o mlaen i. Edrychais i mewn ynddi, ac roedd pob math o anifeiliaid — rhai gwyllt, ymlusgiaid ac adar. Wedyn dyma lais yn dweud wrtho i, ‘Cod Pedr, lladd beth rwyt ti eisiau, a'i fwyta.’ “Dwyt ti ddim o ddifri, Arglwydd!” meddwn i. “Dw i erioed wedi bwyta dim byd sy'n cael ei gyfri'n aflan neu'n anghywir i'w fwyta!” “Ond wedyn dyma'r llais o'r nefoedd yn dweud, ‘Os ydy Duw wedi dweud fod rhywbeth yn iawn i'w fwyta, paid ti â dweud fel arall!’ Digwyddodd yr un peth dair gwaith cyn i'r gynfas gael ei thynnu yn ôl i fyny i'r awyr. “Y funud honno dyma dri dyn oedd wedi cael eu hanfon ata i o Cesarea yn cyrraedd y tu allan i'r tŷ lle roeddwn i'n aros. Dyma'r Ysbryd Glân yn dweud wrtho i am beidio petruso mynd gyda nhw. Aeth y chwe brawd yma gyda mi a dyma ni'n mynd i mewn i dŷ'r dyn oedd wedi anfon amdana i. Dwedodd wrthon ni ei fod wedi gweld angel yn ei dŷ, a bod yr angel wedi dweud wrtho, ‘Anfon i Jopa i nôl dyn o'r enw Simon Pedr. Bydd e'n dweud sut y gelli di a phawb sy'n dy dŷ gael eu hachub.’ “Pan ddechreuais i siarad, dyma'r Ysbryd Glân yn dod arnyn nhw yn union fel y daeth arnon ni ar y dechrau. A dyma fi'n cofio beth roedd yr Arglwydd Iesu wedi ei ddweud: ‘Roedd Ioan yn bedyddio gyda dŵr, ond mewn ychydig ddyddiau cewch chi'ch bedyddio gyda'r Ysbryd Glân.’ Felly gan fod Duw wedi rhoi'r un rhodd iddyn nhw ag a roddodd i ni pan wnaethon ni gredu yn yr Arglwydd Iesu Grist, pwy oeddwn i i geisio rhwystro Duw?” Pan glywon nhw'r hanes, doedden nhw ddim yn gallu dweud dim yn groes, a dyma nhw'n dechrau moli Duw. “Mae'n rhaid fod Duw felly'n gadael i bobl o genhedloedd eraill droi cefn ar eu pechod a chael bywyd!” medden nhw. O ganlyniad i'r erlid ddechreuodd yn dilyn beth ddigwyddodd i Steffan, roedd rhai credinwyr wedi dianc mor bell a Phenicia, Cyprus ac Antiochia yn Syria. Roedden nhw'n rhannu'r neges, ond dim ond gydag Iddewon. Ond yna dyma'r rhai aeth i Antiochia o Cyprus a Cyrene yn dechrau cyhoeddi'r newyddion da am yr Arglwydd Iesu i bobl o genhedloedd eraill. Roedd Duw gyda nhw, a dyma nifer fawr o bobl yn credu ac yn troi at yr Arglwydd. Pan glywodd yr eglwys yn Jerwsalem am y peth, dyma nhw'n anfon Barnabas i Antiochia i weld beth oedd yn digwydd. Pan gyrhaeddodd yno gwelodd yn glir fod Duw ar waith. Roedd wrth ei fodd, ac yn annog y rhai oedd wedi credu i aros yn ffyddlon i'r Arglwydd a rhoi eu hunain yn llwyr iddo. Roedd Barnabas yn ddyn da, yn llawn o'r Ysbryd Glân ac yn credu'n gryf, a chafodd nifer fawr o bobl eu harwain ganddo at yr Arglwydd. Aeth Barnabas yn ei flaen i Tarsus wedyn i edrych am Saul. Ar ôl dod o hyd iddo, aeth ag e yn ôl i Antiochia. Buodd y ddau yno gyda'r eglwys am flwyddyn gyfan yn dysgu tyrfa fawr o bobl. (Gyda llaw, yn Antiochia y cafodd dilynwyr Iesu eu galw yn Gristnogion am y tro cyntaf.) Rywbryd yn ystod y flwyddyn honno daeth rhyw broffwydi o Jerwsalem i Antiochia. Yn un o'r cyfarfodydd, dyma un ohonyn nhw (dyn o'r enw Agabus) yn sefyll ar ei draed, ac yn proffwydo dan ddylanwad yr Ysbryd Glân fod newyn trwm yn mynd i ledu drwy'r byd Rhufeinig i gyd. (Digwyddodd y newyn hwnnw yn ystod teyrnasiad Clawdiws.) Felly dyma'r credinwyr yn Antiochia yn penderfynu helpu eu brodyr a'u chwiorydd yn Jwdea, drwy i bawb gyfrannu cymaint ag y gallai. Dyma nhw'n gwneud hynny, a Barnabas a Saul gafodd eu dewis i fynd â'r rhodd i arweinwyr eglwys Jerwsalem. Tua'r adeg yna dyma'r Brenin Herod Agripa yn cam-drin rhai o'r bobl oedd yn perthyn i'r eglwys. Cafodd Iago (sef brawd Ioan) ei ddienyddio ganddo — trwy ei ladd gyda'r cleddyf. Yna pan welodd fod hyn yn plesio'r arweinwyr Iddewig, dyma fe'n arestio Pedr hefyd. (Roedd hyn yn ystod Gŵyl y Bara Croyw.) Cafodd Pedr ei roi yn y carchar. Trefnwyd fod pedwar milwr ar wyliadwriaeth bob sifft. Bwriad Herod oedd dwyn achos cyhoeddus yn erbyn Pedr ar ôl y Pasg. Tra roedd Pedr yn y carchar roedd yr eglwys yn gweddïo'n daer ar Dduw drosto. Y noson cyn yr achos llys, roedd Pedr yn cysgu. Roedd wedi ei gadwyno i ddau filwr — un bob ochr iddo, a'r lleill yn gwarchod y fynedfa. Yn sydyn roedd angel yno, a golau yn disgleirio drwy'r gell. Rhoddodd bwniad i Pedr yn ei ochr i'w ddeffro. “Brysia!” meddai, “Cod ar dy draed!”, a dyma'r cadwyni'n disgyn oddi ar freichiau Pedr. Wedyn dyma'r angel yn dweud wrtho, “Rho dy ddillad amdanat a gwisga dy sandalau.” Ac ar ôl i Pedr wneud hynny, dyma'r angel yn dweud, “Tafla dy glogyn amdanat a dilyn fi.” Felly dyma Pedr yn ei ddilyn allan o'r gell — ond heb wybod os oedd y peth yn digwydd go iawn neu ai dim ond breuddwyd oedd y cwbl! Dyma nhw'n mynd heibio'r gwarchodwr cyntaf, a'r ail, a chyrraedd y giât haearn oedd yn mynd allan i'r ddinas. Agorodd honno ohoni ei hun! Wedi mynd trwyddi a cherdded i lawr y stryd dyma'r angel yn sydyn yn diflannu a gadael Pedr ar ei ben ei hun. Dyna pryd daeth ato'i hun. “Mae wedi digwydd go iawn! — mae'r Arglwydd wedi anfon ei angel i'm hachub i o afael Herod, fel bod yr hyn roedd yr Iddewon yn ei obeithio ddim yn digwydd i mi.” Pan sylweddolodd hyn, aeth i gartref Mair, mam Ioan Marc. Roedd criw o bobl wedi dod at ei gilydd i weddïo yno. Dyma Pedr yn curo'r drws allanol, ac aeth morwyn o'r enw Rhoda i ateb y drws. Pan wnaeth hi nabod llais Pedr roedd hi mor llawen nes iddi redeg yn ôl i mewn i'r tŷ heb agor y drws! “Mae Pedr wrth y drws!” meddai hi wrth bawb. “Ti'n drysu!” medden nhw. Ond roedd Rhoda yn dal i fynnu fod y peth yn wir. “Mae'n rhaid mai ei angel sydd yna!” medden nhw wedyn. Roedd Pedr yn dal ati i guro'r drws, a chawson nhw'r sioc ryfedda pan agoron nhw'r drws a'i weld. Dyma Pedr yn rhoi arwydd iddyn nhw dawelu, ac esboniodd iddyn nhw sut roedd yr Arglwydd wedi ei ryddhau o'r carchar. “Ewch i ddweud beth sydd wedi digwydd wrth Iago a'r credinwyr eraill,” meddai, ac wedyn aeth i ffwrdd i rywle arall. Y bore wedyn roedd cynnwrf anhygoel ymhlith y milwyr ynglŷn â beth oedd wedi digwydd i Pedr. Dyma Herod yn gorchymyn chwilio amdano ym mhobman ond wnaethon nhw ddim llwyddo i ddod o hyd iddo. Ar ôl croesholi y milwyr oedd wedi bod yn gwarchod Pedr, dyma fe'n gorchymyn iddyn nhw gael eu dienyddio. Ar ôl hyn gadawodd Herod Jwdea, a mynd i aros yn Cesarea am ychydig. Roedd gwrthdaro ffyrnig wedi bod rhyngddo ag awdurdodau Tyrus a Sidon. Ond dyma nhw'n dod at ei gilydd i ofyn am gael cyfarfod gydag e. Roedd rhaid iddyn nhw sicrhau heddwch, am eu bod nhw'n dibynnu ar wlad Herod i werthu bwyd iddyn nhw. Ac roedden nhw wedi perswadio Blastus i'w helpu nhw. (Blastus oedd swyddog personol y brenin, ac roedd y brenin yn ymddiried yn llwyr ynddo.) Ar y diwrnod mawr, eisteddodd Herod ar ei orsedd yn gwisgo'i holl regalia, ac annerch y bobl. Dyma'r bobl yn dechrau gweiddi, “Duw ydy hwn, nid dyn sy'n siarad!” A'r eiliad honno dyma angel Duw yn ei daro'n wael, am iddo adael i'r bobl ei addoli fel petai e'n dduw. Cafodd ei fwyta gan lyngyr a buodd farw. Ond roedd neges Duw yn dal i fynd ar led, a mwy a mwy o bobl yn dod i gredu. Ar ôl i Barnabas a Saul fynd â'r rhodd i Jerwsalem, dyma nhw'n mynd yn ôl i Antiochia, a mynd â Ioan Marc gyda nhw. Roedd nifer o broffwydi ac athrawon yn yr eglwys yn Antiochia: Barnabas, Simeon (y dyn du), Lwcius o Cyrene, Manaen (oedd yn ffrind i Herod Antipas pan roedd yn blentyn), a Saul. Pan oedden nhw'n addoli Duw ac yn ymprydio, dyma'r Ysbryd Glân yn dweud, “Mae gen i waith arbennig i Barnabas a Saul ei wneud, a dw i am i chi eu rhyddhau nhw i wneud y gwaith hwnnw.” Felly ar ôl ymprydio a gweddïo, dyma nhw'n rhoi eu dwylo ar y ddau i'w comisiynu nhw, ac yna eu hanfon i ffwrdd. Dyma'r Ysbryd Glân yn eu hanfon allan, a dyma'r ddau yn mynd i lawr i borthladd Antiochia, sef Selwsia, ac yn hwylio drosodd i Ynys Cyprus. Ar ôl cyrraedd Salamis dyma nhw'n mynd ati i gyhoeddi neges Duw yn synagogau'r Iddewon. (Roedd Ioan gyda nhw hefyd fel cynorthwywr.) Dyma nhw'n teithio drwy'r ynys gyfan, ac yn dod i Paffos. Yno dyma nhw'n dod ar draws rhyw Iddew oedd yn ddewin ac yn broffwyd ffug. Bar-Iesu oedd yn cael ei alw, ac roedd yn gwasanaethu fel aelod o staff y rhaglaw Sergiws Pawlus. Roedd y rhaglaw yn ddyn deallus, ac anfonodd am Barnabas a Saul am ei fod eisiau clywed beth oedd y neges yma gan Dduw. Ond dyma Elymas ‛y dewin‛ (dyna ydy ystyr ei enw yn yr iaith Roeg) yn dadlau yn eu herbyn ac yn ceisio troi'r rhaglaw yn erbyn y ffydd. Dyma Saul (oedd hefyd yn cael ei alw'n Paul), yn llawn o'r Ysbryd Glân, yn edrych i fyw llygad Elymas, ac yn dweud, “Plentyn i'r diafol wyt ti! Gelyn popeth da! Rwyt ti mor dwyllodrus a llawn castiau! Pryd wyt ti'n mynd i stopio gwyrdroi ffyrdd yr Arglwydd? Mae Duw yn mynd i dy gosbi di! Rwyt ti'n mynd i fod yn ddall am gyfnod — fyddi di ddim yn gallu gweld golau dydd!” Yr eiliad honno daeth rhyw niwl a thywyllwch drosto! Roedd yn ymbalfalu o gwmpas, yn ceisio cael rhywun i afael yn ei law. Pan welodd y rhaglaw beth ddigwyddodd, daeth i gredu. Roedd wedi ei syfrdanu gan yr hyn oedd yn cael ei ddysgu iddo am yr Arglwydd. Yna dyma Paul a'r lleill yn gadael Paffos a hwylio yn eu blaenau i Perga yn Pamffilia. Dyna lle gadawodd Ioan Marc nhw i fynd yn ôl i Jerwsalem. Ond aethon nhw yn eu blaenau i Antiochia Pisidia. Ar y dydd Saboth dyma nhw'n mynd i'r gwasanaeth yn y synagog. Ar ôl i rannau o Gyfraith Moses ac ysgrifau'r Proffwydi gael eu darllen, dyma arweinwyr y synagog yn cael rhywun i ofyn iddyn nhw, “Frodyr, teimlwch yn rhydd i siarad os oes gynnoch chi air o anogaeth i'r bobl.” Dyma Paul yn sefyll ac yn codi ei law i dawelu'r bobl, ac meddai: “Gwrandwch, bobl Israel, a chithau o genhedloedd eraill sydd yma'n addoli Duw. Ein Duw ni, Duw Israel ddewisodd ein hynafiaid ni yn bobl iddo'i hun. Gwnaeth i'w niferoedd dyfu pan roedden nhw yn yr Aifft, ac yna eu harwain allan o'r wlad honno mewn ffordd rymus iawn. Goddefodd eu hymddygiad yn yr anialwch am tua pedwar deg o flynyddoedd. Yna dinistrio saith cenedl yn Canaan a rhoi eu tir i'w bobl Israel ei etifeddu. Digwyddodd hyn i gyd dros gyfnod o ryw 450 o flynyddoedd. Yn dilyn hynny rhoddodd Duw farnwyr iddyn nhw i'w harwain hyd gyfnod y proffwyd Samuel. Dyna pryd y gofynnodd y bobl am frenin, a rhoddodd Duw Saul fab Cis (o lwyth Benjamin) iddyn nhw, a buodd yn frenin am bedwar deg mlynedd. Ar ôl cael gwared â Saul, dyma Duw yn gwneud Dafydd yn frenin arnyn nhw. Dyma ddwedodd Duw am Dafydd: ‘Mae Dafydd fab Jesse yn ddyn sydd wrth fy modd; bydd yn gwneud popeth dw i am iddo'i wneud.’ “Un o ddisgynyddion Dafydd ydy'r un anfonodd Duw yn Achubwr i Israel, sef Iesu. Roedd Ioan Fedyddiwr wedi bod yn pregethu i bobl Israel cyn i Iesu ddod, ac yn galw arnyn nhw i droi cefn ar bechod a chael eu bedyddio. Pan oedd gwaith Ioan bron â dod i ben, dwedodd fel hyn: ‘Dych chi'n meddwl mai fi ydy'r Meseia? Na, dim fi ydy e. Mae'n dod ar fy ôl i, a dw i ddim yn haeddu bod yn gaethwas i ddatod carrai ei sandalau hyd yn oed!’ “Frodyr a chwiorydd — chi sy'n blant i Abraham, a chithau o genhedloedd eraill sy'n addoli Duw hefyd, mae'r neges yma am achubiaeth wedi ei hanfon aton ni. Wnaeth pobl Jerwsalem a'u harweinwyr mo'i nabod e. Wrth ei gondemnio i farwolaeth roedden nhw'n gwneud yn union beth roedd y proffwydi sy'n cael eu darllen bob Saboth yn ei ddweud! Er bod ganddyn nhw ddim achos digonol yn ei erbyn i gyfiawnhau'r gosb eithaf, dyma nhw'n gofyn i Peilat ei ddienyddio. Ar ôl gwneud iddo bopeth oedd wedi ei broffwydo, dyma nhw yn ei dynnu i lawr o'r pren a'i roi mewn bedd. Ond dyma Duw yn dod ag e'n ôl yn fyw! Am gyfnod o rai wythnosau cafodd ei weld gan y bobl oedd wedi teithio gydag e o Galilea i Jerwsalem. Maen nhw'n lygad-dystion sy'n gallu dweud wrth y bobl beth welon nhw. “Dŷn ni yma gyda newyddion da i chi: Mae'r cwbl wnaeth Duw ei addo i'n cyndeidiau ni wedi dod yn wir! Mae wedi codi Iesu yn ôl yn fyw. Dyna mae'r ail Salm yn ei ddweud: ‘Ti ydy fy Mab i; heddiw des i yn Dad i ti.’ Mae Duw wedi ei godi yn fyw ar ôl iddo farw, a fydd ei gorff byth yn pydru'n y bedd! Dyna ystyr y geiriau yma: ‘Rhof i ti y bendithion sanctaidd a sicr gafodd eu haddo i Dafydd.’ Ac mae Salm arall yn dweud: ‘Fyddi di ddim yn gadael i'r un sydd wedi ei gysegru i ti bydru yn y bedd.’ “Dydy'r geiriau yma ddim yn sôn am Dafydd. Buodd Dafydd farw ar ôl gwneud popeth roedd Duw am iddo ei wneud yn ei gyfnod. Cafodd ei gladdu ac mae ei gorff wedi pydru. Ond wnaeth corff yr un gododd Duw yn ôl yn fyw ddim pydru! “Felly, frodyr a chwiorydd, dw i am i chi ddeall fod maddeuant pechodau ar gael i chi o achos beth wnaeth Iesu. Trwyddo fe mae pawb sy'n credu yn cael perthynas iawn gyda Duw. Dydy Cyfraith Moses ddim yn gallu rhoi'r berthynas iawn yna i chi. Felly, gwyliwch fod yr hyn soniodd y proffwydi amdano ddim yn digwydd i chi: ‘Edrychwch, chi sy'n gwawdio, rhyfeddwch at hyn, a gwywo! Oherwydd bydda i'n gwneud yn eich dyddiau chi rywbeth fyddwch chi ddim yn ei gredu, hyd yn oed petai rhywun yn dweud wrthoch chi!’ ” Wrth i Paul a Barnabas adael y synagog, dyma'r bobl yn gofyn iddyn nhw ddod yn ôl i ddweud mwy y Saboth wedyn. Pan roedd y cyfarfod drosodd, dyma nifer dda o Iddewon a phobl oedd wedi troi at y grefydd Iddewig yn mynd ar ôl Paul a Barnabas. Dyma'r ddau yn pwyso arnyn nhw i ddal gafael yn y ffaith fod Duw mor hael. Y Saboth wedyn roedd fel petai'r ddinas i gyd wedi dod i glywed neges yr Arglwydd. Ond pan welodd yr arweinwyr Iddewig cymaint o dyrfa oedd yno, roedden nhw'n genfigennus; a dyma nhw'n dechrau hyrddio enllibion at Paul, a dadlau yn erbyn popeth roedd yn ei ddweud. Ond roedd ateb Paul a Barnabas yn ddi-flewyn-ar-dafod: “Roedd rhaid i ni gyhoeddi neges Duw i chi gyntaf. Ond gan eich bod chi'n gwrthod gwrando, ac felly'n barnu eich hunain yn anaddas i gael bywyd tragwyddol, awn ni at bobl y cenhedloedd eraill. Achos dyma wnaeth Duw ei orchymyn i ni: ‘Dw i wedi dy wneud di yn olau i'r cenhedloedd, er mwyn i bobl o ben draw'r byd gael eu hachub.’ ” Roedd pobl y cenhedloedd wrth eu boddau pan glywon nhw hyn, a dyma nhw'n canmol neges yr Arglwydd. Dyma pob un oedd i fod i gael bywyd tragwyddol yn dod i gredu. Felly aeth neges yr Arglwydd ar led drwy'r ardal i gyd. Ond yna dyma'r arweinwyr Iddewig yn creu cynnwrf ymhlith y gwragedd o'r dosbarth uwch oedd yn ofni Duw, a dynion pwysig y ddinas. A dyma nhw'n codi twrw a pheri i Paul a Barnabas gael eu taflu allan o'r ardal. Ar ôl ysgwyd y llwch oddi ar eu traed fel arwydd o brotest, dyma'r ddau yn mynd yn eu blaen i Iconium. Ond roedd y disgyblion yno yn fwrlwm o lawenydd ac yn llawn o'r Ysbryd Glân. Digwyddodd yr un peth yn Iconium. Aeth Paul a Barnabas i'r synagog Iddewig, a siarad mor dda nes bod nifer fawr o Iddewon a phobl o genhedloedd eraill wedi credu. Ond dyma'r Iddewon oedd yn gwrthod credu yn codi twrw ymhlith pobl y cenhedloedd a'u troi nhw'n hollol yn erbyn y brodyr. Arhosodd Paul a Barnabas yno am amser hir, yn dal ati i siarad yn gwbl ddi-ofn am yr Arglwydd. Ac roedd yr Arglwydd yn profi fod y neges am ei ddaioni yn wir drwy roi'r gallu iddyn nhw wneud gwyrthiau rhyfeddol oedd yn dangos ei fod e gyda nhw. Roedd pobl y ddinas wedi eu rhannu; rhai yn ochri gyda'r Iddewon, a'r lleill o blaid yr apostolion. Dyma rai o bobl y cenhedloedd, gyda'r Iddewon a'u harweinwyr, yn cynllwyn i ymosod ar Paul a Barnabas a'u lladd drwy daflu cerrig atyn nhw. Ond clywon nhw beth oedd ar y gweill, a dianc i'r ardal o gwmpas Lystra a Derbe yn Lycaonia. A dyma nhw'n mynd ati i gyhoeddi'r newyddion da yno. Yn Lystra dyma nhw'n dod ar draws rhyw ddyn oedd ag anabledd yn ei draed; roedd wedi ei eni felly ac erioed wedi gallu cerdded. Roedd yn gwrando ar Paul yn siarad. Roedd Paul yn edrych arno, a gwelodd fod gan y dyn ffydd y gallai gael ei iacháu. Meddai wrtho yng nghlyw pawb, “Saf ar dy draed!”, a dyma'r dyn yn neidio ar ei draed yn y fan a'r lle ac yn dechrau cerdded. Pan welodd y dyrfa beth wnaeth Paul, dyma nhw'n dechrau gweiddi yn iaith Lycaonia, “Mae'r duwiau wedi dod i lawr aton ni fel dynion!” Dyma nhw'n penderfynu mai y duw Zews oedd Barnabas, ac mai Hermes oedd Paul (gan mai fe oedd yn gwneud y siarad). Dyma offeiriad o deml Zews, oedd ychydig y tu allan i'r ddinas, yn dod â theirw a thorchau o flodau at giatiau'r ddinas, gyda'r bwriad o gyflwyno aberthau iddyn nhw. Ond pan ddeallodd y ddau beth oedd yn mynd ymlaen, dyma nhw'n rhwygo eu dillad ac yn rhuthro allan i ganol y dyrfa, yn gweiddi: “Na! Na! Ffrindiau! Pam dych chi'n gwneud hyn? Pobl gyffredin fel chi ydyn ni! Dŷn ni wedi dod â newyddion da i chi! Rhaid i chi droi cefn ar y pethau diwerth yma, a chredu yn y Duw byw. Dyma'r Duw wnaeth greu popeth — yr awyr a'r ddaear a'r môr a'r cwbl sydd ynddyn nhw! Yn y gorffennol gadawodd i'r cenhedloedd fynd eu ffordd eu hunain, ond mae digonedd o dystiolaeth o'i ddaioni o'ch cwmpas chi: mae'n rhoi glaw ac yn gwneud i gnydau dyfu yn eu tymor — i chi gael digon o fwyd, ac i'ch bywydau fod yn llawn o lawenydd.” Ond cafodd Paul a Barnabas drafferth ofnadwy i rwystro'r dyrfa rhag aberthu iddyn nhw hyd yn oed ar ôl dweud hyn i gyd. Ond wedyn dyma Iddewon o Antiochia ac Iconium yn cyrraedd yno a llwyddo i droi'r dyrfa yn eu herbyn. A dyma nhw'n dechrau taflu cerrig at Paul a'i lusgo allan o'r dref, gan dybio ei fod wedi marw. Ond ar ôl i'r credinwyr yno gasglu o'i gwmpas, cododd ar ei draed a mynd yn ôl i mewn i'r dref. Y diwrnod wedyn aeth yn ei flaen gyda Barnabas i Derbe. Buon nhw'n cyhoeddi'r newyddion da yno, a daeth nifer fawr o bobl yn ddisgyblion i Iesu y Meseia. Ar ôl hynny dyma nhw'n mynd yn ôl i Lystra, Iconium ac Antiochia Pisidia. Dyma nhw'n cryfhau ffydd y disgyblion a'u hannog i aros yn ffyddlon. “Rhaid gadael i Dduw deyrnasu yn ein bywydau i ni allu wynebu'r holl drafferthion,” medden nhw. Peth arall wnaeth Paul a Barnabas oedd penodi grŵp o arweinwyr ym mhob eglwys. Ar ôl ymprydio a gweddïo dyma nhw'n eu gadael yng ngofal yr Arglwydd roedden nhw wedi credu ynddo. Wedyn dyma nhw'n mynd yn eu blaenau i Pisidia ac yna i Pamffilia, ac ar ôl pregethu'r newyddion da yn Perga mynd yn eu blaenau i Atalia. Wedyn hwylio o Atalia yn ôl i Antiochia Syria. (Dyna lle gwnaethon nhw gael eu cyflwyno i ofal Duw i wneud y gwaith roedden nhw bellach wedi ei orffen.) Yno dyma nhw'n galw'r eglwys at ei gilydd a dweud am y cwbl roedd Duw wedi ei wneud trwyddyn nhw, a sut oedd wedi rhoi'r cyfle i bobl o genhedloedd eraill ddod i gredu. Wedyn dyma nhw'n aros gyda'r Cristnogion yn Antiochia am amser hir. Yn ystod y cyfnod hwnnw daeth rhyw ddynion o Jwdea a dechrau dysgu hyn i'r credinwyr yn Antiochia: “Allwch chi ddim cael eich achub heb gadw'r ddefod Iddewig o enwaedu dynion fel gwnaeth Moses ddysgu.” Achosodd hyn ddadlau a thaeru ffyrnig rhyngddyn nhw a Paul a Barnabas. Felly dyma'r eglwys yn dewis Paul a Barnabas gydag eraill i fynd i Jerwsalem i drafod y mater gyda'r apostolion a'r arweinwyr yno. Ar eu ffordd yno dyma nhw'n galw heibio'r credinwyr yn Phenicia a Samaria, a dweud wrthyn nhw am y bobl o genhedloedd eraill oedd wedi cael tröedigaeth. Roedd y credinwyr wrth eu boddau o glywed yr hanes. Pan gyrhaeddon nhw Jerwsalem cawson nhw groeso mawr gan yr eglwys a gan yr apostolion a'r arweinwyr eraill yno. A dyma nhw'n adrodd hanes y cwbl roedd Duw wedi ei wneud trwyddyn nhw. Ond dyma rai o'r Phariseaid oedd wedi dod i gredu yn sefyll ar eu traed a dadlau fod rhaid i bobl o genhedloedd eraill sy'n dod i gredu ufuddhau i Gyfraith Moses a chadw'r ddefod o enwaedu. Dyma'r apostolion ac arweinwyr eraill yr eglwys yn cyfarfod i ystyried y cwestiwn. Ar ôl lot o ddadlau brwd dyma Pedr yn codi ar ei draed, a dweud: “Frodyr. Beth amser yn ôl dych chi'n cofio fod Duw wedi fy newis i rannu'r newyddion da gyda phobl o genhedloedd eraill, a'u cael nhw i gredu. Mae Duw yn gwybod beth sydd yng nghalon pobl, a dangosodd yn glir ei fod yn eu derbyn nhw drwy roi'r Ysbryd Glân iddyn nhw yn union fel y cafodd ei roi i ni. Doedd Duw ddim yn gwahaniaethu rhyngon ni a nhw, am ei fod wedi puro eu calonnau nhw hefyd wrth iddyn nhw gredu. Felly pam dych chi'n amau beth mae Duw wedi ei wneud, drwy fynnu fod y disgyblion yma'n cario beichiau roedden ni a'n hynafiaid yn methu eu cario? Dŷn ni'n credu'n hollol groes! — mai dim ond ffafr a haelioni'r Arglwydd Iesu sy'n ein hachub ni fel hwythau!” Doedd gan neb ddim byd arall i'w ddweud, a dyma nhw'n gwrando ar Barnabas a Paul yn dweud am yr arwyddion gwyrthiol a'r pethau rhyfeddol eraill roedd Duw wedi eu gwneud trwyddyn nhw pan oedden nhw gyda phobl o genhedloedd eraill. Ar ôl iddyn nhw orffen siarad dyma Iago'n dweud: “Gwrandwch, frodyr. Mae Simon wedi disgrifio sut dewisodd Duw bobl iddo'i hun o genhedloedd eraill am y tro cyntaf. Ac mae beth ddwedodd y proffwydi yn cadarnhau hynny, er enghraifft: ‘Bydda i'n dod nôl wedi hyn i ailsefydlu teyrnas Dafydd sydd wedi syrthio. Bydda i'n adeiladu ei adfeilion, a'i adfer, er mwyn i weddill y ddynoliaeth geisio'r Arglwydd, a'r holl wledydd eraill sy'n perthyn i mi.’ Mae'r Arglwydd wedi gwneud y pethau yma yn hysbys ers oesoedd maith. “Felly, yn fy marn i, ddylen ni ddim gwneud pethau'n anodd i'r bobl o genhedloedd eraill sy'n troi at Dduw. Yn lle hynny, gadewch i ni ysgrifennu atyn nhw, a gofyn iddyn nhw beidio bwyta bwyd sydd wedi ei lygru gan eilun-dduwiau, cadw draw oddi wrth anfoesoldeb rhywiol, a pheidio bwyta cig anifeiliaid sydd wedi eu tagu nac unrhyw beth â gwaed ynddo. Mae yna rai ym mhob dinas sydd wedi bod yn pregethu beth ddysgodd Moses ers amser maith, ac mae Cyfraith Moses yn cael ei darllen yn y synagogau bob Saboth.” Dyma'r apostolion, gyda'r eglwys gyfan a'i harweinwyr, yn penderfynu dewis dynion i fynd i Antiochia yn Syria gyda Paul a Barnabas. Dau o'r arweinwyr gafodd eu dewis, sef Jwdas (sy'n cael ei alw'n Barsabas) a Silas. Ac roedden nhw i fynd â'r llythyr yma gyda nhw: Llythyr oddi wrth y brodyr yn Jerwsalem, sef apostolion ac arweinwyr yr eglwys. At ein brodyr a'n chwiorydd o genhedloedd eraill yn Antiochia, Syria a Cilicia: Cyfarchion! Dŷn ni wedi clywed fod rhywrai oddi yma wedi bod yn creu helynt acw, ac yn eich drysu a'ch ypsetio chi gyda beth maen nhw'n ei ddysgu. Dim ni wnaeth eu hanfon nhw. Felly dŷn ni wedi cytuno'n unfrydol i anfon dynion atoch chi gyda'n ffrindiau annwyl Barnabas a Paul sydd wedi mentro'u bywydau dros ein Harglwydd Iesu Grist. Bydd Jwdas a Silas yn cadarnhau ar lafar beth dŷn ni wedi ei roi yn y llythyr yma. Mae'r Ysbryd Glân wedi dangos i ni, a ninnau wedi penderfynu na ddylen ni ofyn mwy na hyn gynnoch chi: Eich bod i beidio bwyta unrhyw beth sydd wedi ei aberthu i eilun-dduwiau, na dim sydd â gwaed ynddo, na chig unrhyw anifail sydd wedi ei dagu. Hefyd, eich bod i gadw draw oddi wrth unrhyw anfoesoldeb rhywiol. Byddai'n beth da i chi osgoi y pethau yma. Pob hwyl i chi! Felly dyma Paul a Barnabas, Jwdas a Silas yn cael eu hanfon ar eu ffordd, ac yn cyrraedd Antiochia yn Syria. Yno dyma nhw'n casglu pawb at ei gilydd ac yn cyflwyno'r llythyr iddyn nhw. Cafodd y llythyr ei ddarllen, ac roedd y bobl yn hapus iawn ac wedi eu calonogi'n fawr gan yr hyn roedd yn ei ddweud. A dyma Jwdas a Silas, oedd yn broffwydi, yn siarad yn hir gyda'r Cristnogion yno, a dweud llawer o bethau i'w hannog a chryfhau eu ffydd. Ar ôl aros yn Antiochia am beth amser, dyma'r ddau yn mynd yn ôl i Jerwsalem at y bobl oedd wedi eu hanfon, a hynny gyda bendith Cristnogion Antiochia. *** Ond arhosodd Paul a Barnabas i helpu pawb arall oedd yn dysgu ac yn cyhoeddi neges yr Arglwydd yno. Ar ôl i dipyn o amser fynd heibio dyma Paul yn dweud wrth Barnabas, “Gad i ni fynd yn ôl i ymweld â'r credinwyr yn y lleoedd hynny lle buon ni'n cyhoeddi neges yr Arglwydd, i weld sut maen nhw'n dod yn eu blaenau.” Roedd Barnabas am fynd, ond roedd eisiau mynd â Ioan Marc gyda nhw hefyd. Ond roedd Paul yn gwbl benderfynol na ddylai gael mynd, am fod Marc wedi troi ei gefn arnyn nhw yn Pamffilia a heb gario ymlaen gyda nhw yn y gwaith. Aeth hi'n gymaint o ffrae rhyngddyn nhw nes iddyn nhw wahanu. Dyma Barnabas yn hwylio i Cyprus gyda Marc, a Paul yn dewis Silas i fynd gydag e. Ar ôl cael eu cyflwyno i ofal yr Arglwydd gan y credinwyr eraill, dyma nhw'n teithio drwy Syria a Cilicia yn cryfhau'r eglwysi. Aeth Paul ymlaen i Derbe ac yna i Lystra, lle roedd disgybl o'r enw Timotheus yn byw. Roedd ei fam yn Iddewes ac yn credu, ond ei dad yn Roegwr. Dim ond pethau da oedd gan Gristnogion Lystra ac Iconium i'w dweud am Timotheus, felly roedd Paul am iddo fynd gyda nhw ar y daith. Trefnodd i Timotheus gael ei enwaedu rhag i'r Iddewon yn yr ardal gael eu tramgwyddo. Roedden nhw'n gwybod fod tad Timotheus yn Roegwr. Wrth deithio o un dref i'r llall roedden nhw'n dweud beth oedd yr apostolion a'r arweinwyr eraill yn Jerwsalem wedi penderfynu ei ofyn gan gredinwyr o genhedloedd eraill. Felly roedd ffydd yr eglwysi yn cryfhau a nifer y bobl ynddyn nhw'n tyfu bob dydd. Teithiodd Paul a'i ffrindiau ymlaen ar hyd cyrion Phrygia a Galatia, gan fod yr Ysbryd Glân wedi eu stopio nhw rhag mynd i dalaith Asia i rannu eu neges. Dyma nhw'n cyrraedd ffin Mysia gyda'r bwriad o fynd ymlaen i Bithynia, ond dyma Ysbryd Glân Iesu yn eu stopio nhw rhag mynd yno hefyd. Felly dyma nhw'n mynd trwy Mysia i lawr i ddinas Troas. Y noson honno cafodd Paul weledigaeth — roedd dyn o Macedonia yn sefyll o'i flaen, yn crefu arno, “Tyrd draw i Macedonia i'n helpu ni!” Felly, o ganlyniad i'r weledigaeth yma, dyma ni'n paratoi i fynd i Macedonia ar unwaith. Roedden ni wedi dod i'r casgliad mai yno roedd Duw am i ni fynd i gyhoeddi'r newyddion da. Dyma ni'n hwylio o borthladd Troas a chroesi'n syth ar draws i ynys Samothrace, cyn glanio yn Neapolis y diwrnod wedyn. O'r fan honno aethon ni ymlaen i Philipi sy'n dref Rufeinig — y ddinas fwyaf yn y rhan honno o Macedonia. Buon ni yno am rai dyddiau. Ar y dydd Saboth dyma ni'n mynd allan o'r ddinas at lan yr afon, lle roedden ni'n deall fod pobl yn cyfarfod i weddïo. Dyma ni'n eistedd i lawr a dechrau siarad â'r gwragedd oedd wedi dod at ei gilydd yno. Roedd un wraig yno o'r enw Lydia — gwraig o ddinas Thyatira oedd â busnes gwerthu brethyn porffor drud. Roedd hi'n un oedd yn addoli Duw. Wrth wrando, agorodd yr Arglwydd ddrws ei chalon hi, a dyma hi'n ymateb i neges Paul. Cafodd hi a rhai eraill o'i thŷ eu bedyddio, a rhoddodd wahoddiad i ni i aros yn ei thŷ. “Os dych chi'n derbyn mod i wedi dod i gredu yn yr Arglwydd,” meddai, “dewch i aros yn fy nghartre i.” A llwyddodd i'n perswadio ni i wneud hynny. Rhyw ddiwrnod arall pan oedden ni ar ein ffordd i'r lle gweddi, dyma ni'n cyfarfod caethferch oedd ag ysbryd ynddi yn ei galluogi i ragweld y dyfodol. Roedd hi'n ennill arian mawr i'w pherchnogion drwy ddweud ffortiwn. Dechreuodd ein dilyn ni, gan weiddi, “Mae'r dynion yma yn weision i'r Duw Goruchaf! Maen nhw'n dweud wrthoch chi sut i gael eich achub!” Aeth hyn ymlaen am ddyddiau lawer. Yn y diwedd, roedd hi wedi mynd ar nerfau Paul cymaint nes iddo droi rownd a dweud wrth yr ysbryd drwg oedd ynddi, “Yn enw Iesu y Meseia, tyrd allan ohoni!” A dyma'r ysbryd yn ei gadael hi yr eiliad honno. Pan welodd ei meistri fod pob gobaith o wneud elw trwyddi wedi mynd hefyd, dyma nhw'n gafael yn Paul a Silas a'u llusgo o flaen yr awdurdodau yn sgwâr y farchnad. “Mae'r Iddewon hyn yn codi twrw yn y dre,” medden nhw wrth yr ynadon “ac maen nhw'n annog pobl i wneud pethau sy'n groes i'n harferion ni Rufeiniaid.” Ymunodd y dyrfa yn yr ymosod ar Paul a Silas, a dyma'r ynadon yn gorchymyn tynnu dillad y ddau a'u curo â ffyn. Wedyn ar ôl eu curo'n ddidrugaredd, dyma nhw'n eu taflu nhw i'r carchar. Cafodd swyddog y carchar orchymyn i'w gwylio nhw'n ofalus, felly rhoddodd y ddau ohonyn nhw yn y gell fwyaf diogel a rhoi eu traed mewn cyffion. Tua hanner nos roedd Paul a Silas wrthi'n gweddïo ac yn canu emynau o fawl, ac roedd y carcharorion eraill i gyd yn gwrando. Yna'n sydyn dyma ddaeargryn mawr yn ysgwyd y carchar i'w sylfeini. Dyma'r drysau i gyd yn agor, a'r cadwyni yn disgyn i ffwrdd oddi ar bawb! Pan ddeffrodd swyddog y carchar a gweld y drysau ar agor, roedd yn meddwl fod y carcharorion wedi dianc. Gafaelodd yn ei gleddyf gan fwriadu lladd ei hun. Ond dyma Paul yn gweiddi, “Paid! Dŷn ni i gyd yma!” Galwodd y swyddog am oleuadau, a rhuthro i mewn i gell Paul a Silas, a syrthio i lawr o'u blaenau yn crynu mewn ofn. Yna aeth a nhw allan a gofyn iddyn nhw, “Beth sydd raid i mi ei wneud i gael fy achub?” Dyma nhw'n ateb, “Credu yn yr Arglwydd Iesu, dyna sut mae cael dy achub — ti a phawb arall yn dy dŷ.” A dyma nhw'n rhannu'r newyddion da am yr Arglwydd Iesu gyda'r swyddog a phawb arall yn ei dŷ. Yna aeth y swyddog â nhw yng nghanol y nos i lanhau eu briwiau. Wedyn cafodd e a phawb arall yn ei dŷ eu bedyddio. Yna aeth â nhw i'w gartref a rhoi pryd o fwyd iddyn nhw. Roedd pawb yn ei dŷ mor hapus eu bod nhw wedi credu yn Nuw. Yn gynnar y bore wedyn dyma'r ynadon yn anfon plismyn i'r carchar i ddweud wrth y swyddog am ollwng Paul a Silas yn rhydd. Dyma'r swyddog yn dweud wrth Paul, “Mae'r ynadon wedi dweud eich bod chi'ch dau yn rhydd i fynd.” Ond meddai Paul wrth y plismyn: “Maen nhw wedi'n curo ni'n gyhoeddus a'n taflu ni i'r carchar heb achos llys, a ninnau'n ddinasyddion Rhufeinig! Ydyn nhw'n meddwl nawr eu bod nhw'n gallu cael gwared â ni'n ddistaw bach? Dim gobaith! Bydd rhaid iddyn nhw ddod yma eu hunain i'n hebrwng ni allan!” Dyma'r plismyn yn mynd i ddweud wrth yr ynadon beth oedd wedi digwydd. Pan glywon nhw fod Paul a Silas yn ddinasyddion Rhufeinig roedden nhw wedi dychryn. Felly dyma nhw'n dod i'r carchar i ymddiheuro. Ar ôl mynd â nhw allan o'r carchar, dyma nhw'n pwyso ar y ddau dro ar ôl tro i adael y ddinas. Felly dyma Paul a Silas yn mynd i dŷ Lydia i gyfarfod y credinwyr a'u hannog nhw i ddal ati, ac wedyn dyma nhw'n gadael Philipi. Dyma nhw'n teithio drwy drefi Amffipolis ac Apolonia a chyrraedd Thesalonica, lle roedd synagog Iddewig. Aeth Paul i'r cyfarfodydd yn y synagog yn ôl ei arfer, ac am dri Saboth yn olynol buodd yn trafod yr ysgrifau sanctaidd gyda'r bobl yno. Dangosodd iddyn nhw'n glir a phrofi fod rhaid i'r Meseia ddioddef, a dod yn ôl yn fyw ar ôl marw. “Yr Iesu dw i'n sôn amdano ydy'r Meseia,” meddai wrthyn nhw. Cafodd rhai o'r Iddewon oedd yno'n gwrando eu perswadio, a dyma nhw'n ymuno â Paul a Silas. Daeth nifer fawr o'r Groegiaid oedd yn addoli Duw i gredu hefyd, a sawl un o wragedd pwysig y dre. Ond roedd arweinwyr yr Iddewon yn genfigennus; felly dyma nhw'n casglu criw o ddynion oedd yn loetran yn sgwâr y farchnad a'u cael i ddechrau codi twrw yn y ddinas. Dyma nhw'n mynd i dŷ Jason i chwilio am Paul a Silas er mwyn dod â nhw allan at y dyrfa. Ond ar ôl methu dod o hyd iddyn nhw, dyma nhw'n llusgo Jason a rhai o'r Cristnogion eraill o flaen swyddogion y ddinas. Roedden nhw'n gweiddi: “Mae'r dynion sydd wedi bod yn codi twrw ar hyd a lled y byd wedi dod i'n dinas ni, ac mae Jason wedi eu croesawu nhw i'w dŷ! Maen nhw'n herio Cesar, trwy ddweud fod brenin arall o'r enw Iesu!” Roedd y dyrfa a'r swyddogion wedi cyffroi wrth glywed y cyhuddiadau yma. Ond dyma'r swyddogion yn penderfynu rhyddhau Jason a'r lleill ar fechnïaeth. Yn syth ar ôl iddi nosi, dyma'r credinwyr yn anfon Paul a Silas i ffwrdd i Berea. Ar ôl cyrraedd yno dyma nhw'n mynd i'r synagog Iddewig. Roedd pobl Berea yn fwy agored na'r Thesaloniaid. Roedden nhw'n gwrando'n astud ar neges Paul, ac wedyn yn mynd ati i chwilio'r ysgrifau sanctaidd yn ofalus i weld os oedd y pethau roedd e'n ddweud yn wir. Daeth llawer o'r Iddewon i gredu, a nifer o wragedd pwysig o blith y Groegiaid, a dynion hefyd. Ond pan glywodd Iddewon Thesalonica fod Paul yn cyhoeddi neges Duw yn Berea, dyma nhw'n mynd yno i greu helynt a chynhyrfu'r dyrfa. Dyma'r Cristnogion yno yn penderfynu anfon Paul i'r arfordir ar unwaith, ond arhosodd Silas a Timotheus yn Berea. Aeth rhai gyda Paul cyn belled ag Athen, ac yna ei adael a mynd yn ôl i Berea gyda chais ar i Silas a Timotheus fynd ato cyn gynted â roedden nhw'n gallu. Tra roedd Paul yn disgwyl amdanyn nhw yn Athen, roedd wedi cynhyrfu'n lân wrth weld cymaint o eilunod oedd yn y ddinas. Aeth i'r synagog i geisio rhesymu gyda'r Iddewon a'r Groegiaid oedd yn addoli Duw, ond hefyd i sgwâr y farchnad i geisio rhesymu gyda phwy bynnag oedd yn digwydd bod yno. Dechreuodd dadl rhyngddo â grŵp o athronwyr, rhai yn Epicwreaid ac eraill yn Stoiciaid. “Beth mae'r mwydryn yma'n sôn amdano?” meddai rhai ohonyn nhw. “Sôn am ryw dduwiau tramor mae e,” meddai eraill. (Roedden nhw'n dweud hyn am fod Paul yn cyhoeddi'r newyddion da am Iesu a'r atgyfodiad.) Felly dyma nhw'n mynd â Paul i gyfarfod o gyngor yr Areopagus. “Dywed beth ydy'r grefydd newydd yma rwyt ti'n sôn amdani,” medden nhw. “Mae gen ti ryw syniadau sy'n swnio'n od iawn i ni, a dŷn ni eisiau gwybod beth ydy ystyr y cwbl.” (Roedd yr Atheniaid a'r ymwelwyr oedd yn byw yno yn treulio'u hamser hamdden i gyd yn trafod ac yn gwrando pob syniad newydd!) Dyma Paul yn sefyll ar ei draed o flaen cyngor yr Areopagus, a'u hannerch fel hyn: “Bobl Athen! Dw i'n gweld tystiolaeth ym mhobman eich bod chi'n bobl grefyddol iawn. Dw i wedi bod yn cerdded o gwmpas yn edrych yn ofalus ar yr hyn dych chi'n ei addoli. Yng nghanol y cwbl des i o hyd i un allor oedd â'r geiriau yma wedi eu cerfio arni: I'R DUW ANHYSBYS. Dyma'r Duw dw i'n mynd i ddweud wrthoch chi amdano — yr un dych chi'n ei addoli ond ddim yn ei nabod. “Dyma'r Duw wnaeth greu'r byd a phopeth sydd ynddo. Mae'n Arglwydd ar y nefoedd a'r ddaear. Dydy e ddim yn byw mewn temlau sydd wedi eu hadeiladu gan bobl, a dydy pobl ddim yn gallu rhoi unrhyw beth iddo — does dim byd sydd arno'i angen! Y Duw yma sy'n rhoi bywyd ac anadl a phopeth arall i bawb. Fe ydy'r Duw wnaeth greu y dyn cyntaf, a gwneud ohono yr holl genhedloedd gwahanol sy'n byw drwy'r byd i gyd. Mae'n penderfynu am faint fydd y cenhedloedd yna'n bodoli, a lle'n union mae eu ffiniau daearyddol. Gwnaeth hyn i gyd er mwyn iddyn nhw geisio dod o hyd iddo, ac estyn allan a'i gael. A dydy e ddim yn bell oddi wrthon ni mewn gwirionedd. ‘Dŷn ni'n byw, yn symud ac yn bod ynddo fe,’ ydy geiriau un o'ch beirdd chi. Ac mae un arall yn dweud, ‘Ni yw ei epil.’ “Felly, os ydyn ni'n blant Duw, ddylen ni ddim meddwl amdano fel rhyw ddelw o aur neu arian neu faen — sef dim byd ond cerflun wedi ei ddylunio a'i greu gan grefftwr! Ydy, mae Duw wedi diystyru'r fath ddwli yn y gorffennol, ond bellach mae'n galw ar bobl ym mhobman i droi ato. Mae e wedi dewis diwrnod pan fydd y byd i gyd yn cael ei farnu. Bydd y farn yna'n gwbl deg. Mae wedi dewis dyn i wneud y barnu, ac mae wedi dangos yn glir ei fod yn mynd i wneud hyn drwy ddod â'r dyn hwnnw yn ôl yn fyw ar ôl iddo farw.” Pan glywon nhw am y syniad o rywun yn dod yn ôl yn fyw ar ôl marw, dyma rhai ohonyn nhw yn dechrau gwneud sbort, ond meddai rhai eraill, “Fasen ni'n hoffi dy glywed di'n siarad am y pwnc yma rywbryd eto.” Felly dyma Paul yn mynd allan o'r cyfarfod. Ond roedd rhai wedi credu beth roedd Paul yn ei ddweud a dechrau ei ddilyn. Roedd hyd yn oed un oedd yn aelod o gyngor yr Areopagus, sef Dionysiws; a gwraig o'r enw Damaris, a nifer o bobl eraill hefyd. Ar ôl hyn gadawodd Paul Athen a mynd i Corinth. Yno dyma fe'n cyfarfod Iddew o'r enw Acwila oedd yn dod yn wreiddiol o Pontus. Roedd Acwila a'i wraig Priscila wedi symud i Corinth o'r Eidal ychydig cyn hyn, am fod yr ymerawdwr Clawdiws Cesar wedi gorchymyn fod pob Iddew i adael Rhufain. Gwneud pebyll oedd eu crefft nhw fel yntau, ac felly aeth Paul i weithio atyn nhw. Yna bob Saboth byddai'n mynd i'r synagog ac yn ceisio perswadio Iddewon a Groegiaid i gredu'r newyddion da. Ar ôl i Silas a Timotheus gyrraedd o Macedonia dyma Paul yn mynd ati i bregethu'n llawn amser, a dangos yn glir i'r Iddewon mai Iesu oedd y Meseia. Ond pan wnaethon nhw droi yn ei erbyn a dechrau ei sarhau, dyma Paul yn ysgwyd y llwch oddi ar ei ddillad fel arwydd iddyn nhw. “Arnoch chi mae'r bai am beth bynnag fydd yn digwydd i chi!” meddai, “Dw i wedi gwneud beth dw i'n gallu. O hyn ymlaen dw i'n mynd at bobl y cenhedloedd eraill.” Aeth Paul i aros yn nhŷ Titius Jwstus, oedd ddim yn Iddew ond oedd yn addoli Duw ac yn byw y drws nesa i'r synagog. Roedd Crispus, arweinydd y synagog, a phawb yn ei dŷ, wedi dod i gredu yn yr Arglwydd; ac roedd llawer o bobl eraill Corinth wedi clywed Paul a dod i gredu hefyd, a chael eu bedyddio. Un noson cafodd Paul weledigaeth, pan ddwedodd yr Arglwydd wrtho: “Paid bod ofn! Dal ati i ddweud wrth bobl amdana i. Paid bod yn ddistaw. Dw i gyda ti, a fydd neb yn ymosod arnat ti na gwneud niwed i ti. Dw i'n mynd i achub llawer o bobl yn y ddinas yma.” Felly arhosodd Paul yn Corinth am flwyddyn a hanner, yn dysgu neges Duw i'r bobl. Tra roedd Galio yn rhaglaw ar Achaia, dyma'r arweinwyr Iddewig yn dod at ei gilydd i ddal Paul a mynd ag e i'r llys. Y cyhuddiad yn ei erbyn oedd, “Perswadio pobl i addoli Duw mewn ffyrdd anghyfreithlon.” Ond cyn i Paul gael cyfle i gyflwyno ei amddiffyniad, dyma Galio yn dweud wrth yr Iddewon: “Petaech chi Iddewon yn dod â'r dyn yma o flaen y llys am gamymddwyn neu gyflawni rhyw drosedd difrifol, byddwn i'n caniatáu i'r achos fynd yn ei flaen. Ond y cwbl sydd yma ydy dadl am sut i ddehongli manion eich Cyfraith chi. Felly ewch i ddelio gyda'r mater eich hunain. Dw i'n gwrthod barnu'r achos.” Felly taflodd nhw allan o'r llys. Y tu allan i'r llys dyma griw o bobl yn gafael yn Sosthenes, arweinydd y synagog, a'i guro. Ond doedd Galio ddim fel petai'n poeni dim. Arhosodd Paul yn Corinth am amser hir wedyn. Pan ffarweliodd â'r Cristnogion yno hwyliodd i Syria, ac aeth Priscila ac Acwila gydag e. (Cyn mynd ar y llong yn Cenchrea roedd Paul wedi cadw'r ddefod Iddewig o eillio ei ben fel arwydd o gysegru ei hun yn llwyr i Dduw.) Ar ôl glanio yn Effesus, gadawodd Paul Priscila ac Acwila yno. Ond tra roedd yno aeth i drafod gyda'r Iddewon yn y synagog. Dyma nhw'n gofyn iddo aros yn hirach yno, ond gwrthododd. Ond wrth adael addawodd iddyn nhw, “Bydda i'n dod nôl atoch chi os Duw a'i myn.” Felly hwyliodd Paul yn ei flaen o Effesus, a chyrraedd Cesarea. Yna aeth i ymweld â'r eglwys yn Jerwsalem cyn mynd yn ei flaen i'w eglwys gartref yn Antiochia Syria. Ar ôl aros yn Antiochia am dipyn, aeth i ymweld â'r eglwysi yn ardal Galatia a Phrygia unwaith eto, a chryfhau ffydd y Cristnogion yno. Yn y cyfamser roedd rhyw Iddew o'r enw Apolos wedi mynd i Effesus. Roedd yn dod yn wreiddiol o Alecsandria — dyn galluog, hyddysg iawn yn yr ysgrifau sanctaidd. Roedd wedi dysgu am yr Arglwydd Iesu, ac yn siarad yn frwd iawn amdano. Roedd beth oedd e'n ei ddysgu am Iesu yn ddigon cywir, ond dim ond bedydd Ioan oedd e'n gwybod amdano. Roedd yn siarad yn gwbl agored am y pethau yma yn y synagog. Pan glywodd Priscila ac Acwila beth oedd yn ei ddweud, dyma nhw yn ei wahodd i'w cartref ac yn esbonio ffordd Duw iddo yn fwy manwl. Cododd awydd yn Apolos i fynd i Achaia, ac roedd y credinwyr eraill yn ei gefnogi. Felly dyma nhw'n ysgrifennu llythyr at Gristnogion Achaia yn dweud wrthyn nhw am roi croeso iddo. Pan gyrhaeddodd yno roedd yn help mawr i'r rhai oedd, drwy garedigrwydd Duw, wedi dod i gredu. Roedd e'n gwrthbrofi dadleuon yr Iddewon mewn cyfarfodydd cyhoeddus. Roedd yn defnyddio'r ysgrifau sanctaidd i ddangos yn glir mai Iesu oedd y Meseia. Tra roedd Apolos yn Corinth teithiodd Paul ar draws gwlad a chyrraedd Effesus. Yno daeth o hyd i grŵp o gredinwyr, a gofynnodd iddyn nhw, “Wnaethoch chi dderbyn yr Ysbryd Glân pan ddaethoch chi i gredu?” “Na,” medden nhw, “dŷn ni ddim hyd yn oed wedi clywed fod yna'r fath beth ag Ysbryd Glân!” “Felly pa fedydd gawsoch chi?” meddai Paul. “Bedydd Ioan,” medden nhw. Atebodd Paul, “Bedydd i ddangos eich bod am droi cefn ar bechod oedd bedydd Ioan. Dwedodd Ioan wrth y bobl hefyd am gredu yn yr un oedd i ddod ar ei ôl, sef yn Iesu.” Felly ar ôl clywed hyn dyma nhw'n cael eu bedyddio i ddangos eu bod nhw'n perthyn i'r Arglwydd Iesu. Wedyn dyma Paul yn rhoi ei ddwylo arnyn nhw, a daeth yr Ysbryd Glân arnyn nhw, a dyma nhw'n dechrau siarad ieithoedd eraill a phroffwydo. (Roedd yno ryw ddwsin o ddynion i gyd.) Am dri mis aeth Paul i'r synagog, a siarad yn gwbl agored yno, a cheisio perswadio'r bobl am deyrnasiad Duw. Ond dyma rhai ohonyn nhw'n troi'n ystyfnig — yn lle credu roedden nhw'n dechrau siarad yn erbyn Ffordd yr Arglwydd Iesu o flaen pawb. Felly dyma Paul yn eu gadael nhw, a mynd â'r credinwyr eraill gydag e. Roedden nhw'n cyfarfod yn narlithfa Tyranus i wrando ar Paul yn dysgu. Aeth hyn ymlaen am ddwy flynedd, nes bod pawb yn nhalaith Asia wedi clywed neges yr Arglwydd, yn Iddewon a phobl o genhedloedd eraill. Roedd Duw yn gwneud gwyrthiau anhygoel drwy Paul. Roedd cleifion yn cael eu hiacháu ag ysbrydion drwg yn mynd allan ohonyn nhw pan oedd cadachau a ffedogau oedd wedi ei gyffwrdd yn cael eu cymryd atyn nhw. Roedd grŵp o Iddewon hefyd yn mynd o gwmpas yn bwrw ysbrydion drwg allan o bobl, a dyma nhw'n ceisio defnyddio enw'r Arglwydd Iesu i ddelio gyda phobl oedd yng ngafael cythreuliaid. “Yn enw'r Iesu mae Paul yn pregethu amdano, dw i'n gorchymyn i ti ddod allan!” medden nhw. (Meibion Scefa, archoffeiriad Iddewig, oedden nhw — ac roedd saith ohonyn nhw). Dyma'r ysbryd drwg yn ateb, “Dw i'n nabod Iesu, ac yn gwybod am Paul, ond pwy dych chi?” A dyma'r dyn oedd a'r ysbryd drwg ynddo yn ymosod arnyn nhw a rhoi'r fath gweir iddyn nhw i gyd nes iddyn nhw redeg allan o'r tŷ yn noeth ac yn gwaedu. Clywodd pawb yn Effesus beth oedd wedi digwydd — yr Iddewon a phawb arall. Daeth ofn drostyn nhw i gyd, ac roedd enw'r Arglwydd Iesu yn cael ei barchu fwy fyth. Dyma lawer o'r bobl wnaeth gredu yn cyfaddef yn agored y pethau drwg roedden nhw wedi eu gwneud. Roedd nifer ohonyn nhw wedi bod yn medlan gyda dewiniaeth, a dyma nhw'n dod a'r llyfrau oedd ganddyn nhw ar y pwnc ac yn eu llosgi yn gyhoeddus. Roedd y llyfrau gafodd eu llosgi yn werth ffortiwn — dros 50,000 drachma yn ôl un amcangyfrif. Fel hyn roedd neges yr Arglwydd Iesu yn mynd ar led ac yn mynd yn fwy a mwy dylanwadol. Ar ôl hyn i gyd, dyma Paul yn penderfynu fod rhaid iddo fynd i Jerwsalem, a galw heibio Macedonia ac Achaia ar ei ffordd. “Wedyn ar ôl bod yn Jerwsalem,” meddai, “mae'n rhaid i mi ymweld â Rhufain.” Ond arhosodd yn Asia am ychydig mwy, ac anfon Timotheus ac Erastus o'i flaen i Macedonia. Tua'r adeg yna buodd yna dwrw mawr yn Effesus ynglŷn â Ffordd yr Arglwydd. Roedd gof arian o'r enw Demetrius yn rhedeg busnes gwneud modelau bach o deml y dduwies Artemis, ac yn cyflogi nifer o weithwyr. Daeth â'r gweithwyr i gyd at ei gilydd, a gwahodd pobl eraill oedd â busnesau tebyg. Dwedodd wrthyn nhw, “Ffrindiau, y busnes yma ydy'n bywoliaeth ni — mae'n gwneud arian da i ni. Ond, fel dych chi'n gwybod, mae'r dyn Paul yma wedi llwyddo i berswadio lot fawr o bobl bod y delwau dŷn ni'n eu gwneud ddim yn dduwiau o gwbl mewn gwirionedd. Mae wedi gwneud hyn, dim yn unig yma yn Effesus, ond bron drwy dalaith Asia i gyd. Mae peryg nid yn unig i'n busnes ni fynd i'r wal, ond hefyd i deml Artemis golli ei dylanwad, ac i'r dduwies fawr ei hun, sy'n cael ei haddoli ar hyd a lled Asia, golli ei statws!” Wrth glywed beth oedd gan Demetrius i'w ddweud, dyma'r dyrfa'n cynhyrfu'n lân a dechrau gweiddi: “Artemis yr Effesiaid am byth!” Cyn bo hir roedd y ddinas i gyd yn ferw gwyllt. Dyma nhw'n dal Gaius ac Aristarchus (dau o Macedonia oedd wedi bod yn teithio gyda Paul), a'u llusgo nhw i'r amffitheatr enfawr oedd yno. Roedd Paul eisiau mynd i mewn i wynebu'r dyrfa, ond wnaeth y disgyblion ddim gadael iddo. Dyma hyd yn oed rhai o swyddogion y dalaith roedd Paul yn ffrindiau â nhw yn anfon neges ato i bwyso arno i beidio mentro i mewn. Roedd y dyrfa oedd wedi casglu mewn anhrefn llwyr. Roedd rhai ohonyn nhw'n gweiddi un peth a rhai eraill yn gweiddi rhywbeth arall. Doedd gan y rhan fwyaf o'r bobl oedd yno ddim syniad beth oedd yn mynd ymlaen! Dyma rai o'r arweinwyr Iddewig yn gwthio dyn o'r enw Alecsander i'r blaen i esbonio fod gan y cwbl ddim byd i'w wneud â'r Iddewon. Cododd yntau ei law i geisio tawelu'r dyrfa, er mwyn iddo amddiffyn enw da'r Iddewon. Ond pan ddeallodd y dyrfa ei fod yn Iddew, dyma nhw'n dechrau gweiddi gyda'i gilydd eto, “Artemis yr Effesiaid am byth!” Aeth y siantio ymlaen yn ddi-stop am tua dwy awr. Clerc y ddinas lwyddodd i dawelu'r dyrfa yn y diwedd, ac meddai: “Bobl Effesus. Mae pawb drwy'r byd i gyd yn gwybod mai yn ein dinas ni mae teml y dduwies fawr Artemis, ac mai ni sy'n gwarchod y ddelw ohoni ddaeth i lawr o'r nefoedd. Does neb yn gallu gwadu hynny, felly mae'n bryd i chi dawelu, a pheidio gwneud dim byd byrbwyll. Dydy'r dynion ddaethoch chi â nhw yma ddim yn euog o ddwyn unrhyw beth o'r deml nac o gablu ein duwies ni. Felly, os oes gan Demetrius a'i ffrindiau gwyn yn erbyn rhywun, mae llysoedd i ddelio â'r mater, a barnwyr. Dyna'r lle i ddwyn cyhuddiad yn erbyn rhywun. Ac os oes unrhyw beth pellach, caiff ei setlo mewn cyfarfod cyhoeddus swyddogol. Mae peryg i ni gael ein cyhuddo o ddechrau reiat o achos beth sydd wedi digwydd yma heddiw. A petai hynny'n digwydd, beth fydden ni'n ei ddweud wrth yr awdurdodau? — Does dim esgus am y peth.” Ar ôl dweud hyn anfonodd bawb adre. Pan oedd yr helynt drosodd, dyma Paul yn galw'r Cristnogion at ei gilydd i ffarwelio â nhw a'u hannog nhw i ddal ati. Gadawodd i fynd i Macedonia, ac ar ôl teithio ar hyd a lled yr ardal honno yn annog y bobl, aeth i lawr i Corinth yn y de, ac aros yno am dri mis. Pan oedd ar fin hwylio i Syria dyma fe'n darganfod fod yr Iddewon yn cynllwyn i ymosod arno, felly penderfynodd deithio yn ôl drwy Macedonia. Yn teithio gydag e roedd Sopater fab Pyrrhus o Berea, Aristarchus a Secwndus o Thesalonica, Gaius o Derbe, hefyd Timotheus, a Tychicus a Troffimus o dalaith Asia. Ond yna aeth y rhain yn eu blaenau i Troas, a disgwyl amdanon ni yno. Wnaethon ni ddim gadael Philipi nes oedd Gŵyl y Bara Croyw (sef y Pasg) drosodd. Yna bum diwrnod wedyn roedden ni wedi ymuno gyda'r lleill eto yn Troas, a dyma ni'n aros yno am wythnos. Ar y nos Sadwrn dyma ni'n cyfarfod i fwyta a dathlu Swper yr Arglwydd. Paul oedd yn pregethu, a chan ei fod yn bwriadu gadael y diwrnod wedyn, daliodd ati i siarad nes oedd hi'n hanner nos. Roedden ni'n cyfarfod mewn ystafell i fyny'r grisiau, ac roedd llawer o lampau yn llosgi yno. Wrth i Paul fynd ymlaen ac ymlaen, dyma fachgen ifanc o'r enw Eutychus yn dechrau pendwmpian. Roedd yn eistedd ar silff un o'r ffenestri, a phan oedd yn cysgu go iawn syrthiodd allan o'r ffenest oedd ar y trydydd llawr. Dyma nhw'n mynd i'w godi, ond roedd wedi marw. Ond yna aeth Paul i lawr, a thaflu ei freichiau o gwmpas y dyn ifanc. “Peidiwch cynhyrfu!”, meddai, “Mae'n fyw!” Wedyn aeth yn ôl i fyny i fwyta a dathlu Swper yr Arglwydd. Aeth yn ei flaen i siarad nes oedd hi wedi gwawrio, ac yna gadawodd nhw. Dyma nhw'n mynd â'r dyn ifanc adre'n fyw, ac roedd pawb wedi eu calonogi'n fawr. Dyma Paul yn penderfynu croesi ar draws gwlad i Assos. Roedd am i'r gweddill ohonon ni hwylio yno ar long, a byddai'n ein cyfarfod ni yno. Yn Assos ymunodd â ni ar y llong a dyma ni'n hwylio ymlaen i Mitylene. Y diwrnod wedyn dyma ni'n cyrraedd gyferbyn ag ynys Cios. Croesi i Samos y diwrnod canlynol. Ac yna'r diwrnod ar ôl hynny dyma ni'n glanio yn Miletus. Roedd Paul wedi penderfynu peidio galw yn Effesus y tro yma, rhag iddo golli gormod o amser yn nhalaith Asia. Roedd ar frys, ac yn awyddus i gyrraedd Jerwsalem erbyn Gŵyl y Pentecost. Ond tra roedd yn Miletus, anfonodd neges i Effesus yn galw arweinwyr yr eglwys i ddod draw i Miletus i'w gyfarfod. Pan gyrhaeddon nhw, dyma oedd ganddo i'w ddweud wrthyn nhw: “Dych chi'n gwybod yn iawn sut fues i'n gweithio i'r Arglwydd heb dynnu sylw ata i fy hun pan oeddwn i gyda chi yn nhalaith Asia. Dych chi'n gwybod am y dagrau gollais i, ac mor anodd roedd hi'n gallu bod am fod yr Iddewon yn cynllwynio yn fy erbyn i. Dych chi'n gwybod mod i wedi cyhoeddi beth oedd o les i chi, a mynd o gwmpas yn gwbl agored o un tŷ i'r llall yn eich dysgu chi. Dw i wedi dweud yn glir wrth yr Iddewon a phawb arall fod rhaid iddyn nhw droi o'u pechod at Dduw, a chredu yn yr Arglwydd Iesu. “A nawr dw i'n mynd i Jerwsalem. Mae'r Ysbryd wedi dweud fod rhaid i mi fynd, er nad ydw i'n gwybod beth fydd yn digwydd i mi ar ôl i mi gyrraedd yno. Yr unig beth dw i'n wybod ydy mod i'n mynd i gael fy arestio a bod pethau'n mynd i fod yn galed — mae'r Ysbryd Glân wedi gwneud hynny'n ddigon clir dro ar ôl tro mewn gwahanol leoedd. Sdim ots! Cyn belled â'm bod i'n gorffen y ras! Dydy mywyd i'n dda i ddim oni bai mod i'n gwneud y gwaith mae'r Arglwydd Iesu wedi ei roi i mi — sef dweud y newyddion da am gariad a haelioni Duw wrth bobl. “A dyna dw i wedi ei wneud yn eich plith chi — dw i wedi bod yn mynd o le i le yn pregethu am deyrnasiad Duw, ond bellach dw i'n gwybod na chewch chi ngweld i byth eto. Felly, dw i am ddweud yma heddiw — dim fi sy'n gyfrifol am beth fydd yn digwydd i unrhyw un. Dw i wedi dweud popeth sydd ei angen am y ffordd mae Duw'n achub, a beth mae'n ei ddisgwyl gynnon ni. “Gofalwch amdanoch eich hunain, a'r bobl mae'r Ysbryd Glân wedi eu rhoi yn eich gofal fel arweinwyr. Bugeilio eglwys Dduw fel mae bugail yn gofalu am ei braidd — dyma'r eglwys wnaeth Duw ei phrynu'n rhydd â'i waed ei hun! Dw i'n gwybod yn iawn y bydd athrawon twyllodrus yn dod i'ch plith chi cyn gynted ag y bydda i wedi mynd, fel bleiddiaid gwyllt yn llarpio'r praidd. Bydd hyd yn oed rhai o'ch pobl chi'ch hunain yn twistio'r gwirionedd i geisio denu dilynwyr iddyn nhw eu hunain. Felly gwyliwch eich hunain! Cofiwch mod i wedi'ch rhybuddio chi ddydd a nos, a cholli dagrau lawer am y tair blynedd roeddwn i gyda chi. “Dw i'n eich gadael chi yng ngofal Duw bellach, a'r neges am ei gariad a'i haelioni. Y neges yma sy'n eich adeiladu chi a rhoi etifeddiaeth i chi gyda phawb arall mae wedi eu cysegru iddo'i hun. Dw i ddim wedi ceisio cael arian na dillad gan neb. Dych chi'n gwybod yn iawn mod i wedi gweithio'n galed i dalu fy ffordd a chynnal fy ffrindiau. Drwy'r cwbl roeddwn i'n dangos sut bydden ni'n gallu helpu'r tlodion drwy weithio'n galed. Dych chi'n cofio fod yr Arglwydd Iesu ei hun wedi dweud: ‘Mae rhoi yn llawer gwell na derbyn.’” Ar ôl dweud hyn i gyd, aeth ar ei liniau i weddïo gyda nhw. Dyma pawb yn dechrau crïo wrth gofleidio Paul a'i gusanu. (Roedden nhw'n arbennig o drist am ei fod wedi dweud y bydden nhw ddim yn ei weld byth eto.) Wedyn dyma nhw'n mynd i lawr at y llong gydag e. Ar ôl llwyddo i dynnu'n hunain i ffwrdd oddi wrthyn nhw dyma ni'n dechrau'r fordaith a hwylio'n syth i ynys Cos. Cyrraedd Rhodos y diwrnod wedyn, ac yna mynd ymlaen i Patara. Newid llong yno, a hwylio ymlaen ar long oedd yn mynd i dalaith Phenicia yn Syria. Cael cipolwg ar ynys Cyprus wrth hwylio i'r de o'r ynys, ac yna mynd ymlaen i Syria. Dyma ni'n glanio yn Tyrus lle roedd y llong yn dadlwytho ei chargo. Daethon ni o hyd i'r Cristnogion yno, ac aros gyda nhw am wythnos. Roedden nhw'n pwyso ar Paul i beidio mynd i Jerwsalem o achos beth roedden nhw'n ei broffwydo drwy'r Ysbryd Glân. Ond mynd ymlaen ar ein taith wnaethon ni pan ddaeth hi'n amser i ni symud. Daethon nhw i gyd i lawr i'r traeth gyda ni i ffarwelio — hyd yn oed y gwragedd a'r plant. Yno dyma ni i gyd yn mynd ar ein gliniau i weddïo. Ar ôl ffarwelio â'n gilydd aethon ni ar y llong a dyma nhw'n mynd adre. Dyma ni'n hwylio ymlaen o Tyrus ac yn glanio wedyn yn Ptolemais. Rhoddodd y Cristnogion yno groeso i ni, a chawson dreulio'r diwrnod gyda nhw. A'r diwrnod wedyn dyma ni'n mynd ymlaen i Cesarea, ac aros yng nghartre Philip yr efengylydd (un o'r saith gafodd eu dewis gan eglwys Jerwsalem i fod yn gyfrifol am ddosbarthu bwyd i'r gweddwon). Roedd gan Philip bedair o ferched dibriod oedd yn proffwydo. Roedden ni wedi bod yno am rai dyddiau, a dyma broffwyd o'r enw Agabus yn dod yno o Jwdea. Pan ddaeth, cymerodd felt Paul oddi arno a rhwymo ei ddwylo a'i draed ei hun gyda hi. Yna meddai, “Dyma mae'r Ysbryd Glân yn ei ddweud, ‘Bydd arweinwyr yr Iddewon yn Jerwsalem yn rhwymo'r sawl sydd biau'r belt yma, ac yna'n ei drosglwyddo i'r Rhufeiniaid.’” Ar ôl clywed hyn, dyma ni a'r Cristnogion lleol yn Cesarea yn dechrau pledio ar Paul i beidio mynd i Jerwsalem. Ond ateb Paul oedd, “Pam yr holl grïo yma? Dych chi'n torri fy nghalon i. Dw i'n fodlon nid yn unig cael fy rhwymo, ond marw yn Jerwsalem er mwyn yr Arglwydd Iesu.” Doedd dim modd ei berswadio, felly dyma ni'n rhoi'r gorau iddi a dweud, “Wel, rhaid i beth bynnag mae'r Arglwydd eisiau ddigwydd.” Yn fuan wedyn dyma ni'n dechrau'r daith ymlaen i Jerwsalem. Daeth rhai o Gristnogion Cesarea gyda ni, a mynd â ni i aros yng nghartre Mnason (dyn o Cyprus oedd yn un o'r rhai cyntaf i ddod i gredu). Cawson ni groeso cynnes gan y Cristnogion pan gyrhaeddon ni Jerwsalem. Yna'r diwrnod wedyn aeth Paul gyda ni i weld Iago, ac roedd yr arweinwyr i gyd yno. Ar ôl eu cyfarch dyma Paul yn rhoi adroddiad manwl o'r cwbl roedd Duw wedi ei wneud trwy ei waith ymhlith pobl o genhedloedd eraill. Pan glywon nhw'r hanes dyma nhw'n moli Duw. Ond wedyn dyma nhw'n dweud wrth Paul: “Frawd, rwyt ti'n gwybod fod degau o filoedd o Iddewon wedi dod i gredu hefyd, ac maen nhw i gyd yn ofalus iawn i gadw Cyfraith Moses. Ond maen nhw wedi clywed dy fod ti'n dysgu'r Iddewon sy'n byw mewn gwledydd eraill i droi cefn ar Moses, i stopio enwaedu eu bechgyn a chadw'r traddodiadau Iddewig eraill. Mae'n rhaid gwneud rhywbeth. Maen nhw'n siŵr o glywed dy fod ti wedi dod yma. Dyma beth dŷn ni'n awgrymu. Mae pedwar dyn yma sydd wedi cymryd llw. Dos gyda nhw, a mynd trwy'r ddefod o lanhau dy hun, a thalu'r costau iddyn nhw gael eillio eu pennau. Bydd hi'n amlwg i bawb wedyn bod y sibrydion amdanat ti ddim yn wir, a dy fod ti'n byw yn ufudd i'r Gyfraith. Ond lle mae'r Cristnogion o genhedloedd eraill yn y cwestiwn, dŷn ni wedi dweud mewn llythyr beth dŷn ni'n ei ddisgwyl ganddyn nhw — sef peidio bwyta cig wedi ei aberthu i eilun-dduwiau, na dim sydd â gwaed ynddo, na chig anifeiliaid sydd wedi eu tagu, a'u bod i gadw draw oddi wrth unrhyw anfoesoldeb rhywiol.” Felly'r diwrnod wedyn dyma Paul yn mynd drwy'r ddefod o lanhau ei hun gyda'r dynion eraill. Wedyn aeth i'r deml i gyhoeddi'r dyddiad y byddai'r cyfnod o buredigaeth drosodd, pan fyddai offrwm yn cael ei gyflwyno ar ran pob un ohonyn nhw. Pan oedd saith diwrnod y buredigaeth bron ar ben, dyma ryw Iddewon o dalaith Asia yn gweld Paul yn y deml. Dyma nhw'n llwyddo i gynhyrfu'r dyrfa ac yn gafael ynddo gan weiddi, “Bobl Israel, helpwch ni! Dyma'r dyn sy'n dysgu pawb ym mhobman i droi yn erbyn ein pobl ni, a'n Cyfraith ni, a'r Deml yma! Ac mae wedi halogi'r lle sanctaidd yma drwy ddod â phobl o genhedloedd eraill i mewn yma!” (Roedden nhw wedi gweld Troffimus o Effesus gyda Paul yn y ddinas yn gynharach, ac yn cymryd yn ganiataol ei fod wedi mynd gyda Paul lle na ddylai fynd yn y deml.) Dyma'r cynnwrf yn lledu drwy'r ddinas i gyd, a phobl yn rhedeg yno o bob cyfeiriad. Dyma nhw'n gafael yn Paul a'i lusgo allan o'r deml, ac wedyn cau'r giatiau. Roedden nhw'n mynd i'w ladd, ond clywodd capten y fyddin Rhufeinig fod reiat yn datblygu yn Jerwsalem. Aeth yno ar unwaith gyda'i filwyr a rhedeg i'r lle roedd y dyrfa. Roedd rhai wrthi'n curo Paul, ond pan welon nhw'r milwyr dyma nhw'n stopio. Dyma'r capten yn arestio Paul ac yn gorchymyn ei rwymo gyda dwy gadwyn. Wedyn gofynnodd i'r dyrfa pwy oedd, a beth oedd wedi ei wneud. Ond roedd rhai yn gweiddi un peth, ac eraill yn gweiddi rhywbeth hollol wahanol. Roedd hi'n amhosib darganfod beth oedd y gwir yng nghanol yr holl dwrw, felly dyma'r capten yn gorchymyn i'r milwyr fynd â Paul i'r barics milwrol yn Antonia. Erbyn i Paul gyrraedd y grisiau roedd y dyrfa wedi troi'n dreisgar, ac roedd rhaid i'r milwyr ei gario. Roedd y dyrfa yn ei dilyn nhw yn gweiddi, “Rhaid ei ladd! Rhaid ei ladd!” Roedd y milwyr ar fin mynd â Paul i mewn i'r barics pan ofynnodd i'r capten, “Ga i ddweud rhywbeth?” “Sut dy fod di'n siarad Groeg?” meddai'r capten wrtho, “Onid ti ydy'r Eifftiwr hwnnw ddechreuodd wrthryfel ychydig yn ôl ac arwain pedwar mil o aelodau'r grŵp terfysgol ‛y Sicari‛ i'r anialwch?” “Na,” meddai Paul, “Iddew ydw i; dw i'n ddinesydd o Tarsus yn Cilicia. Ga i siarad â'r bobl yma os gweli di'n dda?” Rhoddodd y capten ganiatâd iddo, a safodd Paul ar y grisiau a chodi ei law i gael y dyrfa i dawelu. Pan roedden nhw i gyd yn dawel, dechreuodd eu hannerch yn yr iaith Hebraeg: “Frodyr ac arweinwyr parchus ein cenedl, ga i ddweud gair i amddiffyn fy hun?” Pan glywon nhw Paul yn siarad Hebraeg dyma nhw'n mynd yn hollol dawel. Yna meddai Paul wrthyn nhw, “Iddew ydw i, wedi fy ngeni yn Tarsus yn Cilicia, ond ces i fy magu yma yn Jerwsalem. Bues i'n astudio Cyfraith ein hynafiaid yn fanwl dan yr athro Gamaliel. Roeddwn i'n frwd iawn dros bethau Duw, yn union fel dych chi yma heddiw. Bues i'n erlid y rhai oedd yn dilyn y Ffordd Gristnogol, ac yn arestio dynion a merched, a'u taflu nhw i'r carchar. Gall yr archoffeiriad ac aelodau Cyngor y Sanhedrin dystio i'r ffaith fod hyn i gyd yn wir, am mai nhw roddodd lythyrau i mi i'w cyflwyno i arweinwyr ein pobl yn Damascus. Roeddwn i'n mynd yno i arestio'r Cristnogion a dod â nhw yn ôl yn gaeth i Jerwsalem i'w cosbi nhw. “Roedd hi tua chanol dydd, ac roeddwn i bron â chyrraedd Damascus, ac yn sydyn dyma rhyw olau llachar o'r nefoedd yn fflachio o'm cwmpas i. Syrthiais ar lawr, a chlywed llais yn dweud wrtho i, ‘Saul! Saul! Pam rwyt ti'n fy erlid i?’ “Gofynnais, ‘Pwy wyt ti, Arglwydd?’ “‘Iesu o Nasareth ydw i,’ meddai'r llais, ‘sef yr un rwyt ti'n ei erlid.’ Roedd y rhai oedd gyda mi yn gweld y golau, ond ddim yn deall y llais oedd yn siarad â mi. “Gofynnais iddo, ‘Beth wna i, Arglwydd?’ A dyma'r Arglwydd yn ateb, ‘Cod ar dy draed, a dos i Damascus. Yno cei di wybod popeth rwyt ti i fod i'w wneud.’ Roeddwn i wedi cael fy nallu gan y golau disglair, ac roedd rhaid i mi gael fy arwain gerfydd fy llaw i Damascus. “Daeth dyn o'r enw Ananias i ngweld i. Dyn duwiol iawn, yn cadw Cyfraith Moses yn ofalus ac yn ddyn roedd yr Iddewon yno yn ei barchu'n fawr. Safodd wrth fy ymyl a dweud. ‘Saul, frawd. Derbyn dy olwg yn ôl!’ Ac o'r eiliad honno roeddwn yn gallu gweld eto. “Wedyn dwedodd Ananias wrtho i: ‘Mae Duw ein cyndeidiau ni wedi dy ddewis di i wybod beth mae e eisiau, i weld Iesu, yr Un Cyfiawn, a chlywed beth sydd ganddo i'w ddweud. Byddi di'n mynd i ddweud wrth bawb beth rwyt ti wedi ei weld a'i glywed. Felly, pam ddylet ti oedi? Cod ar dy draed i ti gael dy fedyddio a golchi dy bechodau i ffwrdd wrth alw arno i dy achub di.’ “Pan ddes i yn ôl i Jerwsalem roeddwn i'n gweddïo yn y Deml pan ges i weledigaeth — yr Arglwydd yn siarad â mi, ac yn dweud ‘Brysia! Rhaid i ti adael Jerwsalem ar unwaith, achos wnân nhw ddim credu beth fyddi di'n ei ddweud amdana i.’ “‘Ond Arglwydd,’ meddwn innau, ‘mae'r bobl yma'n gwybod yn iawn mod i wedi mynd o un synagog i'r llall yn carcharu'r bobl sy'n credu ynot ti, ac yn eu curo nhw. Pan gafodd Steffan ei ladd am ei fod yn siarad amdanat ti, roeddwn i yno'n cefnogi beth oedd yn digwydd! Fi oedd yn gofalu am fentyll y rhai oedd yn ei ladd.’ “Ond dyma'r Arglwydd yn dweud wrtho i, ‘Dos; dw i'n mynd i dy anfon di'n bell oddi yma at bobl o genhedloedd eraill.’” Roedd y dyrfa wedi gwrando arno nes iddo ddweud hynny. Ond yna dyma nhw'n dechrau gweiddi'n uchel, “Rhaid iddo gael ei ladd! Dydy e ddim yn haeddu byw!” Dyma nhw'n dechrau gweiddi eto, tynnu eu mentyll i ffwrdd a thaflu llwch i'r awyr. Felly dyma'r capten yn gorchymyn mynd â Paul i mewn i'r barics i gael ei groesholi gyda'r chwip, er mwyn ceisio darganfod pam roedd y bobl yn gweiddi arno fel hyn. Wrth iddyn nhw rwymo ei freichiau ar led i'w chwipio, dyma Paul yn gofyn i'r swyddog milwrol oedd yn gyfrifol, “Oes gynnoch chi hawl i chwipio dinesydd Rhufeinig heb ei gael yn euog mewn llys barn?” Pan glywodd y swyddog hynny, aeth at y capten. “Syr, beth dych chi'n ei wneud?” meddai wrtho. “Mae'r dyn yn ddinesydd Rhufeinig.” Felly dyma'r capten yn mynd at Paul a gofyn iddo, “Wyt ti'n ddinesydd Rhufeinig?” “Ydw,” meddai Paul. “Roedd rhaid i mi dalu arian mawr i gael bod yn ddinesydd,” meddai'r capten. “Ces i fy ngeni'n ddinesydd,” meddai Paul. Dyma'r rhai oedd yn mynd i'w groesholi yn camu nôl yn syth. Ac roedd y capten ei hun wedi dychryn pan sylweddolodd ei fod wedi rhwymo dinesydd Rhufeinig â chadwyni. Y diwrnod wedyn roedd y capten eisiau deall yn union beth oedd cyhuddiad yr Iddewon yn erbyn Paul. Dyma fe'n gollwng Paul yn rhydd o'i gadwyni, a gorchymyn i'r prif offeiriaid a'r Sanhedrin ddod at ei gilydd. Wedyn daeth â Paul, a'i osod i sefyll o'u blaenau. Dyma Paul yn edrych ar aelodau'r Sanhedrin ac yn dweud, “Frodyr, dw i wedi gwasanaethu Duw gyda chydwybod glir, a dw i'n dal i wneud hynny heddiw.” Ar unwaith, dyma Ananias yr archoffeiriad yn gorchymyn i'r rhai oedd yn sefyll wrth ymyl Paul ei daro ar ei geg. Dyma Paul yn ymateb trwy ddweud, “Bydd Duw yn dy daro di, y rhagrithiwr! Sut alli di eistedd yna yn fy marnu i ar sail Cyfraith Moses, tra'n torri'r un Gyfraith drwy orchymyn fy nharo i!” “Wyt ti'n meiddio sarhau archoffeiriad Duw fel yna?” meddai'r rhai wrth ei ymyl. “Frodyr,” meddai Paul, “doeddwn i ddim yn sylweddoli mai'r archoffeiriad oedd e. Mae'r ysgrifau'n dweud: ‘Paid dweud dim byd drwg am arweinydd dy bobl.’ ” Roedd Paul yn gwybod yn iawn fod rhai ohonyn nhw'n Sadwceaid ac eraill yn Phariseaid, felly galwodd allan yng nghanol y Sanhedrin, “Frodyr, Pharisead ydw i, a dyna oedd fy nghyndadau. Dw i yma ar brawf am fy mod i'n credu fod y meirw'n mynd i ddod yn ôl yn fyw.” Pan ddwedodd hyn dyma'r Phariseaid a'r Sadwceaid yn dechrau dadlau. (Dydy Sadwceaid ddim yn credu fod atgyfodiad, nac angylion nac ysbrydion, ond mae'r Phariseaid yn credu ynddyn nhw i gyd.) Roedd yna dwrw ofnadwy, gyda rhai o'r arbenigwyr yn y Gyfraith oedd yn Phariseaid ar eu traed yn dadlau'n ffyrnig. “Dydy'r dyn yma ddim wedi gwneud unrhyw beth o'i le! Falle fod ysbryd neu angel wedi siarad â fe!” Aeth pethau mor ddrwg nes bod y capten yn ofni y byddai Paul yn cael ei anafu yn eu canol nhw! Felly gorchmynnodd i'w filwyr fynd i lawr i'w achub o'u canol a mynd ag e yn ôl i'r barics. Y noson honno daeth yr Arglwydd at Paul a dweud wrtho, “Bydd yn ddewr! Mae'n rhaid i ti ddweud amdana i yn Rhufain, yn union fel rwyt ti wedi gwneud yma yn Jerwsalem.” Y bore wedyn dyma grŵp o Iddewon yn mynd ar lw i beidio bwyta nac yfed nes roedden nhw wedi llwyddo i ladd Paul. Roedd dros bedwar deg o ddynion yn rhan o'r cynllwyn yma. A dyma nhw'n mynd at yr archoffeiriad a'r arweinwyr Iddewig a dweud wrthyn nhw, “Dŷn ni wedi mynd ar lw i beidio bwyta dim byd nes byddwn ni wedi lladd Paul. Ond mae arnon ni angen eich help chi. Gofynnwch i'r capten ddod ag e o flaen y Sanhedrin eto, gan esgus eich bod chi eisiau edrych yn fwy manwl ar ei achos. Gwnawn ni ymosod arno a'i ladd ar y ffordd yma.” Ond clywodd nai i Paul (mab ei chwaer) am y cynllwyn, ac aeth i'r barics i ddweud wrth Paul. Dyma Paul yn galw un o'r swyddogion milwrol a dweud wrtho, “Dos â'r bachgen ifanc yma at y capten; mae ganddo rywbeth pwysig i'w ddweud wrtho.” Gwnaeth hynny, ac esbonio i'r capten, “Paul y carcharor ofynnodd i mi ddod â'r bachgen yma atoch chi am fod ganddo rywbeth i'w ddweud wrthoch chi.” Dyma'r capten yn gafael yn llaw'r bachgen, a mynd o'r neilltu a gofyn iddo, “Beth rwyt ti eisiau ei ddweud wrtho i?” Meddai'r bachgen: “Mae'r Iddewon yn mynd i ofyn i chi fynd â Paul i sefyll o flaen y Sanhedrin eto fory, gan esgus eu bod eisiau ystyried ei achos yn fwy manwl. Ond rhaid i chi beidio. Mae yna dros bedwar deg o ddynion yn cuddio ar y ffordd, yn barod i ymosod arno. Maen nhw wedi cymryd llw i beidio bwyta nac yfed nes byddan nhw wedi lladd Paul. Maen nhw'n barod, yn disgwyl i chi gytuno i'r cais.” “Paid sôn wrth neb dy fod ti wedi dweud wrtho i am hyn,” meddai'r capten wrth iddo anfon y bachgen i ffwrdd. Wedyn dyma'r capten yn galw dau o'i swyddogion, a gorchymyn iddyn nhw, “Paratowch fintai o ddau gant o filwyr erbyn naw o'r gloch heno i fynd i Cesarea. Hefyd saith deg o farchogion a dau gant o bicellwyr. Paratowch geffyl i Paul hefyd, a mynd ag e'n saff at y llywodraethwr Ffelics.” Yna ysgrifennodd y llythyr yma at Ffelics: Oddi wrth Clawdiws Lysias, at eich Anrhydedd, y Llywodraethwr Ffelics: Cyfarchion! Roedd y dyn yma wedi ei ddal gan yr Iddewon, ac roedden nhw ar fin ei ladd. Ond ar ôl deall ei fod yn ddinesydd Rhufeinig dyma fi'n mynd â'm milwyr i'w achub. Gan fy mod eisiau deall beth oedd y cyhuddiad yn ei erbyn, dyma fi'n mynd ag e i sefyll o flaen y Sanhedrin Iddewig. Daeth yn amlwg fod gan y cwbl rywbeth i'w wneud â'r ffordd iawn o ddehongli eu Cyfraith nhw — doedd e'n sicr ddim yn haeddu ei ddienyddio, na hyd yn oed ei garcharu! Ond wedyn ces wybodaeth fod cynllwyn ar y gweill i'w ladd, felly dyma fi'n ei anfon atoch chi ar unwaith. Dw i wedi dweud wrth y rhai sy'n ei gyhuddo am fynd â'u hachos atoch chi. Felly yn ystod y nos dyma'r milwyr yn mynd â Paul o Jerwsalem, ac yn cyrraedd cyn belled ag Antipatris, oedd tua hanner ffordd i Cesarea. Y diwrnod wedyn dyma'r marchogion yn mynd yn eu blaenau gydag e, a gweddill y milwyr yn mynd yn ôl i'r barics yn Jerwsalem. Pan gyrhaeddodd y marchogion Cesarea, dyma nhw'n mynd â'r llythyr at y llywodraethwr ac yn trosglwyddo Paul i'w ofal. Ar ôl darllen y llythyr dyma'r llywodraethwr yn gofyn o ba dalaith roedd Paul yn dod. Ar ôl deall ei fod yn dod o Cilicia, meddai, “Gwna i wrando ar dy achos di pan fydd y rhai sy'n dy gyhuddo di wedi cyrraedd.” Yna gorchmynnodd fod Paul i gael ei gadw yn y ddalfa ym mhencadlys Herod. Bum diwrnod wedyn daeth Ananias yr archoffeiriad i Cesarea gyda rhai o'r arweinwyr Iddewig, a chyfreithiwr o'r enw Tertwlus. Dyma nhw'n cyflwyno'r cyhuddiadau yn erbyn Paul i'r llywodraethwr. Yna cafodd Paul ei alw i mewn, a dyma Tertwlus yn cyflwyno achos yr erlyniad i Ffelics: “Eich Anrhydedd. Dŷn ni'r Iddewon wedi mwynhau cyfnod hir o heddwch dan eich llywodraeth, ac mae gwelliannau mawr wedi digwydd yn y wlad o ganlyniad i'ch craffter gwleidyddol chi, syr. Mae pobl ym mhobman yn cydnabod hyn, a dŷn ni'n hynod ddiolchgar i chi. Ond heb gymryd gormod o'ch amser chi, carwn ofyn i chi fod mor garedig â gwrando arnon ni'n fyr iawn. “Mae'r dyn yma o'ch blaen chi yn un o arweinwyr sect y Nasareaid. Mae wedi bod yn achosi trwbwl a chreu cynnwrf ymhlith yr Iddewon ar hyd a lled y byd. Ceisiodd halogi'r deml yn Jerwsalem hyd yn oed, a dyna pam wnaethon ni ei arestio. *** Cewch ei groesholi eich hunan, i weld mai dyna'n union ydy'r sefyllfa.” A dyma'r arweinwyr Iddewig eraill yn dechrau ymuno i mewn, a mynnu mai dyna'r gwir. Dyma'r llywodraethwr yn troi at Paul a rhoi arwydd mai ei dro e oedd hi i siarad. Felly dyma Paul yn ateb: “Syr, o wybod eich bod chi wedi bod yn farnwr ar y genedl yma ers blynyddoedd lawer, dw i'n falch iawn mai o'ch blaen chi dw i'n amddiffyn fy hun. Mae'n ddigon hawdd i chi gadarnhau'r ffaith fod llai na deuddeg diwrnod wedi mynd heibio ers i mi gyrraedd Jerwsalem a mynd i addoli yn y deml. Doeddwn i ddim hyd yn oed yn dadlau gydag unrhyw un, heb sôn am achosi cynnwrf yn y deml nac mewn unrhyw synagog, nac yn unman arall yn y ddinas. A dydyn nhw ddim yn gallu profi'r cyhuddiadau yma yn fy erbyn i chwaith! Ond, dw i yn cyfaddef i chi mod i'n addoli Duw ein cyndeidiau ni fel un o ddilynwyr yr hyn maen nhw'n ei alw'n sect, sef y Ffordd Gristnogol. Dw i'n credu popeth sydd yn y Gyfraith Iddewig ac yn ysgrifau'r Proffwydi. Dw i'n credu bod Duw yn mynd i ddod â phobl sy'n gyfiawn yn ei olwg a phobl ddrwg yn ôl yn fyw. Mae'r dynion eraill yma'n credu'r un peth! Felly dw i'n gwneud fy ngorau i gadw cydwybod glir mewn perthynas â Duw ac yn y ffordd dw i'n trin pobl eraill. “Ar ôl bod i ffwrdd ers rhai blynyddoedd, des i Jerwsalem gydag arian i helpu'r tlodion ac i gyflwyno offrwm i Dduw. Dyna roeddwn i'n ei wneud yn y deml — roeddwn i newydd fod trwy'r ddefod o buredigaeth. Doedd dim tyrfa gyda mi, a doeddwn i ddim yn creu twrw o fath yn y byd. Ond roedd yno Iddewon o dalaith Asia, a nhw ddylai fod yma i ddwyn cyhuddiad yn fy erbyn, os oes ganddyn nhw unrhyw reswm i wneud hynny! Neu gadewch i'r dynion yma ddweud yn glir pa drosedd mae'r Sanhedrin wedi fy nghael i'n euog ohoni. Ai'r gosodiad yma wnes i pan o'n i'n sefyll o'u blaen nhw ydy'r broblem: ‘Dw i ar brawf o'ch blaen chi am gredu fod y meirw'n mynd i ddod yn ôl yn fyw’?” Roedd Ffelics yn deall beth oedd y Ffordd Gristnogol, a dyma fe'n gohirio'r achos. “Gwna i benderfyniad yn yr achos yma ar ôl i'r capten Lysias ddod yma” Rhoddodd orchymyn fod Paul i gael ei gadw yn y ddalfa, ond ei fod i gael peth rhyddid, a bod ei ffrindiau yn rhydd i ymweld a gofalu am ei anghenion. Ychydig ddyddiau wedyn dyma Ffelics yn anfon am Paul. Roedd ei wraig Drwsila (oedd yn Iddewes) gydag e, a dyma nhw'n rhoi cyfle i Paul ddweud wrthyn nhw am y gred mai Iesu oedd y Meseia. Wrth iddo sôn am fyw yn iawn yng ngolwg Duw, am ddisgyblu'r hunan, a'r ffaith fod Duw yn mynd i farnu, daeth ofn ar Ffelics. “Dyna ddigon am y tro!” meddai, “Cei di fynd nawr. Anfona i amdanat ti eto pan fydd cyfle.” Byddai'n anfon am Paul yn aml iawn i siarad gydag e, ond un rheswm am hynny oedd ei fod yn rhyw obeithio y byddai Paul yn cynnig arian iddo i'w ryddhau. Aeth dros ddwy flynedd heibio, a dyma Porcius Ffestws yn olynu Ffelics fel llywodraethwr. Ond gadawodd Ffelics Paul yn y carchar am ei fod eisiau ennill ffafr yr arweinwyr Iddewig. Dridiau ar ôl iddo gyrraedd y dalaith, aeth Ffestus i Jerwsalem. A dyma'r prif offeiriaid a'r arweinwyr Iddewig yn mynd ato, i ddweud wrtho beth oedd y cyhuddiadau oedd ganddyn nhw yn erbyn Paul. Dyma nhw'n gofyn iddo anfon Paul yn ôl i Jerwsalem fel ffafr iddyn nhw. (Eu bwriad oedd ymosod arno a'i ladd pan oedd ar ei ffordd). Ond dyma Ffestus yn ateb: “Mae Paul yn y ddalfa yn Cesarea, a dw i'n mynd yn ôl yno'n fuan. Caiff rhai o'ch arweinwyr chi fynd gyda mi a'i gyhuddo yno, os ydy e wedi gwneud rhywbeth o'i le.” Buodd Ffestus yn Jerwsalem am ryw wyth i ddeg diwrnod, yna aeth yn ôl i Cesarea. Yna'r diwrnod wedyn cafodd Paul ei alw o flaen y llys. Yn y llys dyma'r Iddewon o Jerwsalem yn casglu o'i gwmpas, a dwyn nifer o gyhuddiadau difrifol yn ei erbyn, er bod dim modd profi dim un ohonyn nhw. Wedyn dyma Paul yn cyflwyno ei amddiffyniad: “Dw i ddim wedi torri'r Gyfraith Iddewig na gwneud dim yn erbyn y Deml yn Jerwsalem na'r llywodraeth Rufeinig chwaith.” Ond gan fod Ffestus yn awyddus i wneud ffafr i'r Iddewon, gofynnodd i Paul, “Wyt ti'n barod i fynd i Jerwsalem i sefyll dy brawf o'm blaen i yno?” Atebodd Paul: “Dw i yma'n sefyll o flaen llys Cesar, a dyna lle dylid gwrando'r achos. Dych chi'n gwybod yn iawn fy mod i heb wneud dim yn erbyn yr Iddewon. Os ydw i wedi gwneud rhywbeth sy'n haeddu'r gosb eithaf, dw i'n fodlon marw. Ond, os nad ydy'r cyhuddiadau yma'n wir, does gan neb hawl i'm rhoi fi yn eu dwylo nhw. Felly dw i'n cyflwyno apêl i Gesar!” Ar ôl i Ffestus drafod y mater gyda'i gynghorwyr, dyma fe'n ateb: “Rwyt ti wedi cyflwyno apêl i Gesar. Cei dy anfon at Cesar!” Ychydig ddyddiau wedyn daeth y Brenin Herod Agripa i Cesarea gyda'i chwaer Bernice, i ddymuno'n dda i Ffestus ar ei apwyntiad yn Llywodraethwr. Buon nhw yno am rai dyddiau, a buodd Ffestus yn trafod achos Paul gyda'r brenin. “Mae yma ddyn sydd wedi ei adael gan Ffelics yn garcharor,” meddai. “Y prif offeiriaid a'r arweinwyr Iddewig eraill ddwedodd wrtho i amdano pan o'n i yn Jerwsalem, a gofyn i mi ei ddedfrydu. “Esboniais bod cyfraith Rhufain ddim yn dedfrydu unrhyw un heb achos teg, a chyfle i'r person sy'n cael ei gyhuddo amddiffyn ei hun. Felly pan ddaethon nhw yma dyma fi'n trefnu i'r llys eistedd y diwrnod wedyn, a gwrando'r achos yn erbyn y dyn. Pan gododd yr erlyniad i gyflwyno'r achos yn ei erbyn, wnaethon nhw mo'i gyhuddo o unrhyw drosedd roeddwn i'n ei disgwyl. Yn lle hynny roedd y ddadl i gyd am ryw fanion yn eu crefydd nhw, ac am ryw ddyn o'r enw Iesu oedd wedi marw — ond roedd Paul yn mynnu ei fod yn fyw. Doedd gen i ddim syniad sut i farnu ar faterion o'r fath; felly gofynnais iddo a fyddai'n barod i fynd i Jerwsalem i sefyll ei brawf yno. Ond dyma Paul yn gwneud apêl i'r achos gael ei ohirio a'i drosglwyddo i uchel-lys o flaen ei fawrhydi yr Ymerawdwr. Felly dw i wedi gorchymyn iddo gael ei gadw yn y ddalfa nes daw cyfle i'w anfon at Cesar.” Dyma Agripa'n dweud wrth Ffestus, “Baswn i'n hoffi clywed y dyn yma fy hun.” A dyma Ffestus yn ateb, “Iawn! Cei di ei glywed fory!” Felly, y diwrnod wedyn dyma'r Brenin Herod Agripa a Bernice yn cyrraedd y neuadd lle roedd y gwrandawiad i'w gynnal. Roedd yn achlysur crand iawn, gyda penaethiaid y fyddin a phobl bwysig y ddinas i gyd yno. Dyma Ffestus yn gorchymyn dod â Paul i mewn. Yna meddai Ffestus, “Y Brenin Agripa, a phawb arall sydd yma heddiw. Mae'r Iddewon yma ac yn Jerwsalem wedi gwneud cais am y dyn yma — maen nhw wedi gwneud twrw ofnadwy fod rhaid iddo farw. Dw i ddim yn credu ei fod wedi gwneud dim i haeddu cael ei ddienyddio, ond gan ei fod wedi gwneud apêl i'r Ymerawdwr dw i'n bwriadu ei anfon i Rufain. Ond does gen i ddim byd pendant i'w ddweud wrth ei fawrhydi amdano. Felly dw i wedi ei alw o'ch blaen chi i gyd, ac yn arbennig o'ch blaen chi, frenin Agripa. Dw i'n gobeithio y bydd gen i rywbeth i'w ysgrifennu amdano ar ôl yr ymholiad swyddogol yma. Mae'n gwbl afresymol i mi ei anfon ymlaen heb ddweud yn glir beth ydy'r cyhuddiadau yn ei erbyn!” Dyma'r Brenin Agripa'n dweud wrth Paul, “Rwyt ti'n rhydd i siarad.” Felly dyma Paul yn cyflwyno ei amddiffyniad: “Y Brenin Agripa, dw i'n cyfri'n hun yn ffodus iawn mai o'ch blaen dw i'n sefyll yma heddiw i amddiffyn fy hun. Dych chi'n gwbl gyfarwydd ag arferion yr Iddewon a'r pynciau llosg sy'n codi yn ein plith. Felly ga i ofyn i chi, os gwelwch yn dda, wrando ar beth sydd gen i i'w ddweud. “Mae'r arweinwyr Iddewig yn gwybod amdana i ers pan o'n i'n blentyn — y blynyddoedd cynnar yn Cilicia, a hefyd y cyfnod fues i yn Jerwsalem. Maen nhw'n gwybod ers talwm, petaen nhw'n fodlon cyfaddef hynny, fy mod i wedi byw fel Pharisead, sef sect fwyaf caeth ein crefydd ni. A dw i ar brawf yma heddiw am fy mod i'n edrych ymlaen at weld yr hyn wnaeth Duw ei addo i'n cyndeidiau ni yn dod yn wir. Mae pobl Israel i gyd yn rhannu'r un gobaith — dyna pam maen nhw'n addoli Duw mor gydwybodol ddydd a nos. A'r gobaith yma ydy'r rheswm pam mae'r arweinwyr Iddewig wedi dod â cyhuddiad yn fy erbyn i, eich mawrhydi. “Pam dych chi bobl yn ei chael hi mor anodd i gredu fod Duw yn gallu dod â'r meirw yn ôl yn fyw? Wrth gwrs, roeddwn innau ar un adeg yn meddwl fod rhaid i mi wneud popeth allwn i i wrthwynebu dilynwyr Iesu o Nasareth. A dyna wnes i: ces i awdurdod gan y prif offeiriaid yn Jerwsalem i daflu nifer fawr o Gristnogion i'r carchar. Roeddwn i'n un o'r rhai oedd o blaid rhoi'r gosb eithaf iddyn nhw! Roeddwn i'n mynd o un synagog i'r llall i wneud yn siŵr eu bod yn cael eu cosbi, ac yn ceisio eu gorfodi nhw i gablu. Roedd y peth yn obsesiwn gwyllt gen i, ac roeddwn i hyd yn oed yn teithio i wledydd tramor i'w herlid nhw. “Dyna'n union oeddwn i'n ei wneud ryw ddiwrnod — roedd y prif offeiriaid wedi rhoi'r awdurdod a'r cyfrifoldeb i mi fynd ar ôl y Cristnogion yn Damascus. Roedd hi tua chanol dydd pan roeddwn i ar fy ffordd yno. Yna'n sydyn, eich mawrhydi, dyma olau o'r awyr yn disgleirio o'm cwmpas i a phawb oedd gyda mi. Roedd yn olau llawer mwy tanbaid na'r haul. Dyma ni i gyd yn disgyn ar lawr, a chlywais lais yn siarad â mi yn Hebraeg, ‘Saul, Saul, pam rwyt ti'n fy erlid i? Dim ond gwneud drwg i ti dy hun wyt ti wrth dynnu'n groes i mi.’ “A dyma fi'n gofyn, ‘Pwy wyt ti, Arglwydd?’ A dyma'r Arglwydd yn ateb, ‘Iesu ydw i, sef yr un rwyt ti'n ei erlid. Cod ar dy draed. Dw i wedi dy ddewis di i fod yn was i mi. Dw i am i ti ddweud wrth bobl am beth sydd wedi digwydd, ac am bopeth arall bydda i'n ei ddangos i ti. Bydda i'n dy achub di o afael dy bobl dy hun a phobl y cenhedloedd eraill. Dw i'n dy anfon di atyn nhw i agor eu llygaid nhw er mwyn iddyn nhw droi o dywyllwch i oleuni, a dianc o afael Satan at Dduw. Bydda i'n maddau eu pechodau nhw, a byddan nhw'n cael perthyn i'r bobl hynny sydd wedi eu gwneud yn lân drwy gredu ynof fi.’ “Felly, eich mawrhydi, dw i wedi ufuddhau i'r weledigaeth ges i o'r nefoedd. Dw i wedi bod yn dweud wrth bobl fod rhaid iddyn nhw droi cefn ar eu pechodau a throi at Dduw — a byw mewn ffordd sy'n dangos eu bod wedi newid go iawn. Gwnes i hynny gyntaf yn Damascus, ac wedyn yn Jerwsalem ac ar draws Jwdea, a hefyd i bobl o genhedloedd eraill. A dyna pam wnaeth yr Iddewon fy nal i yn y deml a cheisio fy lladd i. Ond mae Duw wedi edrych ar fy ôl i hyd heddiw, a dyna sut dw i'n dal yma i rannu'r neges gyda phawb, yn fach a mawr. Dw i'n dweud dim byd mwy na beth ddwedodd y proffwydi a Moses fyddai'n digwydd — sef y byddai'r Meseia yn dioddef, ac mai fe fyddai'r cyntaf i ddod yn ôl yn fyw oddi wrth y meirw, yn oleuni i Iddewon a phobl o genhedloedd eraill.” Yn sydyn dyma Ffestus yn gweiddi ac yn torri ar draws ei amddiffyniad, “Dwyt ti ddim yn gall, Paul! Mae dy holl ddysg yn dy yrru di'n wallgof!” “Na, dw i ddim yn wallgof, eich Anrhydedd Ffestus,” meddai Paul. “Mae'r cwbl dw i'n ei ddweud yn berffaith wir ac yn rhesymol. Mae'r Brenin Agripa yn deall y pethau yma, a dw i'n gallu siarad yn blaen gydag e. Dw i'n reit siŵr ei fod wedi clywed am hyn i gyd, achos wnaeth y cwbl ddim digwydd mewn rhyw gornel dywyll o'r golwg. Agripa, eich mawrhydi — ydych chi'n credu beth ddwedodd y proffwydi? Dw i'n gwybod eich bod chi!” “Wyt ti'n meddwl y gelli di berswadio fi i droi'n Gristion mor sydyn â hynny?” Atebodd Paul, “Yn sydyn neu beidio — dw i'n gweddïo ar Dduw y gwnewch chi, a phawb arall sy'n gwrando arna i yma heddiw, ddod yr un fath â fi — ar wahân i'r cadwyni yma!” Yna dyma'r brenin yn codi ar ei draed, a chododd y llywodraethwr a Bernice gydag e, a phawb arall oedd yno. Roedden nhw'n sgwrsio wrth fynd allan, “Dydy'r dyn wedi gwneud dim byd i haeddu marw na hyd yn oed ei garcharu,” medden nhw. “Gallet ti ei ollwng yn rhydd oni bai am y ffaith ei fod wedi gwneud apêl i Gesar,” meddai Agripa wrth Ffestus. Dyma nhw'n penderfynu ein bod i hwylio i'r Eidal. Cafodd Paul a nifer o garcharorion eraill eu rhoi yng ngofal swyddog milwrol o'r enw Jwlius — aelod o'r Gatrawd Ymerodrol. Dyma ni'n mynd ar fwrdd llong o Adramitiwm oedd ar fin mynd i nifer o borthladdoedd yn Asia, a hwylio allan i'r môr. Roedd Aristarchus, o ddinas Thesalonica yn Macedonia, gyda ni. Y diwrnod wedyn, wedi i ni lanio yn Sidon, dyma Jwlius, yn garedig iawn, yn caniatáu i Paul fynd i weld ei ffrindiau iddyn nhw roi iddo unrhyw beth oedd ei angen. Dyma ni'n gadael porthladd Sidon, ond roedd y gwynt yn ein herbyn ni, a bu'n rhaid i ni hwylio o gwmpas ochr gysgodol ynys Cyprus. Ar ôl croesi'r môr mawr gyferbyn ag arfordir Cilicia a Pamffilia, dyma ni'n glanio yn Myra yn Lycia. Yno daeth Jwlius o hyd i long o Alecsandria oedd ar ei ffordd i'r Eidal, a'n rhoi ni ar fwrdd honno. Roedd hi'n fordaith araf iawn am ddyddiau lawer a cawson ni drafferth mawr i gyrraedd Cnidus. Ond roedd y gwynt yn rhy gryf i ni fynd ddim pellach, a dyma ni'n cael ein gorfodi i droi i'r de tua Creta, a hwylio yng nghysgod yr ynys o gwmpas pentir Salmone. Cawson ni gryn drafferth eto i ddilyn arfordir deheuol yr ynys, ond llwyddo o'r diwedd i gyrraedd porthladd yr Hafan Deg sydd wrth ymyl tref o'r enw Lasaia. Roedden ni wedi colli lot o amser, ac roedd hi'n beryglus i hwylio yr adeg honno o'r flwyddyn (Roedd hi'n ddechrau Hydref, a Dydd y Cymod eisoes wedi mynd heibio ). Ceisiodd Paul eu rhybuddio nhw o'r peryglon, “Gyfeillion, trychineb fydd pen draw'r fordaith yma os byddwn ni'n mynd yn ein blaenau. Byddwch chi'n colli'r llong â'i chargo, heb sôn am beryglu'n bywydau ni sy'n hwylio arni hefyd.” Ond yn lle gwrando ar Paul, dyma Jwlius yn dilyn cyngor y peilot a chapten y llong. Roedd yr Hafan Deg yn borthladd agored, a ddim yn addas iawn i aros yno dros y gaeaf. Felly dyma'r mwyafrif yn penderfynu mai ceisio hwylio yn ein blaenau oedd orau. Y gobaith oedd cyrraedd lle o'r enw Phenics ar ben gorllewinol yr ynys, ac aros yno dros y gaeaf. Roedd porthladd Phenics yn wynebu'r de-orllewin a'r gogledd-orllewin. Pan ddechreuodd awel ysgafn chwythu o gyfeiriad y de, roedden nhw'n meddwl y byddai popeth yn iawn; felly dyma godi angor a dechrau hwylio ar hyd arfordir Creta. Ond yn sydyn dyma gorwynt cryf (sef yr Ewraculon) yn chwythu i lawr dros yr ynys o'r gogledd-ddwyrain. Cafodd y llong ei dal yn y storm. Roedd hi'n amhosib hwylio yn erbyn y gwynt, felly dyma roi i fyny a cawson ni ein cario i ffwrdd ganddo. Bu bron i ni golli cwch glanio'r llong pan oedden ni'n pasio heibio ynys fach Cawda. Ar ôl i'r dynion lwyddo i'w chodi ar fwrdd y llong, dyma nhw'n rhoi rhaffau o dan gorff y llong rhag iddi ddryllio ar farrau tywod Syrtis. Wedyn dyma nhw'n gollwng yr angor môr ac yn gadael i'r llong gael ei gyrru gan y gwynt. Roedd y llong wedi ei churo cymaint gan y storm nes iddyn nhw orfod dechrau taflu'r cargo i'r môr y diwrnod wedyn. A'r diwrnod ar ôl hynny dyma nhw hyd yn oed yn dechrau taflu tacl y llong i'r môr! Dyma'r storm yn para'n ffyrnig am ddyddiau lawer, a doedd dim sôn am haul na'r sêr. Erbyn hynny roedd pawb yn meddwl ei bod hi ar ben arnon ni. Doedd neb ag awydd bwyta ers dyddiau lawer. Yna dyma Paul yn y diwedd yn sefyll o flaen pawb, ac meddai: “Dylech chi fod wedi gwrando arna i a pheidio hwylio o ynys Creta; byddech chi wedi arbed y golled yma i gyd wedyn. Ond codwch eich calonnau — does neb yn mynd i farw, er ein bod ni'n mynd i golli'r llong. Safodd angel Duw wrth fy ymyl i neithiwr — sef y Duw biau fi; yr un dw i'n ei wasanaethu. A dyma ddwedodd, ‘Paid bod ag ofn, Paul. Mae'n rhaid i ti sefyll dy brawf o flaen Cesar. Ac mae Duw'n garedig yn mynd i arbed bywydau pawb arall sydd ar y llong.’ Felly codwch eich calonnau! Dw i'n credu fod popeth yn mynd i ddigwydd yn union fel mae Duw wedi dweud wrtho i. Ond mae'r llong yn mynd i gael ei dryllio ar greigiau rhyw ynys neu'i gilydd.” Roedd pedair noson ar ddeg wedi mynd heibio ers i'r storm ddechrau, ac roedden ni'n dal i gael ein gyrru ar draws Môr Adria. Tua hanner nos dyma'r morwyr yn synhwyro ein bod ni'n agos at dir. Dyma nhw'n plymio ac yn cael dyfnder o dri deg saith metr. Yna dyma nhw'n plymio eto ychydig yn nes ymlaen a chael dyfnder o ddau ddeg saith metr. Rhag ofn i ni gael ein hyrddio yn erbyn creigiau dyma nhw'n gollwng pedwar angor o'r starn ac yn disgwyl am olau dydd. Ond yna ceisiodd y morwyr ddianc o'r llong. Roedden nhw'n esgus eu bod nhw'n gollwng angorau ar du blaen y llong, ond yn lle gwneud hynny roedden nhw'n ceisio gollwng y cwch glanio i'r môr. Ond dyma Paul yn dweud wrth y swyddog Rhufeinig a'i filwyr, “Os fydd y dynion yna ddim yn aros ar y llong fyddwch chi ddim yn cael eich achub.” Felly dyma'r milwyr yn torri'r rhaffau oedd yn dal y cwch glanio a gadael iddi ddisgyn i'r dŵr. Dyma Paul yn annog pawb i fwyta cyn iddi wawrio. “Dych chi wedi bod yn poeni a heb fwyta dim byd ers pythefnos. Dw i'n erfyn arnoch chi i gymryd rhywbeth — bydd ei angen arnoch i ddod trwy hyn. Ond gaiff neb niwed.” Cymerodd Paul dorth o fara, diolch i Dduw o'u blaenau nhw i gyd, ac yna ei thorri a dechrau bwyta. Roedd wedi codi calon pawb, a dyma ni i gyd yn cymryd bwyd. (Roedd 276 ohonon ni ar y llong i gyd). Ar ôl cael digon i'w fwyta dyma'r criw yn mynd ati i ysgafnhau'r llong drwy daflu'r cargo o wenith i'r môr. Pan ddaeth hi'n olau dydd, doedd neb yn nabod y tir o'n blaenau. Roedd bae gyda traeth o dywod i'w weld a dyma nhw'n penderfynu ceisio cael y llong i dirio ar y traeth hwnnw. Felly dyma nhw'n torri'r angorau'n rhydd a'u gadael yn y môr, a'r un pryd yn datod y rhaffau oedd yn dal y llyw. Wedyn dyma nhw'n agor yr hwyl flaen i ddal y gwynt ac anelu am y traeth. Ond dyma'r llong yn taro banc tywod, ac roedd tu blaen y llong yn hollol sownd ac yn gwrthod dod y rhydd. A dyma'r starn yn dechrau dryllio wrth i'r tonnau gwyllt hyrddio yn erbyn y llong. Roedd y milwyr eisiau lladd y carcharorion rhag iddyn nhw nofio i ffwrdd a dianc, ond rhwystrodd y pennaeth nhw rhag gwneud hynny am ei fod eisiau i Paul gael byw. Wedyn rhoddodd orchymyn i'r rhai oedd yn gallu nofio i neidio i'r dŵr a cheisio cyrraedd y lan. Wedyn roedd pawb arall i geisio dal gafael mewn planciau neu ddarnau eraill o'r llong. A dyna sut gyrhaeddodd pawb y tir yn saff! Ar ôl cyrraedd y lan yn saff dyma ni'n darganfod mai Malta oedd yr ynys. Roedd pobl yr ynys yn hynod o garedig. Dyma nhw'n rhoi croeso i ni ac yn gwneud tân, am ei bod hi wedi dechrau glawio'n drwm, ac roedd hi'n oer. Roedd Paul wedi casglu llwyth o frigau mân, ac wrth iddo eu gosod nhw ar y tân, dyma neidr wenwynig oedd yn dianc o'r gwres yn glynu wrth ei law. Pan welodd pobl yr ynys y neidr yn hongian oddi ar ei law medden nhw, “Mae'n rhaid fod y dyn yna'n llofrudd! Dydy'r dduwies Cyfiawnder ddim am adael iddo fyw.” Ond dyma Paul yn ysgwyd y neidr i ffwrdd yn ôl i'r tân. Chafodd e ddim niwed o gwbl. Roedd y bobl yn disgwyl iddo chwyddo neu ddisgyn yn farw'n sydyn. Ond aeth amser hir heibio a dim byd yn digwydd iddo, felly dyma nhw'n dod i'r casgliad fod Paul yn dduw. Roedd ystâd gyfagos yn perthyn i brif swyddog Rhufain ar yr ynys — dyn o'r enw Pobliws. Rhoddodd groeso mawr i ni, a dyma ni'n aros yn ei gartref am dridiau. Roedd tad Pobliws yn glaf yn ei wely, yn dioddef pyliau o wres uchel a dysentri. Aeth Paul i'w weld, ac ar ôl gweddïo rhoddodd ei ddwylo arno a'i iacháu. Ar ôl i hyn ddigwydd dyma lawer o bobl eraill oedd yn glaf ar yr ynys yn dod ato ac yn cael eu gwella. Cawson ni bob math o anrhegion ganddyn nhw, a phan ddaeth hi'n bryd i ni adael yr ynys dyma nhw'n rhoi popeth oedd ei angen i ni. Aeth tri mis heibio cyn i ni hwylio o'r ynys. Aethon ar long oedd wedi gaeafu yno — llong o Alecsandria gyda delwau o'r ‛Efeilliaid dwyfol‛ (Castor a Polwcs) ar ei thu blaen. Dyma ni'n hwylio i Syracwsa, ac yn aros yno am dridiau. Wedyn dyma ni'n croesi i Rhegium. Ar ôl bod yno am ddiwrnod cododd gwynt o'r de, felly'r diwrnod wedyn llwyddon ni i gyrraedd Potioli. Daethon ni o hyd i grŵp o gredinwyr yno, a chael gwahoddiad i aros gyda nhw am wythnos. Yna, o'r diwedd, dyma ni'n cyrraedd Rhufain. Roedd y Cristnogion yno wedi clywed ein bod ni'n dod, ac roedd rhai wedi teithio i lawr cyn belled â Marchnad Apius i'n cyfarfod ni, ac eraill at y Tair Tafarn. Roedd gweld y bobl yma'n galondid mawr i Paul, a diolchodd i Dduw am fod mor ffyddlon. Yn Rhufain cafodd Paul ganiatâd i fyw yn ei lety ei hun, ond fod milwr yno i'w warchod. Dri diwrnod ar ôl cyrraedd Rhufain dyma Paul yn galw'r arweinwyr Iddewig yno at ei gilydd. “Frodyr,” meddai wrthyn nhw: “er na wnes i ddim byd yn erbyn ein pobl, na dim sy'n groes i arferion ein hynafiaid, ces fy arestio yn Jerwsalem ac yna fy nhrosglwyddo i ddwylo'r Rhufeiniaid. Dyma'r llys yn fy nghael i'n ddieuog o unrhyw drosedd oedd yn haeddu marwolaeth, ac roedden nhw am fy rhyddhau i. Ond dyma'r arweinwyr Iddewig yn codi gwrthwynebiad a ces fy ngorfodi i apelio i Gesar — nid fod gen i unrhyw gyhuddiad i'w ddwyn yn erbyn fy mhobl. Gofynnais am gael eich gweld chi er mwyn esbonio hyn i gyd i chi. Y rheswm pam mae'r gadwyn yma arna i ydy am fy mod i yn credu yn y Meseia, Gobaith Israel!” Dyma nhw'n ei ateb, “Dŷn ni ddim wedi derbyn unrhyw lythyrau o Jwdea amdanat ti, a does neb o'n pobl ni wedi dod yma i sôn am y peth na dweud dim byd drwg amdanat ti. Ond dŷn ni eisiau clywed beth rwyt yn ei gredu. Dŷn ni'n gwybod fod pobl ym mhobman yn siarad yn erbyn y sect yma.” Felly dyma nhw'n trefnu diwrnod i gyfarfod â Paul. Daeth llawer iawn mwy ohonyn nhw yno y diwrnod hwnnw. Buodd Paul wrthi drwy'r dydd, o fore tan nos, yn esbonio beth oedd yn ei gredu. Roedd yn eu dysgu nhw am deyrnasiad Dduw ac yn defnyddio Cyfraith Moses ac ysgrifau'r Proffwydi i geisio eu cael nhw i weld mai Iesu oedd y Meseia. Llwyddodd i argyhoeddi rhai ohonyn nhw, ond roedd y lleill yn gwrthod credu. Buon nhw'n dadlau gyda'i gilydd, a dyma nhw'n dechrau gadael ar ôl i Paul ddweud hyn i gloi: “Roedd yr Ysbryd Glân yn dweud y gwir wrth eich hynafiaid chi wrth siarad drwy'r proffwyd Eseia: ‘Dos at y bobl yma a dweud, “Gwrandwch yn astud, ond fyddwch chi ddim yn deall; Edrychwch yn ofalus, ond fyddwch chi ddim yn dirnad.” Maen nhw'n rhy ystyfnig i ddysgu unrhyw beth — maen nhw'n gwrthod gwrando, ac wedi cau eu llygaid. Fel arall, bydden nhw'n gweld â'u llygaid, yn clywed â'u clustiau, yn deall go iawn, ac yn troi, a byddwn i'n eu hiacháu nhw.’ Felly deallwch hyn — mae'r newyddion da am Dduw yn achub ar gael i bobl y cenhedloedd eraill hefyd, a byddan nhw'n gwrando!” *** Am ddwy flynedd gyfan, arhosodd Paul yno yn y tŷ oedd yn ei rentu. Roedd yn rhoi croeso i bawb oedd yn dod i'w weld. Roedd yn cyhoeddi'n gwbl hyderus fod Duw yn teyrnasu ac yn dysgu pobl am yr Arglwydd Iesu Grist, a doedd neb yn ei rwystro. Llythyr gan Paul — gwas y Meseia Iesu. Dw i wedi cael fy newis gan Dduw i fod yn gynrychiolydd personol iddo, ac wedi cael fy anfon allan i rannu newyddion da Duw. Dyma'r newyddion da gafodd ei addo ymlaen llaw drwy beth ddwedodd y proffwydi yn yr ysgrifau sanctaidd. Ie, y newyddion da am ei Fab, Iesu y Meseia, ein Harglwydd ni. Fel dyn, roedd Iesu yn perthyn i deulu y Brenin Dafydd, ond dangosodd yr Ysbryd Glân mewn ffordd rymus ei fod e hefyd yn Fab Duw, pan gafodd ei godi yn ôl yn fyw ar ôl iddo farw. Mae Duw wedi rhoi i ni y fraint a'r cyfrifoldeb o'i gynrychioli, ac o alw pobl o bob gwlad i gredu ynddo ac i fyw'n ufudd iddo. A dych chi'n rhai o'r bobl hynny — wedi cael eich galw i berthynas â Iesu y Meseia. Dw i'n ysgrifennu atoch chi i gyd yn Rhufain. Chi sydd wedi eich caru gan Dduw a'ch gwneud yn bobl arbennig iddo. Dw i'n gweddïo y byddwch chi'n profi'r haelioni rhyfeddol a'r heddwch dwfn mae Duw ein Tad a'r Arglwydd Iesu Grist yn ei roi i ni. Dw i eisiau i chi wybod yn gyntaf fy mod i'n diolch i Dduw trwy Iesu y Meseia amdanoch chi i gyd, achos mae pobl drwy'r gwledydd i gyd yn sôn am eich ffydd chi. Dw i wrthi'n gweithio fy ngorau glas dros Dduw trwy gyhoeddi'r newyddion da am ei Fab, ac mae e'n gwybod mod i'n gweddïo drosoch chi o hyd ac o hyd. Dw i'n gweddïo y bydd e'n ei gwneud hi'n bosib i mi ddod atoch chi o'r diwedd. Dw i wir yn hiraethu am gael dod i'ch gweld chi, i mi gael rhannu rhyw fendith ysbrydol gyda chi fydd yn eich gwneud chi'n gryf. Byddwn i a chithau'n cael ein calonogi wrth i ni rannu'n profiadau. Dw i am i chi ddeall, frodyr a chwiorydd annwyl, fy mod i wedi bwriadu dod acw lawer gwaith, ond mae rhywbeth wedi fy rhwystro bob tro hyd yn hyn. Dw i eisiau gweld mwy a mwy o bobl Rhufain yn dod i gredu yn Iesu, fel sydd wedi digwydd yn y gwledydd eraill lle dw i wedi bod. Mae'n rhaid i mi ddweud am Iesu wrth bawb — mae fel petai gen i ddyled i'w thalu! Dim ots os ydyn nhw'n bobl ddiwylliedig sydd wedi cael addysg neu'n farbariaid cwbl ddi-addysg. A dyna pam dw i mor awyddus i ddod atoch chi yn Rhufain hefyd i gyhoeddi'r newyddion da. Does gen i ddim cywilydd o'r newyddion da o gwbl. Dyma'r ffordd rymus mae Duw'n gweithio i achub pawb sy'n credu — yr Iddew a phawb arall hefyd. Dyma'r newyddion da sy'n dangos i ni sut allwn ni gael perthynas iawn â Duw. Yr unig beth sydd ei angen ydy credu ei fod e'n ffyddlon. Dyna mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud: “Trwy ffydd mae'r un sy'n iawn gyda Duw yn byw.” Ond mae Duw yn y nefoedd yn dangos ei fod yn ddig ac yn cosbi'r holl bethau drwg mae pobl yn eu gwneud yn ei erbyn. Maen nhw'n mygu'r gwirionedd gyda'u drygioni. Mae beth sydd i'w wybod am Dduw yn amlwg — mae Duw wedi ei wneud yn ddigon clir i bawb. Er bod Duw ei hun yn anweledig, mae'r holl bethau mae wedi eu creu yn dangos yn glir mai fe ydy'r Duw go iawn a bod ei allu yn ddi-ben-draw. Felly does gan neb esgus dros beidio credu! Ond y drwg ydy, er bod pobl yn gwybod fod Duw'n bodoli, maen nhw wedi gwrthod ei anrhydeddu a diolch iddo. Yn lle hynny maen nhw wedi hel pob math o syniadau dwl. Maen nhw wir yn y tywyllwch. Ydyn, maen nhw'n meddwl eu bod nhw mor glyfar, ond ffyliaid ydyn nhw go iawn! Yn lle addoli'r Duw bendigedig sy'n byw am byth bythoedd, maen nhw wedi dewis plygu o flaen delwau wedi eu cerfio i edrych fel pethau fydd yn marw — pobl, adar, anifeiliaid ac ymlusgiaid. Felly mae Duw wedi gadael iddyn nhw fynd eu ffordd eu hunain. Maen nhw wedi dewis gwneud pob math o bethau mochaidd, ac amharchu eu cyrff gyda'i gilydd. Maen nhw wedi credu celwydd yn lle credu beth sy'n wir am Dduw! Maen nhw'n addoli a gwasanaethu pethau sydd wedi cael eu creu yn lle addoli'r Crëwr ei hun! — yr Un sy'n haeddu ei foli am byth! Amen! Ydy, mae Duw wedi gadael i bobl ddilyn eu chwantau gwarthus. Merched yn dewis gwneud beth sy'n annaturiol yn lle cael perthynas rywiol gyda dyn. A dynion hefyd, yn dewis troi cefn ar y berthynas naturiol gyda merch ac yn llosgi o chwant rhywiol am ei gilydd! Maen nhw'n gwneud pethau cwbl anweddus, ac yn wynebu'r gosb maen nhw'n ei haeddu. Am fod pobl wedi gwrthod credu beth sy'n wir am Dduw, mae e wedi gadael iddyn nhw ddilyn eu syniadau pwdr. Maen nhw'n gwneud popeth o'i le — ymddwyn yn anghyfiawn, gwneud pethau drwg, bod yn farus a hunanol, bod yn faleisus, cenfigennu, llofruddio, cecru, twyllo, bod yn sbeitlyd a hel straeon am bobl eraill. Maen nhw'n enllibio pobl, yn casáu Duw, yn haerllug, yn snobyddlyd a hunanbwysig, ac yn meddwl o hyd am ryw ffordd newydd i bechu. Does ganddyn nhw ddim parch at eu rhieni, dydyn nhw'n deall dim, maen nhw'n torri eu gair, yn ddiserch ac yn dangos dim trugaredd. Maen nhw'n gwybod yn iawn fod Duw wedi dweud fod pawb sy'n gwneud y pethau yma yn haeddu marw. Ond maen nhw'n dal ati er hynny, ac yn waeth fyth yn annog pobl eraill i wneud yr un fath â nhw! Ond wedyn beth amdanat ti? — Ie, ti sydd mor barod i farnu pobl eraill a gosod dy ffon fesur arnyn nhw! Beth ydy dy esgus di? Y gwir ydy, rwyt ti'n gwneud yr un pethau! Felly wrth farnu pobl eraill rwyt ti'n dy gondemnio dy hun! Dŷn ni'n gwybod ei bod hi'n berffaith iawn i Dduw farnu pobl am wneud y fath bethau. Ond wyt ti felly'n meddwl y byddi di'n osgoi cael dy farnu? Ie, ti sydd mor barod i weld bai ar bobl eraill tra'n gwneud yn union yr un pethau dy hun! Neu wyt ti'n cymryd Duw yn ganiataol, am ei fod mor garedig a goddefgar ac amyneddgar? Wyt ti ddim yn gweld fod Duw trwy fod yn garedig atat ti eisiau dy arwain di i newid dy ffyrdd? Ond na, rwyt ti'n rhy ystyfnig! Felly rwyt ti'n storio mwy a mwy o gosb i ti dy hun ar y diwrnod hwnnw pan fydd Duw'n barnu. A bydd Duw'n barnu'n hollol deg. Bydd yn talu nôl i bob un beth mae'n ei haeddu. Bydd y rhai sydd eisiau derbyn ysblander, anrhydedd ac anfarwoldeb gan Dduw — sef y rhai sy'n dal ati i wneud daioni — yn cael bywyd tragwyddol. Ond y rhai hynny sydd ddim ond yn meddwl amdanyn nhw eu hunain, ac sy'n gwrthod y gwir ac yn gwneud pethau drwg — fydd dim byd ond dicter Duw a chosb yn eu disgwyl nhw. Poen a dioddefaint fydd i'r rhai sy'n gwneud drwg — i'r Iddew ac i bawb arall; ond ysblander, anrhydedd a heddwch dwfn fydd i'r rhai sy'n gwneud daioni — i'r Iddew ac i bawb arall. Mae pawb yr un fath — does gan Dduw ddim ffefrynnau! Bydd pobl sydd ddim yn Iddewon, a ddim yn gwybod am Gyfraith Duw, yn mynd i ddistryw am eu bod nhw wedi pechu. A bydd Iddewon, sef y bobl mae'r Gyfraith ganddyn nhw, yn cael eu cosbi am bechu hefyd — am dorri'r Gyfraith honno. Wedi'r cwbl, dydy clywed y Gyfraith ddim yn gwneud eich perthynas chi hefo Duw yn iawn; gwneud beth mae Cyfraith Duw yn ei ddweud sy'n cyfri. (Yn wir, mae pobl sydd ddim yn Iddewon yn gallu gwneud yn naturiol beth mae Cyfraith Duw yn ei ofyn — er eu bod nhw ddim yn gwybod am y Gyfraith. Maen nhw'n dangos eu bod yn gwybod beth sy'n iawn a beth sydd ddim er bod y Gyfraith ddim ganddyn nhw. Maen nhw'n dangos fod gofynion Cyfraith Duw wedi eu hysgrifennu ar eu calonnau nhw. Mae eu cydwybod nhw naill ai'n eu cyhuddo nhw neu'n dweud wrthyn nhw eu bod yn gwneud y peth iawn.) Yn ôl y newyddion da dw i'n ei gyhoeddi dyna fydd yn cyfri ar y diwrnod pan fydd Duw yn cael y Meseia Iesu i farnu cyfrinachau pawb. Felly ble mae hynny'n dy adael di sy'n galw dy hun yn Iddew? Rwyt ti'n brolio fod gen ti berthynas â Duw am fod gen ti'r Gyfraith. Rwyt ti'n honni dy fod ti'n gwybod beth mae Duw eisiau. Rwyt ti'n gallu dewis beth sydd orau i'w wneud (am dy fod wedi cael dy ddysgu yn y Gyfraith). Rwyt ti'n gweld dy hun fel rhywun sy'n gallu dangos y ffordd i bobl eraill, a rhoi golau i bobl sydd ar goll yn y tywyllwch. Rwyt ti'n meddwl dy fod ti'n gallu dysgu am Dduw i bobl sydd ddim yn gwybod amdano, ac i dy blant. Mae'r Gyfraith gen ti! Mae gen ti bopeth sydd angen ei wybod! Y gwir i gyd! … Rwyt ti'n dysgu pobl eraill, wyt ti? Felly, pam wyt ti ddim wedi dy ddysgu dy hun? Ti'n dweud wrth rywun arall “Paid dwyn,” ond yn dwyn dy hun! Ti'n dweud “Paid godinebu”, ond rwyt ti dy hun yn godinebu! Ti'n ffieiddio eilun-dduwiau, ond rwyt ti dy hun yn halogi'r cysegr! Mae'n ddigon hawdd brolio dy fod yn gwybod beth mae Cyfraith Duw'n ei ddweud, ond trwy dorri'r Gyfraith honno rwyt ti dy hun yn amharchu Duw. Fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud, “mae pobl y cenhedloedd yn dweud pethau drwg am Dduw o'ch achos chi.” Byddai'r ddefod o enwaediad yn golygu rhywbeth taset ti'n gwneud popeth mae'r Gyfraith yn ei ofyn. Ond os wyt ti'n torri'r Gyfraith does gen ti ddim mantais — waeth i ti fod heb dy enwaedu ddim! Ond os oes rhywun sydd ddim yn Iddew, a heb ei enwaedu, yn gwneud beth mae Cyfraith Duw'n ei ofyn, oni fydd Duw yn ei dderbyn e yn union fel petai wedi cael ei enwaedu? Bydd y dyn sydd heb fod drwy'r ddefod o gael ei enwaedu (ond sy'n gwneud beth mae'r Gyfraith yn ei ofyn) yn dy gondemnio di sydd wedi ‛cadw at lythyren y ddeddf‛ drwy gael dy enwaedu yn gorfforol, ac eto'n dal i dorri'r Gyfraith! Dydy'r pethau allanol ddim yn dy wneud di'n Iddew go iawn. A dydy'r ddefod gorfforol ddim yr un peth ag enwaediad go iawn. Na, enwaediad go iawn ydy'r newid ynot ti sy'n dod drwy'r Ysbryd Glân, dim y weithred lythrennol o dorri'r blaengroen. Iddew go iawn ydy rhywun sydd wedi newid y tu mewn. Mae rhywun felly'n cael ei ganmol gan Dduw, dim gan bobl. Felly oes unrhyw fantais bod yn Iddew? Oes unrhyw bwynt i'r ddefod o enwaediad? Oes! Mae llond gwlad o fanteision! Yn gyntaf, yr Iddewon gafodd y cyfrifoldeb o ofalu am neges Duw. Mae'n wir fod rhai ohonyn nhw wedi bod yn anffyddlon, ond ydy hynny'n golygu wedyn fod Duw ddim yn gallu bod yn ffyddlon? Wrth gwrs ddim! Mae Duw bob amser yn dweud y gwir er bod “y ddynoliaeth yn gelwyddog” Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud fel hyn am Dduw: “Mae beth rwyt ti'n ddweud yn iawn; byddi'n ennill yr achos pan fyddi ar brawf.” Ond ydyn ni'n mynd i ddadlau wedyn, “Mae'r pethau drwg dŷn ni'n eu gwneud yn dangos yn gliriach fod Duw yn gwneud beth sy'n iawn, felly mae Duw yn annheg yn ein cosbi ni”? (A dyna sut mae rhai pobl yn dadlau). Wrth gwrs ddim! Sut fyddai Duw'n gallu barnu'r byd oni bai ei fod yn gwneud beth sy'n iawn? Neu ydy'n iawn dadlau fel yma?: “Mae'r celwydd dw i'n ddweud yn dangos yn gliriach fod Duw yn dweud y gwir, ac mae'n ei anrhydeddu e! Felly pam dw i'n dal i gael fy marnu fel pechadur?” Na! Waeth i ni ddweud wedyn, “Gadewch i ni wneud drwg er mwyn i ddaioni ddod o'r peth”! Ac oes, mae rhai yn hel straeon sarhaus mai dyna dŷn ni yn ei ddweud! … Maen nhw'n haeddu beth sy'n dod iddyn nhw! Felly beth ydyn ni'n ei ddweud? Ydyn ni Iddewon yn well yng ngolwg Duw na phawb arall? Wrth gwrs ddim! Dŷn ni wedi dangos fod pechod yn rheoli'n bywydau ni fel pawb arall! Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud y peth yn glir: “Does gan neb berthynas iawn gyda Duw — neb o gwbl! Does neb sy'n deall go iawn, neb sydd wir yn ceisio Duw. Mae pawb wedi troi cefn arno, ac yn dda i ddim. Does neb yn gwneud daioni — dim un!” “Mae eu geiriau'n drewi fel beddau agored; dim ond twyll sydd ar eu tafodau.” “Mae gwenwyn neidr dan eu gwefusau.” “Mae eu cegau yn llawn melltith a chwerwedd.” “Maen nhw'n barod iawn i ladd; mae dinistr a dioddefaint yn eu dilyn nhw i bobman, Dyn nhw'n gwybod dim am wir heddwch.” “Does ganddyn nhw ddim parch at Dduw o gwbl.” Siarad am yr Iddewon mae Duw yma! Mae'r peth yn amlwg — nhw gafodd yr ysgrifau sanctaidd ganddo! Felly beth mwy sydd i'w ddweud? Mae'r byd i gyd yn wynebu barn Duw. Does neb byw yn gallu bod yn iawn gyda Duw trwy wneud beth mae'r Gyfraith Iddewig yn ei ofyn. Beth mae'r Gyfraith yn ei wneud go iawn ydy dangos ein pechod i ni. Ond mae Duw bellach wedi dangos i ni sut allwn ni gael perthynas iawn gydag e. Dim cadw'r Gyfraith Iddewig ydy'r ffordd, er bod y Gyfraith a'r Proffwydi yn dangos y ffordd i ni. Y rhai sy'n credu sy'n cael perthynas iawn gyda Duw, am fod Iesu y Meseia wedi bod yn ffyddlon. Mae'r un fath i bawb am fod pawb wedi pechu. Does neb wedi gallu cyrraedd safon berffaith Duw ar eu pennau eu hunain. Duw sy'n gwneud y berthynas yn iawn. Dyma ydy rhodd Duw i ni am fod y Meseia Iesu wedi gwneud popeth oedd ei angen i'n gollwng ni'n rhydd. Trwy ei ffyddlondeb yn tywallt ei waed, rhoddodd Duw e yn aberth i gymryd y gosb am ein pechod ni. Cafodd ei gosbi yn ein lle ni! Roedd yn dangos fod Duw yn berffaith deg, er bod pechodau pobl yn y gorffennol heb eu cosbi cyn hyn. Bod yn amyneddgar oedd e. Ac mae'n dangos ei fod yn dal yn berffaith deg, wrth iddo dderbyn y rhai sy'n credu yn Iesu i berthynas iawn ag e'i hun. Felly oes gynnon ni'r Iddewon le i frolio? Nac oes! Pam ddim? — Yn wahanol i gadw'r Gyfraith Iddewig dydy credu ddim yn rhoi unrhyw le i ni frolio. A dŷn ni'n hollol siŵr mai credu yn Iesu sy'n gwneud ein perthynas ni gyda Duw yn iawn, dim ein gallu ni i wneud beth mae'r Gyfraith Iddewig yn ei ofyn. Neu ydyn ni'n ceisio honni mai Duw'r Iddewon yn unig ydy Duw? Onid ydy e'n Dduw ar y cenhedloedd eraill i gyd hefyd? Wrth gwrs ei fod e — “Un Duw sydd” ac un ffordd sydd o gael ein derbyn i berthynas iawn gydag e hefyd. Mae e'n derbyn Iddewon (sef ‛pobl yr enwaediad‛) trwy iddyn nhw gredu, ac mae e'n derbyn pawb arall (sef ‛pobl sydd heb enwaediad‛) yn union yn yr un ffordd. Os felly, ydy hyn yn golygu y gallwn ni anghofio Cyfraith Duw? Wrth gwrs ddim! Dŷn ni'n dangos beth ydy gwir ystyr y Gyfraith. Ond beth am Abraham felly — tad y genedl Iddewig? Oes ganddo fe rywbeth i'w ddysgu i ni am hyn i gyd? Os cafodd Abraham ei dderbyn gan Dduw am beth wnaeth e, roedd ganddo le i frolio. Ond dim felly oedd hi o safbwynt Duw. Dyma mae'r ysgrifau'n ei ddweud amdano: “Credodd Abraham, a chafodd ei dderbyn i berthynas iawn gyda Duw.” Pan mae rhywun yn gweithio mae'n ystyried ei gyflog fel rhywbeth mae'n ei haeddu, dim fel rhodd. Ond wrth gredu bod Duw yn derbyn pobl annuwiol i berthynas iawn ag e'i hun, dydy rhywun ddim yn dibynnu ar beth mae e'i hun wedi ei wneud. Mae'r “berthynas iawn gyda Duw” yn cael ei roi iddo fel rhodd. Dwedodd y Brenin Dafydd yr un peth! (Mae'n sôn am y fendith sydd pan mae rhywun sy'n cael ei dderbyn i berthynas iawn gyda Duw, ac yntau heb wneud dim i haeddu hynny): “Mae'r rhai sydd wedi cael maddeuant am y pethau drwg wnaethon nhw wedi eu bendithio'n fawr! y rhai sydd â'u pechodau wedi eu symud o'r golwg am byth. Mae'r rhai dydy'r Arglwydd ddim yn dal ati i gyfri eu pechod yn eu herbyn wedi eu bendithio'n fawr!” Ai dim ond Iddewon (sef ‛pobl yr enwaediad‛) sy'n cael profi'r fendith yma? Neu ydy pobl eraill hefyd (sef ‛pobl sydd heb enwaediad‛)? Gadewch i ni droi'n ôl at Abraham i gael yr ateb: Dŷn ni wedi dweud mai trwy gredu y cafodd Abraham berthynas iawn gyda Duw. Pryd ddigwyddodd hynny? Ai ar ôl iddo fynd trwy'r ddefod o gael ei enwaedu, neu cyn iddo gael ei enwaedu? Yr ateb ydy, cyn iddo gael ei enwaedu! Ar ôl cael ei dderbyn y cafodd e ei enwaedu — a hynny fel arwydd o'r ffaith ei fod wedi credu. Roedd Duw eisoes wedi ei dderbyn i berthynas iawn ag e'i hun. Felly mae Abraham yn dad i bawb sy'n credu ond ddim wedi bod trwy'r ddefod o gael eu henwaedu. Ond mae hefyd yn dad i'r rhai sy'n credu ac wedi cael eu henwaedu — dim am eu bod nhw wedi bod trwy'r ddefod, ond am eu bod wedi credu yr un fath ag Abraham. Roedd Duw wedi addo i Abraham y byddai ei ddisgynyddion yn etifeddu'r ddaear. Cael perthynas iawn gyda Duw trwy gredu sy'n dod â'r addewid yn wir, dim gwneud beth mae'r Gyfraith Iddewig yn ei ofyn. Os mai'r etifeddion ydy'r rhai sy'n meddwl eu bod nhw'n iawn am eu bod nhw'n ufudd i'r Gyfraith Iddewig, dydy credu yn dda i ddim — yn wir does dim pwynt i Dduw addo dim byd yn y lle cyntaf! Beth mae'r Gyfraith yn ei wneud ydy dangos ein bod ni'n haeddu cael ein cosbi gan Dduw. Os oes dim cyfraith does dim trosedd. Felly credu ydy'r ffordd i dderbyn beth mae Duw wedi ei addo! Rhodd Duw ydy'r cwbl! Ac mae disgynyddion Abraham i gyd yn ei dderbyn. Nid dim ond Iddewon sydd â'r Gyfraith ganddyn nhw, ond pawb sydd wedi credu yr un fath ag Abraham. Ydy, mae Abraham yn dad i ni i gyd! Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud y peth yn hollol glir: “Dw i wedi dy wneud di'n dad i lawer o genhedloedd.” Dyna sut mae'r Duw y credodd Abraham ynddo yn gweld pethau. Fe ydy'r Duw sy'n gwneud pobl farw yn fyw ac yn galw i fod bethau oedd ddim yn bodoli o gwbl o'r blaen! Do, credodd Abraham, a daliodd ati i gredu hyd yn oed pan oedd pethau'n edrych yn gwbl anobeithiol! Credodd y byddai yn “dad i lawer o genhedloedd.” Credodd beth ddwedodd Duw, “Fel yna fydd dy ddisgynyddion di.” Daliodd ati i gredu'n hyderus, er ei fod yn gwybod ei fod yn llawer rhy hen i fod yn dad. Roedd yn gan mlwydd oed! Ac roedd Sara hefyd yn llawer rhy hen i fod yn fam. Ond wnaeth Abraham ddim amau, na stopio credu beth oedd Duw wedi ei addo iddo. Yn wir roedd yn credu'n gryfach bob dydd, ac yn clodfori Duw drwy wneud hynny. Roedd Abraham yn hollol sicr y gallai Duw wneud beth roedd wedi addo'i wneud. Dyna pam y cafodd ei dderbyn i berthynas iawn gyda Duw! Ond dydy'r geiriau “cafodd ei dderbyn” ddim ar gyfer Abraham yn unig — maen nhw ar ein cyfer ninnau hefyd! Gallwn ni gael perthynas iawn gyda Duw yr un fath — ni sy'n credu yn y Duw gododd ein Harglwydd Iesu yn ôl yn fyw ar ôl iddo farw. Cafodd Iesu ei ladd am ein bod ni wedi troseddu, a chafodd ei godi yn ôl yn fyw i ni gael ein derbyn i berthynas iawn gyda Duw. Felly, gan ein bod ni wedi'n derbyn i berthynas iawn gyda Duw, drwy gredu, mae gynnon ni heddwch gyda Duw o achos beth wnaeth ein Harglwydd ni, Iesu y Meseia. Wrth gredu dŷn ni eisoes wedi dod i brofi haelioni Duw, a gallwn edrych ymlaen yn llawen i gael rhannu yn ei ysblander. A dŷn ni'n gallu bod yn llawen hyd yn oed pan dŷn ni'n dioddef, am ein bod ni'n gwybod fod dioddefaint yn rhoi'r nerth i ni ddal ati. Mae'r gallu i ddal ati yn cryfhau ein cymeriad ni, a dyna sy'n rhoi i ni'r gobaith hyderus sydd gynnon ni. Dŷn ni'n gwybod y byddwn ni ddim yn cael ein siomi yn y gobaith yna, am fod Duw eisoes wedi tywallt ei gariad yn ein calonnau trwy roi'r Ysbryd Glân i ni! Pan oedd pethau'n gwbl anobeithiol arnon ni, dyma'r Meseia yn dod ar yr adeg iawn i farw droson ni rai drwg! Prin bod unrhyw un yn fodlon marw dros berson hunangyfiawn. Falle y byddai rhywun yn fodlon marw dros berson da. Ond dangosodd Duw i ni gymaint maen ein caru ni trwy i'r Meseia farw droson ni pan roedden ni'n dal i bechu yn ei erbyn! Dŷn ni bellach wedi cael ein derbyn i berthynas iawn gyda Duw am fod gwaed y Meseia wedi ei dywallt. Does dim amheuaeth, felly, y byddwn ni'n cael ein harbed ganddo rhag cael ein cosbi! Os mai marwolaeth Mab Duw wnaeth ein perthynas ni â Duw yn iawn (a hynny pan roedden ni'n dal yn elynion iddo!), does dim amheuaeth o gwbl, gan ein bod ni bellach yn y berthynas yma, y byddwn ni'n cael ein hachub am ei fod yn fyw! Dŷn ni'n brolio am Dduw o achos beth wnaeth ein Harglwydd ni, Iesu y Meseia! Fe sydd wedi gwneud y berthynas iawn yma'n bosib. Daeth pechod i'r byd drwy un dyn, a marwolaeth o ganlyniad i hynny. Ac mae pawb yn marw, am fod pawb wedi pechu. Oedd, roedd pechod yn y byd cyn i Dduw roi'r Gyfraith i Moses. Er bod pechod ddim yn cael ei gyfri am fod y Gyfraith ddim yno i'w thorri, roedd pechod yno, ac roedd yn gadael ei ôl. Roedd pobl yn marw o gyfnod Adda hyd amser Moses. Roedden nhw'n marw er eu bod nhw ddim wedi pechu yn union yn yr un ffordd ag Adda trwy fod yn anufudd i orchymyn penodol. Mewn rhyw ffordd mae Adda yn fodel o'r Meseia oedd yn mynd i ddod. Ac eto tasen ni'n cymharu'r rhodd o faddeuant gyda throsedd Adda, maen nhw'n wahanol iawn i'w gilydd! Marwolaeth tyrfa enfawr o bobl oedd canlyniad trosedd un (sef Adda). Ond tywallt maddeuant ar dyrfa enfawr o bobl oedd canlyniad beth wnaeth y llall (sef Iesu y Meseia) — ie, maddeuant yn rhodd gan Dduw! Ac mae canlyniad y rhodd mor wahanol i ganlyniad y pechod. Barn a chosb sy'n dilyn yr un trosedd hwnnw, ond mae'r rhodd o faddeuant yn gwneud ein perthynas ni â Duw yn iawn. Dŷn ni'n cael ein gollwng yn rhydd er gwaetha llu o bechodau. Canlyniad trosedd un dyn (sef Adda) oedd fod pawb yn marw, ond o achos beth wnaeth y dyn arall (Iesu y Meseia), bydd y rhai sy'n derbyn rhodd Duw o berthynas iawn gydag e yn cael bywyd tragwyddol. Felly, canlyniad Adda'n troseddu oedd condemnio'r ddynoliaeth, ond canlyniad Iesu yn gwneud y peth iawn oedd bod perthynas iawn gyda Duw, a bywyd, yn cael ei gynnig i'r ddynoliaeth. Cafodd tyrfa enfawr o bobl eu gwneud yn bechaduriaid am fod Adda wedi bod yn anufudd. A'r un modd daeth tyrfa enfawr o bobl i berthynas iawn gyda Duw am fod Iesu wedi bod yn ufudd. Pwrpas rhoi'r Gyfraith i Moses oedd i helpu pobl i weld gymaint oedden nhw'n troseddu. Ond tra roedd pobl yn pechu fwy a mwy, dyma Duw yn tywallt ei haelioni y tu hwnt i bob rheswm. Yn union fel roedd pechod wedi cael gafael mewn pobl a hwythau wedyn yn marw, mae haelioni Duw yn gafael mewn pobl ac yn dod â nhw i berthynas iawn gydag e. Maen nhw'n cael bywyd tragwyddol — o achos beth wnaeth ein Harglwydd ni, Iesu y Meseia. Felly, beth mae hyn i gyd yn ei olygu? Ei bod hi'n iawn i ni ddal ati i bechu er mwyn i Dduw ddangos mwy a mwy o haelioni? Na, wrth gwrs ddim! Dŷn ni wedi marw i'r hen fywyd o bechod, felly sut allwn ni ddal ati i bechu o hyd? Ydych chi ddim wedi deall? Pan gawson ni'n bedyddio i ddangos ein bod yn perthyn i'r Meseia Iesu, roedden ni'n uniaethu â'i farwolaeth e. Wrth gael ein bedyddio, cawson ni'n claddu gydag e, am fod y person oedden ni o'r blaen wedi marw. Ac yn union fel y cafodd y Meseia ei godi yn ôl yn fyw drwy nerth bendigedig y Tad, dŷn ninnau hefyd bellach yn byw bywydau newydd. Os ydyn ni wedi ein huno â'i farwolaeth, dŷn ni'n siŵr o gael ein huno hefyd â'i atgyfodiad. Mae beth roedden ni'n arfer bod wedi cael ei ladd ar y groes gyda'r Meseia, er mwyn i'r awydd cryf sydd ynon ni i bechu ollwng gafael ynon ni, ac i ni beidio ei wasanaethu ddim mwy. Os ydy rhywun wedi marw, mae'n rhydd o afael pechod. Ond os ydyn ni wedi marw gyda'r Meseia dŷn ni'n credu y cawn ni fyw gydag e hefyd! Fydd y Meseia ddim yn marw byth eto, am ei fod wedi ei godi yn ôl yn fyw — does gan farwolaeth ddim gafael arno bellach. Wrth farw, buodd e farw un waith ac am byth i bechod, ond bellach mae e'n byw i glodfori Duw! Felly, dylech chithau hefyd ystyried eich hunain yn farw i bechod, a byw mewn perthynas â'r Meseia Iesu er mwyn clodfori Duw. Peidiwch gadael i bechod reoli'ch bywydau chi ddim mwy. Peidiwch ufuddhau i'w chwantau. Peidiwch gadael iddo reoli unrhyw ran o'ch corff i'w ddefnyddio i wneud beth sy'n ddrwg. Yn lle hynny gadewch i Dduw eich rheoli chi, a'ch defnyddio chi i wneud beth sy'n dda. Roeddech yn farw, ond bellach mae gynnoch chi fywyd newydd. Ddylai pechod ddim bod yn feistr arnoch chi ddim mwy. Dim y Gyfraith sy'n eich rheoli chi bellach — mae Duw yn ei haelioni wedi'ch gollwng chi'n rhydd! Felly, ydyn ni'n mynd i ddal i bechu am mai dim y Gyfraith sy'n ein rheoli ni bellach, a'n bod wedi profi haelioni Duw? Na! Wrth gwrs ddim! Ydych chi ddim wedi deall? Mae rhywun yn gaeth i beth bynnag mae'n dewis ufuddhau iddo. Felly y dewis ydy, naill ai pechod yn arwain i farwolaeth neu ufudd-dod yn arwain i berthynas iawn gyda Duw. Diolch i Dduw, dych chi wedi troi o fod yn gaeth i bechod i fod yn ufudd i beth mae Duw wedi ei ddysgu i chi. Dych chi wedi'ch rhyddhau o afael pechod a dod yn weision i beth sy'n iawn. Gadewch i mi ddefnyddio darlun o fywyd bob dydd sy'n hawdd i chi ei ddeall: O'r blaen roeddech chi'n gadael i bob math o fudreddi a drygioni eich rheoli chi. Ond bellach rhaid i chi adael i beth sy'n iawn eich rheoli chi, a'ch gwneud chi'n bobl sy'n byw bywydau glân. Pan oeddech chi'n gaeth i bechod, doedd dim disgwyl i chi wneud beth sy'n iawn. Ond beth oedd canlyniad hynny yn y pen draw? Marwolaeth! Dyna oedd canlyniad y pethau mae gynnoch chi gymaint o gywilydd ohonyn nhw bellach. Ond nawr dych chi'n rhydd o afael pechod ac wedi dechrau gwasanaethu Duw. Canlyniad hynny ydy'r bywyd glân sy'n arwain yn y pen draw i fywyd tragwyddol. Marwolaeth ydy'r cyflog mae pechod yn ei dalu, ond mae Duw yn rhoi bywyd tragwyddol yn rhad ac am ddim i chi, o achos beth wnaeth ein Harglwydd ni, Iesu y Meseia. Frodyr a chwiorydd, dych chi'n bobl sy'n gyfarwydd â Chyfraith Duw, felly mae'n rhaid eich bod chi'n deall cymaint â hyn: dydy'r Gyfraith ddim ond yn cyfri pan mae rhywun yn dal yn fyw. Er enghraifft, mae Cyfraith Duw yn dweud fod gwraig briod i aros yn ffyddlon i'w gŵr tra mae'r gŵr hwnnw'n dal yn fyw. Ond, os ydy'r gŵr yn marw, dydy'r rheol ddim yn cyfri ddim mwy. Mae hyn yn golygu, os ydy gwraig yn gadael ei gŵr a mynd i fyw gyda dyn arall pan mae ei gŵr hi'n dal yn fyw, mae hi'n godinebu. Ond os ydy ei gŵr hi wedi marw, mae'r sefyllfa'n wahanol. Mae ganddi hi hawl i briodi dyn arall wedyn. Dyma beth dw i'n ei ddweud, ffrindiau — trwy farwolaeth y Meseia ar y groes dych chi hefyd wedi ‛marw‛ yn eich perthynas â'r Gyfraith. Bellach dych chi'n perthyn i un arall, sef i'r un gafodd ei godi yn ôl yn fyw ar ôl iddo farw. Felly dylai pobl weld ffrwyth hynny yn eich bywydau chi — ffrwyth fydd yn anrhydeddu Duw. Pan roedd yr hen natur ddrwg yn ein rheoli ni, roedd Cyfraith Duw yn dangos y nwydau pechadurus hynny oedd ar waith yn ein bywydau ni, a'r canlyniad oedd marwolaeth. Ond bellach, dŷn ni wedi ein gollwng yn rhydd o afael y Gyfraith. Dŷn ni wedi marw i beth oedd yn ein caethiwo ni o'r blaen. Dŷn ni'n rhydd i wasanaethu Duw yn ffordd newydd yr Ysbryd, ddim yn yr hen ffordd o geisio cadw at lythyren y ddeddf. Felly beth mae hyn yn ei olygu? Ydw i'n awgrymu fod y Gyfraith roddodd Duw yn beth drwg? Wrth gwrs ddim! Heb y Gyfraith fyddwn i ddim yn gwybod fy mod i'n pechu. Sut fyddwn i'n gwybod fod chwennych yn beth drwg oni bai fod Cyfraith Duw yn dweud “Paid chwennych” Ond yna roedd pechod yn gweld ei gyfle ac yn defnyddio'r gorchymyn i wneud i mi chwennych pob math o bethau drwg. Heb y Gyfraith mae pechod gystal â bod yn farw! Ar un adeg roeddwn i'n gallu byw yn ddigon hapus heb y Gyfraith. Ond wedyn cafodd y gorchymyn ei roi a dyma bechod yn codi ei ben hefyd. Roeddwn i'n gweld fy mod i'n haeddu marw. Roedd y gorchymyn oedd i roi bywyd i mi wedi dod â marwolaeth. Gwelodd pechod ei gyfle, a'm twyllo i. Fy nghondemnio i farwolaeth! Mae Cyfraith Duw yn sanctaidd, a'r gorchmynion yn dweud beth sy'n iawn ac yn dda. Felly ai y peth da yma wnaeth fy lladd i? Nage, wrth gwrs ddim! Y pechod mae'r peth da yn ei ddangos wnaeth fy lladd i. Felly beth mae'r gorchymyn yn ei wneud ydy dangos mor ofnadwy o ddrwg ydy pechod. Dŷn ni'n gwybod bod Cyfraith Duw yn dda ac yn ysbrydol. Fi ydy'r drwg! Fi sy'n gnawdol. Fi sydd wedi fy ngwerthu'n rhwym i bechod. Dw i ddim yn deall fy hun o gwbl. Yn lle gwneud beth dw i eisiau ei wneud, dw i'n cael fy hun yn gwneud beth dw i'n ei gasáu! Ac os dw i'n gwybod mod i'n gwneud y peth anghywir, dw i'n cytuno fod Cyfraith Duw yn dda. Mae fel taswn i fy hun wedi colli rheolaeth, a'r pechod sydd y tu mewn i mi wedi cymryd drosodd. Dw i'n gwybod yn iawn pa mor ddrwg ydw i y tu mewn! Yr hunan ydy popeth! Dw i eisiau byw yn dda, ond dw i'n methu! Yn lle gwneud y pethau da dw i eisiau eu gwneud, dw i'n dal ati i wneud y pethau drwg dw i ddim eisiau eu gwneud. Ac os dw i'n gwneud beth dw i ddim eisiau ei wneud, dim fi sy'n rheoli bellach — y pechod y tu mewn i mi sydd wedi cymryd drosodd. Felly, er fy mod i eisiau gwneud beth sy'n iawn, mae'r drwg yno yn cynnig ei hun i mi. Yn y bôn dw i'n cytuno gyda Cyfraith Duw. Ond mae rhyw ‛gyfraith‛ arall ar waith yn fy mywyd i — mae'n brwydro yn erbyn y Gyfraith dw i'n cytuno â hi, ac yn fy ngwneud i'n garcharor i bechod. Mae wedi cymryd drosodd yn llwyr! Dw i mewn picil go iawn! Oes yna ffordd allan? Pwy sy'n mynd i'm hachub i o ganlyniadau'r bywyd yma o bechu? Duw, diolch iddo! — o achos beth wnaeth ein Harglwydd ni, Iesu y Meseia. Felly dyma sut mae hi arna i: Dw i'n awyddus i wneud beth mae Cyfraith Duw'n ei ddweud, ond mae'r hunan pechadurus eisiau gwasanaethu'r ‛gyfraith‛ arall, sef pechod. Ond dydy'r rhai sy'n perthyn i'r Meseia Iesu ddim yn mynd i gael eu cosbi! O achos beth wnaeth y Meseia Iesu mae'r Ysbryd Glân, sy'n rhoi bywyd, wedi fy ngollwng i'n rhydd o afael y pechod sy'n arwain i farwolaeth. Doedd y Gyfraith Iddewig ddim yn gallu gwneud hynny, am fod y natur ddynol mor wan. Ond dyma Duw yn anfon ei Fab ei hun i fod yn berson dynol yr un fath â ni bechaduriaid, er mwyn iddo orchfygu'r pechod oedd ar waith yn y natur ddynol trwy roi ei fywyd yn aberth dros bechod. Gwnaeth hyn er mwyn i ni wneud beth mae Cyfraith Duw yn ei ofyn. Dŷn ni bellach yn byw fel mae'r Ysbryd Glân eisiau, dim fel mae ein natur bechadurus eisiau. Mae'r rhai sy'n cael eu rheoli gan y natur bechadurus yn byw i'r hunan, ond mae'r rhai sydd dan reolaeth yr Ysbryd Glân yn byw i wneud beth mae'r Ysbryd eisiau. Os mai'r hunan sy'n eich rheoli chi, byddwch chi'n marw. Ond os ydy'r Ysbryd Glân yn eich rheoli chi, mae gynnoch chi fywyd a heddwch perffaith gyda Duw. Mae'r natur bechadurus yn ymladd yn erbyn Duw. Does ganddi ddim eisiau gwneud beth mae Cyfraith Duw'n ei ofyn — yn wir, dydy hi ddim yn gallu! A dydy'r rhai sy'n cael eu rheoli gan y natur bechadurus ddim yn gallu plesio Duw. Ond dim yr hunan sy'n eich rheoli chi. Mae Ysbryd Duw wedi dod i fyw ynoch chi, felly yr Ysbryd sy'n eich rheoli chi. Os ydy Ysbryd y Meseia ddim wedi cael gafael ynoch chi, dych chi ddim yn bobl y Meseia o gwbwl. Ond os ydy'r Meseia ynoch chi, er bod y corff yn mynd i farw o achos pechod, mae'r Ysbryd Glân yn rhoi bywyd tragwyddol i chi, am fod gynnoch chi berthynas iawn gyda Duw. Ac os ydy Ysbryd yr Un gododd Iesu yn ôl yn fyw wedi dod i fyw ynoch chi, bydd e'n rhoi bywyd newydd i'ch cyrff marwol chi hefyd. Dyna mae'r Ysbryd Glân sydd wedi dod i fyw ynoch chi yn ei wneud. Felly, frodyr a chwiorydd, does dim rhaid i ni bellach fyw fel mae'r natur bechadurus eisiau. Mae gwneud hynny yn siŵr o arwain i farwolaeth. Ond, gyda nerth yr Ysbryd Glân, os gwnawn ni wrthod gwneud beth mae'r hunan eisiau, byddwn yn cael bywyd. Mae pawb sydd a'u bywydau'n cael eu rheoli gan Ysbryd Duw yn cael bod yn blant i Dduw. Dydy'r Ysbryd Glân dŷn ni wedi ei dderbyn ddim yn ein gwneud yn gaethweision ofnus unwaith eto! Mae'n ein mabwysiadu ni yn blant i Dduw, a gallwn weiddi arno'n llawen, “ Abba! Dad!” Ydy, mae'r Ysbryd yn dangos yn glir i ni ein bod ni'n blant i Dduw. Ac os ydyn ni'n blant iddo, byddwn ninnau hefyd yn derbyn yr holl bethau da mae'n ei roi i'w fab y Meseia. Ond cofiwch wedyn, os ydyn ni'n cael rhannu yn ei ysblander mae'n rhaid i ni fod yn barod i ddioddef gydag e hefyd. Dw i'n reit siŵr bod beth dŷn ni'n ei ddioddef ar hyn o bryd yn ddim o'i gymharu â'r ysblander gwych fyddwn ni'n ei brofi maes o law. Ydy, mae'r greadigaeth i gyd yn edrych ymlaen yn frwd at y dydd pan fydd Duw yn dangos pwy sy'n blant iddo go iawn. Roedd y greadigaeth wedi cael ei chondemnio i wagedd (Dim ei dewis hi oedd hynny — cafodd ei orfodi arni). Ond mae gobaith i edrych ymlaen ato: mae'r greadigaeth hefyd yn mynd i gael ei gollwng yn rhydd! Fydd hi ddim yn gaeth i lygredd ddim mwy. Bydd yn rhannu'r rhyddid bendigedig fydd Duw'n ei roi i'w blant. Dŷn ni'n gwybod fod y greadigaeth gyfan yn griddfan fel gwraig sydd mewn poen wrth eni plentyn. Ac nid dim ond y greadigaeth sy'n griddfan, ond ni hefyd sy'n Gristnogion, ac wedi derbyn yr Ysbryd Glân fel rhagflas o beth sydd i ddod. Dŷn ni hefyd yn griddfan o'n mewn wrth ddisgwyl i'r diwrnod ddod pan fydd Duw yn ein mabwysiadu ni ac y bydd ein corff yn cael ei ollwng yn rhydd! Am ein bod wedi'n hachub gallwn edrych ymlaen at hyn yn hyderus. Does neb yn edrych ymlaen at rywbeth sydd ganddo'n barod! Ond wrth edrych ymlaen at beth sydd ddim yma eto, rhaid disgwyl yn amyneddgar amdano. Ac mae'r Ysbryd yn ein helpu ni hefyd yn ein cyflwr gwan presennol. Wyddon ni ddim yn iawn beth i'w weddïo, ond mae'r Ysbryd ei hun yn gofyn ar ein rhan ni. Mae yntau'n griddfan — dydy geiriau ddim yn ddigon. Ond mae Duw yn gwybod beth sydd yng nghalon pawb, ac mae'n gwybod beth ydy bwriad yr Ysbryd. Mae'r Ysbryd yn gofyn i Dduw am y pethau mae Duw yn awyddus i'w rhoi i'w blant. Dŷn ni'n gwybod fod Duw'n trefnu popeth er lles y rhai sy'n ei garu — sef y rhai mae wedi eu galw i gyflawni ei fwriadau. Roedd yn gwybod pwy fyddai'n bobl iddo, ac roedd wedi eu dewis ymlaen llaw i fod yn debyg i'w Fab. (Y Mab, sef y Meseia Iesu, ydy'r plentyn hynaf, ac mae ganddo lawer iawn o frodyr a chwiorydd). Ar ôl eu dewis ymlaen llaw, galwodd nhw ato'i hun. Mae'n eu derbyn nhw i berthynas iawn ag e'i hun, ac wedyn yn rhannu ei ysblander gyda nhw. Felly, beth mae hyn yn ei olygu? Os ydy Duw ar ein hochr ni, does dim ots pwy sy'n ein herbyn ni! Wnaeth Duw ddim hyd yn oed arbed ei Fab ei hun! Rhoddodd e yn aberth i farw yn ein lle ni i gyd. Felly oes yna unrhyw beth dydy e ddim yn fodlon ei roi i ni? Pwy sy'n mynd i gyhuddo'r bobl mae Duw wedi eu dewis iddo'i hun? Wnaiff Duw ddim! Duw ydy'r un sy'n eu gwneud nhw'n ddieuog yn ei olwg! Felly pwy sy'n mynd i'n condemnio ni? Wnaiff y Meseia Iesu ddim! Fe ydy'r un gafodd ei ladd a'i godi yn ôl yn fyw! A bellach mae'n eistedd yn y sedd anrhydedd ar ochr dde Duw, yn pledio ar ein rhan ni. Oes yna rywbeth sy'n gallu'n gwahanu ni oddi wrth gariad y Meseia? Nac oes, dim byd! Dydy poen ddim yn gallu, na dioddefaint, cael ein herlid, newyn na noethni, peryglon na hyd yn oed cael ein lladd! Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “O'th achos di dŷn ni'n wynebu marwolaeth drwy'r amser; Dŷn ni fel defaid ar eu ffordd i'r lladd-dy.” Ond dŷn ni'n concro'r cwbl i gyd, a mwy, am fod y Meseia wedi'n caru ni. Dw i'n hollol sicr fod dim byd yn gallu'n gwahanu ni oddi wrth ei gariad e. Dydy marwolaeth ddim yn gallu, na'r un profiad gawn ni mewn bywyd chwaith. Dydy angylion ddim yn gallu, na phwerau ysbrydol drwg. Dim byd yn y presennol nac yn y dyfodol. Dim byd ym mhellteroedd eitha'r gofod nac yn nyfnderoedd y ddaear! Na, does dim yn y bydysawd yma greodd Duw yn gallu'n gwahanu ni oddi wrth gariad Duw yn ein Harglwydd ni, y Meseia Iesu! Dw i'n dweud y gwir fel Cristion — heb air o gelwydd. Mae nghydwybod i dan ddylanwad yr Ysbryd Glân yn tystio fy mod i'n ddigalon iawn ac yn poeni drwy'r amser am fy mhobl, yr Iddewon. Byddwn i'n barod i gael fy melltithio a'm gwahanu oddi wrth y Meseia petai hynny'n gwneud lles iddyn nhw! Fy mhobl i ydyn nhw — y genedl dw i'n perthyn iddi. Pobl Israel sydd wedi cael eu mabwysiadu gan Dduw yn blant iddo'i hun. Nhw welodd ei ysblander. Ymrwymodd y byddai'n gofalu amdanyn nhw. Nhw gafodd y Gyfraith ganddo, a dysgu sut i'w addoli yn iawn. Nhw dderbyniodd yr addewidion i gyd! Eu hanes nhw ydy hanes Abraham, Isaac, Jacob a'i feibion, a nhw ydy'r genedl roedd y Meseia yn perthyn iddi fel dyn. Fe sy'n rheoli popeth, yn Dduw i gael ei foli am byth! Amen! Ond dydy Duw ddim wedi torri ei air! Na! Achos dydy pawb sy'n perthyn i wlad Israel ddim yn bobl Israel go iawn. A dydy profi eich bod chi'n ddisgynyddion i Abraham ddim yn golygu eich bod wir yn blant iddo. Beth mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud ydy, “Drwy Isaac y bydd dy linach yn cael ei chadw.” Hynny ydy, dydy pawb sy'n perthyn i deulu Abraham ddim yn blant Duw. Y rhai sy'n blant go iawn i Abraham ydy'r rhai sy'n blant o ganlyniad i addewid Duw. Dyma'r addewid wnaeth Duw: “Bydda i'n dod yn ôl yr adeg yma y flwyddyn nesa, a bydd Sara yn cael mab.” Ac wedyn rhaid cofio beth ddigwyddodd i'r gefeilliaid gafodd Isaac a Rebecca. A cofiwch fod hyn wedi digwydd cyn iddyn nhw gael eu geni, pan oedden nhw heb wneud dim byd drwg na da (sy'n dangos fod Duw'n gwneud beth mae'n ei addo yn ei ffordd ei hun. Fe sy'n dewis, dim beth dŷn ni'n ei wneud sy'n cyfri.) Dwedodd Duw wrth Rebecca, “Bydd y mab hynaf yn was i'r ifancaf.” Fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Dw i wedi caru Jacob, ond gwrthod Esau.” Beth mae hyn yn ei olygu? Ydy e'n dangos fod Duw yn annheg? Wrth gwrs ddim! Dwedodd Duw wrth Moses, “Fi sy'n dewis pwy i drugarhau wrthyn nhw, a phwy dw i'n mynd i dosturio wrthyn nhw.” Hynny ydy, trugaredd Duw sydd tu ôl i'r cwbl, dim beth dŷn ni eisiau neu beth dŷn ni'n ei gyflawni. Yn ôl yr ysgrifau sanctaidd dwedodd Duw wrth y Pharo: “Dyma pam wnes i dy godi di — er mwyn dangos trwot ti mor bwerus ydw i, ac er mwyn i bawb drwy'r byd i gyd ddod i wybod amdana i.” Felly mae Duw yn dangos trugaredd at bwy bynnag mae'n ei ddewis, ac mae hefyd yn gwneud pwy bynnag mae'n ei ddewis yn ystyfnig. “Ond os felly,” meddai un ohonoch chi, “pa hawl sydd gan Dduw i weld bai, gan fod neb yn gallu mynd yn groes i'w ewyllys?” Ond pwy wyt ti i ddadlau yn erbyn Duw? Dim ond person dynol wyt ti! “Oes gan y peth sydd wedi ei siapio hawl i ddweud wrth yr un wnaeth ei greu, ‘Pam rwyt ti wedi fy ngwneud i fel hyn?’” Oes gan y crochenydd ddim hawl i ddefnyddio'r un lwmp o glai i wneud llestr crand neu i wneud llestr fydd yn dal sbwriel? A'r un fath, mae gan Dduw berffaith hawl i ddangos ei ddigofaint a'i nerth! Mae wedi bod mor amyneddgar gyda'r rhai sy'n haeddu dim byd ond cosb, ac sy'n dda i ddim ond i gael eu dinistrio! Ac mae'n barod i ddangos ei ysblander aruthrol, a'i rannu gyda'r rhai mae wedi dewis trugarhau wrthyn nhw, sef y rhai mae wedi eu paratoi ar gyfer hynny o'r dechrau cyntaf. Ac ie, ni ydy'r rheiny! — dim Iddewon yn unig, ond pobl o genhedloedd eraill hefyd! Fel mae'n dweud yn llyfr Hosea: “Galwaf ‛nid fy mhobl‛ yn bobl i mi; a ‛heb ei charu‛ yn un a gerir” a hefyd, “Yn yr union le lle dwedwyd wrthyn nhw, ‘Dych chi ddim yn bobl i mi’ byddan nhw'n cael eu galw yn blant y Duw byw.” Ac mae Eseia'n dweud fel hyn am Israel: “Hyd yn oed petai pobl Israel mor niferus â thywod y môr, dim ond gweddillion — rhyw nifer fechan — fydd yn cael eu hachub, Oherwydd yn fuan iawn bydd yr Arglwydd yn gorffen, ac yn gwneud beth ddwedodd ar y ddaear.” Mae'n union fel roedd Eseia wedi dweud yn gynharach: “Oni bai i Arglwydd y Lluoedd adael rhai ohonon ni'n fyw, bydden ni wedi ein dinistrio fel Sodom, ac wedi diflannu'n llwyr fel Gomorra.” Felly beth mae hyn i gyd yn ei olygu? Mae'n golygu fod pobl o genhedloedd eraill — pobl oedd ddim yn ceisio dilyn Duw — wedi cael eu derbyn i berthynas iawn gyda Duw trwy gredu. Ond mae pobl Israel, oedd wedi meddwl y byddai'r Gyfraith yn eu gwneud nhw'n iawn gyda Duw, wedi methu cadw'r Gyfraith honno. Pam? Am eu bod nhw'n dibynnu ar beth roedden nhw eu hunain yn ei wneud yn lle credu. Maen nhw wedi baglu dros ‛y garreg sy'n baglu pobl‛, fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: Edrychwch — dw i'n gosod yn Jerwsalem garreg sy'n baglu pobl a chraig sy'n gwneud iddyn nhw syrthio. Ond fydd pwy bynnag sy'n credu ynddo ddim yn cael ei siomi. Frodyr a chwiorydd annwyl, dw i'n dyheu o waelod calon ac yn gweddïo ar Dduw y bydd fy mhobl, yr Iddewon, yn cael eu hachub. Galla i dystio eu bod nhw'n frwdfrydig dros Dduw, ond dŷn nhw ddim wedi deall y gwirionedd. Yn lle derbyn ffordd Duw o ddod â phobl i berthynas iawn ag e ei hun, maen nhw wedi mynnu ceisio gwneud eu hunain yn iawn gyda Duw drwy gadw'r Gyfraith. Felly maen nhw wedi gwrthod plygu i Dduw. Ond y Meseia ydy'r nod mae Cyfraith Duw yn anelu ato! Felly y rhai sy'n credu ynddo fe sy'n cael eu derbyn i berthynas iawn gyda Duw. Dyma ddwedodd Moses am y Gyfraith fel ffordd o gael perthynas iawn gyda Duw: “Y sawl sy'n gwneud y pethau yma sy'n cael byw go iawn.” Ond mae cael perthynas iawn gyda Duw trwy gredu yn dweud: “Paid meddwl: Pwy wnaiff fynd i fyny i'r nefoedd?” (hynny ydy, i ddod â'r Meseia i lawr) Neu “Pwy wnaiff fynd i lawr i'r dyfnder” (hynny ydy, i ddod â'r Meseia yn ôl yn fyw). Dyma mae'n ei ddweud: “Mae'r neges yn agos atat ti; mae ar dy wefusau ac yn dy galon di.” (Hynny ydy, y neges dŷn ni'n ei chyhoeddi, sef mai credu ydy'r ffordd): Os wnei di gyffesu ‛â'th wefusau‛, “Iesu ydy'r Arglwydd”, a chredu ‛yn dy galon‛ fod Duw wedi ei godi yn ôl yn fyw ar ôl iddo farw, cei dy achub. Credu yn y galon sy'n dy wneud di'n iawn gyda Duw, a chei dy achub wrth gyffesu hynny'n agored. Fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Fydd pwy bynnag sy'n credu ynddo ddim yn cael ei siomi.” Mae'n union yr un fath i'r Iddew ac i bawb arall. Un Arglwydd sydd, ac mae'n rhoi yn hael o'i fendithion i bwy bynnag sy'n galw arno. Achos, “Bydd pwy bynnag sy'n galw ar enw yr Arglwydd yn cael ei achub.” Ond wedyn, sut mae disgwyl i bobl alw arno os ydyn nhw ddim wedi credu ynddo? A sut maen nhw'n mynd i gredu ynddo heb fod wedi clywed amdano? Sut maen nhw'n mynd i glywed os ydy rhywun ddim yn dweud wrthyn nhw? A phwy sy'n mynd i ddweud wrthyn nhw heb gael ei anfon? Dyna mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei olygu wrth ddweud: “Mae mor wych fod y rhai sy'n cyhoeddi'r newyddion da yn dod!” Ond dydy pawb ddim wedi derbyn y newyddion da. Fel mae'r proffwyd Eseia'n dweud, “Arglwydd, pwy sydd wedi credu ein neges ni?” Mae'n rhaid clywed cyn gallu credu — clywed rhywun yn rhannu'r newyddion da am y Meseia. Felly ai dweud ydw i fod yr Iddewon heb glywed? Na, fel arall yn hollol: “Mae pawb wedi clywed beth maen nhw'n ddweud, a'u neges wedi mynd i ben draw'r byd.” Felly, ai'r broblem ydy fod Israel heb ddeall y neges? Na! — Moses ydy'r cyntaf i roi ateb, “Bydda i'n gwneud i chi fod yn eiddigeddus o rai nad ydyn nhw'n genedl; a'ch gwneud yn ddig trwy fendithio pobl sy'n deall dim.” Ac roedd y proffwyd Eseia ddigon dewr i gyhoeddi fod Duw yn dweud, “Daeth pobl oedd ddim yn chwilio amdana i o hyd i fi; Dangosais fy hun i rai oedd ddim yn gofyn amdana i.” Ond mae'n dweud fel yma am Israel: “Bues i'n estyn fy llaw atyn nhw drwy'r adeg, ond maen nhw'n bobl anufudd ac ystyfnig.” Felly dw i'n gofyn eto: Ydy Duw wedi troi cefn ar ei bobl? Nac ydy, wrth gwrs ddim! Israeliad ydw i fy hun cofiwch — un o blant Abraham, o lwyth Benjamin. Felly dydy Duw ddim wedi troi ei gefn ar y bobl oedd wedi eu dewis o'r dechrau. Ydych chi'n cofio beth mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud? Roedd Elias yn cwyno am bobl Israel, ac yn dweud fel hyn: “Arglwydd, maen nhw wedi lladd dy broffwydi di a dinistrio dy allorau. Fi ydy'r unig un sydd ar ôl, ac maen nhw'n ceisio fy lladd innau hefyd!” Beth oedd ateb Duw iddo? Dyma ddwedodd Duw: “Mae gen i saith mil o bobl eraill sydd heb fynd ar eu gliniau i addoli Baal.” Ac mae'r un peth yn wir heddiw — mae Duw yn ei haelioni wedi dewis cnewyllyn o Iddewon i gael eu hachub. Ac os mai dim ond haelioni Duw sy'n eu hachub nhw, dim beth maen nhw yn ei wneud sy'n cyfri bellach. Petai hynny'n cyfri fyddai Duw ddim yn hael! Dyma beth mae hyn yn ei olygu: Wnaeth pawb yn Israel ddim cael gafael yn beth roedden nhw'n ei geisio mor daer. Ond mae rhai wedi ei gael, sef y rhai mae Duw wedi eu dewis. Mae'r lleill wedi troi'n ystyfnig. Fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Gwnaeth Duw nhw'n swrth, a rhoi iddyn nhw lygaid sy'n methu gweld a chlustiau sydd ddim yn clywed — ac maen nhw'n dal felly heddiw.” A dwedodd y Brenin Dafydd fel hyn: “Gad i'w bwrdd bwyd droi'n fagl ac yn rhwyd, yn drap ac yn gosb iddyn nhw; gad iddyn nhw golli eu golwg a mynd yn ddall, a'u cefnau wedi eu crymu am byth dan y pwysau.” Felly ydw i'n dweud fod yr Iddewon wedi baglu a syrthio, a byth yn mynd i godi eto? Wrth gwrs ddim! Mae'r ffaith eu bod nhw wedi llithro yn golygu fod pobl o genhedloedd eraill yn cael eu hachub. Ac mae hynny yn ei dro yn gwneud yr Iddewon yn eiddigeddus. Ac os ydy eu colled nhw am eu bod wedi llithro yn cyfoethogi'r byd, a'u methiant nhw wedi helpu pobl o genhedloedd eraill, meddyliwch gymaint mwy fydd y fendith pan fyddan nhw'n dod i gredu! Gadewch i mi ddweud hyn wrthoch chi sydd ddim yn Iddewon. Dw i'n ei chyfri hi'n fraint fod Duw wedi fy ngalw i fod yn gynrychiolydd personol iddo, i rannu ei neges gyda chi. Ond dw i eisiau gwneud fy mhobl fy hun yn eiddigeddus ohonoch chi, er mwyn i rai ohonyn nhw hefyd gael eu hachub. Os ydy eu taflu nhw i ffwrdd wedi golygu fod pobl o weddill y byd yn dod i berthynas iawn â Duw, beth fydd canlyniad eu derbyn nhw yn ôl? Bydd fel petai'r meirw'n dod yn ôl yn fyw! Os ydy'r offrwm cyntaf o does wedi ei gysegru i Dduw, mae'r cwbl yn gysegredig. Os ydy gwreiddiau'r goeden yn sanctaidd, bydd y canghennau felly hefyd. Mae rhai o'r canghennau wedi cael eu llifio i ffwrdd, a thithau'n sbrigyn o olewydden wyllt wedi cael dy impio yn eu lle. Felly rwyt ti bellach yn cael rhannu'r maeth sy'n dod o wreiddiau'r olewydden. Ond paid meddwl dy fod ti'n wahanol i'r canghennau gafodd eu llifio i ffwrdd! Cofia mai dim ti sy'n cynnal y gwreiddiau — y gwreiddiau sy'n dy gynnal di! “Ond cafodd y canghennau hynny eu llifio i ffwrdd er mwyn i mi gael fy impio i mewn,” meddet ti. Digon gwir: Cawson nhw eu llifio i ffwrdd am beidio credu, a chest ti dy osod yn eu lle dim ond am dy fod di wedi credu. Ond paid dechrau swancio; gwylia di! Os wnaeth Duw ddim arbed y canghennau naturiol, wnaiff e ddim dy arbed dithau chwaith! Sylwa fod Duw yn gallu bod yn garedig ac yn llym. Mae'n llym gyda'r rhai sy'n anufudd, ond yn garedig atat ti — dim ond i ti ddal ati i drystio yn ei garedigrwydd. Neu, fel arall, cei dithau hefyd dy lifio i ffwrdd! A'r un fath gyda'r Iddewon — tasen nhw'n stopio gwrthod credu, byddai Duw yn eu himpio nhw yn ôl i'r goeden. Os gwnaeth dy dorri di i ffwrdd oddi ar olewydden wyllt a'th impio yn groes i natur ar olewydden gardd, mae'n ddigon hawdd iddo impio'r canghennau naturiol yn ôl i'w holewydden eu hunain! Frodyr a chwiorydd, dw i am i chi ddeall fod dirgelwch yma, rhag i chi fod yn rhy llawn ohonoch chi'ch hunain. Mae rhai o'r Iddewon wedi troi'n ystyfnig, a byddan nhw'n aros felly hyd nes y bydd y nifer cyflawn ohonoch chi sy'n perthyn i genhedloedd eraill wedi dod i mewn. Yna bydd Israel gyfan yn cael ei hachub, fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Bydd Achubwr yn dod o Jerwsalem, ac yn symud annuwioldeb o Jacob. Dyma fy ymrwymiad i iddyn nhw, pan fydda i'n symud eu pechodau i ffwrdd.” Ar hyn o bryd mae llawer o'r Iddewon yn elynion y newyddion da, er eich mwyn chi. Ond cofiwch mai nhw oedd y bobl ddewisodd Duw, ac mae e'n eu caru nhw. Roedd wedi addo i'r tadau y byddai'n gwneud hynny! — i Abraham, Isaac a Jacob. Dydy Duw ddim yn cymryd ei roddion yn ôl nac yn canslo ei alwad. Ar un adeg roeddech chi, bobl o genhedloedd eraill, yn anufudd i Dduw. Ond am fod yr Iddewon wedi bod yn anufudd, dych chi nawr wedi derbyn trugaredd. Nhw ydy'r rhai sy'n anufudd bellach. Ond os ydy Duw wedi dangos trugaredd atoch chi, pam allan nhw hefyd ddim derbyn trugaredd? Y gwir ydy, mae Duw wedi dal pawb yn garcharorion anufudd-dod, er mwyn iddo allu dangos trugaredd atyn nhw i gyd. Mae Duw mor ffantastig! Mae e mor aruthrol ddoeth! Mae'n deall popeth! Mae beth mae e'n ei benderfynu y tu hwnt i'n hamgyffred ni, a beth mae'n ei wneud y tu hwnt i'n deall ni! Pwy sy'n gallu honni ei fod yn deall meddwl yr Arglwydd? Pwy sydd wedi dod i wybod digon i roi cyngor iddo? Pwy sydd wedi rhoi cymaint i Dduw nes bod Duw â dyled i'w thalu iddo? Na, Duw sydd wedi rhoi popeth i ni! Fe sy'n cynnal y cwbl, ac mae'r cwbl yn bodoli er ei fwyn e! Fe ydy'r unig un sy'n haeddu ei foli am byth! Amen! Felly, am fod Duw wedi bod mor drugarog wrthoch chi, frodyr a chwiorydd, dw i'n apelio ar i chi roi eich hunain yn llwyr i Dduw. Cyflwyno eich hunain iddo yn aberth byw — un sy'n lân ac yn dderbyniol ganddo. Dyna beth ydy addoliad go iawn! O hyn ymlaen rhaid i chi stopio ymddwyn yr un fath â phobl sydd ddim yn credu. Gadewch i Dduw newid eich bywyd chi'n llwyr drwy chwyldroi eich ffordd o feddwl am bethau. Byddwch yn gwybod wedyn beth mae Duw eisiau, ac yn gweld fod hynny'n dda ac yn ei blesio fe, ac mai dyna'r peth iawn i'w wneud. Gadewch i mi ddweud hyn wrthoch chi, fel rhywun mae Duw wedi bod mor garedig ato: Peidiwch meddwl eich bod chi'n well nag ydych chi. Byddwch yn onest gyda chi'ch hun wrth ystyried faint o ffydd mae Duw wedi ei roi i chi. Mae'r eglwys yr un fath â'r corff dynol — mae gwahanol rannau i'r corff, a dydy pob rhan o'r corff ddim yn gwneud yr un gwaith. Yn yr eglwys dŷn ni gyda'n gilydd yn gwneud un corff, sef corff y Meseia. Mae pob un ohonon ni'n rhan o'r corff ac mae arnon ni angen pawb arall. Mae Duw wedi rhoi doniau gwahanol i bob un ohonon ni. Os ydy Duw wedi rhoi'r gallu i ti roi neges broffwydol, gwna hynny pan rwyt ti'n gwybod fod Duw am i ti wneud. Os mai helpu pobl eraill ydy dy ddawn di, gwna job dda ohoni. Os oes gen ti'r ddawn i ddysgu pobl eraill, gwna hynny'n gydwybodol. Os wyt ti'n rhywun sy'n annog pobl eraill, bwrw iddi! Os wyt yn rhannu dy eiddo gydag eraill, bydd yn hael. Os oes gen ti'r ddawn i arwain, gwna hynny'n frwd. Os mai dangos caredigrwydd ydy dy ddawn di, gwna hynny'n llawen. Rhaid i'ch cariad chi fod yn gariad go iawn — dim rhyw gariad arwynebol. Yn casáu y drwg â chasineb perffaith, ac yn dal gafael yn beth sy'n dda. Byddwch o ddifri yn eich gofal am eich gilydd, a dangos parch at eich gilydd. Peidiwch byth â gadael i'ch brwdfrydedd oeri, ond bod ar dân yn gweithio i'r Arglwydd yn nerth yr Ysbryd Glân. Byddwch yn llawen wrth feddwl am y cwbl sydd gan Dduw ar eich cyfer chi. Byddwch yn amyneddgar tra dych chi'n dioddef, a daliwch ati i weddïo. Rhannwch beth sydd gynnoch chi gyda phobl Dduw sydd mewn angen. Ewch allan o'ch ffordd i roi croeso i ymwelwyr yn eich cartrefi bob amser. Peidiwch melltithio'r bobl hynny sy'n eich erlid chi — gofynnwch i Dduw eu bendithio nhw. Byddwch yn llawen gyda phobl sy'n hapus, a crïo gyda'r rhai sy'n crïo. Byddwch yn ffrindiau da i'ch gilydd. Peidiwch meddwl eich bod yn rhy bwysig i fod yn ffrindiau gyda'r bobl hynny sy'n ‛neb‛. Peidiwch rhoi'r argraff eich bod yn gwybod y cwbl. Peidiwch byth talu'r pwyth yn ôl. Gadewch i bobl weld eich bod yn gwneud y peth anrhydeddus bob amser. Gwnewch bopeth allwch chi i fyw mewn heddwch gyda phawb. Peidiwch mynnu dial ar bobl, ffrindiau, gadewch i Dduw ddelio gyda'r peth. Fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “‘Fi sy'n dial; gwna i dalu yn ôl’ meddai'r Arglwydd.” Dyma ddylet ti ei wneud: “Os ydy dy elyn yn llwgu, rho fwyd iddo; os ydy e'n sychedig, rho rywbeth i'w yfed iddo; wrth wneud hynny byddi'n tywallt marwor tanllyd ar ei ben.” Paid gadael i ddrygioni dy ddal yn ei grafangau — trecha di ddrygioni trwy wneud daioni. Dylai pawb fod yn atebol i awdurdod y llywodraeth. Duw sy'n rhoi awdurdod i lywodraethau, ac mae'r awdurdodau presennol wedi eu rhoi yn eu lle gan Dduw. Mae rhywun sy'n gwrthwynebu'r awdurdodau yn gwrthwynebu rhywbeth mae Duw wedi ei ordeinio, a bydd pobl felly yn cael eu cosbi. Does dim rhaid ofni'r awdurdodau os ydych yn gwneud daioni. Y rhai sy'n gwneud pethau drwg ddylai ofni. Felly gwna beth sy'n iawn a chei dy ganmol. Wedi'r cwbl mae'r awdurdodau yn gwasanaethu Duw ac yn bodoli er dy les di. Ond os wyt ti'n gwneud drygioni, mae'n iawn i ti ofni, am fod y cleddyf sydd ganddo yn symbol fod ganddo hawl i dy gosbi di. Mae'n gwasanaethu Duw drwy gosbi'r rhai sy'n gwneud drwg. Felly dylid bod yn atebol i'r awdurdodau, dim yn unig i osgoi cosb, ond hefyd i gadw'r gydwybod yn lân. Dyna pam dych chi'n talu trethi hefyd — gweision Duw ydyn nhw, ac mae ganddyn nhw waith i'w wneud. Felly talwch beth sy'n ddyledus i bob un — trethi a thollau. A dangoswch barch atyn nhw. Ond mae un ddyled allwch chi byth ei thalu'n llawn, sef y ddyled i garu'ch gilydd. Mae cariad yn gwneud popeth mae Cyfraith Duw yn ei ofyn. Mae'r gorchmynion i gyd — “Paid godinebu,” “Paid llofruddio,” “Paid dwyn,” “Paid chwennych,” ac yn y blaen — yn cael eu crynhoi yn yr un rheol yma: “Rwyt i garu dy gymydog fel rwyt ti'n dy garu dy hun.” Dydy cariad ddim yn gwneud niwed i neb, felly cariad ydy'r ffordd i wneud popeth mae Cyfraith Duw'n ei ofyn. Dylech chi fyw fel hyn am eich bod chi'n deall beth sy'n digwydd. Mae'n bryd i chi ddeffro o'ch difaterwch! Mae diwedd y stori, pan fyddwn ni'n cael ein hachub yn derfynol, yn agosach nag oedd pan wnaethon ni ddod i gredu gyntaf. Mae'r nos bron mynd heibio, a'r diwrnod newydd ar fin gwawrio. Felly gadewch i ni stopio ymddwyn fel petaen ni'n perthyn i'r tywyllwch, a pharatoi'n hunain i frwydro dros y goleuni. Gadewch i ni ymddwyn yn weddus fel petai'n olau dydd. Dim partïon gwyllt a meddwi; dim ymddwyn yn anfoesol; dim penrhyddid i'r chwantau; dim ffraeo a chenfigennu. Gadewch i'r Arglwydd Iesu Grist fod fel gwisg amdanoch chi, a pheidiwch rhoi sylw i'ch chwantau hunanol drwy'r adeg. Derbyniwch y bobl hynny sy'n ansicr ynglŷn â rhai pethau. Peidiwch eu beirniadu nhw a gwneud rheolau caeth am bethau sy'n fater o farn bersonol. Er enghraifft, mae un person yn teimlo'n rhydd i fwyta unrhyw beth, ond mae rhywun arall yn ansicr ac yn dewis bwyta dim ond llysiau rhag ofn iddo fwyta rhywbeth na ddylai. Rhaid i'r rhai sy'n hapus i fwyta popeth beidio edrych i lawr ar y rhai sydd ddim yn gyfforddus i wneud hynny. A rhaid i'r bobl sy'n dewis peidio bwyta rhai pethau beidio beirniadu y rhai sy'n teimlo'n rhydd i fwyta — wedi'r cwbl mae Duw yn eu derbyn nhw! Oes gen ti hawl i ddweud y drefn wrth was rhywun arall? Meistr y gwas sy'n penderfynu os ydy beth mae'n ei wneud yn iawn ai peidio. Gad i'r Arglwydd benderfynu os ydy'r rhai rwyt ti'n anghytuno gyda nhw yn gwneud y peth iawn. Dyma i chi enghraifft arall: Mae rhai pobl yn gweld un diwrnod yn wahanol i bob diwrnod arall, hynny ydy, yn gysegredig. Ond mae pobl eraill yn ystyried pob diwrnod yr un fath. Dylai pawb fod yn hollol siŵr o'i safbwynt. Mae'r rhai sy'n meddwl fod rhywbeth arbennig am un diwrnod, yn ceisio bod yn ffyddlon i'r Arglwydd. Mae'r rhai sy'n dewis bwyta cig eisiau cydnabod mai'r Arglwydd sy'n ei roi, trwy ddiolch i'r Arglwydd amdano. Ond mae'r rhai sy'n dewis peidio bwyta, hwythau hefyd, yn ceisio bod yn ffyddlon i'r Arglwydd, ac yn rhoi'r diolch i Dduw. Dŷn ni ddim yn byw i'r hunan nac yn marw i'r hunan. Wrth fyw ac wrth farw, dŷn ni eisiau bod yn ffyddlon i'r Arglwydd. Pobl Dduw ydyn ni tra byddwn ni byw a phan fyddwn ni farw. Dyna pam gwnaeth y Meseia farw a dod yn ôl yn fyw — i fod yn Arglwydd ar y rhai sydd wedi marw a'r rhai sy'n dal yn fyw. Felly pam rwyt ti mor barod i feirniadu dy gyd-Gristnogion ac edrych i lawr arnyn nhw? Cofia y bydd rhaid i bob un ohonon ni sefyll o flaen llys barn Duw. Fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “‘Mor sicr â'r ffaith fy mod i'n fyw,’ meddai'r Arglwydd, ‘Bydd pob glin yn plygu i mi, a phob tafod yn rhoi clod i Dduw’” Bydd rhaid i bob un ohonon ni ateb drosto'i hun o flaen Duw. Felly gadewch i ni stopio beirniadu'n gilydd o hyn ymlaen. Yn lle hynny, gadewch i ni benderfynu peidio gwneud unrhyw beth fydd yn rhwystr i Gristion arall. Dw i fy hun, wrth ddilyn yr Arglwydd Iesu, yn credu'n gydwybodol fod yna ddim bwyd sy'n ‛aflan‛ ynddo'i hun. Ond os ydy rhywun yn meddwl fod rhyw fwyd yn ‛aflan‛, mae wir yn aflan i'r person hwnnw. Felly os wyt ti'n bwyta rhywbeth gan wybod ei fod yn broblem i Gristion arall, dwyt ti ddim yn dangos rhyw lawer o gariad. Paid gadael i dy arferion bwyta di wneud niwed i rywun arall wnaeth y Meseia farw drosto. A paid gadael i beth sy'n iawn yn dy olwg di wneud i bobl sydd ddim yn Gristnogion amharchu'r Meseia. Dim beth wyt ti'n ei fwyta a'i yfed sy'n dangos fod Duw'n teyrnasu yn dy fywyd di. Perthynas iawn gyda Duw sy'n cyfri, a'r heddwch dwfn a'r llawenydd mae'r Ysbryd Glân yn ei roi. Mae'r un sy'n dilyn y Meseia fel yma yn plesio Duw ac yn cael ei barchu gan bobl eraill. Felly gadewch i ni wneud beth sy'n arwain i heddwch ac sy'n cryfhau pobl eraill. Peidiwch dinistrio gwaith da Duw er mwyn cael bwyta beth fynnwch chi. Mae pob bwyd yn iawn i'w fwyta, ond ddylech chi ddim bwyta rhywbeth os ydy e'n creu problemau i rywun arall. Mae'n well dewis peidio bwyta cig am unwaith, a pheidio yfed gwin, a pheidio gwneud unrhyw beth fyddai'n achosi i Gristion arall faglu. Beth bynnag rwyt yn ei gredu am hyn i gyd, cadwa hynny rhyngot ti a Duw. Mae bendith fawr i'r un sydd ddim yn ei gondemnio ei hun drwy fynnu gwneud beth mae e'n gredu sy'n iawn o hyd! Ond mae'r person sydd ddim yn siŵr beth sy'n iawn yn ei gondemnio ei hun wrth fwyta — am beidio gwneud beth mae'n gredu fyddai Duw am iddo'i wneud. Mae peidio gwneud beth dŷn ni'n gredu mae Duw am i ni ei wneud yn bechod. Dylen ni sy'n credu'n gryf ein bod ni'n gwybod beth sy'n iawn feddwl bob amser am y rhai sy'n ansicr. Yn lle bwrw ymlaen i blesio'n hunain, gadewch i ni ystyried pobl eraill, a cheisio eu helpu nhw a'u gwneud nhw'n gryf. Dim ei blesio ei hun wnaeth y Meseia — fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Dw i hefyd wedi cael fy sarhau yn y ffordd gest ti dy sarhau.” Cafodd pethau fel yma eu hysgrifennu yn y gorffennol i'n dysgu ni, er mwyn i'r ysgrifau sanctaidd ein hannog ni i fod yn amyneddgar wrth edrych ymlaen i'r dyfodol. Dw i'n gweddïo y bydd Duw, sy'n rhoi'r amynedd a'r anogaeth yma, yn eich galluogi chi i fyw mewn heddwch gyda'ch gilydd wrth i chi ddilyn y Meseia Iesu. Drwy wneud hynny byddwch gyda'ch gilydd yn rhoi clod i Dduw, sef Tad ein Harglwydd Iesu Grist. Rhowch glod i Dduw drwy dderbyn eich gilydd, yn union fel gwnaeth y Meseia eich derbyn chi. Daeth y Meseia at yr Iddewon fel gwas, i ddangos fod Duw wedi cadw'r addewidion a wnaeth i Abraham, Isaac a Jacob. Felly mae pobl o bob cenedl yn clodfori Duw am ei drugaredd. Fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Bydda i'n dy foli di ymhlith y cenhedloedd, ac yn canu mawl i'th enw.” Maen nhw'n dweud hefyd, “Llawenhewch, Genhedloedd, gyda'i bobl,” a, “Molwch yr Arglwydd, chi'r cenhedloedd i gyd; Canwch fawl iddo, holl bobl y byd!” Yna mae'r proffwyd Eseia'n dweud hyn: “Bydd y blaguryn o deulu Jesse yn tyfu, sef yr un sy'n codi i deyrnasu ar y cenhedloedd. Bydd yr holl genhedloedd yn gobeithio ynddo.” Felly dw i'n gweddïo y bydd Duw, ffynhonnell gobaith, yn llenwi'ch bywydau gyda'r llawenydd a'r heddwch dwfn sy'n dod o gredu ynddo; ac y bydd yr Ysbryd Glân yn gwneud i obaith orlifo yn eich bywydau chi! Does dim amheuaeth gen i, frodyr a chwiorydd, eich bod chi'n gwybod beth sy'n dda ac yn iawn, a'ch bod chi'n gallu dysgu eich gilydd. Ond dw i wedi dweud rhai pethau yn blwmp ac yn blaen yn y llythyr yma, er mwyn eich atgoffa chi. Dyna'r gwaith mae Duw wedi ei roi i mi — gwasanaethu y Meseia Iesu ymhlith pobl sydd ddim yn Iddewon. Dw i'n cyflwyno newyddion da Duw i chi, er mwyn i'r Ysbryd Glân eich glanhau chi a'ch gwneud chi sydd o genhedloedd eraill yn offrwm derbyniol i Dduw. Dw i'n falch o beth mae'r Meseia Iesu wedi ei wneud trwof fi wrth i mi wasanaethu Duw. Wna i ddim meiddio sôn am ddim arall! Mae'r Meseia wedi gwneud i bobl o'r cenhedloedd ufuddhau i Dduw. Mae wedi defnyddio beth dw i'n ei ddweud a'i wneud, ac wedi cyflawni gwyrthiau rhyfeddol drwy nerth yr Ysbryd Glân. Dw i wedi cyhoeddi'r newyddion da am y Meseia yr holl ffordd o Jerwsalem i dalaith Ilyricwm. Beth dw i wedi ceisio'i wneud ydy cyhoeddi'r newyddion da lle doedd neb wedi sôn am y Meseia o'r blaen. Does gen i ddim eisiau adeiladu ar sylfaen mae rhywun arall wedi ei osod. Fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud eto: “Bydd pobl na ddwedodd neb wrthyn nhw amdano yn gweld, a rhai oedd heb glywed amdano yn deall.” Dyna sydd wedi fy rhwystro i rhag dod atoch chi dro ar ôl tro. Ond bellach does unman ar ôl i mi weithio yn yr ardaloedd yma, a dw i wedi bod yn dyheu am gyfle i ymweld â chi ers blynyddoedd. Dw i am fynd i Sbaen, ac yn gobeithio galw heibio chi yn Rhufain ar y ffordd. Ar ôl i mi gael y pleser o'ch cwmni chi am ychydig, cewch chi fy helpu i fynd ymlaen yno. Ar hyn o bryd dw i ar fy ffordd i Jerwsalem, gyda rhodd i helpu'r Cristnogion yno. Mae'r Cristnogion yn Macedonia ac Achaia wedi casglu arian i'w rannu gyda'r Cristnogion tlawd yn Jerwsalem. Roedden nhw'n falch o gael cyfle i rannu fel hyn, am eu bod yn teimlo fod ganddyn nhw ddyled i'w thalu. Mae pobl y cenhedloedd wedi cael rhannu bendithion ysbrydol yr Iddewon, felly mae'n ddigon teg i'r Iddewon gael help materol. Pan fydda i wedi gorffen hyn, a gwneud yn siŵr eu bod wedi derbyn yr arian, dw i'n mynd i alw heibio i'ch gweld chi ar fy ffordd i Sbaen. Dw i'n gwybod y bydda i'n dod i rannu bendith fawr gan y Meseia gyda chi. Frodyr a chwiorydd, sy'n perthyn i'r Arglwydd Iesu Grist ac yn rhannu'r cariad mae'r Ysbryd yn ei roi, dw i'n apelio arnoch chi i ymuno gyda mi yn y frwydr drwy weddïo drosto i. Gweddïwch y bydd Duw yn fy amddiffyn i rhag y rhai yn Jwdea sy'n gwrthod ufuddhau i Dduw. Gweddïwch hefyd y bydd y Cristnogion yn Jerwsalem yn derbyn y rhodd sydd gen i iddyn nhw. Wedyn, os Duw a'i myn, galla i ddod atoch chi yn llawen a chael seibiant gyda chi. Dw i'n gweddïo y bydd Duw, sy'n rhoi ei heddwch perffaith i ni, gyda chi i gyd. Amen. Dim ond pethau da sydd gen i i'w dweud am Phebe, ein chwaer sy'n gwasanaethu yn eglwys Cenchrea. Rhowch groeso brwd iddi — y math o groeso mae unrhyw un sy'n credu yn yr Arglwydd yn ei haeddu. Rhowch iddi pa help bynnag sydd arni ei angen. Mae hi wedi bod yn gefn i lawer iawn o bobl, gan gynnwys fi. Cofiwch fi at Priscila ac Acwila, sy'n gweithio gyda mi dros y Meseia Iesu. Dau wnaeth fentro eu bywydau er fy mwyn i. A dim fi ydy'r unig un sy'n ddiolchgar iddyn nhw, ond holl eglwysi'r cenhedloedd hefyd! Cofion hefyd at yr eglwys sy'n cyfarfod yn eu tŷ nhw. Cofiwch fi at fy ffrind annwyl Epainetws — y person cyntaf yn Asia i ddod yn Gristion. Cofiwch fi at Mair, sydd wedi bod yn gweithio'n galed ar eich rhan. Hefyd at Andronicus a Jwnia, cyd-Iddewon fuodd yn y carchar gyda mi. Mae nhw'n adnabyddus fel cynrychiolwyr i'r Arglwydd — roedden nhw'n credu yn y Meseia o'm blaen i. Cofion at Ampliatus, sy'n ffrind annwyl i mi yn yr Arglwydd. Cofion hefyd at Wrbanus, sy'n gweithio gyda ni dros y Meseia, ac at fy ffrind annwyl Stachus. Cofiwch fi at Apeles, sydd wedi profi ei hun yn ffyddlon i'r Meseia. Cofion at bawb sy'n gwasanaethu yn nhŷ Aristobwlus. Cofiwch fi at Herodion sydd yntau'n Iddew, ac at y Cristnogion hynny sy'n gwasanaethu yn nhŷ Narcisws. Cofiwch fi at Tryffena a Tryffosa, dwy wraig sy'n gweithio'n galed dros yr Arglwydd. A chofiwch fi hefyd at Persis annwyl — gwraig arall sydd wedi bod yn gweithio'n arbennig o galed dros yr Arglwydd. Cofion at Rwffus, gwas arbennig i'r Arglwydd, ac at ei fam sydd wedi bod fel mam i minnau hefyd. A chofiwch fi at Asyncritus, Phlegon, Hermes, Patrobas, Hermes a'r brodyr a'r chwiorydd eraill gyda nhw. Cofion at Philologws a Jwlia, Nerews a'i chwaer, ac Olympas a phob un o'r credinwyr eraill sydd gyda nhw. Cyfarchwch eich cyd-Gristnogion yn llawn cariad. Mae eglwysi'r Meseia i gyd yn anfon eu cyfarchion atoch chi. Dw i'n apelio atoch chi frodyr a chwiorydd, i wylio'r bobl hynny sy'n creu rhaniadau ac yn ceisio'ch cael i wneud yn groes i beth wnaethoch chi ei ddysgu. Cadwch draw oddi wrthyn nhw. Gwasanaethu eu boliau eu hunain mae pobl felly, dim gwasanaethu'r Meseia, ein Harglwydd ni. Maen nhw'n twyllo pobl ddiniwed gyda'u seboni a'u gweniaith. Ond mae pawb yn gwybod eich bod chi'n ufudd i'r Arglwydd, a dw i'n hapus iawn am hyn. Dw i am i chi fod yn ddoeth wrth wneud daioni ac yn ddieuog o wneud unrhyw ddrwg. A bydd Duw, sy'n rhoi'r heddwch dwfn, yn eich galluogi i sathru Satan a'i fathru dan eich traed yn fuan. Dw i'n gweddïo y byddwch chi'n profi haelioni rhyfeddol ein Harglwydd Iesu. Mae Timotheus, sy'n gweithio gyda mi yn anfon ei gyfarchion atoch chi; hefyd Lwcius, Jason a Sosipater, fy nghyd-Iddewon. (A finnau, Tertiws, sydd wedi rhoi'r llythyr yma ar bapur. Dw i'n eich cyfarch chi yn yr Arglwydd hefyd.) Mae Gaius yn anfon ei gyfarchion (yn ei gartre fe dw i'n aros), ac mae'r eglwys sy'n cyfarfod yma yn anfon eu cyfarchion hefyd. Cyfarchion hefyd oddi wrth Erastus, trysorydd cyngor y ddinas, a hefyd oddi wrth y brawd Cwartus. *** Clod i Dduw, sy'n gallu'ch gwneud chi'n gryf drwy'r newyddion da sydd gen i — sef y neges sy'n cael ei chyhoeddi am Iesu y Meseia. Mae'r cynllun dirgel yma wedi bod yn guddiedig ar hyd yr oesoedd, ond bellach mae wedi ei ddwyn i'r golwg. Fel mae'r ysgrifau proffwydol yn dweud, y rhai gafodd eu hysgrifennu drwy orchymyn y Duw tragwyddol — mae pobl o bob cenedl yn cael eu galw i gredu ynddo a byw'n ufudd iddo. O achos beth wnaeth Iesu y Meseia, mae e, yr unig Dduw doeth, yn haeddu ei foli am byth! Amen! Llythyr gan Paul, wedi fy newis gan Dduw a'm galw i fod yn gynrychiolydd personol i'r Meseia Iesu. A gan y brawd Sosthenes hefyd. At eglwys Dduw yn Corinth. Dych chi wedi'ch neilltuo gan Dduw i berthynas â'r Meseia Iesu. Dych chi wedi'ch galw i fod yn bobl sanctaidd, fel pob Cristion arall — sef pawb ym mhobman sy'n galw ar enw ein Harglwydd Iesu Grist. Fe sy'n Arglwydd arnyn nhw ac arnon ni. Dw i'n gweddïo y byddwch chi'n profi'r haelioni rhyfeddol a'r heddwch dwfn mae Duw ein Tad a'r Arglwydd Iesu Grist yn ei roi i ni. Dw i bob amser yn diolch i Dduw amdanoch chi. Mae wedi bod mor hael, ac wedi rhoi cymaint o ddoniau i chi sydd wedi dod i berthyn i'r Meseia Iesu. Mae wedi'ch gwneud chi'n gyfoethog yn eich gallu i siarad am bethau ysbrydol, a'ch gwybodaeth ysbrydol. Mae'r neges am y Meseia wedi gwreiddio'n ddwfn yn eich bywydau chi. Mae gynnoch chi bob dawn ysbrydol sydd ei angen arnoch tra dych chi'n disgwyl i'r Arglwydd Iesu Grist ddod yn ôl. Bydd e'n eich cadw chi'n ffyddlon i'r diwedd un. Mae e am i chi fod yn ddi-fai ar y diwrnod mawr pan fydd ein Harglwydd Iesu Grist yn dod yn ôl. Gallwch chi drystio Duw yn llwyr. Mae'n gwneud beth mae'n ei ddweud. Fe sydd wedi'ch galw chi i rannu bywyd gyda'i fab, y Meseia Iesu ein Harglwydd ni. Frodyr a chwiorydd, dw i'n apelio atoch chi ar ran ein Harglwydd Iesu Grist — stopiwch ffraeo. Dw i eisiau i chi ddangos undod go iawn, yn lle bod wedi eich rhannu'n ‛ni‛ a ‛nhw‛. Dw i'n gwybod y cwbl amdanoch chi — mae rhai o bobl Chloe wedi dweud wrtho i am yr holl gecru yn eich plith chi. Mae un ohonoch chi'n dweud, “Paul dw i'n ei ddilyn”; rhywun arall yn dweud, “Apolos dw i'n ei ddilyn,” neu “Dw i'n dilyn Pedr”; ac wedyn un arall yn dweud, “Y Meseia dw i'n ei ddilyn”! Ydy hi'n bosib rhannu'r Meseia yn ddarnau? Ai fi, Paul, gafodd ei groeshoelio drosoch chi? Wrth gwrs ddim! Gawsoch chi'ch bedyddio i berthyn i enw Paul? Na! Diolch byth, wnes i fedyddio neb ond Crispus a Gaius. Felly all neb ohonoch chi ddweud eich bod wedi cael eich bedyddio i'm henw i! (O ie, fi fedyddiodd y rhai o dŷ Steffanas hefyd; ond dw i'n reit siŵr mod i ddim wedi bedyddio neb arall.) Cyhoeddi'r newyddion da ydy'r gwaith roddodd y Meseia i mi, dim bedyddio pobl. A dw i ddim yn trïo bod yn glyfar wrth wneud hynny chwaith, rhag ofn i rym y neges am groes y Meseia fynd ar goll. Mae'r neges am y groes yn nonsens llwyr i'r bobl hynny sydd ar y ffordd i ddistryw. Ond i ni sy'n cael ein hachub, dyma'n union lle mae grym Duw i'w weld. Fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Bydda i'n dinistrio doethineb dynol; ac yn diystyru eu clyfrwch.” Ble mae'r bobl glyfar? Ble mae athrawon y Gyfraith? Ble mae'r dadleuwyr i gyd? Mae Duw wedi gwneud i ddoethineb dynol edrych yn dwp! Mae Duw mor ddoeth! Wnaeth e ddim gadael i bobl ddefnyddio'u clyfrwch eu hunain i ddod i'w nabod e. Beth wnaeth e oedd defnyddio ‛twpdra'r‛ neges dŷn ni'n ei chyhoeddi i achub y rhai sy'n credu. Mae'r Iddewon yn mynnu gweld gwyrthiau syfrdanol i brofi fod y neges yn wir, a'r cwbl mae'r Groegiaid eisiau ydy rhywbeth sy'n swnio'n glyfar. Felly pan dŷn ni'n sôn am y Meseia yn cael ei groeshoelio, mae'r fath syniad yn sarhad i'r Iddewon, ac yn nonsens llwyr i bobl o genhedloedd eraill. Ond i'r rhai mae Duw wedi eu galw i gael eu hachub (yn Iddewon a phobl o genhedloedd eraill) — iddyn nhw, y Meseia sy'n dangos mor bwerus ac mor ddoeth ydy Duw. Mae ‛twpdra‛ Duw yn fwy doeth na chlyfrwch pobl, a ‛gwendid‛ Duw yn fwy pwerus na chryfder pobl. Ffrindiau annwyl, cofiwch sut oedd hi arnoch chi pan ddaethoch chi i gredu! Doedd dim llawer ohonoch chi'n bobl arbennig o glyfar, neu ddylanwadol, neu bwysig. Pobl gyffredin oeddech chi. Ond chi wnaeth Duw eu dewis — y rhai ‛twp‛, i godi cywilydd ar y rhai hynny sy'n meddwl eu bod nhw'n glyfar! Dewisodd Duw bobl gyffredin yng ngolwg y byd i godi cywilydd ar y pwysigion hynny sy'n dal grym. Dewisodd y bobl sy'n ‛neb‛, y bobl hynny mae'r byd yn edrych i lawr arnyn nhw, i roi taw ar y rhai sy'n meddwl eu bod nhw'n ‛rhywun‛. Does gan neb le i frolio o flaen Duw! Fe sydd wedi ei gwneud hi'n bosib i chi berthyn i'r Meseia Iesu. Ac mae doethineb Duw i'w weld yn berffaith yn Iesu. Fe sy'n ein gwneud ni'n iawn gyda Duw. Mae'n ein gwneud ni'n lân ac yn bur, ac mae wedi talu'r pris i'n rhyddhau ni o afael pechod. Fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Os ydy rhywun am frolio, dylai frolio am beth mae'r Arglwydd wedi ei wneud.” Frodyr a chwiorydd annwyl, nid dawn dweud slic a rhyw areithiau clyfar gawsoch chi gen i pan oeddwn i'n cyhoeddi beth oedd cynllun Duw i chi. Roeddwn i'n benderfynol mai dim ond un peth oedd i gael sylw — marwolaeth Iesu y Meseia ar y groes. Pan oeddwn i gyda chi roeddwn i'n teimlo'n wan iawn, yn ofnus ac yn nerfus. Dim llwyddo i'ch perswadio chi gyda geiriau clyfar wnes i. Roedd hi'n gwbl amlwg fod yr Ysbryd Glân ar waith! Roeddwn i eisiau i chi ymateb i rym Duw ei hun, dim i ryw syniadau oedd yn swnio'n ddoeth. Ac eto mae'r neges dŷn ni'n ei chyhoeddi yn neges ddoeth, ac mae'r bobl sy'n gwrando arni yn dangos eu bod nhw'n bobl aeddfed. Ond dim ffordd ein hoes ni o edrych ar bethau ydy hi. A dim ffordd y rhai sy'n llywodraethu chwaith — mae hi ar ben arnyn nhw beth bynnag! Na, dirgelwch gan Dduw ydy'r doethineb dŷn ni'n sôn amdano. Roedd wedi ei guddio yn y gorffennol, er fod Duw wedi ei drefnu cyn i amser ddechrau. Roedd wedi ei gadw i ni gael rhannu ei ysblander trwyddo. Ond wnaeth y rhai sy'n llywodraethu ddim deall. Petaen nhw wedi deall fydden nhw ddim wedi croeshoelio ein Harglwydd bendigedig ni. Fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Welodd yr un llygad, chlywodd yr un glust; wnaeth neb ddychmygu beth mae Duw wedi ei baratoi i'r rhai sy'n ei garu.” Ond dŷn ni wedi deall, am fod Ysbryd Duw wedi ei esbonio i ni — ac mae'r Ysbryd yn gwybod cyfrinachau Duw i gyd! Pwy sy'n gwybod beth sydd ar feddwl rhywun arall? Does neb, dim ond y person ei hun. Felly Ysbryd Duw ydy'r unig un sy'n gwybod beth sydd ar feddwl Duw. A dŷn ni ddim yn edrych ar bethau o safbwynt y byd — mae Duw wedi rhoi ei Ysbryd i ni er mwyn i ni allu deall yr holl bethau gwych sydd ganddo ar ein cyfer ni. A dyma'r union neges dŷn ni'n ei rhannu — dim rhannu ein syniadau doeth ein hunain ond beth mae'r Ysbryd yn ei ddweud. Dŷn ni'n rhannu gwirioneddau ysbrydol gyda phobl sydd wedi derbyn yr Ysbryd. Os ydy'r Ysbryd ddim gan bobl, dŷn nhw ddim yn derbyn beth mae Ysbryd Duw yn ei ddweud — maen nhw'n gweld y cwbl fel nonsens pur. Dydyn nhw ddim yn gallu deall am fod angen dirnadaeth ysbrydol i ddeall. Os ydy'r Ysbryd gynnon ni, mae'r cwbl yn gwneud sens! Ond dydy pobl eraill ddim yn ein deall ni: “Pwy sy'n gallu honni ei fod yn deall meddwl yr Arglwydd? Pwy sy'n gallu rhoi cyngor iddo?” Ond mae'r gallu gynnon ni i weld pethau o safbwynt y Meseia. Pan oeddwn i acw, frodyr a chwiorydd, roedd hi'n amhosib siarad â chi fel Cristnogion aeddfed. Roedd rhaid i mi siarad â chi fel petaech chi heb dderbyn yr Ysbryd! — yn fabis bach yn eich dealltwriaeth o'r bywyd Cristnogol. Roedd rhaid i mi eich bwydo chi â llaeth, am eich bod chi ddim yn barod i gymryd bwyd solet! Ac mae'n amlwg eich bod chi'n dal ddim yn barod! Dych chi'n dal i ymddwyn fel pobl sydd heb dderbyn yr Ysbryd. Mae'r holl genfigennu a'r ffraeo sy'n mynd ymlaen yn warthus. Dych chi'n ymddwyn fel petaech chi ddim yn Gristnogion o gwbl. Pan mae un yn dweud, “Dw i'n dilyn Paul,” ac un arall, “Dw i'n dilyn Apolos,” dych chi'n ymddwyn yn union fel pawb arall! Pwy ydy Apolos? Pwy ydy Paul? Dim ond gweision! Trwon ni y daethoch chi i gredu, ond dim ond gwneud ein gwaith oedden ni — gwneud beth oedd Duw wedi ei ddweud wrthon ni. Fi blannodd yr had, wedyn daeth Apolos i'w ddyfrio. Ond Duw wnaeth iddo dyfu, dim ni! Dydy'r plannwr a'r dyfriwr ddim yn bwysig. Dim ond Duw, sy'n rhoi'r tyfiant. Mae'r plannwr a'r dyfriwr eisiau'r un peth. A bydd y ddau yn cael eu talu am eu gwaith eu hunain. Dŷn ni'n gweithio fel tîm i Dduw, a chi ydy'r maes mae Duw wedi ei roi i ni weithio ynddo. Neu, os mynnwch chi, dych chi fel adeilad — fi gafodd y fraint a'r cyfrifoldeb o osod y sylfaen (fel adeiladwr profiadol), ac mae rhywun arall yn codi'r adeilad ar y sylfaen. Ond rhaid bod yn ofalus wrth adeiladu, am mai ond un sylfaen sy'n gwneud y tro i adeiladu arni, sef Iesu y Meseia. Mae'n bosib adeiladu ar y sylfaen gydag aur, arian, a gemau gwerthfawr, neu gyda coed, gwair a gwellt — bydd safon gwaith pawb yn amlwg ar Ddydd y farn. Tân fydd yn profi ansawdd y gwaith sydd wedi ei wneud. Os bydd yr adeilad yn dal i sefyll, bydd yr adeiladwr yn cael ei wobrwyo. Ond os bydd gwaith rhywun yn cael ei ddinistrio, bydd y person hwnnw'n profi colled fawr. Bydd pobl felly yn cael eu hachub — ond dim ond o drwch blewyn y byddan nhw'n llwyddo i ddianc o'r fflamau! Ydych chi ddim yn sylweddoli mai chi gyda'ch gilydd ydy teml Dduw, a bod Ysbryd Duw yn aros yn y deml yna? Bydd Duw yn dinistrio unrhyw un sy'n dinistrio ei deml e. Mae teml Dduw yn gysegredig. A chi ydy'r deml honno! Mae'n bryd i chi stopio twyllo'ch hunain! Os ydych chi wir yn meddwl eich bod chi'n ddoeth, rhaid i chi fod yn ‛dwp‛ yng ngolwg y byd i fod yn ddoeth go iawn! Mae clyfrwch y byd yn dwp yng ngolwg Duw. Yr ysgrifau sanctaidd sy'n dweud: “Mae Duw'n gwneud i glyfrwch pobl eu baglu nhw” a hefyd, “Mae'r Arglwydd yn gwybod fod rhesymu clyfar pobl yn wastraff amser.” Felly, peidiwch brolio am ddynion! Mae'r cwbl yn eiddo i chi — Paul, Apolos, Pedr, y byd, bywyd, marwolaeth, y presennol, y dyfodol — chi biau nhw i gyd! A dych chi'n eiddo i'r Meseia, a'r Meseia i Dduw. Dylech chi'n hystyried ni fel gweision i'r Meseia — gweision sydd â'r cyfrifoldeb ganddyn nhw o esbonio pethau dirgel Duw. Wrth gwrs, mae disgwyl i rywun sydd wedi derbyn cyfrifoldeb brofi ei fod yn ffyddlon. Felly dim beth dych chi na neb arall yn ei feddwl sy'n bwysig gen i; yn wir, dim beth dw i fy hun yn ei feddwl sy'n bwysig hyd yn oed! Mae nghydwybod i'n glir, ond dydy hynny ddim yn profi mod i'n iawn. Beth mae Duw ei hun yn ei feddwl ohono i sy'n cyfri. Felly peidiwch cyhoeddi'ch dedfryd ar bethau yn rhy fuan; arhoswch nes i'r Arglwydd ddod yn ôl. Bydd y gwir i gyd yn dod i'r golau bryd hynny. Bydd cymhellion pawb yn dod i'r amlwg, a bydd pawb yn derbyn beth mae'n ei haeddu gan Dduw. Ffrindiau annwyl, dw i wedi defnyddio fi fy hun ac Apolos fel esiampl, er mwyn i chi ddysgu beth ydy ystyr “peidio mynd y tu hwnt i beth mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei dweud.” Byddwch chi'n stopio honni fod un yn well na'r llall wedyn. Beth sy'n eich gwneud chi'n well na phobl eraill? Beth sydd gynnoch chi ydych chi ddim yn y pen draw wedi ei dderbyn gan Dduw? Ac os mai rhodd gan Dduw ydy'r cwbl, beth sydd i frolio amdano? — fel petaech chi'ch hunain wedi cyflawni rhywbeth! Edrychwch arnoch chi! Dych chi'n meddwl fod popeth gynnoch chi yn barod! Dych chi mor gyfoethog! Dyma chi wedi cael eich teyrnas — a ninnau'n dal y tu allan! Byddai'n wych gen i tasech chi yn teyrnasu go iawn, er mwyn i ninnau gael teyrnasu gyda chi. Wyddoch chi, mae'n edrych fel petai Duw wedi ein gwneud ni, ei gynrychiolwyr personol, fel y carcharorion rhyfel sydd ar ddiwedd y prosesiwn — y rhai sydd wedi eu condemnio i farw yn yr arena. Dŷn ni wedi cael ein gwneud yn sioe i ddifyrru'r byd — pobl ac angylion. Ni yn edrych yn ffyliaid dros achos y Meseia, a chi'n bobl mor ddoeth! Ni yn wan, a chi mor gryf! Chi yn cael eich canmol a ninnau'n destun sbort! Hyd heddiw dŷn ni'n brin o fwyd a diod, a heb ddigon o ddillad i'n cadw'n gynnes. Dŷn ni wedi cael ein cam-drin a does gynnon ni ddim cartrefi. Dŷn ni wedi gweithio'n galed i ennill ein bywoliaeth. Dŷn ni'n bendithio'r bobl sy'n ein bygwth ni. Dŷn ni'n goddef pobl sy'n ein cam-drin ni. Dŷn ni'n ymateb yn garedig pan mae pobl yn ein henllibio ni. Hyd heddiw dŷn ni wedi cael ein trin gan bobl fel sbwriel, neu'n ddim byd ond baw! Dim ceisio creu embaras i chi ydw i wrth ddweud hyn i gyd, ond eich rhybuddio chi. Dych chi fel plant annwyl i mi! Hyd yn oed petai miloedd o bobl eraill yn eich dysgu chi fel Cristnogion, fyddai'n dal gynnoch chi ond un tad ysbrydol! Fi gafodd y fraint o fod yn dad i chi pan wnes i gyhoeddi'r newyddion da i chi. Felly plîs, dilynwch fy esiampl i! Dyna pam dw i'n anfon Timotheus atoch chi — mae e'n fab annwyl i mi yn yr Arglwydd, a dw i'n gallu dibynnu'n llwyr arno. Bydd yn eich atgoffa chi sut dw i'n ymddwyn a beth dw i'n ei ddysgu am y Meseia Iesu. Dyma dw i'n ei ddysgu yn yr eglwysi i gyd, ble bynnag dw i'n mynd. Ond mae rhai pobl, mor siŵr ohonyn nhw eu hunain, yn meddwl na fydda i'n ymweld â chi byth eto. Ond dw i yn dod — a hynny'n fuan, os Duw a'i myn. Byddwn ni'n gweld wedyn os mai dim ond ceg fawr sydd ganddyn nhw, neu oes ganddyn nhw'r gallu i wneud rhywbeth! Dim beth mae pobl yn ei ddweud, ond beth allan nhw ei wneud sy'n dangos Duw'n teyrnasu. Dewiswch beth sydd orau gynnoch chi — i mi ddod gyda gwialen i gosbi a dweud y drefn, neu ddod yn llawn cariad ac yn addfwyn? Dw i wedi clywed am yr anfoesoldeb yn eich plith chi! Mae'n waeth na beth fyddai'r paganiaid yn ei oddef! Mae un o ddynion yr eglwys yn cysgu gyda'i lysfam, gwraig ei dad! A dych chi'n dal yn falch ohonoch chi'ch hunain? Dylai'r fath beth godi cywilydd arnoch chi! Dylech chi fod wedi'ch llethu gan alar! Pam dych chi ddim wedi disgyblu'r dyn, a'i droi allan o gymdeithas yr eglwys? Er fy mod i ddim gyda chi yn Corinth ar hyn o bryd, dw i acw yn yr ysbryd. Yn union fel petawn i gyda chi dw i wedi cyhoeddi'r ddedfryd gydag awdurdod ein Harglwydd Iesu. Pan ddowch chi at eich gilydd (bydda i yno gyda chi yn yr ysbryd), taflwch y dyn allan o'r eglwys. Rhaid ei roi yn nwylo Satan, er mwyn i'w chwantau drwg gael eu dinistrio ac iddo gael ei achub pan ddaw'r Arglwydd Iesu yn ôl. Sut allwch chi ymfalchïo fel eglwys pan mae rhywbeth fel hyn yn digwydd? Ydych chi ddim yn sylweddoli fod “mymryn bach o furum yn lledu drwy'r toes i gyd”? — mae'n effeithio ar bawb! Rhaid cael gwared ohono — ei daflu allan, a dechrau o'r newydd gyda thoes newydd heb unrhyw furum ynddo. Ac felly dylech chi fod, am fod y Meseia wedi ei aberthu droson ni, fel oen y Pasg. Gadewch i ni ddathlu'r Ŵyl, dim gyda'r bara sy'n llawn o furum malais a drygioni, ond gyda bara croyw purdeb a gwirionedd. Dw i wedi dweud wrthoch chi yn y llythyr ysgrifennais i o'r blaen i beidio cael dim i'w wneud gyda phobl sy'n anfoesol yn rhywiol. Dim sôn am bobl sydd ddim yn credu oeddwn i — sef y bobl yn y gymdeithas seciwlar sy'n anfoesol neu'n hunanol, neu'n twyllo, neu'n addoli eilun-dduwiau. Byddai'n rhaid i chi fynd allan o'r byd i osgoi pobl felly! Na, beth roeddwn i'n ei olygu oedd na ddylech chi gael dim i'w wneud â rhywun sy'n galw ei hun yn Gristion ac eto ar yr un pryd yn byw'n anfoesol, neu'n hunanol, yn addoli eilun-dduwiau, yn sarhaus, yn meddwi neu'n twyllo. Peidiwch hyd yn oed ag eistedd i gael pryd o fwyd gyda phobl felly! Dim fy lle i ydy barnu pobl y tu allan i'r eglwys. Ond dŷn ni yn gyfrifol am y bobl sy'n perthyn i'r eglwys. Duw sydd yn barnu pobl o'r tu allan. Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud wrthon ni, “Rhaid diarddel y dyn drwg o'ch plith.” Pan mae gynnoch chi achos yn erbyn Cristion arall, sut allwch chi feiddio mynd i lys barn? Rhannwch y peth gyda'ch cyd-Gristnogion, iddyn nhw ddelio â'r mater. Ydych chi ddim yn sylweddoli fod “pobl Dduw yn mynd i farnu'r byd”? Felly os byddwch chi'n barnu'r byd, ydych chi ddim yn gallu delio gyda rhyw fân achosion fel hyn? Rhaid i chi gofio y byddwn ni'n barnu angylion bryd hynny! Felly does bosib nad ydyn ni'n gallu setlo problemau pob dydd ar y ddaear yma! Ond na, mae rhyw achos yn codi a dych chi'n gofyn i bobl y tu allan i'r eglwys ddelio â'r mater! Cywilydd arnoch chi! Oes neb yn eich plith chi sy'n ddigon doeth i ddelio â'r math yma o beth? Ydy'n iawn i Gristion erlyn Cristion arall? — a hynny o flaen pobl sydd ddim yn credu? Mae achosion llys fel yma rhwng Cristnogion â'i gilydd yn dangos methiant llwyr. Byddai'n well petaech chi'n diodde'r cam, ac yn gadael i'r person arall eich twyllo chi! Ond na, mae'n well gynnoch chi dwyllo a gwneud cam â phobl eraill — hyd yn oed eich cyd-Gristnogion! Ydych chi ddim yn sylweddoli bod pobl ddrwg ddim yn cael perthyn i deyrnasiad Duw? Peidiwch twyllo'ch hunain: Fydd dim lle yn ei deyrnas i bobl sy'n anfoesol yn rhywiol, yn addoli eilun-dduwiau, neu'n godinebu, i buteinwyr gwrywgydiol, gwrywgydwyr gweithredol, lladron, pobl hunanol, meddwon, nag i neb sy'n enllibio pobl eraill ac yn eu twyllo nhw. A dyna sut bobl oedd rhai ohonoch chi ar un adeg, ond dych chi wedi cael eich glanhau a'ch gwneud yn bur. Mae gynnoch berthynas iawn gyda Duw o achos y cwbl mae'r Arglwydd Iesu Grist a'r Ysbryd Glân wedi ei wneud drosoch chi. Ond, “Mae gen i ryddid i wneud beth dw i eisiau” meddech chi. A dw i'n ateb, “Dydy popeth ddim yn dda i chi.” Er mod i'n rhydd i wneud beth dw i eisiau, fydd dim byd yn cael bod yn feistr arna i. “Mae'n naturiol,” meddech chi wedyn, “fel bwyd i'r stumog a'r stumog i fwyd.” Falle wir, ond bydd Duw yn dinistrio'r ddau yn y diwedd. Chafodd y corff mo'i greu i fod yn anfoesol yn rhywiol — cafodd ei wneud i wasanaethu'r Arglwydd. Ac mae'r corff yn bwysig i'r Arglwydd! Cododd Duw gorff yr Arglwydd Iesu yn ôl yn fyw, a bydd yn defnyddio'i nerth i godi ein cyrff ninnau yr un fath. Ydych chi ddim yn sylweddoli fod eich cyrff chi yn rhannau o gorff y Meseia ei hun? Ydw i'n mynd i ddefnyddio fy nghorff (sy'n perthyn i'r Meseia) i gael rhyw gyda phutain? Na, byth! Ydych chi ddim yn sylweddoli fod dyn yn clymu ei hun gyda'r butain wrth gael rhyw gyda hi? “Bydd y ddau yn dod yn un,” meddai'r ysgrifau sanctaidd. Ond mae'r sawl sy'n clymu ei hun i'r Arglwydd yn rhannu'r un Ysbryd â'r Arglwydd. Gwnewch bopeth allwch chi i osgoi anfoesoldeb rhywiol. Does dim un pechod arall sy'n effeithio ar y corff yr un fath. Mae'r person sy'n pechu'n rhywiol yn pechu yn erbyn ei gorff ei hun. Ydych chi ddim yn sylweddoli fod eich corff chi'n deml i'r Ysbryd Glân? Mae'r Ysbryd yn byw ynoch chi — mae wedi ei roi'n rhodd i chi gan Dduw. Dim chi biau eich bywyd; mae pris wedi ei dalu amdanoch chi. Felly defnyddiwch eich cyrff i anrhydeddu Duw. Nawr, gadewch i ni droi at y cwestiynau oedd yn eich llythyr chi: “Mae'n beth da i ddyn beidio cael rhyw o gwbl,” meddech chi. Na, na! Gan fod cymaint o anfoesoldeb rhywiol o gwmpas, dylai pob dyn gael ei wraig ei hun, a phob gwraig ei gŵr ei hun. Ac mae gan ddyn gyfrifoldeb i gael perthynas rywiol gyda'i wraig, a'r un modd y wraig gyda'i gŵr. Mae'r wraig wedi rhoi'r hawl ar ei chorff i'w gŵr, a'r un modd, mae'r gŵr wedi rhoi'r hawl ar ei gorff yntau i'w wraig. Felly peidiwch gwrthod cael rhyw gyda'ch gilydd. Yr unig adeg i ymwrthod, falle, ydy os dych chi wedi cytuno i wneud hynny am gyfnod byr er mwyn rhoi mwy o amser i weddi. Ond dylech ddod yn ôl at eich gilydd yn fuan, rhag i Satan ddefnyddio'ch chwantau i'ch temtio chi. Ond awgrym ydy hynny, dim gorchymyn. Byddwn i wrth fy modd petai pawb yn gallu bod fel ydw i, ond dŷn ni i gyd yn wahanol. Mae Duw wedi rhoi perthynas briodasol yn rhodd i rai, a'r gallu i fyw'n sengl yn rhodd i eraill. Dw i am ddweud hyn wrth y rhai sy'n weddw neu'n ddibriod: Byddai'n beth da iddyn nhw aros yn ddibriod, fel dw i wedi gwneud. Ond os fedran nhw ddim rheoli eu teimladau, dylen nhw briodi. Mae priodi yn well na chael ein difa gan ein nwydau. I'r rhai sy'n briod dyma dw i'n ei orchymyn (yr Arglwydd ddwedodd hyn, dim fi): Ddylai gwraig ddim gadael ei gŵr. Ond os ydy hi eisoes wedi ei adael mae dau ddewis ganddi. Gall hi aros yn ddibriod neu fynd yn ôl at ei gŵr. A ddylai dyn ddim ysgaru ei wraig chwaith. Ac wrth y gweddill ohonoch chi, dyma dw i'n ddweud (soniodd yr Arglwydd Iesu ddim am y peth): Os oes gan Gristion wraig sydd ddim yn credu ond sy'n dal yn fodlon byw gydag e, ddylai'r dyn hwnnw ddim gadael ei wraig. Neu fel arall, os oes gan wraig ŵr sydd ddim yn credu, ond sy'n dal yn fodlon byw gyda hi, ddylai hithau ddim ei adael e. Mae bywyd y gŵr sydd ddim yn credu yn cael ei lanhau drwy ei berthynas â'i wraig o Gristion, a bywyd gwraig sydd ddim yn credu yn cael ei lanhau drwy ei pherthynas hi â'i gŵr sy'n Gristion. Petai fel arall byddai eich plant chi'n ‛aflan‛, ond fel hyn, maen nhw hefyd yn lân. (Ond wedyn, os ydy'r gŵr neu'r wraig sydd ddim yn credu yn mynnu gadael y berthynas, gadewch iddyn nhw fynd. Dydy'r partner sy'n Gristion ddim yn gaeth mewn achos felly. Mae Duw am i ni fyw mewn heddwch). Dwyt ti ddim yn gwybod, wraig, falle y byddi di'n gyfrwng i achub dy ŵr! Neu ti'r gŵr, falle y byddi di'n gyfrwng i achub dy wraig! Dylai pob un ohonoch chi dderbyn y sefyllfa mae'r Arglwydd wedi'ch gosod chi ynddi pan alwodd Duw chi i gredu. Mae hon yn rheol dw i'n ei rhoi i bob un o'r eglwysi. Er enghraifft, os oedd dyn wedi bod trwy'r ddefod o gael ei enwaedu cyn dod i gredu, ddylai e ddim ceisio newid ei gyflwr. A fel arall hefyd; os oedd dyn ddim wedi cael ei enwaedu pan ddaeth yn Gristion, ddylai e ddim mynd drwy'r ddefod nawr. Sdim ots os dych chi wedi cael eich enwaedu neu beidio! Beth sy'n bwysig ydy'ch bod chi'n gwneud beth mae Duw'n ei ddweud. Felly dylech chi aros fel roeddech chi pan alwodd Duw chi i gredu. Wyt ti'n gaethwas? Paid poeni am y peth. Hyd yn oed os ydy'n bosib y byddi di'n rhydd rywbryd, gwna'r defnydd gorau o'r sefyllfa wyt ti ynddi. Er bod rhywun yn gaethwas pan ddaeth i gredu, mae'n berson rhydd yng ngolwg yr Arglwydd! A'r un modd, os oedd rhywun yn ddinesydd rhydd pan ddaeth i gredu, mae bellach yn gaethwas i'r Meseia! Mae pris uchel wedi ei dalu amdanoch chi! Peidiwch gwneud eich hunain yn gaethweision pobl. Ffrindiau annwyl, Duw ydy'r un dych chi'n atebol iddo. Felly arhoswch fel roeddech chi pan daethoch i gredu. I droi at fater y rhai sydd ddim eto wedi priodi: Does gen i ddim gorchymyn i'w roi gan yr Arglwydd, ond dyma ydy fy marn i (fel un y gallwch ymddiried ynddo drwy drugaredd Duw!): Am ein bod ni'n wynebu creisis ar hyn o bryd, dw i'n meddwl mai peth da fyddai i chi aros fel rydych chi. Os wyt ti wedi dyweddïo gyda merch, paid ceisio datod y cwlwm. Os wyt ti'n rhydd, paid ag edrych am wraig. Ond fyddi di ddim yn pechu os byddi di'n priodi; a dydy'r ferch ifanc ddim yn pechu wrth briodi chwaith. Ond mae'r argyfwng presennol yn rhoi parau priod dan straen ofnadwy, a dw i eisiau eich arbed chi rhag hynny. Dw i am ddweud hyn ffrindiau: mae'r amser yn brin. O hyn ymlaen dim bod yn briod neu beidio ydy'r peth pwysica; dim y galar na'r llawenydd ddaw i'n rhan; dim prynu pethau, wedi'r cwbl fyddwch chi ddim yn eu cadw nhw! Waeth heb ag ymgolli yn y petheuach sydd gan y byd i'w gynnig, am fod y byd fel y mae yn dod i ben! Ceisio'ch arbed chi rhag poeni'n ddiangen ydw i. Mae dyn dibriod yn gallu canolbwyntio ar waith yr Arglwydd, a sut i'w blesio. Ond rhaid i'r dyn priod feddwl am bethau eraill bywyd — sut i blesio'i wraig — ac mae'n cael ei dynnu'r ddwy ffordd. Mae gwraig sydd bellach yn ddibriod, neu ferch sydd erioed wedi priodi, yn gallu canolbwyntio ar waith yr Arglwydd. Ei nod hi ydy cysegru ei hun yn llwyr (gorff ac ysbryd) i'w wasanaethu e. Ond mae'n rhaid i wraig briod feddwl am bethau'r byd — sut i blesio'i gŵr. Dw i'n dweud hyn er eich lles chi, dim i gyfyngu arnoch chi. Dw i am i ddim byd eich rhwystro chi rhag byw bywyd o ymroddiad llwyr i'r Arglwydd. Os ydy rhywun yn teimlo ei fod yn methu rheoli ei nwydau gyda'r ferch mae wedi ei dyweddïo, a'r straen yn ormod, dylai wneud beth mae'n meddwl sy'n iawn. Dydy e ddim yn pechu trwy ei phriodi hi. Ond os ydy dyn wedi penderfynu peidio ei phriodi — ac yn gwybod yn iawn beth mae'n ei wneud, a heb fod dan unrhyw bwysau — mae yntau'n gwneud y peth iawn. Felly mae'r un sy'n priodi ei ddyweddi yn gwneud yn iawn, ond bydd yr un sy'n dewis peidio priodi yn gwneud peth gwell. Mae gwraig ynghlwm i'w gŵr tra mae ei gŵr yn dal yn fyw. Ond os ydy'r gŵr yn marw, mae'r wraig yn rhydd i briodi dyn arall, cyn belled â'i fod yn Gristion. Ond yn fy marn i byddai'n well iddi aros fel y mae — a dw i'n credu fod Ysbryd Duw wedi rhoi arweiniad i mi yn hyn o beth. I droi at eich cwestiwn am gig wedi ei aberthu i eilun-dduwiau paganaidd: “Mae pawb yn gwybod y ffeithiau ac yn gallu dewis drostyn nhw eu hunain” meddech chi. Ond mae dweud ein bod ni'n gwybod yn hybu balchder; mae cariad, ar y llaw arall, yn adeiladu. Os ydy rhywun yn meddwl eu bod yn gwybod y cwbl, dŷn nhw'n gwybod dim byd mewn gwirionedd. Ond mae Duw yn gwybod pwy sy'n ei garu, ac mae'n gofalu amdanyn nhw. Felly, ydy hi'n iawn i ni fwyta cig sydd wedi ei aberthu i dduwiau paganaidd? Dŷn ni'n cytuno — “Dydy eilun yn ddim byd mewn gwirionedd. Does dim ond un Duw go iawn.” Hyd yn oed os oes rhai sy'n cael eu galw'n ‛dduwiau‛ yn y nefoedd ac ar y ddaear (ac oes, mae gan bobl lawer o ‛dduwiau‛ ac ‛arglwyddi‛ eraill), dŷn ni'n gwybod mai dim ond un Duw go iawn sydd, sef y Tad. Fe ydy'r un greodd bopeth ac iddo fe dŷn ni'n byw. A does gynnon ni ond un Arglwydd, sef Iesu y Meseia, yr un y daeth popeth i fod trwyddo, a'r un sy'n rhoi bywyd i ni. Ond dydy pawb ddim mor siŵr. Mae eilun-dduwiau wedi bod yn gymaint rhan o fywydau rhai pobl, pan maen nhw'n bwyta'r cig allan nhw ddim peidio meddwl am y ffaith ei fod wedi ei aberthu i ryw dduw paganaidd. Mae eu cydwybod nhw'n cael ei niweidio am ei bod hi'n gydwybod wan. “Dydy bwyd ddim yn effeithio ar ein perthynas ni â Duw” meddech chi; digon gwir — dŷn ni ddim gwaeth o fwyta, na dim gwell chwaith. Ond dylech chi fod yn ofalus nad ydych chi a'ch “hawl i ddewis” yn achosi i'r rhai sy'n ansicr faglu. Dyma allai ddigwydd: Mae rhywun sydd â chydwybod wan yn dy weld di yn bwyta mewn teml eilunod. Rwyt ti'n gwybod y ffeithiau — does dim i boeni amdano. Ond onid oes peryg wedyn i'r person welodd di deimlo'n hyderus, a bwyta cig sydd wedi ei aberthu i eilun-dduwiau? Felly bydd y crediniwr sy'n ansicr yn gweithredu'n groes i'w gydwybod ac yn cael ei ddinistrio am dy fod di'n “gwybod yn well” — ie, brawd neu chwaer y buodd y Meseia farw trostyn nhw! Wrth wneud i Gristion arall weithredu'n groes i'w gydwybod fel hyn, rwyt ti'n pechu yn erbyn y Meseia. Felly, os ydy beth dw i'n ei fwyta yn achosi i Gristion arall faglu, wna i byth fwyta cig eto — does gen i ddim eisiau achosi iddyn nhw syrthio. Ydw i ddim yn rhydd? Wrth gwrs fy mod i! Ydw i ddim yn gynrychiolydd personol i'r Meseia? Ydw, a dw i wedi gweld ein Harglwydd Iesu yn fyw! Os ydw i ddim yn ei gynrychioli yng ngolwg rhai, dw i siŵr o fod yn eich golwg chi! Chi ydy'r dystysgrif sy'n profi fy mod i'n gynrychiolydd personol i'r Arglwydd. Dyma fy amddiffyniad i'r rhai sy'n feirniadol ohono i. Mae gynnon ni hawl i fwyta ac yfed siŵr o fod? Oes gynnon ni ddim hawl i briodi a mynd â'n gwraig sy'n Gristion o gwmpas gyda ni? — dyna mae ei gynrychiolwyr personol eraill, a brodyr yr Arglwydd a Pedr yn ei wneud. Neu ai fi a Barnabas ydy'r unig rai sy'n gorfod gweithio am eu bywoliaeth? Ydy milwr yn y fyddin yn gorfod talu ei gostau ei hun? Ydy rhywun yn plannu gwinllan a byth yn cael bwyta'r grawnwin? Neu'n gofalu am braidd a byth yn cael yfed y llaeth? A peidiwch meddwl mai dim ond dadlau ar sail enghreifftiau o fywyd pob dydd wna i. Ydy Cyfraith Duw ddim yn dweud yr un peth? Ydy, mae wedi ei ysgrifennu yn y Gyfraith: “Peidiwch rhwystro'r ychen sy'n sathru'r ŷd rhag bwyta.” Ai dim ond poeni am ychen mae Duw? Oedd e ddim yn dweud hyn er ein mwyn ni hefyd? Wrth gwrs ei fod e — dyna pam gafodd ei ysgrifennu. Pan mae rhywun yn aredig y tir neu'n dyrnu'r cynhaeaf, mae'n disgwyl cael cyfran o'r cnwd! Felly os wnaethon ni hau hadau ysbrydol yn eich plith chi, ydyn ni'n gofyn gormod i ddisgwyl cael peth ffrwyth materol gynnoch chi? Os ydy eraill yn cael eu cynnal gynnoch chi, mae'n siŵr fod gynnon ni hawl i ddisgwyl hynny! Ond wnaethon ni erioed fanteisio ar yr hawl. Roedden ni'n fodlon dioddef unrhyw beth er mwyn osgoi peri rhwystr i'r newyddion da am y Meseia. Ydych chi ddim yn deall fod y rhai sy'n gweithio yn y deml yn cael eu bwyd yn y deml, a'r rhai sy'n gwasanaethu wrth yr allor yn cael cyfran o beth sy'n cael ei offrymu ar yr allor? Yn union yr un fath, mae'r Arglwydd wedi gorchymyn fod y rhai sy'n cyhoeddi'r newyddion da i gael ennill bywoliaeth drwy'r newyddion da. Ond dw i fy hun ddim wedi manteisio ar fy hawliau o gwbl. A dw i ddim yn ysgrifennu hyn yn y gobaith o gael rhywbeth chwaith! Byddai'n well gen i farw na bod rhywun yn cymryd sail fy ymffrost oddi arna i. Dydy hyd yn oed y ffaith fy mod i'n cyhoeddi'r newyddion da ddim yn rhoi sail i mi frolio — does gen i ddim dewis! Mae'n rhaid i mi gyhoeddi'r neges! Allwn i ddim dioddef peidio cael cyhoeddi'r newyddion da! Petawn i'n cyhoeddi'r neges am fy mod i'n dewis gwneud hynny gallwn i dderbyn gwobr. Ond ddim felly mae hi — y cwbl dw i'n ei wneud ydy cyflawni'r dasg sydd wedi cael ei rhoi i mi. Felly beth ydy'r wobr i mi? Hyn yn syml: Fy mod yn cyhoeddi'r newyddion da i bobl yn rhad ac am ddim, heb fanteisio ar fy hawliau fel pregethwr. Ydw, dw i'n rhydd go iawn. Dw i ddim yn gorfod ufuddhau i unrhyw un am eu bod nhw'n talu i mi. Ond ar y llaw arall, dw i'n gwneud fy hun yn gaethwas i bawb, er mwyn ennill cymaint o bobl ag sydd modd. Dw i'n siarad â'r Iddewon fel Iddew, er mwyn ennill yr Iddewon. Gyda phawb sy'n dilyn Cyfraith Moses dw i'n siarad fel un sy'n dilyn y Gyfraith. Dw i fy hun ddim yn rhwym i ofynion Cyfraith Moses, ond dw i am ennill y rhai sydd yn dilyn y Gyfraith. Gyda'r rhai sydd ddim yn dilyn Cyfraith Moses dw i'n siarad fel un sydd heb y Gyfraith, er mwyn ennill y rhai sydd heb y Gyfraith (Wrth gwrs, dw i ddim yn rhydd o Gyfraith Dduw go iawn gan fy mod i'n ymostwng i gyfraith y Meseia). Dw i'n uniaethu gyda'r rhai sy'n ‛wan‛ er mwyn ennill y gwan. Dw i wedi gwneud fy hun yn bob peth i bawb er mwyn gwneud popeth sy'n bosib i achub pobl. Dw i'n gwneud hyn i gyd er mwyn y newyddion da ei hun, ac i minnau gael rhannu o'i fendithion. Mae'r rhai sy'n rhedeg ras mewn gemau athletaidd i gyd yn cystadlu, ond dim ond un sy'n ennill y wobr. Dyna sut dylech chi redeg — fel rhai sy'n benderfynol o ennill. I gystadlu yn y Gemau mae'n rhaid i athletwyr hyfforddi'n galed. Maen nhw'n gwneud hynny i ennill coron fydd ond yn para dros dro. Ond dŷn ni'n ymdrechu am goron fydd yn para am byth! Felly dw i ddim yn rhedeg fel rhywun sydd wedi colli golwg ar y nod; a dw i ddim yn bocsio dim ond i ddyrnu'r awyr. Na, dw i'n gwthio fy hun i'r eithaf ac yn ennill rheolaeth lwyr — rhag i mi, ar ôl cyhoeddi'r neges i bobl eraill, gael fy ngwahardd rhag ennill y wobr fy hun! Dw i am i chi gofio, frodyr a chwiorydd, fod ein hynafiaid ni i gyd wedi bod dan y cwmwl, ac roedd pob un ohonyn nhw wedi mynd drwy'r môr. Cafodd pob un ohonyn nhw eu ‛bedyddio‛ fel dilynwyr Moses yn y cwmwl a'r môr. Cafodd pob un ohonyn nhw fwyta yr un bwyd ysbrydol ac yfed yr un dŵr ysbrydol. Roedden nhw'n yfed o'r graig ysbrydol oedd yn teithio gyda nhw — a'r Meseia oedd y graig honno. Ond er gwaetha hyn i gyd, wnaeth y rhan fwya ohonyn nhw ddim plesio Duw — “buon nhw farw yn yr anialwch.” Digwyddodd y pethau hyn i gyd fel esiamplau i'n rhybuddio ni rhag bod eisiau gwneud drwg fel y gwnaethon nhw. Maen nhw'n rhybudd i ni beidio addoli eilun-dduwiau fel y gwnaeth rhai ohonyn nhw. Yr ysgrifau sanctaidd sy'n dweud: “Eisteddodd y bobl i lawr i wledda ac yfed, a chodi i ymgolli mewn rhialtwch paganaidd.” Maen nhw'n rhybudd i ni beidio bod yn anfoesol yn rhywiol fel rhai ohonyn nhw — gyda'r canlyniad fod dau ddeg tri o filoedd ohonyn nhw wedi marw mewn un diwrnod! Maen nhw'n rhybudd i ni beidio rhoi'r Arglwydd ar brawf, fel y gwnaeth rhai ohonyn nhw — a chael eu lladd gan nadroedd. Ac maen nhw'n rhybudd i ni beidio cwyno, fel rhai ohonyn nhw — ac angel dinistriol yn dod ac yn eu lladd nhw. Digwyddodd y cwbl, un ar ôl y llall, fel esiamplau i ni. Cawson nhw eu hysgrifennu i lawr i'n rhybuddio ni sy'n byw ar ddiwedd yr oesoedd. Felly, os dych chi'n un o'r rhai sy'n meddwl eich bod yn sefyll yn gadarn, gwyliwch rhag i chi syrthio! Dydy'r temtasiynau dych chi'n eu hwynebu ddim gwahanol i neb arall. Ond mae Duw yn ffyddlon! Fydd e ddim yn gadael i'r temtasiwn fod yn ormod i chi. Yn wir, pan gewch chi'ch temtio, bydd yn dangos ffordd i chi ddianc a pheidio rhoi mewn. Felly, ffrindiau annwyl, ffowch oddi wrth addoli eilun-dduwiau. Defnyddiwch eich synnwyr cyffredin. Meddyliwch am beth dw i'n ei ddweud: Onid ydy'r cwpan o win dŷn ni'n diolch amdano yn y cymun yn arwydd ein bod ni gyda'n gilydd yn rhannu arwyddocâd gwaed y Meseia? Ac onid ydy'r dorth o fara dŷn ni'n ei thorri yn arwydd ein bod ni gyda'n gilydd yn rhannu yng nghorff y Meseia? Un dorth sydd, felly dŷn ni sy'n grŵp o unigolion, yn dod yn un corff wrth rannu o'r dorth. Meddyliwch am bobl Israel: Onid ydy'r rhai sy'n bwyta o'r aberthau yn cyfrannu o arwyddocâd yr aberth ar yr allor? Felly beth dw i'n geisio ei ddweud? — fod bwyta beth sydd wedi ei offrymu i eilun-dduwiau yn golygu rhywbeth, neu fod yr eilun ei hun yn rhywbeth? Na, dweud ydw i mai cael eu hoffrymu i gythreuliaid mae'r aberthau yn y pen draw, nid i Dduw; a dw i ddim am i chi gael dim i'w wneud â chythreuliaid. Dydy hi ddim yn iawn i chi yfed o gwpan yr Arglwydd ac o gwpan pwerau cythreulig ar yr un pryd. Allwch chi ddim bwyta wrth fwrdd yr Arglwydd ac wrth fwrdd cythreuliaid. Ydyn ni wir eisiau “gwneud yr Arglwydd yn eiddigeddus” Ydych chi'n meddwl eich bod chi'n gryfach nag e? “Rhyddid i wneud beth dw i eisiau,” meddech chi. A dw i'n ateb, “Dydy popeth ddim yn dda i chi.” Er bod rhyddid i mi wneud beth dw i eisiau, dydy popeth ddim yn adeiladol. Ddylen ni ddim ceisio'n lles ein hunain, ond lles pobl eraill. Dych chi'n gallu bwyta bopeth sy'n cael ei werthu yn y farchnad gig heb ofyn cwestiynau, am mai “Duw sydd biau'r ddaear, a phopeth sydd ynddi.” Ac os ydy rhywun sydd ddim yn Gristion yn gwahodd rhai ohonoch chi am bryd o fwyd, a chithau eisiau derbyn y gwahoddiad, gallwch fwyta popeth sy'n cael ei roi o'ch blaen — does dim rhaid gofyn cwestiynau. Ond os ydy rhywun yn dweud, “Mae hwn wedi cael ei offrymu yn aberth,” dylech beidio ei fwyta. Gwnewch hynny er mwyn y person a ddwedodd wrthoch chi, a lles y cydwybod — cydwybod y person hwnnw dw i'n ei olygu, nid eich cydwybod chi. “Ond pam dylai fy rhyddid i gael ei glymu gan gydwybod rhywun arall?” meddech chi. “Os dw i'n diolch i Dduw am y bwyd o mlaen i, pam dylwn i gael enw drwg am ei fwyta?” Dyma pam: Wrth fwyta ac yfed, neu wneud unrhyw beth arall wir, dylech chi anrhydeddu Duw. Ac mae hynny'n golygu osgoi gwneud niwed i bobl eraill — yn Iddewon, yn bobl o genhedloedd eraill, neu'n bobl sy'n perthyn i eglwys Dduw. Dyna dw i'n ceisio'i wneud — dw i'n ystyried beth sy'n gwneud lles i bawb arall. Yn lle meddwl beth dw i fy hun eisiau, dw i'n meddwl am bobl eraill. Dw i eisiau iddyn nhw gael eu hachub! Felly dilynwch fy esiampl i, fel dw i'n dilyn esiampl y Meseia. Mae'n rhaid i mi eich canmol chi am ‛ddal i gofio amdana i, ac am ddal gafael yn y traddodiadau wnes i eu pasio ymlaen i chi‛! Ond rhaid i chi ddeall bod bywyd pob dyn yn tarddu o'r Meseia, a bod bywyd gwraig yn tarddu o'r dyn, ac mai o Dduw mae bywyd y Meseia yn tarddu. Mae pob dyn sy'n gweddïo neu'n proffwydo gyda rhywbeth ar ei ben yn colli ei hunan-barch. Ac mae pob gwraig sy'n gweddïo neu'n proffwydo heb orchuddio'i phen yn dangos diffyg hunan-barch — mae'n union fel petai hi wedi eillio ei phen. Os ydy gwraig ddim am orchuddio'i phen, dylai gael gwared â'i gwallt. Ac os ydy e'n beth cywilyddus i wraig gael gwared â'i gwallt neu gael ei heillio, dylai felly orchuddio ei phen. Ddylai dyn ddim gorchuddio'i ben am ei fod yn ddelw Duw ac yn dangos ei ysblander; ond dangos ysblander dyn mae'r wraig. Nid dyn ddaeth o wraig, ond y wraig ddaeth o ddyn. A chafodd dyn ddim ei greu er mwyn y wraig, ond y wraig er mwyn dyn. Dyna pam dylai gwraig gadw rheolaeth ar y ffordd mae pobl yn edrych arni — ac o achos yr angylion hefyd. Beth bynnag, yn yr Arglwydd dydy gwraig a dyn ddim yn annibynnol ar ei gilydd. Mae'n wir fod y wraig wedi dod o'r dyn, ond mae'n wir hefyd fod pob dyn yn cael ei eni o wraig. Ac o Dduw mae'r cwbl yn tarddu yn y pen draw. Beth ydy'ch barn chi? Ydy hi'n weddus i wraig weddïo ar Dduw heb orchudd ar ei phen? Ydy natur ei hun ddim yn dysgu hyn i chi: os ydy gwallt hir yn diraddio dyn, ei bod yn beth anrhydeddus i wraig gael gwallt hir? Mae ei gwallt hir wedi ei roi iddi hi fel gorchudd. Os ydy rhywun am ddadlau am hyn, does gynnon ni ddim arfer gwahanol. A does gan eglwysi Duw ddim chwaith. Dw i ddim yn gallu'ch canmol chi wrth ymateb i'r mater nesa chwaith. Mae'n ymddangos fod eich cyfarfodydd chi'n gwneud mwy o ddrwg nag o dda. Dw i'n clywed yn gyntaf fod rhaniadau yn eich plith chi pan fyddwch yn cyfarfod fel eglwys, a dw i'n credu'r peth i ryw raddau. “Mae'n amhosib osgoi gwahaniaethau” meddech chi, ac mae hynny i fod i ddangos yn glir ar ochr pwy mae Duw, ydy e? Os felly, dim Swper yr Arglwydd dych chi'n ei fwyta pan ddowch at eich gilydd! Mae rhai pobl yn bwrw iddi i fwyta heb feddwl am neb arall. A'r canlyniad ydy bod rhai yn llwgu tra mae eraill wedi meddwi! Oes gynnoch chi ddim cartrefi i bartïo ac i yfed ynddyn nhw? Neu dych chi wir am fwrw sen ar eglwys Dduw, a chodi cywilydd ar y bobl hynny sydd heb ddim? Beth alla i ei ddweud? Ydw i'n mynd i'ch canmol chi? Na, dim o gwbwl! Dw i wedi rhannu gyda chi beth wnes i ei dderbyn gan yr Arglwydd: Ar y noson honno pan gafodd ei fradychu cymerodd yr Arglwydd Iesu dorth. Ar ôl adrodd y weddi o ddiolch, dyma fe'n ei thorri a dweud, “Dyma fy nghorff, sy'n cael ei roi drosoch chi. Gwnewch hyn i gofio amdana i.” Wedyn gwnaeth yr un peth ar ôl swper pan gymerodd y cwpan a dweud, “Mae'r cwpan yma'n cynrychioli'r ymrwymiad newydd mae Duw'n ei wneud, wedi ei selio gyda fy ngwaed i. Gwnewch hyn i gofio amdana i bob tro y byddwch yn yfed ohono.” Bob tro byddwch chi'n bwyta'r bara ac yn yfed o'r cwpan, byddwch yn cyhoeddi ystyr marwolaeth yr Arglwydd nes iddo ddod yn ôl eto. Felly, bydd pwy bynnag sy'n bwyta'r bara neu'n yfed o gwpan yr Arglwydd mewn ffordd sy'n anweddus yn cael ei gyfri'n euog o bechu yn erbyn corff a gwaed yr Arglwydd. Dyna pam mae'n bwysig edrych yn fanwl ar ein bywydau cyn bwyta'r bara ac yfed o'r cwpan. Mae pawb sy'n bwyta ac yfed yn ddifeddwl, heb gydnabod ein bod gyda'n gilydd yn ‛gorff yr Arglwydd‛ yn bwyta ac yfed barn arnyn nhw eu hunain. Dyna pam mae cymaint ohonoch chi'n dioddef o wendid a salwch, a pam mae rhai hyd yn oed wedi marw. Petaen ni'n gwylio'n hymddygiad yn ofalus, fyddai dim rhaid i ni gael ein barnu. Ond hyd yn oed pan fyddwn yn cael ein barnu gan yr Arglwydd, ein disgyblu mae e'n ei wneud, dim ein condemnio gyda'r byd. Felly pan fyddwch chi'n dod at eich gilydd i fwyta, frodyr a chwiorydd, arhoswch nes bydd pawb wedi cyrraedd. Os ydy rhywun bron llwgu, dylai fwyta gartref, wedyn fydd eich cyfarfodydd chi gyda'ch gilydd ddim yn arwain i farn. Bydda i'n delio gyda'r materion eraill pan fydda i'n dod atoch chi. Nawr, wrth droi at beth sy'n dod o'r Ysbryd, dw i eisiau i chi ddeall ffrindiau. Pan roeddech chi'n baganiaid, roeddech yn cael eich dylanwadu a'ch camarwain gan eilun-dduwiau mud. Felly dw i am i chi wybod beth sy'n dod o Dduw a beth sydd ddim. Does neb sy'n siarad dan ddylanwad Ysbryd Glân Duw yn dweud “Mae Iesu yn felltith!” A does neb yn gallu dweud, “Iesu ydy'r Arglwydd,” ond trwy'r Ysbryd Glân. Mae gwahanol ddoniau, ond yr un Ysbryd sy'n rhoi pob un. Mae ffyrdd gwahanol o wasanaethu, ond dim ond un Arglwydd sydd. Mae Duw yn gweithio mewn ffyrdd gwahanol drwy wahanol bobl, ond yr un Duw sy'n cyflawni'r cwbl ynddyn nhw i gyd. Ac mae'r Ysbryd i'w weld yn gweithio ym mywyd pob unigolyn er lles pawb arall. Felly mae'r Ysbryd yn rhoi gair o ddoethineb i un person. Mae person arall yn cael gair o wybodaeth, drwy'r un Ysbryd. Mae un arall yn cael ffydd, drwy'r un Ysbryd, ac un arall ddoniau i iacháu, drwy'r un Ysbryd. Wedyn mae rhywun arall yn cael galluoedd gwyrthiol, neu broffwydoliaeth, neu'r gallu i ddweud ble mae'r Ysbryd wir ar waith. Mae un arall yn cael y gallu i siarad ieithoedd dieithr, a rhywun arall y gallu i esbonio beth sy'n cael ei ddweud yn yr ieithoedd hynny. Yr un Ysbryd sydd ar waith trwyddyn nhw i gyd, ac yn penderfynu beth i'w roi i bob un. Mae'r corff yn uned er bod iddo lawer o rannau gwahanol, ac mae'r holl rannau gwahanol gyda'i gilydd yn gwneud un corff. Dyna'n union sut mae hi gyda phobl y Meseia. Cawson ni i gyd ein bedyddio gan yr un Ysbryd i berthyn i un corff — yn Iddewon a phobl o genhedloedd eraill, caethweision a dinasyddion rhydd. Cafodd pob un ohonon ni yfed yn helaeth o'r un Ysbryd. Dydy'r corff ddim i gyd yr un fath — mae iddo lawer o wahanol rannau. Petai troed yn dweud “Am nad ydw i'n llaw dw i ddim yn rhan o'r corff,” fyddai'r droed honno yn peidio bod yn rhan o'r corff? Wrth gwrs ddim! Neu petai clust yn dweud, “Am nad ydw i'n llygad dw i ddim yn rhan o'r corff,” fyddai hi'n peidio bod yn rhan o'r corff wedyn? Na! Fyddai'r corff ddim yn gallu clywed petai'n ddim byd ond llygaid! A petai'n ddim byd ond clustiau, sut fyddai'n gallu arogli? Duw sydd wedi gwneud y corff, a rhoi pob rhan yn ei le, yn union fel oedd e'n gweld yn dda. Petai pob rhan o'r corff yr un fath â'i gilydd, fyddai'r corff ddim yn bod! Mae angen llawer o wahanol rannau i wneud un corff. Dydy'r llygad ddim yn gallu dweud wrth y llaw, “Does arna i ddim dy angen di!” A dydy'r pen ddim yn gallu dweud wrth y traed, “Does arna i ddim eich angen chi!” Yn hollol fel arall — mae'r rhannau hynny o'r corff sy'n ymddangos lleia pwysig yn gwbl hanfodol! Mae angen dangos gofal arbennig am y rhannau hynny sydd ddim yn amlwg. Mae rhannau preifat y corff yn cael gwisg i'w cuddio o olwg pobl, er mwyn bod yn weddus. Does dim angen triniaeth sbesial felly ar y rhannau sy'n amlwg! Ac mae Duw wedi rhoi'r eglwys at ei gilydd fel corff, ac wedi dangos gofal arbennig am y rhannau oedd yn cael dim parch. Ei fwriad oedd fod dim rhaniadau i fod yn y corff — a bod pob rhan i ddangos yr un gofal am ei gilydd. Felly, os ydy un rhan o'r corff yn dioddef, mae'r corff i gyd yn dioddef; neu os ydy un rhan yn cael ei anrhydeddu, mae'r corff i gyd yn rhannu'r llawenydd. Chi gyda'ch gilydd ydy corff y Meseia, ac mae pob unigolyn yn rhan o'r corff hwnnw. Yn ei eglwys mae Duw wedi penodi ei gynrychiolwyr yn gyntaf, yn ail proffwydi, ac yn drydydd athrawon, yna rhai sy'n gwneud gwyrthiau, rhai sy'n cael doniau i iacháu, rhai sy'n helpu eraill, rhai sy'n rhoi cyngor ac arweiniad, a rhai sy'n siarad ieithoedd dieithr. Ydy pawb yn gynrychiolwyr personol i'r Meseia? Ydy pawb yn athrawon? Ydy pawb yn gwneud gwyrthiau? Ydy pawb yn cael doniau i iacháu? Ydy pawb yn siarad ieithoedd dieithr? Ydy pawb yn gallu esbonio beth sy'n cael ei ddweud? Wrth gwrs ddim! Ond ceisiwch yn frwd y doniau hynny sy'n gwneud mwya o les. A dw i am ddangos y ffordd orau un i chi. Os dw i'n siarad ieithoedd dieithr neu hyd yn oed iaith angylion, heb gariad dw i'n ddim byd ond jar metel swnllyd neu symbal yn diasbedain. Falle fod gen i'r ddawn i broffwydo, a'r gallu i blymio'r dirgelion dyfnaf — neu'r wybodaeth i esbonio popeth! Falle fod gen i ddigon o ffydd i ‛symud mynyddoedd‛ — ond heb gariad dw i'n dda i ddim. Falle mod i'n fodlon rhannu'r cwbl sydd gen i gyda'r tlodion, neu hyd yn oed yn fodlon marw dros y ffydd — ond heb gariad, dw i'n ennill dim. Mae cariad yn amyneddgar. Mae cariad yn garedig. Dydy cariad ddim yn cenfigennu, ddim yn brolio'i hun, nac yn llawn ohono'i hun. Dydy cariad ddim yn gwneud pethau anweddus, nag yn mynnu ei ffordd ei hun drwy'r adeg. Dydy e ddim yn digio a phwdu, ac mae'n fodlon anghofio pan mae rhywun wedi gwneud cam. Dydy cariad ddim yn mwynhau gweld drygioni — beth sy'n ei wneud e'n llawen ydy'r gwir. Mae cariad bob amser yn amddiffyn; mae bob amser yn credu; bob amser yn gobeithio; bob amser yn dal ati. Fydd cariad byth yn chwalu. Bydd proffwydoliaethau'n dod i ben; y tafodau sy'n siarad ieithoedd dieithr yn tewi; a fydd dim angen geiriau o wybodaeth. Wedi'r cwbl, ychydig dŷn ni'n ei wybod a dydy'n proffwydo ni ddim yn dweud popeth chwaith. Pan fydd beth sy'n gyflawn ac yn berffaith yn dod yn derfynol, bydd y doniau sydd ond yn rhoi rhyw gipolwg bach i ni yn cael eu hysgubo o'r neilltu. Pan oeddwn i'n blentyn, roeddwn i'n siarad iaith plentyn, yn meddwl fel plentyn, a deall plentyn oedd gen i. Ond ers i mi dyfu'n oedolyn dw i wedi stopio ymddwyn fel plentyn. A dyna sut mae hi — dŷn ni ond yn gweld adlewyrchiad ar hyn o bryd (fel edrych mewn drych metel); ond byddwn yn dod wyneb yn wyneb maes o law. Ychydig iawn dŷn ni'n ei wybod ar hyn o bryd; ond bydda i'n cael gwybod y cwbl bryd hynny, yn union fel y mae Duw yn gwybod y cwbl amdana i. Ar hyn o bryd mae gynnoch chi dri peth sy'n aros: ffydd, gobaith a chariad. Ond y mwya ohonyn nhw ydy cariad. Rhowch y flaenoriaeth i gariad, ond ceisiwch yn frwd beth sy'n dod o'r Ysbryd, yn arbennig y ddawn o broffwydo. Siarad â Duw mae rhywun sy'n siarad ieithoedd dieithr, nid siarad â phobl. Does neb arall yn deall beth sy'n cael ei ddweud, am mai pethau dirgel sy'n cael eu dweud yn yr Ysbryd. Ond mae'r person sy'n proffwydo, ar y llaw arall, yn siarad gyda phobl. Mae'n eu helpu nhw i dyfu'n ysbrydol, yn eu hannog nhw ac yn eu cysuro nhw. Mae siarad ieithoedd dieithr yn help i'r un sy'n siarad, ond mae proffwydo yn helpu cymdeithas yr eglwys. Dw i'n falch dros bob un ohonoch chi sy'n gallu siarad mewn ieithoedd dieithr, ond byddai'n well gen i eich cael chi i broffwydo. Am eu bod nhw'n helpu'r eglwys, mae'r rhai sy'n proffwydo yn gwneud peth gwell na'r rhai sy'n siarad mewn ieithoedd dieithr (oni bai fod rhywun yn esbonio beth sy'n cael ei ddweud!) Ffrindiau annwyl, taswn i wedi dod atoch chi yn siarad mewn ieithoedd dieithr, fyddai hynny'n dda i ddim. Byddai'n llawer gwell i mi rannu rhywbeth sydd wedi ei ddatguddio i mi, neu air o wybodaeth neu broffwydoliaeth neu neges fydd yn dysgu rhywbeth i chi. Mae'r un fath ag offerynnau cerdd: mae ffliwt neu delyn yn gallu gwneud sŵn, ond sut mae disgwyl i rywun nabod yr alaw oni bai fod nodau gwahanol? Neu meddyliwch am utgorn yn canu — os ydy'r sain ddim yn glir, pwy sy'n mynd i baratoi i fynd i ryfel? Mae'r un fath gyda chi. Os ydy beth dych chi'n ei ddweud ddim yn gwneud sens, pa obaith sydd i unrhyw un ddeall? Byddwch yn siarad gyda'r gwynt! Mae pob math o ieithoedd yn y byd, ac maen nhw i gyd yn gwneud sens i rywun. Ond os ydw i ddim yn deall beth mae rhywun yn ei ddweud, dw i a'r un sy'n siarad yn estroniaid i'n gilydd! Dyna fel mae hi gyda chi! Os dych chi'n frwd i brofi beth mae'r Ysbryd yn ei roi, gofynnwch am fwy o'r pethau hynny sy'n adeiladu cymdeithas yr eglwys. Felly, dylai'r person sy'n siarad mewn iaith ddieithr weddïo am y gallu i esbonio beth mae'n ei ddweud. Os dw i'n siarad mewn iaith ddieithr, dw i'n gweddïo'n ddwfn yn fy ysbryd, ond mae fy meddwl yn ddiffrwyth. Felly beth wna i? Gweddïo o ddyfnder fy ysbryd, a gweddïo gyda'r meddwl hefyd; canu mawl o waelod fy ysbryd, a chanu mawl gyda'r meddwl hefyd. Os mai dim ond yn dy ysbryd rwyt ti'n moli Duw, sut mae pobl eraill i fod i ddeall a dweud “Amen” i beth rwyt ti'n diolch amdano? — dŷn nhw ddim yn gwybod beth rwyt ti'n ddweud! Mae'n siŵr bod dy ddiolch di'n ddigon didwyll, ond dydy e'n gwneud dim lles i neb arall. Mae gen i'r ddawn i siarad ieithoedd dieithr fwy na neb ohonoch chi, diolch i Dduw. Ond lle mae pobl wedi dod at ei gilydd yn yr eglwys byddai'n well gen i siarad pum gair mae pobl yn eu deall, er mwyn dysgu rhywbeth iddyn nhw, na miloedd ar filoedd o eiriau mewn iaith ddieithr. Frodyr a chwiorydd annwyl, stopiwch ymddwyn fel plant bach! Byddwch yn ddiniwed fel babis bach lle mae drygioni'n y cwestiwn. Ond, fel arall, dw i eisiau i chi feddwl ac ymddwyn fel oedolion. Mae wedi ei ysgrifennu yn y Gyfraith: “Bydda i'n siarad â'r bobl yma mewn ieithoedd dieithr, trwy'r hyn fydd pobl estron yn ei ddweud — ond fyddan nhw ddim yn gwrando arna i wedyn,” meddai'r Arglwydd. Rhybudd o farn i bobl sydd ddim yn credu ydy ieithoedd dieithr, nid i'r rhai sy'n credu. Ond mae proffwydoliaeth yn arwydd i'r rhai sy'n credu, nid i'r rhai sydd ddim yn credu. Felly, os ydy pawb yn siarad mewn ieithoedd dieithr pan mae'r eglwys yn cyfarfod, a phobl sydd ddim yn credu nac yn deall beth sy'n mynd ymlaen yn dod i mewn, byddan nhw'n meddwl eich bod chi'n hollol wallgof! Ond os dych chi i gyd yn proffwydo pan mae rhywun sydd ddim yn credu nac yn deall yn dod i mewn, byddan nhw'n cael eu hargyhoeddi eu bod yn wynebu barn. Bydd y gwir amdanyn nhw yn dod i'r wyneb, a byddan nhw'n syrthio i lawr ac yn addoli Duw, a gweiddi, “Mae'n wir! — mae Duw yn eich plith chi!” Beth dw i'n ei ddweud felly, ffrindiau annwyl? Pan fyddwch yn cyfarfod gyda'ch gilydd, mae gan bawb rywbeth i'w rannu — cân, rhywbeth i'w ddysgu i eraill, rhyw wirionedd sydd wedi ei ddatguddio, siarad iaith ddieithr neu'r gallu i esbonio beth sy'n cael ei ddweud. Dylai popeth gael ei wneud mewn ffordd fydd yn cryfhau cymdeithas yr eglwys. Os oes siarad mewn ieithoedd dieithr i fod, dim ond dau — neu dri ar y mwya — ddylai siarad; pob un yn ei dro. A rhaid i rywun esbonio beth sy'n cael ei ddweud. Os nad oes neb i esbonio beth sy'n cael ei ddweud, dylai'r rhai sy'n siarad ieithoedd dieithr aros yn dawel yn y cyfarfod, a chadw'r peth rhyngddyn nhw a Duw. Dylid rhoi cyfle i ddau neu dri o broffwydi siarad, a dylai pawb arall bwyso a mesur yn ofalus y cwbl gafodd ei ddweud. Ac os ydy rhywbeth yn cael ei ddatguddio i rywun arall sy'n eistedd yno, dylai'r un sy'n siarad ar y pryd dewi. Gall pob un ohonoch chi broffwydo yn eich tro, er mwyn i bawb gael eu dysgu a'u hannog. Mae ysbryd y proffwydi dan reolaeth y proffwydi. Duw'r heddwch ydy Duw, dim Duw anhrefn! Dyna sut mae hi i fod ym mhob un o'r eglwysi. “Dylai gwragedd gadw'n ddistaw yn y cyfarfodydd. Does ganddyn nhw ddim hawl i siarad. Eu lle nhw ydy derbyn y drefn, fel mae'r Gyfraith yn dweud. Os ydyn nhw eisiau holi am rywbeth, maen nhw'n gallu gofyn i'w gwŷr ar ôl mynd adre; mae'n beth gwarthus i weld gwraig yn siarad yn yr eglwys.” Beth? Ai oddi wrthoch chi ddaeth neges Duw gyntaf? Neu ai chi ydy'r unig bobl y mae neges Duw wedi dod atyn nhw? Os oes rhai ohonoch chi'n meddwl eich bod chi'n broffwydi neu'n ‛bobl yr Ysbryd‛, dylech chi gydnabod fod beth dw i'n ei ysgrifennu yn orchymyn oddi wrth Dduw. Bydd y rhai sy'n diystyru hyn yn cael eu diystyru eu hunain! Felly, ffrindiau annwyl, byddwch yn frwd i broffwydo, ond peidiwch rhwystro pobl rhag siarad mewn ieithoedd dieithr. Ond dylai popeth gael ei wneud mewn ffordd sy'n weddus ac yn drefnus. Nawr, frodyr a chwiorydd, dw i eisiau eich atgoffa chi'n llawn o'r newyddion da wnes i ei gyhoeddi i chi. Dyma'r newyddion da wnaethoch chi ei gredu, ac sy'n sylfaen i'ch ffydd chi. Dyma'r newyddion da sy'n eich achub chi, os wnewch chi ddal gafael yn beth gafodd ei gyhoeddi i chi. Dw i'n cymryd eich bod chi wedi credu go iawn, dim ‛credu‛ heb wir feddwl beth roeddech chi'n ei wneud. Y prif beth wnes i ei rannu gyda chi oedd beth dderbyniais i, sef: bod y Meseia wedi marw dros ein pechodau ni, fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud. Yna ei fod wedi ei gladdu, a'i fod wedi ei godi yn ôl yn fyw ddeuddydd wedyn, fel mae'r ysgrifau'n dweud. Wedyn bod Pedr wedi ei weld, a'r deuddeg disgybl. Ar ôl hynny, cafodd ei weld ar yr un pryd gan dros bum cant o'n brodyr a'n chwiorydd ni sy'n credu! Mae'r rhan fwya ohonyn nhw'n dal yn fyw heddiw, er bod rhai sydd bellach wedi marw. Yna gwelodd Iago fe, a'i gynrychiolwyr eraill i gyd. Ac yn olaf, ces i ei weld — ie, fi, yr ‛erthyl‛ o apostol. Fi ydy'r un lleia pwysig o'r holl rai ddewisodd y Meseia i'w gynrychioli. Dw i ddim hyd yn oed yn haeddu'r enw ‛apostol‛, am fy mod i wedi erlid eglwys Dduw. Ond Duw sydd wedi ngwneud i beth ydw i, trwy dywallt ei haelioni arna i. A dydy ei rodd e ddim wedi bod yn aneffeithiol. Dw i wedi gweithio'n galetach na'r lleill i gyd — nid fy mod i fy hun wedi gwneud dim go iawn, rhodd Duw oedd ar waith ynof fi. Beth bynnag, does dim gwahaniaeth os mai fi neu nhw sy'n gwneud y cyhoeddi — dyma'r neges sy'n cael ei chyhoeddi a dyma dych chi wedi ei gredu. Os ydyn ni'n cyhoeddi fod y Meseia wedi ei godi yn ôl yn fyw, sut mae rhai pobl yn gallu dweud fod y rhai sydd wedi marw ddim yn mynd i atgyfodi? Os ydyn nhw ddim yn mynd i ddod yn ôl yn fyw, dydy'r Meseia ddim wedi atgyfodi chwaith. Ac os wnaeth y Meseia ddim codi, dydy'r newyddion da sy'n cael ei gyhoeddi yn ddim byd ond geiriau gwag — mae beth dych chi'n ei gredu yn gwbl ddiystyr! Bydd hi'n dod yn amlwg ein bod ni sy'n ei gynrychioli wedi bod yn dweud celwydd am Dduw! Roedden ni'n tystio bod Duw wedi codi'r Meseia yn ôl yn fyw ar ôl iddo farw, ac yntau heb wneud hynny os ydy'n wir fod y rhai sydd wedi marw ddim yn mynd i atgyfodi. Os ydy'r rhai sydd wedi marw ddim yn mynd i gael eu codi yn ôl yn fyw, wnaeth y Meseia ddim dod yn ôl yn fyw chwaith. Ac os na chododd y Meseia, mae beth dych chi'n ei gredu'n wastraff amser — dych chi'n dal yn gaeth i'ch pechodau. Ac os felly mae'r Cristnogion hynny sydd wedi marw yn gwbl golledig hefyd. Os mai dim ond ar gyfer y bywyd hwn dŷn ni'n gobeithio yn y Meseia, dŷn ni i'n pitïo'n fwy na neb! Ond, y gwir ydy bod y Meseia wedi ei godi yn ôl yn fyw! Mae e fel y ffrwyth cyntaf i ymddangos adeg y cynhaeaf — fe ydy'r cyntaf o lawer sy'n mynd i gael eu codi. Am fod marwolaeth wedi dod drwy berson dynol, daeth bywyd ar ôl marwolaeth drwy berson dynol hefyd. Mae pawb yn marw am eu bod nhw'n perthyn i Adda, ond mae pawb sy'n perthyn i'r Meseia yn cael bywyd newydd. Dyma'r drefn: y Meseia ydy ffrwyth cynta'r cynhaeaf; wedyn, pan fydd e'n dod yn ôl, bydd pawb sy'n perthyn iddo yn ei ddilyn. Wedyn bydd y diwedd wedi dod — bydd y Meseia'n trosglwyddo'r deyrnas i Dduw y Tad ar ôl dinistrio pob gormeswr, awdurdod a grym drygionus. Rhaid i'r Meseia deyrnasu nes bydd ei holl elynion wedi cael eu sathru dan draed. A'r gelyn olaf i gael ei ddinistrio fydd marwolaeth. Ydy, “Mae Duw wedi rhoi popeth dan ei awdurdod” — ond wrth gwrs mae'n amlwg nad ydy ‛popeth‛ yn cynnwys Duw ei hun, sydd wedi rhoi popeth dan awdurdod y Meseia yn y lle cyntaf! Ar ôl gwneud hyn, bydd y Mab yn ei roi ei hun i'r Un wnaeth osod popeth dan ei awdurdod, a bydd Duw yn llenwi popeth. Os ydy'r rhai sydd wedi marw ddim yn mynd i gael eu codi yn ôl yn fyw, beth ydy'r pwynt o bobl yn cymryd eu bedyddio er mwyn y rhai sydd wedi marw? Os ydyn nhw ddim yn mynd i ddod yn ôl yn fyw, mae'n ddiystyr. A beth amdanon ni! Pam dŷn ni'n fodlon peryglu'n bywydau drwy'r adeg? Dw i'n wynebu marwolaeth bob dydd. Ydy, mae'n wir ffrindiau — mor sicr â'r ffaith fy mod i'n falch o beth mae'r Meseia Iesu ein Harglwydd ni wedi ei wneud ynoch chi. Pa fantais oedd i mi ymladd gyda'r anifeiliaid gwyllt yn Effesus, os oeddwn i'n gwneud hynny o gymhellion dynol yn unig, ac os nad oes bywyd ar ôl marwolaeth? “Gadewch i ni gael parti ac yfed; falle byddwn ni'n marw fory!” Peidiwch cymryd eich camarwain, achos “mae cwmni drwg yn llygru cymeriad da.” Mae'n bryd i chi gallio, a stopio pechu. Dych chi'n gweld, dydy rhai pobl sy'n eich plith chi'n gwybod dim am Dduw! Dw i'n dweud hyn i godi cywilydd arnoch chi. Ond wedyn dw i'n clywed rhywun yn gofyn, “Sut mae'r rhai sydd wedi marw yn mynd i godi? Sut fath o gorff fydd ganddyn nhw?” Am gwestiwn dwl! Dydy planhigyn byw ddim yn tyfu heb i beth sy'n cael ei hau yn y ddaear farw. A dim yr hyn sy'n tyfu dych chi'n ei blannu, ond hedyn bach noeth — gwenith falle, neu rywbeth arall. Ond mae Duw yn rhoi ‛corff‛ newydd iddo, fel mae'n dewis. Mae gwahanol blanhigion yn tyfu o wahanol hadau. A dydy corff pob creadur byw ddim yr un fath chwaith: mae gan bobl un math o gorff, ac anifeiliaid fath arall, mae adar yn wahanol eto, a physgod yn wahanol. Ac mae yna hefyd gyrff nefol a chyrff daearol. Mae harddwch y gwahanol gyrff nefol yn amrywio, ac mae harddwch y gwahanol gyrff daearol yn amrywio. Mae gwahaniaeth rhwng disgleirdeb yr haul a disgleirdeb y lleuad, ac mae'r sêr yn wahanol eto; yn wir mae gwahaniaeth rhwng un seren a'r llall. Dyna sut bydd hi pan fydd y rhai sydd wedi marw'n atgyfodi. Mae'r corff sy'n cael ei roi yn y ddaear yn darfod, ond bydd yn codi yn gorff fydd byth yn darfod. Pan mae'n cael ei osod yn y ddaear mae'n druenus, ond pan fydd yn codi bydd yn ogoneddus! Mae'n cael ei ‛hau‛ mewn gwendid, ond bydd yn codi mewn grym! Corff dynol cyffredin sy'n cael ei ‛hau‛, ond corff ysbrydol fydd yn codi. Yn union fel mae corff dynol naturiol yn bod, mae yna hefyd gorff ysbrydol. Dyna mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud: “Daeth y dyn cyntaf, Adda, yn berson byw” ond mae'r Adda olaf, sef y Meseia, yn ysbryd sy'n rhoi bywyd i eraill. Dim yr un ysbrydol ddaeth gyntaf, ond yr un naturiol, a'r un ysbrydol yn ei ddilyn. Cafodd Adda, y dyn cyntaf, ei wneud o bridd y ddaear, ond daeth y Meseia, yr ail ddyn, o'r nefoedd. Mae gan pob un ohonon ni gorff daearol fel Adda, ond bydd gynnon ni sy'n perthyn i'r nefoedd gorff nefol fel y Meseia. Yn union fel dŷn ni wedi bod yn debyg i'r dyn o'r ddaear, byddwn ni'n debyg i'r dyn o'r nefoedd. Dyma dw i'n ei ddweud, frodyr a chwiorydd annwyl — all cig a gwaed ddim perthyn i deyrnas Dduw. All y corff sy'n darfod ddim bodoli yn y deyrnas sydd byth yn mynd i ddarfod. Gwrandwch — dw i'n rhannu rhywbeth sy'n ddirgelwch gyda chi: Fydd pawb ddim yn marw. Pan fydd yr utgorn olaf yn cael ei ganu byddwn ni i gyd yn cael ein newid — a hynny'n sydyn, mewn chwinciad. Bydd yr utgorn yn seinio, y rhai sydd wedi marw yn codi mewn cyrff fydd byth yn darfod, a ninnau sy'n fyw yn cael ein trawsffurfio. Rhaid i ni, sydd â chorff sy'n mynd i bydru, wisgo corff fydd byth yn pydru. Byddwn ni sy'n feidrol yn cael gwisgo anfarwoldeb! Pan fydd hynny'n digwydd, bydd beth mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud yn dod yn wir: “Mae marwolaeth wedi ei lyncu yn y fuddugoliaeth.” “O farwolaeth! Ble mae dy fuddugoliaeth di? O farwolaeth! Ble mae dy bigiad marwol di?” Pechod ydy'r pigiad gwenwynig sy'n arwain i farwolaeth, ac mae grym pechod yn dod o'r Gyfraith. Ond diolch i Dduw, mae ein Harglwydd Iesu Grist wedi rhannu ei fuddugoliaeth gyda ni! Felly safwch yn gadarn, frodyr a chwiorydd. Peidiwch gadael i ddim byd eich ysgwyd chi. Rhowch eich hunain yn llwyr i waith yr Arglwydd. Dych chi'n gwybod fod unrhyw beth wnewch chi i'r Arglwydd ddim yn wastraff amser. I droi at yr arian sy'n cael ei gasglu i helpu pobl Dduw: Gwnewch beth ddwedais i wrth eglwysi Galatia i'w wneud. Bob dydd Sul dylai pob un ohonoch chi roi arian o'r neilltu, faint bynnag mae'ch incwm chi'n ei ganiatáu, fel bydd dim rhaid casglu'r cwbl gyda'i gilydd pan ddof i acw. Wedyn, pan gyrhaedda i bydda i'n ysgrifennu llythyrau yn awdurdodi'r rhai fyddwch chi'n eu dewis i fynd â'ch rhodd i Jerwsalem. Ac os dych chi'n meddwl y byddai'n beth da i mi fynd, gallan nhw fynd gyda mi. Dw i'n bwriadu mynd i dalaith Macedonia gyntaf, a bydda i'n dod i'ch gweld chi ar ôl hynny. Falle yr arhosa i gyda chi am dipyn — hyd yn oed dreulio'r gaeaf acw. Wedyn gallwch fy helpu i fynd ymlaen ar fy nhaith. Petawn i'n dod yn syth fyddwn i ond yn gallu taro heibio, a does gen i ddim eisiau gwneud hynny. Dw i eisiau aros gyda chi am dipyn, os Duw a'i myn. Dw i'n mynd i aros yn Effesus tan y Pentecost, am fod cyfle i wneud gwaith mawr wedi codi yma, er bod digon o wrthwynebiad. Pan ddaw Timotheus atoch chi, gwnewch yn siŵr fod ganddo ddim i boeni amdano tra bydd gyda chi. Mae e, fel fi, yn gwneud gwaith Duw. Felly ddylai neb ac edrych i lawr arno. A rhowch help ymarferol iddo ar ei daith yn ôl ata i. Dw i'n edrych ymlaen at ei weld e a'r brodyr eraill. Ynglŷn â'n brawd Apolos: Gwnes i bwyso arno i ddod atoch chi gyda'r lleill, ond roedd e'n benderfynol o beidio ar hyn o bryd. Ond bydd yn dod pan ddaw cyfle! Gwyliwch eich hunain. Daliwch i gredu. Byddwch yn ddewr. Byddwch yn gryf. Gwnewch bopeth mewn cariad. Gwyddoch mai'r rhai o dŷ Steffanas oedd y bobl gyntaf yn nhalaith Achaia i ddod i gredu, ac maen nhw wedi rhoi eu hunain yn llwyr i helpu eu cyd-Gristnogion. Dw i'n eich annog chi, frodyr a chwiorydd, i barchu pobl fel nhw, a phawb arall tebyg sydd wedi rhoi eu hunain yn llwyr i'r gwaith. Roeddwn i mor falch pan gyrhaeddodd Steffanas, Ffortwnatus ac Achaicus ar eich rhan chi. Maen nhw wedi codi nghalon i, fel maen nhw wedi gwneud i chi hefyd. Mae'n bwysig cydnabod rhai fel nhw. Mae'r eglwysi yma yn nhalaith Asia yn anfon eu cyfarchion atoch chi. Mae Acwila a Priscila yn cofio atoch chi'n frwd yn yr Arglwydd, a'r eglwys sy'n cyfarfod yn eu tŷ nhw. Yn wir, mae'r brodyr a'r chwiorydd i gyd yn anfon eu cyfarchion. Cyfarchwch eich cyd-Gristnogion yn llawn cariad. Dw i'n ysgrifennu'r cyfarchiad yma yn fy llawysgrifen fy hun — PAUL. Os ydy rhywun ddim yn caru'r Arglwydd, mae dan felltith! O, tyrd Arglwydd! Dw i'n gweddïo y byddwch chi'n profi haelioni rhyfeddol ein Harglwydd Iesu. Fy nghariad atoch chi i gyd sy'n perthyn i'r Meseia Iesu. Amen. Llythyr gan Paul, wedi fy newis gan Dduw i fod yn gynrychiolydd personol i'r Meseia Iesu. A gan y brawd Timotheus hefyd. At eglwys Dduw yn Corinth, a'r holl Gristnogion sydd yn nhalaith Achaia: Dŷn ni'n gweddïo y byddwch chi'n profi'r haelioni rhyfeddol a'r heddwch dwfn mae Duw ein Tad a'r Arglwydd Iesu Grist yn ei roi i ni. Clod i Dduw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist! Fe ydy'r Tad sy'n tosturio a'r Duw sy'n cysuro. Mae'n ein cysuro ni yng nghanol ein holl drafferthion, felly dŷn ni yn ein tro yn gallu cysuro pobl eraill. Dŷn ni'n eu cysuro nhw trwy rannu am y ffordd mae Duw'n ein cysuro ni. Po fwya dŷn ni'n rhannu profiad y Meseia, mwya dŷn ni'n cael ein cysuro ganddo. Dŷn ni'n gorfod wynebu trafferthion er mwyn i chi gael eich cysuro a'ch cadw'n saff. Pan dŷn ni'n cael ein cysuro, dylai hynny hefyd fod yn gysur i chi, a'ch helpu chi i ddal ati pan fyddwch chi'n dioddef yr un fath â ni. A dŷn ni'n sicr y byddwch chi, wrth ddioddef yr un fath â ni, yn cael eich cysuro gan Dduw yr un fath â ni hefyd. Dŷn ni eisiau i chi ddeall ffrindiau annwyl, mor galed mae pethau wedi bod arnon ni yn nhalaith Asia. Roedd y pwysau yn ormod o lawer i ni ei ddal yn ein nerth ein hunain. Roedd yn ein llethu ni! Roedden ni'n meddwl ei bod hi ar ben arnon ni, a'n bod ni wir yn mynd i farw. Ond pwrpas y cwbl oedd i ni ddysgu trystio Duw yn lle trystio ni'n hunain. Fe ydy'r Duw sy'n dod â'r meirw yn ôl yn fyw! Mae wedi'n hachub ni y tro yma, a bydd yn ein hachub ni eto. A dŷn ni'n gwbl hyderus y bydd yn dal ati i wneud hynny tra byddwch chi'n ein helpu ni drwy weddïo droson ni. Wedyn bydd lot fawr o bobl yn diolch i Dduw am fod mor garedig tuag aton ni, yn ateb gweddïau cymaint o'i bobl. Dŷn ni'n gallu dweud gyda chydwybod glir ein bod ni wedi bod yn gwbl agored ac yn ddidwyll bob amser. Mae'n arbennig o wir am y ffordd dŷn ni wedi delio gyda chi. Haelioni Duw sydd wrth wraidd y peth, nid doethineb bydol. Dw i wedi siarad yn blaen yn fy llythyrau atoch chi — does dim i'w ddarllen rhwng y llinellau. Dych chi'n gwybod ei fod yn wir. Dych chi wedi dechrau cydnabod hynny, a dw i'n gobeithio y byddwch yn dod i gydnabod y peth yn llawn. Wedyn pan ddaw'r Arglwydd Iesu yn ôl byddwch chi'n gallu bod yn falch ohonon ni a byddwn ni'n gallu bod yn falch ohonoch chi. Gan fy mod i mor siŵr eich bod chi wedi deall hyn, roeddwn i wedi bwriadu eich bendithio chi ddwy waith. Roeddwn i'n mynd i ymweld â chi ar fy ffordd i dalaith Macedonia a galw heibio eto ar y daith yn ôl. Wedyn byddech chi'n gallu fy helpu i fynd ymlaen i Jwdea. Ond wnes i ddim hynny, felly ydych chi'n dweud mod i'n chwit-chwat? Ydw i yr un fath ag mae pobl y byd mor aml, yn dweud ‛ie‛ un funud a ‛nage‛ y funud nesa? Nac ydw — mae Duw'n gwybod nad person felly ydw i. Dw i ddim yn dweud un peth ac wedyn yn gwneud rhywbeth arall. A doedd dim byd ansicr am y neges roeddwn i a Silas a Timotheus yn ei chyhoeddi yn eich plith chi chwaith — sef y neges am Iesu y Meseia, mab Duw. Fe ydy ‛ie‛ Duw i ni bob amser! Fe ydy'r un sy'n dod â'r cwbl mae Duw wedi ei addo yn wir! Dyna pam dŷn ni'n dweud “Amen” (sef “ie wir!”) wrth addoli Duw — o achos y cwbl wnaeth e! A Duw ydy'r un sy'n ein galluogi ni (a chithau hefyd!) i sefyll yn gadarn dros y Meseia. Dewisodd ni i weithio drosto, ac mae wedi'n marcio ni'n bobl iddo'i hun. Mae wedi rhoi ei Ysbryd y tu mewn i ni, yn flaendal o'r cwbl sydd i ddod. Dw i'n galw ar Dduw i dystio fy mod i'n dweud y gwir. Y rheswm pam wnes i ddim dod yn ôl i Corinth i'ch gweld chi wedi'r cwbl oedd fy mod i eisiau'ch arbed chi. Dŷn ni ddim eisiau'ch fforsio chi i gredu fel dŷn ni'n dweud. Dŷn ni eisiau gweithio gyda chi, i chi gael profi llawenydd go iawn, a sefyll yn gadarn am eich bod wedi credu drosoch eich hunain. Dyna pam wnes i benderfynu peidio talu ymweliad arall fyddai'n achosi poen i bawb. Os ydw i'n eich gwneud chi'n drist, pwy sy'n mynd i godi fy nghalon i? Yr un dw i wedi achosi poen iddo? Yn wir, dyna pam ysgrifennais i fel y gwnes i yn fy llythyr. Doeddwn i ddim am ddod i'ch gweld chi, a chael fy ngwneud yn drist gan yr union bobl ddylai godi nghalon i! Roeddwn i'n siŵr mai beth sy'n fy ngwneud i'n hapus sy'n eich gwneud chi'n hapus yn y pen draw. Roedd ysgrifennu'r llythyr atoch chi yn brofiad poenus iawn. Roeddwn i'n ddigalon iawn, a bues i'n wylo'n hir uwch ei ben. Doedd gen i ddim eisiau eich gwneud chi'n drist, dim ond eisiau i chi weld cymaint dw i'n eich caru chi! Mae un dyn arbennig wedi achosi tristwch. Mae wedi gwneud hynny dim yn gymaint i mi, ond i bron bob un ohonoch chi (er, dw i ddim eisiau gwneud i'r peth swnio'n waeth nag y mae.) Mae beth benderfynodd y mwyafrif ohonoch chi yn yr eglwys ei wneud i'w ddisgyblu wedi mynd ymlaen yn ddigon hir. Erbyn hyn mae'n bryd i chi faddau iddo a'i helpu i droi yn ôl. Dych chi ddim eisiau iddo gael ei lethu'n llwyr a suddo i anobaith. Felly dw i am eich annog chi i ddangos iddo unwaith eto eich bod chi'n dal i'w garu. Roeddwn i'n anfon y llythyr atoch chi i weld a fyddech yn pasio'r prawf a bod yn gwbl ufudd. Dw i'n maddau i bwy bynnag dych chi'n maddau iddo. Dw i eisoes wedi maddau iddo er eich mwyn chi — os oedd rhywbeth i mi i'w faddau. Mae'r Meseia ei hun yn gwybod fy mod i wedi gwneud hynny. Dŷn ni ddim am i Satan fanteisio ar y sefyllfa! Dŷn ni'n gwybod yn iawn am ei gastiau e! Pan gyrhaeddais i Troas i gyhoeddi'r newyddion da am y Meseia yno, ches i ddim llonydd. Er bod yno gyfle gwych i weithio dros yr Arglwydd, doeddwn i ddim yn dawel fy meddwl am fod fy ffrind Titus ddim wedi cyrraedd yno fel roeddwn i'n disgwyl. Felly dyma fi'n ffarwelio â nhw, a mynd ymlaen i dalaith Macedonia i chwilio amdano. Ond diolch i Dduw, mae'r gwaith yn dal i fynd yn ei flaen. Dŷn ni'n cerdded ym mhrosesiwn buddugoliaeth y Meseia, ac mae arogl y persawr o gael nabod Duw yn lledu drwy'r byd i gyd! Ydyn, dŷn ni fel arogl hyfryd yn cael ei offrymu i Dduw gan y Meseia ei hun. Mae pawb yn ei arogli — y rhai sy'n cael eu hachub a'r rhai sydd ar eu ffordd i ddistryw. Mae fel mwg gwenwynig i'r ail grŵp, ond i'r lleill yn bersawr hyfryd sy'n arwain i fywyd. Pwy sy'n ddigon da i wneud gwaith mor bwysig? Neb mewn gwirionedd! Ond o leia dŷn ni ddim yn pedlera neges Duw i wneud arian, fel mae llawer o rai eraill. Fel arall yn hollol! — dŷn ni'n gwbl ddidwyll. Gweision y Meseia ydyn ni, yn cyhoeddi'r neges mae Duw wedi ei rhoi i ni, ac yn siarad yn gwbl agored o flaen Duw. Ydyn ni'n dechrau canmol ein hunain o'ch blaen chi unwaith eto? Yn wahanol i rai, does arnon ni ddim angen tystlythyr i'w gyflwyno i chi, a dŷn ni ddim yn gofyn i chi ysgrifennu un i ni chwaith. Chi eich hunain ydy'n tystlythyr ni! Llythyr sydd wedi ei ysgrifennu ar ein calonnau ni, ac mae pawb ym mhobman yn gwybod amdano ac yn gallu ei ddarllen. Yn wir, mae'n amlwg mai llythyr gan y Meseia ei hun ydych chi — a'i fod wedi ei roi yn ein gofal ni. Llythyr sydd ddim wedi ei ysgrifennu ag inc, ond ag Ysbryd y Duw byw. A ddim ar lechi carreg, ond ar lechi calonnau pobl! Beth mae'r Meseia wedi ei wneud sy'n ein gwneud ni mor hyderus o flaen Duw. Dŷn ni ddim yn deilwng ynon ni'n hunain i hawlio'r clod am ddim byd — Duw sy'n ein gwneud ni'n deilwng. Mae wedi'n gwneud ni'n deilwng i wasanaethu'r ymrwymiad newydd wnaeth e. Nid cyfraith ysgrifenedig ydy hon, ond ymrwymiad Duw gafodd ei roi gan yr Ysbryd Glân. Mae ceisio cadw at lythyren y ddeddf yn lladd, ond mae'r Ysbryd yn rhoi bywyd. Er bod yr hen drefn (gafodd ei naddu ar garreg) yn arwain i farwolaeth, cafodd ei rhoi gyda'r fath ysblander! Roedd yr Israeliaid yn methu edrych ar wyneb Moses am ei fod yn disgleirio! (Ond roedd yn pylu wrth i amser fynd yn ei flaen). Felly beth am drefn newydd yr Ysbryd? Oni fydd hi'n dod gydag ysblander llawer iawn mwy rhyfeddol? Os oedd y drefn sy'n arwain i farn yn wych, meddyliwch mor anhygoel o wych fydd y drefn newydd sy'n dod â ni i berthynas iawn gyda Duw! Yn wir, dydy beth oedd yn ymddangos mor rhyfeddol ddim yn edrych yn rhyfeddol o gwbl bellach, am fod ysblander y drefn newydd yn disgleirio gymaint mwy llachar! Ac os oedd y drefn oedd yn pylu yn rhyfeddol, meddyliwch mor ffantastig ydy ysblander y drefn sydd i aros! Gan mai dyma dŷn ni'n edrych ymlaen ato, dŷn ni'n gallu cyhoeddi'n neges yn gwbl hyderus. Dŷn ni ddim yr un fath â Moses, yn rhoi gorchudd dros ei wyneb rhag i bobl Israel syllu arno a gweld fod y disgleirdeb yn diflannu yn y diwedd. Ond doedden nhw ddim yn gweld hynny! Ac mae'r un gorchudd yn dal yno heddiw pan mae geiriau'r hen drefn yn cael eu darllen. Dim ond y Meseia sy'n gallu cael gwared â'r gorchudd! Ond hyd heddiw, pan mae Cyfraith Moses yn cael ei darllen mae'r gorchudd yn dal yna yn eu dallu nhw. Ac eto'r Gyfraith ei hun sy'n dweud, “Pan mae'n troi at yr Arglwydd, mae'r gorchudd yn cael ei dynnu i ffwrdd.” Cyfeirio at yr Ysbryd Glân mae'r gair ‛Arglwydd‛; a ble bynnag mae Ysbryd yr Arglwydd mae yna ryddid. Felly does dim angen gorchudd ar ein hwynebau ni. Dŷn ni i gyd fel drych yn adlewyrchu ysblander yr Arglwydd, ac yn cael ein newid i fod yn debycach iddo. Dŷn ni'n troi'n fwy a mwy disglair o hyd. A'r Ysbryd Glân ydy'r Arglwydd sy'n gwneud hyn i gyd. Felly gan fod Duw wedi bod mor garedig â rhoi'r gwaith yma'n ein gofal ni, dŷn ni ddim yn digalonni. Dŷn ni wedi gwrthod pob dull cudd a dan din o weithredu. Wnawn ni ddim twyllo neb na gwyrdroi neges Duw. Dŷn ni'n dweud yn blaen beth ydy'r gwir, ac mae pawb yn gwybod eu bod nhw'n gallu'n trystio ni fel rhai sy'n gwbl agored o flaen Duw. Os oes rhai pobl sy'n methu deall y newyddion da dŷn ni'n ei gyhoeddi, y bobl sy'n mynd i ddistryw ydy'r rheiny. Y diafol (‛duw‛ y byd hwn) sydd wedi dallu'r rhai sydd ddim yn credu. Does ganddo fe ddim eisiau iddyn nhw ddeall y newyddion da, na gweld ysblander y Meseia sy'n dangos i ni yn union sut un ydy Duw. Dŷn ni ddim yn siarad amdanon ni'n hunain — dim ond cyhoeddi mai Iesu y Meseia ydy'r Arglwydd. Ein lle ni ydy eich gwasanaethu chi ar ran Iesu. Ac mae'r Duw ddwedodd, “Dw i eisiau i olau ddisgleirio allan o'r tywyllwch,” wedi'n goleuo ni a'n galluogi ni i ddangos fod ysblander Duw ei hun yn disgleirio yn wyneb Iesu y Meseia. Dyma'r trysor mae Duw wedi ei roi i ni. Mae'n cael ei gario gynnon ni sy'n ddim byd ond llestri pridd — ffaith sy'n dangos mai o Dduw mae'r grym anhygoel yma'n dod, dim ohonon ni. Er fod trafferthion yn gwasgu o bob cyfeiriad, dŷn ni ddim wedi cael ein llethu'n llwyr. Dŷn ni'n ansicr weithiau, ond heb anobeithio; yn cael ein herlid, ond dydy Duw ddim wedi'n gadael ni; yn cael ein taro i lawr, ond yn cael ein codi yn ôl ar ein traed bob tro! Wrth ddioddef yn gorfforol dŷn ni'n rhannu rhyw wedd ar farwolaeth Iesu, ond mae hynny er mwyn i fywyd Iesu gael ei weld yn ein cyrff bregus ni. Dŷn ni sy'n fyw bob amser mewn peryg o gael ein lladd fel Iesu, er mwyn i fywyd Iesu gael ei weld yn ein cyrff marwol ni. Rhaid i ni wynebu marwolaeth er mwyn i chi gael bywyd tragwyddol. Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Credais, felly dwedais.” Yr un ysbryd sy'n ein gyrru ni'n ein blaenau. Dŷn ni hefyd wedi credu ac felly'n dweud. Am fod Duw wedi codi'r Arglwydd Iesu yn ôl yn fyw, dŷn ni'n gwybod y bydd yn dod â ninnau yn ôl yn fyw gyda Iesu. A byddwn ni, a chithau hefyd, yn cael bod gydag e! Yn wir, dŷn ni'n gwneud popeth er eich mwyn chi. Wrth i rodd Duw o fywyd fynd ar led, yn cofleidio mwy a mwy o bobl, bydd mwy a mwy o bobl yn diolch i Dduw ac yn ei addoli. Dyna pam dŷn ni ddim yn digalonni. Hyd yn oed os ydyn ni'n darfod yn gorfforol, dŷn ni'n cael ein cryfhau'n ysbrydol bob dydd. Dydy'n trafferthion presennol ni'n ddim byd o bwys, a fyddan nhw ddim yn para'n hir. Ond maen nhw'n arwain i fendithion tragwyddol yn y pen draw — ysblander sydd y tu hwnt i bob mesur! Felly mae'n sylw ni wedi ei hoelio ar beth sy'n anweledig, dim ar beth welwn ni'n digwydd o'n cwmpas ni. Dydy beth sydd i'w weld ond yn para dros dro, ond mae beth sy'n anweledig yn aros am byth! Mae'r amser yn dod pan fydd y babell ddaearol dŷn ni'n byw ynddi (sef ein corff) yn cael ei thynnu i lawr. Ond dŷn ni'n gwybod fod gan Dduw adeilad ar ein cyfer ni — cartref parhaol yn y nefoedd wedi ei adeiladu ganddo fe'i hun. Yn y cyfamser dŷn ni'n hiraethu am gael ein gwisgo â'n cyrff nefol. A byddwn yn eu gwisgo — fydd dim rhaid i ni aros yn noeth. Tra'n byw yn y babell ddaearol, dŷn ni'n griddfan ac yn gorfod cario beichiau. Ond dŷn ni ddim am fod yn noeth a heb gorff — dŷn ni eisiau gwisgo'r corff nefol. Dŷn ni eisiau i'r corff marwol sydd gynnon ni gael ei lyncu gan y bywyd sy'n para am byth. Mae Duw ei hun wedi'n paratoi ni ar gyfer hyn, ac wedi rhoi'r Ysbryd Glân i ni yn flaendal o'r cwbl sydd i ddod. Felly dŷn ni'n gwbl hyderus, ac yn deall ein bod oddi cartref tra'n byw yn ein corff daearol, ac wedi'n gwahanu oddi wrth yr Arglwydd Iesu. Dŷn ni'n byw yn ôl beth dŷn ni'n ei gredu, dim yn ôl beth dŷn ni'n ei weld. Dw i'n dweud eto ein bod ni'n gwbl hyderus o beth sydd i ddod. Er, wrth gwrs byddai'n well gynnon ni adael y corff hwn er mwyn cael bod adre gyda'r Arglwydd! Ond adre neu beidio, ein huchelgais ni bob amser ydy ei blesio fe. Achos bydd pob un ohonon ni'n cael ein barnu gan y Meseia ryw ddydd. Bydd pawb dderbyn beth mae'n ei haeddu am y ffordd mae wedi ymddwyn, pa un ai da neu ddrwg. Felly, am ein bod ni'n gwybod fod yr Arglwydd i'w ofni, dŷn ni'n ceisio perswadio pobl. Mae Duw yn gwybod sut rai ydyn ni, a dw i'n hyderus eich bod chi'n gwybod eich bod chi'n gallu'n trystio ni hefyd. Dim ceisio canmol ein hunain ydyn ni eto. Na, dim ond eisiau i chi fod yn falch ohonon ni. Dŷn ni eisiau i chi allu ateb y rhai sydd ddim ond yn ymfalchïo yn yr allanolion a ddim yn beth sydd yn y galon. Os ydyn ni'n ymddangos fel ffanatics, mae hynny am ein bod ar dân dros Dduw. Os ydyn ni'n siarad yn gall, mae hynny er eich lles chi. Cariad y Meseia sy'n ein gyrru ni'n ein blaenau. A dyma'n argyhoeddiad ni: mae un dyn wedi marw dros bawb, ac felly mae pawb wedi marw. Mae e wedi marw dros bawb er mwyn i'r rhai sy'n cael bywyd tragwyddol beidio byw i blesio nhw eu hunain o hyn allan. Maen nhw i fyw i blesio'r un fuodd farw drostyn nhw a chael ei godi yn ôl yn fyw eto. Bellach dŷn ni wedi stopio edrych ar bobl fel mae'r byd yn gwneud. Er ein bod ni ar un adeg wedi edrych ar y Meseia ei hun felly, dŷn ni ddim yn gwneud hynny mwyach. Pan mae rhywun yn dod yn Gristion mae wedi ei greu yn berson newydd: mae'r hen drefn wedi mynd! Edrychwch, mae bywyd newydd wedi cymryd ei le! A Duw sy'n gwneud y cwbl — mae wedi gwneud heddwch rhyngon ni ag e'i hun drwy beth wnaeth y Meseia. Ac mae wedi rhoi'r gwaith i ni o rannu'r neges gyda phobl eraill. Ydy, mae Duw wedi sicrhau heddwch rhyngddo fe'i hun â'r byd drwy beth wnaeth y Meseia. Dydy e ddim yn dal methiant pobl yn eu herbyn nhw! Ac mae wedi rhoi i ni y gwaith o ddweud am hyn wrth bobl. Dŷn ni'n llysgenhadon yn cynrychioli'r Meseia, ac mae Duw yn anfon ei apêl allan trwon ni. Ar ran y Meseia, dŷn ni'n crefu arnoch chi: Dewch i berthynas newydd gyda Duw! Wnaeth Iesu ddim pechu, ond dyma Duw yn ei wneud e'n offrwm dros bechod ar ein rhan ni. Dŷn ni'n gallu byw mewn perthynas iawn gyda Duw drwy ein perthynas gydag e. Dŷn ni'n cydweithio gyda Duw ac yn apelio atoch chi i beidio ymateb yn arwynebol i'w haelioni e. Mae Duw'n dweud yn yr ysgrifau sanctaidd, “Bydda i'n gwrando arnat ti pan fydd yr amser yn iawn, Ac yn dy helpu di pan ddaw'r dydd i mi achub.” Edrychwch! Mae'r amser iawn wedi dod! Mae'r dydd i Dduw achub yma! Dŷn ni ddim eisiau gwneud unrhyw beth fydd yn rhwystro pobl rhag dod i gredu, fel bod dim modd beio ein gwaith ni. Na, dŷn ni am ddangos yn glir mai gweision Duw ydyn ni. Dangos hynny yn y ffordd dŷn ni'n dal ati yng nghanol ein holl drafferthion, pan mae pethau'n galed ac yn edrych yn anobeithiol. Dŷn ni wedi cael ein curo, ein carcharu, ein bygwth gan y mob, wedi gweithio nes ein bod wedi ymlâdd yn llwyr, ac wedi colli cwsg a gorfod mynd heb fwyd. Hefyd drwy'n bywydau glân, ein dealltwriaeth o'r gwirionedd, ein hamynedd gyda phobl, a'n caredigrwydd at bobl; a thrwy nerth yr Ysbryd Glân ar waith ynon ni, a'n cariad dwfn atoch chi. Hefyd drwy gyhoeddi'r gwir yn ffyddlon, a gwneud hynny gyda'r nerth mae Duw'n ei roi — gydag arfau cyfiawnder, i ymosod ac amddiffyn. Dŷn ni weithiau'n cael ein canmol, dro arall yn cael ein sarhau; mae pobl yn dweud pethau drwg a da amdanon ni. Dŷn ni'n cael ein galw'n dwyllwyr er ein bod ni'n dweud y gwir. Mae rhai yn dweud ein bod ni'n neb, ac eto mae pawb yn gwybod amdanon ni! Dŷn ni'n agos at farw, ac eto'n dal yn fyw! Wedi'n chwipio, mae'n wir, ond heb ein lladd. Yn dal i orfoleddu er gwaetha'r holl dristwch. Yn gwybod ein bod ni'n dlawd, ac eto'n rhannu cyfoeth ysbrydol gyda llawer. Heb ddim, ac eto mae gynnon ni bopeth sydd ei angen! Ffrindiau annwyl Corinth, dŷn ni wedi bod yn gwbl agored gyda chi. Dŷn ni wedi rhoi'n hunain yn llwyr i chi! Dŷn ni ddim yn dal ein cariad yn ôl, chi sy'n dal yn ôl. Dewch yn eich blaen — dw i'n siarad â chi fel fy mhlant i — derbyniwch ni. Dych chi'n wahanol i bobl sydd ddim yn credu — felly peidiwch ymuno â nhw. Ydy cyfiawnder a drygioni'n gallu bod yn bartneriaid? Neu olau a thywyllwch? Ydy'r Meseia a'r diafol yn creu harmoni? Beth sydd gan rywun sy'n credu a rhywun sydd ddim yn credu yn gyffredin? Ydy'n iawn rhoi eilun-dduwiau yn nheml Duw? Na! A dŷn ni gyda'n gilydd yn deml i'r Duw byw. Fel mae Duw ei hun wedi dweud: “Bydda i'n byw gyda nhw ac yn symud yn eu plith nhw; fi fydd eu Duw nhw a nhw fydd fy mhobl i.” Felly mae'r Arglwydd yn dweud, “Dewch allan o'u canol nhw a bod yn wahanol.” “Peidiwch cyffwrdd dim byd aflan, a chewch eich derbyn gen i.” “Bydda i'n Dad i chi, a byddwch chi yn feibion a merched i mi,” meddai'r Arglwydd Hollalluog. Felly ffrindiau annwyl, am fod Duw wedi addo'r pethau yma i ni, gadewch i ni lanhau'n hunain o unrhyw beth allai'n gwneud ni'n aflan. Am fod Duw i'w ofni, gadewch i ni gyrraedd at y nod o roi'n hunain iddo yn bobl lân. Derbyniwch ni. Wnaethon ni ddim cam â neb, na gwneud niwed i neb, na chymryd mantais o neb. Dw i ddim yn ceisio gweld bai arnoch chi drwy ddweud hyn. Fel y dwedais i, dych chi'n sbesial iawn yn ein golwg ni. Fydd ein cariad ni ddim llai, doed a ddelo — byw neu farw Mae gen i hyder ynoch chi. Dw i wir yn falch ohonoch chi. Dw i wedi fy nghalonogi'n fawr. Dw i'n wirioneddol hapus er gwaetha'r holl drafferthion. Beth bynnag, pan gyrhaeddon ni dalaith Macedonia chawson ni ddim llonydd wedyn. Roedd trafferthion bob cam o'r ffordd! Gwrthwynebiad pobl o'r tu allan, ac ofnau o'n mewn ni. Ond mae Duw'n cysuro'r rhai sy'n ddigalon, a dyma fe'n ein cysuro ni pan ddaeth Titus aton ni. Roedd yn braf ei weld, ond hefyd i gael deall fel roeddech chi wedi ei gysuro fe. Roedd yn dweud fod gynnoch chi hiraeth amdanon ni, eich bod chi'n sori am beth ddigwyddodd, ac yn wirioneddol awyddus i bethau fod yn iawn rhyngon ni. Roeddwn i'n hapusach fyth wedyn! Dw i ddim yn sori mod i wedi anfon y llythyr, er ei fod wedi'ch brifo chi. Roeddwn i yn sori i ddechrau, wrth weld eich bod chi wedi cael eich brifo. Ond doedd hynny ddim ond dros dro. Felly dw i'n hapus bellach — dim am i chi gael eich gwneud yn drist, ond am fod hynny wedi gwneud i chi newid eich ffyrdd. Dyna'r math o dristwch mae Duw eisiau ei weld, felly wnaethon ni ddim drwg i chi. Mae'r math o dristwch mae Duw am ei weld yn gwneud i bobl newid eu ffyrdd a chael eu hachub. Dydy hynny byth yn rhywbeth i'w ddifaru! Ond dydy teimlo'n annifyr am rywbeth, heb droi at Dduw, ddim ond yn arwain i farwolaeth ysbrydol. Edrychwch beth mae'r tristwch mae Duw'n edrych amdano wedi ei wneud ynoch chi: mae wedi creu brwdfrydedd ac awydd i sortio'r peth allan, ac wedi'ch gwneud chi mor ddig fod y fath beth wedi digwydd. Mae wedi creu y fath barch ata i, y fath hiraeth amdana i, y fath sêl, y fath barodrwydd i gosbi'r troseddwr. Drwy'r cwbl i gyd dych wedi profi fod dim bai arnoch chi. Felly, roeddwn i'n ysgrifennu atoch chi fel gwnes i, dim i ddelio gyda'r un wnaeth y drwg, nac i ddangos fy mod i fy hun wedi cael cam. Roeddwn i'n ysgrifennu er eich mwyn chi! — i chi weld drosoch eich hunain mor bwysig ydy'n perthynas ni. Mae Duw'n gwybod! Felly dŷn ni wedi cael ein calonogi'n fawr! Ond yn fwy na hynny, roedden ni'n arbennig o falch o weld mor hapus oedd Titus. Cafodd y fath groeso gynnoch chi i gyd, ac mae wedi codi ei galon yn fawr. Roeddwn i wedi bod yn brolio amdanoch chi wrtho, a wnaethoch chi ddim fy siomi i. Yn union fel mae popeth dŷn ni wedi ei ddweud wrthoch chi'n wir, mae beth ddwedon ni amdanoch chi wrth Titus wedi troi allan i fod yn wir hefyd. Mae wedi dod mor hoff ohonoch chi. Mae e'n cofio sut fuoch chi i gyd mor ufudd, a dangos y fath barch a chonsýrn. Dw i'n hapus iawn, am fy mod i'n gallu ymddiried yn llwyr ynoch chi. Dw i eisiau dweud wrthoch chi, frodyr a chwiorydd, am y ddawn o haelioni mae Duw wedi ei rhoi i'r eglwysi yn nhalaith Macedonia. Er eu bod nhw wedi bod trwy amser caled ofnadwy, roedd eu llawenydd nhw'n gorlifo yng nghanol tlodi eithafol. Buon nhw'n anhygoel o hael! Dw i'n dweud wrthoch chi eu bod nhw wedi rhoi cymaint ag oedden nhw'n gallu ei fforddio — do, a mwy! Nhw, ohonyn nhw'u hunain, oedd yn pledio'n daer arnon ni am gael y fraint o rannu yn y gwaith o helpu Cristnogion Jerwsalem. Dyma nhw'n gwneud llawer mwy nag oedden ni'n ei ddisgwyl, trwy roi eu hunain yn y lle cyntaf i'r Arglwydd, ac wedyn i ninnau hefyd. Dyna'n union oedd Duw eisiau iddyn nhw ei wneud! I hyn dw i'n dod: Dw i wedi annog Titus, gan mai fe ddechreuodd y gwaith da yma yn eich plith chi, i'ch helpu chi i orffen eich rhan chi yn y gwaith. Mae gynnoch chi fwy na digon o ddoniau — ffydd, siaradwyr da, gwybodaeth, brwdfrydedd, a chariad aton ni. Felly gwnewch yn siŵr eich bod chi ar y blaen wrth roi'n hael hefyd. Dim rhoi gorchymyn i chi ydw i. Ond dw i yn defnyddio brwdfrydedd pobl eraill fel maen prawf i weld pa mor real ydy'ch cariad chi. A dych chi'n gwybod mor hael oedd yr Arglwydd Iesu Grist ei hun. Er ei fod e'n gyfoethog yng ngwir ystyr y gair, gwnaeth ei hun yn dlawd er eich mwyn chi! — a hynny er mwyn i chi ddod yn gyfoethog yn eich perthynas â Duw! Dim ond eisiau awgrymu'r ffordd orau i ddelio â'r mater ydw i. Chi oedd y rhai cyntaf i benderfynu gwneud rhywbeth y flwyddyn ddiwethaf, a'r cyntaf i ddechrau arni. Mae'n bryd i chi orffen y gwaith. Dangoswch yr un brwdfrydedd wrth wneud beth gafodd ei benderfynu. Rhowch gymaint ag y gallwch chi. Os dych chi wir eisiau rhoi, rhowch chi beth allwch chi, a bydd hynny'n dderbyniol. Does dim disgwyl i chi roi beth sydd ddim gynnoch chi i'w roi! Dw i ddim eisiau gwneud bywyd yn anodd i chi am eich bod chi'n rhoi i geisio helpu pobl eraill. Beth dw i eisiau ydy tegwch. Ar hyn o bryd mae gynnoch chi hen ddigon, a gallwch chi helpu'r rhai sydd mewn angen. Wedyn byddan nhw'n gallu'ch helpu chi pan fyddwch chi angen help. Mae pawb yn gyfartal felly. Fel mae'n dweud yn yr ysgrifau sanctaidd: “Doedd dim byd dros ben gan y rhai gasglodd lawer, a doedd y rhai gasglodd ychydig ddim yn brin.” Dw i'n diolch i Dduw fod gan Titus yr un consýrn amdanoch chi â sydd gen i. Mae e'n dod atoch chi dim yn unig am ein bod ni wedi gofyn iddo, ond am ei fod e'n frwd i wneud hynny ei hun — roedd e wir eisiau dod. Dŷn ni'n anfon gydag e frawd sy'n cael ei ganmol yn yr eglwysi i gyd am ei waith yn cyhoeddi'r newyddion da. Yn wir, mae e hefyd wedi cael ei ddewis gan yr eglwysi i fynd gyda ni pan fyddwn yn mynd â'r rhodd i Jerwsalem — rhodd sy'n anrhydeddu'r Arglwydd ei hun ac hefyd yn dangos ein bod ni'n frwd i helpu. Dŷn ni eisiau gwneud yn siŵr fod neb yn gallu'n beirniadu ni am y ffordd dŷn ni wedi delio â'r rhodd hael yma. Dŷn ni am wneud beth sy'n iawn, dim yn unig yng ngolwg yr Arglwydd ei hun, ond yng ngolwg pawb arall hefyd. Dŷn ni'n anfon brawd arall gyda nhw hefyd — un sydd wedi dangos lawer gwaith mor frwdfrydig ydy e. Ac mae'n fwy brwd fyth nawr gan ei fod yn ymddiried yn llwyr ynoch chi. Os oes cwestiwn yn codi am Titus — fy mhartner i ydy e, yn gweithio gyda mi i'ch helpu chi. Os oes unrhyw gwestiwn am y brodyr eraill — nhw sy'n cynrychioli'r eglwysi ac maen nhw'n glod i'r Meseia ei hun. Felly dangoswch chi i'r dynion yma mor fawr ydy'ch cariad chi, a phrofi i'r eglwysi bod gynnon ni ddigon o le i fod yn falch ohonoch chi. Does dim wir angen i mi ysgrifennu atoch chi am y casgliad yma i helpu Cristnogion Jerwsalem. Dw i'n gwybod eich bod chi'n awyddus i helpu. Dw i wedi bod yn sôn am y peth wrth bobl Macedonia, ac yn dweud wrthyn nhw eich bod chi yn nhalaith Achaia wedi bod yn barod ers y flwyddyn ddiwethaf. Clywed am eich brwdfrydedd chi sydd wedi ysgogi y rhan fwya ohonyn nhw i wneud rhywbeth! Ond dw i'n anfon y brodyr yma atoch chi er mwyn gwneud yn siŵr y bydd ein brolio ni amdanoch ddim yn troi allan i fod yn wag, ac y byddwch yn barod, fel dw i wedi dweud y byddwch chi. Os bydd rhai o dalaith Macedonia gyda ni pan ddown ni i'ch gweld chi, a darganfod eich bod chi ddim yn barod, byddwn ni, heb sôn amdanoch chi, yn teimlo cywilydd go iawn. Dyna pam o'n i'n teimlo bod rhaid anfon y brodyr atoch chi ymlaen llaw. Byddan nhw'n gallu gwneud trefniadau i dderbyn y rhodd dych wedi ei haddo. Bydd yn disgwyl amdanon ni wedyn fel rhodd sy'n dangos mor hael ydych chi, a dim fel rhywbeth wedi ei wasgu allan ohonoch chi. Cofiwch hyn: Os mai ychydig dych chi'n ei hau, bach fydd y cynhaeaf; ond os dych chi'n hau yn hael, cewch gynhaeaf mawr. Dylai pob un ohonoch chi roi o'i wirfodd, dim yn anfodlon neu am fod pwysau arnoch chi. Mae Duw'n mwynhau gweld pobl sydd wrth eu boddau yn rhoi. Mae Duw'n gallu rhoi mwy na digon o bethau'n hael i chi, er mwyn i chi fod â popeth sydd arnoch ei angen, a bydd digonedd dros ben i chi allu gwneud gwaith da bob amser. Fel mae'n dweud yn yr ysgrifau sanctaidd: “Mae'r duwiol yn rhoi yn hael i'r tlodion; bydd pobl yn cofio ei haelioni bob amser.” Duw sy'n rhoi'r had i'r heuwr a bwyd i bobl ei fwyta. Bydd yn cynyddu eich stôr chi o ‛had‛ ac yn gwneud i gynhaeaf eich gweithredoedd da chi lwyddo. Bydd yn eich gwneud chi'n gyfoethog ym mhob ffordd er mwyn i chi allu bod yn hael bob amser. Bydd llawer o bobl yn diolch i Dduw pan fyddwn ni'n mynd â'ch rhodd chi i Jerwsalem. Nid dim ond cwrdd ag angen pobl Dduw mae beth dych chi'n ei wneud — mae'n llawer mwy na hynny. Bydd yn gwneud i lawer o bobl ddweud diolch wrth Dduw. Bydd pobl yn moli Duw am fod eich haelioni chi wrth rannu gyda nhw a phawb arall yn profi eich bod chi'n ufudd i'r newyddion da dych wedi ei gredu am y Meseia. Byddan nhw'n gweddïo drosoch chi, ac yn hiraethu amdanoch chi, am fod Duw wedi'ch galluogi chi i fod mor hael. A diolch i Dduw am ei fod e wedi rhoi rhodd i ni sydd y tu hwnt i eiriau! Felly dyma fi, Paul, yn apelio atoch chi yn addfwyn ac yn garedig fel y Meseia ei hun — ie fi, yr un maen nhw'n dweud sy'n ‛llwfr‛ pan dw i wyneb yn wyneb â chi, ond mor ‛galed‛ pan dw i'n bell i ffwrdd! Pan fydda i'n dod acw, dw i'n erfyn arnoch chi, peidiwch gwneud i mi fod yn galed gyda chi fel dw i'n disgwyl gorfod bod gyda'r rhai hynny sy'n dweud ein bod ni'n byw fel pobl y byd, sydd ddim yn credu! Dŷn ni'n byw yn y byd yn sicr, ond dŷn ni ddim yn ymladd ein brwydrau fel mae'r byd yn gwneud. Dŷn ni ddim yn defnyddio arfau'r byd i ymladd. Fel arall yn hollol! — mae'n harfau ni yn rhai grymus, a Duw sy'n rhoi'r nerth i ni chwalu'r cestyll mae'r gelyn yn eu hamddiffyn. Dŷn ni'n chwalu dadleuon a'r syniadau balch sy'n rhwystro pobl rhag dod i nabod Duw. Dŷn ni'n rhwymo'r syniadau hynny, ac yn arwain pobl i fod yn ufudd i'r Meseia. Pan fyddwch chi'n ufudd eto, byddwn ni'n barod wedyn i gosbi pawb sy'n aros yn anufudd. Dych chi'n edrych ar bethau'n rhy arwynebol! Dylai'r rhai sy'n honni bod ganddyn nhw berthynas sbesial gyda'r Meseia ystyried hyn: mae'n perthynas ni gyda'r Meseia mor real â'u perthynas nhw. Hyd yn oed petawn i'n brolio braidd gormod am yr awdurdod mae'r Arglwydd Iesu wedi ei roi i ni does gen i ddim cywilydd o'r peth. Awdurdod i'ch cryfhau chi ydy e, ddim i chwalu'ch ffydd chi. Dw i ddim yn ceisio'ch dychryn chi yn fy llythyrau. Dw i'n gwybod yn iawn beth maen nhw'n ei ddweud: “Mae'n galed ac yn gas yn ei lythyrau, ond rhyw greadur bach gwan ac eiddil ydy e go iawn, ac mae'n siaradwr anobeithiol!” Gwell i bobl felly sylweddoli hyn: pan ddown ni acw, byddwn ni'n gwneud yn union beth mae'n llythyrau yn ei ddweud. Wrth gwrs, fydden ni ddim yn meiddio cymharu'n hunain a rhoi'n hunain yn yr un dosbarth â'r rhai hynny sy'n canmol eu hunain! Y gwir ydy, wrth fesur yn ôl eu llathen eu hunain a chymharu eu hunain â'i gilydd maen nhw'n dangos mor ddwl ydyn nhw go iawn. Dŷn ni, ar y llaw arall, ddim yn mynd i frolio am bethau sydd ddim byd i'w wneud â ni. Dŷn ni ddim ond yn sôn am y gwaith mae Duw wedi ei roi i ni — ac mae hynny'n cynnwys gweithio gyda chi! Dŷn ni ddim yn tresmasu ar faes rhywun arall. Wedi'r cwbl, ni ddaeth â'r newyddion da am y Meseia atoch chi! Dŷn ni ddim wedi dwyn y clod am waith pobl eraill. Ein gobaith ni ydy, wrth i'ch ffydd chi dyfu, y bydd ein gwaith ni yn eich plith chi yn tyfu fwy a mwy. Wedyn byddwn ni'n gallu mynd ymlaen i gyhoeddi'r newyddion da mewn lleoedd sy'n bellach i ffwrdd na chi. Ond dŷn ni ddim yn mynd i frolio am y gwaith mae rhywun arall wedi ei wneud! “Os ydy rhywun am frolio, dylai frolio am beth mae'r Arglwydd wedi ei wneud.” Dim y bobl sy'n canmol eu hunain sy'n cael eu derbyn ganddo, ond y bobl mae'r Arglwydd ei hun yn eu canmol. Wnewch chi oddef i mi siarad yn ffôl? — maddeuwch i mi am hyn. Os dw i'n genfigennus, Duw sy'n gwneud i mi deimlo felly. Dw i wedi'ch addo chi yn briod i un dyn — ie, dim ond un! Dw i am eich cyflwyno chi'n wyryf bur i'r Meseia. Ond dw i ofn i chi gael eich llygru a'ch denu i ffwrdd o'ch ymroddiad llwyr iddo, yn union fel y cafodd Efa ei thwyllo gan yr hen sarff gyfrwys. Mae rhywun yn dod atoch chi ac yn pregethu am Iesu gwahanol i'r un roedden ni'n ei bregethu. Dych chi'n derbyn ysbryd sy'n wahanol, neu ‛newyddion da‛ gwahanol, a dych chi'n goddef y cwbl yn ddigon hapus! Ond dw i ddim yn meddwl mod i'n israddol o gwbl i'r ‛ffansi-apostolion‛ yna. Falle nad ydw i'n siaradwr cyhoeddus mawr, ond dw i'n gwybod beth ydy'r gwir. Mae'r gwir wedi cael ei wneud yn ddigon clir i chi bob amser. Roeddwn i wedi cyhoeddi newyddion da Duw i chi yn rhad ac am ddim. Tybed wnes i'r peth anghywir? Diraddio fy hun er mwyn eich anrhydeddu chi. Roeddwn i'n derbyn tâl gan eglwysi eraill er mwyn i mi allu gweithio i chi! Hyd yn oed pan roeddwn i'n brin, fues i ddim yn faich ar neb ohonoch chi. Y ffrindiau ddaeth o dalaith Macedonia roddodd i mi bopeth oedd arna i ei angen. Dw i wedi osgoi bod yn faich arnoch chi o gwbl, a dw i'n mynd i ddal i wneud hynny. Heb unrhyw amheuaeth does neb yn Achaia gyfan yn gallu gwadu hynny. Ond pam dw i'n gwneud hyn? Am fy mod i ddim yn eich caru chi? Duw a ŵyr cymaint dw i'n eich caru chi! Dw i'n mynd i ddal ati i wneud yr un fath â dw i wedi gwneud bob amser. Bydd hynny'n tynnu'r carped o dan draed y rhai sy'n brolio ac yn ceisio rhoi'r argraff eu bod nhw'n gwneud yr un gwaith â ni! Na, ffug-apostolion ydyn nhw! Twyllwyr yn cymryd arnyn nhw eu bod nhw'n cynrychioli y Meseia! A dim syndod, achos mae Satan ei hun yn cymryd arno ei fod yn angel y goleuni! Felly pam ddylen ni ryfeddu os ydy ei weision e'n cymryd arnyn nhw eu bod nhw'n gweithio dros beth sy'n iawn. Byddan nhw'n cael beth maen nhw'n ei haeddu yn y diwedd! Dw i'n dweud eto: peidiwch meddwl fy mod i'n ffŵl. Ond hyd yn oed os dych chi'n meddwl hynny, wnewch chi oddef i mi actio'r ffŵl trwy frolio tipyn bach? Wrth frolio fel yma dw i ddim yn siarad fel y byddai'r Arglwydd am i mi siarad — actio'r ffŵl ydw i. Ond am fod cymaint yn brolio fel mae'r byd yn gwneud, dw i'n mynd i wneud yr un peth. Wedi'r cwbl, er eich bod chi mor ddoeth, dych chi'n barod iawn i oddef ffyliaid! Yn wir, dych chi'n fodlon hyd yn oed os ydyn nhw'n eich caethiwo chi. Dych chi'n gadael iddyn nhw gymryd eich arian chi a manteisio arnoch chi. Dych chi'n gadael iddyn nhw gymryd drosodd a chodi cywilydd arnoch chi yn y ffordd maen nhw'n eich trin chi! Mae gen i gywilydd ohono i'n hun, fy mod i'n rhy wan i'ch trin chi felly! Ond os ydyn nhw am frolio, gadewch i mi fentro gwneud yr un peth. (Cofiwch mai actio'r ffŵl ydw i!) Maen nhw'n Iddewon sy'n siarad Hebraeg ydyn nhw? A fi! Israeliaid crefyddol, ie? A fi! Disgynyddion Abraham? A fi! Gweision i'r Meseia? Dw i'n was gwell! (Dw i wir ddim yn gall yn siarad fel hyn!) Dw i wedi gweithio'n galetach na nhw, wedi bod yn y carchar yn amlach, wedi cael fy nghuro dro ar ôl tro, nes mod i bron marw'n aml. Dw i wedi cael fy chwipio bum gwaith gan yr Iddewon (y tri deg naw chwip). Dw i wedi cael fy nghuro â ffyn dair gwaith gan y Rhufeiniaid. Un tro cafodd cerrig eu taflu ata i er mwyn fy lladd i. Dw i wedi bod mewn llongddrylliad dair gwaith. Un o'r troeon hynny roeddwn i yn y môr am dros bedair awr ar hugain. Yn ystod yr holl deithio di-baid dw i wedi bod mewn peryg gan afonydd, gan ladron, gan fy mhobl fy hun a phobl o genhedloedd eraill; dw i wedi bod mewn peryg mewn dinasoedd, wrth deithio drwy dir anial ac ar y môr; a hefyd gan y dynion sy'n cymryd arnyn eu bod nhw'n Gristnogion. Dw i wedi gweithio'n wirioneddol galed ac wedi colli cwsg yn aml; wedi profi newyn a syched a mynd heb fwyd yn aml; dw i wedi dioddef o oerfel ac wedi bod heb ddigon o ddillad i gadw'n gynnes. A heb sôn am ddim arall, dw i dan bwysau bob dydd o achos y consýrn sydd gen i am yr eglwysi i gyd. Os ydy rhywun yn teimlo'n wan, dw i yno gydag e. Os ydy rhywun yn cael ei arwain i bechu, dw i'n berwi y tu mewn! Os oes rhaid i mi frolio, mae'n well gen i frolio am y pethau hynny sy'n dangos mor wan ydw i. Mae Duw a Thad yr Arglwydd Iesu — yr un sydd i'w foli am byth — yn gwybod fy mod i'n dweud y gwir. Yn Damascus roedd y llywodraethwr dan y Brenin Aretas wedi gorchymyn i'r ddinas gael ei gwarchod er mwyn fy arestio i. Ond ces fy ngollwng i lawr o ffenest yn wal y ddinas, mewn basged! Dyna sut llwyddais i ddianc o'i afael! Rhaid i mi ddal ati i frolio. Does dim i'w ennill o wneud hynny, ond dw i am fynd ymlaen i sôn am weledigaethau a phethau mae'r Arglwydd wedi eu dangos i mi. Dw i'n gwybod am un o ddilynwyr y Meseia gafodd ei gipio i uchder y nefoedd bedair blynedd ar ddeg yn ôl. Wn i ddim a ddigwyddodd hynny'n gorfforol neu beidio — dim ond Duw sy'n gwybod. Dw i'n gwybod ei fod wedi cael ei gymryd i baradwys, a'i fod wedi clywed pethau sydd y tu hwnt i eiriau — does gan neb hawl i'w hailadrodd. Dw i'n fodlon brolio am y person hwnnw, ond wna i ddim brolio amdana i fy hun — dim ond am beth sy'n dangos fy mod i'n wan. Gallwn i ddewis brolio, a fyddwn i ddim yn actio'r ffŵl taswn i yn gwneud hynny, achos byddwn i'n dweud y gwir. Ond dw i ddim am wneud hynny, rhag i rywun feddwl yn rhy uchel ohono i — mwy na beth ddylen nhw. Dw i eisiau i'w barn nhw amdana i fod yn seiliedig ar beth maen nhw wedi fy ngweld i'n ei wneud neu'n ei ddweud. Ond dw i wedi gorfod dioddef poenau corfforol (rhag i mi droi'n greadur rhy falch am fod Duw wedi datguddio pethau rhyfeddol i mi). Mae Satan wedi cael anfon negesydd i'm ffistio i. Dw i wedi pledio ar i'r Arglwydd ei symud, do, dair gwaith, ond ei ateb oedd, “Mae fy haelioni i'n hen ddigon i ti. Mae fy nerth i'n gweithio orau mewn gwendid.” Felly dw i'n hapus iawn i frolio am beth sy'n dangos fy mod i'n wan, er mwyn i nerth y Meseia ddal i weithio trwof fi. Ydw, dw i'n falch fy mod i'n wan, yn cael fy sarhau, yn cael amser caled, yn cael fy erlid, ac weithiau'n anobeithio, er mwyn y Meseia. Achos pan dw i'n wan, mae gen i nerth go iawn. Dw i wedi actio'r ffŵl, ond eich bai chi ydy hynny. Chi ddylai fod yn fy nghanmol i, achos dw i ddim yn israddol o gwbl i'r ‛ffansi-apostolion‛ yna. Er, dw i'n gwybod mod i'n neb. Cafodd gwyrthiau syfrdanol a phethau rhyfeddol eraill eu gwneud yn eich plith chi'n gyson — a'r pethau hynny sy'n dangos pwy ydy cynrychiolwyr go iawn y Meseia. Wnes i lai i chi na wnes i i'r eglwysi eraill? Dim ond peidio bod yn faich ariannol arnoch chi! … O, maddeuwch i mi am wneud cam â chi! Bellach dw i'n barod i ymweld â chi am y trydydd tro. A dw i ddim yn mynd i fod yn faich arnoch chi y tro yma chwaith. Chi sy'n bwysig i mi, nid eich arian chi! Rhieni sydd i gynnal eu plant; does dim disgwyl i'r plant gynilo er mwyn cynnal eu rhieni. A dw i'n fwy na pharod i wario'r cwbl sydd gen i arnoch chi — a rhoi fy hun yn llwyr i chi. Ydych chi'n mynd i ngharu i'n llai am fy mod i'n eich caru chi gymaint? Felly wnes i ddim eich llethu chi'n ariannol. Ond wedyn mae rhai yn dweud fy mod i mor slei! Maen nhw'n dweud fy mod i wedi llwyddo i'ch twyllo chi! Sut felly? Wnes i ddefnyddio'r bobl anfonais i atoch chi i gymryd mantais ohonoch chi? Dyma fi'n annog Titus i fynd i'ch gweld chi ac anfon ein brawd gydag e. Wnaeth Titus fanteisio arnoch chi? Na, mae ganddo fe yr un agwedd â mi, a dŷn ni'n ymddwyn yr un fath â'n gilydd. Ydych chi'n meddwl ein bod ni wedi bod yn amddiffyn ein hunain o'ch blaen chi? Na, fel Cristnogion dŷn ni wedi bod yn siarad yn gwbl agored o flaen Duw, a hynny er mwyn eich cryfhau chi, ffrindiau annwyl. Ond pan fydda i'n dod acw, mae gen i ofn y byddwch chi ddim yn ymddwyn fel y baswn i'n hoffi. Wedyn fydda i ddim yn ymateb fel y byddech chi'n hoffi! Mae gen i ofn y bydd yna ffraeo, cenfigennu, gwylltio ac uchelgais hunanol, pobl yn enllibio, hel straeon, yn llawn ohonyn nhw eu hunain ac yn creu anhrefn llwyr. Mae gen i ofn y bydd Duw yn gwneud i mi deimlo cywilydd o'ch blaen chi eto pan fydda i'n dod acw. Bydda i wedi torri fy nghalon am fod llawer acw yn dal ati i bechu a heb droi cefn ar eu meddyliau mochaidd, eu hanfoesoldeb rhywiol a'u penrhyddid llwyr. Hwn fydd y trydydd tro i mi ymweld â chi. “Rhaid cael dau neu dri tyst i gadarnhau fod rhywbeth yn wir.” Dw i wedi rhoi un rhybudd i'r rhai oedd wedi bod yn pechu y tro dwetha roeddwn i gyda chi. Dw i ddim gyda chi ar hyn o bryd, ond dw i'n rhoi ail rybudd (iddyn nhw a phawb sydd wedi ymuno â nhw). Fydda i'n dangos dim trugaredd y tro nesa! Wedi'r cwbl, dych chi eisiau prawf fod y Meseia yn siarad trwof fi. Dydy e ddim yn wan yn y ffordd mae e'n delio gyda chi — mae'n gweithio'n nerthol yn eich plith chi! Mae'n wir ei fod yn wan pan gafodd ei ladd ar y groes, ond mae bellach yn byw drwy nerth Duw. A'r un modd, dŷn ni sy'n perthyn iddo yn wan, ond byddwn ni'n rhannu ei fywyd e — a'r bywyd hwnnw sydd trwy nerth Duw yn ein galluogi ni i'ch gwasanaethu chi. Chi ddylai edrych arnoch eich hunain i weld a ydych yn byw'n ffyddlon. Dylech chi roi eich hunain ar brawf! Ydych chi ddim yn sylweddoli fod y Meseia Iesu yn eich plith chi? — os na, dych chi wedi methu'r prawf. Beth bynnag, dw i'n hyderus eich bod chi'n gweld ein bod ni ddim wedi methu'r prawf. Ond dim cael pobl i weld ein bod ni wedi pasio'r prawf ydy'r rheswm pam dŷn ni'n gweddïo ar Dduw na fyddwch chi'n gwneud dim o'i le. Dŷn ni am i chi wneud beth sy'n iawn hyd yn oed os ydy'n ymddangos ein bod ni wedi methu. Dŷn ni ddim am wneud unrhyw beth sy'n rhwystr i'r gwirionedd, dim ond beth sy'n hybu'r gwirionedd. Yn wir, dŷn ni'n ddigon balch o fod yn wan os dych chi'n gryfion. Ein gweddi ni ydy ar i chi gael eich adfer. Dyna pam dw i'n ysgrifennu atoch chi fel hyn tra dw i'n absennol — dw i ddim eisiau gorfod bod yn galed arnoch chi a defnyddio'r awdurdod mae'r Arglwydd wedi ei roi i mi. Dw i eisiau cryfhau, dim chwalu'ch ffydd chi. Felly i gloi, ffrindiau annwyl, byddwch lawen! Newidiwch eich ffyrdd a gwrando ar beth dw i'n eich annog chi i'w wneud. Cytunwch â'ch gilydd, a byw mewn perthynas iach â'ch gilydd. A bydd y Duw sy'n rhoi cariad a heddwch perffaith gyda chi. Cyfarchwch eich cyd-Gristnogion yn llawn cariad. Mae pobl Dduw i gyd yn anfon eu cyfarchion atoch chi. Dw i'n gweddïo y byddwch chi i gyd yn profi haelioni rhyfeddol yr Arglwydd Iesu Grist, a chariad Duw, a'r rhannu hwnnw mae'r Ysbryd Glân yn ei ysgogi. Llythyr gan Paul, cynrychiolydd personol i'r Meseia Iesu. Dim pobl ddewisodd fi i fod yn gynrychiolydd i'r Meseia, a dim rhyw ddyn cyffredin anfonodd fi, ond y Meseia Iesu ei hun, a Duw y Tad, yr un gododd e yn ôl yn fyw. Mae'r ffrindiau sydd gyda mi yma yn anfon eu cyfarchion. Atoch chi, yr eglwysi yn nhalaith Galatia: Dw i'n gweddïo y byddwch chi'n profi'r haelioni rhyfeddol a'r heddwch dwfn mae Duw ein Tad a'r Arglwydd Iesu Grist yn ei roi i ni. Gwnaeth Iesu yn union beth oedd ein Duw a'n Tad eisiau! Rhoddodd ei fywyd yn aberth dros ein pechodau ni, er mwyn ein rhyddhau ni o afael yr oes bresennol a'i drygioni. Dyma'r Duw sy'n haeddu ei foli am byth bythoedd! Amen! Dw i'n ei chael hi'n anodd credu eich bod chi'n troi cefn ar Dduw mor fuan! Troi cefn ar yr un sydd wedi'ch galw chi ato'i hun trwy haelioni'r Meseia — a derbyn rhyw syniadau eraill sy'n honni bod yn ‛newyddion da‛. Ond does yna ddim newyddion da arall yn bod! Rhyw bobl sy'n eich drysu chi drwy ystumio'r newyddion da am y Meseia a'i wneud yn rhywbeth arall. Melltith Duw ar bwy bynnag sy'n cyhoeddi neges wahanol i'r un wnaethon ni ei rhannu gyda chi! Petaen ni'n hunain yn gwneud y fath beth, neu hyd yn oed angel o'r nefoedd, melltith Duw arno! Dw i wedi dweud o'r blaen a dw i'n dweud yr un peth eto: Os oes rhywun yn cyhoeddi neges wahanol i'r un wnaethoch chi ei chredu, melltith Duw arno! Felly, ydw i'n swnio nawr fel rhywun sydd eisiau cael ei ganmol gan bobl? Onid ceisio plesio Duw ydw i? Ydw i eisiau bod yn boblogaidd? Taswn i'n dal yn ceisio plesio pobl, fyddwn i ddim yn was i'r Meseia. Frodyr a chwiorydd, dw i eisiau i chi ddeall yn iawn mai dim rhywbeth wnaeth pobl ei ddychmygu ydy'r newyddion da yma dw i'n ei gyhoeddi. Dim clywed y neges gan rywun arall wnes i, a wnaeth neb arall ei dysgu hi i mi; na, y Meseia Iesu ei hun ddangosodd i mi beth oedd y gwir. Mae'n siŵr eich bod chi wedi clywed beth roeddwn i'n ei wneud pan o'n i'n dilyn y grefydd Iddewig: roeddwn i'n erlid Cristnogion fel ffanatig, ac yn ceisio dinistrio eglwys Dduw. Roeddwn i'n cymryd crefydd gymaint o ddifri, ac ymhell ar y blaen i eraill oedd yr un oed â mi. Roeddwn i ar dân dros ein traddodiadau Iddewig ni. Ond roedd Duw wedi fy newis i cyn i mi gael fy ngeni, a buodd e'n anhygoel o garedig tuag ata i trwy fy ngalw i'w ddilyn. Gwelodd yn dda i ddangos ei Fab i mi, er mwyn i mi fynd allan i gyhoeddi'r newyddion da amdano i bobl o genhedloedd eraill! Wnes i ddim mynd i ofyn cyngor unrhyw un, na mynd i Jerwsalem i weld y rhai oedd yn gynrychiolwyr i Iesu o mlaen i chwaith. Na, es i'n syth i Arabia, ac wedyn mynd yn ôl i Damascus. Aeth tair blynedd heibio cyn i mi fynd i Jerwsalem i dreulio amser gyda Pedr, a dim ond am bythefnos arhosais i yno. Welais i ddim un o'r cynrychiolwyr eraill, dim ond Iago, brawd yr Arglwydd. Dyna'r gwir — o flaen Duw, heb air o gelwydd! Ar ôl hynny dyma fi'n mynd i Syria a Cilicia. Doedd Cristnogion eglwysi Jwdea ddim yn fy nabod i'n bersonol, ond roedden nhw wedi clywed pobl yn dweud: “Mae'r dyn oedd yn ein herlid ni wedi dod i gredu! Mae'n cyhoeddi'r newyddion da oedd e'n ceisio ei ddinistrio o'r blaen!” Roedden nhw'n moli Duw am beth oedd wedi digwydd i mi. Aeth un deg pedair blynedd heibio cyn i mi fynd yn ôl i Jerwsalem eto. Es i gyda Barnabas y tro hwnnw, a dyma ni'n mynd â Titus gyda ni hefyd. Roedd Duw wedi dangos i mi fod rhaid i mi fynd. Ces gyfarfod preifat gyda'r rhai sy'n cael eu hystyried yn arweinwyr ‛pwysig‛. Dyma fi'n dweud wrthyn nhw yn union beth dw i wedi bod yn ei bregethu fel newyddion da i bobl o genhedloedd eraill. Roeddwn i am wneud yn siŵr mod i ddim wedi bod yn gweithio mor galed i ddim byd. Ond wnaethon nhw ddim hyd yn oed orfodi Titus i fynd trwy'r ddefod o gael ei enwaedu, a dydy e ddim yn Iddew. Roedd dryswch wedi codi am fod rhai pobl oedd yn smalio eu bod yn credu wedi eu hanfon i'n plith ni, fel ysbiwyr yn ein gwylio ni a'r rhyddid sydd gynnon ni yn ein perthynas â'r Meseia Iesu. Roedden nhw eisiau ein gwneud ni'n gaeth unwaith eto, ond wnaethon ni ddim rhoi i mewn iddyn nhw o gwbl. Roedden ni am wneud yn siŵr eich bod chi'n dal gafael yng ngwirionedd y newyddion da. Felly beth oedd ymateb yr arweinwyr ‛pwysig‛ yma? — (dydy pwy oedden nhw'n gwneud dim gwahaniaeth i mi — does gan Dduw ddim ffefrynnau!) Doedd ganddyn nhw ddim o gwbl i'w ychwanegu at fy neges i. Na, yn hollol i'r gwrthwyneb! Roedd hi'n gwbl amlwg iddyn nhw fod Duw wedi rhoi'r dasg i mi o gyhoeddi'r newyddion da i bobl o genhedloedd eraill, yn union fel roedd wedi rhoi'r dasg i Pedr o'i gyhoeddi i'r Iddewon. Roedd yr un Duw oedd yn defnyddio Pedr fel ei gynrychiolydd i'r Iddewon, yn fy nefnyddio i gyda phobl o genhedloedd eraill. Dyma Iago, Pedr ac Ioan (y rhai sy'n cael eu cyfri fel ‛y pileri‛, sef yr arweinwyr pwysica) yn derbyn Barnabas a fi fel partneriaid llawn. Roedden nhw'n gweld mai Duw oedd wedi rhoi'r gwaith yma i mi. Y cytundeb oedd ein bod ni'n mynd at bobl y cenhedloedd a nhw'n mynd at yr Iddewon. Yr unig beth roedden nhw'n pwyso arnon ni i'w wneud oedd i beidio anghofio'r tlodion, ac roedd hynny'n flaenoriaeth gen i beth bynnag! Ond wedyn pan ddaeth Pedr i ymweld ag Antiochia, roedd rhaid i mi dynnu'n groes iddo, am ei bod hi'n amlwg ei fod e ar fai. Ar y dechrau roedd yn ddigon parod i rannu pryd o fwyd gyda phobl oedd ddim yn Iddewon. Ond dyma ryw ddynion yn cyrraedd oedd wedi dod oddi wrth Iago yn Jerwsalem, a dyma Pedr yn dechrau cadw draw a thorri cysylltiad â'r Cristnogion hynny oedd ddim yn Iddewon. Roedd yn poeni am y rhai oedd yn credu bod defod enwaediad yn hanfodol bwysig — beth fydden nhw'n ei feddwl ohono. A dyma'r Cristnogion Iddewig eraill yn dechrau rhagrithio yr un fath â Pedr. Cafodd hyd yn oed Barnabas ei gamarwain ganddyn nhw! Ond roedd hi'n gwbl amlwg i mi eu bod nhw'n ymddwyn yn groes i wirionedd y newyddion da. Felly dyma fi'n dweud wrth Pedr o'u blaen nhw i gyd, “Rwyt ti'n Iddew, ac eto rwyt ti'n byw fel pobl o genhedloedd eraill, felly sut wyt ti'n cyfiawnhau gorfodi pobl o'r gwledydd hynny i ddilyn traddodiadau Iddewig?” “Rwyt ti a fi wedi'n geni'n Iddewon, dim yn ‛bechaduriaid‛ fel mae pobl o genhedloedd eraill yn cael eu galw. Ac eto dŷn ni'n gwybod mai dim cadw yn ddeddfol holl fanion y Gyfraith Iddewig sy'n gwneud ein perthynas ni gyda Duw yn iawn. Credu fod Iesu y Meseia wedi bod yn ffyddlon sy'n gwneud hynny. Felly roedd rhaid i ni'r Iddewon hefyd gredu yn y Meseia Iesu — credu mai ei ffyddlondeb e sy'n ein gwneud ni'n iawn gyda Duw dim cadw manion y Gyfraith Iddewig! ‘All neb fod yn iawn gyda Duw drwy gadw'r Gyfraith!’ “Ond os ydy ceisio perthynas iawn gyda Duw trwy beth wnaeth y Meseia yn dangos ein bod ni'n ‛bechaduriaid‛ fel pawb arall, ydy hynny'n golygu bod y Meseia yn gwasanaethu pechod? Na! Wrth gwrs ddim! Os dw i'n mynd yn ôl i'r hen ffordd — ailadeiladu beth wnes i ei chwalu — dw i'n troseddu yn erbyn Duw go iawn wedyn. Wrth i mi geisio cadw'r Gyfraith Iddewig mae'r Gyfraith honno wedi fy lladd i, er mwyn i mi gael byw i wasanaethu Duw. Dw i wedi marw ar y groes gyda'r Meseia, ac felly nid fi sy'n byw bellach, ond y Meseia sy'n byw ynof fi. Dw i'n byw y math o fywyd dw i'n ei fyw nawr am fod Mab Duw wedi bod yn ffyddlon, wedi fy ngharu i a rhoi ei hun yn aberth yn fy lle i. Dw i ddim yn mynd i daflu rhodd hael Duw i ffwrdd! Os oedd perthynas iawn gyda Duw yn bosib drwy gadw'r Gyfraith yn ddeddfol, doedd dim pwynt i'r Meseia farw!” Chi bobl Galatia, ydych chi wir mor dwp â hynny? Pwy sydd wedi'ch hudo chi? Cafodd ystyr marwolaeth Iesu y Meseia ar y groes ei esbonio'n glir i chi. Atebwch un cwestiwn: Ddaeth yr Ysbryd Glân i'ch bywyd chi trwy i chi gadw'r Gyfraith Iddewig yn ddeddfol neu trwy i chi gredu'r neges am y Meseia? Alla i ddim credu eich bod chi mor ddwl! Ar ôl dechrau byw dan ddylanwad yr Ysbryd, ydych chi'n mynd i geisio gorffen y daith yn eich nerth eich hunain? Gawsoch chi'r holl brofiadau yna i ddim byd? — mae'n anodd gen i gredu hynny! Wnaeth Duw roi ei Ysbryd i chi, a gwneud gwyrthiau yn eich plith chi, am eich bod chi wedi cadw holl fanion y Gyfraith Iddewig? Wrth gwrs ddim! Ond am eich bod wedi credu! Meddyliwch am Abraham: “Credodd, a chafodd ei dderbyn i berthynas iawn gyda Duw.” Felly, y rhai sy'n credu sy'n blant go iawn i Abraham! Ac roedd yr ysgrifau sanctaidd wedi dweud ymlaen llaw fod Duw'n mynd i ddod â phobl sydd ddim yn Iddewon i berthynas iawn ag e'i hun, drwy iddyn nhw gredu ynddo. Rhannodd Duw y newyddion da hwnnw gydag Abraham ymhell bell yn ôl: “Bydd gwledydd y byd i gyd yn cael eu bendithio trwot ti.” A dyna sy'n digwydd! — y rhai sy'n credu sy'n cael y fendith, yn union yr un fath ag Abraham, achos credu wnaeth e. Mae'r rhai sy'n meddwl y byddan nhw'n iawn am eu bod nhw'n cadw manion y Gyfraith Iddewig yn dal i fyw dan gysgod melltith. Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Melltith ar bawb sydd ddim yn dal ati i wneud pob peth mae Llyfr y Gyfraith yn ei ddweud.” Felly mae'n gwbl amlwg fod y Gyfraith ddim yn gallu dod â neb i berthynas iawn gyda Duw, am mai “Trwy ffydd mae'r un sy'n iawn gyda Duw yn byw.” Mae'r syniad o gadw rheolau'r Gyfraith yn hollol wahanol — does dim angen ffydd. Dweud mae'r Gyfraith: “Y rhai sy'n gwneud y pethau hyn i gyd sy'n cael byw.” Roedd y Gyfraith yn ein melltithio ni — roedden ni i gyd yn gaeth! Ond wedyn daeth y Meseia a thalu'r pris i'n gollwng ni'n rhydd. Cafodd e ei felltithio yn ein lle ni. Fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Mae pawb sy'n cael eu crogi ar bren wedi eu melltithio.” Talodd y Meseia Iesu y pris i'n gollwng ni'n rhydd, er mwyn i bobl o'r cenhedloedd eraill i gyd gael profi'r un fendith ag Abraham. Ac wrth gredu dŷn ni hefyd yn derbyn yr Ysbryd gafodd ei addo. Frodyr a chwiorydd, gadewch i mi esbonio'r peth drwy ddefnyddio darlun o fywyd bob dydd. Mae'r un fath ag ewyllys. Os ydy ewyllys wedi ei gwneud yn gyfreithlon does gan neb hawl i'w dileu hi nac ychwanegu dim ati. Nawr, roedd Duw wedi rhoi addewid i Abraham ac i un o'i ddisgynyddion — sylwch mai ‛hedyn‛ ydy'r gair sy'n cael ei ddefnyddio yn yr ysgrifau sanctaidd, dim y gair lluosog ‛hadau‛ fyddai'n cyfeirio at lawer o bobl. Y ffurf unigol sy'n cael ei ddefnyddio, ac felly mae'n sôn am un person yn unig, sef y Meseia. Dyma beth dw i'n ei ddweud: Allai'r Gyfraith, oedd wedi ei rhoi ar ôl 430 mlynedd, ddim dileu yr ymrwymiad hwnnw oedd Duw wedi ei wneud gynt ac wedi addo ei gadw. Os ydy derbyn y cwbl mae Duw am ei roi i ni yn dibynnu ar gadw'r Gyfraith Iddewig, dydy e ddim yn ganlyniad i'r ffaith fod Duw wedi gwneud addewid! Ond beth wnaeth Duw yn ei haelioni oedd gwneud addewid i Abraham. Felly beth oedd diben rhoi'r Gyfraith? Cafodd ei rhoi i ddangos i bobl beth ydy ystyr pechu, hyd nes i'r ‛hedyn‛ y soniwyd amdano gyrraedd — sef yr un oedd yr addewid yn cyfeirio ato. Cofiwch hefyd fod Duw wedi defnyddio angylion i roi'r Gyfraith i ni, a hynny trwy ganolwr, sef Moses. Does ond angen canolwr pan mae mwy nag un ochr. Ond pan wnaeth Duw addewid i Abraham roedd yn gweithredu ar ei ben ei hun. Felly, ydy hyn yn golygu bod y Gyfraith yn gwrth-ddweud beth wnaeth Duw ei addo? Na, dim o gwbl! Petai Duw wedi rhoi cyfraith oedd yn gallu rhoi bywyd i bobl, yna'n sicr byddai pobl yn gallu cael perthynas iawn gyda Duw drwy gadw rheolau'r gyfraith honno. Ond mae'r ysgrifau sanctaidd yn dangos yn glir fod pawb drwy'r byd i gyd yn gaeth i bechod. Y rhai sy'n credu sy'n derbyn beth wnaeth Duw ei addo, a hynny am fod Iesu Grist wedi bod yn ffyddlon. Cyn i'r Meseia ddod roedd y Gyfraith yn ein dal ni'n gaeth — roedden ni dan glo nes i'w ffyddlondeb e gael ei ddangos i ni. Pwrpas y Gyfraith oedd ein gwarchod ni a'n harwain ni at y Meseia, er mwyn i ni ddod i berthynas iawn gyda Duw trwy gredu ynddo. Mae e wedi bod yn ffyddlon, ac felly dim y Gyfraith sy'n ein gwarchod ni bellach. Dych chi i gyd yn blant Duw drwy gredu yn y Meseia Iesu. Mae pob un ohonoch chi wedi uniaethu gyda'r Meseia trwy eich bedydd — mae'r un fath â'ch bod wedi gwisgo'r Meseia amdanoch. Sdim ots os ydych chi'n Iddew neu'n perthyn i genedl arall, yn gaethwas neu'n ddinesydd rhydd, yn ddyn neu'n wraig — dych chi i gyd fel un teulu sy'n perthyn i'r Meseia Iesu. Os dych chi'n perthyn i'r Meseia, dych chi'n blant i Abraham, a byddwch yn derbyn yr holl bethau da mae Duw wedi eu haddo. Dyma dw i'n olygu: Does gan blentyn sy'n mynd i dderbyn eiddo ei dad ddim mwy o hawliau na chaethwas tra mae'n dal dan oed — er mai'r plentyn hwnnw biau'r cwbl ar un ystyr! Mae gofalwyr ac ymddiriedolwyr yn gyfrifol am y plentyn nes daw i'r oed roedd ei dad wedi penderfynu y byddai'n ddigon cyfrifol i edrych ar ei ôl ei hun. Felly gyda ninnau; pan oedden ni ddim yn deall yn iawn, roedden ni'n gaeth i'r pwerau a'r dylanwadau drwg sy'n rheoli'r byd. Ond ar yr union adeg roedd Duw wedi ei ddewis, anfonodd ei Fab, wedi ei eni o wraig, wedi ei eni dan y Gyfraith, i dalu'r pris i'n rhyddhau ni oedd yn gaeth i'r Gyfraith, er mwyn i ni gael ein mabwysiadu'n blant i Dduw. A chan eich bod chi sydd ddim yn Iddewon hefyd yn blant iddo bellach, anfonodd Duw Ysbryd ei Fab i'n calonnau ni i gyd, sef yr Ysbryd sy'n gweiddi, “ Abba! Dad!” Felly dim caethweision ydych chi bellach, ond plant Duw; a chan eich bod yn blant iddo, byddwch chithau'n derbyn gan Dduw y cwbl mae wedi addo ei roi i chi. O'r blaen, cyn i chi ddod i wybod am Dduw roeddech chi'n gaeth i bwerau sy'n cael eu galw'n ‛dduwiau‛ ond sydd ddim wir yn dduwiau. Ond bellach dych chi wedi cyfarfod, a dod i nabod, y gwir Dduw (er, Duw ddaeth i'ch cyfarfod chi go iawn). Felly pam dych chi eisiau troi'n ôl at y pethau hynny sydd mor wan a thila? Ydych chi eisiau cael eich caethiwo ganddyn nhw unwaith eto? Ydych chi'n meddwl mai cadw rhyw fân reolau am ddyddiau arbennig a misoedd a thymhorau'r gwyliau crefyddol blynyddol sy'n plesio Duw? Mae'n gwneud i mi deimlo mod i wedi gwastraffu f'amser gyda chi! Frodyr a chwiorydd, dw i'n erfyn arnoch chi i fyw'n rhydd o bethau felly, fel dw i'n gwneud. Dw i wedi dod fel un ohonoch chi. Dych chi erioed wedi gwneud dim drwg i mi o'r blaen. Gwyddoch mai salwch roddodd gyfle i mi gyhoeddi'r newyddion da i chi y tro cyntaf. A wnaethoch chi ddim gwneud hwyl ar fy mhen i na ngwrthod i, er bod fy salwch yn demtasiwn i chi wneud hynny. Yn wir, ces i'r fath groeso gynnoch chi — fel petawn i'n angel oddi wrth Dduw, neu hyd yn oed y Meseia Iesu ei hun! Roeddech chi mor hapus! Beth sydd wedi digwydd? Dw i'n reit siŵr y byddech chi bryd hynny wedi tynnu'ch llygaid eich hunain allan a'u rhoi nhw i mi petai'n bosib. Ydw i bellach yn elyn i chi am fy mod i wedi dweud y gwir? Mae'r athrawon ffals yna mor awyddus i geisio'ch cael chi i'w dilyn nhw, ond dŷn nhw'n poeni dim am eich lles chi. Y cwbl maen nhw eisiau ydy'ch cael chi i dorri cysylltiad â ni, a dechrau eu cefnogi nhw. “Mae'n beth da ceisio pobl gyda'r bwriad o wneud lles iddyn nhw” — felly y dylai fod bob amser, nid dim ond pan dw i o gwmpas. Fy mhlant annwyl i — dw i'n teimlo fel mam yn cael poenau wrth eni plentyn, a fydd y poen ddim yn diflannu nes bydd bywyd y Meseia i'w weld yn eich bywydau chi. O! byddwn i'n rhoi unrhyw beth am gael bod acw gyda chi, er mwyn i chi glywed oddi wrth dôn fy llais sut dw i'n teimlo go iawn. Dw i wir yn poeni! — dw i ddim yn gwybod beth i'w wneud! Dwedwch wrtho i — chi sydd eisiau cael eich rheoli gan fanion y Gyfraith Iddewig. Ydych chi ddim yn gwrando ar beth mae'r Gyfraith yn ei ddweud? Mae'n dweud fod Abraham wedi cael dau fab, un gan ei gaethferch a'r llall gan ei wraig. Cafodd mab y gaethferch ei eni o ganlyniad i ymdrech dyn i gyflawni addewid Duw, ond cafodd mab ei wraig ei eni am fod Duw yn gwneud beth mae'n addo'i wneud. Mae darlun yn yr hanes, a dyma'i ystyr: Mae'r ddwy wraig yn cynrychioli dau ymrwymiad wnaeth Duw. Mae Hagar, y gaethferch, yn cynrychioli'r un ar fynydd Sinai — ac mae ei phlant hi wedi eu geni yn gaethion. Ac mae Hagar a Mynydd Sinai yn Arabia yn ddarlun o Jerwsalem fel y mae heddiw — mae hi a'i phlant yn gaethion. Ond mae Sara gwraig Abraham, ar y llaw arall, yn wraig rydd, ac yn cynrychioli y Jerwsalem ysbrydol. Hi ydy'n mam ni! Amdani hi mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Bydd lawen, ti wraig ddiffrwyth sy'n methu cael plant! Bloeddia ganu'n uchel, ti sydd heb brofi poenau geni plentyn! Bydd gan y wraig sydd ar ei phen ei hun fwy o blant na'r un sydd â gŵr.” Frodyr a chwiorydd, chi ydy plant yr addewid! — yn union fel Isaac! Ac fel y cafodd Isaac ei erlid gan fab y gaethferch, mae'r plant sydd wedi eu geni o'r Ysbryd Glân yn cael eu herlid gan y rhai sy'n dweud bod rhaid ymdrechu i gadw popeth mae'r Gyfraith Iddewig yn ei ofyn. Ond beth ydy ateb yr ysgrifau sanctaidd i'r broblem? “Rhaid i ti gael gwared â'r gaethferch a'i mab. Fydd mab y gaethferch ddim yn cael rhan o etifeddiaeth mab dy wraig, sy'n rhydd.” Dim plant y gaethferch ydyn ni, ffrindiau! Plant y wraig rydd ydyn ni! Dŷn ni'n rhydd! Mae'r Meseia wedi'n gollwng ni'n rhydd! Felly gwnewch yn siŵr eich bod yn aros felly, a gwrthod cario'r baich o fod yn gaeth byth eto. Gwrandwch yn ofalus! Dyma dw i, Paul, yn ei ddweud wrthoch chi — os dych chi'n mynd trwy'r ddefod o gael eich enwaedu yn y gobaith o blesio Duw, does gan y Meseia ddim i'w gynnig i chi bellach. Dw i'n eich rhybuddio chi eto — os ydy dyn yn cael ei enwaedu, mae ganddo gyfrifoldeb wedyn i wneud popeth mae'r Gyfraith Iddewig yn ei ofyn. Os dych chi'n ceisio cael perthynas iawn gyda Duw drwy gadw rheolau'r Gyfraith, dych chi wedi eich torri i ffwrdd oddi wrth y Meseia! Dych chi wedi colli gafael ar rodd Duw. Ond wrth gredu a byw yn nerth yr Ysbryd dŷn ni'n gallu edrych ymlaen yn frwd at gael perthynas hollol iawn gyda Duw — dyna'n gobaith sicr ni. Os oes gynnoch chi berthynas gyda'r Meseia Iesu does dim gwahaniaeth os dych chi wedi bod trwy'r ddefod o gael eich enwaedu neu beidio. Credu sy'n bwysig — ffydd yn mynegi ei hun mewn bywyd o gariad. Roeddech chi'n dod ymlaen mor dda. Pwy wnaeth eich rhwystro chi rhag ufuddhau i'r gwir? Does gan y fath syniadau ddim byd i'w wneud â'r Duw wnaeth eich galw chi ato'i hun! Fel mae'r hen ddywediad yn dweud: “Mae mymryn bach o furum yn lledu drwy'r toes i gyd.” Dyna mae drwg yn ei wneud! Dw i'n hyderus y bydd yr Arglwydd yn eich cadw chi rhag credu'n wahanol. Ond bydd Duw yn cosbi'r un sydd wedi bod yn eich drysu chi, pwy bynnag ydy e. Frodyr a chwiorydd, os ydw i'n dal i bregethu bod rhaid mynd trwy ddefod enwaediad, pam ydw i'n dal i gael fy erlid? Petawn i'n gwneud hynny, fyddai'r groes ddim problem i neb. Byddai'n dda gen i petai'r rhai sy'n creu'r helynt yn eich plith chi yn mynd yr holl ffordd ac yn sbaddu eu hunain! Ydych, ffrindiau annwyl, dych chi wedi'ch galw i fod yn rhydd. Ond dw i ddim yn sôn am benrhyddid, sy'n esgus i adael i'r chwantau eich rheoli chi. Sôn ydw i am y rhyddid i garu a gwasanaethu eich gilydd. Mae yna un gorchymyn sy'n crynhoi'r cwbl mae'r Gyfraith Iddewig yn ei ddweud: “Rwyt i garu dy gymydog fel rwyt ti'n dy garu dy hun.” Ond os dych chi'n gwneud dim byd ond cega ac ymosod ar eich gilydd, gwyliwch eich hunain! Byddwch chi'n dinistrio eich gilydd. Beth dw i'n ei ddweud ydy y dylech adael i'r Ysbryd reoli'ch bywydau chi, wedyn fyddwch chi ddim yn gwneud beth mae'r chwantau eisiau. Mae ein natur bechadurus ni am i ni wneud drwg — yn hollol groes i beth mae'r Ysbryd eisiau. Ond mae'r Ysbryd yn rhoi'r awydd i ni wneud fel arall, sef y gwrthwyneb i beth mae'r natur bechadurus eisiau. Mae brwydr barhaus yn mynd ymlaen — allwch chi ddim dianc rhagddi. Ond os ydy'r Ysbryd yn eich arwain chi, dych chi ddim yn gaeth i'r Gyfraith Iddewig bellach. Mae canlyniadau gwrando ar y natur bechadurus yn gwbl amlwg: anfoesoldeb rhywiol, meddyliau mochaidd a penrhyddid llwyr; hefyd addoli eilun-dduwiau a dewiniaeth; a phethau fel casineb, ffraeo, cenfigen, gwylltio, uchelgais hunanol, rhaniadau, carfanau gwahanol, eiddigeddu, meddwi, partïon gwyllt, a phechodau tebyg. Dw i'n eich rhybuddio chi eto, fel dw i wedi gwneud o'r blaen, fydd pobl sy'n byw felly ddim yn cael perthyn i deyrnas Dduw. Ond dyma'r ffrwyth mae'r Ysbryd Glân yn ei dyfu yn ein bywydau ni: cariad, llawenydd, heddwch dwfn, amynedd, caredigrwydd, daioni, ffyddlondeb, addfwynder a hunanreolaeth. Does dim cyfraith yn erbyn pethau felly. Mae pobl y Meseia Iesu wedi lladd y natur bechadurus gyda'i nwydau a'i chwantau drwy ei hoelio hi ar y groes. Felly os ydy'r Ysbryd wedi rhoi bywyd i ni rhaid i ni adael i'r Ysbryd ein harwain ni. Gadewch i ni beidio bod yn falch, a phryfocio'n gilydd a bod yn eiddigeddus o'n gilydd. Frodyr a chwiorydd, os ydy rhywun yn cael ei ddal yn pechu, dylech chi sy'n cael eich arwain gan yr Ysbryd fod yn garedig ato, a'i helpu i droi'n ôl — ond gwyliwch rhag i chithau gael eich temtio i wneud yr un peth. Helpwch eich gilydd pan mae pethau'n galed — dyna mae ‛cyfraith‛ y Meseia yn ei ofyn. Os dych chi'n meddwl eich bod chi'n rhywun, dych chi'n twyllo'ch hunain — dych chi'n neb mewn gwirionedd. Dylai pawb yn syml wneud beth allan nhw. Wedyn cewch y boddhad o fod wedi ei wneud heb orfod cymharu'ch hunain â phobl eraill o hyd. Dŷn ni'n gyfrifol am beth dŷn ni'n hunain wedi ei wneud. Dylai'r rhai sy'n cael eu dysgu am neges Duw dalu i'w hathro drwy rannu beth sydd ganddyn nhw gydag e. Peidiwch twyllo'ch hunain: Allwch chi ddim chwarae gemau gyda Duw. Mae pobl yn medi beth maen nhw'n ei hau. Bydd y rhai sy'n byw i foddhau eu chwantau pechadurus yn medi canlyniadau hynny, sef dinistr; ond bydd y rhai sy'n byw i blesio'r Ysbryd yn medi bywyd tragwyddol o'r Ysbryd. Felly dylen ni byth flino gwneud daioni. Os gwnawn ni ddal ati daw'r amser pan fyddwn ni'n medi cynhaeaf o fendith. Felly bob cyfle gawn ni, gadewch i ni wneud daioni i bawb, ac yn arbennig i'r teulu o gredinwyr. Edrychwch mor fawr ydy fy llawysgrifen i! Mae'r rhai sy'n ceisio eich gorfodi chi i gael eich enwaedu yn gwneud sioe o beth sydd wedi ei wneud i'r corff. A pham? Am eu bod nhw eisiau osgoi cael eu herlid am ddweud mai dim ond croes y Meseia sy'n achub. Ond dydy'r rhai sydd wedi eu henwaedu ddim yn gwneud popeth mae'r Gyfraith Iddewig yn ei ddweud beth bynnag! Y rheswm pam maen nhw eisiau i chi fynd trwy'r ddefod o gael eich enwaedu ydy er mwyn iddyn nhw gael brolio am y peth! “Na!” meddwn innau. Does ond un peth i frolio amdano: croes ein Harglwydd Iesu Grist ydy hwnnw. Mae'r groes yn golygu fod y byd a'i bethau yn hollol farw i mi, a dw innau'n farw i'r byd a'i bethau. Dim cael eich enwaedu neu beidio sy'n bwysig bellach. Beth sy'n bwysig ydy bod eich bywyd chi wedi ei newid yn llwyr — eich bod chi'n greadigaeth newydd! Dw i'n gweddïo y bydd pawb sy'n byw fel hyn, a phobl Dduw i gyd, yn profi ei heddwch dwfn a'i drugaredd! Felly o hyn ymlaen, peidied neb â dal ati i greu mwy o helynt i mi. Mae gen i greithiau ar fy nghorff sy'n dangos mod i'n perthyn i Iesu! Frodyr a chwiorydd, dw i'n gweddïo y byddwch chi'n profi haelioni rhyfeddol ein Harglwydd Iesu Grist! Amen. Llythyr gan Paul, wedi fy newis gan Dduw yn gynrychiolydd personol i'r Meseia Iesu. At bobl Dduw yn Effesus, sy'n dilyn y Meseia Iesu, ac yn ffyddlon iddo: Dw i'n gweddïo y byddwch chi'n profi'r haelioni rhyfeddol a'r heddwch dwfn mae Duw ein Tad a'r Arglwydd Iesu Grist yn ei roi i ni. Clod i Dduw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist! Mae wedi tywallt pob bendith ysbrydol sy'n y byd nefol arnon ni sy'n perthyn i'r Meseia. Hyd yn oed cyn i'r byd gael ei greu, cawson ni'n dewis ganddo i fod mewn perthynas â'r Meseia, ac i fod yn lân a di-fai yn ei olwg. Yn ei gariad trefnodd Duw ymlaen llaw i ni gael ein mabwysiadu i'w deulu. Iesu y Meseia wnaeth hyn yn bosib; roedd wrth ei fodd yn gwneud hynny! Clod i Dduw am yr haelioni anhygoel mae wedi ei ddangos tuag aton ni! — ei anrheg i ni yn y Mab mae'n ei garu. Cawson ni'n gollwng yn rhydd am fod marwolaeth ei fab ar y groes wedi gwneud maddeuant ein pechodau yn bosib. Dyna lle dŷn ni'n gweld mor anhygoel o hael mae Duw wedi bod tuag aton ni! Mae wedi tywallt ei haelioni arnon ni, ac wedi rhoi doethineb a synnwyr i ni. Mae wedi rhannu ei gynllun dirgel gyda ni. Roedd wrth ei fodd yn gwneud hyn! Mae wedi gwneud y cwbl drwy'r Meseia. Trefnu i ddod â phopeth sy'n bodoli yn y nefoedd ac ar y ddaear at ei gilydd dan un pen, sef y Meseia. Bydd yn gwneud hyn pan fydd yr amser iawn wedi dod. Mae ganddo le ar ein cyfer ni am fod gynnon ni berthynas â'r Meseia. Dewisodd ni ar y dechrau cyntaf, a threfnu'r cwbl ymlaen llaw. Mae'n rhaid i bopeth ddigwydd yn union fel mae e wedi cynllunio. Mae am i ni'r Iddewon, y rhai cyntaf i roi'n gobaith yn y Meseia, ei foli am ei fod mor wych. Ac wedyn chi sydd ddim yn Iddewon hefyd — cawsoch chithau eich derbyn i berthynas â'r Meseia ar ôl i chi glywed y gwir, sef y newyddion da sy'n eich achub chi. Wrth ddod i gredu ynddo cawsoch eich marcio gyda sêl sy'n dangos eich bod yn perthyn iddo, a'r sêl hwnnw ydy'r Ysbryd Glân oedd wedi ei addo i chi. Yr Ysbryd ydy'r blaendal sy'n gwarantu'r ffaith bod lle wedi ei gadw ar ein cyfer ni. Yn y diwedd byddwn yn cael ein gollwng yn rhydd i'w feddiannu'n llawn. Rheswm arall i'w foli am ei fod mor wych! Ers i mi glywed gyntaf am eich ffyddlondeb i'r Arglwydd Iesu a'ch cariad at Gristnogion eraill, dw i ddim wedi stopio diolch i Dduw amdanoch chi. Dw i'n cofio amdanoch chi bob tro dw i'n gweddïo. Dw i'n gofyn i Dduw, Tad bendigedig ein Harglwydd Iesu Grist, roi'r Ysbryd i chi i'ch goleuo a'ch gwneud yn ddoeth, er mwyn i chi ddod i'w nabod yn well. Dw i'n gweddïo y daw'r cwbl yn olau i chi. Dw i eisiau i chi ddod i weld yn glir a deall yn union beth ydy'r gobaith sydd ganddo ar eich cyfer, a gweld mor wych ydy'r lle bendigedig sydd ganddo i'w bobl. Dw i hefyd am i chi sylweddoli mor anhygoel ydy'r nerth sydd ar gael i ni sy'n credu. Dyma'r pŵer aruthrol wnaeth godi'r Meseia yn ôl yn fyw a'i osod i eistedd yn y sedd anrhydedd ar ochr dde Duw yn y byd nefol. Mae'n llawer uwch nag unrhyw un arall sy'n teyrnasu neu'n llywodraethu, ac unrhyw rym neu awdurdod arall sy'n bod. Does gan neb na dim deitl tebyg iddo — yn y byd yma na'r byd sydd i ddod! Mae Duw wedi rhoi popeth dan ei awdurdod. Mae wedi ei wneud e yn ben ar y cwbl — er lles yr eglwys. Yr eglwys ydy ei gorff e — mae'n llawn ohono fe sy'n llenwi'r bydysawd cyfan â'i bresenoldeb. Ar un adeg roeddech chi'n farw'n ysbrydol — am eich bod chi wedi gwrthryfela a phechu yn erbyn Duw. Roeddech chi'n byw yr un fath â phawb arall, yn dilyn ffordd y byd. Roeddech chi'n ufuddhau i Satan, tywysog teyrnas yr awyr — sef y pŵer ysbrydol sydd ar waith ym mywydau pawb sy'n anufudd i Dduw. Roedden ni i gyd felly ar un adeg. Roedden ni'n byw i blesio'r hunan pechadurus a gwneud beth bynnag oedd ein ffansi. Dyna oedd ein natur ni, a roedden ni fel pawb arall yn haeddu cael ein cosbi gan Dduw. Ond mae Duw mor anhygoel o drugarog! Mae wedi'n caru ni gymaint! Mae wedi rhoi bywyd i ni gyda'r Meseia — ie, ni oedd yn farw'n ysbrydol am ein bod wedi gwrthryfela yn ei erbyn. Y ffaith fod Duw mor hael ydy'r unig reswm pam dŷn ni wedi'n hachub! Cododd Duw ni yn ôl yn fyw gyda'r Meseia Iesu a'n gosod i deyrnasu gydag e yn y byd nefol — dŷn ni wedi'n huno gydag e! Felly bydd haelioni Duw i'w weld yn glir yn y byd sydd i ddod. Does dim byd tebyg yn unman i'r caredigrwydd ddangosodd aton ni drwy beth wnaeth y Meseia Iesu. Haelioni Duw ydy'r unig beth sy'n eich achub chi wrth i chi gredu. Dych chi wedi gwneud dim i haeddu'r peth. Anrheg Duw ydy e! Dych chi'n gallu gwneud dim i'w ennill, felly does dim lle i unrhyw un frolio. Duw sydd wedi'n gwneud ni beth ydyn ni. Mae wedi ein creu mewn perthynas â'r Meseia Iesu, i ni wneud yr holl bethau da mae e wedi eu trefnu ymlaen llaw i ni eu gwneud. Mae'n dda i chi gofio eich bod chi sydd o genhedloedd eraill yn arfer bod ‛ar y tu allan‛. ‛Y dienwaediad‛ oeddech chi'n cael eich galw gan ‛bobl yr enwaediad‛ — sef yr Iddewon sy'n cadw'r ddefod o dorri'r blaengroen ar fechgyn i ddangos eu bod nhw'n perthyn i Dduw. Cofiwch eich bod chi bryd hynny yn gwybod dim am y Meseia. Doeddech chi ddim yn perthyn i bobl Dduw, nac yn gwybod dim am yr addewid a'r ymrwymiad wnaeth Duw. Roeddech chi'n byw yn y byd heb unrhyw obaith a heb berthynas gyda Duw. Ond bellach, dych chi wedi cael eich uno gyda'r Meseia Iesu! Dych chi, oedd mor bell i ffwrdd ar un adeg, wedi cael dod i berthyn, a hynny am fod y Meseia wedi gwaedu a marw ar y groes. Ac ydy, mae Iesu'n gwneud y berthynas rhyngon ni a'n gilydd yn iawn hefyd — ni'r Iddewon a chi sydd o genhedloedd eraill. Mae wedi'n huno ni gyda'n gilydd. Mae'r wal o gasineb oedd yn ein gwahanu ni wedi cael ei chwalu ganddo! Wrth farw ar y groes mae wedi delio gyda'r ffens oedd yn eich cau chi allan, sef holl ofynion y Gyfraith Iddewig a'i rheolau. Gwnaeth hyn er mwyn dod â ni i berthynas iawn â'n gilydd, a chreu un ddynoliaeth newydd allan o'r ddau grŵp o bobl. Mae'r ddau yn dod yn un corff sy'n cael ei gymodi gyda Duw drwy beth wnaeth e ar y groes. Dyna sut daeth â'r casineb rhyngon ni i ben. Daeth i gyhoeddi'r newyddion da am heddwch i chi o genhedloedd eraill oedd yn ‛bell oddi wrtho‛, a heddwch i ni'r Iddewon oedd yn ‛agos‛. Bellach, o achos beth wnaeth Iesu y Meseia mae'r ddau grŵp gyda'i gilydd yn gallu closio at Dduw y Tad drwy'r un Ysbryd Glân. Felly dych chi o'r cenhedloedd eraill ddim yn bobl estron mwyach, nac yn bobl sydd ‛y tu allan‛. Dych chi bellach yn perthyn i genedl Dduw! Dych chi'n aelodau o'i deulu! Dych chi'n rhan o'r un adeilad! Dŷn ni'r cynrychiolwyr personol ddewisodd e, a'r proffwydi, wedi gosod y sylfeini, a'r Meseia Iesu ei hun ydy'r maen clo. Dŷn ni i gyd yn cael ein hadeiladu a'n cysylltu â'n gilydd i wneud teml sydd wedi ei chysegru i'r Arglwydd. A dych chi, y bobl o genhedloedd eraill sy'n perthyn iddo, yn rhan o'r un adeilad hwnnw lle mae Duw yn byw trwy ei Ysbryd. Dyma pam dw i, Paul, yn garcharor — am fy mod i'n pregethu i chi o'r cenhedloedd eraill am y Meseia Iesu. Dw i'n cymryd eich bod wedi clywed am y gwaith penodol roddodd Duw i mi i'ch helpu chi. Dangosodd i mi rywbeth oedd wedi ei guddio o'r blaen. Dw i wedi ceisio'i esbonio'n fyr yma. Wrth i chi ei ddarllen, dowch i weld sut dw i'n deall beth oedd yn ddirgelwch am y Meseia. Doedd pobl yn y gorffennol ddim wedi cael gwybod y cwbl y mae'r Ysbryd Glân wedi ei ddangos i ni ei gynrychiolwyr a'i broffwydi. Dyma'r dirgelwch i chi: fod pobl o genhedloedd eraill yn cael rhannu'r cwbl mae Duw wedi ei baratoi i'r Iddewon. Mae'r Meseia Iesu wedi eu gwneud nhw'n un corff gyda'r Iddewon, a byddan nhw'n cael rhannu'r bendithion gafodd eu haddo hefyd! Dyma'r newyddion da dw i'n ei rannu ers i mi fy hun brofi haelioni anhygoel Duw. Fe ydy'r un sy'n rhoi'r nerth i mi wneud y cwbl. Dw i'n neb. Dw i wedi syrthio'n is nag unrhyw un o bobl Dduw. Ac eto fi sydd wedi cael y fraint o bregethu i chi o'r cenhedloedd eraill am y trysor diderfyn sydd gan y Meseia ar ein cyfer ni. Ces fy newis i esbonio cynllun Duw i chi, sef yr hyn roedd Crëwr pob peth wedi ei gadw o'r golwg cyn hyn. Pwrpas Duw ydy i'r rhai sy'n llywodraethu ac i'r awdurdodau yn y byd ysbrydol ddod i weld mor rhyfeddol o gyfoethog ydy ei ddoethineb e. A'r eglwys sy'n dangos hynny iddyn nhw. Dyma oedd cynllun Duw ers cyn i amser ddechrau, ac mae'r cwbl yn cael ei gyflawni yn y Meseia Iesu, ein Harglwydd ni. Dŷn ni'n gwbl rydd a hyderus i glosio at Dduw am ein bod ni'n credu ynddo ac wedi cael ein huno gydag e. Felly plîs peidiwch digalonni o achos beth dw i'n gorfod ei ddioddef drosoch chi. Dylech weld ei fod yn rhywbeth i ymfalchïo ynddo! Wrth feddwl am hyn i gyd dw i'n syrthio ar fy ngliniau i weddïo ar Dduw y Tad. Fe sydd wedi rhoi eu hunaniaeth arbennig i bob grŵp o angylion yn y nefoedd ac i bobloedd ar y ddaear. Dw i'n gweddïo y bydd yn defnyddio'r holl adnoddau bendigedig sydd ganddo i'ch gwneud chi'n gryf, ac y bydd yn rhoi nerth mewnol i chi drwy roi ei Ysbryd Glân i chi. Dw i'n gweddïo hefyd y bydd y Meseia ei hun yn gwneud ei gartref yn eich calonnau chi wrth i chi ymddiried ynddo fe. Dw i am i'w gariad e fod wrth wraidd popeth dych chi'n ei wneud — dyna'r sylfaen i adeiladu arni! Dw i am i chi, a phobl Dduw i gyd, ddeall mor aruthrol fawr ydy cariad y Meseia — mae'n lletach, yn hirach, yn uwch ac yn ddyfnach na dim byd arall! Dw i am i chi brofi y cariad hwnnw sy'n llawer rhy fawr i'w brofi yn llawn, er mwyn i chi gael eich llenwi â'r cwbl sydd gan Dduw ar eich cyfer. Clod iddo! Mae'n gwneud llawer iawn mwy na dim y bydden ni'n mentro gofyn amdano na hyd yn oed yn gallu ei ddychmygu! Dylen ni sydd yn yr eglwys ac wedi'n huno gyda'r Meseia Iesu roi clod iddo am byth bythoedd! Amen. Felly, dyma fi yn garcharor am wasanaethu'r Arglwydd. Dw i'n pwyso arnoch chi i fyw fel y dylai pobl mae Duw wedi eu galw i berthyn iddo fyw. Byddwch yn ostyngedig ac addfwyn bob amser; byddwch yn amyneddgar, a goddef beiau eich gilydd mewn cariad. Gwnewch eich gorau glas i ddangos bod yr Ysbryd Glân wedi eich gwneud chi'n un, a'i fod yn eich clymu chi gyda'ch gilydd mewn heddwch. Gan mai'r un Ysbryd Glân sydd gynnon ni, dŷn ni'n un corff — a dych chi wedi'ch galw gan Dduw i rannu'r un gobaith. Does ond un Arglwydd, un ffydd, un bedydd, a dim ond un Duw a Thad i bawb. Y Duw sy'n teyrnasu dros bopeth, ac sy'n gweithio drwy bob un ac ym mhob un! Ond mae'r Meseia wedi rhannu ei roddion i bob un ohonon ni — a fe sydd wedi dewis beth i'w roi i bawb. Dyna pam mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Pan aeth i fyny i'r uchelder arweiniodd gaethion ar ei ôl a rhannu rhoddion i bobl.” (Beth mae “aeth i fyny” yn ei olygu oni bai ei fod hefyd wedi dod i lawr i'r byd daearol? A'r un ddaeth i lawr ydy'r union un aeth i fyny i'r man uchaf yn y nefoedd, er mwyn i'w lywodraeth lenwi'r bydysawd cyfan). A dyma'i roddion: mae wedi penodi rhai i fod yn gynrychiolwyr personol iddo, eraill i fod yn broffwydi, eraill yn rhai sy'n rhannu'r newyddion da, ac eraill yn fugeiliaid ac athrawon. Maen nhw i alluogi pobl Dduw i gyd i'w wasanaethu mewn gwahanol ffyrdd, er mwyn gweld corff y Meseia, sef yr eglwys, yn tyfu'n gryf. Y nod ydy ein bod ni'n ymddiried ym Mab Duw gyda'n gilydd ac yn dod i'w nabod yn well. Bryd hynny bydd yr eglwys fel oedolyn aeddfed yn adlewyrchu beth welwn ni yn y Meseia ei hun. Dim plantos bach fyddwn ni, yn cael ein taflu yn ôl ac ymlaen gan y tonnau, a'n chwythu yma ac acw gan bob awel sy'n dod heibio. Fyddwn ni ddim yn newid ein meddyliau bob tro mae rhywun yn dweud rhywbeth newydd, neu'n cael ein twyllo gan bobl slei sy'n gwneud i gelwydd swnio fel petai'n wir. Na, wrth gyhoeddi beth sy'n wir mewn cariad, byddwn ni'n tyfu'n debycach bob dydd i'r Pen, sef y Meseia. Y pen sy'n gwneud i'r corff weithio a thyfu. Fel mae pob rhan o'r corff wedi ei weu i'w gilydd, a'r gewynnau'n dal y cwbl gyda'i gilydd, mae'r eglwys yn tyfu ac yn cryfhau mewn cariad wrth i bob rhan wneud ei gwaith. Felly gyda'r awdurdod mae'r Arglwydd ei hun wedi ei roi i mi, dw i'n dweud wrthoch chi, ac yn mynnu hyn: peidiwch byw fel mae'r paganiaid di-gred yn byw. Dyn nhw'n deall dim — maen nhw yn y tywyllwch! Maen nhw wedi eu gwahanu oddi wrth y bywyd sydd gan Dduw i'w gynnig am eu bod nhw'n gwrthod gwrando. Maen nhw'n ystyfnig! Does dim byd yn codi cywilydd arnyn nhw. Dyn nhw'n gwneud dim byd ond byw'n anfoesol a gadael i'w chwantau mochaidd gael penrhyddid llwyr. Ac maen nhw eisiau mwy a mwy drwy'r adeg. Dim felly dych chi wedi dysgu byw wrth edrych ar y Meseia — os mai fe ydy'r un dych chi wedi eich dysgu i'w ddilyn. Yn Iesu mae dod o hyd i'r gwir. Felly rhaid i chi gael gwared â'r hen ffordd o wneud pethau — y bywyd sydd wedi ei lygru gan chwantau twyllodrus. Rhaid i chi feithrin ffordd newydd o feddwl. Mae fel gwisgo natur o fath newydd — natur sydd wedi ei fodelu ar gymeriad Duw ei hun, yn gyfiawn a glân. Felly dim mwy o gelwydd! “Dwedwch y gwir wrth eich gilydd”, am ein bod ni'n perthyn i'r un corff. “Peidiwch pechu pan dych chi wedi digio” — gwnewch yn siŵr eich bod chi ddim yn dal yn ddig ar ddiwedd y dydd. Peidiwch rhoi cyfle i'r diafol a'i driciau! Rhaid i'r person oedd yn arfer bod yn lleidr stopio dwyn. Dylai weithio, ac ennill bywoliaeth, fel bod ganddo rywbeth i'w rannu gyda phobl mewn angen. Peidiwch defnyddio iaith aflan. Dylech ddweud pethau sy'n helpu pobl eraill — pethau sy'n bendithio'r rhai sy'n eich clywed chi. Peidiwch brifo teimladau Ysbryd Glân Duw. Yr Ysbryd ydy'r sêl sy'n eich marcio chi fel rhai fydd yn cael rhyddid llwyr ar y diwrnod hwnnw pan fydd y Meseia Iesu yn dod yn ôl. Rhaid i chi beidio bod yn chwerw, peidio colli tymer a gwylltio, codi twrw, hel straeon cas, a bod yn faleisus. Eich lle chi ydy bod yn garedig, yn dyner gyda'ch gilydd, a maddau i'ch gilydd fel mae Duw wedi maddau i chi drwy beth wnaeth y Meseia. Felly dilynwch esiampl Duw, gan eich bod yn blant annwyl iddo. Dylech fyw bywydau llawn cariad, yn union fel gwnaeth y Meseia ein caru ni a marw yn ein lle ni. Rhoddodd ei hun fel offrwm ac aberth oedd yn arogli'n hyfryd i Dduw. Ddylai bod dim awgrym o anfoesoldeb rhywiol yn agos atoch chi, nac unrhyw fochyndra, na chwant hunanol chwaith! Dydy pethau felly ddim yn iawn i bobl sydd wedi cysegru eu bywydau i Dduw. Dim iaith anweddus, siarad dwl a jôcs budron chwaith — does dim lle i bethau felly. Yn lle hynny dylech chi ddiolch i Dduw. Dych chi'n gallu bod yn hollol siŵr o hyn: dim Duw a'i Feseia sy'n teyrnasu ym mywydau'r bobl hynny sy'n byw'n anfoesol, neu'n aflan, neu'n bod yn hunanol — addoli eilun-dduwiau ydy peth felly! Peidiwch gadael i neb eich twyllo gyda'u geiriau gwag. Mae'r bobl yma yn gwneud Duw yn ddig, a bydd yn dod i gosbi pawb sy'n anufudd iddo. Felly peidiwch ymuno gyda nhw. Ar un adeg roeddech chi yn y tywyllwch, ond bellach mae golau'r Arglwydd yn disgleirio ynoch chi. Dylech fyw mewn ffordd sy'n dangos eich bod chi yn y golau. Pethau da a chyfiawn a gwir ydy'r ffrwyth sy'n tyfu yn y golau. Gwnewch beth sy'n plesio'r Arglwydd. Peidiwch cael dim i'w wneud â'r math o ymddygiad sy'n perthyn i'r tywyllwch. Na, ewch ati i ddangos mor ddrwg ydyn nhw. Mae'n warthus hyd yn oed sôn am y pethau mae pobl yn eu gwneud o'r golwg. Ond pan mae'r golau yn disgleirio mae'r cwbl yn dod i'r golwg. Mae'r golau yn dangos pethau fel y maen nhw go iawn. Dyna pam mae'n cael ei ddweud: “Deffra, ti sydd yn cysgu tyrd yn ôl yn fyw! a bydd golau'r Meseia yn disgleirio arnat ti.” Felly, gwyliwch sut dych chi'n ymddwyn. Peidiwch bod yn ddwl — byddwch yn ddoeth. Manteisiwch ar bob cyfle gewch chi i wneud daioni, achos mae digon o ddrygioni o'n cwmpas ni ym mhobman. Peidiwch gwneud dim yn ddifeddwl; ceisiwch ddeall bob amser beth mae'r Arglwydd eisiau. Peidiwch meddwi ar win — dyna sut mae difetha'ch bywyd. Yn lle hynny, gadewch i'r Ysbryd Glân eich llenwi a'ch rheoli chi. Canwch salmau ac emynau a chaneuon ysbrydol i'ch gilydd — canwch fawl yn frwd i'r Arglwydd. Diolchwch i Dduw y Tad am bopeth bob amser, o achos y cwbl mae'r Arglwydd Iesu Grist wedi ei wneud. Dylech fod yn atebol i'ch gilydd fel arwydd o'ch parch at y Meseia ei hun. Chi'r gwragedd i'ch gwŷr fel i'r Arglwydd ei hun. O'r gŵr mae'r wraig yn tarddu, fel mae'r eglwys yn tarddu o'r Meseia (rhoddodd ei fywyd i'w hachub hi!) Felly, fel mae'r eglwys yn atebol i'r Meseia, rhaid i chi'r gwragedd fod yn atebol i'ch gwŷr ym mhopeth. Chi'r gwŷr, rhaid i chi garu eich gwragedd yn union fel mae'r Meseia wedi caru'r eglwys. Rhoddodd ei fywyd yn aberth drosti, i'w chysegru hi a'i gwneud yn lân. Mae dŵr y bedydd yn arwydd o'r golchi sy'n digwydd drwy'r neges sy'n cael ei chyhoeddi. Mae'r Meseia am gymryd yr eglwys iddo'i hun fel priodferch hardd — heb smotyn na chrychni na dim arall o'i le arni — yn berffaith lân a di-fai. Dyna sut ddylai gwŷr garu eu gwragedd — fel eu cyrff eu hunain! Mae'r gŵr sy'n caru ei wraig yn ei garu ei hun! Dydy pobl ddim yn casáu eu cyrff eu hunain — maen nhw'n eu bwydo nhw a gofalu amdanyn nhw. A dyna sut mae'r Meseia yn gofalu am yr eglwys, gan ein bod ni'n wahanol rannau o'i gorff e. Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud y peth fel hyn: “bydd dyn yn gadael ei dad a'i fam ac yn cael ei uno â'i wraig, a bydd y ddau yn dod yn un.” Mae rhyw wirionedd mawr yn guddiedig yma — sôn ydw i am berthynas y Meseia a'i eglwys. Beth bynnag, dyna ddylai pob un ohonoch chi ei wneud — caru ei wraig fel mae'n ei garu ei hun, fel bod y wraig wedyn yn parchu ei gŵr. Dylech chi'r plant sy'n perthyn i'r Arglwydd fod yn ufudd i'ch rhieni, am mai dyna'r peth iawn i'w wneud. Y gorchymyn cyntaf sydd ag addewid ynghlwm wrtho ydy: Gofala am dy dad a dy fam, a bydd pethau'n mynd yn dda i ti, a chei fyw'n hir. Chi'r tadau, peidiwch trin eich plant mewn ffordd sy'n eu gwylltio nhw. Dylech eu magu a'u dysgu nhw i wneud beth mae'r Arglwydd yn ei ddweud. Chi sy'n gaethweision, byddwch yn gwbl ufudd i'ch meistri daearol, a dangos parch go iawn atyn nhw. Gweithiwch yn galed, yn union fel petaech chi'n gweithio i'r Meseia ei hun — nid dim ond er mwyn ennill ffafr y meistr pan mae'n eich gwylio chi. Fel caethweision y Meseia, ewch ati o ddifri i wneud beth mae Duw am i chi ei wneud. Gweithiwch eich gorau glas, fel petaech yn gweithio i'r Arglwydd ei hun, dim i bobl. Cofiwch mai'r Arglwydd fydd yn gwobrwyo pawb am y daioni mae'n ei wneud — caethwas neu beidio. A chi'r meistri yr un fath, dylech drin eich caethweision yn deg. Peidiwch eu bwlio nhw. Cofiwch fod Duw, sydd yn y nefoedd, yn feistr ar y naill a'r llall ohonoch chi. Does ganddo fe ddim ffefrynnau! Dyma'r peth olaf sydd i'w ddweud: Byddwch yn gryf, a chael eich nerth gan yr Arglwydd a'r pŵer aruthrol sydd ganddo fe. Mae Duw wedi paratoi arfwisg i chi ei gwisgo yn y frwydr. Byddwch chi'n gallu gwneud safiad yn erbyn triciau slei y diafol. Dŷn ni ddim yn ymladd yn erbyn pobl. Mae'n brwydr ni yn erbyn y bodau ysbrydol sy'n llywodraethu, sef yr awdurdodau a'r pwerau tywyll sy'n rheoli'r byd yma; y fyddin ysbrydol ddrwg yn y byd nefol. Felly gwisgwch yr arfwisg mae Duw'n ei rhoi i chi, er mwyn i chi ddal eich tir pan fydd pethau'n ddrwg, a dal i sefyll ar ddiwedd y frwydr. Safwch gyda gwirionedd wedi ei rwymo fel belt am eich canol, cyfiawnder Duw yn llurig amdanoch, a'r brwdfrydedd i rannu'r newyddion da am heddwch gyda Duw yn esgidiau ar eich traed. Daliwch eich gafael yn nharian ffydd bob amser — byddwch yn gallu diffodd saethau tanllyd yr un drwg gyda hi. Derbyniwch achubiaeth yn helmed ar eich pen, a newyddion da Duw, sef cleddyf yr Ysbryd, yn arf yn eich llaw. A beth bynnag ddaw, gweddïwch bob amser fel mae'r Ysbryd yn arwain. Cadwch yn effro, a dal ati i weddïo'n daer dros bobl Dduw i gyd. A gweddïwch drosto i hefyd. Gweddïwch y bydd Duw'n rhoi'r geiriau iawn i mi bob tro bydda i'n agor fy ngheg, er mwyn i mi rannu dirgelwch y newyddion da yn gwbl ddi-ofn. Llysgennad y Meseia Iesu ydw i, mewn cadwyni am gyhoeddi ei neges. Gweddïwch y bydda i'n dal ati i wneud hynny'n gwbl ddi-ofn, fel y dylwn i wneud! Bydd Tychicus, sy'n frawd annwyl iawn ac yn weithiwr ffyddlon i'r Arglwydd, yn dweud wrthoch chi sut mae pethau'n mynd a beth dw i'n ei wneud. Dyna pam dw i'n ei anfon e atoch chi yn un swydd, i chi gael gwybod sut ydyn ni, ac er mwyn iddo godi'ch calon chi. Frodyr a chwiorydd, dw i am i Dduw y Tad a'r Arglwydd Iesu Grist eich galluogi chi i fyw mewn heddwch, caru'ch gilydd ac ymddiried yn llwyr ynddo fe. Dw i'n gweddïo y bydd pawb sy'n caru ein Harglwydd Iesu Grist o waelod calon yn profi o'i haelioni rhyfeddol. Llythyr gan Paul a Timotheus — gweision i'r Meseia Iesu. At bawb yn Philipi sy'n bobl i Dduw ac yn perthyn i'r Meseia Iesu, ac at yr arweinwyr a'r rhai sy'n gwasanaethu yn yr eglwys: Dw i'n gweddïo y byddwch chi'n profi'r haelioni rhyfeddol a'r heddwch dwfn mae Duw ein Tad a'r Arglwydd Iesu Grist yn ei roi i ni. Bob tro dw i'n meddwl amdanoch chi dw i'n diolch i Dduw am bob un ohonoch chi. Dw i'n gweddïo'n daer drosoch chi, ac yn teimlo mor llawen wrth wneud hynny, am eich bod chi o'r dechrau cyntaf wedi bod yn bartneriaid i mi yn y gwaith o rannu'r newyddion da. Felly dw i'n hollol sicr y bydd Duw, sydd wedi dechrau gwneud pethau mor wych yn eich plith chi, yn dal ati nes bydd wedi gorffen ei waith ar y diwrnod y bydd y Meseia Iesu yn dod yn ôl. Dych chi'n sbesial iawn yn fy ngolwg i, felly mae'n naturiol mod i'n teimlo fel hyn amdanoch chi. Dim ots os ydw i'n y carchar neu â nhraed yn rhydd, dych chi bob amser wedi fy helpu i wneud y gwaith mae Duw wedi ei roi i mi — sef y gwaith o amddiffyn a rhannu'r newyddion da am Iesu y Meseia. Dim ond Duw sy'n gwybod gymaint o hiraeth sydd gen i amdanoch chi — dw i'n eich caru chi fel mae'r Meseia Iesu ei hun yn eich caru chi! Yr hyn dw i'n ei weddïo drosoch chi ydy y bydd eich cariad chi'n mynd o nerth i nerth, ac y byddwch chi'n tyfu yn eich dealltwriaeth o'r gwirionedd a'ch gallu i benderfynu beth sy'n iawn. Dw i eisiau i chi ddewis y peth gorau i'w wneud bob amser, a byw yn gwbl onest a di-fai nes i'r Meseia ddod yn ôl. Bydd hynny'n dangos eich bod chi wedi'ch achub! Bydd yn dangos canlyniad gwaith Iesu Grist yn eich bywydau, ac wedyn bydd Duw yn cael ei fawrygu a'i foli. Dw i eisiau i chi wybod, frodyr a chwiorydd, fod beth sydd wedi digwydd i mi wedi troi'n gyfle newydd i rannu'r newyddion da. Mae holl filwyr y Gwarchodlu a phawb arall yma yn gwybod fy mod i yn y carchar am fy mod i'n gweithio i'r Meseia. Does neb yma sydd ddim yn gwybod hynny! Ac mae'r ffaith fy mod i yn y carchar hefyd wedi helpu'r rhai sy'n credu i fod yn fwy hyderus — does ganddyn nhw ddim ofn rhannu neges Duw. Mae'n wir mai cenfigen a chystadleuaeth sy'n ysgogi rhai i gyhoeddi'r neges am y Meseia, ond mae eraill sy'n gwneud hynny am y rhesymau iawn. Cariad sy'n eu hysgogi nhw, ac maen nhw'n gwybod mod i yn y carchar i amddiffyn y newyddion da. Tynnu sylw atyn nhw eu hunain mae'r grŵp cyntaf — dŷn nhw ddim o ddifri. Yr unig beth maen nhw eisiau ydy gwneud pethau'n anodd i mi tra dw i yn y carchar. Ond pa wahaniaeth? Beth bynnag ydy eu rhesymau nhw, y peth pwysig ydy bod y neges am y Meseia yn cael ei chyhoeddi! Mae hynny'n fy ngwneud i'n hapus. A hapus fydda i hefyd! Dych chi wrthi'n gweddïo, ac mae Ysbryd Iesu y Meseia yn fy nghynnal i. Felly dw i'n gwybod y bydda i'n cael fy rhyddhau yn y diwedd. Dw i'n edrych ymlaen at y dyfodol yn frwd, ac yn gobeithio na wna i ddim byd i siomi fy Arglwydd. Dw i eisiau bod yn ddewr bob amser, ac yn arbennig felly nawr, fel bod y Meseia yn cael ei fawrygu drwy bopeth dw i'n ei wneud — hyd yn oed petai rhaid i mi farw yma! I mi, y Meseia ydy holl ystyr a phwrpas byw, a dw i'n ennill hyd yn oed os bydda i'n cael fy lladd! Ond wedyn ar y llaw arall, os ca i fyw bydda i'n gallu dal ati i weithio dros y Meseia Iesu. Beth fyddwn i'n ei ddewis fy hun? Dw i ddim yn gwybod! Dw i'n cael fy nhynnu'r naill ffordd a'r llall: Dw i'n dyheu am gael gadael y byd yma i fod gyda'r Meseia am byth — dyna'n sicr ydy'r peth gorau allai ddigwydd i mi, o bell ffordd! Ond mae'n well o lawer i chi os ca i aros yn fyw. O feddwl am y peth, dw i'n reit siŵr y bydda i'n aros, i'ch helpu chi i dyfu a phrofi'r llawenydd sydd i'w gael o gredu yn y Meseia. Felly pan fydda i'n dod atoch chi eto, bydd gynnoch chi fwy fyth o reswm i frolio am y Meseia Iesu. Ond beth bynnag fydd yn digwydd i mi, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n dal ati i ymddwyn mewn ffordd sy'n dangos fod y newyddion da am y Meseia yn wir. Wedyn, os bydda i'n dod i'ch gweld chi neu beidio, byddwch chi'n sefyll yn gadarn ac yn brwydro'n galed gyda'ch gilydd dros y newyddion da. Peidiwch bod ag ofn y bobl hynny sy'n eich erbyn chi. Bydd hyn i gyd yn arwydd iddyn nhw y byddan nhw'n cael eu dinistrio, ond y cewch chi eich achub — a hynny gan Dduw. Eich braint chi ydy dim yn unig credu yn y Meseia, ond hefyd cael dioddef drosto. Dych chi'n wynebu yn union yr un frwydr weloch chi fi'n ei hymladd! A dw i'n dal yn ei chanol hi fel dych chi'n gweld. Os ydy perthyn i'r Meseia yn anogaeth o unrhyw fath i chi; os ydy ei gariad o unrhyw gysur i chi; os ydy'r Ysbryd yn eich clymu chi'n un, ac yn eich gwneud yn llawn tosturi ac yn garedig — yna gwnewch fi'n wirioneddol hapus drwy rannu'r un agwedd meddwl, dangos cariad at eich gilydd, a bod yn un o ran ysbryd a phwrpas. Peidiwch bod am y gorau i fod yn bwysig, nac yn llawn ohonoch chi'ch hunain. Byddwch yn ostyngedig, a pheidio meddwl eich bod chi'n well na phobl eraill. Meddyliwch am bobl eraill gyntaf, yn lle dim ond meddwl amdanoch chi'ch hunain. Dylai eich agwedd chi fod yr un fath ag agwedd y Meseia Iesu: Roedd e'n rhannu'r un natur â Duw, heb angen ceisio gwneud ei hun yn gydradd â Duw; ond dewisodd roi ei hun yn llwyr i wasanaethu eraill, a gwneud ei hun yn gaethwas, a dod aton ni fel person dynol — roedd yn amlwg i bawb ei fod yn ddyn. Yna diraddio ei hun fwy fyth, a bod yn ufudd, hyd yn oed i farw — ie, trwy gael ei ddienyddio ar y groes. Felly dyma Duw yn ei ddyrchafu i'r safle uchaf; a rhoi'r enw pwysica un iddo! Bydd pob glin yn plygu i enw Iesu — pawb yn y nefoedd, ar y ddaear, a than y ddaear; a bydd pawb yn cydnabod mai Iesu Grist ydy'r Arglwydd, ac yn rhoi clod i Dduw y Tad. Felly, ffrindiau annwyl, fel roeddech chi'n ufudd pan oeddwn i acw gyda chi, mae'n bwysicach fyth eich bod chi'n ufudd pan dw i'n absennol. Gyda pharch a defosiwn i Dduw daliwch ati i weithio ar eich iechyd ysbrydol fel cymuned. Mae Duw ar waith yn eich bywydau chi, yn creu'r awydd ynoch chi ac yn eich galluogi chi i wneud beth sy'n ei blesio fe. Gwnewch bopeth heb gwyno a ffraeo, er mwyn i chi dyfu fel plant i Dduw, yn byw bywydau glân a di-fai yng nghanol cymdeithas o bobl droëdig ac ystyfnig. Byddwch fel sêr yn disgleirio yn yr awyr wrth i chi rannu'r neges am y bywyd newydd gydag eraill. Wedyn pan ddaw y Meseia yn ôl, bydda i yn gallu bod yn falch ohonoch chi. Bydda i'n gwybod na fuodd yr holl redeg a'r gwaith caled yn wastraff amser. Mae'n bosib iawn y bydda i'n marw fel merthyr, a'm gwaed i'n cael ei dywallt fel diodoffrwm ar aberth y gwasanaeth ffyddlon dych chi'n ei gyflwyno i Dduw. Os mai dyna sydd i ddigwydd, dw i'n hapus, ac am rannu fy llawenydd gyda chi. A dylech chithau hefyd fod yn hapus, i mi gael rhannu eich llawenydd chi. Dw i'n gobeithio anfon Timotheus atoch chi'n fuan, os bydd yr Arglwydd Iesu yn caniatáu hynny, er mwyn cael newyddion amdanoch chi fydd yn codi nghalon i. Does gen i neb tebyg i Timotheus. Mae'n teimlo'n union fel dw i'n teimlo — mae ganddo'r fath gonsýrn drosoch chi. Poeni amdanyn nhw eu hunain mae pawb arall, dim am beth sy'n bwysig i Iesu Grist. Ond mae Timotheus yn wahanol, mae wedi profi ei hun yn wahanol. Mae wedi gweithio gyda mi dros y newyddion da, fel mab yn helpu ei dad. Felly dw i'n gobeithio ei anfon atoch chi cyn gynted ag y ca i wybod beth sy'n mynd i ddigwydd i mi. Ac ydw, dw i wir yn hyderus y bydd yr Arglwydd yn caniatáu i minnau ddod i'ch gweld chi'n fuan! Ond yn y cyfamser dw i wedi bod yn teimlo bod rhaid i mi anfon Epaffroditws yn ôl atoch chi — brawd ffyddlon arall sy'n gydweithiwr ac yn gyd-filwr dros achos Iesu. Chi wnaeth ei anfon e i'm helpu i pan roeddwn i angen help. Mae wedi bod yn hiraethu amdanoch chi, ac yn poeni'n fawr eich bod wedi clywed ei fod wedi bod yn sâl. Mae'n wir, roedd e'n wirioneddol sâl. Bu bron iddo farw. Ond buodd Duw'n garedig ato — ac ata i hefyd. Petai e wedi marw byddwn i wedyn wedi cael fy llethu gan fwy fyth o dristwch. Dyna pam dw i mor awyddus i'w anfon yn ôl atoch chi. Dw i'n gwybod y byddwch chi mor llawen o'i weld, a fydd dim rhaid i mi boeni cymaint. Felly rhowch groeso brwd iddo. Dylid anrhydeddu pobl debyg iddo, achos bu bron iddo farw wrth wasanaethu'r Meseia. Mentrodd ei fywyd er mwyn fy helpu i, a gwneud ar eich rhan chi beth roeddech chi'n methu ei wneud eich hunain. Yn olaf, ffrindiau, byddwch yn llawen eich bod chi'n perthyn i'r Arglwydd! Dw i ddim yn blino dal ati i ysgrifennu'r un peth atoch chi. Dw i'n gwneud hynny i'ch amddiffyn chi. Gwyliwch y bobl hynny sydd ond eisiau gwneud drwg — y cŵn annifyr! Y rhai sy'n dweud fod rhaid torri'r cnawd â chyllell i gael eich achub! Ni, dim nhw, ydy'r rhai sydd wedi cael ein henwaedu go iawn — ni sy'n addoli Duw dan arweiniad yr Ysbryd Glân. Ni sy'n ymfalchïo yn beth wnaeth y Meseia Iesu, dim beth sydd wedi ei wneud i'r corff. Er, byddai gen i ddigon o sail i ymddiried yn hynny taswn i eisiau! Mae gen i fwy o le i ymddiried yn y math yna o beth na neb! Ces i fy enwaedu yn wythnos oed; dw i'n dod o dras Iddewig pur; dw i'n aelod o lwyth Benjamin; dw i'n siarad Hebraeg, fel mae fy rhieni; roeddwn i'n Pharisead oedd yn cadw Cyfraith Moses yn fanwl, fanwl; roeddwn i mor frwd nes i mi fynd ati i erlid yr eglwys Gristnogol. Yn ôl y safonau mae'r Gyfraith Iddewig yn ei hawlio, doedd neb yn gallu gweld bai arna i. Roeddwn i'n cyfri'r pethau yna i gyd mor bwysig ar un adeg, ond o achos beth wnaeth y Meseia, dŷn nhw'n dda i ddim bellach. Does dim byd mwy gwerthfawr bellach na'r fraint aruthrol o gael nabod fy Arglwydd, y Meseia Iesu! Dw i'n gallu byw heb y pethau eraill i gyd, cyn belled â mod i'n cael y Meseia. Sbwriel ydy'r cwbl o'i gymharu â chael perthyn i'r Meseia! Bellach, dw i ddim yn honni bod mewn perthynas iawn gyda Duw ar sail beth dw i wedi llwyddo i'w wneud (hynny ydy, ufuddhau i'r Gyfraith Iddewig). Yr unig beth sy'n cyfri bellach ydy fod Iesu y Meseia wedi bod yn ffyddlon — mae perthynas iawn gyda Duw yn rhodd i ni sy'n credu ynddo! Bellach yr unig beth dw i eisiau ydy dod i nabod y Meseia Iesu yn well, drwy brofi y pŵer hwnnw wnaeth ei godi yn ôl yn fyw ar ôl iddo farw, a gallu dioddef fel y gwnaeth e — hyd yn oed os bydd hynny'n golygu marw drosto! Bydda innau wedyn yn cael rhannu'r profiad o godi yn ôl yn fyw ar ôl i mi farw. Dw i ddim yn honni fy mod i eisoes wedi cyrraedd, nac yn honni bod yn berffaith! Ond dw i'n dal ati er mwyn ennill y cwbl mae'r Meseia Iesu wedi ei fwriadu ar fy nghyfer i pan alwodd fi i'w ddilyn. Frodyr a chwiorydd annwyl, dw i ddim am eiliad yn meddwl mod i eisoes wedi cyrraedd! Y cwbl dw i'n ei ddweud ydy hyn: Dw i'n anghofio beth sydd tu cefn i mi ac yn canolbwyntio fy holl egni ar beth sydd o'm blaen i. Fel taswn i mewn ras, dw i'n rhedeg at y llinell derfyn gyda'r bwriad o ennill! Dw i am ennill y wobr sydd gan Dduw ar ein cyfer ni. Ei alwad i'r nefoedd o achos beth wnaeth y Meseia Iesu. Felly gadewch i bob un ohonon ni sy'n ‛berffaith‛ fod â'r un agwedd. Os dych chi'n gweld pethau'n wahanol, dw i'n credu y bydd Duw yn dangos eich camgymeriad i chi. Beth bynnag, gadewch i ni fyw yn gyson â beth dŷn ni eisoes yn ei wybod sy'n wir. Dw i am i chi ddilyn fy esiampl i, frodyr a chwiorydd, a dysgu gan y rhai sy'n byw fel yma — dŷn ni wedi dangos y ffordd i chi. Dw i wedi dweud hyn lawer gwaith, a dw i'n dweud yr un peth eto gyda dagrau — mae llawer yn byw mewn ffordd sy'n dangos eu bod nhw'n elynion i'r neges am farwolaeth y Meseia ar y groes. Dinistr fydd eu diwedd nhw! Dynion sy'n addoli beth maen nhw'n ei fwyta — dyna'r duw sy'n eu rheoli nhw! Dynion sy'n brolio am beth ddylai godi cywilydd arnyn nhw! Pethau'r byd ydy'r unig bethau sydd ar eu meddyliau nhw. Ond dŷn ni'n wahanol. Dŷn ni'n ddinasyddion y nefoedd, ac yn edrych ymlaen yn frwd i'n Hachubwr, yr Arglwydd Iesu Grist, ddod yn ôl o'r nefoedd. Bydd yn trawsffurfio ein cyrff marwol, tila ni, ac yn eu gwneud yr un fath â'i gorff rhyfeddol ei hun, drwy'r grym sy'n ei alluogi i osod pob peth dan ei reolaeth ei hun. Frodyr a chwiorydd annwyl, dw i'n eich caru chi gymaint ac yn hiraethu amdanoch chi. Dych chi'n fy ngwneud i mor hapus, a dw i mor falch ohonoch chi. Felly daliwch ati — arhoswch yn ffyddlon i'r Arglwydd. Dw i'n apelio ar Euodia a Syntyche i ddod ymlaen â'i gilydd am eu bod yn perthyn i'r Arglwydd. A dw i'n gofyn i ti, fy mhartner ffyddlon i, eu helpu nhw. Mae'r ddwy yn wragedd sydd wedi brwydro gyda mi o blaid y newyddion da, gyda Clement a phob un arall o'm cydweithwyr. Mae eu henwau i gyd yn Llyfr y Bywyd. Byddwch yn llawen bob amser am eich bod yn perthyn i'r Arglwydd. Dw i'n dweud eto: Byddwch yn llawen! Gadewch i bawb weld eich bod yn bobl garedig. Mae'r Arglwydd yn dod yn fuan. Peidiwch gadael i ddim byd eich poeni chi. Gweddïwch, a gofyn i Dduw am bopeth sydd arnoch ei angen, a byddwch yn ddiolchgar bob amser. Byddwch chi'n profi'r heddwch perffaith mae Duw'n ei roi — y daioni sydd tu hwnt i bob dychymyg — yn gwarchod eich calonnau a'ch meddyliau wrth i chi ddilyn y Meseia Iesu. Ac un peth arall i gloi, ffrindiau: meddyliwch bob amser am beth sy'n wir ac i'w edmygu — am beth sy'n iawn i'w wneud, yn bur, yn garedig ac yn anrhydeddus — hynny ydy, popeth da ac unrhyw beth sy'n haeddu ei ganmol. Gwnewch y pethau hynny dych chi wedi eu dysgu a'u gweld a'u clywed gen i. A bydd y Duw sy'n rhoi ei heddwch gyda chi. Roeddwn i mor llawen, ac yn diolch i'r Arglwydd eich bod wedi dangos gofal amdana i unwaith eto. Dw i'n gwybod mai felly roeddech chi'n teimlo drwy'r adeg, ond doedd dim cyfle i chi ddangos hynny. Dw i ddim yn dweud hyn am fy mod i mewn angen, achos dw i wedi dysgu bod yn fodlon beth bynnag sy'n digwydd i mi. Dw i'n gwybod sut mae byw pan dw i'n brin, a sut beth ydy bod ar ben fy nigon. Dw i wedi dysgu'r gyfrinach o fod yn hapus beth bynnag ydy'r sefyllfa — pan mae gen i stumog lawn, a phan dw i'n llwgu, os oes gen i hen ddigon neu os nad oes gen i ddim. Dw i'n gallu wynebu pob sefyllfa am fod y Meseia yn rhoi'r nerth i mi wneud hynny. Beth bynnag, diolch i chi am fod mor barod i rannu gyda mi pan oedd pethau'n anodd. Yn y dyddiau cynnar pan glywoch chi'r newyddion da gyntaf, pan adewais i Macedonia, chi yn Philipi oedd yr unig rai wnaeth fy helpu i — dych chi'n gwybod hynny'n iawn. Hyd yn oed pan roeddwn i yn Thesalonica, dyma chi'n anfon rhodd ata i sawl tro. A dw i ddim yn pysgota am rodd arall wrth ddweud hyn i gyd. Dim ond eisiau i chi ddal ati i ychwanegu at eich stôr o weithredoedd da ydw i. Dw i wedi derbyn popeth sydd arna i ei angen, a mwy! Bellach mae gen i hen ddigon ar ôl derbyn eich rhodd gan Epaffroditws. Mae'r cwbl fel offrwm i Dduw — yn arogli'n hyfryd, ac yn aberth sy'n dderbyniol gan Dduw ac yn ei blesio. Bydd Duw yn rhoi popeth sydd arnoch ei angen i chithau — mae ganddo stôr rhyfeddol o gyfoeth i'w rannu gyda ni sy'n perthyn i'r Meseia Iesu. Felly, bydded i Dduw a'n Tad ni gael ei foli am byth! Amen! Cofiwch fi at bob un o'r Cristnogion acw. Mae'r ffrindiau sydd gyda mi yma yn anfon eu cyfarchion. Ac mae'r Cristnogion eraill i gyd yn anfon eu cyfarchion atoch chi hefyd — yn arbennig y rhai hynny sy'n gweithio ym mhalas Cesar. Dw i'n gweddïo y byddwch chi'n profi haelioni rhyfeddol ein Harglwydd Iesu Grist! Amen. Llythyr gan Paul, wedi fy newis gan Dduw yn gynrychiolydd personol i'r Meseia Iesu. A gan y brawd Timotheus hefyd, At bobl Dduw yn Colosae sy'n ddilynwyr ffyddlon i'r Meseia: Dw i'n gweddïo y byddwch chi'n profi'r haelioni rhyfeddol a'r heddwch dwfn mae Duw ein Tad yn ei roi i ni. Dŷn ni bob amser yn diolch i Dduw, Tad ein Harglwydd Iesu Grist, pan dŷn ni'n gweddïo drosoch chi. Dŷn ni wedi clywed am eich ffyddlondeb chi i'r Meseia Iesu ac am y cariad sydd gynnoch chi at bawb arall sy'n credu. Mae'r ffydd a'r cariad hwnnw'n tarddu o'r gobaith hyderus y byddwch chi'n derbyn y cwbl sydd wedi ei storio yn y nefoedd i chi. Dych chi wedi clywed am hyn o'r blaen, pan gafodd y gwir (sef y newyddion da) ei rannu gyda chi am y tro cyntaf. Mae'r newyddion da yn mynd ar led ac yn dwyn ffrwyth drwy'r byd i gyd, a dyna'n union sydd wedi digwydd yn eich plith chi ers y diwrnod cyntaf i chi glywed am haelioni rhyfeddol Duw, a dod i'w ddeall yn iawn. Epaffras, ein cydweithiwr annwyl ni, ddysgodd hyn i gyd i chi, ac mae wedi bod yn gwasanaethu'r Meseia yn ffyddlon ar ein rhan ni. Mae wedi dweud wrthon ni am y cariad mae'r Ysbryd wedi ei blannu ynoch chi. Ac felly dŷn ni wedi bod yn dal ati i weddïo drosoch chi ers y diwrnod y clywon ni hynny. Dŷn ni'n gofyn i Dduw ddangos i chi yn union beth mae eisiau, a'ch gwneud chi'n ddoeth i allu deall pethau ysbrydol. Pwrpas hynny yn y pen draw ydy i chi fyw fel mae Duw am i chi fyw, a'i blesio fe ym mhob ffordd: trwy fyw bywydau sy'n llawn o weithredoedd da o bob math, a dod i nabod Duw yn well. Dŷn ni'n gweddïo y bydd Duw yn defnyddio'r holl rym anhygoel sydd ganddo i'ch gwneud chi'n gryfach ac yn gryfach. Wedyn byddwch chi'n gallu dal ati yn amyneddgar, a diolch yn llawen i'r Tad. Fe sydd wedi'ch gwneud chi'n deilwng i dderbyn eich cyfran o beth mae wedi ei gadw i'w bobl ei hun yn nheyrnas y goleuni. Mae e wedi'n hachub ni o'r tywyllwch oedd yn ein gormesu ni. Ac mae wedi dod â ni dan deyrnasiad y Mab mae'n ei garu. Ei Fab sydd wedi'n gollwng ni'n rhydd! Mae wedi maddau'n pechodau ni! Mae'n dangos yn union sut un ydy'r Duw anweledig — y ‛mab hynaf‛ wnaeth roi ei hun dros y greadigaeth gyfan. Cafodd popeth ei greu ganddo fe: popeth yn y nefoedd ac ar y ddaear, popeth sydd i'w weld, a phopeth sy'n anweledig — y grymoedd a'r pwerau sy'n llywodraethu a rheoli. Cafodd popeth ei greu ganddo fe, i'w anrhydeddu e. Roedd yn bodoli o flaen popeth arall, a fe sy'n dal y cwbl gyda'i gilydd. Fe hefyd ydy'r pen ar y corff, sef yr eglwys; Fe ydy ei ffynhonnell hi, a'r cyntaf i ddod yn ôl yn fyw. Felly mae e'n ben ar y cwbl i gyd. Achos roedd Duw yn ei gyflawnder yn byw ynddo, ac yn cymodi popeth ag e'i hun trwyddo — pethau ar y ddaear ac yn y nefoedd. Daeth â heddwch drwy farw ar y groes. Ydy, mae wedi'ch cymodi chi hefyd! Chi oedd mor bell oddi wrth Dduw ar un adeg. Roeddech yn elynion iddo ac yn gwneud pob math o bethau drwg. Mae wedi eich gwneud chi'n ffrindiau iddo'i hun trwy ddod yn ddyn o gig a gwaed, a marw ar y groes. Mae'n dod â chi at Dduw yn lân, yn ddi-fai, a heb unrhyw gyhuddiad yn eich erbyn. Ond rhaid i chi ddal i gredu, a bod yn gryf ac yn gadarn, a pheidio gollwng gafael yn y gobaith sicr mae'r newyddion da yn ei gynnig i chi. Dyma'r newyddion da glywoch chi, ac sydd wedi ei gyhoeddi drwy'r byd i gyd. A dyna'r gwaith dw i, Paul, wedi ei gael i'w wneud. Dw i'n falch o gael dioddef drosoch chi. Dw i'n cyflawni yn fy nghorff i beth o'r dioddef sydd ar ôl — sef ‛gofidiau'r Meseia‛ — a hynny er mwyn ei gorff, yr eglwys. Dw i wedi dod yn was iddi am fod Duw wedi rhoi gwaith penodol i mi, i gyhoeddi'r neges yn llawn ac yn effeithiol i chi sydd ddim yn Iddewon. Dyma'r cynllun dirgel gafodd ei gadw o'r golwg am oesoedd a chenedlaethau lawer, ond sydd bellach wedi ei ddangos i bobl Dduw. Mae Duw wedi dewis dangos fod y dirgelwch ffantastig yma ar gyfer pobl o bob cenedl. Y dirgelwch ydy bod y Meseia yn byw ynoch chi; a dyna'r hyder sydd gynnoch chi y cewch chi ran yn y pethau gwych sydd i ddod! Dŷn ni'n cyhoeddi'r neges amdano, ac yn rhybuddio a dysgu pawb mor ddoeth ag y gallwn ni. Dŷn ni eisiau cyflwyno pawb i Dduw yn ddilynwyr aeddfed i'r Meseia. Dyna pam dw i'n gweithio mor galed gyda'r holl egni mae e'n ei roi i mi. Dw i eisiau i chi wybod mor galed dw i'n gweithio drosoch chi a'r Cristnogion yn Laodicea, a dros lawer o bobl eraill sydd ddim wedi nghyfarfod i. Y bwriad ydy rhoi hyder iddyn nhw a'u helpu i garu ei gilydd yn fwy, a bod yn hollol sicr eu bod wedi deall y cynllun dirgel roedd Duw wedi ei gadw o'r golwg o'r blaen. Y Meseia ei hun ydy hwnnw! Mae holl drysorau doethineb a gwybodaeth wedi eu storio ynddo fe. Dw i'n dweud hyn wrthoch chi rhag i unrhyw un lwyddo i'ch twyllo chi gyda rhyw ddadleuon dwl sy'n swnio'n glyfar ond sydd ddim yn wir. Er fy mod i ddim gyda chi, dw i'n meddwl amdanoch chi drwy'r amser, ac yn falch o weld mor ddisgybledig ydych chi'n byw ac mor gadarn ydy'ch ffydd chi yn y Meseia. Dych chi wedi derbyn y Meseia Iesu fel eich Arglwydd, felly daliwch ati i fyw yn ufudd iddo — Cadwch eich gwreiddiau'n ddwfn ynddo, eich bywyd wedi ei adeiladu arno, eich hyder ynddo yn gadarn fel y cawsoch eich dysgu, a'ch bywydau yn gorlifo o ddiolch. Peidiwch gadael i unrhyw un eich rhwymo chi gyda rhyw syniadau sy'n ddim byd ond nonsens gwag — syniadau sy'n dilyn traddodiadau dynol a'r dylanwadau drwg sy'n rheoli'r byd yma, yn lle dibynnu ar y Meseia. Achos yn y Meseia mae dwyfoldeb yn ei gyflawnder yn byw mewn person dynol. A dych chi hefyd yn gyflawn am eich bod yn perthyn i'r Meseia, sy'n ben ar bob grym ac awdurdod! Wrth ddod ato fe, cawsoch eich ‛enwaedu‛ yn yr ystyr o dorri gafael y natur bechadurus arnoch chi. (Dim y ddefod gorfforol o enwaedu, ond yr ‛enwaediad‛ ysbrydol mae'r Meseia yn ei gyflawni.) Wrth gael eich bedyddio cawsoch eich claddu gydag e, a'ch codi i fywyd newydd wrth i chi gredu yng ngallu Duw, wnaeth ei godi e yn ôl yn fyw ar ôl iddo farw. Pobl baganaidd o'r cenhedloedd oeddech chi, yn farw'n ysbrydol o achos eich pechodau, ond gwnaeth Duw chi'n fyw gyda'r Meseia. Mae wedi maddau ein holl bechodau ni, ac wedi canslo'r ddogfen oedd yn dweud faint oedden ni mewn dyled. Cymerodd e'i hun y ddogfen honno a'i hoelio ar y groes. Wedi iddo ddiarfogi'r pwerau a'r awdurdodau, arweiniodd nhw mewn prosesiwn gyhoeddus — fel carcharorion rhyfel wedi eu concro ganddo ar y groes. Felly peidiwch gadael i unrhyw un eich beirniadu chi am beidio cadw mân-reolau am beth sy'n iawn i'w fwyta a'i yfed, neu am ddathlu gwyliau crefyddol, Gŵyl y lleuad newydd neu'r Saboth. Doedd rheolau felly yn ddim byd ond cysgodion gwan o beth oedd i ddod — dim ond yn y Meseia y dewch chi o hyd i'r peth go iawn. Peidiwch gadael i unrhyw un sy'n cael boddhad o ddisgyblu'r hunan eich condemnio chi. Maen nhw'n honni eu bod nhw'n gallu mynd i bresenoldeb yr angylion sy'n addoli Duw, ac yn mynd i fanylion ynglŷn â beth maen nhw wedi ei weld. Maen nhw'n meddwl eu bod nhw'n well na phawb arall, ond does dim byd ysbrydol am eu syniadau gwag nhw. Dyn nhw ddim wedi dal gafael yn y Meseia. Fe ydy pen y corff. Mae pob rhan o'r corff yn cael ei ddal gyda'i gilydd gan y cymalau a'r gewynnau ac yn tyfu fel mae Duw am iddo dyfu. Buoch farw gyda'r Meseia, a dych chi wedi'ch rhyddhau o afael y dylanwadau drwg sy'n rheoli'r byd yma. Felly pam ydych chi'n dal i ddilyn rhyw fân reolau fel petaech chi'n dal i ddilyn ffordd y byd? — “Peidiwch gwneud hyn! Peidiwch blasu hwn! Peidiwch cyffwrdd rhywbeth arall!” (Mân-reolau wedi eu dyfeisio gan bobl ydy pethau felly! Mae bwyd wedi mynd unwaith mae wedi ei fwyta!) Falle fod rheolau o'r fath yn ymddangos yn beth doeth i rai — defosiwn haearnaidd, disgyblu'r corff a'i drin yn llym — ond dŷn nhw'n dda i ddim i atal chwantau a meddyliau drwg. Felly, am eich bod wedi cael eich codi i fywyd newydd gyda'r Meseia, ceisiwch beth sy'n y nefoedd, lle mae'r Meseia yn eistedd yn y sedd anrhydedd ar ochr dde Duw. Edrychwch ar bethau o safbwynt y nefoedd, dim o safbwynt daearol. Buoch farw, ac mae'r bywyd go iawn sydd gynnoch chi nawr wedi ei guddio'n saff gyda'r Meseia yn Nuw. Y Meseia ydy'ch bywyd chi. Pan fydd e'n dod i'r golwg, byddwch chi hefyd yn cael rhannu ei ysblander e. Felly lladdwch y pethau drwg, daearol sydd ynoch chi: anfoesoldeb rhywiol, budreddi, pob chwant, a phob tuedd i wneud drwg a bod yn hunanol — addoli eilun-dduwiau ydy peth felly! Pethau felly sy'n gwneud Duw yn ddig, a bydd yn dod i gosbi pawb sy'n anufudd iddo. Dyna sut roeddech chi'n ymddwyn o'r blaen. Ond bellach rhaid i chi gael gwared â nhw: gwylltio a cholli tymer, bod yn faleisus, hel straeon cas a dweud pethau anweddus. Rhaid i chi stopio dweud celwydd wrth eich gilydd, am eich bod wedi rhoi heibio'r hen fywyd a'i ffyrdd ac wedi gwisgo'r bywyd newydd. Dyma'r ddynoliaeth newydd sy'n cael ei newid i fod yr un fath â'r Crëwr ei hun, ac sy'n dod i nabod Duw yn llawn. Lle mae hyn yn digwydd does dim gwahaniaeth rhwng Iddew a rhywun o genedl arall, neu rhwng cael eich enwaedu neu ddim; does neb yn cael ei ddiystyru am ei fod yn ‛farbariad di-addysg‛ neu'n ‛anwariad gwyllt‛; does dim gwahaniaeth rhwng y caethwas a'r dinesydd rhydd. Yr unig beth sy'n cyfri ydy'r Meseia, ac mae e ym mhob un ohonon ni sy'n credu. Mae Duw wedi eich dewis chi iddo'i hun ac wedi'ch caru chi'n fawr, felly dangoswch chithau dosturi at bobl eraill, a bod yn garedig, yn ostyngedig, yn addfwyn ac yn amyneddgar. Byddwch yn oddefgar, a maddau i eraill pan dych chi'n meddwl eu bod nhw ar fai. Maddeuwch chi i bobl eraill yn union fel mae'r Arglwydd wedi maddau i chi. A gwisgwch gariad dros y cwbl i gyd — mae cariad yn clymu'r cwbl yn berffaith gyda'i gilydd. Gadewch i'r heddwch mae'r Meseia'n ei greu rhyngoch chi gadw trefn arnoch chi. Mae Duw wedi'ch galw chi at eich gilydd i fyw fel un corff ac i brofi realiti'r heddwch hwnnw. A byddwch yn ddiolchgar. Gadewch i'r neges wych am y Meseia fyw ynoch chi, a'ch gwneud chi'n ddoeth wrth i chi ddysgu a rhybuddio'ch gilydd. Canwch salmau, emynau a chaneuon ysbrydol i fynegi eich diolch i Dduw. Gwnewch bopeth gan gofio eich bod yn cynrychioli yr Arglwydd Iesu Grist — ie, popeth! — popeth dych chi'n ei ddweud a'i wneud. Dyna sut dych chi'n dangos eich diolch i Dduw. Rhaid i chi'r gwragedd fod yn atebol i'ch gwŷr — dyna'r peth iawn i bobl yr Arglwydd ei wneud. Rhaid i chi'r gwŷr garu'ch gwragedd a pheidio byth bod yn gas wrthyn nhw. Rhaid i chi'r plant fod yn ufudd i'ch rhieni bob amser, am fod hynny'n plesio'r Arglwydd. Rhaid i chi'r tadau beidio bod mor galed ar eich plant nes eu bod nhw'n digalonni. Rhaid i chi sy'n gaethweision fod yn ufudd i'ch meistri bob amser. Peidiwch gwneud hynny dim ond pan maen nhw'n eich gwylio chi, er mwyn ceisio ennill eu ffafr nhw. Byddwch yn ddidwyll wrth ufuddhau iddyn nhw, am eich bod chi'n parchu'r Arglwydd. Gwnewch eich gorau glas bob amser, fel tasech chi'n gweithio i'r Arglwydd ei hun, a dim i feistri dynol. Byddwch chi'n derbyn eich gwobr gan yr Arglwydd. Y Meseia ydy'r meistr dych chi'n ei wasanaethu go iawn. Ond bydd y rhai sy'n gwneud beth sydd o'i le yn cael beth maen nhw'n ei haeddu — does gan Dduw ddim ffefrynnau. Rhaid i chi'r meistri fod yn gyfiawn ac yn deg wrth drin eich caethweision. Cofiwch fod gynnoch chithau Feistr yn y nefoedd! Daliwch ati i weddïo drwy'r adeg, gan gadw'ch meddyliau yn effro a bod yn ddiolchgar. A gweddïwch droson ni hefyd, y bydd Duw yn rhoi cyfle i ni rannu'r neges am y Meseia, ac esbonio'r dirgelwch amdano. Dyma pam dw i yn y carchar. Gweddïwch y bydda i'n gwneud y neges yn gwbl glir, fel y dylwn i. Byddwch yn ddoeth yn y ffordd dych chi'n ymddwyn tuag at bobl sydd ddim yn credu. Manteisiwch ar bob cyfle gewch chi i rannu gyda nhw. Byddwch yn serchog wrth siarad â nhw a pheidio bod yn ddiflas. A gwnewch eich gorau i ateb cwestiynau pawb yn y ffordd iawn. Cewch wybod fy hanes i gan Tychicus. Mae e'n frawd annwyl iawn, ac yn weithiwr ffyddlon sy'n gwasanaethu'r Arglwydd gyda mi. Dw i'n ei anfon e atoch chi yn unswydd i chi gael gwybod sut ydyn ni, ac er mwyn iddo godi'ch calon chi. A dw i wedi anfon Onesimws gydag e, brawd ffyddlon ac annwyl arall sy'n un ohonoch chi. Byddan nhw'n dweud wrthoch chi am y cwbl sy'n digwydd yma. Mae Aristarchus, sydd yn y carchar gyda mi, yn anfon ei gyfarchion atoch chi. Hefyd Marc, cefnder Barnabas. (Mae hyn wedi ei ddweud o'r blaen — os daw Marc atoch, rhowch groeso iddo.) Mae Iesu (yr un sy'n cael ei alw'n Jwstus) yn anfon ei gyfarchion hefyd. Nhw ydy'r unig Gristnogion Iddewig sy'n gweithio gyda mi. Maen nhw'n gweithio gyda mi dros deyrnas Dduw, ac maen nhw wedi bod yn gysur mawr i mi. Mae Epaffras yn anfon ei gyfarchion — un arall o'ch plith chi sy'n was i'r Meseia Iesu. Mae bob amser yn gweddïo'n daer drosoch chi, ac yn gofyn i Dduw eich gwneud chi'n gryf ac aeddfed, ac yn gwbl hyderus eich bod yn gwneud beth mae Duw eisiau. Dw i'n dyst ei fod e'n gweithio'n galed drosoch chi a'r Cristnogion sydd yn Laodicea a Hierapolis. Mae ein ffrind annwyl, doctor Luc, a Demas hefyd, yn anfon eu cyfarchion. Cofiwch fi at y brodyr a'r chwiorydd yn Laodicea, a hefyd at Nymffa a'r eglwys sy'n cyfarfod yn ei thŷ hi. Ar ôl i'r llythyr yma gael ei ddarllen i chi, anfonwch e ymlaen i Laodicea i'w ddarllen i'r gynulleidfa yno. A gwnewch yn siŵr eich bod chi'n darllen y llythyr anfonais i yno. Dwedwch hyn wrth Archipus: “Gwna'n siŵr dy fod yn gorffen y gwaith mae'r Arglwydd wedi ei roi i ti.” Dw i'n ysgrifennu'r cyfarchiad yma yn fy llawysgrifen fy hun: PAUL. Cofiwch fy mod i yn y carchar. Dw i'n gweddïo y byddwch chi'n profi haelioni rhyfeddol Duw! Llythyr gan Paul, Silas a Timotheus, At bobl eglwys Dduw yn Thesalonica — y bobl sydd â pherthynas gyda Duw y Tad a'r Arglwydd Iesu Grist: Dw i'n gweddïo y byddwch chi'n profi haelioni Duw a'i heddwch dwfn. Dŷn ni bob amser yn diolch i Dduw amdanoch chi i gyd, ac yn gweddïo drosoch chi'n gyson. Bob tro dŷn ni'n sôn amdanoch chi wrth ein Duw a'n Tad, dŷn ni'n cofio am y cwbl dych chi'n ei wneud am eich bod chi'n credu. Am y gwaith caled sy'n deillio o'ch cariad chi, a'ch gallu i ddal ati am fod eich gobaith yn sicr yn yr Arglwydd Iesu Grist. Dŷn ni'n gwybod, ffrindiau, fod Duw wedi'ch caru chi a'ch dewis chi yn bobl iddo'i hun. Pan ddaethon ni â'n newyddion da atoch chi, nid dim ond siarad wnaethon ni. Roedd nerth yr Ysbryd Glân i'w weld, ac roedden ni'n hollol sicr fod ein neges ni'n wir. A dych chi'n gwybod hefyd sut roedden ni'n ymddwyn yn eich plith chi — roedden ni'n gwneud y cwbl er eich lles chi. A dyma chi'n derbyn y neges gyda'r brwdfrydedd mae'r Ysbryd Glân yn ei roi, er eich bod chi wedi gorfod dioddef am wneud hynny. Roeddech chi'n dilyn ein hesiampl ni, a'r Arglwydd Iesu ei hun. A dyna sut daethoch chi'ch hunain i fod yn esiampl i'r holl gredinwyr yn Macedonia ac Achaia. Yn wir, dych chi wedi peri bod pobl sy'n byw'n llawer pellach na Macedonia ac Achaia wedi clywed neges yr Arglwydd. Mae pobl ym mhob man wedi dod i glywed sut daethoch chi i gredu yn Nuw. Does dim rhaid i ni ddweud dim byd am y peth! Mae pobl yn siarad am y fath groeso gawson ni gynnoch chi. Maen nhw'n sôn amdanoch chi'n troi cefn ar eilun-dduwiau a dod i addoli a gwasanaethu'r Duw byw ei hun — y Duw go iawn! Maen nhw hefyd yn sôn am y ffordd dych chi'n edrych ymlaen at y diwrnod pan fydd Mab Duw yn dod i'r golwg eto o'r nefoedd. Ie, Iesu, yr un gafodd ei godi yn ôl yn fyw, ac sy'n ein hachub ni rhag cael ein cosbi pan fydd Duw yn barnu'r byd. A ffrindiau, dych chi'ch hunain yn gwybod bod ein hymweliad ni ddim wedi bod yn wastraff amser. Er ein bod ni wedi dioddef a chael ein cam-drin yn Philipi, dyma Duw yn rhoi'r hyder i ni i fynd ymlaen i rannu ei newyddion da gyda chi, er gwaetha'r holl wrthwynebiad. Doedden ni ddim yn dweud celwydd wrth geisio'ch argyhoeddi chi, nac yn gwneud dim o gymhellion anghywir, nac yn ceisio'ch tricio chi. Na, fel arall yn hollol! Dŷn ni'n cyhoeddi'r neges am fod Duw wedi'n trystio ni gyda'r newyddion da. Dim ceisio plesio pobl dŷn ni'n ei wneud, ond ceisio plesio Duw. Mae e'n gwybod beth sy'n ein calonnau ni. Dych chi'n gwybod ein bod ni ddim wedi ceisio'ch seboni chi. A doedden ni ddim yn ceisio dwyn eich arian chi chwaith — mae Duw'n dyst i hynny! Doedden ni ddim yn chwilio am ganmoliaeth gan bobl — gynnoch chi na neb arall. Gallen ni fod wedi gofyn i chi'n cynnal ni, gan ein bod ni'n gynrychiolwyr personol i'r Meseia, ond wnaethon ni ddim. Buon ni'n addfwyn gyda chi, fel mam yn magu ei phlant ar y fron. Gan ein bod ni'n eich caru chi gymaint, roedden ni'n barod i roi'n bywydau drosoch chi yn ogystal â rhannu newyddion da Duw gyda chi. Roeddech chi mor annwyl â hynny yn ein golwg ni. Dych chi'n siŵr o fod yn cofio mor galed y buon ni'n gweithio pan oedden ni acw. Buon ni wrthi'n gweithio ddydd a nos er mwyn gwneud yn siŵr bod dim rhaid i chi dalu i'n cynnal ni tra roedden ni'n pregethu newyddion da Duw i chi. Dych chi'n dystion, ac mae Duw'n dyst hefyd, ein bod ni wedi bod yn ddidwyll, yn deg a di-fai yn y ffordd wnaethon ni eich trin chi ddaeth i gredu. Roedden ni'n trin pob un ohonoch chi fel mae tad yn trin ei blant — yn eich calonogi chi a'ch cysuro chi a'ch annog chi i fyw fel mae Duw am i chi fyw. Mae e wedi'ch galw chi i fyw dan ei deyrnasiad e, ac i rannu ei ysblander. Dŷn ni bob amser yn diolch i Dduw eich bod chi wedi derbyn y neges roedden ni'n ei chyhoeddi am beth oedd hi go iawn — neges gan Dduw, dim syniadau dynol. Ac mae'n amlwg fod Duw ar waith yn eich bywydau chi sy'n credu. Ffrindiau, mae'r un peth wedi digwydd i chi ag a ddigwyddodd i eglwysi Duw yn Jwdea sy'n gwasanaethu'r Meseia Iesu. Mae eich pobl eich hunain wedi gwneud i chi ddioddef yn union fel gwnaeth yr arweinwyr Iddewig iddyn nhw ddioddef. Nhw ydy'r bobl laddodd yr Arglwydd Iesu a'r proffwydi, a nhw sy'n ein herlid ni bellach. Maen nhw'n gwneud Duw yn ddig! Maen nhw'n elynion i'r ddynoliaeth gyfan am eu bod nhw'n ceisio ein rhwystro ni rhag cyhoeddi'r newyddion da er mwyn i bobl o genhedloedd eraill gael eu hachub. Maen nhw'n pentyrru eu pechodau yn ddiddiwedd wrth ymddwyn fel yma. Ond mae cosb Duw'n mynd i'w dal nhw yn y diwedd. Ffrindiau, yn fuan iawn ar ôl i ni gael ein gwahanu oddi wrthoch chi (dim ond yn gorfforol — achos roeddech chi'n dal ar ein meddyliau ni), roedden ni'n hiraethu am gael eich gweld chi eto. Roedden ni'n benderfynol o ddod yn ôl i'ch gweld chi. Dw i, Paul, wedi bwriadu dod sawl tro, ond mae Satan wedi'n rhwystro ni. Wedi'r cwbl, chi sy'n rhoi gobaith i ni! Chi sy'n ein gwneud ni mor hapus! Chi ydy'r goron fyddwn ni mor falch ohoni pan safwn ni o flaen ein Harglwydd Iesu ar ôl iddo ddod yn ôl! Ie, chi! Chi ydy'n diléit ni! Dŷn ni mor falch ohonoch chi! Doeddwn i ddim yn gallu diodde'r disgwyl dim mwy. Dyma ni'n penderfynu anfon Timotheus atoch chi, ac aros ein hunain yn Athen. Mae'n brawd Timotheus yn gweithio gyda ni i rannu'r newyddion da am y Meseia, a byddai e'n gallu cryfhau eich ffydd chi a'ch calonogi chi, rhag i'r treialon dych chi'n mynd trwyddyn nhw eich gwneud chi'n ansicr. Ac eto dych chi'n gwybod yn iawn fod rhaid i ni sy'n credu wynebu treialon o'r fath. Pan oedden ni gyda chi, roedden ni'n dweud dro ar ôl tro y bydden ni'n cael ein herlid. A dyna'n union sydd wedi digwydd, fel y gwyddoch chi'n rhy dda! Dyna pam allwn i ddim dioddef disgwyl mwy. Roedd rhaid i mi anfon Timotheus i weld a oeddech chi'n dal i sefyll yn gadarn. Beth petai'r temtiwr wedi llwyddo i'ch baglu chi rywsut, a bod ein gwaith ni i gyd wedi ei wastraffu? Ond mae Timotheus newydd gyrraedd yn ôl, ac wedi rhannu'r newyddion da am eich ffydd chi a'ch cariad chi! Mae'n dweud bod gynnoch chi atgofion melys amdanon ni, a bod gynnoch chi gymaint o hiraeth amdanon ni ag sydd gynnon ni amdanoch chi. Felly, ffrindiau annwyl, yng nghanol ein holl drafferthion a'r holl erlid dŷn ni'n ei wynebu, dŷn ni wedi cael ein calonogi'n fawr am fod eich ffydd chi'n dal yn gryf. Mae gwybod eich bod chi'n aros yn ffyddlon i'r Arglwydd wedi'n tanio ni â brwdfrydedd newydd. Sut allwn ni ddiolch digon i Dduw amdanoch chi? Dych chi wedi'n gwneud ni mor hapus! Ddydd a nos, dŷn ni'n gweddïo'n wirioneddol daer y cawn ni gyfle i ddod i'ch gweld chi eto, i ddysgu mwy i chi am sut mae'r rhai sy'n credu i fyw. Dŷn ni'n gweddïo y bydd Duw ein Tad, a'n Harglwydd Iesu Grist, yn ei gwneud hi'n bosib i ni ddod atoch chi'n fuan. A bydded i'r Arglwydd wneud i'ch cariad chi at eich gilydd, ac at bawb arall, dyfu nes ei fod yn gorlifo! — yn union yr un fath â'n cariad ni atoch chi. Dŷn ni eisiau iddo eich gwneud chi'n gryf. Wedyn byddwch yn ddi-fai ac yn sanctaidd o flaen ein Duw a'n Tad pan fydd ein Harglwydd Iesu'n dod yn ôl gyda'i angylion, a gyda'r holl bobl sy'n perthyn iddo. Yn olaf, ffrindiau, fel cynrychiolwyr personol yr Arglwydd Iesu, dŷn ni eisiau pwyso arnoch chi i fyw mewn ffordd sy'n plesio Duw, fel y dysgon ni i chi. Dych chi yn gwneud hynny eisoes, ond dŷn ni am eich annog chi i ddal ati fwy a mwy. Gwyddoch yn iawn beth ddwedon ni sydd raid i chi ei wneud. Roedden ni'n siarad ar ran yr Arglwydd Iesu ei hun: Mae Duw am i chi fyw bywydau glân sy'n dangos eich bod chi'n perthyn iddo: Dylech chi beidio gwneud dim sy'n anfoesol yn rhywiol. Dylech ddysgu cadw rheolaeth ar eich teimladau rhywiol — parchu eich corff a bod yn gyfrifol — yn lle bod fel y paganiaid sydd ddim yn nabod Duw ac sy'n gadael i'w chwantau redeg yn wyllt. Ddylai neb groesi'r ffiniau na manteisio ar Gristion arall yn hyn o beth. Bydd yr Arglwydd yn cosbi'r rhai sy'n pechu'n rhywiol — dŷn ni wedi'ch rhybuddio chi'n ddigon clir o hynny o'r blaen. Mae Duw wedi'n galw ni i fyw bywydau glân, dim i fod yn fochaidd. Felly mae unrhyw un sy'n gwrthod gwrando ar hyn yn gwrthod Duw ei hun, sy'n rhoi ei Ysbryd i chi, ie, yr Ysbryd Glân. Dim ein rheolau ni ydy'r rhain! Ond does dim rhaid i mi ddweud unrhyw beth am y cariad mae Cristnogion i'w ddangos at ei gilydd. Mae'n amlwg fod Duw ei hun — neb llai — wedi'ch dysgu chi i wneud hynny. Dych chi wedi dangos cariad at Gristnogion talaith Macedonia i gyd, a dŷn ni am bwyso arnoch chi, ffrindiau, i ddal ati i wneud hynny fwy a mwy. Dylech chi wneud popeth allwch chi i gael perthynas iach â phobl eraill. Dylech gynnal eich hunain a gweithio'n galed, yn union fel dwedon ni wrthoch chi. Wedyn bydd pobl sydd ddim yn credu yn parchu'r ffordd dych chi'n byw, a fydd dim rhaid i chi ddibynnu ar neb arall i'ch cynnal chi. A nawr, ffrindiau, dŷn ni am i chi ddeall beth sy'n digwydd i Gristnogion ar ôl iddyn nhw farw. Does dim rhaid i chi alaru fel mae pawb arall yn galaru — does ganddyn nhw ddim gobaith. Dŷn ni'n credu bod Iesu wedi marw ac wedi cael ei godi yn ôl yn fyw eto. Felly dŷn ni'n credu hefyd y bydd Duw yn dod â'r Cristnogion hynny sydd wedi marw yn ôl gyda Iesu pan fydd e'n dod yn ôl. Yr Arglwydd ei hun sydd wedi dweud: fyddwn ni sy'n dal yn fyw, pan ddaw'r Arglwydd Iesu yn ôl, ddim yn ennill y blaen ar y Cristnogion hynny sydd eisoes wedi marw. Bydd yr Arglwydd ei hun yn dod i lawr o'r nefoedd. Bydd Duw'n rhoi'r gorchymyn, bydd y prif angel yn cyhoeddi'n uchel a bydd utgorn yn seinio. Bydd y Cristnogion sydd wedi marw yn dod yn ôl yn fyw gyntaf. Yna byddwn ni sy'n dal yn fyw ar y ddaear yn cael ein cipio i fyny gyda nhw yn y cymylau i gyfarfod â'r Arglwydd yn yr awyr. Wedyn byddwn ni i gyd gyda'r Arglwydd am byth. Felly calonogwch eich gilydd gyda'r geiriau hyn. A does dim rhaid i ni ysgrifennu dim i ddweud pryd yn union fydd hyn i gyd yn digwydd. Dych chi'n gwybod yn iawn. Bydd yr Arglwydd yn dod yn ôl yn gwbl annisgwyl, fel mae lleidr yn dod yn y nos. Bydd pobl yn dweud, “Mae pethau'n mynd yn dda,” a “Dŷn ni'n saff,” ac yn sydyn bydd dinistr yn dod. Bydd yn dod mor sydyn â'r poenau mae gwraig yn eu cael pan mae ar fin cael babi. Fydd dim dianc! Ond dych chi ddim yn y tywyllwch, ffrindiau, felly ddylai'r diwrnod hwnnw ddim dod yn annisgwyl fel lleidr yn eich profiad chi. Plant y goleuni ydych chi i gyd! Plant y dydd! Dŷn ni ddim yn perthyn i'r nos a'r tywyllwch. Felly rhaid i ni beidio bod yn gysglyd fel pobl eraill. Gadewch i ni fod yn effro ac yn sobr. Mae pobl yn cysgu yn y nos, ac mae pobl yn meddwi yn y nos. Ond dŷn ni'n perthyn i'r dydd. Gadewch i ni fyw'n gyfrifol, wedi'n harfogi gyda ffydd a chariad yn llurig, a'r gobaith sicr y cawn ein hachub yn helmed. Dydy Duw ddim wedi bwriadu i ni gael ein cosbi, mae wedi dewis ein hachub ni drwy beth wnaeth yr Arglwydd Iesu Grist. Buodd e farw yn ein lle ni, er mwyn i ni gael byw gydag e am byth — ie, ni sy'n dal yn fyw a hefyd y rhai sydd wedi marw. Felly calonogwch eich gilydd, a daliwch ati i helpu'ch gilydd. Ffrindiau annwyl, dŷn ni am i chi werthfawrogi'r bobl hynny sy'n gweithio'n galed yn eich plith chi. Maen nhw'n gofalu amdanoch chi ac yn eich dysgu chi sut i fyw yn ffyddlon i'r Arglwydd. Dylech chi wir eu parchu nhw a dangos cariad mawr tuag atyn nhw o achos y gwaith maen nhw'n ei wneud. Dylech fyw'n heddychlon gyda'ch gilydd. A ffrindiau annwyl, dŷn ni'n apelio ar i chi rybuddio'r bobl hynny sy'n bod yn ddiog, annog y rhai sy'n ddihyder, helpu'r rhai gwan, a bod yn amyneddgar gyda phawb. Peidiwch gadael i bobl dalu'r pwyth yn ôl i eraill. Ceisiwch wneud lles i'ch gilydd bob amser, ac i bobl eraill hefyd. Peidiwch byth â stopio gorfoleddu! Daliwch ati i weddïo. Byddwch yn ddiolchgar beth bynnag ydy'ch sefyllfa chi. Dyna sut mae Duw am i chi ymddwyn, fel pobl sy'n perthyn i'r Meseia Iesu. Peidiwch bod yn rhwystr i waith yr Ysbryd Glân. Peidiwch wfftio proffwydoliaethau. Dylech bwyso a mesur pob un, a dal gafael yn beth sy'n dda. Cadwch draw oddi wrth bob math o ddrygioni. Dw i'n gweddïo y bydd Duw ei hun, y Duw sy'n rhoi heddwch dwfn i ni, yn eich gwneud chi'n berffaith lân, ac y bydd y person cyfan — yn ysbryd, enaid a chorff — yn cael ei gadw'n ddi-fai ganddo nes daw ein Harglwydd Iesu Grist yn ôl. Mae'r Duw sy'n eich galw chi yn ffyddlon, a bydd yn gwneud hyn. Gweddïwch droson ni, ffrindiau. Cyfarchwch eich cyd-Gristnogion yn llawn cariad. Dw i'n eich siarsio chi ar ran yr Arglwydd ei hun i wneud yn siŵr fod y Cristnogion i gyd yn clywed y llythyr yma yn cael ei ddarllen. Dw i'n gweddïo y byddwch chi'n profi'r haelioni rhyfeddol mae ein Harglwydd Iesu Grist yn ei roi i ni. Llythyr gan Paul, Silas a Timotheus, At bobl eglwys Dduw yn Thesalonica — y bobl sydd â pherthynas gyda Duw ein Tad a'r Arglwydd Iesu Grist: Dw i'n gweddïo y byddwch chi'n profi'r haelioni rhyfeddol a'r heddwch dwfn mae Duw ein Tad a'r Arglwydd Iesu Grist yn ei roi i ni. Frodyr a chwiorydd, dŷn ni'n diolch i Dduw amdanoch chi bob amser. Dyna ddylen ni ei wneud, achos mae'ch ffydd chi wedi cryfhau cymaint. Ac mae'r cariad sydd gan bob un ohonoch chi at eich gilydd yn tyfu bob dydd. Dŷn ni'n sôn amdanoch chi wrth bobl eglwysi Duw ym mhobman. Dŷn ni mor falch eich bod chi'n dal ati yn ffyddlon er gwaetha'r holl erlid fuoch chi trwyddo a'r treialon dych chi wedi gorfod eu dioddef. Mae'r cwbl yn arwydd clir y bydd Duw yn barnu'n gyfiawn. Dych chi'n cael eich cyfri'n deilwng i'w gael e'n teyrnasu drosoch chi, a dyna pam dych chi'n dioddef. Mae Duw bob amser yn gwneud beth sy'n iawn, a bydd yn talu'n ôl i'r rhai sy'n gwneud i chi ddioddef. Bydd y dioddef yn dod i ben i chi, ac i ninnau hefyd, pan fydd yr Arglwydd Iesu yn dod i'r golwg eto. Bydd yn dod o'r nefoedd gyda'i angylion cryfion. Gyda thân yn llosgi'n wenfflam bydd yn cosbi'r rhai sydd ddim yn nabod Duw ac sydd wedi gwrthod y newyddion da am Iesu, ein Harglwydd. Eu cosb nhw fydd dioddef dinistr diddiwedd, a chael eu cau allan o bresenoldeb yr Arglwydd a'i ysblander a'i nerth. Ar y diwrnod olaf hwnnw bydd yn cael ei anrhydeddu gan ei bobl, ac yn destun rhyfeddod gan bawb sydd wedi credu. Ac mae hynny'n eich cynnwys chi, gan eich bod chi wedi credu'r cwbl ddwedon ni wrthoch chi amdano fe. Dyna pam dŷn ni'n gweddïo drosoch chi drwy'r amser — gweddïo y bydd Duw'n eich gwneud chi'n deilwng o'r bywyd mae wedi eich galw i'w fyw. Hefyd, y bydd Duw yn rhoi'r nerth i chi wneud yr holl bethau da dych chi eisiau eu gwneud, a bod yn ffyddlon. Bydd hyn yn golygu bod yr Arglwydd Iesu'n cael ei anrhydeddu yn eich bywydau chi, a byddwch chi hefyd yn cael eich anrhydeddu gydag e. Bydd hyn yn digwydd am fod ein Duw a Iesu Grist ein Harglwydd mor hael! Gadewch i ni sôn am y ffaith fod yr Arglwydd Iesu Grist yn dod yn ôl, a sut fyddwn ni'n cael ein casglu ato. Ffrindiau annwyl, plîs peidiwch cynhyrfu na chael eich drysu gan bobl sy'n honni bod y diwrnod hwnnw eisoes wedi dod. Peidiwch cymryd sylw o unrhyw un sy'n mynnu mai dyna mae'r Ysbryd yn ei ddweud. A peidiwch gwrando ar unrhyw stori neu lythyr sy'n dweud mai dyna dŷn ni'n ei gredu. Peidiwch gadael i neb eich twyllo chi. Cyn i'r diwrnod hwnnw ddod bydd y gwrthryfel mawr olaf yn erbyn Duw yn digwydd. Bydd yr un sy'n ymgorfforiad o ddrygioni yn dod i'r golwg, sef yr un sydd wedi ei gondemnio i gael ei ddinistrio gan Dduw. Dyma elyn mawr Duw, yr un sy'n meddwl ei fod yn well na'r bodau ysbrydol i gyd ac unrhyw ‛dduw‛ arall sy'n cael ei addoli. Yn y diwedd bydd yn gosod ei hun yn nheml y Duw byw, ac yn cyhoeddi mai fe ydy Duw. Ydych chi ddim yn cofio mod i wedi dweud hyn i gyd pan oeddwn i gyda chi? Dylech wybod, felly, am y grym sy'n ei ddal yn ôl rhag iddo ddod i'r golwg cyn i'r amser iawn gyrraedd. Wrth gwrs, mae'r dylanwad dirgel sy'n hybu drygioni eisoes ar waith. Ond fydd y dirgelwch ddim ond yn aros nes bydd yr un sy'n ei ddal yn ôl ar hyn o bryd yn cael ei symud o'r neilltu. Wedyn bydd yr un sy'n ymgorfforiad o ddrygioni yn dod i'r golwg. Ond bydd yr Arglwydd Iesu yn ei ladd drwy ddim ond chwythu arno! Bydd yn ei ddinistrio wrth ddod yn ôl gyda'r fath ysblander. Pan fydd yr un drwg yn dod, bydd yn gwneud gwaith Satan. Bydd ganddo'r nerth i wneud gwyrthiau syfrdanol, a rhyfeddodau ffug eraill. Bydd yn gwneud pob math o bethau drwg ac yn twyllo'r rhai sy'n mynd i ddistryw am eu bod nhw wedi gwrthod credu'r gwir fyddai'n eu hachub nhw. Mae Duw yn eu barnu nhw drwy anfon rhith twyllodrus fydd yn gwneud iddyn nhw gredu celwydd. Felly bydd pawb sy'n gwrthod credu'r gwir ac sydd wedi bod yn mwynhau gwneud drygioni yn cael eu cosbi. Ond mae'n rhaid i ni ddiolch i Dduw amdanoch chi bob amser. Ffrindiau annwyl, chi sydd wedi'ch caru gan yr Arglwydd. Dych chi ymhlith y rhai cyntaf ddewisodd Duw i gael eu hachub drwy'r Ysbryd sy'n eich gwneud chi'n lân a thrwy i chi gredu'r gwir. Galwodd Duw chi i rannu yn hyn i gyd wrth i ni gyhoeddi'r newyddion da, a byddwch yn cael rhannu ysblander ein Harglwydd Iesu Grist. Felly, ffrindiau annwyl, arhoswch yn ffyddlon iddo, a daliwch eich gafael yn y cwbl wnaethon ni ei ddysgu i chi, ar lafar ac yn ein llythyr atoch chi. Dw i'n gweddïo y bydd ein Harglwydd Iesu Grist, a Duw ein Tad (sydd wedi'n caru ni, ac wedi bod mor hael yn rhoi hyder ddaw byth i ben a dyfodol sicr i ni), yn eich cysuro ac yn rhoi nerth i chi wneud a dweud beth sy'n dda. Yn olaf, ffrindiau, gweddïwch droson ni. Gweddïwch y bydd neges yr Arglwydd yn mynd ar led yn gyflym, ac yn cael ei derbyn yn frwd fel y cafodd gynnoch chi. A gweddïwch hefyd y byddwn ni'n cael ein hamddiffyn rhag pobl gas a drwg. Dydy pawb ddim yn dod i gredu'r neges! Ond mae'r Arglwydd yn ffyddlon; bydd e'n rhoi nerth i chi ac yn eich cadw chi'n ddiogel rhag yr un drwg. Ac mae'r Arglwydd yn ein gwneud ni'n hyderus eich bod chi'n gwneud beth ddwedon ni wrthoch chi, ac y gwnewch chi ddal ati i wneud hynny. Dw i'n gweddïo y bydd yr Arglwydd yn eich arwain chi i garu Duw a dal ati i ymddiried yn llwyr ynddo fe, y Meseia. Nawr, dŷn ni'n rhoi gorchymyn i chi, ffrindiau annwyl (ac mae gynnon ni awdurdod yr Arglwydd Iesu Grist i wneud hynny): Cadwch draw oddi wrth unrhyw Gristion sy'n gwrthod gweithio a ddim yn byw fel y dysgon ni i chi fyw. Dilynwch ein hesiampl ni. Fuon ni ddim yn ddiog pan oedden ni gyda chi. Doedden ni ddim yn cymryd mantais o bobl eraill drwy fwyta yn eu cartrefi nhw heb dalu am ein lle. Yn hollol fel arall! Roedden ni'n gweithio ddydd a nos er mwyn gwneud yn siŵr bod dim rhaid i chi dalu i'n cynnal ni. Er bod gynnon ni hawl i ddisgwyl help gynnoch chi, roedden ni am roi esiampl i chi a bod yn batrwm i chi ei ddilyn. “Os ydy rhywun yn gwrthod gweithio, dydy e ddim i gael bwyta” — dyna ddwedon ni pan oedden ni gyda chi. Ond dŷn ni wedi clywed bod rhai ohonoch chi'n diogi. Pobl yn treulio'u hamser yn busnesa yn lle gweithio. Mae gynnon ni awdurdod yr Arglwydd i ddweud wrth bobl felly, a phwyso arnyn nhw i fyw fel y dylen nhw a dechrau ennill eu bara menyn. Ffrindiau annwyl, peidiwch byth â blino gwneud daioni. Cadwch lygad ar unrhyw un sy'n gwrthod gwneud beth dŷn ni'n ei ddweud yn y llythyr yma. Cadwch draw oddi wrtho, er mwyn codi cywilydd arno. Ond peidiwch ei drin fel gelyn — dim ond ei rybuddio fel brawd a'i helpu i newid. Dw i'n gweddïo y bydd yr Arglwydd sy'n rhoi heddwch yn gwneud i chi brofi ei heddwch ym mhob sefyllfa. Bydded yr Arglwydd yn agos at bob un ohonoch chi. Dw i'n ysgrifennu'r cyfarchiad yma yn fy llawysgrifen fy hun — PAUL. Dyma sy'n dangos yn fy holl lythyrau mai fi sy'n ysgrifennu. Dyma fy llawysgrifen i. Dw i'n gweddïo y byddwch chi i gyd yn profi haelioni rhyfeddol ein Harglwydd Iesu Grist. Llythyr gan Paul, cynrychiolydd personol y Meseia Iesu — wedi fy anfon gan y Duw sy'n ein hachub ni, a'r Meseia, yr un mae'n gobaith ni ynddo. Timotheus, rwyt ti wir fel mab i mi yn y ffydd: Dw i'n gweddïo y byddi di'n profi'r haelioni rhyfeddol, y trugaredd a'r heddwch dwfn mae Duw ein Tad a'r Meseia Iesu ein Harglwydd yn ei roi i ni. Fel y gwnes i pan roeddwn i'n teithio i dalaith Macedonia, dw i'n pwyso arnat ti eto i aros yn Effesus. Rhaid i ti roi stop ar y rhai hynny sy'n dysgu pethau sydd ddim yn wir, yn gwastraffu eu hamser yn astudio chwedlau a rhestrau achau diddiwedd. Dydy pethau felly ddim ond yn arwain i ddyfalu gwag. Dyn nhw'n gwneud dim i hybu cynllun Duw i achub pobl, sef cael pobl i gredu. Y rheswm pam dw i'n dweud hyn ydy am fy mod i eisiau i Gristnogion garu ei gilydd. Dw i am i'w cymhellion nhw fod yn bur, eu cydwybod nhw'n lân, ac eisiau iddyn nhw drystio Duw go iawn. Mae rhai wedi crwydro oddi wrth y pethau yma. Maen nhw'n treulio eu hamser yn siarad nonsens! Maen nhw'n honni bod yn arbenigwyr yn y Gyfraith Iddewig, ond does ganddyn nhw ddim clem! Dyn nhw ddim yn gwybod beth maen nhw'n sôn amdano er eu bod nhw'n siarad mor awdurdodol! Dŷn ni'n gwybod fod Cyfraith Duw yn dda os ydy hi'n cael ei thrin yn iawn. Dŷn ni'n gwybod hefyd mai dim ar gyfer y rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn y cafodd y Gyfraith ei rhoi. Mae hi ar gyfer y bobl hynny sy'n anufudd ac yn gwrthryfela, pobl annuwiol a phechadurus, pobl sy'n parchu dim ac yn ystyried dim byd yn gysegredig. Ar gyfer y rhai sy'n lladd eu tadau a'u mamau, llofruddion, pobl sy'n pechu'n rhywiol, yn wrywgydwyr gweithredol, pobl sy'n prynu a gwerthu caethweision, yn dweud celwydd, ac sy'n rhoi tystiolaeth gelwyddog, ac yn gwneud unrhyw beth arall sy'n groes i ddysgeidiaeth gywir. Mae dysgeidiaeth felly yn gyson â'r newyddion da sy'n dweud wrthon ni mor wych ydy'r Duw bendigedig! Dyma'r newyddion da mae e wedi rhoi'r cyfrifoldeb i mi ei gyhoeddi. Dw i mor ddiolchgar fod ein Harglwydd, y Meseia Iesu, yn gweld ei fod yn gallu dibynnu arna i. Fe sy'n rhoi'r nerth i mi, ac mae wedi fy newis i weithio iddo. Cyn dod yn Gristion roeddwn i'n arfer cablu ei enw; roeddwn i'n erlid y bobl oedd yn credu ynddo, ac yn greulon iawn atyn nhw. Ond roedd Duw yn garedig ata i — doeddwn i ddim yn credu nac yn sylweddoli beth oeddwn i'n ei wneud. Roedd yr Arglwydd mor anhygoel o garedig ata i! Des i gredu, a chael fy llenwi â'r cariad sy'n dod oddi wrth y Meseia Iesu. Mae beth sy'n cael ei ddweud mor wir, a dylai pawb ei gredu: Daeth y Meseia Iesu i'r byd i achub pechaduriaid — a fi ydy'r gwaetha ohonyn nhw. Ond mae Duw wedi maddau i mi, y pechadur gwaetha, er mwyn i bawb weld amynedd di-ben-draw y Meseia Iesu! Dw i'n esiampl berffaith o'r math o bobl fyddai'n dod i gredu ynddo ac yn derbyn bywyd tragwyddol. Mae e'n haeddu ei anrhydeddu a'i foli am byth bythoedd! Fe ydy'r Brenin am byth! Fe ydy'r Duw anfarwol, anweledig! Fe ydy'r unig Dduw sy'n bod! Amen! Timotheus, fy mab, dw i'n rhoi siars i ti (yn gyson â beth sydd wedi ei broffwydo amdanat ti): Mae'n bwysig dy fod ti'n ymladd yn dda yn y frwydr. Dal dy afael yn beth rwyt ti'n ei gredu, a chadw dy gydwybod yn lân. Mae rhai wedi dewis peidio gwneud hynny, ac o ganlyniad mae eu ffydd wedi ei dryllio. Mae Hymenaeus ac Alecsander yn enghreifftiau o'r peth. Dw i wedi eu taflu nhw allan o'r eglwys er mwyn iddyn nhw ddysgu peidio cablu. O flaen popeth arall dw i'n pwyso arnoch chi i weddïo dros bawb — pledio a gweddïo'n daer; gofyn a diolch i Dduw ar eu rhan nhw. Dylech chi wneud hynny dros frenhinoedd a phawb arall mewn safle o awdurdod, er mwyn i ni gael heddwch a llonydd i fyw bywydau duwiol a gweddus. Mae gweddïo felly yn beth da i'w wneud, ac yn plesio Duw sydd wedi'n hachub ni. Achos mae e am i bobl o bob math gael eu hachub a dod i wybod y gwir. Mae am iddyn nhw ddeall mai un Duw sydd, ac mai dim ond un person sy'n gallu pontio'r gagendor rhwng Duw a phobl. Iesu y Meseia ydy hwnnw, ac roedd e'n ddyn. Rhoddodd ei fywyd yn aberth i dalu'r pris am ollwng pobl yn rhydd. Daeth i roi tystiolaeth am fwriad Duw ar yr amser iawn. A dyma pam ces i fy newis yn negesydd ac yn gynrychiolydd personol iddo, i ddysgu pobl o genhedloedd eraill am beth sy'n wir, a'r angen i gredu yn Iesu Grist. A'r gwir dw i'n ei gyhoeddi, heb air o gelwydd! Felly, ble bynnag mae pobl yn cyfarfod i addoli, dw i am i'r dynion sy'n gweddïo fyw bywydau sy'n dda yng ngolwg Duw, a pheidio gwylltio a dadlau. A'r gwragedd yr un fath. Dylen nhw beidio gwisgo dillad i dynnu sylw atyn nhw eu hunain, dim ond dillad sy'n weddus, yn synhwyrol ac yn bwrpasol. Dim steil gwallt a thlysau aur a pherlau a dillad costus sy'n bwysig, ond gwneud daioni. Dyna sy'n gwneud gwragedd sy'n proffesu eu bod yn addoli Duw yn ddeniadol. Rhaid i wraig, wrth gael ei dysgu, fod yn dawel a dangos ei bod yn barod i ymostwng yn llwyr. Dw i ddim am ganiatáu i wraig hyfforddi a bod fel teyrn dros ddyn; rhaid iddi ddysgu yn dawel. Adda gafodd ei greu gyntaf, ac wedyn Efa. A dim Adda gafodd ei dwyllo; y wraig oedd yr un gafodd ei thwyllo, a throseddu. Ond byddai hi'n cael ei hachub drwy'r plentyn oedd i'w eni. Dylen nhw ddal ati i gredu, dangos cariad, byw bywydau glân a bod yn ddoeth. Mae beth sy'n cael ei ddweud mor wir: Mae rhywun sydd ag uchelgais i fod yn arweinydd yn yr eglwys yn awyddus i wneud gwaith da. Felly rhaid i arweinydd fod yn ddi-fai. Rhaid iddo fod yn ŵr sy'n ffyddlon i'w wraig, yn ymddwyn yn gyfrifol, yn synhwyrol ac yn gall, yn berson croesawgar, yn gallu dysgu eraill, ddim yn meddwi, ddim yn ymosodol ond yn deg, ddim yn achosi dadleuon, a ddim yn ariangar. Dylai allu cadw trefn ar ei deulu ei hun, a'i blant yn atebol iddo ac yn ei barchu. (Os ydy rhywun ddim yn gallu cadw trefn ar ei deulu ei hun, sut mae disgwyl iddo ofalu am eglwys Dduw?) Dylai e ddim bod yn rhywun sydd ddim ond newydd ddod yn Gristion, rhag iddo ddechrau meddwl ei hun a chael ei farnu fel cafodd y diafol ei farnu. Rhaid iddo hefyd fod ag enw da gan bobl y tu allan i'r eglwys, rhag iddo gael ei ddal ym magl y diafol a chael ei gywilyddio. A'r rhai sy'n gwasanaethu'r tlawd ar ran yr eglwys yr un fath. Rhaid iddyn nhw fod yn bobl sy'n haeddu eu parchu, ddim yn ddauwynebog, ddim yn yfed yn ormodol, nac yn elwa ar draul pobl eraill. Rhaid iddyn nhw ddal gafael yn beth mae Duw wedi ei ddangos sy'n wir, a byw gyda chydwybod lân. Dylai'r dynion hyn dreulio cyfnod ar brawf cyn cael eu penodi i wasanaethu. Wedyn byddan nhw'n gallu cael eu penodi os oes dim rheswm i beidio gwneud hynny. A'r un fath gyda'r gwragedd hynny sy'n gwasanaethu. Dylen nhw fod yn wragedd sy'n cael eu parchu; ddim yn rhai sy'n hel clecs maleisus, ond yn wragedd cyfrifol ac yn rai dŷn ni'n gallu dibynnu'n llwyr arnyn nhw. Dylai unrhyw ddyn sy'n gwasanaethu'r tlawd ar ran yr eglwys fod yn ffyddlon i'w wraig, ac yn gallu cadw trefn ar ei blant ac ar ei gartref. Bydd y rhai sydd wedi gwasanaethu'n dda yn cael enw da ac yn gallu siarad yn hyderus am gredu yn y Meseia Iesu. Dw i'n gobeithio dod i dy weld di'n fuan. Ond dw i'n ysgrifennu atat ti rhag ofn i mi gael fy rhwystro, er mwyn i ti wybod sut dylai'r bobl sy'n perthyn i deulu Duw ymddwyn. Dyma eglwys y Duw byw, sy'n cynnal y gwirionedd fel mae sylfaen a thrawst yn dal tŷ gyda'i gilydd. Heb unrhyw amheuaeth, mae beth sydd wedi ei ddangos i fod yn wir am ein ffydd ni yn rhyfeddol: Daeth i'r golwg fel person o gig a gwaed; Cyhoeddodd yr Ysbryd Glân ei fod yn gyfiawn. Cafodd ei weld yn fyw gan angylion; Cafodd y newyddion da amdano ei gyhoeddi i'r cenhedloedd, a chredodd llawer o bobl y byd ynddo. Cafodd ei gymryd i fyny i ysblander y nefoedd. Ond mae'r Ysbryd Glân yn dweud yn gwbl glir y bydd rhai yn y cyfnod olaf hwn yn troi cefn ar y gwir. Byddan nhw'n gwrando ar ysbrydion sy'n twyllo ac yn credu pethau mae cythreuliaid yn eu dysgu. Pobl ddauwynebog a chelwyddog sy'n dysgu pethau felly. Pobl heb gydwybod, fel petai wedi ei serio gyda haearn poeth. Maen nhw'n rhwystro pobl rhag priodi ac yn gorchymyn iddyn nhw beidio bwyta rhai bwydydd. Ond Duw greodd y bwydydd hynny i'w derbyn yn ddiolchgar gan y rhai sy'n credu ac sy'n gwybod beth ydy'r gwir. Ac mae popeth mae Duw wedi ei greu yn dda! Felly dylen ni dderbyn y cwbl yn ddiolchgar. Mae Duw wedi dweud ei fod yn iawn i'w fwyta a dylen ni ddiolch amdano mewn gweddi. Os gwnei di ddysgu hyn i bawb arall, a bwydo dy hun ar wirioneddau'r ffydd a'r ddysgeidiaeth dda rwyt wedi ei derbyn, byddi di'n was da i Iesu y Meseia. Paid gwastraffu dy amser gyda chwedlau sy'n ddim byd ond coelion gwrachod. Yn lle hynny gwna dy orau glas i fyw fel mae Duw am i ti fyw. Mae ymarfer corff yn beth da, ond mae ymdrechu i fyw fel mae Duw am i ti fyw yn llawer iawn pwysicach — mae'n dda i ti yn y bywyd hwn a'r bywyd sydd i ddod. Ydy, mae beth sy'n cael ei ddweud mor wir, a dylai pawb gredu'r peth. Dyma'r rheswm pam dŷn ni'n dal ati i weithio'n galed ac ymdrechu. Dŷn ni wedi ymddiried yn y Duw byw, sy'n achub pob math o bobl — pawb sy'n credu. Gwna'n siŵr fod pobl yn gwybod y pethau hyn a dysga nhw. Paid gadael i neb dy ddibrisio am dy fod di'n ifanc. Bydd yn esiampl dda i'r credinwyr yn y ffordd rwyt ti'n siarad, a sut rwyt ti'n byw, yn dy gariad at eraill, dy ffydd a'th fywyd glân. Hyd nes bydda i wedi cyrraedd, canolbwyntia ar ddarllen yr ysgrifau sanctaidd yn gyhoeddus, annog y bobl a'u dysgu nhw. Paid ag esgeuluso'r ddawn roddodd yr Ysbryd Glân i ti gyda neges broffwydol pan oedd yr arweinwyr yn gosod eu dwylo arnat ti i dy gomisiynu di i'r gwaith. Gwna'r pethau yma yn flaenoriaeth. Bwrw iddi i'w gwneud, er mwyn i bawb weld sut rwyt ti'n dod yn dy flaen. Cadw lygad ar sut rwyt ti'n byw a beth rwyt ti'n ei ddysgu. Dal ati i wneud hynny. Wedyn byddi'n gwneud yn siŵr dy fod ti dy hun a'r rhai sy'n gwrando arnat ti yn cael eu hachub. Paid bod yn llawdrwm wrth geryddu dyn sy'n hŷn na ti. Dangos barch ato ac apelio ato fel petai'n dad i ti. Trin y dynion ifanc fel brodyr, y gwragedd hŷn fel mamau, a'r gwragedd ifanc fel chwiorydd (a gofalu dy fod yn cadw dy feddwl yn lân pan fyddi gyda nhw). Dylai'r eglwys ofalu am y gweddwon hynny sydd mewn gwir angen. Ond os oes gan weddw blant neu wyrion, dylai'r rheiny ymarfer eu crefydd drwy ofalu am eu teuluoedd. Gallan nhw dalu yn ôl am y gofal gawson nhw pan yn blant. Dyna sut mae plesio Duw. Os ydy gweddw mewn gwir angen does ganddi neb i edrych ar ei hôl. Duw ydy ei hunig obaith hi, ac mae hi'n gweddïo ddydd a nos ac yn gofyn iddo am help. Ond mae'r weddw sy'n byw i fwynhau ei hun a chael amser da yn farw'n ysbrydol. Gwna'n siŵr fod pobl yn yr eglwys yn deall y pethau yma, wedyn fydd dim lle i feio neb. Mae unrhyw un sy'n gwrthod gofalu am ei berthnasau, yn arbennig ei deulu agosaf, wedi troi cefn ar y ffydd Gristnogol. Yn wir mae person felly yn waeth na'r bobl sydd ddim yn credu. Ddylai gweddw ddim ond cael ei chynnwys ar restr y rhai mae'r eglwys yn gofalu amdanyn nhw os ydy hi dros chwe deg oed. Rhaid iddi hefyd fod wedi bod yn ffyddlon i'w gŵr, ac yn wraig mae enw da iddi am ei bod wedi gwneud cymaint o ddaioni: wedi magu ei phlant, rhoi croeso i bobl ddieithr, gwasanaethu pobl Dduw, a helpu pobl mewn trafferthion. Dylai fod yn wraig sydd wedi ymroi i wneud daioni bob amser. Paid rhoi enwau'r gweddwon iau ar y rhestr. Pan fydd eu teimladau rhywiol yn gryfach na'u hymroddiad i'r Meseia, byddan nhw eisiau priodi. Byddai hynny yn golygu eu bod nhw'n euog o fod wedi torri'r addewid blaenorol wnaethon nhw. Yr un pryd, mae peryg iddyn nhw fynd i'r arfer drwg o wneud dim ond crwydro o un tŷ i'r llall a bod yn ddiog. Ac yn waeth na hynny, clebran a busnesa a dweud pethau ddylen nhw ddim. Dw i am i'r gweddwon iau i briodi eto a chael plant, a gofalu am y cartref. Wedyn fydd y gelyn ddim yn gallu bwrw sen arnon ni. Ond mae rhai eisoes wedi troi cefn, a mynd ar ôl Satan. Os oes gan unrhyw wraig sy'n Gristion berthnasau sy'n weddwon, dylai hi ofalu amdanyn nhw a pheidio rhoi'r baich ar yr eglwys. Bydd yr eglwys wedyn yn gallu canolbwyntio ar helpu'r gweddwon hynny sydd mewn gwir angen. Mae'r arweinwyr hynny yn yr eglwys sy'n gwneud eu gwaith yn dda yn haeddu eu parchu a derbyn cyflog teg. Mae hyn yn arbennig o wir am y rhai hynny sy'n gweithio'n galed yn pregethu a dysgu. Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud, “Peidiwch rhwystro'r ychen sy'n sathru'r ŷd rhag bwyta,” a hefyd “Mae gweithiwr yn haeddu ei gyflog.” Paid gwrando ar gyhuddiad yn erbyn arweinydd yn yr eglwys oni bai fod dau neu dri tyst. Ond dylai'r rhai sydd yn dal ati i bechu gael eu ceryddu o flaen pawb, er mwyn i'r lleill wylio eu hunain. O flaen Duw a'r Meseia Iesu a'r angylion mae wedi eu dewis, dw i'n rhoi siars i ti wneud y pethau yma heb ragfarn na chymryd ochrau. Paid byth â dangos ffafriaeth! Gwylia rhag bod yn fyrbwyll wrth gomisiynu pobl yn arweinwyr yn yr eglwys. Does gen ti ddim eisiau bod yn gyfrifol am bechodau pobl eraill. Cadw dy hun yn bur. O hyn ymlaen stopia yfed dim byd ond dŵr. Cymer ychydig win i wella dy stumog. Rwyt ti'n dioddef salwch yn rhy aml. Mae pechodau rhai pobl yn gwbl amlwg, a does dim amheuaeth eu bod nhw'n euog. Ond dydy pechodau pobl eraill ddim ond yn dod i'r amlwg yn nes ymlaen. A'r un modd, mae'r pethau da mae rhai pobl yn eu gwneud yn amlwg hefyd. A fydd dim modd cuddio'r pethau hynny sydd wedi eu gwneud o'r golwg am byth. Dylai Cristnogion sy'n gaethweision barchu eu meistri, fel bod pobl ddim yn dweud pethau drwg am Dduw a beth dŷn ni'n ei ddysgu. A ddylid dim dangos llai o barch at y meistri hynny sy'n Gristnogion am eu bod nhw'n frodyr. Fel arall yn hollol — dylid gweithio'n galetach iddyn nhw, am fod y rhai sy'n elwa o'u gwasanaeth yn gredinwyr, ac yn annwyl yn eu golwg nhw. Dysga bobl ac annog nhw i wneud hyn i gyd. Mae rhai yn dysgu pethau sydd ddim yn wir, ac sy'n hollol groes i beth ddysgodd ein Harglwydd Iesu Grist — sut mae byw fel mae Duw am i ni fyw. Mae'n amlwg fod person felly yn llawn ohono'i hun ond yn deall dim byd mewn gwirionedd. Mae'n amlwg fod ganddo obsesiwn afiach am godi dadl a hollti blew am ystyr geiriau. Mae'n arwain i genfigen a ffraeo, enllibio, a phobl yn bod yn amheus o'u gilydd. Mae'n achosi dadleuon diddiwedd. Mae meddyliau pobl felly wedi eu llygru. Maen nhw wedi colli gafael yn beth sy'n wir. Dydy byw'n dduwiol yn ddim byd ond ffordd o wneud arian yn eu golwg nhw. Ond mae byw'n dduwiol yn cyfoethogi bywyd go iawn pan dŷn ni'n fodlon gyda beth sydd gynnon ni yn faterol. Doedd gynnon ni ddim pan gawson ni ein geni, a fyddwn ni'n gallu mynd â dim byd gyda ni pan fyddwn ni farw. Felly os oes gynnon ni fwyd a dillad, gadewch i ni fod yn fodlon gyda hynny. Mae pobl sydd eisiau bod yn gyfoethog yn syrthio i demtasiwn ac yn cael eu trapio gan chwantau ffôl a niweidiol sy'n difetha ac yn dinistrio eu bywydau. Mae ariangarwch wrth wraidd pob math o ddrygioni. Ac mae rhai pobl, yn eu hawydd i wneud arian, wedi crwydro oddi wrth y ffydd, ac achosi pob math o loes a galar iddyn nhw eu hunain. Ond rwyt ti, Timotheus, yn was i Dduw. Felly dianc di rhag pethau felly. Dylet ti wneud dy orau i fyw yn iawn, fel mae Duw am i ti fyw — yn ffyddlon, yn llawn cariad, yn dal ati drwy bopeth ac yn addfwyn. Mae'r bywyd Cristnogol fel gornest yn y mabolgampau, a rhaid i ti ymdrechu i ennill. Bywyd tragwyddol ydy'r wobr. Mae Duw wedi dy alw di i hyn ac rwyt wedi dweud yn glir dy fod di'n credu o flaen llawer o dystion. Dw i'n rhoi'r siars yma i ti — a hynny o flaen Duw sy'n rhoi bywyd i bopeth, ac o flaen Iesu y Meseia, a ddwedodd y gwir yn glir pan oedd ar brawf o flaen Pontius Peilat. Gwna bopeth rwyt ti wedi dy alw i'w wneud, nes bydd yr Arglwydd Iesu Grist yn dod yn ôl. Bydd hynny'n digwydd pan mae Duw'n dweud — sef y Duw bendigedig, yr un sy'n rheoli pob peth, Brenin y brenhinoedd ac Arglwydd yr arglwyddi! Fe ydy'r unig un sy'n anfarwol yn ei hanfod. Mae'n byw mewn golau llachar na ellir mynd yn agos ato, a does neb wedi ei weld, nac yn mynd i allu ei weld. Pob anrhydedd iddo! Boed iddo deyrnasu am byth! Amen! Dywed wrth bobl gyfoethog y byd hwn i beidio bod yn falch, a hefyd i beidio meddwl fod rhywbeth sydd mor ansicr â chyfoeth yn bodloni. Duw ydy'r un i ymddiried ynddo. Mae'n rhoi popeth sydd ei angen arnon ni, i ni ei fwynhau. Dywed wrthyn nhw am ddefnyddio'u harian i wneud daioni. Dylen nhw fod yn gyfoethog mewn gweithredoedd da, yn hael, ac yn barod i rannu bob amser. Wrth wneud hynny byddan nhw'n casglu trysor go iawn iddyn nhw eu hunain — sylfaen gadarn i'r dyfodol, iddyn nhw gael gafael yn y bywyd sydd yn fywyd go iawn. Timotheus, cadw'n saff bopeth mae Duw wedi ei roi yn dy ofal. Cadw draw oddi wrth glebran bydol a'r math nonsens dwl sy'n cael ei alw ar gam yn ‛wybodaeth‛. Dyma beth mae rhai yn ei broffesu, ac wrth wneud hynny maen nhw wedi crwydro oddi wrth beth sy'n wir. Dw i'n gweddïo y byddwch chi'n profi haelioni rhyfeddol Duw! Llythyr gan Paul, gafodd ei ddewis gan Dduw yn gynrychiolydd personol i'r Meseia Iesu. Wedi fy anfon i ddweud wrth bobl am y bywyd sydd wedi ei addo i'r rhai sydd â pherthynas â Iesu y Meseia, At Timotheus, sydd fel mab annwyl i mi: Dw i'n gweddïo y byddi di'n profi'r haelioni rhyfeddol, y trugaredd a'r heddwch dwfn mae Duw ein Tad a'r Meseia Iesu, ein Harglwydd, yn ei roi i ni. Dw i mor ddiolchgar i Dduw amdanat ti — y Duw dw i'n ei wasanaethu gyda chydwybod glir, fel y gwnaeth fy nghyndadau. Dw i bob amser yn cofio amdanat ti wrth weddïo ddydd a nos. Dw i'n cofio dy ddagrau di pan roeddwn i'n dy adael, a dw i'n hiraethu am dy weld di eto. Byddai hynny'n fy ngwneud i'n wirioneddol hapus. Dw i'n cofio fel rwyt ti'n ymddiried yn yr Arglwydd. Roedd Lois, dy nain, ac Eunice, dy fam, yn credu go iawn, a dw i'n gwybod yn iawn dy fod ti yr un fath. Dyna pam dw i am i ti ailgynnau'r fflam, a meithrin y ddawn roddodd Duw i ti pan wnes i osod dwylo arnat ti i dy gomisiynu di i'r gwaith. Dydy Duw ddim wedi rhoi ei Ysbryd i ni fod yn llwfr, ond i'n gwneud ni'n gryf, yn llawn cariad ac yn gyfrifol. Felly paid bod â chywilydd dweud wrth eraill am ein Harglwydd ni. A paid bod â chywilydd ohono i chwaith, am fy mod i yn y carchar am ei wasanaethu. Sefyll gyda mi yn nerth Duw, a bydd yn fodlon dioddef dros y newyddion da. Mae Duw wedi'n hachub ni a'n galw ni i fyw bywyd glân. Wnaethon ni ddim i haeddu hyn. Duw ei hun ddewisodd wneud y peth. Mae e mor hael! Mae e wedi dod â ni i berthynas â'r Meseia Iesu. Trefnodd hyn i gyd ymhell cyn i amser ddechrau, a bellach mae haelioni Duw i'w weld yn glir, am fod ein Hachubwr ni, y Meseia Iesu, wedi dod. Mae wedi dinistrio grym marwolaeth a dangos beth ydy bywyd tragwyddol ac anfarwoldeb drwy'r newyddion da. Dyma'r newyddion da dw i wedi cael fy newis i'w gyhoeddi a'i ddysgu fel cynrychiolydd personol Iesu. Dyna pam dw i'n dioddef fel rydw i. Ond does gen i ddim cywilydd, achos dw i'n nabod yr un dw i wedi credu ynddo. Dw i'n hollol sicr ei fod yn gallu cadw popeth dw i wedi ei roi yn ei ofal yn saff, nes daw'r diwrnod pan fydd e'n dod yn ôl. Cofia beth wnes i ei ddweud, a'i gadw fel patrwm o ddysgeidiaeth gywir. Dal di ati i gredu ynddo ac i garu eraill am dy fod yn perthyn i'r Meseia Iesu. Gyda help yr Ysbryd Glân sy'n byw ynon ni, cadw'r trysor sydd wedi ei roi yn dy ofal yn saff. Fel rwyt ti'n gwybod, mae pawb yn nhalaith Asia wedi troi cefn arna i, gan gynnwys Phygelus a Hermogenes. Dw i'n gweddïo y bydd yr Arglwydd yn arbennig o garedig at Onesifforws a phawb arall yn ei dŷ. Mae e wedi codi fy nghalon i lawer gwaith, a doedd ganddo ddim cywilydd fy mod i yn y carchar. Yn hollol fel arall! — pan ddaeth i Rufain, buodd yn chwilio amdana i ym mhobman nes llwyddo i ddod o hyd i mi. Boed i'r Arglwydd fod yn arbennig o garedig ato ar y diwrnod pan fydd Iesu Grist yn dod yn ôl! Rwyt ti'n gwybod cymaint o help fuodd e i mi yn Effesus. Felly, fy mab, gad i haelioni rhyfeddol y Meseia Iesu dy wneud di'n gryf. Dywed di wrth eraill beth glywaist ti fi'n ei ddweud o flaen llawer o dystion — rhanna'r cwbl gyda phobl y gelli di ddibynnu arnyn nhw i ddysgu eraill. A bydd dithau hefyd yn barod i ddioddef, fel milwr da i Iesu y Meseia. Dydy milwr ddim yn poeni am y mân bethau sy'n poeni pawb arall — mae e eisiau plesio ei gapten. Neu meddylia am athletwr yn cystadlu mewn mabolgampau — fydd e ddim yn ennill yn ei gamp heb gystadlu yn ôl y rheolau. A'r ffermwr sy'n gweithio mor galed ddylai fod y cyntaf i gael peth o'r cnwd. Meddylia am beth dw i'n ddweud. Bydd yr Arglwydd yn dy helpu di i ddeall hyn i gyd. Cofia fod Iesu y Meseia, oedd yn perthyn i deulu y Brenin Dafydd, wedi ei godi yn ôl yn fyw ar ôl marw. Dyma'r newyddion da dw i'n ei gyhoeddi. A dyna'r union reswm pam dw i'n dioddef — hyd yn oed wedi fy rhwymo gyda chadwyni yn y carchar, fel taswn i'n droseddwr. Ond dydy cadwyni ddim yn gallu rhwymo neges Duw! Felly dw i'n fodlon diodde'r cwbl er mwyn i'r bobl mae Duw wedi eu dewis gael eu hachub gan y Meseia Iesu a chael eu anrhydeddu ag ysblander tragwyddol. Mae'r hyn sy'n cael ei ddweud mor wir!: Os buon ni farw gyda'r Meseia, byddwn ni hefyd yn byw gydag e; os byddwn ni'n dal ati, byddwn ni hefyd yn cael teyrnasu gydag e. Os byddwn ni'n gwadu ein bod ni'n ei nabod e, bydd e hefyd yn gwadu ei fod yn ein nabod ni; Os ydyn ni'n anffyddlon, bydd e'n siŵr o fod yn ffyddlon; oherwydd dydy e ddim yn gallu gwadu pwy ydy e. Dal ati i atgoffa pobl o'r pethau hyn. Rhybuddia nhw, o flaen Duw, i beidio hollti blew am ystyr geiriau. Dydy peth felly ddim help i neb. Mae'n drysu'r bobl sy'n gwrando. Gwna dy orau glas i sicrhau fod Duw yn falch ohonot ti — dy fod di'n weithiwr sydd ddim angen bod â chywilydd o'i waith. Bydd yn un sy'n esbonio'r gwir yn iawn. Cadw draw oddi wrth glebran bydol. Mae peth felly yn arwain pobl yn bellach a phellach oddi wrth Dduw. Mae'n rywbeth sy'n lledu fel cancr. Dyna sydd wedi digwydd i Hymenaeus a Philetus — maen nhw wedi crwydro i ffwrdd oddi wrth y gwir. Maen nhw'n honni fod ein hatgyfodiad ni yn rhywbeth sydd eisoes wedi digwydd, ac maen nhw wedi chwalu ffydd rhai pobl! Ond mae gwirionedd Duw yn sefyll — mae fel carreg sylfaen gadarn, a'r geiriau hyn wedi eu cerfio arni: “Mae'r Arglwydd yn nabod ei bobl ei hun,” a, “Rhaid i bawb sy'n dweud eu bod nhw'n perthyn i'r Arglwydd droi cefn ar ddrygioni.” Mewn tŷ crand mae rhai llestri wedi eu gwneud o aur ac arian, a rhai eraill yn llestri o bren neu'n llestri pridd. Mae'r llestri aur ac arian yn cael eu defnyddio ar achlysuron arbennig, ond y lleill at ddefnydd pob dydd. Os bydd rhywun yn cadw draw o'r pethau diwerth soniwyd amdanyn nhw, bydd y person hwnnw'n cael ei ystyried yn werthfawr, ac yn cael ei neilltuo i'r Meistr ei ddefnyddio i wneud gwaith da. Ond rhaid i ti ddianc rhag chwantau gwamal ieuenctid. Dylet ti wneud dy orau i fyw yn iawn. Bydd yn ffyddlon i Dduw, ac yn llawn o'i gariad a'i heddwch. Dyma sut mae'r rhai sy'n cyffesu enw'r Arglwydd o gymhellion pur yn ymddwyn. Paid gwastraffu dy amser gyda rhyw ddyfalu dwl. Dydy pethau felly'n gwneud dim ond achosi gwrthdaro. Ddylai gwas Duw ddim ffraeo gyda phobl. Dylai fod yn garedig at bawb. Dylai allu dysgu pobl eraill, a pheidio byth â dal dig. Dylai fod yn sensitif wrth geisio cywiro'r rhai sy'n tynnu'n groes iddo. Wedi'r cwbl mae bob amser yn bosib y bydd Duw yn caniatáu iddyn nhw newid eu meddyliau a dod i gredu'r gwir; callio, a dianc o drap y diafol. Ond ar hyn o bryd maen nhw'n gaeth ac yn gwneud beth mae'r diafol eisiau. Ond dw i eisiau i ti ddeall hyn: Bydd adegau ofnadwy o anodd yn y cyfnod olaf hwn. Bydd pobl yn byw i'w plesio nhw eu hunain, ac yn byw er mwyn gwneud arian. Byddan nhw'n hunanbwysig ac yn dirmygu pobl eraill, yn sarhaus, yn anufudd i'w rhieni, yn anniolchgar ac yn annuwiol. Yn ddiserch, yn amharod i faddau, yn hel clecs maleisus, yn gwbl afreolus ac anwaraidd, ac yn casáu daioni. Yn bradychu eraill, yn poeni dim am neb, ac yn llawn ohonyn nhw'u hunain. Pobl yn caru pleser yn lle caru Duw. Mae nhw'n gallu ymddangos yn dduwiol, ond maen nhw'n gwrthod y nerth sy'n gwneud pobl yn dduwiol go iawn. Paid cael dim i'w wneud â phobl felly. Nhw ydy'r math o bobl sy'n twyllo teuluoedd ac yn cymryd mantais o wragedd sy'n hawdd dylanwadu arnyn nhw. Mae'r gwragedd hynny wedyn yn cael eu llethu gan euogrwydd am fod eu chwantau nhw'n cael y gorau arnyn nhw. Gwragedd sy'n cael eu ‛dysgu‛ drwy'r adeg, ond yn methu'n lân a chael gafael yn y gwir. Sefyll yn erbyn y gwir mae'r dynion yma, yn union fel Jannes a Jambres yn gwrthwynebu Moses. Dynion gyda meddyliau pwdr ydyn nhw — dynion sy'n cogio eu bod nhw'n credu. Ân nhw ddim yn bell iawn. Bydd pawb yn gweld mor ffôl ydyn nhw yn y diwedd, yn union fel ddigwyddodd gyda Jannes a Jambres. Ond rwyt ti'n wahanol Timotheus. Rwyt ti wedi cymryd sylw o'r hyn dw i'n ei ddysgu, o sut dw i'n byw, beth ydy fy nod i mewn bywyd, sut dw i'n ymddiried yn Iesu Grist, fy amynedd i, fy nghariad i at bobl, fy ngallu i ddal ati. Rwyt ti'n gwybod am yr erledigaeth a'r cwbl dw i wedi ei ddioddef — beth ddigwyddodd i mi yn Antiochia, yn Iconium a Lystra. Ond mae'r Arglwydd wedi fy achub i o'r cwbl! Y gwir ydy y bydd pawb sydd am ddilyn y Meseia Iesu a byw fel mae Duw am iddyn nhw fyw yn cael eu herlid. Ond bydd pobl ddrwg a thwyllwyr yn mynd o ddrwg i waeth, yn twyllo pobl eraill ond wedi eu twyllo eu hunain yr un pryd. Ond dal di dy afael yn beth rwyt wedi ei ddysgu. Rwyt ti'n gwybod yn iawn mai dyna ydy'r gwir, ac yn gwybod sut bobl ddysgodd di. Roeddet ti'n gyfarwydd â'r ysgrifau sanctaidd ers yn blentyn. Trwyddyn nhw y dest ti i ddeall sut i gael dy achub, drwy gredu yn y Meseia Iesu. Duw sydd wedi ysbrydoli'r ysgrifau sanctaidd hynny i gyd, ac maen nhw'n dysgu beth sy'n wir i ni, yn cywiro syniadau anghywir, yn dangos beth dŷn ni'n ei wneud o'i le, a'n dysgu ni i fyw yn iawn. Felly mae gan bobl Dduw bopeth sydd ei angen iddyn nhw wneud pob math o bethau da. Y Meseia Iesu ydy'r un fydd yn barnu pawb (y rhai sy'n dal yn fyw a'r rhai sydd wedi marw). Mae e'n mynd i ddod yn ôl i deyrnasu. Felly, gyda Duw a Iesu Grist yn dystion i mi, dw i'n dy siarsio di i gyhoeddi neges Duw. Dal ati i wneud hynny os ydy pobl yn barod i wrando neu beidio. Rhaid i ti gywiro pobl, ceryddu weithiau, annog dro arall — a gwneud hynny gydag amynedd mawr ac yn ofalus dy fod yn ffyddlon i'r gwir. Mae'r amser yn dod pan fydd pobl ddim yn gallu goddef dysgeidiaeth dda. Byddan nhw'n dilyn eu chwantau eu hunain ac yn dewis pentwr o athrawon fydd ond yn dweud beth maen nhw eisiau ei glywed. Byddan nhw'n gwrthod beth sy'n wir ac yn dilyn straeon celwyddog. Ond, Timotheus, paid cynhyrfu beth bynnag sy'n digwydd. Paid bod ag ofn dioddef. Dal ati i rannu'r newyddion da gyda phobl, a gwneud y gwaith mae Duw wedi ei roi i ti. Dw i wedi cyrraedd pen y daith. Mae fy mywyd i fel petai wedi ei dywallt ar yr allor fel diodoffrwm. Mae'r amser i mi adael y byd yma wedi dod. Dw i wedi ymladd yn galed, dw i wedi rhedeg y ras i'r pen, a dw i wedi aros yn ffyddlon. Bellach mae'r wobr wedi ei chadw i mi, sef coron y bywyd cyfiawn. Bydd yr Arglwydd, y Barnwr cyfiawn, yn ei chyflwyno hi i mi ar y diwrnod pan ddaw yn ôl — a ddim i mi yn unig, ond i bawb sydd wedi bod yn edrych ymlaen yn frwd iddo ddod yn ôl. Gwna dy orau i ddod yma'n fuan. Mae Demas wedi caru pethau'r byd yma — mae e wedi fy ngadael i a mynd i Thesalonica. Mae Crescens wedi mynd i Galatia, a Titus i Dalmatia. Dim ond Luc sydd ar ôl. Tyrd â Marc gyda ti pan ddoi di. Mae e wedi bod yn help mawr i mi yn y gwaith. Dw i'n anfon Tychicus i Effesus. A pan ddoi di, tyrd â'r fantell adewais i yn nhŷ Carpus yn Troas. A thyrd â'r sgroliau hefyd — hynny ydy, y memrynau. Mae Alecsander y gweithiwr metel wedi gwneud llawer o ddrwg i mi. Ond bydd yr Arglwydd yn talu nôl iddo beth mae'n ei haeddu. Gwylia dithau e! Mae e wedi gwneud popeth o fewn ei allu i wrthwynebu ein neges ni. Ddaeth neb i'm cefnogi i yn yr achos llys cyntaf. Roedd pawb wedi troi eu cefnau arna i. Dw i ddim am i Dduw ddal y peth yn eu herbyn nhw. Ond roedd yr Arglwydd gyda mi yn rhoi nerth i mi gyhoeddi'r newyddion da yn llawn, er mwyn i'r holl bobl oedd yno o genhedloedd eraill ei glywed. Ces fy achub o afael y llew am y tro! A dw i'n gwybod y bydd yr Arglwydd yn fy amddiffyn i o afael pob drwg, ac yn fy arwain yn saff i'r nefoedd ble mae e'n teyrnasu. Mae'n haeddu ei foli am byth bythoedd! Amen! Cofia fi at Priscila ac Acwila a phawb yn nhŷ Onesifforws. Mae Erastus wedi aros yn Corinth. Roedd Troffimus yn sâl, ac roedd rhaid i mi ei adael yn Miletus. Plîs gwna dy orau glas i ddod yma cyn i'r gaeaf gyrraedd. Mae Ewbwlos yn cofio atat ti, a hefyd Pwdens, Linus, Clawdia. Mae'r brodyr a'r chwiorydd i gyd yn cofio atat ti. Dw i'n gweddïo y bydd yr Arglwydd yn dy amddiffyn di, ac y byddwch chi i gyd yn profi haelioni rhyfeddol Duw! Llythyr gan Paul, gwas i Dduw a chynrychiolydd personol Iesu y Meseia. Dw i'n gweithio er mwyn gweld y rhai mae Duw wedi eu dewis yn dod i gredu, a'u helpu nhw i ddeall y gwir yn well, iddyn nhw allu byw fel mae Duw am iddyn nhw fyw. Mae'n rhoi sicrwydd iddyn nhw fod ganddyn nhw fywyd tragwyddol. Dyma'r bywyd wnaeth Duw ei addo cyn i amser ddechrau — a dydy Duw ddim yn gallu dweud celwydd! Pan ddaeth yr amser iawn daeth â'r newyddion da i'r golwg a rhoi'r cyfrifoldeb i mi i'w gyhoeddi. Duw ein Hachubwr sydd wedi gorchymyn i mi wneud hyn. Titus, rwyt ti wir fel mab i mi, gan dy fod yn credu yn y Meseia fel dw i: Dw i'n gweddïo y byddi di'n profi'r haelioni rhyfeddol a'r heddwch dwfn mae Duw y Tad a'r Meseia Iesu, ein Hachubwr, yn ei roi i ni. Y rheswm pam adewais di ar Ynys Creta oedd er mwyn i ti orffen rhoi trefn ar bethau yno. Dwedais fod eisiau penodi arweinwyr yn yr eglwysi ym mhob un o'r trefi. Ddylai pobl ddim gallu pigo bai ar fywyd arweinydd yn yr eglwys. Rhaid iddo fod yn ffyddlon i'w wraig, a'i blant yn credu a ddim yn wyllt ac yn afreolus. Rhaid i arweinydd fod yn ddi-fai, am mai Duw sydd wedi rhoi'r cyfrifoldeb iddo. Dylai beidio bod yn benstiff, nac yn fyr ei dymer. Ddim yn meddwi, ddim yn ymosodol, a ddim yn gwneud arian ar draul pobl eraill. Dylai fod yn berson croesawgar. Dylai wneud beth sy'n dda, bod yn berson cyfrifol, yn gwbl deg, yn dduwiol ac yn gallu rheoli ei chwantau. Dylai fod yn rhywun sy'n credu'n gryf yn y neges glir gafodd ei dysgu. Wedyn bydd yn gallu annog pobl eraill gyda dysgeidiaeth gywir, ac argyhoeddi'r rhai sy'n dadlau yn ei erbyn. Mae llawer iawn o bobl allan yna sy'n tynnu'n groes i'r gwir. Dw i'n meddwl yn arbennig am yr Iddewon hynny sy'n siarad cymaint o nonsens, ac yn twyllo pobl i feddwl fod mynd trwy ddefod enwaediad yn hanfodol bwysig i gael eich achub. Mae'n rhaid rhoi taw arnyn nhw! Maen nhw wedi cael teuluoedd cyfan i gredu syniadau hollol anghywir. Dim ond eisiau'ch arian chi maen nhw! Mae un o'r Cretiaid eu hunain, un sy'n broffwyd yn eu golwg nhw, wedi dweud, “Mae Cretiaid yn bobl gelwyddog — bwystfilod drwg ydyn nhw, pobl farus a diog!” Ac mae'n hollol wir! Felly rhaid i ti eu rhybuddio nhw'n llym, er mwyn iddyn nhw gredu beth sy'n wir. Dywed wrthyn nhw am beidio cymryd sylw o chwedlau Iddewig, ac i stopio gwrando ar bobl sydd wedi troi cefn ar y gwir. Mae popeth yn bur i'r rhai sydd â chalon bur, ond does dim byd yn bur i'r rhai hynny sydd wedi eu llygru a ddim yn credu. Y ffaith ydy bod meddwl a chydwybod y bobl yma wedi eu llygru. Maen nhw'n honni eu bod nhw'n nabod Duw, ond maen nhw'n ei wadu drwy beth maen nhw'n ei wneud. Pobl gwbl atgas ydyn nhw, ac anufudd i Dduw. Allan nhw wneud dim byd da! Felly, gwna'n siŵr dy fod ti'n dysgu pobl sut i fyw bywydau sy'n gyson â dysgeidiaeth gywir. Dysga'r dynion mewn oed i ymddwyn yn gyfrifol. Dysga nhw i fyw mewn ffordd sy'n ennyn parch pobl, ac i fod yn bwyllog. Dylen nhw fod yn hollol ffyddlon, yn llawn cariad ac yn dal ati trwy bopeth. Dysga'r gwragedd hŷn yr un fath i fyw fel y dylai rhywun sy'n gwasanaethu'r Arglwydd fyw. Dylen nhw beidio hel clecs maleisus, a pheidio yfed gormod. Yn lle hynny dylen nhw ddysgu eraill beth sy'n dda, a bod yn esiampl i'r gwragedd iau o sut i garu eu gwŷr a'u plant. Dylen nhw fod yn gyfrifol, cadw eu hunain yn bur, gofalu am eu cartrefi, bod yn garedig, a bod yn atebol i'w gwŷr. Os gwnân nhw hynny, fydd neb yn gallu dweud pethau drwg am neges Duw. Annog y dynion ifanc hefyd i fod yn gyfrifol. Bydd di dy hun yn esiampl iddyn nhw drwy wneud daioni. Dylet ti fod yn gwbl agored gyda nhw wrth eu dysgu. Gad iddyn nhw weld dy fod ti o ddifri. Gwna'n siŵr dy fod yn dysgu beth sy'n gywir, fel bod neb yn gallu pigo bai arnat ti. Bydd hynny'n codi cywilydd ar y rhai sy'n dadlau yn dy erbyn, am fod ganddyn nhw ddim byd drwg i'w ddweud amdanon ni. Dylai caethweision ymostwng i'w meistri bob amser, a gwneud eu gorau glas i'w plesio nhw. Peidio ateb yn ôl, na dwyn oddi arnyn nhw, ond dangos bod eu meistri'n gallu eu trystio nhw'n llwyr. Wedyn bydd pobl yn cael eu denu at beth sy'n cael ei ddysgu am y Duw sy'n ein hachub ni. Mae Duw wedi dangos ei haelioni rhyfeddol drwy gynnig achub unrhyw un. Mae'n ein dysgu ni i ddweud “na” wrth ein pechod a'n chwantau bydol. Ein dysgu ni hefyd i fyw'n gyfrifol, gwneud beth sy'n iawn a rhoi'r lle canolog yn ein bywydau i Dduw. Dyna sut dylen ni fyw wrth ddisgwyl am y digwyddiad bendigedig hwnnw pan fydd Iesu Grist, ein Duw mawr a'n Hachubwr ni, yn dod yn ôl yn ei holl ysblander. Mae e wedi marw troson ni i'n rhyddhau ni o afael popeth drwg, ac i'n glanhau ni a'n gwneud ni'n bobl iddo fe'i hun — pobl sy'n frwd i wneud daioni. Dyma ddylet ti ei ddysgu. Annog pobl i wneud y pethau yma. Cywira nhw pan mae angen. Mae'r awdurdod wedi ei roi i ti, felly paid gadael i neb dy ddiystyru di. Atgoffa pobl fod rhaid iddyn nhw fod yn atebol i'r llywodraeth a'r awdurdodau. Dylen nhw fod yn ufudd bob amser ac yn barod i wneud daioni; peidio enllibio neb, peidio achosi dadleuon, ond bod yn ystyriol o bobl eraill, a bod yn addfwyn wrth drin pawb. Wedi'r cwbl, roedden ninnau hefyd yn ffôl ac yn anufudd ar un adeg — wedi'n camarwain, ac yn gaeth i bob math o chwantau a phleserau. Roedd ein bywydau ni'n llawn malais a chenfigen a chasineb. Roedd pobl yn ein casáu ni, a ninnau'n eu casáu nhw. Ond dyma garedigrwydd a chariad Duw ein Hachubwr yn dod i'r golwg. Wnaeth e ddim ein hachub ni am ein bod ni'n dda, ond am ei fod e'i hun mor drugarog! Golchodd ni'n lân o'n pechod a rhoi bywyd newydd i ni drwy'r Ysbryd Glân. Tywalltodd yr Ysbryd arnon ni'n hael o achos beth oedd Iesu Grist wedi ei wneud i'n hachub ni. Am ei fod wedi bod mor garedig â gwneud ein perthynas ni gyda Duw yn iawn, dŷn ni'n gwybod y byddwn ni'n etifeddu bywyd tragwyddol. Mae beth sy'n cael ei ddweud mor wir! Dyma'r pethau dw i am i ti eu pwysleisio, er mwyn i bawb sy'n credu yn Nuw fod ar y blaen yn gwneud daioni. Mae hynny'n beth da ynddo'i hun, ac mae'n gwneud lles i bawb. Ond paid cael dim i'w wneud â'r dyfalu dwl am achau, a'r holl gecru a dadlau am ryw fân reolau yn y Gyfraith Iddewig. Does dim pwynt — mae'r cwbl yn wastraff amser llwyr! Pwy bynnag sy'n creu rhaniadau, rhybuddia nhw i stopio. Os ydyn nhw ddim yn gwrando ar ôl i ti eu rhybuddio nhw'r ail waith paid cael dim i'w wneud â nhw. Mae pobl felly wedi gwyro oddi wrth y gwirionedd, ac wedi pechu. Nhw sy'n condemnio eu hunain! Dw i'n bwriadu anfon Artemas neu Tychicus atat ti. Cyn gynted ag y bydd y naill neu'r llall wedi cyrraedd tyrd i'm gweld i yn Nicopolis. Dw i wedi penderfynu aros yno dros y gaeaf. Gwna dy orau i helpu Zenas y twrnai ac Apolos ar eu taith. Gwna'n siŵr fod ganddyn nhw bopeth sydd ei angen. Dylai ein pobl ni ddysgu arwain y ffordd wrth wneud daioni, yn cwrdd ag anghenion y rhai sydd mewn angen go iawn. Fyddan nhw ddim yn gwastraffu eu bywydau felly. Mae pawb sydd yma gyda mi yn cofio atat ti. Cofia di ni hefyd at bawb sy'n credu ac yn ein caru ni. Dw i'n gweddïo y byddwch chi i gyd yn profi haelioni rhyfeddol Duw. Llythyr gan Paul, sydd yn y carchar dros achos y Meseia Iesu. Mae'r brawd Timotheus yn anfon ei gyfarchion hefyd. At Philemon, ein ffrind annwyl sy'n gweithio gyda ni. A hefyd at ein chwaer Apffia, ac at Archipus sy'n gyd-filwr dros achos Iesu gyda ni. Cofia ni hefyd at bawb arall yn yr eglwys sy'n cyfarfod yn dy gartre di. Dw i'n gweddïo y byddwch chi'n profi'r haelioni rhyfeddol a'r heddwch dwfn mae Duw ein Tad a'r Arglwydd Iesu Grist yn ei roi i ni. Fy ffrind annwyl, dw i'n diolch i Dduw amdanat ti bob tro dw i'n gweddïo drosot ti. Dw i wedi clywed am dy ffyddlondeb di i'r Arglwydd Iesu ac am y ffordd wyt ti'n gofalu am bawb arall sy'n credu ynddo. Dw i'n gweddïo y bydd dy haelioni di wrth rannu gydag eraill yn cynyddu wrth i ti ddod i ddeall yn well gymaint o fendithion sydd gynnon ni yn ein perthynas â'r Meseia. Mae dy gariad di wedi bod yn galondid ac yn achos llawenydd mawr i mi, ffrind annwyl, ac rwyt ti wedi bod yn gyfrwng i galonogi'r Cristnogion eraill hefyd. Dyna pam dw i am ofyn ffafr i ti. Gallwn i siarad yn blaen a dweud wrthot ti beth i'w wneud, gan bod yr awdurdod wedi ei roi i mi gan y Meseia. Ond am fy mod i'r math o berson ydw i — Paul yr hen ddyn bellach, ac yn y carchar dros achos y Meseia Iesu — mae'n well gen i apelio atat ti ar sail cariad. Dw i'n apelio ar ran Onesimws, sydd fel mab i mi yn y ffydd. Ydw, dw i wedi ei arwain e i gredu tra dw i wedi bod yma yn y carchar. ‛Defnyddiol‛ ydy ystyr ei enw, ac mae'n haeddu'r enw bellach, er mai ‛diwerth‛ fyddai'r enw gorau iddo o'r blaen. A bellach mae'n ddefnyddiol i mi yn ogystal ag i ti. Er ein bod ni wedi dod yn ffrindiau mor glos dw i'n ei anfon yn ôl atat ti. Byddwn i wrth fy modd yn ei gadw yma, iddo fy helpu i ar dy ran di tra dw i mewn cadwyni dros y newyddion da. Ond dy ddewis di fyddai hynny a byddai'n rhaid i ti gytuno — dw i ddim am dy orfodi di i wneud dim byd. Mae'n bosib mai'r rheswm pam gawsoch chi eich gwahanu am ychydig oedd er mwyn i ti ei gael yn ôl am byth! Dim fel caethwas o hyn ymlaen, ond yn llawer gwell na hynny — fel ffrind annwyl sy'n credu yn Iesu Grist yr un fath â ti. Mae wedi bod yn werthfawr iawn i mi, ond bydd yn fwy gwerthfawr fyth i ti, fel gwas ac fel brawd sydd fel ti yn credu yn yr Arglwydd. Felly os wyt ti'n cyfri dy fod yn bartner i mi, rho'r un croeso i Onesimws ag a fyddet ti'n ei roi i mi. Os gwnaeth e unrhyw ddrwg i ti neu os oes arno rywbeth i ti, gwnaf i ei dalu'n ôl i ti. Dw i'n ysgrifennu'r peth ac yn ei lofnodi fy hun: Gwna i ei dalu yn ôl, Paul. (Gobeithio bod dim rhaid i mi dy atgoffa di fod arnat ti dy fywyd i mi!) Gwna hyn i mi fel ffordd o wasanaethu'r Arglwydd. Fy ffrind annwyl sy'n dilyn y Meseia, wnei di godi nghalon i? Dw i'n ysgrifennu atat ti am fy mod i'n hollol siŵr y gwnei di beth dw i'n ei ofyn, a mwy na hynny. Un peth arall: Cadw ystafell yn rhydd i mi. Dw i wir yn gobeithio y bydd Duw wedi ateb eich gweddïau chi, ac y bydda i'n cael dod i'ch gweld chi. Mae Epaffras, sydd gyda mi yn y carchar dros achos y Meseia Iesu, yn anfon ei gyfarchion. A'r lleill sy'n gweithio gyda mi hefyd, sef Marc, Aristarchus, Demas a Luc. Dw i'n gweddïo y byddwch chi i gyd yn profi haelioni rhyfeddol yr Arglwydd Iesu Grist! Yn y gorffennol pell roedd Duw wedi siarad gyda'n hynafiaid ni drwy'r proffwydi. Gwnaeth hyn bob yn dipyn ac mewn gwahanol ffyrdd. Ond bellach, yn y cyfnod olaf hwn, mae wedi siarad â ni drwy ei Fab. Mae Duw wedi dewis rhoi popeth sy'n bodoli yn eiddo iddo fe — yr un oedd gyda Duw yn gwneud y bydysawd. Mae holl ysblander Duw yn disgleirio ohono. Mae e'n dangos i ni'n berffaith sut un ydy Duw. Ei awdurdod pwerus e sy'n dal popeth yn y bydysawd gyda'i gilydd! Ar ôl iddo ei gwneud hi'n bosib i bobl gael eu glanhau o'u pechodau, cafodd eistedd yn y nefoedd, yn y sedd anrhydedd ar ochr dde y Duw Mawr ei hun. Roedd wedi ei wneud yn bwysicach na'r angylion. Roedd y teitl roddodd Duw iddo yn dangos ei fod yn bwysicach na nhw. Wnaeth Duw ddweud hyn wrth angel erioed: “Ti ydy fy Mab i; heddiw des i yn dad i ti”? Neu hyn: “Bydda i'n dad iddo fe, A bydd e'n fab i mi”? Ac wrth i Dduw ddod â'i fab hynaf yn ôl i'r byd nefol i'w anrhydeddu, mae'n dweud: “Addolwch e, holl angylion Duw!” Pan mae Duw'n sôn am angylion mae'n eu disgrifio fel: “negeswyr sydd fel gwyntoedd, a gweision sydd fel fflamau o dân.” Ond am y Mab mae Duw'n dweud hyn: “Byddi di, O Dduw, yn frenin ar yr orsedd am byth, a byddi'n teyrnasu mewn ffordd gyfiawn. Rwyt yn caru beth sy'n iawn ac yn casáu drygioni; felly mae Duw, ie dy Dduw di, wedi dy eneinio di, a thywallt olew llawenydd arnat ti fwy na neb arall.” A hefyd, “O Arglwydd, ti osododd y ddaear yn ei lle ar y dechrau cyntaf, a gwaith dy ddwylo di ydy popeth yn yr awyr. Byddan nhw'n darfod, ond rwyt ti'n aros; byddan nhw'n mynd yn hen fel dillad wedi eu gwisgo. Byddi'n eu rholio i fyny fel hen glogyn; byddi'n eu newid nhw fel rhywun yn newid dillad. Ond rwyt ti yn aros am byth — dwyt ti byth yn mynd yn hen.” Wnaeth Duw ddweud hyn wrth angel erioed?: “Eistedd yma yn y sedd anrhydedd nes i mi wneud i dy elynion blygu fel stôl i ti orffwys dy draed arni.” Dim ond gweision ydy'r angylion. Ysbrydion wedi eu hanfon i wasanaethu'r rhai fydd yn cael eu hachub! Felly mae'n bwysig ein bod ni'n gwrando'n ofalus ar y neges dŷn ni wedi ei chlywed. Mae fel angor yn ein cadw ni rhag drifftio i ffwrdd gyda'r llif. Roedd y neges roddodd Duw i ni drwy angylion yn gwbl ddibynadwy, ac roedd pawb oedd yn torri'r Gyfraith neu'n anufudd yn cael beth oedden nhw'n ei haeddu. Felly pa obaith sydd i ni ddianc rhag cael ein cosbi os gwnawn ni ddiystyru'r neges ffantastig yma am Dduw yn achub! Cafodd ei chyhoeddi gyntaf gan yr Arglwydd Iesu ei hun. Wedyn cafodd ei rhannu gyda ni gan y bobl hynny oedd wedi clywed Iesu. Ac roedd Duw yn profi fod beth roedden nhw'n ei ddweud yn wir drwy achosi i arwyddion rhyfeddol ddigwydd a phob math o wyrthiau. Fe oedd yn dewis rhoi'r Ysbryd Glân i alluogi pobl i wneud pethau fel hyn. A pheth arall — nid angylion sydd wedi cael yr awdurdod i reoli'r byd sydd i ddod. Mae rhywun wedi dweud yn rhywle: “Beth ydy pobl i ti boeni amdanyn nhw? Pam ddylet ti ofalu am berson dynol? Rwyt wedi ei wneud am ychydig yn is na'r angylion; ond yna ei goroni ag ysblander ac anrhydedd a gosod popeth dan ei awdurdod.” Mae “popeth” yn golygu fod dim byd arall i Dduw ei osod dan ei awdurdod. Ond dŷn ni ddim yn gweld “popeth dan ei awdurdod” ar hyn o bryd. Ond dŷn ni'n gweld ei fod yn wir am Iesu! Am ychydig amser cafodd e hefyd ei wneud yn is na'r angylion, a hynny er mwyn iddo farw dros bawb. Ac mae Iesu wedi “Ei goroni ag ysblander ac anrhydedd” am ei fod wedi marw! Mae'n dangos mor hael ydy Duw, fod Iesu wedi marw dros bob un ohonon ni. Duw wnaeth greu popeth, a fe sy'n cynnal popeth, felly mae'n berffaith iawn iddo adael i lawer o feibion a merched rannu ei ysblander. Trwy i Iesu ddioddef, roedd Duw yn ei wneud e'n arweinydd perffaith i'w hachub nhw. Mae'r un sy'n glanhau pobl, a'r rhai sy'n cael eu glanhau yn perthyn i'r un teulu dynol. Felly does gan Iesu ddim cywilydd galw'r bobl hynny yn frodyr a chwiorydd. Mae'n dweud: “Bydda i'n dweud wrth fy mrodyr a'm chwiorydd pwy wyt ti; ac yn canu mawl i ti gyda'r rhai sy'n dy addoli.” Ac wedyn, “Dw i'n mynd i drystio Duw hefyd.” Ac eto, “Dyma fi, a'r plant mae Duw wedi eu rhoi i mi.” Gan ein bod ni'r “plant” yn bobl o gig a gwaed, daeth Iesu'n berson o gig a gwaed yn union yr un fath. Dyna sut roedd yn gallu marw i ddwyn y grym oddi ar yr un sy'n dal grym marwolaeth — hynny ydy, y diafol. Mae Iesu wedi gollwng pobl yn rhydd fel bod dim rhaid iddyn nhw ofni marw bellach. Pobl sy'n blant i Abraham mae Iesu'n eu helpu, nid angylion! Felly roedd rhaid i Iesu gael ei wneud yn union yr un fath â ni, ei “frodyr a'i chwiorydd.” Dim ond wedyn y gallai fod yn archoffeiriad trugarog a ffyddlon yn gwasanaethu Duw, ac yn cyflwyno aberth fyddai'n delio gyda phechodau pobl a dod â nhw i berthynas iawn gyda Duw. Am ei fod e'i hun wedi dioddef ac wedi cael ei demtio, mae'n gallu'n helpu ni pan fyddwn ni'n wynebu temtasiwn. Felly, frodyr a chwiorydd — chi sydd wedi'ch glanhau ac ar eich ffordd i'r nefoedd — meddyliwch am Iesu! Fe ydy'r negesydd oddi wrth Dduw a'r un dŷn ni'n ei dderbyn yn Archoffeiriad. Gwnaeth Iesu bopeth roedd Duw yn gofyn iddo'i wneud, yn union fel Moses, oedd “yn ffyddlon yn nheulu Duw.” Ond mae Iesu'n haeddu ei anrhydeddu fwy na Moses, yn union fel mae rhywun sy'n adeiladu tŷ yn haeddu ei ganmol fwy na'r tŷ ei hun! Mae pob tŷ wedi cael ei adeiladu gan rywun, ond yr un sydd wedi adeiladu popeth sy'n bod ydy Duw! Gwas “ffyddlon yn nheulu Duw” oedd Moses, ac roedd beth wnaeth e yn pwyntio ymlaen at beth fyddai Duw'n ei wneud yn y dyfodol. Ond mae'r Meseia yn Fab ffyddlon gydag awdurdod dros deulu Duw i gyd. A dŷn ni'n bobl sy'n perthyn i'r teulu hwnnw os wnawn ni ddal gafael yn yr hyder a'r gobaith dŷn ni'n ei frolio. Felly, fel mae'r Ysbryd Glân yn dweud: “Os clywch chi lais Duw heddiw, peidiwch bod yn ystyfnig fel oeddech chi adeg y gwrthryfel, yn rhoi Duw ar brawf yn yr anialwch. Roedd eich hynafiaid wedi profi fy amynedd a chawson nhw weld y canlyniadau am bedwar deg mlynedd. Digiais gyda'r bobl hynny, a dweud, ‘Maen nhw'n bobl hollol anwadal; dŷn nhw ddim eisiau fy nilyn i.’ Felly digiais, a dweud ar lw, ‘Chân nhw byth fynd i'r lle sy'n saff i orffwys gyda mi.’” Felly, frodyr a chwiorydd, gwnewch yn siŵr eich bod chi ddim yn anufudd ac yn troi cefn ar y Duw byw. Helpwch eich gilydd bob dydd, a gwnewch hynny tra mae hi'n ‛heddiw‛. Peidiwch gadael i bechod eich twyllo a'ch gwneud yn ystyfnig. Os daliwn ein gafael i'r diwedd a dal i gredu fel ar y dechrau, cawn rannu'r cwbl sydd gan y Meseia. Fel dw i newydd ddweud: “Os clywch chi lais Duw heddiw, peidiwch bod yn ystyfnig fel oeddech chi adeg y gwrthryfel.” A pwy oedd y rhai wnaeth wrthryfela er eu bod wedi clywed llais Duw? Onid y bobl wnaeth Moses eu harwain allan o'r Aifft? A gyda pwy roedd Duw'n ddig am 40 mlynedd? Onid gyda'r rhai oedd wedi pechu? — nhw syrthiodd yn farw yn yr anialwch! Ac am bwy ddwedodd Duw ar lw na chaen nhw byth fynd i'r lle sy'n saff i orffwys gydag e? — onid y bobl hynny oedd yn gwrthod ei ddilyn? Felly dŷn ni'n gweld eu bod nhw wedi methu cyrraedd yno am eu bod nhw ddim yn credu. Felly tra mae'r addewid gynnon ni ein bod yn gallu mynd i'r lle sy'n saff i orffwys, gadewch i ni fod yn ofalus fod neb o'n plith ni'n mynd i fethu cyrraedd yno. Mae'r newyddion da (fod lle saff i ni gael gorffwys) wedi cael ei gyhoeddi i ni hefyd, fel i'r bobl yn yr anialwch. Ond wnaeth y neges ddim gwahaniaeth iddyn nhw, am eu bod nhw ddim wedi credu pan glywon nhw. Dŷn ni sydd wedi credu yn cael mynd yno. Mae Duw wedi dweud am y lleill, “Felly digiais, a dweud ar lw, ‘Chân nhw fyth fynd i'r lle sy'n saff i orffwys gyda mi.’” Ac eto mae ar gael ers i Dduw orffen ei waith yn creu y byd. Mae wedi dweud yn rhywle am y seithfed dydd: “Ar y seithfed dydd dyma Duw yn gorffwys o'i holl waith.” Yn y dyfyniad cyntaf mae Duw'n dweud, “Chân nhw fyth fynd i'r lle sy'n saff i orffwys gyda mi.” Felly mae'r lle saff i orffwys yn dal i fodoli, i rai pobl gael mynd yno. Ond wnaeth y rhai y cafodd y newyddion da ei gyhoeddi iddyn nhw yn yr anialwch ddim cyrraedd am eu bod wedi bod yn anufudd. Felly dyma Duw yn rhoi cyfle arall, a ‛heddiw‛ ydy'r cyfle hwnnw. Dwedodd hyn ganrifoedd wedyn, drwy Dafydd yn y geiriau y soniwyd amdanyn nhw'n gynharach: “Os clywch chi lais Duw heddiw, peidiwch bod yn ystyfnig.” Petai Josua wedi rhoi'r lle saff oedd Duw'n ei addo iddyn nhw orffwys, fyddai dim sôn wedi bod am ddiwrnod arall. Felly, mae yna ‛orffwys y seithfed dydd‛ sy'n dal i ddisgwyl pobl Dduw. Mae pawb sy'n cyrraedd y lle sydd gan Dduw iddyn nhw orffwys yn cael gorffwys o'u gwaith, yn union fel gwnaeth Duw ei hun orffwys ar ôl gorffen ei waith e. Felly gadewch i ni wneud ein gorau glas i fynd i'r lle saff hwn lle cawn ni orffwys. Bydd unrhyw un sy'n gwrthod dilyn Duw yn syrthio, fel y gwnaeth y bobl yn yr anialwch. Mae neges Duw yn fyw ac yn cyflawni beth mae'n ei ddweud. Mae'n fwy miniog na'r un cleddyf, ac yn treiddio'n ddwfn o'n mewn, i wahanu'r enaid a'r ysbryd, y cymalau a'r mêr. Mae'n barnu beth dŷn ni'n ei feddwl ac yn ei fwriadu. Does dim byd drwy'r greadigaeth gyfan yn gallu cuddio oddi wrth Dduw. Mae e'n gweld popeth yn glir. A dyma'r Duw dŷn ni i gyd yn atebol iddo. Felly gadewch i ni ddal ein gafael yn beth dŷn ni'n gredu. Mae gynnon ni Archoffeiriad gwych! — Iesu, Mab Duw, sydd wedi mynd i mewn at Dduw i'r nefoedd. Ac mae'n Archoffeiriad sy'n deall yn iawn mor wan ydyn ni. Mae wedi cael ei demtio yn union yr un fath â ni, ond heb bechu o gwbl. Felly gadewch i ni glosio at orsedd Duw yn hyderus. Mae Duw mor hael! Bydd yn trugarhau wrthon ni ac yn rhoi popeth sydd ei angen i ni pan mae angen help arnon ni. Mae pob archoffeiriad yn cael ei ddewis i wasanaethu Duw ar ran pobl eraill. Mae wedi ei benodi i gyflwyno rhoddion gan bobl i Dduw, ac i aberthu dros eu pechodau nhw. Mae'n gallu bod yn sensitif wrth ddelio gyda phobl sydd ddim yn sylweddoli eu bod nhw wedi pechu ac wedi cael eu camarwain. Dyn ydy yntau hefyd, felly mae'n ymwybodol o'i wendidau ei hun. Dyna pam mae'n rhaid iddo gyflwyno aberthau dros ei bechodau ei hun yn ogystal â phechodau'r bobl. Does neb yn gallu dewis bod yn Archoffeiriad ohono'i hun; rhaid iddo fod wedi ei alw gan Dduw, yn union yr un fath ag Aaron. Wnaeth y Meseia ei hun ddim ceisio'r anrhydedd o fod yn Archoffeiriad chwaith. Duw wnaeth ei ddewis e, a dweud wrtho, “Ti ydy fy Mab i; heddiw des i yn dad i ti.” Ac yn rhywle arall mae'n dweud, “Rwyt ti'n offeiriad am byth, yr un fath â Melchisedec.” Pan oedd yn byw ar y ddaear, buodd Iesu'n gweddïo gan alw'n daer ac wylo wrth bledio ar Dduw am gael ei achub rhag marw. A dyma Duw'n gwrando arno am ei fod wedi ymostwng yn llwyr iddo. Ond er ei fod yn Fab Duw, roedd rhaid iddo ddysgu bod yn ufudd trwy beth wnaeth e ddioddef. Ac ar ôl iddo wneud popeth roedd ei angen, dyma achubiaeth dragwyddol yn tarddu ohono i bawb sy'n ufudd iddo. Cafodd ei benodi gan Dduw yn archoffeiriad “yr un fath â Melchisedec.” Mae cymaint y gellid ei ddweud am hyn, ond dych chi mor araf i ddysgu, ac felly mae'n anodd esbonio'r cwbl. Erbyn hyn dylech fod yn gallu dysgu pobl eraill, ond mae angen i rywun eich dysgu chi eto am y pethau mwya syml yn neges Duw. Dych chi fel babis bach sydd ond yn gallu cymryd llaeth, a heb ddechrau bwyta bwyd solet! Dydy'r un sy'n byw ar laeth ddim yn gwybod rhyw lawer am wneud beth sy'n iawn — mae fel plentyn bach. Ond mae'r rhai sydd wedi tyfu i fyny yn cael bwyd solet, ac wedi dod i arfer gwahaniaethu rhwng y drwg a'r da. Felly mae angen i ni symud ymlaen o beth sy'n cael ei ddysgu am y Meseia yn y grŵp meithrin. Mae'n hen bryd i ni dyfu i fyny! Does dim rhaid mynd dros y pethau sylfaenol eto — yr angen i droi cefn ar y math o fywyd sy'n arwain i farwolaeth a dod i gredu yn Nuw; y ddysgeidiaeth am fedydd; comisiynu pobl drwy osod dwylo arnyn nhw; y ffaith y bydd y rhai sydd wedi marw yn codi yn ôl yn fyw ac y bydd Duw yn barnu beth fydd yn digwydd i bobl yn dragwyddol. A gyda help Duw dyna wnawn ni — symud yn ein blaenau! Mae'n gwbl amhosib arwain y rhai sydd wedi troi cefn ar y Meseia yn ôl ato. Dyma'r bobl welodd oleuni'r gwirionedd unwaith. Cawson nhw brofi rhodd hael Duw, a derbyn yr Ysbryd Glân gydag eraill. Cawson nhw flas ar neges Duw a nerthoedd yr oes sydd i ddod. Ac eto maen nhw wedi troi cefn arno! Maen nhw'n gyfrifol am hoelio Mab Duw ar y groes unwaith eto drwy ei wrthod, a'i wneud yn destun sbort i bobl. Mae Duw yn bendithio'r ddaear drwy anfon glaw i'w mwydo'n gyson, ac mae'r tir yn rhoi cnwd da i'w ddefnyddio gan y ffermwr sy'n trin y tir. Ond dydy tir gyda dim byd ond drain ac ysgall yn tyfu arno yn dda i ddim. Bydd yn cael ei gondemnio a'i losgi yn y diwedd. Ond er ein bod ni'n siarad fel hyn, ffrindiau annwyl, dŷn ni'n hyderus fod pethau gwell o'ch blaen chi — bendithion sy'n dod i'r rhai sy'n cael eu hachub. Dydy Duw ddim yn annheg; wnaiff e ddim anghofio beth dych chi wedi ei wneud. Dych chi wedi dangos eich cariad ato drwy helpu Cristnogion eraill. A dych chi'n dal i wneud hynny! Daliwch ati i ddangos yr un brwdfrydedd, a byddwch chi'n derbyn yn llawn y cwbl dych chi'n edrych ymlaen ato. Dŷn ni ddim am i chi fod yn ddiog! Dilynwch esiampl y rhai hynny sy'n credu go iawn ac yn dal ati yn amyneddgar — nhw ydy'r rhai fydd yn derbyn y cwbl mae Duw wedi ei addo. Pan wnaeth Duw addewid i Abraham aeth ar ei lw y byddai'n gwneud beth oedd wedi ei addo. Rhoddodd ei gymeriad ei hun ar y lein! — doedd neb mwy iddo allu tyngu llw iddo! A dyma ddwedodd e: “Dw i'n addo dy fendithio di a rhoi llawer iawn o ddisgynyddion i ti.” Ac felly, ar ôl disgwyl yn amyneddgar dyma Abraham yn derbyn beth roedd Duw wedi ei addo iddo. Pan mae pobl yn tyngu llw maen nhw'n gofyn i rywun mwy na nhw eu hunain wneud yn siŵr eu bod yn gwneud beth maen nhw'n ei addo. Mae'r llw yn eu rhwymo nhw i wneud beth maen nhw wedi ei ddweud, ac yn rhoi diwedd ar bob dadl. Am fod Duw am i bobl wybod ei fod e ddim yn newid ei feddwl ac y byddai'n gwneud beth roedd wedi ei addo iddyn nhw, rhwymodd ei hun gyda llw. Felly mae Duw wedi addo, ac mae wedi mynd ar ei lw — dau beth fydd byth yn newid am ei bod yn amhosib i Dduw ddweud celwydd. Felly, dŷn ni sydd wedi dianc ato yn gallu bod yn hyderus. Dŷn ni'n gallu dal gafael yn y gobaith mae wedi ei roi i ni. Mae'r gobaith hwn yn obaith sicr — mae fel angor i'n bywydau ni, yn gwbl ddiogel. Mae Iesu wedi mynd o'n blaenau ni, tu ôl i'r llen, i mewn i'r nefoedd, sef y cysegr mewnol lle mae Duw. Ydy, mae Iesu wedi mynd i mewn yno ar ein rhan ni. Fe ydy'r un “sy'n offeiriad am byth, yr un fath â Melchisedec.” Brenin Salem oedd Melchisedec, ac offeiriad i'r Duw Goruchaf. Pan oedd Abraham ar ei ffordd adre ar ôl gorchfygu nifer o frenhinoedd mewn brwydr, daeth Melchisedec ato. Dyma Melchisedec yn bendithio Abraham, a dyma Abraham wedyn yn rhoi un rhan o ddeg o'r cwbl oedd wedi ei ennill i Melchisedec. Ystyr Melchisedec ydy ‛y brenin cyfiawn‛; ac mae'n ‛frenin heddwch‛ hefyd, am mai dyna ydy ystyr ‛Brenin Salem‛. Dŷn ni ddim yn gwybod pwy oedd ei dad a'i fam, a does dim sôn am ei achau na dyddiad ei eni na'i farw. Felly, mae fel darlun o Fab Duw, sy'n aros yn offeiriad am byth. Meddyliwch mor bwysig oedd Melchisedec! Rhoddodd hyd yn oed Abraham, tad ein cenedl ni, un rhan o ddeg o beth oedd wedi ei ennill yn y frwydr iddo! Dŷn ni'n gwybod fod y Gyfraith Iddewig yn dweud wrth yr offeiriaid, sy'n ddisgynyddion i Lefi, gasglu un rhan o ddeg o beth sydd gan y bobl. Ond cofiwch mai casglu maen nhw gan bobl eu cenedl eu hunain — disgynyddion Abraham. Doedd Melchisedec ddim yn perthyn i Lefi, ac eto rhoddodd Abraham un rhan o ddeg iddo. A Melchisedec fendithiodd Abraham, yr un oedd Duw wedi addo pethau mor fawr iddo. Does dim rhaid dweud fod yr un sy'n bendithio yn fwy na'r person sy'n derbyn y fendith. Yn achos yr offeiriaid Iddewig, mae'r un rhan o ddeg yn cael ei gasglu gan ddynion sy'n siŵr o farw; ond yn achos Melchisedec mae'n cael ei gasglu gan un maen nhw'n dweud sy'n fyw! Gallech chi hyd yn oed ddweud fod disgynyddion Lefi (sy'n casglu'r un rhan o ddeg), wedi talu un rhan o ddeg i Melchisedec drwy Abraham. Er bod Lefi ddim wedi cael ei eni pan aeth Melchisedec allan i gyfarfod Abraham, roedd yr had y cafodd ei eni ohono yno, yng nghorff ei gyndad! Mae'r Gyfraith Iddewig yn dibynnu ar waith yr offeiriaid sy'n perthyn i urdd Lefi. Os oedd y drefn offeiriadol hon yn cyflawni bwriadau Duw yn berffaith pam roedd angen i offeiriad arall ddod? Pam wnaeth Duw anfon un oedd yr un fath â Melchisedec yn hytrach nag un oedd yn perthyn i urdd Lefi ac Aaron? Ac os ydy'r drefn offeiriadol yn newid, rhaid i'r gyfraith newid hefyd. Mae'r un dŷn ni'n sôn amdano yn perthyn i lwyth gwahanol, a does neb o'r llwyth hwnnw wedi gwasanaethu fel offeiriad wrth yr allor erioed. Mae pawb yn gwybod mai un o ddisgynyddion llwyth Jwda oedd ein Harglwydd ni, a wnaeth Moses ddim dweud fod gan y llwyth hwnnw unrhyw gysylltiad â'r offeiriadaeth! Ac mae beth dŷn ni'n ei ddweud yn gliriach fyth pan ddeallwn ni fod yr offeiriad newydd yn debyg i Melchisedec. Ddaeth hwn ddim yn offeiriad am fod y rheolau yn dweud hynny (am ei fod yn perthyn i lwyth arbennig). Na, ond am fod nerth y bywyd na ellir ei ddinistrio ynddo. A dyna mae'r salmydd yn ei ddweud: “Rwyt ti'n offeiriad am byth, yr un fath â Melchisedec.” Felly mae'r drefn gyntaf yn cael ei rhoi o'r neilltu am ei bod yn methu gwneud beth oedd ei angen. Wnaeth y Gyfraith Iddewig wneud dim byd yn berffaith. Ond mae gobaith gwell wedi ei roi i ni yn ei lle. A dyna sut dŷn ni'n mynd at Dduw bellach. Ac wrth gwrs, roedd Duw wedi mynd ar lw y byddai'n gwneud hyn! Pan oedd eraill yn cael eu gwneud yn offeiriaid doedd dim sôn am unrhyw lw, ond pan ddaeth Iesu yn offeiriad dyma Duw yn tyngu llw. Dwedodd wrtho: “Mae'r Arglwydd wedi tyngu llw a fydd e ddim yn newid ei feddwl: ‘Rwyt ti yn offeiriad am byth.’” Mae hyn yn dangos fod yr ymrwymiad newydd mae Iesu'n warant ohono gymaint gwell na'r hen un. Hefyd, dan yr hen drefn roedd llawer iawn o offeiriaid. Roedd pob un ohonyn nhw'n marw, ac wedyn roedd rhaid i rywun arall gymryd y gwaith drosodd! Ond mae Iesu yn fyw am byth, ac mae'n aros yn offeiriad am byth. Felly mae Iesu'n gallu achub un waith ac am byth y bobl hynny mae'n eu cynrychioli o flaen Duw! Ac mae e hefyd yn fyw bob amser i bledio ar eu rhan nhw. Dyna'r math o Archoffeiriad sydd ei angen arnon ni — un sydd wedi cysegru ei hun yn llwyr, heb bechu o gwbl na gwneud dim o'i le, ac sydd bellach wedi ei osod ar wahân i ni bechaduriaid. Mae e yn y lle mwya anrhydeddus sydd yn y nefoedd. Yn wahanol i bob archoffeiriad arall, does dim rhaid i hwn gyflwyno'r un aberthau ddydd ar ôl dydd. Roedd rhaid i'r archoffeiriaid eraill gyflwyno aberth dros eu pechodau eu hunain yn gyntaf ac yna dros bechodau'r bobl. Ond aberthodd Iesu ei hun dros ein pechodau ni un waith ac am byth. Dan drefn y Gyfraith Iddewig dynion cyffredin gyda'i holl wendidau sy'n cael eu penodi'n archoffeiriaid. Ond mae'r cyfeiriad at Dduw yn mynd ar lw wedi ei roi ar ôl y Gyfraith Iddewig, ac yn sôn am Dduw yn penodi ei Fab yn Archoffeiriad, ac mae hwn wedi gwneud popeth oedd angen ei wneud un waith ac am byth. Y pwynt ydy hyn: mae'r Archoffeiriad sydd gynnon ni wedi eistedd yn y sedd anrhydedd yn y nefoedd, ar yr ochr dde i'r Duw Mawr ei hun. Dyna'r cysegr mae hwn yn gweini ynddo — y ganolfan addoliad go iawn sydd wedi ei chodi gan yr Arglwydd ei hun, a dim gan unrhyw berson dynol. A chan fod rhaid i bob archoffeiriad gyflwyno rhoddion ac aberthau i Dduw, roedd rhaid i Iesu hefyd fod â rhywbeth ganddo i'w gyflwyno. Petai'r gweini hwn yn digwydd ar y ddaear, fyddai Iesu ddim yn gallu bod yn offeiriad, am fod offeiriaid eisoes ar gael i gyflwyno'r rhoddion mae'r Gyfraith Iddewig yn eu gorchymyn. Ond dim ond copi o'r ganolfan addoliad go iawn yn y nefoedd ydy'r cysegr maen nhw'n gweini ynddo. Dyna pam wnaeth Duw roi'r rhybudd hwn i Moses pan oedd yn bwriadu codi'r babell yn ganolfan addoliad: “Gwna'n siŵr dy fod yn gwneud popeth yn union fel mae yn y cynllun welaist ti ar y mynydd.” Ond mae'r gwaith offeiriadol gafodd ei roi i Iesu yn llawer iawn pwysicach na'r gwaith maen nhw'n ei wneud fel offeiriaid. Ac mae'r ymrwymiad mae Iesu'n ganolwr iddo yn well na'r hen un — mae wedi ei wneud yn ‛gyfraith‛ sy'n addo pethau llawer gwell. Petai'r drefn gyntaf wedi bod yn ddigonol fyddai dim angen un arall. Ond roedd bai ar y bobl yng ngolwg Duw, a dyna pam ddwedodd e: “‘Mae'r amser yn dod,’ meddai'r Arglwydd, ‘pan fydda i'n gwneud ymrwymiad newydd gyda phobl Israel a Jwda.’ ‘Fydd hwn ddim yr un fath â'r un wnes i gyda'u hynafiaid (pan afaelais yn eu llaw a'u harwain allan o'r Aifft). Wnaethon nhw ddim cadw eu hochr nhw o'r cytundeb, felly dyma fi'n troi fy nghefn arnyn nhw,’ meddai'r Arglwydd. ‘Dyma'r ymrwymiad fydda i'n ei wneud gyda phobl Israel bryd hynny,’ meddai'r Arglwydd: ‘Bydd fy neddfau'n glir yn eu meddyliau ac wedi eu hysgrifennu ar eu calonnau. Fi fydd eu Duw nhw, a nhw fydd fy mhobl i. Fyddan nhw ddim yn gorfod dysgu pobl eraill, a dweud wrth ei gilydd, “Rhaid i ti ddod i nabod yr Arglwydd,” achos bydd pawb yn fy nabod i, o'r lleia i'r mwya. Bydda i'n maddau iddyn nhw am y pethau wnaethon nhw o'i le, ac yn anghofio eu pechodau am byth.’” Trwy ddefnyddio'r gair ‛newydd‛ i ddisgrifio'r ymrwymiad yma, mae Duw'n dweud fod y llall yn hen. Os ydy rhywbeth yn hen ac yn perthyn i'r oes o'r blaen, yn fuan iawn mae'n mynd i ddiflannu'n llwyr! Roedd gan yr ymrwymiad cyntaf reolau ar gyfer yr addoliad, a chysegr yn ganolfan i'r addoliad ar y ddaear. Roedd dwy ystafell yn y babell. Yn yr ystafell allanol roedd y ganhwyllbren a hefyd y bwrdd gyda'r bara wedi ei gysegru arno — dyma oedd yn cael ei alw ‛Y Lle Sanctaidd‛. Yna roedd llen, ac ystafell arall y tu ôl iddi, sef ‛Y Lle Mwyaf Sanctaidd‛. Yn yr ystafell fewnol roedd allor yr arogldarth ac arch yr ymrwymiad (cist bren oedd wedi ei gorchuddio ag aur). Yn y gist roedd jar aur yn dal peth o'r manna o'r anialwch, hefyd ffon Aaron (sef yr un oedd wedi blaguro), a'r ddwy lechen roedd Duw wedi ysgrifennu'r Deg Gorchymyn arnyn nhw. Yna uwchben y gist roedd dau greadur hardd wedi eu cerfio, a'u hadenydd yn cysgodi dros y caead — sef y man ble roedd Duw yn maddau pechodau. Ond does dim pwynt dechrau trafod hyn i gyd yn fanwl yma. Gyda popeth wedi ei osod yn ei le, roedd yr offeiriaid yn mynd i mewn i'r ystafell allanol yn rheolaidd i wneud eu gwaith. Ond dim ond yr archoffeiriad oedd yn mynd i mewn i'r ystafell fewnol, a hynny unwaith y flwyddyn yn unig. Ac roedd rhaid iddo fynd â gwaed gydag e, i'w gyflwyno i Dduw dros ei bechodau ei hun a hefyd y pechodau hynny roedd pobl wedi eu cyflawni heb sylweddoli eu bod nhw'n pechu. Mae'r Ysbryd Glân yn dangos i ni drwy hyn bod hi ddim yn bosib mynd i mewn i'r Lle Mwyaf Sanctaidd (sef yr un nefol) tra roedd y babell gyntaf, a'r drefn mae'n ei chynrychioli, yn dal i sefyll. Mae'n ddarlun sy'n dangos beth sy'n bwysig heddiw. Doedd y rhoddion a'r aberthau oedd yn cael eu cyflwyno dan yr hen drefn ddim yn gallu rhoi cydwybod glir i'r addolwr. Dyn nhw ddim ond yn rheolau ynglŷn â gwahanol fathau o fwyd a diod a defodau golchi — pethau oedd ond yn berthnasol nes i'r drefn newydd gyrraedd. Ond yna daeth y Meseia fel Archoffeiriad, a rhoi i ni'r holl bethau da dŷn ni eisoes wedi eu profi. Mae e wedi mynd drwy'r babell go iawn, sef yr un berffaith na chafodd ei gwneud gan bobl ac sydd ddim yn perthyn i'r byd hwn. Aeth i mewn un waith ac am byth i'r Lle Mwyaf Sanctaidd sydd yn y nefoedd. Aeth e ddim gyda gwaed geifr a lloi — aeth â'i waed ei hun, er mwyn i ni gael ein gollwng yn rhydd am byth. Roedd gwaed geifr a theirw yn cael ei daenellu, a lludw'r heffer yn cael ei wasgaru, er mwyn gwneud y bobl oedd yn aflan yn lân yn seremonïol. Ond mae gwaed y Meseia yn cyflawni llawer iawn mwy — mae'n glanhau'r gydwybod o'r pethau sy'n arwain i farwolaeth. Felly gallwn ni wasanaethu'r Duw byw! Mae'r Meseia wedi cyflwyno ei hun yn aberth perffaith i Dduw drwy nerth yr Ysbryd tragwyddol. Dyna pam mai fe ydy'r canolwr sy'n selio'r ymrwymiad newydd. Buodd farw i dalu'r pris i ollwng pobl yn rhydd o ganlyniadau'r pechodau gafodd eu cyflawni dan y drefn gyntaf — er mwyn i'r rhai sydd wedi eu galw dderbyn yr holl fendithion tragwyddol mae wedi eu haddo iddyn nhw. Os ydy rhywun wedi gwneud ewyllys, mae'n rhaid profi fod y person hwnnw wedi marw cyn i neb gael dim. Dydy ewyllys ddim yn cael ei gweithredu nes i'r un wnaeth yr ewyllys farw — dydy'r eiddo ddim yn cael ei rannu pan mae e'n dal yn fyw! Dyna pam roedd angen gwaed i hyd yn oed y drefn gyntaf gael ei gweithredu. Ar ôl i Moses ddweud wrth y bobl beth oedd pob un o orchmynion Cyfraith Duw, defnyddiodd frigau isop wedi eu rhwymo gyda gwlân ysgarlad i daenellu dŵr a gwaed lloi a geifr ar y sgrôl o'r Gyfraith ac ar y bobl. “Mae'r gwaed yma yn cadarnhau'r ymrwymiad mae Duw wedi ei wneud i chi ei gadw,” meddai wrthyn nhw. Wedyn taenellodd y gwaed yr un fath ar y babell ac ar bopeth oedd yn cael ei ddefnyddio yn y seremonïau. I ddweud y gwir, mae Cyfraith Moses yn dweud fod bron popeth i gael ei buro trwy gael ei daenellu â gwaed, a bod maddeuant ddim yn bosib heb i waed gael ei dywallt. Roedd rhaid i'r pethau hynny i gyd gael eu puro gan waed yr aberthau. Ond dim ond copïau o'r pethau nefol ydyn nhw, ac mae angen aberthau gwell nag anifeiliaid i buro'r rheiny. Aeth y Meseia i mewn i'r nefoedd ei hun, lle mae'n ymddangos o flaen Duw ar ein rhan ni. Dim i'r cysegr wedi ei godi gan bobl aeth e — gan fod hwnnw'n ddim byd ond copi o'r un nefol go iawn. A wnaeth e ddim mynd i mewn i'r nefoedd lawer gwaith i offrymu ei hun (fel yr archoffeiriaid eraill oedd yn gorfod mynd â gwaed anifail i mewn i'r Lle Mwyaf Sanctaidd flwyddyn ar ôl blwyddyn). Petai'n rhaid iddo wneud hynny, byddai wedi gorfod marw lawer gwaith ers i'r byd gael ei greu! Na! daeth y Meseia un waith ac am byth, yn agos at ddiwedd yr oesoedd, i ddelio gyda phechod drwy ei aberthu ei hun. Yn union fel mae pawb yn mynd i farw un waith, a wynebu barn ar ôl hynny, buodd y Meseia farw un waith yn aberth, a chario pechodau llawer iawn o bobl iddyn nhw gael eu maddau. A bydd yn dod yn ôl yr ail waith, dim i ddelio gyda phechod y tro hwn, ond i achub pawb sy'n disgwyl yn frwd amdano. Rhyw awgrym o'r pethau gwych sydd i ddod sydd yn y Gyfraith Iddewig — dim y bendithion eu hunain. Dyna pam dydy'r Gyfraith ddim yn gallu glanhau'n berffaith y rhai sy'n mynd i addoli, a pham mae'r un aberthau yn gorfod cael eu cyflwyno dro ar ôl tro, flwyddyn ar ôl blwyddyn. Oni fyddai'r bobl wedi stopio aberthu petai'r Gyfraith yn gallu eu glanhau nhw? Byddai'r addolwyr wedi eu glanhau un waith ac am byth, a ddim yn teimlo'n euog am eu pechodau ddim mwy! Ond na, beth roedd yr aberthau'n ei wneud oedd atgoffa'r bobl o'u pechod bob blwyddyn. Mae'n amhosib i waed teirw a geifr gael gwared â phechod. Felly pan ddaeth y Meseia i'r byd, dwedodd: “Nid aberth ac offrwm rwyt ti eisiau, ond rwyt wedi rhoi corff i mi. Doedd offrymau llosg ac offrymau dros bechod ddim yn dy blesio di. Felly dyma fi'n dweud, ‘O Dduw, dw i wedi dod i wneud beth rwyt ti eisiau — fel mae wedi ei ysgrifennu amdana i yn y sgrôl.’” Mae'r Meseia yn dweud, “Nid aberth ac offrwm rwyt ti eisiau” a “Doedd offrymau llosg ac offrymau dros bechod ddim yn dy blesio di.” (Y Gyfraith Iddewig sy'n dweud fod rhaid gwneud hyn i gyd). Wedyn mae'r Meseia'n dweud, “dw i wedi dod i wneud beth rwyt ti eisiau.” Felly mae'n cael gwared â'r drefn gyntaf i wneud lle i'r ail. A beth mae Duw eisiau ydy i ni gael ein glanhau o'n pechod am fod Iesu y Meseia wedi ei aberthu ei hun un waith ac am byth. Dan yr hen drefn mae'r offeiriad yn sefyll o flaen yr allor yn gwneud yr un gwaith ddydd ar ôl dydd. Mae e'n offrymu yr un aberthau drosodd a throsodd, ond allan nhw byth gael gwared â phechod! Ond dyma'r Meseia, ein hoffeiriad ni, yn offrymu ei hun yn aberth dros bechod un waith ac am byth, ac yna'n eistedd i lawr yn y sedd anrhydedd ar ochr dde Duw. Ers hynny mae wedi bod yn disgwyl i'w elynion gael eu gorfodi i blygu o'i flaen fel stôl iddo orffwys ei draed arni. Drwy aberthu ei hun un waith mae'r Meseia wedi glanhau'n berffaith y bobl mae Duw wedi eu cysegru iddo'i hun am byth. Ac mae'r Ysbryd Glân wedi sôn am hyn hefyd. Mae'n dweud fel hyn: “Dyma'r ymrwymiad fydda i'n ei wneud gyda fy mhobl bryd hynny,” meddai'r Arglwydd: “Bydd fy neddfau'n glir yn eu meddyliau ac wedi eu hysgrifennu ar eu calonnau.” Wedyn mae'n ychwanegu hyn: “Bydda i'n anghofio eu pechodau, a'r pethau wnaethon nhw o'i le, am byth.” Os ydy'r pechodau hyn wedi eu maddau, does dim angen aberth dros bechod ddim mwy! Felly, ffrindiau annwyl, gallwn bellach fynd i mewn i'r ‛Lle Mwyaf Sanctaidd‛ yn y nefoedd, am fod gwaed Iesu wedi ei dywallt yn aberth. Dyma'r ffordd newydd sydd wedi ei hagor i ni drwy'r llen (am fod Iesu wedi aberthu ei gorff ei hun) — y ffordd i fywyd! Mae gynnon ni'r Meseia, yn archoffeiriad gwych gydag awdurdod dros deulu Duw. Felly gadewch i ni glosio at Dduw gyda hyder didwyll, a'i drystio fe'n llwyr. Mae'n cydwybod euog ni wedi ei glanhau drwy i'w waed gael ei daenellu arnon ni, a dŷn ni wedi'n golchi gyda dŵr glân. Felly gadewch i ni ddal gafael yn y gobaith dŷn ni'n ddweud sydd gynnon ni. Mae Duw yn siŵr o wneud beth mae wedi ei addo! A gadewch i ni feddwl am ffyrdd i annog ein gilydd i ddangos cariad a gwneud daioni. Mae'n bwysig ein bod yn dal ati i gyfarfod â'n gilydd. Mae rhai pobl wedi stopio gwneud hynny. Dylen ni annog a rhybuddio'n gilydd drwy'r adeg; yn arbennig am fod Iesu'n dod yn ôl i farnu yn fuan. Os ydyn ni'n penderfynu dal ati i bechu ar ôl dod i wybod y gwirionedd, does dim aberth sy'n gallu delio gyda'n pechod ni wedyn. Allwn ni ond disgwyl yn ofnus am farn Duw a'r tân eirias fydd yn dinistrio gelynion Duw. Meddyliwch! Os oedd rhywun yn gwrthod ufuddhau i Gyfraith Moses, doedd ond angen tystiolaeth dau neu dri tyst a byddai'n cael ei roi i farwolaeth. Doedd dim trugaredd! Bydd y gosb yn llawer iawn mwy llym i'r bobl hynny sydd wedi sathru Mab Duw dan draed fel petai'n sbwriel ac wedi trin ei waed (gwaed yr ymrwymiad newydd) fel petai'n beth aflan! Maen nhw wedi sarhau Ysbryd hael Duw! Oherwydd dŷn ni'n gwybod pwy ddwedodd, “Fi sy'n dial; gwna i dalu yn ôl,” a hefyd, “Bydd yr Arglwydd yn barnu ei bobl.” Peth dychrynllyd ydy cael eich dal gan y Duw byw! Felly cofiwch yr adeg pan gawsoch chi'ch goleuo am y tro cyntaf. Bryd hynny roeddech chi'n sefyll yn gadarn er eich bod wedi gorfod dioddef yn ofnadwy. Weithiau'n cael eich sarhau a'ch cam-drin yn gyhoeddus; dro arall yn sefyll gyda'r rhai oedd yn cael eu trin felly. Roeddech chi'n dioddef gyda'r rhai oedd wedi eu taflu i'r carchar. A phan oedd eich eiddo yn cael ei gymryd oddi arnoch chi roeddech chi'n derbyn y peth yn llawen. Wedi'r cwbl roeddech chi'n gwybod fod gan Dduw bethau gwell i chi — pethau sydd i bara am byth! Felly peidiwch taflu'r hyder sydd gynnoch chi i ffwrdd — mae gwobr fawr yn ei ddilyn! Rhaid i chi ddal ati, a gwneud beth mae Duw eisiau. Wedyn cewch dderbyn beth mae wedi ei addo i chi! Oherwydd, “yn fuan iawn, bydd yr Un sy'n dod yn cyrraedd — fydd e ddim yn hwyr. Bydd fy un cyfiawn yn byw trwy ei ffyddlondeb. Ond bydd y rhai sy'n troi cefn ddim yn fy mhlesio i.” Ond dŷn ni ddim gyda'r bobl hynny sy'n troi cefn ac yn cael eu dinistrio. Dŷn ni gyda'r rhai ffyddlon, y rhai sy'n credu ac yn cael eu hachub. Ffydd ydy'r sicrwydd fod beth dŷn ni'n gobeithio amdano yn mynd i ddigwydd. Mae'n dystiolaeth sicr o realiti beth dŷn ni ddim eto'n ei weld. Dyma pam gafodd pobl ers talwm eu canmol gan Dduw. Ffydd sy'n ein galluogi ni i ddeall mai'r ffordd y cafodd y bydysawd ei osod mewn trefn oedd trwy i Dduw roi gorchymyn i'r peth ddigwydd. A chafodd y pethau o'n cwmpas ni ddim eu gwneud allan o bethau oedd yno i'w gweld o'r blaen. Ei ffydd wnaeth i Abel offrymu aberth i Dduw oedd yn well nag un Cain. Dyna sut y cafodd ei ganmol fel un oedd yn gwneud y peth iawn, gyda Duw ei hun yn dweud pethau da am ei offrwm. Ac er ei fod wedi marw ers talwm, mae ei ffydd yn dal i siarad â ni. Ffydd Enoch wnaeth beri iddo gael ei gymryd i ffwrdd o'r bywyd hwn heb orfod mynd drwy'r profiad o farw. “Roedd wedi diflannu am fod Duw wedi ei gymryd i ffwrdd.” Cyn iddo gael ei gymryd i ffwrdd cafodd ei ganmol am ei fod wedi plesio Duw. Mae'n amhosib plesio Duw heb ffydd. Mae'n rhaid i'r rhai sydd am fynd ato gredu ei fod yn bodoli, a'i fod yn gwobrwyo pawb sy'n ei geisio o ddifri. Ffydd Noa wnaeth iddo wrando ar Dduw ac adeiladu llong fawr i achub ei deulu. Roedd Duw wedi ei rybuddio am bethau oedd erioed wedi digwydd o'r blaen. Wrth gredu roedd e'n condemnio gweddill y ddynoliaeth, ond roedd Noa ei hun yn cael ei dderbyn yn gyfiawn yng ngolwg Duw. Ffydd Abraham wnaeth iddo wrando ar Dduw. Roedd Duw yn ei alw i adael ei gartref a mynd i wlad y byddai'n ei derbyn yn etifeddiaeth yn nes ymlaen. Ond pan aeth oddi cartref doedd e ddim yn gwybod ble roedd yn mynd! A phan gyrhaeddodd y wlad roedd Duw wedi ei haddo iddo, ei ffydd wnaeth iddo aros yno. Roedd fel ymwelydd mewn gwlad dramor, yn byw mewn pebyll. (Ac Isaac a Jacob yr un fath, gan fod Duw wedi rhoi'r un addewid iddyn nhw hefyd.) Roedd Abraham yn edrych ymlaen at fyw yn y ddinas roedd Duw wedi ei chynllunio a'i hadeiladu, sef y ddinas sy'n aros am byth. Ffydd wnaeth alluogi Sara i fod yn fam hefyd. Roedd yn llawer rhy hen i gael plentyn mewn gwirionedd, ond roedd yn credu y byddai Duw yn gwneud beth roedd wedi ei addo. Felly, o'r un oedd yn rhy hen i gael plant, cafodd Abraham gymaint o ddisgynyddion mae'n amhosib eu cyfri i gyd — maen nhw fel y sêr yn yr awyr neu'r tywod ar lan y môr! Buodd y bobl hyn farw, wedi credu yn Nuw ond heb dderbyn yn llawn beth roedd Duw wedi ei addo iddyn nhw. Ond roedden nhw yn gweld y cwbl o bell, ac yn edrych ymlaen yn frwd. Roedden nhw'n dweud yn agored mai pobl ddieithr yn crwydro'r tir oedden nhw, ac mae'n amlwg fod pobl sy'n siarad felly yn edrych am eu mamwlad. A dim y wlad roedden nhw wedi ei gadael oedd ganddyn nhw mewn golwg, achos gallen nhw fod wedi mynd yn ôl yno. Na, roedden nhw'n dyheu am rywle gwell — am wlad nefol. Dyna pam fod gan Dduw ddim cywilydd cael ei alw'n Dduw iddyn nhw, am fod ganddo ddinas yn barod ar eu cyfer nhw. Ffydd wnaeth i Abraham offrymu Isaac yn aberth, pan oedd Duw yn ei brofi. Dyma'r un oedd wedi derbyn addewidion Duw, yn ceisio aberthu ei unig fab! A hynny er bod Duw wedi dweud wrtho, “Drwy Isaac y bydd dy linach yn cael ei chadw.” Roedd Abraham yn derbyn fod Duw yn gallu dod â'r meirw yn ôl yn fyw. Ac mewn ffordd mae'n iawn i ddweud ei fod wedi derbyn Isaac yn ôl felly. Ffydd Isaac wnaeth iddo fendithio Jacob ac Esau. Roedd ganddo ffydd yn beth roedd Duw'n mynd i'w wneud yn y dyfodol. Ffydd wnaeth i Jacob fendithio plant Joseff pan oedd ar fin marw. “Addolodd Dduw wrth bwyso ar ei ffon.” A phan roedd Joseff ar fin marw, ei ffydd wnaeth iddo yntau sôn am bobl Israel yn gadael yr Aifft. Dwedodd wrthyn nhw hefyd ble i gladdu ei esgyrn. Eu ffydd wnaeth i rieni Moses ei guddio am dri mis ar ôl iddo gael ei eni. Roedden nhw'n gweld fod rhywbeth sbesial am y plentyn, a doedd ganddyn nhw ddim ofn beth fyddai'r brenin yn ei wneud. Ffydd wnaeth i Moses, ar ôl iddo dyfu, wrthod cael ei drin fel mab i ferch y Pharo. Yn lle mwynhau pleserau pechod dros dro, dewisodd gael ei gam-drin fel un o bobl Dduw. Roedd cael ei amharchu dros y Meseia yn fwy gwerthfawr yn ei olwg na holl drysor yr Aifft, am ei fod yn edrych ymlaen at y wobr oedd gan Dduw iddo. Ei ffydd wnaeth i Moses adael yr Aifft. Doedd ganddo ddim ofn y brenin. Daliodd ati i'r diwedd am ei fod yn cadw ei olwg ar y Duw anweledig. Ei ffydd wnaeth i Moses gadw'r Pasg hefyd, a gorchymyn i'r bobl roi gwaed ar byst drysau eu tai. Wedyn fyddai'r angel oedd yn lladd y mab hynaf ddim yn cyffwrdd teuluoedd Israel. Ffydd wnaeth i bobl Israel gerdded drwy ganol y Môr Coch ar dir sych. Pan geisiodd yr Eifftiaid wneud yr un peth, dyma nhw'n cael eu boddi. Ffydd wnaeth i bobl Israel gerdded mewn cylch o gwmpas Jericho am saith diwrnod, a dyma'r waliau'n syrthio. Am fod ganddi ffydd, rhoddodd Rahab y butain groeso i'r ysbiwyr. Wnaeth hi ddim cael ei lladd fel pawb arall, oedd yn anufudd i Dduw. Beth arall sydd raid i mi ei ddweud? Does gen i ddim amser i sôn am Gideon, Barac, Samson, Jefftha, Dafydd, Samuel a'r holl broffwydi. Eu ffydd wnaeth alluogi'r bobl hyn i wneud pob math o bethau — concro teyrnasoedd, llywodraethu'n gyfiawn, a derbyn y bendithion roedd Duw wedi eu haddo. Cafodd llewod eu rhwystro rhag lladd pobl, tanau gwyllt eu rhwystro rhag llosgi pobl, a llwyddodd eraill i ddianc rhag cael eu lladd gan y cleddyf. Cafodd y rhai oedd yn wan eu gwneud yn gryf, a throi'n filwyr nerthol yn gwneud i fyddinoedd gwledydd eraill ffoi. Cafodd rhai gwragedd eu hanwyliaid yn ôl yn fyw ar ôl iddyn nhw farw. Ond cafodd eraill eu poenydio a gwrthod cyfaddawdu i osgoi marw. Roedden nhw'n edrych ymlaen at gael eu codi yn ôl i fywyd gwell! Cafodd rhai eu sarhau a'u fflangellu, eraill eu rhoi mewn cadwyni a'u carcharu. Cafodd rhai eu llabyddio gyda cherrig, ac eraill eu llifio yn eu hanner; a chafodd eraill eu lladd â chleddyf. Buodd rhai yn crwydro fel ffoaduriaid heb ddim ond crwyn defaid a geifr yn ddillad; wedi colli'r cwbl, ac yn cael eu herlid a'u cam-drin. Pobl oedd y byd ddim yn eu haeddu nhw. Roedden nhw'n crwydro dros dir anial a mynydd-dir, ac yn cuddio mewn ogofâu a thyllau yn y ddaear. Cafodd y bobl yma i gyd eu canmol am eu ffydd, ac eto wnaeth dim un ohonyn nhw dderbyn y cwbl roedd Duw wedi ei addo. Roedd Duw wedi cynllunio rhywbeth gwell iddyn nhw — rhywbeth dŷn ni'n rhan ohono. Felly dŷn nhw ddim ond yn gallu cael y wobr lawn gyda ni. Oes! Mae tyrfa enfawr o'n cwmpas ni yn dweud mai trystio Duw ydy'r ffordd orau i fyw. Felly gadewch i ni gael gwared â phopeth sy'n ein dal ni'n ôl, yn arbennig y pechod sy'n denu'n sylw ni mor hawdd. Gadewch i ni fod yn benderfynol o ddal ati, a rhedeg y ras sydd o'n blaenau i'w diwedd. Rhaid i ni hoelio'n sylw ar Iesu — fe ydy'r pencampwr a'r hyfforddwr sy'n perffeithio ein ffydd ni. Er mwyn profi'r llawenydd oedd o'i flaen, dyma fe'n dal ei dir ar y groes gan wrthod ystyried y cywilydd o wneud hynny, a bellach mae'n eistedd yn y sedd anrhydedd ar yr ochr dde i orsedd Duw yn y nefoedd! Meddyliwch sut wnaeth e ddiodde'r holl wrthwynebiad gan bechaduriaid — wnewch chi wedyn ddim colli plwc a digalonni. Wedi'r cwbl dych chi ddim eto wedi gorfod colli gwaed wrth wneud safiad yn erbyn pechod! Ydych chi wedi anghofio anogaeth Duw i chi fel ei blant?: “Fy mhlentyn, paid diystyru disgyblaeth yr Arglwydd, na thorri dy galon pan fydd yn dy gywiro di, achos mae'r Arglwydd yn disgyblu'r rhai mae'n eu caru, ac yn cosbi pob un o'i blant.” Cymerwch y dioddef fel disgyblaeth. Mae Duw'n eich trin chi fel ei blant. Pwy glywodd am blentyn sydd ddim yn cael ei ddisgyblu gan ei rieni? Os dych chi ddim yn cael eich disgyblu allwch chi ddim bod yn blant go iawn iddo — mae pob plentyn wedi cael ei ddisgyblu rywbryd! Pan oedd ein rhieni yn ein disgyblu ni, roedden ni'n eu parchu nhw. Felly oni ddylen ni wrando fwy fyth ar ein Tad ysbrydol, i ni gael byw? Roedd ein rhieni yn ein disgyblu ni dros dro fel roedden nhw'n gweld orau, ond mae disgyblaeth Duw yn siŵr o wneud lles i ni bob amser, i'n gwneud ni'n debycach iddo fe'i hun. Dydy disgyblaeth byth yn bleserus ar y pryd (mae'n boenus!) — ond yn nes ymlaen dŷn ni'n gweld ei fod yn beth da. Ac mae'r rhai sydd wedi dysgu trwyddo yn dod yn bobl sy'n gwneud beth sy'n iawn ac yn profi heddwch dwfn. Felly peidiwch gollwng gafael! Safwch ar eich traed yn gadarn! Cerddwch yn syth yn eich blaenau. Wedyn bydd y rhai sy'n gloff yn cryfhau ac yn eich dilyn yn lle syrthio ar fin y ffordd. Gwnewch eich gorau glas i fyw mewn perthynas dda gyda phawb, ac i fyw bywydau glân a sanctaidd. Dim ond y rhai sy'n sanctaidd fydd yn cael gweld yr Arglwydd. Gwyliwch bod neb ohonoch chi'n colli gafael ar haelioni rhyfeddol Duw. Os dych chi'n gadael i wreiddyn chwerw dyfu yn eich plith chi, gallai hynny greu problemau ag amharu ar lawer o bobl yn yr eglwys. Gwyliwch rhag i rywun wrthgilio a throi'n annuwiol — fel Esau yn gwerthu popeth am bryd o fwyd! Collodd y cwbl oedd ganddo hawl i'w dderbyn fel y mab hynaf. Wedyn, pan oedd eisiau i'w dad ei fendithio, cafodd ei wrthod. Roedd hi'n rhy hwyr iddo newid ei feddwl, er iddo grefu a chrefu yn ei ddagrau. Yn wahanol i bobl Israel, dych chi ddim wedi dod at bethau y gallwch eu teimlo — mynydd gyda thân yn llosgi arno, tywyllwch, caddug a storm wyllt. Does dim sŵn utgorn, na llais i'ch dychryn chi, fel llais Duw pan oedd yn siarad yn Sinai. Roedd y bobl yn crefu ar i Dduw stopio siarad yn uniongyrchol â nhw. Roedd y gorchymyn yn ormod iddyn nhw ei oddef: “Os bydd hyd yn oed anifail yn cyffwrdd y mynydd rhaid ei ladd drwy daflu cerrig ato nes iddo farw.” Roedd y cwbl mor ofnadwy o ddychrynllyd nes i Moses ei hun ddweud, “Dw i'n crynu drwyddo i mewn ofn.” Na! At fynydd Seion dych chi wedi dod — sef at ddinas y Duw byw! Dyma'r Jerwsalem nefol! Yma mae miloedd ar filoedd o angylion wedi dod at ei gilydd i addoli a dathlu. Yma mae'r bobl hynny sydd â'u henwau wedi eu cofrestru yn y nefoedd — sef y rhai sydd i dderbyn y bendithion, fel y ‛mab hynaf‛. Yma hefyd mae Duw, Barnwr pawb. Yma mae'r bobl gyfiawn hynny fuodd farw, a sydd bellach wedi eu perffeithio. Yma hefyd mae Iesu, y canolwr wnaeth selio'r ymrwymiad newydd. Yma mae ei waed wedi ei daenellu — y gwaed sy'n dweud rhywbeth llawer mwy grymus na gwaed Abel. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwrando'n ofalus ar Dduw, yr un sy'n siarad â chi. Os wnaeth pobl Israel ddim dianc pan wrthodon nhw wrando ar Moses, yr un o'r ddaear oedd yn eu rhybuddio nhw, pa obaith sydd i ni os ydyn ni'n troi'n cefnau ar Iesu, yr Un o'r nefoedd sydd wedi'n rhybuddio ni! Wrth fynydd Sinai roedd llais Duw yn ysgwyd y ddaear, ond nawr mae wedi dweud: “Unwaith eto dw i'n mynd i ysgwyd nid yn unig y ddaear, ond y nefoedd hefyd.” Mae'r geiriau “unwaith eto” yn dangos fod y pethau fydd yn cael eu hysgwyd — sy'n bethau wedi eu creu — i gael eu symud. Dim ond y pethau sydd ddim yn gallu cael eu hysgwyd fydd yn aros. A dyna sut deyrnas dŷn ni'n ei derbyn! — un sydd ddim yn gallu cael ei hysgwyd. Felly gadewch i ni fod yn ddiolchgar, ac addoli ein Duw yn y ffordd ddylen ni — gyda pharch a rhyfeddod, am mai “Tân sy'n difa ydy Duw.” Daliwch ati i garu'ch gilydd fel credinwyr. Peidiwch stopio'r arfer o roi croeso i bobl ddieithr yn eich cartrefi — mae rhai pobl wedi croesawu angylion i'w cartrefi heb yn wybod! Daliwch ati i gofio'r rheiny sy'n y carchar, gan feddwl sut brofiad fyddai hi i fod yn y carchar eich hunain! Cofiwch hefyd am y rhai sy'n cael eu cam-drin, fel tasech chi'ch hunain yn dioddef yr un fath. Dylai priodas gael ei barchu gan bawb, a ddylai person priod ddim cysgu gyda neb arall. Bydd Duw yn barnu pawb sy'n anfoesol ac yn cael rhyw y tu allan i briodas. Peidiwch gadael i gariad at arian eich meddiannu chi! — byddwch yn fodlon gyda'r hyn sydd gynnoch chi. Wedi'r cwbl mae Duw ei hun wedi dweud, “Wna i byth eich siomi chi, na throi fy nghefn arnoch chi.” Felly gallwn ni ddweud yn hyderus, “Yr Arglwydd ydy'r un sy'n fy helpu i; fydd gen i ddim ofn. Beth all pobl ei wneud i mi?” Cofiwch eich arweinwyr, sef y rhai wnaeth rannu neges Duw gyda chi. Meddyliwch sut mae eu bywydau nhw wedi gwneud cymaint o ddaioni. Credwch yn yr Arglwydd yr un fath â nhw. Mae Iesu y Meseia yr un fath bob amser — ddoe, heddiw ac am byth! Peidiwch gadael i bob math o syniadau rhyfedd eich camarwain chi. Haelioni rhyfeddol Duw sy'n ein cynnal ni, dim y rheolau am beth sy'n iawn i'w fwyta. Dydy canolbwyntio ar bethau felly'n gwneud lles i neb! Mae gynnon ni aberth does gan yr offeiriaid sy'n gweini dan yr hen drefn ddim hawl i fwyta ohoni. Dan yr hen drefn mae'r archoffeiriad yn mynd â gwaed anifeiliaid i mewn i'r Lle Mwyaf Sanctaidd fel offrwm dros bechod, ond mae cyrff yr anifeiliaid yn cael eu llosgi y tu allan i'r gwersyll. A'r un fath, roedd rhaid i Iesu ddioddef y tu allan i waliau'r ddinas er mwyn glanhau'r bobl drwy dywallt ei waed ei hun. Felly gadewch i ninnau fynd ato, y tu allan i'r gwersyll, a bod yn barod i ddioddef amarch fel gwnaeth Iesu ei hun. Dim y byd hwn ydy'n dinas ni! Dŷn ni'n edrych ymlaen at y ddinas yn y nefoedd, sef yr un sydd i ddod. Felly, gadewch i ni foli Duw drwy'r adeg, o achos beth wnaeth Iesu. Y ffrwythau dŷn ni'n eu cyflwyno iddo ydy'r mawl mae e'n ei haeddu. A pheidiwch anghofio gwneud daioni a rhannu'ch cyfoeth gyda phawb sydd mewn angen. Mae'r math yna o aberth yn plesio Duw go iawn. Byddwch yn ufudd i'ch arweinwyr ysbrydol, a gwneud beth maen nhw'n ei ddweud. Mae'n rhaid iddyn nhw roi cyfri i Dduw am y ffordd maen nhw'n gofalu amdanoch chi. Rhowch le iddyn nhw fwynhau eu gwaith, yn lle ei fod yn faich. Fyddai hynny'n sicr o ddim lles i chi. Peidiwch stopio gweddïo droson ni. Mae'n cydwybod ni'n glir, a dŷn ni'n ceisio gwneud beth sy'n iawn bob amser. Dw i'n arbennig eisiau i chi weddïo y ca i ddod yn ôl i'ch gweld chi'n fuan. [20-21] Dw i'n gweddïo y bydd Duw, sy'n rhoi heddwch perffaith i ni, yn eich galluogi chi i wneud beth mae e eisiau. Fe ydy'r Duw gododd ein Harglwydd Iesu yn ôl yn fyw, sef Bugail mawr y defaid. Trwy farw'n aberth, seliodd yr ymrwymiad tragwyddol a wnaeth Duw. Dw i'n gweddïo y bydd Duw, trwy'r Meseia Iesu, yn eich galluogi chi i wneud beth sy'n ei blesio fe. Mae'n haeddu ei foli am byth! Amen! *** Ffrindiau annwyl, dw i'n pwyso arnoch chi i dderbyn beth dw i wedi ei ddweud. Dw i wedi bod mor gryno ac y galla i. Dw i am i chi wybod fod ein brawd Timotheus wedi cael ei ryddhau o garchar. Os daw yma'n fuan bydda i'n dod ag e gyda mi i'ch gweld chi. Cofion at eich arweinwyr chi i gyd! — ac at bob un o'r credinwyr sydd acw. Mae Cristnogion yr Eidal yn anfon eu cyfarchion atoch chi. Dw i'n gweddïo y byddwch chi i gyd yn profi haelioni rhyfeddol Duw. Llythyr gan Iago, gwas i Dduw a'r Arglwydd Iesu Grist. At Gristnogion Iddewig sydd wedi eu gwasgaru drwy'r holl wledydd. Cyfarchion! Frodyr a chwiorydd, pan fyddwch chi'n wynebu pob math o dreialon, ystyriwch hynny'n rheswm i fod yn llawen. Achos pan mae'ch ffydd chi'n cael ei brofi mae hynny'n meithrin y gallu i ddal ati a pheidio rhoi'r gorau iddi. Ac mae dal ati drwy'r cwbl yn eich gwneud chi'n gryf ac aeddfed — yn barod ar gyfer unrhyw beth! Os oes angen doethineb ar rywun, dylai ofyn i Dduw. Mae Duw yn rhoi yn hael i bawb sy'n gofyn, ac yn gwneud hynny heb oedi na phwyntio bys at eu beiau nhw. Ond rhaid gofyn gan gredu y bydd Duw yn ateb — peidio amau, am fod y rhai sy'n amau yn debyg i donnau'r môr yn cael eu taflu a'u chwipio i bobman gan y gwynt. Ddylai pobl felly ddim disgwyl cael unrhyw beth gan yr Arglwydd! Dyn nhw ddim yn gwybod beth sydd arnyn nhw eisiau. Maen nhw'n byw mewn ansicrwydd. Dylai'r Cristion sy'n dod o gefndir tlawd frolio fod Duw wedi ei anrhydeddu, ond dylai'r cyfoethog fod yn falch pan mae Duw yn ei ddarostwng. Bydd e'n diflannu fel blodyn gwyllt. Wrth i'r haul tanbaid grino'r glaswellt mae'r blodyn yn syrthio a'i harddwch yn diflannu. Dyna'n union fydd yn digwydd i bobl gyfoethog — marw yng nghanol eu busnes! Mae'r rhai sy'n dal ati yn wyneb treialon yn cael eu bendithio gan Dduw. Ar ôl mynd drwy'r prawf byddan nhw'n cael eu coroni â'r bywyd mae Duw wedi ei addo i'r rhai sy'n ei garu. A ddylai neb ddweud pan mae'n cael ei brofi, “Duw sy'n fy nhemtio i.” Dydy Duw ddim yn cael ei demtio gan ddrygioni, a dydy e ddim yn temtio neb arall chwaith. Eu chwantau drwg eu hunain sy'n temtio pobl, ac yn eu llusgo nhw ar ôl iddyn nhw gymryd yr abwyd. Mae chwantau drwg yn arwain i weithredoedd drwg, a'r gweithredoedd drwg hynny yn arwain i farwolaeth ysbrydol. Peidiwch cymryd eich camarwain, frodyr a chwiorydd annwyl. Mae pob rhoi, a phob haelioni yn dod oddi wrth Dduw yn y nefoedd uchod. Fe ydy'r Tad a greodd y sêr a'r planedau, ond dydy ei oleuni e ddim yn amrywio, a dydy e byth yn taflu cysgodion tywyll. Mae Duw wedi dewis rhoi bywyd newydd i ni, drwy wirionedd ei neges. Mae wedi'n dewis ni'n arbennig iddo'i hun o blith y cwbl mae wedi ei greu. Gallwch fod yn hollol siŵr o'r peth, frodyr a chwiorydd. Dylai pob un ohonoch fod yn awyddus i wrando a pheidio siarad yn fyrbwyll, a gwybod sut i reoli ei dymer. Dydy gwylltio ddim yn eich helpu chi i wneud beth sy'n iawn yng ngolwg Duw. Felly rhaid cael gwared â phob budreddi a'r holl ddrygioni sy'n rhemp, a derbyn yn wylaidd y neges mae Duw wedi ei phlannu yn eich calonnau chi — dyna'r neges sy'n eich achub chi. Gwnewch beth mae Duw'n ei ddweud, yn lle dim ond clywed y neges a gwneud dim wedyn. Twyllo'ch hunain ydy peth felly! Mae rhywun sy'n clywed ond ddim yn gwneud yn debyg i ddyn yn edrych mewn drych. Mae'n edrych arno'i hun, ac wedyn yn mynd i ffwrdd, ac yn anghofio sut olwg oedd arno! Ond mae'r un sy'n dal ati i edrych yn fanwl ar ddysgeidiaeth berffaith y Duw sy'n ein gollwng ni'n rhydd yn wahanol. Dydy'r sawl sy'n gwneud hynny ddim yn anghofio beth mae wedi ei glywed; mae'n gwneud beth sydd ei angen. A bydd Duw yn bendithio popeth mae'n ei wneud! Os ydy rhywun yn meddwl ei fod yn dduwiol ond ddim yn gallu rheoli ei dafod, mae'n twyllo'i hun — dydy crefydd rhywun felly yn dda i ddim. Y math o grefydd mae Duw y Tad yn ei ystyried yn bur ac yn ddilys ydy'r grefydd sy'n gofalu am blant amddifad a gwragedd gweddwon sy'n dioddef, ac sy'n gwrthod dylanwad y byd. Frodyr a chwiorydd, dydy dangos ffafriaeth ddim yn beth iawn i bobl sy'n dweud eu bod nhw'n credu yn ein Harglwydd bendigedig ni, Iesu Grist. Er enghraifft, meddyliwch petai rhywun cyfoethog, yn gwisgo dillad crand a modrwyau aur a gemau, yn dod i mewn i un o'ch cyfarfodydd, ac yna cardotyn tlawd mewn dillad budron yn dod i mewn hefyd. Petaech chi'n rhoi'r sylw i gyd i'r person yn y dillad crand, ac yn dweud wrtho, “Eisteddwch yma, dyma'r sedd orau”, ond wedyn yn dweud wrth y cardotyn, “Dos di i sefyll yn y cefn, fan acw” neu “Eistedd di ar lawr yn y gornel yma”, fyddech chi ddim yn awgrymu fod un person yn well na'r llall ac yn dangos fod eich cymhellion chi'n anghywir? Gwrandwch arna i, frodyr a chwiorydd annwyl. Onid y bobl sy'n dlawd yng ngolwg y byd mae Duw wedi eu dewis i fod yn gyfoethog yn ysbrydol? Byddan nhw'n cael rhannu yn y deyrnas mae wedi ei haddo i'r rhai sy'n ei garu. Ond dych chi'n amharchu'r tlawd! Y cyfoethog ydy'r bobl sy'n eich cam-drin chi! Onid nhw sy'n eich llusgo chi o flaen y llysoedd? Onid nhw sy'n cablu enw da yr un dych chi'n perthyn iddo? Os ydych chi'n ufudd i orchymyn pwysica'r ysgrifau sanctaidd: “Rwyt i garu dy gymydog fel rwyt ti'n dy garu dy hun,” da iawn chi. Ond os ydych chi'n dangos ffafriaeth dych chi'n pechu, ac mae Cyfraith Duw yn dweud eich bod chi'n droseddwr. Mae torri un o orchmynion Duw yr un fath â thorri'r Gyfraith i gyd. Dwedodd Duw “Paid godinebu” (sef cael rhyw tu allan i dy briodas), a dwedodd hefyd “Paid llofruddio”. Felly os wyt ti'n lladd rhywun, rwyt ti wedi torri'r Gyfraith, hyd yn oed os wyt ti ddim wedi godinebu. Dylech chi siarad a byw fel pobl sy'n mynd i gael eu barnu gan gyfraith cariad, sef ‛y gyfraith sy'n eich rhyddhau chi‛. Fydd dim trugaredd i chi os ydych chi heb ddangos trugaredd at eraill, ond mae dangos trugaredd yn trechu barn. Frodyr a chwiorydd, beth ydy'r pwynt i rywun honni ei fod yn credu, ac wedyn gwneud dim byd o ganlyniad i hynny? Ai dyna'r math o ‛gredu‛ sy'n achub rhywun? Er enghraifft, os ydych chi'n gweld brawd neu chwaer yn brin o ddillad neu heb fwyd, ac yna'n dweud, “Pob bendith i ti! Cadw'n gynnes, a gobeithio cei di rywbeth i'w fwyta.” Beth ydy'r pwynt os ydych chi'n ei adael yno heb roi dim byd iddo? Mae ‛credu‛ ar ei ben ei hun yn union yr un fath. Os ydy'r ‛credu‛ ddim yn arwain at wneud rhywbeth, mae'n farw gelain. Ond wedyn mae rhywun yn dadlau “Mae gan rai pobl ffydd ac mae eraill yn gwneud daioni.” A dw i'n ateb, “Wyt ti'n gallu dangos dy ffydd i mi heb wneud dim? Dw i'n dangos fy mod i'n credu drwy beth dw i'n ei wneud!” Rwyt ti'n credu mai un Duw sy'n bod, wyt ti? Wel da iawn ti! Ond cofia fod y cythreuliaid yn credu hynny hefyd, ac yn crynu mewn ofn! Y twpsyn! Oes rhaid i mi brofi i ti fod ‛credu‛ sydd ddim yn arwain at wneud rhywbeth yn dda i ddim? Meddylia am ein cyndad Abraham. Onid y ffaith ei fod wedi gweithredu, a mynd ati i offrymu ei fab Isaac ar yr allor wnaeth ei berthynas e gyda Duw yn iawn? Roedd ei ffydd i'w weld drwy beth wnaeth e. Roedd y gweithredu yn dangos ei fod yn credu go iawn, dim rhyw hanner credu. Daeth beth mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud yn wir: “Credodd Abraham, a chafodd ei dderbyn i berthynas iawn gyda Duw.” Cafodd ei alw'n ffrind Duw! Felly dylet ti weld mai beth mae rhywun yn ei wneud sy'n dangos ei fod yn iawn gyda Duw, nid dim ond bod rhywun yn dweud ei fod yn credu. I roi enghraifft hollol wahanol meddylia am Rahab y butain; onid beth wnaeth hi ddaeth â hi i berthynas iawn gyda Duw? Rhoddodd groeso i'r ysbiwyr a'u cuddio nhw, ac wedyn eu hanfon i ffwrdd ar hyd ffordd wahanol. Yn union fel mae corff yn farw os oes dim anadl ynddo, mae credu heb weithredu yn farw! Frodyr a chwiorydd, nid lle pawb ydy ceisio bod yn athrawon sy'n dysgu pobl eraill yn yr eglwys. Dylech sylweddoli y byddwn ni sy'n dysgu eraill yn cael ein barnu'n fwy llym. Dŷn ni i gyd yn gwneud pob math o gamgymeriadau. Os oes rhywun yn gallu rheoli ei dafod, a dweud dim byd o'i le byth, dyna i chi berson perffaith! Rhywun sy'n gallu rheoli ei hun yn llwyr. Dŷn ni'n rhoi ffrwyn ar geffyl i'w wneud yn ufudd i ni, a'i droi i'r cyfeiriad dŷn ni am iddo fynd. A gyda llongau mawr sy'n cael eu gyrru gan wyntoedd cryfion, llyw bach iawn sydd ei angen i'r peilot eu troi nhw i ble bynnag mae'n dewis mynd. Dyna i chi'r tafod! Mae'n rhan fach iawn o'r corff, ond mae'n gallu honni pethau mawr iawn! Fflam fach iawn sydd ei angen i roi coedwig enfawr ar dân. A fflam felly ydy'r tafod! Mae'r tafod yn llawn drygioni, ac o blith holl rannau'r corff, hwn ydy'r un sy'n gallu llygru'r bersonoliaeth gyfan. Mae'n gallu dinistrio holl gwrs ein bywyd ni! Mae'n fflam sydd wedi ei thanio gan uffern! Mae pobl yn gallu dofi pob math o anifeiliaid ac adar, ymlusgiaid a physgod, ond does neb byw sy'n gallu dofi'r tafod. Mae'n ddrwg cwbl afreolus; mae'n llawn gwenwyn marwol! Gallwn addoli ein Harglwydd a'n Tad nefol un funud, ac yna'r funud nesa dŷn ni'n melltithio pobl sydd wedi eu creu ar ddelw Duw! Mae bendith a melltith yn llifo o'r un geg! Ddylai hi ddim bod felly, frodyr a chwiorydd! Ydy dŵr glân a dŵr hallt yn tarddu o'r un ffynnon? Ydy olewydd yn tyfu ar goeden ffigys, neu ffigys ar winwydden? Wrth gwrs ddim! A dydy pwll o ddŵr hallt ddim yn rhoi dŵr glân i ni chwaith! Pwy ohonoch chi sy'n meddwl ei fod yn ddoeth ac yn gall? Dylai ddangos hynny yn y ffordd mae'n ymddwyn. Mae doethineb go iawn yn gwneud daioni heb frolio am y peth. Ond os ydych chi'n llawn cenfigen chwerw ac uchelgais hunanol does gynnoch chi ddim lle i frolio, am fod peth felly yn gwbl groes i'r gwirionedd. Dim dyna'r math o ‛ddoethineb‛ mae Duw'n ei roi i bobl! Yn hollol i'r gwrthwyneb! — mae ‛doethineb‛ felly yn beth bydol, anysbrydol, ac yn dod o'r diafol ei hun! Ble bynnag mae cenfigen ac uchelgais hunanol, byddwch chi'n dod o hyd i anhrefn a phob math o ddrygioni. Ond mae'r doethineb sy'n dod oddi wrth Dduw yn y lle cyntaf yn bur. Mae hefyd yn meithrin heddwch, addfwynder, cydweithrediad, caredigrwydd a gweithredoedd da. Mae'n gwbl ddiduedd a diragrith. Bydd y rhai sy'n hybu heddwch drwy hau hadau heddwch yn medi cynhaeaf o gyfiawnder. Beth sy'n gyfrifol am yr holl frwydro a'r gwrthdaro sy'n eich plith chi? Onid yr ymdrech barhaus i fodloni'r hunan ydy'r drwg? Dych chi eisiau rhywbeth ond yn methu ei gael. Mae'r ysfa yn gwneud i chi fod yn barod i ladd. Dych chi eisiau pethau ac yn methu cael gafael ynddyn nhw, felly dych chi'n ffraeo ac yn ymladd. Dych chi ddim yn cael am eich bod chi ddim yn gofyn i Dduw. A dych chi ddim yn derbyn hyd yn oed pan dych chi yn gofyn, am eich bod chi'n gofyn am y rheswm anghywir! Dych chi ddim ond eisiau bodloni eich awydd am bleser. Dych chi fel gwragedd sy'n anffyddlon i'w gwŷr! Ydy hi ddim yn amlwg i chi fod bod yn gyfaill i bethau'r byd yn golygu casineb at Dduw? Mae unrhyw un sy'n dewis bod yn gyfaill i'r byd yn gwneud ei hun yn elyn i Dduw. Ydych chi'n meddwl fod beth mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud yn ddiystyr: sef fod yr Ysbryd a roddodd i ni yn gwrthwynebu cenfigen? Ond mae haelioni Duw yn fwy na hynny eto! Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Mae Duw yn gwrthwynebu pobl falch ond mae'n hael at y rhai gostyngedig.” Felly gwnewch beth mae Duw eisiau. Gwrthwynebwch y diafol, a bydd yn ffoi oddi wrthoch chi. Closiwch at Dduw a bydd e'n closio atoch chi. Golchwch eich dwylo, chi bechaduriaid, a phuro eich calonnau, chi ragrithwyr. Dangoswch eich bod yn gofidio am y pethau drwg wnaethoch chi, dangoswch alar, ac wylwch. Trowch eich chwerthin yn alar a'ch miri yn dristwch. Os wnewch chi blygu o flaen yr Arglwydd a chydnabod eich angen, bydd e'n eich anrhydeddu chi. Peidiwch siarad yn ddirmygus am eich gilydd frodyr a chwiorydd. Mae'r un sy'n dirmygu neu'n beirniadu brawd neu chwaer, yn dirmygu ac yn beirniadu Cyfraith Duw. Barnu'r Gyfraith dych chi'n ei wneud wrth feirniadu pobl eraill, dim cadw'r Gyfraith. A'r Un sydd wedi rhoi'r Gyfraith i ni, Duw ei hun, ydy'r unig Farnwr go iawn. Fe sydd â'r gallu i achub a dinistrio, dim ti! Pwy wyt ti'n feddwl wyt ti yn barnu dy gymydog? Gwrandwch, chi sy'n dweud, “Awn i'r lle a'r lle heddiw neu fory, aros yno am flwyddyn, dechrau busnes a gwneud llwyth o arian.” Wyddoch chi ddim beth fydd yn digwydd fory! Dydy'ch bywyd chi yn ddim byd ond tarth — mae'n ymddangos am ryw ychydig, ac yna'n diflannu! Dyma beth dylech chi ddweud: “Os Duw a'i myn, cawn ni wneud hyn a'r llall.” Ond yn lle hynny dych chi'n brolio eich bod yn mynd i wneud rhyw bethau mawr. Peth drwg ydy brolio fel hyn. Felly cofiwch, os dych chi'n gwybod beth ydy'r peth iawn i'w wneud, ac eto ddim yn ei wneud, dych chi'n pechu. A chi bobl gyfoethog, gwrandwch! — dylech chi fod yn crïo ac yn griddfan o achos y dioddefaint sydd o'ch blaenau. Mae'ch cyfoeth chi'n pydru a'ch dillad yn cael eu difa gan wyfynod. Mae'ch aur a'ch arian chi'n rhydu, a bydd yn dystiolaeth yn eich erbyn chi. Cewch eich difa gan dân am gasglu cyfoeth i chi'ch hunain mewn byd sy'n dod i ben. Gwrandwch! Mae'r cyflogau dych chi heb eu talu i'r gweithwyr yn gweiddi'n uchel. Mae Arglwydd y Lluoedd wedi clywed cri y rhai hynny fu'n casglu'r cynhaeaf yn eich caeau chi. Dych chi wedi byw'n foethus ac wedi bod yn gwbl hunanol. Ydych! Dych chi wedi bod yn pesgi'ch hunain ar gyfer y diwrnod y byddwch chi'n mynd i'r lladd-dy! Mae pobl ddiniwed sydd ddim yn gallu'ch gwrthwynebu chi wedi eu hecsbloetio a'u condemnio i farwolaeth gynnoch chi. Felly, frodyr a chwiorydd annwyl, byddwch yn amyneddgar wrth ddisgwyl i'r Arglwydd ddod yn ôl. Meddyliwch am y ffermwr sy'n disgwyl yn amyneddgar am law yn yr hydref a'r gwanwyn i wneud i'r cnwd dyfu. Dylech chi fod yr un mor amyneddgar, a sefyll yn gadarn, gan fod yr Arglwydd yn dod yn fuan. Peidiwch grwgnach am eich gilydd, frodyr a chwiorydd, neu cewch chi'ch cosbi. Mae'r Barnwr yn dod! Mae'n sefyll y tu allan i'r drws! Ystyriwch y proffwydi hynny oedd yn cyhoeddi neges Duw — dyna i chi beth ydy amynedd yn wyneb dioddefaint! Fel dych chi'n gwybod, y rhai wnaeth ddal ati gafodd eu bendithio. Mae Job yn enghraifft dda o ddyn wnaeth ddal ati drwy'r cwbl, a chofiwch beth wnaeth yr Arglwydd iddo yn y diwedd. Mae tosturi a thrugaredd yr Arglwydd mor fawr! Ac yn olaf, frodyr a chwiorydd: peidiwch byth tyngu llw — ddim i'r nefoedd nac i'r ddaear na dim arall. Dylai dweud “ie” olygu “ie”, a dweud “na” olygu “na”, wedyn chewch chi mo'ch cosbi. Oes rhywun yn eich plith chi mewn trafferthion? Dylai weddïo. Oes rhywun yn hapus? Dylai ganu cân o fawl i Dduw. Oes rhywun yn sâl? Dylai ofyn i arweinwyr yr eglwys leol ddod i weddïo drosto a'i eneinio gydag olew ar ran yr Arglwydd. Os gwnân nhw weddïo a chredu yn nerth Duw bydd y claf yn cael ei iacháu. Bydd yr Arglwydd yn ei godi ar ei draed, ac os ydy e wedi pechu, bydd yn cael maddeuant. Felly cyffeswch eich pechodau i'ch gilydd a gweddïwch dros eich gilydd, er mwyn i chi gael eich iacháu. Mae gweddi daer rhywun sydd â pherthynas iawn gyda Duw yn beth grymus ac effeithiol. Dyn cyffredin fel ni oedd Elias, a gweddïodd yn gyson iddi beidio glawio, a wnaeth hi ddim glawio am dair blynedd a hanner! Wedyn gweddïodd eto, a dyma hi'n tywallt y glaw, ac roedd cnydau yn dechrau tyfu ar y ddaear eto. Frodyr a chwiorydd, os bydd un o'ch plith chi'n troi i ffwrdd oddi wrth y gwirionedd, a rhywun arall yn ei arwain yn ôl, gallwch fod yn siŵr o hyn: bydd y person sy'n ei droi yn ôl o'i ffyrdd ffôl yn achub y pechadur rhag marwolaeth dragwyddol ac yn maddau lot fawr o bechodau. Llythyr gan Pedr, cynrychiolydd personol Iesu Grist. Atoch chi sydd wedi'ch dewis gan Dduw i fod yn bobl iddo'i hun. Chi sy'n byw ar wasgar drwy daleithiau Rhufeinig Pontus, Galatia, Capadocia, Asia a Bithynia, er mai dim dyna'ch cartref go iawn chi. Cawsoch eich dewis ymlaen llaw gan Dduw y Tad, a'ch cysegru gan yr Ysbryd Glân i fod yn bobl ufudd i Iesu Grist, wedi'ch glanhau trwy ei waed. Dw i'n gweddïo y bydd Duw yn tywallt ei haelioni rhyfeddol a'i heddwch dwfn arnoch chi. Clod i Dduw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist! Mae wedi bod mor drugarog aton ni. Mae'n ddechrau cwbl newydd! Dŷn ni wedi cael ein geni unwaith eto! Ac am ei fod wedi codi Iesu Grist yn ôl yn fyw dŷn ni'n edrych ymlaen yn hyderus i'r dyfodol. Mae gan Dduw etifeddiaeth i'w rhannu gyda'i blant — un fydd byth yn darfod, nac yn difetha nac yn diflannu. Mae'n ei chadw ar eich cyfer chi yn y nefoedd! Bydd y Duw nerthol yn eich amddiffyn chi nes byddwch chi'n cael eich achub yn derfynol, am eich bod chi'n credu ynddo. Bydd pawb yn gweld hynny'n digwydd pan fydd y foment olaf yn cyrraedd a'r byd yn dod i ben. Felly gallwch fod yn llawen, er bod pethau'n anodd ar hyn o bryd, a'ch bod chi'n gorfod dioddef pob math o dreialon. Mae'r pethau yma'n digwydd er mwyn dangos eich bod chi'n credu go iawn. Mae'r un fath â'r broses o buro aur mewn ffwrnais, ond bod ffydd yn rhywbeth llawer mwy gwerthfawr nag aur. Byddwch yn derbyn canmoliaeth, ysblander ac anrhydedd pan fydd Iesu Grist yn dod i'r golwg eto. Dych chi erioed wedi gweld Iesu, ac eto dych chi'n ei garu e. Dych chi'n credu ynddo er eich bod chi ddim yn ei weld ar hyn o bryd. A dych chi wedi'ch llenwi â rhyw lawenydd cwbl wefreiddiol sy'n amhosib i'w ddisgrifio. Canlyniad credu ynddo yn y pen draw ydy y byddwch chi'n cael eich achub yn derfynol! Roedd y proffwydi'n sôn am yr achubiaeth oedd i'w rhoi yn rhodd i chi. Buon nhw'n edrych yn fanwl i'r cwbl, ond heb ddeall popeth. Roedd yr Ysbryd oedd gyda nhw wedi dweud wrthyn nhw ymlaen llaw am beth fyddai'r Meseia yn ei ddioddef ac am yr holl bethau ffantastig fyddai'n digwydd wedyn. Ond beth yn union oedd Ysbryd y Meseia'n cyfeirio ato? Pryd fyddai'r cwbl yn digwydd? Esboniwyd iddyn nhw fod y pethau hynny ddim yn mynd i ddigwydd yn eu cyfnod nhw, ond yn y dyfodol, yn ein cyfnod ni. A bellach mae'r cwbl wedi ei rannu gyda chi gan y rhai sydd wedi dod â'r newyddion da i chi, gyda nerth yr Ysbryd Glân gafodd ei anfon o'r nefoedd. Mae'r angylion hyd yn oed yn ysu am gael deall y pethau hyn yn well. Felly, byddwch yn barod a gwyliwch sut ydych chi'n ymddwyn. Rhowch eich gobaith yn llwyr yn y rhodd sy'n dod i chi ar y diwrnod pan fydd Iesu Grist yn dod i'r golwg eto. Byddwch yn ufudd i Dduw am eich bod yn blant iddo. Stopiwch ddilyn y chwantau oedd i'w gweld ynoch chi cyn i chi ddod i wybod y gwir. Na, rhaid i chi fod yn wahanol. Rhaid i'ch ymddygiad chi fod yn berffaith lân, yn union fel mae Duw sydd wedi'ch galw chi ato'i hun yn berffaith lân. Dyna mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei dweud: “Rhaid i chi fod yn sanctaidd am fy mod i yn sanctaidd.” Mae Duw yn barnu pawb yn hollol deg ar sail beth maen nhw wedi ei wneud, Felly os dych chi'n galw Duw yn dad i chi, dylech roi iddo'r parch mae'n ei haeddu a byw fel pobl sydd oddi cartref yn y byd yma. Talodd Duw bris uchel i'ch gollwng chi'n rhydd o wagedd y ffordd o fyw gafodd ei phasio i lawr i chi gan eich hynafiaid. A dim pethau sy'n darfod fel arian ac aur gafodd eu defnyddio i dalu'r pris hwnnw, ond rhywbeth llawer mwy gwerthfawr — gwaed y Meseia, oen perffaith Duw oedd heb unrhyw nam arno. Roedd Duw wedi ei apwyntio cyn i'r byd gael ei greu, ond nawr yn y cyfnod olaf hwn daeth i'r byd a chael ei weld gan bobl. Gwnaeth hyn er eich mwyn chi. Trwy beth wnaeth e, dych chi wedi dod i gredu yn Nuw. Am fod Duw wedi ei godi yn ôl yn fyw a'i anrhydeddu, dych chi'n gallu trystio Duw yn llwyr, a rhoi'ch gobaith ynddo. Am eich bod chi bellach yn dilyn y gwir, dych chi wedi cael eich gwneud yn lân ac yn dangos gofal go iawn am eich gilydd. Felly daliwch ati i garu eich gilydd, a hynny o waelod calon. Wedi'r cwbl, dych chi wedi cael eich geni o'r newydd! Mae'r bywyd dych chi wedi ei dderbyn gan eich rhieni yn rhywbeth sy'n darfod, ond mae'r bywyd newydd yn para am byth. Mae neges Duw wedi ei phlannu ynoch chi, ac mae hi'n neges sy'n rhoi bywyd ac sy'n aros am byth. Achos, “Mae pobl feidrol fel glaswellt, a'u holl harddwch fel blodyn gwyllt — mae'r glaswellt yn gwywo a'r blodyn yn syrthio, ond mae neges yr Arglwydd yn aros am byth.” A'r neges yna ydy'r newyddion da gafodd ei bregethu i chi. Felly, rhaid i chi gael gwared â phopeth drwg o'ch bywydau — pob twyll, balchder dauwynebog, cenfigennu wrth eraill ac enllibio pobl. Yn lle gadael i bethau felly eich rheoli chi dylech chi fod yn crefu am y llaeth ysbrydol pur fydd yn gwneud i chi dyfu yn eich ffydd. Gan eich bod chi eisoes wedi cael blas ar mor dda ydy'r Arglwydd, dylech fod yr un fath â babi bach newydd ei eni sydd eisiau dim byd arall ond llaeth ei fam. Mae'r Arglwydd fel carreg sylfaen, ond un sy'n fyw. Dyma'r garreg gafodd ei gwrthod gan bobl, ond roedd wedi ei dewis gan Dduw ac yn werthfawr iawn yn ei olwg. Felly wrth i chi glosio at yr Arglwydd dych chi fel cerrig sy'n fyw ac yn anadlu, ac mae Duw yn eich defnyddio chi i adeiladu ei ‛deml‛ ysbrydol. A chi hefyd ydy'r offeiriaid sydd wedi cael eich dewis i gyflwyno aberthau ysbrydol i Dduw. Aberthau sy'n dderbyniol o achos beth wnaeth Iesu Grist. Dyma pam mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud fel hyn: “Edrychwch! Dw i'n gosod yn Jerwsalem garreg sylfaen werthfawr sydd wedi ei dewis gen i. Fydd y sawl sy'n credu ynddo byth yn cael ei siomi.” Ydy, mae'r garreg yma'n werthfawr yn eich golwg chi sy'n credu. Ond i'r rhai sy'n gwrthod credu: “Mae'r garreg wrthododd yr adeiladwyr wedi cael ei gwneud yn garreg sylfaen,” Hon hefyd ydy'r “garreg sy'n baglu pobl a chraig sy'n gwneud iddyn nhw syrthio.” Y rhai sy'n gwrthod gwneud beth mae Duw'n ei ddweud sy'n baglu. Dyna'n union oedd wedi ei drefnu ar eu cyfer nhw. Ond dych chi'n bobl sydd wedi eich dewis yn offeiriaid i wasanaethu'r Brenin, yn genedl sanctaidd, yn bobl sy'n perthyn i Dduw. Eich lle chi ydy dangos i eraill mor wych ydy Duw, yr Un alwodd chi allan o'r tywyllwch i mewn i'w olau bendigedig. Ar un adeg doeddech chi'n neb o bwys, ond bellach chi ydy pobl Dduw. Ar un adeg doeddech chi ddim wedi profi trugaredd Duw, ond bellach dych wedi profi ei drugaredd. Ffrindiau annwyl, dim y byd yma ydy'ch cartref chi. Dych chi fel pobl ddieithr yma. Felly dw i'n apelio arnoch chi i wrthod gwneud beth mae'r chwantau naturiol am i chi ei wneud. Mae nhw'n brwydro yn erbyn beth sydd orau i ni. Dylech chi fyw bywydau da. Wedyn fydd pobl sydd ddim yn credu ddim yn gallu'ch cyhuddo chi o wneud drwg. Yn lle gwneud hynny byddan nhw'n gweld y pethau da dych chi'n eu gwneud ac yn dod i gredu. Byddan nhw'n canmol Duw ar y diwrnod hwnnw pan fydd yn dod atyn nhw. Dylech chi ddangos parch at bobl eraill, yn union fel y gwnaeth yr Arglwydd ei hun. Mae hyn yn cynnwys yr ymerawdwr sy'n teyrnasu dros y cwbl, a'r llywodraethwyr sydd wedi eu penodi ganddo i gosbi pobl sy'n gwneud drwg ac i ganmol y rhai sy'n gwneud da. (Mae Duw eisiau i chi wneud daioni i gau cegau'r bobl ffôl sy'n deall dim.) Dych chi'n rhydd, ond peidiwch defnyddio'ch rhyddid fel esgus i wneud drygioni. Dylech chi, sydd ddim ond yn gwasanaethu Duw, ddangos parch at bawb, caru eich cyd-Gristnogion, ofni Duw a pharchu'r ymerawdwr. Dylech chi sy'n gaethweision barchu eich meistri — nid dim ond os ydyn nhw'n feistri da a charedig, ond hyd yn oed os ydyn nhw'n greulon. Mae'n plesio Duw pan dych chi'n penderfynu bod yn barod i ddioddef hyd yn oed pan dych chi'n cael eich cam-drin. Does dim rheswm i ganmol rhywun am fodloni cael ei gosbi os ydy e wedi gwneud drwg. Ond os ydych chi'n fodlon dioddef er eich bod chi wedi gwneud y peth iawn, mae hynny'n plesio Duw. Dyna mae Duw wedi'ch galw chi i'w wneud. A'r esiampl i chi ei dilyn ydy'r Meseia yn dioddef yn eich lle chi: “Wnaeth e ddim pechu, a wnaeth e ddim twyllo neb.” Wnaeth e ddim ateb yn ôl pan oedd pobl yn ei regi a'i sarhau e; wnaeth e ddim bygwth unrhyw un pan oedd e'n dioddef. Yn lle hynny, gadawodd y mater yn nwylo Duw sydd bob amser yn barnu'n deg. Cariodd ein pechodau ni yn ei gorff ar y pren, er mwyn i ni, a'n pechodau wedi mynd, allu byw i wneud beth sy'n iawn. Dych chi wedi cael eich iacháu am ei fod e wedi ei glwyfo! Roeddech chi'n arfer bod fel defaid wedi mynd ar goll, ond dych chi bellach wedi dod yn ôl at y Bugail sy'n gofalu amdanoch chi. Dyna'n union sut dylech chi'r gwragedd priod ymostwng i'ch gwŷr. Wedyn bydd y dynion hynny sy'n gwrthod credu neges Duw yn cael eu hennill gan y ffordd dych chi'n ymddwyn, heb i chi orfod dweud gair. Byddan nhw'n dod i gredu wrth weld eich bywydau duwiol a glân chi. Dim y colur ar y tu allan sy'n eich gwneud chi'n ddeniadol, na phethau fel steil gwallt, tlysau aur a dillad ffasiynol. Beth sy'n bwysig ydy'r hyn ydych chi'r tu mewn — y math o harddwch fydd byth yn diflannu, sef ysbryd addfwyn a thawel. Dyna beth sy'n werthfawr yng ngolwg Duw. Dyna sut roedd gwragedd duwiol y gorffennol yn gwneud eu hunain yn hardd. Roedd eu gobaith nhw yn Nuw ac roedden nhw'n ymostwng i'w gwŷr. Roedd Sara, er enghraifft, yn ufudd i Abraham (ac yn ei alw'n ‛meistr‛.) Dych chi i fod yr un fath â hi, felly gwnewch ddaioni a peidiwch bod ofn dim byd. Agwedd felly ddylai fod gynnoch chi wŷr hefyd. Dylech feddwl bob amser am les eich gwragedd, a'u parchu nhw a gofalu amdanyn nhw. Y wraig ydy'r partner gwannaf yn gorfforol, ond mae'n rhaid cofio eich bod chi'ch dau yn rhannu'r bywyd mae Duw wedi ei roi mor hael. Os na wnewch chi hyn fydd Duw ddim yn gwrando ar eich gweddïau chi. Ac yn olaf, dylai pob un ohonoch chi ddysgu dod ymlaen gyda'ch gilydd. Dylech gydymdeimlo â'ch gilydd, dangos gofal go iawn am eich gilydd, a bod yn dyner ac yn ostyngedig yn eich perthynas â'ch gilydd. Peidiwch talu'r pwyth yn ôl drwy enllibio rhywun am eu bod nhw wedi eich enllibio chi. Yn lle hynny, bendithiwch nhw! Dyna mae Duw am i chi ei wneud, a bydd e wedyn yn eich bendithio chi. Dyna mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei dweud: “Os dych chi am fwynhau bywyd a gweld dyddiau da, rhaid i chi reoli'ch tafod. Dweud dim byd cas am neb, a stopio twyllo. Trowch gefn ar ddrygioni a gwneud daioni; gwnewch eich gorau i gael perthynas dda gyda phawb. Mae'r Arglwydd yn gofalu am y rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn ac yn gwrando'n astud ar eu gweddïau nhw; ond mae e yn erbyn y rhai sy'n gwneud drygioni.” Does neb yn gallu gwneud niwed go iawn i chi os dych chi'n frwd i wneud daioni. Hyd yn oed os bydd rhaid i chi ddioddef am wneud beth sy'n iawn, cewch eich bendithio'n fawr gan Dduw. “Peidiwch eu hofni nhw a peidiwch poeni.” Addolwch y Meseia â'ch holl galon, a'i gydnabod e'n Arglwydd ar eich bywydau. Byddwch barod bob amser i roi ateb i bwy bynnag sy'n gofyn i chi esbonio beth ydy'r gobaith sydd gynnoch chi. Ond byddwch yn garedig wrth wneud hynny, a dangos y parch fyddai Duw am i chi ei ddangos atyn nhw. Peidiwch gwneud dim fydd gynnoch chi gywilydd ohono. Wedyn bydd y rhai hynny sy'n siarad yn eich erbyn chi yn cael eu cywilyddio am eich bod chi'n byw bywydau mor dda fel Cristnogion. Os oes rhaid dioddef o gwbl, mae'n well dioddef am wneud pethau da na chael eich cosbi gan Dduw am wneud pethau drwg. Roedd y Meseia wedi dioddef trwy farw dros bechodau un waith ac am byth, er mwyn dod â chi at Dduw. Ie, yr un wnaeth bopeth yn iawn yn marw dros y rhai wnaeth bopeth o'i le! Cafodd ei ladd yn gorfforol, ond daeth yr Ysbryd ag e yn ôl yn fyw. Ac yn nerth yr un Ysbryd aeth i gyhoeddi ei fuddugoliaeth i'r ysbrydion yn eu cyrchfan. Roedd rhai yn anufudd ers talwm, pan oedd Duw yn disgwyl yn amyneddgar, a Noa yn adeiladu'r llong fawr, sef yr arch. A criw bach o bobl gafodd eu hachub rhag boddi yn y dŵr (wyth i fod yn fanwl gywir). Ac mae bedydd, sy'n cyfateb i hynny, yn eich achub chi. Dim bod y ddefod ei hun yn gwneud rhywun yn lân, ond bod rhywun yn onest ac yn ddidwyll yn ymrwymo i ddilyn Duw. Mae dŵr y bedydd yn achub am fod Iesu, y Meseia, wedi ei godi yn ôl yn fyw. Ac mae e bellach yn y sedd anrhydedd ar ochr dde Duw yn y nefoedd, gyda'r angylion a'r awdurdodau a'r pwerau ysbrydol i gyd yn plygu iddo. Felly, am fod y Meseia wedi dioddef yn gorfforol, byddwch chithau'n barod i wneud yr un peth. Mae'r rhai hynny sy'n barod i ddioddef yn gorfforol wedi troi cefn ar bechod. Yn lle byw gweddill eich bywydau yn ceisio bodloni eich chwantau dynol, gwnewch beth mae Duw eisiau. Dych chi wedi treulio digon o amser yn y gorffennol yn gwneud beth mae'r paganiaid yn mwynhau ei wneud — byw'n anfoesol yn rhywiol a gadael i'r chwantau gael penrhyddid, meddwi a slotian yfed mewn partïon gwyllt, a phopeth ffiaidd arall sy'n digwydd wrth addoli eilun-dduwiau. Maen nhw bellach yn meddwl ei bod yn rhyfedd iawn eich bod chi ddim yn dal i ymuno gyda nhw nac yn cael eich cario gyda'r llif i'r math yna o fywyd ofer. Felly maen nhw'n eich rhegi a'ch enllibio chi. Ond bydd rhaid iddyn nhw wynebu Duw, yr un sy'n mynd i farnu pawb sy'n fyw a phawb sydd wedi marw. (Dyna pam y cafodd y newyddion da ei gyhoeddi i'r rhai sydd wedi marw. Er eu bod nhw wedi eu cosbi yn y bywyd hwn ac wedi marw fel pawb arall, byddan nhw'n cael byw gyda Duw drwy'r Ysbryd!) Bydd popeth yn dod i ben yn fuan. Felly cadwch eich meddwl yn glir ac yn effro wrth weddïo. Yn bwysicach na dim, daliwch ati i ddangos cariad dwfn at eich gilydd, am fod cariad yn maddau lot fawr o bechodau. Agorwch eich cartrefi i'ch gilydd — bod yn groesawgar, a peidio cwyno. Mae Duw yn ei haelioni wedi rhannu rhyw ddawn neu'i gilydd i bob un ohonoch, a dylech wneud defnydd da ohoni trwy wasanaethu pobl eraill. Dylai pwy bynnag sy'n siarad yn yr eglwys ddweud beth mae Duw am iddo'i ddweud. Dylai pwy bynnag sy'n gwasanaethu pobl eraill wneud hynny gyda'r nerth mae Duw yn ei roi. Wedyn bydd Duw yn cael ei ganmol a'i addoli drwy'r cwbl, o achos beth wnaeth Iesu Grist. Ie, fe sydd biau'r anrhydedd i gyd, a'r grym hefyd, a hynny am byth! Amen! Ffrindiau annwyl, peidiwch synnu eich bod chi'n mynd trwy'r ffwrn dân ar hyn o bryd, fel petai rhywbeth annisgwyl yn digwydd i chi. Dylech chi fod yn hapus am eich bod yn cael dioddef fel y gwnaeth y Meseia. Pan fydd e'n dod i'r golwg eto yn ei holl ysblander cewch brofi llawenydd cwbl wefreiddiol. Mae'n fendith fawr i chi gael eich sarhau am eich bod yn dilyn y Meseia, am ei fod yn dangos fod Ysbryd yr Un gogoneddus, sef Ysbryd Duw, yn gorffwys arnoch chi. Ddylai neb ohonoch chi ddioddef am fod yn llofrudd neu'n lleidr neu am gyflawni rhyw drosedd arall — na hyd yn oed am fusnesa. Ond peidiwch bod â chywilydd os ydych chi'n dioddef am fod yn Gristion — dylech ganmol Duw am i chi gael y fraint o'i gynrychioli. Mae'n bryd i'r farn ddechrau, a phobl Dduw ydy'r rhai cyntaf i gael eu barnu. Ac os ydyn ni'n cael ein barnu gyntaf, beth fydd yn digwydd i'r rhai hynny sydd ddim yn ufudd i newyddion da Duw? Fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Os mai o drwch blewyn mae'r rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn yn dianc beth ddaw o bobl annuwiol sy'n anufudd i Dduw?” Felly, os dych chi'n dioddef am mai dyna ewyllys Duw, dylech ymddiried eich hunain i ofal y Duw ffyddlon wnaeth eich creu chi, a dal ati i wneud daioni. Gair i chi sy'n arweinwyr yn yr eglwys. (Dw i am eich annog chi fel un sy'n arweinydd fy hun, ac a welodd y Meseia'n dioddef. Bydda i hefyd yn rhannu ei ysblander pan ddaw i'r golwg!): Gofalwch am bobl Dduw fel mae bugeiliaid yn gofalu am eu praidd. Gwnewch hynny'n frwd, dim am eich bod chi'n cael eich gorfodi i wneud, ond am mai dyna mae Duw eisiau. Ddim er mwyn gwneud arian, ond am eich bod yn awyddus i wasanaethu. Peidiwch ei lordio hi dros y bobl sy'n eich gofal chi, ond eu harwain trwy fod yn esiampl dda iddyn nhw. Wedyn pan fydd y Meseia, y Pen Bugail, yn dod yn ôl, cewch wobr fydd byth yn dod i ben: coron hardd sydd byth yn gwywo. Ac wedyn chi'r rhai ifanc. Dylech chi fod yn atebol i'r arweinwyr hŷn. Dylai pob un ohonoch chi edrych ar ôl eich gilydd yn wylaidd. Fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Mae Duw yn gwrthwynebu pobl falch ond mae'n hael at y rhai gostyngedig.” Os wnewch chi blygu i awdurdod Duw a chydnabod eich angen, pan ddaw'r amser bydd e'n eich anrhydeddu chi. Rhowch y pethau dych chi'n poeni amdanyn nhw iddo fe, achos mae e'n gofalu amdanoch chi. Gwyliwch eich hunain! Byddwch yn effro! Mae'ch gelyn chi, y diafol, yn prowla o gwmpas fel llew yn rhuo ac yn edrych am rywun i'w lyncu. Safwch yn ei erbyn, a dal gafael yn beth dych chi'n ei gredu. Cofiwch fod eich cyd-Gristnogion drwy'r byd i gyd yn dioddef yr un fath. Ond does ond rhaid i chi ddioddef am ychydig. Mae Duw, sydd mor anhygoel o hael, yn eich galw chi sy'n perthyn i'r Meseia i rannu ei ysblander tragwyddol. Bydd yn eich adfer chi, a'ch cryfhau chi, a'ch gwneud chi'n gadarn a sefydlog. Fe sydd biau'r grym i gyd, am byth! Amen! Dw i'n anfon y llythyr byr yma atoch chi drwy law Silas (un dw i'n ei ystyried yn frawd ffyddlon). Dw i wedi ceisio'ch annog chi, a thystio fod beth dw i wedi ysgrifennu amdano yn dangos haelioni gwirioneddol Duw. Felly safwch yn gadarn. Mae'r gynulleidfa o bobl mae Duw wedi eu dewis yma yn Rhufain yn anfon eu cyfarchion atoch chi. Ac mae Marc, sydd fel mab i mi, yn cofio atoch chi hefyd. Cyfarchwch eich gilydd mewn ffordd sy'n dangos cariad go iawn. Dw i'n gweddïo y bydd pob un ohonoch chi sy'n perthyn i'r Meseia yn profi ei heddwch dwfn. Llythyr gan Simon Pedr, gwas a chynrychiolydd personol Iesu Grist, At y rhai sydd â ffydd yr un mor werthfawr â ni. Dydy Iesu Grist, ein Duw a'n Hachubwr ni, ddim yn rhoi ffafriaeth i neb: Dw i'n gweddïo y bydd Duw yn tywallt ei haelioni rhyfeddol a'i heddwch dwfn arnoch chi wrth i chi ddod i nabod Duw a Iesu ein Harglwydd yn well. Wrth ddod i nabod Iesu Grist yn well, mae ei nerth dwyfol yn rhoi i ni bopeth sydd ei angen i fyw fel mae Duw eisiau i ni fyw. Mae wedi'n galw ni i berthynas gydag e'i hun, i ni rannu ei ysblander a phrofi ei ddaioni. A thrwy hyn i gyd mae wedi addo cymaint o bethau mawr a gwerthfawr i ni. Y pethau yma sy'n eich galluogi chi i rannu ym mywyd anfarwol y natur ddwyfol. Dych chi'n osgoi'r dirywiad moesol sydd wedi lledu drwy'r byd o ganlyniad i chwantau pechadurus. Dyma'n union pam ddylech chi wneud popeth posib i sicrhau fod daioni yn nodweddu eich cred. Wedyn dylai'r pethau yma ddilyn yn eu tro: doethineb ymarferol, hunanreolaeth, dycnwch, byw fel mae Duw am i chi fyw, dangos gofal go iawn am eich gilydd, a chariad cwbl ddiamod. Os ydy'r pethau yma i'w gweld yn eich bywyd chi fwyfwy bob dydd, byddwch chi'n tyfu ac yn aeddfedu fel pobl sy'n nabod ein Harglwydd Iesu Grist. Mae'r rhai sydd heb y pethau yma yn eu bywydau mor fyr eu golwg maen nhw'n ddall! Maen nhw wedi anghofio'r newid ddigwyddodd pan gawson nhw eu glanhau o bechodau'r gorffennol. Felly, frodyr a chwiorydd, gwnewch eich gorau glas i wneud yn hollol siŵr fod Duw wir wedi eich galw chi a'ch dewis chi. Dych chi'n siŵr o gyrraedd y nod os gwnewch chi'r pethau hyn, a chewch groeso mawr i mewn i ble mae ein Harglwydd a'n Hachubwr Iesu Grist yn teyrnasu am byth. Felly dw i'n mynd i ddal ati drwy'r adeg i'ch atgoffa chi o'r pethau yma. Dych chi'n eu gwybod eisoes, ac mae gynnoch chi afael cadarn yn y gwirionedd. Ond dw i'n teimlo cyfrifoldeb i ddal ati i'ch atgoffa chi tra dw i'n dal yn fyw. Dw i'n gwybod fod fy amser i yn y corff yma ar fin dod i ben. Mae'r Arglwydd Iesu Grist wedi dangos hynny'n ddigon clir i mi. Felly dw i eisiau gwneud yn siŵr y byddwch chi'n dal i gofio'r pethau yma ar ôl i mi farw. Dim dilyn rhyw straeon dychmygol clyfar oedden ni pan ddwedon ni wrthoch chi fod yr Arglwydd Iesu Grist yn mynd i ddod yn ôl eto gyda grym. Dim o gwbl! Roedden ni'n llygad-dystion i'w fawrhydi! Gwelon ni e'n cael ei anrhydeddu a'i ganmol gan Dduw y Tad. Daeth llais oddi wrth y Gogoniant Mawr yn dweud, “Fy mab annwyl i ydy hwn; mae e wedi fy mhlesio i'n llwyr”. Clywon ni'r llais hwn yn dod o'r nefoedd pan oedden ni gydag e ar ben y mynydd sanctaidd. A dŷn ni'n rhoi pwys mawr ar neges y proffwydi hefyd. Byddai'n beth da i chithau dalu sylw i'r neges honno. Mae fel lamp sy'n goleuo rhywle tywyll nes i'r dydd wawrio ac i ‛seren y bore‛ godi i oleuo eich meddyliau chi. Mae'n hynod o bwysig i chi ddeall hyn — mai dim syniadau'r proffwyd ei hun ydy'r negeseuon sydd yn yr ysgrifau sanctaidd. Dim y proffwyd ei hun oedd yn penderfynu ei fod am ddweud rhywbeth. Er mai pobl oedd yn gwneud y siarad, yr Ysbryd Glân oedd yn eu cymell nhw i siarad. Roedden nhw'n dweud beth oedd Duw am iddyn nhw ei ddweud. Ond roedd proffwydi ffals hefyd yn Israel bryd hynny, a bydd athrawon ffals yn codi yn eich plith chithau. Byddan nhw'n sleifio i mewn gyda heresïau sy'n arwain i ddinistr. A hyd yn oed yn mynd mor bell a gwadu awdurdod y Meistr brynodd ryddid iddyn nhw oddi wrth bechod! Byddan nhw'n dwyn dinistr arnyn nhw eu hunain yn fuan iawn. Bydd llawer o bobl yn eu dilyn ac yn rhoi penrhyddid llwyr i'w chwantau rhywiol. Bydd y wir ffordd at Dduw yn cael enw drwg ganddyn nhw. Byddan nhw'n ceisio manteisio arnoch chi a chael eich arian chi drwy adrodd straeon celwyddog. Maen nhw wedi cael eu dedfrydu i gael eu cosbi ers amser maith, a dydy'r ddedfryd ddim wedi ei hanghofio. Mae'r dinistr sy'n dod arnyn nhw ar ei ffordd! Wnaeth Duw ddim hyd yn oed arbed yr angylion oedd yn euog o bechu yn ei erbyn. Anfonodd nhw i uffern, a'u rhwymo yn nhywyllwch dudew y byd tanddaearol i ddisgwyl cael eu cosbi. Wnaeth e ddim arbed yr hen fyd chwaith. Anfonodd lifogydd y dilyw i foddi'r byd oedd yn llawn o bobl oedd yn tynnu'n groes iddo. Dim ond Noa a saith aelod o'i deulu gafodd eu harbed. Noa oedd yr unig un oedd yn galw ar bobl i fyw yn ufudd i Dduw. Wedyn cafodd trefi Sodom a Gomorra eu llosgi'n ulw, a'u gwneud yn esiampl o beth sy'n mynd i ddigwydd i bobl annuwiol. Ond cafodd Lot ei achub o Gomorra am ei fod e yn ddyn oedd yn gwneud beth oedd yn iawn. Roedd yn torri ei galon wrth weld ymddygiad diegwyddor a phenrhyddid llwyr pobl o'i gwmpas. Roedd Lot yn ceisio gwneud beth oedd yn iawn yng ngolwg Duw. Roedd yn cael ei boeni'n enbyd gan y pethau ofnadwy roedd yn ei weld ac yn ei glywed o'i gwmpas. Felly mae'r Arglwydd yn gwybod yn iawn sut i achub pobl dduwiol o ganol eu treialon. Ond mae'n cadw pobl ddrwg i'w cosbi pan ddaw dydd y farn. Mae Duw yn arbennig o llym wrth gosbi'r rhai hynny sy'n gwneud dim ond dilyn eu chwantau. Pobl sy'n gadael i'w natur bechadurus lygredig reoli eu bywydau, ac sy'n wfftio awdurdod yr Arglwydd. Maen nhw mor haerllug ac mor siŵr ohonyn nhw eu hunain does ganddyn nhw ddim ofn enllibio'r diafol a'i angylion. Dydy hyd yn oed angylion Duw, sy'n llawer cryfach a mwy pwerus na nhw, ddim yn eu henllibio nhw wrth eu cyhuddo o flaen Duw. Ond mae'r bobl yma fel anifeiliaid direswm yn dilyn eu greddfau. Maen nhw'n enllibio pethau dŷn nhw ddim yn eu deall. A byddan nhw hefyd yn cael eu dal a'u dinistrio yn y diwedd. Byddan nhw'n cael eu talu yn ôl am y drwg maen nhw wedi ei wneud! Eu syniad nhw o hwyl ydy rhialtwch gwyllt yng ngolau dydd. Maen nhw fel staen ar eich cymdeithas chi, yn ymgolli yn eu pleserau gwag wrth eistedd i wledda gyda chi. Rhyw ydy'r unig beth sydd ar eu meddyliau nhw wrth edrych ar wragedd, ac maen nhw o hyd ac o hyd yn edrych am gyfle i bechu. Maen nhw'n taflu abwyd i ddal y rhai sy'n hawdd i'w camarwain. Maen nhw'n arbenigwyr ar gymryd mantais o bobl. Byddan nhw'n cael eu melltithio! Maen nhw wedi crwydro oddi ar y ffordd iawn a dilyn esiampl Balaam fab Beor oedd wrth ei fodd yn cael ei dalu am wneud drwg. Ond wedyn cafodd ei geryddu am hynny gan asyn! — anifail mud yn siarad gyda llais dynol ac yn achub y proffwyd rhag gwneud peth hollol wallgof! Mae'r bobl yma fel ffynhonnau heb ddŵr ynddyn nhw! Cymylau sy'n cael eu chwythu i ffwrdd gan gorwynt! Mae'r tywyllwch dudew yn barod i'w llyncu nhw! Mae eu geiriau gwag nhw a'u brolio di-baid, a'r penrhyddid rhywiol fel abwyd yn denu pobl — a'r bobl hynny ddim ond newydd lwyddo i ddianc o'r math o fywyd mae'r paganiaid yn ei fyw. Maen nhw'n addo rhyddid i bobl, ond maen nhw eu hunain yn gaeth i bethau sy'n arwain i ddinistr! — achos “mae rhywun yn gaeth i beth bynnag sydd wedi ei drechu.” Os ydy pobl wedi dianc o'r bywyd aflan sydd yn y byd trwy ddod i nabod ein Harglwydd a'n Hachubwr Iesu Grist, ac wedyn yn cael eu dal a'u rheoli gan yr un pethau eto, “maen nhw mewn gwaeth cyflwr yn y diwedd nag oedden nhw ar y dechrau!” Byddai'n well iddyn nhw beidio gwybod o gwbl am y ffordd iawn, na bod wedi dod o hyd i'r ffordd honno ac wedyn troi eu cefnau ar y ddysgeidiaeth dda gafodd ei basio ymlaen iddyn nhw. Mae'r hen ddihareb yn wir!: “Mae ci'n mynd yn ôl at ei chwŷd.” Ydy, “Mae hwch, ar ôl ymolchi, yn mynd yn ôl i orweddian yn y mwd.” Ffrindiau annwyl, hwn ydy'r ail lythyr i mi ei ysgrifennu atoch chi. Yn hwn fel yn y llall dw i wedi ceisio'ch annog chi i gadw'ch meddyliau yn lân. Dw i eisiau i chi gofio beth ddwedodd y proffwydi sanctaidd yn y gorffennol. A hefyd beth ddysgodd ein Harglwydd a'n Hachubwr drwy ei gynrychiolwyr personol, y rhai rannodd y newyddion da gyda chi gyntaf. Y peth pwysig i'w gofio ydy hyn: Yn y dyddiau olaf bydd rhai yn dod fydd yn ‛chwarae crefydd‛, yn dweud beth bynnag maen nhw eisiau ac yn gwneud sbort o'r gwirionedd. Byddan nhw'n dweud, “Wnaeth e ddim addo dod yn ôl? Ble mae e felly? Er bod y genhedlaeth gyntaf wedi marw, does dim wir wedi newid — mae bywyd yn mynd yn ei flaen yr un fath ers dechrau'r byd!” Ond wrth siarad felly maen nhw'n diystyru rhai ffeithiau. Roedd nefoedd a daear yn bod ymhell bell yn ôl am fod Duw wedi gorchymyn iddyn nhw ffurfio. Daeth y ddaear allan o ddŵr, a chafodd tir sych ei amgylchynu gan ddŵr. Wedyn defnyddiodd Duw yr un dŵr i ddod â dinistr i'r byd drwy foddi'r cwbl adeg y dilyw. Ac mae Duw wedi gorchymyn fod y nefoedd a'r ddaear bresennol wedi eu cadw i fynd trwy dân. Ie, wedi eu cadw ar gyfer dydd y farn, pan fydd pobl annuwiol yn cael eu dinistrio. Peidiwch anghofio hyn, ffrindiau annwyl: I'r Arglwydd mae un diwrnod fel mil o flynyddoedd, a mil o flynyddoedd fel un diwrnod. Dydy Duw ddim yn hwyr yn gwneud beth mae wedi ei addo, fel mae rhai yn meddwl am fod yn hwyr. Bod yn amyneddgar gyda chi mae e. Does ganddo ddim eisiau i unrhyw un fynd i ddistryw. Mae e am roi cyfle i bawb newid eu ffyrdd. Mae dydd yr Arglwydd yn dod. Ond bydd yn dod yn gwbl ddirybudd, fel lleidr. Bydd popeth yn yr awyr yn diflannu gyda sŵn rhuthr mawr. Bydd yr elfennau yn cael eu dinistrio gan dân, a phopeth ddigwyddodd ar y ddaear yn dod i'r golwg i gael ei farnu. Am fod popeth yn mynd i gael ei ddinistrio fel hyn, mae'n amlwg sut bobl ddylen ni fod! Dylen ni fyw bywydau glân sy'n rhoi Duw yn y canol, ac edrych ymlaen yn frwd i ddiwrnod Duw ddod. Dyna pryd fydd popeth yn yr awyr yn cael ei ddinistrio gan dân, a'r elfennau yn toddi yn y gwres. Ond dŷn ni'n edrych ymlaen at y nefoedd newydd a'r ddaear newydd mae Duw wedi ei haddo, lle bydd popeth mewn perthynas iawn gydag e. Felly, ffrindiau annwyl, gan mai dyna dych chi'n edrych ymlaen ato, gwnewch eich gorau glas i fyw bywydau sy'n lân a di-fai, ac mewn perthynas iawn gyda Duw. Dylech chi weld fod amynedd yr Arglwydd yn rhoi cyfle i chi gael eich achub. Dyna'n union ddwedodd ein brawd annwyl Paul pan ysgrifennodd atoch chi, ac mae Duw wedi rhoi dealltwriaeth arbennig iddo fe. Mae'n sôn am y pethau hyn i gyd yn ei lythyrau eraill hefyd. Mae rhai pethau yn ei lythyrau sy'n anodd eu deall. A dyna'r pethau mae pobl sydd heb eu dysgu ac sy'n hawdd eu camarwain yn eu gwyrdroi, yn union fel gyda'r ysgrifau sanctaidd eraill. Y canlyniad ydy eu bod nhw'n mynd i ddinistr! Ond dych chi wedi cael eich rhybuddio, ffrindiau annwyl. Felly gwyliwch rhag cael eich ysgubo i ffwrdd gan syniadau ffals pobl ddiegwyddor. Dw i ddim am i'ch ffydd gadarn chi simsanu. Yn lle hynny, dw i am i chi brofi mwy a mwy o ffafr a haelioni ein Harglwydd a'n Hachubwr Iesu Grist a dod i'w nabod e'n well. Mae e'n haeddu cael ei foli! — yn awr ac ar y diwrnod pan fydd tragwyddoldeb yn gwawrio! Amen. Yr un sydd wedi bodoli o'r dechrau cyntaf — dŷn ni wedi ei glywed e a'i weld e. Do, dŷn ni wedi edrych arno â'n llygaid ein hunain, a'i gyffwrdd â'n dwylo! Gair y bywyd! Daeth y bywyd ei hun i'r golwg, a dŷn ni wedi ei weld e. Gallwn dystio iddo, a dyma dŷn ni'n ei gyhoeddi i chi — y bywyd tragwyddol oedd gyda'r Tad ac sydd wedi dangos ei hun i ni. Ydyn, dŷn ni'n sôn am rywbeth dŷn ni wedi ei weld a'i glywed. Dŷn ni eisiau i chithau brofi'r wefr gyda ni o rannu yn y berthynas yma gyda Duw y Tad, a gyda'i Fab, Iesu y Meseia. Dŷn ni'n ysgrifennu hyn er mwyn i ni i gyd fod yn wirioneddol hapus. Dyma'r neges mae e wedi ei rhoi i ni, a dyma ni nawr yn ei rhannu gyda chi: Golau ydy Duw; does dim tywyllwch o gwbl ynddo. Felly, os ydyn ni'n honni fod gynnon ni berthynas gyda Duw ac eto'n dal i fyw fel petaen ni yn y tywyllwch, mae'n amlwg ein bod ni'n dweud celwydd. Dŷn ni ddim yn byw yn ffyddlon i'r gwir. Ond os ydyn ni'n byw yn y golau, fel mae Duw yn y golau, dŷn ni'n perthyn i'n gilydd, ac mae gwaed Iesu ei Fab yn ein glanhau ni o bob pechod. Os ydyn ni'n honni ein bod ni heb bechod, dŷn ni'n twyllo'n hunain a dydy'r gwir ddim ynon ni. Ond os gwnawn ni gyffesu ein pechodau, bydd e'n maddau i ni am ein pechodau ac yn ein glanhau ni oddi wrth bopeth drwg, am ei fod e'n cadw ei air ac yn gwneud beth sy'n iawn. Os ydyn ni'n honni ein bod ni erioed wedi pechu, dŷn ni'n gwneud Duw yn gelwyddog, ac mae'n amlwg bod ei neges e'n cael dim lle yn ein bywydau ni. Fy mhlant annwyl, dw i'n ysgrifennu hyn atoch chi er mwyn eich helpu chi i beidio pechu. Ond os bydd rhywun yn pechu, mae gynnon ni un gyda'r Tad sy'n pledio ar ein rhan ni, sef Iesu Grist, sy'n berffaith gyfiawn a da. Fe ydy'r aberth wnaeth iawn am ein pechodau ni, ac nid dim ond ein pechodau ni, ond pechodau'r byd i gyd. Dyma sut mae bod yn siŵr ein bod ni'n ei nabod e ac yn perthyn iddo — trwy fod yn ufudd iddo. Mae'r bobl hynny sy'n dweud, “Dw i'n ei nabod e,” ond ddim yn gwneud beth mae e'n ei ddweud yn dweud celwydd, a dŷn nhw ddim yn ffyddlon i'r gwir. Ond os ydy rhywun yn ufudd i beth mae Duw'n ddweud, mae'n amlwg fod cariad Duw yn llenwi bywyd y person hwnnw. Dyma sut mae bod yn siŵr ein bod ni'n perthyn iddo: rhaid i bwy bynnag sy'n honni perthyn iddo fyw fel oedd Iesu'n byw. Ffrindiau annwyl, dw i ddim yn sôn am ryw orchymyn newydd. Mae'n hen un! Dyma gafodd ei ddweud o'r dechrau cyntaf. Dyma'r hen orchymyn glywoch chi o'r dechrau. Ac eto mewn ffordd mae beth dw i'n ysgrifennu amdano yn newydd. Mae i'w weld ym mywyd Iesu Grist ac ynoch chithau hefyd. Achos mae'r tywyllwch yn diflannu ac mae'r golau go iawn wedi dechrau disgleirio. Mae'r rhai sy'n dweud eu bod nhw'n credu'r gwir ond sy'n bod yn gas at frawd neu chwaer yn dal yn y tywyllwch go iawn. Y rhai sy'n caru eu cyd-Gristnogion sy'n aros yn y golau, a does dim byd fydd yn gwneud iddyn nhw faglu. Ond mae'r rheiny sy'n gas at Gristion arall yn y tywyllwch. Ydyn, maen nhw ar goll yn llwyr yn y tywyllwch. Does ganddyn nhw ddim syniad ble maen nhw'n mynd, am fod y tywyllwch yn eu gwneud nhw'n gwbl ddall. Dw i'n ysgrifennu atoch chi, fy mhlant annwyl am fod eich pechodau chi wedi cael eu maddau o achos beth wnaeth Iesu. Dw i'n ysgrifennu atoch chi'r rhai hŷn, am eich bod chi wedi dod i nabod yr Un sy'n bodoli o'r dechrau cyntaf. Dw i'n ysgrifennu atoch chi sy'n ifanc am eich bod chi wedi ennill y frwydr yn erbyn yr Un drwg. Dw i wedi ysgrifennu atoch chi blant, am eich bod chi wedi dod i nabod y Tad. Dw i wedi ysgrifennu atoch chi rai hŷn, am eich bod chi wedi dod i nabod yr un sy'n bodoli o'r dechrau cyntaf. Dw i wedi ysgrifennu atoch chi'r rhai ifanc am eich bod chi'n gryf, am fod neges Duw wedi dod i fyw o'ch mewn chi, ac am eich bod chi wedi ennill y frwydr yn erbyn yr un drwg. Peidiwch caru'r byd a'i bethau. Os dych chi'n caru'r byd, allwch chi ddim bod yn caru'r Tad hefyd. Y cwbl mae'r byd yn ei gynnig ydy blys am bleserau corfforol, chwant am bethau materol, a brolio am beth sydd gynnon ni a beth dŷn ni wedi ei gyflawni. O'r byd mae pethau felly'n dod, ddim oddi wrth y Tad. Mae'r byd hwn a'i chwantau yn dod i ben, ond mae'r sawl sy'n gwneud beth mae Duw eisiau yn byw am byth. Blant annwyl, mae'r awr olaf wedi dod. Dych chi wedi clywed fod gelyn y Meseia i ddod, ac mae llawer sy'n elynion i'r Meseia eisoes wedi dod. Dyna sut dŷn ni'n gwybod fod yr awr olaf wedi dod. Mae'r bobl yma wedi mynd i ffwrdd oddi wrthon ni; doedden nhw ddim wir gyda ni yn y lle cyntaf! Petaen nhw gyda ni, bydden nhw wedi aros gyda ni. Mae'r ffaith eu bod nhw wedi'n gadael ni yn dangos yn glir eu bod nhw ddim gyda ni o gwbl. Ond dych chi'n wahanol — mae'r Un Sanctaidd wedi eich eneinio chi, a dych chi'n gwybod beth sy'n wir. Dw i ddim yn ysgrifennu atoch chi am eich bod chi ddim yn gwybod beth sy'n wir, ond am eich bod chi yn gwybod, ac yn deall fod gan gelwydd ddim byd i'w wneud â'r gwir. A pwy sy'n dweud celwydd? Dweda i wrthoch chi! — unrhyw un sy'n gwrthod y ffaith mai Iesu ydy'r Meseia. Gelynion y Meseia ydy pobl felly — pobl sy'n gwrthod y Tad yn ogystal â'r Mab! Os ydy rhywun yn gwrthod y Mab, dydy'r Tad ddim ganddo chwaith. Ond pwy bynnag sy'n derbyn y Mab, mae'r Tad ganddo hefyd. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n dal i lynu wrth beth dych chi wedi ei glywed o'r dechrau cyntaf. Wedyn, bydd eich perthynas chi gyda'r Mab a'r Tad yn sicr. A dyna'n union mae e wedi ei addo i ni! — bywyd tragwyddol! Dw i'n ysgrifennu hyn atoch chi er mwyn i chi fod yn ymwybodol o'r bobl hynny sydd am eich camarwain chi. Ond gan eich bod chi wedi cael eich eneinio — ac mae'r Ysbryd a'ch eneiniodd chi yn aros ynoch chi — does dim angen i neb eich dysgu chi. Mae'r Ysbryd yn dysgu popeth i chi. Mae ei eneiniad yn real. Does dim byd ffug ynglŷn â'r peth! Felly gwnewch beth mae'n ei ddweud — glynwch wrth Iesu. Felly, blant annwyl, glynwch wrth Iesu. Wedyn, pan ddaw yn ôl i'r golwg gallwn fod yn gwbl hyderus, a heb ddim cywilydd. Dych chi'n gwybod ei fod e'n hollol gyfiawn, felly dylech wybod hefyd fod pawb sy'n gwneud beth sy'n iawn yn blant iddo. Meddyliwch mor aruthrol fawr ydy'r cariad mae'r Tad wedi ei ddangos aton ni! Dŷn ni'n cael ein galw'n blant Duw! Ac mae'n berffaith wir! Y rheswm pam dydy'r byd ddim yn derbyn hynny ydy eu bod nhw ddim wedi nabod y Meseia chwaith. Ffrindiau annwyl, dŷn ni'n blant Duw nawr! Dŷn ni ddim yn gallu dechrau dychmygu sut fyddwn ni yn y byd sydd i ddod! Ond dŷn ni'n gwybod gymaint â hyn: pan fydd Iesu'n dod yn ôl i'r golwg byddwn ni'n debyg iddo. Cawn ei weld e yn ei holl ysblander! Mae pawb sydd â'r gobaith hwn ganddyn nhw yn eu cadw eu hunain yn lân, fel mae'r Meseia ei hun yn berffaith lân. Mae pawb sy'n pechu yn torri'r Gyfraith; yn wir, gwneud beth sy'n groes i Gyfraith Duw ydy pechod. Ond dych chi'n gwybod fod Iesu wedi dod er mwyn cymryd ein pechodau ni i ffwrdd. Does dim pechod o gwbl ynddo fe, felly does neb sy'n byw mewn perthynas ag e yn dal ati i bechu. Dydy'r rhai sy'n dal ati i bechu ddim wedi ei ddeall na'i nabod e. Blant annwyl, peidiwch gadael i unrhyw un eich camarwain chi. Mae rhywun sy'n gwneud beth sy'n iawn yn dangos ei fod yn gyfiawn, yn union fel y mae'r Meseia yn gyfiawn. Mae'r rhai sy'n mynnu pechu yn dod o'r diafol. Dyna mae'r diafol wedi ei wneud o'r dechrau — pechu! Ond y rheswm pam ddaeth Mab Duw i'r byd oedd i ddinistrio gwaith y diafol. Dydy'r rhai sydd wedi eu geni'n blant i Dduw ddim yn dal ati i bechu, am fod rhywbeth o natur Duw wedi ei blannu ynddyn nhw fel hedyn. Dyn nhw ddim yn gallu dal ati i bechu am eu bod nhw wedi cael eu geni'n blant i Dduw. Felly mae'n gwbl amlwg pwy sy'n blant i Dduw a phwy sy'n blant i'r diafol: Dydy'r bobl hynny sydd ddim yn gwneud beth sy'n iawn ddim yn blant i Dduw — na chwaith y bobl hynny sydd ddim yn caru'r brodyr a'r chwiorydd. Dyma'r neges dych chi wedi ei chlywed o'r dechrau cyntaf: Fod yn rhaid i ni garu'n gilydd. Rhaid i ni beidio bod fel Cain, oedd yn perthyn i'r un drwg ac a laddodd ei frawd. A pham wnaeth e ladd ei frawd? Am fod Cain wedi gwneud drwg, a'i frawd wedi gwneud y peth iawn. Felly, frodyr a chwiorydd, peidiwch synnu os ydy'r byd yn eich casáu chi! Dŷn ni'n caru'n gilydd, ac felly'n gwybod ein bod ni wedi symud o fod yn farw'n ysbrydol i fod yn fyw'n ysbrydol. Mae unrhyw un sydd ddim yn dangos cariad felly yn dal yn farw'n ysbrydol. Mae unrhyw un sy'n casáu brawd neu chwaer yn llofrudd, a does gan lofrudd ddim bywyd tragwyddol. Dyma sut dŷn ni'n gwybod beth ydy cariad go iawn: Rhoddodd Iesu, y Meseia, ei fywyd yn aberth troson ni. Felly dylen ni aberthu'n hunain dros ein cyd-Gristnogion. Os oes gan rywun ddigon o arian ac eiddo, ac yn gweld fod brawd neu chwaer mewn angen, ac eto'n dewis gwneud dim byd i'w helpu nhw, sut allwch chi ddweud fod cariad Duw yn rhywun felly? Blant annwyl, peidiwch dim ond siarad am gariad, gwnewch rywbeth i ddangos eich cariad! Dim ond felly mae bod yn siŵr ein bod ni'n perthyn i'r gwir. Dyna'r unig ffordd i gael tawelwch meddwl pan fyddwn ni'n sefyll o flaen Duw, hyd yn oed os ydyn ni'n teimlo'n euog a'r gydwybod yn ein condemnio ni. Cofiwch, mae Duw uwchlaw ein cydwybod ni, ac mae e'n gwybod am bob dim. Ffrindiau annwyl, os ydy'r gydwybod yn glir gallwn sefyll yn hyderus o flaen Duw. Gan ein bod yn ufudd iddo ac yn gwneud beth sy'n ei blesio, bydd yn rhoi i ni beth bynnag ofynnwn ni amdano. A dyma ei orchymyn e: ein bod ni i gredu yn enw ei Fab, Iesu y Meseia, a charu'n gilydd yn union fel y dwedodd wrthon ni. Mae'r rhai sy'n ufudd iddo yn byw ynddo, ac mae ei fywyd e ynddyn nhw. A dŷn ni'n gwybod fod ei fywyd e ynon ni am ei fod e wedi rhoi'r Ysbryd i ni. Ffrindiau annwyl, peidiwch credu pawb sy'n dweud eu bod nhw'n siarad drwy'r Ysbryd. Rhaid i chi eu profi nhw i weld os ydy beth maen nhw'n ddweud wir yn dod oddi wrth Dduw. Mae digon o broffwydi ffals o gwmpas. Dyma sut mae nabod y rhai sydd ag Ysbryd Duw ganddyn nhw: Mae pob un sy'n cyffesu fod y Meseia Iesu wedi dod yn berson real o gig a gwaed yn dod oddi wrth Dduw. Ond os ydy rhywun yn gwrthod cydnabod hyn am Iesu, dydy hwnnw ddim yn dod oddi wrth Dduw. Mae'r ysbryd sydd gan y person hwnnw yn dod oddi wrth elyn y Meseia. Dych chi wedi clywed ei fod yn mynd i ddod. Wel, y gwir ydy, mae e eisoes ar waith. Ond blant annwyl, dych chi'n perthyn i Dduw. Dych chi eisoes wedi ennill y frwydr yn erbyn y proffwydi ffals yma, am fod yr Ysbryd sydd ynoch chi yn gryfach o lawer na'r un sydd yn y byd. I'r byd annuwiol maen nhw'n perthyn, ac maen nhw'n siarad iaith y byd hwnnw, ac mae pobl y byd yn gwrando arnyn nhw. Ond dŷn ni'n perthyn i Dduw, felly'r rhai sy'n nabod Duw sy'n gwrando arnon ni. Dydy'r rhai sydd ddim yn perthyn i Dduw ddim yn gwrando arnon ni. Dyma sut mae gwybod os mai Ysbryd y gwirionedd neu ysbryd twyll sydd gan rywun. Ffrindiau annwyl, gadewch i ni garu'n gilydd, am fod cariad yn dod oddi wrth Dduw. Mae pawb sy'n caru fel hyn wedi ei eni'n blentyn i Dduw ac yn nabod Duw. Os ydy'r cariad hwn ddim gan rywun, dydy'r person hwnnw ddim yn nabod Duw chwaith — am mai cariad ydy Duw. Dyma sut wnaeth Duw ddangos ei gariad aton ni: anfonodd ei unig Fab i'r byd, er mwyn i ni gael bywyd trwyddo. Dyma beth ydy cariad: dim y ffaith ein bod ni'n caru Duw, ond y ffaith ei fod e wedi'n caru ni ac anfon ei Fab yn aberth oedd yn gwneud iawn am ein pechodau ni. Ffrindiau annwyl, os ydy Duw wedi'n caru ni gymaint â hyn, dylen ninnau hefyd garu'n gilydd. Does neb erioed wedi gweld Duw; ond os ydyn ni'n caru'n gilydd, mae Duw yn byw ynon ni ac mae ei gariad yn dod yn real yn ein bywydau ni. Dŷn ni'n gwybod ein bod ni'n byw ynddo fe, a bod ei fywyd e ynon ni, am ei fod yn rhoi ei Ysbryd i ni. A dŷn ni wedi gweld ac yn gallu tystio fod y Tad wedi anfon ei Fab i achub y byd. Os ydy rhywun yn cydnabod mai Iesu ydy Mab Duw, mae Duw yn byw ynddyn nhw a hwythau yn Nuw. Dŷn ni'n gwybod faint mae Duw yn ein caru ni, a dŷn ni'n dibynnu'n llwyr ar y cariad hwnnw. Cariad ydy Duw. Mae'r rhai sy'n byw yn y cariad yma yn byw yn Nuw, ac mae Duw yn byw ynddyn nhw. Am bod cariad yn beth real yn ein plith ni, dŷn ni'n gallu bod yn gwbl hyderus ar y diwrnod pan fydd Duw yn barnu. Dŷn ni'n byw yn y byd yma fel gwnaeth Iesu Grist fyw. Does dim ofn yn agos at y cariad yma, achos mae cariad perffaith yn cael gwared ag ofn yn llwyr. Os ydyn ni'n ofnus mae'n dangos ein bod ni'n disgwyl cael ein cosbi, a'n bod ni ddim wedi cael ein meddiannu'n llwyr gan gariad Duw. Dŷn ni'n caru'n gilydd am ei fod e wedi'n caru ni gyntaf. Pwy bynnag sy'n dweud ei fod yn caru Duw ac eto ar yr un pryd yn casáu brawd neu chwaer, mae'n dweud celwydd. Os ydy rhywun ddim yn gallu caru Cristion arall mae'n ei weld, sut mae e'n gallu caru'r Duw dydy e erioed wedi ei weld? Dyma'r gorchymyn mae Duw wedi ei roi i ni: Rhaid i'r sawl sy'n ei garu e, garu ei gyd-Gristnogion hefyd. Mae pawb sy'n credu mai Iesu ydy'r Meseia wedi cael eu geni'n blant i Dduw, ac mae pawb sy'n caru'r Tad yn caru ei blentyn hefyd. Dŷn ni'n gwybod ein bod yn caru plant Duw os ydyn ni'n caru Duw ac yn gwneud beth mae'n ei ddweud. Mae caru Duw yn golygu bod yn ufudd iddo, a dydy hynny ddim yn anodd, am fod plant Duw yn ennill y frwydr yn erbyn y byd. Credu sy'n rhoi'r fuddugoliaeth yna i ni! Pwy sy'n llwyddo i ennill y frwydr yn erbyn y byd? Dim ond y rhai sy'n credu mai Iesu ydy Mab Duw. Iesu Grist — daeth yn amlwg pwy oedd pan gafodd ei fedyddio â dŵr, a phan gollodd ei waed ar y groes. Nid dim ond y dŵr, ond y dŵr a'r gwaed. Ac mae'r Ysbryd hefyd yn tystio i ni fod hyn yn wir, am mai'r Ysbryd ydy'r gwirionedd. Felly dyna dri sy'n rhoi tystiolaeth: yr Ysbryd, dŵr y bedydd a'r gwaed ar y groes; ac mae'r tri yn cytuno â'i gilydd. Dŷn ni'n derbyn tystiolaeth pobl, ond mae tystiolaeth Duw cymaint gwell! Dyma'r dystiolaeth mae Duw wedi ei roi am ei Fab! Mae pawb sy'n credu ym Mab Duw yn gwybod fod y dystiolaeth yn wir. Ond mae'r rhai sy'n gwrthod credu Duw yn gwneud Duw ei hun yn gelwyddog, am eu bod wedi gwrthod credu beth mae Duw wedi ei dystio am ei Fab. A dyma'r dystiolaeth: mae Duw wedi rhoi bywyd tragwyddol i ni, ac mae'r bywyd hwn i'w gael yn ei Fab. Felly os ydy'r Mab gan rywun, mae'r bywyd ganddo; ond does dim bywyd gan y rhai dydy'r Mab ddim ganddyn nhw. Dw i wedi ysgrifennu hyn i gyd atoch chi sy'n credu ym Mab Duw er mwyn i chi wybod fod gynnoch chi fywyd tragwyddol. Dyma pa mor hyderus gallwn ni fod wrth agosáu at Dduw: mae e'n gwrando arnon ni os byddwn ni'n gofyn am unrhyw beth sy'n gyson â'i fwriad e. Ac os ydyn ni'n gwybod ei fod e'n gwrando arnon ni, dŷn ni'n gallu bod yn siŵr y byddwn yn derbyn beth bynnag byddwn ni'n gofyn amdano. Os gwelwch chi Gristion arall yn gwneud rhywbeth sy'n amlwg yn bechod ond sydd ddim yn bechod marwol, dylech chi weddïo drostyn nhw, a bydd Duw yn rhoi bywyd iddyn nhw. Sôn ydw i am y rhai hynny sy'n pechu, ond dydy eu pechod nhw ddim yn bechod marwol. Mae'r fath beth yn bod a phechod marwol. Dw i ddim yn dweud wrthoch chi am weddïo ynglŷn â hwnnw. Mae gwneud unrhyw beth o'i le yn bechod, ond dydy pob pechod ddim yn bechod marwol. Dŷn ni'n gwybod bod y rhai sydd wedi eu geni'n blant i Dduw ddim yn dal ati i bechu. Mae Mab Duw yn eu cadw nhw'n saff, a dydy'r Un drwg ddim yn gallu gwneud niwed iddyn nhw. Dŷn ni'n gwybod ein bod ni'n blant i Dduw, ond mae'r byd o'n cwmpas ni yn cael ei reoli gan yr un drwg. Ond dŷn ni hefyd yn gwybod fod Mab Duw wedi dod, ac mae wedi'n galluogi ni i ddeall a dod i nabod yr un gwir Dduw. A dŷn ni wedi'n huno â'r gwir Dduw am ein bod ni wedi'n huno â'i Fab e, Iesu Grist. Fe ydy'r unig wir Dduw, a fe ydy'r bywyd tragwyddol. Blant annwyl, cadwch draw oddi wrth unrhyw beth sy'n cymryd lle Duw yn eich bywydau chi. Llythyr gan Ioan yr arweinydd, At yr eglwys — gwraig fonheddig sydd wedi ei dewis gan Dduw. Ac at ei phlant, sef chi sy'n credu, y rhai dw i'n eu caru go iawn. A dim fi ydy'r unig un. Mae pawb sy'n gwybod y gwir yn eich caru chi, am fod y gwir yn aros ynon ni, a bydd gyda ni am byth. Bydd haelioni rhyfeddol, a thrugaredd a heddwch dwfn Duw y Tad, a Iesu Grist ei Fab, yn aros gyda ni sy'n byw bywyd o gariad ac sy'n ffyddlon i'r gwir. Roeddwn i wrth fy modd o glywed fod rhai ohonoch chi yn byw felly — yn ffyddlon i'r gwir, fel mae'r Tad wedi gorchymyn i ni. Nawr, dw i ddim yn rhoi rhyw orchymyn newydd i chi fel eglwys. Dw i'n apelio atoch chi i gofio'r egwyddor sylfaenol sydd wedi bod gyda ni o'r dechrau, sef ein bod i garu'n gilydd. Ystyr cariad ydy ein bod ni'n byw fel mae Duw'n dweud wrthon ni. Dyna glywoch chi o'r dechrau cyntaf. Dyna sut dŷn ni i fod i fyw. Mae llawer o rai sy'n twyllo wedi'n gadael ni a mynd allan i'r byd. Pobl ydyn nhw sy'n gwrthod credu fod gan Iesu Grist gorff dynol a'i fod yn ddyn go iawn. Twyllwyr ydyn nhw! Gelynion y Meseia! Gwyliwch, rhag i chi gael eich dylanwadu ganddyn nhw, a cholli'r wobr dych chi wedi gweithio mor galed amdani! Daliwch ati, er mwyn gwneud yn siŵr y byddwch yn cael eich gwobr yn llawn. Mae'r rhai sy'n mynd y tu hwnt i beth wnaeth Iesu Grist ei ddysgu wedi torri pob cysylltiad â Duw. Ond mae gan y rhai sy'n glynu wrth ddysgeidiaeth y Meseia berthynas gyda'r Tad a'r Mab. Os ydy rhywun yn dod atoch sydd ddim yn dysgu'r gwir, peidiwch eu gwahodd nhw i mewn i'ch tŷ. Peidiwch hyd yn oed eu cyfarch nhw. Mae unrhyw un sy'n rhoi croeso iddyn nhw yn eu helpu nhw i wneud drwg. Mae gen i lawer mwy i'w ddweud wrthoch chi, ond dw i ddim am ei roi ar bapur. Dw i'n gobeithio dod i'ch gweld chi, a siarad wyneb yn wyneb. Byddai hynny'n ein gwneud ni'n hapus go iawn! Mae plant eich chwaer eglwys yma — hithau wedi ei dewis gan Dduw — yn anfon eu cyfarchion. Llythyr gan Ioan yr arweinydd, at fy ffrind annwyl Gaius, yr un dw i'n ei garu go iawn. Ffrind annwyl, dw i'n gweddïo fod pethau'n mynd yn dda gyda thi, a'th fod yr un mor iach yn gorfforol ac rwyt ti'n ysbrydol. Dw i wrth fy modd pan mae brodyr neu chwiorydd yn dod yma a dweud wrtho i mor ffyddlon rwyt ti i'r gwirionedd. Does dim byd yn fy ngwneud i'n fwy llawen na chael clywed fod fy mhlant yn byw'n ffyddlon i'r gwir. Ffrind annwyl, mae dy ffyddlondeb di'n amlwg. Rwyt ti'n helpu'r brodyr sy'n pregethu'r newyddion da, er dy fod ti ddim yn eu nabod nhw. Maen nhw wedi dweud wrth yr eglwys sydd yma mor garedig a hael wyt ti. Dal ati gyda'r gwaith da o'i helpu nhw ar eu ffordd fel hyn. Mae'r hyn rwyt yn ei wneud yn plesio Duw. Maen nhw wedi mynd allan i weithio dros Iesu, a dŷn nhw'n derbyn dim byd gan bobl sydd ddim yn credu. Felly dylen ni sydd yn credu roi croeso iddyn nhw yn ein cartrefi ni. Dŷn ni'n eu helpu nhw i rannu'r gwirionedd wrth wneud hynny. Dw i wedi ysgrifennu at yr eglwys, ond dydy Diotreffes ddim am wrando ar beth dw i'n ei ddweud. Mae e eisiau bod yn geffyl blaen. Pan fydda i'n dod acw bydda i'n tynnu sylw at beth mae'n ei wneud. Mae e'n lledu sibrydion maleisus amdanon ni. A dydy hynny ddim yn ddigon ganddo! Mae e hefyd yn gwrthod rhoi croeso i'r brodyr sy'n pregethu'r newyddion da, ac mae'n rhwystro'r bobl sydd eisiau rhoi croeso iddyn nhw rhag gwneud hynny. Mae hyd yn oed yn taflu'r bobl hynny allan o'r eglwys! Ffrind annwyl, paid dilyn ei esiampl ddrwg e. Gwna di ddaioni. Y rhai sy'n gwneud daioni sy'n blant i Dduw. Dydy'r rhai sy'n gwneud drygioni ddim yn nabod Duw. Mae pawb yn siarad yn dda am Demetrius, ac mae e wir yn haeddu ei ganmol! Dŷn ni'n ei ganmol e hefyd, ac rwyt yn gwybod y gelli di ddibynnu ar beth dŷn ni'n ddweud. Mae gen i lawer mwy i'w ddweud wrthyt ti, ond dw i ddim am ei roi ar bapur. Dw i'n gobeithio dod i dy weld di'n fuan iawn, i ni gael siarad wyneb yn wyneb. Dw i'n gweddïo y byddi di'n profi heddwch dwfn Duw! Mae dy ffrindiau di yma i gyd yn anfon eu cyfarchion. Cofia ni'n bersonol at bob un o'n ffrindiau acw hefyd. Llythyr gan Jwdas, gwas i Iesu Grist a brawd Iago, Atoch chi sydd wedi eich galw i berthynas gyda Duw y Tad, sy'n eich cofleidio chi â'i gariad, a gyda Iesu Grist sy'n gofalu amdanoch chi: Dw i'n gweddïo y bydd Duw yn tywallt ei drugaredd, ei heddwch dwfn a'i gariad di-ben-draw arnoch chi! Ffrindiau annwyl, roeddwn i'n awyddus iawn i ysgrifennu atoch chi am y bywyd newydd dŷn ni'n ei rannu gyda'n gilydd. Ond nawr mae'n rhaid i mi ysgrifennu i'ch annog chi i wneud safiad dros y ffydd, sef y gwirionedd mae Duw wedi ei roi i'w bobl un waith ac am byth. Y broblem ydy bod pobl sydd ddim yn gwrando ar Dduw wedi sleifio i mewn i'ch plith chi. Mae'r bobl yma yn dweud ein bod ni'n rhydd i fyw'n anfoesol, am fod Duw mor barod i faddau! Mae'r ysgrifau sanctaidd wedi dweud ers talwm fod pobl felly'n mynd i gael eu cosbi. Pobl ydyn nhw sy'n gwadu awdurdod Iesu Grist, ein hunig Feistr a'n Harglwydd ni. Dych chi'n gwybod hyn eisoes, ond dw i am eich atgoffa chi: roedd Duw wedi achub ei bobl a'u helpu i ddianc o'r Aifft. Ond yn nes ymlaen roedd rhaid iddo ddinistrio rhai ohonyn nhw am eu bod nhw'n anffyddlon. Wedyn beth am yr angylion hynny wrthododd gadw o fewn y ffiniau roedd Duw wedi eu gosod iddyn nhw? Roedden nhw eisiau mwy o awdurdod a dyma nhw'n gadael lle roedden nhw i fod i fyw. Does dim dianc iddyn nhw! Mae Duw wedi eu rhwymo nhw gyda chadwyni yn nhywyllwch dudew y byd tanddaearol. Maen eu cadw nhw yno yn disgwyl y diwrnod mawr pan fyddan nhw'n cael eu cosbi. A chofiwch beth ddigwyddodd i Sodom a Gomorra a'r pentrefi o'u cwmpas! Roedd anfoesoldeb rhywiol yn rhemp, ac roedden nhw eisiau cyfathrach annaturiol gyda'r angylion! Maen nhw'n dioddef yn y tân sydd byth yn diffodd, ac mae eu cosb nhw yn rhybudd i bawb. Ac mae'r bobl hyn sydd wedi dod i'ch plith chi yr un fath! Breuddwydion ydy sail beth maen nhw'n ei ddysgu. Maen nhw'n llygru eu cyrff drwy wneud pethau anfoesol, yn herio awdurdod yr Arglwydd, ac yn dweud pethau sarhaus am yr angylion gogoneddus. Wnaeth Michael y prif angel ddim meiddio hyd yn oed cyhuddo'r diafol o gablu pan oedd y ddau yn ymladd am gorff Moses. “Bydd Duw yn delio gyda thi!” ddwedodd e. Ond mae'r bobl yma yn sarhau pethau dŷn nhw ddim yn eu deall! Maen nhw fel anifeiliaid direswm, yn dilyn eu greddfau rhywiol, ac yn gwneud beth bynnag maen nhw eisiau! A dyna'n union fydd yn eu dinistrio nhw yn y diwedd! Gwae nhw! Maen nhw wedi dilyn esiampl Cain. Maen nhw fel Balaam, yn rhuthro i wneud unrhyw beth am arian. Maen nhw wedi gwrthryfela fel Cora, a byddan nhw'n cael eu dinistrio! Mae'r bobl yma fel creigiau peryglus yn y môr. Maen nhw'n bwyta yn eich cariad-wleddoedd chi, ond yn poeni dim am arwyddocâd y pryd bwyd dych chi'n ei rannu! Dyn nhw'n meddwl am neb ond nhw eu hunain. Twyllwyr ydyn nhw! Maen nhw, Fel cymylau sy'n rhoi dim glaw, a'r gwynt yn eu chwythu nhw i ffwrdd. Fel coed heb ffrwyth i'w gasglu oddi arnyn nhw — yn hollol farw, wedi cael eu diwreiddio! Fel tonnau gwyllt y môr, yn corddi ewyn eu gweithredoedd ffiaidd. Fel sêr gwib yn y gofod, a'r tywyllwch dudew yn barod i'w llyncu am byth! Proffwydodd Enoch amdanyn nhw ymhell bell yn ôl (saith cenhedlaeth ar ôl Adda): “Edrychwch! Mae'r Arglwydd yn dod gyda miloedd ar filoedd o'i angylion sanctaidd. Bydd yn barnu pawb, ac yn cosbi pechaduriaid annuwiol am bopeth drwg maen nhw wedi eu gwneud, ac am yr holl bethau sarhaus maen nhw wedi eu dweud amdano.” Dydy'r bobl yma'n gwneud dim ond grwgnach a gweld bai ar eraill! Maen nhw'n gwneud pa ddrwg bynnag maen nhw eisiau! Maen nhw'n brolio eu hunain, a seboni pobl eraill os ydy hynny o ryw fantais iddyn nhw! Ond cofiwch, ffrindiau annwyl, fod cynrychiolwyr personol ein Harglwydd Iesu Grist wedi dweud ymlaen llaw am hyn. “Yn y dyddiau i ddod bydd pobl yn chwarae crefydd” medden nhw, “ac yn gwneud dim byd ond dilyn eu chwantau drwg.” Ydyn, maen nhw yma! Nhw sy'n creu rhaniadau yn eich plith chi. Eu greddfau naturiol sy'n eu rheoli nhw. A dydy'r Ysbryd Glân ddim ganddyn nhw reit siŵr! Ond rhaid i chi fod yn wahanol, ffrindiau annwyl. Daliwch ati i adeiladu eich bywydau ar sylfaen y ffydd sy'n dod oddi wrth Dduw. Gweddïo fel mae'r Ysbryd Glân yn eich arwain chi. Byw mewn ffordd sy'n dangos cariad Duw, wrth ddisgwyl yn frwd am y bywyd tragwyddol mae'r Arglwydd Iesu Grist yn mynd i'w roi i chi. Byddwch yn amyneddgar gyda'r rhai sy'n ansicr. Cipiwch allan o'r tân y rhai hynny sydd mewn peryg o losgi. Byddwch yn garedig wrth y rhai sy'n ffraeo ond yn ofalus yr un pryd. Mae eu pechodau nhw'n ffiaidd, fel dillad isaf budron! Clod i Dduw! Fe ydy'r un sy'n gallu'ch cadw chi rhag llithro. Fe fydd yn eich galw i mewn i'w gwmni bendigedig, yn gwbl ddi-fai, i gael profi llawenydd anhygoel! Fe ydy'r unig Dduw, sy'n ein hachub ni drwy Iesu Grist ein Harglwydd. Mae e'n haeddu ei foli a'i fawrygu, ac mae ganddo nerth ac awdurdod absoliwt. Mae hynny o'r dechrau cyntaf, yn awr yn y presennol, ac am byth! Amen. Dyma ddangosodd y Meseia Iesu am beth sy'n mynd i ddigwydd yn fuan. Duw ddangosodd hyn iddo, i'w rannu gyda'r rhai sy'n ei ddilyn a'i wasanaethu. Anfonodd ei angel ata i ei was Ioan, a dw i'n gallu tystio fy mod i wedi gweld y cwbl sydd yma. Mae'n neges oddi wrth Dduw — yn dystiolaeth sydd wedi ei roi gan y Meseia Iesu ei hun. Bydd y person sy'n darllen y neges broffwydol hon i'r eglwys yn cael ei fendithio'n fawr. A hefyd pawb sy'n gwrando ar y neges yn cael ei darllen, ac yna'n gwneud beth mae'n ei ddweud. Mae'r amser pan fydd y cwbl yn digwydd yn agos. Ioan sy'n ysgrifennu, At y saith eglwys yn nhalaith Asia: Dw i'n gweddïo y byddwch yn profi haelioni rhyfeddol a heddwch dwfn gan Dduw, yr Un sydd, ac oedd ac sy'n mynd i ddod; gan yr Ysbryd cyflawn perffaith sydd o flaen yr orsedd; a hefyd gan y Meseia Iesu, y tyst ffyddlon, y cyntaf i gael ei eni i fywyd newydd ar ôl marw, a'r un sydd ag awdurdod dros holl frenhinoedd y ddaear. Mae'n ein caru ni, ac mae wedi marw troson ni i'n gollwng ni'n rhydd fel bod pechod ddim yn ein rheoli ni ddim mwy. Mae'n teyrnasu droson ni ac wedi'n gwneud ni i gyd yn offeiriaid sy'n gwasanaethu Duw, ei Dad! Fe sy'n haeddu pob anrhydedd a nerth, am byth! Amen! Edrychwch! Mae'n dod yn y cymylau! Bydd pawb yn ei weld — hyd yn oed y rhai a'i trywanodd! Bydd pob llwyth o bobl ar y ddaear yn galaru o'i achos e. Dyna fydd yn digwydd! Amen! Mae'r Arglwydd Dduw yn dweud, “Fi ydy'r Alffa a'r Omega — Fi ydy'r Un sydd, oedd, ac sy'n mynd i ddod eto, yr Un Hollalluog.” Ioan ydw i, eich cyd-Gristion. Fel chi dw innau hefyd yn dioddef, ond am fod Duw yn teyrnasu, dw i'n dal ati fel gwnaeth Iesu ei hun. Roeddwn i wedi cael fy alltudio i Ynys Patmos am gyhoeddi neges Duw a thystiolaethu am Iesu. Roedd hi'n ddydd Sul, ac roeddwn i dan ddylanwad yr Ysbryd Glân. Yn sydyn clywais lais y tu ôl i mi, yn glir fel trwmped. Dyma ddwedodd: “Ysgrifenna beth weli di mewn sgrôl, a'i anfon at y saith eglwys, sef Effesus, Smyrna, Pergamus, Thyatira, Sardis, Philadelffia, a Laodicea.” Dyma fi'n troi i edrych pwy oedd yn siarad â mi, a dyma beth welais i: saith canhwyllbren aur. Yn eu plith roedd “un oedd yn edrych fel person dynol.” Roedd yn gwisgo mantell hir oedd yn cyrraedd at ei draed a sash aur wedi ei rwymo am ei frest. Roedd ganddo lond pen o wallt oedd yn wyn fel gwlân neu eira, ac roedd sbarc yn ei lygaid fel fflamau o dân. Roedd ei draed yn gloywi fel efydd mewn ffwrnais, a'i lais fel sŵn rhaeadrau o ddŵr. Yn ei law dde roedd yn dal saith seren, ac roedd cleddyf miniog yn dod allan o'i geg. Roedd ei wyneb yn disgleirio'n llachar fel yr haul ganol dydd. Pan welais e, dyma fi'n llewygu wrth ei draed. Yna cyffyrddodd fi â'i law dde, a dweud wrtho i: “Paid bod ag ofn. Fi ydy'r Cyntaf a'r Olaf, yr Un Byw. Roeddwn i wedi marw, ond edrych! — dw i'n fyw am byth bythoedd! Gen i mae allweddi Marwolaeth a Byd y Meirw. Felly, ysgrifenna beth rwyt ti'n ei weld, sef beth sy'n digwydd nawr, a beth sy'n mynd i ddigwydd yn fuan. “Ystyr cudd y saith seren welaist ti yn fy llaw dde i a'r saith canhwyllbren aur ydy hyn: Mae'r saith seren yn cynrychioli arweinwyr y saith eglwys, a'r saith canhwyllbren yn cynrychioli'r saith eglwys.” “Ysgrifenna hyn at arweinydd yr eglwys yn Effesus: ‘Dyma beth mae'r un sy'n dal y saith seren yn ei law dde ac yn cerdded rhwng y saith canhwyllbren aur yn ei ddweud: Dw i'n gwybod am bopeth rwyt ti'n ei wneud. Rwyt ti'n gweithio'n galed ac wedi dal ati. Dw i'n gwybod dy fod ti ddim yn gallu diodde'r bobl ddrwg hynny sy'n honni eu bod nhw yn gynrychiolwyr personol i'r Meseia Iesu, ond sydd ddim go iawn. Rwyt ti wedi profi eu bod nhw'n dweud celwydd. Rwyt ti wedi dal ati ac wedi dioddef caledi er fy mwyn i, a heb flino. Ond mae gen i rywbeth yn dy erbyn di: Dwyt ti ddim yn fy ngharu i fel roeddet ti ar y cychwyn. Edrych mor bell rwyt ti wedi syrthio! Tro yn ôl ata i eto, a gwna beth roeddet ti'n ei wneud ar y cychwyn. Os ddoi di ddim yn ôl ata i, dof fi atat ti a chymryd dy ganhwyllbren di i ffwrdd. Ond mae hyn o dy blaid di: Rwyt ti, fel finnau, yn casáu beth mae'r Nicolaiaid yn ei wneud. Gwrandwch yn ofalus ar beth mae'r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr eglwysi. Bydd y rhai sy'n ennill y frwydr yn cael bwyta o goeden y bywyd sydd ym Mharadwys Duw.’ “Ysgrifenna hyn at arweinydd yr eglwys yn Smyrna: ‘Dyma beth mae'r Cyntaf a'r Olaf yn ei ddweud, yr un fuodd farw a dod yn ôl yn fyw: Dw i'n gwybod dy fod ti'n dioddef, a dy fod yn dlawd (er, rwyt ti'n gyfoethog go iawn!) Dw i'n gwybod hefyd dy fod ti'n cael dy sarhau gan y rhai sy'n honni bod yn bobl Dduw ond sydd ddim go iawn. Synagog Satan ydyn nhw! Peidiwch bod ofn beth dych chi ar fin ei ddioddef. Galla i ddweud wrthoch chi fod y diafol yn mynd i brofi ffydd rhai ohonoch chi trwy eich taflu i'r carchar. Bydd pethau'n galed arnoch chi am gyfnod byr. Arhoswch yn ffyddlon i Dduw, hyd yn oed os bydd rhaid i chi farw. Wedyn cewch chi goron y bywyd yn wobr gen i. Gwrandwch yn ofalus ar beth mae'r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr eglwysi. Fydd y rhai sy'n ennill y frwydr ddim yn cael unrhyw niwed gan beth sy'n cael ei alw yn ‛ail farwolaeth‛.’ “Ysgrifenna hyn at arweinydd yr eglwys yn Pergamus: ‘Dyma beth mae'r un sydd â'r cleddyf miniog ganddo yn ei ddweud: Dw i'n gwybod dy fod ti'n byw yn y ddinas lle mae gorsedd Satan. Ond rwyt ti wedi aros yn ffyddlon i mi. Wnest ti ddim gwadu dy fod yn credu ynof fi, hyd yn oed pan gafodd Antipas ei ladd lle mae Satan yn byw. Roedd e'n ffyddlon, ac yn dweud wrth bawb amdana i. Er hynny, mae gen i bethau yn dy erbyn: Mae rhai pobl acw yn gwneud beth oedd Balaam yn ei ddysgu. Balaam ddysgodd Balac i ddenu pobl Israel i bechu. Gwnaeth iddyn nhw fwyta bwyd wedi ei aberthu i eilun-dduwiau a phechu'n rhywiol. A'r un fath, mae yna rai ohonoch chi hefyd sy'n dilyn beth mae'r Nicolaiaid yn ei ddysgu. Tro dy gefn ar y pechodau hyn! Os gwnei di ddim, bydda i'n dod yn sydyn ac yn ymladd yn eu herbyn nhw gyda'r cleddyf sydd yn fy ngheg. Gwrandwch yn ofalus ar beth mae'r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr eglwysi. Bydd y rhai sy'n ennill y frwydr yn cael bwyta'r manna sydd wedi ei gadw o'r golwg. Bydda i hefyd yn rhoi carreg wen i bob un ohonyn nhw. Bydd enw newydd wedi ei ysgrifennu ar y garreg, a neb yn gwybod yr enw ond y sawl sy'n derbyn y garreg.’ “Ysgrifenna hyn at arweinydd yr eglwys yn Thyatira: ‘Dyma beth mae Mab Duw yn ei ddweud, sef yr Un sydd â sbarc fel fflamau o dân yn ei lygaid, a'i draed yn gloywi fel efydd: Dw i'n gwybod am bopeth wyt ti'n ei wneud — am dy gariad, dy ffyddlondeb, dy wasanaeth a'th allu i ddal ati; a dw i'n gweld dy fod yn gwneud mwy o dda nawr nag oeddet ti ar y cychwyn. Er hynny, mae gen i rywbeth yn dy erbyn di: Rwyt ti'n goddef y wraig yna, y ‛Jesebel‛ sy'n galw ei hun yn broffwydes. Mae hi'n dysgu pethau sy'n camarwain y rhai sy'n fy ngwasanaethu i. Mae hi'n eu hannog nhw i bechu'n rhywiol a bwyta bwyd sydd wedi ei aberthu i eilun-dduwiau. Dw i wedi rhoi cyfle iddi hi droi cefn ar y drwg, ond mae hi'n gwrthod. Felly dw i'n mynd i wneud iddi ddioddef o afiechyd poenus, a bydd y rhai sy'n godinebu gyda hi yn dioddef hefyd os fyddan nhw ddim yn stopio gwneud beth mae hi'n ei ddweud. Bydda i'n lladd ei dilynwyr hi, ac wedyn bydd yr eglwysi yn gwybod mai fi ydy'r Un sy'n gweld beth sydd yng nghalonnau a meddyliau pobl. Bydd pob un ohonoch chi yn cael beth mae'n ei haeddu. Am y gweddill ohonoch chi yn Thyatira, sef y rhai sydd heb dderbyn beth mae hi'n ei ddysgu (sef ‛cyfrinachau dirgel Satan‛), wna i ddim rhoi dim mwy o bwysau arnoch chi. Ond daliwch afael yn beth sydd gynnoch chi nes i mi ddod yn ôl. Bydd y rhai sy'n ennill y frwydr, ac yn dilyn fy esiampl i i'r diwedd un, yn cael awdurdod dros y cenhedloedd — “Bydd yn teyrnasu arnyn nhw gyda theyrnwialen haearn; ac yn eu malu'n ddarnau fel malu llestri pridd.” Bydd ganddyn nhw yr un awdurdod ag a ges i gan fy Nhad. A bydda i'n rhoi Seren y Bore iddyn nhw hefyd. Gwrandwch yn ofalus ar beth mae'r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr eglwysi.’ “Ysgrifenna hyn at arweinydd yr eglwys yn Sardis: ‘Dyma beth mae'r un y mae Ysbryd cyflawn perffaith Duw ganddo ac sy'n dal y saith seren yn ei ddweud: Dw i'n gwybod am bopeth rwyt ti'n ei wneud. Mae gen ti enw dy fod yn eglwys fyw, ond corff marw wyt ti go iawn. Deffra! Cryfha beth sy'n dal ar ôl cyn i hwnnw farw hefyd. Dydy beth rwyt ti'n ei wneud ddim yn dderbyniol gan Dduw. Felly cofia beth wnest ti ei glywed a'i gredu gyntaf; gwna hynny, a throi yn ôl ata i. Os na fyddi di'n effro, bydda i'n dod fel lleidr. Fydd gen ti ddim syniad pryd fydda i'n dod. Ac eto mae rhai pobl yn Sardis sydd heb faeddu eu dillad. Byddan nhw'n cerdded gyda mi wedi eu gwisgo mewn dillad gwyn. Dyna maen nhw'n ei haeddu. Bydd pawb sy'n ennill y frwydr yn cael gwisgo dillad gwyn. Fydda i byth yn dileu eu henwau nhw o Lyfr y Bywyd. Bydda i'n dweud yn agored o flaen fy Nhad a'i angylion eu bod nhw'n perthyn i mi. Gwrandwch yn ofalus ar beth mae'r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr eglwysi.’ “Ysgrifenna hyn at arweinydd yr eglwys yn Philadelffia: ‘Dyma mae'r Un sanctaidd, yr Un gwir, yn ei ddweud. Mae allwedd teyrnas Dafydd ganddo, a does neb yn gallu cloi beth mae wedi ei agor, nac agor beth mae wedi ei gloi: Dw i'n gwybod am bopeth rwyt ti'n ei wneud. Edrych, dw i wedi agor drws i ti — drws fydd neb yn gallu ei gau. Dw i'n gwybod mai ychydig nerth sydd gen ti, ond rwyt ti wedi gwneud beth dw i'n ei ddweud a heb wadu dy fod ti'n credu ynof fi. Bydda i'n gwneud i'r rhai sy'n perthyn i synagog Satan ddod â syrthio wrth dy draed di a chydnabod mai chi ydy'r bobl dw i wedi eu caru. Maen nhw'n honni bod yn bobl Dduw, ond dydyn nhw ddim go iawn; maen nhw'n dweud celwydd. Am dy fod di wedi bod yn ufudd i'r gorchymyn i ddal ati, bydda i'n dy amddiffyn di rhag yr amser caled fydd y byd i gyd yn mynd trwyddo, pan fydd y rhai sy'n perthyn i'r ddaear ar brawf. Edrych! Dw i'n dod yn fuan. Dal dy afael yn beth sydd gen ti, fel bod neb yn dwyn dy goron di. Bydda i'n gwneud pawb sy'n ennill y frwydr yn biler yn nheml fy Nuw. Fyddan nhw byth yn ei gadael. Bydda i'n ysgrifennu enw fy Nuw arnyn nhw, ac enw dinas fy Nuw, sef y Jerwsalem newydd sy'n dod i lawr oddi wrth Dduw yn y nefoedd; bydda i hefyd yn ysgrifennu fy enw newydd i arnyn nhw. Gwrandwch yn ofalus ar beth mae'r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr eglwysi.’ “Ysgrifenna hyn at arweinydd yr eglwys yn Laodicea: ‘Dyma beth mae'r Amen yn ei ddweud, y tyst ffyddlon, ffynhonnell cread Duw. Dw i'n gwybod am bopeth rwyt ti'n ei wneud. Dwyt ti ddim yn oer nac yn boeth! Byddwn i'n hoffi i ti fod y naill neu'r llall! Ond gan dy fod yn llugoer, bydda i'n dy chwydu di allan. Rwyt ti'n dweud, “Dw i'n gyfoethog; dw i wedi ennill cymaint o gyfoeth does gen i angen dim byd.” Dwyt ti ddim yn gweld mor druenus rwyt ti go iawn. Druan ohonot ti! Rwyt ti'n dlawd yn ddall ac yn noeth! Dw i'n dy gynghori di i brynu aur gen i, aur wedi ei goethi trwy dân. Byddi di'n gyfoethog wedyn! A phryna ddillad gwyn i'w gwisgo, wedyn fydd dim rhaid i ti gywilyddio am dy fod yn noeth. A gelli brynu eli i'r llygaid hefyd, er mwyn i ti allu gweld eto! Dw i'n ceryddu a disgyblu pawb dw i'n eu caru. Felly bwrw iddi o ddifri, a thro dy gefn ar bechod. Edrych! Dw i yma! Dw i'n sefyll wrth y drws ac yn curo. Os bydd rhywun yn fy nghlywed i'n galw ac yn dod i agor y drws, dof i mewn i rannu pryd o fwyd gyda nhw. Bydd pawb sy'n ennill y frwydr yn cael hawl i deyrnasu gyda mi ar fy ngorsedd, yn union fel wnes i ennill y frwydr, a theyrnasu gyda fy Nhad ar ei orsedd e. Gwrandwch yn ofalus ar beth mae'r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr eglwysi.’” Yna ces i weledigaeth. Roedd drws agored yn y nefoedd o'm blaen i. A dyma'r llais roeddwn wedi ei glywed yn siarad â mi ar y cychwyn (y llais hwnnw oedd yn glir fel trwmped), yn dweud: “Tyrd i fyny yma, a bydda i'n dangos i ti beth sy'n mynd i ddigwydd ar ôl hyn.” Yn sydyn roeddwn i dan ddylanwad yr Ysbryd Glân, ac o'm blaen i roeddwn i'n gweld gorsedd yn y nefoedd gyda rhywun yn eistedd arni. Roedd yr Un oedd yn eistedd arni yn disgleirio fel gemau iasbis a sardion, ac roedd enfys hardd fel emrallt o gwmpas yr orsedd. Roedd dau ddeg pedair gorsedd arall o'i chwmpas hefyd, gydag arweinydd ysbrydol yn eistedd ar bob un. Roedden nhw'n gwisgo dillad gwyn ac roedd coronau aur ar eu pennau. Roedd mellt a sŵn taranau yn dod o'r orsedd, ac o'i blaen roedd saith lamp yn llosgi, sef Ysbryd cyflawn perffaith Duw. Hefyd o flaen yr orsedd roedd rhywbeth tebyg i fôr o wydr, yn glir fel grisial. Yn y canol o gwmpas yr orsedd, roedd pedwar creadur byw gyda llygaid yn eu gorchuddio, o'r tu blaen a'r tu ôl. Roedd y creadur cyntaf yn debyg i lew, yr ail yn debyg i lo, roedd gan y trydydd wyneb dynol, ac roedd y pedwerydd fel eryr yn hedfan. Roedd gan bob un o'r creaduriaid chwe adain wedi eu gorchuddio'n llwyr gyda llygaid, hyd yn oed o dan yr adenydd. Roedden nhw'n siantio drosodd a throsodd, heb orffwys nos na dydd: “Sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd ydy'r Arglwydd Dduw Hollalluog, yr Un oedd, ac sydd, ac sy'n mynd i ddod.” Yna wrth i'r creaduriaid byw roi clod ac anrhydedd a diolch i'r Un sy'n eistedd ar yr orsedd, sef yr Un sy'n byw am byth bythoedd, roedd y dau ddeg pedwar arweinydd ysbrydol yn syrthio i lawr ar eu hwynebau ac yn ei addoli hefyd. Wrth osod eu coronau ar lawr o flaen yr orsedd roedden nhw'n dweud: “Ein Harglwydd a'n Duw! Rwyt ti'n deilwng o'r clod a'r anrhydedd a'r nerth. Ti greodd bob peth, ac mae popeth wedi eu creu yn bodoli am mai dyna oeddet ti eisiau.” Yna gwelais fod sgrôl yn llaw dde yr Un oedd yn eistedd ar yr orsedd. Roedd ysgrifen ar ddwy ochr y sgrôl ac roedd wedi ei selio â saith sêl. Wedyn gwelais angel pwerus yn cyhoeddi'n uchel, “Pwy sy'n deilwng i dorri'r seliau ar y sgrôl a'i hagor?” Ond doedd neb yn y nefoedd na'r ddaear na than y ddaear yn gallu agor y sgrôl i'w darllen. Dyma fi'n dechrau beichio crïo am fod neb yn deilwng i agor y sgrôl a'i darllen. Ond dyma un o'r arweinyddion ysbrydol yn dweud wrtho i, “Stopia grïo! Edrych! Mae'r Llew o lwyth Jwda, disgynnydd y Brenin Dafydd, wedi ennill y frwydr. Mae e'n gallu torri'r saith sêl ac agor y sgrôl.” Yna gwelais Oen oedd yn edrych fel petai wedi ei ladd. Roedd yn sefyll rhwng yr orsedd a'r pedwar creadur byw a'r arweinwyr ysbrydol oedd o'i chwmpas hi. Roedd ganddo saith corn a saith llygad (yn cynrychioli Ysbryd cyflawn perffaith Duw sydd wedi ei anfon allan drwy'r byd i gyd). Aeth i gymryd y sgrôl o law dde yr Un oedd yn eistedd ar yr orsedd. Ac wrth iddo gymryd y sgrôl, dyma'r pedwar creadur byw a'r dau ddeg pedwar arweinydd ysbrydol yn syrthio i lawr ar eu hwynebau o flaen yr Oen. Roedd telyn gan bob un ohonyn nhw, ac roedden nhw'n dal powlenni aur yn llawn o arogldarth (sy'n cynrychioli gweddïau pobl Dduw). Roedden nhw'n canu cân newydd: “Rwyt ti'n deilwng i gymryd y sgrôl ac i dorri y seliau, am dy fod ti wedi cael dy ladd yn aberth, ac wedi prynu pobl i Dduw â'th waed — pobl o bob llwyth ac iaith, hil a chenedl. Rwyt wedi teyrnasu drostyn nhw a'u gwneud yn offeiriaid i wasanaethu ein Duw. Byddan nhw'n teyrnasu ar y ddaear.” Yna yn y weledigaeth, clywais sŵn tyrfa enfawr o angylion — miloedd ar filoedd ohonyn nhw! … miliynau! Roedden nhw'n sefyll yn gylch o gwmpas yr orsedd a'r creaduriaid byw a'r arweinwyr ysbrydol, ac yn canu'n uchel: “Mae'r Oen gafodd ei ladd yn deilwng i dderbyn grym a chyfoeth, doethineb a nerth, anrhydedd, ysblander a mawl!” Yna clywais bopeth byw yn y nefoedd ac ar y ddaear, tan y ddaear ac ar y môr — y cwbl i gyd — yn canu: “Clod ac anrhydedd, gogoniant a nerth am byth bythoedd, i'r Un sy'n eistedd ar yr orsedd, ac i'r Oen!” “Amen!” meddai'r pedwar creadur byw, a dyma'r arweinwyr ysbrydol yn syrthio i lawr ar eu hwynebau i addoli. Roeddwn i'n gwylio'r Oen yn agor y gyntaf o'r saith sêl. A chlywais un o'r pedwar creadur byw yn galw'n uchel mewn llais oedd yn swnio fel taran, “Tyrd allan!” Yn sydyn roedd ceffyl gwyn o'm blaen i, a marchog ar ei gefn yn cario bwa a saeth. Cafodd ei goroni, ac yna aeth i ffwrdd ar gefn y ceffyl fel un oedd yn mynd i goncro'r gelyn, yn benderfynol o ennill y frwydr. Pan agorodd yr Oen yr ail sêl, clywais yr ail greadur byw yn galw'n uchel, “Tyrd allan!” Yna daeth ceffyl arall allan — un fflamgoch. Cafodd y marchog ar ei gefn awdurdod i gymryd heddwch o'r byd fel bod pobl yn lladd ei gilydd. Dyma gleddyf mawr yn cael ei roi iddo. Pan agorodd yr Oen y drydedd sêl, clywais y trydydd creadur byw yn cyhoeddi'n uchel, “Tyrd allan!” Edrychais, ac yn sydyn roedd ceffyl du o'm blaen i, a'r marchog ar ei gefn yn dal clorian yn ei law. Yna clywais lais yn dod o ble roedd y pedwar creadur byw, yn cyhoeddi'n uchel: “Cyflog diwrnod llawn am lond dwrn o wenith, neu am ryw ychydig o haidd! Ond paid gwneud niwed i'r coed olewydd a'r gwinwydd!” Pan agorodd yr Oen y bedwaredd sêl, clywais lais y pedwerydd creadur byw yn galw'n uchel, “Tyrd allan!” Edrychais, ac yn sydyn roedd ceffyl llwyd o'm blaen i! Marwolaeth oedd enw'r marchog oedd ar ei gefn, ac roedd Byd y Meirw yn dilyn yn glos y tu ôl iddo. Dyma nhw'n cael awdurdod dros chwarter y ddaear — awdurdod i ladd gyda'r cleddyf, newyn a haint, ac anifeiliaid gwylltion. Pan agorodd y bumed sêl, gwelais o dan yr allor y rhai oedd wedi cael eu lladd am gyhoeddi neges Duw yn ffyddlon. Roedden nhw'n gweiddi'n uchel, “O Feistr Sofran, sanctaidd a gwir! Faint mwy sydd raid i ni aros cyn i ti farnu'r bobl sy'n perthyn i'r ddaear, a dial arnyn nhw am ein lladd ni?” Yna dyma fantell wen yn cael ei rhoi i bob un ohonyn nhw. A gofynnwyd iddyn nhw aros ychydig yn hirach, nes i nifer cyflawn y rhai oedd yn gwasanaethu gyda nhw gyrraedd, sef y brodyr a'r chwiorydd fyddai'n cael eu lladd fel cawson nhw eu lladd. Wrth i mi wylio'r Oen yn agor y chweched sêl buodd daeargryn mawr. Trodd yr haul yn ddu fel dillad galar, a'r lleuad yn goch i gyd fel gwaed. Dyma'r sêr yn dechrau syrthio fel ffigys gwyrdd yn disgyn oddi ar goeden pan mae gwynt cryf yn chwythu. Diflannodd yr awyr fel sgrôl yn cael ei rholio. A chafodd pob mynydd ac ynys eu symud o'u lle. Aeth pawb i guddio mewn ogofâu a thu ôl i greigiau yn y mynyddoedd — brenhinoedd a'u prif swyddogion, arweinwyr milwrol, pobl gyfoethog, pobl bwerus, caethweision, dinasyddion rhydd — pawb! Roedden nhw'n gweiddi ar y mynyddoedd a'r creigiau, “Syrthiwch arnon ni a'n cuddio ni o olwg yr Un sy'n eistedd ar yr orsedd, ac oddi wrth ddigofaint yr Oen! Mae'r diwrnod mawr iddo ddangos mor ddig ydy e wedi dod! Pa obaith sydd i unrhyw un?” Yna ces i weledigaeth arall. Roedd pedwar angel yn sefyll ar gyrion eithaf y ddaear — gogledd, de, gorllewin a dwyrain. Roedden nhw'n dal y pedwar gwynt yn ôl. Doedd dim gwynt yn chwythu ar dir na môr, nac ar unrhyw goeden. Wedyn dyma fi'n gweld angel arall yn codi o gyfeiriad y dwyrain. Roedd sêl y Duw byw ganddo, a gwaeddodd yn uchel ar y pedwar angel oedd wedi cael y gallu i wneud niwed i'r tir a'r môr: “Peidiwch gwneud niwed i'r tir na'r môr na'r coed nes i ni roi marc gyda sêl Duw ar dalcen y rhai sy'n ei wasanaethu.” Yna clywais faint o bobl oedd i gael eu marcio gyda'r sêl: cant pedwar deg pedwar o filoedd o bobl llwythau Israel: Cafodd deuddeg mil eu marcio o lwyth Jwda, deuddeg mil o lwyth Reuben, deuddeg mil o lwyth Gad, deuddeg mil o lwyth Aser, deuddeg mil o lwyth Nafftali, deuddeg mil o lwyth Manasse, deuddeg mil o lwyth Simeon, deuddeg mil o lwyth Lefi, deuddeg mil o lwyth Issachar, deuddeg mil o lwyth Sabulon, deuddeg mil o lwyth Joseff, a deuddeg mil o lwyth Benjamin. Edrychais eto ac roedd tyrfa enfawr o bobl o'm blaen i — tyrfa mor aruthrol fawr, doedd dim gobaith i neb hyd yn oed ddechrau eu cyfri! Roedden nhw yn dod o bob cenedl, llwyth, hil ac iaith, ac yn sefyll o flaen yr orsedd ac o flaen yr Oen. Roedden nhw'n gwisgo mentyll gwynion, ac roedd canghennau palmwydd yn eu dwylo. Roedden nhw'n gweiddi'n uchel: “Ein Duw sydd wedi'n hachub ni! — yr Un sy'n eistedd ar yr orsedd, a'r Oen!” Roedd yr holl angylion yn sefyll o gwmpas yr orsedd ac o gwmpas yr arweinwyr ysbrydol a'r pedwar creadur byw. A dyma nhw'n syrthio i lawr ar eu hwynebau o flaen yr orsedd ac yn addoli Duw, gan ddweud: “Amen! Y mawl a'r ysblander, y doethineb a'r diolch, yr anrhydedd a'r gallu a'r nerth — Duw biau'r cwbl oll, am byth bythoedd! Amen!” Yna dyma un o'r arweinyddion ysbrydol yn gofyn i mi, “Wyt ti'n gwybod pwy ydy'r bobl hyn sy'n gwisgo mentyll gwynion, ac o ble maen nhw wedi dod?” “Na, ti sy'n gwybod, syr”, meddwn innau. Yna meddai, “Dyma'r bobl sydd wedi dioddef yn y creisis mawr olaf. Maen nhw wedi golchi eu dillad yn lân yng ngwaed yr Oen. Dyna pam maen nhw yma'n sefyll o flaen gorsedd Duw, ac yn ei wasanaethu yn ei deml ddydd a nos. Bydd yr Un sy'n eistedd ar yr orsedd yn eu cadw nhw'n saff. Fyddan nhw byth eto'n dioddef o newyn na syched. Fyddan nhw byth eto yn cael eu llethu gan yr haul na gwynt poeth yr anialwch. Oherwydd bydd yr Oen sydd wrth yr orsedd yn gofalu amdanyn nhw fel bugail, ac yn eu harwain nhw at ffynhonnau o ddŵr ffres y bywyd. A bydd Duw yn sychu pob deigryn o'u llygaid nhw.” Pan agorodd yr Oen y seithfed sêl, aeth pobman yn y nefoedd yn hollol dawel am tua hanner awr. Wedyn gwelais utgyrn yn cael eu rhoi i'r saith angel sy'n sefyll o flaen Duw. Yna dyma angel arall yn dod, ac yn mynd i sefyll wrth yr allor. Roedd ganddo lestr aur yn ei ddwylo i losgi arogldarth. Dyma bentwr o arogldarth yn cael ei roi iddo, i'w losgi ar yr allor aur o flaen yr orsedd, ac i'w gyflwyno i Dduw gyda gweddïau ei bobl. Roedd mwg yr arogldarth a gweddïau pobl Dduw yn codi o law yr angel at Dduw. Yna dyma'r angel yn llenwi'r llestr gyda marwor o'r allor ac yna'n ei daflu i lawr i'r ddaear; ac roedd sŵn taranau a mellt a daeargryn. Dyma'r saith angel oedd â'r saith utgorn yn paratoi i'w canu. Dyma'r angel cyntaf yn canu ei utgorn, a dyma genllysg a thân wedi ei gymysgu â gwaed yn cael ei hyrddio ar y ddaear. Cafodd un rhan o dair o'r ddaear ei llosgi, a'r coed a'r holl blanhigion yn y rhan yna o'r byd. Dyma'r ail angel yn canu ei utgorn, a dyma rywbeth oedd yn edrych yn debyg i losgfynydd enfawr yn ffrwydro ac yn cael ei daflu i'r môr. Trodd un rhan o dair o'r môr yn waed, lladdwyd un rhan o dair o'r creaduriaid byw yn y môr, a dinistriwyd un rhan o dair o'r llongau. Dyma'r trydydd angel yn canu ei utgorn, a syrthiodd seren enfawr o'r awyr. Roedd yn llosgi'n fflamau wrth ddisgyn. Syrthiodd ar un rhan o dair o'r afonydd a'r ffynhonnau dŵr. ‛Wermod‛ oedd enw'r seren, a trodd un rhan o dair o'r dŵr yn chwerw. Y canlyniad oedd fod llawer o bobl wedi marw am fod y dŵr wedi troi'n chwerw. Dyma'r pedwerydd angel yn canu ei utgorn, a dyma un rhan o dair o'r haul a'r lleuad a'r sêr yn cael eu taro. Dyma un rhan o dair ohonyn nhw'n troi'n dywyll. Doedd dim golau am un rhan o dair o'r dydd, na'r nos chwaith. Wedyn gwelais eryr yn hedfan yn uchel yn yr awyr, a'i glywed yn gweiddi'n uchel: “Gwae! Gwae! Gwae pawb sy'n perthyn i'r ddaear, o achos beth sy'n mynd i ddigwydd pan fydd y tri angel arall yn canu eu hutgyrn!” Yna dyma'r pumed angel yn canu ei utgorn, a gwelais seren oedd wedi syrthio o'r awyr i'r ddaear. Dyma allwedd y pwll sy'n arwain i'r pydew diwaelod yn cael ei roi iddi. Pan agorodd y seren y pwll i'r pydew diwaelod daeth mwg allan ohono fel mwg yn dod o ffwrnais enfawr. Dyma'r mwg ddaeth allan o'r pwll yn achosi i'r haul a'r awyr fynd yn dywyll. Yna dyma locustiaid yn dod allan o'r mwg i lawr ar y ddaear, ac roedd y gallu i ladd fel sgorpionau wedi ei roi iddyn nhw. Dyma nhw'n cael gorchymyn i beidio gwneud niwed i'r glaswellt a'r planhigion a'r coed. Dim ond y bobl hynny oedd heb eu marcio ar eu talcennau gyda sêl Duw oedd i gael niwed. Ond doedden nhw ddim i fod i ladd y bobl hynny, dim ond eu poenydio nhw am bum mis (Roedd y boen yn debyg i'r boen mae rhywun sydd wedi cael pigiad gan sgorpion yn ei ddioddef). Bydd pobl eisiau marw, ond yn methu marw; byddan nhw'n dyheu am gael marw, ond bydd marwolaeth yn dianc o'u gafael nhw. Roedd y locustiaid yn edrych yn debyg i geffylau yn barod i fynd i frwydr, ac roedden nhw'n gwisgo rhywbeth tebyg i goron aur ar eu pennau. Roedd ganddyn nhw wynebau tebyg i wyneb dynol, a gwallt hir fel gwallt gwragedd. Roedd ganddyn nhw ddannedd fel dannedd llew. Roedd eu dwyfron fel arfwisg, fel llurig haearn, ac roedd sŵn eu hadenydd fel sŵn llawer o geffylau a cherbydau rhyfel yn rhuthro i frwydr. Roedd ganddyn nhw gynffonnau fel cynffon sgorpion, a'u pigiad yn gallu poenydio pobl am bum mis. Angel y pydew diwaelod ydy eu brenin nhw — Abadon ydy'r enw Hebraeg arno, neu Apolyon (sef ‛Y Dinistrydd‛) yn yr iaith Roeg. Mae'r trychineb cyntaf wedi digwydd; ond edrychwch, mae dau arall yn dod! Dyma'r chweched angel yn canu ei utgorn. Yna clywais lais yn dod o'r lle roedd y cyrn ar bedair cornel yr allor aur sydd o flaen Duw. Dwedodd y llais wrth y chweched angel oedd ag utgorn, “Gollwng yn rhydd y pedwar angel sydd wedi eu rhwymo wrth afon fawr Ewffrates.” Yna dyma'r pedwar angel yn cael eu gollwng yn rhydd. Roedden nhw wedi eu cadw ar gyfer yr union awr hon ar yr union ddyddiad hwn, i ladd un rhan o dair o'r ddynoliaeth. Dyma nhw'n arwain byddin o ddau gan miliwn o filwyr ar gefn ceffylau. Clywais y rhif! — dyna faint oedd yna. Dyma sut olwg oedd ar y ceffylau a'r marchogion a welais i: Roedd llurig eu harfwisg yn goch fel tân, yn las tywyll ac yn felyn fel sylffwr. Roedd pennau'r ceffylau fel pennau llewod, ac roedd tân a mwg a brwmstan yn dod allan o'u cegau. Cafodd un rhan o dair o'r ddynoliaeth eu lladd gan y plâu, sef y tân, y mwg a'r brwmstan oedd yn dod allan o'u cegau. Ond roedd gan y ceffylau rym yn eu cynffonnau hefyd. Roedd eu cynffonnau yn debyg i nadroedd gyda phennau oedd yn gallu brathu ac anafu pobl. Ond wnaeth gweddill y ddynoliaeth ddim troi cefn ar eu drygioni (sef y bobl hynny wnaeth y plâu ddim eu lladd). Roedden nhw'n dal i addoli cythreuliaid ac eilunod o aur, arian, efydd, carreg a phren — eilunod sy'n methu gweld na chlywed na cherdded! Wnaethon nhw ddim troi cefn ar yr holl lofruddio, na'r ddewiniaeth, na'r anfoesoldeb rhywiol, na'r dwyn chwaith. Yna gwelais angel pwerus arall yn dod i lawr o'r nefoedd. Roedd cwmwl wedi ei lapio amdano fel mantell, ac roedd enfys uwch ei ben. Roedd ei wyneb yn disgleirio fel yr haul, a'i goesau yn edrych fel colofnau o dân. Roedd ganddo sgrôl fechan agored yn ei law. Gosododd ei droed dde ar y môr a'i droed chwith ar y tir sych. Galwodd allan yn uchel fel llew yn rhuo. Wrth iddo weiddi, clywyd sŵn saith taran. Pan glywyd sŵn y saith taran, roeddwn ar fin ysgrifennu'r cwbl i lawr, ond clywais lais o'r nefoedd yn dweud, “Cadw beth mae'r saith taran wedi ei ddweud yn gyfrinach; paid meiddio'i ysgrifennu i lawr!” Yna dyma'r angel roeddwn wedi ei weld yn sefyll ar y môr a'r tir yn codi ei law dde. Aeth ar lw yn enw yr Un sy'n byw byth bythoedd, yr un a greodd yr awyr a'r ddaear a'r môr a phopeth sydd ynddyn nhw. Dwedodd: “Fydd dim mwy o oedi! Pan fydd y seithfed angel yn canu ei utgorn, bydd cynllun dirgel Duw wedi ei gyflawni, yn union fel roedd wedi dweud wrth ei weision y proffwydi.” Yna dyma'r llais o'r nefoedd yn siarad â mi unwaith eto: “Dos at yr angel sy'n sefyll ar y môr a'r tir, a chymer y sgrôl fach agored sydd ganddo yn ei law.” Felly dyma fi'n mynd at yr angel ac yn gofyn iddo roi y sgrôl fechan i mi. Dyma'r angel yn dweud: “Cymer hi, a bwyta hi. Bydd yn troi'n chwerw yn dy stumog, ond bydd yn felys fel mêl yn dy geg.” Dyma fi'n cymryd y sgrôl fechan o law yr angel ac yn ei bwyta. Roedd yn blasu'n felys fel mêl yn fy ngheg, ond ar ôl ei llyncu trodd yn chwerw yn fy stumog. Yna dyma nhw'n dweud wrtho i: “Rwyt ti i broffwydo eto yn erbyn llawer iawn o bobloedd, cenhedloedd, ieithoedd a brenhinoedd.” Dyma wialen hir fel ffon fesur yn cael ei rhoi i mi, a dwedwyd wrtho i, “Dos i fesur teml Dduw a'r allor, a hefyd cyfri faint o bobl sy'n addoli yno. Ond paid cynnwys y cwrt allanol, am fod hwnnw wedi ei roi i bobl o genhedloedd eraill. Byddan nhw'n cael rheoli'r ddinas sanctaidd am bedwar deg dau mis. Yna bydda i'n rhoi awdurdod i'r ddau dyst sydd gen i, a byddan nhw'n gwisgo sachliain ac yn proffwydo am fil dau gant a chwe deg diwrnod.” Nhw ydy'r ddwy goeden olewydd a'r ddwy ganhwyllbren sy'n sefyll o flaen Arglwydd y ddaear. Os oes rhywun yn ceisio gwneud niwed iddyn nhw, mae tân yn dod allan o'u cegau ac yn dinistrio eu gelynion. Dyna sut mae unrhyw un sydd am wneud niwed iddyn nhw yn marw. Maen nhw wedi cael yr awdurdod i wneud iddi beidio glawio yn ystod y cyfnod pan maen nhw'n proffwydo; ac mae ganddyn nhw'r gallu i droi dyfroedd yn waed ac i daro'r ddaear â phlâu mor aml â maen nhw eisiau. Ond pan fydd yr amser iddyn nhw dystio ar ben, bydd yr anghenfil sy'n dod allan o'r pwll diwaelod yn ymosod arnyn nhw, ac yn eu trechu a'u lladd. Bydd eu cyrff yn gorwedd ar brif stryd y ddinas fawr (sy'n cael ei galw yn broffwydol yn ‛Sodom‛ ac ‛Aifft‛) — y ddinas lle cafodd eu Harglwydd nhw ei groeshoelio. Am dri diwrnod a hanner bydd pobl o bob hil, llwyth, iaith a chenedl yn edrych ar eu cyrff ac yn gwrthod eu claddu. Bydd y bobl sy'n perthyn i'r ddaear wrth eu bodd ac yn dathlu a rhoi anrhegion i'w gilydd, am fod y ddau broffwyd yma wedi bod cymaint o boen iddyn nhw. Ond, ar ôl tri diwrnod a hanner daeth anadl oddi wrth Dduw i roi bywyd ynddyn nhw, a dyma nhw'n sefyll ar eu traed. Roedd pawb welodd nhw wedi dychryn am eu bywydau. Wedyn dyma nhw'n clywed llais pwerus o'r nefoedd yn dweud wrthyn nhw, “Dewch i fyny yma.” A dyma gwmwl yn eu codi nhw i fyny i'r nefoedd, tra roedd eu gelynion yn sefyll yn edrych ar y peth yn digwydd. Y funud honno buodd daeargryn mawr a chafodd un rhan o ddeg o'r ddinas ei dinistrio. Cafodd saith mil o bobl eu lladd gan y daeargryn. Roedd pawb oedd yn dal yn fyw wedi dychryn am eu bywydau, a dyma nhw'n dechrau clodfori Duw'r nefoedd mewn panig. Mae'r ail drychineb wedi digwydd; ond edrychwch mae trydydd ar fin dod. Dyma'r seithfed angel yn canu utgorn, ac roedd lleisiau uchel yn y nefoedd yn dweud: “Mae teyrnas y byd wedi dod yn deyrnas ein Harglwydd a'i Feseia, a bydd yn teyrnasu am byth bythoedd.” A dyma'r dau ddeg pedwar arweinydd ysbrydol, oedd yn eistedd ar eu gorseddau o flaen Duw, yn syrthio i lawr ar eu hwynebau ac yn addoli Duw, gan ddweud: “Diolch i ti, Arglwydd Dduw Hollalluog, yr Un sydd ac oedd, am gymryd yr awdurdod sydd gen ti a dechrau teyrnasu. Roedd y cenhedloedd wedi gwylltio; ond nawr mae'n amser i ti fod yn ddig. Mae'r amser wedi dod i farnu y rhai sydd wedi marw, ac i wobrwyo dy weision y proffwydi a'th bobl dy hun, a'r rhai sy'n parchu dy enw di, yn fawr a bach — a hefyd i ddinistrio'n llwyr y rhai hynny sy'n dinistrio'r ddaear.” Yna dyma ddrysau teml Dduw yn y nefoedd yn agor, ac roedd modd gweld arch yr ymrwymiad y tu mewn iddi. Ac roedd mellt a sŵn taranau a daeargryn a storm fawr o genllysg. Dyma arwydd rhyfeddol yn ymddangos yn y nefoedd: gwraig wedi ei gwisgo â'r haul. Roedd y lleuad dan ei thraed ac roedd coron o saith seren ar ei phen. Roedd y wraig yn feichiog ac yn gweiddi mewn poen am fod y plentyn wedi dechrau cael ei eni. A dyma arwydd arall yn ymddangos yn y nefoedd: draig goch enfawr oedd â saith pen ganddi, a deg corn, a saith coron ar ei phennau. Dyma gynffon y ddraig yn ysgubo un rhan o dair o'r sêr o'r awyr ac yn eu taflu i'r ddaear. Safodd y ddraig o flaen y wraig oedd ar fin geni plentyn, yn barod i lyncu ei phlentyn yr eiliad y byddai yn cael ei eni. Cafodd y wraig fab — bachgen fydd yn teyrnasu dros yr holl genhedloedd gyda theyrnwialen haearn. Dyma'r plentyn yn cael ei gipio i fyny at Dduw ac at ei orsedd. Dyma'r wraig yn dianc i'r anialwch i le oedd Duw wedi ei baratoi iddi, lle byddai hi'n ddiogel am fil dau gant chwe deg diwrnod. Yna dyma ryfel yn cychwyn yn y nefoedd. Roedd Michael a'i angylion yn ymladd yn erbyn y ddraig. Roedd y ddraig a'i hangylion yn ymladd yn ôl, ond doedd hi ddim digon cryf, a dyma nhw'n colli eu lle yn y nefoedd. Dyma'r ddraig fawr yn cael ei hyrddio i lawr (sef yr hen sarff sy'n cael ei galw ‛y diafol‛ a ‛Satan‛ ac sy'n twyllo'r byd i gyd). Cafodd ei hyrddio i lawr i'r ddaear, a'i hangylion gyda hi. Yna clywais lais uchel yn y nefoedd yn dweud: “Mae Duw wedi achub, cymryd y grym, a dod i deyrnasu, ac mae'r awdurdod gan ei Feseia. Oherwydd mae cyhuddwr y brodyr a'r chwiorydd (yr un oedd yn eu cyhuddo nhw o flaen Duw ddydd a nos), wedi cael ei hyrddio i lawr. Maen nhw wedi ennill y frwydr am fod yr Oen wedi marw'n aberth, ac am iddyn nhw dystio i'r neges. Dim ceisio amddiffyn eu hunain wnaeth y rhain — doedd ganddyn nhw ddim ofn marw. Felly bydd lawen nefoedd! Llawenhewch bawb sy'n byw yno! Ond gwae chi'r ddaear a'r môr, oherwydd mae'r diafol wedi dod i lawr atat, ac wedi gwylltio'n gandryll, am ei fod yn gwybod mai ychydig amser sydd ganddo ar ôl.” Pan sylweddolodd y ddraig ei bod wedi cael ei hyrddio i'r ddaear dyma hi'n erlid ar ôl y wraig oedd wedi rhoi genedigaeth i'r bachgen. Ond cafodd adenydd eryr mawr eu rhoi i'r wraig, iddi allu hedfan i'r lle oedd wedi ei baratoi iddi yn yr anialwch. Yno byddai hi'n saff allan o gyrraedd y ddraig am dair blynedd a hanner. Yna dyma'r sarff yn chwydu dŵr fel afon i geisio dal y wraig a'u hysgubo i ffwrdd gyda'r llif. Ond dyma'r ddaear yn helpu'r wraig drwy agor a llyncu yr afon oedd y ddraig wedi ei chwydu o'i cheg. Roedd y ddraig yn wyllt gynddeiriog gyda'r wraig, ac aeth allan i ryfela yn erbyn gweddill ei phlant — yn erbyn y rhai sy'n ufudd i orchmynion Duw ac yn dal ati i dystio i Iesu. Safodd y ddraig ar lan y môr, a gwelais anghenfil yn dod allan o'r môr. Roedd ganddo ddeg corn a saith pen. Roedd coron ar bob un o'i gyrn, ac enw cableddus ar bob un o'i bennau. Roedd yr anghenfil yn debyg i lewpard, ond roedd ei draed fel pawennau arth a'i geg fel ceg llew. Dyma'r ddraig yn rhoi iddo ei grym a'i gorsedd a'i hawdurdod mawr. Roedd un o bennau yr anghenfil yn edrych fel petai wedi derbyn anaf marwol, ond roedd yr anaf wedi cael ei iacháu. Roedd pobl y byd i gyd wedi eu syfrdanu gan hyn ac yn dilyn yr anghenfil. Roedden nhw'n addoli y ddraig am mai hi oedd wedi rhoi awdurdod i'r anghenfil, ac roedden nhw hefyd yn addoli yr anghenfil. Roedden nhw'n siantio “Pwy sydd fel yr anghenfil? Does neb yn gallu ei ymladd e!” Cafodd yr anghenfil siarad, ac roedd yn brolio ac yn cablu. Cafodd hawl i ddefnyddio ei awdurdod am bedwar deg dau o fisoedd. Bob tro roedd yn agor ei geg roedd yn cablu Duw ac yn enllibio ei enw a'i gysegr a phawb sydd â'u cartref yn y nefoedd. Cafodd ganiatâd i ryfela yn erbyn pobl Dduw ac i'w concro nhw, a cafodd awdurdod dros bob llwyth, hil, iaith a chenedl. Yn wir, bydd pawb sy'n perthyn i'r ddaear yn addoli'r anghenfil — pawb dydy eu henwau nhw ddim wedi eu cofnodi yn Llyfr y Bywyd ers i'r byd gael ei greu (sef llyfr yr Oen gafodd ei ladd yn aberth). Dylai pawb wrando'n ofalus ar hyn! Y rhai sydd i gael eu caethiwo, byddan nhw'n cael eu caethiwo. Y rhai sydd i gael eu lladd â'r cleddyf, byddan nhw'n cael eu lladd â'r cleddyf. Mae hyn yn dangos bod rhaid i bobl Dduw ddangos dycnwch a bod yn ffyddlon. Gwelais anghenfil arall wedyn, yn codi o'r ddaear. Roedd ganddo ddau gorn yr un fath ag oen, ond roedd yn swnio fel draig. Roedd yn gweinyddu holl awdurdod yr anghenfil cyntaf ar ei ran. Roedd yn gwneud i bawb oedd yn byw ar y ddaear addoli yr anghenfil cyntaf, sef yr un â'r anaf marwol oedd wedi cael ei iacháu. Roedd yn gwneud gwyrthiau anhygoel — hyd yn oed yn gwneud i dân ddisgyn o'r nefoedd i'r ddaear o flaen llygaid pawb. Am ei fod yn gallu gwneud gwyrthiau ar ran yr anghenfil cyntaf, llwyddodd i dwyllo pawb oedd yn perthyn i'r ddaear. Rhoddodd orchymyn iddyn nhw godi delw er anrhydedd i'r anghenfil cyntaf oedd wedi ei anafu gan y cleddyf ac eto'n dal yn fyw. Ond hefyd cafodd y gallu i roi anadl i'r ddelw o'r anghenfil cyntaf, fel bod hwnnw'n gallu siarad a gwneud i bawb oedd yn gwrthod addoli'r ddelw gael eu lladd. Roedd hefyd yn gorfodi pawb i gael marc ar eu llaw dde ac ar eu talcen — ie, pawb, yn fach a mawr, cyfoethog a thlawd, dinasyddion rhydd a chaethweision. Doedd neb yn gallu prynu a gwerthu oni bai fod ganddyn nhw y marc, sef enw yr anghenfil neu'r rhif sy'n cyfateb i'w enw. Mae angen doethineb i ddeall hyn. Bydd y rhai sydd â dirnadaeth yn deall beth ydy ystyr rhif yr anghenfil — mae'n cynrychioli person arbennig. Y rhif ydy chwe chant chwe deg chwech. Edrychais wedyn, a dyma welais: yr Oen yn sefyll ar Fynydd Seion. Roedd cant pedwar deg pedwar mil o bobl gydag e, ac roedd ei enw e ac enw ei Dad ar eu talcennau. Yna clywais sŵn o'r nefoedd oedd yn debyg i raeadrau o ddŵr neu daran uchel. Sŵn telynorion yn canu eu telynau oedd e. Dyna ble roedden nhw, yn canu cân newydd o flaen yr orsedd a'r pedwar creadur byw a'r arweinwyr ysbrydol. Dim ond y cant pedwar deg pedwar mil o bobl oedd wedi eu rhyddhau o'r ddaear oedd yn gallu dysgu'r gân hon. Dyma'r rhai sydd wedi cadw eu hunain yn bur, ac heb halogi eu hunain gyda gwragedd. Maen nhw'n dilyn yr Oen ble bynnag mae e'n mynd. Maen nhw wedi cael eu prynu i ryddid o blith y ddynoliaeth a'u cyflwyno i Dduw a'r Oen fel ffrwythau cyntaf y cynhaeaf. Wnaethon nhw ddim dweud celwydd. Maen nhw'n gwbl ddi-fai. Wedyn gwelais angel arall yn hedfan yn uchel yn yr awyr, ac roedd ganddo neges dragwyddol i'w chyhoeddi i bawb sy'n byw ar y ddaear; i bobl o bob cenedl, llwyth, iaith, a hil. Roedd yn cyhoeddi'n uchel, “Ofnwch Dduw, a rhoi'r clod iddo! Mae'r amser iddo farnu wedi dod. Addolwch yr Un greodd y nefoedd, y ddaear, y môr a'r ffynhonnau dŵr!” Dyma ail angel yn ei ddilyn gan gyhoeddi hyn: “ Mae wedi syrthio! Mae Babilon fawr wedi syrthio! — yr un wnaeth i'r holl genhedloedd yfed gwin ei chwant anfoesol nwydwyllt.” Yna daeth trydydd angel ar eu hôl yn cyhoeddi'n uchel: “Pwy bynnag sy'n addoli'r anghenfil a'i ddelw, ac sydd â'i farc ar eu talcen neu ar eu llaw, bydd rhaid iddyn nhw yfed gwin digofaint Duw. Mae'n win cryf ac wedi ei dywallt i gwpan ei lid. Byddan nhw'n cael eu poenydio gyda thân a brwmstan yng ngwydd yr angylion sanctaidd a'r Oen. A bydd y mwg o'r tân sy'n eu poenydio yn codi am byth bythoedd. Fydd dim gorffwys o gwbl i'r rhai sy'n addoli'r anghenfil a'i ddelw, nac i unrhyw un sydd wedi ei farcio â'i enw.” Mae hyn yn dangos fod dycnwch pobl Dduw yn golygu bod yn ufudd i orchmynion Duw ac aros yn ffyddlon i Iesu. Wedyn clywais lais o'r nefoedd yn dweud: “Ysgrifenna hyn: Mae'r bobl sydd wedi marw ar ôl dod i berthyn i'r Arglwydd wedi eu bendithio'n fawr!” “Ydyn wir!” meddai'r Ysbryd, “Byddan nhw'n gorffwys o'u gwaith caled. A bydd cofnod o beth wnaethon nhw yn mynd ar eu holau.” Edrychais eto, ac roedd cwmwl gwyn o'm blaen i. Roedd un “oedd yn edrych fel person dynol” yn eistedd ar y cwmwl; roedd ganddo goron o aur am ei ben a chryman miniog yn ei law. Yna daeth angel arall allan o'r deml a galw'n uchel ar yr un oedd yn eistedd ar y cwmwl, “Defnyddia dy gryman i ddechrau medi'r cynhaeaf! Mae cynhaeaf y ddaear yn aeddfed ac mae'n amser medi.” Felly dyma'r un oedd yn eistedd ar y cwmwl yn defnyddio'i gryman ar y ddaear ac yn casglu'r cynhaeaf. Daeth angel arall allan o'r deml yn y nefoedd, ac roedd ganddo yntau gryman miniog. Yna daeth angel arall eto allan o'r cysegr (yr un oedd yn gofalu am y tân ar yr allor). Galwodd yn uchel ar yr angel oedd â'r cryman miniog ganddo, “Defnyddia dy gryman i gasglu y sypiau grawnwin o winwydden y ddaear. Mae ei ffrwyth yn aeddfed.” Felly dyma'r angel yn defnyddio'i gryman ar y ddaear, ac yn casglu'r cynhaeaf grawnwin a'i daflu i mewn i winwryf mawr digofaint Duw. Cafodd y gwinwryf ei sathru y tu allan i waliau'r ddinas, a llifodd gwaed allan ohono. Roedd cymaint o waed nes ei fod mor uchel â ffrwynau ceffylau am bellter o tua 300 cilomedr. Gwelais arwydd arall yn y nefoedd, un anhygoel a rhyfeddol: Saith angel gyda'r saith pla olaf. Y plâu yma fyddai'r mynegiant olaf o ddigofaint Duw. A gwelais rywbeth oedd yn edrych yn debyg i fôr o wydr a thân fel petai'n ymledu drwyddo. Ar lan y môr o wydr safai'r bobl oedd wedi ennill y frwydr yn erbyn yr anghenfil a'i ddelw, a hefyd y rhif oedd yn cyfateb i'w enw. Roedd ganddyn nhw delynau roedd Duw wedi eu rhoi iddyn nhw, ac roedden nhw'n canu cân Moses, gwas Duw, a chân yr Oen: “Mae popeth rwyt yn ei wneud mor anhygoel a rhyfeddol Arglwydd Dduw Hollalluog. Mae beth rwyt yn ei wneud yn gyfiawn a theg, Frenin pob oes. Pwy fyddai ddim yn dy barchu di, a chanmol dy enw di, Arglwydd? Oherwydd dim ond ti sy'n sanctaidd. Bydd pobl y gwledydd i gyd yn dod i addoli o dy flaen di, oherwydd mae'n amlwg fod beth wnaethost ti yn gyfiawn.” Yna ces i weledigaeth arall. Roedd y deml, sef ‛pabell y dystiolaeth‛, ar agor yn y nefoedd. Allan ohoni daeth y saith angel gyda'r saith pla. Roedden nhw wedi eu gwisgo mewn lliain glân disglair, gyda sash aur am eu canol. Wedyn dyma un o'r pedwar creadur byw yn rhoi powlen aur i bob un o'r saith angel. Roedd y powlenni yn llawn o ddigofaint y Duw sy'n byw am byth bythoedd. Yna dyma fwg ysblander a nerth Duw yn llenwi'r deml. Doedd neb yn gallu mynd i mewn i'r deml nes i saith pla y saith angel ddigwydd. Wedyn clywais lais o'r deml yn dweud yn glir wrth y saith angel, “Ewch! Tywalltwch saith powlen digofaint Duw ar y ddaear!” Dyma'r angel cyntaf yn mynd ac yn tywallt beth oedd yn ei fowlen ar y tir. Dyma friwiau cas yn dod i'r golwg ar gyrff y bobl hynny oedd â marc yr anghenfil arnyn nhw ac oedd yn addoli ei ddelw. Yna dyma'r ail angel yn tywallt beth oedd yn ei fowlen e ar y môr, a throdd fel gwaed rhywun oedd wedi marw. Dyma bopeth yn y môr yn marw. Yna dyma'r trydydd angel yn tywallt beth oedd yn ei fowlen ar yr afonydd a'r ffynhonnau dŵr, a dyma nhw'n troi'n waed. A dyma fi'n clywed yr angel oedd yn gyfrifol am y dyfroedd yn dweud: “Rwyt ti'n gyfiawn wrth gosbi fel hyn — yr Un sydd, ac oedd — yr Un Sanctaidd! Maen nhw wedi tywallt gwaed dy bobl di a'th broffwydi, ac rwyt ti wedi rhoi gwaed iddyn nhw ei yfed. Dyna maen nhw yn ei haeddu!” A dyma fi'n clywed rhywun o'r allor yn ateb: “Ie wir, Arglwydd Dduw Hollalluog, mae dy ddyfarniad di bob amser yn deg ac yn gyfiawn.” Dyma'r pedwerydd angel yn tywallt beth oedd yn ei fowlen e ar yr haul, a dyma'r haul yn cael y gallu i losgi pobl gyda'i wres. Ond y cwbl wnaeth y bobl gafodd eu llosgi yn y gwres tanbaid oedd melltithio enw Duw, yr Un oedd yn rheoli'r plâu. Roedden nhw'n gwrthod newid eu ffyrdd a rhoi'r clod iddo. Yna dyma'r pumed angel yn tywallt beth oedd yn ei fowlen e ar orsedd yr anghenfil, a dyma'i deyrnas yn cael ei bwrw i dywyllwch dudew. Roedd pobl yn brathu eu tafodau mewn poen ac yn melltithio Duw y nefoedd o achos y poen a'r briwiau ar eu cyrff. Ond roedden nhw'n gwrthod newid eu ffyrdd a throi cefn ar beth roedden nhw'n ei wneud. Yna dyma'r chweched angel yn tywallt beth oedd yn ei fowlen e ar yr afon fawr Ewffrates. Sychodd yr afon fel bod brenhinoedd o'r dwyrain yn gallu ei chroesi. Wedyn gwelais dri ysbryd drwg oedd yn edrych rywbeth tebyg i lyffaint. Daethon nhw allan o geg y ddraig, a cheg yr anghenfil a cheg y proffwyd ffug. Ysbrydion cythreulig ydyn nhw, a'r gallu ganddyn nhw i wneud gwyrthiau rhyfeddol. Dyma nhw'n mynd allan at frenhinoedd y ddaear i'w casglu at ei gilydd i ymladd yn y frwydr olaf ar ddiwrnod mawr y Duw Hollalluog. “Edrychwch! Dw i'n dod fel lleidr!” meddai Iesu. “Bydd y rhai sy'n cadw'n effro yn cael eu bendithio'n fawr! Bydd dillad ganddyn nhw, a fyddan nhw ddim yn cerdded o gwmpas yn noeth ac yn teimlo cywilydd pan fydd pobl yn edrych arnyn nhw.” Felly dyma'r ysbrydion drwg yn casglu'r brenhinoedd at ei gilydd i'r lle sy'n cael ei alw yn Hebraeg yn Armagedon. Dyma'r seithfed angel yn tywallt beth oedd yn ei fowlen e i'r awyr, a dyma lais uchel o'r orsedd yn y deml yn dweud, “Dyna'r diwedd!” Ac roedd mellt a sŵn taranau a daeargryn mawr. Fuodd yna erioed ddaeargryn mor ofnadwy yn holl hanes y byd — roedd yn aruthrol! Dyma'r ddinas fawr yn hollti'n dair, a dyma ddinasoedd y cenhedloedd i gyd yn cael eu chwalu. Cofiodd Duw beth oedd Babilon fawr wedi ei wneud a rhoddodd iddi y gwpan oedd yn llawn o win ei ddigofaint ffyrnig. Diflannodd pob ynys a doedd dim mynyddoedd i'w gweld yn unman. Yna dyma genllysg anferthol yn disgyn ar bobl o'r awyr — yn pwyso tua 40 cilogram yr un! Roedd y bobl yn melltithio Duw o achos y pla o genllysg, am fod y pla mor ofnadwy. Dyma un o'r saith angel gyda'r powlenni yn dod ata i, a dweud, “Tyrd, a gwna i ddangos i ti y gosb mae'r butain fawr sy'n eistedd ar ddyfroedd lawer yn ei ddioddef. Mae brenhinoedd y ddaear wedi cael rhyw gyda hi, a phobl y byd i gyd wedi meddwi ar win ei hanfoesoldeb.” Dyma'r angel yn fy nghodi fi dan ddylanwad yr Ysbryd a mynd â fi i anialwch. Yno gwelais wraig yn eistedd ar gefn anghenfil ysgarlad. Roedd gan yr anghenfil saith pen a deg corn, ac roedd wedi ei orchuddio gydag enwau cableddus. Roedd y wraig yn gwisgo gwisg o borffor ac ysgarlad, ac wedi addurno ei hun gyda thlysau o aur a gemau gwerthfawr a pherlau. Roedd ganddi gwpan aur yn ei llaw, yn llawn o bethau ffiaidd a budreddi ei hanfoesoldeb. Ar ei thalcen roedd teitl cryptig wedi ei ysgrifennu: BABILON FAWR, MAM PUTEINIAID A PHETHAU FFIAIDD Y DDAEAR Gwelais fod y wraig wedi meddwi ar waed pobl Dduw, sef gwaed y bobl hynny oedd wedi bod yn dystion i Iesu. Pan welais hi roeddwn i'n gwbl ddryslyd. A dyma'r angel yn gofyn i mi, “Pam rwyt ti'n teimlo'n ddryslyd? Gad i mi esbonio i ti ystyr cudd y wraig a'r anghenfil mae hi'n eistedd ar ei gefn, yr un gyda'r saith pen a'r deg corn. Roedd yr anghenfil welaist ti yn fyw ar un adeg, ond ddim bellach. Ond mae ar fin dod allan o'r pydew diwaelod i gael ei ddinistrio. Bydd pawb sy'n perthyn i'r ddaear (y rhai dydy eu henwau nhw ddim wedi eu cofnodi yn Llyfr y Bywyd ers i'r byd gael ei greu), yn syfrdan pan fyddan nhw'n gweld yr anghenfil oedd yn fyw ar un adeg, ond ddim mwyach, ac sy'n mynd i ddod yn ôl eto. Mae angen meddwl craff a dirnadaeth i ddeall hyn. Saith bryn ydy'r saith pen mae'r wraig yn eistedd arnyn nhw. Maen nhw hefyd yn cynrychioli saith brenin. Mae pump ohonyn nhw eisoes wedi syrthio, mae un yn frenin ar hyn o bryd, ac mae'r llall heb ddod eto. Pan fydd hwnnw'n dod, fydd e ond yn aros am amser byr. Yr anghenfil oedd yn fyw ar un adeg, ond ddim bellach, ydy'r wythfed brenin (y mae yntau yr un fath â'r saith, ac yn mynd i gael ei ddinistrio). “Mae'r deg corn welaist ti yn cynrychioli deg brenin sydd heb deyrnasu eto, ond byddan nhw'n cael awdurdod i deyrnasu gyda'r anghenfil am amser byr. Maen nhw i gyd yn rhannu'r un bwriad, a byddan nhw'n rhoi eu hawdurdod i'r anghenfil. Byddan nhw'n rhyfela yn erbyn yr Oen, ond bydd yr Oen yn ennill y frwydr am ei fod yn Arglwydd ar arglwyddi ac yn Frenin ar frenhinoedd. A bydd ei ddilynwyr ffyddlon — y rhai sydd wedi eu galw a'u dewis ganddo — yn rhannu'r fuddugoliaeth gydag e.” Wedyn dyma'r angel yn mynd ymlaen i ddweud hyn wrtho i: “Mae'r dyfroedd welaist ti, lle mae'r butain yn eistedd, yn cynrychioli'r gwahanol bobloedd, tyrfaoedd, cenhedloedd ac ieithoedd. Bydd y deg corn welaist ti, a'r anghenfil hefyd, yn dod i gasáu y butain. Byddan nhw yn ei dinistrio hi'n llwyr ac yn ei gadael yn gwbl noeth; byddan nhw'n llarpio ei chnawd ac yn ei llosgi â thân. Mae Duw wedi plannu'r syniad yn eu meddyliau nhw er mwyn cyflawni ei bwrpas, a hefyd wedi eu cael nhw i rannu'r un bwriad ac i roi eu hawdurdod brenhinol i'r anghenfil, nes bydd beth ddwedodd Duw yn dod yn wir. Y wraig welaist ti ydy'r ddinas fawr sy'n llywodraethu dros frenhinoedd y ddaear.” Yna gwelais angel arall yn dod i lawr o'r nefoedd. Roedd ganddo awdurdod mawr, ac roedd ei ysblander yn goleuo'r ddaear. Cyhoeddodd yn uchel: “Mae wedi syrthio! Mae Babilon fawr wedi syrthio! Mae wedi troi'n gartref i gythreuliaid ac yn gyrchfan i'r holl ysbrydion drwg ac i bob aderyn aflan, ac i bob anifail aflan a ffiaidd. Mae'r holl genhedloedd wedi yfed gwin ei chwant anfoesol nwydwyllt. Mae brenhinoedd y ddaear wedi cael rhyw gyda'r butain, ac mae pobl fusnes y ddaear wedi ennill cyfoeth mawr o'i moethusrwydd eithafol.” Wedyn clywais lais arall o'r nefoedd yn dweud: “Fy mhobl, dewch allan o'r ddinas, er mwyn i chi beidio pechu gyda hi. Wedyn bydd y plâu fydd yn dod i'w chosbi hi ddim yn eich cyffwrdd chi. Mae ei phechodau hi yn bentwr anferth i'r nefoedd, ac mae Duw wedi cofio ei holl droseddau hi. Gwna iddi hi beth mae hi wedi ei wneud i eraill; tala nôl iddi ddwywaith cymaint ag mae wedi ei wneud. Rho iddi siâr ddwbl o'i ffisig ei hun! Yn lle'r ysblander a'r moethusrwydd gymerodd iddi ei hun, rho'r un mesur o boen a gofid iddi hi. Mae hi mor siŵr ohoni hi ei hun! ‘Brenhines ydw i, yn eistedd ar orsedd; fydda i ddim yn weddw, a fydd dim rhaid i mi alaru byth!’ meddai. Dyna'n union pam bydd y plâu yn ei tharo'n sydyn: marwolaeth, galar a newyn. Bydd yn cael ei dinistrio gan dân, oherwydd mae'r Arglwydd Dduw sy'n ei barnu hi yn Dduw grymus! “Bydd brenhinoedd y ddaear gafodd ryw gyda'r butain a rhannu ei moethusrwydd, yn crïo'n chwerw wrth weld y mwg yn codi pan gaiff ei llosgi. Byddan nhw'n sefyll yn bell i ffwrdd, mewn dychryn wrth weld beth mae'n ei ddioddef, ac yn gweiddi: ‘Och! Och! Ti ddinas fawr! Babilon, y ddinas oedd â'r fath rym! — Daeth dy ddiwedd mor sydyn!’ “Bydd pobl fusnes y ddaear yn crïo ac yn galaru drosti hi am fod neb yn prynu ei chargo ddim mwy — cargo o aur, arian, gemau gwerthfawr a pherlau, lliain main, defnydd porffor, sidan ac ysgarlad; nwyddau o goed Sitron, pethau wedi eu gwneud o ifori, a pob math o bethau eraill wedi eu gwneud o goed gwerthfawr, o efydd, haearn ac o farmor; sinamon a pherlysiau, arogldarth fel myrr a thus, hefyd gwin ac olew olewydd, blawd mân a gwenith; gwartheg, defaid, ceffylau a cherbydau; a chaethweision hefyd — ie, pobl yn cael eu gwerthu fel anifeiliaid. “Mae'r holl bethau roeddet ti'n dyheu amdanyn nhw wedi mynd! Dy holl gyfoeth a dy grandrwydd wedi diflannu! Fyddan nhw fyth yn dod nôl! Bydd y bobl fusnes gafodd arian mawr wrth werthu'r pethau hyn iddi, yn sefyll yn bell i ffwrdd, mewn dychryn wrth weld beth mae'n ei ddioddef. Byddan nhw'n crïo ac yn galaru ac yn gweiddi: ‘Och! Och! Ti ddinas fawr! wedi dy wisgo mewn defnydd hardd a gwisg o borffor ac ysgarlad, a'th addurno dy hun â thlysau o aur a gemau gwerthfawr a pherlau! Mae'r fath gyfoeth wedi ei ddinistrio mor sydyn!’ “Bydd capteiniaid llongau a phawb sy'n teithio ar y môr, yn forwyr a phawb arall sy'n ennill eu bywoliaeth o'r môr, yn sefyll yn bell i ffwrdd. Wrth weld y mwg yn codi am ei bod hi'n llosgi, byddan nhw'n gweiddi, ‘Oes dinas arall debyg i'r ddinas fawr hon?’ Byddan nhw'n taflu pridd ar eu pennau, ac yn crïo a galaru a gweiddi'n uchel: ‘Och! Och! Ddinas fawr! cafodd pawb oedd ganddyn nhw longau ar y môr gyfoeth am ei bod hi mor gyfoethog! Mae hi wedi ei dinistrio mor sydyn!’ Bydd lawen, nefoedd, am beth sydd wedi digwydd iddi, Byddwch lawen, chi bobl Dduw, a'i gynrychiolwyr a'i broffwydi — Mae Duw wedi ei barnu hi am y ffordd wnaeth hi eich trin chi!” Wedyn dyma angel pwerus yn codi anferth o garreg fawr, tebyg i faen melin mawr, a'i thaflu i'r môr; ac meddai: “Dyna sut fydd Babilon, y ddinas fawr, yn cael ei bwrw i lawr yn ffyrnig — fydd neb yn ei gweld byth mwy! Fydd dim sŵn telynau na cherddorion, ffliwtiau nac utgyrn, i'w clywed ynot eto. Neb sy'n dilyn unrhyw grefft i'w weld ynot eto. Dim sŵn maen melin yn troi; Dim golau lamp i'w weld; Dim sŵn gwledd briodas i'w glywed. Ti oedd y ganolfan fusnes fwyaf dylanwadol yn y byd i gyd, hudaist y cenhedloedd a'u harwain ar gyfeiliorn. Yn wir, Babilon wnaeth dywallt gwaed y proffwydi a phobl Dduw; a phawb yn y byd gafodd eu lladd ar gam.” Wedyn clywais rywbeth oedd yn swnio'n debyg i dyrfa enfawr o bobl yn y nefoedd yn gweiddi: “Haleliwia! Duw sy'n achub; a fe biau'r anrhydedd a'r nerth! Mae ei ddyfarniad e bob amser yn deg ac yn gyfiawn. Mae wedi condemnio'r butain fawr a lygrodd y ddaear gyda'i hanfoesoldeb rhywiol. Mae wedi dial arni hi am ladd y bobl oedd yn ei wasanaethu.” A dyma nhw'n gweiddi eto: “Haleliwia! Mae'r mwg sy'n codi ohoni yn para byth bythoedd.” Dyma'r dau ddeg pedwar arweinydd ysbrydol a'r pedwar creadur byw yn syrthio i lawr ar eu hwynebau ac yn addoli Duw, oedd yn eistedd ar yr orsedd, a chanu: “Amen! Haleliwia!” Wedyn dyma lais yn dod o'r orsedd yn dweud: “Molwch ein Duw! Pawb sy'n ei wasanaethu, a chi sy'n ei ofni, yn fawr a bach!” Wedyn clywais rywbeth oedd yn swnio'n debyg i dyrfa enfawr o bobl, neu sŵn rhaeadrau o ddŵr neu daran uchel: “Haleliwia! Mae'r Arglwydd Dduw Hollalluog wedi dechrau teyrnasu. Gadewch i ni ddathlu a gorfoleddu a rhoi clod iddo! Mae diwrnod priodas yr Oen wedi cyrraedd, ac mae'r ferch sydd i'w briodi wedi gwneud ei hun yn barod. Mae hi wedi cael gwisg briodas o ddefnydd hardd, disglair a glân.” (Mae'r defnydd hardd yn cynrychioli gweithredoedd da pobl Dduw.) Wedyn dyma'r angel yn dweud wrtho i, “Ysgrifenna hyn i lawr: ‘Mae'r rhai sy'n cael gwahoddiad i wledd briodas yr Oen wedi eu bendithio'n fawr!’” Wedyn dyma fe'n dweud, “Neges gan Dduw ydy hon, ac mae'n wir.” Yna syrthiais i lawr wrth ei draed a'i addoli. Ond meddai, “Paid! Duw ydy'r unig un rwyt i'w addoli! Un sy'n gwasanaethu Duw ydw i, yn union yr un fath â ti a'th frodyr a'th chwiorydd sy'n glynu wrth y dystiolaeth sydd wedi ei rhoi gan Iesu. Mae'r dystiolaeth sydd wedi ei rhoi gan Iesu a phroffwydoliaeth yr Ysbryd yr un fath.” Roedd y nefoedd yn llydan ar agor, ac o'm blaen i roedd ceffyl gwyn â marchog ar ei gefn. ‛Yr Un ffyddlon‛ ydy'r enw arno, a'r ‛Un gwir‛. Mae'n gyfiawn yn y ffordd mae'n barnu ac yn ymladd yn erbyn ei elynion. Roedd ei lygaid fel fflam dân, ac roedd llawer o goronau ar ei ben. Roedd ganddo enw wedi ei ysgrifennu arno, a neb yn gwybod yr enw ond fe'i hun. Roedd yn gwisgo mantell oedd wedi ei throchi mewn gwaed, a'i enw oedd ‛Gair Duw‛. Roedd byddinoedd y nefoedd yn ei ddilyn, yn marchogaeth ar geffylau gwynion ac yn gwisgo dillad o liain main gwyn glân. Roedd cleddyf miniog yn dod allan o'i geg, a bydd yn ei ddefnyddio i daro'r cenhedloedd i lawr. “Bydd yn teyrnasu drostyn nhw gyda theyrnwialen haearn.” Bydd yn sathru'r gwinwryf (sy'n cynrychioli digofaint ffyrnig y Duw Hollalluog). Ar ei fantell wrth ei glun mae'r teitl hwn wedi ei ysgrifennu: BRENIN AR FRENHINOEDD AC ARGLWYDD AR ARGLWYDDI. Yna gwelais angel yn sefyll ar yr haul, ac yn galw'n uchel ar yr holl adar oedd yn hedfan yn yr awyr, “Dewch at eich gilydd i fwynhau'r wledd sydd gan Dduw ar eich cyfer chi! Cewch fwyta cyrff marw brenhinoedd, arweinwyr milwrol, milwyr, ceffylau a'u marchogion, a chyrff marw pob math o bobl — dinasyddion rhydd a chaethweision, pobl gyffredin a phobl fawr.” Wedyn gwelais yr anghenfil a brenhinoedd y ddaear a'u byddinoedd wedi casglu at ei gilydd i ymladd yn erbyn yr un oedd yn marchogaeth y ceffyl, ac yn erbyn ei fyddin. Ond daliwyd yr anghenfil, a hefyd y proffwyd ffug oedd wedi gwneud gwyrthiau rhyfeddol ar ei ran. Gyda'i wyrthiau roedd wedi llwyddo i dwyllo y bobl hynny oedd wedi eu marcio gyda marc yr anghenfil ac wedi addoli ei ddelw. Cafodd yr anghenfil a'r proffwyd ffug eu taflu yn fyw i'r llyn tân sy'n llosgi brwmstan. Cafodd y gweddill ohonyn nhw eu lladd gan y cleddyf oedd yn dod allan o geg yr un oedd yn marchogaeth ar gefn y ceffyl. Daeth yr holl adar a gwledda ar y cyrff marw. Yna gwelais angel yn dod i lawr o'r nefoedd, gyda'r allwedd i'r pydew diwaelod, ac roedd cadwyn drom yn ei law. Gafaelodd yn y ddraig (yr hen sarff, sef ‛y diafol‛, ‛Satan‛ ), a'i rhwymo'n gaeth am fil o flynyddoedd. Dyma'r angel yn ei thaflu hi i lawr i'r pydew diwaelod, ai gloi a'i selio er mwyn rhwystro'r ddraig rhag twyllo'r cenhedloedd ddim mwy, nes bydd y mil o flynyddoedd drosodd. Ar ôl hynny mae'n rhaid iddi gael ei gollwng yn rhydd am gyfnod byr. Wedyn gwelais orseddau, a'r rhai oedd wedi cael yr awdurdod i farnu yn eistedd arnyn nhw. A gwelais y rhai oedd wedi cael eu dienyddio am dystio i Iesu ac am gyhoeddi neges Duw yn ffyddlon. Doedd y rhain ddim wedi addoli'r anghenfil na'i ddelw, a doedd ei farc ddim wedi cael ei roi ar eu talcennau a'u dwylo. Dyma nhw'n dod yn fyw ac yn teyrnasu gyda'r Meseia am fil o flynyddoedd. (Wnaeth pawb arall oedd wedi marw ddim dod yn ôl yn fyw nes oedd y mil o flynyddoedd drosodd.) Dyma'r atgyfodiad cyntaf. Mae'r rhai sydd wedi eu neilltuo ac sy'n cael bod yn rhan o'r atgyfodiad cyntaf yma wedi eu bendithio'n fawr! Does gan beth sy'n cael ei alw'n ‛ail farwolaeth‛ ddim gafael ynddyn nhw. Byddan nhw'n offeiriaid yn gwasanaethu Duw a'r Meseia, a byddan nhw'n teyrnasu gydag e am fil o flynyddoedd. Pan fydd y mil o flynyddoedd drosodd bydd Satan yn cael ei ryddhau o'i garchar. Bydd yn mynd allan i bedwar ban byd i dwyllo'r cenhedloedd — Gog a Magog — ac yn eu casglu at ei gilydd i ymladd yn y frwydr. Nifer enfawr ohonyn nhw, fel y tywod ar lan y môr! Dyma nhw'n martsio o un pen i'r ddaear i'r llall ac yn amgylchynu gwersyll pobl Dduw, sef y ddinas mae Duw yn ei charu. Ond daeth tân i lawr o'r nefoedd a'u dinistrio nhw. A dyma'r diafol oedd wedi eu twyllo nhw yn cael ei daflu i'r llyn tân sy'n llosgi brwmstan, ble roedd yr anghenfil a'r proffwyd ffug wedi cael eu taflu. Byddan nhw'n cael eu poenydio ddydd a nos am byth bythoedd. Yna gwelais orsedd wen fawr a Duw yn eistedd arni. Dyma'r ddaear a'r awyr yn dianc oddi wrtho ac yn diflannu am byth. A dyma fi'n gweld pawb oedd wedi marw, pobl fawr a phobl gyffredin, yn sefyll o flaen yr orsedd. Dyma'r llyfrau amdanyn nhw yn cael eu hagor. Yna agorwyd llyfr arall, sef Llyfr y Bywyd. Cafodd pob un ei farnu am beth roedd wedi ei wneud — roedd popeth amdanyn nhw wedi cael ei gofnodi yn y llyfrau. Dyma'r môr yn rhoi yn ôl y bobl oedd wedi marw ynddo, a dyma Marwolaeth a Byd y Meirw yn rhoi'r bobl oedd ynddyn nhw yn ôl. Yna cafodd pob un ei farnu am beth roedd wedi ei wneud. Wedyn cafodd Marwolaeth a Byd y Meirw eu taflu i'r llyn tân. Y llyn tân ydy'r ‛ail farwolaeth‛. Cafodd pob un doedd eu henwau nhw ddim wedi eu hysgrifennu yn Llyfr y Bywyd eu taflu i'r llyn tân. Yna gwelais nefoedd newydd a daear newydd. Roedd y ddaear a'r awyr gyntaf wedi diflannu. Doedd y môr ddim yn bodoli ddim mwy. Dyma fi'n gweld y ddinas sanctaidd, y Jerwsalem newydd, yn dod i lawr oddi wrth Dduw yn y nefoedd. Roedd yn edrych fel merch ifanc wedi ei gwisgo'n hardd ar gyfer ei phriodas. Wedyn clywais lais o'r orsedd yn cyhoeddi'n glir, “Bellach mae pabell Duw yng nghanol y bobloedd. Bydd yn byw yn eu canol nhw, a byddan nhw'n bobl iddo. Bydd Duw ei hun gyda nhw, a fe fydd eu Duw nhw. Bydd yn sychu pob deigryn o'u llygaid nhw. Fydd dim marwolaeth o hyn ymlaen, dim galaru, dim wylo, dim poen. Mae pethau fel yr oedden nhw wedi mynd.” Dyma'r Un oedd yn eistedd ar yr orsedd yn dweud, “Edrychwch! Dw i'n gwneud popeth yn newydd!” Meddai wedyn, “Ysgrifenna hynny i lawr. Mae beth dw i'n ei ddweud yn gwbl ddibynadwy ac yn wir.” Meddai wrtho i: “Dyna ddiwedd y cwbl! Fi ydy'r Alffa a'r Omega, y Dechrau a'r Diwedd. Bydda i'n rhoi diod o ffynnon dŵr y bywyd i'r rhai hynny sy'n sychedig — yn rhad ac am ddim! Bydd y rhai sy'n ennill y frwydr yn etifeddu'r pethau yma i gyd. Fi fydd eu Duw nhw, a byddan nhw'n blant i mi. Ond am y rhai llwfr hynny sydd ddim yn credu, a phobl ffiaidd, llofruddion, pobl sy'n anfoesol yn rhywiol, y rhai sy'n ymarfer dewiniaeth ac yn addoli eilun-dduwiau, ac sy'n dweud celwydd — y llyn tân sy'n llosgi brwmstan ydy eu lle nhw! Dyna'r ‛ail farwolaeth‛.” Yna dyma un o'r saith angel oedd yn dal y powlenni llawn o'r saith pla olaf yn dod ata i a dweud, “Tyrd, a gwna i ddangos y briodferch i ti, sef gwraig yr Oen.” Dyma'r angel yn fy nghodi dan ddylanwad yr Ysbryd a mynd a fi i fynydd mawr uchel. Dangosodd y ddinas sanctaidd i mi, Jerwsalem, yn dod i lawr oddi wrth Dduw yn y nefoedd. Roedd ysblander Duw ei hun yn tywynnu ohoni; roedd hi'n disgleirio fel gem anhygoel o werthfawr — fel iasbis, yn glir fel grisial! Roedd anferth o wal uchel o'i chwmpas gyda deuddeg giât ynddi, a deuddeg angel yn gwarchod y giatiau. Roedd enwau deuddeg llwyth Israel wedi eu hysgrifennu ar y giatiau. Roedd tair giât ar yr ochr ddwyreiniol, tair i'r gogledd, tair i'r de a thair i'r gorllewin. Roedd gan wal y ddinas ddeuddeg carreg sylfaen, ac roedd enwau deuddeg cynrychiolydd yr Oen wedi eu hysgrifennu ar y rheiny. Roedd ffon fesur aur gan yr angel oedd yn siarad gyda mi, er mwyn iddo fesur y ddinas, ei giatiau a'i waliau. Roedd y ddinas yn berffaith sgwâr. Pan fesurodd yr angel y ddinas gyda'r ffon fesur cafodd ei bod hi'n 2,250 cilomedr o hyd, ac mai dyna hefyd oedd ei lled a'i huchder. Pan fesurodd yr angel y wal, cafodd ei bod yn chwe deg pum metr o drwch — yn ôl y mesur cyffredin. Roedd y wal wedi ei hadeiladu o faen iasbis, a'r ddinas wedi ei gwneud o aur pur, mor bur â gwydr. Roedd sylfeini waliau'r ddinas wedi eu haddurno gyda phob math o emau gwerthfawr. Maen iasbis oedd y sylfaen cyntaf, saffir oedd yr ail, y trydydd yn galcedon, a'r pedwerydd yn emrallt; onics oedd y pumed, carnelian y chweched, saffir melyn y seithfed, beryl yr wythfed, topas y nawfed, a crysopras y degfed; maen iasinth oedd yr unfed ar ddeg ac amethyst oedd y deuddegfed. Roedd giatiau'r ddinas wedi eu gwneud o berlau, pob giât unigol wedi ei gwneud o un perl mawr. Ac roedd heol fawr y ddinas yn aur oedd mor bur â gwydr clir! Doedd dim teml i'w gweld yn y ddinas, am fod yr Arglwydd Dduw Hollalluog a'r Oen yno, fel teml. Does dim angen golau haul na lleuad yn y ddinas chwaith, am fod ysblander Duw ei hun yn ei goleuo hi, a'r Oen fel lamp yn ei goleuo hi. Bydd y cenhedloedd yn byw yn ei golau, a bydd brenhinoedd y ddaear yn dod â'u holl gyfoeth i mewn iddi hi. Fydd ddim rhaid i'w giatiau gael eu cau o gwbl, achos fydd dim nos yno. Bydd holl ysblander a chyfoeth y cenhedloedd yn cael eu dwyn i mewn iddi. Ond fydd dim byd aflan yn cael mynd i mewn iddi, nac unrhyw un sy'n gwneud pethau ffiaidd neu'n twyllo chwaith; dim ond y bobl hynny sydd â'u henwau wedi eu hysgrifennu yn Llyfr Bywyd yr Oen. Wedyn dangosodd yr angel afon o ddŵr bywiol i mi. Roedd y dŵr yn lân fel grisial ac yn llifo o orsedd Duw a'r Oen i lawr heol fawr y ddinas. Roedd coed y bywyd bob ochr i'r afon yn rhoi deuddeg cnwd o ffrwythau — cnwd newydd bob mis. Mae dail y coed yn iacháu y cenhedloedd. Fydd melltith rhyfel ddim yn bod mwyach. Bydd gorsedd Duw a'r Oen yn y ddinas, a bydd y rhai sy'n ei wasanaethu yn cael gwneud hynny. Cân nhw weld ei wyneb, a bydd ei enw wedi ei ysgrifennu ar eu talcennau. Fydd dim y fath beth â nos, felly fydd ganddyn nhw ddim angen golau lamp, na hyd yn oed golau'r haul. Bydd yr Arglwydd Dduw yn rhoi golau iddyn nhw. Byddan nhw'n teyrnasu am byth bythoedd. Dyma'r angel yn dweud wrtho i, “Mae beth dw i'n ei ddweud yn gwbl ddibynadwy ac yn wir. Mae'r Arglwydd, y Duw sy'n ysbrydoli'r proffwydi, wedi anfon ei angel i ddangos i'r rhai sy'n ei wasanaethu beth sy'n mynd i ddigwydd yn fuan.” “Edrychwch! Dw i'n dod yn fuan! Mae'r rhai sy'n gwneud beth mae proffwydoliaeth y llyfr hwn yn ei ddweud wedi eu bendithio'n fawr.” Fi, Ioan, glywodd ac a welodd y pethau yma i gyd. Ar ôl i mi eu clywed a'u gweld syrthiais i lawr wrth draed yr angel oedd wedi bod yn dangos y cwbl i mi a'i addoli. Ond dyma'r angel yn dweud, “Paid! Duw ydy'r unig Un rwyt i'w addoli! Un yn gwasanaethu Duw ydw i, yr un fath â ti a'r proffwydi eraill a phawb arall sy'n gwneud beth mae'r llyfr hwn yn ei ddweud.” Yna dwedodd wrtho i, “Paid cau'r llyfr yma, a rhoi sêl arno i rwystro pobl rhag darllen y neges broffwydol sydd ynddo, achos mae'r amser pan fydd y cwbl yn digwydd yn agos! Gadewch i'r rhai sy'n gwneud drwg ddal ati i wneud drwg; gadewch i'r rhai anfoesol ddal ati i fod yn anfoesol; gadewch i'r rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn ddal ati i wneud beth sy'n iawn; a gadewch i'r rhai sy'n sanctaidd ddal ati i fod yn sanctaidd.” “Edrychwch! Dw i'n dod yn fuan! Bydd gen i wobr i'w rhoi i bawb, yn dibynnu ar beth maen nhw wedi ei wneud. Fi ydy'r Alffa a'r Omega, y Cyntaf a'r Olaf, y Dechrau a'r Diwedd. “Mae'r rhai sy'n glanhau eu mentyll wedi eu bendithio'n fawr, ac yn cael mynd at goeden y bywyd, ac yn cael mynediad drwy'r giatiau i mewn i'r ddinas. Y tu allan mae'r cŵn, a'r rhai sy'n ymarfer dewiniaeth, pobl sy'n anfoesol yn rhywiol, llofruddion, y rhai sy'n addoli eilun-dduwiau a phawb sy'n caru twyllo. “Dw i, Iesu, wedi anfon fy angel i rannu'r dystiolaeth hon gyda chi er lles yr eglwysi. Fi ydy disgynnydd y Brenin Dafydd, a'r Seren sy'n disgleirio yn y bore.” Mae'r Ysbryd a'r briodferch yn dweud, “Tyrd!” Gadewch i bawb sy'n clywed ateb, “Tyrd!” Gadewch i'r rhai sydd â syched arnyn nhw ddod. Pwy bynnag sydd eisiau, gadewch iddyn nhw dderbyn dŵr y bywyd yn rhodd. Dw i'n rhybuddio pawb sy'n clywed geiriau proffwydol y llyfr hwn: Os bydd unrhyw un yn ychwanegu rhywbeth atyn nhw, bydd Duw yn dod â'r plâu sy'n cael eu disgrifio yn y llyfr hwn arnyn nhw. Ac os bydd unrhyw un yn dileu rhan o neges broffwydol y llyfr hwn, bydd Duw yn cymryd oddi arnyn nhw eu siâr o goeden y bywyd a'u lle yn y ddinas sanctaidd sy'n cael ei disgrifio yn y llyfr hwn. Mae'r un sy'n rhoi'r dystiolaeth am y pethau hyn yn dweud, “Ydw, dw i'n dod yn fuan.” Amen! Tyrd, Arglwydd Iesu! Dw i'n gweddïo y bydd pobl Dduw i gyd yn profi haelioni rhyfeddol yr Arglwydd Iesu! Amen.