Rhestr achau Iesu Grist fab Dafydd fab Abraham: I Abraham y ganed Isaac; i Isaac y ganed Iacob; i Iacob y ganed Iwdas a’i frodyr; i Iwdas y ganed Phares a Sara o Thamar; i Phares y ganed Esrom; i Esrom y ganed Aram; i Aram y ganed Aminadab; i Aminadab y ganed Naasson; i Naasson y ganed Salmon; i Salmon y ganed Böes o Rachab; i Böes y ganed Iobed o Rwth; i Iobed y ganed Iessai; i Iessai y ganed Dafydd frenin. Ac i Ddafydd y ganed Solomon o wraig Wrïas; i Solomon y ganed Roboam; i Roboam y ganed Abia; i Abia y ganed Asaff; i Asaff y ganed Iosaffat; i Iosaffat y ganed Ioram; i Ioram y ganed Osïas; i Osïas y ganed Ioatham; i Ioatham y ganed Achas; i Achas y ganed Esecïas; i Esecïas y ganed Manasses; i Manasses y ganed Amos; i Amos y ganed Iosïas; i Iosïas y ganed Iechonïas a’i frodyr yn amser y gaethglud i Fabilon. Ac wedi’r gaethglud i Fabilon, i Iechonïas y ganed Salathiel; i Salathiel y ganed Sorobabel; i Sorobabel y ganed Abiwd; i Abiwd y ganed Eliacîm; i Eliacîm y ganed Asor; i Asor y ganed Sadoc; i Sadoc y ganed Achîm; i Achîm y ganed Eliwd; i Eliwd y ganed Eleasar; i Eleasar y ganed Mathan; Mathan y ganed Iacob; i Iacob y ganed Ioseff gŵr Mair, y ganed ohoni Iesu a elwir Crist. Yr holl genedlaethau, felly, o Abraham hyd Ddafydd sydd bedair cenhedlaeth ar ddeg, ac o Ddafydd hyd y gaethglud i Fabilon pedair cenhedlaeth ar ddeg, ac o’r gaethglud i Fabilon hyd y Crist pedair cenhedlaeth ar ddeg. Genedigaeth Iesu Grist, fel hyn y bu: dyweddïwyd ei fam ef, Mair, i Ioseff, ond cyn iddynt ddyfod ynghyd cafwyd hi’n feichiog o’r Ysbryd Glân. A chan fod Ioseff, ei gŵr hi, yn gyfiawn, ac eto heb chwennych gwneud esiampl ohoni, fe benderfynodd ei hysgar yn ddirgel. Ac wedi i hyn ddod i’w feddwl, dyna angel yr Arglwydd mewn breuddwyd yn ymddangos iddo gan ddywedyd, “Ioseff, fab Dafydd, nac ofna gymryd atat Fair dy wraig; canys yr hyn a, genhedlwyd ynddi, o’r Ysbryd Glân y mae. A hi esgor ar fab, a gelwi ei enw ef Iesu; canys ef a wared ei bobl oddi wrth eu pechodau.” Hyn oll a fu fel y cyflawnid yr hyn a lefarwyd gan yr Arglwydd drwy’r proffwyd, Wele, y forwyn a fydd feichiog ac a esgor ar fab, A galwant ei enw ef Emmanwel,hynny yw o’i gyfieithu, Duw gyda ni. A phan ddeffroes Ioseff o’i gwsg, fe wnaeth fel y gorchmynasai angel yr Arglwydd iddo, a chymerth ei wraig ato; eto nid adnabu ef hi hyd onid esgorodd ar fab; a galwodd ei enw ef Iesu. Wedi geni’r Iesu ym Methlehem Iwdea yn nyddiau Herod frenin, dyma ddewiniaid o’r dwyrain yn dyfod i Gaersalem, gan ddywedyd, “Pa le mae’r hwn a aned yn Frenin yr Iddewon? Canys gwelsom ei seren ef pan gododd, a daethom i’w addoli ef.” A phan glywodd y brenin Herod, fe’i cyffrowyd, a holl Gaersalem gydag ef; ac wedi casglu ynghyd yr holl archoffeiriaid ac ysgrifenyddion y bobl, ymofynnodd â hwynt pa le y genid y Crist. Dywedasant hwythau wrtho, “Ym Methlehem Iwdea; canys fel hyn y mae’n ysgrifenedig drwy’r proffwyd: A thithau, Fethlehem tir Iwda, nid lleiaf o gwbl wyt ymhlith llywodraethwyr Iwda; canys ohonot ti y daw Arweinydd, ac ef a fugeilia fy mhobl Israel.” Yna, wedi i Herod alw’r dewiniaid yn ddirgel, mynnodd wybod yn fanwl ganddynt am amser ymddangosiad y seren; ac anfonodd hwynt i Fethlehem, a dywedodd, “Ewch, a holwch yn fanwl am y plentyn, a phan gaffoch ef, mynegwch i mi, fel y delwyf innau i’w addoli.” Hwythau, wedi clywed y brenin, a aethant; a dyna’r seren a welsent pan gododd yn eu rhagflaenu, nes iddi ddyfod a sefyll uwchben y fan yr oedd y plentyn. Ac wedi canfod y seren, llawenychasant â llawenydd mawr dros ben. Ac wedi dyfod i’r tŷ, gwelsant y plentyn gyda Mair ei fam, a syrthio a’i addoli; ac agorasant eu trysorau ac offrwm iddo anrhegion — aur a thus a myrr. Ac wedi eu rhybuddio oddi uchod mewn breuddwyd i beidio â dychwelyd at Herod, diangasant i’w gwlad ar hyd ffordd arall. Ac wedi iddynt ddianc, dyma angel yr Arglwydd yn ymddangos mewn breuddwyd i Ioseff gan ddywedyd, ’“Cyfod, cymer y plentyn a’i fam, a ffo i’r Aifft, ac aros yno nes i mi ddywedyd wrthyt; canys y mae Herod ar fedr ceisio’r plentyn i’w ddistrywio.” Cododd yntau, a chymerth y plentyn a’i fam liw nos, a dianc i’r Aifft; a bu yno hyd farwolaeth Herod, fel y cyflawnid yr hyn a lefarwyd gan yr Arglwydd trwy’r proffwyd, O’r Aifft y gelwais fy mab. Yna pan welodd Herod mai cellwair ag ef a wnaethai’r dewiniaid, fe ffromodd yn aruthr, ac anfonodd a lladd yr holl fechgyn a oedd ym Methlehem ac yn ei holl ororau o ddwyflwydd ac isod, yn ôl yr amser yr holodd yn fanwl amdano gan y dewiniaid. Yna y cyflawnwyd yr hyn a lefarwyd trwy Ieremïas y proffwyd: Llef yn Rama a glywyd, wylofain a galar mawr: Rahel yn wylo am ei phlant, ac ni fynnai ei chysuro, am nad ydynt. Ond wedi marw Herod, dyma angel yr Arglwydd yn ymddangos mewn breuddwyd i Ioseff yn yr Aifft gan ddywedyd, “Cyfod a chymer y plentyn a’i fam, a dos i wlad Israel; canys meirw yw’r rhai a geisiai einioes y plentyn.” Cododd yntau, a chymerth y plentyn a’i fam, ac aeth i wlad Israel. Ond wedi clywed bod Archelaus yn teyrnasu yn Iwdea yn lle ei dad Herod, ofnodd fynd yno; ac wedi ei rybuddio oddi uchod mewn breuddwyd dihangodd i barthau Galilea, ac aeth i gartrefu mewn dinas a elwir Nasareth, fel y cyflawnid yr hyn a lefarwyd trwy’r proffwydi mai Nasaread y gelwid ef. Yn y dyddiau hynny dyma Ioan Fedyddiwr yn dyfod a phregethu yn niffeithwch Iwdea, gan ddywedyd, “Edifarhewch: canys nesaodd teyrnas nefoedd.” Canys hwn yw’r un y llefarwyd amdano trwy Eseia’r proffwyd: Llef un yn bloeddio yn y diffeithwch, Paratowch ffordd yr Arglwydd, unionwch ei lwybrau ef. A’r Ioan hwnnw oedd â’i wisg o flew camel, a gwregys croen am ei lwynau; a’i fwyd oedd locustiaid a mêl gwyllt. Yna’r âi allan ato Gaersalem a holl Iwdea a holl gymdogaeth yr Iorddonen; a bedyddid hwynt ganddo yn afon Iorddonen, gan gyffesu eu pechodau. Ac wrth weled llawer o’r Phariseaid a’r Sadwceaid yn dyfod i’r bedydd fe ddywedodd wrthynt, “Epil gwiberod, pwy a’ch rhybuddiodd i ffoi rhag y llid a fydd? Dygwch, ynteu, ffrwyth teilwng o’ch edifeirwch; ac na feddyliwch am ddywedyd ynoch eich hunain, ‘Mae gennym ni Abraham yn dad,’ canys meddaf i chwi, fe ddichon Duw o’r cerrig hyn godi plant i Abraham. Eisoes y mae’r fwyall wedi ei gosod wrth wraidd y prennau; pob pren, ynteu, heb ddwyn ffrwyth da, yr ydys yn ei dorri i lawr, a’i daflu yn tân. Myfi yn wir sydd yn eich bedyddio chwi â dwfr i edifeirwch; ond yr hwn sy’n dyfod ar fy ôl, cryfach yw na mi, ac nid wyf deilwng i dynnu ei esgidiau; ef a’ch bedyddia chwi â’r Ysbryd Glân ac â thân; â’i wyntyll sydd yn ei law, ac fe lwyr-lanha ei lawr dyrnu, a chasgl ei ŷd i’r ysgubor, ond yr us a lysg â thân anniffoddadwy.” Yna dyma’r Iesu yn dyfod o Galilea hyd at yr Iorddonen at Ioan i’w fedyddio ganddo. Gwrthodai yntau, gan ddywedyd, “Arnaf i y mae eisiau fy medyddio gennyt ti, ac a wyt ti’n dyfod ataf i?” Ac atebodd yr Iesu iddo, “Caniatâ yn awr; canys felly y mae’n weddus inni gyflawni pob peth iawn.” Yna fe ad iddo. A bedyddiwyd yr Iesu, ac yn ebrwydd esgynnodd o’r dwfr; a dyna’r nefoedd yn ymagor, a gwelodd Ysbryd Duw’n disgyn megis colomen ac yn dyfod arno; a dyma lef o’r nefoedd yn dywedyd, “Hwn yw fy mab annwyl a ryngodd fy modd.” Yna arweiniwyd yr Iesu i’r diffeithwch gan yr Ysbryd, i’w demtio gan y diafol. Ac wedi iddo ymprydio ddeugain niwrnod a deugain nos, wedi hynny daeth arno newyn. A daeth y temtiwr ato, a dywedodd wrtho, “Os Mab Duw wyt, dywed am i’r cerrig hyn droi’n fara.” Atebodd yntau, “Ysgrifennwyd, Nid ar fara’n unig y bydd byw dyn, eithr ar bob gair a ddaw allan o enau Duw.” Yna cymer y diafol ef i’r ddinas santaidd, a’i osod ar ganllaw’r deml, ac medd wrtho, “Os Mab Duw wyt, bwrw dy hun i lawr; canys ysgrifennwyd, I’w angylion y gorchymyn ef amdanat, ac ar eu dwylo y’th ddaliant, rhag taro ohonot byth dy droed wrth garreg.” Meddai’r Iesu wrtho, “Drachefn ysgrifennwyd, Na themtia’r Arglwydd dy Dduw.” Drachefn cymer y diafol ef i fynydd uchel iawn, a dengys iddo holl deyrnasoedd y byd a’u gogoniant; a dywedodd wrtho, “Hyn oll a roddaf i ti os syrthi ac ymgrymu i mi.” Yna dywed yr Iesu wrtho, “Dos ymaith, Satan; canys ysgrifennwyd, I’r Arglwydd dy Dduw yr ymgrymi, ac ef yn unig a wasanaethi.” Yna ymedy’r diafol ag ef; ac wele angylion yn dyfod ato, ac yn gweini arno. A phan glywodd fod Ioan wedi ei draddodi, fe giliodd i Galilea. Ac ymadawodd â Nasara, ac aeth i gartrefu yng Nghapernaum, yr arfordref yng ngororau Sabwlon a Nephthalim, fel y cyflawnid yr hyn a lefarwyd trwy Eseia’r proffwyd, Tir Sabwlon a thir Nephthalim, tua’r môr, tu hwnt i’r Iorddonen, Galilea’r cenhedloedd, Y bobl a oedd yn eistedd mewn tywyllwch, goleuni mawr a welsant; ie’r rhai’n eistedd ym mro a chysgod angau, goleuni a wawriodd arnynt. O hynny allan dechreuodd yr Iesu bregethu a dywedyd, “Edifarhewch, canys nesaodd teyrnas nefoedd.” Ac wrth rodio ger môr Galilea fe welodd ddau frawd, Simon, a elwir Pedr, ac Andreas ei frawd ef, yn bwrw rhwyd i’r môr; canys pysgodwyr oeddynt. Ac eb ef wrthynt, “Dowch ar fy ôl i, a gwnaf chwi’n bysgodwyr dynion.” Yn y fan, gadawsant hwythau eu rhwydau a’i ddilyn ef. Ac wedi mynd rhagddo oddi yno fe welodd ddau frawd eraill, Iago fab Sebedeus ac Ioan ei frawd ef, yn y llong gyda Sebedeus eu tad yn cyweirio’u rhwydau; a galwodd hwynt. Yn y fan gadawsant hwythau’r llong a’u tad, a’i ddilyn ef. Ac âi o amgylch trwy Galilea oll, dan ddysgu yn eu synagogau hwynt, a chyhoeddi efengyl y deyrnas, ac iacháu pob clefyd a phob llesgedd ymhlith y bobl. Ac aeth y sôn amdano drwy holl Syria; a dygasant ato’r holl gleifion a oedd yng ngafael amrywiol glefydau ac arteithiau, cythreuligion a lloerigion a pharlysedigion; ac iachaodd hwynt. A chanlynodd tyrfaoedd mawr ef o Galilea a Decapolis a Chaersalem ac Iwdea a thu hwnt i’r Iorddonen. Ac wrth weled y tyrfaoedd fe esgynnodd i’r mynydd; ac eisteddodd, a daeth ei ddisgyblion ato. Ac agorodd ei enau a’u dysgu gan ddywedyd, “Gwyn eu byd y tlodion eu hysbryd, canys hwynthwy biau deyrnas nefoedd. Gwyn eu byd y galarwyr, canys hwynthwy a gaiff eu diddanu. Gwyn eu byd y rhai addfwyn, canys hwynthwy a gaiff etifeddu ’r ddaear. Gwyn eu byd y rhai sy’n newynu ac yn sychedu am gyfiawnder, canys hwynthwy a gaiff eu diwallu. Gwyn eu byd y trugarogion, canys hwynthwy a gaiff drugaredd. Gwyn eu byd y rhai pur o galon, canys hwynthwy a gaiff weled Duw. Gwyn eu byd y tangnefeddwyr, canys hwynthwy a gaiff eu galw’n feibion i Dduw. Gwyn eu byd yr erlidiedig o achos cyfiawnder, canys hwynthwy biau deyrnas nefoedd. Gwyn eich byd pan waradwyddant chwi, a’ch erlid, a dywedyd ar gelwydd bob drwg yn eich erbyn o’m hachos i. Llawenychwch a gorfoleddwch, canys eich gwobr sy fawr yn y nefoedd; oblegid felly’r erlidiasant y proffwydi a fu o’ch blaen chwi. Chwi yw halen y ddaear; ond os cyll yr halen ei rin, â pha beth yr helltir ef? Nid yw dda i ddim mwyach ond i’w daflu allan a’i sathru gan ddynion. Chwi yw goleuni’r byd. Ni ellir cuddio dinas a saif ar ben bryn; ni oleuant gannwyll chwaith, a’i dodi dan y celwrn, eithr ar y canhwyllbren, a hi lewyrcha i bawb sydd yn y tŷ. Felly llewyrched eich goleuni gerbron dynion fel y gwelont eich gweithredoedd da chwi, ac y gogoneddont eich Tad sydd yn y nefoedd. Na thybiwch fy nyfod i ddiddymu’r gyfraith a’r proffwydi; ni ddeuthum i ddiddymu, eithr i gwblhau. Canys yn wir meddaf i chwi, hyd onid êl y nef a’r ddaear heibio, un iod nac un fachell nid â heibio byth o’r gyfraith nes darfod y cwbl. Pwy bynnag, ynteu, a dorro un o’r gorchmynion lleiaf hyn, ac a ddysgo felly i ddynion, lleiaf y gelwir ef yn nheyrnas nefoedd. Ond pwy bynnag a’i gwnêl ac a’i dysgo, mawr y gelwir hwnnw yn nheyrnas nefoedd. Canys meddaf i chwi, oni bydd eich cyfiawnder chwi yn helaethach nag eiddo’r ysgrifenyddion a’r Phariseaid, nid ewch byth i mewn i deyrnas nefoedd. Clywsoch ddywedyd wrth y rhai gynt, Na ladd; a phwy bynnag a laddo, agored fydd i gosb. Ond yr wyf i’n dywedyd i chwi, Pob un a lidio wrth ei frawd, agored fydd i gosb; a phwy bynnag a ddywedo wrth ei frawd ‘Rhaca!’ bydd yng ngafael y Sanhedrin; a phwy bynnag a ddywedo ‘Ffŵl!’ agored fydd i’w fwrw i Gehenna’r tân. Gan hynny, os byddi’n cyflwyno dy offrwm ar yr allor, ac yno ddyfod i’th gof fod gan dy frawd ddim yn dy erbyn, gad yno dy offrwm gerbron yr allor, a dos yn gyntaf i gymodi â’th frawd, ac yna tyrd a chyflwyna dy offrwm. Bydd esgud i gymodi â’th wrthwynebwr tra fyddych gydag ef ar y ffordd, rhag ofn i’th wrthwynebwr dy draddodi i’r barnwr, a’r barnwr i’r swyddog, a’th fwrw yng ngharchar; yn wir meddaf i ti, ni ddoi di ddim allan oddi yno nes iti dalu’r ffyrling eithaf. Clywsoch ddywedyd, Na wna odineb. Ond yr wyf i’n dywedyd i chwi, Pob un a edrycho ar wraig i’w chwenychu hi, fe wnaeth odineb â hi eisoes yn ei galon. Ac os yw dy lygad dehau yn dy rwystro, tyn ef allan, a bwrw oddi wrthyt; canys fe dâl iti golli un o’th aelodau, ac na fwrier dy holl gorff i Gehenna. Ac os yw dy law ddehau yn dy rwystro, tor hi ymaith a bwrw oddi wrthyt; canys fe dâl iti golli un o’th aelodau, ac nad êl dy holl gorff i Gehenna. A dywedwyd, Pwy bynnag a ysgaro â’i wraig rhoed iddi lythyr ysgar. Ond yr wyf i’n dywedyd i chwi, Pob un a ysgaro â’i wraig oddieithr o achos anniweirdeb, fe bair iddi wneuthur godineb; a phwy bynnag a briodo wraig a ysgarwyd, y mae’n godinebu. Drachefn, clywsoch ddywedyd wrth y rhai gynt, Na thwng anudon, ond tâl i’r Arglwydd dy lwon. Ond yr wyf i’n dywedyd i chwi, Na thyngwch o gwbl; nac i’r nef, canys gorsedd Duw ydyw; nac i’r ddaear, canys troedfainc ei draed ydyw; nac i Gaersalem, canys dinas y Brenin mawr ydyw; ac na thwng i’th ben, canys ni elli wneuthur un blewyn yn wyn nac yn ddu. Ond boed eich gair ie yn ie, a’ch nage yn nage; rhagor na’r rhain, o’r drwg y mae. Clywsoch ddywedyd, Llygad am lygad a dant am ddant. Ond yr wyf i’n dywedyd i chwi, Na wrthsefwch y drwg; eithr pwy bynnag a’th gernodio ar dy rudd ddehau, tro’r llall iddo hefyd. A’r neb a fynno roi cyfraith arnat a chymryd dy grysbais, gad iddo dy fantell hefyd. A phwy bynnag a’th orfodo i fynd un filltir, dos gydag ef ddwy. Y neb a geisio gennyt, dyro iddo; a’r neb a ddymuno fenthyca gennyt, na thro oddi wrtho. Clywsoch ddywedyd, Câr dy gymydog a chasâ dy elyn. Ond yr wyf i’n dywedyd i chwi, Cerwch eich gelynion a gweddïwch dros eich erlidwyr, fel y byddoch yn feibion i’ch Tad sydd yn y nefoedd canys gwna i’w haul godi ar rai drwg a rhai da, a glawia ar gyfiawn ac anghyfiawn. Canys os cerwch y rhai a’ch câr, pa wobr sydd i chwi? Onid yw hyd yn oed y trethwyr yn gwneuthur yr un peth? Ac os cyferchwch well i’ch brodyr yn unig, pa orchest a wnewch? Onid yw hyd yn oed y cenedl-ddynion yn gwneuthur yr un peth? Byddwch chwi gan hynny’n berffaith fel y mae’ch Tad nefol yn berffaith. Gochelwch wneuthur eich cyfiawnder gerbron dynion er mwyn cael eich gweled ganddynt; onid e, nid oes dâl i chwi gan eich Tad sydd yn y nefoedd. Gan hynny pan wnelych elusen, na utgana o’th flaen, megis y gwna’r rhagrithwyr yn y synagogau ac ar yr heolydd, fel y clodforer hwynt gan ddynion; yn wir meddaf i chwi, cawsant eu tâl. Ond tydi pan wnelych elusen, na wyped dy law aswy pa beth a wna dy law ddehau, fel y bo dy elusen di yn y dirgel; a’th Dad sy’n gweled yn y dirgel a dâl i ti. A phan weddïoch, na fyddwch fel y rhagrithwyr; canys carant sefyll i weddïo yn y synagogau ac yng nghonglau’r heolydd, i’w dangos eu hunain i ddynion; yn wir meddaf i chwi, cawsant eu tâl. Ond tydi, pan weddïych, dos i’th ystafell, ac wedi cau dy ddrws gweddia ar dy Dad sydd yn y dirgel; a’th Dad sy’n gweled yn y dirgel a dâl i ti. Ac wrth weddïo na fyddwch siaradus fel y cenedlddynion; canys tybio y maent mai am eu haml eiriau y gwrandewir hwynt. Nac ymdebygwch, ynteu, iddynt hwy; canys gŵyr eich Tad pa bethau sydd arnoch eu heisiau cyn i chwi ofyn iddo. Fel hyn, ynteu, y gweddïwch chwi: ‘Ein Tad sydd yn y nefoedd, Santeiddier dy enw; deled dy deyrnas; gwneler dy ewyllys, megis yn y nef, felly ar y ddaear. Ein bara beunyddiol dyro i ni heddiw, a maddau i ni ein dyledion, fel y maddeuasom ninnau i’n dyledwyr; ac na ddwg ni i brofedigaeth, eithr gwared ni rhag drwg.’ Canys os maddeuwch i ddynion eu camweddau, fe faddau eich Tad nefol hefyd i chwithau; eithr oni faddeuwch i ddynion, eich Tad chwaith ni faddau eich camweddau chwi. A phan ymprydioch, na fyddwch fel y rhagrithwyr yn aflawen eich gwedd; canys difwyno’u hwynebau y maent, er mwyn ymddangos i ddynion fel ymprydwyr; yn wir meddaf i chwi, cawsant eu tâl. Ond tydi, pan ymprydych, eneinia dy ben a golch dy wyneb, rhag it ymddangos i ddynion fel ymprydiwr, eithr i’th Dad sydd yn y dirgel; a’th Dad sy’n gweled yn y dirgel a dâl i ti. Na thrysorwch i chwi drysorau ar y ddaear, lle mae gwyfyn a rhwd yn difa, a lle mae lladron yn cloddio trwodd ac yn lladrata; ond trysorwch i chwi drysorau yn y nef, lle nid oes na gwyfyn na rhwd yn difa, a lle nid oes ladron yn cloddio trwodd nac yn lladrata: canys lle mae dy drysor, yno y bydd dy galon hefyd. Lamp y corff yw’r llygad. Gan hynny os bydd dy lygad yn iawn, dy holl gorff a fydd yn olau; Ond os bydd dy lygad yn ddrwg, dy holl gorff a fydd yn dywyll. Os ynteu’r goleuni ynot sydd dywyllwch, mor enfawr yw’r tywyllwch! Ni ddichon neb wasanaethu dau arglwydd; canys un ai casâ’r naill a châr y llall, neu fe lŷn wrth y naill a dirmyga’r llall. Ni ellwch wasanaethu Duw a Mamon. Am hynny meddaf i chwi, na phryderwch am eich bywyd, beth a fwytewch neu beth a yfwch; nac am eich corff, beth a wisgwch. Onid yw’r bywyd yn fwy na’r bwyd, a’r corff na’r dillad? Edrychwch ar adar y nef; nid ydynt yn hau nac yn medi nac yn cywain i ysguboriau, ac eto y mae eich Tad nefol yn eu porthi hwy; onid ydych chwi’n amgenach o lawer na hwy? A phwy ohonoch drwy bryderu a ddichon chwanegu hanner llath at ei oes? A pham y pryderwch am ddillad? Ystyriwch lilïau’r maes pa fodd y tyfant; ni lafuriant ac ni nyddant; ond meddaf i chwi, hyd yn oed Solomon yn ei holl ogoniant nid ymwisgodd fel un o’r rhain. Ac os dillada Duw felly wellt y maes, y sydd heddiw, ac yfory a fwrir i’r ffwrn, onid llawer mwy chwychwi, O rai bychain eu ffydd? Na phryderwch, ynteu, gan ddywedyd ‘Beth a fwytawn?’ neu ‘Beth a yfwn?’ neu ‘Beth a wisgwn?’ canys yr holl bethau hyn y mae’r cenhedloedd yn eu ceisio; canys gŵyr eich Tad nefol fod arnoch eisiau’r pethau hyn oll. Ond ceisiwch yn gyntaf ei deyrnas a’i gyfiawnder ef, a’r pethau hyn oll a roddir i chwi’n ychwaneg. Na phryderwch, ynteu, am yfory, canys yfory a ddwg ei bryder ei hun. Digon i’r diwrnod ei helbul. Na fernwch, fel na’ch barner; canys â’r farn y bernwch y’ch bernir, ac â’r mesur y mesurwch y mesurir i chwi. A pham y sylwi ar y fflewyn sydd yn llygad dy frawd, ac nad ystyri’r trawst sydd yn dy lygad di? Neu pa fodd y dywedi wrth dy frawd, ‘Gad imi dynnu’r fflewyn o’th lygad,’ a dyna’r trawst yn dy lygad di? Ragrithiwr, tyn yn gyntaf y trawst o’th lygad, ac yna y gweli’n glir i dynnu’r fflewyn o lygad dy frawd. Na rowch y peth sy santaidd i’r cŵn, ac na theflwch eich perlau o flaen y moch, rhag iddynt eu sathru dan eu traed, a throi a’ch rhwygo chwi. Gofynnwch, ac fe roddir i chwi; ceisiwch, a chwi gewch; curwch, ac fe agorir i chwi. Canys pawb a ofyn a dderbyn, a’r neb a gais a gaiff, ac i’r neb a gura yr agorir. Neu ba ddyn sydd ohonoch, y gofyn ei fab iddo am dorth, — a ddyry garreg iddo? neu os gofyn iddo am bysgodyn, — a ddyry sarff iddo? Os chwi, ynteu, a chwithau’n ddrwg, a wyddoch sut i roi rhoddion da i’ch plant, pa faint mwy y rhydd eich Tad sydd yn y nefoedd bethau da i’r rhai a ofyn iddo? Popeth, ynteu, a fynnoch i ddynion eu gwneuthur i chwi, gwnewch chwithau felly iddynt hwy; canys hyn yw’r gyfraith a’r proffwydi. Ewch i mewn trwy’r porth cul; canys eang yw’r porth a llydan yw’r ffordd sy’n arwain i ddistryw, a llawer yw’r rhai sy’n mynd i mewn ar hyd-ddi; canys cul yw’r porth a chyfyng yw’r ffordd sy’n arwain i’r bywyd, ac ychydig yw’r rhai sy’n cael hyd iddi. Gochelwch y gau broffwydi, sy’n dyfod atoch yng ngwisgoedd defaid, ond oddi mewn sy’n lleiddiaid rheibus. Wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt. Yn sicr ni chasgl neb rawnwin oddi ar ddrain neu ffigys oddi ar ysgall? Felly pob pren da a rydd ffrwythau da, ond y pren sâl a rydd ffrwythau gwael. Ni all pren da ddwyn ffrwythau gwael, na phren sâl ddwyn ffrwythau da. Pob pren ni roddo ffrwyth da a dorrir i lawr, ac a deflir yn tân. Gan hynny wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt. Nid pob un sy’n dywedyd wrthyf, ‘Arglwydd, Arglwydd,’ a â i mewn i deyrnas nefoedd, ond y neb a wnêl ewyllys fy Nhad sydd yn y nefoedd. Llawer a ddywed wrthyf yn y dydd hwnnw, ‘Arglwydd, Arglwydd, oni phroffwydasom yn dy enw, a bwrw allan gythreuliaid yn dy enw, a gwneuthur grymusterau lawer yn dy enw?’ Ac yna y cyfaddefaf wrthynt, ‘Ni’ch adnabûm chwi erioed; ewch ymaith oddi wrthyf, weithredwyr anghyfraith.’ Pob un, ynteu, a glyw fy ngeiriau hyn, ac a’u gwna, a gyffelybir i ŵr call a adeiladodd ei dŷ ar y graig; a disgynnodd y glaw, a daeth y llifogydd, a chwythodd y gwyntoedd, a syrthiasant ar y tŷ hwnnw, ac ni syrthiodd, canys sylfaenesid ef ar y graig. A phawb a glyw fy ngeiriau hyn, ac nis gwna, a gyffelybir i ŵr ffôl a adeiladodd ei dŷ ar y tywod; a disgynnodd y glaw, a daeth y llifogydd, a chwythodd y gwyntoedd a churasant ar y tŷ hwnnw, ac fe syrthiodd, a’i gwymp a fu fawr.” A phan orffennodd yr Iesu’r geiriau hyn fe synnai’r torfeydd at ei ddysgeidiaeth; canys yr oedd yn eu dysgu hwynt fel un ag awdurdod ganddo, ac nid fel eu hysgrifenyddion hwy. Wedi iddo ddyfod i lawr o’r mynydd canlynodd tyrfaoedd lawer ef. A dyma wahanglwyfus yn dyfod ato, ac yn ymgrymu iddo gan ddywedyd, “Arglwydd, os mynni, ti elli fy nglanhau.” Ac estynnodd ei law, a chyffyrddodd ag ef, gan ddywedyd, “Mynnaf, glanhaer di.” Ac yn y fan glanhawyd ei wahanglwyf. Ac medd yr Iesu wrtho, “Gwylia na ddywedi wrth neb; eithr dos, dangos dy hun i’r offeiriad, a dwg yr offrwm a orchmynnodd Moses, er tystiolaeth iddynt.” Ac wedi iddo fynd i mewn i Gapernaum daeth ato ganwriad gan erfyn arno, a dywedyd, “Syr, y mae fy ngwas yn gorwedd yn tŷ yn barlysedig, mewn poenau ofnadwy.” Medd ef wrtho, “Mi ddof i i’w iacháu ef.” Atebodd y canwriad, “Syr, nid wyf ddigon da i ti ddyfod dan fy nghronglwyd; eithr yn unig dywed y gair, ac fe iacheir fy ngwas. Canys dyn dan awdurdod wyf innau, a chennyf filwyr danaf, a dywedaf wrth hwn, Dos, ac y mae’n mynd, ac wrth arall, Tyred, ac y mae’n dyfod, ac wrth fy ngwas, Gwna hyn, ac y mae’n ei wneuthur.” A phan glywodd yr Iesu fe ryfeddodd, a dywedodd wrth ei ganlynwyr, “Yn wir meddaf i chwi, ni chefais gymaint ffydd gan neb yn Israel. Ac meddaf i chwi, llawer o’r dwyrain a’r gorllewin a ddaw ac eistedd wrth y bwrdd gydag Abraham ac Isaac ac Iacob yn nheyrnas nefoedd; ond meibion y deyrnas a fwrir i’r tywyllwch tu allan; yno y bydd wylofain a rhincian dannedd.” A dywedodd yr Iesu wrth y canwriad, “Dos; megis y credaist bydded i ti.” Ac iachawyd ei was yr awr honno. A daeth yr Iesu i dŷ Pedr, a gwelodd ei chwegr ef yn orweiddiog, ac mewn twymyn; a gafaelodd yn ei llaw, a gadawodd y dwymyn hi; a chododd hithau a mynd i weini arno. Ac wedi iddi hwyrhau, dygasant ato gythreuligion lawer; a bwriodd allan yr ysbrydion â gair, a’r holl gleifion a iachaodd; fel y cyflawnid yr hyn a lefarwyd trwy Eseia’r proffwyd, Ef a gymerth ein gwendidau ni, ac a ddug ymaith ein clefydau. Pan welodd yr Iesu dyrfa o’i amgylch fe orchmynnodd fynd i’r ochr draw. A daeth rhyw ysgrifennydd, a dywedyd wrtho, “Athro, mi a’th ddilynaf pa le bynnag yr elych.” Ac medd yr Iesu wrtho, “Mae gan y llwynogod ffeuau, a chan adar yr awyr nythod, ond gan Fab y dyn nid oes le i roi ei ben i lawr.” Un arall o’i ddisgyblion a ddywedodd wrtho, “Arglwydd, caniatâ i mi yn gyntaf fynd a chladdu fy nhad.” A dywed yr Iesu wrtho, “Dilyn fi, a gad i’r meirw gladdu eu meirw.” Ac aeth i’r llong, a’i ddilyn a wnaeth ei ddisgyblion. A dyna gynnwrf mawr yn codi yn y môr, nes cuddio’r llong gan y tonnau; ond yr oedd ef yn cysgu. Ac aethant ato, a’i ddeffro, gan ddywedyd, “Achub, Arglwydd, mae ar ben arnom.” A dywed wrthynt, “Paham yr ydych mor ofnus, rai bychain eu ffydd?” Yna fe gododd, a cheryddodd y gwyntoedd a’r môr, a bu dawelwch mawr. A rhyfeddodd y dynion, gan ddywedyd, “Pa fath un yw hwn, gan fod hyd yn oed y gwyntoedd a’r môr yn ufuddhau iddo?” Ac wedi ei ddyfod i’r ochr draw i wlad y Gadareniaid, cyfarfu ag ef ddau gythreulig yn dyfod allan o blith y beddau, rhai ffyrnig iawn, fel na allai neb fyned heibio hyd y ffordd honno. A dyna hwy’n gweiddi, ac yn dywedyd “Beth sy rhyngom ni a thi, Fab Duw? A ddaethost ti yma cyn yr amser i’n dirboeni ni?” Ac yn bell oddi wrthynt yr oedd cenfaint o foch lawer yn pori. Ac atolygai’r cythreuliaid iddo gan ddywedyd, “Os wyt am ein bwrw ni allan, anfon ni i’r genfaint foch.” Dywedodd yntau wrthynt, “Ewch.” Daethant hwythau allan a mynd i’r moch, a dyna’r holl genfaint yn rhuthro dros y dibyn i’r môr, ac yn trengi yn y dyfroedd. A ffodd y meichiaid; ac wedi mynd ymaith i’r ddinas, mynegasant bopeth, yn enwedig hanes y cythreuligion. A dyna’r holl ddinas yn mynd allan i gyfarfod â’r Iesu, a phan welsant ef erfyniasant arno ymadael o’u gororau hwynt. Ac fe aeth i long, a chroesodd, a daeth i’w ddinas ei hun. A dyna hwy’n dwyn ato un parlysedig yn gorwedd ar wely. A phan welodd yr Iesu eu ffydd hwynt, fe ddywedodd wrth y parlysedig, “Cod dy galon, fy mab, maddeuwyd dy bechodau.” A dyna rai o’r ysgrifenyddion yn dywedyd ynddynt eu hunain, “Mae hwn yn cablu.” A gwybu’r Iesu eu meddyliau hwynt, a dywedodd, “Paham y meddyliwch bethau drwg yn eich calonnau? Canys beth sydd hawsaf, ai dywedyd ‘Maddeuwyd dy bechodau’ ai dywedyd ‘Cyfod a rhodia’? Ond fel y gwypoch fod awdurdod gan Fab y dyn ar y ddaear i faddau pechodau” — yna medd ef wrth y parlysedig, “Cyfod, cymer dy wely a dos adref.” Ac fe gyfododd, ac aeth ymaith adref. A phan welodd y tyrfaoedd, ofni a wnaethant, a gogoneddu Duw, a roes y fath awdurdod i ddynion. Ac wrth i’r Iesu fynd heibio oddi yno fe welodd ddyn yn eistedd wrth y dollfa, a’i enw Mathew, ac medd wrtho, “Dilyn fi.” A chododd a dilynodd ef. A digwyddodd, ac ef ar bryd bwyd yn tŷ, dyna hefyd lawer o drethwyr a phechaduriaid yn dyfod ac yn cyd-eistedd â’r Iesu ac â’i ddisgyblion. A phan welodd y Phariseaid, meddent wrth ei ddisgyblion, “Paham y bwyta eich Athro gyda’r trethwyr a’r pechaduriaid?” Clywodd yntau, a dywedodd, “Nid rhaid i’r iach wrth feddyg, ond y rhai gwael. Eithr ewch a dysgwch beth yw Trugaredd a fynnaf ac nid aberth. Canys ni ddeuthum i alw rhai cyfiawn, ond pechaduriaid.” Yna daw ato ddisgyblion Ioan gan ddywedyd, “Paham yr ymprydiwn ni a’r Phariseaid, ac nad ymprydia dy ddisgyblion di?” A dywedodd yr Iesu wrthynt, “A all gwesteion y briodas alaru tra fo’r priodfab gyda hwynt? Ond fe ddaw dyddiau pan ddyger oddi wrthynt y priodfab, ac yna yr ymprydiant. Ni ddyd neb glwt o frethyn crai ar hen ddilledyn; canys tyn y darn llanw oddi wrth y dilledyn, a gwaeth rhwyg a fydd. Ni roddant chwaith win newydd mewn crwyn hen; onid e, fe rwygir y crwyn, a’r gwin a red allan, a’r crwyn a ddifethir; eithr rhoddant win newydd mewn crwyn newydd, a’r naill a’r llall a gedwir.” Ac yntau’n llefaru’r pethau hyn wrthynt, dyma ryw bennaeth yn dyfod ac yn ymgrymu iddo, gan ddywedyd, “Fy merch sydd newydd farw; eithr tyred a dod dy law arni, a hi fydd byw.” A chododd yr Iesu a’i ddilyn ef, a’i ddisgyblion hefyd. A dyna wraig â gwaedlif arni ers deuddeng mlynedd yn dyfod o’r tu ôl, a chyffwrdd â thasel ei fantell; canys dywedai ynddi ei hun, “Os caf yn unig gyffwrdd â’i fantell, iach fyddaf.” A’r Iesu a droes a’i gweled hi, a dywedodd, “Cod dy galon, fy merch; dy ffydd a’th iachaodd.” Ac iachawyd y wraig o’r awr honno. A daeth yr Iesu i dŷ’r pennaeth, ac wrth weled y pibyddion a’r dyrfa’n terfysgu, meddai, “Ewch ymaith, canys ni bu farw’r eneth, eithr cysgu y mae.” A gwatwarasant ef. Ond pan yrrwyd y dyrfa allan, fe aeth i mewn a gafael yn ei llaw hi; a chododd yr eneth. Ac aeth y sôn am hyn allan drwy’r holl fro honno. Ac wrth i’r Iesu fyned oddi yno, dilynodd dau ddyn dall ef, gan weiddi a dywedyd, “Tosturia wrthym, fab Dafydd.” Ac wedi iddo fynd i’r tŷ daeth y deillion ato, ac medd yr Iesu wrthynt, “A ydych yn credu y gallaf wneuthur hyn?” Meddant wrtho, “Ydym, Arglwydd.” Yna cyffyrddodd â’u llygaid hwynt gan ddywedyd, “Yn ôl eich ffydd boed i chwi.” Ac agorwyd eu llygaid hwynt. A chwyrn rybuddiodd yr Iesu hwynt gan ddywedyd, “Gwyliwch! Na chaffed neb wybod!” Ond aethant hwythau allan, a thaenu’r sôn amdano yn yr holl fro honno. A hwy’n mynd allan, dyma rai’n dwyn ato fudan cythreulig. A phan fwriwyd y cythraul allan, llefarodd y mudan. A rhyfeddodd y tyrfaoedd, gan ddywedyd, “Ni welwyd erioed y fath beth yn Israel.” Ond dywedai’r Phariseaid, “Trwy bennaeth y cythreuliaid y mae’n bwrw allan y cythreuliaid.” Ac âi’r Iesu o amgylch y dinasoedd oll a’r pentrefi gan ddysgu yn eu synagogau hwynt, a chyhoeddi efengyl y deyrnas, ac iacháu pob clefyd a phob llesgedd. Ac wrth weled y tyrfaoedd bu ddrwg ganddo drostynt, am eu bod yn flin ac wedi ymollwng fel defaid heb ganddynt fugail. Yna medd ef wrth ei ddisgyblion, “Mawr yw’r cynhaeaf, ond ychydig yw’r gwerthwyr; felly deisyfwch ar Arglwydd y cynhaeaf yrru allan weithwyr i’w gynhaeaf.” Ac wedi galw ato’i ddeuddeg disgybl, fe roes iddynt awdurdod ar ysbrydion aflan, i’w bwrw allan, ac i iacháu pob clefyd a phob llesgedd. Enwau’r deuddeg apostol yw’r rhain: yn gyntaf Simon, a elwir Pedr, ac Andreas ei frawd, ac Iago fab Sebedeus ac Ioan ei frawd, Phylip a Bartholomeus, Thomas a Mathew y trethwr, Iago fab Alffeus a Thadeus, Simon y Selot ac Iwdas Iscariot, y gŵr a’i bradychodd ef. Y deuddeg hyn a anfonodd yr Iesu, a gorchymyn iddynt gan ddywedyd: “Nac ewch draw at y cenhedloedd, nac i mewn i ddinas i’r Samariaid; ond ewch yn hytrach at ddefaid cyfrgolledig tŷ Israel. Ac wrth fyned, cyhoeddwch, gan ddywedyd ‘Nesaodd teyrnas nefoedd.’ Iachewch gleifion, cyfodwch feirw, glanhewch wahangleifion, bwriwch allan gythreuliaid; derbyniasoch yn rhad, rhowch yn rhad. Na fynnwch aur nac arian na phres yn eich gwregysau, na chod i daith, na dwy grysbais, nac esgidiau, na ffon; canys teilwng i’r gweithiwr ei fwyd. Ac i ba ddinas neu bentref bynnag yr eloch i mewn, holwch pwy ynddi sydd deilwng; ac arhoswch yno hyd onid eloch ymaith. Ac wrth fynd i mewn i’r tŷ, cyferchwch well iddo; ac os bydd y tŷ’n deilwng, doed eich tangnefedd arno. Ac oni bydd deilwng, dychweled eich tangnefedd atoch. A phwy bynnag ni’ch croesawo, ac ni wrandawo ar eich geiriau, wrth fynd allan o’r tŷ neu’r ddinas honno, ysgydwch y llwch oddi wrth eich traed. Yn wir meddaf i chwi, esmwythach fydd i dir Sodom a Gomorra yn nydd y farn nag i’r ddinas honno. Dyma fi’n eich anfon chwi fel defaid i blith bleiddiaid; byddwch gall, ynteu, fel y seirff, a diniwed fel y colomennod. Gwyliwch rhag dynion; canys traddodant chwi i lysoedd, ac yn eu synagogau y’ch ffrewyllant; ie, a cherbron rhaglawiaid a brenhinoedd y’ch dygir o’m hachos i, er tystiolaeth iddynt hwy ac i’r Cenhedloedd. A phan draddodont chwi, na phryderwch pa fodd neu beth a leferwch; canys rhoddir i chwi yn yr awr honno pa beth a leferwch, canys nid chwychwi sydd yn llefaru, eithr Ysbryd eich Tad sy’n llefaru ynoch chwi. A thraddoda brawd frawd i farwolaeth, a thad blentyn; a chyfyd plant yn erbyn rhieni, a’u lladd; a byddwch gas gan bawb oherwydd fy enw i; ond y neb a ymgynnal i’r diwedd, hwnnw a achubir. A phan erlidiont chwi yn y ddinas hon, ffowch i’r llall; canys yn wir meddaf i chwi, ni ddibennwch ddinasoedd Israel cyn dêl Mab y dyn. Nid yw disgybl uwchlaw ei athro, na gwas uwchlaw ei feistr. Digon i’r disgybl ddyfod fel ei athro, a’r gwas fel ei feistr. Os galwasant y penteulu’n Feelsebwl, pa faint mwy ei deulu ef. Gan hynny nac ofnwch hwynt; canys nid oes dim cuddiedig nas datguddir, na dirgel nas gwybyddir. A ddywedaf wrthych yn y tywyllwch, dywedwch yn y goleuni; ac a sibrydir yn eich clust, cyhoeddwch ar bennau’r tai. Ac nac ofnwch rhag y rhai a ladd y corff, ond ni allant ladd yr enaid; ofnwch yn hytrach yr hwn a all ddinistrio enaid a chorff yng Ngehenna. Oni werthir dau aderyn to am ffyrling? Ac ni syrth un ohonynt hwy ar y ddaear heb eich Tad chwi. Ond amdanoch chwi, y mae hyd yn oed gwallt eich pen wedi eu rhifo oll. Gan hynny peidiwch ag ofni; amgenach na llawer o adar to ydych chwi. Pob un, ynteu, â’m harddelo i yng ngŵydd dynion, arddelaf innau ef yng ngŵydd fy Nhad sydd yn y nefoedd. Ond y neb â’m gwado i yng ngŵydd dynion, gwadaf innau ef yng ngŵydd fy Nhad sydd yn y nefoedd. Na thybiwch fy nyfod i ddwyn tangnefedd ar y ddaear; ni ddeuthum i ddwyn tangnefedd, ond cleddyf. Canys deuthum i osod dyn yn erbyn ei dad, a merch yn erbyn ei mam, a gwaudd yn erbyn ei chwegr, a gelynion dyn fydd ei deulu ei hun. A garo dad neu fam yn fwy na mi, nid yw deilwng ohonof i; ac a garo fab neu ferch yn fwy na mi, nid yw deilwng ohonof i; a’r hwn ni chymero ei groes, a dilyn ar fy ôl i, nid yw deilwng ohonof i. A gaffo’i fywyd a’i cyll, ac a gollo’i fywyd er fy mwyn i a’i caiff. Â’ch derbynio chwi â’m derbyn i; ac â’m derbynio i â dderbyn yr hwn â’m hanfonodd. Â dderbynio broffwyd am ei fod yn broffwyd, gwobr proffwyd a gaiff; ac â dderbynio un cyfiawn am ei fod yn un cyfiawn, gwobr un cyfiawn a gaiff. A phwybynnag a ro i’w yfed i un o’r rhai bychain hyn gwpanaid o ddŵr oer yn unig am ei fod yn ddisgybl, yn wir meddaf i chwi, ni chyll mo’i wobr.” A phan orffennodd yr Iesu gyfarwyddo’i ddeuddeg disgybl, fe symudodd oddi yno i ddysgu a phregethu yn eu dinasoedd hwynt. Ac Ioan, wedi clywed yn y carchar am weithredoedd y Crist, a ddanfonodd trwy ei ddisgyblion i ddywedyd wrtho, “Ai ti yw’r hwn sy’n dyfod, ai am un arall yr ydym i ddisgwyl?” Ac atebodd yr Iesu iddynt, “Ewch a mynegwch i Ioan y pethau a glywch ac a welwch: y mae deillion yn cael eu golwg, a chloffion yn cerdded, gwahangleifion yn dyfod yn lân, a byddariaid yn clywed a meirw’n cyfodi, ac i dlodion y cyhoeddir newyddion da. A gwyn ei fyd y neb ni rwystrir ynof i.” A chyda’u bod hwy’n myned, dechreuodd yr Iesu ddywedyd wrth y tyrfaoedd am Ioan, “Beth yr aethoch allan i’r diffeithwch i edrych arno? Ai corswellt yn ysgwyd gan wynt? Eithr beth yr aethoch allan i’w weled? Ai dyn â dillad esmwyth amdano? Wele’r rhai sy’n gwisgo dillad esmwyth, yn nhai’r brenhinoedd. Eithr i ba beth yr aethoch allan? Ai i weled proffwyd? Ie, meddaf i chwi, a mwy na phroffwyd. Hwn yw’r un y mae’n ysgrifenedig amdano, Wele’r wyf i yn anfon fy nghennad o’th flaen, a ddarpar dy ffordd rhagot. Yn wir meddaf i chwi, ni chododd ymhlith plant gwragedd un mwy nag Ioan Fedyddiwr; ond y lleiaf yn nheyrnas nefoedd sydd fwy nag ef. Ac o ddyddiau Ioan Fedyddiwr hyd yn awr, teyrnas nefoedd a dreisir, a threiswyr sy’n ei chipio hi. Canys yr holl broffwydi a’r gyfraith, hyd Ioan y proffwydasant; ac os mynnwch ei dderbyn, ef yw yr Elïas a oedd ar ddyfod. Y neb sy ganddo glustiau, gwrandawed. I ba beth y cyffelybaf y genhedlaeth hon? Cyffelyb yw i blantos yn eistedd yn y marchnadleoedd ac yn galw ar y lleill, gan ddywedyd: Canasom i chwi bibau, ac ni ddawnsiasoch, Canasom alarnad, ac ni churasoch ddwyfron. Canys daeth Ioan heb na bwyta nac yfed, ac meddant, ‘Cythraul sy ganddo?’ Daeth Mab y dyn yn bwyta ac yn yfed, ac meddant, ‘Dyma ddyn glŵth a llymeitiwr gwin, cyfaill trethwyr a phechaduriaid.’ Eto cyfiawnhawyd doethineb gan ei gweithredoedd.” Yna dechreuodd edliw i’r dinasoedd y gwnaethid ynddynt ei liaws grymusterau, am nad edifarhasent. “Gwae di, Chorasin! Gwae di, Fethsaida! Canys pe yn Nhyrus a Sidon y gwnaethid y grymusterau a wnaethpwyd ynoch chwi, ers talm mewn sachliain a lludw yr edifarhasent. Eithr meddaf i chwi, esmwythach fydd i Dyrus a Sidon yn nydd y farn nag i chwi. A thithau, Capernaum, ai hyd nef y’th ddyrchefir? Na, hyd Annwn y disgynni; canys pe yn Sodom y gwnaethid y grymusterau a wnaethpwyd ynot ti, hi arosasai hyd heddiw. Eithr meddaf i chwi, esmwythach fydd i dir Sodom yn nydd y farn nag i ti.” Yr amser hwnnw y llefarodd yr Iesu ac y dywedodd, “Molaf di, O Dad, Arglwydd nef a daear, am iti guddio’r pethau hyn rhag doethion a gwybodusion, a’u datguddio i blant bach; ie, O Dad, am mai felly y rhyngodd bodd i ti. Popeth a draddodwyd i mi gan fy Nhad, ac nid edwyn neb y Mab ond y Tad, na’r Tad nis edwyn neb ond y Mab, a phwy bynnag yr ewyllysio’r Mab ei ddatguddio iddo. Dowch ataf bawb sy’n lluddedig a llwythog, a rhoddaf i chwi orffwys. Cymerwch fy iau arnoch a dysgwch gennyf, canys addfwyn ydwyf a gostyngedig o galon, a chewch orffwystra i’ch eneidiau: canys fy iau sydd esmwyth a’m baich yn ysgafn.” Yr amser hwnnw yr aeth yr Iesu ar y Sabbath drwy’r meysydd ŷd; a daeth eisiau bwyd ar ei ddisgyblion, a dechreuasant dynnu tywys a bwyta. A’r Phariseaid wrth weled a ddywedodd wrtho, “Dyma dy ddisgyblion yn gwneuthur yr hyn ni ddylid ei wneuthur ar y Sabbath.” Dywedodd yntau wrthynt, “Oni ddarllenasoch beth a wnaeth Dafydd pan ddaeth eisiau bwyd arno a’r rhai oedd gydag ef? pa fodd yr aeth i mewn i dŷ Dduw, ac y bwytasant y torthau gosod, peth ni ddylasai ef ei fwyta, na’r rhai a oedd gydag ef, ond yr offeiriaid yn unig? Neu oni ddarllenasoch yn y Gyfraith fod yr offeiriaid ar y Sabbath yn y deml yn halogi’r Sabbath, ac eto eu bod yn ddieuog? Ac meddaf i chwi, y mae mwy na’r deml yma! Ond pe gwybuasech beth yw Trugaredd a fynnaf ac nid aberth, ni chondemniasech y dieuog. Canys arglwydd y Sabbath yw Mab y dyn.” Ac ymadawodd oddi yno, a daeth i’w synagog hwynt. A dyma ddyn â llaw wywedig. A gofynasant iddo, “A ddylid iacháu ar y Sabbath?” fel y cyhuddent ef. Dywedodd yntau wrthynt, “Pa ddyn ohonoch a chanddo un ddafad, os syrth honno ar y Sabbath i bwll, ni chydia ynddi a’i chodi? Pa faint amgenach, ynteu, ydyw dyn na dafad? Felly fe ddylid gwneuthur da ar y Sabbath.” Yna medd ef wrth y dyn, “Estyn dy law.” Ac fe’i hestynnodd, ac adferwyd hi’n iach fel y llall. Ac aeth y Phariseaid allan, ac ymgyngorasant yn ei erbyn, pa fodd y difethent ef. Ond gwybu’r Iesu, a chiliodd oddi yno. A dilynodd llawer ef, ac fe’u hiachaodd hwynt oll, a rhybuddiodd hwynt nas amlygent ef, fel y cyflawnid yr hyn a lefarwyd trwy Eseia’r proffwyd, “Wele fy ngwas yr hwn a ddewisais, fy anwylyd a fu wrth fodd fy enaid; gosodaf fy ysbryd arno, a barn i’r cenhedloedd a gyhoedda. Nid ymrafaelia ac ni chrochlefa, ac ni chlyw neb ei lais ef yn yr heolydd. Corsen ysig nis tyr, a llin yn mygu nis diffydd, hyd oni ddygo’r farn i fuddugoliaeth. Ac yn ei enw ef y gobeithia cenhedloedd.” Yna y dygwyd ato un cythreulig, dall a mud; ac fe’i hiachaodd nes bod y mudan yn llefaru ac yn gweled. A synnai’r holl dyrfaoedd, a dywedent, “Ai hwn yw mab Dafydd?” A chlywodd y Phariseaid, a dywedasant, “Nid yw hwn yn bwrw allan y cythreuliaid ond trwy Feelsebwl, pennaeth y cythreuliaid.” Yntau, yn gwybod eu meddyliau, a ddywedodd wrthynt, “Pob teyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun a anghyfaneddir; a phob dinas neu dŷ wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun ni saif. Ac os Satan a fwrw allan Satan, yn ei erbyn ei hun yr ymrannodd; pa fodd, ynteu, y saif ei deyrnas? Ac os drwy Feelsebwl y bwriaf i’r cythreuliaid allan, trwy bwy y bwrw eich meibion chwi hwynt allan? Am hynny byddant hwy yn farnwyr arnoch. Ond os drwy ysbryd Duw yr ydwyf i yn bwrw’r cythreuliaid allan, yna daeth teyrnas Dduw arnoch. Neu pa fodd y dichon neb fynd i mewn i dŷ’r cadarn ac ysbeilio’i ddodrefn ef, heb yn gyntaf rwymo’r cadarn, ac yna ysbeilio’i dŷ ef? Y neb nid yw gyda mi, yn fy erbyn y mae, a’r neb nid yw’n casglu gyda mi sy’n gwasgaru. Am hyn meddaf i chwi, pob pechod a chabledd a faddeuir i ddynion, ond y cabledd yn erbyn yr Ysbryd nis maddeuir. A phwy bynnag a ddywedo air yn erbyn Mab y dyn, fe faddeuir iddo; ond pwy bynnag a ddywedo yn erbyn yr Ysbryd Glân, ni faddeuir iddo nac yn yr oes hon nac yn yr oes a ddaw. Naill ai cyfrifwch fod y pren yn dda a’i ffrwyth yn dda, ai cyfrifwch fod y pren yn sâl a’i ffrwyth yn sâl; canys wrth ei ffrwyth yr adweinir y pren. Epil gwiberod, pa fodd y gellwch lefaru pethau da a chwithau’n ddrwg? Canys o orlawnder y galon y llefaraf genau. Y dyn da o’i drysor da a ddwg allan bethau da, a’r dyn drwg o’i drysor drwg a ddwg allan bethau drwg. Ac meddaf i chwi, pob gair ofer a lefaro dynion, rhoddant gyfrif amdano yn nydd y farn. Canys wrth dy eiriau y’th gyfiawnheir, ac wrth dy eiriau y’th gondemnir.” Yna’r atebodd rhai o’r ysgrifenyddion a’r Phariseaid ef, gan ddywedyd; “Athro, dymunwn weled arwydd gennyt.” Atebodd yntau iddynt, “Cenhedlaeth ddrwg a godinebus sy’n ceisio arwydd, ac arwydd nis rhoddir iddi oddieithr arwydd Ionas y proffwyd. Canys fel y bu Ionas ym mol y morfil dridiau a theirnos, felly y bydd Mab y dyn yng nghalon y ddaear dridiau a theirnos. Gwŷr o Ninefeaid a saif i fyny yn y farn gyda’r genhedlaeth hon ac a’i condemnia; canys edifarhasant hwy wrth bregeth Ionas, ac wele fwy nag Ionas yma. Brenhines y dehau a gyfyd yn y farn gyda’r genhedlaeth hon ac ai condemnia; canys daeth hi o eithafoedd y ddaear i glywed doethineb Solomon, ac wele fwy na Solomon yma. Pan êl ysbryd aflan allan o ddyn, fe grwydro drwy leoedd sychion gan geisio egwyl, ac nis caiff. Yna fe ddywed, ‘Dychwelaf i’m tŷ y deuthum allan ohono’; ac wedi dyfod fe’i caiff yn wag ac yn lân ac yn ddestlus. Yna yr â, ac y cymer gydag ef saith o ysbrydion eraill gwaeth nag ef ei hun, ac ânt i mewn a chartrefant yno; ac y mae diwedd y dyn hwnnw yn waeth na’i ddechreuad. Felly y bydd hefyd i’r genhedlaeth ddrwg hon.” Ac ef eto’n llefaru wrth y tyrfaoedd, dyma’i fam a’i frodyr yn sefyll y tu allan ac yn ceisio siarad ag ef. [A dywedodd rhywun wrtho, “Dyma dy fam a’th frodyr yn sefyll y tu allan ac yn ceisio siarad â thi.”] Atebodd yntau i’r hwn a lefarai wrtho, “Pwy yw fy mam, a phwy yw fy mrodyr?” Ac estynnodd ei law at ei ddisgyblion, a dywedodd, “Dyma fy mam a’m brodyr; canys pwy bynnag a wnêl ewyllys fy Nhad sydd yn y nefoedd, ef sy frawd i mi, a chwaer, a mam.” Y dydd hwnnw aeth yr Iesu allan o’r tŷ, ac eistedd ar lan y môr; ac ymgasglodd ato dyrfaoedd lawer, nes iddo fynd i’r llong ac eistedd ynddi, a safai’r holl dyrfa ar y lan. A llefarodd wrthynt lawer ar ddamhegion gan ddywedyd, “Wele, aeth yr heuwr allan i hau; ac wrth iddo hau, syrthiodd rhai o’r had ar fin y ffordd, a daeth yr adar a’u difa. Ac eraill a syrthiodd ar y creigleoedd lle nid oedd iddynt fawr ddaear; ac yn ebrwydd y tarddasant am nad oedd iddynt ddyfnder daear. A phan gododd yr haul, fe’u deifiwyd; ac am nad oedd iddynt wreiddyn, gwywasant. Ac eraill a syrthiodd ar y drain, a thyfodd y drain, a’u tagu. Ac eraill a syrthiodd ar y tir da; a rhoi ffrwyth, peth gant, a pheth drigain, a pheth ddeg ar hugain. Y neb sydd ganddo glustiau, gwrandawed.” A daeth y disgyblion ato a dywedyd wrtho, “Paham y lleferi wrthynt ar ddamhegion?” Atebodd yntau, “I chwi y rhoddwyd gwybod cyfrinion teyrnas nefoedd; ond i’r rhai acw nis rhoddwyd. Canys pwy bynnag sydd ganddo, fe roddir iddo ac fe roddir yn helaeth; ond pwy bynnag nid oes ganddo, hyd yn oed yr hyn sydd ganddo a ddygir oddi arno. Am hyn yr wyf, yn llefaru wrthynt ar ddamhegion, sef am na welant er gweled, ac am na chlywant er clywed, ac na ddeallant. A chyflawnir ynddynt broffwydoliaeth Eseia sy’n dywedyd, Er clywed a chlywed, eto ni ddeellwch, Ac er gweled a gweled, eto ni chanfyddwch. Canys brasawyd calon y genedl hon, Ac â’u clustiau y clywsant yn drwm, A’u llygaid a gaeasant; Rhag ysgatfydd iddynt ganfod â’u llygaid, Ac â’u clustiau glywed, Ac â’u calon ddeall, a throi ohonynt, Ac i mi eu hiacháu. Ond chwychwi, dedwydd yw eich llygaid am eu bod yn gweled, a’ch clustiau am eu bod yn clywed. Canys yn wir meddaf i chwi, llawer o broffwydi a rhai cyfiawn a chwenychodd weled y pethau a welwch, ac nis gwelsant, a chlywed y pethau a glywch, ac nis clywsant. Chwychwi gan hynny, clywch ddameg yr heuwr. Pan glywo neb air y deyrnas a heb ei ddeall, fe ddaw’r un drwg, a chipio’r hyn a heuwyd yn ei galon ef. Hwn yw’r un a heuwyd ar fin y ffordd. A’r un a heuwyd ar y creigleoedd, hwn yw’r un a glyw’r gair ac yn ebrwydd gyda llawenydd a’i derbyn ef; ond nid oes ganddo wreiddyn ynddo’i hun, eithr dros amser y mae, a phan ddêl gwasgfa neu erlid o achos y gair; yn ebrwydd y rhwystrir ef. A’r un a heuwyd yn y drain, hwn yw’r un a glyw’r gair, a phryder y byd a hudoliaeth golud a dag y gair, a diffrwyth fydd. A’r un a heuwyd ar y tir da, hwn yw’r un a glyw’r gair ac a’i deall, a hwnnw a ddwg ffrwyth ac a rydd beth gant, peth drigain, a pheth ddeg ar hugain.” Dameg arall a osododd ef ger eu bron, gan ddywedyd, “Cyffelyb i deyrnas nefoedd oedd dyn a heuodd had da yn ei faes; a phan oedd dynion yn cysgu daeth ei elyn, a heuodd efrau hefyd ymysg yr ŷd, ac aeth ymaith. A phan dyfodd yr eginyn a dwyn ffrwyth, yna’r ymddangosodd hefyd yr efrau. A phan ddaeth gweision y penteulu dywedasant wrtho, ‘Meistr, onid had da a heuaist yn dy faes? o ba le, ynteu, y mae iddo efrau?’ Ebe yntau wrthynt, ‘Gŵr o elyn a wnaeth hyn.’ Ac medd y gweision wrtho, ‘A fynni di, ynteu, i ni fynd i’w casglu hwynt?’ Medd yntau, ‘Na’, rhag ofn i chwi wrth gasglu’r efrau ddiwreiddio’r ŷd gyda hwynt. Gedwch i’r ddau gyd-dyfu hyd y cynhaeaf; ac yn amser y cynhaeaf mi ddywedaf wrth y medelwyr, ‘Cesglwch yn gyntaf yr efrau, a rhwymwch hwynt yn sypiau i’w llosgi, ond crynhowch yr ŷd i’m hysgubor’.” Dameg arall a osododd ef ger eu bron, gan ddywedyd, “Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i ronyn mwstard, a gymerth dyn a’i hau yn ei faes; hwnnw, lleiaf yw o’r holl hadau; ond pan dyfo, mwy na’r llysiau yw, ac fe ddaw’n bren nes dyfod adar yr awyr, a nythu yn ei gangau.” Dameg arall a lefarodd ef wrthynt: “Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i surdoes a gymerth gwraig a’i guddio mewn tri phecaid o flawd, hyd oni surodd y cwbl.” Hyn oll a lefarodd yr Iesu ar ddamhegion wrth y tyrfaoedd, a heb ddameg ni lefarai ddim wrthynt; fel y cyflawnid yr hyn a lefarwyd trwy’r proffwyd, Agoraf fy ngenau ar ddamhegion, Traethaf bethau sy guddiedig er seiliad y byd. Yna wedi gollwng y tyrfaoedd, fe aeth i’r tŷ. A daeth ei ddisgyblion ato, gan ddywedyd, “Eglura i ni ddameg efrau’r maes.” Atebodd yntau, “Heuwr yr had da yw Mab y dyn; a’r maes yw’r byd; yr had da, y rhain yw meibion y deyrnas, a’r efrau yw meibion yr un drwg, a’r gelyn a’u heuodd yw’r diafol; y cynhaeaf, terfyniad yr oes yw, a’r medelwyr yw’r angylion. Megis, ynteu, y cesglir yr efrau a’u llosgi yn tân, felly y bydd yn nherfyniad yr oes. Denfyn mab y dyn ei angylion, a chasglant allan o’i deyrnas ef bob rhwystrau a gwneuthurwyr anghyfraith, a bwriant hwynt i’r ffwrn dân; yno y bydd wylofain a rhincian dannedd. Yna y rhai cyfiawn a ddisgleiria fel yr haul yn nheyrnas eu Tad. Y neb sy ganddo glustiau, gwrandawed. Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i drysor wedi ei guddio yn y maes, yr hwn a gafodd dyn a’i guddio, ac yn ei lawenydd y mae’n mynd ac yn gwerthu’r cwbl sy ganddo, ac yn prynu’r maes hwnnw. Drachefn cyffelyb yw teyrnas nefoedd i fasnachwr yn ceisio perlau teg, ac wedi cael un perl gwerthfawr aeth a gwerthodd y cwbl a oedd ganddo, a phrynodd ef. Drachefn cyffelyb yw teyrnas nefoedd i rwyd a fwriwyd i’r môr, ac a ddaliodd bysg o bob math; a phan lanwodd, tynasant hi i’r lan, ac wedi eistedd cynullasant y rhai da i lestri, a bwrw ymaith y rhai sâl. Felly y bydd yn nherfyniad yr oes; fe â’r angylion allan a didolant y rhai drygionus o blith y cyfiawn, a bwriant hwynt i’r ffwrn dân: yno y bydd wylofain a rhincian dannedd. A ddeallasoch chwi hyn oll?” Dywedant wrtho, “Do.” Dywedodd yntau wrthynt, “Wrth hynny, pob ysgrifennydd a addysgwyd yn nheyrnas nefoedd, cyffelyb yw i ddyn o benteulu, a ddwg allan o’i drysor bethau newydd a hen.” A phan orffennodd yr Iesu’r damhegion hyn fe symudodd oddi yno. A daeth i’w gynefin a’u dysgu hwynt yn eu synagog, nes iddynt synnu a dywedyd, “O ba le y daeth i hwn y ddoethineb hon a’r grymusterau? Onid hwn yw mab y saer? Onid Mair y gelwir ei fam, a’i frodyr yn Iago ac Ioseff a Simon ac Iwdas? A’i chwiorydd, onid ydynt oll gyda ni? O ba le gan hynny y daeth i hwn y pethau hyn oll?” A thramgwydd oedd iddynt. A dywedodd yr Iesu wrthynt, “Nid yw proffwyd yn ddibris ond yn ei gynefin ac yn ei gartref.” Ac ni wnaeth ef yno rymusterau lawer oherwydd eu hanghrediniaeth hwynt. Y pryd hwnnw fe glywodd Herod y tetrarch y sôn am Iesu, ac eb ef wrth ei weision, “Hwn yw Ioan Fedyddiwr; cyfododd oddi wrth y meirw, ac am hynny y gweithia’r grymusterau ynddo.” Canys Herod a ddaliodd Ioan, a’i rwymo a’i ddodi yng ngharchar o achos Herodias gwraig Phylip ei frawd. Canys dywedai Ioan wrtho, “Ni ddylai fod hon yn wraig i ti.” Ac yr oedd am ei ladd ond ofnodd y dyrfa, canys ystyrient ef yn broffwyd. Ond pan ddaeth pen-blwydd Herod dawnsiodd merch Herodias ger eu bron; a boddhaodd Herod, hyd onid addawodd ar ei lw roi iddi beth bynnag a ofynnai. A hithau, wedi ei chyfarwyddo gan ei mam, “Dyro i mi,” meddai hi, “yn y fan yma ar ddysgl ben Ioan Fedyddiwr.” A thristaodd y brenin, ond oherwydd y llwon a’i gyd-gyfeddachwyr fe orchmynnodd ei roddi; ac anfonodd i dorri pen Ioan yn y carchar. A dygwyd ei ben ef ar ddysgl, a rhoddwyd ef i’r eneth, a dug hithau ef i’w mam. A daeth ei ddisgyblion, a chymryd ei gorff ef a’i gladdu; a daethant i fynegi i’r Iesu. Pan glywodd yr Iesu, fe giliodd oddi yno mewn llong i le anghyfannedd o’r neilltu; a phan glywodd y tyrfaoedd, dilynasant ef ar eu traed o’r dinasoedd. Ac wedi iddo ddyfod allan, gwelodd dyrfa fawr, a thosturiodd wrthynt ac iachaodd eu cleifion. Ac wedi iddi hwyrhau, daeth ei ddisgyblion ato, gan ddywedyd, “Anghyfannedd yw’r lle, ac y mae’r amser bellach ar ben; gan hynny gollwng y tyrfaoedd, fel yr elont i’r pentrefydd i brynu bwyd iddynt eu hunain.” Ond dywedodd yr Iesu wrthynt, “Nid oes raid iddynt fynd; rhowch chwi iddynt beth i’w fwyta.” Meddant hwythau wrtho, “Nid oes gennym yma ond pum torth a dau bysgodyn.” Dywedodd yntau, “Dygwch hwynt i mi yma.” Ac wedi gorchymyn i’r tyrfaoedd eistedd ar y glaswellt, fe gymerth y pum torth a’r ddau bysgodyn, a chan edrych i fyny i’r nef, gofynnodd fendith, a thorrodd y torthau a’u rhoddi i’r disgyblion, a rhoes y disgyblion hwynt i’r tyrfaoedd. A bwytasant oll, a diwallwyd hwynt, a chodasant yr hyn a oedd yn weddill o’r darnau, ddeuddeg basgedaid lawn. A’r bwytawyr oedd ynghylch pum mil o wŷr, heblaw gwragedd a phlant. Ac yna parodd i’r disgyblion fynd i’r llong, a mynd o’i flaen i’r ochr arall, nes iddo ef ollwng y tyrfaoedd. Ac wedi gollwng ohono’r tyrfaoedd, aeth i fyny i’r mynydd wrtho’i hun i weddïo. Ac wedi iddi hwyrhau yr oedd ef ar ei ben ei hun yno. Yr oedd y llong erbyn hyn ystadau lawer o’r tir, yn cael ei hyrddio gan y tonnau, canys yr oedd y gwynt yn erbyn. Ac ar y bedwaredd wylfa o’r nos fe ddaeth atynt dan gerdded dros y môr. A’r disgyblion wrth ei weled yn cerdded ar y môr a gyffrowyd, ac meddant, “Drychiolaeth yw,” ac yn eu braw rhoesant waedd. Ac yn y fan llefarodd yr Iesu wrthynt, gan ddywedyd, “Codwch eich calon; myfi yw; peidiwch ag ofni.” Atebodd Pedr ef, “Arglwydd, os ti wyt ti, gorchymyn i mi ddyfod atat ar y dyfroedd.” Dywedodd yntau, “Tyred.” A chan ddisgyn o’r llong cerddodd Pedr dros y dyfroedd, a daeth at yr Iesu. Ond wrth ganfod y gwynt fe ofnodd; a phan ddechreuodd suddo, gwaeddodd gan ddywedyd, “Arglwydd, achub fi.” Ac yn y fan estynnodd yr Iesu ei law a gafaelodd ynddo, ac medd wrtho, “Y bychan ei ffydd, paham y petrusaist?” Ac wedi iddynt fynd i fyny i’r llong, gostegodd y gwynt. Ac ymgrymodd y rhai oedd yn y llong iddo, gan ddywedyd, “Yn wir Mab Duw wyt ti.” Ac wedi croesi daethant i dir yn Gennesaret. A phan adnabu gwŷr y lle hwnnw ef, anfonasant i’r holl gymdogaeth honno, a dygasant ato yr holl gleifion, a deisyf arno am iddynt gael yn unig gyffwrdd â thasel ei fantell; a chynifer ag a gyffyrddodd a iachawyd. Yna daw at yr Iesu o Gaersalem Phariseaid ac ysgrifenyddion, gan ddywedyd, “Paham y trosedda dy ddisgyblion di draddodiad yr hynafiaid? Canys ni olchant eu dwylo pan fwytaont fara.” Atebodd yntau iddynt, “Paham y troseddwch chwithau orchymyn Duw oherwydd eich traddodiad chwi? Canys dywedodd Duw, Anrhydedda dy dad a’th fam, ac a felltithio dad neu fam lladder ef yn farw. Ond dywedwch chwi, Pwy bynnag a ddywedo wrth ei dad neu ei fam, Offrwm yw hynny o fudd a gawsit gennyf i, nid yw i anrhydeddu ei dad neu ei fam; a gwnaethoch air Duw’n ddirym oherwydd eich traddodiad chwi. Ragrithwyr, gwych y proffwydodd Eseia amdanoch, Y bobl hyn â’u gwefusau a’m hanrhydedda, ond eu calon sydd bell oddi wrthyf; ond yn ofer y’m haddolant, gan ddysgu fel athrawiaethau osodiadau dynion.” Ac wedi galw ato’r dyrfa, dywedodd wrthynt, “Gwrandewch a deellwch: nid yr hyn sy’n mynd i mewn i’r genau sy’n halogi dyn, eithr yr hyn sy’n dyfod allan o’r genau, hynny sy’n halogi dyn.” Yna daeth y disgyblion ato, a dywedyd wrtho, “A wyddost ti i’r Phariseaid dramgwyddo wrth glywed yr ymadrodd?” Atebodd yntau, “Pob planhigyn nis plannodd fy Nhad nefol a ddiwreiddir. Gedwch iddynt: arweinwyr deillion i ddeillion ydynt; ac os dall a dywys ddall, syrthiant ill dau i bwll.” Atebodd Pedr a dywedodd wrtho, “Eglura i ni’r ddameg.” Dywedodd yntau, “A ydych chwithau o hyd yn ddi-ddeall? Oni welwch chwi fod popeth a êl i mewn i’r genau yn mynd i’r cylla, ac y bwrir ef allan i’r geudy? Ond y pethau sy’n dyfod allan o’r genau, o’r galon y deuant, a’r rheini sy’n halogi dyn. Canys o’r galon y daw allan feddyliau drwg, llofruddiaethau, godinebau, anniweirdeb, lladradau, gau-dystiolaethau, cableddau. Dyna’r pethau sy’n halogi dyn; ond bwyta â dwylo heb eu golchi nid yw’n halogi dyn.” Ac aeth yr Iesu oddi yno, ac ymneilltuodd i dueddau Tyrus a Sidon. A dyna wraig o Gananëes o’r gororau hynny yn dyfod allan ac yn gweiddi gan ddywedyd, “Tosturia wrthyf, Arglwydd, fab Dafydd; blinir fy merch yn arw gan gythraul.” Yntau nid atebodd iddi air. A daeth ei ddisgyblion ymlaen, a gofyn iddo, “Gollwng hi ymaith, canys y mae hi’n llefain o’n hôl.” Atebodd yntau, a dywedodd, “Ni’m danfonwyd ond at ddefaid colledig tŷ Israel.” Daeth hithau, ac ymgrymu iddo gan ddywedyd, “Syr, cymorth fi.” Atebodd yntau, “Nid yw’n deg cymryd bara’r plant a’i daflu i’r cŵn.” Atebodd hithau, “Ydyw, Syr; canys y mae hyd yn oed y cŵn yn bwyta o’r briwsion sy’n syrthio oddi ar fwrdd eu meistri.” Yna atebodd yr Iesu a dywedodd wrthi, “O wraig, mawr yw dy ffydd; boed i ti fel y mynni.” Ac iachawyd ei merch o’r awr honno. A symudodd yr Iesu oddi yno a daeth gerllaw môr Galilea, ac wedi esgyn i’r mynydd eisteddodd yno. A daeth ato dyrfaoedd lawer, a chanddynt gyda hwynt gloffion, anafusion, deillion, mudion, a llawer eraill, a bwriasant hwynt wrth ei draed ef; ac fe’u hiachaodd hwynt; nes synnu o’r dyrfa weled mudion yn llefaru, anafusion yn iach, a chloffion yn rhodio a deillion yn gweled; a gogoneddent Dduw Israel. A galwodd yr Iesu ei ddisgyblion ato a dywedodd, “Y mae’n ddrwg gan fy nghalon dros y dyrfa, canys yn awr y maent ers tridiau’n tario gyda mi, ac nid oes ganddynt ddim i’w fwyta; a’u gollwng ar eu cythlwng nis mynnaf, rhag iddynt lewygu ar y ffordd.” Ac medd ei ddisgyblion wrtho, “O ba le y cawn ni mewn diffeithwch ddigon o fara i ddiwallu cymaint o dyrfa?” Ac medd yr Iesu wrthynt, “Pa sawl torth sy gennych?” Dywedasant hwythau, “Saith, ac ychydig o fân bysgod.” Ac wedi gorchymyn i’r dyrfa eistedd ar y ddaear, fe gymerth y saith dorth a’r pysgod, ac wedi diolch, torrodd hwynt, a’u rhoi i’r disgyblion, a’r disgyblion yn rhoi i’r tyrfaoedd. A bwytaodd pawb ac fe’u diwallwyd, a gweddill y darnau a godasant yn saith gawellaid llawn. A’r bwytawyr oedd bedair mil o wŷr, heblaw gwragedd a phlant. Ac wedi iddo ollwng y tyrfaoedd, fe aeth i’r llong a daeth i ororau Magadan. A daeth y Phariseaid a’r Sadwceaid ato i’w brofi, a gofynasant iddo ddangos iddynt arwydd, o’r nef. Atebodd yntau, “[Pan ddêl yr hwyr chwi ddywedwch, ‘Hindda fydd, canys coch yw’r awyr’; ac yn y bore ‘Heddiw drycin fydd, canys coch wgus yw’r awyr,’ Chwi ellwch ddirnad wyneb yr awyr, ond arwyddion yr amserau nis medrwch.] Cenhedlaeth ddrwg a godinebus sy’n ceisio arwydd, ac arwydd nis rhoddir iddi oddieithr arwydd. Ionas.” A gadawodd hwynt ac aeth ymaith. Ac erbyn i’r disgyblion fyned i’r ochr draw yr oeddent wedi anghofio dyfod â bara. A dywedodd yr Iesu wrthynt, “Gwyliwch ac ymogelwch rhag surdoes y Phariseaid a’r Sadwceaid.” Ymresyment hwythau yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, “Am na ddaethom ni â bara!” A gwybu’r Iesu, a dywedodd, “Paham yr ymresymwch yn eich plith eich hunain, rai bychain eu ffydd, am nad oes gennych fara? Onid ydych yn deall eto, ac onid ydych yn cofio pum torth y pum mil, a pha sawl basgedaid a gawsoch? Na saith dorth y pedair mil a pha sawl cawellaid a gawsoch? Pa fodd na welwch nad am fara y dywedais wrthych? Ond ymogelwch rhag surdoes y Phariseaid a’r Sadwceaid.” Yna y deallasant na ddywedodd wrthynt am ymogelu rhag surdoes bara, eithr rhag dysgeidiaeth y Phariseaid a’r Sadwceaid. Ac wedi i’r Iesu ddyfod i dueddau Cesarea Philippi, gofynnodd i’w ddisgyblion, “Pwy medd dynion yw Mab y dyn?” Dywedasant hwythau, “Rhai Ioan Fedyddiwr, ac eraill Elïas, ac eraill Ieremïas neu un o’r proffwydi.” Medd ef wrthynt, “Ond chwi, pwy meddwch chwi ydwyf?” Atebodd Simon Pedr, “Ti yw’r Crist, Mab y Duw byw.” Atebodd yr Iesu iddo, “Gwyn dy fyd di, Simon Barionas, canys nid cig a gwaed a’i datguddiodd i ti, ond fy Nhad sydd yn y nefoedd. A minnau a ddywedaf wrthyt mai Pedr (Craig) wyt ti, ac ar y graig hon yr adeiladaf fy eglwys, a phyrth Annwn ni orfydd arni. Rhoddaf i ti allweddau teyrnas nefoedd, a pha beth bynnag a rwymych ar y ddaear, bydd wedi ei rwymo yn y nefoedd; a pha beth bynnag a ryddhaech ar y ddaear, bydd wedi ei ryddhau yn y nefoedd.” Yna rhybuddiodd ei ddisgyblion na ddywedent wrth neb mai ef oedd y Crist. O hynny allan dechreuodd Iesu Grist ddangos i’w ddisgyblion fod yn rhaid iddo fyned ymaith i Gaersalem, a dioddef llawer gan yr henuriaid a’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion, a’i ladd, a chyfodi’r trydydd dydd. A chymerth Pedr ef ato, a dechreuodd ei geryddu, gan ddywedyd “Nawdd drosot, Arglwydd! Ni chaiff hyn byth fod i ti.” Troes yntau, a dywedodd wrth Bedr, “Dos yn fy ôl i, Satan; magl wyt i mi; canys nid ar bethau Duw y mae dy fryd, ond ar bethau dynion.” Yna dywedodd yr Iesu wrth ei ddisgyblion, “Os myn neb ddyfod ar fy ôl i, ymwaded ag ef ei hun, a chyfoded ei groes, a dilyned fi. Canys pwy bynnag a fynno gadw ei fywyd, fe’i cyll; ond pwy bynnag a gollo ei fywyd er fy mwyn i, fe’i caiff. Canys pa faint gwell fydd dyn, os ennill yr holl fyd, a’i golledu o’i fywyd? Neu, pa beth a rydd dyn yn gyfnewid am ei fywyd? Canys y mae Mab y dyn ar ddyfod yng ngogoniant ei Dad gyda’i angylion, ac yna y tâl i bob un yn ôl ei ymddygiad. Yn wir meddaf i chwi, y mae rhai o’r sawl sy’n sefyll yma na phrofant flas angau nes gweled Mab y dyn yn dyfod yn ei deyrnas.” Ac ymhen chwe diwrnod cymer yr Iesu Bedr ac Iago ac Ioan ei frawd ef, a dwg hwynt i fynydd uchel o’r neilltu. A gweddnewidiwyd ef yn eu gwydd hwynt; a disgleiriodd ei wyneb fel yr haul, a’i ddillad a aeth yn wyn fel y goleuni. Ac wele, ymddangosodd iddynt Moses ac Elïas yn ymddiddan ag ef. A llefarodd Pedr a dywedodd wrth yr Iesu, “Arglwydd, da yw ein bod ni yma; os mynni, mi wnaf yma dair pabell, i ti un, ac i Foses un, ac i Elïas un.” Ac yntau eto’n llefaru, dyna gwmwl golau yn eu cysgodi hwynt, a dyma lef o’r cwmwl yn dywedyd, “Hwn yw fy Mab annwyl a ryngodd fy modd; gwrandewch arno ef.” A phan glywodd y disgyblion syrthiasant ar eu hwynebau, ac ofnasant yn ddirfawr. A daeth yr Iesu atynt, a chan gyffwrdd â hwynt dywedodd, “Codwch ac nac ofnwch.” Ac wedi dyrchafu eu llygaid ni welsant neb ond Iesu ei hun yn unig. Ac wrth iddynt ddyfod i lawr o’r mynydd, gorchmynnodd yr Iesu iddynt, “Na ddywedwch i neb y weledigaeth hyd oni chyfodo Mab y dyn o feirw.” A gofynnodd y disgyblion iddo, “Paham, ynteu, y dywed yr ysgrifenyddion fod yn rhaid i Elïas ddyfod yn gyntaf?” Atebodd yntau, “ Elias yn wir sy’n dyfod ac a adfer bopeth; ond meddaf i chwi, fe ddaeth Elïas eisoes, ac nis adnabuant ef, eithr gwnaethant ag ef yr hyn a fynasant. Felly hefyd y mae Mab y dyn ar ddioddef ganddynt.” Yna deallodd y disgyblion mai am Ioan Fedyddiwr y dywedasai wrthynt. Ac wedi eu dyfod at y dyrfa daeth ato ddyn gan benlinio iddo, a dywedyd, “Arglwydd, tosturia wrth fy mab, canys y mae’n lloerig ac yn ddrwg ei gyflwr; mynych y syrth i’r tân, a mynych i’r dŵr. A dygais ef at dy ddisgyblion, ac ni allasant ei iacháu.” Atebodd yr Iesu, “O genhedlaeth ddiffydd a gŵyrgam, pa hyd y byddaf gyda chwi? Pa hyd y’ch goddefaf? Dygwch ef yma i mi.” A cheryddodd yr Iesu ef, ac aeth y cythraul allan ohono; ac iachawyd y bachgen o’r awr honno. Yna daeth y disgyblion at yr Iesu o’r neilltu, a dywedasant, “Paham na allasom ni ei fwrw allan?” Medd yntau wrthynt, “Oherwydd prinder eich ffydd; canys yn wir meddaf i chwi, os bydd gennych ffydd fel hedyn mwstard, chwi ddywedwch wrth y mynydd hwn, ‘Symud oddi yma draw,’ ac fe symuda; ac ni fydd dim yn amhosibl i chwi.” Ac a hwy’n cyniwair yng Ngalilea dywedodd yr Iesu wrthynt, “Y mae Mab y dyn ar fedr cael ei draddodi i ddwylo dynion, a lladdant ef, ac ar y trydydd dydd fe gyfyd.” A thristáu a wnaethant yn ddirfawr. Ac wedi eu dyfod i Gapernaum, daeth casglyddion y ddeuswllt at Bedr, a dywedasant, “Oni fydd eich athro’n talu’r ddeuswllt?” Medd ef, “Bydd.” Ac wedi iddo fynd i’r tŷ, achubodd yr Iesu ei flaen gan ddywedyd, “Beth a debygi di, Simon? Gan bwy y cymer brenhinoedd y ddaear drethi neu deyrnged? Ai gan eu meibion, ai gan estroniaid?” A phan ddywedodd “Gan estroniaid,” meddai’r Iesu wrtho, “Felly y mae’r meibion yn rhydd. Ond rhag i ni beri tramgwydd iddynt, dos i’r môr a bwrw fach, a chymer y pysgodyn cyntaf a ddaw i fyny, ac wedi agor ei enau ti gei ddarn pedwar swllt; cymer hwnnw, a dyro iddynt drosof i a thithau.” Yr adeg honno daeth y disgyblion at yr Iesu, gan ddywedyd, “Pwy, tybed, sy fwyaf yn nheyrnas nefoedd?” A galwodd ato blentyn, a gosododd ef yn eu canol, a dywedodd, “Yn wir meddaf i chwi, oddieithr eich troi a dyfod fel plant, nid ewch ddim i mewn i deyrnas nefoedd. Y neb, gan hynny, a’i darostyngo’i hun fel y plentyn hwn, hwnnw yw’r mwyaf yn nheyrnas nefoedd. A phwy bynnag a dderbynio un plentyn fel hwn yn fy enw i, y mae’n fy nerbyn i; ond pwy bynnag a baro rwystr i un o’r rhai bychain hyn sy’n credu ynof i, fe dalai iddo fod maen melin mawr wedi ei grogi am ei wddf a’i foddi yn eigion y môr. Gwae’r byd o achos rhwystrau; canys rhaid dyfod rhwystrau, eithr gwae’r dyn y daw’r rhwystr drwyddo. Ac os dy law neu dy droed a’th rwystra, tor ef ymaith a thafl oddi wrthyt; gwell i ti yw myned i mewn i’r bywyd yn anafus neu’n gloff nag â dwy law neu ddau droed gennyt dy daflu i’r tân tragwyddol. Ac os dy lygad a’th rwystra, tyn ef allan a thafl oddi wrthyt; gwell yw i ti fyned i mewn i’r bywyd yn unllygeidiog nag â dau lygad gennyt dy daflu i dân Gehenna. Gwyliwch na ddirmygoch un o’r rhai bychain hyn; canys meddaf i chwi, y mae eu hangylion hwy yn y nefoedd bob amser yn gweled wyneb fy Nhad sydd yn y nefoedd. Beth a debygwch chwi? Os bydd i ryw ddyn gant o ddefaid a chrwydro o un ohonynt, oni edy ef y cant namyn un ar y mynyddoedd a myned i geisio’r grwydredig? Ac os bydd iddo ei chael hi, yn wir meddaf i chwi, mwy y llawenycha am honno nag am y cant namyn un nad oeddent ar grwydr. Felly nid ewyllys eich Tad sydd yn y nefoedd yw colli un o’r rhai bychain hyn. Os pecha dy frawd, dos ac argyhoedda ef rhyngot ti ac ef ei hun. Os gwrendy arnat, enillaist dy frawd; ac oni wrendy, cymer gyda thi eto un neu ddau, fel yng ngenau dau dyst neu dri y safo pob gair; ac os diystyra hwynt, dywed wrth yr eglwys; ac os diystyra’r eglwys hefyd, boed ef i ti megis y cenedl-ddyn a’r trethwr. Yn wir meddaf i chwi, pa bethau bynnag a rwymoch ar y ddaear, byddant wedi eu rhwymo yn y nef; a pha bethau bynnag a ryddhaoch ar y ddaear, byddant wedi eu rhyddhau yn y nef. Drachefn yn wir meddaf i chwi, os cydsynia dau ohonoch ar y ddaear ar ddim oll a’r a ofynnont, fe ddaw iddynt oddi wrth fy Nhad sydd yn y nefoedd. Canys lle mae dau neu dri wedi ymgynnull yn fy enw i, yno yr wyf yn eu canol.” Yna daeth Pedr ato a dywedyd wrtho, “Arglwydd, pa sawl gwaith y mae fy mrawd i bechu yn fy erbyn ac i minnau faddau iddo? ai hyd seithwaith?” Medd yr Iesu wrtho, “Ni ddywedaf wrthyt hyd seithwaith, eithr hyd saith dengwaith saith. Am hynny cyffelyb i deyrnas nefoedd oedd gŵr o frenin, a benderfynodd wneuthur cyfrif gyda’i weision. Dechreuodd ei wneuthur, a dygwyd un ato a oedd yn ei ddyled o ddeng mil o dalentau. A chan nad oedd ganddo fodd i dalu, gorchmynnodd yr arglwydd ei nerthu ef a’i wraig a’i blant a chwbl a feddai, i doddi’r ddyled. Yna syrthiodd y gwas a phenlinio iddo, gan ddywedyd, ‘Bydd ymarhous wrthyf, ac mi dalaf y cwbl i ti.’ A thosturiodd arglwydd y gwas hwnnw, a rhyddhaodd ef, a maddeuodd y benthyg iddo. Aeth y gwas hwnnw allan, a chafodd un o’i gydweision a oedd yn ei ddyled ef o gan swllt, a gafaelodd ynddo, a’i lindagu gan ddywedyd ‘Tâl dy ddyled.’ Yna syrthiodd ei gydwas, ac ymbil ag ef, gan ddywedyd, ‘Bydd ymarhous wrthyf, ac mi dalaf i ti.’ Ond ni fynnai, eithr aeth a bwriodd ef i garchar hyd oni thalai’r ddyled. Yna pan welodd ei gydweision yr hyn a ddigwyddasai, bu ddrwg dros ben ganddynt, ac aethant i hysbysu i’w harglwydd y cwbl a ddigwyddasai. Yna galwodd ei arglwydd ef ato, ac medd wrtho, ‘Y gwas drwg, yr holl ddyled honno a faddeuais i ti, am i ti ymbil â mi; oni ddylasit tithau drugarhau wrth dy gydwas, fel y trugarheais innau wrthyt ti?’ A’i arglwydd yn ei lid a’i traddododd i’r arteithwyr hyd oni thalai’r cwbl o’i ddyled. Felly hefyd y gwna fy Nhad nefol i chwithau, oni faddeuwch bob un i’w frawd o’ch calon.” A phan orffennodd yr Iesu’r geiriau hyn, fe symudodd o Galilea i ororau Iwdea tu hwnt i’r Iorddonen. A dilynodd tyrfaoedd lawer ef, ac fe’u hiachaodd hwynt yno. A daeth ato Phariseaid i’w brofi gan ddywedyd, “Ai iawn i ddyn ysgar â’i wraig am bob rhyw achos?” Atebodd yntau a dywedodd, “Oni ddarllenasoch i’r Crëwr o’r dechrau eu gwneuthur yn wryw a benyw, ac iddo ddywedyd Oherwydd hyn y gedy dyn ei dad a’i fam, ac y glŷn wrth ei wraig, a bydd y ddau yn un cnawd? Felly nid ydynt mwyach ddau ond un cnawd. Y peth gan hynny a ieuodd Duw, na wahaned dyn.” Meddant wrtho, “Paham, ynteu, y gorchmynnodd Moses roi llythyr ysgar, a’i gollwng hi ymaith?” Medd ef wrthynt, “Moses, oherwydd eich calon-galedwch chwi, a ganiataodd i chwi ysgar â’ch gwragedd; ond ni bu felly o’r dechreuad. Meddaf i chwi, pwy bynnag a ysgaro â’i wraig oddieithr am anniweirdeb, ac a briodo un arall, y mae’n godinebu.” Medd ei ddisgyblion wrtho, “Os felly y mae perthynas gŵr â’i wraig, ni thâl priodi.” Dywedodd yntau wrthynt, “Nid pawb a all dderbyn y gair hwn, eithr y rhai y rhoddwyd iddynt. Canys y mae eunuchiaid a aned felly o groth eu mam, ac y mae eunuchiaid a wnaed yn eunuchiaid gan ddynion, ac y mae eunuchiaid a’u gwnaeth eu hunain yn eunuchiaid er mwyn teyrnas nefoedd. Y neb a ddichon ei dderbyn, derbynied.” Yna dygwyd ato blant bach, fel y dodai ei ddwylo arnynt, a gweddïo; a’r disgyblion a’u ceryddodd hwynt. Ond yr Iesu a ddywedodd, “Gedwch i’r plant bach ddyfod ataf i, ac na rwystrwch hwynt; canys rhai fel hwy biau deyrnas nefoedd.” Ac wedi dodi ei ddwylo arnynt, fe aeth oddi yno. A dyna un yn dyfod ato ac yn dywedyd wrtho, “Athro, pa dda a wnaf i gael bywyd tragwyddol?” Dywedodd yntau wrtho, “Paham yr holi fi am y da? Un yn unig sydd dda; ond os mynni fyned i mewn i’r bywyd, cadw’r gorchmynion.” Medd ef wrtho, “Pa rai?” Meddai’r Iesu, “Na ladd, Na odineba, Na ladrata, Na chamdystiolaetha, Anrhydedda dy dad a’th fam, a Châr dy gymydog fel ti dy hun.” Medd y dyn ieuanc wrtho, “Y rhain oll a gedwais; beth sydd eto ar ôl ynof?” Meddai’r Iesu wrtho, “Os mynni fod yn berffaith, dos, gwerth yr hyn sy gennyt, a dyro i’r tlodion, a chei drysor yn y nefoedd; a thyred, dilyn fi.” Pan glywodd y dyn ieuanc y gair, aeth ymaith yn ofidus; canys yr oedd yn berchen meddiannau lawer. A dywedodd yr Iesu wrth ei ddisgyblion, “Yn wir meddaf i chwi mai’n anodd yr â goludog i mewn i deyrnas nefoedd. A thrachefn meddaf i chwi, Haws yw i gamel fynd trwy grau nodwydd na goludog i mewn i deyrnas Dduw.” A phan glywodd y disgyblion, synnent yn ddirfawr, gan ddywedyd, “Pwy ynteu a all gael ei gadw?” Edrychodd yr Iesu arnynt a dywedodd, “Ym myd dynion y mae hyn yn amhosibl, ond ym myd Duw popeth sy bosibl.” Yna atebodd Pedr iddo, “Dyma ni wedi gadael popeth a’th ddilyn di; beth ynteu a fydd i ni?” A dywedodd yr Iesu wrthynt, “Yn wir meddaf i chwi, cewch chwi a’m dilynodd i, yn yr adenedigaeth pan eisteddo Mab y dyn ar orsedd ei ogoniant, eistedd chwithau ar ddeuddeg gorsedd i farnu deuddeg llwyth Israel. A phob un a adawodd dai neu frodyr neu chwiorydd neu dad neu fam neu blant neu diroedd er mwyn fy enw i a dderbyn lawer gwaith cymaint, a bywyd tragwyddol a etifedda. Ond llawer o’r rhai blaenaf a fydd yn olaf, ac o’r rhai olaf yn flaenaf. Canys cyffelyb yw teyrnas nefoedd i ddyn o benteulu a aeth allan gyda’r dydd i gyflogi gweithwyr i’w winllan. Ac wedi cytuno â’r gweithwyr am swllt y dydd, anfonodd hwynt i’w winllan. Ac aeth allan ynghylch y drydedd awr a gwelodd eraill yn sefyll yn y farchnad yn ddi-waith, a dywedodd wrth y rheini, ‘Ewch chwithau hefyd i’r winllan, a pha beth bynnag a fo cyfiawn mi a’i rhoddaf i chwi.’ A hwy aethant. A thrachefn yr aeth allan ynghylch y chweched a’r nawfed awr, a gwnaeth yr un modd. Ac ynghylch yr unfed awr ar ddeg aeth allan, a chafodd eraill yn sefyll, ac medd wrthynt ‘Paham yr ydych yn sefyll yma ar hyd y dydd yn ddi-waith?’ Meddant wrtho, ‘Am na chyflogodd neb ni.’ Medd ef wrthynt, ‘Ewch chwithau hefyd i’r winllan.’ Ac wedi iddi hwyrhau, medd arglwydd y winllan wrth ei oruchwyliwr, ‘Galw’r gweithwyr, a thâl iddynt eu cyflog, gan ddechrau o’r rhai olaf hyd y rhai cyntaf.’ A phan ddaeth y rhai a gyflogasid ynghylch yr unfed awr ar ddeg, cawsant swllt yr un. A phan ddaeth y rhai cyntaf tybiasant y caent fwy; eto cawsant hwythau hefyd swllt yr un. Ond pan gawsant, dechreuasant rwgnach yn erbyn y penteulu, gan ddywedyd, ‘Un awr y gweithiodd y rhai olaf hyn, a gwnaethost hwynt yn gyfartal â ni, sy wedi dwyn pwys y dydd a’r gwres.’ Atebodd yntau i un ohonynt, ‘Gyfaill, nid wyf yn gwneuthur cam â thi; onid am swllt y cytunaist â mi? Cymer yr eiddot, a dos; yr wyf yn dewis rhoi i’r olaf hwn fel i tithau; onid cyfreithlon i mi wneuthur a fynnwyf â’m pethau fy hun? Neu ai cenfigennus wyt ti am fy mod i’n garedig?’ Felly y bydd y rhai olaf yn flaenaf, a’r rhai blaenaf yn olaf.” A’r Iesu ar fedr mynd i fyny i Gaersalem, fe gymerth y deuddeg o’r neilltu, ac ar y ffordd dywedodd wrthynt, “Dyma ni’n mynd i fyny i Gaersalem, a Mab y dyn a draddodir i’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion, a chondemniant ef i farwolaeth, a thraddodant ef i’r cenhedloedd i’w watwar a’i ffrewyllu ai groeshoelio, a’r trydydd dydd fe gyfyd.” Yna y daeth ato fam meibion Sebedeus gyda’i meibion, gan ymgrymu a cheisio rhywbeth ganddo. Dywedodd yntau wrthi, “Beth a fynni?” Medd hi wrtho, “Dywed am i’m dau fab hyn gael eistedd un ar dy ddeheulaw ac un ar dy aswy yn dy deyrnas.” Atebodd yr Iesu, “Ni wyddoch beth a ofynnwch. A ellwch yfed y cwpan yr wyf i ar fedr ei yfed?” Meddant wrtho, “Gallwn.” Medd ef wrthynt, “Fy nghwpan a yfwch, ond eistedd ar fy neheulaw ac ar fy aswy nid eiddof i ei roi, eithr i’r rhai y darparwyd iddynt gan fy Nhad y mae.” A phan glywodd y deg, digiasant ynghylch y ddau frawd. A galwodd yr Iesu hwynt ato, a dywedodd, “Chwi wyddoch fod llywodraethwyr y cenhedloedd yn arglwyddiaethu arnynt a’u mawrion yn awdurdodi arnynt. Nid felly y mae yn eich plith chwi; eithr pwy bynnag a fynno ddyfod yn fawr yn eich plith chwi, bydded was i chwi, a phwy bynnag a fynno fod yn flaenaf yn eich plith chwi, bydded gaethwas i chwi; megis na ddaeth Mab y dyn i’w wasanaethu ond i wasanaethu, ac i roi ei einioes yn bridwerth yn lle llawer.” A hwy’n myned allan o Iericho, dilynodd tyrfa fawr ef. A dyma ddau ddyn dall a oedd yn eistedd ar fin y ffordd, yn gweiddi, pan glywsant fod Iesu’n mynd heibio, “Arglwydd, tosturia wrthym, Fab Dafydd!” A’r dyrfa a’u ceryddodd hwynt i gael ganddynt dewi; mwy fyth y gwaeddasant hwythau gan ddywedyd, “Arglwydd, tosturia wrthym, Fab Dafydd!” A safodd yr Iesu, a galwodd hwynt, a dywedodd, “Beth a fynnwch i mi ei wneuthur i chwi?” Meddant wrtho, “Arglwydd, cael agor ein llygaid.” Tosturiodd yr Iesu wrthynt, a chyffyrddodd â’u llygaid, ac yn y fan cawsant eu golwg a dilynasant ef. A phan nesasant at Gaersalem, a dyfod i Fethphage ar Fynydd yr Olewydd, yna anfonodd Iesu ddau ddisgybl, gan ddywedyd wrthynt, “Ewch i’r pentref sy gyferbyn â chwi, ac yn y fan chwi gewch asen yn rhwym ac ebol gyda hi; gollyngwch a dygwch i mi. Ac os dywed neb ddim wrthych, dywedwch, ‘Mae ar yr Arglwydd eu heisiau’; ac yn y fan fe’u henfyn.” A hyn a fu fel y cyflawnid yr hyn a lefarwyd gan y proffwyd, Dywedwch i ferch Seion, Wele dy Frenin yn dyfod, yn addfwyn ac yn eistedd ar asen, ac ar ebol o lwdn asyn. Ac aeth y disgyblion, a gwneuthur fel y gorchmynasai’r Iesu iddynt, a dygasant yr asen a’r ebol, a dodi arnynt eu dillad, ac eisteddodd yntau arnynt. A’r rhan fwyaf o’r dyrfa a daenodd eu dillad ar y ffordd, ac eraill yn torri brigau o’r coed ac yn eu taenu ar y ffordd. A’r tyrfaoedd, a’i rhagflaenai ac a’i dilynai, oedd yn llefain, gan ddywedyd — Hosanna i Fab Dafydd; Bendigedig yw’r un sy’n dyfod yn enw’r Arglwydd; Hosanna yn y goruchafion. A phan ddaeth ef i Gaersalem, cynhyrfwyd yr holl ddinas, gan ddywedyd “Pwy yw hwn?” A dywedai’r tyrfaoedd, “Hwn yw’r proffwyd Iesu o Nasareth Galilea.” Ac aeth Iesu i mewn i’r deml, a bwriodd allan yr holl weithwyr a phrynwyr yn y deml; a dymchwelodd fyrddau’r cyfnewidwyr arian, a chadeiriau’r gwerthwyr colomennod; ac medd ef wrthynt, “Ysgrifennwyd, Fy nhŷ i a elwir yn dŷ gweddi, ond gwnewch chwi ef yn ogof lladron.” A daeth ato ddeillion a chloffion yn y deml, ac fe’u hiachaodd hwynt. A phan welodd yr archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion y rhyfeddodau a wnaeth ef, a’r plant a oedd yn gweiddi yn y deml ac yn dywedyd “Hosanna i Fab Dafydd,” digiasant, a dywedasant wrtho, “A glywi di beth a ddywed y rhain?” Ac medd yr Iesu wrthynt, “Clywaf; oni ddarllenasoch erioed O enau plant bach a rhai’n sugno y darperaist iti fawl?” A gadawodd hwynt ac aeth allan o’r ddinas, i Fethania, a threuliodd y nos yno. A’r bore, wrth ddychwelyd i’r ddinas, daeth arno eisiau bwyd. Ac wedi gweled rhyw ffigysbren ar y ffordd, daeth ato, ac ni chafodd ddim arno ond dail yn unig; ac medd ef wrtho, “Mwyach na ddeled ffrwyth ohonof ti byth bythoedd.” A chrinodd y ffigysbren ar unwaith. A phan welodd y disgyblion, rhyfeddasant, gan ddywedyd, “Pa fodd y crinodd y ffigysbren ar unwaith?” Atebodd yr Iesu iddynt, “Yn wir meddaf i chwi, os bydd gennych ffydd a heb amau, nid yn unig chwi wnewch yr hyn a wnaed i’r ffigysbren, ond hyd yn oed os dywedwch wrth y mynydd hwn ‘Coder di, a bwrier di i’r môr,’ hynny a fydd. A phopeth a ofynnoch mewn gweddi gan gredu, chwi a’i cewch.” Ac wedi iddo ddyfod i’r deml, pan oedd yn dysgu daeth yr archoffeiriaid a henuriaid y bobl ato, a dywedasant, “Drwy ba awdurdod y gwnei di’r pethau hyn? a phwy a roes i ti’r awdurdod hwn?” Atebodd yr Iesu iddynt, “Mi ofynnaf innau i chwi un gair, ac os dywedwch imi hynny, dywedaf innau i chwi drwy ba awdurdod y gwnaf y pethau hyn: bedydd Ioan, o ba le yr oedd? ai o’r nef ai o ddynion?” Ymresyment hwythau ynddynt eu hunain, gan ddywedyd, “Os dywedwn, ‘O’r nef,’ fe ddywed wrthym, ‘Paham ynteu nas credasoch?’ Ac os dywedwn ‘O ddynion,’ y mae arnom ofn y dyrfa; canys y mae pawb yn cyfrif Ioan yn broffwyd.” Ac atebasant yr Iesu, “Nis gwyddom.” Ac meddai yntau wrthynt, “Ac ni ddywedaf innau i chwithau trwy ba awdurdod y gwnaf y pethau hyn. Ond beth a debygwch chwi? Yr oedd gan ddyn ddau o blant; fe aeth at y cyntaf, a dywedodd, ‘Fy mab, dos heddiw, gweithia yn y winllan.’ Atebodd yntau, ‘Gwnaf i, syr,’ ac eto nid aeth. Ac aeth at yr ail, a dywedodd yr un modd. Atebodd yntau, ‘Nac af’; wedi hynny edifarodd, ac aeth. Pa un o’r ddau a wnaeth ewyllys y tad?” Meddant hwy, “Yr olaf.” Medd yr Iesu wrthynt, “Yn wir, meddaf i chwi, fe â’r trethwyr a’r puteiniaid o’ch blaen chwi i mewn i deyrnas Dduw. Canys daeth Ioan atoch gyda ffordd uniondeb, ac nis credasoch; ond credodd y trethwyr a’r puteiniaid ef; gwelsoch chwithau, ac nid edifarhasoch hyd yn oed wedyn a’i gredu. Clywch ddameg arall. Yr oedd rhyw ddyn o benteulu a blannodd winllan, a chaeodd o’i hamgylch, a chloddiodd ynddi gafn, ac adeiladodd dŵr; a gosododd hi i lafurwyr, ac aeth oddi cartref. A phan nesaodd amser ffrwythau, anfonodd ei weision at y llafurwyr i gael ei ffrwythau; a dal ei weision a wnaeth y llafurwyr, a churo un, a lladd un arall, a llabyddio un arall. Drachefn anfonodd weision eraill, mwy eu nifer na’r rhai cyntaf, a gwnaethant iddynt yr un modd. Wedi hynny anfonodd atynt ei fab, gan ddywedyd, ‘Parchant fy mab.’ Ond pan welodd y llafurwyr y mab, dywedasant yn eu plith eu hunain, ‘Hwn yw’r etifedd; dowch, lladdwn ef, a meddiannwn ei etifeddiaeth.’ A’i ddal a wnaethant, a’i fwrw allan o’r winllan, a’i ladd. Pan ddêl perchen y winllan, ynteu, pa beth a wna i’r llafurwyr hynny?” Meddant wrtho, “Fe’u difetha’n llwyr, y dyhirod, a’r winllan a esyd i lafurwyr eraill, a dâl iddo’r ffrwythau yn eu hamseroedd.” Medd yr Iesu wrthynt, “Oni ddarllenasoch erioed yn yr ysgrythurau, Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, hwn a ddaeth yn ben y gongl: Gan yr Arglwydd y gwnaethpwyd hyn, ac y mae’n rhyfedd yn ein golwg ni? Am hynny, meddaf i chwi, y dygir oddi arnoch deyrnas Dduw, ac y rhoddir i genedl yn dwyn ei ffrwythau hi. A’r neb a syrth ar y maen hwn a ddryllir, ac ar bwy bynnag y syrthio, fe’i mâl.” A phan glywodd yr archoffeiriaid a’r Phariseaid ei ddamhegion, deallasant mai amdanynt hwy y soniai; ac a hwy’n ceisio cael gafael arno, daeth ofn y tyrfaoedd arnynt, am eu bod yn ei gyfrif ef yn broffwyd. A llefarodd yr Iesu drachefn ar ddamhegion, gan ddywedyd, “Cyffelyb i deyrnas nefoedd oedd gŵr o frenin, a wnaeth neithior i’w fab. A danfonodd ei weision i alw’r gwahoddedigion i’r neithior, ac ni fynnent ddyfod. Drachefn anfonodd weision eraill, gan ddywedyd, ‘Dywedwch wrth y gwahoddedigion, “Dyma fi wedi paratoi fy nghinio, yr ychen a’r pasgedigion wedi eu lladd, a phopeth yn barod; dowch i’r neithior”.’ A hwythau, yn ddifater, a aeth ymaith, un i’w faes, a’r llall i’w fasnach; a’r lleill a afaelodd yn ei weision ef, a’u cam-drin, a’u lladd. A ffromodd y brenin, ac anfonodd ei luoedd, a dinistrio’r lleiddiaid hynny, a llosgi eu dinas. Yna medd ef wrth ei weision, ‘Y briodas sydd barod, ond y gwahoddedigion nid oeddent deilwng; ewch gan hynny i bennau’r ffyrdd, a phwy bynnag a gaffoch, gelwch i’r neithior.’ Ac aeth y gweision hynny allan i’r ffyrdd, a chynullasant bawb a gawsant, drwg a da; a llanwyd y neuadd briodas o westeion. Ac aeth y brenin i mewn i gael golwg ar y gwesteion, a chanfu yno ddyn heb wisg briodas amdano, ac medd ef wrtho, ‘Y cyfaill, pa fodd y daethost ti i mewn yma heb gennyt wisg briodas?’ Yntau a aeth yn fud. Yna dywedodd y brenin wrth y gweision, ‘Rhwymwch ei draed a’i ddwylo, a bwriwch ef i’r tywyllwch tu allan.’ Yno y bydd wylofain a rhincian dannedd. Canys llawer a alwyd ond ychydig a etholwyd.” Yna’r aeth y Phariseaid ac ymgynghori pa fodd y maglent ef ar air. Ac anfonant ato eu disgyblion gyda’r Herodianiaid i ddywedyd, “Athro, gwyddom dy fod yn ddidwyll, ac yn dysgu ffordd Duw mewn didwylledd, ac na waeth gennyt am neb; canys nid edrychi ar wyneb dynion; dywed gan hynny wrthym beth a debygi di? A ddylid rhoi treth i Gesar ai peidio?” Ond canfu’r Iesu eu cast hwynt, a dywedodd, “Pam y temtiwch fi, ragrithwyr? Dangoswch i mi ddarn arian y dreth.” Dygasant iddo swllt. Ac medd ef wrthynt, “Pwy biau’r ddelw hon a’r argraff?” Meddant hwy, “Cesar.” Yna eb ef wrthynt, “Telwch, ynteu, bethau Cesar i Gesar, a phethau Duw i Dduw.” A phan glywsant, rhyfeddasant, a’i adael a myned ymaith. Y diwrnod hwnnw daeth ato Sadwceaid, sy’n dywedyd nad oes atgyfodiad; a gofynasant iddo, “Athro, dywedodd Moses Os bydd marw neb heb iddo blant, prioded ei frawd ei wraig ef, a choded had i’w frawd. Yr oedd yn ein plith ni saith o frodyr; a’r cyntaf a briododd, ac a fu farw, a chan nad oedd iddo had gadawodd ei wraig i’w frawd; yr un modd hefyd yr ail a’r trydydd, hyd y seithfed. Ac yn olaf oll bu farw’r wraig. Yn yr atgyfodiad, ynteu, i ba un o’r saith y bydd hi’n wraig? Canys pob un ohonynt a’i cafodd hi.” Atebodd yr Iesu iddynt, “Yr ydych yn cyfeiliorni am na wyddoch na’r ysgrythurau na gallu Duw. Canys yn yr atgyfodiad, ni phriodant ac nis priodir; eithr fel angylion yn y nef y maent. Ond am atgyfodiad y meirw, oni ddarllenasoch yr hyn a lefarwyd wrthych gan Dduw, Myfi yw Duw Abraham, a Duw Isaac, a Duw Iacob? Nid yw ef Dduw rhai meirw ond rhai byw.” A phan glywodd y tyrfaoedd hynny, synasant at ei athrawiaeth ef. A phan glywodd y Phariseaid iddo roi taw ar y Sadwceaid, ymgynullasant at ei gilydd, a gofynnodd un ohonynt, rhyw gyfreithiwr, i’w brofi ef, “Athro, pa un yw’r gorchymyn mwyaf yn y gyfraith?” Eb ef wrtho, “Câr yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon ac â’th holl enaid ac â’th holl feddwl. Hwn yw’r gorchymyn mwyaf a’r cyntaf. Ail orchymyn tebyg iddo yw Câr dy gymydog fel ti dy hun. Ar y ddau orchymyn hyn y dibynna’r holl gyfraith a’r proffwydi.” A phan oedd y Phariseaid wedi ymgynnull, gofynnodd yr Iesu iddynt, “Beth a debygwch chwi am y Crist? Mab i bwy ydyw?” Meddant wrtho, “I Ddafydd.” Medd ef wrthynt, “Pa fodd, ynteu, y geilw Dafydd ef trwy’r Ysbryd yn Arglwydd, gan ddywedyd, Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw hyd oni osodwyf dy elynion o dan dy draed? Os Dafydd, ynteu, ai geilw ef yn Arglwydd, pa fodd y mae’n fab iddo?” Ac ni allai neb ateb iddo air, ac ni feiddiodd neb o’r dydd hwnnw allan ei holi mwy. Yna llefarodd yr Iesu wrth y tyrfaoedd a’i ddisgyblion, gan ddywedyd, “Yng nghadair Moses yr eisteddodd yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid. Pob peth, gan hynny, a ddywedant wrthych, gwnewch a chedwch ef, ond yn ôl eu gweithredoedd na wnewch; canys dywedant, ac ni wnânt. A rhwymant feichiau trymion a’u dodi ar ysgwyddau dynion, a hwy eu hunain ni fynnant eu symud â’u bys. A’u holl weithredoedd a wnânt er mwyn cael eu gweled gan ddynion; canys lledant eu phylacterau a helaethant eu taselau, a charant y brif sedd yn y gwleddoedd a’r prif gadeiriau yn y synagogau a’r cyfarchiadau yn y marchnadoedd, a’u galw gan ddynion, Rabbi. Eithr na’ch galwer chwi Rabbi; canys un athro sydd i chwi, a chwithau oll, brodyr ydych. Ac na elwch neb yn dad i chwi ar y ddaear; canys un Tad sydd i chwi, yr un nefol. Ac na’ch galwer yn hyfforddwyr, oherwydd un hyfforddwr sydd i chwi, y Crist. A’r mwyaf ohonoch, bydded i chwi’n was. A phwy bynnag a’i dyrchafo’i hun a ostyngir, a phwy bynnag a’i gostyngo’i hun a ddyrchefir. Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, am eich bod yn cloi teyrnas nefoedd yn erbyn dynion; canys chwi nid ewch i mewn, a’r rhai sydd yn ceisio myned i mewn, ni edwch iddynt fyned. Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, am eich bod yn amgylchu’r môr a’r tir i wneuthur un proselyt, a phan fyddo wedi ei wneuthur gwnewch ef yn gymaint ddwywaith o fab Gehenna â chwi. Gwae chwi, arweinwyr dall, sy’n dywedyd, ‘Y neb a dyngo i’r deml, ni olyga ddim; ond y neb a dyngo i aur y deml, y mae arno ddyled.’ Ffyliaid a deillion! Canys pa un sydd fwyaf, yr aur ai’r deml a santeiddiodd yr aur? Eto, ‘Y neb a dyngo i’r allor, ni olyga ddim; ond y neb a dyngo i’r rhodd sydd arni, y mae arno ddyled.’ Ddeillion! Canys pa un sydd fwyaf, y rhodd ai’r, allor sy’n santeiddio’r rhodd? A dyngo, ynteu, i’r allor, tyngu y mae iddi hi ac i bob peth sydd arni; ac a dyngo i’r deml, tyngu y mae iddi hi ac i’r hwn sy’n preswylio ynddi; ac a dyngo i’r nef, tyngu y mae i orsedd Duw ac i’r hwn sy’n eistedd arni. Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, am eich bod yn degymu’r mintys a’r ffenigl a’r cwmin, ac wedi gadael heibio’r pethau trymach sydd yn y gyfraith, barn a thrugaredd a ffyddlondeb; dylid gwneuthur y naill heb adael heibio’r lleill. Arweinwyr dall, sy’n hidlo’r gwybedyn ac yn llyncu’r camel! Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, am eich bod yn glanhau’r tu allan i’r cwpan a’r plât, ond o’r tu mewn llawn ydynt o ladrad a thrachwant. Pharisead dall! Glanha’n gyntaf y tu mewn i’r cwpan, fel y delo’r tu allan iddo hefyd yn lân. Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, canys ymdebygwch i feddau wedi eu gwyngalchu; oddi allan ymddangosant yn deg, ond oddi mewn llawn ydynt o esgyrn y meirw a phob aflendid. Felly chwithau hefyd, oddi allan ymddangoswch i ddynion yn gyfiawn, ond oddi mewn yr ydych yn llawn rhagrith ac anghyfraith. Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, am eich bod yn adeiladu beddau’r proffwydi ac yn addurno beddrodau’r rhai cyfiawn, ac yn dywedyd, ‘Pe buasem ni byw yn nyddiau ein tadau, ni buasem gyfrannog â hwynt yng ngwaed y proffwydi.’ Ac felly tystiolaethwch amdanoch eich hunain mai meibion ydych i’r rhai a laddodd y proffwydi. Cyflawnwch chwithau hefyd fesur eich tadau. Seirff, epil gwiberod, pa fodd y dihengwch rhag eich dedfrydu i Gehenna? Am hynny wele fi’n anfon atoch broffwydi a doethion ac ysgrifenyddion; rhai ohonynt a leddwch a’u croeshoelio, ac eraill a ffrewyllwch yn eich synagogau a’u herlid o ddinas i ddinas; fel y delo arnoch chwi bob tywallt gwaed rhai cyfiawn ar y ddaear o waed Abel gyfiawn hyd waed Sacharïas fab Barachïas a laddasoch rhwng y cysegr a’r allor. Yn wir meddaf i chwi, daw hyn oll ar y genhedlaeth hon. Gaersalem, Gaersalem, sy’n lladd y proffwydi a llabyddio’r rhai a anfonwyd ati — pa sawl gwaith y mynnais gasglu dy blant ynghyd, fel y casgl iâr ei chywion dan ei hadenydd, ac nis mynnech! Wele, eich tŷ chwi a adewir. Canys meddaf i chwi, ni’m gwelwch i o hyn allan hyd oni ddywedoch, Bendigedig yw’r un sy’n dyfod yn enw’r Arglwydd.” Ac aeth yr Iesu allan o’r deml a mynd i’w ffordd, a daeth ei ddisgyblion ato i ddangos iddo adeiladau’r deml. Atebodd yntau iddynt, “Oni welwch chwi’r pethau hyn oll? Yn wir meddaf i chwi, ni adewir yma faen ar faen heb ei ddymchwel.” A phan oedd yn eistedd ar fynydd yr Olewydd, daeth y disgyblion ato o’r neilltu a dywedyd, “Dywed wrthym, pa bryd y bydd y pethau hyn? A beth fydd yr arwydd o’th ddyfodiad ac o derfyniad yr oes?” Ac atebodd yr Iesu iddynt, “Edrychwch na thwyllo neb chwi. Canys llawer a ddaw ar bwys fy enw i, a dywedyd, ‘Myfi yw’r Crist,’ a thwyllant laweroedd. A chewch glywed am ryfeloedd a sôn am ryfeloedd; gwelwch na’ch cythrybler; canys rhaid eu dyfod, eithr nid yw’r diwedd eto. Canys cyfyd cenedl yn erbyn cenedl a theyrnas yn erbyn teyrnas, a bydd newynau a daeargrynfâu mewn amryw leoedd; dechrau gwewyr fydd hyn oll. Yna traddodant chwi i’ch cystuddio a lladdant chwi, a byddwch gas gan yr holl genhedloedd oherwydd fy enw i. Ac yna tramgwyddir llawer a bradychant ei gilydd a chasáu ei gilydd; a chyfyd gau broffwydi lawer a thwyllant laweroedd; ac oherwydd i anghyfraith amlhau, fe oera cariad y lliaws. Ond y neb a ymgynnal i’r pen, hwnnw a gedwir. A phregethir yr efengyl hon am y deyrnas trwy’r byd cyfan er tystiolaeth i’r holl genhedloedd, ac yna daw y diwedd. Pan weloch, ynteu, ffieiddbeth y difrod, y dywedwyd amdano trwy Ddaniel y proffwyd, yn sefyll mewn lle santaidd, (a ddarlleno, ystyried), yna ffoed y rhai a fydd yn Iwdea i’r mynyddoedd; y dyn ar nen y tŷ, na ddisgynned i gyrchu’r pethau a fo yn ei dŷ, a’r dyn yn y maes, na ddychweled yn ei ôl i gyrchu ei fantell. Ond gwae’r rhai beichiog a’r rhai a ro’r fron yn y dyddiau hynny! A gweddïwch na ddelo’ch ffoedigaeth yn y gaeaf nac ar y Sabbath; canys bydd y pryd hwnnw galedi mawr na bu ei fath o ddechrau’r byd hyd yn awr, na chwaith ni bydd byth. Ac oni bai gwtogi’r dyddiau hynny, nid achubesid un cnawd; eithr er mwyn yr etholedigion cwtogwyd y dyddiau hynny. Y pryd hwnnw os dywed neb wrthych, ‘Dyma’r Crist,’ neu ‘Yma,’ na chredwch; canys cyfyd gau-gristiau a gau-broffwydi, a rhoddant arwyddion mawr a rhyfeddodau, nes twyllo, pe gellid, hyd yn oed yr etholedigion; dyma fi wedi rhagfynegi i chwi. Os dywedant wrthych, ynteu, ‘Dyma fo yn y diffeithwch,’ nac ewch allan; ‘Dyma fo yn yr ystafelloedd,’ na chredwch. Canys fel y mae’r fellten yn dyfod allan o’r dwyrain ac yn tywynnu hyd y gorllewin, felly y bydd dyfodiad Mab y dyn; lle bynnag y bo’r gelain, yno yr ymgasgl y fwlturiaid. Ac yn union wedi caledi’r dyddiau hynny yr haul a dywyllir, a’r lloer ni rydd ei llewyrch, a’r sêr a syrth o’r nef, a nerthoedd y nefoedd a ysgydwir. Ac yna yr ymddengys arwydd Mab y dyn yn y nef, ac yna y galara holl lwythau’r ddaear, ac y gwelant Fab y dyn yn dyfod ar gymylau’r nef gyda gallu a gogoniant mawr; ac fe enfyn ei angylion ag utgorn mawr, a chynullant ei etholedigion o’r pedwar gwynt, o gyrrau’r nefoedd bwygilydd. Oddi wrth y ffigysbren dysgwch ei ddameg; wedi’r êl ei gangen weithian yn ir, a’r dail yn tarddu, chwi wyddoch fod yr haf yn agos; felly chwithau, pan weloch yr holl bethau hyn, gwybyddwch ei fod yn agos wrth y drws. Yn wir meddaf i chwi, nid â’r genhedlaeth hon ddim heibio hyd oni ddigwyddo hyn oll. Y nef a’r ddaear ânt heibio, ond fy ngeiriau i nid ânt heibio ddim. Ond am y dydd hwnnw a’r awr ni ŵyr neb, nac angylion y nefoedd na’r Mab, ond y Tad yn unig. Canys fel y bu dyddiau Noe, felly y bydd dyfodiad Mab y dyn; canys fel yr oeddent yn y dyddiau hynny cyn y dilyw yn bwyta ac yn yfed, yn priodi ac yn rhoi i briodas, hyd y dydd yr aeth Nöe i mewn i’r arch, ac ni wybuant hyd oni ddaeth y dilyw a’u cipio hwynt oll, felly y bydd dyfodiad Mab y dyn. Y pryd hwnnw bydd dau yn y maes, un a gymerir ac un a adewir; dwy yn malu yn y felin, un a gymerir ac un a adewir. Byddwch effro, ynteu, am na wyddoch pa ddiwrnod y mae eich Arglwydd yn dyfod. Ond gwybyddwch hyn: pe gwybuasai’r pen teulu pa wyliadwriaeth y deuai’r lleidr, buasai’n effro ac ni adasai gloddio’i dŷ trwodd. Am hynny byddwch chwithau barod, canys yr awr ni thybioch y daw Mab y dyn. Pwy, tybed, yw’r gwas ffyddlon a chall, a osododd yr arglwydd dros ei deulu i roddi iddynt eu bwyd yn ei bryd? Gwyn ei fyd y gwas hwnnw, y caiff ei arglwydd, pan ddêl, ei fod yn gwneuthur felly; yn wir meddaf i chwi, fei gesyd ef dros ei holl eiddo. Ond os dywed y gwas drwg hwnnw yn ei galon, ‘Mae f’arglwydd yn oedi,’ a dechrau curo’i gyd-weision, a bwyta ac yfed gyda’r meddwon, fe ddaw arglwydd y gwas hwnnw ar ddiwrnod nad yw’n disgwyl ac ar awr nad yw’n gwybod, a’i dorri’n ddau, a’i gyfrif gyda’r rhagrithwyr; yno y bydd wylofain a rhincian dannedd. Yna cyffelybir teyrnas nefoedd i ddeg o forynion, a gymerodd eu lampau a mynd allan i gyfarfod y priodfab. Yr oedd pump ohonynt yn ffôl a phump yn gall. Canys cymerodd y rhai ffôl eu lampau heb gymryd olew gyda hwynt; eithr cymerodd y rhai call olew yn y llestri gyda’u lampau. A phan oedd y priodfab yn oedi, hepiasant oll a syrthio i gysgu. Ac ar ganol nos daeth gwaedd, ‘Dyma’r priodfab, ewch allan i’w gyfarfod.’ Yna cododd yr holl forynion hynny, a chyweirio eu lampau. A dywedodd y rhai ffôl wrth y rhai call, ‘Rhowch i ni beth o’ch olew, achos y mae’n lampau ni yn diffodd.’ Ond atebodd y rhai call, ‘Efallai na bydd dim digon i ni ac i chwithau; gwell ichwi fynd at y gwerthwyr a phrynu i chwi eich hunain.’ A phan oeddent ar eu ffordd i brynu, daeth y priodfab, ac aeth y rhai oedd yn barod i mewn gydag ef i’r neithior, a chaewyd y drws. Wedyn daw’r morynion eraill, a dywedyd, ‘Syr, syr, agor i ni.’ Atebodd yntau, ‘Yn wir meddaf i chwi, ni’ch adwaen chwi.’ Felly byddwch effro, am na wyddoch y dydd na’r awr. Canys y mae fel dyn yn mynd oddi cartref, a alwodd ei weision a rhoi i’w gofal ei eiddo; ac i un fe roes bum talent, i un arall ddwy, i un arall un, i bob un yn ôl ei allu, ac aeth oddi cartref. Yn y fan aeth yr un a gawsai’r pum talent i farchnata â hwynt, ac enillodd bump eraill; yr un modd yr un a gawsai’r ddwy, enillodd ddwy eraill; ond yr un a gawsai’r un a aeth ymaith i gloddio pwll, a chuddiodd arian ei arglwydd. Ac wedi talm o amser daw arglwydd y gweision hynny a gwneuthur cyfrif gyda hwynt. A daeth ato’r un a gawsai’r pum talent a dwyn pum talent eraill, gan ddywedyd, ‘Arglwydd, pum talent a roddaist i’m gofal; dyma bum talent eraill a enillais.’ Meddai ei arglwydd wrtho, ‘Da, was da a ffyddlon! Buost ffyddlon ar ychydig, gosodaf di ar lawer; dos i mewn i lawenydd dy arglwydd.’ Daeth ato hefyd yr un a gawsai’r ddwy dalent, a dywedodd, ‘Arglwydd, dwy dalent a roddaist i’m gofal; dyma ddwy dalent eraill a enillais.’ Meddai ei arglwydd wrtho, ‘Da, was da a ffyddlon! Buost ffyddlon ar ychydig, gosodaf di ar lawer; dos i mewn i lawenydd dy arglwydd.’ A daeth ato hefyd yr un a gawsai’r un dalent, a dywedodd, ‘Arglwydd, deellais dy fod yn ddyn caled, yn medi lle ni heuaist, ac yn casglu o’r lle ni wasgeraist; a daeth ofn arnaf, ac euthum a chuddio dy dalent yn y ddaear. Dyma i ti dy eiddo.’ Ond atebodd ei arglwydd iddo, ‘Was drwg a diog, ti wyddit, ai e, fy mod yn medi lle ni heuais, ac yn casglu o’r lle ni wasgerais? Felly ti ddylasit osod fy arian gyda’r arianwyr, a minnau a ddaethwn ac a gawswn fy eiddo yn ôl gyda llog. Felly cymerwch y dalent oddi arno, a rhowch i’r hwn sydd ganddo’r deg talent. Canys i’r neb sydd ganddo y rhoddir, a bydd ar ben ei ddigon; ond y neb nid oes ganddo, hyd yn oed yr hyn sydd ganddo a gymerir oddi arno. Ac am y gwas anfuddiol, bwriwch ef i’r tywyllwch tu allan; yno y bydd wylofain a rhincian dannedd.’ Pan ddêl Mab y dyn yn ei ogoniant a’r holl angylion gydag ef, yna yr eistedd ar ei orsedd ogoneddus; a chesglir ger ei fron yr holl genhedloedd, a didola ddynion oddi wrth ei gilydd, fel y bydd bugail yn didoli’r defaid oddi wrth y geifr, a gesyd y defaid ar ei law ddehau, a’r geifr ar yr aswy. Yna y dywed y Brenin wrth y rhai ar ei law ddehau, ‘Deuwch, chwi fendigedigion fy Nhad, etifeddwch y deyrnas sydd wedi ei pharatoi i chwi er seiliad byd. Canys daeth arnaf newyn a rhoesoch imi fwyd, daeth arnaf syched a rhoesoch ddiod imi, dyn dieithr oeddwn a rhoesoch groeso imi, noeth a gwisgasoch fi, clafychais ac ymwelsoch â mi, yr oeddwn yng ngharchar a daethoch ataf.’ Yna yr etyb y rhai cyfiawn iddo, ‘Arglwydd, pa bryd y’th welsom yn newynog a’th borthi, neu’n sychedig a rhoi diod iti? A pha bryd y’th welsom yn ddyn dieithr a rhoi croeso iti, neu’n noeth a’th wisgo? A pha bryd y’th welsom yn glaf neu yng ngharchar a dyfod atat?’ Ac etyb y Brenin iddynt, ‘Yn wir meddaf i chwi, yn gymaint â’i wneuthur ohonoch i un o’m brodyr lleiaf hyn, i mi y gwnaethoch.’ Yna y dywed wrth y rhai ar yr aswy, ‘Ewch oddi wrthyf dan felltith i’r tân tragwyddol a baratowyd i’r diafol a’i angylion. Canys daeth newyn arnaf ac ni roesoch imi fwyd, daeth syched arnaf ac ni roesoch ddiod imi, dyn dieithr oeddwn ac ni roesoch groeso imi, noeth ac ni’m gwisgasoch, claf ac yng ngharchar ac nid ymwelsoch â mi.’ Yna yr atebant hwythau, ‘Arglwydd, pa bryd y’th welsom yn newynog neu’n sychedig neu’n ddyn dieithr neu’n noeth neu’n glaf neu yng ngharchar heb weini iti?’ Yna yr etyb iddynt, ‘Yn wir meddaf i chwi, yn gymaint ag nas gwnaethoch i un o’r rhai lleiaf hyn, nis gwnaethoch i minnau chwaith.’ Ac â’r rhain ymaith i gosbedigaeth dragwyddol, ond y rhai cyfiawn i fywyd tragwyddol.” A phan orffennodd yr Iesu yr holl eiriau hyn, dywedodd wrth ei ddisgyblion, “Gwyddoch fod y pasg yn dyfod ymhen deuddydd, a Mab y dyn a draddodir i’w groeshoelio.” Y pryd hynny ymgynullodd yr archoffeiriaid a henuriaid y bobl yng nghyntedd yr archoffeiriad a elwid Caiaffas, ac ymgyngorasant i gael gafael ar yr Iesu trwy ddichell a’i ladd; ond meddent, “Nid ar yr ŵyl, rhag bod cynnwrf ymhlith y bobl.” A phan oedd yr Iesu ym Methania yn nhŷ Simon y gwahanglwyfus, daeth ato wraig a chanddi flwch o ennaint gwerthfawr, ai dywallt ar ei ben pan oedd ef wrth y bwrdd. A phan welodd y disgyblion, digiasant gan ddywedyd, “Paham y golled hon? Canys gallesid gwerthu hyn er llawer, a’i roi i dlodion.” A deallodd yr Iesu, a dywedodd wrthynt, “Paham y perwch flinder i’r wraig? Canys gweithred hardd a wnaeth hi arnaf i; canys y mae gennych y tlodion gyda chwi bob amser, ond myfi, nid wyf i gennych bob amser; canys hon, wrth roi’r ennaint hwn ar fy nghorff, erbyn fy nghladdu y gwnaeth hynny. Yn wir meddaf i chwi, pa le bynnag y pregethir yr efengyl hon yn yr holl fyd, fe adroddir hefyd yr hyn a wnaeth hon er cof amdani.” Yna aeth un o’r deuddeg, a elwid Iwdas Iscariot, at yr archoffeiriaid, a dywedodd, “Beth a rowch i mi, am i mi ei draddodi ef i chwi?” Pwysasant hwythau iddo ddeg ar hugain o ddarnau arian. Ac o’r pryd hwnnw ceisiai gyfle i’w fradychu ef. Ar ddydd cyntaf gŵyl y bara croyw daeth y disgyblion at yr Iesu, a dywedyd, “Pa le y mynni i ni baratoi i ti fwyta’r pasg?” Dywedodd yntau, “Ewch i’r ddinas at hwn a hwn, a dywedwch wrtho, ‘Mae’r Athro’n dywedyd, Y mae fy amser yn ymyl; gyda thi y cadwaf y pasg ynghyd â’m disgyblion’.” A gwnaeth y disgyblion fel y gorchmynasai’r Iesu iddynt, a pharatoesant y pasg. Wedi iddi hwyrhau yr oedd yn eistedd wrth y bwrdd gyda’r deuddeg disgybl. Ac â hwy’n bwyta fe ddywedodd, “Yn wir meddaf i chwi, un ohonoch chwi a’m bradycha i.” A than ofidio’n ddirfawr dechreuasant ddywedyd wrtho bob un ac un, “Nid myfi yw, Arglwydd?” Atebodd yntau, “Y sawl a wlycho’i law gyda mi yn y ddysgl, hwnnw a’m bradycha i. Mab y dyn yn wir sy’n myned fel y mae’n ysgrifenedig amdano, ond gwae’r dyn hwnnw y bradychir Mab y dyn trwyddo; da fuasai i’r dyn hwnnw pe nas ganesid ef.” Atebodd Iwdas, ei fradychwr, “Nid myfi yw, Rabbi?” Medd ef wrtho, “Ti sy’n gofyn.” Ac wrth iddynt fwyta cymerth yr Iesu fara, ac wedi bendithio torrodd ef a’i roi i’r disgyblion a dywedyd, “Cymerwch, bwytewch; hwn yw fy nghorff.” A chymerth gwpan, ac wedi diolch fe’i rhoddes iddynt, gan ddywedyd, “Yfwch ohono bawb; canys hwn yw fy ngwaed cyfamod, a dywelltir dros lawer er maddeuant pechodau. Meddaf i chwi, nid yfaf o hyn allan o’r ffrwyth hwn i’r winwydden hyd y dydd hwnnw pan yfaf ef gyda chwi yn newydd yn nheyrnas fy Nhad.” Ac wedi iddynt ganu emyn, aethant allan i fynydd yr Olewydd. Yna dywed yr Iesu wrthynt, “Fe’ch tramgwyddir chwi oll ynof i heno; canys y mae’n ysgrifenedig, Trawaf y bugail, a gwasgerir defaid y ddiadell. Ond wedi i mi gyfodi, mi af o’ch blaen chwi i Galilea.” Ond atebodd Pedr iddo, “Os tramgwyddir pawb ynot ti, ni’m tramgwyddir i byth.” Ebe’r Iesu wrtho, “Yn wir meddaf i ti, heno, cyn i’r ceiliog ganu, ti a’m gwedi deirgwaith.” Medd Pedr wrtho, “Hyd yn oed os rhaid imi farw gyda thi, ni’th wadaf ddim.” Felly hefyd y dywedodd yr holl ddisgyblion. Yna daw’r Iesu gyda hwynt i ddarn o dir a elwid Gethsemane, ac eb ef wrth y disgyblion, “Eisteddwch yma tra bwyf yn mynd draw acw i weddïo.” A chymerth Bedr a dau fab Sebedeus gydag ef; a dechreuodd dristáu ac ymgynhyrfu. Yna medd ef wrthynt, “Athrist yw fy enaid hyd angau; arhoswch yma a chedwch yn effro gyda mi.” Ac wedi myned rhagddo ychydig syrthiodd ar ei wyneb, gan weddïo a dywedyd, “Fy Nhad, os oes dichon, aed y cwpan hwn heibio oddi wrthyf; eithr nid fel y mynnaf i, ond fel y mynni di.” A daw at y disgyblion a’u cael yn cysgu, ac medd ef wrth Bedr, “Oni allasoch gadw’n effro gyda mi am gymaint ag un awr? Byddwch effro a gweddïwch nad eloch i demtasiwn. Yr ysbryd yn wir sydd eiddgar, ond y cnawd yn wan.” Drachefn yr ail waith aeth ymaith, a gweddïodd gan ddywedyd, “Fy Nhad, oni all hwn fyned heibio heb i mi ei yfed, gwneler dy ewyllys.” A daeth drachefn, a’u cael yn cysgu, canys yr oedd eu llygaid wedi trymhau. Ac fe’u gadawodd ac aeth ymaith drachefn, a gweddïodd y drydedd waith gan ddywedyd yr un ymadrodd drachefn. Yna daw at y disgyblion, ac medd ef wrthynt, “A ydych yn dal i gysgu a gorffwys? Dyma’r awr gerllaw, awr traddodi Mab y dyn i ddwylo pechaduriaid. Codwch, awn; dyma fy mradychwr yn ymyl.” Ac ef eto’n llefaru, dyma Iwdas, un o’r deuddeg, yn dyfod, a chydag ef dyrfa fawr â chleddyfau a phastynau oddi wrth yr archoffeiriaid a henuriaid y bobl. Rhoesai ei fradychwr arwydd iddynt, gan ddywedyd, “Pwy bynnag a gusanwyf, hwnnw ydyw; deliwch ef.” A daeth yn syth at yr Iesu; a dywedodd, “Henffych well, Rabbi!” A chusanodd ef. Dywedodd yr Iesu wrtho, “Gyfaill, ymlaen gyda’th waith.” Yna daethant a rhoi eu dwylo ar yr Iesu, a’i ddal. A dyma un o’r rhai a oedd gydag Iesu yn estyn ei law a thynnu ei gleddyf, a chan daro gwas yr archoffeiriad torrodd ymaith ei glust. Yna medd yr Iesu wrtho, “Dychwel dy gleddyf i’w le, canys pawb a gymeront gleddyf, â chleddyf y difethir hwy. Neu a dybi di na allaf ddeisyf ar fy Nhad, a chawn ganddo yn y fan fwy na deuddeg lleng o angylion? Sut felly y cyflawnir yr ysgrythurau mai fel hyn y mae’n rhaid iddi fod?” Yr awr honno ebe’r Iesu wrth y tyrfaoedd, “Ai megis at leidr y daethoch allan gyda chleddyfau a phastynau i’m dal? Beunydd yr eisteddwn yn y deml yn dysgu, ac ni roesoch law arnaf. Ond hyn oll a fu fel y cyflawnid ysgrythurau’r proffwydi.” Yna gadawodd yr holl ddisgyblion ef, a ffoesant. A’r rhai a ddaliodd yr Iesu a’i dug ef ymaith at Gaiaffas yr archoffeiriad i’r lle yr ymgynullasai’r ysgrifenyddion a’r henuriaid. Yr oedd Pedr yn ei ddilyn ef o bell hyd gyntedd yr archoffeiriaid, ac aeth i mewn ac eistedd gyda’r gwasanaethyddion i weled y diwedd. A cheisiai’r archoffeiriaid a’r holl Sanhedrin gam dystiolaeth yn erbyn yr Iesu fel y rhoddent ef i farwolaeth, ac nis cawsant er i lawer o gam dystion ddyfod ymlaen. O’r diwedd daeth dau ymlaen a dywedyd, “Fe ddywedodd hwn, Gallaf ddymchwelyd teml Dduw a’i hadeiladu mewn tridiau.” A chododd yr archoffeiriad, a dywedodd wrtho, “Onid atebi ddim? Beth am yr hyn a dystia’r rhain i’th erbyn?” Ond tawai’r Iesu. Ac ebe’r archoffeiriad wrtho, “Yr wyf yn dy dynghedu di trwy’r Duw byw ddywedyd i ni ai ti yw’r Crist, Mab Duw.” Medd yr Iesu wrtho, “Ti sy’n gofyn; eithr meddaf i chwi, ar ôl hyn cewch weled Mab y dyn yn eistedd ar ddeheulaw’r gallu, ac yn dyfod ar gymylau’r nef.” Yna rhwygodd yr archoffeiriad ei ddillad gan ddywedyd, “Cablodd. Pa raid i ni mwy wrth dystion? Wele yn awr, clywsoch y cabledd; beth debygwch chwi?” Atebasant hwythau, “Haedda farw.” Yna poerasant yn ei wyneb a’i ddyrnodio; cernodiodd eraill ef, gan ddywedyd, “Proffwyda i ni, Grist! Pwy yw’r un a’th drawodd?” Eisteddai Pedr allan yn y cyntedd; a daeth rhyw forwyn ato, gan ddywedyd, “Yr oeddit tithau gydag Iesu’r Galilead.” Gwadodd yntau yng ngŵydd pawb, gan ddywedyd, “Ni wn beth yr wyt yn ei feddwl.” Ac wedi iddo fynd allan i’r porth, gwelodd morwyn arall ef, ac medd hi wrth y rhai oedd yno, “Yr oedd hwn gydag Iesu’r Nasaread.” A thrachefn gwadodd ar ei lw, “Nid adwaen i mo’r dyn.” Ymhen ychydig daeth y rhai oedd gerllaw ato, a dywedasant wrth Bedr, “Yn wir yr wyt tithau yn un ohonynt; achos y mae dy leferydd yn dy fradychu.” Yna fe ddechreuodd felltithio a thyngu, “Nid adwaen i mo’r dyn.” Ac yn y fan canodd y ceiliog. A chofiodd Pedr y gair a ddywedasai’r Iesu, “Cyn i’r ceiliog ganu, ti a’m gwedi deirgwaith.” Ac aeth allan, ac wylodd yn chwerw. A phan ddaeth y bore ymgynghorodd yr holl archoffeiriaid a henuriaid y bobl yn erbyn yr Iesu er mwyn ei roddi i farwolaeth. A rhwymasant ef, ac aethant ag ef ymaith, a’i draddodi i Bilat, y rhaglaw. Yna pan welodd Iwdas, a’i bradychodd ef, ddarfod ei gondemnio, bu’n edifar ganddo, a daeth â’r deg darn arian ar hugain yn ôl i’r archoffeiriaid a’r henuriaid, gan ddywedyd, “Pechais wrth fradychu’r diniwed.” Dywedasant hwythau, “Beth yw hynny i ni? Rhyngot ti a hynny.” A bwriodd yr arian i’r deml ac ymadael, ac aeth ymaith ac ymgrogi. A chymerth yr archoffeiriaid yr arian, ac meddent, “Ni ddylid ei roi yn y drysorfa, gan mai pris gwaed ydyw.” Ac wedi ymgynghori prynasant ag ef Faes y Crochenydd yn gladdfa i ddieithriaid. Am hynny gelwir y maes hwnnw yn Faes Gwaed hyd heddiw. Yna y cyflawnwyd yr hyn a lefarwyd trwy Ieremïas y proffwyd, A chymerasant y deg darn arian ar hugain, pris y prisiedig, yr hwn a brisiodd rhai o feibion Israel, a rhoesant hwynt am faes y crochenydd, megis y gorchmynnodd yr Arglwydd i mi. A safodd yr Iesu gerbron y rhaglaw; a gofynnodd y rhaglaw iddo, “Ai ti yw Brenin yr Iddewon?” Ac ebe’r Iesu, “Ti sy’n gofyn.” A phan gyhuddid ef gan yr archoffeiriaid a’r henuriaid nid atebodd ddim. Yna dywed Pilat wrtho, “Oni chlywi di pa faint o bethau y maent yn eu tystiolaethu yn dy erbyn?” Ac nid atebodd iddo, naddo, i ddim un gair, er syndod mawr i’r rhaglaw. Ac ar ddydd gŵyl arferai’r rhaglaw ryddhau i’r dyrfa un carcharor a ddewisent. Yr oedd ganddynt y pryd hwnnw garcharor hynod, a elwid Barabbas. Felly wedi iddynt ymgynnull dywedodd Pilat wrthynt, “Pwy a ddewiswch i mi ei ryddhau i chwi, Barabbas ai Iesu, a elwir Crist?” Canys gwyddai mai o genfigen y traddodasent ef. A thra oedd ef yn eistedd ar y frawdle danfonodd ei wraig ato, gan ddywedyd, “Na foed dim a wnelych di â’r un cyfiawn hwnnw, canys dioddefais lawer heddiw mewn breuddwyd o’i achos ef.” A pherswadiodd yr archoffeiriaid a’r henuriaid y tyrfaoedd i ofyn am Farabbas ac i fwrw’r Iesu i golli. Atebodd y rhaglaw iddynt, “Pa un o’r ddau a ddewiswch i mi ei ryddhau i chwi?” Dywedasant hwythau, “Barabbas.” Medd Pilat wrthynt, “Beth, ynteu, a wnaf ag Iesu a elwir Crist?” Meddent hwy oll, “Croeshoelier ef.” Ebe yntau, “Eithr pa ddrwg a wnaeth ef?” Gwaeddent hwythau fwyfwy, “Croeshoelier ef.” A phan welodd Pilat nad oedd dim yn tycio, ond yn hytrach bod cynnwrf yn codi, fe gymerth ddŵr a golchi ei ddwylo gerbron y dyrfa, gan ddywedyd, “Glân ydwyf oddi wrth waed y dyn hwn. Rhyngoch chwi a hynny.” Ac atebodd yr holl bobl, “Boed ei waed arnom ni ac ar ein plant.” Yna rhyddhaodd iddynt Farabbas, ond ffrewyllodd yr Iesu, a’i draddodi i’w groeshoelio. Yna cymerth milwyr y rhaglaw yr Iesu gyda hwynt i’r plas, a chynullasant ato yr holl gatrawd. Ac wedi diosg ei ddillad rhoesant fantell ysgarlad amdano, a phlethasant goron o ddrain a’i rhoi ar ei ben a chorsen yn ei law ddehau, a chan benlinio o’i flaen gwatwarasant ef gan ddywedyd, “Henffych well, Frenin yr Iddewon!” A phoerasant arno, a chymerasant y gorsen a’i guro ar ei ben. Ac wedi iddynt ei watwar, diosgasant y fantell oddi amdano a’i wisgo â’i ddillad ei hun, a dygasant ef ymaith i’w groeshoelio. Ac wrth fyned allan cawsant ddyn o Gyrene, a’i enw Simon; a gorfodi hwn i gymryd ei groes ef. Ac wedi dyfod i le a elwid Golgotha, hynny yw Lle Penglog, rhoesant iddo i’w yfed win wedi ei gymysgu â bustl; ac wedi ei brofi gwrthododd ei yfed. Wedi iddynt ei groeshoelio, rhanasant ei ddillad gan fwrw coelbren, ac eisteddasant i’w wylied yno. Ac uwch ei ben gosodasant ei achos wedi ei ysgrifennu, HWN YW IESU, BRENIN YR IDDEWON. Yna croeshoelir gydag ef ddau leidr, un ar y ddehau ac un ar yr aswy. A’r rhai oedd yn myned heibio a’i cablai ef, gan ysgwyd eu pennau a dywedyd, “Ddymchwelwr y deml a’i hadeiladwr mewn tridiau, achub dy hun, os Mab Duw ydwyt, a disgyn oddi ar y groes.” Yr un modd yr archoffeiriaid hefyd a’i gwatwarai gyda’r ysgrifenyddion a’r henuriaid, ac meddent, “Achubodd eraill, ni all ei achub ei hun. Brenin Israel ydyw; disgynned yn awr oddi ar y groes, a chredwn ynddo. Y mae’n ymddiried yn Nuw; gwareded ef yn awr, os yw amdano; canys dywedodd, ‘Mab Duw ydwyf’.” Yr un modd hefyd yr oedd y lladron, a groeshoeliwyd gydag ef, yn edliw iddo. Ac o’r chweched awr bu tywyllwch dros yr holl dir hyd y nawfed awr. Ynghylch y nawfed awr dolefodd yr Iesu â llef uchel, gan ddywedyd, “Eli, Eli, lema sabachthani”, hynny yw, “Fy Nuw, fy Nuw, paham y gadewaist fi?” A rhai o’r rhai oedd yn sefyll yno, wrth ei glywed, a ddywedai, “Ar Elïas y mae hwn yn galw.” Ac yn y fan rhedodd un ohonynt a chymerth ysbwng a’i lenwi â surwin a’i ddodi ar flaen gwialen a’i roi iddo i’w yfed. A’r lleill a ddywedodd, “Gad inni weled a ddaw Elïas i’w achub ef.” Ond yr Iesu, wedi iddo weiddi drachefn â llef uchel, a ollyngodd ymaith ei ysbryd. Ac wele, llen y deml a rwygwyd yn ddwy o’r pen i’r gwaelod; a chrynodd y ddaear, a holltwyd y creigiau, ac agorwyd y beddau a chyfododd llawer o gyrff y saint a oedd yn huno; a daethant allan o’r beddau wedi iddo ef gyfodi, ac aethant i mewn i’r ddinas santaidd, ac ymddangosasant i lawer. A’r canwriad a’r rhai oedd gydag ef yn gwylied yr Iesu, pan welsant y ddaeargryn a’r pethau oedd yn digwydd, ofnasant yn fawr, a dywedyd, “Yn wir mab i dduw oedd hwn.” Ac yr oedd yno wragedd lawer yn edrych o bell, y rhai a ddilynasai’r Iesu o Galilea gan weini arno; yn eu plith yr oedd Mair o Fagdala a Mair mam Iago ac Ioseff a mam meibion Sebedeus. Ac wedi iddi hwyrhau daeth dyn cyfoethog o Arimathea, a’i enw Ioseff, a ddaethai yntau yn ddisgybl i’r Iesu. Daeth hwn at Bilat, a gofynnodd am gorff yr Iesu. Yna gorchmynnodd Pilat ei roddi. A chymerth Ioseff y corff a throi amdano lenlliain lân, a dododd ef yn ei fedd newydd a naddasai yn y graig, a threiglodd faen mawr ar ddrws y bedd, ac aeth ymaith. Yr oedd yno Fair o Fagdala a’r Fair arall, yn eistedd gyferbyn â’r bedd. Trannoeth, sef y dydd wedi’r Darpar, ymgynullodd yr archoffeiriaid a’r Phariseaid at Bilat, gan ddywedyd, “Syr, cof gennym i’r twyllwr hwnnw ddywedyd, pan oedd eto’n fyw, ‘Wedi tridiau cyfodaf.’ Felly gorchymyn ddiogelu’r bedd hyd y trydydd dydd, rhag ofn i’r disgyblion ddyfod a’i ddwyn ef, a dywedyd wrth y bobl, ‘Cyfododd oddi wrth y meirw’ a bydd y twyll olaf yn waeth na’r cyntaf.” Ebe Pilat wrthynt, “Gofelwch fod gennych warchodlu; ewch, gwnewch mor ddiogel ag y medroch.” Aethant hwythau a gwnaethant y bedd yn ddiogel trwy selio’r maen, heblaw gosod y gwarchodlu. Ac yn hwyr ar y Sabbath, a hi’n nesau at ddydd cyntaf yr wythnos, daeth Mair o Fagdala a’r Fair arall i edrych y bedd. Ac wele, bu daeargryn mawr; canys disgynasai angel yr Arglwydd o’r nef, a dyfod a threiglo’r maen ymaith, ac yr oedd yn eistedd arno. Yr oedd ei wedd fel mellten, a’i wisg yn wen fel eira. A rhag ei ofn crynodd y gwylwyr, ac aethant fel rhai meirw. A llefarodd yr angel a dywedodd wrth y gwragedd, “Peidiwch chwi ag ofni; canys gwn mai’r Iesu croeshoeliedig a geisiwch. Nid yw yma; canys cyfododd, megis y dywedodd; dowch, gwelwch y fan lle gorweddai. Ac ewch ar frys a dywedwch wrth ei ddisgyblion, ‘Cyfododd oddi wrth y meirw, ac wele, y mae’n mynd o’ch blaen i Galilea; yno y gwelwch ef.’ Wele, dywedais wrthych.” Ac aethant ymaith ar frys oddi wrth y bedd mewn ofn a llawenydd mawr, a rhedasant i fynegi i’w ddisgyblion. Ac wele Iesu yn eu cyfarfod a dywedyd, “Henffych well.” Daethant hwythau ato, ac ymafael yn ei draed, ac ymgrymu iddo. Yna medd yr Iesu wrthynt, “Peidiwch ag ofni; ewch, mynegwch i’m brodyr am iddynt fyned ymaith i Galilea, ac yno y’m gwelant.” A phan oeddent ar eu ffordd, dyma rai o’r gwarchodlu yn mynd i mewn i’r ddinas, ac yn mynegi i’r archoffeiriaid yr holl bethau a ddigwyddodd. Ac wedi iddynt ymgynnull gyda’r henuriaid ac ymgynghori, rhoesant gryn swm o arian i’r milwyr, gan ddywedyd, “Dywedwch, ‘Ei ddisgyblion a ddaeth yn y nos, a’i ddwyn ef, pan oeddem ni’n cysgu.’ Ac os codir hyn o flaen y rhaglaw, fe’i perswadiwn ni ef, a pharwn na bydd rhaid i chwi ofalu.” Cymerasant hwythau’r arian, a gwnaethant fel y cyfarwyddwyd hwynt. A thaenwyd yr hanes hwn ymhlith yr Iddewon hyd y dydd heddiw. Ac aeth yr un disgybi ar ddeg i Galilea, i’r mynydd lle y trefnasai’r Iesu iddynt fyned; a phan welsant ef ymgrymasant iddo; ond amau a wnaeth rhai. A daeth yr Iesu atynt, a llefaru wrthynt, gan ddywedyd, “Rhoddwyd i mi lawn awdurdod yn y nef ac ar y ddaear. Ewch, ynteu, a gwnewch ddisgyblion o’r holl genhedloedd, gan eu bedyddio i enw y Tad a’r Mab a’r Ysbryd Glân, gan ddysgu iddynt gadw yr holl orchmynion a roddais i chwi. Ac wele, yr wyf i gyda chwi bob dydd hyd derfyniad yr oes.” Dechreu efengyl Iesu Grist. Fel y mae’n ysgrifenedig yn Esaias y proffwyd, Wele, yr wyf yn anfon fy nghennad o’th flaen, yr hwn a ddarpar dy ffordd: llef un yn bloeddio yn y diffeithwch, Paratowch ffordd yr Arglwydd, unionwch ei lwybrau ef, felly y daeth bod Ioan y bedyddiwr yn y diffeithwch yn cyhoeddi bedydd edifeirwch er maddeuant pechodau. Ac âi allan ato holl wlad Iwdea a thrigolion Caersalem oll, a bedyddid hwynt ganddo yn afon Iorddonen gan gyffesu ohonynt eu pechodau. Ac yr oedd Ioan wedi ymwisgo â blew camel ac â gwregys croen am ei lwynau, ac yn bwyta locustiaid a mêl gwyllt. A chyhoeddai gan ddywedyd, “Daw fy nghryfach ar fy ol, nad wyf deilwng i blygu a datod carrai ei esgidiau. Bedyddiais i chwi â dwfr, ond bedyddia ef chwi â’r Ysbryd Glân.” Ac yn y dyddiau hynny y daeth Iesu o Nasareth Galilea, ac y bedyddiwyd ef yn yr Iorddonen gan Ioan. Ac yna wrth esgyn o’r dwfr, gwelodd hollti’r nefoedd, a’r Ysbryd fel colomen yn disgyn arno; a llef a ddaeth o’r nefoedd, “Ti yw fy Mab annwyl; ynot ti yr ymhyfrydais.” Ac yna gyr yr Ysbryd ef i’r diffeithwch; a bu yn y diffeithwch ddeugain niwrnod yn ei demtio gan Satan; ac yr oedd gyda’r gwylltfilod; a’r angylion a weinyddai arno. Ac ar ol traddodi Ioan, daeth yr Iesu i Galilea gan gyhoeddi efengyl Duw, a dywedyd, “Cyflawnwyd yr amser, ac agoshaodd teyrnas Dduw: edifarhewch a chredwch yn yr efengyl.” Ac wrth rodio ger môr Galilea, gwelodd Simon ac Andreas brawd Simon yn rhwydo yn y môr; canys pysgodwyr oeddynt. A dywedodd yr Iesu wrthynt, “Dowch ar fy ol i, a gwnaf i chwi ddyfod yn bysgodwyr dynion.” Ac yna gadawsant y rhwydau a dilynasant ef. Ac wedi mynd rhagddo ychydig, gwelodd Iago fab Sebedeus ac Ioan ei frawd ef, a hwy yn y llong yn cyweirio’r rhwydau. Ac yna galwodd hwynt; a gadawsant eu tad Sebedeus yn y llong gyda’r gweision cyflog, ac aethant ymaith ar ei ol ef. A chyrchant i Gapernaum; ac yna’r Sabath, wedi iddo fynd i’r synagog, dechreuodd ddysgu; a synnent at ei ddysgeidiaeth ef: canys yr oedd yn eu dysgu hwynt fel un ag awdurdod ganddo, ac nid fel yr ysgrifenyddion. Ac yna yr oedd yn eu synagog ddyn ag ysbryd aflan, a gwaeddodd gan ddywedyd, “Beth sydd rhyngom ni a thi Iesu o Nasareth? A ddeuthost i’n difetha ni? Mi wn pwy wyt — Sant Duw.” A cheryddodd yr Iesu ef, “Taw, a dos allan ohono.” Ac wedi i’r ysbryd aflan ei ddirdynnu ef, a llefain â llef uchel, aeth allan ohono. Ac arswydodd pawb, nes ymholi ohonynt, gan ddywedyd, “Beth yw hyn? Dysgeidiaeth newydd ag awdurdod! Hyd yn oed yr ysbrydion aflan a orchymyn ef, ac ufuddhânt iddo.” Ac aeth y sôn amdano allan yn ebrwydd i bobman drwy holl gymdogaeth Galilea. Ac yna wedi mynd allan o’r synagog, aethant i dŷ Simon ac Andreas gydag Iago ac Ioan. A chwegr Simon oedd yn gorwedd mewn twymyn; ac yna dywedant wrtho amdani. Ac aeth yntau ati, a chododd hi dan afael yn ei llaw; a gadawodd y dwymyn hi, a gweinyddai hithau arnynt. Ac wedi iddi hwyrhau, pan fachludodd yr haul, dygent ato’r holl rai cleifion, a’r rhai â chythreuliaid ynddynt; ac yr oedd yr holl ddinas wedi ymgasglu wrth y drws. Ac fe iachaodd lawer o gleifion dan amrywiol heintiau, a chythreuliaid lawer a fwriodd allan; ac ni adai i’r cythreuliaid lefaru, gan yr adwaenent ef. A’r bore yn blygeiniol iawn, cododd, ac aeth allan, ac aeth ymaith i le anghyfannedd, ac yno gweddiai. A’i ymlid a wnaeth Simon a’r rhai oedd gydag ef, a chael hyd iddo, a dywedyd wrtho, “Pawb a’th gais.” A dywed yntau wrthynt, “Awn draw i’r trefydd nesaf, fel y pregethwyf yno hefyd; canys i hynny y deuthum allan.” Ac fe aeth, gan bregethu yn eu synagogau hwynt yn holl Galilea, a chan fwrw allan y cythreuliaid. A daw ato un gwahanglwyfus yn erfyn arno, ac yn penlinio, gad ddywedyd wrtho, “Os mynni, gelli fy nglanhau.” A chan dosturio estynnodd ei law, a chyffyrddodd ag ef, ac medd wrtho, “Mynnaf, glanhaer di.” Ac yna ymadawodd y gwahanglwyf ag ef, a glanhawyd ef. Ac wedi ei chwyrn rybuddio, yn ebrwydd gyrrodd ef allan; ac eb ef wrtho, “Gwylia na ddywedi ddim wrth neb, ond dos, dangos dy hun i’r offeiriad, ac offryma dros dy lanhad y pethau a orchmynnodd Moses, er tystiolaeth iddynt.” Aeth yntau allan, a dechreuodd gyhoeddi llawer, a thaenu’r hanes, fel na allai ef mwy fynd yn amlwg i ddinas, eithr allan mewn lleoedd anghyfannedd yr oedd; a deuent ato o bobman. Ac wedi iddo fynd drachefn i Gapernaum ymhen dyddiau, clywyd ei fod yn tŷ. Ac ymgasglodd llawer, fel nad oedd mwyach le hyd yn oed wrth y drws; a llefarai wrthynt y gair. A deuant ato ag un parlysedig a gludid gan bedwar. A chan na allent ei ddwyn hyd ato o achos y dyrfa, didoesant y to lle’r oedd; ac wedi torri trwodd, gollyngant y gwely lle gorweddai’r parlysedig. A chan weled o’r Iesu eu ffydd hwynt, fe ddywed wrth y parlysedig, “Fy mab, maddeuwyd dy bechodau.” Ac yr oedd rhai o’r ysgrifenyddion yno’n eistedd, ac yn ymresymu yn eu calonnau, “Beth y mae hwn fel hyn yn ei siarad? Cablu y mae; pwy all faddeu pechodau ond un — Duw?” Ac yna gwybu’r Iesu yn ei ysbryd eu bod yn ymresymu felly ynddynt eu hunain, a dywed wrthynt, “Paham yr ymresymwch fel hyn yn eich calonnau? Beth sydd hawsaf, ai dywedyd wrth y parlysedig, ‘Maddeuwyd dy bechodau,’ ai dywedyd, ‘Cyfod a chymer dy wely a rhodia’? Ond fel y gwypoch fod awdurdod gan Fab y dyn i faddeu pechodau ar y ddaear,” — eb ef wrth y parlysedig, “Wrthyt ti y dywedaf, Cyfod, cymer dy wely, a dos adref.” A chyfododd, ac yna cymerth ei wely, ac aeth ymaith yng ngŵydd pawb, nes synnu o bawb, a gogoneddu Duw, gan ddywedyd, “Ni welsom erioed y fath beth.” Ac aeth allan drachefn i lan y môr; a’r holl dyrfa a ddeuai ato, a dysgai yntau hwynt. Ac wrth fynd heibio gwelodd Lefi fab Alpheus yn eistedd wrth y dollfa, a dywed wrtho, “Dilyn fi.” A chyfododd yntau a dilynodd ef. Ac fe ddigwydd ei fod ar bryd bwyd yn ei dŷ; a llawer o dollwyr a phechaduriaid oedd yn cyd-fwyta â’r Iesu a’i ddisgyblion; canys yr oeddynt yn llawer, a dilynent ef. A’r ysgrifenyddion o blith y Phariseaid, yn gweled ei fod yn bwyta gyda’r pechaduriaid a’r tollwyr, a ddywedai wrth ei ddisgyblion, “Paham y mae’n bwyta gyda’r tollwyr a’r pechaduriaid?” A phan glywodd yr Iesu, dywedodd wrthynt, “Nid rhaid i’r cryfion wrth feddyg, ond i’r cleifion; ni ddeuthum i alw rhai cyfiawn, ond pechaduriaid.” Ac yr oedd disgyblion Ioan a’r Phariseaid yn ymprydio. A deuant a dywedant wrtho, “Paham yr ymprydia disgyblion Ioan a disgyblion y Phariseaid, ac nad ymprydia dy ddisgyblion di?” A dywedodd yr Iesu wrthynt, “A all gwesteion y briodas, tra fo’r prïodfab gyda hwynt, ymprydio? Cyhyd ag y mae ganddynt y prïodfab gyda hwynt, ni allant ymprydio. Ond fe ddaw dyddiau pan ddyger oddiwrthynt y prïodfab, ac yna yr ymprydiant yn y dydd hwnnw. Ni wnïa neb glwt o frethyn crai ar fantell hen; onid e, fe dynn y darn llanw oddiwrthi, y newydd oddiwrth yr hen; a gwaeth rhwyg a fydd. Ac ni rydd neb win newydd mewn crwyn hen; onid e, fe rwyga’r gwin y crwyn, a’r gwin a gollir, a’r crwyn hefyd. Ond gwin newydd mewn crwyn newydd.” A digwyddodd iddo ar y Sabath dramwy drwy’r meysydd yd, a dechreuodd ei ddisgyblion gerdded rhagddynt dan dynnu’r tywys. Ac meddai’r Phariseaid wrtho, “Wele, paham y gwnant ar y Sabath yr hyn ni ddylid?” Ac ebr yntau wrthynt, “Oni ddarllenasoch erioed beth a wnaeth Dafydd, pan ddaeth eisiau arno, a phan newynodd ef a’r rhai oedd gydag ef? pa fodd yr aeth i dŷ Dduw pan oedd Abiathar yn archoffeiriad, ac y bwytaodd y torthau gosod, y rhai ni ddylai neb eu bwyta ond yr offeiriaid, ac y rhoes hefyd i’r rhai oedd gydag ef?” Ac meddai wrthynt, “Y Sabath a wnaethpwyd er mwyn y dyn, ac nid y dyn er mwyn y Sabath; ac felly arglwydd yw Mab y dyn hyd yn oed ar y Sabath.” Ac aeth drachefn i synagog, ac yr oedd yno ddyn a’i law wedi gwywo; a gwylient ef, a fyddai iddo ei iacháu ar y Sabath, fel y cyhuddent ef. Ac eb ef wrth y dyn a’r llaw wywedig, “Cyfod i’r canol.” Ac eb ef wrthynt hwy, “A ddylid ar y Sabath wneuthur da, ai gwneuthur drwg? achub einioes, ai lladd?” Ond tewi a wnaent hwy. Ac wedi syllu ogylch arnynt yn ddigllon, gan ddwys-ofidio am ddallineb eu calon hwynt, fe ddywed wrth y dyn, “Estyn dy law.” Ac fe’i hestynnodd, ac adferwyd ei law. Ac aeth y Phariseaid allan, ac yn ebrwydd ymgynghorent â’r Herodianiaid yn ei erbyn, pa fodd y difethent ef. A’r Iesu gyda’i ddisgyblion a giliodd tua’r môr; a lliaws mawr o Galilea a’i dilynodd; ac o Iwdea ac o Gaersalem ac Idwmea a thu hwnt i’r Iorddonen a chylch Tyrus a Sidon, lliaws mawr, yn clywed gymaint a wnai, a ddaeth ato. A dywedodd wrth ei ddisgyblion am i gwch fod yn barod iddo oblegid y dyrfa, rhag iddynt ei wasgu. Canys llawer a iachasai ef, nes ymwthio ato i gyffwrdd ag ef bawb oedd dan blâu. A’r ysbrydion aflan, pa bryd bynnag y gwelent ef, syrthient ger ei fron, a gwaeddent, gan ddywedyd, “Ti yw Mab Duw.” A rhybuddiai lawer arnynt nas amlygent ef. Ac fe esgyn i’r mynydd, a geilw ato y rhai a fynnai ef, ac aethant allan ato. A phenododd ddeuddeg i fod gydag ef, ac iddo’u danfon i bregethu, ac i feddu awdurdod i fwrw allan y cythreuliaid; a phenododd y deuddeg: Simon, ac iddo ef y rhoes yn enw Pedr; ac Iago fab Sebedeus, ac Ioan brawd Iago, a rhoes iddynt hwy yn enw Boanerges, hynny yw Meibion y Daran; ac Andreas, a Phylip, a Bartholomeus, a Mathew, a Thomas, ac Iago fab Alpheus, a Thadeus, a Simon y Selot, ac Iwdas Iscariot, yr hwn a’i bradychodd ef. A daw i’r tŷ; ac ymgynulla’r dyrfa drachefn, fel na allant gymaint â bwyta bara. A phan glywodd ei berthynasau, aethant ymaith i’w ddal; canys dywedent, “Y mae wedi gwallgofi.” A’r ysgrifenyddion a ddeuthai i lawr o Gaersalem a ddywedai, “Beelsebwl sydd ganddo”; a hefyd, “trwy bennaeth y cythreuliaid y mae’n bwrw allan y cythreuliaid.” A galwodd hwynt ato, a dywedai wrthynt ar ddamhegion, “Pa fodd y gall Satan fwrw allan Satan?” ac, “Os teyrnas a ymranna yn ei herbyn ei hun, ni ddichon y deyrnas honno sefyll; ac os teulu a ymranna yn ei erbyn ei hun, ni ddichon y teulu hwnnw sefyll. Ac os Satan a gyfododd yn ei erbyn ei hun, ac ymrannu, ni ddichon sefyll, eithr dyna ddiwedd arno. Eithr ni ddichon neb fynd i mewn i dŷ’r cadarn, ac ysbeilio’i ddodrefn ef, oni rwymo’r cadarn yn gyntaf, ac yna’r ysbeilia’i dŷ ef. Yn wir, meddaf i chwi, popeth a faddeuir i blant dynion, y pechodau a’r cableddau, pa bethau bynnag a gablont; ond pwy bynnag a gablo yn erbyn yr Ysbryd Glân, nid oes iddo faddeuant yn dragywydd, eithr euog ydyw o dragwyddol bechod.” Canys dywedent, “Ysbryd aflan sydd ganddo.” A daw ei fam a’i frodyr, a chan sefyll oddi allan, anfonasant ato i alw arno. Ac eisteddai torf o’i gylch, a dywedant wrtho, “Dyma dy fam a’th frodyr oddi allan yn dy geisio.” A chan ateb fe ddywed wrthynt, “Pwy yw fy mam a’m brodyr?” A chan syllu o amgylch ar y rhai a eisteddai’n gylch o’i gwmpas, fe ddywed, “Dyma fy mam a’m brodyr. Pwy bynnag a wnêl ewyllys Duw, hwnnw sy frawd i mi, a chwaer, a mam.” A thrachefn dechreuodd ddysgu ar lan y môr; ac ymgasgla ato dyrfa ddirfawr, nes iddo fynd i long, ac eistedd ynddi ar y môr; a’r holl dyrfa oedd wrth y môr ar y tir. A dysgai iddynt lawer ar ddamhegion, a dywedai wrthynt yn ei ddysgeidiaeth, “Gwrandewch: wele, fe aeth yr heuwr allan i hau. A digwyddodd, wrth hau, i beth syrthio hyd y ffordd, a daeth yr adar, a’i ddifa. Ac arall a syrthiodd ar y creigle, lle nid oedd iddo fawr ddaear; ac yn ebrwydd y tarddodd, am nad oedd iddo ddyfnder daear. A phan gododd yr haul, fe’i deifiwyd; ac am nad oedd iddo wreiddyn, fe wywodd. Ac arall a syrthiodd i’r drysi; a thyfodd y drysi, a’i dagu; a ffrwyth ni roes. Ac eraill a syrthiodd i’r tir da; a rhoent ffrwyth yn dyfadwy a thoreithiog; a chnydient hyd ddeg-ar-hugain, a hyd drigain, a hyd gant.” Ac meddai, “Y neb sydd ganddo glustiau i wrando, gwrandawed.” A phan gafwyd ef wrtho’i hun, dechreuodd y rhai oedd o’i gylch gyda’r deuddeg ei holi am y damhegion. Ac meddai wrthynt, “I chwi y rhodded cyfrinach teyrnas Dduw; ond i’r rhai acw sydd allan, ar ddamhegion y bydd y cwbl, fel er gweled a gweled, na chanfyddont, ac er clywed a chlywed, na ddeallont, rhag ysgatfydd iddynt droi a maddeu iddynt.” Ac eb ef wrthynt, “Ni wyddoch y ddameg hon! A pha fodd y gwybyddwch yr holl ddamhegion? Yr heuwr sydd yn hau’r gair. Y rhain yw’r rhai hyd y ffordd lle’r heuir y gair, y rhai wedi y clywont, yn ebrwydd daw Satan, a dwg ymaith y gair a heuwyd ynddynt. A’r rhain yr un modd yw’r rhai a heuir ar y creigleoedd, y rhai, wedi y clywont y gair, yn ebrwydd â llawenydd a’i derbyn ef; ac nid oes ganddynt wreiddyn ynddynt eu hunain, eithr dros ennyd y maent; yna pan ddêl gwasgfa neu erlid o achos y gair, yn ebrwydd y meglir hwynt. Ac eraill yw’r rhai a heuir yn y drysi; y rhain yw’r rhai a glywodd y gair, a phryderon y byd, a hudoliaeth golud, a’r chwantau ynghylch y cyffelyb bethau, a ddaw i mewn, ac a dag y gair; a diffrwyth fydd. A’r rhai hyn yw’r rhai a heuwyd ar y tir da, y rhai a glyw’r gair ac a’i derbyn; a dygant ffrwyth hyd ddeg-ar-hugain, a hyd dri gain, a hyd gant.” Ac meddai wrthynt, “Tybed a ddaw’r gannwyll i’w dodi dan y celwrn neu dan y gwely? Onid i’w dodi ar y canhwyllbren? Canys nid oes dim yn guddiedig onid i’w amlygu; ac ni bu ddirgel ond i ddyfod i’r amlwg. Od oes gan neb glustiau i wrando, gwrandawed.” Ac meddai wrthynt, “Edrychwch beth a wrandewch. Â’r mesur y mesurwch y mesurir i chwithau, a chwaneg a roddir i chwi. Canys y neb sydd ganddo, rhoddir iddo; a’r neb nid oes ganddo, hyd yn oed yr hyn sydd ganddo a ddygir oddiarno.” Ac meddai, “Fel hyn y mae teyrnas Dduw, fel y bwrw dyn yr had ar y ddaear, a chysgu a chodi nos a dydd, a’r had yn egino ac yn tyfu y modd nis gŵyr ef. Ohoni ei hun y dwg y ddaear ffrwyth, yn gyntaf eginyn, yna tywysen, yna yd llawn yn y dywysen. Ond pan addfedo’r ffrwyth, yn ebrwydd y rhy’r cryman ar waith, canys daeth y cynhaeaf.” Ac meddai, “Pa fodd y cyffelybwn deyrnas Dduw, neu ar ba ddameg y rhown hi? Fel i ronyn o had mwstard, yr hwn, wedi yr heuer ar y ddaear, er mai lleiaf yw o’r holl hadau sydd ar y ddaear, eto wedi yr heuer ef, a dyf ac a ddaw’n fwyaf o’r holl lysiau, ac a ddwg ganghennau mawr, fel y gall adar y nefoedd nythu dan ei gysgod.” Ac â llawer o’r fath ddamhegion y llefarai wrthynt y gair, yn ol fel y gallent wrando; a heb ddameg ni lefarai wrthynt, ond ar ei ben ei hun i’w ddisgyblion ei hun fe eglurai bopeth. Ac medd ef wrthynt y diwrnod hwnnw gyda’r nos, “Awn drosodd i’r ochr draw.” Ac wedi iddynt ollwng y dyrfa, cymerant ef fel yr oedd yn y llong; a llongau eraill oedd gyda hi. A chyfyd tymestl fawr o wynt, a’r tonnau oedd yn lluchio i’r llong, nes bod y llong yn awr yn llenwi. Ac ef oedd yn y pen ol ar y gobennydd yn cysgu; a dihunant ef, a dywedant wrtho, “Athro, ai difater gennyt ein colli ni?” Ac fe ddeffrôdd, a cheryddodd y gwynt, a dywedodd wrth y môr, “Ust! taw!” A gostegodd y gwynt, a bu tawelwch mawr. A dywedodd wrthynt hwy, “Paham yr ydych yn ofnus fel hyn? Pa fodd nad oes gennych ffydd?” Ac ofnasant ag ofn mawr, a dywedent wrth ei gilydd, “Pwy tybed yw hwn, fod hyd yn oed y gwynt a’r môr yn ufuddhau iddo?” A deuthant i’r ochr draw i’r môr i wlad y Geraseniaid. Ac wedi ei ddyfod o’r llong, yn ebrwydd cyfarfu ag ef o blith y beddau ddyn ag ysbryd aflan ganddo, oedd a’i drigfan ymhlith y beddau; a hyd yn oed â chadwyn ni allai neb mwyach ei rwymo, gan ddarfod ei rwymo lawer gwaith â llyffetheiriau ac â chadwynau, a dryllio ohono’r cadwynau, a malu’r llyffetheiriau; ac ni fedrai neb ei ddofi. Ac yn wastad, nos a dydd, ymhlith y beddau ac yn y mynyddoedd yr oedd, yn gweiddi ac yn ei anafu ei hun â cherrig. Ac wedi gweled yr Iesu o bell, rhedodd ac ymgrymodd iddo, a chan weiddi â llef uchel, fe ddywed, “Beth sy rhyngof fi a thi, Iesu Fab y Duw Goruchaf? Tynghedaf di trwy Dduw, na phoenydia fi.” Canys dywedai wrtho, “Dos allan, yr ysbryd aflan, o’r dyn.” A gofynnai iddo, “Beth yw dy enw?” A dywed yntau wrtho, “Lleng yw fy enw, canys llawer ydym.” Ac erfyniai arno lawer nas gyrrai hwynt allan o’r wlad. Ac yr oedd yno wrth y mynydd genfaint fawr o foch yn pori; ac erfyniasant arno gan ddywedyd, “Anfon ni i’r moch, fel yr elom i mewn iddynt hwy.” A chaniataodd iddynt. Ac allan yr aeth yr ysbrydion aflan, ac i mewn i’r moch; a rhuthrodd y genfaint dros y dibyn i’r môr — tua dwy fil; a boddent yn y môr. A’u porthwyr hwynt a ffodd, ac a’i mynegodd yn y ddinas ac yn y wlad; a deuthant i weled beth oedd yr helynt. A deuant at yr Iesu, a sylwant ar y cythreulig yn eistedd yn ei ddillad ac yn ei iawn bwyll, hwnnw y buasai’r lleng ynddo; ac ofnasant. Ac adroddodd y rhai a’i gwelsai wrthynt pa fodd y digwyddodd hi i’r cythreulig, ac am y moch. A dechreuasant erfyn arno fynd ymaith o’u gororau hwynt. Ac wrth iddo fynd i’r llong, erfyniai’r hwn a fuasai gythreulig arno am gael bod gydag ef. Ac ni adodd iddo, eithr medd ef wrtho, “Dos adref at dy bobl, a mynega iddynt pa faint a wnaeth yr Arglwydd erot ac a dosturiodd wrthyt.” Ac aeth ymaith, a dechreuodd gyhoeddi yn Necapolis pa faint a wnaethai’r Iesu erddo; a phawb a ryfeddai. Ac wedi croesi o’r Iesu yn y llong drachefn i’r ochr arall, ymgasglodd tyrfa fawr ato, ac yr oedd ef wrth y môr. A daw un o’r archsynagogwyr, a’i enw Iairus, ac wrth ei weled, syrth wrth ei draed, ac erfyn lawer arno, gan ddywedyd, “Fy merch fach sydd ar dranc; tyred, a dod dy ddwylo arni, fel yr iachaer hi ac y bo byw.” Ac aeth ymaith gydag ef. A chanlynai tyrfa fawr ef, a gwasgent arno. A rhyw wraig ag arni ddiferlif gwaed ers deuddeng mlynedd, ac wedi dioddef llawer gan lawer o feddygon, a gwario’r cwbl oedd ganddi, a heb gael dim lles, ond yn hytrach mynd yn waeth, wedi clywed hanes yr Iesu, a ddaeth yn y dyrfa o’r tu ol, ac a gyffyrddodd â’i fantell ef; canys dywedai, “Os caf gyffwrdd hyd yn oed â’i ddillad ef, mi fyddaf iach.” Ac yn y fan sychodd ffynhonnell ei gwaed, a gwybu hithau yn ei chorff ei hiacháu o’r pla. Ac yn y fan yr Iesu, yn canfod ynddo’i hun i’r rhinwedd oedd ynddo fyned allan, a droes yn y dyrfa, ac meddai, “Pwy gyffyrddodd â’m dillad?” Ac meddai ei ddisgyblion wrtho, “Ti weli’r dyrfa’n gwasgu arnat, a dywedi, ‘Pwy gyffyrddodd â mi?’ ” A syllai o amgylch i weled yr hon a wnaethai hyn. Ond y wraig, wedi brawychu ac yn crynu, yn gwybod beth a ddarfuasai iddi, a ddaeth, ac a syrthiodd ger ei fron ef, ac a ddywedodd wrtho’r holl wir. Dywedodd yntau wrthi, “Ferch, dy ffydd a’th iachaodd; dos mewn tangnefedd, a bydd iach o’th bla.” Ac ef eto’n llefaru, deuant o dŷ’r archsynagogydd dan ddywedyd, “Dy ferch a fu farw; i ba beth bellach y blini’r Athro?” Ond yr Iesu, wedi digwydd clywed ohono lefaru’r gair, a ddywed wrth yr archsynagogydd, “Paid ag ofni; yn unig cred.” Ac ni adodd i neb gyd-ganlyn ag ef ond Pedr ac Iago ac Ioan brawd Iago. A deuant i dŷ’r archsynagogydd, ac fe sylwa ar derfysg, a phobl yn wylofain ac yn udo llawer. Ac aeth i mewn, a dywed wrthynt, “Paham y terfysgwch ac yr wylwch? Ni bu’r plentyn farw, eithr cysgu y mae.” A gwatwarant ef. Y mae yntau’n bwrw pawb allan, ac yn cymryd tad y plentyn, a’i mam, a’r rhai oedd gydag ef, ac yn cyrchu i’r fan yr oedd y plentyn. Ac wedi ymafael yn llaw’r plentyn fe ddywed wrthi, “Talitha cŵm,” hynny yw, o’i gyfieithu, “Fy ngeneth, dywedaf wrthyt, cyfod.” Ac yn y fan cododd yr eneth, a dechreuodd gerdded; canys yr oedd yn ddeuddeng mlwydd oed. A thrawyd hwynt yn ebrwydd â syndod mawr. A gorchmynnodd lawer iddynt na châi neb wybod hyn, a dywedodd am roi iddi beth i’w fwyta. Ac aeth ymaith oddiyno, a daw i’w hen gynefin, a’i ganlyn a wna’i ddisgyblion. Ac wedi dyfod dydd Sabath dechreuodd ddysgu yn y synagog; a’r lliaws wrth wrando a synnai, gan ddywedyd, “O ba le y daeth i hwn y pethau hyn? A pha beth yw’r ddoethineb a roed i hwn, a’r fath rymusterau a wneir trwy ei ddwylo? Onid hwn yw’r saer, mab Mair a brawd Iago ac Ioses ac Iwdas a Simon? Ac onid yw ei chwiorydd yma gyda ni?” A meglid hwynt ynddo. Ac meddai’r Iesu wrthynt, “Nid yw proffwyd yn ddibris ond yn ei gynefin, ac ymhlith ei geraint, ac yn ei gartref.” Ac ni allai yno wneuthur dim grymuster ond rhoi ei ddwylo ar ychydig gleifion, a’u hiacháu. A rhyfeddodd at eu hanghrediniaeth. Ac âi o amgylch ogylch y pentrefi dan ddysgu. A geilw ato’r deuddeg, a dechreuodd eu hanfon ddau a dau; a rhoddai awdurdod iddynt ar yr ysbrydion aflan; a gorchmynnodd iddynt na chymerent ddim ar gyfer taith ond ffon yn unig, na bara, na chod, na phres yn y gwregys, eithr â sandalau am eu traed, ac na wisgent ddwy grysbais. Ac meddai wrthynt, “Pa le bynnag yr eloch i mewn i dŷ, arhoswch yno hyd onid eloch o’r lle hwnnw; a pha fan bynnag ni’ch derbynio, ac ni wrandawont arnoch, wrth ymadael oddiyno ysgydwch ymaith y llwch a fo dan eich traed er tystiolaeth iddynt.” Ac aethant allan, a phregethasant ar iddynt edifarhau; a chythreuliaid lawer a fwrient allan, ac irent ag olew lawer o gleifion, a’u hiacháu hwynt. A chlywodd y brenin Herod, canys deuthai ei enw ef yn hysbys; a dywedent, “Ioan Fedyddiwr sy wedi cyfodi o feirw, ac am hynny y gweithia’r grymusterau ynddo.” Eraill a ddywedai, “Elïas ydyw”; ond eraill a ddywedai, “Proffwyd fel un o’r proffwydi.” Ond pan glywodd Herod fe ddywedai, “Y gŵr y torrais i ei ben, Ioan, hwnnw a gyfododd.” Canys Herod ei hun a anfonodd ac a ddaliodd Ioan, a’i rwymo yng ngharchar o achos Herodias gwraig Phylip ei frawd, am iddo’i phriodi. Canys dywedai Ioan wrth Herod, “Ni ddylai fod gennyt wraig dy frawd.” A Herodias oedd yn ddig wrtho, ac yn ewyllysio’i ladd; ac nis gallai. Canys Herod a ofnai Ioan, yn gwybod ei fod yn ŵr cyfiawn a santaidd, ac fe’i noddai; ac wrth ei glywed petrusai lawer, eto hoffai wrando arno. Ac wedi dyfod diwrnod gŵyl, pan wnaeth Herod ar ei ben-blwydd wledd i’w arglwyddi ac i’r cadfridogion ac i oreugwyr Galilea, ac wedi i ferch Herodias ei hun ddyfod i mewn a dawnsio, hi foddhaodd Herod a’i gyd-gyfeddachwyr. A’r brenin a ddywedodd wrth yr eneth, “Gofyn gennyf a fynnych, a rhoddaf iti.” A thyngodd wrthi, “Beth bynnag a ofynnych rhoddaf iti, hyd hanner fy nheyrnas.” Ac aeth hithau allan, a dywedodd wrth ei mam, “Beth a ofynnaf?” A dywedodd honno, “Pen Ioan Fedyddiwr.” Ac aeth hithau i mewn yn y fan ar ffrwst at y brenin, a gofynnodd gan ddywedyd, “Mynnaf iti’n ddioed roi i mi ar ddysgl ben Ioan Fedyddiwr.” A dwys-dristaodd y brenin, ond oherwydd y llwon a’r cyfeddachwyr nid ewyllysiodd dorri ei air iddi. Ac yna anfonodd y brenin un o’i osgordd, a gorchmynnodd ddwyn ei ben ef. Ac fe aeth, a thorrodd ei ben ef yn y carchar, a dug ei ben ef ar ddysgl, a rhoes ef i’r eneth; a’r eneth a’i rhoes i’w mam. A chlywodd ei ddisgyblion; a deuthant a chymerasant ei gorff ef, a’i ddodi mewn bedd. Ac ymgasgla’r apostolion at yr Iesu, a mynegasant iddo’r holl bethau a wnaethent ac a ddysgasent. Ac medd ef wrthynt, “Dowch eich hunain o’r neilltu i le anghyfannedd, a gorffwyswch dipyn.” Canys yr oedd y rhai oedd yn mynd ac yn dyfod yn llawer, ac ni chaent egwyl hyd yn oed i fwyta. Ac aethant ymaith yn y llong i le anghyfannedd o’r neilltu. A gwelwyd hwynt yn myned, ac adnabu llawer hwynt; ac ar eu traed o’r holl ddinasoedd y rhedasant ynghyd yno, a chael y blaen arnynt. Ac wedi iddo ddyfod allan gwelodd dyrfa fawr, a thosturiodd wrthynt am eu bod fel defaid heb ganddynt fugail; a dechreuodd ddysgu iddynt lawer. Ac yn awr wedi iddi fynd ymhell ar y dydd, daeth ei ddisgyblion ato, ac meddent, “Anghyfannedd yw’r lle, ac yn awr y mae hi ymhell ar y dydd; gollwng hwynt ymaith, fel yr elont i’r wlad a’r pentrefydd oddiamgylch, ac y prynont iddynt eu hunain rywbeth i’w fwyta.” Atebodd yntau, a dywedodd wrthynt, “Rhowch chwi iddynt beth i’w fwyta.” Ac meddant wrtho, “A awn ni i brynu gwerth dau can swllt o fara, a’i roi iddynt i’w fwyta?” Dywed yntau wrthynt, “Pa sawl torth sy gennych? Ewch i edrych.” Ac wedi cael gwybod dywedant, “Pump, a dau bysgodyn.” A gorchmynnodd iddynt ar i bawb eistedd yn gwmnïoedd ar y glaswellt. Ac eisteddasant yn welyau, fesur cant ac fesur hanner cant. A chymerth ef y pum torth a’r ddau bysgodyn, a chan edrych i fyny i’r nef, bendithiodd, a thorrodd y torthau, a rhoddai hwynt i’r disgyblion i’w gosod o’u blaen hwynt; a’r ddau bysgodyn a rannodd ef rhwng pawb. A bwytasant oll, a diwallwyd hwynt. A chodasant ddarnau lond deuddeg basged, a pheth o’r pysgod. Ac yr oedd y rhai a fwytasai’r torthau yn bum mil o wŷr. Ac yna parodd i’w ddisgyblion fynd i’r llong, a mynd ymlaen i’r ochr arall tua Bethsaida, tra gollyngai ef y dyrfa. Ac wedi canu’n iach iddynt, aeth ymaith i’r mynydd i weddïo. Ac wedi iddi hwyrhau yr oedd y llong ar ganol y môr, ac yntau ar ei ben ei hun ar y tir. Ac wrth eu gweled hwynt mewn helbul yn rhwyfo, canys yr oedd y gwynt yn eu herbyn, tua’r bedwaredd wylfa o’r nos fe ddaw atynt dan gerdded ar y môr; ac arofunai fyned heibio iddynt. A hwythau yn ei weled yn cerdded ar y môr, tybiasant mai drychiolaeth ydoedd, a rhoesant waedd; canys pawb a’i gwelodd, a chyffröwyd hwynt. Yntau yn y fan a ymddiddanodd â hwynt; ac medd ef wrthynt, “Codwch eich calon; myfi yw; peidiwch ag ofni.” Ac aeth i fyny atynt i’r llong; a gostegodd y gwynt. A mawr dros ben y synnent ynddynt eu hunain; canys ni ddeallasent ynglŷn â’r torthau, eithr yr oedd eu calon wedi ei dallu. Ac wedi croesi hyd at y tir deuthant i Gennesaret, ac angorasant wrth y lan. Ac wedi iddynt ddyfod allan o’r llong, yn ebrwydd adnabu’r bobl ef, a rhedasant o amgylch trwy’r holl fro honno, a dechreuasant gludo’r cleifion o gwmpas ar eu gwelyau, pa le bynnag y clywent ei fod ef. A pha le bynnag y cyrchai, — i’r pentrefydd, neu i’r dinasoedd, neu i’r wlad, — gosodent y rhai methedig yn y marchnadleoedd, ac erfynient arno am iddynt gael cyffwrdd pe na bai ond ag ymyl ei fantell; a chynifer ag a gyffyrddodd ag ef a iacheid. Ac ymgasgla ato’r Phariseaid a rhai o’r ysgrifenyddion a ddeuthai o Gaersalem. Ac wedi iddynt weled rhai o’i ddisgyblion ef, mai â dwylo cyffredin, hynny yw heb eu golchi, y bwytaent eu bara, — canys y Phariseaid a’r holl Iddewon, heb olchi eu dwylo’n ddyfal ni fwytânt, gan ddal traddodiad yr hynafiaid; a dim o’r farchnad heb iddynt ei daenellu nis bwytânt; a llawer o bethau eraill y sydd, a dderbyniasant i’w dal, golchi cwpanau a godardau a llestri pres, — ac fe ofyn y Phariseaid a’r ysgrifenyddion iddo, “Paham na rodia dy ddisgyblion di yn ol traddodiad yr hynafiaid, yn lle bwyta’u bara â dwylo cyffredin?” Dywedodd yntau wrthynt, “Gwych y proffwydodd Esaias amdanoch chwi’r rhagrithwyr, fel y mae’n ysgrifenedig, Y bobl hyn â’u gwefusau a’m hanrhydedda, ond eu calon sydd bell oddiwrthyf; ond yn ofer y’m haddolant gan ddysgu fel athrawiaethau osodiadau dynion. Gollwng yr ydych orchymyn Duw, a dal traddodiad dynion.” Ac meddai wrthynt, “Gwych y gwrthodwch orchymyn Duw fel y cadwoch eich traddodiad chwi. Canys Moses a ddywedodd, Anrhydedda dy dad a’th fam, ac A felltithio dad neu fam bydded farw’n gelain. Ond chwi a ddywedwch, Os dywed dyn wrth ei dad neu ei fam ‘Corbân, sef Offrwm, yw hynny o fudd a gawsit gennyf fi,’ mwyach ni edwch iddo wneuthur dim i’w dad neu i’w fam, gan ddirymu gair Duw trwy eich traddodiad a draddodasoch. A chyffelyb bethau o’r fath, lawer, a wnewch.” Ac wedi galw ato drachefn y dyrfa, meddai wrthynt, “Gwrandewch arnaf bawb, a deellwch. Nid oes dim oddi allan i’r dyn yn mynd i mewn iddo a ddichon ei halogi; eithr y pethau sy’n dyfod allan o’r dyn yw’r pethau sy’n halogi’r dyn.” A phan aeth i’r tŷ oddiwrth y dyrfa, gofynnai ei ddisgyblion iddo am y ddameg. Ac medd ef wrthynt, “Felly, ydych chwithau’n ddi-ddeall? Oni welwch na ddichon dim oddi allan sy’n mynd i mewn i’r dyn ei halogi, am nad â i mewn i’w galon ef, ond i’w gylla, ac allan i’r geudy?” — gan gyhoeddi’n lân bob bwydydd. Ac meddai, “Y peth sy’n dyfod allan o’r dyn, hwnnw a haloga’r dyn. Canys o’r tu mewn o galon dynion y daw allan ystrywiau drwg, anniweirdeb, lladradau, llofruddiaethau, godinebau, trachwantau, anfadrwydd, dichell, anlladrwydd, cenfigen, cabledd, balchter, ynfydrwydd; yr holl ddrygau hyn, o’r tu mewn y deuant allan, a halogi’r dyn.” Ac oddiyno cododd, ac aeth ymaith i ororau Tyrus. Ac aeth i mewn i dŷ, ac ni fynnai i neb wybod; ond ni allodd ymguddio. Eithr yn ebrwydd clywodd gwraig amdano, a chan ei merch fach ysbryd aflan; a hi ddaeth, a syrthiodd wrth ei draed; a’r wraig oedd Roeges, Syropheniciad o genedl; a gofynnai iddo fwrw’r cythraul allan o’i merch. Ac meddai ef wrthi, “Gad yn gyntaf ddiwallu’r plant; canys nid teg cymryd bara’r plant a’i daflu i’r corgwn.” Atebodd hithau, ac medd wrtho, “Ië, Syr; ac eto y mae’r corgwn o dan y bwrdd yn bwyta o friwsion y plant.” A dywedodd ef wrthi, “Am y gair yna dos, fe aeth y cythraul allan o’th ferch.” Ac aeth hithau adref, a chafodd y plentyn yn gorwedd ar y gwely, a’r cythraul wedi mynd allan. A thrachefn aeth ef ymaith o ororau Tyrus, a daeth drwy Sidon hyd fôr Galilea yng nghanol gororau Decapolis. A dygant ato un byddar a diffyg ar ei barabl, ac erfyniant arno ddodi arno’i law. Ac wedi iddo fynd ag ef oddiwrth y dyrfa ar ei ben ei hun, fe roes ei fysedd yn ei glustiau ef; ac wedi poeri fe gyffyrddodd â’i dafod ef; ac edrychodd i fyny i’r nef, ac ocheneidiodd; ac medd wrtho, “Ephphatha,” hynny yw, “Agorer di.” Ac agorwyd ei glustiau ef, ac yn y fan datodwyd rhwym ei dafod, a llefarai’n groyw. A gorchmynnodd iddynt na ddywedent wrth neb; ond pa faint bynnag a orchmynnai ef iddynt, mwy o lawer y cyhoeddent hwythau. A mwy na mwy y synnent, gan ddywedyd, “Gwych y gwnaeth ef bopeth; fe wna hyd yn oed i’r byddariaid glywed, ac i fudion lefaru.” Yn y dyddiau hynny, pan oedd eilwaith dyrfa fawr a heb ganddynt ddim i’w fwyta, galwodd ei ddisgyblion ato, ac medd ef wrthynt, “Y mae’n ddrwg gan fy nghalon dros y dyrfa, canys yn awr y maent ers tridiau’n tario gyda mi, ac nid oes ganddynt ddim i’w fwyta; ac os gollyngaf hwynt ar eu cythlwng adref, llewygant ar y ffordd; ac y mae rhai ohonynt o bell.” Ac atebodd ei ddisgyblion iddo, “O ba le y gall neb ddiwallu’r rhain â bara yma mewn diffeithwch?” A gofynnai ef iddynt, “Pa sawl torth sy gennych?” Dywedasant hwythau, “Saith.” Ac fe orchymyn i’r dyrfa eistedd ar y llawr; ac fe gymerth y saith dorth, ac wedi diolch, torrodd, a rhoddai hwynt i’w ddisgyblion i’w gosod o’u blaenau; a gosodasant hwynt o flaen y dorf. Ac yr oedd ganddynt ychydig o fân bysgod; ac wedi iddo’u bendithio dywedodd am roi’r rheini hefyd o’u blaenau. A bwytasant, a diwallwyd hwynt; a chodasant o ddarnau gweddill saith gawellaid. Ac yr oeddynt ynghylch pedair mil. A gollyngodd hwynt ymaith. Ac yna aeth i’r llong gyda’i ddisgyblion, a daeth i barthau Dalmanwtha. A daeth y Phariseaid allan, a dechreuasant ddadleu ag ef, gan geisio ganddo arwydd o’r nef, er ei brofi. Ac wedi ocheneidio yn ei ysbryd, fe ddywed “Paham y mae’r genhedlaeth hon yn ceisio arwydd? Yn wir, meddaf i chwi, ni roddir i’r genhedlaeth hon arwydd.” A gadawodd hwynt, ac wedi mynd drachefn i’r llong, aeth ymaith i’r ochr arall. Ac anghofiasent gymryd bara, ac nid oedd ganddynt ond un dorth gyda hwynt yn y llong. A gorchmynnai iddynt gan ddywedyd, “Gwyliwch, ymogelwch rhag surdoes y Phariseaid a surdoes Herod.” Ac ymresyment â’i gilydd nad oedd ganddynt fara. A phan wybu, fe ddywed wrthynt, “Paham yr ymresymwch nad oes gennych fara? Oni welwch fyth, ac oni ddeellwch? Ai wedi ei dallu y mae eich calon gennych? A llygaid gennych oni welwch, ac â chlustiau gennych oni chlywch? Ac onid ydych yn cofio, pan dorrais i bum torth i’r pum mil, pa sawl basgedaid lawn o ddarnau a godasoch?” Dywedant wrtho, “Deuddeg.” “Pan dorrais saith i’r pedair mil, llond pa sawl cawell o ddarnau a godasoch?” A dywedant, “Saith.” Ac meddai wrthynt, “Onid ydych eto’n deall?” A deuant i Fethsaida. A dygant ato ddyn dall, ac erfyniant arno gyffwrdd ag ef. Ac fe ymafaelodd yn llaw’r dall, a dug ef allan o’r pentref; ac wedi poeri ar ei lygad, dododd ei ddwylo arno, a gofynnai iddo, “A weli di rywbeth?” A chododd ei olwg, ac meddai, “Mi welaf ddynion, canys rhai fel coed a ganfyddaf yn cerdded.” Ar hyn dododd ei ddwylo drachefn ar ei lygaid ef; a chraffodd ef, ac adferwyd ef; ac fe welai ymhell ac yn glir bopeth. Ac anfonodd yntau ef adref, gan ddywedyd, “Na ddos hyd yn oed i mewn i’r pentref.” Ac aeth yr Iesu a’i ddisgyblion allan i bentrefydd Cesarea Philippi; ac ar y ffordd gofynnai i’w ddisgyblion, gan ddywedyd wrthynt, “Pwy medd dynion ydwyf fi?” A mynegasant hwythau iddo, gan ddywedyd, “Ioan Fedyddiwr; ac eraill Elïas; ond eraill un o’r proffwydi.” Ac yntau a ofynnai iddynt, “Ond chwi, pwy meddwch chwi ydwyf?” Atebodd Pedr, a dywed wrtho, “Ti yw’r Crist.” A rhybuddiodd hwynt na ddywedent wrth neb amdano. A dechreuodd eu dysgu fod yn rhaid i Fab y dyn ddioddef llawer, a’i wrthod gan yr henuriaid a’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion, a’i ladd, ac wedi tridiau atgyfodi; a difloesgni y llefarai’r ymadrodd. A chymerth Pedr ef ato, a dechreuodd ei geryddu. Troes yntau, ac wrth weled ei ddisgyblion, ceryddodd Bedr; ac medd ef, “Dos yn fy ol i, Satan; canys nid wyt yn synio pethau Duw, ond pethau dynion.” A galwodd ato’r dyrfa ynghyda’i ddisgyblion, a dywedodd wrthynt, “Os myn neb ddyfod ar fy ol i, ymwaded ag ef ei hun, a chyfoded ei groes, a dilyned fi. Canys pwy bynnag a fynno gadw ei fywyd, hwnnw a’i cyll; ond pwy bynnag a gyll ei fywyd er fy mwyn i a’r efengyl, hwnnw a’i ceidw. Canys pa elw i ddyn yw ennill y byd oll a fforffedu ei fywyd? Canys beth a all dyn ei roi’n gyfnewid am ei fywyd? Canys pwy bynnag y bo arno gywilydd ohonof fi ac o’m geiriau yn y genhedlaeth anffyddlon a phechadurus hon, ar Fab y dyn yntau y bydd cywilydd ohono ef, pan ddêl yng ngogoniant ei Dad gyda’r angylion santaidd.” Ac meddai wrthynt, “Yn wir meddaf i chwi, y mae rhai o’r rhai sydd yma’n sefyll na phrofant flas angau nes gweled teyrnas Dduw wedi dyfod mewn nerth.” Ac ymhen chwe diwrnod cymer yr Iesu Bedr ac Iago ac Ioan, a dwg hwynt i fynydd uchel o’r neilltu wrthynt eu hunain. A gweddnewidiwyd ef yn eu gŵydd hwynt, a’i ddillad a aeth yn ddisglair, yn gannaid odiaeth, yn gyfryw ag na allai bannwr ar y ddaear eu cannu felly. Ac ymddangosodd iddynt Elïas ynghyda Moses, ac yr oeddynt yn ymddiddan â’r Iesu. Ac atebodd Pedr, a dywed wrth yr Iesu, “Rabbi, da yw ein bod yma; a gwnawn dair pabell — i ti un, ac i Foses un, ac i Elïas un.” Canys ni wyddai beth i’w ateb; canys ofn mawr a ddeuthai arnynt. A daeth cwmwl yn cysgodi drostynt; a daeth llef o’r cwmwl, “Hwn yw fy Mab annwyl; gwrandewch arno ef.” Ac yn ddisymwth, pan edrychasant o amgylch, ni welsant neb mwyach ond yr Iesu’n unig gyda hwy eu hunain. Ac wrth iddynt ddyfod i lawr o’r mynydd, gorchmynnodd iddynt nad adroddent i neb yr hyn a welsent, onid wedi i Fab y dyn gyfodi o feirw. A daliasant ar y gair, gan ymholi yn eu plith eu hunain, “Beth yw’r cyfodi o feirw?” A gofynnent iddo gan ddywedyd, “Paham y dywed yr ysgrifenyddion fod yn rhaid i Elïas ddyfod yn gyntaf?” Meddai yntau wrthynt, “Elïas yn wir sy’n dyfod yn gyntaf, ac a adfer bob peth; a pha fodd y mae’n ysgrifenedig am Fab y dyn, ei fod i ddioddef llawer, ac i’w ddiystyru? Eithr meddaf i chwi, y mae Elïas eisoes wedi dyfod, a gwnaethant iddo y pethau a fynnent, fel y mae’n ysgrifenedig amdano.” A phan ddeuthant at y disgyblion, gwelsant dyrfa fawr o’u hamgylch hwynt, ac ysgrifenyddion yn dadleu â hwynt. Ac yna’r holl dyrfa, pan welsant ef, a syfrdanwyd; a chan redeg ato cyfarchent well iddo. A gofynnodd iddynt, “Beth a ddadleuwch â hwynt?” Ac atebodd, un o’r dyrfa iddo, “Athro, mi ddygais fy mab atat, a chanddo ysbryd mud; a pha le bynnag yr ymafaelo ynddo, fe’i hyrddia i lawr; ac y mae’n malu ewyn, ac yn rhincian ei ddannedd, ac yn gwywo; a dywedais wrth dy ddisgyblion am ei fwrw allan, ac nis gallasant.” Atebodd yntau iddynt, a dywed, “O, genhedlaeth ddi-ffydd, pa hyd y byddaf, gyda chwi? Pa hyd y’ch goddefaf? Dygwch ef ataf fi.” A dygasant ef ato. Ac wedi iddo’i weled, yn y fan dirdynnodd yr ysbryd ef, ac fe syrthiodd ar y llawr, ac ymdreiglai dan falu ewyn. A gofynnodd yntau i’w dad ef, “Pa faint o amser sydd er pan ddaeth hyn arno?” Dywedodd yntau, “Er yn blentyn; a llawer gwaith i dân y taflodd ef, ac i ddyfroedd, i’w ddifetha; eithr os gelli ddim tosturia wrthym, a chymorth ni.” A dywedodd yr Iesu wrtho, “‘Os gelli’! Popeth a ellir i’r neb a gredo.” Yna llefodd tad y plentyn, ac meddai, “Yr wyf yn credu; cymorth fy anghrediniaeth.” A phan welodd yr Iesu fod torf yn rhedeg ynghyd yno, ceryddodd yr ysbryd aflan, gan ddywedyd wrtho, “Yr ysbryd mud a byddar, yr wyf fi yn gorchymyn iti, tyred allan ohono, ac na ddos mwy iddo.” Ac wedi llefain a’i ddirdynnu lawer, fe ddaeth allan; ac aeth ef megis celain, nes i’r lliaws ddywedyd “Bu farw.” Ond yr Iesu a ymafaelodd yn ei law, ac a’i cododd; a safodd i fyny. Ac wedi iddo fynd i’r tŷ, ei ddisgyblion o’r neilltu a ofynnai iddo; “Paham na allasom ni ei fwrw allan?” A dywedodd wrthynt, “Y math hwn trwy ddim ni ellir ei fwrw allan ond trwy weddi.” Ac oddiyno aethant allan, a thramwyent trwy Galilea; ac ni fynnai ef i neb wybod. Canys dysgai ei ddisgyblion a dywedai wrthynt, “Traddodir Mab y dyn i ddwylo dynion, a lladdant ef; ac wedi ei ladd, ymhen tridiau fe atgyfyd.” Ond ni ddeallent hwy’r ymadrodd, ac ofnent ei holi. A deuthant i Gapernaum. Ac wedi dyfod i’r tŷ, fe ofynnai iddynt, “Am ba beth yr ymresymech ar y ffordd?” Ond tewi a wnaent hwy; canys ymresymasent â’i gilydd ar y ffordd pwy oedd fwyaf. Ac fe eisteddodd, a galwodd y deuddeg, ac eb ef wrthynt, “Os myn neb fod yn flaenaf, bydded o bawb yn olaf, ac i bawb yn was.” Ac fe gymerth blentyn bach, a gosododd ef yn eu canol hwynt; ac wedi ei gymryd yn ei freichiau, dywedodd wrthynt, “Pwy bynnag a dderbynio un o’r plant bach yma yn fy enw i, myfi a dderbyn; a phwy bynnag a’m derbynio i, nid myfi a dderbyn, ond yr hwn a’m hanfonodd.” Meddai Ioan wrtho, “Athro, gwelsom un yn bwrw allan gythreuliaid yn dy enw di, a gwaharddem ef am nad oedd yn ein canlyn ni.” Ond yr Iesu a ddywedodd, “Peidiwch a’i wahardd; canys nid oes neb a wnêl rymuster yn fy enw, ac a all yn fuan roi drygair imi. Canys y neb nid yw i’n herbyn, drosom y mae. Canys pwy bynnag a ro i’w yfed i chwi gwpanaid o ddŵr o achos mai eiddo Crist ydych, yn wir meddaf i chwi, ni chyll mo’i obrwy. A phwy bynnag a faglo un o’r rhai bychain hyn sy’n credu, gwell fyddai iddo fod â maen melin mawr ynghrog am ei wddf, ac wedi ei daflu i’r môr. Ac os magla dy law dydi, tor hi ymaith; gwell yw dy fyned i mewn yn anafus i’r bywyd nag â’th ddwy law gennyt fyned ymaith i Gehenna, i’r tân anniffoddadwy. Ac os dy droed a’th fagla, tor ef ymaith; gwell yw dy fyned i mewn i’r bywyd yn gloff nag â’th ddau droed gennyt dy daflu i Gehenna. Ac os dy lygad a’th fagla, bwrw ef allan; gwell yw dy fyned i mewn yn unllygeidiog i deyrnas Dduw nag â dau lygad gennyt dy daflu i Gehenna, lle nid yw eu pryf yn marw, na’r tân yn diffodd. Canys pob un a helltir â thân. Da yw’r halen; ond od â’r halen yn ddi-hallt, a pha beth y cyweiriwch ef? Bid gennych halen ynoch eich hunain, a byddwch mewn heddwch bawb a’i gilydd.” Ac oddiyno cododd, a daw i ororau Iwdea a thu hwnt i’r Iorddonen; a chyd-gyrcha drachefn dyrfaoedd ato, ac, fel yr arferai, drachefn y dysgai hwynt. A daeth ato Phariseaid, a gofynnent iddo ai iawn i ŵr ymwrthod â’i wraig; — er ei brofi ef. Atebodd yntau, a dywedodd wrthynt, “Beth a orchmynnodd Moses i chwi?” Dywedasant hwythau, “Caniataodd Moses ysgrifennu llythyr ysgar, ac ymwrthod â hi,” A dywedodd yr Iesu wrthynt, “Oherwydd eich calon-galedwch chwi yr ysgrifennodd i chwi’r gorchymyn yna. Ond o ddechreuad y greadigaeth yn wryw a benyw y gwnaeth ef hwynt; am hyn y gedy dyn ei dad a’i fam, a bydd y ddau yn un cnawd; fel nad ydynt mwy ddau, ond un cnawd. Y peth gan hynny a ieuodd Duw, na wahaned dyn.” Ac yn y tŷ drachefn holai’r disgyblion ef ynghylch hyn. Ac eb ef wrthynt, “Pwy bynnag a ymwrthodo â’i wraig, a phriodi un arall, y mae’n godinebu yn ei herbyn hi; ac os hithau a ymwrthyd â’i gŵr a phriodi arall, y mae hi’n godinebu.” A dygent ato blant bach, fel y cyffyrddai â hwynt; ond y disgyblion a’u ceryddodd hwynt. Ond pan welodd yr Iesu fe ddigiodd, a dywedodd wrthynt, “Gedwch i’r plant bach ddyfod ataf fi; peidiwch a’u rhwystro; canys rhai fel hwy bïau deyrnas Dduw. Yn wir meddaf i chwi, pwy bynnag ni dderbynio deyrnas Dduw fel plentyn bach, nid â byth i mewn iddi.” Ac fe’u cymerai hwynt yn ei freichiau, ac a’u bendithiai, dan ddodi ei ddwylo arnynt. Ac wrth iddo gychwyn i ffwrdd, rhedodd un ato, a phenliniodd iddo, a gofynnai iddo, “Athro da, beth a wnaf i etifeddu bywyd tragwyddol?” A’r Iesu a ddywedodd wrtho, “Paham y gelwi fi’n dda? Nid da neb ond un — Duw. Y gorchmynion a wyddost: Na ladd, Na odineba, Na ladrata, Na chamdystiolaetha, Na cham-atal, Anrhydedda dy dad a’th fam.” Ac meddal yntau wrtho, “Athro, y rhai hyn oll a gedwais o’m hieuenctid.” A’r Iesu a edrychodd arno ac a’i carodd; a dywedodd wrtho, “Un peth sydd ar ol ynot: dos, gwerth y cwbl sy gennyt, a dyro i’r tlodion, a chei drysor yn y nef; a thyred, dilyn fi.” Ond cymylodd ei wedd ef wrth y gair, ac aeth ymaith yn ofidus, canys yr oedd yn berchen meddiannau lawer. Ac edrychodd yr Iesu o amgylch, ac medd ef wrth ei ddisgyblion, “Mor anodd yr â’r rhai ag arian ganddynt i mewn i deyrnas Dduw!” A’r disgyblion a arswydai wrth ei eiriau. Ond yr Iesu drachefn a atebodd ac a ddywed wrthynt, “Blant, mor anodd yw mynd i mewn i deyrnas Dduw! Haws yw i gamel fynd trwy grau’r nodwydd nag i oludog fynd i mewn i deyrnas Dduw.” A dirfawr y synnent, gan ddywedyd wrth ei gilydd, “A phwy all gael ei gadw?” Edrychodd yr Iesu arnynt, ac eb ef, “Gyda dynion amhosibl, eithr nid gyda Duw; canys popeth sy bosibl gyda Duw.” Dechreuodd Pedr ddywedyd wrtho, “Dyma ni wedi gadael popeth a’th ddilyn di.” Meddai’r Iesu, “Yn wir meddaf i chwi, nid oes neb a’r a adawodd gartref, neu frodyr, neu chwiorydd, neu fam, neu dad, neu blant, neu diroedd, er fy mwyn i ac er mwyn yr efengyl, a’r ni dderbyn gann cymaint yn awr yn yr amser hwn, yn gartrefi, a brodyr, a chwiorydd, a mamau, a phlant, a thiroedd, gydag erlidiau, ac yn yr oes a ddaw fywyd tragwyddol. Ond llawer a fydd o rai blaenaf yn olaf, a’r olaf yn flaenaf.” Ac yr oeddynt ar y ffordd yn myned i fyny i Gaersalem; ac yr oedd yr Iesu’n eu rhagflaenu; ac arswyd oedd arnynt; ac ar y rhai a ddilynai yr oedd ofn. Ac fe gymerth drachefn y deuddeg ato, a dechreuodd fynegi iddynt y pethau oedd ar ddigwydd iddo: “Dyma ni’n mynd i fyny i Gaersalem; a Mab y dyn a draddodir i’r archoffeiriaid ac i’r ysgrifenyddion, a chondemniant ef i farwolaeth, a thraddodant ef i’r cenhedloedd; a gwatwarant ef, a phoerant arno, a ffrewyllant ef, a lladdant; ac ymhen tridiau fe atgyfyd.” A daw ato Iago ac Ioan meibion Sebedeus, gan ddywedyd wrtho, “Athro, dymunwn iti wneuthur i ni yr hyn a ofynnom.” Dywedodd yntau wrthynt, “Beth a ddymunwch imi ei wneuthur i chwi?” Dywedasant hwythau wrtho, “Dyro i ni gael eistedd un ar dy ddeheulaw ac un ar dy aswy yn dy ogoniant.” Ond yr Iesu a ddywedodd wrthynt, “Ni wyddoch beth a ofynnwch. A ellwch yfed y cwpan a yfaf fi? neu eich bedyddio â’r bedydd y’m bedyddir i?” Dywedasant hwythau wrtho, “Gallwn.” Ond yr Iesu a ddywedodd wrthynt, “Y cwpan a yfaf fi a yfwch, ac â’r bedydd y’m bedyddir i y’ch bedyddir; ond eistedd ar fy neheulaw neu ar fy aswy, nid yw eiddof fi ei roi, eithr i’r rhai y darparwyd y mae.” A phan glywodd y deg, dechreuasant ddigio ynghylch Iago ac Ioan. A galwodd yr Iesu hwynt ato, a dywed wrthynt, “Chwi wyddoch fod y rhai’r ystyrrir eu bod yn llywodraethu ar y cenhedloedd yn arglwyddiaethu arnynt, a’u mawrion yn awdurdodi arnynt. Ond nid felly y mae yn eich plith chwi; eithr pwy bynnag a fynno ddyfod yn fawr yn eich plith chwi, bydded i chwi’n was; a phwy bynnag a fynno fod yn flaenaf yn eich plith chwi, bydded i bawb yn gaethwas. Canys Mab y dyn yntau ni ddaeth i’w wasanaethu, ond i wasanaethu, ac i roi ei einioes yn bridwerth dros lawer.” A deuant i Iericho. Ac wrth iddo fynd allan o Iericho, ef a’i ddisgyblion a chryn dyrfa, mab Timeus, Bartimeus, cardotyn dall, oedd yn eistedd ar fin y ffordd. A phan glywodd mai Iesu o Nasareth ydoedd, dechreuodd weiddi a dywedyd, “Fab Dafydd, Iesu, tosturia wrthyf.” A rhybuddiai llawer ef i dewi. Ond mwy o lawer y gwaeddai yntau, “Fab Dafydd, tosturia wrthyf.” A safodd yr Iesu, a dywedodd, “Gelwch arno.” A galwant ar y dall, gan ddywedyd wrtho, “Cymer galon; cyfod; y mae’n galw arnat.” A thaflodd yntau ei fantell, a llamodd i fyny, a daeth at yr Iesu. Ac atebodd yr Iesu ef, a dywedodd, “Beth a fynni i mi ei wneuthur iti?” A’r dall a ddywedodd wrtho, “Rabbwni, cael fy ngolwg yn ol.” A dywedodd yr Iesu wrtho, “Dos, dy ffydd a’th iachaodd.” Ac yn y fan fe gafodd ei olwg, ac fe’i dilynai ef ar y ffordd. A phan neshânt at Gaersalem, at Fethphage a Bethania ger mynydd yr Olewydd, fe enfyn ddau o’i ddisgyblion, a dywed wrthynt, “Ewch i’r pentref gyferbyn â chwi, ac yn y fan wrth fynd i mewn iddo chwi gewch ebol yn rhwym, un nad eisteddodd neb dyn erioed arno; gollyngwch ef, a dygwch ymaith. Ac os dywed neb wrthych, ‘Paham y gwnewch hyn?’ dywedwch, ‘Y mae ar yr Arglwydd ei eisiau; ac yn y man fe’i henfyn yn ol yma.’ ” Ac aethant ymaith, a chawsant ebol yn rhwym wrth ddrws allan ar yr heol; a gollyngant ef. A rhai o’r rhai oedd yno’n sefyll a ddywedai wrthynt, “Beth a wnewch yn gollwng yr ebol?” Dywedasant hwythau wrthynt fel y dywedasai’r Iesu; a gadasant iddynt. A dygant yr ebol at yr Iesu, a bwriant arno’u dillad, ac eisteddodd yntau arno. A llawer a daenodd eu dillad ar y ffordd, ac eraill fanwydd a dorasent o’r meysydd. A’r rhai a ragflaenai a’r rhai a ddilynai oedd yn llefain: “Hosanna! Bendigedig yw’r hwn sy’n dyfod yn enw’r Arglwydd; Bendigedig yw’r deyrnas sy’n dyfod, teyrnas ein tad Dafydd; Hosanna yn y goruchafion!” Ac fe aeth i mewn i Gaersalem i’r deml; ac wedi edrych o amgylch ar bopeth, a’r awr weithian yn hwyr, fe aeth allan i Fethania gyda’r deuddeg. A thrannoeth, pan aethant allan o Fethania, daeth arno eisiau bwyd. Ac wedi gweled ffigyswydden o hirbell ag arni ddail, fe aeth i weled tybed a gaffai ddim arni; ac wedi dyfod ati ni chafodd arni ddim ond dail, canys nid oedd yn amser ffigys. Ac fe atebodd, a dywedodd wrthi, “Byth bythoedd mwyach na fwytaed neb ffrwyth ohonot ti.” A chlywai ei ddisgyblion. A deuant i Gaersalem. Ac wedi iddo fynd i mewn i’r deml dechreuodd fwrw allan y gwerthwyr a’r prynwyr yn y deml; a byrddau’r cyfnewidwyr arian a chadeiriau’r gwerthwyr colomennod a ddymchwelodd; ac ni adai i neb ddwyn llestr drwy’r deml. A dechreuodd ddysgu, a dywedyd wrthynt “Onid yw’n ysgrifenedig, Fy nhŷ i a elwir yn dŷ gweddi i’r holl genhedloedd? ond gwnaethoch chwi ef yn ogof lladron.” A chlywodd yr archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion, a cheisient pa fodd y difethent ef; canys ofnent ef, oblegid yr holl dyrfa a synnai at ei ddysgeidiaeth. Ac wedi iddi fynd yn hwyr aent allan o’r ddinas. Ac wrth iddynt fynd heibio’r bore gwelsant y ffigyswydden wedi crino o’r gwraidd. A chofiodd Pedr, ac fe ddywed wrtho, “Rabbi, dyma’r ffigyswydden a felltithiaist wedi crino.” Ac atebodd yr Iesu, a dywed wrthynt, “Boed gennych ffydd yn Nuw. Yn wir, meddaf i chwi, pwy bynnag a ddywedo wrth y mynydd hwn, ‘Coder di, a bwrier di i’r môr,’ ac nid amheuo yn ei galon, eithr credu y daw’r hyn a ddywed i ben, fe fydd iddo. Am hynny, meddaf i chwi, beth bynnag oll a weddïoch ac a ofynnoch amdano, credwch i chwi ei gael, ac fe fydd i chwi. A pha bryd bynnag y safoch i weddïo, maddeuwch o bydd gennych ddim yn erbyn neb, fel y maddeuo’ch Tad sydd yn y nefoedd i chwithau eich camweddau.” A deuant drachefn i Gaersalem. Ac wrth iddo rodio yn y deml daw ato’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion a’r henuriaid, ac meddent wrtho, “Drwy ba awdurdod y gwnei di’r pethau hyn? neu bwy roes i ti’r awdurdod hon i wneuthur y pethau hyn?” A dywedodd yr Iesu wrthynt, “Mi ofynnaf i chwi un gair, ac atebwch fi, a dywedaf wrthych trwy ba awdurdod y gwnaf y pethau hyn. Bedydd Ioan, ai o’r nef yr oedd, ai o ddynion? Atebwch fi.” Ac ymresyment â’i gilydd gan ddywedyd, “Os dywedwn ‘O’r nef,’ fe ddywed, ‘Paham ynteu na chredasoch iddo?’ Eithr a ddywedwn ni ‘O ddynion’?” — ofnent y dyrfa; canys pawb a syniai am Ioan mewn gwirionedd mai proffwyd oedd. Ac atebasant yr Iesu, a dywedant, “Nis gwyddom.” A dywed yr Iesu wrthynt, “Ac ni ddywedaf innau i chwithau trwy ba awdurdod y gwnaf y pethau hyn.” A dechreuodd lefaru wrthynt ar ddamhegion. “Fe blannodd dyn winllan; a chaeodd o’i hamgylch, a chloddiodd gain dan y gwinwryf, ac adeiladodd dŵr; a gosododd hi i lafurwyr, ac aeth oddi cartref. Ac anfonodd at y llafurwyr, pan ddaeth yr amser, was, i gymryd gan y llafurwyr o ffrwyth y winllan; a’i ddal a wnaethant, a’i guro, a’i anfon ymaith yn waglaw. A thrachefn anfonodd atynt was arall; a hwnnw a archollasant yn ei ben, ac a amharchasant. Ac un arall a anfonodd; a hwnnw a laddasant; ac felly lawer eraill — curo rhai a lladd y lleill. Un eto oedd ganddo, mab annwyl; anfonodd ef yn olaf atynt, gan ddywedyd, ‘Parchant fy mab.’ Ond y llafurwyr hynny a ddywedodd wrth ei gilydd, ‘Hwn yw’r etifedd; dowch, lladdwn ef, a ni fydd piau’r etifeddiaeth.’ A’i ddal a wnaethant, a’i ladd, a’i fwrw tu allan i’r winllan. Beth a wna perchen y winllan? Fe ddaw, ac fe ddifetha’r llafurwyr, a rhydd y winllan i eraill. Oni ddarllenasoch hyd yn oed yr ysgrythyr hon? — Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, hwn a ddaeth yn ben y gongl: Oddiwrth yr Arglwydd y daeth hyn, ac y mae’n rhyfedd yn ein golwg ni.” A cheisient gael gafael arno; ond ofnasant y dyrfa; canys deallasant mai gyda golwg arnynt hwy y dywedasai’r ddameg. A gadasant iddo, ac aethant ymaith. Ac anfonant ato rai o’r Phariseaid ac o’r Herodianiaid, i’w ddal ar air. Ac wedi dyfod, dywedant wrtho, “Athro, gwyddom dy fod yn ddidwyll, ac na waeth gennyt am neb; canys nid edrychi ar wyneb dynion, eithr mewn didwylledd y dysgi ffordd Duw: a ddylid rhoi treth i Gesar ai peidio? A rown hi, ai nis rhown?” Gwelodd yntau eu rhagrith, a dywedodd wrthynt, “Pam y temtiwch fi? Dygwch imi swllt; gedwch imi weled.” Dygasant hwythau un. Ac eb ef wrthynt, “Pwy bïau’r ddelw hon a’r argraff?” Dywedasant hwythau wrtho, “Cesar.” A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, “Pethau Cesar rhowch i Gesar, a phethau Duw i Dduw.” A rhyfeddent ato. A daw Sadwceaid ato, rhai a ddywed nad oes atgyfodiad; a gofynnent iddo gan ddywedyd, “Athro, fe sgrifennodd Moses i ni, o bydd marw brawd neb, a gadael gwraig, a heb adael plentyn, cymered ei frawd y wraig, a choded had i’w frawd. Saith o frodyr a fu; a’r cyntaf a gymerth wraig, a phan fu farw ni adawodd had; a’r ail a’i cymerth hi, ac a fu farw heb adael had; a’r trydydd yr un modd; a’r saith ni adawsant had. Yn olaf oll bu’r wraig hefyd farw. Yn yr atgyfodiad, pan atgyfodant, i ba un ohonynt y bydd hi’n wraig? canys y saith a’i cafodd hi’n wraig.” Meddai’r Iesu wrthynt, “Onid oherwydd hyn y cyfeiliornwch, na wyddoch na’r ysgrythyrau, na gallu Duw? Canys pan gyfodant o feirw, ni phriodant ac nis prïodir, eithr y maent fel angylion yn y nefoedd. Ond am y meirw, eu bod yn cyfodi, oni ddarllenasoch yn llyfr Moses, yn hanes y Berth, pa fodd y llefarodd Duw wrtho gan ddywedyd, Myfi yw Duw Abraham, a Duw Isaac, a Duw Iacob? Nid yw ef Dduw rhai meirw ond rhai byw. Mawr y cyfeiliornwch.” A daeth ato un o’r ysgrifenyddion a’u clywsai hwynt yn dadleu, ac yn gwybod mai da’r atebasai hwynt gofynnodd iddo, “Pa un yw’r gorchymyn cyntaf oll?” Atebodd yr Iesu, “Y cyntaf yw, Clyw, Israel, yr Arglwydd ein Duw, un Arglwydd ydyw; a châr yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid, ac â’th holl feddwl, ac â’th holl nerth. Yr ail yw hwn, Câr dy gymydog fel ti dy hun. Gorchymyn arall mwy na’r rhai hyn nid oes.” A dywedodd yr ysgrifennydd wrtho, “Da, Athro; gwir y dywedaist mai Un ydyw, ac nid oes arall namyn ef; a bod ei garu â’r holl galon, ac â’r holl ddeall, ac â’r holl nerth, a charu’r cymydog fel ei hun, yn fwy na’r holl boeth-offrymau ac aberthau.” A’r Iesu’n gweled mai synhwyrol yr atebodd, a ddywedodd wrtho, “Nid wyt ti bell oddiwrth deyrnas Dduw.” Ac ni feiddiai neb mwyach ei holi. Ac atebodd yr Iesu, ac meddai, wrth ddysgu yn y deml, “Pa fodd y dywed yr ysgrifenyddion fod y Crist yn fab Dafydd? Dafydd ei hun a ddywedodd trwy’r Ysbryd Glân, Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion dan dy draed. Dafydd ei hun a’i geilw ef yn Arglwydd, ac o ba le y mae’n fab iddo?” A’r lliaws mawr oedd hoff ganddynt wrando arno. Ac yn ei ddysgeidiaeth fe ddywedai, “Ymogelwch rhag yr ysgrifenyddion, sy’n chwenychu rhodio mewn gwisgoedd llaes, a chael cyfarchiadau yn y marchnadoedd, a’r prif gadeiriau yn y synagogau, a’r prif eisteddleoedd yn y gwleddau; y rhai sy’n difa cartrefi gwragedd gweddwon, ac mewn rhith yn hir weddïo; fe dderbyn y rhai hyn drymach dedfryd.” Ac wedi eistedd gyferbyn â’r drysorfa fe sylwai pa fodd y bwriai’r dorf bres i’r drysorfa; a llawer o gyfoethogion a fwriai lawer; a daeth rhyw weddw dlawd, a bwriodd ddwy hatling, hynny yw ffyrling. A galwodd ei ddisgyblion ato, a dywedodd wrthynt, “Yn wir, meddaf i chwi, y weddw dlawd hon, mwy a fwriodd na phawb o’r rhai sy’n bwrw i’r drysorfa; canys hwy oll, o’u gweddill y bwriasant; ond hon, o’i hangen y bwriodd yr hyn oll a feddai, ei holl fywoliaeth.” Ac wrth iddo fynd allan o’r deml, fe ddywed un o’i ddisgyblion wrtho, “Athro, gwêl y fath feini, a’r fath adeiladau!” A dywedodd yr Iesu wrtho, “Weli di’r adeiladau mawr yma? Ni adewir maen ar faen a’r nis dymchwelir.” Ac fel yr eisteddai ef ar fynydd yr Olewydd gyferbyn â’r deml, gofynnai Pedr ac Iago ac Ioan ac Andreas iddo o’r neilltu, “Dywed wrthym pa bryd y bydd y pethau hyn, a pha beth fydd yr arwydd pan fo’r pethau hyn oll ar ddyfod i ben.” A dechreuodd yr Iesu ddywedyd wrthynt, “Edrychwch na bo i neb eich twyllo. Llawer a ddaw yn fy enw i gan ddywedyd ‘Myfi yw’; a llawer a dwyllant. A phan glywoch am ryfeloedd a sôn am ryfeloedd, na chyffrowch; rhaid eu dyfod, eithr nid yw’r diwedd eto. Canys cyfyd cenedl yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas. Bydd daeargrynfâu mewn mannau, bydd newynau; dechreu gwewyr fydd hyn. Ond edrychwch chwi atoch eich hunain; traddodant chwi i gynghorau, ac mewn synagogau y’ch ffrewyllir, a cherbron llywodraethwyr a brenhinoedd y’ch gosodir o’m hachos i, er tystiolaeth iddynt. Ac i’r holl genhedloedd yn gyntaf rhaid cyhoeddi’r efengyl. A phan ddygant chwi i’ch traddodi, na phryderwch rhag llaw beth a ddywedoch; eithr pa beth bynnag a rodder i chwi yn yr awr honno, dywedwch hynny; canys nid chwychwi sydd yn dywedyd, eithr yr Ysbryd Glân. A thraddoda brawd frawd i farwolaeth, a thad blentyn; a chyfyd plant yn erbyn rhieni, a’u lladd; a byddwch gas gan bawb oherwydd fy enw i; ond y neb a ddeil i’r diwedd, hwnnw a achubir. Ond pan weloch ffieiddbeth y difrod yn sefyll lle ni ddylai (a ddarlleno, ystyried), yna ffoed y rhai a fydd yn Iwdea i’r mynyddoedd; y neb a fo ar ben y tŷ na ddisgynned, ac nac aed i mewn i gymryd dim o’i dŷ; a’r neb a fo yn y maes na throed yn ei ol i gymryd ei fantell. Ond gwae’r rhai beichiog a’r rhai a ro’r fron yn y dyddiau hynny! Ond gweddïwch na ddelo yn y gaeaf; canys bydd y dyddiau hynny’n orthrymder na bu ei gyffelyb o ddechreu’r greadigaeth a greodd Duw hyd yn awr, ac ni bydd byth. Ac oni bai i’r Arglwydd fyrhau’r dyddiau, nid achubesid un cnawd; eithr er mwyn yr etholedigion a etholodd, fe fyrhaodd y dyddiau. A’r pryd hwnnw os dywed neb wrthych, ‘Wel’di yma’r Crist — wel’di acw,’ na chredwch; canys cyfyd gau-gristiau a gau-broffwydi, a gwnant arwyddion a rhyfeddodau i dwyllo, o bydd modd, yr etholedigion. Ond edrychwch chwi; rhagfynegais i chwi bopeth. Eithr yn y dyddiau hynny, wedi’r gorthrymder, hwnnw, yr haul a dywyllir, a’r lloer ni rydd ei llewych, a’r sêr a fydd yn syrthio o’r nef, a’r nerthoedd sydd yn y nefoedd a ysgydwir. Ac yna y gwelant Fab y dyn yn dyfod mewn cymylau gyda gallu mawr a gogoniant. Ac yna’r enfyn ei angylion, ac y cynnull ei etholedigion o’r pedwar gwynt, o eithaf daear hyd eithaf nef. Ond oddiwrth y ffigyswydden dysgwch y ddameg: wedi’r êl ei changen weithian yn ir, ac y taflo ddail, chwi wyddoch fod yr haf yn agos; felly chwithau, pan weloch y pethau hyn yn digwydd, gwybyddwch ei fod yn agos wrth y drws. Yn wir meddaf i chwi, nid â’r genhedlaeth hon heibio ddim hyd oni ddigwyddo hyn oll. Y nef a’r ddaear a â heibio, ond fy ngeiriau i nid ânt heibio. Ond am y dydd hwnnw neu’r awr ni ŵyr neb, na’r angylion yn y nef, na’r Mab, ond y Tad. Edrychwch, byddwch effro; canys ni wyddoch pa bryd y mae’r amser. Fel dyn oddicartref a adawodd ei dŷ, ac a roes i’w weision yr awdurdod, i bob un ei waith; ac i’r porthor y gorchmynnodd wylio. Gwyliwch gan hynny, canys ni wyddoch pa bryd y daw meistr y tŷ, ai’r hwyr, ai hanner nos, ai’r plygain, ai’r bore; rhag iddo ddyfod yn ddisymwth, a’ch cael chwi’n cysgu. A’r hyn a ddywedaf wrthych chwi a ddywedaf wrth bawb, ‘Gwyliwch.’ ” Ac yr oedd y pasg a gŵyl y bara croyw ymhen deuddydd. A cheisiai’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion pa fodd trwy ddichell i gael gafael arno, a’i ladd. Canys dywedent, “Nid ar yr ŵyl, rhag bod cynnwrf ymhlith y bobl.” A phan oedd ef ym Methania yn nhŷ Simon y gwahanglwyfus yn lledorwedd i fwyta, fe ddaeth gwraig a chanddi flwch o ennaint nard pur drudfawr, a thorri’r blwch, a’i dywallt ar ei ben ef. Ond yr oedd rhai yn ddigllon yn eu plith eu hunain, “I ba beth y bu’r golled hon o’r ennaint? Canys gallasid gwerthu’r ennaint hwn am fwy na thri chan swllt, a’u rhoi i’r tlodion.” A chwyrnent arni. Ond yr Iesu a ddywedodd, “Gedwch iddi. Paham y perwch flinder iddi? Gweithred hardd a wnaeth hi arnaf fi. Canys bob amser y mae gennych y tlodion gyda chwi, a phan fynnoch gellwch wneuthur daioni iddynt hwy; ond myfi, nid oes gennych monof bob amser. A allodd hi, a wnaeth; hi achubodd y blaen i eneinio fy nghorff erbyn y claddedigaeth. Ac yn wir meddaf i chwi, pa le bynnag y pregether yr efengyl yn yr holl fyd, yr hyn a wnaeth hon hefyd a adroddir er cof amdani.” Ac Iwdas Iscariot, yn un o’r deuddeg, a aeth ymaith at yr archoffeiriaid i’w fradychu ef iddynt. Hwythau pan glywsant, bu lawen ganddynt; ac addawsant roi arian iddo. A cheisiai yntau pa fodd y câi gyfle i’w fradychu. A’r dydd cyntaf o ŵyl y bara croyw, pan laddent oen y pasg, fe ddywed ei ddisgyblion wrtho, “Pa le y mynni i ni fynd i baratoi i ti i fwyta’r pasg?” Ac fe enfyn ddau o’i ddisgyblion, ac eb ef wrthynt, “Ewch i’r ddinas, ac fe gyferfydd â chwi ddyn yn cario ystên o ddŵr; dilynwch ef, a pha le bynnag yr êl i mewn, dywedwch wrth ŵr y tŷ fod yr Athro’n dywedyd, ‘Pa le mae fy llety lle bwytawyf y pasg gyda’m disgyblion?’ A dengys ef i chwi lofft fawr wedi ei threfnu’n barod; ac yno paratowch i ni.” Ac aeth y disgyblion ymaith, a deuthant i’r ddinas, a chawsant fel y dywedasai ef wrthynt, a pharatoesant y pasg. Ac wedi iddi hwyrhau fe ddaw yntau gyda’r deuddeg. Ac â hwynt yn lledorwedd ac yn bwyta, dywedodd yr Iesu, “Yn wir meddaf i chwi, un ohonoch chwi a’m bradycha i — un sy’n bwyta gyda mi.” Dechreuasant ymofidio, a dywedyd wrtho y naill ar ol y llall, “Nid myfi?” Dywedodd yntau wrthynt, “Un o’r deuddeg, un sy’n gwlychu gyda mi yn yr un ddysgl. Mab y dyn yn wir sy’n myned fel y mae’n ysgrifenedig amdano; ond gwae’r dyn hwnnw y bradychir Mab y dyn trwyddo; da fuasai iddo pe na anesid y dyn hwnnw.” Ac wrth iddynt fwyta, fe gymerth fara, ac wedi bendithio, torrodd ef, a rhoddes iddynt; a dywedodd, “Cymerwch; hwn yw fy nghorff.” Ac fe gymerth gwpan, ac wedi diolch fe’i rhoddes iddynt, ac yfasant bawb ohono. Ac fe ddywedodd wrthynt, “Hwn yw fy ngwaed cyfamod, a dywelltir dros lawer. Yn wir meddaf i chwi, nid yfaf byth mwy o ffrwyth y winwydden hyd y dydd hwnnw pan yfaf ef yn newydd yn nheyrnas Dduw.” Ac wedi iddynt ganu emyn, aethant allan i fynydd yr Olewydd. A dywed yr Iesu wrthynt, “Fe’ch meglir oll, canys y mae’n ysgrifenedig, Trawaf y bugail, a’r defaid a wasgerir. Eithr wedi i mi gyfodi, mi âf o’ch blaen i Galilea.” Ond Pedr a ddywedodd wrtho, “Os hyd yn oed pawb a feglir, eto nid myfi.” Ac medd yr Iesu wrtho, “Yn wir meddaf i ti, tydi heddyw, y noson hon, cyn i’r ceiliog ganu ddwywaith, a’m gwedi deirgwaith.” Ond mwy o lawer y dywedai yntau, “Pe gorfyddai i mi farw gyda thi, ni’th wadaf byth.” A’r un modd y dywedent oll. A deuant i le o’r enw Gethsemane; ac eb ef wrth ei ddisgyblion, “Eisteddwch yma tra fwyf yn gweddïo.” Ac fe gymer Bedr ac Iago ac Ioan gydag ef; a dechreuodd arswydo ac ymgythryblu; ac medd ef wrthynt, “Athrist yw fy enaid hyd angeu; arhoswch yma, a gwyliwch.” Ac wedi myned rhagddo ychydig, fe syrthiai ar y ddaear, a gweddïai, o bai bosibl, ar fyned yr awr heibio oddiwrtho; ac meddai, “Abba Dad, popeth sy bosibl i ti; tro heibio’r cwpan hwn oddiwrthyf; eithr nid a fynnaf fi, ond a fynni di,” Ac fe ddaw, a’u cael hwynt yn cysgu; ac medd ef wrth Bedr, “Simon, ai cysgu’r wyt ti? Oni ellaist wylio un awr? Gwyliwch a gweddïwch, rhag eich myned i demtasiwn. Yr ysbryd yn wir sydd eiddgar, ond y cnawd sydd wan.” A thrachefn fe aeth ymaith, a gweddïodd gan ddywedyd yr un ymadrodd. A thrachefn fe ddaeth, a’u cael hwynt yn cysgu, canys yr oedd eu llygaid yn swrthdrwm; ac ni wyddent beth i’w ateb iddo. Ac fe ddaw y drydedd waith, ac medd ef wrthynt, “Cysgwch bellach a gorffwyswch; digon yw; daeth yr awr; dyma fradychu Mab y dyn i ddwylo’r pechaduriaid. Codwch, awn; dyma fy mradychwr yn ymyl.” Ac yn y fan, ac ef eto’n llefaru, ymddengys Iwdas, un o’r deuddeg, a chydag ef dyrfa â chleddyfau a ffyn, oddiwrth yr archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion a’r henuriaid. A rhoesai ei fradychwr arwydd iddynt, gan ddywedyd, “Pwy bynnag a gusanwyf, hwnnw yw; deliwch ef, a dygwch ymaith yn ddiogel.” Ac fe ddaeth, ac yn y fan aeth ato, ac eb ef, “Rabbi,” ac fe’i cusanodd ef. Rhoesant hwythau eu dwylo arno, a gafaelasant ynddo. Ond rhywun o’r rhai oedd yn sefyll gerllaw a dynnodd ei gleddyf ac a drawodd was yr archoffeiriad, ac a dorres ymaith ei glust ef. Ac atebodd yr Iesu, a dywedodd wrthynt, “Ai fel at leidr y deuthoch allan, â chleddyfau a ffyn i’m dal? Beunydd yr oeddwn yn eich plith yn y deml yn dysgu, ac ni afaelasoch ynof; eithr cyflawner yr ysgrythyrau.” A gadawsant ef, a ffoesant oll. Ac yr oedd rhyw ddyn ieuanc yn ei ganlyn ef ag amdano lenllïain ar ei gorff noeth, a gafaelant ynddo; gadawodd yntau’r llenllïain, ac yn noeth y ffoes. A dygasant yr Iesu at yr archoffeiriad; ac fe ymgynnull yr holl archoffeiriaid a’r henuriaid a’r ysgrifenyddion. A Phedr o bell a’i dilynodd ef hyd i mewn i neuadd yr archoffeiriad; ac yr oedd yn cydeistedd â’r gwasanaethyddion, ac yn ymdwymo wrth y tân. A cheisiai’r archoffeiriaid a’r holl Sanhedrin dystiolaeth yn ei erbyn i’w roi i farwolaeth, ac nis caent; canys llawer a gam-dystiai yn erbyn yr Iesu, ond nid oedd y tystiolaethau’n gyson. A chododd rhywrai, a chamdystient yn ei erbyn gan ddywedyd, “Clywsom ni ef yn dywedyd, ‘Mi ddymchwelaf y deml hon o waith llaw, ac mewn tridiau mi adeiladaf un arall nid o waith llaw.’ ” Ond felly chwaith nid oedd eu tystiolaeth yn gyson. A chododd yr archoffeiriad yn y canol, a holodd yr Iesu gan ddywedyd, “Onid atebi ddim? Beth a dystia’r rhain i’th erbyn?” Tawai yntau, ac nid atebodd ddim. Drachefn holai’r archoffeiriad ef, ac medd wrtho, “Ai ti yw’r Crist, mab y Bendigedig?” A dywedodd yr Iesu, “Myfi yw; a chewch weled Mab y dyn yn eistedd ar ddeheulaw’r gallu, ac yn dyfod gyda chymylau’r nef.” A rhwygodd yr archoffeiriad ei ddillad, ac eb ef, “Pa raid i ni mwy wrth dystion? Chwi glywsoch y cabledd; beth debygwch chwi?” Hwythau oll a roes farn yn ei erbyn ei fod yn haeddu marw. A dechreuodd rhai boeri arno, a mygydu ei wyneb, a’i gernodio, a dywedyd wrtho, “Proffwyda!” A’r gwasanaethyddion a’i derbyniodd ef â dyrnodiau. Ac â Phedr islaw yn y neuadd fe ddaw un o forynion yr archoffeiriad, ac wrth weled Pedr yn ymdwymo, hi edrychodd arno, ac medd hi, “Yr oeddit tithau hefyd gyda’r Nasaread Iesu.” Gwadodd yntau, gan ddywedyd, “Ni wn i, ac nid wyf yn deall beth a ddywedi.” Ac fe aeth allan i’r cyntedd; a’r forwyn, wrth ei weled ef, a ddechreuodd drachefn ddywedyd wrth y rhai oedd yn sefyll gerllaw, “Y mae hwn yn un ohonynt.” Yntau drachefn a wadai. Ac ymhen ychydig drachefn, y rhai oedd yn sefyll gerllaw a ddywedai wrth Bedr, “Yn wir, un ohonynt wyt; achos Galilead wyt.” Dechreuodd yntau felltithio, a thyngu, “Nid adwaen i mo’r dyn hwn y soniwch amdano.” Ac yn y fan canodd y ceiliog yr ail waith. A chofiodd Pedr yr ymadrodd, fel y dywedodd yr Iesu wrtho, “Cyn i’r ceiliog ganu ddwywaith y’m gwedi deirgwaith”; ac ymollyngodd i wylo. Ac yna’r bore, wedi i’r archoffeiriaid gyda’r henuriaid a’r ysgrifenyddion, sef yr holl Sanhedrin, ddarparu cyngor, rhwymasant yr Iesu, a dygasant ef ymaith, a’i draddodi i Bilat. A gofynnodd Pilat iddo, “Ai ti yw ‘Brenin yr Iddewon’?” Atebodd yntau a dywed wrtho, “Ti sy’n dywedyd.” A chyhuddai’r archoffeiriaid ef o lawer o bethau. A Philat drachefn a ofynnai iddo, gan ddywedyd, “Onid atebi ddim? Gwêl o ba faint o bethau y’th gyhuddant.” Ond yr Iesu nid atebodd mwyach ddim, nes rhyfeddu o Bilat. Ac ar bryd gŵyl fe ryddhâi iddynt un carcharor a ddeisyfent ganddo. Ac yr oedd un a elwid Barabbas yn rhwym gyda’r gwrthryfelwyr — rhai a wnaethai lofruddiaeth yn y gwrthryfel. A daeth y dorf i fyny, a dechreu gofyn iddo wneuthur fel yr arferai iddynt. Ac atebodd Pilat hwynt gan ddywedyd, “A fynnwch i mi ryddhau i chwi Frenin yr Iddewon?” Canys fe wyddai mai o genfigen y traddodasai’r archoffeiriaid ef. Ond cynhyrfodd yr archoffeiriaid y dorf, er cael ganddo yn hytrach ryddhau Barabbas iddynt. Ond atebodd Pilat drachefn, ac meddai wrthynt, “Beth, ynteu, a wnaf â’r un a elwch yn Frenin yr Iddewon?” A thrachefn gwaeddasant hwythau, “Croeshoelia ef.” Ond dywedai Pilat wrthynt, “Eithr pa ddrwg a wnaeth ef?” Hwythau mwyfwy y gwaeddasant, “Croeshoelia ef.” A Philat yn dymuno rhyngu bodd i’r dyrfa, a ryddhaodd iddynt Farabbas, ac a draddododd yr Iesu, wedi ei ffrewyllu, i’w groeshoelio. A dug y milwyr ef ymaith i’r neuadd, sef y Praetoriwm; a galwant ynghyd yr holl fintai. A gwisgant ef â phorffor, a dodant am ei ben goron ddrain a blethasent; a dechreuasant gyfarch iddo, “Henffych well, Brenin yr Iddewon!” A churent ei ben â gwialen, a phoerent arno, a chan blygu eu gliniau ymgryment iddo. Ac wedi iddynt ei watwar, diosgasant y porffor oddi amdano, a gwisgasant ef â’i ddillad ei hun; a dygant ef ymaith i’w groeshoelio. A gorfodant un yn myned heibio, Simon o Gyrene, ar ei ffordd o’r wlad, tad Alexander a Rwffws, i gymryd ei groes ef. A dygant ef i’r lle Golgotha, hynny yw o’i gyfieithu lle Penglog. A rhoddent iddo win â myrr ynddo; ond ef nis cymerth. A chroeshoeliant ef, a rhannant ei ddillad, gan fwrw coelbren arnynt, beth a gâi pob un. A’r drydedd awr oedd hi, a chroeshoeliasant ef. Ac yr oedd ysgrifen ei achos ef wedi ei hysgrifennu — BRENIN YR IDDEWON. A chydag ef croeshoeliant ddau leidr, un ar ei ddeheulaw ac un ar ei aswy. A’r rhai oedd yn myned heibio a’i cablai ef, gan ysgwyd eu pennau a dywedyd, “Hai, ddymchwelwr y deml a’i hadeiladwr mewn tridiau, achub dy hun a disgyn oddiar y groes.” Yr un modd yr archoffeiriaid hefyd a’i gwatwarai wrth ei gilydd gyda’r ysgrifenyddion, ac meddent, “Eraill a achubodd, ei hun ni all ei achub. Y Crist, Brenin Israel, disgynned yn awr oddiar y groes, fel y gwelom ac y credom.” A’r rhai a groeshoeliasid gydag ef oedd yn edliw iddo. A phan ddaeth y chweched awr bu tywyllwch dros yr holl dir hyd y nawfed awr. Ac ar y nawfed awr dolefodd yr Iesu â llef uchel, “Eloi, Eloi, lama sabachthani?” hynny yw, o’i gyfieithu, “Fy Nuw, fy Nuw, paham y’m gadewaist?” A rhai o’r rhai oedd yn sefyll gerllaw, wrth ei glywed, a ddywedai, “Wele, mae’n galw ar Elïas.” A rhedodd rhywun, a llanwodd ysbwng â surwin, ac wedi ei roi ar flaen gwialen fe’i diodai, gan ddywedyd, “Gedwch i ni weled a ddaw Elïas i’w dynnu ef i lawr!” Ond yr Iesu a roes lef uchel, ac a drengodd. A llen y deml a rwygwyd yn ddwy oddi fry i lawr. A phan welodd y canwriad a safai gyferbyn ag ef mai felly y trengodd, fe ddywedodd, “Yn wir, yr oedd y dyn hwn yn fab i dduw.” Yr oedd hefyd wragedd yn edrych o bell, ac yn eu plith Mair o Fagdala, a Mair mam Iago Fychan ac Ioses, a Salome, y rhai, pan oedd ef yn Galilea, a’i dilynai ac a weinyddai arno, a llawer o wragedd eraill, a ddeuthai i fyny gydag ef i Gaersalem. Ac yn awr wedi iddi hwyrhau, gan ei bod yn ddydd darpar, sef y dydd cyn y Sabath, fe ddaeth Ioseph o Arimathea, cynghorwr bonheddig, oedd yntau yn disgwyl am deyrnas Dduw, ac ymwrolodd ac aeth i mewn at Bilat, a gofyn am gorff yr Iesu. A rhyfeddodd Pilat ei farw eisoes; ac wedi galw’r canwriad ato fe ofynnodd iddo a fuasai farw eisoes; a phan wybu gan y canwriad fe roddes y gelain i Ioseph. A phrynodd yntau lenllïain; ac wedi iddo’i dynnu i lawr fe’i hamdôdd yn y llenllïain, a dododd ef mewn bedd oedd wedi ei naddu o’r graig, a threiglodd faen ar ddrws y bedd. A Mair o Fagdala a Mair mam Ioses a sylwai pa le y dodwyd ef. Ac wedi i’r Sabath fynd heibio prynodd Mair o Fagdala, a Mair mam Iago, a Salome, beraroglau i fynd i’w eneinio ef. Ac yn fore iawn y dydd cyntaf o’r wythnos deuant at y bedd, a’r haul wedi codi. Ac meddent wrth ei gilydd, “Pwy a dreigla ymaith i ni y maen o ddrws y bedd?” Ond erbyn codi eu golwg, sylwant fod y maen wedi ei dreiglo’n ol — yr oedd yn un mawr anferth. Ac wedi mynd i mewn i’r bedd gwelsant ddyn ieuanc yn eistedd ar y ddeheu, ag amdano wisg wenllaes, ac arswydasant. Medd yntau wrthynt, “Nac arswydwch; Iesu a geisiwch, y Nasaread croeshoeliedig; fe gyfododd; nid yw yma; dyma’r fan y dodasant ef. Ond ewch, dywedwch wrth ei ddisgyblion ac wrth Bedr, ‘Y mae ef yn myned o’ch blaen i Galilea; yno y gwelwch ef, fel y dywedodd wrthych.’ ” Ac aethant allan, a ffoesant oddiwrth y bedd, canys yr oedd arnynt ddychryn a syfrdandod. Ac ni ddywedasant ddim wrth neb; canys ofnent — Ac wedi cyfodi ohono yn fore y dydd cyntaf o’r wythnos, fe ymddangosodd gyntaf i Fair o Fagdala, y bwriasai ohoni saith o gythreuliaid. Aeth honno, a mynegodd i’r rhai a fuasai gydag ef, a hwy’n galaru ac yn wylofain; a’r rheini pan glywsant ei fod yn fyw, a’i weled ganddi, a anghredasant. Ac wedi hynny i ddau ohonynt yr ymddangosodd mewn ffurf arall, a hwy yn cerdded ar eu ffordd i’r wlad; ac aeth y rheini ymaith, a mynegasant i’r gweddill; ond i’r rheini chwaith ni chredasant. Ac yn ddiweddarach fe ymddangosodd i’r un-ar-ddeg, a hwythau ar bryd bwyd, ac edliwiodd iddynt eu hanghrediniaeth a’u cyndynrwydd, am na chredasent i’r rhai a’i gwelsai wedi cyfodi. A dywedodd wrthynt, “Ewch i’r holl fyd, a phregethwch yr efengyl i bob creadur. Y neb a gredo ac a fedyddier a achubir; ond y neb ni chredo a gondemnir. Ac yn arwyddion, y pethau hyn a ddilyn i’r rhai a gredo: yn fy enw i y bwriant allan gythreuliaid; â thafodau newyddion y llefarant; mewn seirff y gafaelant; ac os yfant beth marwol nis niweidia hwynt ddim; ar gleifion y dodant ddwylo, ac iach fyddant.” Ac felly’r Arglwydd Iesu, wedi llefaru wrthynt, a gymerwyd i fyny i’r nef, ac a eisteddodd ar ddeheulaw Duw. Aethant hwythau allan, a phregethasant ym mhobman, a’r Arglwydd yn cydweithio, ac yn cadarnhau’r gair trwy’r arwyddion a ddilynai. Ond y cwbl a orchmynnwyd iddynt a fynegasant ar fyr eiriau i Bedr a’r rhai oedd gydag ef. Ac wedi hynny yr Iesu ei hunan a anfonodd trwyddynt hwy, o ddwyrain hyd orllewin, santaidd ac anllygradwy genadwri’r dragwyddol iechydwriaeth. Gan ddarfod i lawer geisio cyfansoddi hanes am y pethau sydd wedi eu cyflawni yn ein plith, fel y traddodwyd hwynt i ni gan y rhai oedd o’r dechrau’n llygad-dystion ac a fu’n weinidogion y gair, bu wiw gennyf innau, wedi olrhain o’r cychwyn bob peth yn fanwl, eu hysgrifennu i ti mewn trefn, O ardderchocaf Theophilus, modd y cait wybod sicrwydd am y materion y’th hyfforddwyd ynddynt. Yr oedd yn nyddiau Herod, brenin Iwdea, ryw offeiriad a’i enw Sacharïas o ddosbarth Abïa, ac iddo wraig o ferched Aaron, a’i henw Elisabeth. Yr oeddent yn gyfiawn ill dau ger bron Duw, yn rhodio yn holl orchmynion ac ordeiniadau’r Arglwydd yn ddiargyhoedd. Ac nid oedd iddynt blentyn, canys yr oedd Elisabeth yn amhlantadwy; ac yr oeddent ill dau wedi mynd ymlaen mewn dyddiau. A digwyddodd, fel yr oedd ef yn gweini swydd offeiriad yn nhro ei ddosbarth gerbron Duw, ddyfod i’w ran, yn ôl arfer yr offeiriadaeth, fynd i mewn i gysegr yr Arglwydd i arogldarthu, a holl liaws y bobl oedd yn gweddïo tu allan ar awr yr arogldarth. Ac ymddangosodd iddo angel yr Arglwydd, yn sefyll o’r tu dehau i allor yr arogldarth. A chyffröwyd Sacharïas pan welodd, ac ofn a ddaeth arno. A dywedodd yr angel wrtho, “Paid ag ofni, Sacharïas, canys gwrandawyd dy weddi, a dwg dy wraig Elisabeth fab i ti, a gelwi ei enw ef Ioan; a bydd llawenydd i ti a gorfoledd; a llawer a lawenha am ei eni ef. Canys mawr fydd yng ngolwg yr Arglwydd, a gwin na diod gadarn nid yf, a llenwir ef o’r Ysbryd Glân, ie, o groth ei fam; a llawer o feibion Israel a dry ef at yr Arglwydd eu Duw; ac â rhagddo o’i flaen ef yn ysbryd a nerth Elïas, i droi calonnau tadau at eu plant, a rhai anufudd i fyw yn noethineb y cyfiawn, i baratoi i’r Arglwydd bobl ddarparedig.” A dywedodd Sacharïas wrth yr angel, “Pa fodd y gwybyddaf hyn? canys yr wyf i’n hen ŵr, a’m gwraig wedi mynd ymlaen mewn dyddiau.” Atebodd yr angel iddo, “Myfi yw Gabriel, sy’n sefyll gerbron Duw, ac fe’m danfonwyd i lefaru wrthyt ac i gyhoeddi i ti hyn o newyddion da. Ac wele, ti fyddi fud, a heb allu llefaru hyd y dydd y digwydd y pethau hyn, am na chredaist fy ngeiriau, y rhai er hynny a gyflawnir yn eu hamser.” Ac yr oedd y bobl yn disgwyl am Sacharïas, a rhyfeddent ei fod yn oedi yn y cysegr. Ac wedi iddo ddyfod allan ni allai lefaru wrthynt, a deallasant ei fod wedi gweled gweledigaeth yn y cysegr; ac yr oedd ef yn amneidio arnynt, a pharhau yn fud. Ac yna, pan gyflawnwyd dyddiau ei weinidogaeth, aeth adref. Ar ôl y dyddiau hyn beichiogodd Elisabeth ei wraig ef, ac ymguddiodd bum mis, gan ddywedyd, “Fel hyn y gwnaeth yr Arglwydd â mi yn y dyddiau y gwelodd yn dda dynnu ymaith fy ngwaradwydd ymhlith dynion.” Ac yn y chweched mis danfonwyd yr angel Gabriel gan Dduw i ddinas yng Ngalilea o’r enw Nasareth, at forwyn wedi ei dyweddïo i ŵr o’r enw Ioseff o dŷ Ddafydd, ac enw’r forwyn oedd Mair. Ac aeth i mewn ati, a dywedodd, “Henffych well, y gyflawn o ras! Yr Arglwydd a fo gyda thi!” Hithau a gyffrowyd drwyddi wrth yr ymadrodd; a meddyliai pa ryw gyfarch a allai hwn fod. A dywedodd yr angel wrthi, “Paid ag ofni, Mair; canys cefaist ffafr gyda Duw. Ac wele, bydd i ti feichiogi ac esgor ar fab, a galw ei enw Iesu. Hwn a fydd mawr, a Mab y Goruchaf y gelwir ef, a rhydd yr Arglwydd Dduw iddo orsedd Dafydd ei dad, a theyrnasa ar dŷ Iacob yn oes oesoedd, ac ar ei deyrnas ni bydd diwedd.” A dywedodd Mair wrth yr angel, “Pa fodd y bydd hyn, gan nad adwaen i ŵr?” Ac atebodd yr angel iddi, “Yr Ysbryd Glân a ddaw arnat ti, a nerth y Goruchaf a gysgoda drosot; ac am hynny y plentyn a elwir yn santaidd, yn Fab Duw. Ac wele, Elisabeth dy gares, hithau hefyd a feichiogodd, ar fab yn ei henaint, a hwn yw’r chweched mis iddi hi a elwid yn amhlantadwy; canys ni bydd amhosibl gyda Duw un dim.” A dywedodd Mair, “Wele gaethferch yr Arglwydd; bydded i mi yn ôl dy air.” Ac aeth yr angel ymaith oddi wrthi. A chododd Mair yn y dyddiau hynny, a chyrchu i’r mynydd-dir ar frys i ddinas yn Iwda; ac aeth i mewn i dŷ Sacharïas, a chyfarch Elisabeth. A darfu, pan glywodd Elisabeth gyfarchiad Mair, i’r baban lamu yn ei chroth; a llanwyd Elisabeth o’r Ysbryd Glân, a llefodd â bloedd uchel, a dywedyd, “Bendigedig dydi ymhlith gwragedd, a bendigedig ffrwyth dy groth! Ac o ba le y daeth hyn i mi, ddyfod mam fy Arglwydd ataf? Canys, wele, fel y daeth sŵn dy gyfarchiad i’m clustiau y llamodd y plentyn o orfoledd yn fy nghroth. A gwyn ei byd yr hon a gredodd, canys bydd cyflawniad i’r pethau a ddywedwyd wrthi gan yr Arglwydd.” A dywedodd Mair, “Mawryga fy enaid yr Arglwydd, a gorfoleddodd fy ysbryd yn Nuw fy Ngheidwad; Oblegid edrychodd ar iselder ei gaethferch.Canys, wele, o hyn allan gwynfydedig y geilw’r holl genedlaethau fi. Oblegid gwnaeth y Cadarn i mi bethau mawr, A santaidd yw ei enw ef, A’i drugaredd hyd genedlaethau a chenedlaethau I’r rhai a’i hofna ef. Gwnaeth rymuster â’i fraich, Gwasgarodd feilchion ym mryd eu calon; Dymchwelodd lywiawdwyr o’u gorseddau, a dyrchafodd rai isel, Rhai newynog a lanwodd â phethau da, a chyfoethogion a yrrodd ymaith yn weigion. Cynorthwyodd ei was Israel, gan gofio trugaredd, Megis y llefarodd wrth ein tadau, I Abraham a’i had yn dragywydd.” Ac arhosodd Mair gyda hi tua thri mis, a dychwelodd adref. Ac i Elisabeth cyflawnwyd yr amser iddi i esgor, a ganwyd, iddi fab. A chlywodd ei chymdogion a’i cheraint helaethu o’r Arglwydd ei drugaredd iddi, a chydlawenychent â hi. Ac ar yr wythfed dydd daethant i enwaedu ar y plentyn, ac yr oeddent am ei alw ar enw ei dad, yn Sacharïas. Ac atebodd ei fam a dywedodd, “Nage; eithr gelwir ef Ioan.” Dywedasant wrthi, “Nid oes neb o’th dylwyth di a elwir ar yr enw hwn.” Ac amneidient ar ei dad i ofyn pa beth a fynnai ei alw. Ceisiodd yntau lechen, ac ysgrifennydd, “Ioan yw ei enw.” A rhyfeddasant oll. Ac agorwyd ei enau yn y fan, a’i dafod, a dechreuodd lefaru gan fendithio Duw. A daeth braw ar bawb a oedd yn trigo o’u hamgylch, ac yn holl fynydd-dir Iwdea yr oedd trafod ar yr holl bethau hyn, a phawb a’u clywodd a’u gosododd yn eu calon, gan ddywedyd, “Beth, tybed, fydd y plentyn hwn?” Canys yn wir llaw’r Arglwydd oedd gydag ef. A Sacharïas ei dad ef a lanwyd o’r Ysbryd Glân, a phroffwydodd gan ddywedyd, “Bendigedig fo Arglwydd Dduw Israel,canys ymwelodd â hwy, a gwnaeth ymwared i’w bobl, a dyrchafodd gorn iachawdwriaeth inni yn nhŷ Dafydd ei was, megis y llefarodd trwy enau ei santaidd broffwydi erioed, — iachawdwriaeth rhag ein gelynion ac o law ein holl gaseion, gwneuthur trugaredd â’n tadau,a chofio’i gyfamod santaidd, llw a dyngodd wrth Abraham ein tad y rhoddai inni, wedi ein rhyddhau o law ein gelynion, yn ddiofn ei wasanaethu ef mewn santeiddrwydd a chyfiawnder ger ei fron ef dros ein holl ddyddiau. A thithau, blentyn, proffwyd y goruchaf y’th elwir; canys cerddi o flaen wyneb yr Arglwydd i baratoi ei ffyrdd ef, i roddi gwybodaeth iachawdwriaeth i’w bobl ym maddeuant eu pechodau, trwy dosturiaethau trugaredd ein Duw, ac ynddynt yr ymwêl â ni wawr oddi uchod, i lewyrchu i’r rhai a eistedd mewn tywyllwch a chysgod angau, i gyfeirio’n traed i ffordd tangnefedd.” A’r plentyn a dyfai ac a gryfhâi yn yr ysbryd, a bu yn y diffeithleoedd hyd ddydd ei ymddangos i Israel. Ac yn y dyddiau hynny aeth gorchymyn allan oddi wrth Gesar Awgwstus i gofrestru’r holl fyd. Hwn oedd y cyfrifiad cyntaf, pan oedd Cyrenius yn rhaglaw Syria. Ac aeth pawb i’w cofrestru, pob un i’w ddinas ei hun. Aeth Ioseff yntau o Galilea o ddinas Nasareth i Iwdea i ddinas Dafydd a elwir Bethlehem, am ei fod o dŷ a thylwyth Dafydd, i’w gofrestru gyda Mair, a ddyweddiasid iddo, ac a oedd feichiog. A phan oeddent yno fe gyflawnwyd y dyddiau iddi i esgor, a hi esgorodd ar ei mab cyntafanedig, a rhwymynnodd ef, ai roi i orwedd mewn preseb, am nad oedd iddynt le yn y llety. A bugeiliaid oedd yn y fro honno yn aros allan ac yn gwarchod eu praidd drwy’r nos. Ac angel i’r Arglwydd a safodd ger eu llaw, a gogoniant yr Arglwydd a ddisgleiriodd o’u hamgylch, ac ofnasant ag ofn mawr. A dywedodd yr angel wrthynt, “Peidiwch ag ofni; canys wele, cyhoeddaf i chwi newyddion da am lawenydd mawr a fydd i’r holl bobl, canys ganwyd i chwi heddiw Geidwad, sef Crist yr Arglwydd, yn ninas Dafydd. A dyma i chwi arwydd; chwi gewch faban wedi ei rwymynnu ac yn gorwedd mewn preseb.” Ac yn ddisymwth yr oedd gyda’r angel liaws o’r llu nefol yn moliannu Duw, ac yn dywedyd: “Gogoniant yn y goruchafion i Dduw, ac ar y ddaear tangnefedd ymysg dynion sydd wrth ei fodd.” A phan aeth yr angylion ymaith oddi wrthynt i’r nef, dywedai’r bugeiliaid wrth ei gilydd, “Awn draw i Fethlehem, a gwelwn y peth hwn a fu ac a hysbysodd yr Arglwydd inni.” Ac aethant ar frys, a chael hyd i Fair ac Ioseff, a’r baban yn gorwedd yn y preseb. A phan welsant, gwnaethant yn hysbys y peth a ddywedwyd wrthynt am y plentyn hwn. A rhyfeddodd pawb a glywodd at y pethau a ddywedwyd gan y bugeiliaid wrthynt. A chadwai Mair yr holl bethau hyn yn ddiogel, a’u hystyried yn ei chalon. A dychwelodd y bugeiliaid dan ogoneddu a chlodfori Duw am y cwbl a glywsant ac a welsant fel y dywedwyd wrthynt. A phan gyflawnwyd wyth niwrnod ei enwaedu ef, galwyd ei enw ef Iesu, yr enw y galwyd ef gan yr angel cyn ei ymddwyn ef yn y groth. A phan gyflawnwyd dyddiau eu puredigaeth yn ôl deddf Moses, dygasant ef i fyny i Gaersalem i’w gyflwyno i’r Arglwydd, fel y mae’n ysgrifenedig yn neddf yr Arglwydd, Pob gwryw a agoro groth a elwir yn santaidd i’r Arglwydd, ac i roi aberth yn ôl y gosodiad yn neddf yr Arglwydd, Pâr o durturod neu ddau gyw colomen. Ac wele yr oedd dyn yng Nghaersalem a’i enw Simeon; a’r dyn hwn oedd gyfiawn a duwiol, yn disgwyl diddanwch yr Israel, a’r Ysbryd Glân oedd arno; ac yr oedd wedi ei rybuddio gan yr Ysbryd Glân na welai angau cyn gweled Eneiniog yr Arglwydd. Ac fe ddaeth yn yr Ysbryd i’r deml; ac wedi i’w rieni ddwyn i mewn y plentyn Iesu i wneuthur yn ôl defod y ddeddf yn ei gylch, cymerth yntau ef yn ei freichiau, a bendithiodd Dduw, a dywedodd, “Yn awr y gollyngi dy was, Arglwydd, yn ôl dy air, mewn tangnefedd; canys gwelodd fy llygaid dy iachawdwriaeth, a baratoaist ger bron yr holl bobloedd — goleuni yn ddatguddiad i’r cenhedloedd,a gogoniant i’th bobl Israel.” Ac yr oedd ei dad, a’i fam yn rhyfeddu at y pethau a ddywedid amdano. A bendithiodd Simeon hwynt, a dywedodd wrth Fair ei fam, “Wele hwn a osodwyd yn gwymp a chyfodiad i lawer yn yr Israel, ac yn arwydd a wrthwynebir (a’th enaid dithau a drywana cleddyf), fel y datguddier bwriadau llawer o galonnau.” Yr oedd hefyd broffwydes, Anna merch Phanwel o lwyth Aser, — hon, wedi mynd ymhell ymlaen mewn dyddiau, ar ôl byw gyda gŵr saith mlynedd wedi ei morwyndod, a fu’n weddw hyd yn bedair a phedwarugain Oed, — ac nid ymadawai â’r deml, ond addoli mewn ymprydiau a gweddïau ddydd a nos. A’r awr honno hi ddaeth i’r fan, a rhoddi diolch i Dduw, a llefaru amdano ef wrth bawb a oedd yn disgwyl am waredigaeth Caersalem. A phan gyflawnasant y cwbl a oedd yn ôl deddf yr Arglwydd, dychwelasant i Galilea i’w dinas eu hun, Nasareth. A thyfai’r plentyn, a chryfhâi’n gyflawn o ddoethineb; a gras Duw oedd arno. Ac âi ei rieni bob blwyddyn i Gaersalem ar ŵyl y Pasg. A phan oedd ef yn ddeuddeg oed, aethant i fyny yn ôl arfer yr ŵyl, ac wedi iddynt dreulio’r dyddiau i ben, wrth iddynt ddychwelyd arhosodd y bachgen Iesu ar ôl yng Nghaersalem; ac ni wybu ei rieni. Ond gan dybio ei fod yn y fintai, aethant daith diwrnod ac yna dechrau chwilio amdano ymysg eu ceraint a’u cydnabod, a phan nas cawsant, dychwelasant i Gaersalem gan chwilio amdano. Ac wedi tridiau cawsant ef yn y deml yn eistedd ymhlith yr athrawon, ac yn gwrando arnynt ac yn eu holi. A rhyfeddai pawb a’i clywai at ei ddeall a’i atebion. Ac wrth ei weled trawyd hwynt â syndod, a dywedodd ei fam wrtho, “Fy mhlentyn, paham y gwnaethost â ni fel hyn? Dyma dy dad a minnau mewn ing yn chwilio amdanat.” A dywedodd wrthynt “Paham yr oeddech yn chwilio amdanaf? Oni wyddech fod yn rhaid i mi fod yn nhŷ fy Nhad?” A hwy ni ddeallasant y gair a ddywedodd ef wrthynt. Ac aeth i lawr gyda hwynt, a daeth i Nasareth, a bu ddarostyngedig iddynt. A’i fam a drysorai’r cwbl yn ei chalon. Ac Iesu a gynyddai mewn doethineb a thwf a ffafr gyda Duw a dynion. Yn y bymthegfed flwyddyn o lywodraeth Tiberius Cesar, pan oedd Pontius Pilat yn, llywodraethu Iwdea, a Herod yn detrarch Galilea, a Phylip ei frawd yn detrarch gwlad Itwrea a Thrachonitis, a Lysanias yn detrarch Abilene, yn ystod archoffeiriadaeth Annas a Chaiaffas, daeth gair Duw at Ioan fab Sacharïas yn y diffeithwch. Ac fe aeth i holl gyffiniau’r Iorddonen gan gyhoeddi bedydd edifeirwch er maddeuant pechodau, fel yr ysgrifennwyd yn llyfr geiriau Eseia’r proffwyd: Llef un yn bloeddio yn y diffeithwch, Paratowch ffordd yr Arglwydd, unionwch ei lwybrau ef. Pob cwm a lenwir, a phob mynydd a bryn a wastateir, a bydd y lleoedd gŵyrgam yn ffyrdd union, a’r ffyrdd geirwon yn llyfn; a gwêl pob cnawd iachawdwriaeth Duw Felly dywedai wrth y tyrfaoedd a âi allan i’w bedyddio ganddo, “Epil gwiberod, pwy a’ch rhybuddiodd i ffoi rhag y llid a fydd? Dygwch, ynteu, ffrwythau teilwng o’ch edifeirwch; ac na ddechreuwch ddywedyd ynoch eich hunain, ‘Y mae gennym ni Abraham yn dad’; canys meddaf i chwi, fe ddichon Duw o’r cerrig hyn godi plant i Abraham. Eisoes yn wir y mae’r fwyall wedi ei gosod wrth wraidd y prennau; pob pren, ynteu, heb ddwyn ffrwyth da, yr ydys yn ei dorri i lawr a’i daflu yn tân.” A gofynnai’r tyrfaoedd iddo, “Beth, ynteu, a wnawn?” Atebai yntau iddynt, “Y neb sydd ganddo ddwy grysbais, rhanned â’r sawl sydd heb yr un, a’r neb sydd ganddo fwyd, gwnaed yr un modd.” A daeth hefyd drethwyr i’w bedyddio, a dywedasant wrtho, “Athro, beth a wnawn?” Dywedodd yntau wrthynt, “Na chodwch ddim mwy na’r dreth osodedig.” A gofynnai milwyr hefyd iddo, “Beth a wnawn ninnau?” Dywedodd yntau wrthynt, “Na yrrwch ofn ar neb ac na chamachwynwch; a byddwch fodlon ar eich cyflogau.” A’r bobl yn disgwyl, a phawb yn ymresymu yn eu calonnau ynghylch Ioan, ai ef tybed oedd y Crist, atebodd Ioan iddynt oll, “Myfi yn wir sydd yn eich bedyddio â dwfr; ond y mae fy nghryfach yn dyfod, un nad wyf deilwng i ddatod carrai ei esgidiau; ef a’ch bedyddia chwi â’r Ysbryd Glân ac â thân; a’i wyntyll sydd yn ei law, i lwyr-lanhau ei lawr dyrnu, ac i gasglu’r ŷd i’w ysgubor, ond yr us a lysg ef â thân anniffoddadwy.” A chan annog llawer o bethau eraill arnynt, efengylai i’r bobl; ond Herod y tetrarch, a oedd dan gerydd ganddo am Herodias gwraig ei frawd ac am yr holl ddrygau a wnaethai Herod, a chwanegodd hyn hefyd at y cwbl, — carcharodd Ioan. Wedi iddo fedyddio’r holl bobl, ac Iesu hefyd wedi ei fedyddio ac yn gweddïo, agorodd y nef, a disgynnodd yr Ysbryd Glân arno mewn ffurf gorfforol fel colomen; a daeth llef o’r nef, “Ti yw fy Mab annwyl, ynot ti y’m bodlonwyd.” Ac Iesu ei hun, i ddechrau, oedd tua deg ar hugain oed, ac yn fab, fel y tybid, i Ioseff, fab Heli, fab Mathat, fab Lefi, fab Melchi, fab Iannai, fab Ioseff, fab Matathias, fab Amos, fab Nahwm, fab Esli, fab Naggai, fab Maath, fab Matathias, fab Semein, fab Iosech, fab Ioda, fab Ioanan, fab Rhesa, fab Sorobabel, fab Salathiel, fab Neri, fab Melchi, fab Adi, fab Cosam, fab Elmadam, fab Er, fab Iesu, fab Elieser, fab Iorim, fab Mathat, fab Lefi, fab Simeon, fab Iwda, fab Ioseff, fab Ionam, fab Eliacim, fab Melea, fab Menna, fab Matatha, fab Natham, fab Dafydd, fab Iessai, fab Iobed, fab Boos, fab Sala, fab Naasson, fab Aminadab, fab Admin, fab Arni, fab Esrom, fab Phares, fab Iwda, fab Iacob, fab Isaac, fab Abraham, fab Thara, fab Nachor, fab Serwch, fab Rhagaw, fab Phalec, fab Eber, fab Sala, fab Cainam, fab Arffacsad, fab Sem, fab Noe, fab Lamech, fab Mathwsala, fab Enoch, fab Iaret, fab Maleleel, fab Cainam, fab Enos, fab Seth, fab Adda, fab Duw. Ac Iesu’n llawn o’r Ysbryd Glân a ddychwelodd oddi wrth Iorddonen, ac arweiniwyd ef gan yr Ysbryd yn y diffeithwch ddeugain niwrnod, a’r diafol yn ei demtio. Ac ni fwytaodd ddim yn y dyddiau hynny, ac wedi iddynt ddiweddu, daeth arno newyn. A dywedodd y diafol wrtho, “Os Mab Duw wyt, dywed wrth y garreg hon am droi’n fara.” Ac atebodd yr Iesu iddo, “Y mae’n ysgrifenedig, Nid ar fara’n unig y bydd byw dyn.” A dug ef i fyny a dangosodd iddo holl deyrnasoedd y byd ar amrantiad; a dywedodd y diafol wrtho, “I ti y rhof yr awdurdod hwn oll, a’r gogoniant sydd eiddynt, canys i mi y traddodwyd ef, ac i’r neb y mynnwyf y rhoddaf ef. Os ymgrymi di gan hynny ger fy mron i, bydd y cwbl yn eiddot ti.” Atebodd yr Iesu iddo, “Y mae’n ysgrifenedig, ‘I’r Arglwydd dy Dduw yr ymgrymi, ac ef yn unig a wasanaethi’.” A dug ef i Gaersalem, a gosododd ef ar ganllaw’r deml, a dywedodd wrtho, “Os Mab Duw wyt, bwrw dy hun i lawr oddi yma; canys y mae’n ysgrifenedig, I’w angylion y gorchymyn ef amdanat i’th gadw, a hefyd ar eu dwylo y’th ddaliant, rhag taro ohonot byth dy droed wrth garreg.” Ac atebodd yr Iesu iddo, “Fe ddywedwyd, Na themtia’r Arglwydd dy Dduw.” Ac wedi i’r diafol orffen pob temtiad, ymadawodd ag ef hyd amser cyfaddas. A dychwelodd yr Iesu yng ngrym yr Ysbryd i Galilea; a sôn a aeth allan drwy’r holl gymdogaeth amdano. Ac yr oedd ef yn dysgu yn eu synagogau hwy, a phawb yn ei anrhydeddu. Ac fe ddaeth i Nasara, lle’r oedd wedi ei fagu, ac aeth i mewn yn ôl ei arfer ar ddydd Sabbath i’r synagog, a chododd i ddarllen. A rhoed iddo lyfr y proffwyd Eseia, ac wedi agor y llyfr, fe gafodd y man lle’r oedd yn ysgrifenedig, Ysbryd yr Arglwydd sydd arnaf i, achos eneiniodd fi i fynegi newyddion da i dlodion, danfonodd fi i gyhoeddi i gaethion ryddhâd ac i ddeillion eu golwg, i ollwng rhai ysig yn rhydd, i gyhoeddi blwyddyn gymeradwy’r Arglwydd. Ac wedi cau’r llyfr a’i roi i’r swyddog, fe eisteddodd; a llygaid pawb yn y synagog oedd yn craffu arno. A dechreuodd ddywedyd wrthynt, “Heddiw y cyflawnwyd yr ysgrythur hon yn eich clustiau chwi.” Ac yr oedd pawb yn dwyn tystiolaeth iddo, ac yn rhyfeddu at y geiriau o ras a ddeuai allan o’i enau ef, ac yn dywedyd, “Onid mab Ioseff yw hwn?” A dywedodd wrthynt, “Eithaf tebyg y dywedwch wrthyf y ddihareb hon, ‘Y meddyg, iachâ dy hun; y pethau y clywsom eu gwneuthur yng Nghapernaum, gwna hefyd yma yn dy wlad dy hun’.” A dywedodd, “Yn wir meddaf i chwi, Nid oes un proffwyd yn gymeradwy yn ei wlad ei hun. Mewn gwirionedd meddaf i chwi, Yr oedd llawer o weddwon yn nyddiau Elïas yn Israel, pan gaewyd y nef am dair blynedd a chwe mis, pryd y bu newyn mawr dros yr holl dir; ac nid at yr un ohonynt hwy yr anfonwyd Elïas eithr i Sarepta Sidonia at wraig weddw. Ac yr oedd llawer o wahangleifion yn Israel yn amser Eliseus y proffwyd, ac nid yr un ohonynt hwy a lanhawyd, eithr Naiman y Syriad.” A llanwyd o ddigofaint bawb a oedd yn y synagog wrth glywed y pethau hyn, a chodasant a bwriasant ef allan o’r ddinas, a’i ddwyn hyd ael y bryn yr adeiladesid eu dinas arno i’w fwrw dros y dibyn. Yntau a aeth drwy eu canol, ac i ffwrdd. Ac fe ddaeth i lawr i Gapernaum, dinas yng Ngalilea. Ac yr oedd yn eu dysgu hwynt ar y Sabbath; a synnent at ei ddysgeidiaeth, canys llefarai gydag awdurdod. Ac yn y synagog yr oedd dyn a chanddo ysbryd cythraul aflan, ac fe waeddodd â llef uchel, “Och, beth sydd rhyngom ni a thi, Iesu o Nasareth? a ddaethost i’n difetha ni? Mi wn pwy wyt — Sant Duw.” A cheryddodd yr Iesu ef, gan ddywedyd, “Taw, a dos allan ohono.” Ac wedi i’r cythraul ei daflu i’r canol, aeth allan ohono, heb wneuthur dim niwed iddo. A daeth arswyd ar bawb, a siaradent â’i gilydd gan ddywedyd, “Pa fath lefaru yw hyn? canys gydag awdurdod a nerth y gorchymyn ef yr ysbrydion aflan, ac ânt allan.” Ac aeth sôn amdano i bob man drwy’r gymdogaeth. Ac wedi cychwyn o’r synagog fe aeth i dŷ Simon; ac yr oedd chwegr Simon yn dioddef dan dwymyn dost, a deisyfasant arno drosti. Ac fe safodd uwch ei phen, a cheryddu’r dwymyn, a gadawodd y dwymyn hi; cododd hithau ar unwaith, a mynd i weini arnynt. A chyda machlud haul, pawb a chanddynt gleifion dan amrywiol anhwylderau a’u dug hwynt ato; yntau, gan osod ei ddwylo ar bob un ohonynt, a’u hiachâi hwynt. Ac âi cythreuliaid hefyd allan o lawer, dan grochlefain a dywedyd, “Ti yw Mab Duw.” A cheryddodd hwynt, ac ni adai iddynt siarad, gan y gwyddent mai ef oedd y Crist. Ac wedi iddi ddyddio, fe aeth allan a myned i le anghyfannedd; a chwiliai’r tyrfaoedd amdano, a daethant hyd ato; a cheisient ei atal rhag mynd oddi wrthynt. Dywedodd yntau wrthynt, “Rhaid i mi gyhoeddi’r newyddion da am deyrnas Dduw i’r dinasoedd eraill hefyd, canys i hyn y’m danfonwyd.” Ac yr oedd yn pregethu yn synagogau Iwdea. A phan oedd y bobl yn gwasgu ato i wrando gair Duw, yr oedd yntau’n sefyll wrth lyn Gennesaret; a gwelodd ddwy long yn sefyll wrth y llyn; yr oedd y pysgodwyr wedi disgyn ohonynt ac yn golchi’r rhwydau. Ac aeth i mewn i un o’r llongau, sef un Simon, a gofynnodd iddo wthio ychydig oddi wrth y tir; ac wedi eistedd, fe ddechreuodd ddysgu’r tyrfaoedd o’r llong. A phan orffennodd lefaru, dywedodd wrth Simon, “Gwthia i’r dwfn; a gollyngwch eich rhwydau am ddalfa.” Ac atebodd Simon, “Meistr, trwy gydol nos y llafuriasom, heb ddal dim; ond ar dy air di, mi ollyngaf y rhwydau.” Ac wedi iddynt wneuthur hyn, caeasant am liaws mawr o bysgod; ac yr oedd eu rhwydau yn rhwygo. Ac amneidiasant ar eu cymdeithion yn y llong arall i ddyfod i’w cynorthwyo; a daethant, a llanwasant y ddwy long, nes eu bod yn dechrau suddo. A phan welodd Simon Pedr, fe syrthiodd wrth liniau Iesu, gan ddywedyd, “Dos ymaith oddi wrthyf i, canys dyn pechadurus wyf, Arglwydd.” Oblegid arswyd a ddaethai arno, ac ar bawb a oedd gydag ef, wrth y ddalfa bysgod a gawsent, a’r un ffunud ar Iago ac Ioan, meibion Sebedeus, a oedd yn gyfranogion â Simon. A dywedodd Iesu wrth Simon, “Paid ag ofni; o hyn allan, ti fyddi’n dal dynion.” Ac wedi dwyn y llongau i dir, gadawsant y cwbl a’i ddilyn ef. A phan oedd ef yn un o’r dinasoedd, dyma ŵr yn llawn gwahanglwyf; ac wrth weled yr Iesu fe syrthiodd ar ei wyneb, a deisyf arno, gan ddywedyd: “Arglwydd, os mynni, ti elli fy nglanhau.” Ac estynnodd ei law, a chyffyrddodd ag ef, gan ddywedyd, “Mynnaf, glanhaer di.” Ac yn ebrwydd ymadawodd y gwahanglwyf ag ef. Yntau a orchmynnodd iddo na ddywedai wrth neb, “eithr dos ymaith a dangos dy hun i’r offeiriad, ac offryma dros dy lanhad yn ôl fel yr ordeiniodd Moses, er tystiolaeth iddynt.” Ond ymledodd fwyfwy y sôn amdano, ac ymgasglai tyrfaoedd lawer i wrando, ac i’w hiacháu o’u hafiechydon. Âi yntau o’r neilltu yn y diffeithleoedd a gweddïo. Ac un diwrnod yr oedd ef yn dysgu, ac yn eistedd yno yr oedd Phariseaid ac athrawon y gyfraith, a ddaethai o bob pentref yn Galilea ac Iwdea ac o Gaersalem; ac yr oedd iddo nerth yr Arglwydd i iacháu. A dyma wŷr yn dwyn ar wely ddyn a oedd yn barlysedig, a cheisient ei ddwyn i mewn, a’i osod ger ei fron ef. Ac wedi methu canfod pa ffordd y dygent ef i mewn oherwydd y dyrfa, esgynasant hyd ar nen y tŷ, a thrwy’r priddlechau gollyngasant ef gyda’r gwely i’r canol o flaen yr Iesu. Ac wrth weled eu ffydd hwynt fe ddywedodd, “Ddyn, maddeuwyd i ti dy bechodau.” A dechreuodd yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid feddwl a dywedyd, “Pwy yw hwn sy’n siarad cableddau? Pwy all faddau pechodau ond Duw yn unig?” A phan wybu’r Iesu eu meddyliau hwynt, atebodd iddynt, “Beth a feddyliwch yn eich calonnau? Beth sydd hawsaf, ai dywedyd ‘Maddeuwyd i ti dy bechodau,’ ai dywedyd ‘Cyfod a rhodia’? Ond fel y gwypoch fod gan Fab y dyn awdurdod ar y ddaear i faddau pechodau — ” eb ef wrth y parlysedig, “Wrthyt ti y dywedaf, Cyfod, a chymer dy wely, a dos adref.” Ac ar unwaith fe safodd i fyny ger eu bron, a chodi’r hyn y gorweddai arno, a mynd adref gan ogoneddu Duw. A syfrdandod a ddaeth ar bawb, a gogoneddent Dduw, a llanwyd hwynt o ofn, a dywedasant, “Gwelsom bethau anhygoel heddiw.” Ac ar ôl y pethau hyn, aeth allan a chanfu drethwr o’r enw Lefi yn eistedd wrth y dollfa, a dywedodd wrtho, “Dilyn fi.” Ac fe adawodd bopeth, a chododd, a’i ddilyn ef. A gwnaeth Lefi wledd fawr iddo yn ei dŷ; ac yr oedd tyrfa fawr o drethwyr, ac o rai eraill a oedd gyda hwynt, yn eistedd wrth y bwrdd. A grwgnachai’r Phariseaid a’u hysgrifenyddion wrth ei ddisgyblion, gan ddywedyd, “Paham y bwytewch ac yr yfwch gyda’r trethwyr a’r pechaduriaid?” Ac atebodd yr Iesu iddynt, “Nid rhaid i’r rhai iach wrth feddyg, ond i’r rhai gwael. Ni ddeuthum i alw rhai cyfiawn, ond pechaduriaid, i edifeirwch.” Dywedasant hwythau wrtho, “Y mae disgyblion Ioan yn ymprydio’n fynych; ac yn arfer gweddïau, felly hefyd rhai’r Phariseaid, ond mae dy rai di’n bwyta ac yn yfed.” A dywedodd yr Iesu wrthynt, “A ellwch chwi wneuthur i westeion y briodas ymprydio tra fo’r priodfab gyda hwynt? Ond fe ddaw dyddiau, a phan ddygir y priodfab oddi wrthynt, yna yr ymprydiant yn y dyddiau hynny.” Dywedodd hefyd ddameg wrthynt, “Ni thyr neb glwt allan o ddilledyn newydd a’i osod ar hen ddilledyn; onid e, fe fydd yn torri’r newydd, a hefyd ni bydd y clwt allan o’r newydd yn cydweddu â’r hen. Ac ni rydd neb win newydd mewn crwyn hen; onid e, fe rwyga’r gwin newydd y crwyn, ac yntau a red allan a’r crwyn a ddifethir. Ond rhaid rhoi gwin newydd mewn crwyn newydd. Ac nid oes neb wedi iddo yfed hen win yn chwennych newydd; canys, fe ddywed, ‘Yr hen sy dda’;” A digwyddodd ar ryw Sabbath ei fod yn tramwy drwy feysydd ŷd, ac yr oedd ei ddisgyblion yn tynnu ac yn bwyta’r tywys, gan eu rhwbio â’u dwylo. A dywedodd rhai o’r Phariseaid, “Paham y gwnewch yr hyn ni ddylid ar y Sabbath?” Ac atebodd yr Iesu iddynt, “Oni ddarllenasoch yr hyn a wnaeth i Dafydd, pan ddaeth eisiau bwyd arno ef a’r rhai a oedd gydag ef? y modd yr aeth i mewn i dŷ Dduw, a chymryd y torthau gosod, a’u bwyta, a’u rhoi i’r rhai a oedd gydag ef, pethau na ddylai neb eu bwyta ond yr offeiriaid yn unig?” Ac meddai wrthynt, “Arglwydd y Sabbath yw Mab y dyn.” A digwyddodd ar Sabbath arall iddo fyned i’r synagog a dysgu; ac yr oedd dyn yno, a’i law ddehau yn wywedig; a gwyliai’r ysgrifenyddion a’r Phariseaid ef, a iachâi ef ar y Sabbath, fel y caffent ei gyhuddo. Ond gwyddai ef eu meddyliau hwynt, a dywedodd wrth y dyn a oedd â’i law’n wywedig, “Cyfod, a saf yn y canol”; ac fe gyfododd, a safodd. A dywedodd yr Iesu wrthynt, “Gofynnaf i chwi, a ddylid ar y Sabbath wneuthur da ai gwneuthur drwg, cadw einioes ai colli?” Ac wedi syllu ogylch arnynt oll, dywedodd wrtho, “Estyn dy law.” Gwnaeth yntau, ac adferwyd ei law. A llanwyd hwynt o wallgofrwydd, a siaradent â’i gilydd beth a wnaent i’r Iesu. A digwyddodd yn y dyddiau hyn iddo fyned i’r mynydd i weddïo, ac yr oedd trwy gydol nos mewn gweddi ar Dduw. A phan aeth hi yn ddydd, galwodd ei ddisgyblion ato, a detholodd ohonynt ddeuddeg, ac enwodd hwynt hefyd yn apostolion: Simon, a enwodd hefyd yn Bedr, ac Andreas ei frawd, ac Iago, ac Ioan, a Phylip a Bartholomeus, a Mathew a Thomas, ac Iago fab Alpheus, a Simon a elwid Selot, ac Iwdas fab Iago, ac Iwdas Iscariot, a drodd yn fradwr. A disgynnodd gyda hwynt, a safodd ar wastatir, ac yr oedd tyrfa fawr o’i ddisgyblion, a lliaws mawr o’r bobl o holl Iwdea a Chaersalem ac arfordir Tyrus a Sidon, a ddaethai i’w glywed ac i’w hiacháu o’u hanhwylderau; ac iachawyd y sawl a flinid gan ysbrydion aflan. A’r holl dyrfa oedd yn ceisio cyffwrdd ag ef, am fod nerth yn myned allan ohono, ac yn iacháu pawb. Ac yntau gan godi ei lygaid i edrych ar ei ddisgyblion a ddywedodd: “Gwyn eich byd y tlodion, canys eiddoch chwi yw teyrnas Dduw. Gwyn eich byd sy’n newynu’n awr, canys chwi a ddiwellir. Gwyn eich byd sy’n wylo’n awr, canys chwi a chwerddwch. Gwyn eich byd pan gasao dynion chwi, a phan esgymunont chwi, a’ch gwaradwyddo a bwrw allan eich enw fel peth drwg o achos Mab y dyn. Byddwch lawen yn y dydd hwnnw, a llemwch; canys wele, eich gwobr sy fawr yn y nef; oblegid yr un modd y gwnâi eu tadau i’r proffwydi. Eithr gwae chwi’r cyfoethogion, canys cawsoch eich diddanwch. Gwae chwi sy’n llawn yn awr, canys daw newyn arnoch. Gwae chwi sy’n chwerthin yn awr, canys galaru ac wylo y byddwch. Gwae chwi pan ddywedo pob dyn yn dda amdanoch, canys yr un modd y gwnâi eu tadau i’r gau-broffwydi. Eithr dywedaf wrthych chwi sy’n gwrando, Cerwch eich gelynion, gwnewch dda i’ch caseion, bendithiwch eich melltithwyr, gweddïwch dros y rhai a’ch sarhânt. I’r neb a’th drawo ar dy gern cynnig hefyd y llall, ac i’r neb a ddygo dy fantell na warafun dy grysbais hefyd. I bob un a geisio gennyt, dyro; a chan y neb a ddygo’r eiddot, na chais yn ôl. Ac fel y mynnoch wneuthur o ddynion i chwi, gwnewch iddynt yr un ffunud. Ac os cerwch y rhai a’ch câr, pa ddiolch sydd i chwi? canys y mae hyd yn oed y pechaduriaid yn caru’r rhai a’u câr. Ie, ac os gwnewch dda i’r rhai a wna dda i chwi, pa ddiolch sydd i chwi? y mae hyd yn oed y pechaduriaid yn gwneuthur yr un peth. Ac os rhowch fenthyg i’r rhai y disgwyliwch gael ganddynt, pa ddiolch sydd i chwi? y mae hyd yn oed bechaduriaid yn rhoi benthyg i bechaduriaid er mwyn cael yr un faint yn ôl. Yn hytrach, cerwch eich gelynion, a gwnewch dda, a rhowch fenthyg heb ddisgwyl dim yn ôl; a bydd eich gwobr yn helaeth, a byddwch yn feibion y Goruchaf, canys tirion yw ef wrth yr anniolchgar a’r drwg. Byddwch dosturiol, megis y mae eich Tad yn dosturiol. Ac na fernwch, ac ni’ch bernir ddim; ac na chondemniwch, ac ni’ch condemnir ddim. Maddeuwch, a maddeuir i chwi. Rhoddwch, a rhoddir i chwi; mesur da, wedi ei wasgu i lawr, a’i ysgwyd, ac yn colli drosodd, a roddant yn eich arffed; canys â’r mesur y mesuroch yr adfesurir i chwi.” A dywedodd hefyd ddameg wrthynt, “A ddichon dall dywys dall? oni syrthiant ill dau i bwll? Nid yw disgybl uwchlaw yr athro; ond wedi ei gymhwyso, bydd pob un fel ei athro. A pham y sylwi ar y fflewyn sydd yn llygad dy frawd, ac nad ystyri’r trawst sydd yn dy lygad dy hun? Pa fodd y medri ddywedyd wrth dy frawd, ‘Fy mrawd, gad i mi dynnu’r fflewyn sydd yn dy lygad,’ a thithau heb sylwi ar y trawst sydd yn dy lygad di? Y rhagrithiwr, tyn yn gyntaf y trawst o’th lygad, ac yna y gweli’n glir i dynnu’r fflewyn sydd yn llygad dy frawd. Canys nid yw pren da yn dwyn ffrwyth sâl, na thrachefn bren sâl yn dwyn ffrwyth da. Canys pob pren a adweinir wrth ei ffrwyth ei hun; canys nid oddi ar ddrain y casglant ffigys, nac oddi ar lwyn mieri yr heliant rawnwin. Y dyn da o drysor da ei galon a gynhyrcha’r da, a’r drwg o’r drwg a gynhyrcha’r drwg; canys o orlawnder calon y llefara ei enau. Paham y gelwch fi Arglwydd, Arglwydd, ac ni wnewch y pethau a ddywedaf? Pob un sy’n dyfod ataf, ac yn gwrando fy ngeiriau, ac yn eu gwneuthur, mi ddangosaf i chwi i bwy y mae’n debyg. Tebyg yw i ddyn yn adeiladu tŷ; cloddiodd, ac aeth yn ddwfn, a gosododd sylfaen ar y graig; a phan ddaeth rhyferthwy, curodd y llifeiriant ar y tŷ hwnnw, ac ni allodd ei ysgwyd, gan mor dda yr adeiladesid ef. Ond y neb a wrendy ac ni wna, tebyg yw i ddyn a adeiladodd dŷ ar y ddaear heb sylfaen; curodd y llifeiriant arno, ac yn y fan cwympodd, a bu chwalfa’r tŷ hwnnw’n fawr.” Pan orffennodd ei holl ymadroddion yng nghlyw’r bobl, aeth i mewn i Gapernaum. Ac yr oedd gwas i ryw ganwriad yn wael ar fin marw, un oedd werthfawr ganddo. A phan glywodd am yr Iesu, fe ddanfonodd ato henuriaid yr Iddewon, gan ofyn iddo ddyfod i achub bywyd ei was. Ac wedi iddynt ddyfod at yr Iesu, ymbilient arno’n daer, gan ddywedyd, “Teilwng yw ef iti i wneuthur hyn iddo; canys y mae’n caru’n cenedl ni, ac ef ei hun a adeiladodd i ni’r synagog.” Ac yr oedd yr Iesu’n myned gyda hwynt; a phan oedd weithian heb fod nepell oddi wrth y tŷ, anfonodd y canwriad gyfeillion i ddywedyd wrtho, “Arglwydd, na thraffertha; canys nid wyf gymwys i ti i ddyfod dan fy nghronglwyd; dyna hefyd pam na thybiais yn iawn imi ddyfod fy hun atat; eithr dywed air, ac iachaer fy ngwas. Canys dyn yn dal swydd dan awdurdod wyf innau, a chennyf filwyr danaf; a dywedaf wrth hwn, Dos, ac y mae’n mynd, ac wrth arall, Tyred, ac y mae’n dyfod, ac wrth fy ngwas, Gwna hyn, ac y mae’n ei wneuthur.” A phan glywodd yr Iesu hyn, rhyfeddodd ato; a chan droi at y dyrfa a’i canlynai, dywedodd, “Meddaf i chwi, hyd yn oed yn Israel ni chefais gymaint ffydd.” Ac wedi i’r rhai a anfonesid ddychwelyd i’r tŷ, cawsant y gwas yn iach. A digwyddodd yn union wedyn iddo fynd i ddinas a elwir Nain, ac yr oedd ei ddisgyblion a thyrfa fawr yn mynd gydag ef. A phan ddaeth yn agos at borth y ddinas, dyma gludo allan un marw, unig fab ei fam, a honno’n weddw; ac yr oedd cryn dorf o’r ddinas gyda hi. A phan welodd yr Arglwydd hi, tosturiodd wrthi, a dywedodd wrthi, “Paid ag wylo.” A chan nesáu, cyffyrddodd â’r elor; a safodd y cludwyr, ac eb ef, “Y llanc, dywedaf wrthyt, cyfod.” A chododd y marw ar ei eistedd, a dechreuodd siarad; ac fe’i rhoes i’w fam. A syrthiodd ofn ar bawb, a gogoneddent Dduw, gan ddywedyd, “Proffwyd mawr a gyfododd yn ein plith,” ac, “Ymwelodd Duw â’i bobl.” Ac aeth yr hanes hwn allan drwy holl Iwdea amdano, a thrwy’r holl gymdogaeth. A mynegodd ei ddisgyblion i Ioan hyn oll. Ac wedi galw rhyw ddau o’i ddisgyblion ato, anfonodd Ioan hwynt at yr Arglwydd, gan ddywedyd, “Ai ti yw’r hwn sy’n dyfod, ai am un arall yr ydym i ddisgwyl?” A phan ddaeth y gwŷr ato, dywedasant, “Ioan Fedyddiwr a’n hanfonodd atat gan ddywedyd, ‘Ai ti yw’r hwn sy’n dyfod, ai am un arall yr ydym i ddisgwyl?’ ” Yr awr honno iachaodd lawer oddi wrth glefydau a phlâu ac ysbrydion drwg, ac i ddeillion lawer y rhoes eu golwg. Ac atebodd iddynt, “Ewch a mynegwch i Ioan y pethau a welsoch ac a glywsoch: y mae deillion yn cael eu golwg, cloffion yn cerdded, gwahangleifion yn dyfod yn lân, a byddariaid yn clywed, meirw’n cyfodi, i dlodion y cyhoeddir newyddion da. A gwyn ei fyd y neb ni feglir ynof i.” Ac wedi i genhadau Ioan ymadael, dechreuodd ddywedyd wrth y tyrfaoedd am Ioan, “Beth yr aethoch allan i’r diffeithwch i edrych arno? Ai corswellt yn ysgwyd gan wynt? Ond beth yr aethoch allan i’w weled? Ai dyn â gwisgoedd esmwyth amdano? Wele, y rhai sy’n byw mewn dillad gwych a moethau, yn y plasau brenhinol y maent. Ond beth yr aethoch allan i’w weled? Ai proffwyd? Ie, meddaf i chwi, a mwy na phroffwyd. Hwn yw’r un y mae’n ysgrifenedig amdano, Wele’r wyf yn anfon fy nghennad o’th flaen, yr hwn a ddarpar dy ffordd rhagot. Meddaf i chwi, ymhlith plant gwragedd nid oes neb mwy nag Ioan; ond y lleiaf yn nheyrnas Dduw sydd fwy nag ef.” (A’r holl bobl wedi ei glywed, a’r trethwyr a gydnabu gyfiawnder Duw, ac a fedyddiwyd â bedydd Ioan. Ond dirymodd y Phariseaid a’r cyfreithwyr fwriad Duw tuag atynt eu hunain, ac nis bedyddiwyd ganddo.) “I ba beth, gan hynny, y cyffelybaf ddynion y genhedlaeth hon, ac i ba beth y maent yn gyffelyb? Cyffelyb ydynt i blantos sydd yn eistedd mewn marchnadle, ac yn galw ar ei gilydd, a dywedyd, Canasom i chwi bibau, ac ni ddawnsiasoch; Canasom alarnad, ac nid wylasoch. Canys daeth Ioan Fedyddiwr heb fwyta bara nac yfed gwin, ac meddwch chwi, ‘Cythraul sy ganddo.’ Daeth Mab y dyn yn bwyta ac yn yfed, ac meddwch chwi, ‘Dyma ddyn glwth a llymeitiwr gwin, cyfaill trethwyr a phechaduriaid.’ Eto cyfiawnhawyd doethineb gan bawb o’i phlant.” A gofynnodd un o’r Phariseaid iddo fwyta gydag ef; ac wedi mynd i dŷ’r Pharisead, fe aeth at y bwrdd. Ac wele, yr oedd gwraig yn y ddinas a honno’n bechadures; ac wedi deall ohoni ei fod ef wrth y bwrdd yn nhŷ’r Pharisead, hi ddug flwch alabaster o ennaint; a chan sefyll tu cefn iddo wrth ei draed ac wylo, hi ddechreuodd wlychu ei draed ef â’i dagrau, a’u sychu â gwallt ei phen; a chusanai ei draed ac irai hwynt â’r ennaint. A phan welodd y Pharisead a’i gwahoddasai, fe ddywedodd ynddo’i hun, “Pe bai hwn broffwyd, fe wybyddai pwy a pha fath un yw’r wraig sy’n cyffwrdd ag ef, mai pechadures yw.” Ac atebodd yr Iesu a dywedodd wrtho, “Simon, mae gennyf rywbeth i’w ddywedyd wrthyt.” Medd yntau, “Athro, dywed.” “Dau ddyledwr oedd i ryw echwynnwr; yr oedd y naill yn ei ddyled o bum can swllt, a’r llall o bum deg. Gan nad oedd ganddynt fodd i dalu, maddeuodd iddynt ill dau. Pa un, ynteu, ohonynt a’i câr ef fwyaf?” Atebodd Simon, “Mi dybiaf mai’r un y maddeuodd fwyaf iddo.” Dywedodd yntau wrtho, “Iawn y bernaist.” A chan droi at y wraig, meddai wrth. Simon, “A weli di’r wraig hon? Deuthum i’th dŷ di, dwfr i’m traed ni roddaist imi; ond hon a wlychodd fy nhraed â’i dagrau, ac a’u sychodd â’i gwallt. Cusan i mi ni roddaist; ond hon o’r pryd y deuthum i mewn ni pheidiodd â chusanu fy nhraed. Fy mhen ag olew nid iraist; ond hon a irodd fy nhraed ag ennaint. O achos hyn y dywedaf iti, Maddeuwyd ei haml bechodau, canys hi garodd yn fawr; ond y neb y maddeuir ychydig iddo, ychydig a gâr.” Ac meddai wrthi, “Maddeuwyd dy bechodau.” A dechreuodd y rhai a oedd gydag ef wrth y bwrdd ddywedyd yn eu plith eu hunain, “Pwy yw hwn sydd hyd yn oed yn maddau pechodau?” Ac meddai yntau wrth y wraig, “Dy ffydd a’th iachaodd; dos mewn tangnefedd.” Digwyddodd yn union wedyn ei fod ef yn teithio trwy ddinas a phentref, gan bregethu a chyhoeddi’r newyddion da am deyrnas Dduw, a’r deuddeg gydag ef, a rhai gwragedd a gawsai feddyginiaeth oddi wrth ysbrydion drwg a gwendidau, Mair a elwid Magdalen, yr aethai saith gythraul allan ohoni, a Ioana, gwraig Chwsas, goruchwyliwr Herod, a Swsanna ac eraill lawer, a gweinyddai’r rhain arnynt o’r hyn a oedd ganddynt. A phan oedd tyrfa fawr yn ei hebrwng a rhai; o bob dinas yn cyrchu ato, fe ddywedodd ar ddameg, “Aeth yr heuwr allan i hau ei had. Ac wrth iddo hau, peth a syrthiodd ar fin y ffordd, ac a sathrwyd, ac adar y nef a’i difaodd. A pheth arall a syrthiodd ar y graig, ac wedi iddo dyfu gwywodd, am nad oedd iddo leithder. Ac arall a syrthiodd ymysg y drain, a’r drain wedi cyd-dyfu ag ef a’i fagodd. Ac arall a syrthiodd yn y tir da, ac wedi iddo dyfu fe ddug ffrwyth ar ei ganfed.” Wrth ddywedyd hyn llefodd, “Y neb sydd ganddo glustiau i wrando, gwrandawed.” Gofynnodd ei ddisgyblion iddo beth oedd y ddameg hon. Dywedodd yntau, “I chwi y rhoddwyd gwybod cyfrinion teyrnas Dduw, ond i’r lleill ar ddamhegion, fel er gweled na welont ac er clywed na ddeallont. Hyn yw’r ddameg. Yr had yw gair Duw. Y rhai ar fin y ffordd yw’r rhai a glywodd; yna daw’r diafol a dwyn ymaith y gair o’u calon, rhag iddynt gredu a chael eu cadw. Y rhai ar y graig yw’r rhai pan glywant sy’n derbyn y gair gyda llawenydd, ac nid oes ganddynt hwy wreiddyn; dros amser y credant hwy, ac yn amser temtasiwn gwrthgiliant. Y peth a syrthiodd i’r drain, hwy yw’r rhai a glywodd, a mynd a chael eu tagu gan bryderon a golud a phleserau bywyd, ac nid aeddfedant. Y peth yn y tir da, hwy yw’r rhai, wedi clywed y gair, a’i ceidw mewn calon lân a da, a dygant ffrwyth trwy ddyfalwch. Nid yw neb, wedi golau cannwyll, yn ei chuddio â llestr neu ei dodi o dan wely, eithr ei dodi ar ganhwyllbren, er mwyn i’r rhai a ddêl i mewn weled y golau. Canys nid oes dim cuddiedig nas gwneir yn amlwg, na dim dirgel nas gwybyddir ac na ddaw i’r amlwg. Edrychwch, ynteu, pa fodd y gwrandewch; canys y neb sydd ganddo, rhoddir iddo, a’r neb nid oes ganddo, hyd yn oed yr hyn a dybia ei fod ganddo a ddygir oddi arno.” Daeth ei fam a’i frodyr ato, ac ni fedrent ddyfod i’w ymyl oblegid y dyrfa. A mynegwyd iddo, “Mae dy fam a’th frodyr yn sefyll y tu allan, ac yn dymuno dy weled.” Atebodd yntau iddynt, “Fy mam a’m brodyr i yw’r rhain, sy’n clywed gair Duw ac yn ei wneuthur.” Fe aeth ryw ddiwrnod i long, ef a’i ddisgyblion, a dywedodd wrthynt, “Awn drosodd i’r ochr draw i’r llyn.” A chychwynasant. Fel yr oeddent yn hwylio, syrthiodd i gysgu. A disgynnodd rhuthr o wynt ar y llyn, ac yr oeddent yn llenwi ac mewn perygl. Ac aethant ato a’i ddeffro, gan ddywedyd, “Meistr, Meistr, yr ydym ar ddarfod amdanom.” Deffrôdd yntau, a cheryddodd y gwynt ac ymchwydd y dŵr, a pheidiasant, a bu gosteg. Dywedodd yntau wrthynt, “Pa le mae eich ffydd chwi?” Ac ofni a rhyfeddu a wnaethant, gan ddywedyd wrth ei gilydd, “Pwy, tybed, yw hwn, gan ei fod yn gorchymyn hyd yn oed i’r gwyntoedd a’r dŵr, a hwythau’n ufuddhau iddo?” A thiriasant yng ngwlad y Geraseniaid, sydd gyferbyn â Galilea. Wedi iddo lanio, fe gyfarfu ag ef ryw ŵr o’r ddinas, a chythreuliaid ynddo; ac ni wisgasai ddillad er ys talm, ac ni thrigai mewn tŷ, ond ymhlith y beddau. Pan welodd ef yr Iesu, gwaeddodd a syrthiodd ger ei fron, ac â llef uchel dywedodd, “Beth sy rhyngof i a thi, Iesu Fab y Duw Goruchaf? Erfyniai arnat, na ddirboena fi.” Canys gorchymyn yr oedd i’r ysbryd aflan ddyfod allan o’r dyn. Canys llawer gwaith y meddianesid ef ganddo; a chedwid ef wedi ei rwymo â chadwynau ac â llyffetheiriau, a thorrai’r rhwymau, a gyrrid ef gan y cythraul i’r diffeithleoedd. Gofynnodd yr Iesu iddo, “Beth yw dy enw?” Dywedodd yntau, “Lleng.” Canys aeth cythreuliaid lawer i mewn iddo. Ac atolygent iddo na orchmynnai iddynt fyned i’r affwys. Yr oedd yno genfaint fawr o foch, yn pori ar y mynydd; ac atolygasant iddo ganiatáu iddynt fynd i mewn i’r rheini; a chaniataodd iddynt. Ac allan yr aeth y cythreuliaid o’r dyn, ac i mewn i’r moch, a rhuthrodd y genfaint dros y dibyn i’r llyn, a boddi. Pan welodd y meichiaid y peth a ddigwyddodd, ffoesant, a’i fynegi yn y ddinas ac yn y wlad. Ac aethant allan i weled y peth a ddigwyddodd, a daethant at yr Iesu, a chawsant y dyn yr aethai’r cythreuliaid allan ohono yn eistedd yn ei ddillad ac yn ei iawn bwyll wrth draed yr Iesu, ac ofnasant. A mynegodd y rhai a’i gwelsai iddynt pa fodd yr iachawyd y cythreulig. A gofynnodd holl liaws ardal y Geraseniaid iddo fynd ymaith oddi wrthynt, am fod ofn mawr yn eu dirwasgu. Aeth yntau i long, a dychwelodd. Deisyfai’r gŵr yr aethai’r cythreuliaid allan ohono am gael bod gydag ef, ond gollyngodd ef ymaith, gan ddywedyd, “Dychwel adref, a datgan pa faint a wnaeth Duw erot.” Ac aeth ymaith dan gyhoeddi trwy’r holl ddinas pa faint a wnaethai’r Iesu erddo. Ar ddychweliad yr Iesu, croesawodd y bobl ef, canys yr oeddynt oll yn disgwyl amdano. A dyma ŵr yn dyfod, a’i enw Iairus, a hwn oedd bennaeth y synagog, a chan syrthio wrth draed Iesu erfyniai arno ddyfod i’w dŷ, gan, fod iddo unig ferch, ynghylch deuddeng mlwydd oed, a’i bod hi ar farw. Ac wrth iddo fynd y tyrfaoedd oedd yn gwasgu arno. A gwraig ag arni ddiferlif gwaed ers deuddeng mlynedd, heb fedru cael meddyginiaeth gan neb, a ddaeth ato o’r tu ôl a chyffwrdd â thasel ei fantell, ac ar unwaith safodd diferlif ei gwaed hi. Dywedodd yr Iesu, “Pwy a gyffyrddodd â mi?” A phawb yn gwadu, dywedodd Pedr, “Meistr, y tyrfaoedd sydd yn cau amdanat ac yn dy ddirwasgu.” Dywedodd yr Iesu, “Cyffyrddodd rhywun â mi, canys mi wn i fod rhinwedd wedi mynd allan ohonof.” A gwelodd y wraig nad oedd wedi osgoi sylw, a daeth dan grynu, ac wedi syrthio ger ei fron mynegodd yng ngŵydd yr holl bobl am ba achos y cyffyrddodd ag ef, a’r modd yr iachawyd hi ar unwaith. Dywedodd yntau wrthi, “Fy merch, dy ffydd a’th iachaodd; dos mewn tangnefedd.” Ac ef eto’n llefaru, daw un o dŷ’r pensynagogydd, a dywedyd, “Mae dy ferch wedi marw; paid â phoeni’r Athro.” Yr Iesu, pan glywodd, a’i hatebodd, “Paid ag ofni; yn unig cred, ac iacheir hi.” Wedi iddo ddyfod i’r tŷ, ni adodd i neb fynd i mewn gydag ef ond Pedr ac Ioan ac Iago a thad yr eneth a’i mam. Yr oeddent oll yn wylo ac yn galaru amdani. Dywedodd yntau, “Peidiwch ag wylo; canys ni bu hi farw, eithr cysgu y mae.” A gwatwarant ef, am eu bod yn gwybod iddi farw. Gafaelodd yntau yn ei llaw, a galwodd gan ddywedyd, “Fy ngeneth, cyfod.” A dychwelodd ei hysbryd, a chododd ar unwaith; gorchmynnodd yntau roi iddi beth i’w fwyta. A syfrdanwyd ei rhieni. Gorchmynnodd yntau iddynt na ddywedent wrth neb beth a ddigwyddodd. Wedi: iddo alw’r deuddeg ynghyd, rhoes iddynt allu ac awdurdod ar yr holl gythreuliaid ac i iacháu clefydon, ac anfonodd hwynt i gyhoeddi teyrnas Dduw ac i iacháu; a dywedodd wrthynt, “Na chymerwch ddim ar gyfer y daith, na ffon na chod na bara nac arian, ac na fydded gennych ddwy grysbais. Ac i ba dŷ bynnag yr eloch i mewn, arhoswch yno, ac oddi yno ymadewch. A pha rai bynnag ni’ch derbyniont, wrth ymadael o’r ddinas honno ysgydwch ymaith y llwch oddi ar eich traed er tystiolaeth yn eu herbyn.” Ac aethant ymaith, a mynd drwy’r pentrefydd gan gyhoeddi’r newyddion da ac iacháu ym mhob man. Clywodd Herod y tetrarch am yr holl bethau a oedd yn digwydd, ac yr oedd mewn penbleth am fod rhywrai’n dywedyd gyfodi o Ioan o feirw, a rhai mai Elïas a ymddangosodd, ac eraill mai un o’r hen broffwydi a atgyfododd. Dywedodd Herod, “Pen Ioan a dorrwyd gennyf i; pwy, ynteu, yw hwn y clywaf y cyfryw bethau amdano?” A cheisiai ei weled ef. A dychwelodd yr apostolion, ac adrodd iddo y cwbl a wnaethant. A chymerth hwynt a chilio o’r neilltu i ddinas a elwid Bethsaida. Ond gwybu’r tyrfaoedd, a’i ddilyn ef. A chroesawodd hwynt, a llefaru wrthynt am deyrnas Dduw, ac iacháu y rhai yr oedd eisiau meddyginiaeth arnynt. A dechreuodd y dydd ballu; a daeth y deuddeg ato; a dywedyd wrtho, “Gollwng y dyrfa, fel yr elont i’r pentrefydd a’r wlad oddi amgylch i letya a chael lluniaeth, canys yr ydym yma mewn lle anghyfannedd.” Dywedodd yntau wrthynt, “Rhowch chwi iddynt beth i’w fwyta.” Dywedasant hwythau; “Nid oes gennym ni fwy na phum torth a dau bysgodyn, heb i ni fynd a phrynu bwyd i’r holl bobl hyn.” Canys yr oeddent tua phum mil o wŷr. Dywedodd wrth ei ddisgyblion, “Perwch iddynt eistedd i lawr yn finteioedd, tua hanner cant yr un.” A gwnaethant felly, a pheri i bawb eistedd i lawr. Wedi iddo gymryd y pum torth a’r ddau bysgodyn, edrychodd i fyny i’r nef a bendithiodd hwynt a’u torri a’u rhoddi i’r disgyblion i’w gosod o flaen y dyrfa. A bwytasant, a, diwallwyd hwynt oll; a chodwyd o’r hyn a weddillasid iddynt o friwfwyd ddeuddeg basgedaid. A digwyddodd, ac yntau yn gweddïo o’r neilltu, fod ei ddisgyblion gydag ef, ac fe ofynnodd iddynt, “Pwy medd y tyrfaoedd ydwyf i?” Atebasant hwythau, “Ioan Fedyddiwr, ac eraill Elïas, ac eraill mai un o’r hen broffwydi a atgyfododd.” Dywedodd wrthynt, “Ond chwi, pwy meddwch chwi ydwyf?” Atebodd Pedr, “Crist Duw.” Rhybuddiodd yntau hwynt, a gorchymyn na ddywedent hyn wrth neb; a dywedodd, “Rhaid i Fab y dyn ddioddef llawer, a’i wrthod gan yr henuriaid a’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion, a’i ladd, a’r trydydd dydd ei gyfodi.” Ac meddai wrth bawb, “Os myn neb ddyfod ar fy ôl i, ymwaded ag ef ei hun, a chyfoded ei groes beunydd, a dilyned fi. Canys pwy bynnag a fynno gadw ei fywyd, fe’i cyll; ond pwy bynnag a gollo ei fywyd er fy mwyn i, hwnnw a’i ceidw. Canys pa faint gwell yw dyn o ennill yr holl fyd, a’i golli ei hun, neu ei golledu ei hun? Canys pwy bynnag y bo arno gywilydd ohonof i ac o’m geiriau, bydd ar Fab y dyn gywilydd ohono yntau pan ddêl yn ei ogoniant a gogoniant ei Dad a’r angylion santaidd. Dywedaf wrthych yn wir, y mae rhai o’r sawl sy’n sefyll yma na phrofant flas angau nes gweled teyrnas Dduw.” Oddeutu wyth niwrnod wedi’r geiriau hyn, fe gymerth Bedr ac Ioan ac Iago, ac aeth i fyny i’r mynydd i weddïo. Ac wrth iddo weddïo daeth newid ar wedd ei wyneb, ac aeth ei wisg yn wen lachar. A dyma ddau ŵr yn ymddiddan ag ef, sef Moses ac Elïas; ymddangosasant mewn gogoniant, a sôn am ei ymadawiad ef, a oedd ar fedr ei gyflawni yng Nghaersalem. A Phedr a’r rhai gydag, ef oedd yn drwm o gwsg; a phan ddeffroesant, gwelsant ei ogoniant ef a’r ddau ŵr a oedd yn sefyll gydag ef. A phan oeddent yn ymadael oddi wrtho, dywedodd Pedr wrth yr Iesu, “Meistr, da yw ein bod ni yma, a gwnawn dair pabell — un i ti, ac un i Foses, ac un i Elïas,” heb wybod beth yr oedd yn ei ddywedyd. Ac ef yn dywedyd hyn, daeth cwmwl i’w cysgodi hwynt. Ac ofnasant wrth fynd i mewn i’r cwmwl. A llef a ddaeth o’r cwmwl, yn dywedyd, “Hwn yw fy Mab, fy etholedig; gwrandewch arno ef.” Ac wedi’r llef, cafwyd Iesu yn unig. A thewi a wnaethant hwy; ac ni fynegasant i neb yn y dyddiau hynny ddim o’r pethau a welsent. Digwyddodd drannoeth wedi iddynt ddyfod i lawr o’r mynydd i dyrfa fawr gyfarfod ag ef. A dyma ŵr o’r dyrfa yn llefain, gan ddywedyd, “Athro, yr wyf yn erfyn arnat edrych ar fy mab, canys unig blentyn yw i mi; ac wele y mae ysbryd yn ei gymryd, a dolefa yntau yn sydyn; a dirdynna ef, ac yntau’n malu ewyn; a phrin gan ei lethu yr ymedy oddi wrtho. Ac erfyniais ar dy ddisgyblion ei fwrw ef allan, ac nis gallasant.” Atebodd yr Iesu, “O genhedlaeth ddi-ffydd a gŵyrgam, pa hyd y byddaf gyda chwi ac y’ch goddefaf? Dwg yma dy fab.” A phan oedd eto yn dyfod, hyrddiodd y cythraul ef i lawr, a’i ddirdynnu. Ceryddodd yr Iesu yr ysbryd aflan, ac iachaodd y bachgen, a’i roi’n ôl i’w dad. A synnai pawb at fawredd Duw. A phawb yn rhyfeddu at yr holl bethau a wnâi, fe ddywedodd wrth ei ddisgyblion, “Gwrandewch chwi yn ddyfal ar y geiriau hyn: y mae Mab y dyn ar fedr cael ei draddodi i ddwylo dynion.” Nid oeddent hwythau’n deall yr ymadrodd hwn, ac yr oedd yn guddiedig oddi wrthynt fel na allasent ei amgyffred, ac ofnent ei holi am yr ymadrodd hwn. Ac aeth yn ddadl yn eu plith pa un ohonynt a fyddai fwyaf. A’r Iesu, yn gwybod dadl eu calon hwynt, a gymerth blentyn, a’i osod yn ei ymyl; a dywedodd wrthynt, “Pwy bynnag a dderbynio’r plentyn hwn yn fy enw i, y mae’n fy nerbyn i, a phwy bynnag a’m derbynio i, y mae’n derbyn yr hwn a’m hanfonodd i; canys yr hwn sydd leiaf yn eich plith chwi oll, hwnnw sydd fawr.” Atebodd Ioan, “Meistr, gwelsom un yn bwrw cythreuliaid allan yn dy enw di, a cheisiasom wahardd iddo am nad yw yn canlyn gyda ni.” Dywedodd yr Iesu wrtho, “Peidiwch â gwahardd; canys y neb nid yw i’ch erbyn, o’ch plaid y mae.” A chan fod dyddiau ei ddyrchafael yn dirwyn i ben, gosododd ei fryd ar fyned i Gaersalem, ac anfonodd genhadau o’i flaen. Ac aethant, a dyfod i mewn i bentref o Samariaid i baratoi ar ei gyfer, ac nis derbyniasant ef am fod ei fryd ar fynd i Gaersalem. Pan welodd y disgyblion, Iago ac Ioan, dywedasant, “Arglwydd, a gawn ni ddywedyd am i dân ddisgyn o’r nef a’u difa hwynt?” Troes yntau, a’u ceryddu. Ac aethant i bentref arall. A hwy’n myned, ar y ffordd dywedodd rhywun wrtho: “Mi’th ddilynaf, pa le bynnag yr elych.” A dywedodd yr Iesu wrtho, “Mae gan y llwynogod ffeuau a chan adar yr awyr nythod, ond gan Fab y dyn nid oes le i roi ei ben i lawr.” Dywedodd wrth un arall, “Dilyn fi.” Dywedodd yntau, “Caniatâ i mi yn gyntaf fynd i gladdu fy nhad.” Dywedodd wrtho, “Gad i’r meirw gladdu eu meirw, a dos dithau a chyhoedda deyrnas Dduw.” Un arall eto a ddywedodd wrtho, “Mi’th ddilynai di, Arglwydd; ond yn gyntaf caniatâ i mi ganu’n iach i’r rhai sydd gartref.” Dywedodd yr Iesu wrtho, “Nid oes neb sy’n rhoi ei law ar aradr ac yn edrych yn wysg ei gefn yn gymwys i deyrnas Dduw.” Wedi hyn penododd yr Arglwydd ddeg a thrigain eraill, ac anfonodd hwynt bob yn ddau o’i flaen i bob dinas a man lle’r oedd ef ar fedr dyfod. Ac meddai wrthynt, “Mawr yw’r cynhaeaf, ond ychydig yw’r gwerthwyr; felly deisyfwch ar Arglwydd y cynhaeaf yrru allan weithwyr i’w gynhaeaf. Ewch; dyma fi’n eich anfon chwi fel ŵyn i blith bleiddiaid. Na ddygwch bwrs, na chod, nac esgidiau, ac na chyferchwch neb ar y ffordd. I ba dŷ bynnag yr eloch i mewn, dywedwch yn gyntaf, ‘Tangnefedd i’r tŷ hwn.’ Ac os bydd yno fab tangnefedd, fe orffwys eich tangnefedd arno; onid e, fe ddychwel arnoch chwi. Arhoswch yn y tŷ hwnnw, gan fwyta ac yfed a fo ganddynt, canys teilwng i’r gweithiwr ei gyflog. Na symudwch o dŷ i dŷ. Ac i ba ddinas bynnag yr eloch i mewn, a chael croeso, bwytewch yr hyn a osodir ger eich bron, ac iachewch y cleifion ynddi, a dywedwch wrthynt, ‘Nesaodd teyrnas Dduw atoch.’ Ac i ba ddinas bynnag yr eloch i mewn, a heb gael croeso, ewch allan i’w heolydd hi, a dywedwch, ‘Hyd yn oed y llwch o’ch dinas chwi a lynodd wrth ein traed, yr ydym yn ei sychu ymaith i chwi; eithr gwybyddwch hyn, nesaodd teyrnas Dduw.’ Yr wyf yn dywedyd wrthych mai esmwythach fydd i Sodom yn y dydd hwnnw nag i’r ddinas honno. Gwae di, Chorasin! Gwae di, Fethsaida! Canys pe yn Nhyrus a Sidon y gwnaethid y grymusterau a wnaethpwyd ynoch chwi, ers talm yr eisteddasent mewn sachliain a lludw ac yr edifarhasent. Eithr esmwythach fydd i Dyrus a Sidon yn y farn nag i chwi. A thithau, Capernaum, ai hyd nef y’th ddyrchefir? Na, hyd Annwn y disgynni. Y neb a wrendy arnoch chwi a wrendy arnaf innau, a’r neb a’ch gwrthyd chwi a’m gwrthyd innau; a’r neb a’m gwrthyd i a wrthyd yr hwn a’m danfonodd i.” A dychwelodd y deg a thrigain mewn llawenydd, gan ddywedyd, “Arglwydd, darostyngir hyd yn oed y cythreuliaid i ni yn dy enw di.” Dywedodd wrthynt, “Yr oeddwn yn gwylied Satan fel mellten yn syrthio o’r nef. Dyma fi wedi rhoddi i chwi awdurdod i sathru ar seirff ac ysgorpionau, ac ar holl allu’r gelyn, ac nid oes dim a’ch niweidia o gwbl oll. Eithr na lawenhewch am hyn, fod yr ysbrydion yn cael eu darostwng i chwi, ond llawenhewch fod eich enwau wedi eu hysgrifennu yn y nefoedd.” Yr awr honno y gorfoleddodd yn yr Ysbryd Glân, a dywedodd, “Molaf di, O Dad, Arglwydd y nef a’r ddaear, am iti guddio’r pethau hyn rhag doethion a gwybodusion, a’u datguddio i blant bach; ie, O Dad, am mai felly y rhyngodd bodd i ti. Popeth a draddodwyd imi gan fy Nhad, ac ni ŵyr neb pwy yw’r Mab ond y Tad, a phwy yw’r Tad ond y Mab a phwy bynnag yr ewyllysio’r Mab ei ddatguddio iddo.” A throes at y disgyblion o’r neilltu, a dywedodd, “Gwyn eu byd y llygaid sy’n gweled yr hyn a welwch chwi. Canys meddaf i chwi, llawer o broffwydi a brenhinoedd a ddymunodd weled yr hyn a welwch chwi ac nis gwelsant, a chlywed yr hyn a glywch ac nis clywsant.” A dyma ryw gyfreithiwr yn codi i’w demtio, gan ddywedyd, “Athro, beth a wnaf i etifeddu bywyd tragwyddol?” Dywedodd yntau wrtho, “Beth sy’n ysgrifenedig yn y gyfraith? Pa fodd y darlleni?” Atebodd yntau, “Câr yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon ac â’th holl enaid ac â’th holl nerth ac â’th holl feddwl, a dy gymydog fel ti dy hun.” Dywedodd yntau, “Iawn yr atebaist; gwna hyn, a byw fyddi.” Yntau, yn dymuno ei gyfiawnhau ei hun, a ddywedodd wrth yr Iesu, “A phwy sydd gymydog i mi?” Gan ddal ar ei air, dywedodd, yr Iesu, “Rhyw ddyn oedd yn mynd i lawr o Gaersalem i Iericho, ac fe syrthiodd ymhlith lladron, y rhai a’i diosgodd a’i guro, a mynd ymaith a’i adael yn hanner marw. A digwyddodd bod rhyw offeiriad yn mynd i lawr y ffordd honno, a phan welodd ef fe aeth o’r tu arall heibio. Yr un modd Lefiad hefyd a ddaeth i’r fan, a’i weled, a mynd o’r tu arall heibio. Ond rhyw Samariad ar ei daith a ddaeth lle’r oedd, a phan welodd ef fe dosturiodd wrtho, ac aeth ato a rhwymo’i archollion a thywallt arnynt olew a gwin; a gosododd ef ar ei anifail ei hun, a’i ddwyn i westy, a chymryd gofal ohono. A thrannoeth tynnodd allan ddau swllt, a rhoes hwynt i’r gwestywr, a dywedodd, ‘Cymer ofal ohono, a pha beth bynnag a wariech yn rhagor, ar fy ffordd yn ôl mi a’i talaf i ti.’ Pa un o’r tri hyn, dybi di, a fu gymydog i’r hwn a syrthiodd i blith y lladron?” Dywedodd yntau, “Yr un a wnaeth drugaredd ag ef.” Dywedodd yr Iesu wrtho, “Dos, a gwna dithau’r un modd.” Ac ar eu taith aeth ef i mewn i ryw bentref. A rhyw wraig a’i henw Martha a’i croesawodd ef i’r tŷ. Ac i hon yr oedd chwaer a elwid Mair, ac eisteddodd hi wrth draed yr Arglwydd, a gwrandawai ar ei ymadrodd. Ond yr oedd Martha yn drysu gan gymaint o weini; a safodd a dywedodd, “Arglwydd, ai difater gennyt i’m chwaer fy ngadael wrthyf, fy hun i weini? Dywed wrthi, ynteu, am estyn cymorth i mi.” Atebodd yr Arglwydd a dywedodd wrthi, “Martha, Martha, pryderu a thyrfu’r wyt ynghylch llawer o bethau; nid rhaid ond wrth ychydig o bethau, neu un; canys Mair a ddewisodd y rhan dda, a honno nis dygir oddi arni.” A digwyddodd, pan oedd ef mewn rhyw fan yn gweddïo, wedi iddo orffen, i un o’i ddisgyblion ddywedyd wrtho, “Arglwydd, dysg i ni weddïo, fel y dysgodd Ioan i’w ddisgyblion yntau.” A dywedodd wrthynt, “Pan weddïoch, dywedwch, O Dad, santeiddier dy enw; deled dy deyrnas; ein bara beunyddiol rho i ni o ddydd i ddydd; a maddau i ni ein pechodau, canys yr ydym ni yn maddau i bawb sydd yn ein dyled; ac na ddwg ni i demtasiwn.” A dywedodd wrthynt, “Pwy ohonoch fydd ganddo gyfaill, ac a â ato ganol nos, a dywedyd wrtho, ‘Gyfaill, rho’n fenthyg dair torth i mi, achos daeth cyfaill ataf ar ei daith, ac nid oes gennyf ddim i’w osod o’i flaen’; ac yntau’n ateb tu mewn, a dywedyd, ‘Paid â’m poeni; erbyn hyn y mae’r drws wedi ei gloi, ac y mae fy mhlant gyda mi yn y gwely; ni allaf godi a rhoi i ti.’ Dywedaf i chwi, hyd yn oed er na chyfyd a rhoddi iddo am ei fod yn gyfaill iddo, eto oherwydd ei daerineb fe gyfyd, a rhoi iddo gymaint ag a fo arno’i eisiau. Ac yr wyf i’n dywedyd wrthych, Gofynnwch, ac fe roddir i chwi; ceisiwch, a chwi gewch; curwch, ac fe agorir i chwi. Canys pawb a ofyn a dderbyn, a’r neb a gais a gaiff, ac i’r neb a gura yr agorir. Pa un ohonoch, sy’n dad, a’i fab yn gofyn iddo am bysgodyn, a ddyry iddo sarff yn lle pysgodyn? neu yn gofyn am wy, a ddyry iddo sgorpion? Os chwi, ynteu, a chwithau’n ddrwg, a wyddoch sut i roi rhoddion da i’ch plant, pa faint mwy y rhydd y Tad o’r nef yr Ysbryd Glân i’r rhai a ofyn iddo?” Ac yr oedd yn bwrw allan gythraul, a oedd yn fud; ac wedi i’r cythraul fyned allan, llefarodd y mudan. A rhyfeddodd y tyrfaoedd; ond dywedodd rhai ohonynt, “Trwy Feelsebwl, pennaeth y cythreuliaid, y mae’n bwrw allan y cythreuliaid.” Ac eraill, i’w brofi, a geisiai arwydd o’r nef ganddo. Yntau, yn gwybod eu meddyliau, a ddywedodd wrthynt, “Pob teyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun a anghyfaneddir, a thŷ yn erbyn tŷ a syrth. Ac os Satan yntau a ymrannodd yn ei erbyn ei hun, pa fodd y saif ei deyrnas? — gan eich bod yn dywedyd mai trwy Feelsebwl yr wyf yn bwrw allan y cythreuliaid. Os trwy Feelsebwl y bwriaf i’r cythreuliaid allan, trwy bwy y bwrw eich meibion chwi hwynt allan? Am hynny hwy a fydd farnwyr arnoch. Ond os trwy fys Duw y bwriaf fi’r cythreuliaid allan, yna daeth teyrnas Dduw arnoch. Pan fo’r cryf arfog yn gwarchod ei gyntedd, y mae ei eiddo yn cael llonydd; ond pan ddêl ei gryfach yn ei erbyn a’i orchfygu, fe gymer ymaith ei arfogaeth, yr ymddiriedai ynddi, a rhannu ei arfau. Y neb nid yw gyda mi, yn fy erbyn y mae, a’r neb nid yw’n casglu gyda mi sy’n gwasgaru. Pan êl ysbryd aflan allan o ddyn, fe grwydra drwy leoedd sychion gan geisio egwyl, a chan nad yw’n ei chael, fe ddywed, ‘Dychwelaf i’m tŷ y deuthum allan ohono’; ac wedi dyfod fe’i caiff yn lân ac yn ddestlus. Yna yr â, ac y cymer ysbrydion eraill gwaeth nag ef ei hun, saith ohonynt, ac ânt i mewn a chartrefant yno; ac y mae diwedd y dyn hwnnw yn waeth na’i ddechreuad.” A darfu, pan oedd ef yn dywedyd y pethau hyn, i ryw wraig o’r dyrfa godi ei llais, a dywedyd wrtho, “Gwyn ei byd y groth a’th ddug, a’r bronnau a sugnaist.” Dywedodd yntau, “Ie, ond yn hytrach gwyn eu byd y rhai a wrendy air Duw, ac a’i ceidw.” A’r tyrfaoedd yn ymdyrru ato, dechreuodd ddywedyd, “Cenhedlaeth ddrwg yw’r genhedlaeth hon; y mae’n ceisio arwydd, ac arwydd nis rhoddir iddi onid arwydd Ionas. Canys fel y bu Ionas yn arwydd i’r Ninefeaid, felly y bydd Mab y dyn yntau i’r genhedlaeth hon. Brenhines y dehau a gyfyd yn y farn gyda gwŷr y genhedlaeth hon ac a’u condemnia; canys hi ddaeth o eithafoedd y ddaear i glywed doethineb Solomon, ac wele fwy na Solomon yma. Gwŷr o Ninefeaid a saif i fyny yn y farn gyda’r genhedlaeth hon, ac a’i condemnia; canys edifarhasant wrth bregeth Ionas, ac wele fwy nag Ionas yma. Ni oleua neb gannwyll a’i dodi mewn seler nac o dan gelwrn ond ar y canhwyllbren, er mwyn i’r rhai a ddêl i mewn weled y golau. Cannwyll y corff yw dy lygad; pan fo dy lygad yn iach, dy holl gorff sydd yn olau; Ond os bydd yn ddrwg, dy gorff a fydd yn dywyll. Edrych, ynteu, a yw’r goleuni sydd ynot yn dywyllwch. Gan hynny, os yw dy gorff i gyd yn olau, heb un rhan yn dywyll, bydd yn olau i gyd, fel pan fo’r gannwyll â’i llewyrch yn dy oleuo di.” Wedi iddo lefaru, gofyn Pharisead iddo giniawa gydag ef; aeth i mewn ac at y bwrdd. A rhyfeddodd y Pharisead wrth weled nad ymolchodd yn gyntaf cyn cinio. Ond dywedodd yr Arglwydd wrtho, “Yn awr yr ydych chwi’r Phariseaid yn glanhau’r tu allan i’r cwpan a’r ddysgl; ond y tu mewn i chwi sydd lawn o ladrad a drygioni. Ynfydion! onid yr hwn a wnaeth y tu allan a wnaeth y tu mewn hefyd? Eithr, parthed y pethau tu mewn, rhowch elusen, a dyna’r cwbl yn lân gennych. Ond gwae chwi’r Phariseaid, am eich bod yn degymu’r mintys a’r ryw a phob llysieuyn, ac yn troseddu yn erbyn barn a chariad Duw; dylid gwneuthur y naill, heb esgeuluso’r lleill. Gwae chwi’r Phariseaid, am eich bod yn caru’r brif gadair yn y synagogau a’r cyfarchiadau yn y marchnadoedd. Gwae chwi, am eich bod fel y beddau sydd o’r golwg, a’r dynion a gerddo drostynt ni wyddant amdanynt.” Atebodd un o’r cyfreithwyr iddo, “Athro, wrth ddywedyd y pethau hyn yr wyt yn ein sarhau ninnau hefyd.” Dywedodd yntau, “Gwae chwithau’r cyfreithwyr, am eich bod yn beichio dynion â beichiau annioddefol, ac ni chyffyrddwch eich hunain â’r beichiau ag un o’ch bysedd. Gwae chwi, am eich bod yn adeiladu beddau’r proffwydi, a’ch tadau chwi wedi eu lladd hwynt. Yn wir, tystiolaethwch, a bodlonwch i weithredoedd eich tadau, — hwy yn lladd, a chwithau’n adeiladu. Am hynny y dywedodd Doethineb Duw, Anfonaf atynt broffwydi ac apostolion, a rhai ohonynt a laddant ac a erlidiant, fel yr ymofynned gan y genhedlaeth hon am waed yr holl broffwydi a dywalltwyd o seiliad y byd, o waed Abel hyd waed Sacharïas, a laddwyd thwng yr allor a’r Tŷ. Ie, meddaf i chwi, ymofynnir amdano gan y genhedlaeth hon. Gwae chwi’r cyfreithwyr, am i chwi ddwyn allwedd gwybodaeth; nid aethoch i mewn eich hunain, a’r rhai oedd yn ceisio myned i mewn a ataliasoch.” Ac wedi iddo fyned ymaith oddi yno, dechreuodd yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid fod yn ddig aruthr wrtho, a’i dynnu i lefaru ar lawer pwnc, gan gynllwyn yn ei erbyn i ddal rhywbeth o’i enau. Yn y cyfamser, a’r bobl wedi ymgasglu yn eu miloedd nes sathru ar ei gilydd, dechreuodd ddywedyd wrth ei ddisgyblion yn gyntaf, “Ymogelwch rhag surdoes y Phariseaid, sef rhagrith. Nid oes dim cuddiedig nas datguddir, na dirgel nas gwybyddir. Am hynny popeth a ddywedasoch yn y tywyllwch, clywir ef yn y goleuni, ac a lefarasoch i’r glust yn yr ystafelloedd, cyhoeddir ef ar bennau’r tai. Meddaf i chwi fy nghyfeillion, nac ofnwch rhag y rhai a ladd y corff ac wedyn ni allant wneuthur dim rhagor. Mi ddangosaf i chwi pwy yr ydych i’w ofni; ofnwch yr hwn wedi iddo ladd sydd ganddo awdurdod i fwrw i Gehenna; ie, meddaf i chwi, hwnnw a ofnwch. Oni werthir pump aderyn to am ddwy ffyrling? Ac nid oes un ohonynt yn angof gan Dduw. Ond y mae hyd yn oed gwallt eich pen wedi eu rhifo bob un; peidiwch ag ofni; amgenach ydych na llawer o adar to. Meddaf i chwi, pob un a’m harddelo i yng ngŵydd dynion, Mab y dyn hefyd a’i harddel yntau yng ngŵydd angylion Duw; ond y neb a’m gwado i gerbron dynion, gwedir yntau gerbron angylion Duw. A phawb a ddywedo air yn erbyn Mab y dyn, fe faddeuir iddo; ond i’r hwn a gablo yn erbyn yr Ysbryd Glân, ni faddeuir. Pan ddygont chwi gerbron y synagogau a’r llywodraethwyr a’r awdurdodau, na phryderwch pa fodd yr amddiffynnwch eich hunain, neu beth a ddywedwch; canys yr Ysbryd Glân a ddysg i chwi yn yr awr honno beth a ddylech ei ddywedyd.” Dywedodd un o’r dyrfa wrtho, “Athro, dywed wrth fy mrawd am rannu’r etifeddiaeth gyda mi.” Dywedodd yntau wrtho, “Ddyn, pwy a’m gosododd i yn farnwr neu’n ddosbarthwr arnoch chwi?” A dywedodd wrthynt, “Edrychwch a gwyliwch rhag pob trachwant, canys nid yn yr helaethrwydd sydd i neb y mae ei fywyd, nid o’r pethau a, fedd.” A thraethodd ddameg wrthynt, gan ddywedyd, “Tir rhyw ddyn cyfoethog a gnydiodd yn dda, Ac ymresymai ynddo’i hun, gan ddywedyd, ‘Beth a wnaf, gan nad oes gennyf le i gasglu fy ffrwythau?’ Ac meddai, ‘Hyn a wnaf: mi dynnaf fy ysguboriau i lawr, a rhai mwy a adeiladaf, a chasglaf yno fy holl ŷd a’m da, a dywedaf wrth fy enaid, Enaid, y mae gennyt lawer o dda wedi ei ystorio dros flynyddoedd lawer; gorffwys, bwyta, yf, bydd lawen.’ Ond dywedodd Duw wrtho, ‘Ynfytyn! heno gofynnant dy enaid gennyt; a’r hyn a baratoaist, ai i bwy y bydd?’ Felly’r neb a drysoro iddo’i hun, ac nid yw’n gyfoethog i Dduw.” Dywedodd wrth ei ddisgyblion, “Am hynny meddaf i chwi, na phryderwch am eich bywyd, beth a fwytewch, nac am eich corff, beth a wisgwch. Canys y mae’r bywyd yn fwy na’r bwyd, a’r corff na’r wisg. Sylwch ar y brain; nid ydynt yn hau nac yn medi, ac nid oes iddynt ystordy nac ysgubor, ac eto y mae Duw yn eu porthi. Gymaint amgenach ydych chwi na’r adar! A phwy ohonoch drwy bryderu a ddichon chwanegu at hyd ei einioes hanner llath? Felly, oni ellwch hyd yn oed y lleiaf oll, paham y pryderwch am y rhelyw? Sylwch ar y liliau pa fodd nad ydynt yn nyddu nac yn gwau; ond meddaf i chwi, hyd yn oed Solomon yn ei holl ogoniant nid ymwisgodd fel un o’r rhain. Ac os dillada Duw felly’r gwellt sydd heddiw yn y maes, ac yfory a fwrir i’r ffwrn, pa faint mwy chwychwi, O rai bychain eu ffydd? Ac na cheisiwch chwi beth a fwytewch neu beth a yfwch, ac na chynhyrfwch; canys yr holl bethau hyn y mae cenhedloedd y byd yn eu ceisio, ond gŵyr eich Tad fod arnoch chwithau eisiau’r pethau hyn. Eithr ceisiwch ei deyrnas ef, a’r pethau hyn a roddir i chwi’n ychwaneg. Nac ofna, braidd bychan, canys gwelodd eich Tad yn dda roddi i chwi’r deyrnas. Gwerthwch eich eiddo, a rhowch elusen; gwnewch i chwi byrsau na heneiddiant, trysor anniflanedig yn y nefoedd, lle ni ddaw lleidr yn agos, ac ni ddifetha gwyfyn; canys lle mae eich trysor, yno y bydd eich calon hefyd. Bydded eich lwynau chwi wedi eu hymwregysu a’ch canhwyllau yn llosgi, a chwithau yn debyg i ddynion yn disgwyl eu harglwydd, pa bryd y dychwel o’r neithior, fel pan ddêl a churo yr agoront iddo yn union. Gwyn eu byd y gweision hynny, a gaiff eu harglwydd, pan ddêl, yn effro; yn wir, meddaf i chwi, fe ymwregysa a pheri iddynt eistedd wrth y bwrdd, a daw a gweini arnynt. Ac os ar yr ail neu ar y drydedd wyliadwriaeth y daw, a’u cael felly, gwyn eu byd y rhain. Gwybyddwch hyn: pe gwybuasai’r pen teulu pa awr y deuai’r lleidr, buasai’n effro, ac ni adasai gloddio’i dŷ trwodd. A chwithau, byddwch barod, canys yr awr ni thybioch y daw Mab y Dyn.” Dywedodd Pedr, “Arglwydd, ai amdanom ni y dywedi’r ddameg hon, ai yntau am bawb?” A dywedodd yr Arglwydd, “Pwy, tybed, yw’r goruchwyliwr ffyddlon, pwyllog, a esyd yr arglwydd dros ei deulu i roddi’r dogn bwyd yn ei bryd? Gwyn ei fyd y gwas hwnnw, y caiff ei arglwydd, pan ddêl, ei fod yn gwneuthur felly; dywedaf wrthych yn wir, fe’i gesyd ef dros ei holl eiddo. Ond os dywed y gwas hwnnw yn ei galon, ‘Mae f’arglwydd yn oedi dyfod,’ a dechrau curo’r gweision a’r morynion, a bwyta ac yfed a meddwi, fe ddaw arglwydd y gwas hwnnw ar ddydd nad yw’n disgwyl ac ar awr nad yw’n gwybod, a’i dorri’n ddau, ai rifo gyda’r anffyddloniaid. Y gwas hwnnw, a wybu ewyllys ei arglwydd heb hwylio i wneud yn ôl ei ewyllys, a gaiff wialenodiau lawer; ond yr hwn ni wybu, ac a wnaeth bethau’n haeddu curfa, a gaiff ychydig. Pob un y rhoddwyd llawer iddo, llawer a ofynnir ganddo, a’r neb yr ymddiriedasant lawer iddo, mwy a geisiant ganddo. Tân a ddeuthum i’w fwrw ar y ddaear; a balched fuaswn pes cyneuasid eisoes! Mae gennyf fedydd i’m bedyddio ag ef; ac mor gyfyng yw arnaf hyd onis gorffenner! A dybiwch mai tangnefedd a ddeuthum i’w roddi ar y ddaear? Nag e, meddaf i chwi, ond ymraniad. Canys bydd o hyn allan bump mewn un tŷ wedi ymrannu, tri yn erbyn dau a dau yn erbyn tri; ymranna tad yn erbyn mab a mab yn erbyn tad, mam yn erbyn merch a merch yn erbyn ei mam, chwegr yn erbyn ei gwaudd a gwaudd yn erbyn ei chwegr.” Ac meddai wrth y tyrfaoedd, “Pan welwch gwmwl yn codi yn y gorllewin, yn y fan chwi ddywedwch, ‘Mae cawod yn dyfod’; ac felly y bydd. A phan glywch ddeheuwynt yn chwythu, chwi ddywedwch, ‘Mae hi am wres’; ac fe fydd. Ragrithwyr, gwyddoch sut i farnu wyneb y ddaear a’r awyr; pa fodd na ddeallwch y cyfnod hwn? Paham hyd yn oed ohonoch eich hunain na fernwch yn deg? Pan ei o flaen ynad gyda’th wrthwynebwr, gwna dy orau ar y ffordd i gael gwared ohono, rhag iddo dy lusgo di gerbron y barnwr; a’r barnwr a’th draddoda di i’r rhingyll, a’r rhingyll a’th fwrw di yng ngharchar. Meddaf i ti, ni ddoi di ddim allan oddi yno nes iti dalu’r hatling eithaf.” A daeth rhywrai’r pryd hwnnw, a mynegi iddo am y Galileaid y cymysgodd Pilat eu gwaed â’u haberthau. Ac atebodd iddynt, “A dybiwch fod y Galileaid hyn yn bechaduriaid mwy na’r Galileaid oll, am iddynt ddioddef y pethau hyn? Na, meddaf i chwi; eithr onid edifarhewch, fe’ch difethir chwi oll yn gyffelyb. Neu’r deunaw hynny y syrthiodd y tŵr yn Siloam arnynt a’u lladd, a dybiwch eu bod hwy’n droseddwyr mwy na’r holl ddynion sy’n trigo yng Nghaersalem? Na, meddaf i chwi; eithr oni bydd edifar gennych, fe’ch difethir chwi oll yr un modd.” A dywedodd y ddameg hon. “Yr oedd gan un ffigysbren wedi ei blannu yn ei winllan, ac fe ddaeth i geisio ffrwyth arno, ac nis cafodd. A dywedodd wrth y gwinllannwr, ‘Ers tair blynedd iti yr wyf yn dyfod i geisio ffrwyth ar y ffigysbren hwn a heb ei gael; tor ef i lawr; i beth hefyd y mae’n diffrwytho’r tir?’ Ond atebodd yntau iddo, ‘Arglwydd, gad ef y flwyddyn hon eto, nes imi gloddio o’i gwmpas, a bwrw tail; ac os dwg ffrwyth rhag llaw, da; onid e, gelli ei dorri ef i lawr.’ ” Yr oedd yn dysgu yn un o’r synagogau ar y Sabbath. Ac wele wraig a chanddi ysbryd gwendid ers deunaw mlynedd, ac yr oedd hi yn ei chwman, ac ni allai ymunioni yn hollol. Wedi i’r Iesu ei gweled hi, galwodd arni a dywedodd wrthi, “Wraig, gollyngwyd di o’th wendid” a dododd ei ddwylo arni; ac yn ebrwydd ymsythodd, a dechrau gogoneddu Duw. Ac atebodd y pensynagogydd, yn ffyrnigo am i’r Iesu iacháu ar y Sabbath, a dywedodd wrth y dyrfa, “Chwe diwrnod sydd y dylid gweithio ynddynt; ar y rhain, ynteu, deuwch i gael meddyginiaeth, ac nid ar y dydd Sabbath.” Atebodd yr Arglwydd iddo, “Ragrithwyr, oni ollwng pob un ohonoch ar y Sabbath ei ych neu ei asyn o’r preseb, a mynd ag ef ymaith i gael dŵr? Hon, a hithau’n ferch i Abraham, a rwymodd Satan, ie, ddeunaw mlynedd, oni ddylesid ei gollwng o’r rhwymyn hwn ar y dydd Sabbath?” Ac wrth iddo ddywedyd hyn cywilyddiai pawb a’i gwrthwynebai, a’r holl dyrfa a lawenychai am yr holl bethau gogoneddus a wneid ganddo ef. Felly meddai, “I beth y mae teyrnas Dduw yn gyffelyb, ac i beth y cyffelybaf hi? Cyffelyb yw i ronyn mwstard, a gymerth dyn a’i fwrw i’w ardd, a chynyddodd ac aeth yn bren, ac adar yr awyr a nythodd yn ei gangau.” A dywedodd drachefn, “I beth y cyffelybaf deyrnas Dduw? Cyffelyb yw i surdoes a gymerth gwraig a’i guddio mewn tri phecaid o flawd, hyd oni surodd y cwbl.” A thramwyai trwy ddinasoedd a phentrefi, gan ddysgu, ar ei ffordd tua Chaersalem. A dywedodd rhywun wrtho, o “Arglwydd, ai ychydig yw’r rhai sy’n cael eu cadw?” Dywedodd yntau wrthynt, “Ymdrechwch i fyned i mewn trwy’r drws cul; canys llawer, meddaf i chwi, a gais fyned i mewn, ac ni lwyddant. Wedi i ŵr y tŷ gyfodi a chau’r drws, ac i chwithau ddechrau sefyll oddi allan a churo’r drws gan ddywedyd, ‘Arglwydd, agor i ni’ ac iddo yntau ateb a dywedyd wrthych, ‘Ni’ch adwaen chwi, o ba le yr ydych,’ yna chwi ddechreuwch ddywedyd, ‘Bwytasom ac yfasom yn dy ŵydd, a dysgaist yn ein heolydd ni’; ac fe ddywed wrthych, ‘Ni wn o ba le yr ydych; ymadewch oddi wrthyf, holl weithredwyr anghyfiawnder.’ Yno y bydd yr wylofain a’r rhincian dannedd, pan welwch Abraham ac Isaac ac Iacob a’r holl broffwydi yn nheyrnas Dduw, a chwithau yn cael eich bwrw allan. A deuant o’r dwyrain a’r gorllewin ac o’r gogledd a’r dehau, ac eisteddant wrth y bwrdd yn nheyrnas Dduw. Ac wele, y mae rhai yn olaf a fydd yn flaenaf, ac y mae rhai yn flaenaf a fydd yn olaf.” Y pryd hwnnw daeth rhai Phariseaid ato, a dywedyd wrtho, “Dos ymaith, a cherdd oddi yma, canys y mae Herod yn ewyllysio dy ladd di.” A dywedodd wrthynt, “Ewch a dywedwch wrth y cadno hwnnw, Wele, yr wyf yn bwrw allan gythreuliaid ac yn iacháu cleifion heddiw ac yfory, a’r trydydd dydd fe’m perffeithir. Eithr rhaid i mi deithio heddiw ac yfory a thrennydd, canys ni all y derfydd am broffwyd allan o Gaersalem. Gaersalem, Gaersalem, ti sy’n lladd y proffwydi a llabyddio’r rhai a anfonwyd ati — pa sawl gwaith y mynnais gasglu dy blant ynghyd, fel iâr ei chywion dan ei hadenydd, ac nis mynnech! Wele, eich tŷ chwi a adewir. Ac meddaf i chwi, ni’m gwelwch i nes daw’r amser pan ddywedoch, Bendigedig yw’r un sy’n dyfod yn enw’r Arglwydd.” A phan aeth ef i dŷ un o’r penaethiaid ymhlith y Phariseaid ar y Sabbath i fwyta bara, yr oeddent hwy yn ei wylied ef. Ac wele ger ei fron ryw ddyn a oedd yn glaf o’r dyfrglwyf. Ac atebodd yr Iesu, a dywedyd wrth y cyfreithwyr a’r Phariseaid, “Ai rhydd iacháu ar y Sabbath, ai nid yw?” Tewi a wnaethant hwythau. Gafaelodd yntau ynddo a’i iacháu, a’i ollwng ymaith. A dywedodd wrthynt, “Pwy ohonoch chwi y syrth mab neu ych iddo i bydew, ac nis tyn ef i fyny yn ebrwydd ar y dydd Sabbath?” Ac ni allasant roi ateb i hyn. A dywedodd ddameg i’r gwahoddedigion, wrth sylwi pa fodd yr oeddent yn dewis y prif seddau, gan ddywedyd wrthynt, “Pan wahodder di gan rywun i neithior, nac eistedd yn y brif sedd, rhag ofn bod un anrhydeddusach na thi wedi ei wahodd ganddo, ac i’r hwn a’th wahoddodd di ac yntau ddyfod a dywedyd wrthyt, ‘Rho le i hwn,’ ac yna i tithau fynd a chymryd gyda chywilydd y lle isaf. Ond pan wahodder di, dos ac eistedd yn y lle isaf, fel, pan ddêl yr hwn a’th wahoddodd, y dywedo wrthyt, ‘Gyfaill, tyrd i fyny’n uwch’; yna bydd iti glod yng ngŵydd pawb sy’n cyd-eistedd â thi. Canys pob un sydd yn ei ddyrchafu ei hun a ostyngir, a’r neb sydd yn ei ostwng ei hun a ddyrchefir.” Ac meddai hefyd wrth yr hwn a’i gwahoddodd, “Pan wnelych ginio neu swper, paid â galw dy gyfeillion na’th frodyr na’th geraint na chymdogion cyfoethog, rhag iddynt hwythau yn eu tro dy wahodd di, ac i tithau gael ad-daliad. Ond pan wnelych wledd, galw dlodion, efryddion, cloffion, deillion; a dedwydd fyddi, am nad oes ganddynt fodd i dalu’n ôl i ti; canys telir yn ôl i ti yn atgyfodiad y rhai cyfiawn.” Pan glywodd un o’r rhai oedd yn cyd-eistedd y pethau hyn, fe ddywedodd wrtho, “Gwyn ei fyd y neb a fwytao fara yn nheyrnas Dduw.” Dywedodd yntau wrtho, “Yr oedd rhyw ddyn yn gwneuthur swper mawr, a gwahoddodd lawer; a danfonodd ei was ar awr y swper i ddywedyd wrth y gwahoddedigion, ‘Deuwch, canys y mae’n awr yn barod.’ A dechreuasant bawb yn unfryd ymesgusodi. Dywedodd y cyntaf wrtho, ‘Prynais faes, ac y mae’n rhaid i mi fynd a’i weled; atolwg, cymer fi’n esgusodol.’ A dywedodd un arall, ‘Prynais bum iau o ychen, ac yr wyf yn mynd i’w profi; atolwg, cymer fi’n esgusodol.’ A dywedodd un arall, ‘Priodais wraig, ac am hynny ni allaf ddyfod.’ A daeth y gwas, a mynegi hyn i’w arglwydd. Yna ffromodd gŵr y tŷ, a dywedodd wrth ei was, ‘Dos allan ar frys i heolydd a strydoedd y ddinas, a dwg yma’r tlodion a’r efryddion a’r deillion a’r cloffion.’ A dywedodd y gwas, ‘Arglwydd, gwnaethpwyd fel y gorchmynnaist, ac eto y mae lle.’ A dywedodd yr arglwydd wrth y gwas, ‘Dos allan i’r ffyrdd a’r caeau, a chymell hwynt i ddyfod i mewn, fel y llanwer fy nhŷ.’ Canys dywedaf i chwi na chaiff yr un o’r gwŷr hynny a wahoddwyd brofi o’m swper i.” Yr oedd tyrfaoedd lawer yn cyd-deithio ag ef, a throes a dywedodd wrthynt, “Os yw neb yn dyfod ataf i, ac nid yw’n casáu ei dad a’i fam a’i wraig a’i blant a’i frodyr a’i chwiorydd, ie, a’i fywyd ei hun, ni all fod yn ddisgybl i mi. Y neb nid yw’n dwyn ei groes ac yn dyfod ar fy ôl i, ni all fod yn ddisgybl i mi. Canys pwy ohonoch, a chanddo chwant adeiladu tŵr, nid eistedd yn gyntaf, a chyfrif y draul, a oes ganddo ddigon i’w ddibennu? Rhag ofn, wedi iddo osod sylfaen a heb allu gorffen, i bawb a’i gwêl ddechrau ei watwar, a dywedyd, ‘Dechreuodd y dyn hwn adeiladu, ac ni allodd orffen.’ Neu pa frenin, ar ei hynt i ymladd brwydr yn erbyn brenin arall, nid eistedd yn gyntaf, ac ymgynghori a all ef â deng mil wynebu’r hwn sy’n dyfod yn ei erbyn ag ugain mil? Onid e, ac yntau eto ymhell, fe enfyn genhadau i ofyn am heddwch. Felly, ynteu, pob un ohonoch chwithau nid ymadawo â’i holl eiddo, ni all fod yn ddisgybl i mi. Da, yn wir, yw’r halen; Ond os cyll yr halen yntau ei rin, â pha beth y rhoir blas arno? Nid yw’n addas nac i’r tir nac i’r domen; allan y bwriant ef. Y neb sydd ganddo glustiau i wrando, gwrandawed.” Yr oedd y trethwyr a’r pechaduriaid i’ gyd yn dynesu ato i wrando arno. A grwgnachai’r Phariseaid a’r ysgrifenyddion, gan ddywedyd, “Y mae hwn yn croesawu pechaduriaid, ac yn cyd-fwyta â hwynt.” A dywedodd wrthynt y ddameg hon, “Pa ddyn ohonoch a chanddo gant o ddefaid, ac wedi colli un ohonynt, nid yw yn gadael y cant namyn un yn yr anialwch, ac yn mynd ar ôl yr hon a gollwyd nes ei chael hi? Ac wedi ei chael fe’i gesyd hi ar ei ysgwyddau yn llawen, ac wedi dyfod adref geilw ei ffrindiau a’i gymdogion ynghyd, gan ddywedyd wrthynt, ‘Cyd-lawenhewch â mi, canys cefais fy nafad a oedd ar goll.’ Dywedaf i chwi y bydd llawenydd felly yn y nef am un pechadur a edifarhao, yn fwy nag am gant namyn un o rai cyfiawn, nad oes arnynt angen edifeirwch. Neu pa wraig, a chanddi ddeg swllt, os cyll un swllt, nid yw yn golau cannwyll, ac yn ysgubo’r tŷ, ac yn chwilio’n ofalus, nes ei gael? Ac wedi ei gael hi eilw ei ffrindiau a’i chymdogesau ynghyd, gan ddywedyd, ‘Cyd-lawenhewch â mi, canys cefais y swllt a gollais.’ Felly, meddaf i chwi, y mae llawenydd yng ngŵydd angylion Duw am un pechadur a edifarhao.” A dywedodd, “Yr oedd gan ryw ddyn ddau fab. A dywedodd yr ieuangaf ohonynt wrth ei dad, ‘’Nhad, dyro i mi fy nghyfran o’r eiddo.’ A rhannodd yntau rhyngddynt ei dda. Ac ar ôl ychydig ddyddiau gwerthodd y mab ieuangaf y cwbl ac ymfudodd i wlad bell, ac yno gwasgarodd ei eiddo, gan fyw’n afradlon. Ac wedi iddo dreulio’r cwbl, bu newyn tost trwy’r wlad honno, a dechreuodd ddioddef eisiau. Ac aeth a glynodd wrth un o ddinaswyr y wlad honno, ac anfonodd yntau ef i’w feysydd i borthi moch. A chwenychai lenwi ei fol â’r cibau a fwytâi’r moch, ac ni roddai neb iddo. A phan ddaeth ato’i hun, fe ddywedodd, ‘Pa sawl gwas cyflog i’m tad sydd ganddynt eu gwala o fara, a minnau’n marw yma o newyn! Codaf ac af at fy nhad, a dywedaf wrtho, ’Nhad, pechais yn erbyn y nef ac o’th flaen dithau; nid wyf deilwng mwyach i’m galw yn fab i ti; gwna fi fel un o’th weision cyflog.’ A chododd ac aeth at ei dad. A phan oedd eto ymhell oddi wrtho, fe’i gwelodd ei dad ef, a thosturiodd, a chan redeg syrthiodd ar ei wddf a chusanodd ef. A dywedodd y mab wrtho, ‘’Nhad, pechais yn erbyn y nef ac o’th flaen dithau; nid wyf deilwng mwyach i’m galw yn fab i ti.’ A dywedodd y tad wrth ei weision, ‘Brysiwch i ddwyn allan y wisg orau, a gwisgwch amdano, a rhowch fodrwy ar ei law ac esgidiau am ei draed, a dygwch y llo pasgedig, lleddwch ef, a bwytawn a byddwn lawen; canys fy mab hwn oedd farw a daeth yn fyw drachefn, yr oedd ar goll ac fe’i cafwyd.’ A dechreuasant fod yn llawen. Yr oedd ei fab hynaf yn y maes; a phan ddaeth a nesáu at y tŷ, clywodd ganu a dawnsio, ac wedi galw un o’r gweision ato holodd beth oedd hyn. Dywedodd yntau wrtho, ‘Dy frawd a ddaeth, a lladdodd dy dad y llo pasgedig, am iddo’i gael yn ôl yn iach.’ Digiodd yntau, ac ni fynnai fynd i mewn. Ac aeth ei dad allan i ymbil ag ef. Atebodd yntau i’w dad, ‘Edrych gynifer o flynyddoedd yr wyf yn dy wasanaethu, ac ni throseddais i erioed orchymyn o’r eiddot, ac eto i mi ni roddaist erioed fyn, i fod yn llawen gyda’m cyfeillion; Eithr pan ddaeth dy fab hwn, yr un a ddifaodd dy dda gyda phuteiniaid, lleddaist iddo ef y llo pasgedig.’ Dywedodd yntau wrtho, Fy mhlentyn, yr wyt ti gyda mi yn wastad, a thi biau’r cwbl sydd gennyf; iawn oedd bod yn llon a llawen, canys dy frawd hwn oedd farw, a daeth yn fyw; bu ar goll, ac fe’i cafwyd’.” Ac meddai hefyd wrth ei ddisgyblion, “Yr oedd rhyw ddyn cyfoethog, a chanddo oruchwyliwr; a chyhuddwyd hwn wrtho ei fod yn gwastraffu ei eiddo. Ac fe’i galwodd a dywedodd wrtho, ‘Beth yw hyn a glywaf amdanat ti? Dyro gyfrif o’th orchwyliaeth, canys ni elli fod yn oruchwyliwr mwyach.’ A dywedodd y goruchwyliwr ynddo’i hun, ‘Beth a wnaf, gan fod fy arglwydd yn dwyn yr oruchwyliaeth oddi arnaf? Cloddio nis gallaf, ac mae arnaf gywilydd cardota. Mi wn beth a wnaf, fel, pan ddiswyddir fi o’r orchwyliaeth, y’m derbyniont i’w tai.’ A galwodd ato bob un o ddyledwyr ei arglwydd, ac meddai wrth y cyntaf, ‘Pa faint sydd arnat i’m harglwydd?’ Dywedodd yntau, ‘Can barilaid o olew.’ Dywedodd wrtho, ‘Cymer dy ymrwymiad, ac eistedd ac ysgrifenna ar unwaith hanner cant.’ Yna dywedodd wrth un arall, ‘A thithau, pa faint sydd arnat?’ Dywedodd yntau, ‘Can pegaid o ŷd.’ Dywedodd wrtho, ‘Cymer dy ymrwymiad, ac ysgrifenna bedwar ugain.’ A chanmolodd yr arglwydd y goruchwyliwr anghyfiawn, am iddo wneuthur yn gall; canys y mae plant yr oes hon yn gallach na phlant y goleuni tuag at eu cenhedlaeth, eu hunain. Ac yr wyf innau’n dywedyd i chwi, Gwnewch i chwi eich hunain gyfeillion trwy’r mamon anghyfiawn, fel pan ballo y’ch derbynier chwi i’r tragwyddol bebyll. Yr hwn sydd ffyddlon mewn ychydig, ffyddlon ydyw hefyd mewn llawer, a’r hwn sydd anghyfiawn mewn ychydig, anghyfiawn ydyw hefyd mewn llawer. Felly, oni buoch ffyddlon gyda’r mamon anghyfiawn, pwy a ymddiried y gwir olud i chwi? Ac oni buoch ffyddlon gydag eiddo arall, pwy a rydd i chwi yr eiddom ni? Ni ddichon gwas wasanaethu dau arglwydd; canys un ai casâ’r naill a châr y llall, neu fe lŷn wrth y naill a dirmyga’r llall. Ni ellwch wasanaethu Duw a Mamon.” Yr oedd y Phariseaid, dynion ariangar, yn clywed yr holl bethau hyn, a gwawdient ef. A dywedodd wrthynt, “Chwychwi yw’r rhai sydd yn eich cyfiawnhau eich hunain gerbron dynion, ond gŵyr Duw eich calonnau; canys yr hyn sydd mewn bri ymhlith dynion, ffieiddbeth yw gerbron Duw. Y gyfraith a’r proffwydi, hyd Ioan yr oeddent; oddi ar hynny teyrnas Dduw a bregethir, ac y mae pawb yn ymwthio i mewn iddi. Eithr haws yw i’r nef a’r ddaear fyned heibio nag i un fachell o’r gyfraith syrthio. Pob un a ysgaro’i wraig ac a briodo un arall, y mae yn godinebu, a’r hwn a briodo wraig a ysgarwyd oddi wrth ŵr, y mae yn godinebu. Yr oedd rhyw ddyn yn gyfoethog, a gwisgai amdano borffor a lliain main, gan fwynhau byd da yn helaethwych beunydd. A rhyw dlotyn, a’i enw Lasarus, oedd yn gorwedd wrth ei borth, yn gornwydlyd, ac yn chwennych ymborthi ar yr hyn a syrthiai oddi ar fwrdd y dyn cyfoethog. A’r cŵn hwythau a ddeuai i lyfu ei gornwydydd. A digwyddodd i’r tlotyn farw, a’i ddwyn ymaith gan yr angylion i fynwes Abraham; bu farw’r cyfoethog yntau, a chladdwyd ef. A phan gododd ei lygaid yn Annwn, ac yntau mewn arteithiau, fe wêl Abraham o bell, a Lasarus yn ei fynwes. A llefodd, ‘Dad Abraham, trugarha wrthyf, a danfon Lasarus i wlychu blaen ei fys mewn dŵr, ac oeri fy nhafod, canys fe’m dirboenir yn y fflam hon.’ A dywedodd Abraham, ‘Fy mhlentyn, cofia i ti dderbyn dy wynfyd yn dy fywyd, a Lasarus yr un modd ei adfyd; ond yn awr fe’i diddenir ef yma, a’th ddirboeni dithau: Ac ar ben hyn oll, y mae bwlch mawr wedi ei osod rhyngom ni a chwithau, fel na alle’r rhai a’i mynnai fynd trwodd oddi yma atoch chwi, na chroesi chwaith oddi yna atom ni.’ Dywedodd yntau, ‘Gan hynny gofynnaf iti, dad, a anfoni di ef i dŷ fy nhad — y mae gennyf bump o frodyr — fel y tystiolaetho iddynt, rhag iddynt hwythau ddyfod i’r arteithfa hon.’ Medd Abraham, ‘Mae ganddynt Foses a’r proffwydi; gwrandawant arnynt hwy.’ Dywedodd yntau, ‘Nag e, dad Abraham, ond os â rhywun atynt oddi wrth y meirw, edifarhânt.’ A dywedodd wrtho, ‘Oni wrandawant ar Foses a’r proffwydi, nis perswedir, hyd yn oed os cyfyd un oddi wrth y meirw’.” A dywedodd wrth ei ddisgyblion, “Ni ddichon na ddêl maglau, eithr gwae’r hwn y deuant drwyddo; buddiol iddo ef fyddai fod maen melin wedi ei ddodi o amgylch ei wddf, a’i fod wedi ei fwrw i’r môr, yn hytrach nag iddo faglu un o’r rhai bychain hyn. Edrychwch atoch eich hunain. Os pecha dy frawd, cerydda ef, ac os edifarhâ, maddau iddo; ac os pecha yn dy erbyn seithwaith yn y dydd a throi atat seithwaith, gan ddywedyd, ‘Mae’n edifar gennyf,’ ti faddeui iddo.” A dywedodd yr apostolion wrth yr Arglwydd, “Chwanega at ein ffydd ni.” A dywedodd yr Arglwydd, “A bwrw bod gennych ffydd megis hedyn mwstard, chwi ddywedech wrth y ferwydden hon, ‘Dadwreiddier di, a phlanner di yn y môr’; a hi ufuddhâi i chwi. Pwy ohonoch, a chanddo was yn aredig neu yn bugeilio, a ddywed wrtho wedi iddo ddyfod i mewn o’r maes, ‘Brysia a thyred ac eistedd wrth y bwrdd’? Eithr oni ddywed wrtho, ‘Hwylia swper i mi ac ymwregysa a gweinydda arnaf nes imi fwyta ac yfed, ac wedi hynny cei dithau fwyta ac yfed’? A yw’n ddiolchgar i’r gwas am iddo wneuthur y pethau a orchmynnwyd? Felly chwithau hefyd, wedi ichwi wneuthur popeth a orchmynnwyd i chwi, dywedwch, ‘Gweision anfuddiol ydym; yr hyn a ddylasem ei wneuthur a wnaethom’.” A digwyddodd, wrth deithio i Gaersalem, iddo dramwy rhwng Samaria a Galilea. Ac wrth iddo fynd i mewn i ryw bentref, cyfarfu ag ef ddeg o wahangleifion, y rhai a safodd o bell; a hwy godasant eu llef, gan ddywedyd, “Iesu Feistr, trugarha wrthym.” Ac wedi iddo’u gweled, fe ddywedodd wrthynt, “Ewch, a dangoswch eich hunain i’r offeiriaid.” A phan oeddent ar y ffordd fe’u glanhawyd. A phan welodd ei fod wedi ei iacháu, fe ddychwelodd un ohonynt dan ogoneddu Duw â llef uchel, a syrthiodd ar ei wyneb wrth ei draed, a diolch iddo. A Samariad oedd hwnnw. Atebodd yr Iesu, a dywedyd, “Oni lanhawyd y deg? Ond ple mae’r naw? Oni chafwyd i ddychwelyd i roi gogoniant i Dduw neb oddieithr yr estron hwn?” A dywedodd wrtho, “Cyfod a dos ymaith; dy ffydd a’th iachaodd.” Pan ofynnwyd iddo gan y Phariseaid pa bryd yr oedd teyrnas Dduw yn dyfod, fe atebodd iddynt, “Nid yw teyrnas Dduw yn dyfod pan fo gwylio, ac ni ddywedant, ‘Wele yma!’ neu ‘Acw!’ Canys wele, o’ch mewn chwi y mae teyrnas Dduw.” A dywedodd wrth ei ddisgyblion, “Daw dyddiau pan fyddwch yn dyheu am weled un o ddyddiau Mab y dyn, ac nis gwelwch. A dywedant wrthych, ‘Dacw! Dyma!’ Nac ewch o’ch ffordd, nac erlid ar eu hôl. Canys fel y mae’r fellten wrth fflachio yn goleuo o’r naill gwr dan y nen i’r llall, felly y bydd Mab y dyn yn ei ddydd ef. Ond yn gyntaf rhaid iddo ddioddef llawer, ai wrthod gan y genhedlaeth hon. Ac fel y bu yn nyddiau Nöe, felly y bydd hefyd yn nyddiau Mab y dyn; yr oeddent yn bwyta, yn yfed, yn cymryd gwragedd, yn cymryd gwŷr, hyd y dydd yr aeth Noe i mewn i’r arch, a daeth y diluw a’u difetha hwynt oll. Yn gyffelyb i fel y bu yn nyddiau Lot; yr oeddent yn bwyta, yn yfed, yn prynu, yn gwerthu, yn plannu, yn adeiladu; a’r dydd yr aeth Lot allan o Sodom, glawiodd dân a brwmstan o’r nef a’u difetha hwynt oll. Felly y bydd yn y dydd y datguddir Mab y dyn. Yn y dydd hwnnw y neb a fyddo ar nen y tŷ, a’i ddodrefn yn y tŷ, na ddisgynned i’w cyrchu, a’r dyn yn y maes yr un modd, na ddychweled yn ei ôl. Cofiwch wraig Lot. Pwy bynnag a geisio gadw ei fywyd, a’i cyll, a phwy bynnag a’i collo, a’i ceidw’n fyw. Meddaf i chwi, y nos honno bydd dau mewn un gwely; y naill a gymerir, a’r llall a adewir. Bydd dwy yn malu gyda’i gilydd; y naill a gymerir, a’r llall a adewir.” Ac atebasant, a dywedyd wrtho, “Pa le, Arglwydd?” Dywedodd yntau wrthynt, “Lle bo’r corff, yno yr ymgasgl y fwlturiaid.” A llefarodd ddameg wrthynt ar fod rhaid iddynt weddïo’n wastad, a pheidio â llwfrhau. Dywedodd, “Yr oedd rhyw farnwr mewn rhyw ddinas, nad ofnai Dduw ac na pharchai ddyn. Ac yr oedd gweddw yn y ddinas honno, a hi ddeuai ato, gan ddywedyd, ‘Amddiffyn fi rhag fy ngwrthwynebwr.’ Ac ni fynnai ef dros amser, ond wedyn fe ddywedodd ynddo’i hun, ‘Er nad ofnaf Dduw ac na pharchaf ddyn chwaith, eto am fod y weddw hon yn peri blinder imi fe’i hamddiffynnaf hi, rhag iddi ddyfod o hyd a’m byddaru’.” A dywedodd yr Arglwydd, “Clywch beth a ddywed y barnwr anghyfiawn. Oni ddyry Duw amddiffyn i’w etholedigion sy’n llefain arno ddydd a nos, ac a oeda ef yn eu hachos? Dywedaf i chwi y dyry amddiffyn iddynt yn ebrwydd. Eithr Mab y dyn, pan ddêl, a gaiff ef ffydd ar y ddaear?” A dywedodd hefyd y ddameg hon am rai a oedd yn hyderus eu bod hwy yn gyfiawn, ac yn diystyru’r lleill. “Aeth dau ddyn i fyny i’r deml i weddïo, un yn Pharisead a’r llall yn drethwr. Safodd y Pharisead, a gweddïo fel hyn wrtho’i hun: ‘O Dduw, yr wyf yn diolch iti nad wyf fel y gweddill o ddynion, yn gribddeilwyr, yn anghyfiawn, yn odinebwyr, neu fel y trethwr hwn chwaith. Yr wyf yn ymprydio ddwywaith yr wythnos, yr wyf yn degymu cymaint oll ag a dderbyniaf.’ Ond safai’r trethwr o bell, ac ni fynnai hyd yn oed godi ei lygaid tua’r nef, ond curai ei ddwyfron, gan ddywedyd, ‘O Dduw, trugarha wrthyf i’r pechadur.’ Dywedaf i chwi, aeth hwn i lawr i’w dŷ wedi ei gyfiawnhau, yn hytrach na hwnacw. Canys pob un sy’n ei ddyrchafu ei hun a ostyngir, a’r hwn sy’n ei ostwng ei hun a ddyrchefir.” A dygent ato hefyd eu babanod, fel y cyffyrddai â hwynt; ac yr oedd y disgyblion, pan welsant, yn eu ceryddu hwynt. Ond galwodd yr Iesu hwynt ato, gan ddywedyd, “Gedwch i’r plant bach ddyfod ataf i, a pheidiwch â’u rhwystro; canys rhai fel hwy biau deyrnas Dduw. Yn wir meddaf i chwi, pwy bynnag ni dderbynio deyrnas Dduw fel plentyn bach, nid â byth i mewn iddi.” A gofynnodd rhyw lywodraethwr iddo, “Athro da, beth a wnaf i etifeddu bywyd tragwyddol?” Dywedodd yr Iesu wrtho, “Paham y gelwi fi’n dda? Nid da neb ond un — Duw. Gwyddost y gorchmynion. ‘Na odineba, Na ladd, Na ladrata, Na chamdystiolaetha, Anrhydedda dy dad a’th fam.’ ” Dywedodd yntau, “Y rhain oll a gedwais o’m hieuenctid.” A phan glywodd yr Iesu, dywedodd wrtho, “Y mae un peth eto’n eisiau i ti; gwerth bopeth sy gennyt, a rhanna i dlodion, a chei drysor yn y nefoedd; a thyred, dilyn fi.” Ac yntau, pan glywodd hyn, aeth yn athrist, canys yr oedd yn gyfoethog iawn. A phan welodd yr Iesu ef, fe ddywedodd, “Mor anodd yr â’r rhai ag arian ganddynt i mewn i deyrnas Dduw! Canys haws yw i gamel fynd trwy grau nodwydd nag i oludog fynd i mewn i deyrnas Dduw.” A dywedodd y rhai a glywodd, “Wel, pwy all gael ei gadw?” Dywedodd yntau, “Y pethau sydd amhosibl gyda dynion sy bosibl gyda Duw.” Dywedodd Pedr, “Dyma ni wedi gadael ein heiddo, a’th ddilyn di.” Dywedodd yntau wrthynt, “Yn wir meddaf i chwi, nid oes neb a adawodd dŷ neu wraig neu frodyr neu rieni neu blant er mwyn teyrnas Dduw, na dderbyn lawer gwaith cymaint yn yr amser hwn, ac yn yr oes sy’n dyfod fywyd tragwyddol.” Ac fe gymerth y deuddeg ato, a dywedodd wrthynt, “Dyma ni’n mynd i fyny i Gaersalem, a’r holl bethau a ysgrifennwyd trwy’r proffwydi a gyflawnir i Fab y dyn. Canys fe’i traddodir i’r cenhedloedd, a’i watwar a’i sarhau a phoeri arno, ac wedi ei ffrewyllu fe’i lladdant; a’r trydydd dydd fe atgyfyd.” Ac ni ddeallasant hwy ddim o’r pethau hyn, ac yr oedd y gair hwn yn guddiedig oddi wrthynt, ac ni wyddent am y pethau a ddywedid. A digwyddodd, pan oedd ef yn nesáu at Iericho, fod rhyw ddyn dall yn eistedd ar fin y ffordd yn cardota. A phan glywodd dyrfa’n mynd heibio, gofynnai beth oedd hyn; a mynegasant iddo fod Iesu o Nasareth yn mynd heibio. A llefodd, “Iesu, Fab Dafydd, tosturia wrthyf.” A’r rhai oedd ar y blaen a’i rhybuddiai ef i dewi; ond mwy o lawer y gwaeddai ef, “Fab Dafydd, tosturia wrthyf.” A safodd yr Iesu, a gorchymyn, ei ddwyn ef ato. Wedi iddo ddyfod yn agos, gofynnodd iddo, “Beth a fynni i mi ei wneuthur iti?” Dywedodd yntau, “Arglwydd, cael fy ngolwg.” A dywedodd yr Iesu wrtho, “Cymer dy olwg; dy ffydd a’th iachaodd.” Ac yn union cafodd ei olwg, ac aeth i’w ddilyn ef dan ogoneddu Duw. A’r holl bobl, pan welsant, rhoesant glod i Dduw. Ac aeth i mewn, ac yn ei flaen trwy Iericho. A dyma ŵr a elwid wrth yr enw Sacheus; yr oedd ef yn brif drethwr, ac yn gyfoethog. Ac yr oedd yn ceisio gweled p’run oedd yr Iesu, ac nis gallai o achos y dyrfa, canys bychan oedd o gorffolaeth. A rhedodd rhagddo yn ei flaen, a dringo sycamorwydden i gael ei weled, canys yr oedd ef i ddyfod y ffordd honno. A phan ddaeth hyd y fan, edrychodd yr Iesu i fyny, a dywedodd wrtho, “Sacheus, disgyn ar frys, canys heddiw rhaid imi aros yn dy dŷ.” A disgynnodd ar frys, a derbyniodd ef yn llawen. A phan welsant, dechreuodd pawb rwgnach, gan ddywedyd, “Aeth i mewn i letya gyda gŵr pechadurus.” A safodd Sacheus, a dywedodd wrth yr Arglwydd, “Dyma fi’n rhoddi hanner fy eiddo i’r tlodion, Arglwydd; ac os dygais ddim oddi ar neb drwy gamachwyn, dyma fi’n dychwelyd cymaint bedair gwaith.” A, dywedodd yr Iesu wrtho, “Heddiw daeth iachawdwriaeth i’r tŷ hwn, gan ei fod yntau’n fab i Abraham; canys daeth Mab y dyn i geisio ac i gadw ’r hyn a gollwyd.” A hwythau’n gwrando ar y pethau hyn, fe aeth rhagddo i ddywedyd dameg, am ei fod yn agos i Gaersalem a’u bod hwy’n tybied bod teyrnas Dduw i ymddangos yn y fan. Dywedodd, ynteu, “Aeth rhyw bendefig i wlad bell i gael brenhiniaeth iddo’i hun, ac i ddychwelyd. A galwodd ddeg o’i weision, a rhoddes iddynt ddeg punt, a dywedodd wrthynt, ‘Marchnatewch hyd oni ddelwyf.’ Ond yr oedd ei ddinaswyr yn ei gasáu, ac anfonasant genhadau ar ei ôl, gan ddywedyd, ‘Ni fynnwn ni i hwn ddyfod yn frenin arnom ni.’ Ac ar ôl iddo ddychwelyd wedi cael y frenhiniaeth, dywedodd am alw ato’r gweision hynny y rhoesai’r arian iddynt, fel y caffai wybod beth a elwasai pob un wrth farchnata. A daeth y cyntaf gan ddywedyd, ‘Arglwydd, enillodd dy bunt ddeg punt.’ A dywedodd wrtho, ‘Campus, was da! Am i ti fod yn ffyddlon mewn ychydig, boed gennyt awdurdod ar ddeg dinas.’ A daeth yr ail, gan ddywedyd, ‘Gwnaeth dy bunt, arglwydd, bum punt.’ A dywedodd wrtho yntau, ‘Bydd dithau dros bum dinas.’ A’r llall a ddaeth, gan ddywedyd, ‘Arglwydd, dyma dy bunt, a oedd gennyf wedi ei dodi mewn napcyn; yr oedd arnaf dy ofn di, am dy fod yn ŵr llym — yr wyt yn codi’r hyn ni osodaist i lawr, ac yn medi’r hyn ni heuaist.’ Eb ef wrtho, ‘O’th enau dy hun yr wyf yn dy farnu, was drwg; ti wyddit fy mod yn ŵr llym, yn codi’r hyn ni osodais i lawr ac yn medi’r hyn ni heuais. A phaham na roddaist fy arian mewn ariandy? A minnau, wedi dyfod, cawswn ef allan gyda llog.’ A dywedodd wrth y rhai a oedd yn sefyll gerllaw, ‘Cymerwch y bunt oddi arno, a rhowch i’r hwn sydd ganddo’r deg punt.’ A dywedasant wrtho, ‘Arglwydd, y mae ganddo ddeg punt.’ ‘Yr wyf yn dywedyd i chwi, i’r neb sydd ganddo y rhoddir, ond oddi ar yr hwn nid oes ganddo y cymerir hyd yn oed yr hyn sydd ganddo. Eithr am fy ngelynion, y rhai ni fynasent i mi ddyfod yn frenin arnynt, dygwch hwynt yma, a lleddwch hwynt ger fy mron’.” Ac wedi iddo ddywedyd y pethau hyn cychwynnodd yn ei flaen, gan fynd i fyny i Gaersalem. A phan nesaodd at Fethphage a Bethania ger y mynydd a elwir Olewydd, anfonodd ddau o’r disgyblion, gan ddywedyd, “Ewch i’r pentref gyferbyn, ac yno wrth fynd i mewn chwi gewch ebol yn rhwym, un nad eisteddodd neb dyn erioed arno, a gollyngwch a dygwch ef. Ac os gofyn neb i chwi, ‘Paham yr ydych yn ei ollwng?’ fel hyn y dywedwch, ‘Mae ar yr Arglwydd ei eisiau’.” Ac aeth y rhai a anfonwyd, a chawsant fel y dywedasai wrthynt. A phan oeddent yn gollwng yr ebol, dywedodd ei berchnogion wrthynt, “Paham y gollyngwch yr ebol?” Dywedasant hwythau, “Mae ar yr Arglwydd ei eisiau.” A dygasant ef at yr Iesu, ac wedi iddynt fwrw eu dillad ar yr ebol, dodasant yr Iesu arno. Ac fel yr oedd ef yn mynd, taenent eu dillad ar y ffordd. A phan oedd bellach yn nesáu, wrth y goriwaered o Fynydd yr Olewydd, dechreuodd yr holl liaws disgyblion glodfori Duw yn llawen â llef uchel am yr holl rymusterau a welsent, gan ddywedyd: “ Bendigedig yw’r un sy’n dyfod,Y Brenin, yn enw’r Arglwydd;Yn y nef tangnefedd A gogoniant yn y goruchafion.” A dywedodd rhai o’r Phariseaid o’r dyrfa wrtho, “Athro, cerydda dy ddisgyblion.” Ac atebodd yntau, “Yr wyf yn dywedyd i chwi, Os bydd y rhain yn ddistaw, gwaedda’r cerrig.” A phan nesaodd a gweled y ddinas, wylodd drosti, gan ddywedyd, “O na wybuasit tithau y dydd hwn y pethau a berthyn i heddwch! Ond yn awr fe’u cuddiwyd o’th olwg. Canys daw arnat ddyddiau pryd y cyfyd dy elynion glawdd i’th erbyn, ac y’th amgylchant, a gwarchae arnat o bobtu, a’th fwrw di i’r llawr a ’th blant o’th fewn, ac ni adawant ynot faen ar faen, am nad adnabuost amser dy ymweliad.” Ac wedi iddo fynd i mewn i’r deml, dechreuodd fwrw allan y gwerthwyr, gan ddywedyd wrthynt, “Y mae’n ysgrifenedig, A bydd fy nhŷ i yn dŷ gweddi, ond gwnaethoch chwi ef yn ogof lladron.” Ac yr oedd yn dysgu beunydd yn y deml; ond ceisiai’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion a’r gwŷr blaenaf o’r bobl ei ddifetha, a methent wybod beth i’w wneud, canys yr oedd yr holl bobl yn dal ar bob gair wrth wrando arno. A digwyddodd un diwrnod, ac ef yn ddysgu’r bobl yn y deml ac yn cyhoeddi’r newyddion da, daeth yr archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion, ynghyd â’r henuriaid, yn ei erbyn; a dywedasant wrtho, “Dywed i ni trwy ba awdurdod y gwnei di’r pethau hyn, neu pwy yw’r un a roes i ti’r awdurdod hwn.” Atebodd iddynt, “Mi ofynnaf innau air i chwithau, a dywedwch i mi: Bedydd Ioan, ai o’r nef yr oedd, ai o ddynion?” Ymresymasant hwythau â’i gilydd, gan ddywedyd, “Os dywedwn, ‘O’r nef’, fe ddywed yntau, ‘Paham nas credasoch?’ Ac os dywedwn ‘O ddynion,’ yr holl bobl a’n llabyddia ni, canys argyhoeddwyd hwy fod Ioan yn broffwyd.” Ac atebasant na wyddent o ba le. A dywedodd yr Iesu wrthynt, “Ac ni ddywedaf innau i chwithau trwy ba awdurdod y gwnaf y pethau hyn.” A dechreuodd ddywedyd y ddameg hon wrth y bobl. “ Plannodd dyn winllan, a gosododd hi i lafurwyr, ac aeth oddi cartref dros gryn amser. A phan oedd hi’n bryd anfonodd was at y llafurwyr, er mwyn iddynt roddi iddo o ffrwyth y winllan; a’i anfon ymaith a wnaeth y llafurwyr yn waglaw, ar ôl ei guro. Ac aeth ymlaen a gyrru gwas arall; hwnnw hefyd, wedi ei guro a’i amharchu, a anfonasant ymaith yn waglaw. Ac aeth ymlaen a gyrru trydydd; clwyfasant hwn hefyd, a’i fwrw allan. A dywedodd perchen y winllan, ‘Beth a wnaf? Gyrraf fy mab annwyl; efallai y parchant ef.’ A phan welsant ef, dechreuodd y llafurwyr ymresymu â’i gilydd, gan ddywedyd, ‘Hwn yw’r etifedd; lladdwn ef, fel y delo’r etifeddiaeth i ni.’ A bwriasant ef allan o’r winllan, a’i ladd. Beth, ynteu, a wna perchen y winllan iddynt? Fe ddaw, ac fe ddifetha’r llafurwyr hyn, a rhydd y winllan i eraill.” Pan glywsant, dywedasant, “Na ato Duw.” Edrychodd yntau arnynt, a dywedodd, “Beth, ynteu, yw hyn sy’n ysgrifenedig? Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, hwn a ddaeth yn ben y gongl. Pwy bynnag a syrthio ar y maen hwnnw, fe’i dryllir; ac ar bwy bynnag y syrthio, fe’i mâl ef.” A cheisiodd yr ysgrifenyddion a’r archoffeiriaid roi eu dwylo arno yr awr honno; ac ofnasant y bobl; canys deallasant mai amdanynt hwy y dywedasai’r ddameg hon. Ac wedi gwylied eu cyfle, anfonasant gynllwynwyr, yn cymryd arnynt eu bod yn gyfiawn, er mwyn ei ddal ef ar air, a’i draddodi i lywodraeth ac awdurdod y rhaglaw. A gofynasant iddo, “Athro, gwyddom mai cywir y lleferi ac y dysgi, ac nad wyt yn derbyn wyneb, ond dy fod yn dysgu ffordd Duw mewn didwylledd. A ddylem ni roi treth i Gesar ai peidio?” Ond sylwodd ar eu cyfrwystra, a dywedodd wrthynt, “Dangoswch imi swllt; delw ac argraff pwy sydd arno?” Dywedasant hwythau “Cesar.” Dywedodd yntau wrthynt, “Wel, ynteu, telwch bethau Cesar i Gesar, a phethau Duw i Dduw.” Ac ni allasant gymryd gafael yn ei air yng ngŵydd y bobl, a chan ryfeddu at ei ateb tawsant â sôn. A daeth ato rai o’r Sadwceaid, sy’n gwadu nad oes atgyfodiad, a gofynasant iddo, “Athro, ysgrifennodd Moses i ni, os bydd marw brawd neb, un a gwraig ganddo, a bod hwnnw heb blant, cymered ei frawd y wraig, a choded had i’w frawd. Yr oedd, ynteu, saith o frodyr; a’r cyntaf a gymerth wraig, a bu farw heb blant; a’r ail a’r trydydd a’i cymerth hi; a’r un modd y saith, ni adawsant blant, a buont farw. Wedyn bu’r wraig farw hefyd. Y wraig, ynteu, gwraig i ba un ohonynt fydd hi yn yr atgyfodiad? canys y saith a’i cafodd hi’n wraig.” A dywedodd yr Iesu wrthynt, “Plant yr oes hon a briodant ac a briodir, ond y rhai a gyfrifir yn deilwng i gael yr oes a ddaw a’r atgyfodiad o feirw, ni phriodant ac nis priodir; canys ni allant farw mwy, oblegid cydradd â’r angylion ydynt, ac y maent yn blant Duw am eu bod yn blant yr atgyfodiad. Ond bod y meirw yn cyfodi, Moses hefyd a’i hysbysodd, yn hanes y Berth, pan yw’n sôn am yr Arglwydd yn Dduw Abraham a Duw Isaac a Duw Iacob. Nid yw’n Dduw rhai meirw ond rhai byw. Canys y maent oll yn fyw iddo ef.” Atebodd rhai o’r ysgrifenyddion, “Athro, da y dywedaist”; canys ni feiddient mwyach ofyn dim iddo. A dywedodd wrthynt, “Pa fodd y dywedant fod y Crist yn fab Dafydd? Canys Dafydd ei hun a ddywed yn llyfr y Salmau, Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfainc i’th draed. Felly Dafydd a’i geilw ef yn Arglwydd, a pha fodd y mae’n fab iddo?” A’r holl bobl yn gwrando, dywedodd wrth y disgyblion, “Ymogelwch rhag yr ysgrifenyddion, sy’n chwenychu rhodio mewn gwisgoedd llaes ac yn caru cyfarchiadau yn y marchnadoedd a’r prif gadeiriau yn y synagogau a’r prif seddau yn y gwleddoedd; y rhai sy’n difa cartrefi gwragedd gweddwon, ac mewn rhith yn hir weddïo; caiff y rhai hyn drymach dedfryd.” A chododd ei lygaid, a gwelodd y cyfoethogion, a oedd yn cyfrannu eu rhoddion i’r drysorfa. A gwelodd ryw weddw dlawd yn cyfrannu yno ddwy hatling; a dywedodd, “Dywedaf wrthych yn wir, y weddw dlawd hon, mwy a gyfrannodd na phawb; canys y rhain oll, o’u gweddill y cyfranasant at y rhoddion; ond hon o’i phrinder a gyfrannodd y cwbl a oedd ganddi at ei byw.” A phan oedd rhai’n dywedyd am y deml, ei bod wedi ei haddurno â meini teg a rhoddion, fe ddywedodd, “Am y pethau hyn yr ydych yn edrych arnynt, fe ddaw dyddiau pryd na adewir maen ar faen heb ei ddymchwel.” Gofynasant iddo, “Athro, pa bryd, tybed, y bydd y pethau hyn, a beth fydd yr arwydd pan fo’r pethau hyn ar ddyfod?” Dywedodd yntau, “Edrychwch na’ch twyller chwi; canys llawer a ddaw ar bwys fy enw i, a dywedyd ‘Myfi yw’ â ‘Nesaodd yr amser’; nac ewch ar eu hôl. A phan glywoch am ryfeloedd a therfysgoedd, na ddychrynwch; canys rhaid i’r pethau hyn ddyfod yn gyntaf, eithr nid ar unwaith y daw’r diwedd.” Yna meddai wrthynt, “Cyfyd cenedl yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas, bydd daeargrynfâu mawrion a phlâu a newynau mewn amryw leoedd, bydd dychrynfeydd ac arwyddion mawrion o’r nef. Ond cyn y pethau hyn oll rhoddant eu dwylo arnoch, ac erlidiant chwi, gan eich traddodi i’r synagogau ac i garcharau, a’ch llusgo gerbron brenhinoedd a rhaglawiaid o achos fy enw i; fe dry i chwi yn dystiolaeth. Rhoddwch eich bryd, ynteu, ar beidio â pharatoi ymlaen llaw i’ch amddiffyn eich hunain; canys rhoddaf i i chwi leferydd, a doethineb na fedr eich gwrthwynebwyr ei gwrthsefyll na’i gwrthddywedyd. Bradychir chwi gan rieni a brodyr a cheraint a chyfeillion, a rhoddant rai ohonoch i farwolaeth, a byddwch gas gan bawb oherwydd fy enw i. Ac ni chollir un blewyn o’ch pen. Trwy eich dioddefgarwch bydd i chwi ennill eich eneidiau. Ond pan welwch amgylchu Caersalem gan fyddinoedd, y pryd hwnnw gwybyddwch fod ei difrod hi gerllaw. Yna ffoed y rhai a fydd yn Iwdea i’r mynyddoedd, ac aed y rhai a fydd ynddi hi allan, ac nac aed y rhai a fydd yn y wlad i mewn iddi, canys dyddiau dial yw’r rhain, i gyflawni’r cwbl sy’n ysgrifenedig. Gwae’r rhai beichiog a’r rhai a ro’r fron yn y dyddiau hynny! Canys bydd cyni mawr ar y wlad, a digofaint ar y bobl hyn; a syrthiant trwy fin cleddyf, a chaethgludir hwynt i’r holl genhedloedd, a bydd Caersalem yn fathredig gan genhedloedd, hyd oni chyflawner amserau’r cenhedloedd. A bydd arwyddion yn yr haul a’r lloer a’r sêr, ac ar y ddaear ing cenhedloedd mewn cyfyng-gyngor gan ruad môr a thonnau, dynion yn llewygu gan ofn a disgwyl y pethau sy’n dyfod ar y byd; canys nerthoedd y nefoedd a ysgydwir. A’r pryd hwnnw y gwelant Fab y dyn yn dyfod mewn cwmwl gyda gallu a gogoniant mawr. A phan ddechreuo’r pethau hyn ddyfod, ymsythwch a chodwch eich pennau, am fod eich ymwared yn nesáu.” A dywedodd ddameg wrthynt, “Edrychwch ar y ffigysbren, a’r holl brennau; pan fwriant weithian ddail, chwi welwch a gwyddoch ohonoch eich hunain fod yr haf bellach yn agos. Felly chwithau, pan weloch y pethau hyn yn digwydd, gwybyddwch fod teyrnas Dduw yn agos. Yn wir meddaf i chwi, nid â’r genhedlaeth hon ddim heibio hyd oni ddigwyddo’r cwbl oll. Y nef a’r ddaear ânt heibio, ond fy ngeiriau i nid ânt heibio ddim. Ymogelwch rhag un amser i’ch calonnau gael eu llethu gan syrffed a meddwdod a gofalon bywyd, ac i’r dydd hwnnw ddyfod arnoch yn ddisymwth fel magl; canys fe ddaw ar warthaf pawb sy’n trigo ar wyneb yr holl ddaear. Byddwch effro, gan weddïo bob amser am gael nerth i ddianc rhag y pethau hyn oll sydd i ddigwydd, ac i sefyll gerbron Mab y dyn.” Ac yr oedd yn dysgu yn y deml bob dydd, a phob nos âi allan a’i threulio ar y mynydd a elwir Olewydd. A’r holl bobl a gyrchai ato yn fore i’w glywed yn y deml. Yr oedd gŵyl y bara croyw, a elwir Pasg, yn nesau. A cheisiai’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion ffordd i’w ladd, canys yr oedd arnynt ofn y bobl. Ac aeth Satan i mewn i Iwdas, a elwid Iscariot, a oedd o nifer y deuddeg; ac aeth ymaith, ac ymgynghori â’r archoffeiriaid a’r penaethiaid am y ffordd i’w draddodi ef iddynt. A bu lawen ganddynt, a chytunasant ag ef i roi arian iddo. A chydsyniodd, a cheisiai gyfle i’w draddodi iddynt heb fod tyrfa. A daeth dydd y bara croyw, pryd yr oedd rhaid lladd oen y pasg. Ac anfonodd Bedr ac Ioan, gan ddywedyd, “Ewch a pharatowch i ni’r pasg i’w fwyta.” Dywedasant hwythau wrtho, “Pa le y mynni i ni ei baratoi?” Dywedodd yntau wrthynt, “Wele, wedi i chwi fynd i mewn i’r ddinas, fe gyferfydd â chwi ddyn yn dwyn ystên o ddŵr; dilynwch ef i’r tŷ yr â i mewn iddo. A chwi ddywedwch wrth ŵr y tŷ, ‘Y mae’r Athro yn dywedyd wrthyt, P’le mae’r llety lle caf fwyta’r pasg gyda’m disgyblion?’ A dengys hwnnw i chwi lofft fawr wedi ei threfnu; yno paratowch.” Ac aethant ymaith, a chawsant fel y dywedasai wrthynt, a pharatoesant y pasg. A phan ddaeth yr awr, eisteddodd wrth y bwrdd, a’r apostolion gydag ef. A dywedodd wrthynt, “Mawr y chwenychais fwyta’r pasg hwn gyda chwi cyn dioddef ohonof. Canys yr wyf yn dywedyd i chwi nas bwytâf ef ddim eto hyd onis cyflawner ef yn nheyrnas Dduw.” A chafodd gwpan, ac wedi diolch fe ddywedodd, “Cymerwch hwn, a rhennwch yn eich plith; canys yr wyf yn dywedyd i chwi, nid yfaf o hyn allan o ffrwyth y winwydden hyd oni ddêl teyrnas Dduw.” A chymerth fara, ac wedi diolch torrodd ef a’i roddi iddynt, gan ddywedyd, “Hwn yw fy nghorff [yr ydys yn ei roi drosoch chwi; gwnewch hyn er cof amdanaf i.” A’r cwpan yr un modd wedi swper, gan ddywedyd, “Y cwpan hwn, y cyfamod newydd ydyw yn fy ngwaed, yr ydys yn ei dywallt drosoch chwi.] Eithr dyma law fy mradychwr gyda mi ar y bwrdd. Canys Mab y dyn yn wir sy’n myned yn ôl a benderfynwyd; eithr gwae’r dyn hwnnw y bradychir ef trwyddo.” A dechreuasant ymholi yn eu plith eu hunain pwy ohonynt tybed oedd yr un a oedd ar fedr gwneuthur hyn. A bu ymryson hefyd yn eu plith pwy ohonynt a gyfrifid ei fod yn fwyaf. Dywedodd yntau wrthynt, “Y mae brenhinoedd y cenhedloedd yn arglwyddiaethu arnynt, a gelwir y rhai sy’n awdurdodi arnynt yn gymwynaswyr. Nid felly chwychwi; ond bydded y mwyaf yn eich plith megis yr ieuangaf, a’r arweinydd megis y gwas. Canys pwy sydd fwyaf, yr un sydd wrth y bwrdd ai’r un sy’n gweini? Onid yr un sydd wrth y bwrdd? Ond yr wyf i yn eich mysg chwi fel yr un sy’n gweini. Chwi yw’r rhai sydd wedi aros gyda mi yn fy mhrofedigaethau; ac megis y trefnodd fy Nhad i mi deyrnas, yr wyf innau yn trefnu i chwi gael bwyta ac yfed wrth fy mwrdd yn fy nheyrnas, a chael eistedd ar orseddau a barnu deuddeg llwyth yr Israel. Simon, Simon, wele fe’ch mynnodd Satan chwi i’ch nithio fel gwenith; ond gweddïais i drosot ti na fethai dy ffydd di. A thithau, wedi iti droi, cynnal dy frodyr.” Dywedodd yntau wrtho, “Arglwydd, gyda thi parod wyf i fynd i garchar ac i farwolaeth.” Dywedodd yntau, “Meddaf i ti, Pedr, ni chân y ceiliog heddiw nes i ti wadu deirgwaith dy fod yn f’adnabod.” A dywedodd wrthynt, “Pan anfonais chwi heb bwrs na chod nac esgidiau, a fu arnoch eisiau dim?” Dywedasant hwythau, “Naddo ddim.” Dywedodd wrthynt, “Ond yn awr yr hwn sydd ganddo bwrs, cymered ef, a’r un modd god hefyd; a’r hwn sydd heb yr un, gwerthed ei fantell a phryned gleddyf. Canys yr wyf yn dywedyd i chwi fod yn rhaid cyflawni’r ysgrythur hon ynof i: A chyda throseddwyr y cyfrifwyd ef. Oes, y mae cyflawniad i’r gair amdanaf i.” Dywedasant hwythau, “Arglwydd, dyma ddau gleddyf.” Dywedodd yntau wrthynt, “Digon yw.” Ac aeth allan, a myned yn ôl ei arfer i Fynydd yr Olewydd; a dilynodd ei ddisgyblion ef. Ac wedi dyfod i’r fan, fe ddywedodd wrthynt, “Gweddïwch nad eloch i demtasiwn.” Ac ymneilltuodd ef oddi wrthynt tuag ergyd carreg, ac wedi penlinio gweddïai gan ddywedyd, “Dad, os mynni, tro heibio’r cwpan hwn oddi wrthyf; eithr nid fy ewyllys i a wneler, ond yr eiddot ti.” [Ac ymddangosodd iddo angel o’r nef, yn ei nerthu. Ac aeth yn gyfyng arno, a gweddïai’n ddyfalach; ac yr oedd ei chwys fel dafnau gwaed yn disgyn ar y ddaear.] Ac wedi iddo godi o’i weddi, aeth at y disgyblion, a chafodd hwynt yn cysgu gan dristwch; a dywedodd wrthynt, “Paham y cysgwch? Codwch a gweddïwch nad eloch i demtasiwn.” Ac ef eto’n llefaru dyma dyrfa, a’r hwn a elwid Iwdas, un o’r deuddeg, oedd yn eu harwain, a dynesodd at yr Iesu i’w gusanu. A dywedodd Iesu wrtho, “Iwdas, ai â chusan yr wyt yn bradychu Mab y dyn?” A phan welodd y rhai o’i gylch y peth oedd ar ddyfod, dywedasant, “Arglwydd, a ydym i daro â chleddyf?” A thrawodd rhyw un ohonynt was yr archoffeiriad, a thorri ymaith ei glust ddehau. Atebodd yr Iesu, “Caniatewch gymaint â hyn”; a chyffyrddodd â’i glust, ac iachaodd ef. A dywedodd Iesu wrth y rhai a ddaethai yn ei erbyn, yr archoffeiriaid a phenaethiaid y deml a’r henuriaid, “Ai megis yn erbyn lleidr y daethoch allan, gyda chleddyfau a phastynau? A mi beunydd gyda chwi yn y deml, nid estynasoch eich dwylo yn fy erbyn; ond hon yw eich awr chwi, a’r tywyllwch sydd mewn awdurdod.” Ac wedi ei ddal, aethant ag ef ai ddwyn i mewn i dŷ’r archoffeiriad. Yr oedd Pedr yn dilyn o bell. A chyneuodd rhai dân yn y cyntedd ac eistedd gyda’i, gilydd, ac eisteddai Pedr yn eu plith. A phan welodd rhyw forwyn ef yn eistedd yn y golau, craffodd arno, a dywedodd, “Yr oedd hwn hefyd gydag ef.” Gwadodd yntau, gan ddywedyd, “Nis adwaen ef, wraig.” Ac ymhen ychydig un arall a’i gwelodd, ac eb ef, “Yr wyt tithau yn un ohonynt.” Ebe Pedr, “Nac ydwyf, ddyn.” Ac ar ôl tuag awr o ysbaid, rhywun arall a ddechreuodd daeru, gan ddywedyd, “Ar fy ngwir, yr oedd hwn gydag ef; achos Galilead yw.” Dywedodd Pedr, “Ddyn, ni wn i beth yr wyt yn ei ddywedyd.” Ac ar unwaith, ac ef eto’n llefaru, canodd y ceiliog. A throes yr Arglwydd, ac edrychodd ar Bedr; a chofiodd Pedr air yr Arglwydd, ddywedyd ohono wrtho, “Cyn canu o’r ceiliog heddiw, ti a’m gwedi deirgwaith.” Ac aeth allan, ac wylodd yn chwerw. A’r gwŷr a oedd yn ei ddal ef a’i gwatwarai a’i guro; ac wedi ei fygydu holent ef, gan ddywedyd, “Proffwyda! Pwy yw’r un a’th drawodd?” A llawer o gableddau eraill a lefarent yn ei erbyn. A phan aeth hi yn ddydd, ymgynullodd henuriaid y bobl, archoffeiriaid ac ysgrifenyddion, a dygasant ef gerbron eu cyfarfod, gan ddywedyd, “Os y Crist ydwyt ti, dywed i ni.” A dywedodd wrthynt, “Os dywedaf i chwi, ni chredwch; ac os gofynnaf gwestiwn, nid atebwch. Ond o hyn allan bydd Mab y dyn yn eistedd ar ddeheulaw gallu Duw.” A dywedasant oll, “Mab Duw ynteu, ydwyt ti?” Ebe yntau wrthynt, “Dywedwch chwi fy mod.” Dywedasant hwythau, “Pa raid i ni mwy wrth dystiolaeth? Canys clywsom ein hunain o’i enau ef.” A chodasant yn un dyrfa, a dygasant ef gerbron Pilat. A dechreuasant ei gyhuddo, gan ddywedyd, “Hwn a gawsom yn gŵyrdroi ein cenedl, ac yn gwahardd talu trethi i Gesar, ac yn dywedyd mai ef ei hun yw Crist frenin.” Gofynnodd Pilat iddo, “Ai ti yw Brenin yr Iddewon?” Ebe yntau, yn ateb iddo, “Yr wyt ti’n dywedyd.” A dywedodd Pilat wrth yr archoffeiriaid a’r tyrfaoedd, “Nid wyf yn cael dim achos yn y dyn hwn.” Ond taeru a wnaent hwythau, gan ddywedyd, “Y mae’n cynhyrfu’r bobl wrth eu dysgu trwy holl Iwdea, ar ôl dechrau yn Galilea, hyd at yma.” Pan glybu Pilat, gofynodd ai Galilead oedd y dyn, ac wedi deall mai o dan awdurdod Herod yr ydoedd, trosglwyddodd ef at Herod, a oedd yntau yng Nghaersalem y dyddiau hynny. Bu dda dros ben gan Herod weled yr Iesu; canys yr oedd yn dymuno ers cryn amser ei weled am iddo glywed amdano, a gobeithiai weled gwneuthur rhyw arwydd ganddo. A bu’n ei holi mewn hir ymddiddan; ond nid atebodd ef ddim iddo. A safai’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion, a’i gyhuddo â’u holl egni. A’i ddiystyru a wnaeth Herod a’i osgorddion, ac wedi ei watwar a rhoi gwisg wych amdano, anfonodd ef yn ôl at Bilat. Ac aeth Herod a Philat yn gyfeillion y diwrnod hwnnw; gynt buasai cas rhyngddynt. A galwodd Pilat yr archoffeiriaid a’r penaethiaid a’r bobl ynghyd, a dywedodd wrthynt, “Dygasoch ataf y dyn hwn am ei fod yn gŵyrdroi’r bobl, a dyma fi wedi ei brofi yn eich gŵydd chwi, ac ni chefais yn y dyn hwn ddim achos i’r cyhuddiadau a ddygwch yn ei erbyn. Na, na Herod chwaith, canys anfonodd ef yn ôl atom ni. Wele, nid oes dim sy’n haeddu marwolaeth wedi ei wneuthur ganddo ef; felly cosbaf ef, a’i ollwng ymaith.” Ond gweiddi a wnaent gyda’i gilydd oll, “Ymaith â hwn, gollwng Barabbas i ni.” (Yr oedd hwnnw wedi ei fwrw i’r carchar oherwydd rhyw derfysg a fu yn y ddinas, a llofruddiaeth.) Drachefn anerchodd Pilat hwynt, gan ddymuno gollwng yr Iesu. Ond llefent llwythau arno, gan ddywedyd, “Croeshoelia, croeshoelia ef.” Dywedodd yntau wrthynt y drydedd waith, “Pa ddrwg, ynteu, a wnaeth ef? Ni chefais ddim achos marwolaeth ynddo; felly cosbaf ef, a’i ollwng ymaith.” Ond pwysent hwythau arno â llefau uchel, gan ddeisyf am ei groeshoelio; a’u llefau a orfu. A dyfarnodd Pilat iddynt gael eu deisyfiad; gollyngodd yr un a fwriesid i garchar am derfysg a llofruddiaeth, yr un y gofynnent amdano, ond yr Iesu a draddododd i’w hewyllys hwy. A phan ddygasant ef ymaith, daliasant ryw Simon o Gyrene ar ei ffordd o’r wlad, a dodasant y groes arno, i’w dwyn ar ôl yr Iesu. Ac yn ei ddilyn yr oedd lliaws mawr o’r bobl, ac o wragedd a oedd yn ymguro ac yn galaru amdano. Troes Iesu atynt, a dywedodd, “Ferched Caersalem, peidiwch ag wylo amdanaf fi; eithr wylwch amdanoch eich hunain ac am eich plant. Canys wele, daw dyddiau pryd y dywedant, ‘Gwyn eu byd yr amhlantadwy a’r crothau nid esgorasant a bronnau ni roesant sugn.’ Yna dechreuant ddywedyd wrth y mynyddoedd, ‘Syrthiwch arnom,’ ac wrth y bryniau, ‘Cuddiwch ni.’ Canys os gwnânt y pethau hyn yn y pren ir, pa beth a wneir yn y pren crin?” Dygid hefyd droseddwyr eraill, ddau ohonynt, gydag ef i’w dienyddio. A phan ddaethant at y lle a elwir Penglog, yno croeshoeliasant ef a’r troseddwyr, y naill o’r tu dehau a’r llall o’r tu aswy. Ac meddai’r Iesu, “Dad, maddau iddynt; canys ni wyddant beth a wnânt.” A chan rannu ei ddillad, bwriasant goelbrennau. A safai’r bobl yn edrych. A gwawdiai’r penaethiaid hefyd, gan, ddywedyd, “Eraill a achubodd; achubed ef ei hun, os ef yw Crist Duw, yr etholedig.” A gwatwarodd y milwyr ef hefyd gan nesau a chynnig surwin iddo, a dywedyd, “Os Brenin yr Iddewon wyt ti, achub dy hun.” Yr oedd ysgrifen hefyd uwch ei ben — HWN YW BRENIN YR IDDEWON. Ac un o’r troseddwyr, a grogasid a’i cablai, “Onid ti yw’r Crist? Achub dy hun a ninnau.” Ond atebodd y llall, a’i geryddu; “Onid wyt ti,” eb ef, “yn ofni Duw, gan dy fod dithau dan yr un farnedigaeth? A ninnau’n gyfiawn felly, canys ein haeddiant a dderbyniwn am a wnaethom; Ond hwn ni wnaeth ddim allan o’i le.” Ac meddai, “Iesu, cofia fi pan ddelych i’th deyrnas.” Dywedodd yntau wrtho, “Yn wir meddaf i ti, heddiw byddi gyda mi ym Mharadwys.” Ac yr oedd erbyn hyn tua’r chweched awr; a bu tywyllwch dros yr holl ddaear hyd y nawfed awr, a’r haul wedi diffygio; a rhwygwyd llen y deml yn ei chanol. A llefodd yr Iesu â llef uchel a dywedodd, “Dad, i’th ddwylo di yr wyf yn ymddiried fy ysbryd.” Ac wedi dywedyd hynny, bu farw. A phan welodd y canwriad y peth a fu, dechreuodd ogoneddu Duw, gan ddywedyd, “Yn wir, yr oedd y dyn hwn yn gyfiawn.” A’r holl dyrfaoedd a ddaethai ynghyd i’r olygfa hon, wedi edrych ar y pethau a fu, a droesant yn eu hôl dan guro dwyfron. Ond yr oedd ei gydnabod oll, a’r gwragedd a’i canlynasai ef o Galilea, yn sefyll o bell, ac yn gweled y pethau hyn. A dyma ŵr a’i enw Ioseff, a oedd yn gynghorwr, gŵr da a chyfiawn, — nid oedd hwn wedi cydsynio â’u cyngor ac â’u gweithred hwynt, — o Arimathea, dinas yr Iddewon, un oedd yn disgwyl teyrnas Dduw. Daeth hwn at Bilat, a gofynnodd am gorff yr Iesu; ac wedi iddo’i dynnu i lawr fe droes lenlliain amdano, a dododd ef mewn bedd naddedig o’r graig, lle nid oedd neb erioed wedi ei gladdu. A dydd y Darpar oedd, a’r Sabbath oedd yn nesáu. A chanlynodd y gwragedd, a ddaethai gydag ef o Galilea, ac edrych ar y bedd a’r modd y dodwyd ei gorff; a dychwelasant, a pharatoi peraroglau ac eneiniau. A’r Sabbath gorffwysasant yn ôl y gorchymyn, ond ar y dydd cyntaf o’r wythnos, a’r wawr ar dorri, daethant at y bedd gan ddwyn y peraroglau a baratoesent. A chawsant y maen wedi ei dreiglo ymaith oddi wrth y bedd, ac aethant i mewn, ac ni chawsant gorff yr Arglwydd Iesu. A digwyddodd, pan oeddynt mewn penbleth ynghylch hyn, dyma ddau ŵr yn sefyll gerllaw iddynt mewn gwisg lachar. Ac a hwythau wedi brawychu ac yn gostwng eu hwynebau tua’r ddaear, dywedasant wrthynt, “Paham yr ydych yn ceisio’r byw ymysg y meirw? Nid yw yma, ond cyfododd. Cofiwch fel y llefarodd wrthych, pan oedd eto yng Ngalilea, gan ddywedyd am Fab y dyn fod yn rhaid ei draddodi i ddwylo dynion pechadurus, a’i groeshoelio, a’r trydydd dydd atgyfodi.” A chofiasant ei eiriau, ac wedi troi’n ôl oddi wrth y bedd mynegasant y pethau hyn oll i’r un ar ddeg ac i’r lleill i gyd. Mair Magdalen a Ioana a Mair mam Iago oeddent; a’r lleill hefyd gyda hwynt oedd yn dywedyd y pethau hyn wrth yr apostolion. Ac yn eu golwg hwy ymddangosai’r geiriau hyn megis lol, ac nis credent. [Ond cododd Pedr, a rhedodd at y bedd; ac wedi ysbïo i mewn, fe wêl y rhwymynnau yn unig; ac aeth ymaith adref gan ryfeddu at yr hyn a fu.] Ac wele yr oedd dau ohonynt yr un diwrnod ar eu ffordd i bentref a oedd saith milltir o Gaersalem, a’i enw Emmäws, ac yr oeddent hwy’n ymddiddan â’i gilydd am yr holl bethau hyn a oedd wedi digwydd. Ac wrth eu bod yn ymddiddan ac yn ymofyn â’i gilydd, dyma Iesu ei hun yn dynesu ac yn cydgerdded â hwynt; ond ataliwyd eu llygaid hwynt rhag ei adnabod. A dywedodd wrthynt, “Beth yw’r chwedlau hyn yr ydych yn eu bwrw at eich gilydd wrth gerdded?” A safasant yn drist eu hwynebau. Ac atebodd un, o’r enw Gleopas, a dywedyd wrtho, “Ai ti yw’r unig ymwelydd yng Nghaersalem sydd heb wybod y pethau a ddigwyddodd ynddi hi yn y dyddiau hyn?” A dywedodd wrthynt, “Pa bethau?” Dywedasant hwythau wrtho, “Y pethau am Iesu o Nasareth, a fu’n ŵr o broffwyd, nerthol mewn gweithred a gair yng ngolwg Duw a’r holl bobl, y modd y traddododd yr archoffeiriaid a’n penaethiaid ni ef i farn marwolaeth, ac y croeshoeliasant ef. Ond yr oeddem ni’n gobeithio mai ef oedd yr un a waredai’r Israel. Ac ar ben hyn oll, dyma’r trydydd dydd er pan fu hyn. A hefyd fe’n syfrdanwyd gan rai gwragedd o’n mysg; wedi iddynt fod yn fore wrth y bedd, a heb gael ei gorff, daethant a dywedyd iddynt weled gweledigaeth o angylion, a ddywedent ei fod ef yn fyw. Ac aeth rhai o’r cyfeillion at y bedd, a chawsant yn union fel y dywedodd y gwragedd, ond ef nis gwelsant.” Ac meddai yntau wrthynt, “O ddynion ynfyd a hwyrfrydig o galon i gredu pob peth a lefarodd y proffwydi! Onid oedd yn rhaid i’r Crist ddioddef y pethau hyn, ac yna fynd i mewn i’w ogoniant?” A chan ddechrau o Foses a’r holl broffwydi, dehonglodd iddynt yn yr holl ysgrythurau y pethau amdano ef ei hun. A daethant yn agos i’r pentref lle’r oeddent yn mynd, a chymerth ef arno ei fod yn mynd ymhellach. A gorfodasant ef, gan ddywedyd, “Aros gyda ni; achos y mae’n mynd yn hwyr, a’r dydd sy bellach wedi pallu.” Ac aeth i mewn i aros gyda hwynt. Ac wedi iddo eistedd gyda hwynt, cymerodd y bara, a’i fendithio, a’i dorri a’i roddi iddynt. Ac agorwyd eu llygaid hwy a daethant i’w adnabod; a diflannodd yntau o’u golwg. A dywedasant wrth ei gilydd, “Onid oedd ein calon yn llosgi ynom, pan oedd yn llefaru wrthym ar y ffordd, pan oedd yn agor yr ysgrythurau inni?” A chodasant yr awr honno, a dychwelyd i Gaersalem; a chawsant yr un ar ddeg a’u cyfeillion wedi ymgynnull, yn dywedyd, “Yn wir, cyfododd yr Arglwydd, a gwelwyd ef gan Simon,” Ac adroddasant hwythau beth a fu ar y ffordd, a’r modd yr adnabuwyd ef ganddynt wrth doriad y bara. A hwy’n siarad am y pethau hyn, safodd yntau yn eu mysg, [ac medd ef wrthynt, “Tangnefedd i chwi.”] A dychrynu a brawychu a wnaethant, a thybied mai ysbryd a welent. A dywedodd wrthynt, “Paham yr ydych wedi cyffroi, a phaham y cyfyd meddyliau yn eich calon? Gwelwch fy nwylo a’m traed, mai myfi fy hun ydyw; teimlwch fi a gwelwch, canys nid oes gan ysbryd gnawd ac esgyrn, fel y gwelwch fod gennyf i.” [Ac wedi dywedyd hyn, dangosodd iddynt ei ddwylo a’i draed.] Ac a hwy eto’n methu â chredu gan lawenydd, ac yn rhyfeddu, fe ddywedodd wrthynt, “Oes gennych chwi fwyd yma?” Rhoesant hwythau iddo ddarn o bysgodyn wedi ei grasu; ac fe’i cymerth, a’i fwyta yn eu gŵydd hwynt. A dywedodd wrthynt, “Hyn oedd ystyr fy ngeiriau a leferais wrthych pan oeddwn eto gyda chwi, fod yn rhaid cyflawni popeth a ysgrifennwyd yng nghyfraith Moses a’r proffwydi a’r salmau amdanaf i.” Yna agorodd eu meddwl i ddeall yr ysgrythurau. A dywedodd wrthynt, “Felly y mae’n ysgrifenedig fod i’r Crist ddioddef ac atgyfodi o feirw’r trydydd dydd, a bod cyhoeddi yn ei enw ef edifeirwch er maddeuant pechodau i’r holl genhedloedd — gan ddechrau o Gaersalem. Chwychwi fydd dystion o’r pethau hyn. Ac wele fi’n anfon allan addewid fy Nhad atoch; chwithau, arhoswch yn y ddinas hyd oni’ch gwisger oddi uchod â nerth.” Ac fe’u dug hwynt allan hyd yn ymyl Bethania, a chododd ei ddwylo, a’u bendithio hwynt. A phan oedd yn eu bendithio, ymwahanodd oddi wrthynt [ac esgyn i’r nef]. A dychwelasant hwythau [wedi iddynt ei addoli] i Gaersalem gyda llawenydd mawr, ac yr oeddent yn wastad yn y deml, yn bendithio Duw. Yn y dechreu yr oedd y gair, a’r gair oedd gyda Duw, a Duw oedd y gair. Yr oedd hwn yn y dechreu gyda Duw. Trwyddo ef y daeth popeth, a hebddo ef ni ddaeth unpeth a’r a ddaeth. Ynddo ef yr oedd bywyd, a’r bywyd oedd oleuni dynion. A’r goleuni a lewyrcha yn y tywyllwch, a’r tywyllwch ni orfu arno. Daeth dyn wedi ei anfon oddiwrth Dduw, a’i enw Ioan. Daeth hwn er tystiolaeth, i dystio am y goleuni, er mwyn i bawb gredu drwyddo. Nid hwnnw oedd y goleuni, ond er mwyn iddo dystio am y goleuni. Yr oedd y gwir oleuni, sydd yn goleuo pob dyn, yn dyfod i’r byd. Yn y byd yr oedd, a gwnaed y byd trwyddo ef, a’r byd nis adnabu ef. At ei eiddo’i hun y daeth, a’i bobl ef ei hunan nis derbyniasant ef atynt. Ond cynifer ag a’i derbyniodd, rhoes iddynt hwy allu i ddyfod yn blant Duw, i’r rhai sy’n credu yn ei enw ef, y rhai a aned nid o waed nac o ewyllys cnawd nac o ewyllys gŵr, ond o Dduw. A daeth y gair yn gnawd, a phreswyliodd yn ein plith, a gwelsom ei ogoniant ef, gogoniant megis gogoniant yr uniganedig oddiwrth y tad, yn llawn gras a gwirionedd. Y mae Ioan yn tystio amdano, a gwaeddodd gan ddywedyd: “Dyma’r hwn y dywedais amdano. Yr hwn sy’n dyfod ar fy ôl i, yr oedd ef o’m blaen i, am ei fod yn gynt na mi;” canys o’i gyfiawnder ef y derbyniasom ni oll, a gras at ras; canys y gyfraith, drwy Foesen y rhoddwyd hi, — y gras a’r gwirionedd, drwy Iesu Grist y daethant. Ni welodd neb Dduw erioed. Yr uniganedig Dduw, sydd ym mynwes y tad, hwnnw a’i heglurodd ef. A hon yw tystiolaeth Ioan, pan ddanfonodd yr Iddewon ato o Gaersalem offeiriaid a Lefiaid i’w holi, “Pwy wyt ti?” Ac addefodd ac ni wadodd, ac addefodd, “Nid myfi yw’r Eneiniog.” A gofynasant iddo: “Beth ynteu? Ai Elïas wyt ti?” A dywedodd: “Nage.” “Ai’r proffwyd wyt ti?” Ac atebodd: “Nage.” Meddent hwythau wrtho: “Pwy wyt ti? — er mwyn i ni roddi ateb i’r rhai a’n danfonodd; beth a ddywedi di amdanat dy hun?” Medd yntau: “Myfi, — llais un yn gweiddi yn yr anialwch, ‘Unionwch ffordd yr Arglwydd,’ fel y dywedodd y proffwyd Eseia.” Ac anfonasid rhai o blith y Phariseaid, a holasant ef a dywedasant wrtho: “Paham ynteu yr wyt yn bedyddio onid yr Eneiniog ydwyt nac Elïas na’r proffwyd?” Atebodd Ioan iddynt, a dywedodd: “Yr wyf i ’n bedyddio mewn dwfr. Yn eich canol y mae un yn sefyll nad adwaenoch chwi, — yr hwn sy’n dyfod ar f’ôl i, — nad wyf i deilwng i ddatod carrai ei esgid.” Hyn a fu ym Methania, dros Iorddonen, lle yr oedd Ioan yn bedyddio. Trannoeth y mae’n gweled yr Iesu ’n dyfod tuag ato, a dywed: “Dyma oen Duw sy’n tynnu ymaith bechod y byd. Hwn yw’r un y dywedais amdano; ‘Ar f’ôl i y mae gŵr yn dyfod a oedd o’m blaen i, am ei fod yn gynt na mi.’ A minnau, nis adwaenwn, ond er mwyn ei amlygu i’r Israel, am hynny y deuthum i gan fedyddio mewn dwfr.” A thystiodd Ioan, a dywedodd: “Gwelais yr ysbryd yn disgyn fel colomen o’r nefoedd, ac arhosodd arno ef. A minnau, nis adwaenwn ef, ond yr hwn a’m hanfonodd i fedyddio mewn dwfr, dywedodd hwnnw wrthyf: ‘Y neb y gwelych yr ysbryd yn disgyn ac yn aros arno, hwnnw yw’r un sy’n bedyddio ag ysbryd glân.’ Ac yr wyf innau wedi ei weled, ac wedi tystio mai hwn yw mab Duw.” Trannoeth drachefn safai Ioan a dau o’i ddisgyblion, ac wedi syllu ar yr Iesu’n rhodio o amgylch, dywed: “Dyma oen Duw.” A chlywodd ei ddau ddisgybl ef yn dywedyd a chanlynasant yr Iesu. Troes yr Iesu, ac wrth eu gweled yn canlyn, dywed wrthynt; “Beth yr ydych yn ei geisio?” Meddent hwythau: “Rabbi (yr hyn a alwn ni, o’i gyfieithu, yn Athro), ym mha le yr wyt ti’n aros?” Medd ef wrthynt: “Deuwch a gwelwch.” Felly aethant a gwelsant ym mha le yr oedd yn aros, ac arosasant gydag ef y diwrnod hwnnw; tua’r ddegfed awr ydoedd hi. Yr oedd Andreas brawd Simon Pedr yn un o’r ddau a glywodd gan Ioan, ac a’i canlynodd ef. Y mae hwn yn cael yn gyntaf ei frawd ei hun, Simon, ac yn dywedyd wrtho: “Cawsom y Meseia” (yr hyn o’i gyfieithu yw Eneiniog). Daeth ag ef at yr Iesu. Wedi edrych arno dywedodd yr Iesu: “Simon fab Ioan wyt ti; Ceffas fydd dy enw,” (yr hyn a gyfieithir yn Garreg). Trannoeth yr oedd yn ei fryd fyned allan i Galilea, ac y mae’n cael Phylip. Ac medd yr Iesu wrtho: “Dilyn fi”; ac o Fethsaida yr oedd Phylip, o dref Andreas a Phedr. Y mae Phylip yn cael Nathanael ac yn dywedyd wrtho: “Yr hwn yr ysgrifennodd Moesen yn y gyfraith amdano, a’r proffwydi, — yr ydym ni wedi ei gael, Iesu fab Ioseff, o Nasareth.” Ac meddai Nathanael wrtho: “A all dim da fod o Nasareth?” Medd Phylip wrtho: “Tyrd a gwêl.” Gwelodd Iesu Nathanael yn dyfod ato, ac medd ef amdano: “Wel dyma mewn gwirionedd Israeliad heb ddim twyll ynddo.” Medd Nathanael wrtho: “Sut yr wyt ti’n fy adnabod?” Atebodd Iesu a dywedodd wrtho: “Cyn i Phylip dy alw di, pan oeddit dan y ffigysbren, gwelais di.” Atebodd Nathanael iddo: “Rabbi, ti yw mab Duw, ti yw brenin yr Israel.” Atebodd Iesu a dywedodd wrtho: “Ai am i mi ddywedyd wrthyt fy mod wedi dy weled dan y ffigysbren, yr wyt ti’n credu? Cei weled mwy na hyn.” Ac medd ef wrtho: “Ar fy ngwir, meddaf i chwi, chwi welwch y nef yn agored ac angylion Duw’n esgyn ac yn disgyn ar fab y dyn.” A thrennydd yr oedd priodas yng Nghana Galilea, ac yr oedd mam yr Iesu yno. Gwahoddwyd yr Iesu hefyd a’i ddisgyblion i’r briodas. A phan ballodd gwin, medd mam yr Iesu wrtho, “Nid oes ganddynt win.” Ac medd yr Iesu wrthi, “Beth sydd rhyngof â thi, wreigdda? Nid yw f’awr i wedi dyfod eto.” Medd ei fam wrth y gwasanaethyddion, “Beth bynnag a ddywedo wrthych, gwnewch.” Ac yr oedd yno chwe dyfrlestr maen wedi eu gosod yn ôl defod glanhad yr Iddewon, yn dal dau neu dri ffurcyn bob un. Medd yr Iesu wrthynt, “Llenwch y dyfrlestri â dwfr,” a llanwasant hwy hyd yr ymyl. Ac medd ef wrthynt, “Tynnwch allan yn awr a dygwch i lywydd y wledd”; dygasant hwythau. Pan brofodd llywydd y wledd y dwfr a aethai’n win, — ni wyddai ef o ba le yr oedd, ond gwyddai’r gwasanaethyddion a fu’n tynnu’r dwfr — y mae llywydd y wledd yn galw y priodfab, ac medd ef wrtho: “Bydd pawb yn rhoddi’r gwin da i ddechreu, yna pan fônt feddw, y gwin gwaelach. Tithau, cedwaist y gwin da hyd yn awr.” Hyn a wnaeth yr Iesu yng Nghana Galilea yn ddechreu’r arwyddion, ac amlygodd ei ogoniant, a chredodd ei ddisgyblion ynddo. Wedi hyn, aeth i lawr i Gapernaum, ef a’i fam a’i frodyr a’i ddisgyblion, ac arosasant yno ychydig ddyddiau. Ac yr oedd pasg yr Iddewon yn agos, ac aeth yr Iesu i fyny i Gaersalem. A chafodd yn y cysegr y gwerthwyr ychen a defaid a cholomennod a’r newidwyr arian yn eistedd, ac wedi gwneuthur fflangell o reffynnau, bwriodd hwy oll allan o’r cysegr, y defaid a’r ychen, ac am y newidwyr, tywalltodd eu mân arian a dymchwelodd eu byrddau, ac wrth y gwerthwyr colomennod dywedodd, “Ewch â’r pethau yna allan, na wnewch dŷ fy nhad yn dŷ marchnad.” Cofiodd ei ddisgyblion fod adnod: “Eiddigedd dy dŷ di a’m hysa i.” Felly atebodd yr Iddewon a dywedasant wrtho: “Pa arwydd yr wyt yn ei ddangos i ni gan dy fod yn gwneuthur y pethau hyn?” Atebodd Iesu a dywedodd wrthynt: “Chwelwch y deml hon, ac mewn tridiau atgyfodaf hi.” Meddai’r Iddewon felly: “Chwe blynedd a deugain y buwyd yn adeiladu’r deml hon, a thithau, a atgyfodi di hi mewn tridiau?” Ond sôn yr oedd yntau am deml ei gorff. Felly pan atgyfododd o feirw, cofiodd ei ddisgyblion iddo ddywedyd hyn, a chredasant yr Ysgrythur a’r gair a ddywedodd yr Iesu. A thra oedd yng Nghaersalem ar y pasg ar yr ŵyl, credodd llawer yn ei enw, wrth weled ei arwyddion a wnâi. Ond yr Iesu, nis ymddiriedai ei hun iddynt, am ei fod ef yn adnabod pawb, ac nad oedd angen arno i neb dystio am ddyn, oherwydd gwyddai ei hunan beth oedd mewn dyn. Ac yr oedd un o’r Phariseaid, Nicodemus wrth ei enw, cynghorwr gyda’r Iddewon. Daeth hwn ato yn y nos, a dywedodd wrtho: “Rabbi, gwyddom mai oddiwrth Dduw y daethost yn ddysgawdwr, gan na all neb wneuthur yr arwyddion yma yr wyt ti’n eu gwneuthur, oni bydd Duw gydag ef.” Atebodd Iesu, a dywedodd wrtho: “Ar fy ngwir, meddaf i ti, oni enir dyn yr eilwaith, ni all weled teyrnas Dduw.” Medd Nicodemus wrtho: “Pa fodd y gall dyn gael ei eni, ag yntau’n hen ŵr? A all ef fyned i mewn yn ei ôl i groth ei fam a’i eni?” Atebodd Iesu: “Ar fy ngwir, meddaf i ti, oni bydd dyn wedi ei eni o ddwfr ac ysbryd, ni all fyned i mewn i deyrnas Dduw. Yr hyn a aned o’r cnawd, cnawd yw, a’r hyn a aned o’r ysbryd, ysbryd yw. Na ryfedda i mi ddywedyd wrthyt, ‘Rhaid eich geni chwi yr eilwaith.’ Mae’r gwynt yn chwythu lle y myn, ac yr wyt yn clywed ei lais, ond ni wyddost o ba le y mae’n dyfod nac i ba le y mae’n myned. Felly y mae pob un a aned o’r ysbryd.” Atebodd Nicodemus a dywedodd wrtho: “Pa fodd y gall y pethau hyn fod?” Atebodd Iesu a dywedodd wrtho. “Oni wyddost ti’r pethau hyn, a thithau’n ddysgawdwr yn yr Israel? Ar fy ngwir, meddaf i ti, am yr hyn a wyddom yr ydym yn siarad, â’r hyn a welsom yr ydym yn ei dystio, a’n tystiolaeth ni nis derbyniwch. Os am bethau’r ddaear y dywedais wrthych ac ni chredwch, pa fodd os dywedaf am bethau’r nefoedd, y credwch? Ac nid oes neb wedi esgyn i’r nefoedd ond yr hwn a ddisgynnodd o’r nefoedd, mab y dyn. Ac fel y dyrchafodd Moesen y sarff yn yr anialwch, felly ei ddyrchafu sydd yn rhaid i fab y dyn, er mwyn i bob un a gredo ynddo gael bywyd tragwyddol; canys cymaint y carodd Duw y byd ag y rhoes ei uniganedig fab fel na chyfrgoller neb a gredo ynddo, ond cael ohono fywyd tragwyddol; oherwydd ni ddanfonodd Duw y mab i’r byd er mwyn barnu’r byd, ond er mwyn achub y byd drwyddo ef. Y neb a gredo ynddo nis bernir; y neb nid yw’n credu, y mae ef wedi ei farnu eisoes, am nad yw wedi credu yn enw uniganedig fab Duw. A dyma’r farn, bod y goleuni wedi dyfod i’r byd, a charu o ddynion y tywyllwch yn hytrach na’r goleuni, oherwydd mai drygionus oedd eu gweithredoedd. Canys y mae pob un sy’n gwneuthur pethau drwg yn cashau’r goleuni, ac ni ddaw at y goleuni rhag dadlennu ei weithredoedd. Ond daw’r hwn sy’n gwneuthur y gwir at y goleuni, fel yr amlyger ei weithredoedd mai yn Nuw y maent wedi eu gwneuthur.” Ar ôl hyn aeth yr Iesu a’i ddisgyblion i dir Iwdea, ac yno y trigai gyda hwy ac y bedyddiai. Ac yr oedd Ioan hefyd yn bedyddio yn Ainon yn ymyl Salim, am fod llawer o ddyfroedd yno, ac yr oedd cyrchu yno a bedyddio, canys yr oedd Ioan eto heb ei fwrw i’r carchar. A chyfododd dadl gan ddisgyblion Ioan gydag Iddew yng nghylch defod glanhad. A daethant at Ioan a dywedasant wrtho: “Rabbi, yr hwn oedd gyda thi dros Iorddonen, ac yr wyt ti wedi tystio amdano, dyma ef yn bedyddio a phawb yn dyfod ato.” Atebodd Ioan a dywedodd: “Ni all neb dderbyn dim heb ei fod wedi ei roddi iddo o’r nefoedd. Yr ydych chwi eich hunain yn dystion imi ddywedyd ‘Nid myfi yw’r Eneiniog,’ ond ‘Wedi f’anfon yr wyf o flaen hwnnw.’ Y priodfab yw hwnnw y mae’r briodferch ganddo, ond y mae cyfaill y priodfab sydd yn sefyll ac yn ei glywed yn llawenhau’n fawr wrth lais y priodfab. Dyna fy llawenydd i sydd yn awr yn gyflawn. Am hwn, rhaid iddo gynyddu, ac i minnau leihau.” Yr hwn sy’n dyfod oddiuchod, y mae ef uwch ben pawb. Yr hwn sydd o’r ddaear, o’r ddaear y mae ac o’r ddaear y mae’n siarad. Yr hwn sy’n dyfod o’r nefoedd, y mae ef uwchben pawb. Yr hyn a welodd ac a glywodd, hynny a dystia, a’i dystiolaeth ef nis derbyn neb. Yr hwn sy’n derbyn ei dystiolaeth ef, y mae ef yn gwarantu bod Duw yn eirwir, canys y mae’r hwn a anfonodd Duw yn llefaru geiriau Duw, oherwydd nid wrth fesur y bydd yn rhoddi’r ysbryd. Y mae’r tad yn caru’r mab, ac wedi rhoddi popeth yn ei law. Yr hwn sy’n credu yn y mab, y mae bywyd tragwyddol ganddo, ond am yr hwn sydd yn anghredu yn y mab, ni wêl ef fywyd, ond y mae digofaint Duw yn aros arno. Felly pan wybu’r Arglwydd fod y Phariseaid wedi clywed bod Iesu’n gwneuthur ac yn bedyddio mwy o ddisgyblion na Ioan, — er nad oedd Iesu ei hun yn bedyddio, eithr ei ddisgyblion — gadawodd Iwdea ac aeth yn ôl i Galilea. Ac yr oedd yn rhaid iddo fyned trwy Samaria, ac felly y mae’n dyfod i ddinas yn Samaria a elwir Sychar, yn ymyl y tir a roes Iacob i’w fab Ioseff, ac yno yr oedd Ffynnon Iacob. A chan fod yr Iesu wedi blino gan y daith, eisteddodd fel yr oedd wrth y ffynnon, a thua’r chweched awr oedd hi. Y mae gwraig o Samaria yn dyfod i dynnu dwfr; medd yr Iesu wrthi: “Dyro imi ddiod,” — canys aethai ei ddisgyblion ymaith i’r ddinas i brynu bwydydd. Felly medd y wraig o Samaria wrtho: “Pa fodd yr wyt ti, a thithau’n Iddew, yn gofyn am ddiod gennyf i, a minnau’n Samaritanes?” (canys nid oes dim cyfathrach rhwng Iddewon a Samariaid). Atebodd Iesu a dywedodd wrthi: “Pe buasit yn gwybod rhodd Duw, a phwy yw’r hwn sy’n dywedyd wrthyt ‘dyro imi ddiod,’ tydi a fuasai’n gofyn ganddo ef, a rhoesai yntau i ti ddwfr byw.” Medd hithau wrtho: “Syr, nid oes gennyt biser, a hefyd y mae’r pydew’n ddwfn; o ba le felly y mae’r dwfr byw hwn gennyt? A wyt ti’n fwy na Iacob, ein tad ni, a roes y pydew inni, ac yfodd yntau ohono, a’i feibion a’i ddiadelloedd?” Atebodd Iesu a dywedodd wrthi: “Pob un sy’n yfed o’r dwfr hwn, fe ddaw syched arno wedyn, ond pwy bynnag a yfo o’r dwfr a roddaf i iddo, ni ddaw syched arno byth yn dragywydd, ond â’r dwfr a roddaf i iddo yn ffynhonnell ddwfr ynddo yn ffrydio i fywyd tragwyddol.” Medd y wraig wrtho: “Syr, dyro imi’r dwfr hwn, fel na bo syched arnaf a cherdded yma i dynnu dwfr.” Medd ef wrthi: “Dos, galw dy ŵr a thyred yma.” Atebodd y wraig a dywedodd: “Nid oes gennyf ŵr.” Medd yr Iesu wrthi: “Gwych y dywedaist ‘Nid oes gennyf ŵr,’ oherwydd pump o wŷr a fu gennyt, a’r hwn sydd gennyt yn awr, nid dy ŵr di ydyw; hyn o wir a ddywedaist.” Medd y wraig wrtho: “Syr, mi welaf mai proffwyd wyt ti. Addolodd ein tadau ni yn y mynydd hwn, ac yr ydych chwithau’n dywedyd mai yng Nghaersalem y mae’r lle y dylid addoli.” Medd yr Iesu wrthi: “Cred fi, wreigdda, fod adeg yn dyfod pryd na byddwch yn addoli’r tad yn y mynydd hwn nac yng Nghaersalem. Yr ydych chwi’n addoli’r hyn ni wyddoch a ninnau’n addoli’r hyn a wyddom, am fod y waredigaeth o’r Iddewon. Ond y mae’r adeg yn dyfod, ac y mae yn awr, pan addolo’r gwir addolwyr y tad mewn ysbryd a gwirionedd, oherwydd dyna’n wir y fath a gais y tad yn addolwyr iddo. Ysbryd yw Duw, a rhaid i’w addolwyr addoli mewn ysbryd a gwirionedd.” Medd y wraig wrtho: “Gwn fod Meseia yn dyfod, a elwir yn Eneiniog. Pan ddêl hwnnw, fe fynega bopeth inni.” Medd yr Iesu wrthi: “Myfi sydd yn siarad â thi ydyw.” Ac ar hynny daeth ei ddisgyblion, a synnent ei fod yn siarad â merch, ond er hynny ni ddywedodd neb, ‘Beth yr wyt ti’n ei geisio?’ neu ‘Am beth yr wyt ti’n siarad â hi?’ Gadawodd y wraig felly ei llestr, ac aeth ymaith i’r dref, ac medd wrth y bobl: “Dewch i weled dyn a ddywedodd wrthyf bopeth a wneuthum; tybed nad hwn yw’r Eneiniog?” Aethant allan o’r dref, ac yr oeddynt ar eu ffordd tuag ato. Yn y cyfamser, erfyniai ei ddisgyblion arno a dywedyd: “Rabbi, bwyta.” Meddai yntau wrthynt: “Y mae gennyf i ymborth i’w fwyta na wyddoch chwi ddim amdano.” Felly dywedodd y disgyblion wrth ei gilydd: “Yn siŵr, ni ddaeth neb â bwyd iddo?” Medd yr Iesu wrthynt: “Fy mwyd i yw gwneuthur ewyllys yr hwn a’m hanfonodd i, a dwyn ei waith i ben. Oni byddwch chwi ’n dywedyd, ‘Pedwar mis eto a bydd yn gynhaeaf,’ ond dyma fi’n dywedyd wrthych, ‘Codwch eich llygaid a sylwch ar y meysydd eu bod yn wynion i gynhaeaf.’ Y mae’r medelwr eisoes yn derbyn ei gyflog, ac yn casglu cynnyrch i fywyd tragwyddol, fel y llawenhao’r heuwr a’r medelwr ynghyd, oherwydd yn hyn o beth y mae’r gair yn wir mai un sy’n heu ac arall yn medi. Gyrrais i chwi i fedi’r hyn nid ydych wedi llafurio wrtho; eraill sydd wedi llafurio ac aethoch chwithau i mewn i’w llafur hwynt.” Ac o’r dref honno credodd llawer o’r Samariaid ynddo oherwydd gair y wraig yn tystio, “Dywedodd wrthyf bopeth a wneuthum.” Felly pan ddaeth y Samariaid ato, erfynient arno aros gyda hwy; ac arhosodd yno ddeuddydd. A chredodd mwy o lawer oherwydd ei ymadrodd ef ei hun, a dywedasant wrth y wraig: “Nid o achos dy siarad di yr ydym yn credu bellach, canys clywsom ein hunain, a gwyddom mai hwn mewn gwirionedd yw gwaredwr y byd.” Ac ar ôl y ddeuddydd, aeth allan oddiyno i Galilea, oherwydd tystiodd Iesu ei hunan nad oes anrhydedd i broffwyd yn ei wlad ei hun. Felly pan ddaeth i Galilea, derbyniodd y Galileaid ef ar ôl gweled popeth a wnaeth yng Nghaersalem ar yr ŵyl, oherwydd aethent hwythau hefyd i’r ŵyl. Felly daeth yn ôl i Gana Galilea, lle y gwnaethai’r dwfr yn win. Ac yr oedd rhyw swyddog llys, a chanddo fab yn glaf, yng Nghapernaum. Clywodd hwnnw fod Iesu wedi dyfod o Iwdea i Galilea, a daeth ato ac erfyniodd arno ddyfod i lawr ac iacháu ’i fab, gan ei fod ar farw. Felly dywedodd yr Iesu wrtho: “Oni welwch arwyddion a rhyfeddodau, ni chredwch o gwbl.” Medd y swyddog wrtho: “Syr, tyred i lawr cyn marw fy machgen bach.” Medd yr Iesu wrtho: “Dos, y mae dy fab yn fyw.” Credodd y dyn y gair a ddywedodd yr Iesu, a chychwynnodd. Ag yntau eisoes ar ei ffordd i lawr, daeth ei weision i’w gyfarfod a dywedyd bod ei fachgen yn byw. Felly holodd hwynt am yr awr pan droes ar wella, ac meddent hwythau wrtho: “Doe ar y seithfed awr y gadawodd y dwymyn ef.” Felly gwybu’r tad mai dyna’r awr y dywedodd yr Iesu wrtho, “Y mae dy fab yn fyw.” A chredodd ef a’i dylwyth i gyd. Hwn eto yn ail arwydd a wnaeth yr Iesu ar ôl dyfod o Iwdea i Galilea. Wedi hynny yr oedd gŵyl yr Iddewon, ac aeth Iesu i fyny i Gaersalem. Ac y mae yng Nghaersalem, wrth y Ddefeidiog, lyn a’i enw Bethsatha yn Hebraeg, a phum porth iddo. Yn y rhain gorweddai tyrfa o gleifion, yn ddeillion, cloffion, gwywedigion. Ac yr oedd yno un wedi bod dan ei glefyd am ddeunaw mlynedd ar hugain. Pan welodd yr Iesu hwn yn gorwedd, a gwybod ei fod felly ers talm bellach, dywed wrtho: “A fynni di ddyfod yn iach?” Atebodd y claf iddo: “Syr, neb nid oes gennyf, pan gynhyrfer y dwfr, i’m bwrw i’r llyn, ond tra fwyf i’n dyfod, â rhywun arall i lawr o’m blaen i.” Medd yr Iesu wrtho: “Saf, cyfod dy wely a cherdda.” Ac ar unwaith aeth y dyn yn iach, a dyma ef yn codi ei wely ac yn cerdded. Ac yr oedd hi’n Sabath ar y dydd hwnnw: am hynny dywedodd yr Iddewon wrth y dyn a iachasid: “Y mae hi’n Sabath, ac nid yw’n iawn iti godi’r gwely.” Ond atebodd yntau iddynt: “Yr hwn a’m gwnaeth yn iach, hwnnw a ddywedodd wrthyf, ‘Cyfod dy wely a cherdda.’ ” Gofynasant iddo: “Pwy ydyw’r hwn a ddywedodd wrthyt, ‘Cyfod a cherdda’?” Ond ni wyddai’r hwn a iachasid pwy oedd, canys ciliasai’r Iesu gan fod tyrfa yn y lle. Wedi hynny caiff yr Iesu ef yn y cysegr a dywedodd wrtho: “Dyma di wedi dy iacháu; paid â phechu mwyach rhag digwydd rhywbeth gwaeth iti.” Aeth y dyn ymaith a dywedodd wrth yr Iddewon mai Iesu oedd yr hwn a’i gwnaeth yn iach. Ac am hynny yr oedd yr Iddewon am erlid yr Iesu, am ei fod yn gwneuthur y pethau hyn ar y Sabath. Atebodd yntau iddynt: “Y mae fy nhad i’n dal i weithio, ac yr wyf innau’n gweithio.” Am hynny yr oedd yr Iddewon yn ceisio’n fwy ei ladd ef, am iddo nid yn unig dorri’r Sabath, ond hefyd alw Duw’n dad iddo’i hunan, a’i wneuthur ei hunan yn gyfartal â Duw. Atebodd yr Iesu felly a dywedodd wrthynt: “Ar fy ngwir, meddaf i chwi, ni all y mab wneuthur dim ohono’i hunan, ond yr hyn a wêl y tad yn ei wneuthur. Canys y pethau a wnêl ef, dyna’r pethau a wna’r mab yn yr un modd. Canys y mae’r tad yn caru’r mab ac yn dangos iddo bopeth a wna ei hunan, a gweithredoedd mwy na’r rhain a ddengys ef iddo nes synnu ohonoch: oherwydd fel y mae’r tad yn atgyfodi’r meirw ac yn eu bywhau, felly y mae’r mab hefyd yn bywhau y rhai a fynn, oherwydd nid yw’r tad yn barnu neb ond y mae wedi rhoddi pob barn i’r mab, er mwyn i bawb anrhydeddu’r mab fel y maent yn anrhydeddu’r tad. Yr hwn nid yw’n anrhydeddu’r mab, nid yw’n anrhydeddu’r tad a’i hanfonodd ef. Ar fy ngwir; meddaf i chwi, y neb sy’n gwrando ar fy ngair i ac yn credu i’r hwn a’m hanfonodd i, y mae ganddo, ef fywyd tragwyddol, ac i farn ni ddaw, ond y mae wedi croesi o farwolaeth i fywyd. Ar fy ngwir, meddaf i chwi; y mae adeg yn dyfod ac yn awr y mae, pan glywo’r meirw lais mab Duw a bydd byw y rhai a’i clywodd. Canys megis y mae gan y tad fywyd ynddo’i hunan, felly hefyd y rhoes i’r mab fod iddo fywyd ynddo’i hunan. A hawl a roes iddo i wneuthur barn am ei fod yn fab dyn. Na ryfeddwch at hyn, am fod adeg yn dyfod pan glyw pawb sydd yn eu beddau ei lais ef, a dyfod allan, y rhai a wnaeth dda i atgyfodiad bywyd, y rhai a wnaeth ddrwg i atgyfodiad barn. Ni allaf i wneuthur dim ohonof fy hunan; fel yr wyf yn clywed yr wyf yn barnu, ac y mae fy marn yn gyfiawn, am nad wyf yn ceisio fy ewyllys i ond ewyllys yr hwn a’m hanfonodd i. Os tystiaf i amdanaf fy hun, nid gwir yw fy nhystiolaeth i. Arall yw’r hwn sy’n tystio amdanaf i, a gwn mai gwir yw’r dystiolaeth a dystia ef amdanaf. Danfonasoch chwi at Ioan, a thystiodd ef i’r gwirionedd. Minnau, nid gan ddyn yr wyf yn derbyn tystiolaeth, ond fy mod yn dywedyd y pethau hyn fel y’ch cadwer chwi. Hwnnw oedd y lamp yn llosgi ac yn goleuo, a chwithau fuoch foddlon i orfoleddu am ennyd yn ei oleu ef. Ond gennyf i y mae tystiolaeth sydd fwy nag eiddo Ioan, canys y gweithredoedd a roes y tad imi i’w dwyn i ben, — y gweithredoedd hynny yr wyf yn eu gwneuthur, — sydd yn tystio amdanaf mai’r tad a’m hanfonodd. A’r tad a’m hanfonodd, hwnnw sydd wedi tystio amdanaf. Ei lais ef nis clywsoch chwi erioed, a’i lun nis gwelsoch, a’i air ef nid yw gennych yn aros ynoch, oherwydd yr hwn a anfonodd ef, ni chredwch ynddo. Yr ydych yn chwilio’r ysgrythurau, am eich bod yn tybio cael ynddynt fywyd tragwyddol, a’r rheiny sydd yn tystio amdanaf i, eto ni fynnwch ddyfod ataf i, i gael bywyd. Clod gan ddynion nid wyf yn ei dderbyn, ond adwaen chwi nad oes gennych gariad Duw ynoch. Yr wyf i wedi dyfod yn enw fy nhad, ac nid ydych yn fy nerbyn; os daw arall yn ei enw ei hun, chwi dderbyniwch hwnnw. Pa fodd y gellwch chwi gredu a chwithau’n derbyn clod y naill gan y llall a heb geisio’r clod a ddaw oddiwrth yr unig Dduw? Na thybiwch y cyhuddaf i chwi ger bron y tad; y mae a’ch cyhudda chwi, Moesen, y gŵr yr ydych chwi wedi gobeithio ynddo. Canys pe credech ym Moesen, credech ynof i, oherwydd amdanaf i yr ysgrifennodd hwnnw. Eithr onid ydych yn credu yn ei ysgrifeniadau ef, pa fodd y credwch yn fy ngeiriau i?” Ar ôl hynny aeth yr Iesu ymaith dros fôr Galilea, môr Tiberias, ac yr oedd tyrfa fawr yn ei ganlyn am eu bod yn gweled yr arwyddion a wnâi ar y cleifion. Ond aeth Iesu i fyny i’r mynydd ac yno yr eisteddai gyda’i ddisgyblion. Ac yr oedd y pasg, gŵyl yr Iddewon, yn agos. Felly wedi codi ei olygon a gweled bod tyrfa fawr yn dyfod ato, medd ef wrth Phylip: “O ba le y prynwn fara i’r rhain i gael bwyd?” Dywedyd hyn yr oedd i’w brofi, canys gwyddai ef beth yr oedd am ei wneuthur. Atebodd Phylip iddo: “Nid yw gwerth dau can ceiniog o fara yn ddigon iddynt, i bob un i gael rhyw dameidyn.” Medd un o’i ddisgyblion wrtho, Andreas brawd Simon Pedr: “Y mae yma fachgen bach a chanddo bum torth haidd a dau bysgodyn, ond beth yw hynny rhwng cynifer?” Dywedodd yr Iesu: “Gwnewch i’r bobl orwedd i lawr,” (yr oedd glaswellt lawer yn y lle). Felly gorweddodd y dynion, a’u rhif tua phum mil. Yna cymerth yr Iesu y torthau ac wedi diolch rhannodd hwy rhwng y rhai oedd yn gorwedd, ac yn yr un modd hefyd o’r pysgod, faint a fynnent. A phan ddigonwyd hwy, medd ef wrth ei ddisgyblion: “Cesglwch y darnau sydd yn weddill rhag difetha dim.” Felly casglasant, a llanwasant ddeuddeg basged â darnau o’r pum torth haidd oedd yn weddill gan y rhai a fwytasai. Dywedodd y bobl, gan hynny, wedi gweled yr arwydd a wnaeth: “Hwn yn wir yw’r proffwyd sy’n dyfod i’r byd.” Felly, wedi deall bod yn eu bryd ddyfod a’i gipio i’w wneuthur yn frenin, ciliodd yr Iesu yn ôl i’r mynydd ar ei ben ei hun. A phan aeth yn hwyr, aeth ei ddisgyblion i lawr i’r môr, ac wedi myned i long, yr oeddynt ar eu ffordd dros y môr i Gapernaum. Ac yr oedd hi eisoes wedi tywyllu, a’r Iesu heb ddyfod atynt, a’r môr oedd yn dygyfor gan wynt mawr yn chwythu. Felly wedi rhwyfo tua phum neu ddeg ystad ar hugain, y maent yn gweled yr Iesu’n rhodio ar y môr ac yn dyfod yn agos i’r llong, a daeth ofn arnynt. Medd yntau wrthynt: “Myfi sydd yma, peidiwch ag ofni;” felly derbyniasant ef yn llawen i’r llong, ac ar unwaith yr oedd y llong wrth y lan yr oeddynt yn hwylio ati. Trannoeth gwelodd y dyrfa oedd wedi aros yr ochr draw i’r môr na bu dim cwch arall yno ond un, ac nad aethai’r Iesu gyda’i ddisgyblion i’r llong ond mai’r disgyblion yn unig a aethai ymaith. Ond daeth cychod o Diberias yn agos i’r lle y bwytasent y bara wedi i’r Arglwydd roddi diolch. Felly pan welodd y dyrfa nad oedd Iesu yno na’i ddisgyblion, aethant hwythau i’r cychod, a daethant i Gapernaum gan geisio’r Iesu, a phan gawsant ef yr ochr arall i’r môr, dywedasant wrtho: “Rabbi, pa bryd y daethost yma?” Atebodd yr Iesu iddynt a dywedodd: “Ar fy ngwir, meddaf i chwi, yr ydych yn fy ngheisio i nid am i chwi weled arwyddion, ond am i chwi fwyta o’r bara a chael digon. Gweithiwch nid am y bwyd sy’n darfod ond am y bwyd sy’n para i fywyd tragwyddol, a ddyry mab y dyn i chwi. Canys arno ef y rhoes y tad, sef Duw, ei sêl.” Meddent hwythau wrtho: “Beth a wnawn ni fel y gweithiom waith Duw?” Atebodd Iesu a dywedodd wrthynt: “Dyma waith Duw, credu ohonoch yn yr hwn a anfonodd ef.” Ac meddent wrtho: “Beth felly a wnei’n arwydd inni weled a chredu ynot? Pa waith a wnei? Bwytaodd ein tadau y manna yn yr anialwch, fel y mae’r ysgrythur: Bara o’r nef a roes iddynt i’w fwyta.” Meddai’r Iesu felly wrthynt: “Ar fy ngwir, meddaf i chwi, nid Moesen a roes i chwi’r bara o’r nefoedd, ond fy nhad sydd yn rhoddi i chwi’r gwir fara o’r nefoedd, canys bara Duw ydyw hwnnw sy’n dyfod i lawr o’r nefoedd, ac yn rhoddi bywyd i’r byd.” Meddent hwythau wrtho: “Syr, dyro inni bob amser y bara hwn.” Medd yr Iesu wrthynt: “Myfi ydyw bara’r bywyd. Y neb a ddaw ataf i, ni ddaw newyn arno byth, a’r neb sy’n credu ynof i, ni ddaw syched arno byth. Ond dywedais wrthych eich bod wedi fy ngweled ac eto eich bod heb gredu. Y cwbl a ddyry’r tad i mi, daw hynny ataf, ac am yr hwn a ddaw ataf i, nis bwriaf ef allan ddim, oblegid deuthum i lawr o’r nefoedd, nid i wneuthur f’ewyllys fy hun, ond ewyllys yr hwn a’m hanfonodd i. A hyn yw ewyllys yr hwn a’m hanfonodd, — o’r cwbl a roes imi na chollwyf ddim, ond ei atgyfodi yn y dydd diwethaf. Canys hyn yw ewyllys fy nhad, i bob un sy’n edrych ar y mab ac yn credu ynddo gael bywyd tragwyddol, a minnau a’i hatgyfodaf ef yn y dydd diwethaf.” Felly dechreuodd yr Iddewon furmur amdano am iddo ddywedyd, “Myfi yw’r bara a ddaeth i lawr o’r nefoedd,” a dywedasant: “Onid Iesu yw hwn, fab Ioseff, a ninnau’n adnabod ei dad a’i fam? Pa fodd y mae’n dywedyd yr awron, ‘O’r nefoedd yr wyf wedi dyfod i lawr’?” Atebodd Iesu a dywedodd wrthynt: “Peidiwch â murmur drwy’ch gilydd. Ni all neb ddyfod ataf i heb i’r tad a’m hanfonodd ei dynnu ef, ac atgyfodaf innau ef yn y dydd diwethaf. Y mae adnod yn y proffwydi: ‘A byddant bawb dan addysg Duw.’ Daw pawb sydd wedi gwrando ar Dduw a dysgu ataf i; nid bod neb wedi gweled y tad, oddieithr y neb sydd oddiwrth Dduw, gwelodd hwnnw y tad. Ar fy ngwir, meddaf i chwi, y mae gan yr hwn a gredo fywyd tragwyddol. Myfi yw bara’r bywyd. Bwytaodd eich tadau yn yr anialwch y manna, a buont feirw. Hwn yw’r bara sy’n dyfod i lawr o’r nefoedd, yn gyfryw ag na bo farw y neb a fwytao ohono. Myfi yw’r bara byw a ddaeth i lawr o’r nefoedd. Os bwyta neb o’r bara hwn, bydd fyw yn dragwyddol. A’r bara, meddaf, a roddaf i, fy nghnawd i ydyw dros fywyd y byd.” Felly ymrysonai’r Iddewon drwy’i gilydd a dywedyd: “Pa fodd y gall hwn roddi i ni ei gnawd i’w fwyta?” Yna meddai’r Iesu wrthynt: “Ar fy ngwir, meddaf i chwi, oni fwytewch gnawd mab y dyn ac yfed ei waed, nid oes gennych fywyd ynoch eich hunain. Y mae gan y neb a fwytao fy nghnawd i, ac a yfo fy ngwaed i, fywyd tragwyddol, ac atgyfodaf innau ef yn y dydd diwethaf. Canys fy nghnawd i sydd wir fwyd, a’m gwaed i ’n wir ddiod. Y neb a fwytao fy nghnawd i ac a yfo fy ngwaed i, erys hwn ynof i a minnau ynddo yntau. Megis yr anfonodd y tad byw fi, a minnau’n byw drwy’r tad, felly hefyd am yr hwn a’m bwytao i, bydd yntau fyw trwof i. Hwn yw’r bara a ddaeth i lawr o’r nefoedd, nid fel y tadau’n bwyta a marw; y neb a fwytao’r bara hwn, bydd ef fyw yn dragywydd.” Hyn a ddywedodd mewn synagog wrth ddysgu yng Nghapernaum. Ac meddai llawer a’i clywodd o’i ddisgyblion gan hynny: “Caled yw’r gair hwn. Pwy a all wrando arno?” Ond meddai’r Iesu wrthynt, ag yntau’n gwybod ynddo’i hun fod ei ddisgyblion yn murmur am hyn: “Ai hyn sydd yn eich maglu? Beth felly os gwelwch fab y dyn yn myned i fyny i’r lle yr oedd gynt? Yr ysbryd sy’n peri bywyd, nid oes dim grym yn y cnawd. Y geiriau a ddywedais i wrthych, ysbryd ydynt a bywyd ydynt. Ond y mae rhai ohonoch sydd heb fod yn credu.” Canys gwyddai’r Iesu o’r dechreu pwy oedd y rhai oedd heb fod yn credu a phwy fyddai ei fradychwr. Ac meddai ef: “Oherwydd hyn y dywedais wrthych na all neb ddyfod ataf i heb fod hynny wedi ei roddi iddo gan y tad.” O hynny allan aeth llawer o’i ddisgyblion yn eu holau, ac ni rodient mwy gydag ef. Meddai’r Iesu felly wrth y deuddeg: “Nid oes awydd myned ymaith arnoch chwithau hefyd, a oes?” Atebodd Simon Pedr iddo: “Arglwydd, at bwy yr awn oddiwrthyt? Geiriau bywyd tragwyddol sydd gennyt, ac yr ydym ni wedi credu ac yn gwybod mai ti yw sanct Duw.” Atebodd yr Iesu iddynt: “Oni’ch ddewisais chwi’r deuddeg? ac ohonoch y mae un yn gythraul.” Sôn yr oedd am Iwdas fab Simon o Gerioth, canys hwn wedi hynny a’i bradychai ef, ag yntau’n un o’r deuddeg. Ac ar ôl hyn tramwyai’r Iesu yng Ngalilea, canys ni fynnai dramwy yn Iwdea, am fod yr Iddewon yn ceisio ei ladd, ac yr oedd gŵyl yr Iddewon yn agos, gŵyl y pebyll. Medd ei frodyr felly wrtho: “Cerdda oddiyma a dos ymaith i Iwdea, er mwyn i’th ddisgyblion hefyd weled dy weithredoedd yr wyt yn eu gwneuthur, canys nid oes neb yn gwneuthur dim yn y dirgel, ag yntau yn ceisio bod yn gyhoedd. Os wyt ti yn gwneuthur y pethau hyn, dangos dy hun yn amlwg i’r byd,” — oherwydd nid oedd ei frodyr chwaith yn credu ynddo. Medd yr Iesu felly wrthynt: “Ni ddaeth fy adeg i eto, ond y mae’ch adeg chwi bob amser yn gyfleus. Ni all y byd eich cashau chwi, ond y mae’n fy nghashau i am fy mod i’n tystio amdano fod ei weithredoedd yn ddrwg. Ewch chwi i fyny i’r ŵyl, nid af i yn awr i’r ŵyl yma, am nad yw’n llawn bryd i mi eto.” Wedi dywedyd hyn wrthynt, arhosodd yng Ngalilea, ond ar ôl i’w frodyr fyned i fyny i’r ŵyl, yna aeth yntau i fyny hefyd, nid yn agored ond yn ddirgel, megis. Chwiliai’r Iddewon felly amdano yn yr ŵyl, ac meddent hwy: “Ple mae’r dyn?” Ac yr oedd cryn siarad yn ei gylch ymhlith y tyrfaoedd a rhai’n dywedyd: “Dyn da ydyw,” ac eraill yn dywedyd: “Nage, ond camarwain y bobl y mae;” ond er hynny ni siaradai neb ar gyhoedd amdano rhag ofn yr Iddewon. A phan oedd yr ŵyl ar ei chanol, aeth Iesu i fyny i’r deml a dechreuodd ddysgu. Felly synnai’r Iddewon, ac meddent hwy: “Pa fodd y mae hwn yn medru llên ag yntau heb fod dan addysg?” Atebodd yr Iesu iddynt a dywedodd: “Nid eiddof i fy nysgeidiaeth i, ond eiddo’r hwn a’m hanfonodd i. Os myn neb wneuthur ei ewyllys ef, daw i wybod am y ddysgeidiaeth, ai o Dduw y mae ai myfi sydd yn siarad ohonof fy hun. Y mae’r hwn sy’n siarad ohono’i hun yn ceisio gogoniant personol, ond y neb sy’n ceisio gogoniant yr hwn a’i hanfonodd, y mae hwnnw’n gywir ac nid oes anwiredd ynddo. Oni roes Moesen y gyfraith i chwi? Ac nid oes neb ohonoch yn gwneuthur y gyfraith. Paham y ceisiwch fy lladd?” Atebodd y dyrfa: “Y mae rhyw gythraul arnat. Pwy sy’n ceisio dy ladd?” Atebodd Iesu a dywedodd wrthynt: “Un weithred a wneuthum ac yr ydych oll yn synnu. Am hyn y rhoes Moesen i chwi yr enwaediad — nid bod hynny oddiwrth Foesen ond oddiwrth y tadau — a byddwch yn enwaedu ar ddyn ar y Sabath. Os caiff dyn enwaediad ar y Sabath, a chyfraith Moesen heb ei thorri, a ydych yn ddig wrthyf i am fy mod wedi gwneuthur dyn cyfan yn iach ar y Sabath? Na fernwch wrth yr olwg, ond bernwch y farn gyfiawn.” Meddai rhai o bobl Caersalem felly: “Onid hwn y maent yn ceisio ei ladd? A dyma yntau’n siarad yn agored, ac nid ydynt yn dywedyd dim wrtho. Tybed bod y penaethiaid yn gwybod yn wir mai hwn yw’r Eneiniog? Ond gwyddom ni am hwn, o ba le y mae, ond am yr Eneiniog pan ddêl, ni ŵyr neb o ba le y mae.” Felly gwaeddodd yr Iesu, wrth ddysgu yn y deml, a dywedodd: “Myfi a adwaenoch a gwyddoch o ba le yr wyf. Ac ohonof fy hunan ni ddeuthum, ond y mae un gwirioneddol a’m hanfonodd i, yr hwn ni wyddoch chwi amdano. Yr wyf i yn gwybod amdano, mai oddiwrtho ef yr ydwyf, ac mai ef a’m hanfonodd.” Felly ceisient ei ddal, ond ni roddodd neb ei law arno, canys ni ddaethai ei adeg ef eto. Ond o’r dyrfa credodd llawer ynddo, a dywedasant: “A wna’r Eneiniog pan ddêl fwy o arwyddion nag a wnaeth hwn?” Clywodd y Phariseaid y dyrfa yn murmur hyn amdano, ac anfonodd y prif offeiriaid a’r Phariseaid swyddogion i’w ddal. Meddai’r Iesu felly: “Am ychydig amser eto yr wyf gyda chwi ac yna yr wyf yn myned at yr hwn a’m hanfonodd i. Byddwch yn fy ngheisio ac ni’m cewch, a’r lle y byddaf i, ni ellwch chwi ddyfod.” Felly meddai’r Iddewon wrth ei gilydd: “I ba le y mae hwn am fyned, na ddeuwn ni o hyd iddo? A ydyw am fyned at y rhai sydd ar wasgar ymhlith y Groegiaid a dysgu’r Groegiaid? Beth ydyw’r gair hwn a ddywedodd, — ‘Byddwch yn fy ngheisio ac ni’m cewch, a’r lle y byddaf i ni ellwch chwi ddyfod’?” Ac ar y dydd diwethaf, diwrnod mawr yr ŵyl, safodd yr Iesu a gwaeddodd gan ddywedyd: “Os oes syched ar neb, deued ataf i ac yfed. Y neb sy’n credu ynof i, fel y dywed yr adnod, — fe lifa afonydd o ddwfr byw o’i ymysgaroedd.” Hyn a ddywedodd am yr ysbryd a dderbyniai’r rhai a gredodd ynddo ef, canys nid oedd Ysbryd eto, am na ogoneddwyd yr Iesu hyd yn hyn. A dywedodd rhai o’r dorf a glywodd y geiriau hyn: “Hwn yn wir yw’r proffwyd.” Medd eraill: “Hwn yw’r Eneiniog,” ond medd eraill: “Ai o Galilea y daw’r Eneiniog? Onid yw’r ysgrythur yn dywedyd mai o had Dafydd ac o Fethlehem, y dref lle yr oedd Dafydd, y daw’r Eneiniog?” Felly aeth yn ddwyblaid yn y dyrfa o’i achos. A mynnai rhai ohonynt ei ddal, ond ni roes neb ei ddwylo arno. Felly daeth y swyddogion at y prif offeiriaid a’r Phariseaid, ac medd y rheiny wrthynt: “Paham na ddaethoch ag ef?” Atebodd y swyddogion: “Ni siaradodd dyn erioed fel hyn, fel y mae’r dyn hwn yn siarad.” Ac atebodd y Phariseaid iddynt: “A ydych chwithau hefyd wedi eich llithio? A oes un o’r arweinwyr wedi credu ynddo, neu o’r Phariseaid? Ond am y dorf hon nad yw’n gwybod y gyfraith, y maent dan felltith.” Medd Nicodemus wrthynt (a ddaethai ato cyn hynny) ag yntau’n un ohonynt: “A ydyw ein cyfraith ni’n barnu dyn heb yn gyntaf wrando arno a gwybod pa beth y mae’n ei wneuthur?” Atebasant a dywedasant wrtho: “Nid wyt tithau hefyd o Galilea, a wyt ti? Chwilia a gwêl, nad o Galilea y cyfyd proffwyd.” [Ac aethant ymaith, bob un i’w dŷ ei hun. Ond aeth Iesu i fynydd yr Olewydd, ac yn fore aeth drachefn i’r deml, ac yr oedd yr holl bobl yn dyfod ato, ac eisteddodd yntau a dechreu eu dysgu. A daw’r ysgrifenyddion a’r Phariseaid â gwraig ato wedi ei dal mewn godineb, ac wedi ei gosod yn y canol, meddent hwy wrtho: “Athro, y mae’r wraig hon wedi ei dal yn y weithred yn godinebu. Yn awr, yn y gyfraith, gorchmynnodd Moesen inni labyddio merched o’r fath; beth a ddywedi di felly?” Dywedyd hyn yr oeddynt i’w brofi er mwyn cael lle i’w gyhuddo. Ond plygodd yr Iesu i lawr a dechreuodd ysgrifennu ar y ddaear â’i fys. Ond wrth eu bod yn dal i’w holi, ymunionodd a dywedodd wrthynt: “Y dibechod ohonoch, tafled hwnnw yn gyntaf garreg ati.” A phlygodd i lawr wedyn ac ysgrifennu ar y ddaear. Dyma hwythau wedi ei glywed [ac yn euog yn eu cydwybod] yn myned allan y naill ar ôl y llall, gan ddechreu gyda’r rhai hynaf, a gadawyd yr Iesu ei hunan, a’r wraig yn sefyll yn y canol. Ac ymunionodd yr Iesu, a heb weled neb ond y wraig, dywedodd wrthi: “Wreigdda, ym mha le y maent hwy, dy gyhuddwyr? Oni chondemniodd neb di?” Medd hithau: “Neb, Syr.” Medd yr Iesu wrthi: “Nid wyf innau chwaith yn dy gondemnio. Dos, ac o hyn allan paid â phechu.”] Felly siaradodd yr Iesu wrthynt drachefn a dywedyd: “Myfi yw goleuni’r byd. Ni rodia neb sy’n fy nghanlyn i, yn y tywyllwch, ond bydd ganddo oleuni’r bywyd.” Medd y Phariseaid wrtho: “Yr wyt ti’n tystio amdanat dy hun; nid yw dy dystiolaeth di yn wir.” Atebodd Iesu a dywedodd wrthynt: “Hyd yn oed os wyf i’n tystio amdanaf fy hun, gwir yw fy nhystiolaeth i, am fy mod yn gwybod o ba le y deuthum ac i ba le yr wyf yn myned, ond ni wyddoch chwi o ba le yr wyf yn dyfod nac i ba le yr wyf yn myned. Yr ydych chwi’n barnu yn ôl y cnawd, nid wyf i ’n barnu neb. A hyd yn oed os wyf yn barnu, y mae fy marn i’n gywir, oherwydd nid fy hunan yr ydwyf, ond myfi a’r hwn a’m hanfonodd. Ac yn eich cyfraith chwi y mae wedi ei ysgrifennu bod tystiolaeth dau ddyn yn wir. Myfi sydd yn tystio amdanaf fy hun, a thystia’r hwn a’m hanfonodd i, y tad, amdanaf.” Meddent hwy felly wrtho: “Ym mha le y mae dy dad?” Atebodd Iesu: “Nid ydych yn fy adnabod i na’m tad. Pe baech yn fy adnabod i, byddech yn adnabod fy nhad hefyd.” Y geiriau hyn a ddywedodd yn y trysordy wrth ddysgu yn y deml. Ond ni ddaliodd neb ef am na ddaethai ei adeg ef eto. Dywedodd wrthynt wedyn: “Yr wyf i’n myned, a byddwch yn chwilio amdanaf, a byddwch feirw yn eich pechod. Lle yr wyf i yn myned, ni ellwch chwi ddyfod.” Medd yr Iddewon felly: “Tybed ei fod am ei ladd ei hun pan ddywed, ‘Lle yr wyf i yn myned, ni ellwch chwi ddyfod’?” Ac medd ef wrthynt: “Yr ydych chwi o’r pethau isod, a minnau o’r pethau uchod; yr ydych chwi o’r byd hwn, a minnau nid wyf o’r byd hwn. Dywedais am hynny wrthych y byddwch feirw yn eich pechodau; canys oni chredwch fy mod i, byddwch feirw yn eich pechodau.” Meddent hwy felly wrtho: “Pwy wyt ti?” Medd yr Iesu wrthynt: “Paham yr wyf i hyd yn oed yn siarad â chwi o gwbl? Y mae gennyf lawer i’w ddywedyd amdanoch ac i’w farnu. Ond y mae’r hwn a’m hanfonodd i yn wir; a minnau, yr hyn a glywais ganddo ef, hynny yr wyf yn ei ddywedyd wrth y byd.” Ni wyddent mai am y tad y soniai ef wrthynt. Medd yr Iesu felly: “Pan ddyrchefwch fab y dyn, yna y gwybyddwch fy mod i, ac nad wyf yn gwneuthur dim ohonof fy hun, ond fel y dysgodd y tad fi, dyna’r hyn yr wyf yn ei ddywedyd. Ac y mae’r hwn a’m hanfonodd i gyda mi. Ni adawodd fi wrthyf fy hunan, canys yr wyf i yn gwneuthur bob amser y pethau sydd wrth ei fodd ef.” Ag yntau’n dywedyd hyn, credodd llawer ynddo. Meddai’r Iesu felly wrth yr Iddewon oedd wedi credu ynddo: “Os arhoswch chwi yn fy ngair i, yr ydych yn wir ddisgyblion i mi, a chewch adnabod y gwir, a’r gwir a’ch rhyddha chwi.” Atebasant iddo: “Had Abraham ydym ni, ac ni buom gaethion i neb erioed. Sut yr wyt ti’n dywedyd, ‘Chwi ddeuwch yn rhyddion’?” Atebodd yr Iesu iddynt: “Ar fy ngwir, meddaf i chwi, y mae pob un sy’n gwneuthur pechod yn gaethwas i bechod. Nid yw’r caethwas yn aros yn y tŷ am byth; y mab sy’n aros am byth. Felly, os y mab a’ch rhyddha chwi, byddwch ryddion mewn gwirionedd. Gwn mai had Abraham ydych, ond yr ydych yn ceisio fy lladd, am nad yw fy ngair i yn cerdded ynoch. Y pethau a welais i gyda’r tad yr wyf yn eu dywedyd, ac felly gwnewch chwithau yr hyn a glywsoch gan y tad.” Atebasant a dywedasant wrtho: “Abraham yw ein tad ni.” Medd yr Iesu wrthynt:. “Os plant Abraham ydych, gwnewch weithredoedd Abraham; ond yn awr yr ydych yn ceisio fy lladd, dyn sydd wedi dywedyd y gwir wrthych a glywais gan Dduw. Dyma beth na wnaeth Abraham. Yr ydych chwi yn gwneuthur gweithredoedd eich tad chwi.” Meddent hwy wrtho: “Nid o buteindra y ganwyd ni; un tad sydd gennym, Duw.” Medd yr Iesu wrthynt: “Pe bai Duw yn dad i chwi, fe’m carech i, oherwydd o Dduw y deuthum allan, a dyma fi; ac nid ohonof fy hunan y deuthum, ond efô a’m hanfonodd. Paham nad ydych yn adnabod fy lleferydd i? Am na ellwch glywed fy ngair i. O’ch tad, y diafol, yr ydych chwi ac yn dewis gwneuthur nwydau eich tad. Llofrudd oedd hwnnw o’r dechreu ac ni saif yn y gwir am nad oes wir ynddo. Pan ddywed gelwydd, siarad o’i natur ei hun y mae, oherwydd celwyddog ydyw ef, a thad iddo. Ond â minnau’n dywedyd y gwir, ni chredwch fi. Pwy ohonoch a’m prawf i’n euog o bechod? Os y gwir yr ydwyf yn ei ddywedyd, paham na chredwch chwi fi? Y mae’r hwn sy’n hanfod o Dduw yn clywed geiriau Duw. Dyma paham nad ydych chwi yn clywed, am nad o Dduw yr ydych.” Atebodd yr Iddewon a dywedasant wrtho: “Onid da y dywedwn ni mai Samariad wyt ti a bod gennyt gythraul?” Atebodd Iesu: “Nid oes gennyf gythraul, ond yr wyf yn parchu fy nhad, a chwithau ’n fy amharchu i. Ac nid wyf yn ceisio fy ngogoniant fy hun; y mae un sydd yn ceisio ac yn barnu. Ar fy ngwir, meddaf i chwi, os ceidw neb fy ngair i, ni wêl farwolaeth byth yn dragywydd.” Meddai’r Iddewon wrtho: “Yn awr gwyddom fod gennyt gythraul. Bu farw Abraham a’r proffwydi hefyd, ac yr wyt ti’n dywedyd, ‘os ceidw neb fy ngair i, ni phrofa farwolaeth byth yn dragywydd.’ A wyt ti’n fwy na’n tad Abraham, a fu farw? A’r proffwydi hefyd, buont hwythau feirw. Pwy yr wyt ti yn dy wneuthur dy hun?” Atebodd Iesu: “Os wyf i yn fy ngogoneddu fy hunan, nid yw fy ngogoniant i ddim. Fy nhad i, hwnnw sydd yn fy ngogoneddu, yr hwn y dywedwch chwi amdano, ‘Ein Duw ydyw’; ac eto yr ydych heb ei adnabod, ond adwaen i ef, ac os dywedaf nas adwaen ef, byddaf fel chwi yn gelwyddog. Ond adwaen i ef, ac yr wyf yn cadw ei air. Gorfoleddodd Abraham eich tad chwi y gwelai fy nydd i; a gwelodd a llawenhaodd.” Meddai’r Iddewon felly wrtho: “Nid wyt ti eto’n hanner can mlwydd, ac a welaist ti Abraham?” Meddai’r Iesu wrthynt: “Ar fy ngwir, meddaf i chwi, yr wyf i cyn bod Abraham.” Felly cyfodasant gerrig i’w taflu ato, ond aeth Iesu o’r golwg, ac allan o’r deml. Ac wrth fyned heibio, gwelodd ddyn dall o’i enedigaeth, a holodd ei ddisgyblion ef gan ddywedyd: “Rabbi, pwy a bechodd, ai hwn ai ei rieni fel y ganed ef yn ddall?” Atebodd Iesu: “Nid hwn a bechodd na’i rieni chwaith, ond er mwyn amlygu gweithredoedd Duw ynddo ef. Rhaid i ni weithio gweithredoedd yr hwn a’m hanfonodd tra fo hi’n ddydd. Y mae’r nos yn dyfod pan na all neb weithio. Tra fwyf yn y byd, goleuni’r byd ydwyf.” Wedi dywedyd hyn, poerodd ar lawr a gwnaeth laid o’r poer, a rhoes y llaid ar ei lygaid a dywedodd wrtho: “Dos, ymolch yn llyn Siloam” (a gyfieithir yn Anfonedig). Aeth yntau ymaith ac ymolchodd a daeth yn gweled. Felly dywedodd y cymdogion, a’r rhai a’i gwelai gynt pan oedd yn gardotyn: “Onid hwn yw’r dyn oedd yn eistedd ac yn cardota?” “Hwn ydyw,” medd rhai. “Nage,” medd eraill, “ond un tebig iddo ydyw.” Medd yntau: “Myfi yw.” Dywedasant hwythau wrtho: “Sut felly yr agorwyd dy lygaid?” Atebodd yntau: “Y dyn a’i enw Iesu a wnaeth laid ac a irodd fy llygaid ac a ddywedodd wrthyf: ‘Dos i Siloam ac ymolch’; felly wedi myned ac ymolchi, mi ddeuthum i weled.” A dywedasant wrtho: “Ym mha le y mae ef?” Medd yntau: “Ni wn i.” Ant ag ef at y Phariseaid, y dyn oedd gynt yn ddall; ac yr oedd hi’n Sabath ar y dydd y gwnaeth yr Iesu y llaid ac yr agorodd ei lygaid. Felly dyma’r Phariseaid hefyd yn ei holi wedyn sut y daeth i weled, ac meddai yntau wrthynt: “Llaid a roes ar fy llygaid i ac ymolchais ac yr wyf yn gweled.” Dywedodd rhai o’r Phariseaid, felly: “Nid ydyw’r dyn hwn oddiwrth Dduw ag yntau heb fod yn cadw y Sabath.” Medd eraill, “Sut y gall dyn pechadurus wneuthur arwyddion o’r fath?” Ac aeth yn ddwyblaid yn eu plith, a dywedasant wedyn wrth y dyn dall: “Beth a ddywedi di amdano, ag yntau wedi agor dy lygaid?” Dywedodd yntau: “Proffwyd ydyw.” Felly ni chredai’r Iddewon amdano ei fod yn ddall ac wedi dyfod i weled nes galw ohonynt ei rieni ef, y dyn a ddaethai i weled, a holasant hwynt gan ddywedyd: “Hwn yw eich mab chwi y dywedwch chwi ei fod wedi ei eni’n ddall? Sut ynteu y mae yn awr yn gweled?” Atebodd ei rieni a dywedasant: “Gwyddom mai hwn yw ein mab ac mai’n ddall y ganed ef, ond sut y mae’n gweled yn awr nis gwyddom, a phwy a agorodd ei lygaid nis gwyddom ni; holwch ef, y mae mewn oed, fe sieryd ef amdano’i hun.” Hyn a ddywedodd ei rieni am fod ofn yr Iddewon arnynt, oherwydd yr oedd yr Iddewon eisoes wedi cytuno i dorri allan o’r synagog bob un a’i harddelai ef yn Eneiniog. Dyna paham y dywedodd ei rieni, “Y mae mewn oed, holwch ef.” Felly galwasant yr ail waith y dyn a fuasai’n ddall, ac meddent hwy wrtho: “Dyro ogoniant i Dduw; gwyddom ni mai pechadur ydyw hwn.” Atebodd yntau: “Ai pechadur ydyw, nis gwn. Un peth a wn, mai dall oeddwn a’m bod yn awr yn gweled.” Meddent hwy felly wrtho: “Beth a wnaeth iti? Sut yr agorodd dy lygaid di?” Atebodd iddynt: “Yr wyf wedi dywedyd wrthych yn barod, ond ni wrandawsoch. Paham y mynnwch glywed eilwaith? Nid oes arnoch chwithau hefyd eisieu bod yn ddisgyblion iddo, a oes?” A chablasant ef a dywedasant wrtho: “Yr wyt ti’n ddisgybl i hwn, ond disgyblion Moesen ydym ni. Gwyddom ni am Foesen, i Dduw lefaru wrtho, ond am hwn, ni wyddom o ba le y mae.” Atebodd y dyn a dywedodd wrthynt: “Ie, dyna’r rhyfeddod na wyddoch chwi o ba le y mae, ag yntau wedi agor fy llygaid i. Gwyddom nad yw Duw yn gwrando ar bechaduriaid, ond os yw neb yn ofni Duw ac yn gwneuthur ei ewyllys ef, hwnnw y mae’n ei wrando. Ni bu erioed sôn bod neb wedi agor llygaid dyn wedi ei eni’n ddall. Onid oedd hwn o Dduw, ni allasai wneuthur dim.” Atebasant a dywedasant wrtho: “Mewn pechodau y ganed di’n gyfangwbl, ac a wyt ti’n ein dysgu ni?” A bwriasant ef allan. Clywodd Iesu eu bod wedi ei fwrw allan, ac meddai ef, wedi dyfod o hyd iddo: “A wyt ti’n credu ym mab y dyn?” Atebodd yntau a dywedodd: “A phwy yw, Syr, er mwyn i mi gredu ynddo?” Dywedodd yr Iesu wrtho: “Nid yn unig yr wyt ti wedi ei weled, ond yr hwn sydd yn siarad â thi ydyw.” Medd ef: “Yr wyf yn credu, Arglwydd.” Ac addolodd ef. A dywedodd yr Iesu: “I farn y deuthum i i’r byd hwn, fel y gwelo’r rhai ni welant ac yr êl y rhai sy’n gweled yn ddeillion.” Clywodd y rhai o’r Phariseaid a oedd gydag ef hynny, a dywedasant wrtho: “A ydym ninnau hefyd yn ddeillion?” Meddai’r Iesu wrthynt: “Pe baech ddeillion, ni byddai pechod arnoch. Yn awr dywedwch, ‘Yr ydym yn gweled’; y mae eich pechod yn aros.” “Ar fy ngwir, meddaf, i chwi, yr hwn nid yw’n dyfod i mewn drwy’r drws i gorlan y defaid ond sydd yn dringo drosodd ffordd arall, lleidr ac ysbeiliwr yw hwnnw, ond yr hwn sy’n dyfod i mewn drwy’r drws, bugail y defaid ydyw. I hwn yr egyr y porthor, a gwrendy’r defaid ar ei lais ef, a geilw ef ei ddefaid ei hunan wrth eu henw a thywys hwy allan. Pan dry ei holl ddefaid ei hun allan, y mae’n cerdded o’u blaen ac y mae’r defaid yn ei ddilyn am eu bod yn adnabod ei lais. Ond byth ni ddilynant ddieithryn, ond dihangant oddiwrtho, am nad adwaenant lais dieithriaid.” Y ddameg hon a ddywedodd yr Iesu wrthynt, ond ni wyddent hwy beth oedd yr hyn a ddywedai wrthynt. Felly, dywedodd yr Iesu wrthynt drachefn: “Ar fy ngwir, meddaf i chwi, myfi yw drws y defaid. Pawb a ddaeth o’m blaen i, lladron ydynt ac ysbeilwyr, ond ni wrandawodd y defaid arnynt. Myfi yw’r drws; os daw neb i mewn drwof i, bydd yn ddiogel, ac â i mewn ac allan a chaiff borfa. Nid yw’r lleidr yn dyfod ond i ladrata a lladd a difetha. Ond deuthum i er mwyn iddynt gael bywyd a’i gael yn helaethach. Myfi yw’r bugail da; y mae’r bugail da yn rhoddi ei fywyd dros y defaid. Ond y gwas cyflog, nad yw’n fugail, ac nad yw’r defaid yn eiddo iddo ef ei hunan, — y mae hwn yn gweled y blaidd yn dyfod ac yn gadael y defaid ac yn dianc, ac y mae’r blaidd yn eu llarpio a’u tarfu — am mai gwas cyflog ydyw, ac nad yw’n hidio am y defaid. Myfi yw’r bugail da, ac yr wyf yn adnabod fy nefaid fy hun, ac y mae fy nefaid yn fy adnabod i, fel y mae’r tad yn fy adnabod i a minnau’n adnabod y tad, ac yr ydwyf yn rhoddi fy mywyd dros y defaid. A defaid eraill sydd gennyf nad ydynt o’r gorlan hon, a’r rheiny hefyd y mae’n rhaid i mi eu cyrchu, a gwrandawant ar fy llais, a bydd un ddiadell, un bugail. Am hyn y mae fy nhad yn fy ngharu i am fy mod yn rhoddi fy mywyd, fel y caffwyf ef yn ôl. Ni chymerth neb ef oddiarnaf, ond yr wyf i yn ei roddi ef ohonof fy hun. Y mae gennyf hawl i’w roddi, ac y mae gennyf hawl i’w gael yn ôl. Dyma’r siars a gefais gan fy nhad.” Ac aeth yn ddwyblaid drachefn ymhlith yr Iddewon o achos y geiriau hyn; ac meddai llawer ohonynt: “Y mae ganddo gythraul ac y mae o’i gof. Paham yr ydych yn gwrando arno?” Meddai eraill: “Nid dyna eiriau dyn a chythraul ganddo; a all cythraul agor llygaid deillion?” Ac yr oedd yn ŵyl yr ailgysegriad y pryd hwnnw yng Nghaersalem; y gaeaf ydoedd, ac yr oedd yr Iesu yn cerdded yn y deml ym mhendist Solomon. Felly gwnaeth yr Iddewon gylch amdano, a dywedasant wrtho: “Pa hyd yr wyt am ein cadw rhwng dau feddwl? Os ti yw’r Eneiniog, dywed wrthym yn blaen.” Atebodd yr Iesu iddynt: “Dywedais wrthych, ac nid ydych yn credu. Y gweithredoedd yr wyf i yn eu gwneuthur yn enw fy nhad, y rhai hynny sydd yn tystio amdanaf i. Ond nid ydych chwi’n credu, am nad ydych o blith fy nefaid. Y mae fy nefaid i yn gwrando ar fy llais, ac adwaen i hwy, ac y maent yn fy nghanlyn, ac yr wyf innau yn rhoddi iddynt fywyd tragwyddol, ac ni threngant hwy byth yn dragywydd, ac ni chipia neb hwy o’m llaw i. Fy nhad, — yr hyn a roes ef i mi, y mae hynny’n fwy na phopeth, ac ni all neb gipio o law y tad; yr ydwyf i a’r tad yn un.” Cododd yr Iddewon gerrig drachefn i’w labyddio. Atebodd yr Iesu iddynt: “Llawer o weithredoedd a ddangosais i chwi, rhai da, oddiwrth y tad: am ba weithred ohonynt yr ydych yn fy llabyddio?” Atebodd yr Iddewon iddo: “Am weithred dda nid ydym yn dy labyddio di, ond am gabledd, ac am dy fod di, â thithau’n ddyn, yn dy wneuthur dy hun yn dduw.” Atebodd yr Iesu iddynt: “Onid yw wedi ei ysgrifennu yn eich cyfraith chwi, Dywedais i, duwiau ydych? Os galwodd ef y rheiny’n dduwiau y daeth gair Duw atynt (ac ni ellir diddymu’r ysgrythur), a ddywedwch chwi am yr hwn a gysegrodd y tad a’i anfon i’r byd, ‘Yr wyt yn cablu,’ am i mi ddywedyd, ‘Mab Duw ydwyf?’ Onid wyf yn gwneuthur gweithredoedd fy nhad, na chredwch fi: ond os wyf yn eu gwneuthur, hyd yn oed oni chredwch fi, credwch y gweithredoedd, fel y gwypoch ac y dealloch fod y tad ynof i a minnau yn y tad.” Felly yr oeddynt yn ceisio drachefn ei ddal, ond aeth allan o’u gafael hwynt. Ac aeth ymaith drachefn dros Iorddonen i’r fan lle y byddai Ioan yn bedyddio ar y cyntaf, ac arhosodd yno. A daeth llawer ato, a dywedasant: “Ni wnaeth Ioan un arwydd, ond eto yr oedd y cwbl a ddywedodd Ioan am hwn yn wir.” A chredodd llawer ynddo yn y fan honno. Ac yr oedd rhyw ddyn yn glaf, Lasarus o Fethania o dref Mair a Martha ei chwaer, — Mair oedd honno a eneiniodd yr Arglwydd ag ennaint ac a sychodd ei draed â’i gwallt, a’i brawd hi Lasarus oedd yn glaf. Felly anfonodd y chwiorydd ato a dywedyd: “Arglwydd, dyma’r hwn sydd hoff gennyt yn glaf.” Wedi clywed, dywedodd yr Iesu: “Nid yw’r clefyd yma tuag at farwolaeth, ond er mwyn gogoniant Duw, fel y gogonedder mab Duw drwyddo.” Ac yr oedd yr Iesu yn caru Martha a’i chwaer a Lasarus; felly pan glywodd ei fod yn glaf, yna aros deuddydd a wnaeth yn y fan lle’r oedd. Ond wedi hynny, medd wrth ei ddisgyblion: “Awn yn ôl i Iwdea.” Medd ei ddisgyblion wrtho: “Rabbi, gynneu yr oedd pobl Iwdea yn ceisio dy labyddio, ac a wyt ti’n myned yn ôl yno?” Atebodd Iesu: “Onid oes deuddeg awr yn y dydd? Os rhodia neb yn y dydd, ni fagla am ei fod yn gweled goleuni’r byd hwn; ond os rhodia neb yn y nos, fe fagla, am nad yw’r goleuni ynddo.” Dywedodd hyn, ac wedi hynny medd ef wrthynt: “Y mae Lasarus ein ffrind ni wedi huno, ond yr wyf i yn myned er mwyn ei ddihuno ef.” Medd ei ddisgyblion wrtho felly: “Arglwydd, os ydyw wedi huno, fe wella”; ond soniasasai’r Iesu am ei farw ef, ond tybiasant hwy mai am hun cwsg y soniai. Felly dywedodd yr Iesu wrthynt wedyn yn eglur: “Y mae Lasarus wedi marw, ac y mae’n llawen gennyf nad oeddwn i yno, er eich mwyn chwi, fel y credoch. Ond awn ato.” Felly dywedodd Thomas (a elwir yn Efell) wrth ei gyd-ddisgyblion: “Awn ninnau hefyd i farw gydag ef.” Felly ar ôl i’r Iesu ddyfod, cafodd ef wedi bod eisoes bedwar diwrnod yn ei fedd — ac yr oedd Bethania yn ymyl Caersalem, tua phymtheg ystâd. Ac yr oedd llawer o’r Iddewon wedi dyfod at Fartha a Mair, i’w cysuro hwy am eu brawd. Aeth Martha, wedi clywed bod yr Iesu’n dyfod, i gyfarfod ag ef, ond yr oedd Mair yn eistedd yn y tŷ. Ac meddai Martha wrth Iesu: “Arglwydd, pe buasit ti yma, ni buasai farw fy mrawd. A gwn yn awr, pa beth bynnag a ofynnych gan Dduw, y dyry Duw ef i ti.” Medd yr Iesu wrthi: “Fe atgyfyd dy frawd.” Medd Martha wrtho: “Mi wn yr atgyfyd yn yr atgyfodiad yn y dydd diwethaf.” Medd yr Iesu wrthi: “Myfi ydyw’r atgyfodiad a’r bywyd. Y neb sy’n credu ynof, bydd byw er iddo farw, a phob un sy’n byw ac yn credu ynof i, ni bydd marw byth yn dragywydd. A wyt ti’n credu hyn?” Medd hithau wrtho: “Ydwyf, Arglwydd, yr wyf wedi credu mai ti yw’r Eneiniog, mab Duw sydd yn dyfod i’r byd.” Wedi dywedyd hyn, aeth ymaith a galwodd ei chwaer Mair yn ddistaw a dywedyd: “Y mae’r athro wedi dyfod, ac yn galw amdanat.” A phan glywodd hithau hynny, y mae’n codi i fyny ar unwaith, a chychwynnodd tuag ato, ond nid oedd yr Iesu wedi cyrraedd eto i’r dref, ond yr oedd eto yn y lle y cyfarfu Martha ag ef. A phan welodd yr Iddewon a oedd gyda hi yn y tŷ ac yn ei chysuro, fod Mair wedi cyfodi yn sydyn a myned allan, dilynasant hi, gan dybio ei bod yn myned at y bedd i alaru yno. A phan ddaeth Mair i’r lle yr oedd Iesu, wedi ei weled, syrthiodd wrth ei draed a dywedodd wrtho: “Arglwydd, pe buasit ti yma, ni buasai farw fy mrawd.” Felly pan welodd yr Iesu hi’n galaru a’r Iddewon a ddaethai gyda hi yn galaru, ffromodd yn yr ysbryd ac ymgynhyrfodd, a dywedodd: “Ym mha le yr ydych wedi ei ddodi ef?” Meddant hwy wrtho: “Syr, tyred a gwêl.” Torrodd yr Iesu i wylo. Meddai’r Iddewon felly: “Mor hoff oedd ohono!” Ond meddai rhai ohonynt: “Oni allai hwn, agorwr llygaid y dall, wneuthur â hwn hefyd na byddai farw?” Felly ffromodd yr Iesu drachefn ynddo’i hun, ac aeth at y bedd. Ac ogof oedd, a maen wedi ei osod arno. Medd yr Iesu: “Symudwch y maen.” Medd Martha, chwaer y marw wrtho: “Arglwydd, y mae’n arogleuo erbyn hyn, oherwydd y mae hi’n bedwerydd dydd arno.” Medd yr Iesu wrthi: “Oni ddywedais i wrthyt: ‘Os credi, cei weled gogoniant Duw’?” Felly symudasant y maen, a chododd yr Iesu ei lygaid i fyny a dywedodd: “Dad, yr wyf yn diolch iti am i ti fy ngwrando; mi wyddwn i dy fod bob amser yn fy ngwrando, ond oherwydd y dyrfa sydd yn sefyll o amgylch y dywedais, er mwyn iddynt gredu mai ti a’m hanfonodd.” Ac ar ôl dywedyd hyn, gwaeddodd â llais uchel: “Lasarus, tyrd allan.” Daeth y marw allan a’i draed a’i ddwylo wedi eu rhwymo mewn cadachau, ac yr oedd ei wyneb wedi ei rwymo â ffunen. Medd yr Iesu wrthynt: “Rhyddhewch ef, a gedwch iddo fyned.” Felly credodd ynddo lawer o’r Iddewon a ddaethai at Fair ac a welsai’r hyn a wnaeth. Ond aeth rhai ohonynt at y Phariseaid, a dywedasant wrthynt yr hyn a wnaeth Iesu. Felly galwodd y prif offeiriaid a’r Phariseaid gyngor, a dywedasant: “Pa beth yr ydym ni yn ei wneuthur, gan fod y dyn hwn yn gwneuthur llawer o arwyddion? Os gadwn iddo fel y mae, bydd pawb yn credu ynddo, a daw’r Rhufeiniaid a chymryd ein gwlad a’n cenedl hefyd.” A dywedodd un ohonynt, Caiaffas, a oedd yn brif offeiriad y flwyddyn honno: “Ni wyddoch chwi ddim byd, ac nid ydych yn ystyried ei bod yn ennill i chwi farw o un dyn dros y bobl yn lle dyfod dinistr ar yr holl genedl.” Ond nid ohono’i hun y dywedodd ef hyn, ond ag yntau’n brif offeiriad y flwyddyn honno, proffwydodd y byddai i Iesu farw dros y genedl, ac nid dros y genedl yn unig, ond er mwyn iddo gasglu yn un blant Duw a aethai ar wasgar. Felly o’r dydd hwnnw allan cynlluniasant i’w ladd ef. Gan hynny ni rodiai’r Iesu’n agored mwy ymhlith pobl Iwdea, ond aeth ymaith oddiyno i’r wlad yn ymyl yr anialwch i ddinas a elwir Effraim, ac yno yr arhosodd gyda’i ddisgyblion. Ac yr oedd pasg yr Iddewon yn agos, ac aeth llaweroedd i fyny i Gaersalem o’r wlad, o flaen y pasg, er mwyn ymlanhau. Felly aethant i chwilio am yr Iesu a dywedent wrth ei gilydd wrth sefyll yn y deml: “Beth a feddyliwch chwi? Na ddaw ef i’r ŵyl?” Ac yr oedd y prif offeiriaid a’r Phariseaid wedi rhoddi gorchmynion os gwyddai rhywun lle yr oedd, i hysbysu hynny, er mwyn iddynt ei ddal. Chwe diwrnod cyn y Pasg, daeth yr Iesu i Fethania, lle yr oedd Lasarus a gyfodasai Iesu o feirw. Am hynny gwnaethant swper iddo yno, ac yr oedd Martha yn gweini, ac yr oedd Lasarus yn un o’r rhai a oedd wrth y bwrdd gydag ef. A chymerth Mair bwys o ennaint nard pur costus, ac eneiniodd draed yr Iesu, a sychodd ei draed ef â’i gwallt. A llanwyd y tŷ ag aroglau’r ennaint, ac medd Iwdas o Gerioth, un o’i ddisgyblion, — ei fradychwr wedi hynny — “Pam na werthwyd yr ennaint hwn am dri chan swllt a’i roddi i dlodion?” Dywedodd hyn, nid am ei fod yn malio am y tlodion, ond am mai lleidr oedd, a chanddo’r blwch ac yn dwyn yr hyn a fwrrid iddo. Medd yr Iesu felly: “Gad iddi hi gadw hyn ar gyfer dydd fy nghladdu. Y tlodion sydd gennych gyda chwi bob amser, ond myfi, nid wyf i gennych bob amser.” Felly gwybu tyrfa fawr o’r Iddewon ei fod yno, a daethant, nid o achos yr Iesu yn unig, ond i weled Lasarus hefyd, a gyfodasai ef o feirw. Cynlluniodd y prif offeiriaid i ladd Lasarus hefyd, am fod llawer o’r Iddewon yn ymadael o’i achos, ac yn credu yn yr Iesu. Trannoeth, wedi clywed bod yr Iesu yn dyfod i Gaersalem, cymerth y dyrfa fawr, a oedd wedi dyfod i’r ŵyl, gangau’r palmwydd, ac aethant allan i gyfarfod ag ef, a gweiddi: “Hosanna, Bendigedig yr hwn sy’n dyfod yn enw yr Arglwydd,a brenin yr Israel.” A chafodd yr Iesu asyn bach, ac eisteddodd arno fel y mae’r adnod: Nac ofna, ferch Seion; Gwêl, y mae dy Frenin yn dyfod yn eistedd ar ebol asyn. Ni ddeallodd ei ddisgyblion ef hyn ar y cyntaf, ond pan ogoneddwyd Iesu, yna cofiasant fod hyn wedi ei ysgrifennu amdano, a’u bod wedi gwneuthur hyn iddo. Felly tystiai’r dyrfa a oedd gydag ef pan alwodd ef Lasarus o’r bedd a’i gyfodi o feirw. Am hyn hefyd y daeth y dyrfa i gyfarfod ag ef, am iddynt glywed ei fod wedi gwneuthur yr arwydd hwn. Felly meddai’r Phariseaid wrth ei gilydd: “Gwelwch nad ydych yn tycio dim; dyma’r byd wedi myned ymaith ar ei ôl.” Ac yr oedd rhai Groegiaid ymhlith y rhai a oedd yn myned i fyny i addoli yn yr ŵyl. Daeth y rhain at Phylip a oedd o Fethsaida yng Ngalilea, a gofynasant iddo gan ddywedyd: “Syr, yr ydym yn dymuno gweled yr Iesu.” Y mae Phylip yn dyfod ac yn dywedyd wrth Andreas; daw Andreas a Phylip a dywedyd wrth yr Iesu. Ac y mae’r Iesu yn eu hateb gan ddywedyd: “Y mae’r awr wedi dyfod i fab y dyn gael ei ogoneddu. Ar fy ngwir, meddaf i chwi, oni syrth y gronyn ŷd i’r ddaear a marw, fe erys hwnnw’n unig. Ond os bydd marw, y mae’n dwyn ffrwyth lawer. Yr hwn sy’n caru ei enaid ei hun, fe’i cyll ef, a’r hwn sy’n cashau ei enaid yn y byd hwn, fe’i ceidw i fywyd tragwyddol. Os gwasanaetha neb fi, dilyned fi, a lle yr wyf i, yno y bydd fy ngwasanaethwr hefyd. Os gwasanaetha neb fi, anrhydedda’r tad ef. Yn awr y mae f’enaid wedi ei gynhyrfu, a beth a ddywedaf? Dad, gwared fi o’r awr hon, ond er mwyn hyn y deuthum i’r awr hon. Dad, gogonedda dy enw.” A daeth gan hynny lais o’r nef: “Yr wyf wedi ei ogoneddu, a gogoneddaf eto.” Felly dywedodd y dyrfa, a oedd yn sefyll ac yn clywed, ei bod wedi taranu. Meddai eraill: “Angel a siaradodd wrtho.” Atebodd Iesu a dywedodd: “Nid o’m hachos i y daeth y llais hwn, ond o’ch achos chwi. Yn awr y mae barn y byd hwn; yn awr y bwrrir allan bennaeth y byd hwn. A minnau, os dyrchefir fi o’r ddaear, a dynnaf bawb ataf fy hun.” Hyn a ddywedodd i arwyddo drwy ba angeu y byddai farw. Felly atebodd y dyrfa iddo: “Clywsom ni o’r gyfraith fod yr Eneiniog yn aros yn dragywydd, a sut yr wyt ti yn dywedyd bod yn rhaid i fab y dyn gael ei ddyrchafu? Pwy ydyw’r ‘mab y dyn’ hwn?” Meddai’r Iesu wrthynt felly: “Ychydig amser eto y mae’r goleuni gyda chwi. Rhodiwch tra fo’r goleuni gennych, rhag i’r tywyllwch eich gorddiwes: ac ni ŵyr yr hwn sy’n rhodio yn y tywyllwch i ba le y mae’n myned. Tra fo’r goleuni gennych, credwch yn y goleuni, er mwyn i chwi ddyfod yn feibion goleuni.” Hyn a ddywedodd Iesu, ac wedi myned ymaith, diflannodd o’u canol. Ond er iddo wneuthur cymaint o arwyddion ger eu bron, ni chredent ynddo, fel y cyflawnid gair y proffwyd Eseia, a ddywedodd: Arglwydd, pwy a gredodd i’r hyn a glybuwyd gennym? a braich yr Arglwydd, i bwy y datguddiwyd hi? Am hyn, ni allent gredu, gan fod Eseia wedi dywedyd wedyn: Y mae wedi dallu eu llygaid, a chaledu eu calon, fel na welont â’u llygaid a deall â’u calon a dychwelyd, a minnau a’u hiachaf hwynt. Hyn a ddywedodd Eseia am iddo weled ei ogoniant ef, a soniodd amdano. Ac yn wir, ar waethaf popeth, credodd llawer hyd yn oed o’r penaethiaid ynddo, ond oherwydd y Phariseaid, ni chyfaddefent rhag eu torri allan o’r synagog, canys yr oeddynt yn caru clod gan ddynion yn fwy na chlod gan Dduw. A gwaeddodd yr Iesu a dywedodd: “Y neb sy’n credu ynof i, nid ynof i y mae’n credu ond yn yr hwn a’m hanfonodd i; a’r neb sy’n fy ngweled i, sy’n gweled yr hwn a’m hanfonodd i. Yn oleuni yr wyf i wedi dyfod i’r byd, fel nad arhoso neb sy’n credu ynof i yn y tywyllwch. Ac os clyw neb fy ngeiriau i ac nis ceidw hwynt, nid wyf i’n ei farnu, canys ni ddeuthum i farnu’r byd ond i achub y byd. Yr hwn sy’n fy nibrisio i a heb dderbyn fy ngeiriau i, y mae ganddo un sydd yn ei farnu. Y gair a ddywedais, hwnnw a’i barn yn y dydd diwethaf; am nad ohonof fy hun y lleferais, ond yr hwn a’m hanfonodd i, y tad, hwnnw a roes siars arnaf beth a ddywedwyf a beth a lefarwyf. A gwn fod ei siars ef yn fywyd tragwyddol. Yr hyn felly a lefaraf yn awr, fel y dywedodd y tad wrthyf, felly y llefaraf.” A chyn gŵyl y Pasg, gwyddai’r Iesu fod ei adeg ef wedi dyfod i ymadael â’r byd hwn at ei dad; yr oedd wedi caru ei bobl ei hun yn y byd, a charodd hwy hyd y diwedd. Ac ar swper, — a’r diafol eisoes wedi bwrw yng nghalon Iwdas fab Simon o Gerioth i’w fradychu ef, — gan ei fod yn gwybod bod y tad wedi rhoddi popeth yn ei ddwylo, a’i fod wedi dyfod oddiwrth Dduw ac yn myned at Dduw, y mae’n codi oddiwrth swper ac yn diosg ei ddillad, ac wedi cymryd tywel, yn ei ddodi am ei ganol. Yna y mae’n tywallt dwfr i’r cawg, a dechreuodd olchi traed y disgyblion a’u sychu â’r tywel a ddodasai am ei ganol. Felly y mae’n dyfod at Simon Pedr. Dywed yntau wrtho: “Arglwydd, tydi ’n golchi fy nhraed i?” Atebodd Iesu a dywedodd wrtho: “Yr hyn yr wyf i yn ei wneuthur, ni wyddost yn awr, ond cei wybod ar ôl hyn.” Medd Pedr wrtho: “Ni chei olchi fy nhraed i yn dragywydd.” Atebodd Iesu iddo: “Oni’th olchaf di, nid oes gennyt ran gyda mi.” Medd Simon Pedr wrtho: “Arglwydd, nid fy nhraed yn unig ond fy nwylo hefyd a’m pen.” Medd Iesu wrtho: “Yr hwn sydd wedi ymolchi drosto, nid oes angen golchi dim ond y traed arno, ond y mae’n lân i gyd: ac yr ydych chwi’n lân, ond nid pawb”; canys yr oedd ei fradychwr yn wybyddus iddo; am hyn y dywedodd: “Nid ydych bawb yn lân.” Yna ar ôl golchi eu traed a chymryd ei ddillad a myned at y bwrdd drachefn, dywedodd wrthynt: “A wyddoch chwi beth a wneuthum i chwi? Yr ydych chwi yn fy ngalw yn ‘Athro’ ac ‘Arglwydd,’ a da y dywedwch; dyna ydwyf. Felly os golchais i, yr Arglwydd a’r Athro, eich traed chwi, dylech chwithau hefyd olchi traed eich gilydd, canys esiampl a roddais i chwi er mwyn i chwithau hefyd wneuthur fel y gwneuthum i â chwi. Ar fy ngwir, meddaf i chwi, nid yw’r gwas yn fwy na’i feistr, ac nid yw’r negesydd yn fwy na’r hwn a’i hanfonodd. Os gwyddoch y pethau hyn, gwyn eich byd os gwnewch hwy. Nid am bawb ohonoch yr wyf yn dywedyd, — mi wn i pwy a ddewisais, — ond er mwyn cyflawni’r ysgrythur: Yr hwn sy’n bwyta fy mara a gyfododd ei sawdl i’m herbyn. Yr wyf yn dywedyd yn awr cyn ei ddigwydd, er mwyn i chwi gredu, pan ddigwyddo, mai myfi yw. Ar fy ngwir, meddaf i chwi, y mae’r neb sy’n derbyn unrhyw un a anfonwyf yn fy nerbyn i, a’r hwn sy’n fy nerbyn i yn derbyn yr hwn a’m hanfonodd i.” Wedi dywedyd hyn, cynhyrfwyd yr Iesu yn ei ysbryd, a thystiodd a dywedodd: “Ar fy ngwir, meddaf i chwi, y mae un ohonoch am fy mradychu i.” A dyma’r disgyblion yn edrych ar ei gilydd, yn methu deall am bwy y soniai. Yr oedd wrth y bwrdd un o’i ddisgyblion â’i bwys ar fynwes yr Iesu, yr hwn yr oedd yr Iesu’n ei garu. Felly y mae Simon Pedr yn amneidio ar hwnnw ac yn dywedyd wrtho: “Dywed am bwy y mae’n sôn.” Ac y mae yntau, wedi rhyw bwyso’n ôl ar fron yr Iesu, yn dywedyd wrtho: “Arglwydd, pwy yw?” Y mae’r Iesu’n ateb: “Hwnnw ydyw y byddaf i yn mwydo’r tamaid ac yn ei roddi iddo.” Felly cymer y tamaid, ar ôl ei fwydo, a dyry ef i Iwdas fab Simon o Gerioth. Ac ar ôl y tamaid, yna aeth Satan i mewn iddo. Medd yr Iesu felly wrtho: “Y gwaith sydd gennyt, gwna ar frys.” Ond ni wyddai neb o’r rhai oedd wrth y bwrdd mo hyn, — i ba amcan y dywedodd ef wrtho, canys tybiai rhai, gan mai gan Iwdas yr oedd y blwch, fod Iesu yn dywedyd wrtho: “Pryn yr hyn y mae arnom ei eisiau at yr ŵyl,” neu am iddo roi rhywbeth i’r tlodion. Felly cymerth yntau’r tamaid, ac aeth allan yn y fan. Ac yr oedd hi’n nos. Felly, ar ôl iddo fyned allan, medd Iesu: “Yn awr y gogoneddwyd mab y dyn, ac y gogoneddwyd Duw ynddo ef. Os Duw a ogoneddwyd ynddo, Duw hefyd a’i gogonedda ef ynddo’i hun, ac fe’i gogonedda ar unwaith. Blant bach, ychydig eto y byddaf gyda chwi. Chwi a’m ceisiwch, ac fel y dywedais wrth yr Iddewon, ‘y lle yr wyf i yn myned, ni ellwch chwi ddyfod,’ yn awr yr wyf yn dywedyd wrthych chwithau. Gorchymyn newydd yr wyf yn ei roddi i chwi, i chwi garu eich gilydd; fel y cerais i chwi, i chwithau garu eich gilydd. Wrth hyn, gwybydd pawb mai disgyblion i mi ydych, os bydd gennych gariad at eich gilydd.” Medd Simon Pedr wrtho: “Arglwydd, i ba le yr wyt ti’n myned?” Atebodd Iesu: “Y lle yr wyf i’n myned ni elli di fy nilyn yn awr, ond dilyni fi maes o law.” Medd Pedr wrtho: “Paham na allaf i dy ddilyn di yn awr? Mi a roddaf fy mywyd trosot.” Y mae Iesu’n ateb: “Tydi am roddi dy fywyd trosof? Ar fy ngwir, meddaf i ti, ni chân y ceiliog cyn iti fy ngwadu deirgwaith.” “Na chynhyrfer eich calon; credwch yn Nuw a chredwch ynof innau. Yn nhŷ fy nhad y mae trigfannau lawer; onidê, a ddywedaswn i wrthych fy mod yn myned i baratoi lle i chwi? Ac os af a pharatoi lle i chwi, deuaf yn f’ôl a chymeraf chwi ataf fy hun, fel y byddoch chwithau hefyd lle yr wyf i. A lle yr wyf i yn myned, yr ydych yn gwybod y ffordd.” Medd Thomas wrtho: “Arglwydd, ni wyddom ni i ba le yr wyt yn myned; pa fodd y gwyddom y ffordd?” Medd Iesu wrtho: “Myfi yw’r ffordd a’r gwirionedd a’r bywyd. Nid oes neb yn dyfod at y tad ond trwof i. Ped adnabuasech fi, adnabuasech fy nhad hefyd; o hyn allan yr ydych yn ei adnabod, ac fe’i gwelsoch.” Medd Phylip wrtho: “Arglwydd, dangos i ni’r tad, a dyna ddigon inni.” Medd yr Iesu wrtho: “A ydwyf gyda chwi ers cyhyd ac nid adnabuost fi, Phylip? Y neb a’m gwelodd i a welodd y tad. Sut y dywedi di ‘Dangos i ni ’r tad?’ Oni chredi fy mod i yn y tad a’r tad ynof i? Y geiriau a ddywedaf i wrthych, nid ohonof fy hun yr wyf yn eu llefaru, ond y tad, wrth aros ynof i, sy’n gwneuthur ei weithredoedd. Credwch fi fy mod i yn y tad, a’r tad ynof innau, onidê credwch er mwyn y gweithredoedd eu hunain. Ar fy ngwir, meddaf i chwi, yr hwn sy’n credu ynof i, fe wna hwnnw hefyd y gweithredoedd yr wyf i yn eu gwneuthur, ac fe wna rai mwy na’r rhain, gan fy mod i yn myned at y tad. A pha beth bynnag a ofynnoch yn fy enw i, hynny a wnaf, fel y gogonedder y tad yn y mab. Os gofynnwch ddim gennyf yn f’enw i, mi a’i gwnaf. Os ydych yn fy ngharu i, fy gorchmynion i a gedwch; a minnau a ofynnaf i’r tad, a dyry yntau i chwi un arall i fod gyda chwi yn blaid i chwi am byth, ysbryd y gwirionedd, na all y byd ei dderbyn am nad ydyw yn ei weled na’i adnabod. Yr ydych chwi yn ei adnabod gan ei fod yn aros gyda chwi ac y bydd ynoch. Ni’ch gadawaf yn amddifaid, yr wyf yn dyfod atoch. Ychydig eto ac ni wêl y byd fi mwy, ond gwelwch chwi fi, oherwydd byw wyf i, a byw fyddwch chwithau hefyd. Yn y dydd hwnnw y gwybyddwch chwi fy mod i yn fy nhad a chwithau ynof i a minnau ynoch chwithau. Yr hwn sydd a’m gorchmynion ganddo ac yn eu cadw, hwnnw sydd yn fy ngharu. Yr hwn sy’n fy ngharu i fe’i cerir gan fy nhad, a charaf innau ef, a mi a’m hamlygaf fy hunan iddo.” Medd Iwdas wrtho — nid hwnnw o Gerioth —: “Arglwydd, a beth sy’n bod, dy fod yn myned i’th amlygu dy hun i ni ac nid i’r byd?” Atebodd Iesu a dywedodd wrtho: “Os yw neb yn fy ngharu i, fe geidw fy ngair, a châr fy nhad yntau, a deuwn ato a gwnawn ein trigfan gydag ef. Yr hwn nid yw’n fy ngharu, fy ngeiriau ni cheidw a’r gair yr ydych yn ei glywed nid yr eiddof i ydyw ond eiddo’r un a’m hanfonodd, y tad. Hyn a ddywedais wrthych a minnau’n aros gyda chwi. Ond eich plaid, yr Ysbryd Glân, a enfyn y tad yn fy enw i, dysg hwnnw i chwi bopeth, a dwg ar gof i chwi bopeth a ddywedais i wrthych. Tangnefedd yr wyf yn ei adael i chwi, fy nhangnefedd i yr wyf yn ei roddi i chwi, nid fel y mae’r byd yn rhoddi yr wyf i yn rhoddi i chwi. Na chynhyrfer ac na lyfrhaed eich calon. Clywsoch fi’n dywedyd wrthych: ‘Yr wyf yn myned ac yr wyf yn dyfod atoch.’ Pe baech yn fy ngharu i, byddech yn llawenychu am fy mod yn myned at y tad, gan fod y tad yn fwy na mi. Ac yn awr yr wyf wedi dywedyd wrthych cyn ei ddigwydd, fel, pan ddigwyddo, y credoch. Mwyach ni siaradaf lawer gyda chwi, canys y mae pennaeth y byd yn dyfod, ac ynof i nid oes ganddo ddim; ond fel y gwypo’r byd fy mod yn caru’r tad, ac megis y gorchmynnodd y tad i mi, felly yr wyf yn gwneuthur. Codwch, awn oddiyma.” “Myfi yw’r wir winwydden, a’m tad yw’r gwinllannwr. Pob cangen ynof i nad yw’n dwyn ffrwyth, fe dyrr honno ymaith, a phob un sy’n dwyn ffrwyth, fe lanha honno er mwyn iddi ddwyn mwy o ffrwyth. Yr ydych chwi eisoes yn lân o achos y gair a ddywedais wrthych. Arhoswch ynof, a minnau ynoch chwithau. Fel na all y gangen ddwyn ffrwyth ohoni ei hun onid erys yn y winwydden, felly ni ellwch chwithau chwaith, onid arhoswch ynof i. Myfi yw’r winwydden, chwithau’n ganghennau. Y neb sy’n aros ynof i a minnau ynddo yntau, y mae ef yn dwyn ffrwyth lawer, gan na ellwch ar wahân oddiwrthyf wneuthur dim. Onid erys un ynof i, y mae wedi ei fwrw allan fel y gangen ac wedi gwywo, ac y maent yn casglu’r rhain ac yn eu taflu i’r tân ac fe’u llosgir. Os arhoswch ynof i, ac os erys fy ngeiriau i ynoch, gofynnwch yr hyn a fynnoch, a bydd i chwi. Yn hyn y gogoneddwyd fy nhad, ddwyn ohonoch, ffrwyth lawer, a byddwch yn ddisgyblion i mi. Fel y carodd y tad fi, felly hefyd y cerais innau chwithau. Arhoswch yn fy nghariad i. Os cedwch fy ngorchmynion i, byddwch yn aros yn fy nghariad, fel yr wyf i wedi cadw gorchmynion fy nhad ac yn aros yn ei gariad ef. Hyn a ddywedais wrthych fel y byddo fy llawenydd i ynoch ac y byddo’ch llawenydd chwi’n gyflawn. Hwn yw fy ngorchymyn i, garu ohonoch eich gilydd fel y cerais i chwi. Mwy cariad na hyn nid oes gan neb, bod un yn rhoddi ei fywyd dros ei gyfeillion. Fy nghyfeillion i ydych chwi os gwnewch yr hyn yr wyf yn ei orchymyn i chwi. Nid wyf bellach yn eich galw yn weision, am na ŵyr y gwas yr hyn y mae ei feistr yn ei wneuthur. Ond cyfeillion y’ch gelwais chwi, gan fy mod wedi hysbysu i chwi bopeth a glywais gan fy nhad. Nid chwi a’m dewisodd i, ond myfi a’ch dewisodd chwi, a gosodais chwi i fyned a dwyn ffrwyth ac aros o’ch ffrwyth fel, pa beth bynnag a ofynnoch gan y tad yn fy enw i, y rhoddo ef hynny i chwi. Hyn yr wyf yn ei orchymyn i chwi, garu ohonoch eich gilydd. Os, yw’r byd yn eich cashau, gwybyddwch ei fod wedi fy nghashau i o’ch blaen chwi. Pe baech o’r byd, byddai’r byd yn caru ei eiddo ei hun, ond am nad ydych o’r byd, ond fy mod i wedi eich dewis allan o’r byd, am hynny y mae’r byd yn eich cashau. Cofiwch y gair a ddywedais wrthych, ‘Nid yw’r gwas yn fwy na’i feistr.’ Os erlidiasant fi, chwithau hefyd a erlidiant; os cadwasant fy ngair i, eich gair chwithau a gadwant hefyd. Ond hyn oll a wnânt i chwi oherwydd fy enw i, am nad adwaenant yr un a’m hanfonodd i. Onibai i mi ddyfod a siarad wrthynt, ni buasai arnynt bechod; ond yn awr esgus nid oes ganddynt am eu pechod. Y mae’r hwn sy’n fy nghashau i yn cashau fy nhad hefyd; onibai fy mod wedi gwneuthur y gweithredoedd yn eu mysg hwy na wnaeth neb arall, ni byddai ganddynt bechod; ond yn awr y maent wedi gweled ac wedi fy nghashau i a’m tad hefyd. Ond cyflawner y gair sydd wedi ei ysgrifennu yn eu cyfraith hwy — Y maent wedi fy nghashau i am ddim. Pan ddaw eich plaid a anfonaf i chwi oddiwrth y tad, ysbryd y gwirionedd sy’n deillio oddiwrth y tad, hwnnw a dystia amdanaf; ac yr ydych chwithau’n tystio gan eich bod gyda mi o’r dechreu.” “Hyn a ddywedais wrthych rhag eich maglu: torrant chwi allan o’r synagog, ac yn wir mae’r adeg yn dyfod i bob un a’ch lladdo dybied ei fod yn dwyn offrwm i Dduw. A hyn a wnânt am eu bod heb adnabod y tad na minnau. A’r pethau hyn a ddywedais wrthych er mwyn i chwi eu cofio, pan ddaw eu hadeg, fy mod wedi eu dywedyd wrthych. Nis dywedais hwynt wrthych ar y dechreu, am fy mod gyda chwi. Ond yn awr yr wyf yn myned at yr hwn a’m hanfonodd, ac nid oes neb ohonoch yn gofyn i mi, ‘I ba le yr ei?’, ond am fy mod wedi dywedyd hyn wrthych, y mae’r tristwch wedi llenwi eich calon. Ond yr wyf i’n dywedyd y gwir wrthych; y mae’n lles i chwi fy myned i ymaith, canys onid af, ni ddaw eich plaid atoch. Ond os af, anfonaf ef atoch. A phan ddaw hwnnw, fe brawf gyfeiliorni o’r byd am bechod, am gyfiawnder ac am farn. Am bechod am nad ydynt yn credu ynof i; am gyfiawnder am fy mod yn myned at y tad ac ni’m gwelwch mwy; ac am farn, am fod pennaeth y byd hwn wedi ei farnu. Llawer eto o bethau sydd gennyf i’w dywedyd wrthych, ond ni ellwch eu dal yn awr; ond pan ddaw hwnnw, ysbryd y gwirionedd, fe’ch tywys i’r holl wirionedd, oherwydd ni sieryd ohono ei hun, ond yr hyn a glyw a sieryd, ac fe hysbysa i chwi y pethau sy’n dyfod. Hwnnw a’m gogonedda i, oherwydd bydd yn cymryd o’m heiddo i ac yn ei hysbysu i chwi. Eiddof i y cwbl sydd gan y tad; dyna paham y dywedais ei fod yn cymryd o’m heiddo i ac y bydd yn ei hysbysu i chwi. Ychydig amser ac ni’m gwelwch mwy, ac ychydig amser wedyn, a chwi a’m gwelwch.” Felly dywedodd rhai o’i ddisgyblion wrth ei gilydd: “Beth yw hyn a ddywed wrthym? — ‘Ychydig amser ac ni’m gwelwch, ac ychydig amser wedyn, a chwi a’m gwelwch,’ ac ‘Yr wyf yn myned at y tad?’” Meddent hwy felly: “Beth yw’r ychydig amser hwn y mae’n sôn amdano? Ni wyddom ni pa beth y mae’n ei ddywedyd.” Gwybu Iesu eu bod yn dymuno ei holi, a dywedodd wrthynt: “Ai ynghylch hyn yr ydych yn ymofyn gyda’ch gilydd, am fy mod i wedi dywedyd, ‘Ychydig amser ac ni’m gwelwch, ac ychydig amser wedyn a chwi a’m gwelwch’? Ar fy ngwir, meddaf i chwi, byddwch chwi’n wylo ac yn galarnadu, ond bydd y byd yn llawenhau. Byddwch chwi’n gofidio ond try eich gofid yn llawenydd. Y mae gofid ar wraig pan fo’n esgor am fod ei hamser wedi dyfod, ond pan enir y plentyn, ni chofia hi ddim o’i thrallod mwy gan ei llawenydd o eni dyn i’r byd. A chwithau felly, y mae gofid arnoch yn awr, ond mi a’ch gwelaf eto, a bydd eich calon yn llawen, a’ch llawenydd chwi ni chymer neb oddiarnoch. Ac yn y dydd hwnnw ni ofynnwch gwestiwn i mi. Ar fy ngwir, meddaf i chwi, os gofynnwch ddim gan y tad, fe’i rhydd i chwi yn f’enw i. Hyd yn hyn ni ofynasoch ddim yn f’enw i. Gofynnwch, a chewch, fel y byddo’ch llawenydd yn gyflawn. Hyn a ddywedais wrthych ar ddamegion. Y mae’r adeg yn dyfod pan na siaradaf wrthych ar ddamegion mwyach, ond hysbysaf i chwi am y tad yn eglur. Yn y dydd hwnnw, byddwch yn gofyn yn f’enw i, ac nid wyf yn dywedyd wrthych y gofynnaf i’r tad yn eich achos. Oherwydd y mae’r tad ei hunan yn eich caru, am eich bod chwi wedi fy ngharu i ac wedi credu fy nyfod allan oddiwrth Dduw. Deuthum allan o’r tad, ac yr wyf wedi dyfod i’r byd; yr wyf drachefn yn gadael y byd ac yn myned at y tad.” Medd ei ddisgyblion: “Dyma di yn awr yn siarad yn eglur, ac nid dameg yr wyt yn ei dywedyd. Yn awr gwyddom dy fod yn gwybod popeth, ac nad oes angen arnat i neb dy holi. Am hyn yr ydym yn credu mai oddiwrth Dduw y daethost allan.” Atebodd Iesu iddynt: “A ydych chwi’n credu o’r diwedd? Dyma’r adeg yn dyfod, yn wir wedi dyfod, y gwasgent chwi bob un at ei bethau, a gadewch fi’n unig. Ac eto nid wyf yn unig, gan fod y tad gyda mi. Hyn a ddywedais wrthych fel y byddo gennych dangnefedd ynof i. Yn y byd, adfyd sydd i chwi, ond codwch eich calonnau, yr wyf i wedi gorchfygu’r byd.” Hyn a ddywedodd Iesu, ac wedi codi ei lygaid tua’r nefoedd, dywedodd: Dad, y mae’r awr wedi dyfod. Gogonedda dy fab, fel y gogoneddo dy fab dithau, megis y rhoddaist iddo awdurdod ar bob cnawd, fel am y cwbl a roddaist iddo, y rhoddai fywyd tragwyddol iddynt. Hyn ydyw’r bywyd tragwyddol, eu bod yn d’adnabod ti yr unig wir Dduw a’r hwn a anfonaist, Iesu’r Eneiniog. Mi a’th ogoneddais di ar y ddaear, drwy gwblhau’r gwaith a roddaist i mi i’w wneuthur. Ac yn awr gogonedda dithau finnau, dad, gyda thi â’r gogoniant a oedd gennyf gyda thi cyn bod y byd. Mi a amlygais dy enw i’r dynion a roddaist i mi allan o’r byd. Eiddot ti oeddynt, a rhoddaist hwy i mi, ac y maent wedi cadw dy air. Yn awr, gwyddant mai oddiwrthyt ti y mae’r cwbl a roddaist i mi, gan fy mod wedi rhoddi iddynt hwy’r geiriau a roddaist i mi, a hwythau wedi eu derbyn a gwybod yn wir mai oddiwrthyt ti y deuthum allan a chredu mai ti a’m hanfonodd. Yr wyf yn gofyn yn eu hachos hwy; nid yn achos y byd yr wyf yn gofyn, ond yn achos y rhai a roddaist i mi, canys ti piau hwy, a’r eiddof i oll, yr eiddot ti ydyw, a’r eiddot ti, yr eiddof i, ac yr wyf wedi fy ngogoneddu ynddynt. A mwyach nid wyf yn y byd, ond y maent hwy yn y byd, ac yr wyf i’n dyfod atat ti. Dad santaidd, cadw hwynt yn d’ enw di a roddaist i mi, fel y byddont yn un fel ninnau. Pan oeddwn gyda hwynt, yr oeddwn i’n eu cadw yn dy enw a roddaist i mi, a gwarchedwais hwy, ac nid aeth yr un ohonynt ar goll, ond mab y golled, er mwyn cyflawni’r Ysgrythur. Ond yn awr yr wyf yn dyfod atat ti, a hyn yr wyf yn ei ddywedyd yn y byd fel y bo ganddynt fy llawenydd i wedi ei gyflawni ynddynt hwy eu hunain. Mi a roddais iddynt d’air di, a chashaodd y byd hwy, am nad ŷnt o’r byd, fel nad wyf innau o’r byd. Nid wyf yn gofyn iti eu symud o’r byd, ond iti eu cadw hwynt o’r drwg. O’r byd nid ydynt fel nad wyf innau o’r byd. Santeiddia hwy â’r gwirionedd. D’air di gwirionedd yw. Fel y’m hanfonaist i i’r byd, felly yr anfonais innau hwynt i’r byd; ac er eu mwyn hwynt yr wyf i’n fy santeiddio fy hun, fel y byddont hwythau hefyd wedi eu santeiddio â’r gwirionedd. “Ond nid yn achos y rhain yn unig yr wyf yn gofyn, ond yn achos y rhai sy’n credu ynof i oherwydd eu gair hwy, fel y byddont oll yn un, fel yr wyt ti, dad, ynof i a minnau ynot tithau, fel y byddont hwythau hefyd ynom ni, fel y credo’r byd mai ti a’m hanfonodd. Ac yr wyf innau wedi rhoddi’r gogoniant, a roddaist i mi, iddynt hwy, fel y byddont yn un megis yr ydym ninnau’n un, myfi ynddynt hwy, a thithau ynof innau, fel y byddont wedi eu perffeithio’n un, fel y gwypo’r byd mai ti a’m hanfonodd, a’th fod wedi eu caru hwynt fel y ceraist fi. Dad, yr hyn a roddaist i mi, yr wyf yn dymuno, lle yr wyf i, iddynt hwythau hefyd fod gyda mi, fel y gwelont fy ngogoniant i a roddaist i mi am iti fy ngharu i cyn sylfaenu’r byd. Dad cyfiawn, nid adnabu’r byd dydi, ond adnabûm i di, ac adnabu’r rhain mai ti a’m hanfonodd. A hysbysais iddynt dy enw di, ac mi a’i hysbysaf eto, fel y bo’r cariad y’m ceraist i ag ef ynddynt hwy, a minnau ynddynt.” Ar ôl dywedyd hyn, aeth Iesu allan gyda’i ddisgyblion dros Nant y Cedrwydd, lle yr oedd gardd, ac aeth ef a’i ddisgyblion iddi. Ond gwyddai Iwdas, ei fradychwr, am y lle gan fod yr Iesu gyda’i ddisgyblion wedi ymgynnull yno droeon. Felly, wedi cael yr osgordd a swyddogion gan y prif offeiriaid yn ogystal â chan y Phariseaid, y mae Iwdas yn dyfod yno gyda lluserni a ffaglau ac arfau. Felly, gan ei fod yn gwybod popeth oedd yn dyfod arno, aeth Iesu allan ac medd ef wrthynt: “Pwy a geisiwch?” Atebasant iddo: “Iesu o Nasareth.” Medd ef wrthynt: “Myfi ydyw,” — ac yr oedd Iwdas, ei fradychwr, hefyd yn sefyll gyda hwy. A phan ddywedodd wrthynt “Myfi ydyw,” aethant yn ôl yn wysg eu cefnau a syrthiasant ar lawr. Felly gofynnodd wedyn iddynt: “Pwy a geisiwch?” ac meddent hwy: “Iesu o Nasareth.” Atebodd Iesu: “Dywedais wrthych, ‘Myfi ydyw,’ felly os myfi a geisiwch, gedwch i’r rhain fyned,” fel y cyflawnid y gair a ddywedodd, “Y rhai a roddaist imi, ni chollais ohonynt un.” Yr oedd gan Simon Pedr gleddyf a thynnodd ef a thrawodd was y prif offeiriad a thorrodd ymaith ei glust dde; ac enw y gwas oedd Malchus. Medd yr Iesu felly wrth Bedr: “Dyro dy gleddyf yn y wain; y cwpan y mae’r tad wedi ei roi i mi, onid yfaf ef?” Felly daliodd yr osgordd a’r capten a swyddogion yr Iddewon, yr Iesu, a rhwymasant ef, ac aethant ag ef at Annas yn gyntaf, canys yr oedd ef yn fab ynghyfraith i’r Caiaffas a oedd yn brif offeiriad am y flwyddyn honno. A Chaiaffas oedd hwnnw a roddasai gyngor i’r Iddewon ei bod yn ennill iddynt farw o un dyn dros y bobl. Ac yn canlyn yr Iesu yr oedd Simon Pedr, a disgybl arall, ac yr oedd y disgybl hwnnw yn gydnabod i’r prif offeiriad, ac aeth i mewn gyda’r Iesu i lys y prif offeiriad. Ac yr oedd Pedr yn sefyll wrth y drws y tu allan. Felly aeth y disgybl arall allan, a oedd yn gydnabod i’r prif offeiriad, a siaradodd â’r forwyn wrth y drws, ac aeth â Phedr i mewn. Ac medd morwyn y drws wrth Bedr: “A wyt tithau hefyd yn un o ddisgyblion y dyn yma?” Medd yntau: “Nac wyf.” Ac yr oedd y gweision a’r swyddogion yn sefyll wrth dân glo a wnaethant, gan ei bod yn oer, ac yn ymdwymo. Ac yr oedd Pedr yn sefyll gyda hwy ac yn ymdwymo. Felly holodd y prif offeiriad yr Iesu ynghylch ei ddisgyblion ac ynghylch ei ddysgeidiaeth. Atebodd Iesu iddo: “Yr wyf i wedi bod yn llefaru ar goedd i’r byd, ac yr wyf wedi dysgu bob amser yn y synagog ac yn y deml, lle y mae’r Iddewon i gyd yn ymgynnull, ac ni ddywedais ddim yn ddirgel; paham yr wyt yn fy holi i? Hola’r sawl a fu’n gwrando, beth a ddywedais wrthynt; dyma’r rhai sy’n gwybod beth a ddywedais.” Fel yr oedd yn dywedyd hyn, rhoddodd un o’r swyddogion oedd yn sefyll wrth law gernod i’r Iesu, gan ddywedyd: “Ai dyma’r ffordd yr wyt yn ateb y prif offeiriad?” Atebodd Iesu iddo: “Os drwg y dywedais, tystia am y drwg, — ond os da, paham yr wyt yn fy nghuro?” Felly anfonodd Annas ef yn rhwym at Gaiaffas y prif offeiriad. Ac meddent hwy wrtho: “A wyt tithau yn un o’i ddisgyblion?” Gwadodd yntau a dywedodd: “Nac wyf.” Medd un o weision y prif offeiriad, perthynas i’r un y torrodd Pedr ei glust: “Oni welais i di yn yr ardd gydag ef?” A gwadodd Pedr wedyn, ac ar unwaith canodd y ceiliog. Ac y maent yn myned â’r Iesu oddiwrth Gaiaffas i’r Plas, ac yr oedd yn dyddio, ond nid aethant hwy eu hunain i’r Plas, rhag eu halogi, er mwyn cael bwyta’r pasg. Felly aeth Pilat allan atynt a dywedodd: “Pa gyhuddiad yr ydych yn ei ddwyn yn erbyn y dyn yma?” Atebasant a dywedasant wrtho: “Pe na bai hwn yn droseddwr, ni buasem wedi ei draddodi i ti.” Ac medd Pilat wrthynt: “Cymerwch ef eich hunain, ac yn ôl eich cyfraith chwi bernwch ef.” Medd yr Iddewon wrtho: “Nid oes hawl gennym ni i ladd neb,” — fel y cyflawnid gair yr Iesu a ddywedodd i arwyddo drwy ba angeu y byddai farw. Felly aeth Pilat yn ei ôl i’r Plas, a galwodd ar yr Iesu a dywedodd wrtho: “Tydi yw brenin yr Iddewon?” Atebodd Iesu: “Ai ohonot dy hun yr wyt yn dywedyd hyn, ai eraill a ddywedodd wrthyt amdanaf?” Atebodd Pilat: “Ai Iddew ynteu wyf i? Dy genedl di dy hun a’r prif offeiriaid a’th roes yn fy nwylo. Beth a wnaethost?” Atebodd Iesu: “Nid yw fy mrenhiniaeth i o’r byd hwn. Pe bai fy mrenhiniaeth o’r byd hwn, ymladdai fy swyddogion yn erbyn fy rhoddi yn nwylo’r Iddewon. Ond, yn wir, nid yw fy mrenhiniaeth i oddi yma.” Felly dywed Pilat wrtho: “O, yr wyt ti’n frenin, felly?” Atebodd yr Iesu: “Yr wyt ti’n dywedyd fy mod yn frenin. I hyn y ganed fi ac i hyn y deuthum i’r byd, — er mwyn tystio i’r gwirionedd. Y mae pob un sydd o’r gwirionedd yn gwrando ar fy llais i.” Medd Pilat wrtho: “Beth yw gwirionedd?” Ac wedi dywedyd hyn, aeth allan yn ei ôl at yr Iddewon, ac medd ef wrthynt: “Nid wyf i yn cael dim achos yn ei erbyn, ond y mae’n arfer gennych i mi ryddhau un ar y pasg. A ddymunwch chwi felly i mi ryddhau i chwi Frenin yr Iddewon?” A gwaeddasant drachefn, gan ddywedyd: “Nid hwn ond Barabbas.” A lleidr oedd Barabbas. Yna, felly, cymerth Pilat yr Iesu, a chwipiodd ef. A phlethodd y milwyr ddrain yn goron, a dodasant hi ar ei ben, a rhoddasant amdano wisg borffor, a myned ato a dywedyd: “Henffych well, Frenin yr Iddewon,” a rhoddi cernodiau iddo. Ac aeth Pilat allan wedyn, ac medd ef wrthynt: “Dyma fi’n dyfod ag ef allan i chwi, er mwyn i chwi wybod nad wyf i yn cael dim achos yn ei erbyn.” Felly daeth yr Iesu allan yn gwisgo’r goron ddrain a’r wisg borffor. Ac medd ef wrthynt: “Dyma fo.” Felly, pan welodd y prif offeiriaid a’r swyddogion ef, gwaeddasant gan ddywedyd: “Croeshoelia, croeshoelia.” Medd Pilat wrthynt: “Cymerwch ef eich hunain, a chroeshoeliwch, oherwydd nid wyf i yn cael achos yn ei erbyn.” Atebodd yr Iddewon iddo: “Y mae gennym ni gyfraith, ac yn ôl y gyfraith, dylai farw, am iddo ei wneuthur ei hunan yn fab Duw.” Felly, pan glywodd Pilat y gair hwn, daeth arno fwy o ofn, ac aeth yn ei ôl i’r Plas, ac medd ef wrth yr Iesu: “O ba le yr wyt ti?” Ond ateb ni roddes yr Iesu iddo. Felly, medd Pilat wrtho: “Oni ddywedi di wrthyf? Oni wyddost fod gennyf hawl i’th ryddhau, a bod gennyf hawl i’th groeshoelio?” Atebodd Iesu: “Ni buasai gennyt ddim hawl arnaf i, heb fod hynny wedi ei roddi i ti oddiuchod. Am hyn, yr hwn a’m rhoes yn dy ddwylo, y mae mwy pechod arno.” O hyn allan, ceisiai Pilat ei ryddhau ef, ond gwaeddodd yr Iddewon gan ddywedyd: “Os rhyddhei hwn, nid wyt ti’n bleidiol i Gesar; y mae pob un sy’n ei wneuthur ei hun yn frenin yn erbyn Cesar.” Felly, pan glywodd Pilat y geiriau hyn, aeth â’r Iesu allan, ac eisteddodd ar fainc yn y lle a elwir y Palmant, yn Hebraeg, Gabbatha. A noswyl y Pasg ydoedd hi, a thua’r wythfed awr. Ac medd ef wrth yr Iddewon: “Dyma’ch brenin.” Felly gwaeddasant hwy: “Ymaith, ymaith ag ef; croeshoelia ef.” Medd Pilat wrthynt: “A wyf i groeshoelio eich brenin?” Atebodd y prif offeiriaid: “Nid oes gennym frenin ond Cesar.” Yna, felly, traddododd yntau’r Iesu iddynt, i’w groeshoelio. Felly cymerasant yr Iesu. Ac aeth allan gan gario’i groes ei hunan, i’r fan a elwir Lle’r Benglog (a elwir Golgotha yn Hebraeg), lle y croeshoeliasant ef, a chydag ef ddau arall, un o boptu, a’r Iesu yn y canol. Ac ysgrifennodd Pilat hysbysiad, a gosododd ef ar y groes, a’r ysgrifen oedd, Iesu o Nasareth, Brenin yr Iddewon. Felly darllenodd llawer o’r Iddewon yr hysbysiad hwn, am fod y fan lle y croeshoeliwyd yr Iesu yn agos i’r ddinas; ac yr oedd wedi ei ysgrifennu yn Hebraeg, yn Lladin, yn Roeg. Felly dywedodd prif offeiriaid yr Iddewon wrth Bilat: “Nac ysgrifenna ‘Brenin yr Iddewon,’ ” ond “Dywedodd hwn, ‘Brenin yr Iddewon ydwyf.’ ” Atebodd Pilat: “Yr hyn a ysgrifennais, a ysgrifennais.” Yna wedi croeshoelio’r Iesu, cymerth y milwyr ei ddillad, a gwnaethant bedair rhan, — rhan i bob milwr, — ynghyd â’r crys, ac yr oedd y crys yn ddiwnïad, wedi ei weu drwyddo oll o’r cwr uchaf. Felly meddent hwy wrth ei gilydd: “Na rwygwn ef, ond bwrw coelbren arno pwy a’i caiff”; fel y cyflawnid yr adnod, Rhanasant fy nillad rhyngddynt, ac ar fy ngwisg bwriasant goelbren; a hyn felly a wnaeth y milwyr. Ac yr oedd yn sefyll wrth groes yr Iesu, ei fam, a chwaer ei fam, Mair Clopas, a Mair o Fagdala. A phan welodd Iesu ei fam a’r disgybl a garai yn sefyll yn agos, medd ef wrth ei fam: “Mam, dyma dy fab.” Yna medd ef wrth y disgybl: “Dyma dy fam.” Ac o hynny allan, cymerth y disgybl hi i’w gartref ei hun. Ar ôl hynny, dywedodd yr Iesu, ac yntau’n gwybod bod popeth bellach wedi dyfod i’r pen (fel y cyflawnid yr ysgrythur): “Y mae syched arnaf.” Yr oedd llestr wrth law yn llawn o finegr; felly dodasant yspwng yn llawn o finegr ar flaen picell, a chyfodasant ef at ei enau. Felly pan gafodd yr Iesu y finegr, dywedodd: “Dyma’r diwedd,” ac wedi plygu ei ben, rhoddodd i fyny ei ysbryd. Felly, gan ei bod yn noswyl y Sabath, rhag i’r cyrff aros ar y groes ar y Sabath (canys y dydd Sabath mawr oedd hwnnw), gofynnodd yr Iddewon gan Bilat gael torri eu coesau hwynt a’u tynnu i lawr. Felly daeth y milwyr a thorasant goesau’r cyntaf ac yna’r ail a groeshoeliasid gydag ef. Ond pan ddaethant at yr Iesu, gan eu bod yn gweled ei fod eisoes wedi marw, ni thorasant ei goesau ef, ond gwanodd un o’r milwyr ei ochr â gwaywffon, ac ar unwaith daeth allan waed a dwfr. Ac y mae’r un a’i gwelodd wedi tystio, a gwir yw ei dystiolaeth ef, a gŵyr hwnnw ei fod yn dywedyd y gwir, er mwyn i chwithau hefyd gredu. Canys bu hynny fel y cyflawnid yr adnod: Asgwrn ohono ni ddryllir. Ac y mae adnod arall eto yn dywedyd: Edrychant ar yr hwn a drywanasant. Ond ar ôl hyn, gofynnodd Ioseff o Arimathea (ag yntau’n ddisgybl i’r Iesu, ond yn ddirgel rhag ofn yr Iddewon) gan Bilat a gâi gymryd ymaith gorff yr Iesu. A chaniataodd Pilat. Felly daeth a chymerth ymaith ei gorff ef. A daeth Nicodemus hefyd (a ddaethai ato y tro cyntaf yn y nos) a chanddo gymysgedd o fyrr ac aloes, tua chan pwys. Felly cymerasant gorff yr Iesu a rhwymasant ef â llieiniau gyda’r perlysiau, fel y mae’n arfer gan yr Iddewon at gladdu. Ac yr oedd gardd yn y lle y croeshoeliwyd ef, ac yn yr ardd fedd newydd na ddodasid neb ynddo hyd hynny. Yno, felly, o achos noswyl yr Iddewon, gan fod y bedd yn agos, y dodasant yr Iesu. Ac ar ddydd cyntaf yr wythnos, y mae Mair o Fagdala yn y bore bach, a hi eto’n dywyll, yn dyfod at y bedd, ac y mae’n gweled y garreg wedi ei symud oddiar y bedd. Felly, y mae’n rhedeg ac yn dyfod at Simon Pedr ac at y disgybl arall yr oedd yr Iesu yn ei garu, ac yn dywedyd wrthynt: “Y maent wedi myned â’r Arglwydd o’r bedd, ac ni wyddom ym mha le y maent wedi ei ddodi.” Felly aeth Pedr a’r disgybl arall allan, a chychwyn at y bedd. Ac yr oedd y ddau’n rhedeg gyda’i gilydd, ond rhedodd y disgybl arall yn gynt na Phedr o’i flaen, a daeth yn gyntaf at y bedd, ac wedi gwyro, y mae’n gweled y llieiniau ar lawr, ond eto nid aeth i mewn. Felly daw Simon Pedr yn ei ddilyn, ac aeth i mewn i’r bedd; ac y mae’n gweled y llieiniau ar lawr, a’r ffunen oedd ar ei ben, nid ar lawr gyda’r llieiniau, ond yn ei phlyg ar wahân yn ei lle. Yna aeth y disgybl arall hefyd i mewn, a ddaethai’n gyntaf at y bedd, a gwelodd a chredodd; canys nid oeddynt yn deall eto yr Ysgrythur, ei bod yn rhaid iddo atgyfodi oddiwrth y meirw. Felly aeth y disgyblion yn ôl tua thref. Ond safai Mair wrth y bedd, y tu allan, yn wylo. Yn awr, fel yr oedd yn wylo, gŵyrodd i’r bedd, ac y mae’n gweled dau angel wedi eu gwisgo mewn gwyn yn eistedd, un wrth y pen a’r llall wrth y traed, yn y lle y buasai corff yr Iesu yn gorwedd. A dywed y rhain wrthi: “Ferch, paham yr wyt ti’n wylo?” Medd hithau wrthynt: “Am eu bod wedi myned â’m Harglwydd ymaith, ac ni wn ym mha le y maent wedi ei ddodi ef.” Wedi dywedyd hyn, troes yn ei hôl, ac y mae’n gweled yr Iesu’n sefyll, ac ni wyddai mai Iesu oedd. Medd Iesu wrthi: “Ferch, paham yr wyt ti’n wylo? Pwy a geisi?” A chan feddwl mai ceidwad yr ardd ydoedd, medd hithau wrtho: “Syr, os ti a’i dug, dywed i mi ym mha le y dodaist ef, ac af innau ag ef ymaith.” Medd Iesu wrthi: “Mair.” Troes hithau, ac medd hi wrtho yn Hebraeg, “Rabboni” (hynny yw, Athro). Medd Iesu wrthi: “Paid â chyffwrdd â mi; nid wyf i eto wedi myned i fyny at fy nhad, ond dos at fy mrodyr a dywed hyn wrthynt: ‘Yr wyf i yn myned i fyny at fy nhad i a’ch tad chwithau, a’m Duw i a’ch Duw chwithau.’ ” Y mae Mair o Fagdala yn dyfod ac yn mynegi i’r disgyblion: “Yr wyf wedi gweled yr Arglwydd,” ac iddo ddywedyd felly wrthi. A phan oedd hi’n hwyr y dydd cyntaf hwnnw o’r wythnos, a’r drysau wedi eu cau, lle yr oedd y disgyblion, rhag ofn yr Iddewon, daeth yr Iesu a safodd yn y canol, ac medd ef wrthynt: “Tangnefedd i chwi.” Ac wedi dywedyd hyn, dangosodd ei ddwylo a’i ochr iddynt; felly llawenhaodd y disgyblion wedi gweled yr Arglwydd. A dywedodd yr Iesu wrthynt wedyn: “Tangnefedd i chwi; fel yr anfonodd y tad fi, yr wyf innau yn eich anfon chwithau.” Ac wedi dywedyd hyn, anadlodd arnynt a dywedodd wrthynt: “Derbyniwch ysbryd santaidd. Pwy bynnag y maddeuoch chwi eu pechodau, y maent wedi eu maddeu iddynt, a phwy bynnag y rhwymoch eu pechodau arnynt, y maent wedi eu rhwymo.” Ond nid oedd Thomas (a elwid yn Efell), un o’r deuddeg, gyda hwynt pan ddaeth Iesu. Felly dywedodd y disgyblion eraill wrtho: “Yr ydym ni wedi gweled yr Arglwydd.” Ond medd yntau wrthynt: “Oni welaf yn ei ddwylo dwll yr hoelion, a rhoddi fy mys yn lle yr hoelion, a rhoddi fy llaw yn ei ochr, ni chredaf i byth.” Ac wedi wyth niwrnod, yr oedd ei ddisgyblion wedyn yn y tŷ, a Thomas gyda hwy. Y mae’r Iesu yn dyfod, a’r drysau wedi eu cau, a safodd yn y canol a dywedodd: “Tangnefedd i chwi.” Yna dywed wrth Domas: “Tyred â’th fys yma, a gwêl fy nwylo, a thyred â’th law a dyro hi yn fy ochr, ac na bydd anghredwr, ond credwr.” Atebodd Thomas a dywedodd wrtho: “Fy Arglwydd a’m Duw.” Dywed yr Iesu wrtho: “Ai am dy fod wedi fy ngweled i, yr wyt wedi credu? Gwyn eu byd a gredodd a heb weled.” A gwnaeth yr Iesu yn wir lawer o arwyddion eraill hefyd yng ngŵydd y disgyblion, nad ydynt wedi eu hysgrifennu yn y llyfr hwn; ond y mae’r rhai hyn wedi eu hysgrifennu er mwyn i chwi gredu mai Iesu ydyw’r Eneiniog, mab Duw, ac er mwyn i chwi, drwy gredu, gael bywyd yn ei enw. Ar ôl hyn, fe’i dangosodd Iesu ei hun drachefn i’r disgyblion, ar fôr Tiberias, ac a fel hyn y’i dangosodd ei hun. Yr oeddynt ynghŷd — Simon Pedr a Thomas a elwir Gefell, a Nathanael o Gana Galilea, a meibion Sebedeus, a dau arall o’i ddisgyblion. Medd Simon Pedr wrthynt: “Yr wyf yn myned i bysgota.” Meddant hwy wrtho: “Yr ydym ninnau yn dyfod gyda thi.” Aethant allan a myned i mewn i’r llong, a’r nos honno ni ddaliasant ddim. Ond â hi’n awr yn dyddio, safodd Iesu ar y lan, ond eto, ni wyddai’r disgyblion mai Iesu oedd. Medd Iesu wrthynt: “Fechgyn, onid oes gennych ddim i’w fwyta?” Atebasant iddo: “Nac oes.” Ac medd yntau wrthynt: “Bwriwch y rhwyd ar ochr ddeheu’r llong, a chwi gewch.” Felly bwriasant, ac nid oedd ganddynt nerth i’w thynnu gan nifer y pysgod. Felly dywed y disgybl a garai’r Iesu wrth Bedr: “Yr Arglwydd yw.” Felly, pan glywodd Simon Pedr mai’r Arglwydd oedd, gwregysodd ei wisg uchaf amdano (canys yn ei grys yr oedd), ac ymdaflodd i’r môr, ond daeth y disgyblion eraill yn y llong (oherwydd nid oeddynt ymhell o’r lan, dim ond rhyw ddeucan cufydd) gan lusgo’r rhwyd o bysgod. Ac wedi dyfod i’r lan, y maent yn gweled tân glo ar y ddaear, a phryd o bysgod arno a bara. Medd yr Iesu wrthynt: “Dewch â rhai o’r pysgod a ddaliasoch gynneu.” Aeth Simon i’r llong, a thynnodd y rhwyd i’r lan yn llawn o bysgod mawr, cant a thri ar ddeg a deugain ohonynt, ac er cynifer oeddynt, ni rwygodd y rhwyd. Medd yr Iesu wrthynt: “Dewch at eich brecwast.” Ni feiddiodd yr un o’r disgyblion ofyn iddo “Pwy wyt ti?” a hwythau’n gwybod mai’r Arglwydd ydoedd. A dyma’r Iesu’n dyfod ac yn cymryd y bara ac yn ei roddi iddynt, a’r pysgod yr un modd. Hwn oedd y trydydd tro i Iesu ymddangos i’r disgyblion wedi cyfodi o feirw. Felly ar ôl iddynt gael eu brecwast, medd yr Iesu wrth Simon Pedr: “Simon fab Ioan, a wyt ti’n fy ngharu i yn fwy na’r rhain?” Medd ef wrtho: “Ydwyf, Arglwydd. Ti wyddost fy mod yn dy garu di.” Medd ef wrtho: “Portha fy ŵyn i.” Medd ef wrtho eilwaith drachefn: “Simon fab Ioan, a wyt yn fy ngharu i?” Medd ef wrtho: “Ydwyf, Arglwydd, ti wyddost fy mod yn dy garu.” Medd ef wrtho: “Bydd yn fugail ar fy nefaid i.” Medd ef wrtho y trydydd tro: “Simon fab Ioan, a wyt yn fy ngharu i?” Gofidiodd Pedr iddo ddywedyd wrtho y trydydd tro, “A wyt ti’n fy ngharu i?” ac medd ef wrtho: “Arglwydd, gwyddost ti bopeth, gwyddost ti fy mod yn dy garu di.” Medd Iesu wrtho: “Portha fy nefaid i. Ar fy ngwir meddaf i ti, pan oeddit iau, ti a’th wregysit dy hun, a rhodit oddiamgylch i ba le bynnag y mynnit; ond pan ei ’n hen, estynni dy ddwylo, ac arall a’th wregysa di ac a’th ddwg i’r lle nis mynnych.” Hyn a ddywedodd i arwyddocau â pha fath o farw y gogoneddai Dduw. Ac wedi dywedyd hyn, medd ef wrtho: “Canlyn fi.” Ac y mae Pedr yn troi yn ei ôl ac yn gweled y disgybl yr oedd yr Iesu yn ei garu yn canlyn, (hwnnw hefyd a bwysodd yn ôl ar ei fron ef ar y swper, ac a ddywedodd: “Arglwydd, pwy ydyw dy fradychwr?”) Felly pan welodd Pedr hwn, medd ef wrth yr Iesu: “Ond, Arglwydd, beth am hwn?” Medd yr Iesu wrtho: “Os mynnai i iddo ef aros hyd oni ddelwyf, beth yw hynny iti? Canlyn di fi.” Felly aeth y gair hwn allan ymysg y brodyr, na byddai i’r disgybl hwnnw farw. Ond ni ddywedodd yr Iesu wrtho: “Ni bydd farw,” ond “Os mynnaf iddo aros oni ddelwyf, beth yw hynny i ti?” Hwn yw’r disgybl sydd yn tystio am y pethau hyn ac a ysgrifennodd y pethau hyn, a gwyddom mai gwir yw ei dystiolaeth ef. Ond y mae llawer o bethau eraill a wnaeth yr Iesu, a phed ysgrifennid y rhain bob yn un, nid wyf yn tybio y cynwysai’r byd yn grwn y llyfrau a ysgrifennid. Yr hanes cyntaf a roddais, Theophilus, am yr holl bethau y dechreuodd Iesu eu gwneuthur a’u dysgu hyd y dydd y cymerwyd ef i fyny wedi iddo roi gorchmynion drwy’r Ysbryd Glân i’r apostolion a etholasai; iddynt hwy y dangosodd ei hun hefyd yn fyw wedi ei ddioddefaint drwy brofion lawer, gan fod yn weledig iddynt yn ystod deugain niwrnod a llefaru’r pethau a oedd am deyrnas. Dduw. Ac wrth gyd-ymgynnull, gorchmynnodd iddynt nad ymadawent o Gaersalem, ond disgwyl addewid y Tad, “a glywsoch,” eb ef, “gennyf fi; canys â dwfr y bedyddiodd Ioan, ond fe’ch bedyddir chwi â’r Ysbryd Glân cyn pen llawer o ddyddiau.” Hwythau felly wedi dyfod ynghyd, gofynnent iddo gan ddywedyd, “Arglwydd, ai yn yr amser hwn yr adferi’r deyrnas i Israel?” Dywedodd wrthynt, “Nid eiddoch chwi ydyw gwybod amseroedd neu brydiau, y rhai a osododd y Tad o fewn ei awdurdod ei hun, eithr chwi gewch nerth wedi i’r Ysbryd Glân ddyfod arnoch, a byddwch imi’n dystion yng Nghaersalem ac yn holl Iwdea a Samaria a hyd eithaf y ddaear.” Ac wedi iddo ddywedyd hyn, a hwythau’n edrych, fe’i dygwyd i fyny, a chipiodd cwmwl ef o’u golwg hwynt. Ac fel yr oeddynt yn syllu tua’r nef, ac yntau’n myned, dyna ddau ŵr yn sefyll yn eu hymyl mewn gwisgoedd gwynion, a dywedodd y rhain, “Wŷr Galilea, paham y sefwch yn edrych tua’r nef? Yr Iesu hwn a gymerwyd i fyny oddiwrthych i’r nef, felly y daw, y modd y gwelsoch ef yn myned i’r nef.” Yna dychwelasant i Gaersalem o’r mynydd a elwir Mynydd Olewydd, sydd yn agos i Gaersalem, daith Saboth. Ac wedi iddynt ddyfod yno, aethant i fyny i’r llofft lle’r oeddynt yn aros, Pedr ac Ioan ac Iago ac Andreas, Phylip a Thomas, Bartholomeus a Mathew, Iago fab Alffeus a Simon y Selot ac Iwdas fab Iago. Y rhai hyn oll oedd yn dyfal barhau yn unfryd mewn gweddi gyda rhai gwragedd a Mair, mam yr Iesu, a chyda’i frodyr. Ac yn y dyddiau hynny cyfododd Pedr ymysg y brodyr a dywedyd (yr oedd torf o bobl, tua chant ac ugain i gyd), “Frodyr, rhaid oedd cyflawni’r ysgrythur a ragddywedodd yr Ysbryd Glân drwy enau Dafydd am Iwdas, a fu’n arweinydd i’r rhai a ddaliodd Iesu; canys cyfrifid ef yn ein plith ni, a digwyddodd iddo’i gyfran o’r swyddogaeth hon.” (Yn awr prynasai hwn gae o’r tâl am ei ddrygwaith, ac wedi ymchwyddo holltodd yn ei ganol, a llifodd ei holl ymysgaroedd allan. A daeth yn hysbys i holl drigolion Caersalem, nes galw’r cae hwnnw yn eu hiaith hwy Aceldama, sef Cae’r Gwaed.) “Canys ysgrifennwyd yn Llyfr y Salmau Eled ei dyddyn yn anghyfannedd ac na bydded a drigo ynddo, ac Cymered arall ei swydd ef. Felly o’r gwŷr a fu’n cydymdaith â ni yr holl amser y bu’r Arglwydd Iesu yn mynd i mewn ac allan yn ein gŵydd, gan ddechrau o fedydd Ioan hyd y dydd y cymerwyd ef i fyny oddiwrthym, rhaid i un ohonynt ddyfod yn dyst o’i atgyfodiad gyda ni.” A dodasant ddau, Ioseff a enwid Barsabbas, ac a gyfenwid Iwstus, a Mathias. A chan weddïo dywedasant, “Tydi Arglwydd, a ŵyr galonnau pawb, amlyga pwy a ddewisaist, un o’r ddau hyn, i gymryd ei le yn y weinidogaeth hon a’r apostolaeth, y gŵyrodd Iwdas oddiwrthi i fyned i’w le ei hun.” A bwriasant goelbrennau arnynt, a syrthiodd y coelbren ar Fathias, a chyfrifwyd ef gyda’r un apostol ar ddeg. Ac yn ystod dydd y Pentecost yr oeddynt oll ynghyd gyda’i gilydd, ac fe ddaeth yn sydyn o’r nef drwst megis gwynt cryf yn rhuthro, ac fe lanwodd yr holl dŷ lle’r oeddynt yn eistedd, ac ymddangosodd iddynt yn ymwahanu dafodau megis o dân, ac eisteddodd ar bob un ohonynt, a llannwyd hwynt oll â’r Ysbryd Glân, a dechreuasant lefaru â thafodau eraill, yn ôl fel y rhoddai’r Ysbryd iddynt ddatgan. Ac yr oedd yng Nghaersalem yn trigo Iddewon, gwŷr duwiol o bob cenedl dan y nef; ac wedi dyfod y sŵn hwn ymgynullodd y lliaws ac ymddrysu, canys clywodd pob un hwynt yn llefaru yn ei iaith ei hun; a synnent a rhyfeddent, gan ddywedyd, “Wel! Onid Galileaid yw’r rhai hyn oll sy’n llefaru? A pha fodd yr ŷm ni, bob un, yn eu clywed yn ein hiaith ein hunain, yr hon y’n ganed ni ynddi? Parthiaid a Mediaid ac Elamitiaid a thrigolion Mesopotamia, Iwdea a Chapadocia, Pontus ac Asia, Phrygia a Phamffylia, yr Aifft a pharthau Libya tua Chyrene, a’r ymwelwyr o Rufain, Iddewon a phroselytiaid, Cretiaid ac Arabiaid, clywn hwynt yn llefaru yn ein tafodau ni am orchestion Duw.” A synnai pawb ac ymgythryblent, gan ddywedyd y naill wrth y is llall, “Beth yw ystyr hyn?” Ond eraill yn wawdlyd a ddywedai, “Llawn ydynt o win newydd.” A safodd Pedr ynghyd â’r un ar ddeg, a chododd ei lais ac anerchodd hwynt, “Wŷr Iwdea, a thrigolion Caersalem oll, bydded hyn hysbys i chwi, a rhowch glust i’m geiriau. Nid yw’r rhain yn wir, fel y tybiwch chwi, yn feddw; canys y drydedd awr o’r dydd yw hi; eithr dyma a ddywedwyd drwy’r proffwyd Ioel, Ac yn y dyddiau diweddaf, medd Duw, y tywalltaf o’m hysbryd ar bob cnawd; a phroffwyda’ch meibion a’ch merched, a’ch gwŷr ifainc, gweledigaethau a welant, a’ch hynafgwyr, breuddwydion a freuddwydiant; hyd yn oed ar fy nghaethweision a’m caethforynion yn y dyddiau hynny y tywalltaf o’m Hysbryd, a phroffwydant. A rhoddaf ryfeddodau yn y nef uchod, ac arwyddion ar y ddaear isod, gwaed a thân a tharth mwg; yr haul a droir yn dywyllwch, a’r lloer yn waed, cyn dyfod dydd yr Arglwydd, y dydd mawr ac amlwg; a phawb a alwo ar enw’r Arglwydd a gedwir. Wŷr Israel, gwrandewch y geiriau hyn; Iesu’r Nasaread, gŵr arddeledig gan Dduw i chwi trwy rymusterau a rhyfeddodau ac arwyddion, a wnaeth Duw trwyddo ef yn eich mysg, fel y gwyddoch eich hunain, hwn, wedi ei fradychu yn ôl arfaeth osodedig Duw a’i ragwybodaeth, a hoeliasoch chwi drwy law rhai anwir ac a laddasoch; ond cyfododd Duw ef, gan atal gwewyr Angau, oherwydd nid oedd bosibl i hwnnw’i ddal yn ei afael. Canys dywed Dafydd amdano, Gwelwn yr Arglwydd ger fy mron yn wastad, canys ar fy neheulaw y mae, fel na’m hysgydwer. Am hynny y llawenychodd fy nghalon ac y gorfoleddodd fy nhafod, ie, a’m cnawd hefyd, ar obaith y pabella; canys ni adewi fy enaid yn Hades, ac ni edi i’th sant weled llygredigaeth. Hysbysaist imi ffyrdd bywyd, llenwi fi o lawenydd â’th wyneb. Frodyr, rhydd yw dywedyd yn hy wrthych am y patriarch Dafydd, canys bu farw a chladdwyd ef, ac y mae ei fedd yn ein plith hyd y dydd hwn; ac ef yn broffwyd, ynteu, ac yn gwybod i Dduw dyngu wrtho ar lw y gosodai o ffrwyth ei lwynau ar ei orsedd, gan ragweled llefarodd am atgyfodiad y Crist, nis gadawyd ef yn Hades ac ni welodd ei gnawd lygredigaeth. Yr Iesu hwn a gyfododd Duw, peth yr ydym ni oll yn dystion ohono. Felly, wedi ei ddyrchafu â deheulaw Duw ac wedi cael yr addewid am yr Ysbryd Glân gan y Tad, tywalltodd y peth hwn a welwch chwi ac a glywch. Canys nid Dafydd a esgynnodd i’r nefoedd, ond dywed ef ei hun, Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfainc i’th draed. Gwybydded yn sicr, felly, holl dŷ Israel i Dduw ei wneuthur ef yn Arglwydd ac yn Grist, yr Iesu hwn a groeshoeliasoch chwi.” Wedi iddynt glywed, dwysbigwyd eu calon, a dywedasant wrth Bedr a’r lleill o’r apostolion, “Beth a wnawn, frodyr?” Meddai Pedr wrthynt, “Edifarhewch, a bedyddier pob un ohonoch yn enw Iesu Grist er maddeuant eich pechodau, a chwi gewch yr Ysbryd Glân yn rhodd; canys i chwi y mae’r addewid ac i’ch plant ac i bawb y sydd ymhell, gynifer ag a alwo’r Arglwydd ein Duw ni ato.” Ac â geiriau eraill yn ychwaneg y dwys dystiolaethodd, ac anogai hwynt gan ddywedyd, “Dihengwch rhag y genhedlaeth ŵyrgam hon.” Felly bedyddiwyd y rhai a dderbyniodd ei air, ac ychwanegwyd yn y dydd hwnnw tua thair mil o eneidiau. Ac yr oeddynt yn dyfalbarhau yn nysgeidiaeth yr apostolion ac yn y gymdeithas, yn nhorri’r bara ac yn y gweddïau. A deuai ar bob enaid ofn, a rhyfeddodau ac arwyddion lawer a wneid drwy’r apostolion. Ac i bawb gyda’i gilydd a gredodd yr oedd popeth yn gyffredin, a gwerthent eu meddiannau a’u heiddo, a’u rhannu rhwng pawb yn ôl fel y byddai ar neb angen; a beunydd gan ddyfalbarhau yn unfryd yn y Deml, a thorri bara o dŷ i dŷ, y cyfranogent o’r lluniaeth mewn llawenydd a symledd calon, gan foli Duw a chael ffafr gan yr holl bobl. A chwanegai’r Arglwydd beunydd y rhai oedd yn cael eu cadw, bawb at ei gilydd. Yr oedd Pedr ac Ioan yn esgyn i’r Deml erbyn yr awr weddi, y nawfed, ac yr oeddid yn dwyn rhyw ŵr, a oedd gloff o groth ei fam, yr hwn a osodent beunydd wrth ddôr y Deml, a elwid Prydferth, i geisio elusen gan y rhai a gyrchai i’r Deml; pan welodd hwn Bedr ac Ioan ar fynd i mewn i’r Deml, gofynnai am gael elusen. Ac wedi i Bedr syllu arno, ynghyd ag Ioan, fe ddywedodd, “Edrych arnom.” Daliai yntau sylw arnynt, gan ddisgwyl cael rhywbeth ganddynt. Ond dywedodd Pedr, “Arian ac aur nid oes gennyf, ond yr hyn sydd gennyf, hynny a roddaf iti; yn enw Iesu Grist y Nasaread, rhodia.” A chan afael ynddo gerfydd ei law ddehau cododd ef; ac yn y fan aeth ei draed a’i fferau’n gadarn, a chan neidio i fyny safodd a dechreuodd gerdded, ac aeth gyda hwynt i mewn i’r Deml, dan rodio a neidio a moli Duw. A gwelodd yr holl bobl ef yn rhodio ac yn moli Duw, ac adwaenent ef mai hwn oedd yr un a eisteddai i elusena wrth Borth Prydferth y Deml, a llannwyd hwynt â braw a syndod am yr hyn a ddigwyddasai iddo. A thra oedd ef yn dal ei afael ym Mhedr ac Ioan rhedodd yr holl bobl ynghyd atynt i’r fan a elwir Colofnfa Solomon, yn frawychedig. A phan welodd Pedr, atebodd i’r bobl, “Wŷr Israel, paham y rhyfeddwch at hyn? A phaham y syllwch arnom ni fel pe trwy ein nerth ni ein hunain neu’n duwioldeb y gwnaethem iddo gerdded? Duw Abraham ac Isaac ac Iacob, Duw ein tadau, a ogoneddodd ei was ef Iesu, yr hwn a draddodasoch chwi ac a wadasoch ger bron Pilat, wedi i hwnnw benderfynu ei ryddhau. Eithr chwi, gwadasoch y Sant a’r Cyfiawn, a mynasoch roddi i chwi ŵr o lofrudd; awdur bywyd a laddasoch, yr hwn a gyfododd Duw o feirw, yr hyn yr ŷm ni’n dystion ohono. A thrwy ffydd yn ei enw ef y cadarnhawyd, drwy ei enw, hwnyma, a welwch ac a adwaenoch, a’r ffydd sydd drwyddo ef a roddes iddo lwyr wellhâd fel hyn yn eich gwydd chwi oll. Ac yn awr, frodyr, gwn mai mewn anwybod y gwnaethoch, fel eich llywodraethwyr hwythau; ond fel hyn y cyflawnodd Duw yr hyn a ragfynegodd drwy enau’r holl broffwydi, sef dioddefaint ei Grist. Edifarhewch, ynteu, a throwch fel y dilëer eich pechodau, fel y delo tymhorau adfywiant oddi ger bron yr Arglwydd ac y danfono’r Crist a ragordeiniwyd i chwi, Iesu, yr hwn y mae’n rhaid i’r nef ei dderbyn hyd amseroedd adferiad pob peth, y rhai y llefarodd Duw amdanynt drwy enau ei broffwydi santaidd erioed. Moesen yn un a ddywedodd, Proffwyd a gyfyd yr Arglwydd Dduw i chwi o blith eich brodyr, megis myfi; ef a wrandewch ym mhob peth a lefaro wrthych. A phob enaid na wrandawo’r proffwyd hwnnw a lwyr ddifethir o blith y bobl. A’r holl broffwydi hefyd o Samwel a’r rhai dilynol, cynifer ag a lefarodd, cyhoeddasant hwythau y dyddiau hyn. Chwi yw meibion y proffwydi a’r cyfamod a wnaeth Duw â’ch tadau, pan ddywedodd wrth Abraham, Ac yn dy had di y bendithir holl dylwythau’r ddaear. I chwi’n gyntaf y cyfododd Duw ei was, a’i ddanfon i’ch bendithio drwy eich troi bob un oddiwrth ei ddrygioni.” A hwy’n llefaru wrth y bobl daeth yr archoffeiriaid a phennaeth y Deml a’r Sadwceaid arnynt, yn ymboeni am eu bod yn dysgu’r bobl ac yn cyhoeddi ynglŷn â’r Iesu yr atgyfodiad o feirw, a gosodasant eu dwylo arnynt a’u rhoi dan warchod hyd drannoeth; canys yr oedd hi yn awr yn hwyr. Ond llawer o’r rhai a glywsai’r gair a gredodd, ac aeth rhif y gwŷr yn rhyw bum mil. A thrannoeth y bu cyfarfod o’u llywodraethwyr hwynt a’r henuriaid a’r ysgrifenyddion yng Nghaersalem (a hefyd Annas, yr archoffeiriad, a Chaiaffas ac Ioan ac Alecsander a chynifer ag a oedd o’r teulu archoffeiriadol), ac wedi eu gosod hwynt yn y canol holent, “Ym mha nerth neu ym mha enw y gwnaethoch chwi hyn?” Yna Pedr, wedi ei lanw â’r Ysbryd Glân, a ddywedodd wrthynt, “Lywodraethwyr y bobl a henuriaid, os ŷm ni heddiw ar brawf am gymwynas i ddyn claf, pa fodd y mae hwn yn iach, bydded hysbys i chwi oll ac i holl bobl Israel mai trwy enw Iesu Grist y Nasaread, a groeshoeliasoch chwi ac a gyfododd Duw o feirw, trwy hwnnw y saif hwn ger eich bron yn iach. Hwn yw’r maen a ddiystyriwyd gennych chwi yr adeiladwyr, ac a ddaeth yn ben y gongl. Ac nid yw’r Iechydwriaeth yn neb arall, ac nid oes yn wir o dan y nef, wedi ei roi ymhlith dynion, enw arall y mae’n rhaid ein hiacháu drwyddo.” Ac wrth sylwi ar hyfder Pedr ac Ioan, ac wedi deall mai dynion anllythrennog a dinod oeddynt, rhyfeddent; adwaenent hwynt eu bod gyda’r Iesu, ac a hwy’n gweled y dyn a iachawyd yn sefyll gyda hwynt ni allent wrthddwedyd ddim. Ac wedi erchi iddynt fynd allan o’r Sanhedrin, dechreuasant ymgynghori â’i gilydd, gan ddywedyd, “Beth a wnawn i’r dynion hyn? canys amlwg yw i bawb sy’n preswylio yng Nghaersalem ddyfod trwyddynt hwy arwydd hysbys, ac ni allwn ei wadu; eithr rhag ei daenu ymhellach ymhlith y bobl, bygythiwn hwynt nad ydynt i lefaru mwyach am yr enw hwn wrth neb pwy bynnag.” A galwasant hwynt, a’u gorchymyn nad ynganent o gwbl ac na ddysgent am enw’r Iesu. Ond atebodd Pedr ac Ioan iddynt, “Ai iawn yw ger bron Duw wrando arnoch chwi yn hytrach nag ar Dduw, bernwch chwi; canys ni allwn ni na ddywedom yr hyn a welsom ac a glywsom.” Hwythau, wedi eu bygwth ymhellach, gollyngasant hwynt, heb gael dim modd i’w cosbi hwynt, oherwydd y bobl, canys yr oedd pawb yn gogoneddu Duw am yr hyn a ddigwyddasai; canys dros ddeugain mlwydd oed oedd y dyn y gwnaethid yr arwydd iachaol hwn arno. Ac wedi eu gollwng aethant at eu cyfeillion, a mynegasant y cyfan a ddywedodd yr archoffeiriaid a’r henuriaid wrthynt. Hwythau, wedi clywed, codasant yn unfryd lef at Dduw, a dywedasant, “O Benarglwydd, tydi a wnaeth y nef a’r ddaear a’r môr a phob peth sydd ynddynt, ti a ddywedodd drwy’r Ysbryd Glân yng ngenau Dafydd, dy was, ein tad ni, Paham yr ymgynddeiriogodd y cenhedloedd, ac y dyfeisiodd y bobloedd bethau ofer? Ymddangosodd brenhinoedd y ddaear, a’r llywodraethwyr a ymgasglodd ynghyd yn erbyn yr Arglwydd ac yn erbyn ei Eneiniog ef. Canys ymgasglodd yn wir yn y ddinas hon yn erbyn dy Was santaidd Iesu, yr hwn a eneiniaist, Herod a Phontius Pilat ynghyd â’r cenhedloedd a phobloedd Israel, i wneuthur yr hyn y rhagluniodd dy law a’th gyngor ei ddyfod. Ac yn awr, Arglwydd, edrych ar eu bygythion, a dyro i’th weision gyda phob hyfder lefaru dy air, tra estynnych di dy law i beri iachâd ac arwyddion a rhyfeddodau drwy enw dy was santaidd, Iesu.” Ac wedi iddynt ymbil, ysgydwyd y lle yr oeddynt wedi ymgasglu, a llannwyd hwynt oll â’r Ysbryd Glân, a llefarent air Duw yn hy. A’r lliaws o’r rhai a gredodd oedd o un galon ac enaid, ac ni ddywedai undyn fod dim o’i feddiannau yn eiddo iddo, ond yr oedd ganddynt bopeth yn gyffredin. Ac â nerth mawr y rhoddes yr apostolion eu tystiolaeth am atgyfodiad yr Arglwydd Iesu, a gras mawr oedd arnynt oll. Ac yn wir nid oedd neb anghenus yn eu plith; canys gwerthai cynifer ag a oedd feddianwyr tiroedd neu dai, a dygent y tâl am yr hyn a werthid, a’i osod wrth draed yr apostolion; a rhennid i bawb, yn ôl fel y byddai ar neb angen. Ioseff, a gyfenwid Barnabas gan yr apostolion (sef, o’i gyfieithu, Mab Anogaeth), Lefiad, Cypriad o enedigaeth, yr hwn bioedd ddarn o dir, a’i gwerthodd, a dug yr arian a’i roddi wrth draed yr apostolion. Ond rhyw ŵr, a’i enw Ananias, ynghyd â’i wraig Saffira, a werthodd eiddo, ac a gadwodd beth o’r tâl, a’i wraig hithau’n gwybod, ac fe ddug gyfran a’i gosod wrth draed yr apostolion. Ond dywedodd Pedr, “Ananias, paham y llanwodd Satan dy galon i dwyllo’r Ysbryd Glân a chadw peth o’r tâl am y tir? O adael iddo, onid gennyt ti yr arhosai? Ac o’i werthu, onid gennyt ti yr oedd yr hawl? Pa fodd y gosodaist dy fryd ar y weithred yma? Nid wrth ddynion y dywedaist gelwydd, ond wrth Dduw.” Ac wrth glywed y geiriau hyn, syrthiodd Ananias a threngodd; ac aeth ofn mawr ar bawb a glywai. A chyfododd y gwŷr ifainc a’i amdoi, a dygasant ef allan a’i gladdu. A bu ysbaid o ryw deirawr, a daeth ei wraig i mewn, heb wybod yr hyn a ddigwyddasai. A chyfarchodd Pedr hi, “Dywed wrthyf, ai am hyn a hyn y gwerthasoch y tir?” Dywedodd hithau, “Ie, am hyn a hyn.” Ebe Pedr wrthi, “Paham y cydsyniwyd gennych i brofi Ysbryd yr Arglwydd? Dyma draed y rhai a gladdodd dy ŵr wrth y drws, a dygant dithau allan.” A syrthiodd yn y fan wrth ei draed, a threngodd; ac wedi i’r gwŷr ifainc fynd i mewn cawsant hi’n farw, a dygasant hi allan a’i chladdu gyda’i gŵr. Ac aeth ofn mawr ar yr holl eglwys ac ar bawb a glywai am hyn. A thrwy ddwylo’r apostolion gwneid arwyddion a rhyfeddodau lawer ymhlith y bobl; ac yr oeddynt i gyd yn unfryd yng Ngholofnfa Solomon; ond o’r lleill ni feiddiai neb ymlynu wrthynt, eithr mawrygai’r bobl hwynt, a chwanegid fwyfwy rai’n credu yn yr Arglwydd, luoedd o wŷr a gwragedd. Yn wir, dygent y cleifion hyd yn oed allan i’r heolydd a’u gosod ar welyau a matrasau, fel y caffai pe na bai ond cysgod Pedr, wrth fynd heibio, ddisgyn ar rywun ohonynt. Ac ymgynullai hefyd y lliaws o’r dinasoedd o amgylch Caersalem, gan ddwyn cleifion a rhai a flinid gan ysbrydion aflan, ac iacheid hwynt oll. A chyfododd yr archoffeiriad a’r holl rai oedd gydag ef, sef sect y Sadwceaid, wedi eu llanw ag eiddigedd, a dodasant eu dwylo ar yr apostolion, a rhoesant hwynt dan warchod cyhoeddus. Ond angel yr Arglwydd o hyd nos a agorodd ddrysau’r carchar, ac wedi eu dwyn hwynt allan dywedodd, “Ewch, a sefwch yn y Deml, a lleferwch wrth y bobl yr holl bethau ynglŷn â’r bywyd hwn.” Wedi clywed, aethant tua thoriad dydd i mewn i’r Deml a dechreuasant ddysgu. Wedi i’r archoffeiriad ddyfod, a’r rhai oedd gydag ef, galwasant ynghyd y Sanhedrin, sef holl gyngor meibion Israel, ac anfonasant i’r carchardy i’w cyrchu hwynt. Ond wedi i’r gweision gyrraedd ni chawsant hwynt yn y carchar, ac wedi dychwelyd mynegasant, gan ddywedyd, “Cawsom y carchardy wedi ei gloi yn gwbl ddiogel a’r gwylwyr yn sefyll wrth y drysau, ond wedi agor ni chawsom neb i mewn.” A phan glywodd pennaeth y Deml a’r archoffeiriaid y geiriau yma, yr oeddynt mewn penbleth amdanynt beth a ddeuai o hyn. Ond daeth rhywun a mynegodd iddynt, “Dyma’r gwŷr, a ddodasoch yn y carchar, yn y Deml yn sefyll ac yn dysgu’r bobl!” Yna aeth y pennaeth gyda’r gweision, a’u dwyn hwynt, — heb drais, canys ofnent y bobl rhag eu llabyddio; ac wedi eu dwyn gwnaethant iddynt sefyll yn y Sanhedrin. A holodd yr archoffeiriad hwynt, gan ddywedyd, “Rhoesom orchymyn pendant i chwi i beidio â dysgu am yr enw hwn, a dyma chwi wedi llanw Caersalem â’ch dysgeidiaeth, a cheisiwch ddwyn arnom ni waed y dyn hwn.” Ac atebodd Pedr a’r apostolion a dywedyd, “Rhaid ufuddhau i Dduw yn hytrach nag i ddynion. Cyfododd Duw ein tadau Iesu, a lofruddiasoch chwi gan ei grogi ar bren; hwn a ddyrchafodd Duw â’i law ddehau yn flaenor ac iachawdwr, i roddi edifeirwch i Israel a maddeuant pechodau; ac yr ŷm ni’n dystion o’r pethau hyn, a’r Ysbryd Glân, a roddes Duw i’r sawl a ufuddhao iddo.” Pan glywsant hwythau, ffyrnigent a mynnent eu lladd hwynt. Ond cyfododd rhyw Pharisead yn y Sanhedrin a’i enw Gamaliel, athro’r Gyfraith, gŵr parchus gan yr holl bobl, ac archodd roi’r dynion allan am ychydig, a dywedodd wrthynt, “Wŷr Israel, cymerwch ofal am y dynion hyn pa beth yr ydych ar fedr ei wneuthur. Canys cyn y dyddiau hyn cyfododd Thewdas, gan ddywedyd ei fod yn rhywun, ac fe lynodd nifer o ddynion wrtho, ynghylch pedwar cant; a lladdwyd ef, a gwasgarwyd pawb a’i pleidiai, ac aethant yn ddim. Ar ei ôl ef cyfododd Iwdas y Galilead yn nyddiau’r cyfrifiad, a thynnodd bobl ymaith ar ei ôl; darfu amdano yntau hefyd, a chwalwyd pawb a’i pleidiai. Ac yn awr meddaf wrthych, peidiwch â’r dynion hyn a gedwch iddynt; oblegid os o ddynion y mae’r cyngor hwn neu’r gwaith hwn, fe’i dymchwelir; eithr os o Dduw y mae, ni ellwch eu dymchwelyd hwynt; fe all y’ch ceir chwi yn ymladd â Duw.” A chytuno ag ef a wnaethant, ac wedi galw’r apostolion a’u fflangellu, gorchmynasant na lefarent am enw’r Iesu, a’u gollwng ymaith. Hwythau, aent i ffwrdd yn llawen o ŵydd y Sanhedrin am eu cyfrif yn deilwng i dderbyn amarch er mwyn yr enw; a phob dydd yn y Deml ac o dŷ i dŷ ni pheidient â dysgu a chyhoeddi’r efengyl am y Crist, Iesu. Ac yn y dyddiau hynny, a’r disgyblion yn amlhau, bu grwgnach gan yr Helenistiaid yn erbyn yr Hebreaid am esgeuluso eu gweddwon hwynt yn y ddarpariaeth feunyddiol. A galwodd y deuddeg y lliaws disgyblion atynt, a dywedyd, “Nid da ein bod ni’n gadael gair Duw a gweini wrth fyrddau; edrychwch, frodyr, am saith o wŷr o’ch plith ag iddynt air da, yn llawn ysbryd a doethineb, i ni i’w gosod ar hyn o orchwyl; a ninnau, parhau a wnawn yn ddyfal mewn gweddi ac yng ngwasanaeth y gair.” A bu dda gan yr holl liaws y gair, ac etholasant Steffan, gŵr llawn o ffydd a’r Ysbryd Glân, a Phylip a Phrochorus a Nicanor a Thimon a Pharmenas a Nicolaus, proselyt o Antiochia; y rhain a osodasant ger bron yr apostolion, ac wedi gweddïo rhoesant eu dwylo arnynt. A chynyddai gair Duw, ac amlhâi nifer y disgyblion yng Nghaersalem yn ddirfawr, a thyrfa fawr o’r offeiriaid a ymostyngai i’r ffydd. A Steffan, yn llawn gras a nerth, a wnâi ryfeddodau ac arwyddion mawr ymhlith y bobl. A chyfododd rhai o wŷr Synagog y Libertiniaid a’r Cyreniaid a’r Alecsandriaid (fel y gelwid hi), ac o wŷr Cilicia ac Asia, gan ymddadlau â Steffan; ac ni allent wrthsefyll y doethineb a’r ysbryd y llefarai drwyddo. Yna annos gwŷr a wnaethant i ddywedyd, “Clywsom ef yn llefaru pethau cableddus am Foesen a Duw.” A chynhyrfu’r bobl a’r henuriaid a’r ysgrifenyddion a wnaethant, a dyfod arno a’i gipio a’i ddwyn i’r Sanhedrin; gosodasant gau dystion hefyd i ddywedyd, “Ni phaid y dyn yma â llefaru pethau yn erbyn y Lle santaidd hwn a’r Gyfraith; canys clywsom ef yn dywedyd y dymchwelai Iesu’r Nasaread yma y Lle hwn ac y newidiai’r defodau a draddododd Moesen i ni.” A syllodd pawb oedd yn eistedd yn y Sanhedrin arno, a gwelsant ei wyneb ef fel petai wyneb angel. A dywedodd yr archoffeiriad, “Ai felly y mae’r pethau hyn?” Eb yntau, “Frodyr a thadau, gwrandewch. Ymddangosodd Duw’r gogoniant i’n tad Abraham, ac yntau ym Mesopotamia, cyn iddo ymgartrefu yn Charran, a dywedodd wrtho, ‘Ymadaw â’th wlad a’th gystlwn, a thyred i’r wlad a ddangoswyf iti.’ Yna ymadawodd â gwlad y Chaldeaid ac ymgartrefodd yn Charran. Ac oddiyno wedi marw ei dad fe’i symudodd ef i’r wlad hon, y trigwch chwi ynddi yn awr; eto ni roddes iddo etifeddiaeth ynddi, naddo droedfedd; addo a wnaeth ei rhoddi’n feddiant iddo ac i’w had ar ei ôl ac yntau heb blentyn. A llefarodd Duw fel hyn: ‘Bydd ei had yn ddyfodiaid mewn gwlad ddieithr, a cheithiwant hwynt a’u drygu bedwar can mlynedd; eithr y genedl a wasanaethant hwy, myfi a’i barn,’ medd Duw, ‘ac wedi hynny deuant allan, ac addolant fi yn y lle hwn.’ A rhoddes iddo gyfamod enwaediad, ac felly y ganed iddo Isaac ac yr enwaedodd arno yr wythfed dydd, ac i Isaac Iacob, ac i Iacob y deuddeg patriarch. A chenfigennodd y patrieirch wrth Ioseff a gwerthasant ef i’r Aifft; eithr yr oedd Duw gydag ef, ac achubodd ef o’i holl gyfyngderau, a pheri iddo ffafr a doethineb ger bron Pharo, brenin yr Aifft, a gosododd yntau ef yn lywodraethwr dros yr Aifft a’i holl dŷ. A daeth newyn dros yr holl Aifft a Chanaan a chyfyngder mawr, ac ni allai ein tadau gael porthiant. Ond wedi i Iacob glywed bod ŷd yn yr Aifft anfonodd ein tadau ni allan y tro cyntaf; a’r ail dro fe’i datguddiodd Ioseff ei hun i’w frodyr, a daeth yn hysbys i Pharo genedl Ioseff. Ac anfonodd Ioseff i alw ato Iacob ei dad a’i holl gystlwn, hyd bymtheng enaid a thrigain, ac aeth Iacob i lawr i’r Aifft. A bu farw ef a’n tadau, a dygwyd hwy drosodd i Sichem a’u gosod yn y bedd a brynasai Abraham am arian gan feibion Emmor yn Sichem. Ac fel yr agoshâi amser yr addewid a ganiatasai Duw i Abraham, cynyddodd y bobl a lluosogi yn yr Aifft, hyd oni chyfododd brenin gwahanol dros yr Aifft, na wyddai ddim am Ioseff. Hwnyma drwy ddichell yn erbyn ein cenedl ni a ddrygodd ein tadau, gan beri diymgeleddu eu babanod fel na byddent byw. A’r pryd hyn y ganed Moesen, a thlws oedd ef gan Dduw; a magwyd ef dri mis yn nhŷ ei dad; ac wedi ei ddiymgeleddu cymerth merch Pharo ef, a’i ddwyn i fyny yn fab iddi ei hun. A hyfforddwyd Moesen yn holl ddoethineb yr Eifftwyr, a nerthol oedd yn ei eiriau a’i weithredoedd. Ac yn ystod ei ddeugeinfed flwyddyn, clywodd ar ei galon ymweled â’ i frodyr, meibion Israel. Ac wrth ganfod un yn cael cam fe’i hamddiffynnodd, a dialodd gam yr hwn a drechid, drwy daro’r Eifftiwr. Tybiai y deallai ei frodyr fod Duw trwyddo ef yn estyn gwaredigaeth iddynt; hwythau, ni ddeallasant. Trannoeth eto yr ymddangosodd iddynt, a hwythau’n ymladd, a cheisiodd eu cymodi a chael heddwch, gan ddywedyd, ‘Wŷr, brodyr ydych! Paham y gwnewch gam â’ch gilydd?’ Ond yr hwn a wnâi gam â’i gymydog, fe’i cilgwthiodd gan ddywedyd, ‘Pwy a’th osododd di yn llywodraethwr ac yn farnwr drosom ni? Ai fy nifetha innau a fynni di, y modd y difethaist yr Eifftiwr ddoe?’ A ffodd Moesen ar y gair hwn, a daeth yn ddyfodiad yng ngwlad Madiam, lle y ganed iddo ddau fab. Ac ymhen deugain mlynedd ymddangosodd iddo yn niffeithwch mynydd Sina angel mewn fflam dân o berth; a Moesen, pan ganfu, bu ryfedd ganddo’r weledigaeth; a phan ddynesodd i edrych, daeth llais yr Arglwydd, ‘Myfi yw Duw dy dadau, Duw Abraham ac Isaac ac Iacob,’ Ac aeth dychryn ar Foesen, ac ni feiddiai edrych. A dywedodd yr Arglwydd wrtho, ‘Datod dy esgidiau oddi am dy draed, canys y man y sefi, tir santaidd yw. Gwelais, do, gwelais ddrygu fy mhobl yn yr Aifft, a’u griddfan a glywais, a disgynnais i’w gwared hwynt; ac yn awr tyred, anfonaf di i’r Aifft.’ Y Moesen hwn, a wrthodasent, gan ddywedyd, ‘Pwy a’th osododd di yn lywodraethwr ac yn farnwr?’ hwn a anfonodd Duw yn llywodraethwr ac yn rhyddhawr trwy law’r angel a ymddangosodd iddo yn y berth. Hwn a’u dug hwynt allan, gan wneuthur rhyfeddodau ac arwyddion yn yr Aifft ac yn y Môr Coch ac yn y diffeithwch ddeugain mlynedd. Hwn yw’r Moesen a ddywedodd wrth feibion Israel, ‘Proffwyd a gyfyd Duw i chwi o blith eich brodyr, yr un modd â minnau.’ Hwn, yn y gynulleidfa yn y diffeithwch, a ddaeth rhwng yr angel a lefarai wrtho ar fynydd Sina a’n tadau ni, ac a dderbyniodd eiriau byw i’w rhoddi i chwi; ac ni fynnodd ein tadau ymddarostwng iddo, ond ei gilgwthio a throi o’u calonnau i’r Aifft, gan ddywedyd wrth Aaron, ‘Gwna i ni dduwiau i ymdaith o’n blaen; oblegid y Moesen yma, a’n dug ni allan o’r Aifft, ni wyddom ni beth ddaeth ohono.’ A gwnaethant lo yn y dyddiau hynny ac offrwm aberth i’r ddelw, a chaent hwyl ar gynnyrch eu dwylo. A throes Duw, a’u gadael i addoli llu’r ffurfafen, fel y mae’n ysgrifenedig yn Llyfr y Proffwydi: A offrymasoch i mi laddedigion ac aberthau y deugain mlynedd yn y diffeithwch, chwi dŷ Israel? Na, cymerasoch babell Moloch a seren y duw Rhomffa, y llunau a wnaethoch i’w haddoli. Ac alltudiaf innau chwi y tu hwnt i Fabilon. Gyda’n tadau yn y diffeithwch yr oedd y babell dystiolaeth, fel y gorchmynasai yr hwn a lefarai wrth Foesen ei gwneuthur yn ôl y patrwm a welsai; hon, ein tadau ar eu tro a’i dug i mewn gydag Iesu yn ystod goresgyn y cenhedloedd a yrrodd Duw allan o flaen ein tadau, — felly hyd ddyddiau Dafydd. Cafodd ef ffafr ger bron Duw, a cheisiodd gael llunio trigfan i Dduw Iacob. Eithr Solomon a adeiladodd dŷ iddo. Eto ni thrig y Goruchaf yng ngwaith llaw; megis y dywed y proffwyd, Y nef sydd orsedd imi, a’r ddaear sydd droedfainc i’m traed; Pa dŷ a adeiledwch i mi, medd yr Arglwydd, neu pa fan fydd fy ngorffwysfa. Onid fy llaw i a wnaeth y pethau hyn oll? Chwi rai gwargaled a dienwaededig o galon a chlust, yr ydych chwi yn wastad yn gwrthdaro yn erbyn yr Ysbryd Glân; fel eich tadau, felly chwithau. Pa un o’r proffwydi nas erlidiodd eich tadau? Ie, a lladd y rhai a ragfynegodd am ddyfod y Cyfiawn; a chwithau’n awr, bradychwyr a llofruddion fuoch iddo, chwi a dderbyniodd y ddeddf yn gyfarwyddyd angylion, ac nis cadwasoch.” Wrth glywed y pethau hyn ffyrnigent yn eu calonnau, ac ysgyrnygent eu dannedd arno. Yntau, ac ynddo’r Ysbryd Glân ei lond, syllodd tua’r nef a gwelodd ogoniant Duw, ac Iesu’n sefyll ar ddeheulaw Duw, a dywedodd, “Dyma fi’n cael golwg ar y nefoedd yn agored a Mab y dyn yn sefyll ar ddeheulaw Duw.” Gwaeddasant hwythau â llef uchel, a chau eu clustiau, a rhuthio’n unfryd arno; ac wedi ei fwrw allan o’r ddinas dechreuasant ei labyddio. A dododd y tystion eu dillad wrth draed gŵr ifanc o’r enw Saul. A llabyddient Steffan, ag yntau’n galw ac yn dywedyd, “Arglwydd Iesu, derbyn fy ysbryd.” A chan benlinio gwaeddodd â llef uchel, “Arglwydd, na osod yn eu herbyn y pechod hwn.” Ac wedi dywedyd hyn, fe hunodd. A dechreuodd erlid mawr y dydd hwnnw ar yr eglwys yng Nghaersalem; ac fe’u gwasgarwyd oll trwy gylchoedd Iwdea a Samaria, oddieithr yr apostolion. Claddodd gwŷr duwiol Steffan, ac wylofain yn uchel amdano. Ond difrodai Saul yr eglwys, gan fynd i mewn o dŷ i dŷ, a chan lusgo ymaith wŷr a gwragedd fe’u traddodai i garchar. Y rhai a wasgarwyd, ynteu, teithiasant gan draethu’r newydd da. Aeth Phylip i lawr i ddinas Samaria, a dechreuodd gyhoeddi iddynt y Crist. A daliai’r torfeydd yn unfryd ar yr hyn a ddywedai Phylip, wrth glywed ohonynt a gweled yr arwyddion a wnâi; canys llawer o’r rhai oedd ag ysbrydion aflan ynddynt — gan lefain â llef uchel deuent allan, a llawer parlysedig a chloff a iachawyd; a bu llawenydd mawr yn y ddinas honno. Ac yr oedd eisoes ryw ŵr a’i enw Simon yn y ddinas, yn swyna, ac yn synnu cenedl Samaria, gan ddywedyd ei fod ef yn rhywun mawr; a daliai pawb sylw arno, o fawr i fân, gan ddywedyd, “Hwn yw’r Gallu Duw a elwir Mawr.” Dalient sylw arno am fod syndod arnynt er ys talm at ei swynion. Eithr wedi iddynt gredu Phylip a’i newydd da am deyrnas Dduw ac enw Iesu Grist, bedyddid hwynt, yn wŷr a gwragedd. A Simon ei hun yntau a gredodd, ac wedi ei fedyddio bu ddyfal ei lynu wrth Phylip, ac wrth weled gwneuthur arwyddion a grymusterau mawr, fe synnai. Ac wedi i’r apostolion yng Nghaersalem glywed i Samaria dderbyn gair Duw anfonasant atynt Bedr ac Ioan; a hwythau, wedi dyfod i lawr, gweddïasant drostynt am iddynt gael yr Ysbryd Glân. Canys nid oedd eto wedi disgyn ar neb ohonynt; wedi eu bedyddio yn unig yr oeddynt i enw yr Arglwydd Iesu. Yna dodent eu dwylo arnynt, a chaent hwythau’r Ysbryd Glân. Ac wedi i Simon weled mai trwy arddodiad dwylo’r apostolion y rhoid yr ysbryd, fe ddug iddynt dâl, gan ddywedyd, “Rhowch i minnau’r gallu yma, gael o’r neb y dodwyf fy nwylo arno yr Ysbryd Glân.” Ond dywedodd Pedr wrtho, “I goll â thydi a’th arian, am iti feddwl meddiannu dawn Duw trwy dâl! Nid oes i ti ran na chyfran yn hyn o beth, canys dy galon nid yw’n union ger bron Duw. Edifarha, ynteu, am dy ddrygioni hwn, ac erfyn ar Dduw a faddeuir i ti feddylfryd dy galon; canys gwelaf dy fod yn fustl o chwerwder ac yn sypyn o anwiredd.” Atebodd Simon, a dywedodd, “Erfyniwch chwi drosof fi ar yr Arglwydd na ddêl arnaf ddim o’r hyn a ddywedasoch.” Hwythau, wedi iddynt ddwys dystiolaethu a llefaru gair yr Arglwydd, cychwynasant yn ôl i Gaersalem, a chyhoeddi’r newydd da yn llawer o bentrefi’r Samariaid. Llefarodd angel yr Arglwydd wrth Phylip, gan ddywedyd, “Cyfod a dos tua’r dehau dros y ffordd sy’n mynd i lawr o Gaersalem i Gasa.” (Ffordd unig yw hon.) A chyfododd a mynd; a dyna ŵr o Ethiop, eunuch, un o wyrda Candace, brenhines yr Ethiopiaid, yr hwn oedd ben ar ei holl drysor hi; deuthai i Gaersalem i addoli, ac yr oedd yn dychwelyd ac yn eistedd yn ei gerbyd, a darllenai’r proffwyd Esaias. A dywedodd yr Ysbryd wrth Phylip, “Dos ac ymwasg â’r cerbyd yna.” A rhedodd Phylip ato, a chlywodd ef yn darllen Esaias y proffwyd, a dywedodd, “A wyt ti’n deall yr hyn a ddarlleni?” Dywedodd yntau, “Pa fodd, tybed, y gallaf, oni’m cyfarwydda rhywun?” Ac fe ddymunodd ar Phylip ddyfod i fyny ac eistedd gydag ef. A hon oedd yr adran ysgrythur a ddarllenai: Fel dafad i’r lladdfa y dygwyd ef, ac fel oen ger bron a’i cneifia, yn fud, felly nid egyr ei enau. Am ei ostyngeiddrwydd ei brawf a omeddwyd iddo; ei genhedlaeth, pwy a’i traetha? canys cipir ei fywyd oddiar y ddaear. Atebodd yr eunuch a dywedodd wrth Phylip, “Atolwg i ti, am bwy y dywed y proffwyd hyn? Amdano’i hun, neu am rywun arall?” Ac agorodd Phylip ei enau, a chan ddechrau â’r ysgrythur honno fe draethodd iddo’r newydd da am yr Iesu. Ac a hwynt yn mynd ar hyd y ffordd, deuthant at ryw ddŵr, ac medd yr eunuch, “Dyma ddŵr; beth sy’n lluddias fy medyddio?” Ac fe orchmynnodd i’r cerbyd aros, ac aethant i lawr ill dau i’r dŵr, Phylip a’r eunuch, ac fe’i bedyddiodd. A phan ddeuthant i fyny o’r dŵr, cipiodd Ysbryd yr Arglwydd Phylip, ac ni welodd yr eunuch mono mwyach; canys âi i’w ffordd yn llawen. Eithr Phylip a gafwyd yn Asotus, a chan deithio cyhoeddai’r newydd da yn yr holl ddinasoedd nes ei ddyfod i Gesarea. A Saul eto’n anadlu bygythion a lladdedigaeth yn erbyn disgyblion yr Arglwydd, fe aeth at yr archoffeiriad, a cheisiodd ganddo lythyrau at y synagogau yn Namascus, fel os câi ef rywrai o deulu’r Ffordd, yn wŷr a gwragedd, y dygai hwynt yn gaeth i Gaersalem. Ac ar ei ffordd bu iddo agoshau at Ddamascus, ac yn ddisymwth fflachiodd o’i gwmpas oleuni o’r nef; syrthiodd yntau ar lawr, a chlywodd lais yn dywedyd wrtho, “Saul, Saul, paham y’m herlidi?” Dywedodd yntau, “Pwy wyt ti, Arglwydd?” Ebr yntau, “Iesu wyf fi, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid; eithr cyfod a dos i mewn i’r ddinas, ac fe ddywedir i ti pa beth sy raid i ti ei wneuthur.” A safai’r gwŷr a gydymdeithiai ag ef yn fud, yn clywed y llais eithr heb weled neb. A chyfododd Saul oddiar lawr, ac a’i lygaid yn agored, ni welai ddim; a dygasant ef gerfydd ei law i mewn i Ddamascus. A bu dridiau heb weled, ac ni wnaeth na bwyta nac yfed. Yr oedd rhyw ddisgybl yn Namascus a’i enw Ananias, ac fe ddywedodd yr Arglwydd wrtho mewn gweledigaeth, “Ananias.” Dywedodd yntau, “Dyma fi, Arglwydd.” Ac meddai’r Arglwydd wrtho, “Cyfod, dos i’r ystryd a elwir Union, a chais yn nhŷ Iwdas un o Darsus a’i enw Saul; canys y mae’n gweddïo, wel di, ac y mae wedi gweld mewn gweledigaeth ŵr a’i enw Ananias yn dyfod i mewn ac yn dodi ei ddwylo arno, fel y caffai ei olwg yn ôl.” Ac atebodd Ananias, “Arglwydd, clywais gan lawer am y gŵr yma, gymaint drwg a wnaeth i’th saint yng Nghaersalem; yma hefyd y mae ganddo awdurdod oddiwrth yr archoffeiriaid i rwymo pawb sy’n galw ar dy enw di.” A dywedodd yr Arglwydd wrtho, “Dos di, canys llestr dewis i mi yw hwn, i ddwyn fy enw ger bron y cenhedloedd a’r brenhinoedd, a cher bron meibion Israel; canys dangosaf fi iddo pa faint sy raid iddo’i ddioddef dros fy enw i.” Aeth Ananias ymaith ac aeth i mewn i’r tŷ, ac wedi dodi ei ddwylo arno fe ddywedodd, “Y brawd Saul, yr Arglwydd a’m hanfonodd, — Iesu, a ymddangosodd iti ar y ffordd y deuthost, — fel y ceffych dy olwg yn ôl a’th lanw â’r Ysbryd Glân.” Ac yn y fan syrthiodd megis cen oddi ar ei lygaid, a chafodd ei olwg yn ôl, a chyfododd ac fe’i bedyddiwyd, a chymerth luniaeth ac ymgryfhaodd. A bu gyda’r disgyblion yn Namascus rai dyddiau, ac yn y fan dechreuodd gyhoeddi’r Iesu yn y synagogau, mai dyma Fab Duw. A synnai pawb a’i clywai, a dywedyd, “Onid hwn yw’r un a ddifrododd yng Nghaersalem y rhai a alwai ar yr enw yma, ac onid i hyn y deuthai yma, i’w dwyn yn gaeth o flaen yr archoffeiriaid?” Ond Saul a ymgadarnhâi fwyfwy, ac a ddyrysai’r Iddewon oedd yn byw yn Namascus drwy brofi mai dyma’r Eneiniog. Ac ymhen talm o ddyddiau cydfwriadodd yr Iddewon ei ladd; ond daeth eu cynllwyn yn hysbys i Saul. Gwylient hyd yn oed y pyrth ddydd a nos er mwyn ei ladd ef; ond cymerth ei ddisgyblion ef liw nos, a’i ollwng i lawr drwy’r mur, gan ei ostwng mewn basged. Ac wedi cyrraedd Caersalem ceisiai ymwasgu â’r disgyblion; a phawb a’i hofnai ef, heb gredu ei fod yn ddisgybl. Eithr Barnabas a gymerth afael ynddo, a’i ddwyn at yr apostolion, ac adroddodd iddynt pa fodd y gwelsai’r Arglwydd ar y ffordd ac iddo lefaru wrtho, a pha fodd yn Namascus y traethodd yn hy yn enw Iesu. A bu gyda hwynt yn mynd i mewn ac allan yng Nghaersalem, gan draethu’n hy yn enw yr Arglwydd, ac fe lefarai ac ymddadleuai gyda’r Helenistiaid; hwythau, ceisient ei ladd ef. A phan wybu’r brodyr, dygasant ef i lawr i Gesarea, a’i anfon ymaith i Darsus. Cafodd yr eglwys, ynteu, drwy holl Iwdea a Galilea a Samaria heddwch i ymsefydlogi, a chan rodio yn ofn yr Arglwydd ac yn niddanwch yr Ysbryd Glân, lluosogai. A digwyddodd i Bedr, ac yntau’n mynd ar daith heibio i bawb, ddyfod i lawr at y saint oedd yn trigo yn Lyda. A chafodd yno ryw ddyn, a’i enw Aeneas, oedd yn gorwedd ers wyth mlynedd ar ei wely, yn barlysedig. A dywedodd Pedr wrtho, “Aeneas, y mae Iesu Grist yn dy iacháu di; cyfod, a thanna dy wely.” Ac yn y fan cyfododd. A gwelwyd ef gan bawb a drigai yn Lyda a Saron, a throesant at yr Arglwydd. Yr oedd yn Ioppa ryw ddisgybles, a’i henw Tabitha, yr hyn o’i esbonio yw’r gair Dorcas; yr oedd hon yn llawn o weithredoedd da ac o wneuthur elusenau. Ac yn y dyddiau hynny y clafychodd, a bu farw; ac wedi ei golchi rhoesant hi yn y llofft. A chan fod Lyda yn agos i Ioppa, wedi i’r disgyblion glywed bod Pedr yno, anfonasant ddau ŵr ato i ddeisyf arno, “Nac oeda ddyfod drwodd hyd atom.” A chyfododd Pedr ac aeth gyda hwynt; ac wedi iddo gyrraedd dygasant ef i fyny i’r llofft, a safodd yr holl wragedd gweddwon yn ei ymyl dan wylo a dangos yr holl grysau a’r gynau a wnaethai Dorcas, pan oedd yn eu plith. A bwriodd Pedr bawb allan a phenlinio a gweddïo, a chan droi at y corff fe ddywedodd, “Tabitha, cyfod.” Agorodd hithau ei llygaid, a phan welodd Bedr, cododd yn ei heistedd. Rhoddes yntau law iddi a’i chyfodi, ac wedi iddo alw y saint a’r gwragedd gweddwon fe’i cyflwynodd hi iddynt yn fyw. Ac aeth hyn yn hysbys drwy holl Ioppa, a chredodd llawer yn yr Arglwydd. Ac arhosodd dalm o ddyddiau yn Ioppa gyda rhyw Simon, barcer. A rhyw ŵr yng Nghesarea, a’i enw Cornelius, canwriad o’r fintai a elwid mintai’r Eidal, gŵr defosiynol, a oedd ynghyd â’i holl deulu yn ofni Duw, un a wnâi elusenau lawer i’r bobl ac a weddïai ar Dduw’n wastadol, gwelodd mewn gweledigaeth yn eglur tua’r nawfed awr o’r dydd angel Duw yn dyfod i mewn ato ac yn dywedyd wrtho, “Cornelius.” Yntau a syllodd arno, a chan frawychu a ddywedodd, “Beth sydd, Arglwydd?” A dywedodd wrtho, “Esgynnodd dy weddïau a’th elusenau yn offrwm coffa ger bron Duw; ac yn awr anfon wŷr i Ioppa a gyr am Simon, un a gyfenwir Pedr; y mae hwn yn lletya gyda rhyw Simon, barcer, sydd â’i dŷ ar lan y môr.” Ac wedi i’r angel a lefarai wrtho ymadael, galwodd ddau o’r gweision tŷ a milwr defosiynol, un o’i weision agos, ac wedi adrodd y cwbl iddynt anfonodd hwynt i Ioppa. A thrannoeth, a’r rhain ar eu taith ac yn dynesu at y ddinas, fe esgynnodd Pedr i ben y tŷ i weddïo tua’r chweched awr. Ac fe aeth yn newynog, a dymunai gael bwyd; ac wrth eu bod yn paratoi daeth arno lewyg, ac y mae’n gweled y nef yn agored a rhyw lestr yn disgyn megis llenlliain fawr, a ollyngid wrth bedair congl tua’r ddaear; ac ynddo yr oedd holl bedwarcarnolion ac ymlusgiaid y ddaear ac adar y nef. A daeth llef ato, “Cyfod, Pedr, lladd a bwyta.” A dywedodd Pedr, “Na, na, Arglwydd; canys ni fwyteais erioed ddim cyffredin ac aflan;” Ac meddai’r llef drachefn eilwaith wrtho, “Yr hyn a wnaed yn lân gan Dduw, na foed gyffredin gennyt ti.” A hyn a fu deirgwaith, ac yna cymerwyd y llestr i fyny i’r nef. Ac fel yr oedd Pedr mewn penbleth ynddo’i hun beth a allai’r weledigaeth a welsai fod, dyma’r gwŷr a anfonwyd gan Gornelius, wedi iddynt ofyn am dŷ Simon, yn dyfod a sefyll yn y cyntedd, ac wedi galw gofynasant a oedd Simon a gyfenwid Pedr yn lletya yno. A thra oedd Pedr yn synfyfyrio ar y weledigaeth dywedodd yr Ysbryd, “Dyma ddau ŵr yn dy geisio; da di, cyfod, disgyn, a dos gyda hwynt heb amau dim, oherwydd myfi a’u hanfonodd hwynt.” Ac wedi i Bedr ddisgyn at y gwŷr fe ddywedodd, “Dyma fi, yr hwn a geisiwch; beth yw’r achos am eich dyfod?” Dywedasant hwythau, “Cornelius, canwriad, gŵr cyfiawn, sy’n ofni Duw ac sydd â gair da iddo gan holl genedl yr Iddewon, a rybuddiwyd oddiuchod gan angel santaidd i ddanfon amdanat i’w dŷ ac i glywed pethau gennyt.” Felly gwahoddodd hwynt i mewn a’u lletya. A thrannoeth cyfododd ac aeth ymaith gyda hwynt, ac aeth rhai o’r brodyr oedd yn Ioppa gydag ef. Ac ail trannoeth aeth i mewn i Gesarea. A Chornelius oedd yn eu disgwyl, wedi galw ynghyd ei geraint a’i gyfeillion agos. Ac wedi i Bedr ddyfod i mewn, fe gyfarfu Cornelius ag ef, a syrthio wrth ei draed, a’i addoli. Ond cyfododd Pedr ef, gan ddywedyd, “Cyfod; dyn wyf finnau hefyd.” Ac aeth i mewn dan ymddiddan ag ef, a chael llawer wedi ymgynnull, ac meddai wrthynt, “Gwyddoch chwi mai anghyfreithlon yw i ŵr o Iddew ymgyfeillach neu ymweled ag estron; eto dangosodd Duw i mi na alwn neb dyn yn gyffredin neu aflan. Am hynny y deuthum yn ddinâg, pan yrrwyd amdanaf. Gofynnaf, felly, paham y gyrasoch amdanaf.” Ac ebe Cornelius, “Pedwar diwrnod i’r awr hon yr oeddwn ar weddi’r nawfed awr yn fy nhŷ, a dyna ŵr yn sefyll ger fy mron mewn gwisg ddisglair, ac medd ef, ‘Cornelius, clywyd dy weddi di a galwyd dy elusenau i gof gan Dduw; anfon, gan hynny, i Ioppa, a galw am Simon, a gyfenwir Pedr; y mae hwnnw’n lletya yn nhŷ Simon, barcer, ar lan y môr.’ Felly ar unwaith yr anfonais atat, a thithau, gwelaist yn dda ddyfod. Yn awr, ynteu, yr ŷm i gyd yma ger bron Duw, i glywed popeth a orchmynnwyd i ti gan yr Arglwydd.” Ac agorodd Pedr ei enau, a dywedodd, “Deallaf yn wir nad ydyw Duw dderbyniwr wyneb, eithr ym mhob cenedl y neb a’i hofno ef ac a weithredo gyfiawnder, derbyniol yw ganddo. Ei air a anfonodd i feibion Israel, gan gyhoeddi efengyl tangnefedd trwy Iesu Grist; Arglwydd pawb yw ef. Gwyddoch chwi’r hanes a fu drwy holl Iwdea, — i ddechrau, yng Ngalilea wedi’r bedydd a gyhoeddodd Ioan, — am Iesu o Nasareth, y modd yr eneiniodd Duw ef â’r Ysbryd Glân ac â nerth, yr hwn a aeth o gwmpas gan wneuthur daioni ac iacháu pawb a oedd dan ormes y diafol, am fod Duw gydag ef. A ninnau, tystion ydym o’r holl bethau a wnaeth yng ngwlad yr Iddewon a Chaersalem; a’i ladd a wnaethant, gan ei grogi ar bren. Hwn a gyfododd Duw y trydydd dydd, a pheri gallu ei weled, nid gan yr holl bobl ond gan dystion a ragetholasid gan Dduw, nyni, y rhai a fu’n cydfwyta ac yn cydyfed ag ef wedi iddo atgyfodi o feirw. Ac fe orchmynnodd i ni gyhoeddi i’r bobl a dwys dystiolaethu mai hwn a benodwyd gan Dduw yn farnwr byw a meirw. I hwn y tystia’r holl broffwydi, gael o bawb a gredo ynddo faddeuant pechodau trwy ei enw.” A Phedr eto’n llefaru’r pethau hyn, disgynnodd yr Ysbryd Glân ar bawb a glywai’r gair. A synnodd y credinwyr enwaededig, a ddeuthai gyda Phedr, am fod tywallt dawn yr Ysbryd Glân hyd yn oed ar y cenhedloedd; canys clywent hwynt yn llefaru â thafodau ac yn mawrygu Duw. Yna atebodd Pedr, “A all neb warafun y dŵr i fedyddio’r rhai hyn, a gafodd yr Ysbryd Glân fel ninnau?” A gorchmynnodd eu bedyddio hwynt yn enw Iesu Grist. Yna gofynasant iddo aros rai dyddiau. A chlywodd yr apostolion a’r brodyr a oedd yn Iwdea dderbyn hyd yn oed o’r cenhedloedd air Duw. A phan aeth Pedr i fyny i Gaersalem, fe ddechreuodd teulu’r enwaediad ymryson ag ef, gan ddywedyd iddo fyned i mewn at wŷr dienwaededig ac iddo fwyta gyda hwynt. Ac fe ddechreuodd Pedr esbonio iddynt o’r bron, gan ddywedyd, “Yr oeddwn i yn ninas Ioppa yn gweddïo, a gwelais mewn llewyg weledigaeth, rhyw lestr yn disgyn megis llenlliain fawr a ollyngid wrth bedair congl o’r nef, a daeth hyd ataf; ac wrth syllu arni dechreuais amgyffred, a gwelais bedwarcarnolion y ddaear a’r bwystfilod a’r ymlusgiaid ac adar y nef; clywais hefyd lef yn dywedyd wrthyf, ‘Cyfod, Pedr; lladd a bwyta.’ Ac meddwn i, ‘Na, na, Arglwydd; canys dim cyffredin neu aflan nid aeth erioed i’m genau.’ Atebodd eilwaith lef o’r nef, ‘Yr hyn a wnaed yn lân gan Dduw, na foed gyffredin gennyt ti.’ A hyn a fu deirgwaith, a thynnwyd y cyfan i fyny’n ôl i’r nef. Ac ar unwaith dyna dri gŵr yn dyfod a sefyll wrth y tŷ yr oeddwn ynddo, wedi eu hanfon o Gesarea ataf. Ac fe ddywedodd yr Ysbryd wrthyf am fyned gyda hwynt heb wahaniaethu ddim. Ac fe aeth gyda ni hefyd y chwe brawd hyn, ac aethom i mewn i dŷ’r gŵr. Ac fe fynegodd i ni pa fodd y gwelsai’r angel yn sefyll yn ei dŷ ac yn dywedyd, ‘Anfon i Ioppa, a gyr am Simon, a gyfenwir Pedr, yr hwn a lefara wrthyt bethau y’th achubir di a’th holl deulu drwyddynt.’ Ac wrth fy mod yn dechrau llefaru, disgynnodd yr Ysbryd Glân arnynt hwy, megis arnom ninnau ar y cyntaf. A chofiais air yr Arglwydd, y modd y dywedai, ‘A dwfr y bedyddiodd Ioan, ond chwi, fe’ch bedyddir â’r Ysbryd Glân.’ Os rhoddodd Duw, ynteu, iddynt hwy yr unrhyw ddawn ag i ninnau pan gredasom yn yr Arglwydd Iesu Grist, pwy oeddwn i i allu lluddias Duw?” Wedi clywed hyn distewi a wnaethant a gogoneddu Duw, gan ddywedyd, “Felly hyd yn oed i’r cenhedloedd y rhoddes Duw yr edifeirwch i fywyd.” Y rhai a wasgarasid, ynteu, oherwydd y cyfyngder a godasai ynglŷn â Steffan, teithiasant hyd Phoenice a Chyprus ac Antiochia, heb lefaru’r gair wrth neb ond yn unig wrth Iddewon. Ond yr oedd rhai ohonynt yn wŷr o Gyprus a Chyrene, a hwy, wedi dyfod i Antiochia, dechreuasant lefaru wrth y Groegiaid hefyd, gan draethu’r newydd da am yr Arglwydd Iesu. Ac yr oedd llaw’r Arglwydd gyda hwynt, a nifer mawr a gredasai a droes at yr Arglwydd. A daeth y gair amdanynt i glustiau’r eglwys a oedd yng Nghaersalem, ac anfonasant Farnabas hyd Antiochia; wedi iddo ef gyrraedd a gweled gras Duw, bu lawen ganddo, ac anogai bawb o lwyrfryd calon i lynu wrth yr Arglwydd; canys yr oedd yn ŵr da, yn llawn o’r Ysbryd Glân ac o ffydd. A chwanegwyd cryn dyrfa i’r Arglwydd. Ac fe aeth ymaith i Darsus i geisio Saul, ac wedi ei gael fe’i dug i Antiochia. Ac am flwyddyn gyfan yr ymgynullasant gyda’r eglwys ac y dysgasant gryn dyrfa, ac yn Antiochia y cafodd y disgyblion gyntaf yr enw “Cristnogion.” Yn y dyddiau hynny daeth proffwydi i lawr o Gaersalem i Antiochia. A chyfododd un ohonynt, a’i enw Agabus, ac arwyddo trwy’r Ysbryd fod newyn mawr ar ddyfod dros yr holl fyd — yr hwn a fu yn amser Clawdius. A phenderfynodd y disgyblion, bob un ohonynt yn ôl ei fodd, anfon at wasanaeth y brodyr a oedd yn trigo yn Iwdea. A hyn a wnaethant, gan ddanfon at yr henuriaid drwy law Barnabas a Saul. A’r pryd hynny y dododd Herod y brenin ei ddwylo i ddrygu rhai o aelodau’r eglwys. Ac fe laddodd Iago, brawd Ioan, â’r cleddyf. A phan welodd mai da oedd gan yr Iddewon, aeth rhagddo a dal Pedr hefyd. (Dyddiau’r bara croyw oedd hi.) Ac wedi ei ddal fe’i dododd yng ngharchar, a’i draddodi i bedwar pedwariad o filwyr i’w warchod, gan arofun wedi’r Pasg ei ddwyn ymlaen yng ngŵydd y bobl. Felly yr oedd Pedr dan warchod yn y carchar; ond gweddïo a wnâi’r eglwys yn ddyfal ar Dduw er ei fwyn. A phan oedd Herod ar fedr ei ddwyn ger bron, y nos honno yr oedd Pedr yn cysgu rhwng dau filwr, wedi ei rwymo â dwy gadwyn, a gwylwyr o flaen y drws oedd yn gwarchod y carchar. A dyna angel yr Arglwydd yn dyfod a sefyll, a goleuni a ddisgleiriodd yn y gell; a chan daro ystlys Pedr fe’i deffrôdd, gan ddywedyd, “Cyfod ar frys;” a syrthiodd ei gadwyni oddiar ei ddwylo. A dywedodd yr angel wrtho, “Ymwregysa a dod dy sandalau amdanat;” ac fe wnaeth felly. Ac eb ef wrtho, “Bwrw dy fantell amdanat, a chanlyn fi.” Ac aeth allan a’i ganlyn; ac ni wyddai mai gwir oedd yr hyn a wneid gan yr angel, eithr tybiai mai gweledigaeth a welai. Ac aethant heibio i’r wyliadwriaeth gyntaf a’r ail, a dyfod at y porth haearn a oedd yn arwain i’r ddinas, yr hwn a agorodd iddynt ohono’i hun; ac aethant allan a mynd rhagddynt ar hyd un heol; yna’n ebrwydd aeth yr angel ymaith oddiwrtho. A daeth Pedr ato’i hun, a dywedyd, “Yn awr gwn yn wir anfon o’r Arglwydd ei angel, a’m gwared i o law Herod ac o’r cwbl a ddisgwyliai pobl yr Iddewon.” Ac wedi iddo ddeall aeth i dŷ Mair, mam Ioan a gyfenwid Marc, lle yr oedd cryn nifer wedi ymgasglu ac yn gweddïo. Ac wedi iddo guro wrth ddrws y porth, daeth morwyn, a’i henw Rhoda, i’w ateb; a phan adnabu lais Pedr nid agorodd y porth gan lawenydd, eithr rhedodd i mewn a mynegi bod Pedr yn sefyll o flaen y porth. Hwythau, dywedasant wrthi, “Yr wyt yn ynfyd.” Ond taeru a wnâi hithau mai felly yr oedd. Meddent hwythau, “Ei angel yw.” Daliai Pedr ati i guro; ac wedi agor gwelsant ef, a synasant. Ac wedi iddo amneidio arnynt â’i law i dewi, fe adroddodd iddynt pa fodd y dygasai’r Arglwydd ef allan o’r carchar; ac fe ddywedodd, “Mynegwch hyn i Iago a’r brodyr.” Ac aeth ymaith a chyrchu i le arall. Ac wedi iddi fynd yn ddydd yr oedd cyffro nid bychan ymhlith y milwyr, beth tybed a ddeuthai o Bedr. Ac wedi i Herod ei geisio a bod heb ei gael, cwestiynodd y gwylwyr a gorchmynnodd fynd â hwynt i’w lladd; ac aeth i lawr o Iwdea i Cesarea, a thario yno. Ac yr oedd iddo chwerw ymryson â phobl Tyrus a Sidon; a deuthant hwythau’n, unfryd ato, ac wedi ennill Blastus, gwas ystafell y brenin, ceisient heddwch am fod i’w gwlad hwynt ei chynhaliaeth o wlad y brenin. Ac ar ddiwrnod penodedig eisteddodd Herod ar ei orsedd, a gwisg frenhinol amdano, a dechreuodd areithio wrthynt; a bloeddiai’r bobl, “Llais duw ydyw, nid llais dyn.” Ac yn y fan fe drawodd angel yr Arglwydd ef, am na roesai’r gogoniant i Dduw; ac fe’i hyswyd gan bryfed, a threngodd. A gair yr Arglwydd oedd yn cynyddu ac yn amlhau. Ac fe ddychwelodd Barnabas a Saul o Gaersalem wedi iddynt gyflawni eu swydd, gan gymryd gyda hwynt Ioan, a gyfenwid Marc. Yr oedd yn Antiochia yn yr eglwys a oedd yno broffwydi ac athrawon — Barnabas a Simeon, a elwid Niger, a Lwcius o Gyrene, a Manaen, brawdmaeth Herod y tetrarch, a Saul. Ac a hwy’n gwasanaethu’r Arglwydd ac yn ymprydio, fe ddywedodd yr Ysbryd Glân, “Neilltuwch yn awr i mi Farnabas a Saul i’r gwaith y gelwais hwynt iddo.” Yna wedi ymprydio a gweddïo a dodi eu dwylo arnynt, gollyngasant hwynt. Hwynt-hwy, felly, wedi eu hanfon allan gan yr Ysbryd Glân, aethant i lawr i Selewcia, ac oddiyno hwylio i Gyprus; ac wedi cyrraedd Salamis dechreuasant gyhoeddi gair Duw yn synagogau’r Iddewon. (Yr oedd ganddynt Ioan hefyd, yn gynorthwywr.) Ac wedi teithio trwy’r holl ynys hyd Baffus cawsant ryw ŵr o ddewin, gau broffwyd o Iddew, a’i enw Bariesu, yr hwn oedd gyda’r rhaglaw, Sergius Pawlus, gŵr deallgar. Galwodd hwn Farnabas a Saul ato, a mynnodd gael clywed gair Duw; ond eu gwrthsefyll a wnâi Elymas, y dewin (felly y cyfieithir ei enw), a cheisio gŵyrdroi’r rhaglaw oddiwrth y ffydd. Eithr Saul (neu Paul), wedi ei lenwi â’r Ysbryd Glân, a syllodd arno, a dywedyd, “Ti, sy’n llawn o bob twyll a phob dichell, mab diafol, gelyn popeth sy iawn, oni pheidi di â gŵyrdroi uniawn ffyrdd yr Arglwydd? Dyma law’r Arglwydd arnat ti yn awr, a thi fyddi ddall heb weled yr haul am dymor.” Ac yn y fan syrthiodd arno niwl a thywyllwch, a than ymdroi o’i gwmpas ceisiai rywrai i roi llaw iddo. Yna pan welodd y rhaglaw yr hyn a fu, fe gredodd, yn fawr ei syndod wrth y ddysgeidiaeth am yr Arglwydd. Wedi hwylio ymaith o Baffus daeth Paul a’i gymdeithion i Berga ym Mhamffylia; a gadawodd Ioan hwynt, a dychwelodd i Gaersalem. Ond teithiasant hwy o Berga a chyrraedd Antiochia Pisidia; a myned i’r synagog ar y dydd Saboth, ac eistedd. Ac wedi’r darllen o’r Gyfraith a’r Proffwydi, fe anfonodd yr archsynagogwyr atynt, gan ddywedyd, “Frodyr, od oes gennych air o anogaeth i’r bobl, dywedwch ef.” A chyfododd Paul, ac amneidio â’i law, a dywedyd, “Wŷr Israel a chwi sy’n ofni Duw, gwrandewch. Duw y bobl hyn Israel a etholodd ein tadau ni, a’r bobl a ddyrchafodd yn ystod eu trigias yng ngwlad yr Aifft, ac â braich ddyrchafedig y dug hwynt allan ac wedi iddo ymddwyn â hwynt ddeugain mlynedd yn y diffeithwch, fe ddinistriodd saith genedl yng ngwlad Canaan, a rhoddi eu tir hwynt yn etifeddiaeth iddynt; hyn mewn rhyw bedwar can mlynedd a hanner. Ac wedi hynny rhoddes farnwyr hyd Samwel broffwyd. Ac yna ceisiasant frenin, a rhoddes Duw iddynt Saul, fab Cis, gŵr o lwyth Beniamin, am ddeugain mlynedd; ac fe’i diswyddodd ef, a chyfodi Dafydd iddynt yn frenin, ac iddo ef y tystiolaethodd, gan ddywedyd, ‘Cefais Ddafydd, fab Iesse, yn ŵr yn ôl fy nghalon, yr hwn a wna fy holl ewyllys.’ O had hwn y dug Duw yn ôl ei addewid waredwr i Israel, Iesu, ac Ioan wedi cyhoeddi eisoes o flaen ei ddyfod fedydd edifeirwch i holl bobl Israel. Ac wrth fod Ioan yn cyflawni ei yrfa, fe ddywedai, ‘Yr hyn y tybiwch fy mod i, nid ydwyf fi; eithr dyma fe’n dyfod ar fy ôl i, ac nid wyf deilwng i ddatod yr esgidiau am ei draed.’ Frodyr, meibion cenedl Abraham a’r rhai yn eich plith sy’n ofni Duw, i ni y danfonwyd gair yr iechydwriaeth hon. Canys trigolion Caersalem a’u llywodraethwyr, heb adnabod hwn ac ymadroddion y proffwydi, a ddarllenir bob Saboth, trwy ei farnu cyflawnasant hwynt, a heb gael un achos marwolaeth ceisiasant gan Bilat ei ladd; ac wedi iddynt gwblhau popeth a oedd yn ysgrifenedig amdano, fe’i disgynasant ef oddiar y pren a’i ddodi mewn bedd. A Duw a’i cyfododd ef o feirw; ac fe’i gwelwyd dros ddyddiau lawer gan y rhai a ddeuthai i fyny gydag ef o Galilea i Gaersalem, y rhai sydd yn awr yn dystion amdano i’r bobl. A ninnau, newydd da a draethwn i chwi am yr addewid a wnaethpwyd i’r tadau, ei llwyr gyflawni gan Dduw i’n plant trwy gyfodi Iesu, megis y mae’n ysgrifenedig yn yr ail Salm, Mab i mi ydwyt ti; myfi, heddiw y’th genhedlais. Ac am ei gyfodi ganddo o feirw, heb ei fod mwyach i ddychwelyd i lygredigaeth, fel hyn y dywedodd: Rhoddaf i chwi ddilys dduwioldeb Dafydd. Oblegid eto mewn Salm arall y dywed, Ni roddi i’th Sant weled llygredigaeth. Canys Dafydd, wedi iddo yn ei oes ei hun wasanaethu ewyllys Duw, a hunodd ac a ddodwyd gyda’i dadau ac a welodd lygredigaeth; eithr yr hwn a gyfododd Duw, ni welodd lygredigaeth. Bydded hysbys, felly, i chwi, frodyr, mai trwy hwn y cyhoeddir i chwi faddeuant pechodau, ac oddiwrth yr holl bethau na allwyd eich rhyddhau oddiwrthynt trwy gyfraith Moesen y rhyddheir trwy hwn bawb a gredo. Gwyliwch, ynteu, na ddêl i’ch erbyn yr hyn a ddywedwyd yn y proffwydi: Gwelwch, chwi ddirmygwyr, a rhyfeddwch, a darfydded amdanoch; canys gweithred yr wyf fi yn ei gwneuthur yn eich dyddiau chwi, gweithred na chredwch ddim ynddi, er ei llwyr fynegi i chwi.” Ac a hwynt yn myned allan, deisyfai’r bobl arnynt lefaru’r pethau hyn wrthynt y Saboth nesaf. Ac wedi gollwng y gynulleidfa canlynodd llawer o’r Iddewon a’r proselytiaid crefyddol Baul a Barnabas, a llefarant hwythau wrthynt, a’u hannog i lynu wrth ras Duw. A’r Saboth dilynol ymgynullodd yr holl ddinas bron i glywed gair Duw. A phan welodd yr Iddewon y torfeydd fe’u llannwyd o genfigen, a dechreuasant wrthddwedyd yr hyn a leferid gan Baul, ai ddifrïo. Yna llefarodd Paul a Barnabas yn hy, a dywedyd, “Rhaid oedd llefaru gair Duw yn gyntaf i chwi; bellach, gan eich bod yn ei wrthod ac yn eich barnu eich hunain yn annheilwng o fywyd tragwyddol, dyma ni’n troi at y Cenhedloedd. Canys hyn yw gorchymyn yr Arglwydd i ni: Gosodais di yn oleuni i’r Cenhedloedd i fod ohonot yn iechydwriaeth hyd eithaf y ddaear.” A phan glywsant, bu lawen gan y cenhedloedd, a gogoneddent air Duw, a chredasant — gynifer ag a oedd yn gymwys i fywyd tragwyddol; a thaenid gair yr Arglwydd trwy’r holl wlad. Ond cyffroes yr Iddewon y gwragedd crefyddol bonheddig a gwŷr blaenaf y ddinas, a chodasant erlid yn erbyn Paul a Barnabas, a’u bwrw allan o’u gororau hwynt. Hwythau, ysgydwasant y llwch oddiar eu traed yn eu herbyn, a deuthant i Iconium. A llenwid y disgyblion â llawenydd ac â’r Ysbryd Glân. Ac yn Iconium yr un modd aethant i synagog yr Iddewon, a llefaru yn y fath fodd ag y credodd lliaws mawr o Iddewon a Groegiaid. Ond yr Iddewon na chredasant, cyffroi a llygru meddyliau’r Cenhedloedd a wnaethant yn erbyn y brodyr. Felly treuliasant gryn amser, gan lefau’n hy am yr Arglwydd, yr hwn a dystiai i’r gair am ei ras trwy beri gwneuthur arwyddion a rhyfeddodau trwyddynt hwy. A rhannwyd lliaws y ddinas, a rhai oedd gyda’r Iddewon a rhai gyda’r apostolion. A phan fu mudiad ymhlith y Cenhedloedd a’r Iddewon ynghyd â’u harweinwyr i’w treisio a’u llabyddio, wedi dyfod i wybod diangasant i ddinasoedd Lycaonia, Lystra a Derbe a’r cylch, ac yno yr oeddynt yn cyhoeddi’r newydd da. Ac yr oedd yn eistedd yn Lystra ryw ŵr diffrwyth ei draed, cloff o’r bru, na cherddasai erioed. Yr oedd hwn yn gwrando ar Baul yn llefaru; yntau, wedi syllu arno a gweled bod ganddo ffydd i gael iechyd, dywedodd â llais uchel, “Saf ar dy draed yn syth.” Ac fe neidiodd i fyny, a dechreuodd gerdded. A phan welodd y torfeydd yr hyn a wnaethai Paul, codasant eu llef gan ddywedyd yn iaith Lycaonia, “Y duwiau ar lun dynion a ddaeth i, lawr atom.” A galwent Farnabas yn Iau, a Phaul yn Ferchyr, am mai ef oedd y siaradwr blaenaf. A dug offeiriad yr Iau a oedd o flaen y ddinas deirw a thorchau at y pyrth, ac arofunai aberthu gyda’r torfeydd. Ond pan glywodd yr apostolion, Barnabas a Phaul, rhwygasant eu dillad a neidio allan i blith y dyrfa, gan weiddi a dywedyd, “Wŷr, paham y gwnewch hyn? Dynion ydym ni hefyd, un anian â chwithau; cyhoeddi yr ydym newydd da i chwi, ar i chwi droi oddiwrth y pethau gweigion yma at Dduw byw, yr hwn a wnaeth y nef a’r ddaear a’r môr a chwbl sydd ynddynt. Hwn yn yr oesau a fu, gadodd i’r holl genhedloedd rodio eu ffyrdd eu hunain. Ac eto mewn gwneuthur daioni nis gadawodd ei hun heb dyst, gan roddi glaw i chwi o’r nef a thymhorau ffrwythlon, a llenwi’ch calonnau â lluniaeth a llawenydd.” Er dywedyd y pethau hyn, braidd yr ataliasant y torfeydd rhag aberthu iddynt. Ond daeth Iddewon yno o Antiochia ac Iconium, ac wedi ennill y torfeydd lluchiasant gerrig a llusgo Paul allan o’r ddinas, gan dybied ei fod wedi marw. Ond wedi i’r disgyblion ei amgylchynu, cyfododd ac aeth i mewn i’r ddinas. A thrannoeth aeth ymaith gyda Barnabas i Dderbe. Ac wedi cyhoeddi’r newydd da i’r ddinas honno, a gwneuthur llawer yn ddisgyblion, dychwelasant i Lystra ac i Iconium ac i Antiochia, gan gadarnhau eneidiau’r disgyblion, a’u hannog i lynu wrth y ffydd, a dywedyd mai “trwy orthrymderau lawer y mae i ni fynd i mewn i deyrnas Dduw.” Ac etholasant henuriaid iddynt ymhob eglwys, ac wedi gweddi ynghyd ag ympryd eu cyflwyno i’r Arglwydd, yr hwn y credasent ynddo. Ac wedi teithio trwy Bisidia deuthant i Bamffylia, ac wedi llefaru’r gair ym Mherga aethant i lawr i Attalia, ac oddiyno hwyliasant i Antiochia, lle yr oeddynt wedi eu hymddiried i ras Duw at y gwaith a gyflawnasant. Ac wedi iddynt gyrraedd cynullasant yr eglwys, a mynegi gymaint a wnaethai Duw gyda hwynt, ac iddo agoryd i’r Cenhedloedd ddrws ffydd. A threulio amser nid ychydig gyda’r disgyblion. A daeth rhai i lawr o Iwdea a dechrau dysgu’r brodyr: “Onid enwaedir arnoch yn ôl defod Moesen, ni ellir eich cadw.” A chan fod ymryson ac ymddadlau nid bychan rhwng Paul a Barnabas a hwythau, penderfynwyd i Baul a Barnabas a rhai eraill ohonynt fynd i fyny at yr apostolion a’r henuriaid yng Nghaersalem ynghylch y cwestiwn yma. Felly danfonwyd hwynt gan yr eglwys, a theithient trwy Phoenice a Samaria, gan adrodd hanes troi’r cenhedloedd, a pheri mawr lawenydd i’r holl frodyr. Ac wedi iddynt gyrraedd Caersalem derbyniwyd hwynt gan yr eglwys a’r apostolion a’r henuriaid, a mynegasant gymaint a wnaethai Duw gyda hwynt. Ond cyfododd rhai o sect y Phariseaid — rhai a oedd wedi credu — gan ddywedyd bod yn rhaid iddynt enwaedu, ac erchi cadw deddf Moesen. Ymgynullodd yr apostolion a’r henuriaid i weld ynghylch y mater yma. Ac wedi bod ymddadlau mawr, dywedodd Pedr wrthynt, “Frodyr, gwyddoch chwi i Dduw er y dyddiau cyntaf ddewis yn eich plith fod i’r Cenhedloedd glywed gair yr efengyl trwy fy ngenau i a chredu, a’r Duw a ŵyr galonnau a ddug dystiolaeth iddynt trwy roddi iddynt hwy yr Ysbryd Glân megis i ninnau, ac ni wahaniaethodd ddim rhyngom ni a hwythau pan burodd eu calonnau hwynt trwy ffydd. Yn awr, ynteu, paham y rhowch brawf ar Dduw; — dodi ar warr y disgyblion iau na allodd ein tadau na ninnau mo’i dwyn? eithr credwn yr un fath â hwythau, mai trwy ras yr Arglwydd Iesu y’n cadwyd.” A thawodd yr holl liaws, a gwrandawent ar Farnabas a Phaul yn mynegi gymaint a wnaethai Duw o arwyddion a rhyfeddodau ymhlith y Cenhedloedd drwyddynt hwy. Ac wedi iddynt hwythau dewi atebodd Iago, gan ddywedyd, “Frodyr, gwrandewch arnaf fi. Mynegodd Simeon y modd y gofalodd Duw gyntaf gael o blith y Cenhedloedd bobl ar ei enw. Ac â hyn y cytuna geiriau’r proffwyd, megis y mae’n ysgrifenedig: Wedi hyn y dychwelaf, ac adeiladaf drachefn babell syrthiedig Dafydd, a’i hadfeilion a adeiladaf drachefn, a chyweiriaf hi o newydd, fel y chwilio’r rhelyw o ddynion am yr Arglwydd, a’r holl genhedloedd y rhoddwyd fy enw i arnynt, medd yr Arglwydd, gan wneuthur y pethau hyn yn hysbys erioed. Felly fy marn i yw na ddaliom i boeni y rhai o blith y Cenhedloedd a dry at Dduw, eithr ysgrifennu atynt am iddynt ymgadw oddiwrth offrymau halogedig y delwau ac oddiwrth anniweirdeb ac oddiwrth y peth a dagwyd ac oddiwrth waed; canys y mae i Foesen er yr oesau cyntaf ym mhob dinas rai sy’n ei bregethu, ac yr ydys yn ei ddarllen yn y synagogau bob Saboth.” Yna penderfynodd yr apostolion a’r henuriaid ynghyd â’r holl eglwys ethol gwŷr o’u nifer a’u hanfon i Antiochia gyda Phaul a Barnabas; sef Iwdas, a elwid Barsabbas, a Silas, gwŷr blaenllaw ymhlith y brodyr; a rhoi llythyr yn eu llaw: “Y brodyr o apostolion a henuriaid, at y brodyr sydd o’r Cenhedloedd yn Antiochia a Syria a Chilicia, henffych well. Oherwydd inni glywed i rai ohonom eich cythryblu ac ansefydlu eich meddyliau â geiriau, heb gael ohonynt orchymyn gennym ni, penderfynasom yn unfryd ethol gwŷr a’u hanfon atoch gyda’n hanwyliaid, Barnabas a Phaul, dynion a gysegrodd eu bywyd dros enw ein Harglwydd Iesu Grist. Anfonwn gan hynny Iwdas a Silas, i fynegi, hwythau, yr un pethau ar air. Gwelwyd yn dda gan yr Ysbryd Glân a chennym ninnau na ddodid arnoch ddim ychwaneg o faich, oddieithr y pethau anhepgor hyn; ymgadw oddiwrth yr hyn a aberthwyd i ddelwau ac oddiwrth waed ac oddiwrth y peth a dagwyd ac oddiwrth anniweirdeb; o ymochel rhag y pethau hyn bydd yn dda arnoch. Yn iach.” Felly hwythau, wedi eu gollwng, deuthant i lawr i Antiochia, a chynullasant y lliaws a throsglwyddo’r llythyr; ac wedi ei ddarllen bu lawen ganddynt am yr anogaeth. Iwdas hefyd a Silas, a hwythau’n broffwydi, anogasant y brodyr trwy lawer gair a’u cadarnhau. Ac wedi iddynt dreulio ysbaid gollyngwyd hwynt mewn tangnefedd gan y brodyr at y sawl a’u danfonodd. Eithr tariodd Paul a Barnabas yn Antiochia, gan ddysgu a phregethu, ynghyd ag eraill lawer, air yr Arglwydd. Wedi rhai dyddiau dywedodd Paul wrth Farnabas, “Dychwelwn yn awr i ymweled â’r brodyr ym mhob dinas y cyhoeddasom air yr Arglwydd, i weld sut y mae arnynt.” A dymunai Barnabas gymryd gyda hwynt Ioan, a elwid Marc; eithr hawliai Paul, am un a gefnodd arnynt ym Mhamffylia, ac nad aethai gyda hwynt at eu gwaith, na châi hwnnw fod gyda hwynt. A chododd diflastod, nes ymwahanu ohonynt â’i gilydd; a chymerth Barnabas Farc gydag ef a hwylio ymaith i Gyprus. Eithr dewis Silas a wnaeth Paul, ac aeth ymaith, wedi ei gyflwyno i ras yr Arglwydd gan y brodyr; a theithiai drwy Syria a Chilicia, gan gadarnhau’r eglwysi. Cyrhaeddodd hefyd hyd Dderbe a Lystra; a dyna ddisgybl yno, a’i enw Timotheus, mab i wraig o Iddewes grediniol, a’i dad yn Roegwr; a châi air da gan y brodyr yn Lystra ac Iconium. Dymunodd Paul i hwn fynd ymaith gydag ef, a chymerth ef, ac enwaedu arno o achos yr Iddewon a oedd yn y lleoedd hynny; canys gwyddent bawb mai Groegwr oedd ei dad. Ac wrth deithio trwy’r dinasoedd, cyflwynent i’r bobl i’w cadw y gorchmynion a ordeiniasid gan yr apostolion a’r henuriaid yng Nghaersalem. Ymgryfhau, ynteu, a wnâi’r eglwysi yn y ffydd, a mynd fwyfwy eu rhif beunydd. A hwythau, aethant trwy wlad Phrygia a Galatia, wedi gwarafun iddynt gan yr Ysbryd Glân lefaru’r gair yn Asia, ac wedi dyfod hyd at Fysia ceisient gyrchu Bithynia, ond ni adodd ysbryd Iesu iddynt. Ac aethant heibio i Fysia, a dyfod i lawr i Droas. Ac ymddangosodd gweledigaeth i Baul liw nos, — rhyw ŵr o Facedonia oedd yn sefyll ac yn deisyf arno ac yn dywedyd, “Tyrd drosodd i Facedonia, a chymorth ni.” A phan ganfu’r weledigaeth, yn ebrwydd ceisiasom fynd ymaith i Facedonia, gan gasglu bod inni wŷs oddiwrth Dduw i bregethu’r newydd da iddynt. Wedi hwylio, ynteu, o Droas, aethom ar union hynt i Samothrace, a thrannoeth i Nea Polis, ac oddiyno i Philippi; hon yw dinas bennaf rhanbarth Macedonia, a threfedigaeth Rufeinig. Buom yn y ddinas hon yn treulio rhai dyddiau. Ac ar ddydd Saboth aethom tu allan i’r porth i lan yr afon, lle y tybiem fod Lle Gweddi; ac wedi eistedd, dechrau llefaru wrth y gwragedd a ddeuthai ynghyd. A rhyw wraig, a’i henw Lydia, un a werthai borffor, o ddinas Thyatira, ac a addolai Dduw, oedd yn gwrando; ac agorodd yr Arglwydd galon hon i ddal ar yr hyn a leferid gan Baul. Ac wedi ei bedyddio, hi a’i theulu, cymhellodd ni, gan ddywedyd, “Os barnasoch fod gennyf ffydd yn yr Arglwydd, dowch i mewn, ac arhoswch yn fy nhŷ i.” A hi orfu arnom. A digwyddodd, a ni’n cyrchu at y Lle Gweddi, i ryw eneth gyfarfod â ni, a chanddi ysbryd taflu llais, yr hon a ddygai i’w meistriaid fusnes fawr trwy ddarogan. Canlynai hon Baul a ninnau, a gwaeddai gan ddywedyd, “Y dynion hyn, gweision y Duw Goruchaf ydynt, a mynegant i chwi ffordd iechydwriaeth.” A hyn a wnâi dros ddyddiau lawer. Eithr Paul, wedi llwyr flino, a droes, a dywedyd wrth yr ysbryd, “Gorchmynnai i ti yn enw Iesu Grist ddyfod allan ohoni.” A daeth allan ar un waith. A phan welodd ei meistriaid hi fyned gobaith eu busnes ymaith, daliasant Baul a Silas a’u llusgo i’r farchnadfa ger bron yr awdurdodau; ac wedi eu dwyn o flaen yr ynadon, dywedasant, “Y mae’r dynion hyn yn llwyr gythryblu ein dinas ni; Iddewon ydynt, a chyhoeddant ddefodau nad yw rydd i ni, sydd Rufeinwyr, eu derbyn na’u gwneuthur.” A chyfododd y dyrfa gyda’i gilydd yn eu herbyn, ac wedi peri rhwygo’u dillad gorchmynnai’r ynadon eu gwialenodio; ac wedi rhoi ergydion lawer iddynt bwriasant hwynt yng ngharchar, gan erchi i geidwad y carchar eu cadw yn ddiogel; hwnnw, wedi derbyn gorchymyn felly, bwriodd hwynt i’r carchar nesaf i mewn, a sicrhau eu traed yn y cyffion. Eithr tua hanner nos yr, oedd Paul a Silas yn gweddïo ac yn canu mawl i Dduw, a’r carcharorion yn gwrando arnynt; ac yn ddisymwth bu daeargryn mawr, nes siglo seiliau’r carchar, ac agorodd yr holl ddrysau yn y fan, a datodwyd rhwymau pawb. A deffrôdd ceidwad y carchar, a phan welodd ddrysau’r carchar yn agored tynnodd ei gleddyf, ac yr oedd ar fin ei ladd ei hun, gan dybied ffoi o’r carcharorion. Ond llefodd Paul â llef uchel, gan ddywedyd, “Na wna ddim drwg i ti dy hun, canys yr ydym yma i gyd.” Ac wedi gofyn am olau, rhuthrodd i mewn, a syrthiodd yn ddychrynedig ger bron Paul a Silas; ac wedi eu dwyn hwynt allan, eb ef, “Foneddigion, beth sy raid imi ei wneuthur, i’m cadw?” Dywedasant hwythau, “Cred yn yr Arglwydd Iesu, ac fe’th gedwir, ti a’th deulu.” A thraethasant air Duw iddo ef ynghyd â phawb a oedd yn ei dŷ. Ac fe’u cymerth hwynt yr amser hynny o’r nôs, a golchodd eu briwiau, ac fe’i bedyddiwyd ef a phawb o’r eiddo, yn y fan; ac wedi eu dwyn hwynt i fyny i’w dŷ rhoddes ford o’u blaen, a gorfoleddodd gyda’i holl deulu am ei fod yn credu yn Nuw. Ac wedi ei dyfod yn ddydd anfonodd yr ynadon y rhingylliaid, a dywedyd, “Gollyngwch y dynion hyn.” A mynegodd ceidwad y carchar y geiriau wrth Baul: “Anfonodd yr ynadon i’ch gollwng chwi; yn awr, ynteu, dowch ymaith, ac ewch mewn tangnefedd.” Ac ebe Paul wrthynt, “Fflangellasant ni ar gyhoedd heb ein barnu, a ninnau’n Rhufeinwyr, a bwriasant ni yng ngharchar; ac yn awr y maent am ein bwrw ni allan yn ddirgel, aie? Nage’n wir! Eithr deuent hwy eu hunain, a’n dwyn ni allan.” A mynegodd y rhingylliaid y geiriau hyn i’r ynadon; ac ofnasant pan glywsant mai Rhufeinwyr oeddynt; a deuthant a deisyfu arnynt, ac wedi eu dwyn hwynt allan gofynasant iddynt fynd ymaith o’r ddinas. Ac wedi dyfod allan o’r carchar aethant i mewn i dŷ Lydia; a gwelsant y brodyr, a’u hannog; ac aethant ymaith. Wedi iddynt deithio trwy Amffipolis ac Apolonia, deuthant i Thesalonica, lle yr oedd synagog i’r Iddewon. Ac yn ôl arfer Paul fe aeth i mewn atynt, ac am dri Saboth anerchodd hwynt allan o’r ysgrythurau, gan esbonio a dyfynnu profion bod yn rhaid i’r Crist ddioddef a chyfodi o feirw, ac mai “dyma’r Crist, — yr Iesu a gyhoeddaf fi i chwi.” A chredodd rhai ohonynt a bwrw eu coelbren gyda Phaul a Silas, — o’r Groegiaid a addolai Dduw liaws mawr, ac o’r gwragedd blaenaf nid ychydig. Ond cenfigennodd yr Iddewon, ac wedi cael gafael ar rai dyhirod o blith segurwyr y sgwâr a chasglu torf, peri terfysg a wnaent yn y ddinas; ac ymosodasant ar dŷ Iason, a cheisio eu dwyn hwynt allan ger bron y bobl. A phan nas cawsant hwynt dechreuasant lusgo Iason a rhai brodyr o flaen y Politarchiaid, gan lefain, “Y rhain, a droes y byd wyneb i waered, yma hefyd y deuthant, a rhoes Iason lety iddynt; a’r rhain i gyd, ymddygant yn groes i ordeiniadau Cesar, gan ddywedyd mai un arall, Iesu, sydd frenin.” A chyffrowyd y dyrfa a’r Politarchiaid pan glywsant hyn, eithr wedi cael mechnïaeth gan Iason a’r lleill gollyngasant hwynt. A danfonodd y brodyr Baul a Silas yn ebrwydd o hyd nos i Ferea, ac wedi iddynt gyrraedd aethant i synagog yr Iddewon. Yr oedd y rhain yn fwy boneddigaidd na’r rhai yn Thesalonica, a derbyniasant y gair gyda phob parodrwydd, gan chwilio’r ysgrythurau beunydd i weld a oedd hyn felly. Llawer ohonynt, felly, a gredodd, ac o’r Groegiaid, yn wragedd bonheddig ac yn wŷr, nid ychydig. Ond wedi i Iddewon Thesalonica ddyfod i wybod cyhoeddi o Baul air Duw ym Merea hefyd, deuthant yno i derfysgu a chyffroi’r torfeydd. Ar hynny danfonodd y brodyr Baul yn ebrwydd, i gyrchu tua’r môr; ac arhosodd Silas a Thimotheus yno. A’r rhai a hebryngai Baul, dygasant ef hyd Athen, ac wedi iddynt dderbyn siars i Silas a Thimotheus i ddyfod ato gyntaf y gallent, aethant ymaith. A thra oedd Paul yn eu disgwyl yn Athen, cythruddid ei ysbryd ynddo wrth weld y ddinas yn llawn eilunod. Felly anerchai yn y synagog yr Iddewon a’r rhai a addolai Dduw, ac ymddiddan yn y sgwâr bob dydd â’r rhai a hapiai fod yno. A rhai hefyd o’r athronwyr, Epicwriaid a Stoiciaid, a ddadleuai ag ef, a dywedai rhai, “Beth a fynnai’r chwiwleidr yma ei ddywedyd?” Ac ebr eraill, “Ymddengys mai pregethwr duwiau dieithr yw.” Canys traethu’r newydd da yr oedd am yr Iesu a’r atgyfodiad. A chymerasant afael arno, a’i ddwyn at yr Areopagus, gan ddywedyd, “A allwn gael gwybod beth yw’r ddysgeidiaeth newydd hon a draethir gennyt ti? Canys rhyw bethau anghyffredin a ddygi i’n clustiau ni. Dymunwn, felly, gael gwybod beth yw meddwl y pethau hyn.” (Nid oedd gan yr holl Atheniaid a’r dieithriaid ar ymweliad hamdden i ddim arall ond i adrodd neu glywed rhywbeth newydd sbon.) A safodd Paul yng nghanol yr Areopagus, a dywedyd: “Wŷr Athen, gwelaf ar bob llaw eich bod yn dra chrefyddol. Canys wrth fynd o gwmpas ac edrych ar eich cysegrfannau cefais hyd yn oed allor ag arni’n ysgrifenedig, I DDUW ANHYSBYS. Yr hyn, ynteu, a addolwch heb ei adnabod, hynny a gyhoeddaf fi i chwi. Y Duw a wnaeth y byd a phopeth sydd ynddo, hwnnw, ac yntau’n Arglwydd nef a daear, ni phreswylia mewn temlau o waith llaw; nis gwasanaethir chwaith â dwylo dynol, fel pe bai arno angen dim, yr hwn a rydd ei hun i bawb fywyd ac anadl a’r cwbl oll. Gwnaeth hefyd o un bob cenedl o ddynion, i breswylio ar holl wyneb y ddaear, gan bennu cyfnodau gosodedig a therfynau eu preswylfod, i geisio ohonynt Dduw, os gallant rywfodd ymbalfalu amdano a’i gael, ac yntau’n wir heb fod nepell oddiwrth neb un ohonom. Oblegid ynddo ef yr ydym yn byw ac yn symud ac yn bod, fel y dywedodd, yn wir, rai o’ch beirdd chwi: ‘Canys ei hiliogaeth ef hefyd ydym ni.’ A ni, felly, yn hiliogaeth Duw ni ddylem dybied bod y Duwdod yn debig i aur neu arian neu faen, gwaith nadd celfyddyd a dychymyg dyn. Yn awr, edrychodd Duw heibio i amserau’r anwybod, ond bellach cyhoedda i ddynion fod i bawb ym mhobman edifarhau, am iddo osod diwrnod y barn ef y byd mewn cyfiawnder trwy ŵr a benododd, ac fe roes brawf i bawb wrth ei atgyfodi o feirw.” A phan glywsant am atgyfodiad meirwon, gwawdiai rhai; ond dywedai eraill, “Fe’th wrandawn eto drachefn am hyn.” Felly aeth Paul ymaith o’u mysg; ond ymlynodd rhai gwŷr wrtho a chredu, ac yn eu plith Dionysius, aelod o’r Areopagus, a gwraig a’i henw Damaris, ac eraill gyda hwynt. Wedi hynny fe ymadawodd o Athen, a dyfod i Gorinth. A daeth o hyd i ryw Iddew, a’i enw Acwila, o Bontus o ran cenedl, gŵr oedd newydd ddyfod o’r Eidal gyda’i wraig, Priscila, oherwydd gorchymyn Clawdius i’r holl Iddewon ymadael o Rufain; ac aeth atynt, ac am ei fod o’r un grefft arhosai gyda hwynt, a gweithient. (Gwneuthurwyr pebyll oeddynt wrth eu crefft.) A siaradai yn y synagog bob Saboth, a cheisiai berswadio Iddewon a Groegiaid. A phan ddaeth Silas a Thimotheus i lawr o Facedonia yr oedd Paul yn ymglymedig wrth y gair, yn dwys dystiolaethu wrth yr Iddewon mai Iesu oedd y Crist. Ac a hwy’n gwrthsefyll a chablu, fe ysgydwodd ei ddillad a dywedyd wrthynt, “Ar eich pen chwi y byddo’ch gwaed chwi; glân ydwyf fi; o hyn allan af at y Cenhedloedd.” A symudodd oddiyno ac aeth i dŷ un, a’i enw Titus Iwstus, a addolai Dduw; yr oedd ei dŷ yn un â’r synagog. Ond credodd Crispus, yr archsynagogydd, ynghyd â’i holl deulu, yn yr Arglwydd, a llawer o’r Corinthiaid wrth glywed a gredai ac a fedyddid. A dywedodd yr Arglwydd liw nos trwy weledigaeth wrth Baul, “ Paid ag ofni, eithr dal i lefaru ac na thaw; canys yr wyf fi gyda thi, ac nid ymesyd neb arnat ti i’th ddrygu, canys pobl lawer sydd i mi yn y ddinas hon.” Ac fe ymgartrefodd flwyddyn a chwe mis, gan ddysgu yn eu plith air Duw. A phan oedd Galio yn rhaglaw Achaia, cyfododd yr Iddewon yn unfryd yn erbyn Paul, a’i ddwyn ger bron y frawdle, gan ddywedyd, “Y mae hwn yn annog dynion i addoli Duw yn groes i’r Gyfraith.” A phan oedd Paul ar agoryd ei enau, fe ddywedodd Galio wrth yr Iddewon, “Pe buasai ryw gamwedd neu drosedd ysgeler, Iddewon, rhesymol fuasai imi ymddwyn â chwi; ond os cwestiynau y sydd ynghylch ymadrodd ac enwau a’ch cyfraith chwi, edrychwch eich hunain. Ni chwenychaf fi fod yn farnwr am y pethau hyn.” Ac fe’u gyrrodd hwynt oddiwrth y frawdle. A chymerasant afael bawb yn Sosthenes, yr archsynagogydd, a’i guro o flaen y frawdle; ac ni faliai Galio ddim am y pethau hyn. Arhosodd Paul yno eto gryn ddyddiau, ac wedi canu’n iach i’r brodyr fe fordwyodd ymaith i Syria, a Phriscila ac Acwila gydag ef, wedi iddo eillio’i ben yng Nghenchreae am fod arno adduned. A chyraeddasant Effesus, ac fe’u gadawodd hwynt yno, ac aeth yntau i mewn i’r synagog ac annerch yr Iddewon. A phan ofynasant iddo aros dros amser hwy, ni chydsyniodd; eithr wedi canu’n iach a dywedyd, “Dychwelaf yn fy ôl atoch, os Duw a’i myn,” hwyliodd o Effesus. Ac wedi cyrraedd Cesarea, aeth i fyny a chyfarchodd yr eglwys; yna aeth i lawr i Antiochia, ac wedi treulio peth amser aeth ymaith, gan deithio trwy wlad Galatia a Phrygia o’r bron, a chadarnhau yr holl ddisgyblion. A daeth i Effesus ryw Iddew, a’i enw Apolos, Alecsandriad o enedigaeth, gŵr diwylliedig, galluog yn yr ysgrythurau. Yr oedd hwn wedi ei addysgu yn Ffordd yr Arglwydd, ac yn frwd ei ysbryd llefarai a dysgai yn fanwl y pethau am yr Iesu, gan wybod yn unig am fedydd Ioan. Dechreuodd hwn hefyd lefaru’n hy yn y synagog; a phan glywodd Priscila ac Acwila ef, cymerasant ef atynt ac esbonio iddo Ffordd Dduw yn fanylach. A chan y dymunai fynd drosodd i Achaia, anogodd y brodyr ef, a sgrifennu at y disgyblion i’w roesawu. Ac wedi iddo gyrraedd cynorthwyodd lawer trwy ras ar y rhai a gredasai. Canys â’i holl egni fe lwyr ddymchwelai’r Iddewon, gan brofi ar gyhoedd trwy’r ysgrythurau mai Iesu oedd y Crist. A thra oedd Apolos yng Nghorinth y tramwyodd Paul drwy’r parthau uchaf, a dyfod i Effesus, a chael rhai disgyblion; ac fe ddywedodd wrthynt, “A dderbyniasoch yr Ysbryd Glân, pan gredasoch?” Meddent hwythau wrtho, “Ond ni chlywsom hyd yn oed a oes Ysbryd Glân.” Dywedodd yntau, “I beth felly y’ch bedyddiwyd?” A dywedasant hwythau, “I fedydd Ioan.” A dywedodd Paul, “Bedydd edifeirwch oedd bedydd Ioan, a dywedai wrth y bobl am yr hwn oedd yn dyfod ar ei ôl am iddynt gredu ynddo ef, hynny yw yn yr Iesu.” Ac wedi iddynt glywed, bedyddiwyd hwynt i enw yr Arglwydd Iesu; ac wedi i Baul ddodi ei ddwylo arnynt fe ddaeth yr Ysbryd Glân arnynt, a dechreuasant lefaru â thafodau, a phroffwydo. A thua deuddeg gŵr oeddynt i gyd. Ac aeth i mewn i’r synagog a llefarai’n hy dros dri mis, gan siarad a cheisio perswadio ynghylch teyrnas Dduw. Ond gan fod rhai yn ymgyndynnu ac yn anghredu, gan ddifrïo’r Ffordd yng ngŵydd y lliaws, ymneilltuo a wnaeth oddiwrthynt, a gwahanu ei ddisgyblion; a siaradai beunydd yn ysgol Tyrannus. A hyn a fu am ddwy flynedd, nes i bawb a oedd yn trigo yn Asia glywed gair yr Arglwydd, Iddewon a Groegiaid. A grymusterau anghyffredin a wnâi Duw trwy law Paul, hyd oni ddygid ymaith at y cleifion oddiar ei groen ef neisiedi ac arffedogau, ac fe ymadawai eu clefydau oddi wrthynt, ac âi’r ysbrydion drwg allan. A cheisiodd rhai o’r Iddewon a âi o gylch, swyngyfareddwyr, enwi uwch ben y rhai oedd ag ysbrydion drwg ganddynt enw yr Arglwydd Iesu, gan ddywedyd, “Tynghedaf chwi trwy yr Iesu y mae Paul yn ei bregethu.” Ac yr oedd i ryw Scewas, archoffeiriad Iddewig, saith mab a wnâi hyn. Ond atebodd yr ysbryd drwg, a dywedyd wrthynt, “Yr Iesu a adwaen, a Phaul, gwn amdano, ond chwi, pwy ydych?” Ac fe lamodd y dyn yr oedd yr ysbryd drwg ynddo arnynt, a’u meistroli i gyd, a gyrru arnynt, hyd nes iddynt ffoi allan o’r tŷ hwnnw yn noeth ac archolledig. A daeth hyn yn hysbys i’r holl Iddewon a Groegiaid oedd yn trigo yn Effesus, a syrthiodd ofn arnynt oll, a mawrygid enw yr Arglwydd Iesu. A deuai llawer o’r rhai a gredasai, gan lwyr gyffesu ar gyhoedd eu defodau. A llawer o’r rhai a fu’n ymarfer â dewiniaeth, casglasant eu llyfrau a’u llosgi yng ngŵydd pawb; a bwriasant eu gwerth hwynt, ac fe’i cawsant yn hanner can mil o arian. Mor gadarn yr oedd gair yr Arglwydd yn cynyddu a chryfhau! A phan gyflawnwyd y pethau hyn, fe roes Paul ei fryd ar dramwy trwy Facedonia ac Achaia, ac yna cyrchu i Gaersalem; ac meddai, “Wedi i mi fod yno rhaid i mi weled Rhufain hefyd.” Ac anfonodd i Facedonia ddau o’r rhai oedd yn gweini arno, Timotheus ac Erastus, eithr tariodd ef ei hun am dymor, yn Asia. A bu yn ystod y cyfnod hwnnw gynnwrf nid bychan ynghylch y Ffordd. Canys rhyw ŵr, a’i enw Demetrius, gof arian, trwy wneuthur delwau arian o Artemis, a barai i’w grefftwyr waith lawer; fe gasglodd y rhai hyn ynghyd, gyda’r gweithwyr ar bethau o’r un fath, a dywedodd: “Wŷr, chwi wyddoch mai o’r fasnach hon y daw ein ffyniant ni, a gwelwch a chlywch nad yn Effesus yn unig eithr bron drwy holl Asia yr enillodd y Paul hwn dyrfa fawr, a’u troi hwynt, drwy ddywedyd, ‘y duwiau o waith dwylo, nid duwiau monynt.’ Ac nid yn unig y mae perigl y daw dirmyg ar ein galwedigaeth, ond hefyd y cyfrifir cysegr y dduwies fawr Artemis yn ddiddim a hyd yn oed yr amddifedir hi o’i mawrhydi, yr hon y mae holl Asia a’r byd yn ei haddoli.” A phan glywsant aethant yn llawn o ddicter, a gweiddi gan ddywedyd, “Mawr yw Artemis yr Effesiaid.” A llannwyd y ddinas â’u cythrwfl, a rhuthrasant yn unfryd i’r chwareufa, wedi cipio Gaius ac Aristarchus, Macedoniaid, cydymdeithion Paul. A mynnai Paul fynd ger bron y bobl, ond ni adai’r disgyblion iddo. A rhai hyd yn oed o’r Asiarchiaid, a hwy’n gyfeillion iddo, a ddanfonodd ato i ddymuno arno na fentrai i’r chwareufa. Yn wir, gwaeddai rhai unpeth ac eraill beth arall; canys yr oedd y gynulleidfa yn blith drafflith, ac ni wyddai’r rhan fwyaf am ba achos y deuthent ynghyd. A thybiodd rhai o’r dyrfa mai Alecsander oedd, gan i’r Iddewon ei wthio ymlaen, a dymunai yntau, Alecsander, wedi chwifio’i law, ei amddiffyn ei hun wrth y bobl. Ond wedi iddynt wybod mai Iddew oedd, un llef a gyfodwyd gan bawb, a gwaeddent am oddeutu dwy awr, “Mawr yw Artemis yr Effesiaid.” Eithr wedi i’r Ysgrifennydd lonyddu’r dorf, medd ef, “Wŷr Effesus, pwy yn y byd, tybed, sydd heb wybod bod dinas yr Effesiaid yn geidwad teml Artemis fawr a’r peth a syrthiodd o’r nef? Felly, a’r pethau hyn yn anwadadwy, chwi ddylech fod yn llonydd heb wneuthur dim yn fyrbwyll. Canys dygasoch y gwŷr hyn, a hwythau heb fod yn ysbeilwyr temlau nac yn cablu ein duwies ni. Od oes, gan hynny, ddim cyhuddiad gan Demetrius a’r gweithwyr sydd gydag ef yn erbyn neb, cynhelir dyddiau brawdlys ac y mae rhaglawiaid; achwynent, bawb yn erbyn ei gilydd. Eithr os ceisiwch ddim heblaw hynny, yn y gynulleidfa gyfreithlon y penderfynir ef. Yn wir, y mae perigl y’n cyhuddir o derfysg ynglŷn â heddiw gan nad oes gennym un achos, ac am hyn ni allwn ni roddi cyfrif am yr ymdyrru yma.” Ac wedi iddo ddywedyd hyn, gollwng y gynulleidfa a wnaeth. Ac wedi i’r cythrwfl beidio, danfonodd Paul am y disgyblion, ac wedi eu hannog wrth ffarwelio aeth ymaith i gyrchu i Facedonia. Ac wedi myned drwy’r parthau hynny a’u hannog hwynt â llawer gair, daeth i Roeg; ac wedi iddo dreulio tri mis, gan i’r Iddewon wneuthur cynllwyn yn ei erbyn, ac yntau ar fedr hwylio i Syria, daeth i’w feddwl ddychwelyd trwy Facedonia. A chydymdeithiodd ag ef Sopater, mab Pyrrhus, o Ferea, ac o’r Thesaloniaid Aristarchus a Secwndus, a Gaius o Dderbe a Thimotheus, ac o Asia Tychicus a Throffimus. Yr oedd y rhain, wedi iddynt gyrraedd yno, yn aros amdanom yn Nhroas; ninnau, hwyliasom wedi dyddiau’r bara croyw o Philippi, a deuthom atynt i Droas ymhen pum niwrnod, ac yno treuliasom saith niwrnod. Ac ar y dydd cyntaf wedi’r Saboth, a ni wedi ymgynnull i dorri bara, dechreuodd Paul eu hannerch (yr oedd ar fedr mynd ymaith drannoeth), ac estynnodd ei araith hyd ganol nos. Yr oedd lampau ddigon yn y llofft, lle yr oeddem wedi ymgynnull; A rhyw ŵr ifanc, a’i enw Ewtychus, oedd yn eistedd yn y ffenestr, a chysgadrwydd trwm yn ei lethu tra oedd Paul yn llefaru’n faith; ac fe’i gorthrymwyd gan gwsg, a syrthiodd o’r drydedd lofft i lawr, ac fe’i codwyd yn gorff. Ac aeth Paul i lawr, a syrthio arno, ac wedi ymaflyd amdano fe ddywedodd, “Peidiwch â brawychu; canys y mae ei fywyd ynddo.” Ac wedi mynd i fyny a thorri’r bara a’i brofi ac ymddiddan dalm hyd doriad dydd, yna aeth ymaith. A dygasant y llanc yn fyw, ac, fe’u cysurwyd hwynt yn anghyffredin. Aethom ni o’i flaen i’r llong a hwyliasom tuag Assos, gan fwriadu cymryd Paul i fyny oddiyno, canys felly yr oedd ef wedi cyfarwyddo, gan fwriadu myned ei hun dros y tir. A phan ddaeth i gyfarfod â ni yn Assos, cymerasom ef i fyny, a deuthom i Fitylene, ac wedi morio oddiyno drannoeth cyraeddasom gyferbyn â Chios, a thradwy croesi a wnaethom i Samos, a’r dydd wedyn deuthom i Filetus. Canys barnasai Paul yn dda hwylio heibio i Effesus, rhag bod iddo dreulio amser yn Asia; canys brysio yr oedd i fod yng Nghaersalem, os oedd bosibl, erbyn dydd y Sulgwyn. Ond fe ddanfonodd o Filetus i Effesus a galwodd ato henuriaid yr eglwys. A phan gyraeddasant ato, fe ddywedodd wrthynt, “Gwyddoch chwi pa fodd y bûm i gyda chwi yr holl amser o’r diwrnod cyntaf y rhois fy nhroed yn Asia, yn gwasanaethu yr Arglwydd gyda phob gostyngeiddrwydd a dagrau a threialon, y rhai, a ddigwyddodd i mi trwy gynllwynion yr Iddewon; y modd nad ateliais ddim a fyddai fuddiol heb ei gyhoeddi i chwi, a’ch dysgu chwi yn gyhoeddus ac o dŷ i dŷ, gan ddwys dystiolaethu i Iddewon a Groegiaid am yr edifeirwch tuagat Dduw a ffydd yn ein Harglwydd, Iesu. Ac yn awr dyma fi, yn rhwym fy ysbryd, yn cyrchu i Gaersalem, heb wybod yr hyn a gyferfydd â mi yno, oddieithr bod yr Ysbryd Glân o dref i dref yn tystiolaethu’n groyw i mi fod rhwymau a gorthrymderau yn fy aros. Ond ni chyfrifaf mo’m bywyd yn werthfawr i mi fy hun, er mwyn gorffen fy rhedegfa a’r weinidogaeth a gefais gan yr Arglwydd Iesu, i ddwys dystiolaethu am efengyl gras Duw. Ac yn awr dyma fi’n gwybod na welwch chwi mwyach fy wyneb, chwi oll y bûm i ’n teithio yn eich plith gan gyhoeddi’r deyrnas; felly tystiaf i chwi y dydd heddiw, glân ydwyf oddiwrth waed pawb, canys nid ymateliais rhag mynegi i chwi holl gyngor Duw. Gofelwch amdanoch eich hunain ac am yr holl braidd, y’ch dododd yr Ysbryd Glân chwi yn eu plith yn arolygwyr; bugeiliwch eglwys Dduw a enillodd ef â’i waed ei hun. Gwn i y daw wedi fy ymadawiad fleiddiaid blinderus i’ch plith, nad arbedant y praidd, ac o’ch plith chwi eich hunain y cyfyd gwŷr yn llefaru pethau gŵyrdraws i dynnu’r disgyblion ymaith ar eu hôl. Gan hynny byddwch yn effro, gan gofio na pheidiais dros dair blynedd nos a dydd â rhybuddio pob un gyda dagrau. Ac yr awron cyflwynaf chwi i’r Arglwydd ac i air ei ras, a ddichon adeiladu a rhoddi’r etifeddiaeth ymhlith yr holl rai a santeiddiwyd. Arian neu aur neu ddillad neb ni chwenychais; gwyddoch chwi eich hunain i’r dwylo hyn wasanaethu i’m rheidiau i ac i’r rhai a oedd gyda mi. Ym mhob peth dangosais i chwi mai wrth lafurio felly y mae’n rhaid cynorthwyo’r gweiniaid, a chofio hefyd eiriau yr Arglwydd Iesu, ddywedyd ohono, ‘Dedwydd yw rhoddi yn hytrach na derbyn.’ ” Ac wedi iddo ddywedyd hyn fe benliniodd, a gweddïodd gyda hwynt oll. Ac wylo llawer a wnaeth pawb, a syrthio ar wddw Paul a’i gusanu, gan ofidio yn bennaf am y gair a ddywedasai, nad oeddynt mwyach i weled ei wyneb. Ac aethant i’w hebrwng ef i’r llong. Ac wedi i ni ymwahanu oddiwrthynt a chodi hwyl, deuthom ar union hynt i Gôs, a thrannoeth i Rodos, ac oddiyno i Batara; a chawsom long yn croesi i Phoenice, ac aethom arni a chodi hwyl. Ac wedi cael cipolwg ar Gyprus gadawsom hi ar yr aswy, a ni’n hwylio i Syria, a thiriasom yn Nhyrus, canys yno yr oedd y llong yn dadlwytho’i chargo. Ac wedi i ni gael y disgyblion arosasom yno saith niwrnod; a hwythau, dywedyd yr oeddynt wrth Baul trwy yr Ysbryd am beidio â rhoi ei droed yng Nghaersalem. Ond wedi i ni orffen y dyddiau, aethom ymaith ar ein taith, a hwynt oll ynghyd â gwragedd a phlant yn ein hebrwng hyd y tu allan i’r ddinas; a phenlinio a wnaethom ar y traeth, a gweddïo, a ffarwelio â’n gilydd; ac aethom ar fwrdd y llong, a hwythau, dychwelasant adref. A chwblhau’r fordaith a wnaethom ninnau, a chyrraedd o Dyrus i Ptolemais; ac wedi i ni gyfarch y brodyr, arosasom un diwrnod gyda hwynt. A thrannoeth aethom ymaith a deuthom i Gesarea; ac aethom i mewn i dŷ Phylip yr efengylwr, un o’r saith, ac arosasom gydag ef. Ac yr oedd gan hwn bedair merch ddibriod, yn proffwydo. Ac a ni’n tario ddyddiau lawer, fe ddaeth un i lawr o Iwdea, proffwyd a’i enw Agabus; ac fe ddaeth atom, a chymryd gwregys Paul, ac wedi iddo rwymo ei draed ei hun a’i ddwylo fe ddywedodd, “Hyn a ddywed yr Ysbryd Glân — ‘Y gŵr biau y gwregys hwn, fe’i rhwyma’r Iddewon ef yng Nghaersalem, ac fe’i traddodant i ddwylo cenedlddynion.’ ” A phan glywsom hyn, dechreuasom ni a gwŷr y lle ddeisyf nad elai i fyny i Gaersalem. Yna atebodd Paul, “Beth a wnewch, yn wylo ac yn dryllio fy nghalon? Myfi yn wir, parod ydwyf nid yn unig i’m rhwymo ond hyd yn oed i farw yng Nghaersalem er mwyn enw yr Arglwydd Iesu.” A chan na ellid ei berswadio, tawsom gyda dywedyd, “Ewyllys yr Arglwydd a wneler.” Ac wedi’r dyddiau hynny ymbaratoi a wnaethom, a mynd i fyny i Gaersalem; ac fe aeth rhai o’r disgyblion o Gesarea gyda ni, a’n dwyn i’r tŷ yr oeddem i letya ynddo, tŷ Mnason, gŵr o Gyprus, disgybl o’r dechrau. Ac wedi i ni ddyfod i Gaersalem croeso llawen a gawsom gan y brodyr. A thrannoeth aeth Paul gyda ni at Iago, a deuthai’r holl henuriaid yno. Ac wedi iddo’u cyfarch hwynt, fe adroddai bob yn un ac un y pethau a wnaethai Duw ymhlith y Cenhedloedd trwy ei weinidogaeth. Hwythau, wedi clywed, dechreuasant ogoneddu Duw; a dywedasant wrtho, “Ti weli, frawd, pa sawl myrddiwn y sydd o gredinwyr ymhlith yr Iddewon, ac y maent oll yn selog dros y Gyfraith; a chawsant wybod amdanat ti dy fod yn dysgu gwrthgiliad oddiwrth Foesen i’r holl Iddewon sydd ymysg y Cenhedloedd, gan ddywedyd wrthynt am beidio ag enwaedu ar eu plant a rhodio yn ôl eu defodau. Beth amdani, ynteu? Y maent yn siŵr o glywed dy fod wedi dyfod. Gwna, felly, yr hyn a ddywedwn wrthyt. Y mae gennym bedwar gŵr sydd o dan adduned ohonynt eu hunain. Cymer y rhain, ac ymlanha gyda hwynt, a thâl y gost drostynt, iddynt gael eillio eu pennau, ac fe wybydd pawb nad oes dim yn yr hyn y cawsant ei glywed amdanat, ond dy fod dithau hefyd yn cerdded dan gadw’r Gyfraith. Am y cenedlddynion a gredodd, anfonasom ni atynt gan ordeinio iddynt ymogelyd rhag yr hyn a aberthwyd i ddelwau a rhag gwaed a rhag y peth a dagwyd a rhag anniweirdeb.” Yna fe gymerth Paul y gwŷr, a thrannoeth ymlanhau gyda hwynt a mynd i mewn i’r Deml, i roi rhybudd am orffen dyddiau’r glanhad, sef y dydd pan offrymwyd yr offrwm dros bob un ohonynt. Ond pan oedd y saith niwrnod ar eu dwyn i ben, fe ganfu’r Iddewon o Asia ef yn y Deml, a chynhyrfu’r holl dorf a wnaethant a rhoi eu dwylo arno, gan weiddi, “Wŷr Israel, help! Hwn yw’r dyn sy’n dysgu pawb ym mhobman yn erbyn y Bobl a’r Ddeddf a’r Lle hwn; mwy na hynny, hyd yn oed Groegiaid a ddug ef i mewn i’r Deml, a halogi’r Lle santaidd hwn.” Canys yr oeddynt cyn hynny wedi gweled Troffimus yr Effesiad yn y ddinas gydag ef, a meddylient mai i’r Deml yr oedd Paul yn ei ddwyn. A chyffrowyd yr holl ddinas, ac ymdyrru a wnaeth y bobl, ac wedi ymaflyd ym Mhaul fe’i llusgent tu allan i’r deml, ac yn union fe gaewyd y drysau. Ac a hwynt yn ceisio’i ladd ef, aeth gair i fyny at gapten y fintai fod Caersalem oll yn ymderfysgu, a chymerth yntau yn y fan filwyr a chanwriaid, a rhedeg i lawr atynt; hwythau, pan welsant y capten a’r milwyr, peidiasant â churo Paul. Yna fe ddynesodd y capten, ac ymaflyd ym Mhaul, a gorchymyn ei rwymo â dwy gadwyn; a holai pwy oedd, a beth yr oedd wedi ei wneuthur. A bloeddient hyn ac arall yn y dyrfa; a chan na allai gael gwybod yn sicr oherwydd y dwndwr gorchmynnodd ei ddwyn i’r castell. A phan ddaeth at y grisiau, bu raid ei gario gan y milwyr oherwydd trais y dyrfa, canys dilynai lliaws y bobl dan weiddi, “Ymaith ag ef!” A phan oedd ar ei ddwyn i mewn i’r castell, fe ddywed Paul wrth y capten, “A gaf fi air gennyt?” Eb yntau, “A fedri di Roeg? Nid tydi felly yw yr Eifftiwr, a gododd derfysg cyn y dyddiau hyn, ac a ddug allan i’r diffeithwch y pedair mil dagerwyr?” Dywedodd Paul, “Gŵr o Iddew wyf fi, o Darsus yng Nghilicia, dinesydd o ddinas nid dinod; ac atolwg i ti, caniatâ i mi lefaru wrth y bobl.” Ac wedi iddo ganiatau, safodd Paul ar y grisiau ac amneidiodd â’i law ar y bobl, ac wedi iddo gael distawrwydd mawr fe’u hanerchodd yn yr iaith Hebraeg, gan ddywedyd: “Frodyr a thadau, clywch fy amddiffyn wrthych yr awron.” Pan glywsant mai yn yr iaith Hebraeg yr oedd yn eu hannerch, rhoesant dawelwch mwy. “Gŵr o Iddew wyf fi, wedi fy ngeni yn Nharsus Cilicia, wedi fy nghodi yn y ddinas hon wrth draed Gamaliel, wedi fy addysgu yn ôl manylrwydd Cyfraith y tadau, yn selog dros Dduw, fel yr ydych chwithau oll heddiw; erlidiais y Ffordd hon hyd angau, gan rwymo a rhoi yng ngharchar wŷr a gwragedd, fel y tystiai i mi yr Archoffeiriaid a holl Gyngor yr henuriaid; oddiwrthynt hwy y derbyniais lythyrau at y brodyr yn Namascus, ac yr oeddwn ar y ffordd, i ddwyn y rhai oedd yno hefyd yn rhwym i Gaersalem i’w cosbi. Ond pan oeddwn ar y ffordd ac yn dynesu at Ddamascus, tua chanol dydd yn sydyn fe fflachiodd o’r nef oleuni mawr o’m hamgylch; syrthiais i’r llawr, a chlywais lais yn dywedyd wrthyf, ‘Saul, Saul, paham y’m herlidi?’ Atebais innau, ‘Pwy wyt ti, Arglwydd?’ A dywedodd wrthyf, ‘Iesu y Nasaread wyf fi, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid.’ A’r rhai oedd gyda mi, gwelsant y goleuni, ond llais yr hwn a lefarai wrthyf nis clywsant. A dywedais, ‘Beth a wnaf, Arglwydd?’ A dywedodd yr Arglwydd wrthyf, ‘Cyfod a dos i Ddamascus, ac yno fe ddywedir wrthyt am bob peth yr ordeiniwyd i ti ei wneuthur.’ A chan na welwn ddim oherwydd disgleirdeb y goleuni hwnnw, fe’m dygwyd gerfydd fy llaw gan y rhai oedd gyda mi, a deuthum i Ddamascus. A rhyw Ananias, gŵr duwiol yn ôl y Gyfraith, ac iddo air da gan yr holl Iddewon a drigai yno, a ddaeth ataf, a chan sefyll yn ymyl fe ddywedodd wrthyf, ‘Y brawd Saul, cymer dy olwg yn ôl.’ A minnau, yr awr honno, cefais fy ngolwg yn ôl, ac edrychais arno. A dywedodd yntau: ‘Duw ein tadau a’th ddewisodd di i wybod ei ewyllys ac i weled yr un Cyfiawn ac i glywed llef o’i enau ef; canys ti fyddi’n dyst iddo wrth bob dyn am yr hyn a welaist ac a glywaist. Ac yn awr paham yr oedi? Cyfod, a bedyddier di, a golch ymaith dy bechodau, gan alw ar ei enw.’ A digwyddodd, wedi i mi ddychwelyd i Gaersalem, pan oeddwn yn gweddïo yn y Deml, imi fyned mewn llewyg a’i weled ef yn dywedyd wrthyf, ‘Brysia, a dos yn glau allan o Gaersalem, oherwydd ni dderbyniant gennyt ti dystiolaeth amdanaf fi.’ A dywedais innau, ‘Arglwydd, gwyddant hwy mai myfi oedd yn carcharu ac yn fflangellu, o synagog i synagog, y rhai a gredai ynot ti; a phan oeddid yn tywallt gwaed Steffan, dy ferthyr, yr oeddwn i fy hun yn sefyll yn ymyl, ac yn cymeradwyo, ac yn cadw dillad y rhai a’i lladdai.’ A dywedodd wrthyf, ‘Dos, canys danfonaf fi di at y Cenhedloedd ymhell.’ ” Gwrandawsent arno hyd y gair hwn, ac yna codasant eu llef gan ddywedyd, “Ymaith â’r fath un oddiar y ddaear! Nid gweddus ei fod yn fyw.” Ac fel yr oeddynt yn gweiddi ac yn ysgytio eu dillad ac yn taflu llwch i’r awyr, gorchmynnodd y capten ei ddwyn i mewn i’r castell, gan ddywedyd am ei holi ef trwy fflangellu, er mwyn cael gwybod am ba reswm y llefent felly yn ei erbyn. Ond pan estynasant ef â’r careiau, dywedodd Paul wrth y canwriad a safai ger llaw, “Ai rhydd i chwi fflangellu dyn sydd yn Rhufeiniwr, a heb ei farnu?” Pan glywodd y canwriad, aeth at y capten, ac fe’i mynegodd iddo, gan ddywedyd, “Beth yr wyt ti am ei wneuthur? Rhufeiniwr yw y dyn yma.” Ac aeth y capten ato, a dywedyd wrtho, “Dywed i mi, ai Rhufeiniwr wyt ti?” Eb yntau, “Ie.” Ac atebodd y capten, “A swm mawr y cefais i y ddinasfraint hon.” Ac ebe Paul, “Minnau, fe’m ganed â hi.” Yn union gan hynny fe ymneilltuodd oddiwrtho y rhai oedd ar fedr ei holi; ac ofnodd hyd yn oed y capten, pan wybu mai Rhufeiniwr oedd, a’i fod yntau wedi ei rwymo. A thrannoeth, ac ef yn dymuno gwybod yn sicr pa gyhuddiad, a ddygid gan yr Iddewon fe’i gollyngodd ef, a gorchmynnodd i’r Archoffeiriaid a’r holl Sanhedrin ymgynnull, ac fe ddug Paul i lawr, a’i osod ger eu bron. A syllodd Paul ar y Sanhedrin, a dywedodd, “A chydwybod gwbl dda y cyflewnais i fy neiliadaeth i Dduw hyd y dydd heddiw.” Ac archodd yr Archoffeiriad Ananias i’r rhai oedd yn sefyll yn ei ymyl ei daro ar ei enau. Yna fe ddywedodd Paul wrtho, “Dy daro dithau a wna Duw, di bared wedi ei wyngalchu. A wyt ti yn eistedd i’m barnu i yn ôl y gyfraith, ac eto gan dorri’r gyfraith yn gorchymyn fy nharo?” Dywedodd y rhai oedd yn sefyll yn ei ymyl, “A wyt ti yn difrïo Archoffeiriad Duw?” Ac ebe Paul, “Ni wyddwn, frodyr, ei fod yn Archoffeiriad; canys y mae’n ysgrifenedig, Am bennaeth dy bobl na ddywed yn ddrwg.” A phan wybu Paul fod y naill ran o’r Sadwceaid, a’r lleill o’r Phariseaid, dechreuodd weiddi yn y Sanhedrin, “Frodyr, Pharisead wyf fi, mab Phariseaid; am obaith ac atgyfodiad y meirw y’m bernir.” A thra oedd yntau’n llefaru felly, cyfododd ymryson rhwng y Phariseaid a’r Sadwceaid, a rhwygwyd y lliaws. Canys fe ddywed y Sadwceaid nad oes atgyfodiad nac angel nac ysbryd, eithr maentumia’r Phariseaid hwynt i gyd. A bu cynnwrf mawr, a chyfododd rhai o’r ysgrifenyddion a oedd o blaid y Phariseaid, ac ymegnïo, gan ddywedyd, “Ni chawn ni ddim drwg yn y dyn hwn; ac os llefarodd ysbryd wrtho, neu angel — — ” Ond a’r ymryson yn cynyddu’n fawr, ofnodd y capten rhag tynnu Paul yn ddarnau ganddynt, a gorchmynnodd i’r fintai filwyr fynd i lawr a’i gipio ef o’u plith hwynt, i’w ddwyn i’r castell. A’r nos ddilynol safodd yr Arglwydd yn ei ymyl, a dywedodd, “Cymer galon! Canys fel y tystiolaethaist yn groyw amdanaf fi yng Nghaersalem, felly y mae’n rhaid i ti dystiolaethu yn Rhufain hefyd.” Pan ddaeth hi yn ddydd fe wnaeth yr Iddewon gynllwyn, ac ymddiofrydu gan ddywedyd na fwytaent ac nad yfent hyd nes lladd Paul. Ac yr oedd mwy na deugain a wnaeth y cydfwriad hwn. Aeth y rhain at yr Archoffeiriaid a’r henuriaid, a dywedasant, “Ymddiofrydu ar lw a wnaethom na phrofem ddim hyd nes lladd Paul. Yn awr, felly, hysbyswch chwi ynghyd â’r Sanhedrin i’r capten, fel y dyco ef i lawr ger eich bron, fel pe baech ar fedr chwilio yn fanylach yn ei gylch; a ninnau, cyn iddo gyrraedd, parod ydym i’w ladd ef.” Ond fe glywodd mab chwaer Paul am y cynllwyn, ac fe aeth i’r castell, ac wedi iddo fynd i mewn fe’i mynegodd i Baul. Ac fe alwodd Paul un o’r canwriaid ato, ac eb ef, “Dos â’r llanc yma at y capten; y mae ganddo rywbeth i’w fynegi iddo.” Felly fe’i cymerth yntau ef, a’i ddwyn at y capten, ac eb ef, “Galwodd y carcharor Paul fi, a gofynnodd imi ddwyn y llanc hwn atat ti, am fod ganddo rywbeth i’w ddywedyd wrthyt.” A chymerth y capten afael yn ei law, ac wedi iddo gilio o’r neilltu fe holodd, “Beth yw’r hyn sydd gennyt i’w fynegi i mi?” Ac fe ddywedodd, “Cytunodd yr Iddewon i ofyn i ti am ddwyn Paul i lawr yfory i’r Sanhedrin, fel pe baut am holi yn fanylach yn ei gylch. Yn awr, na chydsynia di â hwynt, canys y mae gwŷr o’u plith, mwy na deugain, yn cynllwyn yn ei erbyn; ymddiofrydu a wnaeth y rhain na fwytaent ac nad yfent hyd nes ei ladd ef, ac y maent yn barod yn awr, yn disgwyl am yr addewid oddiwrthyt ti.” Gollyngodd y capten, felly, y llanc ifanc, gan orchymyn, “Na ddywed wrth neb iti hysbysu’r pethau hyn i mi.” Ac wedi iddo alw ato ryw ddau o’r canwriaid, fe ddywedodd, “Paratowch ddau can milwr, i gyrchu hyd Gesarea, a deg a thrigain o wŷr meirch a dau can picellwr, ar y drydedd awr o’r nos.” Yr oeddynt i ddarparu anifeiliaid hefyd, i osod Paul arnynt a’i ddwyn yn ddiogel at Ffelix, y rhaglaw. Ac ysgrifennodd lythyr yn cynnwys hyn o sylwedd. “Clawdius Lysias at yr ardderchocaf raglaw Ffelix, henffych well. Y gŵr hwn a ddaliwyd gan yr Iddewon, ac yr oedd ar fin ei ladd ganddynt, ond deuthum ar eu gwarthaf gyda’r fintai ac achubais ef, wedi deall mai Rhufeiniwr oedd; ac a mi’n ewyllysio cael gwybod yr achos eu bod yn achwyn arno, dygais ef i lawr ger bron eu Sanhedrin. A chefais yr achwynid arno ynghylch cwestiynau eu cyfraith hwynt, ond nad oedd dim cwyn arno a haeddai farwolaeth neu garchar. A chan yr hysbyswyd i mi fod cynllwyn i fod yn erbyn y gŵr, yr wyf fi yn ei anfon atat ti ar unwaith, wedi gorchymyn i’w gyhuddwyr hwythau draethu yn ei erbyn ger dy fron di.” Felly yn ôl y cyfarwyddyd a gawsant fe gymerth y milwyr Baul i ffwrdd a’i ddwyn o hyd nos i Antipatris. A thrannoeth gadasant i’r gwŷr meirch fynd ymaith gydag ef, a dychwelasant i’r castell. Hwythau, wedi mynd i mewn i Gesarea, rhoesant y llythyr i’r rhaglaw, a chyflwynasant Baul hefyd iddo. Ac wedi iddo yntau ei ddarllen, a gofyn o ba dalaith yr oedd, a deall mai o Gilicia, eb ef, “Mi wrandawaf dy achos, pan ddêl dy gyhuddwyr hwythau.” A gorchmynnodd ei gadw ef ym mhlasty Herod. Ac wedi pum niwrnod daeth Ananias, yr Archoffeiriad, i lawr gyda rhai henuriaid ac un Tertylus, dadleuydd, a rhoesant hysbysrwydd i’r rhaglaw yn erbyn Paul. Ac wedi ei alw ef ger bron, dechreuodd Tertylus ei gyhuddo gan ddywedyd, “Heddwch mawr a gawn trwot ti, a gwelliannau sydd i’r genedl hon trwy dy ddarbodaeth ym mhob modd ac ym mhob man, a derbyniwn hwynt, ardderchocaf Ffelix, gyda phob diolchgarwch. Eithr rhag i mi dy rwystro di ymhellach, yr wyf yn deisyf arnat o’th hynawsedd wrando arnom ar fyr eiriau. Ni gawsom y gŵr yma yn bla, ac yn codi ymrysonau ymhlith yr holl Iddewon trwy’r byd, ac yn ben ar sect y Nasareaid; fe wnaeth gynnig hyd yn oed ar halogi’r Deml, a chymerasom afael ynddo; a thi elli di dy hun, wedi ei holi, gael gwybod ganddo am yr holl bethau hyn y cyhuddwn ni ef amdanynt.” A chyd-ymosododd yr Iddewon hefyd, gan ddywedyd mai felly yr oedd hyn. Ac atebodd Paul, wedi i’r rhaglaw amneidio arno i lefaru: “Gan wybod dy fod di ers llawer blwyddyn yn farnwr i’r genedl hon, yn hyderus y gwnaf fy amddiffyn amdanaf fy hun, am y gelli wybod nad oes fwy na deuddeng niwrnod er pan euthum i fyny i addoli yng Nghaersalem, ac ni’m cawsant i yn ymddiddan â neb neu yn peri cydfwriad tyrfa nac yn y Deml nac yn y synagogau nac yn y ddinas, ac ni allant roi prawf i ti am y cyhuddiadau a ddygant yn awr yn fy erbyn i. Ond hyn a gyffesaf i ti, mai yn ôl y Ffordd, a alwant hwy yn sect, felly yr addolaf Dduw ein tadau, gan gredu pob peth sydd yn ôl y Ddeddf ac sy’n ysgrifenedig yn y Proffwydi, a chennyf obaith yn Nuw — yr hyn a dderbyniant hwy eu hunain hefyd — fod atgyfodiad i fod i’r cyfiawn ac i’r anghyfiawn. Yn hyn yr wyf finnau hefyd yn ymarfer i fod â chydwybod ddianaf ger bron Duw a dynion yn wastad. Ac ar ôl amryw flynyddoedd i wneuthur elusenau i’m cenedl y deuthum, ac offrymau, ac ynglŷn â’r rhain y’m cawsant i yn y Deml wedi ymlanhau, nid gyda thorf na therfysg; ond rhai Iddewon o Asia, a ddylasai fod yma ger dy fron di i’m cyhuddo i, os oedd ganddynt ddim yn fy erbyn, — neu dyweded y rhain yma pa gamwedd, a gawsant ynof pan sefais ger bron y Sanhedrin, onid am yr un llef honno a waeddais pan safwn yn eu plith, ‘Am atgyfodiad y meirw y’m bernir i heddiw gennych chwi.’ ” Ond gohiriodd Ffelix eu hachos, ac yntau’n gwybod yn lled fanwl am y Ffordd, gan ddywedyd, “Pan ddêl Lysias y capten i lawr, mi benderfynaf eich mater.” A gorchmynnodd i’r canwriad ei gadw, ond cael ohono ysgafnhad, heb rwystro i neb o’r eiddo weini arno. Ac wedi rhai dyddiau fe ddaeth Ffelix gyda Drwsila, ei wraig, yr hon oedd Iddewes, ac fe anfonodd am Baul, ac fe’i gwrandawodd ynghylch y ffydd yng Nghrist Iesu. Ac fel yr oedd yntau yn ymresymu ynghylch cyfiawnder a diweirdeb a’r farn a fyddai, fe ddychrynodd Ffelix ac atebodd, “Ar hyn o bryd dos, ac wedi i mi gael amser cyfleus fe alwaf amdanat.” Yr un pryd gobeithio yr oedd y rhoddid arian iddo gan Baul; oblegid hynny anfonai amdano yn lled fynych, ac ymddiddan ag ef. Ond ymhen ysbaid o ddwy flynedd derbyniodd Ffelix yn olynydd iddo Borcius Ffestus; a chan yr ewyllysiai osod yr Iddewon dan rwymau iddo, gado Paul yn garcharor a wnaeth Ffelix. Yn awr, wedi i Ffestus gyrraedd y dalaith, ar ôl tri diwrnod fe aeth i fyny i Gaersalem o Gesarea, a rhoes yr Archoffeiriaid a’r gwŷr blaenaf o’r Iddewon hysbysrwydd iddo yn erbyn Paul, a deisyfent arno gan ofyn, yn ffafr yn erbyn Paul, am iddo anfon amdano i Gaersalem, a hwythau’n gwneuthur cynllwyn i’w ladd ef ar y ffordd. Atebodd Ffestus ar hynny fod Paul ynghadw yng Nghesarea, a’i fod ef ei hun yn bwriadu cychwyn ymaith ar fyr. “Felly,” meddai, “deued i lawr gyda mi y rhai sydd ag awdurdod yn eich plith, ac od oes dim allan o’i le yn y gŵr, cyhuddent ef.” Ac wedi iddo dreulio yn eu plith nid mwy nag wyth neu ddeng niwrnod, fe aeth i lawr i Gesarea, a thrannoeth fe eisteddodd ar y frawdle a gorchymyn dwyn Paul ger bron. Ac wedi iddo ddyfod fe safodd yr Iddewon, a ddeuthai i lawr o Gaersalem, o’i amgylch, gan ddwyn yn ei erbyn lawer o achwynion trwm, na allent eu profi, a Phaul yn ateb: “Ni throseddais i ddim, nac yn erbyn cyfraith yr Iddewon nac yn erbyn y Deml nac yn erbyn Cesar.” Ond gan y dymunai Ffestus osod yr Iddewon dan rwymau iddo, fe atebodd i Baul a dywedyd: “A fynni di fynd i fyny i Gaersalem, ac yno dy farnu ger fy mron i am y pethau hyn?” A dywedodd Paul: “Sefyll yr wyf fi ger bron brawdle Cesar, lle y dylid fy marnu. I’r Iddewon ni wneuthum i ddim drwg, fel y gwyddost ti yn eithaf da. Os troseddwr wyf ac os gwneuthum i ddim yn haeddu marwolaeth, nid wyf yn gwrthod marw; eithr onid oes dim yn yr hyn y cyhudda y rhain fi, ni all neb fy rhoddi o ffafr iddynt. At Gesar yr wyf yn apelio.” Yna, wedi iddo ymddiddan â’r cyngor, fe atebodd Ffestus: “At Gesar yr apeliaist, ger bron Cesar y cei fynd.” Ac wedi i rai dyddiau fyned heibio daeth Agripa, y brenin, a Bernice i lawr i Gesarea, a chyfarch Ffestus. A chan eu bod yn treulio dyddiau lawer yno, fe roes Ffestus achos Paul ger bron y brenin, gan ddywedyd, “Y mae yma ryw ŵr a adawyd gan Ffelix yn garcharor, a phan ddeuthum i Gaersalem fe roes Archoffeiriaid a henuriaid yr Iddewon hysbysrwydd i mi yn ei gylch, gan ofyn ei gollfarnu. Atebais iddynt nad arfer Rhufeinwyr oedd rhoi o ffafr neb rhyw ddyn hyd oni chaffai’r cyhuddedig ei gyhuddwyr o flaen ei wyneb, a chael cyfle i’w amddiffyn ei hun ynghylch yr achwyniad. Felly deuthant ynghyd yma, a heb oedi dim eisteddais drannoeth ar y frawdle, a gorchmynnais ddwyn y gŵr ger bron. Ond pan safodd ei gyhuddwyr, dim cyhuddiad ni ddygent o’r drygweithredoedd a ddisgwyliwn i; ond rhyw ddadleuon oedd rhyngddynt ac ef ynghylch eu crefydd eu hunain ac ynghylch rhyw Iesu sydd wedi marw, ond y dywedai Paul ei fod yn fyw. A chan fy mod i ’n anghyfarwydd ag ymofyn am y pethau hyn, gofynnais iddo a fynnai fynd i Gaersalem a’i farnu yno amdanynt. Ond gan i Baul apelio am gael ei gadw i’w brofi gan ei Fawrhydi, gorchmynnais ei gadw hyd oni throsglwyddwn ef i Gesar.” Ac ebe Agripa wrth Ffestus, “Carwn glywed y dyn fy hunan,” “Yfory,” eb yntau, “ti gei ei glywed.” Felly drannoeth, wedi i Agripa a Bernice ddyfod yn fawr eu rhwysg, a myned i mewn i’r llys ynghyd â chapteniaid a gwŷr mawr y ddinas, ar orchymyn Ffestus fe ddygwyd Paul ger bron. Ac ebe Ffestus, “Agripa frenin, a chwi wŷr oll sydd yma gyda ni, gwelwch hwnyma; holl liaws yr Iddewon a ddeisyfodd arnaf yn ei gylch yng Nghaersalem ac yma, gan lefain na ddylai gael byw yn hwy. Minnau, canfûm na wnaethai ef ddim yn haeddu marwolaeth; ond gan iddo ef ei hun apelio at ei Fawrhydi, penderfynais ei anfon. Ond nid oes gennyf ddim sicr i’w sgrifennu amdano at fy Arglwydd; gan hynny, dygais ef ymlaen ger eich bron chwi ac yn enwedig ger dy fron di, frenin Agripa, fel wedi cynnal ymholiad y caffwyf beth i’w sgrifennu. Canys allan o reswm y gwelaf fi anfon carcharor, heb arwyddo hefyd yr achwynion sydd yn ei erbyn.” Ac ebe Agripa wrth Baul, “Caniateir i ti siarad drosot dy hun.” Yna fe estynnodd Paul ei law, a dechrau ei amddiffyn ei hun. “Am yr holl bethau yr achwynir yn fy erbyn gan Iddewon, frenin Agripa, fe’m hystyriaf fy hun yn ddedwydd o gael fy amddiffyn fy hun heddiw ger dy fron di, yn enwedig am dy fod yn gyfarwydd yn yr holl ddefodau a chwestiynau Iddewig; gan hynny, crefaf arnat fy ngwrando yn amyneddgar. Fy muchedd, ynteu, o febyd, fy mywyd o’r dechrau, ymhlith fy nghenedl y bu ac yng Nghaersalem, fel y gŵyr pob Iddew; adwaenant fi erioed; gwyddant, o mynnant dystiolaethu, mai yn ôl y sect fanylaf o’n crefydd y bûm i fyw yn Pharisead. (Hyd yn oed yn awr, oblegid gobaith yn yr addewid i’n tadau ni, a wnaed gan Dduw, yr wyf yn sefyll i’m barnu — addewid y mae ein deuddeg llwyth ni trwy wasnaethu yn ymroddgar nos a dydd yn gobeithio ei chyrraedd. Ac am y gobaith hwn yr achwynir arnaf, O frenin, gan Iddewon! Paham y bernir yn anghredadwy gennych chwi fod Duw yn cyfodi’r meirw?) Beth bynnag, tybiais i ynof fy hun y dylwn weithio llawer yn erbyn enw Iesu, y Nasaread; a hyn a wneuthum yng Nghaersalem, a llawer o’r saint a gaeais i mewn carcharau, wedi cael yr awdurdod oddiwrth yr Archoffeiriaid, a phan oeddid am eu difetha rhoddais fy mhleidlais yn eu herbyn; ac yn yr holl synagogau lawer gwaith y cosbais hwynt a cheisio eu gorfodi i gablu, ac a mi’n ynfyd wrthynt dros fesur erlidiwn hwynt hyd yn oed i’r dinasoedd tu allan. Pan oeddwn yn teithio ynglŷn â hyn i Ddamascus gydag awdurdod a chennad yr Archoffeiriaid, ganol dydd ar y ffordd mi welais, O frenin, oleuni o’r nef yn disgleirio o’m hamgylch i a’r rhai oedd yn teithio gyda mi, goruwch disgleirdeb yr haul. Syrthiasom oll i’r llawr, a chlywais lais yn dywedyd wrthyf yn yr iaith Hebraeg, ‘Saul, Saul, paham y’m herlidi? Garw i ti yw gwingo yn erbyn symbylau.’ Dywedais innau, ‘Pwy wyt ti, Arglwydd?’ A dywedodd yr Arglwydd, ‘Iesu wyf fi, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid; eithr cyfod a saf ar dy draed; canys i hyn yr ymddangosais i ti — i’th ragordeinio di yn was, ac yn dyst o’r hyn a welaist ohonof ac o’r hyn a welir ohonof gennyt, gan dy ddethol di allan o’r Bobl ac o’r Cenhedloedd, y rhai yr wyf yn dy anfon atynt i agoryd eu llygaid, i droi ohonynt o dywyllwch i oleuni ac oddiwrth awdurdod Satan at Dduw, fel y caffont faddeuant pechodau a chyfran ymhlith y rhai a santeiddiwyd trwy ffydd — eu ffydd ynof fi.’ O achos hyn, frenin Agripa, ni bûm anufudd i’r weledigaeth nefol, eithr i’r rhai yn Namascus yn gyntaf ac yng Nghaersalem, a thrwy holl wlad Iwdea, a hefyd i’r Cenhedloedd y cyhoeddwn edifarhau a throi at Dduw, a gwneuthur gweithredoedd teilwng o’u hedifeirwch. Oherwydd hyn y daliodd yr Iddewon fi yn y Deml, a cheisio fy llofruddio. Swcwr a gefais oddiwrth Dduw hyd y dydd heddiw, ac yr wyf yn sefyll gan dystiolaethu i fawr a mân, heb ddywedyd dim yn wahanol i’r pethau y dywedodd y proffwydi eu bod i ddigwydd, a Moesen hefyd, os i ddioddef y mae’r Crist, os ef yn gyntaf o atgyfodiad y meirw sydd i fynegi goleuni i’r Bobl ac i’r Cenhedloedd.” Ac fel yr oedd ef yn ei amddiffyn ei hun felly, ebe Ffestus â llef uchel, “Yr wyt yn ynfyd, Paul; dy fawr ddysg sy’n dy yrru yn ynfyd.” Ebe Paul, “Nid wyf yn ynfyd, ardderchocaf Ffestus, eithr geiriau gwirionedd a phwyll yr wyf yn eu traethu. Yn wir, gŵyr y brenin am y pethau hyn, ac wrtho ef y llefaraf yn hy; canys ni chredaf fod dim un o’r pethau hyn yn ddieithr iddo, canys nid mewn congl y gwnaed hyn. Yr wyt yn credu’r proffwydi, frenin Agripa? Gwn dy fod yn credu.” Ebe Agripa wrth Baul, “Drwy ychydig y ceisi fy mherswadio i i’m gwneuthur yn Gristion!” Ebe Paul, “Mi ddymunwn gan Dduw, pa un ai drwy ychydig ai drwy lawer, nid am danat ti yn unig ond am bawb sy’n fy ngwrando heddiw, am iddynt ddyfod yn gyfryw ag yr wyf finnau — oddieithr y rhwymau hyn.” Yna cododd y brenin a’r rhaglaw, Bernice hefyd a’r rhai oedd yn eistedd gyda hwynt, ac wedi iddynt ymneilltuo, ymddiddan â’i gilydd a dywedyd: “Nid yw’r dyn yma yn gwneuthur dim yn haeddu marwolaeth neu rwymau.” Ac ebr Agripa wrth Ffestus, “Gallasai’r dyn yma fod wedi ei ollwng yn rhydd, pe nad apeliasai at Gesar.” A phan benderfynwyd ar hwylio ohonom i’r Eidal, rhoent Baul a rhai carcharorion eraill yng ngofal canwriad, a’i enw Iwlius, o’r fintai Ymerodrol. Ac wedi i ni fynd ar long o Adramyttium, a oedd ar fedr hwylio i’r lleoedd ar hyd glannau Asia, codasom hwyl, a chyda ni Aristarchus, Macedoniad o Thesalonica. A thrannoeth tiriasom yn Sidon, ac fe ymddug Iwlius yn garedig tuagat Baul a rhoi cennad iddo i fynd at ei gyfeillion a chael bod dan ofal. Ac oddiyno, wedi codi angor, hwyliasom yng nghysgod Cyprus am fod y gwyntoedd yn ein herbyn; ac wedi i ni hwylio dros y môr sydd gerllaw Cilicia a Phamffylia, cyraeddasom Fyra yn Lycia. Ac yno fe gafodd y canwriad long o Alecsandria, a oedd ar ei thaith i’r Eidal, ac fe’n gosododd ni arni. Am gryn ddyddiau araf hwylio yr oeddem, a braidd y deuthom ar gyfer Cnidus, ac am na adai’r gwynt inni, hwyliasom yng nghysgod Crete ar gyfer Salmône, a braidd trwy hwylio gyda’r tir y deuthom i ryw le a elwid Porthladdoedd Teg, a cherllaw iddo yr oedd dinas Lasea. A chan fod cryn amser wedi treiglo a bod morio bellach yn beryglus, oherwydd yr oedd hyd yn oed yr Ympryd eisoes wedi mynd heibio, fe gynghorai Paul hwynt, gan ddywedyd wrthynt; “Wŷr, gwelaf fod difrod a mawr golled, nid yn unig i’r llwyth ac i’r llong ond i’n bywydau ni hefyd, i ganlyn y fordaith.” Ond gwrandawai’r canwriad yn hytrach ar y peilat a’r capten nag ar ddim a ddywedai Paul. A chan fod y porthladd yn anghymwys i aeafu ynddo, fe roes y rhan fwyaf farn dros hwylio oddiyno, i gyrraedd, os gallent rywfodd, Phoenix, a gaeafu yno — porthladd yng Nghrete yn edrych tua’r dehau-orllewin a’r gogledd-orllewin. A phan araf chwythodd deheuwynt, tybiasant iddynt gael eu hamcan, â chodasant angor a chadw gyda thir Crete, yn agos i’r lan. Ond cyn hir fe ruthrodd i lawr o’r tir wynt tymhestlog, a elwir Ewracwilo; cipiwyd y llong, a chan na allai ddal yng ngwrthwyneb i’r gwynt, ildio a wnaethom, a gyrru o’i flaen. Ac wedi rhedeg yng nghysgod rhyw ynys fechan, a elwir Cawda, prin y gallasom gael meddiant o’r bâd, ac wedi ei godi defnyddio cynorthwyon a wnaethant i amwregysu’r llong; ac a hwythau’n ofni rhag eu bwrw ar y Syrtis, gostyngasant y teclyn, a mynd gyda’r llif felly. Ac a ni’n flin iawn arnom gan y dymestl, dechreuasant drannoeth daflu o’r llong, a’r trydydd dydd lluchio ymaith a wnaethant â’u dwylo eu hunain daclau’r llong. A phan nad ymddangosai na haul na sêr dros ddyddiau lawer, a thymestl fawr yn gwasgu arnom, o hynny allan dwyn oddiarnom yr oeddid bob gobaith am ein cadw. A phan fu hir eisiau bwyd, yna cododd Paul yn eu canol hwynt a dywedyd: “Wŷr, chwi ddylasech wrando arnaf fi, a pheidio â chychwyn allan o Grete, ac arbed y difrod hwn a’r golled. Hyd yn oed yn awr cynghoraf chwi i ymwroli, canys ni bydd dim colli bywyd yn eich plith chwi, ond yn unig y llong; canys fe safodd yn fy ymyl neithiwr angel y Duw piau fi a’r hwn yr wyf yn ei addoli, a dywedyd, ‘Paid ag ofni, Paul; ger bron Cesar y mae’n rhaid i ti sefyll, a dyma Dduw wedi rhoddi i ti y rhai oll sy’n morio gyda thi.’ Felly ymwrolwch, wŷr; canys yr wyf yn credu Duw, mai felly y bydd, y modd y dywedwyd i mi. Ond ar ryw ynys y mae’n rhaid ein bwrw ni.” A phan ddaeth y bedwaredd nos ar ddeg, a ni’n ymdroi ym môr Hadria, tua chanol nos fe dybiai’r morwyr fod rhyw wlad yn dynesu. A phlymio a wnaethant a chael ugain gwryd; ac wedi symud ychydig, plymio drachefn a chael pymtheg gwryd. Ac a hwy’n ofni rhag efallai ein bwrw ar leoedd geirwon, bwriasant bedair angor o’r starn, a dyheu a wnaent am iddi ddyddhau. A’r morwyr yn ceisio ffoi o’r llong ac wedi gollwng y bâd i’r môr dan esgus mynd i estyn angorau o’r pen blaen, fe ddywedodd Paul wrth y canwriad a’r milwyr, “Onid erys y rhain yn y llong, ni ellwch chwi gael eich cadw.” Yna fe dorrodd y milwyr raffau’r bâd, a gadasant iddo gwympo ymaith. A hyd onid oedd hi ar ddyddhau, anogai Paul bawb i gymryd peth lluniaeth, gan ddywedyd, “Erbyn heddiw ers pedwar diwrnod ar ddeg yr ydych yn dal ar eich cythlwng i ddisgwyl, heb gymryd dim. Felly yr wyf yn dymuno arnoch gymryd peth lluniaeth, oblegid y mae hynny y mhlaid eich achubiaeth; canys i ddim un ohonoch ni chollir blewyn oddiar ei ben.” Ac wedi iddo ddywedyd hyn fe gymerth fara, a diolchodd i Dduw yng ngŵydd pawb, ac wedi iddo dorri fe ddechreuodd fwyta. Ac ymwroli a wnaeth pawb a chymryd hwythau hefyd beth lluniaeth. (Yr oeddem i gyd yn y llong yn rhyw un ar bymtheg a thrigain o eneidiau.) Ac wedi iddynt gael eu gwala o luniaeth, ysgafnhaent y llong trwy fwrw yr ŷd allan i’r môr. A phan ddaeth hi yn ddydd, nid adwaenent y tir, ond canfyddent ryw gilfach ac iddi draeth, ac ymgynghori a allent ddwyn y llong i mewn iddi yn ddiogel. A thorri ymaith yr angorau a wnaethant, a’u gadael yn y môr; yr un pryd datod cyplau’r llywiau, a chodi’r hwyl flaen i’r awel, a chyfeirio tua’r traeth. Ond wedi iddynt syrthio ar le rhwng dau fôr gyrasant y llong i dir, ac fe lynodd y pen blaen, a safodd, yn ddiysgog, ond y starn oedd yn ymddatod dan y grym. A chyngor y milwyr a fu lladd y carcharorion, rhag i neb ohonynt nofio ymaith a dianc. Ond gan yr ewyllysiai’r canwriad achub Paul, fe rwystrodd iddynt eu dymuniad, a gorchmynnodd i’r rhai a fedrai nofio ymdaflu allan yn gyntaf, a mynd ymaith tua’r tir, ac yna’r lleill, rhai ar ystyllod ac eraill ar ryw ddrylliau o’r llong ac felly y darfu i bawb ddyfod yn ddiogel i’r tir. Ac wedi i ni ddyfod yn ddiogel y gwybuom mai Melita y gelwid yr ynys. Ac fe ddangosodd y brodorion i ni garedigrwydd anghyffredin; cynnau tân a wnaethant, a’n cymell ni ato oherwydd y glaw a’n goddiweddodd ac oherwydd yr oerfel. Ac fe gasglodd Paul beth wmbredd o danwydd, ac wedi iddo’u dodi ar y tân fe ddaeth gwiber allan gan y gwres, a glynu wrth ei law ef. A phan welodd y brodorion yr anifail ynghrog wrth ei law ef, dywedent wrth ei gilydd, “Yn sicr llofrudd yw’r dyn yma, ac er ei ddyfod yn ddiogel o’r môr ni adodd Cyfiawnder iddo fyw.” Beth bynnag, ysgydwodd yntau’r anifail ymaith i’r tân, ac ni chafodd ddim drwg. Disgwylient hwythau iddo ddechrau chwyddo neu syrthio’n sydyn yn gorff; ond a hwy’n hir ddisgwyl ac yn gweled nad oedd dim neilltuol yn digwydd iddo, newid eu meddwl a wnaethant, a dywedyd ei fod yn dduw. Ac yn y gymdogaeth honno yr oedd tiroedd i bennaeth yr ynys, a’i enw Poplius, yr hwn a’n derbyniodd ni ac a’n lletyodd dridiau yn gymwynasgar. A digwyddodd bod tad Poplius yn gorwedd yn glaf, yn dioddef gan byliau o gryd a chan waedlif; ac fe ddaeth Paul ato, ac wedi iddo weddïo a dodi ei ddwylo arno fe’i hiachaodd. Ac wedi gwneuthur hyn y lleill hefyd oedd dan afiechyd yn yr ynys a ddeuai ato, ac fe’u meddyginiaethid; hwythau, anrhydeddasant ni ag anrhydeddau lawer, ac wrth i ni gychwyn ymaith fe’n llwythasant ni â phethau ar gyfer ein rheidiau. Ac wedi tri mis cychwynasom ymaith mewn llong a aeafasai yn yr ynys, llong o Alecsandria, a’r Dioscwri yn arwydd arni. Ac wedi i ni dirio yn Syracwsae, arosasom, yno dridiau, ac oddiyno wedi bwrw ymaith deuthom i Regium. Ac ar ôl un diwrnod cododd deheuwynt, a’r ail ddydd deuthom i Bwteoli; yno cawsom frodyr, a dymunwyd arnom aros gyda hwynt saith niwrnod; ac felly y deuthom i Rufain. Ac wedi i’r brodyr oddiyno glywed amdanom, deuthant i gyfarfod â ni hyd Farchnad Appius a’r Tair Tafarn; a phan welodd Paul hwynt, fe ddiolchodd i Dduw a chymerth galon. A phan aethom i mewn i Rufain, fe ganiatawyd i Baul drigo wrtho’i hun gyda’r milwr oedd yn ei wylied. Ac ar ôl tridiau y galwodd ynghyd y rhai a oedd yno’n flaenaf o’r Iddewon. Ac wedi iddynt ddyfod ynghyd fe ddywedai wrthynt, “Er na wneuthum i, frodyr, ddim yn erbyn y Bobl na defodau’r tadau, fe’m traddodwyd yn garcharor o Gaersalem i ddwylo’r Rhufeinwyr; a hwythau, wedi iddynt fy holi, ewyllysient fy ngollwng yn rhydd, am nad oedd ddim achos marwolaeth ynof. Ond a’r Iddewon yn dywedyd yn erbyn, fe orfuwyd arnaf apelio at Gesar, nid am fod gennyf, ddim i’w achwyn ar fy nghenedl. O achos hyn, ynteu, y’ch cymhellais chwi i ymweled ac ymddiddan â mi; canys oherwydd gobaith Israel y mae gennyf y gadwyn hon amdanaf.” Dywedasant hwythau wrtho, “Ni dderbyniasom ddim llythyrau amdanat ti o Iwdea, ac ni ddaeth neb o’r brodyr yma i fynegi na llefaru dim sy ddrwg amdanat ti. Ond iawn y tybiwn glywed gennyt ti beth yr wyt yn ei synied, oblegid am y sect hon hysbys yw i ni y dywedir yn ei herbyn ym mhobman.” A phennu diwrnod a wnaethant iddo, a deuthant ato i’w lety yn dyrfa, ac iddynt yr esboniai, gan ddwys dystiolaethu am deyrnas Dduw, a cheisio eu perswadio ynghylch yr Iesu allan o Gyfraith Moesen ac o’r Proffwydi o fore tan hwyr. A rhai a gredai yr hyn a ddywedid, a rhai ni chredent; ac a hwy mewn anghytgord â’i gilydd, ymadael yr oeddynt, a Phaul yn dywedyd un gair: “Gwych y llefarodd yr Ysbryd Glân trwy Esaias y proffwyd wrth eich tadau chwi, gan ddywedyd: Dos at y bobl yma a dywed, Clywch, ie, clywch, ac ni ddeëllwch ddim, a gwelwch, ie, gwelwch, ac ni chanfyddwch ddim; canys brashawyd calon y bobl yma, ac â’u clustiau, trwm y clywsant, a’u llygaid hwynt a gaeasant; rhag byth y canfyddont â’u llygaid, ac â’u clustiau y clywont, ac â’u calon y deallont ac y trônt, ac yr iachawyf hwynt. Bydded hysbys, felly, i chwi mai i’r Cenhedloedd yr anfonwyd yr iechydwriaeth Duw yma; fe wrandawant hwy.” Ac fe arhosodd ddwy flynedd gyfan mewn llety preifat a rentai, ac fe dderbyniai bawb a ddeuai i mewn ato, gan gyhoeddi teyrnas Dduw a dysgu am yr Arglwydd Iesu Grist, gyda phob hyfder, yn ddiwahardd. Paul, caethwas Crist Iesu, a alwyd i fod yn apostol, Wedi ei neilltuo i efengyl Duw, yr hon a ragaddawodd ef trwy ei broffwydi mewn ysgrythurau sanctaidd, am ei Fab, a aned o had Dafydd yn ôl y cnawd, a benodwyd yn Fab Duw mewn gallu yn ôl ysbryd sancteiddrwydd trwy atgyfodiad meirwon, Iesu Grist ein Harglwydd, y derbyniasom trwyddo ras ac apostoliaeth i ufudd-dod ffydd ymhlith yr holl genhedloedd, er mwyn ei enw; y rhai yr ydych chwithau yn eu plith yn alwedigion Iesu Grist: at bawb sydd yn Rhufain yn annwyl gan Dduw, a alwyd i fod yn saint. Gras i chwi a thangnefedd oddi wrth Dduw ein Tad a’r Arglwydd Iesu Grist. Yn gyntaf diolchaf i’m Duw trwy Iesu Grist amdanoch chwi oll, oblegid cyhoeddi eich ffydd yn yr holl fyd. Oblegid fy nhyst yw Duw, yr hwn a wasanaethaf â’m hysbryd yn efengyl ei Fab, mor ddibaid y coffâf chwi bob amser yn fy ngweddïau, gan ddeisyf a gawn rywfodd, rywbryd bellach, rwydd hynt trwy ewyllys Duw i ddyfod atoch. Canys y mae hiraeth arnaf am eich gweled, fel y cyfrannwyf i chwi ryw ddawn ysbrydol, i’ch cadarnhau chwi, hynny yw, i’n cydgysuro yn eich plith drwy’r ffydd sydd yn y naill a’r llall, yr eiddoch chwi a’r eiddof finnau. Ac ni fynnwn i chwi fod heb wybod, frodyr, i mi lawer gwaith fwriadu dyfod atoch, a’m rhwystro hyd yn hyn, fel y cawn ryw ffrwyth ynoch chwithau, megis yn y gweddill o’r Cenhedloedd. I Roegiaid ac i farbariaid, i ddoethion ac i annoethion, dyledwr wyf. Felly, o’m rhan i, eiddgar wyf i gyhoeddi’r efengyl i chwithau sydd yn Rhufain. Canys nid oes arnaf gywilydd o’r efengyl, oblegid gallu Duw ydyw er iachawdwriaeth i bob un sy’n credu, i Iddew yn gyntaf ac i Roegwr. Canys datguddir ynddi gyfiawnder Duw o ffydd i ffydd, fel yr ysgrifennwyd: Y cyfiawn, trwy ffydd y bydd byw. Canys datguddir digofaint Duw, o’r nef, yn erbyn pob annuwioldeb ac anghyfiawnder dynion sy’n atal y gwirionedd drwy anghyfiawnder. Oherwydd yr hyn y gellir ei wybod am Dduw sy’n eglur ynddynt, oblegid eglurodd Duw ef iddynt. Canys ei anweledig bethau ef, er creadigaeth y byd, o’u deall trwy’r pethau a wnaed, a welir yn glir — ei dragwyddol allu a’i ddwyfoldeb — fel y byddont yn ddiesgus. Oherwydd er iddynt adnabod Duw nis gogoneddasant fel Duw, na rhoddi diolch, ond aethant yn ofer yn eu hopiniynau a thywyllwyd eu calon anneallus. Yn honni eu bod yn ddoethion aethant yn ffyliaid, a chyfnewid gogoniant yr anllygradwy Dduw am debygrwydd llun dyn llygradwy, ac ehediaid, a phedwarcarnolion, ac ymlusgiaid. Am hynny traddododd Duw hwynt yn chwantau eu calonnau i aflendid amherchi eu cyrff yn eu plith, y rhai a newidiodd y Gwir Dduw am y Celwydd, ac addoli a gwasanaethu y cread yn hytrach nag ef a’i creodd, yr hwn sydd fendigedig yn oes oesoedd. Amen. Oblegid hyn y traddododd Duw hwynt i nwydau gwarthus; canys newidiodd eu gwragedd yr arfer naturiol am yr un annaturiol, a’r un modd, gan adael heibio yr arfer naturiol o’r wraig, ymlosgodd y gwŷr hwythau yn eu dyhead am ei gilydd, gwŷr gyda gwŷr yn cyflawni’r ffieidd-dra, ac yn derbyn ynddynt eu hunain y tâl priod am eu cyfeiliorni. Ac megis na bu gymeradwy ganddynt gadw Duw yn eu gwybodaeth, traddododd Duw hwynt i feddwl anghymeradwy, i wneuthur y pethau nad ydynt weddaidd, wedi eu llenwi â phob anghyfiawnder, drygwaith, trachwant, drygioni, yn orlawn o genfigen, llofruddiaeth, cynnen, twyll, malais, yn sibrydwyr, yn athrodwyr, yn casáu Duw, yn dreiswyr, yn feilchion, yn ymffrostwyr, yn ddyfeiswyr drygau, yn anufudd i rieni, yn ddiddeall, yn dorwyr amod, yn ddi-serch, yn ddidosturi; a hwy’n gwybod ordeiniad Duw, bod y sawl sy’n gwneuthur y cyfryw bethau yn haeddu marwolaeth, nid yn unig fe’u gwnânt, eithr hefyd cymeradwyant y sawl a’u gwna. Gan hynny diesgus wyt ti, ddyn, pwy bynnag wyt sy’n barnu; oblegid yn y peth y berni arall yr wyt yn dy gondemnio dy hun, canys yr wyt ti, y barnwr, yn gwneuthur yr un pethau. A gwyddom fod barn Duw yn ôl gwirionedd ar y sawl a wna’r cyfryw bethau. Ac a dybi di hyn, ddyn, tydi sy’n barnu’r sawl a wna’r cyfryw bethau, a thithau yn eu gwneuthur, y dihengi di rhag barn Duw? Neu a ddirmygi di olud ei diriondeb, a’i oddefgarwch, a’i hirymaros, heb wybod bod tiriondeb Duw yn d’arwain di i edifeirwch? Ond drwy dy galedwch a’th galon ddiedifar trysori yr wyt i ti dy hun ddigofaint yn nydd digofaint a datguddiad cyfiawn farn Duw, yr hwn a ddyry i bob un yn ôl ei weithredoedd; i’r naill, yn ddygn mewn gwaith da, a gais ogoniant ac anrhydedd ac anllygredigaeth, fywyd tragwyddol; i’r lleill, y cynhennus ac anufudd i’r gwirionedd ond ufudd i anghyfiawnder, bydd digofaint a llid, gorthrymder a chyfyngder ar bob enaid o ddyn a gyflawna’r peth sy ddrwg, Iddew yn gyntaf, a Groegwr; eithr gogoniant, ac anrhydedd, a thangnefedd, i bob un a wna’r peth sy dda, Iddew yn gyntaf, a Groegwr. Canys nid oes derbyn wyneb gyda Duw. Oblegid cynifer ag a bechodd heb ddeddf, heb ddeddf a gollir hefyd; a chynifer ag a bechodd dan ddeddf, wrth ddeddf a fernir; canys nid gwrandawyr deddf sy gyfiawn gyda Duw, ond gweithredwyr deddf a gyfiawnheir. Oherwydd pan fo Cenhedloedd nad oes deddf ganddynt yn gwneuthur wrth natur bethau’r ddeddf, hwynt-hwy, heb ddeddf ganddynt, sy ddeddf iddynt eu hunain, y rhai a ddengys waith y ddeddf yn ysgrifenedig ar eu calonnau, a’u cydwybod yn cyd-dystio, a’u rhesymau rhyngddynt a’i gilydd yn cyhuddo neu efallai yn amddiffyn; yn y dydd y barn Duw gudd bethau dynion, yn ôl fy efengyl i, trwy Iesu Grist. Ond tydi, os Iddew yr enwir di, a gorffwys ohonot ar ddeddf, ac ymffrostio yn Nuw, a gwybod ei ewyllys, a chymeradwyo’r pethau sy’n rhagori, am dy hyfforddi o’r ddeddf, a chennyt hyder amdanat dy hun, dy fod yn arweinydd deillion, yn oleuni’r sawl sy mewn tywyllwch, yn ddisgyblydd rhai angall, yn athro rhai bach, am fod gennyt yn y ddeddf gynllun gwybodaeth a gwirionedd, ti, ynteu, sy’n dysgu arall, oni’th ddysgi dy hun? Ti, sy’n pregethu na ladrater, a ladreti di? Ti, sy’n dywedyd na odineber, a odinebi di? Ti, sy’n ffieiddio eilunod, a ysbeili di demlau? Ti, sy’n ymffrostio mewn deddf, a ddianrhydeddi di Dduw trwy droseddu’r ddeddf? Canys enw Duw o’ch achos chwi a geblir ymhlith y cenhedloedd, fel yr ysgrifennwyd. Buddiol yn ddiau yw enwaediad, os cedwi ddeddf, ond os troseddwr deddf ydwyt, aeth dy enwaediad yn ddienwaediad. Os bydd i’r dienwaediad, felly, gadw ordeiniadau’r ddeddf, oni chyfrifir ei ddienwaediad yn enwaediad? A’r dienwaediad wrth natur, drwy gyflawni’r ddeddf, a’th farn di, sydd gyda’th lythyren a’th enwaediad yn droseddwr deddf. Canys nid yr Iddew oddi allan sydd Iddew, ac nid yr enwaediad oddi allan mewn cnawd sydd enwaediad; yn hytrach yr Iddew oddi mewn sydd Iddew, ac enwaediad calon, mewn ysbryd nid mewn llythyren, sydd enwaediad, a’i glod, nid o ddynion ond o Dduw. Pa beth, ynteu, yw mantais yr Iddew, neu pa beth yw budd yr enwaediad? Llawer ym mhob modd. Yn gyntaf oll, ymddiried iddynt oraclau Duw. Pa wahaniaeth? Os anghredodd rhai, a ddiryma eu hanghrediniaeth hwy ffyddlondeb Duw? Na ato! Yn hytrach caffer Duw yn eirwir ond pob dyn yn gelwyddog, fel yr ysgrifennwyd: Fel y cyfiawnhaer di yn dy eiriau, ac y gorchfygi pan farner di. Eithr os dengys ein hanghyfiawnder ni gyfiawnder Duw, pa beth a ddywedwn? Ai anghyfiawn Duw a ddwg arnom y digofaint? Yn null dyn y llefaraf. Na ato! Canys yna pa fodd y barn Duw y byd? Ond os ymhelaethodd gwirionedd Duw trwy fy nghelwydd i i’w ogoniant ef, paham y bernir finnau eto yn bechadur? A phaham na ddywedwn, megis y ceblir ni, ac megis, medd rhywrai, y dywedwn, “gwnawn ddrygioni fel y delo daioni”? Cosb y cyfryw, cyfiawn yw. Beth ynteu? A ragorir arnom ni? Dim o gwbl. Canys cyhuddasom eisoes Iddewon a Groegiaid, bawb, o fod dan bechod, fel yr ysgrifennwyd: Nid oes cyfiawn, dim un. Nid oes a ddeall, nid oes a gais Dduw; Gŵyrodd pawb, ymlygrasant ynghyd; Nid oes a wnêl ddaioni, nid oes hyd yn oed un. Bedd agored yw eu gwddf. Â’u tafodau twyllasant, Gwenwyn asbiaid dan eu gwefusau; Eu genau sy’n llawn melltith a chwerwedd; Buan eu traed i dywallt gwaed, Distryw a thrueni yn eu ffyrdd. A ffordd tangnefedd nid adnabuant. Nid yw ofn Duw gerbron eu llygaid. Gwyddom, pa bethau bynnag a ddywed y ddeddf, mai wrth y sawl sydd dan y ddeddf y llefara, fel y caeer pob genau ac y bo’r holl fyd dan farn Duw; oherwydd trwy weithredoedd deddf ni chyfiawnheir un cnawd yn ei ŵydd ef. Canys trwy ddeddf y mae adnabyddiaeth o bechod. Ond yn awr ar wahân i ddeddf y mae cyfiawnder Duw wedi ei amlygu, a thystiolaeth iddo gan y ddeddf a’r proffwydi, a hwnnw yn gyfiawnder Duw trwy ffydd yn Iesu Grist i bawb a gred. Canys nid oes gwahaniaeth; oblegid pechodd pawb, ac amddifad ydynt o ogoniant Duw, a’u cyfiawnhau yn rhad gan ei ras ef, trwy’r brynedigaeth sydd yng Nghrist Iesu, yr hwn a osododd Duw yn gymod drwy ffydd, yn ei waed ef, i arddangos ei gyfiawnder: oherwydd myned heibio yn hirymaros Duw i’r pechodau a gyflawnwyd gynt, fel yr arddangosai ei gyfiawnder y pryd hwn, ei fod ef yn gyfiawn ac yn gyfiawnhawr y neb sydd ganddo ffydd yn Iesu. Pa le, gan hynny, yr ymffrost? Wedi ei gau allan. Trwy ba fath ddeddf? Gweithredoedd? Nage, eithr trwy ddeddf ffydd. Canys cyfrifwn y cyfiawnheir dyn trwy ffydd, ar wahân i weithredoedd deddf. Ai Duw i Iddewon yn unig ydyw? Onid i genhedloedd hefyd? Ie, i genhedloedd hefyd, os yn wir un Duw sydd, yr hwn a gyfiawnha’r enwaediad drwy ffydd, a’r dienwaediad drwy’r un ffydd. A ydym felly yn dirymu deddf trwy ffydd? Na ato! Yn hytrach cadarnhau deddf yr ydym. Beth, gan hynny, a ddywedwn i Abraham, ein cyndad yn ôl y cnawd, ei ennill? Oblegid os o weithredoedd y cyfiawnhawyd Abraham, y mae iddo ymffrost, ond nid gerbron Duw. Oherwydd beth a ddywed yr Ysgrythur? Credodd Abraham i Dduw, ac fe’i cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder. Ond i’r neb a weithia ni chyfrifir ei gyflog yn ffafr eithr yn ddyled; ond i’r neb ni weithreda, eithr a gred yn yr hwn sy’n cyfiawnhau’r annuwiol, cyfrifir ei ffydd ef yn gyfiawnder, megis y dywed Dafydd hefyd am wynfyd y dyn y cyfrif Duw iddo gyfiawnder ar wahân i weithredoedd: Gwyn eu byd y rhai y maddeuwyd iddynt eu troseddau, ac y cuddiwyd eu pechodau. Gwyn ei fyd y gŵr ni chyfrif yr Arglwydd byth bechod iddo. Y gwynfyd hwn, yn awr, ai i’r enwaediad y mae ai i’r dienwaediad hefyd? Oherwydd dywedyd yr ydym: Cyfrifwyd i Abraham ffydd yn gyfiawnder. Pa fodd, ynteu, y cyfrifwyd? Ai iddo yn enwaededig neu yn ddienwaededig? Nid enwaededig, ond dienwaededig; a derbyniodd arwydd enwaediad, sêl cyfiawnder y ffydd a oedd ganddo yn ddienwaededig, fel y byddai ef dad pawb a gred o’r dienwaediad, fel y cyfrifid iddynt gyfiawnder, a thad yr enwaediad, i’r rhai sydd nid yn unig o’r enwaediad, ond sydd hefyd yn cerdded llwybrau ffydd ein tad Abraham, ac yntau’n ddienwaededig. Canys nid drwy ddeddf y bu’r addewid i Abraham nac i’w had, ei fod ef yn etifedd byd, ond drwy gyfiawnder ffydd. Canys os y rhai sydd o ddeddf sydd etifeddion, gwnaed ffydd yn ddi-fudd a’r addewid yn ddi-rym, canys gweithreda’r ddeddf ddigofaint; ond lle nid oes deddf, nid oes trosedd. Oherwydd hyn y bu o ffydd, fel y byddai yn ôl gras, er mwyn i’r addewid fod yn sicr i’r holl had, nid i’r rhai sydd o’r ddeddf yn unig, ond hefyd i’r neb sydd o ffydd Abraham — yr hwn yw ein tad ni oll (fel yr ysgrifennwyd: Yn dad cenhedloedd lawer y gosodais di) — gerbron Duw, yr hwn y credodd iddo, y Duw a fywha’r meirw, ac a eilw ar bethau nad ydynt fel pe byddent; hwn, ar bwys gobaith a gredodd yn erbyn gobaith, fel y delai yn dad cenhedloedd lawer, yn ôl a ddywedwyd: Felly y bydd dy had di; a heb wanhau yn ei ffydd gwybu farweiddio ei gorff ei hun, gan ei fod ynghylch can mlwydd oed, a marw bru Sara, eto yn wyneb addewid Duw ni phetrusodd trwy anghrediniaeth, ond ymgryfhaodd trwy ei ffydd, a rhoddodd ogoniant i Dduw, yn llawn sicrwydd ei fod yn abl i gyflawni hefyd yr hyn a addawodd. Ac oherwydd hyn fe’i cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder. Eithr nid ysgrifennwyd cyfrifwyd iddo, ac ef yn unig mewn golwg, ond a ninnau hefyd y rhai y byddir yn cyfrif iddynt, sy’n credu ynddo ef a gododd Iesu ein Harglwydd oddi wrth y meirw, yr hwn a draddodwyd oherwydd ein camweddau ni, ac a gyfodwyd i’n cyfiawnhau ni. Am hynny, a nyni wedi ein cyfiawnhau o ffydd, bydded gennym heddwch tuag at Dduw trwy ein Harglwydd Iesu Grist, yr hwn y cawsom drwyddo ein mynediad hefyd mewn ffydd i’r gras hwn y safwn ynddo, ac ymffrostiwn mewn gobaith am ogoniant Duw. Ac nid hynny’n unig, eithr ymffrostiwn hefyd yn ein gorthrymderau, gan wybod bod gorthrymder yn cynhyrchu amynedd, ac amynedd brofiad, a phrofiad obaith; a’r gobaith hwn ni sioma, oherwydd tywallt cariad Duw yn ein calonnau, trwy’r Ysbryd Glân a roddwyd i ni. Canys Crist, a ni eto yn weiniaid, mewn pryd a fu farw dros annuwiolion. Canys prin y bydd neb farw dros un cyfiawn; dros ddyn da efallai y beiddiai un hyd yn oed farw; ond fe brawf Duw ei gariad ei hun tuag atom, gan i Grist, a ni eto yn bechaduriaid, farw trosom. Mwy o lawer, ynteu, a ni yn awr wedi ein cyfiawnhau trwy ei waed, yr achubir ni trwyddo ef rhag y digofaint. Canys os cymodwyd ni, a ni yn elynion, â Duw trwy farwolaeth ei Fab ef, mwy o lawer, wedi ein cymodi, yr achubir ni trwy ei fywyd ef; ac nid hynny’n unig, ond yr ydym hefyd yn ymffrostio yn Nuw trwy ein Harglwydd Iesu Grist, y cawsom yn awr y cymod drwyddo. Am hynny, megis trwy un dyn y daeth pechod i mewn i’r byd a thrwy bechod farwolaeth, felly hefyd aeth marwolaeth rhagddi ar bob dyn, oherwydd i bawb bechu; canys yr oedd pechod yn y byd cyn deddf, ond ni chyfrifir pechod heb fod deddf. Er hynny, teyrnasodd marwolaeth o Adda hyd Moses, hyd yn oed ar y sawl na phechasant yn nhebygrwydd trosedd Adda, yr hwn sydd batrwm yr un a oedd i ddyfod. Eithr nid fel y camwedd, felly hefyd y dawn; canys os trwy gamwedd yr un y bu farw’r lliaws, mwy o lawer yr ymhelaethodd i’r lliaws ras Duw, a’r rhodd drwy ras yr un dyn Iesu Grist. Ac nid megis trwy bechu o un y mae y rhodd; canys daeth y farn oddi wrth un i gondemniad, ond y dawn oddi wrth gamweddau lawer i gyfiawnhad. Canys os trwy gamwedd yr un y teyrnasodd marwolaeth trwy yr un, mwy o lawer y bydd i’r rhai a dderbyn helaethrwydd o ras ac o rodd cyfiawnder deyrnasu mewn bywyd trwy yr un, Iesu Grist. Am hynny, ynteu, megis trwy un camwedd y daeth y farn i bob dyn i gondemniad, felly hefyd trwy un weithred gyfiawn y daeth y dawn i bob dyn i gyfiawnhad bywyd. Canys, megis trwy anufudd-dod un dyn y gwnaed y lliaws yn bechaduriaid, felly hefyd trwy ufudd-dod un y gwneir y lliaws yn gyfiawn. Ond daeth deddf i mewn fel y cynyddai y camwedd, eithr lle cynyddodd pechod, tra-ymhelaethodd gras, fel, megis y teyrnasodd pechod mewn marwolaeth, felly hefyd y teyrnasai gras trwy gyfiawnder i fywyd tragwyddol; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Beth ynteu a ddywedwn? A ydym i lynu wrth bechod fel y cynyddo gras? Na ato! A ni wedi marw i bechod, pa fodd mwyach y byddwn byw ynddo? Ai heb wybod yr ydych am gynifer ohonom ag a fedyddiwyd i Grist Iesu, mai i’w farwolaeth y bedyddiwyd ni? Claddwyd ni gydag ef felly trwy fedydd i farwolaeth, fel, megis y cyfodwyd Crist oddi wrth y meirw trwy ogoniant y Tad, felly y rhodiom ninnau mewn newydd-deb bywyd. Canys os tyfasom yn un â chyffelybrwydd ei farwolaeth, byddwn felly hefyd â chyffelybrwydd ei atgyfodiad, gan ddeall hyn, ddarfod cyd-groeshoelio ein hen ddyn ni, fel y dirymer ein corff pechadurus, fel na byddom gaeth i bechod mwyach. Oblegid y mae’r marw yn rhydd oddi wrth bechod. Ac os buom farw gyda Christ, yr ydym yn credu y byddwn byw hefyd gydag ef, am y gwyddom nad yw Crist, ac yntau wedi ei gyfodi oddi wrth y meirw, yn marw mwy; nid yw marwolaeth yn feistr arno mwy. Canys am ei farw, i bechod y bu farw unwaith, ond am ei fyw, byw y mae i Dduw. Yr un modd, chwithau, cyfrifwch eich hunain yn farw i bechod, ond yn fyw i Dduw yng Nghrist Iesu. Gan hynny, na theyrnased pechod yn eich corff marwol, i ufuddhau i’w chwantau, ac na chyflwynwch eich aelodau yn arfau anghyfiawnder i bechod, ond cyflwynwch eich hunain i Dduw, megis o farw yn fyw, a’ch aelodau yn arfau cyfiawnder i Dduw; canys ni bydd pechod yn feistr arnoch chwi, oblegid nid ydych dan ddeddf ond dan ras. Beth gan hynny? A ydym i bechu, oblegid nad ydym dan ddeddf ond dan ras? Na ato! Oni wyddoch am bwy bynnag y cyflwynwch chwi eich hunain iddo yn gaethion i ufudd-dod, eich bod yn gaethion i’r neb yr ufuddhewch iddo, naill ai pechod i farwolaeth, neu ufudd-dod i gyfiawnder? Ond diolch i Dduw! caethion pechod oeddech, ond ufuddhasoch o galon i batrwm dysgeidiaeth y traddodwyd chwi iddo, ac wedi eich rhyddhau oddi wrth bechod caethiwyd chwi i gyfiawnder. Ar wedd ddynol y llefaraf, oherwydd gwendid eich cnawd. Megis y cyflwynasoch eich aelodau yn gaethion i aflendid ac anghyfraith er anghyfraith, felly yn awr cyflwynwch eich aelodau yn gaethion i gyfiawnder er sancteiddrwydd. Canys pan oeddech gaethion pechod, rhydd oeddech o ran cyfiawnder. Pa ffrwyth, ynteu, oedd i chwi y pryd hwnnw? Pethau y cywilyddiwch yn awr o’u plegid, oblegid diwedd y rheini yw marwolaeth. Ond yn awr, wedi eich rhyddhau oddi wrth bechod a’ch caethiwo i Dduw, y mae i chwi eich ffrwyth yn sancteiddrwydd, a’r diwedd yn fywyd tragwyddol. Canys cyflog pechod, marwolaeth yw, ond dawn Duw, bywyd tragwyddol yw, yng Nghrist Iesu ein Harglwydd. Ai heb wybod yr ydych, frodyr, canys wrth rai a ŵyr am ddeddf y llefaraf, mai cyhyd ag y bo byw dyn yr arglwyddiaetha’r ddeddf arno? Rhwym trwy ddeddf i’w gŵr yw’r wraig briod, ac ef yn fyw; ond os bydd marw’r gŵr, y mae’n gwbl rydd oddi wrth ddeddf y gŵr. Am hynny, ynteu, a’r gŵr yn fyw, fe gaiff yr enw godinebwraig os â yn eiddo gŵr arall. Eithr os bydd marw’r gŵr, rhydd ydyw oddi wrth y ddeddf, fel nad godinebwraig mohoni, ei dyfod yn eiddo gŵr arall. Felly, fy mrodyr, gwnaed chwithau yn farw i’r ddeddf trwy gorff Crist, fel y delech yn eiddo arall, sef yr hwn a gyfodwyd oddi wrth y meirw, fel y dygem ffrwyth i Dduw. Canys pan oeddem yn y cnawd, nwydau pechodau, y rhai sydd trwy’r ddeddf, a ymegnïai yn ein haelodau ni, i ddwyn ffrwyth i farwolaeth; ond yn awr yr ydym yn gwbl rydd oddi wrth y ddeddf, wedi marw ohonom i’r peth yr oeddem yn ei afael, fel yr ydym yn gaethion ym myd newydd ysbryd, ac nid yn hen fyd llythyren. Beth gan hynny a ddywedwn? Ai pechod yw’r ddeddf? Na ato! Er hynny, nid adwaenwn i bechod ond trwy ddeddf; ni wyddwn i am chwant, oni bai ddywedyd o’r ddeddf na thrachwanta. Eithr pechod, wedi cael cyfle, a weithiodd ynof drwy’r gorchymyn bob chwant, canys ar wahân i ddeddf y mae pechod yn farw. A myfi, byw oeddwn gynt ar wahân i ddeddf, ond wedi dyfod y gorchymyn, daeth pechod yn fyw, eithr bûm i farw, a’r gorchymyn a oedd i fywyd, caed hwn i mi i farwolaeth; canys pechod, wedi cael cyfle, trwy’r gorchymyn a’m twyllodd, a thrwyddo a’m lladdodd. Felly y mae’r ddeddf yn sanctaidd, a’r gorchymyn yn sanctaidd a chyfiawn a da. Gan hynny, a ddaeth yr hyn sy dda i mi yn farwolaeth? Na ato! Yn hytrach, pechod a fu felly, fel yr amlygid ef yn bechod, gan weithio marwolaeth i mi drwy’r hyn sy dda, fel y byddai pechod trwy’r gorchymyn yn bechadurus i’r eithaf. Canys gwyddom fod y ddeddf yn ysbrydol, ond myfi, cnawdol ydwyf, wedi fy ngwerthu dan bechod. Y peth a gyflawnaf, nid adwaen; canys nid a ewyllysiaf a wnaf, ond a gasâf, hynny a wnaf. Ond os y peth nad ewyllysiaf a wnaf, cydsyniaf â’r ddeddf ei bod yn dda. Felly yn awr, nid myfi mwyach sy’n ei gyflawni, ond pechod, yr hwn sy’n cartrefu ynof fi. Canys gwn na chartrefa ynof fi, hynny yw, yn fy nghnawd i, ddim da. Canys ewyllysio sydd barod gennyf, ond cyflawni’r da, nid yw. Oherwydd y peth da a ewyllysiaf ni wnaf, ond y peth drwg nad ewyllysiaf a wnaf. Ond os y peth nad ewyllysiaf a wnaf, nid myfi mwyach a’i cyflawna, ond pechod, yr hwn sy’n cartrefu ynof fi. Caf felly yn ddeddf, a mi yn ewyllysio gwneuthur y peth sy dda, mai’r peth sy ddrwg sydd barod gennyf; canys cyd-ymhyfrydaf â deddf Duw yn ôl y dyn oddi mewn, ond gwelaf ddeddf wahanol yn fy aelodau, yn milwrio yn erbyn deddf fy meddwl, ac yn fy nghaethiwo dan ddeddf pechod y sydd yn fy aelodau. Druan ddyn fyfi! pwy a’m gwared oddi wrth y corff marw hwn? Diolch i Dduw trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Am hynny, ynteu, yr wyf fi fy hun, o ran y meddwl, yn gaeth i ddeddf Duw, ond o ran y cnawd, i ddeddf pechod. Nid oes gan hynny yn awr ddim condemniad i’r rhai sydd yng Nghrist Iesu. Canys rhyddhaodd deddf ysbryd y bywyd dydi, yng Nghrist Iesu, oddi wrth ddeddf pechod a marwolaeth. Canys, a’r ddeddf yn ddiallu yn yr hyn yr oedd yn wan trwy’r cnawd, trwy ddanfon ei Fab ei hun yn nhebygrwydd cnawd pechadurus, ac oherwydd pechod, condemniodd Duw bechod yn y cnawd, fel y cyflawnid ordeiniad y ddeddf ynom ni, sy’n rhodio nid yn ôl y cnawd, ond yn ôl yr Ysbryd. Canys y rhai sydd yn ôl y cnawd, ar bethau’r cnawd y mae eu bryd, ond y rhai sydd yn ôl yr Ysbryd, ar bethau’r Ysbryd. Canys rhoi bryd ar y cnawd sydd farwolaeth, ond rhoi bryd ar yr Ysbryd sydd fywyd a thangnefedd. Oblegid rhoi bryd ar y cnawd sydd elyniaeth tuag at Dduw, canys nid ymostwng i ddeddf Duw, ac yn wir ni all. Ac ni all y rhai sydd yn y cnawd ryngu bodd Duw. Ond chwi, nid yn y cnawd yr ydych, ond yn yr ysbryd, os cartrefa Ysbryd Duw ynoch. Ac os oes neb heb Ysbryd Crist ganddo, nid yw hwnnw yn eiddo ef. Ac os yw Crist ynoch, y mae’r corff yn farw oherwydd pechod, ond yr ysbryd yn fywyd oherwydd cyfiawnder. Ac os ysbryd yr hwn a gyfododd yr Iesu oddi wrth y meirw sy’n cartrefu ynoch, yr hwn a gyfododd Grist Iesu oddi wrth y meirw a fywha hefyd eich cyrff marwol chwi, trwy ei Ysbryd a gartrefa ynoch. Am hynny, ynteu, frodyr, dyledwyr ydym, nid i’r cnawd, i fyw yn ôl y cnawd. Canys os ydych yn byw yn ôl y cnawd, marw fydd eich rhan, eithr os ydych trwy’r Ysbryd yn marwhau gweithredoedd y corff, byw fyddwch. Canys cynifer ag a arweinir gan Ysbryd Duw, y mae’r rheini yn feibion Duw. Canys ni dderbyniasoch ysbryd caethiwed i ofni eilwaith, eithr derbyniasoch ysbryd mabwysiad, y llefwn trwyddo Abba Dad. Cyd-dystia’r Ysbryd ei hun â’n hysbryd ni ein bod yn blant Duw. Ac os plant, etifeddion hefyd; etifeddion Duw, a chyd-etifeddion Crist, os yn wir y cyd-ddioddefwn gydag ef, fel y cydogonedder ni hefyd. Oblegid yr wyf yn cyfrif mai dibwys yw dioddefiadau’r pryd hwn wrth y gogoniant sydd ar fedr ei ddatguddio i ni. Oherwydd y mae hiraeth y greadigaeth yn disgwyl am ddatguddiad meibion Duw. Canys darostyngwyd y greadigaeth i oferedd, nid o’i dewis, eithr o’i blegid ef a’i darostyngodd, mewn gobaith y rhyddheir y greadigaeth hithau o gaethiwed llygredigaeth i ryddid gogoniant plant Duw. Canys gwyddom fod yr holl greadigaeth yn ocheneidio drwyddi ac mewn gwewyr hyd yr awron; ac nid hynny’n unig, ond ninnau, a chennym flaenffrwyth yr Ysbryd, ie, ninnau hefyd a ocheneidiwn ynom ein hunain, gan ddisgwyl am fabwysiad, prynedigaeth ein corff. Canys â’r gobaith hwn yr achubwyd ni; ond pan fo gobaith yn weledig, nid gobaith mohono; canys a wêl dyn, paham y gobeithia amdano? Ond os am y peth na welwn y gobeithiwn, yr ydym yn disgwyl mewn amynedd amdano. Yr un ffunud hefyd, rhydd yr Ysbryd gymorth i’n gwendid ni, canys pa beth i weddïo fel y dylid, ni wyddom, eithr erfyn yr Ysbryd ei hun drosom ag ocheneidiau anhraethadwy. Gŵyr y Chwiliwr calonnau ar beth y mae bryd yr Ysbryd, gan mai yn ôl ewyllys Duw yr erfyn ar ran y saint. A gwyddom ei fod ef yn cydweithio er daioni ym mhob peth â’r sawl a gâr Dduw, y rhai sydd alwedigion yn ôl arfaeth. Oblegid y rhai a ragadnabu a ragbenododd ef hefyd i’w cydffurfio â delw ei Fab, fel y byddai ef yn gyntafanedig ymhlith brodyr lawer; a’r rhai a ragbenododd, y rheini a alwodd ef hefyd; a’r rhai a alwodd, y rheini a gyfiawnhaodd ef hefyd; a’r rhai a gyfiawnhaodd, y rheini a ogoneddodd ef hefyd. Pa beth, ynteu, a ddywedwn ar bwys y pethau hyn? Os yw Duw o’n tu, pwy sydd yn ein herbyn? Y Duw nid arbedodd ei briod Fab ond a’i traddododd ef drosom ni oll, pa fodd gydag ef hefyd na rad ddyry ef bob peth i ni? Pwy a ddwg gyhuddiad yn erbyn etholedigion Duw? Duw yw’r hwn sy’n cyfiawnhau; pwy sy’n condemnio? Crist Iesu yw’r hwn a fu farw, neu’n hytrach a gyfodwyd, y sydd ar ddeheulaw Duw, y sydd hefyd yn erfyn drosom. Pwy a’n gwahana ni oddi wrth gariad Crist? Ai gorthrymder, neu ing, neu erlid, neu newyn, neu noethni, neu berygl, neu gleddyf? Fel yr ysgrifennwyd: Er dy fwyn di lleddir ni trwy gydol y dydd. Cyfrifwyd ni fel defaid lladdfa. Eithr yn y pethau hyn i gyd mwy na choncwerwyr ydym trwyddo ef a’n carodd ni. Canys sicr ydwyf na bydd marwolaeth na bywyd, nac angylion na llywodraethau, na phethau sydd na phethau a ddaw, na phŵerau nac uchder na dyfnder, nac unrhyw greadigaeth arall, yn abl i’n gwahanu ni oddi wrth gariad Duw, y sydd yng Nghrist Iesu ein Harglwydd. Gwir a ddywedaf yng Nghrist, nid dywedyd celwydd yr wyf, a’m cydwybod yn cyd-dystio â mi yn yr Ysbryd Glân, fod i mi ofid mawr a loes dibaid i’m calon. Mynnwn fy mod i fy hun yn anathema, wedi fy ngwahanu oddi wrth y Crist, er mwyn fy mrodyr, fy ngheraint yn ôl y cnawd, y rhai sy’n Israeliaid: eiddynt hwy y mabwysiad, a’r gogoniant, a’r cyfamodau, a rhoddi’r ddeddf, a’r addoliad, a’r addewidion; eiddynt hwy y tadau, ac ohonynt hwy y Crist o ran y cnawd, yr hwn sydd uwchlaw pawb, yn Dduw bendigedig yn oes oesoedd. Amen. Nid yn unig nid di-rym gair Duw (canys nid Israel bawb sydd o Israel, ac nid plant chwaith bawb oblegid eu bod yn had Abraham), yn hytrach, yn Isaac y gelwir i ti had. Hynny yw, nid plant y cnawd sydd blant Duw, ond plant yr addewid a gyfrifir yn had. Canys gair addewid yw hwn: Ynghylch y pryd hwn y deuaf, a bydd i Sara fab. Ac nid hynny’n unig, ond Rebecca hefyd, wedi iddi feichiogi o’r un hwnnw, Isaac ein tad ni — canys a hwy eto heb eu geni, a heb wneuthur dim da na drwg, fel y safai bwriad Duw mewn etholedigaeth, nid o weithredoedd, eithr ohono ef sy’n galw — dywedwyd wrthi: Yr hynaf a wasanaetha’r ieuangaf; fel yr ysgrifennwyd: Jacob a gerais, ond Esau a gaseais. Pa beth gan hynny a ddywedwn? A oes anghyfiawnder gyda Duw? Na ato! Canys dywed wrth Moses: Trugarhaf wrth bwy bynnag y trugarhawyf, a thosturiaf wrth bwy bynnag y tosturiwyf. Felly, nid bod ewyllysio, na bod rhedeg, ond bod Duw yn trugarhau. Canys dywed yr ysgrythur wrth Pharao: I’r union beth hwn y cyfodais di, fel yr arddangoswn ynot fy ngallu, a chyhoeddi fy enw trwy’r holl ddaear. Am hynny wrth y neb a fynno y trugarha, a’r neb a fynno a galeda. Dywedi wrthyf, felly, “Paham y beia mwy? Oherwydd pwy a saif yn erbyn ei bwrpas ef?” Yn hytrach, ddyn, pwy wyt ti sy’n rhoi ateb yn ôl i Dduw? A ddywed y peth a luniwyd wrth ei luniwr, “Paham y gwnaethost fi fel hyn?” Onid oes i’r crochenydd awdurdod ar y clai, i wneuthur o’r un telpyn, un yn llestr i barch, a’r llall i amarch? Ond os Duw, yn ewyllysio arddangos ei ddigofaint ac amlygu ei allu, a oddefodd mewn hirymaros mawr lestri digofaint, wedi eu cymhwyso i ddinistr, oni bu hefyd fel yr amlygai olud ei ogoniant tuag at lestri trugaredd, a ragbaratôdd i ogoniant, sef nyni, a alwodd ef hefyd, nid yn unig o blith Iddewon, eithr o blith cenhedloedd yn ogystal? Megis y dywed hefyd yn Hosea: Galwaf y rhai nad ydynt bobl i mi fy mhobl, a honno nad anwylwyd yn annwyl; ac yn y lle y dywedwyd wrthynt, “nid fy mhobl ydych chwi,” yno y gelwir hwy yn feibion Duw byw. A llefa Eseias am Israel: Pe bai rhif meibion Israel fel tywod y môr, y gweddill a achubir; canys cyflawna’r Arglwydd ei air ar y ddaear, yn llwyr a therfynol. Ac, fel y dywedodd Eseias o’r blaen: Pe ni adawsai Arglwydd y Sabaoth i ni had, fel Sodom y buasem, ac fel Gomorra y gwnaethid ni. Pa beth, gan hynny, a ddywedwn? Darfod i genhedloedd na ddilynent gyfiawnder gael gafael ar gyfiawnder, a hwnnw’n gyfiawnder trwy ffydd; ond Israel, er dilyn deddf cyfiawnder, ni chyrhaeddodd mo’r ddeddf. Paham? Oherwydd iddi ddilyn, nid drwy ffydd, ond megis trwy weithredoedd. Tramgwyddasant wrth y maen tramgwydd, fel yr ysgrifennwyd: Wele, gosodaf yn Seion faen tramgwydd a chraig rhwystr, a’r neb a gred ynddo, nis siomir. Frodyr, dymuniad fy nghalon a’m deisyfiad ar Dduw drostynt sydd am eu hiachawdwriaeth. Canys tystiaf iddynt fod ganddynt sêl dros Dduw, eithr nid yn ôl adnabyddiaeth ohono. Oblegid, heb wybod cyfiawnder Duw, a cheisio sefydlu yr eiddynt eu hunain, nid ymostyngasant i gyfiawnder Duw. Canys Crist yw diwedd deddf, er cyfiawnder i bawb a gred. Canys ysgrifenna Moses am y cyfiawnder sydd o’r ddeddf, mai’r dyn a’i gwna a fydd byw trwyddo. Ond y cyfiawnder sydd o ffydd, fel hyn y dywed: Na ddywed yn dy galon, Pwy a esgyn i’r nefoedd? Hynny yw, i ddwyn Crist i waered; neu, Pwy a ddisgyn i’r dyfnder? Hynny yw, i ddwyn Crist i fyny oddi wrth y meirw. Eithr beth a ddywed? Agos atat yw’r gair, yn dy enau ac yn dy galon; hynny yw, y gair am ffydd a gyhoeddwn ni. Canys os cyffesi â’th enau Iesu yn Arglwydd, a chredu â’th galon i Dduw ei gyfodi ef oddi wrth y meirw, achubir di. Oherwydd â’r galon y credir er cyfiawnder, ac â’r genau y cyffesir er iachawdwriaeth. Canys dywed yr ysgrythur: Pob un a gred ynddo, nis siomir. Nid oes gwahaniaeth rhwng Iddew a Groegwr, oblegid yr un Arglwydd sydd i bawb, yn gyfoethog tuag at bawb a eilw arno, oblegid pob un a alwo ar enw’r Arglwydd a achubir. Pa fodd gan hynny y galwant ar un na chredasant ynddo? A pha fodd y credant mewn un nas clywsant? A pha fodd y clywant heb neb yn cyhoeddi? A pha fodd y cyhoeddant onis danfonir? Fel yr ysgrifennwyd: Brydferthed traed efengylwyr pethau da. Eithr nid ufuddhaodd pawb i’r efengyl. Canys dywed Eseias: Arglwydd, pwy a gredodd yr hyn a glywsant gennym? Felly ffydd, o glywed y daw, a’r clywed trwy air Crist. Ond efallai, meddaf, na chlywsant? Yn wir, do, i’r holl ddaear yr aeth eu sŵn allan, ac i derfynau’r byd eu geiriau. Ond efallai, meddaf, na wybu Israel? Yn gyntaf dywed Moses: Paraf i chwi eiddigeddu wrth un nad yw genedl, wrth genedl ddiddeall y paraf i chwi ddigio. Ac Eseias yn hy iawn a ddywed: Cafwyd fi ganddynt hwy na’m ceisient, gwnaed fi yn amlwg iddynt hwy nad ymofynnent â mi. Ond am Israel dywed: Trwy gydol y dydd estynnais allan fy nwylo at bobl anufudd a chroes. Dywedaf gan hynny, a wrthododd Duw ei bobl? Na ato! Canys Israeliad wyf finnau, o had Abraham, o lwyth Beniamin. Ni wrthododd Duw ei bobl a ragadnabu. Oni wyddoch beth a ddywed yr ysgrythur yn “Elïas,” pa fodd yr achwyn ef wrth Dduw ar Israel: Arglwydd, lladdasant dy broffwydi, dymchwelasant dy allorau, a myfi yn unig a adawyd, a cheisiant fy mywyd innau. Eithr beth a ddywed yr ateb dwyfol iddo? Gadewais i mi fy hun saith mil o wŷr na phlygasant lin i Baal. Yr un modd y pryd hwn hefyd ceir gweddill trwy etholedigaeth gras. Ond os trwy ras, nid o weithredoedd y mae mwyach; onid e, nid yw gras mwyach yn ras. Beth gan hynny? Ni chafodd Israel y peth a gais, ond cafodd yr etholedigion ef, a chaledwyd y lleill, fel yr ysgrifennwyd: Rhoes Duw iddynt ysbryd trymgwsg, llygaid fel na welant, a chlustiau fel na chlywant, hyd y dydd hwn. A dywed Dafydd: Bydded eu bord yn rhwyd ac yn fagl, yn dramgwydd ac yn dâl iddynt. Tywyller eu llygaid fel na welont, a chryma eu cefn yn wastad. Dywedaf gan hynny, “A dramgwyddasant hyd at gwympo”? Na ato! Yn hytrach, trwy eu camwedd hwy y mae iachawdwriaeth i’r cenhedloedd, fel y perir iddynt eiddigeddu. Ac os yw eu camwedd hwy yn olud byd, a’u colled yn olud cenhedloedd, pa faint mwy eu cyfiawnder? A chwi sydd genhedloedd y siaradaf. Yn gymaint â’m bod i yn wir yn apostol cenhedloedd, mawrygaf fy ngweinidogaeth, os paraf rywfodd i’m cnawd fy hun eiddigeddu, ac achub rhai ohonynt. Canys os bu eu gwrthod hwynt yn gymod byd, beth fydd eu derbyn onid bywyd oddi wrth y meirw? Ac os sanctaidd y blaenffrwyth, yna’r cyfan; ac os sanctaidd y gwreiddyn, yna’r canghennau. Ac os torrwyd ymaith rai o’r canghennau, a’th impio di, olewydden wyllt, yn eu plith, a’th wneuthur yn gyfrannog o’r gwreiddyn, braster yr olewydden, nac ymffrostia yn erbyn y canghennau; ac os ymffrosti, nid tydi sy’n cynnal y gwreiddyn, ond y gwreiddyn dydi. Dywedi felly, “Torrwyd ymaith ganghennau fel yr impid fi i mewn.” Purion! O achos anghrediniaeth y torrwyd hwy ymaith, ac o achos ffydd y sefi dithau. Na fydd uchelfryd, eithr ofna. Canys os Duw nid arbedodd y canghennau naturiol, ni’th arbed dithau chwaith. Gwêl gan hynny diriondeb a llymder Duw: atynt hwy a gwympodd, llymder; ond atat ti, tiriondeb Duw, os glyni wrth ei diriondeb; onid e, torrir dithau ymaith. A hwythau hefyd, oni lynant wrth eu hanghrediniaeth, a impir i mewn; canys y mae Duw yn abl i’w himpio i mewn drachefn. Felly os torrwyd di ymaith o’r olewydden wyllt wrth naturiaeth, a’th impio yn erbyn naturiaeth mewn olewydden dda, pa faint mwy yr impir y canghennau naturiol hyn yn eu holewydden eu hunain? Canys ni fynnwn i chwi fod heb wybod, frodyr, y dirgelwch hwn (rhag i chwi fod yn gall yn eich tyb eich hunain), mai o ran y daeth caledwch ar Israel, hyd oni ddelo cyflawnder y cenhedloedd i mewn, ac felly achubir holl Israel, fel yr ysgrifennwyd: Daw allan o Seion Un a wared, try ymaith bob annuwioldeb oddi wrth Jacob. Ac yn hyn y daw fy nghyfamod â hwynt i ben, pan dynnwyf ymaith eu pechodau. O ran yr efengyl, gelynion ydynt er eich mwyn chwi, ond o ran yr etholedigaeth, anwyliaid er mwyn y tadau. Canys di-droi-yn-ôl yw doniau a galwad Duw. Canys, megis yr anufuddhasoch chwi gynt i Dduw, ond yn awr a gawsoch drugaredd drwy anufudd-dod y rhai hyn, yr un modd yn awr yr anufuddhaodd y rhai hyn hefyd, fel trwy ei drugaredd i chwi y caent hwythau yn awr drugaredd. Canys cyd-gaeodd Duw bawb mewn anufudd-dod fel y trugarhâi wrth bawb. O ddyfnder golud, doethineb, a gwybodaeth Duw! mor anchwiliadwy ei farnau ac anolrheinadwy ei ffyrdd! Pwy a adnabu feddwl yr Arglwydd? Neu, pwy a fu gynghorwr iddo? Neu, pwy a roes iddo yn gyntaf, ac y telir yn ôl iddo? Oblegid ohono, a thrwyddo, ac iddo, y mae popeth. Iddo ef y gogoniant yn oes oesoedd. Amen. Gan hynny, frodyr, erfyniaf arnoch trwy dosturiaethau Duw, gyflwyno eich cyrff yn aberth byw, sanctaidd, wrth fodd Duw, eich rhesymol addoliad chwi. Ac nac ymagweddwch yn ôl yr oes hon, eithr trawsffurfier chwi trwy adnewyddiad y meddwl, fel y profoch beth yw ewyllys Duw, y peth sy dda a boddhaol a chyflawn. Trwy’r gras a roddwyd i mi, dywedaf wrth bob un sydd yn eich plith, na osodo ei fryd ar ddim yn uwch nag y dylai, eithr rhoi ei fryd ar fod yn gymedrol, yn ôl y mesur o ffydd a rannodd Duw i bob un. Oblegid megis mewn un corff y mae gennym aelodau lawer, ac nad oes gan yr holl aelodau yr un gwaith, felly nyni, sy’n llawer, un corff ydym yng Nghrist, ac aelodau bob un o’n gilydd. A chennym ddoniau yn amrywio yn ôl y gras a roddwyd i ni, ai proffwydoliaeth, boed yn cyfateb i’n ffydd; ai gwasanaeth, ymrown i’r gwasanaeth; ai addysgwr, i addysgu; ai cynghorwr, i gynghori; a gyfranno, gwnaed yn unplyg; a lywyddo, yn frwdfrydig; a wnelo drugaredd, yn siriol. Boed eich cariad yn ddiragrith. Ffieiddiwch ddrygioni, glynwch wrth ddaioni. Mewn brawdgarwch byddwch dyner eich serch tuag at eich gilydd; mewn rhoi parch yn rhagori ar eich gilydd; mewn brwdfrydedd yn ddi-ildio; yn ferw eich ysbryd; yn gwasanaethu’r Arglwydd; yn llawenhau mewn gobaith; yn ymgynnal dan orthrymder; yn dyfalbarhau mewn gweddi; yn cyfrannu tuag at anghenion y saint; yn arfer lletygarwch. Bendithiwch y rhai a’ch erlidia, bendithiwch ac na felltithiwch. Llawenhewch gyda’r rhai a lawenhâ; wylwch gyda’r rhai a wyla. Byddwch yn unfryd â’ch gilydd, heb roi eich bryd ar uchel bethau, ond bod yn gynefin â phethau distadl. Na fyddwch gall yn eich golwg eich hunain. Na thelwch i neb ddrwg am ddrwg. Darperwch bethau anrhydeddus gerbron pob dyn. Os yn bosibl, o’ch rhan chwi, boed heddwch rhyngoch a phob dyn. Nac ymddielwch, anwyliaid; yn hytrach, rhowch gyfle i’w ddigofaint ef, canys ysgrifenedig yw: Myfi piau dialedd, myfi a dalaf yn ôl, medd yr Arglwydd. Eithr os newyna dy elyn portha ef; os sycheda, dioda ef; canys wrth wneuthur hyn ti bentyrri farwor tanllyd ar ei ben. Na’th goncrer di gan y drwg, eithr concra di y drwg trwy’r da. Ymostynged pob enaid i awdurdodau sy trosto. Canys nid oes awdurdod oddieithr gan Dduw, a’r rheini y sydd, gan Dduw y gosodwyd hwynt. Felly y mae’r neb a’i gesyd ei hun yn erbyn yr awdurdod yn gwrthwynebu gosodiad Duw, a derbynia’r gwrthwynebwyr ddedfryd arnynt eu hunain. Canys nid yw swyddogion yn achos ofn i’r weithred dda, ond i’r weithred ddrwg. Ond a ddymuni fod heb ofni’r awdurdod? Gwna’r peth sy dda, a chei glod ganddo; canys gweinidog Duw ydyw i ti er daioni. Ond os y peth sy ddrwg a wnei, ofna, oblegid ni wisg ef y cleddyf yn ofer; canys gweinidog Duw ydyw, yn dial er digofaint ar y drwgweithredwyr. Felly rhaid yw ymostwng, nid yn unig o achos y digofaint, eithr o achos cydwybod hefyd. O achos hyn yr ydych yn talu pob teyrnged hefyd; canys cyfrwng Duw ydyw yn dyfal weithredu i’r un peth hwn. Telwch i bawb eich dyledion, teyrnged i’r neb y mae arnoch deyrnged, treth i’r neb y mae arnoch dreth, ofn i’r neb y mae arnoch ofn, parch i’r neb y mae arnoch barch. Na foed arnoch ddim dyled i neb, oddieithr i garu eich gilydd; oblegid a garo arall a gyflawnodd y ddeddf. Canys y gorchmynion hyn: Na odineba, na ladd, na ladrata, na thrachwanta, ac os oes unrhyw orchymyn arall, fe’u crynhoir yn un yn y gair hwn: Câr dy gymydog fel ti dy hun. Ni phair cariad ddrwg i gymydog; gan hynny y mae cariad yn gyfiawnder deddf. A hyn hefyd, am eich bod yn gwybod yr amser, ei bod yn bryd i chwi ddeffroi o gwsg; canys yn awr y mae ein hiachawdwriaeth yn nes na phan gredasom. Aeth y nos rhagddi ymhell ac y mae’r dydd yn agos. Diosgwn gan hynny weithredoedd y tywyllwch, ac ymwisgwn ag arfau’r goleuni. Rhodiwn yn weddaidd megis yn y dydd, nid mewn cyfeddach a meddwdod, nid mewn godineb ac anlladrwydd, nid mewn cynnen a chenfigen. Yn hytrach ymwisgwch â’r Arglwydd Iesu Grist, ac na ragfeddyliwch am y cnawd, i foddio ei chwantau. Y gwan ei ffydd derbyniwch, nid i roi barn ar opiniynau. Un, sy ganddo ffydd i fwyta popeth; arall, y gwan, llysiau a fwyty. Y neb a fwyty, na ddiystyred y sawl ni fwyty, a’r neb na fwyty, na farned y sawl a fwyty, canys derbyniodd Duw ef. Pwy wyt ti i farnu gwas un arall? I’w arglwydd ei hun y saif neu y syrth; a pherir iddo sefyll, canys fe all yr Arglwydd beri iddo. Barn un ddiwrnod yn uwch na diwrnod, barn arall bob diwrnod yn gyfwerth; boed pob un yn gwbl sicr yn ei feddwl ei hun. Y neb a esyd ei fryd ar ddiwrnod, i’r Arglwydd y’i gesyd; a’r neb a fwyty, i’r Arglwydd y bwyty, canys y mae’n diolch i Dduw; a’r neb na fwyty, i’r Arglwydd ni fwyty, ac y mae yntau yn diolch i Dduw. Canys nid yw neb ohonom yn byw iddo’i hun, ac nid yw neb yn marw iddo’i hun. Canys os byw, i’r Arglwydd yr ydym yn byw, ac os marw, i’r Arglwydd yr ydym yn marw. Gan hynny, pa un ai byw ai marw, eiddo’r Arglwydd ydym. Canys i hyn y bu Crist farw a dyfod yn fyw, fel y byddai yn Arglwydd y meirw a’r byw. Eithr tydi, paham y berni dy frawd? Neu tithau, paham y dirmygi dy frawd? Bydd i bawb ohonom sefyll gerbron brawdle Duw. Canys ysgrifennwyd: Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd, i mi y plyg pob glin, ac i Dduw y dyry pob tafod fawl. Felly, ynteu, dyry pob un ohonom gyfrif amdano’i hun i Dduw. Gan hynny, na farnwn ein gilydd mwyach; yn hytrach bernwch fel hyn, na roddoch dramgwydd i frawd, neu rwystr. Gwn, ie, sicr ydwyf yn yr Arglwydd Iesu, nad oes dim yn aflan ohono’i hun; ond i’r neb a dybio bod peth yn aflan, i hwnnw y mae yn aflan. Canys os poenir dy frawd o achos bwyd, nid wyt mwyach yn rhodio yn ôl cariad. Na ddinistria â’th fwyd hwnnw y bu Crist farw drosto. Nac aed yn gabledd gan hynny y peth da sy gennych. Canys nid bwyta ac yfed yw teyrnas Dduw, ond cyfiawnder a heddwch a llawenydd yn yr Ysbryd Glân. Oblegid y neb sy gaethwas yn hyn i Grist sydd wrth fodd Duw a chymeradwy gan ddynion. Dilyn felly yr ydym y pethau sydd er heddwch a’r pethau sydd er adeiladaeth ein gilydd. Na ddymchwel waith Duw er mwyn bwyd. Glân yw popeth, eithr drwg yw i’r dyn a fwyty er gwaethaf tramgwydd. Da yw peidio â bwyta cig neu yfed gwin neu wneuthur dim y tramgwyddo dy frawd wrtho. Y ffydd sydd gennyt, bydded gennyt wrthyt dy hun gerbron Duw. Gwyn ei fyd y neb nis barno ei hun yn y peth a gymeradwya. Ond y neb a betrusa a gondemniwyd, os bwyty, am nas gwna oddi ar ffydd; a phopeth ni wneir oddi ar ffydd, pechod yw. A dylem ni, y rhai cryf, ddwyn gwendidau y rhai nad ydynt gryf, ac nid ein boddhau ein hunain. Boddhaed pob un ohonom ei gymydog er daioni, i’w adeiladaeth. Canys y Crist yntau nis boddhaodd ei hun; eithr fel yr ysgrifennwyd: Syrthiodd gwaradwyddiadau y sawl a’th waradwyddai di arnaf fi. Oblegid pa bethau bynnag a ysgrifennwyd gynt, fe’u hysgrifennwyd er ein haddysgu, fel trwy amynedd a thrwy ddiddanwch yr ysgrythurau y caffom y gobaith. A rhodded Duw’r amynedd a’r diddanwch i chwi fod yn unfryd ymhlith eich gilydd yn ôl Crist Iesu, fel yn gytûn ag un genau y gogoneddoch Dduw, Tad ein Harglwydd Iesu Grist. Am hynny derbyniwch eich gilydd megis y derbyniodd Crist ninnau i ogoniant Duw. Dywedyd yr wyf ddyfod Crist yn weinidog enwaediad er mwyn gwirionedd Duw, i gadarnhau addewidion y tadau, ac fel y gogoneddai’r cenhedloedd Dduw am ei drugaredd; fel yr ysgrifennwyd: Am hyn y clodforaf di ymhlith y cenhedloedd, ac i’th enw y canaf. A thrachefn dywed: Llawenhewch genhedloedd gyda’i bobl ef. A thrachefn: Molwch yr Arglwydd, yr holl genhedloedd, a chlodfored yr holl bobloedd ef. A thrachefn, dywed Eseias: Bydd gwreiddyn o Jese, a chyfyd hwn i lywodraethu’r cenhedloedd; ynddo ef y gobeithia’r cenhedloedd. Duw’r gobaith a’ch llanwo chwi â phob llawenydd a heddwch wrth gredu ohonoch, fel yr ymhelaethoch yn y gobaith trwy nerth yr Ysbryd Glân. Ond yr ydwyf yn sicr, fy mrodyr, ie, myfi fy hun amdanoch chwi, eich bod chwithau yn orlawn o ddaioni, wedi’ch llenwi â phob gwybodaeth, yn abl hefyd i gynghori eich gilydd. Eithr ysgrifennais yn fwy hy atoch i fesur, megis un yn eich atgoffa, oherwydd y gras a roddwyd i mi gan Dduw fel y byddwn wasanaethwr Crist Iesu i’r cenhedloedd, yn offeiriadu yn efengyl Duw, fel y byddai’r offrwm, y cenhedloedd, yn gymeradwy, wedi ei sancteiddio trwy’r Ysbryd Glân. Y mae i mi gan hynny ymffrost yng Nghrist Iesu yn y pethau a berthyn i Dduw. Canys ni feiddiaf sôn am ddim ond a gyflawnodd Crist trwof fi er ufudd-dod cenhedloedd, mewn gair a gweithred, trwy nerth arwyddion a rhyfeddodau, trwy nerth yr Ysbryd Glân; ac felly cyflawnais efengyl y Crist o Jerwsalem ac o amgylch hyd Ilyricwm, eto â’r uchelgais hwn gennyf, i gyhoeddi’r efengyl nid lle’r enwasid Crist, fel nad adeiladwn ar sail un arall, eithr fel yr ysgrifennwyd: Fe wêl y rheini na fynegwyd iddynt amdano, ac fe ddealla’r rheini na chlywsant. Oherwydd hyn y rhwystrwyd fi hefyd gynifer gwaith rhag dyfod atoch. Ond yn awr, gan nad oes gennyf gyfle mwyach yn y parthau hyn, a bod arnaf hiraeth am ddyfod atoch ers llawer blwyddyn, pan elwyf i’r Hispaen (canys gobeithiaf ar fy ffordd gael golwg arnoch a’m hebrwng gennych yno, os caf yn gyntaf fy niwallu â’ch cymdeithas dros dro); ond yn awr yr wyf yn mynd i Jerwsalem i weini i’r saint. Canys bu’n dda gan Facedonia ac Achaia drefnu cronfa i dlodion y saint yn Jerwsalem; bu’n dda ganddynt, meddaf, ac y maent yn eu dyled; canys os o’u pethau ysbrydol hwy y cyfranogodd y cenhedloedd, dylent hwy yn eu tro eu gwasanaethu hwythau mewn pethau cnawdol. Wedi cwblhau hyn, felly, a sicrhau iddynt y ffrwyth hwn, af ymaith i’r Hispaen, heibio i chwi; a gwn wrth ddyfod atoch y deuaf yng nghyflawnder bendith Crist. Ond erfyniaf arnoch, frodyr, trwy ein Harglwydd Iesu Grist, a thrwy gariad yr Ysbryd, ymdrechu gyda mi yn eich gweddïau trosof ar Dduw, fel y gwareder fi rhag yr anghredinwyr yn Jwdea, a bod fy ngweinidogaeth yn Jerwsalem yn gymeradwy gan y saint, fel, a mi yn dyfod atoch mewn llawenydd trwy ewyllys Duw, y caffwyf orffwys yn eich plith. A bydded Duw’r heddwch gyda chwi oll. Amen. Cyflwynaf i chwi Phebe, ein chwaer, y sydd weinidoges yr eglwys yn Cenchreai, fel y derbynioch hi yn yr Arglwydd yn deilwng o’r saint, a rhoi cymorth iddi ym mha achos bynnag y bo arni eich eisiau, oblegid bu hithau yn gymorth i lawer, ac i mi fy hun. Cyferchwch Prisca ac Acwila, fy nghydweithwyr yng Nghrist Iesu (y rhai er mwyn fy einioes i a beryglodd eu gwddf eu hunain, ac y diolchir iddynt, nid yn unig gennyf fi ond hefyd gan holl eglwysi’r cenhedloedd), a’r eglwys yn eu tŷ. Cyferchwch Epainetos, fy anwylyd, y sydd flaenffrwyth Asia i Grist. Cyferchwch Mair, a lafuriodd lawer er eich mwyn chwi. Cyferchwch Andronicos a Jwnia, fy ngheraint a’m cyd-garcharorion, y rhai sydd nodedig ymhlith yr apostolion, ac a oedd yn wir o’m blaen i yng Nghrist. Cyferchwch Ampliatos, fy anwylyd yn yr Arglwydd. Cyferchwch Wrbanos, ein cyd-weithiwr yng Nghrist, a Stachys fy anwylyd. Cyferchwch Apeles, y profedig yng Nghrist. Cyferchwch deulu Aristobwlos. Cyferchwch Herodion, fy nghâr. Cyferchwch y rheini o deulu Narcisos sydd yn yr Arglwydd. Cyferchwch Tryffaina a Thryffosa, a lafuria yn yr Arglwydd. Cyferchwch Persis, yr anwylyd, a lafuriodd lawer yn yr Arglwydd. Cyferchwch Rwffos, y dewisol yn yr Arglwydd, a’i fam ef a minnau. Cyferchwch Asyncritos, Phlegon, Hermes, Patrobas, Hermas, a’r brodyr sydd gyda hwynt. Cyferchwch Philologos, a Jwlia, Neriws a’i chwaer, ac Olympas, a’r holl saint sy gyda hwynt. Cyferchwch eich gilydd â chusan sanctaidd. Eich cyfarch chwi y mae holl eglwysi Crist. Erfyn yr wyf arnoch, frodyr, wylio’r sawl a bair yr ymraniadau a’r rhwystrau yn groes i’r ddysgeidiaeth a gawsoch, a throwch oddi wrthynt; canys caeth yw’r cyfryw, nid i’n Harglwydd Crist, ond i’w cylla eu hunain, a thrwy ymadrodd teg a gweniaith twyllant galonnau’r diddrwg. Canys cyrhaeddodd eich ufudd-dod hyd at bawb. O’ch plegid chwi gan hynny yr wyf yn llawenhau, ond mynnwn i chwi fod yn ddoeth yn y peth sy dda, a diniwed yn y peth sy ddrwg. Ac yn fuan mathra Duw’r heddwch Satan dan eich traed. Bydded gras ein Harglwydd Iesu Grist gyda chwi. Eich cyfarch y mae Timotheos, fy nghydweithiwr, a Luc, a Jason a Sosipater, fy ngheraint. Eich cyfarch yr wyf finnau, Tertios, sy’n ysgrifennu’r llythyr, yn yr Arglwydd. Eich cyfarch y mae Gaios, fy lletywr i a’r holl eglwys. Eich cyfarch y mae Erastos, goruchwyliwr y ddinas, a’r brawd Cwartos. Iddo ef sy’n alluog i’ch cadarnhau chwi yn ôl fy efengyl i a’r cyhoeddi am Iesu Grist, yn ôl datguddiad dirgelwch na bu sôn amdano trwy’r amseroedd tragwyddol, ond yn awr a amlygwyd ac a wnaed yn hysbys trwy ysgrythurau proffwydol, yn ôl gosodiad y tragwyddol Dduw, er ufudd-dod ffydd ymhlith yr holl genhedloedd: i’r unig, ddoeth Dduw, trwy Iesu Grist: iddo ef boed y gogoniant yn oes oesoedd. Amen. Pawl, a alwyd yn apostol Iesu Grist trwy ewyllys Duw, a’r brawd Sosthenes, at eglwys Dduw y sydd yng Nghorinth, a sancteiddiwyd yng Nghrist Iesu, a alwyd yn saint, gyd â phawb sydd yn galw ar enw ein Harglwydd Iesu Grist ym mhob man, yr eiddynt a’r eiddom. Gras i chwi a thangnefedd oddiwrth Dduw ein Tad a’r Arglwydd Iesu Grist. Byddaf yn diolch i Dduw bob amser o’ch plegid am y gras gan Dduw a roddwyd i chwi yng Nghrist Iesu, ddarfod eich cyfoethogi ymhob peth ynddo ef, ymhob ymadrodd a phob gwybod, megis y cadarnhawyd yn eich plith y dystiolaeth am y Crist, fel nad ydych chwi ar ôl am un dawn, gan ddisgwyl datguddiad ein Harglwydd Iesu Grist, yr hwn hefyd a’ch cadarnhâ hyd ddiwedd yn ddiargyhoedd, yn nydd ein Harglwydd Iesu. Ffyddlon yw Duw, y’ch galwyd trwyddo i gymdeithas ei fab ef Iesu Grist ein Harglwydd. Yr wyf yn deisyf arnoch, frodyr, trwy enw ein Harglwydd Iesu Grist, ddywedyd ohonoch yr un peth bawb, ac na bo ymraniadau yn eich plith chwi, ond bod ohonoch wedi eich cyfuno yn yr un meddwl ac yn yr un farn. Canys gwnaethpwyd yn eglur i mi amdanoch, fy mrodyr, gan deulu Chloe, fod ymrysonau yn eich mysg chwi. Dyma fy meddwl, — bod pob un ohonoch yn dywedyd: myfi eiddo Pawl wyf, myfi eiddo Apolos, myfi eiddo Cephas, a minnau eiddo Crist. A aeth Crist yn gyfran i blaid? Ai Pawl a groeshoeliwyd drosoch, neu ai yn enw Pawl y’ch bedyddiwyd? Yr wyf yn diolch na fedyddiais undyn ohonoch ond Crispos a Gaios, rhag dywedyd o neb mai yn fy enw i y’ch bedyddiwyd. Ond, do, mi fedyddiais deulu Stephanas hefyd; heblaw hynny ni wn a fedyddiais neb arall. Canys ni’m hanfonodd Crist i fedyddio ond i bregethu efengyl, a hynny nid mewn doethineb ymadrodd, rhag gwneuthur croes y Crist yn ddiddim. Canys y gair am y groes, i’r rhai sydd ar dranc, ffolineb yw, ond i ni, sydd gadwedig, gallu Duw ydyw. Canys ysgrifenedig yw, Dinistriaf ddoethineb y doethion, a deall y deallus a wrthodaf. Pa le y mae’r doeth? pa le y mae’r ysgrifennydd? pa le y mae’r ymchwiliwr i bethau’r bywyd hwn? oni pharodd Duw annoethi doethineb y byd? Canys yn noethineb Duw, oherwydd nad adnabu’r byd trwy ddoethineb mo Dduw, y rhyngodd bodd i Dduw trwy ffolineb pregethu gadw y rhai sydd yn credu. Oblegid fel y mae’r Iddewon yn gofyn am arwyddion, felly y mae’r Groegiaid hwythau yn chwilio am ddoethineb. Eithr amdanom ni, pregethu yr ydym Grist a groeshoeliwyd, i Iddewon yn dramgwydd, i genedl-ddynion yn ffolineb, ond i’r galwedigion eu hunain, yn Iddewon ac yn Roegiaid, Crist gallu Duw a doethineb Duw. Canys ffolineb Duw, doethach yw na dynion, a gwendid Duw, cadarnach yw na dynion. Ystyriwch eich galwad, frodyr, nad mynych ynddi ddoethion yn ôl y cnawd, nad mynych alluogion, nad mynych foneddigion. Ond ffôl bethau’r byd a ddetholodd Duw, fel y gwaradwyddai’r doethion, a gweinion bethau’r byd a ddetholodd Duw, fel y gwaradwyddai’r cedyrn bethau, a phethau iseldras y byd a’r pethau diystyredig a ddetholodd Duw, a’r pethau nid ydynt, fel y dirymai’r pethau sydd, fel nad ymffrostiai un cnawd yng ngŵydd Duw. Ond ohono ef yr ydych chwi yng Nghrist Iesu, a wnaethpwyd yn ddoethineb i ni oddiwrth Dduw, yn gyfiawnder a sancteiddhad ac yn brynedigaeth, megis y mae yn ysgrifenedig, a ymffrostio, ymffrostied yn yr Arglwydd. A minnau wrth ddyfod atoch, frodyr, nid ym mraint rhagoriaeth ymadrodd neu ddoethineb y deuthum, gan gyhoeddi i chwi’r dystiolaeth am Dduw. Canys ni honnais wybod dim yn eich plith ond Iesu Grist a hwnnw yn groeshoeliedig. A myfi, mewn gwendid ac mewn ofn ac mewn cryndod mawr y deuthum hyd atoch; a dull fy ymadrodd i a’m pregeth i, ni bu â dengar eiriau doethineb, eithr ag amlygiad ysbryd a gallu, fel na orffwysai eich ffydd chwi ar ddoethineb dynion ond ar allu Duw. Doethineb, yn wir, yr ydym yn ei llefaru ym mysg y rhai perffaith, ond doethineb nid eiddo’r byd hwn, nac ychwaith eiddo penaethiaid y byd hwn, y rhai y mae eu grym yn darfod. Eithr llefaru yr ydym ddoethineb Duw mewn cyfrinach, y ddoethineb annatguddiedig, a ragderfynodd Duw cyn yr oesoedd er gogoniant i ni; yr hon nid adnabu neb o benaethiaid y byd hwn, canys pes adnabuasent, ni chroeshoeliasent Arglwydd y gogoniant; Eithr fel y mae’n ysgrifenedig, Pethau ni welodd llygad ac nis clybu clust, ac nid esgynnodd i galon dyn, yr holl bethau a baratôdd Duw i’r rhai a’i caro. Canys i ni, datguddiodd Duw trwy’r Ysbryd, oherwydd yr ysbryd sydd yn olrhain pob peth, ie, dyfnion bethau Duw hefyd. Canys pa ddyn a ŵyr bethau dyn, ond ysbryd dyn, sef yr ysbryd sydd ynddo? felly hefyd bethau Duw, nis gŵyr neb namyn ysbryd Duw. A ninnau nid ysbryd y byd a dderbyniasom, ond yr ysbryd sydd o Dduw, fel y gwypom y pethau a rad-roddwyd i ni gan Dduw; pethau hefyd yr ydym yn eu llafaru, nid mewn ymadroddion a ddysgwyd trwy ddoethineb ddynol, ond a ddysgwyd trwy’r Ysbryd, gan gymhwyso pethau ysbrydol at ysbrydolion. Ond am ddyn anianol, ni dderbyn ef bethau ysbryd Duw, canys ffolineb ydynt ganddo ef, ac ni ddichon wybod mai yn ysbrydol y bernir hwynt; ond y mae’r dyn ysbrydol yn barnu popeth, ond ef ei hun nis bernir gan neb. Canys pwy a adnabu feddwl yr Arglwydd, yr hwn a’i cyfarwydda ef? eithr nyni, y mae gennym feddwl Crist. Minnau, frodyr, ni allwn lefaru wrthych megis wrth rai ysbrydol, ond megis rhai cnawdol, megis wrth fabanod yng Nghrist. Diodais chwi â llaeth, ni roddais i chwi fwyd, canys hyd yna ni allech ei gymryd. Ac nis gellwch yr awr hon chwaith, canys cnawdol ydych eto; canys, a chenfigen a chynnen yn eich plith chwi, onid ydych yn gnawdol ac yn rhodio yn null dyn? Canys pan ddywedo rhyw un, “Myfi, eiddo Pawl wyf,” ac arall, “Myfi, eiddo Apolos,” onid dynion ydych? Pa beth, ynteu, yw Apolos, neu ba beth Pawl? Gweision, y credasoch chwi drwyddynt, ac fel y rhoddes yr Arglwydd i bob un ohonynt. Myfi a blannodd, Apolos a ddyfrhaodd, ond Duw a roddes y cynnydd; gan hynny nid yw na’r plannwr ddim na’r dyfrhawr chwaith, ond Duw, y sydd yn rhoddi’r cynnydd. Eithr y plannwr a’r dyfrhawr un ydynt, eithr pob un a dderbyn ei briod wobr yn ôl ei briod lafur. Canys cydweithwyr i Dduw ydym; maes llafur Duw ydych, ac adeiladwaith Duw. Yn ôl y gras Duw a rodded i mi, fel pensaer doeth, gosodais sylfaen, eithr arall sydd yn adeiladu arni. Edryched pob un pa fodd yr adeilado. Canys sylfaen arall ni all neb ei gosod oddieithr honno a osodwyd, sef Iesu Grist. Ac ar y sylfaen, od adeilada neb aur, arian, meini gwerthfawr, coed, gwair, sofl, gwneir gwaith pob un yn amlwg. Canys y dydd a’i hamlyga, oblegid trwy dân y datguddir, a gwaith pob un, pa fath ydyw, y tân a’i prawf. Canys od erys y gwaith a adeiladodd neb, fe dderbyn hwnnw ei dâl. O llosgir gwaith neb, colledir hwnnw, eithr cedwir ef ei hun, ond eto megis trwy dân. Oni wyddoch mai teml Dduw ydych, a bod ysbryd Duw yn trigo ynoch? Os llygra neb deml Dduw, Duw a lygra hwnnw; canys sanctaidd yw teml Dduw, a hynny ydych chwi. Na thwylled neb ef ei hunan; od oes neb yn eich plith yn ei dybied ei hun yn ddoeth yn y bresen hon, aed yn ffôl, fel y dêl yn ddoeth. Canys y mae doethineb y byd hwn yn ffolineb gan Dduw; canys ysgrifennwyd, Yr hwn sy’n dal y doethion yn eu cyfrwysdra. A thrachefn, Gŵyr yr Arglwydd feddyliau’r doethion, mai ofer ydynt. Felly, nac ymffrostied undyn mewn dynion, canys eiddo chwi bopeth, pa un bynnag ai Pawl, ai Apolos, ai Cephas, pa un bynnag ai’r byd ai bywyd ai angau, pa un bynnag ai pethau sydd ai pethau a ddêl, eiddoch chwi’r cwbl; a chwithau’n eiddo Crist, a Christ yn eiddo Duw. Gan hynny cyfrifed dyn nyni megis gweinidogion Crist a gorchwylwyr ar ddirgel bethau Duw. Felly yr ydys yn disgwyl, fel peth anhepgor mewn goruchwylwyr, gael un yn ffyddlon. Ond o’m rhan i, bychan iawn o beth yw fy marnu gennych chwi, neu ger bron brawdle dyn: ac nid wyf fi yn fy marnu fy hun chwaith. Canys nid oes dim ar fy nghydwybod i; eithr yn hyn ni’m cyfiawnhawyd, ond yr hwn a’m barn i yw yr Arglwydd. Gan hynny, na fernwch ddim cyn pryd, hyd oni ddêl yr Arglwydd, yr hwn hefyd a oleua gudd bethau’r tywyllwch a dadlennu bwriadau’r calonnau, ac yna y daw’r glod i bob un gan Dduw. Y pethau hyn, frodyr, a gymhwysais i ataf fy hun ac at Apolos o’ch achos chwi, fel y dysgech ynnom ni y gair hwnnw, “nid dim dros ben yr hyn a sgrifennwyd,” fel nad ymchwyddo neb dros un yn erbyn arall. Canys pwy sydd yn gwneuthur rhagor rhyngot ti ac arall? Beth sydd gennyt nas derbyniaist? Ac os derbyniaist hefyd, paham yr ymffrosti megis pe bait heb dderbyn? Dyma chwi eisoes wedi’ch diwallu, dyma chwi eisoes wedi ymgyfoethogi; hebom ni, dyma chwi wedi dyfod i’ch teyrnas, — ac och Dduw! na ddeuthech i’ch teyrnas, fel y teyrnasem ninnau hefyd gyda chwi. Canys, i’m tyb, fe’n dynododd Duw ni, apostolion, yn olafiaid, fel rhai wedi eu bwrw i farw, canys fe’n gwnaethpwyd yn ddrych i’r byd, i angylion ac i ddynion. Ffyliaid ydym ni er mwyn Crist, ond chwychwi, doethion ydych yng Nghrist; nyni yn weiniaid, chwithau’n gryfion; chwychwi yn ogoneddus, ninnau’n ddirmygedig. Hyd yr ennyd hon y mae arnom ni newyn a syched, noethion ydym, fe’n cernodir, digartref ŷm a blin gan lafur ein dwylo ein hunain; pan ddifenwer ni, bendithio a wnawn; pan erlidier ni, goddef a wnawn; pan gabler ni, dywedyd yn deg a wnawn; fel golchion y byd y’n gwnaethpwyd ni, fel creifion pob dim hyd yma. Nid i beri cywilydd i chwi yr wyf yn ysgrifennu hyn, ond i’ch darbwyllo fel fy mhlant annwyl. Canys od oes i chwi filoedd ar filoedd o baedagogiaid yng Nghrist, eto nid oes i chwi lawer o dadau, canys yng Nghrist Iesu, trwy’r efengyl, myfi a’ch cenhedlodd. Am hynny erfyniai arnoch, byddwch efelychwyr ohonof fi. Oblegid hyn yr anfonais atoch Dimotheos, yr hwn yw fy mab annwyl a ffyddlon yn yr Arglwydd, a’r hwn a ddwg ar gof i chwi fy ffyrdd i yng Nghrist Iesu, megis yr wyf yn addysgu ymhobman, ymhob eglwys. Ond fel pe na bawn i yn dyfod atoch, fe ymchwyddodd rhai; eithr dyfod atoch a wnâi ar fyr, os myn yr Arglwydd, a gwybyddaf nid ymadrodd y chwyddedigion, ond eu nerth, canys nid mewn ymadrodd y mae teyrnas Dduw, eithr mewn nerth. Beth a fynnwch? Ai dyfod ohonof atoch â gwialen, ai ynteu â chariad ac ysbryd addfwynder? Fe glywir — dim llai — am odineb yn eich plith, a chyfryw odineb ag nas ceir hyd yn oed ymhlith y cenhedloedd, sef caffael o ddyn wraig ei dad. A chwithau, ai chwyddedig ydych, ac heb alaru, — rheitiach peth, — fel y certhid o’ch mysg chwi y neb a wnaeth y weithred hon? Canys myfi, yn absennol o ran y corff, eto yn bresennol yn yr ysbryd, yn enw yr Arglwydd Iesu, wedi ymgynnull ohonoch chwi a’m hysbryd innau ynghŷd, gyda nerth ein Harglwydd Iesu, fel pe bawn bresennol, bernais eisoes am y sawl a gyflawnodd hyn yn y modd hwnnw, draddodi’r cyfryw un i Satan, fel y dinistrid y cnawd ond achub yr ysbryd yn nydd yr Arglwydd. Nid gweddaidd eich ymffrost chwi. Oni wyddoch fod ychydig lefain yn lefeinio’r holl does? Certhwch allan yr hen lefain, fel y boch does newydd, megis yr ydych yn ddilefain. Canys aberthwyd ein Pasg ni, sef Crist; felly cadwn ŵyl, nid â hen lefain, nac ychwaith â lefain malais a drygioni, ond â chroywfwyd purdeb a gwirionedd. Ysgrifennais atoch yn y llythyr na bai i chwi gyfathrach ag anlladwyr, nid yn llwyr ag anlladwyr y byd hwn, na’i gybyddion a’i gribddeilwyr, na’r eilunaddolwyr, oblegid, wrth gwrs, rhaid fyddai i chwi fyned allan o’r byd. Ond yn awr ysgrifennu atoch a wneuthum na bo gyfathrach o bydd neb a elwir yn frawd yn odinebwr, neu gybydd, neu eilunaddolwr, neu ddifennwr, neu feddwyn, neu gribddeilwr, — gyda’r cyfryw ddyn na chydfwytewch hyd yn oed. Canys pa beth sydd a wnelwyf fi â barnu’r rhai oddiallan? Onid y rhai sydd oddimewn a fernwch chwi? Ond am y rhai tuallan, Duw a’u barn. Tynnwch allan y drygionus hwnnw o’ch plith. A faidd neb ohonoch, a chanddo achos yn erbyn arall, ei osod i’w farnu gan yr anghyfiawn yn hytrach na chan y saint? Oni wyddoch mai’r saint sydd i farnu’r byd? Ac os ger eich bron chwi y bernir y byd, a ydych yn anheilwng i farnu’r achosion distadlaf oll? Oni wyddoch y barnwn ni angylion heb sôn am bethau’r bywyd beunyddiol? Am hynny, o bydd gennych achosion yn perthyn i’r bywyd beunyddiol i’w barnu, ai y rhai hollol ddiddim yng ngolwg yr eglwys — ai y rheiny a osodwch yn sedd barn? Er cywilydd i chwi y llefaraf. Onid oes, felly, yn eich plith neb doeth a fydd yn abl i farnu rhwng ei frawd? Eithr y mae brawd yn ymgyfreithio â brawd a hynny ger bron y digred? Y gwir yw mai diffyg ynoch eisoes yn ddiau yw bod gennych gyfraith â’ch gilydd; paham na oddefwch gam yn hytrach? Paham na oddefwch yn hytrach eich ysbeilio? Eithr yr ydych chwi yn gwneuthur cam, ac yn ysbeilio, a hynny â brodyr. Oni wyddoch na bydd i’r anghyfiawn ran yn nheyrnas Dduw? Na’ch camarweinier; ni chaiff rhai anllad nac eilunaddolwyr na thorwyr priodas na rhai meddal-gnawdol na sodomiaid na lladron na chybyddion na meddwon na difenwyr na chribddeilwyr ran yn nheyrnas Dduw. A’r pethau hyn oeddych, rai ohonoch; eithr ymolchasoch, eithr fe’ch sancteiddiwyd, eithr fe’ch gwnaed yn gyfiawn yn enw yr Arglwydd Iesu Grist a thrwy ysbryd ein Duw. Y mae pob peth yn rhydd i mi, ond nid yw pob peth yn lleshau; rhydd yw pob peth i mi, eithr ni’m dygir i dan awdurdod gan ddim. Y bwydydd i’r bola, a’r bola i’r bwydydd, ond diddyma Duw y naill a’r llall. A’r corff, nid yw i odineb, ond i’r Arglwydd, a’r Arglwydd i’r corff. Ond fe gyfododd Duw yr Arglwydd, ac fe’n cyfyd ninnau hefyd trwy ei nerth ei hun. Oni wyddoch mai aelodau Crist yw’ch cyrff chwi? Felly, a gymeraf i aelodau Crist, a’u gwneuthur yn aelodau putain? Na ato Duw! Oni wyddoch fod y neb a gydio â phutain yn un corff? Canys, medd ef, un cnawd fydd y ddau. Ond y neb a ymgysyllto â’r Arglwydd, un ysbryd yw. Ymogelwch rhag godineb. Pob pechod a wnêl dyn, y tu allan i’r corff y mae, ond y sawl a odinebo, yn erbyn ei gorff ei hun y mae’n pechu. Tybed na wyddoch fod eich corff chwi yn gafell i’r Ysbryd Glân sydd ynoch, yr hwn sydd eiddoch gan Dduw, ac nad eiddoch eich hunain mohonoch? Canys er gwerth y’ch prynwyd, felly gogoneddwch Dduw yn eich corff. Ond am y pethau yr ysgrifenasoch yn eu cylch, gwiw i ddyn na chyffyrddo â gwraig. Ond oherwydd y godinebu y sydd, boed i bob un ei wraig ei hun, a boed i bob gwraig ei phriod ŵr. Rhodded y gŵr i’w wraig yr hyn sydd ddyledus iddi, a’r un wedd y wraig hefyd i’w gŵr. Y wraig, nid oes iddi awdurdod ar ei chorff ei hun, namyn i’w gŵr, a’r un wedd y gŵr hefyd, nid oes iddo awdurdod ar ei gorff ei hun, namyn i’w wraig. Na chamateliwch oddiwrth eich gilydd yr hyn sydd ddyledus, oddieithr o gytundeb dros amser, fel y caffoch egwyl i weddi a thrachefn ddyfod ynghŷd, fel na’ch temtio Satan oherwydd eich anymatal. A hyn yr wyf yn ei ddywedyd trwy oddef, nid fel gorchymyn. Ond mynnwn fod pob dyn megis minnau hefyd, eithr y mae i bob un ei briod ddawn o Dduw, i’r naill fel hyn, i’r llall fel arall. Ond dywedyd yr wyf wrth y dibriod a’r gwragedd gweddwon, gwiw iddynt aros megis minnau hefyd. Eithr oni allant ymatal, priodent, canys gwell priodi nag ymlosgi. Ond i’r rhai priod eisoes, yr wyf yn gorchymyn, — nid myfi ond yr Arglwydd, — nad ymadawo gwraig oddiwrth ei gŵr. Ond os ymedy hefyd, arhoed heb briodi neu cymoder hi â’i gŵr — a’r gŵr, yntau, na ollynged ymaith ei wraig. Ond wrth y lleill dywedaf — myfi, nid yr Arglwydd — o bydd i ryw frawd wraig anghredadun, a honno yn cydsynio i fyw gydag ef, na ollynged hi ymaith. A gwraig y bo iddi ŵr anghredadun, a hwnnw yn cydsynio i fyw gyda hi, na ollynged ymaith ei gŵr. Canys cysegrwyd y gŵr anghredadun yn ei wraig, a chysegrwyd y wraig anghredadun yn y “brawd”; os amgen, dyna’ch plant yn aflan, ond yn awr sanctaidd ydynt. Ond os yr anghredadun sydd am ymadael, ymadawed; nid yw’r brawd neu’r chwaer yn gaeth yn y cyfryw, eithr i heddwch y’ch galwodd Duw. Canys beth a wyddost ti, wraig, a achubi di dy ŵr? Neu beth a wyddost ti, ŵr, a achubi di dy wraig? Eithr pob un, fel y mae Duw wedi rhannu iddo, pob un fel y mae’r Arglwydd wedi ei alw, dalied i rodio, ac felly yr wyf yn ordeinio yn yr eglwysi oll. Ai yn enwaededig y galwyd neb? Na cheisied guddio hynny; ai yn ddienwaededig y galwyd neb? Na cheisied enwaedu arno. Enwaediad nid yw ddim na dienwaediad chwaith, eithr cadw gorchmynion Duw. Arhosed pob un yn yr alwad y galwyd ef ynddi. Ai gwas oeddit pan alwyd di? Na foed hynny yn ddrwg gennyt; ond o gelli ddyfod yn ŵr rhydd, dewis hynny yn hytrach na pheidio. Canys y gŵr a alwyd yn yr Arglwydd ac ef yn gaethwas, gŵr rhyddhäedig yr Arglwydd yw; a’r un modd yr hwn a alwyd ac ef yn rhydd, caethwas Crist ydyw. Er gwerth y’ch prynwyd; na ddeuwch yn gaethion dynion. Arhosed pob un ger bron Duw, frodyr, yn yr ystâd honno y galwyd ef ynddi. Drachefn, am y gwyryfon, nid oes gennyf orchymyn yr Arglwydd, eithr barn yr wyf yn ei rhoddi fel un a gafodd drugaredd gan yr Arglwydd i fod yn ffyddlon. Tybiai gan hynny mai hyn sydd dda oherwydd yr anghenraid sy’n pwyso arnom, sef mai da i ddyn fod fel y mae. Ai rhwym wyt wrth wraig? Na chais ollyngdod; ai rhydd wyt oddiwrth wraig? Na chais wraig; a hyd yn oed pe priodit, ni phechaist; ac o phrioda gwyry, ni phechodd; eithr blinder i’r cnawd a gaiff y cyfryw rai, ond yr wyf i am eich arbed chwi. Ond dyma a ddywedaf, frodyr, cwtogwyd yr amser; fel o hyn allan y bo’r rhai â chanddynt wragedd megis pe na bai ganddynt, a’r rhai sy’n wylo megis pe na baent yn wylo, a’r rhai sy’n llawenhau megis pe na baent yn llawenhau, a’r rhai sy’n prynu megis pe na baent yn meddiannu, a’r rhai sy’n trafod y byd megis pe na baent yn ennill dim o’i drafod; canys myned heibio y mae dull y byd hwn. Ond mynnwn eich bod chwi yn ddibryder. Y mae’r dibriod yn pryderu am bethau’r Arglwydd, pa fodd y bodlono’r Arglwydd; ond y gŵr priod, pryderu y mae am bethau’r byd, pa fodd y bodlono’i wraig, ac fe’i rhannwyd. A’r wraig ddibriod a’r forwyn pryderu y maent am bethau’r Arglwydd, fel y bo sanctaidd gorff ac ysbryd; ond yr hon sydd briod, pryderu y mae am bethau’r byd, pa wedd y rhyngo fodd i’w gŵr. A hyn yr wyf yn ei ddywedyd er eich budd chwi eich hunain, nid i fwrw magl arnoch, eithr er mwyn yr hyn sydd weddaidd, ac fel y boch yn llwyr at alwad yr Arglwydd heb fod dim yn eich croesdynnu. Ond od oes rywun yn barnu ei fod yn ymddwyn yn anweddus tuagat ei wyry, o bydd yn or-nwydus, a rhaid i hynny fod felly, gwnaed a fynno; nid yw’n pechu; priodent. Ond y neb a saif yn ddiysgog yn ei galon, heb fod dan orfod, ond â chanddo lywodraeth ar ei ewyllys ei hun, ac a benderfynodd hyn yn ei galon ei hun, sef cadw ei wyry fel y cyfryw, da y gwnâ. Felly, ar y naill law, y neb a briodo ei wyry ei hun, da y gwnâ, ac ar y llaw arall, y neb ni phriodo, gwell y gwnâ. Y mae gwraig yn rhwym cyhyd ag y bo byw ei gŵr; ond os huna’r gŵr, rhydd ydyw i briodi’r neb a fynno — yn unig yn yr Arglwydd. Ond dedwyddach ydyw od erys fel y mae, yn fy marn i. A thybiaf fod Ysbryd Duw gennyf innau. Drachefn, parthed yr aberthau i eilunod, gwyddom fod gan bawb ohonom wybodaeth. Y mae gwybodaeth yn peri ymchwyddo, eithr cariad yn adeiladu. Od oes neb yn tybied ei fod wedi cael hyd i ryw wybodaeth, nid yw eto’n gwybod fel y dylid gwybod. Eithr od oes neb yn caru Duw, hwnnw a adweinir ganddo Ef. Gyda golwg, felly, ar fwyta o aberthau’r eilunod, “gwyddom nad oes (y fath beth ag) eilun yn y byd, ac nad oes Dduw namyn un.” Canys hyd yn oed od oes yr hyn a elwir yn dduwiau, naill ai yn y nef ai ar y ddaear, — megis, yn wir, y mae duwiau lawer ac arglwyddi lawer, — er hynny, i ni, un Duw, y Tad (y sydd) o’r hwn y mae pob dim, a ninnau erddo, ac un Arglwydd, Iesu Grist, drwy’r hwn y mae pob peth, a ninnau trwyddo ef. Eithr nid ym mhawb y mae gwybodaeth. Canys y mae rhai, oblegid eu cynefindra hyd yr awron â’r eilun, yn bwyta (o’r cig) fel aberth eilun, ac y mae eu cydwybod, â hi’n wan, yn cael ei halogi. Ond bwyd ni’n gesyd yn gymeradwy ger bron Duw. Oni fwytawn, ni byddwn ar ein colled; os bwytawn, ni byddwn ar ein hennill. Gwyliwch rhag, mewn rhyw fodd, i’ch rhyddid hwn droi’n dramgwydd i’r rhai gwan. Canys o gwêl rhywun dydi, sydd â “gwybodaeth” gennyt, yn eistedd (i fwyta) yn nheml yr eilun, onid “adeiledir” ei gydwybod ef, ag yntau’n wan, nes bwyta aberthau eilunod? Canys dinistrir y gwan drwy dy “wybodaeth” di, sef y brawd y bu Crist farw erddo. Canys wrth droseddu yn erbyn y brodyr, a tharo eu cydwybod yn ei gwendid, yn erbyn Crist yr ydych yn troseddu. Oherwydd hyn, od yw bwyd yn peri i’m brawd dramgwydd, ni fwytâf i gig ddim yn dragywydd, fel na thramgwyddwyf fy mrawd. Onid ydwyf yn rhydd? Onid ydwyf apostol? Oni welais Iesu ein Harglwydd ni? Onid fy ngwaith i ydych chwi yn yr Arglwydd? Os i eraill nid wyf apostol, eto, yn ddiau, i chwi, yr ydwyf. Canys sêl fy apostolaeth i ydych chwi yn yr Arglwydd. Fy nadl i wrth y rhai sy’n fy marnu yw honyma — onid oes i ni ryddid i fwyta ac yfed? Onid oes i ni ryddid i ddwyn oddiamgylch wraig o chwaer, megis hefyd yr apostolion eraill, a brodyr yr Arglwydd, a Chephas? Neu, ai myfi yn unig, a Barnabas, sydd heb ryddid i beidio â dilyn gorchwyl? Pwy fyth fydd yn rhyfela ar ei draul ei hun? Pwy fydd yn plannu gwinllan ac ni bydd yn bwyta o’i ffrwyth hi? Neu bwy fydd yn bugeilio praidd ac na bydd yn bwyta o laeth y praidd hwnnw? Ai yn ôl dyn y dywedaf y pethau hyn, ynteu? Oni ddywed y ddeddf hefyd felly? Canys yn neddf Moesen fe sgrifennwyd: Na safnrwyma ŷch dyrnu. Ai am ychen y gofala Duw? Ynteu, ai erom ni yn gwbl y dywed? Canys erom ni yr ysgrifennwyd mai mewn gobaith y dylai’r arddwr aredig, a’r dyrnwr yntau mewn gobaith am gyfranogi. Os nyni i chwi a heuodd bethau’r ysbryd, ai mawr o beth os eiddom ni fedi’r eiddoch chwi o bethau’r cnawd? Od yw eraill gyfrannog o’r hawl hon arnoch, onid mwy felly nyni? Eithr nid arferasom yr hawl hon; eithr goddefwn bob peth, fel na roddom un rhwystr i efengyl y Crist. Oni wyddoch chwi fod gwasanaethwyr defodau’r cysegr yn bwyta pethau’r cysegr, a’r rhai sy’n gwasanaethu’r allor yn gyfrannog hefyd â’r allor? Felly, ordeiniodd yr Arglwydd hefyd i’r rhai sy’n cyhoeddi’r efengyl fyw ar yr efengyl. Eithr o’m rhan fy hun, nid arferais i ddim un o’r pethau hyn. Ond nid ysgrifennais y pethau hyn fel y gwnelid felly yn fy achos i, canys dewisach gennyf farw na phe —, fy ymffrost i, ni chaiff neb ei throi’n wegi. Canys o phregethaf yr Efengyl, nid ymffrost i mi hynny. Canys anghenraid sy’n gorwedd arnaf; canys gwae fi oni phregethaf yr efengyl. Canys os o’m dewis yr wyf yn gwneuthur hyn, tâl sydd i mi, eithr onid o’m dewis, gorchwyliaeth a ymddiriedwyd i mi. Pa beth, ynteu, ydyw fy nhâl i? Cael, wrth efengylu, osod yr efengyl yn ddi-gost, fel na cham arferwyf fy hawl yn yr efengyl. Canys, a myfi yn rhydd oddiwrth bawb, i bawb y’m gwneuthum fy hun yn gaeth, fel yr enillwn y rhan fwyaf. Felly, deuthum i fod i’r Iddewon megis Iddew, fel yr enillwn Iddewon. I’r rhai sy tan ddeddf megis tan ddeddf, er heb fod fy hun tan ddeddf, fel yr enillwn y rhai sydd tan ddeddf. I’r rhai di-ddeddf megis un di-ddeddf, er heb fod yn ddi-ddeddf i Dduw, eithr yn neddf Crist, fel yr enillwn y rhai di-ddeddf. Deuthum i fod i’r rhai gweiniaid yn wan, fel yr enillwn y gweiniaid. I bawb yr euthum yn bopeth, fel ymhob rhyw fodd y gwaredwn rywrai. Popeth a wnâi er mwyn yr efengyl, fel y gallwyf fod yn gyfrannog ohoni. Oni wyddoch fod y rhai a redo mewn rhedegfa yn rhedeg, yn wir, bawb ohonynt, eithr un sy’n derbyn y wobr? Felly rhedwch fel y caffoch y blaen. Y mae pob un sy’n cystadlu yn arfer hunanlywodraeth ymhob dim, hwynt-hwy, yn wir, fel y derbyniont goron lygradwy, eithr nyni, un anllygradwy. Myfi, gan hynny, felly y rhedaf, sef fel un sydd sicr o’i nod. Felly y byddaf yn dyrnodio, fel un na churo’r awyr. Ond yr wyf yn baeddu fy nghorff fy hun, ac yn ei gaethiwo, rhag, ysgatfydd, wedi i mi gyhoeddi i eraill, fy mod fy hun yn wrthodedig. Canys ni fynnwn i chwi fod heb wybod, frodyr, fod ein tadau ni, bawb ohonynt, dan y cwmwl, a myned ohonynt oll drwy’r môr, a’u bedyddio oll i Foesen yn y cwmwl ac yn y môr. Bwytasant, bawb, yr un ymborth ysbrydol, ac yfasant bawb yr un ddiod ysbrydol. Canys yfent o’r graig ysbrydol, a’u dilynai, a’r graig oedd Crist. Eithr yn y rhan fwyaf ohonynt, ni foddlonwyd Duw, canys gwasgarwyd hwynt yn yr anialwch. Digwyddodd y pethau hyn yn enghreifftiau i ni, fel na byddem ni chwenychwyr pethau drwg, megis y chwenychasant hwy. Na byddwch ychwaith eilun-addolwyr, megis rhai ohonynt hwy. Megis y mae’n ysgrifenedig eisteddodd y bobl i fwyta ac yfed a chodasant i chwarae. Ac na odinebwn megis y godinebodd rhai ohonynt hwy, — ac fe syrthiodd mewn un diwrnod dair mil ar hugain. Ac na themtiwn yr Arglwydd megis y temtiodd rhai ohonynt hwy, a’u dinistrio gan y seirff. Ac na rwgnachwn megis y grwgnachodd rhai ohonynt hwy, a’u dinistrio gan law’r dinistrydd. Digwyddai’r pethau hyn iddynt hwy yn null enghraifft, ac fe’u hysgrifennwyd er rhybudd i ni, y daeth arnom derfynau’r oesoedd. Am hynny, a dybio’i fod yn sefyll, edryched na syrthio. Nid ymaflodd ynoch chwi brofedigaeth namyn un ddynol. Ond ffyddlon yw Duw, ac ni ad ef eich profi chwi y tu hwnt i’ch gallu, eithr ynghŷd â’r brofedigaeth, fe rydd y ffordd allan hefyd, modd y galloch ymgynnal odditani. Am hynny, fy rhai annwyl, ffowch rhag eilun-addoliaeth. Megis wrth rai deallus y dywedaf. Bernwch chwithau a fynegaf. Cwpan y fendith, a fendithiwn, onid cyfranogiad yw o waed Crist? Y dorth, a dorrwn, onid cyfranogiad o gorff Crist ydyw? Canys un dorth, un corff ydym ni sy’n llawer. Canys pawb ohonom, o’r un dorth y cyfranogwn. Ystyriwch Israel yn ôl y cnawd. Onid yw’r rhai sy’n bwyta’r aberthau yn gyd-gyfrannog â’r allor? Beth, gan hynny, yw fy meddwl? — Bod aberth eilun yn rhywbeth? Ai bod eilun yn rhywbeth? Eithr a aberthant, mai i ddaimoniaid ac nid i Dduw yr aberthant. Ni fynnwn fod ohonoch yn gyfranogion â daimoniaid. Ni ellwch yfed cwpan yr Arglwydd a chwpan daimoniaid. Ni ellwch gyfranogi o fwrdd yr Arglwydd ac o fwrdd daimoniaid. Neu a gyffrown ni eiddigedd yr Arglwydd? Ai trech nag ef ydym ni? Y mae popeth yn gyfreithlon, ond nid yw popeth yn fuddiol. Y mae popeth yn gyfreithlon, ond nid yw popeth yn adeiladu. Na cheisied neb yr eiddo ef ei hun, eithr yr eiddo arall. Popeth a werthir yn y farchnad gig, bwytewch heb holi dim o ran cydwybod. Canys eiddo’r Arglwydd y ddaear a’i chyflawnder hi. Os rhywun o blith y digred a’ch gwahodda, a chwithau’n dewis myned, popeth a osoder ger eich bron, bwytewch, heb holi dim o ran cydwybod. Ond os dywed rhywun wrthych: Aberth y cysegr yw hwn, na fwytewch, er mwyn hwnnw a alwodd sylw ac o ran cydwybod. Nid cydwybod un ei hun yr wyf yn ei feddwl, ond cydwybod y llall. Paham, atolwg, y bernir fy rhyddid i gan gydwybod arall? Od wyf i drwy ras yn cyfranogi, paham y’m melltithir i oherwydd y peth yr wyf yn talu diolch erddo? Am hynny, ai bwyta ai yfed, ai unpeth, a wneloch, gwnewch bopeth er gogoniant i Dduw. Byddwch ddi-dramgwydd i Iddewon ac i Roegiaid, ac i eglwys Dduw, megis yr wyf innau hefyd yn rhyngu bodd i bawb ym mhob dim, heb geisio fy lles fy hun, eithr lles y lliaws fel y byddont gadwedig. Byddwch efelychwyr i mi, megis yr wyf innau hefyd i Grist. Yr wyf yn eich canmol chwi oblegid eich bod yn cofio amdanaf ym mhob dim, ac yn dal at y traddodiadau megis y traddodais i chwi. Mynnwn i chwi wybod mai pen pob gŵr yw Crist, a phen gwraig yw ei gŵr, a phen Crist yw Duw. Pob gŵr a weddïo neu a broffwydo â chanddo rywbeth am ei ben, y mae’n bwrw anfri ar ei ben. A phob gwraig a weddïo neu a broffwydo a’i phen yn ddiorchudd, y mae’n bwrw anfri ar ei phen hithau. Canys un ydyw ac unfath â’r eilliedig. Canys os gwraig ni ddwg orchudd, cneifier hithau hefyd. Gwarthus i wraig yw torri ei gwallt neu eillio ei phen. Gwisged orchudd. Canys gŵr ni ddylai fod a’i ben tan orchudd, ac yntau’n ddelw a gogoniant Duw. Ond y wraig, gogoniant ei gŵr ydyw. Canys nid yw gŵr o wraig, eithr gwraig o ŵr. Ac eto, ni chrewyd gŵr er mwyn y wraig, eithr gwraig er mwyn y gŵr. Am hyn, dylai fod gan wraig awdurdod ar ei phen oblegid yr angylion. Ond yn unig nid gwraig heb ŵr na gŵr heb wraig yn yr Arglwydd. Canys megis y mae’r wraig o’r gŵr, felly y gŵr hefyd drwy’r wraig. A’r cwbl o Dduw. Bernwch ynoch eich hunain, Ai gweddus ydyw i wraig heb orchudd weddïo ar Dduw? Onid ydyw natur ei hun yn eich dysgu mai anglod yw i ddyn o bydd ganddo wallt hir, ond mai addurn ydyw i wraig o bydd ganddi wallt hir? Canys rhoddwyd y gwallt megis llen iddi. Ond os mynn neb fod yn gecrus, i ni nid oes y cyfryw arfer, nac i eglwysi Duw ychwaith. Ond dyma beth, a mi’n gorchymyn, nad wyf yn ei ganmol, sef nad er gwell ond er gwaeth yr ydych yn dyfod ynghŷd. Canys yn gyntaf oll, pan ddeloch ynghŷd mewn cynulleidfa, clywaf fod pleidiau yn eich plith, a chredu’r wyf fod peth gwir yn yr ystori. Canys rhaid yn wir fod yn eich plith heresïau, fel y dêl y rhai cymeradwy i’r amlwg yn eich plith. Am hynny, pan ddeloch ynghŷd, i’r un lle, nid bwyta swper yr Arglwydd mo hynny. Canys y mae pob un yn achub y blaen i fwyta’i swper ei hun, ac y mae’r naill ar ei gythlwng a’r llall yn feddw. Tybed nad oes i chwi dai, ynteu, er mwyn bwyta ac yfed? Neu ai dirmygu Eglwys Dduw yr ydych, a bwrw anfri ar y rhai sydd heb ddim? Pa beth a ddywedaf wrthych? Ai eich canmol a wnâf? Yn hyn o beth ni’ch canmolaf. Canys fe dderbyniais i oddiwrth yr Arglwydd yr hyn a draddodais hefyd i chwi, sef ddarfod i’r Arglwydd Iesu, y nos yr oeddid yn ei draddodi, gymryd torth, ac wedi diolch, ei thorri, a dywedyd: Dyma fy nghorff, y sydd eroch chwi. Gwnewch hyn er cof amdanaf i. Yr un modd, y cwpan hefyd, gwedi swper, gan ddywedyd: Y cwpan hwn, y cyfamod newydd ydyw yn y gwaed mau. Gwnewch hyn, gynifer gwaith bynnag yr yfoch, er cof amdanaf i. Canys cynifer gwaith bynnag y bwytaoch y bara hwn ac yr yfoch y cwpan, marwolaeth yr Arglwydd yr ydych yn ei chyhoeddi nes ei ddyfod (drachefn). Felly, y neb a fwytao’r bara neu a yfo gwpan yr Arglwydd yn anheilwng, euog fydd o gorff ac o waed yr Arglwydd. Ond, profed dyn ef ei hun, ac felly’n unig bwytaed o’r dorth ac yfed o’r cwpan. Canys y neb sy’n bwyta ac yn yfed, barn iddo’i hun y mae’n ei bwyta a’i hyfed, oni iawn farno’r corff. Dyna paham y mae llawer yn eich plith chwi yn weiniaid a nychlyd, a chryn nifer yn huno. Ond pe’n barnem ein hunain, yna ni’n bernid. A phan fernir ni gan yr Arglwydd, fe’n disgyblir, fel na’n collfarner gyda’r byd. Felly, fy mrodyr, pan ddeloch ynghŷd i’r bwyta, disgwyliwch bawb ei gilydd. Od oes neb â newyn arno, bwytaed yn tŷ, fel nad i farn y deloch ynghŷd. A phopeth arall, pan ddelwyf mi a’u trefnaf. Ond am y doniau ysbrydol, frodyr, ni fynnwn fod ohonoch yn anwybodus. Gwyddoch eich arwain ymaith, â chwi eto’n ethnigion, at yr eilunod, fudion bethau, sut bynnag y’ch arweinid. Oherwydd hynny yr wyf yn hysbysu i chwi na ddywed neb a lefaro yn Ysbryd Duw, “Anathema Iesu,” ac na ddichon neb ddywedyd: “Arglwydd Iesu,” onid yn yr Ysbryd Glân. Ond y mae amryfal rannu ar ddoniau, eithr yr un Ysbryd; ac y mae amryfal ddosbarthu ar weinidogaethau, a’r un Arglwydd; a gwahanol foddau ar gyfrannu grymusterau, a’r un Duw y sy’n grymuso’r cwbl yng nghwbl. Ond i bob un y rhoddir amlygiad yr Ysbryd er llesâd. Canys i un drwy’r Ysbryd y rhoddir traethu doethineb, ac i arall draethu gwybodaeth yn ôl yr un Ysbryd; i arall eto ffydd drwy’r un Ysbryd, ac i arall ddoniau iacháu drwy’r un Ysbryd, ac i arall rymusterau nerthoedd, ac i arall broffwydoliaeth, ac i arall wahaniaethu rhwng ysbrydion, ac i arall amryw dafodau, ac i arall ddehongli tafodau. A’r rhai hyn oll y mae’r un a’r unrhyw Ysbryd yn eu grymuso, gan gyfrannu i bob un ar ei ben ei hun fel y mynno ef. Canys fel y mae’r corff yn un, ag iddo aelodau lawer, a bod holl aelodau’r corff, er eu hamled, yn un corff, felly hefyd y Crist; canys drwy un Ysbryd y’n bedyddiwyd, ninnau oll, yn un corff, ai Iddewon ai Groegiaid, ai caethion ai rhyddion; ac ag un Ysbryd diodwyd ni oll. Canys y corff, nid yw un aelod, ond llawer. Os dywed y troed, “Gan nad wyf law, nid rhan o’r corff mohonof,” nid yw wrth hynny yn peidio â bod yn rhan o’r corff. Ac os dywed y glust, “Gan nad wyf lygad, nid rhan o’r corff mohonof,” nid yw wrth hynny yn peidio â bod yn rhan o’r corff. Pe byddai’r corff i gyd yn llygad, mae’r clyw? Pe clyw fyddai i gyd, mae’r arogliad? Ond wele’n awr, Duw a osododd yr aelodau yn y corff, bob un ohonynt megis yr ewyllysiodd. Pe byddai’r holl aelodau yn un aelod, beth am y corff? Eithr yn awr, llawer aelod, ond un corff. Ond ni all y llygad ddywedyd wrth y llaw, “Nid rhaid imi wrthyt ti” nac ychwaith y pen wrth y traed, “Nid rhaid imi wrthych chwi.” Eithr yn hytrach o lawer, yr aelodau hynny o’r corff yr ymddengys eu bod yn wannaf sydd anhepgor; a’r aelodau hynny y sydd i’n tyb ni yn lleiaf eu parch, y rhai hynny a arwisgwn â pharch neilltuol; ac fe gaiff ein haelodau anweddaidd weddeidd-dra neilltuol, ond ein haelodau gweddus, nid rhaid iddynt wrtho. Ond Duw a gydnawseiddiodd y corff, gan roddi parch neilltuol i’r aelodau a fyddai fyr ohono, fel na byddai rhwyg yn y corff, namyn bod yr aelodau ag arnynt yr un pryder am ei gilydd. Ac os dioddef un aelod, cyd-ddioddefa’r aelodau oll; os gogoneddir aelod, cydlawenhâ’r aelodau oll. A chwithau, corff Crist ydych, ac aelodau bob yr un. A rhai a osododd Duw yn yr eglwys, yn gyntaf, apostolion; yn ail, proffwydi; yn drydydd, athrawon; yna, nerthoedd; yna doniau iachâd, cymhorthau, llywodraethau, amryw dafodau. Tybed ai apostolion pawb? Ai proffwydi pawb? Ai athrawon pawb? A oes i bawb nerthoedd? A fedd pawb ddoniau iachâd? A lefara pawb â thafodau? A fedr pawb eu dehongli? Ond byddwch yn fawr eich awydd am y doniau uwch. A ffordd odidocach fyth yr wyf yn ei dangos i chwi. Pe llefarwn â thafodau dynion ac angylion, a’m bod eto heb gariad, wele efydd yn datsain neu symbal yn sernial fyfi. A phe bai eiddof broffwydo a bod yn hysbys i mi’r dirgelion i gyd, a phob gwybod, a phe bai i mi bob ffydd, fel y symudwn fynyddoedd, eto, a’m bod heb gariad, nid wyf ddim. A phe’n gardod y rhannwn fy meddiannau oll, a phe dodwn fy nghorff fel y’m llosgid, a’m bod hefyd heb gariad, nid llesach i mi hynny. Cariad, hirymarhous yw; cymwynasgar fydd cariad; ni bydd cenfigennus; nid ymffrostia cariad, nid ymchwydda; ni bydd anweddaidd, ni chais yr eiddo’i hun, nis cythruddid ni chyfrif ddrwg. Ni bydd lawen oblegid anghyfiawnder, eithr cydlawenhâ â’r gwirionedd. Dioddefa bob dim yn ddistaw, cred bob dim, gobeithia bob dim, deil odditan bob dim. Cariad byth ni chwymp i lawr; eithr am broffwydoliaethau, fe’u diddymir, neu am dafodau, fe dawant, neu wybodaeth, fe’i diddymir. Canys darn-wybod yr ydym, a darn-broffwydo. Eithr pa bryd bynnag y dêl y peth cyflawn, yna diddymir y darn-beth. Pan oeddwn blentyn, llefarwn fel plentyn, syniwn fel plentyn, rhesymwn fel plentyn; ond wedi dyfod yn ŵr, bwriais heibio bethau’r plentyn. Canys ar hyn o bryd gweled trwy ddrych yr ydym, ar wedd pôs, ond y pryd hwnnw, wyneb yn wyneb; weithion, mewn rhan yr adwaen, ond yna hefyd y llwyr adnabyddaf megis y’m llwyr adweinir. Felly yr awron fe erys ffydd, gobaith, cariad, y tri hyn. A mwyaf ohonynt yw cariad. Ymlidiwch ar ôl cariad, a byddwch fawr eich awydd am ddoniau ysbrydol, ond yn bennaf mynnwch broffwydo. Canys y neb sy’n llefaru â thafod, nid wrth ddynion y mae’n llefaru, eithr wrth Dduw. Canys nid oes neb yn ei glywed, eithr yn yr ysbryd llefara ddirgel bethau. Eithr y neb sy’n proffwydo, wrth ddynion y mae’n llefaru, er adeiladu, calonogi, a chysuro. Y neb sy’n llefaru â thafod, ei adeiladu ei hun y mae, ond y neb sy’n proffwydo, yr eglwys a adeilada. Boddlon gennyf i bawb ohonoch lefaru â thafodau, ond yn fwy na dim broffwydo ohonoch. Mwy yn wir yw’r sawl sy’n proffwydo na’r sawl sy’n llefaru â thafodau, oddieithr iddo yntau ddehongli, fel y caffo’r eglwys adeiladaeth. Ac yn awr, frodyr, os dof atoch gan lefaru â thafodau, pa les a wnaf i chwi, oni lefaraf wrthych, ai mewn datguddiad, ai mewn gwybodaeth, ai mewn proffwydoliaeth, ai mewn athrawiaeth? Yr un modd, y mae’r pethau di-fywyd yn rhoddi sain, ai chwibanogl ai telyn; oni roddant gyfwng rhwng y seiniau, pa fodd yr adweinir y peth a genir ar y chwibanogl neu ar y delyn? Canys, o rhydd utgorn sain aneglur, pwy a ymbaratoa i ryfel? Felly chwithau hefyd, oni roddoch drwy’r “tafod” ymadrodd eglur ei ystyr, pa fodd yr adweinir y peth a leferir? Canys cystal fyddwch â rhai’n llefaru wrth yr awyr. Ond y mae cynifer math ar dafodau yn y byd, ac nid oes un ohonynt heb ystyr; ond eto, oni wypwyf i rym yr iaith, byddaf, i’r neb a’i llefaro hi, yn farbariad, a’r sawl a’i llefaro yn farbariad i minnau. Felly, chwithau hefyd, gan eich bod yn chwannog am ddoniau ysbrydol, boed mai er adeiladaeth y ceisioch fod yn helaeth ynddynt. Am hynny, y neb sy’n llefaru â “thafod,” gweddïed am allu i’w ddehongli. Canys os gweddïaf â “thafod,” fy ysbryd sy’n gweddïo, eithr y mae fy meddwl yn ddiffrwyth; Beth ynteu? Gweddïaf â’m hysbryd; gweddïaf â’m deall hefyd: canmolaf â’m deall hefyd. Canys os bendigi ag ysbryd, pa fodd y dywed y sawl a fo yn sedd y cyffredin yr Amen i’th ddiolch di? Canys ni ŵyr pa beth a leferi. Canys gwych y teli ddiolch, eithr y llall nis adeiledir. Diolch i Dduw, yr wyf i’n llefaru â “thafodau” yn fwy na phawb ohonoch, eithr yn yr eglwys mwy dymunol gennyf lefaru pum gair â’m deall, fel y gallwyf hyfforddi eraill hefyd, yn hytrach na myrddiwn o eiriau â “thafod.” Frodyr, na byddwch blant o ran deall, eithr mewn drygioni byddwch blantos; ond o ran deall byddwch berffeithion. Yn y gyfraith ceir yn ysgrifenedig: â thafodau eraill ac â gwefusau eraill y llefaraf wrth y bobl hyn, ac hyd yn oed wedi hynny ni wrandawant arnaf, medd yr Arglwydd. Y tafodau, felly, arwydd ydynt, nid i’r rhai credadun, eithr i’r rhai anghredadun; ond am broffwydoliaeth, nid i’r rhai anghredadun, eithr i’r rhai credadun y mae. Yna, o daw’r eglwys ynghŷd yn gryno i’r un fan, a llefaru o bawb â thafodau, a dyfod i mewn rai anghyfarwydd, neu rai anghredadun, oni ddywedant eich bod o’ch pwyll? Ond o phroffwyda pawb, a dyfod i mewn rywun anghredadun neu anghyfarwydd, fe’i hargyhoeddir gan bawb, fe’i bernir gan bawb, daw’n amlwg gudd bethau ei galon ef, ac felly, gan syrthio ar ei wyneb, fe addola Dduw gan gyffesu: yn wir y mae Duw yn eich plith chwi. Beth, ynteu, frodyr? Pan ddeloch ynghŷd, bydd gan bob un ei salm, ei athrawiaeth, ei ddatguddiad, ei “dafod,” ei ddehongliad. Popeth, bydded er adeiladaeth. O llefara neb â “thafod,” bydded hynny hyd ddau neu yn y fan bellaf dri, ac yn eu tro, a dehongled un. Ac oni bo ddehonglydd, tawed yn yr eglwys a llefared wrtho ef ei hun ac wrth Dduw. Am y proffwydi, llefared dau neu dri, a barned y lleill. Ac o daw datguddiad i arall, ac yntau’n eistedd, tawed y cyntaf. Canys fe all pawb ohonoch bob yn un broffwydo, fel y dysgo pawb ac yr anoger pawb, — ac ysbrydoedd proffwydi, i broffwydi y maent ddarostyngedig, canys nid Duw anhrefn mohono, eithr Duw heddwch — megis yn holl eglwysi’r saint. Tawed y gwragedd yn yr eglwysi, canys ni chaniateir iddynt lefaru, eithr byddent ddarostyngedig, megis y dywed y gyfraith hefyd. Od ewyllysiant ddysgu rhywbeth, holent eu gwŷr priod yn tŷ, canys peth anweddus yw i wraig lefaru yn yr eglwys. Ai o’ch plith chwi yr aeth gair Duw allan, ai atoch chwi’n unig y daeth? O thybia neb ei fod yn broffwyd neu “ddyn ysbrydol,” cydnabydded mai gorchymyn yr Arglwydd yw’r pethau a sgrifennaf atoch. Oni chydnabyddo neb, na chydnabydder (yntau). Am hynny, fy mrodyr, byddwch chwannog i broffwydo, ac na rwystrwch y llefaru â thafodau. Eithr boed pob peth yn weddus ac wrth drefn. Hefyd, frodyr, egluro yr wyf i chwi, — am yr efengyl a bregethais i chwi, yr hon hefyd a dderbyniasoch, yr hon hefyd y sefwch ynddi, drwy’r hon hefyd y’ch cedwir, — â pha ymadrodd y pregethais i chwi, o deliwch fyth ar gof, oddieithr credu’n ofer ohonoch. Canys traddodais i chwi yn bennaf peth yr hyn a dderbyniais hefyd, sef farw o Grist dros ein pechodau ni, yn ôl yr Ysgrythurau, a darfod ei gladdu, a chyfodi ohono ar y trydydd dydd, yn ôl yr Ysgrythurau; a darfod ei weled gan Gephas, yna gan y deuddeg. Yna, gwelwyd ef gan uwchlaw pum cant o frodyr ar unwaith, o’r rhai yr erys y rhan fwyaf hyd yr awr hon, ond fe hunodd rhai. Wedi hynny, fe’i gwelwyd gan Iago, yna gan yr apostolion i gyd. Ac yn ddiwethaf oll, fe’i gwelwyd gennyf innau hefyd, megis gan yr erthyl. Canys y lleiaf o’r apostolion wyf i, nad wyf deilwng i’m galw yn apostol, am ddarfod i mi erlid eglwys Dduw. Ond trwy ras Duw yr ydwyf y peth ydwyf; a’i ras ef tuag ataf i, nid ofer fu, ond yn helaethach na hwynt oll y llafuriais, nid myfi chwaith, ond gras Duw gyda mi. Yna, pa un bynnag ai myfi ai hwynt-hwy, felly y pregethwn ac felly y credasoch. Eto os pregethir Crist, ddarfod ei gyfodi ef oddiwrth feirwon, pa wedd y dywed rhywrai yn eich plith nad oes atgyfodi meirwon? Canys, onid oes atgyfodi meirwon, ychwaith Crist nis cyfodwyd. Ac os Crist nis cyfodwyd, yna, gwegi ein pregethu ni, gwag hefyd eich ffydd chwithau. Fe’n ceffir ninnau hefyd yn dystion gau yn erbyn Duw, canys tystiasom yn erbyn Duw gyfodi ohono’r Crist, ac nis cyfododd, os wedi’r cwbl meirwon nis cyfodir. Canys os meirwon nis cyfodir, yna, ni chyfodwyd Crist ychwaith. Ac os Crist ni chyfodwyd, ofer eich ffydd chwi; yr ydych eto yn eich pechodau. Yna, cyfrgollwyd y rhai hefyd a hunodd yng Nghrist. Os gobeithio yng Nghrist yn y bywyd hwn a wnaethom, a dim ond hynny, truanach na phawb oll ydym. Ond, fel y mae, fe a gyfodwyd Crist oddiwrth feirwon, yn flaenffrwyth y rhai a hunodd. Canys, a bod trwy ddyn farwolaeth, trwy ddyn hefyd atgyfodiad meirwon. Ac megis yn Addaf y mae pawb yn marw, felly hefyd yng Nghrist y bydd bywhau pawb. Ond pob un yn ei reng ei hun, Crist yn flaenffrwyth, yna, eiddo Crist yn ei ddyfodiad ef; wedi hynny, y diwedd, pan draddodo ef y deyrnas i Dduw a’r Tad, wedi y diddymo ef bob penaduraeth a phob awdurdod a nerth. Canys rhaid teyrnasu ohono hyd oni osodo ei holl elynion tan ei draed. Diwethaf gelyn a ddifodir, yr angau. Canys darostyngodd bob peth tan ei draed ef. Ond pan ddywed [yr Ysgrythur] ddarostwng popeth, eglur mai oddieithr hwnnw a ddarostyngodd iddo ef bopeth. Pan fo darostyngedig iddo bopeth, yna hefyd darostyngir y Mab yntau i’r hwn a ddarostyngodd iddo bopeth, fel y byddo Duw gwbl yng nghwbl. Os amgen, ynteu, pa beth a wnânt hwy, a fedyddir ar ran y meirw? Oni chyfodir y meirw ddim, paham ynteu y bedyddir ar eu rhan hwy? A phaham yr ydym ninnau hefyd mewn perigl bob awr? Beunydd yr wyf yn marw, myn y gorfoledd amdanoch chwi, frodyr, y sydd i mi yng Nghrist Iesu ein Harglwydd ni. Os ar wedd dyn yr ymleddais i â bwystfiledd yn Ephesos, pa les i mi? Oni chyfyd y meirw, bwytawn ac yfwn, canys yfory marw y byddwn. Na chyfeiliornwch — y mae cyfathrach ddrwg yn distrywio cymeriadau da. Ymddadebrwch o ddifrif, ac na phechwch, canys anwybod am Dduw sydd ar rai. Er cywilydd i chwi y llefaraf wrthych fel hyn. Ond fe ddywed rhywun: Pa fodd y cyfyd y meirwon? Ac â pha ryw gorff y deuant? O, ynfyd! Y peth y byddi di yn ei hau, ni fywheir mono oni bydd marw. A’r peth y byddi di yn ei hau, nid y corff a ddyfydd a heui, onid gronyn noeth, ysgatfydd o ŷd neu ryw rawn arall. Ond Duw a rydd iddo gorff fel y mynnodd ef, ac i bob un o’r hadau ei gorff ei hun. Nid unrhyw gnawd pob cnawd, eithr amgen eiddo dynion, ac amgen cnawd anifail, amgen hefyd cnawd adar ac amgen eiddo pysgod. Hefyd cyrff nefol a chyrff daearol; eithr anghyfryw yw gogoniant y rhai nefol, ac anghyfryw hefyd eiddo’r rhai daearol. Amgen gogoniant haul, ac amgen gogoniant lloer, ac amgen gogoniant sêr. Canys y mae rhagor rhwng seren a seren mewn gogoniant. Felly hefyd atgyfodiad y meirwon. Heuir mewn llygredd, cyfodir mewn anllygredigaeth; heuir mewn gwaradwydd, cyfodir mewn gogoniant. Heuir mewn gwendid, cyfodir mewn nerth. Heuir corff anianol, cyfodir corff ysbrydol. Od oes gorff anianol, y mae hefyd un ysbrydol. Felly ysgrifenedig yw hefyd: Gwnaethpwyd y dyn cyntaf Addaf yn enaid byw, a’r Addaf diwethaf yn ysbryd a bair fywhau. Eithr nid cyntaf yr ysbrydol, ond yr anianol, wedyn yr ysbrydol. Y dyn cyntaf o ddaear, yn briddlyd, yr ail dyn o nef. Megis y priddlyd, cyfryw hefyd y rhai priddlyd; ac megis y mae’r nefol, cyfryw hefyd y nefolion. Ac megis y dygasom arwedd y dyn priddlyd, dygwn hefyd arwedd y dyn nefol. Eithr hyn yr wyf yn ei ddywedyd, frodyr: na ddichon cnawd a gwaed etifeddu teyrnas Dduw, nac ychwaith lygredd etifeddu anllygredigaeth. Wele! dirgelwch a fynegaf i chwi: ni hunwn ni oll, ond oll fe’n newidir mewn eiliad, ar darawiad llygad, wrth yr utgorn diwethaf. Canys fe utgenir, a chyfodir y meirwon yn anllygredig, ac fe’n newidir ninnau. Canys rhaid i’r llygradwy hwn wisgo anllygredigaeth, ac i’r marwol hwn wisgo anfarwoldeb. A phan ddarffo i’r llygradwy hwn wisgo anllygredigaeth, ac i’r marwol hwn wisgo anfarwoldeb, yna y dyfydd y gair a ysgrifennwyd: llyncwyd yr angau mewn buddugoliaeth. Pa le, angau, y mae dy fuddugoliaeth di? Pa le, angau, y mae dy golyn? Canys colyn angau, pechod yw, a grym pechod, y gyfraith yw. Ond i Dduw y diolch, iddo ef y sy’n rhoddi i ni fuddugoliaeth drwy ein Harglwydd ni, Iesu Grist. Am hynny, fy mrodyr anwylion, byddwch sefydlog a diymod a helaethion yng ngwaith yr Arglwydd bob amser, gan wybod nad ofer mo’ch llafur chwi yn yr Arglwydd. Am y casgliad i’r Saint eto, megis y trefnais i Eglwysi Galatia, felly gwnewch chwithau hefyd. Bob cyntaf o’r wythnos, neilltued pob un ohonoch wrth ei law, gan osod mewn trysorfa, ba beth bynnag a ffynnodd ganddo, fel na ohirier y casgliadau hyd oni ddelwyf i. A phan gyrhaeddwyf yna, pwy bynnag a gaffoch yn gymeradwy, y rhai hynny, a chyda hwy lythyrau, a ddanfonaf i ddwyn eich rhodd i Gaersalem. Ond os gwiw fydd i minnau hefyd deithio, gyda mi y teithiant. A deuaf atoch chwi wedi tramwy ohonof Facedonia, canys trwy Facedonia y deuaf; nid hwyrach y galwaf heibio i chwi, neu hyd yn oed aeafu, fel y’m hebryngoch chwithau i ba le bynnag yr elwyf. Canys nid yw yn fy mryd eich gweled yn awr ar fy hynt, oherwydd gobeithiaf aros ennyd gyda chwi, os caniatâ’r Arglwydd. Ac yr wyf yn aros yn Ephesos hyd y Sulgwyn. Canys agorwyd drws i mi, un ehang ac effeithiol, — a llawer y gwrthwynebwyr. Ac o daw Timotheos, gofelwch fod ei ymwneuthur â chwi yn ddi-ofn. Canys gwaith yr Arglwydd y mae yn ei wneuthur, megis minnau. Am hynny, na ddiystyrred neb ef; yn hytrach, hebryngwch ef mewn heddwch, fel y dêl ataf i, canys yr wyf yn ei ddisgwyl ef gyda’r brodyr. Ac am y brawd Apolos, llawer a erfyniais arno ddyfod atoch chwi gyda’r brodyr; eithr nid oedd o gwbl yn ei fryd ddyfod yr ennyd hon, ond dyfod a wna pan gaffo amser cyfaddas. Gwyliwch, sefwch yn y ffydd, ymwrolwch, ymgryfhewch. Bydded eich popeth mewn cariad. Ond erfyniaf arnoch, frodyr. Gwyddoch am deulu Stephanas, mai blaenffrwyth Achaia ydyw, ac iddynt eu dodi eu hunain at wasanaeth y saint. Byddwch chwithau hefyd ddarostyngedig i’r cyfryw rai, ac i bob un sy’n cydweithio (â ni) ac yn llafurio. Yr wyf yn llawenhau ym mhresenoldeb Stephanas a Ffortunatos ac Achaicos, oblegid cyflawnasant hwy eich diffyg chwi. Canys seibiant a roisant hwy i’m hysbryd ac i’r eiddoch chwithau. Arddelwch, gan hynny, y cyfryw rai. Y mae eglwysi Asia yn eich annerch. Y mae Acwila a Phrisca, gyda’r eglwys sydd yn eu hannedd hwy, yn danfon llawer annerch i chwi yn yr Arglwydd. Y mae’r brodyr oll yn eich annerch. Anherchwch eich gilydd â chusan sanctaidd. Yr annerch hwn â’m llaw i, Pawl. Od oes neb heb garu’r Arglwydd, bydded Anathema. Maran Atha. Gras yr Arglwydd Iesu gyda chwi. Fy nghariad innau gyda chwi oll, yng Nghrist Iesu. Pawl, apostol Crist Iesu trwy ewyllys Duw, a Thimotheus y brawd at eglwys Dduw y sydd yng Nghorinth ynghyda’r saint oll sydd yn Achaia i gyd. Gras i chwi a thangnefedd oddi wrth Dduw ein Tad a’r Arglwydd Iesu Grist. Bendigedig fo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, Tad y trugareddau a Duw pob diddanwch, sy’n ein diddanu ni yn ein holl orthrymder, fel y gallom ninnau ddiddanu’r neb a fo ym mhob rhyw orthrymder drwy’r diddanwch y’n diddanwyd ni ein hunain ag ef gan Dduw. Canys megis y daw dioddefiadau Crist yn helaeth i’n rhan, felly hefyd trwy Grist y mae ein diddanwch yn helaeth. Os ydym, ar y naill law, mewn gorthrymder, er mwyn eich diddanwch a’ch iachawdwriaeth chwi y mae hynny; ond os ydym, ar y llaw arall, yn cael ein diddanu, y mae hynny hefyd er mwyn eich diddanwch chwi, sy’n gweithredu mewn amynedd o dan yr un dioddefiadau ag yr ydym ninnau yn eu dioddef. Ac y mae ein gobaith amdanoch yn gadarn gan ein bod yn gwybod mai megis yr ydych yn gyfranogion o’r dioddefiadau, felly hefyd yr ydych o’r diddanwch. Canys ni fynnwn i chwi fod heb wybod, frodyr, parthed y gorthrymder a ddaeth i’n rhan yn Asia, mai dros fesur a thu hwnt i’n gallu y’n llethwyd nes anobeithio ohonom hyd yn oed gael byw. Eithr nyni ein hunain a gawsom ynom ein hunain ddedfryd angau, fel na byddem â’n hymddiried ynom ein hunain ond yn hytrach yn Nuw, cyfodwr y meirw. Ef a’n gwaredodd o’r gyfryw farwolaeth ac a’n gweryd. Ynddo ef y gosodasom ein gobaith y bydd iddo eto ein gwaredu rhagllaw, a chwithau hefyd yn cydweithio o’n plaid drwy weddi, fel gan lawer o bersonau y diolcher drosom gan lawer am y gymwynas rasol a ddaeth i’n rhan. Canys hyn yw ein hymffrost ni — tystiolaeth ein cydwybod mai yn sancteiddrwydd a didwylledd Duw, nid mewn doethineb cnawdol ond yng ngras Duw y rhodiasom yn y byd, ac yn arbennig felly yn ein perthynas â chwi. Canys nid ydym yn ysgrifennu pethau amgen atoch nag a ddarllenwch ac a ddeellwch. Gobeithiaf hefyd y deellwch hyd yr eithaf, megis hefyd y’n deallasoch ni’n rhannol, mai testun ymffrost i chwi ydym megis hefyd yr ydych chwithau i ni yn nydd ein Harglwydd Iesu. Ac yn hyn o hyder y bwriadwn i ddyfod atoch chwi yn gyntaf fel y caffech, ail fendith, a myned drwy eich mysg i Facedonia a dyfod drachefn o Facedonia atoch chwi a chael fy hebrwng gennych chwi i Iwdea. Wrth lunio’r bwriad hwn ai arfer gwamalrwydd a wneuthum wedi’r cwbl, tybed? Ai yn ôl y cnawd, tybed, y bwriedir yr hyn a fwriadaf, fel y bo Ie Ie a Nage Nage ger fy mron? Fel mai ffyddlon yw Duw nid yw ein hymadrodd ni yn ei berthynas â chwi yn Ie ac yn Nage. Canys mab Duw, Crist Iesu, a bregethwyd yn eich plith gennym ni — gennyf i a Silfanws a Thimotheus — nid Ie a Nage ydoedd eithr Ie a ddaeth ynddo ef. Canys pa gynifer bynnag yw addewidion Duw, ynddo ef y mae’r Ie iddynt. Am hynny drwyddo ef hefyd y mae’r Amen er gogoniant i Dduw drwom ni. Yr hwn sy’n ein cadarnhau ni gyda chwi i Grist ac a’n heneiniodd yw Duw. Ef hefyd a’n seliodd ac a roddes yr Ysbryd yn ernes yn ein calonnau. Yr wyf yn galw Duw yn dyst yn erbyn fy enaid mai er mwyn eich arbed chwi y peidiais hyd yma â dyfod i Gorinth. Nid ein bod yn arglwyddiaethu ar eich ffydd, yn hytrach cyd-hyrwyddwyr eich gorfoledd ydym. Canys yr ydych wedi eich sefydlu yn y ffydd. Hyn felly a benderfynais, sef peidio â dod atoch drachefn mewn tristwch. Canys os myfi a baraf dristwch i chwi, yna pwy sydd i beri llawenydd i mi ond y sawl a dristawyd drwof i? A dyma’r union beth a ysgrifennais, fel na ddelwn a chael tristwch oddi ar law y sawl a ddylai beri llawenydd i mi, canys yr oeddwn yn hyderu ar bawb ohonoch mai fy llawenydd i oedd yr eiddoch chwithau hefyd bawb ohonoch. Canys o orthrymder mawr ac o wasgfa calon yr ysgrifennais atoch, drwy lawer o ddagrau, nid er mwyn i chwi brofi tristwch ond yn hytrach fel y gwypech am y cariad sydd gennyf yn dra helaeth tuag atoch chwi. Os parodd rhywun dristwch nid i mi y’i parodd ef, ond i raddau — rhag i mi haeru gormod — i bawb ohonoch chwi. Digon i’r cyfryw un yw’r cerydd hwn gan y mwyafrif, fel y mae galw, i’r gwrthwyneb, am i chwi yn hytrach faddau a chysuro, rhag ysgatfydd i’r cyfryw un gael ei draflyncu gan dristwch eithafol. Gan hynny yr wyf yn eich annog i rymuso cariad tuag ato. Canys i’r diben hwn hefyd yr ysgrifennais, fel y cawn wybod, wedi eich gosod dan brawf, a ydych yn ufudd ym mhob dim. Ond i’r neb y maddeuwch chwi ddim iddo felly y gwnaf innau. Canys yr hyn a faddeuais i, os maddeuais rywbeth, er eich mwyn chwi y gwneuthum hynny yng ngŵydd Crist fel na cheffid mantais arnom gan Satan. Oblegid nid ydym ni heb wybod, am ei fwriadau. Wedi i mi fyned i Droas ar ran efengyl Crist, er bod drws wedi ei agor i mi yno gan yr Arglwydd, ni chefais lonydd i’m hysbryd oblegid na chefais hyd i’m brawd Titws; felly ffarweliais â hwynt ac euthum i Facedonia. Ond i Dduw y bo’r diolch am ei fod bob amser yn peri i ni fuddugoliaethu yng Nghrist ac yn amlygu arogl gwybodaeth ohono ef drwom ni ym mhob man. Canys perarogl Crist ydym i Dduw yn y rhai a gedwir ac yn y rhai a gollir, i’r naill arogl marwol i farwolaeth, i’r lleill arogl bywiol i fywyd. Ac i gwrdd â’r pethau hyn pwy sy’n ddigonol? Canys nid ydym, megis y mae llawer, yn gwneuthur llwgr-fasnach o air Duw, eithr megis o ddidwylledd, eithr megis o Dduw ac yng ngŵydd Duw y llefarwn yng Nghrist. Ai dechrau drachefn ein cymeradwyo ein hunain yr ydym? Neu a oes arnom angen llythyrau cymeradwyaeth atoch chwi neu oddi wrthych chwi megis y mae ar rai? Ein llythyr ni ydych chwi, wedi ei ysgrifennu yn ein calonnau, yn hysbys i bawb ac yn ddarllenadwy ganddynt. Amlwg yw mai llythyr Crist ydych wedi ei weinyddu gennym ni, wedi ei ysgrifennu nid ag inc ond ag Ysbryd y Duw byw, nid ar lechau cerrig ond ar lechau o gnawd, sef ar galonnau. Y mae gennym y cyfryw hyder trwy Grist tuag at Dduw. Ni olyga hyn ein bod yn gymwys ohonom ein hunain i farnu dim, fel pe bai’n deillio ohonom ni ein hunain, eithr o Dduw y mae ein cymhwyster gan mai ef hefyd a’n cymhwysodd i fod yn weinidogion cyfamod newydd, nid o’r llythyren ond o’r Ysbryd. Canys y mae’r llythyren yn lladd ond yr ysbryd yn bywhau. Ac os bu gweinidogaeth angau a gerfiwyd mewn llythrennau ar gerrig mewn gogoniant, fel na allai meibion Israel graffu ar wyneb Moses oblegid gogoniant ei wyneb, er mai gogoniant yn diflannu ydoedd, pa wedd na fydd gweinidogaeth yr ysbryd yn fwy fyth mewn gogoniant? Canys os bu gweinidogaeth y gollfarn yn ogoniant, mwy o lawer y mae gweinidogaeth cyfiawnder yn rhagori mewn gogoniant. Canys yn yr olygwedd hon ni bu ogoneddus yr hyn a ogoneddwyd oblegid y gogoniant tra rhagorol. Canys os daeth y diflanedig trwy ogoniant, mwy o lawer yw’r arhosol o ran gogoniant. Felly gan fod gennym y cyfryw obaith, yr ydym yn arfer rhyddid mawr heb wneuthur yr un modd ag yr ysgrifennwyd: Moses a osodai orchudd ar ei wyneb fel na chraffai meibion Israel ar ddarfyddiad yr hyn oedd yn diflannu. Eithr caledwyd eu meddyliau. Canys hyd heddiw y mae’r un gorchudd yn aros ar ddarlleniad yr Hen Gyfamod heb ei dynnu ymaith, gan mai yng Nghrist y dileir ef. Canys hyd heddiw, pa bryd bynnag y darllenir Moses, y mae gorchudd wedi ei daenu ar eu calon. Eithr pryd bynnag y try at yr Arglwydd symudir y gorchudd. Yr Arglwydd yw’r Ysbryd. A lle y mae Ysbryd yr Arglwydd yno y mae rhyddid. A nyni oll gan syllu ag wyneb diorchudd, megis mewn drych, ar ogoniant yr Arglwydd, a newidir i’r un ddelw, o ogoniant i ogoniant, megis gan yr Arglwydd, yr Ysbryd. Am hynny, gan fod gennym y weinidogaeth hon, megis y cawsom drugaredd, nid ydym yn gwangalonni. Eithr ymwrthodasom â’r pethau a gelir o gywilydd, heb rodio mewn cyfrwystra na llygru gair Duw, ond drwy eglurhad y gwirionedd yr ydym yn ein cymeradwyo ein hunain i bob cydwybod ddynol gerbron Duw. Ac os ydyw ein hefengyl ni hefyd dan orchudd, yn y rhai a gollir y mae’n orchuddiedig, sef yn y rhai y dallodd duw’r byd hwn feddyliau y digred ynddynt, fel na lewyrchai iddynt oleuni gogoniant efengyl y Crist sy’n ddelw Duw. Canys nid ni ein hunain a bregethwn eithr Iesu Grist yr Arglwydd, a ninnau’n weision i chwi er mwyn Iesu. Oblegid y Duw a ddywedodd “O dywyllwch llewyrcha goleuni,” ef hefyd a lewyrchodd yn ein calonnau ni fel y byddai goleuni gwybodaeth gogoniant Duw yn wyneb Crist. Y mae’r trysor hwn gennym mewn llestri pridd fel y byddo godidowgrwydd y gallu yn eiddo Duw ac nid yn deillio ohonom ni. Ym mhob dim yr ydym yn orthrymedig ond nid mewn cyfyngder, mewn penbleth ond nid mewn anobaith, yn cael ein herlid ond heb ein llwyr-adael, yn cael ein bwrw i lawr ond heb ein difetha, yn wastadol yn dwyn oddi amgylch yn y corff farwolaeth yr Iesu fel yr amlyger hefyd fywyd yr Iesu yn ein corff ni. Canys yn wastadol fe’n traddodir ni sy’n fyw, i farwolaeth er mwyn Iesu, fel yr amlyger hefyd fywyd Iesu yn ein marwol gnawd ni. Y mae marwolaeth felly yn gweithio ynom ni, a bywyd ynoch chwi. A chan fod gennym yr un ysbryd ffyddiog, megis yr ysgrifennwyd Credais, am hynny lleferais, yr ydym ninnau’n credu ac oblegid hynny yn llefaru hefyd, am ein bod yn gwybod mai’r hwn a gyfododd yr Arglwydd Iesu a’n cyfyd ninnau gydag Iesu ac a’n cyflwyna gyda chwi. Canys y mae’r cwbl er eich mwyn chwi, fel y byddo gras, wedi ymhelaethu ohono oherwydd diolchgarwch y lliaws, yn dra chyfoethog er gogoniant i Dduw. Oherwydd paham nid ydym yn gwangalonni, eithr hyd yn oed os yw ein dyn allanol yn dadfeilio, er hynny ein dyn mewnol a adnewyddir o ddydd i ddydd. Canys y mae’r cystudd ysgafn dros ennyd yn cynhyrchu’n anfesuradwy ac yn fwyfwy i ni dragwyddol bwys o ogoniant gan nad ydym yn edrych ar y pethau gweledig eithr ar y pethau anweledig. Canys y pethau gweledig dros dymor y maent, ond y mae’r pethau anweledig yn dragwyddol. Canys gwyddom os datodir ein daearol drigle yn y babell fod gennym adeilad oddi wrth Dduw, sef trigle nid o waith llaw ond un tragwyddol yn y nefoedd. Ac yn wir griddfan yr ydym yn hwn gan ein bod yn awyddus am gael ein harwisgo â’n preswylfa nefol. Os byddwn felly wedi ein harwisgo, nid yn noethion y’n ceir. Gan hynny yr ydym ni sydd yn y babell, yn griddfan o dan ein baich, oblegid nid ydym yn dymuno cael ein dadwisgo eithr ein harwisgo, fel y llyncer yr hyn sydd farwol gan fywyd. A’r sawl a weithiodd arnom i’r perwyl hwn yw Duw, yr hwn a roddes yr Ysbryd yn ernes inni. Yr ydym, oblegid hyn, yn hyderus bob amser gan ein bod yn gwybod bod cartrefu yn y corff yn golygu ein bod oddi cartref oddi wrth yr Arglwydd. Canys wrth ffydd y rhodiwn, nid wrth olwg. Mawr ynteu yw ein hyder, ac y mae’n llawer gwell gennym fod oddi cartref o’r corff â chartrefu gyda’r Arglwydd. Gan hynny yr ydym hefyd yn ymorchestu i ryngu bodd iddo pa un bynnag ai gartref ai oddi cartref y byddom. Canys y mae’n rhaid i bawb ohonom ymddangos gerbron brawdle Crist, fel y derbynio pob un yr hyn a wnaed trwy’r corff, yn ôl yr hyn a gyflawnodd — bid dda, bid ddrwg. A nyni, gan hynny, yn gwybod beth yw ofn yr Arglwydd, yr ydym yn perswadio dynion ac fe’n gwnaed yn hysbys i Dduw. Hyderaf ein bod hefyd wedi ein gwneud yn hysbys yn eich cydwybodau chwi. Nid ydym drachefn yn ein cymeradwyo ein hunain i chwi, eithr rhoddi i chwi yr ydym achlysur ymffrost o’n plegid, fel y bo gennych rywbeth i wynebu’r rhai sy’n ymffrostio yn yr hyn sydd yn y golwg ac nid yn y galon. Canys os o’n pwyll yr ydym, i Dduw y mae hynny; os yn ein hiawn bwyll yr ydym, i chwi yr ydym felly. Canys y mae cariad Crist â’i orfod arnom gan ein bod wedi barnu hyn — fod un wedi marw dros bawb ac felly fod pawb wedi marw. A thros bawb y bu farw fel na byddo i’r rhai byw fyw mwyach iddynt eu hunain eithr i’r hwn a fu farw drostynt ac a gyfodwyd. Felly nyni, o hyn allan, nid adwaenom neb yn ôl y cnawd. A hyd yn oed os adnabuom Grist yn ôl y cnawd, eto ar hyn o bryd nid ydym mwyach yn ei adnabod fel hynny. Felly os yw neb yng Nghrist y mae’n greadur newydd. Darfu’r hen bethau; wele daeth pethau newydd. Ac y mae’r cwbl o Dduw, yr hwn a’n cymododd ni ag ef ei hun drwy Grist, ac a roddes i ni weinidogaeth y cymod, sef bod Duw yng Nghrist yn cymodi’r byd ag ef ei hun heb gyfrif iddynt eu troseddau ac wedi gosod ynom ni air y cymod. Llysgenhadau dros Grist gan hynny ydym ni, megis pe bai Duw yn eich annog drwom ni. Yr ydym yn erfyn dros Grist, cymoder chwi â Duw. Yr hwn nid adnabu bechod a wnaeth ef yn bechod drosom ni, fel y’n gwnelid ni’n gyfiawnder Duw drwyddo ef. Gan ein bod yn gyd-weithwyr yr ydym hefyd yn eich annog i beidio â derbyn gras Duw yn ofer. Canys dywed Mewn amser cymeradwy y gwrandewais arnat Ac yn nydd iachawdwriaeth y’th gynorthwyais di. Wele yn awr yr amser cymeradwy, wele yn awr ddydd iachawdwriaeth. Nid ydym yn rhoddi unrhyw dramgwydd mewn unrhyw fodd, fel na feier y weinidogaeth, eithr ym mhob dim yr ydym yn ein cymeradwyo ein hunain fel gweinidogion Duw: mewn amynedd mawr, mewn gorthrymderau, mewn anffodion, mewn cyfyngderau, dan ergydion, mewn carcharau, mewn terfysgoedd, mewn lluddedion, mewn aml golli cwsg a bod heb fwyd, mewn purdeb, mewn gwybodaeth, mewn hirymaros, mewn caredigrwydd, yn yr Ysbryd Glân, mewn cariad diragrith, yng ngair y gwirionedd, yn nerth Duw, drwy arfau cyfiawnder ar dde ac aswy, drwy ogoniant ac anfri, drwy anghlod a chlod. Yr ydym megis twyllwyr ac eto’n eirwir, megis rhai nid adweinir ac eto’n adnabyddus, megis rhai yn marw ac wele byw ydym, megis rhai a gosbir ac eto heb ein rhoddi i farwolaeth, megis rhai athrist ac eto yn llawenhau yn wastadol, megis tlodion ac eto yn cyfoethogi llawer, megis rhai heb ddim ganddynt ac eto yn meddiannu popeth. Agorwyd ein genau tuag atoch, Corinthiaid, ehangwyd ein calon. Ni chyfyngir arnoch ynom ni, ond y mae’n gyfyng arnoch yn eich ymysgaroedd chwi. Fel y galloch dalu’r un faint yn ôl — megis wrth blant i mi y llefaraf — ymehengwch chwithau hefyd. Na ieuer chwi’n anghydweddol â rhai digred. Canys pa gydgyfranogiad a all fod rhwng cyfiawnder ac anghyfraith, neu beth sy’n gyffredin rhwng goleuni a thywyllwch? Pa gytgord sydd rhwng Crist a Beliar neu pa gyfran sydd i’r credadun gyda’r anghredadun? Pa gydfod sydd rhwng teml Dduw ac eilunod? Oblegid teml y Duw byw ydym ni, megis y dywedodd Duw: Trigaf yn eu plith a rhodiaf yn eu canol, A byddaf yn Dduw iddynt a byddant hwy yn bobl i mi. Am hynny Ewch allan o’u canol hwynt Ac ymwahenwch, medd yr Arglwydd, Ac na chyffyrddwch â’r hyn sy’n aflan A myfi a’ch derbyniaf chwi. A byddaf i chwi yn Dad A byddwch chwi i mi yn feibion a merched, Medd yr Arglwydd Hollalluog. Am hynny, anwylyd, gan fod gennym yr addewidion hyn, glanhawn ein hunain oddi wrth bob halogrwydd cnawd ac ysbryd gan berffeithio sancteiddrwydd yn ofn Duw. Gwnewch le i ni. Ni wnaethom gam â neb, ni lygrasom neb, ni thwyllasom neb. Nid i’ch condemnio yr wyf yn llefaru. Canys dywedais eisoes eich bod yn ein calonnau fel y byddom farw a byw gyda’n gilydd. Mawr yw fy rhyddid tuag atoch, mawr yw fy ymffrost o’ch plegid. Yr wyf yn gyflawn o ran diddanwch, yr wyf yn orlawn o ran gorfoledd ym mhob gorthrymder a ddaw i’n rhan. Canys yn wir, wedi dyfod ohonom i Facedonia ni chafodd ein cnawd ddim gorffwys, eithr ym mhob dim y’n cystuddiwyd. Oddi allan brwydrau, oddi mewn ofnau. Eithr cysurwr y rhai darostyngedig, sef Duw, a’n cysurodd ni trwy ddyfodiad Titws. Ac nid yn unig trwy ei ddyfodiad eithr hefyd trwy’r cysur a gafodd ef yn eich plith. Adroddodd wrthym am eich hiraeth, eich gofid a’ch sêl o’m plaid nes i mi lawenhau’n fwy fyth. Canys os perais dristwch i chwi drwy’r llythyr nid yw’n edifar gennyf; os hefyd y bu’n edifar gennyf — gwelaf fod y llythyr hwnnw wedi eich tristáu, er nad dim ond dros dro — erbyn hyn yr wyf yn llawen, nid oblegid eich bod wedi profi tristwch eithr oblegid eich bod wedi tristáu hyd at edifeirwch. Canys fe’ch tristawyd yn ôl ewyllys Duw, fel na chaffech eich niweidio mewn unrhyw fodd drwom ni. Oblegid y mae tristwch yn ôl ewyllys Duw yn cynhyrchu edifeirwch er iachawdwriaeth sydd ddiedifarus. Ond y mae tristwch y byd yn cynhyrchu marwolaeth. Wele, atolwg, gymaint eiddgarwch a barodd y tristwch sydd wrth fodd Duw i chwi a pha gyfiawnhad, pa ddicllonedd, pa ofn, pa hiraeth, pa sêl, pa gosbedigaeth. Fe’ch dangosasoch eich hunain ym mhob rhyw fodd yn bur yn y drafodaeth. Gan hynny os ysgrifennais atoch, nid oblegid y sawl a wnaeth anghyfiawnder nac oblegid y sawl a’i dioddefodd y gwneuthum hynny, eithr fel yr amlygid yn eich plith, gerbron Duw, eich eiddgarwch drosom ni. Oblegid hyn y cysurwyd ni. Ond heblaw y cysur a ddaeth i’n rhan ni cawsom orfoledd llawer mwy oblegid y gorfoledd a ddaeth i ran Titws, canys cafodd ei ysbryd orffwystra drwy bawb ohonoch chwi. Canys os ymffrostiais ddim wrtho o’ch plegid chwi ni’m cywilyddiwyd, eithr megis y llefarasom bopeth wrthych mewn gwirionedd, felly hefyd y gwireddwyd ein hymffrost gerbron Titws. Y mae ganddo serch eithriadol gynnes tuag atoch wrth gofio am ufudd-dod pawb ohonoch, pa fodd y derbyniasoch ef gydag ofn a chryndod. Y mae’n llawen gennyf fy mod, ym mhob dim, yn gallu ymddiried ynoch. Gwnawn yn hysbys i chwi, frodyr, y gras a rodded gan Dduw yn eglwysi Macedonia, sef bod helaethrwydd eu llawenydd a dyfnder eu tlodi, a hynny mewn aml brawf gorthrymderus a roed arnynt, wedi ymhelaethu hyd onid ydyw’n gyfoeth o haelioni ar eu rhan. Canys yn ôl eu gallu, yr wyf yn tystio, a thu hwnt i’w gallu y rhoesant yn wirfoddol, gan ddeisyf arnom gyda thaerineb mawr am y ffafr o gyfranogi yn y weinidogaeth i’r saint. Ac nid yn ôl ein disgwyliad y gwnaethant, eithr fe’u rhoesant eu hunain yn gyntaf i’r Arglwydd ac yna i ni drwy ewyllys Duw. Am hynny yr anogasom Titws, megis y cychwynnodd y gorchwyl graslawn hwn yn eich plith, felly hefyd i’w orffen. Eithr megis yr ydych yn oludog ym mhob peth, mewn ffydd a gair a gwybodaeth, ym mhob ymroddiad ac yn y cariad a ddaeth i’ch plith drwom ni, felly hefyd byddwch gyfoethog yn y gras hwn. Nid ar ffurf gorchymyn yr wyf yn llefaru eithr trwy sêl pobl eraill yr wyf yn gosod dilysrwydd eich cariad chwithau ar brawf. Canys adwaenoch ras ein Harglwydd Iesu Grist, ddarfod iddo, ac yntau’n gyfoethog, fyned yn dlawd er eich mwyn chwi fel y’ch cyfoethogid chwi trwy ei dlodi ef. Felly cyngor a roddaf yn y mater hwn. Canys hyn sy’n fuddiol i chwi gan eich bod eisoes wedi dechrau, er y llynedd, nid yn unig wneuthur eithr hefyd ewyllysio. Yn awr, ynteu, gorffennwch y gwneuthur hefyd, fel megis y bu’r parodrwydd i ewyllysio felly hefyd y bo’r cyflawni o’r hyn sydd gennych. Canys os yw’r parodrwydd ar gael y mae dyn yn gymeradwy yn ôl mesur yr hyn sydd ganddo, nid yn ôl yr hyn nad yw ganddo. Canys nid trefnu yr ydys i beri ysgafnhad i eraill a chaledi i chwi. Eithr, yn ôl egwyddor cyfartalwch, ar hyn o bryd y mae’r hyn sydd gennych i’w hepgor yn cwrdd â’u diffyg hwy fel y bo’r hyn a fo’n weddill ganddynt hwythau yn cwrdd â’ch diffyg chwi ac y bo cyfartalwch, megis yr ysgrifennwyd: Nid oedd gormod gan y sawl a gasglasai lawer ac nid oedd rhy fach gan y sawl a gasglasai ychydig. I Dduw y bo’r diolch am osod ohono yng nghalon Titws yr un eiddgarwch drosoch chwi, canys er iddo dderbyn ein hanogaeth, eto, gan gymaint ei sêl, o’i wirfodd yr aeth i edrych amdanoch. Danfonasom gydag ef y brawd y mae ei glod yn yr efengyl drwy’r holl eglwysi; ac nid hynny’n unig eithr fe’i dewiswyd gan yr eglwysi i fod yn gydymaith i ni yn y gorchwyl graslawn hwn a weinyddir gennym er gogoniant i’r Arglwydd ei hun ac o’n hewyllysgarwch ni, gan ochel felly rhag i rywun ein beio parthed y cyfraniadau haelionus a weinyddir gennym. Canys yr ydym yn rhagddarbod pethau gweddus nid yn unig gerbron yr Arglwydd eithr hefyd gerbron dynion. Anfonasom gyda hwynt ein brawd y cawsom brawf o’i sêl lawer gwaith ac mewn llawer modd; yn awr, fodd bynnag, y mae’n llawer mwy selog oblegid yr ymddiried mawr sydd ganddo ynoch chwi. Parthed Titws ar y naill law, fy nghydymaith ydyw a chyd-lafurwr yn eich plith; parthed ein brodyr, ar y llaw arall, cenhadau’r eglwysi, gogoniant Crist ydynt. Rhoddwch iddynt, gan hynny, brawf eglur gerbron yr eglwysi o’ch cariad ac o gywirdeb ein hymffrost o’ch plegid. Afraid ynteu yw i mi ysgrifennu atoch ynglŷn â’r gymwynas ar gyfer y saint. Canys gwn am eich ewyllysgarwch a byddaf yn ymffrostio yn eich cylch wrth y Macedoniaid fod Achaia yn barod er y llynedd. Symbylodd eich sêl y rhan fwyaf ohonynt. Er hynny anfonais y brodyr fel na byddo ein hymffrost yn hyn o ran yn ofer eithr y byddoch, megis y dywedais, yn barod. Ofn sydd arnaf rhag i Facedoniaid ddyfod gyda mi a’ch cael yn amharod ac i ni, heb sôn amdanoch chwi, gael ein gwarthruddo yn hyn o hyder. Bernais felly mai anghenraid oedd annog y brodyr i’n rhagflaenu tuag atoch fel y trefnont ymlaen llaw eich rhodd haelionus a ragaddawyd ac y byddo honno, drwy fod yn barod, yn gweddu i haelioni ac nid i gybydd-dra. Ond cofier hyn: a heuo’n brin yn brin hefyd y med, a heuo’n helaeth yn helaeth hefyd y med. Rhodded pob un megis yr arfaethodd yn ei galon, nid o anfodd neu o orfod. Canys rhoddwr llawen y mae Duw yn ei garu. Gall Duw beri i bob gras fod mewn helaethrwydd yn eich meddiant fel y bo gennych, ym mhob dim a phob amser, ddigon i gwrdd â phob angen a gweddill helaeth dros ben ar gyfer pob gweithred dda, megis yr ysgrifennwyd: Gwasgarodd, rhoddodd i’r tlodion, Erys ei gyfiawnder yn dragywydd. Yr hwn a ddarpar had i’r heuwr a bara yn ymborth a ddarpar had i chwi ac a’i hamlha. Pair gynnydd hefyd i ffrwyth eich cyfiawnder. Fe fyddwch yn oludog ym mhob dim ar gyfer pob haelioni, ac y mae hwnnw, drwom ni, yn cynhyrchu diolchgarwch i Dduw. Canys y mae gweinyddiad y gymwynas hon nid yn unig yn cyflawni angen y saint eithr y mae’n helaethach fyth trwy lawer o ddiolchiadau i Dduw. Drwy gyfrwng y prawf a geir yn y gwasanaeth hwn y maent yn gogoneddu Duw oblegid ufudd-dod eich cyffes i efengyl Crist a haelfrydedd eich cydymdeimlad â hwy ac â phawb. A chan weddïo drosoch y maent yn hiraethu amdanoch oblegid bod gras Duw yn dra helaeth yn eich plith. I Dduw y bo’r diolch am ei ddawn anhraethadwy. A Yr wyf i, Pawl, yn erfyn arnoch er mwyn addfwynder a thiriondeb Crist — myfi “sydd mor ostyngedig pan fyddwyf yn eich plith, wyneb yn wyneb, ond yn dangos cryn hyder tuag atoch pan fyddwyf yn absennol” — yr wyf yn crefu arnoch na bo galw arnaf pan ddelwyf i’ch plith, i ddangos yn eofn y cyfryw hyder y bwriadaf anturio arno, tuag at rywrai sy’n tybied mai yn ôl y cnawd y rhodiwn. Canys er ein bod yn rhodio yn y cnawd nid yn ôl y cnawd yr ydym yn milwrio, oblegid arfau ein milwriaeth nid cnawdol mohonynt, eithr nerthol dros Dduw ydynt i dynnu cestyll i’r llawr trwy ddymchwel ymresymiadau a phob gwrthglawdd a ddyrchefir yn erbyn gwybodaeth o Dduw a dwyn pob bwriad yn gaeth fel y byddo’n ufudd i Grist. Parod ydym hefyd i gosbi pob anufudd-dod pan gyflawner eich ufudd-dod chwi. Ar yr hyn sydd yn y golwg yr edrychwch. Os bu i neb ei ddarbwyllo’i hun ei fod yn eiddo i Grist, ystyried hyn drachefn rhyngddo ac ef ei hun, megis y mae ef yn eiddo i Grist felly ninnau hefyd. Canys os ymffrostiaf braidd yn ormod gyda golwg ar yr awdurdod a roddes yr Arglwydd inni er adeiladaeth ac nid er dinistr i chwi, ni’m cywilyddir — er na fynnwn ymddangos fel pe bawn am eich dychrynu trwy lythyrau. Canys, meddir, y mae’r llythyrau yn bwysfawr a grymus, ond y mae presenoldeb y corff yn edlychaidd a’r ymadrodd yn gwbl ddirmygedig. Ystyried y cyfryw un hynyma, mai megis yr ydym ar air mewn llythyrau pan fyddom yn absennol felly hefyd yr ydym mewn gweithred pan fyddom yn bresennol. Canys ni feiddiwn ein rhestru ein hunain ymhlith rhai o’r rheini sy’n eu cymeradwyo eu hunain na’n cymharu ein hunain â hwynt. Ond nid ydynt hwy, wrth eu mesur eu hunain wrthynt eu hunain ac wrth eu barnu eu hunain wrthynt eu hunain, yn dangos deallgarwch. Ond nyni nid ymffrostiwn yn ddifesur, eithr yn ôl mesur y rhandir a rannodd Duw yn fesur i ni y cyraeddasom hyd atoch chwithau. Canys nid ydym, fel pe baem heb ddyfod atoch chwi, yn gor-ymestyn dros y terfyn, oherwydd atoch chwithau y daethom gyda’r cyntaf, yng ngwasanaeth efengyl Crist. Nid ydym yn rhedeg i eithafion gan ymffrostio yn ymdrechion llafurus pobl eraill, eithr gobeithio yr ydym y bydd cynnydd dirfawr yn ein rhandir trwy gynnydd eich ffydd chwi, fel y gallom gyhoeddi’r efengyl y tu hwnt i’ch terfynau chwi yn hytrach nag ymffrostio yn yr hyn a gyflawnwyd eisoes yn rhandir rhywun arall. Y neb sy’n ymffrostio ymffrostied yn yr Arglwydd. Canys nid y sawl sy’n ei gymeradwyo ei hun sydd dderbyniol ond y sawl y mae’r Arglwydd yn ei gymeradwyo. Gwyn fyd na chyd-ddygech ag ychydig ffolineb ar fy rhan. Eithr yr ydych hefyd yn cyd-ddwyn â mi. Canys yr wyf yn eiddigeddus drosoch ag eiddigedd oddi wrth Dduw gan fy mod wedi eich dyweddïo i un gŵr fel y gallwn eich cyflwyno yn forwyn bur i Grist. Ond y mae ofn arnaf rhag o bosibl, megis y twyllodd y sarff Efa trwy ei chyfrwystra, y llygrir eich meddyliau a bod iddynt wyro oddi wrth yr unplygrwydd a’r purdeb sy’n gweddu tuag at Grist. Canys os daw rhywun ar ei dro a phregethu ohono Iesu arall na phregethasom ni, neu os derbyniwch Ysbryd arall na dderbyniasoch neu efengyl arall na chofleidiwyd gennych, yr ydych yn goddef yn ddigon rhwydd. Yr wyf yn ystyried na fûm mewn unrhyw fodd yn ddistadlach na’r “uwch-apostolion.” A hyd yn oed os anhyddysg ydwyf o ran ymadrodd eto nid felly yr wyf o ran gwybodaeth, fel y gwnaed yn eglur i chwi, ym mhob modd a cherbron pawb. A gyflawnais i, tybed, drosedd wrth fy narostwng fy hun fel y dyrchefid chwi, sef oblegid fy mod wedi pregethu efengyl Duw yn rhad i chwi? Ysbeiliais eglwysi eraill drwy gymryd tâl er mwyn eich gwasanaethu chwi, a phan oeddwn yn bresennol gyda chwi ac mewn eisiau ni bûm yn faich ar neb. Canys cyflenwodd y brodyr a ddaeth o Facedonia fy angen. Gan hynny fe ymgedwais ym mhob dim rhag bod yn feichus i chwi a gwnaf hynny eto. Cyn wired â bod gwirionedd Crist ynof ni chaeir yr ymffrost hwn rhagof ym mharthau Achaia. Paham? Ai oblegid nad ydwyf yn eich caru? Duw a ŵyr. Ond yr hyn yr wyf yn ei wneuthur a wnaf eto er mwyn torri ymaith gyfle’r rhai sy’n chwennych cyfle yn y gobaith y ceir eu bod, yn y peth yr ymffrostiant o’i blegid, ar yr un tir â ninnau. Canys ffug-apostolion yw’r cyfryw rai, gweithwyr twyllodrus, yn ymrithio fel apostolion i Grist. Ac nid rhyfeddod yw hynny, canys y mae Satan ei hun yn ymrithio fel angel goleuni. Nid ydyw’n beth mawr, felly, os yw ei weision hefyd yn ymrithio fel gweision cyfiawnder. Bydd eu diwedd hwynt yn cyfateb i’w gweithredoedd. Dywedaf drachefn, na thybied neb fy mod yn ynfyd; ac onid e derbyniwch fi hyd yn oed fel un ynfyd, fel y gallwyf innau ymffrostio rhyw ychydig. Yr hyn a ddywedaf nid yn ôl yr Arglwydd y’i dywedaf eithr megis mewn ynfydrwydd, gan hyderu bod hyn o sail i’r ymffrost. Gan fod llawer yn ymffrostio yn ôl y cnawd ymffrostiaf innau. Canys er eich bod yn ddoethion yr ydych yn dygymod yn eithaf bodlon ag ynfydion. Oblegid os darostwng rhywun chwi i gaethiwed, os llarpia rhywun chwi, os cipia rhywun chwi, os ymfawrha rhywun, neu os tery rhywun chwi ar eich wyneb, yr ydych yn goddef hynny. Er anghlod yr wyf yn dywedyd mai gwan fuom ni. Ac eto ym mha beth bynnag y mae neb yn ymhonni — yn ffôl yr wyf yn siarad — yr wyf innau’n ymhonni. Ai Hebreaid ydynt? Felly finnau. Ai Israeliaid ydynt? Felly finnau. Ai had Abraham ydynt? Felly finnau. Ai gweision i Grist ydynt? Llefaraf yn ynfyd, myfi’n fwy felly; mewn caledwaith yn helaethach, mewn carcharau yn amlach, dan wialenodiau y tu hwnt i fesur, mewn perygl einioes yn aml. Gan yr Iddewon y cefais bumwaith ddeugain gwialennod namyn un, fe’m curwyd deirgwaith â gwiail, unwaith fe’m llabyddiwyd, bûm deirgwaith mewn llongddrylliad, treuliais noswaith a diwrnod yn y dyfnfor. Bûm mewn teithiau yn aml, mewn peryglon wrth groesi afonydd, mewn peryglon oddi wrth ladron, mewn peryglon oddi wrth fy nghyd-genedl, mewn peryglon oddi wrth genhedloedd eraill, mewn peryglon yn y ddinas, mewn peryglon yn yr anialwch, mewn peryglon ar fôr, mewn peryglon ymhlith gau-frodyr, mewn llafur a lludded, heb gwsg yn aml, mewn newyn a syched, ar fy nghythlwng yn aml, mewn oerfel a noethni. Heb sôn am bethau eraill y mae gofal beunyddiol arnaf, pryder oblegid yr holl eglwysi. Pwy sy’n wan nad wyf innau’n wan? Pwy sy’n tramgwyddo nad wyf innau ar dân? Os oes ymffrostio i fod, am y pethau a berthyn i’m gwendid yr ymffrostiaf. Duw a Thad yr Arglwydd Iesu, yr hwn sy’n fendigedig yn oes oesoedd, a ŵyr nad wyf yn dywedyd celwydd. Yn Namascws gosododd rhaglaw’r brenin Aretas wyliadwriaeth ar ddinas y Damasceniaid er mwyn fy nal, a thrwy ffenestr y’m gollyngwyd i waered mewn basged ar hyd y mur ac y dihengais o’i ddwylo. Y mae’n rhaid ymffrostio. Nid buddiol mo hynny; eto deuaf at weledigaethau a datguddiadau’r Arglwydd. Adwaen ddyn yng Nghrist a gipiwyd i fyny i’r drydedd nef, bedair blynedd ar ddeg yn ôl, — ai yn y corff ni wn, ai allan o’r corff ni wn, ond gŵyr Duw. Gwn am y cyfryw ddyn — ai yn y corff ai allan o’r corff ni wn i, ond gŵyr Duw — ddarfod ei gipio i Baradwys a chlywed ohono eiriau anhraethadwy nad cyfreithlawn i ddyn eu hadrodd. Am y cyfryw ddyn yr ymffrostied, eithr amdanaf fy hun nid ymffrostiaf oddieithr yn fy ngwendid. Canys os dymunaf ymffrostio ni byddaf ynfyd, oblegid y gwirionedd a ddywedaf. Eithr ymataliaf, rhag i rywun synied yn uwch amdanaf na’r hyn a wêl ynof ac a glyw gennyf oblegid godidowgrwydd y datguddiadau. Oblegid hyn, fel na’m tra-dyrchefid rhodded i mi swmbwl yn y cnawd, cennad Satan i’m dyrnodio, fel na’m tra-dyrchafwn fy hun. Gyda golwg ar y peth hwn atolygais deirgwaith ar fod iddo ymadael â mi. Eithr dywedodd wrthyf: Digon i ti fy ngras i. Canys mewn gwendid y perffeithir nerth. Yn dra llawen, gan hynny, yr ymffrostiaf yn hytrach yn y gwendidau fel y byddo nerth Crist yn gysgod drosof. Am hynny yr wyf yn ymfodloni mewn gwendidau, mewn gwaradwyddiadau, mewn anffodion, mewn erlidiau, mewn cyfyngderau er mwyn Crist. Canys pan fwyf wan, y pryd hwnnw yr wyf gadarn. Euthum yn ynfyd. Chwychwi a’m gorfododd. Canys dylaswn gael fy nghymeradwyo gennych chwi. Oblegid ni fûm, mewn unrhyw fodd, yn llai na’r “uwch-apostolion” er nad wyf innau’n ddim. Cyflawnwyd arwyddion apostol yn eich plith ym mhob amynedd, mewn arwyddion a rhyfeddodau ac mewn nerthoedd. Ym mha beth, ynteu, yr ydych yn llai eich braint na’r eglwysi eraill onid hwyrach oblegid na fûm i’n faich arnoch? Maddeuwch i mi hyn o gamwri. Wele’r trydydd tro yr wyf yn barod i ddyfod atoch ac ni fyddaf yn faich arnoch. Canys nid eich eiddo yr wyf yn ei geisio ond chwychwi. Canys nid dyletswydd y plant yw trysori ar gyfer y rhieni ond y rhieni ar gyfer y plant. Gyda’r parodrwydd mwyaf y treuliaf i ac yr ymdreuliaf dros eich eneidiau. Ai po fwyaf y caraf i chwi lleiaf oll y’m cerir i, tybed? Bid felly, ni bûm i’n faich arnoch. Eithr gan fy mod yn greadur cyfrwys fe’ch deliais chwi hwyrach trwy ddichell. A ddeliais i fantais arnoch drwy unrhyw un o’r rhai a anfonais atoch? Ceisiais gan Ditws ddyfod atoch ac anfonais y brawd gydag ef. A wnaeth Titws yn fawr o’i gyfle i elwa arnoch? Onid yn yr un Ysbryd y rhodiasom? Onid yn yr un olion y troediasom? Ers talm bellach yr ydych yn tybied ein bod yn ein hamddiffyn ein hunain ger eich bron chwi. Gerbron Duw ac yng Nghrist y llefarwn. Ac y mae’r cwbl, anwylyd, er mwyn eich adeiladaeth chwi. Canys y mae ofn arnaf rhag i mi ddyfod a’ch cael heb fod yn gyfryw ag a ddymunaf, a’m cael innau gennych chwi yn gyfryw na ddymunech. Ofnaf y gall fod cynnen, cenfigen, pyliau o lidiowgrwydd, cwerylon, enllibiau, hustyngau, ymchwyddiadau, terfysgoedd. Ofnaf rhag i’m Duw, wedi i mi ddyfod drachefn, fy narostwng o’ch achos chwi, ac y bydd i mi alaru oblegid llawer o’r rhai a bechodd gynt ac sydd heb edifarhau am yr aflendid, y puteindra, a’r trythyllwch a wnaethant. Hwn yw’r trydydd tro yr wyf yn dyfod atoch. Yng ngenau dau neu dri o dystion y sefydlir pob gair. Rhagfynegais pan oeddwn yn bresennol yr ail dro a rhagfynegaf yn awr yn f’absen i’r cyn-bechaduriaid ac i bawb o’r lleill nad arbedaf neb os deuaf drachefn, yn gymaint â’ch bod yn ceisio prawf mai Crist sy’n llefaru ynof. Nid gwan yw ef tuag atoch eithr nerthol ynoch. Y mae’n wir y croeshoeliwyd ef o wendid ond y mae’n byw, er hynny, trwy nerth Duw. Ac yr ydym ninnau’n wan ynddo ef, eithr byddwn fyw gydag ef trwy nerth Duw yr hwn a amlygir tuag atoch. Profwch eich hunain a ydych yn y ffydd; chwiliwch eich hunain. Neu oni wyddoch amdanoch eich hunain fod Iesu Grist ynoch? Hynny yw oddieithr eich bod yn anghymeradwy. Ond yr wyf yn gobeithio y gwybyddwch nad ydym ni yn anghymeradwy. Eithr yr ydym yn gweddïo ar Dduw na bo i chwi wneuthur dim drwg, nid er mwyn i ni ymddangos yn gymeradwy, ond er mwyn i chwi wneuthur yr hyn sydd dda ac i ninnau fod megis yn anghymeradwy. Canys ni allwn ni wneuthur dim yn erbyn y gwirionedd, eithr yn hytrach o blaid y gwirionedd. Oblegid llawen ydym pan fyddom ni’n wan a chwithau’n gadarn. Am hyn hefyd y gweddïwn, sef am eich perffeithio. Oblegid hyn yr ysgrifennaf y pethau hyn yn f’absen fel na bo i mi, pan fyddwyf yn bresennol, arfer gerwinder yn ôl yr awdurdod a roddes yr Arglwydd i mi er adeiladaeth ac nid er dinistr. Bellach, frodyr, byddwch lawen, ymberffeithiwch, ymgysurwch, byddwch yn unfryd, byddwch yn heddychol, a bydd Duw’r cariad a’r heddwch gyda chwi. Cyferchwch eich gilydd â chusan sanctaidd. Y mae’r holl saint, yma, yn eich cyfarch. Boed gras yr Arglwydd Iesu Grist, a chariad Duw, a chymdeithas yr Ysbryd Glân gyda phawb ohonoch. Paul Apostol, nid o ddynion na thrwy ddyn, eithr trwy Iesu Grist a Duw Dad a’i cyfododd ef oddiwrth y meirw, a’r brodyr oll sydd gyda mi, at eglwysi Galatia. Gras i chwi a thangnefedd oddiwrth Dduw ein Tad a’r Arglwydd Iesu Grist, a’i rhoddes ei hun dros ei pechodau ni, fel y’n gwaredai allan o’r byd drwg presennol yn ôl ewyllys Dduw a’n Tad ni, i’r hwn y bo’r gogoniant yn oes oesoedd. Amen. Rhyfedd gennyf eich symud cyn gynted oddiwrth y neb a’ch galwodd chwi trwy ras Crist, i efengyl arall, nad yw arall, ond bod rhai yn aflonyddu arnoch, ac yn ewyllysio gwrthdroi efengyl y Crist. Ond hyd yn oed os efengylwn ni neu angel o nef i chwi beth amgen nag a efengylasom ichwi, bydded anathema. Megis y dywedasom eisoes, dywedyd yr wyf eto yr awron, od oes neb yn efengylu i chwi beth amgen nag a dderbyniasoch, bydded anathema. Yr awron, ynteu, ai boddhau dynion yr wyf ai Duw? — neu geisio bodloni dynion? Pe bawn eto yn bodloni dynion, ni byddwn gaethwas Crist. Canys hysbysu yr wyf i chwi, frodyr, am yr efengyl a bregethwyd gennyf fi, nad yn ôl dyn y mae hi: oherwydd nid gan ddyn derbyniais i hi, nac y’m dysgwyd ynddi, eithr trwy ddatguddiad Iesu Grist. Clywsoch am fy muchedd i gynt ym myd yr Iddew, mai dros fesur yr erlidiwn eglwys Dduw a’i difrodi hi, a chynhyddu ym myd yr Iddew ragor llawer o’m cyfoedion yn fy nghenedl fy hun, gan fod yn helaethach fy sêl dros draddodiadau fy nhadau. Ond pan fu da gan hwnnw a’m neilltuodd o groth fy mam, ac a’m galwodd trwy ei ras, ddatguddio ei fab ef ynof fi, fel y pregethwn ef ymhlith y cenhedloedd, yn y fan nid ymgynghorais â chig a gwaed, ac nid euthum i fyny i Gaersalem chwaith at y rhai oedd Apostolion o’m blaen i, ond euthum ymaith i Arabia, a thrachefn dychwelais i Ddamascus. Yna, gwedi tair blynedd, euthum i fyny i Gaersalem i ymgydnabod â Cheffas, ac arhosais gydag ef bymtheng niwrnod; ond arall o’r apostolion ni welais, namyn Iago, brawd yr Arglwydd. Am y pethau yr wyf yn eu sgrifennu atoch, wele, ger bron Duw, nid dywedyd celwydd yr wyf. Yna euthum i barthau Syria a Chilicia, a bum heb f’adnabod herwydd fy wyneb i’r eglwysi yn Iwdea sydd yng Nghrist. Ond yn unig, clywed yr oeddynt, “Ein herlidiwr ni gynt, y mae ef yn awr yn pregethu’r ffydd a ddifrodai o’r blaen”, a gogoneddent Dduw ynof fi. Yna, ar ben pedair blynedd ar ddeg, euthum eilwaith i fyny i Gaersalem gyda Barnabas, gan gymryd Titus hefyd i’m canlyn. Ac euthum i fyny yn ôl datguddiad, a gosodais o’u blaenau yr efengyl yr wyf yn ei chyhoeddi ym mhlith y cenhedloedd, gan ei gosod o flaen “yr awdurdodau” o’r neilltu, rhag digwydd mai yn ofer y rhedwn neu y rhedaswn. Eithr hyd yn oed Titus, ac yntau gyda mi, ac yn Roegwr, ni orfuwyd enwaedu arno. Eithr oblegid y gau frodyr a ddygesid i mewn yn llechwraidd, dynion a lithrodd i mewn i ysbïo ein rhyddid ni, sydd eiddom yng Nghrist Iesu, er mwyn ein dwyn i gaethiwed — iddynt hwy nid ymroisom, naddo dros awr, â chyfryw ymddarostyngiad, fel yr arhosai gwirionedd yr Efengyl o’ch rhan chwi. A chan y rhai y tybir eu bod yn “awdurdodau”, — pa fath oeddynt unwaith, nid yw ddim i mi (nid yw Duw yn derbyn wyneb dyn) — i mi, meddaf, ni chwanegodd yr “awdurdodau” un peth: na, i’r gwrthwyneb, â hwy yn gweled ddarfod ymddiried yr efengyl at y dienwaededig i mi, megis yr efengyl at yr enwaededig i Bedr, (canys y neb a weithredodd o du Pedr fel y byddai Apostol at yr enwaededig, a weithredodd o’m tu innau at y cenhedloedd), ac â hwy yn canfod y gras a roddwyd i mi, rhoddes Iago a Cheffas ac Ioan, y rhai y tybir eu bod yn golofnau, ddeheulaw cymdeithas i mi a Barnabas, fel y byddem, nyni at y cenhedloedd, a hwythau at yr enwaededig: yn unig, bod i ni gofio’r tlodion, yr union beth yr oeddwn innau yn eiddgar i’w wneuthur. A phan ddaeth Ceffas i Antiochia, sefais i’w erbyn yn ei wyneb, oblegid ar gam yr oedd: canys cyn dyfod rhai oddiwrth Iago, cyd-fwytâi â’r cenhedloedd; ond wedi eu dyfod hwynt, dechreuodd dynnu’n ôl ac ymgadw draw, rhag ofn teulu’r enwaediad. A chyd-ragrithiodd yr Iddewon eraill ag ef, fel yr ysgubwyd Barnabas yntau i ganlyn eu rhagrith hwy. Eithr pan welais nad oeddynt yn iawn-droedio yn ôl gwirionedd yr efengyl, dywedais wrth Geffas yng ngŵydd pawb: Os wyt ti, â thithau’n Iddew, yn byw ar ddull cenhedlig, ac nid ar ddull Iddewig, paham y gorfyddi’r cenhedloedd i ymarwedd megis Iddewon? Nyni, sydd Iddewon wrth natur, ac nid pechaduriaid o blith cenhedloedd, â ni’n gwybod na chyfiawnheir dyn trwy weithredoedd deddf, namyn trwy ffydd yng Nghrist Iesu, credasom ninnau hefyd yng Nghrist, ac nid trwy weithredoedd deddf; canys trwy weithredoedd deddf ni chyfiawnheir un cnawd Ond, â ni’n ceisio bod ein cyfiawnhau yng Nghrist, os cafwyd ninnau hefyd yn bechaduriaid, yna, ai gweinidog pechod yw Crist? Na ato. Canys os y pethau a ddymchwelais yr wyf eilwaith yn eu hadeiladu, yr wyf yn fy ngwneuthur fy hun yn droseddwr. Canys myfi, trwy ddeddf, bum farw i ddeddf, fel y byddwn byw i Dduw; yr wyf wedi fy nghroeshoelio gyda Christ; ac nid myfi mwy sydd yn byw, ond Crist sydd yn byw ynof fi; a’m bywyd yr awron yn y cnawd, ei fyw yr ydwyf mewn ffydd ym Mab Duw, a’m carodd i, ac a’i traddodes ei hun drosof fi. Nid wyf yn dirymu gras Duw: canys os trwy ddeddf y mae cyfiawnder, yna bu Crist farw am ddim. O, Galatiaid ynfyd, pwy a’ch llygatynnodd chwi, a Iesu Grist wedi ei arddangos o flaen eich llygaid chwi yn groeshoeliedig? Hyn yn unig y mynnwn ei wybod gennych, — ai trwy weithredoedd deddf y derbyniasoch yr Ysbryd, ai trwy wrando mewn ffydd? A ydych ynfyted? Wedi dechreu ohonoch gyda’r Ysbryd, a orffennwch chwi yn awr gyda’r cnawd? A brofasoch chwi gymaint yn ofer — os ofer hefyd? Dowch! yr un sy’n rhoddi i chwi’r ysbryd ac yn gweithio yn eich plith chwi wyrthiau — ai trwy weithredoedd deddf ai trwy wrando mewn ffydd y mae hynny? Diau, megis y credodd Abraham i Dduw ac fe’i cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder. Gwelwch gan hynny mai teulu ffydd, y rhai hyn yw meibion Abraham. A’r ysgrythur, gan ragweled mai trwy ffydd y mae Duw yn cyfiawnhau’r cenhedloedd, rhagefengylodd wrth Abraham: Bendithir ynot ti yr holl genhedloedd. Felly bendithir teulu ffydd gydag Abraham ffyddiog. Canys cynifer oll ag y sydd o deulu gweithredoedd deddf, o dan fellith y maent; canys ysgrifenedig yw: Melltigedig pob un nad erys wrth bob peth a sgrifennwyd yn llyfr y ddeddf i’w gwnethur hwynt Ac eglur yw na chyfiawnheir neb wrth ddeddf ger bron Duw, canys y cyfiawn trwy ffydd y bydd byw, ond y ddeddf, nid o ffydd y mae, eithr y neb a wna’r pethau hyn, bydd byw drwyddynt. Crist a’n prynodd ni oddiwrth felltith y ddeddf trwy ddyfod yn felltith drosom, canys ysgrifenedig yw: Melltigedig pob un a fo crog ar drostan, fel y delai bendith Abraham i’r cenhedloedd yn Iesu Grist, a derbyn ohonom ninnau drwy ffydd addewid yr Ysbryd. Frodyr, — dywedyd yr wyf ar wedd dynion — hyd yn oed cyfamod dyn, wedi y cadarnhäer, ni bydd neb yn ei ddirymu, nac yn ychwanegu ato. I Abraham y gwnaethpwyd yr addewidion, ac i’w had ef: ni ddywedir “ac i’w hadau”, megis am liaws, eithr megis am un, ac i’th had di, sef yw hwnnw, Crist. Dyma fy meddwl — am gyfamod a gadarnhawyd ymlaen llaw gan Dduw, nid yw’r ddeddf a ddaeth bedwar cant a deg ar hugain o flynyddoedd wedi hynny, yn ei ddiddymu hyd at ddirymu’r addewid. Canys os wrth ddeddf y mae’r etifeddiaeth, nid yw mwyach wrth addewid: ond i Abraham, trwy addewid y mae Duw wedi ei rhad-roddi. Beth gan hynny am y ddeddf? I beri troseddau yr atodwyd hi, hyd oni ddelai’r had y gwnaethpwyd yr addewid iddo, a’i gorchymyn drwy angylion yn llaw canolwr. Ac nid tros un y mae canolwr, eithr Duw, un ydyw. A ydyw’r ddeddf gan hynny yn groes i addewidion Duw? Na ato. Canys pe rhoisid deddf ag iddi allu i beri bywyd, drwy’r ddeddf yn wir y buasai cyfiawnder. Eithr cyd-gaeodd yr ysgrythur bob peth oddi tan bechod, fel y rhoddid yr addewid trwy ffydd yn Iesu Grist i’r sawl sy’n credu. Ond cyn dyfod y ffydd hon, yr oedd gwarchod arnom tan y ddeddf, a’n cyfyngu i’r ffydd yr oeddis ar fedr ei datguddio. Felly daeth y ddeddf yn was plant i’n dwyn at Grist, fel y’n cyfiawnheid trwy ffydd. Ond wedi dyfod ffydd, nid ydym mwyach tan was plant. Canys meibion i Dduw drwy ffydd ydych oll, yng Nghrist Iesu: oblegid cynifer ohonoch ag a fedyddiwyd yn un â Christ, gwisgasoch Grist. Ni all bod nac Iddew na Groegwr, ni all bod na chaeth na rhydd, ni all bod na gwryw na benyw: canys chwi oll, un ydych yng Nghrist Iesu. Ac os eiddo Crist ydych chwi, yna had Abraham ydych, etifeddion wrth addewid. Dyma fy meddwl — hyd tra bo’r etifedd yn blentyn, ni bydd dim rhagor rhyngddo â gwas, er ei fod yn arglwydd ar y cwbl. Ond o dan ofalwyr y bydd, a goruchwylwyr, hyd yr amser a bennodd y tad. Felly ninnau hefyd, pan oeddym blant, mewn caethiwed yr oeddym oddi tan ysbrydion elfennau ’r byd. Ond pan ddaeth cyflawnder yr amser, danfonodd Duw ei fab, wedi ei wneuthur o wraig, wedi ei wneuthur oddi tan y ddeddf, fel y prynai’r rhai oedd oddi tan y ddeddf, fel y derbyniem y mabwysiad. Ac oblegid mai meibion ydych, danfonodd Duw i’n calonnau ni Ysbryd ei Fab, yn llefain Abba Dad. Felly nid wyt mwy was, ond mab, ac os mab, etifedd hefyd trwy Dduw. Eithr y pryd hwnnw, â chwi heb adnabod Duw, caethweision oeddych i’r rhai wrth naturiaeth nad ydynt dduwiau. Ond yn awr, wedi dyfod ohonoch i adnabod Duw, neu’n hytrach wedi dyfod i’ch adnabod gan Dduw, pa fodd yr ymchwelwch eilwaith at ysbrydion llesg a thlawd yr elfennau; a mynnu eilwaith o newydd eu gwasanaethu? Cadw dyddiau yr ydych, a misoedd, ac amserau, a blynyddoedd. Ofni’r wyf amdanoch, rhag digwydd darfod i mi ymboeni wrthych yn ofer. Byddwch fel myfi, canys deuthum innau i fod fel chwychwi, frodyr, yr wyf yn deisyf arnoch. Ni wnaethoch â mi ddim cam, ond gwyddoch mai oherwydd gwendid fy nghnawd yr efengylais y waith gyntaf i chwi, a’r hyn oedd demtasiwn i chwi yn fy nghnawd i, nis dirmygasoch, ac nis ffieiddiasoch, eithr fy nerbyn i megis angel Duw, megis Crist Iesu. Pa le y mae’ch ymannerch, ynteu? Canys tystio yr wyf i chwi, â bod modd, y tynasech allan eich llygaid a’u rhoddi i mi. Felly a euthum i yn elyn i chwi, a mi’n dywedyd y gwir wrthych? Eich anwesu y maent hwy, nid ag amcan da, eithr ewyllysiant eich cau chwi allan, fel yr anwesoch hwythau. Ond da yw’ch anwesu mewn peth da bob amser, ac nid yn unig a minnau yno yn eich gŵydd chwi, fy mhlant bychain, y rhai yr wyf ym mhoenau esgor drostynt eilwaith, hyd oni ffurfier Crist ynoch chwi. Ond mynnwn fy mod yna yn eich plith yr awron, a newid fy nhôn, canys yr wyf mewn penbleth o’ch plegid. Dywedwch i mi, chwi sy’n ewyllysio bod tan ddeddf, onid ydych yn clywed y ddeddf? Canys ysgrifenedig yw — cafodd Abraham ddau fab, un o’r gaethferch ac un o’r wraig rydd: eithr hwnnw a oedd o’r gaethferch, yn ôl y cnawd y cenhedlwyd: ond hwnnw o’r wraig rydd, trwy addewid. Alegorïaidd yw’r pethau hyn, canys y ddwy hyn, dau gyfamod ydynt, un o fynydd Sinai, yn cenhedlu i gaethiwed, sef yw, Hagar (a Hagar, mynydd Sinai yn Arabia yw), a chyfateb y mae i’r Gaersalem sydd yn awr; canys mewn caethiwed y mae hi ynghyd â’i phlant; ond y Gaersalem fry, rhydd ydyw, honno yw ein mam ni; canys ysgrifenedig yw: Llawenha, dydi ddiepil, nad wyt yn planta; torr i ganu a bloeddia, dydi nad wyt yn esgor; canys llawer fydd plant yr un amhriod ragor honno y mae gŵr iddi. A chwithau, frodyr, plant addewid ydych, un wedd ag Isaac. Eithr megis gynt yr erlidiai hwnnw, a genhedlwyd yn ôl y cnawd, yr un a genhedlwyd yn ôl yr Ysbryd, felly eto hefyd. Ond pa beth a ddywed yr ysgrythur? Bwrw allan y gaethferch a’i mab: canys ni bydd mab y gaethferch yn etifedd, ddim gyda mab y wraig rydd. Felly, frodyr, nid plant i’r gaethferch ydym, ond i’r wraig rydd. I ryddid y rhyddhaodd Crist nyni. Sefwch gan hynny, ac na’ch dalier drachefn tan iau caethiwed. Wele, dywedyd yr wyf fi, Paul, wrthych, od enwaedir arnoch, ni bydd Crist o ddim budd i chwi. A thystio’r wyf eto, wrth bob dyn yr enwaeder arno, mai ei ddyled yw cadw’r ddeddf i gyd. Gwahan-ddiddymwyd chwi oddiwrth Grist, chwi, sy’n ceisio’ch cyfiawnhau trwy ddeddf, cwympasoch oddiwrth ras. Canys nyni, trwy’r Ysbryd, ar sail ffydd, disgwl yr ydym am obaith cyfiawnder. Canys yng Nghrist Iesu, ni ddichon nac enwaediad ddim, na dienwaediad, namyn ffydd a ddoder ar waith trwy gariad. Rhedech yn wych; pwy a’ch rhwystrodd chwi rhag ufuddhau i’r gwirionedd? Y cymell hwn, nid oddiwrth y neb sydd yn eich galw y mae. Y mae ychydig lefain yn lefeinio’r toes i gyd. Y mae gennyf hyder amdanoch yn yr Arglwydd, na syniwch chwi ddim amgen; ond y neb sy’n aflonyddu arnoch, fe ddwg hwnnw ei farnedigaeth, pwy bynnag a fo. A minnau, frodyr, os enwaediad yr wyf eto’n ei bregethu, paham y’m herlidir eto? — wele dramgwydd y Groes wedi ei ddidymu! O, na bai eich aflonyddwyr yn eu disbaddu eu hunain! Canys chwi, i ryddid y’ch galwyd frodyr; yn unig, na bydded eich rhyddid yn achlysur gennych i’r cnawd, ond trwy gariad, gwasanaethu’ch gilydd. Canys y ddeddf i gyd, mewn un gair y cyflawnir hi, sef yw, hwn: Câr dy gymydog fel ti dy hun. Ond os cnoi ac ysu’ch gilydd a wnewch, gwyliwch na’ch difether y naill gan y llall. Dyma fy meddwl — rhodiwch yn yr Ysbryd, ac ni chyflawnwch mo chwant y cnawd. Canys chwennych y mae’r cnawd yn erbyn yr Ysbryd, a’r Ysbryd yn erbyn y cnawd, canys gwrthwyneb i’w gilydd yw’r rhai hyn, fel na alloch wneuthur pa bethau bynnag a ewyllysioch. Ond os gan yr ysbryd y’ch arweinir, nid ydych tan ddeddf. Ac amlwg yw gweithredoedd y cnawd: y cyfryw ydyw godineb, aflendid, anlladrwydd, eilunaddoli, swyngyfaredd, gelyniaethau, cynnen, eiddigedd, llidiau, ymrysonau, ymraniadau, ymrwygiadau, cenfigennau, meddwdod, cyfeddach, a phethau cyffelyb i’r rhai hyn, pethau yr wyf yn dywedyd wrthych ymlaen llaw amdanynt, megis y dywedais eisoes, na chaiff y neb a wnel y cyfryw etifeddu teyrnas Dduw. Ond ffrwyth yr ysbryd ydyw cariad, llawenydd, tangnefedd, hir-ymaros, tiriondeb, daioni, ffydd, addfwynder, hunan-feistrolaeth; yn erbyn y cyfryw, deddf nid oes. Ond y rhai sydd eiddo Crist Iesu croeshoeliasant y cnawd ynghyd â’i anwydau a’i chwantau. Os byw yn yr ysbryd yr ydym rhodiwn hefyd yn yr ysbryd. Na fyddwn wag-ogoneddgar, gan ddal herr ar ein gilydd, gan genfigennu y naill wrth y llall. Frodyr, hyd yn oed os goddiweddir dyn mewn rhyw drosedd, chwithau, rai ysbrydol, atgyweiriwch y cyfryw mewn ysbryd addfwynder, gan edrych atat dy hun rhag dy demtio dithau. Dygwch feichiau’r naill y llall, ac felly, cyflawnwch ddeddf y Crist. Canys o thyb neb ei fod yn rhywbeth, ac yntau heb fod yn ddim, y mae’n ei dwyllo’i hun. Ond profed pob un ei waith ei hun, ac yna, ynddo’i hun yn unig y bydd ei fost, ac nid mewn arall, canys fe ddwg pob un ei bwn ei hun. A chyfranoged y neb a hyfforddir yn y gair â’r sawl a’i hyfforddo, ym mhob peth da. Na thwyller chwi — Duw, nis gwatworir; canys pa beth bynnag a heuo dyn, hynny hefyd a fed. Canys y neb a heuo i’w gnawd ei hun, o’r cnawd y med lygredigaeth; y neb a heuo i’r Ysbryd, o’r Ysbryd y med fywyd tragwyddol. Ac yng ngwneuthur y peth sydd dda, na lwfrhawn, canys yn y priod dymor, medwn, oni ddiffygiwn. Am hynny, ynteu, tra bo i ni gyfle, gwnawn i bawb y peth sydd dda, ond yn enwedig i’r rhai sydd o deulu’r ffydd. Gwelwch frased fy llythrennau, â mi’n ysgrifennu atoch â’m llaw fy hun: Cynifer ag sy’n mynnu teg-ymystumio o flaen dynion, cais y rhai hyn fod enwaedu arnoch, yn unig fel nad erlidier hwy oblegid croes Crist. Canys hyd yn oed y rhai yr enwaedir arnynt, ni chadwant hwythau mo’r ddeddf, eithr mynnant fod enwaedu arnoch fel yr ymffrostiont yn eich cnawd chwi. Ond amdanaf i, byth nad ymffrostiwyf onid yng nghroes ein Harglwydd Iesu Grist, trwy’r hwn y mae’r byd wedi ei groeshoelio i mi, a minnau i’r byd. Canys nid yw nac enwaediad na dienwaediad ddim, — eithr creadigaeth newydd. A chynifer ag a gerdda wrth y rheol hon, tangnefedd arnynt, a thrugaredd, ac ar Israel Duw. O hyn allan na’m poened neb, canys myfi, dygaf nodau’r Iesu yn fy nghorff. Gras ein Harglwydd ni, Iesu Grist, a fo gyda’ch ysbryd chwi, frodyr. Amen. Paul, apostol Crist Iesu, drwy ewyllys Duw at y saint sydd (yn Effesus) a’r ffyddloniaid yng Nghrist Iesu. Gras i chwi a thangnefedd oddi wrth Dduw ein Tad ni a’r Arglwydd Iesu Grist. Bendigedig fo Duw a Thad ein Harglwydd ni Iesu Grist, a’n bendithiodd ni â phob bendith ysbrydol yn y nefolion leoedd yng Nghrist, fel y dewisodd ni ynddo ef cyn sylfaenu’r byd i fod yn santaidd a difai ger ei fron ef, wedi iddo ein rhaglunio ni mewn cariad i fabwysiad trwy Iesu Grist iddo’i hun yn ôl rhadlonrwydd ei ewyllys ef, er mawl gogoniant ei ras ef a gyfrannodd i ni yn yr anwylyd. Yn hwn y mae gennym ryddhad drwy ei waed ef, sef maddeuant ein camweddau, yn ôl cyfoeth ei ras, a arllwysodd arnom yn helaeth ymhob doethineb a deall, wedi iddo hysbysu i ni ddirgelwch ei ewyllys yn ôl ei radlonrwydd ef, a arfaethodd ynddo ef ar gyfer goruchwyliaeth cyflawnder yr amseroedd, sef crynhoi popeth i ben yn y Crist, y pethau yn y nefoedd a’r pethau ar y ddaear. Ynddo ef hefyd y’n gwnaed ni’n etifeddion, wedi ein rhaglunio yn ôl arfaeth yr hwn sydd yn egnïo mewn popeth yn ôl cyngor ei ewyllys ei hun, fel y byddem ni er mawl ei ogoniant ef, a ninnau o’r blaen wedi gobeithio yn y Crist. Yn hwn chwithau hefyd, wedi clywed gair y gwirionedd, efengyl eich iachawdwriaeth, a chredu ynddo hefyd, a seliwyd ag Ysbryd Glân yr addewid, sef ernes ein hetifeddiaeth ni ar gyfer rhyddhad yr eiddo, er mawl ei ogoniant ef. Am hynny, wedi clywed am y ffydd sydd gennych yn yr Arglwydd Iesu a’ch cariad at yr holl saint, nid wyf innau’n tewi â diolch trosoch gan eich coffáu yn fy ngweddïau, — Duw ein Harglwydd ni Iesu Grist, Tad y gogoniant, a roddo i chwi ysbryd doethineb a datguddiad mewn adnabyddiaeth ohono, llygaid eich calon wedi eu goleuo hyd oni wypoch beth yw gobaith ei alwad ef, beth yw golud gogoniant ei etifeddiaeth ef yn y saint, a beth yw tra-mawredd ei allu ef tuag atom ni sydd yn credu, yn ôl egni grym ei nerth ef, [yr egni] a ddangosodd yn y Crist wrth ei gyfodi ef o feirw a’i osod i eistedd ar ei ddeheulaw yn y nefolion leoedd goruwch pob llywodraeth ac awdurdod a gallu ac arglwyddiaeth a phob enw a enwir, nid yn unig yn y byd hwn, ond hefyd yn y byd a ddaw. A gosododd bopeth dan ei draed ef a rhoes ef yn ben goruwch popeth i’r eglwys, yr hon yw ei gorff ef, cyflawnder yr un sydd yn cyflawni popeth ym mhob dim. A chwithau’n feirw gan eich camweddau a’ch pechodau y rhai y rhodiasoch ynddynt gynt yn null yr oes a’r byd, yn ôl tywysog llywodraeth yr awyr, yr ysbryd sydd yn awr yn egni ym meibion yr anufudd-dod, — ac yn eu mysg y bu gynt ein buchedd ninnau oll yn chwantau ein cnawd, yn gwneuthur ewyllysiau ein cnawd a’n bryd, ac yr oeddem yn blant digofaint wrth natur fel y rhelyw hefyd, — ond Duw yn ei gyfoeth o drugaredd, oherwydd ei fawr gariad a roes arnom, a’n cydfywhaodd ni gyda’r Crist, a ninnau’n feirw gan gamweddau — o ras yr ydych wedi eich cadw, — ac a’n cydgyfododd ac a’n gosododd i gydeistedd yn y nefolion leoedd yng Nghrist Iesu, er mwyn dangos yn yr oesoedd a ddaw dra-chyfoeth ei ras drwy ei diriondeb tuag atom ni yng Nghrist Iesu; canys o ras yr ydych wedi eich cadw drwy ffydd, a hynny nid ohonoch eich hunain, ond rhodd Duw ydyw, nid o weithredoedd rhag i neb ymffrostio. Canys ei waith ef ydym, wedi ein creu yng Nghrist Iesu ar gyfer gweithredoedd da a ragbaratôdd Duw i ni i rodio ynddynt. Gan hynny, cofiwch eich bod chwi gynt — y cenhedloedd yn y cnawd, a elwir yn ddienwaediad gan y rhai a elwir yn enwaediad, (gwaith llaw ar y cnawd oedd hynny), eich bod chwi y pryd hwnnw heb Grist, yn ddi-fraint yng ngwladwriaeth yr Israel, ac yn estroniaid i gyfamodau yr addewid, heb obaith gennych a heb Dduw yn y byd. Ond yn awr yng Nghrist Iesu yr ydych chwithau, a oedd gynt ymhell, wedi dyfod yn agos trwy waed Crist. Canys ef yw ein heddwch ni, a wnaeth y ddau beth yn un ac a chwalodd ganolfur y gwahaniad, sef yr elyniaeth, ac a ddirymodd yn ei gnawd gyfraith y gorchmynion [a oedd] mewn ordeiniadau, er mwyn creu’r ddau ynddo’i hun yn un dyn newydd gan wneuthur heddwch, a chymodi’r ddwyblaid yn un corff â Duw drwy’r groes, wedi lladd yr elyniaeth trwyddi hi. Ac fe ddaeth a chyhoeddodd heddwch i chwi y rhai pell a heddwch i’r rhai agos, canys trwyddo ef y mae gennym ein dau fynediad mewn un ysbryd at y Tad. Am hynny, nid dieithriaid a dyfodiaid ydych mwyach, ond cyd-ddinasyddion ydych â’r saint a theulu Duw, wedi eich adeiladu ar garreg sylfaen yr apostolion a’r proffwydi, a Christ Iesu ei hunan yn ben conglfaen. Ynddo ef y mae pob adeilad yn cael ei gydasio ac yn tyfu yn deml santaidd yn yr Arglwydd; ynddo ef hefyd y’ch cydadeiledir chwithau yn gartref i Dduw yn yr ysbryd. Oherwydd hyn, yr wyf i, Paul, carcharor Crist Iesu drosoch chwi’r cenhedloedd— a bwrw eich bod wedi clywed am oruchwyliaeth gras Duw a roddwyd i mi ar eich cyfer chwi, fel yr amlygwyd i mi y dirgelwch mewn datguddiad, megis yr ysgrifennais o’r blaen mewn byr eiriau, fel y gellwch, wrth ddarllen, ddeall fy nirnadaeth i yn nirgelwch y Crist; yr hwn ni wnaed yn hysbys yn yr oesoedd o’r blaen i feibion dynion fel y datguddiwyd ef yn awr i’w santaidd apostolion a’i broffwydi yn yr ysbryd, sef bod y cenhedloedd yn gyd-etifeddion ac yn gyd-gorff ac yn gyd-gyfranogion o’r addewid yng Nghrist Iesu trwy’r efengyl y gwnaed fi’n weinidog iddi yn ôl dawn gras Duw a roddwyd i ni yn ôl egni ei allu ef. I mi’r lleiaf un o’r holl saint y rhoddwyd y gras hwn, i gyhoeddi efengyl i’r cenhedloedd am anchwiliadwy gyfoeth y Crist ac i egluro beth yw goruchwyliaeth y dirgelwch a oedd yn guddiedig rhag yr oesoedd yn Nuw, creawdwr popeth, fel yr hysbysid yn awr i’r llywodraethau a’r awdurdodau yn y nefolion leoedd drwy’r eglwys amryw dryfrith ddoethineb Duw, yn ôl arfaeth oesol a wnaeth yng Nghrist Iesu ein Harglwydd ni, yr hwn y mae gennym ynddo ehofndra a mynediad mewn hyder drwy ffydd ynddo ef. Am hynny, yr wyf yn erfyn na lyfrhaoch wrth fy nhrallodion i drosoch chwi; hwy yw eich gogoniant chwi. Oherwydd hyn yr wyf yn plygu fy ngliniau gerbron y Tad yr hwn yr enwir pob tadolaeth yn y nefoedd ac ar y ddaear oddi wrtho, ar iddo, yn ôl golud ei ogoniant ef, roddi i chwi eich grymuso â nerth drwy ei ysbryd ef yn y dyn oddi mewn, a phreswylio o’r Crist drwy ffydd yn eich calonnau, ac i chwithau, wedi eich gwreiddio a’ch sylfaenu mewn cariad, gael nerth i amgyffred gyda’r holl saint beth yw’r lled a’r hyd a’r uchder a’r dyfnder, a gwybod cariad Crist sydd uwchlaw gwybodaeth, fel y cyflawner chwi hyd at holl gyflawnder Duw. Iddo ef sydd yn alluog i wneuthur uwchlaw popeth ymhell tu hwnt i’r hyn a ofynnwn neu a ddychmygwn, yn ôl y gallu sydd yn egni ynom, iddo ef y gogoniant yn yr eglwys ac yng Nghrist Iesu hyd yr holl genedlaethau yn oes oesoedd. Amen. Yr wyf i, felly, y carcharor yn yr Arglwydd, yn erfyn arnoch rodio’n deilwng o’r alwad y’ch galwyd chwi â hi, gyda phob gostyngeiddrwydd a mwyneidd-dra, gyda hirymaros, gan gydymddwyn â’ch gilydd mewn cariad, gan fod yn eiddgar i gadw undeb yr ysbryd yn rhwymyn heddwch; un corff ac un ysbryd, fel y’ch galwyd hefyd mewn un gobaith, sef gobaith eich galwad; un Arglwydd, un ffydd, un bedydd; un Duw a Thad pawb, sydd goruwch pawb a thrwy bawb ac ym mhawb. Ond i bob un ohonom y rhoddwyd gras yn ôl mesur dawn y Crist. Am hynny y dywed Esgynnodd i’r uchelder a dug gaethiwed yn gaeth, rhoes roddion i ddynion. Beth ynteu ydyw yr “esgynnodd” hwn ond ei fod wedi disgyn hefyd i barthau isaf y ddaear? Yr hwn a ddisgynnodd yw hwnnw hefyd a esgynnodd goruwch pob nef, er mwyn cyflawni popeth. Ef hefyd a roes rai yn apostolion, rhai yn broffwydi, rhai yn efengylwyr, rhai yn fugeiliaid ac yn athrawon, i gymhwyso’r saint at waith gweinidogaeth, at adeiladu corff Crist, hyd oni chyrhaeddom bawb at undeb y ffydd a’r adnabyddiaeth o Fab Duw, at y dyn llawn dwf, at fesur maintioli cyfiawnder Crist; fel na byddom mwyach yn fabanod yn cael ein lluchio a’n cylchdroi gan bob gwynt o athrawiaeth, drwy hoced dynion, drwy ystryw i gynllwyn twyll, ond, gan ddal at y gwir mewn cariad, y tyfom ym mhopeth ato ef. Ef yw’r pen, sef Crist, ac ohono ef y mae’r holl gorff sy’n cael ei gydasio a’i gydgordeddu drwy holl gymalau ei gynhaliaeth yn ôl y gweithrediad sy’n gymesur â phob un rhan, yn tyfu er ei adeiladaeth ei hun mewn cariad. Hyn, felly, yr wyf yn ei ddywedyd ac yn ei dynghedu yn yr Arglwydd, na rodioch mwyach fel y rhodia’r cenhedloedd yn oferedd eu meddwl, yn dywyll eu deall, wedi ymddieithrio oddi wrth fywyd Duw o achos yr anwybod sydd ynddynt, drwy ddallineb eu calonnau, y rhai wedi colli pob teimlad a ymollyngodd i drythyllwch i weithredu pob aflendid yn eu gwanc. Ond chwychwi, nid fel hyn y dysgasoch y Crist, os ef yn wir a glywsoch ac os ynddo ef y’ch dysgwyd, fel y mae’n wirionedd yn yr Iesu; am yr ymarweddiad gynt, diosgwch yr hen ddyn sydd yn ymlygru yn ôl chwantau’r twyll, ac ymadnewyddwch yn ysbryd eich meddwl, a gwisgwch y dyn newydd a grewyd ar ddelw Duw yng nghyfiawnder a santeiddrwydd y gwirionedd. Gan hynny, diosgwch y celwydd, a dywedwch y gwir bob un wrth ei gymydog, gan mai aelodau bob un o’i gilydd ydym. Byddwch ddig ac na phechwch. Na fachluded yr haul ar eich dicter, ac na roddwch gyfle i’r diafol. Y lleidr, na fydded leidr mwyach, ond yn hytrach llafuried gan weithio gwaith da â’i ddwylo ei hun, fel y bo ganddo rywbeth i’w rannu gyda’r un a fo ag angen arno. Na ddeued un gair di-les o’ch genau, ond pa air bynnag a fo’n dda at adeiladu’r hyn sy’n eisiau, fel y rhoddo fendith i’r gwrandawyr. Ac na thristewch lân ysbryd Duw, y’ch seliwyd ag ef ar gyfer dydd y rhyddhad. Pob chwerwder a nwyd a digofaint a thwrw a chabledd, ymaith â hwy oddi wrthych ynghyd â phob malais. Byddwch dirion wrth eich gilydd a thyner-galon, yn maddau i’ch gilydd fel y maddeuodd Duw yntau yng Nghrist i chwi. Byddwch, felly, efelychwyr Duw, fel plant annwyl, a rhodiwch mewn cariad, fel y carodd Crist chwithau a’i roddi ei hunan drosom yn offrwm ac yn aberth i Dduw, yn aroglau peraidd. Ond puteindra a phob aflendid neu drachwant, nac enwer chwaith yn eich plith, fel y mae’n weddus i saint, a budreddi ac ynfyd siarad neu goegni, pethau sy’n annheilwng, — ond, yn hytrach, diolch. Canys yr ydych yn gwybod hyn, a chwi’n deall am bob puteiniwr neu aflan neu drachwantus, — hynny yw, eilunaddolwr, — nad oes iddo gyfran yn nheyrnas Crist a Duw. Na thwylled neb chwi â gwag eiriau; canys oherwydd y pethau hyn y mae digofaint Duw yn dyfod ar feibion yr anufudd-dod; na fyddwch, felly, gyd-gyfranogion â hwy, canys tywyllwch oeddech gynt, ond, yn awr, goleuni yn yr Arglwydd. Rhodiwch fel plant goleuni, canys y mae ffrwyth y goleuni mewn pob ewyllys da ac uniondeb a chywirdeb, gan ddyfalchwilio beth sydd yn rhyngu bodd yr Arglwydd. Ac na foed gennych ran yng ngweithredoedd di-ffrwyth y tywyllwch, ond yn hytrach argyhoeddwch hwynt, — oherwydd cywilyddus yw hyd yn oed enwi’r pethau a wneir yn ddirgel ganddynt; gwneir popeth, wrth ei argyhoeddi, yn amlwg gan y goleuni, canys pob peth sydd yn dyfod i’r amlwg, goleuni yw. Am hynny y dywed, Deffro, gysgadur, a chyfod o feirw, a Christ a dywynna arnat. Edrychwch, felly, yn graff sut yr ydych yn rhodio, nid fel annoethion ond fel doethion, gan brynu’r amser, gan fod y dyddiau’n ddrwg. Am hynny na fyddwch ddisynnwyr, ond deellwch beth yw ewyllys yr Arglwydd. Ac na feddwer chwi ar win, — canys yn hyn y mae afradlonedd, — ond llanwer chwi â’r ysbryd, gan ymddiddan â’ch gilydd mewn salmau ac emynau a cherddi ysbrydol, a chanu a phyncio yn eich calon i’r Arglwydd, a diolch bob amser am bopeth yn enw ein Harglwydd ni, Iesu Grist, i Dduw a’r Tad, gan ymddarostwng i’ch gilydd yn ofn Crist, — y gwragedd i’w gwŷr eu hunain fel i’r Arglwydd. Canys y gŵr yw pen y wraig fel y mae’r Crist yntau yn ben yr eglwys, yntau’n iachawdwr y corff. Ond fel y mae’r eglwys yn ddarostyngedig i’r Crist, felly hefyd y gwragedd i’r gwŷr ym mhopeth. Y gwŷr cerwch eich gwragedd fel y carodd y Crist yntau yr eglwys ac y rhoes ef ei hun drosti, er mwyn ei santeiddio ar ôl ei glanhau â’r olchfa ddŵr ynghyd â’r gair, fel y gosodai yr eglwys ger ei fron yn ogoneddus, heb arni frycheuyn na chrychni, na dim o’r fath, ond ei bod yn santaidd a difai. Felly y dylai’r gwŷr hefyd garu eu gwragedd eu hunain fel eu cyrff eu hunain. Y mae’r hwn sy’n caru ei wraig ei hun, yn ei garu ei hunan, oherwydd ni chasaodd neb erioed ei gnawd ei hun ond y mae’n ei feithrin a’i anwesu, fel Crist hefyd yr eglwys, canys aelodau ydym o’i gorff ef. Am hyn y gedy dyn ei dad a’i fam, ac yr ymlŷn wrth ei wraig, a bydd y ddau yn un cnawd. Mawr ydyw’r dirgelwch hwn, — cyfeirio yr wyf at Grist ac at yr eglwys. Beth bynnag, chwithau hefyd, cared pob un ohonoch ei wraig megis ef ei hun, a’r wraig, ofned ei gŵr. Y plant, ufuddhewch i’ch rhieni yn yr Arglwydd, canys iawn yw hynny. Anrhydedda dy dad a’th fam, — hwn yw’r gorchymyn cyntaf ag iddo addewid, — fel y byddych dda arnat ac y byddych hirhoedlog ar y ddaear. Chwithau, dadau, na chythruddwch eich plant, ond maethwch hwy yn nisgyblaeth a chyngor yr Arglwydd. Y gweision, ufuddhewch i’ch meistriaid yn ôl y cnawd gydag ofn ac arswyd, yn unplygrwydd eich calon, megis i’r Crist, nid â gwasanaeth llygad fel rhai’n boddio dynion, ond fel gweision Crist yn gwneuthur ewyllys Duw o galon, gan wasanaethu gydag ewyllys da fel i’r Arglwydd ac nid i ddynion, a chwi’n gwybod pa ddaioni bynnag a wnêl unrhyw un, y derbyn hwnnw’n ôl ar law’r Arglwydd, boed ef gaeth neu rydd. Chwithau, feistriaid, gwnewch yr un modd tuag atynt hwythau, gan adael bygwth heibio, a chwi’n gwybod bod eu Harglwydd hwy a’ch Arglwydd chwithau yn y nefoedd, ac nad oes derbyn wyneb gydag ef. Yn olaf, ymgryfhewch yn yr Arglwydd ac yng ngrym ei nerth ef. Gwisgwch amdanoch gyflawn arfogaeth Duw er mwyn i chwi allu sefyll yn erbyn cynllwynion y diafol. Canys nid yn yr afael â gwaed a chnawd yr ydym ni ond â llywodraethau, ag awdurdodau, â byd-arglwyddi’r tywyllwch hwn, â chethern yr anwiredd yn y nefolion leoedd. Gan hynny, cymerwch gyflawn arfogaeth Duw fel y galloch wrthsefyll yn y dydd drwg, ac wedi llawn orffen popeth, sefyll. Sefwch, felly, wedi gwregysu eich lwynau â gwirionedd, ac wedi gwisgo amdanoch lurig cyfiawnder, ac wedi rhoddi am eich traed barodrwydd efengyl heddwch, a chymryd heblaw’r cwbl darian y ffydd, yr hon y gellwch ddiffodd â hi holl bicellau tanllyd y fall. Cymerwch hefyd helm yr iachawdwriaeth a chleddyf yr Ysbryd, sef gair Duw, gyda phob gweddi ac erfyniad, gan weddïo ar bob adeg yn yr Ysbryd, a gwylio ar hyn gyda phob taerineb ac erfyniad dros yr holl saint a throsof innau, — fel y rhodder i mi ymadrodd yn agoriad fy ngenau, i hysbysu’n eofn gyfrinach yr efengyl yr wyf yn gennad drosti mewn cadwyn, fel y bwyf eofn ynddi i lefaru fel y dylwn. Er mwyn i chwithau, hefyd, wybod fy helynt sut y mae arnaf, cewch glywed popeth gan Tychicus, y brawd annwyl a’r gwas ffyddlon yn yr Arglwydd, a anfonais atoch yn unswydd er mwyn i chwi wybod ein helynt ac iddo gysuro eich calonnau chwi. Heddwch i’r brodyr a chariad ynghyd â ffydd oddi wrth Dduw Dad a’r Arglwydd Iesu Grist. Gras gyda phawb sy’n caru ein Harglwydd Iesu Grist mewn anfarwoldeb. WILLIAM LEWIS (ARGRAFFWYR) CYF., CAERDYDD. Paul a Thimotheus, gweision Crist Iesu, at yr holl saint yng Nghrist Iesu sydd yn Philipi, gyda’r esgobion a’r diaconiaid: gras i chwi a thangnefedd oddiwrth Dduw ein Tad a’r Arglwydd Iesu Grist. Byddaf yn diolch i’m Duw yn fy holl goffa amdanoch, gan ddeisyf gyda llawenydd bob amser ymhob deisyfiad o’r eiddof dros bawb ohonoch am eich cydweithrediad ar ran yr efengyl o’r dydd cyntaf hyd yr awron, gan fod yn ddiogel gennyf y peth hwn, y bydd i’r hwn a ddechreuodd ynoch waith da ei berffeithio hyd ddydd Iesu Grist: megis y mae’n gyfiawn i mi synied hyn am bawb ohonoch am eich bod gennyf yn fy nghalon, gan fod pawb ohonoch yn fy rhwymau yn ogystal ag yn f’amddiffyn o’r efengyl a’i chadarnhad, yn gyd-gyfranogion â mi o ras: canys Duw yw fy nhyst y modd yr hiraethaf am bawb ohonoch yn serchiadau Crist Iesu. A dyma fy ngweddi, ar i’ch cariad ymhelaethu eto’n fwyfwy mewn gwybodaeth a phob synnwyr, fel y dewisoch yn hytrach yr hyn sy’n rhagori, fel y byddoch ddidwyll a didramgwydd erbyn dydd Crist, yn gyflawn o ffrwyth cyfiawnder yr hwn sydd trwy Iesu Grist, er gogoniant a mawl Duw. A mynnwn i chwi wybod, frodyr, i’m helyntion droi’n hytrach er cynnydd yr efengyl, fel y bu i’m rhwymau ddyfod yn hysbys yng Nghrist trwy’r holl bretorium ac i’r rhelyw oll, ac y bu i’r mwyafrif o’r brodyr gan ymddiried yn yr Arglwydd oblegid fy rhwymau fod yn fwy hy o lawer i draethu gair Duw yn ddiofn. Y mae rhai yn wir yn pregethu Crist hyd yn oed o genfigen a chynnen, a rhai hefyd o ewyllys da; cyhoedda’r naill Grist o gariad, gan wybod fy ngosod er amddiffyn yr efengyl, ond y lleill o uchelgais, nid yn ddilwgr, gan dybied peri blinder i mi yn fy rhwymau. Beth ynteu? Dim ond mai Crist a gyhoeddir ymhob modd, ai mewn rhith ai mewn gwirionedd, ac yn hyn yr wyf yn gorfoleddu, ie, a gorfoleddu a wnaf. Canys gwn y try hyn yn ymwared i mi trwy eich gweddi chwi a chyflenwad ysbryd Iesu Grist, yn ôl f’awyddfryd a’m gobaith na’m gwaradwyddo mewn dim, ond yn hollol ddiofn fel bob amser, felly’r awron hefyd, y mawrheir Crist yn fy nghorff i, ai trwy fyw ai trwy farw. Canys Crist yw byw i mi, ac elw yw marw. Eithr os byw yn y cnawd, os hyn yw ffrwyth fy llafur, yna pa beth a ddewisaf nis gwn. Ond cyfyng yw arnaf o’r ddeutu gan fod arnaf chwant ymado a bod gyda Christ, canys llawer iawn gwell ydyw, eto aros yn y cnawd sydd fwy angenrheidiol o’ch plegid chwi. A hyn a wn yn sicr yr arhosaf ac y cyd-arhosaf gyda chwi oll er eich cynnydd a’ch gorfoledd yn y ffydd, fel y byddo’n helaethach eich ymffrost yng Nghrist Iesu ynof fi trwy fy nyfod atoch drachefn. Yn unig bydded eich ymarweddiad yn deilwng o efengyl Crist, fel pa un a ddelwyf a’ch gweled ai bod yn absennol y clywyf am eich helynt, sefyll ohonoch mewn un ysbryd gan gyd-ymdrechu ag un enaid dros ffydd yr efengyl, a heb eich dychrynu mewn un dim gan y gwrthwynebwyr, yr hyn iddynt hwy sydd arwydd eglur o golledigaeth, eithr o’ch iechydwriaeth chwi, a hynny oddiwrth Dduw; canys i chwi y rhoddwyd er Crist nid yn unig gredu ynddo ond hefyd ddioddef erddo, gan fod i chwi yr un ymdrech ag a welsoch ynof fi ac yr awron a glywch ei bod ynof fi. Od oes gan hynny ddim apêl yng Nghrist, od oes dim cymhelliad cariad, od oes dim ymgyfranogi o’r Ysbryd, od oes dim tynerwch calon a thosturiaethau, cwblhewch fy llawenydd, fel y byddoch o’r un meddwl, a’r un cariad gennych, yn gytun, o un meddwl, heb wneuthur dim trwy ymbleidio neu trwy wag-ogoniant, eithr mewn gostyngeiddrwydd, pawb yn cyfrif eraill yn amgenach na hwy eu hunain, heb edrych o neb ar yr eiddo’i hun, eithr ar yr eiddo eraill hefyd. Bydded ynoch y meddwl yma a oedd hefyd yng Nghrist Iesu, yr hwn ac yntau yn ffurf Duw ni chyfrifodd yn beth diollwng fod yn ogyfuwch â Duw, ond a’i gwacaodd ei hun, gan gymryd arno ffurf gwas, o’i wneuthur ar lun dynion: ac o’i gaffael yn null dyn ef a’i darostyngodd ei hun, gan fod yn ufudd hyd angau, ie, angau’r groes. Oherwydd paham Duw a’i tra-dyrchafodd yntau, a rhoddi iddo’r enw sydd goruwch pob enw, fel yn enw’r Iesu y plygai pob glin yn y nef ac ar y ddaear a than y ddaear, ac y llwyr-gyffesai pob tafod fod Iesu Grist yn Arglwydd, er gogoniant Duw Dad. Felly f’anwyliaid, megis y buoch bob amser yn ufudd, nid fel pe yn fy mhresenoldeb yn unig, eithr yr awron yn fwy o lawer yn f’absenoldeb, gweithiwch allan eich iechydwriaeth eich hunain gydag ofn a dychryn; canys Duw yw’r hwn sy’n gweithio ynoch yn ogystal ewyllysio a gweithio i’w fodlonrwydd ef. Gwnewch bopeth heb rwgnach ac ymddadleu, fel y byddoch ddifeius a diddrwg, yn blant Duw, dinam ynghanol cenhedlaeth wyrgam a throfaus, a chwithau yn eu plith i’ch gweled megis goleuadau yn y byd, gan ddal allan air y bywyd, er ymffrost i mi yn nydd Crist, na redais yn ofer ac nad ymboenais yn ofer. Ie, ac od ydys yn f’offrymu ar aberth a gwasanaeth eich ffydd, llawenhau yr wyf a chyd-lawenhau â chwi oll; a’r un modd byddwch chwithau hefyd lawen a chyd-lawenhewch â minnau. Eithr gobeithio’r wyf yn yr Arglwydd Iesu anfon Timotheus atoch ar fyrder, fel y’m cysurer innau hefyd o wybod eich helynt chwi. Canys nid oes gennyf neb o’r un ysbryd ag ef, a wir-ofala am eich cyflwr chwi; canys ceisio y maent hwy oll yr eiddynt eu hunain, ac nid yr eiddo Crist Iesu. Eithr gwyddoch fel y profwyd ef, iddo fel mab gyda thad gyd-wasanaethu â mi ar ran yr efengyl. Dyma’r gŵr, gan hynny, yr wyf yn gobeithio ei anfon yn ddioed cyn gynted ag y gwelwyf pa fodd y bydd hi gyda mi; a theimlaf yn sicr yn yr Arglwydd y deuaf finnau hefyd ar fyrder. Eithr tybiais y dylwn anfon atoch Epaphroditus fy mrawd a’m cyd-weithiwr a’m cyd-filwr, a’ch cennad chwi a’ch gweinidog i’m cyfreidiau i, gan ei fod yn hiraethus amdanoch oll ac yn ymofidio oblegid i chwi glywed ei fod yn glaf: canys claf a fu a bron marw; ond trugarhaodd Duw wrtho, ac nid wrtho ef yn unig ond wrthyf finnau hefyd fel na chawn dristwch ar dristwch. Bum felly’n fwy dyfal i’w anfon, fel y byddech lawen, drachefn o’i weled a minnau’n llai fy nhristwch. Derbyniwch ef gan hynny yn yr Arglwydd gyda phob llawenydd, ac ystyriwch y cyfryw’n deilwng o anrhydedd, canys er mwyn gwaith Crist bu agos iddo farw trwy beryglu ei fywyd i gyflenwi diffyg eich gwasanaeth tuagataf. Weithian, fy mrodyr, byddwch lawen yn yr Arglwydd. I mi’n wir nid yw ysgrifennu’r un pethau’n faich, ac i chwi diogel yw. Gochelwch y cŵn, gochelwch weithredwyr drwg, gochelwch yr hunan-waediad. Canys nyni ydyw’r enwaediad, sy’n addoli trwy Ysbryd Duw, ac yn ymffrostio yng Nghrist Iesu heb ymddiried yn y cnawd, er gallu ohonof fi fy hun ymddiried yn y cnawd. O thyb neb arall y gall ymddiried yn y cnawd, myfi’n fwy felly; wedi f’enwaedu’r wythfed dydd, o hil Israel, o lwyth Benjamin, yn Hebrewr o’r Hebreaid, yn ôl y ddeddf yn Pharisead, yn ôl sêl yn erlid yr eglwys, yn ôl y cyfiawnder sydd o’r ddeddf wedi’m caffael yn ddifeius. Eithr pa bethau bynnag oedd elw i mi, y rhain a gyfrifais yn golled er mwyn Crist. Ie, ymhellach, yr wyf hyd yn oed yn cyfrif popeth yn golled oherwydd rhagoriaeth adnabod Crist Iesu f’Arglwydd, er mwyn yr hwn y’m colledwyd ym mhopeth, ac y cyfrifaf hwynt yn dom fel yr enillwyf Grist a’m caffael ynddo ef, nid â chyfiawnder o’m heiddof fy hun sydd o’r ddeddf, eithr hwnnw sydd trwy ffydd yng Nghrist, y cyfiawnder sydd o Dduw ar sail ffydd, er mwyn ei adnabod ef, a grym ei atgyfodiad ef, a chymundeb ei ddioddefaint ef, a’m cydffurfio â’i farwolaeth ef, o chyrhaeddaf mewn un modd yr atgyfodiad sydd o’r meirw. Nid fy mod eisoes wedi caffael nac eisoes wedi’m perffeithio, ond dal rhagof yr wyf o gallwyf gael gafael yn y peth hwnnw y gafaelwyd ynof o’i blegid gan Grist Iesu. Frodyr, nid wyf yn cyfrif fy mod i fy hun eto wedi cael gafael; ond un peth, gan anghofio’r pethau sydd o’r tu cefn ac ymestyn at y pethau o’r tu blaen, yr wyf yn cyrchu at y nod at gamp galw uchel Duw yng Nghrist Iesu. Cynifer gan hynny ohonom ag sy’n berffaith, syniwn hyn; ac os syniwch ddim yn amgen, hyn hefyd a ddatguddia Duw i chwi; un peth, i ba le bynnag y deuthom, daliwn yn yr un llwybr. Byddwch gyd-efelychwyr ohonof fi, frodyr, ac ystyriwch y rhai sy’n rhodio felly megis yr ydym ni gennych yn esiampl. Canys rhodia llawer y dywedais wrthych amdanynt yn fynych, ac y dywedaf yn awr gan wylo, mai gelynion croes Crist ydynt, diwedd y rhai yw distryw, duw y rhai yw eu bol a’u gogoniant yn eu cywilydd, y rhai sy’n synied pethau daearol. Canys yn y nefoedd y mae ein dinasyddiaeth ni, ac oddiyno hefyd y disgwyliwn fel Iachawdwr yr Arglwydd Iesu Grist, yr hwn a gyfnewidia gorff ein darostyngiad ni i fod yn unffurf â chorff ei ogoniant ef, yn ôl y gweithrediad y dichon ef trwyddo hyd yn oed ddarostwng pob dim iddo’i hun. Am hynny, fy mrodyr annwyl, yr hiraethaf amdanoch, fy llawenydd a’m coron, sefwch felly yn yr Arglwydd, garedigion. Yr wyf yn annog Euodias ac yn annog Syntyche i synied yr un peth yn yr Arglwydd. Ie, yr wyf yn erfyn arnat tithau hefyd, wir gymar, cymorth hwynt, oherwydd iddynt gydymdrechu â mi yn yr efengyl gyda Chlement a’r rhelyw o’m cydweithwyr sydd a’u henwau yn llyfr y bywyd. Llawenhewch yn yr Arglwydd yn wastad; drachefn meddaf, llawenhewch. Bydded eich hynawsedd yn hysbys i bob dyn. Y mae’r Arglwydd yn agos. Na phryderwch mewn dim, ond ymhopeth gwneler eich deisyfiadau’n hysbys i Dduw mewn gweddi ac ymbil gyda diolch. A thangnefedd Duw sydd uwchlaw pob deall a werchyd eich calonnau a’ch meddyliau yng Nghrist Iesu. Bellach, frodyr, pa bethau bynnag sydd wir, pa bethau bynnag sydd urddasol, pa bethau bynnag sydd gyfiawn, pa bethau bynnag sydd ddihalog, pa bethau bynnag sydd hawddgar, pa bethau bynnag sydd raslawn, od oes dim rhinwedd ac, od oes dim clod, gwnewch gyfrif o’r pethau hyn. Y pethau a ddysgasoch hefyd ac a dderbyniasoch ac a glywsoch ac a welsoch ynof fi, y pethau hyn gwnewch; a Duw’r tangnefedd a fydd gyda chwi. Mi a lawenychais hefyd yn fawr yn yr Arglwydd oherwydd adfywio ohonoch yn awr o’r diwedd eich gofal amdanaf; a buoch yn ofalus yn hyn hefyd, ond bod diffyg cyfle arnoch; nid fy mod yn siarad oherwydd eisiau; canys mi a ddysgais ymha gyflwr bynnag y byddwyf fod ar ben fy nigon ynddo. Gwn pa fodd i ymostwng, gwn hefyd pa fodd i fod mewn helaethrwydd; ymhob dim ac ymhopeth dysgais y dirgelwch pa fodd i fod yn llawn ac yn newynog, a pha fodd i fod mewn helaethrwydd ac mewn prinder. Gallaf bopeth yn yr hwn a’m nertha. Er hynny da y gwnaethoch gydgyfranogi o’m gorthrymder i. Gwyddoch chwi eich hunain hefyd, o Philipiaid, na chyfrannodd yr un eglwys i mi yn nechreu’r efengyl pan euthum allan o Facedonia o ran rhoddi a derbyn ond chwychwi’n unig, oblegid hyd yn oed yn Thesalonica anfonasoch unwaith ac eilwaith wrth f’anghenraid. Nid fy mod yn ceisio’r rhodd, ond ceisio’r wyf y ffrwyth sydd ar gynnydd i’ch cyfrif chwi. Ond derbyniais bopeth, ac y mae gennyf helaethrwydd; cyflawnwyd fi oherwydd caffael ohonof gan Epaphroditus y pethau oddiwrthych chwi, arogl per, aberth cymeradwy, wrth fodd Duw. A’m Duw i a gyflawna eich holl raid yn ôl ei olud mewn gogoniant yng Nghrist Iesu. Yn awr i’n Duw a’n Tad gogoniant yn oes oesoedd; Amen. Cyferchwch bob sant yng Nghrist Iesu. Y mae’r brodyr sydd gyda mi yn eich cyfarch. Y mae’r saint i gyd yn eich cyfarch, ac yn bennaf y sawl sydd o deulu Cesar. Gras yr Arglwydd Iesu Grist a fyddo gyda’ch ysbryd. Paul apostol Crist Iesu drwy ewyllys Duw, a’r brawd Timotheus, at y saint yng Ngholosae a’r brodyr ffyddlon yng Nghrist; gras i chwi a thangnefedd oddi wrth Dduw ein Tad. Diolchwn i Dduw, Tad ein Harglwydd Iesu Grist, bob amser wrth weddïo drosoch, wedi clywed ohonom am eich ffydd chwi yng Nghrist Iesu a’r cariad sydd gennych tuag at yr holl saint ar gyfrif y gobaith sydd yng nghadw i chwi yn y nefoedd, yr hwn y clywsoch gynt amdano yng ngair gwirionedd yr efengyl sydd wedi dyfod atoch, megis y mae yn yr holl fyd yn dwyn ffrwyth a chynyddu fel y mae ynoch chwithau hefyd, o’r dydd y clywsoch am ras Duw a’i wir adnabod, megis y dysgasoch oddi wrth Epaffras ein cyd-was annwyl, sydd yn weinidog ffyddlon i Grist drosoch chwi, ac a amlygodd i ni eich cariad chwi yn yr Ysbryd. Oherwydd hyn ninnau hefyd, o’r dydd y clywsom, ni pheidiwn â gweddïo drosoch a deisyf eich cyflenwi â gwybodaeth o’i ewyllys ef ym mhob doethineb a dirnadaeth ysbrydol, i rodio yn deilwng o’r Arglwydd i bob rhyngu bodd, gan ddwyn ffrwyth ym mhob gweithred dda a chynyddu mewn gwybodaeth o Dduw, wedi eich nerthu ym mhob nerth yn ôl grymuster ei ogoniant ef i bob dyfalbarhau a hirymaros, gan ddiolch gyda llawenydd i’r Tad a’ch cymhwysodd i gyfran o etifeddiaeth y saint yn y goleuni; gwaredodd ni o afael y tywyllwch a’n symud drosodd i deyrnas Mab ei gariad — ynddo ef y mae gennym y prynedigaeth, maddeuant pechodau; yr hwn yw delw’r Duw anweledig, cyntaf-anedig yr holl greadigaeth, canys ynddo ef y crewyd pob peth yn y nefoedd ac ar y ddaear, y pethau gweledig a’r pethau anweledig, pa un bynnag ai gorseddau ai arglwyddiaethau ai llywodraethau ai awdurdodau; pob peth a grewyd trwyddo ef ac erddo ef. Ac y mae ef cyn pob peth, ac ynddo ef y cyd-saif pob peth, ac ef yw pen y corff, yr eglwys; ef yw’r dechrau, cyntaf-anedig o’r meirwon, fel y byddai ef ei hun yn blaenori ym mhob dim, am mai ynddo ef y gwelodd yr holl gyflawnder yn dda breswylio a thrwyddo ef lwyr gymodi pob dim ag ef ei hun, wedi gwneuthur heddwch drwy waed ei groes — trwyddo ef — pa un bynnag ai pethau ar y ddaear ai pethau yn y nefoedd. A chwithau, a oedd gynt wedi ymddieithrio ac yn elyniaethus eich meddwl mewn gweithredoedd drwg, yn awr a lwyr gymododd ef yng nghorff ei gnawd drwy farwolaeth, i’ch cyflwyno yn sanctaidd a di-fefl a diargyhoedd ger ei fron, os arhoswch yn y ffydd, wedi eich sylfaenu ac yn ddiysgog a heb fod yn symud oddi wrth obaith yr efengyl a glywsoch, a gyhoeddwyd ymhlith pob creadur dan y nef, ac y’m gwnaethpwyd i, Paul, yn weinidog iddi. Yn awr llawenhaf yn fy nioddefiadau drosoch, a chyflanwaf yr hyn sydd yn eisiau o gystuddiau Crist yn fy nghnawd er mwyn ei gorff, yr hwn yw yr eglwys, y’m gwnaethpwyd i yn weinidog iddi, yn ôl goruchwyliaeth Duw a roddwyd i mi er eich mwyn i gyflawni gair Duw, y dirgelwch a guddiwyd oddi wrth yr oesoedd ac oddi wrth y cenedlaethau — eithr yn awr a amlygwyd i’w saint, yr ewyllysiodd Duw wneuthur yn hysbys iddynt pa beth yw cyfoeth gogoniant y dirgelwch hwn ymhlith y cenhedloedd, yr hwn yw Crist ynoch, gobaith y gogoniant. Hwn a gyhoeddwn ni, gan rybuddio pob dyn a dysgu pob dyn ym mhob doethineb fel y cyflwynom bob dyn yn berffaith yng Nghrist; er mwyn hyn hefyd yr ymboenaf gan ymdrechu yn ôl ei weithrediad ef a weithreda ynof mewn nerth. Oherwydd ewyllysiaf i chwi wybod cymaint fy ymdrech drosoch a thros y rhai yn Laodicea a’r sawl na welodd fy wyneb yn y cnawd, fel y diddaner eu calonnau, wedi eu cysylltu ynghyd mewn cariad ac i lawnder golud sicrwydd deall, i adnabyddiaeth o ddirgelwch Duw, Crist, y mae holl drysorau doethineb a gwybodaeth yn guddiedig ynddo. Hyn a ddywedaf fel na thwyllo neb chwi ag ymadrodd hudolus. Canys os wyf absennol yn y corff, yr wyf gyda chwi yn yr ysbryd, gan lawenhau wrth weled eich trefn chwi a sefydlogrwydd eich ffydd yng Nghrist. Gan hynny, megis y derbyniasoch y Crist, Iesu yr Arglwydd, rhodiwch ynddo, wedi eich gwreiddio a’ch adeiladu ynddo, a’ch cadarnhau yn y ffydd fel y’ch dysgwyd, gan fod yn helaeth mewn diolchgarwch. Edrychwch na bo neb yn eich cludo ymaith yn ysbail drwy athroniaeth a gwag dwyll yn ôl traddodiad dynion, yn ôl elfennaidd bethau’r byd, ac nid yn ôl Crist. Canys ynddo ef y preswylia holl gyflawnder y Duwdod, a chwithau a gyflanwyd ynddo ef, y sydd yn ben pob llywodraeth ac awdurdod, y’ch enwaedwyd ynddo hefyd ag enwaediad nid o waith llaw drwy fwrw ymaith gorff y cnawd yn enwaediad Crist, wedi eich claddu gydag ef yn y bedydd, ac y’ch cyd-gyfodwyd ynddo drwy ffydd yng ngweithrediad Duw a’i cyfododd ef o feirw. A chydag ef cydfywhaodd chwithau, a oedd yn feirw drwy gamweddau a dienwaediad eich cnawd, wedi maddau inni yr holl gamweddau a dileu yr hyn a ysgrifennwyd yn yr ordeiniadau yn ein erbyn, y peth a oedd yn wrthwyneb i ni: hyn a ddug ef ymaith gan ei hoelio ar y groes, a chan ddinoethi y llywodraethau a’r awdurdodau arddangosodd hwynt ger bron y byd yn ei orymdaith fuddugoliaethus drwyddi hi. Gan hynny na farned neb chwi mewn bwyta ac mewn yfed neu mewn mater o ŵyl neu newydd-loer neu Saboth; cysgod ydynt hwy o’r pethau sydd i ddyfod, eithr y sylwedd sydd o Grist. Nac ysbeilied neb chwi o’ch gwobr, y sydd a’i fryd ar ostyngeiddrwydd ac addoli angylion, yn ymgywreinio ynglŷn â’r pethau a welodd, yn ofer ymchwyddo drwy ei feddwl cnawdol, a heb ddal gafael yn y Pen, o’r hwn y mae yr holl gorff, gan gael ei gynnal a’i gydgordeddu drwy y cymalau a’r gewynnau, yn cynyddu yng nghynnydd Duw. Os buoch feirw gyda Christ oddi wrth elfennaidd bethau’r byd, paham, fel rhai’n byw yn y byd, yr ymostyngwch i ordeiniadau — na thrin, na archwaetha, na chyffwrdd — y rhai sydd oll i lygredigaeth wrth eu defnyddio, yn ôl gosodiadau ac athrawiaethau dynion? Y mae gan y cyfryw bethau air eu bod yn ddoethineb ar gyfrif defodau hunan-osodedig a gostyngeiddrwydd a thriniaeth ddiarbed corff eithr nid ydynt mewn anrhydedd er llwyr fodloni’r cnawd. Gan hynny, os cydgyfodasoch â Christ, ceisiwch y pethau sydd uchod lle y mae Crist yn eistedd ar ddeheulaw Duw. Rhoddwch eich bryd ar y pethau sydd uchod, nid ar y pethau ar y ddaear. Canys buoch farw, a’ch bywyd a guddiwyd gyda Christ yn Nuw. Pan amlyger Crist, ein bywyd ni, yna chwithau gydag ef a amlygir mewn gogoniant. Marwhewch gan hynny yr aelodau sydd ar y ddaear, godineb, aflendid, nwyd, chwant drwg, a thrachwant gan mai eilunaddoliaeth yw: o’u plegid y daw digofaint Duw, ac ynddynt y rhodiasoch chwithau gynt, pan oeddech yn byw ynddynt. Ond yn awr rhoddwch chwithau hefyd yr holl bethau hyn ymaith o’ch genau, digofaint, llid, drygioni, cabledd, ymadrodd brwnt. Na ddywedwch gelwydd wrth eich gilydd, gan i chwi ddiosg yr hen ddyn gyda’i weithredoedd, a gwisgo amdanoch y dyn newydd a adnewyddir i wybodaeth yn ôl delw ei grewr, lle nid oes Roegwr nac Iddew, enwaediad na dienwaediad, barbariad, Scythiad, caeth na rhydd, ond Crist yn bob peth ac ym mhob peth. Gan hynny, fel etholedigion Duw, sanctaidd ac annwyl, gwisgwch dosturi calon, tiriondeb, gostyngeiddrwydd, addfwynder, hirymaros, gan gydymddwyn â’ch gilydd a maddau i’ch gilydd, o bydd gan un gwyn yn erbyn neb: ac megis y maddeuodd yr Arglwydd i chwi gwnewch chwithau hefyd yr un modd: dros yr holl bethau hyn gwisgwch gariad, sy’n rhwymyn perffeithrwydd. A thangnefedd Crist, y’ch galwyd iddo mewn un corff, a lywodraetho yn eich calonnau chwi; a byddwch ddiolchgar. Preswylied gair Crist ynoch yn helaeth, gan ddysgu a rhybuddio eich gilydd ym mhob doethineb, yn canu gyda salmau, emynau, ac odlau ysbrydol, mewn diolchgarwch yn eich calonnau i Dduw; a pha beth bynnag a wneloch mewn gair neu weithred, gwnewch bopeth yn enw yr Arglwydd Iesu, gan ddiolch i Dduw Dad drwyddo ef. Chwi wragedd, ymostyngwch i’ch gwŷr megis y gweddai yn yr Arglwydd. Chwi wŷr, cerwch eich gwragedd ac na fyddwch chwerw wrthynt. Chwi blant, ufuddhewch i’ch rhieni ym mhob peth, canys hyn sydd gymeradwy yn yr Arglwydd. Chwi dadau, na chythruddwch eich plant, fel na ddigalonnont. Chwi weision, ufuddhewch ym mhob peth i’ch meistriaid yn ôl y cnawd, nid mewn llygad-wasanaeth fel rhai yn boddio dynion, eithr mewn unplygrwydd calon, a chwi yn ofni yr Arglwydd. Pa beth bynnag a wneloch, gwnewch o galon megis i’r Arglwydd ac nid i ddynion, gan wybod mai oddi wrth yr Arglwydd y derbyniwch daledigaeth yr etifeddiaeth. Gwasanaethwch yr Arglwydd, Crist. Canys yr hwn a wna anghyfiawnder a dderbyn yr anghyfiawnder yn ôl, ac nid oes derbyn wyneb. Chwi feistriaid, rhoddwch i’ch gweision yr hyn sydd gyfiawn a thegwch, gan wybod fod gennych chwithau Feistr yn y nefoedd. Dyfalbarhewch mewn gweddi, gan wylio ynddi gyda diolchgarwch, gan weddïo yr un pryd drosom ninnau hefyd, ar i Dduw agor i ni ddrws i’r gair, i lefaru dirgelwch Crist, yr wyf mewn rhwymau o’i blegid, fel yr eglurwyf ef megis y dylwn ei lefaru. Rhodiwch mewn doethineb tuag at y rhai oddi allan, gan brynu yr amser. Bydded eich ymadrodd bob amser yn rasol, wedi ei flasu â halen, er mwyn i chwi wybod pa fodd y dylech ateb pob rhyw un. Fy holl hynt a hysbysa Tychicus i chwi, y brawd annwyl a’r gweinidog ffyddlon a’r cyd-was yn yr Arglwydd, a anfonais atoch yn un swydd er mwyn i chwi wybod ein helynt ac iddo gysuro eich calonnau chwi, gydag Onesimus, y brawd ffyddlon ac annwyl, sy’n un ohonoch, chwi. Hysbysant hwy i chwi bob peth sy’n digwydd yma. Y mae Aristarchus, fy nghyd-garcharor, yn eich cyfarch a Marc cefnder Barnabas (y derbyniasoch orchmynion yn ei gylch — os daw atoch, derbyniwch ef), a Jesus a elwir Justus; o’r enwaediad y rhai hyn yn unig sy’n gyd-weithwyr â mi i deyrnas Dduw, a’r sawl a fu’n gysur i mi. Y mae Epaffras, un ohonoch, gwas Crist Iesu, yn eich cyfarch, gan ymdrechu yn wastadol drosoch mewn gweddïau ar sefyll ohonoch yn berffaith ac wedi eich llawn sicrhau ym mhob peth a ewyllysio Duw. Canys tystiaf amdano fod ganddo fawr ofal drosoch chwi a thros bobl Laodicea a phobl Hierapolis. Y mae Luc, y meddyg annwyl, a Demas, yn eich cyfarch. Cyferchwch y brodyr yn Laodicea, a Nymffa a’r eglwys yn ei thŷ. Ac wedi darllen y llythyr hwn yn eich plith, perwch hefyd ei ddarllen yn eglwys y Laodiceaid, a darllen ohonoch chwithau yr un o Laodicea. A dywedwch wrth Archippus, Dyro sylw i’r weinidogaeth a dderbyniaist yn yr Arglwydd, i’w chyflawni hi. Y mae’r cyfarchiad yn fy llaw fy hun, Paul. Cofiwch, fy rhwymau. Gras fyddo gyda chwi. Pawl a Silfan a Thimotheus at Eglwys y Thesaloniaid yn Nuw Dad a’r Arglwydd Iesu Grist. Gras i chwi a thangnefedd. Diolchwn i Dduw yn wastadol amdanoch oll wrth eich cofio yn ein gweddïau; canys cofiwn yn ddibaid gerbron Duw a’n Tad eich gwaith ffydd, eich llafur cariad, a’ch dioddefgarwch yn y gobaith sydd yn ein Harglwydd Iesu Grist; a gwyddom, frodyr annwyl gan Dduw, eich ethol chwi: oblegid daeth ein hefengyl atoch, nid mewn gair yn unig, eithr hefyd mewn nerth, ac yn yr Ysbryd Glân a chydag argyhoeddiad llawn — a gwyddoch y fath ddynion a fuom ni i chwi er eich mwyn chwi. A chwithau a aethoch i’n hefelychu ni a’r Arglwydd, trwy dderbyn y gair mewn gorthrymder mawr, gyda llawenydd yr Ysbryd Glân; hyd onid aethoch yn esiampl i bawb sydd yn credu ym Macedonia ac yn Achaia; canys oddi wrthych chwi y datseiniodd gair yr Arglwydd, nid yn unig ym Macedonia ac Achaia, eithr ym mhobman yr aeth eich ffydd tuag at Dduw ar led fel nad oes raid i ni ddywedyd dim; canys edrydd pobl ohonynt eu hunain amdanom ni, y fath ddyfodiad a gawsom i’ch plith, a’r modd y troesoch at Dduw oddi wrth yr eilunod i wasanaethu Duw byw a gwirioneddol, ac i ddisgwyl Ei Fab o’r nefoedd, yr Hwn a gyfododd Ef o blith y meirw, Iesu sydd yn ein gwaredu oddi wrth y llid sydd yn dyfod. Canys gwyddoch eich hunain, frodyr, na fu ein hymweliad ni â chwi yn ofer; eithr er dioddef ohonom o’r blaen a’n sarhau, fel y gwyddoch, yn Philipi, ymwrolasom yn ein Duw i draethu i chwi efengyl Duw yng nghanol ymdrech fawr. Canys nid yw ein hapêl ni o gyfeiliornad nac o amhurdeb na thrwy ddichell; eithr, fel rhai a gymeradwywyd gan Dduw i ymddiried iddynt am yr efengyl, felly y llefarwn, nid i foddio dynion, ond y Duw a brawf ein calonnau. Canys ni chaed ni un amser a chennym ymadrodd gweniaith, fel y gwyddoch, na than gochl hunan-gais — Duw yn dyst; ac ni cheisiasom glod gan ddynion, na chennych chwi na chan arall, er y gallem wasgu arnoch fel apostolion Crist; eithr buom dyner yn eich mysg fel mamaeth yn maethu ei phlant ei hun: felly y dymunem, gan gymaint ein serch tuag atoch, gyfrannu i chwi nid yn unig efengyl Duw, eithr hyd yn oed ein bywyd, oblegid daethoch yn annwyl gennym. Canys cof gennych, frodyr, am ein llafur a’n lludded: gan weithio nos a dydd rhag pwyso ohonom ar neb ohonoch, pregethasom i chwi efengyl Duw. Tystion ydych chwi a Duw mor sanctaidd a chyfiawn a difeius yr ymddygasom tuag atoch chwi sy’n credu, a’r modd, fel y gwyddoch, y buom i chwi bob un ohonoch fel tad i’w blant ei hun, yn eich annog a’ch calonogi a’ch tynghedu i rodio’n deilwng o’r Duw a’ch galwodd i’w deyrnas Ei Hun a’i ogoniant. Am hyn, hefyd, diolchwn yn ddibaid i Dduw am i chwi, pan dderbyniasoch air cenadwri Duw oddi wrthym ni, ei dderbyn, nid fel gair dynion, eithr — yr hyn yw yn ddilys — fel gair Duw a weithia yn effeithiol ynoch chwi y credinwyr. Canys aethoch chwi, frodyr, i efelychu eglwysi Duw yng Nghrist Iesu sydd yn Iwdea; oblegid dioddefasoch chwithau hefyd ar law eich cyd-genedl yn yr un modd â hwythau ar law yr Iddewon, a laddodd yr Arglwydd Iesu a’r proffwydi, ac a’n herlidiodd ninnau; y rhai sydd yn digio Duw a gwrthwynebu pob dyn, trwy warafun inni bregethu i’r cenhedloedd i’w hachub; nes cyflawni ohonynt yn wastadol fesur eu pechodau. Eithr y digofaint a ddaeth arnynt hyd yr eithaf. A ninnau, frodyr, wedi ein gwahanu oddi wrthych dros ennyd awr, o ran golwg ac nid o ran calon, a fuom mewn hiraeth mawr yn taer ddymuno gweled eich wyneb. Am hynny chwenychasom ddyfod atoch — myfi Pawl unwaith a dwywaith — ond Satan a’n rhwystrodd. Canys beth yw ein gobaith, ein llawenydd, a choron ein hymffrost — beth onid chwychwi? — gerbron ein Harglwydd Iesu yn Ei ddyfodiad; Yn wir, chwychwi yw ein gogoniant a’n llawenydd. A ni, gan hynny, yn methu ag ymatal yn hwy, penderfynasom aros ar ôl yn Athen wrthym ein hunain, ac anfonasom Dimotheus ein brawd, gweinidog Duw yn efengyl Crist, i’ch cadarnhau a’ch calonogi yn eich ffydd, fel na lithier neb ohonoch yn y blinderau hyn. Gwyddoch chwi eich hunain mai hynny yw ein rhan; canys rhagfynegem i chwi pan oeddem gyda chwi y byddai i ni ddioddef blinder, ac felly y bu, fel y gwyddoch. A minnau, oblegid hyn, heb fedru ymatal yn hwy, a anfonais i wybod am eich ffydd, rhag darfod i’r Temtiwr eich temtio ac i’n llafur fynd yn ofer. Ond a Thimotheus newydd ddyfod atom oddi wrthych chwi, yn dwyn newyddion da am eich ffydd a’ch cariad, a’ch bod yn coffau yn garedig amdanom yn wastadol, ac yn hiraethu am ein gweled, fel yr hiraethwn ninnau am eich gweled chwi, yna y’n cysurwyd, frodyr, o’ch plegid, yng nghanol ein holl gyni a’n blinder, trwy eich ffydd chwi. Canys byw yr ydym yn awr os ych chwi’n sefyll yn yr Arglwydd. A pha fodd y medrwn ddiolch i Dduw amdanoch, am yr holl lawenydd a gawn o’ch plegid gerbron ein Duw, canys yn angerddol yr erfyniwn nos a dydd am weled eich wyneb, a chwblhau yr hyn sydd yn ôl yn eich ffydd. Ein Duw a’n Tad Ei Hun a’n Harglwydd Iesu a gyfeirio ein ffordd atoch; a’r Arglwydd a baro i chwi gynyddu a rhagori mewn cariad tuag at eich gilydd a thuag at bawb fel y gwnawn ninnau tuag atoch chwi, fel y cadarnhaer eich calonnau i’w gwneuthur yn ddifeius mewn sancteiddrwydd gerbron ein Duw a’n Tad yn nyfodiad ein Harglwydd Iesu gyda’i saint oll. Yn ddiwethaf, frodyr, deisyfwn ac ymbiliwn yn yr Arglwydd Iesu, megis y derbyniasoch gennym ni y modd y dylech rodio a rhyngu bodd Duw, fel, yn wir, yr ydych yn rhodio, ar i chwi ragori fwyfwy. Canys gwyddoch pa gyfarwyddiadau a roesom i chwi trwy yr Arglwydd Iesu; oblegid hyn yw ewyllys Duw — eich puredigaeth chwi, ymgadw ohonoch rhag godineb, a dysgu bob un ohonoch gymryd cymar iddo ei hun mewn diweirdeb a pharch, nid yn nwyd anlladrwydd fel y cenhedloedd nad adwaenant Dduw; fel na byddo i neb wneuthur cam â’i frawd, na manteisio arno yn y peth hwn. Canys dialydd yw yr Arglwydd am y pethau hyn oll, megis y dywedasom o’r blaen wrthych a’ch dwys rybuddio. Ni alwodd Duw ni i aflendid ond mewn purdeb. Gan hynny, y neb a ddiystyra nid dyn a ddiystyra namyn y Duw sydd yn rhoddi i chwi Ei Ysbryd sanctaidd. Ond am gariad brawdol nid oes eisiau ysgrifennu atoch, oblegid dysgir chwi eich hunain gan Dduw i garu eich gilydd. Ac, yn wir, hyn a wnewch tuag at bawb o’r brodyr trwy holl Facedonia. Ond deisyfwn arnoch, frodyr, ragori fwyfwy a bod yn eiddgar i fyw’n dawel, a dilyn bob un ei orchwyl ei hun, a gweithio â’ch dwylo, megis y’ch cyfarwyddasom, fel y rhodioch yn weddaidd yng ngolwg y byd, ac na ddeloch ar ofyn neb. Ni ddymunwn i chwi fod heb wybod, frodyr, am y rhai sydd yn huno fel na byddo i chwi ofidio fel y rhelyw nad oes iddynt obaith. Canys os credwn i Iesu farw ac atgyfodi, felly hefyd trwy Iesu fe ddwg Duw, gydag Ef, y sawl a hunodd. A dywedwn hyn wrthych, yn ôl gair yr Arglwydd, na fydd i ni, y rhai byw a erys hyd ddyfodiad yr Arglwydd, ragflaenu y sawl a hunodd. Canys yr Arglwydd Ei Hun a ddisgyn o’r nef â gwysfloedd, â llef archangel, ac ag utgorn Duw, a’r meirw yng Nghrist a gyfyd gyntaf, yna ninnau, y rhai byw, y rhai sy’n aros, a gipir gyda hwynt mewn cymylau i gyfarfod â’r Arglwydd yn yr awyr, ac felly byddwn gyda’r Arglwydd yn dragywydd. Gan hynny, diddenwch eich gilydd â’r ymadroddion hyn. Ac am yr amserau a’r prydiau, frodyr, nid oes arnoch angen am ysgrifennu atoch. Gwyddoch yn sicr eich hunain mai megis lleidr yn y nos, felly y daw Dydd yr Arglwydd. Pan ddywed pobl “Y mae’n dawel a diogel,” y pryd hwnnw y daw dinistr disymwth ar eu gwarthaf, fel gwewyr gwraig ar esgor, ac ni ddihangant ddim. Ond, frodyr, nid ydych chwi yn y tywyllwch fel y goddiweddo’r dydd chwi fel lleidr. Meibion y goleuni ydych chwi oll, a meibion y dydd. Nid eiddo’r nos na’r tywyllwch ydym ni. Gan hynny, na chysgwn, fel y rhelyw, eithr byddwn effro a sobr, canys y rhai a gysgant y nos y cysgant, a’r rhai a feddwant, y nos y meddwant. Eithr byddwn ni sy’n eiddo’r dydd yn sobr, wedi gwisgo amdanom lurig ffydd a chariad, a gobaith iachawdwriaeth yn helm, oblegid ni neilltuodd Duw ni i ddigofaint ond i gaffael iachawdwriaeth trwy ein Harglwydd Iesu Grist a fu farw drosom, fel, pa un bynnag ai yn effro ai huno y byddom, y caffom fyw gydag ef. Gan hynny, anogwch eich gilydd, ac adeiledwch y naill y llall, megis yn wir y gwnewch. Dymunwn arnoch, frodyr, gydnabod y rhai sy’n llafurio yn eich mysg ac yn eich blaenori yn yr Arglwydd ac yn eich cynghori. Mawrygwch hwynt hefyd mewn cariad oherwydd eu gwaith. Byddwch heddychol yn eich plith eich hunain. Dymunwn arnoch, frodyr, ceryddwch y segurwyr, cysurwch y rhai digalon, cynheliwch y gweiniaid, byddwch ymarhous wrth bawb. Gwyliwch rhag talu o neb ddrwg am ddrwg, eithr ceisiwch yn wastadol les eich gilydd a phawb. Llawenhewch yn wastadol. Gweddïwch yn ddi-baid. Byddwch ddiolchgar am bopeth. Hynny yw ewyllys Duw yng Nghrist Iesu i chwi. Na ddiffoddwch yr Ysbryd. Na ddirmygwch broffwydoliaethau. Profwch bopeth, glynwch wrth y da. Ymgedwch rhag pob math o ddrwg. A Duw y tangnefedd Ei Hun a’ch sancteiddio yn gwbl oll, a chadwer chwi ysbryd, enaid, a chorff, yn ddianaf a difai hyd ddyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist. Ffyddlon yw yr Hwn a’ch geilw ac Ef a’i gwna. Frodyr, gweddïwch drosom ninnau. Cyferchwch y brodyr oll â chusan sanctaidd. Tynghedaf chwi yn yr Arglwydd i ddarllen y llythyr i’r holl frodyr. Gras ein Harglwydd Iesu Grist a fo gyda chwi. Pawl a Silfan a Thimotheus at eglwys y Thesaloniaid yn Nuw ein Tad a’r Arglwydd Iesu Grist. Gras i chwi a thangnefedd oddi wrth Dduw Dad a’r Arglwydd Iesu Grist. Dylem, frodyr, ddiolch yn wastadol i Dduw amdanoch, fel y mae yn gweddu inni, oherwydd dirfawr gynnydd eich ffydd a bod cariad pob un ohonoch tuag at ei gilydd yn ymhelaethu, fel yr ymffrostiwn ninnau ynoch yn eglwysi Duw am eich amynedd a’ch ffydd yn eich holl erledigaethau a’r blinderau a ddioddefwch. Prawf ydynt o farn gyfiawn Duw i’ch gwneuthur chwi’n deilwng o deyrnas Dduw, y dioddefwch er ei mwyn; yn gymaint â’i bod yn gyfiawn gan Dduw ad-dalu blinder i’r rhai a’ch blina chwi, a gollyngdod i chwithau, a flinir ynghyda ninnau, yn natguddiad yr Arglwydd Iesu o’r nef gydag angylion Ei nerth, mewn tân fflam, i ddial ar y rhai nad adwaenant Dduw ac nad ufuddhânt i efengyl ein Harglwydd Iesu. Eu cosb fydd dinistr bythol allan o wyddfod yr Arglwydd ac o ogoniant Ei nerth Ef pan ddêl i’w ogoneddu yn Ei saint, ac i’w ryfeddu yn y rhai oll a gredodd, oblegid credwyd ein tystiolaeth i chwi, yn y dydd hwnnw. Er mwyn hyn y gweddïwn hefyd yn wastadol drosoch, ar i’n Duw eich gwneuthur yn deilwng o’i alwad a chyflawni trwy Ei nerth bob awyddfryd daionus a gwaith ffydd ynoch, fel y gogonedder enw ein Harglwydd Iesu ynoch chwi, a chwithau ynddo yntau, yn ôl gras ein Duw a’r Arglwydd Iesu Grist. Ac am ddyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist a’n cynnull ni ger Ei fron Ef, deisyfwn arnoch, frodyr, na fyddo’n hawdd eich siglo o ran eich meddwl na’ch cythryblu na chan ysbryd na chan air na chan lythyr megis petai oddi wrthym ni, fod dydd yr Arglwydd wedi dyfod. Na thwylled neb chwi mewn unrhyw fodd; oblegid oni ddêl yn gyntaf y gwrthgiliad a datguddio’r Dyn Anwir, mab y golledigaeth, a wrthwyneba ac a ymddyrchaif yn erbyn beth bynnag a elwir yn dduw neu a addolir, ac eistedd ei hun yn nheml Dduw a chyhoeddi mai ef sydd Dduw — oni chofiwch fy mod yn dywedyd hyn wrthych pan oeddwn eto gyda chwi? Ac yn awr gwyddoch beth sydd yn ei atal, fel y datguddier ef yn ei amser priod. Canys y mae dirgelwch anwiredd yn gweithio eisoes, eithr yn unig hyd nes y symudir o’r ffordd yr hwn sydd yn ei atal, ac yna datguddir y Dyn Anwir a’r Arglwydd Iesu a’i dinistria ef ag anadl Ei enau ac a’i diddyma trwy ymddangos ohono yn Ei ddyfodiad. A’i ddyfodiad sydd yn ôl gweithgarwch Satan gyda phob gallu ac arwyddion a rhyfeddodau gau ynghyda phob rhyw dwyll anghyfiawnder i’r rhai a gyfrgollir am na dderbyniasant gariad at wirionedd i’w hachub. Oherwydd hyn, Duw sy’n anfon atynt allu twyllodrus a bair iddynt gredu’r gau fel y barner pawb na chredodd y gwirionedd ond ymhyfrydu mewn anghyfiawnder. Ond diolch a ddylem ni yn wastadol i Dduw amdanoch chwi, frodyr annwyl gan yr Arglwydd, oherwydd i Dduw eich dewis chwi o’r dechreuad i iachawdwriaeth trwy sancteiddiad yr Ysbryd a ffydd yn y gwirionedd. I hyn y’ch galwodd chwi trwy ein hefengyl ni i gaffael gogoniant ein Harglwydd Iesu Grist. Gan hynny, frodyr, sefwch a glynwch wrth y traddodiadau a ddysgasoch gennym ni trwy air neu lythyr. A’n Harglwydd Iesu Grist Ei Hun, a Duw ein Tad, yr Hwn a’n carodd ac a roddodd inni ddiddanwch bythol a gobaith da trwy Ei ras, a ddiddano eich calonnau a’ch cadarnhau ym mhob gweithred a gair da. Yn ddiwethaf, gweddïwch, frodyr, drosom ni, ar i air yr Arglwydd fyned rhagddo a chael ei fawrygu, megis gyda chwi, ac ar i ninnau gael ein gwaredu rhag dynion gwrthnysig a drwg; canys nid yw’r ffydd gan bawb. Ond ffyddlon yw yr Arglwydd: Ef a’ch cadarnha chwi ac a’ch amddiffyn rhag yr Un drwg. Y mae gennym hyder ynoch yn yr Arglwydd, eich bod yn gwneuthur a orchmynnwn, ac y gwnewch. A chyfeiried yr Arglwydd eich calonnau at gariad Duw ac at amynedd Crist. Ond gorchmynnwn i chwi, frodyr, yn enw’r Arglwydd Iesu Grist, ymgadw oddi wrth bob brawd sy’n byw’n segur yn lle dilyn y rheol a dderbyniasoch gennym ni. Chwi a wyddoch y dylech ein hefelychu ni: canys ni buom segur yn eich mysg. Ni fwytasom fara neb heb ei ennill, eithr gweithio nos a dydd mewn diwydrwydd a lludded, rhag pwyso ar neb ohonoch. Nid am nad oes gennym hawl, ond i roddi esiampl i chwi i’n hefelychu. Yn wir, pan oeddem gyda chwi rhoesom i chwi y gorchymyn “Y neb na fynno weithio, na fwytaed chwaith.” Canys clywn fod rhai yn eich plith yn byw’n segur heb weithio dim, ond busnesa. Gorchmynnwn a chymhellwn y cyfryw yn yr Arglwydd Iesu Grist i weithio’n dawel ac ennill eu bywoliaeth. Ond chwychwi, frodyr, na ddiffygiwch yn gwneuthur da. Ac os gwrthyd neb ufuddhau i’n geiriau yn y llythyr, nodwch hwnnw; na chymdeitheswch ag ef, fel y cywilyddio. Ac eto, nac ystyriwch ef fel gelyn ofid rhybuddiwch ef fel brawd. Arglwydd y tangnefedd Ei Hun a roddo i chwi Ei dangnefedd bob amser ym mhob rhyw fodd. Yr Arglwydd a fo gyda chwi oll. Y mae’r annerch yn fy llaw fy hun, Pawl. Dyma arwydd ym mhob llythyr; dyma fy ysgrifen: Gras ein Harglwydd Iesu Grist a fo gyda chwi oll. Pawl, Apostol Crist Iesu, yn ôl gosodiad Duw ein Hiachawdwr a Christ Iesu ein gobaith, at Timotheus ei ddilys blentyn yn y ffydd. Gras, trugaredd, a thangnefedd oddi wrth Dduw Dad a Christ Iesu ein Harglwydd. Megis y’th anogais, wrth imi deithio i Facedonia, dal i aros yn Effesus i rybuddio rhyw rai na ddysgont ddim dieithr, na chwaith ymroddi i chwedlau ac achau diddiwedd, y cyfryw bethau ag sy’n peri dyfaliadau yn hytrach na threfn Duw yr hon sydd trwy ffydd. Diben y ddysg yw cariad o galon bur, o gydwybod dda, ac o ffydd ddiffuant. Ac wedi methu â chyrraedd y pethau hyn fe droes rhai at ofer siarad, gan ewyllysio bod yn ddoctoriaid cyfraith, a hwythau heb ddeall na’r pethau a ddywedant na’r pethau y taerant amdanynt. Gwyddom mai gwych o beth yw’r gyfraith, os arfer dyn hi fel cyfraith, gan wybod nad i ŵr uniawn y gosodwyd cyfraith ond i rai digyfraith ac anufudd, i annuwiolion a phechaduriaid, i rai halog a chableddus, i dad-leiddiaid a mam-leiddiaid, i lofruddion, i buteinwyr, i wrywgydwyr, i gaethgludwyr, i gelwyddwyr, i anudonwyr, a pheth bynnag arall sydd wrthwyneb i’r ddysgeidiaeth iach y sydd yn ôl efengyl gogoniant y bendigedig Dduw, a ymddiriedwyd i mi. Diolchaf i’r hwn a roddes allu ynof, Crist Iesu ein Harglwydd, am iddo fy nghyfrif i yn ffyddlon, a’m gosod mewn gwasanaeth, a minnau gynt yn gablwr, erlidiwr ac yn drahaus. Eithr trugarhawyd wrthyf am mai o anwybod y gweithredais mewn anghrediniaeth. A thra-amlhaodd gras ein Harglwydd ynghyda ffydd a’r cariad sydd yng Nghrist Iesu. Gwir yw y gair, a theilwng o bob croeso, i Grist Iesu ddyfod i’r byd i achub pechaduriaid; y pennaf o’r rhain ydwyf fi. Eithr er mwyn hyn y trugarhawyd wrthyf, fel ynof fi ymlaenaf yr arddangosai Iesu Grist ei holl amynedd, i fod yn enghraifft o’r rhai sydd i gredu ynddo ef i fywyd tragwyddol. I’r Brenin tragwyddol, Anllygradwy, anweledig, yr unig Dduw, Y byddo anrhydedd a gogoniant yn oes oesoedd, Amen. Yr anogaeth hon a roddaf iti, fy mhlentyn Timotheus, yn ôl y proffwydoliaethau a arweiniodd atat ti, filwrio ohonot yng ngrym y rhain y filwriaeth deg, a bod gennyt ffydd a chydwybod dda, y mynnodd rhai wared ohoni a gwneuthur llongddrylliad ynghylch y ffydd; o’r rhain y mae Hymenaeos ac Alecsandros a draddodais i Satan, fel y’u dysgid hwy i beidio â chablu. Yr wyf yn annog, ynteu, yn gyntaf oll, offrymu ymbiliau, gweddïau, deisyfiadau a diolchiadau dros ddynion oll; dros frenhinoedd a phawb sy ben, fel y treuliom ein dyddiau yn llonydd a thawel gyda phob duwioldeb a sobrwydd. Hyn sydd dda a derbyniol gan Dduw ein Hiachawdwr, yr hwn a fyn fod pob dyn wedi ei achub a dyfod i wybod y gwirionedd. Canys un Duw sydd, un canolwr hefyd rhwng Duw a dynion, sef y dyn Crist Iesu, yr hwn a’i rhoes ei hun yn bridwerth dros bawb — y dystiolaeth mewn iawn bryd: i hon y’m gosodwyd i’n bregethwr ac apostol (gwir a ddywedaf ac nid celwydd), yn athro i’r cenhedloedd mewn ffydd a gwirionedd. Dymunaf, ynteu, am i’r gwŷr weddïo ym mhob lle, gan ddyrchafu dwylo santaidd heb lid nac ymryson. Yr un modd y gwragedd, ymdrwsient mewn diwyg weddaidd, yn wylaidd a synhwyrol: nid â phlethiadau gwallt ac aur, neu berlau, neu ddillad drudfawr, ond, fel y gweddai i wragedd sy’n proffesu duwioldeb, â gweithredoedd da. Dysged gwraig yn dawel gyda chwbl ymostyngiad. Nid wyf yn caniatáu wraig addysgu na chwaith awdurdodi ar ŵr, ond bod yn dawel. Canys Adda yn gyntaf a luniwyd, yna Efa. Ac Adda nis twyllwyd, ond y wraig o’i llwyr dwyllo a aeth i gamwedd. Eithr achubir hwynt wrth ddwyn plant os arhosant mewn ffydd a chariad a santeiddrwydd ynghyda synnwyr da. Gwir yw y gair. Os yw neb yn chwennych arolygiaeth, gorchwyl anrhydeddus y mae yn ei chwennych. Dylai arolygwr fod yn ddiargyhoedd, yn ŵr un wraig, yn sobr, yn bwyllog, yn weddus, yn lletygar, yn athrawaidd: nid yn feddwyn, nid yn ymladdgar, eithr yn ddyn teg, digynnen, anariangar; yn rheoli ei deulu ei hun yn iawn, a chadw ei blant mewn trefn gyda phob parchusrwydd (oni ŵyr dyn sut i reoli ei deulu ei hun, pa fodd y gofala dros eglwys Dduw?); nid yn newyddian, rhag iddo ymchwyddo a dyfod dan gollfarn diafol. Dylai gael gair da gan y rhai oddi allan, rhag iddo syrthio dan warth ac i fagl diafol. Yr un modd dylai diaconiaid fod yn barchus, nid yn ddaueiriog, nid yn ymroi i win lawer, nid yn fudrelwyr, yn cadw cyfrinach y ffydd mewn cydwybod bur. A rhodder y rhain hefyd ar brawf yn gyntaf; yna, os byddant yn ddiargyhoedd, byddent ddiaconiaid. Dylai eu gwragedd yr un modd fod yn barchus, nid yn rhai enllibus, ond yn sobr, ffyddlon ym mhopeth. Boed diaconiaid yn wŷr un wraig, yn rheoli eu plant yn iawn a’u tai eu hunain. Canys y rhai a wasnaethodd yn deilwng fel diaconiaid sydd yn ennill iddynt eu hunain safle anrhydeddus a hyder mawr yn y ffydd sydd yng Nghrist Iesu. Y pethau hyn a sgrifennaf atat, gan obeithio dyfod atat ar fyrder, fel y gwypych, os oedaf, pa fodd y dylid ymddwyn yn nheulu Duw y sydd eglwys Duw byw, colofn ac ateg y gwirionedd. Ac addefedig yw, mawr yw cyfrinach duwioldeb; Yr hwn a amlygwyd yn y cnawd, A gyfiawnhawyd yn yr ysbryd, A welwyd gan angylion, A gyhoeddwyd ymhlith y cenhedloedd, Y credwyd ynddo yn y byd, A gymerwyd i fyny mewn gogoniant. Eto y mae’r ysbryd yn dywedyd yn eglur y gwrthgilia rhai oddi wrth y ffydd yn yr amseroedd diwethaf, gan roi coel ar ysbrydion camarweiniol a dysgeidiaeth daimoniaid, a ddysg gau athrawon wedi eu serio yn eu cydwybod, sydd yn gwahardd priodi, yn erchi ymwrthod â bwydydd a greodd Duw i’w cymryd gyda diolch gan y rhai sydd yn credu ac yn adnabod y gwirionedd. Canys popeth a greodd Duw, da ydyw, ac nid oes dim ysgymun o’i dderbyn gyda diolch, canys fe’i cysegrir gan air Duw a deisyfiad. O osod y pethau hyn gerbron y brodyr, gwas da i Iesu Grist fyddi, yn dy feithrin dy hun yng ngeiriau’r ffydd a’r ddysg ragorol y glyni wrthi. Ond anghysegredig a gwrachïaidd chwedlau, gochel, eithr ymarfer dy hun i dduwioldeb, canys y mae ymarfer corff yn fuddiol dros ychydig, ond y mae duwioldeb yn fuddiol i bopeth, a chanddo addewid am y bywyd y sydd ac a fydd. Gwir yw y gair a theilwng o bob croeso; canys er mwyn hyn y llafuriwn ac yr ymorchestwn, am inni osod ein gobaith ar Dduw byw y sydd achubwr dynion oll, yn enwedig credinwyr. Gorchymyn ac addysga’r pethau hyn. Na ddirmyged neb dy ieuenctid di, eithr bydd yn esiampl i’r credinwyr mewn ymddiddan, mewn ymddygiad, mewn cariad, mewn ffyddlondeb, mewn purdeb. Hyd oni ddelwyf, dyro sylw i’r darllen, i’r cynghori, ac i’r addysgu. Nac esgeulusa’r ddawn sydd ynot, a roddwyd iti trwy fynegiad proffwydol ynghydag arddodiad dwylo’r henuriaeth. Bydd ddyfal gyda’r pethau hyn; bydd fyw ynddynt, fel y byddo dy gynnydd yn eglur i bawb. Gwylia arnat dy hun ac ar dy ddysgeidiaeth, dal ati; o wneuthur hyn, ti a’th achubi dy hun a’th wrandawyr hefyd. Na ddyro gerydd chwyrn i hynafgwr, eithr annog ef fel petai dad iti, a’r gwŷr ieuainc fel brodyr; yr hynafwragedd fel mamau, a’r merched ieuainc fel chwiorydd, yn gwbl bur. I’r gweddwon di-gefn, dyro gymorth. Eithr od oes gan weddw blant neu ŵyrion, dysgent fyw yn dduwiol yn gyntaf yn eu teulu eu hunain, ac ad-dalu i’w hynafiaid, canys hyn sy dderbyniol gan Dduw. Ond y weddw ddi-gefn ac unig, y mae ei gobaith hi ar Dduw, a phery yn ei hymbiliau a’i gweddïau nos a dydd. Ond y weddw drythyll, y mae hi wedi marw a hithau’n fyw. Y pethau hyn gorchymyn, fel y byddont yn ddiargyhoedd. Eithr oni ddarpar dyn ar gyfer ei dylwyth, ac yn enwedig ei deulu, y mae wedi gwadu’r ffydd, a gwaeth yw nag anghredadun. Rhaid i weddw a gofrestrir fod o leiaf yn drigain mlwydd oed, a fu yn wraig un gŵr, ac enw iddi am weithredoedd da; iddi fagu plant, iddi letya dieithriaid, iddi olchi traed saint, iddi gynorthwyo rhai adfydus, a dilyn pob gwaith da. Ond gwrthod weddwon ieuainc, canys pan ymdrythyllont yn erbyn Crist, priodi a fynnant a dyfod dan farn am iddynt ddiddymu eu hadduned gyntaf. Ynghyda hyn dysgant fod yn segur, gan wibio o dŷ i dŷ, ac nid yn segur yn unig, eithr hefyd yn gegog ac ymyrgar, ac yn adrodd pethau na ddylid. Gwell gennyf, ynteu, i weddwon ieuainc briodi, dwyn plant, a gwarchod cartref, heb roddi unrhyw gyfle i’r gelyn i’n difenwi. Canys eisoes gwyrodd rhai ar ôl Satan. Od oes gan wraig grediniol weddwon, estynned gymorth iddynt, ac na feichier yr eglwys, fel y gallo hi gynorthwyo’r gweddwon di-gefn. Yr henuriaid sy’n llywyddu’n dda, cyfrifer hwy’n deilwng o barch deublyg, yn enwedig y rhai sy’n llafurio trwy bregethu ac addysgu. Canys dywed yr Ysgrythur, Na rwyma safn yr ych sy’n sathru’r ŷd, hefyd Teilwng yw’r gweithiwr o’i gyflog. Na dderbyn gyhuddiad yn erbyn henuriad, oddieithr ar dystiolaeth dau neu dri. Y rhai sy’n dal i bechu, cerydda hwynt yngŵydd pawb, fel y caffo’r gweddill hefyd ofn. Tynghedaf di yngŵydd Duw a Christ Iesu a’i ddewis angylion, i gadw’r cyfarwyddiadau hyn, heb na rhagfarn na chwaith wneuthur dim o ffafraeth. Na ddod ddwylo yn frysiog ar neb, ac na fydd gyfrannog o bechodau rhai eraill. Cadw dy hun yn bur. Na fydd ddyfrwr yn hwy, ond cymer ychydig win er mwyn dy gylla a’th fynych wendid. Am rai dynion, y mae eu pechodau yn amlwg, yn eu tywys i farn; am rai eraill, y maent yn dilyn ar eu hôl. Yr un modd, y mae gweithredoedd da hefyd yn amlwg, a’r rhai sydd amgen ni ellir eu cuddio. Cynifer ag sydd gaethweision tan iau, cyfrifent hwy eu meistriaid eu hun yn deilwng o bob anrhydedd, fel na chabler enw Duw na’r ddysgeidiaeth. Ac nac aed y rhai y mae ganddynt gredinwyr o feistriaid yn eofn arnynt, am eu bod yn frodyr, eithr rhoddent wasanaeth rhagorach, am fod y rhai sy’n cyfranogi o’u rhagorwaith yn gredinwyr ac anwyliaid. Y pethau hyn, addysga ac annog. Os addysga neb ddim dieithr, heb gytuno â geiriau iach ein Harglwydd Iesu Grist a’r ddysgeidiaeth sydd yn ôl duwioldeb, chwyddedig yw ef heb ddeall dim, ond dan glefyd holi cwestiynau a dadlau; hyn sy’n peri cenfigen, ymryson, enllibau, drwgdybiau anfad, a chroesdynnu parhaus dynion dirywiedig eu meddwl ac amddifad o’r gwirionedd, sydd yn tybied mai elw yw duwioldeb. Ond elw mawr yw duwioldeb, a bod yn fodlon; canys ni ddygasom ddim i’r byd, ac yn wir, ni allwn chwaith ddwyn dim allan ohono. Ond a chennym gynhaliaeth a chlydwch, ar hyn ymfodlonwn. Eithr y rhai a chwennych fod yn gyfoethog, syrthiant i brofedigaeth a llawer o chwantau ynfyd a niweidiol, sy’n soddi dynion i ddistryw a cholledigaeth. Canys gwreiddyn i’r drygau oll ydyw ariangarwch, a rhai yn chwannog i hyn, crwydrasant oddi wrth y ffydd a’u gwanu eu hunain ag ingoedd lawer. Eithr tydi, ŵr Duw, ffo rhag y rhain, a dilyn gyfiawnder, duwioldeb, ffyddlondeb, cariad, dioddefgarwch, addfwynder. Dal i ymdrechu rhagorol ymdrech y ffydd; cymer afael ar y bywyd tragwyddol; i hwn y’th alwyd ac y dygaist dy gyffes aruchel yngŵydd tystion lawer. Rhybuddiaf di yngŵydd Duw a rydd fywyd i bopeth, a Christ Iesu a dystiodd o flaen Pontius Pilat ei gyffes odidog, i gadw dy gomisiwn yn ddiystaen a diargyhoedd hyd amlygiad ein Harglwydd Iesu Grist; hyn mewn iawn bryd a arddengys ef, y bendigaid a’r unig Bennaeth, Brenin y brenhinoedd, ac Arglwydd yr arglwyddi. Ef yn unig biau anfarwoldeb; ei gyfannedd yw’r goleuni na ellir nesáu ato, nas gwelodd un dyn, ac na all chwaith ei weled. Iddo ef y bo anrhydedd a gallu yn oes oesoedd, Amen. Y rhai sydd gyfoethog yn y byd presennol, rhybuddia na bônt uchelfryd, na gosod chwaith eu gobaith ar ansicrwydd golud, eithr yn hytrach ar Dduw, sydd yn darpar yn gyfoethog bopeth inni i’w mwynhau; gwneuthur daioni, bod yn gyfoethog mewn gweithredoedd da, yn hael a pharod i rannu, gan drysori iddynt eu hunain sail dda erbyn y dyfodol, fel y cymerant afael ar y bywyd sydd yn fywyd yn wir. O Timotheus, gwarchod dy adnau, gan droi oddi wrth anghysegredig wâg siaradach a chroes-ddweud y wybodaeth a gamenwir felly; wrth broffesu hon collodd rhai eu gafael ar y ffydd. Gras fyddo gyda chwi. Pawl, Apostol Crist Iesu, trwy ewyllys Duw, yn ôl yr addewid o’r bywyd sydd yng Nghrist Iesu, at Timotheus ei annwyl blentyn. Gras, trugaredd, a thangnefedd oddi wrth Dduw Dad a Christ Iesu ein Harglwydd. Diolchaf i’m Duw a addolaf fel fy nhadau â chydwybod bur, wrth wneuthur coffa ohonot yn ddibaid yn fy ngweddïau nos a dydd, gan hiraethu am dy weled, a chofio dy ddagrau, fel y’m llanwer â llawenydd, gan alw i gof y ffydd ddiffuant sydd ynot ti, a drigodd yn gyntaf yn dy nain Lois ac yn dy fam Eunice, ac y mae yn ddiogel gennyf ei bod ynot tithau hefyd. O achos hyn atgofiaf di i ailennyn dawn Duw y sydd ynot ti trwy arddodiad fy nwylo i, canys ni roddes Duw inni ysbryd llwfr, eithr ysbryd nerth a chariad a phwyll. Na foed arnat gywilydd, ynteu, o dystiolaeth yr Arglwydd, na chwaith ohonof innau ei garcharor, eithr cydoddef â mi gam-drin dros yr efengyl trwy allu Duw, yr hwn a’n hachubodd ni, a’n galw â galwad santaidd, nid oherwydd ein gweithredoedd ni, eithr oherwydd ei briod fwriad a’i ras a roddwyd i ni yng Nghrist Iesu erioed, ond a eglurhawyd yn awr trwy amlygiad ein Hiachawdwr Crist Iesu, a ddirymodd angau ac a ddug fywyd ac anllygredigaeth i’r golau trwy’r efengyl y’m gosodwyd i yn bregethwr ac apostol ac athro iddi. O achos hyn y dioddefaf hefyd y pethau hyn, ond nid oes arnaf gywilydd, canys mi a wn ym mhwy yr wyf wedi ymddiried, ac y mae yn ddiogel gennyf y medr ef warchod fy adnau hyd y dydd mawr. Bydded gennyt batrwm y ddysgeidiaeth iach a glywaist gennyf i yn y ffydd a’r cariad sydd yng Nghrist Iesu. Gwarchod yr adnau drud trwy’r Ysbryd Glân sy’n preswylio ynom. Gwyddost gefnu o bawb o’r Asiaid arnaf; yn eu plith y mae Phygelos a Hermogenes. Rhodded yr Arglwydd drugaredd i deulu Onesifforos, canys mynych y cododd ef fy nghalon, ac ni bu arno gywilydd o’m cadwyn. Eithr pan oedd yn Rhufain chwiliodd amdanaf a’m cael. Rhodded yr Arglwydd iddo yntau gaffael trugaredd oddi wrth yr Arglwydd yn y dydd mawr; a’r holl wasanaeth a wnaeth yn Effesus, gwyddost ti yn well na neb. Tydi, ynteu, fy machgen, ymgryfha yn y gras sydd yng Nghrist Iesu. A’r pethau a glywaist gennyf i yngŵydd tystion lawer, trosglwydda i wŷr o ymddiried, rhai a fyddo gymwys i addysgu eraill hefyd. Cymer dy ran o oddef caledi fel milwr da i Iesu Grist. Nid oes neb mewn rhyfel yn ei glymu ei hun wrth faterion eraill bywyd, fel y rhyngo fodd i’r sawl a’i derbyniodd yn filwr. A hefyd os ymdrecha dyn yn y campau, nis coronir, onid ymdrecha yn ôl y rheolau. Yr amaethwr a lafurio sydd i dderbyn yn gyntaf o’r cynnyrch. Ystyria a ddywedaf, ac fe rydd yr Arglwydd i ti ddeall ym mhob dim. Cadw mewn cof Iesu Grist, y sydd wedi atgyfodi oddi wrth y meirw, o hil Dafydd; dyma fy efengyl i. Yng ngwasanaeth hon y goddefaf gam-drin hyd at rwymau fel drwg weithredwr, eithr gair Duw nis rhwymir. Dyna paham yr wyf yn ymgynnal tan bob dim er mwyn y rhai dewisol, fel y cyrhaeddont hwythau yr iachawdwriaeth sydd yng Nghrist Iesu ynghyda gogoniant tragwyddol. Gwir yw y gair; Canys os buom gydfarw ag ef, cawn gydfyw hefyd, Os ymgynhaliwn, ni gawn gyd-deyrnasu, Os gwadwn, yntau a’n gwad ninnau, Os palla’n ffydd, ef a bery’n ffyddlon, Canys ei wadu ei hun ni all. Atgofia’r pethau hyn iddynt, gan eu tynghedu yngŵydd yr Arglwydd i beidio ag ymryson am eiriau, peth nad yw fuddiol i ddim ond dymchwelyd y gwrandawyr. Bydd ddyfal i’th gyflwyno dy hun yn brofedig i Dduw, yn weithiwr di-wrid, yn iawn rannu gair y gwirionedd. Ond rhag anghysegredig wag siaradach ymgadw, canys ymlaen yr ânt i fwy o annuwioldeb, a’u gair a ysa fel cancr; ohonynt hwy y mae Hymenaeos a Philetos, y rhai a gamfwriodd ynglŷn â’r gwirionedd: dywedyd a wnânt ddigwydd o’r atgyfodiad eisoes a dadymchwel ffydd rhai. Eto i gyd cadarn sylfaen Duw sydd yn dal, ac arni’r argraff hon, “Fe edwyn yr Arglwydd ei bobl ei hun,” ac “Ymadawed â drygioni bawb a enwo enw’r Arglwydd.” Mewn tŷ mawr y mae llestri nid yn unig o aur ac o arian, ond hefyd o bren ac o bridd, rhai yn urddasol a rhai yn anurddasol. Os ymbura neb, ynteu, oddi wrth y drygau hyn, ef a fydd lestr urddasol, cysegredig, at law’r meistr yn barod i bob gwaith da. Eithr nwydau ieuenctid, ffo rhagddynt, a dilyn gyfiawnder, ffydd, cariad, tangnefedd yng nghwmni’r sawl sy’n galw ar yr Arglwydd o galon bur. Eithr ffôl ac anniwylliedig ddyfaliadau gochel, gan wybod y magant gynhennau. Ac ni ddylai gwas yr Arglwydd ymryson, ond bod yn dirion wrth bawb, yn athrawus, yn hiroddefus, yn mwynaidd hyfforddi’r gwrthwynebwyr. Pwy a ŵyr na rydd Duw rywbryd iddynt edifeirwch i ganfod y gwirionedd a sobri allan o fagl y diafol a’u dal gan y gwas i wneuthur ewyllys Duw. Ystyria hyn, fod yn y dyddiau diwethaf amseroedd caled i ddyfod; canys bydd dynion yn hunangar, ariangar, ymffrostgar, ffroenuchel, tafotrwg, anufudd i rieni, anniolchgar, annuwiol, dideimlad, anghymodol, enllibus, dilywodraeth, annhirion, digariad at ddaioni, bradwrus, byrbwyll, chwyddedig, yn caru pleser yn fwy na charu Duw; a chanddynt ffurf duwioldeb eithr wedi gwadu ei grym hi. Oddi wrth y rhain hefyd tro ymaith; o’u plith y mae’r sawl a ymlwybra i dai, a chael i’w gafael wrageddos dan faich o bechodau, a yrrir gan amryfal nwydau, y sydd bob amser yn dysgu, heb fyth allu dyfod i ganfod y gwirionedd. Megis y gwrthsafodd Jannes a Jambres Foesen, felly y gwrthsaif y rhain hefyd y gwirionedd, dynion cwbl ddirywiedig eu meddwl, ffuantus eu ffydd. Ond nid ânt rhagddynt ymhellach, canys daw eu ffolineb yn amlwg i bawb fel y daeth ffolineb y rheini. Eithr tydi, deliaist ar fy nysgeidiaeth, fy ymarweddiad, fy niben, fy ffydd, fy hiroddef, fy nghariad, fy ymgynnal, fy erlidiau a’m dioddefiadau, y cwbl a ddigwyddodd i mi yn Antiochia, Iconion, a Lystra, yr holl erlidiau a ddioddefais, ac ohonynt oll fe’m gwaredodd yr Arglwydd. A phawb a fynno fyw yn dduwiol yng Nghrist Iesu a erlidir. Ond dynion maleisus a ffugwyr a â rhagddynt o ddrwg i waeth, gan dwyllo a chael eu twyllo. Eithr tydi, aros yn y pethau a ddysgaist ac y cefaist sicrwydd ohonynt; a chofia gan bwy y dysgaist, ac iti o’th febyd wybod yr Ysgrythur Lân a fedr dy wneuthur yn ddoeth i iachawdwriaeth trwy’r ffydd sydd yng Nghrist Iesu. Y mae’r holl Ysgrythur yn ysbrydoledig ac yn fuddiol i addysgu, i argyhoeddi, i edfryd, i feithrin mewn cyfiawnder, fel y byddo dyn Duw yn gymwys, wedi ei lwyr gymhwyso i bob gwaith da. Tynghedaf di y ngŵydd Duw a Christ Iesu, y sydd i farnu’r byw a’r meirw, ac yng ngoleuni ei amlygiad a’i deyrnas ef, cyhoedda’r gair; dal ati, boed gyfleus neu anghyfleus; gwrthbrofa, cerydda, atolyga â’th holl amynedd a’th addysg. Canys daw amser pan na oddefont y ddysgeidiaeth iach, eithr yn ôl eu mympwy eu hunain, pentyrrant iddynt eu hunain athrawon â’u clustiau’n merwino, a throi rhag clywed y gwirionedd a gŵyro at chwedlau. Eithr tydi, bydd wyliadwrus ym mhob dim; dioddef gam, gwna di waith efengylydd; cyflawna dy wasanaeth. Amdanaf i, y mae fy mywyd bellach ar fin cael ei offrymu, ac amser fy ngollwng a nesaodd. Ymdrechais ymdrech deg, gorffennais yr yrfa, cedwais y ffydd. Bellach y mae ynghadw i mi goron cyfiawnder a rydd yr Arglwydd, y Barnwr cyfiawn, imi yn y dydd mawr, ac nid yn unig i mi eithr hefyd i bawb a roddes eu bryd ar ei amlygiad ef. Gwna dy orau i ddyfod ataf yn fuan, canys Demas a gefnodd arnaf a’i serch ar y byd presennol, a myned i Thesalonica, Cresces i Galatia, Titus i Ddalmatia; Luc yn unig sydd gyda mi. Galw am Marc a dwg ef gyda thi, canys defnyddiol ydyw imi i wasanaeth. Tychicos a anfonais i Effesus. Y fantell a adewais yn Nhroas gyda Charpos, dwg gyda thi pan ddelych, a’m llyfrau, yn enwedig fy memrynau. Alecsandros y gof pres a wnaeth ddrwg mawr i mi; fe dâl yr Arglwydd iddo yn ôl ei weithredoedd; y dyn hwn gwylia dithau, canys dygn y gwrthsafodd ef ein geiriau ni. Yn ystod fy mhrawf cyntaf ni ddaeth neb i’m pleidio, eithr cefnodd pawb arnaf; na chyfrifer hynny i’w herbyn. Ond yr Arglwydd a safodd yn fy ymyl, ac a roddes imi’r nerth, fel trwof i y llwyr gyhoeddid yr efengyl ac y clywai’r holl genhedloedd hi. Do, fe’m gwaredwyd o safn y llew. Fe’m gweryd yr Arglwydd o bob drygwaith a’m hachub i’w deyrnas nefol. Iddo ef y byddo’r gogoniant yn oes oesoedd, Amen. Cyfarch Prisca ac Acwila a theulu Onesifforos. Arhosodd Erastos yng Nghorinth; Troffimos a adewais ym Miletos yn glaf. Gwna dy orau i ddyfod cyn y gaeaf. Fe’th gyfarch Eubowlos, Pwdes, Linos, Clawdia, a’r brodyr oll. Yr Arglwydd a fyddo gyda’th ysbryd. Gras fyddo gyda chwi. Pawl, gwas Duw ac Apostol Iesu Grist yn ôl ffydd pobl ddewisol Duw, a chanfyddiad y gwirionedd sy’n ôl duwioldeb, ar bwys gobaith bywyd tragwyddol a addawodd y digelwyddog Dduw cyn yr oesoedd (do, mewn iawn bryd fe hysbysodd ei air trwy bregethu, a hyn a ymddiriedwyd i mi yn ôl gosodiad Duw ein Hiachawdwr), at Titus, ei ddilys blentyn yn y ffydd sydd gennym yn gyffredin. Gras a thangnefedd oddi wrth Dduw Dad a Christ Iesu ein Hiachawdwr. Mi a’th adewais yng Nghreta i gwplàu ohonot y gweddill o’r trefniadau a sefydlu henuriaid ym mhob dinas fel yr erchais iti, od oes neb yn ddiargyhoedd, yn ŵr un wraig, a chanddo blant yn credu, nas cyhuddir o fod yn afradlon nac yn anhydrin. Canys fe ddylai arolygwr fod yn ddiargyhoedd fel goruchwyliwr i Dduw, nid yn gyndyn, nid yn nwydwyllt, nid yn feddwyn, nid yn ymladdgar, nid yn fudrelwr. Eithr â’i dŷ yn agored, yn gyfaill daioni, yn synhwyrol, yn gyfiawn, yn santaidd, a chanddo hunanlywodraeth, yn dal yn dynn wrth y gair ffyddlon sydd yn ôl yr addysg, fel y gallo hefyd gynghori yn y ddysgeidiaeth iach, a gwrthbrofi’r rhai sy’n gwrthddywedyd. Canys y mae llawer yn anhydrin, yn twyllo meddyliau â’u gwag resymau, yn enwedig plaid yr enwaediad; rhaid rhoi taw ar y rhain; dymchwelant deuluoedd cyfain trwy ddysgu’r hyn na ddylid, er mwyn budrelw. Fe ddywed rhyw broffwyd ohonynt hwy eu hunain, “Celwyddwyr yw’r Cretiaid erioed, anfad anghenfilod, boliau gorddïog.” Y mae’r dystiolaeth hon yn wir. O achos hyn argyhoedda hwy yn llym, fel y byddont iach yn y ffydd, heb ymroddi i chwedlau Iddewaidd a gorchmynion dynion a gefna ar y gwirionedd. Pur yw popeth i’r rhai pur, ond i’r rhai difwynedig a’r di-ffydd nid oes dim yn bur, eithr difwynwyd eu meddwl a’u cydwybod. Proffesant adnabod Duw, eithr mewn gweithredoedd fe’i gwadant. Ffiaidd ac anufudd ydynt, a diwerth at unrhyw waith da. Eithr llefara di yr hyn sydd yn gweddu i ddysgeidiaeth iach: i’r hynafgwyr fod yn sobr, yn urddasol, yn bwyllog, yn iach yn eu ffydd, eu cariad, a’u hymgynnal. Rhaid i’r hynafwragedd yr un modd fod yn barchedig eu hymarweddiad, nid yn enllibus, nid chwaith yn gaeth i flys gwin, yn ddyrchafol eu haddysgiadau, fel y disgyblont y gwragedd ieuainc i garu eu gwŷr a’u plant, i fod yn synhwyrol, yn bur, yn deuluaidd, yn dda, yn ymostwng i’w gwŷr priod, fel na chabler gair Duw. Yr un modd annog y gwŷr ieuainc i fod yn bwyllog. Ym mhob peth dangos dy hun yn batrwm mewn gweithredoedd da, yn ddilwgr dy ddysgeidiaeth, yn urddasol, a’th neges yn iach ac uwchlaw beirniadaeth, fel y cywilyddier y gwrthwynebydd ac na byddo ganddo ddim bychanus i’w ddywedyd amdanom. Y gweision hefyd ymostyngent i’w meistriaid, i ryngu bodd ym mhopeth iddynt, heb eu hateb yn ôl na chwiwladrata, eithr o ewyllys da yn eu profi eu hunain yn gwbl ffyddlon, fel yr addurnont ym mhopeth ddysgeidiaeth Duw ein Hiachawdwr. Canys torrodd gwawr gras achubol Duw ar ddynion oll, gan ein cyfarwyddo, fel, trwy ymwadu ag annuwiaeth a nwydau bydol, y byddom fyw yn syber, yn gyfiawn ac yn dduwiol yn y byd presennol, gan ddisgwyl am y gobaith gwynfydedig ac ymddangosiad y Duw mawr a’n Hiachawdwr Crist Iesu, yr hwn a’i rhoddes ei hun drosom i’n rhyddhau ni o bob anghyfraith, a’n puro iddo’i hun yn bobl briod, eiddgar i weithredoedd da. Y pethau hyn llefara; annog hefyd ac argyhoedda â phob awdurdod; na chaffed neb dy ddiystyru. Atgofia hwy i ymostwng i’r llywodraethwyr a’r awdurdodau, i fod yn ufudd, yn barod i unrhyw waith da, heb ddifenwi neb, yn ddi-gynnen, yn deg, gan ddangos pob tiriondeb tuag at ddynion oll. Canys yr oeddem ninnau gynt yn ddiddeall, yn anufudd, ar gyfeiliorn, yn gaeth i amrywiol nwydau a phleserau, yn treulio ein bywyd mewn malais a chenfigen, yn atgas, yn casáu ein gilydd. Eithr pan dorrodd dydd hynawsedd a charedigrwydd Duw ein Hiachawdwr, nid am weithredoedd cyfiawn a wnaethom ni, ond yn ôl ei drugaredd ef, fe’n hachubodd trwy olchiad yr adenedigaeth ac adnewyddiad yr Ysbryd Glân, a dywalltodd ef arnom ni yn helaeth trwy Iesu Grist ein Hiachawdwr, fel, wedi ein cyfiawnhau trwy ei ras ef, y delem mewn gobaith yn etifeddion bywyd tragwyddol. Gwir yw y gair, ac ar y gwirioneddau hyn yr wyf am iti roddi pwys, fel y gofalo’r rhai a gredodd yn Nuw flaenori mewn gweithredoedd da. Y pethau hyn sydd dda a buddiol i ddynion. Eithr ffôl ddyfaliadau, ac achau a chynnen ac ymrysonau ynglŷn â’r gyfraith, gochel, canys di-fudd ac ofer ydynt. Y dyn croes, ar ôl iti ei rybuddio unwaith a thrachefn, gochel, gan wybod fod y cyfryw un yn ŵyrgam, yn pechu ac yn ei gondemnio ei hun. Pan ddanfonwyf Artemos neu Dychicos atat, gwna dy orau i ddyfod ataf i Nicopolis, canys y mae yn fy mryd fwrw’r gaeaf yno. Hebrwng i’w taith yn galonnog Senas y cyfreithiwr ac Apolos, fel na bo eisiau dim arnynt. A dysged ein pobl ni hefyd flaenori mewn galwedigaethau anrhydeddus ar gyfer y gofynion angenrheidiol, fel na byddont yn ddiffrwyth. Fe’th gyfarch fy nghymdeithion oll. Cyfarch ein caredigion yn y ffydd. Gras fyddo gyda chwi oll. Paul carcharor Crist Iesu a’r brawd Timotheus at Philemon ein hanwylyd a’n cyd-weithiwr ac at Apffia ein chwaer ac at Archippus ein cyd-filwr ac at yr eglwys yn dy dŷ; gras i chwi a thangnefedd oddi wrth Dduw ein Tad a’r Arglwydd Iesu Grist. Diolchaf i’m Duw yn wastadol gan wneuthur coffa ohonot yn fy ngweddïau, o glywed am dy gariad a’r ffydd sydd gennyt tuag at yr Arglwydd Iesu ac at yr holl saint, fel y bo cyfranogi o’th ffydd yn effeithiol mewn gwybodaeth o bob rhyw ddaioni sydd ynom tuag at Grist; canys cefais lawer o lawenydd a diddanwch ar gyfrif dy gariad, fy mrawd, oherwydd adfywiwyd calonnau’r saint drwot ti. Gan hynny, er bod gennyf bob rhyddid yng Nghrist i orchymyn dy ddyletswydd iti, yn hytrach ar sail cariad yr wyf yn cymell, — a mi Paul megis hynafgwr ac yn awr hefyd yn garcharor Crist Iesu — cymhellaf di ar ran fy mhlentyn a genhedlais yn fy rhwymau, Onesimus, a fu gynt yn ddifudd i ti, eithr yn awr sy’n fuddiol iawn i ti ac i minnau: anfonaf ef yn ôl atat, ac yntau yn fyw fy nghalon; ewyllysiwn ei gadw gyda mi, i’m gwasanaethu trosot yn rhwymau yr efengyl, ond ni ewyllysiais wneuthur dim heb dy gydsyniad di, fel na byddai dy ddaioni fel petai o anghenraid ond o wirfodd. Efallai, yn wir, mai am hyn y gwahanwyd ef oddi wrthyt dros dro, fel y cait ef yn ôl dros fyth, nid fel gwas mwyach eithr yn fwy na gwas, yn frawd annwyl, yn enwedig i mi, ac yn fwy fyth i ti yn y cnawd ac yn yr Arglwydd. Felly os wyt yn fy nghymryd fel cyfaill, derbyn ef megis mi fy hun. Os gwnaeth unrhyw gam â thi, neu os yw yn dy ddyled, cyfrif hynny i mi; myfi Paul wyf yn ysgrifennu â’m llaw fy hun, myfi a dalaf — fel na ddywedwyf wrthyt dy fod dithau yn fy nyled i amdanat dy hun. Yn awr, frawd, gad i mi dderbyn lles oddi wrthyt yn yr Arglwydd; llonna fy nghalon i yng Nghrist. Gan ymddiried yn dy ufudd-dod yr ysgrifennaf atat, yn gwybod y gwnei, ie, fwy nag yr wyf yn ei ddywedyd. Yr un pryd, paratoa lety i mi; oherwydd gobeithiaf trwy eich gweddïau chwi y’m cyflwynir i chwi. Y mae yn dy gyfarch Epaffras fy nghyd-garcharor yng Nghrist Iesu, Marc, Aristarchus, Demas, Luc, fy nghydweithwyr. Gras yr Arglwydd Iesu Grist fyddo gyda’ch ysbryd chwi. Mewn llawer darn ac mewn llawer dull yn yr amser gynt y llefarodd Duw wrth y tadau yn y proffwydi; yn niwedd y dyddiau hyn llefarodd wrthym ni mewn mab. Hwn a osododd ef yn etifedd popeth, a thrwy hwn hefyd y gwnaeth y cyfanfyd. Hwn, ag yntau’n llewyrch ei ogoniant ef, ac yn argraff ei sylwedd ef, ac yn cynnal popeth drwy air ei allu ef, wedi gwneuthur glanhad pechodau, a eisteddodd ar ddeheulaw y mawrhydi yn yr uchelion, wedi dyfod gymaint yn rhagorach na’r angylion ag ydyw yr enw a etifeddodd yn amgen na’r eiddynt hwy. Canys wrth bwy o’r angylion y dywedodd erioed: “Fy mab wyt ti, myfi heddiw a’th genhedlodd e di”? ac eto, “Byddaf fi iddo’n dad, a bydd yntau i mi’n fab”?A phan ddygo drachefn ei gyntafanedig at bobl y byd, dywed: “Ac ymgrymed o’i flaen ef holl angylion Duw”; ac am yr angylion dywed: “Yr hwn sy’n gwneuthur ei angylion yn wyntoedd A’i weinidogion yn fflam dân,” ond am y mab, “Dy orsedd di, Dduw, sydd yn oes oesoedd, a gwialen uniondeb, gwialen ei deyrnas ef yw. Ceraist gyfiawnder, a chaseaist anghyfraith; oherwydd hynny, Dduw, y’th eneiniodd dy Dduw di ag olew gorfoledd rhagor dy gymheiriaid.” Eto: “Ti yn y dechrau, Arglwydd, a seiliodd y ddaear, a gwaith dy ddwylo di ydyw’r nefoedd. Hwynt-hwy a ddarfyddant, ond yr wyt ti’n aros, a hwy oll fel dilledyn a heneiddiant, ac fel mantell y rholi di hwynt, fel dilledyn y trawsnewidir hwy; ond ti yr un ydwyt a’th flynyddoedd ni phallant.” Wrth bwy, tybed, o’r angylion y dywedodd erioed: “Eistedd ar fy neheulaw i hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfainc i’th draed”? Onid ysbrydion gweini ydynt oll yn cael eu hanfon ar wasanaeth er mwyn y rhai a fydd yn etifeddu iachawdwriaeth? Am hynny rhaid i ni ddal llwyrach sylw ar y pethau a glybuwyd, rhag digwydd rywdro i ni fyned heibio gyda’r llif. Canys os oedd y gair a lefarwyd drwy angylion yn safadwy, ac os derbyniodd pob trosedd ac anufudd-dod gyfiawn dâl, pa fodd y dihangwn ni os byddwn ddibris o iachawdwriaeth mor fawr? — yr hon wedi cael ei dechreuad yn ymadrodd yr Arglwydd, a gadarnhawyd i ni gan y rhai a’i clywodd, a Duw yn cyd-dystio drwy arwyddion a rhyfeddodau ac amryfal nerthoedd ac amryw gyfraniadau o’r Ysbryd Glân yn ôl ei ewyllys. Canys nid i’r angylion y darostyngodd ef y byd a ddaw yr ydym yn sôn amdano. Tystiodd rhywun yn rhywle a dywedyd: “Beth yw dyn fel y cofit amdano? neu fab dyn fel y dalit sylw arno? Gwnaethost ef ryw ychydig yn is na’r angylion, â gogoniant ac anrhydedd y coronaist ef, darostyngaist bopeth o dan ei draed ef.”Canys wrth ddywedyd “darostwng popeth” iddo ni adawodd ddim yn annarostyngedig iddo. Ond hyd yn hyn nid ydym yn gweled popeth wedi eu darostwng. Ond am yr hwn sydd wedi ei wneuthur ryw ychydig yn is na’r angylion, yr ydym yn gweled Iesu, oherwydd dioddef marwolaeth, wedi ei goroni â gogoniant ac anrhydedd, fel trwy ras Duw y byddai profiad ei farwolaeth dros bob dyn. Canys gweddai iddo ef, yr hwn y mae popeth erddo a phopeth trwyddo, ar ôl iddo ddwyn meibion lawer i ogoniant, berffeithio pennaeth eu hiachawdwriaeth hwy drwy ddioddefiadau. Canys yr hwn sydd yn santeiddio a’r rhai a santeiddir, o’r un y maent yn hanfod oll. Dyna’r achos nad oes arno gywilydd eu galw hwy yn frodyr, gan ddywedyd: “Cyhoeddaf dy enw i’m brodyr, yng nghanol y gynulleidfa y canaf fawl i ti,” a thrachefn, “Minnau, ynddo ef y bydd f’ymddiried,”a thrachefn, “Wele fi a’r plant a roddes Duw i mi.” Gan fod y plant, felly, yn gyfranogion o gig a gwaed, aeth yntau hefyd mewn cyffelyb fodd yn gyfrannog ohonynt, fel trwy farwolaeth y diddymai yr hwn a oedd yn meddu arglwyddiaeth ar farwolaeth — hynny yw, y diafol — ac fel y rhyddhâi’r rhai oedd drwy ofn marwolaeth ar hyd eu hoes yng ngafael caethiwed. Canys, bid sicr, nid yn yr angylion y mae’n ymaflyd, ond ymaflyd yn had Abraham y mae. O ganlyniad, yr oedd yn rhaid iddo gael ei wneuthur yn debyg i’w frodyr ym mhob peth, fel y byddai dosturiol, a ffyddlon archoffeiriad yn y pethau a berthyn i Dduw, i wneuthur dyhuddiant am bechodau’r bobl; canys am ddioddef ohono ei hunan trwy ei brofi, am hynny y gall ef gynorthwyo’r rhai sydd dan y prawf. Am hynny, frodyr a saint, chwychwi sy’n gyfrannog o’r alwad nefol, ystyriwch gennad ac archoffeiriad ein proffes ni, Iesu, fel y mae’n ffyddlon i’r hwn a’i gosododd, fel Moses yntau yn ei holl dŷ ef. Canys teilwng o fwy gogoniant na Moses y barnwyd hwn, i’r mesur y mae gan y sawl a adeiladodd dŷ fwy anrhydedd na’r tŷ; oherwydd adeiledir pob tŷ gan rywun, ond y neb a adeiladodd bopeth, Duw ydyw. Ac am Foses, ffyddlon oedd ef yn ei holl dŷ ef fel gwas er tystiolaethu am y pethau oedd i’w mynegi, ond Crist fel mab dros ei dŷ ef. A’i dŷ ef ydym ni, os cymerwn afael yn dynn yn hyder ac ymffrost ein gobaith hyd y diwedd. Gan hynny, fel y dywed yr Ysbryd Glân: “Heddiw os clywch ei lais ef, Na chaledwch eich calonnau megis yn y Chwerwedd, Yn null dydd y profi yn yr anialwch, lle y rhoes eich tadau chwi brawf arnaf, ac y gwelsant fy ngweithredoedd ddeugain mlynedd. Gan hynny, mi a sorrais wrth y genhedlaeth honno, a dywedais, ‘yn wastad y mae eu calonnau ar gyfeiliorn, ac nid adnabuant hwy fy ffyrdd i.’ Am hynny y tyngais yn fy llid, ‘Byth ni chânt ddyfod i mewn i’m gorffwysfa i’.” Edrychwch, frodyr, na bo gan neb ohonoch fyth ddrwg galon anghrediniaeth, mewn gwrthgiliad oddi wrth y Duw byw, ond cymhellwch eich gilydd beunydd, tra gelwir hi’n heddiw, fel na chaleder neb ohonoch gan dwyll pechod. Canys yr ydym bellach yn gyfranogion o Grist, os cymerwn afael yn dynn hyd y diwedd yn ein sicrwydd cyntaf. Yn y geiriau, “Heddiw os clywch ei lais ef, Na chaledwch eich calonnau megis yn y Chwerwedd,” pwy, felly, wedi ei glywed, a’i chwerwodd? Onid pawb a ddaeth allan o’r Aifft trwy Foses? Wrth bwy y sorrodd ef ddeugain mlynedd? Onid wrth y rhai a bechodd, y rhai a gwympodd yn gelanedd yn yr anialwch? Wrth bwy y tyngodd na chaent ddyfod i mewn i’w orffwysfa ef onid wrth y rhai a anufuddhaodd? A gwelwn mai trwy anghrediniaeth y methasant ddyfod i mewn. Ofnwn, felly, a’r addewid wedi ei gadael y cawn ddyfod i mewn i’w orffwysfa, rhag dyfarnu neb ohonoch ar ôl. Canys i ninnau hefyd megis iddynt hwy y daeth y newyddion da, ond nid elwasant hwy ar y gair a glywsant am nad oedd wedi ei gydrywiogi, drwy ffydd, â’r rhai a glywodd. Canys yr ydym ni, y rhai a gredodd, yn myned i mewn i’r orffwysfa fel y mae’r gair, “Am hynny y tyngais yn fy llid, ‘Ni chânt ddyfod i mewn i’m gorffwysfa i’ ”;ac eto y mae’r gwaith wedi ei orffen er seiliad y byd. Y mae gair hefyd yn rhywle am y seithfed dydd fel hyn, “A gorffwysodd Duw ar y seithfed dydd oddi wrth ei holl waith”. Ac yma hefyd, “ni chânt fyth ddyfod i mewn i’m gorffwysfa i.” Felly, gan fod hyn eto’n aros, fod rhai yn myned i mewn iddi, ac nad aeth i mewn, oherwydd anufudd-dod, y rhai a gafodd glywed gynt y newyddion da, y mae ef drachefn yn pennu rhyw ddiwrnod, heddiw, drwy ddywedyd yn Nafydd ar ôl cymaint o amser, fel y dywedwyd o’r blaen, “Heddiw os clywch ei lais ef, Na chaledwch eich calonnau.” Canys pe rhoesai Joswa orffwys iddynt, ni soniasai am ddiwrnod arall ar ôl hynny; felly, y mae Sabath o orffwys yn aros i bobl Dduw; canys y neb a aeth i mewn i’w orffwysfa, gorffwysodd hwnnw hefyd oddi wrth ei waith, megis Duw oddi wrth ei waith yntau. Ymegnïwn, gan hynny, i fyned i mewn i’r orffwysfa honno, rhag i neb syrthio yn yr un math o anufudd-dod. Canys byw yw gair Duw, a llawn ynni, a llymach nag un cleddyf deufin, ac yn treiddio hyd wahaniad yr enaid a’r ysbryd, y cymalau a’r mêr, ac yn farnwr ar amcanion a meddyliau’r galon. Ac nid oes dim a grewyd yn anweledig yn ei ŵydd, ond y mae popeth yn noeth ac yn agored i’w lygaid ef, yr hwn yr ydym ni yn gyfrifol iddo. Gan fod gennym, felly, archoffeiriad mawr sydd wedi myned drwy’r nefoedd, Iesu fab Duw, daliwn ein gafael yn ein cyffes; canys nid archoffeiriad sydd gennym na all gydymdeimlo â’n gwendidau ni, ond un sydd wedi ei brofi ym mhopeth yr un ffunud heb bechod. Am hynny, agosáwn mewn hyder at orsedd y gras, fel y derbyniom drugaredd ac y caffom ras yn gymorth yn ei bryd. Canys pob archoffeiriad, o ddynion y cymerir ef, a thros ddynion y gosodir ef yn y pethau a berthyn i Dduw i offrymu rhoddion ac aberthau dros bechodau, a gall gydoddef â’r anwybodus a’r cyfeiliornus, gan ei fod yntau hefyd wedi ei amgylchu â gwendid, ac oherwydd y gwendid hwnnw dylai aberthu dros bechodau ar ei ran ei hun fel ar ran y bobl. Ac nid iddo’i hun y cymer neb yr urddas, ond ar alwad gan Dduw, megis Aaron. Felly ’r Crist yntau, nid ef a’i gogoneddodd ei hun i fod yn archoffeiriad, ond yr hwn a ddywedodd wrtho, “Fy mab wyt ti, myfi heddiw a’th genhedlais di”; megis y dywed hefyd mewn lle arall, “Offeiriad wyt ti yn dragywydd yn ôl urdd Melchisedec.” Yn nyddiau ei gnawd, offrymodd hwn ag uchel lef a dagrau, weddïau ac ymbiliau i’r hwn a allai ei wared ef rhag angau, a chael gwrandawiad o achos ei barchedig ofn; ac er mai mab ydoedd, fe ddysgodd ufudd-dod drwy ei ddioddefiadau, ac ar ôl ei berffeithio, daeth i bawb sydd yn ufuddhau iddo, yn awdur iachawdwriaeth dragwyddol, wedi ei gyfarch gan Dduw yn archoffeiriad yn ôl urdd Melchisedec. Am hwn y mae gennym lawer i’w ddywedyd sydd yn anodd ei egluro gan eich bod wedi myned yn drwm eich clyw. Canys pan ddylech, yn ôl amser, fod yn athrawon, y mae arnoch eisiau eto rywun i ddysgu i chwi elfennau cyntaf oraclau Duw, ac y mae hi wedi dyfod yn eisiau llaeth arnoch ac nid bwyd sylweddol. Canys y mae’r neb sydd yn byw ar laeth yn anghyfarwydd ag athrawiaeth cyfiawnder, oherwydd baban ydyw. Ond peth i bobl lawn dwf yw bwyd sylweddol, y rhai sydd, drwy ymarfer, â’u synhwyrau wedi eu disgyblu i farnu rhwng da a drwg. Am hynny, gan adael y wers gyntaf am y Crist, gyrrwn ymlaen at y llawn dyfiant, heb ailosod sylfaen o edifeirwch am weithredoedd meirwon ac o ffydd ar Dduw, sef y ddysg am fedyddiadau, arddodiad dwylo, atgyfodiad y meirw, a barn dragwyddol — yr hyn a wnawn, os caniatâ Duw. Canys y rhai a oleuwyd unwaith, ac a brofodd y rhodd nefol, ac a ddaeth yn gyfrannog o’r ysbryd glân, ac a brofodd air Duw yn dda a nerthoedd y byd a ddaw — ac a gwympodd ymaith wedyn — amhosibl adnewyddu’r rhain i edifeirwch, gan eu bod yn croeshoelio iddynt eu hunain fab Duw a’i osod yn wawd. Canys tir yn yfed y glaw a ddaw’n fynych arno ac yn dwyn llysiau addas i’r rhai y trinir ef hefyd er eu mwyn, y mae hwnnw yn cyfranogi o fendith gan Dduw; ond os drain ac ysgall a ddwg y mae’n wrthodedig ac ar fin melltith, a’i ddiwedd fydd ei losgi. Ond yr oeddem ni’n hyderu amdanoch chwi, rai annwyl, bethau gwell ac yn perthyn i iachawdwriaeth, er ein bod yn siarad fel hyn. Canys nid yw Duw yn anghyfiawn fel yr anghofiaf eich gwaith chwi a’r cariad a ddangosasoch at ei enw ef wrth weini i’r saint, a dal i weini. Ond chwenychwn i bob un ohonoch ddangos yr un awydd am gyfiawnder y gobaith i’r pen draw, fel na byddoch swrth, ond yn efelychwyr y rhai sydd trwy ffydd a dyfalwch yn etifeddu’r addewidion. Canys pan roes Duw ei addewid i Abraham — gan nad oedd ganddo neb mwy i dyngu wrtho — fe dyngodd wrtho’i hun a dywedyd, “Yn wir, gan fendithio mi a’th fendithiaf, a chan amlhau mi a’th amlhaf di,” ac fel hyn trwy ei ddyfalwch, daeth yr addewid i’w ran. Canys wrth un sydd fwy y bydd dynion yn tyngu, ac iddynt hwy diwedd pob dadl i gadarnhau’r mater ydyw’r llw. Am hyn, ag yntau’n ewyllysio dangos yn helaethach i etifeddion yr addewid, ddianwadalwch ei gyngor, cyfryngodd Duw dan lw, fel drwy ddwy weithred ddianwadal — y rhai yr oedd yn amhosibl i Dduw fod yn gelwyddog ynddynt — y caffom ni galondid cryf, y rhai a ffodd i gymryd gafael yn y gobaith a osodwyd o’n blaen. Ac y mae hwn gennym ni fel angor yr enaid, yn ddiogel ac yn ddiysgog, ac yn myned drwodd hyd at oddi mewn i’r llen, i’r lle’r aeth Iesu yn rhagredegydd drosom, pan ddaeth yn archoffeiriad yn dragywydd yn ôl urdd Melchisedec. Canys y Melchisedec hwn, brenin Salem, offeiriad y Duw Goruchaf, yr hwn a gyfarfu ag Abraham ar ei ffordd o daro’r brenhinoedd ac a’i bendithiodd, a’r hwn y degymodd Abraham iddo ddegwm o bopeth, (dehonglir ei enw ef yn gyntaf yn Frenin Cyfiawnder, ac wedyn yn Frenin Salem, hynny yw, Brenin Heddwch), nid oes ganddo dad na mam nac achau, na dechrau dyddiau na diwedd einioes, ond y mae wedi ei wneuthur yn gyffelyb i fab Duw — y mae hwn yn para yn offeiriad am byth. Ystyriwch gymaint gŵr oedd hwn y degymodd y patriarch Abraham iddo ddegwm y blaenffrwyth. Yn awr am y rhai o feibion Lefi sy’n derbyn yr offeiriadaeth, y maent hwy dan rwymau i godi’r degwm yn ôl y gyfraith ar y bobl, hynny yw, ar eu brodyr eu hunain, er bod y rheiny wedi dyfod allan o lwynau Abraham. Ond hwn, er nad oedd o’u hach hwy, cododd ei ddegwm ar Abraham, a bendithiodd yr hwn yr oedd yr addewidion ganddo. Ac nid oes dadl nad y lleiaf o ddau a fendithir gan y mwyaf. Ac yma marwolion sydd yn derbyn degwm, — ond yno, un y tystir amdano ei fod yn dal i fyw. Ac mewn ffordd o siarad, trwy Abraham codwyd degwm hyd yn oed ar Lefi, derbyniwr y degwm, canys yr oedd eisoes yn lwynau ei dad pan gyfarfu Melchisedec ag ef. Os oedd felly berffeithrwydd trwy’r offeiriadaeth Lefiticaidd — canys ar sail hon y rhoddwyd cyfraith ar y bobl — pa raid wedyn oedd i offeiriad arall godi yn ôl urdd Melchisedec, ac nid ei enwi yn ôl urdd Aaron? Canys pan fo newid ar yr offeiriadaeth, y mae, o angenrheidrwydd, newid cyfraith hefyd. Canys yr hwn y dywedir y pethau hyn amdano, i lwyth arall y mae ef yn perthyn, ac o hwnnw nid oes neb wedi gweini wrth yr allor. Canys y mae’n hysbys i bawb mai o Jwda yr hanoedd ein Harglwydd ni, llwyth na chyfeiriodd Moses ato ar fater offeiriaid. Ac y mae’n fwy hysbys fyth, pan gyfyd offeiriad arall ar ddull Melchisedec, a ddaeth nid yn ôl rheol sy’n gofyn am ach y cnawd, ond yn ôl nerth bywyd annistryw. Canys tystir amdano, “offeiriad wyt ti yn dragywydd yn ôl urdd Melchisedec”. Oherwydd y mae yma ddiddymiad ar hen orchymyn am ei fod yn ddi-rym ac yn ddi-les — canys ni ddaeth y gyfraith â dim byd i ben — ond dygir i mewn, yn ei le, obaith gwell, yr ydym drwyddo yn nesáu at Dduw. Ac yn gymaint nad heb lw y bu hyn — canys heb lw y daeth y rhai hynny’n offeiriaid, ond hwn dan lw yng ngenau’r hwn sy’n dywedyd wrtho, “Tyngodd yr Arglwydd, ac ni newidia ei feddwl; offeiriad wyt ti yn dragywydd” — gwell o hynny oedd y cyfamod y daeth Iesu’n feichiau drosto. Am yr offeiriaid, fe wnaed llaweroedd ohonynt, am fod angau yn eu rhwystro i barhau, ond hwn, am ei fod yn para yn dragywydd, y mae ganddo ef offeiriadaeth ddi-drosglwydd. Am hynny, y mae ef yn abl i gadw hyd yr eithaf y rhai sy’n dyfod at Dduw drwyddo ef, gan ei fod yn fyw bob amser i eiriol ar eu rhan. Canys dyma’r fath archoffeiriad oedd hefyd yn addas inni, un santaidd, diddrwg, dihalog, wedi ei ddidoli oddi wrth bechaduriaid, wedi dyfod yn uwch na’r nefoedd, nad oes raid arno beunydd, fel yr archoffeiriaid, offrymu’n gyntaf aberthau dros ei bechodau ef ei hunan, ac yna dros bechodau’r bobl. Canys hyn a wnaeth ef unwaith am byth pan offrymodd ef ei hun. Canys y mae’r gyfraith yn gwneuthur dynion â gwendid ynddynt yn archoffeiriaid, ond gair y llw sydd ar ôl y gyfraith, [y mae hwnnw yn gwneuthur] Mab, wedi ei berffeithio yn dragywydd. Ac yn ben ar yr hyn yr ydym yn sôn amdano: dyma’r fath archoffeiriad sydd gennym, un a eisteddodd ar ddeheulaw gorsedd y mawrhydi yn y nefoedd, yn weinidog y cysegr a’r gwir dabernacl a osododd yr Arglwydd ac nid dyn. Yn awr, pob archoffeiriad, i offrymu rhoddion ac aberthau y penodir ef, ac felly rhaid bod gan hwn hefyd rywbeth i’w offrymu. Gan hynny, pe byddai ar y ddaear, ni byddai’n offeiriad, am fod yma yn barod rai i offrymu rhoddion yn ôl y gyfraith; ac i ddarlun a chysgod y pethau nefol y mae’r rhain yn gweini, fel y gorchmynnwyd i Foses pan oedd ar godi’r tabernacl. Canys “Gwêl,” meddai, “wneuthur ohonot bopeth yn ôl y cynllun a ddangoswyd i ti yn y mynydd.” Ond yn awr cafodd ef amgenach gweinidogaeth, yn gymaint â’i fod yn gyfryngwr gwell cyfamod a sefydlwyd ar bwys gwell addewidion; canys pe buasai’r cyntaf hwnnw yn ddifai, ni cheisiasid lle i un arall. Canys dan feio arnynt y dywed, “Wele, y mae’r dyddiau’n dyfod, medd yr Arglwydd, y byddaf yn pennu ar dŷ Israel ac ar dŷ Jwda gyfamod newydd, nid yn ôl y cyfamod a wneuthum i’w tadau hwynt yn y dydd y gafaelais yn eu llaw hwynt i’w harwain allan o dir yr Aifft am nad arosasant hwy yn fy nghyfamod i, a minnau a fûm ddibris ohonynt, medd yr Arglwydd, canys hwn yw’r cyfamod a osodaf i dŷ Israel, ar ôl y dyddiau hynny, medd yr Arglwydd. Rhoddaf fy nghyfreithiau yn eu meddwl hwynt ac ar eu calonnau yr ysgrifennaf hwynt. A byddaf iddynt yn Dduw, a byddant hwythau i mi yn bobl. A mwyach ni ddysgant bob un ei gymydog a phob un ei frawd, a dywedyd, ‘Adnebydd yr Arglwydd,’ Canys bydd pawb yn f’adnabod o fach hyd fawr ohonynt, canys tyner fyddaf wrth eu hanwireddau hwy, ac am eu pechodau ni bydd mwyach gof gennyf.” Wrth ddywedyd “newydd,” y mae wedi cyhoeddi’r cyntaf yn hen. Ac y mae’r peth a gyhoeddir yn hen ac sydd yn oedrannus yn ymyl ei dranc. Yn awr, yr oedd hyd yn oed i’r cyntaf ordinhadau gwasanaeth a chysegr daearol; canys yr oedd pabell wedi ei chodi, y gyntaf, lle yr oedd y canhwyllbren a’r bwrdd a gosodiad y bara, — dyma’r lle a elwir yn Gysegr. Tu ôl i’r ail len yr oedd y babell a elwir y Cysegr Santeiddiolaf, ac ynddi thuser aur, ac arch y cyfamod wedi ei gorchuddio drosti ag aur, ac yn hon yr oedd llestr aur yn dal y manna, a gwialen Aaron a flagurodd unwaith, a llechau’r cyfamod, ac uwch ei phen gerubiaid y gogoniant yn cysgodi dros y drugareddfa; am y rhain ni ellir yn awr sôn bob yn un. A’r pethau hyn wedi eu trefnu felly, fe â’r offeiriaid yn eu swydd wrth eu gwasanaeth i mewn i’r babell gyntaf bob amser; ond i’r ail unwaith yn y flwyddyn yr â’r archoffeiriad, ac nid neb arall, a hynny nid heb waed, sef ei offrwm drosto’i hun a thros gyfeiliornadau’r bobl. Dyma’r hyn a ddengys yr Ysbryd Glân, nad yw’r ffordd i’r cysegr eto wedi ei hagor cyhyd ag y bo’r babell gyntaf yn sefyll; cysgod yw hon ar gyfer ei hamser ei hun, ac yn ôl ei threfn offrymir rhoddion ac aberthau na allant berffeithio’r gweinidog yn ei gydwybod, gan mai ordinhadau’r cnawd ydynt, yn dibynnu ar fwydydd a diodydd ac amrywiol olchiadau, hyd amser y diwygiad. Ond Crist, wedi dyfod gerbron yn archoffeiriad y pethau da a gafwyd — drwy well a pherffeithiach pabell, nid o waith llaw (hynny yw, nid o’r cread hwn), ac nid gyda gwaed geifr a lloi, ond gyda’i waed ei hun yr aeth ef i mewn unwaith am byth i’r cysegr, wedi iddo gael ffordd o dragwyddol ryddhâd. Canys os yw gwaed geifr a theirw a lludw anner ar daen ar yr halogion yn dihalogi cyn belled â glanhad y cnawd, pa faint mwy y bydd gwaed Crist a’i hoffrymodd ei hun drwy ysbryd tragwyddol yn ddi-fefl i Dduw, yn glanhau ein cydwybod ni oddi wrth weithredoedd meirwon i wasanaethu Duw byw? A chyfryngwr cyfamod newydd ydyw oherwydd hyn, — fel, wedi bod marwolaeth er rhyddhad oddi wrth y camweddau dan y cyfamod cyntaf, y derbynio’r rhai a alwyd eu haddewid, sef yr etifeddiaeth dragwyddol. Canys lle y bo testament, rhaid tybio marwolaeth y testamentwr, canys peth yw testament sydd yn sefyll pan fo dynion wedi marw, oherwydd nid oes dim grym ynddo tra fo’r testamentwr yn fyw. Am hynny, nid oedd sefydliad hyd yn oed y cyntaf heb waed, canys wedi cyhoeddi o Foses bob gorchymyn yn ôl y gyfraith i’r holl bobl, cymerodd ef waed y lloi a’r geifr gyda dŵr a gwlân porffor ac isop, a thaenellodd y llyfr a’r holl bobl hefyd, a dywedyd, “Dyma waed y cyfamod a osododd Duw arnoch chwi;” a’r babell hefyd a holl lestri’r gwasanaeth a daenellodd yn yr un modd â gwaed. A bron na ddywedwn mai â gwaed y glanheir popeth yn ôl y gyfraith, a heb ollwng gwaed ni cheir maddeuant. Rhaid oedd, felly, i gysgodau’r pethau yn y nefoedd gael eu glanhau â’r pethau hyn, ond y nefolion bethau eu hunain ag aberthau gwell rhagor y rhain. Canys nid i gysegr o waith llaw, cyffelybiaeth y gwir bethau, yr aeth Crist i mewn, ond i’r nef ei hun i’w weled yn awr yn eglur gerbron Duw drosom ni; ac nid i’w offrymu ei hun lawer gwaith, fel y bydd yr archoffeiriad yn myned i mewn i’r cysegr bob blwyddyn â gwaed un arall, canys yna rhaid fuasai iddo ddioddef lawer gwaith er seiliad y byd; ond yn awr unwaith am byth, ar gyflawnhad yr oesau, y mae ef wedi ei ddatguddio er diddymiad pechod drwy ei aberth ei hun. Ac yn gymaint â’i bod wedi ei gosod i ddynion farw unwaith, ac wedi hynny, barn, felly Crist hefyd wedi ei offrymu un waith i ddwyn arno bechodau llaweroedd, a ymddengys yr ail waith heb berthynas â phechod i’r rhai sydd yn ei ddisgwyl er iachawdwriaeth. Gan mai cysgod sydd gan y gyfraith o’r pethau da i ddyfod, ac nid gwir ddull y pethau, ni all hi byth berffeithio’r rhai sy’n nesáu o flwyddyn i flwyddyn gyda’r un aberthau ag a offrymant byth a hefyd. Canys oni pheidiasid â’u hoffrymu, gan na buasai mwyach ymwybod â phechodau gan addolwyr a oedd wedi eu glanhau unwaith? Ond y mae yn y rhain goffa am bechodau bob blwyddyn, canys ni all gwaed teirw a geifr symud ymaith bechodau. Felly wrth ddyfod i’r byd fe ddywed, “Aberth ac offrwm ni tynnaist, corff yn hytrach a ddarperaist imi. Offrymau llosg, a rhai dros bechod ni ryngasant dy fodd. Yna y dywedais: Wele fi wedi dyfod; yn rhoi y llyfr yr ysgrifennwyd amdanaf, I wneuthur, o Dduw, dy ewyllys.” Wrth ddywedyd i ddechrau, “aberthau ac offrymau ac offrymau llosg a rhai dros bechod ni tynnaist ac ni ryngwyd dy fodd ynddynt,” y rhai a offrymir yn ôl y gyfraith, “yna” — cawn iddo ddywedyd — “wele fi wedi dyfod i wneuthur dy ewyllys di.” Y mae’n diddymu’r cyntaf er mwyn sefydlu’r ail. Yn yr ewyllys hon yr ydym wedi ein santeiddio drwy offrwm corff Iesu Grist unwaith am byth. Ac y mae pob offeiriad yn sefyll beunydd yn ei wasanaeth ac yn offrymu’r un aberthau lawer gwaith, y rhai ni allant byth dynnu ymaith bechodau, — ond hwn wedi iddo offrymu un aberth am byth dros bechodau, a aeth i eistedd ar ddeheulaw Duw, yn disgwyl bellach hyd oni osoder ei elynion yn droedfainc i’w draed; canys ag un offrwm y mae wedi perffeithio am byth y rhai a santeiddir. Ond y mae’r Ysbryd Glân hefyd yn tystio wrthym; canys ar ôl dywedyd, “Hwn yw’r cyfamod a wnaf â hwynt wedi’r dyddiau hynny, medd yr Arglwydd. Mi a roddaf fy nghyfreithiau yn eu calonnau, ac ar eu meddwl yr ysgrifennaf hwynt,” [yna y mae’n dywedyd], “A’u pechodau hwynt a’u troseddau ni chofiaf byth mwy.” Yn awr, lle y ceir maddeuant o’r rhain, nid oes mwy offrwm dros bechod. Felly, frodyr, gan fod gennym hyder hyd at fyned i mewn i’r cysegr drwy waed Iesu ar hyd ffordd newydd a byw a agorodd ef i ni drwy’r llen, hynny yw, ei gnawd ef, a bod gennym offeiriad mawr ar dŷ Dduw, nesáwn gyda chalon gywir mewn cyflawnder ffydd, a’n calonnau wedi eu taenellu’n lân oddi wrth gydwybod ddrwg, a’n corff wedi ei olchi â dŵr glân. Daliwn gyffes ein gobaith yn ddiwyro, canys ffyddlon yw’r hwn a addawodd, a gwyliwn ar ein gilydd i gyffroi cariad a gweithredoedd da, heb droi’n cefnau ar ein cydymgynnull ein hunain, yn ôl arfer rhai, ond annog, a hynny’n fwy gan eich bod yn gweled y dydd yn nesáu. Canys os o’n gwirfodd y pechwn ar ôl derbyn adnabyddiaeth o’r gwirionedd, nid oes bellach ddim aberth dros bechodau, ond rhyw ddychrynllyd aros barn, ac angerdd tân a fydd yn ysu’r gwrthwynebwyr. Pwy bynnag a fu’n ddibris o gyfraith Moses a leddir heb drugaredd ar air dau neu dri o dystion. Pa faint gwaeth cosb, debygwch chwi, a ddyfernir i’r hwn a fathrodd fab Duw, ac a gymerodd yn beth cyffredin waed y cyfamod â’r hwn y santeiddiwyd ef, ac a fwriodd sarhad ar ysbryd y gras? Canys yr ydym yn gwybod am yr hwn a ddywedodd, “Myfi piau dialedd, myfi a dalaf y pwyth”; a thrachefn, “Barna’r Arglwydd ei bobl.” Ofnadwy o beth yw cwympo i ddwylo Duw byw. Gelwch i gof y dyddiau gynt pryd, â chwi wedi eich goleuo, yr ymgynaliasoch dan galedi mawr o ddioddefiadau — yn cael gwneuthur arddangosfa ohonoch mewn sarhadau ac ingoedd, neu ynteu wedi dyfod i gymdeithas y rhai oedd â’u helynt felly. Canys â’r carcharorion y cyd-ddioddefasoch, a’r ysbeiliad o’ch meddiannau a dderbyniasoch mewn llawenydd, gan wybod bod gennych chwi eich hunain feddiant gwell ac arhosol. Na ollyngwch o’ch gafael, felly, eich hyder, sydd ag iddo fawr wobr. Canys amynedd sydd yn rhaid i chwi fel, wedi gwneuthur ewyllys Duw, y caffoch yr addewid. Canys ychydig bach eto, ac fe ddaw’r hwn sydd yn dyfod, ac nid oeda. Ond fy nghyfiawn i, drwy ffydd y bydd byw, ac os cilia’n ôl, ni ryngir bodd fy enaid ynddo. Eithr ni, nid pobl y cilio’n ôl i golledigaeth ydym, ond pobl y ffydd i feddiant o’r enaid. Yn awr, ffydd yw sicrhad pethau a obeithir ac argyhoeddiad o bethau ni welir. Canys ar ei phwys hi y dygwyd tystiolaeth i’r hen saint. Trwy ffydd, yr ydym yn deall lunio’r cyfanfyd trwy air Duw, yn gymaint nad o bethau gweladwy y mae’r peth a welir wedi dyfod. Trwy ffydd yr aberthodd Abel i Dduw amgen offrwm na Chaen, a thrwy hon y dygwyd tystiolaeth iddo ei fod yn gyfiawn, gan fod Duw yn tystiolaethu ar bwys ei roddion; a thrwy hon, y mae ef, wedi marw, yn llefaru eto. Trwy ffydd y symudwyd Enoch fel na welodd angau, ac nis caed ef am fod Duw wedi ei symud, canys cyn ei symudiad y mae tystiolaeth amdano ddarfod iddo ryngu bodd Duw; a heb ffydd amhosibl rhyngu bodd. Canys rhaid i’r neb a nesao at Dduw gredu ei fod a’i fod yn dalwr i’r rhai sy’n ei geisio. Trwy ffydd yr adeiladodd Noa, mewn parchedig ofn, arch er achub ei dŷ, ar ôl cael datguddiad am y pethau a oedd eto’n anweledig, a thrwyddi hi y rhoes gondemniad ar y byd ac y daeth yn etifedd y cyfiawnder sydd yn ôl ffydd. Trwy ffydd yr ufuddhaodd Abraham pan alwyd ef i fyned allan i le yr oedd i’w dderbyn yn etifeddiaeth, ac allan yr aeth heb wybod i ba le yr oedd yn myned. Trwy ffydd y tariodd yn nhir yr addewid fel mewn tir estron, a thrigo mewn pebyll, gydag Isaac a Jacob, cyd-etifeddion yr un addewid. Canys disgwyl yr oedd am y ddinas y mae iddi sylfeini, a Duw yn gynllunnydd ac yn saer iddi. Trwy ffydd y cafodd Sara hithau nerth i ymddŵyn wedi derbyn yr had, ac yn groes i adeg ei hoedran, am ei bod wedi barnu’n ffyddlon yr hwn a addawodd. Am hynny hefyd y cenhedlwyd o un yn unig, a hynny o ddyn cystal â marw, megis sêr y nef mewn amlder ac fel y tywod ar lan y môr sydd yn aneirif. Yn ôl ffydd y bu farw y rhai hyn oll, heb feddiannu’r addewidion, ond eu gweled o bell a’u croesawu, a chyffesu mai dieithriaid ac alltudion oeddynt ar y ddaear. Canys y mae’r rhai sy’n dywedyd fel hyn yn dangos mai cartref a geisiant. A bid sicr, pe buasent yn meddwl am y wlad y daethent allan ohoni, buasai ganddynt amser i ddychwelyd; ond, yn wir, am wlad well y maent yn ymestyn, hynny yw, un nefol. Am hyn nid oes ar Dduw gywilydd ohonynt, [a] chael ei alw yn Dduw iddynt, canys paratoes iddynt ddinas. Trwy ffydd y cawn i Abraham ddwyn Isaac yn offrwm pan oedd yn cael ei brofi; ie, ei uniganedig a ddug y gŵr a dderbyniasai’r addewidion ac y dywedwyd wrtho mai “yn Isaac y bydd i ti had ar d’enw,” wedi iddo gyfrif bod Duw yn abl i godi hyd yn oed o feirw; ac yn wir, mewn ffigur, oddi yno y derbyniodd ef yn ôl. Trwy ffydd y bendithiodd Isaac Jacob ac Esau hefyd am bethau i ddyfod. Trwy ffydd y bendithiodd Jacob ar ei wely angau feibion Joseff bob un, ac yr ymgrymodd ar ben ei ffon. Trwy ffydd y coffaodd Joseff yn ei ddiwedd am fynediad meibion Israel allan, ac y rhoddodd orchymyn ynghylch ei esgyrn. Trwy ffydd, pan aned Moses, y cuddiwyd ef am dri mis gan ei rieni oherwydd iddynt weled y plentyn yn dlws, ac nid ofnasant orchymyn y brenin. Trwy ffydd, wedi iddo ddyfod yn fawr, y gwrthododd Moses ei alw yn fab merch Pharo, gan ddewis yn hytrach oddef ei gam-drin ynghwmni pobl Dduw na chael mwynhad pechod dros dro, am iddo gyfrif gwaradwydd yr Eneiniog yn fwy golud na thrysorau’r Aifft; canys draw ar y daledigaeth yr oedd ei olwg. Trwy ffydd y gadawodd yr Aifft, nid am ei fod wedi ofni llid y brenin; canys fel un yn gweled yr anweledig y bu’n ddiysgog. Trwy ffydd y cawn iddo gadw y Pasg a thaenelliad y gwaed, rhag i’r hwn a oedd yn dinistrio’r cyntafanedig gyffwrdd â hwynt. Trwy ffydd yr aethant trwy’r Môr Coch fel drwy dir sych, ond pan wnaeth yr Eifftiaid gynnig arno, llyncwyd hwy yn llwyr. Trwy ffydd y cwympodd caerau Jericho ar ôl eu hamgylchu am saith niwrnod. Trwy ffydd ni chollwyd Rahab y butain gyda’r rhai a fu anufudd, am dderbyn ohoni yr ysbïwyr mewn heddwch. A beth a ddywedaf ymhellach? Canys fe ballai amser i mi adrodd am Gideon, Barac, Samson, Jefftha, Dafydd, a Samuel, a’r proffwydi, y rhai drwy ffydd a loriodd deyrnasoedd, a weithredodd gyfiawnder, a gafodd afael ar addewidion, a gaeodd safnau llewod, a ddiffoddodd angerdd tân, a ddihangodd rhag min y cleddyf, a nerthwyd o wendid, a ddaeth yn gedyrn mewn rhyfel, a yrrodd ar ffo rengau estroniaid; cafodd gwragedd eu meirw drwy atgyfodiad; arteithiwyd eraill ar yr olwyn, wedi iddynt wrthod derbyn y ddihangfa, fel y caffent well atgyfodiad. Cafodd eraill brofiad o’u gwatwar a’u fflangellu, ie, o gadwynau a charchar; llabyddiwyd hwy, cystuddiwyd hwy, llifiwyd hwy, lladdwyd hwy â lladdedigaeth y cleddyf, buont o fan i fan mewn crwyn defaid, mewn crwyn geifr, yn anghenus, yn adfydus, dan gamdriniaeth, — dynion nad oedd y byd yn deilwng ohonynt, yn crwydro mewn diffeithleoedd a mynyddoedd ac ogofeydd a thyllau’r ddaear. A’r rhain oll, er iddynt ennill tystiolaeth amdanynt drwy eu ffydd, ni chawsant yr addewid, gan fod Duw wedi darpar rhywbeth gwell ar ein cyfer ni, fel hebom ni na pherffeithid hwy. Am hynny, ninnau hefyd gan fod gennym gymaint cwmwl o dystion o’n hamgylch, bwriwn ymaith bob trymlwyth a’r pechod sy’n barod i ymglymu amdanom, a rhedwn yn ddygn y cwrs sydd yn ymestyn o’n blaen, gan gadw ein golwg ar bennaeth a chwblhawr y ffydd, Iesu, yr hwn er mwyn y llawenydd a oedd yn ei aros, a ymddygnodd dan groes gan iddo ddiystyru gwarth, ac y sydd yn eistedd ar ddeheulaw gorsedd Duw. Canys, ystyriwch yr hwn a ymddygnodd dan y fath elyniaeth tuag ato gan bechaduriaid, rhag i chwi ymollwng yn eich eneidiau a blino. Hyd yn hyn nid ydych wedi gwrthsefyll hyd at waed yn eich brwydr yn erbyn pechod, ac yr ydych wedi anghofio’r anogaeth sydd yn ymliw â chwi megis â meibion, “Fy mab, na fydd ddibris o ddisgyblaeth yr Arglwydd, ac nac ymollwng pan argyhoedder di ganddo; canys y neb y mae’r Arglwydd yn ei garu y mae’n ei ddisgyblu, ac y mae’n curo pob mab y mae’n ei arddel.” Ymddygnwch er disgyblaeth; fel at feibion y mae Duw yn ymddwyn atoch. Canys pa fab nad yw ei dad yn ei ddisgyblu? Ond os ydych heb ddisgyblaeth, yr hon y mae pawb yn gyfrannog ohoni, yna bastardiaid ydych ac nid meibion. Heblaw hynny, yr oedd gennym dadau i’n cnawd ni yn ein disgyblu, a pharchem hwynt. Onid oes mwy o lawer o achos i ni ymddarostwng i dad ein hysbrydoedd, a byw? Canys am ychydig ddyddiau, ac fel y gwelent yn dda, y byddent hwy yn disgyblu, ond hwn er ein lles, er mwyn inni fod yn gyfrannog o’i santeiddrwydd ef. Canys nid oes yr un ddisgyblaeth dros yr amser presennol yn edrych yn beth hyfryd ond yn beth gofidus, ond wedi hynny y mae’n talu’n ôl mewn heddychlon ffrwyth cyfiawnder i’r rhai a fu dan ei goruchwyliaeth hi. Am hynny, unionwch y dwylo sydd wedi llaesu a’r gliniau sydd wedi ymollwng, a gwnewch lwybrau union i’ch traed rhag troi’r aelod cloff o’i le ond yn hytrach ei iacháu. Dilynwch dangnefedd gyda phawb, a’r santeiddhad na wêl neb yr Arglwydd hebddo, gan wylio na bo neb yn syrthio’n ôl o ras Duw, na bo un gwreiddyn chwerwedd yn codi ei ben ac yn peri blinder a llygru’r lliaws drwyddo, na bo un puteiniwr na halog megis Esau, a roddodd freintiau ei enedigaeth yn gyfnewid am un pryd o fwyd. Canys gwyddoch iddo ef hefyd, pan oedd wedi hynny yn ewyllysio etifeddu’r fendith, gael ei wrthod, — oherwydd ni chafodd gyfle i ailfeddwl, — er iddo gyda dagrau grefu amdani. Yn awr, nid at dân y gellir ei deimlo ac y sydd yn llosgi y daethoch, ac at gaddug a mwrllwch a chorwynt a bloedd utgorn a llais gorchmynion, nes i’r rhai a’i clywodd ddeisyfu nad ychwanegid gair wrthynt, oherwydd na allent oddef y gorchymyn, “ac os cyffwrdd hyd yn oed anifail â’r mynydd, llabyddier ef.” Ac mor ofnadwy oedd yr olwg fel y dywedodd Moses, Yr wyf wedi dychryn ac yn crynu. Ond at fynydd Seion y daethoch ac at ddinas y Duw byw, y Gaersalem nefol, a myrddiynau o angylion, cymanfa a chynulleidfa rhai cyntafanedig sydd â’u henwau yn ysgrifenedig yn y nefoedd, ac at Dduw, farnwr pawb, ac at ysbrydoedd rhai cyfiawn sydd wedi eu perffeithio, ac at Iesu, cyfryngwr cyfamod newydd, ac at waed taenelliad sydd yn dywedyd peth gwell nag Abel. Edrychwch na ddeisyfoch rhag clywed yr hwn sy’n llefaru, canys oni ddihangodd y rhai a ddeisyfodd rhag clywed yr hwn oedd yn cyhoeddi ar y ddaear, mwy o lawer, [ni ddihangwn] ni wrth droi ymaith oddi wrth yr hwn sy’n cyhoeddi o’r nefoedd; siglodd llais hwn y ddaear y pryd hynny, ond yn awr, y mae wedi addo gan ddywedyd, eto unwaith mi a siglaf nid yn unig y ddaear ond y nef hefyd. Ond y mae’r unwaith eto hwn yn golygu symud y pethau a siglir megis pethau creëdig, fel yr arhoso’r pethau di-sigl. Am hynny, gan mai teyrnas ddi-sigl yr ydym yn ei derbyn, byddwn ddiolchgar, a thrwy hynny gwasanaethwn Dduw wrth ei fodd, â pharch ac ofn. Canys yn wir ein Duw ni sydd dân ysol. Parhaed eich brawdgarwch, eich lletygarwch nac anghofiwch; canys trwy hyn y croesawodd rhywrai angylion heb wybod. Deliwch i gofio am y carcharorion fel pe baech yng ngharchar gyda hwy, y rhai a gamdrinir gan eich bod chwithau hefyd mewn corff o gnawd. Bydded priodas mewn anrhydedd gan bawb, a’r gwely yn ddihalog, canys puteinwyr a godinebwyr a farn Duw. Bydded eich bryd yn ddiariangar, gan fod yn fodlon ar yr hyn sydd gennych. Canys dywedodd ef, “Ni’th ollyngaf ddim ac ni chefnaf arnat,” ac am hynny y dywedwn yn galonnog, “Yr Arglwydd yw fy nghymorth, nid ofnaf; Beth a all dyn ei wneuthur imi?” Cedwch mewn cof eich arweinwyr a lefarodd wrthych air Duw; gan syllu ar ddiwedd eu hymarweddiad hwynt, efelychwch eu ffydd. Iesu Grist ddoe a heddiw yr un, ac yn dragywydd. Na chamarweinier chwi gan athrawiaethau amryliw a dieithr. Canys da yw bod y galon wedi ei chadarnhau â gras, nid â bwydydd na fuont ddim llesâd i’r rhai a oedd yn ymarfer â hwynt. Y mae gennym allor nad oes gan y rhai sy’n gwasanaethu’r tabernacl hawl i fwyta ohoni. Canys yr anifeiliaid y dygir eu gwaed dros bechod i’r cysegr drwy law’r archoffeiriad, llosgir cyrff y rhai hynny tu allan i’r gwersyll. Gan hynny, tu allan i’r porth y dioddefodd Iesu hefyd fel y santeiddiai’r bobl drwy ei waed ei hun. Am hynny, awn allan ato ef tu allan i’r gwersyll, gan ddwyn ei sarhad. Canys nid oes gennym yma ddinas arhosol, ond yr un a ddaw yr ydym yn ei cheisio. Trwyddo ef, gan hynny, offrymwn aberth moliant yn wastad i Dduw, hynny yw ffrwyth gwefusau yn arddel ei enw ef. Ond na fyddwch anghofus o gymwynas a chyfrannu, canys â chyfryw ebyrth y rhyngir bodd Duw. Byddwch ufudd i’ch arweinwyr ac ymostyngwch iddynt, canys y maent hwy yn effro i wylio dros eich eneidiau chwi fel rhai sydd i roddi cyfrif, fel y caffont wneuthur hyn. mewn llawenydd ac nid dan duchan; canys di-fudd i chwi yw hynny. Gweddïwch drosom: canys yr ydym yn sicr fod gennym gydwybod dda, a ni’n dymuno byw’n onest ym mhopeth. Yr wyf yn daerach fyth yn eich annog i wneuthur hyn er mwyn fy adfer atoch yn gynt. Duw’r tangnefedd a ddug o’r meirw fugail mawr y defaid drwy waed y cyfamod tragwyddol, ein Harglwydd Iesu, a’ch cyflanwo â phopeth da er gwneuthur ei ewyllys ef, gan gynhyrchu ynom yr hyn sydd gymeradwy ganddo ef trwy Iesu Grist; i’r hwn boed y gogoniant yn oes oesoedd. Amen. Yr wyf yn deisyfu arnoch, frodyr, goddefwch air yr anogaeth hon, canys mewn byr eiriau yr anfonais lythyr atoch. Gwybyddwch fod ein brawd Timotheus wedi ei ryddhau; os daw yn weddol fuan, gwelaf chwi gydag ef. Cyferchwch eich holl arweinwyr a’r holl saint. Y mae gwŷr yr Eidal yn eich cyfarch. Gras a fo gyda chwi oll. Iago, gwas Duw a’r Arglwydd Iesu Grist, at y deuddeg llwyth sydd ar wasgar, llawenydd i chwi. Ystyriwch hi’n llawenydd llwyr, fy mrodyr, pan syrthioch mewn amryw brofedigaethau, a chwi yn gwybod bod y peth sy ddilys yn eich ffydd yn gweithio amynedd. A chaffed amynedd gyflawn waith, fel y boch gyflawn a chwbl gyfan, heb fod arnoch ddiffyg mewn dim. Ond od oes ar neb ohonoch ddiffyg doethineb, gofynned gan Dduw, sy’n rhoddi i bawb yn rhad, ac heb ddanod, ac fe’i rhoddir iddo: eithr gofynned mewn ffydd, heb ameu dim, canys tebyg yw’r sawl a amheuo i ymchwydd y môr, a yrrir gan y gwynt ac a chwelir. Canys na thybied y dyn hwnnw y derbyn ef ddim gan yr Arglwydd — gŵr dau feddwl, anwadal yn ei holl ffyrdd. Ymffrostied y brawd distadl yn ei uchel radd, y cyfoethog yntau yn ei ddistadledd, canys megis blodeuyn y borfa y diflanna ef. Canys, wele, cyfyd yr haul gyda’i fawr wres, a pheri crino o’r borfa, a chwympo o’i blodeuyn ymaith, a difetha glendid ei bryd ef. Felly yntau’r cyfoethog, edwina yn ei fyned a’i ddyfod. Gwyn ei fyd y gŵr a ddalio dan brofedigaeth; canys pan fo profedig y derbyn goron y bywyd a addawodd yr Arglwydd i’r rhai a’i caro ef. Na ddyweded neb, pan brofer ef: “o Dduw y’m temtir” canys Duw ni ellir ei demtio â drygau, ac yntau nid yw yn temtio neb. Ond temtir pob un, pan dynner ef a’i lithio gan ei chwant ei hun. Yna bydd chwant, wedi ymddwyn, yn esgor ar bechod, a phechod, wedi llawn dyfu, yn dwyn marwolaeth. Na chyfeiliornwch, fy mrodyr annwyl. Pob rhoddiad daionus, a phob rhodd gyflawn, oddi uchod y mae, yn disgyn oddiwrth Dad y goleuadau, na ddichon bod ynddo na chyfnewidiad na chysgod yn herwydd troi. O fwriad y cenhedlodd ef nyni â gair gwirionedd, fel y byddem ryw flaenffrwyth o’i greaduriaid ef. Gwybyddwch hyn, fy mrodyr annwyl. Ond bydded pob dyn esgud i wrando, araf i lefaru, araf i ddigofaint, canys digofaint gŵr ni chyflawna gyfiawnder Duw. Am hynny, gan roddi heibio bob aflendid a helaethrwydd drygioni, mewn addfwynder derbyniwch y gair, sydd ynoch yn gynhenid ac a ddichon gadw eich eneidiau. Ond byddwch wneuthurwyr y gair, ac nid gwrandawyr yn unig, gan eich camarwain eich hunain. Oblegid, od yw neb wrandawr y gair heb fod yn wneuthurwr, cyffelyb fydd hwnnw i ŵr edrycho’i wynepryd naturiol mewn drych; canys fe’i hedrychodd ei hun, aeth ymaith, ac yn y fan anghofiodd pa fath un ydoedd. Ond y neb a syllo ar berffaith gyfraith rhyddid, a pharhau felly, heb fod yn wrandawr anghofus, eithr yn wneuthurwr gweithgar, dedwydd fydd hwnnw yn ei waith. O thyb neb ei fod yn ddefosiynol, heb ffrwyno’i dafod, ond twyllo’i galon ei hun, ofer fydd defosiwn hwnnw. Defosiwn pur a dihalog yng ngolwg Duw a’r Tad yw hyn: gofalu am yr amddifaid a’r gwragedd gweddwon yn eu hadfyd, a’i gadw ei hun yn ddifrycheulyd oddiwrth y byd. Fy mrodyr, na foed gennych gyda derbyn wyneb eich ffydd yn ein Harglwydd Iesu Grist, Arglwydd y gogoniant. Canys o daw i’ch cynulliad ŵr â modrwy aur, mewn dillad gwychion, a dyfod hefyd ŵr tlawd mewn gwisgoedd budron, ac edrych ohonoch ar y gŵr â’r dillad gwychion, a dywedyd: “Eistedd di yma yn dda dy le,” ac wrth y tlawd ddywedyd: “Saf dithau yna, neu, eistedd is law fy stôl droed i,” oni wnewch ynoch eich hunain ragor rhwng y naill â’r llall, ac oni byddwch farnwyr yn ôl drwg ddadleuon? Gwrandewch, fy mrodyr annwyl, oni ddewisodd Duw dlodion y byd yn gyfoethogion mewn ffydd, ac yn etifeddion y deyrnas a addawodd ef i’r rhai a’i caro? Eithr chwithau, dibrisio’r tlawd a wnaethoch. Onid y cyfoethogion sydd yn gormesu arnoch a’ch llusgo i’r brawdleoedd eu hunain? Onid hwy sydd yn cablu’r enw gwiw a alwyd arnoch? Yn wir, os cyflawni’r gyfraith frenhinol yr ydych, yn ôl yr ysgrythur: Câr dy gymydog fel ti dy hun, da y gwnewch. Eithr os derbyn wyneb yr ydych, pechod a wnewch, ac fe’ch condemnir gan y gyfraith fel troseddwyr. Canys pwy bynnag a gadwo’r gyfraith i gyd, a thramgwyddo mewn un peth, euog fydd o’r cwbl. Canys y neb a ddywedodd, Na odineba, hefyd a ddywedodd, Na ladd. Ac oni odinebi, eithr lladd ohonot, ti fyddi droseddwr cyfraith. Felly lleferwch, ac felly gweithredwch, megis rhai ar gaffael eu barnu wrth gyfraith rhyddid. Canys barn ddidrugaredd fydd i’r sawl na wnaeth drugaredd. Trech trugaredd na barn. Pa les, fy mrodyr, ddywedyd o neb fod ganddo ffydd, ac yntau heb weithredoedd? A ddichon ei ffydd ei achub ef? O bydd brawd neu chwaer yn brin o ddillad, a bod eisieu ganddynt ymborth beunyddiol, a dywedyd o un ohonoch wrthynt, “Ewch mewn heddwch, ymdwymnwch ac ymddigonwch,” eithr heb roddi iddynt reidiau’r corff, pa les hynny? Felly hefyd, ffydd, oni bo ganddi weithredoedd, marw ydyw ynddi ei hun. Eithr dywed rhywun: “Ffydd sydd i ti, a gweithredoedd i minnau.” Dangos i mi dy ffydd di heb dy weithredoedd, a minnau, dangosaf iti fy ffydd o’m gweithredoedd. Credu yr wyt ti mai un yw Duw? Gwych y gwnei: y mae’r cythreuliaid hefyd yn credu — ac yn arswydo. Eithr a fynni wybod, ti ddyn gwagsaw, mai diffrwyth yw ffydd heb weithredoedd? Abraham ein tad ni, onid o weithredoedd y cyfiawnhawyd ef, wrth offrymu Isaac ei fab ar yr allor? Gweli gyd-weithio o ffydd â’i weithredoedd ef, a thrwy weithredoedd ddarfod perffeithio ei ffydd, a chyflawnwyd yr ysgrythur a ddywed: A chredodd Abraham i Dduw, ac fe’i cyfrifwyd iddo’n gyfiawnder, a chyfaill Duw y galwyd ef. Gwelwch mai o weithredoedd y cyfiawnheir dyn, ac nid o ffydd yn unig. Ac yn yr un ffunud, Rahab y butain hithau, onid o weithredoedd y cyfiawnhawyd hi, wrth dderbyn ohoni’r cenhadau a thrwy ffordd arall eu gollwng ymaith? Canys megis am y corff heb ysbryd, mai marw yw, felly hefyd ffydd heb weithredoedd, marw yw. Na fyddwch athrawon lawer, fy mrodyr, gan wybod mai trymach barn a dderbyniwn: canys mynych y llithrwn ninnau bawb. Od oes neb heb lithro mewn gair, gŵr cyflawn fydd hwnnw, yn abl i ffrwyno’r holl gorff hefyd. Pan ddodom ffrwynau yn safnau’r meirch, fel yr ufuddhaont i ni, yr ydym yn troi eu holl gorff hefyd. Ac wele’r llongau hwythau, er eu maint, ac er eu hyrddio gan wyntoedd geirwon, troir hwy oddi amgylch â llyw bychan bach, lle mynno ysgogiad y llywydd. Felly hefyd y tafod, aelod bychan yw, eithr yn ymffrostio pethau mawrion; wele gymaint o goed a ennyn cyn lleied o dân! A’r tafod, tân yw; byd o anghyfiawnder yw’r tafod, yn hanfod ymhlith ein haelodau, ac y sy’n halogi’r holl gorff, ac yn tanio cylch anian, a Gehnna yn ei danio yntau. Canys dofir a dofwyd pob rhywogaeth o wylltfilod ac ednod ac ymlusgiaid a chreaduriaid môr gan y rhywogaeth ddynol, ond am y tafod, ei ddofi ni ddichon neb dyn; drwg di-wastrodedd yw, llawn gwenwyn marwol. Ag ef y bendigwn yr Arglwydd a’r Tad, ag ef hefyd y melltithiwn ddynion a wnaethpwyd ar lun Duw. O’r un genau y daw allan fendith a melltith. Fy mrodyr, ni ddylai bod y pethau hyn felly. A fwrw’r ffynnon allan o’r un llygad y melys a’r chwerw? A ddichon y ffigyswydden ddwyn olifaid, neu’r winwydden ffigys? ni rydd yr hallt chwaith ddwfr peraidd. Pwy sydd ddoeth a chyfarwydd yn eich plith? dangosed ei weithredoedd trwy ymarweddiad glân ym mwyneidd-dra doethineb. Eithr os cenfigen chwerw ac ymryson sydd gennych yn eich calon, nac ymffrostiwch ac na thraethwch gelwydd yn erbyn y gwirionedd. Nid yw’r ddoethineb hon yn disgyn oddi uchod, eithr daearol, anianol, cythreulig yw. Canys lle bo cenfigen ac ymryson, yno y bydd terfysg a phob tro salw. Eithr y ddoethineb oddi uchod, yn gyntaf pur yw, yna tangnefeddus, teg, hydrin, llawn trugaredd a ffrwythau da, diduedd, diragrith. A ffrwyth cyfiawnder, mewn tangnefedd yr heuir i’r rhai sy’n gwneuthur tangnefedd. O ba le y mae rhyfeloeodd, ac o ba le y mae ymladdau yn eich plith? onid o hyn, o’ch blysiau sydd yn rhyfela yn eich aelodau? Chwenychu yr ydych, ac nid oes gennych ddim; lladd ac eiddigeddu yr ydych, ac ni ellwch gyrraedd; ymladd a rhyfela yr ydych; nid oes gennych ddim am nad ydych yn ceisio; yr ydych yn gofyn, ond ni dderbyniwch, am mai ar gam y gofynnwch, fel y treulioch ar eich blysiau. Chwi odinebusion, oni wyddoch fod cyfeillach y byd yn elyniaeth tuag at Dduw? Pwy bynnag gan hynny a fynno fod yn gyfaill i’r byd, y mae yn ei osod ei hun yn, elyn i Dduw. Ai tybio ynteu yr ydych mai yn ofer y dywed yr ysgrythur: “hyd at eiddigedd yr hiraetha ef am yr ysbryd y parodd ei gartrefu ynom”? Eithr rhoddi gras mwyfwy y mae. Am hynny y dywed: Saif Duw yn erbyn y beilchion, ond i’r gostyngedig y mae’n rhoddi gras. Am hynny ymddarostyngwch i Dduw; sefwch yn erbyn diafol, a ffy yntau rhagoch. Neshewch at Dduw, a nesha yntau atoch chwithau. Glanhewch eich dwylo, bechaduriaid, a phurwch eich calonnau, chwi â’r meddwl deublyg. Ymdrallodwch a galerwch ac wylwch: troer eich chwerthin yn alar, a’ch llawenydd yn bendristwch. Ymddarostyngwch gerbron yr Arglwydd, ac yntau a’ch dyrchaif chwithau. Na ddywedwch yn ddrwg am eich gilydd, frodyr; y neb a ddywedo’n ddrwg am frawd, neu a farno’i frawd, dywedyd yn ddrwg y ddeddf a ferni, nid wyt ti wneuthurwr y ddeddf, eithr barnwr. Un sydd ddeddfwr a barnwr, yr hwn a ddichon waredu a dinistrio; a thithau, pwy wyt ti i farnu dy gymydog? Dowch, ynteu, chwi sy’n dywedyd “Heddyw neu yfory, fe awn i’r ddinas a’r ddinas, a bwrw blwyddyn yno a marchnata ac elwa”, a chwithau heb wybod pa beth a fydd eich einioes yfory; canys tarth ydych, dros ychydig yn ymddangos ac yna yn diflannu; yn lle dywedyd ohonoch “Os myn yr Arglwydd, byw fyddwn a gwnawn hyn neu hynny”. Eithr yn awr, dyma chwithau yn ymffrostio yn eich rhodres; pob cyfryw ymffrost, drwg ydyw. Am hynny, y neb wypo wneuthur da ac nas gwnêl, pechod yw iddo. Dowch, ynteu, chwi gyfoethogion, wylwch, gan udo oblegid eich trallodau, sydd ar eich gwarthaf. Eich cyfoeth, pydru a wnaeth, a’ch gwisgoedd sydd wedi eu hysu gan bryfed; rhydodd eich aur a’ch arian, a bydd eu rhwd hwynt yn dystiolaeth yn eich erbyn chwi, a bwyty eich cnawd megis tân. Casglu trysor a wnaethoch yn y dyddiau diweddaf. Wele, y mae cyflog y gweithwyr a fedodd eich meysydd, ac a ataliwyd gennych chwithau, yn llefain, a daeth bloeddiau’r fedel i mewn i glustiau Arglwydd y lluoedd. Ymloddesta ar y ddaear a wnaethoch, ac ymdrythyllu, a meithrin eich calonnau yn nydd lladd. Condemniasoch, lladdasoch y cyfiawn. Oni saif ef yn eich erbyn? Byddwch hir-ymarhöus ynteu, frodyr, hyd ddyfodiad yr Arglwydd. Wele, disgwyl y mae’r llafurwr am werthfawr ffrwyth y ddaear, gan hir-ymaros amdano, hyd oni chaffo’r glaw cynnar a’r diweddar. Byddwch chwithau hefyd hir-ymarhöus; cadarnhewch eich calonnau, canys agoshaodd dyfodiad yr Arglwydd. Na thuchenwch, frodyr, yn erbyn eich gilydd, fel na’ch barner; wele, y mae’r barnwr yn sefyll wrth y drws. Fel patrwm, frodyr, o oddef adfyd ac o hir-ymaros, cymerwch y proffwydi a lefarodd yn enw’r Arglwydd. Wele, dedwydd y cyfrifwn y rhai fu dda eu hamynedd; clywsoch am amynedd Job, a gwelsoch y diwedd a barodd yr Arglwydd, canys aml ei dosturi yw’r Arglwydd a thrugarog. Ond o flaen pob peth, fy mrodyr, na thyngwch lw, na myn y nef, na myn y ddaear, nac un llw arall: ond bydded “ie” eich “ie” chwi, a “nage” eich “nage”, rhag syrthio ohonoch tan farn. A oes neb yn eich plith yn dwyn adfyd? Gweddïed. A oes neb yn galonnog? caned fawl. A oes neb yn eich mysg mewn gwendid? Galwed ato henuriaid yr eglwys, a gweddïent hwythau uwch ei ben, gan ei eneinio ag olew yn enw’r Arglwydd. Ac fe iachâ gweddi eu ffydd hwynt y claf, a chyfyd yr Arglwydd ef: ac o bydd wedi pechu, maddeuir iddo. Cyffeswch gan hynny eich pechodau i’ch gilydd, a gweddïwch y naill dros y llall, fel y’ch iachäer. Llawer, o’i ddodi ar waith, a ddichon deisyfiad y cyfiawn. Dyn oedd Elïas o’r un sut a ninnau, ac mewn gweddi gweddïodd na byddai glaw, a glaw ni bu ar y ddaear dair blynedd a chwe mis. A thrachefn gweddïodd, a rhoddes y nef law, a pharodd y ddaear darddu o’i ffrwyth. Fy mrodyr, o chyfeiliorna neb ohonoch oddi wrth y gwirionedd, a throi a rywun ef yn ei ôl, gwbyddwch y bydd i’r neb a droes bechadur o gyfeiliorni ei ffordd, gadw ei enaid ef rhag marwolaeth, a chuddio lliaws o bechodau. Pedr, apostol Iesu Grist, at ddieithriaid y Gwasgariad ym Mhontus, Galatia, Capadocia, Asia a Bithynia, etholedigion yn ôl rhagwybodaeth Duw Dad, drwy sancteiddiad yr Ysbryd, i ufudd-dod a thaenelliad gwaed Iesu Grist. Amlhaer gras a thangnefedd i chwi. Bendigedig fo Duw a Thad ein Harglwydd ni Iesu Grist, yr hwn, yn ôl ei fawr drugaredd, a’n hadgenhedlodd ni i obaith byw drwy atgyfodiad Iesu Grist oddi wrth y meirw, i etifeddiaeth anllygredig a dihalogedig ac anniflanedig y sydd ynghadw yn y nefoedd i chwi, y rhai yng ngallu Duw a warchedwir drwy ffydd i gadwedigaeth, barod i’w datguddio yn yr amser diwethaf. Yn hyn yr ydych yn gorfoleddu, er eich bod yn awr os rhaid yw, wedi eich dwyn i dristwch dros ychydig, oherwydd amrywiol brofedigaethau, fel yn y prawf y caffer eich ffydd chwi’n fwy gwerthfawr nag aur sy’n darfod, er ei buro drwy dân, er mawl a gogoniant ac anrhydedd yn natguddiad Iesu Grist. Hwn, er nas gwelsoch yr ydych yn ei garu, a chan gredu ynddo, heb fod yn awr yn ei weled, yr ydych yn gorfoleddu â llawenydd anhraethadwy a gogoneddus, gan dderbyn diwedd y ffydd, sef iachawdwriaeth eneidiau — yr iachawdwriaeth yr ymofynnodd ac y dyfal-chwiliodd amdani broffwydi a broffwydodd am y gras a drefnwyd i chwi, gan chwilio at bwy neu at ba fath adeg y cyfeiriai Ysbryd Crist a oedd ynddynt, pan oedd ef yn rhagdystiolaethu am ddioddefiadau Crist a’r gogoniannau a’u dilynai; i’r rhai y datguddiwyd nad iddynt hwy eu hunain ond i chwi yr oeddynt yn gweinyddu’r pethau hyn sy’n awr wedi eu hysbysu i chwi drwy’r rhai a gyhoeddodd yr Efengyl i chwi drwy’r Ysbryd Glân a ddanfonwyd o’r nef, pethau y mae angylion yn chwenychu syllu arnynt. Am hynny, gan wregysu lwynau eich meddwl, byddwch sobr, a gosodwch eich gobaith yn gwbl ar y gras a ddygir i chwi yn natguddiad Iesu Grist, fel plant ufudd-dod, heb gydymffurfio â’ch blysiau yn eich anwybodaeth gynt; eithr yn ôl patrwm y sanctaidd a’ch galwodd, byddwch chwithau hefyd sanctaidd ym mhob ymddygiad, canys y mae’n ysgrifenedig: Chwi a fyddwch sanctaidd, oherwydd yr wyf fi’n sanctaidd. Ac os ar Dad yr ydych yn galw, sy’n barnu’n ddidderbyn wyneb yn ôl gweithred pob un, ymddygwch mewn ofn dros amser eich pererindod, gan wybod nad â phethau llygradwy, arian neu aur, y’ch prynwyd oddi wrth eich ofer ymarweddiad a drosglwyddwyd i chwi oddi wrth eich tadau, eithr â gwerthfawr waed un sydd megis oen dianaf a difrychau, sef Crist, yr hwn a ragwybuwyd cyn sylfaenu’r byd, ond a amlygwyd yn niwedd yr amseroedd er eich mwyn chwi, y sydd trwyddo ef yn ffyddlon i Dduw, yr hwn a’i cyfododd ef oddi wrth y meirw ac a roes iddo ogoniant, fel y byddai eich ffydd chwi a’ch gobaith yn Nuw. Wedi glanhau eich eneidiau trwy ufudd-dod i’r gwirionedd i frawdgarwch diffuant, cerwch eich gilydd o’r galon yn selog, wedi eich hadgenhedlu nid o had llygradwy eithr drwy air anllygradwy Duw sy’n byw ac yn parhau. Canys: Pob cnawd, fel glaswelltyn yw, A’i holl ogoniant fel blodeuyn glaswelltyn. Gwywodd y glaswelltyn, A syrthiodd y blodeuyn. Ond gair yr Arglwydd sy’n parhau dros byth.A hwn yw’r gair, sef yr Efengyl a gyhoeddwyd i chwi. Gan fwrw heibio felly bob malais a phob dichell a rhagrithiau a chenfigennau a phob goganau, fel babanod newydd-anedig hiraethwch am y llaeth ysbrydol pur, fel trwyddo ef y prifioch i gadwedigaeth, os profasoch mai graslon yw’r Arglwydd. Gan nesáu ato ef, maen byw, a wrthodwyd gan ddynion ond sydd etholedig, gwerthfawr gyda Duw, fe’ch adeiledir chwithau hefyd, megis meini byw, yn dŷ ysbrydol i fod yn offeiriadaeth sanctaidd, i offrymu aberthau ysbrydol cymeradwy gan Dduw trwy Iesu Grist. Oblegid cynhwysir mewn ysgrythur: Wele, yr wyf yn gosod yn Sion gonglfaen etholedig, gwerthfawr, A’r hwn sy’n credu ynddo ef nis cywilyddir. I chwi, gan hynny, y perthyn y gwerthfawrogi, sef i’r rhai sy’n credu; ond i’r rhai sy’n anghredu, Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, gwnaethpwyd hwnnw’n ben congl a maen tramgwydd a chraig rhwystr. Tramgwydda’r rhain wrth y gair ac anufuddhau iddo, i’r hyn hefyd y tynghedwyd hwynt. Ond chwi, hil etholedig ydych, brenhinol offeiriadaeth, cenedl sanctaidd, pobl sy’n eiddo priod, fel y cyhoeddech ragoriaethau’r hwn a’ch galwodd chwi o dywyllwch i’w ryfeddol oleuni ef; y rhai gynt nid oeddech bobl, ond yn awr ydych bobl Dduw, rhai oedd heb drugaredd, ond yn awr a gafodd drugaredd. Anwyliaid, ’rwy’n erfyn arnoch fel dieithriaid a dyfodiaid i ymochel rhag chwantau cnawdol y sy’n rhyfela yn erbyn yr enaid; a’ch rhodiad yn hardd ymhlith y Cenhedloedd, fel yn y peth y’ch gogenir fel drwgweithredwyr, y gogoneddent Dduw yn nydd ymweliad, oherwydd y gweithredoedd da a welant. Ymostyngwch i bob dynol sefydliad, er mwyn yr Arglwydd, pa un ai i frenin fel un mewn awdurdod, ai ynteu i lywodraethwyr fel rhai a anfonir ganddo ef, er cosb i’r rhai a wna ddrwg a chlod i’r rhai a wna dda — canys dyma yw ewyllys Duw, bod i chwi wrth wneuthur da gau safn anwybodaeth yr ynfyd — fel pobl rydd, a heb fod gennych eich rhyddid yn gochl malais, eithr fel caethweision Duw. Perchwch bawb, cerwch y frawdoliaeth, ofnwch Dduw, perchwch y brenin. Y gweision, ymddarostyngwch gyda phob ofn i’r meistriaid, nid yn unig i’r rhai da a thirion eithr i’r rhai trawsion hefyd. Canys hyn yw gras, os bydd un oherwydd ei ymwybod â Duw yn ymgynnal dan ddoluriau, gan ddioddef ar gam. Canys pa glod yw os wrth bechu a chael eich cernodio y byddwch yn goddef; ond os wrth wneuthur da a dioddef y goddefwch, hyn sydd ras gyda Duw. Canys i hyn y’ch galwyd, oherwydd dioddefodd Crist hefyd er eich mwyn chwi, a gadael i chwi batrwm fel y dilynech yn ôl ei gamau ef; yr hwn ni wnaeth bechod ac ni chaed twyll yn ei enau; yr hwn pan ddifenwid ni ddifenwai’n ôl, pan ddioddefai ni fygythiai, ond ymgyflwyno i’r Un sy’n barnu’n gyfiawn; yr hwn ei hun a ddug ein pechodau ni yn ei gorff ar y pren, er mwyn i ni, wedi inni ddarfod â phechodau, fyw mewn cyfiawnder; trwy gleisiau ’r hwn yr iachawyd chwi. Canys yr oeddech fel defaid ar gyfeiliorn, ond yn awr troesoch at Fugail a Gwarcheidwad eich eneidiau. Yr un modd, ymostynged gwragedd i’w gwŷr priod, fel, os oes rhywrai’n anufuddhau i’r gair, yr eniller hwy, heb air, drwy rodiad y gwragedd, wedi canfod ohonynt eich rhodiad glân mewn ofn. Ac na boed iddynt yr addum allanol o blethu gwallt a gwisgo tlysau aur neu ymddilladu â gynau, eithr dirgel ddyn y galon yn niwyg anllygradwy ysbryd addfwyn a thawel, y sydd yng ngolwg Duw o ddirfawr werth. Canys felly hefyd yr addurnai eu hunain gynt y gwragedd sanctaidd a obeithiai yn Nuw, ac ymddarostwng i’w gwŷr priod, megis yr oedd Sara yn ufudd i Abram, a’i alw ef yn arglwydd, i’r hon y daethoch yn blant wrth wneuthur da a heb ofni dim dychryn. Y gwŷr, yr un modd, yn cyd-fyw â’r wraig yn ddeallus, megis â gwannach llestr, a rhoddi parch megis i rai sydd hwythau’n gyd-etifeddion gras bywyd, fel na rwystrer eich gweddïau chwi. Yn olaf, boed pawb yn unfryd, yn cydymdeimlo, yn frawdol, yn dynergalon, yn ostyngedig, nid yn talu’n ôl ddrwg am ddrwg, neu sen am sen, eithr i’r gwrthwyneb yn bendithio, canys i hyn y’ch galwyd fel yr etifeddoch fendith. Canys yr hwn sy’n ewyllysio caru bywyd a gweled dyddiau da, atalied y tafod rhag drwg a’r gwefusau rhag dywedyd twyll, cilied oddi wrth ddrwg a gwnaed dda, ceisied heddwch a dilyned ef. Oblegid llygaid yr Arglwydd sydd ar y cyfiawn a’i glustiau ef tuag at eu deisyfiad hwynt, ond wyneb yr Arglwydd sydd yn erbyn y rhai a wna ddrwg. A phwy a’ch dryga chwi os byddwch selog dros y da? Ond hyd yn oed pe dioddefech er mwyn cyfiawnder, gwyn eich byd. Nac ofnwch eu hofn hwynt ac na chyffroer chwi, eithr sancteiddiwch yn eich calonnau yr Arglwydd, sef y Crist, gan fod yn wastad yn barod i amddiffyn, i’r neb a gais gyfrif gennych, am y gobaith y sydd ynoch, eto gydag addfwynder ac ofn, a chennych gydwybod dda, fel yn yr hyn y’ch gogenir y cywilyddier y rhai sy’n cyhuddo ar gam eich rhodiad da chwi yng Nghrist. Canys gwell yw i rai ddioddef, os ewyllys Duw a’i myn, wrth wneuthur da nag wrth wneuthur drwg; oherwydd bu Crist hefyd farw unwaith am bechodau, y cyfiawn dros rai anghyfiawn, fel y dygai chwi at Dduw, wedi ei wneuthur yn farw yn y cnawd, ond ei fywhau yn yr ysbryd; trwy yr hwn hefyd yr aeth a phregethu i’r ysbrydion yng ngharchar a fu’n anufudd gynt pan ddisgwyliai hir amynedd Duw wrthynt yn nyddiau Noa tra adeiledid yr arch, i’r hon yr achubwyd ychydig, sef wyth enaid, trwy ddwfr. Copi ohono sy’n awr yn eich achub chwithau, sef bedydd, nid bwrw ymaith fudredd cnawd, eithr ymofyn am gydwybod dda tuag at Dduw drwy atgyfodiad Iesu Grist, yr hwn sydd ar ddeheulaw Duw, wedi iddo fyned i mewn i’r nef a darostwng iddo angylion ac awdurdodau a phwerau. Felly, gan ddioddef o Grist yn y cnawd, ymarfogwch chwithau hefyd â’r un meddwl, canys y mae’r hwn a ddioddefodd yn y cnawd wedi peidio â phechod, fel nad ydyw mwyach yn byw dros weddill ei dymor yn y cnawd yn ôl blysiau dynion, eithr yn ôl ewyllys Duw. Canys digon yr amser a aeth heibio i gyflawni dymuniad y cenhedloedd, gan rodio mewn anlladrwydd, blysiau, gwinwleddoedd, cyfeddach, diota, ac eilun-addoliaeth anfad. Yn hyn rhyfeddu y maent, a chablu, am nad ydych chwi’n cydredeg â hwynt i’r un cenllif afradlonedd. Dyry’r rhain gyfrif i’r hwn sy’n barod i farnu’r byw a’r meirw. Canys i hyn y cyhoeddwyd yr efengyl i’r meirw hefyd, fel wedi eu barnu yn y cnawd yn ôl dynion, y byddont byw yn yr ysbryd yn ôl Duw. Diwedd pob peth sydd agos. Byddwch gan hynny’n sobr a gofalus mewn gweddïau. Yn flaenaf oll, byddwch wresog yn eich cariad at eich gilydd, canys y mae cariad yn cuddio lliaws o bechodau; yn lletygar at eich gilydd, heb rwgnach. Megis y derbyniodd pob un ddawn, gweinyddwch honno y naill i’r llall megis goruchwylwyr da ar ras amryfal Duw. Y neb sy’n llefaru, llefared megis oraclau Duw. Y neb sy’n gweinyddu, gweinydded megis o’r nerth a gyflenwa Duw, fel ym mhopeth y gogonedder Duw drwy Iesu Grist, i’r hwn y mae’r gogoniant a’r gallu yn oes oesoedd. Amen. Anwyliaid, na ryfeddwch am y llosgfa yn eich mysg a ddaeth er prawf arnoch, fel petai rhywbeth rhyfedd yn syrthio i’ch rhan, eithr llawenhewch gan eich bod yn cyfranogi yn nioddefiadau Crist, fel y llawenychoch ac y gorfoleddoch yn natguddiad ei ogoniant ef hefyd. Os gwaradwyddir chwi o achos enw Crist, gwyn eich byd, gan fod ysbryd y gogoniant ac ysbryd Duw yn gorffwys arnoch. Canys na ddioddefed neb ohonoch fel llofrudd neu leidr neu ddrwgweithredwr neu ymyrrwr; eithr os fel Cristion, na chywilyddied, eithr gogonedded Dduw yn yr enw hwn. Canys dyma’r adeg i’r farn i ddechrau gyda thŷ Dduw, ond os gyda ni’n gyntaf, beth fydd diwedd y rhai sy’n anghredu efengyl Duw? Ac os o’r braidd yr achubir y cyfiawn, pa le yr ymddengys yr annuwiol a’r pechadur? Am hynny, cyflwyned y rhai sy’n dioddef yn ôl ewyllys Duw eu heneidiau i Greawdwr ffyddlon trwy wneuthur daioni. Cynghori yr wyf, felly, yr henuriaid yn eich plith, fel cyd-henuriad a thyst o ddioddefiadau’r Crist, un sydd hefyd yn gyfrannog o’r gogoniant sydd i’w ddatguddio. Bugeiliwch braidd Duw yn eich mysg, nid wrth orfod eithr o’ch gwirfodd yn ôl Duw, nid yn budrelwa ond yn ewyllysgar, nid ychwaith fel rhai’n tra-arglwyddiaethu ar y rhai sydd dan eu gofal, ond gan fod yn batrwm i’r praidd. A phan ymddangoso’r Pen-bugail, cewch dderbyn. coron anniflanedig y gogoniant. Yr un modd, yr ieuainc, ymostyngwch i henuriaid; ie, bawb ohonoch, ymwregyswch â gostyngeiddrwydd tuag at eich gilydd, oherwydd y mae Duw yn erbyn yr uchel eu bryd, ond i’r gostyngedig dyry ras. Ymostyngwch, gan hynny, dan nerthol law Duw, fel y’ch dyrchafo pan ddelo’r adeg, gan fwrw eich holl ofal arno ef, canys y mae ef yn gofalu drosoch chwi. Byddwch sobr, byddwch effro. Y mae eich gwrthwynebwr diafol yn rhodio oddi amgylch megis llew yn rhuo, gan geisio pwy i’w lyncu. Gwrthwynebwch ef yn gadarn yn y ffydd, gan wybod mai’r unrhyw ddioddefiadau yw rhan eich brodyr yn y byd. A Duw pob gras, yr hwn a’ch galwodd chwi i’w dragwyddol ogoniant yng Nghrist, ei hun a’ch cyweiria, a’ch cadarnha, a’ch nertha, a’ch sefydla, wedi dioddef ohonoch dros ychydig. Iddo ef y bo’r gallu dros byth. Amen. Ysgrifennais atoch mewn ychydig eiriau drwy law Silfanus, brawd ffyddlon, fel y credaf, gan gynghori a thystiolaethu mai hwn yw gwir ras Duw. Sefwch ynddo. Y mae’r hon sydd gydetholedig â chwi ym Mabilon yn eich annerch, a Marc fy mab. Anerchwch eich gilydd â chusan cariad. Tangnefedd i chwi, bawb y sydd yng Nghrist. Simeon Pedr, caethwas ac apostol Iesu Grist, at y rhai a dderbyniodd ffydd gyfwerth â’r eiddom ni trwy gyfiawnder ein Duw ni a’n Hachubwr Iesu Grist. Amlhaer gras a thangnefedd i chwi mewn adnabyddiaeth o Dduw ac o Iesu ein Harglwydd ni. Yn gymaint ag y rhoes ei ddwyfol allu ef inni bopeth tuag at fywyd a duwioldeb, trwy adnabyddiaeth o’r hwn a’n galwodd ni trwy ei ogoniant ef ei hun a’i rinwedd, a rhoddi inni drwy’r rhain addewidion gwerthfawr a mawr iawn, er mwyn i chwi drwy’r rhai hyn ddyfod yn gyfrannog o anian ddwyfol, wedi dianc rhag y llygredd y sydd yn y byd trwy drachwant — ie, o achos hyn ynddo’i hun, gan weithredu pob dyfalwch, darperwch drwy eich ffydd rinwedd, a thrwy rinwedd wybodaeth, a thrwy wybodaeth hunanlywodraeth, a thrwy hunanlywodraeth amynedd, a thrwy amynedd dduwioldeb, a thrwy dduwioldeb frawdgarwch, a thrwy frawdgarwch gariad. Canys â’r pethau hyn yn gynhysgaeth i chwi ac yn amlhau, y maent yn peri nad ydych yn segur nac ychwaith yn ddiffrwyth mewn adnabyddiaeth o’n Harglwydd ni Iesu Grist. Canys yr hwn nid yw’r pethau hyn ganddo, dall ydyw, byr ei olwg, wedi gollwng dros gof lanhau ei bechodau gynt. Am hynny’n fwy, frodyr, byddwch ddyfal i wneuthur yn sicr eich galwad a’ch etholedigaeth, canys wrth wneuthur y pethau hyn ni lithrwch ddim byth. Canys felly’n helaeth y darperir i chwi fynediad i mewn i deyrnas dragwyddol ein Harglwydd ni a’n Hachubwr Iesu Grist. Oherwydd paham bwriadaf eich atgoffa’n wastad am y pethau hyn, er gwybod ohonoch ac er eich sefydlu yn y gwirionedd y sydd gyda chwi. A barnaf mai iawn, tra fyddwyf yn y babell hon, yw eich cyffroi chwi trwy eich hatgoffa, a mi’n gwybod y bwrir heibio’r babell hon yn fuan, megis hefyd yr amlygodd ein Harglwydd ni Iesu Grist i ni. A gofalaf hefyd eich bod bob amser wedi fy ymadawiad yn gallu dwyn y pethau hyn ar gof. Canys nid trwy lynu wrth chwedlau cywrain yr hysbysasom i chwi nerth ein Harglwydd ni Iesu Grist a’i ddyfodiad, eithr wedi dyfod yn llygad-dystion o’i fawrhydi ef. Canys derbyniodd oddi wrth Dduw Dad anrhydedd a gogoniant, pan ddaeth ato’r fath lef oddi wrth y mawr-ragorol ogoniant: “Fy mab, fy anwylyd yw hwn, yr ymddigrifais ynddo” — a dyna’r llef a glywsom ni’n dyfod allan o’r nef, pan oeddem gydag ef yn y mynydd sanctaidd. Ac y mae gennym yn sicrach air y proffwydi, y gwnewch yn dda drwy ddal arno, megis ar gannwyll yn llewyrchu mewn lle tywyll, hyd oni wawrio’r dydd a chodi o’r seren fore yn eich calonnau chwi; gan wybod hyn yn gyntaf peth, nad oes un broffwydoliaeth o Ysgrythur yn dyfod dan ddehongliad priod. Canys nid trwy ewyllys dyn y daeth proffwydoliaeth gynt, ond dynion a lefarodd oddi wrth Dduw dan ddylanwad ysgubol yr Ysbryd Glân. Ond bu proffwydi gau hefyd ymhlith y bobl, megis y bydd gau-athrawon yn eich plith chwithau, y rhai’n ddirgel a ddygant i mewn heresïau dinistriol, gan wadu hyd yn oed y Meistr a’u prynodd hwynt, a chan ddwyn arnynt eu hunain ddinistr buan; ac fe ddilyn llawer eu gweithredoedd anllad hwynt, oherwydd y rhai y ceblir ffordd y gwirionedd. Ac yn eu trachwant gwnânt farsiandïaeth ohonoch chwi â geiriau ffuantus. Eu dedfryd hwy ers talm nid oeda, a’u dinistr nid yw’n hepian. Canys onid arbedodd Duw angylion a bechodd, eithr eu hyrddio i uffern a’u trosglwyddo i bydewau tywyllwch i’w diogelu i aros barn, ac onid arbedodd yr hen fyd, eithr diogelodd Noa, cyhoeddwr cyfiawnder, a saith eraill, a dwyn dilyw ar fyd o annuwiolion, a chan droi dinasoedd Sodom a Gomorra yn lludw, eu condemnio i ddinistr, gan eu gosod yn esiampl i rai oedd ar fedr ymroi i annuwioldeb, a gwaredu Lot gyfiawn, a drallodid gan rodiad anllad yr anwir — canys yn gweled ac yn clywed, y cyfiawn hwn, ac ef yn trigo yn eu mysg, oedd o ddydd i ddydd yn dirdynnu ei enaid cyfiawn oherwydd eu gweithredoedd di-ddeddf — gŵyr yr Arglwydd pa fodd i waredu’r duwiol allan o brofedigaeth, ac i gadw’r anghyfiawn dan gosb hyd ddydd barn, ac yn arbennig y rhai sy’n rhodio ar ôl y cnawd, ym mlys aflendid, ac yn diystyru arglwyddiaeth. Gwŷr haerllug, trahaus, nid arswydant pan gablont bwerau gogoneddus, pan nad yw angylion, er eu bod yn rhagori mewn nerth a gallu, yn dwyn o flaen yr Arglwydd farn sarhaus yn eu herbyn hwynt. Ond y rhain, megis creaduriaid direswm, wedi eu creu wrth natur i’w dal a’u dinistrio, trwy gablu pethau na wyddant ddim oddi wrthynt, a ddinistrir hefyd yn eu dinistr hwynt, gan dderbyn cam fel cyflog anghyfiawnder. A hwy’n cyfrif miri liw dydd yn felyswedd, brychau a meflau ydynt, yn gloddesta yn eu hudoliaethau eu hunain pan gydwleddant â chwi, a chanddynt lygaid yn llawn anlladrwydd ac anniwall yn eu pechod, yn llithio eneidiau anwadal, a chanddynt galon wedi ei harfer i drachwant, plant melltith. Gadawsant ffordd uniawn ac aethant ar gyfeiliorn a glynu wrth ffordd Balam, fab Beor, a garodd gyflog anghyfiawnder, ond a gafodd gerydd am ei drosedd: llefarodd asen fud â llais dyn, ac ataliodd orffwylledd y proffwyd. Pydewau di-ddwfr yw’r rhain, a niwloedd a yrrir gan dymestl, y mae yng nghadw iddynt ddüwch y tywyllwch. Canys gan lefaru chwyddedig eiriau gwagedd llithiant trwy flysiau’r cnawd, trwy weithredoedd anllad, y rhai nad ydynt ond prin ddianc oddi wrth y sawl a rodia ar gyfeiliorn, gan addo rhyddid iddynt a hwy eu hunain yn gaethion llygredigaeth; canys pa beth bynnag y gorchfygwyd neb ganddo y mae ef yn gaeth i hwnnw. Canys os wedi iddynt ddianc rhag halogedigaethau’r byd drwy adnabyddiaeth o’r Arglwydd a’r Achubwr Iesu Grist, y meglir hwynt drachefn gan y pethau hyn a’u gorchfygu, y mae eu diwedd yn waeth na’u dechreuad. Canys gwell fuasai iddynt fod heb adnabod ffordd cyfiawnder nag wedi ei hadnabod, droi’n ôl oddi wrth y gorchymyn sanctaidd a draddodwyd iddynt. Daeth i ben ynddynt y gair hwnnw o’r wir ddihareb, ci wedi dychwelyd at ei chwydiad ei hun, a hwch wedi ymolchi ohoni, at ymdreiglfa’r dom. Hwn yw’r ail epistol yr wyf yn ei ysgrifennu atoch, anwyliaid, ac ynddynt yr wyf yn cyffroi trwy atgof eich meddwl didwyll, fel y cofioch y geiriau a ragddywedwyd gan y proffwydi sanctaidd, a gorchymyn apostolion eich Arglwydd a’ch Achubwr, gan wybod hyn yn gyntaf peth, y daw yn y dyddiau diwethaf watwarwyr gyda gwatwar yn rhodio yn ôl eu blysiau eu hunain a dywedyd: “Pa le y mae’r addewid am ei ddyfodiad ef? Canys er pan hunodd y tadau, y mae popeth yn aros fel yr oedd er dechrau’r cread.” Canys o’u gwirfodd anghofiant hyn, sef mai trwy air Duw yr oedd y nefoedd er cynt a’r ddaear yn gyfansawdd o ddwfr a thrwy ddwfr — trwy ddyfroedd y gorlifwyd y byd a oedd y pryd hwnnw a’i ddinistrio. Trwy’r un gair y mae’r nefoedd y sydd yn awr a’r ddaear wedi eu hystorio a’u cadw i dân erbyn dydd barn a dinistr dynion annuwiol. Ond nac anghofiwch, anwyliaid, yr un peth hwn, sef bod un dydd gyda’r Arglwydd fel mil o flynyddoedd a mil o flynyddoedd fel un dydd. Nid araf yw’r Arglwydd ynglŷn â’i addewid, fel y cyfrif rhai arafwch, eithr hirymarhous yw tuag atoch chwi, heb ewyllysio dinistr neb, ond cyrchu o bawb at edifeirwch. Ond daw dydd yr Arglwydd megis lleidr, yn yr hwn yr â’r nefoedd heibio gyda thwrw, ac y datodir yr elfennau gan wres, ac y datguddir y ddaear a’r gwaith y sydd ynddi. A’r holl bethau hyn yn ymddatod felly, pa fath rai a ddylech chwi fod mewn sanctaidd rodiad a duwioldeb, yn disgwyl ac yn prysuro dyfodiad dydd Duw, oherwydd yr hwn y datodir y nefoedd gan dân, ac y toddir yr elfennau gan wres? Eithr nefoedd newydd a daear newydd yn ôl ei addewid ef yr ydym ni yn eu disgwyl, yn y rhai y trig cyfiawnder. Gan hynny, anwyliaid, a chwi yn disgwyl y pethau hyn, byddwch ddyfal i’ch cael ganddo ef mewn tangnefedd yn ddifrychau ac yn ddifai, a chyfrifwch yn iachawdwriaeth hirymaros ein Harglwydd ni, megis hefyd yn ôl y ddoethineb a roed iddo y sgrifennodd ein hannwyl frawd Paul atoch chwi, ac ef yn llefaru am y pethau hyn, fel yn ei holl epistolau hefyd, yn y rhai y mae rhai pethau anodd eu deall, pethau y mae’r di-ddysg a’r anwadal yn eu gŵyrdroi i’w dinistr eu hunain, megis hefyd yr ysgrythurau eraill. Chwychwi, gan hynny, anwyliaid, yn rhagwybod, gwyliwch rhag eich ysgubo i ffwrdd gan gyfeiliornad yr anwir, a syrthio ymaith oddi wrth eich sefydlogrwydd eich hunain, ond cynyddwch yng ngras a gwybodaeth ein Harglwydd a’n Hachubwr ni Iesu Grist. Iddo ef y bo’r gogoniant yn awr a hyd byth. Yr hyn oedd ar y dechrau, yr hyn yr ydym wedi ei glywed, yr hyn yr ydym wedi ei weled â’n llygaid, yr hyn yr edrychasom arno ac a deimlodd ein dwylo am air y bywyd, — ac amlygwyd y bywyd, ac yr ydym wedi gweled ac yn tystio ac yn cyhoeddi i chwi y bywyd tragwyddol, a oedd gyda’r Tad ac a amlygwyd i ni, — yr hyn yr ydym wedi ei weled a’i glywed yr ydym yn ei gyhoeddi i chwithau hefyd, er mwyn i chwithau gael cymundeb gyda ni; ac yn wir ein cymundeb ni, gyda’r Tad a chyda’i Fab Iesu Grist y mae. A hyn yr ydym yn ei ysgrifennu atoch er mwyn bod ein llawenydd wedi ei gyflawni. A hon yw’r genadwri yr ydym wedi ei chlywed ganddo Ef ac yr ydym yn ei chyhoeddi i chwithau, mai goleuni yw Duw, a thywyllwch nid oes ynddo ddim. Os dywedwn fod gennym gymundeb gydag Ef a rhodio yn y tywyllwch, yr ydym yn dywedyd celwydd ac nid ydym yn gwneuthur y gwir. Ond os ydym yn rhodio yn y goleuni, fel y mae Ef yn y goleuni, y mae gennym gymundeb gyda’n gilydd, ac y mae gwaed Iesu Ei Fab Ef yn ein glanhau ni o bob pechod. Os dywedwn nad oes gennym bechod, yr ydym yn ein twyllo ein hunain ac nid yw’r gwir ynom. Os addefwn ein pechodau, ffyddlon yw Ef a chyfiawn i faddau i ni ein pechodau a’n glanhau o bob anghyfiawnder. Os dywedwn ein bod heb bechu, yr ydym yn ei wneuthur Ef yn gelwyddog ac nid yw Ei air Ef ynom. Fy mhlant bach, yr wyf yn ysgrifennu hyn atoch fel na phechoch. Ac os pecha neb, y mae gennym ddadleuydd gyda’r Tad, Iesu Grist, un cyfiawn. Ac iawn yw Ef am ein pechodau ni, ac yn wir nid am ein pechodau ni’n unig ond am yr holl fyd. A thrwy hyn y gwyddom ein bod yn ei adnabod Ef, os ydym yn cadw Ei orchmynion. Y mae’r hwn sydd yn dywedyd “yr wyf yn Ei adnabod,” ac yntau heb fod yn cadw Ei orchmynion, yn gelwyddog, ac nid yw’r gwir ynddo ef. Ond pwy bynnag sy’n cadw Ei air, mewn gwirionedd y mae cariad Duw wedi Ei berffeithio ynddo ef. Drwy hyn y gwyddom ein bod ynddo Ef: dylai’r hwn sy’n dywedyd ei fod yn aros ynddo Ef rodio ei hunan hefyd fel y rhodiodd Ef. Rai annwyl, nid gorchymyn newydd yr wyf yn ei ysgrifennu atoch, ond hen orchymyn a oedd gennych o’r dechrau. Yr hen orchymyn, y gair a glywsoch ydyw. Eto, gorchymyn newydd yr wyf yn ei ysgrifennu atoch, — yr hyn sydd wir ynddo Ef ac ynoch chwithau, — gan fod y tywyllwch yn myned heibio a’r goleuni gwirioneddol yn llewyrchu eisoes. Y neb sy’n dywedyd ei fod yn y goleuni ac yntau’n casáu ei frawd, yn y tywyllwch y mae hyd yn hyn. Y neb sy’n caru ei frawd, yn y goleuni y mae’n aros, a magl nid oes ynddo ef. Ond y neb sy’n casáu ei frawd, yn y tywyllwch y mae ac yn y tywyllwch y mae’n rhodio, ac ni ŵyr i ba le y mae’n myned, am fod y tywyllwch wedi dallu ei lygaid. Yr wyf yn ysgrifennu atoch, blant, am fod eich pechodau wedi eu maddau drwy Ei enw Ef. Yr wyf yn ysgrifennu atoch chwi, dadau, am eich bod yn adnabod yr Hwn sydd o’r dechrau. Yr wyf yn ysgrifennu atoch chwi, rai ieuainc, am eich bod wedi gorchfygu’r un drwg. Ysgrifennais atoch chwi, blant, am eich bod yn adnabod y Tad. Ysgrifennais atoch, dadau, am eich bod yn adnabod yr Hwn sydd o’r dechrau. Ysgrifennais atoch, rai ieuainc, am eich bod yn gryfion a bod gair Duw yn aros ynoch a’ch bod wedi gorchfygu’r un drwg. Na cherwch y byd na’r hyn sydd yn y byd. Os yw neb yn caru’r byd, nid yw cariad y Tad ynddo, am fod y cwbl sydd yn y byd, chwant y cnawd a chwant y llygaid a rhodres bywyd, heb fod o’r Tad, ond o’r byd y mae. Ac y mae’r byd yn myned heibio a’i chwant ef. Ond yr hwn sydd yn gwneuthur ewyllys Duw, y mae ef yn aros yn dragywydd. Blant bach, dyma’r awr ddiwethaf, ac fel y clywsoch fod yr Anghrist yn dyfod, yn awr dyma anghristiau lawer; wrth hyn y gwyddom mai’r awr ddiwethaf ydyw. Ohonom ni yr aethant allan, ond nid oeddynt ohonom ni, oherwydd pe buasent ohonom ni, buasent wedi aros gyda ni, ond er mwyn amlygu nad ohonom ni y mae un ohonynt. Ond y mae gennych chwi eneiniad oddiwrth y sanctaidd, ac yr ydych yn gwybod oll. Nid ysgrifennais atoch am na wyddoch y gwir, ond am eich bod yn ei wybod, ac am nad oes un celwydd o’r gwir. Pwy yw’r celwyddog ond yr hwn sy’n gwadu nad Iesu yw’r Eneiniog? Hwnnw yw’r Anghrist sydd yn gwadu’r Tad a’r Mab. Pob un sy’n gwadu’r Mab, nid yw’r Tad ganddo ychwaith; yr hwn sy’n cydnabod y Mab, y mae’r Tad ganddo hefyd. Chwithau, yr hyn a glywsoch o’r dechrau, arhosed ynoch. Os ynoch yr erys yr hyn a glywsoch o’r dechrau, byddwch chwithau yn aros hefyd yn y Tad a’r Mab. A hon yw’r addewid a addawodd Ef i ni, y bywyd tragwyddol. Hyn a ysgrifennais atoch am y rhai sydd yn eich arwain ar gyfeiliorn. A chwithau, y mae’r eneiniad a gawsoch ganddo Ef yn aros ynoch, ac nid oes angen arnoch i neb eich dysgu chwi, ond fel y mae Ei eneiniad Ef yn eich dysgu am bopeth, a gwir yw ac nid yw’n gelwydd, ac fel y dysgodd chwi, arhoswch ynddo. Ac yn awr, blant bach, arhoswch ynddo er mwyn bod hyder gennym pan ymddangoso ac na chywilyddiom rhagddo Ef yn Ei ddyfodiad. Os gwyddoch Ei fod yn gyfiawn, gwybyddwch fod pob un hefyd sy’n gwneuthur cyfiawnder yn hanfod ohono Ef. Gwelwch y fath gariad y mae’r Tad wedi ei roddi i ni, cael ein galw yn blant Duw, ac yr ydym (yn blant Duw). Oherwydd hyn nid yw’r byd yn ein hadnabod, am nad adnabu Ef. Rai annwyl, plant Duw ydym yn awr, ac nid amlygwyd eto beth a fyddwn. Gwyddom, pan amlyger, y byddwn debyg iddo Ef, oherwydd gwelwn Ef fel y mae. Ac y mae pob un y mae ganddo’r gobaith hwn ynddo Ef yn ei lanhau ei hun, fel y mae Yntau’n lân. Y mae pob un sy’n gwneuthur pechod yn gwneuthur anghyfraith hefyd, ac anghyfraith yw pechod. A gwyddoch Ei fod Ef wedi ymamlygu er mwyn tynnu ymaith bechodau, ac nid oes bechod ynddo Ef. Nid oes neb sy’n aros ynddo Ef yn pechu. Nid oes neb sy’n pechu wedi Ei weled nac yn Ei adnabod. Blant bach, nac arweinied neb chwi ar gyfeiliorn. Y mae’r neb sy’n gwneuthur cyfiawnder yn gyfiawn, fel y mae Ef yn gyfiawn. Y neb sy’n gwneuthur pechod, o’r diafol y mae, oherwydd y mae’r diafol yn pechu o’r dechrau. I hyn yr amlygwyd mab Duw, — er mwyn iddo ddatod gweithredoedd y diafol. Nid oes neb sydd yn hanfod o Dduw yn gwneuthur pechod, gan fod Ei had Ef yn aros ynddo. Ac ni all bechu am ei fod yn hanfod o Dduw. Yn hyn y mae’n hysbys blant Duw a phlant y diafol. Nid oes neb nad yw’n gwneuthur cyfiawnder o Dduw, ac nad yw’n caru ei frawd; canys hon yw’r genadwri a glywsoch o’r dechrau, garu ohonom ein gilydd; nid fel yr oedd Cain o’r un drwg, a lladd ei frawd. Ac oherwydd pa beth y lladdodd ef? Am fod ei weithredoedd ef yn ddrwg, a gweithredoedd ei frawd yn gyfiawn. Na ryfeddwch, frodyr, os ydyw’r byd yn eich casáu. Gwyddom ni ein bod wedi croesi o farwolaeth i fywyd, gan ein bod yn caru’r brodyr; y mae’r hwn nad yw’n caru yn aros ym marwolaeth. Y mae pob un sy’n casáu ei frawd yn llofrudd, a gwyddoch nad oes gan neb llofrudd fywyd tragwyddol yn aros ynddo. Wrth hyn yr adwaenom y cariad, Ei fod Ef wedi rhoddi drosom ni Ei fywyd a dylem ninnau roddi ein bywydau dros y brodyr. Ond y neb sydd mewn bywoliaeth yn y byd ac yn edrych ar ei frawd ac yntau mewn eisiau, a chau ei galon yn ei erbyn, pa fodd y mae cariad Duw yn aros yn hwnnw? Blant bach, peidiwn â charu ar air nac ar dafod, ond mewn gweithred a gwirionedd. Wrth hyn y cawn wybod ein bod o’r gwir, a thawelu ein calon o’i flaen Ef, ym mha beth bynnag y condemnia ein calon ni, am fod Duw yn fwy na’n calon ni ac yn gwybod y cwbl. Rai annwyl, onid yw ein calon yn ein condemnio, y mae gennym hyder tuag at Dduw, ac yr ydym yn derbyn ganddo ba beth bynnag a ofynnom, am ein bod yn cadw Ei orchmynion Ef, ac yn gwneuthur pethau cymeradwy yn Ei olwg Ef. A hwn yw Ei orchymyn Ef, gredu ohonom yn enw Ei Fab Ef Iesu Grist a charu ein gilydd fel y rhoes orchymyn inni. Ac y mae’r hwn sy’n cadw Ei orchmynion Ef yn aros ynddo Ef, ac Yntau ynddo yntau. Ac wrth hyn y gwyddom Ei fod yn aros ynom, o’r ysbryd a roes i ni. Rai annwyl, na chredwch ym mhob ysbryd, ond gosodwch yr ysbrydion ar brawf a ydynt o Dduw, oherwydd y mae llawer o broffwydi gau a wedi myned allan i’r byd. Wrth hyn yr adwaenoch ysbryd Duw; pob ysbryd sy’n cydnabod bod Iesu Grist wedi dyfod yn y cnawd, o Dduw y mae; a phob ysbryd nad yw’n cydnabod yr Iesu, nid o Dduw y mae, a hwn yw ysbryd yr Anghrist, y clywsoch amdano ei fod yn dyfod, ac yn awr y mae yn y byd eisoes. Chwychwi o Dduw yr ydych, blant bach, ac yr ydych wedi eu gorchfygu hwynt, am fod yr hwn sydd ynoch chwi yn fwy na’r hwn sydd yn y byd. Hwynt-hwy, o’r byd y maent. Am hynny, o’r byd y maent yn llefaru, a’r byd sydd yn gwrando arnynt. Nyni, o Dduw yr ydym. Y mae’r hwn sy’n adnabod Duw yn gwrando arnom, a’r hwn nad yw o Dduw, nid yw yn gwrando arnom. Wrth hyn yr adwaenom ysbryd gwirionedd ac ysbryd cyfeiliomad. Rai annwyl, carwn ein gilydd, am fod cariad o Dduw, a phawb sy’n caru, o Dduw y mae’n hanfod ac y mae’n adnabod Duw. Yr hwn nid yw’n caru, nid edwyn Dduw am mai cariad yw Duw. Yn hyn yr amlygwyd cariad Duw ynom ni, fod Duw wedi anfon Ei unig-anedig Fab i’r byd er mwyn i ni gael byw drwyddo. Yn hyn y mae’r cariad, nid am ein bod ni wedi caru Duw, ond am iddo Ef ein caru ni ac anfon Ei Fab yn iawn am ein pechodau. Rai annwyl, os fel hyn y carodd Duw ni, dylem ninnau garu ein gilydd. Nid oes neb erioed wedi gweled Duw; os ydym yn caru ein gilydd, y mae Duw yn aros ynom ac y mae Ei gariad wedi Ei berffeithio ynom ni. Wrth hyn y gwyddom ein bod yn aros ynddo Ef ac Yntau ynom ninnau, am Ei fod wedi rhoddi o’i ysbryd i ni. Ac yr ydym ni wedi gweled ac yr ydym yn tystio bod y Tad wedi anfon y Mab yn waredwr y byd. Pwy bynnag sy’n cydnabod mai Iesu yw Mab Duw, y mae Duw yn aros ynddo ac yntau yn Nuw. Ac yr ydym ni yn gwybod ac wedi credu’r cariad sydd gan Dduw ynom. Cariad yw Duw, ac y mae’r hwn sy’n aros yn y cariad yn aros yn Nuw a Duw’n aros ynddo yntau. Yn hyn y mae cariad Duw wedi ei berffeithio gennym, y bydd gennym hyder yn nydd y farn, am ein bod ninnau hefyd yn debyg iddo yntau yn y byd hwn. Nid oes ofn mewn cariad, ond y mae cariad perffaith yn bwrw ofn allan, oherwydd y mae ofn ynglŷn wrth gosb, ac nid yw’r hwn sydd yn ofni wedi ei berffeithio mewn cariad. Yr ydym ni yn caru am iddo Ef ein caru ni yn gyntaf. Os dywed neb “yr wyf yn caru Duw” ac yntau’n casáu ei frawd, celwyddog yw. Oherwydd ni all yr hwn na châr ei frawd y mae wedi ei weled, garu Duw y mae heb Ei weled. A hwn yw’r gorchymyn sydd gennym oddi wrtho Ef, fod i’r hwn sy’n caru Duw garu ei frawd hefyd. Pob un sy’n credu mai Iesu ydyw’r Eneiniog, o Dduw y mae wedi ei genhedlu, ac y mae pob un sy’n caru yr hwn a genhedlodd yn caru yr hwn a genhedlwyd ohono. Wrth hyn y gwyddom ein bod yn caru plant Duw, pan garom Dduw a phan wnelom Ei orchmynion Ef, oherwydd hyn yw caru Duw, gadw ohonom Ei orchmynion Ef. A’i orchmynion Ef, nid ydynt drymion, oherwydd y mae popeth sy’n hanfod o Dduw yn gorchfygu’r byd. A hon yw’r fuddugoliaeth sy’n gorchfygu’r byd, ein ffydd ni. Pwy yw’r hwn sy’n gorchfygu’r byd ond yr hwn sy’n credu mai Iesu yw Mab Duw? Dyma’r hwn a ddaeth drwy ddŵr a gwaed, Iesu Grist; nid yn y dŵr yn unig ond yn y dŵr ac yn y gwaed: a’r ysbryd sydd yn tystio, oherwydd mai’r ysbryd yw’r gwirionedd. Canys y mae rhai sy’n tystio yn dri, yr ysbryd, a’r dŵr a’r gwaed, a’r tri sydd yn gytûn. Os derbyniwn dystiolaeth dynion, y mae tystiolaeth Duw yn fwy am mai hon yw tystiolaeth Duw, Ei fod wedi tystio am Ei Fab. Y mae gan yr hwn sy’n credu ym Mab Duw y dystiolaeth ynddo’i hun: y mae’r hwn nad yw’n credu Duw, wedi Ei wneuthur Ef yn gelwyddog, am nad yw wedi credu yn y dystiolaeth a dystiodd Duw am Ei Fab. A hon yw’r dystiolaeth, roddi o Dduw i ni fywyd tragwyddol, a’r bywyd hwn yn Ei Fab Ef y mae. Gan yr hwn y mae’r Mab ganddo y mae bywyd, ac nid oes fywyd gan yr hwn nid yw Mab Duw ganddo. Hyn a ysgrifennais atoch er mwyn i chwi wybod bod gennych fywyd tragwyddol, atoch chwi sydd yn credu yn enw Mab Duw. A hwn yw’r hyder sydd gennym tuag ato Ef, Ei fod yn gwrando arnom, os gofynnwn unpeth yn ôl Ei ewyllys. Ac os gwyddom Ei fod yn gwrando arnom, pa beth bynnag a ofynnom, gwyddom fod gennym y pethau a ofynasom ganddo. Os gwêl neb ei frawd yn pechu pechod heb fod i farwolaeth, fe ofyn ac fe rydd iddo fywyd, i’r rhai nad ydynt yn pechu i farwolaeth. Y mae pechod i farwolaeth; nid am hwnnw yr wyf yn dywedyd am iddo ddeisyfu. Pob anwiredd, pechod yw, ac y mae pechod heb fod i farwolaeth. Gwyddom nad oes neb sy’n hanfod o Dduw yn pechu, ond y mae’r hwn a hanoedd o Dduw yn ei warchod ef, ac nid yw’r un drwg yn cyffwrdd ag ef. Gwyddom ein bod o Dduw, a bod y byd yn gyfan yng ngafael yr un drwg. Gwyddom fod Mab Duw wedi dyfod ac wedi rhoddi i ni synnwyr i adnabod yr un gwir. Ac yr ydym yn yr un gwir, yn Ei Fab Iesu Grist. Hwn yw y gwir Dduw a bywyd tragwyddol. Blant bach, gwyliwch arnoch rhag eilunod. Yr henuriad at yr etholedig arglwyddes, a’i phlant yr wyf i yn eu caru yn y gwirionedd, ac nid myfi’n unig ond pawb sy’n adnabod y gwirionedd, oherwydd y gwirionedd sydd yn aros ynom, a chyda ni y bydd yn dragywydd. Bydd gyda ni ras, trugaredd, tangnefedd oddi wrth Dduw Dad, ac oddi wrth Iesu Grist, Mab y Tad, mewn gwirionedd a chariad. Llawenychais yn ddirfawr o gael o’th blant rai’n rhodio yn y gwirionedd, fel y cawsom orchymyn oddi wrth y Tad. Ac yn awr yr wyf yn deisyf arnat, arglwyddes, nid fel un yn ysgrifennu gorchymyn newydd atat, ond un oedd gennym o’r dechrau, garu ohonom ein gilydd. A hyn yw cariad, rodio ohonom yn ôl Ei orchmynion Ef. Hwn yw’r gorchymyn fel y clywsoch o’r dechrau, rodio ohonoch ynddo, — oherwydd aeth twyllwyr lawer allan i’r byd, sydd yn gwadu dyfodiad Iesu Grist mewn cnawd. Dyma’r twyllwr a’r Anghrist. Cedwch olwg arnoch eich hunain rhag i chwi ddifa yr hyn a weithiasom, ond derbyn ohonoch gyflawn dâl. Nid yw Duw gan neb eithafol ac nad yw’n aros yn athrawiaeth Crist. Yr hwn sy’n aros yn yr athrawiaeth, y mae’r Tad a’r Mab ganddo, Os daw rhywun atoch heb fod yn dwyn yr athrawiaeth hon, na dderbyniwch ef i’r tŷ, ac na ddywedwch “dydd da” wrtho. Y mae’r hwn sy’n dywedyd “dydd da” wrtho yn cyfranogi yn ei weithredoedd drwg ef. Er bod gennyf lawer o bethau, ni ddewisais ysgrifennu atoch ar ddu a gwyn, ond yr wyf yn gobeithio cael bod gyda chwi a siarad wyneb yn wyneb fel y bydd ein llawenydd yn gyflawn. Y mae plant dy etholedig chwaer yn cofio atat. Yr henuriad at yr annwyl Gaius, yr hwn yr wyf i yn ei garu yn y gwirionedd. Y gŵr annwyl, ym mhopeth fy ngweddi yw fod i ti rwydd hynt ac iechyd, fel y mae i’th enaid rwydd hynt, canys llawenychais yn ddirfawr ddyfod o’r brodyr a thystio i’th wirionedd, dy fod yn rhodio yn y gwirionedd. Mwy llawenydd na’r pethau hyn nid oes gennyf, fy mod yn clywed bod fy mhlant yn rhodio yn y gwirionedd. Gyfaill annwyl, yr wyt yn ymddwyn fel credadun yn dy holl ymwneuthur â’r brodyr, a hwythau’n ddieithriaid hefyd, — ac y maent hwy wedi tystio i’th gariad gerbron yr eglwys, a da y gwnei eu rhoddi ar ben eu ffordd, yn deilwng o Dduw, oherwydd er mwyn yr enw yr aethant allan, heb dderbyn dim ar law y paganiaid. Felly dylem ninnau groesawu rhai fel hyn, er mwyn inni fod yn gyd-weithredwyr â’r gwirionedd. Ysgrifennais air at yr eglwys, ond nid yw Diotrephes sydd am fod ar y blaen arnynt, yn ein cydnabod. Am hynny, pan ddeuaf, mi a alwaf sylw at ei waith yn clebran i’n herbyn â geiriau drwg; ac nid yw hyn yn ddigon ganddo, — ni fyn ei hunan dderbyn y brodyr, ond y mae hefyd yn rhwystro’r rhai sy’n dymuno hynny, ac yn eu torri allan o’r eglwys. Gyfaill annwyl, na chymer y drwg yn esiampl ond y da. Yr hwn sy’n gwneuthur da, o Dduw y mae; yr hwn sy’n gwneuthur drwg, nid yw wedi gweled Duw. Cafwyd tystiolaeth i Demetrius gan bawb a chan y gwirionedd ei hunan; ac yr ydym ninnau’n tystio, a gwyddost fod ein tystiolaeth ni yn wir. Yr oedd gennyf lawer i’w ysgrifennu atat, ond nid wyf am ysgrifennu atat â phin ac inc. Ond yr wyf yn gobeithio cael dy weled yn fuan a chawn siarad wyneb yn wyneb. Tangnefedd i ti. Y mae’r cyfeillion yn dy gyfarch; cyfarch y cyfeillion wrth eu henwau. Jwdas, caethwas Iesu Grist, a brawd Iago, at y rhai sydd wedi eu caru yn Nuw Dad ac wedi eu cadw i Grist Iesu, etholedigion. Amlhaer trugaredd i chwi, a thangnefedd a chariad. Anwyliaid, a mi’n gwneuthur pob ymdrech i sgrifennu atoch ynghylch ein hiachawdwriaeth gyffredin, daeth anghenraid arnaf i sgrifennu atoch i’ch annog i ymegnïo dros y ffydd a draddodwyd unwaith i’r saint. Canys llithrodd i mewn yn ddirgel rai dynion a ddynodwyd ers talm i’r farnedigaeth hon, annuwiolion, yn gŵyrdroi gras ein Duw ni i anlladrwydd ac yn gwadu’r unig Feistr a’n Harglwydd ni Iesu Grist. Dymunaf eich atgoffa chwi, er gwybod ohonoch bopeth unwaith am byth, i’r Arglwydd, wedi iddo waredu’r bobl o dir yr Aifft, ddinistrio yn ôl llaw y rhai ni chredasant, a’r angylion na chadwasant eu tywysogaeth eu hunain eithr a adawodd eu preswyl priodol, eu bod ganddo yng nghadw mewn gefynnau tragwyddol mewn tywyllwch i aros barn y dydd mawr. Megis y gosodwyd Sodom a Gomorrah a’r dinasoedd o’u hamgylch, a ymroddodd i buteindra yn yr un modd â hwynt, a myned ar ôl cnawd dieithr, yn esiampl gan ddioddef cosbedigaeth tân tragwyddol. Yr un modd er hynny y mae’r rhain yn eu breuddwydion yn halogi’r cnawd, yn dirmygu arglwyddiaeth ac yn cablu bodau gogoneddus. Ond ni feiddiodd Michael yr archangel pan ddadleuai ynghylch corff Moses, mewn ymryson â’r diafol, ddwyn barn sarhaus yn ei erbyn ef, eithr dywedodd, Cerydded yr Arglwydd di. Ond am y rhain, cablant y pethau na wyddant, a’r pethau hynny a ddeallant drwy reddf fel y creaduriaid direswm, ynddynt yr ymlygrant. Gwae hwy! canys aethant yn ffordd Cain; ac ymroesant am gyflog i gyfeiliomad Balam, a darfu amdanynt yn ymryson Cora. Dyma’r creigiau cuddiedig yn eich cariad-wleddoedd sy’n cydwledda’n eofn gyda chwi, yn eu bugeilio eu hunain, cymylau di-ddwfr a yrrir gan wyntoedd, prennau hydref, di-ffrwyth, wedi marw ddwywaith a’u diwreiddio, tonnau cynddeiriog y môr yn ewynnu eu cywilydd eu hunain, sêr gwibiog, i’r rhai y mae yng nghadw ddüwch y tywyllwch dros byth. Proffwydodd amdanynt hwy hefyd Enoch, y seithfed o Adda, a dywedyd, Wele, daeth yr Arglwydd gyda’i fyrddiynau sanctaidd i wneuthur barn ar bawb ac i argyhoeddi’r holl annuwiolion am yr holl weithredoedd a wnaethant, ac am yr holl bethau celyd a lefarodd pechaduriaid annuwiol yn ei erbyn ef. Grwgnachwyr ydyw’r rhain, tuchanwyr, yn rhodio yn ôl eu blysiau eu hunain, a’u genau sydd yn dywedyd pethau chwyddedig, yn gwenieithio er mwyn elw. Eithr chwi, anwyliaid, cofiwch yr ymadroddion a lefarwyd o’r blaen gan apostolion ein Harglwydd Iesu Grist, iddynt ddywedyd wrthych: “Yn yr amser diwethaf daw gwatwarwyr yn rhodio yn ôl eu blysiau annuwiol eu hunain.” Dyma’r dynion sy’n peri rhwygiadau, pobl gnawdol, heb fod yr Ysbryd ganddynt. Eithr chwi, anwyliaid, gan eich adeiladu eich hunain ar eich sancteiddiaf ffydd, a gweddïo drwy’r Ysbryd Glân, cedwch eich hunain yng nghariad Duw gan ddisgwyl am drugaredd ein Harglwydd ni, Iesu Grist, i fywyd tragwyddol. Ac wrth y sawl sy’n ymryson â chwi, trugarhewch; achubwch hwynt a’u cipio o’r tân; ond wrth eraill trugarhewch mewn ofn, gan gasáu hyd yn oed y wisg a ddifwynwyd gan y cnawd. I’r hwn sy’n abl i’ch cadw chwi’n ddi-gwymp a’ch gosod yn ddinam gerbron ei ogoniant ef mewn gorfoledd, i’r unig Dduw ein Hachubwr ni trwy Iesu Grist ein Harglwydd, y bo gogoniant, mawrhydi, gallu ac awdurdod, cyn bod pob oes, ac yn awr, a thrwy’r holl oesoedd. Amen. Datguddiad Iesu Grist, a roddes Duw iddo, i ddangos i’w weision y pethau sydd raid iddynt ddigwydd ar fyrder; anfonodd drwy ei angel a dangosodd hwynt i’w was Ioan; tystiolaethodd yntau air Duw a thystiolaeth Iesu Grist, gymaint ag a welodd. Gwyn ei fyd yr hwn sy’n darllen ar goedd a’r rhai sy’n gwrando geiriau’r broffwydoliaeth ac yn cadw’r pethau sy’n ysgrifenedig ynddi; canys y mae’r amser yn agos. Ioan at y saith eglwys yn Asia: Gras i chwi a thangnefedd oddi wrth yr hwn sydd a’r hwn oedd a’r hwn sydd yn dyfod, ac oddi wrth y saith ysbryd sydd gerbron ei orsedd, ac oddi wrth Iesu Grist, y tyst ffyddlon, y cyntaf-anedig o’r meirw a phennaeth brenhinoedd y ddaear. I’r hwn a’n câr ni ac a’n rhyddhaodd ni oddi wrth ein pechodau drwy ei waed, ac a’n gwnaeth ni yn frenhiniaeth, yn offeiriaid i Dduw a’i Dad ef — iddo ef y byddo’r gogoniant a’r gallu yn oes oesoedd; Amen. Wele y mae’n dyfod gyda’r cymylau, a gwêl pob llygad ef, ie, y rhai a’i trywanodd, ac wylofain a wna holl Lwythau’r ddaear o’i herwydd. Ie’n wir, Amen. Myfi yw’r Alffa a’r Omega, medd yr Arglwydd Dduw, yr hwn sydd a’r hwn oedd a’r hwn sydd yn dyfod, yr hollalluog. Myfi Ioan, eich brawd a’ch cyd-gyfranogwr yn y blinfyd a’r deyrnas a’r amynedd sydd drwy Iesu, oeddwn yn yr ynys a elwir Patmos o achos gair Duw a thystiolaeth Iesu. Yr oeddwn yn yr ysbryd ar ddydd yr Arglwydd, a chlywais tu ôl imi lais mawr fel utgorn yn dywedyd, Yr hyn a weli, ysgrifenna mewn llyfr, ac anfon i’r saith eglwys, i Effesus ac i Smyrna ac i Pergamus ac i Thyatira ac i Sardis ac i Philadelffia ac i Laodicea. Yna trois i edrych ar y llef a siaradai â mi; ac wedi troi gwelais saith ganhwyllbren aur, ac ynghanol y canwyllbrenni un tebyg i fab dyn, wedi ei wisgo hyd ei draed a’i wregysu at ei fronnau â gwregys aur. Yr oedd ei ben a’i wallt yn wynion fel gwlân, gwyn fel eira, a’i lygaid fel fflam dân, a’i draed yn debyg i bres gloyw-eirias wedi ei buro megis mewn ffwrnais, a’i lais fel sŵn dyfroedd lawer, ac yr oedd ganddo yn ei law ddeau saith seren, ac o’i enau gleddau deufin llym yn dyfod allan, a’i wedd fel yr haul yn tywynnu yn ei nerth. A phan welais ef, syrthiais wrth ei draed fel un marw; gosododd yntau ei law ddeau arnaf a dywedyd, Nac ofna; myfi yw’r cyntaf a’r olaf a’r un byw, a bûm farw ac wele byw ydwyf yn oes oesoedd, ac y mae gennyf allweddau marwolaeth ac Annwn. Ysgrifenna gan hynny y pethau a welaist a’r pethau sydd a’r pethau a fydd wedi hyn. Dirgelwch y saith seren a welaist ar fy neheulaw, a’r saith ganhwyllbren aur — y saith seren yw angylion y saith eglwys, a’r saith ganhwyllbren, saith eglwys ydynt. At angel yr eglwys yn Effesus ysgrifenna: Dyma a ddywed yr hwn sy’n dal y saith seren yn ei ddeheulaw, yr hwn sy’n rhodio ynghanol y saith ganhwyllbren aur: Gwn am dy weithredoedd di a’th lafur a’th amynedd, ac na elli oddef rhai drwg, ac iti brofi’r rhai a’u geilw eu hunain yn apostolion, a hwythau heb fod, ac iti eu cael yn gelwyddog; ac y mae gennyt amynedd, a goddefaist o achos fy enw i ac ni flinaist. Eithr y mae gennyf yn dy erbyn iti golli dy gariad cyntaf. Cofia felly o b’le y cwympaist, ac edifarha a gwna’r gweithredoedd cyntaf; ac onid e, dof atat a symudaf dy ganhwyllbren o’i le, onid edifarhei. Ond hyn sydd gennyt, dy fod yn casáu gweithredoedd y Nicolaiaid, y rhai a gasâf finnau hefyd. Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth a ddywed yr ysbryd wrth yr eglwysi: I’r hwn sy’n gorchfygu, rhoddaf iddo fwyta o bren y bywyd sydd ym mharadwys Duw. Ac at angel yr eglwys yn Smyrna ysgrifenna: Dyma a ddywed y cyntaf a’r olaf, a fu farw ac a ddaeth yn fyw: Gwn am dy flinfyd a’th dlodi, eithr cyfoethog ydwyt; ac am gabledd y rhai a’u geilw eu hunain yn Iddewon, a hwythau heb fod amgen na synagog Satan. Nac ofna’r pethau yr wyt ar fedr eu dioddef. Wele y mae’r diafol ar fedr bwrw rhai ohonoch i garchar i’ch profi, a chewch flinfyd am ddeng niwrnod. Bydd ffyddlon hyd angau, a rhoddaf iti goron y bywyd. Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth a ddywed yr ysbryd wrth yr eglwysi: Yr hwn sy’n gorchfygu, ni chaiff niwed oddi wrth yr ail farwolaeth. Ac at angel yr eglwys ym Mhergamus ysgrifenna: Dyma a ddywed yr hwn sydd ganddo’r cleddau deufin llym: Gwn ym mh’le y trigi, lle y mae gorsedd Satan; ac yr wyt yn dal gafael yn fy enw i, ac ni wedaist fy ffydd i hyd yn oed yn y dyddiau y lladdwyd Antipas fy nhyst ffyddlon i yn eich plith chwi, lle y trig Satan. Eithr y mae gennyf ychydig bethau yn dy erbyn, — bod gennyt yna rai yn dal athrawiaeth Balaam, yr hwn a ddysgai i Falac fwrw tramgwydd o flaen meibion Israel, sef bwyta pethau a aberthwyd i eilunod a phuteinio. Felly hefyd y mae gennyt tithau rai yn dal athrawiaeth y Nicolaiaid yr un modd. Edifarha gan hynny; onid e, dof ar frys a rhyfelaf gyda hwynt â chleddau fy ngenau. Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth a ddywed yr ysbryd wrth yr eglwysi: I’r hwn sy’n gorchfygu, rhoddaf iddo o’r manna cuddiedig, a rhoddaf iddo garreg wen, ac ar y garreg enw newydd yn ysgrifenedig nas edwyn neb ond a’i derbynio. Ac at angel yr eglwys yn Thyatira ysgrifenna: Dyma a ddywed Mab Duw, y sydd â’i lygaid fel fflam dân a’i draed yn debyg i bres gloyw-eirias: Gwn am dy weithredoedd a’th gariad a’th ffydd a’th wasanaeth a’th amynedd, a bod dy weithredoedd diwethaf yn amlach na’r rhai cyntaf. Eithr y mae gennyf yn dy erbyn dy fod yn goddef y wraig Jesebel, a’i geilw ei hun yn broffwydes, ac a ddysg ac a arwain ar gyfeiliorn fy ngweision i buteinio a bwyta pethau a aberthwyd i eilunod. A rhoddais iddi amser i edifarhau, ac ni fyn edifarhau am ei phuteindra. Wele bwriaf hi ar wely, a’r rhai sy’n godinebu gyda hi i flinfyd mawr, onid edifarhânt am ei gweithredoedd hi; a’i phlant, lladdaf hwy â marwolaeth; a gwybydd yr holl eglwysi mai myfi yw chwiliwr arennau a chalonnau, a rhoddaf i chwi bob un yn ôl eich gweithredoedd. Ond dywedaf wrthych chwi, y gweddill yn Thyatira, cynifer ag na ddaliant yr athrawiaeth hon, y sawl nad adnabuant, ys dywedant, ddyfnderau Satan: Ni fwriaf arnoch faich arall; yn unig deliwch afael yn yr hyn sydd gennych hyd oni ddelwyf. A’r hwn sy’n gorchfygu ac yn cadw hyd y diwedd fy ngweithredoedd i, rhoddaf iddo awdurdod ar y cenhedloedd — bugeilia ef hwynt â gwialen haearn, fel llestri pridd y malurir hwynt — megis y derbyniais innau awdurdod gan fy Nhad, a rhoddaf iddo hefyd y seren fore. Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth a ddywed yr ysbryd wrth yr eglwysi. Ac at angel yr eglwys yn Sardis ysgrifenna: Dyma a ddywed yr hwn sydd ganddo saith ysbryd Duw a’r saith seren: Gwn am dy weithredoedd; y mae gennyt enw dy fod yn fyw, ond marw ydwyt. Bydd wyliadwrus, a chryfha’r pethau sydd yngweddill ac ar ddarfod amdanynt. Canys ni chefais gennyt weithredoedd cyflawn gerbron fy Nuw; cofia gan hynny pa fodd y derbyniaist ac y clywaist, a chadw ac edifarha. Am hynny oni fyddi wyliadwrus, deuaf megis lleidr, ac ni chei wybod pa awr y dof arnat. Ond y mae gennyt ychydig enwau yn Sardis na halogasant eu dillad, a rhodiant gyda mi mewn gwyn, canys teilwng ydynt. Yr hwn sy’n gorchfygu, gwisgir ef felly mewn dillad gwynion, ac ni ddileaf ei enw o lyfr y bywyd, a chyffesaf ei enw gerbron fy Nhad a cherbron ei angylion ef. Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth a ddywed yr ysbryd wrth yr eglwysi. Ac at angel yr eglwys yn Philadelffia ysgrifenna: Dyma a ddywed y sanctaidd, y cywir, yr hwn y mae allwedd Dafydd ganddo, ef sy’n agor ac ni chly neb, ac yn cloi ac nid egyr neb: Gwn am dy weithredoedd; wele rhoddais o’th flaen ddrws agored na ddichon neb ei gloi; ychydig allu sydd gennyt, a chedwaist fy ngair, ac ni wedaist fy enw. Wele rhof rai o synagog Satan, o’r sawl a’u geilw eu hunain yn Iddewon, a hwythau heb fod, eithr dywedyd celwydd y maent; wele gwnaf iddynt ddyfod ac ymgrymu wrth dy draed a gwybod imi dy garu di. Am iti gadw gair fy amynedd i, cadwaf finnau di rhag awr y prawf sydd ar ddyfod ar yr holl fyd, i brofi’r sawl sy’n trigo ar y ddaear, Yr wyf yn dyfod yn fuan; dal dy afael yn yr hyn sydd gennyt, fel na ddygo neb dy goron. Yr hwn sy’n gorchfygu, gwnaf ef yn golofn yn nheml fy Nuw, ac allan nid â mwyach, ac ysgrifennaf arno enw fy Nuw ac enw dinas fy Nuw, y Jerwsalem newydd sy’n disgyn o’r nef oddi wrth fy Nuw, a’m henw newydd innau. Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth a ddywed yr ysbryd wrth yr eglwysi. Ac at angel yr eglwys yn Laodicea ysgrifenna: Dyma a ddywed yr Amen, y tyst ffyddlon a chywir, dechreuad creadigaeth Duw: Gwn am dy weithredoedd nad wyt nac oer na brwd; o na bait oer neu frwd; felly, gan mai claear wyt, heb fod na brwd nac oer, yr wyf ar fedr dy chwydu allan o’m genau. Am y dywedi, Cyfoethog wyf ac ymgyfoethogais ac nid oes arnaf angen dim, ac na wyddost mai tydi yw’r truan a’r gresynus a’r tlawd a’r dall a’r noeth, cynghoraf di i brynu gennyf aur wedi ei buro drwy dân fel y byddych gyfoethog, a dillad gwynion fel y’th wisger ac na ddelo cywilydd dy noethni i’r golwg, ac eli i iro dy lygaid fel y gwelych. Yr wyf fi ’n ceryddu ac yn disgyblu cynifer ag a garaf; bydd selog ynteu ac edifarha. Wele yr wyf yn sefyll wrth y drws ac yn curo; os clyw neb fy llais ac agoryd y drws, dof i mewn ato a swperaf gydag ef ac yntau gyda minnau. Yr hwn sy’n gorchfygu, rhoddaf iddo eistedd gyda mi ar fy ngorsedd, megis y gorchfygais innau ac eistedd gyda’m Tad ar ei orsedd ef. Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth a ddywed yr ysbryd wrth yr eglwysi. Wedi hyn edrychais, ac wele ddrws, wedi ei agor yn y nef, a’r llais cyntaf a glywais fel utgorn yn siarad â mi gan ddywedyd: Dring yma, a dangosaf i ti ’r pethau sydd raid iddynt ddigwydd wedi hyn. Yn ebrwydd yr oeddwn yn yr ysbryd; ac wele gosodasid gorsedd yn y nef, ac ar yr orsedd un yn eistedd, a’r hwn a eisteddai yn gyffelyb yr olwg arno i faen iaspis a sardion, ac enfys o gylch yr orsedd, yn gyffelyb yr olwg arni i smaragdin. Ac o gylch yr orsedd bedair gorsedd ar hugain, ac ar y gorseddau bedwar henuriad ar hugain yn eistedd wedi eu gwisgo mewn dillad gwynion, ac ar eu pennau goronau aur. Ac o’r orsedd daw allan fellt a lleisiau a tharanau, a saith fflamdorch dân yn llosgi o flaen yr orsedd, y rhai yw saith ysbryd Duw; ac o flaen yr orsedd megis môr gwydr cyffelyb i risial; ac ynghanol yr orsedd ac o gylch yr orsedd bedwar peth byw llawn llygaid flaen ac ôl. A’r peth byw cyntaf oedd debyg i lew, a’r ail beth byw yn debyg i lo, a’r trydydd peth byw a chanddo’i wyneb fel wyneb dyn, a’r pedwerydd peth byw yn debyg i eryr ar ei adain. A’r pedwar peth byw, pob un ohonynt â chwech adain yr un, llawn llygaid ydynt oddi amgylch ac oddi mewn; ac ni pheidiant na dydd na nos â dywedyd: Sanct, sanct, sanct, Arglwydd Dduw hollalluog, yr hwn oedd ac y sydd ac a ddaw. A phan rydd y pethau byw ogoniant ac anrhydedd a diolch i’r hwn sy’n eistedd ar yr orsedd, yr hwn sydd fyw yn oes oesoedd, syrth y pedwar henuriad ar hugain o flaen yr hwn sy’n eistedd ar yr orsedd, ac addolant yr hwn sydd fyw yn oes oesoedd, a bwriant eu coronau gerbron yr orsedd, gan ddywedyd: Teilwng wyt, ein Harglwydd a’n Duw, i dderbyn y gogoniant a’r anrhydedd a’r gallu, canys ti a greodd bob peth, a thrwy dy ewyllys di yr oeddynt ac y crewyd hwynt. A gwelais ar ddeheulaw yr hwn a eisteddai ar yr orsedd lyfr wedi ei ysgrifennu oddi mewn ac ar ei gefn, wedi ei selio â saith sêl. A gwelais angel cryf yn cyhoeddi â llais uchel: Pwy sydd deilwng i agor y llyfr ac i ddatod ei seliau? Ac ni allai neb yn y nef nac ar y ddaear na than y ddaear agor y llyfr nac edrych arno. Ac wylwn lawer oblegid na chafwyd neb teilwng i agor y llyfr nac i edrych arno. A dywed un o’r henuriaid wrthyf: Nac wyla; wele trechodd y llew o lwyth Jwda, Gwreiddyn Dafydd, i agor y llyfr a’i saith sêl. A gwelais ynghanol yr orsedd a’r pedwar peth byw ac ynghanol yr henuriaid oen yn sefyll megis wedi ei ladd, a chanddo saith gorn a saith lygad, y rhai yw saith ysbryd Duw, danfonedig i’r holl ddaear. A daeth ef a chymerth o law ddeau yr un a eisteddai ar yr orsedd; a phan gymerth y llyfr syrthiodd y pedwar peth byw a’r pedwar henuriad ar hugain o flaen yr Oen, a chanddynt bob un delyn a ffialau aur yn llawn arogl-darth, sef gweddïau’r saint. A chanant gân newydd gan ddywedyd: Teilwng wyt i gymryd y llyfr ac agor ei seliau, canys ti a laddwyd, a phrynaist i Dduw â’th waed rai o bob llwyth ac iaith a phobl a chenedl, a gwnaethost hwy i’n Duw ni yn frenhiniaeth ac offeiriaid, a theyrnasant ar y ddaear. Ac edrychais a chlywais lais angylion lawer o gylch yr orsedd a’r pethau byw a’r henuriaid, a’u nifer oedd fyrddiynau ar fyrddiynau a miloedd ar filoedd, yn dywedyd â llef uchel: Teilwng yw’r Oen a laddwyd i dderbyn y gallu a chyfoeth a doethineb a nerth ac anrhydedd a gogoniant a mawl. A phob creadur a’r sydd yn y nef ac ar y ddaear a than y ddaear ac yn y môr, a’r cwbl y sydd ynddynt, a glywais yn dywedyd: I’r hwn sy’n eistedd ar yr orsedd ac i’r Oen y bo’r mawl a’r anrhydedd a’r gogoniant a’r nerth yn oes oesoedd. A dywedai’r pedwar peth byw, Amen; a syrthiodd yr henuriaid i lawr ac addolasant. Ac edrychais pan agorodd yr Oen un o’r saith sêl, a chlywais un o’r pedwar peth byw yn dywedyd â llais megis taran: Tyred. Ac edrychais, ac wele farch gwyn, a chan yr hwn a eisteddai arno yr oedd bwa, a rhoddwyd iddo goron, ac aeth allan yn gorchfygu ac i orchfygu. A phan agorodd yr ail sêl, clywais yr ail beth byw yn dywedyd: Tyred. Ac aeth allan farch arall, un coch, ac i’r hwn a eisteddai arno y rhoddwyd dwyn ymaith heddwch o’r ddaear a lladd ei gilydd, a rhoddwyd iddo gleddau mawr. A phan agorodd y drydedd sêl, clywais y trydydd peth byw yn dywedyd: Tyred. Ac edrychais, ac wele farch du, a chan yr hwn a eisteddai arno yr oedd clorian yn ei law. A chlywais megis llais ynghanol y pedwar peth byw yn dywedyd: Chwart o wenith am swllt, a thri chwart o haidd am swllt; a’r olew a’r gwin na niweidia. A phan agorodd y bedwaredd sêl, clywais lais y pedwerydd peth byw yn dywedyd: Tyred. Ac edrychais, ac wele farch gwelw-las, a’r hwn a eisteddai arno, ei enw oedd Angau, ac Annwn oedd yn canlyn gydag ef, a rhoddwyd iddynt awdurdod ar y bedwaredd ran o’r ddaear, i ladd â chleddau ac â newyn ac â marwolaeth a chan fwystfilod y ddaear. A phan agorodd y bumed sêl, gwelais dan yr allor eneidiau y rhai a laddesid o achos gair Duw ac o achos y dystiolaeth a ddygent. A gwaeddasant â llais uchel gan ddywedyd: Pa hyd, O Deyrn sanctaidd a chywir, y byddi heb farnu a dial ein gwaed ni ar y sawl a breswylia ar y ddaear? A rhoddwyd iddynt bob un fantell wen, a dywedwyd wrthynt am orffwys eto ychydig amser, hyd oni chyflawnid nifer eu cyd-weision hefyd, a’u brodyr y rhai oedd i’w lladd fel hwythau. Ac edrychais pan agorodd y chweched sêl, a bu daeargryn mawr, ac aeth yr haul yn ddu fel sachliain o flew, ac aeth y lleuad i gyd fel gwaed, a syrthiodd sêr y nen i’r ddaear fel y bwrw ffigysbren ei ffigys gleision pan ysgydwer ef gan wynt mawr, ac ysgubwyd y nen ymaith fel plygu rhol, a symudwyd pob mynydd ac ynys o’u lle. A brenhinoedd y ddaear a’r mawrion a’r cadfridogion a’r cyfoethogion a’r cryfion a phob gŵr caeth a rhydd, ymguddiasant yn yr ogofâu ac yng nghreigiau’r mynyddoedd, a dywedyd wrth y mynyddoedd a’r creigiau: Syrthiwch arnom a chuddiwch ni o ŵydd yr hwn sy’n eistedd ar yr orsedd ac oddi wrth ddicter yr Oen, canys daeth dydd mawr eu dicter hwy, a phwy a ddichon sefyll? Wedi hyn gwelais bedwar angel yn sefyll ar bedair congl y ddaear, yn dal pedwar gwynt y ddaear, fel na chwythai gwynt nac ar y ddaear nac ar y môr nac ar un pren. A gwelais angel arall yn esgyn o’r dwyrain, a chanddo sêl y Duw byw, a gwaeddodd â llais uchel ar y pedwar angel y rhoddwyd iddynt niweidio’r ddaear a’r môr, gan ddywedyd: Na niweidiwch na’r ddaear na’r môr na’r coed, nes inni selio gweision ein Duw ar eu talcennau. A chlywais nifer y rhai a seliwyd, cant a phedwar deg a phedwar o filoedd, wedi eu selio o bob llwyth o feibion Israel: O lwyth Jwda deuddeng mil wedi eu selio. O lwyth Reuben deuddeng mil wedi eu selio. O lwyth Gad deuddeng mil wedi eu selio. O lwyth Aser deuddeng mil wedi eu selio. O lwyth Naffthali deuddeng mil wedi eu selio. O lwyth Manase deuddeng mil wedi eu selio. O lwyth Simeon deuddeng mil wedi eu selio. O lwyth Lefi deuddeng mil wedi eu selio. O lwyth Isachar deuddeng mil wedi eu selio. O lwyth Sabulon deuddeng mil wedi eu selio. O lwyth Joseff deuddeng mil wedi eu selio. O lwyth Benjamin deuddeng mil wedi eu selio. Wedi hyn edrychais, ac wele dyrfa fawr na allai neb ei rhifo, o bob cenedl a llwythau a phobloedd ac ieithoedd, yn sefyll o flaen yr orsedd ac o flaen yr Oen, a mentyll gwynion amdanynt, a phalmwydd yn eu dwylo. A gwaeddant â llais uchel, gan ddywedyd: Eiddo ein Duw sy’n eistedd ar yr orsedd, ac eiddo’r Oen, yw’r iachawdwriaeth. A safai’r holl angylion o gylch yr orsedd a’r henuriaid a’r pedwar peth byw, a syrthiasant ar eu hwynebau gerbron yr orsedd ac addolasant Dduw, gan ddywedyd: Amen, y mawl a’r gogoniant a’r doethineb a’r diolch a’r anrhydedd a’r gallu a’r grym sydd eiddo ein Duw yn oes oesoedd. Amen. A chyfarchodd un o’r henuriaid fi a dywedyd: Y rhain a’r mentyll gwynion amdanynt, pwy ydynt, ac o b’le y daethant? Dywedais innau wrtho: F’arglwydd, tydi sy’n gwybod. Dywedodd yntau wrthyf: Dyma’r rhai sy’n dyfod allan o’r blinfyd mawr, ac a olchodd eu mentyll a’u cannu yng ngwaed yr Oen. Oherwydd hynny y maent o flaen gorsedd Duw, a gwasnaethant ef ddydd a nos yn ei gysegr, a’r hwn sy’n eistedd ar yr orsedd a babella drostynt. Ni newynant mwy, ac ni sychedant mwy; ni ddisgyn arnynt na’r haul na dim gwres, oblegid yr Oen y sydd ynghanol yr orsedd a’u bugeilia bwynt ac a’u tywys at ffynhonnau dyfroedd bywyd; a sych Duw ymaith bob deigryn o’u llygaid hwynt. A phan agorodd y seithfed sêl, bu distawrwydd yn y nef am ynghylch hanner awr. A gwelais y saith angel sy’n sefyll gerbron Duw, a rhoddwyd iddynt saith utgorn. A daeth angel arall a safodd wrth yr allor, a chanddo thuser aur, a rhoddwyd iddo arogl-darth lawer i’w gyflwyno gyda gweddïau’r holl saint ar yr allor aur o flaen yr orsedd. Ac esgynnodd mwg yr arogl-darth gyda gweddïau’r saint o law yr angel gerbron Duw. A chymerth yr angel y thuser, a llanwodd hi o dân yr allor a’i bwrw i’r ddaear; yna bu taranau a lleisiau a mellt a daeargryn. Ac ymbaratôdd y saith angel, yn dal y saith utgorn, i utganu. Ac utganodd y cyntaf; yna bu cenllysg a thân cymysgedig â gwaed, a bwriwyd i’r ddaear, a llosgwyd traean y ddaear, a llosgwyd traean y coed, a llosgwyd pob gwelltyn glas. Ac utganodd yr ail angel; yna bwriwyd i’r môr megis mynydd mawr ar dân, a thrôdd traean y môr yn waed, a bu farw draean y creaduriaid byw sydd yn y môr, a dinistriwyd traean y llongau. Ac utganodd y trydydd angel; yna syrthiodd o’r nef seren fawr yn llosgi fel fflamdorch, a syrthiodd ar draean yr afonydd ac ar ffynhonnau’r dyfroedd. Ac enw’r seren yw Wermod; a thrôdd traean y dyfroedd yn wermod, a bu farw lawer o bobl o’r dyfroedd oherwydd eu chwerwi. Ac utganodd y pedwerydd angel; yna trawyd traean yr haul a thraean y lloer a thraean y sêr, fel y tywyllwyd eu traean hwynt ac nad ymddangosodd y dydd draean ohono, na’r nos yr un modd. Ac edrychais a chlywais eryr yn ehedeg yn entrych nef yn dywedyd â llais mawr: Gwae, gwae, gwae ar drigolion y ddaear oherwydd gweddill chwythiadau utgorn y tri angel sydd ar utganu. Ac utganodd y pumed angel; yna gwelais seren wedi syrthio o’r nef i’r ddaear, a rhoddwyd iddo allwedd pwll Annwn. Ac agorodd ef bwll Annwn, ac esgynnodd mwg o’r pwll fel mwg ffwrnais fawr, a thywyllwyd yr haul a’r awyr gan fwg y pwll. Ac o’r mwg daeth allan i’r ddaear locustiaid, a rhoddwyd iddynt allu fel y mae gan ysgorpionau’r ddaear allu. Ac archwyd iddynt na niweidient na gwellt y ddaear na dim gwyrddlas nac un goeden, eithr yn unig y bobl nad oes ganddynt sêl Duw ar eu talcennau. A rhoddwyd arnynt nid eu lladd, eithr eu harteithio bum mis; a’u hartaith oedd fel artaith ysgorpion pan fratho ddyn. Ac yn y dyddiau hynny y cais dynion farwolaeth ac nis cânt er dim, a deisyfant farw, a ffy marwolaeth oddi wrthynt. Ac o ran ymddangosiad tebyg oedd y locustiaid i feirch parod i ryfel, ac ar eu pennau megis coronau tebyg i aur, a’u hwynebau fel wynebau dynion, a chanddynt wallt fel gwallt gwragedd, a’u dannedd oedd fel dannedd llewod, a chanddynt lurigau fel llurigau haearn, a sŵn eu hadenydd f el sŵn cerbydau meirch lawer yn carlamu i ryfel. Ac y mae ganddynt gynffonnau tebyg i ysgorpionau, a cholynnau, ac yn eu cynffonnau y mae eu gallu i niweidio dynion bum mis. Y mae ganddynt yn frenin arnynt angel Annwn; ei enw yn Hebraeg yw Abadon, ac yn y Roeg gelwir ef Apoluon. Aeth y gwae cyntaf heibio; wele daw eto ddau wae ar ôl hyn. Ac utganodd y chweched angel; yna clywais lais o bedwar corn yr allor aur gerbron Duw, yn dywedyd wrth y chweched angel a chanddo’r utgorn: Gollwng y pedwar angel sy’n rhwym wrth yr afon fawr, Ewffrates. A gollyngwyd y pedwar angel a baratoesid erbyn yr awr, y dydd, y mis, y flwyddyn, i ladd y traean o ddynion. A nifer lluoedd y gwŷr meirch oedd ddwy fyrddiwn o fyrddiynau; clywais eu nifer hwynt. Ac fel hyn y gwelais yn y weledigaeth y meirch a’r sawl a eisteddai arnynt, — yr oedd ganddynt lurigau o liw tân a huacinth a brwmstan; a phennau’r meirch fel pennau llewod, ac o’u safnau daw allan dân a mwg a brwmstan. Gan y tri phla hyn y lladdwyd y traean o ddynion, gan y tân a’r mwg a’r brwmstan sy’n dyfod allan o’u safnau hwynt. Canys y mae gallu’r meirch yn eu safn ac yn eu cynffonnau, a’u cynffonnau sydd debyg i seirff, a chanddynt bennau, ac â’r rheini y gwnânt niwed. A’r gweddill o ddynion, nas lladdwyd gan y plâu hyn, nid edifarhasant am weithredoedd eu dwylo fel ag i beidio ag addoli ’r demoniaid a ’r delwau aur ac arian a phres a cherrig a choed, y rhai na allant na gweled na chlywed na cherdded; nid edifarhasant chwaith am eu llofruddiaethau na’u swyngyfareddau na’u godineb na’u lladradau. A gwelais angel cryf arall yn disgyn o’r nef, a chwmwl amdano, a’r enfys ar ei ben, a’i wyneb fel yr haul, a’i draed fel colofnau o dân, a chanddo yn ei law lyfryn agored. A gosododd ei droed de ar y môr, a’r un aswy ar y tir, a bloeddiodd â llais mawr fel llew yn rhuo. A phan floeddiodd, rhoes y saith daran eu llef hwythau. A phan lefodd y saith daran yr oeddwn ar fedr ysgrifennu; a chlywais lais o’r nef yn dywedyd: Selia’r pethau a lefarodd y saith daran, ac nac ysgrifenna hwynt. A chyfododd yr angel, a welais yn sefyll ar y môr ac ar y tir, ei law dde i’r nef, a thyngodd yn enw’r hwn sydd yn byw yn oes oesoedd, a greodd y nef a’r pethau ynddi, y tir a’r pethau ynddo, a’r môr a’r pethau ynddo, na byddai oedi mwyach, eithr yn nyddiau llef y seithfed angel, pan fyddai ar fedr utganu, yna y deuai i ben ddirgelwch Duw yn ôl y newyddion da a fynegodd ef i’w weision y proffwydi. Yna y llef, a glywais o’r nef, ymddiddanai drachefn â mi a dywedyd: Dos, cymer y llyfr sy’n agored yn llaw yr angel a saif ar y môr ac ar y tir. Ac euthum at yr angel gan ofyn iddo roddi i mi ’r llyfryn. A dywed wrthyf: Cymer a bwyta ef, a chwerwa ef dy fol, ond yn dy enau bydd yn felys fel mêl. Yna cymerais y llyfryn o law’r angel a bwyteais ef, ac yr oedd yn fy ngenau fel mêl o felys; a phan fwyteais ef, chwerwyd fy mol. A dywedant wrthyf: Y mae’n rhaid iti drachefn broffwydo parthed pobloedd a chenhedloedd ac ieithoedd a brenhinoedd lawer. A rhoddwyd imi gorsen debyg i ffon, gan ddywedyd: Cyfod a mesur gysegr Duw a’r allor a’r addolwyr yno. A’r cyntedd tu allan i’r cysegr gad allan, na fesur hwnnw; canys rhoddwyd ef i’r ethnig, a’r ddinas sanctaidd a fathrant ddeufis a deugain. A rhoddaf i’m dau dyst broffwydo fil deucant a thrigain o ddyddiau a sachliain amdanynt. Dyna’r ddwy olewydden a’r ddau ganhwyllbren sy’n sefyll gerbron Arglwydd y ddaear. Ac os myn neb eu niweidio, daw tân allan o’u genau a difa eu gelynion. Ac os myn neb eu niweidio, fel hynny rhaid yw ei ladd ef. Y mae gan y rhai hyn awdurdod i gloi’r nef fel na fwrio law dros ddyddiau eu proffwydo hwynt, ac y mae ganddynt awdurdod ar y dyfroedd i’w troi’n waed ac i daro’r ddaear â phob rhyw bla mor aml ag y mynnont. A phan orffennont eu tystiolaeth, rhyfela’r bwystfil a gyfyd o Annwn yn eu herbyn a gorchfyga hwynt a’u lladd. A bydd eu cyrff hwynt ar heol y ddinas fawr, a elwir o’i hysbrydoli Sodom ac Aifft, lle hefyd y croeshoeliwyd eu Harglwydd. Ac edrychir ar eu cyrff hwynt dri diwrnod a hanner gan bobloedd a llwythau ac ieithoedd a chenhedloedd, ac ni chaniatânt ddodi eu cyrff hwynt mewn bedd. A llawenha preswylwyr y ddaear o’u plegid ac ymfalchïant, ac anfonant roddion i’w gilydd, oherwydd poenodd y ddau broffwyd hyn breswylwyr y ddaear. Ac ymhen y tri diwrnod a hanner aeth anadl bywyd oddi wrth Dduw i mewn iddynt, safasant hwythau ar eu traed, a disgynnodd ofn mawr ar yr edrychwyr. A chlywsant lef uchel o’r nef yn dywedyd wrthynt: Deuwch i fyny yma; ac aethant i fyny i’r nef yn y cwmwl, ac edrychai eu gelynion arnynt. A’r awr honno bu daeargryn mawr, a syrthiodd ’y ddegfed ran o’r ddinas, a lladdwyd yn y ddaeargryn saith mil o bersonau, a brawychodd y gweddill a rhoddasant ogoniant i Dduw’r nef. Aeth yr ail wae heibio; wele’r trydydd gwae yn dyfod ar fyrder. Ac utganodd y seithfed angel; yna bu lleisiau uchel yn y nef yn dywedyd: Aeth brenhiniaeth y byd yn eiddo ein Harglwydd ni a’i Grist ef, a theyrnasa yn oes oesoedd. A’r pedwar henuriad ar hugain, sy’n eistedd ar eu gorseddau gerbron Duw, syrthiasant ar eu hwynebau, ac addolasant Dduw gan ddywedyd: Diolchwn i ti, Arglwydd Dduw hollalluog, yr hwn sydd a’r hwn oedd, am ymaflyd ohonot yn dy fawr allu a theyrnasu; a llidiodd y cenhedloedd, a daeth dy lid di ac adeg barnu’r meirw a rhoddi’r wobr i’th weision y proffwydi ac i’r saint ac i’r sawl sy’n ofni dy enw, y bychain a’r mawrion, ac i ddinistrio dinistrwyr y ddaear. Ac agorwyd teml Dduw sydd yn y nef, a gwelwyd arch ei gyfamod ef yn ei deml, a bu mellt a lleisiau a tharanau a daeargryn a chenllysg mawr. Yna gwelwyd arwydd mawr yn y nef, gwraig wedi ei gwisgo â’r haul, a’r lleuad dan ei thraed, ac ar ei phen goron o ddeuddeg seren, ac yn feichiog, a gwaedda mewn gwewyr a phoen esgor. A gwelwyd arwydd arall yn y nef, wele ddraig goch fawr ac iddi saith ben a deg corn, ac ar ei phennau saith ddïadem, a llusg ymaith ei chynffon draean sêr y nef, a bwriodd hwynt i’r ddaear. A safodd y ddraig o flaen y wraig a oedd ar fin esgor, i lyncu ei phlentyn pan esgorai arno. Ac esgorodd ar fab, gwryw, y sydd i fugeilio’r holl genhedloedd â gwialen haearn, a chipiwyd ei phlentyn at Dduw ac at ei orsedd ef. A ffodd y wraig i’r anialwch, lle y mae iddi fan wedi ei baratoi gan Dduw, fel y porthont hi yno fil deucant a thrigain o ddyddiau. A bu rhyfel yn y nef, Mihangel a’i angylion yn rhyfela yn erbyn y ddraig. A rhyfelodd y ddraig a’i hangylion hithau, eithr ni orfuant, a’u lle hwynt nis cafwyd mwyach yn y nef. A bwriwyd i lawr y ddraig fawr, yr hen sarff, a elwir Diafol a Satan, twyllwr yr holl fyd, bwriwyd ef i’r ddaear, a bwriwyd i lawr ei angylion gydag ef. Yna clywais lais mawr yn y nef yn dywedyd: Yn awr y daeth iachawdwriaeth a gallu a brenhiniaeth ein Duw ni ac awdurdod ei Grist ef, canys bwriwyd i lawr gyhuddwyr ein brodyr, sy’n eu cyhuddo gerbron ein Duw ddydd a nos. A gorchfygasant hwy ef drwy waed yr Oen a thrwy air eu tystiolaeth, a dibris hyd at angau fu ganddynt eu heinioes. Am hynny llawenhewch, nefoedd a’i phreswylwyr; gwae’r ddaear â’r môr, canys disgynnodd y diafol arnoch gyda llid mawr, gan wybod mai byr amser sydd ganddo. A phan welodd y ddraig ei bwrw i’r ddaear, ymlidiodd ar ôl y wraig a esgorasai ar y plentyn. A rhoddwyd i’r wraig ddwy adain eryr mawr fel yr ehedai i’r anialwch, i’w lle ei hun, i’w hymgeleddu yno am amser ac amserau a hanner amser o olwg y sarff. A bwriodd y sarff o’i safn ddwfr fel afon ar ôl y wraig i beri ei chludo ymaith gyda’r llif. A chynorthwyodd y ddaear y wraig; agorodd y ddaear ei safn a llyncodd yr afon a fwriodd y ddraig o’i safn. A llidiodd y ddraig wrth y wraig, ac aeth ymaith i ryfela â’r gweddill o’i had hi sy’n cadw gorchmynion Duw a dal tystiolaeth Iesu. A safodd ar dywod y môr. A gwelais fwystfil yn codi o’r môr, a chanddo ddeg corn a saith ben, ac ar ei gyrn ddeg diadem, ac ar ei bennau enwau cabledd. A thebyg oedd y bwystfil a welais i lewpard, a’i draed fel traed arth, a’i safn fel safn llew. A rhoddodd y ddraig iddo ei gallu a’i gorsedd ac awdurdod mawr; ac un o’i bennau oedd megis wedi ei archolli i farwolaeth, ond iachawyd ei glwyf marwol. Ac aeth yr holl ddaear mewn rhyfeddod ar ôl y bwystfil, ac addolasant y ddraig am roddi ohoni’r awdurdod i’r bwystfil, ac addolasant y bwystfil gan ddywedyd: Pwy sydd debyg i’r bwystfil, a phwy a all ryfela ag ef? A rhoddwyd iddo e nau yn llefaru pethau mawreddog a chableddau, a rhoddwyd iddo awdurdod i weithredu am ddau fis a deugain. Ac agorodd ei enau mewn cableddau yn erbyn Duw, i gablu ei enw ef a’i babell ef, y sawl sy’n pabellu yn y nef. A rhoddwyd iddo ryfela yn erbyn y saint a’u gorchfygu, a rhoddwyd iddo awdurdod ar bob llwyth a phobl ac iaith a chenedl. A’r holl breswylwyr ar y ddaear, addolant ef, pob un nad yw ei enw’n ysgrifenedig yn llyfr bywyd yr Oen a laddwyd er seiliad y byd. Od oes gan neb glust, gwrandawed. Os yw neb i’w gaethiwo, i gaethiwed yr â; os lladd neb â chleddyf, rhaid yw ei ladd yntau â chleddyf. Yn hyn y mae amynedd a ffydd y saint. Yna gwelais fwystfil arall yn codi o’r ddaear, ac yr oedd ganddo ddau gorn fel oen, a siaradai fel draig. A holl awdurdod y bwystfil cyntaf a arfer ef ger ei fron; a gwna i’r ddaear a’i phreswylwyr addoli’r bwystfil cyntaf, yr un yr iachawyd ei glwyf marwol. A gwna arwyddion mawrion, gwneuthur i dân ddisgyn o’r nef ar y ddaear yng ngŵydd dynion. A thwylla breswylwyr y ddaear drwy’r arwyddion y rhoddwyd iddo eu gwneuthur gerbron y bwystfil, gan ddywedyd wrth breswylwyr y ddaear am wneuthur delw i’r bwystfil sydd ag archoll y cleddau ganddo ac a fu fyw. A rhoddwyd iddo roi anadl yn nelw’r bwystfil, fel y siarado delw’r bwystfil a pheri bod lladd cynifer ag nad addolo ddelw’r bwystfil. A phair roddi i bob un, bychan a mawr, cyfoethog a thlawd, rhydd a chaeth, nod ar eu llaw ddeau neu ar eu talcen, fel na allo neb brynu na gwerthu oni bo ganddo’r nod, enw’r bwystfil neu rif ei enw ef. Yn hyn y mae doethineb: cyfrifed y deallgar rif y bwystfil, canys rhif dyn ydyw, a’i rif yw 666. Yna edrychais ac wele’r Oen yn sefyll ar fynydd Seion, a chydag ef gant pedwar deg a phedair o filoedd, a chanddynt ei enw ac enw ei Dad ef yn ysgrifenedig ar eu talcennau hwynt. A chlywais sŵn o’r nef fel sŵn dyfroedd lawer ac fel sŵn taran fawr, a’r sŵn a glywais oedd fel sŵn telynorion yn canu eu telynau. A chanant gân newydd o flaen yr orsedd ac o flaen y pedwar peth byw a’r henuriaid; ac ni allai neb ddysgu’r gân oddieithr y cant pedwar deg a phedair o filoedd, y prynedigion o’r ddaear. Dyma’r rhai na halogwyd gyda benywod, canys gwyryfon ydynt. Dyma’r rhai sy’n dilyn yr Oen i ba le bynnag yr elo. Prynwyd y rhai hyn o blith dynion yn flaenffrwyth i Dduw ac i’r Oen, ac yn eu genau ni chafwyd celwydd; difeius ydynt. A gwelais angel arall yn ehedeg yn yr entrych, a chanddo efengyl dragwyddol i efengylu i’r rhai a breswylia ar y ddaear ac i bob cenedl a llwyth ac iaith a phobl, gan ddywedyd â llef uchel: Ofnwch Dduw a rhoddwch iddo ogoniant, canys daeth awr ei farn ef, ac addolwch wneuthurwr y nef a’r ddaear, y môr a ffynhonnau dyfroedd. A dilynodd un arall, ail angel, gan ddywedyd: Cwympodd, cwympodd Babilon fawr, a wnaeth i’r holl genhedloedd yfed o win llid ei godineb. A dilynodd un arall hwynt, trydydd angel, gan ddywedyd â llef uchel: Os addola neb y bwystfil a’i ddelw, a chymryd nod ar ei dalcen neu ar ei law, yf yntau o win llid Duw, a gymysgwyd yn ei lawn rym yng nghwpan ei ddigofaint; a phoenydir ef mewn tân a brwmstan yng ngŵydd angylion sanctaidd ac yng ngŵydd yr Oen. A chyfyd mwg eu poenedigaeth yn oes oesoedd, ac ni chânt lonydd na dydd na nos, addolwyr y bwystfil a’i ddelw, na neb pwy bynnag a gymero nod ei enw ef. Yn hyn y mae amynedd y saint y sy’n cadw gorchmynion Duw a ffydd Iesu. Yna clywais lais o’r nef yn dywedyd, Ysgrifenna: O hyn allan gwyn eu byd y meirw sy’n marw yn yr Arglwydd; Ie, medd yr Ysbryd, gorffwysant oddi wrth eu llafur; canys â eu gweithredoedd gyda hwynt. Yna edrychais ac wele gwmwl gwyn, ac yn eistedd ar y cwmwl un tebyg i fab dyn, a chanddo ar ei ben goron aur ac yn ei law gryman miniog. A daeth angel arall allan o’r deml, gan weiddi â llef uchel ar yr hwn a eisteddai ar y cwmwl: Estyn dy gryman a med, canys daeth yr awr i fedi, oblegid llawn aeddfedodd cynhaeaf y ddaear. A bwriodd yr hwn a eisteddai ar y cwmwl ei gryman i’r ddaear, a medwyd y ddaear. A daeth angel arall allan o’r deml oedd yn y nef, a chanddo yntau hefyd gryman miniog. A daeth angel arall allan o’r allor, yr un a feddai awdurdod ar y tân, a llefodd â llef uchel ar yr un yr oedd ganddo’r cryman miniog: Estyn dy gryman miniog a chasgl sypiau gwinwydden y ddaear, canys aeddfedodd ei grawn. A bwriodd yr angel ei gryman i’r ddaear, a chasglodd ffrwyth gwinwydden y ddaear a’i fwrw i winwryf mawr digofaint Duw. A sathrwyd y gwinwryf, tu allan i’r ddinas, a daeth gwaed allan o’r gwinwryf i fyny at ffrwynau’r meirch, bellter o un cant ar bymtheg o ystadau. A gwelais arwydd arall yn y nef, mawr a rhyfeddol, saith angel, a chanddynt y saith bla, y rhai diwethaf, oblegid ynddynt y cyflawnwyd digofaint Duw. A gwelais megis môr gwydr cymysgedig â thân, a’r rhai a fuddugoliaethai ar y bwystfil ac ar ei ddelw ac ar rif ei enw yn sefyll ar y môr gwydr, a chanddynt delynau Duw. A chanant gân Moses gwas Duw a chân yr Oen, gan ddywedyd: Mawr a rhyfeddol dy weithredoedd, Arglwydd Dduw hollalluog; cyfiawn a gwir dy ffyrdd, Frenin y cenhedloedd; pwy nid ofna, Arglwydd, a gogoneddu dy enw? Canys ti’n unig sydd sanctaidd, a daw’r holl genhedloedd ac addoli ger dy fron, oblegid gwnaethpwyd yn amlwg dy gyfiawnderau. Ac ar ôl hyn edrychais, ac agorwyd cysegr pabell y dystiolaeth yn y nef, a daeth allan o’r cysegr y saith angel yr oedd y saith bla ganddynt, wedi eu gwisgo â lliain glân disglair ac amgylch-wregysu eu dwyfronnau â gwregysau aur. Ac un o’r pedwar peth byw a roes i’r saith angel saith ffiol aur yn llawn o lid Duw y sydd yn byw yn oes oesoedd. A llanwyd y cysegr â mwg o ogoniant Duw ac o’i nerth ef, ac ni allai neb fyned i mewn i’r cysegr hyd oni chyflawnid saith bla’r saith angel. A chlywais lef uchel o’r cysegr yn dywedyd wrth y saith angel: Ewch a thywelltwch y saith ffiol o lid Duw ar y ddaear. Ac aeth y cyntaf allan a thywalltodd ei ffiol ar y ddaear; a daeth cornwyd drwg a blin ar y dynion oedd â nod y bwystfil arnynt ac yn addoli ei ddelw. A thywalltodd yr ail ei ffiol ar y môr; a daeth gwaed megis gwaed un marw, a threngodd popeth byw a oedd yn y môr. A thywalltodd y trydydd ei ffiol ar yr afonydd a ffynhonnau ’r dyfroedd; a daeth gwaed. A chlywais angel y dyfroedd yn dywedyd: Cyfiawn wyt, yr hwn sydd a’r hwn oedd, y sanctaidd, canys dy ddedfryd oedd hyn: am dywallt ohonynt waed saint a phroffwydi, rhoddaist iddynt hwythau waed i’w yfed; dyma a haeddant. A chlywais yr allor yn dywedyd: Ie, Arglwydd Dduw hollalluog, cywir a chyfiawn yw dy farnedigaethau. A thywalltodd y pedwerydd ei ffiol ar yr haul; a rhoddwyd iddo losgi dynion â thân. A llosgwyd dynion â gwres mawr, a chablasant enw Duw y sydd ag awdurdod ganddo ar y plâu hyn, ac nid edifarhasant i roddi iddo ogoniant. A thywalltodd y pumed ei ffiol ar orseddfainc y bwystfil; ac aeth ei deyrnas yn dywyll, a chnoent eu tafodau gan boen, a chablasant Dduw’r nef oherwydd eu poenau ac oherwydd eu cornwydydd, ac nid edifarhasant am eu gweithredoedd. A thywalltodd y chweched ei ffiol ar yr afon fawr, Ewffrates; a sychodd ei dwfr fel y paratoid ffordd y brenhinoedd o’r dwyrain. A gwelais o safn y ddraig ac o safn y bwystfil ac o safn y gau broffwyd dri ysbryd aflan megis llyffaint; canys ysbrydion cythreuliaid ydynt, yn gwneuthur arwyddion, ac ânt allan yn erbyn brenhinoedd yr holl fyd i’w casglu ynghyd i ryfel dydd mawr Duw hollalluog. (Wele, yr wyf yn dyfod fel lleidr; gwyn ei fyd y sawl sy’n effro ac yn cadw ei ddillad amdano, fel na rodio’n noeth ac na welont ei noethni.) A chasglasant hwynt ynghyd i’r lle a elwir yn Hebraeg Harmagedon. A thywalltodd y seithfed ei ffiol ar yr awyr; a daeth llef uchel allan o’r cysegr, o’r orsedd, yn dywedyd: Dyna’r diwedd. A bu mellt a lleisiau a tharanau, a bu daeargryn mawr na ddigwyddodd ei fath er pan yw dyn ar y ddaear, daeargryn mor anferth o fawr. Ac aeth y ddinas fawr yn dair rhan, a chwympodd dinasoedd y cenhedloedd. A galwyd Babilon fawr i gof gan Dduw i roddi iddi gwpan gwin llid ei ddigofaint ef. A diflannodd pob ynys, a mynyddoedd nis cafwyd. A disgyn cenllysg mawr, tua thalent yr un o bwysau, o’r nef ar ddynion; a chablodd y dynion Dduw oherwydd pla’r cenllysg, canys ofnadwy o fawr yw pla’r cenllysg. A daeth un o’r saith angel yr oedd y saith ffiol ganddynt, ac ymddiddanodd â mi gan ddywedyd: Tyrd yma, dangosaf iti’r ddedfryd ar y butain fawr sy’n eistedd ar ddyfroedd lawer, yr hon y puteiniodd brenhinoedd y ddaear gyda hi, ac y meddwodd trigolion y ddaear ar win ei phuteindra. A dug fi yn yr ysbryd i anialwch. A gwelais wraig yn eistedd ar fwystfil ysgarlad, yn enwau cabledd drosto i gyd, a chanddo saith ben a deg corn. A’r wraig oedd wedi ei gwisgo â phorffor ac ysgarlad, a’i goreuro ag aur ac â charreg werthfawr ac â pherlau, a chanddi yn ei llaw gwpan aur yn llawn ffieidd-derau ac aflan bethau ei phuteindra, ac ar ei thalcen enw yn ysgrifenedig, dirgelwch, “Babilon fawr, mam puteiniaid a ffieidd-derau’r ddaear.” A gwelais y wraig yn feddw ar waed y saint ac ar waed tystion Iesu. Ac o’i gweled, rhyfeddais â rhyfeddod mawr. A dywedodd yr angel wrthyf: Paham y rhyfeddaist? Dywedaf fi wrthyt ddirgelwch y wraig a’i bwystfil, ei chludydd hi, a chanddo’r saith ben a’r deg corn. Y bwystfil a welaist, bu ac nid yw, ac y mae ar godi o’r pwll, ac ar y ffordd i ddistryw. A rhyfedda trigolion y ddaear, y sawl nad ysgrifennwyd eu henw ar lyfr y bywyd er seiliad y byd, o weled y bwystfil, iddo fod ac nad yw a’i fod ar ddyfod. Dyna’r ystyr sydd â synnwyr iddi. Y saith ben, saith mynydd ydynt, lle’r eistedd y wraig. Ac y mae saith brenin; cwympodd pump, erys un, ni ddaeth y llall eto, a phan ddêl, rhaid yw iddo aros ychydig. A’r bwystfil, a fu ac nad yw, wythfed yw yntau, ac y mae o’r saith, ac ar ei ffordd i ddistryw. A’r deg corn a welaist, deg brenin ydynt, y rhai na dderbyniasant eto frenhiniaeth, eithr awdurdod fel brenhinoedd am un awr a dderbyniant gyda’r bwystfil. Y mae’r rhain yn unfryd, a rhoddant eu gallu a’u hawdurdod i’r bwystfil. Rhyfela’r rhain â’r Oen, a gorchfyga’r Oen hwynt, canys Arglwydd arglwyddi yw a Brenin brenhinoedd, a chydag ef hefyd y rhai galwedig ac etholedig a ffyddlon. A dywed wrthyf: Y dyfroedd a welaist, lle’r eistedd y butain, pobloedd a thyrfaoedd ydynt, a chenhedloedd ac ieithoedd. A’r deg corn a welaist, a’r bwystfil, hwy a gasânt y butain a’i gwneuthur yn ddiffaith a noeth, a bwytânt ei chnawd hi, a’i llosgi â thân; oblegid rhoddes Duw yn eu calonnau wneuthur ei fwriad ef, a bod yn unfryd, a rhoddi eu teyrnas i’r bwystfil hyd oni chyflawner geiriau Duw. A’r wraig a welaist yw’r ddinas fawr sydd ganddi frenhiniaeth ar frenhinoedd y ddaear. Wedi hyn gwelais angel arall yn disgyn o’r nef, a chanddo awdurdod mawr, a goleuwyd y ddaear gan ei ddisgleirdeb. A gwaeddodd â llais nerthol gan ddywedyd: Cwympodd, cwympodd Babilon fawr, ac aeth yn drigfa cythreuliaid ac yn warchodfa pob ysbryd aflan ac yn warchodfa pob aderyn aflan ac atgas; canys drwy win llid ei phuteindra hi y cwympodd yr holl genhedloedd, a phuteiniodd brenhinoedd y ddaear gyda hi, ac ymgyfoethogodd marsiandwyr y ddaear ar rwysg ei maswedd hi. A chlywais lef arall o’r nef yn dywedyd: Deuwch, fy mhobl, allan ohoni, fel na byddoch gyfrannog o’i phechodau ac na dderbynioch o’i phlâu; oblegid pentyrrwyd ei phechodau hyd y nef, a chofiodd Duw ei hanghyfiawnderau hi. Telwch iddi megis y talodd hithau, a dybiwch yn ddwbl yn ôl ei gweithredoedd; yn y cwpan a gymysgodd, cymysgwch iddi yn ddwbl; cymaint ag yr ymogoneddodd ac yr ymfoethusodd, cymaint â hynny rhoddwch iddi o boenedigaeth a galar. Canys dywed yn ei chalon: Eisteddaf yn frenhines, a gweddw nid wyf, a galar nis gwelaf byth. Oherwydd hyn mewn un dydd daw ei phlâu, marwolaeth a galar a newyn, a llosgir hi’n ulw â thân; oblegid nerthol yw’r Arglwydd Dduw, ei barnwr hi. Ac wyla a chwynfanna brenhinoedd y ddaear amdani hi, y rhai a buteiniodd gyda hi ac ymfoethuso, pan welont fwg ei llosgi hi; safant o hirbell gan ofn ei phoenedigaeth, a dywedyd: Gwae, gwae’r ddinas fawr, Babilon, y ddinas gadarn, canys mewn un awr y daeth dy farn. Ac wyla a galara marsiandwyr y ddaear amdani, oherwydd ni phrŷn neb mwy eu nwyddau hwynt, nwyddau aur ac arian a charreg werthfawr a pherlau a lliain main a phorffor a sidan ac ysgarlad, pob pren thwmïon a phob llestr ifori a phob llestr o goed gwerthfawrocaf ac o bres ac o haearn ac o farmor, a sinamon ac amomon, a pherlysiau a myrr a thus a gwin ac olew a pheilliaid a gwenith a gwartheg a defaid, meirch a cherbydau a dynion yn gyrff ac eneidiau. A chiliodd dy ffrwyth, chwennych-beth dy enaid, oddi wrthyt, a diflannodd pob rhyw fraster a gwychder oddi wrthyt, ac ni cheir mohonynt byth mwy. Marsiandwyr y pethau hyn, a ymgyfoethogodd drwyddi, safant o hirbell gan ofn ei phoenedigaeth, dan wylo a galaru a dywedyd: Gwae, gwae’r ddinas fawr, a wisgwyd â lliain main a phorffor ac ysgarlad, ac wedi ei goreuro ag aur ac â charreg werthfawr ac â pherl, canys difodwyd cymaint cyfoeth mewn un awr. A phob meistr llong a phob un a hwylio i ryw fan, a morwyr a’r sawl sy’n gweithio ar y môr, safasant o hirbell a gweiddi wrth weled mwg ei llosgi a dywedyd: Pa ddinas debyg i’r ddinas fawr? A bwriasant lwch ar eu pennau, a gweiddi dan wylo a galaru, gan ddywedyd: Gwae, gwae’r ddinas fawr, yn yr hon yr ymgyfoethogodd yr holl rai sydd â llongau ar y môr drwy ei drudfawr bethau hi, oherwydd mewn un awr y gwnaethpwyd hi’n ddiffaith. Ymlawenha o’i herwydd, dydi nef a’r saint a’r apostolion a’r proffwydi, canys barnodd Duw eich condemniad chwi arni hi. A chododd rhyw angel cryf faen fel maen melin mawr, a bwriodd ef i’r môr, gan ddywedyd: Felly gyda rhuthr y bwrir Babilon, y ddinas fawr, ac ni cheir hi mwyach. A sŵn telynorion a chantorion a phibyddion ac utganwyr nis clywir mwyach o’th fewn, a chrefftwr o unrhyw grefft nis ceir mwyach o’th fewn, a sŵn maen melin nis clywir ynot mwy, a golau lamp nis gwelir ynot mwy, a llais priodfab a phriodferch nis clywir ynot mwyach, canys mawrion y ddaear oedd dy farsiandwyr, ac â’th swyngyfaredd y twyllwyd yr holl genhedloedd, ac ynddi hi y cafwyd gwaed proffwydi a saint a phawb a’r a laddwyd ar y ddaear. Wedi hyn clywais megis llais uchel tyrfa fawr yn y nef yn dywedyd: Aleliwia; eiddo ein Duw ni yw’r iachawdwriaeth a’r gogoniant a’r gallu, canys cywir a chyfiawn yw ei farnedigaethau ef; oherwydd barnodd y butain fawr a lygrodd y ddaear â’i phuteindra, a mynnodd iawn oddi ar ei llaw am waed ei weision. Ac eilwaith y dywedasant: Aleliwia; ac esgyn ei mwg hi yn oes oesoedd. A syrthiodd y pedwar henuriad ar hugain a’r pedwar peth byw, ac addolasant Dduw sy’n eistedd ar yr orsedd, gan ddywedyd: Amen, Aleliwia. A daeth llais allan o’r orsedd yn dywedyd: Molwch ein Duw ni, ei holl weision ef y sy’n ei ofni ef, fach a mawr. A chlywais megis sŵn tyrfa fawr ac megis sŵn dyfroedd lawer ac megis sŵn taranau nerthol, yn dywedyd: Aleliwia, oblegid yn awr teyrnasa yr Arglwydd ein Duw hollalluog. Llawenhawn a gorfoleddwn, a rhoddwn iddo’r gogoniant, canys daeth priodas yr Oen, a’i briod ef a ymbaratôdd, a rhoddwyd iddi wisgo lliain main disgleirwyn; canys cyfiawnderau’r saint yw’r lliain main. Yna dywed wrthyf, Ysgrifenna: Gwyn eu byd y rhai a alwyd i wledd priodas yr Oen. A dywed wrthyf: Dyma wir eiriau Duw. Yna syrthiais wrth ei draed i’w addoli, a dywed wrthyf: Gwylia, paid! cyd-was ydwyf â thi ac â’th frodyr sydd ganddynt dystiolaeth Iesu; addola Dduw. Oblegid tystiolaeth Iesu yw ysbryd proffwydoliaeth. A gwelais y nef yn agored, ac wele farch gwyn a’i farchogwr, Ffyddlon a Chywir wrth ei enw, ac mewn cyfiawnder y barn ac y rhyfela. A’i lygaid oedd yn fflam dân, ac ar ei ben ddïademau lawer, a chanddo enw yn ysgrifenedig nas gŵyr neb ond ef ei hun, ac wedi ymwisgo â gwisg drochedig mewn gwaed, a’r enw arno oedd Gair Duw. A’r byddinoedd yn y nef, canlynent ef ar feirch gwynion, wedi ymwisgo â lliain main purwyn. Ac o’i enau daw allan gleddau miniog, i daro’r cenhedloedd ag ef; a bugeilia hwynt â gwialen haearn; a sathr winwryf angerdd llid Duw hollalluog. Ac y mae ganddo ar ei wisg ac ar ei forddwyd enw yn ysgrifenedig: BRENIN BRENHINOEDD AC ARGLWYDD ARGLWYDDI. A gwelais angel yn sefyll yn yr haul, a gwaeddodd â llais uchel, gan ddywedyd wrth yr holl adar a ehedai yn yr entrych: Deuwch, ymgesglwch i swper mawr Duw, i fwyta cnawd brenhinoedd a chnawd milwriaid a chnawd gwŷr cedyrn a chnawd meirch a’u marchogion, a chnawd pawb oll, rhydd a chaeth, bach a mawr. A gwelais y bwystfil a brenhinoedd y ddaear a’u byddinoedd wedi ymgynnull i ryfela â’r hwn sy’n eistedd ar y march ac â’i fyddin ef. A daliwyd y bwystfil a chydag ef y gau broffwyd a wnaeth arwyddion ger ei fron a thwyllo â hwynt y sawl a gymerth nod y bwystfil ac a addolai ei ddelw ef; bwriwyd hwynt yn fyw ill dau i’r llyn tân yn llosgi â brwmstan. A lladdwyd y gweddill â’r cleddau a ddaeth allan o enau’r un a eisteddai ar y march, a chafodd yr holl adar eu gwala o’u cnawd hwynt. A gwelais angel yn disgyn o’r nef, a chanddo allwedd y pwll a chadwyn fawr yn ei law. A gafaelodd yn y ddraig, yr hen sarff, sef Diafol a Satan, a rhwymodd ef am fil o flynyddoedd; yna bwriodd ef i’r pwll, a chloi a selio arno fel na thwyllo’r cenhedloedd mwyach, hyd oni chyflawner y mil blynyddoedd; wedi hynny rhaid yw ei ryddhau am ychydig amser. Yna gwelais orseddau, ac yn eistedd arnynt y sawl y rhoddwyd iddynt hawl i farnu, sef eneidiau’r rhai a ddienyddiwyd am dystiolaeth Iesu ac am air Duw, a’r rhai nad addolasant y bwystfil na’i ddelw ef ac na chymerasant y nod ar eu talcen ac ar eu llaw. A buant fyw a theyrnasu gyda Christ fil o flynyddoedd. A’r gweddill o’r meirw, ni fuant fyw nes cyflawni’r mil blynyddoedd. Dyma’r atgyfodiad cyntaf. Gwyn ei fyd a sanctaidd yw’r hwn sydd iddo ran yn yr atgyfodiad cyntaf; ar y rhai hyn ni fedd yr ail farwolaeth awdurdod, eithr byddant yn offeiriaid Duw a Christ, a theyrnasant gydag ef am y mil blynyddoedd. A phan gyflawner y mil blynyddoedd, gollyngir Satan o’i garchar, ac â allan i dwyllo’r cenhedloedd sydd ym mhedair congl y ddaear, Gog a Magog, i’w cynnull ynghyd i’r rhyfel, a’u nifer fel tywod y môr. Ac aethant i fyny dros led y ddaear, ac amgylchu gwersyll y saint a’r ddinas gu; a disgynnodd tân o’r nef a difaodd hwynt; a bwriwyd diafol, eu twyllwr, i’r llyn o dân a brwmstan, lle hefyd, y mae’r bwystfil a’r gau-broffwyd, a phoenydir hwynt ddydd a nos yn oes oesoedd. A gwelais orsedd fawr wen ac yn eistedd arni yr un y ffodd y ddaear a’r nef o’i ŵydd, a lle nis cafwyd iddynt. A gwelais y meirw, fawr a mân, yn sefyll gerbron yr orsedd, ac agorwyd llyfrau. Yna agorwyd llyfr arall — llyfr y bywyd — a barnwyd y meirw wrth y pethau ysgrifenedig yn y llyfrau, yn ôl eu gweithredoedd. A rhoddodd y môr y meirw oedd ynddo, a rhoddodd angau ac annwn y meirw oedd ynddynt, a barnwyd pob un yn ôl eu gweithredoedd. A bwriwyd angau ac annwn i’r llyn tân. Dyma’r ail farwolaeth, y llyn tân. A phwy bynnag nis cafwyd yn ysgrifenedig yn llyfr y bywyd, bwriwyd ef i’r llyn tân. A gwelais nef newydd a daear newydd, canys diflannodd y nef gyntaf a’r ddaear gyntaf, a’r môr nid yw mwyach. A’r ddinas sanctaidd, Jerwsalem newydd, a welais yn disgyn o’r nef oddi wrth Dduw, wedi ei pharatoi fel priodferch a addurnwyd i’w gŵr. A chlywais lais mawr o’r orsedd yn dywedyd: Wele babell Duw gyda dynion, a phabella gyda hwynt, a hwy fyddant ei bobl, a bydd Duw ei hun gyda hwynt, sych ymaith bob deigryn o’u llygaid hwynt, ac angau ni bydd mwyach, na galar na gwaedd na phoen ni bydd mwyach; canys diflannodd y pethau cyntaf. A dywedodd yr un a eisteddai ar yr orsedd: Wele, yn newydd y gwnaf bopeth. Yna dywed: Ysgrifenna, canys y geiriau hyn, ffyddlon a chywir ydynt. A dywedodd wrthyf: Daethant i ben. Myfi yw’r Alffa a’r Omega, y dechrau a’r diwedd. I’r hwn sydd sychedig rhoddaf o ffynnon dwfr y bywyd yn rhad. Yr hwn sy’n gorchfygu, etifedda’r pethau hyn, a b yddaf iddo’n Dduw, a bydd yntau’n fab i mi. Ond am y rhai llwfr ac anffyddiog a ffiaidd a llofruddion a phuteinwyr a swyngyfareddwyr ac eilunaddolwyr a phawb celwyddog, bydd eu rhan yn y llyn yn llosgi gan dân a brwmstan, sef yw hynny, yr ail farwolaeth. A daeth un o’r saith angel y sydd ganddynt y saith ffiol yn llawn o’r saith bla diwethaf, ac ymddiddanodd â mi, gan ddywedyd: Tyred, dangosaf iti’r briodferch, gwraig yr Oen. A dug fi ymaith yn yr ysbryd i fynydd mawr ac uchel, a dangosodd imi ’r ddinas sanctaidd, Jerwsalem, yn disgyn o’r nef oddi wrth Dduw, a gogoniant Duw ganddi; ei disgleirdeb oedd debyg i faen o’r gwerthfawrocaf, megis maen iaspis yn disgleirio fel grisial; a’i mur oedd fawr ac uchel, ac iddi ddeuddeg porth, ac wrth y pyrth ddeuddeg angel, ac enwau yn ysgrifenedig, sef enwau deuddeg llwyth meibion Israel; o du’r dwyrain tri phorth, ac o du’r gogledd tri phorth, ac o du’r de tri phorth, ac o du’r gorllewin tri phorth. Ac i fur y ddinas y mae deuddeg sylfaen, ac arnynt ddeuddeg enw deuddeg apostol yr Oen. Ac yr oedd gan yr un a ymddiddanai â mi fesur, corsen aur, i fesuro’r ddinas a’i phyrth a’i mur. Ac y mae’r ddinas wedi ei gosod yn bedair-onglog, a’i hyd yn ogymaint â’i lled. A mesurodd y ddinas â’r gorsen yn ddeuddeng mil o ystadau; ei hyd a’i lled a’i huchder sydd gyfartal. A mesurodd ei mur hi yn gant pedwar deg a phedwar o gufyddau, wrth fesur dyn, hynny yw, eiddo angel. Ac yng ngwneuthuriad ei mur yr oedd iaspis, a’r ddinas sydd o aur pur cyffelyb i wydr gloyw. Y mae sylfeini mur y ddinas yn addurnedig â phob rhyw faen gwerthfawr; y sylfaen cyntaf iaspis, yr ail saffir, y trydydd chalcedon, y pedwerydd smaragdin, y pumed sardonycs, y chweched sardion, y seithfed chrusolith, yr wythfed beryl, y nawfed topas, y degfed chrusopas, yr unfed ar ddeg huacinth, y deuddegfed amethyst. A’r deuddeg porth, deuddeg perl oeddynt; pob un o’r pyrth oedd o un perl. A heol y ddinas oedd o aur pur fel gwydr tryloyw. A theml ni welais ynddi; canys yr Arglwydd Dduw hollalluog yw ei theml hi, a’r Oen. Ac nid rhaid i’r ddinas wrth yr haul na’r lleuad i dywynnu arni; canys goleuodd gogoniant Duw hi, a’i llusern yw’r Oen. A rhodia’r cenhedloedd wrth ei golau hi, a dwg brenhinoedd y ddaear eu gogoniant iddi; a ’i phyrth hi nis caeir y dydd, canys ni bydd nos yno; a dygant ogoniant ac anrhydedd y cenhedloedd iddi. Ac nid â i mewn iddi ddim cyffredin na neb a wna ffieidd-dra na chelwydd, neb ond y sawl a ysgrifennwyd yn llyfr bywyd yr Oen. A dangosodd imi afon o ddwfr bywyd, ddisglair fel grisial, yn dyfod allan o orsedd Duw a’r Oen. Ynghanol ei heol hi, ac o ddau tu’r afon, yr oedd pren bywyd yn dwyn deuddeg ffrwyth, yn rhoddi ei ffrwyth bob mis, a dail y pren oedd er iachâd y cenhedloedd. Ac ni bydd dim melltith mwyach. A bydd gorsedd Duw a’r Oen ynddi, a gwasnaetha ei weision ef; a gwelant ei wyneb, a bydd ei enw ar eu talcennau. Ac ni bydd nos mwyach, ac nid rhaid iddynt wrth olau lamp na golau haul, canys goleua’r Arglwydd Dduw iddynt, a theyrnasant yn oes oesoedd. A dywedodd wrthyf: Dyma’r geiriau ffyddlon a chywir, ac anfonodd Arglwydd Dduw ysbrydoedd y proffwydi ei angel i ddangos i’w weision y pethau sydd raid iddynt ddigwydd ar fyrder. Ac wele yr wyf yn dyfod ar frys. Gwyn ei fyd y neb sy’n cadw geiriau proffwydoliaeth y llyfr hwn. A myfi Ioan yw’r hwn sy’n clywed ac yn gweled y pethau hyn. A phan glywais a gweled, syrthiais i addoli wrth draed yr angel a’u dangosai hwynt imi. A dywed wrthyf: Gwylia, paid! cyd-was ydwyf â thi ac â’th frodyr y proffwydi ac â’r rhai sy’n cadw geiriau’r llyfr hwn; addola Dduw. A dywed wrthyf: Na selia eiriau proffwydoliaeth y llyfr hwn; canys y mae’r amser yn agos. Yr anghyfiawn, bydded anghyfiawn eto, a’r aflan, aflaneiddier ef eto, a’r cyfiawn, gwneled gyfiawnder eto, a’r sanctaidd, sancteiddier ef eto. Wele yr wyf yn dyfod ar frys, a’m tâl gyda mi, i roddi i bob un fel y bo ei waith. Myfi yw’r Alffa a’r Omega, y cyntaf a’r diwethaf, y dechrau a’r diwedd. Gwyn eu byd y rhai sy’n golchi eu mentyll, fel y byddo hawl ganddynt ar bren y bywyd, ac yr elont i mewn drwy’r pyrth i’r ddinas. Oddi allan y mae’r cŵn a’r swyngyfareddwyr a’r puteinwyr a’r llofruddion a’r eilunaddolwyr a phob un sy’n caru ac yn gwneuthur twyll. Myfi, Iesu, anfonais fy angel i dystiolaethu i chwi’r pethau hyn er mwyn yr eglwysi. Myfi yw gwreiddyn a hiliogaeth Dafydd, y seren ddisglair fore. A dywed yr ysbryd a’r briodferch: Tyred. A dyweded y neb a glyw: Tyred. A deued y sychedig, cymered y neb a ewyllysio ddwfr bywyd yn rhad. Tystiolaethaf i bob un a glyw eiriau proffwydoliaeth y llyfr hwn: Os chwanega neb atynt, chwanega Duw iddo yntau y plâu sy’n ysgrifenedig yn y llyfr hwn. Ac os tyn neb oddi wrth eiriau llyfr y broffwydoliaeth hon, tyn Duw ei ran ef o bren y bywyd ac o’r ddinas sanctaidd, pethau sy’n ysgrifenedig yn y llyfr hwn. Dywed yr hwn sy’n tystiolaethu’r pethau hyn: Ie, yr wyf yn dyfod ar frys. Amen, tyred, Arglwydd Iesu. Gras yr Arglwydd Iesu fyddo gyda phawb.