Llyfr cenedliad Iesu Grist, mab Dafydd, mab Abraham. Abraham a genedlodd Isaac; ac Isaac a genedlodd Jacob; a Jacob a genedlodd Judah a'i frodyr; a Judah a genedlodd Phares a Zarah o Tamar; a Phares a genedlodd Hesron; ac Hesron a genedlodd Ram; a Ram a genedlodd Aminadab; ac Aminadab a genedlodd Nahson; a Nahson a genedlodd Salmon; a Salmon a genedlodd Boaz o Rahab; a Boaz a genedlodd Obed o Ruth; ac Obed a genedlodd Jesse; a Jesse a genedlodd Dafydd Frenin; a Dafydd a genedlodd Solomon o weddw Urïas; a Solomon a genedlodd Rehoboam; a Rehoboam a genedlodd Abïah; ac Abïah a genedlodd Asa; Ac Asa a genedlodd Jehosaphat; a Jehosaphat a genedlodd Joram; a Joram a genedlodd Uzzïah; ac Uzzïah a genedlodd Jotham; a Jotham a genedlodd Ahaz; ac Ahaz a genedlodd Hezecïah; a Hezecïah a genedlodd Manasseh; a Manasseh a genedlodd Amon; ac Amon a genedlodd Josiah; a Josiah a genedlodd Jechonïah a'i frodyr, ar adeg y caethgludiad i Babilon. Ac wedi y caethgludiad i Babilon, Jechoniah a genedlodd Salathiel; a Salathiel a genedlodd Zorobabel; a Zorobabel a genedlodd Abïud; ac Abïud a genedlodd Eliacim; ac Eliacim a genedlodd Azor; ac Azor a genedlodd Sadoc; a Sadoc a genedlodd Achim; ac Achim a genedlodd Elïud; ac Elïud a genedlodd Eleazar; ac Eleazar a genedlodd Matthan; a Matthan a genedlodd Jacob; a Jacob a genedlodd Joseph, gwr Mair, o'r hon y ganed Iesu, yr hwn a elwir Crist. Yr holl genedlaethau, gan hyny, o Abraham hyd Ddafydd, oeddynt bedair cenedlaeth ar ddeg; ac o Ddafydd hyd y caethgludiad i Babilon, pedair cenedlaeth ar ddeg; ac o'r caethgludiad i Babilon hyd y Crist, pedair cenedlaeth ar ddeg. A genedigaeth yr Iesu Grist oedd fel hyn: Mair ei fam ef, wedi ei dyweddïo â Joseph, cyn eu dyfod hwy yn nghyd, a gafwyd yn feichiog o'r Yspryd Glân. A Joseph ei gwr hi, yr hwn oedd ddyn cyfiawn, ac yn anfoddlon i'w gwneyd yn esiampl cyhoeddus, a ewyllysiai ei gollwng ymaith yn ddirgel. Ac efe yn meddwl y pethau hyn, wele, angel yr Arglwydd a ymddangosodd iddo mewn breuddwyd, gan ddywedyd, Joseph, fab Dafydd, nac ofna gymmeryd atat Mair dy wraig, canys yr hyn a genedlwyd ynddi sydd o'r Yspryd Glân. A hi a esgor ar fab, a thi a elwi ei enw ef IESU; oblegyd EFE a wared ei bobl oddiwrth eu pechodau. A hyn oll a wnaethpwyd fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd gan yr Arglwydd trwy y Proffwyd, gan ddywedyd, Wele, Y Forwyn a fydd feichiog, ac a esgor ar fab, a hwy a alwant ei enw ef Immanuel, yr hyn o'i ddeongli ydyw, Duw gyda ni. A Joseph, pan gyfododd o'i gwsg, a wnaeth fel y gorchymynasai angel yr Arglwydd iddo, ac a gymmerodd ato ei wraig; ac nid adnabu efe hi hyd oni esgorodd ar fab; ac efe a alwodd ei enw ef IESU. Ac wedi geni yr Iesu yn Bethlehem Judea, yn nyddiau Herod frenin, wele, Magiaid o'r Dwyrain a ddaethant i Jerusalem, gan ddywedyd, Pa le y mae Brenin yr Iuddewon, yr hwn a anwyd? Canys gwelsom ei Seren ef yn y Dwyrain, a daethom i'w addoli ef. A phan glybu Herod frenin, efe a gythryblwyd, a holl Jerusalem gydag ef. A chan ddwyn yn nghyd yr holl Archoffeiriaid ac Ysgrifenyddion y bobl, efe a ymofynodd â hwynt pa le y genid y Crist. A hwy a ddywedasant wrtho, Yn Bethlehem Judea, canys felly yr ysgrifenwyd trwy y proffwyd, “A thithau, Bethlehem, tir Judah, nid wyt o gwbl y lleiaf yn mhlith tywysogion Judah, canys allan o honot ti y daw Arweinydd, yr hwn a fugeilia fy mhobl Israel.” Yna Herod a alwodd y Magiaid yn ddirgel, a mynodd wybod yn fanwl ganddynt amser y seren a ymddangosodd. A chan eu danfon i Bethlehem, efe a ddywedodd, Ewch ac ymofynwch yn fanwl am y mab bychan, a phan gaffoch ef, mynegwch i mi, fel y delwyf finau hefyd a'i addoli ef. A hwythau, wedi clywed y brenin, a aethant i'w ffordd; ac wele y Seren, yr hon a welsant yn y Dwyrain, a aeth o'u blaen hwy, hyd oni ddaeth a sefyll goruwch y lle yr oedd y mab bychan. A phan welsant y Seren, llawenychasant â llawenydd mawr dros ben. Ac wedi dyfod i'r tŷ, hwy a welsant y mab bychan gyda Mair ei fam, a chan syrthio i lawr, hwy a'i haddolasant ef, a chan agor eu trysorau, hwy a offrymasant iddo aur, a thus, a myrr. Ac wedi derbyn cyfarwyddyd mewn breuddwyd na ddychwelent at Herod, ar hyd ffordd arall hwy a ymadawsant i'w gwlad. Ac wedi iddynt ymado, wele angel yr Arglwydd yn ymddangos i Joseph mewn breuddwyd, gan ddywedyd, Cyfod, cymmer y mab bychan a'i fam, a ffo i'r Aifft, a bydd yno hyd oni ddywedwyf i ti, canys Herod sydd ar geisio y mab bychan i'w ddyfetha ef. Ac efe a gyfododd ac a gymmerodd y mab bychan a'i fam o hyd nos, ac a giliodd i'r Aifft, ac a fu yno hyd farwolaeth Herod, fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd gan yr Arglwydd drwy y proffwyd, gan ddywedyd, “O'r Aifft y gelwais fy mab”. Yna Herod, pan welodd ei dwyllo gan y Magiaid, a fu ddigllawn iawn, ac a ddanfonodd ac a laddodd yr holl fechgyn oeddynt yn Bethlehem ac yn ei holl gyffiniau, o ddwyflwydd oed a than hyny, wrth yr amser y dysgasai yn gywir oddiwrth y Magiaid. Yna y cyflawnwyd yr hyn a ddywedwyd drwy Jeremiah y proffwyd, gan ddywedwyd, “Llef a glybuwyd yn Ramah, Wylofain ac ochain mawr, Rahel yn wylo am ei phlant, Ac ni fynai ei chysuro, am nad ydynt.” Ond wedi marw Herod, wele Angel yr Arglwydd yn ymddangos mewn breuddwyd i Joseph yn yr Aifft, gan ddywedyd, Cyfod, a chymmer y mab bychan a'i fam, a dos i dir Israel, canys y mae y rhai a geisient fywyd y mab bychan wedi marw. Ac efe a gyfododd ac a gymmerodd y mab bychan a'i fam, ac a ddaeth i dir Israel. Ond pan glybu fod Archelaus yn teyrnasu ar Judea yn lle ei dad Herod, efe a ofnodd fyned yno; ac wedi ei gyfarwyddo mewn breuddwyd, efe a giliodd i barthau Galilea, ac a ddaeth ac a drigodd mewn dinas a elwir Nazareth, fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid drwy y proffwydi, “Efe a elwir yn Nazaread ”. Ac yn y dyddiau hyny y mae Ioan Fedyddiwr yn dyfod allan, gan bregethu yn Niffaethwch Judea, gan ddywedyd, Edifarhewch, canys y mae Teyrnas Nefoedd wedi neshau. Oblegyd hwn yw efe y dywedwyd am dano drwy Esaiah y proffwyd, gan ddywedyd, “Llef un yn llefain, Yn y Diffaethwch parotowch ffordd yr Arglwydd, Gwnewch yn uniawn ei lwybrau ef.” Ac Ioan ei hun oedd a'i wisg o flew camel, a gwregys lledr o gylch ei lwynau, a'i fwyd oedd locustiaid a mel gwyllt. Yna yr aeth allan ato ef Jerusalem a holl Judea, a'r holl wlad o amgylch yr Iorddonen, a hwy a fedyddiwyd yn afon yr Iorddonen ganddo ef, gan gyffesu eu pechodau. A phan welodd efe lawer o'r Pharisëaid ac o'r Saducëaid yn dyfod i'w fedydd, efe a ddywedodd wrthynt, O epil gwiberod, pwy a'ch rhybuddiodd i ffoi rhag y llid sydd ar ddyfod? Dygwch, gan hyny, ffrwyth teilwng o edifeirwch. Ac na feddyliwch ddywedyd ynoch eich hunain, Y mae genym ni Abraham yn dad, canys yr wyf yn dywedyd i chwi y dichon Duw o'r meini hyn gyfodi plant i Abraham. Ac yn barod y mae y fwyell yn cael ei gosod wrth wraidd y prenau; pob pren, gan hyny, nad yw yn dwyn ffrwyth da sydd yn cael ei dori i lawr a'i daflu i dân. Myfi yn ddiau wyf yn eich bedyddio chwi mewn dwfr i edifeirwch; eithr yr Hwn sydd yn dyfod ar fy ol I sydd gryfach nâ myfi, esgidiau yr hwn nid wyf deilwng i'w dwyn, efe a'ch bedyddia chwi yn yr Yspryd Glan ac yn tân. Yr hwn y mae ei nith‐raw yn ei law, ac efe a lwyr‐lanha ei lawr dyrnu, ac efe a gasgl ei yd i'w ysgubor; eithr yr us a lysg efe â thân anniffoddadwy. Yna y mae yr Iesu yn dyfod allan o Galilea i'r Iorddonen at Ioan, i'w fedyddio ganddo. Eithr efe a fynai ei lwyr rwystro, gan ddywedyd, Y mae arnaf fi eisieu fy medyddio genyt ti, ac a ddeui di ataf fi? A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Caniata yn awr, canys fel hyn y mae yn weddus i ni gyflawnu pob cyfiawnder. Yna y mae efe yn caniatau iddo. A'r Iesu wedi ei fedyddio a aeth yn y fan i fyny oddiwrth y dwfr; ac wele, y nefoedd a agorwyd iddo, ac efe a welodd Yspryd Duw yn disgyn fel colomen, ac yn dyfod arno ef; ac wele lef allan o'r Nefoedd yn dywedyd, Hwn yw fy anwyl Fab, yn yr hwn y'm boddlonwyd. Yna yr Iesu a arweiniwyd i fyny i'r Anialwch gan yr Yspryd, i'w demtio gan y Diafol. Ac wedi iddo ymprydio ddeugain niwrnod a deugain nos, o'r diwedd efe a newynodd. A'r Temtiwr a ddaeth ac a ddywedodd wrtho, Os Mab Duw wyt ti, llefara fel y byddo i'r cerryg hyn ddyfod yn dorthau. Ond efe a atebodd ac a ddywedodd, Y mae yn ysgrifenedig, “Nid ar fara yn unig y bydd byw dyn, Ond trwy bob gair a ddaw allan o enau Duw.” Yna y mae y Diafol yn ei gymmeryd ef i'r Ddinas Sanctaidd, ac a'i gosododd ef ar binacl y Deml, ac a ddywed wrtho, Os Mab Duw wyt ti, bwrw dy hun i lawr, canys y mae yn ysgrifenedig, “I'w angylion y rhydd efe orchymyn am danat; Ac ar eu dwylaw y'th ddygant, Rhag taro o honot un amser dy droed wrth garreg.” Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Drachefn y mae yn ysgrifenedig, “Na themtia yr Arglwydd dy Dduw.” Drachefn y cymmer y Diafol ef i fynydd uchel iawn, ac a ddengys iddo holl deyrnasoedd y byd a'u gogoniant; ac a ddywedodd wrtho, Y rhai hyn oll a roddaf i ti os syrthi i lawr a'm haddoli I. Yna y dywed yr Iesu wrtho, Ymaith, Satan, canys y mae yn ysgrifenedig, “Yr Arglwydd dy Dduw a addoli, Ac efe yn unig a wasanaethi.” Yna y mae y Diafol yn ei adael ef; ac wele, angelion a ddaethant, ac a weiniasant iddo. A phan glybu efe draddodi Ioan, efe a giliodd i Galilea; a chan adael Nazareth, efe a ddaeth ac a ymgartrefodd yn Nghapernäum, yr hon sydd wrth y môr, yn nghyffiniau Zabulon a Naphtali: fel cyflawnid yr hyn a ddywedwyd trwy Esaiah y proffwyd, gan ddywedyd, “Tir Zabulon, a thir Naphtali, Ger y mor, tuhwnt i'r Iorddonen, Galilea y Cenedloedd: Y bobl oedd yn eistedd mewn tywyllwch a welsant oleuni mawr, Ac i'r rhai a eisteddent yn mro a chysgod angeu, goleuni a gyfododd iddynt.” O'r pryd hwnw y dechreuodd yr Iesu bregethu, a dywedyd, Edifarhewch, canys y mae Teyrnas Nefoedd wedi neshau. Ac yn rhodio wrth For Galilea, efe a welodd ddau frodyr, Simon, yr hwn a elwir Petr, ac Andreas ei frawd, yn bwrw taflrwyd i'r mor; canys pysgodwyr oeddynt. Ac efe a ddywed wrthynt, Deuwch ar fy ol I, ac mi a'ch gwnaf yn bysgodwyr dynion. A hwy yn ebrwydd a adawsant y rhwydau, ac a'i canlynasant ef. Ac wrth fyned rhagddo oddiyno, efe a welodd ddau frodyr ereill, Iago, mab Zebedëus, ac Ioan ei frawd, yn y cwch gyda Zebedëus eu tad, yn cyweirio eu rhwydau; ac efe a'u galwodd hwynt. Ac yn ebrwydd gadawsant y cwch a'u tad, ac a'u canlynasant ef. A'r Iesu a aeth o amgylch yn holl Galilea, gan ddysgu yn eu synagogau, a phregethu Efengyl y Deyrnas, ac iachau pob clefyd a phob afiechyd yn mhlith y bobl. A'r son am dano a aeth allan trwy holl Syria; a hwy a ddygasant ato yr holl rai drwg eu hwyl, y rhai a ddelid gan amrywiol glefydau a doluriau, y rhai a feddiannid gan gythreuliaid, y rhai lloerig, a'r rhai parlysig; ac efe a'u hiachaodd hwynt. A thorfeydd lawer a'i canlynasant ef o Galilea, o Decapolis, o Jerusalem, o Judea, ac o'r tu hwnt i'r Iorddonen. Ac wrth weled y tyrfaoedd, efe a esgynodd i'r mynydd; ac wedi iddo eistedd, ei Ddysgyblion a ddaethant ato. Ac efe a agorodd ei enau ac a'u dysgodd hwynt, gan ddywedyd, Gwyn eu byd y tlodion yn yr yspryd, canys eiddynt yw Teyrnas Nefoedd. Gwyn eu byd y rhai sydd yn galaru, canys hwy a ddyddenir. Gwyn eu byd y rhai addfwyn, canys hwy a etifeddant y ddaear. Gwyn eu byd y rhai a newynant ac a sychedant am gyfiawnder, canys hwy a ddiwellir. Gwyn eu byd y trugarogion, canys hwy a gânt drugaredd. Gwyn eu byd y rhai pur o galon, canys hwy a welant Dduw. Gwyn eu byd y tangnefeddwyr, canys hwy a elwir yn feibion i Dduw. Gwyn eu byd y rhai sydd wedi eu herlid o achos cyfiawnder, canys eiddynt yw Teyrnas Nefoedd. Gwyn eich byd pan y'ch gwaradwyddant, ac y'ch erlidiant, ac y dywedant bob drwg yn eich herbyn (a hwy yn gelwyddog), o achos fy enw I. Llawenhewch a gorfoleddwch, canys eich gwobr sydd fawr yn y Nefoedd, canys felly yr erlidiasant y Proffwydi, y rhai fuont o'ch blaen chwi. Chwi yw halen y ddaear: eithr o diflasodd yr halen, â pha beth yr helltir ef? Nid yw mwyach o unrhyw werth, ond i'w fwrw allan a'i sathru gan ddynion. Chwi yw goleuni y byd. Dinas a osodir ar fryn, nis gellir ei chuddio. Ac ni oleuant lamp ac a'i gosodant dan y mesur‐lestr, ond ar y safbren, a hi a ddysgleiria ar bawb sydd yn y tŷ. Felly, dysgleiried eich goleuni gerbron dynion, fel y gwelont eich gweithredoedd da, ac y gogoneddont eich Tad, yr hwn sydd yn y Nefoedd. Na thybiwch fy nyfod i ddyddimu y Gyfraith neu y Proffwydi: ni ddaethum i ddyddimu, ond i gyflawnu. Canys yn wir meddaf i chwi, Hyd onid êl y nef a'r ddaear heibio, un iod neu un tipyn nid ä heibio o'r Gyfraith ddim, hyd oni chwblhaer oll. Pwy bynag, gan hyny, a doro un o'r gorchymynion lleiaf hyn, ac a ddysgo i ddynion felly, lleiaf y gelwir ef yn Nheyrnas Nefoedd; ond pwy bynag a'u gwnelo ac a'u dysgo, hwn a elwir yn fawr yn Nheyrnas Nefoedd. Canys meddaf i chwi, Oni fydd eich cyfiawnder yn helaethach nag eiddo yr Ysgrifenyddion a'r Phariseaid, nid ewch i fewn i Deyrnas Nefoedd. Clywsoch y dywedid wrth yr hynafiaid, “Na lofruddia; a phwy bynag a lofruddia a fydd agored i farn.” Ond meddaf i chwi, Pob un a ddigio wrth ei frawd a fydd yn agored i'r farn: a phwy bynag a ddywedo wrth ei frawd, Y Dyhiryn! a fydd agored i'r Cynghor; a phwy bynag a ddywedo, O Ynfyd, a fydd agored i Gehenna o dân. Gan hyny, os offrymi dy rodd ar yr allor, ac yno gofio fod gan dy frawd beth yn dy erbyn, gad yno dy rodd o flaen yr allor, a dos ymaith, yn gyntaf cymmoder di â'th frawd, ac yna tyred ac offryma dy rodd. Cytuna â'th wrthwynebwr ar frys tra fyddech gydag ef ar y ffordd; rhag un amser i'r gwrthwynebwr dy draddodi at y barnwr, a'r barnwr at yr is‐swyddog, a'th daflu i garchar. Yn wir, meddaf i ti, Ni ddeui allan ddim oddiyno, hyd oni thalech y ffyrling ddiweddaf. Clywsoch y dywedwyd, “Na wna odineb.” Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi fod pob un a'r sydd yn edrych ar wraig i'w chwennychu hi wedi gwneuthur eisoes odineb â hi yn ei galon. Ac os dy lygad deheu a bair i ti dramgwyddo, tyn ef allan, a thafl oddiwrthyt; canys buddiol i ti golli un o'th aelodau, ac na thafler dy holl gorff i Gehenna. Ac os dy law ddeheu a bair i ti dramgwyddo, tor hi ymaith, a thafl oddiwrthyt; canys buddiol i ti golli un o'th aelodau, ac nac eled dy holl gorff i Gehenna. A dywedwyd, “Pwy bynag a ollyngo ymaith ei wraig, rhodded iddi lythyr ysgar.” Ond yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi fod pob un a ollyngo ymaith ei wraig, ond o achos puteindra, yn peru iddi gael ei chyfrif yn odinebwraig; a phwy bynag a briodo yr hon a ollyngwyd ymaith a odineba Trachefn, clywsoch y dywedwyd wrth yr hynafiaid, “Na thwng anudon, eithr tâl i'r Arglwydd dy lwon.” Ond yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych, Na thwng o gwbl; nac i'r Nef, canys gorseddfa Duw ydyw; nac i'r ddaear, canys troedfainc ei draed ydyw; nac i Jerusalem, canys Dinas y Brenin Mawr ydyw. Ac na thwng i'th ben, am na elli wneuthur un blewyn yn wyn neu yn ddu. Eithr bydded eich ymadrodd chwi, Ie, ïe; Nag ê, nag ê; a pha beth bynag sydd dros ben y rhai hyn, o'r drwg y mae. Clywsoch y dywedwyd, “Llygad am lygad, dant am ddant.” Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych chwi, Na wrthwynebwch yr hyn sydd ddrwg, ond pwy bynag a'th darawo ar dy rudd ddeheu, tro y llall iddo hefyd. Ac i'r neb a fyno ymgyfreithio a thi, a dwyn dy wisg isaf, gad iddo dy wisg uchaf hefyd. A phwy bynag a'th ddirgymhello i wasanaeth am un filldir, dos gydag ef ddwy. Dyro i'r hwn a ofyno genyt; ac oddiwrth yr hwn a fenthycia genyt, na thro i ffwrdd. Clywsoch y dywedwyd, “Car dy gymmydog, a chasha dy elyn” (Lef 19:17, 18). Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych chwi, cerwch eich gelynion, a gweddiwch dros y rhai a'ch erlidiant; fel y byddoch blant eich Tad, yr hwn sydd yn y Nefoedd; canys y mae efe yn peru i'w haul godi ar ddrwg a da, ac yn gwlawio ar gyfiawn ac annghyfiawn. Oblegyd os cerwch y sawl a'ch carant, pa wobr a gewch? Oni wna y Trethgasglwyr yr un peth? Ac os cyferchwch well i'ch brodyr yn unig, pa beth rhagorach a wnewch? Oni wna y cenedloedd yr un peth? Chwi a fyddwch, gan hyny, yn berffaith, fel y mae eich Tad Nefol yn berffaith. Gochelwch rhag gwneuthur eich cyfiawnder gerbron dynion, er mwyn eich gweled ganddynt: os amgen, ni chewch wobr gan eich Tad, yr hwn sydd yn y Nefoedd. Am hyny, pan wnelych elusen, na udgana o'th flaen, fel y gwna y rhagrithwyr yn y synagogau, ac yn yr heolydd, fel y canmoler hwy gan ddynion. Yn wir meddaf i chwi, y maent yn derbyn yn llawn eu gwobr. Eithr pan wnelych di elusen, na wyped dy law aswy y peth a wna dy law ddehau: fel y byddo dy elusen yn y dirgel: a'th Dâd, yr hwn a wêl yn y dirgel a dâl i ti. A phan weddioch, ni fyddwch fel y rhagrithwyr, canys hwy a hoffant sefyll i weddio yn y synagogau ac yn nghonglau y prif heolydd fel yr ymddangosont i ddynion. Yn wir meddaf i chwi, y maent yn derbyn yn llawn eu gwobr. Ond tydi, pan weddiot, dos i'th ystafell; ac wedi cau dy ddrws, gweddia ar dy Dâd yn y dirgel, a'th Dâd, yr hwn a wêl yn y dirgel, a dâl i ti. A phan weddioch, nac ail adroddwch wag‐eiriau, fel y cenedloedd: canys y maent yn tybied y cânt eu gwrandaw yn eu haml eiriau. Na fyddwch, gan hyny, debyg iddynt hwy; canys gwyr Duw eich Tâd pa bethau sydd arnoch eu heisiau cyn gofyn o honoch iddo. Am hyny, gweddiwch chwi fel hyn:— Ein Tad yr hwn wyt yn y Nefoedd, Sancteiddier dy enw. Deled dy deyrnas. Gwneler dy ewyllys, megys yn y nef, felly ar y ddaear. Dyro i ni heddyw ein bara cyfreidiol. A maddeu i ni ein dyledion, fel yr ydym ninau hefyd wedi maddeu i'n dyledwyr. Ac na ddwg ni i brofedigaeth. Eithr gwared ni oddiwrth yr Un Drwg. Canys os maddeuwch i ddynion eu camweddau, eich Tad Nefol a faddeu hefyd i chwithau; eithr oni faddeuwch i ddynion eu camweddau, ni faddeu eich Tad ychwaith eich camweddau chwithau. A phan ymprydioch, na fyddwch fel y rhagrithwyr, yn wynebdrist, canys anffurfiant eu gwynebau, fel yr ymddangosont i ddynion eu bod yn ymprydio. Yn wir meddaf i chwi, y maent yn derbyn yn llawn eu gwobr. Ond tydi, pan ymprydiot, eneinia dy ben, a golch dy wyneb; fel nad ymddangosot i ddynion yn ymprydio, ond i'th Dad, yr hwn sydd yn y dirgel; a'th Dad, yr hwn sydd yn gweled yn y dirgel, a dâl i ti. Na thrysorwch i chwi drysorau ar y ddaear, lle y mae gwyfyn a rhwd yn difa, a lle y mae lladron yn cloddio trwodd ac yn lladrata. Eithr trysorwch i chwi drysorau yn y Nef, lle nad oes na gwyfyn na rhwd yn difa, a lle nis cloddia lladron trwodd, ac nis lladratant. Canys lle y mae dy drysor, yno y bydd dy galon hefyd. Lamp y corff yw y llygad: am hyny o bydd dy lygad yn syml, dy holl gorff fydd yn ddysglaer. Eithr, os bydd dy lygad yn ddrwg, dy holl gorff fydd yn dywyll. Am hyny, os bydd y goleuni sydd ynot yn dywyllwch, pa gymmaint y tywyllwch! Ni ddichon neb wasanaethu dau arglwydd: canys naill ai efe a gasha y naill, ac a gâr y llall; ai efe a ymlyn wrth y naill, ac a ddiystyra y llall. Ni ellwch wasanaethu Duw a Mamon. Am hyny, yr wyf yn dywedyd i chwi, na fyddwch bryderus am eich bywyd, pa beth a fwytaoch neu pa beth a yfoch; neu am eich corff, pa beth a wisgoch. Onid yw y bywyd yn fwy na'r bwyd, a'r corff na'r dillad. Edrychwch ar ehediaid y nefoedd, nad ydynt yn hau nac yn medi, nac yn cywain i ysguboriau; ac y mae eich Tad Nefol yn eu porthi hwy. Onid ydych chwi yn rhagori llawer arnynt hwy? A phwy o honoch trwy fod yn bryderus a ddichon chwanegu un cufydd at hyd ei einioes? A phaham y pryderwch yn nghylch dillad? Ystyriwch lili y maes, pa fodd y maent yn tyfu: nid ydynt yn llafurio nac yn nyddu; eithr yr wyf yn dywedyd i chwi, na wisgwyd Solomon yn ei holl ogoniant fel un o'r rhai hyn. Ac os dillada Duw felly lysieuyn y maes, yr hwn sydd heddyw, ac yfory a fwrir i'r ffwrn, oni ddillada efe chwi yn hytrach o lawer, O chwi o ychydig ffydd? Gan hyny, na fyddwch bryderus, gan ddywedyd, Beth a fwytawn? neu, Beth a yfwn? neu, A pha beth yr ymddilladwn? Canys yr holl bethau hyn y mae y cenedloedd yn eu ceisio; oblegyd gwyr eich Tad Nefol fod arnoch eisiau yr holl bethau hyn. Eithr ceisiwch yn gyntaf ei Deyrnas a'i gyfiawnder ef, a'r holl bethau hyn a roddir i chwi yn ychwaneg. Gan hyny, na fyddwch bryderus gyda golwg ar dranoeth: canys tranoeth a fydd bryderus am dano ei hun. Digon i bob diwrnod ei ddrwg ei hun. Na fernwch, fel na'ch barner. Canys â pha farn y barnoch y'ch bernir, ac â pha fesur y mesuroch y mesurir i chwithau. A phaham yr wyt yn edrych ar y brycheuyn sydd yn llygad dy frawd ac nad wyt yn ystyried y trawst sydd yn dy lygad dy hun? Neu pa fodd y dywedi wrth dy frawd, Gad i mi fwrw allan y brycheuyn o'th lygad; ac wele, y trawst yn dy lygad dy hun? O ragrithiwr! bwrw allan yn gyntaf y trawst o'th lygad dy hun; ac yna y gweli yn eglur i fwrw allan y brycheuyn o lygad dy frawd. Na roddwch yr hyn sydd sanctaidd i'r cŵn, ac na theflwch eich perlau o flaen y moch, rhag iddynt un amser eu sathru â'u traed, a throi a'ch rhwygo chwi. Gofynwch, a rhoddir i chwi; ceisiwch, a chwi a gewch; curwch, ac fe agorir i chwi. Canys pob un sydd yn gofyn sydd yn derbyn, a'r hwn sydd yn ceisio sydd yn cael, ac i'r hwn sydd yn curo yr agorir. Neu a oes dyn o honoch, yr hwn, os gofyn ei fab iddo dorth, a rydd efe iddo garreg? Neu os gofyn iddo hefyd bysgodyn, a rydd efe sarff iddo? Os chwychwi, gan hyny, a chwi yn ddrwg, a wyddoch pa fodd i roddi rhoddion da i'ch plant, pa faint mwy y rhydd eich Tad yr hwn sydd yn y Nefoedd bethau da i'r rhai a ofynant iddo? Gan hyny, pa bethau bynag oll a ewyllysioch i ddynion eu gwneuthur i chwi, felly gwnewch chwithau hefyd iddynt hwy; canys hyn yw y Gyfraith a'r Proffwydi. Ewch i fewn drwy y porth cyfyng, canys llydan yw y porth ac eang yw y ffordd sydd yn arwain ymaith i'r Golledigaeth, a llawer yw y rhai sydd yn myned i fewn drwyddi. Oblegyd cul yw y porth a chyfyngedig yw y ffordd sydd yn arwain i'r Bywyd, ac ychydig yw y rhai sydd yn ei chael hi. Ymogelwch rhag gau broffwydi, y rhai sydd yn dyfod atoch yn ngwisgoedd defaid, ond oddifewn y maent yn fleiddiaid rheibus. Wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt. A ydynt yn casglu grawnsypiau oddiar ddrain, neu ffigys oddiar ysgall? Felly, pob pren da sydd yn dwyn ffrwythau da, ond y pren gwael sydd yn dwyn ffrwythau drwg. Ni ddichon pren da ddwyn ffrwythau drwg na phren gwael ffrwythau da. Pob pren heb ddwyn ffrwyth da a dorir i lawr ac a deflir i dân. Am hyny, yn wir, wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt. Nid pob un a'r sydd yn dywedyd wrthyf, Arglwydd, Arglwydd, a ddaw i fewn i Deyrnas Nefoedd, ond yr hwn sydd yn gwneuthur ewyllys fy Nhad yr Hwn sydd yn y Nefoedd. Llawer a ddywedant wrthyf yn y dydd hwnw, Arglwydd, Arglwydd, oni phroffwydasom trwy dy enw di? A thrwy dy enw di y bwriasom allan gythreuliaid? Ac yn dy enw di y gwnaethom lawer o weithredoedd nerthol? Ac yna yr addefaf wrthynt, Nis adnabuom chwi erioed: ewch ymaith oddiwrthyf, y rhai a weithredwch annghyfiawnder. Pob un, gan hyny, sydd yn gwrandaw fy ngeiriau [hyn], ac yn eu gwneuthur, a gyffelybir i wr doeth, yr hwn a adeiladodd ei dy ar y graig; a'r gwlaw a ddisgynodd, a'r llif‐ddyfroedd a ddaethant, a'r gwyntoedd a chwythasant, ac a gurasant ar y ty hwnw; ac ni syrthiodd, oblegyd yr oedd wedi ei sylfaenu ar y graig. A phob un a'r sydd yn gwrandaw fy ngeiriau hyn, ac heb eu gwneuthur, a gyffelybir i wr ffol, yr hwn a adeiladodd ei dy ar y tywod; a'r gwlaw a ddisgynodd, a'r llif‐ddyfroedd a ddaethant, a'r gwyntoedd a chwythasant, ac a gurasant ar y ty hwnw; ac efe a syrthiodd, a'i gwymp a fu fawr. A bu, pan orphenodd yr Iesu yr ymadroddion hyn, y torfeydd a darawyd â syndod at ei ddysgeidiaeth ef; canys yr oedd efe yn eu dysgu hwynt fel un ag awdurdod ganddo, ac nid fel eu Hysgrifenyddion hwynt. Ac wedi ei ddyfod ef i waered o'r Mynydd, tyrfaoedd lawer a'i canlynasant ef. Ac wele, un gwahanglwyfus a ddaeth ato, ac a'i haddolodd ef, gan ddywedyd, Arglwydd, os myni, ti a elli fy nglanhau i. Ac efe a estynodd ei law, ac a gyffyrddodd ag ef, gan ddywedyd, Mynaf, bydd lân. Ac yn y fan ei wahanglwyf ef a lanhawyd. A dywedodd yr Iesu wrtho, Gwel na ddywedi wrth neb; eithr dos ymaith, dangos dy hun i'r offeiriad, ac offryma y rhodd a benododd Moses, er tystiolaeth iddynt. Ac wedi dyfod o hono i fewn i Capernaum, daeth ato Ganwriad, gan ddeisyfu arno, a dywedyd, Arglwydd, y mae fy ngwas yn gorwedd gartref yn glaf o'r parlys, ac mewn poen dirfawr. Ac efe a ddywed wrtho, Mi a ddeuaf, ac a'i hiachaf ef. A'r Canwriad a atebodd, ac a ddywedodd, Arglwydd, nid wyf deilwng ddyfod o honot dan fy nghronglwyd; eithr yn unig dywed mewn gair, a'm gwas a iacheir. Canys dyn ydwyf finau hefyd dan awdurdod, a chenyf filwyr danaf: a dywedaf wrth hwn, Dos, ac efe a ä; ac wrth arall, Tyred, ac y mae yn dyfod; ac wrth fy nghaethwas, Gwna hyn, ac efe a'i gwna. A'r Iesu, pan glybu, a ryfeddodd, ac a ddywedodd wrth y rhai oeddynt yn canlyn, Yn wir, meddaf i chwi, gydag un dyn yn Israel ni chefais gymmaint ffydd. Ac yr wyf yn dywedyd i chwi y daw llawer o'r Dwyrain a'r Gorllewin, ac a eisteddant i lawr gydag Abraham, ac Isaac, a Jacob yn Nheyrnas Nefoedd: ond meibion y deyrnas a deflir allan i'r tywyllwch y tu allan; yno y bydd yr wylofain a'r rhincian dannedd. A dywedodd yr Iesu wrth y Canwriad, Dos ymaith, megys y credaist, bydded i ti. A'r gwas a iachawyd yn yr awr hono. A phan ddaeth yr Iesu i dŷ Petr, efe a welodd ei chwegr yn gorwedd, ac mewn twymyn. Ac efe a gyffyrddodd a'i llaw hi, a'r dwymyn a'i gadawodd hi; a hi a gododd, ac a weinyddodd iddo. A phan ddaeth yr hwyr, hwy a ddygasant ato lawer o rai a feddiannid gan gythreuliaid, ac efe a fwriodd allan yr ysprydion â gair, ac a iachaodd yr holl gleifion, fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy Esaiah y Proffwyd, gan ddywedyd. “Efe a gymmerodd ein gwendidau, ac a ddug ymaith ein clefydau.” A'r Iesu, pan welodd dorfeydd lawer o'i amgylch, a orchymynodd ymadael i'r lan arall. A rhyw Ysgrifenydd a ddaeth ato, ac a ddywedodd wrtho, Athraw, mi a'th ganlynaf i ba le bynag yr elych. A'r Iesu a ddywed wrtho, Y mae gan y llwynogod lechfaoedd, a chan ehediaid y nefoedd drigfanau; ond gan Fab y Dyn nid oes le i roddi ei ben i orphwys. Ac un arall o'r Dysgyblion a ddywedodd wrtho, Arglwydd, gâd i mi yn gyntaf fyned ymaith a chladdu fy nhad. A'r Iesu a ddywed wrtho, Canlyn fi, a gad i'r meirw gladdu eu meirw eu hunain. Ac wedi myned o hono i gwch, ei Ddysgyblion a'i canlynasant ef. Ac wele bu cynhwrf mawr yn y môr hyd oni chuddiwyd y cwch gan y tonau; eithr efe oedd yn cysgu. A daethant ato, ac a'i deffroasant, gan ddywedyd, Arglwydd, achub, collir ni. Ac efe a ddywed wrthynt, Paham yr ydych yn llwfr, O chwi o ychydig ffydd? Yna y cyfododd efe, ac y ceryddodd y gwyntoedd a'r môr, a bu tawelwch mawr. A'r dynion hefyd a ryfeddasant, gan ddywedyd, Pa ryw un yw hwn, gan fod y gwyntoedd hefyd a'r môr yn ufuddhau iddo? Ac wedi ei ddyfod ef i'r lan arall, i wlad y Gadareniaid, dau a feddiannid gan gythreuliaid a gyfarfuant ag ef, y rhai a ddeuent allan o blith y beddau yn dra ffyrnig, fel na allai neb fyned y ffordd hono. Ac wele, hwy a lefasant, gan ddywedyd, Beth sydd i ni a wnelom â thi, Fab Duw? A ddaethost ti yma i'n poeni ni cyn yr amser? Ac yr oedd yn mhell oddiwrthynt genfaint o foch lawer yn pori. A'r cythreuliaid a ddeisyfasant arno, gan ddywedyd, Os bwri ni allan, danfon ni i'r genfaint foch. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch; a hwy wedi myned allan, a aethant i'r moch; ac wele, yr holl genfaint a ruthrasant dros y dibyn i'r môr, ac a fuont feirw yn y dyfroedd. A'r porthwyr a ffoisant; ac wedi eu dyfod yn ol i'r Ddinas, hwy a fynegasant yr oll; a'r pethau a ddarfuasent i'r rhai a feddiannid gan gythreuliaid. Ac wele, yr holl Ddinas a ddaeth allan i gyfarfod â'r Iesu; a phan ei gwelsant, atolygasant iddo ymadael o'u cyffiniau hwynt. Ac efe a aeth i fewn i gwch, ac a aeth drosodd, ac a ddaeth i'w Ddinas ei hun. Ac wele, hwy a ddygasant ato un parlysig, yn gorwedd ar wely; a'r Iesu yn gweled eu ffydd hwy a ddywedodd wrth y parlysig, Ymwrola, fab, maddeuir dy bechodau. Ac wele, rhai o'r Ysgrifenyddion a ddywedasant ynddynt eu hunain, Y mae hwn yn cablu. A'r Iesu yn canfod eu meddyliau, a ddywedodd, Paham y meddyliwch ddrwg yn eich calonau? Canys pa un hawddach ai dywedyd, Maddeuir dy bechodau, ai dywedyd, Cyfod a rhodia? Eithr fel y gwypoch fod awdurdod gan Fab y Dyn ar y ddaear i faddeu pechodau (yna y dywed efe wrth y parlysig), Cyfod, cymmer i fyny dy wely, a dos i'th dŷ. Ac efe a gyfododd, ac a aeth ymaith i'w dŷ ei hun. A'r torfeydd pan welsant a ofnasant, a gogoneddasant Dduw, yr hwn a roddasai y fath awdurdod i ddynion. Ac fel yr oedd yr Iesu yn myned heibio oddiyno, efe a ganfu ddyn yn eistedd wrth y dollfa, a elwid Matthew, ac a ddywed wrtho, Canlyn fi. Ac efe a gyfododd ac a'i canlynodd ef. A bu, ac efe yn eistedd i fwyta yn y tŷ, wele, Treth‐gasglwyr lawer a phechaduriaid a ddaethant, ac a eisteddasant gyda'r Iesu a'i Ddysgyblion. A phan welodd y Phariseaid, hwy a ddywedasant wrth ei Ddysgyblion ef, Paham y bwyty eich Athraw chwi gyda'r Treth‐gasglwyr a'r pechaduriaid? A phan glybu [Efe], efe a ddywedodd, Nid rhaid i'r rhai iach wrth feddyg, ond i'r rhai cleifion. Ond ewch a dysgwch pa beth yw hyn, “Trugaredd yr ydwyf yn ei ewyllysio, ac nid aberth” Canys ni ddaethum i alw rhai cyfiawn, ond pechaduriaid. Yna y mae Dysgyblion Ioan yn dyfod ato, gan ddywedyd, Paham yr ydym ni a'r Phariseaid yn ymprydio, ond dy Ddysgyblion di nid ydynt yn ymprydio? A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, A all meibion yr ystafell briodas alaru tra byddo y Priodfab gyda hwynt? Ond y dyddiau a ddeuant pan ddygir y Priodfab oddiarnynt, ac yna yr ymprydiant. Ac ni ddyd neb lain o frethyn annhriniedig ar hen ddilledyn, canys yr hyn a leinw a dyn oddiwrth y dilledyn, a'r rhwyg a fydd waeth. Ac ni ddodant win newydd mewn hen win grwyn; os amgen, y crwyn a rwygir, a'r gwin a red allan, a'r crwyn a gollir; eithr gwin newydd a ddodant mewn gwin‐grwyn newyddion, a chedwir y ddau. Tra yr oedd efe yn llefaru y pethau hyn wrthynt, wele, daeth rhyw Lywodraethwr ac a'i haddolodd ef, ac a ddywedodd, Bu farw fy merch yr awrhon; eithr tyred a gosod dy law arni, a hi a fydd byw. A'r Iesu a gyfododd, ac a'i canlynodd ef, a'i Ddysgyblion. Ac wele, gwraig y buasai gwaedlif arni ddeuddeng mlynedd a ddaeth o'r tu cefn iddo, ac a gyffyrddodd âg ymyl ei wisg ef: canys hi a ddywedasai ynddi ei hun, Os caf yn unig gyffwrdd â'i wisg ef, iach fyddaf. A'r Iesu a drodd, ac a'i gwelodd hi, ac a ddywedodd, Ferch, ymgalonoga: y mae dy ffydd wedi dy iachau; a'r wraig a iachawyd o'r awr hono. A phan ddaeth yr Iesu i dŷ y Llywodraethwr, a gweled y cerddorion a'r dyrfa yn terfysgu, efe a ddywedodd, Ciliwch, canys ni fu farw y llances, ond cysgu y mae. A hwy a'i gwatwarasant ef. Ond wedi bwrw y dyrfa allan, efe a aeth i fewn, ac a ymaflodd yn ei llaw hi, a'r llances a gyfododd. A'r hanes hwn a aeth dros yr holl wlad hono. Ac fel yr oedd yr Iesu yn myned heibio oddiyno, dau ddeillion a'i canlynasant ef, gan lefain a dywedyd, Fab Dafydd, trugarha wrthym. Ac wedi iddo ddyfod i'r tŷ, y deillion a ddaethant ato; ac y mae yr Iesu yn dywedyd wrthynt, A ydych chwi yn credu y gallaf fi wneuthur hyn? Dywedant hwythau wrtho, Ydym, Arglwydd. Yna y cyffyrddodd efe â'u llygaid hwynt, gan ddywedyd, Yn ol eich ffydd bydded i chwi. A'u llygaid a agorwyd. A'r Iesu a orchymynodd iddynt yn bendant gan ddywedyd, Gwelwch nas gwypo neb. Ond wedi iddynt ymado, hwy a daenasant ei glod drwy yr holl wlad hono. Ac â hwy yn myned allan, wele, hwy a ddygasant ato ddyn mud, wedi ei feddiannu gan gythraul. Ac wedi bwrw y cythraul allan, llefarodd y mudan; a'r torfeydd a ryfeddasant, gan ddywedyd, Ni ymddangosodd y cyffelyb erioed yn Israel. Ond y Phariseaid a ddywedasant, Trwy Dywysog y cythreuliaid y mae efe yn bwrw allan y cythreuliaid. A'r Iesu a aeth o amgylch yr holl ddinasoedd a'r pentrefi, gan ddysgu yn eu synagogau hwynt, a chan bregethu Efengyl y Deyrnas, ac iachau pob clefyd a phob afiechyd. Ond pan welodd efe y torfeydd, efe a dosturiodd o'u herwydd, am eu bod wedi eu trallodi, a'u taflu ar wasgar, fel defaid heb fugail. Yna y dywed efe wrth ei Ddysgyblion, Y cynauaf yn ddiau sydd fawr, ond y gweithwyr yn anaml. Am hyny, atolygwch i Arglwydd y cynauaf anfon gweithwyr i'w gynauaf. Ac wedi galw ei ddeuddeg Dysgybl ato, efe a roddes iddynt awdurdod dros ysprydion aflan, i'w bwrw hwynt allan, ac i iachau pob clefyd a phob afiechyd. Ac enwau y deuddeg Apostolion ydynt y rhai hyn: y cyntaf, Simon, yr hwn a elwir Petr, ac Andreas ei frawd; Iago mab Zebedëus, ac Ioan ei frawd; Philip, a Bartholomëus; Thomas, a Matthew y Treth‐gasglwr; Iago mab Alphëus, a Thadëus; Simon y Cananëad, a Judas Iscariot, yr hwn a'i bradychodd ef. Y Deuddeg hyn a anfonodd yr Iesu, ac a orchymynodd iddynt, gan ddywedyd, Nac ewch ymaith i ffordd y cenedloedd, ac nac ewch i fewn i ddinas y Samariaid; ond ewch yn hytrach at golledig ddefaid tŷ Israel. Ac wrth fyned pregethwch, gan ddywedyd, Y mae Teyrnas Nefoedd wedi agoshau. Iachewch y cleifion, cyfodwch y meirw, glanhewch y gwahanglwyfus, bwriwch allan gythreuliaid: yn rhad y derbyniasoch, yn rhad rhoddwch. Na feddwch aur, nac arian, nac efydd yn eich gwregysau, nac ysgrepan i daith, na dwy wisg, na sandalau, na ffon; canys teilwng y gweithiwr o'i gynnaliaeth. Ac i ba ddinas bynag neu bentref yr eloch, ymofynwch pwy ynddi sydd deilwng; ac yno aroswch hyd oni eloch allan. Ac wrth ddyfod i'r tŷ, cyferchwch well iddo. Ac os bydd y tŷ yn deilwng, deued eich tangnefedd arno; eithr oni fydd yn deilwng, dychweled eich tangnefedd atoch. A phwy bynag ni'ch derbynio chwi, ac ni wrandawo eich geiriau chwi, wrth fyned allan o'r tŷ hwnw neu o'r ddinas hono, ysgydwch ymaith lwch eich traed. Yn wir meddaf i chwi, bydd yn fwy goddefadwy i dir Sodom a Gomorrha yn Nydd y Farn nag i'r ddinas hono. Wele, myfi ydwyf yn eich danfon chwi allan fel defaid yn nghanol bleiddiaid: byddwch gan hyny gall fel y seirff, a didwyll fel y colomenod. Eithr ymogelwch rhag y dynion hyn: canys hwy a'ch traddodant chwi i Gynghorau, ac yn eu Synagogau hwy a'ch fflangellant; a chwi a ddygir at lywiawdwyr a breninoedd o'm hachos I, er tystiolaeth iddynt hwy ac i'r Cenedloedd. Eithr pan y'ch traddodant, na phryderwch pa fodd neu pa beth a lefaroch: canys rhoddir i chwi yn yr awr hono pa beth a lefaroch. Canys nid chwi sydd yn llefaru, eithr Yspryd eich Tad yr hwn sydd yn llefaru ynoch. Yna brawd a draddoda frawd i farwolaeth, a thad ei blentyn: a phlant a gyfodant yn erbyn rhieni, ac a'u rhoddant i farwolaeth. A chwi a gasheir gan bawb o herwydd fy enw I: eithr yr hwn a ymwrola hyd y diwedd, efe a fydd cadwedig. A phan y'ch erlidiant yn y ddinas hon, ffowch i'r llall: canys yn wir meddaf i chwi, ni orphenwch ddinasoedd Israel, nes dyfod Mab y Dyn. Nid yw y dysgybl yn uwch na'i athraw, a'r caethwas yn uwch na'i arglwydd. Digon i'r dysgybl ddyfod fel ei athraw, a'r caethwas fel ei arglwydd. Os galwasant arglwydd y tŷ Beelzebwl, pa faint mwy ei deulu? Am hyny nac ofnwch hwynt: canys nid oes dim cuddiedig a'r nas datguddir; a dirgel a'r nas gwybyddir. Yr hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd wrthych chwi yn y tywyllwch, dywedwch yn y goleuni: a'r hyn a glywch yn y glust, cyhoeddwch ar benau tai. Ac nac ofnwch rhag y rhai a laddant y corff, a'r enaid nis gallant ei ladd; eithr yn hytrach ofnwch yr hwn a ddichon ddinystrio enaid a chorff yn Gehenna. Oni werthir dau aderyn y tô am geiniog, ac ni syrth un o honynt ar y ddaear heb eich Tâd chwi: ac y mae hyd y nod holl wallt eich pen chwi wedi eu cyfrif. Nac ofnwch gan hyny: chwi ydych yn fwy gwerthfawr na llawer o adar y tô. Pob un, gan hyny, a'm cyffesa I yn ngwydd dynion, minau hefyd a'i cyffesaf yntau yn ngwydd fy Nhâd yr hwn sydd yn y Nefoedd. Ond pwy bynag a'm gwado I yn ngwydd dynion, minau hefyd a'i gwadaf yntau yn ngwydd fy Nhâd yr hwn sydd yn y Nefoedd. Na thybiwch fy nyfod i ddanfon tangnefedd ar y ddaear: ni ddaethum i ddanfon tangnefedd, ond cleddyf. Canys daethum i osod dyn i ymrafaelio yn erbyn ei dad, a'r ferch yn erbyn ei mam, a'r waudd yn erbyn ei chwegr. A gelynion dyn fydd ei deulu ei hun. Yr hwn sydd yn caru tad neu fam yn fwy na myfi, nid yw deilwng o honof fi: a'r hwn sydd yn caru mab neu ferch yn fwy na myfi, nid yw deilwng o honof fi. A'r hwn nid yw yn cymmeryd ei groes, ac yn canlyn ar fy ol I, nid yw yn deilwng o honof fi. Yr hwn sydd yn cael ei einioes a'i cyll: a'r neb a gollo ei einioes o'm plegyd I a'i caiff hi. Y sawl sydd yn eich derbyn chwi sydd yn fy nerbyn I, a'r sawl sydd yn fy nerbyn I sydd yn derbyn yr hwn a'm danfonodd I. Y sawl sydd yn derbyn proffwyd yn enw proffwyd a dderbyn wobr proffwyd; a'r sawl sydd yn derbyn un cyfiawn yn enw un cyfiawn a dderbyn wobr un cyfiawn. A phwy bynag a roddo i'w yfed i un o'r rhai bychain hyn gwpanaid o ddwfr oer yn unig yn enw dysgybl, yn wir meddaf i chwi, ni chyll efe ei wobr o gwbl. A bu, pan orphenodd yr Iesu gyfarwyddo ei Ddeuddeg Dysgybl, efe a ymadawodd oddiyno i ddysgu ac i bregethu yn eu dinasoedd hwy. A Ioan, pan glybu yn y carchar am weithredoedd y Crist, wedi danfon trwy ei ddysgyblion, a ddywedodd, wrtho, Ai tydi yw yr Hwn sydd yn dyfod neu ai un gwahanol a ddysgwyliwn? A'r Iesu a atebodd, ac a ddywedodd wrthynt, Ewch a mynegwch i Ioan y pethau a glywch ac a welwch: y mae y deillion yn gweled eilwaith, a'r cloffion yn rhodio; y gwahan‐gleifion a lanheir, ac y mae byddariaid yn clywed, a'r meirw yn cael eu cyfodi, ac i'r tlodion y mynegir newyddion da; a gwyn fyd yr hwn na chaiff achlysur o dramgwydd ynof fi. Ac a hwy yn myned ymaith, yr Iesu a ddechreuodd ddywedyd wrth y torfeydd am Ioan, Pa beth yr aethoch allan i'r anialwch i syllu arno? ai corsen yn ysgwyd gan wynt? Eithr pa beth yr aethoch allan i'w weled? ai dyn wedi ei wisgo â dillad esmwyth? Wele, y rhai sydd yn gwisgo dillad esmwyth, yn nhai breninoedd y maent. Eithr paham yr aethoch allan? I weled proffwyd? Ie, meddaf i chwi, a llawer mwy nâ phroffwyd. Canys hwn yw efe am yr hwn y mae wedi ei ysgrifenu, “Wele, yr ydwyf fi yn anfon fy nghenad o flaen dy wyneb, Yr hwn a barotoa dy ffordd o'th flaen.” Yn wir meddaf i chwi, Yn mhlith y rhai a aned o wragedd ni chyfododd neb mwy nag Ioan Fedyddiwr; ond yr hwn sydd lai yn Nheyrnas Nefoedd sydd fwy nag ef. Ac o ddyddiau Ioan Fedyddiwr hyd yn awr Teyrnas Nefoedd a gymmerir drwy rym, a'r gwyr grymus sydd yn dal gafael arni. Canys yr holl Broffwydi a'r Gyfraith a broffwydasant hyd Ioan. Ac os ewyllysiwch ei dderbyn, efe yw Elias yr hwn oedd ar ddyfod. Y neb sydd ganddo glustiau, gwrandawed. Eithr i ba beth y cyffelybaf y genedlaeth hon? Cyffelyb yw i blant bychain yn eistedd yn y marchnadleoedd, y rhai, gan alw ar y lleill, a ddywedant, Canasom ar bibell i chwi, ac ni ddawnsiasoch; cwynfanasom, ac ni churasoch ddwyfron. Canys daeth Ioan heb na bwyta nac yfed; ac meddant, Y mae cythraul ganddo. Daeth Mab y Dyn yn bwyta ac yn yfed; ac meddant, Wele ddyn glwth, ac yfwr gwin, cyfaill Treth‐gasglwyr a phechaduriaid. Etto, Doethineb a gyfiawnhawyd gan ei phlant ei hun. Yna y dechreuodd efe edliw i'r dinasoedd yn y rhai y gwnaethid y rhan fwyaf o'i weithredoedd nerthol ef, am nad edifarhasent: Gwae di, Chorazin; gwae di, Bethsaida; canys pe gwnaethid yn Tyrus a Sidon y gweithredoedd nerthol sydd wedi eu gwneyd ynoch chwi, hwy a edifarhasent er ys talm mewn sachlian a lludw. Er hyny, meddaf i chwi, Esmwythach fydd i Tyrus a Sidon yn Nydd y Farn nag i chwi. A thydi Capernäum, a ddyrchefir di hyd y nef? ti a äi i lawr hyd yn Hades, canys pe gwnaethid yn Sodom y gweithredoedd nerthol sydd wedi eu gwneyd ynot ti, hi a arosai hyd heddyw. Er hyny, meddaf i chwi, y bydd esmwythach i dir Sodom yn Nydd y Farn nag i ti. Yr amser hwnw yr atebodd yr Iesu, gan ddywedyd, Yr ydwyf yn diolch i Ti, O Dad, Arglwydd y nef a'r ddaear, am i Ti guddio y pethau hyn rhag y doethion a'r rhai deallus, a datguddio y cyfryw i fabanod. Ie, O Dad, am mai gwneuthur felly oedd dy ewyllys da. Pob peth a roddwyd i mi gan fy Nhad; ac nid edwyn neb y Tad ond y Mab, a'r hwn yr ewyllysio y Mab ei ddatguddio iddo. Deuwch ataf fi, bawb ag ydych yn ymboeni ac yn llwythog, a mi a roddaf i chwi orphwysdra. Cymmerwch fy iau arnoch, a dysgwch genyf, canys addfwyn ydwyf a gostyngedig o galon; a chwi a gewch orphwysdra i'ch eneidiau. Canys fy iau sydd esmwyth, a'm baich sydd ysgafn. Yr amser hwnw yr aeth yr Iesu ar y Sabbath drwy y meusydd ŷd, ac ar ei Ddysgyblion yr oedd eisieu bwyd, ac a ddechreuasant dynu tywys, a bwyta. A phan welodd y Phariseaid, hwy a ddywedasant wrtho, Wele, y mae dy Ddysgyblion yn gwneuthur yr hyn nid yw gyfreithlawn ei wneuthur ar y Sabbath. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Oni ddarllenasoch pa beth a wnaeth Dafydd pan yr oedd eisieu bwyd arno ef a'r rhai oedd gydag ef: pa fodd yr aeth efe i fewn i dy Dduw, ac y bwytaodd y torthau gosod (1 Sam 21:6), y rhai nid ydoedd gyfreithlawn iddo eu bwyta, nac i'r rhai oeddynt gydag ef, ond i'r offeiriaid (Lef 24:9) yn unig? Neu oni ddarllenasoch yn y Gyfraith (Num 28:9, 10) fod yr offeiriaid ar y Sabbath yn y Deml yn halogi y Sabbath, a'u bod yn ddifai? Eithr yr ydwyf yn dywedyd i chwi fod peth mwy nâ'r Deml yma. Ond pe gwybuasech beth ydyw hyn: “Trugaredd a ewyllysiaf, ac nid aberth,” ni chyhoeddasech farn yn erbyn y difai. Canys Arglwydd y Sabbath yw Mab y Dyn. Ac wedi iddo ymadael oddiyno, efe a aeth i'w synagog hwynt. Ac wele, yr oedd dyn a chanddo law wedi gwywo. A hwy a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Ai cyfreithlawn iachau ar y Sabbath? fel y gallent ddwyn cyhuddiad yn ei erbyn. Eithr efe a ddywedodd wrthynt, Pa ddyn o honoch, a chanddo un ddafad, ac o syrth hono ar y Sabbath i bwll, nid ymafla ynddi a'i chodi allan? (Deut 22:4). Pa faint gwell, gan hyny, yw dyn nâ dafad? O ganlyniad, y mae gyfreithlawn gwneuthur yn dda ar y Sabbath. Yna y dywed efe wrth y dyn, Estyn dy law. Ac efe a'i hestynodd; a hi a adferwyd, yn iach fel y llall. Ond y Phariseaid a aethant allan ac a ymgynghorasant yn ei erbyn ef pa fodd y dyfethent ef. A'r Iesu gan wybod, a giliodd oddiyno; a llawer a'i canlynasant ef, ac efe a'u hiachaodd hwynt oll, gan erchi iddynt na wnaent ef yn adnabyddus, fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid drwy Esaiah y proffwyd, gan ddywedyd, Wele fy ngwas yr Hwn a ddewisais, Fy Anwylyd, yn yr Hwn y boddlonwyd fy enaid: Gosodaf fy Yspryd arno, Ac efe a gyhoedda farn i'r cenedloedd. Nid ymryson efe, ac ni waedda; Ac ni chlyw neb ei lais yn y prif heolydd. Corsen ysig nis tyr, A llin yn mygu nis diffydd, Hyd oni anfono efe allan farn i fuddugoliaeth, Ac yn ei enw ef y gobeithia y cenedloedd. Yna y dygwyd ato un cythreulig, dall a mud; ac efe a'i hiachaodd ef, fel y darfu i'r mudan lefaru a gweled. A'r holl dorfeydd a synasant, ac a ddywedasant, Ai hwn yw Mab Dafydd? Ond pan glybu y Phariseaid, hwy a ddywedasant, Nid yw hwn yn bwrw allan gythreuliaid ond drwy Beelzebwl, pennaeth y cythreuliaid. Eithr yn gwybod eu meddyliau, efe a ddywedodd wrthynt, Pob teyrnas wedi ymranu yn ei herbyn ei hun a annghyfanneddir, a phob dinas neu dŷ wedi ymranu yn ei erbyn ei hun, ni saif. Ac os Satan a fwrw allan Satan, efe a ymranodd yn ei erbyn ei hun: pa fodd, gan hyny, y saif ei deyrnas ef? Ac os trwy Beelzebwl yr ydwyf fi yn bwrw allan gythreuliaid, trwy bwy y mae eich meibion chwi yn eu bwrw hwynt allan? O herwydd hyn, hwy eu hunain a fyddant eich barnwyr chwi. Eithr os trwy Yspryd Duw yr ydwyf fi yn bwrw allan gythreuliaid, yna y mae Teyrnas Dduw wedi cyrhaedd atoch chwi. Neu pa fodd y dichon neb fyned i mewn i dŷ y cadarn, ac yspeilio ei ddodrefn ef, oddieithr iddo yn gyntaf rwymo y cadarn? ac yna y llwyr yspeilia efe ei dŷ ef. Y neb nid yw gyda mi sydd yn fy erbyn; a'r neb nid yw yn casglu gyda mi sydd yn gwasgaru. Am hyny y dywedaf wrthych chwi, Pob pechod a chabledd a faddeuir i ddynion; ond y cabledd yn erbyn yr Yspryd ni faddeuir. A phwy bynag a ddywedo air yn erbyn Mab y Dyn, fe a faddeuir iddo; ond pwy bynag a ddywedo yn erbyn yr Yspryd Glan, ni faddeuir iddo, nac yn y byd hwn nac yn yr hwn a ddaw. Naill ai gwnewch y pren yn dda a'i ffrwyth yn dda, neu gwnewch y pren yn ddrwg a'i ffrwyth yn ddrwg, canys y pren a adwaenir wrth ei ffrwyth. O epil gwiberod! pa fodd y gellwch lefaru pethau da a chwi yn ddrwg? Canys o helaethrwydd y galon y llefara y genau. Y dyn da o'r trysor da a ddwg allan bethau da; a'r dyn drwg o'r trysor drwg a ddwg allan bethau drwg. Ac yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Pob gair segur a lefaro dynion, rhoddant gyfrif am dano yn Nydd y Farn. Canys wrth dy eiriau y'th gyfiawnheir, ac wrth dy eiriau y'th gondemnir. Yna yr atebodd rhai o'r Ysgrifenyddion a'r Phariseaid iddo, gan ddywedyd, Athraw, ni a chwennychem weled arwydd oddiwrthyt. Ond efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Cenedlaeth ddrwg a godinebus sydd yn dyfal‐geisio arwydd; ac arwydd nis rhoddir iddi ond arwydd Jonah y Proffwyd. Canys fel y bu Jonah yn mol y morfil dridiau a theirnos, felly y bydd Mab y Dyn yn nghalon y ddaear dridiau a theirnos. Gwyr Ninife a gyfodant yn y Farn gyda'r genedlaeth hon, ac a'i condemniant hi, am iddynt hwy edifarhau wrth bregeth Jonah, ac wele fwy na Jonah yma. Brenines y Dehau a gyfyd yn y Farn gyda'r genedlaeth hon, ac a'i condemnia hi, am iddi hi ddyfod o eithafoedd y ddaear i glywed doethineb Solomon; ac wele fwy na Solomon yma. Ond pan el yr yspryd aflan allan o'r dyn, efe a dramwya drwy leoedd sychion, gan geisio gorphwysfa, ac nid yw yn ei chael. Yna, medd efe, mi a ddychwelaf i'm tŷ, o'r lle y daethum allan. Ac wedi y delo, y mae yn ei gael yn wag, wedi ei ysgubo a'i drwsio. Yna y mae efe yn myned ac yn cymmeryd gydag ef ei hun saith yspryd ereill gwaeth nag ef ei hun; ac wedi iddynt fyned i fewn, hwy a ymgartrefant yno; ac y mae cyflwr diweddaf y dyn hwnw yn waeth na'r cyntaf. Felly y bydd hefyd i'r genedlaeth ddrwg hon. Tra yr oedd efe yn llefaru wrth y torfeydd, wele ei fam a'i frodyr oeddynt yn sefyll y tu allan, yn ceisio ymddyddan ag ef. A dywedodd un wrtho, Wele, y mae dy fam di a'th frodyr yn sefyll y tu allan, yn ceisio ymddyddan â thi. Ond efe a atebodd ac a ddywedodd wrth yr hwn a ddywedasai wrtho, Pwy yw fy mam? a phwy yw fy mrodyr I? Ac efe a estynodd ei law tuag at ei Ddysgyblion, ac a ddywedodd, Wele fy mam I a'm brodyr I. Canys pwy bynag a wna ewyllys fy Nhad yr hwn sydd yn y Nefoedd, efe yw fy mrawd I, a'm chwaer, a'm mam. Y dydd hwnw yr aeth yr Iesu allan o'r tŷ, ac a eisteddodd wrth lan y môr; a thorfeydd lawer a ymgynnullasant ato ef, fel yr aeth efe i gwch, ac yr eisteddodd; a'r holl dyrfa oedd yn sefyll ar y traeth. Ac efe a lefarodd wrthynt lawer o bethau mewn dammegion, gan ddywedyd, Wele, yr hauwr a aeth allan i hau; ac fel yr oedd efe yn hau, peth hadau a syrthiasant ar fin y ffordd; a'r adar a ddaethant ac a'u difasant; ac ereill a syrthiasant ar y creigleoedd, lle ni chawsant fawr daear; ac yn y man yr eginasant, gan nad oedd iddynt ddyfnder daear. Ond wedi i'r haul godi deifiwyd hwynt, ac am nad oedd iddynt wreiddyn, hwy a wywasant. A rhai ereill a syrthiasant ar y drain; a'r drain a dyfasant, ac a'u tagasant. Ac ereill a syrthiasant ar y tir da, ac a ddygasant ffrwyth, peth ei ganfed, peth ei dri ugeinfed, a pheth ei ddegfed ar hugain. Y neb sydd ganddo glustiau, gwrandawed. A daeth y Dysgyblion, ac a ddywedasant wrtho, Paham yr wyt ti yn llefaru wrthynt mewn dammegion? Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, I chwi y mae wedi ei roddi i wybod dirgelion Teyrnas Nefoedd, ond iddynt hwy nid yw wedi ei roddi. Oblegyd pwy bynag sydd ganddo y rhoddir iddo, ac efe a gaiff helaethrwydd; eithr pwy bynag nid oes ganddo — ie, yr hyn sydd ganddo a ddygir ymaith oddiarno. Am hyny, yr ydwyf yn llefaru wrthynt hwy mewn dammegion, canys a hwy yn gweled, nid ydynt yn gweled, ac yn clywed, nid ydynt yn clywed, nac yn deall. Ac iddynt hwy y cyflawnir proffwydoliaeth Esaiah, yr hon sydd yn dywedyd, “Trwy glywed y clywch, ac ni ddeallwch ddim; Ac yn gweled y gwelwch, ac ni chanfyddwch ddim; Canys brashawyd calon y bobl hyn, Ac â'u clustiau y clywant yn drwm, Ac a gauasant eu llygaid, Rhag canfod o gwbl â'u llygaid, a chlywed â'u clustiau, A deall â'r galon, A throi, ac i mi eu hiachau hwynt.” Eithr dedwydd eich llygaid chwi, am eu bod yn gweled, a'ch clustiau, am eu bod yn clywed. Oblegyd yn wir y dywedaf i chwi, i lawer o broffwydi a rhai cyfiawn chwennychu gweled y pethau a welwch chwi, ac nis gwelsant; a chlywed yr hyn a glywch chwi, ac nis clywsant. Gwrandewch chwithau, gan hyny, ddammeg yr hauwr. Pan glywo neb air y Deyrnas, ac heb ei ddeall, y mae yr Un Drwg yn dyfod ac yn cipio yr hyn sydd wedi ei hau yn ei galon ef. Dyma yr hwn a hauwyd ar fin y ffordd. A'r hwn a hauwyd ar y creigleoedd, efe yw yr hwn sydd yn gwrando y gair, ac yn y fan gyda llawenydd yn ei dderbyn; ond nid oes ganddo wreiddyn ynddo ei hun, eithr am dymhor y mae; a phan ddelo gorthrymder neu erlid o herwydd y gair, yn y fan efe a rwystrir. A'r hwn a hauwyd yn mhlith y drain, efe yw yr hwn sydd yn gwrandaw y gair; ac y mae pryder y byd a thwyll cyfoeth yn tagu y gair, ac y mae yn myned yn ddiffrwyth. Ond yr hwn a hauwyd ar y tir da, hwn yw efe sydd yn gwrando y gair, ac yn ei ddeall; yr hwn yn wir sydd yn ffrwytho, ac yn dwyn peth ei ganfed, arall ei dri ugeinfed, arall ei ddegfed ar hugain. Dammeg arall a osodododd efe o'u blaen, gan ddywedyd, Cyffelybir Teyrnas Nefoedd i ddyn a hauodd had da yn ei faes; ond tra yr oedd dynion yn cysgu, daeth ei elyn ef, ac a hauodd drachefn efrau yn mhlith y gwenith, ac a aeth ymaith. Ac wedi i'r eginyn dyfu a dwyn ffrwyth, yna yr ymddangosodd yr efrau hefyd. A gweision gwr y ty a ddaethant, ac a ddywedasant wrtho, Arglwydd, onid had da a hauaist di yn dy faes? O ba le gan hyny y daeth efrau? Yntau a ddywedodd wrthynt, Dyn sydd elyn a wnaeth hyn. A'r gweision a ddywedant wrth, A fyni di gan hyny i ni fyned ymaith a'u casglu hwynt? Ond efe a ddywed, nid felly, rhag dygwydd i chwi wrth gasglu yr efrau, dynu o'r gwraidd y gwenith gyda hwynt. Gadewch i'r ddau gyd‐dyfu hyd y cynauaf; ac yn nhymhor y cynauaf y dywedaf wrth y medelwyr, Cesglwch yn gyntaf yr efrau, a rhwymwch hwynt yn ysgubau er eu llwyr losgi; ond cesglwch y gwenith i'm hysgubor. Dammeg arall a osododd efe o'u blaen, gan ddywedyd, Cyffelyb yw Teyrnas Nefoedd i ronyn mwstard, yr hwn a gymmerodd dyn, ac a'i hauodd yn ei faes. Yr hwn yn wir sydd lai nâ'r holl hadau, ond wedi iddo dyfu, y mae yn fwy nâ'r llysiau, ac yn dyfod yn bren, fel y mae adar y nef yn dyfod ac yn ymlochesu yn ei gangau ef. Dammeg arall a lefarodd efe wrthynt, Cyffelyb yw Teyrnas Nefoedd i lefain, yr hwn a gymmerodd gwraig ac a'i cuddiodd mewn tri mesur o flawd, hyd oni lefeiniwyd y cwbl. Hyn oll a lefarodd yr Iesu mewn dammegion wrth y torfeydd; ac heb ddammeg ni lefarodd ddim wrthynt; fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd drwy y proffwyd, gan ddywedyd, Agoraf fy ngenau mewn dammegion, Mynegaf bethau cuddiedig er seiliad y byd. Yna y gadawodd efe y torfeydd ac a aeth i'r ty; a'i Ddysgyblion a ddaethant ato, gan ddywedyd, Eglura i ni ddammeg efrau y maes. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Yr hwn sydd yn hau yr had da yw Mab y Dyn; a'r maes yw y byd; a'r had da, hwynthwy yw meibion y Deyrnas; a'r efrau yw meibion yr Un Drwg; a'r gelyn yr hwn a'u hauodd hwynt yw y Diafol; a'r cynauaf yw diwedd y byd, a'r medelwyr ydynt Angelion. Megys gan hyny y cesglir yr efrau, ac eu llosgir â thân; felly y bydd yn niwedd y byd. Mab y Dyn a ddenfyn allan ei Angelion, a hwy a gasglant allan o'i Deyrnas ef yr holl bethau a achosant dramgwydd, â'r rhai a wnant anwiredd, ac a'u bwriant hwy i'r ffwrn dân: yno y bydd yr wylofain a'r rhincian dannedd. Yna y rhai cyfiawn a lewyrchant allan fel yr haul yn Nheyrnas eu Tad. Yr hwn sydd ganddo glustiau, gwrandawed. Cyffelyb yw Teyrnas Nefoedd i drysor wedi ei guddio yn y maes, yr hwn wedi i ddyn ei gaffael, efe a'i cuddiodd; ac o lawenydd am dano, y mae yn myned ymaith, ac yn gwerthu yr oll a fedd, ac yn prynu y maes hwnw. Drachefn, Cyffelyb yw Teyrnas Nefoedd i farchnatäwr yn ceisio perlau teg; ac wedi cael un perl gwerthfawr, efe a aeth ymaith, ac a werthodd yr oll a feddai ac a'i prynodd ef. Drachefn, Cyffelyb yw Teyrnas Nefoedd i dynrwyd a fwriwyd i'r môr, ac a gasglodd o bob rhyw beth, yr hon wedi ei llenwi a ddygasant i fyny ar y traeth, ac a eisteddasant, ac a gasglasant y rhai da i lestri, ac a fwriasant allan y rhai drwg. Felly y bydd yn Niwedd y Byd; yr Angelion a ânt allan, ac a ddidolant y rhai drwg o blith y rhai cyfiawn, ac a'u bwriant hwy i'r ffwrn dân; yno y bydd yr wylofain a'r rhincian dannedd. A ddeallasoch y pethau hyn oll? Hwythau a ddywedant wrtho, Do. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Am hyny pob ysgrifenydd yr hwn a wnaed yn ddysgybl i Deyrnas Nefoedd, sydd gyffelyb i ddyn sydd i feistr ty, yr hwn sydd yn dwyn allan o'i drysor bethau newydd a hen. A bu, wedi i'r Iesu orphen y dammegion hyn, efe a symmudodd oddiyno. Ac wedi iddo ddyfod i'w wlad ei hun, yr oedd efe yn eu dysgu hwynt yn eu synagog, yn gymmaint ag iddynt synu a dywedyd, O ba le y daeth i'r dyn hwn y doethineb hwn a'r galluoedd nerthol? Onid hwn yw mab y saer? Onid Mair y gelwir ei fam ef? a Iago, a Joseph, a Simon, a Judas, ei frodyr ef? A'i chwiorydd ef, onid ydynt hwy oll gyda ni? O ba le gan hyny y mae gan hwn y pethau hyn oll? A hwy a rwystrwyd ynddo ef. Ond yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Nid yw proffwyd heb anrhydedd ond yn ei wlad ac yn ei dy ei hun. Ac ni wnaeth efe lawer o weithredoedd nerthol yno, oblegyd eu hannghrediniaeth hwynt. Y pryd hwnw y clybu Herod y Tetrarch son am yr Iesu; ac efe a ddywedodd wrth ei weision, Ioan Fedyddiwr ei hun yw hwn: efe a gyfodwyd oddiwrth y meirw, ac am hyny y mae nerthoedd yn gweithio ynddo ef. Canys Herod a ddaliodd Ioan, ac a'i rhwymodd, ac a'i dododd yn y carchar o achos Herodias, gwraig Philip ei frawd ef. Canys dywedodd Ioan wrtho, Nid yw gyfreithlawn i ti ei chael hi. Ac efe yn ewyllysio ei ladd ef a ofnodd y dyrfa; canys hwy a'i cyfrifent ef fel proffwyd. Eithr pan ddaeth gŵyl ddydd genedigaeth Herod, y dawnsiodd merch Herodias yn y canol, ac a ryngodd fodd Herod. O ba herwydd efe, gyda llw, a addawodd roddi iddi beth bynag a ofynai. A hithau, wedi ei hannog yn mlaen gan ei mam, a ddywed, Dyro i mi yma ar ddysgl ben Ioan Fedyddiwr. A'r brenin a dristhawyd. O herwydd ei lwon, a'r rhai a eisteddent gydag ef, efe a orchymynodd ei roddi. Ac efe a anfonodd ac a dorodd ymaith ben Ioan yn y carchar. A dygwyd ei ben ef ar ddysgl, ac a'i rhoddwyd i'r llances; a hi a'i dug ef i'w mam. A'i ddysgyblion ef a ddaethant, ac a gymmerasant i fyny y corff, ac a'i claddasant ef; ac a aethant ac a fynegasant i'r Iesu. Eithr pan glybu yr Iesu, efe a ymneillduodd oddiyno mewn cwch i annghyfanneddle yn ddirgelaidd, ac wedi clywed o'r torfeydd, hwy a'i canlynasant ef ar draed allan o'r dinasoedd. A'r Iesu a aeth allan, ac a welodd dyrfa fawr, ac a dosturiodd wrthynt, ac a iachaodd eu cleifion hwynt. A phan ddaeth yr hwyr, daeth y Dysgyblion ato gan ddywedyd, Y lle sydd annghyfannedd, a'r awr a aeth weithian heibio: gollwng ymaith y torfeydd, fel yr elont i'r pentrefi, ac y prynont iddynt eu hunain fwyd. Ond yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Nid rhaid iddynt fyned ymaith: rhoddwch chwi iddynt beth i'w fwyta. A hwy a ddywedant wrtho, Nid oes genym ni yma ond pum' torth a dau bysgodyn. Ac efe a ddywedodd, Dygwch hwynt yma i mi. Ac wedi gorchymyn i'r torfeydd eistedd ar y glaswellt, a chymmeryd y pum' torth a'r ddau bysgodyn, efe a edrychodd i fyny i'r nef, ac a fendithiodd ac a dorodd ac a roddodd y torthau i'r Dysgyblion, a'r Dysgyblion i'r torfeydd. A hwynt oll a fwytasant, ac a gawsant eu digoni; ac a godasant weddill y briwfwyd, ddeuddeg basgedaid yn llawn. A'r rhai a fwytasant oeddynt yn nghylch pum' mil o wyr, heblaw gwragedd a phlant. Ac yn ebrwydd y perodd efe i'r Dysgyblion fyned i gwch, ac i'w ragflaenu i'r lan arall, tra fyddai efe yn gollwng ymaith y torfeydd. Ac wedi iddo ollwng ymaith y torfeydd, efe a esgynodd i'r mynydd o'r neilldu, i weddio; a phan ddaeth yr hwyr, yr oedd efe yno yn unig. Ond y cwch oedd weithian yn nghanol y môr, yn drallodus gan y tonau, canys yr oedd y gwynt yn groes. Ac yn y bedwaredd wylfa o'r nos daeth efe atynt, yn rhodio ar y môr. A phan welodd y Dysgyblion ef ar y môr yn rhodio, hwy a gythryblwyd, gan ddywedyd, Drychiolaeth ydyw! A hwy a waeddasant gan ofn. Ac yn ebrwydd y llefarodd yr Iesu wrthynt, gan ddywedyd, Cymmerwch galon, Myfi ydyw: nac ofnwch. A Phetr a'i hatebodd ac a ddywedodd wrtho, Arglwydd, os Tydi yw, arch i mi ddyfod atat Ti ar y dyfroedd. Ac efe a ddywedodd, Tyred. Ac wedi i Petr ddisgyn o'r cwch, efe a rodiodd ar y dyfroedd, ac a ddaeth at yr Iesu. Ond pan welodd efe y gwynt, efe a ofnodd; a phan ddechreuodd suddo, efe a lefodd, gan ddywedyd, Arglwydd, achub fi. Ac yn ebrwydd yr Iesu a estynodd ei law, ac a ymaflodd ynddo, ac a ddywedodd wrtho, Tydi o ychydig ffydd, paham yr amheuaist? A phan yr aethant i fyny i'r cwch, tawelodd y gwynt. A'r rhai oeddynt yn y cwch a ddaethant, ac a'i haddolasant ef, gan ddywedyd, Yn wir, Mab Duw ydwyt ti. Ac wedi iddynt fyned drosodd, hwy a ddaethant at y tir, i Gennesaret. A phan adnabu gwŷr y lle hwnw ef, hwy a anfonasant i'r holl wlad hono o amgylch, ac a ddygasant ato yr holl gleifion; ac a atolygasant iddo gael cyffwrdd yn unig ag ymyl ei wisg ef: a chynnifer a gyffyrddodd a wnaed yn holliach. Yna y mae yn dyfod at yr Iesu o Jerusalem, Phariseaid ac Ysgrifenyddion, gan ddywedyd, Paham y mae dy Ddysgyblion di yn troseddu traddodiad yr hynafiaid? canys nid ydynt yn golchi dwylaw pan fwytaont fara. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych chwi hefyd yn troseddu gorchymyn Duw o herwydd eich traddodiad chwi? Canys Duw a ddywedodd, Anrhydedda dy dad a'th fam. ac, Yr hwn a ddifenwo dad neu fam, bydded iddo farw y farwolaeth. Eithr yr ydych chwi yn dywedyd, Pwy bynag a ddywedo wrth ei dad neu ei fam, Rhodd yw pa beth bynag y'th lesolir drwyddi oddiwrthyf fi, efe nid anrhydedda ei dad. A chwi a wnaethoch air Duw yn ddirym o herwydd eich traddodiad. O ragrithwyr, da y proffwydodd Esaiah am danoch chwi, gan ddywedyd, Y bobl hyn a'm hanrhydeddant â'u gwefusau, Ond eu calon sydd bell iawn oddiwrthyf; Eithr yn ofer y'm haddolant I, Gan y dysgant fel eu dysgeidiaeth orchymynion dynion. Ac wedi iddo alw y dyrfa ato, efe a ddywedodd wrthynt, Clywch a deallwch. Nid yr hyn sydd yn myned i fewn i'r genau sydd yn halogi y dyn, ond yr hyn sydd yn dyfod allan o'r genau, hyny sydd yn halogi y dyn. Yna y daeth ei Ddysgyblion, ac y maent yn dywedyd wrtho, A wyddost ti i'r Phariseaid gael eu tramgwyddo pan y clywsant y gair? Ac yntau a atebodd a ddywedodd, Pob planigyn, yr hwn ni phlanodd fy Nhad nefol, a ddiwreiddir. Gadewch iddynt. Arweinwyr deillion i ddeillion ydynt; ac os dall a arweinia ddall, y ddau a syrthiant i bwll. A Phetr a atebodd, ac a ddywedodd wrtho, Eglura i ni y ddammeg. Ac efe a ddywedodd, A ydych chwithau hefyd hyd yn hyn heb ddeall? Oni chanfyddwch fod yr hyn oll sydd yn myned i fewn i'r genau yn myned i'r bol, ac y bwrir ef allan i'r geudy? Eithr y pethau a ddeuant allan o'r genau a ddeuant allan o'r galon; a hwy sydd yn halogi y dyn. Canys o'r galon y mae meddyliau drwg yn dyfod allan, llofruddiaethau, godinebau, puteiniadau, lladradau, cam‐dystiolaethau, cableddau: dyma y pethau sydd yn halogi y dyn; eithr bwyta â dwylaw heb eu golchi nid ydynt yn halogi y dyn. A'r Iesu a aeth allan oddiyno, ac a giliodd i barthau Tyrus a Sidon. Ac wele wraig oedd Ganaanëes a ddaeth allan o'r cyffiniau hyny, ac a lefodd, gan ddywedyd, Trugarha wrthyf, O Arglwydd, Fab Dafydd: fy merch a feddiannir yn ddrwg gan gythraul. Eithr nid atebodd efe air iddi. A daeth ei Ddysgyblion, ac a atolygasant iddo, gan ddywedyd, Gollwng hi ymaith, canys y mae hi yn llefain ar ein hol. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Ni'm danfonwyd I ond at ddefaid colledig ty Israel. Ond hi a ddaeth, ac a ymgrymodd iddo, gan ddywedyd, Arglwydd, cymhorth fi. Eithr efe a atebodd ac a ddywedodd, Nid da cymmeryd bara y plant a'i fwrw i'r cwn. Eithr hi a ddywedodd, Gwir, Arglwydd; canys y mae y cwn yn bwyta o'r briwsion sydd yn syrthio oddiar fwrdd eu meistriaid. Yna yr atebodd yr Iesu ac a ddywedodd wrthi, O wraig, mawr yw dy ffydd: bydded i ti fel yr wyt yn ewyllysio. A iachawyd ei merch o'r awr hono. A'r Iesu a symmudodd oddiyno, ac a ddaeth at lan môr Galilea; ac efe a esgynodd i'r mynydd, ac a eisteddodd yno. A daeth ato dorfeydd lawer, a chanddynt gyda hwynt gloffion, deillion, mudion, anafusion, ac ereill lawer; a hwy a'u taflasant i lawr wrth ei draed, ac efe a'u hiachaodd hwynt: fel y rhyfeddodd y torfeydd wrth weled y mudion yn llefaru, yr anafusion yn iach, a'r cloffion yn rhodio, a'r deillion yn gweled; a hwy a ogoneddasant Dduw Israel. A galwodd yr Iesu ei Ddysgyblion ato, ac a ddywedodd, Yr wyf yn tosturio wrth y dyrfa, canys y maent yn aros gyda mi dridiau weithian, ac nid oes ganddynt ddim i'w fwyta, ac nid ydwyf yn ewyllysio eu gollwng hwynt ymaith yn newynog, rhag iddynt ddiffygio ar y ffordd. A'r Dysgyblion a ddywedant wrtho, Pa le y caem ni gynnifer o dorthau yn y diffaethwch fel y digonid tyrfa gymmaint? A'r Iesu a ddywed wrthynt, Pa sawl torth sydd genych? A hwy a ddywedasant, Saith, ac ychydig bysgod bychain. Ac efe a orchymynodd i'r dyrfa eistedd ar y ddaear. Efe a gymmerodd y saith dorth a'r pysgod; ac a ddiolchodd, ac a dorodd, ac a roddodd i'r Dysgyblion, a'r Dysgyblion i'r torfeydd; a hwy oll a fwytasant ac a ddigonwyd; ac a godasant o weddill y briwfwyd saith fasgedaid yn llawn. A'r rhai a fwytasant oeddynt bedair mil o wyr, heblaw gwragedd a phlant. Ac wedi iddo ollwng y torfeydd ymaith, efe a aeth i'r cwch, ac a ddaeth i gyffiniau Magadan. A'r Phariseaid a'r Saduceaid a ddaethant ato, a chan ei demtio hwy a atolygasant iddo ddangos iddynt arwydd o'r nef. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, [Pan ddaw yr hwyr, dywedwch, Tywydd teg, canys y mae y nefoedd yn goch. Ac yn y boreu, Tywydd garw heddyw, canys y mae y nefoedd yn goch ac yn bruddaidd. Chwi a fedrwch ddeall gwyneb y nefoedd, ond arwyddion yr amseroedd ni fedrwch.] Cenedlaeth ddrwg a godinebus sydd yn ceisio arwydd; ac arwydd nis rhoddir iddi, ond arwydd Jonah. Ac efe a'u gadawodd hwynt, ac a aeth ymaith. A'r Dysgyblion a ddaethant i'r lan arall, ac a annghofiasant gymmeryd bara. A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Edrychwch ac ymogelwch rhag lefain y Phariseaid a'r Saduceaid. A hwy a ymresymasant yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, Hyn sydd am na chymmerasom fara. A'r Iesu yn gwybod a ddywedodd, O chwychwi o ychydig ffydd, paham yr ydych yn ymresymu yn eich plith eich hunain fod hyn am na chymmerasoch fara? Onid ydych chwi yn deall etto, nac yn cofio pum' torth y pum' mil, a pha sawl basgedaid a gymmerasoch i fyny? Na saith dorth y pedair mil, a pha sawl basgedaid a gymmerasoch i fyny? Pa fodd nad ydych yn deall nad am fara y dywedais wrthych, Ac ymogelwch rhag lefain y Phariseaid a'r Saduceaid? Yna y deallasant na ddywedodd efe am ymogelyd rhag lefain y torthau, ond rhag dysgeidiaeth y Phariseaid a'r Saduceaid. Ac wedi dyfod yr Iesu i barthau Cesarea Philippi, efe a ofynodd i'w Ddysgyblion, gan ddywedyd, Pwy y mae dynion yn dywedyd yw Mab y Dyn? A hwy a ddywedasant, Rhai, mai Ioan Fedyddiwr; a rhai, mai Elias; ac ereill, mai Jeremiah, neu un o'r proffwydi. Efe a ddywed wrthynt, Ond pwy meddwch chwi ydwyf fi? A Simon Petr a atebodd ac a ddywedodd, Ti yw y Crist, Mab y Duw byw. A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Gwyn dy fyd di, Simon fab Jonah, canys nid cig a gwaed a ddatguddiodd hyn i ti, ond fy Nhad yr hwn sydd yn y Nefoedd. Ac yr wyf finau hefyd yn dywedyd i ti, Ti yw Petr; ac ar y graig hon yr adeiladaf fy Eglwys, a phyrth Hades nis gorchfygant hi. A rhoddaf i ti agoriadau Teyrnas Nefoedd; a pha beth bynag a rwymech ar y ddaear, a fydd rwymedig yn y Nefoedd; a pha beth bynag a ryddhaech ar y ddaear, a fydd wedi ei ryddhau yn y Nefoedd. Yna y gorchymynodd efe i'w Ddysgyblion na ddywedent i neb mai efe yw y Crist. O hyny allan y dechreuodd yr Iesu ddangos i'w Ddysgyblion fod yn rhaid iddo fyned ymaith i Jerusalem, a dyoddef llawer oddiwrth yr Henuriaid a'r Archoffeiriaid a'r Ysgrifenyddion, a'i ladd, a'r trydydd dydd ei gyfodi. A Phetr, wedi ei gymmeryd ef ato, a ddechreuodd ei geryddu ef, gan ddywedyd, Duw fyddo dosturiol wrthyt, Arglwydd: ni fydd hyn o gwbl i ti. Ac efe a drodd ac a ddywedodd wrth Petr, Dos y tu ol i mi, Satan, rhwystr ydwyt ti i mi, canys nid ydwyt yn synied y pethau sydd o Dduw, ond y pethau sydd o ddynion. Yna yr Iesu a ddywedodd wrth ei Ddysgyblion, Os ewyllysia neb ddyfod ar fy ol I, ymwaded ag ef ei hun, a chyfoded ei groes, a chanlyned fi. Canys pwy bynag a ewyllysio gadw ei fywyd a'i cyll; a phwy bynag a gollo ei fywyd o'm plegyd I a'i caiff. Canys pa leshad a fydd i ddyn os ennill efe yr holl fyd a fforfedu ei fywyd ei hun; neu pa beth a rydd dyn yn bridwerth am ei fywyd. Canys Mab y Dyn a ddaw yn ngogoniant ei Dâd gyd â'i angelion; ac yna y rhydd efe i bob un yn ol ei weithred. Yn wir, meddaf i chwi, y mae rhai o'r sawl sydd yn sefyll yma a'r ni phrofant angeu hyd oni welont Fab y Dyn yn dyfod yn ei Deyrnas. Ac ar ol chwe' diwrnod y cymmerodd yr Iesu gyd ag ef Petr, ac Iago, ac Ioan ei frawd, ac a'u dug hwy i fynydd uchel o'r neilldu. Ac efe a drawsffurfiwyd ger eu bron hwy; a'i wyneb a ddysglaeriodd fel yr haul, a'i ddillad a aethant cyn wyned â'r goleuni. Ac wele, ymddangosodd iddynt Moses ac Elias, yn ymddyddan ag ef. A Phetr a atebodd ac a ddywedodd wrth yr Iesu, Arglwydd, da yw i ni fod yma: os ewyllysi, mi a wnaf yma dair pabell, un i ti, ac un i Moses, ac un i Elias. A thra yr oedd efe yn llefaru, wele, cwmmwl goleu a'u cysgododd hwynt; ac wele lef o'r cwmmwl yn dywedyd, Hwn yw fy Anwyl Fab, Yn yr hwn y'm boddlonwyd: Gwrandewch arno ef. A phan glybu y Dysgyblion, hwy a syrthiasant ar eu gwyneb, ac a ofnasant yn ddirfawr. A daeth yr Iesu, ac a gyffyrddodd â hwynt, ac a ddywedodd, Cyfodwch, ac nac ofnwch. Ac wedi codi eu llygaid, ni welsant neb ond yr Iesu yn unig. Ac fel yr oeddynt yn dyfod i waered allan o'r mynydd, yr Iesu a orchymynodd iddynt, gan ddywedyd, Na ddywedwch y weledigaeth i neb hyd oni chyfodir Mab y Dyn oddiwrth y meirw. A'i Ddysgyblion a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Paham gan hyny, y mae yr Ysgrifenyddion yn dywedyd fod yn rhaid dyfod o Elias yn gyntaf? Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Elias yn wir sydd yn dyfod, ac a edfryd bob peth. Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi ddyfod o Elias eisoes, ac nid ydynt wedi ei adnabod, ond a wnaethant iddo beth bynag a fynasant; felly y bydd hefyd i Fab y Dyn ddyoddef ganddynt. Yna y deallodd y Dysgyblion mai am Ioan Fedyddiwr y dywedasai efe wrthynt. Ac wedi eu dyfod at y dyrfa, daeth ato ddyn, ac a syrthiodd ar ei liniau iddo, ac a ddywedodd, Arglwydd, trugarha wrth fy mab, canys masglwyfus ydyw, ac y mae yn glaf iawn, canys yn fynych y mae efe yn syrthio i'r tân, ac yn fynych i'r dwfr. Ac mi a'i dygais ef at dy Ddysgyblion di, ac ni allent hwy ei iachau ef. A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd, O genedlaeth anffyddiog a throfäus, pa hyd y byddaf gyda chwi? pa hyd y byddaf ymarhöus wrthych? dygwch ef yma ataf fi. A'r Iesu a'i ceryddodd ef, a'r cythraul a aeth allan o hono ef; a'r bachgen a iachawyd o'r awr hono. Yna y daeth y Dysgyblion at yr Iesu o'r neilldu, ac y dywedasant, Paham na allem ni ei fwrw ef allan? Ac efe a ddywed wrthynt, O herwydd eich ychydig ffydd; canys yn wir y dywedaf i chwi, Pe bai genych ffydd megys gronyn o hâd mwstard, chwi a ddywedech wrth y mynydd hwn, Symmud oddiyma draw, ac efe a symmudai: ac ni fydd dim yn anmhossibl i chwi. [Eithr nid ä y rhywogaeth hon allan ond drwy weddi ac ympryd.] Ac fel yr oeddynt yn ymgasglu at eu gilydd yn Nghalilea, yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Y mae Mab y Dyn i gael ei draddodi i ddwylaw dynion; a hwy a'i lladdant ef, a'r trydydd dydd y cyfodir ef. A hwy a aethant yn drist iawn. Ac wedi dyfod o honynt i Capernäum, y rhai oedd yn derbyn yr hanner‐sicl a ddaethant at Petr, ac a ddywedasant, Onid yw eich athraw chwi yn talu yr hanner‐sicl? Yntau a ddywed, Ydyw. Ac wedi ei ddyfod ef i'r ty, yr Iesu a'i rhagflaenodd ef, gan ddywedyd, Beth yr wyt ti yn ei dybied, Simon? Breninodd y ddaear, oddiwrth bwy y cymmerant drethi neu deyrnged? oddiwrth eu meibion eu hunain ynte oddiwrth estroniaid? A phan ddywedodd efe, Oddiwrth estroniaid, yr Iesu a ddywedodd wrtho, Yn sicr felly y mae y meibion yn rhyddion. Er hyny, rhag i ni achosi tramgwydd iddynt, dos i'r môr, a bwrw fach, a chymmer y pysgodyn a ddel i fyny yn gyntaf: ac wedi i ti agoryd ei safn, ti a gei sicl, hwnw cymmer, a dyro iddynt drosof fi a thithau. Yn yr awr hono y daeth y Dysgyblion at yr Iesu, gan ddywedyd, Pwy ynte sydd fwyaf yn Nheyrnas Nefoedd? Ac efe a alwodd ato blentyn bychan, ac a'i gosododd yn eu canol hwynt, ac a ddywedodd, Yn wir y dywedaf i chwi, Oddieithr i chwi droi a dyfod fel plant bychain, nid ewch chwi o gwbl i fewn i Deyrnas Nefoedd. Pwy bynag, gan hyny, a ostyngo ei hun fel y plentyn bychan hwn, hwnw yw y mwyaf yn Nheyrnas Nefoedd. A phwy bynag a dderbynio un cyfryw blentyn bychan yn fy enw I, a'm derbyn I. Eithr pwy bynag a rwystro un o'r rhai bychain hyn sydd yn credu ynof fi, buddiol ydyw iddo i faen mawr melin gael ei grogi am ei wddf a'i suddo yn eigion y môr. Gwae y byd o herwydd rhwystrau, canys angenrhaid yw i'r rhwystrau ddyfod; er hyny, gwae y dyn drwy yr hwn y mae y rhwystr yn dyfod. Ac os dy law neu dy droed a'th rwystra, tòr hi ymaith, a thafl oddiwrthyt: da i ti fyned i fewn i'r bywyd yn gloff neu yn anafus nag â chenyt ddwy law neu ddwy droed, dy daflu i'r tân tragwyddol. Ac os dy lygad a'th rwystra, tyn ef allan, a thafl oddiwrthyt: gwell i ti yn un‐llygeidiog fyned i fewn i'r bywyd nag â dau lygad genyt dy daflu i'r Gehenna o dân. Edrychwch na ddirmygoch un o'r rhai bychain hyn, canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi fod eu hangylion hwy yn y Nefoedd bob amser yn syllu ar wyneb fy Nhad yr hwn sydd yn y Nefoedd. Beth dybiwch chwi? O bydd i unrhyw ddyn gant o ddefaid, a chrwydro o un o honynt, oni âd efe y naw deg a naw ar y mynyddoedd, a myned a cheisio yr hon a grwydrasai? Ac os bydd iddo ei chael hi, yn wir meddaf i chwi, y mae yn llawenhau am hono yn fwy nag am y naw deg a naw y rhai ni chrwydrasant. Felly, nid yw ewyllys eich Tad, yr hwn sydd yn y Nefoedd, golli un o'r rhai bychain hyn. Ac os pecha dy frawd, dos, a dwg ef i gyfrif rhyngot ti ac ef ei hun; os efe a wrendy arnat, ti a ennillaist dy frawd. Eithr os efe ni wrendy, cymmer gyda thi etto un neu ddau, fel wrth enau dau neu dri o dystion y byddo safadwy bob gair Ac os efe ni wrendy arnynt hwy, dywed i'r eglwys; ac os efe ni wrendy ar yr eglwys chwaith, bydded i ti fel y Cenedlddyn neu y Trethgasglwr. Yn wir, meddaf i chwi, Pa bethau bynag a rwymoch ar y ddaear a fyddant wedi eu rhwymo yn y Nef, a pha bethau bynag a ryddhaoch ar y ddaear a fyddant wedi eu rhyddhau yn y Nef. A thrachefn meddaf i chwi, Os cytuna dau o honoch ar y ddaear yn nghylch unrhyw fater am yr hwn y gofynant, efe a roddir iddynt oddiwrth fy Nhad yr hwn sydd yn y Nefoedd. Canys lle y mae dau neu dri wedi ymgynnull yn fy enw I, yno yr ydwyf yn eu canol hwynt. Yna y daeth Petr ac a ddywedodd wrtho, Arglwydd, pa sawl gwaith y pecha fy mrawd i'm herbyn, ac y maddeuaf iddo? hyd seithwaith? Yr Iesu a ddywed wrtho, Nid ydwyf yn dywedyd, Hyd seithwaith, ond, Hyd ddeg‐a‐thri‐ugain seithwaith. Am hyny y cyffelybir Teyrnas Nefoedd i frenin, yr hwn a fynai wneuthur cyfrif â'i weision. A phan ddechreuodd gyfrif, fe ddygwyd ato un oedd ddyledwr am ddeg mil o dalentau; a chan nad oedd ganddo ddim i dalu, gorchymynodd ei arglwydd ei werthu ef, a'i wraig, a'i blant, a'r hyn oll a feddai, a chael ei dalu. Y gwas, gan hyny, a syrthiodd i lawr, ac a'i haddolodd ef, gan ddywedyd, Bydd ymarhous wrthyf, a mi a dalaf i ti y cwbl oll. Ac Arglwydd y gwas hwnw a dosturiodd wrtho, ac a'i gollyngodd ymaith, ac a faddeuodd iddo y ddyled. Eithr y gwas hwnw a aeth allan, ac a ddaeth o hyd i un o'i gyd‐weision, yr hwn oedd yn ei ddyled ef o gàn denarion, ac efe a ymaflodd ynddo, ac a'i llindagodd, gan ddywedyd, Tâl yr hyn sydd ddyledus arnat. A syrthiodd ei gydwas i lawr, ac a ymbiliodd ag ef, gan ddywedyd, Bydd ymarhous wrthyf, a mi a dalaf i ti. Eithr nis mynai efe; eithr gan fyned ymaith, efe a'i bwriodd ef i garchar, hyd oni thalai yr hyn oedd ddyledus. Gan hyny, pan welodd ei gydweision y pethau a wnaethpwyd, bu ddrwg dros ben ganddynt; a hwy a ddaethant ac a eglurasant i'w harglwydd eu hunain yr hyn oll a ddygwyddasai. Yna ei arglwydd, wedi ei alw ef ato, a ddywed, O was drwg! mi a faddeuais i ti yr holl ddyled hono, am i ti ymbil â mi; ac oni ddylesit tithau hefyd drugarhau wrth dy gydwas, megys y trugarheais inau wrthyt tithau? A'i arglwydd a ddigiodd, ac a'i traddododd ef i'r poenydwyr, hyd oni thalai yr hyn oll oedd ddyledus. Ac felly y gwna fy Nhad Nefol i chwithau, oni faddeuwch bob un i'w frawd o'ch calonau. A bu, pan orphenodd yr Iesu yr ymadroddion hyn, efe a ymadawodd o Galilea, ac a ddaeth i gyffiniau Judea, y tu hwnt i'r Iorddonen. A thorfeydd lawer a'i canlynasant ef, ac efe a'u hiachaodd hwynt yno. A daeth Phariseaid ato, gan ei demtio, a dywedyd, A ydyw gyfreithlawn i ddyn ysgar â'i wraig am bob achos? Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Oni ddarllenasoch i'r hwn a'u creodd hwynt o'r dechreu eu gwneuthur hwy yn wrryw a banyw ac a ddywedodd, Oblegyd hyn y gâd dyn ei dad a'i fam, ac y glŷn wrth ei wraig; a'r ddau a fyddant un cnawd; fel nad ydynt mwyach yn ddau, ond un cnawd. Yr hyn, gan hyny, a gyssylltodd Duw, na wahaned dyn. Y maent hwythau yn dywedyd wrtho, Paham, gan hyny, y gorchymynodd Moses roddi iddi ysgrif ysgar, a'i gollwng ymaith? Ac efe a ddywed wrthynt, Moses, o herwydd caledrwydd eich calonau, a oddefodd i chwi ysgar â'ch gwragedd. Ond o'r dechreu nid oedd felly. Eithr meddaf i chwi, Pwy bynag a ysgaro â'i wraig, nid am odineb, ac a briodo un arall, y mae yn gwneuthur godineb; [ac y mae yr hwn a briodo yr hon a ysgarwyd yn gwneuthur godineb.] Ei Ddysgyblion a ddywedant wrtho, Os felly y mae yr achos rhwng gwr a gwraig, nid buddiol priodi. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Nid pawb sydd yn derbyn y gair hwn, ond y rhai y mae wedi ei roddi iddynt. Canys y mae eunuchiaid y rhai a aned felly o groth eu mam; ac y mae eunuchiaid a wnaed yn eunuchiaid gan ddynion; ac y mae eunuchiaid a wnaethant eu hunain yn eunuchiaid er mwyn Teyrnas Nefoedd. Yr hwn a ddichon dderbyn, derbynied. Yna y dygwyd ato blant bychain, fel y gosodai ei ddwylaw arnynt, ac y gweddiai; ond y Dysgyblion a'u ceryddasant hwynt. Eithr yr Iesu a ddywedodd, Gadewch i'r plant bychain, ac na rwystrwch hwynt i ddyfod ataf fi, canys eiddo y cyfryw rai yw Teyrnas Nefoedd. Ac efe a osododd ei ddwylaw arnynt, ac a aeth ymaith oddiyno. Ac wele un a ddaeth ato, ac a ddywedodd wrtho, Athraw, Pa beth da a wnaf fel y caffwyf fywyd tragwyddol? Ac efe a ddywedodd wrtho, Paham yr ymofyni â mi yn nghylch y Da? Un yw y Da; ond, os ewyllysi fyned i fewn i'r bywyd, cadw y gorchymynion. Yntau a ddywed wrtho, Pa rai? Yr Iesu a ddywedodd, Hwn, Na lofruddia, Na odineba, Na ladrata, Na chamdystiolaetha, Anrhydedda dy dad a'th fam, ac, Câr dy gymmydog fel ti dy hun. Y gwr ieuanc a ddywed wrtho, Y rhai hyn oll a gedwais; yn mha beth etto wyf ddiffygiol? Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Os ewyllysi fod yn berffaith, dos, gwerth dy eiddo, a dyro i'r tlodion, a thi a gei drysor yn y Nefoedd; a thyred, canlyn fi. A phan glybu y gwr ieuanc yr ymadrodd, efe a aeth ymaith yn drist, canys yr oedd iddo feddiannau lawer. A'r Iesu a ddywedodd wrth y Dysgyblion, Yn wir, meddaf i chwi, Yn anhawdd yr ä goludog i fewn i Deyrnas Nefoedd. A thrachefn meddaf i chwi, Rhwyddach yw i gamel fyned i fewn drwy grai y nodwydd nag i oludog fyned i fewn i Deyrnas Dduw. A phan glybu ei Ddysgyblion, hwy a synasant yn ddirfawr, gan ddywedyd, Pwy, gan hyny, a all fod yn gadwedig? A'r Iesu a edrychodd ac a ddywedodd wrthynt, Gyda dynion hyn sydd anmhossibl, ond gyda Duw pob peth sydd bossibl. Yna Petr a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Wele, ni a adawsom bob peth ac a'th ganlynasom di; pa beth, gan hyny, a fydd i ni? A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir, meddaf i chwi, Cewch chwi, y rhai a'm canlynasoch I yn yr Ail‐enedigaeth, pan eisteddo Mab y Dyn ar orsedd ei ogoniant, eistedd eich hunain hefyd ar ddeuddeg gorsedd, yn barnu deuddeg llwyth Israel. A phob un a'r a adawodd frodyr, neu chwiorydd, neu dad, neu fam, neu blant, neu diroedd, neu dai, er mwyn fy enw I, a dderbynia lawer mwy, ac a etifedda fywyd tragwyddol. Ond llawer fyddant olaf sydd flaenaf, a blaenaf sydd olaf. Canys Teyrnas Nefoedd sydd debyg i Feistr tŷ, yr hwn a aeth allan gyda'r wawr i gyflogi gweithwyr i'w winllan. Ac wedi cytuno â'r gweithwyr am ddenarion y dydd, efe a'u hanfonodd hwy i'w winllan. Ac efe a aeth allan yn nghylch y drydedd awr, ac a welodd ereill yn sefyll yn y farchnadle yn segur. Ac wrthynt hwy y dywedodd, Ewch chwithau hefyd i'r winllan, a pha beth bynag a fyddo cyfiawn, mi a'i rhoddaf i chwi. A hwy a aethant ymaith. Ac efe a aeth allan drachefn yn nghylch y chweched a'r nawfed awr, ac a wnaeth yr un modd. Ac yn nghylch yr unfed awr ar ddeg, efe a aeth allan ac a gafodd ereill yn sefyll, ac a ddywed wrthynt, Paham y sefwch chwi yma ar hyd y dydd yn segur? Dywedant wrtho, Am na chyflogodd neb nyni. Dywed yntau wrthynt, Ewch chwithau hefyd i'r winllan. A phan aeth hi yn hwyr, arglwydd y winllan a ddywed wrth ei oruchwyliwr, Galw y gweithwyr, a thâl iddynt eu cyflog, gan ddechreu o'r rhai diweddaf hyd y rhai cyntaf. A phan ddaeth y rhai a gyflogasid yn nghylch yr unfed awr ar ddeg, derbyniasant bob un ddenarion. A phan ddaeth y rhai cyntaf, hwy a dybiasant y caent fwy, a hwy hefyd a gawsant bob un y ddenarion. Ac wedi iddynt gael, hwy a rwgnachasant yn erbyn Meistr y tŷ, gan ddywedyd, Y rhai diweddaf hyn, un awr y gweithiasant, a thi a'u gwnaethost hwy yn gydradd a ninau, y rhai ydym wedi dwyn pwys y dydd, a'r gwres tanllyd. Yntau a atebodd ac a ddywedodd wrth un o honynt, Gyfaill, nid ydwyf yn gwneuthur cam â thi; onid am ddenarion y cytunaist â mi? Cymmer i fyny yr eiddot, a dos ymaith: yr ydwyf yn ewyllysio rhoddi i'r olaf hwn yr un modd ag i tithau. Ai nid rhydd i mi wneuthur yr hyn a fynwyf â'm heiddo fy hun? Neu a ydyw dy lygad di yn ddrwg am fy mod I yn dda? Felly, y rhai olaf fyddant flaenaf, a'r blaenaf olaf. Ac a'r Iesu yn myned i fyny i Jerusalem, efe a gymmerth y Deuddeg o'r neilldu, ac ar y ffordd efe a ddywedodd wrthynt, Wele yr ydym ni yn myned i fyny i Jerusalem, a Mab y Dyn a draddodir i'r Archoffeiriaid a'r Ysgrifenyddion, a hwy a'i condemniant ef i farwolaeth, ac a'i traddodant ef i'r cenedloedd, i'w watwar, ac i'w fflangellu, ac i'w groeshoelio, a'r trydydd dydd y cyfodir ef. Yna y daeth ato ef fam meibion Zebedeus gyda'i meibion, gan addoli, a deisyf rhywbeth ganddo. Ac Efe a ddywedodd wrthi, Pa beth a ewyllysi? Dywedodd hithau wrtho, Dywed am gael o'm dau fab hyn eistedd, y naill ar dy law ddeheu, a'r llall ar dy law aswy, yn dy Deyrnas. A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd, Ni wyddoch chwi beth yr ydych yn ei ofyn. A ellwch chwi yfed y cwpan yr ydwyf fi ar ei yfed? Dywedant wrtho, Gallwn. Efe a ddywed wrthynt, Y cwpan yn wir chwi a yfwch, eithr eistedd ar fy llaw ddeheu ac ar yr aswy nid eiddo fi ei roddi, ond i'r sawl y mae wedi ei ddarparu gan fy Nhad. A phan glybu y deg hwy a sorasant yn nghylch y ddau frawd. A'r Iesu a'u galwodd hwynt ato, gan ddywedyd, Chwi a wyddoch fod pennaethiaid y Cenedloedd yn tra‐arglwyddiaethu arnynt, a'r Mawrion yn tra‐awdurdodi arnynt. Eithr nid felly y mae yn eich plith chwi; eithr pwy bynag a ewyllysio fod yn fawr yn eich plith chwi, a fydd yn weinidog i chwi; a phwy bynag a ewyllysio fod yn flaenaf, efe a fydd yn was i chwi. Megys na ddaeth Mab y Dyn i'w wasanaethu, ond i wasanaethu ac i roddi ei einioes yn bridwerth dros lawer. Ac a hwy yn myned allan o Jericho, tyrfa fawr a'i canlynodd ef. Ac wele, dau ddeillion yn eistedd ar fin y ffordd, pan glywsant fod yr Iesu yn myned heibio, a lefasant, gan ddywedyd, Arglwydd, trugarha wrthym, O Fab Dafydd. A'r dyrfa a'u ceryddodd hwynt, fel y tawent; hwythau a lefasant fwy‐fwy, gan ddywedyd, Arglwydd, trugarha wrthym, O Fab Dafydd. A'r Iesu a safodd, ac a'u galwodd hwynt, gan ddywedyd, Pa beth a ewyllysiwch i mi ei wneuthur i chwi? Dywedant wrtho, Arglwydd, agoryd ein llygaid ni. A'r Iesu a dosturiodd ac a gyffyrddodd â'u llygaid hwynt, ac yn ebrwydd hwy a gawsant eu golwg, a hwy a'i canlynasant ef. A phan yr agosasant i Jerusalem, ac y daethant i Bethphage, i fynydd yr Olew‐wydd, yna yr anfonodd yr Iesu ddau Ddysgybl, gan ddywedyd wrthynt, Ewch i'r pentref sydd ar eich cyfer, ac yn ebrwydd chwi a gewch asen yn rhwym, ac ebol gyda hi: gollyngwch hwynt a dygwch ataf fi. Ac os dywed neb ddim wrthych, dywedwch, Y mae ar yr Arglwydd eu heisieu: ac yn ebrwydd efe a'u denfyn hwynt. A hyn a ddygwyddodd, fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid drwy y proffwyd, gan ddywedyd, Dywedwch i Ferch Seion, Wele dy Frenin yn dyfod i ti, Yn addfwyn, ac yn eistedd ar asen, Ac ar ebol, llwdn anifail dan yr iau. Y Dysgyblion a aethant ac a wnaethant fel y gorchymynodd yr Iesu iddynt; a hwy a ddygasant yr asen a'r ebol, ac a osodant arnynt y dillad, ac efe a eisteddodd arnynt. A'r rhan fwyaf o'r dyrfa a daenasant eu dillad ar y ffordd; ac ereill a dorasant gangau o'r coed, ac a'u taenasant ar y ffordd. A'r torfeydd, y rhai oeddynt yn myned o'i flaen, a'r rhai oeddynt yn canlyn, oeddynt yn llefain, gan ddywedyd, Hosanna i Fab Dafydd, Bendigedig yw yr hwn sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd, Hosanna yn y goruchafion. A phan ddaeth efe i Jerusalem, yr holl ddinas a ysgydwyd, gan ddywedyd, Pwy yw hwn? A'r torfeydd a ddywedasant, Hwn yw y proffwyd Iesu, o Nazareth yn Galilea. A'r Iesu a aeth i fewn i'r Deml, ac a daflodd allan bawb a'r a oeddynt yn gwerthu ac yn prynu yn y Deml, a byrddau y cyfnewidwyr arian efe a ddymchwelodd, a chadeiriau y rhai oeddynt yn gwerthu y colomenod. Ac efe a ddywed wrthynt, Y mae yn ysgrifenedig, Fy nhŷ I, Tŷ Gweddi y gelwir ef. Eithr chwi ydych yn ei wneuthur yn ogof yspeilwyr. A'r deillion a'r cloffion a ddaethant ato yn y Deml, ac efe a'u hiachaodd hwynt. A phan welodd yr Archoffeiriaid a'r Ysgrifenyddion y rhyfeddodau a wnaethai efe, a'r plant ag oeddynt yn llefain yn y Deml, ac yn dywedyd, Hosanna i Fab Dafydd, hwy a sorasant, ac a ddywedasant wrtho, A wyt ti yn clywed beth y mae y rhai hyn yn ei ddywedyd? A'r Iesu a ddywed wrthynt, Ydwyf. Oni ddarllenasoch chwi erioed, O enau babanod a rhai sydd yn sugno y perffeithiaist foliant? Ac efe a'u gadawodd hwynt, ac a aeth allan o'r Ddinas i Bethania, ac a lettyodd yno. Ac yn foreu, fel yr oedd efe yn dychwelyd i'r Ddinas, yr oedd arno chwant bwyd. A phan welodd efe un ffigysbren ar ymyl y ffordd, efe a ddaeth ato, ac ni chafodd ddim arno ond dail yn unig; ac efe a ddywed wrtho, Na fydded ffrwyth o honot byth mwyach. Ac yn ebrwydd y crinodd y ffigysbren. A phan welodd y Dysgyblion, hwy a ryfeddasant, gan ddywedyd, Mor ddisymwth y crinodd y ffigysbren! A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yn wir, meddaf i chwi, Os oes genych ffydd, ac heb betruso, ni wnewch yn unig yr hyn a wnaed i'r ffigysbren, eithr hefyd os dywedwch wrth y mynydd hwn, Coder di i fyny, a bwrier di i'r môr; a hyny a fydd. A pha beth bynag a ofynoch mewn gweddi, gan gredu, chwi a'i derbyniwch. Ac wedi iddo ddyfod i'r Deml, yr Archoffeiriaid a Henuriaid y bobl a ddaethant ato, ac efe yn dysgu, gan ddywedyd, Trwy ba awdurdod yr wyt ti yn gwneuthur y pethau hyn? a phwy a roddodd i ti yr awdurdod hon? A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Gofynaf finau hefyd i chwithau un gair, yr hwn os mynegwch i mi, minau hefyd a fynegaf i chwi drwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn: Bedydd Ioan, o ba le yr oedd? O'r Nef, ai o ddynion? A hwy a ymresymasant yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, Os dywedwn, O'r Nef, efe a ddywed wrthym, Paham, gan hyny, na chredasoch ef? Eithr os dywedwn, O ddynion, y mae arnom ofn y dyrfa, canys y mae pawb yn cymmeryd Ioan fel proffwyd. A hwy a atebasant i'r Iesu, ac a ddywedasant, Ni wyddom ni. Ac yntau a ddywedodd wrthynt, Nid wyf finau yn dywedyd i chwi drwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn. Ond beth dybygwch chwi? Yr oedd gan wr ddau fab: ac efe a ddaeth at y cyntaf, ac a ddywedodd, O Fab, dos, gweithia heddyw yn y winllan. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Nid âf; ond wedi hyny yr oedd yn ddrwg ganddo, ac a aeth. Ac efe a aeth at yr ail, ac a ddywedodd yr un modd. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Mi a âf, Arglwydd; ac nid aeth efe. Pa un o'r ddau a wnaeth ewyllys y tâd? Dywedasant, Y cyntaf. Yr Iesu a ddywed wrthynt, Yn wir meddaf i chwi yr ä y Trethgasglwyr a'r puteiniaid i Deyrnas Dduw o'ch blaen chwi. Canys daeth Ioan atoch yn ffordd cyfiawnder, ac ni chredasoch ef; ond y Treth‐gasglwyr a'r puteiniaid a'i credasant ef; a chwithau, pan welsoch hyn, ni fu hyd y nod ddrwg genych ar ol hyny, fel y credech ef. Gwrandewch ddammeg arall: Yr oedd gwr, perchenog tŷ, yr hwn a blanodd winllan, ac a osododd glawdd o'i hamgylch hi, ac a gloddiodd ynddi win‐wasg, ac a adeiladodd dŵr, ac a'i gosododd hi allan i lafurwyr, ac a aeth i wlad arall. A phan neshaodd tymhor y ffwythau, efe a ddanfonodd ei weision at y llafurwyr i dderbyn ei ffrwythau. A'r llafurwyr a gymmerasant ei weision ef, ac un a gurasant, ac arall a laddasant, ac arall a labyddiasant. Trachefn, efe a anfonodd weision ereill, fwy nâ'r rhai cyntaf, a hwy a wnaethant iddynt yr un modd. Ac yn ddiweddaf, efe a anfonodd atynt ei fab ei hun, gan ddywedyd, Hwy a barchant fy mab. Eithr pan welodd y llafurwyr y mab, hwy a ddywedasant yn eu plith eu hunain, Hwn yw yr etifedd: deuwch, lladdwn ef, a chymmerwn ei etifeddiaeth ef. Ac wedi iddynt ei gymmeryd, hwy a'i bwriasant ef allan o'r winllan, ac a'i lladdasant. Am hyny, pan ddel arglwydd y winllan, pa beth a wna efe i'r llafurwyr hyny? Hwy a ddywedant wrtho, Rai drwg, yn llwyr y dyfetha efe hwynt, ac a esyd y winllan allan i lafurwyr ereill, y cyfryw a dalant iddo y ffrwythau yn eu tymhorau. A'r Iesu a ddywed wrthynt, Oni ddarllenasoch chwi erioed yn yr Ysgrythyrau, Maen a wrthododd yr adeiladwyr, Hwn a wnaethpwyd yn ben congl; Oddiwrth yr Arglwydd y bu hyn, A rhyfedd yw yn ein golwg ni. Am hyny, meddaf i chwi, dygir Teyrnas Dduw oddiarnoch chwi, a rhoddir hi i genedl a ddygo ei ffrwythau hi. A'r hwn a syrthio ar y maen hwn a chwilfriwir yn ddarnau; eithr ar bwy bynag y syrthio, efe a'i chwal fel llwch. A phan glybu yr Archoffeiriaid a'r Phariseaid ei ddammegion ef, hwy a wybuant mai am danynt hwy y dywedai efe. A hwy yn ceisio ei ddal, hwy a ofnasant y torfeydd, gan eu bod yn ei gymmeryd ef yn broffwyd. A'r Iesu a atebodd ac a lefarodd drachefn mewn dammegion wrthynt, gan ddywedyd, Cyffelybir Teyrnas Nefoedd i frenin, yr hwn a wnaeth briodaswledd i'w fab, ac a ddanfonodd ei weision i alw y rhai a wahoddasid i'r briodaswledd; ac ni fynent hwy ddyfod. Trachefn efe a anfonodd weision ereill, gan ddywedyd, Dywedwch i'r gwahoddedigion, Wele, yr wyf wedi parotoi fy nghiniaw, fy ychain a'm pasgedigion ydynt wedi eu lladd, ac y mae pob peth yn barod: deuwch i'r briodaswledd. A hwy yn esgeulus a aethant ymaith, un i'w faes ei hun, ac arall at ei fasnach. A'r gweddill a ddaliasant ei weision ef, ac a ymddygasant yn warthus tuag atynt, ac a'u lladdasant. Eithr y brenin oedd yn llidiog, ac a ddanfonodd ei fyddinoedd, ac a ddyfethodd y llofruddion hyny, ac a losgodd eu dinas hwynt. Yna efe a ddywed wrth ei weision, Y briodaswledd yn wir sydd barod, ond y gwahoddedigion nid oeddynt deilwng. Ewch, gan hyny, i gydgyfarfyddiadau y prif‐ffyrdd, a chynnifer ag a gaffoch, gwahoddwch hwynt i'r briodaswledd. A'r gweision hyny a aethant allan i'r prif‐ffyrdd, ac a gasglasant yn nghyd gynnifer oll ag a gawsant, drwg a da; a llanwyd yr ystafell briodas o wahoddedigion. A phan ddaeth y brenin i fewn i weled y gwahoddedigion, efe a welodd yno ddyn nad oedd wedi gwisgo gwisg priodas. Ac efe a ddywed wrtho, Gyfaill, pa fodd y daethost i fewn yma heb fod genyt wisg priodas? Ac yntau a aeth yn fud. Yna y brenin a ddywedodd wrth ei weision, Rhwymwch ei draed a'i ddwylaw, a bwriwch ef allan i'r tywyllwch eithaf. Yno y bydd yr wylofain a'r rhincian dannedd. Canys llawer sydd wedi eu galw, ond ychydig wedi eu dewis. Yna yr aeth y Phariseaid, ac a gymmerasant gynghor fel y rhwydent ef yn ei ymadrodd. Ac y maent yn danfon ato eu Dysgyblion yn nghyd a'r Herodianiaid, gan ddywedyd, Athraw, ni a wyddom dy fod yn eirwir, a'th fod yn dysgu ffordd Duw mewn gwirionedd, ac nad ydwyt yn prisio am neb, oblegyd nid ydwyt yn edrych ar wyneb dynion. Dywed i ni, gan hyny, beth yr wyt ti yn ei dybied? Ai cyfreithlawn rhoddi teyrnged i Cesar, ai nid yw? Ond yr Iesu yn gwybod eu drygioni hwy, a ddywed, Paham yr ydych yn fy nhemtio I, O ragrithwyr? Dangoswch i mi arian y deyrnged. A hwy a ddygasant iddo ddenarion. Ac efe a ddywed wrthynt, Eiddo pwy yw y ddelw hon a'r argraff? Hwy a ddywedant wrtho, Eiddo Cesar. Yna efe a ddywed wrthynt, Rhoddwch yn ol, gan hyny, eiddo Cesar i Cesar, ac eiddo Duw i Dduw. A phan glywsant, hwy a ryfeddasant, a chan ei adael, hwy a aethant ymaith. Y dydd hwnw y daeth ato Saduceaid, y rhai a ddywedant nad oes Adgyfodiad, ac a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Athraw, dywedodd Moses, Os bydd marw neb heb iddo blant, ei frawd a brioda ei wraig ef, ac a gyfoda hâd i'w frawd Ac yr oedd gyda ni saith o frodyr: a'r cyntaf a briododd, ac a fu farw; ac efe heb hiliogaeth, a adawodd ei wraig i'w frawd. Felly hefyd yr ail a'r trydydd, hyd y seithfed. Ac yn ddiweddaf oll bu farw y wraig hefyd. Yn yr Adgyfodiad, gan hyny, gwraig i bwy o'r saith fydd hi? canys yr oll a'i cawsant hi. A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yr ydych yn cyfeiliorni, heb wybod yr Ysgrythyrau, na gallu Duw. Canys yn yr Adgyfodiad nid ydynt yn priodi nac yn cael eu rhoi mewn priodas; eithr y maent fel angylion yn y Nef. Ac am Adgyfodiad y meirw, oni ddarllenasoch yr hyn a ddywedwyd wrthych gan Dduw, gan ddywedyd, Myfi yw Duw Abraham, a Duw Isaac, a Duw Jacob? Nid yw efe Dduw rhai meirw ond rhai byw. A phan glybu y torfeydd, hwy a synasant wrth ei ddysgeidiaeth ef. Ac wedi clywed o'r Phariseaid iddo roddi taw ar y Saduceaid, hwy a ymgynnullasant yn nghyd i'r un lle. Ac un o honynt, cyfreithiwr, a'i holodd ef, gan ei brofi, Athraw, pa orchymyn sydd fawr yn y Gyfraith? Ac Efe a ddywedodd wrtho, Ceri yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon, ac â'th holl enaid, ac â'th holl feddwl. Hwn yw y gorchymyn mawr a'r cyntaf. Ac y mae ail yn gyffelyb iddo: Ceri dy gymmydog fel ti dy hun. Ar y ddau orchymyn hyn y mae yr holl Gyfraith yn crogi a'r Proffwydi. Ac wedi ymgasglu o'r Phariseaid yn nghyd, yr Iesu a'u holodd hwynt, gan ddywedyd, Beth dybygwch chwi am y Crist? Mab i bwy ydyw? Dywedant wrtho, Mab Dafydd. Yntau a ddywed wrthynt, Pa fodd gan hyny y mae Dafydd yn yr Yspryd yn ei alw ef yn Arglwydd, gan ddywedyd, Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw, Hyd oni osodwyf dy elynion dan dy draed. Os yw Dafydd gan hyny yn ei alw ef yn Arglwydd, pa fodd y mae efe yn fab iddo? Ac ni allodd neb ateb gair iddo, ac ni feiddiodd neb o'r dydd hwnw allan ei holi ef. Yna y llefarodd yr Iesu wrth y torfeydd a'i Ddysgyblion, gan ddywedyd, Yn nghadair Moses yr eisteddodd yr Ysgrifenyddion a'r Phariseaid. Yr oll gan hyny, pa bethau bynag a ddywedant wrthych, gwnewch a chedwch; eithr yn ol eu gweithredoedd na wnewch, canys dywedant ac nis gwnant. Ac y maent yn rhwymo yn nghyd feichiau trymion [ac anhawdd eu dwyn], ac yn eu gosod ar ysgwyddau dynion; eithr hwy eu hunain ni fynant eu syflyd â'u bys. Ond eu holl weithredoedd y maent yn wneuthur er eu gweled gan ddynion, canys y maent yn gwneuthur yn llydain eu phylacterau, ac yn helaethu y siobynau. A charu y maent y lle blaenaf yn y gwleddoedd, a'r prif gadeiriau yn y synagogau, a'r moesgyfarchiadau yn y marchnadoedd, a'u galw gan ddynion, Rabbi. Eithr na'ch galwer chwi Rabbi, canys un yw eich Athraw chwi, a chwithau oll brodyr ydych. Ac na elwch neb yn Dad i chwi ar y ddaear, canys un yw eich Tad, sef yr un Nefol. Ac na'ch galwer chwi yn Arweinwyr, canys eich Arweinydd chwi Un ydyw, y Crist. A'r mwyaf o honoch fydd yn was i chwi. A phwy bynag a ddyrchafo ei hun a ostyngir; a phwy bynag a ostyngo ei hun a ddyrchefir. A gwae i chwi, Ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr: canys yr ydych yn cau Teyrnas Nefoedd o flaen dynion: canys chwi eich hunain nid ewch i fewn, a'r rhai sydd yn myned i fewn nis gadewch i fyned i fewn. Gwae chwi, Ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, canys amgylchu yr ydych y môr a'r tir i wneyd un proselyt; a phan y gwneler, yr ydych yn ei wneuthur ef yn fab Gehenna yn ddau cymmaint a chwi eich hunain. Gwae chwi, arweinyddion deillion, y rhai ydych yn dywedyd, Pwy bynag a dwng i'r Cyssegr, nid yw ddim; ond pwy bynag a dwng i aur y Cyssegr, y mae efe yn rhwymedig. O rai ffol a dall! canys pa un sydd fwyaf, yr aur, ai y Cyssegr a sancteiddiodd yr aur? Etto, pwy bynag a dwng i'r Allor, nid yw ddim, ond pwy bynag a dyngo i'r rhodd sydd arni, y mae efe yn rhwymedig. Chwi ddeillion! canys pa un sydd fwyaf, y rhodd, neu yr Allor sydd yn sancteiddio y rhodd? Yr hwn gan hyny a dwng i'r Allor a dwng iddi ac i'r hyn oll sydd arni. A'r hwn a dwng i'r Cyssegr a dwng iddo, ac i'r Hwn sydd yn preswylio ynddo. A'r hwn a dwng i'r Nef a dwng i Orsedd Duw ac i'r Hwn sydd yn eistedd arni. Gwae chwi, Ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, canys yr ydych yn rhoddi degwm o'r mintys, a'r anis, a'r cwmin, ac yr ydych wedi esgeuluso pethau pwysicaf y Gyfraith, barn, a thrugaredd, a ffydd; ond dylasech wneuthur y pethau hyn, heb esgeuluso y lleill. O arweinyddion deillion, yn hidlo y gwybedyn, ac yn traflyncu y camel! Gwae chwi, Ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, canys yr ydych yn glanhau y tu allan i'r cwpan a'r ddysgl, ond o'r tu fewn y maent yn llawn trais ac anghymmedroldeb. O Pharisead dall, glanha yn gyntaf yr hyn sydd oddifewn i'r cwpan a'r ddysgl, fel y byddo yn lân hefyd yr hyn sydd oddiallan i'r cyfryw. Gwae chwi, Ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, canys tebyg ydych i feddau wedi eu gwyngalchu, y rhai oddiallan ydynt yn ymddangos yn deg, ond oddifewn ydynt lawn o esgyrn y meirw a phob aflendid. Felly chwithau hefyd, oddiallan yn wir yr ydych yn ymddangos i ddynion yn gyfiawn, ond oddifewn yn llawn rhagrith ac annghyfiawnder. Gwae chwi, Ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, canys yr ydych yn adeiladu beddau y Proffwydi, ac yn addurno cofadeiliau y rhai cyfiawn, ac a ddywedwch, Pe buasem ni yn byw yn nyddiau ein tadau, ni fuasem ni gyd‐gyfranogion â hwynt yn ngwaed y Proffwydi. O ganlyniad, yr ydych yn tystiolaethu am danoch eich hunain eich bod yn feibion y rhai a lofruddiasant y Proffwydi. A chwithau, llenwch i fyny fesur eich tadau. O seirff, hiliogaeth gwiberod! pa fodd y diangwch rhag barnedigaeth Gehenna? O herwydd hyn, Wele, yr wyf yn anfon atoch Broffwydi, a Doethion, ac Ysgrifenyddion: rhai o honynt a leddwch ac a groeshoeliwch, a rhai o honynt a ffrewyllwch yn eich Synagogau, ac a erlidiwch o ddinas i ddinas; fel y delo arnoch chwi bob gwaed cyfiawn a dywelltir ar y ddaear, o waed Abel y Cyfiawn hyd at waed Zechariah, mab Barachiah, yr hwn a lofruddiasoch rhwng y Cyssegr a'r Allor. Yn wir meddaf i chwi, yr holl bethau hyn a ddeuant ar y genedlaeth hon. O Jerusalem, Jerusalem, yr hon wyt yn lladd y Proffwydi, ac yn llabyddio y rhai sydd wedi eu danfon atat, pa sawl gwaith yr ewyllysiwn gasglu dy blant yn nghyd, yr un modd ag y casgl iar ei chywion dan ei hadenydd, ac nid ewyllysiech chwi! Wele, eich tŷ a adewir i chwi yn annghyfannedd: canys meddaf i chwi, ni'm gwelwch o hyn allan, hyd oni ddywedwch, Bendigedig yw Yr‐Hwn‐sydd-yn‐dyfod yn enw yr Arglwydd. A'r Iesu gan ddyfod allan oedd yn myned ymaith oddiwrth y Deml: a'i Ddysgyblion a ddaethant i ddangos iddo adeiladau y Deml. Ac Efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Oni welwch chwi y rhai hyn oll? Yn wir meddaf i chwi, ni adewir yma garreg ar garreg a'r ni ddattodir. Ac Efe yn eistedd ar fynydd yr Olew‐wydd, y Dysgyblion a ddaethant ato o'r neilldu, gan ddywedyd, Dywed i ni pa bryd y bydd y pethau hyn? A pha beth fydd arwydd dy Ddyfodiad ac o Ddiwedd y byd? A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Edrychwch na fyddo i neb eich camarwain chwi. Canys llawer a ddeuant yn fy Enw I, gan ddywedyd, Myfi yw y Crist, ac a gamarweiniant laweroedd. A bydd i chwi glywed am ryfeloedd a son am ryfeloedd: edrychwch, na ddychryner chwi, canys rhaid iddynt fod, ond nid yw y diwedd etto. Canys cyfyd cenedl yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas: ac fe fydd newynoedd, a daeargrynfeydd mewn amryw fanau. Y pethau hyn oll ydynt ddechreuad gwewyr esgor. Yna y'ch traddodant chwi i orthrymder, ac a'ch lladdant; a chwi a gasheir gan yr holl genedloedd o herwydd fy enw I. Ac yna y rhwystrir llawer, ac a draddodant i fyny eu gilydd, ac a gashant eu gilydd. A gau-broffwydi lawer a godant ac a gamarweiniant lawer. Ac o herwydd yr amlha annghyfiawnder, fe oera cariad y llaweroedd. Ond yr hwn a barhao hyd y diwedd, hwnw a fydd cadwedig. Ac Efengyl hon y Deyrnas a bregethir yn yr holl fyd preswyliedig, er tystiolaeth i'r holl genedloedd; ac yna y daw y diwedd. Pan gan hyny y gwelwch ffieiddbeth yr annghyfannedd-dra a ddywedwyd trwy Daniel y Proffwyd, yn sefyll yn y lle Sanctaidd (y neb a ddarlleno, ystyried). Yna y rhai a fyddant yn Judea, bydded iddynt ffoi i'r mynyddoedd. Yr hwn a fyddo ar nen‐y‐tŷ, na ddisgyned i gymmeryd y pethau allan o'i dy. A'r hwn fyddo yn y maes, na ddychweled yn ei ol i gymmeryd ei gochl. A gwae i'r beichiogion, a'r rhai yn rhoi bronau, yn y dyddiau hyny. Ond gweddiwch fel na fyddo eich ffoedigaeth yn y Gauaf nac ar ddydd Sabbath. Canys y pryd hwnw y bydd gorthrymder mawr, y fath ni fu o ddechreu y byd hyd yn awr, ac ni fydd chwaith. A phe na fyrhawyd y dyddiau hyny, ni fuasai gadwedig un cnawd oll; ond er mwyn yr Etholedigion, fe fyrheir y dyddiau hyny. Yna os dywed neb wrthych, Wele, yma y mae y Crist, neu, Yma, na chredwch. Canys cyfyd gau‐Gristiau a gau-broffwydi, ac a roddant arwyddion mawrion a rhyfeddodau, fel ag i gamarwain, os yn bosibl, hyd y nod yr Etholedigion. Wele, yr wyf wedi rhagfynegu i chwi. Am hyny, os dywedant wrthych, Wele, y mae Efe yn y Diffaethwch, nac ewch allan; Wele, yn yr ystafelloedd dirgel, na chredwch. Canys fel y daw y fellten allan o'r Dwyrain, ac a welir hyd y Gorllewin; felly y bydd Dyfodiad Mab y Dyn. Pa le bynag bydd y gelain, yno yr ymgasgl yr Eryrod. Yn y fan wedi gorthrymder y dyddiau hyny, yr haul a dywyllir, a'r lleuad ni rydd ei llewyrch; a'r sêr a syrthiant o'r Nef, a galluoedd y Nefoedd a ysgydwir. Ac yna yr ymddengys arwydd Mab y Dyn yn y Nef: ac yna y galara holl lwythau y ddaear; a hwy a welant Fab y Dyn yn dyfod ar gymmylau y Nef, gyda gallu a gogoniant mawr. Ac Efe a ddenfyn ei Angelion gydag udgorn o sain uchel, a hwy a gasglant ei Etholedigion ef o'r pedwar gwynt, o eithafoedd y Nefoedd hyd eu heithafoedd hwynt. Ond dysgwch y ddammeg oddiwrth y ffigysbren: Pan yw ei gangen eisioes yn dyner, ac yn bwrw allan ddail, chwi a wyddoch fod yr Haf yn agos. Felly chwithau hefyd, pan weloch hyn oll, gwybyddwch ei fod yn agos, wrth y drysau. Yn wir meddaf i chwi, Nid ä y genedlaeth hon heibio ddim hyd oni wneler hyn oll. Y Nef a'r ddaear a ânt heibio, ond fy ngeiriau I nid ânt heibio ddim. Ond am y dydd hwnw a'r awr nis gŵyr neb, nac Angelion y Nefoedd, na'r Mab, ond y Tad yn unig. Canys fel yr oedd dyddiau Noah, felly y bydd Dyfodiad Mab y Dyn. Canys fel yr oeddent yn y dyddiau [hyny ] o flaen y Diluw, yn bwyta ac yn yfed, yn priodi ac yn rhoi i briodas, hyd y dydd yr aeth Noah i fewn i'r Arch, ac ni wybuant hyd oni ddaeth y Diluw a'u cymmeryd hwynt oll ymaith, felly y bydd Dyfodiad Mab y Dyn. Yna y bydd dau yn y maes: un a gymmerir ac un a adewir. Dwy yn malu wrth y maen melin: un a gymmerir ac un a adewir. Gwyliwch gan hyny, canys ni wyddoch ar ba ddydd y mae eich Arglwydd yn dyfod. Eithr gwybyddwch hyn, pe gwybuasai gwr y ty ar ba wyliadwriaeth y mae y lleidr yn dyfod, efe a wyliasai, ac ni oddefasai i'w dy gael ei gloddio trwodd. O herwydd hyn, byddwch chwithau hefyd barod, canys yn yr awr ni thybioch y mae Mab y Dyn yn dyfod. Pwy gan hyny yw y gwas ffyddlawn a doeth, yr hwn a osododd ei arglwydd dros ei wasanaethyddion, i roddi iddynt fwyd mewn pryd? Dedwydd fydd y gwas hwnw, yr hwn y caiff ei arglwydd ef, pan ddelo, yn gwneuthur felly. Yn wir meddaf i chwi, Dros ei holl feddiannau y gesyd efe ef. Ond os dywed y gwas drwg hwnw yn ei galon, Y mae fy arglwydd yn oedi; a dechreu curo ei gydweision, a bwyta ac yfed gyda'r meddwon, arglwydd y gwas hwnw a ddaw mewn dydd nad yw efe yn ei ddysgwyl, ac mewn awr nis gŵyr efe; ac a'i fflangella yn erwin, ac a esyd ei ran ef gyda'r rhagrithwyr, yno y bydd yr wylofain a'r rhincian dannedd. Yna y cyffelybir Teyrnas Nefoedd i ddeg morwyn, y cyfryw a gymmerasant eu lampau, ac a aethant allan i gyfarfod y priodfab. A phump o honynt oedd ffol, a phump oedd ddoeth. Canys y rhai ffol a gymmerasant eu lampau, ond ni chymmerasant olew gyda hwynt; ond y doeth a gymmerasant olew yn y llestri gyda'u lampau. A chan fod y priodfab yn oedi, hwy oll a hepiasant ac a gysgasant. Ac ar hanner nos y bu gwaedd, Wele, y priodfab, ewch allan i'w gyfarfod ef. Yna y cyfododd yr holl forwynion hyny, ac a drwsiasant eu lampau eu hunain. A'r rhai ffol a ddywedasant wrth y rhai doeth, Rhoddwch i ni o'ch olew chwi, canys y mae ein lampau ni yn diffoddi. A'r rhai doeth a atebasant, gan ddywedyd, Rhag na fyddo digon i ni ac i chwithau, ewch yn hytrach at y rhai sydd yn gwerthu, a phrynwch i chwi eich hunain. A thra yr oeddynt yn myned ymaith i brynu, daeth y priodfab; a'r rhai oedd barod a aethant i fewn gydag ef i'r briodas‐wledd; a chauwyd y drws. Wedi hyny y daeth y morwynion ereill hefyd, gan ddywedyd, Arglwydd, Arglwydd, agor i ni. Eithr efe a atebodd ac a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, Nid wyf yn eich adwaen. Gwyliwch gan hyny, canys nid adwaenoch y dydd na'r awr. Canys bydd fel dyn yn myned ymaith: galwodd ei weision ato, ac a roddodd ei feddiannau iddynt. Ac i un y rhoddodd efe bum' talent, ac i arall ddwy, ac i arall un, i bob un yn ol ei allu ei hun; ac efe a aeth ymaith. Ac yn ebrwydd yr hwn a dderbyniodd y pum' talent a aeth ac a'u defnyddiodd hwynt, ac a ennillodd bump ereill. A'r un modd yr hwn a dderbyniasai y ddwy a ennillodd ddwy ereill. Ond yr hwn a dderbyniasai yr un a aeth ymaith ac a gloddiodd y ddaear, ac a guddiodd arian ei arglwydd. Ac wedi llawer o amser, y mae arglwydd y gweision hyny yn dyfod, ac y mae yn gwneyd cyfrif a hwynt. A daeth yr hwn a dderbyniodd bum' talent, ac a ddug bum' talent ereill, gan ddywedyd, Arglwydd, pum' talent a roddaist i mi: wele, pum' talent ereill mi a ennillais. Ei arglwydd a ddywedodd wrtho, Da, was da a ffyddlawn: buost ffyddlawn dros ychydig, mi a'th osodaf dros lawer: dos i fewn i lawenydd dy arglwydd. A daeth hefyd yr hwn a dderbyniasai y ddwy dalent, gan ddywedyd, Arglwydd, dwy dalent a roddaist i mi: wele, dwy dalent ereill mi a ennillais. Ei arglwydd a ddywedodd wrtho, Da, was da a ffyddlawn: buost ffyddlawn dros ychydig, mi a'th osodaf dros lawer: dos i fewn i lawenydd dy arglwydd. A'r hwn hefyd a dderbyniasai yr un dalent a ddaeth, gan ddywedyd, Arglwydd, mi a'th adwaenwn di, mai dyn caled ydwyt, yn medi lle nis hauaist, ac yn casglu lle ni wasgeraist: ac mi a ofnais, ac a aethum ac a guddiais dy dalent yn y ddaear: wele, yr wyt yn cael yr eiddot dy hun. A'i arglwydd a atebodd ac a ddywedodd wrtho, O was drwg a diog, a wyddaist fy mod yn medi lle nis hauais, ac yn casglu lle ni wasgerais? Am hyny y dylesit roddi fy arian i'r bancwyr, a mi pan ddaethwn a gawswn dderbyn fy eiddo fy hun gyda llog. Cymmerwch gan hyny y dalent oddiwrtho, a rhoddwch i'r hwn sydd ganddo y deg talent. Canys i bob un y mae ganddo y rhoddir iddo, ac efe a gaiff yn helaeth: eithr yr hwn nid oes ganddo — ïe, dygir oddiarno yr hyn sydd ganddo. A bwriwch allan y gwas anfuddiol i'r tywyllwch eithaf, yno y bydd yr wylofain a'r rhincian dannedd. A phan ddelo Mab y Dyn yn ei ogoniant, a'r holl Angelion gydag ef, yna yr eistedda ar orsedd ei ogoniant; a chydgesglir ger ei fron ef yr holl genedloedd; ac efe a'u didola hwynt oddiwrth eu gilydd, megys y didola bugail y defaid oddiwrth y geifr; ac a esyd y defaid ar ei ddeheulaw; ond y geifr ar yr aswy. Yna y dywed y Brenin wrth y rhai ar ei ddeheulaw, Deuwch, chwi Fendigedigion fy Nhad, etifeddwch y Deyrnas a barotowyd i chwi er seiliad y byd. Canys bum newynog, a chwi a roisoch i mi fwyd; bu arnaf syched, a chwi a'm diodasoch; bum yn ddyeithr, a chwi a'm dygasoch i fewn gyda chwi; noeth, a chwi a'm dilladasoch; bum yn glaf, a chwi a ymwelsoch a mi; bum yn ngharchar, a daethoch ataf. Yna yr etyb y rhai cyfiawn iddo, gan ddywedyd, Arglwydd, Pa bryd y'th welsom yn newynog, ac y'th borthasom? neu yn sychedig, ac y'th ddiodasom? A pha bryd y'th welsom yn ddyeithr, ac y'th ddygasom i fewn gyda ni? neu yn noeth, ac y'th ddilladasom? A pha bryd y'th welsom yn glaf, neu yn ngharchar, ac y daethom atat ti? A'r Brenin a etyb, ac a ddywed wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, mor bell ag y gwnaethoch hyn i un o'm brodyr, ïe, y rhai lleiaf, i mi y gwnaethoch. Yna y dywed efe wrth y rhai ar y llaw aswy, Ewch oddiwrthyf, rai melldigedig, i'r tân tragywyddol, yr hwn sydd wedi ei barotoi i'r Diafol, ac i'w Angelion. Canys bum newynog, ac ni roisoch i mi ddim i fwyta; bu arnaf syched, ac ni roisoch i mi ddim i yfed; bum ddyeithr, ac ni'm dygasoch i fewn gyda chwi; noeth, ac ni'm dilladasoch; yn glaf, ac yn ngharchar, ac ni ymwelsoch a mi. Yna yr atebant hwythau hefyd, gan ddywedyd, Arglwydd, pa bryd y'th welsom yn newynog, neu yn sychedig, neu yn ddyeithr, neu yn noeth, neu yn glaf, neu yn ngharchar, ac ni weiniasom i ti? Yna yr etyb efe iddynt, gan ddywedyd, Yn wir, meddaf i chwi, mor bell ag nis gwnaethoch i un o'r rhai lleiaf hyn, nis gwnaethoch i minau. A'r rhai hyn a ânt i gospedigaeth dragywyddol, ond y rhai cyfiawn i fywyd tragywyddol. A bu wedi i'r Iesu orphen y geiriau hyn oll, Efe a ddywedodd wrth ei Ddysgyblion, Chwi a wyddoch mai wedi deuddydd y mae y Pasc, a Mab y Dyn a draddodir i'w groeshoelio. Yna yr ymgasglodd yr Archoffeiriaid, a Henuriaid y bobl, i lŷs yr Archoffeiriad, yr hwn a elwid Caiaphas: a hwy a gydymgynghorasant fel y dalient yr Iesu trwy ddichell, ac y lladdent ef. Ond dywedasant, Nid yn yr wyl, rhag bod cynhwrf yn mhlith y bobl. Ac a'r Iesu yn Bethania, yn nhy Simon, y gwahanglwyfus, daeth ato wraig, a chanddi lestr alabastr o enaint gwerthfawr, ac a'i tywalltodd ar ei ben, fel yr eisteddai wrth y bwrdd. A phan welodd y Dysgyblion, hwy a ffromasant, gan ddywedyd, I ba ddyben y golled hon? Canys fe a allasid gwerthu hwn am lawer, a'i roddi i'r tlodion. A'r Iesu yn gwybod, a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn peri blinder i'r wraig? Canys hi a weithiodd weithred dda mewn perthynas a mi. Canys y mae genych y tlodion bob amser gyda chwi; eithr myfi ni chewch bob amser. Canys hi yn tywallt yr enaint hwn ar fy nghorff, a'i gwnaeth ar gyfer fy nghladdu. Yn wir meddaf i chwi, pa le bynag y pregethir yr Efengyl hon yn yr holl fyd, sonir am yr hyn a wnaeth hi hefyd, er coffadwriaeth am dani hi. Yna yr aeth un o'r Deuddeg, yr hwn a elwid Judas Iscariot, at yr Archoffeiriaid, gan ddywedyd, Pa beth ydych yn foddlon i roddi i mi, a myfi i chwi a'i traddodaf ef? A hwy a bwysasant iddo ddeg ar hugain o arian Ac o hyny allan yr oedd efe yn ceisio cyfleusdra i'w draddodi ef. Ac ar ddydd cyntaf y Bara Croyw, y Dysgyblion a ddaethant at yr Iesu, gan ddywedyd, Pa le yr ewyllysi i ni barotoi i ti fwyta y Pasc? Ac efe a ddywedodd, Ewch i'r Ddinas at y cyfryw un, a dywedwch wrtho, Y mae yr Athraw yn dywedyd, Fy adeg sydd yn agos: gyda thi y cadwaf y Pasc gyda'm Dysgyblion. A'r Dysgyblion a wnaethant fel y trefnodd yr Iesu iddynt, ac a barotoisant y Pasc. A phan ddaeth yr hwyr, yr oedd efe yn eistedd gyda'r Deuddeg Dysgybl. Ac fel yr oeddynt yn bwyta, efe a ddywedodd, Yn wir y dywedaf wrthych, y bradycha un o honoch fi. A hwythau yn drist iawn a ddechreuasant ddywedyd wrtho, un ac un, Ai myfi ydyw, Arglwydd? Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, yr hwn a drochodd ei law gyda mi yn y ddysgl, hwnw a'm bradycha I. Mab y Dyn yn wir sydd yn ymadael, fel y mae wedi ei ysgrifenu am dano; eithr gwae y dyn hwnw trwy yr hwn y mae Mab y Dyn yn cael ei fradychu: Da fuasai iddo pe nas ganesid y dyn hwnw. A Judas y Bradychwr a atebodd ac a ddywedodd, Ai myfi ydyw, Rabbi? Efe a ddywedodd wrtho, Ti a ddywedaist. Ac fel yr oeddynt yn bwyta, yr Iesu a gymmerodd fara, ac a fendithiodd, ac a dorodd, ac a roddodd i'r Dysgyblion, ac a ddywedodd, Cymmerwch, bwytewch; hwn yw fy nghorff. Ac wedi iddo gymmeryd cwpan a diolch, efe a'i rhoddodd iddynt, gan ddywedyd, Yfwch bawb o hwn: Canys hwn yw fy ngwaed o'r Cyfammod, Yr hwn sydd yn cael ei dywallt dros lawer er maddeuant pechodau. Ac yr wyf yn dywedyd i chwi, nad yfaf o gwbl o hyn allan o gynnyrch hwn y winwydden hyd y dydd hwnw pan yfaf ef gyda chwi yn newydd yn Nheyrnas fy Nhad. Ac wedi iddynt ganu mawl, hwy a aethant allan i Fynydd yr Olew‐wydd. Yna y dywed yr Iesu wrthynt, Chwi oll a rwystrir ynof fi y nos hon; canys y mae yn ysgrifenedig:— Tarawaf y bugail, A defaid y praidd a wasgerir ar led. Eithr wedi fy adgyfodi, myfi a âf o'ch blaen chwi i Galilea. A Phetr a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Pe rhwystrid pawb ynot ti, myfi ni rwystrir byth. Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Yn wir yr wyf yn dywedyd i ti, yn y nos hon, cyn canu o geiliog, teirgwaith ti a'm gwedi I. Y mae Petr yn dywedyd wrtho, Pe angenrhaid i mi farw gyda thi, ni'th wadaf ddim. Yr un modd y dywedodd yr holl Ddysgyblion. Yna y mae yr Iesu yn dyfod gyda hwynt i fan a elwid Gethsemane, ac y mae yn dywedyd wrth ei Ddysgyblion, Eisteddwch yma, tra yr elwyf ymaith acw, a gweddio. Ac efe a gymmerodd gydag Ef Petr, a dau fab Zebedeus, ac a ddechreuodd fod yn drist ac yn drallodus iawn. Yna y mae efe yn dywedyd wrthynt, Trist iawn yw fy enaid hyd angeu: aroswch yma a gwyliwch gyda mi. Ac wedi iddo fyned ychydig yn mlaen, efe a syrthiodd ar ei wyneb, gan weddio a dywedyd, O fy Nhad, os yw yn bossibl, aed heibio oddiwrthyf y cwpan hwn: etto nid fel yr wyf fi yn ewyllysio, ond fel yr ydwyt ti. Ac y mae efe yn dyfod at ei Ddysgyblion, ac yn eu cael yn cysgu, ac a ddywed wrth Petr, Beth! Oni ellwch chwi wylied un awr gyda mi? Gwyliwch a gweddiwch, fel nad eloch i brofedigaeth. Yr yspryd yn wir sydd barod ond y cnawd sydd wan. Drachefn, yr ail waith, efe a aeth ac a weddiodd, gan ddywedyd, Fy Nhad, onis gall hwn fyned heibio heb i mi ei yfed, gwneler dy ewyllys di. Ac efe a ddaeth drachefn, ac a'u cafodd hwynt yn cysgu: canys yr oedd eu llygaid hwy wedi trymhau. Ac efe a'u gadawodd hwynt, ac a aeth ymaith drachefn, ac a weddiodd y drydedd waith, gan lefaru yr un ymadrodd. Yna y mae efe yn dyfod at y Dysgyblion, ac a ddywed wrthynt, Cysgwch yr amser sydd weddill, a gorphwyswch. Wele, y mae yr awr wedi neshau, a Mab y Dyn sydd yn cael ei draddodi i ddwylaw pechaduriaid. Codwch, awn; wele, neshaodd yr hwn sydd yn fy mradychu. Ac efe etto yn llefaru, wele Judas, un o'r Deuddeg, a ddaeth, a chydag ef dyrfa fawr â chleddyfau a ffyn oddiwrth yr Archoffeiriaid a Henuriaid y bobl. A'r hwn a'i bradychodd ef a roddodd iddynt arwydd, gan ddywedyd, Pa un bynag a gusanwyf, hwnw ydyw, deliwch ef. Ac yn ebrwydd y daeth efe at yr Iesu, ac a ddywedodd, Henffych well, Rabbi, ac a'i cusanodd. A'r Iesu a ddywedodd, Gydymaith, wele yr hyn y daethost o'i blegyd. Yna y daethant, ac y rhoddasant ddwylaw ar yr Iesu, ac a'i daliasant ef. Ac wele, un o'r rhai oedd gyda'r Iesu a estynodd ei law, ac a dynodd ei gleddyf, ac a darawodd was yr Archoffeiriad, ac a gymmerodd ymaith ei glust ef. Yna y dywed yr Iesu wrtho, Dychwel dy gleddyf i'w le; canys pawb a'r a gymmerant gleddyf a ddyfethir â chleddyf. Neu a wyt ti yn tybied nas gallaf ddeisyf ar fy Nhad, ac efe a rydd yr awr hon i mi fwy na deuddeg lleng o angelion? Pa fodd, gan hyny, y cyflawnid yr Ysgrythyrau, mai felly y gorfydd bod? Yn yr awr hono y dywedodd yr Iesu wrth y torfeydd, Ai megys at yspeiliwr y daethoch allan, â chleddyfau a ffyn, i'm cymmeryd i fyny? Yr oeddwn I beunydd yn y Deml yn eistedd ac yn dysgu; ac ni'm daliasoch. Eithr hyn oll sydd wedi ei wneuthur fel y cyflawnir Ysgrythyrau y Proffwydi. Yna yr holl Ddysgyblion a'i gadawsant ef, ac a ffoisant. A'r rhai a ddaliasant yr Iesu a'i harweiniasant ymaith at Caiaphas yr Archoffeiriad, lle yr oedd yr Ysgrifenyddion a'r Henuriaid wedi ymgasglu yn nghyd. A Phetr oedd yn ei ganlyn ef o hirbell, hyd yn Llys yr Archoffeiriad, ac a aeth i mewn, ac a eisteddodd gyd a'r swyddogion, i weled y diwedd. A'r Arch‐offeiriaid a'r holl Gynghor, oeddynt yn ceisio gau‐dystiolaeth yn erbyn yr Iesu, fel y rhoddent ef i farwolaeth; ac ni chawsant, er dyfod gau‐dystion lawer; eithr o'r diwedd fe a ddaeth dau, ac a ddywedasant, Hwn a ddywedodd, Mi a allaf ddinystrio Cyssegr Duw, a'i adeiladu yn ystod tri diwrnod. A chyfododd yr Arch‐offeiriad, ac a ddywedodd wrtho, A atebi di ddim? Pa beth y mae y rhai hyn yn dystiolaethu yn dy erbyn di? Ond yr Iesu a dawodd. A'r Arch‐offeiriad a ddywedodd wrtho, Yr wyf yn dy osod ar lw drwy y Duw byw, fel y dywedi i ni, os tydi yw y Crist, Mab Duw? A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Ti a ddywedaist: er hyny, meddaf i chwi, O hyn allan y gwelwch Fab y Dyn yn eistedd ar ddeheulaw y Gallu, ac yn dyfod ar gymmylau y nef. Yna yr Arch‐offeiriad a rwygodd ei ddillad, ac a ddywedodd, Efe a gablodd: paham y mae rhaid i ni bellach wrth dystion? wele, yr awrhon y clywsoch y cabledd. Beth dybygwch chwi? Hwythau gan ateb a ddywedasant, Y mae efe yn haeddu marwolaeth. Yna y poerasant i'w wyneb ef, ac a'i dyrnodiasant: eraill a'i cernodiasant, gan ddywedyd, Proffwyda i ni, Tydi Grist, pwy yw yr hwn a'th darawodd di? A Phetr oedd yn eistedd allan yn y Llys: a daeth morwynig ato, gan ddywedyd, A thithau oeddyt gyda Iesu y Galilead! Ac efe a wadodd ger eu bron hwy oll, gan ddywedyd, Nis gwn beth yr wyt yn ei ddywedyd. Ac fel yr oedd efe yn myned allan i'r porth, gwelodd morwynig arall ef, a hi a ddywed wrth y rhai oedd yno, Ac yr oedd hwn gyda Iesu y Nazaread! A thrachefn efe a wadodd gyda llw, Nid adwaen I y dyn. Ac yn mhen ychydig daeth y rhai oedd yn sefyll, ac a ddywedasant wrth Petr, Yn wir yr wyt tithau hefyd yn un o honynt, canys y mae dy dafodiaith hefyd yn dy ddadguddio. Yna y dechreuodd efe regu a thyngu, Nid adwaen I y dyn. Ac yn y man ceiliog a ganodd. A chofiodd Petr y gair pan ddywedodd yr Iesu, Cyn cana ceiliog, ti a'm gwedi deirgwaith. Ac efe a aeth allan, ac a wylodd yn chwerw‐dost. A phan ddaeth y boreu, cydymgynghorodd yr Archoffeiriaid a Henuriaid y bobl yn erbyn yr Iesu, fel y rhoddent ef i farwolaeth. Ac wedi iddynt ei rwymo, hwy a'i harweiniasant ef ymaith, ac a'i traddodasant ef i Pilat y Rhaglaw. Yna pan welodd Judas, yr hwn a'i bradychodd ef, ddarfod ei gondemnio ef, bu ddrwg ganddo, ac a ddychwelodd y deg ar hugain arian i'r Arch‐offeiriaid a'r Henuriaid, gan ddywedyd, Pechais trwy fradychu gwaed gwirion. Eithr hwy a ddywedasant, Pa beth yw hyny i ni? Ti a edrychi at hyny. Ac wedi iddo daflu yr arian i'r Cyssegr, efe a ymadawodd; ac efe a aeth ymaith, ac a ymdagodd. A'r Arch‐offeiriaid a gymmerasant yr arian, ac a ddywedasant, Nid cyfreithlawn eu bwrw hwynt i'r Drysorfa Gyssegredig, canys pris gwaed ydynt. Ac wedi iddynt gyd‐ymgynghori, hwy a brynasant â hwynt Faes y Crochenydd, er bod yn gladdfa dyeithriaid. Am hyny y galwyd y maes hwnw, Maes y Gwaed hyd heddyw. Yna y cyflawnwyd yr hyn a ddywedwyd trwy Jeremiah y Proffwyd, gan ddywedyd, A hwy a gymmerasant y deg‐ar‐hugain arian, pris y prisiedig, Yr hwn a brisiasai rhai o feibion Israel: A hwy a'u rhoisant am Faes y Crochenydd, Megys yr ordeiniodd yr Arglwydd i mi. A'r Iesu a osodwyd gerbron y Rhaglaw: a'r Rhaglaw a'i holodd ef, gan ddywedyd, Ai ti yw Brenin yr Iuddewon? A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Ti a ddywedaist. A phan gyhuddid ef gan yr Arch‐offeiriaid a'r Henuriaid, nid atebodd efe ddim. Yna y dywed Pilat wrtho, Oni chlywi di faint o bethau y maent yn dystiolaethu yn dy erbyn di? Ac nid atebodd efe iddo hyd y nod un gair, fel y rhyfeddodd y Rhaglaw yn fawr. Ac ar wyl yr arferai y Rhaglaw ryddhau un carcharor i'r bobl, yr hwn a fynent. A'r pryd hwnw yr oedd ganddynt garcharor hynod, a elwid Barabbas. Wedi iddynt, gan hyny, ymgasglu ynghyd, Pilat a ddywedodd wrthynt, Pa un a fynwch i mi ei ryddhau i chwi? Barabbas ai yr Iesu, yr hwn a elwir Crist? Canys efe a wyddai mai o genfigen y traddodasent ef. Ac efe yn eistedd ar yr orseddfainc, ei wraig a ddanfonodd ato, gan ddywedyd, Na fydded i ti a wnelych a'r Cyfiawn hwnw: canys dyoddefais heddyw lawer o bethau mewn breuddwyd o'i achos ef. A'r Arch‐offeiriaid a'r Henuriaid a gymhellasant y bobl, fel y gofynent Barabbas, ac y dyfethent yr Iesu. A'r Rhaglaw a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Pa un o'r ddau a fynwch i mi ei ryddhau i chwi? A hwy a ddywedasant, Barabbas. A Philat a ddywed wrthynt, Pa beth gan hyny a wnaf i'r Iesu, yr hwn a elwir Crist? Hwythau oll a ddywedant, Croeshoelier ef. Ac efe a ddywedodd, Wel, pa ddrwg a wnaeth efe? Eithr hwy a lefasant yn fwy o lawer, gan ddywedyd, Croeshoelier ef. Felly Pilat pan welodd nad oedd dim yn tycio, ond yn hytrach bod cynhwrf yn cyfodi, a gymmerth ddwfr, ac a olchodd ei ddwylaw gerbron y dyrfa, gan ddywedyd, Diniwed ydwyf fi o waed y cyfiawn hwn: edrychwch chwi. A'r holl bobl a atebodd ac a ddywedodd, Bydded ei waed Ef arnom ni ac ar ein plant. Yna efe a ryddhaodd iddynt Barabbas; eithr yr Iesu a fflangellodd efe, ac a draddododd i'w groeshoelio. Yna milwyr y Rhaglaw a gymmerasant yr Iesu i'r Palas Ymherodrol, ac a gynullasant ato yr holl gatrawd. A hwy a'i diosgasant Ef, ac a roisant am dano Ef fantell o ysgarlad. Ac wedi iddynt blethu coron o ddrain, hwy a'i gosodasant ar ei ben Ef, a chorsen yn ei law ddeheu; ac a blygasant eu gliniau ger ei fron Ef, ac a'i gwatwarasant, gan ddywedyd, Henffych well, Ti Frenin yr Iuddewon. A hwy a boerasant arno, ac a gymmerasant y gorsen, ac a'i tarawsant Ef ar ei ben. Ac wedi iddynt ei watwar, hwy a'i diosgasant Ef o'r fantell, ac a'i gwisgasant Ef â'i ddillad ei hun, ac a'i dygasant Ef ymaith i'w groeshoelio. Ac fel yr oeddynt yn myned allan, hwy a gawsant ddyn o Cyrene, a'i enw Simon; hwn a orfodasant, fel y dygai ei groes. A phan ddaethant i le a elwid Golgotha, yr hwn a elwir, Lle Penglog, hwy a roisant iddo i'w yfed win yn gymmysgedig â wermod; ac wedi ei brofi, ni fynodd Efe yfed. Ac wedi iddynt ei groeshoelio Ef, hwy a ranasant ei ddillad, gan fwrw coelbren. A chan eistedd i lawr, hwy a'i gwyliasant Ef yno. A gosodasant uwch ei ben Ef ei gyhuddiad yn ysgrifenedig, Hwn yw Iesu, Brenin yr Iuddewon. Yna y croeshoelir gydag Ef ddau yspeiliwr, un ar y llaw ddeheu, ac un ar y llaw aswy. A'r rhai oeddynt yn myned heibio oeddynt yn ei gablu Ef, gan ysgwyd eu penau, a dywedyd, Ti yr hwn a ddinystri y Cyssegr, ac mewn tridiau a'i adeiledi, gwared dy hun: os Mab Duw ydwyt ti, disgyn oddiar y groes. A'r un modd yr Arch‐offeiriaid hefyd, gan watwar, gyda'r Ysgrifenyddion a'r Henuriaid, a ddywedasant, Ereill a waredodd Efe, ei hun nis gall Efe waredu. Brenin Israel yw: disgyned yr awrhon oddiar y groes, ac ni a gredwn arno. Y mae yn ymddiried yn Nuw: gwareded Efe Ef yr awrhon, os myn Efe Ef; canys Efe a ddywedodd, Mab Duw ydwyf fi. A'r un peth hefyd a edliwiodd yr yspeilwyr iddo, y rhai a groeshoeliasid gyd ag Ef. Ac o'r chweched awr yr oedd tywyllwch ar yr holl ddaear hyd y nawfed awr. Ac yn nghylch y nawfed awr y llefodd yr Iesu â llef uchel, gan ddywedyd, Eli, Eli, lema sabachthani; yr hyn yw, Fy Nuw, fy Nuw, paham y'm llwyr adewaist. A rhai o'r sawl oedd yn sefyll yno, pan glywsant, a ddywedasant, Y mae hwn yn galw Elias. Ac yn y fan un o honynt a redodd, ac a gymmerth yspwng, ac a'i llanwodd o finegr, ac a'i rhoddodd ar gorsen, ac a'i diododd Ef. Eithr y lleill a ddywedasant, Aros, edrychwn a ydyw Elias yn dyfod i'w waredu Ef. A'r Iesu, wedi llefain drachefn â llef uchel, a ymadawodd â'r yspryd. Ac wele, Llen y Cyssegr a rwygwyd oddifyny i waered yn ddau; a'r ddaear a grynodd; a'r creigiau a rwygwyd, a'r beddau a agorwyd, a llawer o gyrff y saint a hunasant a gyfodwyd; ac a ddaethant allan o'r beddau ar ol ei Gyfodiad Ef, ac a aethant i mewn i'r Ddinas Sanctaidd, ac a ymddangosasant i lawer. A'r Canwriad, a'r rhai oedd gydag ef yn gwylied yr Iesu, wedi gweled y ddaeargryn, a'r pethau a ddygwyddasant, a ofnasant yn ddirfawr, gan ddywedyd, Mewn gwirionedd Mab Duw oedd hwn. Ac yr oedd yno wragedd lawer yn syllu o hirbell, y rhai a ganlynasent yr Iesu o Galilea, gan weini iddo ef. Yn mhlith y rhai yr oedd Mair Magdalen, a Mair mam Iago a Joseph, a mam meibion Zebedëus. A phan ddaeth yr hwyr, daeth gwr goludog o Arimathëa, a'i enw Joseph, yr hwn ei hun hefyd a wnaed yn ddysgybl i'r Iesu. Hwn a ddaeth at Pilat, ac a geisiodd gorff yr Iesu. Yna Pilat a orchymynodd ei roddi i fyny. A chan gymmeryd y corff, Joseph a'i hamdôdd mewn llian glân, ac a'i gosododd ef yn ei fedd newydd ei hun, yr hwn a dorasai efe yn y graig; ac wedi treiglo maen mawr at ddrws y bedd, efe a aeth ymaith. A Mair Magdalen oedd yno, a'r Fair arall, yn eistedd gyferbyn â'r bedd. A thranoeth, yr hwn sydd ar ol dydd y Darpariad, ymgasglodd yr Arch‐offeiriaid a'r Phariseaid at Pilat, gan ddywedyd, Arglwydd, daeth i'n cof ddywedyd o'r Twyllwr hwnw, tra yr oedd efe etto yn fyw, Wedi tridiau yr wyf yn cyfodi. Gorchymyn gan hyny i'r bedd gael ei wneyd yn ddyogel hyd y trydydd dydd, rhag dyfod o'i Ddysgyblion a'i ladrata ef, a dywedyd wrth y bobl, Efe a gyfododd oddiwrth y meirw; a bydd yr amryfusedd diweddaf yn waeth nâ'r cyntaf. Pilat a ddywedodd wrthynt, Cymmerwch warcheidwaid: ewch ymaith; gwnewch mor ddyogel ag y medrwch. A hwy a aethant ac a wnaethant y bedd yn ddyogel, ac a seliasant y maen, gyda'r gwarcheidwaid. Ac yn hwyr y Sabbath, a hi yn dyddhau i'r dydd cyntaf o'r wythnos, daeth Mair Magdalen a'r Fair arall i weled y bedd. Ac wele, bu daeargryn mawr, canys Angel yr Arglwydd a ddisgynodd o'r Nef, ac a ddaeth, ac a dreiglodd ymaith y maen, ac a eisteddodd arno. A'i ymddangosiad ef oedd fel mellten, a'i wisg yn wen fel eira. A rhag ei ofn ef y crynodd y gwylwyr, ac a aethant megys meirw. Eithr yr Angel a atebodd ac a ddywedodd wrth y gwragedd, Nac ofnwch chwi, canys mi a wn mai yr Iesu, yr hwn a groeshoeliwyd, yr ydych chwi yn ei geisio. Nid yw Efe yma, canys cyfododd megys ag y dyweddodd. Deuwch, gwelwch y fan lle y gorweddodd [yr Arglwydd]. Ac ewch ar frys, a dywedwch i'w Ddysgyblion, Efe a gyfododd oddiwrth y meirw; ac wele, y mae Efe yn myned o'ch blaen chwi i Galilea: yno y gwelwch Ef; wele dywedais i chwi. A hwy a ymadawsant ar frys oddiwrth y bedd gydag ofn a llawenydd mawr, ac a redasant i fynegu i'w Ddysgyblion. Ac wele, yr Iesu a gyfarfu â hwynt, ac a ddywedodd wrthynt, Henffych well. A hwy a ddaethant ato, ac a ymafaelasant yn ei draed ef, ac a'i haddolasant. Yna y dywed yr Iesu wrthynt, Nac ofnwch; ewch, mynegwch i'm brodyr, fel yr ymadawont i Galilea, ac yno y'm gwelant I. A hwy yn myned, wele rhai o'r gwarcheidwaid a ddaethant i'r Ddinas, ac a fynegasant i'r Arch‐offeiriaid yr hyn oll a wnaethid. Ac wedi iddynt ymgasglu yn nghyd gyda'r Henuriaid, a chynnal cynghor, hwy a roisant arian lawer i'r milwyr, gan ddywedyd, Dywedwch, Ei Ddysgyblion Ef a ddaethant o hyd nos ac a'i lladratasant ef, a nyni yn cysgu. Ac os gwrandewir yr achos hwn o flaen y Rhaglaw, ni a'i darbwyllwn ef, ac a'ch gwnawn chwi yn ddibryder. A chan gymmeryd yr arian, hwy a wnaethant fel y dysgwyd hwynt. A thaenwyd y gair hwn yn mhlith yr Iuddewon hyd y dydd heddyw. A'r un Dysgybl ar ddeg a aethant i Galilea, i'r mynydd y pennodasai yr Iesu iddynt. A phan welsant Ef, hwy a'i haddolasant; ond rhai a amheuasant. A'r Iesu a ddaeth, ac a lefarodd wrthynt, gan ddywedyd, Rhoddwyd i mi bob awdurdod yn y Nef ac ar y ddaear. Ewch [gan hyny] a gwnewch ddysgyblion o'r holl genedloedd, Gan eu bedyddio hwy i enw y Tad, a'r Mab, a'r Yspryd Glân, Gan ddysgu iddynt gadw pob peth a'r a orchymynais i chwi. Ac wele, yr wyf FI gyda chwi bob dydd. Hyd DDIWEDD Y BYD. Dechreu Efengyl Iesu Grist, Fab Duw: fel y mae yn ysgrifenedig yn Esaiah y Proffwyd, — Wele, yr wyf yn anfon fy nghenad o flaen dy wyneb, Yr hwn a barotöa dy ffordd. Llef un yn llefain, — Yn y diffaethwch parotowch ffordd yr Arglwydd: Gwnewch yn uniawn ei lwybrau ef. Daeth Ioan Fedyddiwr yn y diffaethwch, gan bregethu bedydd edifeirwch er maddeuant pechodau. Ac aeth allan ato ef holl wlad Judea, a hwy oll o Jerusalem; a hwy a fedyddiwyd ganddo yn afon yr Iorddonen, gan gyffesu eu pechodau. Ac Ioan oedd wedi ei wisgo a blew camel, a gwregys o groen o gylch ei lwynau, ac yn bwyta locustiaid a mêl gwyllt. Ac efe a bregethodd, gan ddywedyd, Y mae yn dyfod ar fy ol i un cryfach na myfi, carrai esgidiau yr hwn nid wyf deilwng i ymostwng a'i dattod. Myfi a'ch bedyddiais chwi mewn dwfr; eithr efe a'ch bedyddia chwi yn yr Yspryd Glân. A bu yn y dyddiau hyny, ddyfod o'r Iesu o Nazareth yn Galilea, ac efe a fedyddiwyd gan Ioan yn yr Iorddonen. Ac yn ebrwydd wrth ddyfod i fyny allan o'r dwfr, efe a welodd y Nefoedd wedi ei rhwygo, a'r Yspryd fel colomen yn disgyn tu ag ato ef. A llef a ddaeth o'r Nefoedd, Tydi yw fy anwyl Fab, ynot ti y'm boddlonwyd. Ac yn ebrwydd y mae yr Yspryd yn ei yru ef allan i'r Diffaethwch: Ac efe a fu yn y Diffaethwch ddeugain niwrnod yn cael ei demtio gan Satan; ac yr oedd efe gyda y gwylltfilod; a'r Angelion a weiniasent iddo. Ac ar ol traddodi Ioan, yr Iesu a ddaeth i Galilea, gan bregethu Efengyl Duw, a dywedyd, Y mae yr amser wedi ei gyflawnu, ac y mae Teyrnas Dduw wedi neshâu: Edifarhewch, a chredwch yr Efengyl. Ac wrth fyned heibio ar làn Môr Galilea, efe a welodd Simon, ac Andreas brawd Simon, yn bwrw rhwyd yn y môr: canys pysgodwyr oeddynt. A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Deuwch ar fy ol i, a mi a'ch gwnaf i fod yn bysgodwyr dynion. Ac yn ebrwydd gan adael y rhwydau, y canlynasant ef. Ac wedi iddo fyned rhagddo ychydig, efe a welodd Iago, Mab Zebedëus, ac Ioan ei frawd ef, a hwy yn y cwch yn cyweirio y rhwydau. Ac yn ebrwydd efe a'u galwodd hwynt: a hwy a adawsant eu tâd Zebedëus yn y cwch gyda'r cyflog‐weision, ac a aethant ar ei ol ef. Ac y maent yn myned i mewn i Capernäum: ac yn ebrwydd ar y Sabbath efe a aeth i mewn i'r Synagog, ac a ddysgodd. A hwy a darawyd a syndod wrth ei ddysgeidiaeth ef: canys yr oedd efe yn eu dysgu hwynt fel un ag awdurdod ganddo, ac nid fel yr Ysgrifenyddion. Ac yn ebrwydd yr oedd yn eu Synagog ddyn gyd ag yspryd aflan; ac efe a lefodd, gan ddywedyd, Beth sydd i ni a wnelom â thi, Iesu o Nazareth? A ddaethost ti i'n dyfetha ni? mi a'th adwaen pwy ydwyt, Sanct Duw. A'r Iesu a'i ceryddodd ef, gan ddywedyd, Taw, a dos allan o hono. Yna wedi i'r yspryd aflan ei daflu i bangfeydd, a gwaeddi a llef uchel, efe a ddaeth allan o hono. A hwy a synasant oll, fel yr ymofynasant yn eu mysg eu hunain, Pa beth yw hyn? Dysgeidiaeth newydd! gyd ag awdurdod y mae efe yn gorchymyn hyd y nod yr ysprydion aflan, a hwy a ufuddhant iddo. Ac yn ebrwydd yr aeth allan sôn am dano yn mhob man dros yr holl wlad o amgylch Galilea. Ac yn ebrwydd wedi iddynt ddyfod allan o'r Synagog hwy a ddaethant i dy Simon ac Andreas gyd ag Iago ac Ioan. Ac yr oedd chwegr Simon yn gorwedd yn glaf o dwymyn; ac yn ebrwydd y dywedesant wrtho am dani hi. Ac efe a ddaeth ac a'i cododd hi i fyny, gan ymaflyd yn ei llaw hi; a'r dwymyn a'i gadawodd, a hi a wasanaethodd arnynt hwy. Ac wedi iddi hwyrhâu, pan fachludodd yr haul, hwy a ddygasant ato ef yr holl gleifion, a'r rhai a feddianid gan gythreuliaid. A'r holl Ddinas oedd wedi ymgasglu at eu gilydd wrth y drws. Ac efe a iachaodd lawer oeddynt gleifion o amrywiol glefydau, ac a fwriodd allan lawer o gythreuliaid, ac ni chaniataodd i'r cythreuliaid lefaru, oblegyd yr oeddynt yn ei adwaen ef. Ac yn fore, yn hir cyn iddi wawrio, efe a ddaeth allan, ac a aeth i le annghyfanedd, ac yno yr oedd efe yn gweddio. A Simon, a'r rhai oedd gyd ag ef a ddylynasant yn ddyfal ar ei ol ef, ac a'i cawsant ef, ac a ddywedasant wrtho, Y mae pawb yn dy geisio. Ac efe a ddywed wrthynt, Awn i leoedd eraill, i'r trefi cymydogaethol, fel y pregethwyf yno hefyd: canys i hyny y daethum allan. Ac efe a aeth i'w Synagogau hwynt, trwy holl Galilea, gan bregethu a bwrw allan gythreuliaid. Ac y mae yn dyfod ato un gwahan‐glwyfus, gan ymbil ag ef, [a syrthio ar ei liniau iddo], a dywedyd wrtho, Os myni, ti a elli fy nghlanhâu. A chan dosturio, efe a estynodd ei law, a gyffyrddodd ag ef, ac a ddywed wrtho, Mynaf, bydd lân. Ac yn ebrwydd yr ymadawodd y gwahan‐glwyf ag ef, a glanhâwyd ef. Ac wedi gorchymyn yn ddifrifol iddo, efe a'i hanfonodd ef ymaith yn ebrwydd, ac a ddywed wrtho, Gwel na ddywedych ddim wrth neb: eithr dos ymaith: dangos dy hun i'r offeiriad, ac offryma am dy lanhâd y pethau a orchymynodd Moses, er tystiolaeth iddynt hwy. Eithr efe a aeth allan, ac a ddechreuodd gyhoeddi llawer a thaenu y gair ar led, fel na allai efe mwyach fyned yn amlwg i ddinas; eithr yr oedd efe y tu allan mewn lleoedd annghyfanedd; ac yr oeddynt yn dyfod ato efe o bob parth. Ac efe a aeth drachefn i Capernaum wedi rhai dyddiau, a chlybuwyd ei fod ef yn y ty; a llawer a ymgasglasant ynghyd, fel nad oedd lle iddynt mwyach, hyd y nod o gylch y drws: ac efe a lefarodd y gair iddynt. A hwy a ddaethant ato gan ddwyn un claf o'r parlys, yr hwn a ddygid gan bedwar. A chan na allent neshâu ato ef o herwydd y dyrfa, didoi y tô a wnaethant lle yr oedd efe: ac wedi iddynt dori trwodd, hwy a ollyngasant i waered y gwely ar yr hwn y gorweddai y claf o'r parlys. A'r Iesu, yn gweled eu ffydd hwy, a ddywed wrth y claf o'r parlys, O Fab! maddeuir dy bechodau. Ac yr oedd rhai o'r Ysgrifenyddion yn eistedd yno, ac yn ymresymu yn eu calonau; Paham y llefara hwn felly? Y mae yn cablu. Pwy all faddeu pechodau ond Un, sef Duw? Ac yn ebrwydd a'r Iesu yn gwybod yn ei yspryd eu bod hwy yn ymresymu felly ynddynt eu hunain, efe a ddywed wrthynt, Paham yr ymresymwch y pethau hyn yn eich calonau? Pa un hawddach, dywedyd wrth y claf o'r parlys, Maddeuir dy bechodau, ai dywedyd, Cyfod, a chymmer i fyny dy wely, a rhodia? Eithr fel y gwypoch fod awdurdod gan Fab y Dyn ar y ddaear i faddeu pechodau, efe a ddywed wrth y claf o'r parlys, Wrthyt ti yr wyf yn dywedyd, Cyfod, cymmer i fyny dy wely, a dos i'th dŷ. Ac efe a gyfododd, ac yn ebrwydd y cymmerodd i fyny ei wely, ac a aeth allan yn eu gwydd hwynt oll; hyd oni synodd pawb, a gogoneddu Duw, gan ddywedyd, Ni welsom ni erioed fel hyn. Ac efe a aeth allan drachefn wrth làn y môr: a'r holl dyrfa oedd yn dyfod ato, ac efe a'u dysgodd hwynt. Ac efe yn myned rhagddo, efe a ganfu Lefi, mab Alpheüs, yn eistedd wrth y dollfa, ac efe a ddywed wrtho, Canlyn fi. Ac efe a gyfododd ac a'i canlynodd ef. A dygwydd iddo eistedd i fwyta yn ei dŷ ef, a llawer o Drethgasglwyr a phechaduriaid a eisteddasant gyda'r Iesu a'i Ddysgyblion: canys llawer oeddynt. A'r Ysgrifenyddion o'r Phariseaid hefyd a'i canlynent: ac yn gweled ei fod yn bwyta gyda'r pechaduriaid a'r Trethgasglwyr, hwy a ddywedasant wrth ei Ddysgyblion ef, Y mae efe yn bwyta [ac yn yfed] gyda y Trethgasglwyr a'r pechaduriaid. A'r Iesu, pan glybu, a ddywed wrthynt, Y rhai sydd iach nid rhaid iddynt wrth feddyg, ond y rhai sydd gleifion: ni ddaethum i alw rhai cyfiawn, ond pechaduriaid. Ac yr oedd Dysgyblion Ioan a'r Phariseaid yn ymprydio. Y maent yn dyfod ac yn dywedyd wrtho, Paham y mae Dysgyblion Ioan a Dysgyblion y Phariseaid yn ymprydio, ond dy Ddysgyblion di nid ydynt yn ymprydio? A dywedodd yr Iesu wrthynt, A all meibion y briodas‐ystafell ymprydio, tra y mae y priodas‐fab gyda hwynt? Tra fyddo ganddynt y priodas‐fab gyda hwynt, ni allant ymprydio. Ond dyddiau a ddeuant, pan ddygir y priodas‐fab oddiwrthynt, ac yna yr ymprydiant yn y dydd hwnw. Ni wnïa neb ddernyn o lain o frethyn cri ar ddilledyn hên: os amgen, y mae yr hyn‐a‐leinw ‐i‐fyny yn tynu oddiwrtho, y newydd oddiwrth yr hên, a gwaeth rhwyg a ddygwydd. Ac ni thywallt neb win newydd i hen gostrelau lledr: os amgen, y gwin a rwyga y costrelau lledr, a'r gwin a gollir a'r costrelau lledr: eithr rhaid tywallt gwin newydd i gostrelau lledr newyddion. A bu iddo ar y dydd Sabbath fyned trwy y meusydd yd; a'i Ddysgyblion ef a ddechreuasant wneyd iddynt lwybr, gan dynu y tywys. A'r Phariseaid a ddywedasant wrtho, Wele, paham y gwnant ar y Sabbath yr hyn nid yw gyfreithlawn? Ac efe a ddywed wrthynt, Ai ni ddarllenasoch erioed yr hyn a wnaeth Dafydd, pan yr oedd angen arno a chwant bwyd, efe a'r rhai oedd gydag ef? Y modd yr aeth efe i Dy Dduw, pan yr oedd Abiathar yn Arch‐offeiriad, ac y bwytaodd y torthau gosod, y rhai nid cyfreithlawn eu bwyta, ond i'r offeiriaid; ac a'u rhoddes hefyd i'r rhai oedd gydag ef? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y Sabbath a wnaethpwyd er mwyn dyn, ac nid dyn er mwyn y Sabbath. Felly Arglwydd ydyw Mab y Dyn hyd y nod ar y Sabbath. Ac efe a aeth i mewn drachefn i Synagog, ac yr oedd yno ddyn a chanddo law wedi gwywo. Ac yr oeddynt yn ei wylio, a iachäai efe ef ar y Sabbath, fel y cyhuddent ef. Ac efe a ddywed wrth y dyn oedd a'r law wywedig ganddo, Cyfod i'r canol. Ac efe a ddywed wrthynt, Ai cyfreithlawn ar y Sabbath gwneuthur da, ynte gwneuthur drwg? Cadw einioes, ynte lladd? Eithr hwy a dawsant. Ac wedi edrych oddiamgylch arnynt gyda digllonedd, gan dristhau am galedrwydd eu calonau, efe a ddywed wrth y dyn, Estyn allan dy law. Ae efe a'i hestynodd, a'i law ef a adferwyd. A'r Phariseaid a aethant allan, ac yn ebrwydd y cydymgynghorasant gyda'r Herodianiaid yn ei erbyn ef, fel y dyfethent ef. A'r Iesu gyda'i Ddysgyblion a giliodd tua'r môr, a lluaws lawer o Galilea a ganlynasant; ac o Judea, ac o Jerusalem, ac o Idumea, ac o'r tu hwnt i'r Iorddonen, ac o gylch Tyrus a Sidon, lluaws lawer, gan glywed cymmaint a wnaeth efe, a ddaethant ato. Ac efe a ddywedodd wrth ei Ddysgyblion a'r fod i gwch i weini arno, o herwydd y dyrfa, rhag iddynt ei lethu ef: canys efe a iachasai lawer, hyd oni ruthrent arno, fel y cyffyrddent ag ef, cynnifer ag oedd âg anhwylderau arnynt. A'r ysprydion aflan, pa bryd bynag y syllent arno, a syrthient ger ei fron ef, ac a waeddent, gan ddywedyd, Tydi ydwyt Fab Duw. Ac efe a waharddodd iddynt yn llym nas gwnelent ef yn adnabyddus. Ac efe a esgyn i'r mynydd, ac a eilw ato y rhai a fynai efe, a hwy a ddaethant ato. Ac efe a neillduodd Ddeuddeg, [y rhai a alwodd efe hefyd yn Apostolion], fel y byddent gydag ef, ac fel y danfonai efe hwynt i bregethu; ac i fod ganddynt awdurdod i fwrw allan gythreuliaid. Ac ar Simon y rhoddodd efe enw, Petr; ac Iago, fab Zebedeüs, ac Ioan, brawd Iago; ac arnynt hwy y rhoddodd efe enw Boanerges, yr hyn ydyw, Meibion Taran; ac Andreas, a Philip, a Bartholomeüs, a Matthew, a Thomas, ac Iago fab Alpheüs, a Thaddeüs, a Simon y Cananëad, a Judas Iscariot, yr hwn hefyd a'i bradychodd ef. Ac y maent yn dyfod i dy; a'r dyrfa a ymgynnullodd drachefn, fel na allant gymmaint a bwyta bara. A phan glybu ei berthynasau ef, hwy a aethant allan i'w ddal ef; canys dywedent, Y mae efe allan o bwyll. A'r Ysgrifenyddion, y rhai a ddaethant i waered o Jerusalem, a ddywedasant, Y mae Beelzebwl ganddo, ac, Trwy Dywysog y Cythreuliaid y mae efe yn bwrw allan y Cythreuliaid. Ac wedi iddo eu galw hwy ato, efe a ddywedodd wrthynt mewn dammegion, Pa fodd y gall Satan fwrw allan Satan? Ac o bydd teyrnas wedi ymranu yn ei herbyn ei hun, ni ddichon y deyrnas hono sefyll. Ac o bydd tŷ wedi ymranu yn ei erbyn ei hun, ni fydd y tŷ hwnw yn alluog i sefyll. Ac os Satan a gyfododd yn ei erbyn ei hun, ac a fydd wedi ymranu, ni all efe sefyll, eithr y mae iddo ddiwedd. Eithr ni ddichon neb, wedi myned i fewn i dŷ y cadarn, ysbeilio ei lestri ef, oni bydd iddo yn gyntaf rwymo y cadarn; ac yna yr ysbeilia ei dŷ ef. Yn wir, meddaf i chwi, y maddeuir i feibion dynion yr holl bechodau, a'r cableddau, pa gymmaint bynag y cablant. Eithr yr hwn a gablo yn erbyn yr Yspryd Glân, nid oes iddo faddeuant yn dragywydd, eithr y mae efe mewn perygl o bechod tragywyddol: am iddynt ddywedyd, Y mae yspryd aflan ganddo. Ac y mae ei fam a'i frodyr ef yn dyfod; a chan sefyll o'r tu allan, hwy anfonasant ato, gan ei alw ef. A thyrfa a eisteddent o'i amgylch ef, ac a ddywedant wrtho, Wele y mae dy fam a'th frodyr y tu allan, yn dy geisio di. Ac efe gan ateb, a ddywed wrthynt, Pwy ydyw fy mam i, a'm brodyr? Ac wedi iddo edrych oddiamgylch ar y rhai oedd yn eistedd yn ei gylch, efe a ddywed, Wele fy mam i, a'm brodyr i. Canys pwy bynag a wnelo ewyllys Duw, efe yw fy mrawd i, a'm chwaer, a'm mam. A thrachefn efe a ddechreuodd ddysgu ar làn y môr; a thyrfa fawr iawn a ymgasgla ato, yn gymmaint ag iddo fyned i'r cwch, ac a eisteddodd yn y môr; a'r holl dyrfa oedd wrth y môr ar y tir. Ac efe a ddysgai iddynt lawer mewn dammegion, ac a ddywedodd wrthynt yn ei ddysgeidiaeth, Gwrandewch: Wele yr hauwr a aeth allan i hau: a darfu wrth hau, i beth syrthio ar hyd y ffordd, a daeth yr ehediaid, ac a'u bwytasant i fyny. Ac arall a syrthiodd ar dir creigiog, lle ni chafodd fawr ddaear; ac yn ebrwydd yr eginodd, o herwydd ni chafodd ddyfnder daear. A phan gododd yr haul, crasboethwyd ef, ac o herwydd nad oedd iddo wreiddyn, efe a wywodd. Ac arall a syrthiodd yn mhlith y drain; a'r drain a ddaethant i fyny, ac a'i tagasant, ac ni ddug ffrwyth. Ac arall a syrthiodd i'r tir da, ac a ddug ffrwyth tyfadwy a chynnyrchiol, ac a ddug i fyny i ddeg‐ar hugain, ac i fyny i dri‐ugain, ac i fyny i gant. Ac efe a ddywedodd, yr hwn sydd ganddo glustiau, gan wrando, gwrandawed. A phan ddaeth efe i fod wrtho ei hun, y rhai oedd o amgylch iddo gyda'r Deuddeg a ofynasant iddo ynghylch y dammegion. Ac efe a ddywedodd wrthynt, I chwi y mae dirgelwch Teyrnas Dduw wedi cael ei roddi, eithr i'r rhai sydd o'r tu allan, pob peth a wneir mewn dammegion; fel Gan edrych yr edrychant, ac ni welant, A chan glywed y clywant, ac ni ddeallant, Rhag iddynt ddychwelyd, a maddeu iddynt Ac efe a ddywed wrthynt, Oni wyddoch chwi y ddammeg hon? A pha fodd y gwybyddwch yr holl ddammegion? Yr hauwr sydd yn hau y gair. A'r rhai hyny yw y rhai ar hyd y ffordd, lle yr hauir y gair; a phan glywant, yn ebrwydd y mae Satan yn dyfod, ac yn dwyn ymaith y gair a hauwyd ynddynt hwy. A'r rhai hyn, yr un modd, yw y rhai a hauir ar y creigleoedd, y rhai pan glywant y gair, sydd yn ebrwydd yn ei dderbyn ef gyda llawenydd, ac nid oes ganddynt wreiddyn ynddynt eu hunain, eithr dros dymhor y maent; yna pan ddêl gorthrymder, neu erlid o achos y gair, yn ebrwydd y rhwystrir hwynt. Ac eraill yw y rhai a hauir yn mysg drain; y rhai hyn a wrandawant y gair, ac y mae gofalon yr oes, a thwyll golud, a'r chwantau am y pethau eraill, yn dyfod i mewn, ac yn tagu y gair, a myned y mae yn ddiffrwyth. A'r rhai hyny yw y rhai a hauwyd ar dir da, y rhai sydd yn gwrandaw y gair, ac yn ei dderbyn, ac yn dwyn ffrwyth yn ddeg‐ar‐hugain, ac yn dri ugain, ac yn gant. Ac efe a ddywedodd wrthynt, A ddaw y llusern er ei gosod dan y llestr‐mesur, neu o dan y gwely? Ai nid er ei gosod ar y daliadyr? Canys nid oes dim cuddiedig, os nid i'w egluro; ac ni wnaed dim dirgel, ond fel y delai i'r amlwg. Od oes gan neb glustiau, gan wrando, gwrandawed. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Edrychwch beth a wrandewch. A pha fesur y mesuroch, y mesurir i chwi, ac yr ychwanegir i chwi. Canys yr hwn y mae ganddo, y rhoddir iddo; a'r hwn nid oes ganddo, ie, yr hyn sydd ganddo a ddygir oddiarno. Ac efe a ddywedodd, Felly y mae Teyrnas Dduw; fel y bwriai dyn hâd ar y ddaear, ac y cysgai a chyfodai nos a dydd, ac yr eginai yr hâd a thyfu i fyny, y modd nis gŵyr efe. O honi ei hun y ddaear a ddwg ffrwyth; yn gyntaf eginyn, yna y dywysen, yna yr yd cyflawn yn y dywysen. A phan ganiatao y ffrwyth, yn ebrwydd efe a ddenfyn allan y cryman, canys y mae y cynhauaf yn ymyl. Ac efe a ddywedodd, Pa fodd y cyffelybwn Deyrnas Dduw, neu gyd â pha ddammeg y gosodwn hi allan? Fel gronyn o hâd mwstard, yr hwn pan hauer ar y ddaear, sydd lai na'r holl hadau ar y ddaear, eto wedi yr hauer, y mae yn tyfu i fyny, ac yn myned yn fwy na'r holl ardd-lysiau, ac a ddwg ganghenau mawrion, fel y gall ehediaid y Nefoedd drigo dan ei gysgod ef. Ac â chyfryw ddammegion lawer y llefarodd efe wrthynt y gair, fel yr oeddynt yn alluog i wrando. Ond heb ddammeg ni lefarodd efe wrthynt; ond yn y dirgel i'w Ddysgyblion ei hun efe a esboniodd bob peth. Ac efe a ddywed wrthynt y dydd hwnw, wedi ei hwyrhau, Awn trosodd i'r tu draw. A chan adael y dyrfa, y maent yn ei gymmeryd ef fel yr oedd yn y cwch; ac yr oedd cychod eraill gydag ef. Ac y mae tymhestl fawr o wynt yn cyfodi, a'r tonau a ymruthrent i'r cwch, yn gymmaint a bod y cwch erbyn hyn yn llawn. Ac yr oedd efe ei hun yn y rhan ol o'r cwch, yn cysgu ar obenydd; ac y maent yn ei ddeffro ef, ac yn dywedyd wrtho, Athraw, ai difater genyt ein colli ni? Ac efe a lawn‐ddeffrôdd, ac a geryddodd y gwynt, ac a ddywedodd wrth y môr, Gostega, distawa. A'r gwynt a beidiodd, a bu tawelwch mawr. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn llwfr? Ai nid oes genych eto ffydd? A hwy a ofnasant gydag ofn mawr, ac a ddywedasant wrth eu gilydd, Pwy gan hyny yw hwn, gan fod hyd y nod y gwynt a'r môr yn ufuddhau iddo? A hwy a ddaethant i'r ochr arall i'r môr, i wlad y Geraseniaid. Ac wedi iddo ddyfod allan o'r cwch, yn ebrwydd cyfarfu ag ef allan o'r beddau, ddyn ag yspryd aflan ynddo; yr hwn oedd a'i drigfan yn y beddau; ac ni allai neb a chadwyn mwyach ei rwymo ef: o herwydd iddo yn fynych gael ei rwymo â llyffetheiriau a chadwynau, a darnio o hono y cadwynau, a dryllio y llyffetheiriau; ac ni allai neb ei ddofi ef. Ac yn wastad nos a dydd, yn y beddau, ac yn y mynyddoedd, yr oedd efe yn gwaeddi, ac yn briwio ei hun â cheryg. A phan ganfu efe yr Iesu o hirbell, efe a redodd, ac a ymgrymodd iddo. A chan waeddi a llef uchel, efe a ddywed, Beth sydd i ti a wnelyt a mi, O Iesu, Mab y Duw Goruchaf? Yr wyf yn dy dynghedu trwy Dduw, na phoenyt fi. Canys efe a ddywedasai wrtho, Tyred allan, tydi yspryd aflan, o'r dyn. Ac efe a ofynodd iddo, Beth yw dy enw di? Ac yntau a ddywed wrtho, Lleng yw fy enw i, canys yr ydym yn llawer. Ac efe a ddwys‐ymbiliodd lawer ag ef, na ddanfonai efe hwynt allan o'r wlad. Ac yr oedd yno wrth y mynydd genfaint fawr o foch yn ymborthi. A hwy a ddwys‐ymbiliasant ag ef, gan ddywedyd, Danfon ni i'r moch, fel yr awn i mewn iddynt. Ac efe a ganiataodd iddynt. A'r ysprydion aflan a ddaethant allan, ac a aethant i mewn i'r moch: a rhuthrodd y genfaint dros y dibyn i'r môr — ynghylch dwy fil — a hwy a dagwyd yn y môr. A'r rhai a'u porthent hwy a ffoisant, ac a'i mynegasant i'r ddinas, ac i'r lleoedd gwledig: a hwy a aethant allan i weled beth oedd yr hyn a wnaethid. Ac y maent yn dyfod at yr Iesu, ac yn dal sylw ar y cythreulig, yn eistedd, wedi ei ddilladu, ac yn ei iawn bwyll, ie, yr hwn yr oedd wedi bod ynddo y Lleng; a hwy a ofnasant. A'r rhai a welsant a draethasant iddynt, y modd y dygwyddodd i'r cythreulig, ac ynghylch y moch. A hwy a ddechreuasant ymbil arno i ymadael o'u cyffiniau hwynt. Ac efe yn myned i'r cwch, yr hwn a fu gythreulig a ymbiliodd ag ef i gael bod gydag ef. Ac ni adawodd efe iddo, ond efe a ddywed wrtho, Dos i'th gartref at dy gyfeillion, a mynega iddynt pa bethau gymmaint y mae yr Arglwydd wedi eu gwneyd i ti, ac iddo drugarhau wrthyt. Ac efe a ymadawodd, ac a ddechreuodd gyhoeddi trwy Decapolis pa gymmaint wnaeth yr Iesu iddo: a phawb a ryfeddasant. Ac wedi i'r Iesu groesi trosodd drachefn yn y cwch i'r lan arall, ymgasglodd tyrfa fawr ato, ac yr oedd efe wrth y môr. Ac y mae yn dyfod ato un o brif‐lywodraethwyr y Synagog, o'r enw Jairus, a phan ei gwelodd, efe a syrth wrth ei draed ef. Ac y mae efe yn dwys‐ymbilio lawer ag ef, gan ddywedyd, Fy merch fechan sydd bron marw: gwna ddyfod fel y gosodi dy ddwylaw arni, fel yr achuber hi, ac y bydd fyw. Ac efe a aeth gydag ef; a thyrfa fawr a'i canlynodd ef, ac a wasgasant arno. A gwraig, yr hon a flinid a dyferlif gwaed am ddeuddeng mlynedd, ac a ddyoddefodd lawer dan lawer o feddygon, ac a dreuliodd yr oll oedd ganddi, ac ni chafodd unrhyw leshâd, ond yn hytrach yr oedd yn waeth, pan glybu y pethau am yr Iesu, a ddaeth yn y dyrfa, o'r tu ol, ac a gyffyrddodd a'i wisg ef. Canys hi a ddywedasai, Os cyffyrddaf ond a'i ddillad ef, iach fyddaf. Ac yn ebrwydd sychodd ffynonell ei gwaed hi, a hi a wybu yn ei chorff ei bod wedi ei hiachau o'r clefyd. Ac yn ebrwydd yr Iesu yn gwybod ynddo ei hun fod gallu wedi myned allan o hono, a drodd yn y dyrfa, ac a ddywedodd, Pwy a gyffyrddodd a'm dillad? A'i Ddysgyblion a ddywedasant wrtho, Ti a weli y dyrfa yn dy wasgu, ac a ddywedi di, Pwy a gyffyrddodd â mi? Ac efe a edrychodd o amgylch i weled yr hon a wnaethai hyn. Ond y wraig, gan ofni a chrynu, yn gwybod yr hyn a wnaethid iddi, a ddaeth ac a syrthiodd ger ei fron ef, ac a ddywedodd iddo yr holl wirionedd. Ac efe a ddywedodd wrthi, Ferch, dy ffydd a'th iachaodd; dos mewn heddwch, a bydd holliach o'th glefyd. Ac efe eto yn llefaru, y maent yn dyfod o dŷ Prif‐lywodraethwr y Synagog, gan ddywedyd, Y mae dy ferch wedi marw. Paham yr wyt bellach yn poeni yr Athraw? A'r Iesu wedi dygwydd clywed y gair a ddywedasid, a ddywed wrth Brif‐lywodraethwr y Synagog, Nac ofna, yn unig cred. Ac ni adawodd efe i neb i ddylyn gydag ef, ond Petr, ac Iago, ac Ioan brawd Iago. Ac y maent yn dyfod i dŷ Prif‐lywodraethwr y Synagog, ac y mae efe yn gweled y cynhwrf, a rhai yn wylo ac yn galarnadu llawer; ac wedi iddo fyned i mewn, efe a ddywed wrthynt, Paham y gwnewch gynhwrf, ac yr wylwch? Ni fu farw y plentyn, eithr huno y mae. A hwy a'i gwatwarasant ef. Eithr efe ei hun, wedi bwrw pawb allan, a gymmer dâd y plentyn, a'i mam, a'r rhai oedd gydag ef, ac y mae yn myned i mewn lle yr oedd y plentyn. Ac efe a ymaflodd yn llaw y plentyn, ac a ddywed wrthi, Talitha, coum, yr hyn yw, wedi ei gyfieithu, Eneth, (yr wyf yn dywedyd wrthyt) Cyfod. Ac yn ebrwydd y cyfododd yr eneth, ac a rodiodd o amgylch; canys yr oedd hi yn ddeuddeng mlwydd oed. Ac yn ebrwydd hwy a synasant gyda syndod mawr. Ac efe a orchymynodd iddynt yn gaeth, na chai neb wybod hyn; ac a ddywedodd am roddi peth iddi i'w fwyta. Ac efe a aeth allan oddiyno; ac y mae yn dyfod i'w wlad ei hun, a'i Ddysgyblion a'u canlynasant ef. Ac wedi dyfod y Sabbath, efe a ddechreuodd ddysgu yn y Synagog, a llawer wrth wrando arno a darawyd a syndod, gan ddywedyd, O ba le y daeth y pethau hyn i hwn? a pha beth yw y ddoethineb a roddir i hwn? ac y mae y fath weithredoedd nerthol yn cael eu gwneyd trwy ei ddwylaw ef. Onid hwn yw y saer, mab Mair, a brawd Iago, a Joses, a Judas, a Simon, ac onid yw ei chwiorydd ef yma gyda ni? A hwy a rwystrwyd ynddo ef. Yr Iesu a ddywed wrthynt, Nid yw proffwyd heb anrhydedd, ond yn ei wlad ei hun, a chyda'i dylwyth ei hun, ac yn ei deulu ei hun. Ac ni allai efe yno wneuthur dim gweithred nerthol, ond gosod ei ddwylaw ar ychydig gleifion, a'u hiachau hwynt. Ac efe a ryfeddodd o herwydd eu hanghrediniaeth; ac a aeth o amgylch y pentrefi o gwmpas, gan ddysgu. Ac efe a eilw y Deuddeg ato, ac a ddechreuodd eu danfon bob yn ddau a dau, ac a roddodd iddynt awdurdod ar ysprydion aflan; ac a orchymynodd iddynt na chymmerent ddim i'r daith, ond llaw‐ffon yn unig; na bara, nac ysgrepan, nac arian yn eu llogell, ond sandalau wedi eu clymu dan eu traed; ac na wisgent ddwy o îs‐wisgoedd. Ac efe a ddywedodd wrthynt, yn mha le bynag yr eloch i mewn i dy, yno aroswch hyd onid eloch ymaith oddiyno. A pha le bynag ni'ch derbynio, a hwy ni'ch gwrandawant, pan yr eloch allan oddiyno, ysgydwch ymaith y llwch a fyddo dan eich traed, er tystiolaeth iddynt. A hwy a aethant allan, ac a bregethasant fel yr edifarhaent; a llawer o gythreuliaid a fwriasant allan, ac a eneiniasant ag olew lawer o gleifion, ac a'u hiachasant. Ar brenin Herod a glybu; canys cyhoedd ydoedd ei enw ef; ac efe a ddywedodd, Ioan y Bedyddiwr sydd wedi cyfodi o feirw, ac o herwydd hyny y mae y nerthoedd yn gweithio ynddo ef. Ac eraill a ddywedasant, Elias yw, ac eraill a ddywedasant, Proffwyd! Fel un o'r proffwydi! Ond Herod, pan glybu, a ddywedodd, Yr hwn a dorais ei ben ef, Ioan, hwn a gyfododd. Canys Herod ei hun a ddanfonodd ac a ddaliodd Ioan, ac a'i rhwymodd ef yng ngharchar, o achos Herodias, gwraig Philip ei frawd; canys efe a'i priododd hi. Canys dywedodd Ioan wrth Herod, Nid cyfreithlawn i ti gael gwraig dy frawd. A Herodias a ffyrnigodd yn ei erbyn, ac a chwenychodd ei ladd ef, ac nis gallodd. Canys Herod oedd yn ofni Ioan, gan wybod ei fod ef yn ddyn cyfiawn a sanctaidd, ac a'i dyogelodd. A phan glywodd efe ef, efe a gythryblwyd yn ddirfawr, ac a'i gwrandawodd yn llawen. Ac wedi dyfod diwrnod cyfaddas, Herod, ar adeg dathliad dydd ei enedigaeth, a wnaeth swper i'w bendefigion, a'i gad‐flaenoriaid, a phrif ddynion Galilea. A phan ddaeth merch Herodias ei hun i mewn, a dawnsio, hi a foddhâodd Herod a'r rhai oedd yn cyd‐eistedd wrth y bwrdd; a'r brenin a ddywedodd wrth y llances, Gofyn i mi y peth a fynit, a mi a'i rhoddaf i ti. Ac efe a dyngodd iddi, Beth bynag a ofyni i mi, mi a'i rhoddaf i ti, hyd haner fy nheyrnas. A hithau a aeth allan, ac a ddywedodd wrth ei mam, Pa beth a ofynaf? A hithau a ddywedodd, Pen Ioan y Bedyddiwr. Ac yn ebrwydd hi a ddaeth i mewn ar frys at y brenin, ac a ofynodd, gan ddywedyd, Mi a fynaf i ti roddi i mi yn ddioed, ar ddysgl, ben Ioan Fedyddiwr. A'r brenin a fu drist iawn; eto, er mwyn y llwon, a'r rhai oedd yn eistedd wrth y bwrdd, ni fynai ei diystyru hi. Ac yn ebrwydd y brenin a ddanfonodd lys‐filwr, ac a orchymynodd ddwyn ei ben ef: ac yntau a aeth, ac a dorodd ei ben ef yn y carchar, ac a ddug ei ben ef ar ddysgl, ac a'i rhoddodd ef i'r llances, a'r llances a'i rhoddodd ef i'w mam. A phan glybu ei Ddysgyblion ef, hwy a ddaethant ac a gymmerasant ei gorff ef, ac a'i dodasant mewn bedd. A'r Apostolion a ymgasglant at yr Iesu, ac a fynegasant iddo yr holl bethau a wnaethant, a'r rhai a ddysgasant. Ac efe a ddywed wrthynt, Deuwch chwi eich hunain o'r neilldu i le anghyfanedd, a gorphwyswch encyd; canys llawer oedd y rhai oedd yn dyfod ac yn myned, ac nid oedd iddynt gyfleustra i fwyta. A hwy a aethant ymaith yn y cwch i le anghyfanedd o'r neilldu. A hwy a'u gwelsant hwy yn ymadael, a llawer a'u hadnabuant, ac a gyd‐redasant yno ar draed o'r holl ddinasoedd, ac a'i rhagflaenasant ef. Ac wedi iddo ddyfod allan, efe a welodd dyrfa fawr, ac a lanwyd â thosturi tuag atynt, am eu bod fel defaid heb ganddynt fugail; ac a ddechreuodd ddysgu iddynt lawer o bethau. A phan yr oedd yr awr weithian wedi myned yn mhell, ei Ddysgyblion a ddaethant ato, ac a ddywedasant, Y lle sydd anghyfanedd, ac weithian y mae'r awr wedi myned yn mhell: gollwng hwynt ymaith, fel yr elont i'r lleoedd gwledig o amgylch, ac i'r pentrefi, ac y prynont iddynt eu hunain beth i fwyta. Ond efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Rhoddwch chwi iddynt beth i'w fwyta. A hwy a ddywedant wrtho, A awn ni a phrynu gwerth dau can denarion o fara, a'i roddi iddynt i'w fwyta? Ac efe a ddywed wrthynt, Pa sawl torth sydd genych? Ewch, edrychwch. Ac wedi iddynt wybod, dywedant, Pump, a dau bysgodyn. Ac efe a orchymynodd iddynt beri i bawb eistedd yn ddosparthiadau ar y glaswellt. A hwy a eisteddasant yn rhesi, un ffordd yn gant, a ffordd arall yn ddeg‐a‐deugain. Ac efe a gymmerodd y pum torth a'r ddau bysgodyn, a chan edrych i fyny tua'r Nef, efe a fendithiodd, ac a dorodd y torthau, ac a'u rhoddodd i'r Dysgyblion, i'w gosod ger eu bron hwynt: a'r ddau bysgodyn a ranodd efe rhyngddynt oll. A hwy oll a fwytasant, ac a ddigonwyd: a hwy a gymmerasant i fyny o'r briw‐fwyd ddeuddeg basgedaid yn llawn, ac o'r pysgod. A'r rhai a fwytasant y torthau oeddynt bum mil o wyr. Ac yn ebrwydd efe a gymhellodd ei Ddysgyblion i fyned i'r cwch, a myned o'i flaen yn groes i Bethsaida, tra y mae efe yn gollwng ymaith y dyrfa. Ac wedi iddo ffarwelio â hwynt, efe a aeth ymaith i'r mynydd — i weddio. A phan ddaeth yr hwyr, yr oedd y cwch yn nghanol y môr, ac yntau wrtho ei hun ar y tir. Ac wrth eu gweled hwynt yn drallodus yn rhwyfo, canys yr oedd y gwynt yn eu herbyn, ynghylch y bedwaredd wylfa o'r nos y mae efe yn dyfod atynt, gan rodio ar y môr; ac a fynasai fyned heibio iddynt. Ond pan welsant hwy ef yn rhodio ar y môr, hwy a dybiasant, Drychiolaeth ydyw, a hwy a waeddasant: canys hwy oll a'i gwelsant ef, ac a drallodwyd. Ac yn ebrwydd efe a ymddiddanodd â hwynt, ac a ddywed wrthynt, Ymgalonogwch: Myfi yw; nac ofnwch. Ac efe a aeth i fyny atynt i'r cwch; a pheidiodd y gwynt. A hwy a synasant yn ddirfawr ynddynt eu hunain; oblegid ni ddeallasant drwy foddion y torthau; ond yr oedd eu calon hwynt wedi caledu. Ac wedi iddynt groesi trosodd at y tir, hwy a ddaethant i Gennesaret, ac a angorasant wrth y làn. Ac wedi eu dyfod hwy allan o'r cwch, yn ebrwydd hwy a'i hadnabuant ef, ac a redasant o amgylch yr holl wlad hono, ac ddechreuasant ddwyn oddiamgylch ar eu gwelyau y rhai cleifion, pa le bynag y clywent ei fod ef. Ac i ba le bynag yr elai efe i mewn, i bentrefi, neu ddinasoedd, neu i leoedd gwledig, hwy a osodent y cleifion yn y marchnad‐leoedd, ac a atolygent iddo gael o honynt gyffwrdd ond âg ymyl ei fantell ef: a chynifer ag a gyffyrddasant ag ef, a iachawyd. Ac ymgasgla ato y Phariseaid, a rhai o'r Ysgrifenyddion, y rhai a ddaethant o Jerusalem; ac a welsant fod rhai o'i Ddysgyblion ef yn bwyta bara â dwylaw halogedig, hyny yw, heb eu golchi. Canys y Phariseaid a'r holl Iuddewon, oni fydd iddynt olchi eu dwylaw yn egniol, ni fwytânt, gan ddal yn dyn Draddodiad yr Henuriaid. A phan ddelont o'r farchnadle, oni fydd iddynt ymdrochi, ni fwytânt. A llawer o bethau eraill y sydd, y rhai a dderbyniasant i'w cadw, bedyddiadau cwpanau, ac ystenau, a llestri copr. A'r Phariseaid a'r Ysgrifenyddion a ofynasant iddo, Paham nad yw dy Ddysgyblion di yn rhodio yn ol Traddodiad yr Henuriaid, ond â dwylaw halogedig y maent yn bwyta bara? Ond efe a ddywedodd wrthynt, Da y prophwydodd Esaiah am danoch, ragrithwyr, fel y mae yn ysgrifenedig: — Y mae y bobl hyn yn fy anrhydeddu a'r gwefusau, Ond eu calon sydd bell oddiwrthyf; Eithr yn ofer y maent yn fy addoli, Gan ddysgu fel cu dysgeidiaeth, orchymynion dynion. Gan ollwng ymaith orchymyn Duw, yr ydych yn dal gafael ar Draddodiad dynion. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Gwych y gwnewch i ffwrdd â gorchymyn Duw, fel y dyogeloch eich Traddodiad eich hunain. Canys Moses a ddywedodd, Anrhydedda dy dâd a'th fam, Ac, Yr hwn a ddifenwo dâd neu fam, bydded iddo farw y farwolaeth. Ond meddwch chwi, Os dywed dyn wrth ei dâd neu ei fam, Corban (hyny yw, Rhodd sanctaidd) ydyw pa beth bynag o'r eiddof fi a fyddai o les i ti, nid ydych mwyach yn caniatau iddo wneuthur dim dros dâd neu fam; gan ddirymu Gair Duw drwy eich Traddodiad yr hwn a draddodasoch chwi: a llawer o gyffelyb bethau yr ydych yn eu gwneuthur. Ac efe a alwodd ato y dyrfa drachefn, ac a ddywedodd wrthynt, Gwrandêwch chwi oll arnaf, a deallwch: nid oes dim o'r tu allan i'r dyn, yr hwn pan yn myned i mewn iddo, a ddichon ei halogi ef: eithr y pethau sydd yn dyfod allan o'r dyn yw y pethau sydd yn halogi y dyn. A phan ddaeth efe gartref oddiwrth y dyrfa, ei Ddysgyblion a ofynasant iddo y ddammeg. Ac efe a ddywed wrthynt, Felly a ydych chwithau hefyd yn ddiddeall? Oni chanfyddwch, am bob peth oddiallan a êl i mewn i'r dyn, na all ei halogi ef; oblegid nid yw yn myned i'w galon ef, ond i'r bol, ac yn myned allan i'r geudy? Hyn a ddywedodd efe gan buro yr holl fwydydd. Ac efe a ddywedodd, yr hyn sydd yn dyfod allan o'r dyn, hyny sydd yn halogi y dyn. Canys oddifewn, allan o galon dynion, y daw allan feddyliau sydd ddrwg, megys puteindra, lladradau, llofruddiaethau, godinebau, trachwantau, drygioni, twyll, anlladrwydd, drwg‐lygad, athrod, balchder, ynfydrwydd. Yr holl ddrwg bethau hyn sydd yn dyfod allan oddifewn, ac yn halogi y dyn. Ac efe a gyfododd oddiyno, ac a aeth i gyffiniau Tyrus a Sidon; ac a aeth i mewn i dŷ, ac ni fynai i neb wybod: ac ni allai efe fod yn guddiedig. Eithr pan glybu gwraig am dano, yr hon oedd ei merch fechan âg yspryd aflan ynddi, hi a ddaeth, ac a syrthiodd wrth ei draed ef. A Groeges oedd y wraig, Syro‐pheniciad o genedl; a hi a atolygodd iddo fwrw y cythraul allan o'i merch. Ac efe a ddywedodd wrthi, Gâd yn gyntaf i'r plant gael eu digoni, canys nid da cymmeryd bara y plant, a'i daflu i'r cwn bychain. Hithau a atebodd, ac a ddywed wrtho, Gwir, O Arglwydd, y mae hyd y nod y cwn bychain dan y bwrdd yn bwyta o friwsion y plant bychain. Ac efe a ddywedodd wrthi, O herwydd yr ymadrodd hwn, dos ymaith: y mae y cythraul wedi myned allan o'th ferch. Ac wedi iddi fyned i'w thŷ, hi a gafodd y plentyn bychan wedi ei gosod ar y gwely, a'r cythraul wedi myned allan. Ac efe a aeth drachefn allan o gyffiniau Tyrus, ac a ddaeth trwy Sidon i Fôr Galilea, trwy ganol cyffiniau Decâpolis. Ac y maent yn dwyn ato un byddar, a diffygiol yn ei leferydd, ac y maent yn ymbil arno i osod ei law arno ef. Ac efe a'i cymmerodd ef ymaith oddiwrth y dyrfa o'r neilldu, ac a roddodd ei fysedd yn ei glustiau ef; ac efe a boerodd, ac a gyffyrddodd â'i dafod ef. A chan edrych tua'r Nef, efe a ocheneidiodd, ac a ddywed wrtho, Ephphatha, hyny yw, Ymagor. A'i glustiau ef a agorwyd, a rhwym ei dafod a ddatodwyd, ac efe a lefarodd yn hyglyw. Ac efe a orchymynodd iddynt na ddywedent i neb; ond po fwyaf y gorchymynodd efe iddynt, mwyaf i gyd o lawer y cyhoeddasant hwy eu hunain y peth. A hwy a darawyd â syndod enfawr, gan ddywedyd, Y mae efe wedi gwneyd pob peth yn dda: y mae efe yn gwneuthur hyd y nod i'r byddariaid glywed, a mudaniaid lefaru. Yn y dyddiau hyny, pan yr oedd drachefn dyrfa fawr, ac heb ganddynt ddim i'w fwyta, efe a alwodd y Dysgyblion ato, ac a ddywed, Yr wyf yn tosturio wrth y dyrfa, oblegyd y maent hwy dridiau weithian yn glynu wrthyf, ac nid oes ganddynt beth i'w fwyta: ac os gollyngaf hwynt ymaith heb fwyd i'w cartref‐leoedd, hwy a ddiffygiant ar y ffordd; ac y mae rhai o honynt wedi dyfod o bell. A'i Ddysgyblion ef a'i hatebasant, O ba le y gall neb ddigoni y rhai hyn â bara yma mewn lle anghyfanedd? Ac efe a ofynodd iddynt, Pa sawl torth sydd genych? A hwy a ddywedasant, Saith. Ac y mae efe yn gorchymyn i'r dyrfa eistedd ar y ddaear: ac a gymmerodd y saith torth, ac wedi diolch, efe a'u torodd, ac a'u rhoddodd i'r Dysgyblion i'w gosod ger eu bron; a hwy a'u gosodasant ger bron y dyrfa. Ac yr oedd ganddynt ychydig bysgod bychain: ac wedi iddo fendithio y cyfryw, efe a ddywedodd i osod y rhai hyn hefyd ger eu bron. A hwy a fwytasant, ac a ddigonwyd, ac a godasant weddill o'r briwfwyd, saith cawellaid. Ac yr oeddynt ynghylch pedair mil; ac efe a'u gollyngodd hwynt ymaith. Ac yn ebrwydd wedi iddo fyned i gwch gyda'i Ddysgyblion, efe a ddaeth i barthau Dalmanutha. A'r Phariseaid a ddaethant allan, ac a ddechreuasant ymddadleu âg ef, gan geisio ganddo arwydd o'r Nef, gan ei demtio. Ac efe a ocheneidiodd yn ei yspryd, ac a ddywed, Paham y mae y genedlaeth hon yn ceisio arwydd? Yn wir meddaf i chwi, Ni roddir arwydd i'r genedlaeth hon. Ac efe a'u gadawodd hwynt, ac a aeth drachefn [i'r cwch], ac a ymadawodd i'r lan arall. A hwy a anghofiasant gymmeryd bara, ac nid oedd ganddynt ond un dorth gyda hwynt yn y cwch. Ac efe a orchymynodd iddynt, gan ddywedyd, Edrychwch, ymogelwch rhag surdoes y Phariseaid, a surdoes Herod. Ac yr oeddynt yn ymresymu wrth eu gilydd, Y mae hyn am nad oes ganddynt fara. A'r Iesu pan wybu, a ddywed wrthynt, Paham yr ymresymwch, mai am nad oes genych fara y lleferais? Onid ydych chwi eto yn amgyffred, nac yn deall? A ydyw eich calon wedi caledu? Ac onid ydych yn cofio? A chenych lygaid, oni welwch? A chenych glustiau, oni chlywch? Pan dorais y pum torth i'r pum mil, pa sawl basgedaid yn llawn o friwsion a godasoch i fyny? (6:43). Dywedant wrtho, Deuddeg. Pan y saith i'r pedair mil, pa sawl cawellaid o friwfwyd a godasoch i fyny? [[8:8]] A hwy a ddywedasant, Saith. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ai nid ydych eto yn deall? Ac y maent yn dyfod i Bethsaida; ac y maent yn dwyn ato un dall, ac yn deisyf arno ar iddo gyffwrdd âg ef. Ac efe a afaelodd yn llaw y dall, ac a'i dygodd ef allan o'r pentref; ac wedi iddo boeri ar ei lygaid ef, a gosod ei ddwylaw arno, efe a ofynodd iddo, A weli di ddim? Ac wedi edrych i fyny, efe a ddywedodd, yr wyf yn gweled y dynion: canys yr wyf yn eu canfod fel prenau yn rhodio o amgylch. Yna drachefn y gosododd efe ei ddwylaw ar ei lygaid, ac efe a edrychodd yn ddiysgog, ac a adferwyd, ac efe a welai bob peth yn eglur o bell. Ac efe a'i hanfonodd ef ymaith i'w gartref, gan ddywedyd, Na â i mewn hyd y nod i'r pentref, ac na ddywed i neb yn y pentref. A'r Iesu a aeth allan, efe a'i Ddysgyblion, i bentrefi Cesarea Philippi: ac ar y ffordd efe a ofynodd i'w Ddysgyblion, gan ddywedyd, Pwy y mae dynion yn dywedyd fy mod i? A hwy a ddywedasant iddo, gan ddywedyd, Ioan Fedyddiwr; ac eraill, Elias; ond eraill, un o'r Proffwydi. Ac efe a ofynodd iddynt, Ond pwy yr ydych chwi yn dywedyd fy mod i? Petr a atebodd iddo, Ti yw y Crist. Ac efe a orchymynodd iddynt na ddywedent i neb am dano. Ac efe a ddechreuodd eu dysgu hwynt, fod yn rhaid i Fab y Dyn ddyoddef llawer, a'i wrthod gan yr Henuriaid, a'r Arch‐offeiriaid, a'r Ysgrifenyddion, a'i ladd, ac wedi tridiau adgyfodi. Ac yn eglur y llefarodd efe yr ymadrodd. A Phetr a'i cymmerodd o'r neilldu, ac a ddechreuodd ei geryddu ef. Eithr wedi iddo droi, a gweled ei Ddysgyblion, efe a geryddodd Petr, ac a ddywed, Dos ymaith yn fy ol i, Satan; canys nid ydwyt yn synied y pethau sydd o Dduw, ond y pethau sydd o ddynion. Ac efe a alwodd ato y dyrfa, gyda'i Ddysgyblion, ac a ddywedodd wrthynt, Os ewyllysia neb ganlyn ar fy ol i, ymwaded âg ef ei hun, a chyfoded ei groes i fyny, a dylyned fi. Canys pwy bynag a ewyllysio gadw ei einioes, a'i cyll hi; eithr pwy bynag a gollo ei einioes er fy mwyn i a'r Efengyl, efe a'i ceidw hi. Canys pa leshâd i'r dyn, pe enillai efe yr holl fyd, a fforffedu ei einioes? Canys pa beth a rydd dyn yn gyfnewid am ei einioes? Canys pwy bynag a fyddo cywilydd ganddo fi a'm geiriau yn y genedlaeth odinebus a phechadurus hon, bydd cywilydd gan Fab y Dyn yntau hefyd, pan ddêl yn Ngogoniant ei Dâd, gyda'r Angelion sanctaidd. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, y mae rhai yma o'r rhai sydd yn sefyll, ni phrofant angeu ddim, hyd oni welant Deyrnas Dduw wedi dyfod mewn gallu. Ac wedi chwe diwrnod, y mae yr Iesu yn cymmeryd gyd âg ef Petr, ac Iago, ac Ioan, ac yn eu dwyn hwynt i fynydd uchel o'r neilldu, wrthynt eu hunain: ac efe a drawsffurfiwyd yn eu gŵydd hwynt. A'i ddillad ef a aethant yn ddysglaer‐wych, yn gànaid iawn, y fath ni fedr pànwr ar y ddaear felly eu cànu. Ac ymddangosodd iddynt Elias, gyd â Moses: ac yr oeddynt yn ymddiddan â'r Iesu. A Phetr a atebodd ac a ddywed wrth yr Iesu, Rabbi, da yw i ni fod yma: a bydded i ni wneuthur tair pabell, un i ti, ac un i Moses, ac un i Elias. Canys ni wyddai efe beth i ateb; canys yr oeddynt yn llawn dychryn. Ac yr oedd cwmwl yn cysgodi drostynt a daeth llais allan o'r cwmwl, Hwn yw fy anwyl Fab: gwrandêwch ef [[ Salm 2:7 12 Ac yn ddisymwth, pan edrychasant o amgylch, ni welsant neb mwyach, ond yr Iesu yn unig gyd â hwy eu hunain. Ac fel yr oeddynt yn dyfod i waered o'r mynydd, efe a orchymynodd iddynt na adroddent i neb y pethau a welsant, ond pan adgyfodai Mab y Dyn o feirw. A hwy a gadwasant yn ffyddlon yr ymadrodd, gan gyd‐ymholi â hwy eu hunain beth yw yr adgyfodi o feirw. A hwy a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Yr Ysgrifenyddion a ddywedant fod yn rhaid i Elias ddyfod yn gyntaf. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Elias yn wir, wedi dyfod yn gyntaf, a edfryd bob peth. A pha fodd y mae yn ysgrifenedig am Fab y Dyn? Y bydd iddo ddyoddef llawer, ac y dirmygid ef. Ond meddaf i chwi fod Elias hefyd wedi dyfod, a gwnaethant iddo pa beth bynag a fynasant, fel yr ysgrifenwyd am dano. A phan ddaethant at y Dysgyblion, hwy a welsant dyrfa fawr o'u hamgylch, ac Ysgrifenyddion yn cyd‐ymholi â hwynt. Ac yn ebrwydd yr holl dyrfa, pan ei gwelsant ef, a lanwyd â syndod, ac a redasant tu ag ato, ac a'i cyfarchasant ef. Ac efe a ofynodd iddynt, Pa gyd‐ymholi yr ydych â hwynt? Ac un o'r dyrfa a atebodd iddo, Athraw, mi a ddygais fy mab atat, âg yspryd mud ynddo. A pha le bynag y cymmer afael arno, y mae yn ei daflu i lawr, ac y mae efe yn malu ewyn, ac a ysgyrniga ddanedd, ac y mae yn dihoeni: a mi a ddywedais wrth dy Ddysgyblion ar iddynt ei fwrw ef allan, ac nis gallasant. Ac efe a atebodd iddynt, ac a ddywed, O genedlaeth anffyddiog! hyd pa bryd y byddaf gyd â chwi? hyd pa bryd y gwnaf gyd‐ddwyn â chwi? dygwch ef ataf fi. A hwy a'i dygasant ef ato: a phan welodd ef, yn ebrwydd yr yspryd a'i dirdynodd ef; a chan syrthio ar y ddaear, efe a ymdreiglodd, gan falu ewyn. Ac efe a ofynodd i'w dâd ef, Pa gymmaint o amser sydd er y mae hyn wedi dygwydd iddo? Ac efe a ddywedodd, Er yn fachgenyn. A mynych y taflodd efe ef i'r tân, ac hefyd i'r dyfroedd, fel y dyfethai efe ef: ond, os gelli di ddim, cymmorth ni, gan gymmeryd tosturi arnom. A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Os gelli! pob peth a all fod i'r neb a gredo. Ac yn ebrwydd tâd y bachgenyn a lefodd allan, ac a ddywedodd, Yr wyf yn credu: cymmorth fy anghrediniaeth. A phan welodd yr Iesu fod tyrfa yn cyd‐redeg tu ag ato, efe a geryddodd yr yspryd aflan, ac a ddywedodd wrtho, Tydi yspryd mud a byddar, yr wyf yn gorchymyn i ti, tyred allan o hono, ac na ddos mwyach iddo ef. Ac wedi llefain allan, a dirdynu llawer arno, efe a ddaeth allan, ac efe a aeth fel un marw, fel y dywedodd y llaweroedd ei fod wedi marw. A'r Iesu a afaelodd yn ei law, ac a'i cyfododd ef, ac efe a safodd i fyny. Ac wedi iddo fyned i mewn i dŷ, ei Ddysgyblion a ofynasant iddo o'r neilldu, Paham na allem ni ei fwrw ef allan? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y rhyw hwn ni all ddyfod allan trwy ddim ond trwy weddi. Ac wedi myned allan oddi yno, hwy a ymdeithiasant trwy Galilea; ac ni fynai efe i neb wybod. Canys yr oedd efe yn dysgu ei Ddysgyblion, ac yn dywedyd wrthynt, Y mae Mab y Dyn yn cael ei draddodi i ddwylaw dynion, a hwy a'i lladdant ef, ac wedi ei ladd, ar ol tridiau efe a adgyfyd. Ond nid oeddynt hwy yn deall yr ymadrodd, ac yr oeddynt yn ofni gofyn iddo. A hwy a ddaethant i Capernaum: a phan ddaeth efe i'r tŷ, efe a ofynodd iddynt, Am beth yr oeddych yn ymresymu ar y ffordd? Ond hwy a dawsant â sôn; canys yn eu plith eu hunain yr ymddadleuasant ar y ffordd, pwy a fyddai fwyaf. Ac efe a eisteddodd, ac a alwodd y Deuddeg, ac a ddywed wrthynt, Os myn neb fod yn gyntaf, efe a fydd olaf o bawb, a gwas i bawb. Ac efe a gymmerodd fachgenyn, ac a'u gosododd ef yn eu canol hwynt; ac wedi iddo ei gofleidio yn ei freichiau, efe a ddywedodd wrthynt, Pwy bynag a dderbynio un o'r cyfryw blant bychain yn fy enw i, sydd yn fy nerbyn i: a phwy bynag sydd yn fy nerbyn i, nid myfi y mae efe yn ei dderbyn, eithr yr Hwn a'm danfonodd i. Ioan a lefarodd wrtho, gan ddywedyd, Athraw, ni a welsom un yn bwrw allan gythreuliaid yn dy enw di, ac ni a waharddasom iddo, am nad oedd yn ein canlyn ni. A'r Iesu a ddywedodd, Na waherddwch iddo; canys nid oes neb a wna weithred nerthol yn fy enw i a all yn fuan roddi drygair i mi. Canys y neb nid yw i'n herbyn, o'n tu y mae. Canys pwy bynag a roddo i chwi i'w yfed gwpanaid o ddwfr yn yr enw, sef o herwydd eich bod yn perthyn i Grist, yn wir meddaf i chwi, ni chyll efe o gwbl ei wobr. A phwy bynag a rwystro un o'r rhai bychain hyn sydd yn credu ynof fi, gwell yw iddo pe rhoddid maen mawr melin am ei wddf, a'i daflu i'r môr. Ac os dy law a'th rwystra, tôr hi ymaith: gwell i ti fyned i mewn i'r bywyd yn anafus, nag â dwy law genyt fyned ymaith i Gehenna, i'r tân anniffoddadwy. Ac os dy droed a'th rwystra, tor hi ymaith: gwell yw i ti fyned i mewn i'r bywyd yn gloff, nag â dwy droed genyt dy daflu i Gehenna. Ac os dy lygad a'th rwystra, tyn ef allan: gwell i ti fyned i mewn i Deyrnas Dduw yn un‐llygeidiog, nag â dau lygad genyt dy daflu i Gehenna; lle nid yw eu pryf hwynt yn marw, na'r tân yn diffodd. Canys pob un a helltir â thân. Da yw yr halen: ond os a yr halen yn ddihallt, â pha beth y pereiddiwch ef? Bydded fod genych halen ynoch eich hunain, a byddwch heddychlawn â'ch gilydd. Ac efe a gyfododd oddi yno, ac y mae yn dyfod i gyffiniau Judea, a thu hwnt i'r Iorddonen; a thrachefn tyrfaoedd a gyd‐gyrchant ato; ac fel yr oedd yn arferu, efe a'u dysgodd hwynt. A Phariseaid a ddaethant ato ac a ofynasant iddo, A ydyw gyfreithlawn i wr roddi ymaith ei wraig?, gan ei demtio ef. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Beth a orchymynodd Moses i chwi? A hwy a ddywedasant, Moses a ganiataodd ysgrifenu ysgrifdyst ysgar, a'i gollwng hi ymaith. Ond yr Iesu a ddywedodd wrthynt, I gwrdd a'ch calon‐galedwch yr ysgrifenodd efe i chwi y gorchymyn hwn: Ond o ddechreuad y Greadigaeth, yn wrryw a benyw y gwnaeth efe hwynt. O achos hyn y gâd dyn ei dâd a'i fam, ac y glŷn wrth ei wraig; a hwy ill dau a fyddant un cnawd; fel nad ydynt mwyach ddau, ond un cnawd. Y peth gan hyny a gyd‐ieuodd Duw, na wahaned dyn. Ac yn y tŷ drachefn ei Ddysgyblion a ofynasant iddo ynghylch hyn. Ac efe a ddywed wrthynt, Pwy bynag a ollyngo ymaith ei wraig, ac a briodo arall, y mae yn godinebu yn ei herbyn hi. Ac os hithau a ollyngo ymaith ei gwr, ac a briodo arall, y mae yn godinebu. A hwy a ddygasant ato blant bychain, fel y cyffyrddai â hwynt: ond y Dysgyblion a geryddasant y rhai oedd yn eu dwyn. Ond pan welodd yr Iesu, bu ddigllawn ganddo, ac efe a ddywedodd wrthynt, Gadêwch y plant bychain ddyfod ataf fi: na waherddwch iddynt; canys eiddo y cyfryw yw Teyrnas Dduw. Yn wir meddaf i chwi, Pwy bynag ni dderbynio Deyrnas Dduw fel plentyn bach, nid a efe o gwbl i mewn iddi. A chan eu cofleidio, efe a'u bendithiodd gyd â hoffder, gan osod ei ddwylaw arnynt. Ac fel yr oedd efe yn myned allan i'r ffordd, rhedodd un ato, ac a syrthiodd ar ei liniau o'i flaen, ac a ofynodd iddo, O Athraw da, beth a wnaf fel yr etifeddwyf fywyd tragywyddol? A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Paham y gelwi fi yn dda? Nid oes neb da ond un, sef Duw. Ti a wyddost y gorchymynion, — Na ladd, Na odineba, Na ladrata, Na cham‐dystiolaetha, Na cham‐golleda, Anrhydedda dy dâd a'th fam. Ac efe a ddywedodd wrtho, Athraw, y rhai hyn oll mi a gedwais yn ddyfal o'm hieuengctyd. A'r Iesu, gan edrych arno yn ddifrifol, a'i carodd ef, ac a ddywedodd wrtho, Un peth sydd ddiffygiol i ti; dos, gwerth yr hyn oll sydd genyt, a dyro i dlodion, a thi a gai drysor yn y Nef: a thyred, canlyn fi. A'i wedd a bruddhaodd wrth yr ymadrodd, ac efe a aeth ymaith yn drist, canys yr oedd ganddo feddianau lawer. A'r Iesu a edrychodd o amgylch, ac a ddywed wrth ei Ddysgyblion, Mor anhawdd yr a y rhai y mae golud ganddynt i Deyrnas Dduw! Ond y Dysgyblion a lanwyd â syndod wrth ei eiriau ef. Ond yr Iesu a atebodd drachefn, ac a ddywed wrthynt, O blant, mor anhawdd yw myned i mewn i Deyrnas Dduw. Y mae yn hawddach i gamel fyned trwy grai nodwydd, nag i oludog fyned i mewn i Deyrnas Dduw. A hwy a darawyd â syndod dirfawr, gan ddywedyd wrtho ef, A phwy a all fod yn gadwedig? A'r Iesu, gan edrych yn ddifrifol arnynt, a ddywed, Gyd â dynion y mae yn anmhosibl, ond nid gyd â Duw: canys pob peth sydd bosibl gyd â Duw. Dechreuodd Petr ddywedyd wrtho, Wele, nyni ydym wedi gadael pob peth, a'th ganlyn di. Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd, Yn wir meddaf i ti, nid oes neb a'r a adawodd dŷ, neu frodyr, neu chwiorydd, neu fam, neu dâd,, neu blant, neu diroedd, er fy mwyn i, ac er mwyn yr Efengyl, a'r ni dderbyn càn cymmaint yn awr y pryd hwn, dai, a brodyr, a chwiorydd, a mamau, a phlant, a thiroedd, ynghyd âg erlidiau; ac yn y byd sydd yn dyfod fywyd tragywyddol. Ond llawer sydd gyntaf fyddant ddiweddaf, a'r diweddaf, gyntaf. Ac yr oeddynt ar y ffordd yn myned i fyny i Jerusalem; a'r Iesu oedd yn myned o'u blaen hwynt: a bu ryfedd ganddynt; a'r rhai a ganlynasant a ofnasant. Ac wedi iddo drachefn gymmeryd ato y Deuddeg, efe a ddechreuodd ddywedyd iddynt y pethau oeddynt ar ddygwydd iddo ef: Wele, yr ydym yn myned i fyny i Jerusalem; a Mab y Dyn a draddodir i'r Arch‐offeiriaid, ac i'r Ysgrifenyddion; a hwy a'i coll‐farnant ef i farwolaeth, ac a'i traddodant i'r Cenedloedd. A hwy a'i gwatwarant ef, ac a boerant arno, ac a'i fflangellant, ac a'i lladdant, ac wedi tridiau, efe a adgyfyd. Ac y mae yn dyfod ato Iago ac Ioan, meibion Zebedëus, gan ddywedyd wrtho, Athraw, ni a fynem i ti wneuthur i ni pa beth bynag a ofynem i ti. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Beth a fynech i mi ei wneuthur i chwi? A hwy a ddywedasant wrtho, Dyro i ni eistedd, un ar dy ddeheulaw, ac un ar dy aswy, yn dy Ogoniant. A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Ni wyddoch pa beth yr ydych yn ei geisio. A ellwch chwi yfed y cwpan a yfwyf fi, neu eich bedyddio â'r bedydd y'm bedyddir i âg ef? A hwy a ddywedant wrtho, Gallwn. A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Chwi a yfwch y cwpan â yfwyf fi, neu, fe'ch bedyddir â'r bedydd y bedyddir finau; ond eistedd ar fy neheulaw neu ar fy aswy, nid eiddof fi ei roddi, ond i'r sawl y mae wedi ei ddarparu. A phan glybu y Deg, hwy a ddechreuasant deimlo yn ddigllawn tu ag at Iago ac Ioan. A'r Iesu a'u galwodd hwynt ato, ac a ddywed wrthynt, Chwi a wyddoch fod y rhai a gyfrifir eu bod yn llywodraethu ar y Cenedloedd, yn tra‐arglwyddiaethu arnynt; ac y mae eu Mawrion yn tra‐awdurdodi arnynt: ond nid felly y mae yn eich plith chwi; ond pwy bynag a ewyllysio ddyfod yn fawr yn eich plith, a fydd yn was i chwi; a phwy bynag a ewyllysio fod y blaenaf o honoch, efe a fydd yn rwymedig-was i bawb. Canys ni ddaeth hyd y nod Mab y Dyn i'w wasanaethu, ond i wasanaethu, ac i roddi ei einioes yn bridwerth yn lle llawer. A hwy a ddeuant i Jericho. Ac fel yr oedd efe yn myned allan o Jericho, a'i Ddysgyblion, a thyrfa luosog, mab Timëus, Bartimëus, cardotyn dall, a eisteddai ar ymyl y ffordd. A phan glybu, Iesu o Nazareth ydyw, efe a ddechreuodd waeddi a dywedyd, Iesu, Mab Dafydd, trugarhâ wrthyf. A llawer a'i ceryddasant ef, fel y tawai: ond efe a waeddodd yn fwy o lawer, O Fab Dafydd, trugarhâ wrthyf. A'r Iesu a safodd, ac a ddywedodd, Gelwch ef. Ac y maent yn galw y dall, ac yn dywedyd wrtho, Cymmer galon: cyfod: y mae efe yn dy alw di. Ac efe wedi taflu ymaith ei gochl, a neidiodd i fyny, ac a ddaeth at yr Iesu. A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Beth a fyni i mi ei wneuthur i ti? A'r dall a ddywedodd wrtho, Rabboni, cael fy ngolwg. A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Dos ymaith: y mae dy ffydd wedi dy iachâu. Ac yn ebrwydd efe a gafodd ei olwg, ac a'i canlynodd ef ar hyd y ffordd. A phan y maent yn agoshâu i Jerusalem, i Bethphage, a Bethania, at Fynydd yr Olew‐wydd, y mae efe yn danfon dau o'i Ddysgyblion, ac yn dywedyd wrthynt, Ewch ymaith i'r pentref sydd gyferbyn a chwi: ac yn ebrwydd pan y deloch i mewn iddo, chwi a gewch ebol wedi ei rwymo, ar yr hwn hyd yn hyn nid oes neb wedi eistedd: gollyngwch ef yn rhydd, a dygwch ef. Ac os dywed neb wrthych, Paham y gwnewch hyn? dywedwch, Y mae ar yr Arglwydd ei eisieu; ac yn ebrwydd y mae efe yn ei ddanfon yma drachefn. A hwy a aethant ymaith, ac a gawsant ebol wedi ei rwymo wrth y drws oddiallan, ar y brif‐heol, ac y maent yn ei ollwng ef yn rhydd. A rhai o'r rhai oedd yn sefyll yno a ddywedasant wrthynt, Beth a wnewch chwi, yn gollwng yr ebol yn rhydd? A hwy a ddywedasant wrthynt fel y dywedodd yr Iesu: a hwy a adawsant iddynt. Ac y maent yn dwyn yr ebol at yr Iesu, ac yn bwrw eu gwisgoedd uchaf arno; ac efe a eisteddodd arno. A llawer a daenasant eu gwisgoedd uchaf ar y ffordd; ac eraill haenau o'r brigau, y rhai a dorasant o'r meusydd. A'r rhai oedd yn myned o'r blaen, a'r rhai oedd yn dyfod ar ol, a lefasant, Hosanna! Bendigedig yw yr hwn sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd! Bendigedig yw Teyrnas ein Tâd Dafydd, yr hon sydd yn dyfod! Hosanna yn y Goruchafion. Ac efe a aeth i mewn i Jerusalem, i'r Deml, ac wedi iddo edrych ar bob peth o'i amgylch, a'r awr weithian yn ddiweddar, efe a aeth allan i Bethania gyda'r Deuddeg. A thranoeth, wedi iddynt fyned allan o Bethania, daeth arno chwant bwyd. Ac wedi iddo ganfod o hirbell ffigysbren âg arno ddail, efe a aeth, os caffai, o ddygwydd, ryw gymmaint arno. A phan ddaeth ato, ni chafodd efe ddim ond dail: canys nid oedd dymhor ffigys. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Na fwytaed neb ffrwyth o honot byth mwy. A'i Ddysgyblion oeddynt yn ei glywed ef. Ac y maent yn dyfod i Jerusalem; ac wedi myned i'r Deml, efe a ddechreuodd fwrw allan y rhai oedd yn gwerthu a'r rhai oedd yn prynu; ac efe a ddymchwelodd fyrddau y cyfnewidwyr arian, a chadeiriau y gwerthwyr colomenod: ac ni adawai efe i neb ddwyn llestr trwy y Deml. Ac efe a'u dysgodd, ac a ddywedodd wrthynt, Onid yw yn ysgrifenedig, Gelwir fy Nhŷ i yn Dŷ Gweddi i'r holl genedloedd; ond yr ydych chwi wedi ei wneuthur ef yn Ogof Yspeilwyr. A'r Arch‐offeiriaid a'r Ysgrifenyddion a glywsant, ac a geisiasant pa fodd y dyfethent ef; canys yr oeddynt yn ei ofni ef, oblegyd yr holl dyrfa a darawyd â syndod at ei ddysgeidiaeth ef. A pha bryd bynag yr elai hi yn hwyr, hwy a aethant allan o'r Ddinas. Ac wrth fyned heibio yn fore, hwy a welsant y ffigysbren wedi crino o'r gwraidd. A Phetr, wedi adgofio, a ddywed wrtho, Rabbi, wele, y ffigysbren a felldithiaist wedi crino. A'r Iesu, gan ateb, a ddywed wrthynt, Bydded genych ffydd yn Nuw. Canys yn wir meddaf i chwi, Pwy bynag a ddywedo wrth y mynydd hwn, Cyfoder di, a bwrier di i'r môr, ac nid amheuo yn ei galon, ond a gredo fod yr hyn a ddywed yn dyfod i ben, efe a fydd iddo. Am hyny meddaf i chwi, pa bethau bynag oll y gweddiwch am danynt, ac a geisiwch, credwch y derbyniasoch hwynt, a byddant i chwi. A phan yr ydych yn sefyll i weddio, maddeuwch, os oes genych ddim yn erbyn neb; fel y maddeuo eich Tâd yr hwn sydd yn y Nefoedd i chwithau eich camweddau. [Ond os chwi ni faddeuwch, eich Tâd yr hwn sydd yn y Nefoedd ni faddeu chwaith eich camweddau chwithau]. Ac y maent yn dyfod drachefn i Jerusalem: ac fel yr oedd efe yn rhodio yn y Deml, y mae yr Arch‐offeiriaid, a'r Ysgrifenydion, a'r Henuriaid yn dyfod ato, ac yn dywedyd wrtho, Trwy ba fath awdurdod yr wyt ti yn gwneuthur y pethau hyn? A phwy a roddodd i ti yr awdurdod hon i wneuthur y pethau hyn? A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Gofynaf finau i chwithau un gofyniad, ac atebwch fi; a minau a ddywedaf i chwi trwy ba fath awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn: Ai oedd Bedydd Ioan o'r Nef, ai o ddynion? Atebwch fi. Ac yr oeddynt yn ymresymu yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, Os dywedwn, O'r Nef, efe a ddywed, Paham na chredasoch iddo? Ond a ddywedwn, O ddynion? — hwy a ofnent y bobl; canys pawb a gyfrifent Ioan mewn gwirionedd ei fod yn broffwyd. A hwy, gan ateb yr Iesu a ddywedant, Ni wyddom ni. A'r Iesu a ddywed wrthynt hwythau, Ni ddywedaf finau i chwi ychwaith trwy ba fath awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn. Ac efe a ddechreuodd lefaru wrthynt mewn dammegion: Gwr a blanodd winllan, ac a ddododd gae o'i hamgylch, ac a gloddiodd win‐gafn, ac a adeiladodd dŵr, ac a'i rhoddodd allan i lafurwyr, ac a aeth oddi cartref. Ac efe a anfonodd at y llafurwyr, yn y tymhor, ei was, fel y derbyniai oddiwrth y llafurwyr o ffrwythau y winllan. A hwy a'i daliasant, ac a'i curasant, ac a'i danfonasant ymaith yn wag. A thrachefn yr anfonodd efe atynt was arall, a hwy a archollasant ei ben, ac a'i anmharchasant. Ac efe a anfonodd un arall; a hwnw hwy a laddasant: a llawer eraill; gan guro rhai, a lladd y lleill. Yr oedd ganddo eto un mab, ei anwylyd: efe a'i danfonodd ef atynt yn ddiweddaf, gan ddywedyd, Hwy a barchant fy mab i. Ond y llafurwyr hyny a ddywedasant yn eu plith eu hunain, Hwn yw yr etifedd: deuwch, lladdwn ef, a'n heiddo ni fydd yr etifeddiaeth. A hwy a'i daliasant, ac a'i lladdasant, ac a'i bwriasant allan o'r winllan. Beth gan hyny a wna Arglwydd y winllan? Efe a ddaw, ac a ddyfetha y llafurwyr, ac a rydd y winllan i eraill. Ai ni ddarllenasoch yr Ysgrythyr hon, — Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, — Hwn a wnaed yn ben congl: O'r Arglwydd y bu hyn, A rhyfedd yw yn ein golwg ni?. Ac yr oeddynt yn ceisio ei ddal ef; ac a ofnasant y dyrfa; canys hwy a wyddent mai yn eu herbyn hwy y llefarodd efe y ddammeg: a hwy a'i gadawsant ef, ac a aethant ymaith. Ac y maent yn danfon ato rai o'r Phariseaid ac o'r Herodianiaid, fel y rhwydent ef drwy ei ymadrodd. Ac wedi eu dyfod, hwy a ddywedasant wrtho, Athraw, ni a wyddom dy fod di yn ddidwyll, ac nad wyt yn gofalu rhag neb; canys nid wyt ti yn edrych ar wyneb dynion; ond yr wyt yn dysgu ffordd Duw mewn gwirionedd: Ai cyfreithlawn rhoddi teyrnged i Cesar, ai nid yw? A roddwn ni, ai ni roddwn? Ond efe yn gwybod eu rhagrith hwynt, a ddywedodd wrthynt, Paham y temtiwch fi? Dygwch i mi ddenarion, fel ei gwelwyf. A hwy a'i dygasant. Ac efe a ddywed wrthynt, Eiddo pwy yw y ddelw hon a'r darlleniad? A hwy a ddywedasant wrtho, Eiddo Cesar. A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Talwch eiddo Cesar i Cesar, ac eiddo Duw i Dduw. A rhyfeddu yn ddirfawr a wnaethant. Ac y mae Saduceaid yn dyfod ato, y rhai a ddywedant nad oes Adgyfodiad; a gofynasant iddo, gan ddywedyd, Athraw, Moses a ysgrifenodd i ni, O fydd marw brawd neb, a gadael gwraig ar ei ol, ac heb adael plant, bydded i'w frawd gymmeryd ei wraig, a chodi hâd i'w frawd. Yr oedd saith o frodyr: a'r cyntaf a gymmerodd wraig; a phan fu farw, ni adawodd hâd. A'r ail a'i cymmerodd hi, ac a fu farw heb adael hâd ar ei ol; a'r trydydd yr un modd. A'r saith ni adawsant hâd. Yn ddiweddaf o'r oll bu farw y wraig hefyd. Yn yr Adgyfodiad, i ba un o honynt y bydd hi yn wraig? canys y saith a'i cawsant hi yn wraig. A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Ai nid o herwydd hyn yr ydych yn cyfeiliorni, sef, na wyddoch yr Ysgrythyrau, na gallu Duw? Canys pan adgyfodant o feirw, nid ydynt yn priodi, nac yn cael eu rhoddi mewn priodas, ond y maent fel Angelion yn y Nefoedd. Ond ynghylch y meirw, eu bod yn cael eu cyfodi, oni ddarllenasoch yn Llyfr Moses, yn yr adran am y Berth, y modd y llefarodd Duw wrtho, gan ddywedyd, Myfi yw Duw Abraham, a Duw Isaac, a Duw Jacob. Nid yw efe Dduw rhai meirw, ond rhai byw. Yr ydych yn cyfeiliorni yn fawr. Ac un o'r Ysgrifenyddion a ddaeth, wedi eu clywed hwynt yn cyd‐ymholi, a gweled iddo eu hateb yn dda, ac a ofynodd iddo, O ba natur yw y Gorchymyn Cyntaf o'r oll? A'r Iesu a atebodd iddo, y cyntaf yw, Clyw Israel! Yr Arglwydd ein Duw, un Arglwydd yw: A thi a geri yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon, ac â'th holl enaid, ac â'th holl feddwl, ac â'th holl nerth. Yr ail yw hwn Ti a geri dy gymydog fel ti dy hun. Mwy na'r rhai hyn nid oes orchymyn arall. A'r Ysgrifenydd a ddywedodd wrtho, Da, Athraw, mewn gwirionedd y dywedaist mai Un yw efe, ac nad oes arall heblaw efe; a'i garu ef â'r holl galon, ac â'r holl ddeall, ac â'r holl enaid, ac â'r holl nerth, a charu y cymydog fel efe ei hun, sydd lawer amgenach na'r holl boeth‐offrymau cyfain ac aberthau. A'r Iesu, pan welodd iddo ateb yn synwyrol, a ddywedodd wrtho, Nid wyt ti bell oddiwrth Deyrnas Dduw. Ac ni feiddiodd neb o hyn allan osod gofyniadau iddo. A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd, pan yn dysgu yn y Deml, Pa fodd y dywed yr Ysgrifenyddion fod y Crist yn fab Dafydd? Dafydd ei hun a ddywedodd yn yr Yspryd Glân:— Yr ARGLWYDD a ddywedodd wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion Yn droedfainc i'th draed. Y mae Dafydd ei hun yn ei alw ef yn Arglwydd; ac o ba le y mae efe yn fab iddo? A'r dyrfa fawr a'i gwrandawent ef gydâ blas. Ac yn ei ddysgeidiaeth efe a ddywedodd, Ymogelwch rhag yr Ysgrifenyddion, y rhai a chwenychant rodio mewn llaes‐wisgoedd, a'r cyfarchiadau yn y marchnadoedd a'r prif‐gadeiriau yn y Synagogau, a'r prif‐eistedd‐leoedd yn y swperau. Y rhai sydd yn llwyr‐fwyta tai y gweddwon, ac mewn rhith yn hir‐weddio, — y rhai hyn a dderbyniant farnedigaeth lymach. Ac efe a eisteddodd gyferbyn a'r Drysorfa, ac a ddaliodd sylw pa fodd yr oedd y dorf yn bwrw arian i'r Drysorfa; a chyfoethogion lawer a fwriasant lawer. Ac un wraig weddw dlawd a ddaeth, ac a fwriodd i mewn ddwy hatling, yr hyn yw ffyrling. A'r Iesu a alwodd ei Ddysgyblion ato, ac a ddywedodd wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, fwrw o'r wraig weddw dlawd hon i mewn fwy na'r rhai oll a fwriant i'r Drysorfa. Canys hwynt‐hwy oll a fwriasant i mewn o'u gor‐lawnder sydd ganddynt; ond hon o'i hangen a fwriodd i mewn yr oll, pa beth bynag a feddai, ei holl gynaliaeth. Ac fel yr oedd efe yn myned allan o'r Deml, un o'i Ddysgyblion a ddywed wrtho, Athraw, gwel y fath feini, a'r fath adeiladau! A'r Iesu a ddywedodd wrtho, A weli di yr adeiladau mawrion hyn? Ni adewir yma o gwbl faen ar faen, a'r nis datodir yn hollol. Ac fel yr oedd efe yn eistedd ar Fynydd yr Olew‐wydd, gyferbyn â'r Deml, Petr, ac Iago, ac Ioan, ac Andreas, a ofynasant iddo o'r neilldu, Dywed i ni pa bryd y bydd y pethau hyn? a pha arwydd fydd pan fo y pethau hyn yn dyfod i ben? A'r Iesu a ddechreuodd ddywedyd wrthynt, Edrychwch rhag i neb eich arwain ar gyfeiliorn. Llawer a ddeuant yn fy enw i, gan ddywedyd, Myfi yw Efe, ac a arweiniant lawer ar gyfeiliorn. Ond pan glywoch am ryfeloedd, a sôn am ryfeloedd, na ddychryner chwi; canys rhaid iddynt ddyfod: ond nid yw y diwedd eto. Canys cenedl a gyfyd yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas: bydd daeargrynfäau mewn amryw fanau; bydd newynau: dechreuad gwewyr yw y pethau hyn. Ond edrychwch atoch chwi eich hunain: canys hwy a'ch traddodant chwi i Gynghorau ac i Synagogau; chwi a fflangellir; a chwi a sefwch gerbron llywodraethwyr a breninoedd o achos fy enw i, er tystiolaeth iddynt. Ac i'r holl genedloedd y mae yn rhaid yn gyntaf bregethu yr Efengyl. A phan y'ch arweiniant chwi, gan eich traddodi, na fyddwch bryderus yn mlaen llaw pa beth a lefaroch: ond pa beth bynag a roddir i chwi yn yr awr hono, hyny lefarwch: canys nid chwychwi sydd yn llefaru, ond yr Yspryd Glân. A brawd a draddoda frawd i farwolaeth, a thâd ei blentyn, a phlant a gyfodant yn erbyn rhieni, ac a'u gosodant i farwolaeth. A chwi a fyddwch gâs gan bawb o achos fy enw i: ond yr hwn a barhao yn ddiysgog hyd y diwedd, hwnw a fydd cadwedig. Ond pan weloch chwi ffieidd‐dra yr Anghyfanedd‐dra, yn sefyll yn y lle ni ddylai, (yr hwn a ddarlleno, ystyried), yna, y rhai a fyddant yn Judea, bydded iddynt ffoi i'r mynyddoedd: a'r neb a fyddo ar ben y tŷ, na ddisgyned, ac nac aed i mewn i gymmeryd dim allan o'i dŷ. A'r hwn a elo i'r maes, na ddychweled yn ei ol i gymmeryd ei wisg uchaf. Ond gwae y rhai beichiog, a'r rhai yn rhoi bronau, yn y dyddiau hyny. Ond gweddiwch fel na ddygwyddo yn y Gauaf. Canys y dyddiau hyny a fyddant orthrymder, y cyfryw na bu ei fath o ddechreuad creadigaeth, yr hwn a greodd Duw, hyd y pryd hwn, ac ni fydd o gwbl. Ac onibai i'r Arglwydd fyrhau y dyddiau, ni fyddai gadwedig un cnawd: ond er mwyn yr Etholedigion, y rhai a etholodd, efe a fyrhaodd y dyddiau. Ac yna os dywed neb wrthych, Wele, yma y mae y Crist; neu, Wele, acw; na chredwch; canys Gau‐Gristiau a Gau‐Brophwydi a gyfodant, ac a roddant arwyddion a rhyfeddodau, er arwain ar gyfeiliorn, pe yn bosibl, yr Etholedigion. Eithr ymogelwch chwi: rhag‐ddywedais i chwi bob peth. Ond yn y dyddiau hyny, ar ol y gorthrymder hwnw, y tywyllir yr haul, a'r lleuad ni rydd ei llewyrch; a'r ser a fyddant o'r Nef yn syrthio, a'r galluoedd sydd yn y Nefoedd a siglir. Ac yna y gwelant Fab y Dyn yn dyfod mewn cymylau gydâ gallu mawr a gogoniant. Ac yna yr anfona efe yr Angelion, ac a gynull ynghyd ei Etholedigion allan o'r pedwar gwynt, o derfyn eithaf y ddaear hyd derfyn eithaf y Nef. Ac oddiwrth y ffigysbren dysgwch y ddammeg: pan y mae ei ganghen eisioes wedi dyfod yn dyner, a'r dail yn tori allan, chwi a wyddoch fod yr haf yn agos. Felly chwithau hefyd, pan weloch y pethau hyn yn dyfod, gwybyddwch ei fod yn agos, wrth y drysau. Yn wir meddaf i chwi, nid â y genedlaeth hon heibio, hyd oni ddaw y pethau hyn oll i ben. Y Nef a'r ddaear a ânt heibio; ond fy ngeiriau i nid ânt heibio. Eithr am y dydd hwnw, neu yr awr, ni ŵyr neb, na'r Angelion yn y Nef, na'r Mab, ond y Tâd. Ymogelwch, byddwch effro, canys ni wyddoch pa bryd y mae yr adeg. Y mae fel dyn wedi myned o'i wlad ei hun, wedi gadael ei dŷ, wedi rhoddi awdurdod i'w weision, i bob un ei waith ei hun, ac a orchymynodd i'r drysawr wylio. Gwyliwch, gan hyny; canys ni wyddoch pa bryd y mae Arglwydd y tŷ yn dyfod, ai yn yr hwyr, ai ganol nos, ai ar ganiad y ceiliog, ai yn fore iawn; rhag ei ddyfod yn ddisymwth, a'ch cael chwi yn cysgu. A'r hyn yr wyf yn ei ddywedyd i chwi, yr wyf yn ei ddywedyd i bawb, Gwyliwch. Ac wedi deuddydd yr oedd y Pasc a'r Bara Croyw; a'r Arch‐offeiriaid a'r Ysgrifenyddion a geisiasant pa fodd y dalient ef trwy gyfrwys ddichell, ac y lladdent ef: canys hwy a ddywedasant, Nid ar yr wyl, rhag y bydd terfysg yn mhlith y bobl. Ac fel yr oedd efe yn Bethania, yn nhŷ Simon y Gwahan‐glwyfus, ac yr eisteddai i fwyta, daeth gwraig a chanddi lestr alabaster o enaint o nard pur gwerthfawr; a hi a dorodd y llestr alabaster, ac a'i tywalltodd ar ei ben ef. Ond yr oedd rhai y bu ddigllawn ganddynt yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, I ba amcan y mae y golled hon o'r enaint wedi cymmeryd lle? Oblegyd fe a allasid gwerthu yr enaint hwn am fwy na thri chan denarion, a'i roddi i'r tlodion: a hwy a rwgnachasant yn uchel yn ei herbyn hi. Ond yr Iesu a ddywedodd, Gadêwch iddi: paham y trallodwch hi? hi a wnaeth weithred dda arnaf fi. Canys bob amser y cewch y tlodion gyda chwi; a phan ewyllysioch, chwi a ellwch wneuthur da iddynt hwy: ond myfi ni chewch bob amser. Yr hyn a allodd hon hi a'i gwnaeth: hi a achubodd y blaen i eneinio fy nghorff erbyn y gladdedigaeth. Ac yn wir meddaf i chwi, Pa le bynag y pregethir yr Efengyl yn yr holl fyd, yr hyn a wnaeth hon hefyd a adroddir er coffadwriaeth am dani. A Judas Iscariot, yr hwn oedd un o'r Deuddeg, a aeth ymaith at yr Arch‐offeiriaid, i'w fradychu ef iddynt. A phan glywsant, bu lawen ganddynt, ac a addawsant roddi arian iddo. Ac efe a geisiodd pa fodd y gallai ar adeg gyfleus ei fradychu ef. A'r dydd cyntaf o'r Bara Croyw, pan yr aberthent y Pasc, ei Ddysgyblion a ddywedant wrtho, I ba le yr wyt yn ewyllysio i ni fyned a pharotoi i ti i fwyta y Pasc? Ac y mae efe yn anfon dau o'i Ddysgyblion, ac yn dywedyd wrthynt, Ewch i'r Ddinas, a chyferfydd a chwi ddyn yn dwyn ystenaid o ddwfr: dylynwch ef. A pha le bynag yr êl i mewn, dywedwch wrth Feistr y tŷ, Y mae yr Athraw yn dywedyd, Pa le y mae fy ngwest‐ystafell, lle y gwnaf fwyta'r Pasc gyda'm Dysgyblion? Ac efe a ddengys i chwi oruwch‐ystafell fawr, wedi ei dodrefnu yn barod: yno parotowch i ni. A'i Ddysgyblion a aethant allan, ac a ddaethant i'r Ddinas, ac a gawsant megys y dywedasai efe wrthynt, ac a barotoisant y Pasc. A phan ddaeth yr hwyr, y mae efe yn dyfod gydâ'r Deuddeg. Ac fel yr oeddynt yn eistedd wrth y bwrdd, ac yn bwyta, yr Iesu a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, Un o honoch a'm bradycha i, sef yr hwn sydd yn bwyta gydâ mi. A hwy a ddechreuasant dristâu, a dywedyd wrtho, bob yn un ac un, Ai myfi?. Ac efe a ddywedodd, Un o'r Deuddeg: yr hwn sydd yn gwlychu gyd â mi yn y ddysgl. Canys Mab y Dyn yn wir sydd yn myned ymaith, fel y mae yn ysgrifenedig am dano.; ond gwae i'r dyn hwnw, trwy yr hwn y mae Mab y Dyn yn cael ei fradychu! Da fuasai i hwnw pe nas ganesid ef. Ac fel yr oeddynt yn bwyta, efe a gymmerodd fara, ac wedi iddo fendithio, efe a'i torodd, ac a'i rhoddodd iddynt, ac a ddywedodd, Cymmerwch; hwn yw fy nghorff. Ac efe a gymmerodd gwpan, ac a ddiolchodd, ac a'i rhoddodd iddynt: a hwynt oll a yfasant o hono. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Hwn yw fy ngwaed i, o'r Cyfamod, yr hwn sydd yn cael ei dywallt dros lawer. Yn wir meddaf i chwi, Ni yfaf, na, ddim mwy, o gynyrch y winwydden, hyd y dydd hwnw, pan yfwyf ef yn newydd yn Nheyrnas Dduw. Ac wedi iddynt ganu, hwy a aethant allan i Fynydd yr Olew‐wydd. A'r Iesu a ddywed wrthynt, chwi oll a rwystrir; canys y mae yn ysgrifenedig, Mi a darawaf y bugail, A'r defaid a wasgerir ar led. Ond wedi fy adgyfodi i, mi a âf o'ch blaen chwi i Galilea. Eithr Petr a ddywedodd wrtho, hyd y nod pe rhwystrid pawb, er hyny ni'm rhwystrir i. A dywed yr Iesu wrtho, Yn wir meddaf i ti, Tydi, heddyw, y nos hon, cyn canu o'r ceiliog ddwywaith, a'm gwedi deirgwaith. Ond efe a lefarodd yn fwy taer o lawer, Pe gorfyddid i mi farw gydâ thi, ni'th wadaf o gwbl. A'r un modd y dywedasant oll. Ac y maent yn dyfod i lanerch o'r enw Gethsemane, ac efe a ddywed wrth ei Ddysgyblion, Eisteddwch yma, tra fyddwyf yn gweddio. Ac y mae efe yn cymmeryd gydâg ef Petr, ac Iago, ac Ioan, ac a ddechreuodd fod mewn dychryn ac adfyd; ac a ddywed wrthynt, Y mae fy enaid yn athrist hyd angeu: aroswch yma a chedwch yn effro. Ac efe a aeth ychydig yn mlaen, ac a syrthiodd ar y ddaear, ac a weddiodd, o bai bosibl, ar fyned heibio o'r Awr oddiwrtho. Ac efe a ddywedodd, Abba, Dâd, pob peth sydd bosibl i ti: symud y cwpan hwn oddiwrthyf: eithr nid y peth yr ydwyf fi yn ewyllysio, ond y peth yr ydwyt ti. Ac y mae efe yn dyfod ac yn eu cael hwy yn cysgu; ac a ddywed wrth Petr, Simon, a wyt ti yn cysgu? oni allit gadw yn effro un awr? Byddwch effro, a gweddiwch fel nad eloch i brofedigaeth. Yr yspryd yn wir sydd ewyllysgar, ond y cnawd sydd wan. A thrachefn efe a aeth ymaith, ac a weddiodd, gan ddywedyd yr un ymadrodd. A chan ddyfod drachefn, efe a'u cafodd hwynt yn cysgu, canys yr oedd eu llygaid hwynt wedi trymhau yn ddirfawr; ac ni wyddent beth i ateb iddo. Ac y mae efe yn dyfod y drydedd waith, ac yn dywedyt wrthynt, Cysgwch o hyn allan, a gorphwyswch: y mae yn mhell oddiwrthyf fi; daeth yr Awr: Wele, y mae Mab y Dyn yn cael ei fradychu i ddwylaw pechaduriaid. Cyfodwch, awn; wele, fy mradychwr i wedi agoshâu. Ac yn ebrwydd, ac efe eto yn llefaru, y mae Judas, un o'r Deuddeg yn dynesu, a chydâg ef dyrfa gydâ chleddyfau a bastynau oddiwrth yr Arch‐offeiriaid, a'r Ysgrifenyddion, a'r Henuriaid. Ac yr oedd ei Fradychwr ef wedi rhoddi iddynt arwydd‐nod, gan ddywedyd, Pwy bynag a gusanwyf, hwnw yw efe: deliwch ef, ac arweiniwch ef ymaith yn ddyogel. A phan ddaeth, yn ebrwydd efe a aeth ato, ac y mae yn dywedyd wrtho, Rabbi, ac a'i cusanodd ef yn eofn. A hwy a roisant ddwylaw arno, ac a'i daliasant. Ac un o'r rhai oedd yn sefyll yn ymyl a dynodd ei gleddyf, ac a darawodd was yr Arch‐offeiriad, ac a dorodd ymaith ei glust ef. A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Ai megys yn erbyn yspeiliwr y daethoch allan, gydâ chleddyfau, a bastynau, i'm cymmeryd i? Yr oeddwn i beunydd gydâ chwi yn y Deml yn dysgu, ac ni'm daliasoch: ond hyn a wnaed fel y cyflawnid yr Ysgrythyrau. A hwynt oll a'i gadawsant ef, ac a ffoisant. A rhyw wr ieuangc oedd yn cyd‐ganlyn gydâg ef; wedi ymwisgo mewn cwrlid o lian costfawr ar ei gorff noeth; a hwy a'i daliasant ef. Ac efe a adawodd y cwrlid o lian costfawr, ac a ffodd yn noeth. A hwy a arweiniasant ymaith yr Iesu at yr Arch‐offeiriad; a'r holl Arch‐offeiriaid a'r Henuriaid a'r Ysgrifenyddion ydynt yn dyfod ynghyd ato ef. A Phetr a'i canlynodd ef o hirbell, hyd tu fewn i Lŷs yr Arch‐offeiriad: ac yr oedd efe yn cyd eistedd gyda'r is‐swyddogion; ac yn ymdwymno wrth oleu y tân. A'r Arch‐offeiriaid a'r holl Gynghor oeddynt yn ceisio tystiolaeth yn erbyn yr Iesu, er ei roddi i farwolaeth, ond nid oeddynt yn ei chael. Canys llawer a ddygasant gam‐dystiolaeth yn ei erbyn ef: ac nid oedd eu tystiolaeth hwy yn gyson. A rhai a gyfodasant, ac a ddygasant gam‐dystiolaeth yn ei erbyn, gan ddywedyd, Ni a'i clywsom ef yn dywedyd, Mi a doraf i lawr y Cysegr hwn, o waith llaw, ac mewn tridiau yr adeiladaf arall heb fod o waith llaw. Ac nid oedd hyd y nod eu tystiolaeth hwy yn gyson. A chyfododd yr Arch‐offeiriad yn y canol, ac a ofynodd i'r Iesu, gan ddywedyd, Oni atebi di ddim? beth y mae y rhai hyn yn dystiolaethu yn dy erbyn? Ond efe a dawodd, ac nid atebodd ddim. Drachefn yr Arch‐offeiriad a ofynodd iddo, ac a ddywed wrtho, Ai Tydi yw y Crist, Mab y Bendigedig? A'r Iesu a ddywedodd, Myfi yw: a chwi a gewch weled Mab y Dyn yn eistedd ar ddeheulaw y Gallu, ac yn dyfod gyd â chymylau y Nefoedd. A'r Arch‐offeiriad a rwygodd ei wisgoedd, ac a ddywed, Pa raid i ni bellach wrth dystion? Chwi a glywsoch y cabledd; beth dybygwch chwi? A hwynt oll a'i condemniasant, ei fod yn euog o farwolaeth. A rhai a ddechreuasant boeri arno, a rhoi gorchudd ar ei wyneb, a'i gernodio, a dywedyd wrtho, Proffwyda. A'r is‐swyddogion a'i derbyniasant ef i'w cadwraeth, gan ei daro. a phan yr oedd Petr i lawr yn y Llŷs, y mae un o forwynion yr Arch‐offeiriad yn dyfod: a phan ganfu hi Petr yn ymdwymno, hi a edrychodd arno, ac a ddywed, A thithau oeddit gyd â y Nazarëad, sef Iesu. Ond efe a wadodd, gan ddywedyd, Nid ydwyf yn gwybod nac yn deall beth yr wyt yn ei ddywedyd. Ac efe a aeth allan i'r rhag-gyntedd, [a'r ceiliog a ganodd]. A'r forwynig a'i gwelodd drachefn, ac a ddechreuodd lefaru wrth y rhai a safent yn ymyl, Y mae hwn yn un o honynt. Ond efe a wadodd drachefn. Ac yn mhen ychydig, drachefn y rhai a safent yn ymyl a ddywedasant wrth Petr, Mewn gwirionedd, yr wyt ti yn un o honynt: canys hyd y nod Galilëad wyt,. Ond efe a ddechreuodd regu a thyngu, Nid adwaen y dyn hwn yr ydych yn dywedyd am dano. Ac yn ebrwydd y canodd y ceiliog yr ail waith. A Phetr a gofiodd y gair a ddywedasai yr Iesu wrtho, Cyn canu o'r ceiliog ddwywaith, ti a'm gwedi deirgwaith. A phan ystyriodd, efe a wylodd. Ac yn ebrwydd yn y boreu, yr Arch‐offeiriaid gyd â'r Henuriaid a'r Ysgrifenyddion, ie, yr holl Uchel‐Gynghor, a gydymgynghorasant, ac wedi rhwymo yr Iesu, hwy a'i dygasant ef ymaith, ac a'i traddodasant i Pilat. A gofynodd Pilat iddo, Ai tydi yw Brenin yr Iuddewon? Ac efe, gan ateb, a ddywed wrtho, Tydi ydwyt yn dywedyd. A'r Arch‐offeiriaid oeddynt yn ei gyhuddo ef o lawer o bethau. A Philat drachefn a ofynodd iddo, gan ddywedyd, Onid atebi di ddim? Wele o gymaint o bethau y maent yn dy gyhuddo. Ond yr Iesu mwyach nid atebodd ddim, yn gymaint ag i Pilat ryfeddu. Ac ar bob gwyl yr arferai efe ollwng yn rhydd iddynt un carcharor, yr hwn a ddeisyfent arno. Ac yr oedd un a elwid Barabbas, yr hwn oedd wedi ei garcharu gyd â'r rhai oeddynt wrthryfelwyr, y cyfryw oeddynt wedi gwneyd llofruddiaeth yn y gwrthryfel. A'r dyrfa a aeth i fyny, ac a ddechreuodd geisio ganddo wneuthur, fel yn wastad yr arferai wneuthur iddynt. A Philat a atebodd iddynt, gan ddywedyd, A fynwch chwi i mi i ryddhau i chwi Frenin yr Iuddewon? Canys yr oedd wedi dyfod i wybod, mai o herwydd cenfigen yr oedd yr Arch‐offeiriaid wedi ei draddodi ef. Yr Arch‐offeiriaid a gynhyrfasant y dyrfa, fel y gollyngai efe yn hytrach Barabbas yn rhydd iddynt. A Philat a atebodd ac a ddywedodd drachefn wrthynt, Beth, gan hyny, a fynwch i mi wneuthur i'r hwn yr ydych yn ei alw Brenin yr Iuddewon? A hwy a lefasant drachefn, Croeshoelier ef. Ond Pilat a ddywedodd wrthynt, Paham, canys pa ddrwg a wnaeth efe? Ond hwy a lefasant yn daer, Croeshoelier ef. A Philat yn ewyllysio boddloni y dyrfa, a ryddhaodd Barabbas iddynt, ac a draddododd i fyny yr Iesu, wedi ei fflangellu, i'w groeshoelio. A'r milwyr a'i harweiniasant ef i tu fewn y Llŷs, yr hwn yw y Pretorium, ac y maent yn galw ynghyd yr holl gatrawd, ac yn ei wisgo ef a phorphor; ac wedi plethu coron o ddrain, hwy a'i gosodasant arno; ac a ddechreuasant gyfarch iddo, Henffych well, Brenin yr Iuddewon! A churasant ei ben ef â chorsen, ac a boerasant arno, a chan fyned ar eu gliniau, hwy a'i haddolasant ef. Ac wedi iddynt ei watwar ef, hwy a ddiosgasant y porphor oddi am dano, ac a'i gwisgasant ef â'i ddillad ei hun, ac a'i harweiniasant allan i'w groeshoelio. Ac y maent yn dir‐gymhell i wasanaeth un ag oedd yn myned heibio — Simon o Cyrene, (fel yr oedd yn dyfod o'r wlad) tad Alexander a Rufus — fel y dygai ei groes ef. Ac y maent yn ei ddwyn ef i'r lle, Golgotha, yr hyn yw, wedi ei ddeongli, Lle Penglog: ac a fynent roddi iddo win wedi ei gymysgu a myr: ond efe nis cymmerodd. Ac y maent yn ei groeshoelio ef, ac yn rhanu yn eu plith ei ddillad ef, gan fwrw coelbren arnynt, pa beth a gawsai pob un. A'r drydedd awr ydoedd hi; a hwy a'i croeshoeliasant ef. Ac yr oedd arysgrifen ei drosedd ef wedi ei hysgrifenu uwchlaw, Brenin yr Iuddewon. A chyd âg ef y maent yn croeshoelio dau yspeiliwr: un ar y ddeheu, a'r llall ar ei law aswy. A'r rhai oedd yn myned heibio a'i cablasant ef, gan ysgwyd eu penau, a dywedyd, Ha! Tydi, yr hwn wyt yn tynu i lawr y Cysegr, ac yn ei adeiladu mewn tridiau, gwared dy hun, gan ddisgyn oddiar y groes. Yr un modd yr Arch‐offeiriaid hefyd yn gwatwar yn eu plith eu hunain, gyd â'r Ysgrifenyddion, a ddywedasant, Eraill a waredodd efe, ei hun nid yw yn gallu ei wared. Disgyned y Crist, Brenin Israel, yn wr oddiar y groes, fel y gwelom, ac y credom. A'r rhai oedd wedi eu croeshoelio gyd âg ef a'i difenwasant ef. A phan ddaeth y chweched awr, daeth tywyllwch dros yr holl ddaear hyd y nawfed. Ac ar y nawfed awr y dolefodd yr Iesu â llef uchel, Eloi, Eloi, lama sabachthani: Yr hyn ydyw, wedi ei ddeongli, Fy Nuw, Fy Nuw, Paham yr wyt wedi fy ngadael! A rhai o'r rhai oedd wedi sefyll gerllaw, pan glywsant, a ddywedasant, Wele, Y mae efe yn galw Elias. A rhyw un a redodd, ac a lanwodd yspwng o finegr, ac a'i diododd ef, gan ddywedyd, Gadêwch: gwelwn os ydyw Elias yn dyfod i'w dynu ef i lawr. A'r Iesu a lefodd a llef uchel, ac efe a anadlodd allan ei fywyd. A Llen y Cysegr a rwygwyd yn ddwy, oddi fyny hyd i waered. A phan welodd y Canwriad, yr hwn oedd yn sefyll gerllaw gyferbyn ag ef, iddo felly anadlu allan ei fywyd, efe a ddywedodd, Y dyn hwn oedd Fab Duw. Ac yr oedd yno wragedd hefyd, yn syllu o hirbell: yn mhlith y rhai yr oedd Mair Magdalen, a Mair mam Iago Fychan a Joses, a Salome: y rhai, pan yr oedd efe yn Galilea, a'i canlynasent ef, ac a weiniasent iddo: a gwragedd eraill lawer, y rhai a aethent i fyny gyd âg ef i Jerusalem. A phan oedd hi weithian yn hwyr, am ei bod y Parotoad, yr hwn yw y dydd cyn y Sabbath, daeth Joseph o Arimathea, Cynghorwr o sefyllfa anrhydeddus, yr hwn hefyd ei hun oedd yn dysgwyl Teyrnas Dduw, ac a aeth yn hyf i mewn at Pilat, ac a ddeisyfodd gorff yr Iesu. A Philat a ryfeddodd ei fod wedi marw eisioes; ac efe a alwodd ato y Canwriad, ac a ofynodd iddo os oedd efe wedi marw yn barod. A phan wybu efe oddiwrth y Canwriad, efe a roddodd y corff yn ewyllysgar i Joseph. Ac efe a brynodd lian costfawr, a chan ei dynu ef i lawr, efe a'i hamdôdd ef yn y llian, ac a'i gosododd ef mewn bedd a naddesid allan o'r graig; ac a dreiglodd gareg ar ddrws y bedd. A Mair Magdalen a Mair mam Joses a ddaliasant sylw pa le y dodid ef. A phan oedd y Sabbath drosodd, Mair Magdalen, a Mair mam Iago, a Salome, a brynasant beraroglau, fel, pan y deuent, yr eneinient ef. Ac yn fore iawn ar y Dydd Cyntaf o'r wythnos, y maent yn dyfod at y bedd, a'r haul wedi codi. A hwy a ddywedasant wrthynt eu hunain, Pwy a dreigla ymaith i ni y maen oddiwrth ddrws y bedd? Ac wedi edrych i fyny, y maent yn dal sylw fod y maen wedi ei dreiglo yn ol; canys yr oedd efe yn fawr iawn. Ac wedi iddynt fyned i mewn i'r bedd, hwy a welsant ddyn ieuanc yn eistedd o'r tu deheu, ac yr oedd am dano wisg wen: a hwy a gawsant ddychryn. Ac efe a ddywed wrthynt, Na ddychrynwch. Yr ydych yn ceisio Iesu o Nazareth, yr hwn a groeshoelwyd: efe a gyfododd: nid yw efe yma: wele y man y dodasant ef. Eithr ewch ymaith: dywedwch i'w Ddysgyblion ef ac i Petr, ei fod ef yn myned o'ch blaen chwi i Galilea: yno chwi a'i gwelwch ef, fel y dywedodd i chwi. A hwy, wedi myned allan, a ffoisant oddiwrth y bedd; canys cryndod a syndod a'u goddiweddodd: ac ni ddywedasant ddim wrth neb; canys yr oeddynt yn ofni. [Ac wedi ei adgyfodi yn fore y Dydd Cyntaf o'r wythnos, efe a ymddangosodd yn gyntaf i Mair Magdalen, o'r hon yr oedd efe wedi bwrw allan saith o gythreuliaid. Hithau a aeth, ac a fynegodd i'r rhai a fuasent gyd âg ef, yn awr yn galaru ac yn wylo: a hwynt‐hwy, pan glywsant ei fod ef yn fyw, a'i weled o hono ganddi, a anghredasant. Ond ar ol y pethau hyn, efe a amlygwyd mewn ffurf wahanol i ddau o honynt, fel yr ymdeithient ac yr aethent i'r wlad. A hwythau a aethant ymaith, ac a fynegasant i'r gweddill: ac ni chredasant iddynt hwythau. Yn ddiweddarach, efe a amlygwyd i'r Un‐ar‐Ddeg eu hunain, fel yr eisteddent i fwyta, ac efe a warthruddodd eu hanghrediniaeth a'u calon‐galedwch, am na chredasant y rhai a'i gwelsant ef wedi iddo gael ei gyfodi. A dywedodd efe wrthynt, Ewch i'r holl fyd, A phregethwch yr Efengyl i'r holl greadigaeth: A phwy bynag a gredo, ac a fedyddier, a fydd cadwedig: Eithr yr hwn ni chredo a gondemnir. A'r arwyddion hyn a ganlynant y rhai a gredant: Yn fy enw i y bwriant allan gythreuliaid; llefarant â thafodau; ac yn eu dwylaw y codant seirff i fyny; ac os yfant ddim marwol ni wna iddynt ddim niwed; ar y cleifion y gosodant eu dwylaw, a hwy a fyddant iach. Yr Arglwydd Iesu gan hyny, wedi llefaru wrthynt, a gymmerwyd i fyny i'r Nef, ac a eisteddodd ar ddeheulaw Duw. A hwythau a aethant allan, ac a bregethasant yn mhob man, a'r Arglwydd yn cyd‐weithio, ac yn cadarnhâu y Gair, trwy yr arwyddion oeddynt yn canlyn.] Yn gymaint ag i lawer ymgynyg i osod mewn trefn adroddiad o'r pethau sydd wedi eu llwyr‐gadarnhâu yn ein plith ni, megys y traddodasant hwy i ni, sef, y rhai oeddynt o'r dechreuad yn llygad‐dystion a gweinidogion y Gair: rhyngodd bodd i minau hefyd, wedi manwl‐ddylyn yr oll yn gywir o'r dechreuad, i ysgrifenu atat mewn iawn drefn, O Anrhydeddusaf Theophilus, fel y cait lawn‐wybod y sicrwydd am y pethau y'th holwyddorwyd ynddynt. Yr oedd yn nyddiau Herod, Brenin Judea, ryw offeiriad a'i enw Zechariah, o ddosparth dyddiol Abiah, ac yr oedd iddo wraig o ferched Aaron, a'i henw Elisabeth. Ac yr oeddynt ill dau yn gyfiawn gerbron Duw, yn rhodio yn holl orchymynion ac ordinhadau yr Arglwydd yn ddiargyhoedd. Ac nid oedd plentyn iddynt, am fod Elisabeth yn anmhlantadwy, ac yr oeddynt ill dau wedi myned yn mlaen yn mhell mewn dyddiau. A bu ac efe yn gwasanaethu swydd offeiriad yn nhrefn ei ddosparth gerbron Duw, yn ol arfer yr offeiriadaeth, syrthiodd i'w ran trwy goelbren i fyned i mewn i Gysegr yr Arglwydd i arogl‐darthu. A holl luaws y bobl oedd yn gweddio tu allan ar awr yr arogl‐darthiad. Ac ymddangosodd iddo Angel yr Arglwydd yn sefyll o'r tu deheu i Allor yr Arogl‐darth: A Zechariah, pan welodd, a gythryblwyd, ac ofn a syrthiodd arno ef. Ond yr Angel a ddywedodd wrtho, Nac ofna, Zechariah; oblegyd gwrandawyd dy ddeisyfiad, a'th wraig Elisabeth a ddwg i ti fab, a thi a elwi ei enw ef Ioan. A bydd i ti lawenydd a gorfoledd, a llawer a lawenychant ar ei enedigaeth ef. Canys mawr fydd efe yn ngolwg yr Arglwydd, ac nid ŷf efe ddim gwin, na diod feddwol arall; ac efe a lenwir o'r Yspryd Glân o grôth ei fam: a llawer o feibion Israel a ddychwel efe at yr Arglwydd eu Duw; ac efe a â o'i flaen ef, yn ei olwg, yn yspryd a gallu Elias, I droi calonau tadau at blant, A rhai anufydd i gallineb rhai cyfiawn, I barotoi i'r Arglwydd bobl hollol ddarparedig. A dywedodd Zechariah wrth yr Angel, Pa fodd y gwybyddaf fi hyn? Canys henafgwr wyf fi, a'm gwraig hefyd wedi myned yn mhell mewn dyddiau. A'r Angel a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Myfi wyf Gabriel, yr hwn wyf yn sefyll yn mhresenoldeb Duw; ac fe'm hanfonwyd i lefaru wrthyt, ac i fynegu i ti y newyddion da hyn. Ac wele, ti a fyddi ddystaw, ac heb allu llefaru, hyd y dydd y daw oddiamgylch y pethau hyn, o herwydd na chredaist fy ngeiriau, y rhai a gyflawnir yn eu hamser priodol. Ac yr oedd y bobl yn dysgwyl am Zechariah, ac yr oeddynt yn rhyfeddu at ei fod yn aros cyhyd yn y Cysegr. A phan ddaeth efe allan, ni allai efe lefaru wrthynt; a hwy a wybuant iddo weled gweledigaeth yn y Cysegr: ac yr oedd efe ei hun yn amneidio iddynt; ac efe a barhâodd yn fud. A bu, fel y cyflawnwyd dyddiau ei wasanaeth swyddogol, efe a aeth ymaith i'w dŷ ei hun. Ac ar ol y dyddiau hyn, ei wraig Elisabeth a feichiogodd, ac a ymguddiodd yn hollol am bum mis, gan ddywedyd, Fel hyn y mae yr Arglwydd wedi gwneyd â mi mewn dyddiau yn y rhai yr edrychodd arnaf, i dynu ymaith fy ngwaradwydd yn mhlith dynion. Ac yn y chweched mis, anfonwyd yr Angel Gabriel oddiwrth Dduw, i ddinas yn Galilea o'r enw Nazareth, at forwyn wedi ei dyweddio i wr o'r enw Joseph, o dŷ Dafydd; ac enw y forwyn oedd Mair. A'r Angel a ddaeth i mewn ati, ac a ddywedodd, Henffych well! Tydi sydd wedi derbyn ffafr: yr Arglwydd sydd gyd â thi. A hithau a gythryblwyd yn ddirfawr wrth yr ymadrodd, ac a ymresymodd ynddi ei hun pa fath gyfarchiad oedd hwn. A'r Angel a ddywedodd wrthi, Nac ofna Mair: canys ti a gefaist ffafr gyd â Duw. Ac wele, ti a feichiogi yn dy grôth, ac a esgori ar fab, ac a elwi ei enw ef IESU. Hwn fydd mawr, a Mab y Goruchaf y gelwir ef; ac iddo y rhydd yr Arglwydd Dduw orsedd Dafydd ei dâd; ac efe a deyrnasa ar dŷ Jacob yn dragywydd: ac i'w Deyrnas ni bydd diwedd. A dywedodd Mair wrth yr Angel, Pa fodd y bydd hyn, gan nad adwaen i wr? A'r Angel a atebodd ac a ddywedodd wrthi, Yr Yspryd Glân a ddaw arnat ti, a Gallu y Goruchaf a gysgoda drosot: am hyny hefyd y peth sanctaidd a genedlir, a elwir yn FAB DUW. Ac wele, Elisabeth, dy gares, y mae hithau hefyd wedi beichiogi ar fab yn ei henaint; a hwn yw y chweched mis iddi hi, yr hon a arferid alw yn anmhlantadwy. Canys pob gair oddiwrth Dduw ni fydd yn anmhosibl. A dywedodd Mair, Wele law‐forwyn yr Arglwydd: bydded i mi yn ol dy air di. A'r Angel a aeth ymaith oddiwrthi. A Mair a gyfododd yn y dyddiau hyny, ac a aeth i'r mynydd‐dir ar frys, i ddinas yn Juda; ac a aeth i mewn i dŷ Zechariah, ac a gyfarchodd well i Elisabeth. A bu pan glybu Elisabeth gyfarchiad Mair, i'r baban yn ei chrôth hi lamu: ac Elisabeth a lanwyd o'r Yspryd Glân; a llefain a wnaeth â llef uchel, ac a ddywedodd,— Bendigedig wyt ti yn mhlith gwragedd, A bendigedig yw ffrwyth dy grôth di. Ac o ba le y mae hyn i mi, Fod mam fy Arglwydd yn dyfod ataf fi? Canys wele, mor gynted ag y daeth llais dy gyfarchiad i'm clustiau, Y baban a lamodd gan orfoledd yn fy nghrôth. A gwyn fyd yr hon a gredodd: Canys bydd cwblhâd i'r pethau sydd wedi eu llefaru wrthi oddiwrth yr Arglwydd. A dywedodd Mair, Y mae fy enaid yn mawrhâu yr Arglwydd, A gorfoleddodd fy yspryd yn Nuw fy Iachawdwr. Canys efe a edrychodd ar iselder ei law‐forwyn; Canys wele, o hyn allan, yr holl genedlaethau a'm galwant yn wynfydedig; Canys yr Hwn sydd Alluog a wnaeth i mi bethau mawrion, A sanctaidd yw ei Enw; A'i drugaredd ef sydd i genedlaethau a chenedlaethau I'r rhai a'i hofnant ef. Efe a wnaeth gadernid â'i fraich: Efe a lwyr‐wasgarodd y beilchion yn nychymyg eu calon; Efe a dynodd i lawr y Cedyrn oddiar orseddau; Ac a ddyrchafodd yr isel: Y newynog a lanwodd efe â phethau da; A'r rhai goludog a anfonodd efe ymaith yn weigion. Efe a gynorthwyodd ei was Israel, Er mwyn iddo gofio trugaredd (Fel y llefarodd efe wrth ein Tadau) I Abraham a'i hâd ef yn dragywydd. A Mair a arosodd gyd â hi ynghylch tri mis, ac a ddychwelodd i'w thŷ ei hun. A'r amser i Elisabeth i esgor a gyflawnwyd: a hi a esgorodd ar fab. A'i chymydogion a'i pherthynasau a glywsant fawrhâu o'r Arglwydd ei drugaredd tu ag ati; a hwy a gyd‐lawenychasant â hi. A bu, ar yr wythfed dydd, hwy a ddaethant i enwaedu y plentyn; ac yr oeddynt am ei alw ar enw ei dâd, Zechariah. A'i fam a atebodd ac a ddywedodd, Nid felly: ond Ioan y gelwir ef. A hwy a ddywedasant wrthi, Nid oes neb o'th waedoliaeth a elwir ar yr enw hwn. A hwy a wnaethant amnaid ar ei dâd ef, pa beth y mynai efe iddo gael ei alw. Ac wedi iddo ofyn am ysgrif‐lech, efe a ysgrifenodd, gan ddywedyd, Ioan yw ei enw ef. A rhyfeddu a wnaethant oll. Ac agorwyd ei enau ef yn ebrwydd, a'i dafod a ryddhawyd; ac efe a lefarodd, gan fendithio Duw. Ac ofn a ddaeth ar bawb oedd yn trigo o'u hamgylch; a thrwy holl fynydd‐dir Judea y soniwyd llawer am yr holl ddywediadau hyn. A phawb a'r a'u clywsant a'u gosodasant yn eu calonau, gan ddywedyd, Beth fydd y plentyn hwn? Canys llaw yr Arglwydd hefyd oedd gyd âg ef. A Zechariah ei dâd a lanwyd o'r Yspryd Glân, ac a broffwydodd, gan ddywedyd, Bendigedig yw yr Arglwydd, Duw Israel; Canys efe a dalodd ymweliad, Ac a wnaeth Brynedigaeth i'w Bobl; Ac efe a ddyrchafodd Gorn Iachawdwriaeth i ni, Yn nhŷ Dafydd ei was: Megys y llefarodd drwy enau ei Brophwydi sanctaidd, Y rhai oedd o'r Dechreuad; Sef, Iachawdwriaeth oddiwrth ein gelynion, Ac o law pawb a'n cashânt: I wneyd trugaredd â'n Tâdau, Ac i gofio ei Gyfamod sanctaidd: Y llw a dyngodd wrth Abraham ein Tâd; I roddi i ni (wedi i ni gael ein gwaredu o law gelynion) Fel y gwasanaethom ef yn gyhoeddus yn ddiofn, Mewn sancteiddrwydd a chyfiawnder yn ei olwg ef ein holl ddyddiau. A thithau hefyd, blentyn, a gei dy alw yn Brophwyd y Goruchaf; Canys ti a âi o flaen gwyneb yr Arglwydd, i barotoi ei ffyrdd ef; I roddi gwybodaeth Iachawdwriaeth i'w Bobl yn maddeuant eu pechodau, O herwydd calon trugaredd ein Duw, trwy yr hon y Wawr‐ddydd o'r uchelder a ymwel a ni, I lewyrchu i'r rhai sydd yn eistedd mewn tywyllwch a chysgod angeu, I gyfeirio ein traed i ffordd tangnefedd. A'r plentyn a gynyddodd, ac a gryfhâwyd mewn yspryd, a bu yn y diffeith‐leoedd hyd ddydd ei ymddangosiad cyhoeddus i Israel. A bu yn y dyddiau hyny, fyned allan ddeddf oddiwrth Cesar Augustus, i wneyd cofrestriad o'r holl fyd trigianol. Hwn oedd y cofrestriad cyntaf, pan yr oedd Quirinus yn Llywodraethwr Syria. A phawb a aethant i gofrestru eu hunain, bob un i'w ddinas ei hun. A Joseph hefyd a aeth i fyny o Galilea, allan o ddinas Nazareth, i Judea, i Ddinas Dafydd, yr hon a elwir Bethlehem, am ei fod o dŷ a theulu Dafydd, i gofrestru ei hun gyd â Mair, yr hon oedd wedi ei dyweddio iddo, yr hon oedd yn feichiog. A bu, tra yr oeddynt hwy yno, cyflawnwyd ei dyddiau hi i esgor. A hi a esgorodd ar ei mab cyntaf‐anedig, ac a'i rhwymodd mewn dillad magu, ac a'i gosododd i lawr mewn preseb, am nad oedd iddynt le yn yr Orphwysfan. Ac yr oedd yn y wlâd hono fugeiliaid yn trigo allan yn y maes, yn cadw gwyliadwriaeth drwy y nos ar eu praidd. Ac Angel yr Arglwydd a safodd yn sydyn gerllaw, a Gogoniant yr Arglwydd a ddysgleiriodd o amgylch iddynt: ac ofnasant gyd âg ofn mawr. A dywedodd yr Angel wrthynt, Nac ofnwch: canys wele, yr wyf yn mynegi i chwi newyddion da o lawenydd mawr, yr hwn a fydd i'r holl bobl: canys ganwyd i chwi heddyw, yn Ninas Dafydd, IACHAWDWR, yr hwn yw CRIST YR ARGLWYDD. A hyn fydd yr arwydd i chwi: Chwi a gewch faban wedi ei rwymo â dillad plentyn, ac yn gorwedd mewn preseb. Ac yn ddisymwth fe ddaeth gyd â'r Angel luaws o Lu Nefol, yn molianu Duw, ac yn dywedyd, Gogoniant yn y goruchafion i Dduw, Ac ar y ddaear tangnefedd yn mhlith dynion o ewyllys da. A bu, pan aeth ymaith yr Angelion oddiwrthynt i'r Nef, y bugeiliaid a ddywedasant wrth eu gilydd, Awn drosodd hyd Bethlehem, a gwelwn y peth hwn a wnaethpwyd, yr hwn a hysbysodd yr Arglwydd i ni. A hwy a ddaethant ar frys, ac a ddarganfyddasant Mair a Joseph, a'r baban yn gorwedd yn y preseb. A phan welsant, hwy a wnaethant yn hysbys ynghylch y gair a lefarwyd wrthynt am y plentyn hwn. A phawb a'r a'u clywsant a ryfeddasant am y pethau a lefarwyd gan y bugeiliaid wrthynt. Ond Mair a gadwodd yn ddyogel yr holl ddywediadau hyn, gan eu pwyso yn ei chalon. A'r bugeiliaid a ddychwelasant, gan ogoneddu a molianu Duw am yr holl bethau a glywsant ac a welsant, fel y llefarwyd wrthynt. A phan gyflawnwyd wyth niwrnod i'w enwaedu ef, hefyd galwyd ei enw ef IESU, yr hyn y galwyd ef gan yr Angel, cyn y beichiogwyd arno yn y grôth. A phan gyflawnwyd dyddiau eu puredigaeth hwy, yn ol Cyfraith Moses, hwy a'i dygasant ef i fyny i Jerusalem, i'w gyflwyno i'r Arglwydd, (fel y mae yn ysgrifenedig yn Nghyfraith yr Arglwydd, Pob gwrryw cyntaf‐anedig a elwir yn Sanctaidd i'r Arglwydd, Ex 13:2, 12, 13), ac i roddi aberth yn ol yr hyn sydd wedi ei ddywedyd yn Nghyfraith yr Arglwydd, Pâr o ddurturod, neu ddau gyw colomen. Ac wele, yr oedd gwr yn Jerusalem, a'i enw Simeon; a'r gwr hwn oedd gyfiawn a duwiol, yn dysgwyl am Ddiddanwch yr Israel; a'r Yspryd Glân oedd arno. Ac yr oedd wedi ei ddadguddio iddo gan yr Yspryd Glân, na welai farwolaeth cyn iddo weled Crist yr Arglwydd. Ac efe a ddaeth yn yr Yspryd i'r Deml, a phan yr oedd rhieni y plentyn Iesu yn ei ddwyn i'r Deml, fel y gwnelent yn ol arferiad y Gyfraith mewn perthynas iddo, efe ei hun hefyd a'i derbyniodd ef i'w freichiau, ac a fendithiodd Dduw, ac a ddywedodd, Yn awr y gollyngi dy was, O Feistr, Yn ol dy air, mewn tangnefedd: Canys gwelodd fy llygaid dy Iachawdwriaeth, Yr hon a barotoaist gerbron wyneb yr holl bobloedd:— Goleuni i fod yn Ddadguddiad i'r Cenedloedd, Ac yn Ogoniant i'th Bobl Israel. A'i Dâd a'i Fam oeddynt yn rhyfeddu am y pethau a lefarwyd am dano. A Simeon a'u bendithiodd hwynt, ac a ddywedodd wrth Mair ei Fam ef, Wele, hwn sydd yn cael ei osod i fod er cwymp ac er cyfodiad i lawer yn yr Israel, ac i fod er arwydd yr hwn y mae dywedyd yn ei erbyn: (ac hefyd drwy dy enaid dy hun yr â cleddyf) fel y byddo i feddyliau allan o lawer o galonau gael eu dadguddio. Ac yr oedd Anna, Proffwydes, merch Phanuel, o lwyth Aser: hon oedd oedranus iawn, ac a fu byw gyd â gwr saith mlynedd o'i morwyndod, a hi yn weddw hyd ei bod yn bedair a phedwar ugain mlwydd oed, yr hon nid ymadawodd o'r Deml, gan wasanaethu Duw mewn ymprydiau a deisyfiadau ddydd a nos. A hi gan ddyfod i fyny yr awr neillduol hono, a dalodd ddiolch i Dduw, ac a lefarodd am dano wrth bawb oedd yn dysgwyl Prynedigaeth Jerusalem. Ac wedi iddynt orphen pob peth yn ol Cyfraith yr Arglwydd, hwy a ddychwelasant i Galilea, i'w Dinas eu hun, Nazareth. A'r plentyn a gynyddodd, ac a gryfhâodd, wedi ei lanw â doethineb, a gras Duw oedd arno ef. A'i rieni ef a arferent fyned bob blwyddyn i Jerusalem ar Wyl y Pasc. A phan oedd efe yn ddeuddeng mlwydd oed, a hwynt‐hwy yn myned i fyny yn ol arferiad yr Wyl, ac wedi gorphen y dyddiau, pan yr oeddynt yn dychwelyd, y bachgen Iesu a arosodd ar ol yn Jerusalem; a'i rieni nis gwyddent. Eithr gan dybied ei fod ef yn mysg eu cymdeithion, hwy a aethant daith diwrnod; ac a'i ceisiasant ef yn ddyfal yn mhlith eu perthynasau a'u cydnabod. Ac heb ei gael, hwy a ddychwelasant i Jerusalem, gan ei geisio yn ddyfal. A bu, ar ol tridiau, gael o honynt hwy ef yn y Deml, yn eistedd yn nghanol y Dysgawdwyr, yn gwrando arnynt, ac yn eu holi hwynt. A'r rhai oll a'i clywsant ef a synasant at ei ddeall a'i atebion. A phan welsant ef, hwy a darawyd â syndod. A dywedodd ei Fam wrtho, Fy mhlentyn, Paham y gwnaethost fel hyn a ni? Wele, dy Dâd a minau, yn ofidus iawn, fuom yn dy geisio di. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Paham y ceisiech fi? Oni wybuech fod yn rhaid i mi fod yn Nhy fy Nhad? A hwy ni ddeallasant y gair a lefarodd efe wrthynt. Ac efe a aeth i waered gyd â hwynt, ac a ddaeth i Nazareth, ac a fu ufydd iddynt. A'i fam ef a gadwodd yn ddyogel yr holl ddywediadau hyn yn ei chalon. A'r Iesu a gynyddodd mewn doethineb a chorffolaeth, ac mewn ffafr gyd â Duw a dynion. Yn y bymthegfed flwyddyn o Deyrnasiad Tiberius Cesar, a Phontius Pilat yn Llywodraethwr Judea, a Herod yn Detrarch Galilea, a Philip ei Frawd yn Detrarch gwlad Iturea a Trachonitis, a Lysanias yn Detrarch Abilene, yn Arch‐offeiriadaeth Annas a Chaiaphas, y daeth Gair Duw at Ioan, mab Zechariah, yn y Diffaethwch. Ac efe a ddaeth i bob goror o amgylch yr Iorddonen, gan bregethu Bedydd Edifeirwch er Maddeuant pechodau: fel y mae yn ysgrifenedig yn Llyfr Geiriau Esaiah y Proffwyd, Llef un yn llefain, Yn y Diffaethwch parotowch ffordd yr Arglwydd, Gwnewch ei lwybrau ef yn uniawn; Pob ceunant a lenwir, A phob mynydd a bryn a ostyngir; Y gŵyr‐bethau ydynt i fod yn uniawn, A'r lleoedd geirwon i fod yn ffyrdd gwastad: A phob cnawd a wêl Iachawdwriaeth Duw. Am hyny, efe a ddywedodd wrth y torfeydd sydd yn myned allan i'w bedyddio ganddo, O hiliogaeth gwiberod! Pwy a'ch rhybuddiodd chwi i ffoi oddiwrth y Digofaint sydd ar ddyfod? Dygwch gan hyny ffrwythau teilwng o'r Edifeirwch. Ac na ddechreuwch ddywedyd ynoch eich hunain, Y mae genym ni Abraham yn Dâd: canys yr wyf yn dywedyd i chwi, y dichon Duw allan o'r meini hyn gyfodi plant i Abraham. Ac yr awrhon hefyd y mae y fwyell wedi ei gosod wrth wreiddyn y prenau: pob pren gan hyny a'r nid yw yn dwyn ffrwyth da sydd yn cael ei dori i lawr, ac yn cael ei daflu i dân. A'r torfeydd oeddynt yn gofyn iddo, gan ddywedyd, Pa beth gan hyny a wnawn ni? Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yr hwn sydd ganddo ddwy o is‐wisgoedd, bydded iddo ranu â'r hwn nid oes ganddo, a'r hwn sydd ganddo fwyd, gwneled yr un modd. A daeth hefyd y Treth‐gasglwyr i'w bedyddio, ac a ddywedasant wrtho, Athraw, Pa beth a wnawn ni? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Na chodwch fwy na'r hyn sydd wedi ei drefnu i chwi. A milwyr hefyd a ofynent iddo, gan ddywedyd, A pha beth a wnawn ninau? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Na fynwch arian oddiwrth neb trwy ei ddychrynu, na cham‐gyhuddwch, a byddwch foddlawn ar eich cyflogau. Ac fel yr oedd y bobl yn dysgwyl, a phawb yn ymresymu yn eu calonau ynghylch Ioan, rhag ofn mai efe yw y Crist, Ioan a atebodd, gan ddywedyd wrthynt bawb oll, Yr wyf fi yn wir yn eich bedyddio chwi â dwfr; ond y mae Un Cryfach na myfi yn dyfod, yr hwn nid ydwyf fi deilwng i ddatod carai ei sandalau: efe ei hun a'ch bedyddia chwi yn yr Yspryd Glân ac yn tân. Yr hwn y mae ei nith‐raw yn ei law, i lwyr‐lanhâu ei lawr‐dyrnu: ac efe a gasgl yr ŷd i'w ysgubor, ond yr us a lwyr‐losga efe â thân anniffoddadwy. A chyd â llawer o gynghorion eraill gan hyny y pregethodd efe yr Efengyl i'r Bobl. Ond Herod y Tetrarch, pan geryddwyd ef ganddo am Herodias, gwraig ei Frawd, ac am yr holl bethau drwg a wnaeth Herod, a ychwanegodd hyn hefyd uwchlaw yr oll:— hyd y nod efe a gauodd ar Ioan mewn carchar. A bu, pan yr oedd yr holl bobl wedi eu bedyddio, a'r Iesu hefyd wedi ei fedyddio, ac yn gweddïo, agorwyd y Nef, a disgynodd yr Yspryd Glân, mewn llun corfforol, fel colomen, arno ef; a llef a ddaeth allan o'r Nef, Ti wyt fy Anwyl Fab; Ynot ti y'm boddlonwyd. A'r Iesu ei hun oedd, pan ddechreuodd, ynghylch deng mlwydd ar hugain oed, ac yr oedd (fel y tybid) yn Fab Joseph, Fab Eli, Fab Mattathah [Gr. Matthat ], Fab Lefi, Fab Malchiah [Gr. Melchi ], Fab Jannai, Fab Joseph, Fab Mattathiah, Fab Amos, Fab Nahum, Fab Azaliah [Gr. Esli ], Fab Naggai [Neu, Nogah ] Fab Mahath [Gr. Maath ], Fab Mattathiah, Fab Simei [Gr. Semein ] Fab Josech, Fab Juda, Fab Johanah [Gr. Johanan ], Fab Rhesa, Fab Zerubbabel, Fab Salathiel [Neu, Shealtiel ], Fab Neriah [Gr. Neri ], Fab Malchiah [Gr. Melchi ], Fab Adaiah [Gr. Addi ], Fab Cosam, Fab Elmadam, Fab Er, Fab Josaia [Gr. Joses ], Fab Eliezer, Fab Jorim, Fab Mattathah, Fab Lefi, Fab Simeon, Fab Juda [Gr. Judas ] Fab Joseph, Fab Jonam, Fab Eliacim, Fab Melëa, Fab Menna, Fab Mattathah, Fab Nathan, Fab DAFYDD, Fab Jesse, Fab Obed, Fab Boaz, Fab Salma Fab Nason, Fab Amminadab, Fab Ram, Fab Hesron, Fab Phares, Fab Juda, Fab Jacob, Fab Isaac, Fab ABRAHAM, Fab Terah, Fab Nachor, Fab Serug, Fab Reu, Fab Peleg, Fab Heber, Fab Selah, Fab Cenan [Gr. Kainan. Y mae ei enw yn y LXX., ond nid yn yr Heb.], Fab Arphacsad, Fab Shem [Gr. Sem ], Fab NOAH, Fab Lamech, Fab Methuselah, Fab Enoch, Fab Jered, Fab Mahalaleel, Fab Cenan, Fab Enos, Fab Seth, Fab Adda, Fab DUW. A'r Iesu yn llawn o'r Yspryd Glân, a ddychwelodd oddiwrth yr Iorddonen, ac a arweiniwyd yn yr Yspryd yn yr Anialwch ddeugain niwrnod, yn cael ei demtio gan y Diafol. Ac ni fwytäodd efe ddim yn y dyddiau hyny, a phan oeddynt ar derfynu, daeth chwant bwyd arno. A'r Diafol a ddywedodd wrtho, Os Mab Duw ydwyt ti, dywed wrth y gareg hon, fel y delo yn fara. A'r Iesu a atebodd iddo,, Y mae yn ysgrifenedig, Nid ar fara yn unig y bydd byw dyn. Ac efe a'i harweiniodd i fyny, ac a ddangosodd iddo holl deyrnasoedd y byd cyfaneddol mewn eiliad o amser: a'r Diafol a ddywedodd wrtho, I ti y rhoddaf yr awdurdod hon oll, a'u gogoniant hwynt: canys i mi y mae wedi ei throsglwyddo; ac i bwy bynag yr ewyllysiwyf, y rhoddaf hi. Os tydi, gan hyny, a addoli o fy mlaen i, eiddot ti fydd hi oll. A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho,, Y mae yn ysgrifenedig, Yr Arglwydd dy Dduw a addoli, Ac efe yn unig a wasanaethi. Ac efe a'i harweiniodd ef i Jerusalem, ac a'i gosododd ar binacl y Deml, ac a ddywedodd wrtho, Os Mab Duw wyt ti, bwrw dy hun i lawr oddiyma: canys ysgrifenedig yw, Efe a orchymyn i'w Angelion am danat ti, dy warchod di, Ac, Ar eu dwylaw y'th ddygant, Rhag i ti un amser daro dy droed wrth gareg. A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Y mae hyn wedi ei lefaru, Na themtia i'r eithaf yr Arglwydd dy Dduw. Ac wedi i'r Diafol orphen pob temtasiwn, efe a ymadawodd oddiwrtho ef hyd dymhor cyfaddas. A'r Iesu a ddychwelodd yn nerth yr Yspryd i Galilea: a sôn a aeth allan drwy yr holl wlad o amgylch am dano ef. Ac yr oedd efe yn dysgu yn eu Synagogau hwynt, ac yn cael ei ganmol gan bawb. Ac efe a ddaeth i Nazareth, lle yr oedd efe wedi ei ddwyn i fyny: ac efe a aeth, yn ol ei arfer, ar y Sabbath, i'r Synagog, ac a safodd i fyny i ddarllen. A rhoddwyd iddo Lyfr y Proffwyd Esaiah: ac wedi iddo agoryd y Llyfr, efe a gafodd y lle yr oedd yn ysgrifenedig, Yspryd yr Arglwydd sydd arnaf fi: O herwydd efe a'm heneiniodd i bregethu Efengyl i dlodion; Y mae wedi fy anfon i gyhoeddi rhyddhâd i gaethion Ac adferiad golwg i ddeillion; I ollwng ymaith mewn rhyddid y rhai oedd wedi tori eu calon, I gyhoeddi blwyddyn gymeradwy yr Arglwydd. Ac wedi iddo gau y Llyfr, efe a'i rhoddodd yn ol i'r is‐swyddog, ac a eisteddodd, a llygaid pawb yn y Synagog oedd yn craffu arno. Ac efe a ddechreuodd ddywedyd wrthynt, Heddyw y mae yr Ysgrythyr hon wedi ei chyflawnu yn eich clustiau chwi. Ac yr oedd pawb yn dwyn tystiolaeth iddo, ac yn rhyfeddu at y geiriau grasusol a ddeuent allan o'i enau ef; ac yr oeddynt yn dywedyd, Onid hwn yw Mab Joseph? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Er mwyn pob dim chwi a ddywedwch wrthyf y ddammeg hon, Feddyg, iachâ dy hun: pa bethau bynag y clywsom eu gwneuthur yn Capernaum, gwna yma hefyd yn dy wlâd dy hun. Ac efe a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, Nid oes un proffwyd yn gymeradwy yn ei wlâd ei hun. Eithr mewn gwirionedd meddaf i chwi, Llawer o wragedd gweddwon oedd yn nyddiau Elias yn yr Israel, pan gauwyd y Nefoedd dair blynedd a chwe mis, fel y bu newyn mawr dros yr holl dir: ac nid at yr un o honynt yr anfonwyd Elias, ond i Sarephtah yn Sidon, at wraig weddw. A llawer o wahan‐gleifion oedd yn yr Israel, yn amser Elisëus y Proffwyd; ond ni lanhâwyd yr un o honynt, ond Naaman y Syriad. A phawb yn y Synagog a lanwyd o gynddaredd pan glywsant y pethau hyn: ac a godasant i fyny, ac a'i bwriasant ef allan o'r Ddinas, ac a'i harweiniasant ef hyd at ael y bryn, ar yr hwn yr oedd eu Dinas hwy wedi ei hadeiladu, fel y bwrient ef i lawr dros y dibyn. Ond efe a aeth drwy eu canol hwynt, ac a aeth ei ffordd. Ac efe a ddaeth i waered i Capernaum, dinas yn Galilea: ac yr oedd efe yn eu dysgu hwy ar y Sabbathau: a hwy a darawyd â syndod mawr wrth ei ddysgeidiaeth ef: canys gyd âg awdurdod yr oedd ei Air ef. Ac yn y Synagog yr oedd dyn a chanddo yspryd cythraul aflan; ac efe a waeddodd â llef uchel,, Ah! Pa beth sydd i ni a wnelom â thi, Iesu o Nazareth? A ddaethost i'n dyfetha ni? Mi a'th adwaen di, pwy ydwyt; un Sanctaidd Duw. A'r Iesu a'i ceryddodd ef, gan ddywedyd, Dystawa, a thyred allan o hono. A'r cythraul, wedi ei daflu ef i'r canol, a ddaeth allan o hono, heb wneuthur dim niwed iddo. A syndod a ddaeth ar bawb, a hwy a gyd-ymddiddanasant â'u gilydd, gan ddywedyd, Beth yw y Gair hwn? canys mewn awdurdod a gallu y mae efe yn gorchymyn i'r ysprydion aflan, ac y maent yn dyfod allan. A sôn am dano ef a aeth allan i bob lle o'r wlâd oddi amgylch. A phan gyfododd efe o'r Synagog, efe a aeth i mewn i dŷ Simon. A chwegr Simon oedd yn dyoddef oddiwrth dwymyn galed, a hwy a atolygasant iddo drosti hi. Ac efe a safodd uwch ei phen hi, ac a geryddodd y dwymyn, a hi a'i gadawodd hi: ac yn y fan hi a gyfododd, ac a weinyddodd iddynt. A'r haul yn machlud, pawb a'r oedd ganddynt gleifion o amryw glefydau a'u dygasant ato ef; ac efe, gan roddi ei ddwylaw ar bob un o honynt, a'u hiachâodd hwynt. A chythreuliaid hefyd a aethant allan o lawer, gan waeddi allan, a dywedyd, Ti yw Mab Duw: ac efe a'u ceryddodd, ac ni chaniatâodd iddynt lefaru, canys hwy a wyddent mai efe ei hun oedd y Crist. A phan ddaeth yn ddydd, efe a ddaeth allan, ac a aeth i le anghyfanedd, a'r torfeydd oeddynt yn ei daer‐geisio ef, ac a ddaethant hyd ato, ac a fynent ei atal, fel nad elai efe oddiwrthynt. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae yn rhaid i mi bregethu newyddion da Teyrnas Dduw i ddinasoedd eraill hefyd: canys ar gyfer hyn y'm danfonwyd. Ac yr oedd efe yn pregethu yn Synagogau Galilea. A bu, a'r bobl yn gwasgu arno, ac yn gwrando Gair Duw, yr oedd efe ei hun hefyd yn sefyll wrth Lyn Gennesaret: ac efe a welodd ddau gwch yn sefyll wrth y Llyn: ond y pysgodwyr, wedi myned allan o honynt, oeddynt yn golchi eu rhwydau. Ac efe a aeth i mewn i un o'r cychod, yr hwn oedd eiddo Simon, ac a ofynodd iddo i wthio ychydig oddiwrth y tir. Ac efe a eisteddodd ac a ddysgodd y torfeydd allan o'r cwch. A phan beidiodd â llefaru, efe a ddywedodd wrth Simon, Gwthia i'r dyfnder, a gollyngwch chwi i lawr eich rhwydau am ddalfa. A Simon a atebodd ac a ddywedodd wrtho, O Feistr, ar ol ymboeni drwy y nos i gyd, ni ddaliasom ni ddim: ond ar dy air di, mi a ollyngaf i lawr y rhwydau. Ac wedi iddynt wneuthur hyn, hwy a amgauasant luaws mawr o bysgod, ac yr oedd eu rhwydau hwynt yn dechreu rhwygo. A hwy a amneidiasant ar y rhai oeddynt gyfranogion â hwynt yn y cwch arall, i ddyfod i'w cynorthwyo hwynt: a hwy a ddaethant, ac a lanwasant y ddau gwch, fel ag yr oeddynt ar soddi. A Simon Petr, pan welodd, a syrthiodd wrth liniau yr Iesu, gan ddywedyd, Dos allan ymaith oddiwrthyf fi; canys dyn pechadurus wyf, O Arglwydd: canys syndod a'i meddianodd ef a phawb oedd gyd âg ef, ar y ddalfa o bysgod a ddaliasent; a'r un modd hefyd Iago ac Ioan, meibion Zebedëus, y rhai oeddynt gyd‐gyfranogion â Simon. A dywedodd yr Iesu wrth Simon, Nac ofna: o hyn allan ti a fyddi yn dala dynion. Ac wedi iddynt ddwyn y cychod at y tir, hwy a adawsant bob peth, ac a'i dylynasant ef. A bu, tra yr oedd efe yn un o'r dinasoedd, wele hefyd ddyn yn llawn o wahan‐glwyf: ac efe a welodd yr Iesu, ac a syrthiodd ar ei wyneb, ac a ymbiliodd âg ef, gan ddywedyd, O Arglwydd, os ewyllysi, ti a elli fy nglanhâu. Ac yntau a estynodd ei law, ac a gyffyrddodd âg ef, gan ddywedyd, Yr wyf yn ewyllysio: bydd lân. Ac yn ebrwydd y gwahan‐glwyf a aeth ymaith oddiwrtho. Ac efe a orchymynodd iddo na ddywedai wrth neb: ond, Ar ol myned ymaith, dangos dy hun i'r Offeiriad, a dwg dy offrwm am dy lanhâd, fel yr ordeiniodd Moses, er tystiolaeth iddynt. Ond y gair am dano ef a aeth fwy‐fwy ar led; a thyrfaoedd lawer a ddaethant ynghyd i'w glywed ef, ac i'w hiachâu o'u gwendidau. Ond efe ei hun oedd yn ymneillduo i'r lleoedd anial, ac yn gweddïo. A bu ar un o'r dyddiau, ac efe yn dysgu, yr oedd Phariseaid a Dysgawdwyr y Gyfraith hefyd yn eistedd: yr oeddynt wedi dyfod allan o bob pentref yn Galilea, a Judea, ac o Jerusalem: ac yr oedd gallu yr Arglwydd ganddo er iachâu. Ac wele wŷr yn dwyn ar wely ddyn ag oedd wedi ei daro â'r parlys, ac yr oeddynt yn ceisio ei ddwyn ef i mewn, a'i osod o'i flaen ef. A phan na chawsant allan pa fodd y dygent ef i mewn o achos y dyrfa, hwy a aethant i fyny ar nen y tŷ, ac a'i gollyngasant ef i waered gyd â'i wely bychan drwy y pridd‐lechau i'r canol gerbron yr Iesu. A phan welodd efe eu ffydd hwynt, efe a ddywedodd, Y dyn, Y mae dy bechodau wedi eu maddeu i ti. A'r Ysgrifenyddion a'r Phariseaid a ddechreuasant ymresymu, gan ddywedyd, Pwy yw hwn sydd yn llefaru cableddau? Pwy a ddichon faddeu pechodau, ond Duw yn unig? A'r Iesu yn gwybod yn hollol eu hymresymiadau hwynt, a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn ymresymu yn eich calonau? Pa un sydd hawddaf, ai dywedyd, Y mae dy bechodau wedi eu maddeu i ti, ai dywedyd, Cyfod a rhodia? Ond fel y gwypoch fod gan Fab y Dyn awdurdod ar y ddaear i faddeu pechodau, efe a ddywedodd wrth yr hwn oedd wedi ei daro â'r parlys, Yr wyf yn dywedyd wrthyt, Cyfod a chymmer i fyny dy wely bychan, a dos i'th dŷ. Ac yn y fan efe a gyfododd i fyny yn eu gŵydd hwynt: ac a gymmerodd i fyny yr hyn y gorweddai arno, ac a aeth ymaith i'w dŷ ei hun, gan ogoneddu Duw. A syndod a gymmerodd afael yn mhawb, a hwy a ogoneddasant Dduw, ac a lanwyd o ofn, gan ddywedyd, Ni a welsom bethau anhygoel heddyw. Ac ar ol y pethau hyn yr aeth efe allan, ac efe a ganfyddodd Dreth‐gasglwr, a'i enw Lefi, yn eistedd wrth y Dollfa: ac efe a ddywedodd wrtho, Canlyn fi. Ac efe a lwyr‐adawodd bob peth, ac a gyfododd, ac a'i canlynodd ef. A Lefi a wnaeth wledd roesawol fawr iddo yn ei dŷ, ac yr oedd tyrfa fawr o Dreth‐gasglwyr ac eraill, y rhai oeddynt yn eistedd wrth fwyd gyd â hwynt. A grwgnach wnaeth y Phariseaid a'u Hysgrifenyddion hwynt wrth ei Ddysgyblion ef, gan ddywedyd, Paham yr ydych chwi yn bwyta ac yn yfed gyd â'r Treth‐gasglwyr â'r Pechaduriaid? A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Nid rhaid i'r rhai iach wrth feddyg; ond i'r rhai cleifion. Nid wyf wedi dyfod i alw rhai cyfiawn ond pechaduriaid i edifeirwch. Ond hwy a ddywedasant wrtho, Y mae Dysgyblion Ioan yn ymprydio yn fynych, ac yn gwneuthur deisyfiadau; a'r un modd hefyd Dysgyblion y Phariseaid; ond y mae dy Ddysgyblion di yn bwyta ac yn yfed. A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, A ellwch chwi beri i Feibion yr Ystafell Briodas ymprydio, tra y mae y Priodas‐fab gyd â hwynt. Ond dyddiau a ddeuant; a phan gymmerir ymaith y Priodas‐fab oddiarnynt, yna yr ymprydiant yn y dyddiau hyny. Ac efe hefyd a ddywedodd ddammeg wrthynt, Ni wna neb rwygo dernyn oddiwrth ddilledyn newydd, a'i osod ar hen ddilledyn: os amgen, efe a rwyga y newydd, ac hefyd ni wna y dernyn oddiwrth y newydd gytuno a'r hen. Ac nid oes neb yn tywallt gwin newydd i hen gostrelau lledr; os amgen, y gwin newydd a rwyga yr hen gostrelau lledr, ac efe a red allan, a'r costrelau lledr a ddinystrir. Eithr gwin newydd raid ei dywallt i gostrelau lledr newyddion. Ac nid oes neb, gwedi iddo yfed yr hen, a chwenycha win newydd, canys y mae yn dywedyd, Hyfryd yw yr hen. A bu ar ddydd Sabbath iddo fyned drwy y meusydd ŷd, a'i Ddysgyblion a dynasant y tywys, ac a'u bwytasant, gan eu rhuglo â'u dwylaw. A rhai o'r Phariseaid a ddywedasant, Paham yr ydych yn gwneuthur yr hyn nid yw gyfreithlawn ar y Sabbath? A'r Iesu gan ateb iddynt a ddywedodd, Oni ddarllenasoch gymaint a hyn, y peth a wnaeth Dafydd, pan y daeth chwant bwyd arno ef, a'r rhai oedd gyd âg ef? Y modd yr aeth efe i Dŷ Dduw, ac a gymmerodd ac a fwytâodd y Torthau Gosod, ac a roddodd i'r rhai oedd gyd âg ef; y rhai nid ydyw gyfreithlawn eu bwyta ond i'r Offeiriaid yn unig. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae Mab y Dyn yn Arglwydd hefyd ar y Sabbath. A bu ar Sabbath arall iddo fyned i mewn i'r Synagog, a dysgu: ac yr oedd dyn yno a'i law ddeheu wedi gwywo. A'r Ysgrifenyddion a'r Phariseaid a'i gwyliasant ef yn ddyfal, a iachâi efe ar y Sabbath, fel y caffent fodd i'w gyhuddo ef. Ond efe a wybu eu hymresymiadau hwy, ac a ddywedodd wrth y dyn oedd a'r llaw wedi gwywo, Cyfod, a saf yn y canol. Ac efe a gyfododd i fyny, ac a safodd. A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Yr ydwyf finau yn gofyn i chwi, Os yw gyfreithlawn ar y Sabbath i wneuthur da, ynte gwneuthur drwg? cadw einioes, neu golli? Ac wedi edrych oddi amgylch arnynt oll, efe a ddywedodd wrtho ef, Estyn allan dy law. Ac efe a wnaeth: a'i law ef a adferwyd. A hwy a lanwyd o wallgofrwydd, ac a gyd-ymddiddanent a'u gilydd, pa beth a wnaent i'r Iesu. A bu yn y dyddiau hyny, fyned o hono allan i'r mynydd i weddio. Ac efe a barhâodd drwy y nos mewn gweddi at Dduw. A phan aeth hi yn ddydd, efe a alwodd ato ei Ddysgyblion: ac efe a etholodd allan o honynt Ddeuddeg, y rhai a gyfenwodd efe yn Apostolion: Simon yr hwn hefyd a gyfenwodd efe Petr, ac Andreas ei frawd; ac Iago, ac Ioan; a Philip, a Bartholomëus; a Matthew, a Thomas; ac Iago mab Alphëus, a Simon, yr hwn a elwir y Zelotiad: a Judas mab Iago, a Judas Iscariot, yr hwn oedd Fradwr. Ac efe a aeth i waered gyd â hwynt, ac a safodd ar le gwastad, a thyrfa o'i Ddysgyblion ef, a lluaws mawr o'r bobl, o holl Judea a Jerusalem, ac o arfordir Tyrus a Sidon, y rhai a ddaethant i wrando arno, ac i'w hiachâu o'u clefydau: a'r rhai a flinid gan ysprydion aflan a iachâwyd. A'r holl dyrfa oedd yn ceisio cyffwrdd âg ef, canys gallu oedd yn myned allan oddiwrtho, ac yn iachâu pawb. Ac efe a ddyrchafodd ei lygaid ar ei Ddysgyblion, ac a ddywedodd, Gwyn eich byd y tlodion: canys eiddoch chwi yw Teyrnas Dduw. Gwyn eich byd y rhai ydych mewn newyn yr awrhon: canys chwi a a ddigonir. Gwyn eich byd y rhai ydych yn wylo yr awrhon: canys chwi a chwerddwch. Gwyn eich byd pan y cashâo dynion chwi, ac y'ch hesgymunant, ac y'ch gwaradwyddant, ac a daflant allan eich enw fel drwg er mwyn Mab y Dyn. Llawenychwch y dydd hwnw, a llemwch gan lawenydd: canys wele, eich gwobr sydd fawr yn y Nef: canys yn ol yr un pethau y gwnaeth eu Tadau i'r Prophwydi. Yn mhellach, Gwae chwi y Cyfoethogion, canys yr ydych yn derbyn yn llawn eich diddanwch. Gwae chwi, y rhai ydych lawnion yr awrhon: canys chwi a newynwch. Gwae chwi, y rhai a chwerddwch yr awrhon: canys chwi a alerwch ac a wylwch. Gwae chwi, pan ddywedo pob dynion yn dda am danoch: canys yn ol yr un pethau y gwnaeth eich Tadau i'r Gau‐Brophwydi. Ond yr wyf yn dywedyd wrthych chwi y rhai ydych yn gwrando, Cerwch eich gelynion: gwnewch dda i'r rhai a'ch cashânt: bendithiwch y rhai a'ch melldithiant: gweddiwch ar ran y rhai a ymddygant yn faleisus tu ag atoch: i'r hwn a'th darawo ar y gern, cynyg y llall hefyd; ac oddiwrth yr hwn a gymmero ymaith dy wisg‐uchaf, na chadw yn ol dy is‐wisg chwaith. Dyro i bob un a geisio genyt; ac oddiwrth yr hwn a gymmero ymaith dy eiddo, na cheisia ef yn ol. Ac yn y modd yr ewyllysiech i ddynion i wneuthur i chwi, gwnewch chwithau hefyd yr un ffunud. Ac os cerwch y rhai a'ch carant chwithau, pa fath ddiolch sydd i chwi? canys y mae y pechaduriaid hefyd yn caru y rhai a'u carant hwy. Ac os gwnewch dda i'r rhai a wnant dda i chwithau, pa fath ddiolch sydd i chwi? canys y mae hyd y nod y pechaduriaid yn gwneuthur yr un peth. Ac os rhoddwch fenthyg i'r rhai yr ydych chwithau yn gobeithio derbyn oddiwrthynt, pa fath ddiolch sydd i chwi? canys hefyd y mae pechaduriaid yn rhoddi benthyg i bechaduriaid, fel y derbyniont yn ol yr hyn sydd gyfartal. Yn mhellach, Cerwch eich gelynion, a gwnewch dda; a rhoddwch fenthyg, heb anobeithio mewn dim: a'ch gwobr a fydd mawr, a Meibion y Goruchaf a fyddwch: canys cymwynasgar yw efe i'r rhai anniolchgar a drwg. Byddwch dosturiol, yr un modd ag y mae eich Tâd yn dosturiol. Ac na fernwch, ac ni'ch bernir ddim: ac na chondemniwch, ac ni'ch condemnir ddim: gollyngwch yn rhydd, a chwithau a ollyngir yn rhydd: rhoddwch, a rhoddir i chwithau: mesur da, wedi ei wasgu ynghyd, wedi ei ysgwyd ynghyd, yn rhedeg allan drosodd, a roddant i'ch mynwes: canys â'r mesur y mesuroch, yr ad‐fesurir i chwithau. Ac efe a ddywedodd hefyd ddammeg wrthynt, Yn wir a ddichon dyn dall dywys dyn dall? Oni syrthiant ill dau i mewn i'r ffos? Nid ydyw dysgybl uwchlaw yr athraw: ond pob un sydd wedi ei lawn‐gymhwyso a fydd fel ei athraw. A phaham yr wyt yn edrych ar yr asglodyn yn llygad dy frawd, ac nad wyt yn darganfod y trawst yn dy lygad dy hun? Pa fodd y gelli di ddywedyd wrth dy frawd, Frawd, gâd i mi fwrw allan yr asglodyn sydd yn dy lygad, a thithau dy hun heb edrych ar y trawst sydd yn dy lygad? O ragrithiwr, bwrw allan yn gyntaf y trawst o'th lygad dy hun, ac yna y gweli yn eglur fwrw allan yr asglodyn sydd yn llygad dy frawd. Canys nid oes un pren da sydd yn dwyn ffrwyth gwael, nac ychwaith un pren gwael sydd yn dwyn ffrwyth da. Canys pob pren sydd yn cael ei adwaen wrth ei ffrwyth ei hun: canys nid oddiar ddrain y maent yn casglu ffigys, ac nid ar lwyn mïeri y maent yn casglu yr addfed swp o rawnwin. Y dyn da, allan o drysor da ei galon, a ddwg allan yr hyn sydd dda: a'r dyn drwg allan o'r drwg a ddwg allan yr hyn sydd ddrwg: canys allan o helaethrwydd calon y mae ei enau yn llefaru. A phaham yr ydych yn fy ngalw i, Arglwydd, Arglwydd, ac nad ydych yn gwneuthur yr hyn yr wyf yn ei ddywedyd? Pwy bynag sydd yn dyfod ataf fi, ac sydd yn gwrando fy ngeiriau, ac yn eu gwneuthur hwynt, mi a ddangosaf i chwi i bwy y mae efe yn gyffelyb: cyffelyb yw i ddyn yn adeiladu tŷ, yr hwn a gloddiodd, ac a aeth yn ddwfn, ac a osododd ei sylfaen ar y graig: a phan ddaeth llifeiriant, y cenllif a dorodd yn erbyn y tŷ hwnw, ac ni allai ei siglo, am ei fod wedi ei adeiladu yn dda. Ond yr hwn a wrendy, ac ni wna, sydd gyffelyb i ddyn yn adeiladu tŷ ar y ddaear heb sylfaen; yn erbyn yr hwn y torodd y cenllif, ac yn ebrwydd y syrthiodd i fewn; a'r niwed i'r tŷ hwnw oedd fawr. Yn gymaint ag iddo orphen ei holl ymadroddion yn nghlyw y Bobl, efe a aeth i mewn i Capernäum. A gwas rhyw ganwriad oedd glaf, yn mron marw, yr hwn oedd werthfawr iawn ganddo. A phan glybu efe am yr Iesu, efe a ddanfonodd ato Henuriaid yr Iuddewon, gan ofyn iddo ddyfod a llwyr‐iachâu ei was ef. A phan gyrhaeddasant at yr Iesu, hwy a atolygasant yn daer arno, gan ddywedyd, Teilwng yw efe wneuthur o honot hyn iddo: canys y mae efe yn caru ein cenedl ni, ac efe ei hun a adeiladodd i ni Synagog. A'r Iesu a aeth gyd â hwynt. Ac efe weithian heb fod yn mhell oddi wrth y tŷ, y Canwriad a anfonodd gyfeillion ato, ac a ddywedodd wrtho, Arglwydd, na flina dy hun: canys nid wyf fi deilwng ddyfod o honot dan fy nghronglwyd: o hewydd paham ni thybiais fy hun yn deilwng i ddyfod atat; ond dywed mewn gair, a bydd iach fy ngwas. Canys dyn wyf finau hefyd yn cael fy ngosod dan awdurdod, a chenyf filwyr danaf; a dywedaf wrth hwn, Dos, ac efe a â; ac wrth arall, Tyred, ac y mae yn dyfod; ac wrth fy ngwas, Gwna hyn, ac y mae yn ei wneuthur. A phan glybu yr Iesu y pethau hyn, efe a ryfeddodd wrtho, ac a drôdd, ac a ddywedodd wrth y bobl oedd yn ei ganlyn ef, Yr wyf yn dywedyd i chwi, Ni chefais gymaint ffydd, naddo, yn yr Israel. A'r rhai a ddanfonasid, wedi iddynt ddychwelyd i'r tŷ, a gawsant y gwas yn holliach. A bu yn fuan ar ol hyn iddo fyned i ddinas a elwid Nain, a'i Ddysgyblion a aethant gyd âg ef, a thyrfa fawr. A phan ddaeth efe yn agos i borth y Ddinas, wele un marw a ddygid allan, unig‐anedig fab i'w fam, a hithau yn weddw; a thyrfa lawer o'r Ddinas oedd gyd â hi. A'r Arglwydd, pan y gwelodd hi, a gymmerodd dosturi arni, ac a ddywedodd wrthi, Nac wyla. Ac efe a ddaeth yn mlaen, ac a gyffyrddodd a'r arch: a'r cludwyr a safasant: ac efe a ddywedodd, Ddyn ieuanc, yr wyf yn dywedyd i ti, Cyfod. A'r marw a eisteddodd i fyny, ac a ddechreuodd lefaru: ac efe a'i rhoddodd ef i'w fam. Ac ofn a'u meddianodd oll, a hwy a ogoneddasant Dduw, gan ddywedyd, Proffwyd Mawr a gyfododd yn ein plith, ac, Duw a ymwelodd â'i Bobl. A'r gair hwn a aeth allan am dano ef drwy holl Judea, a'r holl wlad oddi amgylch. A'i Ddysgyblion a fynegasant i Ioan yr holl bethau hyn. Ac Ioan, wedi galw ato rhyw ddau o'i Ddysgyblion, a ddanfonodd at yr Arglwydd, gan ddywedyd, Ai ti yw yr Hwn sydd yn dyfod, neu, a ydym yn dysgwyl un gwahanol? A'r gwŷr, pan ddaethant ato, a ddywedasant, Y mae Ioan Fedyddiwr wedi ein danfon ni atat ti, gan ddywedyd, Ai ti yw yr Hwn sydd yn dyfod, neu, a ydym yn dysgwyl un arall? Ac yn yr awr hono efe a wellhâodd lawer o glefydau, a phläau, ac ysprydion drwg; ac i lawer o ddeillion y rhad‐roddodd efe iddynt i weled. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Ewch i'ch ffordd, a mynegwch i Ioan y pethau a welsoch ac a glywsoch: y mae deillion yn gweled drachefn, a chloffion yn rhodio; rhai gwahan‐glwyfus yn cael eu glanhâu, byddariaid yn clywed, meirwon yn cyfodi, a thlodion yn cael pregethu yr Efengyl iddynt. A gwyn ei fyd yr hwn ni rwystrir ynof fi. Ond wedi i genadon Ioan fyned ymaith, efe a ddechreuodd lefaru wrth y torfeydd am Ioan, Pa beth yr aethoch allan i'r Diffaethwch i ddal sylw arno? Corsen yn cael ei hysgwyd gan wynt? Ond pa beth yr aethoch allan i'w weled? Dyn wedi ei wisgo mewn dillad llaes‐esmwyth? Wele, y rhai sydd mewn dillad gorwych, ac yn byw yn foethus, mewn Palasdai Breninol y maent o'r dechreuad. Ond pa beth yr aethoch allan i'w weled? Proffwyd? Ie, meddaf i chwi, a llawer amgenach na Phroffwyd. Dyma yr un am yr hwn y mae wedi ei ysgrifenu: Wele, yr wyf fi yn anfon fy nghenad o flaen dy wyneb, Yr hwn a barotöa dy ffordd o'th flaen. Yr wyf yn dywedyd i chwi, yn mhlith y rhai a aned o wragedd, nid oes un mwy nag Ioan: eithr yr hwn sydd lai yn Nheyrnas Dduw sydd fwy nag ef. A'r holl bobl, pan glywsant, a'r Treth‐gasglwyr, a gyfiawnhasant Dduw, gwedi eu bedyddio â Bedydd Ioan. Ond y Phariseaid a Deonglwyr y Gyfraith a ddiystyrasant gynghor Duw mewn perthynas iddynt hwy eu hunain, heb eu bedyddio ganddo. I ba beth gan hyny y cyffelybaf ddynion y genedlaeth hon? Ac i ba beth y maent yn debyg? Tebyg ydynt i blant bychain yn eistedd yn y farchnad, ac yn galw ar eu gilydd, gan ddywedyd, Canasom ar bibell i chwi, ac ni ddawnsiasoch: cwynfanasom, ac nid wylasoch. Canys y mae Ioan wedi dyfod heb na bwyta bara nac yfed gwin; a chwi a ddywedwch, Y mae cythraul ganddo. Y mae Mab y Dyn wedi dyfod, yn bwyta ac yn yfed; a chwi a ddywedwch, Wele ddyn glwth, ac yfwr gwin, cyfaill Treth‐gasglwyr a Phechaduriaid! A Doethineb a gyfiawnhâwyd ar ran ei holl blant. A rhyw un o'r Phariseaid a ofynodd iddo i fwyta gyd âg ef: ac efe a aeth i mewn i dŷ y Pharisead ac a eisteddodd i lawr i fwyta. Ac wele yr oedd gwraig, yr hon oedd yn y Ddinas, Pechadures: a phan wybu hi yn sicr fod yr Iesu yn eistedd i fwyta yn nhŷ y Pharisead, hi a ddygodd lestr alabastr o enaint; a chan sefyll o'r tu ol, wrth ei draed ef, yn wylo, hi a ddechreuodd wlychu ei draed ef â dagrau, ac a' u sychodd â gwallt ei phen: ac a gusanodd ei draed ef drachefn a thrachefn, ac a'u heneiniodd â'r enaint. A phan welodd y Pharisead, yr hwn a'i gwahoddasai, efe a ddywedodd ynddo ei hun, gan ddywedyd, Y dyn hwn, pe fyddai Broffwyd, a wybuasai pwy a pha fath un yw y wraig sydd yn cyffwrdd âg ef, canys Pechadures yw. A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Simon, y mae genyf beth i ddywedyd wrthyt. Ac efe a ddywed, Athraw, dywed. Yr oedd dau ddyledwr i ryw echwynwr: y naill oedd ddyledus am bum can denarion, a'r llall ddeg a deugain. A chan nad oedd ganddynt ddim i dalu, efe a faddeuodd iddynt ill dau. Pwy o honynt gan hyny a'i câr ef fwyaf? A Simon a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Yr wyf yn tybied mai yr hwn y maddeuodd efe fwyaf iddo. Ac efe a ddywedodd wrtho, Uniawn y bernaist. Ac efe a drôdd at y wraig, ac a ddywedodd wrth Simon, A ddeli di sylw ar y wraig hon? Mi a ddaethum i'th dŷ di: dwfr ni roddaist i mi at fy nhraed: ond hi a wlychodd fy nhraed â'i dagrau, ac a'u sychodd â'i gwallt. Ni roddaist ti i mi gusan; ond hon er pan y daethum i mewn, ni pheidiodd o gwbl a chusanu fy nhraed drachefn a thrachefn. Ni eneiniaist ti fy mhen âg olew; ond hon a eneiniodd fy nhraed âg enaint. Er mwyn hyn, meddaf i ti, y mae ei haml bechodau hi wedi eu maddeu; oblegyd hi a garodd yn fawr: ond i'r hwn y mae ychydig yn cael ei faddeu, efe a gâr ychydig. Ac efe a ddywedodd wrthi, Y mae dy bechodau wedi eu maddeu. A'r rhai oedd yn cyd‐eistedd i fwyta, a ddechreuasant ddywedyd ynddynt eu hunain, Pwy yw hwn sydd hyd y nod yn maddeu pechodau? Ond efe a ddywedodd wrth y wraig, Dy ffydd di sydd wedi dy achub, dos mewn tangnefedd. A bu yn fuan ar ol hyn, efe ei hun hefyd a ymdeithiodd drwy bob dinas a phentref, gan bregethu a mynegi newyddion da Teyrnas Dduw, a'r Deuddeg gyd âg ef; a rhai gwragedd oedd wedi eu hiachâu oddiwrth ysprydion drwg a gwendidau: Mair, yr hon a elwid Magdalen, o'r hon yr oedd saith cythraul wedi myned allan, a Johanna, gwraig Chuzas, Gweinyddwr Herod, a Susannah, a llawer eraill, y rhai oeddynt yn gweini iddynt o'u heiddo. A thyrfa fawr wedi ymgynull ynghyd, a hwy o bob dinas yn cyrchu ato ef, efe a ddywedodd trwy ddammeg: Yr Hauwr a aeth allan i hau ei hâd. Ac wrth hau, peth a syrthiodd ar hyd y ffordd, ac a fathrwyd dan draed, ac ehediaid y Nef a'i bwytasant i fyny. Ac arall a syrthiodd i lawr ar y graig; ac wedi egino, efe a wywodd allan, am nad oedd iddo leithder. A pheth arall a syrthiodd i ganol y drain; a'r drain a gyd‐dyfasant âg ef, ac a'i tagasant. A pheth arall a syrthiodd i dir da, ac a eginodd, ac a ddug ffrwyth gàn cymaint. Wrth ddywedyd y pethau hyn, efe a lefodd, Yr hwn sydd ganddo glustiau, gan wrando, gwrandawed. A'i Ddysgyblion a ofynasant iddo, Pa beth a all y ddammeg hon fod? Ac efe a ddywedodd, I chwi y mae gwybod dirgelion Teyrnas Dduw wedi ei roddi, eithr i'r gweddill mewn dammegion; fel Yn gweled na welant, Ac yn clywed na ddeallant. A dyma y ddammeg: Yr hâd ydyw Gair Duw. A'r rhai ar hyd y ffordd ydyw y rhai a wrandawsant; yna y mae y Diafol yn dyfod, ac yn dwyn ymaith y Gair o'u calon hwynt, rhag iddynt gredu a bod yn gadwedig. A'r rhai ar y graig yw y rhai pan glywant ydynt yn derbyn y Gair gyd â llawenydd; a'r rhai hyn nid oes ganddynt wreiddyn; y rhai ydynt yn credu am dymhor, ac yn adeg profedigaeth yn cadw draw. A'r hyn a syrthiodd i'r drain, y rhai hyn yw y rhai a glywsant, ac fel y maent yn myned yn mlaen, y maent yn cael eu tagu ynghyd gan bryderon, a golud, a phleserau y bywyd hwn, ac nid ydynt yn dwyn dim i addfedrwydd. A'r hyn yn y tir da yw y cyfryw, wedi gwrando y Gair, a'i cadwant yn ddyogel mewn calon rinweddol a da, ac a ddygant ffrwyth mewn dyfal‐barhâd amyneddgar. Ac nid yw neb, wedi goleu llusern, yn ei chuddio hi â llestr, neu yn ei gosod dan wely, ond yn ei gosod ar ddaliadyr, fel y gwelo y rhai sydd yn dyfod i mewn y goleuni. Canys nid oes cuddiedig a'r ni wneir yn amlwg, na dirgel yr hwn nis gwybyddir yn hollol, ac ni ddaw i'r amlwg. Edrychwch gan hyny pa fodd yr ydych yn gwrando: canys pwy bynag y mae ganddo, y rhoddir iddo: a'r hwn nid oes ganddo, hyd y nod yr hyn a dybia fod ganddo a gymmerir oddiwrtho. A daeth ato ei Fam a'i Frodyr: ac nis gallent ddyfod hyd ato o achos y dyrfa. A mynegwyd iddo, Y mae dy Fam a'th Frodyr yn sefyll oddiallan, yn ewyllysio dy weled di. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Fy Mam a'm Brodyr i yw y rhai sydd yn gwrando ac yn gwneuthur Gair Duw. A bu ar un o'r dyddiau, efe ei hun a aeth i mewn i gwch, a'i Ddysgyblion: ac efe a ddywedodd wrthynt, Awn trosodd i'r tu arall i'r Llyn; a hwy a gychwynasant. Ac fel yr oeddynt yn hwylio, efe a hunodd: a thymestl o wynt a ddisgynodd i'r Llyn, ac yr oeddynt yn llanw gan ddwfr, ac mewn perygl. A hwy a aethant ato, ac a'i deffroisant ef, gan ddywedyd, O Feistr, Feistr, darfu am danom. Ac efe, wedi ei lwyr‐ddeffroi, a geryddodd y gwynt a chynddeiriogrwydd y dwfr: a hwy a beidiasant, a bu tawelwch. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa le y mae eich ffydd chwi? A hwy a ofnasant ac a ryfeddasant, gan ddywedyd wrth eu gilydd, Pwy ynte yw hwn, gan ei fod yn gorchymyn i'r gwynt ac i'r dwfr, ac y maent yn ufuddhâu iddo. A hwy a gyrhaeddasant i wlad y Geraseniaid, yr hon sydd o'r tu arall gyferbyn a Galilea. Ac wedi iddo ddyfod allan ar y tir, rhyw wr o'r Ddinas a gyfarfu âg ef, yr hwn oedd ganddo gythreuliaid, ac am hir amser ni wisgai ei wisg am dano, ac nid arosai mewn tŷ, ond yn y beddau. A phan welodd efe yr Iesu, efe a lefodd allan, ac a syrthiodd i lawr ger ei fron, ac a ddywedodd â llef uchel, Beth sydd i mi a wnelwyf â thi, Iesu, Mab y Duw Goruchaf? Yr wyf yn deisyf arnat, Na phoena fi: canys yr oedd efe yn gorchymyn i'r yspryd aflan i ddyfod allan o'r dyn: canys am yspaid amser maith yr oedd wedi ei gipio ymaith; a rhwymid ef â chadwynau ac â llyffetheiriau, gan ei gadw dan wyliadwriaeth; a chan ddryllio yn ddarnau y rhwymau, efe a yrwyd gan y cythraul i'r diffeith‐leoedd. A'r Iesu a ofynodd iddo, gan ddywedyd, Pa beth yw dy enw di? Ac yntau a ddywedodd, Lleng: canys llawer o gythreuliaid a aethant iddo ef. A hwy a ymbiliasant âg ef na orchymynai iddynt fyned i'r Llyngclyn Diwaelod. Ac yr oedd yno genfaint o foch lawer yn ymborthi ar y mynydd, a hwy a ymbiliasant âg ef adael o hono iddynt fyned i mewn i'r rhai hyny. Ac efe a adawodd iddynt. A'r cythreuliaid a aethant allan o'r dyn, ac a aethant i mewn i'r moch: a'r genfaint a ruthrodd i lawr ar hyd y dibyn i'r Llyn, ac a dagwyd. A phan welodd y rhai a'u porthent hwy yr hyn oedd wedi dygwydd, hwy a ffoisant, ac a fynegasant yn y Ddinas, ac yn y lleoedd gwledig. A daethant allan i weled yr hyn oedd wedi dygwydd. A hwy a ddaethant at yr Iesu, ac a gawsant y dyn o'r hwn yr oedd y cythreuliaid wedi myned allan, yn eistedd wrth draed yr Iesu, wedi ei ddilladu, ac yn ei iawn bwyll: a hwy a ofnasant. A'r rhai a welsant, a fynegasant iddynt pa fodd yr achubwyd y cythreulig. Ar holl luaws o'r wlad o amgylch y Geraseniaid a ofynasant iddo fyned ymaith oddiwrthynt: canys yr oedd ofn mawr wedi eu goddiweddyd. Ac efe ei hun a aeth i mewn i'r cwch, ac a ddychwelodd. A'r dyn o'r hwn yr oedd y cythreuliaid wedi myned allan, oedd yn deisyf arno i fod gyd âg ef: ond yr Iesu a'i gollyngodd ef ymaith, gan ddywedyd, Dychwel i'th dŷ, a thraetha faint o bethau a wnaeth Duw i ti. Ac efe a aeth ymaith, gan bregethu drwy yr holl Ddinas faint a wnaeth yr Iesu iddo. Ac fel yr oedd yr Iesu yn dychwelyd, y dyrfa a'i croesawasant ef: canys yr oeddynt oll yn ei ddysgwyl ef. Ac wele daeth gwr o'r enw Jairus, ac yr oedd efe ei hun yn Lywodraethwr y Synagog; a chan syrthio wrth draed yr Iesu, efe a atolygodd iddo ddyfod i'w dŷ ef: oblegyd yr oedd iddo ferch unig‐anedig, ynghylch deuddeg mlwydd oed, ac yr oedd hi yn marw. Ac fel yr oedd efe yn myned, y torfeydd a gyd‐wasgent arno ef. A gwraig, yr hon oedd mewn diferlif gwaed er ys deuddeg mlynedd, yr hon a dreuliodd yn ychwanegol ei holl fywoliaeth ar feddygon, ac nis gallai gael ei hiachâu gan neb. A hi a ddaeth yn mlaen, o'r tu cefn, ac a gyffyrddodd âg ymyl‐waith ei wisg ef: ac yn y fan y peidiodd diferlif ei gwaed hi. A dywedodd yr Iesu, Pwy yw a gyffyrddodd a mi? Ac a phawb yn gwadu, dywedodd Petr, a'r rhai oedd gyd âg ef, O Feistr, y mae y torfeydd yn cyfyngu arnat, ac yn dy wasgu. A'r Iesu a ddywedodd, Rhywun a gyffyrddodd, â mi: canys mi a wybyddais fod gallu wedi myned allan o honof. A phan welodd y wraig nad oedd hi guddiedig, hi a ddaeth dan grynu, ac a syrthiodd ger ei fron ef, ac a fynegodd yn ngŵydd yr holl bobl, am ba achos y cyffyrddodd hi âg ef, a'r modd yr iachâwyd hi yn y man. Ac efe a ddywedodd wrthi, O Ferch, y mae dy ffydd wedi dy achub: dos mewn tangnefedd. Ac efe eto yn llefaru, y mae rhywun yn dyfod o dŷ Llywodraethwr y Synagog, gan ddywedyd, Y mae dy ferch wedi marw: na flina yr Athraw yn mhellach. A'r Iesu pan glybu a'i hatebodd ef, Nac ofna: cred yn unig, a hi a fydd iach. Ac wedi ei ddyfod ef i'r tŷ, ni adawodd i neb ddyfod i mewn gyd âg ef, ond Petr, ac Ioan, ac Iago, a thâd y plentyn, a'i mam. Ac yr oeddynt oll yn wylo, ac yn cwynfan am dani hi. Eithr efe a ddywedodd, Nac wylwch: canys ni fu farw, ond huno y mae. A hwy a'i dirmygasant ef, gan wybod ei marw hi. Ac efe a gydiodd yn ei llaw hi, ac a lefodd, gan ddywedyd, Blentyn, Cyfod. A'i hyspryd hi a ddychwelodd, a hi a safodd i fyny yn y man: ac efe a orchymynodd roddi iddi beth i'w fwyta. A'i Rhieni hi a ryfeddasant yn ddirfawr: ond efe a orchymynodd iddynt na ddywedent i neb yr hyn oedd wedi ei wneuthur. Ac wedi iddo alw ynghyd y Deuddeg, efe a roddodd iddynt allu ac awdurdod ar yr holl gythreuliaid, ac i wella clefydau. Ac efe a'u hanfonodd hwynt i bregethu Teyrnas Dduw, ac i iachâu y cleifion. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Na ddygwch ddim ar gyfer y daith, na llaw‐ffon, nac ysgrepan, na bara, nac arian, ac na fydded genych ddwy o is‐wisgoedd. Ac i ba dŷ bynag yr eloch i mewn, aroswch yno, ac oddiyno yr ewch allan. A pha rhai bynag ni'ch derbyniant, fel yr eloch allan o'r Ddinas hono, ysgydwch y llwch oddiwrth eich traed, er tystiolaeth yn eu herbyn. A hwy a aethant allan, ac a aethant drwy y pentrefi, gan efengylu a gwellhâu yn mhob lle. A Herod y Tetrarch a glybu y cwbl oll a wnaethid, ac efe gythryblwyd yn ddirfawr, o herwydd y dywedid gan rai, Ioan a gyfododd o feirw; a chan rai, Elias a ymddangosodd; a chan eraill, Y mae rhyw Broffwyd, un o'r rhai cyntefig, wedi adgyfodi. Ond dywedodd Herod, Ioan y torais i ei ben: ond pwy yw hwn yr wyf yn clywed y cyfryw bethau am dano? Ac yr oedd efe yn ceisio ei weled ef. A'r Apostolion, pan ddychwelasant, a draethasant iddo gymaint âg a wnaethant. Ac efe a'u cymmerodd, ac a ymneillduodd yn ddirgelaidd i Ddinas a elwir Bethsaida. Ond y torfeydd a wybuant, ac a'i canlynasant ef; ac efe a'u croesawodd hwynt, ac a lefarodd wrthynt am Deyrnas Dduw, ac efe a iachâodd y rhai oedd eisieu gwellhâd arnynt. A'r dydd a ddechreuodd dreulio allan: a'r Deuddeg a ddaethant ac a ddywedasant wrtho, Gollwng ymaith y dyrfa, fel yr elont i'r pentrefi, ac i'r lleoedd gwledig oddi amgylch, i letya a chael lluniaeth: canys yr ydym ni yma mewn lle anghyfanedd. Eithr efe a ddywedodd wrthynt, Rhoddwch chwi iddynt beth i'w fwyta. A hwythau a ddywedasant, Nid oes genym ni fwy na phum torth a dau bysgodyn: oni bydd i ni fyned a phrynu bwyd i'r bobl hyn oll. Canys yr oeddynt ynghylch pum mil o wŷr. Ac efe a ddywedodd wrth ei Ddysgyblion, Gwnewch iddynt eistedd yn gwmpeini, oddeutu deg a deugain yr un. A hwy a wnaethant felly, ac a wnaethant iddynt oll eistedd. Ac efe a gymmerodd y pum torth a'r ddau bysgodyn, a chan edrych i fyny i'r Nef, efe a'u bendithiodd, ac a'u torodd yn ddarnau, ac a'u rhoddodd i'r Dysgyblion i'w gosod gerbron y dyrfa. A hwynt‐hwy oll a fwytasant, ac a ddigonwyd: a chyfodwyd o'r hyn oedd yn ngweddill iddynt o'r briwsion, ddeuddeg basgedaid. A bu, fel yr oedd efe yn gweddio wrtho ei hun, fod ei Ddysgyblion gyd âg ef: ac efe a ofynodd iddynt, gan ddywedyd, Pwy y mae y torfeydd yn dywedyd fy mod i? A hwy a atebasant ac a ddywedasant, Ioan Fedyddiwr; ac eraill Elias: ac eraill, Prophwyd, rhyw un o'r rhai cyntefig a adgyfododd. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Eithr pwy yr ydych chwi yn dywedyd fy mod i? A Phetr a atebodd ac a ddywedodd, Crist Duw. Ond efe a'u rhybuddiodd yn llym, ac a orchymynodd iddynt na ddywedent hyn i neb, gan ddywedyd, Y mae yn rhaid i Fab y Dyn oddef llawer, a'i wrthod o ran yr Henuriaid, a'r Arch‐offeiriaid, a'r Ysgrifenyddion, a'i ladd, a'i gyfodi y trydydd dydd. Ac efe a ddywedodd wrth bawb, Os ewyllysia neb ddyfod ar fy ol i, ymwaded âg ef ei hun, a chyfoded ei groes beunydd, a chanlyned fi. Canys pwy bynag a ewyllysio gadw ei einioes, a'i cyll hi: a phwy bynag a gollo ei einioes o'm hachos i, hwnw a'i ceidw hi. Canys pa leshâd i ddyn, pan wedi enill yr holl fyd, ac wedi colli neu fforffedu ei hun? Canys pwy bynag y bydd arno gywilydd o honof fi a'm geiriau, bydd ar Fab y Dyn gywilydd o hwnw, pan y daw yn ei Ogoniant ei hun, a'i Dâd, a'r Angelion Sanctaidd. Eithr yr wyf yn dywedyd i chwi, Mewn gwirionedd y mae rhai o'r sawl sydd yn sefyll yma a'r ni phrofant angeu o gwbl, hyd oni welont Deyrnas Dduw. A bu, ynghylch wyth niwrnod wedi y geiriau hyn, efe a gymmerodd gyd âg ef Petr, ac Ioan, ac Iago, ac a aeth i'r Mynydd i weddio. A phan yr oedd efe yn gweddio, ymddangosiad ei wyneb‐pryd ef a aeth yn wahanol, a'i ddillad ef yn wyn ddysglaeriol. Ac wele dau wr oeddynt yn cyd‐ymddiddan âg ef, y rhai oedd Moses ac Elias; y rhai a ymddangosasant mewn Gogoniant, ac a ddywedasant am ei Ymadawiad, yr hwn yr oedd efe ar ei gyflawnu yn Jerusalem. Ond Petr, a'r rhai oedd gyd âg ef, oeddynt wedi trymhâu gan gwsg, ond wedi iddynt aros yn hollol effro, hwy a welsant ei Ogoniant ef, a'r ddau wr oedd yn sefyll gyd âg ef. A bu, fel yr oeddynt yn ymadael oddi wrtho ef, dywedodd Petr wrth yr Iesu, O Feistr, Da yw i ni fod yma; a bydded i ni wneuthur tair pabell, un i ti, ac un i Moses, ac un i Elias: heb wybod pa beth y mae yn ei ddywedyd. Ac efe yn dywedyd y pethau hyn, daeth cwmwl, ac a gysgododd drostynt, a hwy a ofnasant pan yr aethant i mewn i'r cwmwl. A llef a ddaeth allan o'r cwmwl, yn dywedyd, Hwn yw fy Mab, fy Etholedig: gwrandêwch ef. A phan ddarfyddodd y llef, cafwyd yr Iesu yn unig. A hwynt‐hwy a fuant ddystaw, ac ni fynegasant i neb yn y dyddiau hyny ddim o'r pethau yr oeddynt wedi eu gweled. A bu dranoeth, fel yr oeddynt yn dyfod i waered o'r Mynydd, tyrfa fawr a gyfarfu âg ef. Ac wele, gwr o'r dyrfa a waeddodd, gan ddywedyd, Athraw, yr wyf yn deisyf arnat, edrych ar fy mab: canys efe yw fy unig‐anedig. Ac wele, y mae yspryd yn ei gymmeryd ef, ac yn ddisymwth y mae efe yn gwaeddi, ac yn ei ddirdynu, hyd oni falo ewyn, a braidd y mae yn ymadael oddi wrtho, gan ei lethu yn flin. A mi a ddeisyfais ar dy Ddysgyblion di ei fwrw ef allan, ac nis gallasent. A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd, O Genedlaeth anffyddiog a throfäus, hyd pa bryd y byddaf gyd â chwi, ac y byddaf ymarhöus wrthych? Dwg yma dy fab. Ac fel yr oedd efe eto yn dyfod, y cythraul a'i taflodd i lawr, ac a'i dirdynodd yn flin. Ond yr Iesu a geryddodd yr yspryd aflan, ac a iachâodd y plentyn, ac a'i rhoddodd ef yn ol i'w dâd. A tharawyd hwynt oll â syndod gan Fawrhydi Duw. Ac fel yr oedd pawb yn rhyfeddu am yr holl bethau a wnaethai, efe a ddywedodd wrth ei Ddysgyblion, Gosodwch yn eich clustiau y geiriau hyn: canys Mab y Dyn sydd ar gael ei draddodi i ddwylaw dynion. Eithr hwy oeddynt anwybodus o'r peth hwn, ac yr oedd wedi cael ei guddio oddi wrthynt, fel na chanfyddent ef: a hwy a ofnasant ofyn iddo am y peth hwn. A daeth i mewn ddadl yn eu plith: Pwy fyddai y mwyaf o honynt. A'r Iesu yn gwybod ymresymiad eu calon hwynt, a gymmerodd afael mewn plentyn bychan, ac a'i gosododd ef yn ei ymyl, ac a ddywedodd wrthynt, Pwy bynag a dderbynio y plentyn bychan hwn yn fy enw i, sydd yn fy nerbyn i; a phwy bynag a'm derbynio i, sydd yn derbyn yr Hwn a'm hanfonodd i: canys yr hwn sydd o'r dechreu y lleiaf yn eich plith chwi oll, hwn sydd fawr. Ac Ioan a atebodd ac a ddywedodd, O Feistr, Ni a welsom ryw un yn dy enw di yn bwrw allan gythreuliaid, ac a waharddasom iddo, am nad oedd yn canlyn gyd â ni. A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Na waherddwch: canys yr hwn nid yw yn eich herbyn, trosoch chwi y mae. A bu, pan yr oedd dyddiau ei Esgyniad yn cael eu cyflawnu, efe a gyfeiriodd ei wyneb yn ddiymod i fyned i Jerusalem. Ac efe a ddanfonodd genadau o flaen ei wyneb; a hwy wedi myned, a aethant i mewn i bentref Samariaid, er parotoi iddo ef. Ac nis derbyniasant hwy ef, oblegyd fod ei wyneb ef yn cyfeirio tua Jerusalem. A'i Ddysgyblion ef, Iago ac Ioan, pan welsant, a ddywedasant, Arglwydd, A ewyllysi di ddywedyd o honom am i dân ddisgyn o'r Nef, a'u difa hwynt? Ond efe a drôdd ac a'u ceryddodd hwynt. A hwy a aethant i bentref gwahanol. Ac fel yr oeddynt yn rhodio yn y ffordd, rhyw un a ddywedodd wrtho, Mi a'th ganlynaf di i ba le bynag yr elych. A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Y mae gan y llwynogod lechfaoedd, a chan ehediaid y Nefoedd drigfanau, ond gan Fab y Dyn nid oes ganddo le i roddi ei ben i lawr. Ac efe a ddywedodd wrth un arall, Canlyn fi. Ond efe a ddywedodd, Caniatâ i mi yn gyntaf fyned a chladdu fy nhâd. Eithr efe a ddywedodd wrtho, Gâd i'r meirw gladdu eu meirw eu hunain: ond tydi, dos ymaith, a mynega ar led Deyrnas Dduw. Ac arall hefyd a ddywedodd, Mi a'th ganlynaf di, O Arglwydd: ond yn gyntaf caniatâ i mi ganu yn iach i'r rhai sydd yn fy nhŷ. A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Nid oes neb a'r sydd yn rhoddi ei law ar yr aradr, ac yn edrych ar y pethau sydd o'i ol, yn gymhwys i Deyrnas Dduw. Wedi y pethau hyn, penododd yr Arglwydd Ddeg‐a‐Thri‐ugain eraill, ac a'u danfonodd hwy bob yn ddau o flaen ei wyneb i bob Dinas a man, lle yr oedd efe ei hun ar fedr dyfod. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y Cynhauaf yn wir sydd fawr, ond y gweithwyr yn ychydig: deisyfwch, gan hyny, ar Arglwydd y Cynhauaf i yru allan weithwyr i'w Gynhauaf. Ewch: wele yr wyf yn eich danfon chwi fel wyn yn nghanol bleiddiaid. Na ddygwch gôd, nac ysgrepan, na sandalau, ac na chyferchwch neb ar hyd y ffordd. Ac i ba dŷ bynag yr eloch i mewn gyntaf, dywedwch, Tangnefedd i'r tŷ hwn. Ac os bydd mab tangnefedd yno, eich tangnefedd a orphwys arno, ond os nad ydyw, efe a ddychwel arnoch chwi. Ac yn y tŷ hwn aroswch, gan fwyta ac yfed y pethau a roddir ganddynt. Canys teilwng y gweithiwr ei gyflog. Na symudwch o dŷ i dŷ. Ac i ba Ddinas bynag yr eloch i mewn, ac y derbyniont chwi, bwytêwch y pethau a osodir ger eich bron. A gwellhêwch y cleifion a fyddo ynddi, a dywedwch wrthynt, Y mae Teyrnas Dduw wedi neshâu atoch chwi. Eithr i ba Ddinas bynag yr eloch, ac nis derbyniant chwi, ewch allan i'w phrif heolydd, a dywedwch, Hyd y nod y llwch, yr hwn a lynodd wrthym ar ein traed o'ch Dinas chwi, yr ydym yn ei sychu ymaith yn eich herbyn chwi: er hyny, gwybyddwch hyn: Y mae Teyrnas Dduw wedi agoshâu. Yr wyf yn dywedyd i chwi, y bydd yn fwy goddefadwy i Sodom yn y dydd hwnw, nag i'r Ddinas hono. Gwae i ti, Chorazin; gwae i ti, Bethsaida: canys pe gwnaethid yn Tyrus a Sidon y gweithredoedd nerthol a wnaethpwyd ynoch chwi, hwy a edifarhasent er ys talm, gan eistedd mewn sach‐lian a lludw. Bellach, bydd yn fwy goddefadwy i Tyrus a Sidon yn y Farn, nag i chwi. A thithau Capernäum, a ddyrchefir di hyd y Nef? Ti a ddisgyni hyd Hades. Y neb sydd yn eich gwrando chwi sydd yn fy ngwrando i; a'r neb sydd yn eich dibrisio chwi sydd yn fy nibrisio i; a'r neb sydd yn fy nibrisio i sydd yn dibrisio yr hwn a'm danfonodd i. A dychwelodd y Deg a Thri‐ugain gyd â llawenydd, gan ddywedyd, Arglwydd, y mae hyd y nod y cythreuliaid yn ddarostyngedig i ni yn dy enw di. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yr oeddwn yn syllu ar Satan, megis mellten wedi syrthio allan o'r Nef. Wele yr ydwyf wedi rhoddi i chwi yr awdurdod i sathru ar seirff ac ysgorpionau; a thros holl allu y Gelyn; ac ni wna dim niwed o gwbl i chwi. Er hyny, yn hyn na lawenhêwch am fod yr ysprydion yn ddarostyngedig i chwi; ond llawenhêwch am fod eich enwau wedi eu hysgrifenu yn y Nefoedd. Yn yr awr hono, efe a ymorfoleddodd yn yr Yspryd Glân, ac a ddywedodd, Yr wyf yn cydnabod yn ddiolchgar i ti, O Dâd, Arglwydd y Nef a'r ddaear, am guddio o honot y pethau hyn oddiwrth ddoethion a rhai deallus, a'u dadguddio i fabanod: ie, O Dâd, canys gwneuthur felly oedd dy ewyllys da. Pob peth a roddwyd i fyny i mi gan fy Nhâd: ac ni ŵyr neb pwy yw y Mab, ond y Tâd; a phwy yw y Tâd, ond y Mab, a'r hwn yr ewyllysio y Mab ei ddadguddio iddo. Ac efe a drôdd at ei Ddysgyblion, ac a ddywedodd o'r neilldu, Gwyn fyd y llygaid sydd yn gweled y pethau yr ydych chwi yn eu gweled: canys yr wyf yn dywedyd i chwi, Llawer o Broffwydi a Breninoedd a chwenychasant weled y pethau yr ydych chwi yn eu gweled, ac nis gwelsant; a chlywed y pethau yr ydych chwi yn eu clywed, ac nis clywsant. Ac wele, rhyw Ddysgawdwr y Gyfraith a gododd i fyny gan ei brofi ef i'r eithaf, a dywedyd, Athraw, pa beth a wnaf i etifeddu bywyd Tragywyddol? Ac efe a ddywedodd wrtho, Pa beth sydd wedi ei ysgrifenu yn y Gyfraith? pa fodd y darlleni? Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Ti a geri yr Arglwydd dy Dduw, o'th holl galon, ac â'th holl enaid, ac â'th holl nerth, ac â'th holl feddwl: a'th gymydog fel ti dy hun. Yntau a ddywedodd wrtho, Ti a atebaist yn gywir: gwna hyn a byw fyddi. Ond efe yn benderfynol i gyfiawnhâu ei hun, a ddywedodd wrth yr Iesu, A phwy yw fy nghymydog? Ac efe gan ateb a ddywedodd, Rhyw ddyn oedd yn myned i waered o Jerusalem i Jericho, ac a syrthiodd yn mysg ysbeilwyr, y rhai a'i diosgasant ef, ac a'i curasant ef, ac a aethant ymaith, ac a'i gadawsant yn haner marw. Ac ar gyd‐ddygwyddiad, rhyw Offeiriad oedd yn myned i waered y ffordd hono; a phan y gwelodd ef, efe a aeth heibio o'r tu arall. Ac yn gyffelyb Lefiad hefyd, wedi dyfod i waered i'r lle, a gweled, a aeth heibio o'r tu arall. Ond rhyw Samariad, yn ymdeithio, a ddaeth i waered ato ef; a phan y gwelodd, efe a dosturiodd, ac a ddaeth ato, ac a rwymodd ei archollion ef, gan barhâu i dywallt arnynt olew a gwin, ac a'i gosododd ef ar ei anifail ei hun, ac a'i harweiniodd ef i'r Gwest‐dy, ac a gymmerodd ofal am dano. A thua thranoeth, efe a dynodd allan ddwy ddenarion, ac a'u rhoddodd i berchenog y gwest‐dŷ, ac a ddywedodd, Gofala am dano, a pha beth bynag a dreuli yn ychwaneg, myfi, pan ddychwelwyf, a dalaf yn ol i ti. Pwy o'r tri hyn, a ymddengys i ti sydd wedi bod yn gymydog i'r hwn a syrthiodd i blith ysbeilwyr? Ac efe a ddywedodd, Yr hwn a wnaeth drugaredd âg ef. A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Dos, a gwna dithau yr un modd. Pan yr oeddynt hwy yn ymdeithio, efe a ddaeth i mewn i ryw bentref; a rhyw wraig o'r enw Martha a'i croesawodd ef i'w thŷ. Ac i hon yr oedd chwaer a'i henw Mair, yr hon hefyd a eisteddodd yn ymyl wrth draed yr Arglwydd, ac a wrandawodd ei air ef. A Martha a drallodwyd ynghylch gweini llawer arno: a hi gan sefyll i fyny a ddywedodd, Arglwydd, Ai nid wyt ti yn gofalu fod fy chwaer wedi fy ngadael i yn hollol wrthyf fy hun i wasanaethu? Gan hyny, dywed wrthi, am gymmeryd ei rhan gyd â mi. A'r Arglwydd a atebodd ac a ddywedodd wrthi, Martha, Martha, yr wyt ti yn bryderus a chythryblus ynghylch llawer o bethau: ond am un y mae angen: a Mair a ddewisodd y rhan dda, yr hon ni ddygir oddiarni. A bu, ac efe mewn rhyw fan yn gweddïo, pan orphenodd, rhyw un o'r Dysgyblion a ddywedodd wrtho, Arglwydd, dysg ni i weddïo, yr un modd ag y dysgodd Ioan ei Ddysgyblion. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pan weddioch, dywedwch, O Dâd, Sancteiddier dy enw. Deled dy Deyrnas. Dyro i ni o ddydd i ddydd ein bara cyfreidiol. A maddeu i ni ein pechodau: canys yr ydym ni ein hunain hefyd yn maddeu i bob un sydd yn ein dyled ni. Ac na ddwg ni i brofedigaeth. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pwy o honoch chwi fydd iddo gyfaill, ac a â ato haner nos, ac a ddywed wrtho, Gyfaill, dyro yn fenthyg i mi dair torth: canys cyfaill i mi a ddaeth ataf o daith, ac nid oes genyf beth i'w osod ger ei fron ef. Ac yntau oddi mewn a etyb ac a ddywed, Na flina fi: y mae y drws yn barod wedi ei gau; ac y mae fy mhlant bychain gyd â mi yn y gwely: nid wyf yn gallu codi drachefn a rhoddi i ti. Yr wyf yn dywedyd i chwi, Os hyd y nod na rodda efe iddo gan gyfodi drachefn, o herwydd ei fod ef yn gyfaill iddo, eto o herwydd ei daerni digywilydd, efe a gyfyd, ac a rydd iddo gynifer ag sydd arno eu heisieu. Ac yr wyf yn dywedyd i chwi, Gofynwch, a rhoddir i chwi; ceisiwch, a chwi a gewch; curwch, ac fe a agorir i chwi: canys pob un sydd yn gofyn sydd yn derbyn; a'r hwn sydd yn ceisio sydd yn cael, ac i'r hwn sydd yn curo yr agorir. Ac i bwy o honoch chwi sydd dâd y gofyn ei fab dorth, ac a rydd gareg iddo yn ei lle? neu hefyd bysgodyn, ac a rydd iddo sarff yn lle pysgodyn? Neu hefyd a ofyn efe ŵy, a ddyry efe iddo ysgorpion yn ei le? Os chwi gan hyny, y rhai ydych ddrwg o'r dechreu, a wyddoch pa fodd i roddi rhoddion da i'ch plant, pa faint mwy y rhydd eich Tâd o'r Nef yr Yspryd Glân i'r rhai a ofynant ganddo? Ac yr oedd efe yn bwrw allan gythraul mud. A bu, wedi i'r cythraul fyned allan, i'r mudan lefaru: a'r torfeydd a ryfeddasant. Ond rhai o honynt a ddywedasant, Trwy Beelzebwl, Penaeth y cythreuliaid, y mae efe yn bwrw allan gythreuliaid. Ac yr oedd eraill, gan ei demtio ef, yn ceisio arwydd allan o'r Nef ganddo. Yntau, yn gwybod eu meddyliau hwynt, a ddywedodd wrthynt, Pob Teyrnas wedi ymranu yn ei herbyn ei hun sydd anghyfanedd; a phob tŷ yn erbyn tŷ sydd yn syrthio: ac os ydyw Satan hefyd wedi ymranu yn ei erbyn ei hun, pa fodd y saif ei Deyrnas ef? Canys chwi a ddywedwch mai trwy Beelzebwl, yr wyf fi yn bwrw allan y cythreuliaid. Ond os wyf fi trwy Beelzebwl yn bwrw allan y cythreuliaid, trwy bwy y mae eich Meibion chwi yn eu bwrw allan? O herwydd hyn, hwynt‐hwy fyddant eich barnwyr chwi. Ond os trwy fys Duw yr wyf yn bwrw allan y cythreuliaid, Teyrnas Dduw yn wir a'ch goddiweddodd. Pan fyddo y cryf wedi ei lawn arfogi yn gwylied ei anedd, y mae ei eiddo ef mewn heddwch. Ond pan ddêl un cryfach nag ef arno, a'i orchfygu, efe a ddwg ymaith ei holl arfogaeth, yn yr hon yr oedd wedi ymddiried, ac y mae yn rhanu ei anrheithion ef. Yr hwn nid yw gyd â mi sydd yn fy erbyn; a'r hwn nid yw yn casglu gyd â mi sydd yn gwasgaru. Pan yr êl yr yspryd aflan allan o'r dyn, y mae efe yn myned trwy leoedd diddwfr, gan geisio gorphwysdra; a phan nad yw yn ei gael, efe a ddywed, Mi a ddychwelaf i'm tŷ o'r hwn y daethum allan. A phan ddêl, y mae yn ei gael wedi ei ysgubo a'i drwsio. Yna y mae yn myned, ac yn cymmeryd ato saith yspryd arall, gwaeth nag ef ei hun: ac y maent hwy, wedi myned i mewn, yn trigo yno. Ac y mae cyflwr diweddaf y dyn hwnw yn waeth na'r cyntaf. A bu, pan yr oedd efe yn llefaru y pethau hyn, rhyw wraig o'r dyrfa a gododd ei llef, ac a ddywedodd wrtho, Gwyn fyd y grôth a'th ddug di, a'r bronau a sugnaist. Ond efe a ddywedodd, Felly, yn wir, gwyn fyd y rhai sydd yn gwrando Gair Duw, ac yn ei gadw. Ac fel yr oedd y torfeydd yn ymdyru ynghyd ato ef, efe a ddechreuodd ddywedyd, Y Genedlaeth hon, cenedlaeth ddrwg ydyw: y mae yn ceisio arwydd: ac arwydd ni roddir iddi, ond arwydd Jonah. Canys fel y bu Jonah yn arwydd i'r Ninifëaid; felly y bydd Mab y Dyn hefyd i'r genedlaeth hon. Brenines y Deheu a gyfyd yn y Farn gyd â gwŷr y genedlaeth hon, ac a'u condemnia hwynt; canys hi a ddaeth o eithafoedd y ddaear i wrando doethineb Solomon: ac wele, fwy na Solomon yma. Gwyr o Ninifëaid a gyfodant i fyny yn y Farn gyd â'r genedlaeth hon, ac a'i condemniant hi: canys hwy a edifarhasant wrth bregeth Jonah; ac wele fwy na Jonah yma. Ni wna neb, wedi goleuo lamp, ei gosod mewn cudd‐gell, neu o dan y mesur‐lestr, ond ar y daliadyr, fel y gwelo y rhai a ddelo i mewn y goleuni. Lamp y corff yw dy lygad. Pan fyddo dy lygad yn syml, dy holl gorff hefyd fydd ddysglaer: ond pan fyddo yn ddrwg, dy gorff hefyd fydd yn dywyllwch. Edrych gan hyny rhag i'r goleuni sydd ynot fod yn dywyllwch. Os dy holl gorff gan hyny sydd ddysglaer, heb fod un rhan yn dywyll, bydd yr oll yn ddysglaer, fel pan y mae y lamp yn ei dysglaerdeb llachar yn dy oleuo di. Ac fel yr oedd efe yn llefaru, Pharisead a ofynodd iddo giniawa gyd âg ef; ac efe a aeth i mewn, ac a eisteddodd i lawr wrth y bwrdd. A'r Pharisead pan welodd, a ryfeddodd nad ymdrochasai efe yn gyntaf cyn ciniaw. A'r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Yn awr chwychwi y Phariseaid ydych yn glanhâu y tu allan i'r cwpan a'r ddysgl: ond eich tu mewn sydd yn llawn o drais a drygioni. O rai anystyriol! Onid yr hwn a wnaeth yr hyn sydd oddi allan a wnaeth yr hyn sydd oddi fewn hefyd? Yn mhellach, rhoddwch y pethau sydd tu fewn fel elusen, ac wele, y mae pob peth yn lân i chwi. Ond gwae chwi, Y Phariseaid, canys yr ydych yn talu degwm o'r mintys, a'r ryw, a phob llysieuyn, ac yn myned heibio i'r Farn a Chariad Duw: ond y pethau hyn a ddylasech eu gwneuthur, heb fyned heibio y lleill. Gwae chwi, y Phariseaid, canys yr ydych yn caru y brif gadair yn y Synagogau, a'r cyfarchiadau yn y marchnad‐leoedd. Gwae chwi, canys yr ydych fel beddau anamlwg, a'r dynion a gerddant drostynt heb wybod hyny. Ac un o Ddysgawdwyr y Gyfraith gan ateb a ddywed wrtho, Athraw, wrth ddywedyd hyn yr wyt yn dirmygu hyd y nod nyni. Ond efe a ddywedodd, gwae hefyd chwi, Ddysgawdwyr y Gyfraith, canys yr ydych chwi yn beichio y bobl â beichiau anhawdd eu dwyn, a chwychwi nid ydych yn cyffwrdd â'r beichiau âg un o'ch bysedd. Gwae chwi! canys yr ydych yn adeiladu beddau y Proffwydi, a'ch Tâdau chwi a'u lladdasant hwynt. Felly yr ydych chwi yn dystion, ac yn cymeradwyo yn hollol weithredoedd eich Tâdau; canys hwynt‐hwy a'u lladdasant, a chwithau sydd yn adeiladu eu beddau. O herwydd hyn hefyd Doethineb Duw a ddywedodd, Mi a anfonaf atynt Broffwydi ac Apostolion, A rhai o honynt hwy a laddant ac a erlidiant. Fel y gofyner gwaed yr holl Broffwydi a dywalltwyd, O seiliad y byd, oddiar law y Genedlaeth hon; O waed Abel hyd waed Zechariah, yr hwn a ddyfethwyd rhwng yr Allor a'r Tŷ. Ie, meddaf i chwi, gofynir ef oddiar law y Genedlaeth hon. Gwae chwi! Ddysgawdwyr y Gyfraith, canys chwi a ddygasoch ymaith allwedd gwybodaeth: chwychwi eich hunain nid aethoch i mewn; a chwi a waharddasoch i eraill fyned i mewn. Ac wedi iddo ddyfod allan oddiyno, yr Ysgrifenyddion a'r Phariseaid a ddechreuasant ymosod yn angerddol arno ef, a'i groes‐holi ynghylch mwy a mwy o bethau: gan osod cynllwyn iddo, a dal ar rywbeth o'i enau ef. Yn y cyfamser, pan yr ymgasglodd y dyrfa yn ddegau o filoedd ynghyd, hyd oni sathrent eu gilydd, efe a ddechreuodd ddywedyd wrth y Dysgyblion yn gyntaf oll, Gwyliwch arnoch rhag lefain y Phariseaid, yr hwn yw rhagrith. Ond nid oes dim wedi ei orchuddio i fyny, a'r nis dad‐orchuddir, a dim dirgel, a'r nis gwybyddir. O herwydd paham, pa bethau bynag a ddywedasoch yn y tywyllwch, a glywir yn y goleuni: a'r hyn a lefarasoch i'r glust mewn celloedd dirgel, a gyhoeddir ar benau tai. Ac yr wyf yn dywedyd i chwi, fy nghyfeillion, Nac ofnwch ddim oddiwrth y rhai sydd yn lladd y corff, ac wedi hyny heb ganddynt ddim yn mhellach i'w wneuthur. Ond mi a ddangosaf i chwi pwy a ofnwch: ofnwch yr hwn, wedi y lladd, sydd ag awdurdod ganddo i fwrw i Gehenna; ie, meddaf i chwi, hwnw a ofnwch. Oni werthir pump o adar y tô am ddwy geiniog? Ac nid oes un o honynt wedi cael ei anghofio gerbron Duw. Ond y mae hyd y nod wallt eich pen chwi wedi eu cyfrif oll. Nac ofnwch, yr ydych chwi yn rhagorach na llawer o adar y tô. Ac yr wyf yn dywedyd i chwi, Pob un a'm cyffeso i gerbron dynion, Mab y Dyn hefyd a'i cyffesa yntau ger bron Angelion Duw. Ond yr hwn a'm gwado i ger bron dynion, a lwyr‐wedir ger bron Angelion Duw. A phob un a ddywedo air mewn perthynas i Fab y Dyn, fe a faddeuir iddo: ond i'r hwn a gablo mewn perthynas i'r Yspryd Glân, ni faddeuir. A phan y'ch dygant chwi i mewn o flaen y Synagogau, a'r Llywodraethau, a'r Awdurdodau, na fyddwch bryderus am ba fodd neu ba beth i amddiffyn eich hun, neu i ddywedyd; canys yr Yspryd Glân a ddysg i chwi yn yr awr hono beth a ddylech ei ddywedyd. A rhyw un o'r dyrfa a ddywedodd wrtho, Athraw, dywed wrth fy mrawd am ranu â myfi yr Etifeddiaeth. Yntau a ddywedodd wrtho, Ddyn, pwy a'm gosododd i yn Farnwr neu yn Rhanwr arnoch chwi? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Edrychwch a gwyliwch rhag pob trachwant: canys nid yw bywyd neb yn gynwysedig yn helaethrwydd y meddianau sydd ganddo. Ac efe a ddywedodd ddammeg wrthynt, gan ddywedyd, Tir rhyw wr goludog a gnydiodd yn dda. Ac efe a ymresymodd ynddo ei hun, gan ddywedyd, Pa beth a wnaf, canys nid oes genyf le i gasglu fy ffrwythau iddo? Ac efe a ddywedodd, Hyn a wnaf: Mi a dynaf i lawr fy ysguboriau, ac a adeiladaf rai mwy: ac yno y casglaf ynghyd fy holl yd a'm da. A dywedaf wrth fy enaid, Enaid, y mae genyt dda lawer wedi ei roi i gadw ar gyfer blynyddoedd lawer; gorphwys, bwyta, ŷf, mwynhâ dy hun. Ond Duw a ddywedodd wrtho, O'r un anystyriol! y nos hon y gofynant dy enaid oddi wrthyt: a'r pethau a barotoaist, i bwy y byddant? Felly yw yr hwn a drysora iddo ei hun, ac nid yw gyfoethog tu ag at Dduw. Ac efe a ddywedodd wrth ei Ddysgyblion, O herwydd hyn meddaf i chwi, na fyddwch bryderus am y bywyd, beth a fwytâoch, nac am y corff, beth a wisgoch. Canys y mae y bywyd yn fwy na'r bwyd, a'r corff na'r wisg. Ystyriwch y cigfrain, nad ydynt yn hau nac yn medi; i'r rhai nid oes ystordy nac ysgubor, ac y mae Duw yn eu porthi hwynt: pa faint mwy yr ydych chwi yn rhagori ar yr ehediaid? A phwy o honoch wrth fod yn bryderus a ddichon chwanegu un cufydd at hyd ei einioes? Os gan hyny ni ellwch hyd y nod yn yr hyn sydd leiaf, paham yr ydych yn bryderus am y gweddill? Ystyriwch flodau'r lili, pa fodd y maent yn tyfu; nid ydynt yn llafurio nac yn nyddu: ond meddaf i chwi, hyd y nod Solomon yn ei holl ogoniant ni amwisgwyd fel un o'r rhai hyn. Ac os felly y mae Duw yn dilladu y glaswellt, y rhai sydd heddyw mewn maes, ac yfory yn cael eu taflu i ffwrn, pa faint mwy y dillada efe chwi, O chwi o ychydig ffydd? A chwychwi, na cheisiwch beth a fwytâoch, a pha beth a yfoch, ac na fyddwch mewn amheuaeth bryderus. Canys y pethau hyn oll y mae cenedloedd y byd yn eu hargeisio: ac y mae eich Tâd chwi yn gwybod fod arnoch chwi eisieu y pethau hyn. Yn mhellach, ceisiwch ei Deyrnas ef, a'r peth hyn a ychwanegir i chwi. Nac ofna, y praidd bychan; canys rhyngodd bodd i'ch Tâd roddi i chwi y Deyrnas. Gwerthwch eich meddianau, a rhoddwch elusen: gwnewch i chwi eich hunain gôdau ni heneiddiant, trysor diddarfod yn y Nefoedd, lle nad yw lleidr yn agoshâu, na phryfed yn llwyr‐ddifa. Canys lle y mae eich trysor chwi, yno y bydd eich calon hefyd. Bydded eich lwynau wedi eu gwregysu, a'r lampau yn llosgi, a chwithau yn debyg i ddynion yn dysgwyl eu Harglwydd eu hunain, pan yr ymadawo o'r briodas‐wledd; fel, pan ddelo a churo, yn ebrwydd yr agorant iddo. Gwyn fyd y gweision hyny, y rhai a gaiff yr Arglwydd pan ddêl yn gwylio yn ddyfal. Yn wir meddaf i chwi, efe a ymwregysa, ac a wna iddynt eistedd i fwyta; ac efe a ddaw yn mlaen, ac a wasanaetha arnynt. Ac os daw efe yn yr ail, ac os yn y drydedd wyliadwriaeth, a chael felly, gwyn fyd y rhai hyny. A gwybyddwch hyn, pe gwybuasai meistr y tŷ pa awr y mae y lleidr yn dyfod, efe a wyliasai yn ddyfal, ac ni adawsai iddo gloddio trwy ei dŷ ef. A chwithau,, byddwch barod; canys mewn awr ni thybioch y mae Mab y Dyn yn dyfod. A Phetr a ddywedodd, Arglwydd, Ai wrthym ni yr wyt yn dywedyd y ddammeg hon, ai hefyd wrth bawb? A'r Arglwydd a ddywedodd, Pwy yn wir yw y goruchwyliwr ffyddlawn, synwyrol, yr hwn a esyd ei arglwydd dros ei wasanaethyddion, i roddi mewn pryd eu cyfran o fwyd? Gwyn fyd y gwas hwnw, yr hwn y caiff ei arglwydd pan ddêl yn gwneuthur felly. Mewn gwirionedd yr wyf yn dywedyd i chwi, efe a'i gesyd ef dros ei holl eiddo. Ond os dywed y gwas hwnw yn ei galon, Y mae fy arglwydd yn oedi dyfod, a dechreu curo y gweision a'r morwynion, a bwyta, ac yfed, a meddwi; daw arglwydd y gwas hwnw mewn dydd nad yw efe yn dysgwyl, ac mewn awr nad yw efe yn gwybod; ac efe a'i fflangella yn erwin; ac a esyd ei gyfran gyd â'r anffyddloniaid. A'r gwas hwnw, yr hwn a wybu ewyllys ei arglwydd, ac nid ymbarotôdd, ac ni wnaeth yn unol â'i ewyllys, a gurir â llawer curiad. Eithr yr hwn ni wybu, ond a wnaeth bethau yn haeddu curiadau, a gurir âg ychydig. Ac i bwy bynag y rhoddir llawer, llawer a geisir oddi wrtho: ac i'r hwn yr ymddiriedasant lawer, mwy a ofynant oddi wrtho. Mi a ddaethum i fwrw tân ar y ddaear: a pha beth a ewyllysiaf? O na fyddai wedi ei gyneu eisioes! Y mae genyf Fedydd â'r hwn y'm bedyddir: ac mor gyfyng yw arnaf hyd oni orphener! A ydych chwi yn tybied i mi ddyfod i roddi heddwch ar y ddaear? Naddo, meddaf i chwi, ddim arall ond ymraniad: canys bydd o hyn allan bump mewn un tŷ wedi ymranu: tri yr erbyn dau, a dau yn erbyn tri a ymranant; Tâd yn erbyn mab, a mab yn erbyn tâd; Mam yn erbyn merch, a merch yn erbyn y fam; Chwegr yn erbyn ei gwaudd, a gwaudd yn erbyn y chwegr. Ac efe a ddywedodd hefyd wrth y torfeydd, Pan weloch gwmwl yn cyfodi o'r Gorllewin, yn ebrwydd chwi a ddywedwch, Y mae gwlaw trwm yn dyfod: ac felly y mae. A phan fo y Deheu‐wynt yn chwythu, chwi a ddywedwch. Poeth‐wynt a fydd: ac y mae. Ragrithwyr, chwi a, wyddoch pa fodd i wneuthur prawf o wyneb‐pryd y ddaear a'r wybr: ond y tymhor hwn, pa fodd na wyddoch sut i wneuthur prawf o hono? A phaham nad ydych hyd y nod o honoch eich hunain yn barnu yr hyn sydd gyfiawn? Canys tra fyddi yn myned gyd â'th wrthwynebwr o flaen y llywodraethwr, ar y ffordd gwna dy oreu i gael myned yn rhydd oddi wrtho; rhag iddo dy lusgo at y Barnwr, a'r Barnwr a'th draddoda at y Dirwywr, a'r Dirwywr a'th dafla i garchar. Yr wyf yn dywedyd i ti, ni ddeui di mewn un modd allan oddi yno, hyd oni thelyt hyd y nod yr hatling olaf. A chyrhaeddodd rhai yn y cyfamser hwnw, gan fynegi iddo am y Galileaid, gwaed y rhai a gymysgodd Pilat â'u haberthau. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, A ydych chwi yn tybied fod y Galileaid hyn yn bechaduriaid tu hwnt i'r holl Galileaid, am eu bod wedi dyoddef y pethau hyn? Na, meddaf i chwi; eithr onid edifarhêwch, chwi oll a ddyfethir yn yr un modd. Neu y deunaw hyny, ar y rhai y syrthiodd y Twr yn Siloam, ac a'u lladdodd hwynt: a ydych chwi yn tybied fod y rhai hyn eu hunain yn ddyledwyr tu hwnt i'r holl ddynion oedd yn trigo yn Jerusalem? Na, meddaf i chwi, eithr onid edifarhêwch, chwi a ddyfethir oll yr un modd yn hollol. Ac efe a ddywedodd y ddammeg hon: Yr oedd gan un ffigysbren wedi ei blanu yn ei winllan: ac efe a ddaeth gan geisio ffrwyth arno, ac ni chafodd. Ac efe a ddywedodd wrth y gwinllanydd, Wele, y mae tair blynedd o'r adeg yr wyf yn dyfod gan geisio ffrwyth ar y ffigysbren hwn, ac nid wyf yn cael: tor ef allan: paham y mae efe hefyd yn diffrwytho y tir? Ac efe gan ateb a ddywed wrtho, Arglwydd, gâd ef y flwyddyn hon hefyd, hyd oni chloddiaf o'i amgylch a'i achlesu: ac os dwg ffrwyth am y dyfodol, da: ond os na wna, yn wir, ti a'i tori ef allan. Ac yr oedd efe yn dysgu yn un o'r Synagogau ar y Sabbath. Ac wele wraig ag ynddi yspryd gwendid ddeunaw mlynedd, ac yr oedd wedi cyd‐grymu, ac ni allai ymuniawni o gwbl. A'r Iesu a'i gwelodd hi, ac a'i galwodd ato, ac a ddywedodd wrthi, Wraig, yr wyt wedi dy ryddhâu oddiwrth dy wendid. Ac efe a osododd ei ddwylaw arni, ac yn y man hi a uniawnwyd, ac yr oedd yn gogoneddu Duw. A Llywodraethwr y Synagog a ffromodd yn aruthr am i'r Iesu wellhâu ar y Sabbath, ac a atebodd ac a ddywedodd wrth y dyrfa, Y mae chwe diwrnod yn y rhai y dylid gweithio; yn y rhai hyn gan hyny deuwch a gwellhâer chwi, ac nid ar y dydd Sabbath. Ond yr Arglwydd a atebodd iddo ac a ddywedodd, O ragrithwyr, Onid yw pob un o honoch yn gollwng ar y Sabbath ei ych neu ei asyn o'r preseb, a'i arwain ymaith i'r dwfr? Ond hon, yn ferch i Abraham, yr hon a rwymodd Satan, wele, ddeunaw mlynedd; oni ddylai gael ei rhyddhâu oddiwrth y rhwymyn hwn ar y dydd Sabbath? Ac fel yr oedd efe yn dywedyd y pethau hyn, ei holl wrthwynebwyr a gywilyddiasant; a'r holl dyrfa oedd yn llawenhâu am yr holl bethau gogoneddus a wnaid ganddo. Efe a ddywedodd gan hyny, I ba beth y mae Teyrnas Dduw yn debyg, ac i ba beth y cyffelybaf hi? Tebyg yw i ronyn mwstard, yr hwn a gymmerodd dyn, ac a fwriodd i'w ardd ei hun; ac efe a dyfodd, ac a ddaeth i fod yn bren, ac ehediaid y Nefoedd a ymlochesasant yn ei gangau ef. A thrachefn efe a ddywedodd, I ba beth y cyffelybaf Deyrnas Dduw? Tebyg yw i lefain, yr hwn a gymmerodd gwraig, ac a'i cuddiodd mewn tri mesur o flawd, hyd oni lefeiniwyd y cwbl oll. Ac efe a ymdeithiodd drwy ddinasoedd a phentrefi, gan ddysgu, a gwneyd ei ffordd i Jerusalem. A rhyw un a ddywedodd wrtho, Ai ychydig yw y rhai sydd yn cael eu cadw? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ymorchestwch i fyned i mewn drwy y drws cyfyng: canys llawer, meddaf i chwi, a geisiant fyned i mewn, ac ni fyddant alluog — o'r adeg y cyfodo meistr y tŷ, a chau y drws, a dechreu o honoch sefyll y tu allan a churo y drws, gan ddywedyd, Arglwydd, agor i ni, ac yntau gan ateb a ddywed, Nid adwaen chwi, o ba le yr ydych. Yna y dechreuwch ddywedyd, Ni a fwytasom ac a yfasom yn dy ŵydd di, a thi a ddysgaist yn ein prif‐heolydd. Ac efe a ddywed, Yr wyf yn dywedyd i chwi, nid adwaen o ba le yr ydych: ewch ymaith oddi wrthyf, holl weithredwyr anghyfiawnder. Yno y bydd yr wylofain a'r rhingcian danedd, pan welwch Abraham, ac Isaac, a Jacob, a'r holl Broffwydi, yn Nheyrnas Dduw, ond chwithau wedi eich bwrw i'r tu allan. A deuant o'r Dwyrain, ac o'r Gorllewin, o'r Gogledd, ac o'r Deheu, ac a eisteddant i lawr i'r wledd yn Nheyrnas Dduw. Ac wele, y mae rhai olaf a fyddant flaenaf, a blaenaf a fyddant olaf. Yr awr hono daeth ato ryw Pharisead, ac a ddywedodd wrtho, Dos allan a cherdda oddi yma, canys y mae Herod yn ewyllysio dy ladd di. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch a dywedwch wrth y cadnaw hwnw, Wele, yr wyf yn bwrw allan gythreuliaid, ac yn cyflawnu gweithredoedd o iachâd heddyw ac yfory, a'r trydydd dydd yr wyf yn cyrhaedd y diwedd. Yn mhellach, rhaid i mi ymdaith heddyw, ac yfory, a threnydd: canys ni chaniateir i Broffwyd gael ei ddyfetha tu allan i Jerusalem. O Jerusalem, Jerusalem, yr hon wyt yn lladd y Proffwydi, ac yn llabyddio y rhai a ddanfonwyd atat, pa mor fynych yr ewyllysiais gasglu dy blant ynghyd, y modd y casgl yr iar ei chywion dan ei hadenydd; ac nid ewyllysiech chwi! Wele, y mae eich Tŷ yn cael ei adael i chwi. Ond meddaf i chwi, Ni welwch fi o gwbl, hyd nes y dywedwch, Bendigedig yw yr Hwn sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd. Bu hefyd pan ddaeth efe i dŷ un o Lywodraethwyr y Phariseaid ar y Sabbath, i fwyta bara, hwy eu hunain hefyd oeddynt yn ei wylio ef yn ddyfal. Ac wele, yr oedd ger ei fron ef ryw wr yn glaf o'r dyfr‐glwyf. A'r Iesu gan ateb a lefarodd wrth Ddysgawdwyr y Gyfraith a'r Phariseaid, gan ddywedyd, A ydyw gyfreithlawn gwellhâu ar y Sabbath a'i nad yw? A hwy a gadwasant yn dawel. Ac efe a afaelodd ynddo, ac a'i hiachâodd ef, ac a'i gollyngodd ymaith. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Mab neu ŷch pa un o honoch a syrth i bydew, ac yn ebrwydd nis tyn ef i fyny ar y dydd Sabbath? Ac ni allent ateb yn ol i'r pethau hyn. Ac efe a ddywedodd ddammeg wrth y gwahoddedigion, pan y daliodd sylw ar y modd y dewisent allan iddynt eu hunain y prif eistedd‐leoedd, gan ddywedyd wrthynt, Pan y'th wahodder gan neb i briodas‐wledd, nac eistedd i lawr yn y prif eistedd‐le, rhag bod un anrhydeddusach na thydi wedi ei wahodd ganddo; a dyfod o'r hwn a'th wahoddodd di ac yntau, a dywedyd wrthyt, Dyro le i hwn: ac yna dechreu o honot gyd â chywilydd gymmeryd meddiant o'r lle olaf. Ond pan y'th wahodder, dos ac eistedd i lawr yn y lle olaf, fel pan ddelo yr hwn sydd wedi dy wahodd di, y dywed wrthyt, Gyfaill, dos yn uwch i fyny: yna y bydd i ti anrhydedd yn ngŵydd pawb a eisteddant gyd â thi. Canys pob un a ddyrchafo ei hun a ostyngir: a'r hwn sydd yn ei ostwng ei hun, a ddyrchefir. Ac efe a ddywedodd hefyd wrth yr hwn oedd wedi ei wahodd, Pan wnelyt giniaw neu swper, na alw dy gyfeillion, na'th frodyr, na'th berthynasau, na chymydogion cyfoethog, rhag unrhyw amser iddynt hwythau hefyd dy wahodd dithau eilchwyl, ac y bydd ad‐daliad i ti. Eithr pan wnelyt wledd, gwahodd dlodion, anafusion, cloffion, deillion: a dedwydd fyddi, am nad oes ganddynt ddim i ad‐dalu i ti: canys fe ad‐delir i ti yn Adgyfodiad y rhai cyfiawn. A phan glywodd rhyw un o'r rhai oedd yn cyd‐eistedd wrth fwyd y pethau hyn, efe a ddywedodd wrtho, Gwyn fyd pwy bynag a fwytâo fara yn Nheyrnas Dduw. Ac efe a ddywedodd wrtho, Rhyw ddyn oedd yn gwneuthur swper mawr, ac a wahoddodd lawer: ac a ddanfonodd ei was ar bryd y swper i ddywedyd wrth y gwahoddedigion, Deuwch, canys y mae pob peth weithian yn barod. A hwy oll a ddechreuasant o un fryd ymesgusodi: y cyntaf a ddywedodd wrtho, Mi a brynais faes, ac y mae angenrhaid arnaf fyned allan i'w weled: yr wyf yn gofyn i ti, cymmer fi yn esgusodol. Ac arall a ddywedodd, Mi a brynais bum iau o ychain, ac yr wyf yn myned i'w profi hwynt: yr wyf yn gofyn i ti, cymmer fi yn esgusodol. Ac arall a ddywedodd, Mi a briodais wraig, ac o herwydd hyn nis gallaf ddyfod. A'r gwas, pan gyrhaeddodd, a fynegodd i'w arglwydd y pethau hyn. Yna Meistr y tŷ a fu ddigllawn, ac a ddywedodd wrth ei was, Dos allan ar frys i'r prif‐ystrydoedd a chul‐heolydd y Ddinas, a dwg i mewn yma y tlodion, a'r anafusion, a'r deillion, a'r cloffion. A'r gwas a ddywedodd, Arglwydd, y peth a orchymynaist sydd wedi ei wneuthur, ac eto y mae lle. A'r arglwydd a ddywedodd wrth y gwas, Dos allan i'r ffyrdd a'r cloddiau, a chymhell hwynt i ddyfod i mewn, fel y llanwer fy nhŷ. Canys yr wyf yn dywedyd i chwi, Ni cha neb o'r gwyr hyny sydd wedi eu gwahodd brofi o'm swper i. A thorfeydd lawer oeddynt yn myned gyd âg ef: ac efe a drodd, ac a ddywedodd wrthynt, Os oes neb yn dyfod ataf fi, ac nid yw yn cashâu ei dâd, a'i fam, a'i wraig, a'i blant, a'i frodyr, a'i chwiorydd, ie, a'i einioes ei hun hefyd, ni all efe fod yn ddysgybl i mi: a phwy bynag nid yw yn dwyn ei groes ei hun, ac yn dyfod ar fy ol i, ni all efe fod yn ddysgybl i mi. Canys pwy o honoch chwi yn ewyllysio adeiladu tŵr, nid eistedd yn gyntaf a chyfrif y draul, a oes ganddo ddigon i'w orphen? Rhag byth, wedi iddo osod y sylfaen, ac heb allu dwyn i ben yn hollol, ddechreu o bawb a ddaliant sylw ei watwar ef, gan ddywedyd, Y dyn hwn a ddechreuodd adeiladu, ac ni allodd ddwyn i ben yn hollol. Neu pa frenin yn myned allan i wrth‐daraw â brenin arall mewn rhyfel, nid eistedd yn gyntaf ac ymgynghori a all efe â deng mil gyfarfod â'r hwn sydd yn dyfod yn ei erbyn ef âg ugain mil? Os amgen, tra fyddo efe eto yn mhell, efe a enfyn lys‐genadaeth, ac a ofyna amodau heddwch. Felly, gan hyny, pob un o honoch chwithau nid ymwrthodo a chymaint oll ag a feddo, ni all fod yn ddysgybl i mi. Da gan hyny yw yr halen: eithr os collodd hyd y nod yr halen ei flas, â pha beth yr helltir ef? Nid yw efe gyfaddas nac i'r tir nac i'r domen: y maent yn ei fwrw ef allan. Y neb sydd ganddo glustiau, gan wrando, gwrandawed. Ac yr oedd yr holl Dreth‐gasglwyr a'r pechaduriaid yn agoshâu ato, i wrando arno. A'r Phariseaid a'r Ysgrifenyddion ynghyd oeddynt yn grwgnach yn ddirfawr, gan ddywedyd, Y mae hwn yn gwahodd pechaduriaid, ac yn bwyta gyd â hwynt. Ac efe lefarodd y ddammeg hon wrthynt, gan ddywedyd, Pa ddyn o honoch, a chanddo gant o ddefaid, ac wedi colli un o honynt, nid yw yn gadael yn gyfangwbl y naw‐deg a naw yn yr anialwch, ac yn myned ar ol yr hon oedd wedi ei cholli, hyd oni chaffo efe hi? Ac wedi iddo ei chael, efe a'i gesyd hi ar ei ysgwyddau gan lawenhâu. A phan ddêl adref, y mae yn galw ynghyd ei gyfeillion a'i gymydogion, gan ddywedyd wrthynt, Cyd‐lawenhêwch â mi, canys cefais fy nafad a gollasid. Yr wyf yn dywedyd i chwi, Felly y bydd llawenydd yn y Nef dros un pechadur yn edifarhâu, mwy na thros naw‐deg a naw o rai cyfiawn, y cyfryw nid oes eisieu edifeirwch arnynt. Neu pa wraig a chanddi ddeg drachma, os cyll hi un drachma, oni oleu lamp, ac ysgubo y tŷ, a cheisio yn ddyfal hyd onis caffo ef? Ac wedi iddi ei gael, y mae yn galw ati ei hun ei chyfeillesau a'i chymydogesau, gan ddywedyd, Cyd‐lawenhêwch â mi, canys cefais y drachma a gollais. Felly, meddaf i chwi, y mae llawenydd yn ngwydd Angelion Duw dros un pechadur yn edifarhâu. Ac efe a ddywedodd, Rhyw wr oedd ganddo ddau fab: a'r ieuengaf o honynt a ddywedodd wrth ei dâd, Fy Nhâd, dyro i mi y gyfran o'r meddianau sydd yn syrthio i mi: ac efe a ranodd iddynt y fywoliaeth. Ac ar ol nid llawer o ddyddiau, y mab ieuengaf a gasglodd bob peth ynghyd, ac a aeth oddi cartref i wlad bell: ac yno efe a wastraffodd ei feddianau, gan fyw yn afradlon. Ac wedi iddo dreulio y cwbl, daeth newyn mawr drwy y wlad hono: ac efe ei hun a ddechreuodd ddyoddef eisieu. Ac efe a aeth ac a lynodd wrth un o ddinaswyr y wlad hono; ac efe a'i hanfonodd ef i'r meusydd i borthi moch. Ac yr oedd efe yn awyddu cael ei ddigoni a'r cibau a fwytäi y moch: ac nid oedd neb yn rhoddi dim iddo. A phan ddaeth ato ei hun, efe a ddywedodd, Pa sawl gwas cyflog o'r eiddo fy nhâd sydd ganddynt gyflawnder o fara, a minau yma ar ddarfod am danaf gan newyn! Mi a godaf, ac a âf at fy nhâd, ac a ddywedaf wrtho, Fy Nhâd, pechais yn erbyn y Nef, ac o'th flaen dithau: mwyach nid ydwyf deilwng i'm galw yn fab i ti: gwna fi fel un o'th weision cyflog. Ac efe a gododd, ac a aeth at ei dâd ei hun. A phan oedd efe eto yn mhell oddi wrtho, ei dâd a'i gwelodd ef, ac a dosturiodd, ac a redodd, ac a syrthiodd ar ei wddf, ac a'i cusanodd yn wresog. A'r mab a ddywedodd wrtho, Fy Nhâd, pechais yn erbyn y Nef, ac o'th flaen dithau: mwyach nid ydwyf deilwng i'm galw yn fab i ti. Eithr y tâd a ddywedodd wrth y gweision, Dygwch allan ar frys wisg, y goreu, a gwisgwch hi am dano ef, a rhoddwch fodrwy am ei law, a sandalau am ei draed. A dygwch y llô pasgedig, a lleddwch ef, a bwytawn, a byddwn lawen: canys fy mab hwn oedd farw, ac a aeth yn fyw drachefn: yr oedd efe wedi ei golli, ac a gafwyd; a hwy a ddechreuasant fod yn llawen. Ond yr oedd ei fab hynaf ef mewn maes: a phan ddaeth efe a neshâu at y tŷ, efe a glywodd gynghanedd a dawnsio. Ac efe a alwodd ato un o'r gweision, ac a ymofynodd beth allai y pethau hyn fod. Ac efe a ddywedodd wrtho, Dy frawd a ddaeth, a'th dâd a laddodd y llo pasgedig, am iddo ei dderbyn yn ol yn iach. Ond efe a aeth yn ddigllawn, ac nid oedd foddlawn i fyned i mewn. A daeth ei dâd allan, ac a ymbiliodd âg ef. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrth ei dâd, Wele, cynifer o flynyddoedd yr ydwyf yn dy wasanaethu di: ac nid esgeulusais i erioed dy orchymyn: ac ni roddaist erioed fyn i mi, fel y byddwn lawen gyd â'm cyfeillion: ond pan ddaeth dy fab hwn, yr hwn a ddifaodd dy fywoliaeth gyd â'r puteiniaid, ti a leddaist iddo ef lô pasgedig. Ond efe a ddywedodd wrtho, Fy Mhlentyn, Yr wyt ti yn wastadol gyd â mi, a'r oll sydd eiddof fi sydd eiddo ti. Ond rhaid oedd mwynhâu a llawenychu; canys dy frawd hwn oedd farw, ac a ddaeth yn fyw, ac a fu golledig, ac a gafwyd. Ac efe a ddywedodd hefyd wrth y Dysgyblion, Yr oedd rhyw wr goludog, yr hwn oedd ganddo oruchwyliwr: a hwn a gyhuddwyd wrtho fel yn gwastraffu ei feddianau ef. Ac efe a'i galwodd ef, ac a ddywedodd wrtho, Pa beth yw hyn yr wyf yn ei glywed am danat? Dyro yn ol y cyfrif o'th oruchwyliaeth: canys ni elli fod mwy yn swydd goruchwyliwr. A'r goruchwyliwr a ddywedodd ynddo ei hun, Pa beth a wnaf, gan fod fy arglwydd yn dwyn yr oruchwyliaeth oddi wrthyf? Nid oes genyf nerth i gloddio; ac y mae arnaf gywilydd i gardota. Mi a wn beth a wnaf, fel pan y'm symuder o'r oruchwyliaeth, y derbyniont fi i'w tai eu hunain. Ac efe a alwodd ato bob un o ddyledwyr ei arglwydd ei hun, ac a ddywedodd wrth y cyntaf, Pa faint o ddyled sydd arnat ti i'm harglwydd? Ac efe a ddywedodd, Can bath o olew. Ac efe a ddywedodd wrtho, Cymmer dy ddyleb, ac eistedd ar frys, ac ysgrifena ddeg a deugain. Yna y dywedodd wrth arall, A pha faint o ddyled sydd arnat tithau? Ac efe a ddywedodd, Can côr o wenith. Dywed wrtho, Cymmer dy ddyleb, ac ysgrifena bedwar ugain. A'r arglwydd a ganmolodd y goruchwyliwr anghyfiawn am iddo wneuthur yn gall: canys y mae Meibion y byd hwn yn gallach tu ag at eu cenedlaeth eu hun na Meibion y goleuni. Ac yr wyf yn dywedyd i chwi, Gwnewch i chwi eich hunain gyfeillion allan o'r Mamon Anghyfiawn, fel pan y pallo, y'ch derbyniont i'r tragywyddol bebyll. Yr hwn sydd ffyddlawn mewn ychydig sydd hefyd ffyddlawn mewn llawer: a'r hwn sydd anghyfiawn mewn ychydig sydd anghyfiawn hefyd mewn llawer. Os gan hyny ni fuoch ffyddlawn yn y Mamon Anghyfiawn, pwy a ymddiried i chwi yr hyn sydd wirioneddol? Ac os ni fuoch ffyddlawn yn yr hyn sydd eiddo arall, pwy a rydd i chwi eich eiddo eich hun? Ni ddichon un gwas teulu wasanaethu dau arglwydd: canys naill ai efe a gashâ y naill, ac a gâr y llall: neu efe a lŷn wrth y naill, ac a ddirmyga y llall. Ni ellwch wasanaethu Duw a Mamon. A'r Phariseaid, y rhai oeddynt ariangar, a glywsant yr holl bethau hyn, ac a'i gwawdiasant ef. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Chwi yw y rhai sydd yn cyfiawnhâu eich hunain gerbron dynion: ond y mae Duw yn gwybod eich calonau chwi: canys y peth sydd uchel yn mhlith dynion sydd ffieidd‐dra ger bron Duw. Yr oedd y Gyfraith a'r Proffwydi hyd Ioan: o'r pryd hwnw y pregethir Teyrnas Dduw trwy yr Efengyl, ac y mae pob un yn ymwthio â'i holl nerth iddi. Ond hawddach yw i Nef a daear fyned heibio nag i un tipyn o'r Gyfraith syrthio i'r llawr. Pob un o ollyngo ymaith ei wraig, ac a briodo un arall, y mae efe yn godinebu: a'r hwn a briodo yr hon sydd wedi ei gollwng ymaith oddi wrth wr, y mae efe yn godinebu. Ac yr oedd rhyw wr goludog; ac yr oedd yn arfer cael ei wisgo mewn porphor a llian teg gwerthfawr, gan fwynhâu ei hun bob dydd yn ysblenydd. A rhyw ddyn tlawd, o'r enw Lazarus, a fwriwyd wrth ei borth ef yn gornwydlyd, ac yn awyddu cael ei ddigoni â'r pethau a syrthient o fwrdd y goludog: ond hyd y nod y cwn a ddaethant, ac a lyfasant ei gornwydydd ef. A bu i'r dyn tlawd farw, a'i ddwyn ymaith gan yr Angelion i fynwes Abraham. A'r goludog hefyd a fu farw ac a gladdwyd: ac yn Hades efe a gododd ei olwg, ac efe mewn dirboenau, ac y mae yn gweled Abraham o hirbell, a Lazarus yn ei fynwes. Ac efe ei hun a lefodd, ac a ddywedodd, Dâd Abraham, trugarhâ wrthyf, a danfon Lazarus, fel y trocho ben ei fys mewn dwfr, ac oeri fy nhafod, canys yr wyf fi mewn trallod yn y fflam hon. Ond Abraham a ddywedodd, Blentyn, cofia i ti dderbyn dy bethau da yn dy fywyd, a Lazarus yr un modd y pethau drwg: ond yn awr y mae efe yma yn cael ei ddyddanu, ond tithau dy drallodi. Ac heblaw y pethau hyn oll, rhyngom ni a chwithau y mae gagendor mawr wedi ei sicrhâu, fel na allo y rhai a ewyllysient fyned drosodd oddi yma atoch chwi; na'r rhai oddi yna groesi drosodd atom ni. Ond efe a ddywedodd, Yr wyf yn gofyn i ti, gan hyny, O dâd, ei anfon ef i dŷ fy nhâd; canys y mae i mi bump o frodyr: fel y tystiolaetho yn ddifrifol iddynt hwy, fel na ddelont hwythau hefyd i'r lle poenus hwn. Ond Abraham a ddywed, Y mae ganddynt Moses a'r Proffwydi: bydded iddynt wrando arnynt hwy. Ond efe a ddywedodd, Na, Y tâd Abraham: eithr os â rhyw un oddiwrth y meirw atynt, hwy a edifarhânt. Ond efe a ddywedodd wrtho, Os nad ydynt yn gwrando ar Moses a'r Proffwydi, ni ddarbwyllir hwynt ychwaith os adgyfyd un o blith y meirw. Ac efe a ddywedodd wrth ei Ddysgyblion, Ni ellir caniatâu na ddaw achlysuron tramgwydd; ond gwae efe trwy yr hwn y maent yn dyfod. Y mae yn talu iddo pe bai maen melin yn crogi o amgylch ei wddf, ac yntau wedi ei daflu i'r môr, yn hytrach na pheri o hono i un o'r rhai bychain hyn dramgwyddo. Edrychwch arnoch eich hunain: os pecha dy frawd, cerydda ef; ac os edifarhâ, maddeu iddo. Ac os pecha yn dy erbyn seithwaith yn y dydd, a seithwaith droi atat, gan ddywedyd, y mae yn edifar genyf; ti a faddeui iddo. A dywedodd yr Apostolion wrth yr Arglwydd, Ychwanega ein ffydd ni. A'r Arglwydd a ddywedodd, Pe byddai genych ffydd fel gronyn o hâd mwstard, chwi a ddywedech wrth y sycaminwydden hon, Ymddadwreiddier di, a phlaner di yn y môr: a hi a ufuddhäai i chwi. Eithr pa un o honoch a chanddo was yn aredig neu yn bugeilio, a ddywed wrtho pan y dêl i mewn o'r maes, Yn ebrwydd tyred yn mlaen, ac eistedd i lawr i fwyta; ond yn hytrach ai ni ddywed wrtho, Gwna yn barod beth i mi i swperu, ac ymwregysa, a gweina arnaf, hyd nes i mi fwyta ac yfed: ac wedi y pethau hyn y bwytai ac yr yfi dithau? Oes ganddo ddiolch i'r gwas am iddo wneuthur y pethau a orchymynwyd? Felly chwithau hefyd, wedi i chwi wneuthur y cwbl oll a orchymynwyd i chwi, dywedwch, Gweision anfuddiol ydym! Yr ydym wedi gwneuthur yr hyn yw ein dyledswydd i wneuthur. A bu pan yr oeddynt yn myned i Jerusalem, yr oedd efe hefyd yn myned trwy ganol Samaria a Galilea. Ac fel yr oedd efe yn myned i mewn i ryw bentref, cyfarfu âg ef ddeg o wŷr gwahan‐glwyfus, y rhai a safasant o hirbell: a hwy a godasant eu llef, gan ddywedyd, Iesu, O Feistr, trugarhâ wrthym. A phan welodd, efe a ddywedodd wrthynt, Ewch a dangoswch eich hunain i'r offeiriaid. A bu, fel yr oeddynt yn myned, fe a'u glanhâwyd hwynt. Ac un o honynt, pan welodd ddarfod ei iachâu, a ddychwelodd, gan folianu Duw â llef uchel; ac efe a syrthiodd ar ei wyneb wrth ei draed ef, gan roddi diolch iddo: ac efe ei hun oedd Samariad. A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd, oni lanhâwyd y deg? Ond y naw, pa le y maent? Oni chafwyd a ddychwelasant i roddi gogoniant i Dduw ond yr alltud cenedlig hwn? Ac efe a ddywedodd wrtho, Cyfod, a dos ymaith: y mae dy ffydd wedi dy achub di. A phan ofynwyd iddo gan y Phariseaid, Pa bryd y mae Teyrnas Dduw yn dyfod? efe a atebodd iddynt, ac a ddywedodd, Nid yw Teyrnas Dduw yn dyfod wrth sylwadaeth wyliadwrus. Ni ddywedant chwaith, Wele yma; neu, Wele acw: canys, Wele, Teyrnas Dduw, o'ch mewn chwi y mae. Ond efe a ddywedodd wrth y Dysgyblion, Y dyddiau a ddeuant, pan yr ymawyddwch weled un o ddyddiau Mab y Dyn, ac nis gwelwch. A hwy a ddywedant wrthych, Wele acw; neu, Wele yma; nac ewch ymaith, ac na redwch ar eu hol: canys fel y mae y fellten yn melltenu allan o'r naill ran dan y Nef yn dysglaerio hyd y rhan arall dan y Nef; felly y bydd Mab y Dyn yn ei Ddydd. Eithr yn gyntaf rhaid iddo ddyoddef llawer, a'i wrthod gan y genedlaeth hon. Ac megys y bu yn nyddiau Noah felly y bydd hefyd yn nyddiau Mab y Dyn. Yr oeddynt yn bwyta, yn yfed, yn priodi, yn cael eu rhoi mewn priodas, hyd y dydd yr aeth Noah i mewn i'r Arch, a daeth y Diluw, ac a' u dinystriodd hwynt oll. Yr un modd fel y bu yn nyddiau Lot: yr oeddynt yn bwyta, yn yfed, yn prynu, yn gwerthu, yn planu, yn adeiladu; eithr y dydd yr aeth Lot allan o Sodom y gwlawiodd Duw dân a brwmstan o'r Nef, ac a'u dinystriodd oll. Yn ol yr un pethau y bydd yn y dydd y mae Mab y Dyn yn cael ei ddadguddio. Yn y dydd hwnw, yr hwn a fyddo ar ben y tŷ, a'i ddodrefn yn y tŷ, na ddisgyned i ddwyn y cyfryw ymaith: a'r hwn a fyddo yn y maes, yn gyffelyb na ddychweled yn ei ol. Cofiwch wraig Lot. Pwy bynag a geisio gadw iddo ei hun ei fywyd, a'i cyll: a phwy bynag a'i cyll, a'i ceidw yn fyw. Yr wyf yn dywedyd i chwi, Y nos hono y bydd dau yn yr un gwely: un a gymmerir, a'r llall a adewir. Dwy a fyddant yn malu yn nghyd; un a gymmerir, a'r llall a adewir. A chan ateb y maent yn dywedyd wrtho, Pa le, Arglwydd? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y lle y byddo y corff, yno hefyd y bydd yr eryrod yn ymgasglu yn nghyd. Ac efe a lefarodd dammeg wrthynt i'r dyben fod yn rhaid iddynt weddïo yn wastad ac heb ddigaloni: gan ddywedyd, Yr oedd rhyw Farnwr mewn rhyw Ddinas, yr hwn nid ofnai Dduw, ac ni pharchai ddyn. Ac yr oedd gwraig weddw yn y Ddinas hono; a hi a barhâodd i ddyfod ato ef, gan ddywedyd, Amddiffyn fi drwy ddedfryd rhag fy ngwrthwynebwr. Ac efe nid ewyllysiai am amser: ond wedi hyn efe a ddywedodd ynddo ei hun, Er nad wyf yn ofni Duw, nac yn parchu dyn, o herwydd yn wir fod y weddw hon yn peri i mi flinder, mi a'i hamddiffynaf drwy ddedfryd, rhag iddi ddyfod yn y diwedd a'm taro yn fy ngwyneb. A dywedodd yr Arglwydd, Gwrandêwch beth y mae y Barnwr Anghyfiawn yn ei ddywedyd. Ac oni effeithia Duw lwyr‐amddiffyniad i'w Etholedigion, sydd yn llefain arno ddydd a nos: ac eto y mae efe yn hir‐ymarhous ar eu rhan? Yr wyf yn dywedyd i chwi, yr effeithia efe lwyr‐amddiffyniad iddynt ar frys. Yn mhellach, Mab y Dyn pan ddêl, a gaiff efe yn wir y fath ffydd ar y ddaear? Ac efe a ddywedodd y ddammeg hon hefyd wrth rai hyderus ynddynt eu hunain eu bod yn gyfiawn, ac yn gwneuthur dim cyfrif o bawb eraill: Dau wr a aethant i fyny i'r Deml i weddio; un yn Pharisead, a'r llall yn Drethgasglwr. Y Pharisead a safodd i fyny, ac a barhâodd i weddio y pethau hyn wrtho ei hun, O Dduw, yr wyf yn diolch i ti nad wyf fi fel pawb eraill o ddynion, yn drawsion, yn anghyfiawn, yn odinebwyr, neu hefyd fel y Treth‐gasglwr hwn: yr wyf yn ymprydio ddwywaith yn yr wythnos; yr wyf yn rhoddi degwm o gymaint oll a enillwyf. A'r Treth‐gasglwr, gan sefyll o hirbell, ni fynai gymaint a chodi ei olygon tua'r Nef, eithr a barhâodd i guro ei ddwyfron, gan ddywedyd, O Dduw, bydd gymodlawn â mi, y pechadur. Yr wyf yn dywedyd i chwi, Aeth hwn i waered i'w dŷ wedi ei gyfiawnhâu yn hytrach na'r llall. Canys pob un a ddyrchafo ei hun a ostyngir; eithr yr hwn a ostyngo ei hun a ddyrchefir. A hwy a ddygasant ato ef y babanod hefyd, fel y cyffyrddai efe â hwynt: ond pan welodd y Dysgyblion, hwy a'u ceryddasant. Eithr yr Iesu a'u galwodd hwynt ato, gan ddywedyd, Gadêwch i blant bychain ddyfod ataf fi, ac na waherddwch hwynt: canys eiddo cyfryw rai yw Teyrnas Dduw. Yn wir meddaf i chwi, pwy bynag ni dderbynio Deyrnas Dduw fel plentyn bach, nid â i mewn o gwbl iddi. A rhyw Lywodraethwr a ofynodd iddo, gan ddywedyd, Athraw Da, Pa beth a wnaf fel yr etifeddwyf fywyd tragywyddol? Ond yr Iesu a ddywedodd wrtho, Paham y'm gelwi i yn dda? Nid oes neb da ond Un, sef Duw. Ti a wyddost y gorchymynion: Na odineba: Na lofruddia: Na ladrata: Na cham‐dystiolaetha: Anrhydedda dy dâd a'th fam. Eithr efe a ddywedodd, Y pethau hyn oll a gedwais yn ddyfal o'm hieuenctyd. A'r Iesu pan glybu, a ddywedodd wrtho, Eto y mae un peth yn ddiffygiol ynot: gwerth yr hyn oll sydd genyt, a rhana rhwng tlodion, a thi a gei drysor yn y Nefoedd: a thyred, canlyn fi. Ond pan glybu efe y pethau hyn, efe a aeth yn athrist iawn: canys yr oedd efe yn gyfoethog ryfeddol. A'r Iesu wrth ei weled ef a ddywedodd, Gyd â y fath anhawsder y mae y rhai y mae golud ganddynt yn myned i mewn i Deyrnas Dduw! Canys hawddach yw i gamel fyned trwy grai nodwydd, nag i oludog fyned i mewn i Deyrnas Dduw. A'r rhai a glywsant a ddywedasant, A phwy a all fod yn gadwedig? Ac efe a ddywedodd, Y pethau sydd anmhosibl gyd â dynion sydd bosibl gyd â Duw. Eithr Petr a ddywedodd, Wele, ni a adawsom ein heiddo ein hunain, ac a'th ganlynasom di. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, Nid oes neb a'r a adawodd dŷ, neu rieni, neu frodyr, neu wraig, neu blant, er mwyn Teyrnas Dduw, a'r nis derbyn yn ol lawer mwy yn y pryd hwn, ac yn y byd sydd yn dyfod, fywyd tragywyddol. Ac efe a gymmerodd y Deuddeg ato, ac a ddywedodd wrthynt, Wele, yr ydym yn myned i fyny i Jerusalem, a'r holl bethau sydd wedi eu hysgrifenu trwy y Proffwydi am Fab y Dyn a ddygir i ben. Canys efe draddodir i'r Cenedloedd, ac a watwerir, ac a drinir yn warthus, ac a boerir arno; a hwy a'i fflangellant, ac a'i lladdant ef; a'r trydydd dydd efe a adgyfyd. A hwy ni ddeallasant ddim o'r pethau hyn; a'r peth oedd wedi ei guddio oddi wrthynt, ac ni ddaethant i wybod y pethau a ddywedwyd. A bu, ac efe yn neshâu at Jericho, yr oedd rhyw ddyn dall yn eistedd ar ymyl y ffordd, yn cardota: a chan glywed tyrfa yn myned trwodd, efe a ymofynodd beth oedd hyn. A hwy a fynegasant iddo, Iesu o Nazareth sydd yn myned heibio. Ac efe a waeddodd, gan ddywedyd, Iesu, Fab Dafydd, trugarhâ wrthyf. A'r rhai oedd yn myned o'r blaen oeddynt yn ei geryddu ef, fel y tawai: ond efe ei hun a lefodd yn fwy o lawer, Fab Dafydd, trugarhâ wrthyf. A'r Iesu a safodd, ac a orchymynodd ei arwain ef ato: a phan ddaeth efe yn agos, efe a ofynodd iddo,, Pa beth a fyni di i mi ei wneuthur i ti? Yntau a ddywedodd, Arglwydd, cael o honof fy ngolwg. A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Cymmer dy olwg: y mae dy ffydd wedi dy achub. Ac yn y man efe a gafodd ei olwg, ac a'i canlynodd ef, gan ogoneddu Duw. A'r holl bobl pan welsant, a roisant foliant i Dduw. Ac efe a aeth i mewn, ac a ddechreuodd fyned trwy Jericho. Ac wele wr a elwid wrth yr enw Zacchëus; ac yr oedd efe yn brif Drethgasglwr, ac yr oedd yn gyfoethog. Ac yr oedd efe yn ceisio gweled yr Iesu, pwy ydoedd; ac ni allai gan y dyrfa, am ei fod yn fychan o gorffolaeth. Ac efe a redodd o'r blaen, ac a ddringodd i fyny ar sycomorwydden, fel y gwelai efe ef, oblegyd yr oedd efe ar ddyfod y ffordd hono. A phan ddaeth efe at y lle, yr Iesu a edrychodd i fyny,, ac a ddywedodd wrtho, Zacchëus, disgyn ar frys: canys rhaid i mi heddyw aros yn dy dŷ di. Ac efe a ddisgynodd ar frys, ac a'i gwahoddodd ef yn llawen. A phan welsant, grwgnach yn ddirfawr a wnaethant oll, gan ddywedyd, Efe a aeth i mewn i letya gyd â dyn pechadurus! A Zacchëus a safodd i fyny, ac a ddywedodd wrth yr Arglwydd, Wele, yr haner o'm meddianau, Arglwydd, yr wyf yn eu rhoddi i'r tlodion; ac os cam‐golledais neb, yr wyf yn ei ad‐dalu bedwar cymaint. A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Heddyw y daeth Iachawdwriaeth i'r tŷ hwn, o herwydd ei fod yntau hefyd yn fab Abraham. Canys daeth Mab y Dyn i geisio ac i gadw yr hyn oedd wedi ei golli. Ac a hwy yn gwrando ar y pethau hyn, efe a chwanegodd, ac a ddywedodd ddammeg, am ei fod yn agos i Jerusalem, ac am iddynt dybied fod Teyrnas Dduw ar ymddangos yn eglur yn y man. Efe a ddywedodd gan hyny, Rhyw wr boneddig a aeth i wlad bell i dderbyn Teyrnas iddo ei hun, ac i ddychwelyd. Ac wedi galw ei ddeg gwas, efe a roddodd iddynt ddeg mina, ac a ddywedodd wrthynt, Masnachwch tra fyddwyf yn dyfod. Eithr ei ddinaswyr ef oeddynt yn ei gashâu, ac a ddanfonasant genadaeth ar ei ol ef, gan ddywedyd, Ni fynwn ni hwn i deyrnasu arnom. A bu, pan ddychwelodd drachefn, wedi derbyn y Deyrnas, ddywedyd o hono ef hefyd alw ato y gweision hyn, i'r rhai yr oedd wedi rhoddi yr arian, fel y gwybyddai beth a wnaethent mewn masnach. A'r cyntaf a ddaeth ger ei fron, gan ddywedyd, Arglwydd, dy fina a wnaeth ddeg mina yn ychwaneg. Ac efe a ddywedodd wrtho, Da yn wir, was da: canys ti a fuost yn ffyddlawn yn y lleiaf, bydded i ti awdurdod dros ddeg dinas. A daeth yr ail, gan ddywedyd, Dy fina, Arglwydd, a wnaeth bum mina. Ac efe a ddywedodd wrth hwn hefyd, Bydd dithau hefyd dros bum dinas. A'r un arall a ddaeth, gan ddywedyd, Arglwydd, Wele dy fina di, yr hon oedd genyf wedi ei dodi ymaith mewn napcyn; canys yr oeddwn yn dy ofni di, am dy fod yn wr caled: yr wyt yn cymmeryd i fyny yr hyn ni osodaist i lawr, ac yn medi yr hyn ni heuaist. Ac y mae efe yn dywedyd wrtho, Allan o'th enau dy hun y'th farnaf, O was drwg. A wyddit fy mod i yn wr caled; yn cymmeryd i fyny yr hyn ni osodais i lawr, ac yn medi yr hyn ni heuais? A phaham na roddaist fy arian i'r banc; a minau a ddaethwn ac a'u codwn gyd â llôg? Ac efe a ddywedodd wrth y rhai oedd yn sefyll gerllaw, Dygwch oddi arno ef y fina, a rhoddwch i'r hwn y mae deg mina ganddo. A hwy a ddywedasant wrtho, Arglwydd, y mae ganddo ef ddeg mina. Yr wyf yn dywedyd i chwi, I bob un y mae ganddo y rhoddir; eithr oddi ar yr hwn nid oes ganddo, ie, yr hyn sydd ganddo a ddygir ymaith. Yn mhellach, fy ngelynion hyn, y rhai ni fynasent i mi deyrnasu arnynt, dygwch hwynt yma, a lleddwch hwynt ger fy mron i. Ac wedi iddo ddywedyd y pethau hyn, efe a aeth o'r blaen, gan fyned i fyny i Jerusalem. A bu, pan neshâodd efe i Bethphage a Bethania, wrth y Mynydd a elwid Olew‐wydd, efe a anfonodd ddau o'i Ddysgyblion, gan ddywedyd, Ewch i'r pentref sydd ar eich cyfer, yn yr hwn pan yr eloch i mewn, chwi a gewch ebol wedi ei rwymo, ar yr hwn nid eisteddodd neb dynion erioed; a chan ei ollwng ef yn rhydd, arweiniwch ef yma. Ac os gofyn neb i chwi, Paham yr ydych yn ei ollwng yn rhydd? fel hyn y dywedwch, Y mae ar yr Arglwydd ei eisieu. A'r rhai a ddanfonasid a aethant ymaith, ac a gawsant fel y dywedodd efe wrthynt. A hwy yn gollwng yr ebol yn rhydd, ei berchenogion a ddywedasant wrthynt, Paham yr ydych yn gollwng yr ebol yn rhydd? A hwy a ddywedasant, Y mae ar yr Arglwydd ei eisieu. A hwy a'i harweiniasant ef at yr Iesu; ac wedi iddynt fwrw eu gwisgoedd uchaf ar yr ebol, hwy a osodasant yr Iesu arno. Ac fel yr oedd efe yn myned, yr oeddynt yn taenu eu gwisgoedd uchaf eu hunain ar y ffordd. Ac weithian, ac efe yn neshâu at ddisgynfa Mynydd yr Olew‐wydd, dechreuodd yr holl luaws Dysgyblion lawenhâu a moli Duw gyd â llef uchel am yr holl weithredoedd nerthol a welsant, gan ddywedyd, Bendigedig yw y Brenin sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd! Yn y Nef Tangnefedd, a Gogoniant yn y Goruchafion! A rhai o'r Phariseaid o'r dyrfa a ddywedasant wrtho ef, Athraw, cerydda dy Ddysgyblion. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Yr wyf yn dywedyd i chwi, Pe tawai y rhai hyn, y cerig a lefant allan. A phan ddaeth efe yn agos, efe a welodd y Ddinas, ac a wylodd allan drosti, gan ddywedyd, O na wybuasit tithau hefyd, yn y dydd hwn, y pethau a berthynant i dy heddwch: eithr yn awr cuddiwyd hwy oddi wrth dy lygaid! Canys daw y dyddiau arnat, a'th elynion a fwriant wrthglawdd o'th amgylch, ac a'th amgylchant yn hollol, ac a'th warchaeant o bob tu, ac a'th fwriant i'r llawr, a'th blant o'th fewn; ac ni adawant ynot faen ar faen: am na wybuaist amser dy Ymweliad. Ac efe a aeth i mewn i'r Deml, ac a ddechreuodd fwrw allan y rhai oeddynt yn gwerthu, gan ddywedyd wrthynt, Y mae yn ysgrifenedig, A bydd fy Nhŷ i yn Dŷ Gweddi: Eithr chwi a'i gwnaethoch yn Ogof Ysbeilwyr. Ac yr oedd efe yn dysgu beunydd yn y Deml: ond yr Arch‐offeiriaid a'r Ysgrifenyddion oeddynt yn ceisio ei ddyfetha ef, fel y gwnai hefyd Benaethiaid y bobl: ac ni chawsant beth a fedrent wneuthur; canys yr holl bobl oeddynt yn crogi wrth ei wefusau, pan yn gwrando. A bu ar un o'r dyddiau, ac efe yn dysgu y bobl yn y Deml, ac yn efengylu, yr Arch‐offeiriaid a'r Ysgrifenyddion, gyd â'r Henuriaid, a ddaethant yn ddisymwth arno, ac a lefarasant gan ddywedyd wrtho, Dywed i ni trwy ba fath awdurdod yr wyt yn gwneuthur y pethau hyn? Neu pwy a roddodd i ti yr awdurdod hon? Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, A minau a ofynaf i chwithau air, a dywedwch i mi: Bedydd Ioan, a'i o'r Nef yr ydoedd, ai o ddynion? A hwy a ymresymasant wrthynt eu hunain, gan ddywedyd, Os dywedwn, O'r Nef, efe a ddywed, Paham na chredasoch iddo? Ond os dywedwn, O ddynion; y bobl oll a'n llabyddiant i farwolaeth: canys y maent wedi eu llwyr‐ddarbwyllo fod Ioan yn Broffwyd. A hwy a atebasant, nas gwyddant o ba le. A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Nid wyf finau ychwaith yn dywedyd i chwi drwy ba fath awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn. Ac efe a ddechreuodd ddywedyd wrth y bobl y ddammeg hon: Gwr a blanodd winllan, ac a'i rhoddodd allan i lafurwyr, ac a aeth ymaith o'i wlad ei hun am amser hir. Ac ar adeg briodol efe a anfonodd was at y llafurwyr, fel y rhoddant iddo o ffrwyth y winllan. Ond y llafurwyr a'i curasant ef, ac a'i danfonasant allan ymaith yn wag. Ac efe a chwanegodd anfon gwas arall; a hwn hefyd, wedi ei guro a'i anmharchu, hwy a ddanfonasant allan ymaith yn wag. Ac efe a chwanegodd ddanfon trydydd: a hwn hefyd hwy a glwyfasant, ac a fwriasant allan. A dywedodd arglwydd y winllan, Pa beth a wnaf? Mi a anfonaf fy Mab Anwyl: ond odid y parchant hwn. Eithr pan welodd y llafurwyr ef, hwy a ymresymasant yn ddifrifol yn mhlith eu gilydd, gan ddywedyd, Hwn yw yr etifedd: lladdwn ef, fel y byddo yr etifeddiaeth yn eiddom ni. A hwy a'i bwriasant ef allan o'r winllan, ac a'i lladdasant. Pa beth gan hyny a wna arglwydd y winllan iddynt hwy? Efe a ddaw ac a ddyfetha y llafurwyr hyn, ac a rydd ei winllan i eraill. Eithr pan glywsant hyn, hwy a ddywedasant, Na fydded hyn. Ac efe a edrychodd arnynt, ac a ddywedodd, Beth gan hyny yw hyn sydd wedi ei ysgrifenu: Maen a wrthododd yr Adeiladwyr:— Hwn a wnaed yn ben congl? Pob un a syrthio ar y maen hwnw a chwilfriwir yn ddarnau: ond ar bwy bynag y syrthio, efe a'i chwâl ef fel llwch. A'r Ysgrifenyddion a'r Arch‐offeiriaid a geisiasant osod eu dwylaw arno yr awr hono; a hwy a ofnasant y bobl: canys gwybuant mae yn eu herbyn hwy y dywedodd efe y ddammeg hon. A hwy a wyliasant gyfleu, ac a anfonasant allan gynllwynwyr, y rhai a gymmerent arnynt eu bod hwy eu hunain yn gyfiawn, fel y caent afael ar ei ymadrodd ef, i'w draddodi ef i'r Llywodraeth ac i Awdurdod y Llywydd. A hwy a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Athraw, ni a wyddom dy fod yn dywedyd ac yn dysgu yn uniawn, ac nad wyt yn derbyn wyneb, ond yn dysgu ffordd Duw yn wirioneddol. A ydyw gyfreithlawn i ni roddi teyrnged i Cesar, ai nid yw? Eithr efe yn darganfod eu cyfrwysdra hwynt, a ddywedodd wrthynt, Dangoswch i mi ddenarion. Eiddo pwy yw y ddelw a'r argraff? A hwy gan ateb a ddywedasant, Eiddo Cesar. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yna rhoddwch yn ol bethau Cesar i Cesar, a phethau Duw i Dduw. Ac nis gallasant gymmeryd gafael ar ei air ef gerbron y bobl, a chan ryfeddu wrth ei ateb ef, hwy a dawsant. A daeth ato rai o'r Saduceaid, y rhai sydd yn dywedyd nad oes Adgyfodiad, a hwy a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Athraw, Moses a ysgrifenodd i ni:— Os byddai farw brawd neb, ac iddo wraig, a'i fod ef yn ddi‐blentyn, ar gymmeryd o'i frawd ei wraig ef, a chodi hâd i'w frawd. Yr oedd, ynte, saith o frodyr: a'r cyntaf a gymmerodd wraig, ac a fu farw yn ddi‐blentyn. A'r ail, a'r trydydd a'i cymmerodd hi, a'r un modd hefyd y saith ni adawsant blant, ac a fuont feirw. Yn ddiweddaf bu farw y wraig hefyd. Yn yr Adgyfodiad gan hyny, gwraig i bwy un o honynt yw hi? Canys y saith a'i cawsant hi yn wraig. A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Plant y byd hwn sydd yn priodi ac yn rhoddi i briodas: ond y rhai a gyfrifir yn deilwng i gyrhaedd nod y byd hwnw, a'r Adgyfodiad o feirw, nid ydynt yn priodi nac yn rhoddi i briodas: canys chwaith nid ydynt yn gallu marw mwy; canys cydradd âg angelion ydynt, ac y maent yn Feibion i Dduw, gan eu bod yn Feibion yr Adgyfodiad. A bod y meirw yn cael eu cyfodi, hyd y nod Moses a awgryma yn yr adran ar y Berth, pan y mae yn galw yr Arglwydd, Duw Abraham, a Duw Isaac, a Duw Jacob. Ond nid Duw dynion meirw ydyw ef, ond byw: canys y mae pawb yn fyw iddo ef. A rhai o'r Ysgrifenyddion gan ateb a ddywedasant, Athraw, da y dywedaist. Canys ni feiddiasant o hyn allan ofyn dim iddo ef. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa fodd y maent yn dywedyd fod y Crist yn Fab Dafydd? Ac y mae Dafydd ei hun yn dywedyd yn Llyfr y Salmau, Yr Arglwydd a ddywedodd wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw, Hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfainc i'th draed. Y mae Dafydd gan hyny yn ei alw ef yn Arglwydd; a pha fodd y mae efe yn fab iddo? A'r holl bobl yn gwrando, efe a ddywedodd wrth ei Ddysgyblion, Ymogelwch rhag yr Ysgrifenyddion, y rhai ydynt awyddus i rodio mewn llaes‐wisgoedd, ac yn hoffi cyfarchiadau yn y marchnad‐leoedd; a'r brif‐gadair yn y Synagogau, a'r prif‐eistedd‐leoedd yn y Swperau; y rhai sydd yn llwyr‐fwyta tai y gwragedd gweddwon, ac mewn rhith yn hir‐weddio; y rhai hyn a dderbyniant farnedigaeth lymach. Ac efe a edrychodd i fyny, ac a welodd y rhai goludog yn bwrw eu rhoddion i'r Drysorfa. Ac efe a welodd ryw wraig weddw dlawd iawn yn bwrw yno ddwy hatling. Ac efe a ddywedodd, Mewn gwirionedd yr wyf yn dywedyd i chwi, y wraig weddw dlawd hon a fwriodd i mewn fwy na hwynt oll. Canys y rhai hyn oll o'r gorlawnder sydd ganddynt a fwriasant at y rhoddion; eithr hon o'i phrinder a fwriodd yr holl fodd i fyw oedd ganddi. Ac fel yr oedd rhai yn dywedyd am y Deml, ei bod wedi ei haddurno â meini prydferth ac offrymau cysegredig, efe a ddywedodd, O berthynas i'r pethau hyn yr ydych yn edrych arnynt, y dyddiau a ddeuant yn y rhai ni adewir yma faen ar faen, a'r nis datodir yn hollol. A hwy, a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Athraw, Pa bryd gan hyny y bydd y pethau hyn? A pha arwydd fydd pan fyddo y pethau hyn ar ddyfod? Ac efe a ddywedodd, Edrychwch na'ch cam‐arweinier chwi: canys llawer a ddeuant yn fy enw i, gan ddywedyd, Myfi yw, ac, Y mae yr Adeg wedi neshâu: nac ewch ar eu hol hwynt. Eithr pan glywoch am ryfeloedd a therfysgoedd, na frawycher chwi; canys rhaid i'r pethau hyn fod yn gyntaf: ond nid yw y diwedd yn y man. Yna y dywedodd efe wrthynt, Cyfyd cenedl yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas: a bydd hefyd ddaear‐grynfäau mawrion, ac mewn manau newynau a heintiau; ac ymddangosiadau echrydus, ac hefyd arwyddion mawrion a fydd o'r Nef. Eithr o flaen hyn oll, hwy a roddant arnoch eu dwylaw, ac a'ch erlidiant, ac a'ch traddodant i'r Synagogau a charcharau, wedi eich arwain ymaith o flaen Breninoedd a Llywodraethwyr, er mwyn fy enw i. Hyn a dry allan i chwi yn dystiolaeth. Gosodwch hyn gan hyny yn eich calonau: i beidio rhagfyfyrio i amddiffyn eich hun. Canys Myfi a roddaf i chwi enau a doethineb, yr hon nis gall eich holl wrthwynebwyr ei gwrth‐sefyll na'i gwrth‐ddywedyd. A chwi a draddodir i fyny hyd y nôd gan rieni, a brodyr, a pherthynasau, a chyfeillion; a hwy a roddant rai o honoch i farwolaeth. A chwi a fyddwch gas gan bawb o herwydd fy enw i. Ac eto blewyn o'ch pen chwi ni chollir ddim: yn eich dyfal‐barhâd amyneddgar chwi a enillwch eich eneidiau. Ond pan weloch Jerusalem yn cael ei hamgylchu gan fyddinoedd, yna gwybyddwch fod ei Hanghyfanedd‐dra hi wedi neshâu. Yna bydded i'r rhai a fyddant yn Judea ffoi i'r mynyddoedd: a bydded i'r rhai a fyddant yn ei chanol hi ymadael allan o honi; ac na fydded i'r rhai a fyddant yn y wlad fyned i mewn iddi. Canys dyddiau cyfiawn daledigaeth yw y rhai hyn, i gyflawnu yr holl bethau sydd wedi eu hysgrifenu. Gwae y rhai beichiogion, a'r rhai yn rhoi bronau yn y dyddiau hyny! Canys bydd cyfyngder mawr ar y ddaear, a digofaint ar y bobl hyn. A hwy a syrthiant trwy fin y cleddyf, a chaethgludir hwynt i bob cenedl: a Jerusalem a fydd yn cael ei mathru gan Genedloedd, hyd oni chyflawner amseroedd y Cenedloedd. A bydd arwyddion mewn haul, a lleuad, a sêr; ac ar y ddaear gyfyngder Cenedloedd mewn dyryswch wrth ruad y môr a'i ymchwydd: dynion yn llewygu ymaith gan ofn a dysgwyliad o'r pethau sydd yn dyfod ar y byd trigianol: oblegyd Galluoedd y Nefoedd a ysgydwir. Ac yna y gwelant Fab y Dyn yn dyfod mewn cwmwl gyd â gallu a gogoniant mawr,. Ond pan ddechreuo y pethau hyn ddyfod, sefwch yn union‐syth, a chodwch eich penau, canys y mae eich gwaredigaeth yn neshâu. Ac efe a lefarodd ddammeg wrthynt: Gwelwch y ffigys‐bren a'r holl brenau: pan ddeiliant hwy weithian, wrth ddal sylw yr ydych yn gwybod o honoch eich hunain fod yr hâf yn agos. Felly chwithau hefyd, pan weloch y pethau hyn yn dygwydd, gwybyddwch fod Teyrnas Dduw yn agos. Yn wir, meddaf i chwi, nid â y genedlaeth hon heibio ddim, hyd oni ddêl y cwbl i ben. Y Nef a'r ddaear a ânt heibio: ond fy ngeiriau i nid ânt heibio ddim. Ond ystyriwch arnoch chwi eich hunain, rhag un amser i'ch calonau gael eu gorlwytho âg effeithiau glythineb, a meddwdod, a phryderon bywyd, a'r Dydd hwnw ddyfod arnoch yn ddisymwth, fel magl; canys felly y daw efe i mewn ar bawb a'r sydd yn eistedd yn dawel dros wyneb yr holl ddaear. Eithr gwyliwch chwi yn mhob tymhôr, gan wneyd deisyfiadau, fel y caffoch nerth i ddianc rhag y pethau hyn oll sydd ar ddyfod, ac i sefyll ger bron Mab y Dyn. Ac yr oedd efe ar hyd y dyddiau hyny yn dysgu yn y Deml: ond y nosweithiau yr oedd efe yn myned allan i dreulio y nos yn y Mynydd a elwir Olew‐wydd. A'r holl bobl a gyrchent gyd â'r wawr ato yn y Deml, i wrando arno. A neshâodd Gwyl y Bara Croyw, yr hon a elwir y Pasc. Ac yr oedd yr Arch‐offeiriaid a'r Ysgrifenyddion yn ceisio pa fodd i wneyd ffwrdd ag ef: canys yr oeddynt yn ofni y bobl. A Satan a aeth i mewn i Judas, yr hwn a elwir Iscariot, er ei fod o nifer y Deuddeg: ac efe a aeth ymaith, ac a ymddiddanodd a'r Arch‐offeiriaid a'r Cad‐flaenoriaid am y modd y traddodai efe ef iddynt. Ac yr oedd yn llawen ganddynt; a hwy a wnaethant gyfamod i roddi arian iddo. Ac efe a gydsyniodd, ac a ddechreuodd geisio cyfleusdra i'w draddodi ef iddynt a'r wahan â'r dyrfa. A daeth dydd y Bara Croyw, ar yr hwn yr oedd rhaid aberthu y Pasc. Ac efe a anfonodd Petr ac Ioan, gan ddywedyd, Ewch, parotowch i ni y Pasc, fel y bwytâom. A hwy a ddywedasant wrtho, Pa le yr ewyllysi barotôi o honom? Ac efe ddywedodd wrthynt, Wele, wedi eich myned i mewn i'r Ddinas, cyferfydd â chwi ddyn yn dwyn ystenaid o ddwfr: canlynwch ef i'r tŷ, i'r hwn yr êl efe i mewn. A chwi a ddywedwch wrth feistr y tŷ, Y mae yr Athraw yn dywedyd wrthyt, Pa le y mae y west‐ystafell, lle y bwytawyf y Pasc gyd â'm Dysgyblion? Ac efe a ddengys i chwi oruwch‐ystafell fawr wedi ei dodrefnu; yno parotowch. A hwy a aethant ymaith, ac a gawsant fel yr oedd efe wedi dywedyd wrthynt, ac a barotoisant y Pasc. A phan ddaeth yr Awr, efe a eisteddodd i lawr, a'r Apostolion gyd âg ef. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Mi a awyddais yn ddirfawr fwyta y Pasc hwn gyd â chwi cyn dyoddef o honof: canys yr wyf yn dywedyd i chwi, Ni fwytâf fi o hono hyd oni chyflawner ef yn Nheyrnas Dduw. Ac wedi iddo dderbyn cwpan a diolch, efe a ddywedodd, Cymmerwch hwn, a rhenwch yn eich plith: canys yr wyf yn dywedyd i chwi, nad yfaf fi o gwbl o hyn allan o gynyrch y winwydden, hyd oni ddêl Teyrnas Dduw. Ac efe a gymmerodd fara, ac a ddiolchodd, ac a'i torodd, ac a'i rhoddodd iddynt, gan ddywedyd, Hwn yw fy nghorff yr hwn sydd yn cael ei roddi drosoch: gwnewch hyn er coffa am danaf fi. A'r cwpan yr un modd, wedi swperu, gan ddywedyd, Y Cwpan hwn yw y Cyfamod Newydd yn fy ngwaed, yr hwn sydd yn cael ei dywallt allan drosoch. Yn mhellach, wele law yr hwn sydd yn fy mradychu gyd â mi ar y bwrdd. Canys y mae Mab y Dyn yn wir yn myned yn ol yr hyn sydd wedi ei arfaethu: er hyny, gwae y dyn hwnw trwy yr hwn y mae yn cael ei fradychu. A hwy a ddechreuasant ymddadleu yn eu plith eu hunain, pwy yn wir o honynt oedd ar wneuthur hyn. A bu ymryson yn eu plith, pwy o honynt a gyfrifid i fod y mwyaf. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae Breninoedd y Cenedloedd yn arglwyddiaethu arnynt; y mae y rhai sydd mewn awdurdod arnynt yn cael eu galw, Cymwynaswyr. Ond chwychwi, nid felly; eithr y mwyaf yn eich plith, bydded megys yr ieuengaf; a'r hwn sydd yn arweinydd megys yr hwn sydd yn gweini. Canys pwy sydd fwyaf, ai yr hwn sydd yn eistedd i fwyta, neu yr hwn sydd yn gweini? Onid yr hwn sydd yn eistedd i fwyta? Eithr yr wyf fi yn eich canol chwi fel yr hwn sydd yn gweini. Eithr chwychwi yw y rhai sydd wedi dyfal‐barhâu gyd â mi yn fy mhrofedigaethau. Ac yr wyf yn sicrhâu drwy gyfamod i chwi Deyrnas, fel y sicrhâodd y Tâd drwy gyfamod Deyrnas i mi; fel y bwytâoch ac yr yfoch ar fy mwrdd i yn fy Nheyrnas, ac yr eisteddoch ar orsedd‐feydd yn barnu Deuddeg Llwyth Israel. Simon, Simon, Wele, Satan a'ch ceisiodd chwi iddo ei hun i'ch gogrynu fel gwenith: ond mi a wneuthum ddeisyfiad drosot ti, na ddiffygiai dy ffydd di; a thydi pan y gwnei droi drachefn, cadarnhâ dy Frodyr. Ond efe a ddywedodd wrtho, Arglwydd, yr wyf yn barod i fyned gyd â thi i garchar, ac hefyd i angeu. Ac efe a ddywedodd, Yr wyf yn dywedyd i ti, Petr, Ni chân y ceiliog heddyw, hyd nes i ti wadu dair gwaith yr adweini fi. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pan y'ch anfonais chwi heb gôd, ac ysgrepan, a sandalau, a fu angen dim arnoch? A hwy a ddywedasant, Dim. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Eithr yr awrhon yr hwn sydd ganddo gôd, cymmered; yr un modd hefyd, ysgrepan: a'r hwn nid oes ganddo, gwerthed ei wisg uchaf, a phryned gleddyf: canys yr wyf yn dywedyd i chwi, fod yn rhaid i'r hyn sydd wedi ei ysgrifenu gael ei gyflawnu ynof fi, — A chyd â'r troseddwyr y cyfrifwyd ef,: canys y mae hefyd gyflawniad i'r peth am danaf fi. A hwy a ddywedasant, Arglwydd, wele yma ddau gleddyf. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Digon yw. Ac wedi myned allan, efe a a aeth, yn ol ei arfer, i Fynydd yr Olew‐wydd: a'r Dysgyblion hefyd a'i canlynasant ef. Ac wedi dyfod o hono i'r lle, efe a ddywedodd wrthynt, Gweddïwch nad eloch i brofedigaeth. Ac efe a yrwyd ymaith oddi wrthynt tu ag ergyd careg, ac a aeth ar ei liniau, ac a ddechreuodd weddio, gan ddywedyd, O Dâd, Os yw yn unol a'th gynghor, dwg ymaith y cwpan hwn oddi wrthyf: er hyny, nid fy ewyllys i, ond yr eiddot ti a wneler. Ac ymddangosodd iddo Angel o'r Nef yn ei nerthu ef. Ac efe mewn ymdrech enaid oedd yn gweddïo yn daerach. A'i chwys ef oedd fel dyferynau mawrion o waed yn treiglo i lawr ar y ddaear. A phan gyfododd efe o'i weddi, efe a ddaeth at y Dysgyblion, ac a'u cafodd hwynt wedi syrthio i gwsg gan dristwch. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn cysgu? Codwch, a gweddiwch nad eloch i mewn i brofedigaeth. Ac efe eto yn llefaru, wele dyrfa, a'r hwn a elwid Judas, un o'r Deuddeg, oedd yn myned o'u blaen hwynt: ac a neshâodd at yr Iesu i'w gusanu ef. Eithr yr Iesu a ddywedodd wrtho, Judas, ai â chusan yr wyt ti yn bradychu Mab y Dyn? Ond pan welodd y rhai oedd o'i amgylch yr hyn oedd ar gymmeryd lle, hwy a ddywedasant, Arglwydd a darâwn ni â chleddyf? A rhyw un o honynt a darawodd was yr Arch‐offeiriad, ac a gymmerodd ymaith ei glust ddeheu ef. Eithr yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd, Goddefwch hyd yn hyn: ac efe gan gyffwrdd â'i glust a'i hiachâodd ef. A'r Iesu a ddywedodd wrth y rhai a ddaethant yn ei erbyn ef, yr Arch‐offeiriaid, a Chad‐flaenoriaid y Deml, a'r Henuriaid, Ai at fel ysbeiliwr y daethoch chwi allan, â chleddyfau a bastynau? Pan oeddwn yn ddyddiol gyd â chwi yn y Deml nid estynasoch eich dwylaw yn fy erbyn i. Eithr hon yw eich Awr chwi, ac Awdurdod y Tywyllwch. Ac wedi iddynt ei ddal ef, hwy a'i harweiniasant ef, ac a'i dygasant ef i mewn i dŷ yr Arch‐offeiriad. A Phetr oedd yn canlyn o hir‐bell. Ac wedi iddynt gyneu tân yn wenfflam yn nghanol y Llys, a chyd‐eistedd, Petr a eisteddodd yn eu canol hwynt. Ond pan welodd rhyw forwynig ef yn eistedd yn y llewyrch, a chraffu arno, hi a ddywedodd, Yr oedd hwn hefyd gyd âg ef. Eithr efe a wadodd, gan ddywedyd, O Ddynes, nid adwaen i ef. Ac yn mhen ychydig, dyn arall a'i gwelodd ef, ac a ddywedodd, A thithau wyt un o honynt. Eithr Petr a ddywedodd, O Ddyn, nid ydwyf. Ac ar ol yspaid megys un awr, rhyw ddyn arall a daerodd yn hŷf, gan ddywedyd, Mewn gwirionedd yr oedd hwn hefyd gyd âg ef: canys Galilead yw. Eithr Petr a ddywedodd, O Ddyn, nis gwn beth yr wyt yn ei ddywedyd. Ac yn y man, ac efe eto yn llefaru, ceiliog a ganodd. A'r Arglwydd a drôdd, ac a edrychodd yn daer ar Petr: a Phetr a adgofiwyd o air yr Arglwydd, fel y dywedodd efe wrtho, Cyn canu o'r ceiliog heddyw, y gwedi fi deirgwaith [adn 34]. Ac efe a aeth allan, ac a dorodd allan i wylo yn chwerw. A'r gwŷr oedd yn ei ddal ef a'i gwatwarasant, gan ei guro ef. Ac wedi rhoddi gorchudd ar ei wyneb ef, yr oeddynt yn gofyn iddo, gan ddywedyd, Proffwyda, pwy yw yr hwn a roddodd i ti ddyrnod?. A llawer o bethau eraill, gan gablu, hwy a ddywedasant yn ei erbyn ef. A phan aeth hi yn ddydd, Corff Henuriaid y Bobl a ddaeth ynghyd, Arch‐offeiriaid ac hefyd Ysgrifenyddion, ac a'i harweiniasant ef ymaith at eu Huchel Gynghor hwy, gan ddywedyd, Os tydi yw y Crist, dywed i ni. Ac efe ddywedodd wrthynt, Os dywedaf i chwi, ni chredwch ddim: ac os rhoddaf ofyniad i chwi, ni'm hatebwch. Ac o hyn allan y bydd Mab y Dyn yn eistedd ar ddeheulaw Gallu Duw. A hwy oll a ddywedasant, Ai Mab Duw gan hyny ydwyt ti? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yr ydych chwi yn ei ddywedyd: canys yr wyf yn Fab Duw. A hwy a ddywedasant, Pa angen sydd i ni mwyach am dystiolaeth? Canys clywsom ein hunain o'i enau ef. A'r holl luaws o honynt a gyfodasant, ac a'i harweinasant ef at Pilat. A hwy a ddechreuasant ei gyhuddo ef, gan ddywedyd, Ni a gawsom hwn yn gŵyr‐droi ein Cenedl, ac yn gwahardd rhoddi teyrnged i Cesar, ac yn dywedyd mai efe ei hun yw Crist Frenin. A Philat a ofynodd iddo, gan ddywedyd, Ai ti yw Brenin yr Iuddewon? Ac efe a atebodd, ac a ddywedodd wrtho, Ti a ddywedaist. A dywedodd Pilat wrth yr Arch‐offeiriaid a'r torfeydd, Nid wyf fi yn cael bai yn y dyn hwn. Ond hwy a wnaethant ymegnio, gan ddywedyd, Y mae efe yn cynhyrfu y bobl, gan ddysgu trwy holl Judea, a dechreu o Galilea hyd yma. A phan glybu Pilat, efe a ofynodd, Ai Galilead yw y dyn? A phan wybu efe yn hollol ei fod ef o gylch awdurdod Herod, efe a'i danfonodd ef i fyny at Herod, yr hwn hefyd oedd yn Jerusalem yn y dyddiau hyny. A Herod pan welodd yr Iesu, a fu lawen iawn ganddo: canys yr oedd efe yn awyddus er amseroedd meithion ei weled ef, o herwydd iddo glywed am dano, ac yr oedd yn gobeithio gweled rhyw arwydd yn cael ei wneuthur ganddo. Ac efe a'i holodd ef mewn llawer o eiriau; ond efe ei hun nid atebodd ddim iddo. A'r Arch‐offeiriaid a'r Ysgrifenyddion oeddynt yn sefyll gan ei gyhuddo ef â'u holl egni. Eithr Herod gyd a'i finteioedd, wedi ei drin ef gyd â dirmyg, a'i watwar, a'i gwisgodd mewn gwisg ddysglaerwych, ac a'i danfonodd ef i fyny at Pilat. A'r dydd hwnw y daeth Herod a Pilat yn gyfeillion â'u gilydd: canys yr oeddynt o'r blaen mewn gelyniaeth â'u gilydd. A Philat wedi galw ynghyd yr Arch‐offeiriaid a Llywodraethwyr y Bobl, a ddywedodd wrthynt, Chwi a ddygasoch y dyn hwn ataf fi, fel un yn gŵyr‐droi y Bobl; ac wele mi a'i holais ef yn eich gŵydd chwi, ac ni chefais yn y dyn hwn ddim bai o ran y pethau yr ydych yn ei gyhuddo ef am danynt: nac hyd y nod Herod; canys efe a'i hanfonodd ef yn ol atom ni: ac wele dim yn haeddu marwolaeth sydd wedi ei wneuthur ganddo: am hyny, mi a'i cystwyaf ef, ac a'i gollyngaf ef yn rhydd. Ond yr holl luaws ynghyd a waeddasant yn uchel, gan ddywedyd, Cymmer hwn ymaith, a gollwng i ni Barabbas yn rhydd: y fath un am ryw derfysg a gymmerodd le yn y Ddinas, ac am lofruddiaeth, a fwriwyd i'r carchar. A Philat a alwodd arnynt drachefn, gan ewyllysio gollwng yr Iesu yn rhydd. Eithr hwy a barhasant i waeddi, Croeshoelia, Croeshoelia ef. Ac efe a ddywedodd wrthynt y drydedd waith, Canys pa ddrwg a wnaeth efe? Ni chefais achos marwolaeth ynddo: gan hyny mi a'i cystwyaf ef, ac a'i gollyngaf yn rhydd. A hwy a wasgasant arno â llefau uchel, gan ddeisyfu ei groeshoelio ef. A'u llefau hwynt a orfuant; a Philat a ddyfarnodd i'w deisyfiad gael ei wneuthur: ac efe a ollyngodd yn rhydd yr hwn o achos terfysg a llofruddiaeth oedd wedi ei fwrw i garchar, yr hwn a ddeisyfasant; eithr yr Iesu a draddododd efe i fyny i'w hewyllys hwynt. A phan yr oeddynt yn ei arwain ef ymaith, hwy a gymmerasant afael mewn un Simon, O Cyrene, yn dyfod o'r wlad, ac a ddodasant y groes arno ef, i'w dwyn ar ol yr Iesu. Ac yr oedd yn ei ganlyn ef luaws mawr o'r bobl; hefyd o wragedd, y rhai oeddynt yn curo eu bronau, ac yn galaru o'i blegyd. Eithr yr Iesu, gan droi atynt, a ddywedodd, Merched Jerusalem, Na wylwch allan droswyf fi; yn hytrach, wylwch allan drosoch ein hunain a thros eich plant. Canys wele, y mae y dyddiau yn dyfod, yn y rhai y dywedant, Gwyn fyd y gwragedd anmhlantadwy, a'r crothau ni epiliasant, a'r bronau ni roisant faeth. Yna y dechreuant ddywedyd wrth y mynyddoedd, Syrthiwch arnom ni, Ac wrth y bryniau, Cuddiwch ni. Canys os ydynt yn gwneuthur y pethau hyn yn y pren îr, pa beth a wneir yn y crin? Ac arweiniwyd gyd âg ef hefyd ddau eraill, drwg‐weithredwyr, i'w rhoddi i farwolaeth. A phan ddaethant at y lle a elwir Penglog, [yn y Lladin, Calfaria], yno y croeshoelisant ef a'r Drwg‐weithredwyr, un ar y llaw ddeheu a'r llall ar yr aswy. Ond yr Iesu a ddywedodd, O Dâd, maddeu iddynt, canys nid ydynt yn gwybod pa beth y maent yn ei wneuthur. A chan ranu yn eu plith ei wisgoedd uchaf, hwy a fwriasant goelbren. A'r bobl a safodd yn edrych yn syn. Ond y Llywodraethwyr hyd y nod a wawdiasant, gan ddywedyd, Eraill a waredodd efe: gwareded ei hun, os hwn yw Crist Duw, ei Etholedig. A'r milwyr hefyd oeddynt yn ei watwar ef, gan ddyfod, a chynyg iddo finegr, a dywedyd, Os tydi yw Brenin yr Iuddewon, gwared dy hun. Ac yr oedd hefyd ar‐ysgrifen uwch ei ben,, Brenin yr Iuddewon yw hwn. Ac un o'r Drwg‐weithredwyr a grogasid oedd yn ei gablu ef, gan ddywedyd, Ai nid tydi yw y Crist? Gwared dy hun a ninau. Ond y llall a atebodd, a chan ei geryddu ef, a ddywedodd, Onid wyt ti hyd y nod yn ofni Duw, gan dy fod yn yr un farnedigaeth? A nyni yn wir yn gyfiawn; canys yr ydym yn derbyn yn ol yr hyn a haeddai y pethau a wnaethom: ond hwn ni wnaeth ddim allan o le. Ac efe a ddywedodd, O Iesu, cofia fi, pan y deui yn dy Deyrnas. Ac efe a ddywedodd wrtho, Yn wir meddaf i ti, Heddyw y byddi gyd â mi yn y Baradwys. Ac yr oedd ynghylch y chweched awr, a daeth tywyllwch dros yr holl dir hyd y nawfed awr, gan fod yr haul yn methu; a llen y Cysegr a rwygwyd yn ei chanol. Ac wedi i'r Iesu lefain â llef uchel, efe a ddywedodd, O Dâd, i'th ddwylaw di y cyflwynaf fy Yspryd: ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a anadlodd allan ei fywyd. A phan welodd y Canwriad yr hyn a wnaethpwyd, efe a ogoneddodd Dduw, gan ddywedyd, Yn sicr yr oedd y gwr hwn yn gyfiawn. A'r holl dorfeydd y rhai a ddaethant ynghyd i'r olygfa hon, wedi edrych yn syn ar y pethau a wnaethpwyd, a ddychwelasant gan guro eu dwyfronau. A'i holl gydnabyddion ef a safasant o hirbell, a'r gwragedd a'i canlynasant ef o Galilea, gan weled y pethau hyn. Ac wele wr o'r enw Joseph, yr hwn oedd Gynghorwr, yn wr da a chyfiawn, (yr hwn ni chydsyniodd â'u cynghor ac a'u gweithred hwynt,) o Arimathea, dinas yr Iuddewon, yr hwn oedd yn dysgwyl Teyrnas Dduw: hwn a aeth at Pilat, ac a geisiodd gorff yr Iesu. Ac efe a'i tynodd i lawr, ac a'i hamdôdd mewn llian main gwerthfawr, ac a'i dododd ef mewn bedd wedi ei naddu mewn craig, yn yr hwn ni roddasid dyn erioed eto. Ac yr oedd yn ddydd y Parotoad, a'r Sabbath oedd yn dynesu. A'r gwragedd, y rhai a ddaethant gyd âg ef o Galilea, a ganlynasant yn dyn ar ol, ac a edrychasant yn graffus ar y bedd, a pha fodd y dodwyd ei gorff ef. A phan ddychwelasant, hwy a barotoisant ber‐aroglau ac enaint. Ac ar y Sabbath hwy a orphwysasant yn ol y Gorchymyn. Ond ar y Dydd Cyntaf o'r wythnos, gyd â'r wawr gynaraf, hwy a ddaethant at y bedd, gan ddwyn y peraroglau a barotoisant. A hwy a gawsant y maen wedi ei dreiglo ymaith oddi wrth y bedd. Ond wedi iddynt fyned i mewn, ni chawsant gorff yr Arglwydd Iesu. A bu, a hwy mewn dyryswch am y peth hwn, wele, dau wr a safasant yn sydyn gerllaw iddynt mewn gwisg lachar. Ac wedi iddynt ddychrynu, a gostwng eu hwynebau i'r ddaear, hwy a ddywedasant wrthynt, Paham yr ydych yn ceisio yr hwn sydd yn fyw yn mysg y meirw? Nid yw yma: ond efe a gyfododd: cofiwch pa fodd y dywedodd wrthych ac efe eto yn Galilea, gan ddywedyd, Rhaid yw i Fab y Dyn gael ei draddodi i ddwylaw dynion pechadurus, a'i groeshoelio, a'r trydydd dydd adgyfodi. A hwy a gofiasant ei eiriau ef [[9:22; 18:32]], ac a ddychwelasant oddi wrth y bedd, ac a fynegasant yr holl bethau i'r Un‐ar‐Ddeg, ac i'r lleill oll: Mair Magdalen, a Johanna, a Mair mam Iago oeddynt hwy: a'r gwragedd eraill gyd â hwynt a ddywedasant wrth yr Apostolion y pethau hyn. A'r geiriau hyn a ymddangosent yn eu golwg fel ffiloreg; ac nid oeddynt yn eu credu. Eithr Petr a gododd i fyny, ac a redodd at y bedd, ac wedi iddo ymgrymu y mae yn canfod yr amrwymau yn unig: ac efe a aeth ymaith i'w gartref, gan ryfeddu am y peth a ddarfuasai. Ac wele, dau o honynt oedd yn myned yr un dydd i bentref, yr hwn oedd dri‐ugain ystâd o Jerusalem, o'r enw Emmaus. Ac yr oeddynt hwy yn ymddiddan â'u gilydd am yr holl bethau hyn a ddygwyddasent. A bu, fel yr oeddynt yn ymddiddan ac yn ymddadleu, yr Iesu ei hun hefyd, gan neshâu, oedd yn rhodio gyd â hwynt: eithr eu llygaid hwynt a rwystrwyd fel nas adwaenent ef. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa eiriau yw y rhai yr ydych yn cyfnewid â'ch gilydd, wrth rodio? A hwy a safasant yn wyneb drist. Ac un, o'r enw Cleopas, gan ateb a ddywedodd wrtho, A wyt ti yn unig yn byw fel ymdeithydd yn Jerusalem, ac ni wybuost y pethau a ddygwyddasant ynddi hi yn y dyddiau hyn? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa fath bethau? A hwy a ddywedasant wrtho, Y pethau am Iesu o Nazareth, yr hwn a ddaeth yn Broffwyd galluog mewn gweithred a gair gerbron Duw a'r holl bobl: a'r modd y traddododd ein Harch‐offeiriaid a'n Llywodraethwyr ni ef i farn marwolaeth, ac a'i croeshoeliasant ef. Ond yr oeddym ni yn gobeithio mai efe ei hun oedd yr hwn oedd ar waredu yr Israel. Ië, yn ddiau, heblaw yr holl bethau hyn, hwn yw y trydydd dydd iddo er pan ddygwyddodd y pethau hyn. Er hyny, hyd y nod rhai gwragedd o honom ni a'n llanwasant â syndod, wedi iddynt fyned gyd â'r wawr at y bedd; a phan na chawsant ei gorff ef, hwy a ddaethant, gan ddywedyd eu bod hyd y nôd wedi gweled gweledigaeth o Angelion, y rhai sydd yn dywedyd ei fod ef yn fyw. A rhai o'r rhai sydd gyd â ni a aethant ymaith at y bedd, ac a gawsant felly, fel y dywedodd y gwragedd, ond ef nis gwelsant. Ac efe a ddywedodd wrthynt, O rai anneallus, ac araf o galon i gredu ar sail yr holl bethau a lefarodd y Proffwydi! Onid y rhai hyn yr oedd yn rhaid i'r Crist ddyoddef, a myned i'w Ogoniant? A chan ddechreu o Moses ac o'r holl Broffwydi, efe a esboniodd yn drwyadl iddynt yn yr holl Ysgrythyrau y pethau am dano ei hun. A hwy a nesasant i'r pentref lle yr oeddynt yn myned: ac efe a ymddangosodd fel pe byddai yn myned yn mhellach. A hwy a'i cymhellasant ef yn daer, gan ddywedyd, Aros gyd â ni: canys y mae hi yn hwyrhâu, a'r dydd weithian wedi darfod: ac efe a aeth i mewn i aros gyd â hwynt. A bu, fel yr oedd efe yn eistedd i lawr i fwyta gyd â hwynt, efe a gymmerodd y bara, ac a'i bendithiodd, ac a'i torodd, ac a roddodd iddynt. A'u llygaid hwy a lawn‐agorwyd, a hwy a'i hadwaenasant ef: ac efe a aeth yn Anweledig oddi wrthynt. A hwy a ddywedasant wrth eu gilydd, Onid oedd ein calon yn llosgi ynom fel yr oedd efe yn llefaru wrthym ar y ffordd pan yr oedd efe yn llwyr-agoryd i ni yr Ysgrythyrau? A hwy a gyfodasant yr awr hono, ac a ddychwelasant i Jerusalem, ac a gawsant yr Un‐ar‐Ddeg wedi ymgasglu ynghyd, a'r sawl oedd gyd â hwynt, yn dywedyd, Yr Arglwydd a gyfododd mewn gwirionedd, ac a ymddangosodd i Simon. A hwy eu hunain oeddynt yn adrodd y pethau a ddygwyddasant ar y ffordd, a'r modd y daeth efe yn adnabyddus iddynt yn nhoriad y bara. Ac fel yr oeddynt yn llefaru y pethau hyn, Efe ei hun a safodd yn eu canol hwynt, ac a ddywed wrthynt, Tangnefedd i chwi. Hwythau, wedi brawychu ac yn llawn ofn, oeddynt yn tybied eu bod yn craffu ar yspryd. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych wedi eich cythryblu, ac o herwydd paham y mae amheuon yn cyfodi yn eich calon? Gwelwch fy nwylaw a'm traed, mai myfi fy hun ydyw: teimlwch fi, a gwelwch: nid oes gan yspryd gnawd ac esgyrn fel y daliwch sylw fod genyf fi. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a ddangosodd iddynt ei ddwylaw a'i draed. Ac a hwy eto heb gredu o lawenydd, ac yn rhyfeddu, efe a ddywedodd wrthynt, A oes genych yma beth a ellir fwyta? A hwy a roisant iddo ran o bysgodyn wedi ei rostio. Ac efe a'i cymmerodd, ac a'i bwytäodd yn eu gŵydd hwynt. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Dyma fy ngeiriau a ddywedais i chwi, tra yr oeddwn eto gyd â chwi, bod yn rhaid cyflawnu pob peth sydd wedi ei ysgrifenu yn Nghyfraith Moses, a'r Proffwydi, a'r Salmau, am danaf fi. Yna efe a lwyr‐agorodd eu deall, fel y deallent yr Ysgrythyrau; ac efe a ddywedodd wrthynt, Fel hyn y mae wedi ei ysgrifenu, bod y Crist i ddyoddef, ac i adgyfodi o feirw y trydydd dydd, a bod edifeirwch a maddeuant pechodau i gael eu pregethu ar sail ei enw ef i'r holl genedloedd, gan ddechreu o Jerusalem. Chwychwi ydych dystion o'r pethau hyn. Ac wele, yr wyf yn anfon allan Addewid fy Nhâd arnoch: eithr aroswch yn dawel yn y Ddinas hyd nes y gwisger chwi â gallu o'r Uchelder. Ac efe a'u harweiniodd hwynt allan hyd eu bod gyferbyn a Bethania, ac efe a gododd ei ddwylaw, ac a'u bendithiodd hwynt. A bu, tra yr ydoedd efe yn eu bendithio hwynt, yr oedd efe yn sefyll ar wahân â hwynt, ac a ddygwyd i fyny i'r Nef. A hwy a aethant ar eu gliniau mewn addoliad iddo, ac a ddychwelasant i Jerusalem gyd â llawenydd mawr: ac yr oeddynt yn wastadol yn y Deml yn bendithio Duw. Yn y Dechreuad yr oedd y Gair, a'r Gair oedd gyd â Duw, a Duw oedd y Gair. Hwn oedd yn y Dechreuad gyd â Duw. Pob peth a wnaethpwyd trwyddo ef: ac hebddo ef ni wnaethpwyd hyd y nod un peth. Yr hyn sydd wedi ei wneuthur ynddo ef oedd Bywyd; a'r Bywyd oedd Oleuni dynion. A'r Goleuni sydd yn llewyrchu yn y Tywyllwch; a'r Tywyllwch nis gorthrechodd ef. A daeth gwr, wedi ei anfon oddiwrth Dduw, a'i enw Ioan: hwn a ddaeth er tystiolaeth, fel y tystiolaethai am y Goleuni, fel y credai pawb trwyddo ef. Nid hwnw oedd y Goleuni, ond daeth fel y tystiolaethai am y Goleuni. Yr oedd y Goleuni gwirioneddol, yr hwn sydd yn goleuo pob dyn, yn dyfod i'r byd. Yn y byd yr oedd efe, a'r byd a wnaethpwyd trwyddo ef, a'r byd nid adnabu ef. I'w etifeddiaeth ei hun y daeth, a'i bobl ei hun nis croesawasant ef. Ond cynifer ag a'i derbyniasant ef, efe a roddes iddynt hawl‐fraint i ddyfod yn blant Duw, sef i'r rhai sydd yn credu yn ei enw ef: y rhai a genedlwyd nid o waed, nac o ewyllys y cnawd, nac o ewyllys gwr, ond o Dduw. A'r Gair a wnaethpwyd yn gnawd, ac a ymbabellodd yn ein plith ni, ac ni a welsom ei Ogoniant ef, — Gogoniant megys yr Unig‐anedig oddiwrth y Tâd, ac efe yn llawn gras a gwirionedd. Y mae Ioan yn tystiolaethu am dano ef, ac yn para i lefain, gan ddywedyd Hwn oedd yr un y dywedais am dano, Yr hwn sydd yn dyfod ar fy ol i sydd wedi myned o'm blaen i: canys yr oedd efe o'm blaen i. Canys o'i gyflawnder ef y derbyniasom ni oll, hyd y nod gras am ras. Canys y Gyfraith a roddwyd trwy Moses: y gras a'r gwirionedd a ddaeth trwy Iesu Grist. Nid oes neb erioed wedi gweled Duw: Duw Unig‐anedig, yr hwn sydd yn mynwes y Tâd, hwnw a eglurodd yr oll. A hon yw tystiolaeth Ioan, pan yr anfonodd yr Iuddewon ato ef, allan o Jerusalem, offeiriaid a Lefiaid, i ofyn iddo, Pwy wyt ti? Ac efe a gyffesodd, ac ni wadodd; a chyffesodd, Nid myfi yw y Crist. A hwy a ofynasant iddo, Beth ynte? Ai Elias wyt ti? Ac y mae efe yn dywedyd, Nag ê. Ai y Proffwyd wyt ti? Ac efe a atebodd, Nag ê. Dywedasant gan hyny wrtho, Pwy wyt ti? fel y rhoddom ateb i'r rhai a'n danfonodd; beth yr wyt ti yn ei ddywedyd am danat dy hun? Eb efe, Myfi wyf lef un yn gwaeddi, Yn y Diffaethwch unionwch ffordd yr Arglwydd, fel y dywedodd Esaiah y Proffwyd [[40:3]]. Ac yr oeddynt wedi eu danfon oddiwrth y Phariseaid. A hwy a ofynasant iddo, ac a ddywedasant wrtho, Paham gan hyny yr wyt ti yn bedyddio, os nad wyt ti y Crist, nac Elias, na'r Proffwyd? Ioan a atebodd iddynt, gan ddywedyd, Myfi wyf yn bedyddio mewn dwfr: yn eich canol chwi y mae un yn sefyll, yr hwn nid adwaenoch chwi, yr hwn sydd yn dyfod ar fy ol i,, yr hwn nid ydwyf fi deilwng i ddatod carrai ei esgid. Y pethau hyn a gymmerasant le yn Bethania, y tu hwnt i'r Iorddonen, lle yr oedd Ioan yn bedyddio. Tranoeth y mae efe yn canfod yr Iesu yn dyfod ato, ac y mae yn dywedyd, Wele Oen Duw, Yr hwn sydd yn cymmeryd ymaith bechod y byd. Hwn yw efe am yr hwn y dywedais i, Ar fy ol i y mae gwr yn dyfod, yr hwn sydd wedi myned o'm blaen i: canys yr oedd efe o'm blaen i. Ac myfi nid adwaenwn ef; eithr fel yr amlygid ef i Israel, o herwydd hyn y daethum i, gan fedyddio mewn dwfr. Ac Ioan a dystiolaethodd, gan ddywedyd, Yr wyf wedi gweled yr Yspryd yn disgyn fel colomen allan o'r Nef, ac a arosodd arno ef. Ac myfi nid adwaenwn ef; eithr yr hwn a'm hanfonodd i fedyddio mewn dwfr, efe a ddywedodd wrthyf, Ar bwy bynag y gwelych yr Yspryd yn disgyn ac yn aros arno, hwnw yw yr un sydd yn bedyddio mewn Yspryd Glân. Ac yr wyf wedi gweled, ac wedi tystiolaethu, mai hwn yw Mab Duw. Tranoeth drachefn yr oedd Ioan yn sefyll a dau o'i Ddysgyblion ef; a chan edrych ar yr Iesu yn rhodio o amgylch, efe a ddywed, Wele Oen Duw. A'r ddau Ddysgybl a'i clywsant ef yn llefaru, ac a ganlynasant yr Iesu. A'r Iesu a droes; ac yn eu canfod hwynt yn canlyn, efe a ddywed wrthynt, Beth yr ydych chwi yn ei geisio? A hwy a ddywedasant wrtho, Rabbi, (yr hyn a olyga, wedi ei gyfieithu, Athraw), pa le yr wyt ti yn aros? Efe a ddywed wrthynt, Deuwch a chwi a welwch. Hwy a ddaethant gan hyny, ac a welsant lle y mae efe yn aros, ac a arosasant gyd âg ef y diwrnod hwnw: yr oedd hi ynghylch y ddegfed awr. Andreas, brawd Simon Petr, oedd un o'r ddau a glywsant o enau Ioan, ac a'i dylynasant ef. Y mae hwn yn cael gafael yn gyntaf yn ei frawd ei hun, Simon, ac y mae yn dywedyd wrtho, Yr ydym ni wedi cael gafael yn y Messia (yr hyn wedi ei gyfieithu yw, Crist). Efe a'i dug ef at yr Iesu. Yr Iesu, wedi edrych arno ef, a ddywedodd, Ti yw Simon mab Ioan: ti a elwir Cephas (yr hwn a gyfieithir, Petr). Tranoeth yr ewyllysiodd efe fyned allan i Galilea, ac y mae efe yn cael Philip, ac yn dywedyd wrtho, Canlyn fi. A Philip oedd o Bethsaida, o ddinas Andreas a Phetr. Y mae Philip yn cael Nathanael, ac a ddywed wrtho, Yr ydym wedi cael yr hwn yr ysgrifenodd Moses yn y Gyfraith, a'r Proffwydi, am dano, Iesu o Nazareth, mab Joseph. A Nathanael a ddywedodd wrtho, A ddichon unrhyw beth da ddyfod allan o Nazareth? Y mae Philip yn dywedyd wrtho, Tyred a gwel. Iesu a welodd Nathanael yn dyfod ato, ac y mae yn dywedyd am dano, Wele Israeliad yn wir, yn yr hwn nid oes twyll. Y mae Nathanael yn dywedyd wrtho, Pa fodd y mae dy fod yn fy adnabod i? Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Cyn i Philip dy alw, pan oeddit tàn y ffigysbren, mi a'th welais di. Nathanael a atebodd iddo, Rabbi, Ti ydwyt Fab Duw; ti ydwyt Frenin Israel. Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho ef, Ai o herwydd i mi ddywedyd i ti, Myfi a'th welais di dan y ffigysbren, yr ydwyt ti yn credu? ti a weli bethau mwy na'r rhai hyn. Ac y mae yn dywedyd wrtho, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, chwi a welwch y Nefoedd wedi agoryd, ac Angelion Duw yn esgyn ac yn disgyn ar Fab y Dyn. A'r trydydd dydd yr oedd priodas‐wledd yn Cana yn Galilea: ac yr oedd mam yr Iesu yno. A galwyd yr Iesu hefyd a'i Ddysgyblion i'r briodas‐wledd. A phan ballodd gwin, y mae mam yr Iesu yn dywedyd wrtho ef, Nid oes ganddynt win. Y mae yr Iesu yn dywedyd wrthi, Beth sydd i mi a wnelwyf â thi, O wraig? Ni ddaeth fy Awr i eto. Y mae ei fam yn dywedyd wrth y gwasanaethwyr, Beth bynag a ddywedo efe wrthych, gwnewch. Ac yr oedd yno chwech o ddyfr‐lestri meini, wedi eu gosod yn ol arfer puredigaeth yr Iuddewon, y rhai a ddalient ddau neu dri bath yr un. Ac y mae yr Iesu yn dywedyd wrthynt, Llenwch y dyfr‐lestri o ddwfr. A hwy a'u llanwasant hyd yr ymyl. Ac y mae efe yn dywedyd wrthynt, Tynwch allan a dygwch i lywodraethwr y wledd. A hwy a ddygasant. Ond pan brofodd llywodraethwr y wledd y dwfr sydd wedi dyfod yn win, ac ni wyddai o ba le y mae, (eithr y gwasanaethwyr a wyddent, y rhai oeddynt wedi tynu y dwfr) y mae llywodraethwr y wledd yn galw y priod‐fab, ac yn dywedyd wrtho, Pob dyn a esyd y gwin da yn gyntaf; a phan wedi yfed yn drwm, yna yr hyn sydd waeth: ti ydwyt wedi cadw y gwin da hyd yr awr hon. Hyn o ddechreu yr arwyddion a wnaeth Iesu yn Cana yn Galilea, ac a amlygodd ei ogoniant, a'i Ddysgyblion a gredasant arno ef. Wedi hyn efe a aeth i waered i Capernaum, efe, a'i Fam, a'i Frodyr, a'i Ddysgyblion: ac yno nid arosasant nemawr o ddyddiau. A Phasc yr Iuddewon oedd yn agos, a'r Iesu a aeth i fyny i Jerusalem. Ac efe a gafodd yn y Deml y rhai oedd yn gwerthu ychain a defaid, a cholomenod, a'r cyfnewidwyr arian yn eistedd. Ac wedi gwneuthur fflangell o fân-reffynau, efe a fwriodd allan oll o'r Deml, y defaid hefyd a'r ychain; ac a dywalltodd allan arian y cyfnewidwyr, ac a ddymchwelodd y byrddau; ac wrth y rhai oedd yn gwerthu y colomenod y dywedodd, Dygwch ymaith y rhai hyn oddiyma: na wnewch Dŷ fy Nhâd yn dŷ marchnad. Ei Ddysgyblion a gofiasant fod yn ysgrifenedig, Zêl dy dŷ di a'm llwyr‐ysa i. Yr Iuddewon gan hyny a atebasant ac a ddywedasant wrtho ef, Pa arwydd yr wyt ti yn ei ddangos i ni, gan dy fod yn gwneuthur y pethau hyn? Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Tynwch i lawr y Cysegr hwn, ac mewn tridiau y cyfodaf ef. Yr Iuddewon gan hyny a ddywedasant, Yn yspaid chwe blynedd a deugain yr adeiladwyd y Cysegr hwn; ac a gyfodi di ef mewn tridiau? Ond efe a ddywedasai am Gysegr ei gorff. Pan gan hyny y cyfodwyd ef o feirw, ei Ddysgyblion ef a gofiasant iddo ddywedyd hyn; a hwy a gredasant yr Ysgrythyr, a'r gair a ddywedasai yr Iesu. Ac fel yr oedd efe yn Jerusalem ar y Pasc yn yr ŵyl, llawer a gredasant yn ei enw ef, wrth weled ei arwyddion a wnaethai efe. Ond yr Iesu ei hun nid ymddiriedodd ei hun iddynt, o herwydd yr adwaenai efe bawb; ac nad oedd raid iddo i neb dystiolaethu am ddyn; canys yr oedd efe ei hun yn gwybod pa beth oedd mewn dyn. Yn awr yr oedd dyn o'r Phariseaid, a'i enw Nicodemus, penaeth yr Iuddewon: hwn a ddaeth ato ef yn y nos, ac a ddywedodd wrtho ef, Rabbi, nyni a wyddom mai Athraw ydwyt wedi dyfod allan oddiwrth Dduw: canys ni all neb wneuthur yr arwyddion hyn yr wyt ti yn eu gwneuthur, oni bai fod Duw gyd âg ef. Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Yn wir, yn wir, meddaf i ti, oddi eithr geni dyn o'r newydd, ni ddichon efe weled Teyrnas Dduw. Y mae Nicodemus yn dywedyd wrtho, Pa fodd y dichon dyn ei eni, ac efe yn hen ddyn? a ddichon efe fyned i grôth ei fam eilwaith a'i eni? Iesu a atebodd, Yn wir, yn wir, meddaf i ti, oddi eithr geni dyn o ddwfr a'r Yspryd, ni ddichon efe fyned i mewn i Deyrnas Dduw. Yr hyn sydd wedi ei eni o'r cnawd sydd gnawd, a'r hyn sydd wedi ei eni o'r Yspryd sydd yspryd. Na ryfedda ddywedyd o honof fi wrthyt, Y mae yn rhaid eich geni chwi o'r newydd. Y mae yr Yspryd yn anadlu lle yr ewyllysio, a thi a glywi ei lais ef, ond nid ydwyt yn gwybod o ba le y mae yn dyfod, nac i ba le y mae yn myned: yr un modd y mae pob un sydd wedi ei eni o'r Yspryd. Nicodemus a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Pa fodd y dichon y pethau hyn fod? Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho. A wyt ti yn Athraw i Israel, ac ni wyddost y pethau hyn? Yn wir, yn wir, meddaf i ti, yr hyn a wyddom yr ydym yn ei lefaru, a'r hyn yr ydym wedi ei weled yr ydym yn ei dystiolaethu; a'n tystiolaeth ni nid ydych yn ei derbyn. Os dywedais i chwi y pethau a wneir ar y ddaear, a chwithau nid ydych yn credu, pa fodd, os dywedaf i chwi y pethau a wneir yn y Nefoedd, y credwch? Ac nid oes neb wedi esgyn i'r Nef, ond yr hwn a ddisgynodd allan o'r Nef, Mab y Dyn, [yr hwn sydd yn y Nef ]. Ac megys y dyrchafodd Moses y Sarff yn y Diffaethwch, felly y mae yn rhaid dyrchafu Mab y Dyn: fel y caffo pwy bynag a gredo ynddo ef fywyd tragywyddol. Canys felly y carodd Duw y byd, fel y rhoddodd efe ei Unig‐anedig Fab, fel na choller pwy bynag a gredo ynddo ef, ond caffael o hono fywyd tragywyddol. Canys ni ddanfonodd Duw y Mab i'r byd, i farnu y byd, ond fel yr achubid y byd trwyddo ef. Nid yw yr hwn sydd yn credu ynddo ef yn cael ei farnu: eithr yr hwn nid yw yn credu sydd wedi ei farnu eisioes, o herwydd nad ydyw wedi credu yn enw Unig‐anedig Fab Duw. A hon yw y farnedigaeth: Y mae y Goleuni wedi dyfod i'r byd, a dynion a garasant y Tywyllwch yn hytrach na'r Goleuni; canys eu gweithredoedd oeddynt ddrwg. Canys pob un a'r sydd yn ymarfer pethau iselwael sydd yn cashâu y Goleuni, ac nid yw yn dyfod at y Goleuni, fel na ddygid ei weithredoedd i brawf. Ond yr hwn sydd yn gwneuthur y gwirionedd sydd yn dyfod i'r Goleuni, fel yr eglurhâer ei weithredoedd ef, canys yn Nuw y maent wedi eu gweithio allan. Wedi y pethau hyn, daeth yr Iesu a'i Ddysgyblion i wlad Judea; ac yno yr arosodd efe gyd â hwynt, ac a fedyddiodd. Ac yr oedd Ioan hefyd yn bedyddio yn Ainon yn agos i Salim, canys dyfroedd lawer oedd yno; a hwy a ddaethant ac a fedyddiwyd. Canys nid oedd Ioan eto wedi ei fwrw i'r carchar. Cyfododd gan hyny ddadl o ran Dysgyblion Ioan âg Iuddew ynghylch puredigaeth. A daethant at Ioan, ac a ddywedasant wrtho, Rabbi, yr hwn oedd gyd â thi y tu hwnt i'r Iorddonen, i'r hwn yr wyt ti wedi tystiolaethu, wele, y mae hwn yn bedyddio, a phawb yn dyfod ato ef. Ioan a atebodd ac a ddywedodd, Ni ddichon dyn dderbyn dim, oni bydd wedi ei roddi iddo o'r Nef. Chwychwi eich hunain ydych yn tystiolaethu i mi ddywedyd, Nid myfi yw y Crist, eithr fy mod i wedi fy anfon o'i flaen ef. Yr hwn sydd ganddo y briod‐ferch yw y priod‐fab: ond cyfaill y priod‐fab, yr hwn sydd yn sefyll ac yn ei glywed ef, sydd yn llawenychu yn ddirfawr o herwydd llais y priod‐fab: fy llawenydd hwn gan hyny sydd wedi ei gyflawnu. Rhaid iddo ef gynyddu, ond i mi leihâu. Yr hwn sydd yn dyfod oddi uchod sydd goruwch pawb: yr hwn sydd o'r ddaear sydd o'r ddaear, ac o'r ddaear y mae yn llefaru; yr hwn sydd yn dyfod o'r Nef sydd goruwch pawb. Yr hyn y mae efe wedi ei weled ac a glywodd, hyn y mae efe yn ei dystiolaethu, a'i dystiolaeth ef nid oes neb yn ei derbyn. Yr hwn a dderbyniodd ei dystiolaeth ef a seliodd fod Duw yn wir. Canys yr hwn a anfonodd Duw, geiriau Duw y mae yn eu llefaru; oblegyd nid wrth fesur y mae efe yn rhoddi yr Yspryd. Y mae y Tâd yn caru y Mab, ac wedi rhoddi pob peth yn ei law ef. Yr hwn sydd yn credu yn y Mab, y mae ganddo fywyd tragywyddol: ond yr hwn sydd yn anufyddhâu i'r Mab, ni wel fywyd, eithr y mae digofaint Duw yn aros arno ef. Pan wybu yr Arglwydd gan hyny glywed o'r Phariseaid fod yr Iesu yn gwneuthur ac yn bedyddio mwy o ddysgyblion nag Ioan, (ac eto yr Iesu ei hun ni fedyddiasai, ond ei Ddysgyblion a wnaethent), efe a adawodd Judea, ac a aeth ymaith drachefn i Galilea. Ac yr oedd yn rhaid iddo fyned drwy Samaria. Y mae efe yn dyfod gan hyny i ddinas yn Samaria, a elwir Sychar, ger llaw y darn o dir a roddodd Jacob i Joseph ei fab. Ac yno yr oedd ffynon Jacob. Yr Iesu gan hyny, wedi diffygio gan y daith, a eisteddodd fel yr oedd wrth y ffynon: ynghylch y chweched awr oedd hi. Y mae yn dyfod wraig o Samaria i dynu dwfr. Y mae yr Iesu yn dywedyd wrthi, Dyro i mi i yfed. Canys ei Ddysgyblion ef oeddynt wedi myned ymaith i'r Ddinas i brynu bwyd. Gan hyny y dywed y wraig, y Samariad, wrtho ef, Pa fodd yr ydwyt ti, a thi yn Iuddew, yn ceisio genyf fi beth i yfed, a myfi yn wraig o Samaria? Oblegyd nid yw Iuddewon yn ymgyfeillachu â Samariaid. Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthi, Ped adwaenasit ti rodd Duw, a phwy yw yr hwn sydd yn dywedyd wrthyt, Dyro i mi i yfed; tydi a ofynasit iddo ef, ac efe a roddasai i ti ddwfr bywiol. Y wraig a ddywed wrtho, Syr, nid oes genyt lestr i dynu dwfr, a'r ffynon sydd ddofn: o ba le gan hyny y mae i ti y dwfr bywiol? Ai mwy wyt ti na'n Tâd Jacob, yr hwn a roddodd i ni y ffynon, ac efe ei hun a yfodd o honi, a'i feibion, a'i anifeiliaid? Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthi, Pob un ag sydd yn yfed o'r dwfr hwn, efe a sycheda drachefn: ond pwy bynag a yfo o'r dwfr a roddwyf fi iddo, ni sycheda yn sicr yn dragywydd; eithr y dwfr a roddwyf iddo a ddaw ynddo yn ffynon o ddwfr yn tarddu i fyny i fywyd tragywyddol. Y mae y wraig yn dywedyd wrtho, Syr, dyro i mi y dwfr hwn, fel na sychedwyf, ac na ddelwyf yr holl ffordd yma i dynu dwfr. Dywed yr Iesu wrthi, Dos ymaith, galw dy wr, a thyred yma. Y wraig a atebodd ac a ddywedodd, Nid oes genyf wr. Dywed yr Iesu wrthi, Da y dywedaist, Nid oes genyf wr: canys pump o wŷr a fu i ti; a'r hwn sydd genyt yr awrhon, nid yw wr i ti: hyn wyt wedi ei ddywedyd yn wirionedd. Dywed y wraig wrtho, Syr, yr wyf yn canfod mai proffwyd wyt ti. Ein Tadau a addolasant yn y Mynydd hwn; ac yr ydych chwi yn dywedyd mai yn Jerusalem y mae y man lle y mae yn rhaid addoli. Dywed yr Iesu wrthi, Cred fi, O wraig, Y mae awr yn dyfod, pryd nad addoloch y Tâd, nac yn y Mynydd hwn nac yn Jerusalem. Chwychwi ydych yn addoli y peth ni wyddoch: ninau ydym yn addoli y peth a wyddom; canys yr Iachawdwriaeth sydd o'r Iuddewon. Ond y mae awr yn dyfod, ac yn awr y mae hi, pan yr addolo yr addolwyr gwirioneddol y Tâd mewn yspryd a gwirionedd: canys y mae y Tâd yn wir yn ceisio y cyfryw fel ei addolwyr ef. Yspryd yw Duw: a rhaid i'r rhai a'i haddolant ef addoli mewn yspryd a gwirionedd. Dywed y wraig wrtho, Mi a wn fod y Messia yn dyfod (yr hwn a elwir Crist): pan ddelo hwnw, efe a hysbysa i ni bob peth. Dywed yr Iesu wrthi, Myfi, yr hwn wyf yn ymddiddan â thi, yw efe. Ac ar hyn y daeth ei Ddysgyblion ef; ac yr oeddynt yn rhyfeddu ei fod ef yn ymddiddan â gwraig; ac eto ni ddywedodd neb, Beth a geisi? neu, Paham yr ydwyt yn ymddiddan â hi? Gan hyny y wraig a adawodd ei dwfr-lestr, ac a aeth ymaith i'r Ddinas, ac y mae yn dywedyd wrth y dynion, Deuwch, gwelwch ddyn, yr hwn a ddywedodd i mi yr oll, pa bethau bynag a wnaethum. A all hwn fod y Crist? A hwy a aethant allan o'r Ddinas, ac yr oeddynt yn dyfod ato ef. Yn y cyfamser yr oedd ei Ddysgyblion yn ceisio ganddo, gan ddywedyd, Rabbi, bwyta. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae genyf fi fwyd i'w fwyta nad ydych chwi yn ei adnabod. Am hyny yr oedd y Dysgyblion yn dywedyd wrth eu gilydd, A ddygodd neb iddo beth i'w fwyta? Dywed yr Iesu wrthynt, Fy mwyd i yw fel y gwnelwyf ewyllys yr hwn a'm danfonodd, a gorphen ei waith ef. Onid ydych chwi yn dywedyd, Y mae eto bedwar mis, ac y mae y Cynhauaf yn dyfod? Wele, yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych, Dyrchefwch eich llygaid, a syllwch ar y meusydd eu bod yn wynion i'r Cynhauaf. Yn barod y mae yr hwn sydd yn medi yn derbyn cyflog, ac yn casglu ffrwyth i fywyd tragywyddol; fel y byddo i'r hwn sydd yn hau, a'r hwn sydd yn medi, lawenychu ynghyd. Canys yn hyn y mae y dywediad yn wir, Arall yw yr hwn sydd yn hau, ac arall yw yr hwn sydd yn medi. Myfi a'ch danfonais chwi i fedi yr hyn nid ydych wedi llafurio arno: eraill sydd wedi llafurio, a chwychwi sydd wedi myned i mewn i'w llafur hwynt. Ac o'r Ddinas hono llawer o'r Samariaid a gredasant ynddo o yherwydd gair y wraig, yr hon a dystiolaethodd, Efe a ddywedodd i mi yr holl bethau a wnaethum. Gan hyny pan ddaeth y Samariaid ato ef, yr oeddynt yn atolygu iddo aros gyd â hwynt: ac efe a arosodd yno ddeuddydd. A mwy o lawer a gredasant o herwydd ei air ei hun: a dywedasant wrth y wraig, Hwyach nid ydym yn credu o herwydd dy ymddiddan di; canys yr ydym ni ein hunain wedi ei glywed ef, ac yr ydym yn gwybod mai Hwn yn wir yw IACHAWDWR Y BYD. Ac ar ol y ddeuddydd, efe a aeth allan oddi yno i Galilea. Canys yr Iesu ei hun a dystiolaethodd, Nid yw proffwyd yn cael anrhydedd yn ei dâd‐wlad ei hun. Pan ddaeth efe gan hyny i Galilea, y Galileaid a'i croesawasant ef, gan eu bod wedi gweled yr oll, pa bethau bynag a wnaeth efe yn Jerusalem ar yr Wyl: canys hwythau hefyd a ddaethant i'r Wyl. Efe a ddaeth gan hyny drachefn i'r Cana yn Galilea, lle y gwnaeth efe y dwfr yn win. Ac yr oedd rhyw swyddog breninol, yr hwn yr oedd ei fab yn glaf yn Capernaum. Pan glybu hwn ddyfod o'r Iesu o Judea i Galilea, efe a aeth ymaith ato ef, ac yr oedd yn atolygu iddo ddyfod i waered, a iachâu ei fab ef: canys yr oedd efe yn mron marw. Yr Iesu gan hyny a ddywedodd wrtho, Oni welwch arwyddion a rhyfeddodau, ni chredwch o gwbl. Dywed y swyddog breninol wrtho, Arglwydd, tyred i waered cyn marw fy mhlentyn bychan. Dywed yr Iesu wrtho, Dos dy ffordd: Y mae dy fab yn fyw. Y gwr a gredodd y gair yr hwn a ddywedodd yr Iesu wrtho, ac a aeth i'w ffordd. Ac fel yr oedd efe weithian yn myned i waered, ei weision a gyfarfuant âg ef, ac a fynegasant, gan ddywedyd fod ei blentyn yn fyw. Efe gan hyny a ymofynodd â hwynt yr awr yn yr hon y cafodd dro er gwell. Hwythau gan hyny a ddywedasant wrtho, Doe, yn ystod y seithfed awr, y gadawodd y dwymyn ef. Yna y gwybu y tâd mai yn yr awr hono yn yr hon y dywedodd yr Iesu wrtho, Y mae dy fab yn fyw: ac efe ei hun a gredodd, a'i holl deulu. A hwn drachefn, yr ail arwydd, a wnaeth yr Iesu, wedi dyfod o Judea i Galilea. Wedi y pethau hyn yr oedd Gŵyl yr Iuddewon; a'r Iesu a aeth i fyny i Jerusalem. Ac y mae yn Jerusalem, wrth Borth y Defaid, lyn a gyfenwir yn yr Hebraeg, Bethesda, ag iddo bum cyntedd: yn y rhai y gorweddai lluaws o rai cleifion, deillion, cloffion, gwywedigion. Ac yr oedd rhyw ddyn yno a fuasai yn ei afiechyd dri‐deg ac wyth o flynyddau. Yr Iesu, pan welodd hwn yn gorwedd, ac yn gwybod ei fod ef felly weithian amser maith, a ddywed wrtho, A fyni di ddyfod yn iach? Y claf a atebodd iddo, Syr, nid oes genyf ddyn, pan gynhyrfer y dwfr, i'm bwrw i'r llyn: ond tra yr wyf fi yn dyfod, arall a ddisgyn o'm blaen i. Yr Iesu a ddywed wrtho, Cyfod, cymmer i fyny dy wely, a rhodia. Ac yn ebrwydd y dyn a ddaeth yn iach, ac a gyfododd i fyny ei wely, ac a rodiodd. Yn awr, yr oedd y Sabbath ar y dydd hwnw. Am hyny dywedodd yr Iuddewon wrth yr hwn oedd wedi ei wellhâu, Y Sabbath ydyw: ac nid cyfreithlawn i ti gyfodi i fyny y gwely. Efe a atebodd iddynt, Yr hwn a'm gwnaeth i yn iach, efe a ddywedodd wrthyf, Cyfod dy wely, a rhodia. Am hyny hwy a ofynasant iddo, Pwy yw y dyn a ddywedodd wrthyt ti, Cyfod i fyny dy wely, a rhodia? A'r hwn a iachasid ni wyddai pwy ydyw efe: oblegyd yr Iesu a ymneillduodd, gan fod tyrfa yn y lle. Ar ol y pethau hyn y mae yr Iesu yn ei gael ef yn y Deml, ac a ddywedodd wrtho, Wele, yr ydwyt wedi dyfod yn iach: na phecha mwyach, fel na ddygwyddo i ti beth a fyddo gwaeth. Y dyn a aeth ymaith, ac a fynegodd i'r Iuddewon mai yr Iesu yw yr hwn a'i gwnaethai ef yn iach. Ac o herwydd hyn yr oedd yr Iuddewon yn erlid yr Iesu,, oblegyd ei fod yn gwneuthur y pethau hyn ar y Sabbath. Ond yr Iesu a'u hatebodd hwynt, Y mae fy Nhâd yn gweithio hyd yn awr, ac yr ydwyf finau yn gweithio. O herwydd hyn yr oedd yr Iuddewon yn ceisio yn fwy ei ladd ef, canys nid yn unig yr oedd efe yn dirymu y Sabbath, ond hefyd dywedodd mai ei Dâd ei hun oedd Duw, gan ei wneuthur ei hun yn gyd‐radd â Duw. Yr Iesu gan hyny a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Ni ddichon y Mab wneuthur dim o hono ei hunan, eithr yr hyn a welo efe y Tâd yn ei wneuthur: canys pa beth bynag y mae efe yn ei wneuthur, y pethau hyn hefyd y mae y Mab yr un modd yn eu gwneuthur. Canys y Tâd sydd yn caru y Mab, ac yn dangos iddo yr holl bethau y mae efe yn eu gwneuthur: a gweithredoedd mwy na'r rhai hyn a ddengys efe iddo, fel y rhyfeddoch chwi. Oblegyd megys y mae y Tâd yn cyfodi y meirw, ac yn eu bywhâu, felly hefyd y mae y Mab yn bywhâu y rhai a fyno. Canys nid yw hyd y nod y Tâd yn barnu neb; ond y mae efe wedi rhoddi y Farn gyfan i'r Mab: fel yr anrhydeddai pawb y Mab, fel y maent yn anrhydeddu y Tâd. Yr hwn nid yw yn anrhydeddu y Mab, nid yw yn anrhydeddu y Tâd, yr hwn a'i hanfonodd ef. Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr hwn sydd yn gwrando fy ngair, ac yn credu i'r hwn a'm hanfonodd i, sydd ganddo fywyd tragywyddol, ac nid yw yn dyfod i Farn, eithr y mae efe wedi myned trosodd allan o farwolaeth i fywyd. Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Y mae yr awr yn dyfod, ac yn awr y mae, pan glywo y Meirw lais Mab Duw, a'r rhai a glywant a fyddant byw. Canys megys y mae gan y Tâd fywyd ynddo ei hun, felly hefyd i'r Mab y rhoddodd efe i gael bywyd ynddo ei hun: ac efe a roddodd iddo awdurdod i wneuthur barn, oblegyd ei fod yn Fab dyn. Na ryfeddwch at hyn: canys y mae yr awr yn dyfod, yn yr hon y caiff pawb sydd yn eu beddau glywed ei lais ef, ac a ddeuant allan: y rhai a wnaethant bethau da i Adgyfodiad bywyd, ond y rhai a ymarferasant bethau isel‐wael i Adgyfodiad barn. Ni allaf fi wneuthur dim o honof fy hun: fel yr ydwyf yn clywed, yr ydwyf yn barnu: a'm barn i sydd gyfiawn, canys nid ydwyf yn ceisio fy ewyllys fy hunan, ond ewyllys yr hwn a'm danfonodd i. Os ydwyf fi yn tystiolaethu am danaf fy hun, nid yw fy nhystiolaeth i yn wir. Arall ydyw yr hwn sydd yn tystiolaethu am danaf fi, ac mi wn mai gwir yw y dystiolaeth y mae yn ei thystiolaethu am danaf fi. Chwychwi ydych wedi anfon at Ioan, ac y mae efe wedi tystiolaethu i'r gwirionedd: ond myfi nid ydwyf yn derbyn y dystiolaeth oddiwrth ddyn: eithr y pethau hyn yr ydwyf yn eu dywedyd, fel y'ch achuber. Efe oedd y llusern sydd yn llosgi ac yn goleuo, a chwithau a fynasech am dymhor byr orfoleddu yn ei oleuni ef. Ond y mae genyf fi dystiolaeth fwy nag Ioan: canys y gweithredoedd y mae y Tâd wedi eu rhoddi i mi, fel eu gorphenwyf, y gweithredoedd hyny yr wyf yn eu gwneuthur sydd yn tystiolaethu am danaf fi, mai y Tâd sydd wedi fy anfon i. A'r Tâd, yr hwn a'm hanfonodd i, efe sydd wedi tystiolaethu am danaf fi. Nid ydych erioed naill nac wedi clywed ei lais ef, nac wedi gweled ei wedd ef. A'i air ef nid yw genych yn aros ynoch: canys yr hwn a anfonodd efe, hwnw nid ydych chwi yn ei gredu. Yr ydych yn chwilio yr Ysgrythyrau: canys yr ydych yn tybied cael ynddynt hwy fywyd tragywyddol; a hwynthwy yw y rhai sydd yn tystiolaethu am danaf fi: ac ni fynwch chwi ddyfod ataf fi, fel y caffoch fywyd. Nid ydwyf fi yn derbyn gogoniant oddi wrth ddynion. Yr ydwyf wedi eich adnabod chwi, nad oes genych gariad Duw ynoch. Yr ydwyf wedi dyfod yn enw fy Nhâd, ac nid ydych yn fy nerbyn i; os arall a ddaw yn ei enw ei hun, hwnw a dderbyniwch. Pa fodd y gallwch chwi gredu, gan dderbyn gogoniant oddi wrth eich gilydd, ac heb geisio y gogoniant sydd oddi wrth yr Unig Dduw? Na thybiwch y cyhuddaf chwi wrth y Tâd: y mae un a'ch cyhudda chwi, Moses, yn yr hwn yr ydych wedi gobeithio. Canys pe credasech i Moses, chwi a gredasech i minau; canys am danaf fi yr ysgrifenodd efe. Ond os chwi ni chredwch ei Ysgrifeniadau ef, pa fodd y credwch fy ngeiriau i? Wedi y pethau hyn aeth yr Iesu ymaith yn groes i Fôr Galilea, sef Tiberias. A thyrfa fawr oedd yn ei ganlyn ef, canys yr oeddynt yn dal sylw ar ei arwyddion y rhai a wnaethai efe ar y cleifion. Ond yr Iesu a aeth i fyny i'r mynydd, ac yno efe a eisteddodd gyd â'u Ddysgyblion. A'r Pasc, Gŵyl yr Iuddewon, oedd yn agos. Am hyny yr Iesu a ddyrchafodd ei lygaid, ac a ganfyddodd fod tyrfa fawr yn dyfod ato, ac y mae yn dywedyd wrth Philip, O ba le y gallwn brynu bara, fel y bwytâo y rhai hyn? A hyn a ddywedodd efe, gan ei brofi ef: canys efe ei hun a wyddai beth yr oedd efe ar fedr ei wneuthur. Philip a'i hatebodd ef, Gwerth dau can denarion o fara nid yw ddigon iddynt hwy, fel y derbynio pob un ychydig. Un o'i Ddysgyblion, Andreas, brawd Simon Petr, a ddywed wrtho, Y mae yma fachgenyn, a chanddo bum torth haidd, a dau bysgodyn: ond beth yw y rhai hyn i gymaint? Yr Iesu a ddywedodd, Gwnewch i'r gwrywod orwedd i lawr. Ac yr oedd glaswellt lawer yn y lle. Am hyny y gwŷr a orweddasant i lawr mewn nifer ynghylch pum mil. Yr Iesu gan hyny a gymmerodd y torthau, ac wedi iddo ddiolch, efe a'u rhanodd i'r rhai oedd yn eistedd i fwyta: yr un modd hefyd o'r pysgod cymaint ag a fynent. A phan y digonwyd hwynt, efe a ddywed wrth ei Ddysgyblion, Cesglwch ynghyd y darnau toredig sydd yn ngweddill, fel na choller dim. Am hyny hwy a'u casglasant, ac a lanwasant ddeuddeg basgedaid o'r darnau toredig o'r pum torth haidd, y rhai oedd dros ben i'r rhai a fwytasant. Am hyny y dynion, pan welsant yr arwydd a wnaeth yr Iesu, a ddywedasant, Hwn yn ddiau yw y Proffwyd sydd yn dyfod i'r byd. Yr Iesu gan hyny, pan wybu eu bod hwy ar fedr dyfod hyd y nod i'w gipio ymaith, fel y gwnelent ef yn frenin, a ymneillduodd drachefn i'r mynydd, wrtho ei hun. A phan ddaeth yr hŵyr, ei Ddysgyblion ef a aethant i waered at y môr; a hwy a aethant i gwch, ac yr oeddynt yn myned yn groes i'r môr i Capernäum. Ac yr oedd y cyfnos weithian wedi dyfod, a'r Iesu nid oedd eto wedi dyfod atynt. A'r môr fel yr oedd gwynt mawr yn chwythu, oedd yn cyffroi Gan hyny, wedi iddynt rwyfo ynghylch pump ar hugain neu ddeg ar hugain o ystadiau, y maent yn dal sylw ar yr Iesu yn rhodio ar y môr, ac yn dyfod yn agos at y cwch: a hwy a ofnasant. Ac y mae efe yn dywedyd wrthynt, Myfi yw; nac ofnwch. Yr oeddynt yn ewyllysio gan hyny gymmeryd ef i'r cwch, ac yn ebrwydd yr oedd y cwch wrth y tir yr oeddynt yn myned ymaith iddo. Tranoeth, pan welodd y dyrfa oedd yn sefyll yr ochr arall i'r môr nad oedd cwch bychan arall yno ond un, ac nad aethai yr Iesu gyd â'i Ddysgyblion i'r cwch, ond myned o'i Ddysgyblion ymaith eu hunain: (er hyny daeth cychod bychain o Tiberias, yn agos i'r fan lle y bwytasant y bara, wedi i'r Arglwydd roddi diolch:) pan welodd y dyrfa gan hyny nad yw yr Iesu yno, na'i Ddysgyblion, hwy eu hunain a aethant i gychod bychain, ac a ddaethant i Capernaum, gan geisio yr Iesu. Ac wedi iddynt ei gael ef yr ochr arall i'r môr, hwy a ddywedasant wrtho, Rabbi, pa bryd y daethost ti yma? Yr Iesu a atebodd iddynt, ac a ddywedodd, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr ydych yn fy ngheisio i, nid oblegyd i chwi weled arwyddion, eithr oblegyd i chwi fwyta o'r torthau, a'ch digoni. Ymegniwch, nid am y bwyd sydd yn darfod, ond am y bwyd sydd yn parhâu i fywyd tragywyddol, yr hwn a ddyry Mab y Dyn i chwi: canys hwn a seliodd y Tâd, sef Duw. Dywedasant gan hyny wrtho, Pa beth a wnawn ni, fel y gweithredom weithredoedd Duw? Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Hyn yw gwaith Duw, fel y credoch yn yr hwn a anfonodd efe. Dywedasant gan hyny wrtho ef, Pa arwydd yr wyt ti gan hyny yn ei wneuthur, fel y gwelom ac y credom i ti? Pa beth yr wyt ti yn ei weithredu? Ein Tadau a fwytasant y manna yn yr Anialwch, fel y mae yn ysgrifenedig, Bara allan o'r Nefoedd a roddodd efe iddynt i fwyta. Yr Iesu gan hyny a ddywedodd wrthynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Nid Moses a roddodd i chwi y Bara allan o'r Nef, ond fy Nhâd sydd yn rhoddi i chwi y Bara allan o'r Nef, y Gwir Fara. Canys bara Duw yw yr hwn sydd yn dyfod i waered o'r Nef, ac yn rhoddi bywyd i'r byd. Am hyny hwy a ddywedasant wrtho, Syr, Dyro i ni yn wastadol y Bara hwn. Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Myfi yw Bara Bywyd: Yr hwn sydd yn dyfod ataf fi, ni newyna ddim; a'r hwn sydd yn credu ynof fi, ni sycheda ddim un amser. Eithr dywedais wrthych, eich bod yn wir wedi fy ngweled i, ac ni chredwch. Yr hyn oll y mae y Tâd yn ei roddi i mi, a gyrhaedda ataf fi; a'r hwn sydd yn dyfod ataf fi, nis bwriaf ef allan ddim. Canys yr ydwyf wedi dyfod i waered o'r Nef, nid i wneuthur fy ewyllys fy hun, ond ewyllys yr hwn a'm hanfonodd i. A hyn yw ewyllys yr hwn a'm hanfonodd i: Fod yr oll y mae efe wedi ei roddi i mi, na chollwn ddim o hono, eithr bod i mi ei adgyfodi y Dydd Diweddaf. Canys hyn yw ewyllys fy Nhâd: cael i bob un sydd yn gweled y Mab, ac yn credu ynddo, fywyd tragywyddol: a bod i mi ei adgyfodi ef y Dydd Diweddaf. Yr oedd yr Iuddewon gan hyny yn grwgnach am dano ef, o herwydd iddo ddywedyd, Myfi yw y Bara yr hwn a ddaeth i waered o'r Nef, ac a ddywedasant, Onid hwn yw Iesu, mab Joseph, tâd a mam yr hwn a adwaenom ni? Pa fodd yr awrhon y mae efe yn dywedyd, Yr wyf fi wedi dyfod i waered o'r Nef? Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Na rwgnachwch wrth eich gilydd. Ni ddichon neb ddyfod ataf fi, oddi eithr i'r Tâd, yr hwn a'm hanfonodd, ei at‐dynu ef: a myfi a'i hadgyfodaf ef y Dydd Diweddaf. Y mae yn ysgrifenedig yn y Proffwydi A phawb a fyddant ysgolheigion Duw. Pob un a glywodd oddi wrth y Tâd, ac a ddysgodd, sydd yn dyfod ataf fi. Nid am fod neb wedi gweled y Tâd, oddi eithr yr hwn sydd oddi wrth Dduw, hwnw sydd wedi gweled y Tâd. Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, yr hwn sydd yn credu, y mae ganddo fywyd tragywyddol. Myfi yw Bara y Bywyd. Eich Tadau a fwytasant y manna yn yr Anialwch, ac fuont feirw: hwn yw y Bara sydd yn dyfod i waered o'r Nef, fel y bwytâo unrhyw un o hono, ac na byddo marw. Myfi yw y Bara Bywiol, yr hwn a ddaeth i waered o'r Nef: os bwyty neb o'r Bara hwn, efe a fydd byw yn dragywydd. A'r Bara a roddaf fi, fy nghnawd i ydyw, dros fywyd y byd. Yr Iuddewon gan hyny a ymrysonasant â'u gilydd, gan ddywedyd, Pa fodd y dichon hwn roddi i ni ei gnawd i'w fwyta? Yr Iesu gan hyny a ddywedodd wrthynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Oni fwytêwch gnawd Mab y Dyn, ac oni yfwch ei waed ef, nid oes genych fywyd ynoch eich hunain. Yr hwn sydd yn bwyta fy nghnawd i, ac yn yfed fy ngwaed i, sydd ganddo fywyd tragywyddol: ac myfi a'i hadgyfodaf ef y Dydd Diweddaf. Canys fy nghnawd i sydd wir fwyd, a'm gwaed i sydd wir ddiod. Yr hwn sydd yn bwyta fy nghnawd i, ac yn yfed fy ngwaed i, sydd yn aros ynof fi, a minau ynddo yntau. Fel yr anfonodd y Tâd Bywiol fi, ac yr ydwyf fi yn byw o herwydd y Tâd; felly yr hwn sydd yn fy mwyta i, yntau a fydd byw o'm herwydd i. Hwn yw y Bara a ddaeth i waered o'r Nef. Nid megys y bwytâodd y Tadau, ac y buont feirw: yr hwn sydd yn bwyta y Bara hwn a fydd byw yn dragywydd. Y pethau hyn a ddywedodd efe mewn Synagog, wrth ddysgu yn Capernaum. Llawer o'i Ddysgyblion gan hyny, pan glywsant, a ddywedasant, Caled yw yr ymadrodd hwn: pwy a ddichon wrando arno? A'r Iesu yn gwybod ynddo ei hun fod ei Ddysgyblion yn grwgnach yn nghylch hyn, efe a ddywedodd wrthynt, A ydyw hyn yn peri i chwi dramgwydd? Beth gan hyny os gwelwch Fab y Dyn yn esgyn lle yr oedd efe o'r blaen? Yr Yspryd yw yr hwn sydd yn bywhâu: y cnawd nid yw yn lleshâu dim: yr ymadroddion yr wyf fi wedi eu llefaru wrthych, yspryd ydynt, a bywyd ydynt. Ond y mae o honoch chwi rai nid ydynt yn credu. Canys yr Iesu a wyddai o'r dechreuad pwy oedd y rhai nid oeddynt yn credu, a phwy oedd yr hwn ai traddodai ef i fyny. Ac efe a ddywedodd, O herwydd hyn yr wyf wedi dywedyd wrthych, na ddichon neb ddyfod ataf fi, oddi eithr ei fod wedi ei roddi iddo oddi wrth y Tâd. Ar hyn, llawer yn mhlith ei Ddysgyblion ef a aethant ymaith at y pethau ar ol; ac nid oeddynt yn rhodio mwyach gyd âg ef. Am hyny yr Iesu a ddywedodd wrth y Deuddeg, A ewyllysiwch chwithau hefyd fyned ymaith? Simon Petr a atebodd iddo, Arglwydd, at bwy yr awn ni ymaith? Genyt ti y mae geiriau y bywyd tragywyddol: ac yr ydym ni wedi credu, ac wedi dyfod i wybod mai Tydi yw Sanct Duw. Iesu a'u hatebodd hwynt, Oni ddewisais i chwychwi y Deuddeg? Ac o honoch un sydd Ddiafol. Ac efe a ddywedasai am Judas, mab Simon Iscariot; canys hwn oedd ar fedr ei draddodi ef i fyny, ac yntau yn un o'r Deuddeg. Ac ar ol y pethau hyn yr Iesu a rodiodd yn Galilea: canys nid oedd efe yn ewyllysio rhodio yn Judea, oblegyd bod yr Iuddewon yn ceisio ei ladd ef. A Gŵyl yr Iuddewon, Gwyl y Pebyll, oedd yn agos. Gan hyny ei Frodyr ef a ddywedasant wrtho, Symud oddi yma, a dos ymaith i Judea, fel hefyd y gwelo dy Ddysgyblion dy weithredoedd di, y rhai yr ydwyt yn eu gwneuthur. Canys nid oes neb yn gwneuthur dim yn ddirgel, ac yn ceisio i fod ei hun yn gyhoedd: os wyt ti yn gwneuthur y pethau hyn, amlyga dy hun i'r byd. Canys nid oedd hyd y nod ei Frodyr yn credu ynddo. Dywed yr Iesu gan hyny wrthynt, Nid yw fy amser cyfaddas i eto yn bresenol: ond eich amser cyfaddas chwi sydd yn wastad yn barod. Ni ddichon y byd eich cashâu chwi; ond myfi y mae yn ei gashâu, oblegyd fy mod i yn tystiolaethu am dano, fod ei weithredoedd ef yn ddrwg. Ewch chwi i fyny i'r Wyl: nid wyf fi yn myned i fyny i'r Wyl hon, oblegyd nid yw fy amser cyfaddas i wedi ei gyflawnu eto. Gwedi iddo ddywedyd y pethau hyn wrthynt, efe a arosodd yn Galilea. Ond pan yr aeth ei Frodyr ef i fyny i'r Wyl, yna efe ei hun hefyd a aeth i fyny, nid yn amlwg, ond megys yn ddirgelaidd. Yr Iuddewon gan hyny oeddynt yn ei geisio ef yn yr Wyl, ac yn dywedyd, Pa le y mae efe? A grwgnach lawer oedd am dano ef yn mysg y torfeydd: rhai a ddywedent, Gwr da yw: ond eraill a ddywedent, Na, eithr cam‐arwain y dyrfa y mae. Er hyny, nid oedd neb yn llefaru yn agored am dano ef o achos ofn yr Iuddewon. Ond pan yr oedd weithian ganol yr Wyl, yr Iesu a aeth i fyny i'r Deml, ac a ddysgodd. A'r Iuddewon gan hyny oeddynt yn rhyfeddu, gan ddywedyd, Pa fodd y medr hwn ddysgeidiaeth, ac yntau heb fod wedi dysgu? Yr Iesu gan hyny a atebodd iddynt, ac a ddywedodd, Fy nysgeidiaeth i nid eiddof fi ydyw, ond eiddo yr hwn a'm hanfonodd i. Os ewyllysia neb wneuthur ei ewyllys ef, efe a ddaw i wybod am y ddysgeidiaeth, pa un ai o Dduw y mae, ai fy mod i yn llefaru o honof fy hun. Yr hwn sydd yn llefaru o hono ei hun sydd yn ceisio ei ogoniant ei hun: ond yr hwn sydd yn ceisio gogoniant yr hwn a'i hanfonodd ef, hwnw sydd wir, ac anghyfiawnder nid oes ynddo. Oni roddodd Moses i chwi y Gyfraith? Ac nid oes un o honoch yn gwneuthur y Gyfraith: paham yr ydych yn ceisio fy lladd i? Y dorf a atebodd, y mae genyt ti gythraul: pwy sydd yn ceisio dy ladd di? Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Un weithred a wneuthum, ac yr ydych oll yn rhyfeddu o herwydd hyn. Moses sydd wedi rhoddi i chwi yr Enwaediad nid am ei fod o Moses, ond o'r Tadau ac ar ddydd Sabbath chwi a enwaedwch ddyn. Os yw dyn yn derbyn enwaediad ar ddydd Sabbath, fel na thorer Cyfraith Moses, a ydych yn llidiog wrthyf fi, am i mi wneuthur dyn cyfan yn iach ar ddydd Sabbath? Na fernwch wrth y golwg, eithr bernwch y farn gyfiawn. Dywedodd gan hyny rai o'r Jerusalemiaid, Onid hwn yw yr un y maent hwy yn ceisio ei ladd? Ac wele y mae yn llefaru yn eofn, ac nid ydynt yn dywedyd dim wrtho ef! A ddaeth y Llywodraethwyr erioed i wybod mewn gwirionedd mai hwn yw y Crist? Eithr yr ydym ni yn adwaen hwn o ba le y mae: eithr y Crist, pan y mae yn dyfod, nid oes neb yn gwybod o ba le y mae. Yr Iesu gan hyny a lefodd allan yn y Deml, gan ddysgu a dywedyd, Chwi a'm hadwaenoch i, ac a wyddoch o ba le yr ydwyf fi: eto, nid ydwyf wedi dyfod o honof fy hun, ond yr hwn a'm hanfonodd i sydd yn un gwirioneddol, yr hwn nid adwaenoch chwi. Myfi a'i hadwaen ef, canys oddi wrtho ef yr ydwyf fi, ac efe a'm hanfonodd i. Am hyny yr oeddynt yn ceisio ei ddal ef; eto, ni osododd neb law arno ef, canys nid oedd ei Awr ef eto wedi dyfod. Ond o'r dyrfa llawer a gredasant ynddo, ac a ddywedasant, Pan ddelo y Crist, a wna efe fwy o arwyddion na'r rhai a wnaeth hwn? Y Phariseaid a glywsant y dyrfa yn sibrwd y pethau hyn am dano; a'r Arch‐offeiriaid a'r Phariseaid a anfonasant is‐swyddogion, fel y dalient ef. Am hyny y dywedodd yr Iesu, Yr ydwyf fi ychydig amser eto gyd â chwi, ac yr wyf yn myned ymaith at yr hwn a'm hanfonodd. Chwi a'm ceisiwch, ac ni'm cewch: a lle yr ydwyf fi, ni ellwch chwi ddyfod. Yr Iuddewon gan hyny a ddywedasant yn eu plith eu hunain, I ba le y mae hwn a'r fedr myned, fel na chaffom ni ef? Ai at y rhai sydd ar wasgar yn mhlith y Groegiaid y mae ar fedr myned, a dysgu y Groegiaid? Pa ymadrodd yw hwn a ddywedodd efe, Chwi a'm ceisiwch, ac ni'm cewch: a lle yr wyf fi, ni ellwch ddyfod? Ac ar y dydd diweddaf, dydd mawr yr Wyl, yr Iesu a safodd i fyny, ac a lefodd allan, gan ddywedyd, Os sycheda neb, deued ataf fi, ac yfed. Yr hwn sydd yn credu ynof fi, megys y dywedodd yr Ysgrythyr, Afonydd o ddwfr bywiol a ddylifant o'i ymysgaroedd:. Hyn a ddywedodd efe am yr Yspryd, yr hwn yr oedd y rhai a gredent ynddo ef ar fedr ei dderbyn canys hyd yn hyn nid oedd Yspryd Glân [wedi ei roddi;] canys yr Iesu ni ogoneddasid eto. Rhai o'r dyrfa gan hyny, wedi clywed y geiriau hyn, a ddywedasant, Hwn yn wir yw y Proffwyd Eraill a ddywedasant, Hwn yw y Crist Ond rhai a ddywedasant, Beth! A ydyw y Crist yn dyfod allan o Galilea? Ai ni ddywedodd yr Ysgrythyr, mai o hâd Dafydd o Bethlehem y dref lle y bu Dafydd, y mae y Crist yn dyfod? Am hyny dygwyddodd ymraniad yn mhlith y dyrfa o'i achos ef. A rhai o honynt a fynasent ei ddal ef: ond ni roddodd neb ddwylaw arno ef. Daeth yr is‐swyddogion gan hyny at yr Arch‐offeiriaid a'r Phariseaid; a'r rhai hyny a ddywedasant wrthynt hwy, Paham na ddygasoch chwi ef? Yr is‐swyddogion a atebasant, Ni lefarodd dyn erioed fel hyn. Y Phariseaid gan hyny a atebasant iddynt, A ydych chwithau hefyd wedi eich arwain ar gyfeiliorn? A gredodd neb o'r Llywodraethwyr ynddo ef, neu o'r Phariseaid? Eithr y dyrfa hon nad yw yn gwybod y Gyfraith, melldigedig ydynt. Y mae Nicodemus yn dywedyd wrthynt hwy, (yr hwn a ddaeth ato ef o'r blaen, ac oedd un o honynt), A ydyw ein Cyfraith ni yn barnu y dyn, oddi eithr clywed ganddo ef yn gyntaf, a gwybod pa beth y mae yn ei wneyd? Hwy a atebasant ac a ddywedasant wrtho, A wyt tithau hefyd o Galilea? Chwilia a gwel, nad oes un proffwyd yn cyfod o Galileia. [A hwy a aethant bob un i'w dy ei hun. A'r Iesu a aeth i Fynydd yr Olew‐wydd. A chyd â'r wawr efe a ddaeth drachefn i'r Deml, a'r holl bobl a ddaethant ato ef; ac efe a eisteddodd, ac a'u dysgodd hwynt. A'r Ysgrifenyddion a'r Phariseaid a ddygasant ato wraig oedd wedi ei dal mewn godineb; ac wedi ei gosod hi yn y canol, y maent yn dywedyd wrtho, Athraw, y wraig hon a ddaliwyd yn y weithred o odinebu. Yn awr, Moses yn y Gyfraith a orchymynodd i ni labyddio y cyfryw: pa beth gan hyny yr wyt ti yn ei ddywedyd? A hyn a ddywedasant, gan ei demtio ef, fel y cawsent beth i'w gyhuddo ef o'i blegyd. Eithr yr Iesu, wedi ymgrymu i lawr, a ysgrifenodd â'i fys ar y ddaear. Ond fel yr oeddynt yn parhâu yn gofyn iddo, efe a ymunionodd, ac a ddywedodd wrthynt, Yr hwn sydd ddibechod o honoch, tafled fel y cyntaf y garreg ati. Ac wedi iddo drachefn ymgrymu i lawr, efe a ysgrifenodd ar y ddaear. A hwy, pan glywsant, [wedi eu hargyhoeddi gan eu cydwybod], a aethant allan o un i un, gan ddechreu o'r hynaf hyd yr olaf; a gadawyd yr Iesu yn unig, a'r wraig yn sefyll yn y canol. A'r Iesu wedi ymunioni, ac yn gweled neb ond y wraig, a ddywedodd wrthi, Pa le y mae y rhai hyny oeddynt dy gyhuddwyr di? Oni chondemniodd neb di? Hithau a ddywedodd, Naddo, neb, Arglwydd. A dywedodd yr Iesu wrthi, Ac hyd y nod myfi, nid wyf yn dy gondemnio di: dos, ac o hyn allan na phecha mwyach]. Drachefn gan hyny y llefarodd yr Iesu wrthynt, gan ddywedyd, Myfi yw Goleuni y byd: yr hwn a'm dylyno i, ni rodia yn y Tywyllwch, eithr efe a gaiff Oleuni y Bywyd. Dywedodd gan hyny y Phariseaid wrtho, Tydi sydd yn tystiolaethu am danat dy hun: nid yw dy dystiolaeth di yn wir. Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Hyd y nod os wyf fi yn tystiolaethu am danaf fy hun, gwir yw fy nhystiolaeth i; canys mi a wn o ba le y daethum, ac i ba le yr wyf yn myned ymaith: chwithau nis gwyddoch o ba le yr wyf yn dyfod, nac i ba le yr wyf yn myned ymaith. Chwychwi sydd yn barnu yn ol y cnawd; nid wyf fi yn barnu neb. Ac hyd y nod os wyf fi yn barnu, fy marn i sydd wirioneddol, canys nid wyf fi wrthyf fy hun, ond myfi a'r Tâd yr hwn a'm hanfonodd i. Ie, yn eich Cyfraith chwi y mae yn ysgrifenedig, fod tystiolaeth dau ddyn yn wir. Myfi yw yr hwn sydd yn tystiolaethu am danaf fy hun, ac y mae y Tâd yr hwn a'm hanfonodd i yn tystiolaethu am danaf fi. Am hyny y dywedasant wrtho, Pa le y mae dy Dâd di? Yr Iesu a atebodd, Nid adwaenoch na myfi, na'm Tâd i: ped adnabuasech fi, chwi a adnabuasech fy Nhâd i hefyd. Y geiriau hyn a lefarodd efe wrth y Drysorfa, wrth ddysgu yn y Deml: ac ni ddaliodd neb ef, canys nid oedd ei Awr ef eto wedi dyfod. Efe a ddywedodd gan hyny wrthynt hwy drachefn, Yr wyf fi yn myned ymaith, a chwi a'm ceisiwch i, ac a fyddwch feirw yn eich pechod: lle yr wyf fi yn myned ymaith ni ellwch chwi ddyfod. Am hyny dywedodd yr Iuddewon, A ladd efe ei hun? gan ei fod yn dywedyd, Lle yr wyf fi yn myned ymaith, ni ellwch chwi ddyfod. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Chwychwi ydych oddi isod; minau sydd oddi uchod: chwychwi ydych o'r byd hwn; nid wyf fi o'r byd hwn. Am hyny y dywedais wrthych, y byddwch feirw yn eich pechodau: oblegyd oni chredwch mai myfi yw efe, chwi a fyddwch feirw yn eich pechodau. Dywedasant gan hyny wrtho ef, Pwy wyt ti? Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn hanfodol yr hyn yr wyf hefyd yn ei lefaru wrthych. Y mae genyf fi lawer o bethau i'w llefaru a'u barnu am danoch chwi: ond y mae yr hwn a'm hanfonodd i yn wir; a'r pethau a glywais i oddi wrtho, y rhai hyn yr wyf fi yn eu llefaru i'r byd. Hwy ni wybuasant mai am y Tâd yr oedd efe yn llefaru wrthynt. Am hyny y dywedodd yr Iesu, Pan y dyrchafoch chwi Fab y Dyn, yna y deuwch i wybod mai myfi yw efe, ac nad wyf fi yn gwneuthur dim o honof fy hun, ond megys y dysgodd y Tâd fi, yr wyf yn llefaru y pethau hyn. A'r hwn a'm hanfonodd i sydd gyd â mi: ni adawodd efe fi wrthyf fy hun: canys yr wyf yn gwneuthur bob amser y pethau sydd foddlawn ganddo ef. Ac efe yn llefaru y pethau hyn, llawer a gredasant ynddo. Yr Iesu gan hyny a ddywedodd wrth yr Iuddewon, y rhai oedd wedi ei gredu ef, Os aroswch chwi yn fy Ngair i, fy nysgyblion i ydych yn wir. A chwi a ddeuwch i wybod y Gwirionedd, a'r Gwirionedd a'ch rhydd‐hâ chwi. Hwy a atebasant iddo, Hâd Abraham ydym ni, ac nid ydym erioed wedi bod mewn caethiwed i neb: pa fodd yr wyt ti yn dywedyd, Chwi a wneir yn rhyddion? Yr Iesu a atebodd iddynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Pob un sydd yn gwneuthur pechod, y mae efe yn gaeth‐was pechod. A'r caeth‐was nid yw yn aros yn y ty byth: y Mab sydd yn aros byth. Ac os y Mab a'ch rhydd‐hâ chwi, rhyddion fyddwch mewn gwirionedd. Mi a wn mai hâd Abraham ydych chwi: ond yr ydych yn ceisio fy lladd i, am nad yw fy Ngair i yn enill tir ynoch chwi. Yr wyf fi yn llefaru y pethau yr wyf wedi eu gweled gyd â fy Nhâd, ac yr ydych chwithau yn gwneuthur y pethau a glywsoch gyd â eich Tâd. Hwythau a atebasant ac a ddywedasant wrtho, Ein Tâd ni yw Abraham. Yr Iesu a ddywed wrthynt, Os plant Abraham ydych, yr ydych yn gwneuthur gweithredoedd Abraham. Eithr yn awr yr ydych yn ceisio fy lladd i, dyn yr hwn sydd wedi llefaru wrthych y Gwirionedd, yr hwn a glywais gyd â Duw: hyn ni wnaeth Abraham. Yr ydych yn gwneuthur gweithredoedd eich tâd chwi. Dywedasant wrtho, Nid o buteindra y'n ganwyd ni: un Tâd sydd genym ni, Duw. Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Pe Duw fyddai eich Tâd chwi, chwi a'm carech i: canys o Dduw y daethum allan ac yr wyf bresenol: canys nid ydwyf wedi dyfod ychwaith o honof fy hun, ond efe a'm hanfonodd i. Paham nad ydych yn adnabod fy lleferydd i? Am nad ydych yn gallu gwrando fy Ngair i. Yr ydych o'ch tâd, y Diafol; a chwantau eich tâd y mynwch chwi eu gwneuthur. Llofrudd oedd efe o'r dechreuad: ac ni safodd yn gadarn yn y Gwirionedd, oblegyd nid oes Gwirionedd ynddo ef: pan y mae un yn llefaru celwydd, o'r eiddo ei hun y mae yn llefaru; canys ei dâd ef hefyd sydd gelwyddwr. Ond myfi am fy mod yn dywedyd y Gwirionedd, nid ydych yn fy nghredu. Pwy o honoch a'm profa yn euog o bechod? Os wyf yn dywedyd Gwirionedd, paham nad ydych yn fy nghredu i? Y mae yr hwn sydd o Dduw yn gwrando geiriau Duw: o achos hyn nid ydych chwi yn eu gwrando, oblegyd nad ydych o Dduw. Yr Iuddewon a atebasant ac a ddywedasant wrtho, Onid teg yr ydym yn dywedyd mai Samariad wyt ti, a bod genyt gythraul? Yr Iesu a atebodd, Nid oes genyf gythraul; ond yr wyf yn anrhydeddu fy Nhâd, ac yr ydych chwithau yn fy nianrhydeddu inau. Ond nid wyf fi yn ceisio fy ngogoniant: y mae un sydd yn ceisio ac yn barnu. Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Os ceidw neb fy Ngair i, ni wêl farwolaeth yn dragywydd. Yr Iuddewon a ddywedasant wrtho, Yn awr yr ydym wedi dyfod i wybod fod genyt gythraul. Bu Abraham farw, a'r Proffwydi: ac meddi di, Os ceidw neb fy Ngair i, ni phrofa efe farwolaeth yn dragywydd. Ai mwy wyt ti na'n Tâd Abraham, yr hwn a fu farw? A'r Proffwydi a fuant feirw; pwy yr wyt yn dy wneuthur dy hun? Yr Iesu a atebodd, Pe byddai i mi ogoneddu fy hun, fy ngogoniant i nid yw ddim: fy Nhâd yw yr hwn sydd yn fy ngogoneddu i, yr hwn yr ydych chwi yn dywedyd am dano, mai eich Duw chwi ydyw. Eto nid ydych wedi ei adnabod ef, ond yr wyf fi yn ei adwaen ef. Ac os dywedaf nad adwaen i ef, myfi a fyddaf debyg i chwi, yn gelwyddog: ond mi a'i hadwaen ef, ac yr wyf yn cadw ei Air ef. Eich Tâd Abraham a orfoleddodd i weled fy Nydd i: ac efe a'i gwelodd, ac a lawenychodd. Yr Iuddewon gan hyny a ddywedasant wrtho, Nid wyt ti eto ddengmlwydd a deugain oed, ac a ydwyt ti wedi gweled Abraham? Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Cyn geni Abraham yr wyf fi. Gan hyny hwy a godasant gerryg i'w taflu ato ef. Ond yr Iesu a ymguddiodd, ac a aeth allan o'r Deml. Ac wrth fyned heibio, efe a welodd ddyn dall o'i enedigaeth. A'i Ddysgyblion a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Rabbi, pwy a bechodd, ai hwn, ai ei rieni, fel y ganwyd ef yn ddall? Iesu a atebodd, Nid hwn a bechodd, na'i rieni chwaith: ond ganwyd ef yn ddall fel yr amlygid gweithredoedd Duw ynddo ef. Rhaid i ni weithio gweithredoedd yr hwn a'm hanfonodd i, tra yr ydyw hi yn ddydd: dyfod y mae nos pan na ddichon neb weithio. Pa bryd bynag yr wyf yn y byd, yr wyf Oleuni i'r byd. Wedi iddo ddywedyd hyn, efe a boerodd ar lawr, ac a wnaeth glai o'r poeryn, ac a eneiniodd ei glai ef ar y llygaid, ac a ddywedodd wrtho, Dos ymaith, ac ymolch yn Llyn Siloam (yr hyn a gyfieithir, Anfonedig). Efe a aeth ymaith gan hyny, ac a ymolchodd, ac a ddaeth yn gweled. Gan hyny ei gymydogion a'r rhai oeddynt yn dal sylw arno o'r blaen ei fod yn gardotyn, a ddywedasant, Onid hwn yw yr un sydd yn eistedd ac yn cardota? Rhai a ddywedasant, Hwn yw efe; eraill a ddywedasant, Nag ê, ond y mae yn debyg iddo: yntau a ddywedodd, Myfi yw. Gan hyny hwy a ddywedasant wrtho, Pa fodd yr agorwyd dy lygaid di? Ac efe a atebodd, Y dyn a elwir Iesu a wnaeth glai, ac a eneiniodd fy llygaid i, ac a ddywedodd wrthyf, Dos ymaith i Siloam, ac ymolch. Wedi myned ymaith gan hyny ac ymolch mi a dderbyniais fy ngolwg. A hwy a ddywedasant wrtho, Pa le y mae efe? Y mae efe yn dywedyd, Ni wn i. Y maent yn ei ddwyn ef at y Phariseaid, sef, yr hwn oedd gynt yn ddall. Ac yr oedd yn Sabbath ar y dydd pan wnaeth yr Iesu y clai, ac yr agorodd ei lygaid ef. Gan hyny y Phariseaid hefyd oeddynt yn gofyn iddo drachefn, pa fodd y derbyniodd ei olwg. Ond efe a ddywedodd wrthynt, Clai a osododd efe ar fy llygaid i, a mi a ymolchais, ac yr ydwyf yn gweled. Gan hyny dywedodd rhai o'r Phariseaid, Nid yw y dyn hwn oddiwrth Dduw, canys nid yw yn cadw y Sabbath. Eraill a ddywedasant, Pa fodd y gall dyn pechadurus wneuthur y cyfryw arwyddion? Ac yr oedd ymraniad yn eu plith. Y maent yn dywedyd gan hyny drachefn wrth y dall, Beth yr wyt ti yn ei ddywedyd am dano ef? oblegyd efe a agorodd dy lygaid di. Ac efe a ddywedodd, Proffwyd yw. Yr Iuddewon gan hyny ni chredasant am dano ef, mai dall fuasai, a derbyn o hono ei olwg, hyd nes galw o honynt rïeni y dyn ei hun a dderbyniasai ei olwg. A hwy a ofynasant iddynt, gan ddywedyd, Ai hwn yw eich mab chwi, yr hwn yr ydych chwi yn dywedyd ei eni yn ddall? Pa fodd gan hyny y mae efe yn gweled yn awr? Ei rïeni ef a atebasant ac a ddywedasant, Nyni a wyddom mai ein mab yw hwn, ac mai yn ddall y ganwyd ef. Ond pa fodd y mae efe yn awr yn gweled, nis gwyddom ni; neu pwy a agorodd ei lygaid, nis gwyddom ni: gofynwch iddo ef ei hun; y mae efe o oedran: efe ei hun a lefara am dano ei hun. Y pethau hyn a ddywedodd ei rïeni ef, am eu bod yn ofni yr Iuddewon: canys yr oedd yr Iuddewon wedi gwneyd cytundeb eisioes, os cyfaddefai neb ef yn Grist, y byddai yn esgymunedig o'r Synagog: o herwydd hyn ei rieni efe a ddywedasant, Y mae efe o oedran; gofynwch iddo ef. Gan hyny hwy a alwasant y dyn yr ail waith, sef yr hwn a fuasai ddall, ac a ddywedasant wrtho, Dyro y gogoniant i Dduw: nyni a wyddom mai pechadur yw y dyn hwn. Efe gan hyny a atebodd, Ai pechadur yw, nis gwn i: un peth a wn i, fy mod i, ddyn dall, yn awr yn gweled. Gan hyny hwy a ddywedasant wrtho, Beth a wnaeth efe i ti? Pa fodd yr agorodd efe dy lygaid di? Efe a atebodd iddynt, Mi a ddywedais i chwi eisioes, ac ni wrandawsoch; paham yr ydych yn ewyllysio clywed drachefn? A ydych chwithau hefyd yn ewyllysio bod yn ddysgyblion iddo ef? A hwy a'i difenwasant, ac a ddywedasant, Tydi sydd ddysgybl iddo ef; ond nyni ydym ddysgyblion Moses. Yr ydym yn gwybod fod Duw wedi llefaru wrth Moses; ond hwn, nis gwyddom o ba le y mae. Y dyn a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Wel! yn hyn y mae y rhyfeddod! na wyddoch chwi o ba le y mae efe, ac eto efe a agorodd fy llygaid i. Ni a wyddom nad yw Duw yn gwrando pechaduriaid; ond os yw neb yn addolwr Duw, ac yn gwneuthur ei ewyllys ef, hwnw y mae yn ei wrando. O'r Dechreuad ni chlybuwyd i neb agor llygaid yr hwn a anesid yn ddall. Oni bai fod hwn oddi wrth Dduw, ni allai efe wneuthur dim. Hwy a atebasant ac a ddywedasant wrtho, Mewn pechodau y ganwyd ti yn gyfan‐gwbl, ac a wyt ti yn ein dysgu ni? A hwy a'i bwriasant ef allan. Yr Iesu a glybu ddarfod iddynt ei fwrw ef allan; a phan ei cafodd, efe a ddywedodd wrtho, A wyt ti yn credu yn Mab y Dyn? Yntau a atebodd ac a ddywedodd, A phwy yw efe, O Arglwydd, fel y credwyf ynddo? Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Yr wyt hyd y nod wedi ei weled, a'r hwn sydd yn ymddiddan â thi, hwnw yn efe. Ac efe a ddywedodd, Yr wyf fi yn credu, O Arglwydd. Ac efe a'i haddolodd ef. A'r Iesu a ddywedodd, I farn y daethum i'r byd hwn, fel y gwelai y rhai nad ydynt yn gweled, ac fel yr elai y rhai sydd yn gweled yn ddeillion. Hwy o'r Phariseaid a oedd gyd âg ef a glywsant y pethau hyn, ac a ddywedasant wrtho, A ydym ni hefyd yn ddeillion? Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Pe fyddech ddeillion, ni fuasai arnoch bechod; ond yn awr yr ydych yn dywedyd, Yr ydym yn gweled: y mae eich pechod yn aros. Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr hwn nid yw yn myned i mewn drwy y drws i gorlan y defaid, ond sydd yn myned i fyny iddi o gyfeiriad arall, y mae hwnw yn lleidr ac ysbeiliwr: ond yr hwn sydd yn myned i mewn drwy y drws, y mae yn fugail y defaid. I'r hwn y mae y drws-geidwad yn agoryd, ac y mae y defaid yn gwrando ar ei lais ef; ac y mae efe yn galw ei ddefaid, bob un wrth eu henw, ac yn eu harwain hwy allan. Ac wedi iddo droi allan yr oll o'i eiddo ei hun, y mae efe yn myned o'u blaen hwy, ac y mae y defaid yn ei ganlyn ef, oblegyd y maent yn adnabod ei lais ef. Eithr un dyeithr ni chanlynant o gwbl, eithr ffoant oddi wrtho, oblegyd nad adwaenant lais dyeithriaid. Yr alegori hon a ddywedodd yr Iesu wrthynt; eithr hwy ni wybuant pa bethau oedd y rhai yr oedd efe yn eu llefaru wrthynt. Am hyny y dywedodd yr Iesu wrthynt drachefn, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Myfi yw Drws y defaid. Pawb ag a ddaethant o'm blaen i, lladron ydynt ac ysbeilwyr; eithr ni wrandawodd y defaid arnynt hwy. Myfi yw y Drws: os trwof fi yr ä neb i mewn, efe a fydd cadwedig, ac efe a ä i mewn ac a ä allan, ac a gaiff borfa. Nid yw y lleidr yn dyfod ond i ladrata, ac i ladd, ac i ddistrywio: a myfi a ddaethum fel y caent fywyd, ac y caent orlawnder: Myfi yw y BUGAIL DA: y Bugail Da sydd yn gosod i lawr ei einioes dros y defaid. Ond y gwas cyflog, ac heb fod yn fugail, eiddo yr hwn nid yw y defaid, sydd yn edrych ar y blaidd yn dyfod, ac yn gadael y defaid, ac yn ffoi; a'r blaidd sydd yn eu hysglyfio ac yn eu gwasgaru: a hyn am mai gwas cyflog yw, ac nid yw yn ofalus am y defaid. Myfi yw y Bugail Da; ac yr wyf yn adwaen fy eiddo, a'm heiddo sydd yn fy adwaen i fel y mae y Tâd yn fy adwaen i, a minau yn adwaen y Tâd; a'm heinioes yr wyf yn ei gosod i lawr dros y defaid. A defaid eraill sydd genyf, y rhai nid ydynt o'r gorlan hon: y rhai hyny hefyd sydd raid i mi eu harwain, a hwy a wrandawant ar fy llais, a hwy a ddeuant yn un Praidd, un Bugail. O herwydd hyn y mae y Tâd yn fy ngharu i, am fy mod yn gosod i lawr fy einioes, fel y cymmerwyf hi drachefn. Ni ddygodd neb hi oddi arnaf fi: ond myfi sydd yn ei gosod i lawr o honof fy hun. Y mae genyf awdurdod i'w gosod i lawr, ac y mae genyf awdurdod i'w chymmeryd hi drachefn. Y gorchymyn hwn a dderbyniais oddi wrth fy Nhâd. Cyfododd ymraniad drachefn yn mhlith yr Iuddewon o herwydd yr ymadroddion hyn. A llawer o honynt a ddywedasant, Y mae cythraul ganddo, ac y mae yn ynfydu; paham yr ydych yn gwrando arno? Eraill a ddywedasant, Y rhai hyn nid ydynt eiriau un cythreulig. A all cythraul agoryd llygaid deillion? Ac yr oedd Gwyl y Cysegriad yn cymmeryd lle yn Jerusalem: y gauaf oedd hi. A'r Iesu oedd yn rhodio yn y Deml yn Nghyntedd Solomon. Gan hyny yr Iuddewon a'i hamgylchynasant ef, ac a ddywedasant wrtho, Hyd pa bryd yr wyt yn cythryblu ein henaid? Os tydi yw y Crist, dywed i ni heb gêl. Yr Iesu a atebodd iddynt, Mi a ddywedais i chwi, ac nid ydych yn credu: y gweithredoedd yr wyf fi yn eu gwneuthur yn enw fy Nhâd, y rhai hyny sydd yn tystiolaethu am danaf fi. Ond chwi nid ydych yn credu, oblegyd nad ydych o'm defaid i. Y mae fy nefaid i yn gwrando fy llais i; ac yr wyf yn eu hadwaen hwynt, ac y maent yn fy nghanlyn i: a minau wyf yn rhoddi iddynt fywyd tragywyddol, ac ni chyfrgollant ddim yn dragywydd, ac ni chipia neb hwynt allan o'm llaw i. Yr hyn y mae fy Nhâd wedi ei roddi i mi sydd fwy na phawb, ac nis gall neb gipio allan o law y Tâd. MYFI A'R TAD, UN YDYM. Yr Iuddewon a ddygasant geryg drachefn, fel y llabyddient ef. Yr Iesu a atebodd iddynt, Llawer o weithredoedd da a ddangosais i chwi oddi wrth y Tâd: o achos pa fath weithred o honynt yr ydych yn fy llabyddio i? Yr Iuddewon a atebasant iddo,, Am weithred dda nid ydym yn dy labyddio di, ond am gabledd; ac am dy fod di, a thithau yn ddyn, yn gwneuthur dy hun yn Dduw. Yr Iesu a atebodd iddynt, Onid yw yn ysgrifenedig yn eich Cyfraith chwi, Mi a ddywedais, Duwiau ydych? Os galwodd efe hwy yn dduwiau, at y rhai y daeth Gair Duw, — a'r Ysgrythyr nis gellir ei dad‐wneyd, — a ddywedwch chwi am yr hwn a sancteiddiodd y Tâd, ac a anfonodd i'r byd, Yr wyt ti yn cablu, am i mi ddywedyd, Mab Duw wyf fi? Os nad ydwyf yn gwneuthur gweithredoedd fy Nhâd, na chredwch fi. Ond os ydwyf yn eu gwneuthur, ac os nad ydych yn credu i mi, credwch y gweithredoedd: fel y deuwch i wybod ac y parhewch i wybod fod y Tâd ynof fi, a minau yn y Tâd. Yr oeddynt yn ceisio drachefn ei ddal ef: ac efe a aeth allan o'u llaw hwynt. Ac efe a aeth ymaith drachefn tu hwnt i'r Iorddonen, i'r man lle yr oedd Ioan ar y cyntaf yn bedyddio, ac a arosodd yno. A llawer a ddaethant ato ef, ac a ddywedasant, Ioan yn wir ni wnaeth un arwydd; ond yr holl bethau o ba natur bynag a'r a ddywedodd Ioan am hwn, oedd wir. A llawer a gredasant ynddo ef yno. Ond yr oedd un yn glaf, Lazarus o Bethania, o bentref Mair a Martha ei chwaer. A Mair oedd yr hon a eneiniodd yr Arglwydd âg enaint persawrus, ac a sychodd ei draed ef â'i gwallt, yr hon yr oedd ei brawd Lazarus yn glaf. Am hyny y chwiorydd a ddanfonasant ato ef, gan ddywedyd, Arglwydd, wele, y mae yr hwn sydd hoff genyt ti yn glaf. A'r Iesu, pan glybu, a ddywedodd, Nid yw y clefyd hwn i farwolaeth, ond er gogoniant Duw, fel y gogonedder Mab Duw trwyddo. A'r Iesu oedd yn caru Martha, a'i chwaer, a Lazarus. Pan glybu efe gan hyny ei fod ef yn glaf, y pryd hwnw yn wir efe a arosodd yn y lle yr oedd ddau ddiwrnod. Yna wedi hyny y mae efe yn dywedyd wrth y Dysgyblion, Awn i Judea drachefn. Y mae y Dysgyblion yn dywedyd wrtho, Rabbi, yr awrhon yr oedd yr Iuddewon yn ceisio dy labyddio di, ac a wyt ti yn myned yn ol yno drachefn? Yr Iesu a atebodd, Onid oes deuddeg awr yn y dydd? Os rhodia neb yn y dydd, ni thramgwydda, am ei fod yn gweled goleuni y byd hwn. Ond os rhodia neb yn y nos, efe a dramgwydda, am nad yw y goleuni ynddo ef. Y pethau hyn a lefarodd efe: ac wedi hyn y mae efe yn dywedyd wrthynt, Y mae ein cyfaill Lazarus wedi huno: ond yr wyf fi yn myned i'w ddihuno ef. Dywedodd gan hyny y Dysgyblion wrtho, Arglwydd, Os yw ef yn huno, efe a adferir. Ond yr oedd yr Iesu wedi llefaru am ei farwolaeth ef: ond hwy a dybiasant ei fod ef yn dywedyd am hûn cwsg. Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt yn eglur, Bu farw Lazarus. Ac y mae yn llawen genyf, er eich mwyn chwi, fel y credoch, nad oeddwn i yno: ond awn ato ef. Gan hyny Thomas, yr hwn a elwir Didymus, a ddywedodd wrth ei gyd‐ddysgyblion, Awn ninau hefyd, fel y byddom feirw gyd âg ef. Yr Iesu gan hyny wedi dyfod, a'i cafodd ef wedi bod weithian bedwar diwrnod yn y bedd. Yn awr yr oedd Bethania yn agos i Jerusalem, ynghylch pymtheg ystâd oddi wrthi. A llawer o blith yr Iuddewon oeddynt wedi dyfod at Martha a Mair, i'w cysuro am eu brawd. Martha gan hyny, cyn gynted ag y clybu, Y mae yr Iesu yn dyfod, a aeth i'w gyfarfod ef: ond Mair a eisteddodd yn y tŷ. Dywedodd Martha gan hyny wrth yr Iesu, Arglwydd, Pe buasit ti yma, ni buasai farw fy mrawd. Ac yr awrhon mi a wn, pa bethau bynag a ofynit ti gan Dduw, y dyry Duw i ti. Y mae yr Iesu yn dywedyd wrthi, Adgyfodir dy frawd. Y mae Martha yn dywedyd wrtho, Myfi a wn yr adgyfodir ef yn yr Adgyfodiad yn y Dydd Diweddaf. Dywedodd yr Iesu wrthi, MYFI YW YR ADGYFODIAD A'R BYWYD: yr hwn sydd yn credu ynof fi, er iddo farw, efe a fydd byw. A phwy bynag sydd yn fyw ac yn credu ynof fi, ni bydd marw o gwbl yn dragywydd. A wyt ti yn credu hyn? Dywed hithau wrtho, Ydwyf, Arglwydd: yr wyf fi wedi credu mai ti yw y Crist, Mab Duw, Yr Hwn sydd yn Dyfod i'r Byd. Ac wedi iddi ddywedyd hyn, hi a aeth ymaith, ac a alwodd ei chwaer Mair, ac a ddywedodd yn ddirgel, Y mae yr Athraw yma, ac y mae yn dy alw di. A hithau cyn gynted ag y clybu, a gododd yn ebrwydd, ac a ddaeth ato ef. (Yn awr, nid oedd yr Iesu hyd yn hyn wedi dyfod i'r pentref, ond yr oedd eto yn y lle y cyfarfuasai Martha âg ef). Yr Iuddewon gan hyny, y rhai oedd gyd a hi yn y tŷ, ac yn ei chysuro hi, wedi gweled Mair yn codi yn ebrwydd ac yn myned allan, a'i canlynasant hi, gan dybied ei bod yn myned at y bedd, i alaru yno. Gan hyny Mair, pan ddaeth i'r lle yr oedd yr Iesu, a'i weled ef, a syrthiodd wrth ei draed ef, gan ddywedyd wrtho, Arglwydd, pe buasit ti yma, ni fuasai farw fy mrawd. Yr Iesu gan hyny, pan y gwelodd hi yn galaru, a'r Iuddewon y rhai a ddaethai gyd â hi yn galaru, a gyffrôdd yn aruthr yn yr yspryd, ac a gynhyrfodd ei hun, ac a ddywedodd, Pa le yr ydych chwi wedi ei osod ef? Y maent yn dywedyd wrtho, Arglwydd, tyred a gwel. Yr Iesu a wylodd. Am hyny y dywedodd yr Iuddewon, Wele fel yr oedd yn ei hoffi ef! A rhai o honynt a ddywedasant, Oni allasai hwn, yr hwn a agorodd lygaid y dyn dall, beri na buasai hwn farw chwaith? Iesu gan hyny, gan gyffroi yn aruthr drachefn ynddo ei hun, sydd yn dyfod at y bedd: ac ogof oedd, a maen a ddodasid yn ei herbyn. Yr Iesu a ddywed, Codwch ymaith y maen. Martha, — chwaer yr hwn oedd wedi marw, — a ddywed wrtho, Arglwydd y mae efe weithian yn drewi: canys y mae efe yn farw er ys pedwar diwrnod. Yr Iesu a ddywed wrthi, Oni ddywedais i ti, pe credit, y cait weled gogoniant Duw? Hwy gan hyny a godasant ymaith y maen. A'r Iesu a gododd ei lygaid i fyny, ac a ddywedodd, O Dâd, yr wyf yn diolch i ti am wrando arnaf. Ac myfi a wyddwn dy fod yn fy ngwrando bob amser: eithr er mwyn y dyrfa sydd yn sefyll o amgylch y dywedais, fel y credont mai tydi a'm hanfonaist i. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a waeddodd â llef uchel, Lazarus, tyred allan. A'r hwn oedd farw a ddaeth allan, wedi ei rwymo draed a dwylaw mewn bedd‐rwymau; a'i wyneb oedd wedi ei rwymo â napcyn. Dywed yr Iesu wrthynt, Gollyngwch ef yn rhydd, a gadêwch iddo fyned. Llawer gan hyny o'r Iuddewon, y rhai a ddaethant at Mair, ac a welsant yr hyn a wnaethai efe, a gredasant ynddo. Eithr rhai o honynt a aethant ymaith at y Phariseaid, ac a ddywedasant iddynt y pethau a wnaethai yr Iesu. Gan hyny yr Arch‐offeiriaid a'r Phariseaid a gynullasant Gynghor, ac a ddywedasant, Pa beth yr ydym ni yn ei wneuthur? Canys y mae y dyn hwn yn gwneuthur arwyddion lawer. Os gadâwn ni ef fel hyn, pawb a gredant ynddo; a'r Rhufeiniaid a ddeuant, ac a gymmerant ymaith ein lle ni a'n cenedl hefyd. A rhyw un o honynt, Caiaphas, yr hwn oedd Arch‐offeiriad y flwyddyn hono, a ddywedodd wrthynt, Nid ydych chwi yn gwybod dim, nac yn cyfrif mai buddiol i chwi farw o un dyn dros y bobl, ac na ddyfether yr holl genedl. Hyn ni ddywedodd efe o hono ei hun; eithr ac efe yn Arch‐offeiriad y flwyddyn hono, efe a broffwydodd fod yr Iesu ar farw dros y genedl: ac nid dros y genedl yn unig, eithr fel y casglai efe i un pobl blant Duw, y rhai sydd wedi eu gwasgaru ar led. Gan hyny o'r dydd hwnw allan yr ymgynghorasant fel y lladdent ef. Yr Iesu gan hyny ni rodia mwy yn hyf yn mysg yr Iuddewon; ond efe a aeth oddi yno i'r wlad yn agos i'r Anialwch, i ddinas a elwir Ephraim, ac yno yr arosodd gyd â y Dysgyblion. A Phasc yr Iuddewon oedd yn agos: a llawer a aethant i fyny i Jerusalem o'r wlad o flaen y Pasc, i buro eu hunain. Gan hyny yr oeddynt yn ceisio yr Iesu, ac yn dywedyd wrth eu gilydd, fel yr oeddynt yn sefyll yn y Deml, Beth a dybygwch chwi? Ai ni ddaw efe o gwbl i'r Wyl? A'r Arch‐offeiriaid a'r Phariseaid oeddynt wedi rhoddi gorchymynion, fel os deuai neb i wybod pa le y mae efe, y rhoddai hysbysrwydd, fel y gallent ei ddal ef. Yr Iesu gan hyny, chwe diwrnod cyn y Pasc, a ddaeth i Bethania, lle yr oedd Lazarus,, yr hwn a gyfododd yr Iesu o feirw. Hwy a wnaethant gan hyny swper iddo yno: a Martha oedd yn gwasanaethu; ond Lazarus oedd un o'r rhai a eisteddent wrth y bwrdd gyd âg ef. Mair gan hyny gymmerodd bwys o enaint o nard pur gwerthfawr, ac a eneinoedd draed yr Iesu, ac a sychodd ei draed ef â'i gwallt: a'r tŷ a lanwyd o arogl yr enaint. Gan hyny y dywed Judas, yr Iscariot,, un o'i Ddysgyblion ef, yr hwn oedd ar fedr ei draddodi ef i fyny, Paham na werthwyd yr enaint hwn am dri chan denarion, a'i roddi i dlodion? Ond efe a ddywedodd hyn nid am ei fod yn gofalu ynghylch y tlodion, ond am ei fod yn lleidr; a chanddo y gôd, efe a arferai ddwyn ymaith yr hyn a fwrid ynddi. Dywedodd yr Iesu gan hyny, Goddef iddi, fel y cadwo hi ef erbyn dydd y parotöad i'm claddedigaeth. Canys y mae genych y tlodion gyd â chwi bob amser; eithr myfi nid oes genych bob amser. Gwybu gan hyny y bobl gyffredin o blith yr Iuddewon ei fod ef yno: a hwy a ddaethant, nid er mwyn yr Iesu yn unig, ond fel y gwelent Lazarus hefyd, yr hwn a gyfododd efe o feirw. Eithr yr Arch‐offeiriaid a ymgynghorasant, fel y lladdent Lazarus hefyd; oblegyd o'i herwydd ef llawer o'r Iuddewon oeddynt yn myned ymaith ac yn credu yn yr Iesu. Tranoeth tyrfa fawr yr hon a ddaethai i'r Wyl, pan glywsant fod yr Iesu yn dyfod i Jerusalem, a gymmerasant y cangau o'r palmwydd, ac a aethant allan i gyfarfod âg ef, ac a lefasant yn uchel, gan ddywedyd, Hosanna! Bendigedig yw yr Hwn sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd! Ie, Brenin Israel!. A'r Iesu wedi cael ebol asyn a eisteddodd arno, fel y mae yn ysgrifenedig, — Nac ofna, Ferch Sion: Wele y mae dy Frenin yn dyfod, yn eistedd ar ebol asyn. Y pethau hyn ni wybu ei Ddysgyblion ef ar y cyntaf; eithr pan ogoneddwyd yr Iesu, yna cofiasant fod y pethau hyn yn ysgrifenedig am dano, ac iddynt wneuthur y pethau hyn iddo. Gan hyny yr oedd y dyrfa, yr hon oedd gyd âg ef pan alwodd efe Lazarus allan o'r bedd, ac y cyfododd ef o feirw, yn dwyn tystiolaeth. O herwydd hyn hefyd yr aeth y dyrfa i gyfarfod âg ef, am glywed o honynt ei fod wedi gwneuthur yr arwydd hwn. Y Phariseaid gan hyny a ddywedasant yn eu plith eu hunain, Yr ydych yn canfod nad ydych yn tycio dim. Wele, fe aeth y byd ymaith ar ei ol ef! Ac yr oedd rhai Groegiaid yn mhlith y rhai a arferent fyned i fyny i addoli yn yr Wyl: Y rhai hyn gan hyny a ddaethant at Philip, yr hwn oedd o Bethsaida yn Galilea, ac a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Syr, ni a ewyllysiem weled yr Iesu. Y mae Philip yn dyfod, ac yn dywedyd i Andreas: y mae Andreas yn dyfod a Philip, ac y maent yn dywedyd i'r Iesu. Y mae yr Iesu yn ateb iddynt, gan ddywedyd, Y mae yr Awr wedi dyfod, fel y gogonedder Mab y Dyn. Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Oni syrth y gronyn gwenith i'r ddaear, a marw, y mae yn aros ei hun yn unig: eithr os bydd efe marw, y mae yn dwyn ffrwyth lawer. Yr hwn sydd yn caru ei fywyd sydd yn ei golli; a'r hwn sydd yn cashâu ei fywyd yn y byd hwn a'i dyogela i fywyd tragywyddol. Os gwasanaetha neb myfi, dylyned fi: a lle yr wyf fi, yno hefyd y bydd fy ngwas i; os gwasanaetha neb fi, y Tâd a'i anrhydedda ef. Yn awr y mae fy enaid wedi ei gynhyrfu: a pha beth a ddywedaf? O Dâd, gwared fi allan o'r Awr hon: eithr er mwyn hyn y daethum i'r Awr hon: O Dâd, gogonedda dy enw. Daeth llef gan hyny o'r Nef, Mi a'i gogoneddais, ac a'i gogoneddaf drachefn. Y dyrfa gan hyny, yr hon oedd yn sefyll, ac yn clywed, a ddywedodd mai taran oedd; eraill a ddywedasant, Angel sydd wedi llefaru wrtho. Iesu a atebodd ac a ddywedodd, Nid er fy mwyn i y mae y llef hon wedi dyfod, ond er eich mwyn chwi. Yn awr y mae barnedgaeth y byd hwn: yn awr y bwrir allan Dywysog y byd hwn. A minau, os dyrchefir fi o'r ddaear, a at‐dynaf bawb ataf fi hun. Ond hyn a ddywedodd efe, gan arwyddo o ba fath angeu yr oedd efe ar fedr marw. Y dyrfa gan hyny a atebodd iddo, Ni a glywsom allan o'r Gyfraith fod y Crist yn aros yn dragywydd: a pha fodd yr wyt ti yn dywedyd fod yn rhaid dyrchafu Mab y Dyn? Pwy yw y Mab y Dyn hwn? Dywedodd gan hyny yr Iesu wrthynt, Eto ychydig enyd y mae y Goleuni yn eich plith. Rhodiwch yn ol fel y mae y Goleuni genych, fel na oddiweddo tywyllwch chwi: a'r hwn sydd yn rhodio yn y Tywyllwch, ni ŵyr i ba le y mae yn myned. Fel y mae genych y Goleuni, credwch yn y Goleuni, fel y deuwch yn Feibion goleuni. Y pethau hyn a lefarodd yr Iesu, ac a aeth ymaith, ac a guddiwyd oddi wrthynt. Ac er ei fod wedi gwneuthur cymaint o arwyddion yn eu gŵydd hwynt, nid oeddynt yn credu ynddo: fel y cyflawnid ymadrodd Esaiah y Proffwyd, yr hwn a ddywedodd efe, — Arglwydd, pwy a gredodd i'n cenadwri? Ac i bwy y dadguddiwyd Braich yr Arglwydd?. O herwydd hyn ni allent gredu, oblegyd dywedyd o Esaiah drachefn, — Y mae efe wedi dallu eu llygaid hwynt, Ac a galedodd eu calon hwynt; Fel na welent â' u llygaid, A dirnad â' u calon, A'u troi, ac i mi eu hiachâu hwynt. Y pethau hyn a ddywedodd Esaiah, oblegyd iddo weled ei Ogoniant ef, ac a lefarodd am dano ef. Er hyny, llawer hyd y nôd o'r penaethiaid a gredasant ynddo; ond o herwydd y Phariseaid, nid oeddynt yn gwneyd cyffes, rhag y byddent yn esgymunedig o'r Synagog: canys carasant ogoniant dynion yn hytrach yn wir na gogoniant Duw. A'r Iesu a lefodd, ac a ddywedodd, Yr hwn sydd yn credu ynof fi, nid yw yn credu ynof fi, ond yn yr Hwn a'm hanfonodd i. A'r hwn sydd yn syllu arnaf fi sydd yn syllu ar yr Hwn a'm hanfonodd i. Myfi wyf wedi dyfod yn Oleuni y byd, fel nad aroso neb sydd yn credu ynof fi yn y tywyllwch. Ac os clyw neb fy ymadroddion, ac nis ceidw hwynt, myfi nid wyf yn ei farnu ef: canys ni ddaethum i farnu y byd, ond i achub y byd. Yr hwn sydd yn fy niystyru i, ac heb dderbyn fy ymadroddion, y mae iddo un sydd yn ei farnu: Y Gair yr hwn a leferais, hwnw a'i barna ef yn y Dydd Diweddaf. Canys myfi ni leferais allan o honof fy hun: ond y Tâd yr hwn a'm hanfonodd i, y mae efe wedi rhoddi gorchymyn i mi, beth a ddywedwn, a pha beth a lefarwn. Ac mi a wn fod ei orchymyn ef yn fywyd tragywyddol: gan hyny y pethau yr wyf yn eu llefaru, fel y mae y Tâd yn dywedyd wrthyf, felly yr wyf yn llefaru. A chyn Gŵyl y Pasc, yr Iesu yn gwybod ddyfod ei Awr ef fel y symudai allan o'r byd hwn at y Tâd, wedi caru yr eiddo y rhai oedd yn y byd, a'u carodd hwynt i'r eithaf: ac ar adeg swper, wedi i'r Diafol eisioes roi yn nghalon Judas, mab Simon, yr Iscariot, i'w fradychu ef; efe, yn gwybod roddi o'r Tâd bob peth yn ei ddwylaw ef, a dyfod o hono allan oddi wrth Dduw, a'i fod yn myned ymaith at Dduw, sydd yn codi oddi wrth y swper, ac a rydd heibio ei ar‐wisgoedd, ac a gymmerodd dywel, ac a ymwregysodd: yna y mae yn tywallt dwfr i'r cawg, ac a ddechreuodd olchi traed y Dysgyblion, a'u sychu â'r tywel, â'r hwn yr oedd efe wedi ei wregysu. Y mae efe yn dyfod gan hyny at Simon Petr. Y mae efe yn dywedyd wrtho, Arglwydd, a wyt ti yn golchi fy nhraed i? Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Y peth yr wyf fi yn ei wneuthur, ni wyddost ti yr awrhon, ond ti a ddeui i wybod ar ol y pethau hyn. Petr a ddywed wrtho, Ni chei di olchi fy nhraed i o gwbl yn dragywydd. Yr Iesu a atebodd iddo, Oni olchaf di, nid oes i ti gyfran gyd â myfi. Simon Petr a ddywed wrtho, Arglwydd, nid fy nhraed yn unig, ond hefyd fy nwylaw a'm pen. Dywed yr Iesu wrtho, Yr hwn sydd wedi ymdrochi, nid rhaid iddo olchi ond ei draed, eithr y mae yn lân oll: ac yr ydych chwi yn lân, eithr nid pawb oll. Canys efe a adwaenai yr hwn oedd yn ei fradychu ef: am hyny y dywedodd efe, Nid ydych chwi oll yn lân. Gan hyny wedi iddo olchi eu traed hwy, a chymmeryd ei ar‐wisgoedd, ac eistedd drachefn wrth y bwrdd, efe a ddywedodd wrthynt, A ydych yn gwybod pa beth yr wyf wedi ei wneuthur i chwi? Yr ydych chwi yn fy ngalw i, Yr Athraw, ac, Yr Arglwydd; a da y dywedwch: canys y cyfryw wyf fi. Os myfi gan hyny, yr Arglwydd a'r Athraw, a olchais eich traed chwi, chwithau hefyd a ddylech olchi traed eich gilydd: canys esiampl a roddais i chwi, fel megys y gwneuthum i i chwi y gwnewch chwithau hefyd. Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, nid yw gwas yn fwy na'i arglwydd, nac un a ddanfonir yn fwy na'r hwn a'i danfonodd. Os gwyddoch y pethau hyn, gwyn eich byd os gwnewch hwynt. Nid wyf yn llefaru am danoch oll: mi a wn pwy rai a etholais: a hyn a wnaethpwyd fel y cyflawnid yr Ysgrythyr, — Yr hwn sydd yn bwyta fy mara A gododd ei sawdl yn fy erbyn i. O'r pryd hwn yr wyf yn dywedyd i chwi cyn ei ddyfod, fel y credoch, pan y daw, mai myfi yw efe. Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr hwn sydd yn derbyn neb a ddanfonwyf, sydd yn fy nerbyn i; a'r hwn sydd yn fy nerbyn i, sydd yn derbyn yr hwn a'm danfonodd i. A'r Iesu yn dywedyd y pethau hyn, efe a gynhyrfwyd yn yr yspryd, ac a dystiolaethodd, ac a ddywedodd, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Un o honoch a'm bradycha i. Yr oedd y Dysgyblion yn edrych ar eu gilydd, gan fod mewn dyryswch am bwy y mae yn llefaru. Yr oedd yn lledorwedd wrth y bwrdd yn mynwes yr Iesu un o'i Ddysgyblion, yr hwn yr oedd yr Iesu yn ei garu. Y mae Simon Petr gan hyny yn amneidio ar hwnw, ac yn dywedyd wrtho, Dywed pwy yw efe am yr hwn y mae yn llefaru. Ac efe, gan bwyso yn ol fel yr oedd ar ddwyfron yr Iesu, a ddywed wrtho, Arglwydd, pwy yw efe? Yr Iesu gan hyny a etyb, Hwnw yw efe, i'r hwn y gwlychaf y tamaid, ac y rhoddaf ef iddo. Gan hyny wedi gwlychu y tamaid, y mae efe yn ei gymmeryd ac yn ei roddi i Judas, mab Simon Iscariot. Ac ar ol y tamaid, yna yr aeth Satan i mewn iddo ef. Dywed gan hyny yr Iesu wrtho, Yr hyn yr wyt yn ei wneuthur, gwna yn fwy brysiog. A hyn ni wyddai neb o'r rhai oedd yn eistedd wrth y bwrdd, i ba ddyben y dywedasai efe wrtho: canys yr oedd rhai yn tybied, am fod Judas a'r göd ganddo, fod yr Iesu yn dywedyd wrtho, Pryn y pethau sydd arnom eu heisieu erbyn yr Wyl; neu, fel y rhoddai rywbeth i'r tlodion. Yntau gan hyny wedi derbyn y tamaid a aeth allan yn ebrwydd. Ac yr oedd hi yn nos. Pan gan hyny yr aeth efe allan, dywed Iesu, Yn awr y gogoneddwyd Mab y Dyn, a Duw a ogoneddwyd ynddo ef. A Duw a'i gogonedda ef ynddo ei hun, ac a'i gogonedda ef yn ebrwydd. Blant bychain, eto yr wyf enyd fechan gyd â chwi. Chwi a'm ceisiwch: ac megys y dywedais wrth yr Iuddewon, Lle yr wyf fi yn myned ymaith, nis gellwch chwi ddyfod, yr wyf yn dywedyd i chwithau hefyd yr awrhon. Gorchymyn newydd yr wyf yn ei roddi i chwi, ar garu o honoch eich gilydd: y modd y cerais i chwi, bod i chwithau hefyd garu eich gilydd. Yn hyn y gwybydd pawb mai Dysgyblion i mi ydych, os bydd genych gariad yn mhlith eich gilydd. Dywed Simon Petr wrtho, Arglwydd, i ba le yr wyt yn myned ymaith? Iesu a atebodd, Lle yr ydwyf fi yn myned ymaith, ni elli di yn awr fy nghanlyn; eithr ti a ganlyni ar ol hyn. Petr a ddywed wrtho, Arglwydd, Paham nad allaf fi dy ganlyn di yr awrhon? mi a roddaf fy einioes drosof. Y mae Iesu yn ateb, Dy einioes a roddi drosof? Yn wir, yn wir, meddaf i ti, ni chân ceiliog ddim, nes i ti fy ngwadu dair gwaith. Na thralloder eich calon: credwch yn Nuw, credwch ynof finau hefyd. Yn Nhŷ fy Nhâd y mae llawer o drigfanau: (a phe amgen, mi a ddywedaswn i chwi;) canys yr wyf fi yn myned i barotôi lle i chwi. Ac os âf ac a barotoaf le i chwi, yr wyf yn dyfod drachefn, ac a'ch croesawaf ataf fi hun: fel lle yr wyf fi y byddwch chwithau hefyd. A lle yr wyf fi yn myned, chwi a wyddoch y ffordd. Dywed Thomas wrtho, Arglwydd, ni wyddom ni i ba le yr wyt ti yn myned; pa fodd y gwyddom y ffordd? Dywed yr Iesu wrtho, Myfi yw y Ffordd, a'r Gwirionedd, a'r Bywyd: Nid oes neb yn dyfod at y Tâd ond trwof fi. Ped adnabuasech fi, fy Nhâd hefyd a adnabuasech. O hyn allan yr ydych yn ei adnabod ef ac wedi ei weled. Dywed Philip wrtho, Arglwydd, dangos i ni y Tâd, a digon yw i ni. Dywed yr Iesu wrtho, A ydwyf fi gyhyd o amser gyd â chwi, ac nid wyt wedi fy adnabod i, Philip? Yr hwn sydd wedi fy ngweled i sydd wedi gweled y Tâd; a pha fodd yr wyt ti yn dywedyd, Dangos i ni y Tâd? Onid wyt ti yn credu fy mod i yn y Tâd, a'r Tâd ynof finau? Y geiriau yr wyf yn eu dywedyd wrthych, nid o honof fy hun yr wyf yn eu llefaru: ond y Tâd yr hwn sydd yn aros ynof fi sydd yn gwneuthur ei weithredoedd. Credwch fi fy mod i yn y Tâd, a'r Tâd ynof finau: ac os na wnewch, credwch fi er mwyn y gweithredoedd eu hunain. Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, yr hwn sydd yn credu ynof fi, y gweithredoedd yr wyf fi yn eu gwneuthur, yntau hefyd a'u gwna: a mwy na'r rhai hyn a wna efe, oblegyd yr wyf fi yn myned at y Tâd. A pha beth bynag a geisioch yn fy enw i, hyny a wnaf, fel y gogonedder y Tâd yn y Mab. Os ceisiwch ddim i mi yn fy enw i, mi a'i gwnaf. Os cerwch fi, chwi a gedwch fy ngorchymynion. A mi a ofynaf i'r Tâd, ac efe a rydd i chwi Ddadleuydd arall, fel y byddo gyd â chwi yn dragywydd; Yspryd y Gwirionedd, yr hwn ni ddichon y byd ei dderbyn, am nad yw yn ei ganfod, nac yn ei adnabod ef: yr ydych chwi yn ei adnabod ef, o herwydd y mae efe yn aros gyd â chwi, ac ynoch chwi y mae efe. Nis gadawaf chwi yn amddifaid: yr wyf yn dyfod atoch chwi. Eto enyd bach, a'r byd ni'm canfydda mwy; ond chwychwi a'm canfyddwch i: o herwydd fy mod i yn fyw, byw fyddwch chwithau hefyd. Y dydd hwnw y gwybyddwch fy mod i yn fy Nhâd, a chwithau ynof fi, a minau ynoch chwithau. Yr hwn y mae ganddo fy Ngorchymynion, ac yn eu cadw hwynt, efe yw yr hwn sydd yn fy ngharu i; a'r hwn sydd yn fy ngharu i a gerir gan fy Nhâd, a minau a'i caraf ef, ac a wnaf fy hun yn amlwg iddo. Dywed Judas wrtho, nid yr Iscariot, Arglwydd, pa beth sydd wedi dygwydd dy fod ar fedr gwneuthur dy hun yn amlwg i ni, ac nid o gwbl i'r byd? Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Os câr neb fi, efe a geidw fy ngair, a'm Tâd a'i câr ef, a ni a ddeuwn ato ef, ac a wnawn ein trigfa gyd âg ef. Yr hwn nid yw yn fy ngharu i nid yw yn cadw fy ngeiriau: a'r gair yr ydych chwi yn ei glywed, nid eiddof fi ydyw, ond eiddo y Tâd a'm hanfonodd i. Y pethau hyn yr wyf wedi eu llefaru wrthych chwi tra yn aros gyd â chwi: ond y Dadleuydd, yr Yspryd Glân, yr hwn a ddenfyn y Tâd yn fy enw i, efe a ddysg i chwi bob peth, ac a ddwg ar gof i chwi bob peth a ddywedais wrthych. Yr wyf yn gadael i chwi dangnefedd; fy nhangnefedd yr ydwyf yn ei roddi i chwi: nid fel y mae y byd yn rhoddi, yr wyf fi yn rhoddi i chwi. Na thralloder eich calon, ac na lwfrhäed. Clywsoch fel y dywedais wrthych, Yr wyf yn myned ymaith, ac yr wyf yn dyfod atoch. Pe carech fi, chwi a lawenhaêch am fy mod yn myned at y Tâd; canys y mae y Tâd yn fwy na myfi. Ac yn awr yr wyf wedi dywedyd i chwi cyn ei ddyfod, fel, pan ddêl, y credoch. Ni lefaraf mwy lawer o bethau wrthych: canys Tywysog y byd sydd yn dyfod, ac ynof fi nid yw yn cael dim; ond fel y gwypo y byd fy mod i yn caru y Tâd, ac fel y rhoddodd y Tâd orchymyn i mi, felly yr wyf yn gwneuthur. Codwch, awn oddi yma. Myfi yw y Winwydden Wirioneddol, a fy Nhâd yw y Llafurwr. Pob cangen ynof fi nad yw yn dwyn ffrwyth, y mae efe yn ei chymmeryd ymaith; a phob un sydd yn dwyn ffrwyth, y mae efe yn ei thrwsio, fel y dygo fwy o ffrwyth. Yr ydych chwi eisioes yn lân o herwydd y gair yr wyf fi wedi ei lefaru wrthych. Aroswch ynof fi, a mi ynoch chwi. Megys na all y gangen ddwyn ffrwyth o honi ei hun, onid erys yn y winwydden: felly ni ellwch chwithau, onid aroswch ynof fi. Myfi yw y Winwydden, chwi y cangenau. Yr hwn sydd yn aros ynof fi, a minau ynddo yntau, hwnw sydd yn dwyn ffrwyth lawer: canys ar wahan â mi nis gellwch wneuthur dim. Onid erys un ynof fi, efe a daflwyd tu allan, fel y gangen, ac a wywodd allan: ac y maent yn eu casglu hwynt ynghyd, ac yn eu bwrw i'r tân, ac y maent yn llosgi! Os aroswch ynof fi, ac aros o'm geiriau ynoch, ceisiwch beth bynag a ewyllysioch, ac efe a fydd i chwi. Yn hyn y gogoneddwyd fy Nhâd, fel y dygoch ffrwyth lawer, ac y deuwch yn ddysgyblion i mi. Fel y carodd y Tâd fi, minau hefyd a'ch cerais chwi. Aroswch yn fy nghariad fy hun. Os cedwch fy Ngorchymynion, chwi a aroswch yn fy nghariad: megys yr wyf wedi cadw Gorchymynion fy Nhâd, ac yr wyf yn aros yn ei gariad ef. Y pethau hyn yr wyf wedi eu llefaru wrthych, fel y byddai fy llawenydd fy hun ynoch, ac fel y gwnelid eich llawenydd yn gyflawn. Hwn yw fy Ngorchymyn fy hun: Bod i chwi garu eich gilydd, fel y cerais i chwi. Cariad mwy na hwn nid oes gan neb: Bod i un roi ei einioes dros ei gyfeillion. Chwi yw fy nghyfeillion os gwnewch y pethau yr wyf yn eu gorchymyn i chwi. Nid ydwyf mwyach yn eich galw yn weision; canys y gwas ni ŵyr beth y mae ei arglwydd yn ei wneuthur: ond yr wyf fi wedi eich galw chwi yn gyfeillion; oblegyd pob peth a'r a glywais gan fy Nhâd a hysbysais i chwi. Nid chwi a'm dewisasoch i, ond myfi a'ch dewisais chwi, ac a'ch penodais chwi, fel yr eloch ymaith, ac y dygoch ffrwyth, ac yr erys eich ffrwyth: fel pa beth bynag a geisioch gan y Tâd yn fy enw i, y rhoddo efe i chwi. Y pethau hyn yr wyf yn eu gorchymyn i chwi: Bod i chwi garu eich gilydd. Os yw y byd yn eich cashâu chwi, chwi a wyddoch ei fod wedi fy nghashâu i o'ch blaen chwi. Pe byddech o'r byd, y byd a hoffai yr eiddo: ond oblegyd nad ydych o'r byd, eithr i mi eich dewis chwi allan o'r byd, o achos hyn y mae y byd yn eich cashâu chwi. Cofiwch yr ymadrodd a ddywedais wrthych: Nid yw y gwas yn fwy na'i arglwydd. Os erlidiasant fi, chwithau hefyd a erlidiant: os cadwasant fy ngair i, yr eiddoch chwithau hefyd a gadwant. Eithr yr holl bethau hyn a wnant i chwi o herwydd fy enw i, am nad adwaenant yr hwn a'm hanfonodd i. Oni bai fy nyfod a llefaru wrthynt, ni buasai arnynt bechod: ond yn awr nid oes ganddynt esgus am eu pechod. Yr hwn sydd yn fy nghashâu i sydd yn cashâu fy Nhâd hefyd. Oni bai wneuthur o honof yn eu plith y gweithredoedd ni wnaeth neb arall, ni buasai arnynt bechod: ond yn awr y maent wedi gweled ac a'm casasant i a'm Tâd hefyd. Eithr fel y cyflawnid y gair sydd ysgrifenedig yn eu Cyfraith hwynt, Hwy a'm casasant yn ddiachos. Eithr pan ddêl y Dadleuydd, yr hwn a anfonaf fi i chwi oddi wrth y Tad, Yspryd y Gwirionedd, yr hwn sydd yn dyfod allan oddi wrth y Tâd, efe a dystiolaetha am danaf fi: ac yr ydych chwithau hefyd yn tystiolaethu, am eich bod o'r dechreuad gyd â mi. Y pethau hyn yr wyf wedi eu llefaru wrthych, fel na rwystrer chwi. Hwy a'ch esgymunant o'r Synagog: ie y mae yr awr yn dyfod, y tybia yr hwn a'ch lladdo ei fod yn offrymu gwasanaeth i Dduw. A'r pethau hyn a wnant, oblegyd nad adnabuant y Tâd na myfi. Ie y pethau hyn yr wyf wedi eu llefaru wrthych, fel pan ddêl eu hawr hwy, y cofiwch hwynt, mai mi fy hun a ddywedodd i chwi: a'r pethau hyn ni ddywedais i chwi o'r dechreuad, am fy mod i gyd â chwi. Ond yn awr yr wyf fi yn myned at yr hwn a'm hanfonodd i, ac nid yw neb o honoch yn gofyn i mi, I ba le yr wyt ti yn myned? Eithr oblegyd fy mod wedi llefaru y pethau hyn wrthych, y mae tristwch wedi llenwi eich calon. Ond yr wyf fi yn dywedyd y gwirionedd i chwi: Buddiol yw i chwi ymadael o honof: canys onid ymadawaf, y Dadleuydd ni ddaw atoch o gwbl, ond os âf fy ffordd, mi a'i hanfonaf ef atoch. A phan ddêl, efe a ddyg y byd i brawf o berthynas i bechod, ac o berthynas i gyfiawnder, ac o berthynas i farn: o berthynas yn wir i bechod, yn gymaint ag nad ydynt yn credu ynof fi; o berthynas i gyfiawnder, yn gymaint a'm bod i yn myned at y Tâd; ac ni'm gwelwch i mwyach; o berthynas i farn, yn gymaint a bod Llywodraethwr y byd hwn wedi ei farnu. Y mae genyf eto lawer o bethau i ddywedyd wrthych, ond ni ellwch eu dwyn yr awrhon. Ond pan ddêl efe, Yspryd y Gwirionedd, efe a'ch tywys i'r Gwirionedd oll: canys ni lefara o hono ei hun, ond pa bethau bynag a glywo a lefara efe, a'r pethau sydd yn dyfod a fynega efe i chwi. Efe a'm gogonedda i; canys efe a gymmer o'r eiddof, ac a'i mynega i chwi. Pob peth bynag sydd eiddo y Tâd ydynt eiddo fi: o herwydd hyn y dywedais mai o'r eiddo fi y mae efe yn cymmeryd ac y mynega i chwi. Ychydig enyd ac nid ydych yn fy ngweled mwyach; a thrachefn ychydig enyd a chwi a'm gwelwch. Dywedodd gan hyny rai o'i Ddysgyblion wrth eu gilydd, Beth yw hyn y mae efe yn ei ddywedyd wrthym, Ychydig enyd ac ni'm gwelwch; a thrachefn ychydig enyd a chwi a'm gwelwch; ac, Am fy mod yn myned at y Tâd? Gan hyny y dywedasant, Pa beth yw hyn y mae efe yn ei ddywedyd, Ychydig enyd? Ni wyddom ni beth y mae yn ei lefaru. Iesu a wybu eu bod hwy yn ewyllysio gofyn iddo, a ddywedodd wrthynt, Ai am hyn yr ydych yn ymofyn â'ch gilydd oblegyd i mi ddywedyd, Ychydig enyd ac ni'm gwelwch i, a thrachefn, Ychydig enyd a chwi a'm gwelwch? Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, chwi a wylwch allan ac a gwynfanwch, ond y byd a lawenycha: chwi a fyddwch drist, ond eich tristwch a ddaw yn llawenydd. Y wraig wrth esgor sydd mewn tristwch, am ddyfod ei hawr hi; ond wedi rhoddi genedigaeth i'r plentyn, nid yw mwyach yn cofio ei chyfyngder o herwydd y llawenydd, am eni dyn i'r byd. A chwithau gan hyny yr ydych yn awr mewn tristwch: ond drachefn mi a'ch gwelaf chwi, a'ch calon a lawenycha, a'ch llawenydd ni ddwg neb oddi arnoch. Ac yn y dydd hwnw ni ofynwch ddim i mi. Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, os ceisiwch gan y Tâd, efe a'i rhydd i chwi yn fy enw i. Hyd yn hyn ni cheisiasoch ddim yn fy enw i; ceisiwch, a chwi a dderbyniwch, fel y byddo eich llawenydd yn gyflawn. Y pethau hyn yr wyf wedi eu llefaru wrthych mewn alegoriau: y mae yr awr yn dyfod, pan na lefaraf wrthych mwyach mewn alegoriau, eithr yn ddigêl y mynegaf i chwi am y Tâd. Y dydd hwnw y ceisiwch yn fy enw i: ac nid wyf yn dywedyd i chwi y gofynaf i'r Tâd o berthynas i chwi; canys y Tâd ei hun sydd yn eich hoffi chwi, am eich bod chwi wedi fy hoffi i, ac wedi credu ddyfod o honof allan oddi wrth y Tâd. Mi a ddaethum allan oddi wrth y Tâd, ac yr wyf wedi dyfod i'r byd: trachefn, yr wyf yn gadael y byd, ac yn myned at y Tâd. Dywed ei Ddysgyblion, Wele, yn awr yr wyt ti yn siarad yn ddigêl, ac nid wyt yn dywedyd un alegori. Yn awr y gwyddom y gwyddost bob peth, ac nad oes angen arnat i neb ofyn i ti: wrth hyn yr ydym yn credu ddyfod o honot allan oddi wrth Dduw. Atebodd yr Iesu iddynt, A ydych chwi yn awr yn credu? Wele, y mae yr Awr yn dyfod, ie y mae wedi dyfod, y gwasgerir chwi, bob un at yr eiddo, ac y gadêwch fi yn unig: ac nid wyf yn unig, oblegyd y mae y Tâd gyd â mi. Y pethau hyn yr wyf wedi eu llefaru wrthych, fel y caffech dangnefedd ynof fi. Yn y byd yr ydych yn cael gorthrymder: ond ymgalonogwch; yr wyf fi wedi gorchfygu y byd. Y pethau hyn a lefarodd yr Iesu; a chan godi ei lygaid i'r Nef, efe a ddywedodd, O Dâd, y mae yr Awr wedi dyfod: gogonedda dy Fab, fel y gogoneddo y Mab dithau: megys y rhoddaist iddo awdurdod ar bob cnawd, fel, yr hyn oll yr ydwyt wedi ei roddi iddo, y rhoddai iddynt Fywyd Tragywyddol. A hyn yw y Bywyd Tragywyddol: Fel y deuant i dy adnabod di, yr Unig Wirioneddol Dduw, a'r hwn a ddanfonaist, Iesu Grist. Mi a'th ogoneddais di ar y ddaear, gan gwblhâu y gwaith yr wyt wedi ei roddi i mi i'w wneuthur. Ac yn awr, O Dâd, gogonedda di fyfi gyd â thi dy hun â'r gogoniant oedd genyf fi cyn bod y byd gyd â thydi. Mi a amlygais dy enw i'r dynion a roddaist i mi allan o'r byd: eiddot ti oeddynt, a thi a'u rhoddaist hwynt i mi; ac y maent wedi cadw dy air di. Yn awr y gwyddant mai oddi wrthyt ti y mae pob peth bynag a roddaist i mi: canys y geiriau a roddaist i mi yr wyf wedi eu rhoddi iddynt hwy; a hwy eu hunain a'u derbyniasant, ac a wybuant yn wir mai oddi wrthyt ti y daethum allan, ac a gredasant mai tydi a'm danfonaist i. Yr wyf yn gofyn drostynt hwy: nid wyf yn gofyn dros y byd, ond dros y rhai yr wyt wedi eu rhoddi i mi; canys eiddot ti ydynt. A'r holl bethau ydynt eiddof fi sydd eiddot ti, a'r pethau sydd eiddot ti sydd eiddof fi, ac yr wyf wedi fy ngogoneddu ynddynt. Ac nid wyf mwyach yn y byd, a'r rhai hyn sydd yn y byd, ac yr wyf fi yn dyfod atat ti. O Dâd Sanctaidd, cadw hwynt yn dy enw, yr hwn wyt wedi ei roddi i mi, fel y byddont un, megys ninau. Pan yr oeddwn gyd â hwynt, mi a'u cedwais yn dy enw yr hwn wyt wedi ei roddi i mi; ac mi a'u gwyliais, a neb o honynt ni chollwyd ond Mab y Golledigaeth, fel y cyflawnid yr Ysgrythyr. Ond yn awr yr wyf yn dyfod atat ti; a'r pethau hyn yr wyf yn eu llefaru yn y byd, fel y caffont fy llawenydd i yn gyflawn ynddynt eu hunain. Yr ydwyf wedi rhoddi iddynt hwy dy Air, a'r byd a'u cashâodd hwynt, oblegyd nad ydynt o'r byd, megys nad wyf finau o'r byd. Nid wyf yn gofyn ar i ti eu cymmeryd hwynt allan o'r byd, eithr ar i ti eu cadw hwynt allan o law yr Un Drwg. O'r byd nid ydynt, megys nad wyf finau o'r byd. Cysegra hwynt yn y Gwirionedd: dy Air sydd wirionedd. Fel yr anfonaist fi i'r byd, minau hefyd a'u hanfonais hwythau i'r byd. Ac er eu mwyn hwy yr wyf yn cysegru fy hun, fel y byddont hwythau hefyd wedi eu cysegru mewn gwirionedd. Nid wyf yn gofyn dros y rhai hyn yn unig, ond hefyd dros y rhai sydd yn credu ynof fi drwy eu hymadrodd hwy; fel y byddont oll yn un: megys yr wyt ti Dâd ynof fi, a minau ynot ti, fel y byddont hwythau hefyd ynom ni: fel y credo y byd mai tydi a'm hanfonaist i. A'r gogoniant yr wyt wedi ei roddi i mi yr wyf finau wedi ei roddi iddynt hwy, fel y byddont un, megys yr ydym ni yn un: myfi ynddynt hwy, a thithau ynof fi, fel y byddont wedi eu perffeithio yn un; fel y gwypo y byd mai tydi a'm hanfonaist i, a charu o honot hwynt, fel y ceraist fi. Dâd, yr hyn yr ydwyt wedi ei roddi i mi, yr wyf yn ewyllysio, lle yr wyf fi, fod o honynt hwythau hefyd gyd â mi, fel yr edrychont ar fy ngogoniant yr hwn wyt wedi ei roddi i mi; oblegyd ti a'm ceraist i cyn seiliad y byd. O Dâd Cyfiawn, ac eto nid adnabu y byd dydi; ond mi a'th adnabum, a'r rhai hyny a wybu mai tydi a'm hanfonaist i: ac mi a hysbysais iddynt dy enw, ac a'i hysbysaf, fel y byddo y cariad â'r hwn y ceraist fi ynddynt hwy, a minau ynddynt hwy. Wedi i'r Iesu ddywedyd y pethau hyn, efe a aeth allan gyd â'u Ddysgyblion yn groes i geunant Kedron, lle yr oedd gardd, i'r hon yr aeth efe a'i Ddysgyblion. A Judas hefyd, yr hwn oedd yn ei fradychu ef, a adwaenai y lle; oblegyd yn fynych yr ymgynullasai yr Iesu a'i Ddysgyblion yno. Judas gan hyny wedi derbyn y gatrawd, ac is‐swyddogion oddi wrth yr Arch‐offeiriad a'r Phariseaid, sydd yn dyfod yno gyd â llusernau a ffaglau ac arfau. Yr Iesu gan hyny, yn gwybod yr holl bethau oedd yn dyfod arno, a aeth allan ac a ddywed wrthynt, Pwy yr ydych yn ei geisio? Hwy a atebasant iddo, Iesu y Nazarëad. Dywed yr Iesu wrthynt, Myfi yw. Ac yr oedd Judas hefyd, yn hwn oedd yn ei fradychu ef, yn sefyll gyd â hwynt. Pan gan hyny y dywedodd efe wrthynt, Myfi yw, hwy a aethant yn ŵysg eu cefnau, ac a syrthiasant ar y ddaear. Drachefn gan hyny efe a ofynodd iddynt, Pwy yr ydych chwi yn ei geisio? A hwy a ddywedasant, Iesu y Nazarëad. Iesu a atebodd, Mi a ddywedais i chwi mai myfi yw: os gan hyny myfi yr ydych yn ei geisio, gadêwch i'r rhai hyn fyned ymaith; fel y cyflawnid y gair yr hwn a ddywedodd efe, Y rhai yr ydwyt wedi eu rhoddi i mi, ni chollais i yr un o honynt. Simon Petr gan hyny a chanddo gleddyf a'i tynodd ef, ac a darawodd was yr Arch‐offeiriad, ac a dorodd ymaith ei glust ddeheu ef. Ac enw y gwas oedd Malchus. Dywedodd yr Iesu gan hyny wrth Petr, Dod y cleddyf yn y wain: y Cwpan y mae y Tâd wedi ei roddi i mi, onid yfaf ef? Gan hyny y gatrawd a'r Milwriad, ac is‐swyddogion yr Iuddewon, a ddaliasant yr Iesu, ac a'i rhwymasant ef, ac a'i harweiniasant at Annas yn gyntaf, canys yr oedd efe yn dad‐yn‐nghyfraith i Caiaphas, yr hwn oedd Arch‐offeiriad y flwyddyn hono. A Chaiaphas oedd yr hwn a gynghorasai yr Iuddewon, mai buddiol oedd farw o un dyn dros y bobl. Ac yr oedd Simon Petr a Dysgybl arall yn canlyn yr Iesu; ac yr oedd y Dysgybl hwnw yn adnabyddus i'r Arch‐offeiriad, ac efe a aeth i mewn gyd â Iesu i Lys yr Arch‐offeiriad; ond Petr oedd yn sefyll wrth y drws oddi allan. Gan hyny y Dysgybl arall, yr hwn oedd adnabyddus gan yr Arch‐offeiriad, a aeth allan, ac a ddywedodd wrth y ddrysores, ac a ddygodd Petr i mewn. Gan hyny dywed y forwynig ag oedd ddrysores wrth Petr, A wyt tithau hefyd yn un o Ddysgyblion y dyn hwn? Dywed yntau, Nid wyf. Ac yr oedd y gweision a'r is‐swyddogion yn sefyll yno, wedi gwneuthur o honynt dân golosg, canys yr oedd hi yn oer, ac yr oeddynt yn ymdwymo: ac yr oedd Petr hefyd gyd â hwynt yn sefyll ac yn ymdwymo. Yr Arch‐offeiriad gan hyny a ofynodd i'r Iesu am ei Ddysgyblion, ac am ei ddysgeidiaeth. Iesu a atebodd iddo, Yr ydwyf fi wedi llefaru yn ddigêl wrth y byd: myfi yn wastadol a ddysgais mewn Synagog ac yn y Deml, lle y mae yr holl Iuddewon yn dyfod yn nghyd; ac yn ddirgel ni leferais ddim. Paham yr wyt yn gofyn i mi? Gofyn i'r rhai sydd wedi clywed beth a leferais wrthynt: wele, y rhai hyn a wyddant pa bethau a ddywedais i. Ac efe wedi dywedyd hyn, un o'r swyddogion yr hwn oedd yn sefyll yn ymyl a darawodd yr Iesu, gan ddywedyd, Ai felly yr wyt ti yn ateb yr Arch‐offeiriad? Iesu a atebodd iddo, Os drwg y lleferais, tystiolaetha am y drwg: ond os da, paham y tarewaist fi? Annas gan hyny a'i danfonodd ef wedi ei rwymo at Caiaphas yr Arch‐offeiriad. Yn awr Simon Petr oedd yn sefyll ac yn ymdwymo. Hwythau gan hyny a ddywedasant wrtho, A wyt tithau hefyd o'i Ddysgyblion ef? Yntau a wadodd, ac a ddywedodd, Nid wyf. Dywed un o weision yr Arch‐offeiriad, perthynas i'r hwn y torodd Petr ymaith ei glust, Oni welais i dydi yn yr ardd gyd âg ef? Drachefn gan hyny y gwadodd Petr, ac yn ebrwydd ceiliog a ganodd. Y maent yn arwain yr Iesu gan hyny oddi wrth Caiaphas i'r Pretorium: ac yr oedd yn fore iawn; a hwy eu hunain nid aethant i mewn i'r Pretorium, rhag eu halogi, ond fel y gallent fwyta y Pasc. Pilat gan hyny a aeth y tu allan atynt hwy, ac y mae yn dywedyd, Pa gyhuddiad yr ydych chwi yn ei ddwyn yn erbyn y dyn hwn? Hwy a atebasant ac a ddywedasant wrtho, oni bai fod hwn yn ddrwg‐weithredwr, ni fuasem ni wedi ei draddodi ef i ti. Dywedodd Pilat wrthynt, Cymmerwch chwi ef, a bernwch ef yn ol eich Cyfraith chwi. Dywedodd yr Iuddewon wrtho, Nid cyfreithlawn i ni ladd neb: fel y cyflawnid gair yr Iesu, yr hwn a ddywedodd efe, gan arwyddo o ba fath farwolaeth yr oedd efe ar fedr marw. Pilat gan hyny a aeth drachefn i'r Pretorium, ac a alwodd yr Iesu, ac a ddywedodd wrtho, A wyt ti yn Frenin yr Iuddewon? Iesu atebodd, Ai a honot dy hun yr wyt ti yn llefaru hyn, ai eraill a ddywedasant i ti am danaf fi? Pilat a atebodd, Ai Iuddew yn wir ydwyf fi? Dy Genedl dy hun a'r Arch‐offeiriaid a'th draddodasant ti i mi: beth a wnaethost ti? Iesu atebodd, Fy Nheyrnas fy hun nid yw o'r byd hwn: pe o'r byd hwn y byddai fy Nheyrnas fy hun, fy ngweinidogion fy hun a fyddent yn ymorchestu, fel na'm traddodid i'r Iuddewon: ond yn awr nid yw fy Nheyrnas fy hun oddi yma. Dywedodd Pilat gan hyny wrtho, Yr wyt gan hyny yn Frenin, onid wyt? Yr Iesu atebodd, Yr wyt ti yn dywedyd hyny: canys Brenin ydwyf. Yr wyf fi wedi fy ngeni i hyn, ac i hyn yr wyf wedi dyfod i'r byd, fel y tystiolaethwn i'r Gwirionedd. Pob un a'r sydd o'r Gwirionedd sydd yn gwrando ar fy llais i. Dywed Pilat wrtho, Pa beth yw Gwirionedd? Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a aeth allan drachefn at yr Iuddewon, a dywed wrthynt, Nid wyf fi yn cael dim sail i gyhuddiad ynddo ef. Eithr y mae genych chwi arferiad, i mi ollwng un yn rhydd i chwi ar y Pasc: a ewyllysiwch chwi gan hyny i mi ollwng yn rhydd i chwi Frenin yr Iuddewon? Hwy oll gan hyny a waeddasant drachefn, gan ddywedyd, Nid hwn, ond Barabbas. Yn awr Barabbas oedd ysbeiliwr. Yna gan hyny y cymmerodd Pilat yr Iesu, ac a'i fflangellodd. A'r milwyr a blethasant goron o ddrain, ac a'i gosodasant ar ei ben ef, ac a roisant wisg uchaf o borphor am dano: a hwy a ddaethant ato ef, ac a ddywedasant, Henffych well, Brenin yr Iuddewon. A hwy a roisant iddo gernodiau. A Philat aeth y tu allan drachefn, ac a ddywed wrthynt, Wele, yr wyf fi yn ei ddwyn ef y tu allan i chwi, fel y gwypoch nad wyf fi yn cael sail i gyhuddiad ynddo ef. Yr Iesu gan hyny a ddaeth y tu allan, yn gwisgo y goron ddrain a'r wisg borphor; a dywed Pilat wrthynt, Wele y Dyn! Pan gan hyny y gwelodd yr Arch‐offeiriaid a'r Is‐swyddogion ef, hwy a lefasant allan, gan ddywedyd, Croeshoelia, Croeshoelia. Dywed Pilat wrthynt, Cymmerwch chwi ef, a chroeshoeliwch; canys nid wyf fi yn cael sail cyhuddiad ynddo ef. Yr Iuddewon a atebasant iddo, Y mae genym ni Gyfraith, ac yn ol y Gyfraith, efe a ddylai farw, am iddo wneuthur ei hun yn Fab Duw. Pan glybu Pilat gan hyny yr ymadrodd hwn, efe a ofnodd yn fwy, ac efe a aeth i mewn drachefn i'r Pretorium, a dywed wrth yr Iesu, O ba le yr wyt ti? Ond ni roddodd yr Iesu ateb iddo. Dywed Pilat gan hyny wrtho, Oni leferi di wrthyf fi? Ai ni wyddost fod genyf awdurdod i'th ryddhâu di, a bod genyf awdurdod i'th groeshoelio? Iesu a atebodd iddo, Ni byddai i ti unrhyw awdurdod yn fy erbyn i, oni bai ei fod wedi ei roddi i ti oddi uchod: o herwydd hyn y mae ar yr hwn sydd yn fy nhraddodi i ti bechod mwy. Ar hyn, yr oedd Pilat yn ceisio ei ryddhâu ef, ond yr Iuddewon a lefasant allan, gan ddywedyd, Os gollyngi di hwn yn rhydd, nid ydwyt gyfaill i'r Cesar: pob un a'r sydd yn gwneuthur ei hun yn frenin sydd yn dywedyd yn erbyn y Cesar. Pilat gan hyny, pan glywodd y geiriau hyn, a ddygodd yr Iesu y tu allan, ac a eisteddodd ar orsedd‐fainc mewn lle a elwir Palmant, ond yn Hebraeg, Gabbatha. Ac yr oedd yn ddydd Parotöad y Pasc, ac ynghylch y chweched awr: a dywed wrth yr Iuddewon, Wele eich Brenin! Hwythau gan hyny a lefasant, Ymaith âg ef, ymaith âg ef, croeshoelia ef. Pilat a ddywed wrthynt, A groeshoeliaf eich Brenin chwi? Yr Arch‐offeiriaid a atebasant, Nid oes genym Frenin ond Cesar. Yna y traddododd efe ef iddynt hwy fel y croeshoelient ef. Gan hyny hwy a gymmerasant yr Iesu. A chan ddwyn y groes iddo ei hun, efe a aeth allan i'r lle a elwir Lle Penglog, yr hwn a elwir yn Hebraeg, Golgotha: lle y croeshoeliasant ef, a chyd âg ef ddau eraill, un o bob tu, a'r Iesu yn y canol. A Philat hefyd a ysgrifenodd deitl, ac a'i gosododd ar y groes. Ac yr oedd yn ysgrifenedig, IESU O NAZARETH, BRENIN YR IUDDEWON. Y teitl hwn gan hyny a ddarllenodd llawer o'r Iuddewon; canys agos i'r Ddinas oedd y fan lle y croeshoeliwyd yr Iesu: ac yr oedd wedi ei ysgrifenu yn Hebraeg, Lladin, a Groeg. Dywedodd gan hyny Arch‐offeiriaid yr Iuddewon wrth Pilat, Nac ysgrifena, Brenin yr Iuddewon; ond Efe a ddywedodd, Brenin yr Iuddewon ydwyf fi. Pilat a atebodd, Yr hyn wyf wedi ysgrifenu wyf wedi ysgrifenu. Y milwyr gan hyny, pan groeshoeliasant yr Iesu, a gymmerasant ei wisgoedd uchaf, ac a wnaethant bedair rhan, i bob milwr ran: hefyd yr is‐wisg. Yn awr, ei is‐wisg oedd ddiwniad, wedi ei gwau o'r cwr uchaf drwyddi oll. Dywedasant gan hyny wrth eu gilydd, Na rwygwn hi, ond bwriwn goel‐brenau am dani, eiddo pwy fydd hi: fel y cyflawnid yr Ysgrythyr, Rhanasant fy nillad yn eu mysg eu hunain, Ac ar fy ngwisg y bwriasant goel‐bren. Y pethau hyn gan hyny a wnaeth y milwyr. Ac yr oedd yn sefyll wrth groes yr Iesu ei fam ef, a chwaer ei fam ef, Mair gwraig Clopas, a Mair Magdalen. Iesu gan hyny yn gweled ei Fam, a'r Dysgybl, yr hwn oedd efe yn ei garu, yn sefyll yn ymyl, a ddywed wrth ei Fam, O wraig, wele dy Fab! Yna y dywed efe wrth y Dysgybl, Wele dy Fam! Ac o'r Awr hono y cymmerodd y Dysgybl hi i'w gartref ei hun. Wedi hyn, yr Iesu yn gwybod fod pob peth weithian wedi ei orphen, fel y cyflawnid yr Ysgrythyr, a ddywed, Y mae syched arnaf. Yr oedd yno lestr wedi ei osod yn llawn o finegr: gan hyny hwy a osodasant ysbwng llawn o finegr ar isop, ac a'i dygasant at ei enau ef. Pan dderbyniodd yr Iesu gan hyny y finegr, dywedodd, Gorphenwyd: ac efe a blygodd ei ben, ac a roddodd i fyny yr yspryd. Yr Iuddewon gan hyny, gan ei bod y Parotoad, fel nad arosai y cyrff ar y groes ar y Sabbath (canys Diwrnod Mawr oedd y Sabbath hwnw), a ofynasant i Pilat fel y gellid tori eu coesau hwynt, a'u cymmeryd hwynt ymaith. Daeth y milwyr gan hyny, ac a dorasant goesau y cyntaf, a'r llall a groeshoeliasid gyd âg ef: eithr wedi dyfod at yr Iesu, pan welsant ef wedi marw eisioes, ni thorasant ei goesau ef; ond un o'r milwyr â gwaywffon a wanodd ei ystlys, ac yn ebrwydd y daeth allan waed a dwfr. A'r hwn sydd wedi gweled sydd wedi tystiolaethu, a gwirioneddol yw ei dystiolaeth ef: ac efe a ŵyr ei fod yn dywedyd pethau gwir fel y credoch chwithau hefyd. Canys y pethau hyn a wnaethpwyd, fel y cyflawnid yr ysgrythyr, — Ni friwir asgwrn o hono. A thrachefn ysgrythyr wahanol sydd yn dywedyd, Hwy a edrychant tu ag at yr hwn a drywanasant. Ac ar ol y pethau hyn, Joseph o Arimathea, yr hwn oedd Ddysgybl yr Iesu, eithr yn guddiedig o herwydd ofn yr Iuddewon, a ofynodd i Pilat fel y cymmerai ymaith gorff yr Iesu: a Philat a ganiatâodd. Efe a ddaeth gan hyny, ac a gymmerodd ef gorff ef ymaith. A daeth Nicodemus hefyd, yr hwn a ddaethai ar y cyntaf ato yn y nos, gan ddwyn rhol o fyrr ac aloes tua chàn pwys. Felly y cymmerasant gorff yr Iesu, ac a'i rhwymasant ef mewn llieiniau gyd â y peraroglau, fel y mae arfer yr Iuddewon i gladdu. Yn awr yn y man lle y croeshoeliasid ef yr oedd gardd; ac yn yr ardd yr oedd bedd newydd, yn yr hwn ni ddodasid neb erioed. Yno gan hyny, o herwydd Parotöad yr Iuddewon, canys yr oedd y bedd yn agos, y dodasant yr Iesu. Ond ar y Dydd Cyntaf o'r wythnos mae Mair Magdalen yn dyfod yn fore, a hi eto yn dywyll, at y bedd, ac y mae yn gweled y maen wedi ei godi ymaith o'r bedd. Y mae hi yn rhedeg gan hyny, ac yn dyfod at Simon Petr a'r Dysgybl arall, yr hwn yr oedd yr Iesu yn ei hoffi, ac yn dywedyd wrthynt, Hwy a ddygasant yr Arglwydd allan o'r bedd, ac ni wyddom ni pa le y dodasant ef. Petr gan hyny a aeth allan, a'r Dysgybl arall, ac yr oeddynt yn myned tu ag at y bedd; a hwy a ddechreuasant redeg ill dau ynghyd; a'r Dysgybl arall a redodd o'r blaen yn gynt na Phetr, ac a ddaeth gyntaf at y bedd; a chan ymgrymu y mae efe yn canfod y llieiniau yn gorwedd; er hyny nid aeth efe i mewn. Y mae Simon Petr gan hyny hefyd yn dyfod, yn ei ganlyn ef, ac a aeth i mewn i'r bedd, ac y mâe yn craffu ar y llieiniau yn gorwedd, a'r napcyn a fuasai am ei ben ef, nid yn gorwedd gyd â y llieiniau, ond ar wahan wedi ei blygu mewn un lle. Yna gan hyny yr aeth y Dysgybl arall hefyd i mewn, yr hwn a ddaethai gyntaf at y bedd, ac efe a welodd, ac a gredodd. Canys hyd yn hyn ni wyddent yr Ysgrythyr, fod yn rhaid iddo adgyfodi o feirw. Gan hyny y Dysgyblion a aethant ymaith drachefn i'w cartref‐leodd. Ond Mair oedd yn sefyll wrth y bedd oddi allan yn wylo. Tra yr oedd hi gan hyny yn wylo, hi a ymgrymodd i lawr i'r bedd, ac y mae hi yn syllu ar ddau angel mewn gwyn yn eistedd, un wrth y pen, ac un wrth y traed, lle y dodasid corff yr Iesu. Ac y maent hwy yn dywedyd wrthi hi, O Wraig, paham yr ydwyt yn wylo? Hithau a ddywed wrthynt, Am ddwyn o honynt ymaith fy Arglwydd i, ac nas gwn pa le y dodasant ef. Ac wedi iddi ddywedyd y pethau hyn, hi a drodd drach ei chefn, ac y mae yn syllu ar Iesu yn sefyll, ac ni wyddai mai Iesu oedd. Iesu a ddywed wrthi, O wraig, paham yr wyt ti yn wylo? pwy yr wyt ti yn ei geisio? Hithau yn tybied mai y garddwr yw efe, a ddywed wrtho, Syr, os tydi a'i dygaist ef ymaith, dywed i mi pa le y dodaist ef, a myfi a'i cymmeraf ef ymaith. Yr Iesu a ddywed wrthi, Mair! Hithau, wedi troi, a ddywed wrtho yn Hebraeg, Rabboni, yr hyn yw dywedyd, Athraw. Dywed Iesu wrthi, Na ddal afael ynof; canys nid wyf fi eto wedi esgyn at y Tâd: eithr dos at fy mrodyr, a dywed wrthynt, Yr wyf yn esgyn at fy Nhâd i a'ch Tâd chwithau, a'm Duw i a'ch Duw chwithau. Mae Mair Magdalen yn dyfod gan hysbysu i'r Dysgyblion, Yr wyf fi wedi gweled yr Arglwydd; ac iddo ddywedyd y pethau hyn wrthi. Pan oedd hi gan hyny yn hŵyr, ar y Dydd hwnw, y Cyntaf o'r wythnos, a'r drysau yn gauad lle yr oedd y Dysgyblion, o achos ofn yr Iuddewon, daeth yr Iesu, ac a safodd yn y canol, a dywed wrthynt, Tangnefedd i chwi. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a ddangosodd iddynt ei ddwylaw a'i ystlys. Yna y Dysgyblion a lawenychasant pan welsant yr Arglwydd. Dywedodd efe gan hyny wrthynt drachefn, Tangnefedd i chwi. Fel y mae y Tâd wedi fy anfon i, yr wyf fi hefyd yn eich anfon chwi. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a anadlodd arnynt, ac a ddywedodd wrthynt, Cymmerwch chwi Yspryd Glân: pechodau pwy bynag a faddeuoch, y maent wedi eu maddeu iddynt; ac eiddo pwy bynag a ddeliwch yn dyn, y maent wedi eu dal yn dyn. Eithr Thomas, un o'r Deuddeg, yr hwn a elwir Didymus, nid oedd gyd â hwynt pan ddaeth yr Iesu. Yr oedd y Dysgyblion eraill gan hyny yn dywedyd wrtho, Yr ydym ni wedi gweled yr Arglwydd. Ond dywedodd efe wrthynt, Oni châf fi weled yn ei ddwylaw ôl yr hoelion, a dodi fy mys yn ol yr hoelion, a dodi fy llaw yn ei ystlys ef, ni chredaf o gwbl. Ac wedi wyth niwrnod drachefn yr oedd ei Ddysgyblion ef i mewn, a Thomas gyd â hwynt. Mae yr Iesu yn dyfod, a'r drysau yn gauad, ac a safodd yn y canol, ac a ddywedodd, Tangnefedd i chwi. Yna y dywed efe wrth Thomas, Estyn yma dy fys, a gwel fy nwylaw; ac estyn dy law, a dod yn fy ystlys: ac na fydd anghrediniol, ond credinol. Thomas a atebodd ac a ddywedodd wrtho, FY ARGLWYDD A'M DUW. Yr Iesu a ddywed wrtho, Am dy fod wedi fy ngweled,, yr ydwyt wedi credu: bendigedig yw y rhai ni welsant, ac a gredasant. Llawer ac arwyddion eraill gan hyny a wnaeth yr Iesu yn ngŵydd y Dysgyblion, y rhai nid ydynt ysgrifenedig yn y Llyfr hwn: ond y mae y pethau hyn wedi eu hysgrifenu fel y credoch chwi mai yr Iesu yw y Crist, Mab Duw: a chan gredu y caffoch fywyd yn ei enw ef. Wedi y pethau hyn yr amlygodd yr Iesu ei hun drachefn i'r Dysgyblion wrth Fôr Tiberias; ac efe a amlygodd ei hun fel hyn:— Yr oedd ynghyd Simon Petr, a Thomas yr hwn a elwir Didymus, a Nathanäel o Cana yn Galilea, a meibion Zededëus, a dau eraill o'i Ddysgyblion ef. Dywed Simon Petr wrthynt, Yr wyf fi yn myned ymaith i bysgota. Y maent yn dywedyd wrtho, Yr ydym ninau hefyd yn dyfod gyd â thi. Hwy a aethant allan, ac a aethant i'r cwch, a'r nos hono ni ddaliasant ddim. A phan oedd y wawr weithian yn tori, yr Iesu a safodd ar y traeth: er hyny ni wyddai y Dysgyblion mai yr Iesu ydyw. Yr Iesu gan hyny a ddywed wrthynt, Fechgyn, A oes genych enllyn? Hwy a atebasant iddo, Nac oes. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Bwriwch y rhwyd i'r tu deheu i'r cwch, a chwi a gewch. Hwy a fwriasant gan hyny, ac ni allent bellach ei thynu gan y lluaws pysgod. Dywed gan hyny y Dysgybl hwnw yr oedd yr Iesu yn ei garu wrth Petr, Yr Arglwydd yw. Simon Petr gan hyny, pan glywodd, Yr Arglwydd yw, a wregysodd ei arwisg; canys yr oedd efe yn noeth, ac a fwriodd ei hun i'r môr. Eithr y Dysgyblion eraill a ddaethant yn y cwch bychan (oblegyd nid oeddynt bell oddiwrth y tir, ond tua dau can cufydd), gan lusgo y rhwydaid o bysgod. Pan ddaethant gan hyny allan ar y tir, y maent yn canfod tân golosg wedi ei osod, a physgod wedi eu dodi arno, a bara. Dywed yr Iesu wrthynt, Dygwch o'r pysgod a ddaliasoch yn awr. Simon Petr gan hyny a aeth i fyny i'r cwch, ac a dynodd y rhwyd i'r tir, yn llawn o bysgod mawrion, cant a thri ar ddeg a deugain: ac er bod cymaint, ni thorodd y rhwyd. Dywed yr Iesu wrthynt, Deuwch, bwytêwch foreu‐fwyd. Ac ni feiddiai neb o'r Dysgyblion ei holi yn fanwl, Pwy wyt ti, gan eu bod yn gwybod mai yr Arglwydd ydyw. Y mae yr Iesu yn dyfod, ac yn cymmeryd y bara, ac yn rhoddi iddynt, a'r pysgod yr un modd. Hon weithian oedd y drydedd waith yr amlygwyd yr Iesu i'r Dysgyblion, wedi ei gyfodi o feirw. Wedi iddynt gan hyny gymmeryd boreu‐fwyd, dywed yr Iesu wrth Simon Petr, Simon, mab Ioan, A wyt ti yn fy ngharu i yn fwy na'r rhai hyn? Dywed yntau wrtho, Ydwyf, Arglwydd, Ti a wyddost fy mod yn dy hoffi di. Dywed yntau wrtho, Portha fy wyn. Dywed wrtho drachefn yr ail waith, Simon, mab Ioan, A wyt ti yn fy ngharu i? Dywed yntau wrtho, Ydwyf, Arglwydd; ti a wyddost fy mod yn dy hoffi di. Dywed yntau wrtho, Bugeilia fy nefaid. Dywed efe wrtho y drydedd waith, Simon, mab Ioan, A wyt ti yn fy hoffi i? Petr a dristawyd am iddo ddywedyd wrtho y drydedd waith, A wyt ti yn fy hoffi i? Ac efe a ddywedodd wrtho, Arglwydd, ti a wyddost bob peth; ti ydwyt yn canfod fy mod yn dy hoffi di. Iesu a ddywed wrtho, Portha fy nefaid. Yn wir, yn wir, meddaf i ti, pan oeddit ieuengach, ti a wregysaist dy hun, ac a rodiaist lle y mynaist; eithr pan heneiddi, ti a estyni dy ddwylaw, ac arall a'th wregysa, ac a'th gluda lle ni fynit. A hyn a ddywedodd efe, gan arwyddo trwy ba fath farwolaeth y gogoneddai Dduw. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, dywed wrtho, Canlyn fi. Petr wedi troi, sydd yn gweled y Dysgybl yr oedd yr Iesu yn ei garu yn canlyn; yr hwn hefyd a bwysodd yn ol yn y Swper ar ei fynwes ef, ac a ddywedodd, Arglwydd, pwy yw yr hwn sydd yn dy fradychu di? Petr gan hyny wrth ei weled ef, a ddywed wrth yr Iesu, Arglwydd, A beth fydd i hwn? Dywed yr Iesu wrtho, Os ewyllysiaf iddo aros hyd oni ddelwyf, beth yw hyny i ti? Canlyn fi. Y gair hwn gan hyny a aeth allan yn mhlith y Brodyr, Nid yw y Dysgybl hwnw i farw: eto ni ddywedodd yr Iesu wrtho, Nid yw efe i farw; ond, Os ewyllysiaf iddo aros hyd oni ddelwyf, beth yw hyny i ti? Hwn yw y Dysgybl sydd yn tystiolaethu am y pethau hyn, ac a ysgrifenodd y pethau hyn: ac yr ydym yn gwybod fod ei dystiolaeth ef yn wir. Ac y mae hefyd lawer o bethau eraill a wnaeth yr Iesu, y rhai ped ysgrifenid hwy bob yn un ac un, yr wyf yn tybied na chynwysai hyd y nod y byd ei hun y llyfrau a ysgrifenid. YN OL IOAN. Y Traethawd cyntaf a wnaethum, O Theophilus, am bob peth a ddechreuodd yr Iesu eu gwneuthur a'u dysgu, hyd y dydd y cymerwyd Ef i fyny, wedi iddo roddi gorchymyn trwy yr Yspryd Glân i'r Apostolion, y rhai a etholasai Efe: i'r rhai hefyd y dangosodd ei hun yn fyw ar ol ei Ddyoddefaint trwy lawer o arwyddion sicr, gan ymddangos iddynt ar hyd deugain niwrnod, a dywedyd y pethau am Deyrnas Dduw, a chan ymgynull gyda hwynt, gorchymynodd iddynt nad ymadawent o Jerusalem, eithr disgwyl o honynt am Addewid y Tad, yr hon, eb efe, a glywsoch genyf fi: canys Ioan yn wir a fedyddiodd â dwfr; ond chwi a fedyddir yn yr Yspryd Glân, nid ar ol llawer o'r dyddiau hyn. Gan hyny, hwy, wedi dyfod ynghyd, a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Arglwydd, a wyt ti yn yr amser hwn yn adferu y Deyrnas i Israel? Dywedodd wrthynt, Ni pherthyn i chwi wybod yr amseroedd neu'r prydiau, y rhai a osododd y Tad o fewn cylch ei awdurdod ei hun. Eithr chwi a dderbyniwch allu, pan ddelo yr Yspryd Glân arnoch, a chwi a fyddwch fy nhystion i yn Jerusalem, ac yn holl Judea a Samaria, ac hyd eithaf y ddaear. Ac wedi iddo ddywedyd y pethau hyn, a hwynt‐hwy yn edrych, efe a gymerwyd i fyny, a chwmwl a'i derbyniodd ef allan o'u golwg. Ac fel yr oeddent yn edrych yn ddyfal i'r Nef, ac efe yn myned, wele, dau wr oedd yn sefyll yn eu hymyl mewn gwisgoedd gwynion, y rhai hefyd a ddywedasant, Chwi wyr o Galilea, paham yr ydych yn sefyll yn edrych i'r Nef? Yr Iesu hwn, yr hwn a dderbyniwyd i fyny oddiwrthych i'r Nef, a ddaw felly yn y modd y gwelsoch ef yn myned i'r Nef. Yna y dychwelasant i Jerusalem o Fynydd a elwir yr Olew‐wydd, yr hwn sydd yn agos i Jerusalem, taith diwrnod Sabbath. A phan ddaethant i mewn, hwy a aethant i fyny i'r Oruwch‐ystafell, lle yr oeddent yn aros; Petr ac Ioan ac Iago ac Andreas, Philip a Thomas, Bartholomeus a Matthew, Iago mab Alpheus, a Simon y Zelotiad, a Judas mab Iago. Y rhai hyn oll oedd yn dyfal‐barhau yn unfryd mewn gweddi, gyda rhai gwragedd, a Mair, mam yr Iesu, a chyda'i frodyr ef. Ac yn y dyddiau hyny Petr a gyfododd i fyny yn nghanol y brodyr, ac a ddywedodd, (ac yr oedd lliaws o bersonau yn yr un lle, ynghylch cant ac ugain), O Frodyr, yr oedd yn rhaid cyflawni yr ysgrythyr a rag-ddywedodd yr Yspryd Glân trwy enau Dafydd am Judas, yr hwn a aeth yn arweinydd i'r rhai a ddaliasant yr Iesu. Canys cyfrifwyd ef yn ein plith ni, a derbyniodd ei ran o'r weinidogaeth hon. (Hwn yn wir ddaeth i feddiant o faes trwy wobr ei anwiredd; ac wedi syrthio yn wysg ei ben, a ymholltodd yn ei ganol, a'i holl ymysgaroedd ef a dywalltwyd allan. Ac aeth hyn yn hyspys i bawb oedd yn preswylio yn Jerusalem; yn gymaint ag y gelwid y maes hwnw yn eu hiaith eu hunain, Acheldamach, hyny yw, Maes y Gwaed.) Canys y mae yn ysgrifenedig yn llyfr y Salmau, Aed ei drigfan yn anghyfanedd, Ac na fydded a breswylio ynddi; Ac hefyd, Cymered arall ei oruchwyliaeth O'r gwyr gan hyny a fu yn cydymdaith â ni drwy yr holl amser yr aeth yr Arglwydd Iesu i mewn ac allan o'n blaen, gan ddechreu o Fedydd Ioan hyd y dydd y derbyniwyd ef i fyny oddiwrthym — y mae yn rhaid i un o'r rhai hyn i fod gyda ni yn dyst o'i Adgyfodiad. A hwy a osodasant ddau ger bron, Joseph yr hwn a elwid Barsabbas, yr hwn a gyfenwid Justus, a Matthias. A chan weddïo hwy a ddywedasant, Tydi, Arglwydd, adnabyddwr calonau pawb, dangos o'r ddau hyn yr hwn a ddewisaist i gymeryd y lle yn y weinidogaeth a'r Apostolaeth hon, o'r hon y syrthiodd Judas ymaith i fyned i'w le ei hun. A hwy a fwriasant goelbrenau drostynt, a syrthiodd y coelbren ar Matthias, ac efe a gyfrifwyd gyda'r un Apostol ar ddeg. Ac yn nghyflawniad Dydd y Pentecost yr oeddynt hwy oll ynghyd yn yr un lle. A daeth yn ddisymwth swn o'r Nef megys gwynt nerthol yn rhuthro, ac a lanwodd yr holl dy lle yr oeddynt yn eistedd. Ac ymddangosodd iddynt dafodau rhanedig, megys o dân, ac a eisteddodd ar bob un o honynt. A hwy oll a lanwyd â'r Yspryd Glân, ac a ddechreuasant lefaru a thafodau eraill, fel yr oedd yr Yspryd yn rhoddi iddynt ddawn llafar. Ac yr oedd yn trigo yn Jerusalem Iuddewon, gwyr duwiol‐frydig, o bob cenedl sydd dan y Nef. A phan ddygwyddodd y llais hwn, y lliaws a ddaethant ynghyd ac a ddyryswyd, o herwydd bod pob un yn eu clywed yn llefaru yn ei briod‐iaith ei hun. A synasant oll, a rhyfeddasant, gan ddywedyd, Wele, onid yw yr holl rai hyn sydd yn llefaru yn Galileaid? A pha fodd yr ydym yn clywed, pob un yn ein priod‐iaith ein hunain, yn yr hon y'n ganed? Parthiaid a Mediaid ac Elamitiaid, a'r rhai yn trigo yn Mesopotamia, yn Judea, a Cappadocia, yn Pontus ac Asia, yn Phrygia a Pamphylia, yn yr Aipht a pharthau Lybia sydd tua Cyrene; a'r dyeithriaid o Rufain, — yn Iuddewon a Phroselytiaid — Cretiaid ac Arabiaid, yr ydym yn eu clywed yn llefaru yn ein hieithoedd ein hunain bethau mawrion Duw. A hwy oll a synasant ac a gythryblwyd, gan ddywedyd y naill wrth y llall, Beth a fyn hyn fod? Eithr eraill, gan gellwair a ddywedasant, Gorlawn o win newydd ydynt. Eithr Petr, gan sefyll i fyny gyda'r un‐ar‐ddeg, a gododd ei lais, ac a lefarodd yn rymus wrthynt, O wyr o Iuddewon, a phawb sydd yn trigo yn Jerusalem, bydded hyn yn hyspys i chwi, a rhoddwch glust i'm geiriau. Canys nid yw y rhai hyn yn feddw, fel yr ydych chwi yn tybied; oblegyd y drydedd awr o'r dydd yw hi. Eithr hyn yw yr hyn a lefarwyd trwy y Prophwyd Joel: A bydd yn y dyddiau diweddaf, medd Duw, Y tywalltaf o'm Hyspryd ar bob cnawd, A prophwyda eich meibion a'ch merched, A'ch gwyr ieuainc a welant weledigaethau, A'ch henaf‐gwyr a freuddwydiant freuddwydion: Ac, yn wir, ar fy ngweision ac ar fy llaw‐forwynion yn y dyddiau hyny y tywalltaf o'm Hyspryd, ac y prophwydant. A rhoddaf ryfeddodau yn y nef uchod, Ac arwyddion ar y ddaear isod: Gwaed, a thân, a tharth mwg: Yr haul a droïr yn dywyllwch, a'r lleuad yn waed, Cyn dyfod Dydd Mawr a nodedig yr Arglwydd. A bydd, pwy bynag a alwo ar enw yr Arglwydd, a fydd gadwedig. O wyr Israel, clywch y geiriau hyn: Iesu y Nazaread, gwr wedi ei gymeradwyo o Dduw i chwi trwy nerthoedd a rhyfeddodau ac arwyddion, y rhai a wnaeth Duw trwyddo Ef yn eich canol chwi, megys y gwyddoch chwi: Hwn, wedi ei roddi i fyny trwy benderfynedig gynghor a rhagwybodaeth Duw, chwi, gan ei groeshoelio trwy law rhai di‐ddeddf, a laddasoch: Hwn a gyfododd Duw, gan ryddhau dirboenau angeu, canys nid oedd bosibl ei ddal yn dyn ganddo. Canys Dafydd sydd yn dywedyd am dano, Gwelais o fy mlaen yr Arglwydd ger fy mron yn wastadol; Canys ar fy neheulaw y mae, fel na'm syfler. Am hyny y llawenychodd fy nghalon, ac y gorfoleddodd fy nhafod; Yn mhellach, fy nghnawd hefyd a driga mewn gobaith; O herwydd na adewi fy enaid i Hades, Ac na oddefi i'th Sanct weled llygredigaeth. Gwnaethost yn hyspys i mi ffyrdd bywyd; Llenwi fi â llawenydd â'th wynebpryd. O wyr Frodyr, gadewer i mi ddywedyd yn hyf wrthych ynghylch y Patriarch Dafydd, ei farw ef a'i gladdu, ac y mae ei feddrod ef gyda ni hyd y dydd hwn. Am hyny ac efe yn brophwyd, ac yn gwybod dyngu o Dduw iddo trwy lw, mai o ffrwyth ei lwynau ef y gosodai Efe un ar ei orsedd; efe, gan rag‐weled, a lefarodd am Adgyfodiad y Crist, na adawyd Ef i Hades, ac nas gwelodd ei gnawd ef lygredigaeth. Yr Iesu hwn a adgyfododd Duw, o'r hyn yr ydym ni oll yn dystion. Gan hyny, wedi ei ddyrchafu trwy ddeheulaw Duw, ac wedi derbyn o hono gan y Tad yr addewid o'r Yspryd Glân, efe a dywalltodd y peth yma yr ydych chwi yn ei weled ac yn ei glywed. Oblegyd nid Dafydd a esgynodd i'r nefoedd, eithr efe ei hun a ddywed, Dywedodd yr ARGLWYDD wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy Neheulaw, Hyd oni osodwyf dy elynion yn droed‐fainc i'th draed. Am hyny, gwybydded holl dy Israel yn sicr ddarfod i Dduw ei wneuthur ef yn Arglwydd ac yn Grist, sef yr Iesu hwn, yr hwn a groeshoeliasoch chwi. A hwythau, wrth glywed hyn, a ddwys‐bigwyd yn eu calon; ac a ddywedasant wrth Petr a'r Apostolion eraill, Beth a wnawn ni, O Wyr Frodyr? A Phetr a ddywedodd wrthynt, Edifarhêwch, a bedyddier pob un o honoch yn enw Iesu Grist er maddeuant eich pechodau; a chwi a dderbyniwch rodd yr Yspryd Glân. Canys i chwi y mae yr Addewid, ac i'ch plant, ac i bawb sydd yn mhell, cynifer ag a alwo yr Arglwydd ein Duw ni ato. Ac â llawer o ymadroddion eraill y gorchymynodd efe yn ddifrifol ac y cynghorodd hwynt, gan ddywedyd, Achuber chwi rhag y genedlaeth wyrgam hon. Gan hyny yn wir y rhai a dderbyniasant ei ymadrodd ef a fedyddiwyd, ac ychwanegwyd yn y dydd hwnw ynghylch tair mil o eneidiau. Ac yr oeddynt yn glynu yn nysgeidiaeth yr Apostolion, yn y Gymdeithas, yn Nhoriad y Bara, ac yn y Gweddïau. Ac yr oedd ofn ar bob enaid, a llawer o ryfeddodau ac arwyddion a wnaethpwyd trwy yr Apostolion. A'r oll o'r rhai a gredent oeddynt yn yr un lle, ac yr oedd ganddynt bob peth yn gyffredin; ac yr oeddynt yn gwerthu eu meddiannau tirol a'u da, ac yn eu rhanu hwynt i bawb, fel yr oedd unrhyw un mewn eisieu. Ac yn ddyddiol yr oeddynt yn glynu o un meddwl, yn y Deml, ac yn tori bara gartref, gan gymeryd eu lluniaeth mewn gorfoledd a symledd calon, gan foli Duw a chael ffafr gyda'r holl bobl. A'r Arglwydd oedd yn ychwanegu at eu gilydd yn ddyddiol y rhai oeddynt yn cael eu hachub. A Phetr ac Ioan oeddynt yn myned i fyny i'r Deml ar yr Awr Weddi, y nawfed. A rhyw wr yr hwn oedd gloff o groth ei fam oedd yn cael ei ddwyn, yr hwn a arferent osod bob dydd wrth Borth y Deml, yr hwn a gyfenwid, Prydferth, i ofyn elusen gan y rhai oeddynt yn myned i mewn i'r Deml; yr hwn, pan welodd Petr ac Ioan ar fedr myned i mewn i'r Deml, a ofynodd gael elusen. A Phetr gan edrych yn graff arno, gydag Ioan, a ddywedodd, Edrych arnom ni. Ac efe a ddaliodd arnynt, gan ddisgwyl cael rhywbeth ganddynt. A dywedodd Petr, Arian ac aur nid oes i mi, eithr yr hyn sydd genyf, hyn yr wyf yn ei roddi i ti: yn enw Iesu Grist y Nazaread, rhodia. Ac wedi cymeryd gafael ynddo gerfydd ei ddeheulaw, efe a'i cyfododd: ac yn y man ei draed ef a'i fferau a gryfhawyd. A chan neidio i fyny, efe a safodd ac a rodiodd o ddeutu; ac a aeth gyda hwynt i'r Deml, yn rhodio o ddeutu, a neidio, a moli Duw. A'r holl bobl a'i gwelsant ef yn rhodio o ddeutu ac yn moli Duw: ac yr oeddent hwy yn ei adnabod ef, mai efe oedd yr hwn oedd yn eistedd am elusen wrth y Prydferth, Porth y Deml; a hwy a lanwyd â syfrdandod a syndod am yr hyn oedd wedi dygwydd iddo. Ac efe yn dal ei afael ar Petr ac Ioan, yr holl bobl a gyd‐redasant atynt i'r Cyntedd a elwir Cyntedd Solomon, wedi eu syfrdanu. A Phetr yn gweled hyn, a atebodd i'r bobl, O wyr o Israeliaid, paham y rhyfeddwch at y dyn hwn? neu paham yr edrychwch yn graff arnom ni, fel pe trwy ein gallu neu ein duwioldeb ein hunain yr ydym wedi gwneyd i hwn i rodio? Duw Abraham, ac Isaac, a Jacob, Duw ein Tadau, a ogoneddodd ei Was Iesu, yr hwn yn wir a draddodasoch chwi, ac a'i gwadasoch i wyneb Pilat, ac efe wedi barnu ei ollwng yn rhydd. Eithr chwi a wadasoch y Sanct a'r Cyfiawn, ac a ddeisyfiasoch roddi i chwi wr oedd lofrudd, ac Awdwr y Bywyd a laddasoch; yr hwn a gyfododd Duw o feirw; o'r hyn yr ydym ni yn dystion. Ac ar sail y ffydd yn ei Enw ef y gwnaeth ei Enw y dyn yma yn gryf, yr hwn yr ydych yn ei weled ac yn ei adnabod: a'r ffydd sydd trwyddo ef a roddodd iddo yr iechyd perffaith hwn yn eich gwydd chwi oll. Ac yn awr, frodyr, mi a wn mai yn ol eich anwybodaeth y gweithredasoch, yr un modd hefyd eich penaethiaid. Eithr y pethau a rag‐fynegodd Duw trwy enau ei holl brophwydi, y dyoddefai ei Grist ef, a gyflawnodd efe fel hyn. Edifarhewch gan hyny a thröwch, fel y dilëer eich pechodau, fel y delo y tymhorau o adloniant o wyneb yr Arglwydd; ac yr anfono efe y Crist, yr hwn sydd wedi ei benodi i chwi, sef Iesu: yr hwn sydd raid i'r Nef ei dderbyn hyd amseroedd adferiad yr holl bethau y llefarodd Duw am danynt trwy enau ei brophwydi sanctaidd erioed. Canys Moses a ddywedodd, Yr Arglwydd Dduw a gyfyd i chwi brophwyd o blith eich brodyr, fel myfi; arno ef y gwrandewch yn yr holl bethau a lefaro wrthych. A bydd, pob enaid ni wrandawo ar y Prophwyd hwnw, a lwyr‐ddyfethir o blith y bobl. Ac hefyd yr holl brophwydi o Samuel a'r rhai dylynol, cynifer ag a lefarasant a fynegasant hefyd am y dyddiau hyn. Chwychwi ydych feibion y prophwydi, ac o'r Cyfamod a wnaeth Duw a'ch Tadau, gan ddywedyd wrth Abraham, Ac yn dy had di y bendithir holl deuluoedd y ddaear. I chwi yn gyntaf Duw, wedi iddo gyfodi ei Was, a'i hanfonodd ef i'ch bendithio chwi, mewn troi pob un o honoch oddiwrth eich anwireddau. A hwy yn llefaru wrth y bobl, yr offeiriaid a Chadben y Deml, a'r Saduceaid, a ddaethant arnynt hwy, yn flin iawn ganddynt am eu bod hwy yn dysgu y bobl, ac yn cyhoeddi yn yr Iesu yr Adgyfodiad sydd oddiwrth y meirw. A hwy a osodasant ddwylaw arnynt, ac a'u dodasant mewn dalfa erbyn trannoeth: canys yr oedd hi weithian yn hwyr. Ond llawer o'r rhai a glywsant y Gair a gredasant; a rhifedi y gwyr a gyrhaeddodd ynghylch pum mil. A dygwyddodd drannoeth i'w Llywodraethwyr a'r Henuriaid a'u Hysgrifenyddion hwy ymgynull yn Jerusalem; ac yr oedd Annas yr Arch‐offeiriad yno, a Chaiaphas, ac Ioan, ac Alexander, a chynifer ag oedd o'r tylwyth Arch‐offeiriadol. Ac wedi iddynt eu gosod hwy yn y canol, hwy a holasant, Yn mha allu neu yn mha enw y gwnaethoch chwi hyn. Yna Petr, wedi ei lenwi â'r Yspryd Glân, a ddywedodd wrthynt, Llywodraethwyr y bobl, a Henuriaid, os holir ni heddyw am weithred dda i ddyn eiddil, trwy ba foddion y mae hwn wedi ei iachau; bydded hyspys i chwi oll, ac i holl bobl Israel, mai yn enw Iesu Grist y Nazaread, yr hwn a groeshoeliasoch chwi, yr hwn a gyfododd Duw o feirw, yn Hwn y mae hwn yn sefyll yn eich gwydd chwi yn iach. Hwn yw y maen a ddiystyrwyd genych chwi, yr adeiladwyr, wedi ei wneuthur yn ben y gongl. Ac nid oes yn neb arall iachawdwriaeth: canys hefyd nid oes enw arall dan y nef, wedi ei roddi yn mhlith dynion, yn yr hwn y mae yn rhaid i ni fod yn gadwedig. A hwy yn gweled hyfder Petr ac Ioan, ac wedi dal sylw mai dynion anllythyrenog a chyffredin oeddynt, a ryfeddasant; a daethant i wybod iddynt fod gyda'r Iesu. Ac wrth weled y dyn oedd wedi ei iachâu yn sefyll gyda hwynt, nid oedd ganddynt ddim i wrth‐ddywedyd. Eithr wedi gorchymyn iddynt fyned ymaith allan o'r Sanhedrin, hwy a gyd‐ymgynghorasant a'u gilydd, gan ddywedyd, Beth fedrwn ni wneyd i'r dynion hyn? Canys yn wir arwydd adnabyddus sydd wedi ei wneuthur trwyddynt hwy, amlwg i bawb a'r sydd yn preswylio yn Jerusalem; ac nis gallwn ei wadu. Eithr fel na ledaener y peth yn mhellach yn mhlith y bobl, bygythiwn hwy, na lefaront mwyach wrth un dyn yn yr enw hwn. Ac wedi eu galw hwynt, gorchymynasant na thraethent ac na ddysgent ddim o gwbl yn enw yr Iesu. Eithr Petr ac Ioan, gan ateb iddynt, a ddywedasant, Ai cyfiawn ydyw, yn mhresenoldeb Duw, i wrandaw arnoch chwi yn hytrach nag ar Dduw, bernwch: canys ni allwn ni beidio a llefaru y pethau a welsom ac a glywsom. Eithr hwy, wedi eu bygwth yn mhellach a'u gollyngasant hwy yn rhyddion, heb gael allan pa fodd y cospent hwynt, o achos y bobl: canys yr oedd pawb yn gogoneddu Duw am yr hyn oedd wedi ei wneuthur. Canys mwy na deugain oed oedd y dyn ar yr hwn y gwnaethpwyd yr arwydd hwn o iachâd. A hwy, wedi eu gollwng yn rhyddion, a aethant at yr eiddynt, ac a fynegasant pa pethau bynag a ddywedodd yr Arch‐offeiriaid a'r Henuriaid wrthynt. A hwy, pan glywsant, yn unfryd a godasant eu llais at Dduw, ac a ddywedasant, O Arglwydd, Tydi, yr hwn a wnaethost y nef a'r ddaear a'r môr, a'r oll sydd ynddynt: yr hwn, trwy yr Yspryd Glân, trwy enau ein Tâd Dafydd, dy was, a ddywedaist, Paham y ffromodd cenhedloedd, Ac y dyfeisiodd pobloedd bethau ofer? Brenhinoedd y ddaear a safasant yn ymyl, A'r Llywodraethwyr a gasglwyd i'r un lle Yn erbyn yr Arglwydd, ac yn erbyn ei Grist ef. Canys casglwyd ynghyd, mewn gwirionedd, yn y Ddinas hon, yn erbyn dy sanctaidd Was Iesu, yr hwn a eneiniaist, Herod a Phontius Pilat, gyda Chenhedloedd a phobloedd Israel, i wneuthur pa pethau bynag a rag‐ordeiniodd dy law a'th gynghor i ddyfod i i ben. Ac yn awr, Arglwydd, edrych ar eu bygythion hwy, a dyro i'th weision lefaru dy Air di gyda phob hyfder, tra yr estyni di dy law er iachâd, ac y gwneler arwyddion a rhyfeddodau trwy enw dy sanctaidd Was Iesu. Ac wedi iddynt weddio, siglwyd y lle yn yr hwn yr oeddynt wedi ymgynull, a hwy a lanwyd oll o'r Yspryd Glân, a llefarasant Air Duw gyda hyfder. A'r lliaws o'r rhai a gredasant oeddynt o un galon ac enaid: ac nid oedd hyd y nod un a ddywedai fod dim o'i feddianau yn eiddo iddo ei hun; eithr yr oedd pob peth yn gyffredin ganddynt. A chyda gallu mawr yr oedd yr Apostolion yn rhoddi eu tystiolaeth o Adgyfodiad yr Arglwydd Iesu: a gras mawr oedd arnynt hwy oll. Canys nid oedd chwaith un anghenus yn eu plith hwy; oblegyd cynifer ag oedd berchenogion tiroedd neu dai a'u gwerthasent, ac a ddygasent werth y pethau a werthasid, ac a'u gosodasent wrth draed yr Apostolion, a chyfrenid i bob un megys yr oedd anghen arno. A Joseph, yr hwn a gyfenwid Barnabas gan yr Apostolion (yr hyn o'i gyfieithu yw, Mab Cynghor), Lefiad, genedigol o Cyprus, a maes ganddo, ac wedi ei werthu, efe a ddygodd y swm o arian, ac a'i gosododd wrth draed yr Apostolion. Eithr rhyw wr a'i enw Ananias, gyda Sapphira ei wraig, a werthodd feddiant, ac a ddarn‐guddiodd beth o'r gwerth, a'i wraig hefyd yn y gyfrinach, ac a ddyg ryw gyfran, ac a'i gosododd wrth draed yr Apostolion. Eithr Petr a ddywedodd, Ananias, paham y llanwodd Satan dy galon di i dwyllo yr Yspryd Glân, ac i ddarn‐guddio peth o werth y tir? Tra yn aros, onid i ti yr oedd yn aros? ac wedi ei werthu, onid oedd dan dy awdurdod di? paham y gosodaist y mater hwn yn dy galon? ni ddywedaist gelwydd wrth ddynion ond wrth Dduw. Ac Ananias, wedi clywed y geiriau hyn a syrthiodd i lawr ac a drengodd. A daeth ofn mawr ar bawb a glywsant. A'r gwyr ieuengaf a gyfodasant ac a'i hamdoasant ef, ac a'i dygasant allan, ac a'i claddasant ef. A bu megys yspaid tair awr, a'i wraig, heb wybod yr hyn oedd wedi dygwydd, a ddaeth i mewn. A Phetr a atebodd iddi, Dywed i mi, ai er cymaint y gwerthasoch chwi y tir? A hi a ddywedodd, Ië, er cymaint. A Phetr a ddywedodd wrthi, Paham y cytunwyd genych i demtio Yspryd yr Arglwydd? Wele, traed y rhai a gladdasant dy wr di ydynt wrth y drws, a hwy a'th ddygant dithau allan. Ac yn y man hi a syrthiodd i lawr wrth ei draed ef, ac a drengodd. Ac wedi dyfod i mewn, y gwyr ieuainc a'i cawsant hi yn farw, ac wedi iddynt ei dwyn hi allan, hwy a' i claddasant yn ymyl ei gwr. A daeth ofn mawr ar yr holl Eglwys, ac ar bawb a glybu y pethau hyn. A thrwy ddwylaw yr Apostolion y gwnaed arwyddion a rhyfeddodau lawer yn mhlith y bobl, ac yr oeddent oll o un fryd yn Nghyntedd Solomon. Eithr ni feiddiai neb o'r gweddill lynu wrthynt: ond y bobl oedd yn eu mawrhau, ac ychwanegwyd credinwyr yn fwy at yr Arglwydd, lliaws o wyr a gwragedd hefyd; hyd oni ddygent y cleifion hyd y nod i'r prif‐heolydd, a'u gosod ar welyau a glythau, fel, pan ddelai Petr heibio, y byddai o leiaf i'w gysgod gysgodi rhyw un o honynt. A deuai ynghyd hefyd y lliaws o'r dinasoedd o amgylch Jerusalem, gan ddwyn rhai cleifion, a'r rhai a drallodid gan ysprydion aflan, y rhai a iachawyd oll. Eithr yr Arch‐offeiriad a gyfododd, a'r holl rai oedd gydag ef (yr hon yw sect y Saduceaid), ac a lanwyd o genfigen, ac a osodasant ddwylaw ar yr Apostolion ac a'i rhoisant yn y carchar cyhoeddus. Ond angel yr Arglwydd o hyd nos a agorodd ddrysau y carchar, ac a'i dyg hwynt allan, ac a ddywedodd, Ewch, a sefwch a lleferwch yn y Deml wrth y bobl holl eiriau y Bywyd hwn. A phan glywsant hyn, hwy a aethant gyda'r wawr i'r Deml, ac a ddysgasant. Eithr yr Archoffeiriad wedi cyrhaedd, a'r rhai oedd gydag ef, a alwasant ynghyd y Sanhedrin, a holl Senedd plant Israel, ac a ddanfonasant i'r carchardy, i'w dwyn hwy ger bron. Ond pan gyrhaeddodd yr is‐swyddogion, ni chawsant hwynt yn y carchar; eithr wedi dychwelyd hwy a fynegasant, gan ddywedyd, Ni a gawsom y carchar wedi ei gau gyda phob dyogelwch, a'r ceidwaid yn sefyll wrth y drysau: eithr pan agorasom, ni chawsom neb i mewn. A phan glybu cadben y Deml a'r Arch‐offeiriaid y geiriau hyn yr oeddent mewn dyryswch yn eu cylch, i ba beth y deuai hyn. Ac fe ddaeth rhyw un, ac a fynegodd iddynt, Wele, y gwyr a ddodasoch chwi yn y carchar, y maent yn y Deml, yn sefyll ac yn dysgu y bobl. Yna y Cadben, gyda'r is‐swyddogion, a aeth ymaith, ac a'u dyg hwy, nid gyda thrais, canys yr oeddent yn ofni y bobl, rhag eu llabyddio. Ac wedi eu dwyn, hwy a'u gosodasant o flaen y Sanhedrin. A'r Arch‐offeiriad a ofynodd iddynt, gan ddywedyd, Gorchymynasom i chwi yn bendant na ddysgech yn yr enw hwn: ac wele, yr ydych wedi llanw Jerusalem â'ch dysgeidiaeth, ac yr ydych yn amcanu dwyn gwaed y dyn hwn arnom ni. Eithr Petr a'r Apostolion gan ateb a ddywedasant, Rhaid ufuddhau i Dduw yn hytrach nag i ddynion. Duw ein tadau ni a gyfododd i fyny Iesu, yr hwn a laddasoch â'ch dwylaw eich hunain, gan ei grogi ar bren. Hwn a ddyrchafodd Duw â'i ddeheulaw yn Dywysog ac Iachawdwr, i roddi edifeirwch i Israel a maddeuant pechodau. Ac yr ydym ni yn dystion o'r pethau hyn, a'r Yspryd Glân, yr hwn a roddes Duw i'r rhai sydd yn ufuddhau iddo. Eithr hwy, wedi clywed hyn, a dorwyd i'r byw, ac a ddymunent eu lladd hwynt. Eithr safodd i fyny yn y Sanhedrin ryw Pharisead, o'r enw Gamaliel, Dysgawdwr y Gyfraith, parchedig gan yr holl bobl, ac a archodd osod y dynion allan am enyd fechan; ac a ddywedodd wrthynt, Chwi wyr o Israel, edrychwch arnoch chwi eich hunain mewn perthynas i'r dynion hyn, pa beth yr ydych ar fedr ei wneuthur. Canys o flaen y dyddiau hyn cyfododd Theudas i fyny, gan ddywedyd ei fod ef yn rhyw un, â'r hwn yr ymunodd rhifedi o wyr, tua phedwar cant: yr hwn a laddwyd, a chynifer oll ag a ufuddhasant iddo a wasgarwyd, ac a aethant i'r dim. Ar ol hyn y cyfododd Judas y Galilead yn nyddiau y Cofrestriad, ac a drodd bobl ar ei ol: yntau hefyd a ddarfu am dano, a chynifer oll ag a ufuddhasant iddo a chwalwyd. Ac yn awr dywedaf wrthych, Sefwch draw oddiwrth y dynion hyn, a gadewch iddynt: canys os yw y cynghor hwn neu y weithred hon o ddynion, dymchwelir hwynt: ond os o Dduw y mae, ni fyddwch alluog i'w dymchwelyd; rhag eich cael hefyd yn ymladd yn erbyn Duw. A hwy a wrandawsant arno; ac wedi galw yr Apostolion atynt, a'u curo, hwy a orchymynasant iddynt na lefarent yn enw yr Iesu, ac a'u gollyngasant ymaith. Hwythau yn wir gan hyny a aethant o wydd y Sanhedrin, gan lawenychu am gael eu cyfrif yn deilwng i ddyoddef anmharch ar ran yr Enw. A phob dydd, yn y Deml a chartref, ni pheidiasant a dysgu a phregethu Iesu fel y Crist. Ac yn y dyddiau hyn, a'r dysgyblion yn amlhau, bu grwgnach gan yr Iuddewon Groegaidd yn erbyn yr Hebreaid, oblegyd fod eu gwragedd gweddwon yn cael eu hesgeuluso yn y gweinyddiad dyddiol. A'r Deuddeg, wedi galw y lliaws dysgyblion atynt, a ddywedasant, Nid yw yn ddymunol i ni i roddi gair Duw i fyny á gwasanaethu byrddau. Ond edrychwch allan, frodyr, am saith o wyr o'ch plith eich hunain, i'r rhai y dygir tystiolaeth dda, llawn o'r Yspryd a doethineb, y rhai a osodom ni ar y gorchwyl hyn. Eithr nyni a ddyfalbarhawn yn y Weddi ac yn ngweinidogaeth y Gair. A'r ymadrodd oedd ddymunol yn ngolwg yr holl liaws: a hwy a etholasant Stephan, gwr llawn o ffydd ac o'r Yspryd Glân, a Philip, a Prochorus, a Nicanor, a Timon, a Parmenas, a Nicolas, proselyt o Antiochia: y rhai a osodasant hwy gerbron yr Apostolion: ac wedi iddynt weddïo hwy a ddodasant eu dwylaw arnynt. A Gair Duw oedd yn cynyddu, ac yr oedd rhifedi y dysgyblion yn Jerusalem yn amlhau yn ddirfawr; hefyd tyrfa fawr o'r offeiriaid oeddent yn ufuddhau i'r ffydd. A Stephan, yn llawn o ras a gallu, oedd yn gwneuthur rhyfeddodau ac arwyddion mawrion yn mhlith y bobl. Ond cyfododd rhai o'r Synagog a elwir eiddo'r Libertiniaid, a'r Cyreniaid, a'r Alexandriaid, a'r rhai o Cilicia ac Asia, gan ymddadleu â Stephan. Ac nid oeddent hwy yn alluog i wrth‐sefyll y doethineb a'r Yspryd trwy yr Hwn y llefarai. Yna yn ddirgelaidd y cymhellasant ddynion, y rhai a ddywedasant, Nyni ydym wedi ei glywed ef yn dywedyd pethau cableddus mewn perthynas i Moses a Duw. Hefyd, hwy a gynhyrfasant y bobl a'r Henuriaid a'r Ysgrifenyddion, a chan ddyfod arno, hwy a'i cipiasant ef gyda hwynt, ac a'i dygasant i'r Sanhedrin; hefyd gosodasant dystion gau, y rhai a ddywedasant, Nid yw y dyn hwn yn peidio a dywedyd pethau yn erbyn y lle Sanctaidd, a'r Gyfraith. Oblegyd yr ydym wedi ei glywed ef yn dywedyd y dystrywiai yr Iesu, y Nazaread hwn, y lle hwn, ac y cyfnewidiai y defodau a draddododd Moses i ni. A phawb oedd yn eistedd yn y Sanhedrin, gan edrych yn graff arno, a welent ei wyneb ef fel gwyneb angel. A dywedodd yr Arch‐offeiriad, A ydyw y pethau hyn felly? Ac efe a ddywedodd, O Wyr Frodyr a Thadau, gwrandewch. Duw y Gogoniant a ymddangosodd i'n Tad Abraham pan yn Mesopotamia, cyn iddo drigo yn Haran, ac a ddywedodd wrtho, Dos allan o'th wlad, ac oddiwrth dy dylwyth, a dos ymaith i wlad a ddangoswyf i ti. Yna y daeth efe allan o wlad y Caldeaid, ac a breswyliodd yn Haran: ac oddi yno, wedi marw ei dad, perodd Duw iddo ymfudo i'r wlad hon, yn yr hon yr ydych chwi yn awr yn trigo: ac ni roes iddo etifeddiaeth ynddi, naddo, led troed: ac efe a addawodd ei rhoddi iddo i'w meddianu, ac i'w Hâd ar ei ol, pan nad oedd plentyn iddo. A llefarodd Duw fel hyn: Y byddai ei Had ef yn ymdeithydd mewn gwlad ddyeithr, a hwy a'i caethiwant ef, ac a'i drygant bedwar can mlynedd. A'r genedl i'r hon y byddant gaeth‐weision, a farnaf Fi, medd Duw: ac wedi y pethau hyn y deuant allan, ac a'm gwasanaethant I yn y lle hwn. Ac efe a roddodd iddo Gyfamod yr Enwaediad: ac felly efe a genedlodd Isaac, ac a enwaedodd arno yr wythfed dydd; ac Isaac, Jacob; a Jacob y Deuddeg Patriarch. A'r Patriarchiaid gan genfigenu wrth Joseph, a'i gwerthasant i'r Aipht: a Duw oedd gydag ef, ac a'i dygodd allan o'i holl orthrymderau, ac a roddodd iddo ffafr a doethineb yn ngolwg Pharaoh, brenhin yr Aipht: ac efe a'i gosododd ef yn llywodraethwr ar yr Aipht, ac ar ei holl dy. A daeth newyn dros yr holl Aipht a Chanaan, a gorthrymder mawr: a'n Tadau ni chawsant luniaeth. Ond pan glybu Jacob fod yd i'w gael yno, efe a anfonodd allan ein Tadau i'r Aipht y waith gyntaf. A'r ail waith y gwnaed Joseph yn adnabyddus i'w frodyr: a theulu Joseph a wnaed yn hyspys i Pharaoh. A Joseph a anfonodd, ac a gyrchodd Jacob ei dad, a'i holl dylwyth, yn bymtheg enaid a thri ugain. A Jacob a aeth i waered i'r Aipht, ac a fu farw, efe, a'n Tadau, a hwy a ddygwyd trosodd i Sichem, ac a ddodwyd yn y bedd a brynasai Abraham er gwerth arian oddiwrth feibion Hamor yn Sichem. Ond fel yr oedd amser yr addewid yn agoshau, yr hon a addawodd Duw i Abraham, y bobl a gynyddodd ac a amlhaodd yn yr Aipht, hyd nes y cyfododd brenhin gwahanol ar yr Aipht, yr hwn nid adnabu Joseph. Yr hwn, gan ymddwyn yn ddichellgar at ein cenedl ni, a ddrwg‐driniodd ein Tadau, fel i achosi i'w babanod gael eu bwrw allan fel na chedwid hwy yn fyw. Yn y tymhor hwn y ganwyd Moses, ac efe oedd dlws ddigymhar; ac efe a fagwyd dri mis yn nhy ei dad. Ac wedi ei fwrw ef allan, merch Pharaoh a'i cymerodd ef i fyny, ac a'i magodd ef yn fab iddi ei hun. A Moses a addysgwyd yn holl ddoethineb yr Aiphtiaid; ac yr oedd efe yn alluog yn ei eiriau a'i weithredoedd. A phan yr oedd efe ar gyrhaedd ei ddeugeinfed flwyddyn, daeth i'w galon ef i ymweled a'i frodyr ef, meibion Israel. Ac yn gweled un yn cael cam, efe a amddiffynodd ac a ddialodd gam yr hwn a orthrymid, gan daro yr Aiphtiwr. Ac yr oedd efe yn tybied fod ei frodyr yn deall fod Duw trwy ei law ef yn rhoddi iddynt ymwared; ond hwy ni ddeallasant. A'r dydd canlynol yr ymddangosodd efe iddynt a hwy yn ymrafaelio, ac a ymdrechodd eu cymodi mewn heddwch, gan ddywedyd, O wyr, brodyr ydych: paham y gwnewch gam â'ch gilydd? Ond yr hwn oedd yn gwneuthur cam a'i gymydog a'i gwthiodd ef ymaith, gan ddywedyd, Pwy a'th osododd di yn llywodraethwr ac yn farnwr arnom ni? A fyni di fy lladd i, y modd y lleddaist yr Aiphtiwr ddoe? A Moses a ffôdd ar y gair hwn, ac a fu ymdeithydd yn ngwlad Midian, lle y cenedlodd ddau o feibion. Ac wedi cyflawni deugain mlynedd, Angel a ymddangosodd iddo yn Anialwch Mynydd Sinai mewn fflam dân mewn perth. A Moses, pan welodd, a ryfeddodd at y weledigaeth: ac efe yn neshâu i sylwi yn fanwl, daeth llais yr Arglwydd, Myfi yw Duw dy Dadau, Duw Abraham ac Isaac a Jacob. A Moses wedi myned yn ddychrynedig, ni feiddiodd sylwi yn fanwl. A'r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Datod sandalau dy draed: canys y lle yr wyt yn sefyll arno sydd dir sanctaidd. Gan weled y gwelais ddrwg‐driniaeth fy mhobl sydd yn yr Aipht, a mi a glywais eu griddfan, ac a ddisgynais i'w gwaredu. Ac yn awr tyred, mi a'th anfonaf di i'r Aipht. Y Moses hwn yr hwn a wadasant, gan ddywedyd, Pwy a'th osododd di yn Llywodraethwr a Barnwr? hwn y mae Duw wedi ei anfon yn Llywodraethwr ac yn Waredwr gyda llaw yr Angel a ymddangosodd iddo yn y Berth. Hwn a'u harweiniodd hwynt allan, gan wneuthur rhyfeddodau ac arwyddion yn yr Aipht, ac yn y Môr Coch, ac yn yr Anialwch ddeugain mlynedd. Hwn yw y Moses a ddywedodd wrth feibion Israel, Prophwyd a gyfyd Duw i chwi o'ch brodyr, fel myfi. Hwn yw efe a fu yn yr Eglwys yn yr Anialwch gyda yr Angel a ymddiddanodd ag ef yn Mynydd Sinai a chyda ein Tadau; yr hwn a dderbyniodd oraclau bywiol i'w rhoddi i ni: i'r hwn nid ewyllysiai ein Tadau fod yn ufudd, eithr gwthiasant ef ymaith, a throisant yn ol yn eu calonau i'r Aipht, gan ddywedyd wrth Aaron, Gwna i ni dduwiau y rhai a ant o'n blaen: canys y Moses hwn, yr hwn a'n harweiniodd ni allan o wlad yr Aipht, ni wyddom ni beth a ddygwyddodd iddo. A hwy a wnaethant lo yn y dyddiau hyny, ac a ddygasant aberth i'r eilun, a llawenychasant yn ngweithredoedd eu dwylaw. A Duw a drôdd, ac a'u rhoddodd hwy i fyny i wasanaethu llu y nef, megys y mae yn ysgrifenedig yn Llyfr y Prophwydi, A offrymasoch i mi anifeiliaid lladdedig ac aberthau Ddeugain mlynedd yn yr Anialwch, O Dy Israel? A chymerasoch i fyny Dabernacl Moloch, A Seren y duw Rephan, Y lluniau a wnaethoch, i'w haddoli hwynt: A mi a'ch caeth‐gludaf chwi tu hwnt i Babylon. Tabernacl y Dystiolaeth oedd gan ein Tadau yn yr Anialwch, fel y trefnodd yr hwn a ddywedai wrth Moses i'w wneuthur yn ol y portreiad a welsai. Yr hwn hefyd a ddarfu i'n Tadau ni, wedi ei dderbyn yn olynol, ddwyn i mewn gyda Josua, pan yn cymeryd meddiant o diriogaeth y Cenhedloedd, y rhai a yrodd Duw allan o flaen gwyneb ein Tadau, hyd ddyddiau Dafydd; yr hwn a gafodd ffafr gerbron Duw, ac a ofynodd am gael trigfa i Dduw Jacob. Ond Solomon a adeiladodd iddo Dy. Ond nid yw y Goruchaf yn preswylio mewn tai o waith dwylaw: fel y mae y Prophwyd yn dywedyd, Y Nef yw fy Ngorsedd, A'r Ddaear yw Troedfainc fy nhraed: Pa fath dy a adeiledwch i mi? medd yr Arglwydd: Neu pa beth yw lle fy Nghorphwysfa i? Onid fy llaw i a wnaeth y pethau hyn oll? O rai gwar‐galed a dienwaededig o galonau a chlustiau, yr ydych chwi yn wastad yn gwrthwynebu yr Yspryd Glân: megys eich Tadau, felly chwithau. Pa un o'r Prophwydi ni ddarfu i'ch Tadau chwi ei erlid? A lladdasant y rhai a ragfynegasant Ddyfodiad yr Un Cyfiawn, i'r hwn y buoch chwi yn fradwyr a llofruddion; y rhai a dderbyniasoch y Gyfraith fel trefniadau angylion, ac nis cadwasoch. Ac wrth glywed y pethau hyn, hwy a dorwyd i'r byw yn eu calonau, ac a ysgyrnygasant ddanedd arno. Ac o hyd yn gyflawn o'r Yspryd Glân, ac yn edrych yn graff i'r Nef, efe a welodd Ogoniant Duw, a'r Iesu yn sefyll ar Ddeheulaw Duw, ac a ddywedodd, Wele, yr wyf yn gweled y Nefoedd wedi eu llawn‐agoryd, a Mab y Dyn yn sefyll ar Ddeheulaw Duw. Ond hwy a waeddasant â llef uchel, ac a gauasant eu clustiau, ac a ruthrasant yn unfryd arno, ac a'i bwriasant ef allan o'r Ddinas, ac a'i llabyddiasant: a'r tystion a ddodasant eu llaes‐wisgoedd uchaf wrth draed dyn ieuanc a elwid Saul. A hwy a labyddiasant Stephan, ac efe yn galw ac yn dywedyd, Arglwydd Iesu, derbyn fy Yspryd. Ac efe a ostyngodd ar ei liniau, ac a lefodd â llef uchel, Arglwydd, na ddod y pechod hwn yn eu herbyn. Ac wedi dywedyd hyn, efe a hunodd. A Saul oedd yn cydsynio i'w ladd ef. A bu y dydd hwnw erlid mawr ar yr Eglwys oedd yn Jerusalem; a phawb a wasgarwyd ar hyd gwledydd Judea a Samaria, oddi gerth yr Apostolion. A gwyr duwiol‐frydig a hebryngasant Stephan i'w fedd, ac a wnaethant alar mawr am dano ef. Eithr Saul oedd yn anrheithio yr Eglwys, gan fyned i mewn i bob ty, a chan lusgo allan wyr a gwragedd, efe a'u traddododd i garchar. Y rhai a wasgarwyd, gan hyny, a dramwyasant, gan bregethu y Gair. A Philip a aeth i waered i Ddinas Samaria, ac a bregethodd iddynt y Crist. A'r tyrfaoedd yn unfryd a dalasant sylw i'r pethau a ddywedid gan Philip, pan yn clywed a gweled yr arwyddion yr oedd efe yn eu gwneuthur. Canys llawer o'r rhai a berchenogid gan ysprydion aflan (y rhai gan waeddu â llef uchel, a ddaethant allan), a llawer o'r rhai oedd wedi eu parlysu, ac o'r cloffion, a iachawyd. Ac yr oedd llawenydd mawr yn y ddinas hono. Eithr rhyw wr o'r enw Simon oedd o'r blaen yn y ddinas yn swyno ac yn synu pobl Samaria, gan ddywedyd ei fod ef ei hun yn rhyw Un Mawr; i'r hwn yr oedd pawb, o fychan hyd fawr, yn talu sylw, gan ddywedyd, Hwn yw Gallu Duw yr hwn a elwir Mawr. A hwy a dalasant sylw iddo, o herwydd ei fod am gryn amser wedi eu synu hwy â'i swynion: ond pan gredasant Philip yn pregethu ynghylch Teyrnas Dduw ac enw Iesu Grist, hwy a fedyddiwyd yn wyr ac yn wragedd. A Simon, yntau hefyd a gredodd, ac, wedi ei fedyddio a ddyfalbarhaodd gyda Philip: ac wrth weled yr arwyddion a'r galluoedd mawrion a wnelid, efe a synodd. A phan glybu yr Apostolion oedd yn Jerusalem fod Samaria wedi derbyn Gair Duw, hwy a anfonasant atynt Petr ac Ioan: y cyfryw rai, wedi dyfod i waered, a weddiasant drostynt, fel y derbynient yr Yspryd Glân: canys hyd yn hyn nid oedd wedi syrthio ar neb o honynt, ond yn unig yr oeddent wedi eu bedyddio i enw yr Arglwydd Iesu. Yna hwy a ddodasant eu dwylaw arnynt, a hwy a dderbyniasant yr Yspryd Glân. A Simon, yn gweled mai trwy osodiad dwylaw yr Apostolion y rhoddid yr Yspryd Glân, a ddygodd arian iddynt, gan ddywedyd, Rhoddwch i minau hefyd yr awdurdod hon, fel ar bwy bynag y gosodwyf ddwylaw, y derbynio yr Yspryd Glân. Eithr Petr a ddywedodd wrtho, Bydded dy arian gyda thydi i ddystryw, am i ti dybied y meddienid Rhodd Duw trwy arian. Nid oes i ti na rhan nac etifeddiaeth yn y mater hwn: canys nid yw dy galon yn uniawn gyda Duw. Edifarhâ gan hyny am dy ddrygioni hwn, a deisyf ar yr Arglwydd, os o bosibl, y maddeuir i ti feddyl‐fryd dy galon. Canys yr wyf yn gweled dy fod yn mustl chwerwder ac yn rhwymyn anghyfiawnder. A Simon a atebodd ac a ddywedodd, Deisyfwch chwi drosof fi ar yr Arglwydd, fel na ddel dim arnaf o'r pethau yr ydych wedi eu dywedyd. Hwythau yn wir gan hyny, wedi iddynt dystiolaethu a llefaru Gair yr Arglwydd, a ddychwelasant i Jerusalem, ac a bregethasant i lawer o bentrefi y Samariaid. Ond angel yr Arglwydd a lefarodd wrth Philip, gan ddywedyd, Cyfod, a dos tua'r Deheu i'r ffordd sydd yn myned i waered o Jerusalem i Gaza: yr hon sydd anial. Ac efe a gyfododd ac a aeth: ac wele gwr o Ethiop, Eunuch, swyddog uchel i Candace, brenhines yr Ethiopiaid, yr hwn oedd ar ei holl drysor hi, oedd wedi dyfod i addoli i Jerusalem; ac yr oedd yn dychwelyd, ac yn eistedd yn ei gerbyd, ac yn darllen yn hyglyw y Prophwyd Esaiah. A dywedodd yr Yspryd wrth Philip, Dos at a glyn wrth y cerbyd hwn. A Philip a redodd ato, ac a'i clywodd ef yn darllen Esaiah y Prophwyd, ac a ddywedodd, A wyt ti o gwbl yn deall y pethau yr wyt yn eu darllen? Ac efe a ddywedodd, Pa fodd y gallaf, oddi eithr i rywun fy nghyfarwyddo i? ac efe a wahoddodd Philip i fyned i fyny ac eistedd gydag ef. A'r adran o'r Ysgrythyr yr oedd yn ei darllen oedd hon: Fel dafad i'r lladdfa yr arweiniwyd ef; Ac fel oen gerbron ei gneifiwr yn fud, Felly nid yw yn agor ei enau: Yn ei Ddarostyngiad ei farn a dynwyd ymaith: Pwy a ddesgrifia ei genedlaeth ef? Canys dygir ymaith oddiar y ddaear ei fywyd ef. A'r Eunuch a atebodd Philip ac a ddywedodd, Atolwg i ti, am bwy y mae y Prophwyd yn dywedyd hyn? am dano ei hun, neu am ryw un arall? A Philip a agorodd ei enau, a chan ddechreu o'r Ysgrythyr hon, efe a bregethodd iddo yr Iesu. Ac fel yr oeddent yn myned ar hyd y ffordd, hwy a ddaethant at ryw ddwfr; a'r Eunuch a ddywed, Wele ddwfr, beth sydd yn lluddias fy medyddio? Ac efe a orchymynodd sefyll o'r cerbyd a hwy a aethant i waered ill dâu i'r dwfr, Philip a'r Eunuch, ac efe a'i bedyddiodd ef. A phan ddaethant i fyny allan o'r dwfr, Yspryd yr Arglwydd a gipiodd Philip ymaith, ac ni welodd yr Eunuch ef mwyach, canys efe a aeth ei ffordd gan lawenychu. A Philip a gaed yn Azotus; a chan fyned trwodd, efe a bregethodd yr Efengyl i'r holl ddinasoedd hyd nes dyfod i Cesarea. A Saul eto yn chwythu bwgwth a lladdfa i Ddysgyblion yr Arglwydd, a aeth at yr Arch‐offeiriad, ac a geisiodd ganddo lythyrau i Damascus, at y Synagogau, fel, os caffai rai oedd o'r Ffordd, yn wyr a gwragedd, y dygai hwynt yn rhwym i Jerusalem. Ac fel yr oedd efe yn ymdaith, darfu iddo neshau i Damascus: ac yn ddisymwth llewyrchodd o'i amgylch oleuni o'r Nef: ac efe a syrthiodd ar y ddaear, ac a glywodd lais yn dywedyd wrtho, Saul, Saul, paham yr wyt yn fy erlid i? A dywedodd, Pwy wyt, Arglwydd? Ac efe a ddywedodd, Myfi yw Iesu, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid, A chyfod, dos i'r Ddinas, a dywedir i ti pa beth sydd raid i ti ei wneuthur. Ond y gwyr oedd yn cyd-deithio ag ef a safasant yn fud, gan glywed y llais yn wir, ond heb weled neb. A Saul a gyfododd oddiar y ddaear; ac wedi agoryd o'i lygaid ef, ni welai ddim; a chan ei arwain gerfydd ei law, hwy a'i dygasant i mewn i Damascus. Ac yr oedd efe dridiau heb weled, ac ni wnaeth na bwyta nac yfed. Ac yr oedd rhyw ddysgybl yn Damascus o'r enw Ananias; a dywedodd yr Arglwydd wrtho mewn gweledigaeth, Ananias. Yntau a ddywedodd, Wele fi, Arglwydd. A'r Arglwydd a ddywedodd wrtho ef, Cyfod, a dos i'r heol a elwir Uniawn, ac ymofyn yn nhy Judas am un o'r enw Saul, o Tarsus: canys wele, y mae yn gweddio; a gwelodd mewn gweledigaeth wr o'r enw Ananias yn dyfod i mewn, ac yn dodi ei ddwylaw arno, fel y gwelai drachefn. Ond Ananias a atebodd, Arglwydd, clywais gan lawer am y gwr hwn, faint o ddrygau a wnaeth efe i'th saint di yn Jerusalem: ac yma y mae ganddo awdurdod oddiwrth yr Arch‐offeiriaid i rwymo pawb sydd yn galw ar dy enw di. Ond yr Arglwydd a ddywedodd wrtho, Dos, canys llestr etholedig i mi yw hwn, i ddal i fyny fy enw o flaen cenhedloedd, a brenhinoedd, a meibion Israel. Canys myfi a ddangosaf iddo faint o bethau y mae yn rhaid iddo eu dyoddef er mwyn fy enw. Ac Ananias a aeth ymaith, ac a aeth i mewn i'r ty, a chan ddodi ei ddwylaw arno, a ddywedodd, Frawd Saul, y mae yr Arglwydd wedi fy anfon i, sef Iesu, yr hwn a ymddangosodd i ti yn y ffordd y daethost, fel y gweli drachefn, ac y'th lanwer â'r Yspryd Glân. Ac yn ebrwydd y syrthiodd oddiwrth ei lygaid ef megys cèn, ac efe a welodd drachefn; ac efe a gyfododd, ac a fedyddiwyd; ac wedi iddo gymeryd bwyd efe a gryfhaodd. Ac efe a fu gyda'r Dysgyblion oedd yn Damascus rai dyddiau. Ac yn ebrwydd yn y Synagogau efe a ddechreuodd bregethu Iesu, mai efe yw Mab Duw? A phawb a glybu a synasant, ac a ddywedasant, Onid hwn oedd yr un a anrheithiodd yn Jerusalem y rhai a alwent ar yr enw hwn, ac yr oedd wedi dyfod yma i'r dyben hyn, fel y dygai hwynt yn rhwym o flaen yr Arch‐offeiriaid? Eithr Saul a gynyddai fwy‐fwy o nerth, ac a ddyrysai yr Iuddewon oedd yn preswylio yn Damascus, gan brofi mai hwn yw y Crist. Ac wedi cyflawni llawer o ddyddiau, cyd‐ymgynghorodd yr Iuddewon i'w ladd ef: eithr eu brad a wybuwyd gan Saul. A hwy hefyd a wyliasant y pyrth ddydd a nos,, fel y lladdent ef: eithr ei Ddysgyblion a'i cymerasant ef o hyd nos, ac a'i gollyngasant i waered drwy y mur, gan ei ostwng mewn basged. Ac wedi dyfod i Jerusalem, efe a geisiodd lynu wrth y Dysgyblion: ond yr oeddynt oll yn ei ofni ef, gan na chredent ei fod yn ddysgybl. Eithr Barnabas a'i cymerodd, ac a'i dyg at yr Apostolion, ac a adroddodd iddynt pa fodd yn y ffordd y gwelodd yr Arglwydd, ac y llefarodd efe wrtho, a pha fodd yn Damascus y pregethodd yn hyf yn enw yr Iesu. Ac yr oedd efe gyda hwynt yn myned i mewn ac yn myned allan, yn Jerusalem, gan bregethu yn hyf yn enw yr Arglwydd: ac efe a lefarai ac a ymddadleuai yn erbyn yr Iuddewon Groegaidd; a hwy a geisiasant ei ladd ef. A'r brodyr, pan wybuant, a'i dygasant ef i waered i Cesarea, ac a'i hanfonasant ef ymaith i Tarsus. Gan hyny, yn wir, yr Eglwys trwy holl Judea, a Galilea, a Samaria, a gafodd heddwch, gan gael ei hadeiladu; a chan rodio yn ofn yr Arglwydd ac yn nyddanwch yr Yspryd Glân, hi a amlhawyd. A bu i Petr, pan yn tramwy trwy yr holl barthau, ddyfod i waered at y saint hefyd y rhai oedd yn preswylio yn Lydda. Ac efe a gafodd yno ryw ddyn o'r enw Aeneas, er ys wyth mlynedd yn gorwedd ar ei wely, yr hwn oedd wedi ei barlysu. A Phetr a ddywedodd wrtho, Aeneas, Y mae Iesu Grist yn dy iachâu di: Cyfod, a thaena dy wely. Ac yn ebrwydd efe a gyfododd. A phawb ag oedd yn preswylio yn Lydda ac yn Saron a'i gwelsant ef, ac a droisant at yr Arglwydd. Ac yn Joppa yr oedd rhyw ddysgybles o'r enw Tabitha, ystyr yr hyn wedi ei gyfieithu yw, Dorcas: hon oedd yn llawn o weithredoedd da ac o elusenau, y rhai a wnelai. A bu yn y dyddiau hyny iddi glafychu a marw: ac wedi iddynt ei golchi, hwy a'i dodasant hi mewn goruwch‐ystafell. A chan fod Lydda yn agos i Joppa, y dysgyblion, wedi clywed fod Petr yno, a anfonasant ddau wr ato, gan ddeisyf: Na fydded i ti oedi dyfod trosodd atom. A Phetr a gyfododd ac a aeth gyda hwynt. Hwy, wedi iddo gyrhaedd, a'i harweiniasant ef i'r Oruwch‐ystafell; a'r holl wragêdd‐gweddwon a safasant yn ei ymyl yn wylo, ac yn arddangos yr is‐wisgoedd a'r uch-wisgoedd, cynifer ag a wnaethai Dorcas, tra yr oedd hi gyda hwynt. Eithr Petr, wedi eu bwrw hwynt oll allan, a myned ar ei liniau, a weddïodd; a chan droi at y corph, a ddywedodd, Tabitha, Cyfod. A hi a agorodd ei llygaid; a phan welodd Petr, hi a eisteddodd i fyny. Ac efe a roddodd iddi ei law, ac a'i cyfododd i fyny; a chan alw y saint a'r gwragedd‐gweddwon, efe a'i cyflwynodd hi ger bron yn fyw. Ac aeth hyn yn hyspys trwy holl Joppa, a llawer a gredasant yn yr Arglwydd. A bu iddo aros ddyddiau lawer yn Joppa gyda rhyw Simon, barcer. A rhyw wr yn Cesarea, o'r enw Cornelius, Canwriad o'r gatrawd a elwid yr Italaidd, gwr duwiol ac yn ofni Duw ynghyd a'i holl dy, yn gwneuthur elusenau lawer i'r bobl, ac yn gweddio ar Dduw yn wastadol, a welodd mewn gweledigaeth yn eglur, ynghylch y nawfed awr o'r dydd, Angel Duw yn dyfod i mewn ato, ac yn dywedyd wrtho, Cornelius. Ac wedi iddo graffu arno a myned yn ofnus, efe a ddywedodd, Beth sydd, Arglwydd? Ac efe a ddywedodd wrtho, Dy weddiau a'th elusenau a ddaethant i fyny yn goffadwriaeth gerbron Duw. Ac yn awr, anfon wyr i Joppa, a danfon am un Simon, yr hwn a gyfenwir Petr: y mae efe yn lletya gydag un Simon, barcer, ty yr hwn sydd wrth y mor. Ac mor gynted ag yr ymadawodd yr Angel a lefarodd wrtho, efe a alwodd ar ddau o weision ei dy, a milwr duwiol o'r rhai oedd yn glynu wrtho; ac wedi adrodd yr oll iddynt, efe a'u hanfonodd hwynt ymaith i Joppa. A thranoeth, fel yr oeddent hwy yn ymdeithio, ac yn neshâu at y ddinas, Petr a aeth i fyny ar nen y ty i weddio, ynghylch y chweched awr: a daeth arno chwant bwyd, ac a ddymunai fwyta: ond fel yr oeddent yn parotoi, daeth arno lewyg: ac y mae yn gweled y Nef yn agored, a rhyw lestr yn disgyn megys llen‐llian fawr, wedi ei gollwng i lawr wrth ei phedair congl ar y ddaear: yn yr hwn yr oedd holl anifeiliaid pedwar‐troediog ac ymlusgiaid y ddaear, ac ehediaid y nef. A daeth llef ato, Cyfod, Petr, lladd a bwyta. Eithr Petr a ddywedodd, Na wnaf er dim, Arglwydd; canys ni fwyteais erioed ddim cyffredin ac aflan. A daeth llef drachefn, yr ail waith, ato, Yr hyn a lanhaodd Duw, na wna di yn gyffredin. A hyn a wnaed dair gwaith; ac yn ebrwydd y cymerwyd y llestr i fyny i'r nef. Ac fel yr oedd Petr yn petruso yn ddirfawr ynddo ei hun beth a allasai y weledigaeth a welodd fod, wele, y gwyr oedd wedi eu hanfon gan Cornelius, wedi ymofyn am dy Simon, a safasant wrth y porth. Ac wedi iddynt alw, hwy a ofynasant a oedd Simon, yr hwn a gyfenwid Petr, yn lletya yno. A Phetr yn dwys ystyried ynghylch y weledigaeth, dywedodd yr Yspryd wrtho, Wele dri o wyr yn dy geisio di. Eithr cyfod, disgyn, a dos gyda hwynt, heb amheu dim: o herwydd myfi sydd wedi eu hanfon hwynt. A Phetr wedi disgyn at y gwyr, a ddywedodd, Wele, myfi yw yr hwn yr ydych chwi yn ei geisio: pa beth yw yr achos o herwydd yr hwn yr ydych bresenol? A hwy a ddywedasant, Cornelius, Canwriad, gwr cyfiawn ac yn ofni Duw, a thystiolaeth dda iddo gan holl genedl yr Iuddewon, a gyfarwyddwyd gan Angel sanctaidd i ddanfon am danat ti i'w dy, ac i glywed geiriau genyt. Gan hyny efe a'u gwahoddodd i mewn ac a'u lletyodd. A thranoeth efe a gyfododd, ac a aeth allan gyda hwynt, a rhai o'r brodyr o Joppa a aethant gydag ef. A thranoeth efe a aeth i mewn i Cesarea: ac yr oedd Cornelius yn eu disgwyl, wedi galw ynghyd ei geraint a'i gyfeillion mynwesol. A bu fel yr oedd Petr yn dyfod i mewn, Cornelius a gyfarfu ag ef, ac a syrthiodd wrth ei draed, ac a addolodd. Eithr Petr a'i cyfododd ef i fyny, gan ddywedyd, Cyfod; dyn wyf finau hefyd. A than ymgymdeithasu ag ef, efe a ddaeth i mewn, ac a gafodd lawer wedi dyfod ynghyd: ac efe a ddywedodd wrthynt, Chwi a wyddoch mor anghyfreithlawn yw i wr o Iuddew ymlynu wrth, neu ddyfod at, un o genedl arall: a Duw a ddangosodd i mi na alwn i neb rhyw ddyn yn gyffredin neu aflan: am hyny, hefyd, yn ddinag y daethum pan anfonwyd am danaf. Yr wyf yn gofyn gan hyny am ba reswm yr anfonasoch am danaf? A Chornelius a ddywedodd, Y pedwerydd diwrnod yn ol, a chyfrif hyd yr awr hon, yr oeddwn yn gweddio ar y nawfed awr yn fy nhy: ac wele, safodd gwr ger fy mron mewn gwisg ddysglaer, a dywed, Cornelius, gwrandâwyd dy weddi, a chofiwyd dy elusenau ger bron Duw. Am hyny anfon i Joppa, a galw yma Simon, yr hwn a gyfenwir Petr; y mae efe yn lletya yn nhy Simon, barcer, ar lan y môr. Yn ddioed gan hyny, myfi a anfonais atat: tithau hefyd a wnaethost yn dda wrth ddyfod. Yn awr, gan hyny, yr ydym ni oll yn bresenol gerbron Duw i wrandaw yr holl bethau sydd wedi eu gorchymyn i ti gan yr Arglwydd. A Phetr a agorodd ei enau ac a ddywedodd, Mewn gwirionedd yr wyf yn canfod nad yw Duw dderbyniwr wyneb: ond yn mhob cenedl yr hwn sydd yn ei ofni ef ac yn gweithredu cyfiawnder, sydd gymeradwy ganddo ef. Chwi a wyddoch y gair yr hwn a ddanfonodd efe i Feibion Israel, gan efengylu tangnefedd trwy Iesu Grist (efe yw Arglwydd pawb), — chwi a wyddoch y mater a gyhoeddwyd trwy holl Judea, gan ddechreu o Galilea ar ol y Bedydd a bregethodd Ioan:— chwi a wyddoch Iesu o Nazareth, y modd yr eneiniodd Duw ef â'r Yspryd Glân a gallu: yr hwn a aeth trwy y wlad, gan wneuthur daioni ac iachâu pawb oedd wedi eu gormesu gan y Diafol; oblegyd yr oedd Duw gydag ef. Ac yr ydym ni yn dystion o'r holl bethau a wnaeth efe yn ngwlad yr Iuddewon ac yn Jerusalem; yr hwn hefyd a laddasant gan ei grogi ar bren. Hwn a gyfododd Duw y trydydd dydd, ac a'i rhoddodd i gael ei wneuthur yn amlwg, nid i'r holl bobl, eithr i dystion a rag‐benodwyd gan Dduw, i ni, y rhai a gyd‐fwytasom ac a gyd‐yfasom gydag ef ar ol ei adgyfodi ef o feirw. Ac efe a orchymynodd i ni bregethu i'r bobl, a thystiolaethu yn eglur mai efe yw yr hwn a ordeiniwyd gan Dduw yn Farnwr byw a meirw. I hwn y mae yr holl brophwydi yn tystiolaethu, y derbyn pob un a gredo ynddo ef faddeuant pechodau trwy ei enw ef. A thra yr oedd Petr yn llefaru y pethau hyn, syrthiodd yr Yspryd Glân ar bawb, a oedd yn clywed y Gair. A'r rhai o'r Enwaediad a oeddent yn credu a synasant, cynifer ag a ddaethant gyda Phetr, am fod dawn yr Yspryd Glân wedi ei dywallt ar y Cenhedloedd hefyd. Canys yr oeddent yn eu clywed hwy yn llefaru a thafodau, ac yn mawrygu Duw. Yna yr atebodd Petr, A all neb, o bosibl, luddias y Dwfr, fel na fedyddier y rhai hyn, y rhai a dderbyniasant yr Yspryd Glân fel ninau? Ac efe a orchymynodd eu bedyddio yn enw Iesu Grist. Yna y gofynasant iddo aros yn mlaen rai dyddiau. A'r Apostolion a'r brodyr oedd ar hyd Judea a glywsant ddarfod i'r Cenhedloedd hefyd dderbyn Gair Duw. A phan aeth Petr i fyny i Jerusalem, y rhai o'r Enwaediad a ymrysonasant ag ef, gan ddywedyd, Ti a aethost i mewn at wyr dienwaededig, ac a fwyteaist gyda hwynt. Eithr Petr a ddechreuodd ac a osododd allan yr oll iddynt mewn trefn, gan ddywedyd, Yr oeddwn i yn ninas Joppa yn gweddio; a gwelais mewn llewyg weledigaeth, rhyw lestr megys llen‐llian fawr yn disgyn, wedi ei gollwng i lawr o'r Nef, wrth ei phedair congl, ac a ddaeth hyd ataf fi: i'r hon wedi edrych yn graff, mi a ddwys‐ystyriais ac a welais anifeiliaid pedwar‐troediog y ddaear, a gwylltfilod, ac ymlusgiaid, ac ehediaid y Nef. Ac mi a glywais lef hefyd yn dywedyd wrthyf, Cyfod, Petr: lladd a bwyta. A dywedais, Na wnaf er dim, Arglwydd, canys peth cyffredin neu aflan nid aeth erioed i mewn i'm genau. Ac atebodd llais eilwaith o'r Nef, Y pethau a lanhâodd Duw na wna di yn gyffredin. A hyn a wnaed dair gwaith: a thynwyd i fyny drachefn y cwbl i'r Nef. Ac wele, yn ddioed safai tri o wyr wrth y ty yn yr hwn yr oeddem, wedi eu hanfon o Cesarea ataf fi. A dywedodd yr Yspryd wrthyf am fyned gyda hwynt, heb wneuthur gwahaniaeth. A'r chwe brodyr hyn hefyd a aethant gyda mi; ac ni a aethom i mewn i dy y gwr; a mynegodd i ni pa fodd y gwelodd efe yr Angel yn ei dy, yn sefyll ac yn dywedyd, Anfon i Joppa, a danfon am Simon, a gyfenwir Petr; yr hwn a lefara eiriau wrthyt, trwy y rhai y'th achubir di a'th holl dy. A phan yr oeddwn yn dechreu llefaru, syrthiodd yr Yspryd Glân arnynt, megys arnom ni yn y Dechreuad. A mi a gofiais ymadrodd yr Arglwydd, y modd y dywedodd, Ioan yn wir a fedyddiodd â dwfr, ond chwi a fedyddir yn yr Yspryd Glân. Os rhoddodd Duw, gan hyny, y gyffelyb rodd iddynt hwy ag i ninau hefyd y rhai a gredasom yn yr Arglwydd Iesu Grist, Myfi, pwy oeddwn i? A oeddwn alluog i luddias Duw? Ac wedi clywed y pethau hyn, hwy a ymdawelasant, ac a ogoneddasant Dduw, gan ddywedyd, Ac felly rhoddodd Duw i'r Cenhedloedd hefyd yr edifeirwch i fywyd. A'r rhai gan hyny yn wir a wasgarwyd mewn canlyniad i'r blinder a gyfododd ar gyfrif Stephan, a dramwyasant hyd yn Phœnicia, a Cyprus, ac Antioch, heb lefaru y Gair wrth neb ond yr Iuddewon yn unig. A rhai o honynt, gwyr o Cyprus a Cyrene, yn gyfryw rai, wedi dyfod i Antioch, a lefarent hefyd wrth y Groegiaid, gan bregethu yr Arglwydd Iesu. Ac yr oedd llaw yr Arglwydd gyda hwynt; hefyd nifer mawr y rhai a gredasant a droisant at yr Arglwydd. A'r son am danynt hwy a ddaeth i glustiau yr Eglwys oedd yn Jerusalem; a hwy a anfonasant allan Barnabas hyd Antioch; yr hwn pan gyrhaeddodd, a gweled gras Duw, a lawenychodd, ac a gynghorodd bawb â llwyr‐fryd calon, i lynu wrth yr Arglwydd: oblegyd yr oedd efe yn wr da, ac yn llawn o'r Yspryd Glân a ffydd: ac ychwanegwyd tyrfa fawr at yr Arglwydd. Ac efe a aeth ymaith i Tarsus i chwilio am Paul, ac wedi ei gael, efe a'i dyg i Antioch. A bu iddynt am flwyddyn gyfan ymgynull yn yr Eglwys, a dysgu tyrfa fawr, a galw yn gyntaf yn Antioch y dysgyblion yn Gristionogion. Ac yn y dyddiau hyny y daeth prophwydi o Jerusalem i waered i Antioch. Ac un o honynt, o'r enw Agabus, a gyfododd, ac a arwyddocâodd, trwy yr Yspryd, fod newyn mawr ar ddyfod dros yr holl ddaear gyfaneddol: yr hwn a ddygwyddodd yn amser Claudius. A'r dysgyblion, pob un fel yr oedd yn llwyddo, a benderfynasant anfon er gweinyddu cymhorth i'r brodyr oedd yn preswylio yn Judea: yr hyn hefyd a wnaethant, trwy ddanfon at yr Henuriaid trwy law Barnabas a Saul. Ac ynghylch y tymhor hwnw y gosododd Herod y Brenhin ei ddwylaw i ddrygu rhai o'r Eglwys. Ac efe a laddodd Iago, brawd Ioan, a'r cleddyf. A phan welodd fod y peth yn boddloni yr Iuddewon, efe a chwanegodd ddala Petr hefyd. A dyddiau y bara dilefeinllyd oeddynt. Yr hwn hefyd, wedi iddo ei ddal, a osododd efe yn ngharchar, ac a'i traddododd i bedwar gwarchodlu ‐o‐bedwar o filwyr i'w gadw; gan fwriadu ar ol y Pasc ei ddwyn ef allan at y bobl. Gan hyny yn wir Petr oedd yn cael ei wylio yn y carchar: ond gweddi a wnaed yn daer gan yr Eglwys at Dduw am dano ef. A phan oedd Herod ar fedr ei ddwyn ef allan, y noson hono yr oedd Petr yn cysgu rhwng dau filwr, wedi ei rwymo â dwy gadwyn: ceidwaid hefyd o flaen y drws oeddynt yn gwylio y carchar. Ac wele, Angel yr Arglwydd a safodd yn ymyl, a goleuni a ddysglaeriodd yn y gell: ac efe a darawodd ystlys Petr, ac a'i deffrôdd ef, gan ddywedyd, Cyfod ar frys: a'i gadwyni ef a syrthiasant ymaith oddi am ei ddwylaw. A dywed yr Angel wrtho, Ymwregysa, a rhwym dy sandalau. Ac efe a wnaeth felly. A dywed wrtho, Gwisg dy gochl am danat, a chanlyn fi. A chan fyned allan efe a ganlynodd, ac ni wyddai fod yr hyn a wnaethid trwy yr Angel yn wirioneddol, eithr yr oedd yn tybied mai gweled gweledigaeth yr oedd. Ac wedi myned heibio y gyntaf wyliadwriaeth a'r ail, hwy a ddaethant at y porth haiarn, yr hwn sydd yn arwain i'r Ddinas, yr hwn a agorodd iddynt o'i waith ei hun: ac wedi myned allan, hwy a aethant yn mlaen ar hyd un heol: ac yn ebrwydd yr Angel a aeth ymaith oddiwrtho. A Phetr wedi dyfod ato ei hun, a ddywedodd, Yn awr y gwn yn wir i'r Arglwydd anfon allan ei Angel, ac a'm cymerodd allan o law Herod, ac o holl ddisgwyliad pobl yr Iuddewon. Ac wedi iddo amgyffred y peth, efe a ddaeth i dy Mair mam Ioan, yr hwn a gyfenwir Marc, lle yr oedd llawer wedi ymgasglu ac yn gweddio. Ac wedi iddo guro drws y porth, morwynig a ddaeth i ymwrando o'r enw Rhoda; ac wedi adnabod llais Petr, nid agorodd hi y porth gan lawenydd, eithr hi a redodd i mewn ac a fynegodd fod Petr yn sefyll o flaen y porth. Ond hwy a ddywedasant wrthi, Yr wyt yn ynfyd. Hithau a daerodd yn sicr mai felly yr oedd. Ond hwy a ddywedasant, ei angel ef ydyw. A Phetr a barhaodd yn curo: ac wedi iddynt agoryd, hwy a'i gwelsant ef ac a synasant. Ac wedi amneidio arnynt â llaw i dewi, efe a adroddodd iddynt y modd y dygodd yr Arglwydd ef allan o'r carchar: dywedodd hefyd, Mynegwch i Iago ac i'r brodyr y pethau hyn. Ac efe a ymadawodd, ac a aeth i le arall. A phan aeth yn ddydd, yr oedd cynhwrf nid bychan yn mhlith y milwyr, pa beth a ddaethai o Petr. A Herod wedi ceisio am dano, ac heb ei gael ef, a holodd y ceidwaid, ac a orchymynodd eu harwain ymaith i farwolaeth. Ac efe a aeth i waered o Judea i Cesarea, ac a arosodd yno. Ac yr oedd efe wedi ymgynddeiriogi yn erbyn y Tyriaid a'r Sidoniaid: ac yn unfryd hwy a ddaethant o'i flaen ef; ac wedi enill ffafr Blastus, ystafellydd y brenhin, hwy a ddeisyfasant heddwch, o herwydd bod eu gwlad yn cael ei hymborth o wlad y brenhin. Ac ar ddiwrnod penodedig, Herod, wedi ymwisgo â gwisg frenhinol, ac wedi eistedd ar y faingc, a areithiodd iddynt. A'r bobl a floeddiasant, Llais Duw ac nid dyn ydyw. Ac yn y man Angel yr Arglwydd a'i tarawodd ef, am na roisai y gogoniant i Dduw: a chan bryfed yn ei ysu, efe a drengodd. A Gair Duw a gynyddodd ac a amlhawyd. A Barnabas a Saul a ddychwelasant o Jerusalem, wedi cyflawni eu gwasanaeth, gan gymeryd gyda hwynt Ioan, yr hwn a gyfenwid Marc. Ac yr oedd yn Antioch, yn yr Eglwys oedd yno, brophwydi ac athrawon: Barnabas, a Symeon yr hwn a elwir Niger, a Lucius y Cyreniad, Manaen hefyd, brawd-maeth Herod y Tetrarch, a Saul. Ac a hwy yn gwasanaethu yr Arglwydd ac yn ymprydio, dywedodd yr Yspryd Glân, Neillduwch yn awr i mi Barnabas a Saul i'r gwaith i'r hwn yr wyf wedi eu galw. Yna wedi ymprydio, a gweddio, a dodi eu dwylaw arnynt, hwy a'u gollyngasant ymaith. Hwythau yn wir gan hyny, wedi eu danfon allan gan yr Yspryd Glân, a aethant i waered i Seleucia; ac oddiyno hwy a hwyliasant ymaith i Cyprus. A phan gyrhaeddasant Salamis, hwy a fynegasant Air Duw yn Synagogau yr Iuddewon: ac yr oedd ganddynt Ioan hefyd fel eu cynorthwywr. Ac wedi myned trwy yr holl ynys hyd Paphos, hwy a gawsant un Magiad, gau‐brophwyd, Iuddew, o'r enw Bar‐Iesu, yr hwn oedd gyda'r Rhaglaw, Sergius Paulus, gwr deallus. Hwn wedi galw ato Barnabas a Saul, a ddeisyfodd glywed Gair Duw. Eithr Elymas y Magiad (canys felly y cyfieithir ei enw ef) a'u gwrthwynebodd hwynt, gan geisio gŵyrdroi y Rhaglaw oddiwrth y Ffydd. Eithr Saul, yr hwn hefyd yw Paul, wedi ei lanw o'r Yspryd Glân, ac wedi edrych yn graff arno, a ddywedodd, O tydi, yn gyflawn o bob twyll ac o bob ystryw, Mab Diafol, gelyn pob cyfiawnder, oni pheidi di a gŵyrdroi uniawn ffyrdd yr Arglwydd? Ac yn awr, wele, y mae llaw yr Arglwydd arnat ti, a thi a fyddi ddall, heb weled yr haul am dymhor. Ac yn y man syrthiodd arno niwlen a thywyllwch, ac efe, gan fyned o amgylch, a geisiodd rai i'w arwain gerfydd ei law. Yna pan welodd y Rhaglaw yr hyn a wnaethid, efe a gredodd, gan ei daro a syndod at ddysgeidiaeth yr Arglwydd. Ac wedi morio ymaith o Paphos, Paul a'r rhai oedd gydag ef a ddaethant i Perga yn Pamphylia: ac Ioan, gan ymadael oddiwrthynt, a ddychwelodd i Jerusalem. Eithr hwy, wedi tramwy o Perga, a ddaethant i Antioch yn Pisidia; a hwy a aethant i'r Synagog ar y dydd Sabbath, ac a eisteddasant. Ac ar ol darllen y Gyfraith a'r Prophwydi, Llywodraethwyr y Synagog a anfonasant atynt, gan ddywedyd, O wyr Frodyr, os oes genych air o gynghor i'r bobl, traethwch. A Phaul a gyfododd, a chan amneidio a' i law a ddywedodd, O wyr o Israeliaid, a'r rhai sydd yn ofni Duw, gwrandewch: Duw y bobl hyn, Israel, a ddewisodd iddo ei hun ein Tadau, ac a ddyrchafodd y bobl pan yn preswylio yn ngwlad yr Aipht, ac â braich uchel y dygodd efe hwynt allan o honi. Ac ynghylch deugain mlynedd y meithrinodd efe hwynt yn yr Anialwch. Ac wedi iddo ddyfetha saith genedl yn ngwlad Canaan, efe a roddodd eu gwlad iddynt yn etifeddiaeth am ynghylch pedwar cant a deng mlynedd a deugain; ac ar ol y pethau hyn efe a roddodd Farnwyr hyd Samuel y Prophwyd. Ac o'r amser hyny y gofynasant am frenhin, a Duw a roddodd iddynt Saul, mab Cis, gwr o lwyth Benjamin, ddeugain mlynedd. Ac wedi iddo ei symud ef, efe a gyfododd Dafydd iddynt i fod yn frenhin; i'r hwn hefyd y tystiolaethodd, ac a ddywedodd, Cefais Dafydd mab Jesse, gwr yn ol fy nghalon, yr hwn a wna fy holl ewyllys. O hâd hwn, Duw, yn ol addewid, a ddygodd i Israel Iachawdwr, Iesu; gwedi i Ioan rag‐bregethu, o flaen ei Ddyfodiad ef, Fedydd Edifeirwch i holl bobl Israel. Ac fel yr oedd Ioan yn cyflawni ei redfa, efe a ddywedodd, Pa beth dybiwch chwi wyf fi? nid myfi yw efe; ond wele y mae un yn dyfod ar fy ol i, yr hwn nid ydwyf deilwng i ddatod esgidiau ei draed. O wyr frodyr, meibion cenedl Abraham, a'r rhai sydd yn eich plith yn ofni Duw, i ni y mae Gair yr Iachawdwriaeth hon wedi ei anfon allan: canys y rhai sydd yn preswylio yn Jerusalem, a'u llywodraethwyr, heb adnabod hwn na lleisiau y Prophwydi, y rhai a ddarllenir bob Sabbath gan ei farnu a' u cyflawnasant. Ac heb gael ynddo achos angeu, hwy a ddeisyfasant ar Pilat ar iddo gael ei ladd. A phan orphenasant bob peth oedd wedi ei ysgrifenu am dano, hwy a'i cymerasant ef i lawr oddiar y pren, ac a'i dodasant ef mewn bedd. Eithr Duw a'i cyfododd ef o feirw; ac efe a welwyd am ddyddiau lawer gan y rhai a ddaethant i fyny gydag ef o Galilea i Jerusalem, y rhai yn awr ydynt ei dystion ef wrth y bobl. Ac yr ydym ni yn pregethu i chwi yr Addewid a wnaethpwyd i'r Tadau, fod Duw wedi ei chyflawni i'n plant, gan gyfodi yr Iesu; fel y mae yn ysgrifenedig yn yr ail Salm, Fy Mab ydwyt ti, Myfi heddyw wyf wedi dy genhedlu (2:7). A'i fod wedi ei gyfodi ef o feirw, ddim mwyach i ddychwelyd i lygredigaeth, fel hyn y mae wedi ddywedyd, Rhoddaf i chwi y pethau sanctaidd a wnaed yn sicr i Dafydd, Oherwydd hefyd y mae yn dywedyd mewn un arall, Ni roddi dy Sanct i weled llygredigaeth (Salm 16:10). Canys Dafydd yn wir, wedi gwasanaethu ei genhedlaeth ei hun yn ol Cynghor Duw, a hunodd, ac a ddodwyd at ei dadau, ac a welodd lygredigaeth. Eithr yr hwn a gyfododd Duw ni welodd lygredigaeth. Am hyny, bydded hyspys i chwi, O wyr frodyr, mai trwy hwn y dadgenir i chwi faddeuant pechodau. Ac oddiwrth yr holl bethau oddiwrth y rhai ni allech yn Nghyfraith Moses gael eich cyfiawnhau, yn hwn, pob un sydd yn credu, a gyfiawnheir, Edrychwch gan hyny na ddel yr hyn a ddywedwyd yn y Prophwydi, Gwelwch, O ddirmygwyr a rhyfeddwch, a diflanwch o'r golwg; Canys yr wyf fi yn gweithredu gweithred yn eich dyddiau; Gweithred na chredwch o gwbl er i un ei dadgan yn llawn i chwi. Ac fel yr oeddent yn myned allan, hwy a atolygasant am i'r geiriau hyn gael eu llefaru wrthynt ar y Sabbath dylynol. A phan ollyngwyd y gynulleidfa, llawer o'r Iuddewon ac o'r Proselytiaid duwiol‐frydig a ganlynasant Paul a Barnabas, y rhai, gan lefaru wrthynt, a'u cymhellasant i barhâu yn ngras Duw. A'r Sabbath dyfodol bron yr holl ddinas a gasglwyd ynghyd i wrandaw Gair yr Arglwydd. Eithr yr Iuddewon yn gweled y torfeydd, a lanwyd o eiddigedd, ac a wrth‐ddywedasant y pethau a leferid gan Paul, ac a gablasant. Eithr Paul a Barnabas a lefarasant yn hyf, ac a ddywedasant, Yr oedd anghenrhaid i lefaru gair Duw wrthych chwi yn gyntaf. Hefyd, gan eich bod yn ei wthio oddiwrthych, ac yn barnu eich hun yn anheilwng o fywyd tragywyddol, wele, yr ydym ni yn troi at y Cenhedloedd; canys felly y mae yr Arglwydd wedi gorchymyn i ni, Yr wyf wedi dy osod i fod yn oleuni'r Cenhedloedd, Fel y byddit yn iachawdwriaeth hyd eithaf y ddaear. (Es 49:6). A'r Cenhedloedd yn clywed hyn a lawenychasant, ac a ogoneddasant Air yr Arglwydd: a chynifer ag oedd wedi eu hordeinio i fywyd tragywyddol a gredasant. A Gair yr Arglwydd a ledaenwyd trwy yr holl wlad. A'r Iuddewon a gymhellasant yn mlaen y gwragedd defosiynol o safle anrhydeddus a phrif ddynion y ddinas a chodasant erlid yn erbyn Paul a Barnabas, ac a'u bwriasant hwynt allan o'u terfynau. Ond hwy, wedi ysgwyd ymaith lwch eu traed yn eu herbyn hwynt, a ddaethant i Iconium. A'r dysgyblion a lanwyd o lawenydd ac o'r Yspryd Glân. A dygwyddodd yn Iconium iddynt fyned yr un pryd i Synagog yr Iuddewon, a llefaru yn y fath fodd fel y credodd lliaws mawr o'r Iuddewon ac o'r Groegiaid. Ond yr Iuddewon nad ufyddasant a gyffroisant ac a gynhyrfasant i ddrwg eneidiau y Cenhedloedd yn erbyn y Brodyr. Am hyny, yn wir, hwy a dreuliasant yno amser hir, gan lefaru yn hyf yn yr Arglwydd, yr hwn oedd yn tystiolaethu i Air ei Ras, gan genhadu gwneuthur arwyddion a rhyfeddodau trwy eu dwylaw hwynt. A rhanwyd lliaws y ddinas; a rhai oedd gyda yr Iuddewon, a rhai oedd gyda yr Apostolion. A phan wnaethpwyd rhuthr o'r Cenhedloedd ac o'r Iuddewon ynghyd a'u llywodraethwyr i'w sarhau a'u llabyddio, a hwy yn ymwybodol o hyn, ffoisant i ddinasoedd Lycaonia, sef Lystra a Derbe, a'r wlad oddi amgylch: ac yno y buont yn efengylu. A rhyw wr yn Lystra, yn ddiffrwyth ei draed, a eisteddai, yn gloff o groth ei fam, yr hwn ni cherddodd erioed. Hwn a glywodd Paul yn llefaru: yr hwn, gan edrych yn graff arno, a gweled fod ganddo ffydd i'w iachau, a ddywedodd a llais uchel, Saf i fyny ar dy draed yn syth. Ac efe a neidiodd i fyny ac a ddechreuodd rodio. A'r torfeydd, wedi gweled yr hyn a wnaeth Paul, a godasant eu llais, yn iaith Lycaonia, gan ddywedyd, Y mae y duwiau yn nghyffelybiaeth dynion wedi disgyn atom ni. A galwasant Barnabas Jupiter, a Paul Mercurius, gan mai efe oedd yr arweinydd mewn ymadrodd. Ac offeiriad Jupiter, teml yr hwn oedd o flaen y ddinas, a ddyg deirw a dail‐blethau hyd at y pyrth, ac a fynasai gyda'r torfeydd aberthu. Ond yr Apostolion, Barnabas a Paul, pan glywsant, a rwygasant eu dillad, ac a neidiasant allan i blith y dyrfa, gan waeddi a dywedyd, O wyr, paham y gwnewch y pethau hyn? ninau hefyd ydym o gyffelyb naturiaeth a chwithau, yn ddynion, gan bregethu ar i chwi droi oddiwrth y pethau gweigion hyn at Dduw byw, yr hwn a wnaeth y nefoedd a'r ddaear a'r môr, a'r holl bethau sydd ynddynt: yr hwn yn y cenhedlaethau a aethant heibio a oddefodd i'r holl Genhedloedd fyned yn eu ffyrdd eu hunain. Er hyny, ni adawodd efe ei hun yn ddidyst, gan wneuthur daioni, gan roddi i chwi wlawogydd a thymhorau ffrwythlawn, gan lenwi eich calonau â lluniaeth a llawenydd. A chan ddywedyd y pethau hyn, braidd yr ataliasant y torfeydd rhag aberthu iddynt. Ond daeth Iuddewon o Antioch ac Iconium; ac wedi darbwyllo y torfeydd a llabyddio Paul, hwy a'i llusgasant ef allan o'r ddinas, gan dybied ei fod wedi marw. A'r dysgyblion yn ei amgylchynu, efe a gyfododd, ac a aeth i'r ddinas: a thranoeth efe a aeth allan gyda Barnabas i Derbe. A chan efengylu i'r ddinas hono, a gwneuthur dysgyblion lawer, dychwelasant i Lystra ac i Iconium ac i Antioch, gan gadarnhau eneidiau y dysgyblion, gan eu cynghori i aros yn y ffydd, a dywedyd, Trwy lawer o orthrymderau y mae yn rhaid i ni fyned i mewn i Deyrnas Dduw. Ac wedi penodi iddynt henuriaid yn mhob eglwys, ac wedi gweddïo ynghyd ag ymprydiau, hwy a'u cyflwynasant hwy i'r Arglwydd yn yr hwn yr oeddent wedi credu. A hwy a dramwyasant trwy Pisidia, ac a ddaethant i Pamphylia. Ac wedi llefaru y Gair yn Perga hwy a aethant i waered i Attalia. Ac oddiyno hwy a fordwyasant i Antioch, o'r lle yr oeddent wedi eu cymeradwyo i ras Duw ar gyfer y gwaith a gyflawnasant. Ac wedi iddynt gyrhaedd, a chasglu yr Eglwys ynghyd, hwy a fynegasant y fath bethau a wnaeth Duw gyda hwynt, ac iddo agoryd i'r Cenhedloedd ddrws y ffydd. A hwy a dreuliasant amser nid ychydig gyda'r dysgyblion. A rhai wedi dyfod i waered o Judea a ddysgasant y brodyr: Onid enwaedir chwi yn ol defod Moses, ni ellwch eich hachub. A phan yr oedd ymryson a dadleu nid bychan gan Paul a Barnabas yn eu herbyn, hwy a drefnasant fyned o Paul a Barnabas, a rhai eraill o honynt, i fyny i Jerusalem at yr Apostolion a'r Henuriaid, ynghylch y cwestiwn hwn. A hwy, wedi eu hebrwng gan yr Eglwys a dramwyasant trwy Phœnicia a Samaria, gan adrodd yn fanwl droedigaeth y Cenhedloedd; a hwy a barasant lawenydd mawr i'r holl frodyr. Ac wedi cyrhaedd i Jerusalem, hwy a roesawyd gan yr Eglwys a'r Apostolion a'r Henuriaid, a hwy a fynegasant y fath bethau a wnaeth Duw gyda hwynt. Eithr cyfododd rhai o sect y Phariseaid y rhai oeddent wedi credu, gan ddywedyd, Y mae yn rhaid iddynt eu henwaedu, a gorchymyn cadw Cyfraith Moses. A'r Apostolion a'r Henuriaid a ymgynullasant ynghyd i weled ynghylch y pwnc hwn; ac wedi llawer o ymddadleu, Petr a gyfododd ac a ddywedodd wrthynt, O wyr frodyr, yr ydych yn gwybod ddarfod i Dduw er y dyddiau cyntefig yn eich plith ddewis i'r Cenhedloedd glywed Gair yr Efengyl trwy fy ngenau a chredu. A Duw, Adnabyddwr calonau, a dystiolaethodd iddynt, gan roddi yr Yspryd Glân, megys ag i ninau; ac ni wnaeth efe ddim gwahaniaeth rhyngom ni a hwynt, gan lanhau trwy ffydd eu calonau hwynt. Yn awr gan hyny paham yr ydych chwi yn temtio Duw, i osod iau ar war y Dysgyblion, yr hon nid oedd ein Tadau na ninau yn alluog ei dwyn. Ond trwy ras yr Arglwydd Iesu yr ydym ni yn credu y'n hachubir, yr un modd a hwythau hefyd. A thawodd y lliaws, a gwrandawsant ar Barnabas a Paul yn adrodd pa fath arwyddion a rhyfeddodau a wnaeth Duw yn mhlith y Cenhedloedd trwyddynt hwy. Ac ar ol iddynt dewi, atebodd Iago, gan ddywedyd, O wyr frodyr, gwrandewch arnaf fi: Symeon a adroddodd y modd ar y cyntaf yr ymwelodd Duw i gymeryd o'r Cenhedloedd bobl i'w enw. Ac a hyn y cytuna geiriau y Prophwydi, megys y mae yn ysgrifenedig, Ar ol y pethau hyn y dychwelaf, Ac yr ad‐adeiladaf babell Dafydd, yr hon sydd wedi syrthio; A'i hadfeilion a ad‐adeiladaf, Ac a'i gosodaf hi yn syth i fyny: Fel y byddo i'r gweddill o ddynion geisio yr Arglwydd, A'r holl Genhedloedd ar y rhai y gelwir fy enw, Medd yr Arglwydd, yr hwn sydd yn gwneuthur y pethau hyn, y rhai ydynt hyspys o'r dechreuad. Gan hyny, fy marn i yw: Peidio blino y rhai o'r Cenhedloedd sydd yn troi at Dduw; eithr ysgrifenu atynt i ymgadw oddiwrth halogrwydd yr eilunod a godineb, ac oddiwrth y peth a dagwyd, ac oddiwrth waed. Canys y mae gan Moses er Cenhedlaethau Cyntefig yn mhob dinas rai a'i pregethant ef, gan gael ei ddarllen yn y Synagogau bob Sabbath. Yna y gwelwyd yn dda gan yr Apostolion a'r Henuriaid ynghyda'r holl Eglwys, wedi dewis gwyr o'u plith eu hunain, eu danfon i Antioch gyda Phaul a Barnabas, sef Judas yr hwn a gyfenwir Barsabbas, a Silas, blaenoriaid yn mhlith y brodyr; gan ysgrifenu trwy eu llaw hwynt: Yr Apostolion a'r Henuriaid, brodyr, at y brodyr y rhai sydd o'r Cenhedloedd yn Antioch a Syria a Cilicia, yn anfon anerch: Yn gymaint a chlywed o honom i rai a aethant allan oddiwrthym ni eich cythryblu chwi â geiriau, gan ddymchwelyd eich eneidiau, i'r rhai ni roisom orchymyn; ni a welsom yn dda, a dyfod o honom yn unfrydol, wedi dewis gwyr, i'w danfon atoch chwi gyda'n hanwyliaid Barnabas a Paul, gwyr sydd wedi rhoddi fyny eu bywydau ar ran enw ein Harglwydd Iesu Grist. Yr ydym wedi danfon, gan hyny, Judas a Silas, a hwynt‐hwy trwy leferydd ydynt yn mynegu yr un pethau. Canys gwelwyd yn dda gan yr Yspryd Glân a chenym ninau, na ddodid arnoch unrhyw faich mwy na'r pethau anghenrheidiol hyn: Ymgadw oddiwrth y pethau a aberthwyd i eilunod, a gwaed, a phethau a dagwyd, a godineb: os cedwch eich hunain oddiwrth y pethau hyn, da y gwnewch. Byddwch iach. Gan hyny yn wir, wedi eu gollwng ymaith, hwy a ddaethant i Antioch; ac wedi cynull y lliaws ynghyd, hwy a drosglwyddasant y llythyr; ac wedi ei ddarllen, hwy a lawenychasant am y calondid a gawsant. A Judas a Silas, a hwythau yn brophwydi, trwy lawer o ymadrodd a galonogasant y brodyr, ac a'u cadarnhasant. Ac wedi treulio rhyw amser, hwy a ollyngwyd mewn tangnefedd oddiwrth y brodyr at y rhai a'u danfonasant. A Paul a Barnabas oeddent yn aros yn Antioch, gan ddysgu a phregethu Gair yr Arglwydd, gyda llawer eraill hefyd. Ac wedi rhai dyddiau dywedodd Paul wrth Barnabas, Dychwelwn ar unwaith ac ymwelwn a'r brodyr yn mhob dinas yn y rhai y cyhoeddasom Air yr Arglwydd, i weled pa fodd y mae arnynt. A Barnabas a fynai gymeryd gyda hwynt Ioan hefyd, yr hwn a elwid Marc. Eithr ni thybiai Paul yn iawn gymeryd gyda hwynt hwnw, yr hwn a wrth‐giliodd oddiwrthynt o Pamphylia, ac nid aeth gyda hwynt i'r gwaith. A chyfododd cweryl llym, fel yr ymwahanasant oddiwrth eu gilydd; a Barnabas wedi cymeryd Marc gydag ef, a fordwyodd i Cyprus; a Paul wedi dewis Silas, a aeth allan, wedi ei gyflwyno i ras yr Arglwydd gan y brodyr. Ac efe a dramwyodd trwy Syria a Cilicia, gan gadarnhâu yr eglwysi. Ac efe a gyrhaeddodd i Derbe a Lystra, ac wele, yr oedd rhyw ddysgybl yno, o'r enw Timotheus, mab i wraig Iuddewig grediniol, ond i dâd o Roegwr, i'r hwn y tystiolaethid gan y brodyr yn Lystra ac Iconium. Paul a ewyllysiai hwn i fyned allan gydag ef; ac efe a'i cymerodd ac a'i henwaedodd ef o achos yr Iuddewon y rhai oedd yn y lleoedd hyny, canys yr oeddent oll yn gwybod mai Groegwr oedd ei dad ef. Ac fel yr ymdeithient trwy y dinasoedd, traddodent iddynt y gorchymynion i'w cadw, ar y rhai y penderfynwyd gan yr Apostolion a'r Henuriaid y rhai oedd yn Jerusalem. Gan hyny yn wir yr eglwysi a gadarnhawyd yn y Ffydd, ac a amlhasant mewn rhifedi yn ddyddiol. A hwy a dramwyasant trwy Phrygia a gwlad Galatia, wedi iddynt gael eu rhwystro gan yr Yspryd Glân i lefaru y Gair yn Asia; a phan ddaethant gyferbyn a Mysia, hwy a gynygiasant fyned i Bithynia, ond ni oddefodd Yspryd yr Iesu iddynt. Ac wedi myned heibio i Mysia, hwy a aethant i waered i Troas. A gweledigaeth yn ystod y nos a ymddangosodd i Paul: Rhyw wr o Macedonia oedd yn sefyll, ac yn deisyfu arno ac yn dywedyd, Tyred trosodd i Macedonia, a chymhorth ni. A phan welodd efe y weledigaeth, yn ebrwydd ni a geisiasom fyned i Macedonia, gan gasglu yn sicr alw o Dduw nyni i efengylu iddynt hwy. Wedi hwylio gan hyny o Troas, ni a redasom yn syth i Samothracia, a thranoeth i Neapolis; ac oddiyno i Philippi, dinas o Macedonia, y gyntaf o'r rhan‐barth, ac yn drefedigaeth: ac ni a fuom yn y ddinas hon yn treulio rhai dyddiau. Ac ar y Dydd Sabbath ni a aethom tu allan i'r porth, at lan afon, lle y tybiem yr oedd Lle Gweddi; ac wedi eistedd ni a lefarasom wrth y gwragedd oedd wedi dyfod ynghyd. A rhyw wraig o'r enw Lydia, un yn gwerthu porphor, o ddinas Thyatira, un yn addoli Duw, a wrandawodd; yr hon yr agorodd yr Arglwydd ei chalon, i ddal sylw ar y pethau a leferid gan Paul. A phan fedyddiwyd hi a'i thy, hi a ddeisyfodd, gan ddywedyd, Os ydych wedi barnu fy mod i yn gredadyn yn yr Arglwydd, deuwch i mewn i'm tŷ, ac aroswch. A hi a'n cymhellodd yn daer. A bu, fel yr oeddem yn myned i'r Lle Gweddi, i ryw lances, a chanddi yspryd dewiniaeth, gyfarfod a ni; yr hon a ddygai elw mawr i'w meistriaid trwy ddewinio. Hon, gan ddylyn Paul a ninau, a lefodd allan, gan ddywedyd, Y dynion hyn ydynt weision y Duw Goruchaf, y rhai sydd yn mynegu i chwi ffordd Iachawdwriaeth. A hyn hi a wnaeth dros ddyddiau lawer. Ond Paul, wedi ei flino allan, a drodd, ac a ddywedodd wrth yr yspryd, Yr wyf yn gorchymyn i ti yn enw Iesu Grist ddyfod allan o honi. Ac efe a ddaeth allan yr awr hono. A'i meistriaid hi yn gweled fyned gobaith eu helw hwynt ymaith, a ddaliasant Paul a Silas, ac a'u llusgasant i'r farchnadfa o flaen penaethiaid; a phan ddygasant hwynt at y llywodraethwyr milwrol, hwy a ddywedasant, Y dynion hyn sydd yn llwyr‐gythryblu ein dinas, a hwy yn Iuddewon, a chyhoeddasant ddefodau, y rhai nid yw gyfreithlon i ni eu derbyn a'u gwneuthur, a ni yn Rufeinwyr. A'r dyrfa a safodd i fyny ynghyd yn eu herbyn: a'r llywodraethwyr milwrol, gan rwygo eu dillad hwynt, a orchymynasant eu curo hwy â gwiâil. Ac wedi rhoddi arnynt lawer o wialenodiau hwy a'u bwriasant i garchar, gan orchymyn i geidwad y carchar eu cadw hwynt yn ddyogel: yr hwn wedi derbyn y fath orchymyn, a'u bwriodd i'r carchar nesaf i mewn, ac a wnaeth eu traed yn sicr yn y cyffion. A thua haner nos, Paul a Silas pan yn gweddio a ganent hymnau i Dduw, a'r carcharorion oeddent yn gwrando arnynt; ac yn ddisymwth, y bu daear‐gryn mawr, fel y siglwyd sylfaeni y carchardy, ac yn ebrwydd yr holl ddrysau a agorwyd, a rhwymau pawb a ryddhawyd. A cheidwad y carchar wedi deffro o gwsg, a gweled drysau y carchar wedi eu hagoryd, wedi tynu ei gleddyf, yr oedd efe ar fedr lladd ei hun, gan dybied fod y carcharorion wedi ffoi. Eithr Paul a lefodd â llef uchel, gan ddywedyd, Na wna i ti dy hun ddim niwed; canys yr ydym ni oll yma. Ac wedi galw am oleu, efe a neidiodd i mewn, a than grynu efe a syrthiodd i lawr gerbron Paul a Silas, ac a'u harweiniodd hwynt y tu allan, ac a ddywedodd, O Feistriaid, beth sydd raid i mi ei wneuthur fel y byddwyf gadwedig? A hwy a ddywedasant, Cred yn yr Arglwydd Iesu, a chadwedig fyddi di a'th dŷ. A hwy a lefarasant wrtho Air yr Arglwydd, ynghyd a phawb oedd yn ei dŷ. Ac efe a'u cymerodd hwy gydag ef yr awr hono o'r nos, ac a olchodd eu briwiau hwynt; ac efe a fedyddiwyd, a'r eiddo oll, yn ebrwydd. Hefyd, efe a'u harweiniodd hwy i fyny i'w dŷ, ac a osododd fwyd ger eu bron, ac a orfoleddodd gyda'i holl dŷ, gan eu bod wedi credu yn Nuw. A'r dydd wedi dyfod, y llywodraethwyr milwrol a anfonasant y rhingyllwyr, gan ddywedyd, Gollwng yn rhyddion y dynion hyn. A Cheidwad y Carchar a fynegodd y geiriau wrth Paul, Danfonodd y Llywodraethwyr milwrol am eich gollwng yn rhyddion: yn awr gan hyny, wedi myned allan, ewch mewn heddwch. Eithr Paul a ddywedodd wrthynt, Y maent wedi ein fflangellu yn gyhoeddus, heb ein heuog‐farnu, a ninau yn Rufeinwyr, a bwriasant ni i garchar; ac yn awr, a ydynt yn ein bwrw ni allan yn ddirgel? nid felly; ond bydded iddynt ddyfod eu hunain, a'n dwyn ni allan. A'r rhingyllwyr a fynegasant i'r Llywodraethwyr milwrol y geiriau hyn, a hwy a ofnasant pan glywsant, Rhufeinwyr ydynt; a hwy a ddaethant ac a ddeisyfasant arnynt; ac wedi eu harwain allan, gofynasant iddynt fyned ymaith o'r ddinas. Ac wedi myned allan o'r carchar, hwy a aethant i mewn at Lydia; ac wedi iddynt weled y brodyr, hwy a'u calonogasant, ac a aethant allan. Ac wedi iddynt wneyd ei ffordd trwy Amphipolis ac Apollonia, hwy a ddaethant i Thessalonica, lle yr oedd Synagog yr Iuddewon. Ac fel yr oedd yn arferol gan Paul, efe a aeth i mewn atynt; ac am dri Sabbath yr ymresymodd a hwynt o'r Ysgrythyrau, gan agoryd a gosod allan fod yn rhaid i'r Crist ddyoddef, a chyfodi drachefn o feirw, ac, meddai, Hwn yw y Crist Iesu, yr hwn yr wyf yn ei gyhoeddi i chwi. A rhai o honynt a argyhoeddwyd ac a ychwanegwyd i Paul a Silas, ac o'r Groegiaid defosiynol luaws mawr, ac o'r gwragedd penaf nid ychydig. Eithr yr Iuddewon, gan genfigenu, a chymeryd atynt ryw ddynion drwg o'r gwehilion, ac wedi casglu tyrfa, hwy a osodasant y ddinas mewn terfysg; a chan ymosod ar dŷ Jason, hwy a'u ceisiasant, er eu dwyn allan at y bobl. A phan na chawsant hwynt, llusgasant Jason a rhai brodyr gerbron Llywodraethwyr y ddinas, gan waeddi, Y rhai sydd yn chwyl‐droi y byd ydynt bresenol yma hefyd; y rhai a roesawodd Jason; ac y mae y rhai hyn oll yn gweithredu yn erbyn gorchymynion Cesar, gan ddywedyd fod brenhin arall, Iesu. A hwy a gyffroisant y dyrfa a Llywodraethwyr y ddinas, pan glywsant y pethau hyn. Ac wedi derbyn sicrwydd digonol oddiwrth Jason a'r lleill, hwy a'u gollyngasant ymaith allan. A'r brodyr yn ebrwydd o hyd nos a anfonasant Paul a Silas i Berea; y rhai wedi cyrhaedd yno, a aethant i Synagog yr Iuddewon. A'r rhai hyn oedd foneddigeiddiach na'r rhai yn Thessalonica, yn gyfryw ag a dderbyniasant y Gair gyda phob brwdfrydedd, gan chwilio yr Ysgrythyrau yn ddyddiol, a oedd y pethau hyn felly. Gan hyny yn wir, llawer o honynt a gredasant; ac o'r gwragedd a'r gwyr Groegaidd anrhydeddus, nid ychydig. Ond pan wybu yr Iuddewon o Thessalonica fod Gair Duw yn cael ei gyhoeddi yn Berea hefyd gan Paul, daethant yno hefyd, gan gynhyrfu a chythryblu y torfeydd. Ac yna yn ebrwydd y brodyr a anfonasant Paul ymaith i fyned hyd at y môr; a Silas a Thimotheus hefyd a arosasant yno. Ond y rhai a dywysent Paul a'i dygasant hyd Athen; ac wedi derbyn gorchymyn at Silas a Thimotheus ar iddynt ddyfod ato gyda phob brys, hwy a aethant ymaith. Ac yn Athen tra yr oedd Paul yn eu disgwyl hwynt, ei yspryd a gynhyrfwyd ynddo wrth edrych ar y ddinas yn llawn o eilunod. Gan hyny yn wir efe a ymresymai yn y Synagog â'r Iuddewon a'r rhai defosiynol, ac yn y Farchnadle bob dydd â'r rhai a gyfarfyddent ag ef. A rhai hefyd o'r athronwyr Epicureaidd a Stoicaidd a ymddadleuent ag ef; a rhai a ddywedent, Beth a fyn y clebryn hwn ei ddywedyd? ond eraill, Tebyg yw ei fod yn gyhoeddwr o dduwiau dyeithr; gan ei fod yn pregethu yr Iesu a'r Adgyfodiad. A hwy a gymerasant afael ynddo, ac a'i dygasant ef at yr Areopagus, gan ddywedyd, A allwn ni gael gwybod beth yw y ddysgeidiaeth newydd hon a leferir genyt? Oblegyd yr wyt ti yn dwyn i'n clustiau rai pethau sydd yn peri syndod: am hyny ni a fynem wybod beth all y pethau hyn fod. (A'r holl Atheniaid, a'r dyeithriaid oedd yn preswylio yno, nid oedd ganddynt hamdden i ddim arall ond i ddywedyd neu i glywed rhywbeth oedd fwy newydd). A Phaul a gymerodd ei safle yn nghanol yr Areopagus, ac a ddywedodd, O Wyr o Atheniaid, yn mhob peth yr wyf yn eich canfod yn dra‐pharchus o'r duwiau; canys wrth fyned heibio a sylwi yn fanwl a'r wrthddrychau eich addoliad, mi a gefais hefyd allor, ac ynddo yr ar‐ysgrifen, I DDUW ANADNABYDDUS: yr hyn gan hyny yr ydych, heb ei adnabod, yn ei addoli, hyny yr wyf fi yn ei gyhoeddi i chwi. Y Duw a wnaeth y byd a'r holl bethau sydd ynddo, hwn ac Efe yn Arglwydd nef a daear, nid yw yn preswylio mewn cysegrfeydd o waith llaw; ac nid gan ddwylaw dynol y gweinir iddo fel un ag eisieu dim arno yn ychwaneg, gan ei fod Efe ei hun yn rhoddi i bawb fywyd, ac anadl, a phob peth. Ac efe a wnaeth o un bob cenedl o ddynion i breswylio ar holl wyneb y ddaear, gan benderfynu adegau penodedig a therfynau eu preswylfod hwynt; fel y ceisient Dduw, os, hwyrach, yr ymbalfalent am dano ac y caent ef: ac yn wir nid yw efe yn mhell oddiwrth bob un o honom ni: oblegyd ynddo Ef yr ydym ni yn byw, yn ymsymud, ac yn bod; megys y mae hyd y nod rhai o'ch beirdd chwi eich hunain wedi dywedyd, Canys ei hiliogaeth Ef ydym ninau hefyd. Gan hyny gan ein bod ni yn hiliogaeth Duw, ni ddylem dybied fod y Duwdod yn debyg i aur neu arian neu faen, o gerfiad celfyddyd a dychymyg dyn. Duw gan hyny wedi edrych heibio i amseroedd yr anwybodaeth, yn awr a orchymyn i ddynion ar iddynt oll yn mhob man edifarhâu: o herwydd iddo osod diwrnod, yn yr hwn y mae ar fedr barnu y byd mewn cyfiawnder trwy Wr yr hwn a benododd efe, wedi rhoddi prawf i bawb, gan ei gyfodi ef o feirw. A phan glywsant am Adgyfodiad y meirw, rhai yn wir a watwarasant; ond eraill a ddywedasant, Ni a'th wrandawn di eto drachefn am y peth hwn. Felly Paul a aeth allan o'u canol hwynt; ond rhai gwyr a lynasant wrtho, ac a gredasant: yn mhlith y rhai hefyd yr oedd Dionysius yr Areopagiad a gwraig o'r enw Damaris, ac eraill gyda hwynt. Ar ol y pethau hyn, efe a ymadawodd o Athen, ac a ddaeth i Corinth; ac wedi iddo gael rhyw Iuddew o'r enw Acwila, un o Pontus o genedl, wedi newydd ddyfod o'r Eidal, a Priscilla ei wraig, am orchymyn o Claudius i'r holl Iuddewon ymadael o Rufain, efe a ddaeth atynt. Ac o herwydd ei fod o'r un gelfyddyd, efe a arosodd gyda â hwynt, ac a weithiasant; canys yr oeddent yn wneuthurwyr pebyll wrth eu celfyddyd. Ac efe a ymresymodd yn y Synagog bob Sabbath, ac a argyhoeddodd Iuddewon a Groegiaid. A phan ddaeth Silas a Thimotheus i lawr o Macedonia, yr oedd Paul yn cael ei ddirgymhell gan y Gair, gan dystiolaethu i'r Iuddewon mai Iesu oedd y Crist. Ac a hwy yn gosod eu hunain yn ei erbyn ac yn cablu, efe a ysgydwodd allan ei ddillad, ac a ddywedodd wrthynt, Y mae eich gwaed ar eich pen eich hun: glân wyf fi; o hyn allan af at y Cenhedloedd. Ac efe a symudodd oddiyno, ac a aeth i dy un o'r enw Titius Justus, un yn addoli Duw, ty yr hwn oedd yn cyffwrdd a'r Synagog. A Crispus yr Arch‐synagogydd a gredodd yn yr Arglwydd ynghyd a'i holl deulu; a llawer o'r Corinthiaid, wrth wrando, a gredasant ac a fedyddiwyd. A'r Arglwydd a ddywedodd yn y nos trwy weledigaeth wrth Paul, Nac ofna, eithr llefara, ac na thaw: canys yr wyf fi gyda thi, ac ni ymesyd neb arnat fel i'th ddrygu: canys pobl lawer sydd genyf yn y Ddinas hon. Ac efe a arosodd yno flwyddyn a chwe mis, gan ddysgu yn eu plith Air Duw. A phan oedd Gallio yn Rhaglaw Achaia, cyfododd yr Iuddewon yn unfryd yn erbyn Paul, a dygasant ef at y frawd‐le, gan ddywedyd, Y mae hwn yn darbwyllo dynion i addoli Duw yn groes i'r Gyfraith. A Paul ar fedr agoryd ei enau, dywedodd Gallio wrth yr Iuddewon, Pe buasai yn wir yn fater o gam neu o ddrwg ystryw, O Iuddewon, wrth reswm mi a gyd‐ddygaswn a chwi; eithr os cwestiynau ydynt am Ymadrodd ac Enwau a Chyfraith sydd yn perthyn i chwi, edrychwch eich hunain: ni ewyllysiaf fi fod yn farnwr y pethau hyn. Ac efe a'u gyrodd hwynt oddiwrth y frawdle. A hwynt oll, wedi cymeryd gafael yn Sosthenes, yr Arch‐synagogydd, a'i curasant ef o flaen y frawdle. Ac nid oedd Gallio yn gofalu am ddim o'r pethau hyn. Eithr Paul, wedi aros yn mlaen ddyddiau lawer, a ganodd yn iach i'r brodyr, ac a fordwyodd ymaith i Syria, a chydag ef Priscilla ac Acwila, wedi iddo yn Cenchrea gneifio ei ben, canys yr oedd arno adduned. A hwy a gyrhaeddasant i Ephesus, ac efe a'u gadawodd hwynt yno: eithr efe ei hun a aeth i mewn i'r Synagog, ac a ymresymodd a'r Iuddewon; a phan ofynasant iddo aros am fwy o amser, ni chydsyniodd, ond gan ganu yn iach iddynt, a dywedyd, Drachefn mi a ddychwelaf atoch, os Duw a'i myn, hwyliodd ymaith o Ephesus. A phan laniodd efe yn Cesarea, a myned i fyny a chyfarch yr eglwys, efe a aeth i waered i Antioch. Ac wedi iddo dreulio talm o amser, efe a aeth ymaith, gan fyned trwy wlad Galatia a Phrygia mewn trefn, gan gadarnhau yr holl ddysgyblion. A rhyw Iuddew, o'r enw Apollos, Alexandriad o genedl, gwr ymadroddus, a ddaeth i Ephesus, gan fod yn alluog yn yr Ysgrythyrau: yr hwn oedd wedi ei egwyddori yn ffordd yr Arglwydd; a chan fod yn danbaid yn yr yspryd llefarai a dysgai yn gywir y pethau am yr Iesu, gan fod yn gydnabyddus a Bedydd Ioan yn unig. Hwn hefyd a ddechreuodd lefaru yn hyf yn y Synagog: a phan glywodd Priscilla ac Acwila ef, hwy a'i cymerasant ef atynt, ac a esboniasant iddo ffordd Duw yn fwy cywir. A phan yr oedd efe yn ewyllysio myned trosodd i Achaia, y brodyr a'i cymhellasant yn mlaen, ac a ysgrifenasant at y dysgyblion i'w roesawu ef; ac efe, wedi cyrhaedd, a gynorthwyodd lawer ar y rhai oeddent wedi credu, trwy ras; canys yn egniol y profodd yn drwyadl yn erbyn yr Iuddewon yn gyhoeddus, gan ddangos trwy yr Ysgrythyrau mai Iesu yw y Crist. A dygwyddodd, tra yr oedd Apollos yn Corinth, wedi i Paul dramwy trwy y parthau uchaf, ddyfod o hono i Ephesus, a chael rhyw ddysgyblion; ac efe a ddywedodd wrthynt, A dderbyniasoch chwi yr Yspryd Glân pan gredasoch? A hwy a ddywedasant wrtho, Na, ni chawsom ni gymaint a chlywed a oes Yspryd Glân. Ac efe a ddywedodd, I ba beth gan hyny y'ch bedyddiwyd chwi? Hwythau a ddywedasant, I fedydd Ioan. A dywedodd Paul, Ioan a fedyddiodd a bedydd edifeirwch, gan ddywedyd wrth y bobl am gredu yn yr Hwn oedd yn dyfod ar ei ol ef, hyny yw, yn yr Iesu A phan glywsant hyn, hwy a fedyddiwyd i enw yr Arglwydd Iesu. A Phaul yn gosod dwylaw arnynt, daeth yr Yspryd Glân arnynt, a llefarasant a thafodau, ac a broffwydasant. Ac yr oeddent oll tua deuddeg gwr. Ac efe a aeth i mewn i'r Synagog, ac a lefarodd yn hyf am dri mis, gan ymresymu a pherswadio ynghylch Teyrnas Dduw. A phan yr oedd rhai wedi ymgaledu ac yn anufydd, gan ddywedyd yn ddrwg am Y Ffordd gerbron y lluaws, efe a ymadawodd oddiwrthynt, ac a wahanodd y dysgyblion, gan ymresymu yn ddyddiol yn Ysgol Tyrannus. A bu hyn am ddwy flynedd, hyd oni ddarfu i bawb oedd yn trigo yn Asia glywed Gair yr Arglwydd, yn Iuddewon a Groegiaid hefyd. A Duw a wnaeth weithredoedd nerthol anarferol trwy ddwylaw Paul: hyd oni ddygid ymaith at y cleifion oddiwrth ei gorph napcynau neu arffedogau, ac yr ymadawai y clefydau â hwynt, a'r ysprydion drwg a aent allan. A rhai hefyd o'r Iuddewon crwydrol, consurwyr, a ymgymerasant ag enwi uwchben y rhai a chanddynt yr ysprydion drwg enw yr Arglwydd Iesu, gan ddywedyd, Yr wyf yn eich tynghedu trwy yr Iesu yr hwn y mae Paul yn ei bregethu. Ac yr oedd saith mab rhyw Scefa, Iuddew, Arch‐offeiriad, yn gwneuthur hyn. A'r yspryd drwg a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yr Iesu yr wyf yn ei adnabod, a Phaul a adwaenwyf, eithr pwy ydych chwi? A'r dyn yn yr hwn yr oedd yr yspryd drwg, a neidiodd arnynt, a feistrolodd y ddau, ac a orthrechodd yn eu herbyn, fel y ffoisant hwy allan o'r tŷ hwnw yn noethion ac yn archolledig. A hyn a aeth yn hyspys i bawb, Iuddewon a Groegiaid hefyd, y rhai oedd yn preswylio yn Ephesus, ac ofn a syrthiodd arnynt oll, ac enw yr Arglwydd Iesu a fawrygwyd. A llawer o'r rhai oedd wedi credu a ddaethant gan gyffesu a dadgan eu gweithredoedd. Ac amryw o'r rhai a arferasant swyn‐ddewiniaeth a gasglasant eu llyfrau ynghyd, ac a'u llosgasant yn ulw yn ngwydd pawb: a hwy a gyfrifasant eu pris hwynt, ac a'i cawsant yn ddeng mil a deugain o ddarnau arian. Mor rymus y cynyddodd gair yr Arglwydd, ac y cryfhaodd! A phan gyflawnwyd y pethau hyn, arfaethodd Paul yn yr yspryd, wedi iddo dramwy trwy Macedonia ac Achaia, fyned i Jerusalem, gan ddywedyd, Wedi i mi fod yno, rhaid i mi weled Rhufain hefyd. Ac wedi anfon i Macedonia ddau o'r rhai oedd yn gweini iddo, Timothëus ac Erastus, efe ei hun a ddaliodd yn mlaen beth amser yn Asia. A dygwyddodd yn y tymhor hwnw gynhwrf nid bychan ynghylch y Ffordd; canys rhyw Ddemetrius wrth ei enw, gôf arian, yn gwneuthur cysegrau arian o Diana, a roddai i'r crefftwyr waith nid ychydig; y rhai a gynullodd efe ynghyd a'r rhai oeddent weithwyr y cyfryw bethau, ac a ddywedodd, O wyr, chwi a wyddoch mai allan o'r gwaith hwn y mae i ni lwyddiant; a chwi a welwch ac a glywch, nid yn unig yn Ephesus, eithr bron drwy holl Asia, i'r Paul hwn ddarbwyllo a gŵyr‐droi lluaws mawr, gan ddywedyd nad ydyw y rhai a wneir â dwylaw yn dduwiau. Ac nid yn unig y mae perygl fod hon, sef ein trafnidiaeth ni, yn myned yn wrthodedig, ond hefyd fod Teml y dduwies fawr Diana i gael ei chyfrif yn ddyddim, a bod hithau ar gael ei thynu i lawr o'i mawrhydi, yr hon y mae holl Asia a'r byd trigianol yn ei haddoli. A phan glywsant, a myned yn llawn o ddigofaint, gwaeddasant, gan ddywedyd, Mawr yw Diana yr Ephesiaid! A'r ddinas a lanwyd â'r terfysg; a rhuthrasant yn unfryd i'r chwareu‐dy, wedi cipio gyda hwynt Gaius ac Aristarchus, Macedoniaid, cyd‐ymdeithion Paul. A Phaul yn ewyllysio myned i mewn at y bobl, ni adawodd y dysgyblion iddo. A rhai hefyd o'r Asiarchiaid, y rhai oeddent gyfeillion iddo, gan anfon ato a ddeisyfent arno nad anturiai, fyned i'r chwareu‐dŷ. Rhai gan hyny a waeddent un peth ac eraill beth arall, canys yr oedd y gynulleidfa wedi ei therfysgu, a'r mwyrif ni wyddent paham y daethent ynghyd. Eithr hwy a gymhellasant yn mlaen Alexander o'r dyrfa, yr Iuddewon yn ei wthio ef yn mlaen. Ac Alexander a amneidiodd â'i law, ac a fynasai wneuthur ymddiffyniad wrth y bobl. Eithr pan wybuant mai Iuddew oedd efe, daeth un lef oddiwrth bawb, y rhai a waeddasent megys am ddwy awr, Mawr yw Diana yr Ephesiaid. Ac wedi i'r Cofiadur lonyddu y dyrfa, dywed, O wyr Ephesus, canys pwy un yn mhlith dynion sydd na ŵyr fod Dinas yr Ephesiaid yn geidwad Diana Fawr a'r ddelw, a syrthiodd o'r Nef. Gan fod y pethau hyn gan hyny yn anwadadwy, chwi a ddylech fod yn dawel o'r dechreu, a pheidio gwneuthur dim yn fyrbwyll. Canys dygasoch yma y gwyr hyn, y rhai nid ydynt nac yn yspeilwyr temlau nac yn gablwyr ein duwies ni. Os oes gan hyny gan Demetrius a'r crefftwyr sydd gydag ef unrhyw fater yn erbyn neb, cynhelir brawd-lysoedd, ac y mae rhaglawiaid: bydded iddynt ddwyn achwyniad yn erbyn eu gilydd. Ond os ceisiwch unrhyw beth yn mhellach, yn y Gynulleidfa gyfreithlon y penderfynir hyny. Canys hyd yn nod yr ydym mewn perygl o gael ein cyhuddo o derfysg am y dydd heddyw, heb ddim achos o'r dechreu, am yr hwn ni fyddwn alluog i roddi rheswm, sef am yr ymgyrch hwn. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, gollyngodd ymaith y Gynulleidfa. Ac ar ol darfod o'r cythrwfl, Paul, wedi danfon am y dysgyblion, a'u cynghori a' u cofleidio, a ymadawodd i fyned i Macedonia. Ac wedi iddo fyned trwy y parthau hyny, a'u cynghori â llawer gair, efe a ddaeth i Groeg. Ac wedi iddo dreulio tri mis, ac i gynllwyn gael ei wneyd gan yr Iuddewon yn ei erbyn pan ar fedr morio i Syria, daeth i'r penderfyniad i ddychwelyd trwy Macedonia. A chydymdeithodd ag ef [hyd yn Asia], Sopater o Berea, mab Pyrrhus; ac o'r Thessaloniaid, Aristarchus a Secundus; a Gaius o Derbe a Thimotheus; ac o Asia, Tychicus a Trophimus. A'r rhai hyn wedi cyrhaedd yno a arosasant am danom yn Troas. A ni a fordwyasom ymaith ar ol dyddiau y Bara Croyw o Philippi, ac a ddaethom atynt i Troas yn mhen pum niwrnod, lle y treuliasom saith niwrnod. Ac ar y Dydd Cyntaf o'r wythnos, a ninau wedi ymgynull ynghyd i Dori Bara, ymresymai Paul â hwynt, ar fedr myned ymaith dranoeth, ac a barhâodd ei ymadrodd hyd haner nos. Ac yr oedd llawer o oleuadau yn yr oruwch‐ystafell, lle yr oeddem wedi ymgynull ynghyd. A rhyw wr ieuangc o'r enw Eutychus oedd yn eistedd yn y ffenestr, yn cael ei lethu gan drwm‐gwsg; ac fel yr oedd Paul yn ymresymu yn helaethach, efe, wedi ei lethu gan y cwsg, a syrthiodd o'r drydedd loft, ac a godwyd i fyny yn farw. A Phaul a aeth i waered, ac a syrthiodd arno ef, a chan ei gofleidio a ddywedodd, Na therfysgwch, canys y mae ei fywyd ynddo. Ac wedi iddo fyned i fyny, a thori y Bara, a bwyta, ac ymddyddan am hir amser, hyd doriad dydd, felly yr ymadawodd. A hwy a ddygasant y llangc yn fyw, ac a gysurwyd yn ddirfawr. A nyni wedi cyrhaedd hyd at y llong, a hwyliasom i Assos, ar fedr yno cymeryd Paul i mewn; canys felly yr oedd efe wedi trefnu pan ar fedr myned ei hun ar draed. A phan gyfarfu efe a ni yn Assos, ni a'i cymerasom ef i mewn, ac a ddaethom i Mitylene. Ac wedi mordwyo oddiyno, dranoeth ni a ddaethom gyferbyn a Chios; ac ar y dydd arall ni a wthiasom yn groes i Samos; a'r dydd canlynol ni a ddaethom i Miletus: canys yr oedd Paul wedi penderfynu hwylio heibio i Ephesus fel na fyddai iddo dreulio amser yn Asia; canys brysiai, os oedd bosibl iddo, i fod yn Jerusalem Ddydd y Pentecost. Ac o Miletus efe a anfonodd i Ephesus, ac a alwodd ato Henuriaid yr eglwys. A phan ddaethant ato, efe a ddywedodd wrthynt, Chwi a wyddoch o'r dydd cyntaf y gosodais droed yn Asia, pa fodd y bum gyda chwi yr holl amser; gan wasanaethu yr Arglwydd gyda phob gostyngeiddrwydd, a dagrau, a phrofedigaethau a ddygwyddasant i mi yn nghynllwynion yr Iuddewon: y modd nad ateliais ddim o'r pethau buddiol heb eu mynegu i chwi, a'ch dysgu ar gyhoedd, ac o dŷ i dŷ; gan dystiolaethu i Iuddewon a Groegiaid hefyd, yr edifeirwch sydd tuag at Dduw, a ffydd tuag at ein Harglwydd Iesu Grist. Ac yn awr, wele myfi, yn rhwym yn yr yspryd, yn myned i Jerusalem, heb wybod y pethau a ddygwyddant i mi ynddi: oddieithr fod yr Yspryd Glân o ddinas i ddinas yn tystiolaethu i mi, gan ddywedyd fod rhwymau a gorthrymderau yn fy aros. Eithr nid wyf yn gwneuthur unrhyw gyfrif o' m heinioes fel yn werthfawr i mi fy hun, fel y gorphenwyf fy ngyrfa a'r weinidogaeth a dderbyniais gan yr Arglwydd Iesu, i dystiolaethu Efengyl gras Duw. Ac yn awr, wele, mi a wn na welwch chwi oll fy wyneb i mwyach, yn mysg y rhai y tramwyais, gan bregethu y Deyrnas. Gan hyny yr wyf yn tystio i chwi y dydd heddyw, fy mod i yn lân oddiwrth waed pawb oll; canys nid ymateliais rhag mynegu holl gynghor Duw i chwi. Edrychwch atoch eich hunain ac at yr holl braidd, yn mhlith y rhai y gosododd yr Yspryd Glân chwi yn Arolygwyr, i fugeilio Eglwys Dduw, yr hon a brynodd Efe trwy ei briod waed. Mi a wn y daw i mewn i'ch mysg ar ol fy ymadawiad fleiddiaid blinion, y rhai nad arbedant y praidd. Ac o'ch plith chwi eich hunain y cyfyd gwyr yn llefaru pethau gŵyrdraws, i dynu ymaith y dysgyblion ar eu hol eu hunain. Am hyny gwyliwch, gan gofio mai am dair blynedd, ddydd a nos, ni pheidiais gynghori pob un gyda dagrau. Ac yn awr yr wyf yn eich cyflwyno i Dduw ac i Air ei ras, yr Hwn sydd yn alluog i adeiladu ac i roddi yr Etifeddiaeth yn mhlith yr holl rai a sancteiddiwyd. Arian neu aur neu wisg neb ni chwenychais. Chwychwi a wyddoch i'r dwylaw hyn wasanaethu i'm cyfreidiau, ac i'r rhai oedd gyda mi. Rhoddais i chwi esiampl yn mhob peth, mai wrth lafurio felly y mae yn rhaid cynorthwyo y gweiniaid, a chofio hefyd eiriau yr Arglwydd Iesu, iddo ei Hun ddywedyd, Gwynfydedig yw Rhoddi yn hytrach na Derbyn. Ac wedi dywedyd y pethau hyn, a myned ar ei liniau, efe a weddïodd gyda hwynt holl. Ac wylo yn dost a wnaeth pawb, ac a syrthiasant ar wddf Paul, ac a'i cusanasant drachefn a thrachefn, gan ymofidio yn benaf am y gair a ddywedasai, na chaent dremio ar ei wyneb ef mwy. A hwy a'i hebryngasant ef i'r llong. A phan ddarfu i ni hwylio ymaith, wedi i ni ein gwahanu oddiwrthynt, ni a ddaethom ag union‐gyrch i Cos, a thranoeth i Rhodes, ac oddiyno i Patara. Ac wedi cael llong yn croesi trosodd i Phœnicia, ni a aethom i fyny iddi, ac a hwyliasom. Ac wedi cael golwg ar Cyprus, a'i gadael hi ar y llaw aswy, hwyliasom i Syria, ac a diriasom yn Tyrus, canys yno yr oedd y llong yn dadlwytho y llwyth. Ac wedi dyfod o hyd i'r dysgyblion, arosasom yno saith niwrnod: a'r cyfryw rai a ddywedasent i Paul, trwy yr Yspryd, beidio myned o hono i'r lan i Jerusalem. A phan ddarfu i ni gyflawnu y dyddiau, ni a ymadawsom ac a gychwynasom, a phawb, ynghyd a gwragedd a phlant, yn ein hebrwng, hyd tu allan i'r ddinas; ac wedi myned ar ein gliniau ar y traeth, a gweddio, ni a ganasom yn iach i'n gilydd. A ni a aethom i'r llong, a hwythau a ddychwelasant i'w cartref. A nyni wedi gorphen ein mordaith, o Tyrus ni a ddaethom i Ptolemais; ac wedi cyfarch y brodyr, arosasom un diwrnod gyda hwynt. A thranoeth, wedi ymadael, ni a ddaethom i Cesarea; ac wedi myned i mewn i dy Philip yr Efengylydd, yr hwn oedd o'r Saith, ni a arosasom gydag ef. Ac i hwn yr oedd pedair merch, gwyryfon, yn prophwydo. Ac wrth aros o honom amryw ddyddiau, daeth i waered o Judea rhyw brophwyd o'r enw Agabus. Ac wedi dyfod atom, a chymeryd gwregys Paul, efe a rwymodd ei draed ei hun a'i ddwylaw, ac a ddywedodd, Hyn a ddywed yr Yspryd Glân, Y gwr biau y gwregys hwn, yr un modd y rhwyma'r Iuddewon ef yn Jerusalem, ac a'i traddodant i ddwylaw y Cenhedloedd. A phan glywsom y pethau hyn, nyni a'r brodorion hefyd a atolygasom arno i beidio myned i fyny i Jerusalem. Yna yr atebodd Paul, Beth feddyliwch wrth wylo a llethu fy nghalon? Canys parod wyf, nid yn unig i'm rhwymo, ond hefyd i farw yn Jerusalem, er mwyn enw yr Arglwydd Iesu. Ac efe heb ei ddarbwyllo, ni a dawsom a sôn gyda dywedyd, Ewyllys yr Arglwydd a wneler. Ac ar ol y dyddiau hyn, wedi gwneyd ein parotoadau, aethom i fyny i Jerusalem. Aeth hefyd gyda ni rai o'r dysgyblion o Cesarea, gan ein harwain at un Mnason, o Cyprus, dysgybl boreuol, gyda'r hwn y lletyem. Ac wedi ein dyfod i Jerusalem, y brodyr a'n croesawsant yn llawen. A'r dydd canlynol yr aeth Paul i mewn gyda ni at Iago; hefyd yr holl Henuriaid oeddent yn bresenol. Ac wedi iddo eu cyfarch, efe a adroddodd bob yn un, bob un o'r pethau a wnaeth Duw yn mhlith y Cenhedloedd trwy ei weinidogaeth ef. A phan glywsant, hwy a ogoneddasant Dduw; dywedasant hefyd wrtho, Ti a weli, frawd, pa sawl myrddiwn sydd yn mhlith yr Iuddewon o'r rhai sydd wedi credu, a'r oll yn selog dros y Gyfraith o'r dechreu: ac hyfforddwyd hwy am danat ti dy fod yn dysgu ymwrthodiad â Moses i'r holl Iuddewon sydd yn mysg y Cenhedloedd, gan ddywedyd wrthynt beidio enwaedu ar y plant na rhodio wrth y defodau. Pa beth gan hyny sydd i'w wneyd? [Rhaid] yn ddios [ddyfod o luaws ynghyd]: clywant dy fod wedi dyfod. Gwna gan hyny yr hyn a ddywedwn wrthyt: Y mae genym bedwar gwr a chanddynt adduned arnynt: cymer y rhai hyn at at: glanhaer di gyda hwynt; a thâl y draul drostynt, fel yr eilliont eu penau; a phawb a ddeuant i wybod nad oes dim yn y pethau yn y rhai yr hyfforddwyd hwynt am danat, eithr dy fod dy hun yn rhodio gan gadw y Gyfraith. Ond am y Cenhedloedd crediniol, nyni a ddanfonasom genadwri, gan farnu iddynt ymgadw rhag yr hyn a aberthwyd i eilunod, a gwaed, a'r hyn a dagwyd, a phuteindra. Yna Paul a gymerodd y gwyr ato ei hun, a'r dydd nesaf gan ymlanhâu gyda hwynt, efe a aeth i mewn i'r Deml; gan hysbysu cyflawniad dyddiau y glanhâd, hyd nes yr offrymwyd yr offrwm dros bob un o honynt. A phan yr oedd y saith niwrnod ar gael eu cyflawnu, yr Iuddewon o Asia, pan welsant ef yn y Deml, a derfysgasant yr holl dyrfa, ac a ddodasant ddwylaw arno, gan waeddi, O wyr Israel, cynorthwywch: hwn yw y dyn sydd yn dysgu pawb yn mhob man yn erbyn y Bobl a'r Gyfraith a'r Lle hwn; yn mhellach, dygodd y Groegiaid hefyd i'r Deml, ac y mae wedi halogi y Lle Sanctaidd hwn. Canys yr oeddent wedi dal sylw ar Trophimus, yr Ephesiad, yn y Ddinas gydag ef, yr hwn a dybient i Paul ei ddwyn i'r Deml. A chynhyrfwyd y Ddinas oll, a'r bobl a redasant ynghyd; ac wedi ymaflyd yn Paul, hwy a'i llusgasant ef tu allan i'r Deml: ac yn y man y cauwyd y drysau. Ac a hwy yn ceisio ei ladd ef, aeth hysbysiad i fyny at Filwriad y gatrawd fod Jerusalem oll mewn terfysg: yr hwn allan o law a gymerodd filwyr a Chanwriaid, ac a redodd i waered arnynt: hwythau, pan welsant y Milwriad a'r milwyr, a beidiasant a churo Paul. Yna yr agoshaodd y Milwriad, ac a'i daliodd ef, ac a orchymynodd ei rwymo â dwy gadwyn, ac a ymofynodd pwy allai fod, a pha beth oedd wedi ei wneyd. A rhai a lefent un peth, ac eraill beth arall, yn y dyrfa; a chan na allai wybod yn sicr o herwydd y cythrwfl, gorchymynodd ei ddwyn i'r gwersyll‐dy. A phan ddaeth efe ar y grisiau, dygwyddodd y fath, fel y darfu iddo gael ei gario gan y milwyr o achos trais y dyrfa; canys yr oedd lluaws y bobl yn canlyn, gan waeddi, Ymaith ag ef! Ac fel yr oedd efe ar gael ei arwain i'r gwersyll‐dŷ, Paul a ddywed wrth y Milwriad, Ai rhydd i mi ddywedyd peth wrthyt? Ac efe a ddywedodd, A fedri di Roeg? Nid tydi, ynte, yw yr Aiphtiwr, yr hwn o flaen y dyddiau hyn a gododd wrthryfel ac a arweiniodd i'r anialwch y pedair mil o'r Brad‐lofruddiaid? Ond dywedodd Paul, Myfi yn wir wyf ddyn o Iuddew, o Tarsus, dinesydd o ddinas nid anenwog yn Cilicia; ond deisyfaf arnat ti, caniata i mi lefaru wrth y bobl. Ac wedi iddo ganiatâu, Paul, gan sefyll ar y grisiau, a amneidiodd â'i law ar y bobl; ac wedi cael dystawrwydd dwfn, efe a lefarodd yn y briod‐iaith Hebraeg, gan ddywedyd, O Wyr Frodyr a Thadau, gwrandewch fy ymddiffyn presenol wrthych. Ac wedi clywed mai yn y briod‐iaith Hebraeg y llefarai wrthynt, hwy a roisant fwy o lonyddwch. A dywedodd, Myfi wyf wr o Iuddew, wedi fy ngeni yn Tarsus yn Cilicia, wedi fy meithrin yn y Ddinas hon, wedi fy egwyddori wrth draed Gamaliel yn ol manyldeb Cyfraith ein Tadau, o'r dechreu yn un selog dros Dduw, fel, yr ydych chwithau oll heddyw: yr hwn a erlidiais y Ffordd hon hyd angeu, gan rwymo a thraddodi i garcharau wyr a gwragedd hefyd, megys hefyd y mae yr Archoffeiriad yn dyst i mi, a'r holl Henaduriaeth: gan y rhai hefyd y derbyniais lythyrau at y brodyr, ac yr oeddwn yn myned i Damascus, ar fedr dwyn y rhai oedd yno hefyd yn rhwym i Jerusalem, fel y cospid hwynt. Eithr dygwyddodd i mi wrth fyned a neshâu at Damascus ynghylch haner dydd, yn ddisymwth allan o'r nef dysglaeriodd goleuni tanbaid o'm hamgylch; a syrthiais ar y llawr, ac a glywais lais yn dywedyd wrthyf, Saul, Saul, paham yr wyt yn fy erlid I? A minau a atebais, Pwy ydwyt, Arglwydd? A dywedodd wrthyf, Myfi wyf Iesu o Nazareth, yr hwn yr wyt ti yn Ei erlid. A'r rhai oedd gyda mi yn wir a welsant y Goleuni, ond llais yr hwn oedd yn llefaru wrthyf ni chlywsant. A dywedais, Pa beth a wnaf, Arglwydd? A'r Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Cyfod, dos i Damascus, ac yno y dywedir i ti ynghylch yr holl bethau sydd wedi eu penodi i ti eu gwneuthur. A phan nad oeddwn yn gweled gan ogoniant y Goleuni hwnw, gan gael fy arwain erbyn fy llaw gan y rhai oedd gyda mi, daethum i Damascus. A rhyw Ananias, gwr bucheddol yn ol y Gyfraith, a thystiolaeth dda iddo gan yr holl Iuddewon oedd yn preswylio yno, a ddaeth ataf, ac a safodd uwch fy mhen, ac a ddywedodd wrthyf, Frawd Saul, edrych i fyny. A myfi, yn yr awr hono, a edrychais i fyny arno. Ac efe a ddywedodd, Duw ein Tadau ni a'th benododd di i wybod ei ewyllys ef, ac i weled y Cyfiawn, ac i glywed llais o'i enau ef: canys byddi dyst iddo wrth bob dyn o'r pethau a welaist ac a glywaist. Ac yn awr paham yr oedi? Cyfod, cymer dy fedyddio, a golch ymaith dy bechodau, gan alw ar ei Enw Ef. A dygwyddodd i mi, wedi dychwelyd i Jerusalem, a mi yn gweddio yn y Deml, syrthio mewn llesmair, a'i weled ef yn dywedyd wrthyf, Brysia, a dos yn glau allan o Jerusalem, o herwydd ni dderbyniant dy dystiolaeth am danaf fi. A minau a ddywedais, Arglwydd, y rhai hyn a wyddant mai myfi oedd yn carcharu ac yn curo yn mhob Synagog y rhai sydd yn credu ynot Ti. A phan dywalltwyd gwaed Stephan dy dyst ti, yr oeddwn i hefyd yn sefyll gerllaw, ac yn cydsynio, ac yn cadw dillad y rhai a'i lladdent ef. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Dos, canys myfi a'th anfonaf di yn mhell at y Cenhedloedd. A hwy a'i gwrandawsant hyd y gair hwn; a chodasant eu llef, gan ddywedyd, Ymaith â'r cyfryw un oddiar y ddaear, canys nid oedd gymhwys iddo fyw. Ac fel yr oeddent yn gwaeddi, ac yn taflu ymaith eu dillad, ac yn taflu llwch i'r awyr, gorchymynodd y Milwriad ei ddwyn ef i'r Gwersyll‐dy, gan orchymyn ei holi ef trwy fflangellau, fel y gwybyddai am ba achos y llefent felly ei erbyn. Ac wedi ei gylymu ar gyfer y fflangell, dywedodd Paul wrth y Canwriad oedd yn sefyll gerllaw, A'i cyfreithlawn i chwi fflangellu dyn sydd Rufeiniwr, ac heb ei gondemnio? A phan glybu y Canwriad, efe a aeth ac a fynegodd i'r Milwriad, gan ddywedyd, Beth yr wyt ar fedr ei wneuthur? canys Rhufeiniwr yw y dyn hwn. A'r Milwriad a ddaeth ac a ddywedodd wrtho, Dywed i mi, ai Rhufeiniwr wyt ti? Ac efe a ddywedodd, Ie. A'r Milwriad a atebodd, A swm mawr y cefais i y ddinas‐fraint hon. Eithr Paul a ddywedodd, Ond myfi a anwyd iddi. Yn ebrwydd gan hyny y ciliodd oddiwrtho y rhai oedd ar fedr ei holi ef, a'r Milwriad hefyd a ofnodd pan wybu ei fod ef yn Rhufeiniwr, a'i fod ef wedi ei rwymo. A thranoeth, ac efe yn ewyllysio gwybod yn sicr am ba beth y cyhuddid ef gan yr Iuddewon, efe a'i gollyngodd yn rhydd, ac a orchymynodd i'r Arch‐offeiriad a'r holl Sanhedrin ddyfod ynghyd, ac wedi dwyn Paul i waered, efe a'i gosododd ger eu bron. A Phaul, gan edrych yn graff ar y Sanhedrin, a ddywedodd, O Wyr Frodyr, yr wyf fi wedi byw fel dinesydd i Dduw, mewn pob cydwybod dda, hyd y dydd hwn. A'r Arch‐offeiriad Ananias a archodd i'r rhai oedd yn sefyll yn ei ymyl ei daro ef ar ei enau. Yna y dywedodd Paul wrtho, Duw sydd ar fedr dy daro di, bared wedi ei wyn‐galchu: ac a ydwyt ti yn eistedd i'm barnu i yn ol y Gyfraith, a chan droseddu'r Gyfraith yn gorchymyn fy nharo i? A'r rhai oedd yn sefyll yn ymyl a ddywedasant, A ddifenwi di Archoffeiriad Duw? A dywedodd Paul, Ni wyddwn i, frodyr, ei fod yn Arch‐offeiriad; canys y mae yn ysgrifenedig, Am benaeth dy bobl na ddywed yn ddrwg. A Phaul, yn gwybod fod un rhan o'r Saduceaid, a'r llall o'r Phariseaid, a waeddodd yn y Sanhedrin, O wyr frodyr, Pharisead wyf fi, mab i Phariseaid: am y Gobaith ac Adgyfodiad y Meirw y'm bernir i. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, cyfododd ymryson rhwng y Phariseaid a'r Saduceaid: a rhanwyd y lluaws. Canys y Saduceaid yn wir a ddywedant nad oes Adgyfodiad, nac angel nac yspryd; eithr y Phariseaid ydynt yn addef y ddau. A bu gwaedd fawr, a chododd i fyny rai o'r Ysgrifenyddion oedd o ran y Phariseaid, ac a ymrysonasant, gan ddywedyd, Nid ydym ni yn cael dim drwg yn y dyn hwn: eithr pa beth os yspryd a lefarodd wrtho neu angel? A therfysg mawr wedi cyfodi, y Milwriad, yn ofni y tynid Paul yn ddrylliau ganddynt, a orchymynodd i'r llu fyned i waered, a'i gipio ef o'u canol hwynt, a'i ddwyn i'r Gwersyll‐dy. A'r nos ganlynol, yr Arglwydd a safodd yn ei ymyl, a dywedodd, Ymgalonoga,; canys megys y tystiolaethaist am danaf i Jerusalem, felly y mae yn rhaid i ti dystiolaethu hefyd i Rufain. A phan aeth hi yn ddydd, yr Iuddewon a wnaethant gytundeb, ac a rwymasant eu hunain drwy lw, gan ddywedyd na fwytaent ac nac yfent hyd nes y lladdent Paul. Ac yr oedd mwy na deugain a wnaethant y cynghrair hwn. A'r cyfryw a ddaethant at yr Arch‐offeiriaid a'r Henuriaid, ac a ddywedasant, Yr ydym wedi tynghedu ein hunain trwy lw nad archwaethwn ddim hyd nes y lladdem Paul. Yn awr, gan hyny, gwnewch chwi ynghyd a'r Sanhedrin egluro i'r Milwriad, fel y dygo ef i waered atoch, fel pe buasech ar fedr cael gwybod yn gywirach y pethau yn ei gylch ef; a ninau, cyn y delo efe yn agos, ydym barod i'w ladd ef. A phan glybu mab chwaer Paul y cynllwyn, wedi cyrhaedd a myned i mewn i'r Gwersyll‐dy, efe a fynegodd i Paul. A Paul, wedi galw un o'r Canwriaid ato, a ddywedodd, Dwg y gwr ieuangc hwn at y Milwriad, canys y mae ganddo beth i'w fynegu iddo. Efe gan hyny a'i cymerodd ac a'i dyg at y Milwriad, ac a ddywedodd, Paul y carcharor a'm galwodd i ato, ac a ofynodd i mi ddwyn y gwr ieuangc hwn atat, a chanddo rywbeth i'w ddywedyd wrthyt. A'r Milwriad a'i cymerodd ef erbyn ei law, ac a aeth o'r neilldu, ac a ofynodd iddo yn ddirgel, Beth yw yr hyn sydd genyt i'w fynegu i mi? Ac efe a ddywedodd, Yr Iuddewon a gytunasant i ofyn i ti ddwyn Paul i waered yfory i'r Sanhedrin, fel pe baet ar fedr ymofyn yn gywirach yn ei gylch. Am hyny na pherswadier di ganddynt, canys y mae yn cynllwyn yn ei erbyn fwy na deugain gwr o honynt, yn gyfryw ag a rwymasant eu hunain drwy lw na fwytaent, nac yfent nes ei ladd: ac yn awr y maent yn barod, gan ddisgwyl am yr addewid oddiwrthyt. Y Milwriad gan hyny a ollyngodd ymaith y gwr ieuangc, wedi gorchymyn na ddywedai i neb i ti hyspysu y pethau hyn i mi. Ac wedi galw ato ryw ddau o'r Canwriaid, dywedodd, Parotowch ddau gant o filwyr, fel yr elont hyd Cesarea, a deg a thri‐ugain o wyr meirch, a dau gant o bicellwyr, ar y drydedd awr o'r nos: hefyd dywedodd wrthynt ddarparu anifeiliaid, gan osod Paul arnynt, i'w ddwyn yn ddyogel at Ffelix y Rhaglaw. Ac efe a ysgrifenodd lythyr yn ol y ffurf hon: Claudius Lysias at yr Ardderchocaf Raglaw Ffelix, bydd wych. Y gwr hwn wedi ei ddal gan yr Iuddewon, ac ar fedr ei ladd ganddynt, a achubais i, gan ddyfod ar eu gwarthaf gyda llu, wedi dysgu mai Rhufeiniwr oedd. Ac yn ewyllysio gwybod yr achos ar gyfrif yr hwn y cyhuddent ef, mi a'i dygais ef i waered i'w Sanhedrin hwynt. A chefais ei fod yn cael ei gyhuddo ynghylch cwestiynau o'u Cyfraith hwy, heb un cyhuddiad yn haeddu angau neu rwymau. A phan hyspyswyd i mi fod cynllwyn yn erbyn y gwr, allan o law danfonais ef atat ti, gan erchi i'w gyhuddwyr ef hefyd i lefaru yn ei erbyn ger dy fron di. Y milwyr yn wir gan hyny, megys y gorchymynasid iddynt, a gymerasant Paul, ac a'i dygasant ar hyd nos i Antipatris. A thranoeth, hwy a adawsant i'r gwyr meirch fyned gydag ef, ac a ddychwelasant i'r Gwersyll‐dy. Y cyfryw, wedi dyfod i Cesarea, a rhoddi i fyny y llythyr i'r Rhaglaw, a gyflwynasant Paul hefyd iddo. Ac wedi darllen y llythyr, a gofyn o ba fath dalaeth yr ydoedd, a deall ei fod o Cilicia: Mi a'th wrandawaf trwodd, eb efe, pan gyrhaeddo dy gyhuddwyr hefyd, gan orchymyn ar ei gadw yn mhalasdy swyddogol Herod. Ac ar ol pum niwrnod, yr Arch‐offeiriad Ananias a ddaeth i waered, gyda rhai henuriaid ac areithiwr, rhyw Tertullus, y rhai a achwynasant wrth y Rhaglaw yn erbyn Paul. A phan alwyd ef, Tertullus a ddechreuodd ei gyhuddo, gan ddywedyd, Gan fod i ni lawer o heddwch trwot ti, a bod gwelliantau i'r genedl hon trwy dy rag‐ddarbodaeth di yn mhob modd ac yn mhob man, — yr ydym ni yn eu derbyn, O Ardderchocaf Ffelix, gyda phob diolchgarwch. Eithr, fel na rwystrwyf di yn mhellach, yr wyf yn deisyf arnat, o'th hynawsedd, ein gwrando ni ar fyr eiriau. Oblegyd ni a gawsom y gwr hwn yn bla, ac yn codi terfysgau yn mhlith yr holl Iuddewon trwy y byd cyfaneddol, ac yn flaenor sect y Nazareaid: yr hwn a geisiodd halogi y Deml, yr hwn hefyd a ddaliasom; gan yr hwn y byddi alluog, a thydi yn ei holi, i wybod am yr holl bethau hyn, o'r rhai yr ydym ni yn ei gyhuddo ef. A'r Iuddewon hefyd a gyd‐ymosodasant, gan daeru fod y pethau hyn felly. A Phaul a atebodd, wedi i'r Rhaglaw amneidio arno i lefaru, Gan i mi wybod dy fod yn farnwr i'r genedl hon er ys llawer o flynyddoedd, yr wyf yn siriol yn gwneyd fy ymddiffyniad, a thi yn gallu gwybod nad oes mwy na deuddeg niwrnod er pan aethum i fyny i addoli yn Jerusalem: ac ni chawsant fi yn y Deml yn ymddadleu a neb, neu yn gwneyd terfysg mewn tyrfa, nac yn y Synagogau, nac yn y Ddinas. Ac ni allant ychwaith brofi i ti y pethau y maent yn awr yn fy nghyhuddo o honynt. Ond hyn yr wyf yn ei addef i ti, mai yn ol y Ffordd a alwant hwy yn Sect, felly yr wyf fi yn gwasanaethu Duw ein Tadau, gan gredu yr holl bethau sydd yn ol y Ddeddf a'r pethau sydd yn ysgrifenedig yn y Prophwydi: a chenyf obaith tu ag at Dduw, yr hwn obaith y mae y rhai hyn eu hunain yn ei ddisgwyl, fod Adgyfodiad i fod o'r cyfiawnion a'r anghyfiawnion. Ac yn hyn hefyd yr wyf fy hun yn gwneyd ymdrech i gael cydwybod ddidramgwydd tu ag at Dduw a dynion yn wastadol. Ac ar ol amryw o flynyddoedd mi a gyrhaeddais i gyfranu elusenau i'm cenedl ac offrymau: ac yn nghanol y gorchwylion hyn hwy a'm cawsant i, wedi fy nghlanhâu, yn y Deml, nid gyda thwrf nac ychwaith gyda therfysg: ond rhai Iuddewon o Asia a'm cawsant, y rhai a ddylasent fod yn bresenol ger dy fron a gwneyd cyhuddiad, os oedd ganddynt ddim yn fy erbyn. Neu bydded i'r rhai hyn ei hunain ddywedyd pa gamwedd a gawsant tra y sefais o flaen y Sanhedrin, oddieithr yr un llef hon, yr hon a waeddais pan yn sefyll yn eu plith, Am Adgyfodiad y Meirw y'm bernir i heddyw ger eich bron. Eithr Ffelix a ohiriodd eu hachos, gan wybod yn gywirach y pethau ynghylch y Ffordd, gan ddywedyd, Pan ddel Lysias y Milwriad i waered, mi a benderfynaf eich materion. Ac wedi gorchymyn i'r Canwriad ar iddo gael ei gadw yn rhwym, a chael esmwythyd; ac na waharddai i neb o'i gyfeillion i weini arno. Ac ar ol rhai dyddiau, daeth Ffelix, gyda'i wraig Drusilla, yr hon oedd Iuddewes, ac a ddanfonodd am Paul, a gwrandawodd arno ynghylch y ffydd sydd yn Nghrist Iesu. Ac fel yr oedd efe yn ymresymu am gyfiawnder, diweirdeb, a'r Farn ddyfodol, Ffelix, wedi myned yn ddychrynedig, a atebodd, Am y presenol, dos ymaith; a phan y caffwyf amser cyfaddas mi a'th alwaf di ataf: ar yr un pryd yr oedd yn gobeithio y rhoddid arian iddo gan Paul; o herwydd paham hefyd efe a anfonodd am dano yn fynychach, ac a ymddyddanodd ag ef. Ond wedi cyflawnu yspaid o ddwy flynedd, Ffelix a gafodd olynydd, Porcius Ffestus, ac yn ewyllysio enill ffafr gyda'r Iuddewon, Ffelix a adawodd Paul yn rhwym. Ffestus gan hyny, wedi dyfod i'r Dalaeth, ar ol tri diwrnod a aeth i fyny i Jerusalem o Cesarea. A'r Arch‐offeiriaid a gwyr blaenaf yr Iuddewon a achwynasant wrtho yn erbyn Paul; ac a ymbiliasant ag ef, gan geisio ffafr yn ei erbyn, fel y danfonai efe am dano ef i Jerusalem, gan wneuthur cynllwyn i'w ladd ef ar y ffordd. Gan hyny yn wir Ffestus a atebodd fod Paul dan warchodaeth yn Cesarea, a'i fod ef ei hun ar fedr myned ymaith yno ar fyrder. Gan hyny, eb efe, eled y rhai galluog yn eich mysg i waered gyda mi, ac od oes dim yn y gwr allan o le, bydded iddynt ei gyhuddo ef. Ac wedi treulio yn eu plith rai dyddiau, nid mwy nag wyth neu ddeg, efe a aeth i waered i Cesarea, a thranoeth wedi eistedd ar y faingc, efe a orchymynodd ar i Paul gael ei ddwyn gerbron; ac wedi ei ddyfod, yr Iuddewon a ddaethent i waered o Jerusalem a safasant o'i amgylch, gan ddwyn cyhuddiadau, llawer a thrymion, yn ei erbyn, y rhai ni allent eu profi; a Phaul yn ymddiffyn ei hun: Ni phechais i ddim, eb efe, nac yn erbyn Cyfraith yr Iuddewon, nac yn erbyn y Deml, nac yn erbyn Cesar. A Ffestus yn ewyllysio enill ffafr gyda'r Iuddewon, gan ateb i Paul a ddywedodd, A ewyllysi di fyned i fyny i Jerusalem, i'th farnu yno ynghylch y pethau hyn ger fy mron? Eithr Paul a ddywedodd, Ger bron brawd‐faingc Cesar yr wyf fi yn sefyll, lle y mae yn rhaid i mi gael fy marnu; ni wnaethum i un cam ag Iuddewon, fel yr wyt ti yn dyfod i wybod yn well. Am hyny os wyf yn gwneuthur cam, ac wedi gweithredu dim yn haeddu angau, nid wyf yn gwrthod marw: eithr os nad oes dim o'r pethau o'r rhai y mae y rhai hyn yn fy nghyhuddo, ni all neb fy rhoddi i fyny iddynt. At Cesar yr wyf yn apelio. Yna Ffestus, wedi cyd‐ymddyddan a'r Cynghor, a atebodd, At Cesar yr wyt wedi apelio, at Cesar yr ei. A rhai dyddiau wedi myned heibio, Agrippa y brenhin a Bernice a ddaethant i Cesarea, gan gyfarch Ffestus. Ac fel y treulient yno lawer o ddyddiau, Ffestus a osododd o flaen y brenhin achos Paul, gan ddywedyd, Y mae rhyw wr wedi ei adael gan Ffelix yn garcharor, ynghylch yr hwn, pan yr oeddwn yn Jerusalem, yr achwynodd yr Arch‐offeiriaid a Henuriaid yr Iuddewon, gan ofyn cael dedfryd yn ei erbyn. I'r rhai yr atebais nad yw arfer i Rufeinwyr i roddi i fyny un dyn, nes i'r cyhuddedig gael y cyhuddwyr wyneb yn wyneb, a chael cyfle i wneyd ymddiffyniad ynghylch y cyhuddiad. Gan hyny, wedi dyfod o honynt ynghyd yma, heb wneyd unrhyw oediad, tranoeth mi a eisteddais ar y faingc, ac a orchymynais ddwyn y gwr gerbron: am yr hwn, pan y safodd y cyhuddwyr i fyny, ni ddygasant ddim achwyn o'r pethau drwg yr oeddwn i yn tybied. Ond rhyw gwestiynau ynghylch eu Crefydd eu hunain oedd ganddynt yn ei erbyn, ac ynghylch rhyw Iesu oedd wedi marw, yr hwn a daerai Paul ei fod yn fyw. A myfi mewn dyryswch ynghylch gwneyd ymchwiliad i'r pethau hyn, a ddywedais, A fynai efe fyned i Jerusalem a'i farnu yno am y pethau hyn. Ond Paul wedi apelio i gael ei gadw i ddyfarniad Augustus, mi a orchymynais ar iddo gael ei gadw nes y danfonwn ef i fyny at Cesar. Ac Agrippa a ddywedodd wrth Ffestus, Yr oeddwn fy hun hefyd yn ewyllysio clywed y dyn. Y fory, eb efe, y clywi ef. Tranoeth gan hyny, wedi dyfod o Agrippa a Bernice gyda llawer o rwysg, ac wedi myned i mewn o honynt i'r wrandaw‐fa gyda Milwriaid a gwŷr enwog y Ddinas, ac wedi gorchymyn o Ffestus, Paul a ddygwyd gerbron. A Ffestus a ddywed, O Frenhin Agrippa, a chwi wyr oll sydd yn bresenol gyda ni, chwi a welwch hwn, ynghylch yr hwn holl luaws yr Iuddewon a erfyniasant arnaf yn Jerusalem ac yma, gan lefaru na ddylai efe fyw yn hwy. Eithr mi a ganfyddais na wnaeth efe ddim yn haeddu angau; ond gan iddo ef ei hun apelio at Augustus, penderfynais ei anfon: am yr hwn nid oes genyf unryw beth sicr i'w ysgrifenu at fy arglwydd. Am hyny dygais ef yn mlaen ger eich bron chwi, ac yn enwedig ger dy fron di, O Frenhin Agrippa, fel, wedi i'r holiad gymeryd lle, y bo genyf rywbeth a ysgrifenaf. Canys ymddengys i mi yn afresymol, pan yn danfon carcharor, i beidio arwyddo hefyd y cwynion yn ei erbyn. Ac Agrippa a ddywedodd wrth Paul, Caniateir i ti lefaru am danat dy hun. Yna Paul, gan estyn ei law, a wnaeth ymddiffyniad: Am yr holl bethau o'r rhai y'm cyhuddir gan Iuddewon, O Frenhin Agrippa, tybiwyf fy hun yn ddedwydd pan ar fedr gwneyd ymddiffyniad ger dy fron di heddyw; yn enwedig gan dy fod di yn gydnabyddus â'r holl ddefodau ac hefyd a'r cwestiynau sydd yn mhlith yr Iuddewon; o herwydd paham yr wyf yn deisyf arnat fy ngwrando yn amyneddgar. Fy muchedd yn wir gan hyny o'm mebyd, yr hon fu o'r dechreuad yn mhlith fy nghenedl ac yn Jerusalem, a wyr yr holl Iuddewon, gan fy adwaen o'r blaen o'r cychwyn, os ewyllysiant dystiolaethu, mai yn ol y blaid fanylaf o'n Crefydd y bu'm fyw yn Pharisead. Ac yn awr am obaith yr Addewid a wnaed i'n Tadau gan Dduw yr wyf yn sefyll i' m barnu; i'r hon Addewid y mae ein Deuddeg‐Llwyth, gan wasanaethu Duw mewn dyfalwch nos a dydd, yn gobeithio dyfod. Am y gobaith hwn y'm cyhuddir gan Iuddewon, O Frenhin. Paham y bernir yn anghredadwy yn eich plith chwi os yw Duw yn cyfodi y meirw? Myfi yn wir a dybiais ynof fy hun y dylaswn wneuthur llawer o bethau yn wrthwynebol i Enw Iesu y Nazarëad. Yr hyn hefyd a wnaethum yn Jerusalem: a llawer o'r Saint hefyd a gauais i i fyny mewn carcharau, wedi derbyn awdurdod gan yr Arch‐offeiriaid; a phan yn cael eu rhoddi i farwolaeth, mi a roddais bleidlais yn eu herbyn. A thrwy yr holl Synagogau yn fynych yr oeddwn yn eu cospi, ac yn eu gorfodi i gablu; a chan fod yn ynfyd dros ben yn eu herbyn, yr oeddwn yn eu herlid hyd y nod i ddinasoedd tu allan i'n gwlad. A thra wrth y pethau hyn, a myfi yn myned i Damascus gydag awdurdod a chommissiwn yr Arch‐offeiriaid, ar ganol dydd yn y ffordd y gwelais, O Frenhin, Oleuni o'r Nef, tu hwnt i ddysglaerdeb yr haul, yn dysglaerio o'm hamgylch i a'r rhai oedd yn myned gyda mi. A phan yr oeddem oll wedi syrthio ar y ddaear, clywais lais yn dywedyd wrthyf yn y briod‐iaith Hebraeg, Saul, Saul, paham yr wyt yn fy erlid i? Caled i ti wingo yn erbyn y symbylau. A minau a ddywedais, Pwy wyt ti, Arglwydd? A'r Arglwydd a ddywedodd, Myfi yw Iesu, yr Hwn yr wyt ti yn ei erlid. Eithr cyfod i fyny, a saf ar dy draed: canys i hyn yr ymddangosais i ti, i'th osod yn wâs ac yn dyst o'r pethau a welaist, ac o'r pethau yr ymddangosaf i ti ynddynt; gan dy wared oddiwrth y Bobl ac oddiwrth y Cenhedloedd, at y rhai yr wyf Fi yn dy anfon di, i agoryd eu llygaid, fel y troant o dywyllwch i oleuni, ac o awdurdod Satan at Dduw, fel y derbyniont faddeuant pechodau, a chyfran yn mhlith y rhai Sancteiddiedig, trwy ffydd yr hon sydd ynof Fi. O ganlyniad, ni fu'm anufydd i'r weledigaeth nefol: eithr i'r rhai yn Damascus yn gyntaf, a Jerusalem, a thrwy holl wlad Judea, ac i'r Cenhedloedd y traethais y dylent edifarhâu a throi at Dduw, gan wneuthur gweithredoedd teilwng o edifeirwch. O achos y pethau hyn, Iuddewon a'm daliasant yn y Deml, ac a geisiasant fy lladd. Am hyny, wedi cael y cymhorth y sydd oddiwrth Dduw, hyd y dydd hwn yr wyf yn sefyll, gan dystiolaethu i fach a mawr hefyd, heb ddywedyd dim amgen na'r pethau a ddywedasai y Prophwydi a Moses fel ar fedr dyfod i ben: fod y Crist i ddyoddef, a' i fod Ef y cyntaf, trwy Adgyfodiad y Meirw, i gyhoeddi goleuni i'r Bobl ac i'r Cenhedloedd hefyd. Ac fel yr oedd efe yn y modd hyn yn ymddiffyn ei hun, Ffestus a ddywed a llef uchel, Anmhwyllo ydwyt, Paul; y mae dy fawr ddysg yn dy droi i anmhwylledd. Ond Paul a ddywed, Nid wyf yn anmhwyllo, Ardderchocaf Ffestus, eithr geiriau gwirionedd a sobrwydd yr wyf yn eu llefaru allan. Canys gŵyr y brenhin am y pethau hyn, wrth yr hwn hefyd yr wyf yn llefaru yn hyf: canys yr wyf yn argyhoeddedig nad oes dim o'r pethau hyn yn guddiedig rhagddo; canys nid mewn congl y gwnaed hyn. A ydwyt yn credu, O Frenhin Agrippa, y Prophwydi? Gwn dy fod yn credu. Ac Agrippa a ddywedodd wrth Paul, Gydag ychydig ti a fynit fy narbwyllo fel i' m gwneuthur i yn Gristion! Eithr Paul a ddywed, Mi a ddymunwn gan Dduw, pa un bynag ai gydag ychydig neu gyda llawer, ddyfod nid yn unig tydi, ond pawb hefyd a'r sydd yn fy ngwrando heddyw, yn gyfryw ag yr wyf fi, ond y rhwymau hyn. A chyfododd y Brenhin, a'r Rhaglaw, a Bernice, a'r rhai oedd yn eistedd gyda hwynt: ac wedi ymneillduo, llefarasent wrth eu gilydd, gan ddywedyd, Nid yw y dyn hwn yn gwneuthur dim yn haeddu angau neu rwymau. Ac Agrippa a ddywedodd wrth Ffestus, Fe allasid gollwng y dyn yn rhydd, pe na fuasai iddo apelio at Cesar. A phan benderfynwyd i ni hwylio ymaith i'r Ital, traddodasant Paul a rhai carcharorion eraill i Ganwriad o'r enw Julius, o fintai Augustaidd. Ac wedi myned i long o Adramyttium, yr hon oedd ar fedr hwylio i leoedd ar lanau Asia, ni a aethom i'r môr, a chyda ni yr oedd Aristarchus, Macedoniad o Thessalonica. A thranoeth ni a ddaethom i Sidon: a Julius a ymddygodd yn ddyngarol tu ag at Paul, ac a ganiataodd iddo i fyned at ei gyfeillion i gael o'u caredigrwydd. Ac wedi myned oddiyno, ni a hwyliasom dan Cyprus, o herwydd fod y gwyntoedd yn wrthwynebus. Ac wedi i ni hwylio dros y môr ar lanau Cilicia a Pamphylia, daethom i Myra sydd yn Lycia. Ac yno y Canwriad, wedi cael llong o Alexandria yn hwylio i'r Ital, a'n gosododd ni ynddi. Ac wedi hwylio yn araf lawer o ddyddiau, a dyfod trwy anhawsder gyferbyn a Cnidus, am na adawai y gwynt i ni, ni a hwyliasom dan Creta gyferbyn a Salmone; ac wedi morio heibio iddi gydag anhawsder, daethom i ryw le a elwir Porthladdoedd Prydferth, i'r hwn yr oedd dinas Lasea yn agos. Ac wedi treulio llawer o amser, a'r fordaith eisoes yn beryglus, o herwydd fod yr Ympryd eisoes wedi myned heibio, Paul a gynghorodd, gan ddywedyd wrthynt, O wyr, yr wyf yn gweled y bydd y fordaith gyda rhyfyg a llawer o golled, nid yn unig o'r llwyth a'r llong, eithr o'n bywydau ni hefyd. Eithr y Canwriad a ddarbwyllwyd gan lywydd a pherchen y llong yn hytrach na chan y pethau a lefarwyd gan Paul. A chan fod y porthladd yn anghyfleus er gauafu, y mwyrif a roisant gynghor i forio oddiyno, os gallent ryw fodd gyrhaeddyd hyd Phœnix, i auafu yno, porthladd yn Creta sydd yn edrych tua'r gogledd‐ddwyrain a'r deheu‐ddwyrain. A phan chwythodd y deheu‐wynt yn fwynaidd, a hwy yn tybied eu bod wedi enill eu hamcan, wedi codi, yr angor, moriasant yn mlaen yn agosach i Creta. Ond nid ar ol llawer o amser curodd i lawr oddiwrthi wynt tymhestlog yr hwn a elwir Euracwilo. A phan gipiwyd y llong, a hi heb allu i wrth‐wynebu y gwynt, ni a roisom i fyny, ac a yrwyd o'i flaen. Ac wedi rhedeg dan ryw ynys fechan a elwir Cauda, gydag anhawsder y buom alluog i sicrhau y bâd; ac wedi ei godi i fyny, hwy a ddefnyddiasant gynorthwyon, gan wregysu y llong oddi dani; ac yn ofni y bwrid hwynt ar y Syrtis, hwy a ostyngasant y ger, ac felly a yrwyd yn mlaen. A ni yn cael ein blino yn enbyd gan y dymhestl, tranoeth hwy a ysgafnhasant y llong; a'r trydydd dydd hwy a fwriasant allan â'u dwylaw eu hunain daclau y llong. A phan nad oedd na haul na ser yn ymddangos am ddyddiau lawer, a thymhestl nid bychan yn pwyso arnom, o hyny allan pob gobaith o'n cadw a ddygwyd ymaith. Ac wedi bod lawer o amser heb ymborth, yna y safodd Paul yn eu canol, ac a ddywedodd, O wyr, Yr oedd yn wir yn anghenrheidiol i chwi ufyddhâu i mi, a pheidio morio o Creta, ac felly osgoi y rhyfyg a'r golled hon. Ac yr awrhon yr wyf yn eich anog i fod yn galonog: canys ni fydd dim colled am einioes yn eich plith ond am y llong. Canys safodd yn fy ymyl y nos hon angel y Duw yr Hwn a'm pïau, a'r Hwn yr wyf yn ei wasanaethu, gan ddywedyd, Nac ofna, Paul: rhaid i ti sefyll ger bron Cesar: ac wele, y mae Duw wedi rhoddi i ti yr holl rai sydd yn hwylio gyda thi. Mewn canlyniad, O wyr, ymgalonogwch, canys yr wyf yn credu i Dduw mai felly y bydd yn ol y modd y dywedwyd i mi. Ac ar ryw ynys y mae yn rhaid ein bwrw allan. A phan ddaeth y bedwaredd nos ar ddeg, a ni yn cael ein gyru yma ac acw yn Adria, tua haner nos yr oedd y morwyr yn lled‐dybied eu bod yn neshâu at ryw wlad; ac wedi plymio hwy a' i cawsant yn ugain gwrhyd: ac wedi myned ychydig pellach, a phlymio drachefn, hwy a' i cawsant yn bumtheg gwrhyd. A chan ofni rhag dygwydd i ni syrthio ar hyd lleoedd geirwon, hwy a fwriasant allan bedair angor o'r pen ol, ac yr oeddent yn dymuno ei myned hi yn ddydd. A'r llongwyr yn ceisio ffoi allan o'r llong, ac wedi gollwng y bâd i waered i'r môr, mewn rhith fel ar fedr estyn allan angorau o'r pen blaen, dywedodd Paul wrth y Canwriad a'r milwyr, Oni erys y rhai hyn yn y llong, ni ellwch chwi fod yn gadwedig. Yna y milwyr a dorasant ymaith raffau y bâd, ac a adawsant iddo syrthio ymaith. Ac hyd nes oedd y dydd ar fedr dyfod, yr oedd Paul yn anog pawb gyda'u gilydd i gyfranogi o luniaeth, gan ddywedyd, Hwn yw y pedwerydd diwrnod ar ddeg yr ydych yn disgwyl ac yn parhau heb fwyd, heb gymeryd dim. Am hyny yr wyf yn eich anog i gyfranogi o luniaeth, canys hyn sydd er eich dyogelwch: canys blewyn o ben un o honoch ni chollir. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, a chymeryd bara, efe a ddiolchodd i Dduw yn eu gwydd hwynt oll, ac wedi ei dori efe a ddechreuodd fwyta. A hwy oll wedi dyfod yn galonog, hwy eu hunain hefyd a gymerasant luniaeth. Ac yr oeddem yn y llong, yr holl eneidiau, yn ddau cant ac un‐ar‐bumtheg a thri‐ugain. Ac wedi eu digoni o luniaeth, hwy a ysgafnhasant y llong, gan fwrw allan y gwenith i'r môr. A phan aeth hi yn ddydd nid oeddent yn adnabod y tir: ond hwy a ganfuant ryw gilfach a thraeth iddi, i'r hon y cynghorasant, os gallent, wthio y llong. A chan fwrw ymaith yr angorau, hwy a'u gadawsant yn y môr, gan ollwng ar yr un pryd rwymau y llywiau: A chan godi y flaenhwyl i'r awel, hwy a gyfeiriasant at y traeth. Ond wedi syrthio i le deufôr‐gyfarfod, hwy a redasant y llong i dir; a'r pen blaen a darawodd ac a arosodd yn ddiysgog, ond y pen ol a ymddatodai gan ruthr y tonau. A chynllun y milwyr ydoedd lladd y carcharorion rhag i neb o honynt, trwy nofio allan, ddianc. Ond y Canwriad, yn dymuno cadw Paul, a'u rhwystrodd yn eu dymuniad; ac a archodd i bawb a fedrai nofio ymfwrw i'r môr, a myned yn gyntaf i'r tir; ac i'r lleill, rhai ar ystyllod, ac eraill ar bethau o'r llong. Ac felly y darfu i bawb ddyfod yn ddyogel i'r tir. Ac wedi dyfod yn ddiangol, yna y gwybuom mai Melita y gelwir yr ynys. A'r barbariaid a ddangosasant i ni ddyngarwch anghyffredin: canys cyneuasant dân, ac a'n derbyniasant ni oll yn roesawgar, o herwydd y gwlaw oedd yn disgyn ac o herwydd yr oerfel. Ond wedi i Paul gasglu ynghyd rhyw lawer o friw‐wydd, a'u dodi ar y tân, gwiber a ddaeth allan o achos y gwres, ac a lynodd wrth ei law ef. A phan welodd y barbariaid y bwystfil yn nghrog wrth ei law, hwy a ddywedasant y naill wrth y llall, Yn ddios llofrudd yw y dyn hwn, yr hwn, er ei ddyfod yn ddyogel o'r môr, Cyfiawnder ni adawodd iddo fyw. Ond efe yn wir gan hyny a ysgydwodd y bwystfil i'r tân, ac ni oddefodd ddim niwed. Ond yr oeddent hwy yn disgwyl iddo ef chwyddo neu syrthio i lawr yn ddisymwth yn farw: eithr pan oeddent yn hir‐ddisgwyl, ac yn gweled nad oedd dim niwed yn dygwydd iddo, hwy a newidiasant eu meddwl, ac a ddywedasant mai duw oedd efe. Ac o gylch y lle hwnw yr oedd tiroedd yn perthyn i Benaeth yr ynys, o'r enw Publius, yr hwn a'n derbyniodd ni, ac a'n lletyodd dridiau yn garedig. A dygwyddodd fod tâd Publius yn gorwedd yn glaf o dwymyn a gwaedlif: at yr hwn yr aeth Paul i mewn ac y gweddïodd; a chan ddodi ei ddwylaw arno efe a'i hiachâodd. Ac wedi i hyn gymeryd lle, y lleill hefyd, y rhai yn yr ynys oedd a chlefydau arnynt, a ddaethant ato ac a wellhawyd: y rhai hefyd a'n hanrhydeddasant ni â llawer o anrhydedd, a phan hwyliasom, hwy a osodasant ar y bwrdd y pethau anghenrheidiol. Ac wedi tri mis ni a hwyliasom mewn llong yn perthyn i Alexandria, yr hon oedd wedi gauafu yn yr ynys, arwydd yr hon ydoedd Yr Efylliaid. Ac wedi ein dyfod i Syracus, arosasom yno dridiau. Ac oddiyno wedi myned o amgylch, ni a gyrhaeddasom i Rhegium: ac ar ol un diwrnod cyfododd deheu‐wynt, ac ni a ddaethom yr eil‐ddydd i Puteoli: lle y cawsom frodyr, a'n hanog i aros gyda hwynt saith niwrnod: ac felly ni a ddaethom i Rufain. Ac oddiyno y brodyr, wedi clywed am danom, a ddaethant i'n cyfarfod ni mor bell a Marchnad Appius a'r Tair Tafarn: y rhai pan welodd Paul, efe a ddiolchodd i Dduw, ac a gymerodd galon. A phan ddaethom i Rufain, caniatawyd i Paul aros wrtho ei hun gyda y milwr oedd yn ei gadw ef. A dygwyddodd, ar ol tridiau, alw o hono ef ynghyd ato ei hun y rhai oedd benaf o'r Iuddewon. Ac wedi iddynt ddyfod ynghyd, efe a ddywedodd wrthynt, O wyr frodyr, heb wneuthur o honof ddim yn erbyn y Bobl na defodau ein Tadau, eto yn garcharor y'm rhoddwyd o Jerusalem i ddwylaw y Rhufeinwyr: y cyfryw, wedi iddynt fy holi, a ewyllysient fy ngollwng yn rhydd, am nad oedd dim achos angau ynof. Ond yr Iuddewon yn gwrth‐ddywedyd, fe'm gorfodwyd i apelio at Cesar; nid fel petai genyf ddim i gyhuddo fy nghenedl o hono. Am yr achos hwn gan hyny y gwahoddais chwi, i'ch gweled ac i ymddyddan a chwi; canys o herwydd Gobaith Israel yr wyf fi wedi fy rhwymo â'r gadwyn hon. A hwy a ddywedasant wrtho, Ni dderbyniasom ni lythyrau o Judea yn dy gylch di, ac ni fynegodd ac ni lefarodd neb o'r brodyr a ddaeth oddiyno ddim drwg am danat di. Ond yr ydym ni yn ei hystyried yn iawn i glywed genyt ti beth yr ydwyt yn ei synied: canys yn wir am y sect hon, y mae yn hyspys i ni fod yn mhob man ddywedyd yn ei herbyn. Ac wedi iddynt drefnu diwrnod iddo, daeth llawer o honynt ato i'w lety; i'r rhai yr eglurodd efe gan dystiolaethu Teyrnas Dduw, a'u hargyhoeddi ynghylch yr Iesu, allan o Gyfraith Moses, ac o'r Prophwydi, o'r bore hyd yr hwyr. A rhai yn wir a argyhoeddwyd gan y pethau a ddywedwyd, a rhai ni chredasant. Ac a hwy yn anghytun a'u gilydd, hwy a ymadawsant, a Phaul yn dywedyd un gair, Da y llefarodd yr Yspryd Glân trwy Esaiah y Prophwyd wrth eich Tadau, gan ddywedyd, Dos at y Bobl hyn, a dywed, Trwy glywed y clywch, ac ni ddeallwch o gwbl; A chan weled y gwelwch, ac ni chanfyddwch o gwbl: Canys brashawyd calon y Bobl hyn, Ac a'u clustiau yn drwm y clywsant, A'u llygaid a gauasant, Rhag canfod o honynt â'u llygaid, A chlywed â'u clustiau, A deall â'u calon, A throi o honynt drachefn, Ac iachâu o honof hwynt. Bydded hyspys i chwi gan hyny fod yr Iachawdwriaeth hon o eiddo Duw wedi ei danfon i'r Cenhedloedd: a hwy a wrandawant. Ac efe a arosodd ddwy flynedd gyfan yn ei dy ardrethol ei hun, ac a roesawodd bawb a oedd yn myned i mewn ato, gan bregethu Teyrnas Dduw, a dysgu y pethau am yr Arglwydd Iesu Grist, gyda phob hyfder, yn ddirwystr. Paul, gwas Crist Iesu, wedi ei alw i fod yn apostol, wedi ei neillduo i efengyl Duw — yr hon a rag‐addawodd Efe trwy ei brophwydi yn yr Ysgrythyrau sanctaidd — am ei Fab, yr hwn a aned o hâd Dafydd yn ol y cnawd, yr hwn a ddynodwyd yn Fab Duw mewn gallu yn ol yspryd sancteiddrwydd, trwy Adgyfodiad y meirw; sef Iesu Grist ein Harglwydd, trwy yr hwn y derbyniasom ras ac apostoliaeth, i ufudd‐dod ffydd ym mhlith yr holl genhedloedd, er mwyn ei enw ef: ym mhlith y rhai yr ydych chwithau hefyd yn alwedigion Iesu Grist: At bawb o rai anwyl Duw yn Rhufain, wedi eu galw i fod yn saint: Gras i chwi a thangnefedd oddiwrth Dduw ein Tâd a'r Arglwydd Iesu Grist. Yn gyntaf, yr wyf yn diolch i'm Duw trwy Iesu Grist am danoch chwi oll, oblegyd fod eich ffydd yn cael ei chyhoeddi yn yr holl fyd. Canys fy nhyst yw Duw, yr hwn wyf yn ei wasanaethu yn fy yspryd yn efengyl ei Fab ef, mor ddibaid yr wyf yn gwneuthur coffa o honoch bob amser yn fy ngweddiau, yn deisyf a gawn ryw fodd ryw amser bellach rwydd‐hynt, yn ewyllys Duw, i ddyfod attoch chwi. Canys yr wyf yn hiraethu am eich gweled, fel y gallwyf gyfrannu i chwi ryw ddawn ysprydol, fel y'ch cadarnhâer; hynny yw, fel y'n calonoger ynghyd ynoch chwi, trwy y ffydd sydd yn y naill a'r llall, yr eiddoch chwi a'r eiddof finnau. Ac ni fynnwn i chwi fod heb wybod, frodyr, i mi yn fynych arfaethu dyfod attoch (ond lluddiwyd fi hyd yn hyn), fel y cawn ryw ffrwyth hefyd ynoch chwithau, megys ag yn y Cenhedloedd eraill. Dyledwr ydwyf i Roegiaid ac i Farbariaid hefyd, i ddoethion ac i rai anneallus hefyd. Felly, o'm rhan i, awyddus wyf i efengylu i chwithau hefyd y rhai ydych yn Rhufain. Canys nid oes arnaf gywilydd o'r efengyl, oblegyd gallu Duw yw hi er iachawdwriaeth i bob un a'r sydd yn credu; i Iuddew yn gyntaf, hefyd i Roegwr. Canys ynddi cyfiawnder Duw a ddadguddir, o ffydd i ffydd, fel y mae yn ysgrifenedig, Ond y cyfiawn a fydd byw trwy ffydd. Canys dadguddir digofaint Duw, o'r nef, yn erbyn pob annuwioldeb ac annghyfiawnder dynion, y rhai sydd yn attal y gwirionedd mewn annghyfiawnder. Canys yr hyn sydd wybyddus am Dduw sydd hyspys yn eu plith, canys Duw a'i hyspysodd iddynt. Canys ei anweledig bethau ef, o greadigaeth y byd, a welir yn amlwg, gan gael eu canfod trwy y pethau a wnaed, sef ei fythol allu a'i Ddwyfoldeb; fel y maent hwy yn ddiesgus. Oblegyd, a hwy yn adnabod Duw, nis gogoneddasant ef megys Duw, ac ni roddasant ddiolch; eithr hwy a wnaed yn ofer yn eu hymresymiadau, a thywyllwyd eu calon anneallus. Gan honni eu bod yn ddoethion, hwy a wnaed yn ynfydion; ac a newidiasant ogoniant yr anllygredig Dduw am gyffelybiaeth llun dyn llygredig, ac ehediaid, ac anifeiliaid pedwar‐carnol, ac ymlusgiaid. O ba herwydd Duw a'u traddododd hwynt, yn nhrachwantau eu calonnau, i aflendid, fel yr ammherchid eu cyrph yn eu plith: yn gyfryw ag a drawsnewidiasant wirionedd Duw yn y Celwydd, ac a addolasant ac a wasanaethasant y creadur yn hytrach na'r Creawdwr, yr hwn sydd fendigedig yn dragywydd. Amen. O herwydd hyn traddododd Duw hwynt i wyniau gwarthus; eu benywod hefyd a drawsnewidiasant yr arfer naturiol i'r hon sydd yn groes i natur: ac yn gyffelyb y gwrrywod hefyd, gan adael yr arfer naturiol o'r fenyw, a fflamiasant i fyny yn eu chwant un am y llall, gwrrywod ynghyd â gwrrywod yn gweithredu yr anweddeidd‐dra, ac yn derbyn ynddynt eu hunain y tâl am eu cyfeiliornad, yr hwn oedd ddyledus. Ac fel na fu gymmeradwy ganddynt gael Duw yn eu gwybodaeth, traddododd Duw hwynt i feddwl annghymeradwy i wneuthur pethau anweddus: wedi eu llenwi a phob annghyfiawnder,, anfadrwydd, trachwant, drygioni, yn orlawn o genfigen, llofruddiaeth, cynnen, twyll, drygduedd; yn hustyngwyr, yn athrodwyr, yn gashawyr Duw, yn sarhaus, yn feilchion, yn ymffrostwyr, yn ddyfeiswyr drygau, yn anufudd i rieni, yn anneallus, yn dorwyr ammod, yn ddiserch,, yn annhrugarog; yn gyfryw ag yn gwybod ordeiniad Duw, fod y rhai sydd yn arfer y cyfryw bethau yn haeddu marwolaeth, ydynt nid yn unig yn arfer y cyfryw, eithr hefyd yn cydsynio â'r rhai sydd yn eu harfer hwynt. O herwydd paham, diesgus wyt, O ddyn, bob un sydd yn barnu, canys yn yr hyn yr wyt yn barnu y llall, yr wyt yn dy gondemnio dy hun: canys ti yr hwn wyt yn barnu wyt yn gwneuthur yr un pethau. Ac ni a wyddom fod barn Duw yn ol gwirionedd yn erbyn y rhai sydd yn gwneuthur y cyfryw bethau. Ac a wyt ti yn cyfrif hyn, O ddyn, yr hwn wyt yn barnu y rhai sydd yn gwneuthur y cyfryw bethau, a thi yn gwneuthur yr un pethau, y diengi di rhag barn Duw? Neu a ddiystyri di olud ei ddaioni a'i oddefgarwch a'i hir‐ymaros, gan fod heb wybod fod rhodd ddaionus Duw yn dy dywys di i edifeirwch? Eithr yn ol dy galedrwydd a'th galon ddiedifeiriol, yr wyt yn trysori i ti dy hun ddigofaint yn nydd digofaint a dadguddiad cyfiawn farn Duw, yr hwn a dâl i bob un yn ol ei weithredoedd: i'r rhai, yn wir, mewn amynedd yn gwneuthur da a geisiant ogoniant, ac anrhydedd ac anllygredigaeth, y bydd bywyd tragwyddol; ond i'r rhai sydd gynhennus ac yn anufuddhau i'r gwirionedd, ond yn ufudd i annghyfiawnder, y bydd digofaint a llid, trallod a chyfyngder ar bob enaid dyn sydd yn gweithredu yr hyn sydd ddrwg, yr Iuddew yn gyntaf, a'r Groegwr hefyd; ond gogoniant ac anrhydedd a thangnefedd i bob un sydd yn gweithredu yr hyn sydd dda, i'r Iuddew yn gyntaf, ac i'r Groegwr hefyd: canys nid oes derbyn wyneb gerbron Duw. Canys cynnifer ag a bechasant yn ddiddeddf, yn ddiddeddf hefyd a gyfrgollir; a chynnifer ag a bechasant dan ddeddf, trwy ddeddf a fernir; canys nid gwrandawyr deddf sydd gyfiawn ger bron Duw, ond gwneuthurwyr deddf a gyfiawnheir. Canys pan fo Cenhedloedd, y rhai nid oes ganddynt ddeddf, wrth naturiaeth yn gwneuthur pethau y ddeddf, y rhai hyn, heb ddeddf, ydynt ddeddf iddynt eu hunain, yn gyfryw ag sydd yn dangos gwaith y ddeddf yn ysgrifenedig yn eu calonnau, eu cydwybod yn cyd‐dystiolaethu, a'u meddyliau, rhyngddynt a hwy eu gilydd, yn cyhuddo neu yn esgusodi, yn y dydd y barno Duw ddirgeloedd dynion, yn ol fy Efengyl i, trwy Iesu Grist. Eithr tydi, os Iuddew y'th gyfenwir, ac ymorphwyso o honot ar ddeddf, ac ymffrostio yn Nuw; ac yn gwybod ei ewyllys, a chymmeradwyo y pethau rhagorol, wedi dy egwyddori allan o'r ddeddf; ac yn hyderus dy fod dy hun yn arweinydd y deillion, yn oleuni y rhai sydd mewn tywyllwch, yn ddysgyblydd y rhai ffol, yn ddysgawdwr y rhai bychain, a chennyt yn y ddeddf fraslun o wybodaeth a gwirionedd; tydi, gan hynny, yr hwn wyt yn addysgu arall, oni'th ddysgi dy hun? yr hwn wyt yn pregethu, Na ladratter, a ladretti di? yr hwn wyt yn dywedyd, Na odineber, a odinebi di? yr hwn wyt yn ffieiddio yr eilunod, a gyssegr‐yspeili di? yr hwn wyt yn ymffrostio mewn deddf, trwy droseddiad y ddeddf yr wyt yn dianrhydeddu Duw. Canys enw Duw, o'ch plegid chwi, a geblir ym mhlith y Cenhedloedd, megys y mae yn ysgrifenedig. Canys enwaediad yn wir sydd yn lleshâu, os gwnei y ddeddf; eithr os troseddwr y ddeddf ydwyt, y mae dy enwaediad wedi myned yn ddienwaediad. Os y dienwaediad gan hynny a geidw ordeiniadau y ddeddf, oni chyfrifir ei ddienwaediad ef yn enwaediad? A'r dienwaediad, yr hwn sydd o naturiaeth, gan gyflawnu y ddeddf, a'th farna di, yr hwn, gyda' th Lythyren a' th Enwaediad, wyt droseddwr deddf. Canys nid yr hwn sydd oddi allan sydd Iuddew, ac nid yr hyn sydd oddi allan yn y cnawd sydd enwaediad. Eithr yr hwn sydd oddi mewn sydd Iuddew, ac enwaediad yw eiddo y galon yn yr yspryd, nid yn y llythyren, clod yr hwn nid yw o ddynion, ond o Dduw. Pa beth, ynte, yw rhagoriaeth yr Iuddew, neu pa beth yw budd yr enwaediad? Llawer ym mhob modd: yn gyntaf, yn wir, oblegyd ddarfod ymddiried iddynt am oraclau Duw. Oblegyd beth os annghredodd rhai? a wna eu hannghrediniaeth hwy ffyddlondeb Duw yn ddirym? Ddim o gwbl! eithr bydded Duw yn eirwir, a phob dyn yn gelwyddog, megys y mae yn ysgrifenedig: Fel y'th gyfiawnhâer yn dy eiriau, ac y gorfyddech pan y'th farner. Eithr os ein hannghyfiawnder ni a ganmol gyfiawnder Duw, beth a ddywedwn? ai annghyfiawn yw Duw yr hwn sydd yn dwyn arnom ddigofaint? (Yn ol dull dyn yr wyf yn dywedyd); ddim o gwbl! os felly, pa fodd y barna Duw y byd? Ond os gwirionedd Duw, trwy fy nghelwydd i, a ymhelaethodd i'w ogoniant ef, paham y'm bernir innau hefyd etto fel pechadur? a phaham nad (fel y'n ceblir, ac fel y dywed rhai ein bod yn dywedyd) “Gwnawn ddrwg fel y del ddaioni?” y rhai y mae eu dedfryd yn gyfiawn. Beth gan hynny? a ragorir arnom ni? ddim o gwbl; canys ni a gyhuddasom Iuddewon a Groegiaid hefyd eu bod oll dan bechod; fel y mae yn ysgrifenedig, Nid oes cyfiawn, ddim un; Nid oes neb yn deall, nid oes neb yn ceisio Duw; Gŵyrasant oll, aethant un ac oll yn anfuddiol; nid oes yn gwneyd daioni, nid oes hyd y nod un: Bedd agored yw eu ceg; â'u tafodau y gwnaethant ddichell; gwenwyn aspiaid sydd dan eu gwefusau: Y rhai y mae eu genau yn orlawn o felldith a chwerwedd: Buan yw eu traed i dywallt gwaed; Distryw ac adfyd sydd yn eu ffyrdd; A ffordd tangnefedd nid adwaenasant: Nid oes ofn Duw gerbron eu llygaid. Ond ni a wyddom am ba bethau bynnag y mae y ddeddf yn eu dywedyd, wrth y rhai sydd dan y ddeddf y mae hi yn llefaru, fel y cauer pob genau, ac fel yr elo yr holl fyd yn agored i farn Duw: O herwydd trwy weithredoedd deddf ni chyfiawnheir un cnawd ger ei fron ef; canys trwy ddeddf y mae adnabod pechod. Eithr yn awr, ar wahan i ddeddf, y mae cyfiawnder o eiddo Duw wedi ei amlygu, i'r hwn y tystiolaethir gan y ddeddf a'r prophwydi; sef cyfiawnder Duw trwy ffydd Iesu Grist i bawb sydd yn credu: canys nid oes gwahaniaeth; oblegyd pawb a bechasant, ac ydynt yn amddifad o ogoniant Duw, ond yn cael eu cyfiawnhau yn rhad gan ei ras ef trwy y brynedigaeth sydd yng Nghrist Iesu: yr hwn a osododd Duw allan yn Drugareddfa, trwy ffydd, yn ei waed ef, er arddangosiad o'i gyfiawnder ef, o herwydd ei fynediad heibio i'r pechodau a wnaethpwyd o'r blaen, yn nyoddefgarwch Duw; er arddangosiad o'i gyfiawnder ef y pryd hwn, fel y byddai efe ei hun yn gyfiawn ac yn cyfiawnhau yr hwn sydd o ffydd Iesu. Pa le gan hynny y mae yr ymffrost? Cauwyd ef allan. Trwy ba fath ddeddf? ai deddf gweithredoedd? Nage, eithr trwy ddeddf ffydd. Canys yr ydym ni yn cyfrif mai trwy ffydd y cyfiawnheir dyn, ar wahan oddiwrth weithredoedd deddf. Ai Duw i Iuddewon yn unig yw efe? onid i Genhedloedd hefyd? Ië, i Genhedloedd hefyd, os yn wir un yw Duw, yr hwn a gyfiawnhâ yr enwaediad mewn canlyniad i ffydd, a'r dienwaediad trwy ffydd. A ydym, gan hynny, yn dirymmu deddf trwy ffydd? Ddim o gwbl! eithr yr ydym yn cadarnhau deddf. Pa beth gan hynny a ddywedwn ni ddarfod i Abraham ein cyndâd ei gael yn ol y cnawd? Canys os Abraham a gyfiawnhâwyd trwy weithredoedd, y mae ganddo fater ymffrost; ond nid mewn perthynas â Duw. Canys beth a ddywed yr ysgrythyr? A chredodd Abraham i Dduw, a chyfrifwyd hyn iddo yn gyfiawnder. Ond i'r hwn sydd yn gweithio, ni chyfrifir y gyflog o ras ond o ddyled. Eithr i'r neb nid yw yn gweithio, ond yn credu yn yr hwn sydd yn cyfiawnhau yr annuwiol, ei ffydd ef a gyfrifir yn gyfiawnder. Megys y mae Dafydd hefyd yn llefaru am ddedwyddiad y dyn y mae Duw yn cyfrif cyfiawnder iddo ar wahan oddiwrth weithredoedd: Gwyn fyd y rhai y maddeuwyd eu hanwireddau, ac y cuddiwyd eu pechodau. Gwyn fyd y gŵr i'r hwn ni chyfrif yr Arglwydd bechod o gwbl. A ddaeth y dedwyddiad hwn ar yr enwaediad, ynte ar y dienwaediad hefyd? canys yr ydym yn dywedyd fod ffydd wedi ei chyfrif i Abraham yn gyfiawnder. Pa fodd gan hynny y cyfrifwyd hi? ai pan oedd mewn enwaediad, ynte mewn dienwaediad? Nid mewn enwaediad, ond mewn dienwaediad. Ac efe a dderbyniodd arwydd enwaediad, sêl cyfiawnder y ffydd yr hon oedd ganddo yn y dienwaediad; fel y byddai yn dâd pawb a'r sydd yn credu, er eu bod mewn dienwaediad, fel y cyfrifid cyfiawnder iddynt; ac yn dâd yr enwaediad, nid i'r rhai o'r enwaediad yn unig, ond i'r rhai hefyd ydynt yn cerdded yn olion ffydd ein tâd Abraham yr hon oedd ganddo mewn dienwaediad. Canys nid trwy ddeddf yr oedd yr Addewid i Abraham neu i'w hâd, y byddai yn etifedd y byd, eithr trwy gyfiawnder ffydd. Canys os y rhai sydd o'r ddeddf yw yr etifeddion, y mae ffydd wedi ei gwneyd yn wag, a'r Addewid yn ddirym; ond y mae y ddeddf yn gweithredu digofaint; ond lle nad oes deddf, nid oes trosedd. Am hynny o ffydd y mae, fel y byddai yn ol gras, fel y byddai yr Addewid yn sicr i'r holl hâd; nid yn unig i'r hwn sydd o'r ddeddf, ond hefyd i'r hwn sydd o ffydd Abraham, yr hwn yw ein tâd ni oll, (fel y mae yn ysgrifenedig, Mi a'th wneuthum yn dâd Cenhedloedd lawer) gerbron yr hwn y credodd efe iddo, sef Duw, yr hwn sydd yn bywhau y meirw, ac yn galw y pethau nad ydynt fel pe baent; yr hwn tuhwnt i obaith mewn gobaith a gredodd, fel y byddai yn dâd Cenhedloedd lawer, yn ol yr hyn a ddywedasid, Felly y bydd dy hâd di. Ac heb fod yn egwan mewn ffydd, efe a ystyriodd ei gorph ei hun eisoes wedi ei farweiddio (ac efe ynghylch can mlwydd oed), a marweidd‐dra bru Sara; ond gyda golwg ar Addewid Duw nid ammheuodd trwy annghrediniaeth, eithr efe a nerthwyd trwy ffydd, gan roddi gogoniant i Dduw, ac wedi cael sicrwydd hollol ei fod yn alluog i gyflawnu hefyd yr hyn a addawodd; ac am hynny y cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder. Eithr nid ysgrifennwyd hyn er ei fwyn ef yn unig, Y cyfrifwyd iddo, eithr er ein mwyn ninnau hefyd, i'r rhai y cyfrifir, y rhai ydym yn credu yn yr hwn a gyfododd Iesu ein Harglwydd o feirw, yr hwn a draddodwyd o achos ein troseddau ni, ac a gyfodwyd er mwyn ein cyfiawnhad. Wedi ein cyfiawnhâu gan hynny trwy ffydd, bydded gennym heddwch gyda Duw, trwy ein Harglwydd Iesu Grist; trwy yr hwn hefyd yr ydym wedi cael y ddyfodfa [trwy ffydd] i'r gras hwn yn yr hwn yr ydym yn sefyll yn gadarn, a bydded i ni orfoleddu yng ngobaith gogoniant Duw; ac nid hynny yn unig, eithr bydded i ni hefyd orfoleddu yn y gorthrymderau: gan wybod fod gorthrymder yn dadblygu dyoddefgarwch; a dyoddefgarwch, gymmeriad profedig; a chymmeriad profedig, obaith: a'r gobaith ni ddwg gywilydd, am fod cariad Duw wedi ei dywallt allan yn ein calonnau trwy yr Yspryd Glân yr hwn a roddwyd i ni. Canys a nyni etto yn weiniaid, Crist etto mewn pryd a fu farw dros annuwiolion. Oblegyd o'r braidd y bydd neb farw dros ddyn cyfiawn; oblegyd dros y dyn da feallai y beiddiai un hyd y nod farw. Eithr y mae Duw yn llwyr‐brofi ei gariad ei hun tuag attom ni, gan, a nyni etto yn bechaduriaid, i Grist farw drosom. Mwy ynte o lawer, a nyni yn awr wedi ein cyfiawnhâu yn ei Waed ef, y'n hachubir trwyddo ef rhag y digofaint. Canys os pan yn elynion y'n cymmodwyd â Duw trwy farwolaeth ei Fab ef, mwy o lawer, wedi ein cymmodi, y'n hachubir yn ei fywyd ef; ac nid hynny yn unig, ond hefyd yr ydym yn gorfoleddu yn Nuw trwy ein Harglwydd Iesu Grist, trwy yr Hwn yn awr y derbyniasom y cymmod. Am hynny, megys trwy un dyn y daeth pechod i mewn i'r byd, a marwolaeth trwy bechod, ac felly yr aeth marwolaeth ar bob dyn, o herwydd i bawb bechu: canys hyd y ddeddf yr oedd pechod yn y byd, ond ni chyfrifir pechod os na fydd deddf: er hynny, teyrnasodd marwolaeth o Adda hyd Moses hyd y nod ar y rhai ni phechasant yn ol cyffelybiaeth camwedd Adda, yr hwn oedd gysgodlun o'r Hwn oedd i ddyfod. Eithr nid fel y camwedd, felly y dawn hefyd; canys os trwy gamwedd yr un y bu feirw y llawer, mwy o lawer y gor‐ymhelaethodd gras Duw a'r rhodd trwy ras yr un dyn Iesu Grist i'r llawer. Ac nid megys trwy un dyn a bechodd, y mae y rhodd; canys y farn oedd o un i gondemniad, ond y dawn o gamweddau lawer i gyfiawnhâd. Canys os trwy gamwedd yr un y teyrnasodd marwolaeth trwy yr un, mwy o lawer y caiff y rhai a dderbyniant y gorlawnder o ras ac o rodd cyfiawnder, deyrnasu mewn bywyd trwy yr un, Iesu Grist. Gan hynny, yn wir, trwy un camwedd, y canlyniad oedd i bob dyn er condemniad, felly hefyd trwy un weithred o gyfiawnder y canlyniad oedd i bob dyn er cyfiawnhâd bywyd. Canys megys trwy anufudd‐dod yr un dyn y gwnaethpwyd y llawer yn bechaduriaid, felly hefyd trwy ufudd‐dod yr un y gwnaethpwyd y llawer yn gyfiawn. Ond deddf a ddaeth i mewn fel yr amlhâi y camwedd; ond lle yr amlhâodd pechod, y gor‐ymhelaethodd gras; fel, megys y teyrnasodd pechod mewn marwolaeth, felly hefyd teyrnased gras trwy gyfiawnder i fywyd tragywyddol, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Pa beth gan hynny a ddywedwn? A barhawn ni mewn pechod fel y byddo i ras amlhau? Na atto Duw! Nyni, y rhai a fuom feirw i bechod, pa fodd y gallwn fyw etto ynddo? Neu a ydych heb wybod mai cynnifer o honom ag a fedyddiwyd i Grist Iesu ein bedyddio i'w farwolaeth ef? Cyd‐gladdwyd ni gan hynny gydag ef trwy fedydd i farwolaeth, fel megys y cyfodwyd Crist o feirw trwy ogoniant y Tâd, felly y rhodiom ninnau hefyd mewn newydd‐deb bywyd. Canys os ydym wedi ein cyfuno âg ef trwy gyffelybiaeth ei farwolaeth ef, hefyd ni a fyddwn trwy gyffelybiaeth ei adgyfodiad ef; gan wybod hyn, fod ein hen ddyn ni wedi ei groeshoelio gydag ef, fel y dirymmid corph pechod, fel na wasanaethom bechod mwyach. Canys y mae yr hwn a fu farw wedi ei ollwng yn rhydd oddiwrth bechod. Ond os buom feirw gyda Christ, yr ydym yn credu hefyd y cawn fyw gydag ef; gan wybod nad yw Crist a gyfodwyd oddiwrth y meirw yn marw mwyach: nid yw marwolaeth yn arglwyddiaethu arno mwyach. Canys y farwolaeth y bu efe farw, i bechod y bu farw unwaith am byth; ond y bywyd y mae yn ei fyw, byw y mae i Dduw. Felly chwithau hefyd, cyfrifwch eich hunain yn feirw i bechod, ond yn fywi Dduw yng Nghrist Iesu ein Harglwydd. Na theyrnased pechod gan hynny yn eich corph marwol i ufuddhau o honoch i'w chwantau. Ac na chynnygiwch eich aelodau yn arfau annghyfiawnder i bechod, eithr cynnygiwch eich hunain i Dduw, megys rhai o feirw yn fyw, a'ch aelodau yn arfau cyfiawnder i Dduw. Canys pechod nid arglwyddiaetha arnoch chwi, oblegyd nid ydych dan ddeddf ond dan ras. Pa beth, gan hynny? a bechwn ni o herwydd nad ydym dan ddeddf eithr dan ras? Na atto Duw! Oni wyddoch chwi mai i'r hwn y cynnygiwch eich hunain yn weision er ufudd‐dod, gweision ydych i'r hwn yr ydych yn ufuddhau iddo; pa un bynnag ai gweision i bechod i farwolaeth, neu gweision ufudd‐dod i gyfiawnder? Ond diolch i Dduw, a chwi oeddech weision pechod ond a ufuddhasoch o'r galon i'r ffurf o athrawiaeth a draddodwyd i chwi; ac wedi eich rhyddhau oddiwrth bechod, chwi a wnaed yn weision i gyfiawnder. Yn ol dull dynol yr wyf yn dywedyd, oblegyd gwendid eich cnawd chwi; canys fel y cynnygiasoch eich aelodau yn weision i aflendid ac i annghyfraith er annghyfraith; yr un modd yn awr cynnygiwch eich aelodau yn weision cyfiawnder er sancteiddiad. Canys pan oeddych weision pechod, rhyddion oeddych mewn perthynas i gyfiawnder. Pa ffrwyth gan hynny oedd i chwi y pryd hwnnw yn y pethau hynny y mae arnoch yn awr gywilydd o'u plegyd? diwedd y pethau hynny yw marwolaeth. Ond yn awr wedi eich rhyddhâu oddiwrth bechod, a'ch gwneuthur yn weision i Dduw, mae i chwi eich ffrwyth er sancteiddiad, a'r diwedd yn fywyd tragywyddol. Canys cyflog pechod yw marwolaeth, eithr dawn Duw yw bywyd tragywyddol yng Nghrist Iesu ein Harglwydd. Ai heb wybod yr ydych, frodyr (canys wrth rai sydd yn gwybod am ddeddf yr wyf yn dywedyd), fod y Ddeddf yn arglwyddiaethu ar ddyn tra byddo efe byw? Canys y wraig briod sydd wedi ei rhwymo gan ddeddf i'r gŵr tra byddo efe byw: ond os bydd y gŵr farw, rhyddhâwyd hi oddiwrth ddeddf y gŵr. Gan hynny, yn wir, a'r gŵr yn fyw, hi a ddyg yr enw o odineb‐wraig, os ä yn eiddo gŵr arall; ond os bydd y gŵr farw, y mae hi yn rhydd oddiwrth y ddeddf, fel nad yw hi yn odineb‐wraig, er ei bod yn eiddo gŵr arall. Gan hynny, fy mrodyr, chwithau hefyd a wnaed yn feirw i'r Ddeddf trwy gorph Crist, fel y byddoch eiddo un arall, yr hwn a gyfodwyd o feirw, fel y dygem ffrwyth i Dduw. Canys pan oeddym yn y cnawd, nwydau pechodau, y rhai sydd trwy y Ddeddf, a weithient yn rymmus yn ein haelodau i ddwyn ffrwyth i farwolaeth; ond yn awr, rhyddhâwyd ni oddiwrth y Ddeddf, wedi marw o honom i'r peth yn yr hwn y'n delid, fel y gwasanaethem mewn newydd‐deb yspryd, ac nid yn hendra y llythyren. Beth gan hynny a ddywedwn? Ai pechod yw y Ddeddf? Na atto Duw. Eithr nid adnabum i bechod, oddi eithr trwy ddeddf; canys nid adnabuaswn i drachwant, oni bai ddywedyd o'r Ddeddf, Na thrachwanta. Eithr pechod, wedi cael cychwyniad trwy y gorchymyn, a weithiodd yn rymmus ynof fi bob trachwant. Canys ar wahân â deddf y mae pechod yn farw. Ac yr oeddwn i yn fyw unwaith ar wahân â deddf, ond pan ddaeth y Gorchymyn yr adfywiodd pechod, ond myfi a fum farw; a'r Gorchymyn, yr hwn ydoedd i fywyd, hwnnw a gaed i mi i farwolaeth: canys pechod, gan gael cychwyniad trwy'r Gorchymyn, a'm twyllodd yn hollol, a thrwy hwnnw a'm lladdodd. Gan hynny yn wir, y mae y Ddeddf yn sanctaidd, a'r Gorchymyn yn sanctaidd, ac yn gyfiawn, ac yn dda. Am hynny, a ddaeth yr hyn sydd dda yn farwolaeth i mi? Na atto Duw; eithr pechod, fel yr ymddangosai ei fod yn bechod, gan weithio marwolaeth i mi, trwy yr hyn sydd dda, fel y byddai pechod trwy y Gorchymyn yn bechadurus dros fesur. Canys yr ydym yn gwybod fod y Ddeddf yn ysprydol; ond yr wyf fi yn gnawdol, wedi fy ngwerthu dan bechod. Canys nid wyf yn gwybod yr hyn yr wyf yn ei weithredu; canys nid y peth yr wyf yn ei ewyllysio, hynny yr wyf yn ei wneuthur; eithr y peth sydd gâs gennyf, hyn yr wyf yn ei wneuthur. Ac os y peth nid wyf yn ei ewyllysio, hynny yr wyf yn ei wneuthur, yr wyf yn cydsynio â'r Ddeddf mai da yw. Ond yn awr, nid myfi mwyach sydd yn ei weithredu, ond y pechod sydd yn trigo ynof; canys gwn nad oes ynof fi, hynny yw, yn fy nghnawd i, ddim da yn trigo: oblegyd yr ewyllysio sydd yn bresennol i mi, ond gweithredu y da, nid yw; canys nid wyf yn gwneuthur y peth da yr wyf yn ei ewyllysio, ond y drwg yr hwn nid wyf yn ei ewyllysio, hynny yr wyf yn ei ymarfer. Ac os wyf yn gwneuthur y peth nid wyf yn ei ewyllysio, nid myfi mwyach sydd yn ei wneuthur, ond y pechod sydd yn trigo ynof. Yn wir yr wyf yn cael y Ddeddf hon: I mi pan yn ewyllysio gwneuthur y da, i mi, meddaf, y mae y drwg yn bresennol. Canys ymhyfrydu yr wyf yng Nghyfraith Duw yn ol y dyn oddimewn, eithr yr wyf yn gweled deddf wahanol yn fy aelodau, yn gwrthryfela yn erbyn deddf fy meddwl, ac yn fy nghaethiwo i ddeddf pechod, yr hon sydd yn fy aelodau. O ddyn truenus ydwyf! pwy a'm gwared i allan o gorph y farwolaeth hon? Diolch yr wyf i Dduw trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Gan hynny, yn wir, yr wyf fi fy hun â'r meddwl yn gwasanaethu deddf Duw, ond â'r cnawd, ddeddf pechod. Nid oes gan hynny yn wir yn awr ddim condemniad i'r rhai sydd yng Nghrist Iesu. Canys Deddf Yspryd y bywyd yng Nghrist Iesu a'th rhyddhâodd di oddiwrth Ddeddf pechod a marwolaeth. Canys y peth ammhosibl i'r Ddeddf wneyd, yn yr hyn yr oedd yn wan trwy y cnawd, Duw, wedi danfon ei Fab ei hun yng nghyffelybiaeth cnawd pechadurus, ac am bechod, a gondemniodd bechod yn y cnawd, fel y cyflawnid rheol gyfiawn y Ddeddf ynom ni, y rhai ydym yn rhodio nid yn ol y cnawd, ond yn ol yr Yspryd. Canys y rhai sydd yn ol y cnawd, am bethau y cnawd y maent yn synio; eithr y rhai sydd yn ol yr Yspryd, am bethau yr Yspryd. Canys syniad y cnawd, marwolaeth yw; eithr syniad yr Yspryd, bywyd a thangnefedd yw; oblegyd syniad y cnawd sydd elyniaeth yn erbyn Duw, canys nid yw yn ymostwng i Ddeddf Duw, oblegyd yn wir nis gall. A'r rhai sydd yn y cnawd ni allant ryngu bodd Duw. Eithr chwychwi nid ydych yn y cnawd, ond yn yr Yspryd, os yw Yspryd Duw yn wir yn trigo ynoch. Ond os oes neb heb Yspryd Crist ganddo, nid yw hwnnw yn eiddo ef. Ond os yw Crist ynoch, y mae y corph yn wir yn farw, o herwydd pechod; eithr yr yspryd yn fywyd, o herwydd cyfiawnder. Ac os Yspryd yr hwn a gyfododd Iesu o feirw sydd yn trigo ynoch, yr hwn a gyfododd Crist o feirw a fywhâ hefyd eich cyrph marwol chwi o herwydd ei Yspryd yr hwn sydd yn trigo ynoch. Am hynny, frodyr, dyledwyr ydym, nid i'r cnawd, i fyw yn ol y cnawd; canys os byw yr ydych yn ol y cnawd, yr ydych ar fedr marw; eithr os trwy yr Yspryd y marwhêwch weithredoedd y corph, byw fyddwch. Canys y sawl a arweinir gan Yspryd Duw, y rhai hyn yw meibion Duw. Canys ni dderbyniasoch yspryd caethiwed drachefn i beri ofn, eithr derbyniasoch Yspryd mabwysiad, trwy yr hwn y llefwn, Abba, Dâd! Y mae yr Yspryd ei hun yn cyd‐dystiolaethu â'n hyspryd ni ein bod yn blant i Dduw; ac os plant, etifeddion hefyd; etifeddion yn wir i Dduw, a chyd‐etifeddion â Christ; os yn wir yr ydym yn cyd‐ddyoddef gydag ef, fel y'n cyd‐ogonedder hefyd. Oblegyd yr ydwyf yn cyfrif nad yw dyoddefiadau yr adeg bresennol hon yn haeddu eu cyferbynu â'r gogoniant sydd ar fedr cael ei ddadguddio mewn perthynas i ni. Canys dwys‐awyddfryd y greadigaeth sydd yn taer‐ddysgwyl am ddadguddiad meibion Duw. Canys y greadigaeth a ddarostyngwyd i oferedd, nid o'i bodd, eithr oblegyd yr hwn a'i darostyngodd, mewn gobaith y rhyddheir y greadigaeth ei hun o gaethiwed llygredigaeth i ryddid gogoniant plant Duw. Canys ni a wyddom fod yr holl greadigaeth yn cyd‐ocheneidio ac ynghyd mewn gwewyr‐esgor hyd yn awr. Ac nid hynny yn unig, eithr ninnau hefyd, y rhai sydd gennym flaenffrwyth yr Yspryd, — yr ydym ninnau hefyd yn ocheneidio ynom ein hunain, gan daer‐ddysgwyl am y mabwysiad, sef prynedigaeth ein corph. Canys mewn gobaith y'n hachubwyd: eithr gobaith a welir nid yw obaith: canys pwy sydd yn gobeithio am yr hyn y mae yn ei weled? Ond os ydym yn gobeithio am yr hyn nid ydym yn ei weled, yr ydym trwy ddewr‐ymaros yn taer‐ddysgwyl am dano. Yr un modd hefyd y mae yr Yspryd yn cynnorthwyo ein gwendid ni: canys ni wyddom ni am beth y gweddiom megys y dylem: eithr y mae yr Yspryd ei hun yn erfyn âg ocheneidiau annhraethadwy. A'r hwn sydd yn chwilio y calonnau a ŵyr beth yw meddwl yr Yspryd, canys y mae efe yn ol ewyllys Duw yn erfyn dros y saint. Ac ni a wyddom fod pob peth yn cyd‐weithio er daioni i'r rhai sydd yn caru Duw, sef i'r rhai sydd wedi eu galw yn ol ei arfaeth ef. Oblegyd y rhai a rag‐wybu a rag‐ordeiniodd efe hefyd i'w cyd‐ffurfio â delw ei Fab ef, fel y byddai efe y cyntaf‐anedig ym mhlith brodyr lawer: a'r rhai a rag‐ordeiniodd efe, y rhai hynny hefyd a alwodd efe; a'r rhai a alwodd efe, y rhai hynny hefyd a gyfiawnhâodd efe; a'r rhai a gyfiawnhâodd efe, y rhai hynny hefyd a ogoneddodd efe. Beth gan hynny a ddywedwn ni wrth y pethau hyn? Os yw Duw trosom, pwy sydd yn ein herbyn? Yr hwn nid arbedodd ei briod fab, ond a'i traddododd drosom ni oll, pa wedd gydag ef hefyd na rad‐rodda efe i ni bob peth? Pwy a ddyg gyhuddiad yn erbyn etholedigion Duw? Ai Duw, yr hwn sydd yn cyfiawnhau? Pwy sydd yn condemnio? Ai Crist Iesu a fu farw, ïe yn hytrach, yr hwn a gyfodwyd o feirw, yr hwn sydd ar ddeheulaw Duw, yr hwn hefyd sydd yn erfyn trosom ni? Pwy a'n gwahana ni oddiwrth gariad Crist? Ai gorthrymder? neu ing? neu erledigaeth? neu newyn? neu noethni? neu berygl? neu gleddyf? Megys y mae yn ysgrifenedig: Er dy fwyn di y lleddir ni ar hyd y dydd, Cyfrifwyd ni fel defaid i'r lladdfa. Na! yn y pethau hyn oll yr ydym ni yn fwy na gorchfygwyr trwy yr hwn a'n carodd ni. Canys yr wyf yn sicr na all nac angau, nac einioes, nac angelion, na thywysogaethau, na phethau presennol, na phethau i ddyfod, na nerthoedd, nac uchder, na dyfnder, nac un creadur arall, ein gwahanu ni oddiwrth gariad Duw, yr hwn sydd yng Nghrist Iesu ein Harglwydd. Y gwirionedd yr wyf yn ei ddywedyd yng Nghrist, nid wyf yn dywedyd celwydd, fy nghydwybod yn cyd‐dystiolaethu â mi yn yr Yspryd Glân, fod i mi dristwch mawr a phoen dibaid i'm calon; canys dymunwn fod fy hun yn anathema oddiwrth Grist er mwyn fy mrodyr, fy nghyd‐genedl yn ol y cnawd, y rhai ydynt Israeliaid; eiddo y rhai yw y Mabwysiad, a'r Gogoniant, a'r Cyfammodau, a Rhoddiad y Ddeddf, a'r Gwasanaeth, a'r Addewidion; eiddo y rhai yw y Tadau, ac o'r rhai y mae Crist yn ol y cnawd, yr hwn sydd uwchlaw pawb, yn Dduw bendigedig yn oes oesoedd. Amen. Eithr nid yw yr achos y fath ag i air Duw fod wedi syrthio i'r llawr; canys nid Israel yw pawb sydd o Israel; ac nid ydynt, oblegyd eu bod yn hâd i Abraham, i gyd yn blant, eithr, Yn Isaac yr enwir i ti hâd; hynny yw, nid plant y cnawd, y rhai hynny sydd blant i Dduw, eithr plant yr addewid a gyfrifir yn hâd. Canys y gair hwn yw gair yr addewid, Yn ol y pryd hwn y deuaf, a bydd mab i Sara. Ac nid yn unig hyn, eithr Rebecca hefyd, wedi iddi feichiogi o un, Isaac ein Tâd ni (canys a hwy heb etto eu geni, a gwneuthur o honynt dda na drwg, fel y byddai i arfaeth Duw yn ol etholedigaeth sefyll, nid o weithredoedd, eithr o'r hwn sydd yn galw) dywedwyd wrthi, Y mwyaf a wasanaetha y lleiaf; megys y mae yn ysgrifenedig, Jacob a gerais, eithr Esau a gaseâis. Beth gan hynny a ddywedwn ni? A oes annghyfiawnder gyda Duw? Na atto Duw. Canys y mae yn dywedyd wrth Moses, Trugarhâf wrth yr hwn y trugarhâwyf, a thosturiaf wrth yr hwn y tosturiwyf. Gan hynny, ynte, nid yw o'r hwn sydd yn ewyllysio, nac o'r hwn sydd yn rhedeg chwaith, ond o Dduw, yr hwn sydd yn trugarhâu. Canys dywed yr ysgrythyr wrth Pharaoh, I hyn yma y'th gyfodais di, fel y dangoswn fy ngallu ynot, ac fel y dadgenid fy enw yn yr holl ddaear. Felly gan hynny wrth yr hwn yr ewyllysia y trugarhâ efe, a'r hwn a ewyllysia a galeda. Tydi a ddywedi gan hynny wrthyf, Paham y mae efe etto yn beio? Canys pwy a saif yn erbyn ei gynghor ef? Na, yn hytrach, O ddyn! pwy wyt ti yr hwn wyt yn atteb yn erbyn Duw? A ddywed y peth a ffurfiwyd wrth yr hwn a'i ffurfiodd, Paham y'm gwnaethost fel hyn? Neu, onid oes awdurdod gan y crochenydd ar y clai, o'r un telpyn i wneuthur un rhan yn llestr i barch, ac i arall ammharch? Beth os Duw, er yn ewyllysio dangos ei ddigofaint, a gwneyd ei allu yn adnabyddus, a oddefodd gyda llawer o hir‐ymaros lestri digofaint wedi eu cymhwyso i golledigaeth: fel y gwnelai yn adnabyddus olud ei ogoniant ar lestri trugaredd, y rhai a rag‐barottôdd efe i ogoniant, y rhai a alwodd efe hefyd, sef nyni, nid yn unig o'r Iuddewon, ond hefyd o'r Cenhedloedd? Megys hefyd y dywed efe yn Hosea: Mi a alwaf yr hwn nid yw bobl i mi yn bobl i mi: A'r hon nid yw anwyl yn anwyl. A bydd, yn y lle y dywedwyd wrthynt, Nid fy mhobl ydych chwi, Yno y gelwir hwy yn feibion y Duw byw. Esaia hefyd sydd yn llefain ar ran yr Israel, Er pe byddai nifer meibion Israel fel tywod y môr, y gweddill a achubir; Canys yr Arglwydd a gyflawna ei air ar y ddaear, gyda llŵyrder a chyflymdra. Ac megys y dywedodd Esaia o'r blaen, Oni buasai i Arglwydd Sabaoth adael i ni hâd, fel Sodom y buasem, a gwnaethid ni yn gyffelyb i Gomorrah. Beth gan hynny a ddywedwn ni? Bod y Cenhedloedd nad oeddynt yn dylyn cyfiawnder, wedi dod o hyd i gyfiawnder, sef y cyfiawnder sydd o ffydd; ond Israel gan ddylyn deddf cyfiawnder, ni ddaethant i fyny â'r ddeddf. Paham? O herwydd ni ddylynasant o ffydd ond megys o weithredoedd. Tramgwyddasant wrth y maen‐tramgwydd, megys y mae yn ysgrifenedig: Wele, yr wyf yn gosod yn Sion faen‐tramgwydd a chraig rwystr. A'r hwn sydd yn credu ynddo ef, ni chywilyddir. Frodyr, ewyllys da fy nghalon a'm gweddi ar Dduw ar eu rhan yw er eu hiachawdwriaeth; canys yr wyf yn dyst iddynt fod ganddynt sêl dros Dduw, eithr nid yn ol gwybodaeth; canys heb wybod cyfiawnder Duw, ac yn ceisio sefydlu eu heiddo eu hunain, nid ymostyngasant i gyfiawnder Duw. Canys Crist yw diwedd deddf er cyfiawnder i bob un sydd yn credu. Canys y mae Moses yn ysgrifennu mai y dyn a wnel y cyfiawnder sydd o ddeddf a fydd byw trwyddo. Eithr y mae y cyfiawnder sydd o ffydd yn dywedyd fel hyn, Na ddywed yn dy galon, Pwy a esgyn i'r nef (hynny yw, i ddwyn Crist i waered); neu, Pwy a ddisgyn i'r dyfnder? (hynny yw, i ddwyn Crist i fyny o blith y meirw). Na, pa beth y mae efe yn ei ddywedyd? Mae y gair yn agos attat, yn dy enau, ac yn dy galon: hwn yw gair y ffydd, yr hwn yr ydym ni yn ei bregethu; sef, os cyffesi a'th enau yr Iesu yn Arglwydd, a chredu yn dy galon i Dduw ei gyfodi ef o feirw, cadwedig fyddi; canys â'r galon y credir i gyfiawnder, ac â'r genau y cyffesir i iachawdwriaeth; oblegyd dywed yr Ysgrythyr, Pob un sydd yn credu ynddo ef, ni chywilyddir. Canys nid oes gwahaniaeth rhwng Iuddew a Groegwr; canys yr un yw Arglwydd pawb, yn gyfoethog i bawb sydd yn galw arno: canys pwy bynnag a alwo ar enw yr Arglwydd, cadwedig fydd. Pa fodd, ynte, y galwant ar yr hwn ni chredasant ynddo? a pha fodd y credant yn yr hwn ni chlywsant? a pha fodd y clywant heb bregethwr? a pha fodd y pregethant onis danfonir hwynt? megys y mae yn ysgrifenedig, Mor brydferth yw traed y rhai sydd yn efengylu pethau da! Eithr nid ufuddhasant hwy oll i'r efengyl; canys y mae Esaia yn dywedyd [[53:1]], Arglwydd, pwy a gredodd i'n cennadwri? Felly daw ffydd trwy glywed, a chlywed trwy air Crist. Eithr meddaf, Oni chlywsant hwy? Do, yn wir, Eu swn a aeth allan i'r holl ddaear, A'u geiriau hyd derfynau y byd. Eithr meddaf, Ai ni wybu Israel? Moses a ddywed yn gyntaf, Mi a'ch gwnaf yn eiddigus yn erbyn yr hyn nid yw genedl; yn erbyn cenedl anneallus mi a'ch gwnaf yn ddig. Eithr y mae Esaia yn ymhyfhâu ac yn dywedyd, Cafwyd fi gan y rhai na'm ceisient, A gwnaethum fy hun yn eglur i'r rhai nad ymofynant am danaf. Ond wrth Israel y dywed efe, Ar hyd y dydd yr estynais allan fy nwylaw at bobl anufudd a gwrthwynebus. Am hynny meddaf, A fwriodd Duw ymaith ei bobl? Na atto Duw: canys yr wyf fi hefyd yn Israeliad o hâd Abraham, o lwyth Benjamin. Ni fwriodd Duw ymaith bobl y rhai a rag‐adnabu efe. Oni wyddoch pa beth a ddywed yr Ysgrythyr yn yr adran am Elias, y modd y mae efe yn erfyn ar Dduw yn erbyn Israel, gan ddywedyd, O Arglwydd, hwy a laddasant dy brophwydi, ac a gloddiasant i lawr dy allorau, ac myfi a adawyd yn unig, ac y maent yn ceisio fy einioes innau. Eithr pa beth a ddywed atteb Duw wrtho? Mi a adewais i mi fy hun saith mil o wŷr, y rhai ni phlygasant lin i Baal. Gan hynny yr un modd y pryd hwn hefyd y mae gweddill yn ol etholedigaeth gras, ac os trwy ras, nid yw mwyach o weithredoedd: os amgen, nid yw gras yn ras mwyach. Pa beth, ynte? Yr hyn y mae Israel yn ei daer‐geisio nis cafodd: eithr yr etholedigaeth a'i cafodd, a'r lleill a galedwyd, megys y mae yn ysgrifenedig, Rhoddes Duw iddynt yspryd cysgadrwydd; Llygaid fel na welent, a chlustiau fel na chlywent, hyd y dydd hwn. Ac y mae Dafydd yn dywedyd, Bydded eu bwrdd hwy yn fagl, ac yn rhwyd, ac yn dramgwydd, ac yn daledigaeth iddynt; Tywyller eu llygaid fel na welont, A chydgrymma eu cefn yn wastad. Gan hynny meddaf, A dripiasant hwy fel y cwympent? Na atto Duw: eithr trwy eu syrthiad hwy ymaith, y mae yr iachawdwriaeth i'r Cenhedloedd er eu gwneyd yn eiddigus, ac os yw eu syrthiad ymaith yn olud y byd, a'u syrthiad yn fyr yn olud y Cenhedloedd, pa faint mwy eu cyflawnder? Ond wrthych chwi y Cenhedloedd y dywedaf, Yn gymmaint a'm bod i gan hynny yn Apostol y Cenhedloedd, yr wyf yn mawrhau fy ngweinidogaeth, os mewn un modd y gwnaf yn eiddigus fy nghnawd fy hun, ac achub rhai o honynt. Canys os yr ymwrthodiad â hwy yw cymmod y byd, beth fydd eu derbyniad ond bywyd o feirw? Ac os yw y blaenffrwyth yn sanctaidd, y mae y crynswth hefyd; ac os yw y gwreiddyn yn sanctaidd, y mae y canghennau hefyd. Ond os rhai o'r canghennau a dorrwyd ymaith, a thydi, yn olew‐wydden wyllt, a impiwyd i mewn yn eu plith, ac yn gyd‐gyfrannog o wreiddyn brasder yr olew‐wydden, nac ymffrostia yn erbyn y canghennau: ac os ymffrosti yn eu herbyn, nid tydi sydd yn cynnal y gwreiddyn, eithr y gwreiddyn dydi. Ti a ddywedi gan hynny, Torrwyd canghennau ymaith, fel yr impid fi i mewn. Rhagorol! Trwy eu hannghrediniaeth y torrwyd hwynt ymaith, a thithau wyt yn sefyll trwy dy ffydd! Na fydd uchel‐fryd, eithr ofna; canys os nid arbedodd Duw y canghennau naturiol, ni'th arbeda dithau chwaith. Gwel gan hynny garedigrwydd a llymder Duw: tuag at y rhai a gwympasant, llymder; tuag attat ti, caredigrwydd Duw, os arhosi yn ei garedigrwydd: os amgen, torrir dithau hefyd ymaith. A hwythau hefyd, os nid arhosant mewn annghrediniaeth, a impir i mewn, canys Duw sydd alluog i'w himpio hwy i mewn drachefn. Canys os torrwyd di ymaith o'r olew‐wydden wyllt wrth naturiaeth, a'th impio yn erbyn naturiaeth mewn olew‐wydden dda, pa faint mwy y bydd i'r rhai hyn sydd wrth naturiaeth, eu himpio i mewn yn eu holew‐wydden eu hun? Canys nid ewyllysiaf i chwi fod heb wybod, frodyr, y dirgelwch hwn, fel na byddoch ddoethion yn eich golwg eich hunain: ddyfod caledwch o ran i Israel, hyd oni ddel cyflawnder y Cenhedloedd i mewn; ac felly holl Israel a achubir, fel y mae yn ysgrifenedig, Daw allan o Sion y Gwaredydd, Ac a dry ymaith annuwioldebau o Jacob; A hwn yw y Cyfammod iddynt oddiwrthyf fi, Pan gymmerwyf ymaith eu pechodau. O berthynas, yn wir, i'r efengyl, gelynion ydynt er eich mwyn chwi, ond mewn perthynas â'r etholedigaeth, anwyliaid ydynt er mwyn y Tadau. Canys ni elwir yn ol rad‐ddoniau a galwedigaeth Duw. Canys megys y buoch chwithau gynt yn anufudd i Dduw, eithr yn awr a gawsoch drugaredd drwy anufudd‐dod y rhai hyn; felly hwythau hefyd yn awr a anufuddhasant, fel y caent hwythau yn awr drugaredd trwy y drugaredd a estynwyd i chwi; canys y mae Duw wedi cyd‐gau pawb i anufudd‐dod, fel y trugarhâi wrth bawb. O ddyfnder golud doethineb a gwybodaeth Duw! mor anchwiliadwy yw ei farnau ef, a'i ffyrdd, mor anolrheiniadwy ydynt! Canys pwy a wybu feddwl yr Arglwydd; neu pwy fu Gynghorwr iddo? Neu, pwy a roddes iddo ef yn gyntaf, ac fe a delir iddo drachefn? Canys o hono ef, a thrwyddo ef, ac iddo ef y mae pob peth. Iddo ef y byddo y gogoniant yn oes oesoedd. Amen. Am hynny yr wyf yn eich annog chwi, frodyr, trwy dosturiaethau Duw, gyflwyno o honoch eich cyrph yn aberth byw, sanctaidd, llawn‐foddhâol, i Dduw: hyn yw eich gwasanaeth rhesymmol. Ac na chydymagweddwch â'r byd hwn, eithr trawsffurfier chwi trwy adnewyddiad eich meddwl, fel y gosodoch i brawf beth yw daioni, a llawn‐foddhâol a pherffaith ewyllys Duw. Canys dywedyd yr wyf, trwy y gras a roddwyd i mi, wrth bob un sydd yn eich plith, na byddo iddo feddwl am dano ei hun yn uwch nag y dylai feddwl, ond i feddwl yn sobr, fel y rhannodd Duw i bob un fesur ffydd. Canys megys y mae gennym mewn un corph aelodau lawer, ac nad oes gan yr holl aelodau yr un gwaith; felly nyni yn llawer, ydym un corph yng Nghrist, a phob un yn aelodau i'w gilydd. A chan fod gennym ddoniau gwahanol yn ol y gras a roddwyd i ni, pa un bynnag ai prophwydoliaeth, prophwydwn yn ol cyfartaledd ein ffydd; ai gweinidogaeth, byddwn ffyddlon yn y weinidogaeth; neu yr hwn sydd yn dysgu, yn y ddysgeidiaeth; neu yr hwn sydd yn cynghori, yn y cynghor; neu yr hwn sydd yn cyfrannu, gwnaed gyda haelionusrwydd; yr hwn sydd yn llywyddu, gydag eiddgarwch; yr hwn sydd yn trugarhau, gyda sirioldeb. Bydded cariad yn ddiragrith. Ffieiddiwch y drwg; glynwch wrth y da. Mewn cariad brawdol, meithrinwch serch tyner tuag at eich gilydd; mewn dangos parch, yn blaenori ar eich gilydd; nid yn llesg mewn eiddgarwch; yn wresog mewn yspryd; yn gwasanaethu yr Arglwydd; yn llawenhau mewn gobaith, yn dal i fyny dan orthrymder, yn dyfal‐barhau mewn gweddi; yn cyfrannu i angenrheidiau y saint, yn ymroddi i lettygarwch. Bendithiwch y rhai sydd yn eich erlid; bendithiwch, ac na felldithiwch. Llawenychwch gyda'r rhai sydd yn llawenychu; wylwch gyda'r rhai sydd yn wylo. Byddwch o'r un meddwl tuag at eich gilydd, heb roi eich meddwl ar bethau uchel, ond at dynner chwi at bethau sydd isel. Na fyddwch ddoethion yn eich tyb eich hunain. Na thelwch i neb ddrwg am ddrwg. Meddyliwch ym mlaenllaw am bethau anrhydeddus yng ngolwg pob dyn. Os yn bosibl, hyd y mae ynoch chwi, byddwch mewn heddwch â phob dyn. Nac ymddielwch, anwyliaid, eithr rhoddwch le i'r digofaint, canys y mae yn ysgrifenedig, I mi y mae y dial, myfi a ad dalaf, medd yr Arglwydd. Eithr os dy elyn a newyna, portha ef; os sycheda, dyro iddo i yfed; canys wrth wneuthur hyn ti a bentyrri farwor tanllyd ar ei ben ef. Na orchfyger di gan ddrygioni, eithr gorchfyga di ddrygioni trwy ddaioni. Bydded pob enaid yn ddarostyngedig i awdurdodau sydd drostynt; canys nid oes awdurdod oddieithr oddiwrth Dduw, a'r rhai sydd, gan Dduw y maent wedi eu hordeinio. O ganlyniad, yr hwn sydd yn ymrestru yn erbyn yr awdurdod, y mae yn gwrthsefyll ordinhad Duw; a'r rhai a wrthsafant a dderbyniant farnedigaeth iddynt eu hunain. Canys nid yw y llywodraethwyr yn ddychryn i'r gwaith da ond i'r gwaith drwg. A ewyllysi di beidio ofni yr awdurdod? gwna y da, a thi a gei glod ganddo: canys gweinidog Duw yw efe i ti er daioni; ond os gwnei y drwg, ofna, canys ni wisg efe y cleddyf yn ofer; oblegyd gweinidog Duw yw efe, a dialydd er llid i'r hwn sydd yn gwneuthur drwg. Gan hynny, angenrhaid yw ymostwng, nid yn unig o herwydd y llid, ond hefyd o herwydd cydwybod. Canys o achos hyn y telwch deyrnged hefyd; canys gwasanaethwyr Duw ydynt, gan dalu sylw dyfal i'r peth hwn. Telwch i bawb eu dyledion; teyrnged, i'r hwn y mae teyrnged yn ddyledus; treth, i'r hwn y mae treth; ofn, i'r hwn y mae ofn; parch, i'r hwn y mae parch. Na fyddwch mewn dyled i neb o ddim ond o garu bawb eich gilydd; ond yr hwn sydd yn caru arall sydd wedi cyflawni y ddeddf; canys hyn: Na odineba, Na ladd, Na ladratta,, Na thrachwanta; ac os oes orchymyn arall, cynnwysir ef yn gryno yn y gair hwn, Câr dy gymmydog fel ti dy hun. Cariad ni weithreda ddrwg i'w gymmydog; gan hynny cyflawnder deddf yw cariad. A hyn: gan wybod yr amser ei bod eisoes yn bryd i chwi ddeffroi o gwsg; canys yr awrhon y mae ein hiachawdwriaeth ni yn nes na phan gredasom. Y nos a gerddodd ym mhell, ac y mae y dydd wedi agoshau; am hynny bwriwn ymaith oddiwrthym weithredoedd y tywyllwch, a gwisgwn arfau y goleuni. Rhodiwn yn weddus megys yn y dydd, nid mewn cyfeddach a meddwdod, nid mewn cyd‐orwedd ac anlladrwydd, nid mewn cynnen a chenfigen; eithr gwisgwch am danoch yr Arglwydd Iesu Grist, ac na wnewch rag‐ddarbod dros y cnawd, gyda golwg ar ei chwantau. Yr hwn sydd wan yn y ffydd derbyniwch attoch, ond nid i feirniadaeth o'i dybiadau. Un, yn wir, sydd ganddo ffydd i fwytta pob peth, ond yr hwn sydd yn wan, llysiau y mae yn fwytta. Yr hwn sydd yn bwytta, na ddirmyged yr hwn nid yw yn bwytta; a'r hwn nid yw yn bwytta, na farned yr hwn sydd yn bwytta, canys Duw a'i derbyniodd ef atto. Pwy wyt ti yr hwn wyt yn barnu gwas un arall? i'w arglwydd ei hun y mae efe yn sefyll neu yn syrthio; ac efe a wneir i sefyll, canys fe a all Duw wneyd iddo sefyll. Un a farn ddiwrnod uwchlaw diwrnod, ond arall a farn bob diwrnod yr un fath: bydded pob un yn hollol argyhoeddedig yn ei feddwl ei hun. Yr hwn sydd yn ystyried diwrnod, i'r Arglwydd y mae yn ei ystyried,, a'r hwn sydd yn bwytta, i'r Arglwydd y mae yn bwytta, canys y mae yn diolch i Dduw; a'r hwn nad yw yn bwytta, i'r Arglwydd nid yw yn bwytta, ac y mae yn diolch i Dduw. Canys nid oes neb o honom yn byw iddo ei hun, ac nid oes neb yn marw iddo ei hun. Ac os byw ydym, i'r Arglwydd yr ydym yn byw; ac os marw ydym, i'r Arglwydd yr ydym yn marw; gan hynny, pa un bynnag yr ydym ai byw ai marw, eiddo yr Arglwydd ydym. I hyn y bu Crist farw a byw, fel yr arglwyddiaethai ar y meirw a'r byw. Eithr tydi, paham y berni dy frawd? neu etto tydi, paham y dirmygi dy frawd? Canys gosodir ni oll gerbron brawdle Duw; canys y mae yn ysgrifenedig, Byw wyf fi, medd yr Arglwydd, oblegyd i mi y plyga pob glin, a phob tafod a gyffesa i Dduw. Felly, gan hynny, pob un o honom am dano ei hun a rydd gyfrif i Dduw. Am hynny na farnwn ein gilydd mwyach, eithr bernwch hyn yn hytrach, na byddo i neb osod maen‐tramgwydd ar ffordd ei frawd, neu fagl. Mi a wn, ac yr wyf wedi fy mherswadio yn yr Arglwydd Iesu, nad oes dim yn aflan o hono ei hun; ond i'r hwn sydd yn cyfrif peth yn aflan, i hwnnw y mae yn aflan. Canys os o achos bwyd y tristhêir dy frawd, nid wyt ti mwyach yn rhodio yn ol cariad. Na ddistrywia ef â'th fwyd, dros yr hwn y bu Crist farw. Na chabler, gan hynny, eich daioni chwi; canys nid bwytta ac yfed yw Teyrnas Dduw, eithr cyfiawnder a thangnefedd, a llawenydd yn yr Yspryd Glân. Canys y neb sydd yn gwasanaethu Crist yn y peth hwn sydd yn rhyngu bodd i Dduw ac yn gymmeradwy gan ddynion. Felly gan hynny yr ydym ni yn dylyn pethau tangnefedd a phethau adeiladaeth ein gilydd. O achos bwyd na ddinystria waith Duw. Pob peth yn wir sydd lân, eithr drwg yw i'r dyn sydd yn bwytta trwy dramgwydd. Da yw peidio â bwytta cig nac yfed gwin, na gwneuthur dim yn yr hwn y mae tramgwydd i'th frawd. Y ffydd yr hon sydd gennyt, ceidw i ti dy hun gerbron Duw. Dedwydd yr hwn nid yw yn ei farnu ei hun yn yr hyn y mae yn ei gymmeradwyo; eithr yr hwn sydd yn petruso, os bwytty, sydd wedi ei gondemnio, am nad o ffydd y gweithreda: a phob peth nad yw o ffydd, pechod yw. A nyni, y galluog, a ddylem ddwyn gwendidau y rhai analluog, ac nid rhyngu ein bodd ein hunain. Bydded i bob un o honom ryngu bodd ei gymmydog yn yr hyn sydd dda er adeiladaeth. Canys Crist nis boddhâodd ef ei hun, eithr, fel y mae yn ysgrifenedig, Gwaradwyddiadau y rhai a'th waradwyddant di a syrthiasant arnaf fi. Canys pa bethau bynnag a ysgrifennwyd o'r blaen, er addysg i ni yr ysgrifennwyd hwynt, fel trwy amynedd a dyddanwch yr Ysgrythyrau y cawsem obaith. A Duw yr amynedd a'r dyddanwch a roddo i chwi synied yr un peth tuag at eich gilydd yn ol Crist Iesu, fel yn unfryd o un genau y gogoneddoch Dduw a Thâd ein Harglwydd Iesu Grist. Am hynny derbyniwch eich gilydd, megys ag y derbyniodd Crist chwithau, er gogoniant Duw. Canys yr wyf yn dywedyd i Grist gael ei wneyd yn weinidog yr Enwaediad er mwyn gwirionedd Duw, er cadarnhâd yr addewidion i'r Tadau, ac fel y byddai i'r Cenhedloedd ogoneddu Duw am ei drugaredd, fel y mae yn ysgrifenedig, O achos hyn y canmolaf di ym mhlith y Cenhedloedd, ac i'th enw y canaf. A thrachefn y mae yn dywedyd, Ymlawenhewch, Genhedloedd, gyda'i bobl ef. A thrachefn, Molwch yr Arglwydd, yr holl Genhedloedd; a chlodfored yr holl bobloedd ef. A thrachefn y mae Esaia yn dywedyd, Fe fydd gwreiddyn Jesse, a'r hwn a gyfyd i lywodraethu y Cenhedloedd; ynddo ef y gobeithia y Cenhedloedd. Yn awr Duw y gobaith a'ch llanwo â phob llawenydd a thangnefedd yn eich credu, fel y byddoch helaeth mewn gobaith yng ngallu yr Yspryd Glân. Ac yr wyf fi fy hun, fy mrodyr, yn coelio am danoch chwi, eich bod chwithau hefyd yn llawn daioni, wedi eich llenwi o bob gwybodaeth, ac hefyd yn abl i gynghori eich gilydd. Ond ysgrifennwyf yn fwy hyf o fesur attoch, fel yn eich adgoffa chwi o herwydd y gras a roddwyd i mi oddiwrth Dduw i fod yn weinidog Crist Iesu i'r Cenhedloedd, gan wasanaethu efengyl Duw, fel y byddai offrymiad y Cenhedloedd yn gymmeradwy, wedi ei sancteiddio yn yr Yspryd Glân. Y mae gennyf gan hynny fy ymffrost yng Nghrist Iesu o ran y pethau a berthyn i Dduw. Canys ni feiddiaf ddywedyd dim o'r pethau na weithredodd Crist trwof, er ufudd‐dod y Cenhedloedd, mewn gair a gweithred, yng ngallu arwyddion a rhyfeddodau, yng ngallu yr Yspryd Glân; fel ag o Jerusalem a'r wlad o amgylch hyd Illyricum, yr wyf wedi llawn‐bregethu efengyl Crist; ac y mae i mi uchelgais i bregethu yn y modd hyn, nid lle yr enwyd Crist, fel nad adeiladwn ar sail un arall; eithr fel y mae yn ysgrifenedig, I'r rhai ni fynegwyd am dano, hwy a welant, A'r rhai ni chlywsant a ddeallant. Am hynny hefyd y'm lluddiwyd lawer o weithiau i ddyfod attoch chwi; eithr yr awrhon, gan nad oes gennyf le mwyach yn y parthau hyn, a bod arnaf hiraeth er ys llawer o flynyddoedd am ddyfod attoch; pa bryd bynnag yr elwyf i'r Hispaen, — canys gobeithiaf eich gweled wrth fyned heibio, a'm hebrwng gennych yno, os byddaf yn gyntaf, i fesur, wedi cael llawn fwynhâd gyda chwi — eithr yn awr yr wyf yn myned i Jerusalem, gan weini i'r saint; canys rhyngodd bodd i Macedonia ac Achaia wneuthur rhyw gyfraniad i'r tlodion o'r saint sydd yn Jerusalem; canys rhyngodd bodd iddynt, a'u dyledwyr hwy ydynt; canys os yn eu pethau ysprydol hwy y cyfrannogodd y Cenhedloedd, hwythau hefyd ddylent weini iddynt hwythau mewn pethau cnawdol. Wedi i mi gan hynny orphen hyn, a selio iddynt y ffrwyth hwn, mi a äf heibio trwoch chwi i'r Hispaen; a gwn pan ddelwyf attoch y deuaf yng nghyflawnder bendith Crist. Yn awr, yr wyf yn attolwg i chwi, frodyr, trwy ein Harglwydd Iesu Grist, a thrwy gariad yr Yspryd, ar gyd‐ymdrech o honoch gyda myfi mewn gweddiau drosof fi at Dduw, fel y'm gwareder oddiwrth y rhai anufudd yn Judea, ac y byddo fy ngwasanaeth, yr hwn sydd i Jerusalem, yn dderbyniol gan y saint: fel y delwyf attoch mewn llawenydd trwy ewyllys Duw, a chyda chwi y caffwyf orphwysdra. A Duw yr heddwch fyddo gyda chwi oll. Amen. Yr wyf yn cyflwyno i chwi Phebe ein chwaer, yr hon sydd ddiacones yr eglwys sydd yn Cenchrea, fel y derbynioch hi yn yr Arglwydd mewn modd teilwng o'r saint, ac y cefnogoch hi ym mha fater bynnag y bydd eich hanghen arni; canys hithau hefyd a fu amgeledd i lawer, ac i minnau fy hun hefyd. Cyferchwch Priscilla ac Acwila fy nghyd‐weithwyr yng Nghrist Iesu, y rhai dros fy mywyd a ddodasant i lawr eu gwddf eu hunain, i'r rhai nid myfi yn unig sydd yn diolch, ond hefyd holl eglwysi y Cenhedloedd; Cyferchwch hefyd yr eglwys sydd yn eu tŷ hwynt. Cyferchwch fy anwyl Epenetus, yr hwn yw blaenffrwyth Asia i Grist. Cyferchwch Mair, yr hon a lafuriodd lawer ar eich rhan chwi. Cyferchwch Andronicus a Junias, fy nghyd‐wladwyr, a'm cyd‐garcharorion, a'r rhai ydynt o nôd ym mhlith yr Apostolion, y rhai hefyd oeddynt yng Nghrist o'm blaen i. Cyferchwch Amplias, fy anwylyd yn yr Arglwydd. Cyferchwch Urbanus, ein cyd‐weithiwr yng Nghrist, a Stachys fy anwylyd. Cyferchwch Appelles y profedig yng Nghrist. Cyferchwch y rhai sydd o dy Aristobulus. Cyferchwch Herodion, fy nghyd‐wladwr. Cyferchwch y rhai sydd o dy Narcissus, y rhai sydd yn yr Arglwydd. Cyferchwch Tryphena a Tryphosa, y rhai sydd yn llafurio yn yr Arglwydd. Cyferchwch yr anwyl Persis, yr hon a lafuriodd lawer yn yr Arglwydd. Cyferchwch Rufus, yr etholedig yn yr Arglwydd, a'i fam ef a minnau. Cyferchwch Asyncritus, Phlegon, Hermas, Patrobas, Hermes, a'r brodyr sydd gyda hwynt. Cyferchwch Philologus a Julia, Nereus a'i chwaer, ac Olympas, a'r holl saint y rhai sydd gyda hwynt. Cyferchwch y naill a'r llall â chusan sanctaidd. Y mae holl eglwysi Crist yn eich cyfarch. Ac yr wyf yn attolwg i chwi, frodyr, graffu ar y rhai sydd yn peri yr ymraniadau a'r tramgwyddau yn groes i'r athrawiaeth a ddysgasoch chwi, a throwch oddiwrthynt; canys y cyfryw rai ni wasanaethant ein Harglwydd Crist, eithr eu bol eu hunain; a thrwy lyfniaith a gweniaith hwy a hudant galonnau y rhai diniwed. Canys eich ufudd‐dod chwi a gyrhaeddodd glustiau pawb. Yr wyf fi gan hynny yn llawenhau ynoch chwi, ond ewyllysiaf i chwi fod yn ddoethion tuag at yr hyn sydd dda, ac yn ddilwgr tuag at yr hyn sydd ddrwg. A Duw yr heddwch a sathr Satan dan eich traed yn fuan. Gras ein Harglwydd Iesu Grist a fyddo gyda chwi. Mae Timotheus fy nghyd‐weithiwr yn eich cyfarch; a Lucius, a Jason, a Sosipater, fy nghyd‐wladwyr. Yr wyf fi Tertius yn eich cyfarch chwi, yr hwn a ysgrifennais yr epistol hwn yn yr Arglwydd. Y mae Gaius, fy llettywr i, a'r holl eglwys, yn eich cyfarch. Y mae Erastus, trysorydd y ddinas, yn eich cyfarch, a'r brawd Cwartus. Yn awr i'r hwn sydd alluog i'ch cadarnhâu yn ol fy efengyl i a phregethiad Iesu Grist, yn ol dadguddiad y dirgelwch a gadwyd mewn dystawrwydd trwy amserau tragywyddol, eithr yn awr a eglurwyd trwy yr Ysgrifeniadau Prophwydol yn ol ordeiniad y tragywyddol Dduw, wedi ei wneuthur yn hysbys i'r holl genhedloedd er ufudd‐dod ffydd, — i'r unig ddoeth Dduw, trwy Iesu Grist, y byddo y gogoniant yn dragywydd. Amen. Paul, Apostol galwedig Iesu Grist, trwy ewyllys Duw, a'r brawd Sosthenes, at eglwys Dduw yr hon sydd yn Corinth, wedi eu sancteiddio yng Nghrist Iesu, saint galwedig, ynghyd â phawb a'r sydd yn galw ar enw ein Harglwydd Iesu Grist ym mhob lle, eu Harglwydd hwy a ninnau: Gras i chwi a thangnefedd oddiwrth Dduw ein Tad a'r Arglwydd Iesu Grist. Yr wyf yn diolch i'm Duw yn wastad am danoch chwi, am ras Duw yr hwn a roddwyd i chwi yng Nghrist Iesu: eich bod ym mhob peth wedi eich cyfoethogi ynddo ef, ym mhob ymadrodd, a phob gwybodaeth. Megys y cadarnhâwyd tystiolaeth Crist ynoch: fel nad ydych yn ddiffygiol mewn un dawn; gan ddyfal‐ddysgwyl am ddadguddiad ein Harglwydd Iesu Grist; yr hwn hefyd a'ch cadarnhâ chwi hyd y diwedd, fel y byddwch yn ddiargyhoedd yn Nydd ein Harglwydd Iesu Grist. Ffyddlawn yw Duw, trwy yr hwn y'ch galwyd i gymdeithas ei Fab ef Iesu Grist ein Harglwydd ni. Yn awr, yr wyf yn attolwg i chwi, frodyr, trwy enw ein Harglwydd Iesu Grist, ddywedyd o bawb o honoch yr un peth, ac na byddo ymbleidiau yn eich plith; eithr bod o honoch wedi eich cwbl‐aduno yn yr un meddwl ac yn yr un farn. Canys gwnaed yn amlwg i mi am danoch chwi, fy mrodyr, gan y rhai o dy Chloe, fod cynhennau yn eich plith. A hyn yr wyf yn ei feddwl, fod pob un o honoch yn dywedyd, Myfi yn wir wyf eiddo Paul; ond myfi wyf eiddo Apollos; ond myfi wyf eiddo Cephas: ond myfi wyf eiddo Crist. A ydyw y Crist wedi ei rannu? a groeshoeliwyd Paul drosoch chwi? neu a fedyddiwyd chwi i enw Paul? Yr ydwyf yn diolch i Dduw na fedyddiais i neb o honoch, oddi eithr Crispus a Gaius: fel na ddywedo neb mai i fy enw i y'ch bedyddiwyd. A bedyddiais hefyd deulu Stephanas: heblaw hynny, nis gwn a fedyddiais i neb arall. Canys nid anfonodd Crist fi i fedyddio, ond i efengylu: nid mewn doethineb ymadrodd, fel na wnelid croes Crist yn wag. Canys ymadrodd y groes, i'r rhai sydd yn myned i golledigaeth, ffolineb yw; eithr i ni y rhai sydd yn cael ein hachub, gallu Duw ydyw. Canys y mae yn ysgrifenedig: Mi a ddyfethaf ddoethineb y doethion, A gwnaf i ffwrdd â deall y deallus Pa le y mae y Doeth? pa le y mae yr Ysgrifennydd? pa le y mae dadleuwr y cyfnod hwn? oni drodd Duw yn ffolineb ddoethineb y byd? Canys yn gymmaint ag, yn noethineb Duw, nad adnabu y byd trwy ddoethineb mo Dduw, fe welodd Duw yn dda trwy ffolineb yr hyn a bregethir gadw y rhai sydd yn credu. Yn gymmaint hefyd a bod Iuddewon yn gofyn am arwyddion, a Groegwyr yn chwilio am ddoethineb: eithr yr ydym ni yn pregethu Crist croeshoeliedig, i Iuddewon yn wir yn dramgwydd, ac i genhedloedd yn ffolineb; ond iddynt hwy y rhai a alwyd, Iuddewon a Groegwyr hefyd, yn Grist gallu Duw, a doethineb Duw. Canys y mae ffolineb Duw yn ddoethach na dynion, a gwendid Duw yn gryfach na dynion. Canys edrychwch ar eich galwedigaeth, frodyr, nad llawer o ddoethion yn ol y cnawd, nad llawer o rai galluog, nad llawer o bendefigion, a elwir: eithr ffol‐bethau y byd a ddewisodd Duw, fel y cywilyddiai efe y doethion; a gwan‐bethau y byd a ddewisodd Duw, fel y cywilyddiai efe y pethau cedyrn; a phethau distadl y byd a phethau dirmygedig a ddewisodd Duw; pethau nad ydynt, fel y dirymmai y pethau sydd: fel nad ymffrostiai un cnawd ger bron Duw. Eithr o hono ef yr ydych chwi yng Nghrist Iesu, yr hwn a wnaethpwyd yn ddoethineb i ni oddiwrth Dduw, ac hefyd yn gyfiawnder, ac yn sancteiddhâd, ac yn brynedigaeth: fel megys yr ysgrifennwyd: Yr hwn sydd yn ymffrostio, yn yr Arglwydd ymffrostied. Myfi hefyd, pan ddaethum attoch, frodyr, ni ddaethum gyda godidowgrwydd ymadrodd neu ddoethineb pan yn cyhoeddi i chwi dystiolaeth Duw. Canys ni fernais yn dda i mi wybod dim yn eich plith ond Iesu Grist, a hwnnw wedi ei groeshoelio. A mi a fum gyda chwi mewn gwendid ac ofn a chryndod mawr. A'm hymadrodd a mater fy mhregethu nid oeddynt yng ngeiriau deniadol doethineb, eithr yn amlygiad yr Yspryd a gallu: fel na byddai eich ffydd chwi yn noethineb dynion, eithr yng ngallu Duw. Yn awr, doethineb yr ydym ni yn ei llefaru ym mysg y rhai sydd wedi cyrhaedd addfedrwydd: eithr doethineb nid eiddo y byd hwn na llywodraethwyr y byd hwn, y rhai sydd yn cael eu diddymmu. Eithr yr ydym ni yn llefaru doethineb Duw mewn dirgelwch, yr hon sydd wedi bod yn guddiedig, yr hon a rag‐ordeiniodd Duw cyn yr oesoedd er ein gogoniant ni: yr hon nid oes neb o lywodraethwyr y byd hwn wedi dyfod i'w hadnabod: canys pes adnabuasent, ni chroeshoeliasent Arglwydd y Gogoniant: Eithr fel y mae yn ysgrifenedig, Pethau na welodd llygad, ac na chlywodd clust, Ac na chyfodasant i galon dyn, Y fath bethau a ddarparodd Duw i'r rhai sydd yn ei garu ef. Eithr i nyni y dadguddiodd Duw hwynt trwy yr Yspryd: Canys y mae yr Yspryd yn chwilio pob peth, ië, ddyfnderoedd Duw. Canys pwy ym mhlith dynion a ŵyr bethau y dyn, ond yspryd y dyn yr hwn sydd ynddo? Felly hefyd pethau Duw nid edwyn neb ond Yspryd Duw. Eithr nid yspryd y byd a dderbyniasom ni, eithr yr Yspryd yr hwn sydd o Dduw; fel y gwypom y pethau a rad‐roddwyd i ni gan Dduw: y rhai hefyd yr ydym yn eu llefaru, nid mewn geiriau a ddysgir gan ddoethineb ddynol, ond a ddysgir gan yr Yspryd, gan gymharu pethau ysprydol â phethau ysprydol. Yn awr, y dyn anianol ni dderbyn y pethau sydd o Yspryd Duw: canys ffolineb ydynt iddo ef; ac nis gall eu gwybod, canys mewn modd ysprydol y profir hwynt. Ond y mae y dyn ysprydol yn profi pob peth, eithr efe nis dygir i brawf gan neb. Canys pwy a wybu feddwl yr Arglwydd, ac a'i cyfarwydda Ef? Ond y mae gennym ni feddwl Crist. A myfi, frodyr, ni allwn lefaru wrthych megys wrth rai ysprydol, eithr wrth fel rhai o gnawd, megys wrth fabanod yng Nghrist. Mi a'ch porthais chwi â llaeth, nid â bwyd sylweddol; canys nid oeddech etto yn gryfion; na, nid ydych hyd y nod yn awr yn gryfion, canys yr ydych etto yn gnawdol: canys tra y mae yn eich plith chwi eiddigedd a chynnen, onid ydych chwi yn gnawdol, ac yn rhodio yn ol dyn? Canys pan ddywed un, Myfi wyf eiddo Paul; ac arall, Myfi wyf eiddo Apollos, onid dynion ydych? Pa beth gan hynny yw Apollos? a pha beth yw Paul? Gweinidogion drwy y rhai y credasoch: a phob un fel y rhoddodd yr Arglwydd iddo. Myfi a blennais; Apollos a ddyfrhâodd; eithr Duw oedd yn rhoddi y cynnydd. Felly ynte nid yw yr hwn sydd yn plannu ddim, na'r hwn sydd yn dyfrhau; ond Duw yr hwn sydd yn rhoddi y cynnydd. Etto, yr hwn sydd yn plannu, a'r hwn sydd yn dyfrhau, un peth ydynt: ond pob un a dderbyn ei wobr ei hun yn ol ei lafur ei hun. Canys cydweithwyr â Duw ydym ni: amaethdir Duw, adeiladwaith Duw ydych chwi. Yn ol gras Duw yr hwn a roddwyd i mi, fel pen‐adeiladydd medrus myfi a osodais sylfaen; ac y mae arall yn adeiladu arno: ond edryched pob un pa fodd y mae yn adeiladu arni. Canys sylfaen arall ni all neb ei osod heb law yr un a osodwyd, yr hwn yw Iesu Grist. Ac os yw neb yn adeiladu ar y sylfaen, aur, arian, meini gwerthfawr, coed, gwair, sofl, gwaith pob un a ddaw i'r amlwg; canys y dydd a'i gwna yn eglur, canys mewn tân y mae yn cael ei ddadguddio; a gwaith pob un pa fath ydyw, y tân ei hun a brawf. Os yw gwaith neb yn aros, yr hwn a oruwch‐adeiladodd efe, efe a dderbyn wobr. Os gwaith neb a losgir i'r llawr, efe a golledir: eithr efe ei hun a achubir, ond felly megys trwy dân. Oni wyddoch mai Cyssegr Duw ydych, a bod Yspryd Duw yn trigo ynoch? Os oes neb yn dinystrio Cyssegr Duw, hwnnw Duw a ddinystria; oblegyd Cyssegr Duw sydd sanctaidd, a'r cyfryw ydych chwi. Na thwylled neb ei hun. Od oes neb yn tybied ei fod yn ddoeth yn eich mysg yn y byd hwn, aed yn ffol, fel yr elo yn ddoeth, Canys doethineb y byd hwn sydd ffolineb gyda Duw; canys y mae yn ysgrifenedig, — Yr hwn sydd yn gafaelu yn y doethion yn eu cyfrwysdra. A thrachefn, Y mae yr Arglwydd yn gwybod meddyliau y doethion, mai ofer ydynt. Mewn canlyniad, na fydded i neb ymffrostio mewn dynion; canys pob peth sydd eiddoch chwi: pa un bynnag ai Paul, ai Apollos, ai Cephas, ai y byd, ai bywyd, ai angau, ai pethau presennol, ai pethau i ddyfod: pob peth sydd eiddoch chwi; a chwithau yn eiddo Crist, a Christ yn eiddo Duw. Felly cyfrifed dyn nyni megys gweinidogion Crist, a goruchwylwyr dirgeledigaethau Duw. A hyn felly, ym mhellach, y mae yn ofynol mewn goruchwylwyr gael un yn ffyddlawn. Eithr i mi y mae o'r pwys lleiaf i gael fy ngosod ar brawf gennych chwi neu gan lys dynol; na, nid wyf yn gosod fy hun ar brawf. Canys nid wyf yn ymwybodol o ddim yn erbyn fy hun; etto, nid trwy hyn yr wyf wedi fy nghyfiawnhâu; eithr yr hwn sydd yn fy mhrofi i yw yr Arglwydd. Am hynny na fernwch ddim cyn yr amser, hyd oni ddelo yr Arglwydd, yr hwn a ddwg i'r goleu bethau dirgel y tywyllwch, ac a wna yn amlwg fwriadau y calonnau; ac yna y bydd i bob un ei glod oddiwrth Dduw. Yn awr y pethau hyn, frodyr, a gymhwysais trwy ddull ffugyrol attaf fy hun ac Apollos, er eich mwyn chwi, fel ynom ni y dysgoch beidio myned tuhwnt y pethau a ysgrifennwyd, fel na byddo un o honoch yn ymchwyddo ar ran y naill yn erbyn y llall. Canys pwy sydd yn peri gwahaniaeth rhyngot ti ac eraill? a pha beth sydd gennyt ar nas derbyniaist? ond, yn wir, os derbyn wnaethost, paham yr wyt yn ymffrostio megys pe buasit heb dderbyn? Eisoes yr ydych chwi wedi eich gor‐ddigoni, eisoes yr ymgyfoethogasoch, ar wahân â ni chwi aethoch yn frenhinoedd. Ac o na baech yn wir yn frenhinoedd fel y caem ninnau hefyd fod yn frenhinoedd gyda chwi. Canys yr wyf yn tybied fod Duw yn ein harddangos ni yr Apostolion yn gyhoeddus yn olaf, fel rhai wedi eu dedfrydu i farwolaeth: oblegyd nyni a wnaethpwyd yn ddrych i'r byd, i angylion ac hefyd i ddynion. Yr ydym ni yn ffyliaid Crist, ond yr ydych chwi yn ddoethion yng Nghrist; yr ydym ni yn weiniaid, ond yr ydych chwi yn gryfion; chwychwi yn anrhydeddus, a ninnau yn ddirmygedig; hyd y nod yr awr hon yr ydym mewn newyn a syched, ac yn fyr o ddillad, ac yn cael ein dyrnodio, ac heb drigle sefydlog gennym; ac yr ydym yn llafurio, gan weithio â'n dwylaw ein hunain; pan y'n difenwir, yr ydym yn bendithio; pan y'n herlidir, yr ydym yn dyoddef yn amyneddgar; pan y'n enllibir, yr ydym yn ymbilio; fel ysgubion y byd y gwnaethpwyd ni a sorod pob dim hyd yn awr. Nid gan eich cywilyddio yr wyf yn ysgrifennu y pethau hyn; eithr eich cynghori yr wyf fel fy mhlant anwyl. Canys pe byddai i chwi ddeng mil o warchodwyr yng Nghrist, etto nid oes i chwi nemawr o dadau; canys yng Nghrist Iesu trwy yr efengyl y cenhedlais i chwi. Am hynny yr wyf yn attolwg i chwi, byddwch efelychwyr i mi. O herwydd hyn yr anfonais Timotheus attoch, yr hwn yw fy mhlentyn anwyl a ffyddlawn yn yr Arglwydd, yr hwn a ddwg ar gof i chwi fy ffyrdd i yng Nghrist, hyd y nod fel ag yr wyf yn dysgu ym mhob man ym mhob eglwys. Yn awr, y mae rhai wedi ymchwyddo, fel pe na bawn i yn dyfod attoch chwi; eithr mi a ddeuaf attoch yn fuan, os yr Arglwydd a'i myn; a deuaf i wybod, nid ymadrodd y rhai chwyddedig, ond eu gallu. Canys nid mewn ymadrodd y mae teyrnas Dduw, eithr mewn gallu. Beth a fynnwch chwi, ai dyfod o honof attoch chwi â gwialen, ynte mewn cariad, ac yspryd addfwynder? Adroddir yn ddios fod putteindra yn eich plith, a chyfryw butteindra ar nad yw hyd y nod ym mysg y Cenhedloedd, fod gan un o honoch wraig ei dâd. Ac yr ydych wedi ymchwyddo, ac ni alarasoch yn hytrach, fel y cymmerid o'ch canol yr hwn a wnaeth y weithred hon. Canys myfi yn wir, yn absennol yn y corph, ond yn bresennol yn yr yspryd, wyf eisoes wedi barnu, fel pe bawn bresennol, yr hwn yn y fath fodd a weithredodd hyn, yn enw ein Harglwydd Iesu wedi ymgynnull o honoch ynghyd a'm hyspryd innau, gyda gallu ein Harglwydd Iesu draddodi y cyfryw un i Satan er dinystyr y cnawd, fel yr achubir yr yspryd yn nydd yr Arglwydd Iesu. Nid da eich ymffrost chwi. Oni wyddoch fod ychydig lefain yn lefeinio yr holl dalp? Certhwch allan yr hen lefain fel y byddoch yn dalp newydd, megys yr ydych yn ddilefeinllyd. Canys ein Pasc ni hefyd a aberthwyd, sef Crist; mewn canlyniad, cadwn ŵyl, nid â hen lefain malais a drygioni, ond â bara croyw purdeb a gwirionedd. Ysgrifennais attoch yn y llythyr na chyd‐ymgymmysgech â phutteinwyr; — nid na chyd— gymmysgech o gwbl â phutteinwyr y byd hwn, neu y rhai trachwantus a threisgar, neu eilun‐addolwyr, oblegyd yna byddai rhaid i chwi fyned allan o'r byd; ond yn awr, yr wyf yn ysgrifennu attoch i beidio ag ymgymmysgu, os bydd neb a enwir yn frawd yn butteiniwr, neu yn drachwantus, neu yn eilun‐addolwr, neu yn ddifenwr, neu yn feddwyn, neu yn dreisgar; gyda'r cyfryw un na ddim cymmaint a bwytta. Canys beth sydd gyda mi i wneyd a barnu y rhai sydd oddi allan? Onid y rhai sydd oddi mewn yr ydych chwi yn eu barnu? eithr y rhai sydd oddi allan, Duw sydd yn eu barnu. Symmudwch ymaith yr un drygionus o'ch plith eich hunain. A feiddia un o honoch, a chanddo fater yn erbyn y llall ymgyfreithio o flaen y rhai annghyfiawn, ac nid o flaen y saint? Neu oni wyddoch y barna y saint y byd? Ac os bernir y byd o'ch blaen chwi, a ydych chwi yn annheilwng i eistedd mewn barn ar y pethau mwyaf dibwys? Oni wyddoch y barnwn ni angelion, heb ddweyd dim yn wir am bethau y bywyd hwn? Os oes gennych gan hynny lysoedd perthynol i bethau y bywyd hwn, y rhai a gyfrifir yn ddim yn yr eglwys, gosodwch y rhai hyn drostynt. Er eich cywilydd yr wyf yn llefaru wrthych. Ai felly nad oes yn eich mysg neb doeth, yr hwn a all benderfynnu rhwng brodyr, ond bod brawd yn ymgyfreithio â brawd, a hynny o flaen annghredinwyr? Am hynny, yn wir, y mae ar unwaith yn ddios yn ddiffyg ynoch fod gennych gwynion cyfraith ym mysg eich hunain. Paham nad ydych yn hytrach yn dyoddef cam? Paham nad ydych yn hytrach yn dyoddef eich cam‐golledu? Ond yn wir yr ydych chwi yn gwneuthur cam ac yn cam‐golledu, a hynny, eich brodyr. Neu ai ni wyddoch na fydd i annghyfiawnion etifeddu Teyrnas Dduw? Na thwyller chwi; ni chaiff na phutteinwyr, nac eilun‐addolwyr, na godinebwyr, na masweddwyr, na gwrryw‐gydwyr, na lladron, na chybyddion, na meddwon, na difenwyr, na threiswyr, etifeddu Teyrnas Dduw. A hyn fu rhai o honoch chwi; eithr chwi a olchasoch ymaith eich pechodau, eithr chwi a sancteiddiwyd, eithr chwi a gyfiawnhâwyd, yn enw yr Arglwydd Iesu Grist, ac yn Yspryd ein Duw ni. Pob peth sydd gyfreithlawn i mi, ond nid yw pob peth yn addas. Pob peth sydd gyfreithlawn i mi, eithr ni'm dygir i dan awdurdod gan ddim. Y bwydydd i'r bol, a'r bol i'r bwydydd: eithr Duw a ddiddymma hwn a hwythau. Eithr nid yw y corph i butteindra, ond i'r Arglwydd, a'r Arglwydd i'r corph. Eithr Duw a gyfododd yr Arglwydd, ac a'n cyfyd ninnau trwy ei allu ef. Oni wyddoch fod eich cyrph yn aelodau Crist? a gymmeraf fi ymaith gan hynny aelodau Crist, a'u gwneyd yn aelodau puttain? na wneler byth! Neu, oni wyddoch fod yr hwn a unir â phuttain yn un corph? Canys y ddau, medd efe, a fyddant un cnawd. Ond yr hwn a unir â'r Arglwydd, un Yspryd yw. Ffowch oddiwrth butteindra. Pob pechod a wnelo dyn, tu allan i'r corph y mae; ond yr hwn sydd yn putteinio sydd yn pechu yn erbyn ei gorph ei hun. Neu, oni wyddoch fod eich corph yn Gyssegr yr Yspryd Glân yr hwn sydd ynoch, yr hwn sydd gennych oddi wrth Dduw? ac nid ydych yn eiddoch eich hunain, canys â gwerth y'ch prynwyd; gogoneddwch Dduw gan hynny yn eich corph. Yn awr am y pethau yr ysgrifenasoch: Da i ddyn na chyffyrddo â gwraig. Ond o herwydd putteindra, bydded i bob dyn ei wraig ei hun; a bydded i bob gwraig ei gŵr ei hun. Taled y gŵr i'r wraig yr hyn sydd ddyledus: a'r un modd hefyd y wraig i'r gŵr. Nid gan y wraig y mae awdurdod ar ei chorph ei hun, ond gan y gŵr; a'r un modd hefyd nid gan y gŵr y mae awdurdod ar ei gorph ei hun, ond gan y wraig. Na cham‐attaliwch oddiwrth eich gilydd, oddi eithr o gydsyniad dros dymhor, fel y galloch gael hamdden i weddi, ac fel y byddoch drachefn ynghyd, fel na themtio Satan chwi o herwydd eich anlladrwydd, A hyn yr wyf yn ei ddywedyd mewn ffordd o oddefiad ac nid mewn ffordd o orchymyn. Eithr mi a ewyllysiwn fod pob dyn fel mi fy hun. Eithr pob un sydd ganddo ei ddawn ei hun oddi wrth Dduw, un yn wir fel hyn, ac arall fel hynny. Ac yr wyf yn dywedyd wrth y rhai di‐briod a'r gwragedd gweddwon: Da iddynt ped arhosent fel myfi. Eithr os na allant ymgadw, priodent: canys gwell yw priodi nag ymlosgi. Ac i'r rhai priod yr wyf yn gorchymyn — nid myfi, ond yr Arglwydd — Na ymwahaned gwraig oddiwrth ei gŵr (ond os ymwahana, arhosed heb briodi, neu cymmoder hi a'i gŵr); a gŵr, na ollynged ymaith ei wraig. Eithr wrth y lleill yr wyf fi yn dywedyd, nid yr Arglwydd, Os bydd rhyw frawd a chanddo wraig ddigred, a hithau yn cytuno i drigo gydag ef, na ollynged hi ymaith: a gwraig sydd ganddi ŵr digred, ac yntau yn cytuno i drigo gyda hi, na ollynged ymaith ei gŵr. Canys y mae y gŵr digred wedi ei sancteiddio yn y wraig, a'r wraig ddigred wedi ei sancteiddio yn y brawd: pe amgen, yn wir eich plant fyddent aflan, eithr yn awr sanctaidd ydynt. Ond os y digred a ymwahana, ymwahaned: nid yw y brawd neu y chwaer yn gaeth yn y cyfryw amgylchiadau: ond mewn heddwch y mae Duw wedi ein galw ni. Canys pa fodd y gwyddost, O wraig, os achubi di dy wr? neu pa fodd y gwyddost, O wr, os achubi di dy wraig? Yn unig, fel y mae yr Arglwydd wedi rhannu i bob un, fel y mae Duw wedi galw pob un, felly rhodied. Ac felly yr wyf yn ordeinio yr holl eglwysi. Ai wedi ei enwaedu y galwyd neb? nac ymgeisied fod yn ddienwaededig. Ai mewn dienwaediad y mae neb wedi ei alw? nac enwaeder arno. Yr enwaediad nid yw ddim, a'r dienwaediad nid yw ddim; ond cadw gorchymynion Duw. Pob un yn yr alwedigaeth yn yr hon y galwyd ef, yn hon arhosed. Ai yn gaethwas y'th alwyd? Na ofala: os hefyd y gelli ddyfod yn rhydd, yn hytrach gwna ddefnydd o hynny. Canys yr hwn a alwyd yn yr Arglwydd, pan yn gaethwas, gŵr rhydd yr Arglwydd ydyw. Yr un modd yr hwn a alwyd pan yn rhydd, caethwas Crist ydyw. Er gwerth y'ch prynwyd; nac ewch yn gaethweision dynion. Pob un yn yr hyn y galwyd ef, frodyr, yn hyn arhosed gyda Duw. Yn awr, ynghylch y gwyryfon, nid oes gennyf orchymyn yr Arglwydd; ond barn yr wyf yn roddi, fel un a gafodd drugaredd gan yr Arglwydd i fod yn ffyddlawn. Am hynny yr wyf yn tybied fod hyn yn dda o achos yr angenrhaid presennol, gan ei bod yn dda i ddyn fod felly. A ydwyt yn rhwym i wraig? Na chais ollyngiad. A ydwyt yn rhydd oddiwrth wraig? Na chais wraig. Ac os priodi hefyd, ni phechaist; ac os prioda gwyryf, ni phechodd: er hynny blinder yn y cnawd a gä y cyfryw rai: eithr yr wyf yn eich arbed chwi. A hynny yr wyf yn ei ddywedyd, frodyr, y mae y tymhor wedi ei gyfyngu, fel o hyn allan y bydd y rhai sydd â gwragedd ganddynt megys pe byddent hebddynt; a'r rhai a wylant megys heb wylo; a'r rhai a lawenhânt megys heb lawenhâu; a'r rhai a brynant megys heb ddal meddiant yn dŷn; a'r rhai a ddefnyddiant y byd megys heb ei or‐ddefnyddio, canys y mae dull y byd hwn yn myned heibio. A mi a ddymunwn i chwi fod yn ddibryder. Yr hwn sydd yn ddi‐briod sydd bryderus am bethau yr Arglwydd, pa wedd y boddlona efe yr Arglwydd: eithr yr hwn a briododd sydd bryderus am bethau y byd, pa wedd y boddlona ei wraig; ac y mae efe wedi ei rannu. A'r wraig sydd ddi‐briod a'r wyryf sydd bryderus am bethau yr Arglwydd, fel y byddo sanctaidd yn y corph ac yn yr Yspryd hefyd; ond yr hon a briododd sydd bryderus am bethau y byd, pa wedd y gall foddloni ei gŵr. A hyn yr wyf yn ei ddywedyd er lleshâd i chwi eich hunain; nid fel y bwriwyf fagl am danoch, eithr er mwyn yr hyn sydd weddaidd a dyfal-lynu wrth yr Arglwydd heb gythrudd. Ond os yw neb yn tybied ei fod yn ymddwyn yn anweddaidd at y wyryf, os bydd o oedran addfed, a bod angenrhaid gwneuthur felly, gwnaed a fynno; nid yw yn pechu; priodent. Ond yr hwn sydd yn sefyll yn gadarn yn ei galon, heb angenrhaid arno, ond sydd ganddo awdurdod ar ei ewyllys ei hun, ac a benderfynnodd hyn yn ei galon ei hun, i warchod dros ei wyryf ei hun, efe a wna yn dda. Ac felly y mae yr hwn sydd yn rhoddi ei wyryf ei hun yn briod yn gwneuthur yn dda; a gwna yr hwn nad yw yn ei rhoddi yn briod yn well. Y mae gwraig yn rhwym tra fyddo byw ei gŵr; ond o bydd ei gŵr wedi huno, y mae hi yn rhydd i briodi y neb a fynno, yn unig yn yr Arglwydd. Ond dedwyddach yw os erys fel y mae, yn ol fy marn i: ac yr wyf yn tybied fod gennyf hefyd Yspryd Duw. Yn awr ynghylch y pethau a aberthir i eilunod: Ni a wyddom fod gan bawb o honom wybodaeth. Y mae gwybodaeth yn chwyddo, ond y mae cariad yn adeiladu. Os oes neb yn tybied ei fod yn gwybod dim, ni ŵyr hyd yn hyn fel y dylai wybod; ond od oes neb yn caru Duw, hwnnw a adweinir ganddo Ef. Ynghylch bwytta gan hynny o'r pethau a aberthir i eilunod, yr ydym yn gwybod nad oes eilun yn y byd, ac nad oes Duw ond un. Canys er bod rhai a elwir yn dduwiau, pa un bynnag ai yn y nef ai ar y ddaear, hyd y nod felly mae duwiau lawer ac arglwyddi lawer, etto i ni un Duw sydd, y Tâd, o'r hwn y mae pob peth, a ninnau erddo ef; ac un Arglwydd, Iesu Grist, trwy yr hwn y mae pob peth, a ninnau trwyddo ef. Ond nid yw y wybodaeth ym mhawb, eithr rhai trwy eu hymgynefino hyd yn awr â'r eilun, a fwyttânt beth fel wedi ei aberthu i eilun; a'u cydwybod hwy, a hi yn wan, a halogir. Yn awr, ni wna bwyd ein cyflwyno i Dduw; os nad ydym yn bwytta, nid ydym mewn eisieu; nac, os ydym yn bwytta, mewn helaethrwydd. Ond edrychwch rhag mewn modd i'ch hawl‐fraint fyned yn dramgwydd i'r gweiniaid. Canys os gwel neb dydi sydd a gwybodaeth gennyt yn eistedd i fwytta yn nheml yr eilun, oni fydd i'w gydwybod ef, ac efe yn wan, ymhyfhâu fel ag i fwytta y pethau a aberthwyd i eilunod? Canys derfydd am y gwan trwy dy wybodaeth di, — y brawd er mwyn yr hwn y bu Crist farw! Eithr pan yr ydych felly yn pechu yn erbyn eich brodyr, a chlwyfo eu cydwybod a hi yn wan, yr ydych yn pechu yn erbyn Crist. Gan hynny, os bwyd bair dramgwydd i'm brawd, ni fwyttâf fi gig o gwbl yn dragywydd, fel na bo i mi beri tramgwydd i fy mrawd. Onid wyf fi yn rhydd? onid wyf yn Apostol? onid wyf wedi gweled Iesu ein Harglwydd? onid fy ngwaith i ydych chwi yn yr Arglwydd? Os i eraill nid wyf Apostol, etto yn ddios i chwi yr wyf: canys sêl fy apostoliaeth ydych chwi yn yr Arglwydd. Fy amddiffyniad i i'r rhai sydd yn fy arholi i yw hyn: Onid oes gennym awdurdod i fwytta ac i yfed? Onid oes gennym awdurdod i arwain o amgylch chwaer fel gwraig, yr un modd a'r Apostolion eraill, a brodyr yr Arglwydd, a Cephas? Neu ai myfi yn unig a Barnabas sydd heb gennym awdurdod i fod heb weithio? Pwy sydd yn milwrio un amser ar ei draul ei hun? Pwy sydd yn plannu gwinllan, ac nid yw yn bwytta ei ffrwyth hi? Pwy sydd yn bugeilio praidd, ac nid yw yn bwytta o laeth y praidd? Ai yn ol dyn yr wyf yn llefaru y pethau hyn? neu onid yw y Gyfraith hefyd yn dywedyd hyn? Canys yng Nghyfraith Moses y mae yn ysgrifenedig, Ni rwymi safn ych yn dyrnu. Ai am yr ychain y mae Duw yn gofalu, neu er ein mwyn ni yn hollol y mae yn dywedyd? Canys er ein mwyn ni yr ysgrifennwyd, gan mai mewn gobaith y dylai yr arddwr aredig, a'r dyrnwr mewn gobaith o gyfrannogi. Os nyni a hauasom i chwi bethau ysprydol, ai mawr yw os nyni a fedwn eich pethau cnawdol? Os yw eraill yn gyfrannogion o'r awdurdod hon arnoch, onid ydym nyni yn hytrach? Etto ni ddefnyddiasom ni yr awdurdod hon, eithr ni a oddefwn bob peth, fel na roddom unrhyw rwystr i efengyl Crist. Oni wyddoch fod y rhai sydd yn ymwneyd â'r pethau cyssegredig yn bwytta o bethau y Deml? y rhai sydd yn gweini ar yr allor, a gydgyfrannogant â'r allor? Felly hefyd yr ordeiniodd yr Arglwydd i'r rhai sydd yn pregethu yr efengyl fyw wrth yr efengyl. Eithr nid wyf fi wedi arfer un o'r pethau hyn; ond nid ysgrifennais y pethau hyn fel y gwnelid yn y modd hyn i mi; canys da i mi farw yn hytrach na'u harfer — ni wna neb fy ymffrost yn ofer. Canys os efengylaf, nid oes i mi ymffrost, canys angenrhaid a osodwyd arnaf; canys gwae sydd i mi, os nad efengylaf. Canys os wyf yn gwneuthur hyn o'm hewyllys fy hun, y mae i mi dâl; ond os nid o'm hewyllys, y mae i mi oruchwyliaeth wedi ei hymddiried. Pa beth gan hynny yw fy nhâl? fel gan efengylu y gwnaf yr efengyl yn ddidraul: fel na ddefnyddiwyf i'r eithaf fy awdurdod yn yr efengyl. Canys a myfi yn rhydd oddiwrth bawb, mi a wnaethum fy hun yn gaethwas i bawb, fel yr ennillwn y rhan fwyaf. Ac i'r Iuddewon mi a fum megys Iuddew, fel yr ennillwn Iuddewon; i'r rhai sydd dan y ddeddf, megys dan ddeddf, a mi fy hun heb fod dan ddeddf, fel yr ennillwn y rhai sydd dan ddeddf; I'r rhai sydd ddiddeddf, megys diddeddf, heb fy mod yn ddiddeddf i Dduw, eithr o fewn cylch deddf Crist, fel yr ennillwn y rhai diddeddf. I'r gweiniaid mi a fum yn wan, fel yr ennillwn y gweiniaid. I bawb yr wyf wedi bod yn bob peth, fel ym mhob modd yr achubwn rai. Ac yr wyf yn gwneuthur pob peth er mwyn yr efengyl, fel y byddwyf yn gyd‐gyfrannog o honi. Oni wyddoch am y rhai sydd yn rhedeg yn y rhedeg‐le, eu bod oll yn rhedeg, ond un sydd yn derbyn y wobr? Rhedwch yn y fath fodd, fel y cymmerwch afael ynddi. A phob un sydd yn ymdrechu am dani, ym mhob peth y mae yn ymarfer hunan‐reolaeth: hwynthwy yn wir fel y derbyniont goron lygradwy; eithr nyni, un anllygradwy. Myfi, mewn canlyniad, wyf felly yn rhedeg, nid fel yn ansicr; felly yr wyf yn ymbaffio fel nid yn curo'r awyr. Eithr yr wyf yn cleisio fy nghorph ac yn ei ddwyn i gaethiwed, rhag mewn un modd, wedi i mi bregethu i eraill, fod fy hun yn annghymmeradwy. Canys nid ewyllysiwn i chwi fod heb wybod, frodyr, i'n tadau oll fod dan y cwmmwl, ac i'r oll o honynt fyned trwy y mor, ac i'r oll o honynt gymmeryd eu bedyddio i Moses yn y cwmmwl ac yn y mor; ac i bawb fwytta yr un bwyd ysprydol, ac i bawb yfed yr un ddiod ysprydol; canys hwy a yfasant o Graig ysprydol a'u canlynai; a'r Graig oedd Crist. Eithr ni bu Duw foddlawn i'r rhan fwyaf o honynt, canys dymchwelwyd hwynt yn y diffaethwch. A'r pethau hyn a ddaethant yn siamplau i ni, fel na byddom yn chwennychwyr pethau drwg, fel y chwennychasant hwy. Ac na fyddwch eilun‐addolwyr, megys rhai o honynt hwy, fel y mae yn ysgrifenedig, “Eisteddodd y bobl i fwytta ac i yfed, ac a gyfodasant i chwareu ”. Ac na odinebwn, fel y godinebodd rhai o honynt hwy, ac y syrthiodd mewn un dydd dair mil ar hugain. Ac na themtiwn yr Arglwydd, megys ag y temtiodd rhai o honynt hwy, ac y dinystriwyd hwy gan y seirph. Ac na rwgnechwch, megys y grwgnachodd rhai o honynt hwy, ac a'u dinystriwyd gan y Dinystrydd. A'r pethau hyn ar wedd siamplau a ddygwyddasant iddynt hwy, ac a ysgrifennwyd er cynghor i ni, ar y rhai y mae terfynau yr oesoedd wedi dyfod. Am hynny, yr hwn sydd yn tybied ei fod yn sefyll, edryched na syrthio. Nid ymaflodd ynoch demtasiwn ond un dynol; eithr ffyddlawn yw Duw, yr hwn ni âd eich temtio uwchlaw yr hyn a alloch; eithr a wna ynghyd â'r temtasiwn y ddiangfa hefyd, fel y galloch ei ddwyn. O herwydd paham, fy anwyliaid, ffowch oddiwrth eilun‐addoliaeth. Fel wrth rai synwyrol yr wyf yn dywedyd; bernwch chwi beth yr wyf fi yn ei ddywedyd. Cwpan y Fendith yr hwn a fendigwn, onid cymmun gwaed Crist ydyw? y bara yr ydym yn ei dorri, onid corph cymmun Crist ydyw? Oblegyd mai un bara sydd, nyni, y rhai ydym yn llawer, ydym un corph; canys yr ydym oll yn cyfrannogi o'r un bara. Edrychwch ar yr Israel yn ol y cnawd: onid yw y rhai sydd yn bwytta yr ebyrth yn gyfrannogion o'r allor? Beth gan hynny yr ydwyf yn ei ddywedyd? bod y peth a aberthwyd i eilunod yn rhywbeth, neu bod eilun yn rhywbeth? Ond, dywedaf, fod y pethau y mae y Cenhedloedd yn aberthu yn cael eu haberthu i gythreuliaid ac nid i Dduw; ac ni fynnaf i chwi fod mewn cymmundeb â'r cythreuliaid: ni ellwch yfed o gwpan yr Arglwydd a chwpan y cythreuliaid; ni ellwch gyfrannogi o fwrdd yr Arglwydd a bwrdd cythreuliaid. Neu ai gyrru yr Arglwydd i eiddigedd yr ydym? A ydym ni yn gryfach nag ef? Pob peth sydd yn ganiataol, eithr nid yw pob peth yn lleshâu; pob peth sydd yn ganiataol, eithr nid yw pob peth yn adeiladu. Na cheisied neb yr eiddo ei hun, ond yr eiddo y dyn arall. Pob peth a werthir yn y gigfa, bwyttêwch, heb ofyn dim er mwyn cydwybod; canys eiddo yr Arglwydd y ddaear a'i chyflawnder. Os gwna neb o'r rhai digred eich gwahodd, ac ewyllysio o honoch fyned, bwyttêwch bob peth a roddir ger eich bron, heb ofyn dim er mwyn cydwybod. Eithr os dywed neb wrthych, Peth a aberthwyd yw hwn, na fwyttêwch, er mwyn yr hwn a'i mynegodd, ac er mwyn cydwybod,; a chydwybod, meddaf, nid yr eiddot ti dy hun, eithr yr eiddo y llall; canys paham y bernir fy rhyddid i gan gydwybod un arall? Os myfi gyda diolch a gyfrannogaf, paham y'm ceblir am y peth yr wyf yn diolch am dano? Pa un bynnag gan hynny ai bwytta yr ydych neu yfed, ai beth bynnag a wneloch, gwnewch bob peth er gogoniant Duw. Byddwch ddidramgwydd i Iuddewon a Groegiaid, ac i eglwys Dduw, fel yr wyf finnau ym mhob peth yn rhyngu bodd i bawb, heb geisio fy llês fy hun, ond eiddo y llawer, fel yr achuber hwynt. Byddwch efelychwyr o honof fi, megys yr wyf finnau hefyd o Grist. Ac yr wyf yn eich canmol,, gan eich bod yn fy nghofio i ym mhob peth, ac yn dal y traddodiadau fel y traddodais hwynt i chwi. Eithr ewyllysiaf i chwi wybod mai pen pob gwr yw Crist; a phen y wraig yw y gwr; a phen Crist yw Duw. Pob gwr yn gweddio ac yn prophwydo, a chanddo beth am ei ben, sydd yn dianrhydeddu ei ben; eithr pob gwraig yn gweddio ac yn prophwydo, a'i phen heb orchudd, sydd yn dianrhydeddu ei phen: canys yr un peth yw â'r un sydd wedi ei heillio. Canys os na bydd gwraig yn gwisgo gorchudd, cneifier hi hefyd; eithr os cywilyddus i wraig ei chneifio, neu ei heillio, gwisged orchudd. Canys gwr yn wir ni ddylai wisgo gorchudd am ei ben, am ei fod o'r dechreu yn ddelw a gogoniant Duw; ond y wraig yw gogoniant y gwr; canys nid yw y gwr o'r wraig ond y wraig o'r gwr; canys ni chrewyd y gwr er mwyn y wraig, ond y wraig er mwyn y gwr: o herwydd hyn dylai y wraig fod ganddi arwydd awdurdod ar ei phen, o herwydd yr angelion. Er hynny, nid yw gwraig ar wahân a gwr, na gwr ar wahân a gwraig, yn yr Arglwydd; canys yr un wedd ag y mae y wraig o'r gwr, felly hefyd y mae y gwr trwy y wraig; eithr pob peth sydd o Dduw. Bernwch chwi ynoch eich hunain, ai gweddus yw i wraig weddio ar Dduw heb orchudd? Onid yw hyd y nod naturiaeth ei hun yn eich dysgu chwi, os bydd gwr â gwallt hir, gwarthrudd yw iddo? Eithr os gwraig a fydd â gwallt hir, gogoniant yw iddi; canys ei hir‐wallt sydd wedi ei roddi yn lle gorchudd iddi. Ond os ymddengys neb yn ymryssongar, nid oes gennym ni y fath arfer, na chan eglwys Dduw. Eithr wrth orchymyn hyn, nid ydwyf yn eich canmol, eich bod yn dyfod ynghyd nid er gwell, ond er gwaeth; canys, yn gyntaf, pan ddeloch ynghyd yn yr eglwys, yr wyf yn clywed fod ymraniadau yn eich plith, ac mewn rhan yr wyf yn ei gredu. Canys rhaid fod hefyd bleidiau yn eich mysg, fel y delo y rhai cymmeradwy yn amlwg yn eich plith chwi. Pan fyddoch gan hynny yn dyfod ynghyd i'r un lle, nid yw i fwytta Swper yr Arglwydd; canys yn y bwytta, y mae pob un yn cymmeryd o flaen arall ei swper ei hun; ac y mae un yn newynog, ac arall yn feddw. Yn wir, onid oes gennych dai i fwytta ac i yfed? neu ai dirmygu yr ydych eglwys Dduw, a pheri cywilydd i'r rhai nid oes ganddynt? Pa beth a ddywedaf wrthych? a ganmolaf chwi yn hyn? Nid wyf yn eich canmol. Canys myfi a dderbyniais gan yr Arglwydd, yr hyn hefyd a draddodais i chwi: Bod i'r Arglwydd Iesu, yn y nos y bradychwyd ef, gymmeryd bara; ac wedi iddo ddiolch, efe a'i torrodd, ac a ddywedodd,, Hwn yw fy nghorph, yr hwn sydd drosoch: gwnewch hyn er côf am danaf. Yr un modd hefyd y cwpan, ar ol swperu, gan ddywedyd, Y Cwpan hwn yw y Cyfammod Newydd yn fy ngwaed: gwnewch hyn, cynnifer gwaith bynnag yr yfoch, er côf am danaf. Canys cynnifer gwaith bynnag y bwyttâoch y bara hwn, ac yr yfoch y cwpan, y cyhoeddwch farwolaeth yr Arglwydd hyd oni ddelo. O ganlyniad, pwy bynnag a fwyttâo y bara hwn, neu a yfo gwpan yr Arglwydd mewn modd annheilwng, euog fydd o gorph a gwaed yr Arglwydd. Eithr profed dyn ef ei hun, ac felly bwyttâed o'r bara, ac yfed o'r cwpan. Canys yr hwn sydd yn bwytta ac yn yfed, sydd yn bwytta ac yn yfed barnedigaeth iddo ei hun, pan nad yw yn iawn‐farnu y corph. O herwydd hyn y mae llawer yn eich plith yn weiniaid ac yn dihoeni, ac amryw yn huno; ond pe iawn‐farnem ein hunain, ni'n bernid. Ond wrth gael ein barnu gan yr Arglwydd y'n ceryddir, fel na'n collfarner gyda'r byd. Am hynny, fy mrodyr, pan ddeloch ynghyd i fwytta, arhoswch eich gilydd. Os bydd newyn ar neb, bwyttâed yn ei dŷ, fel na ddeloch ynghyd i farnedigaeth. Ond y pethau eraill mi a'u trefnaf pan ddelwyf. Ac am ddoniau ysprydol, frodyr, nid ewyllysiaf i chwi fod heb wybod. Chwi a wyddoch pan oeddych genhedloedd, arweinid chwi ymaith at yr eilunod mudion, ym mha fodd bynnag y'ch arweinid. Gan hynny, yr wyf yn hysbysu i chwi, nad oes neb yn llefaru yn Yspryd Duw yn dywedyd, Anathema yw'r Iesu; ac ni all neb ddywedyd, Iesu sydd Arglwydd, ond yn yr Yspryd Glân. Ac y mae gwahanol fathau o ddoniau, eithr yr un Yspryd; ac y mae gwahanol fathau o weinidogaethau, eithr yr un Arglwydd; ac y mae gwahanol fathau o weithrediadau, ond yr un Duw, yr hwn sydd yn gweithredu pob peth ym mhawb. Ac i bob un y rhoddir eglurhâd yr Yspryd er lleshâd. Canys i un, trwy yr Yspryd, y rhoddir ymadrodd doethineb; ac i arall, ymadrodd gwybodaeth, yn ol yr un Yspryd; i arall, ffydd, yn yr un Yspryd; ac i arall, ddoniau i iachau, yn yr un Yspryd; ac i arall, alluoedd i wneuthur gwyrthiau; ac i arall, brophwydoliaeth; ac i arall, ddirnadaeth o ysprydoedd; ac i arall, mathau o dafodau dyeithr; ac i arall ddeongliad tafodau dyeithr. A'r holl bethau hyn y mae yr un a'r unrhyw Yspryd yn eu gweithredu, gan rannu i bob un ar ei ben ei hun fel yr ewyllysia. Canys fel y mae y corph yn un, a chanddo aelodau lawer, a holl aelodau y corph, a hwy yn llawer, ydynt un corph; felly hefyd y mae Crist. Canys yn wir mewn un Yspryd y bedyddiwyd ni oll i un corph, pa un bynnag ai Iuddewon ai Groegwyr, ai caethion ai rhyddion, a nyni oll a wnaed i yfed o un Yspryd. Canys yn wir y corph nid yw un aelod, eithr llawer. Os dywed y troed, Am nad wyf law, nid wyf o'r corph, nid yw, o herwydd hyn, heb fod o'r corph. Ac os dywed y glust, Am nad wyf lygad, nid wyf o'r corph, nid yw, o herwydd hyn, heb fod o'r corph. Pe yr holl gorph fyddai lygad, pa le y byddai y clywed? Pe'r oll fyddai glywed, pa le y byddai yr arogliad? Ond yn awr Duw a osododd yr aelodau bob un o honynt yn y corph, fel yr ewyllysiodd efe. A phe bae yr oll yn un aelod, pa le y byddai y corph? Ond yn awr, llawer yw yr aelodau, eithr un corph. Ac ni all y llygad ddywedyd wrth y llaw, Nid rhaid i mi wrthyt; na thrachefn y pen wrth y traed, Nid rhaid i mi wrthych. Eithr yn hytrach o lawer, yr aelodau o'r corph sydd yn ymddangos yn wannach, ydynt angenrheidiol; a'r rhannau o'r corph a dybiwn ni eu bod yn llai anrhydeddus, y rhai hyn a wisgwn âg anrhydedd helaethach; a'r rhannau anhardd a gänt harddwch helaethach; ond ar ein rhannau hardd nid oes angen; eithr Duw a gyd‐dymherodd y corph, gan roddi anrhydedd helaethach i'r rhan oedd ddiffygiol; fel na byddai rhwyg yn y corph, ond fel y byddai gan yr aelodau yr un gofal am eu gilydd. Ac os dyoddef a wna un aelod, y mae yr holl aelodau yn cyd‐ddyoddef; neu os gogoneddir aelod, y mae yr holl aelodau yn cyd‐lawenhau. A chwychwi ydych gorph Crist ac aelodau o ran. A rhai, yn wir, a osododd Duw yn yr eglwys; yn gyntaf, Apostolion; yn ail, prophwydi; yn drydydd, athrawon; yna, galluoedd gwyrthiol; yna, doniau i iachâu; cynnorthwyon; llywodraethau; amryw fathau o dafodau. A yw pawb yn apostolion? a yw pawb yn brophwydi? a yw pawb yn athrawon? a yw pawb yn cyflawni gwyrthiau? A oes gan bawb ddoniau i iachâu? a yw pawb yn llefaru â thafodau? a yw pawb yn deongli? Eithr byddwch eiddigeddus am y doniau mwyaf Ac ym mhellach, yr wyf yn dangos i chwi ffordd sydd dra‐rhagorol. Os llefaraf â thafodau dynion ac angelion, ac heb fod gennyf gariad, yr wyf fel efydd yn seinio neu symbal yn clincian. Ac os oes gennyf brophwydoliaeth, a gwybod o honof y dirgelion oll a phob gwybodaeth; ac os oes gennyf yr holl ffydd fel ag i symmud mynyddoedd, ac heb gennyf gariad, nid wyf fi ddim. A phe porthwn y tlodion â'm holl dda, ac os rhoddaf i fyny fy nghorph fel y'm llosger, ac heb gariad gennyf, nid yw ddim lleshâd i mi. Y mae cariad yn hir‐ymaros, yn gymmwynasgar; cariad nid yw yn cenfigennu; cariad nid yw yn dangos ei hun, nid yw yn ymchwyddo, nid yw yn ymddwyn yn anweddaidd, nid yw yn ceisio yr eiddo ei hun, ni chythruddir, nid yw yn gwneyd cyfrif o'r drwg; ni lawenycha mewn annghyfiawnder, ond cyd‐lawenycha â'r gwirionedd. Y mae yn goddef pob peth, yn credu pob peth, yn gobeithio pob peth, yn dal yn wrol dan bob peth. Cariad byth ni chwymp: eithr pa un bynnag ai prophwydoliaethau, hwy a ddiddymmir; ai tafodau, hwy a beidiant; ai gwybodaeth, hi a ddiddymmir; canys o ran y gwyddom, ac o ran y prophwydwn; eithr pan fyddo'r perffaith wedi dyfod, yr hyn sydd o ran a ddiddymmir. Pan oeddwn faban, fel baban y llefarwn, fel baban y syniwn, fel baban yr ymresymmwn; ond pan ddaethum yn ddyn, diddymmais bethau baban. Canys gweled yr ydym yn awr trwy ddrych, mewn ffurf aneglur; ond yna, wyneb yn wyneb: yn awr yr wyf yn adwaen o ran; ond yna yr adnabyddaf fel y'm hadnabuwyd. Ac yn awr y mae yn aros ffydd, gobaith, cariad, y tri hyn; a'r mwyaf o'r rhai hyn yw cariad. Dylynwch gariad, a byddwch eiddigeddus am ddoniau ysprydol, ond yn hytrach fel y prophwydoch. Canys yr hwn sydd yn llefaru â thafod, nid wrth ddynion y mae yn llefaru, ond wrth Dduw, canys nid oes neb yn deall; ond yn yr yspryd y mae yn llefaru dirgeledigaethau. Ond yr hwn sydd yn prophwydo, sydd yn llefaru wrth ddynion er adeiladaeth, annogaeth, a dyddanwch. Yr hwn sydd yn llefaru â thafod sydd yn adeiladu ei hunan, ond yr hwn sydd yn prophwydo sydd yn adeiladu yr eglwys. Yn awr mi a ewyllysiwn i'r oll o honoch lefaru â thafodau, ond yn hytrach brophwydo o honoch: a mwy yw yr hwn sydd yn prophwydo na'r hwn sydd yn llefaru â thafodau, oddieithr iddo ddeongli, fel y derbynio yr eglwys adeiladaeth. Ac yn awr, frodyr, os deuaf attoch gan lefaru â thafodau, pa leshâd a wnaf i chwi, oni lefaraf wrthych mewn ffordd o ddadguddiad, neu wybodaeth, neu brophwydoliaeth, neu athrawiaeth. Hyd y nod pethau heb fywyd, wrth roddi sain, pa un bynnag ai pibell ai telyn, os na roddant wahaniaeth yn y seiniau, pa fodd y gwybyddir y peth a genir ar y bibell neu ar y delyn? Canys os yr udgorn hefyd a rydd sain ansicr, pwy a ymbarotoa i ryfel? Felly chwithau hefyd, trwy lefaru â thafod, os na thraethwch ymadrodd hawdd ei ddeall, pa fodd y gwybyddir y peth a leferir? canys chwi a fyddwch yn llefaru wrth yr awyr. Y mae, debygir, gynnifer o rywogaethau o leisiau yn y byd, ac nid oes un yn ddilafar. Os nad wyf gan hynny yn gwybod ystyr y llais, mi a fyddaf i'r hwn sydd yn llefaru yn farbariad, a'r hwn sydd yn llefaru fydd i minnau yn farbariad. Felly chwithau hefyd, gan eich bod yn awyddus am ddoniau ysprydol, ceisiwch er adeiladaeth yr eglwys i ymhelaethu ynddynt. Gan hynny, yr hwn sydd yn llefaru â thafod, gweddïed ar iddo allu deongli. Canys os gweddïaf â thafod, y mae fy yspryd yn gweddio, ond y mae fy neall yn ddiffrwyth. Beth gan hynny? mi a weddïaf â'r yspryd, ac a weddïaf â'r deall hefyd; canaf fawl â'r yspryd, a chanaf fawl â'r deall hefyd. Canys os bendithi â'r yspryd, pa fodd y dywed yr hwn sydd yn llenwi lle yr annghyfarwydd yr Amen ar dy roddi diolch di, gan nas gŵyr beth yr wyt yn ei ddywedyd? Canys tydi yn ddiau wyt yn diolch yn dda, ond y llall nid adeiledir. Yr wyf yn diolch i Dduw fy mod i yn llefaru â thafod yn fwy na chwi oll: ond yn yr eglwys ewyllysiaf yn hytrach lefaru pum gair â'm deall, fel y dysgwyf eraill hefyd, na myrddiynau o eiriau â thafod. O frodyr, na fyddwch blant mewn meddwl, eithr mewn drygioni byddwch fabanod, ond mewn meddwl, byddwch ddynion addfed. Yn y Ddeddf y mae yn ysgrifenedig, Trwy rai o dafodau dyeithr, a thrwy wefusau estroniaid, y llefaraf wrth y bobl hyn, ac hyd y nod felly ni'm gwrandawant, medd yr Arglwydd. Felly, tafodau ydynt er arwydd, nid i'r rhai sydd yn credu, ond i'r rhai digred; eithr prophwydoliaeth, nid i'r rhai digred, ond i'r rhai sydd yn credu. Gan hynny, os daw yr eglwys oll ynghyd i'r un lle, a llefaru o bawb â thafodau, a dyfod o rai annghyfarwydd neu ddigred i mewn, oni ddywedant eich bod allan o'ch pwyll? Eithr os prophwyda pawb, a dyfod o un digred neu annghyfarwydd i mewn, efe a argyhoeddir gan bawb, gelwir ef i gyfrif gan bawb. Gwneir dirgelion ei galon ef yn amlwg, ac felly wedi syrthio ar ei wyneb, efe a addola Dduw, gan ddadgan, Yn wir, y mae Duw yn eich plith. Beth yw gan hynny, frodyr? pan ddeloch ynghyd, y mae gan bob un salm, y mae ganddo athrawiaeth, y mae ganddo ddadguddiad, y mae ganddo dafod, y mae ganddo ddeongliad. Gwneler pob peth er adeiladaeth. Os llefara un â thafod, gwneler bob yn ddau, neu o'r mwyaf bob yn dri, a phob un yn ei dro; a deongled un. Eithr os na fydd deonglwr, tawed yn yr eglwys, a llefared wrtho ei hun ac wrth Dduw. A llefared y prophwydi, ddau neu dri, a barned y lleill. Ac os dadguddir dim i un arall yn eistedd yno, tawed y cyntaf. Canys chwi a ellwch oll brophwydo bob yn un, fel y dysgo pawb, ac yr annoger pawb. Ac y mae ysprydoedd prophwydi yn ddarostyngedig i brophwydi. Canys nid yw Duw yn awdwr annhrefn ond tangnefedd. Fel yn holl eglwysi y saint, tawed y gwragedd yn yr eglwysi: canys ni chaniateir iddynt hwy lefaru; eithr bydded iddynt fod yn ddarostyngedig, megys hefyd y dywed y Gyfraith. Ac os ewyllysiant ddysgu dim, ymofynant â'u gwŷr eu hunain gartref; oblegyd cywilyddus yw i wraig lefaru yn yr eglwys. Ai oddiwrthych chwi yr aeth gair Duw allan? neu ai attoch chwi yn unig y daeth efe? Os tybia neb ei fod yn brophwyd, neu yn ysprydol, cydnabydded y pethau yr wyf yn eu hysgrifennu attoch, mai gorchymyn yr Arglwydd ydynt. Eithr os yw neb heb wybod, bydded heb wybod. Gan hynny, fy mrodyr, byddwch dra‐awyddus i brophwydo, ac na waherddwch lefaru â thafodau. Eithr gwneler pob peth yn weddaidd ac mewn trefn. Ac yr wyf yn gwneyd yn hyspys i chwi, frodyr, yr efengyl a efengylais i chwi, yr hon hefyd a dderbyniasoch, yn yr hon hefyd yr ydych yn sefyll, trwy yr hon hefyd yr ydych gadwedig, os ydych yn dal gafael yn yr hyn a efengylais i chwi, oddieithr i chwi gredu yn ofer. Canys mi a draddodais i chwi ym mhlith y pethau cyntaf, yr hyn hefyd a dderbyniais, farw o Grist dros ein pechodau, yn ol yr Ysgrythyrau; a'i gladdu; a'i fod wedi cael ei gyfodi y trydydd dydd, yn ol yr Ysgrythyrau; ac ymddangos o hono i Cephas; yna i'r Deuddeg; wedi hynny, efe a ymddangosodd i fwy na phum' cant o frodyr ar un waith, o'r rhai y mae y rhan fwyaf yn aros hyd yn awr; eithr rhai a hunasant. Wedi hynny yr ymddangosodd i Iago; yna i'r apostolion oll. Ac yn ddiweddaf o'r cwbl, megys i'r un annhymig, yr ymddangosodd hefyd i mi; canys myfi yw y lleiaf o'r apostolion, yr hwn nid wyf addas i'm galw yn apostol, am i mi erlid eglwys Crist. Eithr trwy ras Duw yr ydwyf yr hyn ydwyf; a'i ras ef, yr hwn a roddwyd i mi, ni bu yn ofer, eithr mi a lafuriais yn helaethach na hwynt oll; etto nid myfi, ond gras Duw gyda mi. Pa un bynnag gan hynny ai myfi ai hwynt hwy, felly yr ydym yn pregethu, ac felly y credasoch chwi. Ac os pregethir Crist ei fod wedi ei gyfodi o feirw, pa fodd y dywed rhai yn eich plith chwi nad oes adgyfodiad y meirw? Eithr os nad oes adgyfodiad y meirw, ni chyfodwyd Crist chwaith; ac os nad yw Crist wedi ei gyfodi, ofer yn wir yw ein pregethiad ni, ofer hefyd yw eich ffydd chwithau. Ac fe'n ceir hyd y nod yn au-dystion i Dduw, canys ni a dystiasom am Dduw ddarfod iddo gyfodi Crist, yr hwn nis cyfododd efe, os yn wir, y meirw ni chyfodir. Canys os y meirw ni chyfodir, nid yw Crist wedi ei gyfodi chwaith; ac os nad yw Crist wedi ei gyfodi, diwerth yw eich ffydd chwi: yr ydych etto yn eich pechodau; yn wir hefyd y rhai a hunasant yng Nghrist a gyfrgollwyd. Os yn unig yn y bywyd hwn yr ydym wedi gobeithio yng Nghrist, truenusaf o bob dynion ydym ni. Eithr yn awr y mae Crist wedi ei gyfodi oddiwrth y meirw, blaenffrwyth y rhai a hunasant. Canys gan mai trwy ddyn y mae marwolaeth, trwy ddyn hefyd y mae adgyfodiad y meirw. Canys megys yn Adda y mae pawb yn meirw, felly hefyd yn y Crist y bywhêir pawb. Eithr pob un yn ei drefn ei hun: y blaenffrwyth yw Crist; yna y rhai ydynt eiddo Crist yn ei Ddyfodiad ef. Yna y diwedd, pa bryd bynnag y rhoddo efe i fyny y deyrnas i Dduw a'r Tâd, pan fydd wedi diddymmu pob llywodraeth, a phob awdurdod a gallu; canys rhaid iddo deyrnasu, hyd oni osodo ei holl elynion dan ei draed. Y gelyn diweddaf a ddiddymmir yw Angau. Canys pob peth a ddarostyngodd efe dan ei draed ef: a phan ddywedo fod pob peth wedi ei ddarostwng, amlwg yw y gadewir allan yr hwn a ddarostyngodd bob peth iddo. A phan ddarostynger pob peth iddo, yna y Mab ei hun a ddarostyngir i'r hwn a ddarostyngodd bob peth iddo ef, fel y byddo Duw oll yn oll. Os amgen beth a wna y rhai a fedyddir dros y meirw, os y meirw ni chyfodir o gwbl? paham hefyd y bedyddir hwy drostynt? Paham hefyd yr ydym ninnau mewn perygl bob awr? Yr wyf yn ardystio yn enw fy ymffrost ynoch, frodyr, yr hwn sydd gennyf yng Nghrist Iesu ein Harglwydd, yr wyf yn marw beunydd. Os yn ol dull dyn yr ymleddais â bwystfilod yn Ephesus, pa leshâd sydd i mi? Oni chyfodir y meirw, bwyttâwn ac yfwn; canys yfory marw yr ydym. Na cham-arweinier chwi: y mae cwmpeini drwg yn llygru moesau da. Deffrowch yn gyfiawn, ac na phechwch; canys nid oes gan rai wybodaeth o Dduw: er cywilydd i chwi yr wyf yn llefaru. Eithr dywed rhyw un, Pa fodd y codir y meirw? ac a pha fath gorph y deuant? O ddyn anneallus, yr hyn yr wyt ti yn ei hau ni fywhêir oni bydd farw. A'r hyn yr wyt yn ei hau, nid y corph a fydd yr wyt yn ei hau, ond gronyn noeth, efallai o wenith, neu ryw un o'r hadau eraill; eithr Duw sydd yn rhoddi iddo gorph fel yr ewyllysiodd efe, ac i bob un o'r hadau gorph o'i eiddo ei hun. Nid yw pob cnawd yr un cnawd; eithr un yw cnawd dynion, ac arall yw cnawd anifeiliaid, ac arall yw cnawd adar, ac arall yw cnawd pysgod. Y mae hefyd gyrph nefol a chyrph daearol; ond gwahanol yw gogoniant y rhai nefol, a gwahanol yw gogoniant y rhai daearol. Un yw gogoniant yr haul, ac arall yw gogoniant y lleuad, ac arall yw gogoniant y sêr; canys y mae seren yn gwahaniaethu oddiwrth seren mewn gogoniant. Felly hefyd y mae adgyfodiad y meirw: heuir ef mewn llygredigaeth, cyfodir mewn anllygredigaeth; heuir mewn ammharch, cyfodir mewn gogoniant; heuir mewn gwendid, cyfodir mewn gallu; heuir yn gorph anianol, cyfodir yn gorph ysprydol.Os oes corph anianol, y mae hefyd gorph ysprydol. Felly hefyd y mae yn ysgrifenedig, Y dyn cyntaf Adda a wnaed yn enaid byw, a'r Adda diweddaf yn yspryd yn bywhâu. Eithr nid cyntaf yr ysprydol, ond yr anianol, ac wedi hynny, yr ysprydol. Y dyn cyntaf sydd o'r ddaear, yn ddaearol; yr ail ddyn sydd o'r nef. Yn y cyfryw fodd ag yw y daearol, yn y cyfryw fodd hefyd y mae y rhai daearol; ac yn y cyfryw fodd ag yw y nefol, yn y cyfryw fodd hefyd y mae y nefol; ac megys y dygasom ddelw y daearol, bydded i ni ddwyn hefyd ddelw y nefol. Eithr hyn meddaf, frodyr, na ddichon cig a gwaed etifeddu teyrnas Dduw, ac nad yw llygredigaeth yn etifeddu anllygredigaeth. Wele! yr wyf yn dywedyd i chwi ddirgelwch: Ni hunwn ni oll, eithr ni oll a newidir, mewn moment, mewn tarawiad llygad, wrth yr udgorn diweddaf; canys udgorn a gân, a'r meirw a gyfodir yn anllygredig, a ninnau a newidir; canys rhaid i'r llygradwy hwn ymwisgo âg anllygredigaeth, a'r marwol hwn ymwisgo âg anfarwoldeb. A phan ddarffo i'r llygradwy hwn ymwisgo âg anllygredigaeth, a'r marwol hwn ymwisgo âg anfarwoldeb, yna y daw i ben yr ymadrodd sydd ysgrifenedig, Llyngcwyd angau mewn buddugoliaeth. Pa le, O angau, dy fuddugoliaeth? Pa le, O angau, dy golyn? Colyn angau yw pechod, a grym pechod yw y Ddeddf; ond i Dduw y byddo y diolch, yr hwn sydd yn rhoddi i ni fuddugoliaeth trwy ein Harglwydd Iesu Grist. Am hynny, fy mrodyr anwyl, byddwch sefydlog, a diysgog, a helaethion yng ngwaith yr Arglwydd yn wastadol, gan wybod nad yw eich llafur yn ofer yn yr Arglwydd. Yn awr ynghylch y casgliad tuag at y saint; fel y trefnais yn fanwl i eglwysi Galatia, felly hefyd gwnewch chwithau. Ar y dydd cyntaf o'r wythnos, gosoded pob un o honoch heibio gartref, gan roddi i gadw fel y llwyddodd, fel na wneler casgliadau pan ddelwyf. A phan gyrhaeddwyf, pa rai bynnag a gymmeradwyoch, â llythyrau y danfonaf hwynt i ddwyn eich rhodd i Jerusalem; ac os teilwng y peth i minnau fyned hefyd, hwy a änt gyda mi. Eithr mi a ddeuaf attoch, gwedi yr elwyf trwy Macedonia; canys trwy Macedonia yr wyf yn myned; a dichon yr arhosaf gyda chwi, neu y gauafaf hefyd, fel y'm hebryngoch i ba le bynnag yr elwyf; canys nid ewyllysiaf eich gweled yn awr ar fy hynt, oblegyd yr wyf yn gobeithio yr arhosaf gryn amser gyda chwi, os caniata yr Arglwydd. Eithr mi a arhosaf yn Ephesus hyd y Pentecost; canys drws mawr ac effeithiol a agorwyd i mi, ac y mae gwrthwynebwyr lawer. Ac os Timotheus a ddaw, edrychwch ar ei fod yn ddiofn gyda chwi, canys gwaith yr Arglwydd y mae yn ei weithio, fel finnau hefyd. Am hynny, na ddiystyred neb ef; ond hebryngwch ef mewn heddwch, fel y delo attaf fi, canys yr wyf fi yn ei ddysgwyl ef gyda'r brodyr. Ond am y brawd Apollos, mi a ymbiliais lawer ag ef i ddyfod attoch gyda'r brodyr, ond nid oedd ei ewyllys o gwbl i ddyfod yn awr, ond daw pan gaiff gyfleusdra. Gwyliwch, sefwch yn y ffydd, ymwrolwch, ymgryfhêwch; gwneler eich holl bethau chwi mewn cariad. Ac yr wyf yn attolwg i chwi, frodyr (chwi a adwaenoch dŷ Stephanas, mai blaenffrwyth Achaia ydyw, ac iddynt ymroddi i wasanaeth y saint), fod o honoch chwithau hefyd fod yn ddarostyngedig i'r cyfryw, ac i bob un sydd yn cyd‐weithio ac yn llafurio. Ac yr wyf yn llawen am ddyfodiad Stephanas a Phortunatus ac Achaichus, canys yr hyn oedd eisieu ar eich rhan chwi hwy a gyflawnasant; canys hwy a adlonasant fy yspryd i a'ch eiddo chwithau; cydnabyddwch gan hynny y cyfryw rai. Y mae eglwysi Asia yn eich cyfarch chwi. Y mae Acwila a Phrisca yn eich cyfarch yn wresog yn yr Arglwydd, gyda'r eglwys sydd yn eu tŷ hwynt. Y mae y brodyr oll yn eich cyfarch. Cyferchwch eich gilydd â chusan sanctaidd. Fy nghyfarchiad i Paul â'm llaw fy hun. Os oes neb nad yw yn hoffi yr Arglwydd, bydded anathema. Maran atha [‘Arglwydd, Tyred’]. Gras yr Arglwydd Iesu fyddo gyda chwi. Fy nghariad i fyddo gyda chwi oll yng Nghrist Iesu. Amen. Paul, Apostol Crist Iesu trwy ewyllys Duw, a'r brawd Timotheus, at eglwys Dduw yr hon sydd yn Corinth, gyda'r holl saint sydd yn holl Achaia; Gras i chwi a thangnefedd oddiwrth Dduw ein Tâd, a'r Arglwydd Iesu Grist. Bendigedig fyddo Duw a Thâd ein Harglwydd Iesu Grist, Tâd y tosturiaethau a Duw pob dyddanwch, yr hwn sydd yn ein dyddanu ni yn ein holl orthrymder, fel y gallom ninnau ddyddanu y rhai sydd ym mhob gorthrymder, trwy y dyddanwch â'r hwn y'n dyddenir ni ein hunain gan Dduw. Canys fel y mae dyoddefiadau Crist yn gorlifo i ni, felly trwy Grist y mae ein dyddanwch ni yn gorlifo. Ond pa un bynnag ai ein gorthrymmu yr ydys, er mwyn eich dyddanwch a'ch iachawdwriaeth chwi y mae, yr hwn sydd yn gweithio yng ngoddefiad dewr yr un dyoddefiadau, y rhai yr ydym ninnau hefyd yn eu dyoddef, ac y mae ein gobaith am danoch yn ddiysgog; ai ein dyddanu yr ydys, er eich dyddanwch a'ch iachawdwriaeth chwi y mae; gan wybod mai, megys yr ydych yn gyfrannogion o'r dyoddefiadau, felly hefyd yr ydych o'r dyddanwch. Canys ni fynnem i chwi fod heb wybod, frodyr, am ein gorthrymder a ddygwyddodd yn Asia, mai yn ddirfawr, tu hwnt i'n gallu, y pwyswyd yn drwm arnom, nes i ni anobeithio yn hollol hyd y nod i gael byw; ië, yr ydym ni ein hunain wedi cael ynom ein hunain yr atteb o farwolaeth, fel na fyddem yn ymddiried ynom ein hunain, ond yn Nuw, yr hwn sydd yn cyfodi y meirw; yr hwn a'n gwaredodd ni allan o'r cyfryw ddirfawr farwolaeth, ac a'n gwared: yn yr hwn yr ydym wedi gobeithio y gwared ni etto hefyd, a chwychwi yn cyd‐gynorthwyo ar ein rhan trwy eich deisyfiad, fel, am y rhodd a rodded i ni trwy lawer, y rhoddid diolch trosom gan lawer o bersonnau. Canys ein hymffrost ni yw hyn, tystiolaeth ein cydwybod, mai mewn sancteiddrwydd a'r purdeb sydd o Dduw, nid mewn doethineb cnawdol, ond yng ngras Duw, yr ymddygasom yn y byd, ac yn helaethach tuag attoch chwi. Canys nid ydym yn ysgrifennu pethau eraill attoch amgen na'r rhai yr ydych yn eu darllen, neu hyd y nod yn eu cydnabod, ac yr wyf yn gobeithio a gydnabyddwch hyd y diwedd; fel hefyd y cydnabuoch ni o ran, mai nyni yw eich ymffrost chwi, fel ag yr ydych chwi ein hymffrost ni, yn Nydd ein Harglwydd Iesu. Ac yn yr hyder hwn yr oeddwn yn chwennych dyfod attoch o'r blaen, fel y caffech ail ras; a thrwoch chwi fyned trwodd i Macedonia, a dyfod drachefn o Macedonia attoch, a chael fy hebrwng gennych i Judea. Gan hynny pan yn chwennych hyn, a arferais i yn wir ysgafnder o gwbl? Neu y pethau yr wyf yn eu bwriadu, ai yn ol y cnawd yr wyf yn eu bwriadu, fel y byddai gyda mi yr Ië, Ië, a'r Nage, Nage? Eithr ffyddlawn yw Duw fod ein hymadrodd ni wrthych chwi nid yn Ië a Nage. Canys Mab Duw, Iesu Grist, yr hwn a bregethwyd yn eich plith gennym ni, gennyf fi a Silvanus a Thimotheus, nid ydoedd Ië a Nage, eithr y mae wedi dyfod yn Ië ynddo ef. Canys cynnifer ag yw addewidion Duw, ynddo ef mae yr Ië; o herwydd hynny hefyd trwyddo ef mae yr Amen, er gogoniant i Dduw trwom ni. A'r hwn sydd yn ein cadarnhâu ni gyda chwi yng Nghrist, ac a'n henneiniodd ni, yw Duw; yr hwn hefyd a'n seliodd, ac a roddodd i ni ernes yr Yspryd yn ein calonnau. Ac yr wyf yn galw Duw yn dyst yn erbyn fy enaid, mai er eich arbed ni ddaethum i etto i Corinth: nid am ein bod yn arglwyddiaethu ar eich ffydd, ond yr ydym yn gyd‐weithwyr i'ch llawenydd; oblegyd trwy ffydd yr ydych yn sefyll. Eithr mi a benderfynnais hyn i mi fy hun, na ddeuwn drachefn mewn tristwch attoch. Oblegyd os myfi a'ch tristâf chwi, pwy yw yr hwn ynte a'm llonna i, ond yr hwn a dristâwyd gennyf fi? Ac ysgrifennais hyn yma, rhag, pan ddelwn, y cawn dristwch oddiwrth y rhai y dylwn gael llawenydd; gan hyderu ynoch oll fod fy llawenydd i yn llawenydd yr oll o honoch. Canys o orthrymder lawer ac o gyfyngder calon yr ysgrifennais attoch â dagrau lawer, nid fel y tristêid chwi, eithr fel y gwybyddech y cariad sydd gennyf yn helaethach tuag attoch chwi. Ond os oes neb wedi peri tristwch, nid i myfi y mae wedi peri tristwch, ond mewn rhan (fel na phwyswyf yn ormodol) i chwi oll. Digon i'r cyfryw un yw y gosp yma a weinyddiwyd gan y mwyafrif, fel yn y gwrthwyneb y dylech yn hytrach faddeu iddo a'i ddyddanu, rhag rhywfodd i'r cyfryw gael ei lyngcu gan ormod tristwch. Gan hynny yr wyf yn attolwg i chwi gadarnhau eich cariad tuag atto. Canys er mwyn hyn hefyd yr ysgrifennais, fel y gwybyddwn y prawf o honoch, a ydych yn ufudd ym mhob peth. Ac i'r hwn yr ydych yn maddeu dim, yr wyf finnau hefyd: canys yr hyn hefyd yr wyf wedi ei faddeu, os maddeuais ddim, er eich mwyn chwi y maddeuais ef ym mherson Crist, fel nad enniller mantais arnom gan Satan, canys nid ydym heb wybod ei ddyfeision ef. Ac wedi dyfod i Troas er efengyl Crist, a drws wedi ei agoryd i mi yn yr Arglwydd, ni chefais esmwythâd i'm hyspryd, gan na chefais Titus fy mrawd; eithr wedi canu yn iach iddynt, mi a aethum allan i Macedonia. Ond i Dduw y byddo y diolch, yr hwn sydd yn ein harwain mewn buddugoliaeth yng Nghrist, ac yn amlygu arogledd y wybodaeth o hono trwom ni ym mhob lle; canys perarogl Crist ydym ni i Dduw, yn y rhai cadwedig ac yn y rhai colledig: i'r naill yn arogl marwolaeth i farwolaeth, ac i'r lleill yn arogl bywyd i fywyd. Ac i'r pethau hyn, pwy sydd ddigonol? Canys nid ydym ni fel y llawer yn llygru gair Duw; eithr megys o burdeb, megys o Dduw, wyneb yn wyneb â Duw, yng Nghrist yr ydym yn llefaru. Ai dechreu drachefn i gymmeradwyo ein hunain yr ydym? neu a oes arnom raid, fel ar rai, wrth lythyrau o gymmeradwyaeth attoch neu oddiwrthych? Ein llythyr ni ydych chwi, wedi ei ysgrifennu yn ein calonnau, yn ddealledig ac yn ddarllenedig gan bob dyn, wedi ei wneuthur yn amlwg eich bod yn llythyr Crist, wedi ei weini gennym, wedi ei ysgrifennu, nid âg ingc, ond âg Yspryd y Duw byw; nid mewn llechau o gerrig, ond mewn llechau ydynt galonnau o gnawd. A chyfryw hyder sydd gennym trwy Grist tuag at Dduw; nid o herwydd ein bod yn ddigonol o honom ein hunain i gyfrif unrhyw beth megys o honom ein hunain; eithr ein digonedd ni sydd o Dduw, yr hwn hefyd a'n gwnaeth yn ddigonol fel gweinidogion cyfammod newydd, nid i'r llythyren eithr i'r yspryd; canys y mae y llythyren yn lladd, ond yr yspryd yn bywhâu. Ond os bu gweinidogaeth angau, wedi ei cherfio mewn llythyrennau ar gerrig, mewn gogoniant, fel na allai meibion Israel edrych yn graff ar wyneb Moses, o achos gogoniant ei wyneb, yr hwn oedd yn diflannu, pa fodd yn hytrach na fydd gweinidogaeth yr yspryd gyda gogoniant? Canys os bu gweinidogaeth condemniad yn ogoniant, llawer mwy y rhagora gweinidogaeth cyfiawnder mewn gogoniant. Canys yn wir ni wnaethpwyd yn ogoneddus yr hyn a wnaethpwyd yn ogoneddus yn yr ystyr hyn, o achos y gogoniant tra‐rhagorol. Canys os yw yr hyn sydd yn diflannu gyda gogoniant, mwy o lawer y mae yr hyn sydd yn aros mewn gogoniant. Am hynny gan fod gennym gyfryw obaith, yr ydym yn arfer hyfder mawr; ac nid fel y gosododd Moses orchudd ar ei wyneb, fel nad edrychai meibion Israel yn graff ar ddiwedd yr hyn a ddiflannai; eithr caledwyd eu meddyliau; canys hyd y dydd heddyw y mae yr un gorchudd, wrth ddarllen yr Hen Gyfammod, yn aros, gan nad yw wedi ei ddadguddio ei fod wedi ei ddileu yng Nghrist. Eithr hyd heddyw, pan ddarllenir Moses, y mae y gorchudd ar eu calon hwynt; eithr pan dry at yr Arglwydd, tynnir ymaith y gorchudd. Yn awr, yr Arglwydd yw yr Yspryd, a lle y mae Yspryd yr Arglwydd y mae rhyddid. Eithr nyni oll ag wyneb diorchudd, gan edrych megys mewn drych ar ogoniant yr Arglwydd, a drawsffurfir i'r un ddelw o ogoniant i ogoniant, megys oddiwrth yr Arglwydd, yr Yspryd. O herwydd hyn, a chennym y weinidogaeth hon, megys y trugarhâwyd wrthym, nid ydym yn digalonni; eithr ni a ymwadasom â chuddiedig bethau cywilydd, gan beidio rhodio mewn cyfrwystra a llygru gair Duw; eithr trwy amlygiad o'r gwirionedd yr ydym yn cymmeradwyo ein hunain i bob cydwybod dynion yng ngolwg Duw. Ac os cuddiedig hefyd yw ein hefengyl ni, yn y rhai colledig y mae yn guddiedig; yn y rhai y dallodd duw y byd hwn syniadau y rhai annghrediniol, fel na thywynai arnynt lewyrch efengyl gogoniant Crist, yr hwn yw delw Duw. Canys nid ni ein hunain yr ydym yn ein pregethu, eithr Crist Iesu fel Arglwydd, a ni ein hunain yn weision i chwi er mwyn Iesu. Canys Duw, yr hwn a ddywedodd: O dywyllwch goleuni a lewyrcha, yw yr hwn a lewyrchodd yn ein calonnau ni er tywyniad o wybodaeth gogoniant Duw yn wyneb Iesu Grist. Eithr y mae gennym y trysor hwn mewn llestri pridd, fel y byddai rhagoroldeb y gallu o Dduw, ac nid o honom ni. Yn cael ein gwasgu ym mhob modd, eithr heb ei bod yn gyfyng arnom; heb wybod lle i droi, eithr nid yn hollol ddi‐obaith; yn cael ein herlid, eithr heb ein llwyr adael; yn cael ein bwrw i lawr, eithr heb ddarfod am danom; yn wastad yn dwyn o amgylch yn y corph farwolaeth Iesu, fel yr amlyger hefyd fywyd Iesu yn ein corph ni. Canys nyni y rhai ydym yn fyw a draddodir yn wastadol i farwolaeth er mwyn Iesu, fel yr amlyger hefyd fywyd Iesu yn ein marwol gnawd ni. Felly y mae angau yn gweithio ynom ni, eithr bywyd ynoch chwi. Ond gan fod gennym yr un yspryd ffydd, yn ol yr hyn a ysgrifennwyd, Credais, am hynny y lleferais; yr ydym ninnau hefyd yn credu, ac am hynny yn llefaru; gan wybod y bydd i'r hwn a gyfododd yr Arglwydd Iesu ein cyfodi ninnau hefyd gyda Iesu, a'n cyflwyno gyda chwi. Canys pob peth sydd er eich mwyn chwi, fel y byddo i'r gras, wedi amlhâu trwy y mwyafrif, beri i'r diolchgarwch ymhelaethu, i ogoniant Duw. O herwydd paham nid ydym yn digalonni; ond er fod ein dyn oddiallan yn dadfeilio, ein dyn oddimewn a adnewyddir o ddydd i ddydd; canys y mae ein hysgafn gystudd, yr hwn sydd am y foment, yn gweithio allan i ni yn fwy‐fwy ragorol dragywyddol bwys gogoniant; a ninnau, nid yn edrych ar y pethau a welir, ond ar y pethau ni welir: canys y pethau a welir ydynt am dymhor, ond y pethau ni welir ydynt dragywyddol. Canys ni a wyddom, os y daearol dŷ o'r babell hon a ddattodir, fod i ni adeilad oddiwrth Dduw, tŷ nid o waith llaw, tragywyddol, yn y nefoedd; canys yn hon yr ydym yn ocheneidio, gan hiraethu am ymwisgo â'n tŷ sydd o'r nef; os hefyd wedi ymwisgo, nid yn noethion y'n ceir. Canys nyni yn wir y rhai ydym yn y babell hon, ydym yn ocheneidio o dan y baich, nid am ein bod yn chwennych ymddiosg, eithr ymwisgo, fel y llyngcer y marwol gan fywyd. A'r hwn a'n gweithiodd ni i hyn yma yw Duw, yr hwn a roddodd i ni ernes yr Yspryd. Gan fod yn hyderus gan hynny bob amser, ac yn gwybod tra yr ydym gartref yn y corph ein bod oddi cartref oddiwrth yr Arglwydd (canys trwy ffydd y rhodiwn, ac nid wrth ymddangosiad); ond hyderus ydym, a rhyngir bodd i ni yn hytrach, fod oddi cartref o'r corph a chartrefu gyda'r Arglwydd. O herwydd paham, yr ydym hefyd yn ymorchestu, pa un bynnag ai gartref neu oddi cartref, i ryngu ei fodd ef; canys rhaid i ni oll gael ein gwneuthur yn amlwg gerbron brawdle Crist, fel y derbynio pob un yn ol y pethau a wnaed yn y corph, pa un bynnag ai da ai drwg. A ni gan hynny yn gwybod ofn yr Arglwydd, yr ydym yn darbwyllo dynion; eithr i Dduw yr ydym wedi ein gwneyd yn amlwg; ac yr ydwyf yn gobeithio ddarfod ein gwneyd yn amlwg yn eich cydwybodau chwithau. Nid cymmeradwyo ein hunain drachefn i chwi yr ydym, eithr rhoddi achlysur ymffrost i chwi o'n plegyd, fel y byddo gennych beth i gwrdd â'r rhai a ymffrostiant yn y golwg, ac nid yn y galon; canys pa un bynnag ai allan o'n pwyll yr oeddem, i Dduw ydoedd; ai yn ein hiawn bwyll yr ydym, i chwi y mae. Canys cariad Crist sydd yn ein cymhell ni, gan farnu o honom hyn: Bu un farw dros bawb; o ganlyniad, bu pawb feirw; a bu efe farw dros bawb, fel na byddai i'r rhai byw fyw mwyach iddynt eu hunain, ond i'r hwn a fu farw drostynt, ac a gyfodwyd. Felly nyni o hyn allan nid adwaenwn neb yn ol y cnawd; ac os hyd y nod yr ydym wedi adwaen Crist yn ol y cnawd, etto yn awr nid ydym yn ei adnabod ef felly mwyach. Felly od oes neb yng Nghrist, y mae efe yn greadur newydd; yr hen bethau a aethant heibio; wele, daethant yn newydd! A phob peth sydd o Dduw, yr hwn a'n cymododd ni âg ef ei hun trwy Grist, ac a roddodd i ni weinidogaeth y cymmod, sef: Yr oedd Duw yng Nghrist yn cymmodi y byd âg ef ei hun, heb gyfrif iddynt eu camweddau, ac wedi rhoddi i ni air y Cymmod. Dros Grist gan hynny yr ydym genhadau, megys pe bae Duw yn deisyf trwom; yr ydym yn erfyn dros Grist, Cymmoder chwi â Duw. Yr hwn nid adnabu bechod a wnaeth efe yn bechod trosom ni, fel y delem ninnau yn gyfiawnder Duw ynddo ef. A chan gyd‐weithio ag ef, yr ydym yn attolygu na dderbynioch ras Duw yn ofer (canys dywed efe, Mewn amser cymmeradwy y'th wrandewais, Ac yn nydd iachawdwriaeth y cynnorthwyais di. Wele, yn awr yr amser cymmeradwy! Wele, yn awr ddydd iachawdwriaeth!) heb roddi o honom ddim tramgwydd mewn unrhyw beth, fel na feier ar y weinidogaeth; eithr ym mhob peth yn cymmeradwyo ein hunain fel gweinidogion Duw, mewn amynedd lawer, mewn cystuddiau, mewn anghenion, mewn cyfyngderau, mewn gwialen‐nodiau, mewn carcharau, mewn terfysgau, mewn llafuriau, mewn gwyliadwriaethau, mewn ymprydiau; mewn purdeb, mewn gwybodaeth, mewn hir‐ymaros, mewn hynawsedd, yn yr Yspryd Glân, mewn cariad diragrith; yng ngair y gwirionedd, yng ngallu Duw, trwy arfau cyfiawnder ar ddehau ac ar aswy, trwy barch ac ammharch, trwy anghlod a chlod; fel twyllwyr, ac yn cirwir! fel yn anadnabyddus, ac yn hollol adnabyddus! fel yn meirw, ac, wele, yn byw! fel yn cael ein dysgyblu, ac heb ein lladd! fel yn cael ein tristâu, ond yn wastad yn llawenhâu! fel yn dlodion, ond yn cyfoethogi llawer! fel heb ddim gennym, ac yn meddiannu pob peth! Ein genau a agorwyd wrthych chwi, o Gorinthiaid, ein calon a eangwyd. Ni chyfyngwyd arnoch ynom ni, eithr cyfyngwyd arnoch yn eich serchiadau eich hunain. Ac fel ad‐daliad (fel wrth blant yr wyf yn dywedyd), eanger chwithau hefyd. Na ieuer chwi yn annghymharus â rhai digred: canys pa gyd‐gyfrannogaeth sydd rhwng cyfiawnder ac annghyfraith? neu pa gymmundeb sydd rhwng goleuni a thywyllwch? a pha gydgordiad rhwng Crist a Belial? neu pa gyfran i gredadyn gydag annghredadyn? a pha gydsyniad rhwng cyssegr Duw ag eilunod? canys cyssegr y Duw byw ydym ni, fel y dywedodd Duw, Mi a breswyliaf ynddynt, ac a rodiaf ynddynt; ac a fyddaf yn Dduw iddynt hwy, a hwy a fyddant yn bobl i mi; gan hynny, Deuwch allan o'u canol ac ymddidolwch, medd yr Arglwydd, Ac na chyffyrddwch â pheth aflan, ac mi a'ch derbyniaf chwi. Ac a fyddaf yn dâd i chwi, a chwithau a fyddwch yn feibion ac yn ferched i mi, medd yr Arglwydd Hollalluog. Am hynny gan fod gennym yr addewidion hyn, anwyliaid, glanhâwn ein hunain oddiwrth bob halogrwydd cnawd ac yspryd, gan berffeithio sancteiddrwydd yn ofn Duw. Gwnewch le i ni yn eich calonnau: ni wnaethom gam a neb; ni lygrasom neb; ni chymmerasom fantais ar neb. Nid er eich condemniad yr wyf yn dywedyd; canys dywedais o'r blaen eich bod chwi yn ein calonnau i farw ac i fyw gyda chwi. Y mae hyfder fy ymadrodd tuag attoch yn fawr; y mae fy ymffrost am danoch yn fawr; yr wyf yn llawn o ddyddanwch; yr wyf yn gorlifo o lawenydd yn ein holl orthrymder. Canys hyd y nod wedi dyfod o honom i Macedonia, ni chafodd ein cnawd esmwythâd, ond cystuddiwyd ni ar bob llaw; oddiallan, yr oedd ymladdau; oddimewn, ofnau. Eithr yr hwn sydd yn dyddanu yr isel, Duw, a'n dyddanodd ni yn nyfodiad Titus; ac nid yn unig yn ei ddyfodiad, ond hefyd a'r dyddanwch â'r hwn y dyddanwyd ef ynoch chwi, wrth fynegu o hono i ni eich hiraeth, eich galar, a'ch sêl ar fy rhan, fel y llawenychais yn fwy. Canys er i mi eich tristâu chwi â'm llythyr, nid yw edifar gennyf, er y bu edifar gennyf, canys yr wyf yn gweled dristâu o'r llythyr hwnnw chwi, er ond dros amser. Yn awr llawenhâu yr wyf, nid am eich tristâu chwi, eithr am eich tristâu i edifeirwch: canys tristâwyd chwi tuag at Dduw, fel na chaech golled mewn dim oddiwrthym ni; canys tristwch tuag at Dduw sydd yn cynnyrchu edifeirwch i iachawdwriaeth, yr hwn edifeirwch ni fyddis edifar o hono; eithr tristwch y byd a gynnyrcha angau. Canys wele y peth hwn ei hun, sef tristâu tuag at Dduw, y fath lwyrfrydedd a gynnyrchodd ynoch; ië, ymddiffyn; ië, sorriant; ië, ofn; ië, hiraeth; ië, sêl; ië, gospedigaeth! Ym mhob peth y dangosasoch eich hunain yn bur yn y mater. Felly, er ysgrifennu o honof attoch, nid oedd yn achos yr hwn a wnaethai y cam, na'r hwn a gawsai gam, eithr fel yr amlyger eich llwyrfryd calon ar ein rhan i chwi eich hunain gerbron Duw. O herwydd hyn y'n dyddanwyd; ac yn ein dyddanwch ni a lawenhasom fwy o lawer am lawenydd Titus, oherwydd adlonni ei yspryd ef gennych chwi oll. Canys os ymffrostiais ddim wrtho am danoch, ni'm cywilyddiwyd; eithr fel y llefarasom bob peth wrthych mewn gwirionedd, felly ein hymffrost hefyd wrth Titus a gafwyd yn wirionedd. Ac y mae ei serch ef yn helaethach tuag ag attoch, wrth gofio o hono eich ufudd‐dod chwi oll, y modd trwy ofn a dychryn y derbyniasoch ef. Llawen wyf gan fod gennyf hyder ynoch ym mhob peth. Yr ydym ni hefyd yn hyspysu i chwi, frodyr, ras Duw yr hwn a roddwyd yn eglwysi Macedonia, ddarfod mewn mawr brofiad gorthrymder, i orlawnder eu llawenydd hwy a'u tlodi dwfn orlifo i gyfoeth eu haelioni hwy; canys cyfrannasant yn ol eu gallu, yr wyf yn dyst, a thu hwnt i'w gallu, o'u dewisiad eu hun, gan ddeisyfu arnom gyda llawer o ymbil am y ffafr a'r cyd‐gyfrannogiad mewn gweini i'r saint, a hyn, nid fel yr oeddem ni yn gobeithio, ond hwy a'u rhoddasant eu hunain yn gyntaf i'r Arglwydd, ac i ninnau trwy ewyllys Duw; mewn canlyniad, cymhellasom Titus, megys y dechreuasai efe o'r blaen, felly hefyd orphen o hono ynoch chwi y gras hwn hefyd. Eithr fel yr ydych ym mhob peth yn helaeth, mewn ffydd, a gair, a gwybodaeth, a phob llwyrfrydedd, ac yn eich cariad tuag attom ni, gofelwch ar fod o honoch yn helaeth yn y gras hwn hefyd. Nid mewn ffordd o orchymyn yr wyf yn dywedyd, eithr gan ddwyn i brawf, trwy lwyrfrydedd eraill, wiredd eich cariad chwi. (Canys chwi a adwaenoch ras ein Harglwydd Iesu Grist, iddo ef, ac efe yn gyfoethog, fyned er eich mwyn chwi yn dlawd, fel y cyfoethogid chwi trwy ei dlodi ef). Ac yn hyn yr ydwyf yn rhoddi fy marn: canys hyn sydd fuddiol i chwi, y rhai oeddech y cyntaf i wneuthur dechreuad flwyddyn yn ol, nid yn unig i wneuthur ond hefyd i ewyllysio. Ond yn awr, gorphennwch y gwneuthur hefyd, fel, megys ag yr oedd y parodrwydd i ewyllysio, felly hefyd y byddo y cyflawniad, yn ol eich gallu. Canys os yw y parodrwydd yn bresennol, y mae y rhodd yn gymmeradwy, yn ol yr hyn sydd gan ddyn, nid yn ol yr hyn nid oes ganddo; canys nid fel y byddo hyn i fod er ysgafnder i eraill a gorthrymder i chwi; eithr yn ol cyfartalrwydd; y pryd hwn eich helaethrwydd chwi ar gyfer eu hangen hwy, fel y delo eu helaethrwydd hwythau ar gyfer eich hangen chwi, fel y byddo cyfartalrwydd; fel y mae yn ysgrifenedig, Yr hwn a gasglodd lawer, nid oedd ganddo dros ben; a'r hwn a gasglodd ychydig, nid oedd ganddo lai. Eithr i Dduw y byddo y diolch, yr hwn sydd yn rhoddi yr un llwyrfrydedd calon ar eich rhan yng nghalon Titus; canys yn wir, efe a dderbyniodd ein hannogaeth; ond gan ei fod o'r dechreu yn eiddgar, o'i ddewisiad ei hun efe a aeth allan attoch chwi. A danfonasom gydag ef y brawd yr hwn y mae ei glod yn yr efengyl trwy yr holl eglwysi; ond nid hynny yn unig, ond hefyd a ddewiswyd gan yr eglwysi i gyd‐ymdaith a ni yn y gras hwn, yr hwn a weinyddir gennym i ogoniant yr Arglwydd, ac i ddangos ein parodrwydd ni; gan drefnu hyn, na fydd i neb feio arnom yn achos y llawndid hwn a weinyddir gennym; oblegyd yr ydym yn rhag‐ddarpar pethau anrhydeddus, nid yn unig yng ngolwg yr Arglwydd, ond hefyd yng ngolwg dynion. A danfonasom gyda hwynt ein brawd, yr hwn a brofasom mewn llawer o bethau lawer gwaith, ei fod yn eiddgar, ond yn awr yn llawer mwy eiddgar, o herwydd ei ymddiried mawr ynoch chwi. Os am Titus y gofynnir, efe yw fy nghydymaith a'm cyd‐weithiwr tuag attoch chwi; neu am ein brodyr, cenhadau yr eglwysi ydynt, gogoniant Crist. Dangoswch iddynt hwy gan hynny amlygiad o'ch cariad, ac o'n hymffrost ninnau ar eich rhan yn wyneb yr eglwysi. Canys yn wir am y weinidogaeth i'r saint, afraid yw i mi ysgrifennu attoch; canys gwn eich parodrwydd, am yr hwn yr wyf yn ymffrostio drosoch chwi wrth y Macedoniaid, fod Achaia wedi ymbarottoi er y llynedd; a'ch sêl chwi a symbylodd y rhan fwyaf o honynt. Eithr mi a ddanfonais y brodyr, fel na wneler ein hymffrost ni, yr hwn sydd ar eich rhan chwi, yn ofer yn y mater hwn, sef, fel y dywedais, y byddoch wedi ymbarottoi; rhag mewn un modd, os daw Macedoniaid gyda mi, a'ch cael yn ammharod, bod i ni — ni ddywedwn, chwi — gael ein cywilyddio yn yr hyder hwn. Mi a feddyliais gan hynny yn angenrheidiol attolygu i'r brodyr fyned o honynt o'r blaen attoch, a rhag‐ddarparu eich caredigrwydd a rag‐addawyd, fel y byddo y cyfryw yn barod, fel mater o garedigrwydd, ac nid o gybydd‐dra. Ond hyn ystyriwch: Yr hwn sydd yn hau yn brin a fêd hefyd yn brin. A'r hwn sydd yn hau yn hael, yn hael hefyd y mêd. Gwneled pob un, fel y mae wedi rhag‐arfaethu yn ei galon, nid o dristwch neu o orfodaeth: canys y mae Duw yn caru rhoddwr llawen. Ac y mae Duw yn alluog i beri i bob gras fod yn helaeth tuag attoch; fel y byddoch chwi, a chennych ym mhob peth bob amser bob hunan‐ddigonedd, yn ymhelaethu i bob gwaith da; fel y mae yn ysgrifenedig, Gwasgarodd, rhoddodd i'r tlodion; Ei gyfiawnder sydd yn aros yn dragywydd. A'r hwn sydd yn cyflenwi hâd i'r hauwr a bara yn yma borth, a gyflenwa ac a amlha eich hâd, ac a gynnydd-ffrwythau eich cyfiawnder; gan gael eich cyfoethogi ym mhob peth i bob haelioni, yr hwn sydd yn gweithio trwom ni ddiolch i Dduw; canys y mae gweinyddiad y gwasanaeth hwn, nid yn unig yn llanw i fyny ddiffygion y saint, ond hefyd yn ymhelaethu trwy aml roddi diolch i Dduw; gan eu bod, trwy y prawf o'r weinidogaeth hon, yn gogoneddu Duw am ufudd‐dod eich cyffes i efengyl Crist, ac am haelioni eich cyfraniad iddynt hwy ac i bawb; tra y maent hwythau eu hunain hefyd, gyda gweddi ar eich rhan, yn hiraethu am danoch chwi, o herwydd tra‐ragorol ras Duw, yr hwn sydd ynoch chwi. Diolch i Dduw am ei rodd annesgrifiadwy. A myfi fy hun, Paul, wyf yn attolwg i chwi, trwy addfwynder a thiriondeb Crist, yr hwn yn bresennol wyf iselwael yn eich plith, ond yn absennol ydwyf yn hŷf tuag attoch; ië, ac yr ydwyf yn deisyf arnoch fod yn hŷf gyda'r hyder â'r hwn yr wyf yn meddwl bod yn eofn yn erbyn rhai sydd yn ein cyfrif ni yn rhodio yn ol y cnawd. Canys er ein bod yn rhodio yn y cnawd, nid ydym yn milwrio yn ol y cnawd (canys arfau ein milwriaeth ni nid ydynt gnawdol, ond galluog trwy Dduw i fwrw cestyll i lawr); gan fwrw i lawr ymresymiadau a phob uchelder sydd yn ymddyrchafu yn erbyn gwybodaeth Duw, a chaethiwo pob meddwl i ufudd‐dod Crist; ac yn barod i gospi pob anufudd‐dod, pan gyflawner eich ufudd‐dod chwi. Yr ydych yn edrych ar y pethau sydd o flaen y wyneb. Os ymddiried neb ynddo ei hun ei fod yng Nghrist, meddylied hyn drachefn ohono ei hun, mai fel y mae efe yn eiddo Crist, felly ninnau hefyd. Canys pe ymffrostiwn ryw faint yn helaethach yng nghylch ein hawdurdod — yr hon a roddodd yr Arglwydd er eich adeiladu i fyny, ac nid er eich bwrw i lawr — ni'm cywilyddir, fel nad ymddangoswyf fel yn eich dychrynnu chwi trwy fy llythyrau. Ei lythyrau, meddant, ydynt drymion a chryfion, eithr presennoldeb y corph sydd eiddil, a'r ymadrodd yn ddirmygus. Hyn meddylied y cyfryw un, mai y fath ydym ni mewn ymadrodd trwy lythyrau pan yn absennol, yr un fath hefyd y byddwn mewn gweithred pan yn bresennol. Canys nid ydym yn beiddio cyfrif ein hunain ym mhlith neu gymharu ein hunain â rhai ydynt yn canmol eu hunain; ond hwynthwy, gan eu mesur eu hunain wrthynt eu hunain, a'u cymharu eu hunain â hwy eu hunain, ydynt heb ddeall; eithr nid ymffrostiwn ni tuhwnt i'n mesur, ond yn ol mesur y cylch, yr hwn fel mesur a rannodd Duw i ni, i gyrhaeddyd hyd y nod attoch chwi; canys nid ydym yn ymestyn allan tu hwnt i'n mesur, megys pe buasem heb gyrhaeddyd attoch chwi, canys ni a ddaethom hyd y nod hyd attoch chwi yn efengyl Crist; nid gan ymffrostio tu hwnt ein mesur, sef yn llafur rhai eraill, eithr gan fod gennym obaith, fel y cynnyddo eich ffydd, y cawn ein mawrygu ynoch chwi yn helaethach yn ol ein cylch, fel ag i efengylu hyd y nod yn y parthau tu hwnt i chwi, nid i ymffrostio yng nghylch un arall am bethau yn barod i'n llaw. Eithr yr hwn sydd yn ymffrostio, ymffrostied yn yr Arglwydd; canys nid yr hwn sydd yn canmol ei hun sydd gymmeradwy, eithr yr hwn y mae yr Arglwydd yn ei ganmol. O na chyd‐ddygech â mi mewn ychydig o ffolineb! na, yn wir, yr ydych yn cyd‐ddwyn â mi; canys yr wyf yn eiddigeddus drosoch ag eiddigedd Duw ei hun; canys mi a'ch dyweddiais chwi i un gwr, i'ch cyflwyno fel morwyn bur i Grist. Ond ofni yr wyf rhag mewn un modd, fel y twyllodd y sarph Efa yn ei chyfrwystra, y cä eich meddyliau chwi eu llygru oddiwrth y symlrwydd a'r purdeb sydd tuag at Grist. Canys yn wir os yw yr hwn sydd yn dyfod yn pregethu Iesu arall, yr hwn ni phregethasom ni, neu os ydych yn derbyn yspryd gwahanol, yr hwn nis derbyniasoch, neu efengyl wahanol, yr hon ni dderbyniasoch, yr ydych yn dal yn rhagorol! Canys yr wyf yn cyfrif nad wyf mewn dim ar ol yr Apostolion tra‐rhagorol! Ac os ydwyf hefyd yn annghelfydd mewn ymadrodd, nid wyf felly mewn gwybodaeth; na, ym mhob peth gwnaethom hyn yn amlwg ym mhlith pawb tuag attoch. Neu a gyflawnais i bechod wrth fy ngostwng fy hun fel y dyrchefid chwi, oblegyd pregethu o honof i chwi efengyl Duw yn rhad? Eglwysi eraill a yspeiliais, gan gymmeryd cyflog ganddynt hwy er y weinidogaeth i chwi; a phan oeddwn yn bresennol gyda chwi ac mewn eisieu, ni bum yn faich i neb, canys y brodyr, pan ddaethant o Macedonia, a gyflawnasant fesur fy eisieu, ac ym mhob dim y'm cedwais fy hun heb bwyso arnoch, ac a ymgadwaf. Fel y mae gwirionedd Crist ynof, ni ddystewir fy ymffrost hwn ym mharthau Achaia. Paham? ai am nad wyf yn eich caru chwi? Duw a ŵyr. Eithr yr hyn yr wyf yn ei wneuthur a wnaf, fel y torrwyf ymaith achlysur oddiwrth y rhai sydd yn ewyllysio cael achlysur, fel yn yr hyn yr ymffrostiant, y ceir hwynt fel ninnau hefyd. Canys y cyfryw rai ydynt au‐apostolion, gweithwyr twyllodrus, yn trawsffurfio eu hunain yn Apostolion Crist. Ac nid rhyfedd! canys y mae Satan yntau ei hun yn ymrithio yn angel goleuni. Am hynny nid yw yn beth mawr os ei weinidogion ef hefyd a ymrithiant fel gweinidogion cyfiawnder, y rhai y bydd eu diwedd yn ol eu gweithredoedd. Trachefn dywedaf, Na thybied neb fy mod i yn ffol; ond os gwnewch, etto derbyniwch fi fel ffol, fel yr ymffrostiwyf finnau hefyd ychydig. Yr hyn yr wyf yn ei ddywedyd, nid ydwyf yn ei ddywedyd yn ol yr Arglwydd, eithr megys mewn ffolineb, yn yr hyder hwn o ymffrost. Gan fod llawer yn ymffrostio yn ol y cnawd, minnau a ymffrostiaf hefyd. Canys yr ydych yn goddef y ffyliaid yn llawen, gan eich bod eich hunain yn ddoethion. Canys goddefwch ef, os rhyw un a'ch caethiwo, os rhyw un a'ch llwyr‐fwytta, os rhyw un a'ch magla, os rhyw un a ymddyrchafa, os rhyw un a'ch tery ar y wyneb. Er ein gwaradwydd yr wyf yn llefaru, megys pe buasem yn weiniaid. Etto ym mha beth bynnag y mae neb yn hŷf (mewn ffolineb yr wyf yn dywedyd), yr wyf finnau hefyd yn hŷf. Ai Hebreaid ydynt hwy? felly finnau: Ai Israeliaid ydynt hwy? felly finnau. Ai hâd Abraham ydynt hwy? felly finnau. Ai gweinidogion Crist ydynt? (yr wyf yn llefaru fel un o'i bwyll,) mwy wyf fi: mewn llafur yn helaethach; mewn carcharau yn amlach; mewn gwialennodiau tu hwnt i fesur; mewn marwolaethau yn fynych; gan yr Iuddewon bum' waith y derbyniais ddeugain gwialennod ond un; tair gwaith y'm curwyd â gwiail, unwaith y'm llabyddiwyd; tair gwaith y dyoddefais longddrylliad; noswaith a diwrnod a dreuliais yn y dyfnfor; mewn teithiau yn fynych; ym mheryglon afonydd; ym mheryglon yspeilwyr; ym mheryglon oddiwrth fy nghenedl; ym mheryglon oddiwrth y cenhedloedd; ym mheryglon yn y ddinas; ym mheryglon yn yr anialwch; ym mheryglon yn y môr; ym mheryglon ym mhlith brodyr gau; mewn llafur a lludded; mewn gwyliadwriaethau yn fynych; mewn newyn a syched; mewn ymprydiau yn fynych; mewn anwyd a noethni. Heblaw y pethau a adewir allan, y mae yr hyn sydd yn gwasgu arnaf beunydd, y pryder am yr holl eglwysi. Pwy sydd wan, nad wyf finnau wan? pwy a wneir i dramgwyddo, nad wyf finnau yn llosgi? Os rhaid ymffrostio, mi a ymffrostiaf yn y pethau a berthyn i'm gwendid. Duw a Thâd yr Arglwydd Iesu, yr Hwn sydd fendigedig yn oes oesoedd, a ŵyr nad wyf yn dywedyd celwydd. Yn Damascus, y llywydd dan Aretas y brenin a wyliodd ddinas y Damasciaid er fy nal; a thrwy ffenestr y'm gollyngwyd i lawr mewn basged ar hyd y mur, a diengais o'i ddwylaw ef. Y mae yn rhaid i mi ymffrostio, er nad yw yn fuddiol; ond deuaf at weledigaethau a dadguddiadau yr Arglwydd. Yr wyf yn adwaen dyn yng Nghrist, pedair blynedd ar ddeg yn ol (ai yn y corph, nis gwn; ai allan o'r corph, nis gwn; Duw a ŵyr), gipio y cyfryw un hyd y drydedd nef. Ac yr wyf yn adwaen y cyfryw ddyn (ai yn y corph, ai ar wahân â'r corph, nis gwn, Duw a ŵyr), a gipiwyd i Baradwys, ac a glywodd eiriau annhraethadwy, y rhai nid yw bosibl i ddyn eu llefaru. Am y cyfryw ddyn yr ymffrostiaf; ond am danaf fy hun nid ymffrostiaf oddieithr yn fy ngwendidau. Canys os ewyllysiaf ymffrostio, ni fyddaf yn ffol, canys gwirionedd a ddywedaf; eithr yr wyf yn ymattal, rhag i neb feddwl am danaf fi uwch law y mae yn gweled fy mod, neu yn ei glywed oddiwrthyf. Ac o ganlyniad, fel na'm tra‐dyrchafer trwy odidowgrwydd y dadguddiadau, rhoddwyd i mi swmbwl yn y cnawd, cennad Satan i'm cernodio. Am hwn, mi a attolygais ar yr Arglwydd deirgwaith, ar fod iddo ymadael â mi; ac y mae efe wedi dywedyd wrthyf, Digon i ti fy ngras i; canys nerth a berffeithir mewn gwendid. Gyda'r llawenydd pennaf gan hynny yr ymffrostiaf yn hytrach yn fy ngwendidau, fel y cysgodo gallu Crist drosof. Am hynny yr wyf yn cymmeryd hyfrydwch mewn gwendidau, mewn sarhadau, mewn anghenion, mewn erlidiau, mewn cyfyngderau, er mwyn Crist; canys pan wyf wan, yna yr wyf gadarn. Aethum yn ffol; chwychwi a'm gorfodasoch; canys myfi a ddylaswn gael fy nghanmol gennych chwi; canys ni fum mewn dim ar ol yr Apostolion tra‐rhagorol! Er nad wyf fi ddim, arwyddion Apostol yn wir a weithredwyd yn eich plith chwi mewn pob amynedd, trwy arwyddion a rhyfeddodau a nerthoedd. Canys beth yw yr hyn y buoch chwi yn ol am dano, tuhwnt i'r eglwysi eraill, oddieithr na bum i fy hun yn faich arnoch? Maddeuwch i mi yr annghyfiawnder hwn! Wele, hon yw y drydedd waith yr wyf yn barod i ddyfod attoch, ac ni byddaf yn faich; canys nid wyf yn ceisio eich eiddo chwi, eithr chwychwi; canys ni ddylai y plant drysori i'r rhieni, eithr y rhieni i'r plant; a myfi, gyda'r llawenydd pennaf, a dreuliaf ac a ymdreuliaf allan dros eich eneidiau chwi. Os wyf fi yn eich caru yn ddirfawr, ai llai y'm cerir i? Ond bydded felly: ni phwysais i arnoch; eithr gan fod o'r dechreu yn gyfrwys, mi a'ch deliais trwy ddichell. A gymmerais i unrhyw fantais arnoch trwy unrhyw un o'r rhai a ddanfonais attoch? Deisyfais ar Titus, ac mi a anfonais y brawd gydag ef. A gymmerodd Titus unrhyw fantais arnoch? Oni rodiasom wrth yr un Yspryd, yn yr un llwybrau? Er ys meityn yr ydych yn tybied mai amddiffyn ein hunain ydym wrthych. Ger bron Duw yng Nghrist yr ydym yn llefaru: a'r oll, anwyliaid, er mwyn eich adeiladaeth chwi. Canys yr wyf yn ofni, rhag mewn un modd, pan ddelwyf, i mi eich cael nid fel y dymunwn, a minnau i'm cael gennych chwithau yn gyfryw ag na ddymunech chwi: rhag mewn un modd fod cynnen, eiddigedd, llidiau, ymrysonnau, enllibiadau, ensyniadau, ymchwyddiadau, terfysgau: rhag, pan ddelwyf drachefn, fy narostwng gan fy Nuw yn eich gŵydd, a galaru o honof am lawer ydynt wedi pechu eisoes, ac nad edifarhasant am yr aflendid a'r godineb a'r anlladrwydd a wnaethant. Hon yw y drydedd waith yr ydwyf yn dyfod attoch. Yng ngenau dau dyst neu dri y sefydlir pob gair. Rhag‐ddywedais ac yr wyf yn rhag‐ddywedyd, fel pan yn bresennol yr ail waith, ac yr awrhon yn absennol, wrth y rhai a bechasant eisoes, ac wrth y lleill oll, os deuaf drachefn, nad arbedaf: gan eich bod yn ceisio prawf o'r Crist sydd yn llefaru ynof, yr hwn tuag attoch chwi nid yw wan, eithr sydd nerthol yn eich mysg; canys croeshoeliwyd ef yn wir trwy wendid, eithr byw y mae trwy allu Duw. Canys ninnau hefyd ydym weiniaid ynddo ef, eithr byw fyddwn gydag ef trwy allu Duw tuag attoch chwi. Profwch eich hunain a ydych yn y ffydd: gwnewch brawf o honoch eich hunain: neu oni lawn adnabyddwch eich hunain fod Iesu Grist ynoch chwi? oddieithr yn wir eich bod yn annghymmeradwy. Ond yr wyf yn gobeithio y gwybyddwch nad ydym ni yn annghymmeradwy. Ac yr ydym yn gweddio ar Dduw na wneloch ddim sydd ddrwg; nid fel yr ymddangosom ni yn gymmeradwy, ond fel y gwneloch chwi yr hyn sydd iawn, er i ni fod fel yn annghymmeradwy. Canys ni allwn ni ddim yn erbyn y gwirionedd, eithr dros y gwirionedd. Canys llawenychwn pan fyddom ni yn weiniaid a chwithau yn gryfion; hyn hefyd yr ydym yn gweddio am dano, sef eich perffeithiad chwi. O herwydd hyn, a myfi yn absennol, yr wyf yn ysgrifennu y pethau hyn, fel pan fyddwyf yn bresennol, nad ymddygaf yn llym yn ol yr awdurdod a roddodd yr Arglwydd i mi er adeiladaeth, ac nid er tynnu i lawr. Bellach, frodyr, byddwch wych: byddwch berffaith: dyddaner chwi: syniwch yr un peth: byddwch heddychol: a Duw y cariad a'r heddwch fyddo gyda chwi. Annerchwch eich gilydd â chusan sanctaidd: Y mae yr holl saint yn eich annerch. Gras yr Arglwydd Iesu Grist, a chariad Duw, a chymdeithas yr Yspryd Glân, a fyddo gyda chwi oll. Paul, Apostol — nid oddiwrth ddynion, na chwaith trwy ddyn, ond trwy Iesu Grist a Duw Dâd, yr Hwn a'i cyfododd Ef o feirw — a'r holl frodyr sydd gyda mi, at eglwysi Galatia: Gras i chwi a thangnefedd oddiwrth Dduw Dâd a'n Harglwydd Iesu Grist, yr Hwn a roddes ei Hun am ein pechodau, fel y'n gwaredai ni allan o'r byd drwg presennol, yn ol ewyllys ein Duw a'n Tâd, i'r Hwn y byddo y gogoniant yn oes oesoedd. Amen. Rhyfeddu yr wyf eich bod mor fuan yn symmud oddiwrth yr Hwn a'ch galwodd yng ngras Crist i efengyl wahanol, yr hon nid yw arall: ond fod rhai yn eich cythryblu chwi, ac yn chwennych dattroi efengyl Crist. Eithr pe bai hyd y nod i nyni neu angel o'r nef efengylu i chwi amgen na'r hyn a efengylasom i chwi, bydded felldigedig. Megys y dywedasom o'r blaen, yr wyf hefyd yn awr drachefn yn dywedyd, Os oes neb yn efengylu i chwi amgen na'r hyn a dderbyniasoch, bydded felldigedig. Canys yn awr ai am ennill ffafr dynion yr wyf, neu ynte Duw? A ydwyf yn ceisio boddloni dynion? Os hyd yn hyn y byddwn yn boddloni dynion, ni fyddwn was i Grist. Canys yr wyf yn hysbysu i chwi, frodyr, am yr efengyl a bregethwyd gennyf fi, nad ydyw yn ol dyn. Canys nid gan ddyn y derbyniais i hi, nac y'm dysgwyd, ond trwy ddadguddiad Iesu Grist. Canys chwi a glywsoch am fy ymarweddiad gynt mewn Iuddewaeth, i mi tros fesur erlid eglwys Dduw a'i hanrheithio hi; a myned rhagof mewn Iuddewaeth tuhwnt i lawer o'm cyfoedion yn fy nghenedl, gan fod o'r dechreu yn fwy gorselog tros draddodiadau fy nhadau. Ond pan welodd Duw yn dda, yr hwn a'm neillduodd o'm genedigaeth, ac a'm galwodd trwy ei ras, i ddadguddio ei Fab ynof fi, fel y pregethwn Ef ym mhlith y cenhedloedd, yn y fan nid ymgynghorais â chig a gwaed; ac nid aethum ymaith i fyny i Jerusalem at y rhai oeddynt o'm blaen i yn apostolion, eithr aethum ymaith i Arabia; a thrachefn y dychwelais i Damascus. Yna ar ol tair blynedd aethum i fyny i Jerusalem i ymweled a Cephas, ac arhosais gydag ef bymtheng niwrnod; eithr neb arall o'r apostolion nis gwelais, oddieithr Iago brawd yr Arglwydd. A'r pethau yr wyf yn eu hysgrifennu attoch, wele, ger bron Duw, nid wyf yn dywedyd celwydd. Wedi hynny daethum i ororau Syria a Cilicia; ac yr oeddwn yn anadnabyddus yn bersonnol i eglwysi Judea, y rhai oeddynt yng Nghrist; ond yn unig yr oeddynt yn clywed: Yr hwn oedd gynt, yn ein herlid, sydd yn awr yn pregethu y Ffydd yr oedd efe gynt yn ei hanrheithio; a hwy a ogoneddasant Dduw ynof fi. Gwedi hynny, wedi yspaid pedair blynedd‐ar‐ddeg, yr aethum drachefn i fyny i Jerusalem gyda Barnabas, gan gymmeryd Titus hefyd gyda mi. Ac aethum i fyny yn ol dadguddiad, a gosodais o'u blaen yr efengyl yr wyf yn ei phregethu ym mhlith y Cenhedloedd, ond yn gyfrinachol i'r rhai mewn cyfrif, rhag mewn un modd y rhedwn neu y rhedais yn ofer. Eithr hyd y nod Titus, yr hwn oedd gyda mi, ac yntau yn Roegwr, ni orfodwyd i enwaedu arno: eithr hynny o herwydd y gau‐frodyr a ddygwyd i mewn yn llechwraidd, y rhai a ddaethant i mewn yn ddirgel i yspio ein rhyddid, yr hwn sydd gennym yng Nghrist Iesu, fel y'n dygent i gaethiwed: i'r rhai ni roisom ffordd mewn ymostyngiad, naddo, am awr, fel yr arhosai gwirionedd yr efengyl gyda chwi. Ond oddiwrth y rhai mewn cyfrif eu bod yn rhywbeth (pa beth bynnag oeddynt, ni wna ddim gwahaniaeth i mi, nid yw Duw yn derbyn wyneb dyn), canys y rhai mewn cyfrif ni chyfranasant ddim i mi: eithr yn y gwrthwyneb, pan welsant ddarfod ymddiried i mi am efengyl y dienwaediad, megys am efengyl yr enwaediad i Petr (canys yr Hwn a weithiodd yn Petr er apostolaeth yr enwaediad, a weithiodd ynof finnau hefyd tuag at y Cenhedloedd); a phan wybu Iago a Cephas ac Ioan, y rhai a gyfrifid yn golofnau, y gras a roddwyd i mi, hwy a roddasant i mi ac i Barnabas ddeheu‐ddwylaw cymdeithas, fel yr elem ni at y cenhedloedd, a hwythau at yr enwaediad. Yn unig dymunent ar i ni gofio y tlodion, yr hyn beth yr oeddwn hefyd yn awyddus i wneyd. A phan ddaeth Cephas i Antioch, mi a'i gwrthwynebais ef yn ei wyneb, canys yr oedd yn gondemniedig. Oblegyd cyn dyfod rhai oddiwrth Iago, efe a fwyttâodd gyda'r Cenhedloedd; ond pan ddaethant, efe a dynnodd yn ol ac a ymwahanodd, gan ofni y rhai oedd o'r enwaediad. A chydag ef hefyd y cyd‐ragrithiodd y lleill o'r Iuddewon, fel y dygwyd ymaith Barnabas hefyd â'u rhagrith hwy. Eithr pan welais i nad oeddynt yn iawn‐droedio yn ol gwirionedd yr efengyl, dywedais wrth Cephas yn eu gŵydd hwynt oll, Os wyt ti, a thi yn Iuddew, yn byw fel y Cenhedloedd, ac nid fel yr Iuddewon, pa fodd yr wyt yn dirgymhell y Cenhedloedd i fyw fel Iuddewon? Nyni wrth naturiaeth ydym Iuddewon, ac nid yn bechaduriaid o'r Cenhedloedd; ond yn gwybod na chyfiawnheir dyn gan weithredoedd deddf, ond trwy ffydd yng Nghrist Iesu; nyni hefyd a gredasom yng Nghrist Iesu, fel y'n cyfiawnheid trwy ffydd yng Nghrist ac nid trwy weithredoedd deddf; oblegyd ni chyfiawnheir un cnawd trwy weithredoedd deddf. Eithr os, tra yn ceisio cael ein cyfiawnhâu yng Nghrist, y'n caed ni ein hunain yn bechaduriaid, a ydyw Crist gan hynny yn weinidog pechod? Na atto Duw. Canys os wyf fi yn adeiladu drachefn y pethau a dynnais i lawr, yr wyf yn profi fy hun yn droseddwr. Canys myfi trwy ddeddf fum farw i ddeddf, fel y byddwn fyw i Dduw. Yr wyf wedi fy nghroeshoelio gyda Christ; ac nid myfi mwyach sydd yn byw, ond Crist sydd yn byw ynof fi; a'r hyn yn awr yr wyf yn ei fyw yn y cnawd, yr wyf yn ei fyw mewn ffydd, yr hon sydd ym Mab Duw, yr Hwn a'm carodd ac a'i rhoddes ei Hun i fyny drosof. Nid wyf yn dirymmu gras Duw; canys os trwy ddeddf y mae cyfiawnder, yna y bu Crist farw yn ddianghenrhaid. O Galatiaid anneallus, pwy a'ch llygad‐dynnodd chwi, i'r rhai, o flaen eich llygaid, y portreiadwyd Iesu Grist yn groeshoeliedig? Hyn yn unig a cwyllysiaf ei ddysgu gennych: Ai trwy weithredoedd deddf y derbyniasoch yr Yspryd, neu trwy wrandawiad ffydd? A ydych chwi mor anneallus? wedi dechreu yn yr Yspryd, ai yn awr yn y cnawd y'ch perffeithir? A ddyoddefasoch gymmaint o bethau yn ofer? os hefyd yn ofer. Yr hwn gan hynny sydd yn eich cyflenwi chwi â'r Yspryd, ac yn effeithio galluoedd gwyrthiol ynoch, ai o weithredoedd deddf neu o wrandawiad ffydd y mae? Megys y credodd Abraham Dduw, ac y cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder. Yr ydych yn canfod gan hynny mai y rhai sydd o ffydd, y rhai hynny yw meibion Abraham. A'r Ysgrythyr, yn rhagweled mai trwy ffydd y cyfiawnhâi Duw y cenhedloedd, a rag‐efengylodd i Abraham, Ynot ti y bendithir yr holl genhedloedd. Felly y rhai sydd o ffydd a fendithir gydag Abraham ffyddlawn. Canys cynnifer ag y sydd o weithredoedd deddf, dan felldith y maent, canys y mae yn ysgrifenedig, Melldigedig yw pob un nad yw yn aros yn yr holl bethau sydd ysgrifenedig yn Llyfr y Ddeddf, i'w gwneuthur hwynt; ac na chyfiawnheir neb trwy ddeddf ger bron Duw, eglur yw; canys, Y cyfiawn a fydd byw trwy ffydd; a'r Ddeddf nid yw o ffydd, eithr, Yr hwn sydd yn gwneuthur y pethau hyn a fydd byw ynddynt. Crist a'n llwyr‐brynodd ni o felldith y Ddeddf, gan ei wneuthur yn felldith trosom: canys y mae yn ysgrifenedig, Melldigedig yw pob un sydd ynghrog ar bren; fel y delai i'r Cenhedloedd fendith Abraham yn Iesu Grist, fel y derbyniem addewid yr Yspryd trwy ffydd. Frodyr, yn ol dull dynion yr wyf yn dywedyd: Er na byddo ond cyfammod dyn, wedi ei gadarnhau, nid yw neb yn ei ddirymmu neu yn ychwanegu atto. Yn awr i Abraham y llefarwyd yr addewidion, ac i'w hâd. Ni ddywed, Ac i hâdau, fel am lawer, eithr fel am un, Ac i'th hâd, yr hwn yw Crist. A hyn yr wyf yn ei ddywedyd: Cyfammod a rag‐gadarnhawyd gan Dduw, nid yw y Ddeddf, yr hon a ddaeth bedwar cant a deg‐ar‐hugain o flynyddoedd wedi hyn, yn ei ddirymmu, fel ag i wneuthur yr addewid yn ddieffaith. Canys os o ddeddf y mae yr etifeddiaeth, nid yw mwyach o addewid; ond Duw a'i rhad‐roddodd i Abraham trwy addewid. Pa beth gan hynny yw y Ddeddf? Ychwanegwyd hi oblegyd troseddau, hyd oni ddeuai yr hâd i'r hwn y mae yr addewid wedi ei gwneuthur, wedi ei hordeinio trwy angelion trwy law cyfryngwr. Yn awr nid yw y cyfryngwr yn gyfryngwr i un; ond Duw sydd un. A yw y Ddeddf gan hynny yn erbyn addewidion Duw? Na atto Duw. Canys pe rhoddasid deddf yn gallu bywhâu, yn wir o ddeddf y buasai cyfiawnder. Eithr cyd‐gauodd yr Ysgrythyr bob peth dan bechod, fel y rhoddid yr addewid a ddaw o ffydd Crist Iesu i'r rhai sydd yn credu. Eithr cyn dyfod ffydd, nyni a gadwyd mewn gwarchodaeth dan ddeddf, wedi ein cyd‐gau i fyny i'r ffydd oedd ar gael ei dadguddio. Fel ag y mae y Ddeddf wedi bod ein hathraw i'n harwain at Grist, fel y'n cyfiawnheid trwy ffydd. Eithr wedi dyfod ffydd, nid ydym mwyach dan athraw. Canys chwi oll ydych feibion Duw, trwy ffydd sydd yng Nghrist Iesu; canys cynnifer o honoch a fedyddiwyd i Grist a wisgasoch Grist. Nid oes nac Iuddew na Groegwr, nid oes na chaeth na rhydd, nid oes na gwrryw a benyw; canys chwi oll ydych un yng Nghrist Iesu. Ac os eiddo Crist ydych, yna hâd Abraham ydych, etifeddion yn ol addewid. Ond yr wyf yn dywedyd, am gymmaint o amser ag y mae yr etifedd yn blentyn, nid oes dim gwahaniaeth rhyngddo a chaethwas, er ei fod yn arglwydd ar y cwbl; eithr y mae efe dan warcheidwaid a goruchwylwyr hyd amser pennodedig y tâd. Felly ninnau hefyd, pan oeddym blant, a gedwid dan wyddorion y byd. Ond pan ddaeth cyflawnder yr amser, Duw a ddanfonodd allan ei Fab, wedi ei eni o wraig, wedi ei eni dan ddeddf, fel y prynnai y rhai oeddent dan ddeddf, fel y derbyniem y mabwysiad. Ac o herwydd eich bod yn feibion, Duw a anfonodd allan Yspryd ei Fab i'n calonnau ni, yn llefain, Abba, Dâd. Felly nid wyt mwyach yn gaethwas, eithr yn fab; ac os mab, yna etifedd trwy Dduw. Eithr yn wir y pryd hwnnw, ac heb adnabod Duw, yr oeddech mewn caeth‐wasanaeth i'r rhai wrth naturiaeth nad ydynt dduwiau: ond yn awr, a chwi wedi dyfod i adnabod Duw, neu, yn hytrach, yn cael eich adnabod gan Dduw, pa fodd y trowch yn ol drachefn at y wyddorion gwan a thlodion, i'r rhai yr ydych yn dymuno drachefn o'r newydd bod mewn caeth‐wasanaeth? Yr ydych yn cadw yn fanwl ddyddiau, a misoedd, a thymhorau, a blynyddoedd. Mae arnaf ofn am danoch, rhag mewn un modd, fy mod wedi llafurio yn ofer mewn perthynas i chwi. Dymunaf arnoch, frodyr, byddwch fel myfi; canys yr wyf fi fel chwi. Mewn dim ni wnaethoch gam â mi; eithr gwyddoch mai o herwydd gwendid y cnawd y pregethais yr efengyl i chwi y tro cyntaf; a'ch profedigaeth chwi yn fy nghnawd ni ddiystyrasoch, ac ni wrthodasoch; eithr chwi a'm derbyniasoch megys angel Duw, megys Crist Iesu. Pa le gan hynny y mae eich dedwyddiad o honoch eich hunain? canys tystio yr wyf i chwi, pe yn bosibl, y tynnasech allan eich llygaid ac a'u rhoisech i mi. Felly a wyf wedi myned yn elyn i chwi, wrth ddywedyd y gwir i chwi? Y maent yn eich ceisio yn selog, ond nid yn onest; eithr chwennych y maent eich cau chwi allan, fel y byddo i chwi eu ceisio hwy yn selog. Eithr da yw cael ein ceisio yn selog mewn peth da yn wastadol, ac nid yn unig tra fyddwyf bresennol gyda chwi, fy mhlant bychain, y rhai yr wyf yn esgor arnoch drachefn, hyd oni ffurfier Crist ynoch. Ewyllysiwn fod yn bresennol yn awr gyda chwi a newid fy llais, canys yr wyf mewn dyryswch yn eich cylch. Dywedwch i mi, y rhai ydych yn chwennych bod dan ddeddf, ai ni wrandewch ar y ddeddf? Canys y mae yn ysgrifenedig fod gan Abraham ddau fab, un o'r wasanaeth‐ferch, ac un o'r wraig rydd. Eithr yr hwn o'r wasanaeth‐ferch a aned yn ol y cnawd, a'r hwn o'r wraig rydd trwy addewid. Yr hyn bethau ydynt ffugyrol; canys y gwragedd hyn ydynt ddau gyfammod: un o fynydd Sinai, yn dwyn plant i gaethiwed, yr hon yw Hagar. A'r Hagar hon yw mynydd Sinai yn Arabia, ac y mae yn cyfatteb i'r Jerusalem sydd yn awr, canys y mae mewn caethiwed gyda'i phlant. Ond y Jerusalem uchod sydd rydd, yr hon yw ein mam ni. Canys ysgrifenedig yw:— Llawenycha, y diffrwyth, yr hon nid wyt yn dwyn plant; Tor allan a llefa, yr hon nid wyt yn esgor; canys i'r unig y mae llawer mwy o blant nag i'r hon y mae ganddi wr. A chwychwi, frodyr, megys Isaac, ydych blant addewid. Eithr megys y pryd hwnnw, yr hwn a aned yn ol y cnawd a erlidiai yr hwn a aned yn ol yr Yspryd, felly hefyd yn awr. Eithr pa beth a ddywed yr Ysgrythyr? Bwrw allan y wasanaeth‐ferch a'i mab: canys ni chaiff mab y wasanaeth‐ferch etifeddu gyda mab y wraig rydd. Felly, frodyr, nid plant y wasanaeth‐ferch ydym, ond y wraig rydd. I ryddid y rhyddhâodd Crist ni: sefwch gan hynny yn gadarn, ac na ddalier chwi drachefn dan iau caethiwed. Wele, myfi Paul wyf yn dywedyd wrthych, Os mynnwch enwaediad, ni leshâ Crist ddim i chwi. Ac yr wyf yn tystio drachefn i bob dyn ar a enwaedir, ei fod yn ddyledwr i wneuthur yr holl Ddeddf. Chwi a wnaed yn ddirym oddiwrth Grist, y rhai ydych yn ymgyfiawnhâu trwy ddeddf; chwi a syrthiasoch oddiwrth ras. Canys nyni trwy yr Yspryd o ffydd a ddysgwyliwn yn daer obaith cyfiawnder. Canys yng Nghrist Iesu ni ddichon enwaediad ddim, na dienwaediad, ond ffydd yn gweithio trwy gariad. Yr oeddech yn rhedeg yn dda: pwy a'ch rhwystrodd, fel nad ufuddhâech i'r gwirionedd? Ni ddaeth y darbwylliad hwn oddiwrth yr Hwn sydd yn eich galw chwi. Y mae ychydig lefain yn lefeinio yr holl does. Y mae gennyf hyder ynoch chwi yn yr Arglwydd, na syniwch chwi ddim arall: ond yr hwn sydd yn eich cythryblu a ddwg ei farnedigaeth, pwy bynnag fyddo. Ond myfi, frodyr, os enwaediad etto yr wyf yn ei bregethu, paham y'm herlidir etto? yna y mae tramgwydd y Groes wedi ei ddiddymmu. Mi a fynnwn, ië, pe byddai i'r rhai sydd yn eich ansefydlu hyd y nod dorri eu hunain ymaith. Canys i ryddid y'ch galwyd chwi, frodyr; yn unig na ddefnyddiwch eich rhyddid yn achlysur i'r cnawd; ond trwy gariad byddwch weision i'ch gilydd. Canys yr holl Ddeddf a gyflawnir mewn un gair, yn hwn, Câr dy gymmydog fel ti dy hun. Eithr os cnipgnoi a thraflyngcu eich gilydd yr ydych, gwyliwch na ddyfethir chwi gan eich gilydd. Ond meddaf, Rhodiwch wrth yr Yspryd, ac na chyflawnwch drachwant y cnawd. Canys y mae y cnawd yn chwennych yn erbyn yr Yspryd, a'r Yspryd yn erbyn y cnawd; canys y rhai hyn ydynt wrthwynebol i'w gilydd, fel na wneloch y pethau a ewyllysioch. Ond os gan yr Yspryd y'ch arweinir, nid ydych dan ddeddf. Ond amlwg yw gweithredoedd y cnawd: y cyfryw ydynt,, godineb, aflendid, anlladrwydd, delw‐addoliaeth, dewiniaeth, gelyniaethau, cynnen, eiddigedd, llidiau, brad‐gynllwynion, ymraniadau, pleidiau, cenfigennau, [llofruddiaethau ], meddwdod, cyfeddach, a chyffelyb i'r rhai hyn: am y rhai yr wyf yn rhag‐ddywedyd i chwi, megys y rhag‐ddywedais, y rhai sydd yn gwneuthur y cyfryw bethau ni chänt etifeddu Teyrnas Dduw. Eithr ffrwyth yr Yspryd yw cariad, llawenydd, tangnefedd, hir‐ymaros, hynawsedd, daioni, ffyddlonder, addfwynder, hunan‐reolaeth: yn erbyn y cyfryw nid oes deddf. A'r rhai sydd o Grist Iesu a groeshoeliasant y cnawd, ynghyd a'i wyniau a'i chwantau. Os byw ydym wrth yr Yspryd, wrth yr Yspryd hefyd rhodiwn. Na fyddwn wag‐ogoneddgar, gan gythruddo ein gilydd, gan genfigennu wrth ein gilydd. Frodyr, hyd y nod os delir un yn ddiarwybod mewn rhyw drosedd, chwychwi y rhai sydd ysprydol, adferwch y cyfryw un mewn yspryd addfwynder; gan edrych attat dy hun, rhag dy demtio dithau hefyd. Dygwch feichiau eich gilydd, ac felly y llawn‐gyflawnwch ddeddf Crist. Canys os tybia neb ei fod yn rhywbeth, pan nad yw ddim, y mae yn twyllo ei feddwl ei hun. Eithr profed pob un ei waith ei hun, ac yna y bydd iddo ei ymffrost mewn perthynas iddo ef ei hun yn unig, ac nid mewn perthynas i un arall; canys pob un a ddwg ei faich ei hun. A chyfranned yr hwn a addysgir yn y gair â'r hwn sydd yn ei addysgu ym mhob peth da. Na thwyller chwi; ni watworir Duw; canys pa beth bynnag a hauo dyn, hynny hefyd a fêd efe. Canys yr hwn sydd yn hau i'w gnawd ei hun, o'r cnawd a fêd lygredigaeth; eithr yr hwn sydd yn hau i'r Yspryd, o'r Yspryd a fêd fywyd tragywyddol. Ac mewn gwneuthur daioni na ddïgalonwn: canys yn ei iawn bryd y medwn, os heb ddiffygio. Gan hynny felly, fel y mae gennym amser cyfaddas, gweithredwn yr hyn sydd dda tuag at bawb, ond yn enwedig tuag at y rhai o deulu y ffydd. Gwelwch a pha fath lythyrennau breision yr ysgrifennais attoch chwi â'm llaw fy hun. Cynnifer ag sydd yn ewyllysio gwneuthur ymddangosiad ffafriol yn y cnawd, y rhai hyn sydd yn eich gorfodi i'ch enwaedu, yn unig fel nad erlidier hwy am Groes Crist. Canys nid yw hyd y nod hwy y rhai a enwaedir yn cadw y ddeddf eu hunain, ond ewyllysio y maent enwaedu arnoch chwi, fel yr ymffrostiont yn eich cnawd chwi. Eithr na atto Duw i mi ymffrostio ond yng Nghroes ein Harglwydd Iesu Grist, trwy yr hon y mae y byd wedi ei groeshoelio i mi, a minnau i'r byd. Canys enwaediad nid yw ddim, na dienwaediad, ond creadur newydd. A chynnifer ag a rodiant yn ol y rheol hon, tangnefedd arnynt a thrugaredd, ac ar Israel Duw. O hyn allan na fydded i neb beri blinderau i mi; canys myfi wyf yn dwyn nodau yr Iesu yn fy nghorph. Gras ein Harglwydd Iesu Grist a fyddo gyda'ch yspryd chwi, frodyr. Amen. Paul, Apostol Crist Iesu trwy ewyllys Duw, at y saint sydd [yn Ephesus ] a'r ffyddloniaid yng Nghrist Iesu: Gras i chwi a thangnefedd oddiwrth Dduw ein Tâd a'r Arglwydd Iesu Grist. Bendigedig fyddo Duw a Thâd ein Harglwydd Iesu Grist, yr hwn a'n bendithiodd ni â phob bendith ysprydol yn y nefolion leoedd yng Nghrist; fel yr etholodd ni ynddo Ef, cyn seiliad y byd, ar fod o honom yn sanctaidd ac yn ddifeius ger ei fron Ef: wedi iddo, mewn cariad, ein rhagordeinio i fabwysiad trwy Iesu Grist iddo ei hun, yn ol boddlonrwydd ei ewyllys, er mawl gogoniant ei ras, yr hwn a rad‐roddodd efe i ni, yn yr Anwylyd, yn yr hwn y mae gennym brynedigaeth trwy ei waed, maddeuant o'n troseddau, yn ol cyfoeth ei ras, yr hwn a wnaeth Efe ymhelaethu tuag attom ni, wedi iddo, ym mhob doethineb a deall, hysbysu i ni ddirgelwch ei ewyllys, yn ol ei foddlonrwydd, yr hwn a arfaethodd Efe ynddo ei hun, mewn perthynas i gyfundrefn cyflawnder yr amseroedd, i grynhoi ynghyd drachefn bob peth yng Nghrist, y rhai yn y nefoedd, a'r rhai ar y ddaear, ynddo Ef, yn yr hwn hefyd y'n gwnaed yn etifeddiaeth, wedi ein rhag‐ordeinio yn ol arfaeth yr hwn sydd yn gweithio pob peth yn ol cynghor ei ewyllys, fel y byddem er mawl ei ogoniant, y rhai a obeithiasom o'r blaen yng Nghrist; yn yr hwn chwithau hefyd, wedi clywed gair y gwirionedd, Efengyl eich iachawdwriaeth, — yn yr hwn, wedi credu o honoch hefyd, y'ch seliwyd âg Yspryd Glân yr Addewid, yr hwn yw ernes ein hetifeddiaeth hyd brynedigaeth ei berchenogaeth, i fawl ei ogoniant. O herwydd hyn, myfi hefyd, wedi clywed am y ffydd yn yr Arglwydd Iesu yr hon sydd yn eich plith, [a'ch cariad] tuag at yr holl saint, nid wyf yn peidio a diolch drosoch, gan wneuthur coffa yn fy ngweddiau, ar i Dduw ein Harglwydd Iesu Grist, Tâd y Gogoniant, roddi i chwi Yspryd doethineb a dadguddiad, mewn llawn‐adnabyddiaeth o hono ef; wedi eich goleuo o ran llygaid eich calon, fel y gwypoch beth yw gobaith ei alwedigaeth ef, beth yw golud gogoniant ei etifeddiaeth yn y saint, a pheth yw rhagorol fawredd ei allu tuag attom ni sydd yn credu, yn ol gweithrediad cadernid ei nerth ef, yr hwn a weithredodd Efe yng Nghrist, gan ei gyfodi o feirw a'i osod i eistedd ar ei ddeheulaw yn y nefolion leoedd, goruwch pob llywodraeth ac awdurdod a gallu ac arglwyddiaeth, a phob enw a enwir, nid yn unig yn y byd hwn, ond hefyd yn yr hwn a ddaw; ac a ddarostyngodd bob peth dan ei draed ef ac a'i rhoddodd ef yn Ben dros bob peth i'r Eglwys, yr hon yw ei Gorph ef, cyflawnder yr hwn sydd yn llenwi oll ag oll. A chwithau, a chwi yn feirw trwy eich camweddau a'ch pechodau, yn y rhai y rhodiasoch gynt yn ol rhediad y byd hwn, yn ol tywysog awdurdod yr awyr, yr yspryd sydd yn awr yn gweithio ym meibion anufudd‐dod, ym mhlith y rhai yr oeddym ninnau oll hefyd gynt yn byw yn chwantau ein cnawd, gan wneuthur ewyllysiau y cnawd a'r meddyliau; ac yr oeddym wrth naturiaeth yn blant digofaint, megys eraill; eithr Duw, gan fod yn gyfoethog mewn trugaredd, o herwydd ei gariad amryfal â'r hwn y carodd efe nyni, hyd y nod pan yn feirw trwy gamweddau, a'n cyd‐fywhâodd gyda Christ (trwy ras yr ydych wedi eich cadw), ac a'n cyd‐gyfododd ac a'n gosododd i gyd‐eistedd yn y nefolion leoedd yng Nghrist Iesu, fel y dangosai yn yr oesoedd a ddeuai ragorol olud ei ras, mewn cymmwynasgarwch tuag attom ni yng Nghrist Iesu. Canys trwy ras yr ydych yn gadwedig, trwy ffydd, a hynny nid o honoch eich hunain: rhodd Duw ydyw; nid o weithredoedd, fel nad ymffrostiai neb. Canys ei waith ef ydym, wedi ein creu yng Nghrist Iesu i weithredoedd da, y rhai a rag‐ddarparodd Duw, fel y rhodiem ynddynt. Am hynny cofiwch, a chwi gynt yn genhedloedd yn y cnawd — y rhai a elwir yn Ddienwaediad gan yr hyn a elwir yn Enwaediad, o waith llaw yn y cnawd — eich bod y pryd hwnnw ar wahân oddiwrth Grist, yn ddyeithr i wladwriaeth Israel, ac yn estroniaid oddiwrth Gyfammodau yr Addewid, heb obaith gennych, ac heb Dduw yn y byd; ond yn awr yng Nghrist Iesu, chwychwi, y rhai oeddych gynt ym mhell, a wnaed yn agos yng ngwaed Crist. Canys efe yw ein Tangnefedd, yr hwn a wnaeth y ddau yn un, ac a dorrodd i lawr ganol‐fur y gwahaniaeth, gan ddirymmu yn ei gnawd ei hun yr elyniaeth, sef deddf y gorchymynion mewn ordeiniadau, fel y creai y ddau ynddo ei hun yn un dyn newydd, gan wneuthur heddwch, ac y cymmodai y ddau â Duw yn un corph, trwy y Groes, wedi lladd yr elyniaeth trwyddi hi. A chan ddyfod, efe a efengylodd dangnefedd i chwi y rhai pell, a thangnefedd i'r rhai agos; canys trwyddo ef y mae i ni ein dau ddyfodfa mewn un Yspryd at y Tâd. Felly ynte nid ydych mwyach yn ddyeithriaid a dyfodiaid, ond yr ydych yn gyd‐ddinasyddion â'r saint, ac yn deulu Duw, wedi eich goruwch-adeiladu ar sail yr Apostolion a'r Prophwydi, a Christ Iesu ei hun yn ben congl‐faen, yn yr hwn y mae pob adeilad, wedi ei gymhwys gyd‐gyssylltu, yn cynnyddu i gyssegr sanctaidd yn yr Arglwydd; yn yr hwn y cyd-adeiledir chwithau hefyd yn breswylfod i Dduw yn ei Yspryd. Ar gyfrif hyn myfi, Paul, carcharor Crist Iesu ar eich rhan chwi y Cenhedloedd, os clywsoch yn wir am oruchwyliaeth gras Duw yr hwn a roddwyd i mi tuag attoch chwi, mai yn ol dadguddiad y gwnaed yn hyspys i mi y dirgelwch (megys yr ysgrifennais o'r blaen yn fyr, wrth yr hyn y gellwch, pan ddarllenoch, ganfod fy neall yn nirgelwch Crist), yr hwn mewn cenedlaethau eraill ni eglurwyd i feibion dynion, fel yn awr y dadguddiwyd ef i'w sanctaidd Apostolion a'i Brophwydi yn yr Yspryd, fod y Cenhedloedd yn gyd‐etifeddion ac yn gyd‐aelodau o'r corph, ac yn gyd‐gyfrannogion o'r Addewid yng Nghrist Iesu, trwy yr Efengyl, i'r hon y'm gwnaed yn weinidog yn ol rhodd gras Duw, yr hwn a roddwyd i mi yn ol gweithrediad ei allu ef; i mi, yn llai na'r lleiaf o'r holl saint, y rhoddwyd y gras hwn, i efengylu i'r Cenhedloedd anolrheiniadwy olud Crist; a rhoi goleu i bawb ar beth yw goruchwyliaeth y dirgelwch a guddiwyd oddiwrth yr oesau yn Nuw, yr hwn a greodd bob peth, fel yr hyspysid yn awr i'r llywodraethau a'r awdurdodau yn y nefolion leoedd, trwy yr eglwys, fawr‐amryliw ddoethineb Duw, yn ol yr arfaeth dragywyddol yr hon a wnaeth efe yng Nghrist Iesu ein Harglwydd, yn yr hwn y mae i ni hyfdra a dyfodfa mewn hyder trwy ffydd ynddo ef. O herwydd paham yr wyf yn deisyf na lwfrhâoch yng nghanol fy mlinderau drosoch, yr hyn yw eich gogoniant chwi. O herwydd hyn yr wyf yn plygu fy ngliniau at y Tâd, o'r hwn yr enwir pob teulu yn y nefoedd ac ar y ddaear, ar roddi o hono i chwi, yn ol golud ei ogoniant, fod yn gadarn trwy allu, trwy ei Yspryd yn y dyn oddimewn, ar i Grist drigo trwy ffydd yn eich calonnau, fel, wedi eich gwreiddio a'ch seilio mewn cariad, y byddoch lwyr‐alluog i amgyffred gyda'r holl saint beth yw y lled, a'r hyd, a'r uchder a'r dyfnder, a gwybod cariad Crist yr hwn sydd ymhell uwchlaw gwybodaeth, fel y'ch llanwer i fyny i gyflawnder Duw. Ac i'r hwn sydd alluog i wneuthur yn dra‐rhagorol, tu hwnt i bob peth a geisiwn neu a feddyliwn, yn ol y gallu sydd yn gweithredu ynom, iddo ef y byddo'r gogoniant yn yr eglwys ac yng Nghrist Iesu, i holl genedlaethau oes yr oesoedd. Amen. Deisyf arnoch gan hynny yr wyf fi, y carcharor yn yr Arglwydd, ar rodio o honoch yn deilwng o'r alwedigaeth â'r hon y'ch galwyd, gyda phob gostyngeiddrwydd ac addfwynder, gyda hir‐ymaros, gan oddef eich gilydd mewn cariad, gan fod yn ddyfal i gadw undeb yr Yspryd yn rhwymyn tangnefedd. Un corph sydd, ac un Yspryd, megys ag y'ch galwyd yn un gobaith eich galwedigaeth; un Arglwydd, un Ffydd, un Bedydd, un Duw a Thâd pawb, yr hwn sydd goruwch pawb, a thrwy bawb, ac ym mhawb. Eithr i bob un o honom y rhoed y gras yn ol mesur dawn Crist. O ganlyniad, y mae efe yn dywedyd: Pan esgynodd i'r uchelder, caethiwodd gaethiwed, A rhoddodd roddion i ddynion. Ond hyn: Esgynodd, beth yw oddieithr iddo ddisgyn hefyd i barthau isaf y ddaear? Yr hwn a ddisgynodd yw yr hwn hefyd a esgynodd goruwch yr holl nefoedd, fel y llanwai bob peth. Ac efe a roddes rai yn apostolion, a rhai yn brophwydi, a rhai yn efengylwyr, a rhai yn fugeiliaid ac yn athrawon, er perffeithiad y saint i waith gwasanaeth, i adeiladaeth Corph Crist, hyd oni chyrhaeddom oll i undeb ffydd a gwybodaeth Mab Duw, i ŵr perffaith, ac i fesur maintioli cyflawnder Crist; fel na byddom mwyach yn fabanod, yn cael ein taflu gan donnau a'n cludo amgylch ogylch gan bob gwynt athrawiaeth, gan hocced dynion, mewn cyfrwysdra, yn ol cynllwyn twyll; eithr gan fyw gwirionedd mewn cariad, y cynnyddom ym mhob peth iddo ef, yr hwn yw y Pen, Crist, o'r hwn y mae yr holl gorph, wedi ei gyd‐gyflunio a'i gyd‐gyssylltu trwy yr hyn y mae pob cymmal yn ei gyflenwi, yn ol gweithrediad, mewn mesur pob rhan unigol, yn gwneuthur cynnydd y corph i'w adeiladaeth ei hun mewn cariad. Hyn gan hynny yr wyf yn ei ddywedyd, ac yn ei dystiolaethu yn yr Arglwydd, na rodioch chwi mwyach fel y mae y Cenhedloedd hefyd yn rhodio, yn oferedd eu meddwl, wedi eu tywyllu yn eu deall, wedi ymddyeithrio oddiwrth fywyd Duw o herwydd yr anwybodaeth sydd ynddynt, o herwydd caledrwydd eu calon; y rhai, wedi colli pob teimlad, a roisant eu hunain i fyny i anlladrwydd, i wneuthur pob aflendid gyda gwancusrwydd. Eithr chwychwi, nid felly y dysgasoch Grist, (os, yn wir, y clywsoch chwi ef ac y'ch dysgwyd ynddo ef fel y mae Gwirionedd yn yr Iesu) sef, dodi o honoch oddiwrthych, mewn perthynas i'ch ymarweddiad gynt, yr hen ddyn, yr hwn sydd yn llygru yn ol chwantau Twyll, a'ch adnewyddu trwy yspryd eich meddwl, a gwisgo am danoch y dyn newydd, yr hwn yn ol delw Duw, a grewyd mewn cyfiawnder a sancteiddrwydd y Gwirionedd. Am hynny, gan ddodi ymaith gelwydd, lleferwch y gwir bob un wrth ei gymmydog, oblegyd aelodau ydym o'n gilydd. Digiwch ac na phechwch; na fachluded yr haul ar eich cythrudd, ac na roddwch le i Ddiafol. Yr hwn a ladratta, na ladrattâed mwyach, eithr yn hytrach llafuried, gan weithio â'i ddwylaw ei hun yr hyn sydd dda, fel y byddo ganddo beth i'w gyfrannu i'r hwn sydd mewn angen. Na ddeued unrhyw ymadrodd iselwael allan o'ch genau, eithr y cyfryw a fyddo dda er adeiladaeth fel bo'r angen, fel y rhoddo ras i'r gwrandawyr. Ac na thristêwch Yspryd Glân Duw, yn yr hwn y'ch seliwyd hyd ddydd prynedigaeth. Tynner ymaith oddiwrthych bob chwerwder, a llid, a dig, a dadwrdd, a chabledd, ynghyd â phob drygioni; a byddwch gymmwynasgar i'ch gilydd, yn dosturiol, gan faddeu i'ch gilydd, megys hefyd y maddeuodd Duw yng Nghrist Iesu i chwi. Byddwch gan hynny efelychwyr Duw, fel plant anwyl; a rhodiwch mewn cariad, megys hefyd y carodd Crist chwi, ac a draddododd ei hun trosoch yn offrwm ac yn aberth i Dduw, o arogl peraidd. Ond godineb a phob aflendid, neu drachwant, nac hyd y nod enwer yn eich plith, fel y gwedda i saint; nac anniweirdeb, na ffol‐siarad, neu goeg‐ddigrifwch, y rhai nid ydynt weddus; eithr yn hytrach rhoddi diolch. Canys gwybyddwch hyn, gan gydnabod nad oes i bob putteiniwr, neu aflan, neu un trachwantus, yr hwn sydd eilun‐addolwr, etifeddiaeth yn Nheyrnas Crist a Duw. Na thwylled neb chwi â geiriau ofer, canys oblegyd y pethauh yn y mae digofaint Duw yn dyfod ar feibion anufudd‐dod. Gan hynny na fyddwch gyfrannogion â hwynt. Canys yr oeddech chwi unwaith yn dywyllwch, ond yn awr goleuni ydych yn yr Arglwydd: rhodiwch fel plant y goleuni; (canys ffrwyth y goleuni sydd ym mhob daioni a chyfiawnder a gwirionedd;) gan brofi beth sydd gymmeradwy gan yr Arglwydd; ac na fydded i chwi gymdeithasu â gweithredoedd anffrwythlawn y tywyllwch, eithr yn hytrach dygwch hwynt i brawf; canys y mae yn gywilyddus hyd y nod adrodd y peth a wneir ganddynt yn ddirgel. Canys pob peth pan eu profir, a wneir yn amlwg gan y goleuni; canys pob peth a wneir yn amlwg, goleuni yw. O herwydd hyn y mae yn dywedyd, Deffro, yr hwn wyt yn cysgu, a chyfod oddiwrth y meirw, a Christ a lewyrcha arnat. Gan hynny edrychwch yn ofalus pa fodd y rhodioch, nid fel annoethion, ond fel doethion, gan brynnu yn llwyr yr amser, oblegyd y dyddiau sydd ddrwg. O herwydd hyn na fyddwch yn fyr o synwyr, eithr yn deall beth yw ewyllys yr Arglwydd. Ac na feddwer chwi gan win, yn yr hyn y mae afradlonedd, eithr llanwer chwi â'r Yspryd, gan lefaru wrth eich gilydd mewn salmau a hymnau ac odlau ysprydol, gan ganu a pher‐seinio â'ch calon i'r Arglwydd; gan dalu diolch yn wastadol am bob peth yn enw ein Harglwydd Iesu Grist i Dduw a'n Tâd, gan ymddarostwng i'ch gilydd yn ofn Crist. Y gwragedd, ymostyngwch i'ch gwŷr eich hunain megys i'r Arglwydd; canys y gwr yw pen y wraig, fel y mae Crist hefyd yn ben yr Eglwys, ac efe yw Iachawdwr y corph. Ond fel y mae yr eglwys yn ymddarostwng i Grist, felly hefyd bydded y gwragedd i'w gwŷr ym mhob peth. Y gwŷr, cerwch eich gwragedd megys hefyd y carodd Crist yr eglwys, ac a draddododd ei hun drosti, fel y sancteiddiai hi, gan ei glanhâu a'r olchfa ddwfr, trwy y gair, fel y cyflwynai efe ei hun iddo ei hun yr eglwys yn ogoneddus, heb arni na brycheuyn na chrychni na dim o'r cyfryw; eithr fel y byddai yn sanctaidd ac yn ddifeius. Felly y dylai y gwŷr garu eu gwragedd fel eu cyrph eu hunain. Yr hwn a garo ei wraig ei hun sydd yn ei garu ei hun; canys ni chashâodd neb erioed ei gnawd ei hun, eithr ei feithrin a'i fynwesu y mae, megys Crist hefyd yr eglwys, oblegyd aelodau ydym o'i gorph ef. O achos hyn y gâd dyn dâd a mam, ac y glŷn wrth ei wraig, a hwy a fyddant ill dau yn un cnawd. Y dirgelwch hwn sydd fawr: eithr dywedyd wyf am Grist a'r eglwys. Ar wahân a hyn, chwithau hefyd, un ac un, cared pob un ei wraig ei hun fel ef ei hun; ac edryched y wraig ar barchu o honi ei gwr. Y plant, ufuddhêwch i'ch rhieni yn yr Arglwydd, canys hyn sydd gyfiawn. Anrhydedda dy dâd a'th fam (yr hwn yw y gorchymyn cyntaf gydag addewid), fel y byddo yn dda i ti ac y byddi fyw yn hir ar y ddaear. A thadau, na ennynwch ddig eich plant, ond dygwch hwynt i fyny yn hyfforddiad a chynghor yr Arglwydd. Y gweision, ufuddhêwch i'ch meistriaid arnoch yn ol y cnawd, gydag ofn a dychryn, yn symlrwydd eich calon, megys i Grist; nid â llygad‐wasanaeth fel boddlonwyr dynion, ond fel gweision Crist yn gwneuthur ewyllys Duw o'r galon, gydag ewyllysgarwch yn gwasanaethu fel i'r Arglwydd ac nid i ddynion; gan wybod pa ddaioni bynnag a wnelo pob un, hynny a dderbyn efe yn ol oddiwrth yr Arglwydd, pa un bynnag ai caeth ai rhydd yw. A chwithau feistriaid, gwnewch yr un pethau tuag attynt hwy, gan roddi bygwth heibio, gan wybod fod eu Meistr hwy a chwithau yn y nefoedd, ac nid oes derbyn wyneb gydag ef. Yn ddiweddaf, ymgryfhêwch yn yr Arglwydd ac yng nghadernid ei nerth. Gwisgwch holl arfogaeth Duw, fel y galloch sefyll yn erbyn cynllwynion y Diafol; canys nid yw ein hymorchest ni yn erbyn gwaed a chnawd, ond yn erbyn y llywodraethau, yn erbyn yr awdurdodau, yn erbyn byd‐lywiawdwyr y tywyllwch hwn, yn erbyn lluoedd ysprydol drygioni yn y nefolion leoedd. Am hynny cymmerwch i fyny holl arfogaeth Duw, fel y galloch wrthsefyll yn y dydd drwg; ac wedi llawn‐wneuthur pob peth, sefyll. Sefwch gan hynny, wedi amgylchwregysu eich lwynau â gwirionedd, ac wedi gwisgo dwyfronneg cyfiawnder, ac wedi rhwymo dan eich traed sandalau parodrwydd efengyl y tangnefedd; yn yr oll cymmerwch i fyny darian y ffydd, â'r hon y gellwch ddiffoddi holl biccellau tanllyd yr Un Drwg. A chymmerwch helm yr iachawdwriaeth, a chleddyf yr Yspryd, yr hwn yw gair Duw; trwy foddion pob rhyw weddi a deisyfiad, yn gweddio ar bob achlysur yn yr Yspryd, ac yn gwylied gyda golwg ar hyn ym mhob dyfal‐bara a deisyfiad am yr holl saint; ac ar fy rhan innau, fel y rhodder i mi ymadrodd, trwy agoryd fy ngenau mewn hyfdra, i hyspysu dirgelwch yr Efengyl, dros yr hwn yr wyf yn llys‐gennad mewn cadwynau, fel am dano y llefarwn gyda hyfdra, fel y dylwn lefaru. Ond fel y gwypoch chwithau hefyd fy helynt, sut y mae arnaf, Tychicus, y brawd anwyl a'r gwas ffyddlawn yn yr Arglwydd, a hyspysa yr oll i chwi, yr hwn a ddanfonais attoch er mwyn hyn yma, fel y gwypoch ein helynt ac y dyddana efe eich calonnau. Tangnefedd i'r brodyr a chariad gyda ffydd oddiwrth Dduw Dâd a'r Arglwydd Iesu Grist. Gras fyddo gyda phawb sydd yn caru ein Harglwydd Iesu Grist mewn anllygredigaeth. Paul a Thimotheus, gweision Iesu Grist, at yr holl saint yng Nghrist Iesu y rhai sydd yn Philippi, gyda'r arolygwyr a'r diaconiaid: Gras i chwi a thangnefedd oddiwrth Dduw ein Tâd a'r Arglwydd Iesu Grist. Yr wyf yn diolch i'm Duw yn fy holl adgof am danoch yn barhaus ym mhob deisyfiad o'r eiddof drosoch chwi oll, gan wneuthur fy neisyfiad gyda llawenydd, am eich cydweithrediad mewn perthynas i'r efengyl, o'r dydd cyntaf hyd yn awr, gan fod yn hyderus yn yr un peth hyn: y bydd i'r hwn a ddechreuodd ynoch waith da ei orphen hyd ddydd Iesu Grist; fel y mae yn iawn i ni synied hyn am danoch oll, gan eich bod gennyf yn fy nghalon — yn fy rhwymau a hefyd yn fy amddiffyn a chadarnhâd yr efengyl — yn gyfrannogion â mi o'r gras hwn. Canys fy nhyst yw Duw, y modd yr wyf yn hiraethu am danoch oll yng nghalon Iesu Grist. A hyn yr wyf yn ei weddio, ar i'ch cariad ymhelaethu etto fwy‐fwy mewn gwybodaeth a phob dirnadaeth, fel y cymmeradwyoch y pethau rhagorol, fel y byddoch yn drylwyr a didramgwydd erbyn Dydd Crist, wedi eich llenwi â ffrwyth cyfiawnder, yr hwn sydd trwy Iesu Grist er gogoniant a moliant i Dduw. Ond ewyllysiwn i chwi wybod, frodyr, ddarfod i'm hamgylchiadau droi allan er llwyddiant i'r efengyl, fel y darfu i'm rhwymau ddyfod yn amlwg yng Nghrist yn yr holl Bretorium ac i'r lleill oll; a'r rhan fwyaf o'r brodyr, gan fod yn hyderus yn yr Arglwydd trwy fy rhwymau, ydynt fwy hyf o lawer i lefaru yn ddiofn Air Duw. Rhai yn wir o genfigen a chynnen, a rhai hefyd o ewyllys da, a bregethant Grist; rhai, yn wir, o gariad, gan wybod y'm gosodir er ymddiffyn yr efengyl; a rhai o bleidgarwch a bregethant Grist, nid o egwyddor bur, gan feddwl cyfodi blinder i'm rhwymau. Beth ynte? yn unig bod ym mhob modd, ai mewn rhith neu mewn gwirionedd, Crist yn cael ei gyhoeddi; ac yn hyn yr wyf yn llawenychu, ië, ac y llawenychaf; canys gwn y try hyn allan i mi er iachawdwriaeth, trwy eich deisyfiad chwi a chyflenwad Yspryd Iesu Grist, yn ol fy awyddfryd a'm gobaith nad mewn dim y'm cywilyddir, eithr ym mhob hyfder ymadrodd, fel bob amser, yn awr hefyd, y mawrygir Crist yn fy nghorph, pa un bynnag ai trwy fywyd a'i trwy farwolaeth. Canys i mi, byw yw Crist, a marw sydd elw. Ond os byw yn y cnawd — os hyn i mi fydd ffrwyth fy ngwaith — pa beth a ddewisaf, nis gwn; ond cyfyngir arnaf o'r ddeu‐tu, gan fod gennyf y chwant i ymadael ac i fod gyda Christ, canys llawer iawn gwell ydyw; eithr aros yn y cnawd sydd fwy angenrheidiol er eich mwyn chwi. A chennyf yr hyder hwn, gwn yr arhosaf ac y parhâf gyda chwi oll, er eich cynnydd a'ch llawenydd yn y ffydd, fel y byddo i'ch ymffrost fod yn helaeth yng Nghrist Iesu ynof fi, trwy fy mhresennoldeb trachefn gyda chwi. Yn unig ymddygwch yn deilwng o efengyl Crist, fel pa un bynnag ai dyfod a'ch gweled a wnaf, ai yn absennol y clywaf eich helynt, eich bod yn sefyll yn gadarn mewn un yspryd, âg un enaid yn cyd‐ymdrech dros ffydd yr Efengyl, ac heb eich brawychu mewn dim gan y gwrthwynebwyr, yr hyn sydd iddynt hwy yn arwydd eglur o golledigaeth, ond o'ch iachawdwriaeth chwi, a hynny oddiwrth Dduw; canys i chwi y rhoddwyd dros Grist, nid yn unig gredu ynddo, ond hefyd ddyoddef drosto; gan fod i chwi yr un ymdrech ag a welsoch ynof fi, ac yn awr a glywch ei bod ynof fi. Os oes gan hynny ryw gefnogaeth yng Nghrist, os rhyw gymhelliad cariad, os rhyw gymdeithas yr Yspryd, os rhyw galon‐dynerwch a thosturiaethau, gwnewch fy llawenydd yn gyflawn, fel y byddoch o'r un meddwl, a chennych yr un cariad, o un enaid yn synied yr un peth. Na wneler dim trwy ymbleidiaeth neu wag ogoniant, eithr pawb mewn gostyngeiddrwydd meddwl, yn ystyried eraill yn rhagori arnynt eu hunain; pob un yn edrych nid ar ei bethau ei hun, ond ar eiddo eraill. Bydded ynoch y meddwl hwn, yr hwn hefyd oedd yng Nghrist Iesu, yr hwn, ac efe erioed yn ffurf Duw, ni thybiodd fod cydraddoldeb â Duw yn beth i'w ddal yn gyndyn, eithr efe a waghâodd ei hun, gan gymmeryd ffurf gwas, a'i wneyd yng nghyffelybiaeth dynion; a chan ei gael mewn dull fel dyn, efe a'i darostyngodd ei hun, gan ddyfod yn ufudd hyd angau, ië, angau y Groes, O herwydd paham Duw a'i tra‐dyrchafodd ef, ac a rad‐roddodd iddo yr Enw sydd goruwch pob enw, fel yn enw yr Iesu y plygai pob glin, o'r nefolion, a'r daearolion, a'r tan‐ddaearolion, ac y cyffesa pob tafod Iesu Grist yn Arglwydd, er gogoniant Duw Dâd. Am hynny, fy anwyliaid, megys bob amser yr ufuddhasoch, nid megys yn fy mhresennoldeb yn unig, eithr yn awr yn fwy o lawer yn fy absennoldeb, gydag ofn a dychryn gweithiwch allan eich iachawdwriaeth eich hunain. Canys Duw sydd yn gweithio ynoch ewyllysio a gweithredu er ei foddlonrwydd. Gwnewch bob peth heb achwyniadau ac ymddadleuon, fel y byddoch yn ddiargyhoedd a didwyll, yn blant Duw, yn ddifeius yng nghanol cenedlaeth ŵyrog a chyfeiliornus, ym mhlith y rhai yr ymddangoswch fel goleuadau yn y byd, ac yn dal allan air y bywyd, er ymffrost i mi erbyn Dydd Crist, na redais yn ofer, ac na lafuriais yn ofer. Ië, os yw fy mywyd i'w dywallt allan fel diod-offrwm ar aberth a gwasanaeth eich ffydd, yr wyf yn llawenychu, ac yn cyd‐lawenychu â chwi oll. Ac yn yr un modd y llawenychwch chwi hefyd, a chyd‐lawenychwch a mi. Ac yr wyf yn gobeithio yn yr Arglwydd Iesu anfon Timotheus ar fyrder attoch, fel y'm llonner, gan wybod eich helynt: canys nid oes gennyf neb o gyffelyb enaid, yr hwn a wir‐ofala am eich helynt; canys hwy oll ydynt yn ceisio yr eiddynt eu hunain, ac nid yr eiddo Iesu Grist; ond y prawf o hono ef chwi a'i gwyddoch, mai fel plentyn gyda thâd y gwasanaethodd ef gyda mi mewn perthynas i'r efengyl. Hwn, gan hynny, yr ydwyf yn gobeithio ei ddanfon yn ddioed, cyn gynted ag y gwelwyf beth fydd fy helynt; a hyderaf yn yr Arglwydd y deuaf finnau hefyd yn fuan attoch. Eithr mi a dybiais yn angenrheidiol ddanfon attoch Epaphroditus, fy mrawd a'm cyd‐weithiwr a'm cyd‐filwr, ond eich cennad chwi a gweinidog i'm hangen innau. Canys yr oedd efe yn hiraethu am danoch oll, ac yn athrist, oblegyd i chwi glywed ei fod yn glaf. Canys yn wir efe a fu glaf yn agos i angau; eithr Duw a drugarhâodd wrtho ef, ac nid wrtho ef yn unig, ond wrthyf finnau hefyd, rhag cael o honof dristwch ar dristwch. Gyda mwy o awydd felly yr anfonais ef, fel, wedi i chwi ei weled ef, y llawenychech drachefn, a minnau yn llai fy nhristwch. Croesaw‐wch ef gan hynny yn yr Arglwydd gyda phob llawenydd, a deliwch y cyfryw rai mewn anrhydedd; canys o herwydd gwaith Crist y bu efe yn agos i angau, gan beryglu ei fywyd, fel y cyflawnai eich diffyg chwi yn eich gwasanaeth tuag attaf fi. Yn ddiweddaf, fy mrodyr, llawenychwch yn yr Arglwydd. Ysgrifennu yr un pethau attoch i mi yn wir nid yw flin, ond i chwi y mae yn ddyogel. Gochelwch y cwn; gochelwch y drwg‐weithredwyr; gochelwch y Cyd‐doriad; canys yr Enwaediad ydym ni, y rhai ydym, trwy Yspryd Duw, yn gwasanaethu ac yn ymffrostio yng Nghrist Iesu, ac nid yn ymddiried yn y cnawd: er y gallwn i fy hun ymddiried hyd y nod yn y cnawd. Os yw neb arall yn meddwl ymddiried yn y cnawd, myfi yn fwy: wedi ymwaedu arnaf yr wythfed dydd; o genedl Israel; o lwyth Benjamin; Hebrewr o Hebreaid; yn ol y Ddeddf, yn Pharisead: yn ol sêl, yn erlid yr eglwys; yn ol y cyfiawnder sydd yn y Ddeddf, yn ddiargyhoedd. Eithr y fath bethau oeddynt elwau i mi, yr wyf wedi cyfrif y rhai hynny yn golled er mwyn Crist. Ië, yn wir, yr wyf hefyd yn cyfrif pob peth yn golled o herwydd rhagoroldeb gwybodaeth Crist Iesu fy Arglwydd, er mwyn yr hwn y'm colledwyd o bob peth, ac yr wyf yn eu cyfrif yn ysgubion, fel yr ennillwyf Grist, ac y'm caffer ynddo ef, heb fy nghyfiawnder fy hun, yr hwn sydd o'r Ddeddf, eithr yr hwn sydd trwy ffydd yng Nghrist, y cyfiawnder sydd o Dduw ar ammod ffydd; mewn trefn i'w adnabod ef, a gallu ei Adgyfodiad, a chymdeithas ei ddyoddefiadau, gan gael fy nghyd-ffurfio i'w farwolaeth ef, os mewn un modd y cyrhaeddaf i Adgyfodiad oddiwrth y meirw. Nid fy mod eisoes wedi derbyn y wobr, neu eisoes wedi fy mherffeithio, ond dylyn yr wyf, os hefyd yr ymaflwyf yn y peth er mwyn yr hwn yr ymaflwyd ynof gan Grist. Frodyr, nid wyf yn cyfrif ddarfod i mi fy hun etto gael gafael; ond gwnaf un peth: gan anghofio y pethau sydd o'r tu cefn, a chan ymestyn at y pethau sydd o'r tu blaen, yr wyf yn cyrchu at y nôd, at y gamp o uchel alwedigaeth Duw yng Nghrist Iesu. Cynnifer gan hynny ag ydym berffaith, syniwn hyn; ac os ydych yn synied dim yn wahanol, hyn hefyd a ddadguddia Duw i chwi. Yn unig, yr hyn yr ydym wedi cyrhaedd atto, rhodiwn wrtho. Byddwch gyd‐efelychwyr o honof fi, frodyr, a gwyliwch y rhai sydd yn rhodio felly, megys yr ydym ni yn esiampl i chwi; canys y mae llawer yn rhodio, am y rhai y dywedais wrthych yn fynych, ac yn awr dan wylo yr wyf yn dywedyd, mai gelynion Croes Crist ydynt, diwedd y rhai yw distryw, duw y rhai yw eu bol, a'u gogoniant yn eu cywilydd, y rhai a syniant bethau daearol. Canys ein dinasyddiaeth ni sydd o'r dechreu yn y nefoedd, o'r lle hefyd y dysgwyliwn Iachawdwr, yr Arglwydd Iesu Grist, yr hwn a ddull‐newidia gorph ein darostyngiad i fod yn un‐ffurf â chorph ei ogoniant ef, yn ol gweithrediad ei allu hyd y nod i ddarostwng pob peth iddo ei hun. Am hynny, fy mrodyr anwyl am y rhai yr hiraethaf, fy llawenydd a'm coron, felly sefwch yn yr Arglwydd, anwyliaid. Yr wyf yn cynghori Euodia ac yn cynghori Syntyche i synied yr un peth yn yr Arglwydd. Ië, gofyn yr wyf i ti hefyd, wir gymmar, cymmorth y gwragedd hyn, yn gyfryw ag a gyd‐ymdrechasant gyda mi yn yr efengyl, ynghyd a Chlement hefyd a'm cyd‐weithwyr eraill, y rhai y mae eu henwau yn Llyfr y Bywyd. Llawenychwch yn yr Arglwydd yn wastadol: drachefn dywedaf, Llawenychwch. Bydded eich goddefgarwch yn hyspys i bob dyn — y mae yr Arglwydd yn agos. Na phryderwch am ddim, eithr ym mhob peth, trwy weddi ac ymbil gyda diolch, gwneler eich deisyfiadau yn hyspys gerbron Duw; a thangnefedd Duw yr hwn sydd uwchlaw pob deall, a warchod eich calonnau a'ch meddyliau yng Nghrist Iesu. Yn ddiweddaf, frodyr, pa bethau bynnag sydd wir, pa bethau bynnag sydd anrhydeddus, pa bethau bynnag sydd gyfiawn, pa bethau bynnag sydd bur, pa bethau bynnag sydd hawddgar, pa bethau bynnag sydd o rasol‐ymadrodd, od oes dim rhinwedd, ac od oes dim clod, am y pethau hyn meddyliwch. A'r pethau a ddysgasoch, ac a dderbyniasoch, ac a glywsoch, ac a welsoch ynof fi, y pethau hyn gwnewch; a Duw yr heddwch a fyddo gyda chwi. Llawenychais yn yr Arglwydd yn fawr o herwydd o'r diwedd i chwi adnewyddu eich dyddordeb ynof fi, am yr hyn y meddyliasoch, ond ni chawsoch gyfle. Nid am fy mod yn llefaru o herwydd eisieu, canys mi a ddysgais ym mha gyflwr bynnag yr wyf, fod yn foddlawn. Mi a wn pa beth yw bod yn isel, gwn hefyd pa fodd i fod mewn helaethrwydd; ym mhob un peth ac yn yr oll yr wyf wedi fy egwyddori i fod yn llawn ac i fod yn newynog; i fod mewn helaethrwydd ac mewn prinder. Yr wyf yn gallu pob peth yn yr hwn sydd yn fy nerthu. Er hynny chwi a wnaethoch yn dda drwy gyd‐gyfrannogi o'm gorthrymder. A gwyddoch chwi eich hunain hefyd, O Philippiaid, yn nechreuad yr efengyl, pan aethum allan o Macedonia, na fu un eglwys gyd‐gyfrannog â mi, o ran rhoddi a derbyn, ond chwychwi yn unig; canys hyd y nod yn Thessalonica, unwaith a dwywaith hefyd, danfonasoch i mi ar gyfer fy angenrhaid. Nid am fy mod yn ciesio, y rhodd, eithr yr wyf yn ceisio y ffrwyth sydd yn amlhau i'ch cyfrif chwi. Y mae gennyf ddigon o bob peth, a mwy na digon; yr wyf wedi fy llanw, wedi derbyn gan Epaphroditus y rhoddion oddiwrthych chwi, arogl peraidd, aberth cymmeradwy, boddlawn gan Dduw. A'm Duw i a leinw bob anghenrhaid o'ch eiddo, yn ol ei olud mewn gogoniant yng Nghrist Iesu. Ac i'n Duw a'n Tâd y byddo y gogoniant yn oes oesoedd. Amen. Annerchwch bob sant yng Nghrist Iesu. Y mae y brodyr sydd gyda mi yn eich annerch. Y mae yr holl saint yn eich annerch, yn enwedig y rhai o dylwyth Cesar. Gras yr Arglwydd Iesu Grist fyddo gyda eich yspryd chwi. Paul, Apostol Crist Iesu trwy ewyllys Duw, a Thimotheus ein brawd, at y saint a'r ffyddlawn frodyr yng Nghrist Iesu yn Colossa: Gras i chwi a thangnefedd oddiwrth Dduw ein Tâd. Yr ydym yn diolch i Dduw, Tâd ein Harglwydd Iesu Grist, gan weddio yn wastadol drosoch, wedi clywed am eich ffydd yng Nghrist Iesu, a'r cariad yr hwn sydd gennych tuag at yr holl saint, o herwydd y gobaith sydd wedi ei drysori i chwi yn y nefoedd, am yr hwn y clywsoch o'r blaen yn ngair gwirionedd yr efengyl, yr hon a ddaeth attoch chwi, fel y mae hefyd yn yr holl fyd yn dwyn ffrwyth ac yn cynnyddu, megys y mae hefyd ynoch chwithau, er y dydd y clywsoch ac y gwybuoch ras Duw mewn gwirionedd; fel y dysgasoch gan Epaphras ein cyd‐was anwyl, yr hwn sydd drosom ni yn ffyddlawn weinidog i Grist; yr hwn hefyd a amlygodd i ni eich cariad yn yr Yspryd. O herwydd hyn ninnau hefyd, er y dydd y clywsom, ni pheidiwn a gweddio ar eich rhan, a deisyf eich llenwi â llawn‐wybodaeth o'i ewyllys ef ym mhob doethineb a deall ysprydol, i rodio yn deilwng o'r Arglwydd, er rhyngu ei fodd ym mhob peth, gan ddwyn ffrwyth ym mhob gweithred dda, a chynnyddu trwy wybodaeth o Dduw; yn cael eich galluogi â phob gallu, yn ol cadernid ei ogoniant, i wrol‐barhâd a hir‐ymaros gyda llawenydd; gan ddiolch i'r Tâd; yr hwn a'n cymhwysodd ni i ran o etifeddiaeth y saint yn y goleuni; yr hwn a'n gwaredodd ni allan o allu y tywyllwch, ac a'n trosglwyddodd i deyrnas Mab ei gariad, yn yr hwn y mae i ni brynedigaeth, maddeuant ein pechodau. Yr hwn yw delw y Duw anweledig, cyntaf‐anedig yr holl greadigaeth; canys ynddo ef y crewyd pob peth, yn y nefoedd ac ar y ddaear, pethau gweledig a phethau anweledig, pa un bynnag ai gorseddau, ai arglwyddiaethau, ai llywodraethau, ai awdurdodau; yr oll trwyddo ef ac erddo ef, ydynt wedi eu creu. Ac y MAE EFE cyn pob peth, ac ynddo ef y mae pob peth yn cyd‐sefyll. Ac efe yw Pen y Corph, yr Eglwys, yr hwn yw y dechreuad, y cyntaf‐anedig o'r meirw, fel y byddai efe ym mhob peth yn blaenori; canys rhyngodd bodd i'r Tad drigo o'r holl gyflawnder ynddo ef, a thrwyddo ef gymmodi pob peth iddo ei hun, wedi gwneuthur heddwch trwy waed ei Groes, pa un bynnag ai pethau ar y ddaear, ai pethau yn y nefoedd. A chwithau, y rhai oeddych gynt wedi ymddyeithrio ac yn elynion yn eich meddwl yn eich gweithredoedd drwg, etto yn awr a gymmododd efe, yng nghorph ei gnawd trwy farwolaeth, i'ch cyflwyno yn sanctaidd a difeius a diargyhoedd ger ei fron ef, os parhêwch yn y ffydd, wedi eich seilio a'ch sefydlu, ac heb eich bod yn symmud ymaith oddiwrth obaith yr efengyl, yr hon a glywsoch, yr hon a bregethwyd yn yr holl greadigaeth dan y nef; i'r hon y'm gwnaethpwyd i, Paul, yn weinidog. Yn awr, yr wyf yn llawenychu yn fy nyoddefiadau drosoch, ac yn llanw i fyny yn fy nhro yr hyn sydd ar ol o gystuddiau Crist yn fy nghnawd, er mwyn ei gorph ef, yr hwn yw yr Eglwys, i'r hon y'm gwnaethpwyd i yn weinidog, yn ol goruchwyliaeth Duw, yr hon a roddwyd i mi ar eich cyfer chwi, i gyflawnu gair Duw, sef y dirgelwch a oedd guddiedig rhag yr oesoedd a rhag y cenhedlaethau, ond yn awr a eglurwyd i'w saint ef, i'r rhai yr ewyllysiodd Duw wneyd yn hyspys pa beth yw golud gogoniant y dirgelwch hwn ym mhlith y cenhedloedd, yr hwn yw Crist ynoch chwi, gobaith y gogoniant, yr hwn yr ydym ni yn ei bregethu, gan gynghori pob dyn a dysgu pob dyn ym mhob doethineb, fel y cyflwynom bob dyn yn berffaith yng Nghrist: i hyn hefyd yr wyf yn llafurio, gan ymdrechu yn ol ei weithrediad ef, yr hwn sydd yn gweithredu ynof yn nerthol. Canys yr wyf yn ewyllysio i chwi wybod cymmaint fy ymdrech drosoch chwi, a'r rhai yn Laodicea, a chynnifer ni welsant fy wyneb i yn y cnawd, fel y dyddaner eu calonnau hwy, wedi eu huno ynghyd mewn cariad ac i holl olud llawn‐sicrwydd deall, i lawn‐wybodaeth o ddirgelwch Duw, Crist; yn yr hwn y mae holl drysorau doethineb a gwybodaeth yn guddiedig. A hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd, fel na bo i neb eich cam‐arwain trwy ymadrodd hudol; canys er fy mod yn absennol yn y cnawd, etto yr wyf gyda chwi yn yr yspryd, yn llawenychu a gweled eich trefn a sefydlogrwydd eich ffydd yng Nghrist. Megys gan hynny y derbyniasoch Grist Iesu yr Arglwydd, ynddo rhodiwch: wedi eich gwreiddio ac yn cael eich adeiladu i fyny ynddo, a'ch cadarnhâu yn y ffydd, fel y'ch dysgwyd, gan fod yn helaeth mewn diolchgarwch. Edrychwch na bo neb yn gwneyd ysbail o honoch trwy athroniaeth a gwag dwyll, yn ol traddodiad dynion, yn ol egwyddorion y byd, ac nid yn ol Crist. Oblegyd ynddo ef y mae holl gyflawnder y Duwdod yn trigo yn gorphorol. Ac yr ydych chwi ynddo yn cael eich llanw, yr hwn yw Pen pob llywodraeth ac awdurdod; yn yr hwn hefyd y'ch enwaedwyd âg enwaediad nid o waith llaw, mewn diosg corph y cnawd yn enwaediad Crist; wedi eich cydgladdu gydag ef yn y Bedydd, yn yr hwn hefyd y'ch cyd‐gyfodwyd trwy ffydd yng ngweithrediad Duw, yr hwn a'i cyfododd ef o'r meirw. A chwithau, gan fod yn feirw trwy gamweddau a dienwaediad eich cnawd — chwychwi a gyd‐fywhâodd efe gydag ef, wedi maddeu i ni yr holl gamweddau, wedi dileu yr ysgrifen‐law mewn ordeiniadau, yr hon oedd yn ein herbyn, a'r hon a symmudodd efe i ffwrdd, gan ei hoelio wrth y Groes; ac wedi ysgwyd ymaith oddiwrtho ei hun y llywodraethau a'r awdurdodau, efe a wnaeth arddangosiad o honynt ar gyhoedd, gan ymorfoleddu arnynt arni hi. Gan hynny na fydded i neb i'ch barnu mewn bwytta nac mewn yfed, neu yn y mater o ddydd gŵyl neu newydd‐loer, neu ddydd Sabbath, y rhai ydynt gysgod o bethau ar ddyfod, ond y sylwedd sydd eiddo Crist. Nac yspeilied neb chwi o'ch gwobr, gan ymhyfrydu mewn gostyngeiddrwydd ac addoliad angylion, gan sefyll ar y pethau a welodd, wedi ymchwyddo yn ofer gan feddwl ei gnawd, ac heb ddal ei afael yn y Pen, o'r hwn y mae yr holl gorph, gan gael ei gyflenwi a'i gyd‐gyssylltu trwy y cymmalau a'r gewynau, yn cynnyddu â chynnydd Duw. Os buoch feirw gyda Christ oddiwrth egwyddorion y byd, paham fel yn byw yn y byd, yr ydych yn glynu wrth ordeiniadau, megys: Na theimla, Nad archwaetha, Na chyffwrdd (y rhai ydynt oll i ddarfod wrth eu harfer), yn ol gorchymynion ac athrawiaethau dynion? Y cyfryw bethau sydd ganddynt yn wir rith doethineb mewn addoliad hunan‐osodol, a gostyngeiddrwydd, a thriniaeth ddiarbed o'r corph, heb fod o un gwerth yn erbyn boddhâd y cnawd. Am hynny, os cyd‐gyfodwyd chwi gyda Christ, ceisiwch y pethau sydd uchod, lle mae Crist ar ddeheulaw Duw yn eistedd. Syniwch y pethau sydd uchod, nid y pethau sydd ar y ddaear. Canys buoch feirw, ac y mae eich bywyd wedi ei guddio gyda Christ yn Nuw. Pan amlygir Crist, eich bywyd chwi, yna yr amlygir chwithau hefyd gydag ef mewn gogoniant. Marweiddiwch gan hynny yr aelodau sydd ar y ddaear, godineb, aflendid, nwyd, drygchwant, a'r trachwant, yr hwn sydd eilunaddoliaeth, o herwydd y rhai y mae digofaint Duw yn dyfod; yn y rhai y rhodiasoch chwithau hefyd gynt, pan oeddych yn byw yn y pethau hyn; ond yn awr rhoddwch chwithau hefyd heibio yr holl bethau hyn, digder, llid, drygioni, enllib, brwnt‐ymadrodd, allan o'ch genau. Na ddywedwch gelwydd wrth eich gilydd, gan ddarfod i chwi ddiosg yr hen ddyn ynghyda'i ymarferiadau, a gwisgo y dyn newydd, yr hwn sydd yn cael ei adnewyddu i lawn‐wybodaeth, yn ol delw yr hwn a'i creodd ef; lle nid oes Groegwr ac Iuddew, Enwaediad a Dienwaediad, Barbariad, Scythiad, caethwas a rhydd, eithr yr oll, ac yn yr oll, Crist sydd. Am hynny, gwisgwch am danoch, megys etholedigion Duw, sanctaidd ac anwyl, galon tosturi, cymmwynasgarwch, gostyngeiddrwydd, addfwynder, hir‐ymaros, gan gyd‐ddwyn â'ch gilydd, a maddeu i'ch gilydd, os oes gan neb gŵyn yn erbyn neb, fel y maddeuodd yr Arglwydd i chwi, felly gwnewch chwithau hefyd. A thros y rhai hyn oll gwisgwch gariad, yr hwn yw rhwymyn perffeithrwydd. A bydded i dangnefedd Crist lywodraethu yn eich calonnau, i'r hwn hefyd y'ch galwyd yn un corph; a byddwch ddiolchgar. Preswylied Gair Crist ynoch yn gyfoethog; ym mhob doethineb yn dysgu ac yn cynghori eich gilydd, mewn salmau, hymnau, ac odlau ysprydol, yn canu trwy ras yn eich calonnau i Dduw. A pha beth bynnag a wneloch, mewn gair neu mewn gweithred, gwnewch yr oll yn enw yr Arglwydd Iesu, gan ddiolch i Dduw Dâd trwyddo ef. Y gwragedd, ymostyngwch i'ch gwŷr, megys y gwedda yn yr Arglwydd. Y gwŷr, cerwch eich gwragedd, ac na fyddwch chwerw yn eu herbyn. Y plant, ufuddhêwch i'ch rhieni ym mhob peth, canys hyn sydd yn rhyngu bodd yn yr Arglwydd. Y tadau, na chyffrowch eich plant, fel na ddigalonnont. Y gweision, ufuddhêwch ym mhob peth i'ch meistriaid yn ol y cnawd, nid â llygad‐wasanaeth fel boddlonwyr dynion, eithr mewn symlrwydd calon yn ofni yr Arglwydd. Pa beth bynnag a wneloch, gwnewch o'r galon, megys i'r Arglwydd ac nid i ddynion; gan wybod mai oddiwrth yr Arglwydd y derbyniwch daledigaeth yr etifeddiaeth: yr Arglwydd Crist yr ydych yn ei wasanaethu; canys yr hwn sydd yn gwneuthur cam a dderbyn am y cam a wnaeth, ac nid oes derbyn wyneb. Y meistriaid, rhoddwch gyfiawnder a chyfartalwch i'ch gweision, gan wybod fod gennych chwithau hefyd Feistr yn y nef. Glynwch mewn gweddi, gan wylied ynddi gyda diolchgarwch; gan weddio yr un pryd hefyd drosom ninnau, ar i Dduw agoryd i ni ddrws y Gair, i lefaru dirgelwch Crist, am yr hwn yr ydwyf hefyd yn rhwym, fel yr amlygwyf ef, fel y dylwn lefaru. Rhodiwch mewn doethineb tuag at y rhai oddi allan, gan brynnu yr amser. Bydded eich ymadrodd bob amser mewn gras, wedi ei dymheru â halen, fel y gwyppoch fel y dylech atteb i bob dyn. Fy holl helynt a hyspysa Tychicus i chwi, y brawd anwyl a'r gweinidog ffyddlawn a'r cyd‐was yn yr Arglwydd, yr hwn a ddanfonais attoch er mwyn hyn yma, fel y gwyppech ein helynt, ac fel y dyddanai eich calonnau chwi; gydag Onesimus, y ffyddlawn a'r anwyl frawd, yr hwn sydd un o honoch chwi. Hwy a hyspysant i chwi yr holl bethau yma. Eich annerch y mae Aristarchus fy nghyd‐garcharor, a Marc, cefnder Barnabas, (am yr hwn y derbyniasoch orchymynion: os daw attoch, derbyniwch ef), a Jesus, yr hwn a elwir Justus, y rhai ydynt o'r Enwaediad. Y rhai hyn yn unig yw fy nghyd‐weithwyr i Deyrnas Dduw, yn gyfryw ag a fuant yn gysur i mi. Eich annerch y mae Epaphras, yr hwn sydd un o honoch, gwas Crist Iesu, gan fod mewn ymdrech meddwl yn wastadol drosoch yn ei weddiau, ar sefyll o honoch yn berffaith ac yn gwbl‐sicr yn holl ewyllys Duw; canys yr wyf yn dyst iddo, fod iddo lafur mawr ar eich rhan chwi, a'r rhai yn Laodicea, a'r rhai yn Hierapolis. Eich annerch y mae Luc, y meddyg anwyl, a Demas. Annerchwch y rhai sydd yn Laodicea, a Nymphas a'r eglwys sydd yn eu tŷ. Ac wedi darllen y llythyr hwn yn eich plith, perwch ei ddarllen hefyd yn eglwys y Laodiceaid, a darllen o honoch chwithau hefyd yr un o Laodicea. A dywedwch wrth Archippus: Edrych at y weinidogaeth a dderbyniaist yn yr Arglwydd, ar i ti ei chyflawnu. Yr annerch â'm llaw i Paul. Cofiwch fy rhwymau. Gras fyddo gyda chwi. Paul, a Silfanus, a Thimotheus, at eglwys y Thessaloniaid yn Nuw Dâd a'r Arglwydd Iesu Grist: Gras i chwi a thangnefedd Yr ydym yn diolch i Dduw yn wastadol drosoch chwi oll, gan wneuthur coffa am danoch yn ein gweddiau, gan gofio yn ddibaid waith eich ffydd, a llafur eich cariad, ac ymaros eich gobaith yn ein Harglwydd Iesu Grist, gerbron Duw a'n Tâd; gan wybod, frodyr anwyl gan Dduw, eich etholedigaeth, na ddaeth ein hefengyl ni attoch mewn ymadrodd yn unig, ond hefyd mewn gallu, ac yn yr Yspryd Glân, ac mewn llawn‐sicrwydd, — fel y gwyddoch pa fath rai a fuom yn eich plith er eich mwyn chwi. A chwi a ddaethoch yn efelychwyr o honom ni ac o'r Arglwydd, wedi derbyn y gair mewn gorthrymder mawr, gyda llawenydd yr Yspryd Glân, fel yr aethoch yn siampl i'r holl gredinwyr yn Macedonia ac yn Achaia: canys oddiwrthych chwi y seiniwyd allan Air yr Arglwydd, nid yn unig yn Macedonia ac Achaia, ond ym mhob man y mae eich ffydd tuag at Dduw wedi ymledaenu, fel nad rhaid i ni ddywedyd dim; canys hwy eu hunain sydd yn mynegi am danom, y fath ddyfodiad i mewn a gawsom ni attoch chwi, a pha fodd y troisoch at Dduw oddiwrth yr eilunod, i wasanaethu y bywiol a'r gwirioneddol Dduw, ac i ddysgwyl am ei Fab ef o'r nefoedd, yr hwn a gyfododd efe oddiwrth y meirw, Iesu, yr hwn sydd yn ein gwaredu o'r digofaint sydd yn dyfod. Canys chwi eich hunain a wyddoch, frodyr, ein dyfodiad i mewn attoch, nad ydyw wedi bod yn ofer; eithr wedi dyoddef o'r blaen a'n sarhâu, fel y gwyddoch, yn Philippi, ni a fuom hŷf yn ein Duw i lefaru wrthych efengyl Duw mewn mawr ymdrech. Canys ein happêl ni nid ydoedd o gyfeiliornad, nac o aflendid, nac mewn twyll; eithr megys yr ydym wedi ein cymmeradwyo gan Dduw i gael ymddiried i ni am yr efengyl, felly yr ydym yn llefaru, nid fel yn rhyngu bodd i ddynion, eithr i Dduw, yr hwn sydd yn profi ein calonnau. Canys ni ddaethom un amser mewn ymadrodd gweinieithus, fel y gwyddoch; nac mewn gorchudd cybydd‐dod, Duw sydd dyst; nac yn ceisio gogoniant gan ddynion, nac oddiwrthych chwi, nac oddiwrth eraill; a ni yn gallu bod o bwys fel Apostolion Crist. Eithr ni a fuom fabanod yn eich canol: fel pan mae mammaeth yn maethu ei phlant ei hun; felly gan ymserchu ynoch, boddlawn fuom i gyfrannu i chwi, nid yn unig efengyl Duw, ond hefyd ein heneidiau ein hunain, oblegyd eich bod yn anwyl i ni. Canys côf yw gennych, frodyr, ein llafur a'n trafferth; gan weithio nos a dydd, fel na phwysem ar neb o honoch, ni a gyhoeddasom i chwi efengyl Duw. Chwychwi ydych dystion, a Duw hefyd, mor sanctaidd a chyfiawn a difeius y buom yn eich golwg chwi y rhai ydych yn credu: megys y gwyddoch y modd yr ymddygasom at bob un o honoch, megys tâd at ei blant ei hun, gan eich cynghori a'ch calonogi a'ch tynghedu i rodio yn deilwng o Dduw, yr hwn sydd yn eich galw i'w deyrnas a'i ogoniant. Ac oblegyd hyn yr ydym ninnau hefyd yn diolch i Dduw yn ddibaid, o herwydd i chwi, pan dderbyniasoch y gair a glywsoch, Gair Duw, ei roesawu nid fel gair dynion, eithr, (fel y mae yn wir), yn air Duw, yr hwn sydd yn nerthol‐weithio ynoch chwi, y credinwyr; canys chwychwi a ddaethoch i fod yn efelychwyr, frodyr, o eglwysi Duw, y rhai sydd yn Judea yng Nghrist Iesu, canys chwi hefyd a ddyoddefasoch yr un pethau gan eich cyd‐wladwyr eich hunain, megys hwythau hefyd gan yr Iuddewon; y rhai hefyd a laddasant yr Arglwydd Iesu a'r Prophwydi, ac a'n herlidiasant ninnau allan, ac nid ydynt yn rhyngu bodd Duw, ac y maent yn wrthwynebus i bob dyn; yn gwarafun i ni lefaru wrth y Cenhedloedd fel yr achubid hwy, fel i lanw i fyny fesur eu pechodau yn wastadol: ond y mae y Digofaint wedi eu gorddiwes o'r diwedd. A ninnau, frodyr, wedi ein hamddifadu o honoch am ennyd awr, yng ngolwg, nid yng nghalon, oeddem o lawer yn fwy astud i weled eich wyneb, gydag awydd mawr; oblegyd ewyllysiasom ddyfod attoch, myfi Paul, ië unwaith a dwywaith, a Satan a'n lluddiodd ni. Canys beth yw ein gobaith ni, neu ein llawenydd, neu goron ein hymffrost? Onid chwychwi gerbron ein Harglwydd Iesu yn ei Ddyfodiad? Canys chwychwi yw ein gogoniant a'n llawenydd ni. Am hynny, gan na allem ymattal yn hwy, bu foddlawn gennym gael ein gadael ar ol yn unig yn Athen, a danfonasom Timotheus ein brawd, a gweinidog Duw yn efengyl Crist, i'ch sefydlu a'ch calonogi ar ran eich ffydd; fel nad ysgydwer neb yn y gorthrymderau hyn, canys chwi eich hunain a wyddoch mai i hyn y'n gosodwyd ni; canys yn wir pan oeddym gyda chwi, ni a rag‐ddywedasom i chwi y gorthrymmid ni, fel y dygwyddodd hefyd ac y gwyddoch. O herwydd hyn, myfi hefyd, heb ymattal yn hwy, a ddanfonais er mwyn gwybod eich ffydd, rhag ddarfod i'r Temtiwr mewn unrhyw fodd eich temtio, a myned ein llafur ni yn ofer. Eithr wedi yn awr ddyfod o Timotheus attom oddiwrthych, a dwyn i ni newyddion da am eich ffydd a'ch cariad, a bod gennych goffa da am danom yn wastadol, gan hiraethu am ein gweled ni, megys ninnau hefyd chwithau; o achos hyn y'n calonogwyd, frodyr, am danoch chwi, yn ein holl angenoctid a gorthrymder, trwy eich ffydd chwi; canys yn awr byw ydym, os ydych chwi yn sefyll yn gadarn yn yr Arglwydd. Canys pa ddiolch a allwn ni ei ad‐dalu i Dduw am danoch, am yr holl lawenydd â'r hwn y llawenychwn o'ch achos chwi gerbron ein Duw, gan ddeisyfu nos a dydd, tuhwnt i bob mesur, i weled eich wyneb chwi, a chyflenwi diffygion eich ffydd? A Duw ei hun a'n Tâd ni, a'n Harglwydd Iesu Grist, a gyfarwyddo ein ffordd attoch; a'r Arglwydd a'ch lliosogo ac a'ch gwnelo yn helaeth mewn cariad tuag at eich gilydd ac at bawb, megys ag yr ydym ninnau hefyd tuag attoch chwi, fel y sefydlo eich calonnau chwi yn ddifeius mewn sancteiddrwydd gerbron ein Duw a'n Tâd, yn Nyfodiad ein Harglwydd Iesu gyda'i holl saint. Yn ddiweddaf, frodyr, yr ydym yn deisyf ac yn eich annog yn yr Arglwydd Iesu, fel y derbyniasoch gennym pa fodd y dylech rodio a boddloni Duw, fel hefyd yr ydych yn rhodio, ar i chwi ymhelaethu fwy‐fwy, canys chwi a wyddoch pa orchymynion a roddasom i chwi trwy yr Arglwydd Iesu; canys hyn yw ewyllys Duw, eich sancteiddiad, ar ymgadw o honoch oddiwrth odineb, ar wybod o bob un o honoch pa fodd i ennill meddiant o'i lestr ei hun mewn sancteiddrwydd a pharch, nid yng ngwŷn trachwant, fel y Cenhedloedd y rhai nid adwaenant Dduw: fel na byddo i neb fyned dros y terfyn a gwneuthur cam a'i frawd yn y mater, canys dialydd yw yr Arglwydd yn yr holl bethau hyn, megys y dywedasom i chwi o'r blaen ac y tystiasom; canys ni alwodd Duw nyni i aflendid eithr mewn sancteiddiad. Gan hynny, y neb sydd yn gwrthod, nid dyn y mae yn ei wrthod, ond Duw, yr hwn sydd yn rhoddi ei Yspryd Glân i chwi. Ond am gariad brawdol, nid oes arnoch angen ysgrifennu o honof attoch, canys yr ydych chwi eich hunain wedi eich dysgu gan Dduw i garu eich gilydd; canys yr ydych hefyd yn gwneuthur hyn tuag at yr holl frodyr sydd yn holl Macedonia; ac yr ydym yn eich annog, frodyr, i ymhelaethu fwy‐fwy, a rhoddi o honoch eich bryd ar fod yn llonydd, a gwneuthur eich goruchwylion eich hunain, a gweithio â'ch dwylaw, megys y gorchymynasom i chwi, fel y rhodioch yn weddaidd tuag at y rhai sydd oddi allan, ac na bo arnoch eisieu dim. Ond ni ewyllysiwn i chwi fod heb wybod, frodyr, am y rhai sydd yn huno, na thristâoch, megys eraill y rhai nid oes ganddynt obaith; canys os ydym yn credu i Iesu farw ac adgyfodi, felly hefyd Duw a ddyg y rhai a hunasant trwy yr Iesu gydag ef. Canys hyn yr ydym yn ei ddywedyd wrthych yng Ngair yr Arglwydd: Nyni y rhai byw, y rhai sydd yn cael eu gadael hyd Ddyfodiad yr Arglwydd, ni rag‐flaenwn o gwbl y rhai a hunasant; oblegyd yr Arglwydd ei hun gyda bloedd, gyda llef archangel, ac âg udgorn Duw, a ddisgyn o'r nef, a'r meirw yng Nghrist a gyfodant yn gyntaf; wedi hynny nyni y rhai byw, y rhai sydd yn cael ein gadael, a gipir i fyny ynghyd gyda hwynt mewn cymmylau, i gyfarfod â'r Arglwydd yn yr awyr, ac felly byddwn yn wastadol gyda'r Arglwydd. Am hynny calonogwch eich gilydd â'r ymadroddion hyn. Ond am yr amserau a'r prydiau, frodyr, nid oes arnoch angen dim i'w ysgrifennu attoch, canys chwi eich hunain a wyddoch yn gywir fod Dydd yr Arglwydd felly yn dyfod fel lleidr yn y nos. Pan ddywedant, Tangnefedd a dyogelwch, yna y mae dinystr disymmwth yn dyfod ar eu gwarthaf, megys gwewyr esgor ar yr hon sydd feichiog, ac ni ddiangant o gwbl. Ond chwychwi, frodyr, nid ydych mewn tywyllwch, fel y goddiweddo y Dydd chwi megys lleidr; canys chwychwi oll, meibion y goleuni ydych a meibion y dydd, nid ydym ni o' r nos nac o'r tywyllwch. Yn wir gan hynny, na chysgwn fel y lleill, eithr gwyliwn a byddwn sobr; canys y rhai a gysgant, y nos y cysgant, a'r rhai a feddwant y nos y meddwant; ond nyni, a ni o'r dydd, byddwn sobr, wedi ymwisgo â dwyfronneg ffydd a chariad, ac fel helm, gobaith iachawdwriaeth. Canys ni phennododd Duw nyni i ddigofaint, ond i gaffaeliad iachawdwriaeth trwy ein Harglwydd Iesu Grist, yr hwn a fu farw drosom, fel pa un bynnag ai gwylied ai cysgu y byddom, y byddom fyw ynghyd gydag ef. Gan hynny, calonogwch eich gilydd, ac adeiledwch y naill y llall, megys ag yr ydych yn gwneuthur. Ac yr ydym yn gofyn i chwi, frodyr, adnabod y rhai sydd yn llafurio yn eich mysg, ac ydynt yn eich llywodraethu yn yr Arglwydd, ac yn eich cynghori, a gwneuthur cyfrif mawr iawn o honynt mewn cariad er mwyn eu gwaith. Byddwch dangnefeddus yn eich plith eich hunain. Ac yr ydym yn eich cynghori, frodyr, rhybuddiwch y rhai afreolus; cysurwch y rhai gwan‐galon; cynheliwch y gweiniaid; byddwch ymarhous wrth bawb. Gwelwch na thalo neb ddrwg am ddrwg i neb, eithr yn wastadol dylynwch yr hyn sydd dda, tuag at eich gilydd, a thuag at bawb. Byddwch lawen yn wastadol. Gweddiwch yn ddibaid. Ym mhob peth diolchwch, canys hyn yw ewyllys Duw yng Nghrist Iesu tuag attoch chwi. Na ddiffoddwch yr Yspryd. Na ddiystyrwch brophwydoliaethau. Profwch bob peth: deliwch yr hyn sydd dda. Ymgedwch rhag pob ffurf o ddrygioni. A Duw y tangnefedd, efe ei hun a'ch sancteiddio yn gwbl oll; a chadwer yn gyfan oll eich yspryd a'ch enaid a'ch corph yn ddifeius yn Nyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist. Ffyddlawn yw yr hwn sydd yn eich galw, yr hwn hefyd a'i gwna. Frodyr, gweddiwch drosom. Annerchwch y brodyr oll â chusan sanctaidd. Yr wyf yn eich tynghedu yn yr Arglwydd ar ddarllen y llythyr i'r holl frodyr. Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda chwi. Paul a Silfanus a Thimotheus, at Eglwys y Thessaloniaid yn Nuw ein Tâd a'r Arglwydd Iesu Grist: Gras i chwi a thangnefedd oddiwrth Dduw ein Tâd a'r Arglwydd Iesu Grist. Diolch i Dduw a ddylem yn wastadol drosoch chwi, frodyr, fel y mae yn addas, gan fod eich ffydd yn mawr‐gynnyddu, a chariad pob un o honoch oll yn gorlifo tuag at eich gilydd, fel yr ydym ni ein hunain yn ymffrostio ynoch chwi yn eglwysi Duw am eich amynedd a'ch ffydd, yn eich holl erlidiau a'r gorthrymderau yr ydych yn eu goddef, yr hyn sydd yn argoel amlwg o gyfiawn farn Duw; fel y'ch cyfrifer yn deilwng o deyrnas Dduw, dros yr hon yr ydych yn dyoddef; os, yn wir, cyfiawn yw gyda Duw dalu yn ol orthrymder i'r rhai sydd yn eich gorthrymmu chwi, ac i chwithau, y rhai a orthrymmir, esmwythhâd gyda nyni, yn Nadguddiad yr Arglwydd Iesu o'r Nef, gydag angelion ei allu, mewn fflam o dân, gan dalu dial i'r rhai nad adwaenant Dduw, ac i'r rhai nad ufuddhânt i Efengyl ein Harglwydd Iesu Grist, yn gyfryw ag a dderbyniant gospedigaeth, sef dinystr tragywyddol oddiwrth wyneb yr Arglwydd, ac oddiwrth ogoniant ei nerth, pan ddel Efe i'w ogoneddu yn ei saint, ac i'w ryfeddu yn y rhai oll a gredasant, yn y Dydd hwnnw, (o herwydd i'n tystiolaeth ni gael ei chredu gennych chwi). Er mwyn hyn hefyd yr ydym yn gweddio yn wastadol drosoch, ar i'n Duw ni eich cyfrif yn deilwng o'ch galwedigaeth, ac y cyflawno eich pob dyhead am ddaioni, a phob gwaith ffydd, gyda gallu; fel y gogonedder enw ein Harglwydd Iesu ynoch chwi, a chwithau ynddo yntau, yn ol gras ein Duw ni a'r Arglwydd Iesu Grist. Ond yr ydym yn gofyn i chwi, frodyr, gyda golwg ar Ddyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist, a'n cyd‐gynnulliad ninnau atto ef, na'ch sigler ar frys oddiwrth eich meddwl, na'ch cythrybler na chan yspryd, na chan air, na chan lythyr megys oddiwrthym ni, fel pe bae Dydd yr Arglwydd yn ymyl. Na thwylled neb chwi mewn un modd: oblegyd ni ddaw heb ddyfod o'r Gwrthgiliad yn gyntaf, a dadguddio o'r Dyn Annghyfraith, Mab y Golledigaeth, yr hwn sydd yn gwrthwynebu ac yn tra‐ymddyrchafu yn erbyn pob un a elwir yn Dduw, neu sydd yn wrthrych addoliad, fel y cymmer ei sedd yng Nghyssegr Duw, gan ddangos ei hun ei fod yn Dduw. Onid côf gennych, tra yr oeddwn etto gyda chwi, i mi ddywedyd y pethau hyn wrthych? Ac yn awr chwi a wyddoch yr hyn sydd yn attal, fel y dadguddier ef yn ei bryd ei hun. Canys y mae dirgelwch Annghyfraith yn gweithio eisoes: etto yn unig hyd y symmuder ymaith yr hwn sydd yn attal, ac yna y dadguddir y Dyn Annghyfraith yr hwn y bydd i'r Arglwydd Iesu ei gymmeryd ymaith âg anadl ei enau, a'i ddiddymmu âg Ymddangosiad ei Ddyfodiad, sef yr hwn y mae ei ddyfodiad yn ol gweithrediad Satan, gyda phob gallu ac arwyddion a rhyfeddodau celwydd, ac ym mhob twyll annghyfiawnder, i'r rhai sydd ar ffordd colledigaeth, gan na dderbyniasant gariad y gwirionedd fel y byddent gadwedig. O herwydd hyn y mae Duw yn danfon iddynt weithrediad cyfeiliorni, fel y credont y celwydd; fel y barner pawb na chredasant y gwirionedd, eithr a gawsant foddhâd mewn annghyfiawnder. Eithr nyni a ddylem ddiolch yn wastadol i Dduw drosoch chwi, frodyr anwyl gan yr Arglwydd, o herwydd eich dewis gan Dduw o'r dechreuad i iachawdwriaeth, yn sancteiddiad yr yspryd, a chrediniaeth yn y gwirionedd; i'r hyn y galwodd efe chwi trwy ein Hefengyl ni, i feddiannu gogoniant ein Harglwydd Iesu Grist. Gan hynny, yn wir, frodyr, sefwch a deliwch yn dŷn y traddodiadau a ddysgasoch, pa un bynnag ai trwy ymadrodd ai trwy ein hepistol ni. A'n Harglwydd Iesu Grist ei hun, a Duw ein Tâd, yr hwn a'n carodd, ac a roddodd i ni ddyddanwch tragywyddol a gobaith da trwy ras, a ddyddano eich calonnau chwi, ac a'ch sicrhao ym mhob gweithred a gair da. Yn ddiweddaf, frodyr, gweddiwch drosom, ar fod i air yr Arglwydd redeg a'i ogoneddu, fel hefyd gyda chwithau, ac ar ein gwared ni oddiwrth ddynion anaddas a drygionus; canys nid yw ffydd yn eiddo pawb. Eithr ffyddlawn yw yr Arglwydd, yr hwn a'ch sefydla, ac a'ch gwarchod rhag yr un Drwg. Ac y mae gennym hyder yn yr Arglwydd am danoch, eich bod yn gwneuthur ac y gwnewch y pethau yr ydym yn eu gorchymyn. A'r Arglwydd a gyfarwyddo eich calonnau chwi i gariad Duw, ac i amynedd Crist. Ac yr ydym yn gorchymyn i chwi, frodyr, yn enw ein Harglwydd Iesu Grist, dynnu o honoch ymaith oddiwrth bob brawd ar sydd yn rhodio yn afreolus, ac nid yn ol y traddodiad a dderbyniasant gennym; canys chwi a wyddoch eich hunain pa fodd y dylech ein hefelychu ni, canys ni fuom afreolus yn eich plith; ac ni fwyttasom fara yn rhad oddiar law neb, eithr mewn llafur a lludded, gan weithio nos a dydd, fel na fyddem yn faich ar neb o honoch; nid nad oes gennym hawl, ond fel y rhoddem ein hunain yn esiampl i chwi, fel yr efelychech ni. Canys hefyd pan oeddym gyda chwi, hyn a orchymynasom i chwi: Os oes neb ni fyn weithio, na fwyttâed chwaith. Canys yr ydym yn clywed fod rhai yn rhodio yn eich plith yn afreolus, heb weithio dim, ond yn ymyrwyr; ac i'r cyfryw rai yr ydym yn gorchymyn ac yn eu hannog yn yr Arglwydd Iesu Grist, ar iddynt, gan weithio mewn modd tawel, fwytta eu bara eu hunain. A chwychwi, frodyr, na ddigalonnwch mewn gwneuthur daioni. Ac od oes neb heb ufuddhâu i'n gair trwy y llythyr hwn, nodwch hwnnw allan, fel na chydgymmysgoch âg ef, fel y cywilyddio. Ac na chyfrifwch ef fel gelyn, eithr cynghorwch ef fel brawd. Ac Arglwydd y tangnefedd ei hun a roddo i chwi dangnefedd yn wastadol ym mhob modd. Yr Arglwydd fo gyda chwi oll. Yr annerch â'm llaw i Paul, fy hun, yr hyn sydd arwydd ym mhob epistol. Felly yr wyf yn ysgrifennu. Gras ein Harglwydd Iesu Grist fo gyda chwi oll. Paul, Apostol Crist Iesu yn ol gorchymyn Duw ein Hiachawdwr, a Iesu Grist, ein gobaith, at Timotheus, fy mhlentyn gwirioneddol mewn ffydd: Gras, trugaredd, a thangnefedd, oddiwrth Dduw Dâd a Christ Iesu ein Harglwydd. Fel y deisyfais arnat aros yn Ephesus, pan oeddwn ar y ffordd i Macedonia, fel y gorchymynech i rai beidio dysgu yn wahanol, na thalu sylw i chwedlau ac achau diderfyn, y rhai sydd yn peri cwestiynau yn hytrach na goruchwyliaeth Duw, yr hon sydd mewn ffydd; felly y gwnaf yn awr. Eithr amcan y gorchymyn yw cariad o galon bur a chydwybod dda a ffydd ddiragrith: yn yr hyn bethau y methodd rhai, ac a droisant ymaith at ofer‐siarad; gan ewyllysio bod yn ddysgawdwyr y Gyfraith, heb ddeall y pethau a ddywedant, nac am ba bethau yr haerant. Eithr gwyddom ni mai da yw y Gyfraith, os arfer dyn hi yn gyfreithlawn, gan wybod hyn, nad i ddyn cyfiawn y gosodir cyfraith, eithr i'r rhai digyfraith ac afreolus, i'r annuwiol a phechaduriaid, i'r disanctaidd ac annghrefyddol, i dad‐leiddiaid a mam-leiddiaid, i lofruddwyr dynion, i butteinwyr, i wrryw-gydwyr, i ladron‐dynion, i gelwyddwyr, i anudonwyr, ac od oes dim arall yn groes i'r Athrawiaeth iachus, yn ol efengyl gogoniant y Gwynfydedig Dduw, yr hon a ymddiriedwyd i mi. Yr wyf yn diolch i'r hwn a'm nerthodd i, Crist Iesu ein Harglwydd, am iddo fy nghyfrif yn ffyddlawn, gan fy ngosod yn y weinidogaeth; a mi gynt yn gablwr, ac yn erlidiwr, ac yn drahaus; eithr mi a gefais drugaredd, gan yn anwybodus y gweithredais mewn annghrediniaeth; a thra‐amlhaodd gras ein Harglwydd gyda ffydd a chariad, yr hwn sydd yng Nghrist Iesu. Ffyddlawn yw yr ymadrodd, ac yn haeddu pob derbyniad, ddyfod Crist Iesu i'r byd i achub pechaduriaid, o ba rai y pennaf ydwyf fi. Eithr o achos hyn mi a gefais drugaredd, fel ynof fi, y pennaf, yr arddangosai Iesu Grist ei holl hir‐ymaros, fel siampl o'r rhai ydynt ar gredu ynddo ef i fywyd tragywyddol. Ac i'r Brenin Tragywyddol, Anfarwol, Anweledig, yr Unig Dduw, y bydd anrhydedd a gogoniant yn oes oesoedd, Amen. Y gorchymyn hwn yr wyf yn ei ymddiried i ti, fy mhlentyn Timotheus, yn ol y prophwydoliaethau a rag‐arweiniasant attat ti, ar filwrio o honot ynddynt y filwriaeth dda, gan feddiannu ffydd a chydwybod dda, yr hon, rhai, wedi ei thalflu dros y bwrdd, a wnaethant long‐ddrylliad am y ffydd; o'r rhai y mae Hymenëus ac Alexander, y rhai a draddodais i Satan, fel y dysger hwynt i beidio a chablu. Annog yr wyf, gan hynny, yn gyntaf o bob peth, fod ymbiliau, gweddiau, deisyfiadau, a thalu diolch fod dros bob dyn; dros frenhinoedd a phawb mewn safle uchel, fel yr arweiniom fywyd heddychlon a thawel mewn pob duwioldeb a difrifoldeb. Hyn sydd dda a chymmeradwy gerbron Duw ein Hiachawdwr, yr hwn sydd yn ewyllysio i bawb dynion fod yn gadwedig, ac i ddyfod i lawn wybodaeth o'r gwirionedd. Canys un Duw sydd, un Cyfryngwr hefyd rhwng Duw a dynion, ei hun yn ddyn, Crist Iesu, yr hwn a'i rhoddes ei hun yn bridwerth dros bawb, yr hyn sydd i'w dystiolaethu yn ei amseroedd ei hun; i'r hyn y'm gosodwyd i yn gyhoeddwr ac Apostol (gwir yr wyf yn ei ddywedyd, nid wyf yn dywedyd celwydd), yn ddysgawdwr y Cenhedloedd mewn ffydd a gwirionedd. Am hynny yr wyf yn ewyllysio i'r gwŷr weddio ym mhob man, gan ddyrchafu dwylaw sanctaidd, heb na digter nac ymrafael. Yr un modd i'r gwragedd addurno eu hunain mewn dillad gweddus, gyda gŵylder a sobrwydd, nid â gwallt plethedig, ac aur, neu berlau, neu ddillad drudfawr; ond — yr hyn sydd yn gweddu i wragedd yn proffesu duwioldeb — trwy weithredoedd da. Dysged gwraig mewn llonyddwch gyda phob ymostyngiad. Ac nid wyf yn caniatau i wraig athrawiaethu, nac ymawdurdodi ar wr, ond bod mewn llonyddwch; canys Adda a luniwyd yn gyntaf, yna Efa; ac Adda ni thwyllwyd; eithr y wraig, wedi ei hollol‐dwyllo, sydd wedi syrthio i gamwedd; ond cadwedig fydd trwy ddwyn plant, os arhosant hwy mewn ffydd, a chariad, a sancteiddrwydd, gyda sobrwydd. Ffyddlawn yw yr ymadrodd, Os yw neb yn ymawyddu am yr Arolygiaeth, y mae yn chwennych gwaith da. Rhaid, gan hynny, i'r Arolygwr fod yn ddiargyhoedd, yn ŵr un wraig, yn sobr, yn bwyllog, yn weddaidd, yn llettygar, yn athrawaidd, nid yn wingar, nid yn darawydd,, yn ymarhous, yn anymladdgar, yn ddi‐ariangar, yn llywodraethu ei dy ei hun yn dda, yn dal ei blant mewn darostyngiad gyda phob difrifoldeb; (eithr onid yw un yn gwybod pa fodd i lywodraethu ei dŷ ei hun, pa fodd y cymmer ofal am eglwys Dduw?) Nid yn newyddian, rhag iddo, wedi ei ddallu gan falchder, syrthio i gondemniad y Diafol. Ac y mae yn rhaid iddo hefyd gael tystiolaeth dda gan y rhai oddi allan, fel na syrthio i waradwydd ac i fagl y Diafol. Rhaid i Ddiaconiaid yr un ffunud fod yn ddifrifol, nid yn ddau‐eiriog, nid yn ymroddi i win lawer, nid yn budr‐elwa, yn dal dirgelwch y ffydd mewn cydwybod bur. A phrofer y rhai hyn hefyd yn gyntaf, yna gwasanaethent fel Diaconiaid, os ydynt yn ddiargyhoedd. Rhaid i'r Gwragedd yr un ffunud fod yn ddifrifol, nid yn enllibaidd, yn sobr, yn ffyddlawn ym mhob peth. Bydded y Diaconiaid yn wŷr un wraig, yn llywodraethu eu plant a'u tai eu hunain yn dda. Canys y rhai a wasanaethant fel Diaconiaid yn dda, a ennillant iddynt eu hunain safle anrhydeddus, a llawer o hyfder yn y ffydd sydd yng Nghrist Iesu. Y pethau hyn yr ydwyf yn eu hysgrifennu attat, gan obeithio dyfod attat ar fyrder; ond os byddaf yn oedi, ysgrifennaf fel y gwyppech pa fodd y mae yn rhaid ymddwyn yn Nhŷ Dduw, yr hwn yw Eglwys y Duw byw, colofn a chynnalydd y gwirionedd. Ac yn ddiddadl mawr yw dirgelwch duwioldeb: Yr Hwn a amlygwyd yn y cnawd; A gyfiawnhâwyd yn yr Yspryd; A welwyd gan angelion; A bregethwyd i'r Cenhedloedd; A gredwyd ynddo yn y byd; A dderbyniwyd i fyny mewn gogoniant. Ond y mae yr Yspryd yn dywedyd yn bendant, yr ymedy rhai mewn amseroedd diweddarach oddiwrth y ffydd, gan roddi coel i ysprydion cyfeiliornus ac athrawiaethau cythreuliaid, trwy ragrith celwyddwyr, a'u cydwybod eu hunain wedi ei serio, megys â haiarn poeth; yn gwahardd priodi, ac yn erchi ymattal oddiwrth fwydydd y rhai a greodd Duw i'w derbyn gyda diolchgarwch gan y rhai sydd yn credu ac yn llawn‐wybod y gwirionedd. Oblegyd y mae pob peth a greodd Duw yn dda, ac nid oes dim i'w wrthod, os derbynnir gyda diolchgarwch; oblegyd sancteiddir ef trwy Air Duw a gweddi. Os gosodi y pethau hyn o flaen y brodyr, ti a fyddi yn weinidog da i Grist Iesu, gan gael dy feithrin yng ngeiriau y ffydd a'r athrawiaeth dda yr wyt wedi ei dylyn. Ond gwrthod chwedlau halogedig a hen‐wreigaidd, eithr ymarfer dy hun i dduwioldeb; canys y mae ymarfer corphorol yn fuddiol i ychydig raddau, ond y mae duwioldeb yn fuddiol i bob peth, a chanddi addewid o'r bywyd y sydd yn awr, ac o'r hwn sydd ar ddyfod: ffyddlawn yw y gair, ac yn haeddu pob derbyniad. Canys er mwyn hyn y llafuriwn ac yr ymdrechwn, canys yr ydym wedi gosod ein gobaith ar y Duw byw, yr hwn yw Iachawdwr pob dyn, yn enwedig y rhai sydd yn credu. Y pethau hyn gorchymyn a dysg. Na ddiystyred neb dy ieuengctyd di, eithr bydd yn esiampl i'r rhai sydd yn credu, mewn gair, mewn ymarweddiad, mewn cariad,, mewn ffydd, mewn purdeb. Hyd oni ddelwyf tal sylw i ddarllen, i gynghori, i athrawiaethu. Nac esgeulusa y dawn sydd ynot, yr hwn a roddwyd i ti trwy brophwydoliaeth, gydag arddodiad dwylaw yr Henaduriaeth. Bydd ddyfal yn y pethau hyn, aros ynddynt, fel y byddo dy gynnydd yn amlwg i bawb. Gwylia arnat dy hun, ac ar dy ddysgeidiaeth; aros ynddynt, canys wrth wneuthur hyn, ti a achubi dy hun a'r rhai a wrandawant arnat. Na cherydda henafgwr yn llym, eithr cynghora ef megys tâd; y rhai ieuengach, megys brodyr; y gwragedd hynach, megys mamau, a'r rhai ieuengach, megys chwiorydd, gyd phob purdeb. Anrhydedda wragedd gweddwon, y rhai sydd weddwon mewn gwirionedd. Ond os oes gan unrhyw weddw blant neu ŵyrion, dysgent yn gyntaf arfer duwioldeb at eu teulu eu hunain, a gwneyd atdaliad i'w rhieni: canys hyn sydd gymmeradwy yng ngolwg Duw. Yn awr yr hon sydd weddw mewn gwirionedd ac yn amddifad sydd wedi gosod ei gobaith ar Dduw, ac y mae yn parhâu mewn ymbiliau a gweddiau nos a dydd; eithr yr hon sydd yn arwain bywyd gloddestgar sydd yn farw tra yn fyw. A'r pethau hyn gorchymyn, fel y byddont yn ddiargyhoedd. Ac od oes neb heb ddarparu ar gyfer ei bobl ei hun, ac yn enwedig ei dylwyth ei hun, y mae wedi gwadu y ffydd, ac yn waeth na'r di‐ffydd. Na chofrester fel gweddw un dan dri‐ugain mlwydd oed, a fu wraig i un gwr, yn cael tystiolaeth dda am ei gweithredoedd da, os dygodd blant i fyny, os bu lettygar, os golchodd hi draed y saint, os cynnorthwyodd y cystuddiol, os dylynodd bob gweithred dda. Eithr gwrthod weddwon ieuaingc, canys pan änt yn nwyd‐wyllt yn erbyn iau Crist, priodi a fynnant, gan dderbyn condemniad, am iddynt osod heibio eu ffydd gyntaf. Heblaw, y maent yn dysgu bod yn segur, gan fyned o amgylch o dŷ i dŷ; ac nid yn unig yn ddiog, ond hefyd yn wag‐siaradus ac yn ymyrgar, gan lefaru pethau annghymwys. Yr wyf yn ewyllysio gan hynny i'r rhai ieuengach briodi, dwyn plant, llywodraethu eu teulu, heb roddi dim achlysur i'r gwrthwynebwr i ddifenwi: canys y mae rhai eisoes wedi gŵyro ar ol Satan. Od oes gan wraig grediniol weddwon, cynnorthwyed hwy, ac na osoder baich ar yr eglwys, fel y cynnorthwyo y gweddwon gwirioneddol. Cyfrifer yr Henuriaid sydd yn llywyddu yn dda yn deilwng o barch dyblyg, yn enwedig y rhai sydd yn llafurio yn y Gair a'r athrawiaeth; canys dywed yr Ysgrythyr, “Nid wyt i rwymo safn yr ŷch pan yn dyrnu yr ŷd”; ac, “Y mae y gweithiwr yn haeddu ei gyflog.” Yn erbyn Henuriad na dderbyn gyhuddiad oddieithr ym mhresennoldeb dau neu dri o dystion. Y rhai sydd yn pechu, cerydda yng ngwydd pawb, fel y byddo ofn ar y lleill. Yr wyf yn dy dynghedu, ym mhresennoldeb Duw, a Christ Iesu,, a'r etholedig angelion, ar gadw o honot y pethau hyn heb ragfarn, heb wneuthur dim o bleidgarwch, Na ddod ddwylaw yn frysiog ar neb, ac na fydd gyfrannog o bechodau rhai eraill; cadw dy hun yn bur. Nac ŷf ddwfr yn hwy, eithr arfer ychydig win er mwyn dy gylla a'th fynych wendidau. Pechodau rhai dynion sydd amlwg, yn myned o'r blaen i farn; i rai, y maent yn canlyn ar eu hol. Yr un modd hefyd y mae gweithredoedd da yn amlwg, a'r rhai sydd wahanol, nis gellir eu cuddio. Cynnifer ag sydd dan yr iau yn gaethweision, cyfrifent eu meistriaid eu hunain yn deilwng o bob anrhydedd, fel na chabler enw Duw a'r athrawiaeth. A'r rhai sydd ganddynt feistriaid crediniol, na ddiystyrent hwynt am eu bod yn frodyr, ond gwasanaethent hwy yn fwy, am fod y rhai sydd yn gyfrannogion o'r lleshâd yn gredinwyr ac yn anwyliaid. Y pethau hyn dysg a chynghora. Os dysg neb yn wahanol, ac heb gydsynied â geiriau iachus, sef eiddo ein Harglwydd Iesu Grist, a'r athrawiaeth sydd yn ol duwioldeb, y mae wedi ei dywyllu, heb wybod dim, ond yn pendroni ynghylch cwestiynau ac ymryssonau ynghylch geiriau, o'r rhai y cyfyd cenfigen, cynhen, cabl‐eiriau, drwg‐dybiau, ymrafaelion dibaid dynion llygredig eu meddwl, ac yn amddifad o'r gwirionedd, y rhai a dybiant fod duwioldeb yn ffynnonnell elw. Ond y mae duwioldeb gyda boddlonrwydd yn elw mawr. Canys ni ddygasom ddim i'r byd, canys ni allwn ddwyn dim allan chwaith; ond gan fod gennym ymborth a dillad, a'r pethau hyn y'n digonir. Ond y rhai a fynnant ymgyfoethogi a syrthiant i brofedigaeth a magl, a llawer o chwantau ynfyd a niweidiol, yn gyfryw ag sydd yn suddo dynion i ddinystr a cholledigaeth; canys y mae ariangarwch yn wreiddyn pob drwg, a rhai, wedi chwantu am arian, a gyfeiliornasant oddiwrth y ffydd, ac a drywanasant eu hunain a llawer o ofidiau. Eithr tydi, ŵr Duw, gochel y pethau hyn, a dylyn gyfiawnder, duwioldeb, ffydd, cariad, amynedd, addfwynder. Ymdrecha hardd‐deg ymdrech y ffydd: cymmer afael ar y bywyd tragywyddol, i'r hwn hefyd y'th alwyd, ac y cyffesaist y gyffes dda gerbron llawer o dystion. Yr wyf yn gorchymyn i ti gerbron Duw, yr hwn sydd yn cadw pob peth yn fyw, a Christ Iesu, yr hwn yn amser Pontius Pilat a dystiodd y gyffes dda, gadw o honot y gorchymyn heb frycheuyn, yn ddiargyhoedd, hyd Ymddangosiad ein Harglwydd Iesu Grist, yr hwn yn ei amserau ei hun a ddengys y Bendigedig Dduw a'r unig Bennaeth, Brenin y rhai a deyrnasant, Arglwydd y rhai a arglwyddiaethant, yr hwn yn unig sydd ganddo Anfarwoldeb, yn trigo yn y goleuni nas gellir dyfod atto, yr hwn nis gwelodd un dyn, ac nis dichon ei weled: i'r hwn y byddo anrhydedd a gallu tragywyddol. Amen. Gorchymyn i'r rhai sydd oludog yn y byd yma, na byddont uchel‐feddwl, ac na osodont eu gobaith ar olud anwadal, eithr ar Dduw, yr hwn sydd yn rhoddi i ni bob peth mewn modd goludog, er mwynhâd; ar iddynt wneuthur daioni, ac ymgyfoethogi mewn gweithredoedd da, bod yn gyfranwyr da, ac yn gymdeithasgar, gan drysori iddynt eu hunain sail dda ar gyfer y dyfodol, fel y caffont afael ar y bywyd gwirioneddol. O Timotheus, gwarchod yr hyn a roed i'th gadwraeth, gan droi oddiwrth y gwag‐siaradach halogedig, a gwrth‐osodiadau y wybodaeth a gam-enwir felly, yr hon, a rhai yn ei phroffesu, hwy, mewn perthynas i'r Ffydd, a ŵyrasant oddiwrth y nod. Gras fyddo gyda chwi. Paul, Apostol Crist Iesu trwy ewyllys Duw, yn ol addewid y bywyd yr hwn sydd yng Nghrist Iesu, at Timotheus, fy mhlentyn anwyl: Gras, trugaredd, tangnefedd, oddiwrth Dduw Dâd a Christ Iesu ein Harglwydd. Y mac gennyf ddiolch i Dduw, yr hwn yr wyf yn ei wasanaethu o'm cyndadau mewn cydwybod bur, mor ddibaid y mae gennyf goffa am danat ti yn fy neisyfiadau, nos a dydd yn hiraethu am dy weled di, gan gofio dy ddagrau, fel y'm llanwer o lawenydd; wedi cael fy adgoffa o'r ffydd ddiragrith sydd ynot ti, yr hon a drigodd yn gyntaf yn dy nain Lois, ac yn dy fam Eunice, a diamheu gennyf, ynot tithau hefyd. O herwydd pa achos yr wyf yn dy adgoffa i ail‐ennyn yn fflam ddawn Duw, yr hwn sydd ynot trwy arddodiad fy nwylaw i. Canys ni roddes Duw i ni yspryd llwfrdra, eithr o allu, a chariad, a phwyll. Am hynny na fydded arnat gywilydd o dystiolaeth ein Harglwydd, nac o honof finnau ei garcharor ef; eithr cyd‐oddef di gystudd ar ran yr efengyl yn ol gallu Duw, yr hwn a'n hachubodd ni, ac a'n galwodd ni â galwedigaeth sanctaidd, nid yn ol ein gweithredoedd ni, ond yn ol ei arfaeth ei hun, a gras yr hwn a roddwyd i ni cyn amseroedd yr oesoedd, ond a amlygwyd yn awr trwy Ymddangosiad ein Hiachawdwr Crist Iesu, yr hwn a ddirymmodd yr angau, ac a daflodd oleuni ar fywyd ac anllygredigaeth trwy yr efengyl; i'r hon y'm gosodwyd i yn bregethwr, ac Apostol, a dysgawdwr y Cenhedloedd. Am ba achos yr wyf yn dyoddef hefyd y pethau hyn; ond nid oes arnaf gywilydd; canys mi a wn i bwy yr ymddiriedais, ac yr wyf yn argyhoeddedig ei fod yn alluog i warchod yr hyn a roddais i'w gadw erbyn y Dydd hwnnw. Dal gynllun y geiriau iachus a glywaist gennyf fi, mewn ffydd a chariad yng Nghrist Iesu. Y peth da a rodded i ti i'w gadw, gwarchod trwy yr Yspryd Glân, yr hwn sydd yn preswylio ynom. Ti a wyddost hyn, ddarfod i'r rhai oll sydd yn Asia droi oddiwrthyf fi, o'r rhai y mae Phegelus a Hermogenes. Rhodded yr Arglwydd drugaredd i dŷ Onesiphorus; canys yn fynych y'm hadlonnodd i, ac nid oedd gywilydd ganddo fy nghadwyn i; eithr pan ddaeth i Rufain, efe a'm ceisiodd yn ddiwyd iawn, ac a'm cafodd (rhodded yr Arglwydd iddo gael trugaredd gan yr Arglwydd yn y Dydd hwnnw!) ac ym mha lawer o bethau y gwasanaethodd efe yn Ephesus, ti a wyddost yn dda iawn. Tydi gan hynny, fy mhlentyn, ymnerther di yn y gras sydd yng Nghrist Iesu; a'r pethau a glywaist gennyf yng ngwydd llawer o dystion, traddoda y rhai hynny i ddynion ffyddlawn, y rhai a fyddant gymhwys i ddysgu eraill hefyd. Cyd‐oddef adfyd gyda mi, fel milwr da i Iesu Grist. Nid yw yr hwn sydd yn milwrio yn ymddyrysu yng ngorchwylion y bywyd hwn, fel y rhyngo fodd i'r hwn a'i cofrestrodd yn filwr. Ac hefyd os ymdrecha neb yn y campau, ni choronir ef onid ymdrecha yn gyfreithlawn. Rhaid i'r amaethydd sydd yn llafurio fod y cyntaf i gyfrannogi o'r ffrwythau. Ystyria yr hyn yr wyf yn ei ddywedyd, canys yr Arglwydd a ddyry i ti ddeall ym mhob peth. Cadw mewn côf Iesu Grist, fel wedi adgyfodi o feirw, o hâd Dafydd, yn ol fy efengyl i, yn yr hon yr wyf yn goddef adfyd hyd rwymau, fel drwg‐weithredwr; eithr gair Duw ni rwymwyd. O herwydd hyn yr wyf yn goddef pob peth er mwyn yr etholedigion, fel y caffont hwythau hefyd yr iachawdwriaeth sydd yng Nghrist Iesu, gyda gogoniant tragywyddol. Ffyddlawn yw y gair: Canys os buom feirw gydag ef, byw fyddwn hefyd gydag ef; os goddefwn, teyrnaswn hefyd gydag ef; os gwadwn ef, yntau hefyd a'n gwad ni; os ydym ni yn anffyddlawn, efe a erys yn ffyddlawn, canys nis gall efe wadu ei hun. Dwg y pethau hyn i'w côf, gan eu tynghedu gerbron Duw na byddo iddynt ymryson ynghylch geiriau, yr hyn nid yw fuddiol i ddim, ond i ddadymchwelyd y rhai sydd yn gwrandaw. Bydd ddyfal i gyflwyno dy hun yn gymmeradwy i Dduw, yn weithiwr na raid iddo gywilyddio, gan iawn‐gyfrannu gair y gwirionedd. Ond cadw draw oddiwrth bob halogedig wag‐siarad, canys ant rhagddynt i fwy o annuwioldeb; a'u gair hwy a fwytty yn ddyfnach, fel cancr gwyllt; o'r rhai y mae Hymenëus a Philetus; yn rhai o ran y gwirionedd a gyfeiliornasant, gan ddywedyd fod yr Adgyfodiad wedi cymmeryd lle eisoes, ac y maent yn dadymchwelyd ffydd rhai. Eithr yn wir y mae cadarn sail Duw yn sefyll, a chanddo y sêl hon, Yr Arglwydd a edwyn y rhai sydd eiddo ef, a, Pob un sydd yn enwi enw yr Arglwydd, cadwed yn glir oddiwrth annghyfiawnder. Yn awr, mewn tŷ mawr, y mae nid yn unig lestri o aur ac o arian, ond hefyd o bren ac o bridd; a rhai i barch, a rhai i ammharch. Os gan hynny, y glanhâ neb ei hun oddiwrth y rhai hyn, efe a fydd yn llestr i barch, wedi ei gyssegru, yn gymhwys i wasanaeth y Meistr, wedi ei ddarparu i bob gweithred dda. Ond chwantau ieuengctyd, ffo oddiwrthynt, a dylyn ar ol cyfiawnder, ffydd, cariad, tangnefedd, gyda'r rhai sydd yn galw ar yr Arglwydd o galon bur. Eithr gochel ynfyd ac anwybodus gwestiynau, gan wybod eu bod yn cynnyrchu ymrafaelion; ac ni ddylai gwas yr Arglwydd ymrafaelio, ond bod yn dirion wrth bawb, yn athrawus, yn amyneddgar yn wyneb cam, mewn addfwynder yn hyfforddi y rhai gwrthwynebus, os byth y rhydd Duw iddynt edifeirwch i lawn‐adnabyddiaeth o'r gwirionedd, ac ymddadebru i sobrwydd allan o fagl y Diafol, wedi eu dal ganddo ef i'w ewyllys ef. Ond gwybydd hyn, y daw amseroedd enbyd yn y dyddiau diweddaf, canys bydd dynion yn hunangar, yn ariangar, yn ymffrostwyr, yn feilchion, yn gablwyr, yn anufuddion i rieni, yn anniolchgar, yn ansanctaidd, heb serch naturiol, yn annghymodlawn, yn enllibaidd, yn annghymmedrol, yn greulawn, heb serch at ddaioni, yn fradwyr, yn fyrbwyll, wedi ymchwyddo, yn hoffwyr pleser yn hytrach nag yn hoffwyr Duw, a chanddynt rith duwioldeb, eithr wedi gwadu ei grym hi; ac oddiwrth y rhai hyn tro ymaith. Canys o'r rhai hyn y mae y rhai sydd yn ymlusgo i deuluoedd, ac yn dwyn i gaethiwed wrageddos wedi eu llethu gan bechodau, wedi eu harwain gan amrywiol chwantau, o hyd yn dysgu, a byth yn methu dyfod i lawn‐wybodaeth o'r gwirionedd. Ond y modd y gwrthsafodd Jannes a Jambres Moses, felly hefyd y mae y rhai hyn yn gwrthsefyll y gwirionedd: dynion a'u meddyliau wedi eu hollol lygru, yn annghymmeradwy o ran ffydd. Eithr nid änt rhagddynt ym mhellach, canys eu hynfydrwydd fydd amlwg i bawb, fel y bu yr eiddynt hwy hefyd. Eithr tydi a ddylynaist fy addysg i, fy ymarweddiad, arfaeth, ffydd, hir‐ymaros, cariad, amynedd, erlidiau, dyoddefiadau, y fath a ddygwyddasant i mi yn Antioch, yn Iconium, yn Lystra; y fath erlidiau a ddyoddefais: ac allan o honynt oll yr Arglwydd a'm gwaredodd. Ië, a phawb sydd yn ewyllysio byw yn dduwiol yng Nghrist Iesu a erlidir. Eithr drwg‐ddynion a thwyllwyr a ânt rhagddynt waethwaeth, gan dwyllo a chael eu twyllo. Eithr tydi, aros yn y pethau a ddysgaist, ac o'r rhai yr wyt yn argyhoeddedig, gan wybod gan bwy y dysgaist hwynt; ac i ti er yn faban wybod yr Ysgrythyrau Sanctaidd, y rhai sydd yn alluog i'th wneuthur yn ddoeth i iachawdwriaeth, trwy ffydd, yr hon sydd yng Nghrist Iesu. Pob Ysgrythyr ysprydoledig gan Dduw sydd hefyd fuddiol er addysgu, er argyhoeddi, er adferyd, er hyfforddi mewn cyfiawnder, fel y byddo dyn Duw yn gyflawn, wedi ei lawn‐ddarparu i bob gweithred dda. Yr wyf yn gorchymyn i ti yn ddifrifol gerbron Duw a Christ Iesu, yr hwn sydd ar fedr barnu y byw a'r meirw, a myn ei Ymddangosiad a'i Deyrnas, pregetha y gair; bydd dyfal mewn amser, allan o amser; argyhoedda, cerydda, cynghora, gyda phob hir‐ymaros ac addysg. Canys bydd amser pan na ddyoddefont yr athrawiaeth iachus, eithr yn ol eu chwantau eu hunain hwy a bentyrrant athrawon iddynt eu hunain, gan fod eu clyw wedi merwino; ac a droant eu clustiau oddiwrth y gwirionedd, ac a droant o'r neilltu at chwedlau. Ond tydi, bydd yn sobr ym mhob peth, goddef adfyd, gwna waith efengylwr, cyflawna dy weinidogaeth. Canys yr wyf fi eisoes yn cael fy offrymmu, a thymhor fy ymadawiad i a ddaeth. Yr wyf wedi ymdrechu yr ymdrech dda, yr wyf wedi gorphen y rhedegfa, yr wyf wedi cadw y ffydd. O hyn allan y mae mewn cadw i mi goron cyfiawnder, yr hon a rydd yr Arglwydd i mi yn y dydd hwnnw, y Barnwr cyfiawn: ac nid yn unig i mi, ond hefyd i bawb sydd wedi caru ei Ymddangosiad ef. Bydd ddyfal i ddyfod attaf ar fyrder, canys Demas a'm gadawodd i, wedi caru y byd presennol, ac a aeth i Thessalonica; Crescens i Galatia; Titus i Dalmatia; Luc yn unig sydd gyda mi. Cymmer i fyny Marc ar y ffordd, a dwg ef gyda thi, canys buddiol iawn yw ef i mi er gwasanaeth. Tychicus a ddanfonais i Ephesus. Y gochl a adewais yn Troas gyda Carpus, pan ddelych, tyred a hi, a'r llyfrau, ac yn enwedig y memrynnau. Alexander y gôf a wnaeth i mi yn gyhoeddus ddrygau lawer: yr Arglwydd a dâl iddo yn ol ei weithredoedd. Yr hwn hefyd gwylia dithau rhagddo, canys ef a safodd yn ddirfawr yn erbyn ein hymadroddion ni. Yn fy amddiffyniad cyntaf ni safodd neb gyda mi, eithr pawb a'm gadawsant; na chyfrifer hyn iddynt. Eithr yr Arglwydd a safodd gyda mi, ac a'm nerthodd, fel trwof fi y byddai i'n cennadwri gael ei chyhoeddi yn llawn, ac y clywai yr holl genhedloedd: a gwaredwyd fi o enau y llew. A'r Arglwydd a'm gwared oddiwrth bob gwaith drwg, ac a'm ceidw i'w deyrnas nefol: i'r hwn y byddo'r gogoniant yn oes oesoedd, Amen. Cyfarch Prisca ac Acwila, a theulu Onesiphorus. Erastus a arhosodd yn Corinth, ond Trophimus a adewais yn Miletus yn glaf. Ymdrecha i ddyfod cyn y gauaf. Y mae Eubulus yn dy gyfarch, a Pudens, a Linus, a Chlaudia, a'r brodyr oll. Yr Arglwydd fyddo gyda'th yspryd. Gras fyddo gyda chwi. Paul, gwas Duw, ac Apostol Iesu Grist mewn perthynas i ffydd etholedigion Duw, a llawn‐wybodaeth o'r gwirionedd, yr hon sydd yn ol duwioldeb, yng ngobaith bywyd tragywyddol, yr hwn a addawodd y digelwyddog Dduw cyn amseroedd tragywyddol; ac yn ei amseroedd priodol a amlygodd ei Air yn y Gennadwri a ymddiriedwyd i mi yn ol gorchymyn Duw ein Hiachawdwr; at Titus fy ngwir blentyn yn ol y ffydd gyffredinol: Gras,, a thangnefedd oddiwrth Dduw Dâd a Christ Iesu ein Hiachawdwr. Er mwyn hyn y'th adewais yn Creta, fel yr iawn drefnit ym mhellach y pethau oedd yn ddiffygiol, ac y gosodit Henuriaid ym mhob dinas, fel y gorchymynais i ti. Os yw neb yn ddiargyhoedd, yn wr un wraig, a chanddo blant yn credu, heb eu cyhuddo o afradlonedd, ac yn afreolus: canys rhaid i'r Arolygwr fod yn ddiargyhoedd, fel goruchwyliwr Duw; nid yn hunan‐foddog, nid yn ddrwg ei dymher, nid yn wingar, nid yn darawydd, nid yn budr‐elwa; eithr yn llettygar, yn caru y da, yn ddoeth, yn gyfiawn, yn sanctaidd, yn rheoli ei hun, gan ddal yn lew wrth y gair ffyddlawn yn ol ein dysgeidiaeth, fel y bo yn alluog i gynghori yn yr athrawiaeth iachus, ac argyhoeddi y rhai sydd yn gwrth‐ddywedyd. Canys y mae llawer yn afreolus, ofer‐siaradus, a thwyllwyr, yn enwedig y rhai o'r Enwaediad, y rhai y mae rhaid cau eu safnau, y rhai sydd yn ansefydlu teuluoedd cyfain, gan ddysgu y pethau na ddylid, er mwyn budr‐elw. Dywedodd un o honynt hwy eu hunain, prophwyd o'r eiddynt eu hunain, “Cretiaid ydynt bob amser yn gelwyddog, drwg fwystfilod, gloddestwyr gorddiog.” Y dystiolaeth hon sydd wir. Am ba achos argyhoedda hwynt yn llym, fel y byddont iach yn y ffydd, heb ddal ar chwedlau Iuddewaidd a gorchymynion dynion, yn troi oddiwrth y gwirionedd. Pob peth sydd bur i'r rhai pur, ond i'r rhai halogedig a di‐ffydd nid oes dim yn bur, eithr y mae eu meddwl a'u cydwybod hwy yn halogedig. Y maent yn proffesu yr adwaenant Dduw, ond trwy eu gweithredoedd gwadant ef, gan fod yn ffiaidd, ac anufudd, ac yn anaddas i bob gweithred dda. Eithr llefara di y pethau a weddant i'r athrawiaeth iachus: bod hynafgwyr yn sobr, yn ddifrifol, yn ddoeth, yn iach yn y ffydd, mewn cariad, mewn ymaros: bod hynaf‐wragedd, yr un modd, yn eu hymddygiad fel y gwedda i rai sanctaidd; nid yn enllibaidd, nid wedi ymroi i win lawer, yn dysgu yr hyn sydd dda, fel yr hyfforddont y gwragedd ieuaingc i garu eu gwŷr, i garu eu plant, i fod yn ddoeth, yn ddiwair, yn gwarchod gartref, yn dda, gan fod yn ddarostyngedig i'w gwŷr eu hunain, fel na chabler gair Duw. Y gwŷr ieuengach, yr un modd, cynghora i fod yn ddoeth, gan dy ddangos dy hun ym mhob peth yn esiampl i weithredoedd da, yn dy ddysgeidiaeth yn dangos anllygredigaeth, difrifoldeb, ymadrodd iachus nas gellir ei gondemnio; fel y byddo i'r hwn sydd yn y gwrthwyneb gywilyddio, heb ganddo ddim iselwael i'w ddywedyd am danom. Cynghora weision i fod yn ddarostyngedig i'w meistriaid eu hun; i ryngu bodd iddynt ym mhob peth; nid yn gwrth‐ddywedyd; nid yn darn‐guddio, eithr yn dangos pob ffyddlondeb da, fel yr addurnont athrawiaeth Duw ein Hiachawdwr ym mhob peth. Canys ymddangosodd gras Duw yn dwyn iachawdwriaeth i bob dyn, gan ein hyfforddi, fel gan wadu annuwioldeb a chwantau bydol, y bo i ni fyw yn ddoeth, ac yn gyfiawn, ac yn dduwiol, yn y byd sydd yn awr, gan ddysgwyl am y gobaith gwynfydedig ac am Ymddangosiad gogoniant ein Duw mawr a'n Hiachawdwr Iesu Grist; yr hwn a'i rhoddes ei hun drosom, fel y'n prynnai oddiwrth bob annghyfraith; ac y'n purai iddo ei hun yn bobl yn feddiant iddo ei hun, selog i weithredoedd da. Y pethau hyn llefara a chynghora ac argyhoedda gyda phob awdurdod. Na ddiystyred neb di. Dwg ar gôf iddynt fod yn ddarostyngedig i lywodraethau, i awdurdodau, i fod yn ufudd, i fod yn barod i bob gweithred dda, bod heb gablu neb, i fod yn anymrysongar, yn dirion, gan ddangos pob addfwynder tuag at bob dyn. Canys yr oeddem ninnau hefyd gynt yn annoethion, yn anufudd, yn crwydro, yn gwasanaethu amryw chwantau a phleserau, gan dreulio ein bywyd mewn drygioni a chenfigen, yn atgas, yn cashâu ein gilydd. Eithr pan ymddangosodd caredigrwydd a chariad Duw ein Hiachawdwr at ddyn, nid o weithredoedd mewn cyfiawnder y rhai a wnaethom ni, ond yn ol ei drugaredd yr achubodd efe nyni, trwy olchiad adenedigaeth ac adnewyddiad yr Yspryd Glân, yr hwn a dywalltodd efe arnom ni yn oludog, trwy Iesu Grist ein Hiachawdwr, fel, gwedi ein cyfiawnhâu trwy ei ras ef, y'n gwnelid yn etifeddion yn ol gobaith bywyd tragywyddol. Ffyddlawn yw y gair, ac am y pethau hyn mi a ewyllysiwn i ti lefaru yn groyw, fel y byddo i'r sawl sydd wedi credu i Dduw ofalu bod yn flaenllaw mewn gweithredoedd da: y pethau hyn sydd dda a buddiol i ddynion. Ond gochel gwestiynau ffol, ac achau, a chynhennau, ac ymrysonnau ynghylch y Gyfraith; canys y maent yn anfuddiol ac ofer. Gwrthod ddyn a fyddo heretic wedi un ac ail rybudd, gan wybod fod y cyfryw un wedi ei ŵyr‐droi ac yn pechu, ac yn hunan‐gondemniedig. Pan ddanfonwyf Artemas attat, neu Tychicus, bydd ddyfal i ddyfod attaf i Nicopolis; canys yno yr wyf wedi penderfynnu gauafu. Gyda gofal anfon ym mlaen Zenas y Cyfreithiwr, ac Apollos ar eu taith, fel na byddo arnynt eisieu dim. A dysged yr eiddom ni hefyd flaenori mewn gweithredoedd da er yr eisieu angenrheidiol, fel na byddont yn ddiffrwyth. Y mae yr holl rai sydd gyda mi yn dy gyfarch. Cyfarch y rhai sydd yn ein caru ni yn y ffydd. Gras fyddo gyda chwi oll. Paul, carcharor Crist Iesu, a Thimotheus ein brawd, at Philemon ein hanwylyd a'n cyd‐weithiwr, ac at Apphia ein chwaer, ac at Archippus ein cyd‐filwr, a'r eglwys sydd yn dy dŷ di: Gras i chwi a thangnefedd oddiwrth Dduw ein Tâd, a'r Arglwydd Iesu Grist. Yr wyf yn diolch i'm Duw yn wastadol, gan wneuthur coffa am danat yn fy ngweddiau, gan glywed am dy gariad, a'r ffydd sydd gennyt tuag at yr Arglwydd Iesu, a thuag at yr holl saint — fel y bo i gymdeithas dy ffydd ddyfod yn effeithiol, trwy lawn‐adnabyddiaeth o bob peth da sydd ynom ni, tuag at Grist. Canys cefais lawer o lawenydd a dyddanwch yn dy gariad di, o herwydd i galonnau y saint gael eu hadlonni trwot ti, frawd. O herwydd paham, er fod gennyf yng Nghrist lawer o hyfdra i orchymyn i ti yr hyn sydd gyfaddas, o achos cariad yn hytrach yr wyf yn attolwg, a mi yn gyfryw un a Phaul yr hynafgwr, ac yn awr hefyd yn garcharor Crist Iesu; yr wyf yn attolwg ti ynghylch fy mhlentyn, yr hwn a genhedlais yn fy rhwymau, Onesimus, yr hwn gynt a fu i ti yn anfuddiol, ond sydd yn awr i ti ac i minnau yn fuddiol, yr hwn a ddanfonais yn ol attat, efe ei hun, hynny yw, fy nghalon fy hun; yr hwn yr oeddwn i yn ewyllysio ei gadw gyda mi, fel ar dy ran y gwasanaethai efe fi yn rhwymau yr efengyl; eithr heb dy feddwl di ni ddymunwn wneuthur dim; fel na byddai dy ddaioni di megys o anghenrhaid ond o wirfodd. Canys o herwydd hyn, efallai, y gwahanwyd ef oddiwrthyt am amser byr fel y byddai gennyt am byth; nid fel caethwas mwyach, eithr uwchlaw caethwas, yn frawd anwyl, yn bennaf i mi; eithr pa faint mwy i ti, yn y cnawd ac yn yr Arglwydd hefyd? Os wyt ti gan hynny yn fy nghymmeryd i yn gyfrannogwr a thi, derbyn ef fel myfi. Ond os gwnaeth efe ddim cam â thi, neu os yn dy ddyled, dyro hynny at fy nghyfrif i; myfi Paul a ysgrifennaf â'm llaw fy hun, Myfi a dalaf: fel na ddywedwyf wrthyt dy fod yn ddyledus i mi ym mhellach am danat dy hun. Ie, frawd, gâd i mi dderbyn llês oddiwrthyt yn yr Arglwydd; adlonna fy nghalon yng Nghrist. Gan hyderu ar dy ufudd‐dod yr ysgrifennaf attat, gan wybod y gwnei, ië, fwy nag yr wyf yn ei ddywedyd. Heblaw hyn hefyd, parottoa i mi letty: canys yr ydwyf yn gobeithio trwy eich gweddiau chwi y caniateir i mi ddyfod attoch. Y mae yn dy gyfarch Epaphras fy nghyd‐garcharor yng Nghrist Iesu; Marc, Aristarchus, Demas, Luc, fy nghyd‐weithwyr. Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda'ch yspryd chwi. Amen. Duw, wedi iddo lefaru mewn amrywiol rannau ac mewn amrywiol ddulliau er cynt wrth y Tadau yn y Prophwydi yn niwedd y dyddiau hyn a lefarodd wrthym ni mewn Mab, yr hwn a benododd efe yn etifedd pob peth, trwy yr hwn hefyd y gwnaeth efe yr oesau; yr hwn, ac efe yn lewyrchiad ei ogoniant ef, ac yn argraph ei sylwedd ef, ac yn cynnal ymlaen yr oll â gair ei allu, wedi iddo effeithio puredigaeth pechodau, a eisteddodd ar ddeheulaw y Mawredd yn y goruwch‐leoedd; wedi myned yn gymaint gwell na'r angelion, o gymaint ag yr etifeddodd Enw mwy rhagorol na hwynt‐hwy. Canys wrth bwy o'r angelion y dywedodd efe erioed, Fy Mab ydwyt Ti, Myfi heddyw a'th genhedlais?. A thrachefn, Myfi a fyddaf iddo ef yn Dâd, Ac efe a fydd i mi yn Fab. A phan fydd wedi dwyn drachefn y Cyntaf‐anedig i'r byd preswyliedig, dywed, Ac addoled holl angelion Duw ef Ac am yr angelion dywed, Yr hwn sydd yn gwneuthur ei angelion yn wyntoedd, a'i weinidogion yn fflam dân; Ond am y Mab: Dy orseddfaingc di, O Dduw, sydd yn oes oesoedd. A Theyrn‐wialen uniondeb yw teyrn‐wialen dy Deyrnas di; Ceraist gyfiawnder, a chasëaist anghyfraith: Am hyn yr eneiniodd Duw, dy Dduw, dydi ag olew gorfoledd, tu hwnt i'th gymdeithion. Ac, Tydi yn y dechreuad, Arglwydd, a sylfaenaist y ddaear, a gwaith dy ddwylaw di yw y nefoedd. Hwy a ddinystrir, ond tydi wyt yn parhau yn ddigyfnewid; A hwynt‐hwy oll fel gwisg a heneiddiant; Ac megys mantell y plygi di hwynt, Fel gwisg, a hwy a newidir; Ond tydi, yr un ydwyt, a'th flynyddoedd ni phallant Ond am ba un o'r angelion y dywedodd efe erioed, Eistedd ar fy neheulaw, Hyd oni osodaf dy elynion yn droed‐faingc i'th draed? Onid ysbrydion gwasanaethgar ydynt hwy oll, yn cael eu danfon i wasanaethu, er mwyn y rhai a gânt etifeddu iachawdwriaeth? O herwydd hyn rhaid i ni roddi sylw helaethach i'r pethau a glybuwyd, rhag un amser i ni gael ein cludo heibio iddynt. Canys os bu sicr y gair a lefarwyd trwy angelion, ac os derbyniodd pob troseddiad ac anufudd‐dod gyfiawn daledigaeth, pa fodd y dïangwn ni, wedi esgeuluso iachawdwriaeth mor fawr? yn gyfryw a gafodd ar y dechreu ei llefaru trwy yr Arglwydd, a sicrhâwyd i ni gan y rhai a glywsant; Duw hefyd yn cyd‐dystiolaethu trwy arwyddion a rhyfeddodau, ac amrywiol nerthoedd a chyfraniadau yr Yspryd Glân, yn ol ei ewyllys ei hun. Canys nid i angelion y darostyngodd efe y Byd sydd ar Ddyfod, am yr hwn yr ydym yn llefaru. Eithr tystiolaethodd rhyw un mewn rhyw fan, gan ddywedyd, Pa beth yw dyn, i ti i'w gofio? Neu fab dyn i ti ymweled âg ef? Ti a'i gwnaethost ychydig yn llai nag angelion; A gogoniant ac anrhydedd y coronaist ef; [Ac a'i gosodaist ef ar weithredoedd dy ddwylaw ]; Ti a ddarostyngaist bob peth dan ei draed ef; canys mewn darostwng yr oll iddo, ni adawodd efe ddim heb ei ddarostwng iddo. Ond yn awr nid ydym ni eto yn gweled yr oll wedi ei ddarostwng iddo. Ond yr ydym yn canfod yr hwn a wnaed ychydig yn llai nag angelion, Iesu, o herwydd dyoddefaint ei Farwolaeth, wedi ei goroni â gogoniant ac anrhydedd, fel trwy ras Duw y profai flas marwolaeth dros bob un. Canys gweddai iddo ef, o herwydd yr hwn y mae pob peth, a thrwy yr hwn y mae pob peth, pan yn arwain meibion lawer i ogoniant, berffeithio Tywysydd eu hiachawdwriaeth trwy ddyoddefiadau. Canys yr hwn sydd yn sancteiddio, a'r rhai a sancteiddir, o Un Tad y maent oll; am ba achos nid oes arno gywilydd eu galw yn frodyr, gan ddywedyd, Mynegaf dy enw i'm brodyr, Ynghanol y Gynnulleidfa y canaf dy fawl. A thrachefn, Myfi fyddaf yn ymddiried ynddo. A thrachefn, Wele fi a'r plant a roddes Duw i mi. Oblegyd hynny, gan fod y plant wedi cyfranogi o waed a chnawd, yntau hefyd mewn cyffelyb fodd a gyfranogodd o'r un pethau, fel trwy farwolaeth y dirymai efe yr hwn sydd ganddo nerth marwolaeth, hynny yw, y Diafol, ac y gwaredai hwynt, y rhai trwy ofn marwolaeth oeddynt trwy eu holl fywyd yn ddarostyngedig i gaethiwed. Canys, bid sicr, nid mewn angelion y cymer efe afael, eithr efe a gymer afael yn hâd Abraham: am ba achos y dylai ym mhob peth ei wneud yn gyffelyb i'w frodyr, fel y byddai yn Arch‐offeiriad trugarog a ffyddlawn yn y pethau a berthynant i Dduw, er gwneuthur cymod dros bechodau y bobl: Canys yn yr hyn y dyoddefodd ef ei hun gan gael ei demtio, efe a ddichon gynorthwyo y rhai a demtir. Oherwydd paham, frodyr sanctaidd, cyfranogion o alwedigaeth nefol, ystyriwch Apostol ac Arch‐offeiriad ein Cyffes, Iesu, ei fod yn ffyddlawn i'r hwn a'i penododd ef, fel y bu Moses yn ei holl dŷ. Canys hwn a gyfrifwyd yn haeddu mwy gogoniant na Moses, o gymaint ag y mae yr hwn a adeiladodd y tŷ yn cael mwy o barch na'r tŷ. Canys pob tŷ a adeiledir gan ryw un, ond yr hwn a adeiladodd bob peth yw Duw. A bu Moses yn wir yn ffyddlawn yn ei holl dŷ megys gwas, er tystiolaeth i'r pethau oedd i gael eu llefaru; eithr Crist fel Mab ar ei dŷ, tŷ yr hwn ydym ni, os daliwn afael yn yr hyfdra ac ymffrost ein gobaith hyd y diwedd. Am hynny, megys y mae yr Yspryd Glân yn dywedyd, Heddyw os clywoch ei lais ef, Na chaledwch eich calonnau, fel yn y Llidiad, Yn Nydd y Brofedigaeth yn yr Anialwch, Lle y temtiodd eich Tadau fi yn y Prawf, Ac y gwelsant fy ngweithredoedd ddeugain mlynedd. Am hynny y digiais wrth y genhedlaeth honno, a dywedais, Yn barhaus y maent yn cyfeiliorni yn eu calon. Ac nid adnabuant fy ffyrdd; Fel y tyngais yn fy llid. Ni ddeuant i mewn i'm Gorphwysfa. Edrychwch, frodyr, na byddo un amser yn neb o honoch galon ddrwg anghrediniaeth, yn eich syrthio ymaith oddiwrth y Duw byw; eithr anogwch eich gilydd bob dydd tra y gelwir hi Heddyw, fel na chaleder neb o honoch trwy dwyll pechod. Canys yr ydym wedi ein gwneud yn gyfranogion gyda Christ, os daliwn ddechreuad ein hyder yn ddiysgog hyd y diwedd; gan y dywedir, Heddyw, os clywoch ei lais ef, Na chaledwch eich calonnau fel yn y Llidiad. Canys pwy, wedi clywed, a gyffroisant ei lid? onid yr oll a ddaethant allan o'r Aipht trwy Moses? Ac wrth bwy y digiodd efe ddeugain mlynedd? Onid wrth y rhai a bechasant, y rhai y syrthiodd eu cyrph yn yr Anialwch? Ac wrth bwy y tyngodd efe na chaent ddyfod i mewn i'w Orphwysfa, onid wrth y rhai a anufuddhasant? A chanfyddwn nad allent fyned i mewn oherwydd An ghrediniaeth. Ofnwn gan hynny, rhag o ddygwydd fod addewid wedi ei gadael i ni fyned i mewn i'w orphwysfa ef, i neb o honoch ymddangos ei fod wedi syrthio yn fyr o honi. Canys efengylwyd i ninnau megys i hwythau; ond y gair a glybuwyd ni bu fuddiol iddynt hwy, am nad oeddynt hwy wedi eu cyd‐dymheru trwy ffydd â'r rhai a glywsant. Canys yr ydym ni, y rhai a gredasom, yn myned i mewn i'r Orphwysfa, fel y dywedodd efe, Fel y tyngais yn fy llid, Ni ddeuant i mewn i'm Gorphwysfa, Er fod y gweithredoedd wedi eu gwneuthur er seiliad y byd. Canys efe a ddywedodd mewn rhyw fan am y seithfed dydd fel hyn: A gorphwysodd Duw ar y seithfed dydd oddiwrth ei holl weithredoedd. Ac yn y fan hon drachefn, Ni ddeuant i mewn i'm Gorphwysfa. Am hynny, gan fod eto yn aros fod rhai i fyned i mewn iddi, ac nad aeth y rhai y pregethwyd iddynt yn flaenorol i mewn o herwydd anufudd‐dod, y mae efe drachefn yn pennu rhyw ddydd, Heddyw, gan ddywedyd yn Dafydd, ar ol cymaint o amser, megys y dywedwyd o'r blaen, Heddyw, os clywoch ei lais ef, Na chaledwch eich calonnau. Canys pe rhoddasai Josua iddynt hwy orphwysdra, ni lefarasai efe ar ol hynny am ddydd arall. Y mae gan hynny Sabbath‐Orphwysfa eto yng nghadw i bobl Dduw. Canys yr hwn a aeth i mewn i'w Orphwysfa ef, hwnnw hefyd a orphwysodd oddiwrth ei weithredoedd, megys y gwnaeth Duw oddiwrth yr eiddo yntau. Byddwn yn eiddgar gan hynny i fyned i mewn i'r Orphwysfa honno, fel na bo i neb syrthio yn ol yr unrhyw esiampl o anufudd‐dod. Canys byw yw Gair Duw, ac effeithiol, a llymach nag un cleddyf dau‐finiog, ac yn cyrhaeddyd trwodd hyd wahaniad enaid ac yspryd, cymalau a mêr hefyd, ac yn medru barnu dymuniadau a meddyliau y galon; ac nid oes creadur yn anamlwg yn ei olwg ef, eithr y mae pob peth yn noeth ac yn agored i lygaid yr hwn y mae gennym i roddi cyfrif iddo. Gan fod gennym, gan hynny, Arch‐offeiriad Mawr, yr hwn a aeth trwy y nefoedd, Iesu Mab Duw, daliwn afael yn ein cyffes. Canys nid oes gennym Arch‐offeiriad heb allu cydymdeimlo â'n gwendidau, ond wedi ei demtio ym mhob peth yn gyffelyb i ninnau, heb bechod. Nesäwn, gan hynny, gyda hyfder, at orseddfaingc y gras, fel y derbyniom drugaredd, ac y caffom ras yn gymhorth mewn pryd. Canys pob Arch‐offeiriad, yr hwn o blith dynion a gymerir, a benodir dros ddynion yn y pethau sydd tuag at Dduw, fel yr offrymo roddion ac aberthau dros bechodau, yn gallu cyd‐ddwyn yn dosturiol â'r rhai sydd yn anwybodus ac yn cyfeiliorni, gan ei fod ef ei hun yn cael ei amgylchu â gwendid, ac o herwydd hyn y dylai, megys dros y bobl, felly hefyd drosto ei hun, offrymu am bechodau. Ac ni chymer neb yr anrhydedd iddo ei hun ond pan yn alwedig gan Dduw, megys Aaron hefyd. Felly hefyd y Crist ni ogoneddodd ei hun i ddyfod yn Arch‐offeiriad, ond yr hwn a lefarodd wrtho, Fy Mab ydwyt ti, Myfi heddyw a'th genhedlais; Megys y mae hefyd yn dywedyd mewn lle arall, Tydi wyt offeiriad yn dragywydd Yn ol urdd Melchisedec. Yr hwn yn nyddiau ei gnawd, wedi iddo gyda llefain cryf a dagrau offrymu deisyfiadau ac ymbiliau at yr hwn oedd alluog i'w achub o farwolaeth, a chael ei wrandaw o herwydd ei ofn duwiol, er ei fod yn Fab, ddysgodd ufudd‐dod trwy y pethau a ddyoddefodd, ac wedi ei berffeithio, efe a ddaeth yn awdwr iachawdwriaeth dragwyddol i'r rhai oll sydd yn ufuddhau iddo, wedi ei gyfarch gan Dduw yn Arch‐offeiriad yn ol urdd Melchisedec. Ac am dano ef y mae gennym lawer gair i'w ddywedyd ac anhawdd ei ddeongli, am eich bod wedi myned yn hwyr‐drwm eich clustiau; canys lle y dylech fod yn athrawon o ran amser, y mae arnoch drachefn angen rhywun i ddysgu i chwi elfennau egwyddorion cyntaf Oraclau Duw, ac aethoch yn rai y mae arnoch angen llaeth, ac nid bwyd cryf. Canys pob un a'r sydd yn cyfranogi o laeth, dibrofiad yw o air cyfiawnder; canys maban yw. Eithr bwyd cryf a berthyn i'r rhai addfed, y rhai o herwydd cynefindra sydd a'u synwyrau wedi eu hymarfer i wahaniaethu rhwng da a drwg. Am hynny, gan adael heibio yr ymadrodd dechreuol am y Crist, dyger ni ymlaen at berffeithrwydd, heb osod i lawr drachefn i ni ein hunain sail i edifeirwch oddiwrth weithredoedd meirwon, a ffydd tu ag at Dduw, i athrawiaeth bedyddiadau ac arddodiad dwylaw, ac adgyfodiad y meirw hefyd a'r Farn dragwyddol: a hyn a wnawn os caniata Duw. Canys mewn perthynas i'r rhai a gawsant unwaith eu goleuo, ac a brofasant y rhodd nefol, ac a wnaed yn gyfranogion o'r Yspryd Glân, ac a brofasant mor dda yw Gair Duw a galluoedd yr Oes ar ddyfod, ac a syrthiasant ymaith, amhosibl yw eu hadnewyddu drachefn i edifeirwch, gan eu bod yn croeshoelio iddynt eu hunain Fab Duw, ac yn ei warthruddo yn gyhoeddus. Canys y tir yr hwn a yfodd y gwlaw sydd yn mynych ddyfod arno, ac sydd yn dwyn llysiau cymhwys i'r rhai y llafurir ef erddynt, sydd yn derbyn bendith oddiwrth Dduw; eithr os yn dwyn drain ac ysgall y mae yn wrthodedig ac yn agos i felldith, diwedd yr hwn fydd ei losgi. Ond yr ydym yn llawn gredu am danoch chwi, anwyliaid, y pethau gwell ac ynglyn wrth iachawdwriaeth, er mai fel hyn y llefarwn. Canys nid yw Duw yn anghyfiawn fel yr anghofio eich gwaith a'r cariad a ddangosasoch tu ag at ei enw ef, pan weiniasoch i'r saint, ac y parhêwch i weini. A chwenychwn i bob un o honoch ddangos yr un dyfalwch i gyrhaedd llawn‐sicrwydd gobaith hyd y diwedd; fel nad eloch yn fusgrell, ond yn efelychwyr y rhai trwy ffydd ac amynedd sydd yn etifeddu yr addewidion. Canys wedi gwneud addewid i Abraham, Duw, oblegyd na allai dyngu i neb mwy, a dyngodd iddo ei hun, gan ddywedyd, Yn wir, gan fendithio mi a'th fendithiaf, a chan amlhau, mi a'th amlhâf; ac felly wedi hir ymaros, efe a gafodd yr addewid. Canys dynion yn wir sydd yn tyngu i un a fo mwy, ac y mae y llw yn derfyn iddynt hwy ar bob gwrth‐ddywedyd hyd at sicrhâd. Yn hyn, Duw, gan ewyllysio dangos yn helaethach i etifeddion yr Addewid anghyfnewidioldeb ei gyngor, a gyfryngodd â llw, fel trwy ddau beth anghyfnewidiol, yn y rhai y mae yn amhosibl i Dduw ddywedyd celwydd, y gallem ni gael calondid cryf, y rhai a ffoisom i gymeryd gafael yn y gobaith a osodwyd o'n blaen, yr hwn sydd gennym megys angor yr enaid, yn ddyogel ac yn sicr, ac yn myned i'r tu fewn i'r llen, i'r man yr aeth yr Iesu yn rhag‐redegydd drosom ni, wedi ei wneuthur yn Arch‐offeiriad yn dragywydd yn ol urdd Melchisedec. Canys y Melchisedec hwn, brenin Salem, offeiriad y Duw Goruchaf, yr hwn a gyfarfu âg Abraham yn dychwelyd o ddymchweliad y brenhinoedd, ac a'i bendithiodd ef; i'r hwn hefyd y rhannodd Abraham ddegwm o'r cwbl: Yr hwn yn gyntaf o'i ddeongli, yw Brenin Cyfiawnder, ac yna hefyd Brenin Salem, yr hyn yw Brenin Heddwch; heb dâd, heb fam, heb achyddiaeth, heb fod ganddo na dechreu dyddiau na diwedd einioes, eithr wedi ei gyffelybu i Fab Duw, efe a erys yn offeiriad i fythol barhad. Ystyriwch pa mor fawr oedd hwn, i'r hwn y rhoddodd Abraham y patriarch ddegwm allan o'r goreuon o'r ysbail. Ac yn wir y rhai sydd o feibion Lefi yn derbyn yr offeiriadaeth, y mae ganddynt orchymyn i ddegymu y bobl yn ol y Gyfraith, hynny yw, eu brodyr eu hunain, er eu bod wedi dyfod allan o lwynau Abraham. Eithr yr hwn nid oedd ei achyddiaeth o honynt hwy a ddegymodd Abraham, ac a fendithiodd yr hwn yr oedd yr addewidion ganddo. Ac yn ddiddadl hollol y llai a fendithir gan y gwell. Ac yma dynion a'r sydd yn marw sydd yn derbyn degymau, ond yno, tystiolaethir iddo ei fod yn fyw. Ac, fel y gellir dywedyd, trwy Abraham Lefi hefyd, yr hwn sydd yn derbyn degymau, sydd wedi ei ddegymu; oblegyd yr oedd efe eto yn lwynau ei dâd, pan gyfarfu Melchisedec âg ef. Os oedd, gan hynny, berffeithiad trwy yr offeiriadaeth Lefiticaidd (canys ar ei sail hi y derbyniodd y bobl y Gyfraith), pa raid mwyach oedd i offeiriad gwahanol gyfodi yn ol urdd Melchisedec, ac nid i'w alw yn ol urdd Aaron? Canys pan newidir yr offeiriadaeth, o angenrheidrwydd, y mae cyfnewidiad Cyfraith yn bod hefyd. Canys efe am yr hwn y dywedir y pethau hyn, i lwyth gwahanol y perthynai, o'r hwn nid oes neb wedi gweini wrth yr allor. Canys tra‐amlwg ydyw mai o Juda y mae ein Harglwydd ni wedi cyfodi, am yr hwn lwyth ni lefarodd Moses ddim gyda golwg ar offeiriaid. Ac y mae hyn yn eglurach o lawer eto, os oes yn ol cyffelybiaeth Melchisedec offeiriad gwahanol yn cyfodi, yr hwn sydd wedi ei wneuthur felly, nid yn ol Cyfraith gorchymyn cnawdol, ond yn ol gallu bywyd anatodol; canys tystiolaethir am dano, Ti wyt offeiriad yn dragywydd, yn ol urdd Melchisedec. Canys yn wir y mae ar un llaw ddiddymiad i orchymyn rhagfynedol o herwydd ei wendid a'i afles (oblegyd ni pherffeithiodd y Gyfraith ddim), ac ar y llaw arall, dygiad i mewn ar hynny obaith gwell, trwy yr hwn yr ydym yn nesâu at Dduw. A chan belled ag nad ydyw heb lw (canys hwynt‐hwy yn wir ydynt wedi dyfod yn arch‐offeiriaid heb lw, ond hwn gyda llw, trwy yr hwn sydd yn dywedyd wrtho, Tyngodd yr Arglwydd, ac ni bydd edifar ganddo, Tydi wyt offeiriad yn dragywydd): mor bell a hynny hefyd y daeth Iesu yn Fachnïydd cyfamod gwell. A hwynt‐hwy yn wir a ddaethant yn offeiriaid aml eu rhif, o herwydd lluddias iddynt trwy farwolaeth aros ymlaen; ond efe gan ei fod yn aros yn dragywydd, y mae ganddo yr offeiriadaeth yn anhoradwy. Am hynny hefyd y mae efe yn gallu achub yn gwbl hollol y rhai sydd yn dyfod trwyddo ef at Dduw, gan ei fod yn byw bob amser i eiriol drostynt. Canys y fath Arch‐offeiriad a weddai i ninnau, sanctaidd, diddrwg, dihalog, wedi ei ddiddoli oddiwrth y pechaduriaid, ac wedi ei wneuthur yn uwch na'r nefoedd; yr hwn ni raid iddo o ddydd i ddydd, fel yr Arch‐offeiriaid, offrymu aberthau, yn gyntaf am ei bechodau ei hun, yna dros bechodau y bobl; canys hyn a wnaeth efe unwaith am byth pan offrymodd ei hun. Canys y mae y Gyfraith yn penodi dynion yn Arch‐offeiriaid a chanddynt wendid, ond y mae gair y llw, yr hwn sydd wedi'r Gyfraith, yn penodi y Mab, yr hwn a berffeithiwyd yn dragwyddol. A'r prif bwynt yn y pethau a ddywedir yw hyn. Y mae gennym y fath Arch‐offeiriad, yr hwn a eisteddodd ar ddeheulaw gorsedd‐faingc y Mawredd yn y nefoedd; gweinidog y Cysegr a'r gwir Dabernacl, yr hwn a osododd yr Arglwydd, ac nid dyn. Canys pob Arch‐offeiriad a benodir i offrymu rhoddion ac aberthau: o herwydd paham rhaid bod gan hwn hefyd yr hyn a offryma. Yn awr gan hynny pe byddai efe ar y ddaear, ni fyddai yn offeiriad mewn un modd, gan fod y rhai sydd yn offrymu y rhoddion yn ol y Gyfraith, yn gyfryw ag sydd yn gwasanaethu darlun a chysgod y pethau nefol, megys y dadguddiwyd i Moses pan oedd ar fedr gosod i fyny y Tabernacl; canys, Gwel, medd efe, ar wneuthur o honot bob peth yn ol y cynllun a ddangoswyd i ti yn y Mynydd. Ond yn awr efe a gafodd weinidogaeth mwy rhagorol, o gymaint ag y mae hefyd yn Gyfryngwr Cyfamod gwell, yr hwn sydd wedi ei ddeddf‐osod ar addewidion gwell. Canys pe buasai y cyntaf hwnnw yn ddifeius, yna ni cheisiasid lle i'r ail. Canys gan feio arnynt y dywed efe, Wele ddyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, A mi a gwblhâf gyfamod newydd â thŷ Israel ac â thŷ Juda; Nid yn ol y Cyfamod yr hwn a wnaethum â'u Tadau, Yn y dydd yr ymaflais yn eu llaw i'w dwyn hwy o dir yr Aipht, oblegid nid arhosasant hwy yn fy nghyfamod i, A minnau a'u hesgeulusais hwythau, medd yr Arglwydd. Oblegyd hwn yw y cyfamod a amodaf â thŷ Israel Ar ol y dyddiau hynny, medd yr Arglwydd: Gan roddi fy nghyfreithiau yn eu meddwl, Mi a'u hysgrifennaf hefyd ar eu calon; A byddaf iddynt yn Dduw, A hwythau a fyddant i minnau yn bobl: Ac ni ddysgant bob un ei gyd‐ddinesydd, A phob un ei frawd, gan ddywedyd, Adnebydd yr Arglwydd, canys pawb a'm hadnabyddant i, O fychan i fawr o honynt. Oblegyd trugarog fyddaf wrth eu hanghyfiawnderau, A'u pechodau ni chofiaf mwy. Wrth ddywedyd, Cyfamod newydd, y mae efe wedi gwneuthur y cyntaf yn hen; canys y mae yr hyn sydd yn heneiddio ac yn oedrannus yn agos i ddiflaniad. Yr oedd am hynny gan y Cyfamod cyntaf ordeiniadau gwasanaeth a chysegr materol; canys tabernacl a ddodrefnwyd, y cyntaf, yn yr hwn yr oedd y canwyllyr, a'r bwrdd, a'r bara gosod; yr hwn a elwir y Cysegr. A thu hwnt i'r ail len, tabernacl a elwir y Cysegr Sancteiddiolaf, yn yr hwn yr oedd allor aur yr arogldarth, ac arch y Cyfamod wedi ei goreuro o amgylch, yn yr hon yr oedd y crochan aur yn dal y manna, a gwialen Aaron, yr hon a flagurodd, a llechau y Cyfamod; ac uwch ei phen cerubiaid y Gogoniant, yn cysgodi y Gymodfa; am y rhai ni ellir yn awr ddywedyd bob yn rhan. A'r pethau hyn wedi eu trefnu felly, i'r tabernacl cyntaf yr ä yn wastadol yr offeiriaid, gan gyflawni y gwasanaethau; ond i'r ail, unwaith yn y flwyddyn, yr a yr Arch‐offeiriad yn unig, nid heb waed, yr hwn a offryma drosto ei hun a thros gyfeiliornadau y bobl — yr Yspryd Glân yn hyspysu hyn, nad yw y ffordd i'r Cysegr wedi ei hamlygu eto, tra y mae y tabernacl cyntaf yn sefyll, a hyn sydd gyffelybiaeth am yr amser presennol, yn ol yr hon y mae rhoddion ac aberthau yn cael eu hoffrymu, nas gallant, o ran cydwybod, berffeithio yr addolydd, yn unig ar sail bwydydd a diodydd, ac amrywiol olchiadau, — ordeiniadau y cnawd, wedi eu gosod hyd adeg diwygiad. Eithr Crist wedi dyfod atom, fel Arch‐offeiriad y daionus bethau i ddyfod, trwy y tabernacl mwy a pherffeithiach, nid o waith llaw, hynny yw, nid o'r greadigaeth hon; ac nid trwy waed geifr a lloi, ond trwy ei waed ei hun, a aeth i mewn, unwaith am byth, i'r Cysegr, wedi ennill prynedigaeth dragwyddol. Canys os ydyw gwaed geifr a theirw a lludw anner yn taenellu y rhai a halogwyd, yn sancteiddio i lanhâd y cnawd, pa faint mwy y bydd i waed y Crist, yr hwn trwy yr Ysbryd tragwyddol a'i hoffrymodd ei hun yn ddifai i Dduw, lanhau eich cydwybod oddiwrth weithredoedd meirwon i wasanaethu y Duw byw? Ac o herwydd hyn y mae Efe yn Gyfryngwr Cyfamod Newydd fel wedi i farwolaeth gymeryd lle gyda golwg ar brynedigaeth oddiwrth y troseddau yn erbyn y cyfamod cyntaf, y cai y rhai a alwyd dderbyn addewid yr etifeddiaeth dragwyddol. Canys lle y mae cymun‐rodd, rhaid dygwyddo marwolaeth y cymun‐roddwr. Canys wedi marw dynion y mae cymun‐rodd yn sicr; canys nis gall fod un amser mewn grym pan mae y cymun‐roddwr yn fyw. O herwydd paham nid yw hyd y nod y cyfamod cyntaf wedi ei gysegru heb waed. Canys wedi llefaru pob gorchymyn yn ol y Gyfraith gan Moses wrth yr holl bobl, efe a gymerodd waed lloi a geifr, gyda dwfr a gwlan porphor ac isop, ac a daenellodd y llyfr ei hun, ynghyd a'r holl bobl, gan ddywedyd, Hwn yw gwaed y cyfamod a orchymynodd Duw mewn perthynas i chwi. A'r tabernacl, a holl lestri y gwasanaeth a daenellodd efe â'r gwaed yr un modd. A bron y dywedwn mai â gwaed y glanhêir pob peth yn ol y Gyfraith, ac ar wahan i dywallt gwaed nid oes maddeuant. Rhaid oedd gan hynny i'r adluniau sydd yn y nefoedd gael eu glanhau â'r pethau hyn, eithr y pethau nefol eu hunain ag aberthau gwell na'r rhai hyn. Canys nid i gysegr o waith llaw, gwrthlun y gwir gysegr, yr aeth Crist i mewn, ond i'r nef ei hun, i ymddangos ger bron wyneb Duw drosom ni; nac eto fel yr offrymai ei hun yn fynych fel y mae yr Arch‐offeiriad yn myned i mewn i'r Cysegr bob blwyddyn â gwaed dyeithr; pe amgen rhaid fuasai iddo fod wedi dyoddef yn fynych er seiliad y byd; ond yn awr, unwaith am byth, yng nghyflawniad yr oesoedd, y mae efe wedi ei amlygu er dileu pechod trwy ei aberth ei hun. Ac megys y penodir i ddynion farw unwaith, ac wedi hynny bod barn, felly hefyd y Crist, wedi ei offrymu unwaith, i ddwyn pechodau llawer, a welir yr ail waith heb bechod, gan y rhai sydd yn awyddus‐ddisgwyl am dano, er iachawdwriaeth. Canys gan mai cysgod sydd gan y Gyfraith o ddaionus bethau i ddyfod, ac nid delw y gwrthrychau, nis gallant gyda'r un aberthau flwyddyn ar ol blwyddyn, y rhai a offrymant yn wastadol, byth berffeithio y rhai a agoshânt. Pe amgen, oni pheidiasent â'u hoffrymu, gan na fyddai mwyach gydwybod o bechodau gan yr addolwyr, gan eu bod wedi eu glanhâu unwaith am byth? Eithr yn yr aberthau hynny, y mae adgoffâd o bechodau bob blwyddyn; canys amhosibl yw i waed teirw a geifr dynnu ymaith bechodau. Gan hynny, pan yn dyfod i'r byd, efe a ddywed, Aberth ac offrwm nis mynnaist, Ond corph a gymhwysaist i mi; Mewn cyfan boeth‐offrymau a phech‐aberthau ni'th foddlonwyd; Yna dywedais, Wele fi wedi dyfod, (Yn rhôl y llyfr yr ysgrifennwyd am danaf). I wneuthur dy ewyllys di, O Dduw. Wrth ddywedyd uchod, Aberthau ac offrymau a chyfan boeth‐offrymau a phech‐aberthau nis mynnaist, ac ni'th foddlonwyd ynddynt, y rhai yn ol y Gyfraith a offrymir, yna y dywedodd, Wele fi wedi dyfod i wneuthur dy ewyllys di, yn hyn y mae yn tynnu ymaith y cyntaf fel y sefydlo yr ail. Ac yn yr ewyllys hwn yr ydym ni wedi ein sancteiddio trwy offrymiad corph Iesu Grist unwaith am byth. Ac y mae pob offeiriad yn wir yn sefyll o ddydd i ddydd yn gwasanaethu ac yn offrymu yn fynych yr un aberthau, y rhai ni allant byth dynnu ymaith bechodau; ond hwn, wedi iddo offrymu un aberth dros bechodau, am byth a eisteddodd ar ddeheulaw Duw; o hyn allan yn disgwyl hyd oni osoder ei elynion yn droedfaingc i'w draed. Canys âg un offrwm y mae wedi perffeithio am byth y rhai sydd yn cael eu sancteiddio. Ond tystiolaetha yr Yspryd Glân hefyd i ni, canys wedi iddo ddywedyd, Hwn yw y Cyfamod a amodaf â hwynt, Ar ol y dyddiau hynny, medd yr Arglwydd, Gan roddi fy nghyfreithiau yn eu calon, Mi a'u hysgrifennaf hefyd ar eu meddwl, Ychwanega, A'u pechodau a'u hanwireddau ni chofiaf mwy. Yn awr lle y mae maddeuant am y rhai hyn, nid oes mwyach offrwm am bechod. Am, hynny, frodyr, gan fod gennym hyfder i fyned i mewn i'r Cysegr yng ngwaed yr Iesu, yr hon a agorodd efe i ni yn ffordd newydd a byw, trwy y llen, hynny yw, ei gnawd ef, ac offeiriad mawr ar dŷ Dduw, nesâwn a chalon gywir mewn llawn‐sicrwydd ffydd, ein calonnau wedi eu taenellu oddiwrth gydwybod ddrwg, a'n corph wedi ei olchi â dwfr glân. Daliwn afael yng nghyffes ein gobaith fel y byddo yn ddiysgog; canys ffyddlawn yw yr hwn a addawodd; ac ystyriwn ein gilydd er ein cyffroi i gariad a gweithredoedd hardd‐deg; heb roddi i fyny y cynnulliad o honom ein hunain ynghyd, megys y mae arfer rhai, eithr gan galonogi ein gilydd, a hynny yn fwy, o gymaint a'ch bod yn gweled y Dydd yn nesâu. Canys pan o'n gwirfodd y parhawn i bechu, ar ol derbyn llawn‐wybodaeth o'r gwirionedd, nid oes aberth dros bechodau yn aros mwyach, eithr rhyw ddisgwyl ofnadwy am farn, ac angerdd tân ar fedr ysu y gwrthwynebwyr. Un a ddirmygo Gyfraith Moses sydd yn marw heb dosturi ar air dau neu dri o dystion; pa faint gwaeth cospedigaeth, dybygwch, y bernir haeddu o'r hwn a fathrodd dan draed Fab Duw, ac a gyfrifodd waed y Cyfamod, yn yr hwn y sancteiddiwyd ef, yn beth aflan, ac a sarhâodd Yspryd y gras? Canys adwaenom yr hwn a ddywedodd, I mi y perthyn dial, myfi a dalaf. A thrachefn, Yr Arglwydd a farna ei bobl. Peth ofnadwy yw syrthio i ddwylaw Duw byw. Ond gelwch i'ch cof y dyddiau yn yr amser o'r blaen yn y rhai, wedi eich goleuo, chwi a ddaliasoch i fyny dan ymdrechfa fawr o ddyoddefiadau; weithiau trwy gael eich gwneuthur yn ddrych cyhoeddus mewn gwaradwyddiadau a gorthrymderau, weithiau trwy ddyfod yn gyfranogion â'r rhai oeddent yn yr un cyflwr. Canys chwi a gyd‐ymdeimlasoch â'r rhai mewn rhwymau, ac a gymerasoch yspeilio eich meddiannau gyda llawenydd, gan wybod fod gennych eich hunain yn feddiant gwell ac arosol. Am hynny na fwriwch ymaith eich hyfder, yr hwn sydd gyfryw ag y mae iddo daledigaeth fawr. Canys y mae angen hir‐ymaros arnoch, fel, gan wneuthur ewyllys Duw, y derbynioch yr addewid. Canys eto ychydig bychan bach, Yr Hwn sydd yn dyfod a ddaw, ac nid oeda. Eithr fy ngŵr cyfiawn a fydd byw trwy ffydd, Ac os tyn yn ol, nid ymhyfryda fy enaid ynddo. Eithr nid ydym ni o'r rhai sydd yn tynnu yn ol i golledigaeth, eithr o'r rhai sydd ganddynt ffydd i gaffaeliad enaid. Yn awr y mae ffydd yn sicrwydd y pethau y gobeithir am danynt, ac yn brawf o bethau ni welir; canys ynddi hi y tystiolaethwyd i'r henafiaid. Trwy ffydd y deallwn fod y bydoedd wedi eu ffurfio trwy air Duw, fel nad o'r pethau sydd yn y golwg y mae yr hyn a welir wedi dyfod. Trwy ffydd yr offrymodd Abel i Dduw aberth rhagorach na Chain, trwy yr hwn y tystiolaethwyd iddo ei fod yn gyfiawn, gan fod Duw yn tystiolaethu ar sail ei roddion, a thrwyddi hi, y mae, er marw o hono, yn llefaru eto. Trwy ffydd y symudwyd Enoch fel na welai farwolaeth; ac ni chaed ef oblegyd i Dduw ei symud; canys cyn ei symud y mae efe wedi derbyn tystiolaeth ei fod wedi boddloni Duw. Ac ar wahân i ffydd amhosibl yw ei foddloni ef, canys rhaid i'r hwn sydd yn nesâu at Dduw gredu ei fod, a'i fod yn obrwywr i'r rhai sydd yn ei daer‐geisio ef. Trwy ffydd, Noah, wedi cael dadguddiad ynghylch y pethau nas gwelsid eto, gyda pharchedig ofn a ddarparodd arch i achub ei dŷ, trwy yr hon y condemniodd efe y byd, ac a ddaeth yn etifedd y Cyfiawnder, yr hwn sydd yn ol ffydd. Trwy ffydd, Abraham, pan yn cael ei alw, a ufuddhaodd i fyned allan i le yr oedd i'w dderbyn yn etifeddiaeth, ac a aeth allan heb wybod i ba le yr oedd yn myned. Trwy ffydd y bu yn ymdeithydd yng ngwlad yr Addewid megys gwlad estronol, gan drigo mewn pebyll, gydag Isaac a Jacob, cyd‐etifeddion o'r un addewid; canys edrych allan ydoedd am y Ddinas ag iddi y sylfeini, cynllunydd ac adeiladydd yr hon yw Duw. Trwy ffydd hefyd hyd y nod Sara a dderbyniodd allu i ymddwyn hâd, ac wedi amser oedran, yn gymaint ag iddi gyfrif yn ffyddlawn yr hwn a addawodd. O herwydd paham hefyd y cenhedlwyd o un, a hynny pan yr oedd wedi marweiddio, megys ser y nef mewn lliaws, ac fel tywod ar draeth y mor, yn aneirif. Mewn ffydd y bu farw y rhai hyn oll, heb dderbyn yr addewidion, eithr o bell eu gweled hwynt a'u cyfarch, a chan gyffesu mai estroniaid ac alltudion oeddynt ar y ddaear; canys y mae y rhai sydd yn dywedyd y cyfryw bethau yn dangos yn eglur eu bod yn ceisio eu gwlad eu hunain. Ac yn wir pe am honno y buasent yn meddwl, o'r hon y daethant allan, hwy a gaent gyfle i ddychwelyd. Eithr yn awr am un well y maent yn hiraethu, hynny ydyw un nefol; o herwydd paham nid oes ar Dduw gywilydd o honynt, i'w gyfenwi yn Dduw iddynt hwy, canys parotôdd ddinas iddynt. Trwy ffydd, Abraham, gan gael ei brofi, a offrymodd i fyny Isaac: ië, yr hwn a roesawodd yr addewidion oedd yn offrymu ei unig‐anedig, sef efe wrth yr hwn y dywedwyd, Yn Isaac y gelwir i ti hâd; gan gyfrif fod Duw yn alluog i gyfodi hyd y nod o feirw, o'r lle hefyd, y derbyniodd efe ef mewn cyffelybiaeth. Trwy ffydd y bendithiodd Isaac Jacob ac Esau, ië, ynghylch pethau i ddyfod. Trwy ffydd, Jacob, wrth farw, a fendithiodd bob un o feibion Joseph, ac a addolodd gan bwyso ar ben ei ffon. Trwy ffydd, Joseph, a'i ddiwedd yn agos, a goffhâodd fynediad allan feibion Israel, ac a roddodd orchymyn am ei esgyrn. Trwy ffydd, Moses, wedi ei eni, a guddiwyd dri mis gan ei rieni, am eu bod yn ei weled yn blentyn tlws, ac nid ofnasant arch y brenin. Trwy ffydd, Moses, wedi tyfu i fyny, a wrthododd ei alw yn fab merch Pharaoh, gan ddewis yn hytrach gael drwg driniaeth gyda phobl Dduw, na chael mwynhad pechod am dymor; gan gyfrif yn fwy golud waradwydd y Crist na thrysorau yr Aipht; canys edrych oedd efe at y daledigaeth. Trwy ffydd y gadawodd efe yr Aipht, heb ofni llid y brenin; canys efe a safodd yn gadarn fel yn gweled yr Anweledig. Trwy ffydd y sefydlodd efe y Pasc, a thaenelliad y gwaed, fel na byddai i Ddinystrydd y cyntaf‐anedig gyffwrdd â hwynt. Trwy ffydd yr aethant trwy y Môr Coch megys ar hyd tir sych, o'r hwn For pan wnaeth yr Aiphtiaid brawf, hwy a lyngcwyd i fyny. Trwy ffydd y syrthiodd caerau Jericho, wedi eu hamgylchu am saith niwrnod. Trwy ffydd, ni ddyfethwyd Rahab y butain gyda'r rhai anufudd, gan iddi dderbyn yr yspïwyr mewn heddwch. A pha beth eto a ddywedaf? Canys palla yr amser i mi os adroddaf am Gedeon, Barac, Samson, Jephthah; am Dafydd hefyd, a Samuel, a'r Prophwydi, y rhai trwy ffydd a oresgynasant deyrnasoedd, a weithredasant gyfiawnder, a gawsant addewidion, a gauasant safnau llewod, a ddiffoddasant angerdd tân, a ddiangasant rhag min y cleddyf, a nerthwyd o wendid, a wnaethpwyd yn gryfion mewn rhyfel, ac a droisant fyddinoedd o estroniaid i ffoi. Gwragedd a dderbyniasant eu meirw trwy adgyfodiad, dirboenwyd eraill i farwolaeth, heb dderbyn yr ymwared, fel y caent adgyfodiad gwell. Ac eraill a gawsant brawf o watwarau a fflangellau, ië, ac o rwymau a charchar; hwy a labyddiwyd, a dorrwyd â llif, a demtiwyd, a laddwyd a'r cleddyf; aent oddiamgylch mewn crwyn defaid, mewn crwyn geifr, yn anghennus, yn orthrymedig, yn cael eu cam‐drin (o'r rhai nid oedd y byd yn deilwng), yn grwydriaid mewn anial‐diroedd a mynyddoedd ac ogofeydd ac agenau y ddaear. A'r rhai hyn oll, wedi cael tystiolaeth trwy eu ffydd, ni dderbyniasant yr addewid, gan fod Duw wedi darparu rhywbeth gwell gyda golwg arnom ni, fel na pherffeithir hwy ar wahân oddiwrthym ninnau. Gan hynny bydded i ninnau hefyd, gan fod gennym yn ein hamgylchu gwmwl mor fawr o dystion, gan osod ymaith bob pwys a'r pechod sydd barod i'n hamgylchynu, trwy amynedd redeg yr yrfa a osodir o'n blaen, gan graffu ar Ben‐Tywysog a Pherffeithydd ffydd, Iesu, yr hwn er mwyn y llawenydd a osodwyd o'i flaen a ddyoddefodd y Groes, gan ddirmygu cywilydd, ac a eisteddodd ar ddeheulaw gorsedd Duw. Canys cymharwch yr hwn sydd wedi dyoddef y fath wrth‐ddywedyd gan y pechaduriaid yn eu herbyn eu hunain, fel na flinoch yn eich eneidiau, gan ymollwng. Ni wrthwynebasoch eto hyd at waed yn eich hymdrech yn erbyn pechod. A chwi a ollyngasoch dros gof y cyngor, yr hwn sydd yn traethu wrthych fel meibion: Fy Mab, na ddibrisia ddysgyblaeth yr Arglwydd, Ac nac ymollwng pan y'th ddyger i brawf ganddo; Canys yr hwn y mae yr Arglwydd yn ei garu y mae yn ei ddysgyblu, ac yn fflangellu pob mab a dderbynio. Er mwyn dysgyblaeth yr ydych yn dyoddef; fel at feibion y mae Duw yn ymddwyn tu ag atoch; canys pa fab sydd, yr hwn nid yw ei dad yn ei ddysgyblu? Ac os heb ddysgyblaeth yr ydych, o'r hon y mae pawb wedi dyfod yn gyfrannog, yna bastardiaid ac nid meibion ydych. Ac eto, cawsom dadau ein cnawd i'n dysgyblu, a pharchasom hwynt; onid mwy o lawer y byddwn ddarostyngedig i Dâd yr ysprydoedd, a byw? Canys hwynt‐hwy yn wir am ychydig ddyddiau a'n dysgyblent, fel y gwelent hwy yn dda; eithr efe er ein llesâd, fel y cyfranogem o'i sancteiddrwydd ef. Pob dysgyblaeth am y presennol yn wir, nid ymdengys yn fater o lawenydd ond o dristwch; eithr ar ol hynny y mae yn cynhyrchu ffrwyth tangnefeddus i'r rhai sydd wedi eu hyfforddi trwyddi, sef ffrwyth cyfiawnder. Oherwydd paham, unionwch y dwylaw sydd yn llaesu a'r gliniau sydd yn cael eu parlysu, a gwnewch lwybrau uniawn i'ch traed, fel na throer yr aelod cloff o'i le, ond yr iachâer ef yn hytrach. Dilynwch heddwch â phawb, a'r sancteiddiad heb yr hwn ni wêl neb yr Arglwydd, gan edrych yn ddyfal rhag i neb syrthio yn fyr o ras Duw; rhag bod un gwreiddyn chwerwedd yn tyfu i fyny ac yn eich trallodi, a thrwyddo i'r lliaws gael eu halogi; rhag bod un puteiniwr, neu anghrefyddol, megys Esau, yr hwn am un pryd o fwyd a werthodd ei enedigaeth‐fraint ei hun. Canys chwi a wyddoch, hyd y nod pan wedi hynny yr oedd yn ewyllysio etifeddu y fendith, ddarfod ei wrthod ef, (canys ni chafodd le i edifeirwch), er iddo â dagrau ei dyfal‐geisio hi. Canys nid ydych chwi wedi dyfod at fynydd y gellid cyffwrdd âg ef, ac at dân sydd wedi bod yn llosgi, ac at dduwch a chaddug dudew, a thymhestl, a sain udgorn, a llais geiriau, yr hwn lais y rhai a'i clywsant a ddeisyfasant na ychwanegid air wrthynt. Canys ni allent oddef yr hyn a orchymynasid, os hyd yn nod bwystfil a gyffwrdd â'r mynydd, llabyddir ef. Ac mor ofnadwy oedd yr olygfa, fel y dywedodd Moses, Yr wyf yn ofni ac yn crynu. Eithr yr ydych chwi wedi dyfod i Fynydd Sion, a Dinas Duw byw, Jerusalem nefol, at fyrddiynnau o angelion yn cadw gwyl, ac at gynulleidfa y cyntaf‐anedigion sydd wedi eu cofrestru yn y nefoedd, ac at Dduw pawb fel Barnwr, ac at ysprydoedd y cyfiawnion wedi eu perffeithio, ac at Gyfryngwr Cyfamod newydd, Iesu, ac at waed taenelliad yn llefaru yn rhagorach nag Abel. Gwelwch na wrthodoch yr hwn sydd yn llefaru; canys os hwynt‐hwy ni ddiangasant ar y ddaear pan wrthodasant yr hwn a'u rhybuddiai, mwy o lawer ni ddiangwn ni, y rhai ydym yn troi ymaith oddiwrth yr hwn sydd yn ein rhybuddio o'r nefoedd: llais yr hwn a ysgydwodd y ddaear y pryd hwnnw; ond yn awr a addawodd, gan ddywedyd, Eto unwaith, mi a ysgydwaf nid yn unig y ddaear, ond y nef hefyd. A'r gair, Eto unwaith, a arddengys symudiad y pethau a ysgydwir fel pethau wedi eu gwneuthur, fel yr arhoso y pethau nad ysgydwir. O herwydd paham, gan dderbyn teyrnas nad ysgydwir, bydded gennym ras, trwy yr hwn y gwasanaethom Dduw wrth ei fodd gyda duwiolfrydedd ac ofn; canys hefyd y mae ein Duw ni yn dân ysol. Parhaed brawdgarwch. Nac anghofiwch letygarwch i ddyeithriaid, canys trwyddo y lletyodd rhai angelion yn ddiarwybod. Cofiwch y rhai mewn rhwymau, fel rhai wedi eu rhwymo gyd a hwynt; y rhai a ddrygir, megys eich bod eich hunain hefyd yn y corph. Bydded fod priodas yn anrhydeddus ym mhawb, a'r gwely yn ddihalog; eithr puteinwyr a godinebwyr a farna Duw. Bydded eich tueddfryd yn ddiariangar, gan fod yn foddlawn ar y pethau sydd gennych, canys efe ei hun a ddywedodd, Ni'th ollyngaf di o'm gafael o gwbl, ac ni'th adawaf ddim; fel y gallom ddywedyd yn wrol, Yr Arglwydd sydd gynorthwywr i mi, nid ofnaf. Pa beth a wna dyn i mi? Cofiwch eich arweinwyr, yn gyfryw ag a lefarasant i chwi air Duw; a chan ddwys‐ystyried terfyniad eu buchedd, efelychwch eu ffydd. Iesu Grist ddoe a heddyw yr un ac yn dragywydd. Na chluder chwi ymaith gan athrawiaethau amrywiol a dyeithr; canys gwych yw bod y galon wedi ei sefydlu â gras, nid â bwydydd, yn y rhai ni lesâwyd y rhai a rodient ynddynt. Y mae gennym allor o'r hon nid oes awdurdod gan y rhai a wasanaethant y tabernacl i fwyta. Canys yr anifeiliaid, y rhai y dygir eu gwaed i mewn i'r cysegr am bechod gan yr Archoffeiriad, cyrph y rhai hyn a losgir yn hollol tu allan i'r gwersyll: o herwydd paham Iesu hefyd, fel y sancteiddiai y bobl trwy ei waed priod ei hun, a ddyoddefodd tu allan i'r porth. Am hynny, awn allan ato ef tu allan i'r gwersyll, gan ddwyn ei waradwydd ef; canys nid oes gennym yma ddinas arhosol, eithr yr ydym yn dyfal‐geisio yr hon sydd yn dyfod. Trwyddo ef gan hynny offrymwn i fyny aberth moliant yn wastadol i Dduw, hynny yw, ffrwyth gwefusau yn cyffesu i'w enw ef. Ac nac anghofiwch y cymwynasgarwch a'r cyfrannu, canys â chyfryw ebyrth y rhyngir bodd Duw. Ufuddhêwch i'ch arweinwyr, ac ymostyngwch iddynt; oblegyd y maent hwy yn effro i wylied ar ran eich eneidiau, megys rhai a roddant gyfrif; fel gyd a llawenydd y gwnelont hyn ac nid gan alaru. Canys difudd i chwi yw hynny. Gweddïwch drosom, canys yr ydym yn argyhoeddedig fod gennym gydwybod lân, gan ewyllysio ym mhob peth ymfucheddu yn hardd. Ac yn helaethach yr wyf yn eich cymhell i wneuthur hyn, fel y'm hadferer i chwi yn gynt. Ond Duw yr heddwch, yr hwn a ddygodd i fyny o blith y meirw Fugail Mawr y defaid, yng ngwaed cyfamod tragwyddol, ein Harglwydd Iesu, a'ch perffeithio ym mhob da er gwneuthur ei ewyllys, gan weithredu ynom yr hyn sydd yn rhyngu bodd yn ei olwg ef, trwy Iesu Grist, i'r hwn y byddo y gogoniant yn oes oesoedd. Amen. Ond cynghoraf chwi, frodyr, goddefwch air y cyngor; canys ar fyr eiriau yr ysgrifennais atoch. Gwybyddwch fod ein brawd Timotheus wedi ei ollwng yn rhydd, gyda'r hwn, os daw efe yn fuan, y gwelaf chwi. Anerchwch eich holl arweinwyr, a'r holl saint. Y mae y rhai o'r Ital yn eich annerch. Gras fyddo gyda chwi oll. Amen. Iago, gwas Duw a'r Arglwydd Iesu Grist, at y Deuddeg Llwyth y rhai sydd o'r Gwasgariad. Byddwch lawen, Cyfrifwch yn bob llawenydd, fy mrodyr, pan syrthioch mewn amrywiol brofedigaethau, gan wybod fod y prawf o'ch ffydd yn gweithredu amynedd; ond caffed amynedd ei pherffaith waith, fel y byddoch berffaith a chyfan, heb fod yn ddiffygiol mewn dim. Ac os yw neb o honoch yn ddiffygiol mewn doethineb, ceisied gan Dduw, yr hwn sydd yn rhoddi i bawb yn ddiamodol ac heb ddannod, a rhoddir iddo. Eithr ceisied mewn ffydd, heb ameu dim; canys yr hwn sydd yn ameu sydd gyffelyb i don y môr a yrrir gan y gwynt ac a deflir; canys na feddylied y dyn hwnnw y derbyn efe ddim gan yr Arglwydd— gŵr dau‐ddyblyg ei feddwl, ansefydlog yn ei holl ffyrdd. Eithr ymffrostied y brawd o radd isel yn ei ddyrchafiad, a'r goludog, yn ei ymddarostyngiad, canys megys blodeuyn y glaswelltyn yr ä heibio. Canys cyfododd yr haul gyda'r gwynt poeth, ac a ddeifiodd y glaswelltyn, a'i flodeuyn a syrthiodd ymaith, a thegwch ei bryd ef a gollodd: felly hefyd y goludog a wywa ymaith yn ei orchwylion. Gwyn ei fyd y gwr sydd yn goddef profedigaeth, canys wedi dal y prawf, efe a dderbyn goron y bywyd, yr hon a addawodd efe i'r rhai sydd yn ei garu ef. Na ddyweded neb pan demtier ef, Oddiwrth Dduw y'm temtir, canys Duw sydd amhosibl ei demtio gan ddrygau, ac nid yw efe ei hun yn temtio neb; ond temtir pob un pan dynner ef ymaith ac yr huder ef gan ei Chwant ei hun. Yna Chwant wedi beichiogi a esgor ar Bechod, a Phechod, wedi dyfod i'w lawn dŵf, a esgor ar Farwolaeth. Fy mrodyr anwyl, na chyfeiliornwch: Pob rhoddiad da a phob rhodd berffaith, oddi uchod y mae, yn disgyn oddi wrth Dâd y Goleuadau, gyda'r hwn nid oes gyfnewidiad na chysgod a gyfyd o gylchdroad. O'i ewyllys ei hun efe a'n cenhedlodd ni trwy air y gwirionedd, fel y byddem ni yn rhyw flaen‐ffrwyth o'i greaduriaid. Gwyddoch hyn fy anwyl frodyr; ond bydded pob un yn gyflym i wrandaw, yn araf i lefaru, yn araf i ddigofaint; canys digofaint gŵr nid yw yn gweithredu cyfiawnder Duw. O herwydd paham gan roddi heibio bob budreddi ac amlder drygioni, mewn addfwynder derbyniwch y Gair a blannwyd ynoch, yr hwn a ddichon gadw eich eneidiau. Eithr byddwch yn wneuthurwyr y Gair ac nid gwrandawyr yn unig, gan dwyllo eich hunain. Canys os yw neb yn wrandawr y Gair ac nid yn wneuthurwr, y mae hwn yn debyg i ŵr yn sylwi yn graffus ar ei wynebpryd naturiol mewn drych: canys efe a sylwodd yn graffus arno ei hun, ac a aeth ymaith, ac yn ebrwydd yr anghofiodd pa fath un ydoedd. Ond yr hwn sydd yn edrych yn eiddgar i'r Gyfraith berffaith, sef Cyfraith rhyddid, ac yn parhau felly, gan fod nid yn wrandâwr anghofus ond yn wneuthurwr egniol, hwn a fydd dedwydd yn ei waith. Os yw neb yn meddwl ei hun ei fod yn grefyddol, heb ffrwyno ei dafod, ond yn twyllo ei galon, ofer yw crefydd hwnnw. Crefydd bur a dihalog gerbron Duw a'r Tâd yw hyn: ymweled â'r gwragedd gweddwon yn eu hadfyd, a'i gadw ei hun yn ddifrycheulyd oddiwrth y byd. Fy mrodyr, na ddeliwch ffydd ein Harglwydd Iesu Grist, y Gogoniant, gyda derbyn wyneb. Oblegyd os daw i mewn i'ch cyfarfod ŵr a modrwy aur mewn gwisg ddisgleirwych, a dyfod i mewn hefyd ddyn tlawd mewn gwisg wael; a chymeryd o honoch sylw o'r hwn sydd yn gwisgo y wisg ddisgleirwych, a dywedyd, Eistedd di yma mewn lle da; a dywedyd wrth y dyn tlawd, Saf di yna, neu eistedd îs law fy ystol‐droed i; ai nid ydych wedi gwneud gwahaniaeth yn eich plith eich hunain, a myned yn farnwyr gyda meddyliau drwg? Gwrandêwch, fy mrodyr anwyl; Oni ddewisodd Duw y tlodion yng ngolwg y byd i fod yn oludog mewn ffydd, ac yn etifeddion y Deyrnas yr hon a addawodd efe i'r rhai sydd yn ei garu ef? Eithr chwi a ddianrhydeddasoch y tlawd. Onid yw y rhai goludog yn arglwyddiaethu arnoch, a hwynt‐hwy sydd yn eich llusgo gerbron llysoedd? Onid hwy sydd yn cablu yr Enw anrhydeddus yr hwn a elwir arnoch chwi? Os, yn wir, yr ydych yn cyflawnu y gyfraith frenhinol yn ol yr Ysgrythyr, Câr dy gymydog fel ti dy hun, da yr ydych yn gwneuthur. Ond os derbyn‐wyneb yr ydych, yr ydych yn gwneuthur pechod, gan gael eich argyhoeddi gan y Gyfraith megys troseddwyr. Canys pwy bynnag a gadwo y Gyfraith i gyd oll, ac a dripio mewn un pwynt, y mae wedi myned yn euog o'r cwbl. Canys yr hwn a ddywedodd, Na odineba, a ddywedodd hefyd, Na ladd. Ac os ti ni odinebi, ond a leddi, yr wyt wedi myned yn droseddwr y Gyfraith. Felly lleferwch, ac felly gwnewch, fel rhai ar gael eu barnu wrth Gyfraith rhyddid. Canys barn ddidrugaredd fydd i'r hwn na wnaeth drugaredd. Y mae trugaredd yn gorfoleddu uwch ben barn. Pa lesâd yw, fy mrodyr, os dywed neb fod ganddo ffydd, ond heb fod ganddo weithredoedd? a ddichon y ffydd honno ei gadw ef? Os bydd brawd neu chwaer yn noeth, ac mewn eisieu ymborth beunyddiol, a dywedyd o ryw un o honoch wrthynt, Ewch mewn heddwch, ymdwymwch ac ymborthwch; a chwi heb roddi iddynt angenrheidiau y corph, pa lesâd fydd? Felly ffydd hefyd, oni bydd ganddi weithredoedd, marw ydyw ynddi ei hun. Ond dywed rhyw un, Tydi ffydd sydd gennyt, a minnau gweithredoedd sydd gennyf: dangos i mi dy ffydd ar wahan oddi wrth dy weithredoedd, a minnau a ddanghosaf i ti trwy fy ngweithredoedd fy ffydd innau. Yr wyt ti yn credu mai un yw Duw, da yr wyt yn gwneuthur: y mae y cythreuliaid hefyd yn credu ac yn arswydo? Eithr a ewyllysi di wybod, O ddyn ofer, fod ffydd ar wahân oddi wrth weithredoedd yn ddiffrwyth? Abraham ein tâd ni, onid o weithredoedd y cyfiawnhawyd ef, pan offrymodd Isaac, ei fab, ar yr allor? Ti a weli fod ffydd yn cyd‐weithio â'i weithredoedd ef, a thrwy weithredoedd ffydd a sylweddolwyd; a chyflawnwyd yr Ysgrythyr yr hon sydd yn dywedyd, A chredodd Abraham i Dduw, a chyfrifwyd iddo yn gyfiawnder, a Chyfaill Duw y galwyd ef. Chwi a welwch mai trwy weithredoedd y cyfiawnhêir dyn, ac nid trwy ffydd yn unig. Yr un modd hefyd Rahab y butain, onid trwy weithredoedd y cyfiawnhâwyd hi, wrth dderbyn o honi y cenhadau, a'u danfon ymaith ffordd arall? Canys megys y mae y corph ar wahân a'r yspryd yn farw, felly hefyd ffydd ar wahân oddiwrth weithredoedd, marw yw. Na fyddwch athrawon lawer fy mrodyr, gan wybod mai barnedigaeth fwy a dderbyniwn. Canys mewn llawer o bethau yr ydym ni oll yn tripio. Od oes neb heb dripio mewn ymadrodd, gŵr perffaith yw hwnnw, yn gallu ffrwyno hefyd yr holl gorph. Ac os gosodwn ffrwynau y meirch yn eu geneuau, fel y byddont yn ufudd i ni, yr ydym hefyd yn troi eu holl gorph o amgylch. Wele hefyd y llongau, a hwy mor fawr, ac yn cael eu gyrru gan wyntoedd geirwon, a droir o amgylch â'r llyw lleiaf, lle y mynno tuedd y llywiwr. Felly hefyd y tafod, aelod bychan yw, ac yn ffrostio pethau mawrion. Wele, mor ychydig o dân a ennyn goedwig mor fawr! A'r tafod sydd dân; byd o anghyfiawnder wedi ei osod ym mhlith ein haelodau yw y tafod, yr hwn sydd yn llychwino yr holl gorph, ac yn gosod troell naturiaeth yn fflam, ac yn cael ei osod yn fflam gan Gehenna. Canys pob rhywogaeth o wylltfilod ac ehediaid, o ymlusgiaid ac anifeiliaid y môr, a ddofir ac a ddofwyd gan ddynolryw; ond y tafod nis gall neb dynion ei ddofi; drwg diorphwys ydyw, yn llawn gwenwyn marwol! Ag ef yr ydym yn bendithio yr Arglwydd a'r Tâd; âg ef hefyd yr ydym yn melldithio dynion, y rhai a wnaed ar lun Duw. O'r un genau y mae yn dyfod allan fendith a melldith. Fy mrodyr, ni ddylai y pethau hyn fod felly. A ydyw ffynnon yn bwrlymu allan o'r un agoriad y melus a'r chwerw? A ddichon pren ffigys, fy mrodyr, ddwyn olifiaid, neu winwydden, ffigys? Ni ddichon dwfr hallt chwaith roddi dwfr croyw. Pwy sydd ddoeth a deallus yn eich plith? danghosed trwy ei ymarweddiad da ei weithredoedd mewn mwyneidd‐dra doethineb. Ond od oes gennych eiddigedd chwerw ac ymbleidiaeth yn eich calon, nac ymffrostiwch ac na fyddwch gelwyddog yn erbyn y gwirionedd. Nid yw y ddoethineb hon yn dyfod oddi uchod, ond daearol, anianol, dieflig yw. Canys lle y mae eiddigedd ac ymbleidiaeth, yno y mae afreolaeth a phob gweithred iselwael. Eithr y ddoethineb sydd oddi uchod, yn gyntaf pur ydyw, wedi hynny heddychlawn, mwynaidd, cymodol, gorlawn o drugaredd a ffrwythau da, heb amheuaeth, yn ddiragrith. A ffrwyth cyfiawnder a heuir mewn heddwch i'r rhai sydd yn gwneuthur heddwch. O ba le y mae rhyfeloedd ac o ba le y mae ymladdau yn eich plith, onid o hyn yma, o'ch melus‐chwantau, y rhai sydd yn milwrio yn eich aelodau? Chwenychu yr ydych ac nid ydych yn cael; lladd yr ydych ac eiddigeddu, ac nid ydych yn alluog i gael; ymladd a rhyfela yr ydych. Nid oes gennych am nad ydych yn gofyn. Gofyn yr ydych, ac nid ydych yn derbyn, o herwydd eich bod yn gofyn gydag amcan drwg, fel y galloch wario yn eich melus‐chwantau. Chwi odinebesau! oni wyddoch fod cyfeillach y byd yn elyniaeth i Dduw? pwy bynnag gan hynny a ewyllysio fod yn gyfaill y byd y mae yn troi yn elyn i Dduw. Neu a dybiwch chwi fod yr Ysgrythyr yn llefaru yn ofer? Yr Yspryd hwnnw a wnaeth efe i drigo ynom, y mae yn dyheu am danom hyd y nod i bwynt eiddigedd. Eithr grâs mwy y mae yn ei roddi, o herwydd paham y dywed, Y mae Duw yn gwrthwynebu y beilchion, ond yn rhoddi grâs i'r rhai gostyngedig. Ymddarostyngwch gan hynny, i Dduw, ond gwrthsefwch y Diafol, ac efe a ffy oddiwrthych. Nesêwch at Dduw, ac efe a nesâ atoch chwi. Glanhêwch eich dwylaw, bechaduriaid, a phurwch eich calonnau, chwi ddau‐ddyblyg eich meddwl. Ymgystuddiwch, a galerwch, ac wylwch. Troer eich chwerthin chwi yn alar, a'ch llawenydd yn brudd‐der. Ymddarostyngwch ger bron yr Arglwydd, ac efe a'ch dyrchafa chwi. Na leferwch yn erbyn eich gilydd, frodyr. Y neb sydd yn llefaru yn erbyn brawd, neu yn barnu ei frawd, y mae yn llefaru yn erbyn y Gyfraith, ac yn barnu y Gyfraith; eithr od wyt ti yn barnu y Gyfraith, nid wyt wneuthurwr y Gyfraith, eithr ei barnwr. Un yw'r Deddf‐roddwr a'r Barnwr, yr hwn a ddichon gadw a distrywio: ond pwy wyt ti yr hwn wyt yn barnu dy gymydog? Dêwch yn awr, chwi sydd yn dywedyd, Heddyw neu yfory ni a awn i'r ddinas hon, ac a dreuliwn yno flwyddyn, ac a farchnatâwn, ac a enillwn — y rhai ni wyddoch ddim am yfory. Beth yw eich einioes chwi? Canys tarth ydych chwi, yr hwn sydd dros ychydig yn ymddangos, ac yna yn diflannu — yn lle dywedyd o honoch, Os yr Arglwydd a'i myn, ni a fyddwn byw, a ni a wnawn hyn neu hynny. Eithr yn awr ymffrostio yr ydych yn eich ymhoniadau gwag: pob ymffrost o'r fath, drwg yw. I'r hwn, gan hynny, sydd yn gwybod pa fodd i wneuthur daioni, ac nad yw yn ei wneuthur, pechod yw iddo. Dêwch yn awr, chwi rai goludog, wylwch ac udwch am eich adfydau sydd yn dyfod arnoch. Eich golud a bydrodd, a'ch gwisgoedd a fwytâwyd gan bryfed; Eich aur a'ch arian a rydodd; a'u rhŵd hwynt fydd yn dystiolaeth yn eich erbyn, ac a fwyty eich cnawd fel tân. Yr ydych wedi pentyrru trysorau yn y dyddiau ydynt ddiweddaf. Wele, y mae cyflog y gweithwyr a fedasant eich meusydd, yr hwn a gadwyd yn ol o'ch rhan chwi, yn llefain allan; a gwaedd y rhai a fedasant a ddaeth i mewn i glustiau Arglwydd y Lluoedd. Moethus fuoch ar y ddaear, ac anllad; pesgi eich calonnau a wnaethoch yn Nydd Lladdfa. Collfarnasoch, llofruddiasoch y cyfiawn, ac yntau heb sefyll i'ch erbyn. Byddwch ymarhous, gan hynny, frodyr, hyd Ddyfodiad yr Arglwydd. Wele, yr amaethydd sydd yn disgwyl am werthfawr ffrwyth y ddaear, yn ymarhous am dano nes iddo dderbyn y gwlaw cynnar a'r diweddar. Byddwch chwithau hefyd ymarhous; sefydlwch eich calonnau: canys Dyfodiad yr Arglwydd a nesâodd. Na rwgnechwch, frodyr, yn erbyn eich gilydd, fel na'ch barner; wele, y Barnwr yn sefyll o flaen y drysau. Cymerwch, frodyr, fel siampl o ddrwg‐driniaeth a hir‐ymaros, y prophwydi y rhai a lefarasant yn enw yr Arglwydd. Wele, yr ydym yn cyfrif yn ddedwydd y rhai a oddefasant. Chwi a glywsoch am ddewrder Job, ac a welsoch ddiwedd yr Arglwydd, oblegyd tirion iawn yw yr Arglwydd a thosturiol. Eithr o flaen pob peth, fy mrodyr, na thyngwch, nac i'r nef, nac i'r ddaear, nac un llŵ arall; eithr bydded eich Ië chwi yn Ië, a'ch Nage yn Nage, fel na syrthioch dan farnedigaeth. A oes neb yn eich plith mewn adfyd? gweddïed. A oes neb yn llawen ei feddwl? caned fawl. A oes neb yn eich plith yn glaf? galwed am henuriaid yr eglwys, a gweddïont uwch ei ben, wedi ei eneinio âg olew yn enw yr Arglwydd. A gweddi y ffydd a adfer yr hwn sydd glaf, a'r Arglwydd a'i cyfyd ef i fyny; ac os bydd wedi gwneuthur pechodau, fe faddeuir iddo. Cyffeswch, gan hynny, eich pechodau i'ch gilydd, a gweddïwch dros eich gilydd, fel y'ch iachâer. Llawer a ddichon gweddi y cyfiawn pan yn gweithredu yn nerthol. Elias oedd ddyn o gyffelyb anian a ninnau, ac efe a weddïodd yn ddifrifol na byddai gwlaw; ac ni bu gwlaw ar y ddaear dair blynedd a chwe' mis. Ac efe a weddïodd drachefn, a'r nef a roddes wlaw, a'r ddaear a ddug ei ffrwyth. Fy mrodyr, os crwydra neb yn eich plith oddiwrth y gwirionedd, a throi o ryw un ef, gwybyddoch y bydd i'r hwn a drodd bechadur o gyfeiliornad ei ffordd achub enaid rhag angau, a gorchuddio lliaws o bechodau. Petr Apostol Iesu Grist at etholedig ymdeithwyr y Gwasgariad yn Pontus, Galatia, Cappadocia, Asia, a Bithynia, yn ol rhagwybodaeth Duw Dâd, yn sancteiddiad yr Yspryd, i ufudd‐dod a thaenelliad gwaed Iesu Grist: Gras i chwi a heddwch a amlhaer. Bendigedig fyddo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, yr Hwn yn ol ei fawr drugaredd a'n hadgenhedlodd ni i obaith bywiol trwy Adgyfodiad Iesu Grist o feirw, i etifeddiaeth anllygredig, a dihalogedig, a diddiflanedig, yng nghadw yn y nefoedd i chwi, y rhai trwy allu Duw ydych warchodedig trwy ffydd i iachawdwriaeth, parod i'w dadguddio yn yr amser diweddaf. Yn yr hyn yr ydych yn mawr lawenhau, er eich bod am ychydig, yn awr, os rhaid yw, wedi eich tristâu mewn amrywiol brofedigaethau, fel y caffer fod prawf eich ffydd chwi, yr hwn sydd werthfawrocach na'r aur colladwy er ei brofi trwy dân, er mawl a gogoniant ac anrhydedd yn Nadguddiad Iesu Grist: yr hwn na welsoch yr ydych yn ei garu; yn yr hwn, heb fod yn awr yn ei weled, eto yn credu, yr ydych yn mawr lawenhau â llawenydd anrhaethadwy a gogoneddedig; gan dderbyn diwedd eich ffydd, iachawdwriaeth eich eneidiau. Am yr hon iachawdwriaeth y dyfal‐geisiodd ac y manwl-chwiliodd y prophwydi, y rhai a brophwydasant am y gras a ddeuai i chwi; gan chwilio pa amser neu pa fath amser yr oedd Yspryd Crist yr hwn oedd ynddynt, yn ei nodi, pan oedd efe yn rhag‐dystiolaethu dyoddefiadau Crist a'r gogoniant ar eu hol. I'r rhai y dadguddiwyd nad iddynt hwy eu hunain ond i chwi yr oeddent yn gweinyddu y pethau hyn, y rhai yn awr sydd wedi eu hyspysu i chwi trwy y rhai a efengylasant i chwi trwy yr Yspryd Glân a anfonwyd allan o'r nef: i'r hyn bethau y mae angelion yn awyddu edrych. O herwydd paham, gan wregysu lwynau eich meddwl, gan fod yn berffaith sobr, gobeithiwch am y grâs sydd yn cael ei ddwyn i chwi yn Nadguddiad Iesu Grist; fel plant ufudd‐dod heb gyd‐ymagweddu â'ch chwantau blaenorol yn eich anwybodaeth: eithr megys y mae yr hwn a'ch galwodd yn sanctaidd, byddwch chwithau eich hunain hefyd yn sanctaidd ym mhob ymarweddiad, canys y mae yn ysgrifenedig, Chwi a fyddwch sanctaidd, canys sanctaidd ydwyf fi. Ac os ydych yn galw arno ef fel Tâd, yr hwn heb dderbyn wyneb sydd yn barnu yn ol gweithred pob un, am amser eich ymdeithiad ymddygwch mewn ofn; gan wybod nad â phethau llygredig, megys arian neu aur, y'ch prynwyd o'ch ofer ymarweddiad a drosglwyddwyd o'ch tadau; eithr â gwerthfawr waed, megys oen dianaf a difrycheulyd, sef gwaed Crist; yr hwn yn wir a rag‐adnabuwyd cyn seiliad y byd, eithr a amlygwyd ar ddiwedd yr amseroedd er eich mwyn chwi, y rhai trwyddo ef ydych gredinwyr yn Nuw, yr hwn a'i cyfododd ef o feirw, ac a roddodd iddo ef ogoniant, fel y byddai eich ffydd chwi a'ch gobaith yn Nuw. Chwychwi, wedi puro eich eneidiau yn eich ufudd‐dod i'r gwirionedd i frawdgarwch diragrith, cerwch eich gilydd o'r galon yn wresog; wedi eich hadgenhedlu, nid o hâd llygredig, eithr anllygredig, trwy air bywiol ac arosol Duw. Canys pob cnawd sydd fel glaswelltyn, a'i holl ogoniant fel blodeuyn y glaswelltyn; gwywa y glaswelltyn, a'r blodeuyn a syrth; eithr Gair yr Arglwydd sydd yn aros yn dragywydd. A hwn yw y gair a efengylwyd i chwi. Wedi rhoddi ymaith, gan hynny, bob malais, a phob twyll, a rhagrith, a chenfigennau, a phob enllibau, megys babanod newydd eu geni, hiraethwch am y llaeth ysprydol, didwyll, fel y cynhyddoch trwyddo i iachawdwriaeth, os profasoch fod yr Arglwydd yn garedig. A chan ddyfod ato ef, Maen Byw, gan ddynion yn wir yn wrthodedig, ond gyda Duw yn etholedig ac mewn anrhydedd; chwithau hefyd, megys meini byw, adeilader chwi yn dŷ ysprydol, er offeiriadaeth sanctaidd i offrymu aberthau ysprydol, cymeradwy gan Dduw trwy Iesu Grist. Canys cynhwysir yn yr Ysgrythyr: Wele, yr wyf yn gosod yn Sion ben‐congl‐faen, etholedig, mewn anrhydedd. A'r hwn a gred ynddo ef, ni chywilyddir ddim. I chwi gan hynny, y rhai ydych yn credu, y mae yr anrhydedd, ond i'r rhai nad ydynt yn credu, Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, Hwn a wnaed yn ben y gongl, Ac yn faen tramgwydd, ac yn graig rhwystr, i'r rhai sydd yn tramgwyddo wrth y gair, gan fod yn anufudd: i'r hyn beth hefyd y penodwyd hwynt. Ond chwychwi ydych rywogaeth etholedig, offeiriadaeth frenhinol, cenedl sanctaidd, pobl yn feddiant i Dduw, fel y mynegoch ragoriaethau yr hwn a'ch galwodd o dywyllwch i'w ryfeddol oleuni ef; y rhai gynt nid oeddych bobl, eithr yn awr ydych bobl i Dduw; y rhai ni thrugarhawyd wrthych, ond yn awr a gawsoch drugaredd. Anwyliaid, yr wyf yn atolwg i chwi megys ymdeithyddion a dyeithriaid, i ymgadw oddiwrth chwantau cnawdol, y rhai sydd yn milwrio yn erbyn yr enaid; gan fod â'ch ymarweddiad yn weddaidd ym mhlith y Cenhedloedd; fel, yn yr hyn y maent yn eich enllibio fel drwg‐weithredwyr, y gallont, trwy weled eich gweithredoedd da, y rhai a welant, ogoneddu Duw yn Nydd yr Ymweliad. Ymddarostyngwch i bob sefydliad dynol o herwydd yr Arglwydd, pa un bynnag ai i frenin, megys goruchaf; ai i lywiawdwyr, megys yn cael eu danfon ganddo ef er cosp drwgweithredwyr a chlod gweithredwyr yr hyn sydd dda. Canys felly y mae ewyllys Duw, fod i chwi, wneuthurwyr daioni, safn‐rwymo anwybodaeth dynion anghall; megys yn rhyddion, ac nid yn meddiannu y rhyddid fel gorchudd drygioni, ond fel caethweision Duw. Anrhydeddwch bawb; cerwch y frawdoliaeth; ofnwch Dduw; anrhydeddwch y brenin. Y gweision teuluol, ymddarostyngwch gyda phob ofn i'ch meistriaid, nid yn unig i'r rhai da ac addfwyn, ond hefyd i'r trofaus; canys hyn sydd achos diolch, os yw neb o herwydd ymwybodolrwydd o Dduw yn dwyn tristwch, gan ddyoddef ar gam; canys pa glod yw, os pan yn pechu ac yn cael eich dyrnodio, y dygwch ef yn amyneddgar? Eithr os pan yn gwneuthur da, gan ddyoddef, y dygwch ef yn amyneddgar, y mae hyn yn achos diolch i chwi gyda Duw: canys i hyn y'ch galwyd; oblegyd Crist hefyd a ddyoddefodd drosom ni, gan adael i chwi esiampl, fel y canlynech ei ôl ef; yr hwn ni wnaeth bechod, ac ni chafwyd chwaith dwyll yn ei enau; yr hwn, pan ddifenwyd, ni ddifenwai yn ol; pan yn dyoddef, ni fygythiai, eithr traddodai ei hun i'r hwn sydd yn barnu yn gyfiawn; yr hwn ei hun a ddug ein pechodau yn ei gorph ar y pren, fel, wedi darfod â phechodau, y byddem byw i gyfiawnder; trwy gleisiau yr hwn y'ch iachawyd chwi, Canys yr oeddech fel defaid yn myned ar gyfeiliorn, eithr yn awr yr ydych wedi troi yn ol at Fugail a Gwarcheidwad eich eneidiau. Yr un modd, chwi wragedd, byddwch ddarostyngedig i'ch gwŷr eich hunain, fel, hyd yn nod os oes rhai heb ufuddhau i'r Gair, trwy ymarweddiad y gwragedd yr enillir hwynt heb y Gair, gan sylwi o honynt ar eich ymarweddiad diwair gydag ofn; gan y rhai bydded, nid yr addurniad oddi allan o blethiad gwallt, ymwisgo â thlysau o aur neu wisgiad dillad, eithr cuddiedig ddyn y galon, yn addurniad anllygredig yr yspryd addfwyn a thawel, yr hwn sydd ger bron Duw yn dra gwerthfawr. Canys felly gynt yr oedd y gwragedd sanctaidd hefyd, y rhai a obeithient yn Nuw, yn arfer ymaddurno, gan fod yn ddarostyngedig i'w gwŷr eu hunain; megys yr ufuddhaodd Sarah i Abraham, gan ei alw ef yn arglwydd, plant i'r hon y'ch gwnaed trwy wneuthur yr hyn sydd dda, ac heb ofni unrhyw arswyd. Y gwŷr, yr un modd, cyd‐drigwch â'ch gwragedd yn ol gwybodaeth, gan roddi anrhydedd i'r wraig, megys i'r llestr gwannaf, megys hefyd yn gyd‐etifeddion grâs y bywyd, fel na rwystrer eich gweddïau. Yn olaf, byddwch oll yn unfryd, yn cydymdeimlo, yn caru'r frawdoliaeth, yn dosturiol, yn ostyngedig, nid yn talu drwg am ddrwg, neu sen am sen; ond yng ngwrthwyneb, yn bendithio, gan i hyn y'ch galwyd, fel yr etifeddoch fendith. Canys, Yr hwn a ewyllysia garu bywyd A gweled dyddiau da, Atalied ei dafod oddi wrth ddrwg A'i wefusau rhag llefaru twyll: Gocheled y drwg, a gwnaed y da; Ceisied heddwch, a dylyned ef; Canys y mae llygaid yr Arglwydd ar y rhai cyfiawn, A'i glustiau ef tu ag at eu deisyfiad hwynt: Eithr wyneb yr Arglwydd sydd ar y rhai sydd yn gwneuthur drwg. A phwy a'ch dryga chwi, os byddwch yn selog am yr hyn sydd dda? Eithr os bydd i chwi hyd yn nod ddyoddef o herwydd cyfiawnder, dedwydd ydych: ond nac ofnwch eu dychryn hwynt, ac na'ch cynhyrfer, eithr fel Arglwydd sancteiddiwch Grist yn eich calonnau; gan fod yn barod bob amser gydag ateb i bob un a ofynno i chwi reswm am y gobaith sydd ynoch, eithr gydag addfwynder ac ofn; a chennych gydwybod dda; fel, yn yr hyn y lleferir yn eich erbyn, y cywilyddier y rhai sydd yn sarhâu eich ymarweddiad da chwi yng Nghrist. Canys gwell ydyw, os cwyllys Duw a'i myn, i chwi ddyoddef pan yn gwneuthur daioni na phan yn gwneuthur drwg. Canys Crist hefyd unwaith am byth a ddyoddefodd am bechodau, y cyfiawn dros yr anghyfiawn, fel y dygai ni at Dduw, wedi ei roddi i farwolaeth yn y cnawd, ond ei fywhâu yn yr yspryd; yn yr hwn hefyd yr aeth efe ac a bregethodd i'r ysprydion yngharchar, y rhai a fuont gynt yn anufudd, pan ddisgwyliai hir‐amynedd Duw yn nyddiau Noah, tra y darperid yr Arch, yn yr hon ychydig, sef wyth enaid, a achubwyd trwy ddwfr. Yr hwn hefyd, yn y gwrth‐gysgod, sef Bedydd, sydd yn awr yn eich achub chwi, — nid golchiad ymaith fudreddi y cnawd, ond ymholiad cydwybod dda tu ag at Dduw — trwy Adgyfodiad Iesu Grist; yr hwn sydd ar ddeheulaw Duw, wedi myned i'r nef, angylion, awdurdodau, a galluoedd wedi eu darostwng iddo. Am hynny, gan ddyoddef o Grist yn y cnawd, ymarfogwch chwithau hefyd eich hunain â'r un meddwl, canys yr hwn a ddyoddefodd yn y cnawd sydd wedi peidio â phechod, fel na byddo mwyach o'r amser sydd yn ol fyw yn y cnawd wrth chwantau dynion, ond wrth ewyllys Duw. Canys digon yr amser a aeth heibio i weithredu ewyllys y cenhedloedd, pan y rhodiasom mewn trythyllwch, chwantau, meddwdod, gloddestau, cyfeddach, a ffiaidd eilun‐addoliadau; yn yr hyn y synnant nad ydych yn cyd‐redeg â hwynt i'r un dylif o ysgelerder, gan gablu; y rhai a roddant gyfrif i'r hwn sydd barod i farnu y byw a'r meirw. Canys i'r dyben hwn yr efengylwyd hyd yn nod i'r meirw, fel y bernid hwy yn ol dynion yn y cnawd, ond byw yn ol Duw yn yr yspryd. Eithr diwedd pob peth sydd wedi agoshau; am hynny byddwch bwyllog a sobr i weddïau; o flaen pob peth, yn wresog yn eich cariad tu ag at eich gilydd, canys cariad sydd yn gorchuddio lliaws o bechodau; yn lletygar y naill i'r llall, heb rwgnach; fel y derbyniodd pob un rodd yn ei gweinyddu ym mhlith eich gilydd, fel goruchwylwyr da amrywiol râs Duw. Os yw neb yn llefaru, llefared megys oraclau Duw; os yw neb yn gweini, gwnaed megys o'r nerth a gyflenwa Duw, fel ym mhob peth y gogonedder Duw trwy Iesu Grist, i'r hwn y mae y gogoniant a'r cadernid yn oes oesoedd. Amen. Anwyliaid, na synnwch wrth y prawf tanllyd sydd yn eich plith, er eich profi, fel pe bai peth dyeithr yn dygwydd i chwi; eithr gymaint ag yr ydych yn cyfranogi o ddyoddefiadau Crist, llawenhêwch, fel yn Nadguddiad ei Ogoniant y llawenhêwch gan orfoleddu. Os difenwir chwi am enw Crist, gwyn eich byd, canys y mae Yspryd y Gogoniant, ië, Yspryd Duw, yn gorphwys arnoch. Canys na ddyoddefed neb o honoch fel llofrudd, neu leidr, neu ddrwg‐weithredwr, neu ymyrrwr â materion pobl eraill: ond os fel Cristion, na fydded cywilydd ganddo, ond gogonedded Dduw yn yr enw hwn; canys y mae yn amser i'r farn ddechreu gyda thŷ Dduw; ac os yn gyntaf gyda ni, pa beth fydd diwedd y rhai sydd yn anufuddhâu i Efengyl Duw? Ac os braidd y mae y cyfiawn yn gadwedig, pa le yr ymddengys yr annuwiol a'r pechadur? Felly hefyd bydded i'r rhai sydd yn dyoddef yn ol ewyllys Duw roddi gofal eu heneidiau i Greawdwr ffyddlawn, gan wneuthur yr hyn sydd dda. Yr henuriaid gan hynny yn eich plith yr wyf yn eu cynghori — yr hwn wyf gyd‐henuriad a thyst o ddyoddefiadau Crist, yr hwn wyf hefyd gyfrannog o'r Gogoniant ar fedr ei ddadguddio, — bugeiliwch braidd Duw y sydd yn eich plith, nid trwy gymhell, ond o wirfodd; nid er mwyn budr‐elw, ond â meddwl parod: nid fel yn arglwyddiaethu ar y rhai a ymddiriedwyd i'ch gofal, eithr gan fod yn esiamplau i'r praidd. A phan yr amlygir y Pen‐bugail, chwi a dderbyniwch anniflanedig Goron y Gogoniant. Yr un modd, y rhai ieuengach, byddwch ddarostyngedig i'r rhai hynach. Ie, ymwregyswch oll â gostyngeiddrwydd tu ag at eich gilydd; oblegyd y mae Duw yn gosod ei hun yn erbyn y beilchion, ond yn rhoddi grâs i'r rhai gostyngedig. Ymostyngwch gan hynny dan rymus law Duw, fel y'ch dyrchafo chwi mewn amser cyfaddas, gan fwrw eich holl bryder arno ef; canys y mae efe yn gofalu am danoch chwi. Byddwch sobr, gwyliwch. Y mae eich gwrthwynebwr Diafol, megys llew yn rhuo, yn rhodio oddi amgylch, yn ceisio rhyw un i'w draflyncu. Yr hwn gwrthsefwch yn gadarn yn y ffydd, gan wybod fod yr un dyoddefiadau yn cael eu cyflawnu gan y frawdoliaeth yn y byd. A Duw pob grâs yr hwn a'ch galwodd chwi i'w dragwyddol ogoniant yng Nghrist, wedi i chwi ddyoddef am ychydig, efe ei hun a'ch adfera, a'ch cadarnhâ, a'ch nertha. Iddo ef y byddo'r gallu yn oes oesoedd. Amen. Gyda Silfanus, y brawd ffyddlawn, fel y cyfrifaf ef, yr ysgrifennaf atoch ar ychydig eiriau, gan gynghori a thystiolaethu mai hwn yw gwir râs Duw; sefwch ynddo. Y mae yr hon sydd gyd‐etholedig yn Babylon yn eich annerch, ac felly y mae Marc fy mab i. Anerchwch eich gilydd â chusan cariad. Tangnefedd i chwi oll — y rhai sydd yng Nghrist. Simon Petr, gwasanaethwr ac Apostol Iesu Grist, at y rhai a gawsant gyffelyb werthfawr ffydd â ninnau yng nghyfiawnder ein Duw ac Iachawdwr Iesu Grist: Grâs i chwi a thangnefedd a amlhâer yn yr adnabyddiaeth o Dduw a Iesu ein Harglwydd; gan weled fod ei Ddwyfol allu wedi rhad‐roddi i ni bob peth a berthyn i fywyd a duwioldeb, trwy adnabyddiaeth o honno ef, yr hwn a'n galwodd trwy ei ogoniant a'i rinwedd ei hun; trwy y rhai y rhoddodd efe i ni yr addewidion gwerthfawr a mawr iawn, fel trwy y rhai hyn y deloch yn gyfranogion o'r Ddwyfol anian, wedi diangc oddiwrth y llygredigaeth sydd yn y byd trwy drachwant. Ac ar gyfrif hyn yma, gan chwanegu o'ch tu chwi bob eiddgarwch, yn eich ffydd cyflenwch rinwedd; ac yn eich rhinwedd, wybodaeth; ac yn eich gwybodaeth, hunan‐lywodraeth; ac yn eich hunan‐lywodraeth, ddewr‐amynedd; ac yn eich dewr‐amynedd, dduwioldeb; ac yn eich duwioldeb, frawdgarwch; ac yn eich brawdgarwch gariad. Canys os yw y pethau hyn yn eiddo i chwi ac yn cynhyddu, gwnant chwi na byddoch na segur na diffrwyth er dyfod i adnabyddiaeth o'n Harglwydd Iesu Grist. Canys yr hwn nid yw y rhai hyn ganddo, dall ydyw, byr ei olwg, wedi gollwng dros gof y glanhâd oddi wrth ei bechodau gynt. O herwydd paham, frodyr, byddwch yn fwy eiddgar i wneuthur eich galwad a'ch etholedigaeth yn sicr; canys os gwnewch y pethau hyn, ni thripiwch byth; canys felly y darperir i chwi yn gyfoethog y mynediad i Deyrnas dragwyddol ein Harglwydd ac Iachawdwr Iesu Grist. O herwydd paham, byddaf barod bob amser i'ch coffhâu am y pethau hyn, er eich bod yn eu gwybod ac wedi eich sefydlu yn y gwirionedd sydd gennych. Ac yr wyf yn ei hystyried yn iawn, tra fyddwyf yn y babell hn, eich hollol‐gyffrôi chwi trwy ddwyn ar gof i chwi, gan wybod fod gosodiad heibio fy mhabell yn dyfod yn fuan, megys hefyd yr amlygodd ein Harglwydd Iesu Grist i mi. A byddaf eiddgar hefyd ar i ch wi arbob achlysur, ar ol fy ymadawiad, ddwyn y pethauhyn i gof. Canys nid gan ddylyn chwedlau wedi eu cyfrwys ddyfeisio yr hyspysasom i chwi allu a Dyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist, eithr gan fod yn llygad‐dystion o'i Fawrhydi. Canys efe a dderbyniodd gan Dduw Dâd anrhydedd a gogoniant, pan ddaeth y cyfryw lef ato oddi wrth y mawr‐ragorol Ogoniant, Hwn yw fy anwyl Fab, yn yr hwn y'm boddlonwyd. A'r llef hon nyni a glywsom, pan ddaeth allan o'r nef, pan oeddem ni gydag ef yn y Mynydd Sanctaidd. Ac y mae gennym air prophwydoliaeth yr hwn sydd sicrach fyth; yr hwn da y gwnewch wrth ddal arno, megys ar lusern yn disgleirio mewn lle budr, hyd oni wawrio y Dydd, ac oni chyfodo y Seren Ddydd yn eich calonnau; gan wybod hyn yn gyntaf, nad oes unrhyw brophwydoliaeth o'r Ysgrythyr o ddehongliad neillduol. Canys nid trwy ewyllys dyn y daeth prophwydoliaeth erioed, eithr dynion oddiwrth Dduw a lefarasant, gan gael eu cario ymlaen gan yr Yspryd Glân. Eithr bu gau‐brophwydi hefyd ym mhlith y bobl, fel y bydd gau‐athrawon hefyd yn eich plith chwi, yn rai a ddygant i mewn heresiau dinystriol, gan wadu hyd yn nod y Meistr, yr hwn a'u prynodd hwynt, gan ddwyn arnynt eu hunain ddinystr sydyn. A llawer a ganlynant eu gweithredoedd anllad; o herwydd y rhai y ceblir Ffordd y gwirionedd; ac mewn cybydd‐dod, trwy eu geiriau ffugiol y gwnant fasnach o honoch chwi: dedfryd y rhai er ys talm nid yw segur, a'u dinystr nid yw yn hepian. Canys os nad arbedodd Duw angelion a bechasant, eithr gan eu bwrw i Tartarus efe a'u traddododd i bydewau tywyllwch, i'w cadw i farn. Ac os nad arbedodd efe yr hen fyd, eithr Noah, pregethwr cyfiawnder, a gadwodd efe gyda saith eraill, pan ddug efe Ddiluw ar fyd yr annuwiolion; a chan droi dinasoedd Sodom a Gomorrah yn lludw, efe a'u condemniodd i ddistryw, gan eu gwneuthur yn esiampl i'r rhai a fyddent byw yn annuwiol; ac a waredodd Lot gyfiawn, yr hwn a gafodd ei flino gan fuchedd y rhai drygionus, yr hon a dreulid mewn anlladrwydd — canys y cyfiawn hwnnw yn trigo yn eu mysg hwynt yn gweled ac yn clywed, o ddydd i ddydd, a ddirboenodd ei enaid cyfiawn trwy eu gweithredoedd anghyfreithlawn — yr Arglwydd a ŵyr pa fodd i waredu y duwiolion allan o brofedigaeth, ac i gadw anghyfiawnion o dan gosp i Ddydd y Farn; eithr yn bennaf y rhai sydd yn rhodio ar ol y cnawd yn chwant halogrwydd, gan ddirmygu rheolaeth: dynion beiddgar, hunangar, nid ydynt yn arswydo cablu urddasolion; tra nad yw angelion, er eu bod yn fwy mewn nerth a gallu, yn dwyn barn gableddus yn eu herbyn hwy ger bron yr Arglwydd. Ond y rhai hyn, megys creaduriaid direswm, wedi eu geni yn reddfol er cael eu dal a'u distrywio, gan gablu yn y pethau na wyddant, yn eu distryw hwy a ddinystrir, gan fod ar dderbyn cyflog anghyfiawnder; gan gyfrif gloddesta liw dydd yn bleser; brychau a meflau ydynt, yn gloddesta yn eu Cariad‐wleddoedd tra yn gwledda gyda chwi; a chanddynt lygaid yn llawn godineb, ac na fedrant beidio â phechod; yn llithio eneidiau anwadal; a chanddynt galon wedi ymarfer mewn cybydd‐dod; plant melldith; gan adael y ffordd uniawn aethant ar gyfeiliorn, gan ganlyn ffordd Balaam, mab Beor, yr hwn a garodd wobr anghyfiawnder; ond a gafodd gerydd am ei gamwedd: asen fud a lefarodd â llais dyn, ac a rwystrodd ynfydrwydd y prophwyd. Y rhai hyn ydynt ffynhonnau diddwfr, niwloedd a yrrir gan dymhestl, i'r rhai y mae caddug tywyllwch ynghadw. Canys gan adrodd gor‐chwyddedig eiriau gwagedd, y maent yn hud‐ddenu, yn chwantau y cnawd, trwy eu gweithredoedd anllad, y rhai sydd i fesur yn diangc ymaith oddiwrth y rhai sydd a'u hymarweddiad mewn cyfeiliornad; gan addaw iddynt ryddid, tra y maent hwy eu hunain yn gaethweision llygredigaeth; canys gan bwy bynnag y trechir dyn, i hwnnw hefyd y mae wedi ei wneud yn gaeth; canys os, wedi diangc oddi wrth halogedigaethau y byd trwy lawn‐adnabyddiaeth o'r Arglwydd a'r Iachawdwr Iesu Grist, y meglir hwynt drachefn yn y pethau hyn a chael eu trechu, y mae y sefyllfa olaf wedi myned iddynt yn waeth na'r cyntaf. Canys gwell fuasai iddynt fod heb adnabod ffordd cyfiawnder, nag, wedi ei hadnabod, droi yn ol oddi wrth y gorchymyn sanctaidd a draddodwyd iddynt. Dygwyddodd iddynt yn ol y wir ddiareb: Ci yn troi at ei chwydiad ei hun, ac, Hwch wedi ymolchi, i ymdreiglo yn y llaid. Hwn eisoes, anwyliaid, yw yr ail epistol yr wyf yn ei ysgrifennu atoch, yn y rhai yr ydwyf yn cyffrôi eich meddwl didwyll trwy ddwyn ar gof i chwi, sef i gofio y geiriau a rag‐ddywedwyd gan y prophwydi sanctaidd, a gorchymyn yr Arglwydd a'r Iachawdwr trwy eich Apostolion: gan wybod hyn yn gyntaf, y daw yn y dyddiau diweddaf watwarwyr gyda gwatwor, yn rhodio yn ol eu chwantau eu hunain, ac yn dywedyd, Pa le y mae addewid ei Ddyfodiad? canys er pan hunodd y Tadau, y mae pob peth yn parhâu fel yr oeddynt o ddechreuad creadigaeth. Canys y maent yn anwybyddu hyn o'u gwirfodd, bod nefoedd er ys talm, a daear wedi eu ffurfio allan o ddwfr a thrwy ddwfr, trwy Air Duw: trwy y rhai y byd a oedd y pryd hwnnw wedi ei orlifo â dwfr, a ddyfethwyd: eithr y nefoedd sydd yn awr, a'r ddaear, ydynt trwy yr un Gair wedi eu trysori i fyny i dân, yn cael eu cadw erbyn dydd y Farn a distryw dynion annuwiol. Eithr nac anwybyddwch yr un peth hwn, anwyliaid, fod un dydd gyda'r Arglwydd megys mil o flynyddoedd, a mil o flynyddoedd megys un dydd; Nid oedi ei Addewid y mae yr Arglwydd, fel y mae rhai yn cyfrif oediad, eithr hir‐ymarhöus yw efe tuag atoch chwi, heb ewyllysio bod neb yn golledig, ond dyfod o bawb i edifeirwch. Eithr Dydd yr Arglwydd a ddaw megys lleidr, yn yr hwn y nefoedd a ânt heibio gyda thwrf rhuthrol, a'r elfennau gan wres deifiol a ymddatodant, a'r ddaear a'r gweithiau sydd ynddi a losgir i fyny. A chan fod y pethau hyn i gyd fel hyn i gael eu datod, pa ryw fath ddynion ddylech chwi fod ym mhob sanctaidd ymarweddiad a duwioldeb, gan ddisgwyl a phrysuro Dyfodiad Dydd Duw, o herwydd yr hwn y nefoedd gan fod ar dân a ddatodir, a'r elfennau gan wres deifiol a doddant? Eithr nefoedd newydd a daear newydd yr ydym ni, yn ol ei Addewid, yn eu disgwyl, yn y rhai y mae cyfiawnder yn cartrefu. O herwydd paham, anwyliaid, gan eich bod yn disgwyl y pethau hyn, byddwch eiddgar ar eich cael mewn tangnefedd, yn ddifrycheulyd ac yn ddifeius ganddo ef. A chyfrifwch hir‐amynedd ein Harglwydd yn iachawdwriaeth, megys hefyd ag yr ysgrifennodd ein hanwyl frawd Paul atoch chwi, yn ol y doethineb a roddid iddo ef; fel hefyd yn ei holl Epistolau, gan lefaru ynddynt am y pethau hyn; yn y rhai y mae pethau anhawdd eu deall, y rhai y mae yr anwybodus a'r anwadal yn eu gŵyr‐droi, fel yr Ysgrythyrau eraill hefyd, i'w dinystr eu hunain. Chwychwi gan hynny, anwyliaid, yn gwybod y pethau hyn o'r blaen, gwyliwch rhag wedi eich arwain gan gyfeiliornad y rhai drygionus, gwympo o honoch oddi wrth eich sefydlogrwydd eich hunain; ond cynhyddwch yng ngras a gwybodaeth ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist. Iddo ef y byddo y Gogoniant yn awr ac i Ddydd Tragwyddoldeb. Yr hyn oedd o'r dechreuad, yr hyn a glywsom, yr hyn a welsom â'n llygaid, yr hyn a syllasom arno ac a deimlodd ein dwylaw ynghylch Gair y Bywyd: (A'r Bywyd a amlygwyd, ac ni a welsom, ac ydym yn tystiolaethu ac yn mynegi i chwi y Bywyd tragwyddol, yr hwn oedd gyda'r Tâd ac a amlygwyd i ni): yr hyn a welsom ac a glywsom yr ydym hefyd yn ei fynegi i chwi, fel y caffoch chwithau hefyd gymdeithas gyda ni; ië, a'n cymdeithas ni sydd gyda'r Tâd a chyda'i Fab ef, Iesu Grist. A'r pethau hyn yr ydym yn eu hysgrifennu, fel y byddo ein llawenydd yn gyflawn. A hon ydyw y genadwri a glywsom ganddo ef, ac yr ydym yn ei dadgan i chwi: Duw, Goleuni ydyw, ac nid oes ynddo ddim tywyllwch. Os dywedwn fod i ni gymdeithas âg ef, a rhodio yn y tywyllwch, celwyddog ydym, ac nid ydym yn gwneuthur y gwirionedd. Eithr os rhodiwn yn y goleuni, megys y mae efe yn y goleuni y mae i ni gymdeithas â'n gilydd, a gwaed Iesu ei Fab ef sydd yn ein glanhâu ni oddiwrth bob pechod. Os dywedwn nad oes ynom bechod, yr ydym yn arwain ein hunain ar gyfeiliorn, a'r gwirionedd nid yw ynom. Os cyfaddefwn ein pechodau, ffyddlawn yw efe a chyfiawn, i faddeu i ni ein pechodau, ac i'n glanhâu oddiwrth bob anghyfiawnder. Os dywedwn na phechasom, yr ydym yn ei wneuthur ef yn gelwyddog, a'i air ef nid yw ynom. Fy mhlant bychain, y pethau hyn yr wyf yn eu hysgrifennu atoch, fel na phechoch. Ac os pecha neb, y mae gennym Ddadleuydd gyda'r Tâd, Iesu Grist y Cyfiawn. Ac efe yw yr Iawn am ein pechodau ni, ac nid am yr eiddom ni yn unig, ond hefyd am yr holl fyd. Ac wrth hyn y gwyddom yr adwaenom ef, os cadwn ni ei orchymynion ef. Yr hwn sydd yn dywedyd, Mi a'i hadwaen ef, ac heb gadw ei orchymynion ef, celwyddog yw, a'r gwirionedd nid yw ynddo; eithr pwy bynnag a gadwo ei Air ef, yn wir yn hwn y mae Cariad Duw wedi ei berffeithio. Wrth hyn y gwyddom ein bod ynddo ef. Yr hwn a ddywed ei fod yn aros ynddo ef a ddylai yntau hefyd rodio fel y rhodiodd efe. Anwyliaid, nid gorchymyn newydd yr wyf yn ei ysgrifennu atoch, ond gorchymyn hen, yr hwn oedd gennych o'r dechreuad: y gorchymyn hen yw y Gair a glywsoch. Trachefn, gorchymyn newydd yr wyf yn ei ysgrifennu atoch, yr hwn beth sydd yn wir ynddo ef ac ynoch chwithau; canys y tywyllwch sydd yn myned heibio, a'r gwirioneddol oleuni sydd eisoes yn tywynnu. Yr hwn a ddywed ei fod yn y goleuni, ac a gasâo ei frawd, yn y tywyllwch y mae hyd y pryd hwn. Yr hwn sydd yn caru ei frawd sydd yn aros yn y goleuni, ac nid oes achos tramgwydd ynddo ef. Eithr yr hwn sydd yn casâu ei frawd, yn y tywyllwch y mae, ac yn y tywyllwch y mae yn rhodio, ac ni ŵyr i ba le y mae yn myned, canys y tywyllwch a ddallodd ei lygaid. Ysgrifennu yr wyf atoch chwi, blant bychain, oblegyd maddeu i chwi eich pechodau, er mwyn ei enw ef. Ysgrifennu yr wyf atoch chwi, dadau, oblegyd adnabod o honoch yr hwn sydd o'r dechreuad. Ysgrifennu yr wyf atoch chwi, wŷr ieuainc, oblegyd gorchfygu o honoch yr Un Drwg. Ysgrifennais atoch, rai bychain, oblegyd adnabod o honoch y Tâd. Ysgrifennais atoch chwi, dadau, oblegyd adnabod o honoch yr hwn sydd o'r dechreuad. Ysgrifennais atoch chwi, wŷr ieuainc, oblegyd eich bod yn gryfion, a bod Gair Duw yn aros ynoch, a'ch bod wedi gorchfygu yr Un Drwg. Na cherwch y byd, na'r pethau sydd yn y byd. Os yw neb yn caru y byd, nid yw cariad y Tâd ynddo. Canys pob peth a'r sydd yn y byd, chwant y cnawd, a chwant y llygaid, a gwag‐ogoniant y bywyd, nid yw o'r Tâd, eithr o'r byd y mae. A'r byd sydd yn myned heibio, a'i chwant, ond yr hwn sydd yn gwneuthur ewyllys Duw sydd yn aros yn dragywydd. Rai bychain, yr Awr ddiweddaf ydyw; ac fel y clywsoch fod Anghrist yn dyfod, hyd yn nod yn awr mae Anghristiau lawer wedi cyfodi, oddiwrth yr hyn y gwyddom mai yr Awr ddiweddaf ydyw. Oddiwrthym ni yr aethant hwy allan, eithr nid oeddynt o honom ni; canys pe buasent o honom ni, hwy a arosasent gyda ni; eithr aethant allan, fel yr amlygid nad ydynt bawb oll o honom ni. Ac y mae gennych chwi eneiniad oddiwrth yr Un Sanctaidd, a chwi oll ydych yn gwybod hynny. Ni ysgrifennais atoch oblegyd na wyddoch y gwirionedd, eithr oblegyd eich bod yn ei wybod, ac oblegyd nad oes unrhyw gelwydd o'r gwirionedd. Pwy yw y celwyddog ond yr hwn sydd yn gwadu nad Iesu yw y Crist? Hwn yw yr Anghrist, sef yr hwn sydd yn gwadu y Tâd a'r Mab. Pob un a'r sydd yn gwadu y Mab, nid yw y Tâd chwaith ganddo; yr hwn sydd yn cyffesu y Mab, y mae y Tâd ganddo hefyd. Chwychwi, yr hyn a glywsoch o'r dechreuad, arhosed ynoch; os ynoch yr erys yr hyn a glywsoch o'r dechreuad, chwithau hefyd a gewch aros yn y Mab ac yn y Tâd. A hon ydyw yr Addewid a addawodd ef i ni, sef bywyd tragwyddol. Y pethau hyn a ysgrifennais atoch ynghylch y rhai sydd yn eich arwain ar gyfeiliorn. A chwychwi, y mae yr eneiniad a dderbyniasoch ganddo ef yn aros ynoch chwi, ac nid oes arnoch angen i neb eich dysgu, eithr fel y mae ei eneiniad ef yn eich dysgu chwi ynghylch pob peth — ac y mae yn wir ac nid yw gelwydd — ac megys y dysgodd efe chwi, arhoswch ynddo ef. Ac yn awr, blant bychain, arhoswch ynddo Ef, fel, os amlygir ef, y byddo gennym hyfder, ac na chiliom mewn cywilydd oddiwrtho yn ei Ddyfodiad. Os gwyddoch ei fod ef yn gyfiawn, gwyddoch fod pob un hefyd sydd yn gwneuthur cyfiawnder wedi ei genhedlu o hono ef. Gwelwch y fath gariad a roddodd y Tâd i ni, fel y'n gelwir yn blant Duw: a'r cyfryw ydym. O achos hyn, nid edwyn y byd ni, gan nad adnabu ef. Anwyliaid, yn awr plant Duw ydym, ac nid amlygwyd eto beth a fyddwn: gwyddom, ped amlyger, y byddwn gyffelyb iddo ef, oblegyd ni a'i gwelwn ef fel y mae. A phob un sydd ganddo y gobaith hwn ynddo ef sydd yn ei buro ei hun, megys y mae yntau yn bur. Pob un ar sydd yn gwneuthur pechod sydd hefyd yn gwneuthur anghyfraith; ac anghyfraith yw pechod. A chwi a wyddoch iddo ef gael ei amlygu i gymeryd ymaith bechodau, ac ynddo ef nid oes pechod. Pob un a'r sydd yn aros ynddo ef, nid yw yn pechu; pob un sydd yn pechu, nid yw wedi ei weled ef, nac ychwaith wedi ei adnabod ef. Blant bychain, na fydded i neb eich arwain ar gyfeiliorn. Yr hwn sydd yn gwneuthur cyfiawnder sydd gyfiawn, fel y mae efe yn gyfiawn. Yr hwn sydd yn gwneuthur pechod, o Ddiafol y mae; canys y mae y Diafol yn pechu o'r dechreuad. I hyn yr amlygwyd Mab Duw, fel y datodai weithredoedd y Diafol. Pob un sydd wedi ei genhedlu o Dduw, nid yw yn gwneuthur pechod, canys ei hâd ef sydd ynddo ef yn aros; ac ni all efe bechu, am ei genhedlu ef o Dduw. Yn hyn amlwg yw plant Duw a phlant y Diafol: Pob un nad yw yn gwneuthur cyfiawnder, nid yw o Dduw, a'r hwn nad yw yn caru ei frawd. Oblegyd hon yw y genadwri a glywsoch o'r dechreuad, garu o honom ein gilydd. Nid fel yr oedd Cain o'r Un Drwg, ac a laddodd ei frawd. A phaham y lladdodd ef? Oherwydd bod ei weithredoedd ef yn ddrwg, a'r eiddo ei frawd yn gyfiawn. Na ryfeddwch, frodyr, os yw y byd yn eich casâu chwi. Nyni a wyddom fyned drosodd o honom allan o farwolaeth i fywyd oblegyd ein bod yn caru y brodyr. Yr hwn nid yw yn caru, y mae yn aros mewn marwolaeth. Pob un a'r sydd yn casâu ei frawd, llofrudd ydyw, a chwi a wyddoch nad oes gan un llofrudd fywyd tragwyddol yn aros ynddo. Yn hyn yr ydym yn adnabod cariad, am ddodi o hono ef ei einioes drosom ni, a ninnau a ddylem ddodi ein heinioes dros y brodyr. Eithr pwy bynnag sydd ganddo dda y byd, ac a sylwo ar ei frawd mewn eisieu, ac a gauo ei dosturi oddiwrtho, pa fodd y mae cariad Duw yn aros ynddo ef? Blant bychain, na charwn ar air, nac â'r tafod; eithr mewn gweithred a gwirionedd. Yn hyn y gwybyddwn ein bod o'r gwirionedd, ac y darbwyllwn ein calon ger ei fron ef, ym mha beth bynnag y condemnia ein calon ni; canys y mae Duw yn fwy na'n calon ac yn gwybod pob peth. Anwyliaid, os ein calon ni'n condemnia, y mae gennym hyfder tu ag at Dduw. A pha beth bynnag a ofynnom, yr ydym yn ei dderbyn ganddo ef, oblegyd ein bod yn cadw ei orchymynion ef, ac yn gwneuthur y pethau sydd yn rhyngu bodd yn ei olwg ef. A hwn yw ei orchymyn ef: Gredu o honom yn enw ei Fab ef Iesu Grist, a charu ein gilydd, megys y rhoddes efe orchymyn i ni. A'r hwn sydd yn cadw ei orchymynion ef sydd yn trigo ynddo ef, ac yntau ynddo yntau, ac yn hyn y gwyddom ei fod ef yn aros ynom, trwy yr Yspryd a roddodd efe i ni. Anwyliaid, na chredwch bob yspryd, eithr profwch yr ysprydion, ai o Dduw y maent, oblegyd y mae gau‐brophwydi lawer wedi myned allan i'r byd. Yn hyn yr ydych yn adnabod Yspryd Duw: Pob yspryd a'r sydd yn cyffesu ddyfod Iesu Grist yn y cnawd, o Dduw y mae. A phob yspryd a'r nid yw yn cyffesu Iesu, nid yw o Dduw; eithr hyn yw nodwedd yr Anghrist, yr hwn y clywsoch ei fod yn dyfod, ac yn awr y mae yn y byd eisoes. Chwychwi ydych o Dduw, blant bychain, ac a'u gorchfygasoch hwynt, oblegyd mwy yw yr hwn sydd ynoch chwi na'r hwn sydd yn y byd. Hwynt‐hwy o'r byd y maent: o herwydd hyn o'r byd y llefarant, a'r byd a wrendy arnynt. Nyni o Dduw yr ydym: yr hwn sydd yn adnabod Duw sydd yn ein gwrandaw ni; yr hwn nad yw o Dduw nid yw yn ein gwrandaw ni. Wrth hyn yr adwaenom Yspryd y Gwirionedd ac Yspryd cyfeiliornad. Anwyliaid, carwn ein gilydd, oblegyd cariad o Dduw y mae, a phob un a'r sydd yn caru, o Dduw y mae wedi ei genhedlu, ac y mae yn adnabod Duw. Yr hwn nid yw yn caru nid adnabu Dduw, oblegid DUW CARIAD YW. Yn hyn yr eglurwyd cariad Duw ynom ni, oblegyd danfon o Dduw ei unig‐anedig Fab i'r byd, fel y byddem fyw trwyddo ef. Yn hyn y mae cariad, nid am i ni garu Duw, ond am iddo ef ein caru ni, ac anfon ei Fab i fod yn Iawn am ein pechodau ni. Anwyliaid, os felly y carodd Duw ni, ninnau hefyd a ddylem garu ein gilydd. Ni edrychodd neb ar Dduw erioed: Os carwn ni ein gilydd, y mae Duw yn aros ynom, ac y mae ei gariad ef wedi ei berffeithio ynom. Yn hyn y gwyddom ein bod yn aros ynddo, ac yntau ynom ninnau, am ei fod wedi rhoddi i ni o'i Yspryd. A ninnau a edrychasom ac ydym yn tystiolaethu ddarfod i'r Tâd ddanfon y Mab i fod yn Iachawdwr y byd. Pwy bynnag a gyffeso fod Iesu yn Fab Duw, y mae Duw yn aros ynddo ef, ac yntau yn Nuw. A nyni a wyddom ac a gredasom y cariad sydd gan Dduw ynom ni. DUW CARIAD YW, a'r hwn sydd yn aros mewn cariad sydd yn aros yn Nuw, ac y mae Duw yn aros ynddo yntau. Yn hyn y perffeithiwyd cariad gyda ni, fel y caffom hyfder Ddydd y Farn; oblegyd fel y mae efe, felly yr ydym ninnau hefyd yn y byd hwn. Nid oes ofn mewn cariad: eithr y mae perffaith gariad yn bwrw allan ofn, oblegyd y mae i ofn gospedigaeth; a'r hwn sydd yn ofni ni pherffeithiwyd mewn cariad. Yr ydym ni yn caru, am iddo ef yn gyntaf ein caru ni. Os dywed neb, Yr wyf yn caru Duw, ac yn casâu ei frawd, celwyddog yw; canys yr hwn nid yw yn caru ei frawd a welodd, nis gall garu Duw, yr hwn nis gwelodd. A'r gorchymyn hwn sydd gennym oddi wrtho ef: Bod i'r hwn sydd yn caru Duw, garu ei frawd hefyd. Pob un a'r sydd yn credu mai Iesu yw y Crist, o Dduw y cenhedlwyd ef; a phob un a'r sydd yn caru yr hwn a genhedlodd, sydd yn caru hefyd yr hwn a genhedlwyd o hono. Yn hyn y gwyddom ein bod yn caru plant Duw, pan fyddom yn caru Duw, ac yn gwneuthur ei orchymynion ef. Canys hyn yw cariad Duw, bod i ni gadw ei orchymynion; a'i orchymynion ef nid ydynt drymion. Oblegyd beth bynnag sydd wedi ei genhedlu o Dduw y mae yn gorchfygu y byd, a hon yw y fuddugoliaeth a orchfygodd y byd, ein ffydd ni. A phwy yw yr hwn sydd yn gorchfygu y byd ond yr hwn sydd yn credu mai Iesu yw Mab Duw? Dyma yr hwn a ddaeth trwy ddwfr a gwaed, Iesu Grist; nid yn y dwfr yn unig, eithr yn y dwfr ac yn y gwaed. A'r Yspryd yw yr hwn sydd yn tystiolaethu, oblegyd yr Yspryd yw y Gwirionedd. Canys tri yw y rhai sydd yn tystiolaethu, yr Yspryd, a'r dwfr, a'r gwaed; ac y mae y tri yn dwyn tystiolaeth i'r un peth. Os ydym yn derbyn tystiolaeth dynion, y mae tystiolaeth Duw yn fwy; canys tystiolaeth Duw yw hyn, ei fod wedi dwyn tystiolaeth am ei Fab. Yr hwn sydd yn credu ym Mab Duw, y mae ganddo y dystiolaeth ynddo ei hun; yr hwn nid yw yn credu Duw a'i gwnaeth ef yn gelwyddwr, oblegyd na chredodd yn y dystiolaeth yr hon a dystiolaethodd Duw am ei Fab. A hon yw y dystiolaeth, roddi o Dduw i ni fywyd tragwyddol, a'r bywyd hwn sydd yn ei Fab. Yr hwn y mae y Mab ganddo y mae y bywyd ganddo; yr hwn nid yw ganddo Fab Duw nid yw y bywyd ganddo. Y pethau hyn a ysgrifennais atoch, fel y gwypoch fod gennych fywyd tragwyddol, y rhai ydych yn credu yn enw Mab Duw. A hyn yw yr hyfder sydd gennym tu ag ato ef, sef, os gofynnwn ddim yn ol ei ewyllys ef, y mae yn ein gwrandaw ni. Ac os gwyddom ei fod yn ein gwrandaw ni, pa beth bynnag a ofynnom, ni a wyddom ein bod yn cael y ceisiadau a geisiasom ganddo. Os gwel neb ei frawd yn pechu pechod nad yw i farwolaeth, efe a geisia, a Duw a rydd iddo fywyd — i'r rhai sydd yn pechu nid i farwolaeth. Y mae pechod i farwolaeth; nid am hwnnw yr wyf yn dywedyd ar geisio o hono. Pob anghyfiawnder, pechod yw; ac y mae pechod nid i farwolaeth. Ni a wyddom nad yw y neb sydd wedi ei genhedlu o Dduw yn pechu; eithr y mae yr hwn a genhedlwyd o Dduw yn ei gadw ef, ac nid yw yr Un Drwg yn cyffwrdd âg ef. Ni a wyddom ein bod o Dduw, ac y mae yr holl fyd yn gorwedd yn yr Un Drwg. Ac ni a wyddom ddyfod Mab Duw, ac efe a roddes i ni ddeall, fel yr adnabyddom yr Un Gwirioneddol; ac yr ydym ni yn yr Un Gwirioneddol, yn ei Fab ef, Iesu Grist. Hwn yw y Gwirioneddol Dduw a bywyd tragwyddol. Blant bychain, Cedwch eich hunain oddiwrth yr eilunod. Yr Henuriad at yr etholedig Foneddiges a'i phlant, y rhai yr wyf fi yn eu caru mewn gwirionedd; ac nid myfi yn unig, ond pawb hefyd sydd yn adnabod y Gwirionedd; er mwyn y Gwirionedd, yr hwn sydd yn aros ynom ni, ac a fydd gyda ni yn dragywydd: Gras, trugaredd, tangnefedd fyddont gyda ni oddiwrth Dduw Dâd, ac oddiwrth Iesu Grist, Mab y Tâd, mewn gwirionedd a chariad. Llawenychais yn ddirfawr am gael o honof rai o'th blant yn rhodio mewn gwirionedd, fel y derbyniasom orchymyn oddiwrth y Tâd. Ac yn awr yr wyf yn atolwg i ti, Foneddiges, nid megys yn ysgrifennu gorchymyn newydd i ti, eithr yr hwn oedd gennym o'r dechreuad, garu o honom ein gilydd. A hyn ydyw y cariad, bod i ni rodio yn ol ei orchymynion ef. Hwn yw y gorchymyn: Megys y clywsoch o'r dechreuad, fod i chwi rodio ynddo ef. Canys twyllwyr lawer a aethant allan i'r byd, y rhai nid ydynt yn cyffesu fod Iesu Grist yn dyfod yn y cnawd. Hwn yw y twyllwr a'r Anghrist. Edrychwch atoch eich hunain na cholloch yr hyn a weithredasom, ond derbyn o honoch yn ol llawn wobr. Pwy bynnag sydd yn myned rhagddo ac heb aros yn nysgeidiaeth Crist, nid yw Duw ganddo ef; yr hwn sydd yn aros yn y ddysgeidiaeth, hwn sydd ganddo y Tâd a'r Mab. Os yw neb yn dyfod atoch, ac heb ddwyn y ddysgeidiaeth hon, na dderbyniwch ef i'r tŷ, ac na roddwch gyfarchiad iddo; canys yr hwn sydd yn rhoddi iddo gyfarchiad sydd yn gyfrannog o'i weithredoedd drwg ef. A chennyf lawer o bethau i'w hysgrifennu atoch, ni ewyllysiais ysgrifennu a phapur ac ingc, eithr gobeithio yr ydwyf ddyfod atoch, a llefaru wyneb yn wyneb, fel y byddo eich llawenydd yn gyflawn. Y mae plant dy chwaer etholedig yn dy gyfarch. Yr Henuriad at Gaius yr anwylyd, yr hwn yr wyf yn ei garu mewn gwirionedd. Anwylyd, yr wyf yn gweddio ar dy fod ym mhob peth yn llwyddo a bod yn iach, fel y mae dy enaid yn llwyddo. Canys llawenychais yn ddirfawr wrth ddyfod o frodyr a thystiolaethu i'th wirionedd di, megys ag yr wyt yn rhodio mewn gwirionedd. Mwy llawenydd nid oes gennyf na hyn, sef clywed fod fy mhlant fy hun yn rhodio yn y gwirionedd. Anwylyd, yr wyt yn gwneuthur gwaith ffyddlawn ym mha beth bynnag yr wyt yn ei weithredu tuag at y brodyr, ac yn enwedig a hwy yn ddyeithriaid; y rhai a ddygasant dystiolaeth i'th gariad di gerbron yr eglwys: rhagorol y gwnei os hebryngi hwynt yn deilwng o Dduw; canys er mwyn yr Enw yr aethant allan, heb gymeryd dim gan y Cenhedloedd. Ni a ddylem gan hynny gynnal y cyfryw rai, fel y byddom gyd‐weithwyr â'r gwirionedd. Ysgrifennais rywbeth at yr Eglwys, eithr Diotrephes, yr hwn sydd yn chwennych y flaenoriaeth yn eu plith hwy ni dderbyn o honom ni. O herwydd hyn, os deuaf, dygaf ar gof ei weithredoedd y rhai y mae yn eu gwneuthur, gan wag‐siarad i'n herbyn âg ymadroddion drygionus: ac heb ei ddigoni â hyn, nid yw efe ei hun yn derbyn y brodyr, ac y mae yn gwahardd y rhai sydd yn ewyllysio, ac yn eu bwrw allan o'r Eglwys. Anwylyd, nac efelycha yr hyn sydd ddrwg, ond yr hyn sydd dda; yr hwn sydd yn gwneuthur yr hyn sydd dda, o Dduw y mae; yr hwn sydd yn gwneuthur yr hyn sydd ddrwg, nid ydyw wedi gweled Duw. I Demetrius y tystiolaethir gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun; a nyni hefyd ydym yn tystiolaethu; a thi a wyddost fod ein tystiolaeth ni yn wir. Yr oedd gennyf lawer o bethau i'w hysgrifennu atat, ond nid wyf yn ewyllysio ysgrifennu âg ingc a phin atat ti. Eithr yr wyf yn gobeithio dy weled ar fyrder, ac ni a ymddiddanwn wyneb yn wyneb. Tangnefedd i ti. Y mae y cyfeillion yn dy annerch. Annerch y cyfeillion wrth eu henwau. Judas, gwasanaethwr Iesu Grist a brawd Iago, at y rhai a alwyd, rhai anwyl yn Nuw Dâd, ac a gedwir i Iesu Grist: Trugaredd i chwi a thangnefedd a chariad a amlhâer. Anwyliaid, pan yn meddu pob eiddgarwch i ysgrifennu atoch ynghylch ein hiachawdwriaeth gyffredinol ni, angenrhaid oedd i mi ysgrifennu atoch, gan eich annog i ymdrechu yn egniol dros y Ffydd a draddodwyd unwaith am byth i'r Saint. Canys rhai dynion a ymlusgasant i mewn yn llechwraidd — y rhai yr ysgrifennwyd i lawr eu henwau ymlaen llaw er ys talm i'r farnedigaeth hon, dynion annuwiol, yn troi gras ein Duw ni i drythyllwch, ac yn gwadu ein hunig Feistr a'n Harglwydd, Iesu Grist. Ac yr wyf yn ewyllysio eich coffâu chwi, a chwi yn gwybod pob peth yn hollol, i'r Arglwydd, wedi iddo waredu y bobl o dir yr Aipht, ddistrywio ar ol hynny y rhai ni chredasant. Ac angelion, y rhai ni chadwasant ei safle ddechreuol, eithr a adawsant eu trigfa ei hun, a gadwodd efe mewn rhwymau tragwyddol, dan dywyllwch, i Farn y Dydd Mawr — fel y mae Sodom a Gomorrah, a'r Dinasoedd o'u hamgylch, wedi ymroddi i buteindra mewn cyffelyb fodd i'r rhai hyn, a myned ar ol cnawd dyeithr, wedi eu gosod allan fel esiampl, gan ddyoddef dialedd tân tragwyddol. Eto yr un ffunnud y mae y rhai hyn hefyd, gan freuddwydio, yn halogi y cnawd, yn diystyru llywodraeth, ac yn cablu urddasolion. Eithr Michael yr Archangel, pan yn dadleu â'r Diafol, a ymresymai âg ef ynghylch corph Moses, ni feiddiodd ddwyn yn ei erbyn farn cabledd, ond dywedodd, Cerydded yr Arglwydd di. Eithr y rhai hyn a gablant pa bethau bynnag nis gwyddant; a pha bethau bynnag y maent yn eu deall yn reddfol, fel y creaduriaid direswm, yn y rhai yr ymlygrant. Gwae hwynt‐hwy! canys yn ffordd Cain yr aethant, ac yng nghyfeiliornad Balaam er gwobr y rhuthrasant, ac a'u dyfethwyd yng ngwrth-ddywediad Corah. Y rhai hyn sydd frychau yn eich Cariad‐wleddoedd, yn cyd‐wledda â chwi, yn ddiofn yn eu pesgi eu hunain; cymylau diddwfr, yn cael eu cludo ymlaen gan wyntoedd; prennau hydrefol heb ffrwyth, dwywaith yn feirw, wedi eu diwreiddio; gwyllt‐donnau y môr, yn ewynnu allan eu cywilydd eu hunain; ser gwibiog, i'r rhai y mae duwch y tywyllwch wedi ei gadw yn dragywydd. Ac i'r rhai hyn hefyd y prophwydodd Enoch, y seithfed o Adda, gan ddywedyd, Wele, daeth yr Arglwydd gyda'i fyrddiynau sanctaidd, i wneuthur barn yn erbyn pawb, ac i argyhoeddi yr holl rai annuwiol o holl weithredoedd eu hannuwioldeb y rhai a wnaethant yn annuwiol, o'r holl bethau celyd, y rhai a lefarodd pechaduriaid annuwiol yn ei erbyn ef. Y rhai sydd rwgnachwyr; yn cerdded yn ol eu chwantau (ac y mae eu genau yn llefaru geiriau gor‐chwyddedig), yn mawrygu wynebau er mwyn budd. Eithr chwi, anwyliaid, cofiwch y geiriau a rag‐ddywedwyd gan Apostolion ein Harglwydd Iesu Grist, ddywedyd o honynt i chwi: Yn yr amser diweddaf bydd gwatwarwyr yn cerdded yn ol eu chwantau annuwiol eu hunain. Hwy yw y rhai sydd yn achosi ymraniadau, yn gnawdolfrydig, heb fod yr Yspryd ganddynt. Eithr chwychwi, anwyliaid, gan adeiladu eich hunain ar eich sancteiddiaf ffydd, gan weddio yn yr Yspryd Glân, ymgedwch yng nghariad Duw, gan ddisgwyl am drugaredd ein Harglwydd Iesu Grist i fywyd tragwyddol. A rhai argyhoeddwch pan y maent yn ymddadleu; a rhai achubwch, gan eu cipio hwy allan o'r tân; ac wrth rai trugarhêwch, mewn ofn, gan gasâu hyd yn nod y wisg a halogwyd gan y cnawd. Yn awr i'r hwn a ddichon eich cadw chwi heb dripio, a'ch gosod ger bron ei Ogoniant ef yn ddifeius mewn gorfoledd, i'r Unig Dduw ein Hiachawdwr ni trwy Iesu Grist ein Harglwydd, y mae gogoniant, mawredd, nerth, ac awdurdod, cyn pob amser, ac yn awr, ac i'r holl oesoedd. Amen. Dadguddiad Iesu Grist, yr hwn a roddes Duw iddo ef, i ddangos i'w weision y pethau sydd raid iddynt ddygwydd ar fyrder; ac a'i hyspysodd, gan ddanfon trwy ei angel, i'w was Ioan; yr hwn a dystiolaethodd am Air Duw ac am dystiolaeth Iesu Grist, sef am y fath bethau a welodd. Dedwydd yw yr hwn sydd yn darllen, a'r rhai sydd yn gwrandaw geiriau y brophwydoliaeth, ac yn cadw y pethau sydd yn ysgrifenedig ynddi: canys y mae yr amser yn agos. Ioan, at y saith eglwys sydd yn Asia: Gras i chwi a thangnefedd oddiwrth YR HWN SYDD A'R HWN OEDD a'r HWN SYDD YN DYFOD, ac oddiwrth y Saith Yspryd sydd ger bron ei Orsedd ef, ac oddiwrth Iesu Grist, y Tyst ffyddlawn, Cyntaf‐anedig y meirw, a Llywodraethwr brenhinoedd y ddaear. Iddo ef yr hwn sydd yn ein caru ni, ac a'n rhyddhâodd ni oddiwrth ein pechodau trwy ei Waed; ac efe a'n gwnaeth ni yn Frenhiniaeth, yn offeiriaid i Dduw a'i Dâd ef: Iddo ef y byddo y gogoniant a'r nerth yn oes oesoedd, Amen. Wele y mae efe yn dyfod gyda'r cymylau, a phob llygad a'i gwêl ef, a'r rhai a'i gwanasant ef; a holl lwythau y ddaear a alarant am dano ef, Ië, Amen. Myfi yw yr Alpha a'r Omega, medd yr Arglwydd Dduw, yr hwn sydd, a'r hwn oedd, a'r hwn sydd yn dyfod, yr Hollalluog. Myfi Ioan, eich brawd chwi a chyd‐gyfranogwr yn y gorthrymder a'r frenhiniaeth a'r amynedd sydd yn Iesu, oeddwn yn yr Ynys a elwir Patmos o achos Gair Duw a thystiolaeth Iesu. Yr oeddwn yn yr Yspryd ar Ddydd yr Arglwydd, a chlywais o'r tu ol i mi lef fawr fel llef udgorn, yn dywedyd, Yr hyn a weli, ysgrifenna mewn llyfr, a danfon ef i'r saith eglwys, i Ephesus, ac i Smyrna, ac i Pergamum, ac i Thyatira, ac i Sardis, ac i Philadelphia, ac i Laodicea. A throais i weled y llef a lefarai wrthyf. Ac wedi i mi droi, gwelais saith ganwyllyr aur; ac yng nghanol y saith ganwyllyr, un tebyg i fab dyn, wedi ymwisgo â gwisg laes hyd ei draed, ac wedi ymwregysu o gylch ei fronnau â gwregys aur. A'i ben ef a'i wallt oedd yn wynion fel gwlan gwyn, fel eira; a'i lygaid fel fflam dân; a'i draed yn debyg i bres coeth, fel wedi ei losgi mewn ffwrn; a'i lais fel swn dyfroedd lawer; a chanddo yn ei law ddehau saith seren, ac o'i enau yr oedd cleddyf dau‐finiog llym yn dyfod allan; a'i wynebpryd fel yr haul yn disgleirio yn ei nerth. A phan welais ef, syrthiais wrth ei draed ef fel un marw. Ac efe a osododd ei law ddehau arnaf fi, gan ddywedyd, Nac ofna, Myfi yw y Cyntaf a'r Diweddaf, a'r hwn wyf fyw, ac a fum farw, ac wele, byw ydwyf yn oes oesoedd, ac y mae gennyf agoriadau Marwolaeth a Hades. Ysgrifenna gan hynny y pethau a welaist, a'r pethau sydd, a'r pethau a fydd ar ol hyn: dirgelwch y saith seren, y rhai a welaist yn fy llaw ddehau, a'r saith ganwyllyr aur. Y saith seren, angelion y saith eglwys ydynt; a'r saith ganwyllyr, y saith eglwys ydynt. At angel yr eglwys yn Ephesus, ysgrifenna: Y pethau hyn y mae yr hwn sydd yn dal y saith seren yn ei law ddehau, yr hwn sydd yn rhodio yng nghanol y saith ganwyllyr aur, yn eu dywedyd: Mi a adwaen dy weithredoedd, a'th lafur, a'th amynedd, ac na elli oddef drwg‐ddynion, a phrofi o honot y rhai sydd yn galw eu hunain yn Apostolion, ac nid ydynt, a chael o honot hwynt yn gelwyddog; ac y mae gennyt amynedd, a goddefaist o achos fy Enw i, ac nid ydwyt wedi blino. Eithr y mae gennyf hyn yn dy erbyn, am i ti ymadael a'th gariad cyntaf. Cofia, gan hynny, o ba le y syrthiaist, ac edifarhâ, a gwna y gweithredoedd cyntaf; ac onide, yr ydwyf yn dyfod atat ti, ac a symudaf dy ganwyllyr allan o'i le, oni edifarhêi di. Eithr hyn sydd gennyt, dy fod yn casâu gweithredoedd y Nicolaiaid, y rhai yr wyf fi hefyd yn eu casâu. Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth y mae yr Yspryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi. I'r hwn sydd yn gorchfygu, rhoddaf iddo i fwyta o Bren y Bywyd, yr hwn sydd ym Mharadwys Duw. Ac at angel yr eglwys yn Smyrna ysgrifenna: Hyn a ddywed y Cyntaf a'r Diweddaf, yr hwn a fu farw ac a fu fyw drachefn. Mi a adwaen dy orthrymder a'th dlodi — eithr cyfoethog wyt — a'r cabledd oddi wrth y rhai sydd yn dywedyd eu bod yn Iuddewon, ac nid ydynt, ond Synagog Satan. Nac ofna y pethau yr wyt ar fedr eu dyoddef. Wele, y Diafol sydd ar fedr bwrw rhai o honoch i garchar, fel y'ch profer; a chwi a gewch orthrymder ddeng niwrnod. Bydd ffyddlawn hyd angau, a rhoddaf i ti Goron y Bywyd. Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth y mae yr Yspryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi. Yr hwn sydd yn gorchfygu ni chaiff ddim niwed gan yr Ail Farwolaeth. Ac at angel yr eglwys yn Pergamum ysgrifenna: Y pethau hyn a ddywed yr hwn sydd ganddo y cleddyf dau‐finiog llym. Gwn pa le yr wyt yn trigo, sef lle y mae gorsedd Satan: ac yr wyt yn dal dy afael yn fy Enw i, ac ni wedaist fy Ffydd i, hyd yn nod yn nyddiau Antipas fy nhyst, fy un ffyddlawn i, yr hwn a laddwyd yn eich plith chwi, lle y mae Satan yn trigo. Eithr y mae gennyf ychydig bethau yn dy erbyn di, oblegyd bod gennyt yna rai yn dal dysgeidiaeth Balaam, yr hwn a ddysgodd i Balac fwrw tramgwydd o flaen meibion Israel, i fwyta pethau a aberthwyd i eilunod, ac i odinebu. Felly y mae gennyt tithau hefyd rai yn dal dysgeidiaeth y Nicolaiaid yr un modd. Edifarhâ, gan hynny; onide, yr wyf yn dyfod atat ar frys, ac a ryfelaf yn eu herbyn â chleddyf fy ngenau. Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth y mae yr Yspryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi. I'r hwn sydd yn gorchfygu, y rhoddaf iddo o'r manna cuddiedig, a rhoddaf iddo garreg wen, ac ar y garreg Enw newydd wedi ei ysgrifennu, yr hwn nid edwyn neb ond yr hwn sydd yn ei dderbyn. Ac at angel yr eglwys yn Thyatira ysgrifenna: Y pethau hyn y mae Mab Duw yn eu dywedyd, yr hwn sydd a'i lygaid fel fflam dân, a'i draed yn debyg i bres coeth. Mi a adwaen dy weithredoedd di, a'th gariad, a'th ffydd, a'th wasanaeth, a'th amynedd; a'th weithredoedd diweddaf sydd fwy na'r cyntaf. Eithr y mae gennyf hyn yn dy erbyn di, oblegyd dy fod yn goddef i'r wraig Jezebel, yr hon sydd yn galw ei hun yn brophwydes; ac y mae hi yn dysgu ac yn hud‐ddenu fy ngweision i odinebu a bwyta pethau a offrymwyd i eilunod. A rhoddais amser iddi i edifarhâu, ac nid yw yn ewyllysio edifarhâu am ei godineb. Wele, yr wyf yn ei bwrw hi ar wely, a'r rhai sydd yn godinebu gyda hi, i orthrymder mawr, onid edifarhânt am ei gweithredoedd hi. A'i phlant a laddaf â marwolaeth; a'r holl eglwysi a gânt wybod mai myfi yw yr hwn sydd yn chwilio yr arennau a'r calonnau: a rhoddaf i bob un o honoch yn ol eich gweithredoedd. Eithr wrthych chwi yr wyf yn dywedyd, y gweddill y rhai sydd yn Thyatira, y sawl nid oes ganddynt y ddysgeidiaeth hon, a'r rhai ni wyddant bethau dyfnion Satan, fel y dywedant, Nid wyf yn bwrw arnoch faich arall. Eithr yr hyn sydd gennych, deliwch yn dŷn hyd oni ddelwyf. A'r hwn sydd yn gorchfygu, ac yn cadw fy ngweithredoedd hyd y diwedd, iddo ef y rhoddaf awdurdod ar y Cenhedloedd, ac efe a'u bugeilia â gwialen haiarn, megys y mae llestri pridd yn cael eu dryllio ynghyd; fel y derbyniais innau hefyd gan fy Nhâd: a rhoddaf iddo y Seren Fore. Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth y mae yr Yspryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi. Ac at angel yr eglwys yn Sardis ysgrifenna: Y pethau hyn y mae yr hwn sydd a Saith Yspryd Duw a'r saith seren ganddo yn eu dywedyd: Mi a adwaen dy weithredoedd di, fod gennyt ti enw dy fod yn fyw, a marw ydwyt. Bydd wyliadwrus, a sefydla y pethau sydd yng ngweddill, y rhai oeddynt ar farw; canys ni chefais weithredoedd o'th eiddot wedi eu cyflawnu ger bron fy Nuw. Cofia gan hynny pa fodd y derbyniaist ac y clywaist, a chadw ac edifarhâ. Os tydi gan hynny ni wyli, deuaf fel lleidr, ac ni wybyddi ddim pa awr y deuaf arnat. Eithr y mae gennyt ychydig enwau yn Sardis, y rhai ni halogasant eu dillad; a hwy a rodiant gyda mi mewn dillad gwynion, canys teilwng ydynt. Yr hwn sydd yn gorchfygu a wisgir fel hyn mewn dillad gwynion; ac ni ddilëaf mewn un modd ei enw ef allan o Lyfr y Bywyd, a chyffesaf ei enw ef ger bron fy Nhâd, a cher bron ei angelion ef. Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth y mae yr Yspryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi. Ac at angel yr eglwys sydd yn Philadelphia ysgrifenna: Y pethau hyn y mae y Sanctaidd, y Gwirioneddol, yn eu dywedyd, yr hwn sydd ganddo agoriad Dafydd, yr hwn sydd yn agoryd, ac ni chaua neb; ac yn cau, ac nid yw neb yn agoryd. Mi a adwaen dy weithredoedd (wele, yr wyf wedi rhoddi o'th flaen ddrws wedi ei agoryd, yr hwn ni all neb ei gau), mai ychydig nerth sydd gennyt, a chedwaist fy ngair i, ac ni wedaist fy enw. Wele, gwnaf i'r rhai o Synagog Satan (y rhai sydd yn dywedyd eu bod yn Iuddewon, ac nid ydynt, eithr celwyddog ydynt), wele, gwnaf iddynt ddyfod ac addoli o flaen dy draed, a gwybod fy mod i yn dy garu di. O herwydd i ti gadw gair fy amynedd i, minnau hefyd a'th gadwaf di oddi wrth awr y prawf, yr hwn sydd ar ddyfod ar yr holl ddaear, i brofi y rhai sydd yn trigo ar y ddaear. Yr wyf yn dyfod ar frys; dal yn dŷn yr hyn sydd gennyt, fel na ddygo neb dy goron di. Yr hwn sydd yn gorchfygu, mi a'i gwnaf ef yn golofn yng Nghysegr fy Nuw i, ac allan oddi yno nid ä efe mwyach; ac ysgrifennaf arno ef enw fy Nuw i, ac enw Dinas fy Nuw i, y Jerusalem Newydd, yr hon sydd yn dyfod i lawr o'r nef oddiwrth fy Nuw i, ac enw newydd fy hun. Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth y mae yr Yspryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi. Ac at angel yr eglwys yn Laodicea ysgrifenna: Y pethau hyn y mae yr Amen yn eu dywedyd, y Tyst ffyddlawn a gwirioneddol, Dechreuad creadigaeth Duw: Mi a adwaen dy weithredoedd di, nad ydynt nac oer na brwd: mi a fynnwn pe bait oer neu frwd. Felly, gan dy fod yn glaiar, ac nid yn oer nac yn frwd, yr wyf ar fedr dy chwydu allan o'm genau. Oblegyd dy fod yn dywedyd, Goludog wyf, ac yr wyf wedi myned yn oludog, ac nid oes arnaf eisieu dim; ac ni wyddost mai yr un truenus ydwyt, a gresynol, a thlawd, a dall, a noeth; yr wyf yn dy gynghori i brynu gennyf fi aur wedi ei goethi trwy dân, fel y'th gyfoethoger; a dillad gwynion, fel y'th wisger, ac fel nad amlyger gwarth dy noethder di; ac eli llygaid i eneinio dy lygaid, fel y gweli. Yr wyf yn argyhoeddi ac yn dysgyblu y sawl yr wyf yn eu hoffi. Bydd yn selog gan hynny, ac edifarhâ. Wele, yr wyf yn sefyll wrth y drws ac yn curo; os clyw neb fy llais ac agoryd y drws, deuaf i mewn ato ef, ac a wleddaf gydag ef, ac yntau gyda minnau. Yr hwn sydd yn gorchfygu, rhoddaf iddo i eistedd gyda mi ar fy ngorsedd, fel y gorchfygais innau ac yr eisteddais i gyda fy Nhâd ar ei Orsedd ef. Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth y mae yr Yspryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi. Ar ol y pethau hyn gwelais, ac wele ddrws wedi ei agoryd yn y nef, a'r llais cyntaf yr hwn a glywais, fel llais udgorn yn llefaru â mi, yn dywedyd, Tyred i fyny yma, a danghosaf i ti y pethau y mae rhaid iddynt ddygwydd ar ol hyn. Yn ebrwydd yr oeddwn yn yr Yspryd: ac wele, yr oedd gorsedd wedi ei gosod yn y nef, ac ar yr Orsedd Un yn eistedd; a'r hwn oedd yn eistedd oedd yn debyg yr olwg arno i faen iaspis a sardin: ac yr oedd enfys o amgylch yr orsedd yn debyg yr olwg arno i smaragdus. Ac o gylch yr Orsedd yr oedd pedair gorsedd ar hugain, ac ar y gorseddau y gwelais bedwar henuriad ar hugain yn eistedd, wedi eu gwisgo mewn dillad gwynion; ac ar eu pennau goronau aur. Ac o'r Orsedd y mae yn dyfod allan fellt, a lleisiau, a tharanau. A saith o ffaglau tân oedd yn llosgi ger bron yr Orsedd, y rhai yw saith Yspryd Duw. Ac o flaen yr Orsedd yr oedd fel pe bai môr o wydr, yn debyg i risial; ac yng nghanol yr Orsedd, ac yng nghylch yr Orsedd yr oedd pedwar creadur byw yn llawn o lygaid o'r tu blaen ac o'r tu ol. A'r creadur cyntaf oedd debyg i lew, a'r ail greadur yn debyg i lo, a'r trydydd creadur oedd ganddo wyneb fel eiddo dyn, a'r pedwerydd creadur oedd debyg i eryr yn ehedeg. A'r pedwar creadur byw, a chanddynt chwech o adenydd bob un, ydynt yn llawn llygaid o amgylch ac oddi fewn; a gorphwys nid oes iddynt ddydd a nos, gan ddywedyd, Sanct, Sanct, Sanct, yw yr Arglwydd Dduw, yr Hollalluog, yr Hwn oedd, a'r Hwn sydd, a'r Hwn sydd yn dyfod. A phan fydd i'r creaduriaid byw roddi gogoniant ac anrhydedd a diolch i'r hwn sydd yn eistedd ar yr Orsedd, i'r hwn sydd yn byw yn oes oesoedd, syrth y pedwar henuriad ar hugain ger bron yr hwn sydd yn eistedd ar yr Orsedd, ac addolant yr hwn sydd yn byw yn oes oesoedd, a bwriant eu coronau ger bron yr Orsedd, gan ddywedyd, Teilwng wyt ti, ein Harglwydd a'n Duw, i dderbyn y gogoniant, a'r anrhydedd, a'r gallu: canys ti a greaist bob peth, ac o herwydd dy ewyllys di yr oeddent, ac y crewyd hwynt. A gwelais ar law ddehau yr hwn oedd yn eistedd ar yr orsedd lyfr wedi ei ysgrifennu oddi fewn ac ar y cefn, wedi ei selio â saith sêl. A gwelais angel cryf yn cyhoeddi mewn llef uchel, Pwy sydd deilwng i agoryd y Llyfr, ac i ddatod ei seliau ef? Ac ni allai neb yn y nef, nac ar y ddaear, na than y ddaear, agoryd y Llyfr, nac edrych arno. Ac mi a wylais lawer, o achos na chaed neb yn deilwng i agoryd y Llyfr, nac i edrych arno. Ac un o'r henuriaid a ddywed wrthyf, Nac wyla: wele y Llew yr hwn sydd o lwyth Judah, Gwreiddyn Dafydd, a orchfygodd, i agoryd y Llyfr, a'i saith sêl ef. A gwelais yng nghanol yr Orsedd a'r pedwar creadur byw, ac yng nghanol yr henuriaid, Oen yn sefyll, fel wedi ei ladd, a chanddo saith gorn a saith llygad, y rhai yw saith Yspryd Duw, wedi eu danfon allan i'r holl ddaear. Ac efe a ddaeth ac a'i cymerodd o ddeheulaw yr hwn oedd yn eistedd ar yr Orsedd. A phan gymerodd efe y Llyfr, y pedwar creadur byw a'r pedwar henuriad ar-hugain a syrthiasant ger bron yr Oen, a chanddynt, bob un delyn, a chrythau aur yn llawn o arogl‐darth, y rhai yw gweddïau y saint. A chanu y maent Gân Newydd, gan ddywedyd, Teilwng wyt ti i gymeryd y Llyfr, ac i agoryd ei seliau ef; Oblegyd ti a laddwyd, ac a'n prynaist ni i Dduw â dy Waed, Allan o bob llwyth, ac iaith, a phobl, a chenedl, Ac a'u gwnaethost hwy i'n Duw ni yn frenhiniaeth ac yn offeiriaid; Ac y maent yn teyrnasu ar y ddaear. A gwelais, a chlywais lais angelion lawer o gylch yr Orsedd a'r creaduriaid byw a'r henuriaid; ac yr oedd eu rhifedi yn fyrddiynnau o fyrddiynnau, a miloedd o filoedd, yn dywedyd â llef uchel, Teilwng yw yr Oen yr hwn a laddwyd i dderbyn y gallu, a'r cyfoeth, a'r doethineb, a'r cadernid, a'r anrhydedd, a'r gogoniant, a'r fendith. A phob peth crëedig yn y nef, ac ar y ddaear, a thàn y ddaear, ac ar y môr, a'r holl bethau sydd ynddynt, a glywais i yn dywedyd, I'r hwn sydd yn eistedd ar yr Orsedd, ac i'r Oen, Y byddo y fendith, a'r anrhydedd, a'r gogoniant, a'r nerth, yn oes oesoedd. A'r pedwar creadur byw a ddywedasant, Amen. A'r henuriaid a syrthiasant i lawr ac a addolasant. A gwelais, pan agorodd yr Oen un o'r saith sêl, ac a glywais un o'r pedwar creadur byw yn dywedyd, megys â llais taran, Tyred. A gwelais, ac wele, farch gwỳn; a'r hwn oedd yn eistedd arno oedd a bwa ganddo: a rhoddwyd iddo goron; ac efe a aeth allan yn gorchfygu, ac i orchfygu. A phan agorodd efe yr ail sêl, clywais yr ail greadur byw yn dywedyd, Tyred. Ac aeth allan farch arall, un coch: ac i'r hwn oedd yn eistedd arno y rhoddwyd iddo gymeryd heddwch o'r ddaear, ac fel y lladdent eu gilydd; a rhoddwyd iddo gleddyf mawr. A phan agorodd efe y drydedd sêl, clywais y trydydd creadur byw yn dywedyd, Tyred, A gwelais, ac wele, farch du; a'r hwn oedd yn eistedd arno a chlorian ganddo yn ei law. A chlywais megys llais yng nghanol y pedwar creadur byw yn dywedyd, Chwart o wenith er denarion, a thri chwart o haidd er denarion; a'r olew a'r gwin, na niweidia. A phan agorodd efe y bedwaredd sêl, clywais lais y pedwerydd creadur byw yn dywedyd, Tyred. A gwelais, ac wele, farch gwelw‐las: a'r hwn oedd yn eistedd arno, ei enw oedd Angau, ac yr oedd Hades yn canlyn gyd âg ef. A rhoddwyd iddynt awdurdod ar y bedwaredd ran o'r ddaear, i ladd â chleddyf, ac â newyn, ac â marwolaeth, a chan fwystfilod y ddaear. A phan agorodd efe y bumed sêl, gwelais tàn yr allor eneidiau y rhai a laddesid am Air Duw, ac am y Dystiolaeth a ddygasant: a hwy a lefasant â llef uchel, gan ddywedyd, Pa hyd, o Feistr, y Sanctaidd a'r Gwirioneddol, nad wyt yn barnu ac yn dial ein gwaed ni ar y rhai sydd yn trigo ar y ddaear? A rhoddwyd iddynt, i bob un, wisg wen, a dywedwyd wrthynt am orphwys eto am ychydig amser, hyd oni wnai eu cyd‐weision a'u brodyr, y rhai oedd ar fedr gael eu lladd fel hwythau hefyd, lanw i fyny eu rhif. A gwelais pan agorodd efe y chweched sêl, a bu daeargryn mawr; a'r haul a aeth yn ddu fel sachlen flew, a'r lleuad i gyd a aeth fel gwaed, a sêr y nef a syrthiasant ar y ddaear, fel y mae y ffigysbren yn bwrw ei ffigys anaddfed, pan ei hysgydwer gan wynt mawr. A'r nef a roddwyd heibio fel llyfr wedi ei blygu ynghyd, a phob mynydd ac ynys a symudwyd allan o'u lleoedd. A brenhinoedd y ddaear, a'r pendefigion, a'r milwriaid, a'r cyfoethogion, a'r gwŷr cedyrn, a phob caethwas a gwr rhydd, a guddiasant eu hunain yn yr ogofeydd a chreigiau y mynyddoedd; ac y maent yn dywedyd wrth y mynyddoedd ac wrth y creigiau, Syrthiwch arnom ni, a chuddiwch ni oddi wrth wyneb yr hwn sydd yn eistedd ar yr orsedd, ac oddi wrth lid yr Oen; canys daeth Dydd Mawr eu digter hwynt, a phwy a ddichon sefyll? Ac ar ol hyn gwelais bedwar angel yn sefyll ar bedair congl y ddaear, yn dal pedwar gwynt y ddaear, fel na chwythai gwynt ar y ddaear, nac ar y môr, nac ar unrhyw bren. A gwelais angel arall yn esgyn o godiad haul, a chanddo sêl y Duw byw. Ac efe a lefodd â llef uchel ar y pedwar angel, i'r rhai y rhoddesid i ddrygu y ddaear a'r môr, gan ddywedyd, Na ddrygwch y ddaear na'r môr, na'r prennau, hyd nes y seliwn weision ein Duw ni ar eu talcennau. A chlywais nifer y rhai a seliwyd, cant a phedair a deugain o filoedd wedi eu selio, allan o bob llwyth o feibion Israel. O lwyth Judah, ddeuddeng mil wedi eu selio: O lwyth Reuben, ddeuddeng mil: O lwyth Gad, ddeuddeng mil: O lwyth Aser, ddeuddeng mil: O lwyth Nephthali, ddeuddeng mil: O lwyth Manasseh, ddeuddeng mil: O lwyth Simeon, ddeuddeng mil: O lwyth Lefi, ddeuddeng mil: O lwyth Issachar, ddeuddeng mil: O lwyth Zabulon, ddeuddeng mil: O lwyth Joseph, ddeuddeng mil: O lwyth Benjamin, ddeuddeng mil wedi eu selio. Wedi y pethau hyn gwelais, ac wele, dyrfa fawr, yr hon ni allai neb ei rhifo, allan o bob cenedl a llwythau a phobloedd ac ieithoedd, yn sefyll ger bron yr Orsedd a cher bron yr Oen, wedi eu gwisgo mewn gwisgoedd gwynion, a phalmwydd yn eu dwylaw; a llefant â llef uchel, gan ddywedyd, Iachawdwriaeth i'n Duw ni yr hwn sydd yn eistedd ar yr Orsedd, ac i'r Oen. A'r holl angelion oeddent yn sefyll o amgylch yr Orsedd ac o amgylch yr henuriaid a'r pedwar creadur byw; a hwy a syrthiasant ger bron yr Orsedd ar eu hwynebau, ac a addolasant Dduw, gan ddywedyd, Amen: Y fendith, a'r gogoniant, a'r doethineb, A'r diolch, a'r anrhydedd, a'r gallu, a'r nerth, Fyddo i'n Duw ni yn oes oesoedd. Amen. Ac un o'r henuriaid a atebodd, gan ddywedyd wrthyf, Y rhai hyn sydd wedi eu gwisgo mewn gwisgoedd gwynion, pwy ydynt, ac o ba le y daethant? A dywedais wrtho, Fy arglwydd, ti a wyddost. A dywedodd wrthyf, Y rhai hyn yw y rhai sydd yn dyfod allan o'r Gorthrymder mawr, ac a olchasant eu gwisgoedd ac a'u cànnasant yng ngwaed yr Oen. O herwydd hyn y maent ger bron Gorsedd Duw, ac yn ei wasanaethu ddydd a nos yn ei Gysegr; a'r hwn sydd yn eistedd ar yr Orsedd a leda ei babell drostynt. Ni newynant mwyach, ni sychedant mwyach: ni thery yr haul o gwbl arnynt, na dim poethder; oblegyd yr Oen yr hwn sydd yng nghanol yr Orsedd, a'u bugeilia hwynt, ac a'u harwain at ffynhonnau dyfroedd bywyd, a Duw a sych ymaith bob deigr oddiwrth eu llygaid hwynt. A phan agorodd efe y seithfed sêl, bu distawrwydd yn y nef megys am hanner awr. A gwelais y saith angel, y rhai sydd yn sefyll ger bron Duw; a rhoddwyd iddynt saith udgorn. Ac angel arall a ddaeth, ac a safodd wrth yr allor, a chanddo thuser aur; a rhoddwyd iddo arogl‐darth lawer, fel y rhoddai ef at weddïau yr holl saint ar yr allor aur ger bron yr Orsedd. A mwg yr arogl‐darth gyda gweddiau y saint a esgynnodd o law yr angel i fyny ger bron Duw. A chymerodd yr angel y thuser, ac efe a'i llanwodd hi â thân yr allor, ac a'i bwriodd i'r ddaear: a bu taranau, a lleisiau, a mellt, a daear‐gryn. A'r saith angel y rhai oedd a'r saith udgorn ganddynt, a ymbarotoisant i udganu. A'r Cyntaf a udganodd, a bu cenllysg a thân wedi eu cymysgu â gwaed, a hwy a fwriwyd i'r ddaear: a thrydedd ran y ddaear a lwyr‐losgwyd, a thrydedd ran y coed a lwyr‐losgwyd, a'r holl laswellt a lwyr‐losgwyd. A'r ail angel a udganodd, ac fel mynydd mawr yn llosgi gan dân a fwriwyd i'r môr: ac aeth trydedd ran y môr yn waed; a bu farw trydedd ran y creaduriaid y rhai sydd yn y môr, sef y rhai a chanddynt fywyd; a thrydedd ran o'r llongau a ddinystriwyd. A'r trydydd angel a udganodd, a syrthiodd o'r nef seren fawr yn llosgi fel ffagl, a hi a syrthiodd ar drydedd ran yr afonydd ac ar ffynhonnau y dyfroedd; ac enw y seren a elwir Wermod, a thrydedd ran y dyfroedd a aeth yn wermod; a llawer o ddynion a fuant feirw gan y dyfroedd, oblegyd eu myned yn chwerwon. A'r pedwerydd angel a udganodd, a tharawyd trydedd ran yr haul, a thrydedd ran y lleuad, a thrydedd ran y sêr, fel y tywyllid eu trydedd ran hwynt, ac na thywynnai y dydd am ei drydedd ran, a'r nos yr un ffunud. A gwelais a chlywais eryr yn ehedeg yng nghanol y nef, gan ddywedyd â llef uchel, Gwae, gwae, gwae, i'r rhai sydd yn trigo ar y ddaear, o herwydd lleisiau eraill udgyrn y tri angel, y rhai sydd eto i udganu. A'r pumed angel a udganodd, a gwelais seren wedi syrthio o'r nef i'r ddaear; a rhoddwyd iddo ef agoriad pydew Annwn. Ac efe a agorodd bydew Annwn, ac esgynnodd mwg o'r pydew, fel mwg ffwrn fawr; a thywyllwyd yr haul a'r awyr gan fwg y pydew. Ac o'r mwg y daeth allan locustiaid ar y ddaear, a rhoddwyd awdurdod iddynt, fel y mae gan ysgorpionnau y ddaear awdurdod. A dywedwyd wrthynt na niweidient laswellt y ddaear, na dim sydd wyrddlas, nac un pren, ond yn unig y cyfryw ddynion sydd heb ganddynt sêl Duw ar eu talcennau. A rhoddwyd iddynt na laddent hwynt, ond bod iddynt gael eu dirboeni bum mis; a'u dirboeniad hwy oedd fel dirboeniad ysgorpion, pan fratho efe ddyn. Ac yn y dyddiau hynny y cais y dynion farwolaeth, ac nis cânt mewn un modd; a chwenychant farw, ond ffoi y mae marwolaeth oddi wrthynt. A ffurfiau y locustiaid oeddent yn debyg i feirch wedi eu parotôi i ryfel; ac ar eu pennau megys coronau yn debyg i aur, a'u hwynebau fel wynebau dynion. A gwallt oedd ganddynt fel gwallt gwragedd, a'u dannedd oedd fel dannedd llewod. Ac yr oedd ganddynt lurigau fel llurigau haiarn; a swn eu hadenydd oedd fel swn cerbydau meirch lawer yn rhedeg i ryfel. Ac y mae ganddynt gynffonnau tebyg i ysgorpionnau, a cholynnau; ac yn eu cynffonnau y mae eu gallu i niweidio dynion bum mis. Mae ganddynt frenin arnynt, angel Annwn: ei enw yn Hebraeg yw Abadon, ac yn yr iaith Roeg y mae ganddo yr enw Apolyon. Y wae gyntaf aeth heibio; wele, y mae yn dyfod eto ddwy wae ar ol hyn. A'r chweched angel a udganodd, a chlywais lais o gyrn yr allor aur, yr hon sydd ger bron Duw, un yn dywedyd wrth y chweched angel, yr hwn oedd â'r udgorn ganddo, Gollwng yn rhydd y pedwar angel sydd yn rhwym wrth yr afon fawr Euphrates. A gollyngwyd y pedwar angel, y rhai oeddent wedi eu parotoi erbyn yr awr a dydd a mis a blwyddyn, fel y lladdent drydedd ran y dynion. A rhifedi y byddinoedd o'r gwŷr meirch oedd ddwy fyrddiwn o fyrddiynnau: clywais eu rhifedi. Ac fel hyn y gwelais y meirch yn y weledigaeth, a'r rhai oedd yn eistedd arnynt, a chanddynt lurigau o liw tân a glas‐ddu a melyn; ac y mae pennau y meirch fel pennau llewod; ac y mae yn dyfod allan o'u safnau dân a mwg a brwmstan. Gan y tri phla hyn y lladdwyd trydedd ran y dynion, gan y tân a chan y mwg a chan y brwmstan oedd yn dyfod allan o'u safnau hwynt. Canys gallu y meirch sydd yn eu safn, ac yn eu cynffonnau; canys eu cynffonnau oedd debyg i seirph, a phennau ganddynt; ac â'r rhai hynny y maent yn niweidio. A'r gweddill o ddynion, y rhai ni laddwyd gan y pläau hyn, nid edifarhasant am weithredoedd eu dwylaw, fel nad addolent gythreuliaid ac eilunod o aur, ac o arian, ac o bres, ac o faen, ac o goed; y rhai ni allant na gweled, na chlywed, na rhodio. Ac nid edifarhasant o herwydd eu llofruddiaethau nac o herwydd eu swyn‐gyfareddion, nac o herwydd eu godineb, nac o herwydd eu lladradau. A gwelais angel cryf arall yn disgyn o'r nef, wedi ei wisgo â chwmwl, a'r enfys oedd uwch ei ben, a'i wyneb fel yr haul, a'i draed fel colofnau o dân; a chanddo yn ei law lyfryn bychan wedi ei agor. Ac efe a osododd ei droed ddehau ar y môr, a'r aswy ar y tir; ac a lefodd â llef uchel, fel y rhua llew; a phan lefodd, y saith daran a roddasant allan eu llefau eu hunain. A phan lefarodd y saith daran, yr oeddwn ar ysgrifennu, a chlywais lais o'r nef yn dywedyd, Selia y pethau a lefarodd y saith daran, ac nac ysgrifenna hwynt. A'r angel yr hwn a welais yn sefyll ar y môr ac ar y tir a gododd ei law ddehau i'r nef, ac a dyngodd i'r hwn sydd yn byw yn oes oesoedd, yr hwn a greodd y nef a'r pethau sydd ynddi, a'r ddaear, a'r pethau sydd ynddi, a'r môr a'r pethau sydd ynddo, Ni fydd oediad mwyach; eithr yn nyddiau llef y seithfed angel pan mae efe ar fedr udganu, y gorphennir hefyd ddirgelwch Duw, fel yr efengylodd efe i'w weision ei hun, y prophwydi. A'r llef yr hon a glywais o'r nef, a glywais drachefn yn llefaru wrthyf, ac yn dywedyd, Dos, cymer y Llyfr bychan sydd yn agored yn llaw yr angel sydd yn sefyll ar y môr ac ar y tir. Ac aethum ymaith at yr angel, gan ddywedyd wrtho roddi i mi y Llyfryn bychan. A dywed wrthyf, Cymer a bwyta ef; ac efe a chwerwa dy fòl di, eithr yn dy enau y bydd felus fel mêl. A chymerais y Llyfryn bychan o law yr angel, a bwytëais ef; ac yr oedd efe yn fy ngenau megys mêl yn felus; a phan fwytëais ef, chwerwyd fy mòl. Ac y maent yn dywedyd wrthyf, Rhaid i ti brophwydo eto mewn perthynas i bobloedd a chenhedloedd ac ieithoedd a brenhinoedd lawer. A rhoddwyd i mi gorsen debyg i wialen, a dywedodd, Cyfod, a mesura Gysegr Duw, a'r Allor, a'r rhai sydd yn addoli ynddo. A'r cyntedd sydd o'r tu allan i'r Cysegr gâd allan, ac na fesura ef; canys rhoddwyd ef i'r cenhedloedd, a'r Ddinas Sanctaidd a fathrant hwy ddeufis a deugain. A rhoddaf i'm Dau Dyst, a hwy a brophwydant fil a deucant a thri‐ugain o ddyddiau, wedi ymwisgo â sachlian. Y rhai hyn yw y Ddwy Olewydden a'r Ddau Ganwyllyr, sydd yn sefyll ger bron Arglwydd y ddaear. Ac os ewyllysia neb wneuthur niwed iddynt, y mae tân yn myned allan o'u genau hwy, ac yn difa eu gelynion: ac os ewyllysia neb eu niweidio hwynt, fel hyn y mae yn rhaid iddo gael ei ladd. Y mae gan y rhai hyn y gallu i gau y nef, fel na wlawio hi yn nyddiau eu prophwydoliaeth hwynt; ac y mae gallu ganddynt ar y dyfroedd, i'w troi hwynt yn waed, ac i daro y ddaear â phob pla, cyn fynyched ag y mynnont. A phan orphennont eu tystiolaeth, yr Anghenfil, yr hwn sydd yn dyfod i fyny o Annwn, a wna ryfel â hwynt, ac a'u gorchfyga hwynt, ac a'u lladd hwynt; ac y mae eu corph marw ar heol lydan y Ddinas fawr, yr hon yn ysprydol a elwir yn Sodom ac yn Aipht, lle hefyd y croeshoeliwyd eu Harglwydd hwynt. Ac edrychant o blith y bobloedd, a'r llwythau, a'r ieithoedd, a'r cenhedloedd, ar eu corph marw am dridiau a hanner; ac ni chaniatânt osod eu cyrph hwynt mewn bedd. A'r rhai a drigant ar y ddaear a lawenychant drostynt, ac a ymddifyrrant; ac y maent yn danfon rhoddion i'w gilydd; oblegyd y ddau brophwyd hyn a boenasant y rhai oedd yn trigo ar y ddaear. Ac ar ol tridiau a hanner, yspryd bywyd oddi wrth Dduw a aeth i mewn iddynt, a safasant ar eu traed; ac ofn mawr a syrthiodd ar y rhai a'u gwelodd hwynt. A chlywsant lef uchel o'r nef yn dywedyd wrthynt, Deuwch i fyny yma. Ac aethant i fyny i'r nef yn y cwmwl; a'u gelynion a'u gwelsant hwynt. Ac yn yr awr honno y bu daeargryn mawr, a degfed ran y ddinas a syrthiodd; a lladdwyd yn y ddaear‐gryn saith mil o ddynion: a'r lleill a aethant yn ofnus, ac a roddasant ogoniant i Dduw y nef. Yr ail wae a aeth heibio; wele, y drydedd wae sydd yn dyfod ar frys. A'r seithfed angel a udganodd, a bu llefau uchel yn y nef, yn dywedyd, Aeth Teyrnas y Byd yn Deyrnas ein Harglwydd ni a'i Grist Ef; ac efe a deyrnasa yn oes oesoedd. A'r pedwar henuriad ar hugain, y rhai sydd yn eistedd ger bron Duw ar eu gorseddau, a syrthiasant ar eu hwynebau, ac a addolasant Dduw, gan ddywedyd, Diolchwn i ti, Arglwydd Dduw, yr Hollalluog, Yr Hwn Ydyw, a'r Hwn Oedd, Oblegyd cymeryd o honot dy allu mawr, a theyrnasu; A'r Cenhedloedd a lidiasant, a daeth dy lid di, A thymor y meirw i gael eu barnu: I roddi eu gwobr i'th weision y prophwydi, ac i'th saint, Ac i'r rhai sydd yn ofni dy enw, fychain a mawrion, Ac i ddyfetha y rhai sydd yn dyfetha y ddaear. Yna yr agorwyd Cysegr Duw, yr hwn sydd yn y nef; a gwelwyd Arch ei Gyfamod ef yn ei Gysegr; a bu mellt, a llefau, a tharanau, a daeargryn, a chenllysg mawr. Ac arwydd mawr a welwyd yn y nef, Gwraig wedi ei gwisgo â'r haul, a'r lleuad dan ei thraed, ac ar ei phen goron o ddeuddeg seren; a hi yn feichiog: a gwaeddi y mae hi mewn gwewyr, ac mewn poen i esgor. A gwelwyd arwydd arall yn y nef, ac wele Ddraig goch fawr, a saith ben iddi a deg corn, ac ar ei phennau saith deyrn‐goron; a'i chynffon hi sydd yn tynnu trydedd ran sêr y nef, ac a'u bwriodd hwynt i'r ddaear. A'r Ddraig a safodd ger bron y Wraig oedd ar fedr esgor, i ddifa ei phlentyn hi pan esgorai hi arno. A hi a esgorodd ar fab gwrryw, yr hwn sydd ar fedr bugeilio yr holl genhedloedd â gwialen haiarn: a chipiwyd ei phlentyn hi i fyny at Dduw, ac at ei Orsedd ef; a'r Wraig a ffôdd i'r anialwch, lle y mae ganddi yno le wedi ei barotoi gan Dduw, fel y porthent hi yno fil a deucant a thri‐ugain o ddyddiau. A dygwyddodd rhyfel yn y nef: Michael a'i angelion yn rhyfela â'r Ddraig; a'r Ddraig a ryfelodd, a'i hangelion; ac ni orfuant, a'u lle hwynt ni chafwyd mwyach yn y nef. A bwriwyd i lawr y Ddraig fawr, yr hen Sarph, yr hon a elwir Diafol a Satan, yr hon sydd yn arwain ar gyfeiliorn y byd oll: a hi a fwriwyd i lawr i'r ddaear, a'i hangelion gyda hi. A chlywais lef fawr yn y nef, yn dywedyd, Yn awr y daeth yr iachawdwriaeth a'r gallu, a Theyrnas ein Duw, ac awdurdod ei Grist ef; canys bwriwyd i lawr gyhuddwr ein brodyr, yr hwn sydd yn eu cyhuddo hwy ger bron ein Duw ni ddydd a nos. A hwy a'i gorchfygasant ef o herwydd gwaed yr Oen, ac o herwydd Gair eu tystiolaeth hwynt; ac ni charasant eu bywyd hyd angau. O herwydd hyn ymhyfrydwch, O nefoedd, a'r rhai sydd yn trigo ynddynt. Gwae i'r ddaear a'r môr, canys y Diafol a ddisgynnodd i lawr atoch, a chanddo lid mawr, gan wybod fod ei dymor yn fyr. A phan welodd y Ddraig ei bwrw i'r ddaear, hi a erlidiodd y Wraig a esgorasai ar y plentyn gwrryw. A rhoddwyd i'r Wraig ddwy aden yr Eryr mawr, fel yr ehedai i'r anialwch, i'w lle, yn yr hwn y maethir hi am amser, ac amseroedd, a hanner amser, oddi wrth wyneb y Sarph. A'r Sarph a fwriodd allan o'i safn ar ol y Wraig ddwfr megys afon, fel yr achosai ei dwyn hi ymaith gyda'r ffrydlif. A'r ddaear a gynorthwyodd y Wraig, a'r ddaear a agorodd ei safn, ac a lyncodd yr afon yr hon a fwriodd y Ddraig allan o'i safn. A llidiodd y Ddraig wrth y Wraig, ac a aeth ymaith i wneuthur rhyfel â'r gweddill o'i hâd hi, y rhai sydd yn cadw gorchymynion Duw ac yn dal tystiolaeth Iesu. A hi a safodd ar dywod y môr. A gwelais Anghenfil yn dyfod i fyny o'r môr, a chanddo ddeg corn a saith ben, ac ar ei gyrn ddeg teyrn‐goron, ac ar ei bennau enwau cabledd. A'r Anghenfil yr hwn a welais oedd debyg i lewpard, a'i draed fel traed arth, a'i safn fel safn llew: a'r Ddraig a roddodd iddo ef ei gallu, a'i gorsedd, ac awdurdod mawr. A gwelais un o'i bennau megys wedi ei archolli i farwolaeth; ond ei glwyf marwol ef a iachâwyd, a'r holl ddaear a ryfeddodd ar ol yr Anghenfil. A hwy a addolasant y Ddraig, o herwydd iddi roddi ei hawdurdod i'r Anghenfil; a hwy a addolasant yr Anghenfil, gan ddywedyd, Pwy sydd yn debyg i'r Anghenfil? A phwy a ddichon ryfela âg ef? A rhoddwyd iddo enau yn llefaru pethau mawrion a chableddau, a rhoddwyd iddo ryddid i weithredu am ddau fis a deugain. Ac efe a agorodd ei enau i gableddau yn erbyn Duw, i gablu ei Enw ef, a'i Dabernacl ef, sef y rhai sydd yn trigo yn y nef, A rhoddwyd iddo wneuthur rhyfel â'r Saint, a'u gorchfygu hwynt, a rhoddwyd iddo awdurdod dros bob llwyth a phobl ac iaith a chenedl. A phawb sydd yn trigo ar y ddaear a'i haddolant ef, yr hwn nad ysgrifennwyd ei enw yn Llyfr Bywyd yr Oen, yr hwn sydd wedi ei ladd o seiliad y byd. Od oes gan neb glust, gwrandawed: Os oes neb i fyned i gaethiwed, y mae yn myned iddo; Os bydd i neb ladd â'r cleddyf, rhaid ei ladd yntau â'r cleddyf. Dyma ddewr‐amynedd a ffydd y Saint. A gwelais Anghenfil arall yn dyfod i fyny o'r ddaear, ac yr oedd ganddo ddau gorn tebyg i oen, a llefarai fel draig. Ac y mae efe yn arfer holl awdurdod yr Anghenfil cyntaf ger ei fron ef; ac y mae yn peri i'r ddaear ac i'r rhai sydd yn trigo ynddi addoli yr Anghenfil cyntaf, yr hwn yr iachâwyd ei glwyf marwol ef. Ac y mae efe yn gwneuthur arwyddion mawrion, fel y gwna i dân ddisgyn o'r nef i'r ddaear yng ngolwg dynion. Ac y mae efe yn twyllo y rhai sydd yn trigo ar y ddaear o herwydd yr arwyddion a roddwyd iddo i'w gwneuthur yngwydd yr Anghenfil, gan ddywedyd wrth y rhai sydd yn trigo ar y ddaear ar wneuthur o honynt ddelw i'r Anghenfil, yr hwn sydd ganddo glwyf y cleddyf a byw fu. A rhoddwyd iddo i roddi anadl i ddelw yr Anghenfil, fel y llefarai hyd yn nod ddelw yr Anghenfil, ac y parai i gynifer ag na addolent ddelw yr Anghenfil gael eu lladd; ac y mae yn gwneuthur i bawb, y bychain a'r mawrion, a'r cyfoethogion a'r tlodion, a'r rhyddion a'r caethion, gael rhoddi iddynt nôd ar ei llaw ddehau, neu ar eu talcen; ac na allai neb na phrynu na gwerthu, ond yr hwn a fyddai ganddo y nôd, sef enw yr Anghenfil, neu rifedi ei enw ef. Yma y mae doethineb yr hwn sydd ganddo ddeall, cyfrifed rifedi yr Anghenfil, canys rhifedi dyn yw, a'i rifedi ef yw chwe chant a thriugain a chwech. A gwelais, ac wele yr Oen yn sefyll ar Fynydd Sion, a chydag ef gant a phedair a deugain o filoedd, a chanddynt ei Enw ac Enw ei Dâd yn ysgrifenedig ar eu talcennau. A chlywais lais o'r nef, fel llais dyfroedd lawer, ac fel llais taran fawr; a'r llais a glywais oedd megys llais telynorion yn telynori ar eu telynau. A chanu y maent fel pe bae ganiad newydd ger bron yr Orsedd, a cher bron y pedwar creadur byw a'r henuriaid; ac ni allai neb ddysgu y gân oddieithr y cant a phedair a deugain o filoedd, y rhai a brynwyd allan o'r ddaear. Y rhai hyn yw y rhai ni halogwyd â gwragedd; canys gwyryfon ydynt. Y rhai hyn yw y rhai sydd yn dylyn yr Oen pa le bynnag yr elo. Y rhai hyn a brynwyd o blith dynion, yn flaen‐ffrwyth i Dduw a'r Oen. Ac yn eu genau ni chaed celwydd: y maent yn ddifai. A gwelais angel arall yn ehedeg yng nghanol y nef, ac Efengyl dragwyddol ganddo i efengylu uwch ben y rhai sydd yn eistedd ar y ddaear, ac uwch ben pob cenedl, a llwyth, ac iaith, a phobl, gan ddywedyd â llef uchel, Ofnwch Dduw, a rhoddwch iddo ogoniant; canys daeth Awr ei Farn ef; ac addolwch yr hwn a wnaeth y nef a'r ddaear, a'r môr, a'r ffynhonnau dyfroedd. Ac arall, ail angel, a ddylynodd, gan ddywedyd, Syrthiodd, syrthiodd, Babylon fawr, yr hon sydd wedi peri i'r holl genhedloedd i yfed o win llid ei godineb hi. Ac angel arall, trydydd, a'u canlynodd, yn dywedyd â llef uchel, Os addola neb yr Anghenfil a'i ddelw, a derbyn nôd ar ei dalcen neu ar ei law, efe hefyd a ŷf o win llid Duw, yr hwn a dywalltwyd allan yn ddigymysg yng nghwpan ei ddigofaint ef; ac efe a boenir mewn tân a brwmstan ger bron ei angelion sanctaidd a cher bron yr Oen. A mwg eu poenedigaeth sydd yn esgyn yn oes oesoedd; ac nid ydynt yn cael gorphwysdra ddydd na nos, y rhai sydd yn addoli yr Anghenfil a'i ddelw ef, ac os yw neb yn derbyn nôd ei Enw ef. Yma y mae dewr‐amynedd y saint, y rhai sydd yn cadw gorchymynion Duw a ffydd Iesu. A chlywais lef o'r nef yn dywedyd, Ysgrifenna, Gwyn eu byd y meirw y rhai sydd yn marw yn yr Arglwydd, o hyn allan; Ie, medd yr Yspryd, fel y gorphwysont oddi wrth eu llafur; canys eu gweithredoedd sydd yn canlyn gyda hwynt. A gwelais, ac wele gwmwl gwyn, ac ar y cwmwl un yn eistedd tebyg i fab dyn, a chanddo ar ei ben goron o aur, ac yn ei law gryman llym. Ac angel arall a ddaeth allan o'r Cysegr, gan lefain â llêf uchel wrth yr hwn oedd yn eistedd ar y cwmwl, Danfon allan dy gryman, a meda; canys daeth yr Awr i fedi; oblegyd llawn‐addfedodd cynhaeaf y ddaear. A'r hwn oedd yn eistedd ar y cwmwl a fwriodd ei gryman ar y ddaear; a'r ddaear a fedwyd. Ac angel arall a ddaeth allan o'r Cysegr sydd yn y nef, a chanddo yntau hefyd gryman llym. Ac angel arall a ddaeth o'r Allor, yr hwn sydd âg awdurdod ganddo ar y tân; ac efe a lefodd â llef uchel wrth yr hwn yr oedd ganddo y cryman llym, gan ddywedyd, Danfon allan dy gryman llym, a chasgl sypiau gwinwydden y ddaear; canys llawn‐addfedodd ei grawnwin. A'r angel a fwriodd ei gryman i'r ddaear, ac a gasglodd winwydden y ddaear, ac a'i bwriodd i gerwyn fawr llid Duw. A sathrwyd y gerwyn o'r tu allan i'r Ddinas, a daeth allan waed o'r gerwyn, hyd at ffrwynau y meirch am fil a chwe chant o ystadau. A gwelais arwydd arall yn y nef, mawr a rhyfeddol, saith angel a chanddynt saith bla, y rhai diweddaf, canys ynddynt hwy y gorphennwyd llid Duw. A gwelais fel pe bae fôr o wydr wedi ei gymysgu â thân; a'r rhai a ddaethant yn orchfygwyr oddiwrth yr Anghenfil, ac oddiwrth ei ddelw, ac oddiwrth rifedi ei Enw ef, yn sefyll wrth y môr gwydr, a thelynau Duw ganddynt. A chanu y maent Gân Moses, gwas Duw, a Chân yr Oen, gan ddywedyd, Mawr a rhyfeddol yw dy weithredoedd, Arglwydd Dduw yr Hollalluog; Cyfiawn a gwir yw dy ffyrdd, Brenin y Cenhedloedd. Pwy nad ofna, O Arglwydd, ac na ogonedda dy Enw? Oblegyd tydi yn unig wyt sanctaidd; Oblegyd yr holl genhedloedd a ddeuant ac a addolant ger dy fron di; Oblegyd dy weithredoedd cyfiawn di a amlygwyd. Ac ar ol y pethau hyn y gwelais, ac agorwyd Cysegr Tabernacl y Dystiolaeth yn y nef; a daeth y saith angel yr oedd y saith bla ganddynt allan o'r Cysegr, wedi eu gwisgo â llian gwerthfawr, pur a disglaer, ac wedi eu gwregysu am eu dwyfronnau â gwregysau aur. Ac un o'r pedwar creadur byw a roddodd i'r saith angel saith phiol aur yn llawn o lid Duw, yr hwn sydd yn byw yn oes oesoedd. A llanwyd y Cysegr o fwg oddi wrth ogoniant Duw, ac oddi wrth ei allu ef; ac ni allai neb fyned i'r Cysegr, nes gorphen saith bla y saith angel. A chlywais lef uchel o'r Cysegr yn dywedyd wrth y saith angel, Ewch a thywelltwch allan saith phiol llid Duw i'r ddaear. A'r cyntaf a aeth, ac a dywalltodd allan ei phiol i'r ddaear; ac aeth yn gornwyd drwg a blin ar y dynion a chanddynt nod yr Anghenfil, a'r rhai a addolent ei ddelw ef. A'r ail a dywalltodd allan ei phiol i'r môr; ac efe a aeth yn waed megys gwaed un marw; a phob enaid byw a fu farw, sef y rhai yn y môr. A'r trydydd a dywalltodd allan ei phiol i'r afonydd a'r ffynhonnau dyfroedd; ac aethant yn waed. A chlywais angel y dyfroedd yn dywedyd, Cyfiawn wyt ti, yr hwn wyt, a'r hwn oeddit, tydi yr Un Sanctaidd, oblegyd barnu o honot y pethau hyn; canys gwaed saint a phrophwydi a dywalltasant allan a gwaed a roddaist iddynt i'w yfed; y maent yn deilwng. A chlywais yr Allor yn dywedyd, Ië, Arglwydd Dduw, yr Hollalluog, gwir a chyfiawn yw dy farnau di. A'r pedwerydd a dywalltodd allan ei phiol ar yr haul; a rhoddwyd iddo i boethi dynion â thân. A phoethwyd dynion â phoethder mawr; a hwy a gablasant Enw Duw, yr hwn sydd âg awdurdod ganddo ar y Pläau hyn, ac nid edifarhasant i roi gogoniant iddo ef. A'r pumed a dywalltodd allan ei phiol ar orsedd yr Anghenfil, a'i deyrnas ef a dywyllwyd; a chnoisant eu tafodau gan y boen; a chablasant Dduw y nef o herwydd eu poenau ac o herwydd eu cornwydydd; ac nid edifarhasant oddi wrth eu gweithredoedd. A'r chweched a dywalltodd ei phiol ar yr afon fawr, yr Euphrates; a sychodd ei dwfr, fel y parotôid ffordd y brenhinoedd o gyfodiad haul. A gwelais yn dyfod allan o safn y Ddraig, ac o safn yr Anghenfil, ac o enau y Gau‐Brophwyd, dri yspryd aflan fel llyffaint. Canys ysprydion cythreuliaid ydynt, yn gwneuthur arwyddion; y rhai sydd yn myned allan at frenhinoedd y ddaear oll, i'w casglu hwynt ynghyd i ryfel Dydd Mawr Duw, yr Hollalluog; (Wele, yr wyf yn dyfod fel lleidr. Gwyn ei fyd yr hwn sydd yn gwylio, ac yn cadw ei ddillad, fel na byddo yn noeth, ac iddynt weled ei anharddwch ef). Ac efe a'u casglodd hwy ynghyd i le a elwir yn Hebraeg Har‐magedon. A'r seithfed a dywalltodd allan ei phiol ar yr awyr; a daeth llef uchel allan o'r Cysegr, o'r Orsedd, yn dywedyd, Darfu, a bu mellt, a lleisiau, a tharanau; a bu daeargryn mawr, y fath ni bu er pan oedd dynion ar y ddaear, gymaint daear‐gryn, mor fawr! A rhannwyd y Ddinas Fawr yn dair rhan; a dinasoedd y cenhedloedd a syrthiasant; a Babylon Fawr a ddaeth mewn côf ger bron Duw, i roddi iddi gwpan gwin llid ei ddigofaint ef. A phob ynys a ffôdd ymaith, ac ni chafwyd y mynyddoedd, a chenllysg mawr, o ddeutu pwys talent yr un, sydd yn disgyn o'r nef ar ddynion; a'r dynion a gablasant Dduw o herwydd pla y cenllysg; canys aruthrol fawr yw eu pla hwynt. A daeth un o'r saith angel oedd â'r saith phiol ganddynt, ac a ymddiddanodd â mi, gan ddywedyd. Tyred yma, dangosaf i ti farnedigaeth y Butain fawr sydd yn eistedd ar ddyfroedd lawer; gyda'r hon y puteiniodd brenhinoedd y ddaear, a meddwyd y rhai sydd yn trigo ar y ddaear gan win ei phuteindra. A dug fi ymaith i anialwch yn yr Yspryd: a gwelais Wraig yn eistedd ar Anghenfil o liw ysgarlad, yn orlawn o enwau cabledd, a chanddo saith ben a deg corn. A'r Wraig oedd wedi ei dilladu â phorphor ac ysgarlad, a'i haddurno âg aur, a maen gwerthfawr, a pherlau, a chanddi yn ei llaw gwpan aur yn llawn o ffieidd‐derau a phethau aflan ei phuteindra hi, ac ar ei thalcen enw wedi ei ysgrifennu, DIRGELWCH, BABYLON FAWR, MAM PUTEINIAID A FFIEIDD‐DERAU Y DDAEAR. A gwelais y Wraig yn feddw gan waed y Saint, a chan waed merthyron Iesu: a phan welais hi rhyfeddais â rhyfeddod mawr. A'r angel a ddywedodd wrthyf, Paham y rhyfeddaist? Myfi a ddywedaf i ti Ddirgelwch y Wraig, ac eiddo yr Anghenfil sydd yn ei dwyn hi, yr hwn sydd â'r saith ben ganddo a'r deg corn. Yr Anghenfil yr hwn a welaist, a fu ac nid yw, ac y mae ar ddyfod i fyny o Annwn, a myned i ddistryw. A rhyfeddu a wna y rhai sydd yn trigo ar y ddaear, y rhai nid yw eu henw wedi ei ysgrifennu yn Llyfr y Bywyd er seiliad y byd, wrth weled o honynt yr Anghenfil, yr hwn fu, ac nid yw, ac a ddaw. Dyma y meddwl sydd â doethineb ganddo. Y saith ben, saith mynydd ydynt, lle y mae y Wraig yn eistedd arnynt; a saith brenin ydynt; pump a gwympasant, un sydd; y llall ni ddaeth eto; a phan ddêl, rhaid iddo aros ond ychydig. A'r anghenfil yr hwn oedd, ac nid ydyw, y mae efe hefyd yn wythfed, ac y mae efe o'r saith, ac y mae yn myned ymaith i ddistryw. A'r deg corn, y rhai a welaist, deg brenin ydynt, y rhai ni dderbyniasant frenhiniaeth hyd yn hyn; eithr awdurdod fel brenhinoedd, am un awr, y maent yn ei dderbyn gyda'r Anghenfil. Y rhai hyn sydd âg un meddwl ganddynt, a rhoddant eu gallu a'u hawdurdod i'r Anghenfil. Y rhai hyn a ryfelant â'r Oen, a'r Oen a'u gorchfyga hwynt, oblegyd Arglwydd arglwyddi ydyw a Brenin brenhinoedd; a'r rhai sydd gyd âg ef a orchfygant, ei alwedigion, a'i etholedigion, a’ i ffyddloniaid. A dywed wrthyf, Y dyfroedd a welaist, lle y mae y Butain yn eistedd, pobloedd, a thorfeydd, a chenhedloedd, ac ieithoedd ydynt. A'r deg corn, y rhai a welaist, a'r Anghenfil, y rhai hyn a gasânt y Butain, ac a'i gwnant hi yn anrheithiedig ac yn noeth; a'i chnawd hi a fwytânt hwy, ac a'i llosgant hi yn ulw â thân. Canys Duw a roddodd yn eu calonnau hwynt i wneuthur ei feddwl ef, a dyfod o honynt i'r un meddwl, ac i roddi eu teyrnas i'r Anghenfil, hyd oni chyflawnir geiriau Duw. A'r Wraig yr hon a welaist, yw y Ddinas Fawr sydd a chanddi frenhiniaeth ar frenhinoedd y ddaear. Ar ol y pethau hyn gwelais angel arall yn dyfod i waered o'r nef, âg awdurdod mawr ganddo; a'r ddaear a oleuwyd gan ei ogoniant ef. Ac efe a lefodd â llef gref, gan ddywedyd, Syrthiodd, syrthiodd. Babylon Fawr. Ac aeth yn drigfa cythreuliaid, Ac yn gadwrfa pob yspryd aflan, Ac yn gadwrfa pob aderyn aflan ac atgas: Canys trwy win llid ei phuteindra y syrthiodd yr holl genhedloedd, A brenhinoedd y ddaear a buteiniasant gyda hi, A marchnatâwyr y ddaear a gyfoethogwyd trwy allu ei rhysedd hi. A chlywais lef arall o'r nef yn dywedyd, Deuwch, fy mhobl i, allan o honi, Fel na byddoch gyd‐gyfranogion o'i phechodau hi, Ac na dderbynioch o'i phläau hi; Oblegyd ei phechodau hi a bentyrrwyd hyd y nefoedd, A Duw a gofiodd ei hanghyfiawnderau hi. Telwch yn ol iddi fel y talodd hithau, A dyblwch iddi y dwbl yn ol ei gweithredoedd: Yn y cwpan a gymysgodd hi, cymysgwch iddi yn ddyblyg. Cymaint ag y gogoneddodd hi ei hun, ac yr aeth yn foethus, Y cymaint y rhoddwch iddi o boen a galar; Oblegyd y mae hi yn dywedyd yn ei chalon, Yr wyf yn eistedd yn frenhines, A gweddw nid ydwyf, a galar nis gwelaf ddim. Am hynny mewn un dydd y daw ei phläau hi: Marwolaeth, a galar, a newyn; A hi a losgir yn ulw â thân, Canys cadarn yw yr Arglwydd Dduw, yr hwn a'i barnodd hi. Ac wylo a galaru drosti a wna brenhinoedd y ddaear. Y rhai gyda hi a buteiniasant ac a fuont foethus, Pan edrychont ar fwg ei llosgiad hi, Gan sefyll o hir bell gan ofn ei phoenedigaeth hi, gan ddywedyd, Gwae, gwae, y Ddinas Fawr, Babylon, y Ddinas gadarn! Canys mewn un awr y daeth dy farn di. A marchnatâwyr y ddaear sydd yn wylo a galaru drosti, Canys nid oes neb mwyach yn prynu eu nwyddau hwynt; Nwyddau o aur, ac arian, a meini gwerthfawr a pherlau, A llian main, a phorphor, a sidan, ac ysgarlad, A choed citrus, a phob llestr o ifori, a phob llestr o goed gwerthfawrocaf, Ac o brês, ac o haiarn ac o farmor, A sinamon, ac amomon, ac arogldarth, ac enaint, a thus, A gwin, ac olew, a pheilliaid, a gwenith; A gwartheg, a defaid, a thrafnidiaeth mewn meirch a cherbydau; Ac mewn caethweision ac eneidiau dynion. A'r ffrwythau a chwenychodd dy enaid a aeth ymaith oddiwrthyt, A phob peth danteithiol a gorwych a gollwyd gennyt; Ac mwyach ni chaiff dynion mo honynt. A marchnatâwyr y pethau hyn, y rhai a gyfoethogwyd ganddi, a safant o hirbell, gan ofn ei phoenedigaeth, gan wylo a galaru, gan ddywedyd, Gwae, gwae, y Ddinas Fawr, Yr hon oedd wedi ei gwisgo â llian main a phorphor ac ysgarlad, Ac wedi ei haddurno âg aur a meini gwerthfawr a pherlau; Canys mewn un awr yr anrheithiwyd golud mor fawr. A phob llong‐lywydd, a phob un yn hwylio i unrhyw le, morwyr, a chynifer ag sydd a'u gorchwylion ar y môr, a safasant o hirbell, a llefasant allan wrth weled mwg ei llosgiad, gan ddywedyd, Pa ddinas sydd debyg i'r Ddinas Fawr! A hwy a fwriasant lwch ar eu pennau, Ac a lefasant, gan wylo a galaru, gan ddywedyd, Gwae, gwae, y Ddinas Fawr! Yn yr hon yr ymgyfoethogodd yr holl rai oedd ganddynt longau yn y môr, trwy ei thrysorau gwerthfawr; Canys mewn un awr yr anrheithiwyd hi. Ymhyfryda uwch ei phen, o nef, A'r Saint, a'r Apostolion, a'r Prophwydi; Canys Duw a gyflawnodd eich barnedigaeth chwi arni hi. Ac un angel cryf a gododd faen megys maen melin mawr, ac a'i bwriodd i'r môr, gan ddywedyd, Fel hyn gyda rhuthr nerthol, y bwrir Babylon, y Ddinas Fawr, Ac ni cheir hi ddim mwyach; A llais telynorion a cherddorion a phibyddion ac udganwyr ni chlywir ynot ddim mwyach; Ac un crefftwr, o ba grefft bynnag y byddo, ni cheir ynot ddim mwyach; A llais maen melin ni chlywir ynot ddim mwyach: A goleuni llusern ni lewyrcha ynot ddim mwyach; A llais priod‐fab a phriod‐ferch ni chlywir ynot ddim mwyach: Oblegyd dy farchnatâwyr oeddynt dywysogion y ddaear; Canys trwy dy swyn‐gyfaredd di yr arweiniwyd yr holl genhedloedd ar gyfeiliorn. Ac ynddi hi y caed gwaed Prophwydi a Saint, A phawb a'r a laddwyd ar y ddaear. Ar ol y pethau hyn clywais megys llef uchel tyrfa fawr yn y nef, yn dywedyd, Haleliwia, yr iachawdwriaeth a'r gogoniant, a'r gallu sydd yn perthyn i'n Duw ni; Canys gwir a chyfiawn yw ei farnau ef; Oblegyd efe a farnodd y Butain fawr, Yr hon a lygrodd y ddaear yn ei phuteindra, Ac a ddialodd waed ei weision ar ei llaw hi. Ac eilwaith y dywedasant, Haleliwia, a'i mwg hi sydd yn esgyn yn oes oesoedd. A syrthiodd i lawr y pedwar henuriad ar hugain a'r pedwar creadur byw, ac a addolasant Dduw yr hwn sydd yn eistedd ar yr Orsedd, gan ddywedyd, Amen, Haleliwia. A llef a ddaeth allan o'r Orsedd, yn dywedyd, Molwch ein Duw ni, chwi ei holl weision ef, Y rhai ydych yn ei ofni ef, y bychain a'r mawrion. A chlywais fel llef tyrfa fawr, ac fel llef dyfroedd lawer, ac fel llef taranau cryfion, yn dywedyd, Haleliwia, canys yr Arglwydd ein Duw ni sydd yn teyrnasu, yr Hollalluog, Llawenychwn a gorfoleddwn, a rhoddwn y gogoniant iddo ef; Oblegyd daeth Priodas yr Oen, a'i Wraig a'i parotôdd ei hun. A rhoddwyd iddi gael ymwisgo mewn llian main, ysblennydd, pur: canys y llian main yw cyfiawnderau y saint. A dywed wrthyf, ysgrifenna, Gwyn eu byd y rhai sydd wedi eu galw i Swper Priodas yr Oen. A dywed wrthyf, Gwirioneddol eiriau Duw yw y rhai hyn. A syrthiais wrth ei draed i'w addoli ef. A dywed wrthyf, Gwel na wneli hyn: cyd‐was ydwyf â thi, ac â'th frodyr sydd yn dal tystiolaeth Iesu: addola Dduw: canys tystiolaeth Iesu yw yspryd prophwydoliaeth. A gwelais y nef wedi ei hagoryd; ac wele, farch gwyn, a'r hwn oedd yn eistedd arno a elwid Ffyddlawn a Gwirioneddol; ac mewn cyfiawnder y mae efe yn barnu ac yn rhyfela. A'i lygaid oedd yn fflam dân, ac ar ei ben, deyrn‐goronau lawer; a chanddo Enw yn ysgrifenedig, yr hwn nid edwyn neb ond efe ei hun; ac yr oedd wedi ei wisgo â gwisg wedi ei throchi mewn gwaed: a gelwir ei Enw ef Gair Duw. A'r byddinoedd y rhai oedd yn y nef a'u canlynent ef ar feirch gwynion wedi eu dilladu â llian main gwyn a phur. Ac allan o'i enau ef y mae yn dyfod gleddyf llym, i daro y Cenhedloedd âg ef; ac efe a'u bugeilia hwynt â gwialen haiarn; ac efe a sathr gerwyn win digofaint llid Duw, yr Hollalluog. Ac y mae ganddo ar ei wisg ac ar ei forddwyd Enw wedi ei ysgrifennu, BRENIN BRENHINOEDD ac*** ARGLWYDD ARGLWYDDI. A gwelais angel yn sefyll yn yr haul; ac efe a lefodd â llef uchel, gan ddywedyd wrth yr holl adar sydd yn ehedeg yng nghanol y nef. Deuwch ac ymgesglwch ynghyd i Swper Mawr Duw, fel y bwytâoch gnawd brenhinoedd, a chnawd cadfridogion, a chnawd y cedyrn, a chnawd meirch a'r rhai sydd yn eistedd arnynt, a chnawd pawb, rhyddion a chaethion hefyd, bychain a mawrion hefyd. A gwelais yr Anghenfil, a brenhinoedd y ddaear, a'u byddinoedd wedi ymgynnull ynghyd i wneuthur rhyfel â'r hwn oedd yn eistedd ar y march, ac yn erbyn ei fyddin ef. A'r Anghenfil a ddaliwyd, a gyd âg ef yr oedd y Gau‐Brophwyd, yr hwn a wnaeth yr arwyddion ger ei fron ef, a'r rhai yr arweiniodd ar gyfeiliorn, y rhai a dderbyniasant nôd yr Anghenfil, a'r rhai a addolasant ei ddelw ef: yn fyw y bwriwyd hwy ill dau i'r Llyn Tân yn llosgi â brwmstan. A'r lleill a laddwyd â chleddyf yr hwn oedd yn eistedd ar y march, yr hwn a ddaeth allan o'i enau ef: a'r holl adar a gawsant eu gwala o'u cnawd hwynt. A gwelais angel yn disgyn o'r nef, a chanddo agoriad Annwn a chadwyn fawr yn ei law. Ac efe a ddaliodd y Ddraig, yr Hen Sarph, yr hon yw Diafol a Satan, ac a'i rhwymodd ef am fil o flynyddoedd, ac a'i bwriodd ef i Annwn, ac a'i cauodd ac a seliodd uwch ei ben, fel nad arweiniai ar gyfeiliorn y Cenhedloedd mwyach hyd oni orphenner y mil blynyddoedd: ar ol hynny y mae yn rhaid ei ollwng yn rhydd am ychydig amser. A gwelais orseddau, a hwy a eisteddasant arnynt, a barn a roed iddynt; ac eneidiau y rhai y toresid eu pennau am dystiolaeth Iesu, ac am Air Duw, y rhai ni addolasant yr Anghenfil na'i ddelw, ac ni dderbyniasant ei nôd ar eu talcen nac ar eu llaw; a hwy a fuant fyw, ac a deyrnasasant gyda Christ fil o flynyddoedd. Y lleill o'r meirw ni fuant fyw hyd oni orphennid y mil blynyddoedd. Dyma yr Adgyfodiad Cyntaf. Gwynfydedig a sanctaidd yw yr hwn sydd â rhan ganddo yn yr Adgyfodiad Cyntaf! Ar y rhai nid oes gan yr Ail Farwolaeth awdurdod; eithr byddant offeiriaid Duw a Christ, ac a deyrnasant gydag ef fil o flynyddoedd. A phan orphennir y mil Hynyddoedd, gollyngir Satan allan o'i garchar; a daw allan i arwain ar gyfeiliorn y cenhedloedd ym mhedair congl y ddaear, Gog a Magog, i'w casglu ynghyd i'r rhyfel: rhif y rhai sydd fel tywod y môr. A hwy a aethant i fyny ar led y ddaear, ac amgylchasant wersyll y saint a'r Ddinas Anwyl; a disgynnodd tân o'r nef, ac a'u hysodd hwynt. A'r Diafol, yr hwn oedd yn eu harwain ar gyfeiliorn, a fwriwyd i'r Llyn o Dân a Brwmstan, lle y mae yr Anghenfil hefyd a'r Gau‐Brophwyd; a phoenir hwynt ddydd a nos yn oes oesoedd. A gwelais Orsedd wèn fawr, a'r hwn oedd yn eistedd arni, oddi wrth wyneb yr hwn y ffôdd y ddaear a'r nef; a lle ni chafwyd iddynt. A gwelais y meirw, y mawrion a'r bychain, yn sefyll gerbron yr Orsedd; ac agorwyd llyfrau, a Llyfr arall a agorwyd, yr hwn yw Llyfr y Bywyd, a barnwyd y meirw oddi wrth y pethau a ysgrifennwyd yn y llyfrau, yn ol eu gweithredoedd. A rhoddodd y môr i fyny y meirw oedd ynddo, a Marwolaeth a Hades a roddasant i fyny y meirw oedd ynddynt hwythau: a hwy a farnwyd, bob un yn ol ei weithredoedd. A marwolaeth a Hades a fwriwyd i'r Llyn o Dân. Hon yw yr ail Farwolaeth, sef y Llyn o Dân. Ac o chafwyd neb heb ei fod wedi ei ysgrifennu yn Llyfr y Bywyd, bwriwyd ef i'r Llyn o Dân. A gwelais nefoedd a daear newydd, canys y nef gyntaf a'r ddaear gyntaf a aethant heibio; a'r môr nid yw mwyach. A gwelais y Ddinas Sanctaidd, Jerusalem newydd, yn dyfod i lawr allan o'r nef oddi wrth Dduw, wedi ei pharotoi fel Priodasferch wedi ei haddurno i'w gŵr. A chlywais lef uchel o'r Orsedd yn dywedyd, Wele, Dabernacl Duw gyda dynion, Ac efe a dabernacla gyda hwynt, A hwy a fyddant ei bobloedd ef; A Duw ei hun a fydd gyda hwynt yn Dduw iddynt. Ac efe a sych ymaith bob deigr oddi wrth eu llygaid hwynt; A marwolaeth ni bydd mwyach; Ac ni bydd chwaith na galar, na gwaedd, na phoen mwyach: Y pethau cyntaf a aethant heibio. A dywedodd yr hwn sydd yn eistedd ar yr Orsedd, Wele, yr wyf yn gwneuthur pob peth yn newydd. Ac efe a ddywed, Ysgrifenna, canys y mae y geiriau hyn yn ffyddlawn a gwirioneddol. A dywedodd wrthyf. Cyflawnwyd hwynt. Myfi yw yr Alpha a'r Omega, y Dechreu a'r Diwedd. Myfi a roddaf i'r hwn sydd sychedig o'r ffynnon o ddwfr y bywyd yn rhad. Yr hwn sydd yn gorchfygu a etifedda y pethau hyn; a byddaf iddo ef yn Dduw, ac yntau a fydd i minnau yn fab. Eithr i'r rhai annewr, a'r anghrediniol, a'r ffiaidd, a'r llofruddion, a'r puteinwyr, a'r swyn‐gyfareddwyr, a'r eilun‐addolwyr, a'r holl gelwyddwyr, bydd eu rhan yn y Llyn sydd yn llosgi â thân a brwmstan: yr hwn yw yr Ail Farwolaeth. A daeth un o'r saith angel yr oedd y saith phiol ganddynt yn llawn o'r saith bla diweddaf; ac efe a ymddiddanodd â mi, gan ddywedyd, Tyred, a danghosaf i ti y Briodasferch, Gwraig yr Oen. Ac efe a'm dug i ymaith yn yr Yspryd, i fynydd mawr ac uchel, ac efe a ddanghosodd i mi y Ddinas sanctaidd Jerusalem, yn dyfod i lawr allan o'r nef oddi wrth Dduw, a gogoniant Duw ganddi. A'i goleuad hi oedd debyg i faen gwerthfawrocaf, megys maen iaspis, yn loyw fel grisial; ac iddi fur mawr ac uchel; ac iddi ddeuddeg porth, ac wrth y pyrth ddeuddeg angel, ac enwau wedi eu hysgrifennu arnynt, y rhai yw enwau deuddeg llwyth plant Israel. O du y dwyrain yr oedd tri phorth; ac o du y gogledd, tri phorth; ac o du y dehau, tri phorth; ac o du y gorllewin, tri phorth. Ac yr oedd i fur y Ddinas ddeuddeg sylfaen, ac arnynt ddeuddeg enwau Deuddeg Apostol yr Oen. A'r hwn oedd yn ymddiddan â mi oedd a chanddo fesur, corsen aur, i fesur y Ddinas, a'i phyrth hi, a'i mur. Ac y mae y Ddinas yn gorwedd yn bedair‐ongl, a'i hyd hi sydd gymaint a'r lled. Ac efe a fesurodd y Ddinas â'r gorsen yn ddeuddeng mil o ystadau: ei hyd a'i lled a'i huchder yn o gymaint. A mesurodd ei mur hi yn gant a phedwar cufydd a deugain, yn ol mesur dyn, hynny yw, eiddo yr angel. Ac adeilad ei mur hi oedd iaspis; a'r Ddinas oedd aur pur, tebyg i wydr pur. Yr oedd sylfeini mur y Ddinas wedi eu haddurno â phob maen gwerthfawr. Y sylfaen gyntaf oedd iaspis; yr ail saphir; y drydedd, chalcedon; y bedwaredd, smaragdus; y bumed, sardonyx; y chweched, sardius; y seithfed, chrysolit, yr wythfed, beryl; y nawfed topaz; y ddegfed, chrysopras; yr unfed‐ar‐ddeg, hyacinth; y ddeuddegfed, amethyst. A'r deuddeg porth deuddeg perl oeddynt; a phob un o'r pyrth oedd o un perl; a heol y Ddinas oedd aur pur, fel gwydr tryloyw. A Chysegr ni welais ynddi: canys yr Arglwydd Dduw, yr Hollalluog, a'r Oen, yw ei Chysegr hi. A'r Ddinas nid rhaid iddi wrth yr haul na'r lleuad i lewyrchu arni: canys gogoniant Duw a'i goleuodd hi, a'i llusern hi yw yr Oen. A'r Cenhedloedd a rodiant wrth ei goleuni hi; ac y mae brenhinoedd y ddaear yn dwyn eu gogoniant iddi hi. (A'i phyrth hi ni cheuir ddim y dydd, canys ni bydd nos yno); a hwy a ddygant ogoniant ac anrhydedd y Cenhedloedd iddi hi. Ac nid ä i mewn iddi er dim ddim aflan, neu yr hwn sydd yn gwneuthur ffieidd‐dra a chelwydd; ond yn unig y rhai sydd yn ysgrifenedig yn Llyfr Bywyd yr Oen. Ac efe a ddanghosodd i mi Afon o Ddwfr y Bywyd, disglaer fel grisial, yn dyfod allan o Orsedd Duw a'r Oen; yng nghanol ei heol hi, ac ar y tu yma ac ar y tu draw i'r Afon, yr oedd Pren y Bywyd yn dwyn deuddeg rhyw ffrwyth, gan roddi ei ffrwyth bob mis; a dail y pren oedd er iachâd y Cenhedloedd. A phob rhyw felldith ni fydd mwyach: a Gorsedd Duw a'r Oen a fydd ynddi hi: a'i weision ef a'i gwasanaethant ef: a hwy a welant ei wyneb ef; a'i Enw ef fydd ar eu talcennau hwynt. A nos ni fydd mwyach; ac nid oes rhaid iddynt wrth oleuni llusern a goleuni haul; canys yr Arglwydd Dduw a lewyrcha arnynt: a theyrnasant yn oes oesoedd. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Y geiriau hyn sydd ffyddlawn a gwirioneddol: a'r Arglwydd, Duw ysprydoedd y prophwydi, a ddanfonodd ei angel i ddangos i'w weision y pethau y mae yn rhaid iddynt ddygwydd ar frys. Ac wele, yr wyf yn dyfod ar frys. Gwyn ei fyd yr hwn sydd yn cadw geiriau prophwydoliaeth y Llyfr hwn. A myfi Ioan yw yr hwn sydd yn clywed ac yn gweled y pethau hyn. A phan y clywais ac y gwelais, syrthiais i lawr i addoli o flaen traed yr angel a ddanghosodd i mi y pethau hyn. A dywed wrthyf, Gwel na wneli hyn: cydwas ydwyf fi â thi, ac â'th frodyr y prophwydi, ac â'r rhai sydd yn cadw geiriau y Llyfr hwn: addola Dduw. A dywed wrthyf, Na selia eiriau prophwydoliaeth y Llyfr hwn; canys y mae yr amser yn agos. Yr hwn sydd yn gwneuthur anghyfiawnder, gwneled anghyfiawnder eto; a'r hwn sydd frwnt, gwneler ef yn frwnt eto; a'r hwn sydd gyfiawn, gwneled gyfiawnder eto, a'r hwn sydd sanctaidd, sancteiddier ef eto. Wele, yr wyf yn dyfod ar frys; a'm gwobr sydd gyd a mi, i dalu i bob un fel y mae ei waith. Myfi yw yr Alpha a'r Omega, y Cyntaf a'r Diweddaf, y Dechreu a'r Diwedd. Gwyn eu byd y rhai sydd yn golchi eu gwisgoedd, fel y byddo iddynt hawl ar Bren y Bywyd, ac yr elont i mewn trwy y pyrth i'r Ddinas. Oddi allan y mae y cwn, a'r swyn‐gyfareddwyr, a'r puteinwyr, a'r llofruddion, a'r eilun‐addolwyr, a phob un a'r sydd yn caru ac yn gwneuthur celwydd. Myfi IESU a ddanfonais fy angel i dystiolaethu i chwi y pethau hyn i'r eglwysi. Myfi yw Gwreiddyn a Hiliogaeth Dafydd, y Seren Foreu ddisglaer. Ac y mae yr Yspryd a'r Briodasferch yn dywedyd, Tyred. A'r hwn sydd yn clywed, dyweded, Tyred. A'r hwn sydd a syched arno, deued; a'r hwn sydd yn ewyllysio, cymered Ddwfr y Bywyd yn rhad. Yr wyf fi yn tystiolaethu i bob un sydd yn clywed geiriau prophwydoliaeth y Llyfr hwn. Os ychwanega neb atynt, Duw a ychwanega ato yntau y pläau sydd yn ysgrifenedig yn y Llyfr hwn; ac o thŷn neb ymaith oddiwrth eiriau Llyfr y brophwydoliaeth hon, Duw a dŷn ymaith ei ran ef oddiwrth Bren y Bywyd, ac allan o'r Ddinas Sanctaidd, y rhai a ysgrifennwyd yn y Llyfr hwn. Y mae yr hwn sydd yn tystiolaethu y pethau hyn yn dywedyd, Ië, Yr wyf yn dyfod ar frys. Amen: Tyred, Arglwydd Iesu. Gras yr Arglwydd Iesu a fyddo gyda'r Saint. Amen. Y DIWEDD.